baneri

Gwefan Cymru-Catalonia:
La Web de Gal·les i Catalunya
 

Y Cymry yn yr Unol Daleithau: sefydliad Flint Creek (Iowa)


http://www.kimkat.org/amryw/1_alltudiaeth/america_iowa-flint-creek_2785k.htm

LLWYBR:

Yr Hafan 0001 kimkat0001
Y Cymry yn América 1050e kimkat1343k
y tudalen hwn


 (delwedd 7375)

 Aquesta pàgina en català no disponible encara

 This page in English (plan of this website) 2784e  kimkat2784e
 

Pe buasai dolen gyswllt ar gyfer tudalen arall yn y wefan hon yn methu am ryw reswm, gellir dod o hyd i’r tudalen trwy gyfrwng. Teipiwch kimkat ac wrth ei gwt rif y tudalen – er enghraifft, i ddilyn y ddolen gyswllt 1276k, chwiliwch am kimkat1276k

-------------------------------------------------------------------------------------------------------------

1 Flint Creek

 

Mae gennym ddau fideo am sefydlaid Flint Creek

 

1/ Gwener 18 Awst 2010 Chwilio am y fynwent – ond yn ofer

 

http://www.youtube.com/watch?v=nnjMRvGprHo

 

2/ Sul 20 Awst 2010 Chwilio am y fynwent – llwyddo i gael hyd i’r fynwent

 

http://www.youtube.com/watch?v=hXU1GWdBKb8

 

.....

.....

.....

(delwedd 7713)

 

Yn yr iaith fain y mae’r rhan fwyaf o’r arysgrifiadauthough occasionally there are some Welsh onesMany inscriptions are impossible to read by now, a mae llawer o’r cerrig wedi eu torri yn eu hanner.....

 

(delwedd 7714)

.....

 

 

 

HANES CYMRY AMERICA; A’U SEFYDLIADAU, EU HEGLWYSI, A’U GWEINIDOGION, EU CERDDORION, EU BEIRDD, A’U LLENORION; YN NGHYDA THIROEDD RHAD Y LLYWODRAETH A’R REILFFYRDD; GYDA PHOB CYFARWYDDIADAU RHEIDIOL I YMFUDWYR
I SICRHAU CARTREFI RHAD A DEDWYDDOL. GAN Y PARCH. R. D. THOMAS  (IORTHRYN GWYNEDD.). 1872.

6. FLINT CREEK, Des Moines Co., Iowa, (Pleasant Grove P.O.) - Saif y sefydliad Cymreig bychan hwn tua 25 milldir i’r de o sefydliad Long Creek. Gellir myned o Columbus Junction, neu o Burlington yno yn awr gyda y “Burlington, Cedar Rapids, and Minnesota R.R,” trwy ddisgyn yn Kossuth Depot. Pedair milldir sydd oddiyno at y capel. Nid yn Sperry Depot, a’r Morning Sun Station, lle mae Hugh Edwards, Ysw., a’i deulu yn byw, gynt o Geryg-y-Druidion, Sir Ddinbych, G.C. Mae efe a’i deulu yn aelodau yn yr eglwys Annibynol yn Flint Creek. Gwlad ardderchog a ffrwythlon sydd oddiyno am filldiroedd hyd Flint Creek; ac oddiyno trwy Pleasant Grove, ar draws y wlad hyd New London, neu Danville, ar y “Burlington & Missouri R.R.”

Y sefydlwyr cyntaf yn Long [sic] Creek oeddynt John Jones a’i wraig, o Sir Fon, G.C., aelodau crefyddol gyda y T.C. Daethant yno yn ngwanwyn y fl. 1842. Buont feirw tua’r fl.
1855, a chladdwyd hwynt yn y fynwent wrth y capel. Mae eu meibion, Edward Jones a John J. Jones, a’u teuluoedd, yn dyddynwyr parchus yn yr ardal eto. Wedi hyny daeth Jonah Morris, o Sir Gaer, D.C., yno gyda’i wraig a’i blant yn 1843. Claddwyd Mr. Morris yn [sic] Long Creek, a symudodd ei weddw i Newark, Ohio. Daeth James Thomas, o Sir Gaer, D.C., yno yn 1843. Claddwyd ef yn mynwent y capel Mai, 1868. Mae ei weddw a’i fab yn byw yn yr ardal eto. Daeth John Jacobs, Sir Gaer, D.C., yno yn 1843. Bu ef yn California. Joshua Jones a’i wraig a ddaeth yno o New York yn 1845. Claddwyd ef wrth gapel y Bedyddwyr Saesonig yno tua’r fl. 1856. Mae ei weddw yn byw yn yr ardal eto. Yr un fl., 1845, daeth Benjamin Jones a’i wraig yno o Lundain, Lloegr. Pobl grefyddol oeddynt gyda y T.C. Claddwyd ef mewn mynwent yn agos i Pleasant Grove yn y fl. 1846. Ei weddw ef yw Mrs. Jacobs; ei fab ef yw Benjamin Jones, a’i ferch ef yw gwraig Thomas Thomas (B.,) sydd yn byw yno eto. Thomas Evans, o Sir Aberteifi, a’i wraig a’i blant, a ddaethant yno yn 1845. Pobl grefyddol gyda yr Annibynwyr oeddynt. Bu ef a’i wraig a dwy o’i ferched farw o’r cholera, a chladdwyd hwynt yn mynwent y capel. Mae Mr. Henry Evans, eu mab, yn byw yn yr ardal eto. Eu merched hwy yw Mrs. Gowdy, o Flint Creek, a Mrs. Gartley yn Burlington. Daeth Robert Jones a’i wraig a’u plant, o Sir Fon, yno yn 1845. Yr oedd ef y pryd hyny yn aelod gyda’r Eglwyswyr, a’i wraig gyda’r Bedyddwyr. Yr oedd y ddau yn fyw yno yn niwedd y fl. 1870. Claddwyd dau o’u plant yn mynwent y capel; ond y mae y rhai canlynol yn fyw ac yn gysurus: - John E. Jones (A.,) David E. Jones (B.,) Isaac N. Jones (A.,) Sarah, gwraig y Parch. Thomas W. Evans, William W. Jones, Clay City, Clay Co., Illinois. Daeth Erasmus Evans a’i wraig, a’i feibion a’i ferched yno yn 1845, o rywle yn agos i dref Caernarfon, G.C. Prynasant 40 erw o dir tua milldir i’r gorllewin o’r capel. Dychwelasant i’r gweithiau glo, i’r dwyrain o St. Louis, Missouri. Pobl anghrefyddol oeddynt. Dichon eu bod wedi eu claddu. Os oes rhai o’u perthynasau yn fyw, dymunwyf eu hysbysu fod y tir heb ei gau i mewn eto, ac y gallant ei adfeddianu trwy dalu yr holl drethi.

Tua’r fl. 1850, ymfudodd amrai oddiyno i California, ac ni ddaeth llawer o honynt byth yn ol. Ymadawodd Thomas Lewis, John Davies, a David Williams, i leoedd ereill; ac ymadawodd Thomas Lewis (B.,) a’i deulu, gynt o Sir Benfro, D.C., i Dawn, Missouri, yn 1848. Lleihawyd y boblogaeth Gymreig.

Prynodd llawer o’r sefydlwyr cyntaf Land Warrants am $30 i $150, a sefydlasant ar diroedd da o goed a doldiroedd (prairies.) Mae aber fechan y Flint Creek yn rhedeg drwy yr ardal, ac oddeutu hono mae digon o goed ac o geryg. Mae rhai tai da wedi eu hadeiladu yn yr ardal gan y Cymry; ac y mae rhai o honynt yn bobl gyfoethog, a haelionus at bob achos da. Dyma restr o enwau y preswylwyr Cymreig yn Tachwedd, 1870: -

ENWAU. O BA LE O GYMRU? &C. PA BRYD?

Robert Jones / Mon, G.C. / 1843
John R. Jones / Mon, G.C. / 1843
David R. Jones / Mon, G.C. / 1843
Mrs. Joshua Jones / New York, N.Y. / 1843
Isaac N. Jones / Ganwyd yno yn / 1844
Mrs. Ann Thomas / Sir Gaer, D.C. / 1845
Henry Evans / Aberteifi, D.C. / 1845
Benjamin Jones / Llundain / 1845
Mrs. Jacobs / Llundain / 1845
Thomas Jones / Iowa / 1847
Edward P. Hughes / Liverpool / 1850
William E. Jones / Fflint, G.C. / 1853
Edward Jones / Mon, G.C. / 1855
John J. Jones / Mon, G.C. / 1846
William W. Williams / Mon, G.C. / 1853
William Lloyd / Ohio / 1858
William James / Sir Gaer, D.C. / 1858
William W. Jones / Arfon, G.C. / 1858
Thomas H. Evans / Ohio / 1865
William L. Roberts / Meirion / 1868
Hugh Jones / Mon / 1867
Richard Jones / Mon / 1868
William D. Roberts / Meirion / 1869

Mae yn yr ardal tua 24 o deuluoedd, a thua 120 o boblogaeth Gymreig. Yn eu plith mae amrai o bobl ieuainc yn gwasanaethu.

Ffurfiwyd yr Eglwys Gristionogol Undebol (The Christian Society) yn nhy Jonah Morris, gan y Parch. David Knowles (A.,) yn Mehefin, 1848, gydag ychydig o aelodau. Adeiladwyd y capel cyntaf yno gan yr hen Gristion ffyddlon John Jones (T.C.,) bron oll ar ei draul ei hunan. Gwnaed y capel newydd hardd presenol yn 1868. Traul, $11,100. Talwyd yr oll gan yr ardalwyr. Da iawn. Aelodau, 40; Ysg. Sab., 50; cynulleidfa, 80. Diaconiaid - Thomas Edwards, Richard Jones, trysorydd; a Benjamin Jones, Ysgrifenydd, Bu y gweinidogion canlynol yn llafurio yno: - Parchn. David Knowles, George Lewis, John Pryce Jones, John Price, Thomas W. Evans (14 o flyneddau); Evan Griffiths, am ychydig amser. Eu gweinidog presenol yw y Parch. Robert Evans, gynt o Waukesha Co., Wis.




 

 

 

DIWEDD


Adolygiad diweddaraf: 22.30 12-01-2011
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA" (Cymráeg)
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya) (català)
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website (English)
Weə-r àm ai? Yùu àa-r víziting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait (Íngglish)


 
Archwiliwch y wefan hon 
---
 Adeiladwaith y wefan
---
 Gwaith cynnal a chadw

Cysylltwch â ni trwy’r llyfr ymwelwyr: YMWELFA

CYMRU-CATALONIA

Free counter and web stats