http://www.kimkat.org/amryw/1_clawdd_offa/22_cymru_dros_glawdd_offa_enwau_euas_cym_eng_0978k.htm
..........1863k Y Fynedfa Gymraeg
....................0009k Y Barthlen - cynhwyslen o'r hyn sydd yn y
wefan hon
...............................1997k Cynhwyslen Adran Clawdd Offa
|
Gwefan Cymru-Catalonia
|
|
Yn ôl y beirdd, 'dwy wir lawes Gwent'
oedd y ddau gantref Euas ac Ergyn. Ardaloedd llwyr Gymraeg oedd y rhai hyn, er
iddynt ymylu ar diroedd wedi eu meddiannu gan y Saeson ers canrifoedd. Wrth i
Gymru a thiroedd y Gororau gael eu hychwanegu at diriogaeth Lloegr yn sgil yr
Deddfau Uno (1536/43), fe roddwyd Euas ac Ergyn i Swydd Henffordd.
Gynt, Afon Gwy a fu'r ffin rhwng
tiroedd y Saeson a'r Cymry, ond gyda'r uno daeth rhan o gwrs Afon Mynwy i
farcio'r ffin rhwng Sir Fynwy a Swydd Henffordd.
(Gweler http://www.borderdisc.com/mag/offasdyke.htm Offa's Dyke / Clawdd Offa.
Dywedir yma mae ffin yn hytrach na
chlawdd amddiffinol oedd Clawddd Offa. Ategir syniad hwn gan absenoldeb y
Clawdd yn Ergyn. Er ei bod yn wlad Gymraeg, o dan lywodraeth
Er i Gymru golli'r ardaloedd hyn
(Euas ac Ergyn), yr oedd yr iaith Gymraeg yn dal yn y parthau hyn tan ddiwedd y
ddeunawfed ganrif.
Gweler: 0979k Eirinwg - erthygl gan A. Morris (Cymru, 1915)
Mae'r enwau Cymraeg yn yr hen
gantrefi hyn wedi goroesi mewn llawer man; weithiau fe'u disodlwyd gan enwau
Saesneg (y mae amryw o'r rhai Saesneg hyn wedi bod ers dros fil o flynyddoedd).
Yr oedd rhai o'r ffurfiau Cymraeg yn cael eu harfer yn Sir Fynwy tan ryw ganrif
yn ôl, pan gollwyd siaradwyr olaf Sir Fynwy wledig.
Ond y mae llawer o'r enwau ar gof a chadw. Fe ddylem ni fod yn anwybodol o'r
enwau diddorol yma, a'u defnyddio unwaith eto. Mewn ambell achos nid yw'r ffurf
Gymraeg ar glawr mwy, ond y mae'r ffurf Saesneg yn awgrymu ei bod yn drosiad
uniongyrchol o'r Gymraeg - (Dewsall - "Dewi's well" - yn ôl pob tebyg
Ffynnon Dewi (neu Ffynnon Ddewi) oedd yr enw Cymraeg ar y lle hwn). Yn y
rhestr, y mae seren fach wrth enwau o'r math hwn a ail-greuwyd gennym.
(delw 0425)
Cliciwch ar y map i gael gweld yr ardal dan sylw
SAESNEG-CYMRAEG (enwau lleoedd
Euas ac Ergyn - y ffurfiau Saesneg
presennol â'r enwau Cymraeg)
|
ENW SAESNEG |
ENW CYMRAEG |
CYFEIRNOD MAP |
|
Aconbury |
Caer-rhain |
|
|
Abbey
Dore |
Abaty
Daur |
SO3830 |
|
Archenfield |
Ergyn |
|
|
Ballingham
|
Llanfuddwalan
|
SO5638 |
|
Bridstow
|
Llansanffráid |
SO5824 |
|
Bryngwyn |
Bryn-gwyn
|
|
|
Clodock
|
Clydog
|
SO3227 |
|
Dewsall |
*Ffynnondewi
/ *Ffynnonddewi (enw Cymraeg tybiedig - nid yw’n bodoli mewn hen
ddogfennau; ond o gyfieithu Dewsall i’r Gymraeg dyna fydd yr enw; Ffynnondewi
/ Ffynnonddewi o bosibl taw hwn oedd yr enw gwreiddiol. Mae’r enw Sasneg yn
cadw’r elfen ‘Dewi’ heb ei gyfieithu) |
SO4933 |
|
Dewchurch (Little Dewchurch) |
Llanddewi
|
SO5331 |
|
Dewchurch (Much
Dewchurch) |
Llanddewi
Rhos Ceirion |
SO4831 |
|
Dingestow |
Llanddingad
|
SO4510 |
|
Foy
|
Llandyfói |
SO
5928 |
|
Ewyas |
Euas |
|
|
Garway
|
Llanwrfwy
|
SO4522 |
|
Golden
Valley |
Ystrad
Daur |
SO3536 |
|
Ganarew |
Castellgeronwy |
SO5216 |
|
Hentland |
Henllan |
? |
|
Kenderchurch
|
Llangynidr
|
|
|
Kentchurch
|
Llan-gain |
SO
4125 |
|
Kilpeck
|
Llanddewi
Cil Peddeg |
SO4430 |
|
Llancillo
|
Llansylfwy
|
SO3625 |
|
Llancloudy
|
Llanllwydau
|
SO4920 |
|
Llandinabo
|
Llanwnabwy
|
SO
5128 |
|
Llanfrother |
Llanfrodyr
|
?? |
|
Llangarren |
Nantgaran
|
SO5221 |
|
Llangunnock |
Llangynog
|
?? |
|
Llanrothal
|
Llanrhyddol
|
?? |
|
Llanveyno |
Llanfeuno |
SO3031 |
|
Llanwarn
|
Llan-wern (Llan-wern Teilo a Dyfrig) |
SO5028 |
|
Llyndu |
Llyn-du
|
?? |
|
Longtown
|
Y
Dref-hir |
SO3228 |
|
Marstow
|
Llanfarthin
|
SO5619 |
|
Michaelchurch |
Llanfihangel
Cil Llwch |
SO5225 |
|
Michaelchurch
Escley |
Llanfihangel
|
SO3134 |
|
Moccas |
Mochros
|
SO3542 |
|
Dewchurch (Much
Dewchurch) |
Llanddewi
Rhos Ceirion |
SO4831 |
|
Mynydd
Brith |
Mynydd-brith
|
?? |
|
Pencoyd |
Pen-coed
|
SO5126 |
|
Penrose |
Penrhos
|
?? |
|
Peterstow
|
Llan-bedr |
SO4125 |
|
Wormbridge |
*Pontarwrfwy Ddim yn enw hanesyddol
ddilys - Yr ym ni wedi cyfieithu’r enw Saesneg ar lun enwau Cymraeg tebyg - Pontargothi,
Pontarelan, ayyb. Afon Gwrfwy yw’r afon ‘Worm’ yn Gymraeg |
|
|
River
Frome |
Afon
Ffraw |
SO5638 |
|
River
Lugg |
Afon
Llugwy |
SO
5637 |
|
Sellack
|
Llansulwg |
SO5627 |
|
St
Devereux |
Llanddyfrig
|
SO4431 |
|
St
Weonards |
Llansainwenarth
|
SO5924 |
|
Treferanon |
Trefranwen
|
?? |
|
Trelasdee |
Tre-lewis-du
|
?? |
|
Tretire |
Rhyd-hir
|
SO5223 |
|
Vowchurch
|
*Eglwys-fraith (Cyfieithiad o’r enw Saesneg. Nid yw’r enw yma yn bodoli
mewn hen ddogfennau, ond o bosibl dyna oedd yr enw gwreiddiol, a’r enw
Saesneg yn drosiad ohono) |
SO3636 |
|
Welsh
Bicknor |
Llangystennin
Garth Brenni |
SO5917 |
|
Whitchurch |
Llandywynnog
|
SO5617 |
CYMRAEG-SAESNEG (enwau
Cymraeg Euas ac Ergyn
ynghyd â'r ffurfiau Saesneg presennol)
Abaty Daur (SO xxxx) {·Abbey Dore·}
Afon Ffraw (SO xxxx) {·River Frome·}
Afon Llugwy (SO xxxx) {·River Lug·}
Bryn-gwyn (SO xxx)
Clydog (SO xxx) {·Clodock·} (Llyfr Llan-daf 1150 ecclesia
Sancti Clitauci )
*Ffynnondewi (SO 4933) {·Dewsall·}. 7 km i'r de-orllewin o Rosan
ar Wy / Ross on Wye.
Henllan (SO xxxx) {·Hentland·}..
Llan-bedr (SO 4125) {·Peterstow·}. 3 km i'r de-ddwyrain o Bontrilas. (Llyfr
Llan-daf 1150 Lann petyr)
Llanddewi Cil Peddeg (SO xxxx) {·Kilpeck·} Peddeg > Peg [peeg]
Llanddewi Rhos Ceirion (SO xxxx) {·Much Dewchurch·}
*Llanddewi (SO xxxx) {·Dewchurch·}
Llanddingad (SO xxxx) {· ·}
Llanddyfrig (SO xxxx) {·St. Devereux·}
Llandyfói (SO 5928) {·Foy·}. 4 km i'r gogledd o Rosan ar Wy /
Ross on Wye. (Llyfr Llan-daf 1150: Lanntimoi)
Llandywynnog (SO xxxx) {·Whitchurch·}
Llanfarthin (SO xxxx) {·Marstow·} (Llyfr Llan-daf 1150: Lann
Martin)
Llanfeuno (SO xxxx) {·Llanveyno·}..
Llanfihangel Cil Llwch (SO xxxx) {·Michaelchurch·}
Llanfihangel Escli* (SO xxxx) {·Michaelchurch Escley·}
Llanfrodyr (SO xxxx) {·Llanfrother·}
Llanfuddwalan (SO xxxx) {·Ballingham·} (Llyfr Llan-daf 1150: Lann
Budgualan)
Llan-gain (SO 4125·} {·Kentchurch·}. 3 km i'r de-ddwyrain o Bontrilas.
(Llyfr Llan-daf 1150: Lann Gein)
Llangynidr (SO xxxx) {·Kenderchurch·} (Llyfr Llan-daf 1150: Lann
cinitir)
Llangynog (SO xxxx) {·Llangunnock·}
Llangystennin Garth Brenni (SO xxxx) {·Welsh Bicknor·}
Llanllwydau (SO xxxx) {·Llancloudy·} (Llyfr Llan-daf 1150:
Lann loudeu)
Llanrhyddol (SO xxx) {·Llanrothal·}. Llyfr Llan-daf (1150) Lann
Ridol (= Llanrhyddol o ran ei ynganiad).
Llansainwenarth (SO xxx) {·St. Weonards·}. Llyfr Llan-daf
(1150) Lann Sant Guainerth . Mae'r un enw i'w weld yn Llan-ffwyst Fawr,
Sir Fynwy (Llanwenarth (SO 2714) )
Llansanffráid (SO xxxx) {·Bridstow·}. (Llyfr Llan-daf 1150: Lann
San Freut)
Llansulwg (SO xxxx) {·Sellack·} (Llyfr Llan-daf 1150: Lann
suluc)
Llansylfwy (SO xxxx) {·Llancillo·} (Llyfr Llan-daf 1150: Lann
Suluiur)
Llan-wern (Llan-wern Teilo a Dyfrig) (SO xxx) {·Llanwarn·}.
Llyfr Llan-daf (1150) Lann Guern (hynny yw, Llan-ghwern) .
'Warn' yw'r ffurf Saesneg; Fe fyddai hwn wedi odli â'r Gymraeg 'arn' ar un
adeg, Yn yr iaith Saesneg yn ganrif 1700 -aeth er- yn -ar- mewn shew o siriau
university / varsity,
clerk /
Berkeley ("Barkeley") / ond -er- yn UDA, etc
Llanwnabwy (SO 5128) {·Llandinabo·}. 10 km i'r
gogledd-orllewin o Rhosan ar Wy / Ross on Wye. Ceir yn Llyfr Llan-daf Lann
Iunabui (1150) ("llan Iwnabwy"). Mae'n debyg i ffurf hupocoristig
fodoli hefyd, â'r rhagflaenydd 'ty' - Ty-iwnabwy, sydd yn sail i "llan
Dinabwy". Mae'r w yn lle wy mewn sillaf olaf yn nodweddiadol
o Gymraeg y De, wrth gwrs. ("llan Dinabw"). Yn Saesneg, mae'r -w
derfynnol yn mynd yn -o neu -ow. Enghraifft arall yw Afon Mynwy, ar lafar Mynw;
o'r enw hwn daw "Monnow".
Llanwrfwy (SO xxxx) {·Garway·} (Llyfr Llan-daf 1150: Lann
Guoroue)
Llyn-du (SO xxxx)
Mochros (SO xxxx) {·Moccas·}
Mynydd-brith (SO xxxx) {·Mynydd Brith·}
Nantgaran (SO xxxx) {·Llangarren·}
Pen-coed (SO xxxx) {·Pencoyd·}
Penrhos (SO xxxx) {·Penrose·}
Rhyd-hir (SO xxxx) {·Tretire·} Mae'r cyfuniad d+h yn rhoi
't' yn rheolaidd yn y Gymraeg, wrth gwrs. Felly mae'n tebyd taw 'Ritîr' oedd y
ffurf leol. Peth cyffredin yw i’r 'h' fynd ar goll yn y de-ddwyrain - ond
efallai datblygiad lled ddiweddar yw hwn, neu yr oedd ardaloedd lle y'i cedwid.
Ta beth am hynny, yn Saesneg aeth y sillaf [tiir] yn [tair] yn ystod cyfod
newidiadau'r llafariad hirion yn y ganrif 1500 (aeth yr 'i' hir Saeseng yn
'ai'; 'ii' oedd y llafariad yn y geiriau ice, my, fly, ayyb gynt. Mae'r elfen
gyntaf 'tre' wedi disodli 'rhyd' - yn yr un modd y mae gwamalu ar adegau rhwng
llan/nant, glan/llan, llan/llyn, ayyb
Trefranwen (SO xxxx) {·Treferanon·}
Tre-lewis-du (SO xxxx) {·Trelasdee·}
Y Dref-hir (SO 3228) {·Longtown·}. 8 km i'r gorllewin o
Bontrilas.
Ystrad Daur (SO xxxx) {·
Dywed Melville
Richards (1971)...
Domesday Book
acknowledged the peculiarly Welsh character of Archenfield, and although the
district was occupied first by Fitzosborn and then granted to Hubert de Burgh
in 1277, its population remained Welsh for many centuries. Evidence for this ma
be found in the family papers of Mynde Park in Much Dewchurch, and of Milborne
and Kentchurch Court. These papers deal with such Herefordshire parishes as
Rolston, Longtown, Much Dewchurch, Orcop, Llanrothal, Gillow, Kilpeck, &c.
In Llanrothal, c. 1300, lived Meurig ap Goronwy Goch, and Philip and
Madog sons of Thomas ab Ithel. In 1364 the witnesses to a deed at Orcop were Rhys ap Dafydd ap Ieuan,
William ap Robert, William ap Wilcoc, Hugh Goch and Ieuan ap Iorwerth. In 1437
the names are Philip ap Gwilym Grono,
William ap Rhirid, John Griffith, Robert ap Meurig. If we pass on to the
sixteenth century we find in 1537 Philip ap Rhys, Lewis ap Jancyn, Rhys ap Ieuan ap Phillip, and John ap Robyn. John ap Jenkin lived in Llancillo in 1587. The local
gentry were Welsh: Robert ap Gwilym in
1494, James ap Hywel of Llangarran in 1584. Even the parish priests and
chaplains were Welsh: Philip ap Madog, rector of Peterstow in 1473, John ap Robyn, chaplain in 1478. Just as significant are the many Welsh field
names in Archenfield parishes, the Visitation Returns for the Diocese of
Hereford in 1397 show that many of the parishes were inhabited by a majority of
people with Welsh names.
Tudalen 89; The
Population of the Welsh Border - Melville Richards - 77-100, Transactions of
the Honourable Society of Cymmrodorion, Session 1970 (Part 1), published 1971
Archenfield was still
Welsh enough in the time of Elizabeth for the bishop of Hereford to be made
responsible together with the four Welsh bishops for the translation of the
Bible and the Book of Common Prayer into Welsh. Welsh was still commonly spoken
here in the first half of the nineteenth century, and we are told that
churchwardens' notices were put up in both Welsh and English until about 1860
(Transactions Woolhope Naturalists' Field Club, 1887, page 173). Welsh was
spoken by individuals until comparatively recently.
Tudalen 95; The
Population of the Welsh Border - Melville Richards. Pages 77-100, Transactions
of the Honourable Society of Cymmrodorion, Session 1970 (Part 1), published
1971
0981k
Y Tudalen "Iredentiaeth" - rhaid adennill
y Tir Coll - Croesoswallt, Euas, Ergyn, ayyb
Adolygiad diweddaraf
- Dydd Llun 03 07 2000 :: (Mercher) 16 07 2003
0978 Gwefan Cymru-Catalonia.. Yn ôl y
beirdd, 'dwy wir lawes Gwent' oedd y ddau gantref Euas ac Ergyn. Ardaloedd llwyr
Gymraeg oedd y rhai hyn, er iddynt ymylu ar diroedd wedi eu meddiannu gan y
Saeson ers canrifoedd.
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o
dudalennau’r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web
"CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a
page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website
Weø(r) àm ai? Yuu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø "CYMRU-CATALONIA" (=
Weilz-Katølóuniø) Wébsait
CYMRU-CATALONIA