kimkat0851k Rhestr o ddiarhebion a dywediadau a gasglwyd gan Gwernyfed yn ardal Merthyrtudful gan Gwernyfed. Cyhoeddwyd mewn pedair rhan yn ‘Y Geninen’ yn 1894 a 1895. “Nid wyf am i neb feddwl mai pobl dda Merthyr yn unig a ddefnyddiant y dywediadau diarebol hyn. Rhaid i ni gofio fod trigolion y dref hon yn cael eu gwneyd i fyny o bobl wedi dyfod yma o bob ardal o Gymru...”

10-06-2017

 

● kimkat0001 Home Page / Yr Hafan www.kimkat.org

● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm

● ● ● kimkat1798k Diarhebion – Y Gyfeirddalen http://kimkat.org/amryw/1_diarhebion/13_diarhebion_mynegai_1801k.htm

● ● ● ● kimkat0851k This page / Y tudalen hwn

 

baneri_cymru_catalonia_050111

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les

 

Diarhebion Lleol.
Ardal Merthyrtudful, 1894-7

‘Diarhebion Lleol neu ddywediadau ystrybedol a glywir yn Merthyr a’r cylchoedd cyfagos’.

Casgliad ‘Gwernyfed’  a gyhoeddwyd yn ‘Y Geninen’ yn 1894, 1895 a 1897

(delwedd 0364g)

 

0093j_cylch_baner_uda This page in English http://www.kimkat.org/amryw/13_diarhebion_merthyr_1895_2479e.htm

cylch_baner_catalonia_00-77 xxxx

····

Yr ym wedi copio rhestr ‘Gwernyfed’ a gyhoeddwyd mewn pedair rhan yn “Y Geninen” rhwng 1894 a 1897.

(1) Yr ym wedi diweddaru’r orgraff, a rhoi’r diarhebion yn nhrefn y wyddor - yn y rhestr wreiddiol nid oedd fawr o siâp ar y drefn.

(2) Yr ym hefyd wedi cynnwys y geiriau yr oedd yr awdur wedi ei rhoi yn anghyflawn er lledneisrwydd - piso, tin, rhech (yn lle p__, t__, rh___ ).

(3)  Mae yn y rhestr ryw 700 o ddywediadau / ddiarhebion. Gwaetha’r modd nid oes yr un esboniad iddynt - dim ond rhestr oedd gan Gwernyfed, ond mae’n hynod o ddiddorol serch hynny.

(RHYBUDD - efallai fod ambell i wall teipio nad ydym wedi dod o hyd iddo eto!)

 

RHAN 1: Y casgliad wedi ei drefnu a’r orgraff wedi ei diweddaru

RHAN 2: Y casgliad gwreiddiol

 

 

Rhan 1

 

‘Diarhebion Lleol neu ddywediadau ystrybedol a glywir yn Merthyr a’r cylchoedd cyfagos.’ Gan Gwernyfed.

“Y Geninen”
(1) Cyfrol 12 1894 t259-260
(2) Cyf 13 1895 t222
(3) Cyf 13 1895 t???
(4) Cyf 15 1897 t24.

 

 

DIARHEBION LLEOL NEU DDYWEDIADAU YSTRYBEDOL A GLYWIR YN MERTHYR A’R CYLCHOEDD CYFAGOS.
Nid wyf am i neb feddwl mai pobl dda Merthyr yn unig a ddefnyddiant y dywediadau diarebol hyn. Rhaid i ni gofio fod trigolion y dref hon yn cael eu gwneyd i fyny o bobl wedi dyfod yma o bob ardal o Gymru. Ac wrth wrando ac ymddiddan o ddydd i ddydd â’r bobl hyn y cesglais y gofres hon: gan obeithio y bydd hyn o orchwyl o’m heiddo yn symbyliad i eraill wneyd yr un fath yn eu hardaloedd hwythau, fel y cadwer drwy hynny yn fyw hen ddywediadau ystrydebol y genedl Gymreig.

Merthyr.  GWERNYFED.

 

A boero i ddannedd y gwynt sy’n poeri i’w wyneb ei hun
A gollir heddiw ni cheir yfory

A wnel dwyll a dwyllir
Achub chwannen a cholli croen buwch
Achub wy poeth o dân
Aeth ei eiddo rhwng seiri a phorthmyn
Afrwydd pob gorchwyl ar y cyntaf
Ag arian y prynir popeth - ond gair da
Agosaf i’r asgwrn melusaf y cig
Agosaf y diawl pan siaredir amdano
Â’i fys ym mhob brywes
Â’i fys yng nghawl pob un
All neb fyw ar garu a chusana
All neb gario’i dylwyth ar ei gefn
All ungwr ond a allo
Allan o ddyled allan o berygl
Allwedd pob cist yw cwrw

Amcan ddall a menter ddwl
Amcan llygad a gwaith llaw
Amcan llygad a gwaith pen bys
Amcan Shôrs am bwys o wlân / ac amcan Shân wrth gribo
Amser yw’r esboniwr gorau
Anhawdd {= anodd} celu cariad

Anhawdd {= anodd} cerdded pob gofynydd
Anhawdd {= anodd} plygu hen bren
Anhawdd {= anodd} tynnu cnacau o hen geffyl
Annoeth pobun nes gwypo
Ar drot byth a hefyd
Ar ôl yfed, syched sydd
Ar rod a charhant = ar drot byth a hefyd


Bargen yw bargen, serch colli
Beth yw bron o flaen brenin?
Bid cam bid cymwys - tae fater am hynny bid p’un i chi
Blas y cyw ar y cawl = ni ddygir dyn oddiar ei dylwyth
Blewyn heddiw o groen y ci a’m cnodd y ddoe
Breuddwydio am haf sych Nadolig, a chael dydd Sul yr hwch yn yr haf
Briwydd bychain wnânt dân gynta, ond rhai mawrion a ddiffodda
Bwyta bwyd o ben dyn arall
Bwyta llygoden cyn ei dal
Bwyta’r cyw cyn ei fagu
Bid a fynnno, ta beth = bid p’un i chi
Byw mewn gobaith am abwy


Cadw cŵn a chyfarth fy hun, ai e?
Cadw heddiw fel bo gennyt y fory
Cadw’th dafod rhwng y ddanedd {= dannedd}
Cael neu golli, mentra
Call pob ffôl tra tawo
Calon dyn yn ei bwrs
Calon dyn yn ei logell
Can {= cyn} daered â’r twrch
Can {= cyn} haeled â llyffan ar y pridd
Cân di bennill fwyn i’th nain / Fe gân dy nain i tithe

Caseg wen a phioden
Caws o fola ci

Cel da yw cel benthyg
Cenfigen a fynn ei thâl
Cenfigen a fynn ei wobr
Cenfigen a fynn le i ddial
Chwannog i’w fara, ond diog i’w hela
Chwarae teg, serch chwarae am ddim
Chwarae teg i’r diawl

Chwilio bai a hela brychau
Clecwn sy’n holi, a ffyliaid sy’n gweud
Cneuen goeg sy galeta
Cnùl newyn, llaethdy gwag
Codi crach a thrafod crawn
Cos di fi, mi gosa innau dithau

Cuwch â’r houl
Cuwch cwd a ffetan
Cwympo i’r pot a’r saem
Cymaint ei gariad â’r iâr at yr halen
Cymydog agos sy’n well na brawd ymhéll
Cynnau cannwyll i chwynu
Cynt twymiff y gwaed na’r dŵr
Cyrchu dŵr dros afon
Cysgu ci cigydd
Cysgu hun ci cigydd
Cystal ag aur = as good as guinea gold


Dagrau sych gynta

Dal at y gwir, petái’r wybr yn cwympo
Dal cannwyll i gyfarwydd
Dal golau i gath lygota
Dall pob anghelfydd
Dall pob anghyfarwydd
Dall yw cariad i bob anaf
Dal mochyn gerfydd ei gwt
Dal y gwynt a saethu’r lleuad
Dal y gwynt mewn sachau
Dal ych gerfydd ei gorn
Daw, fe ddaw yn haf ar y ci coch; a thywydd teg i galchwr
Daw dial, daw.
Dechrau da yw hanner y gwaith
Dial y felin, dial ei fola
Dianaf hagr i gariad
Diddrwg pob drwg heb gerydd
Dieithr pob llwybr nes ei gerdded
Digon sy digon
Digon yw digon - a hwnnw am ddim
Dim mor sicr ag angeu {= angau}
Dodi draen yn ei nyth ei hun
Dodi ei dafod rhwng y maen a’r min
Dodi ei fys rhwng y tewyn a’r tân
Dodi ei het ar yr hoel
Dod tua thre ac un llaw’n wag, a’r llall heb ddim
Dod yn ei hôl fel ceiniog ddrwg
Does byth flino ar gèl benthyg 

Does colled i neb nad oes ennill i rywun
Does dim am ddim, na dim llawer am ddimai
Does dim o ddim, a dim heb dreio
Does dim toll ar gleber
Does doll ar dafod menyw
Does gan y ci ond ei groen
Does gan y ci ond ei gwt
Does gofid neb fel ’ngofid i
Does dim toll ar gleber
Does neb yn dlawd nes a’n dlawd o ddyn
Does neb yn rhy hen i ddysgu
Does ond y gwir a ddal dŵr
Does unman fel cartre’
Dros ei ben a’i glustiau mewn gofid
Dwfr dwfn gerdd yn dawel
Dwl bwrw, dwl marw
Dwl geni, dwl drengu
Dyled ar bawb, dyled ar neb
Dyna blufyn yn ei gap
Dyna blufyn yn ei gwpan
Dyna blufyn yn ei het ef
Dyna damaid i ti - tag wrth ei lyncu
Dyna ddyn a’i galon yn ei ddwrn
Dyna ddyn a’i galon yn ei law
Dyna gelwydd glân golau
Dyna gneuen i ti - tor hi, os medri

Dyna wir fel yr houl
Dysgu cath i lygota
Dysgu cath i yfed llaeth
Dysgu cath i yfed llefrith
Dysgu crychydd i bysgota
Dysgu crychydd i lyncu llyswen
Dysgu cŵn i fwyta caws
Dysgu ei famgu i odro’r hwyaid
Dysgu gwiwer i gneua
Dysgu hen geiliog i ganu
Dysgu hwyaid i nofio
Dysgu llwynog i ladd gwyddau
Dysgu moch i yfed maidd
Dysgu’r dryw fach i nythu
Dysgu’r gath i grafu a’i llygaid yngháu
Dysgu’r pader i’r gath
Dysgu’r wennol i nythu
Dystawa’i {= distawa’i} dafod, llyma’i ddant
Dyw afal o berllan arall byth yn sur
Dyw amser ddim yn aros - {time waits for no man}
Dyw cig llwdn lladrad byth yn drewi
Dyw e ddim gwerth halen mewn bwdran
Dywedyd wrth y wal nes bo’r pared yn clywed = teimlo
Dyw pob ci sy’n cyfarth ddim yn cnoi


E fu mwy o golled na hynyna {= hynna} yn Llundain cyn brecwast
Ei fola’n rhyfeddu ble mae ei ddannedd
Ei le i bob peth - a phob peth yn ei le
Ei le yn well na’i gwmpeini
Ei lygaid yn fwy na’i fola
Eli penelin - a bôn yr ysgwydd
Esmwyth cwsg cawl erfyn, Dai! Esmwythach cwsg cawl dŵr, Shoni!
Ewyllys a bâr allu


Fe aeth y llygoden goch drosto
Fe aeth yr hwch trwy’r siop
Fe ddaeth y gath o’r cwd
Fe ddaw’r ferch i fagu’r fam
Fe ddistrywiodd un waith cant
Fe ddodws ei draed ynddi
Fe ddywed gelwydd fel ci yn trotian
Fe dorriff cyn plygu
Fe dwyllodd y bola’r llygaid = ei lygaid yn fwy na’i fola
Fe ellir cael tôn fwyn ar delyn lapre
Fe ellir rhoi ergyd cwmws o hen fwa
Fe fynn y gân a’r geiniog
Fe fynn y geiniog a’r geiniogwerth
Fe grogws ei hunan o’r diwedd
Fe wyr ba ochr i’r bara mae’r ’menyn
Fe wyr fod gwahaniaeth rhwng cael ei arwain a chael ei lusgo
Fe wyr hen ddafad o ble daw storom
Fe wyr hen ddafad y fan y mae porfa 
Fel ceiliog ar ei domen ei hun
Fel ci ar wair
Fel ci yn dal clêr
Fel clochydd yn wastad mewn eisiau
Fel crychydd yn hol llif
Fel giâr am ei chywion
Fel giâr ar y glaw
Fel hwyaden ar ddŵr
Fel llwdwn diarddel
Fel y dŵr gyda’r afon
Fel y dydd yn hir
Ffôl pob call hyd nes dysgo
Ffôl pob tlawd
Ffôl yn unpeth, ffôl ym mhopeth 
Ffola’ ffôl, na fyn wybod
Ffynnon hesb, buarth gwag

 

Gall bwyell fechan dorri pren mawr
Gall derwen dorri
Gall pob clapgi gyfarth
Galw’r plwyf i glywed y gwcw
Glaw yw glaw, pe ond diferyn
Gofid a drycin / A ddônt heb eu mofyn
Goleuo cath i laethdy
Gorau arfer - daioni
Gorau gair - gair da
Gorau gair - gair yn ei bryd
Gorau i gyd po gyntaf
Gorau moes - gwyleidd-dra
Gorfod pob gorfod - gorfod marw
Gormod chwerthin a dynn ddagrau
Gormod o gynfas am rot
Gwaethaf arfer arfer ddrwg

Gwaith i bawb, gwaith i neb
Gwaith menyw heb ei derfyn
Gwaith y nos, y dydd a’i dengys
Gwared da ar ei ôl ef
Gwas i was = chwibanwr
Gwas y baw = chwibanwr
Gwed y gwir - doed fel y delo
Gwed y gwir nes cocho’r cythraul
Gwell a blygo nag a dorro
Gwell blaidd dan lwyn na chi ar dwyn
Gwell camsyniad na cham sengyd
Gwell canmol ci drwg na rhoi cic iddo
Gwell canmol ci na’i gicio
Gwell cerydd câr na gwên gelyn
Gwell cerydd henddyn na gwers ynfytyn
Gwell chwerthin na llefain
Gwell cloff o’i gynnal na chelgi mewn ymrafael
Gwell corddi na cherdded
Gwell gan un filltir o ffordd na modfedd o waith
Gwell gwâl wellt cartref na gwâl blyf oddicartref
Gwell gweled na chlywed
Gwell heddiw na ’fory
Gwell i’r duwiol ei farw na’i eni
Gwell iechyd na chyfoeth
Gwell morwyn o’i chyfarch
Gwell plygu am bin na phlygu am ddim
Gwell pob crefft o’i arfer
Gwell pob gwas o’i ganmol
Gwell un a ddaw rywbryd nag un na ddaw byth
Gwell ychydig o dda na llawer o ddrwg
Gwerthu’r fuwch i brynu tarw
Gwerthu da i brynu drwg
Gwir yw gwir, ac fe ddal dŵr
Gwir yw’r hen ddihareb hynod / Anodd rhyngu bodd bedlemod
Gwisgo’r bais a’r british
Gwisgo dillad dyn marw
Gwisgo esgidiau dyn marw
Gwneud mynydd o dympath pridd gwadd
Gwneud y gorau o’r gwaethaf
Gwrthod rhodd, dirmygu y rhoddwr

Gwyn pob man cyn myned iddo


Hael glwth ar dorth gŵr arall
Hai gel gerddo nes cwympo
Hai gel gerddo nes ffaelo
Hai gel gerddo nes metho
Hai y ci a gerddo - da was, ond a gyfartho
Hala’r maen i’r wal
Hala rhwng y ci a’i gwt
Hanner addo yw pallu cyn ceisio
Hanner ie - cystal â na
Hawddach cofio na dysgu
Hawddach dal y celwyddog na’r cloff
Hawddach gweud na gwneud
Hawddach tynnu lawr nag adeiladu
Hawdda hael - hael addo
Hawdd cneifio dafad grebi
Hawdd codi castell yn yr awyr
Hawdd cynilo lle bo prinder
Hawdd eillio pen moel
Hawdd gofyn i roddwr llawen
Hawdd iawn yw siarad
Hawdd twyllo didwyll
Haws cwympo na chodi
Heb ewyllys, heb allu
Henach henach ffolach ffolach
Hiraf y dydd, byrraf y nos
Hir pob aros, ond byr pob difyrrwch
Hir pob ffordd, nes ei hadwaen
Hir wyneb wna hwyr wanu
Ho ho - mab ei dad i’r dim
Hoi! dyna drefn yr iâr ddu / Dodwy allan, a thonni yn y ty / Hoi! hoi! dyna drefn yr iâr wen / Tonni’n y ty, a dodwy ar y pren
Hollti blew - a phigo brychau
Hollti blewyn yn bedwar
Hwch yn mynd i Lundain - hwch yn dod adref

I’r pant y rhed y dŵr

Iach cilgi drannoeth
Ie, busnes leuog yn wir
I’r cwm rhed y cerrig / Felly arian i fonheddig
Iro tin taeog â bloneg
Iro tin taeog â gwddi
Iro tin taeog â rhawn


Llac ei afael, ffraeth ei chwedlau
Lladd chwannen â gordd
Llawer gwir da ei gelu, serch cnoi tafod
Llawna’i boc, gwaca’i ben
Lle bynnag y mae mwg, agos yw tân
Lleidr a ddal leidr
Lleidr yw llety
Llosgi bysedd yng nghawl dyn arall
Llwyth gwas diog = hir dafodog
Llygad segur wêl wall
Llyma’i fin, llyma’i din
Llyma’i gyllell, llyma’i gaws
Llyma llwm, popty gwag
Llyncu llyffan
Llyncu polyn


Mab a dwng ei dad; ie, mab ei dad
Mae amser i siarad yn ogystal â thewi

Mae arogl afal sur yn well na’i flas
Mae bwdel ar bob llwybr
Mae cariad yn ddall i bob anaf
Mae cenol ar bopeth
Mae clustiau gan gloddiau, a llygaid gan gerrig
Mae dafad ddu ym mhob praidd
Mae dechrau i bob peth
Mae digon o faint mewn buwch i ddal sgwarnog
Mae dincod ar ei ddannedd
Mae dod i blentyn, ond mynd i ddyn
Mae dod i bob peth, ond i hen ddyn
Mae drain yn pigo
Mae dwy ffordd i’r felin, ac un i’r clochdy
Mae dwy ochr i’r ddalen
Mae ei dro i bob peth
Mae fel y mwdwl o dew
Mae gweud yn dda, ond mae gwneud yn well
Mae hen esgid yn hoffi saim cystal ag un newydd
Mae hen gadno am ei hela
Mae hyd ’no’d mwydyn yn teimlo
Mae i bob celwydd ei gymar
Mae i bob llanw ei drai
Mae i falchder ei gwymp
Mae llawer ffordd i ladd ci heb ei dagu â ’menyn
Mae llawer ffordd i’r ffair
Mae llawer gair yn drymach na gordd
Mae llawer hen cystal â newydd
Mae mwydyn yn gwingo, os damsengir ef
Mae mwy nag unffordd i’r eglwys
Mae ‘na’ hael cystal ag ‘ie’ anfoddog
Mae newid gwaith cystal â gorffwys
Mae newid gwaith cystal â hwe {= hoe}
Mae parch pob dyn ar ei law ei hun
Mae pawb â’i gofid
Mae pawb yn adwaen sŵn ei gloch ei hunan
Mae pob aderyn yn hoff o’i gerdd ei hun, ebe’r frân
Mae pob gwaith yn galed i ddiog
Mae pob hwrdd yn ’nabod ei resfa
Mae pob margen (= bargen) gymell yn drewi
Mae pob peth wrth lygad lleidr
Mae pob peth yn dda yn ei dymor
Mae pob tipyn yn help, ebe’r dryw wrth biso i’r môr
Mae rhyw ddraen ym mhob nyth
Mae un celwydd yn gweiddi am un arall
Mae yfory’n ymhell
Mae yn cynyddu fel cyw yr ŵydd
Mae yn ddigon ffein i ’ffeirad

Mae’r carc yn well na’r cof
Mae’r esgid yn gwasgu
Mam ddigerydd wnaiff ferch benrhydd
Man y man.
Marchogaeth cel marw = riding a dead horse
Margen (= bargen) oedi, margen golli
Melysach afal o’i ddwyn
Melys ag e, ond melysach bod hebddo
Melys gwin o gafn arall
Melys pob gweithred wrth ei gwneud
Melys rhodd mewn angen
Mi wn hyd ei goes; ni raid iddo fygwth
Mor amled â gwiddon mewn cosyn
Mor anwadal â cheiliog gwynt

Mor anwadal â phlentyn blwydd
Mor chwim â’r wenci
Mor dawel â dau o’r gloch
Mor dawel â’r tes
Mor dawel â thes mis Mai
Mor ddauwynebog â cheiliog gwynt
Mor ddeche â ’deryn ar ei nyth
Mor ddibarch â’r blaidd
Mor ddiddiolch ag i’r ci am gario’i gwt
Mor ddifater â broga melyn bach
Mor ddifrifol â phe’n dweud ei bader
Mor ddigartre â chath rhwng deudy
Mor ddigyffro â malwoden
Mor ddiles â chennin Pedr
Mor ddiles ag arian cybydd
Mor ddiles â mes i eifr
Mor ddilewyrch â thân gwidw
Mor ddiniwed â’r oen bach
Mor ddiog â rhod y felin
Mor ddistaw â’r bedd 
Mor ddiwyd â morgrug
Mor ddued â’r frân
Mor ddued â’r inc
Mor ddued â’r parddu
Mor ddwl â chi yn cyfarth y lleuad
Mor ddyfal â lleuen mewn crachen
Mor ddyled â’i lun
Mor debyg â dau lwydyn y to
Mor debyg â dwy bysen
Mor debyg â dwy ffäen {= ffeuen}
Mor denau â rhaca
Mor denau â sgiled
Mor dew â hwch melinydd
Mor dew â’r iâr ddu yn ei thalcen
Mor dew â merched Shôn Grîn
Mor dew â sached {= sachaid} o wlân
Mor dewed â’r wadd
Mor dlawd â gwas y clochydd
Mor dlawd â llygoden eglwys
Mor drim â’r dryw
Mor dwp â mochyn
Mor dwt â’r dryw
Mor dwymed â’r toes yn codi
Mor falch ag alarch ar lyn
Mor falch â Jew ar ei focs
Mor fân ag eirin duon bach

Mor farw â hoelen mewn drws
Mor feined â milgi yn ei gwt
Mor ffoled â’i gysgod
Mor ffyddlon â cholomen i’w chell
Mor ffyddlon â gwas y gwcw
Mor frefog â’r blaidd
Mor fud â delbren (= delwbren)
Mor fud â delw
Mor fwyn â gweniaith putain
Mor fusnesus â beili mewn sesiwn
Mor fywiog â’r brithyll yn y crych
Mor gloff â chelwydd ar ei faglau
Mor gopa stanc â’r ci
Mor gyflym â hydd
Mor gyfoethog â chath mewn llaethdy

Mor gymwynasgar â’r hwch at ei bwyd
Mor gymwys â’r saeth
Mor gynnil â llyffan’ ar ei grail
Mor hapus â chywion mewn caws
Mor helbelus â giâr yn gori
Mor hurt â chi mewn ffair
Mor hyll â’r diawl
Mor iached â’r gloch
Mor laned â’r lamp
Mor laned â phin mewn papur
Mor llawen â’r dydd yn hir
Mor llawen â’r gog
Mor llawn â chwch gwenyn
Mor llefog â llaethgi am ei fam
Mor lleuog â’r ddallhuan {= ddylluan}
Mor llonydd â chorff marw
Mor llonydd â llygoden o dan bawen cath
Mor llwm â llygoden
Mor llym â nodwydd
Mor naturiol â dŵr i bysg
Mor naturiol â dŵr mewn afon
Mor oer ag aelwyd cybydd
Mor oer â thraed hwyaid
Mor oer â thrwyn y ci
Mor oered â’r clempyn
Mor oered â’r iâ
Mor ofnus â chath wrth bysgota
Mor olau â’r houl
Mor onest â’r geirchen (gyrchen)
Mor rhagrithiol â charnfradwr
Mor sarrug â chorgi
Mor serchus â’r gŵr cwta
Mor serchus â chi ar dewyn o dân
Mor sicir {= sicr} ag amen y clochydd
Mor sicr â’r nant i’r afon
Mor sionc â cheiliog ar bolyn
Mor siriol â hirddydd haf
Mor sobor â phe uwch bedd ei fam-gu
Mor stwrllyd â giâr am uncyw
Mor sured â’r dringol
Mor sychedig â rhod y felin
Mor uchel â’r houl
Mor ufudd â’r werthyd i’r sidell
Mor wag â phwrs putain
Mor wamal â dryw mewn perth
Mor wanned ag ewyn dŵr 
Mor wir â’r deial
Mor wir â’r Efengyl
Mor wired â’m geni
Mor wisgi â’r wennol
Mor wyned â’r eira
Morwyn gŵr mawr a hwch melinydd
Mor ysgafn â’r wennol
Mor ysgafn â phlufyn
Mwy o rym nag o synnwyr
Mynych addo, mynych angof
Mynych fenter, aml golled


Na ddeffro’r ci sy’n cysgu
Na farn ddannedd cel benthyg
Na feia garnau cel benthyg

Na hydera ar bydew gŵr arall
Naw bywyd cath
Neidio o drwnc y domen i gornel y berllan
Nes crys na phais
Nes penelin na garddwrn
Ni bu gwall arf yn llaw ddeche
Ni cheir y melys heb y chwerw
Ni ddal buddai ond ei llond
Ni ddal un peth ond ei lond
Ni ddaw du byth yn wyn mewn dŵr brwnt
Ni ddaw i’r rhyd nac i’r bont
Ni ddaw planed tair ceiniog byth yn rôt
Ni ddigonws ond a weddillws

Ni ddygir oddiar leidr
Ni ddysg neb yn iou (= ieuancach)
Ni ellwch dynnu gwaed o garreg
Ni enillws na threiws
Ni erys amser na llifeiriant
Ni fagws yn llwyr ond a fagws yr ŵyr
Ni fu’r llanw heb y trai
Ni fu colled i neb na fu ennill i rywun
Ni fu digonedd heb wargedion
Ni fu i ddydd drwg ei nos dda
Ni fynn mochyn ond ei ddigon
Ni gawn haf melyn bach gŵyl Mihangel yn ddiddiol i’r ci
Ni phall min yn llaw gywrain
Ni raid i’r lwcus ond ei eni
Ni thynnir dyn oddiar ei dylwyth

Ni waeth baw na bwdel
Ni wnaeth neb drwg i arall, ar na wnaeth fwy iddo ei hun

Nid ag us y delir brain
Nid colled colli yr hyn ni chawd

Nid digon heb warged
Nid diog diogyn at ei fwyd

Nid gwiw disgwyl i blentyn fod yn ddyn
Nid gwiw tolio pan fo gwaelod y sach yn y golwg
Nid hawdd cael cyfaill wedi unwaith ei golli
Nid oes dim mor sicr ag angau
Nid oes dim o ddim
Nid oes neb yn rhy hen i ddysgu
Nid wrth ei wisg y mae ’nabod y dyn
Nid yw call yn gall bob amser
Nid yw harddwch ond trwch croen
Nid yw neidr byth yn cyfarth


O bared i bost
O biler i bost
Ofer agor llygad dyn marw
Ofer ceisio cario dwfr men gogor
O gael y gair run man cael y ffair
O gornel i’w gilydd
O gorn i garn
O hirddrwg bydd mawrddrwg
Ola’r gwt i geued y gât

Onor y ci at y cosyn
O’r top i’r to
Os am fochyn da mynnwch weled yr hwch a’i magodd
Os am wybod eich hap a’ch hanes / Nacëwch gymwynas i’ch cymdoges

Os am y cnewyllyn rhaid tori’r gneuen


Pa ennill sy o nithio baw
Parcha dy bilyn, fe barcha dy bilyn dithau
Parchu’r cybydd er mwyn ei bwrs
Pawb a dynant at eu tebyg
Pawb drostynt ei hun, a Duw trosom i gyd
Peidiwch gwisgo’r cap os nad yw’n ffitio
Peidiwch plethu hwip i hwipo’ch hunan
Peidiwch rhifo’r cywion cyn eu deor
Peidiwch rhifo’r cywion cyn eu gori
Peidiwch ymhél ag ysgall
Penwyni yw anhap henaint
Petái a pytyse {= petasai}, byddai pob peth o’r gorau
Peth hawdd yw priodi - ond anodd byw yn y byd
Plant a hen bobl ddywed y gwir
Plant yw plant, gwnewch a fynnoch â hwy

Plyfio giach cyn ei wel’d
Plyfyn {= plufyn} at liw’r dwr
Pob tebyg a gwrdd. - Nod dafad a hwrdd
Pobun at ei grefft, ebe’r hwch wrth durio
Poeri ar ei bilyn ei hun (ei billedyn / ei dillad / ei ddilledyn)
Po mwyaf y llanw mwyaf y trai
Popeth newydd dedwydd da
Portha’r bol, fe bortha’r bol y cefn
Putain ddywed putain gynta
Pwrs gwag a wna wyneb cul


Rhaid canmol y bont a’m cariws
Rhaid canmol y cel a’m cariodd

Rhaid crogi cost lle bo cariad
Rhaid godde’ bil bach, serch cael dy blyfio yn fyw
Rhaid talu’r glwyd, serch eisiau bwyd
Rhowch i leidr ddigon o raff, fe grogiff ei hun
Rhwng bys a bawd
Rhwng llaw a llawes
Rhwng seiri a phorthmyn
Rhwng y ddwy stôl, heb un
Rhwng y ddwy stôl i’r llawr
Rhwng y gŵr cwta a gwas y diawl
Rhwng y tân a’r tewyn
Rhwydd pob cyfarwydd
Rhy anodd celu cariad
Rhy anodd colli hen arfer
Rhyw agor am lawer, a chauad am ddim
Rhyw bilo wyau, o hyd ac o hyd
Rhyw ddrwg yn ei lawes
Rhyw drai a llanw, byth a hefyd
Rhyw ergyd a chilio
Rhyw goch gam, o hyd; rhyw rech groes beunydd
Rhyw hela’r plwy i ddal llygoden
Rhyw hing hang, byth ac yn dragwydd
Rhyw rech groes ar bob peth
Rhyw Siôn yr un sut. Heb fod yn well nac yn waeth.
Rhyw Wil naw-crefft, heb un grefft
Rhyw ymyl ac ochr


Saf ar dy sawdl
Sala arfer, direidi
Sefyll ar ei sodlau
Sefyll yn ei olau ei hun

Sianco, ebe Siân.
Siŵr yw siŵr, edrych eto
Syfïen ym mola hwch fagu
Syn, dal dy dafod; mae’r pared yn clywed
Sythu’r cefn i bortha’r bola


Tad distaw a wna fab difraw
Taenu gwely drain
Taflu sbrat i ddala macrell
Tagu’r ffynnon yw blingo’r praidd
Talu’n rhy ddrud am ei ddysg
Talu’n rhy ddrud am ei grwth
Taro’r fargen ar ei law
Taro’r hoel ar ei chlopa
Taw di, taw dithau, ebe’r atsain
Tawed a dawo, ni thaw atsain
Taw piau hi’n wir - adre cyn nos, ynte
Tebyg a dynn tebyg
Tebyg i ddyn fydd ei lwdwn
Teg i bawb ei haeddiant
Teg i’r diawl ei haeddiant
Teg yw treio, cael neu beidio
Torri bedd i gladdu gofid
Torri clust gair da
Torri ffon i guro ei hunan
Torri’i drwyn i ddial ei dalcen
Torri’i goes i achub ei esgid
Torri’i llaw i achub ei bys
Torri’r gôt yn ôl y brethyn
Trech dau nag un; trech tri na’r diawl
Trech metel na maint
Trueni gwneud cam â’r cythraul
Trwy deg neu trwy dwyll = bodd neu anfodd
Twt baw; ni wnawd y byd ddim ar unwaith
Tynnu baw o lygad chwannen
Tynnu carrai o groen ych benthyg
Tynnu hoel o’i bedol ei hun
Tynnu’r goes ola ym mlaena


Uchela’i dras, isela’i dro

Uchela’i drem, isela’i dric
Un gair yn gystal â chant
Un gernod arbeda lawer cerydd
Un llaw yn wag a’r llall heb ddim
Un troed yn y bedd a’r llall ar y tir = “Ymyl banc brinc”
Unwaith yn ddyn a dwywaith yn blentyn
Un wennol ni wna wanwyn

 

Waeth baw na bwdel
Wedi canu - am ei gael yn ôl byth
Wedi estyn ei goes
Wedi gwadu ei grefft i ddilyn seguryd
Wedi ’i ddal yn ei drap ei hun
Wedi llosgi ei le
Wedi rhoi fyny yr ysbryd
Wedi tonni yn ei nyth
Wedi torri cwt ar ei din

Wedws dial delse
Wrth ymdrafod â drain ceir brathiad


Y calla i dewi
Y cam cynta yw y cam gorau
Y clebryn mwya yw’r gweithiwr lleia
Y cyntaf i’r felin sydd i falu
Y felin a fâl a fynn ddŵr
Y fuwch ar ôl y llo fo’n brefu fwya’ / Dyna’r fuwch fydd gyflo gynta
Y “Nhw” - gwy^r gwlad How
Y “Ni”. / Pwy ych chi? / O! y fi a’r gath!
Y “Ni” ebe gwy^r Pen-tyrch

Y sawl sydd â pheth ganddo sy’n cael


Ych benthyg a fwyty’n llwyr
Ychydig o flawd a llawer o us
Ychydig sy’n perthyn i ddyn tlawd
Yf ddwfr o’th bydew dy hun
Yfed dwfr o ffynnon fenthyg
Yfed mêth o fotel wag
Ymladd â’i fara chaws ei hun
Ymyl banc brinc


Yn arllwys ei gwd
Yn awr neu byth
Yn drewi dros naw perth
Yn drewi fel ffwlbart
Yn drewi fel y gingron
Yn edrych mor llon â llyffan
Yn estyn bys ar ôl pawb
Yn ffeindio beiau ar bawb


Yn gorn cân gan wlad a gorwlad
Yn gweled beiau pawb ond ei hunan
Yn llefain fel blaidd
Yn marw mewn mwg
Yn mesur llathen pawb wrth ei lathen ei hun
Yn uchaf ar ei ystumog
Yn wastad ar ôl, fel gwas y gwcw
Yn well am arall nag amdano ei hun


Yng ngenau’r sach mae cynilo
Yng ngenau’r sach mae tolio


Yr asyn a fref a fyt leia
Yr hyn ddywed pawb, mae’n sicr o fod yn wir
Yr oedd yno wledd a bedydd
Yr oedd yno wledd, a bedydd, a gwylmabsant yr iâr
Yr oen yn dysgu i’r ddafad i bori
Yr ysgol ore yn yr hollfyd / I ddysgu dyn yw ysgol adfyd

Ysgafn pob cynefin

 

 

Rhan 2

 

 

 

DIARHEBION LLEOL NEU DDYWEDIADAU YSTRYBEDOL A GLYWIR YN MERTHYR A’R CYLCHOEDD CYFAGOS.

Nid wyf am i neb feddwl mai pobl dda Merthyr yn unig a ddefnyddiant y dywediadau diarebol hyn. Rhaid i ni gofio fod trigolion y dref hon yn cael eu gwneyd i fyny o bobl wedi dyfod yma o bob ardal o Gymru. Ac wrth wrando ac ymddiddan o ddydd i ddydd â’r bobl hyn y cesglais y gofres hon: gan obeithio y bydd hyn o orchwyl o’m heiddo yn symbyliad i eraill wneyd yr un fath yn eu hardaloedd hwythau, fel y cadwer drwy hynny yn fyw hen ddywediadau ystrydebol y genedl Gymreig.

Merthyr.  GWERNYFED.

 

  

 

 

 

001. Amcan llygad a gwaith pen bys = a gwaith llaw

002. Amcan ddall a menter ddwl

003. Allwedd pob cist yw cwrw

004. Aeth ei eiddo rhwng seiri a phorthmyn

005. Agosaf i’r asgwrn melusaf y cig

006. Agosaf y diawl pan siaredir amdano

007. A boero i ddannedd y gwynt sy’n poeri i’w wyneb ei hun

008. Anhawdd plygu hen bren

009. Anhawdd tynnu cnace o hen geffyl

010. Ar ròd a charhant = ar drot byth a hefyd

011. All neb gario’i dylwyth ar ei gefn

012. A gollir heddiw ni cheir yfory

013. All ungwr ond a allo

014. Allan o ddyled allan o berygl

015. Annoeth pobun nes gwypo

016. All neb fyw ar garu a chusana

017. “Ar ôl yfed, syched sydd.”

018. Anhawdd celu cariad

019. Â’i fys yng nghawl pob un = Â’i fys ym mhob brywes

020. Afrwydd pob gorchwyl ar y cyntaf

021. Anhawdd cerdded pob gofynydd

022. Amser yw’r esboniwr gorau

023. Ag arian y prynir popeth - ond gair da

024. A wnel dwyll a dwyllir

025. Achub chwannen a cholli croen buwch

026. Achub wy poeth o dân

027. Briwydd bychain wnânt dân gynta, ond rhai mawrion a ddiffodda

028. Byw mewn gobaith am abwy

029. Gwisgo esgidiau dyn marw. -  Gwisgo dillad dyn marw

030. Marchogaeth cel marw = Riding a dead horse

031. Bwyta llygoden cyn ei dal

032. Bwyta’r cyw cyn ei fagu. - Plyfio giach cyn ei wel’d

033. Bwyta bwyd o ben dyn arall

034. Blas y cyw ar y cawl = ni ddygir dyn oddiar ei dylwyth

035. Breuddwydio am haf sych Nadolig, a chael dydd Sul yr hwch yn yr haf

036. Blewyn heddiw o groen y ci a’m cnodd y ddoe

037. Beth yw bron o flaen brenin?

038. Bid cam bid cymwys - tae fater am hynny bid p’un i chi

039. Bid a fynno, ta beth = bid p’un i chi

040. Bargen yw bargen, serch colli

041. Chwannog i’w fara, ond diog i’w hela

042. Cael neu golli, mentra

043. Can {= cyn} haeled a llyffan ar y pridd

044. Can {= cyn} daered a’r twrch

045. Cymaint ei gariad â’r iâr at yr halen

046. Cos di fi, mi gosa innau dithau

047. Calon dyn yn ei logell = yn ei bwrs

048. Cystal ag aur = as good as guinea gold

049. Cadw’th dafod rhwng y ddanedd {= dannedd}

050. Cysgu hun ci cigydd - Cysgu ci cigydd

051. Cyrchu dŵr dros afon

052. Caseg wen a phioden

053. Cnùl newyn, llaethdy gwag

054. Call pob ffôl tra tawo

055. Chwilio bai a hela brychau

056. Codi crach a thrafod crawn

057. Chwarae teg, serch chwarae am ddim  

058. Chwarae teg i’r diawl

059. Cynt twymiff y gwaed na’r dŵr

060. Caws o fola ci

 

 

 

 

 

 

 

 

061. Cadw heddiw fel bo gennyt y fory

062. Clecwn sy’n holi, a ffyliaid sy’n gweud

063. Cwympo i’r pot a’r saem

064. Cymydog agos sy’n well na brawd ymhéll

065. Cenfigen a fynn ei wobr = le i ddial = ei thâl

066. Cneuen goeg sy galetta

067. Cadw cwn a chyfarth fy hun, ai e?

068. Cyneu cannwyll i chwynu

069. Cèl da yw cèl benthyg

070. C’uwch cwd a ffetan

071. Dyled ar bawb, dyled ar neb. - Gwaith i bawb, gwaith i neb

072. ‘Does dim toll ar gleber

073. ‘Does doll ar dafod menyw

074. Dagrau sych gynta

075. Dechrau da yw hanner y gwaith

076. ‘Does dim am ddim, na dim llawer am ddimai

077. ‘Does dim o ddim, a dim heb dreio

078. Dal mochyn gerfydd ei gwt

079. Dal y gwynt mewn sachau

080. Dwfr dwfn gerdd yn dawel = Still water runs deep

081. Dal at y gwir, ta’r (petai’r) wybr yn cwympo

082. Dal y gwynt a saethu’r lleuad

083. Dyna damaid i ti - tâg wrth ei lyncu

084. Dyna gneuen i ti - tor hi, os medri

085. ‘Does gan y ci ond ei groen = ond ei gwt

086. Do’d tua thre ac un llaw’n wag, a’r llall heb ddim

087. Diddrwg pob drwg heb gerydd

088. ‘Does neb yn rhy hen i ddysgu

089. Dros ei ben a’i glustiau mewn gofid

090. Dwl bwrw, dwl marw

091. Dwl geni, dwl drengu

092. Does neb yn dlawd nes a’n dlawd o ddyn

093. ‘Does unman fel cartre’

094. Daw dial, daw. - Wedws dial delse

095. ‘Does colled i neb nad oes ennill i rywun

096. ‘Does gofid neb fel ’ngofid i

097. Dywedyd wrth y wal nes bo’r pared yn clywed = teimlo

098. Digon yw digon - a hwnnw am ddim.  - Digon sy digon

099. Dyna gelwydd glân golau

100. Dyna wir fel yr houl

101. ‘Does ond y gwir a ddal dŵr

102. Dyna ddyn a’i galon yn ei law = yn ei ddwrn

103. Dysgu’r pader i’r gath

104. Dodi ei het ar yr hoel

105. ‘Dyw e ddim gwerth halen mewn bwdran

106. Dim mor sicr ag angeu 

107. ‘Dyw cig llwdn lladrad byth yn drewi

108. ‘Dyw afal o berllan arall byth yn sur

109. Dysgu hen geiliog i ganu

110. Dysgu ei famgu i odro’r hwyaid

111. Dysgu hwyaid i nofio

112. Daw, fe ddaw yn haf ar y ci coch; a thywydd teg i galchwr

113. Dysgu cath i yfed llaeth = llefrith

114. Dysgu’r gath i grafu a’i llygaid yngháu

115. Dysgu llwynog i ladd gwyddau

116. Dysgu gwiwer i gneua

117. Dysgu crychydd i lyncu llyswen  = i bysgota

118. Dysgu’r wennol i nythu

119. Dysgu cath i lygota

120. Dysgu moch i yfed maidd

121. Dal cannwyll i gyfarwydd

122. ‘Does byth flino ar gèl benthyg 

 

 

 

 

 

 

 

 

123. Dieithr pob llwybr nes ei gerdded

124. Dall pob anghelfydd = anghyfarwydd

125. Dodi ei dafod rhwng y maen a’r min

126. Dodi draen yn ei nyth ei hun

127. Dial y felin - dial ei fola

128. Dodi ei fys rhwng y tewyn a’r tân

129. ‘Dyw amser ddim yn aros

130. Dystawa’i dafod, llyma’i ddant

131. Dianaf hagr i gariad

132. Dall yw cariad i bob anaf

133. Dysgu cwn i fwyta caws

134. Dal goleu i gath lygotta

135. Dod yn ei hôl fel ceiniog ddrwg

136. ‘Dyw pob ci sy’n cyfarth ddim yn cnoi

137. Dal ych gerfydd ei gorn

138. Dysgu’r dryw fach i nythu

139. Dyna blufyn yn ei het ef = yn ei gwppan = yn ei gap

 

 

Esmwyth cwsg cawl erfyn, Dai! Esmwythach cwsg cawl dŵr, Shoni!

Eli penelin - a bôn yr ysgwydd

Ei le i bob peth - a phob peth yn ei le

Ei le yn well na’i gwmpeini

Ewyllys a bâr allu

E fu mwy o golled na hynyna {= hynna} yn Llundain cyn brecwast

Fel crychydd yn hol llif

Fe wyr ba ochr i’r bara mae’r ’menyn

Fe ddywed gelwydd fel ci yn trotian

Fe ddaeth y gath o’r cwd

Fe dwyllodd y bola’r llygaid

Ei lygaid yn fwy na’i fola

Ei fola’n rhyfeddu ble mae ei ddannedd

Fe wyr fod gwahaniaeth rhwng cael ei arwain a chael ei lusgo

Fe aeth yr hwch trwy’r siop

Fe aeth y llygoden goch drosto

Fel y dŵr gyda’r afon

Fel y dydd yn hir

Fe grogws ei hunan o’r diwedd

Fe ddodws ei draed ynddi

Fe fyn y geiniog a’r geiniogwerth

Fe fyn y gân a’r geiniog

Fe doriff cyn plygu

Fe ddistrywiodd un waith cant

Fe ellir cael tôn fwyn ar delyn lapre

Fe ellir rhoi ergyd cwmws o hen fwa

Fe ddaw’r ferch i fagu’r fam

Fel llwdwn diarddel

Fel giar am ei chywion

Fel ci yn dal clêr

Fel hwyaden ar ddwr

Fel clochydd yn wastad mewn eisiau

Fel ci ar wair

Fel ceiliog ar ei domen ei hun

Fel giar ar y glaw

Fe wyr hen ddafad y fan y mae porfa

Fe wyr hen ddafad o ble daw storom

Ffol yn unpeth, ffol ym mhobpeth (?)

Ffol pob tlawd

Ffynnon hesp, buarth gwag

Ffol pob call hyd nes dysgo

Ffola ffol, na fyn wybod

 

 

 

Gwell iechyd na chyfoeth

Gwell camsyniad na cham sengyd

Gorau gair - gair yn ei bryd

Gall bwyell fechan dori pren mawr

Gwed y gwir nes cocho’r cythraul

Gwed y gwir - doed fel y delo

Gwaith menyw heb ei derfyn

Gwir yw gwir, ac fe ddal dwr

Gwell pob gwas o’i ganmol

Gwell morwyn o’i chyfarch

Gwerthu’r fuwch i brynu tarw

Gormod chwerthin a dynn ddagrau

Gwell chwerthin na llefain

Gwell i’r duwiol ei farw na’i eni 

Gwell gan un filltir o ffordd na modfedd o waith

 

 

 

 

Gwyn pob man cyn myned iddo

Gwell gwâl wellt cartref na gwâl blyf oddicartref

Gormod o gynfas am rot

Gwell canmol ci na’i gicio

Gwell canmol ci drwg na rhoi cic iddo

Gwared da ar ei ol ef

Gwell blaidd dan lwyn na chi ar dwyn

Gwell ychydig o dda na llawer o ddrwg

Gwell cerydd câr na gwen gelyn

Gwell a blygo nag a doro

Gwrthod rhodd, dirmygu y rhoddwr

Gorau i gyd po gynta

Gwell cloff o’i gynnal na chelgi mewn ymrafael

Gwneyd y gorau o’r gwaethaf

Gwneyd mynydd o dympath pridd gwadd

Galw’r plwyf i glywed y gwcw

Goleuo cath i laethdy

Gwell plygu am bin na phlygu am ddim

Gwell gweled na chlywed

Gwell corddi na cherdded

Gwell cerydd henddyn na gwers ynfytyn

Gorfod pob gorfod - gorfod marw

Gwerthu da i brynu drwg

Gwaethaf arfer - arfer ddrwg

Gorau arfer - daioni

Gwaith y nos, y dydd a’i dengys

Gorau moes - gwyleidd-dra

Gorau gair - gair da

Gwell pob crefft o’i arfer

Gwell un a ddaw rywbryd nag un na ddaw byth

Gwell heddiw na ’fory

Gwas i was = gwas y baw = chwibanwr

Gwlaw yw gwlaw, pe ond diferyn

Gall derwen dorri

Gall pob clapgi gyfarth

Gwisgo’r bais a’r britys

 

Haner addo yw pallu cyn ceisio

Honour y ci at y cosyn

Hawddach gweyd na gwneud

Hawdd eillio pen moel

Hawdd cneifio dafad grebi

Hawdd codi castell yn yr awyr

Haws cwympo na chodi

Hollti blewyn yn bedwar

Hollti blew - a phigo brychau

Hawdd twyllo didwyll

Hir wyneb wna hwyr wanu

Hawdd cynilo lle bo prinder

Hwch yn mynd i Lundain - hwch yn dod adref

Ho ho - mab ei dad i’r dim

Hawddach cofio na dysgu

Hawdd gofyn i roddwr llawen

Hawddach tynu lawr nag adeiladu

Hawdda hael - hael addo

Hael glwth ar dorth gŵr arall

Hai gel gerddo nes cwympo = ffaelo = metho

Hiraf y dydd, byraf y nos

Henach henach ffolach ffolach

Hir pob aros, ond byr pob difyrrwch

Hawddach dal y celwyddog na’r cloff

Hawdd iawn yw siarad

Heb ewyllys, heb allu

Hir pob ffordd, nes ei hadwaen

Hala’r maen i’r wal

Hala rhwng y ci a’i gwt

Hai y ci a gerddo - da was, ond a gyfartho

Haner ie - cystal â na

I’r cwm rhed y cerrig, felly arian i foneddig

Iach cilgi drannoeth

Iro tin taeog a bloneg = gwddi = rhawn

Ië, busnes leuog yn wir !!

I’r pant y rhed y dŵr

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Llyncu llyffan = polyn

Lle bynag y mae mwg, agos yw tân

Llawer gwir da ei gelu, serch cnoi tafod

Lleidr yw llety

Llwyth gwas diog = hir dafodog

Lleidr a ddal leidr

Llawna’i boc, gwaca’i ben

Llyma llwm, popty gwag

Llac ei afael, ffraeth ei chwedlau

Llygad segur wêl wall

Llyma’i gyllell, llyma’i gaws

Llyma’i fin, llyma’i din

Lladd chwanen â gordd

Llosgi bysedd yng nghawl dyn arall

 

Mab a dwng ei dad; ie, mab ei dad

Mae pob tipyn yn help, ebe’r dryw wrth biso i’r môr

Mor ddwl a chi yn cyfarth y lleuad

Mae hen gadno am ei hela

Mor fwyn a gweniaeth putain

Mor rhagrithiol a charnfradwr

Mor ddauwynebog a cheiliog gwynt

Morwyn gwr mawr a hwch melinydd

Mor gyflym a hydd 

Mor falch ag alarch ar lyn

Mor ufudd a’r werthyd i’r sidell

Mor sychedig â rhod y felin

Mor ddiog a rhôd y felin

Mor naturiol a dwr mewn afon

Mae ei dro i bob peth

Mor dew a’r iar ddu yn ei thalcen

Mae pawb yn adwaen swn ei gloch ei hunan

Mae pob hwrdd yn nabod ei resfa

Mor hapus a chywion mewn caws 

Mor ddiwyd a morgrug

Mor llawn a chwch gwenyn 

Mor amled a gwiddon mewn cosyn

Mor ddifrifol a phe’n dweyd ei bader 

Mor sobor a phe uwch bedd ei fam-gu

Mor hurt a chi mewn ffair 

Mae dwy ffordd i’r felin, ac un i’r clochdy

Mae un celwydd yn gweiddi am un arall

Mae i bob celwydd ei gymhar

Margen oedi, margen golli  (= bargen)

Mor sionc a cheiliog ar bolyn

Mor stwrllyd a giar am uncyw

Mor ddeche a ’deryn ar ei nyth

Mor sicir ag amen y clochydd

Mor dlawd a gwas y clochydd

Mae drain yn pigo

Mor sarug a chorgi

Mor dew a sached o wlan

Mynych fenter, aml golled

Mae newid gwaith cystal â gorffwys = hwe 

Mor ddued a’r parddu - Mor ddued a’r inc

Mor dew a merched Shon Grin

Mae d’od i blentyn, ond myn’d i ddyn

Mor anwadal â cheiliog gwynt

Mae’r carc yn well na’r cof

Mae clustiau gan gloddiau, a llygaid gan gerig

Mae llawer hen cystal a newydd

Mor sured a’r dringol

Melus gwin o gafn arall

Melusach afal o’i ddwyn

Melus rhodd mewn angen

Mae arogl afal sur yn well na’i flas

Mor llym â nodwydd

Mor chwim a’r wenci

Mor ysgafn a’r wenol (= shuttle)

Mor lleuog a’r ddallhuan {= ddalluan, ddylluan, dylluan; < tylluan}

 

 

 

Mor serchus a chi ar dewyn o dân

Mor frefog a’r blaidd

Mor serchus a’r gŵr cwta

Mor hyll a’r Diawl

Mor ofnus â chath wrth bysgota

Mor helbelus â giar yn gori

Mor ddigartre a chath rhwng deudy

Mor llefog â llaethgi am ei fam

Mor ffyddlon a cholomen i’w chell

Mor wamal a dryw mewn perth

Mor wir a’r deial

Mor wir a’r Efengyl

Mor sicr a’r nant i’r afon

Mor oer a thrwyn y ci

Mor oer a thraed hwyaid

Mor fud a delw

Mor fud â delbren (= delwbren)

Mor llonydd a chorff marw

Mor oered a’r clempyn

Mor oered a’r iâ 

Mae dechreu i bob peth

Mor ddifater a broga melyn bach

Mor fân ag eirin duon bach

Mor iached a’r gloch

Mor oer a’r eira llynedd

Mor ddyfal a lleuen mewn crachen

Mor ddued a’r fran

Mor llawen a’r gog

Mor llawen a’r dydd yn hir

Mor siriol a hirddydd haf

Mor ddiniwed a’r oen bach

Mor dewed a’r wadd

Mae fel y mwdwl o dew

Mor dwymed a’r toes yn codi

Mor llwm a llygoden

Mor dlawd a llygoden eglwys

Mor dwp a mochyn

Mor ddiles a mes i eifr

Mor ddiles a chennin Peder

Mor dwt a’r dryw

Mor drim a’r dryw

Mor falch â Jew ar ei foxs

Mor ddilewyrch a thân gwidw

Mor oer ag aelwyd cybydd

Mor ddiles ag arian cybydd

Mor wag a phwrs putain

Mor wired a’m geni

Mor ffoled a’i gysgod 

Mor ddyled a’i lun

Mor fysnesus a baili mewn sesiwn

Mor ddibarch a’r blaidd

Mor wisgi a’r wennol

Mor dew a hwch melinydd

Mor denau a rhaca

Mor denau a sgiled

Mor gymwynasgar a’r hwch at ei bwyd

Mor ddiddiolch ag i’r ci am gario’i gwt

Mae “na” hael cystal ag “ie” anfoddog

Mor ffyddlon a gwas y gwcw

Mae dwy ochr i’r ddalen 

Mae mwy nag unffordd i’r eglwys

Mae llawer ffordd i’r ffair

Mae llawer ffordd i ladd ci heb ei dagu â ’menyn

Mae pob peth wrth lygad lleidr

Mae gweyd yn dda, ond mae gwneyd yn well

Mae fory’n ymhell

Mae cariad yn ddall i bob anaf

Mae’r esgid yn gwasgu

Mae pob gwaith yn galed i ddiog

Mor gyfoethog a chath mewn llaethdy

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mor farw a hoelen mewn drws

Mor debyg â dwy ffäen  ffeuen} = dwy bysen = dau lwydyn y to

Mae digon o faint mewn buwch i ddal sgwarnog

Mae i falchder ei gwymp

Mynych addaw, mynych anghof

Mae bwdel ar bob llwybr

Mae pob peth yn dda yn ei dymhor

Mae amser i siarad yn ogystal a thewi

Mae i bob llanw ei drai

Mae d’od i bob peth ond i hen ddyn

Mae yn cynyddu fel cyw yr ŵydd

Mor gloff a chelwydd ar ei faglau

Mae dincod ar ei ddannedd

Mae parch pob dyn ar ei law ei hun

Mae llawer gair yn drymach na gordd

Mor dawel a’r tes = a thes mis Mai

Mor dawel â dau o’r gloch

Mor ddigyffro â malwoden

Mor onest a’r gyrchen (geirchen) 

Mor fywiog a’r brithyll yn y crych 

Mor gopa stanc a’r ci

Mor oleu a’r houl = cuwch a’r houl – (Morganwg)

Mor ddystaw a’r bedd

Mor llonydd a llygoden o dan bawen cath

Mor gynnil a llyffan ar ei grail

Mam ddigerydd wnaiff ferch benrhydd

Mi wn hyd ei goes; ni raid iddo fygwth

Mae rhyw ddraen ym mhob nyth

Mae dafad ddu ym mhob praidd

Melys ag fe, ond melysach bod hebddo

Man y man. - Shanco, ebe Shân. - Waeth baw na bwdel

Mae’n ddigon ffein i ’ffeirad

Mae pawb a’i gofid 

Mae mwydyn yn gwingo, os damsengir ef 

Mae hyd nod mwydyn yn teimlo

Mae hen esgid yn hoffi saim cystal ag un newydd

Mae pob aderyn yn hoff o’i gerdd ei hun, ebe’r frân

Mor feined â milgi yn ei gwt

Mor ysgafn a phlufyn

Mor wyned a’r eira

Mor gymwys a’r saeth

Mae cenol ar bopeth

Melus pob gweithred wrth ei gwneud

Mae pob margen gymell yn drewi

Mae ei dro i bob peth

Mor naturiol a dwr i bysg 

Mor laned a’r lamp

Mor laned a phin mewn papur 

Mor waned ag ewyn dwr 

Mwy o rym nag o synnwyr

Mor anwadal a phlentyn blwydd

 

Ni erys amser na llifeiriant

Nid wrth ei wisg mae nabod y dyn

Ni ddaw du byth yn wyn mewn dwr brwnt

Ni cheir y melys heb y chwerw

Ni fu i ddydd drwg ei nos dda

Nid yw harddwch ond trwch croen

Nid gwiw disgwyl i blentyn fod yn ddyn

Nid hawdd cael cyfaill wedi unwaith ei golli

Nid oes neb yn rhy hen i ddysgu

Ni ddysg neb yn iou = ieuangach)

Na ddeffro’r ci sy’n cysgu

Nid gwiw tolio pan fo gwaelod y sach yn y golwg

Ni fu’r llanw heb y trai

Na farn ddannedd cel benthyg

Na feia garnau cel benthyg

 

 

 

 

Ni ddygir oddiar leidr

Ni thynir dyn oddiar ei dylwyth

Ni ddaw planed tair ceiniog byth yn rôt

Ni gawn haf melyn bach gŵyl Mihangel yn ddiddiol i’r ci

Ni enillws na threiws

Ni fagws yn llwyr ond a fagws yr ŵyr

Ni ddal buddai ond ei llon’d

Ni ddal un peth ond ei lond 

Nid colled colli yr hyn ni chawd

Nid digon heb warged

Nes crys na phais

Nes penelin na garddwrn

Nid yw call yn gall bob amser

Naw bywyd cath

Ni ellwch dynnu gwaed o gareg

Nid oes dim mor sicr ag angeu

Ni ddigonws ond a weddillws

Ni fu digonedd heb wargedion

Nid oes dim o ddim 

Nid yw neidr byth yn cyfarth

Ni raid i’r lwcus ond ei eni

Na hydera ar bydew gŵr arall

Ni phall min yn llaw gywrain

Ni bu gwall arf yn llaw ddeche

Ni waeth baw na bwdel

Ni fyn mochyn ond ei ddigon

Nid diog diogyn at ei fwyd

Ni fu colled i neb na fu ennill i rywun

Nid âg us y delir brain

Ni wnaeth neb drwg i arall, ar na wnaeth fwy iddo ei hun

Neidio o drwnc y domen i gornel y berllan

Ni ddaw i’r rhyd nac i’r bont

 

Os am y cnewyllyn rhaid tori’r gneuen

O bared i bost. - O biler i bost

Ofer ceisio cario dwfr men gogor

O gael y gair ‘run man cael y ffair

O gorn i garn. - O gornel i’w gilydd

O’r top i’r to

O hirddrwg bydd mawrddrwg

Ola’r gwt i geued y gât (gate)

Ofer agor llygad dyn marw

Os am fochyn da mynwch weled yr hwch a’i magodd

 

 

Pwrs gwag wna wyneb cul

Plant yw plant, gwnewch a fynoch a hwy

Peidiwch gwisgo’r cap os nad yw’n ffitio

Peidiwch rhifo’r cywion cyn eu gori = eu deor

Pawb drostynt ei hun, a Duw trosom i gyd

Pobun at ei grefft, ebe’r hwch wrth durio

Pob peth newydd dedwydd da

Parcha dy bilyn, fe barcha dy bilyn dithau

Putain ddywed putain gynta

Plant a hen bobl ddywed y gwir

Petai a pytyse {= petasai}, byddai pob peth o’r goreu

Pob tebyg a gwrdd. - Nod dafad a hwrdd

Poeri ar ei bilyn ei hun (Pilyn, pilledyn = dillad,  dilledyn)

Plyfyn {= plufyn} at liw’r dwr

 

Rhyw Shon yr un sut. Heb fod yn well nac yn waeth.

Rhy anhawdd celu cariad

Rhaid crogi cost lle bo cariad

Rhaid godde bil bach, serch cael dy blyfio yn fyw

Rhy anhawdd colli hen arfer

Rhwng y ddwy stôl, heb un

Rhwng y ddwy stôl i’r llawr

Rho’wch i leidr ddigon o raff, fe grogiff ei hun

Rhaid talu’r glwyd, serch eisiau bwyd

Rhaid canmol y cel a’m cariodd

Rhaid canmol y bont a’m cariws

 

 

 

 

 

 

Pa enill sy o nithio baw

Portha’r bol, fe bortha’r bol y cefn

Penwyni yw anhap henaint

Peidiwch ymhel ag ysgall

Po mwyaf y llanw mwyaf y trai

Pawb a dynant at eu tebyg

Parchu’r cybydd er mwyn ei bwrs

Peth hawdd yw priodi; ond anhawdd byw yn y byd

Peidiwch plethu whip i whipo’ch hunan

 

Rhyw agor am lawer, a chauad am ddim

Rhyw ddrwg yn ei lawes

Rhyw drai a llanw, byth a hefyd

Rhyw ergyd a chilio

Rhyw rech groes ar bob peth

Rhwng llaw a llawes

Rhyw ymyl ac ochr

Rhwng seiri a phorthmyn

Rhyw bilo wyau, o hyd ac o hyd

Rhyw hing hang, byth ac yn dragwydd

Rhyw goch gam, o hyd. - Rhyw rech groes,  beunydd

Rhwydd pob cyfarwydd

Rhyw Wil naw-crefft, heb un grefft

Rhwng bys a bawd

Rhwng y tân a’r tewyn

Rhwng y gŵr cwta a gwas y diawl

Rhyw hela’r plwy’ i ddal llygoden

 

Sefyll yn ei oleu ei hun

Saf ar dy sawdl. - Sefyll ar ei sodlau

Siŵr yw siŵr, - edrych eto

Syfïen ym mola hwch fagu

Sythu’r cefn i bortha’r bola

Sala arfer, direidi

Syn, dal dy dafod; mae’r pared yn clywed

 

Tori’i drwyn i ddial ei dalcen

Tori bedd i gladdu gofid

Tori clust gair da

Tawed a dawo, ni thaw adsain

Taenu gwely drain

Tynu hoel o’i bedol ei hun

Tebyg a dyn tebyg

Tori’r gôt yn ôl y brethyn

Trech metel na maint

Trech dau nag un; trech tri na’r diawl

Taflu sprat i ddala macrell

Tynu carrai o groen ych benthyg

Tori ei llaw i achub ei bys

Teg yw treio, cael neu beidio

Talu’n rhy ddrud am ei ddysg

Talu’n rhy ddrud am ei grwth

Tori ei goes i achub ei esgid

Tebyg i ddyn fydd ei lwdn

Tad distaw a wna fab difraw

Taw di: taw dithau, ebe’r atsain

Taw piau hi’n wir - adre cyn nos, ynte

Twt baw: ni wnawd y byd ddim ar unwait

Trwy deg neu trwy dwyll = Bodd neu anfodd

Trueni gwneyd cam â’r cythraul

Teg i’r diawl ei haeddiant

Tynu’r goes ola’n mlaenaf

Taro’r hoel ar ei chlopa

Tynu baw o lygad chwannen

Taro’r fargen ar ei law

Teg i bawb ei haeddiant

Tagu’r ffynon yw blingo’r praidd

Tori ffon i guro ei hunan

 

Un troed yn y bedd a’r llall ar y tir = Ymyl-banc brinc

Unwaith yn ddyn a dwywaith yn blentyn

Un wenol ni wna wanwyn

Un llaw yn wag a’r llall heb ddim

Un gair yn gystal a chant

Un gernod arbeda lawer cerydd

 

 

 

 

Uchela’i drem, isela’i dric

Uchela’i dras, isela’i dro

 

Wedi toni yn ei nyth

Wedi llosgi ei le

Wedi tori cwt ar ei din

Wedi canu - am ei gael yn ôl byth

Wedi estyn ei goes

Wedi ’i ddal yn ei drap ei hun

Wedi rhoi fyny yr ysbryd

Wedi gwadu ei grefft i ddilyn seguryd

Wrth ymdrafod a drain ceir brathiad

 

 

Yn wastad ar ôl, fel gwas y gwcw

Y clebryn mwya’ yw’r gweithiwr lleia’

Ychydig o flawd a llawer o us

Yn awr neu byth

Ychydig sy’n perthyn i ddyn tlawd

Yn arllwys ei gwd

Yn uchaf ar ei ystumog

Y cyntaf i’r felin sydd i falu

Yn ngenau’r sach mae tolio - cymilo

Yn well am arall nag amdano ei hun

Yn gorn cân gan wlad a gorwlad

Yn mesur llathen pawb wrth ei lathen ei hun

Yn estyn bys ar ol pawb

Yn ffeindio beiau ar bawb

Yn gweled beiau pawb ond ei hunan

Yr oedd yno wledd a bedydd

Yr oedd yno wledd, a bedydd, a gwylmabsant yr iâr

Y sawl sydd a pheth ganddo sy’n cael

Y cam cynta’ yw y cam gorau

Yn edrych mor llon a llyffan

Yr asyn a fref a fyt leia’

Yf ddwfr o’th bydew dy hun

Yfed dwfr o ffynnon fenthyg

Ymladd â’i fara chaws ei hun

Yfed mêth o fotel wâg

Yr oen yn dysgu i’r ddafad i bori

Y felin a fâl a fyn ddŵr

Ych benthyg a fwyty’n llwyr

Ysgafn pob cynefin

Yn llefain fel blaidd

Yr hyn ddywed pawb, mae’n sicr o fod yn wir

Yn marw mewn mwg

Ymladd â’i fara ’chaws ei hun

Y calla i dewi

Yn drewi dros naw perth

Yn drewi fel ffwlbart

Yn drewi fel y gingron

Y “Ni”. / “Pwy ych chi?” / “O! y fi a’r gath!”

Y “Ni” ebe gwy^r Pentyrch

Y “Nhw” - gwy^r gwlad How

 

 

Gofid a drycin / A ddônt heb eu mofyn

 

Y fuwch ar ôl y llo fo’n brefu fwya’ / Dyna’r fuwch fydd gyflo gynta

 

Os am wybod eich hap a’ch hanes / Nacëwch gymwynas i’ch cymdoges

 

Hoi! dyna drefn yr iâr ddu / Dodwy allan, a thonni yn y ty / Hoi! hoi! dyna drefn yr iâr wen / Tonni’n y ty, a dodwy ar y pren

 

Amcan Shôrs am bwys o wlân / ac amcan Shân wrth gribo

 

Gwir yw’r hen ddihareb hynod / Anodd rhyngu bodd bedlemod

 

Cân di bennill fwyn i’th nain / Fe gân dy nain i tithe

 

Yr ysgol ore yn yr hollfyd / I ddysgu dyn yw ysgol adfyd

 

 




Sumbolau:  ā ǣ ē ī ō ū ȳ w̄ W̄
 / ˡ ɑ æ ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː /
ɥ  / ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /
ә ʌ ŵ ŷ ẃ ŵŷ ẃỳ  ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẁ Ẁ ẃ ẅ Ẁ £
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN / AQUESTA PÀGINA/ THIS PAGE
www.[]kimkat.org/amryw/1_diarhebion/13_diarhebion_merthyr_1895_0851k.htm
…..

Ffynhonnell / Font / Source:
Y Geninen’ yn 1894, 1895 a 1897
Creuwyd / Creada / Created: ??

Adolygiadau diweddaraf / Darreres actualitzacions / Latest updates / 03-12-2019, 10-06-2017, 10 10 2000
Delweddau / Imatges / Images:

…..

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?

…..
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

Diarhebion a Dywediadau  – Proverbis i Dites - Proverbs and Sayings

Web Analytics
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres estadístiques / View Our Stats