2479e Proverbs and sayings collected by Gwernyfed in the Merthyrtudful area. Published in four parts in ‘Y Geninen’ between 1894» and 1895. “I don’t want anybody to think that only the good people of Merthyr use these proverbial sayings. We must bear in mind that the inhabitants of this town are made up of people who have come from all over Wales.”

 
http://www.kimkat.org/amryw/13_diarhebion_merthyr_1895_2479e.htm

0001z Y Tudalen Blaen / The Home page

..........1864e Y Porth Saesneg / The Gateway Page in English

...................0010e Y Gwegynllun / Map of the Website

 
...................................1257e Y Gyfeirddalen Ddiarhebion - Welsh Proverbs: Main Page

......................................................y tudalen hwn

 


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Diarhebion Lleol / Local proverbs. Merthyrtudful, 1895

Casgliad ‘Gwernyfed’ a gyhoeddwyd yn ‘Y Geninen’ rhwng 1894» a 1897.

Collection made by Gwernyfed, published in ‘Y Geninen’ between 1894» and 1897


 

 


 

 

 1801k

 xxxx

····

Yr ym wedi copďo rhestr ‘Gwernyfed’ a gyhoeddwyd mewn pedair rhan yn “Y Geninen” rhwng 1894» a 1897.

We have copied the list made by Gwernyfed published in four parts in t”Y genien” between 1894» and 1897

(1) Yr ym wedi diweddaru’r orgraff, a rhoi’r diarhebion yn nhrefn y wyddor - yn y rhestr wreiddiol nid oedd fawr o siâp ar y drefn.

We have modernised the spelling, and put the proverbs in alphabetical order - in the original list was only loosely in order

(2) Yr ym hefyd wedi cynnwys y geiriau yr oedd yr awdur wedi ei rhoi yn anghyflawn er lledneisrwydd - piso, tin, rhech (yn lle p__, t__, rh___ ).

We have also included the words which the author had only suggested by means of initials out of decency

(3) Ceir ein sylwadau a chyfieithiadau mewn teip oren

Our observations and translations are in orange type

(4) Nid ydym wedi mynd ati i gyfieithu’r cwbl - dim amser gennym i’w wneud - byddem ni’n ychwanegu cyfieithiadau o bryd i’w gilydd. Dywediadau Saesneg rhwng cromfachau pen saeth < Like attracts like>

We haven’t attempted to do a full translation of the list - we don’t have the time to do it - but we’ll add the odd translation or comment from time to time. English sayings in arrowhead brackets < Like attracts like>

RHYBUDD - efallai fod ambell i wall teipio nad ydym wedi dod o hyd iddo eto!

WARNING! there may be a couple of typing errors that we have overlooked

 

Free Image Hosting at www.ImageShack.usxxx Free Image Hosting at www.ImageShack.usxxxx Free Image Hosting at www.ImageShack.usxxx Free Image Hosting at www.ImageShack.usxxx Free Image Hosting at www.ImageShack.uszzzzzzzzz

 

 

‘Diarhebion Lleol neu ddywediadau ystrybedol a glywir yn Merthyr a’r cylchoedd cyfagos.’ Gan Gwernyfed.

“Y Geninen”
(1) Cyfrol 12» 1894» t259-260
(2) Cyf 13» 1895» t222
(3) Cyf 13» 1895» t???
(4) Cyf 15» 1897» t24.

Nid wyf am i neb feddwl mai pobl dda Merthyr yn unig a ddefnyddiant y dywediadau diarebol hyn. Rhaid i ni gofio fod trigolion y dref hon yn cael eu gwneyd i fyny o bobl wedi dyfod yma o bob ardal o Gymru.

“I don’t want anybody to think that only the good people of Merthyr use these proverbial sayings. We must bear in mind that the inhabitants of this town are made up of people who have come from all over Wales.”

 

Ac wrth wrando ac ymddiddan o ddydd i ddydd â’r bobl hyn y cesglais y gofres hon: gan obeithio y bydd hyn o orchwyl o’m heiddo yn symbyliad i eraill wneyd yr un fath yn eu hardaloedd hwythau, fel y cadwer drwy hynny yn fyw hen ddywediadau ystrydebol y genedl Gymreig. Merthyr. “Gwernyfed”.

1» A boero i ddannedd y gwynt sy’n poeri i’w wyneb ei hun
2» Achub chwannen a cholli croen buwch
3» Achub wy poeth o dân
4» Aeth ei eiddo rhwng seiri a phorthmyn
5» Afrwydd pob gorchwyl ar y cyntaf (“(it is) difficult every task at the beginning”), a task is always hard at the beginning, <Getting started is always difficult>

6» Ag arian y prynir popeth - ond gair da
7» A gollir heddiw ni cheir yfory
8» Agosaf i’r asgwrn melusaf y cig
9» Agosaf y diawl pan siaredir amdano
10» Â’i fys ym mhob brywes
11» Â’i fys yng nghawl pob un
12» Allan o ddyled allan o berygl (“out of debt, out of danger”)
13» All neb fyw ar garu a chusana (“nobody can live on loving and kissing”) <you can’t live on kissing, you can’t live off kisses alone>
14» All neb gario’i dylwyth ar ei gefn
15» All ungwr ond a allo (“one man can only do what he might be able to do”) <You can only do what you can> <You can't do more than what you can>
16» Allwedd pob cist yw cwrw (“(it is) (the) key (of) every chest that-is beer”) <Drunkenness reveals what soberness conceals.> <In vino, veritas>
17» Amcan llygad a gwaith llaw
18» Amcan llygad a gwaith pen bys
19» Amcan Shors am bwys o wlân / ac amcan Shân wrth gribo
20» Amser yw’r esboniwr gorau
21» Anhawdd {= anodd} plygu hen bren

22» Anhawdd {= anodd} tynnu cnacau o hen geffyl

23» Annoeth pobun nes gwypo (“unwise everybody until they know”) everyone is ignorant until they know otherwise

24» Ar drot byth a hefyd (“at a trot constantly”) <always on the go>

25» Ar ôl yfed, syched sydd (“after drinking, (it is) thirst that-there-is”) Drinking makes you thirsty.

26» Ar rod a charhant = ar drot byth a hefyd

27» A wnel dwyll a dwyllir

28» Bargen yw bargen, serch colli

29» Beth yw bron o flaen brenin?

30» Bid cam bid cymwys - tae fater am hynny bid p’un i chi

31» Blas y cyw ar y cawl = ni ddygir dyn oddiar ei dylwyth

32» Blewyn heddiw o groen y ci a’m cnodd y ddoe

33» Breuddwydio am haf sych Nadolig, a chael dydd Sul yr hwch yn yr haf

34» Briwydd bychain wnânt dân gynta, ond rhai mawrion a ddiffodda

35» Bwyta bwyd o ben dyn arall

36» Bwyta llygoden cyn ei dal

37» Bwyta’r cyw cyn ei fagu

38» Byd a fynno, ta beth = bid p’un i chi

39» Byw mewn gobaith am abwy

40» Cadw cŵn a chyfarth fy hun, ai e?

41» Cadw heddiw fel bo gennyt yfory

42» Cadw’th dafod rhwng y ddanedd {= ddannedd}

43» Cael neu golli, mentra

44» Call pob ffôl tra tawo

45» Calon dyn yn ei bwrs

46» Calon dyn yn ei logell caseg wen a phioden

47» Can {= cyn} daered â’r twrch

48» Can {= cyn} haeled â llyffan ar y pridd

49» Cân di bennill fwyn i’th nain / Fe gân dy nain i tithe

50» Caws o fola ci

51» Cel da yw cel benthyg

52» Cenfigen a fynn ei thâl

53» Cenfigen a fynn ei wobr

54» Cenfigen a fynn le i ddial

55» Chwannog i’w fara, ond diog i’w hela

56» Chwarae teg, serch chwarae am ddim chwilio bai a hela brychau

57» Chwarae teg i’r diawl

58» Clecwn sy’n holi, a ffyliaid sy’n gweud

59» Cneuen goeg sy galeta

60» Cnůl newyn, llaethdy gwag

61» Codi crach a thrafod crawn

62» Cos di fi, mi gosa innau dithau (you scratch me, I for my part will scratch you for your part) <you scratch my back and I’ll scratch yours>, do a favour for me and I’ll do one for you in return

63» Cuwch cwd a ffetan

64» Cwympo i’r pot a’r saem

65» Cymaint ei gariad â’r iâr at yr halen (“(it is”) so much his love as the hen for salt”) (hens do not like salt - if hens are fed grit in the form of crushed oyster shells, for example, they need to be cleaned of saltor they won’t eat it)

66» Cymydog agos sy’n well na brawd ymhéll

67» Cynnau cannwyll i chwynu

68» Cynt twymiff y gwaed na’r dŵr 

69» Cyrchu dŵr dros afon (“carry water across a river”) said of a pointless task, <to carry coals to Newcastle>

70» Cysgu ci cigydd

71» Cysgu hun ci cigydd

72» Cystal ag aur = as good as guinea gold

73» Dagrau sych gynta dal at y gwir, petái’r wybr yn cwympo

74» Dal cannwyll i gyfarwydd

75» Dal golau i gath lygota

76» Dall pob anghelfydd

77» Dall pob anghyfarwydd

78» Dall yw cariad i bob anaf

79» Dal mochyn gerfydd ei gwt

80» Dal y gwynt a saethu’r lleuad

81» Dal y gwynt mewn sachau

82» Dal ych gerfydd ei gorn

83» Daw, fe ddaw yn haf ar y ci coch; a thywydd teg i galchwr

84» Daw dial, daw. Wedws dial delse

85» Dechrau da yw hanner y gwaith

86» Dial y felin, dial ei fola

87» Dianaf hagr i gariad

88» Diddrwg pob drwg heb gerydd (“not bad every bad act until its reprimanding”) failure to act in the face of evil is simply to condone evil.

89» Dieithr pob llwybr nes ei gerdded

90» Digon sy digon

91» Digon yw digon - a hwnnw am ddim

92» Dim mor sicr ag angeu {= angau}

93» Dodi draen yn ei nyth ei hun

94» Dodi ei dafod rhwng y maen a’r min

95» Dodi ei fys rhwng y tewyn a’r tân

96» Dodi ei het ar yr hoel

97» Dod tua thre ac un llaw’n wag, a’r llall heb ddim

98» Dod yn ei hôl fel ceiniog ddrwg

99» Does byth flino ar gčl benthyg

100» Does colled i neb nad oes ennill i rywun

101» Does dim am ddim

102» Does dim am ddim, na dim llawer am ddimai

103» Does dim o ddim, a dim heb dreio

104» Does dim toll ar gleber

105» Does doll ar dafod menyw

106» Does gan y ci ond ei groen

107» Does gan y ci ond ei gwt

108» Does gofid neb fel ’ngofid i

109» Does dim toll ar gleber menyw

110» Does neb yn dlawd nes a’n dlawd o ddyn

111» Does neb yn rhy hen i ddysgu

112» Does ond y gwir a ddal dŵr

113» Does unman fel cartre’

114» Dros ei ben a’i glustiau mewn gofid

115» Dwfr dwfn gerdd yn dawel

116» Dwl bwrw, dwl marw

117» Dwl geni, dwl drengu

118» Dyled ar bawb, dyled ar neb; gwaith ar bawb, gwaith ar neb

119» Dyna blufyn yn ei gap

120» Dyna blufyn yn ei gwpan

121» Dyna blufyn yn ei het ef

122» Dyna damaid i ti - tag wrth ei lyncu (“here’s a bit for you - choke when you swallow it”)

123» Dyna ddyn a’i galon yn ei ddwrn

124» Dyna ddyn a’i galon yn ei law

125» Dyna gelwydd glân golau

126» Dyna gneuen i ti - tor hi, os medra dyna wir fel yr houl

127» Dysgu cath i lygota

128» Dysgu cath i yfed llaeth (“teaching a cat to drink milk”)

129» Dysgu cath i yfed llefrith (“teaching a cat to drink buttermilk”)

130» Dysgu crychydd i bysgota (“teaching a heron to fish”)

131» Dysgu crychydd i lyncu llyswen (“teaching a heron to swallow an eel”) 

132» Dysgu cŵn i fwyta caws (“teaching dogs to eat cheese”)

133» Dysgu ei famgu i odro’r hwyaid (“teaching his grandmother to milk ducks”)

134» Dysgu gwiwer i gneua (“teaching a squirrel to gather nuts”)

135» Dysgu hen geiliog i ganu (“teaching an old cock / rooster to sing”)

136» Dysgu hwyaid i nofio (“teaching ducks to swim”)

137» Dysgu llwynog i ladd gwyddau (“teaching the fox to kill geese”)

138» Dysgu moch i yfed maidd (“teaching pigs to eat whey”)

139» Dysgu’r dryw fach i nythu

140» Dysgu’r gath i grafu a’i llygaid yngháu

141» Dysgu’r pader i’r gath

142» Dysgu’r wennol i nythu (“teaching the swallow to nest”)

143» Dystawa’i {= distawa’i} dafod, llyma’i dan

144» Dyw afal o berllan arall byth yn sur

145» Dyw amser ddim yn aros - {time waits for no man}

146» Dyw cig llwdn lladrad byth yn drewi

147» Dyw e ddim gwerth halen mewn bwdran

148» Dywedyd wrth y wal nes bo’r pared yn clywed = teimlo

149» Dyw pob ci sy’n cyfarth ddim yn cnoi

150» Ei fola’n rhyfeddu ble mae ei ddannedd

151» Ei le i bob peth - a phob peth yn ei le

152» Ei le yn well na’i gwmpeini

153» Ei lygaid yn fwy na’i fola

154» Eli penelin - a bôn yr ysgwydd

155» Esmwyth cwsg cawl erfyn, Dai! Esmwythach cwsg cawl dŵr, Shoni!

156» Ewyllys a bâr allu (“will causes ability”) <Where there’s a will there’s a way>

157» Fe aeth y llygoden goch drosto

158» Fe aeth yr hwch trwy’r siop

xxxx Fe ddaeth y gath o’r cwd

159» Fe ddaw’r ferch i fagu’r fam

160» Fe ddistrywiodd un waith can

161» Fe ddodws ei draed ynddi

162» Fe ddywed gelwydd fel ci yn trotian

163» Fe doriff cyn plygu

164» Fe dwyllodd y bola’r llygaid = ei lygaid yn fwy na’i fola

165» Fe ellir cael tôn fwyn ar delyn lapre

166» Fu mwy o golled na hynyna {= hynna} yn Llundain cyn brecwast

167» Fe ellir rhoi ergyd cwmws o hen fwa

168» Fe fynn y gân a’r geiniog

169» Fe fynn y geiniog a’r geiniogwerth

170» Fe grogws ei hunan o’r diwedd

171» Fel ceiliog ar ei domen ei hun

172» Fel ci ar wair

173» Fel ci yn dal clęr

174» Fel clochydd yn wastad mewn eisiau

175» Fel crychydd yn hol llif

176» Fel giâr am ei chywion

177» Fel giâr ar y glaw

178» Fel hwyaden ar ddŵr

179» Fel llwdwn diarddel

180» Fel y dŵr gyda’r afon

181» Fel y dydd yn hwyr

182» Fe wyr ba ochr i’r bara mae’r ’menyn

183» Fe wyr fod gwahaniaeth rhwng cael ei arwain a chael ei lusgo

184» Fe wyr hen ddafad o ble daw storom

185» Fe wyr hen ddafad y fan y mae porfa

186» Ffola’ ffôl, na fyn wybod

187» Ffôl pob call hyd nes dysgo

188» Ffôl pob tlawd

189» Ffôl yn unpeth, ffôl ym mhopeth

190» Ffynnon hesb, buarth gwag

191» Gall derwen dorri

192» Gall pob clapgi gyfarth

193» Galw’r plwyf i glywed y gwcw

194» Glaw yw glaw, pe ond diferyn

195» Gofid a drycin / A ddônt heb eu mofyn

196» Goleuo cath i laethdy

197» Gorau arfer - daioni

198» Gorau gair - gair da

199» Gorau gair - gair yn ei bryd

200» Gorau i gyd po gyntaf

201» Gorau moes - gwyleidd-dra

202» Gorfod pob gorfod - gorfod marw

203» Gormod chwerthin a dynn ddagrau

204» Gormod o gynfas am rot

205» Gwaethaf arfer arfer ddrwg

206» Gwaith menyw heb ei derfyn

207» Gwaith y nos, y dydd a’i dengys

208» Gwared da ar ei ôl ef

209» Gwas i was = chwibanwr

210» Gwas y baw = chwibanwr

211» Gwed y gwir - doed fel y delo

212» Gwed y gwir nes cocho’r cythraul

213» Gwell a blygo nag a dorro

214» Gwell blaidd dan lwyn na chi ar dwyn

215» Gwell camsyniad na cham sengyd

216» Gwell canmol ci drwg na rhoi cic iddo

217» Gwell canmol ci na’i gicio

218» Gwell cerydd câr na gwęn gelyn

219» Gwell cerydd henddyn na gwers ynfytyn

220» Gwell chwerthin na llefain

221» Gwell cloff o’i gynnal na chelgi mewn ymrafael

222» Gwell corddi na cherdded

223» Gwell gan un filltir o ffordd na modfedd o waith

224» Gwell gwâl wellt cartref na gwâl blyf oddicartref

225» Gwell gweled na chlywed

226» Gwell heddiw na ’fory

227» Gwell i’r duwiol ei farw na’i eni

228» Gwell iechyd na chyfoeth

229» Gwell morwyn o’i chyfarch

230» Gwell plygu am bin na phlygu am ddim

231» Gwell pob crefft o’i arfer

232» Gwell pob gwas o’i ganmol

233» Gwell un a ddaw rywbryd nag un na ddaw byth

234» Gwell ychydig o dda na llawer o ddrwg

235» Gwerthu’r fuwch i brynu tarw

236» Gwerthu da i brynu drwg

237» Gwir yw gwir, ac fe ddal dŵr

238» Gwir yw’r hen ddihareb hynod / Anodd rhyngu bodd bedlemod

239» Gwisgo’r bais a’r britshus

240» Gwisgo dillad dyn marw

241» Gwisgo esgidiau dyn marw

242» Gwneud mynydd o dympath pridd gwadd

243» Gwneud y gorau o’r gwaethaf

244» Gwrthod rhodd, dirmygu y rhoddwr

245» Gwyn pob man cyn myned iddo

246» Hael glwth ar dorth gŵr arall

247» Hai gel gerddo nes cwympo

248» Hai gel gerddo nes ffaelo

249» Hai gel gerddo nes metho

250» Hai y ci a gerddo - da was, ond a gyfartho

251» Hala’r maen i’r wal

252» Hala rhwng y ci a’i gwt

253» Hanner addo yw pallu cyn ceisio

254» Hanner ie - cystal â na (“half a yes - as good as a no”), a forced “yes” is really a “no”

255» Hawddach cofio na dysgu

256» Hawddach dal y celwyddog na’r cloff (“(it is) easier catching the lying (person) than the lame (person)”). Compare the Catalan saying “s‘enganxa abans un mentider que un coix” “a liar is caught before a lame man”)

257» Hawddach gweud na gwneud (“(it is) easier saying than doing”) <Easier said than done>

258» Hawddach tynnu lawr nag adeiladu (“(it is) epulling down than building”) <It is easier to pull down than to build up>

259» Hawdda hael - hael addo

260» Hawdd cneifio dafad grebi

261» Hawdd codi castell yn yr awyr

262» Hawdd cynilo lle bo prinder

263» Hawdd eillio pen moel

264» Hawdd gofyn i roddwr llawen

265» Hawdd iawn yw siarad

266» Hawdd twyllo didwyll

267» Haws cwympo na chodi

268» Heb ewyllys, heb allu

269» Henach henach ffolach ffolach

270» Hiraf y dydd, byrraf y nos

271» Hir pob aros, ond byr pob difyrrwch

272» Hir pob ffordd, nes ei hadwaen

273» Hir wyneb wna hwyr wanu

274» Ho ho - mab ei dad i’r dim

275» Hoi! dyna drefn yr iâr ddu / Dodwy allan, a thonni yn y ty / Hoi! hoi! dyna drefn yr iâr wen / Tonni’n y ty, a dodwy ar y pren

276» Hollti blew - a phigo brychau

277» Hollti blewyn yn bedwar

278» Hwch yn mynd i Lundain - hwch yn dod adref

279» I’r cwm rhed y cerrig, felly arian i foneddig

280» I’r pant y rhed y dŵr

281» Iach cilgi drannoeth

282» Ie, busnes leuog yn wir

283» I’r cwm rhed y cerrig / Felly arian i fonheddig {“foneddig” in the original text}

284» Iro tin taeog â bloneg

285» Iro tin taeog â gwddi

286» Iro tin taeog â rhawn

287» Llac ei afael, ffraeth ei chwedlau

288» Lladd chwannen â gordd

289» Llawer gwir da ei gelu, serch cnoi tafod

290» Llawna’i boc, gwaca’i ben

291» Lle bynnag y mae mwg, agos yw tân

292» Lleidr a ddal leidr

293» Lleidr yw llety

294» Llosgi bysedd yng nghawl dyn arall

295» Llwyth gwas diog = hir dafodog

296» Llygad segur węl wall

297» Llyma’i fin, llyma’i din

298» Llyma’i gyllell, llyma’i gaws

299» Llyma llwm, popty gwag

300» Llyncu llyffan

301» Llyncu polyn

302» Mab a dwng ei dad; ie, mab ei dad

303» Mae amser i siarad yn ogystal â thewi

304» Mae arogl afal sur yn well na’i flas

305» Mae bwdel ar bob llwybr (“there is a puddle on every path”). You are bound to meet with difficulties in life. Not every road is equally smooth. Life is an obstacle course.

306» Mae cariad yn ddall i bob anaf

307» Mae cenol ar bopeth

308» Mae clustiau gan gloddiau, a llygaid gan gerrig

309» Mae dafad ddu ym mhob praidd

310» Mae dechrau i bob peth

311» Mae digon o faint mewn buwch i ddal sgwarnog

312» Mae dincod ar ei ddannedd His teeth are on edge

313» Mae dod i blentyn, ond mynd i ddyn

314» Mae dod i bob peth, ond i hen ddyn

315» Mae drain yn pigo

316» Mae dwy ffordd i’r felin, ac un i’r clochdy

317» Mae dwy ochr i’r ddalen (“there are two sides to the page”) There are two sides to every story

318» Mae ei dro i bob peth

319» Mae fel y mwdwl o dew

320» Mae gweud yn dda, ond mae gwneud yn well

321» Mae hen esgid yn hoffi saim cystal ag un newydd

322» Mae hen gadno am ei hela

323» Mae hyd ’no’d mwydyn yn teimlo

324» Mae i bob celwydd ei gymar

325» Mae i bob llanw ei drai

326» Mae i falchder ei gwymp

327» Mae llawer ffordd i ladd ci heb ei dagu â ’menyn

328» Mae llawer ffordd i’r ffair

329» Mae llawer gair yn drymach na gordd

330» Mae llawer hen cystal â newydd

331» Mae mwydyn yn gwingo, os damsengir ef

332» Mae mwy nag unffordd i’r eglwys

333» Mae ‘na’ hael cystal ag ‘ie’ anfoddog

334» Mae newid gwaith cystal â gorffwys

335» Mae newid gwaith cystal â hwe {= hoe}

336» Mae parch pob dyn ar ei law ei hun

337» Mae pawb â’i gofid

338» Mae pawb yn adwaen sŵn ei gloch ei hunan

339» Mae pob aderyn yn hoff o’i gerdd ei hun, ebe’r frân

340» Mae pob gwaith yn galed i ddiog

341» Mae pob hwrdd yn ’nabod ei resfa

342» Mae pob margen gymell yn drewi

343» Mae pob peth wrth lygad lleidr

344» Mae pob peth yn dda yn ei dymor

345» Mae pob tipyn yn help, ebe’r dryw wrth biso i’r môr

346» Mae’r carc yn well na’r cof

347» Mae’r esgid yn gwasgu

348» Mae rhyw ddraen ym mhob nyth (“there’s a thorn in every nest”) Everybody has some niggling problem

349» Mae un celwydd yn gweiddi am un arall (“one lie shouts out for another one”) One lie leads to another

350» Mae yfory’n ymhell

351» Mae yn cynyddu fel cyw yr ŵydd

352» Mae yn ddigon ffein i ’ffeirad

353» Mam ddigerydd wnaiff ferch benrhydd

354» Man y man, Sianco, ebe Shân. Waeth baw na bwdel

355» Marchogaeth cel marw = riding a dead horse

356» Margen oedi, margen golli

357» Melysach afal o’i ddwyn (“sweeter (an) apple as a result of its stealing”) stolen apples are sweeter.

358» Melys ag e, ond melysach bod hebddo

359» Melys gwin o gafn arall (“(it is) sweet (that is) wine from (the) trough (of) another (person)”) Stolen wine is sweeter.

360» Melys pob gweithred wrth ei gwneud

361» Melys rhodd mewn angen (“(it is) sweet (that is) a gift (when you are ) in need”)

362» Mi wn hyd ei goes; ni raid iddo fygwth

363» Mor amled â gwiddon mewn cosyn (“as abundant as mites in a cheese”)

364» Mor anwadal â cheiliog gwynt (“as changeable as a weather vane”)

365» Mor chwim â’r wenci

366» Mor dawel â dau o’r gloch

367» Mor dawel â’r tes

368» Mor dawel â thes mis Mai

369» Mor ddauwynebog â cheiliog gwynt

370» Mor ddeche â ’deryn ar ei nyth

371» Mor ddibarch â’r blaidd

372» Mor ddiddiolch ag i’r ci am cario’i gw

373» Mor ddifater a broga melyn bach

374» Mor ddifrifol â phe’n dweud ei bader

375» Mor ddigartre â chath rhwng deudy

376» Mor ddigyffro â malwoden

377» Mor ddiles â chennin Pedr

378» Mor ddiles ag arian cybydd

379» Mor ddiles â mes i eifr

380» Mor ddilewyrch â thân gwidw

381» Mor ddiniwed â’r oen bach (“as innocent as a little lamb”)

382» Mor ddiog â rhod y felin

383» Mor ddistaw â’r bedd {= “ddystaw” in the original text}

384» Mor ddiwyd â morgrug

385» Mor ddued â’r frân

386» Mor ddued â’r inc (“as black as the ink”) As black as ink

387» Mor ddued â’r parddu (“as black as the soot”) As black as soot

388» Mor ddwl â chi yn cyfarth y lleuad

389» Mor ddyfal â lleuen mewn crachen

390» Mor ddyled â’i lun (“as daft as his picture”)

391» Mor debyg â dau lwydyn y to (“as alike as two house sparrows” llwydyn y to is literally “little-grey-one (of) the roof”)

392» Mor debyg â dwy bysen (“as alike as two peas”)

393» Mor debyg â dwy ffäen {= ffeuen}

394» Mor denau â rhaca (“as thin as a rake”)

395» Mor denau â sgiled

396» Mor dew â hwch melinydd

397» Mor dew â iâr ddu yn ei thalcen

398» Mor dew â merched Shôn Grîn

399» Mor dew â sached {= sachaid} o wlân

400» Mor dewed â’r wadd (“as plump as the mole”)

401» Mor dlawd â gwas y clochydd

402» Mor dlawd â llygoden eglwys

403» Mor drim â’r dryw

404» Mor dwp â mochyn

405» Mor dwt â’r dryw

406» Mor dwymed â’r toes yn codi

407» Mor falch ag alarch ar lyn

408» Mor falch â Jew ar ei focs

409» Mor fân ag eirin duon bach

410» Mor farw â hoelen mewn drws

411» Mor feined â milgi yn ei gwt

412» Mor ffoled â’i gysgod

413» Mor ffyddlon â cholomen i’w chell (“as faithful as a dove to its nest-hole (in a dovecot)”)

414» Mor ffyddlon â gwas y gwcw

415» Mor frefog â’r blaidd

416» Mor fud â delbren (= delwbren)

417» Mor fud â delw

418» Mor fwyn â gweniaith putain

419» Mor fysnesu {sic, = fusnesus} â baili {= beili} mewn sesiwn

420» Mor fywiog â’r brithyll yn y crych

421» Mor gloff â chelwydd ar ei faglau

422» Mor gopa stanc â’r ci

423» Mor gyflym â hydd

424» Mor gyfoethog â chath mewn llaethdy

425» Mor gymwynasgar â’r hwch at ei bwyd

426» Mor gymwys â’r saeth (“as straight as the arrow”) as straight as a die

427» Mor gynnil â llyffan’ ar ei grail

428» Mor hapus â chywion mewn caws

429» Mor helbelus â giâr yn gori

430» Mor hurt â chi mewn ffair

431» Mor hyll â’r diawl (“as ugly as the devil”)

432» Mor iached â’r gloch

433» Mor laned â’r lamp

434» Mor laned â phin mewn papur

435» Mor llawen â’r dydd yn hir

436» Mor llawen â’r gog

437» Mor llawn â chwch gwenyn

438» Mor llefog â llaethgi am ei fam (“as noisy as a suckling puppy for its mother”)

439» Mor lleuog â’r ddallhuan {= ddylluan}

440» Mor llonydd â chorff marw

441» Mor llonydd â llygoden o dan bawen cath

442» Mor llwm â llygoden

443» Mor llym â nodwydd (“as sharp as a needle”)

444» Mor naturiol â dŵr i bysg

445» Mor naturiol â dŵr mewn afon (“as natural as water in a river”)

446» Mor oer ag aelwyd cybydd (“as cold as a miser’s hearth”)

447» Mor oer â thraed hwyaid

448» Mor oer â thrwyn y ci

449» Mor oered â’r clempyn

450» Mor oered â’r iâ (“as cold as the ice”) As cold as ice

451» Mor ofnus â chath wrth bysgota

452» Mor olau â’r houl

453» Mor onest â’r geirchen (gyrchen) (“as honest as the oat grain”) As honest as the day is long

454» Mor rhagrithiol â charnfradwr

455» Mor sarrug â chorgi

456» Mor serchus â’r gŵr cwta

457» Mor serchus â chi ar dewyn o dân

458» Mor sicir {= sicr} ag amen y clochydd

459» Mor sicr â’r nant i’r afon

460» Mor sionc â cheiliog ar bolyn

461» Mor siriol â hirddydd haf

462» Mor sobor â phe uwch bedd ei fam-gu

463» Mor stwrllyd â giâr am uncyw

464» Mor sured â’r dringol

465» Mor sychedig â rhod y felin

466» Mor uchel â’r houl = cuwch â’r houl

467» Mor uchel â’r houl = cuwch â’r houl

468» Mor ufudd â’r werthyd i’r sidell

469» Mor wag â phwrs putain

470» Mor wamal â dryw mewn perth

471» Mor wanned ag ewyn dŵr 

472» Mor wir â’r deial

473» Mor wir â’r Efengyl

474» Mor wired â’m geni

475» Mor wisgi â’r wennol

476» Mor wyned â’r eira

477» Morwyn gŵr mawr a hwch melinydd

478» Mor ysgafn â’r wennol

479» Mor ysgafn â phlufyn

480» Mwy o rym nag o synnwyr (“more of strength than of sense”)

481» Mynych addo, mynych angof

482» Mynych fenter, aml golled

483» Na ddeffro’r ci sy’n cysgu (“don’t wake the dog which is sleeping”)

484» Na farn ddannedd cel benthyg (“don’t judge the teeth of a borrowed horse”)

485» Na feia garnau cel benthyg

486» Na hydera ar bydew gŵr arall

487» Naw bywyd cath

488» Neidio o drwnc y domen i gornel y berllan

489» Nes crys na phais

490» Nes penelin na garddwrn

491» Ni bu gwall arf yn llaw ddeche

492» Ni cheir y melys heb y chwerw

493» Nid ag us y delir brain (“(it is) not with chaff that are-caught crows”, you can’t catch crows with chaff)

494» Nid colled colli yr hyn ni chawd (“(it is) not a loss losing what was never obtained”) You can't lose something if you never had it in the first place

495» Ni ddal buddai ond ei llond

496» Ni ddal un peth ond ei lond

497» Ni ddaw du byth yn wyn mewn dŵr brwnt

498» Ni ddaw i’r rhyd nac i’r bont

499» Ni ddaw planed tair ceiniog byth yn rôt

500» Nid digon heb warged (“it is) not enough without leftovers”) Leftovers are a sign of sufficiency

501» Ni ddigonws ond a weddillws

502» Nid diog diogyn at ei fwyd

503» Ni ddygir oddiar leidr

504» Ni ddysg neb yn iou (= ieuancach)

505» Nid gwiw disgwyl i blentyn fod yn ddyn

506» Nid gwiw tolio pan fo gwaelod y sach yn y golwg (“(it is) not seemly saving when (the) bottom of the sack is in sight”)

507» Nid hawdd cael cyfaill wedi unwaith ei golli (“it is) not easy to get a friend once after losing him”) 

508» Nid oes dim mor sicr ag angau (“(it is) not anything as certain as death”) Nothing is more certain than death

509» Nid oes dim o ddim

510» Nid oes neb yn rhy hen i ddysgu

511» Nid wrth ei wisg y mae ’nabod y dyn

512» Nid yw call yn gall bob amser

513» Nid yw harddwch ond trwch croen (“beauty is not but (the) thickness (of) skin”) Beauty is only skin-deep

514» Nid yw neidr byth yn cyfarth

515» Ni ellwch dynnu gwaed o garreg

516» Ni enillws na threiws

517» Ni erys amser na llifeiriant

518» Ni fagws yn llwyr ond a fagws yr ŵyr

519» Ni fu’r llanw heb y trai

520» Ni fu colled i neb na fu ennill i rywun

521» Ni fu digonedd heb wargedion  (“there wasn’t sufficiency without leftovers”) only when you see there are leftovers do you know that people have had their fill

522» Ni fu i ddydd drwg ei nos dda (“there wasn’t to a bad day its good night”) a day that begins badly will end badly

523» Ni fynn mochyn ond ei ddigon

524» Ni gawn haf melyn bach gŵyl Mihangel yn ddiddiol i’r ci

525» Ni phall min yn llaw gywrain

526» Ni raid i’r lwcus ond ei eni

xxxx ni waeth baw na bwdel

527» Ni thynir dyn oddiar ei dylwyth

528» Ni wnaeth neb drwg i arall, ar na waeth fwy iddo ei hun

529» O bared i bost

530» O biler i bost

531» Ofer agor llygad dyn marw

532» Ofer ceisio cario dwfr men gogor

533» O gael y gair run man cael y ffair

534» O gornel i’w gilydd

535» O gorn i garn

536» O hirddrwg bydd mawrddrwg

537» Ola’r gwt i geued y gât

538» O’r top i’r to

539» Os am fochyn da mynnwch weled yr hwch a’i magodd

540» Os am wybod eich hap a’ch hanes / Nacëwch gymwynas i’ch cymdoges

541» Pa ennill sy o nithio baw

542» Parcha dy bilyn, fe barcha dy bilyn dithau (“respect your clothing, your clothing will respect you”)

543» Parchu’r cybydd er mwyn ei bwrs

544» Pawb a dynant at ei tebyg

545» Pawb drostynt ei hun, a Duw trosom i gyd

546» Peidiwch gwisgo’r cap os nad yw’n ffitio

547» Peidiwch plethu hwip i hwipo’ch hunan

548» Peidiwch rhifo’r cywion cyn eu deor (“don’t count the chickens before their hatching”)

549» Peidiwch rhifo’r cywion cyn eu gori (“don’t count the chickens before their incubating”)

550» Peidiwch ymhél ag ysgall (“don’t interfere with thistles”)

551» Penwyni yw anhap henaint (“white hair is the misfortune of old age”)

552» Petái a pytyse {= petasai}, byddai pob peth o’r gorau

553» Peth hawdd yw priodi - ond anodd byw yn y byd

554» Plant a hen bobl ddywed y gwir (“children and old people tell the ruth”)

555» Plant yw plant, gwnewch a fynnoch â hwy

556» Plyfyn {= plufyn} at liw’r dwr

557» Pob tebyg a gwrdd. - Nod dafad a hwrdd

558» Pobun at ei grefft, ebe’r hwch wrth durio (“everyone to his craft, said the sow while rooting”)

559» Poeri ar ei bilyn ei hun (ei billedyn / ei dillad / ei ddilledyn)

560» Po mwyaf y llanw mwyaf y trai

561» Popeth newydd dedwydd da

562» Portha’r bol, fe bortha’r bol y cefn

563» Putain ddywed putain gynta

564» Pwrs gwag a wna wyneb cul

565» Rhaid canmol y bont a’m cariws (“(there is) necessity (of) praising the bridge  which carried me”) 

566» Rhaid canmol y cel a’m cariodd (“(there is) necessity (of) praising the horse which carried me”) 

567» Rhaid crogi cost lle bo cariad (“(there is) necessity (of) hanging (a) cost where there is love”)

568» Rhaid godde’ bil bach, serch cael dy blyfio yn fyw

569» Rhaid talu’r glwyd, serch eisiau bwyd (“(there is) necessity (of) paying the (turnpike) gate, in spite of hunger / in spite of want (of) food”)

570» Rhowch i leidr ddigon o raff, fe grogiff ei hun (“give a thief enough rope, he will hang himself”)

571» Rhwng bys a bawd

572» Rhwng llaw a llawes

573» Rhwng seiri a phorthmyn

574» Rhwng y ddwy stôl, heb un

575» Rhwng y ddwy stôl i’r llawr

576» Rhwng y gŵr cwta a gwas y diawl

577» Rhwng ymyl ac ochr

578» Rhwng y tân a’r tewyn

579» Rhwydd pob cyfarwydd

580» Rhy anodd celu cariad

581» Rhy anodd colli hen arfer

582» Rhyw agor am lawer, a chauad am ddim

583» Rhyw bilo wyau, o hyd ac o hyd

584» Rhyw ddrwg yn ei lawes (“some bad thing in his sleeve”) a dirty trick up his sleeve

585» Rhyw drai a llanw, byth a hefyd

586» Rhyw ergyd a chilio

587» Rhyw goch gam, o hyd; rhyw rech groes beunydd

588» Rhyw hela’r plwy i ddal llygoden

589» Rhyw hing hang, byth ac yn dragwydd

590» Rhyw rech groes ar bob peth

591» Rhyw Siôn yr un sut. Heb fod yn well nac yn waeth.

592» Rhyw Wil naw-crefft, heb un grefft

593» Rhyw ymyl ac ochr

594» Saf ar dy sawdl

595» Sala arfer, direidi

596» Sefyll ar ei sodlau

597» Sefyll yn ei olau ei hun

598» Siŵr yw siŵr, edrych eto

599» Syfďen ym mola hwch fagu

600» Syn, dal dy dafod; mae’r pared yn clywed (“beware, hold your tongue; the wall is listening”) (synnu = to be surprised; in Morgannwg, also = beware, be careful, take heed) Mind what you're saying now - walls have ears.

601» Sythu’r cefn i bortha’r bola

602» Tad distaw a wna fab difraw

603» Taenu gwely drain

604» Taflu sbrat i ddala macrell (“to throw a sprat to catch a mackerel”) using a small amount of something to make a big gain

605» Tagu’r ffynnon yw blingo’r praidd

606» Talu’n rhy ddrud am ei ddysg

607» Talu’n rhy ddrud am ei grwth

608» Taro’r fargen ar ei law

609» Taro’r hoel ar ei chlopa

610» Taw di, taw dithau, ebe’r atsain

611» Tawed a dawo, ni thaw atsain

612» Taw piau hi’n wir - adre cyn nos, ynte

613» Tebyg a dynn tebyg (“like draws like”) <Like attracts like>

614» Tebyg i ddyn fydd ei lwdwn

615» Teg i bawb ei haeddiant

616» Teg i’r diawl ei haeddiant

617» Teg yw treio, cael neu beidio

618» Torri bedd i gladdu gofid

619» Torri clust gair da

620» Torri ffon i guro ei hunan

621» Torri ’i drwyn i ddial ei dalcen

622» Torri ’i goes i achub ei esgid

623» Torri ’i llaw i achub ei bys

624» Torri’r gôt yn ôl y brethyn (“cut the coat according to the cloth”)

625» Trech dau nag un; trech tri na’r diawl

626» Trech metel na maint (“mettle / courage is stronger than size”)

627» Trueni gwneud cam â’r cythraul

628» Trwy deg neu trwy dwyll = bodd neu anfodd

629» Twt baw; ni wnawd y byd ddim ar unwaith

630» Tynnu baw o lygad chwannen

631» Tynnu carrai o groen ych benthyg

632» Tynnu hoel o’i bedol ei hun

633» Tynnu’r goes ola ym mlaena

634» Uchela’i dras, isela’i dro (“the higher his lineage, the lower his trick”)

635» Uchela’i drem, isela’i dric

636» Un gair yn gystal â chant

637» Un gernod arbeda lawer cerydd

638» Un llaw yn wag a’r llall heb ddim

639» Un troed yn y bedd a’r llall ar y tir = “Ymyl banc brinc”

640» Unwaith yn ddyn a dwywaith yn blentyn

641» Un wennol ni wna wanwyn

642» Wedi canu - am ei gael yn ôl byth

643» Wedi estyn ei goes

644» Wedi gwadu ei grefft i ddilyn seguryd

645» Wedi ’i ddal yn ei drap ei hun (“caught in his own trap”)

646» Wedi llosgi ei le

647» Wedi rhoi fyny yr ysbryd (“given up the ghost”) = died

648» Wedi tonni yn ei nyth

649» Wedi torri cwt ar ei din

650» Wrth ymdrafod â drain ceir brathiad

651» Y calla i dewi

652» Y cam cynta yw y cam gorau

653» Ych benthyg a fwyty’n llwyr

654» Ychydig o flawd a llawer o us

655» Ychydig sy’n perthyn i ddyn tlawd

656» Y clebryn mwya yw’r gweithiwr lleia

657» Y cyntaf i’r felin sydd i falu

658» Yf ddwfr o’th bydew dy hun

659» Yfed dwfr o ffynnon fenthyg

660» Yfed mčth o fotel wag

661» Y felin a fâl a fynn ddŵr

662» Y fuwch ar ôl y llo fo’n brefu fwya’ / Dyna’r fuwch fydd gyflo gynta

663» Ymladd â’i fara chaws ei hun

664» Ymyl banc brinc

665» Yn arllwys ei gwd

666» Yn awr neu byth now or never

667» Yn drewi dros naw perth (“stinking over nine hedgebanks”, stinking from nine hedgebanks away) stinking to high heaven

668» Yn drewi fel ffwlbart

669» Yn drewi fel y gingron

670» Yn edrych mor llon â llyffan

671» Yn estyn bys ar ôl pawb (“extending a finger after everybody”) pointing the finger at and accusing everybody but himself.

672» Yn ffeindio beiau ar bawb (“finding faults on everybody”) finding fault with everbody

673» Yng ngenau’r sach mae cynilo (“(it is) in (the) mouth (of) the sack (that) there is saving”, saving means using sparingly from the very moment you begin using (the flour, etc) in a sack

674» Yng ngenau’r sach mae tolio

675» Yn gorn cân gan wlad a gorwlad

676» Yn gweled beiau pawb ond ei hunan

677» Y “Nhw” - gwy^r gwlad How

678» Y “Ni”. / Pwy ych chi? / O! y fi a’r gath!

679» Y “Ni” ebe gwy^r Pen-tyrch

680» Yn llefain fel blaidd

681» Yn marw mewn mwg

682» Yn mesur llathen pawb wrth ei lathen ei hun

683» Yn uchaf ar ei ystumog

684» Yn wastad ar ôl, fel gwas y gwcw (“always behind, like the dragonfly”) (gwas y cwcw literally “(the) servant (of) the cuckoo”)

685» Yn well am arall nag amdano ei hun

686» Yr asyn a fref a fyt leia

687» Yr hyn ddywed pawb, mae’n sicr o fod yn wir (“that which everybody says, it’s bound to be true”) No smoke without fire

688» Yr oedd yno wledd a bedydd

689» Yr oedd yno wledd, a bedydd, a gwylmabsant yr iâr

690» Yr oen yn dysgu i’r ddafad i bori

691» Yr ysgol ore yn yr hollfyd / I ddysgu dyn yw ysgol adfyd (“the best school in the whole world to teach a person is ‘ysgol adfyd’ “(the) school (of) adversity”, the school of hard knocks)

692» Y sawl sydd â pheth ganddo sy’n cael (“the person who is with an amount with him receices”) whoever already has something gets more, <To he who has it shall be given(and to he who has not it shall be taken away even that which he has)>

693» Ysgafn pob cynefin (“light every habitual thing”) <What is familiar is easy.>

 DIWEDD / END

·····

Adolygiadau diweddaraf:
10» 10» 2000

 ·····

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pŕgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weř(r) ŕm ai? Yůu ŕa(r) vízďting ř peij frňm dhř “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katřlóuniř) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

 

 CYMRU-CATALONIA