0814
Y Medelwr - papur bro Catalonia. Newyddion gwleidyddol o'r Gwledÿdd Catalaneg;
y Cymrÿ yn y rhan hon o Ewrop.
http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_newyddion/
newyddion_y_medelwr_01_0814k.htm
0001z Y Tudalen Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
.............................2162k
Newyddion - Y Gyfeirddalen
........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia |
Adolygiadau diweddaraf: |
Gwener 03 10 1999
Llun 11 10 1999
Mawrth 12 10 1999
Gwener 26 11 1999
Sul 19 01 2000
Llun 20 01 2000
Gwener 04 08 2000
Llun 18 09 2000
Sul 15 10 2000
·····
Gwener 03
Hydref 1999 - divendres 03 octubre 1999
(1) Comença la campanya electoral
Mae'r ymgÿrch etholiadol ar gyfer Senedd Catalonia wedi agor yr wÿthnos hon.
Cynhelir yr etholiad ar Ddÿdd Sul Hydref 17. Ers creu'r Senedd ugain mlynedd yn
ôl mae'r glymblaid genedlaethol geidwadol Convergència i Unió wedi bod mewn
grÿm, ar ôl i Blaid Sosalaidd Catalonia wrthod ymuno â hwÿ mewn llywodraeth
aml-bleidiol Gatalonaidd.
Yn fras, mae CiU yn cynrycholi poblogaeth gynhenid Catalonia, a'r Blaid
Sosialaidd yn cael ei chefnogaeth o blith y rhai a ddaeth o Sbaen yn y pumdegau
a'r chwedegau. Rhaid cofio bod yng Nghatalonia boblogaeth o chwe miliwn, a'i
hanner yn mewnfudwÿr neu yn ddisgynyddion i fewnfudwÿr. Mae'r rhain yn bÿw mewn
getos mewn cÿlch o gwmpas Barcelona - mewn blociau o fflatiau wedi eu codi ar
frÿs gan hapfuddsoddwÿr yn y chwedegau. Mae hanner y boblogaeth yn siarad
Cataloneg fel arfer. Castileg mae'r hanner arall yn ei siarad - rhwng y
'mewnfudwÿr' a haen uchaf y boblogaeth gynhenid, sÿdd fel y 'byddigions' gÿnt
yng Nghymru wedi cefnu ar eu hiaith a diwylliant.
Ffactor arall ÿw bod bron pawb yn deall Cataloneg, a chan fod yr ysgolion
cyhoeddus yn dysgu trwÿ gyfrwng yr iaith gynhenid mae pawb o dan rÿw 30 neu 35
oed yn ddwÿieithog.
Yng Nghatalonia mae'r Blaid Sosialaidd yn cael cefnogaeth gref wrth ethol
aelodau ar gyfer y Senedd yn Madrid, ond yn ffaelu â dwÿn perswâd ar ei
chefnogwÿr i fwrw pleidlais iddi yn yr etholiadau Catalonaidd. Nid ÿw canran
helaeth o'r pleidleiswÿr a ymsefydlodd yng Nghatalonia (y rhan fwÿaf o
Andalusia) a'u disgybyddion yn pleidleisio fel arfer yn etholiadau yr
hunanlywodraeth - nid ydÿnt yn meddwl eu bod yn berthnasol iddÿnt - rhÿwbeth
'ar gyfer y Cataloniaid' ydÿnt, er bod llywodraeth Catalonia yn cyhoeddi bÿth a
beunÿdd taw Cataloniad ÿw pob un sÿdd wedi dod i fÿw i'r parthau hÿn.
Yn ddiweddar mae'r Sosialwÿr wedi gweld peth o'r bleidlais hon yn mÿnd i
ddwÿlo'r Partido Popular - 'Plaid y Bobol', plaid o genedlaetholwÿr Sbaenaidd,
ar y dde (eithafol), ac yn lloches i'r rhan fwÿaf o bleidwÿr yr unben o Galisia
Francisco Franco, a amddifadodd ddinesyddion gwladwriaeth Sbaen o'u hawliau
sifil am ddeugain mlynedd (ar wahân, hynnÿ ÿw, i'r lleiafrif oedd yn ei
gefnogi). Ei brif elynion oedd y Cataloniaid a'r Basgiaid, a bu gwahardd llwÿr
ar iaith a diwylliant y cenhedloedd hÿn yn ystod ei unbennaeth. Tacteg y Partido
Popular yng Nghatalonia ÿw lladd ar yr iaith Gataloneg, a honni bod y
'mewnfudwÿr' yn cael eu gormesu gan y Cataloniaid cynhenid. Gan mai mewn getos
mae'r rhan fwÿaf o'r mewnfudwÿr a'u disgynyddion yn bÿw, a diolch i'r radio a'r
teledu o Sbaen yn dal i fÿw yno yn rhithiol, gwaith hawdd ÿw perswadio rhan o'r
pleidleiswÿr eu bod yn cael cam.
Yn ddiddorol iawn, rhai o'r boblogaeth gynhenid ÿw llawer o gefnogwÿr y Partido
Popular - ond rhaid cofio hefÿd bod haen sylweddol o'r Gataloniaid wedi ymuno â
mudiad Franco ar ôl y rhyfel Ffasgaidd (1936-1939). Ennill rhÿw 20% o'r bleidlais fel arfer y mae
'Plaid y Bobl'. (CiU 40%, Sosialwÿr 30%, cÿn-Gomiwnyddion 5%, Esquerra
Republicana (= Plaid Cymru) 5%).
Yn ôl y polau piniwn, CiU enilla'r etholiadau unwaith eto. Mae'r Blaid
Sosialaidd wedi gweld fel mae ailgylchynnu (hynnÿ ÿw, aralleirio) hen slogannau
Ffasgaidd 'Uno, grande y libre' wedi chwÿddo cefnogaeth y cÿn-Ffrancöwÿr. (Un
wlad, fawreddog a rhÿdd) (hynnÿ ÿw, Sbaen, heb gymrÿd i ystyriaeth y
cenhedloedd eraill o fewn y wladwriaeth ar wahân i'r Castiliaid a'r cenhedleodd
wedi eu Gastileiddio - pobl Aragôn, pobl Asturies, etc). A dyma hwÿ, y
Sosialwÿr, ym mhersona eu hymgeisÿdd Pasqual Maragall, yn dechrau dynwared yr
asgell dde, gan feddwl taw phleidleisiau'r diansyddion sÿdd wedi llyncu'r fath
ffwlbri ÿw'r Greal Sanctaidd.
Yn ôl y polau piniwn, bÿdd rhÿwfaint o gynÿdd ym mhleidlais y Sosialwÿr, ond
dim digon i'w rhoi ar y brig. Wrth ddefnyddio'r dacteg beryglus o rannu'r
boblogaeth fe gollant ran o'u pleidleiswÿr sÿdd yn eu hystyried eu hunain yn
Gataloniaid - o ble bynnag y dônt hwÿ neu eu teuluoedd. Ac fellÿ ni fyddant
fawr ar eu helw o ddilÿn tactegau'r asgell dde Sbaenaidd.
Llun
11 Hydref 1999 - dilluns 11 octubre 1999
(1) Dia de la Hispanidad - hi haurà violència dels fatxes?
(2) Dos ciclistes morts per un conductor ebri
Pryder am drais o du'r grwpiau Ffasgaidd ar 'Ddiwrnod Sbaenigrwÿdd' (Dia de
la Hispanidad).
Gwÿl gyhoeddus fÿdd hi yforÿ, un na fÿdd pobol Catalonia yn ei
dathlu o gwbl. O dan yr unben Francisco Franco (ac o hÿd mewn rhai gwleÿdd lle
mae'r Gastileg yn iaith swÿddogol - yn Ne América ac América Ganol) 'Diwrnod yr
Hil' (Dia de la Raza) oedd yr enw - hynnÿ ÿw, yr hil sÿdd wedi dod â
gwareiddiad i gyrion pellaf y ddaear - ar ffurf lladdféÿdd a gwthio iaith
Castîl ar frodorion gwledÿdd estron - yn y Bÿd Newÿdd yn arbennig, ond hefÿd yn
y Gwledÿdd Cataloneg a Gwlad y Basg. Mae'r wÿl hon wedi bod yn ddraenen yn
ystlÿs llywodraeth Catalonia ers blynyddoedd, ac wedi ceisio peidio â'i derbÿn
fel gwÿl fanc - ond mae Madrid yn mynnu bod rhai dygwÿliau yn 'genedlaethol' a
nid oes modd eu hosgói. Fellÿ
yng Nghatalonia mae rhaid 'dathlu' diwrnod sÿdd yn gas gan drwch y Cataloniaid.
Fel arfer mae yma gyfarfodÿdd a phrotestiadau i gofio am y miliynau o
frodorion a fwdrwÿd yn Ne América ac América Ganol yn enw Sbaen. Ar y llaw
arall y mae'r pennau crwÿn yn manteisio ar y diwrnod hwn i atgoffa'r
Cataloniaid mai rhan o Sbaen ÿw'r wlad hon. Cwrddant fel arfer yn y sgwâr o
flaen gorsaf reilffordd Sants - o'r enw 'Plaça dels Països Catalans' (Sgwâr y
Gwledÿdd Cataloneg), yn anad dim i fwrw sen ar y syniad o wlad Gataloneg ei
hiaith. Mewn gwirionedd mae eu cymanfa fach yn chwerthinllÿd - cnewllÿn o hen
dadcuon a hen famguon yn chwifio baneri Sbaen, ac yn gweiddi yn hiraethus enw
Franco, ac yn canu canigion Ffasgaidd; ac ambell ynfytÿn yn areithio ac yn sôn
am 'la unidad sagrada de Espanya' (undod sanctaidd Sbaen) a 'el destino de
Espanya en lo universal' (a dÿn a wÿr beth ÿw ystÿr y frawddeg honno - 'tynged
Sbaen yn yr hÿn sÿdd yn hollgyffredinol' - beth bynnag y bo, mae'n cynhyrfu'r
torf yn sblendid.) O gwmpas yr henoed hiraethus y mae'r gwarchodwÿr
Praetoaraidd yn aros - y pennau crwÿn sÿdd wedÿn yn mÿnd i ganol y ddinas ac yn
ymosod ar bwÿ bynnag sÿdd yn digwÿdd cerdded yno. Rhan o'r broblem ÿw bod yr
heddlu heb ei newid rÿw fawr ers marw Franco, ac yn ffafriol i ideoleg y pennau
crwÿn. Rhai o Sbaen ÿw'r heddlu - ac yn meddwl bod eu prif waith ÿw amddiffÿn
'undod Sbaen' yn hytrach na chwilio am ladron a thwÿllwÿr a llofruddwÿr, ac
amddiffÿn y dinasyddion a chadw'r heddwch. Tybed a fÿdd pethau yn well yforÿ.
Dau seiclwr wedi eu lladd gan gerbÿd
gyriant-pedair-olwÿn â gyrrwr wedi meddwi
Mae'r lladdfa ar yr heolÿdd yn Nghatalonia yn frawychus - un o'r lefelau uchaf
yn Ewrop, ond mae obsesiwn afiach â cheir yma. Mae beic yn dal yn sumbol tlodi
i lawer yma, ac nes i'r beiciau mynÿdd gyrraedd rÿw ddeng mlynedd yn ôl peth
anghyffredin iawn oedd gweld beicwÿr ar ffÿrdd Catalonia. Ar ôl cymaint o
flynyddoedd o dan unbennaeth a'r diffÿg rhyddid a'r tlodi daeth y car yn sumbol
yr oes newÿdd. Ond nid oes 'éticet' wedi datblygu yn y pum mlynedd ar hugain
ers marw'r unben - 'ar gyfer ceir yn unig' mae'r ffÿrdd ÿw barn y rhan fwÿaf o
fodurwÿr (ac yn wir, mae llawer wedi eu cynllunio fellÿ - dim palmentÿdd, dim
lonÿdd ar gyfer beiciau, na lleiniau caled hÿd yn oed). A gwae'r sawl sÿdd am
groesi heol ar groesfan heb aros nes bod golau gwÿrdd y cerddwÿr wedi bod
ymláen am bum eiliad. Rhan o'r broblem ÿw'r ffaith fod diogelwch ar y ffÿrdd yn
nwÿlo llywodraeth Sbaen a mae'r llywodraeth honno yn mynnu gwneud pob ymgÿrch
dros ddiogelwch yn uniaith Gastileg 'am mai Sbaeneg ÿw iaith pob Sbaenwr ac nad
oes digon o arian i'w gwneud mewn ieithoedd lleol'. Lol potes maip, wrth gwrs.
Mawrth 12
Hydref 1999 - dimarts 12 octubre1999
(1) Grups contra el català inciten a una xiulada contra Pujol a Nou
Barris
(2) Maragall cedeix protagonisme a González al final de la campanya
(3) El PP intenta frenar amb Aznar l'ofensiva dels socialistes
Tri phennawd o'r papur Cataloneg 'Avui' (= heddiw)
Grups contra el català inciten a una xiulada contra
Pujol a Nou Barris - grwpiau gwrth-Gataloneg yn cynhyrfu'r torf i hwtian ar
Pujol yn ardal y 'Naw Cymdogaeth'
Aeth Arlywÿdd Catalonia Jordi Pujol i'r ardal hon ar gyrrau'r ddinas
i gyfarch cyfarfod etholiadol yn enw ei blaid, Convergencia i Unió. Geto ÿw'r
ardal hon lle mae'r mewnfudwÿr o'r chwedegau a'u disgynyddion yn bÿw, a lle mae
llawer o'r cymdogion heb eu cymathu a'u hintegreiddio yn y gymdeithas Gatalonaidd
hÿd yn hÿn. Mewn ardaloedd fellÿ mae'r grwpiau eithafol sÿ'n mawrygu y genedl
a'r iaith Gastileg (ond eu bod yn eu galw 'Sbaen' ar y genedl a 'Sbaeneg' ar yr
iaith) yn dod o hÿd i gynheiliaid eu syniadau eithafol wladgarol. Mae'n syndod
sut mae'r grwpiau ar ymylon y Blaid Sosialaidd a'r 'Partido Popular' (olynwÿr
yr unben Franco) wedi canfod tir cyffredin wrth hyrwÿddo buddiannau Castîl Fawr
('Sbaen'). Mae'n debÿg fod Sosialwÿr a Cheidwadwÿr / neo-ffasgiaid wedi trefnu
yr ymateb 'digymell' i Pujol, y maent yn cyhuddo o fod yn eu gormesu yn
ieithyddol - yn 'stwffio'r iaith Gataloneg i lawr ei yddfau' ac yn eu
hamddifadu o'u hawliau ieithyddol. Dyma'r tro cyntaf erioed i 'brotest
ieithyddol' frigo.Y ffaith amdani ÿw mai iaith y genedl ÿw'r Gataloneg, nid
plaid Jordi Pujol. Mae fel mynnu fod y Gymráeg yn iaith Plaid Cymru yn unig.
A'r ffaith amdani hefÿd ÿw ei bod yn dioddef o dan y gyfundrefn sÿdd ohoni -
mae ganddi yr un statws a'r Gymráeg yng Nghymru, sef iaith ail-radd o fewn ei
gwlad ei hun. Hynnÿ ÿw, mae'r rhai sÿ'n siarad Castileg yn gallu defnyddio eu
hiaith yn ddi-rwÿstr o dan y drefn bresennol, ond gwaith beichus ÿw ceisio
mynnu eich hawliau i ddefnyddio'r Gataloneg yng Nghatalonia am fod yr
awdurdodau gwladwriaethol yn anwÿbyddu'r deddfau iaith (y rheilffÿrdd, y
swÿddfa bost, y sustem gyfreithiol, yr adrannau trethi, ayyb) a'r bÿd busnes
(cwmiau teleffonau, y wasg, yr archfarchnadoedd, y sinemâu, ayyb).
Maragall cedeix protagonisme a González al final de
la campanya - mae Maragall (yr ymgeisÿdd Sosialaidd) yn ildio'r lle blaenaf i
Felipe González wrth i'r ymgÿrch etholiadol ddirwÿn i ben
Mae cÿn-faer Barcelona mewn panig. Roedd ganddo obeithion mawr o fod yn 'Tony
Blair'
Mae Maragall mewn panig, ac fellÿ mae'n mewnforio gwleidyddion o Gastîl Fawr
('Sbaen'), fel Felipe Gonzalez, sÿdd heb fod yn llawn llathen y dyddiau hÿn, yn
union fel yr hen wreigan Thatcher acw. Mae yn mÿnd o le i le yn sôn yn ddi-stop
am 'beryglon' y pleidiau gwladgarol yng Ngwlad y Basg a Chatalonia ac yn
proffwÿdo rhyfeloedd fel yn Bosnia ac yn Kosova am eu bod am dorri undod
sanctaidd Sbaen - obsesiwn sÿ'n gweddu i'r pennau defaid o ffasgwÿr sÿdd i'w
cael y ffor' hÿn, ond yn beth od o enau cÿn-arlywÿdd Sosialaidd yr oedd iddo
rÿwfaint o barch fel 'gwladweinÿdd'.
Ond dyma fe. Ond pam dod â Gonzaález oddi tan y dywarchen? Efallai am fod yna
gymaint o bobl sÿ'n meddwl fod 'Felipe' yn dal i fod yn ymgeisÿdd, bod cymaint
yn barod i fotio iddo. Os deuir ag e i Gatalonia byddai llawer yn meddwl mai
etholiad cyffredinol ar gyfer y Senedd ym Madríd sÿdd, a bod 'Felipe' yn
ymgeisÿdd y Sosialwÿr. Ond beth wnân nhw ar ôl cyrraedd yr orsaf bleidleisio a
gweld nad ÿw ei enw ar y papur pleidleisio?
El PP intenta frenar amb Aznar l'ofensiva dels
socialistes - Y PP (Partido Popular - olynwÿr Franco) yn ceisio rhoi stop ar
gÿrch y Sosialwÿr
Mae plaid yr hen ffasgwÿr yn gweld bod tactegau'r Sosialwÿr yn
annheg - mae'r pleidleisiwr gwrth-Gataloneg yn perthÿn iddÿn nhwthe. Fellÿ dyma
nhw yn dod ag Arlywÿdd Castîl Fawr digymeriad llwÿd penwan i Gatalonia am yr
ail dro. Yn boeth y bo i'r ddwÿ blaid fel ei gilÿdd.
Gwener 26 Tachwedd 1999 - divendres 26 Tachwedd 1999
(1) El PP anuncia una "reforma global" al Senat de la llei
d'Estangeria
(2) Pujol dona entrada a Duran al nou govern amb una gran conselleria
Dau bennawd o'r newyddiadur 'Avui'
El PP anuncia una "reforma global" al
Senat de la llei d'Estangeria - "Y Blaid Geidwadol yn dweud y
bÿddant yn newid y ddeddf arfaethedig ynglÿn a'r 'Estroniaeth' - h.y.
estroniaid yn yr Wladwriaeth Gastileg."
Ein sylwadau ninnau: Ar ôl blwÿddÿn o drafodaethau a'r pleidiau eraill er mwÿn
adnewyddwu'r ddeddf ar hawliau estroniaid o fewn Gwladwriaeth Castîl
("Sbaen"), mae'r Blaid Geidwadol (olynwÿr plaid yr unben Franco) wedi
datgan na fyddant yn rhwÿstro'r mesur yn y tÿ isaf (lle nad oes ganddÿnt
fwÿafrif) ond byddant yn ei ddiwÿgio'n gyfangwbl heb gymorth y pleidiau eraill
yn y Senad (lle mae ganddÿnt fwÿafrif llethol). Mae canran uchel o'r estroniaid
yn gorfod bÿw heb bapurau swÿddogol am nad ÿw'r wladwriaeth yn barod i dderbÿn
mewnlifiad, er ei bod yn derbÿn mae rhaid denu pobol o'r tu allan am fod
prinder dwÿlo ar gyfer gwaith â chyflogau ac amodau mor wael na fuasai neb wedi
ei eni yn "Sbaen" yn fodlon ei wneud. Nid ÿw'r llywodraeth am
hwÿluso'r broses o 'gyfreithlonni' eich hunan. Mae'r hen ddeddf hefÿd yn
effeithio ar ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd. Dim contract gwaith, dim trwydded breswÿl. Dim
trwÿdded breswÿl, dim ffiars o berÿg o gontract gwaith. Mae Senedd
Pujol dona entrada a Duran al nou govern amb una
gran conselleria - "Pujol yn rhoi lle i Duran yn y llywodraeth
newÿdd ar ffurf gweinidogaeth o bwÿs"
Yr Arlwÿdd Pujol (Plaid 'Convergència') yn rhoi gweinidogaeth allweddol (ond
heb esbonio beth ÿw hi eto, amb ei fod newÿdd ei chreu) i arweinÿdd y blaid
fach (Plaid 'Unió Democràtica de Catalunya') yn y glymblaid y maent ill dau yn
perthÿn iddi ('CiU, Convergència i Unió').
Cael a chael oedd hi i Pujol yn yr etholiadau fis yn ôl. O drwch blewÿn cadwodd
ei le fel Arlwÿdd. Carfan o'i gefnogwÿr naturiol yn pallu â phleidleisio drosto
- cenedlaetholwÿr wedi hen alarau ar y blaid genedlaethol hon mewn grÿm ers
ugain mlynedd sÿdd heb wneud dim i hyrwÿddo'r iaith, nac i symud tuag at
annibyniaeth, ac sÿdd wedi cefnu ar Gatalonia wrth roi ei chymorth i'r Blaid
Geidwadol ym
Sul 19
Ionawr 2000 - diumenge 19 gener 2000
(1) La cita electoral
(2) Aznar ordena a l'executiva del PP titllar Almunia de 'candidat d'ERC'.
Dyma un o benawdau heddiw o 'Avui', newyddiadur cenedlaethol y Gwledÿdd
Catalaneg
La cita electoral - yr etholiadau
Aznar ordena a l'executiva del PP titllar Almunia de
'candidat d'ERC'.
Aznar yn gorchymÿn i'r llywodraeth ddisgrifio arweinÿdd Plaid
Sosialaidd Sbaen fel 'ymgeisÿdd Plaid Weriniaethol Catalonia' (plaid debÿg i
Blaid Cymru, ond ei bod yn mynnu ennill annibynaeth i'r genedl).
Chwerthinllÿd. Mor danbaid Gastileg ag Aznar ÿw Almunia (un o Wlad y Basg, ond
yn fab i fewnfudwÿr), ac yn erbÿn yr hunanlywodraeth bresennol sÿdd gan y
Basgiaid am ei bod yn 'rhÿ hael'!
Mae Aznar am bortreadu'r Blaid Sosialaidd fel 'plaid genedlaethol Gatalonaidd'
i godi braw ar y Sosialwÿr gwrth-Gatalonaidd, ac ennill eu pleidlais.
(1) Yn yr Ynysoedd Balearig bu cytundeb rhwng cenedlaetholwÿr a sosialwÿr i
gipio'r llywodraeth o ddwÿlo'r Blaid Geidwadol (Partido Popular) ar ôl
blynyddoedd o lygredd hollol agored a digywilÿdd. O drwch blewÿn cawson nhw
gymerÿd drosodd yn 1999. Yng ngolwg Aznar, mae'r Sosialwÿr wedi ymuno â charfan
y Diafol ei hun. (Rhaid cofio bod y Sosialwÿr yn Donostia, yng Ngwlad y Basg,
wedi ymuno â'r Ceidwadwÿr i ffurfio 'clymblaid wrth-genedlaethol', ac wedi
cipio cyngor y ddinas oddi ar y pleidiau cenedlaethol. I Aznar, dyna ddylai fod
y patrwm ymhobman lle ceir cenedlaetholwÿr sÿdd yn bygwth undod 'la patria').
(2) Mae trafodaethau yn cael eu cynnal i lunio cytundeb rhwng y Sosialwÿr yng
Nghatalonia ac ERC i ddewis ymgeiswr Sosialaidd fÿdd yn dderbyniol i'r
cenedlaetholwÿr adain-chwith fel y gellir ennill sedd yn y Senad ar draul y
blaid geidwadol ranbarthol (er gwaethaf ymyrraeth o'r blaid Sosialaidd yn
Madrid sÿdd yn ffyrnig yn erbÿn pact o'r math hwn).
Y ddau reswm hÿn yn sail i dacteg Aznar.
Yng ngwledÿdd Sbaen mae breninaddoliaeth bron yn grefÿdd - hÿd yn oed ymhlith y
cÿn-Gomiwnyddion! Ac wrth gwrs mae Catalonia yn esgymunbeth ganddÿnt. Fellÿ mae
'ERC' bron mor effeithiol a'r blaenlythrennau 'ETA' i gyfrói'r Sbaenwÿr.
Llun 20
Ionawr 2000 - dilluns 20 gener 2000
(1) Les eleccions de 12 03 2000
(Bÿdd etholiad cyffredinol yng ngwladwriaeth Sbaen ar Fawrth 12)
Mae llywodraeth asgell-dde José-María Aznar am ennill mwÿafrif llwÿr i gael dod
yn rhÿdd o lyffetheiriau'r Blaid geidwadol ranbarthol Gatalonaidd (Convergència
i Unió). Mae CiU yn cynnal plaid Aznar mewn grÿm, am nad oes ganddo fwÿafrif
digonol dros y pleidiau eraill gyda'u gilÿdd.
Cychwÿn croesgad yn erbÿn y Cataloniaid a'r Basgwÿr i 'achub y famwlad' ÿw un o
hoff freuddwÿdion y Señor Aznar. Bÿdd yn achub Sbaen drwÿ dorri ar
hunanlywodraeth cenhedloedd y Catalanwÿr a'r Basgiaid a gwasgu ar yr ieithoedd
cynhenid.. Rhaid cofio mai cÿn-aelod ymroddedig o fudiad ieuenctid yr unben
Franco ÿw'r dÿn bach mwstashog diflas hwn ag iddo gyfenw Basgeg. Yn ôl y sôn ,
wÿr i dad-cu a mam-gu Fasgeg eu hiaith o'r ddwÿ ochr ÿw'r (cÿn-) Ffasgwr bychan
Diolch bÿth ei bod yn annhebÿg y bÿdd gan blaid Aznar - y Partido Popular
('Plaid y Bobl'!) y fath fwÿafrif. (Dyma blaid Ffasgaidd Franco wrth gwrs - a
fu farw 25 mlynedd yn ôl - ar ei newÿdd wedd 'ddemocrataidd'). Bu'r pleidiau
ceidwadol rhanbarthol Basgaidd a Chatalonaidd yn bartneriaid anfodlon yn
llywodraeth Aznar - yn rhannol am eu bod hwynthwÿ hefÿd o anian
gwrth-Sosialaidd fel plaid Aznar, ond yn rhannol er mwÿn cael rheoli tipÿn ar y
Blaid eithafol Sbeinig hon.
Mae'r Blaid Fasgaidd (ond nid Ffasgaidd) - Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg -
wedi torri ei chysylltiad â Phlaid Aznar yn ddiweddar ar ôl i Aznar a'i griw
beidio â gwneud dim yn ystod cadoediad ETA i hwÿluso cytundeb gwleidyddol. Mae
anfodlonrwÿdd cyffredinol, a fu'n sail i'r rhyfel fach yng Ngwlad y Basg, am i Lywodraeth
Sbaen ddiystyru'r ffaith i'r Basgiaid wrthod mewn refferendum yr
hunanlywodraeth yr oedd gwleidyddion Madrid yn cynnig iddÿnt ugain mlynedd yn
ôl , am ei bod yn annigonol. Y mae'r hÿn sÿdd ganddÿnt yn hunanlywodraeth a
benderfynodd y Sbaenwÿr y dylent eu chael.
Yr oedd yn gywilyddus gweld mor orfoleddus yr oedd arweinwÿr y Partido Popular
wrth glywed am benderfyniad ETA i roi pen ar y cadoediad. Mae'n talu ar ei
ganfed i'r blaid hon fod yna ryfel fach yng Ngwlad y Basg. Gall gyflwÿno ei
phlaid wedÿn fel un sÿdd yn brwÿdro yn erbÿn 'los nacionalismos periféricos'.
Mae'n syndod faint mae ei gwerth mewn pleidleisiau yng Ngwledÿdd Castîl (hynnÿ
ÿw, 'Sbaen' heb Wlad y Basg, Y Gwledÿdd Cataloneg a Galisia). Yr un dacteg ag
yr oedd gan Putin yn Rwsia â'i ryfel greulon yn erbÿn 'Tshteshenia' (chwedl y
Rwsiaid).
Prif wrthwÿnebwÿr y Ceidwadwÿr ÿw'r Sosialwÿr - sÿdd wedi cael braw o weld sut
mae Aznar wedi chwarae'r cerdÿn 'sathru'r cenedlaetholwÿr' i fachu pentwr o'u
bleidleisiau. Mae'r blaid hon hÿd y fÿl o Sbaenwÿr 'gwladgarol'. Yn eu tro
maent wedi datgan eu bod yr un mor elyniaethus tuag at y cenedlaetholwÿr
Cataloniaid a'r Basgwÿr - os nad mwÿ hÿd yn oed.
Yng Nghatalonia ei hun mae un garfan o'r Blaid Sosialaidd yn ymosod ar
'unbennaeth yr iaith'. Iaith y Cataloniad, wrth gwrs. Y rhan fwÿaf heb ddysgu
iaith y genedl, ac yn ei gweld yn sarhâd ar ogoniant Sbaen fod iaith arall yn
gyfreithlon o fewn ffiniau'r wladwraieth. Yn ôl y rhai hÿn , nid ÿw'r iaith
Gataloneg yn dda i ddim am fod rhÿw 6 miliwn fan bellaf yn ei siarad, a dros
300 miliwn yn siarad Sbaeneg!
Mae llawer o Gataloniaid sÿ'n siarad yr iaith yn cefnogi'r fath ddwli - dyma
effaith tair canrif o dan sawdl y Castiliaid - hunangasineb, ac addoli popeth
sÿdd yn dod o'r 'Gwastadedd' (ardal Madrid). Mae'r garfan arall yn y Blaid
Sosialaidd - y rhai sÿdd fwÿ sicr eu Catalonrwÿdd - yn gwneud dim er mwÿn
cynnal 'undod Sosialaidd'. Maent hefÿd yn ofni bÿdd y Partido Popular yn galw
'cenedlaetholwÿr' arnÿnt. Crwcs, godinebwÿr, llwfrgwn, cachgwn, bastardiaid,
paganiaid, meddwon - fe allwch eu difrïo faint a fynnoch, ond ni chewch chi'r
un ymateb ganddÿnt nes galw 'cenedlaetholwÿr' arnÿnt, ac wedÿn lwc-owt bÿdd hi.
Gwener Awst 4
2000 - divendres
4 agost 2000
(1) Barcelona és la ciutat de l'Estat on les vivendes noves són més cares
(2) El foc ha cremat a Catalunya 2.065 hectàrees de bosc en set mesos
(3) El partit nacionalista de Gal·les tria un nou líder - Wyn Jones mantindrà
el Plaid Cymru dins la via autonomista i lluny de l'independentisme dels seus
col·legues de l'SNP escocès
Tri phennawd o 'Avui', papur dyddiol cenedlaethol y Gwledÿdd Catalaneg
(1) Barcelona és la ciutat de l'Estat on les
vivendes noves són més cares
'Barcelona ÿw'r ddinas â'r anheddau newÿdd mwÿaf costus yng ngwladwriaeth
Sbaen' - wel, nid y newyddion diweddaraf mo'r rhain, ond mae'n esbonio pam fy
mod yn bÿw mewn twll o le ers deuddeng mlynedd - tai a fflatiau newÿdd,
fflatiau ar rent - popeth yn brud tu hwnt yma, ar wahân i domatos.
(2) El foc ha cremat a Catalunya 2.065 hectàrees de
bosc en set mesos
'Mae'r tanau wedi llosgi 2,065 hectar o goedÿdd o fewn saith mis yng
Nghatalonia' - a chymaint o bobol yn smocio yma, a phob un yn taflu stwmpiau'r
sigarennau ynghynn yn ddifeddwl, mae'n syndod i mi bod yr un goeden yn dal i
sefÿll o gwbl. Achosion eraill ÿw pobl yn mynnu cynnau barbaciws wrth ochr
coedwig, neu ffermwÿr yn mynnu llosgi sofl er gwaethaf pob rhybudd - a'r
coedÿdd yn sÿch fel carthen ers misoedd. Un wreichionen fach unig yn cael ei
chludo ddecllath gan yr awel - a'r dyna ben ar dirwedd coediog ardal gyfan am y
can mlynedd nesa.
(3) El partit nacionalista de Gal·les tria un nou
líder - Wyn Jones mantindrà el Plaid Cymru dins la via autonomista i lluny de
l'independentisme dels seus col·legues de l'SNP escocès
Ar y cyfan mae'r wasg yma yn wael iawn - rhai Madrid ÿw'r rhan fwÿaf o'r
newyddiaduron, weithiau â rhÿw atodiad 'rhanbarthol'. Ac yn iaith Castîl y
maent hefÿd. Dim ond 'Avui' sÿdd yn bapur Catalaneg ei iaith ac yn wladgarol. A
chwarae teg i'r newyddiadur hwnnw - ymddiddori mae ef yn hÿnt a helÿnt gwledÿdd
bach Ewrop, ac mae sôn am Gymru a'r Alban yn lled aml.
'Plaid genedlaethol Cymru yn dewis arweinÿdd newÿdd - bÿdd Wÿn Jones yn cadw
Plaid Cymru ar heol ymlywodraeth ac ymhell o annibynoliaeth eu cymhariaid yn yr
SNP Albaneg'. Dyma ddehongli polisïau y ddwÿ blaid yng ngolau'r ddwÿ blaid
genedlaethol yng ngwladwriaeth Castîl - mae'r pleidiau Basgeg yn hollol
ddi-flewÿn-ar-dafod yn mynnu mai annibynaeth ÿw y rheswm dros eu bodolaeth. Hynnÿ
ÿw, 'independentisme'. Yng Nghatalonia, mae'r glymblaid Convergència i Unió yn
dweud ei bod yn 'genedlaetholwÿr', ond mae'n amlwg mae 'rhanbarthwÿr' iddÿnt,
yn hollol fodlon i aros o fewn gwladwriaeth Castîl, gan feddwl y bÿdd y
Castilwÿr yn deall y Catalaniaid rÿw ddiwrnod a phenderfynnu gadael rhyddid
iddÿnt o fewn yr ymlywodreath ranbarthol i gynnal eu hiaith a'u traddodiadau. Breuddwÿd
gwrach yn ôl ei hewyllÿs, gwaetha'r modd.
Os ÿch chi am weld yr eitem yn ei gyfanrwÿdd, cerwch i wefan Avui! Yr oeddwn yn
meddwl gofÿn am ganiatad i'w ailgyhoeddi yma, ynglÿn â chyfieithiad Cymraeg,
ond am nad ÿw'r tudalen yma yn cael ond un ymwelwr bob mis, yn ôl ystadegau'r
gwefan hwn - ni wnaf i ddim! Ond
efallai taw arna i mae'r bai - fe ddylwn ychwanegu at y tudalen hwn bob dÿdd.
Dÿdd
Llun 18 Medi 2000 - dilluns 18 setembre 2000
(1) Aznar anima Piqué a batre Pujol esgrimint un "nou catalanisme"
(2) Arzullaz sosté que Errenteria no era el cap d'ETA i el situa en el sector
dialogant
(3) Absolt un membre de la Banda dels Peruans per un error del fiscal
Tri phennawd o 'Avui', papur dyddiol cenedlaethol y Gwledÿdd
Catalaneg
(1) Aznar anima Piqué a batre Pujol esgrimint un
"nou catalanisme"
'Aznar yn ysgogi Piqué i guro Pujol dan chwifio (y faner o'r)
"Catalonrwÿdd newÿdd"
PWY? José-Maria Aznar = arlywÿdd 'Sbaen' (Castîl Fawr - y wladwriaeth a greuwÿd
o wlad Castîl a'r gwleddÿdd yn yr orynÿs Iberaidd y mae'r wlad hon wedi eu
cipio a gormesu dros y canrifoedd), arweinÿdd y Blaid neo-Ffrancist, y Partido
Popular - y blaid 'ddemocrataidd' a ffurfiwÿd gan gefnogwÿr yr unben Castilaidd
Francisco Franco (1892-1975). Mewn gwirionedd nid Gastiliad oedd y dihirÿn
hwnnw, ond bradwr o Galisiad); Josep Piqué - bradwr arall! cÿn-aelod o Blaid
Gomiynyddol Catalonia (PSUC); cÿn-aelod o glymblaid genedlaethol Catalonia
(Convergència i Unió); ac ers rhÿw ddwÿ flynedd yn aelod o'r blaid adain-dde
(eithafol) hon, y 'Partido Popular'.
CEFNDIR: Enillodd y Partido Popular fwÿafrif llwÿr yn etholiadau mis Mawrth
2000, ac ers y diwrnod cyntaf mewn grÿm mae hi wedi bod wrthi yn ceisio
ail-adeiladu gwladwriaeth hollol Gastileg, ar draul y tair cenedl ormesedig o
fewn ffiniau'r wladwriaeth - Galisia, Gwlad y Basg, a'r Gwledÿdd Catalaneg. Mae
ganddÿnt ddwÿ broblem - Gwlad y Basg, lle y mae'r hunanlywodraeth yn nwÿlo
pleidiau o genedlaetholwÿr; a Chatalonia, lle y mae clymblaid o genedlaetholwÿr
yn rheoli (ond mewn gwirionedd, rhanbartholwÿr y tu hwnt o ddof a llyweth
ydÿnt, ond yng ngolwg Madrid cenedlaetholwÿr peryglus dros ben ydÿ
'Convergència i Unió'.)
(Mae'r neo-Francistiaid wedi rheoli hunanlywodraeth Galisia ers ei sefydlu dros
ugain mlynedd yn ôl; maent yn rheoli Gwlad Falensia, rhan o'r Gwledÿdd
Catalaneg, ers ysgubo ymaith y Sosialwÿr ar ddechrau'r 90au; ond ers rhÿw
flwÿddÿn wedi colli rheolaeth ar yr Ynysoedd Balearig, rhan arall o'r Gwledÿdd
Catalaneg, lle mae clymblaid fregus rhwng Sosialwÿr - sÿdd yn cynrychioli'r
mewnfudwÿr dosbarth-gweithiol o Gastîl y rhan fwÿaf - a'r cenedlaetholwÿr
Catalanaidd. Bu digon o ddiflastod ymhlith rhai carfannau o drigolion yr
Ynysoedd ar ôl dioddef ugain mlynedd o'r Partido Popular - llygredd hollol
agored, a hybu iaith a diwylliant Castîl ar draul yr iaith Gatalaneg. Creuwÿd
cyfuniad annhebygol o Sosialwÿr a Chenedlaetholwÿr er mwÿn gwaredu'r Ynysoedd o
bla'r neo-Francistiaid, ac ennill o drwch blewÿn y gwnaethant. Yn rhyfedd iawn,
rhai Catalaneg eu hiaith ÿw trwch cefnogwÿr y Partido Popular yn yr Ynysoedd.)
Ers blynyddoed mae'r Partido Popular wedi bod yn gweithio yn nhalcen caled
Catalonia - sut mae ennill pleidleisiau yn y 'rhanbarth' honno? Dÿw'r
Cataloniaid ddim yn derbÿn taw Castiliaid ('Sbaenwÿr') ydÿnt. Ers deng mlynedd
mae'r dacteg wedi bod i ymosod ar bopeth sÿdd yn gwneud y Cataloniaid yn
wahanol i'r Castiliaid - yn anad dim, yr iaith. A mynnu bod y Castiliaid a
gafodd eu symud yma o dan yr unben Franco (rhÿw hanner poblogaeth Catalonia) yn
dioddef am mai iaith gynhenid Catalonia ÿw'r Gatalaneg, a bod enwau'r heolÿdd
yn uniaith Gatalaneg, ayyb. Ond heb ddweud ei bod yn amhosibl bron i'r
Cataloniad fÿw yn eu gwlad eu hunain yn eu hiaith eu hunain - mae heddlu Castîl
sÿdd yn dal i fod yma (yn anghyfandsoddiadol ac yn anghyfreithlon) yn Gastilwÿr
i'r carn; mae'r gyfundrefn cyfreithiol yn nwÿlo pobl o Gastîl, a wiw i chi
arfer yr iaith Gatalaneg mewn llÿs barn neu mynnu cael dogfennau cyfreithiol yn
eich mamiaith; rhai Castileg y mae'r mwÿafrif o'r cylchgronnau a newyddiaduron
a werthir yma; mae cwmnïau preifat a gwladwriaethol yn anwybyddu'r deddfau
iaith ac yn defnyddio'r Gastileg hen feddwl eilwaith cÿn gwneud; mae'r teledu
a'r radio 'Catalaneg' yn filwaith gwaeth na 'Heno' S4C - ar ôl gwrando ar y
cyfryngau yn yr iaith Cataloneg yr wyf yn deall pob dim yn Gastileg erbÿn hÿn. Hynnÿ
ÿw, maent yn frith o gyfweliadau yn Gastileg, hysbysebau yn Gastileg, ayyb.
Bu tactegau'r Partido Popular i ennill y bleidlais 'wrth-Gatlanaidd' yn
eithriadol o lwÿddiannus - ond yr oedd problem ganddÿnt yn sgîl eu
buddugolaeth. Mae'r Partido Popular (dde-eithafol neo-Ffasgaidd, cofier) yn
brolio ei fod yn blaid y canol (ac yn sôn am eu hedmygedd o'r 'Llafur Newÿdd' a
'thrydÿdd llwÿbr Tony Blair'). Yn sydÿn dyma ganddÿnt bentwr o bobl nad oedd yn
pleidleisio fel arfer, rhai o'r dosbarth gweithiol neo-Ffasgaidd eu meddylfrÿd.
ond ar yr un prÿd yr oedd y cenedlaetholwÿr llugoer nad oedd yn bwrw fôt i neb,
neu yn pleidleisio i bleidiau eraill, yn ffieiddio at agwedd y Partido Popular,
ac yn cefnogi Convergència i Unió.
A dyma syrpréis y newyddion heddiw - mae Cynhadledd y Partido Popular yn cael
ei gynnal ym Marselona yr wÿthnos yma. Yn sydÿn maent wedi datgan ei bod yn
blaid 'Catalanista' (hynnÿ ÿw, yn Gatalangar). Y fath droëdigaeth ar yr hewl i
Ddamascws! A'r dirprwÿon y Blaid hon, a oedd ond yn wÿthnos yn ôl yn lladd ar
iaith a sumbolau Catalonia, yn sydÿn yn mynnu taw nhw ÿw gwir wladgarwÿr
Catalonia! Ond maent wedi bod fel lloi erioed - os digwÿdd i'w harweinwÿr yn
Madrid ddweud eu bod y ddaear yn sgwâr, byddant i gÿd yn mynnu eu bod wedi
credu hÿn ers blynyddoedd, ac wedi ei ddweud yn ddi-baid, ond os nad oes neb yn
ei gofio, fe ddylai fod oherwÿdd nad oeddÿnt yn gwrando yn ddigon astud ar y
prÿd.
Ac fellÿ dyma Aznar yn Madrid yn dweud wrth Piqué ei bod yn bosibl dwÿn dillad
y cenedlaetholwÿr ac ennill grÿm yng Nghatalonia (Plaid ymylol ÿw ei blaid
yntau yn y wlad yma - mae'r rhan fwÿaf o bobl Catalonia yn cofio neu wedi
clywed sut yr oedd hi ar Gatalonia o dan ormes arwr y Partido Popular, y
Cadfridog Franco).
Hÿn oll ar ôl cymaint o benderfyniadau yn Madrid yn ddiweddar i hybu Castîl -
deddf newÿdd i ffafrio hanes Castîl yn yr ysgolion dros y wladwriaeth i gÿd, yn
lle hanes Catalonia yma, hanes Gwlad y Basg yn y wlad honno, ayyb. Gwrthod
siarad rhagor am yr arian sÿdd yn diflannu i goffrau Madrid o Gatalonia, ac yn
cael eu gwario wedÿn yn Castîl (ardal gyfoethocaf gwladwriaeth Sbaen ÿw
Catalonia - mae traddodiad yng Nghastîl o odro cyfoeth o wledÿdd eraill yn lle
ei greu eu hunain. Ar ôl trysorau'r Incas a'r Mayas - tro Catalonia ÿw hi!).
A'r mwÿaf chwerthinllÿd o'r cwbl - penderfyniad yr wÿthnos ddiwethaf bod y
llywodraeth wedi ail-feddwl ynglÿn â'r platiau cofrestru newÿdd ar y ceir. Pan
nad oedd mwÿafrif llwÿr ganddÿnt, derbyniodd hawl Catalonia a'r
hunanlywodraethau eraill i roi eu blaenlythrennau eu hunain arno, yn ogystal
â'r 'E' ar gyfer 'España'. A dyma Madrid yn rhybuddio yn awr na fÿdd 'CAT' (=
Catalunya) ar y platiau newÿdd - ac fe fÿdd yn anghyfreithlon ei roi ym mha le
bynnag ar gar!
(2) Arzullaz sosté que Errenteria no era el cap
d'ETA i el situa en el sector dialogant
'Arzullaz yn mynnu nad oedd Errenteria yn bennaeth ETA ac y mae yn ei leoli yn
y carfan trafodgar'
Mae'r cyfryngau ers yr etholiad cyffredinol yn bloeddio rhagoriaethau'r Partido
Popular i'r bÿd a'r betws - rhai'r wladwriaeth am fod y llywodraeth wedi rhoi
ei phobol ei hun yn y llefÿdd allweddol - a'r rhai preifat am fod bolisïau'r
llywodraeth adain-dde yn glos at eu diddordebau elwgar.
Mae rhaid dioddef propaganda'r llywodraeth ar Wlad y Basg ar bob bwletin
newyddion - sut mae cenedlaetholdeb yn 'annemocrataidd', yn 'hen-ffasiwn', ac
yn 'llofruddiol'. Chwedl nhw, mae'n rhaid cael gwared ar y pleidiau
cenedlaethol yng Ngwlad y Basg am mai cancr ÿw bodolaeth unrhÿw genedlaetholdeb
a all effeithio ar 'undod Sbaen'. (Y mae hwn yn rhyfedd wrth weld y droedigaeth
yn Nghatalonia yng nghynhadledd y Partido Popular sÿdd yn cÿdnabod hunaniaeth
an-Nghastileg yng Nghatalonia).
Yr wÿthnos ddiwethaf fe arestiwÿd Iñaki Gracia Arregi, Iñaki Errenteriakoa, yn
y rhan o Wlad y Basg o fewn ffiniau gwladwriaeth Sbaen. Bu'r cyfryngau yn sôn
sut oedd y llywodraeth wedi ennill y frwÿdr yn erbÿn ETA - nid oes rhaid siarad
a thrafod, fel yn Iwerddon; gall heddlu Castîl ('Sbaen') a heddlu gwlad Paris
('Ffrainc') roi pob aelod o ETA yn y carchar a dyma ben ar y broblem.
Ar ôl dyddiau o ddathliadau'r Partido Popular yn sgîl y fuddugoliaeth hon a
rhoi'r farwol i ETA (unwaith eto - maent yn rhoi'r farwol iddo ers
blynyddoedd!) dyma arweinÿdd Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg, Xabier Arzulluz,
yn atgoffa'r Partido Popular am yr nfed tro y bÿdd rhaid trafod yn y pen-draw -
problem boliticaidd ÿw, na fÿdd yr heddlu yn medru tawelu'r Wlad, ac yn sicr
ddigon nad pennaeth ETA ÿw Iñaki Gracia Arregi. At hÿn, un sÿdd o blaid trafod
ÿw hwnnw - wrth arestio aelodau sÿdd yn awyddus i drafod rhoi'r gorau i
ddefnyddio arfau a lladd, maent yn cryfháu dylanwad y rhai digymrodedd o fewn
ETA sÿdd yn meddwl bod y llofruddiaethau di-baid yn creu sefyllfa
'chwyldroadol' wrth i ymyrraeth Sbaen yng Ngwlad y Basg ddod yn ormod i'w
dioddef, a bÿdd y Basgiaid yn ymgodi i greu gwlad annibynnol.
(3) Absolt un membre de la Banda dels Peruans per un
error del fiscal
Aelod o Fagad y Periwiaid wedi ei gael yn ddieuog o achos camgymeriad gan yr
erlynÿdd
Ers deng mlynedd mae grwp o Beriwiaid (ac ambell Castiliad a Chubaniad) wedi
bod yn ymosod ar yrrwÿr ar y traffÿrdd yng Nghatalonia. Yn ôl y sôn,
cÿn-heddweision sifil a milwrol ÿw llawer ohonÿnt. Maent yn dwÿn ceir grymus ym
Marselona (BMW's, Audis), chwilio am geir o'r Almaen, Ynys Prydain, yr Eidal,
Ffrainc, ayyb, ac yn gwneud i geir yr ymwelwÿr hÿn aros, yno yn esbonio wrth y
gyrrwr bod ganddo deiar fflat, neu bod tân yn y bibell fwg. Mae'r gyrrwr yn
disgÿn i roi cipolwg, ac yn sydÿn dyma dri neu bedwar o gar y llaldron i mewn
i'r car ac yn dwÿn arian, waledau, bagiau.
Yn ôl deddfau 'Sbaen' mae hwn yn drosedd annodd iawn i'w erlÿn.
Nid ÿw'r heddlu yn eu harestio am eu bod yn gwÿbod na fÿdd yr achos yn eu
herbÿn yn llwÿddiannus, ac hefÿd bod agwedd afiach ganddÿnt fod pobol o'r tu
faes i 'Sbaen' o wledÿdd nad ydÿnt Sbaeneg eu hiaith yn ysglyfaeth, ac yn ôl y
sôn bod ganddÿnt rÿw ddirgel barch tuag at y lleidr - am mai cÿn-blismÿn ydi
llawer ohonÿnt. Mae'n well ganddÿnt edrÿch am geir â bathodÿn 'CAT' (=
Catalonia) ar y cefn, a rhoi dirwÿ ar y gyrrwr o genedlaetholwr Catalanaidd.
Dÿdd Sul 15 Hydref 2000
- diumenge 15
octubre 2000
(1) TV3 recorda Companys en el 60 aniversari de la seva execució
Tri phennawd o 'Avui', papur dyddiol cenedlaethol y Gwledÿdd
Catalaneg
(1) TV3 recorda Companys en el 60 aniversari de la seva execució
'TV3 (= un o'r ddwÿ sianel yn Gatalaneg sÿdd yn eiddo i ymlywodraeth
Catalonia) yn cofia Companys drigain mlynedd ar ôl ei ddienyddio".
Ar Hydref y pymthegfed, 1940, saethwÿd Arlywÿdd Llywodraeth Catalonia gan
fintai saethu Ffrancoaidd yng nghastell Montjuïc, Barcelona. Wrth i'r Castiliaid
Ffasgaidd oresgÿn Catalonia yn 1939, ffodd Lluís Companys ym mis Ionawr i'r
wladwriaeth Ffrengig, i Baris, a chwedÿn i Lydaw. Pan yn ei thro goresgynnwÿd y
wladwriaeth Ffrengig gan yr Almaenwÿr, penderfynnodd yr Arlywÿdd Companys aros
yno am fod ei fab mewn ysbytÿ ym Mharis, lle yr oedd yn derbÿn triniaeth am
sgitsoffrenia dirÿwiol. Ar
Awst 13 1939 fe'i harestiwÿd ar gais y Ffrancoiaid. Bu yn garcharor yn Llydaw
am wÿthnos, ac ym Mharis am wÿthnos arall. Wedÿn aeth yr Almaenwÿr ag ef i'r
'ffin' rhwng y gwladwriaethau Ffrainc a Sbaen, a'i roi i ddwÿlo Ffasgwÿr
Castilaidd. Aethpwÿd ag ef wedÿn i Madrid, ac oddi yno ym mis Hydref i
Barcelona i'w ladd.
Mae sawl cais wedi ei wneud i lywodraeth y Partido Popular (olynwÿr plaid
Francisco Franco) i gondemnio gweithrediad llywodraeth anghyfreithlon Franco.
Ond yn ofer. Er gwaethaf galwadau cyson y pleidiau eraill - y Sosialwÿr, y
Cenedlaetholwÿr o'r gwahanol genhedloedd o fewn y Wladwriaeth, y Cominiwnyddion
- mae'r neo-Ffasgwÿr yn aros yn driw i'r unbennaeth, ac yn ymesgusodi wrth sôn
am 'hen hanes', 'gwastraffu amser', 'phethau dibwÿs nag oes â wnelo â'r bÿd
sÿdd ohoni'. Dyma'r blaid sÿdd yn uchel ei chloch drwÿ'r amser yn condemnio
Euskal Herritarrok, plaid adain-chwith yng Ngwlad y Basg, nag ÿw bÿth yn condemnio
trais ETA. Y fath ragrith! A dyma'r blaid - el Partido Popular - sÿdd yn rheoli
yn nhrefi fel Santander yng Nghastîl Fawr lle mae'r enwau heolÿdd yn dal i
goffa Franco a'i fyddin a'i cadfridogau - yn hollol anghyfreithlon, unwaith eto
yn wÿneb protestiadau cyson y pleidiau eraill i gÿd. (Ellwch ddychmygu
strydoedd yn yr Almaen yn dal i goffa Hitler, Göbbels, Himmler, byddin yr
Almaen Naziaidd, ac yn y blaen?)
Bÿdd y rhaglen heno yn datgelu sut y bu y Ffrancwÿr yn awyddus i gynorthwÿo y
goresgynwyr Nazïaidd
14 Ionawr 2001
Dos Tallats, Sisplau. Guerra Contra Andorra.
Colofn ddychanol ÿw "Dos Tallats, Sisplau" ("dau baned o
goffi gwÿn, os gwelwch yn dda") o waith Francesc Puigpelat, lle mae dau
gymeriad o'r enw Pep ac Oriol yn sôn am y newyddion wrth eistedd mewn caffi. Pwnc
heddiw ÿw 'Guerra contra Andorra' (rhyfel yn erbÿn Andorra).
Rhan o'r Gwledÿdd Cataloneg ÿw Andorra, wrth gwrs - yr unig ran sÿdd yn
annibynnol, gan fod y rhan fwÿaf o'r diriogaeth o dan ormes Gwladwriaeth
Ffrainc a Gwladwriaeth Sbaen.
Mae Pep yn gwneud sylwadau ar adroddiad mewn papur newÿdd sÿdd yn sôn am yr hÿn
a ddywedodd Arlywÿdd Rhanbarth Hunanlywodraethol Catalonia Jordi Pujol, yn
ddiweddar. "Pujol va assegurar que l'existència d'Andorra com a Estat
independent és molt important per a Catalunya, i va demanar als andorrans que
preservin la seva identitat cultural, lingüística i fiscal".
"Dywedodd Pujol fod bodolaeth Andorra fel gwladwriaeth annibynnol yn
bwÿsig iawn i Gatalonia, a gofynnodd i'r Andoriaid gadw ei hunaniaeth
ddiwylliannol, ieithyddol ac ariannol".
Sÿlwa Oriol mai rhai ffôl tu hwnt y byddai'r Andoriaid os na chadwant reolaeth
ar eu harian. (Pwnc llosg yn hunanlywodraeth Catalonia ÿw diffÿg rheolaeth ar
ei chyfoeth. Mae'n colli 1.3 biliwn o besetas bob blwÿddÿn - dros bump o
filoedd o filiynnau o bunnoedd Lloegr, neu wÿth mil o filiynau o iwros. Dyna'r
swm y mae'r Castiliaid yn dwÿn oddi ar Gataloniaid - y gwahaniaeth rhwng y
trethi a godir yn y rhan hwn o'r Gwledÿdd Cataloneg ac y swm a werir yma gan Lywodraeth
Castîl. Mae'r Castiliaid yn gwario'r gweddill yn eu gwlad eu hun, yn enwedig yn
eu prifddinas, Madrid.)
Rhaid i Gatalonia ddatgan rhyfel yn erbÿn Andorra ÿw ateb Oirol, anfon yr
heddlu Catalonaidd (gan nad oes gan Gatalonia yr un fyddin), colli'r rhyfel ac
ildio yn ddiamod. Wedÿn, gall Andorra reoli Catalonia, a rhoi iddi
hunanlywodraeth, neu hÿd yn oed sefydlu ffederasiwn. Ac yn lle galw 'Països
Catalans' (y Gwledÿdd Catalaneg) ar y wlad newÿdd, gellir rhoi'r enw 'Països
Andorrans' arni ('y gweledÿdd Andorraidd'). Yn y modd hÿn bÿdd y sefyllfa yn
dderbyniol gan bawb, a gall y Pab lefaru yn 'Andorreg' yn eu negeseuon at y
ffyddloniaid hÿd yn oed!
(Nid ÿw'r Pab yn fodlon defnyddio'r iaith Gatalaneg yn eu cyfarchion ar gyfer y
ffyddloniaid. Y rheswm dros hÿn ÿw bod y Fátican yn ffyrnig o elyniaethus tuag
at y Cataloniaid, gan fod yn y Ddinas Sanctaidd fagad o esgobion Castileg o
anian Ffasgaidd ac imperialaidd sÿdd yn mynnu nad oes ond un 'bobol Sbaenaidd'
a dim ond un iaith o fewn 'Sbaen'. Gan nad ÿw'r miliynau o Gataloniaid yn
bodoli, yn eu tÿb hwÿthau, dim ond rhai cannoedd fellÿ sÿdd yn siarad Catalaneg
- trigolion Andorra - a chan ei bod yn wlad mor fach, nid oes digon o siaradwÿr
yr iaith i'r Pab ystyru ei chynnwÿs ymhlith yr hanner cant y mae'r Fátican yn
fodlon eu defnyddio!)
(Deng miliwn ÿw poblogaeth y Gwledÿdd Catalaneg, er bod rhÿw hanner y
boblogaeth yn fewnfudwÿr neu o deuluoedd o fewnfudwÿr o Gastîl. Serch hynnÿ, dywedir fod chwe miliwn
yn ei siarad fel prif iaith.)
TRADUCCIÓ CATALANA: (gal·lesitzada - disculpeu els errors)
Dos Tallats, Sisplau. Guerra Contra Andorra.
"Dos Tallats, Sisplau" és una columna satírica d'en Francesc
Puigpelat, on dos personatges , en Pep i n'Oriol, parlen de les notícies
asseguts al bar. El tema d'avui és una 'Guerra contra Andorra' .
Recordem que Andorra és una part dels Països Catalans, - l'única part que és
independent, perque la majoria del territori és sota l'opressió de l'Estat
francès i l'Estat Espanyol.
En Pep comenta un informe del diari que exposa allò que va dir fa poc Jordi
Pujol, President de la Regió Autonòmica de Catalunya. "Pujol va assegurar
que l'existència d'Andorra com a Estat independent és molt important per a
Catalunya, i va demanar als andorrans que preservin la seva identitat cultural,
lingüística i fiscal". "
N'Oriol diu que els andorrans serian molt idiotes de no mantenir el control de
les seves finances. (La manca de control sobr les seves riqueses és un tema
contenciós a l'autonomia catalana. Perd cada any 1,3 bilions de pessetes - més
de cinc mil milions de lliures angleses, o vuit mil milions d'euros. Aquesta és
la quantitat que els castellans roben dels catalans - la diferència entre els
impostos recaptats a aquest tros dels Països Catalans i la quantitat que el
Govern de Castella gasta aquí. Els castellans gasten la resta al seu propi
païs, sobretot a la seva capital, Madrid.)
La resposta de n'Oriol és que Catalunya haurà de declarar la guerra a Andorra,
enviar la policia catalana (com que no té cap exèrcit), perdre la guerra i
rendir-se sense condicions. Després, Andorra pot governar Catalunya, i donar-li
autonomia, o fins i tot establir una federació. I en comptes de dir-li els
'Països Catalans' al nou país, s'hi pot posar el nom 'Països Andorrans'.
D'aquesta manera la situació serà acceptable a tothom, i el Papa pot parlar en
andorrà fins i tot a les seves adreces als fidels!
(El Papa no està disposat a fer servir la llengua catalana a les seves
salutacions als fidels. Es perque el Vaticà és virulentment oposat als catalans
perquè a la Ciutat Santa hi ha una colla de bisbes castellans de caire fascista
i imperialista que insisteixen que no hi hagi un 'poble català' i que a Espanya
només hi ha 'una llengua'. Com que no existeixen aquests milions de catalans,
al seu parer, només uns milers - els habitants d'Andorra - parlen català, i com
que és un país tan petit no hi ha prou parlants perque el Papa consideri
incloure-la dins el mig centenar que el Vaticà està diposada a utilitzar)
(La població dels Països Catalans és de deu milions, tot i que gairebé la
meitat són immigrants o de familíes d'immigrants dels Països Castellans. Tot i
així, es diu que sis milions parlen català com a llengua principal)
http://www.vilaweb.com Newyddion
o'r Gwledÿdd Catalaneg a'r bÿd yn Gataloneg o wefan Vilaweb
http://www.enciclopedia-catalana.com/noticies/noticies.htm Newyddion yn Gataloneg o wefan Enciclopèdia Catalana
http://www.vilaweb.com Newyddion o'r Gwledÿdd Catalaneg a'r bÿd yn Gataloneg
o wefan Vilaweb
http://www.enciclopedia-catalana.com/noticies/noticies.htm Newyddion yn Gataloneg o wefan Enciclopèdia Catalana
Ble'r wyf i? Yr
ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
(Cymráeg)
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya) (català)
Where am I? You
are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website
(English)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) víziting ø peij fròm dhø "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait
(Íngglish)
CYMRU-CATALONIA