0988k Gwefan Cymru-Catalonia. Llith o’r Drysorfa, 1880. Adgofion ac Adroddiadau Addysgiadol - Dechreuad a Chynnydd Achos Crefydd yn Soar, Sir Fôn. Gan Mr. Richard Williams, Birkenhead. Y mae ardal ym mhlwyf Aberffraw, Môn, a adnabyddid, tua deng mlynedd a thri-ugain yn ôl, wrth yr enw Rhosydd, o herwydd fod ynddi rai ugeiniau o erwau o dir dan eithin mân. Ac ar ffarm o’r enw Fferamdryfol, yn yr ardal, y mae craig, a elwir Dinas, tua deugain llath o uchder...

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_006_soar_sir_fon_0998k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Barthlen

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Dechreuad a Chynnydd Achos Crefydd yn Soar, Sir Fôn
Llith o’r Drysorfa, 1880

 

  

(delw 0322)

 

Ein sylwadau ni mewn teip oren

(ORGRAFF WREIDDIOL)

1880 Y Drysorfa - Adgofion ac Adroddiadau Addysgiadol
Dechreuad a Chynnydd Achos Crefydd yn Soar, Sir Fôn
Gan Mr. Richard Williams, Birkenhead
Tudalennau 339-341

Y mae ardal ym mhlwyf Aberffraw, Môn, a adnabyddid, tua deng mlynedd a thri-ugain yn ôl, wrth yr enw Rhosydd, o herwydd fod ynddi rai ugeiniau o erwau o dir dan eithin mân. Ac ar ffarm o’r enw Fferamdryfol, yn yr ardal, y mae craig, a elwir Dinas, tua deugain llath o uchder; ac i ben hon yr ymdyrai holl ieuenctyd y gymydogaeth, ar Sabbothau teg yr haf, i chware a chellwair â’u gilydd. Yr oedd hyn cyn i fy nhad, William Rowlands, ddyfod i fyw i’r ffarm; ond daeth iddi tua’r amser y dechreuodd yr Ysgol Sabbathol yn yr ardal; a bu ef a’i deulu yn gymhorth mawr i’w chynnal. Yr oedd hyn tua Mai, 1814, pryd y darfu i wr o’r enw Hugh Roberts, a fy nhad, gyttuno â’u gilydd i roddi cais ar gadw Ysgol Sabbothol yn yr ardal, er mwyn, os gellid, rhoddi attalfa ar ieuenctyd i fyned i ben Craig-y-ddinas i halogi y Sabbothau.

Agorodd Hugh Roberts ei ysgubor i’w chadw; a gwnaed yn hysbys drwy y gymydogaeth y Sabboth yr oedd i ddechre. Ac er nad oedd neb ohonom yn proffesu crefydd ar y pryd, eto ni a gawsom gyfarfod addawol iawn y tro cyntaf, a’r ail yn fwy; ac ar gynnydd yr aeth nes llenwi yr hen ysgubor. Pan oerodd yr hin, symudwyd hi i dy Owen Hughes - ty o fewn rhyw ddau can’ llath i’r man ei cychwynwyd. Bu yno am tua blwyddyn. Symudwyd hi oddiyno i dy fy nhad, y Fferamdryfol uchod. Yr oedd fy mam yn aelod eglwysig gyda’r Methodistiaid Calfinaidd, ac ar y pryd yn perthyn i eglwys Gwalchnmai. Llwyddodd hi gyda’r cyfeillion yno i gymeryd achos yr Ysgol hon o dan eu nawdd eu hunain; a chan fod Mr. Williams, Cefndu, yn nês at yr ysgol na neb arall o’r brodyr, gosodwyd ef ganddynt i arolygu yr achos yn y Rhosydd. Cyn ei ddyfod ef atom, ni bu neb i weddïo ar ddechre na diwedd yr Ysgol - dim ond darllen pennod o’r Bibl a chanu pennill; ac ni byddai dim holwyddori arni. Ond gwnaeth ei ddyfodiad ef atom ein mân ddiffygion i fyny. Yr oedd Mr. H. Williams yn ŵr duwiol a gweithgar, yn ddyn synwyrol a doeth, yn meddu pob cymhwysder rheidiol i gychwyn a meithrin achos bychan fel oedd genym y pryd hwnw. Byddai efe yn ein holwyddori a’n hannog i foddion gras, yn enwedig ar y Sabbothau; ac arferai ddyfod â chyfeillion gydag ef o Walchmai i’w helpio i gadw cyfarfodydd gweddi yn hwyr y Sabbothau. Bu hyn yn dra bendithiol i’r ardal; gwareiddiodd y trigolion gymaint, fel y byddai ofn a chywilydd arnynt chware ar y Sabbothau fel cynt.

Wedi i’r Ysgol fod am tua chwe’ blynedd yn Fferamdryfol, symudwyd hi i dy gôf, Careg Onen, er mwyn iddi fod yn fwy canolog i’r ardal. Ni bu yno ond ychydig wythnosau. Symudwyd hi drachefn i dy mwy cyfleus - Penybryn, ty am y ffordd â’r man lle mae y capel yn bresennol. Tra fu yn y ty hwn, lliosogodd yn ei nifer yn enfawr. Yr oedd Penybryn yn fwy canolog, ac yn nês i gylch
Bethel nag i Walchmai; ac o’r herwydd annogwyd ni i ymofyn cymorth o hyn allan o Bethel, ac felly y gwnaed. Ni ddaeth cyfeillion Gwalchmai mwyach atom. Ond cyn eu gadu yn yr hanesyn hwn, crefaf fy esgusodi am ddiolch iddynt am eu ffyddlondeb at achos y Gwaredwr pan yn ei fabandod, yn enwedig y brawd parchus Hugh Williams, Cefndu, yr hwn sydd wedi myned i dangnefedd er ys llawer o flynyddoedd bellach. Ond cofied cyfeillion presennol Soar eu bod yn ddyledus i’w lwch; ac onid oes careg ar ei fedd, dylent ddodi un; oblegid tra bu ef yn arolygu yr achos yn y Rhosydd, yr oedd llawer mwy o fywyd a gwrês ynddo nag a fu am rai misoedd wedi ei drosglwyddo i ofal Bethel.

Ond i fyned ymlaen gyda’r hanes. Yn ddamweiniol daeth dyn o’r enw Richard Roberts, yn perthyn i eglwys Bethel, i fyw i’r gymdogaeth. Brawd duwiol a gweithgar oedd yntau; ac er na fyddai ym mhob ystyr y cymhwysderau a feddai y brawd H. Williams, eto yr oedd yn wr gwir dda a gonest yn ei amcanion, a gwnaeth les mawr i achos crefydd yn yr ardal.

Yn gynnar yny flwyddyn 1822, daeth diwygiad grymus iawn i Bethel, yr hwn a gariodd ei effeithiau i bob cymdogaeth o amgylch; a dychwelyd lliaws at grefydd yn ardal Soar, fel na bu dim diffyg mwyach am frodyr i gynnal yr Ysgol a’r cyfarfodydd gweddi. Achosodd y diwygiad hwn i’r man lle cynnelid yr Ysgol ar cyfarfodydd gweddi fyned yn rhy gyfyng, gan mor awyddus oedd y trigolion am foddion gras; a’u cwyn gwastadol bellach oedd am le helaethach i gynnal yr achos ynddo. Yn rhagluniaethol, daeth tyddyn o’r enw Tyn’rhôs {sic} ar werth; a phrynwyd ef gan Mr. Robert Evans, brawd crefyddol yn aelod o eglwys Bethel, a rhoes i ni y gongl o’r cae y saif y capel yn bresennol arni. Tynwyd allan y gweithred (deed) gan Mr. Thomas Lewis, Treddafyddfawr, ar ddymuniad Mr. Thomas Jones, Bodwrdin; ac anfonwyd gair at Mr. R. Evans i n {sic} cyfarfod ni ein tri yng nghapel Bethel i lawnodi y weithred. Gwnaed hyn yn y capel wedi i oedfa ddyddgwaith fyned drosodd, tua dechre y flwyddyn 1823. Nid oedd neb ond nyni ein pedwar yn y capel ar y pryd, sef Mr. Thomas Jones, Mr. Thomas Lewis, a minnau, yn dystion dros y Cyfarfod Misol, a Mr. R. Evans, y gwerthydd. Llawnododd Mr. R. Evans y weithred yn ein gwydd. Wedi cael tir, aed ymlaen mor ddioed ag y gellid gyda’r adeiladu. Gosodwyd y gwaith codi cerrig i’r brawd Richard Roberts, am yr hwn crybyllwyd eisoes; a chludwyd hwynt at yr adeilad gan ffermwyr y gymdogaeth; a gosodwyd y gwaith adeiladu i Richard Jones, Cefngwynt.
Gosodwyd y sylfaen Mehefin 9fed (1823), a gorphenwyd y muriau yn gynnar fis Awst. Ond daeth yn wlaw trwm am rai dyddiau, a niweidiodd hyn gymaint ar y talfur gogleddol fel y bu raid ei ail godi. Cafwyd coed a llechi ato o Gaernarfon; ac aed ymlaen gyda brys i’w orphen, fel y cawsom ef yn barod i gadw ein cyfarfodydd crefyddol ynddo tua chanol mis Medi (1823). Ni bu arno agoriad ffurfiol - dim ond symud iddo mor fuan ag y gorphenwyd. Galwyd ef wrth yr enw SOAR; a dileodd yr enw hwn yr enw Rhosydd oddiar yr ardal. Yma bellach y cynnelid ein Hysgol Sabothol, ein cyfarfodydd gweddi, ac ambell bregeth a geid.

Nid oedd ar y cyntaf ond ysgoldŷ lled fychan; ond cynnyddodd yr achos gymaint yn fuan fel y bu raid ei helaethu. A dywed cyfaill i mi, diacon y lle, ei fod wedi ei helaethu y drydedd waith yn haf 1872. Mesura yn bresennol 13 llath wrth 9 llath; a chynnwysa 49 o eisteddleoedd - digon i 200 o bobl eistedd yn gysurus. Mae yn perthyn iddo dŷ a marchdy, a’r cwbl wedi eu gwneuthur yn hynod ddestlus a chyfleus. Costiodd yr adgyweiriad hwn tua £325; ac y mae yr holl ddyled agos wedi ei thalu. Dywed hefyd fod y weithred gyfreithiol wedi ei chael, a’i bod yn bresennol mewn cist haiarn gyda gweithredoedd capelau eraill yn perthyn i’r Corff yn Llangefni. Elai fy nghyfaill ymlaen i roddi golwg ar achos crefydd yn Soar yn bresennol. Dywed fod yr eglwys yno yn cynnwys 52 o aelodau, a thua 26 o blant, dan ofal pedwar o ddiaconiaid.
A gwn innau eu bod yn frodyr ffyddlawn a gweithgar.

Nid teg fyddai diweddu yr hanesyn hwn heb wneyd ychydig goffa am y brodyr a fuont yn gofalu am yr achos uchod, o’i symudiad i Soar hyd ryw ychydig flynyddau yn ôl. Trefnodd yr Arglwydd i breswylfod dau o ddiaconiaid Bethel fod yn nghymdogaeth Soar, sef Mr. Thomas Jones, Bodwrdin, a Mr. John Rowlands, Fferam. Yr oedd Mr. Jones wedi cael ysgol dda pan yn ieuanc, ac yn meddu gwybodaeth gyffredinol lled helaeth, yn gallu defnyddio y ddwy iaith. Cyfrifid ef yn gristion duwiol a diffuant, ac yn wirhtiwr fifefl. Beth bynag a gymerai mewn llaw, byddai yn benderfynol o’i orphen. Yr oedd yn ŵr pwyllog a synwyrol, ac yn swyddog eglwysig yn Bethel rai blynyddoedd cyn i John Rowlands gael ei wneyd yno yn swyddog. Bu Mr. Jones yn gefn mawr i’r achos yn Soar, yn enwedig yn ei waith yn sicrhâu a diogelu y tir, a cheisio y defnyddiau ato, a chyfryngu rhyngom â’r Cwrdd Misol pryd y byddai anghen. Bu y saethyddion yn chwerw wrtho cyn diwedd ei yrfa; ond arhôdd ei fwa ef yn gryf, a’i freichiau yn rymus, trwy ymnerthu yn yr Arglwydd ei Dduw. Bu farw mewn tangnefeddd.

Am fy mrawd, John Rowlands, ychydig iawn o fanteision ysgol a gafodd ef, rhy brin i allu deall llyfr Seisonig; ond yr oedd yntau, trwy lafur a diwydrwydd, wedi cyrhaedd mesur lled helaeth o wybodaeth gyffredinol o lyfrau Cymreig, er nad cymaint a Mr. Jones. Dychwelwyd ef at grefydd tua chwe’ mis cyn i ddiwygiad dori allan yn
Bethel. Yr oedd ei dröedigaeth yn un hynod: teimlai ei hun yn bechadur mor fawr yn wyneb deddf, fel oedd ei natur wedi ei llethu dan bwys anobaith, a’i synwyrau naturiol ar fethu gweithredu. Yr oedd ei gartref tua phum milldir oddiwrth y môr; ond er pelled oedd, treuliodd ef rai nosweithiau i grwydro ar hyd enbydus ei lenydd, heb neb gydag ef ond ei Fibl. Gwn am amryw fanau o feusydd fferm ein tad lle bu yn gweddïo ar hyd y nos; nid ymddyddanai â neb; yr oedd yn ddychryn i’w hen gyfeillion, gan mor ofnadwy a diarbed yr ymosodai arnynt am eu bywyd annuwiol, diangent o’i ŵydd pan ei gwelent. Bu yn ymdroi yn nghors anobaith am tua thri mis; ond o’r diwedd, wrth ddilyn y gair a moddion gras, daeth i afael â threfn Duw i faddeu ac ymgeleddu pechaduriaid. Trwy yr orchwyliaeth uchod, gwnaeth Ysbryd Duw ef yn ddyn efengylaidd, duwiol, a gostyngedig. Bu yn ddefnyddiol iawn gydag achos crefydd yn Bethel a Soar, yn enwedig wedi ei alw i gymeryd swydd, yr hyn a wnaed tua’r fl....

(DIWEDD YR ERTHYGL AR GOLL; LLUNGOPI ANGHYFLAWN GENNYF)

___________________________________________________________

Adolygiad diweddaraf: Adolygiadau diweddaraf:  06 07 2000 - 2004-02-24

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats