kimkat1061ke 'Ni'n Doi'. ('We Two') Extract from a book written
in 1918 by Glynfab, with humourous accounts of the adventures of two colliers
Dai and Shoni. They were written in what was the majority dialect of Wales at the
beginning of the century (Gwenhwyseg / South-eastern Welsh), nowadays all but
gone after the south-easterners abandoned their forefathers' language en masse
in the twenties and thirties of the last century, and failed to pass it on to
their children. "Pishyn o waith Mynyddog, w-i'n gretu ōdd y pishyn
ganas-i nawr. Ma-fa'n ītha pert, a yn atab y mwwfmants yn well na allwn-i
ddishgrifio. Os yw y pishyn yn goparplêt, a jail 'i fod am 'i brinto-fa yn y
papra..."
20-03-2019
● kimkat0001 Home Page / Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat1864e Gateway to this Website in English / Y
Fynedfa Saesneg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2003e.htm
● ● ● kimkat0997e
Index to texts in Welsh in this website / Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y
wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0977e.htm
● ● ● ●
kimkat0952e Ni’n Doi – index page / Ni’n Doi – y tudalen mynegeiol www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_017_nindoi_mynegai_0952e.htm
●
● ● ● ● kimkat1061ke Y tudalen hwn
|
Gwefan
Cymru-Catalonia Cywaith
Siôn Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg) __________________________________________________
__________________________________________________ Extract from a
book written in 1918 in what was the majority dialect of Wales at the
beginning of the century (South-eastern Welsh). It is today all but gone as a
result of the communities in this part of Wales having yielded to the
imposition of the English language especially from 1920 onwards - in affect,
having committed mass linguistic suicide by abandoning the language that had
been spoken there for some over two and a half thousand years (British /
Welsh), and raising the young in an alien language. |
(delwedd 0275g) |
.....
__________________________________________________
Features
of the Gwentian dialect - explains how the Gwentian dialect differs from
standard Welsh: "cadair" (= chair), Gwentian "catar", etc
kimkat0926e www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_nodweddion_y_wenhwyseg_0926e.htm
This version is in our
experimental revised spelling for the south-eastern dialect.
It differs from the original in that
i) for long vowels which are diphthongs in the standard language, we use double
vowels
standard Welsh 'oedd' = was, original text 'odd', our version 'ōdd'
standard Welsh 'maen' = stone, original text 'mân', our version 'mään' (since
southern 'ā' resembles a long open 'e' in the South-east). The advantage
of this spelling is that it shows that the vowel is long and that it is has
replaced an original diphthong.
__________________________________________________
ī) In the South-east the 'h' is generally lost,
except when a word with 'h' or 'rh' is given very strong emphasis. We represent
the lost h by a superscript hanas = hanes (history), rhaid
= rhaid (necessity).
īi) A hyphen is placed before the tag pronouns : myntwn-i = I said
The text is divided into
four parts.
Original spelling |
A standardised spelling of
south-eastern Welsh |
Standard Welsh Fersiwn mewn Cymraeg safonol llenyddol - ar wahân i rai nodweddion sydd yn llai llenyddol, megis (i) y
rhagenwau ôl, (ī) y negyddyn ddim, (īi) y terfyniad -iff |
English translation |
(1) Y Wechfad Shwrna - Mynd i Setlo Sgwârs â Wìl |
Y Wechfad Shwrna - Mynd i
Setlo Sgwârs â Wìl |
Y chweched siwrnai - mynd i setlo sgwârs â Wìl |
The sixth truckload / tramload - going to
settle accounts with Wìl |
I ddath y bora, bora’r “Kick off” odd Dai yn i
alw fa. |
I-ddāth y bōra,
bōra’r “Kick-off” ōdd Dai yn i ālw-fa. |
Fe ddaeth y bore, bore’r “Kick-off” yr oedd Dai yn ei alw ef. |
The morning came, (it is) the
morning of the ‘kick-off’ (that) Dai called it. |
Odd yr officars yn brasgamu nol a blân, a’r
showdwrs yn bisnessan fel sa chi’n acos i gwch gwenyn. |
Ōdd yr óffisars yn
brasgami nôl a blān, ā’r showdwrs yn bisnesan fel sà chi’n
ācos i gw̄ch gwēnyn. |
Yr oedd yr ‘óffisers’ (swyddogion) yn brasgamu yn ôl a blaen, a’r
‘sowdiwrs’ (milwyr) yn busnesan fel pe buasech chi yn agos i gwch gwenyn. |
The officers were striding back and forth,
and the soldiers were busying about as if you were close to a beehive. |
W i’n siwr bod bona clusta Wìll o Berlin yn
ddiccon pôth i chi bopi blotars o’u blân nw. |
W-i’n siwr fōd
bōna clista Wìl ō Berlin yn ddīcon pōth ī chī
bōpi bloaters ō’i blān-nw. |
Yr wyf fi yn sicr fod bonau clustiau Wìl o Berlin yn ddigon poeth i
chi bobi ‘bloaters’ o’u blaen hwy. |
I’m sure that Wìl from
Berlin’s ears (= Kaiser Wilhelm) were warm enough for you to cook bloaters in
front of them (from the belief that people’s ears become warm if somebody
somewhere is talking about them). |
O ni’n cal amall i bip ar Lifftenant Ted, on wrth
gwrs odd a yn y’n napod ni, a dim yn y’n napod ni ar y pryd. |
Ō nī’n cāl
amall ī bīp ar Lifftenant Tèd, on’ wrth gwrs ōdd-a yn yn
nāpod-ni, ā dim yn yn nāpod-ni ar y prȳd. |
Yr oeddem ni yn cael ambell bip (ambell gipolwg) ar Lifftenant Tèd,
ond wrth gwrs yr oedd ef yn ein hadnabod ni, a dim yn ein hadnabod ni ar y
pryd |
I had an occasional peep at Lieutenant Ted,
but of course he knew me, and didn’t know me at the same time. |
Ryw weyd bach od yw wnna, ontefa? On i chi’n
diall beth w i yn wilia o bothdi fa. |
Ryw weid bāch òd yw
wnna, óntefa? On’ ī-chi’n dīall bēth w-i yn wilīa ō
bothdi-fa. |
Rhyw ddweud bach òd yw hwnna, onid e? Ond yr ych chi yn deall beth (yr
hyn) yr wyf yn chwedleua (siarad) o’i beutu ef (amdano ef). |
That’s an odd thing to say, isn’t it?
([it-is] ’some odd saying that-is that, isn’t it?) But you know what I’m
talking about. |
Fel officar odd a ddim yn y’n napod ni - yn
gorffod catw dishtans, on fel partnar odd a’n tywli amall i winc pan yn
cwrlo’i fystash. |
Fel óffisar ōdd-a
ddim yn yn nāpod-ni - yn gorffod cātw dishtans, on’ fel partnar
ōdd-a’n tywli amall ī winc pan yn cwrlo’i fystásh. |
Fel ‘óffiser’ nid oedd e ddim yn ein hadnabod ni - yn gorfod cadw
‘distans’, ond fel partner (cyfaill) yr oedd ef yn taflu ambell winc pan yn
cyrlio ei fwstásh |
As an officer he didn’t know us - (he was)
obliged to keep a distance, but as a mate / friend he gave (‘he threw’) an
occasional wink as he twiddled his moustache. |
On i’n falch i weld a fel y gwetws bachan o fardd
“Yn gneud cest fel brest brān.” |
Ōn-i’n falch i
weld-a fel y gwētws bāchan ō fardd |
Yr oeddwn i yn falch i’w weld ef fel y dywedodd bachan o fardd (fel
dywedodd rhyw fardd) |
I was proud to see him as some poet fellow
said, puffing out his chest like a crow (“making a chest like a crow’s chest”). |
Ma ni off yn nrecsiwn y stashion. |
’Ma-ni off yn nrecshwn y
stashon. |
Dyma ni ymáith yng nghyfeiriad yr orsaf. |
Off we went in the direction of the
station. |
“Cw^n ddou dickat i Berlin,” mynta Dai, yn
cellwar diccyn, “a taligraffta at Wìl, a gwed – ‘Meet me by moonlight
alone.’” |
“Cwnn ddoi dicat ī
Berlin,” mynta Dai, yn cellwar dīcyn, “ā taligraffta at Wìl, a gwèd
- “Meet me by moonlight alone”.” |
“Cwnn (cwyd) ddau docyn i |
“Buy (“raise”) two tickets to |
“Gwell peedo bachan,” myntwn i yn sbortan diccyn.
|
“Gwell pīdo bāchan,”
myntwn-i yn sbortan dicyn. |
“Gwell peidio bachan,” meddwn i yn sbortan (gwamalu) dipyn |
“Best not to, mun (“better ceasing”), I
said joking a bit. |
“Na, gwell peedo, ar mencos i, i fydd ynny yn i
ddoti fa ar y watch. |
“Nā, gwell
pīdo, ar mencos ī, i-fȳdd ynny yn i
ddōti-fa ar y watsh. |
“Na, gwell peidio, ar mencos i, fe fydd hynny yn ei ddodi / ei roi ar
ei wyliadwriaeth. |
“No, best not to, in heaven’s name, that
will put him on his guard.” |
“Na, Dai, i goleri fa eb yn wpod daliff y
ffordd”. |
“Nā, Dai, i
golēri-fa èb yn w̄pod dāliff y ffordd”. |
“Na, Dai, ei goleri ef heb yn wybod a daliff y ffordd |
“No, Dai, his collars unwittingly would pay
the way.” |
“Daliff y ffordd, Shoni? Gnaiff walla. Os
cwrddiff Wìl a fi, i dwlla ffordd âr trw’r boi, a fydd dim eesha spyin’-glass
i bippo ar y sers a’r planeta wettyny. “ |
“Daliff y ffordd,
Shōni? Gnaiff walla. Os cwrddiff Wìl â fī, i-dwlla ffordd ār
trw̄’r boi, ā fȳdd dim
īsha spyin’-glass ī bīpo ar y sêrs ā’r
planēta wēti ‘ny. “ |
A daliff y ffordd, Shoni? Gwnaiff efallai. Os cwrddiff Wìl â mi, fe
dyllaf ffordd aer trwy’r boi, ac ni fydd dim eisiau ‘spying glass’ i bipo
(edrych) ar y sêr a’r planedau wedi hynny.” |
“Pay the way, Johnnie? Maybe they will. If Wìll meets me,
I’d make (bore) an airway through the fellow, and there’ll be no need for a
spying glass / telescope to look at the stars and the planest after that.” |
(x38) Miwn i’r train a ni. |
Miwn i’r train â ni. |
I mewn i’r trên â ni |
We got on the train (‘into the train with
us’) |
“Ergyd a phwff, a miwn annar wiff |
“Ergyd ā phwff,
ā miwn annar wìff |
“Ergyd a phwff, a mewn hanner chwìff |
|
Pishin o waith Mynyddog, w i’n gretu odd y pishin
ganas i nawr. Ma fa’n eetha pert, a yn attab y movemants yn well na allwn i
ddishgrifo |
Pishyn ō waith
Mynyddog, w-i’n grēti ōdd y pishyn gānas-i nawr. Mā-fa’n
ītha pert, ā yn atab y mwfmants yn well nā allwn-i
ddishgrifio. |
Pishyn o waith Mynyddog, yr wyf yn credu yr oedd y pishyn (darn) a
ganais i nawr. Mae ef yn eithaf pert, ac yn ateb y mwfmants yn well na gallwn
i disgrifio. |
|
Os yw y pishin yn “gopparplate,” a jail i fod am
i brinto yn y pappra, os dim i neyd on jofadd diccyn o bunishmant. I na i
wech mish yn rwydd ar ol croppo mystash y Kaisar. |
Os yw y pishyn yn
goparplêt, ā jail ī fōd am ī brinto-fa yn y papra,
ōs dim ī neid on’ jōfadd dicyn ō bynishmant. I-nā-i
wēch mīsh yn rwydd ar ôl cropo mystásh y Kaisar. |
Os yw y pishyn (darn) yn goperplêt, a jail (carchar) i fod am ei
brintio ef yn y papurua, nid oes dim i’w wneud ond dioddef dipyn o gosb. Fe
wnaf fi chwe mis yn rhwydd (hawdd) ar ôl cropio (torri) mwstásh y Kaiser. |
|
Ma Southampton o’r diwadd! Yr arcol na sight! Llonga
a llonga, a mastis wrth y milodd, fel sa chi’n gweld gallt fawr o gôd
cinna-banes. |
’Ma Southampton o’r
dīwadd! Yr arcol ’na sait (=sight)! Llonga, llonga, ā mastis
wrth y mīlodd, fel sà-chi’n gweld gallt fawr ō gōd cinna-bêns.
|
Dyma Southampton o’r diwedd! Yr argoel dyna olygfa! Llongau, llongau,
a mastiau wrth y miloedd, fel pe busaech chi yn gweld gallt fawr (coed mawr)
o goed cidna-bêns. |
|
Bâta bach wrth y cannodd, stemars wrth y milodd,
a showdwrs fel crowd o forgrug, ne’r jack-i-jwmpars i chi’n weld yn y câ
amsar lladd gwair. |
Bāta bāch wrth
y cann’dd, stêmars wrth y mīlodd, a showdwrs fel crowd ō forgrig,
nè’r jaci-jwmpars i-chi’n weld yn y cā amsar llādd gwair. |
Badau bach wrth y cannoedd, stêmars wrth y miloedd, a sowdiwrs
(milwyr) fel crowd (haid) o forgrug, neu’r jaci-jwmpars (ceiliogod y rhedyn)
yr ych chi yn eu gweld yn y cae amser lladd gwair |
|
Chlappas i ddim o’n llicced ar gymant o boppath
ar yr un pryd ariod. |
Chlapas-i ddim ō’n
lliced ar gymant ō bopath ar yr in prȳd ariōd. |
Chlapais (Ni osodais) i ddim o’m llygiad ar gymaint o bopeth ar yr un
pryd erióed. |
|
“Shoni,” mynta Dai, “Bachan, ma rwpath yn depyg i
sgyrshon Pwll y Winsor i Ilfrancwn. Bachan ma soppyn o boppath.” |
“Shōni,” mynta Dai,
“Bāchan, mā rwpath yn dēpyg ī sgyrshon Pwll y Winsor
ī Ilffrancwn. Bachan ma sopyn ō bopath.” |
“Shoni,” meddai Dai, “Bachan, mae rhywbeth yn debyg i ‘sgyrshon’
(gwibdaith) Pwll y Windsor i Ilfracombe. Bachan, dyma sopyn (llawer) o
bopeth.” |
|
“Os,” wetas i, a men yn acor allsach stwffo magna
bona i miwn iddo. “Os wir Dai. Ma beth yw golyccfa ar mencos i.” |
“Ōs,” wētas-i, ā men yn
ācor allsach stwffo magna bōna ī miwn īddo. “Ōs
wīr Dai. ’Ma bēth yw golycfa ar mencos-i.” |
“Oes,” fe wedais i, ac fy mhen yn agor fe allsech stwffo ‘magna bona’ (enw
llong?) i mewn iddo. “Oes yn wir Dai. Dyma beth yw golygfa, ar fy einoes i.” |
|
Mas a ni i’r platform a golwg ffyrs arno ni, yn
barod i waith. |
Mās ā ni
ī’r platfform ā golwg ffirs arno-ni, yn bārod ī waith. |
I maes â ni i’r platfform a golwg ffirs (gwyllt) |
|
“Fall in!” mynta’r officars. I ddishgwilws Dai
arno i. |
“Fall in!” mynta’r óffisars.
I-ddishgwýlws Dai arno-i. |
“Fall in!” meddai’r óffisars. Fe ddisgwylodd (edrychodd) Dai |
|
“Fall in!” mynta fa. “I ble bachan diarth? I’r
docs a’r dw^r ôr? Dim o di ‘Fall in’, di my boy.” |
“Fall in!” mynta-fa. “I blē
bāchan diarth? I’r docs ā’r dw^r ōr? Dim ō di ‘Fall
in’, my boy.” |
“Fall in!” meddai ef. “I ble bachan dieithr? I’r dociau a’r dw^r oer? Dim o dy ‘Fall
in’, my boy.” |
|
Ma Ted yn dod a yn wispran. “All right boys” |
’Ma Tèd yn dōd
ā yn wispran. |
Dyma Tèd yn dod ac yn whispran (sibrwd). |
|
“Ffamws,” myntwn i. |
“Ffamws,” myntwn-i. |
“All right boys” |
|
“Aros dicyn bach, Ted,” mynta Dai. “Os rwy sense
fod eesha mofiad i’r llong, a dicon o fâta yn secur yn y docs?” |
Aros dicyn bāch,
Tèd,” mynta Dai. “Ōs rwy sens fōd īsha mofiad i’r llong,
ā dīcon ō fāta yn sēcir yn y docs?” |
“Aros dipyn bach, Tèd,” meddai Dai. “Oes rhwy sens (synnwyr) fod
eisiau nofio i’r llong, a digon o badau yn secur yn y dociau?” |
|
“Cer
‘mlān, Dai,” mynta Ted, “gad di jôcs, Dai. Cofia di fod ti a Shoni yn
ryw short o officars, a bod eesha i chi garco dicyn ar y showdwrs cyffretin.”
|
“Cēr ‘mlān,
Dai,” mynta Tèd, “gād di jōcs, Dai. Cofia-di fōd tī
ā Shōni yn ryw short ō óffisars, ā bōd īsha
ī chī garco dicyn ar y showdwrs cyffretin.” |
“Cer ymlaen, Dai,” meddai Tèd, “gad di jocs, Dai. Cofia di dy fod di a
Shoni yn rhyw sort (math) o óffisars, a bod eisiau i chi garco (ofalu) dipyn
ar y sowdiwrs cyffredin.” |
|
“Bachan,” myntwn i, “o ni weti angofio y mod i’n gorporal.” |
“Bāchan,” myntwn-i,
“ōn-i wēti angofio y mōd-i’n górporal.” |
ñ |
|
“Same ere,” mynta Dai. |
“Same ere,” mynta Dai. |
“Same here,” meddai Dai. |
|
Ma ni off yn grôs i’r pro-mened-i, y drylla a’r baginets,
a bwndal ar y’n cefna ni, fel Dai Pen-rhiw yn newid i lodgins. |
’Ma nī òff yn
grōs ī’r promenedi, y drylla ā’r báginets, ā bwndal ar yn
cefna-ni, fel Dai Pen-rhiw yn nēwid i lojins. |
Dyma ni off (ymaith) yn groes i’r promenadau, y dryllau a’r bidogau, a
bwndel (baich) ar ein cefnau ni, fel Dai Pen-rhiw yn newid ei lojins |
|
“Mark time!” |
“Mark time!” |
“Mark time!” |
|
“I mark time,” mynta Dai. Ma rwpath fel
’yn yn ela ira’th arno i wrth feddwl am farco drams ym Mwll y Winsor. W i’n
cretu sa well gytta fi i rippo top a thorri pwccins na ryw wara plant fel
’yn.” |
mark time,” mynta Dai. Mā rw̄path
fel yn yn ēla īrath arno-i wrth feddwl am farco drams ym Mwll y
Winsor. W-i’n crēti sà well gyta fī ī ripo top a thorri pwcins
nā ryw wāra plant fel yn.” |
“I mark time,” meddai Dai. Mae rhywbeth fel hyn yn hela hiraeth
arnaf fi wrth feddwl am farcio drams ym Mwll y Windsor. Yr wyf fi yn cretu y
buasai yn well gennyf fi i ripio top a thorri pwcins na rhyw chwarae plant
fel hyn.” |
|
I greiddson y dec o’r diwadd, mor appus a dou
ganary bach miwn crâge. Na randibō! Odd i’n wath na Ffair Llwnpia. |
I-greiddson y dec
ō’r dīwadd, mōr apis ā doi ganēri bāch miwn
crāj. ‘Na randibw^! Ōdd-i’n wāth nā Ffair Llwnpīa. |
Fe gyraeddasom y dec o’r diwedd, mor hapus a dau ganeri bach mewn caetsh.
Dyna randibw^! Yr oedd hi yn waeth na Ffair Llwynypia. |
|
W i’n diolch fod Ted ar y’n pwys ni pan glywws
Dai y command - ‘All **’ands on deck!’ Ma fa’n dychra recu! |
W-i’n diolch fod Tèd ar
yn pwys-ni pan glyw-ws Dai y cománd |
Yr wyf fi yn diolch fod Tèd ar ein pwys ni pan glywodd Dai y cománd |
|
“Wel Shoni,” mynta fa, “This is the last straw
that breaks the camomile’s back. All ’ands on deck! No fears my boy, ma’n
well gen i ‘down tools’ na doti’n neelo ar y deck. Beth sy’ i stoppo’r
bois â’r trâd nôth na i ddamshal ar y neelo i? On strike, mynyffrydi.”
|
“Well Shōni,”
mynta-fa, “This is the last straw that breaks the camomile’s back. All ‘ands
on deck! No fears my boy, mā’n well gen-i “down tools”
nā dōti nilo ar y dec. Bēth sȳ ī stopo’r bois â’r
trād nōth ‘na ī ddamshal ar ‘y nilo-i? On strike, myn
yfryd-i.” |
ñ“Well Shoni,” meddai ef, “This is the last straw that breaks the
camomile’s back. All ‘ands on deck! No fears my boy, mae yn well gennyf
fi “down tools” na dodi fy nwylo ar y dec. Beth sydd i stopio’r bois
â’r traed noeth yna i ddamsang ar fy nwylo i? On strike, myn hyfryd
i.” |
|
“Best joke of the war,” mynta Tèd. “Dewch
chi boys ma’r llong yn starto sha Ffrainc.” |
“Best joke of the war,”
mynta Tèd. “Dewch-chi bois ‘ma’r llong yn starto shà Ffrainc.” |
“Best joke of the war,” meddai Tèd. “Dewch chi bois dyma’r
llong yn starto (hwylio) tua Ffrainc.” |
|
I sobrws Dai, a i wyrthinws pan ddiallws a ma
galw’r sailors |
I-sobrws Dai, ā
i-wyrthinws pan ddiallws-a mā gālw’r sailors |
Fe sobrodd Dai, ac fe chwerthinodd pan ddeallodd ef mai galw’r sailors
|
|
“Gen-u-ine,” mynta Dai. “‘Ma beth yw
trip!” |
“Gen-i-ine,” mynta
Dai. “‘Ma bēth yw trip!” |
“Gen-u ine,” meddai Dai. “Dyma beth yw trip!” |
|
I fuon yn walko diccyn ar **’yd y deck i gâl pip
ar y môr, on cympohir i âth gwynab Dai fel y shalk. |
I-fion yn walco dicyn ar ȳd y dec
ī gāl pip ar y môr, on’ cym-po-īr = i-āth gwynab Dai fel
y shalc. |
Fe fuom yn cerdded dipyn ar hyd y dec i gael pip (golwg) ar y môr, ond
cyn bo hir fe aeth wyneb Dai fel y sialc. |
|
“Shwd ti’n teemlo Dai?” myntwn i |
“Shwd tī’n
tīmlo Dai?” myntwn-i |
“Sut wyt ti yn teimlo Dai?” meddwn i |
|
“Teemlo?” mynta fa. “Teemlo rwpath tepyg i’r
whale ar ol iddo lyncu Jona - something like a ‘revolvar’ inside.” |
“Tīmlo?” mynta-fa.
“Tīmlo rhwpath tepyg i’r weil = {whale} |
“Teimlo?” meddai ef. “Teimlo rhywbeth tebyg i’r morfil |
|
I ffeelws weud racor. Os gen inna ddim gwell na
doti dots, |
i-ffīlws weid racor. Ōs gen-inna
ddim gwell na doti dots, |
Fe ffaelodd â ddweud rhagor. Nid oes gennyf innau ddim gwell na dodi
dots, rhywbeth fel
hyn.......................................................... |
|
|
i-fydd y dots yn ddicon o iaith i ddangos
shwd ō-ni’n doi yn tīmlo ar ddychra y shwrna sha Ffrainc, wàth
ō-ni’n gwpod fawr o ddim am beth ōdd yn mynd ‘mlān. |
Fe fydd y dots yn ddigon o iaith i ddangos sut yr oeddwn ni ein dau yn
teimlo ar ddechrau y siwrnai tua Ffrainc, o waith (oherwydd) yr oeddwn ni yn
gwybod fawr o ddim am beth oedd yn mynd ymlaen. |
|
Sa Wìl o Berlin yn câl dose “extra superfine”
(fel ma nw’n weyd (x41) ar y cwta cân,) o glefyd y môr fyssa ddim want arno
starto ryfal am i ôs. On, erbyn y bora o ni’n dou fel crics. |
Sa Wìl o Berlin yn
cāl dos “extra siperfine” o glefyd y môr fysa ddim want |
Pe buasai Wìl o |
|
“Shoni,” mynta Dai, “dim racor o glefyd y môr i’r bachan ma: ma’n well
da fi gerad sha Ffrainc, sa ni’n gorffod i thrafeulu ddi yn drotnoth. Bachan,
odd y’n inside i fel sa rasus moto-cars yn cymryd lle no.” |
“Shoni,” mynta Dai, “dim
racor o glefyd y môr i’r bachan ‘ma - ma’n well da fi gerad sha Ffrainc,
sa-ni’n gorffod i thrafeili-ddi yn drotnoth. Bachan, ōdd yn
inside-i fel sa rasis motor cars yn cymryd lle ‘no. |
“Shoni,” meddai Dai, “dim rhagor o glefyd y môr i’r bachan yma - mae yn
well gennyf fi gerdded tua Ffrainc, pe buasem ni yn gorfod ei thrafeulu hi yn
droednoeth. Bachan, yr oedd fy nghyllau i fel pe buasai rasus ‘motor cars’
(ceir modur) yn cymryd lle yno. |
|
“Same **’ere,” myntwn i. “Odd y men i fel
sa sâr pen pwll yn drilo twlla yndo i neyd gwacar i ridlo glo mân.” |
“Same ’ere,”
myntwn-i. “Ōdd ‘y m en-i fel sa sār pen pwll yn drilo twlla yndo i
neid gwacar i ridlo glo mān.” |
“Same ’ere,” meddwn i. “Yr oedd fy mhen i fel pe buasai saer
pen pwll yn drilio tyllau ynddo i wneud gogr i ridlo glo maen.” |
|
“Shwd ti’n teemlo nawr?” mynta Dai. |
“Shwd ti’n tīmlo
nawr?” mynta Dai. |
“Sut wyt ti yn teimlo yn awr?” meddai Dai. |
|
“Fel y boy,” myntwn i. “Yn eetha parod i frecwas.
I alla weud fel conductor y tramcar - plenty o rōm
inside.” |
“Fel y boi,” myntwn-i.
“Yn ītha parod i frecwas’. i-alla
weid fel condictor y tramcar - plenty o’ rōm inside.”
|
“Fel y boi,” meddwn i. “Yn eithaf parod i frecwast. Fe allaf ddweud
fel conductor y tramcar - plenty o’ rōm inside.” |
|
“W inna yn shapo rwpath yn depyg,” mynta Dai. “A
os na ddaw feed cympohir ma gen i
set o ddannadd alla i i roi yn y pawnshop.” |
“W-inna yn shapo rhwpath
yn depyg,” mynta Dai. “A os na ddaw ffid cym-po- ir ma gen-i set o ddannadd
alla-i ‘i roi yn y pônshop {= pawnshop}.” |
“Yr wyf innau yn siapo rhywbeth
yn debyg,” meddai Dai. “A os na ddaw ffid cym-po-hir mae gen i set o ddannadd
alla i ’i roi yn y pônshop {= pawnshop}.” |
|
**‘Ma gloch yn tinklan. |
**‘Ma gloch yn tinclan |
Dyma gloch yn tinclan.. |
|
“Beth yw’r gloch na, Dai?” myntwn i. |
“Beth yw’r gloch ‘na,
Dai?” myntwn-i. |
“Beth yw’r gloch yna, Dai?” meddwn i. |
|
I geson wpod miwn crack; i ddâth Ted mlan. |
i-geson wpod miwn crac - i-ddāth Tèd **‘mlān. |
fe geson wybod miwn crac - fe ddaeth Tèd ymlaen. |
|
“Arno i ofan, Shoni,” mynta Dai, “ma diccyn o
fwyd eetha tough sy yn y’n weetan
ni, cyn bo eesha file idd i dacla
fa. I dreia i gillath bock i starto.” |
“Arno-i ofan, Shoni,”
mynta Dai, “ma dicyn o fwyd ītha tyff sy yn yn wītan-ni, cyn bo
īsha ffail idd i dacla-fa.
i-dreia-i gillath boc i starto.” |
“ |
|
I wyrthinas i, a i wetas ma yshtyr ‘file’ odd
mynd mlan, rwpath tepyg i - gwt, gwt wrth y ngwt i. |
i-wyrthinas-i, a i-wetas ‘ma yshtyr ‘ffail’ ōdd mynd
‘mlān, rhwpath tepyg i gwt, gwt wrth ‘y ng wt-i. |
Fe chwerthinais i, ac fe ddywedais mai ystyr ‘ffail’ a oedd mynd
ymlaen, rhywbeth tebyg i gwt, gwt wrth fy nghwt i. |
|
I grampws Dai yr idea, a miwn â ni i’r
(x42) rwm. Y chi wedi clywad **’aid o wydda yn cacklan wrth fytta sôg; wel,
na amcan i chi o’r row yn y rwm pan ô ni i gyd yn bytta. On wara teg, on
tefa, llanw drams gwâg o ni. |
i-grampws Dai yr aidïy {= idea}, a
miwn â ni i’r rwm. Y-chi wedi clywad
aid o wydda yn caclan wrth fyta sōg; wel, ‘na amcan i chi o’r row
yn y rwm pan ō-ni i gyd yn byta. On’ wara teg, óntefa, llanw drams gwag
ō-ni. |
Fe grampodd (ddeallodd) Dai y syniad ac i mewn â ni i’r rwm. Yr ych
chi wedi clywed haid o wyddau yn caclan wrth fwyta soeg; wel, dyna amcan i chi
o’r row yn y rwm pan yr oeddwn ni i gyd yn bwyta. Ond chwarae teg, onid e,
llenwi drams gwag yr oeddem¡ ni. |
|
Odd Ted weti bod yn drwmpyn unwath ytto, a weti
catw bord fach roun’ i Dai a fi. Coffee,
a bara a **’am odd i frecwas. Dicon? O odd wara teg. Ar genol y ford odd
dishgil fach yn llawn o fwstart, a llwy yn i chenol i. |
Ōdd Ted weti bod yn
drwmpyn inwath yto, a weti catw bord fach rown’ i Dai a fi. Coffi, a bara
a am ōdd i frecwas’. Dicon? O,
ōdd, wara teg. Ar genol y ford ōdd dishgil fach yn llawn o fwstart,
a llwy yn ‘i chenol-i. |
Yr oedd Ted wedi bod yn drwmpyn (yn gyfaill da) unwaith eto, a wedi
cadw bwrdd bach crwn i Dai a fi. Coffi, a bara a ham yr oedd i frecwast.
Digon? O, yr oedd, chwarae teg. Ar ganol y bwrdd yr oedd dysgl fach yn llawn
o fwstard, a llwy yn ei chanol hi. |
|
Arfadd Mrs Jones, gwraig y lodgins, odd doti
mwstart ar yn plâts ni, na pam odd Dai yn synnu wrth weld y llwy. |
Arfadd Mrs Jones, gwraig
y lojins, ōdd doti mwstart ar yn plâts-ni, ‘na pam ōdd Dai yn synni
wrth weld y llwy. |
Arfer Mrs Jones, gwraig y lojins, oedd dodi mwstard ar ein platiau ni,
dyna pam yr oedd Dai yn synnu wrth weld y llwy. |
The habit of Mrs Jones, the lodging-house owner
(‘the woman of the lodgings’) was to put mustard on our plates – that’s why
Dai was surprised to see the spoon. |
|
“Alli-di fentro, Shoni,”
mynta Dai, “ma’ stail newydd o fwyta mwstart sy ‘ma. Bobo lond llwy ar y tro.
I shoild like to ‘ave an exclamation from oir friend, Ted.” |
“Fe elli di fentro, Shoni,” meddai Dai, “mai steil newydd o fwyta
mwstardt sydd yma. Bobo lond llwy ar y tro. I should like to ‘ave an
exclamation from our friend, Ted.” |
|
I fytas lond llwy, i dasgws y dwr o’n lliced i. |
i-fytas lond llwy, i-dasgws y dw^r o’n lliced-i. |
Fe fwytais lond llwy, fe dasgodd y dw^rr o’n llygaid i. |
|
Cofio yn syttan netho i am **’en wr y nacci gâs i
groci am dwccid defed,” myntwn i. “Treia lwyad, Dai. Ma fa’n first-class.”
|
Cofio yn sytan netho-i
am en wr y naci gas i groci am dwcid
defed,” myntwn-i. “Treia lwyad, Dai. Ma-fa’n first-class.” |
Cofio yn sydyn a wneuthum am hen wr fy nhad-cu a gaeth ei grogi am
ddwyn defaid,” meddwn i. “Treia (rho gynnig ar) lwyaid, Dai. Mae ef yn first-class.” |
|
I dreiws Dai lwyad, a ma’r dwr yn tasgu mas o’i
liced a. |
i-dreiws Dai lwyad, a ‘ma’r dw^r yn tasgi
mās o’i liced-a. |
Fe dreiodd Dai lwyaid, a dyma’r dw^r yn i maes o’i lygaid ef. |
|
“Llefan achos na cheso ti di groci gytta di
dacci.” |
“Llefan achos na cheso ti groci dyta di da-ci. Wyrthin fio-ni’n doi am
amsar, a **‘mlān ā’r brecwas’. “Myn
yffrid-i, Shoni, sa-ni eb
gāl brecwas’ fysa r aid i fi lynci pâr o brops i ddal ochra’n stwmog i’r
lan,” mynta Dai. |
“Llefain y buom ni ein dau am amser, ac ymlaen â’r brecwast. “Myn
hyfryd i, Shoni, pe buasem ni heb gael brecwast fe fuasai rhaid i mi lyncu
pâr o brops i ddal ochrau fy stumog i lan,” meddai Dai. |
|
I ddibenson, a ma’r cornat yn kicko row. Off
(x43) a ni, a’n anal yn y’n dyrna., a miwn wincad odd pob un yn sefyll ar y
deck i gal i expecto. |
i-ddibenson, a ‘ma’r cornat yn cico row. Off
â ni, a’n anal yn yn dyrna., a miwn
wincad ōdd pob in yn sefyll ar y dec i gal **‘i ecspecto. |
fe ddibenson, a ‘ma’r cornat yn cico row. Off â ni, a yn hanal yn yn
dyrna., a miwn wincad Yr oedd pob un yn sefyll ar y dec i gal **‘i ecspecto. |
|
“Passa di neeshad bōk ma,” mynta Dai, “ma’r
mwstart yn briweddu o **’yd, i di dâla di nol yn droring-rwm My Nabs
yn Berlin. |
“Pasa di nīshad bwc
‘na,” mynta Dai, “ma’r mwstart yn briweddi o
yd, i di dâla-di nôl yn droring-rwm My Nabs yn Berlin. |
“Pasa di’r neisiad boc yna,” meddai Dai, “mae’r mwstard yn briweddu o
hyd, i’th dâla di yn ôl yn ‘drawing rōm’My Nabs yn |
|
Odd Dai yn fachan o natur dda, odd ddim diccio yn
i anas a, a o ni’n gwbod yd a lled ‘i fwcwth a. I ddath yr “expection” i ben, a i geson rwpath fel ‘free an’ easy’. |
Ōdd Dai yn fachan o
natir dda, ōdd ddim dicio yn ‘i anas-a, a ō-ni’n gwbod yd a lled ‘i fwcwth-a. i-ddāth yr ‘ecspecsiwn’ i ben,
a i-geson rhwpath fel ‘free
an’ easy’. |
Yr oedd Dai yn fachan o natur dda. Yr oedd ddim digio yn ei hanes e,
ac yr oeddem ni yn gwybod hyd a lled ei fygwth e. Fe ddaeth yr
‘ecspecsiwn’ i ben, ac fe gawsom rywbeth fel ‘free an’ easy’. |
|
Rai yn pippo ar y môr, rai yn lorchan ar y deck, rai yn cerad nôl a
blân. Y môr yn wyrdd, a mor smōth a
billiard table y Queen’s. Amall i stemar yn dod i’n cwrdd ni; a
llong **’hwylia (sic = **wylia) wettyny yn tacan nol a blân, yn depyg i Wìll Mab
Ann yn i thrackan i sha thre o’r clwb ar nos Satwrn pai. Man-o-War ar
ôl **’ny. |
R ai yn pipo ar y môr, r ai
yn lortshan ar y dec, r ai yn cerad nôl a ‘mlān. Y môr yn wyrdd, a mor
smwdd a billiard table y Qieen’s. Amall i stemar yn dod i’n
cwrdd-ni; a llong hwylia wetyny yn tacan nôl a blān, yn depyg i Wìl Mab
Ann yn ‘i thracan-i sha thre o’r clwb ar nos Satwrn pai. Man o’ War ar
ôl ‘ny. |
Rhai yn pipo (edrych) ar y môr, rhai yn lortshan ar y dec, rhai yn
cerdded yn ôl ac ymlaen. Y môr yn wyrdd, a mor smwdd (llyfn) â billiard
table y Queen’s. Ambell stemar yn dod i’n cwrdd ni; a llong
hwyliau wedi hynny yn tacan (tacio) yn ôl a blaen, yn debyg i Wìl Mab Ann yn
ei thracan hi tua thref o’r clwb ar nos Sadwrn pae. Man o’ War ar ôl
hynny. |
|
|
“Dishgwl Dai,” myntwn i.
“‘Co long gnociff dwll yn gwīlotion llonga’r Kaisar.” |
“Disgwyl (Edrych) Dai,” meddwn i. “‘Dacw long gnociff dwll yn
gwaelodion llongau’r Kaiser.” |
|
Chollson ni ddim golwg ar dir Lloegar yn **’ir cyn i fachan miwn cot a
ribbana weiddi mas trw drombōn - |
Chollson-ni ddim golwg ar
dir Lloegar yn ir cyn i fachan miwn
cot a r ibana weiddi mās trw drombōn - |
Chollsom ni ddim golwg ar dir Lloegr yn hir cyn i fachan mewn cot a
rhubanau weiddi i maes trwy drombôn - |
|
“Bachan o ble yw wnnw, Shoni?” mynte Dai. |
“Bachan o ble yw wnnw, Shoni?” mynte Dai. |
“Bachan o ble yw hwnnw, Shoni?” mynte Dai. |
|
“Nace, y bachan ma fa’n i alw yn Landa. W i weti
clywad Dai Oi a Shoni Oi, on’ chlywas i ddim fod bachan o’r enw Landa wedi
joino’r Welsh Ridgemant”.” |
“Nace, y bachan ma-fa’n
**‘i alw yn “Landa”. W-i weti clywad Dai
oi a Shoni oi, on’ chlywas i
ddim fod bachan o’r enw “Landa” wedi joino’r “Welsh Ríjymant”.” |
“Nage, y bachan y mae ef yn ei alw yn “Landa”. Yr wyf fi wedi clywed
Dai hoi a Shoni hoi, ond chlywais i ddim fod bachan o’r enw “Landa” wedi
joino’r (ymuno â’r) “Welsh Ríjymant”.” |
|
“Bachan, Dai,” myntwn i, “Gweud fod y tir yn acos ma fa.” |
“Bachan, Dai,” myntwn-i,
“gweid fod y tir yn acos ma-fa.” |
“Bachan, Dai,” meddwn i, “dweud fod y tir yn agos y mae ef.” |
|
(x44) “Ottin, ottin, bachan, co’r docks yn y
golwg,” myntwn i. |
“Otyn, otyn, bachan,
**‘co’r docs yn y golwg,” myntwn-i. |
“Ydyn, ydyn, bachan, dacw’r docs yn y golwg,” meddwn i. |
|
Ma’r bugles
yn canu, yr officars yn rytag, y showdwrs yn mwstro, a chyn po Dai a
finna yn câll amsar i acor y’n lliced ma’r trōp-ship yn stoppo.
Mlan to dicyn bach, a wiw a ni i ochor y landin’
stage. |
Ma’r biwglz yn cani, yr
óffisars yn rytag, y showdwrs yn mwstro, a chyn po Dai a finna yn cāl
amsar i acor yn lliced ma’r trōpship yn stopo. ‘Mlān ‘to
dicyn bach, a wiw â ni i ochor y landin’ stage. |
Ma’r biwglz yn canu, yr óffisers yn rhedeg, y sowdiwrs yn mwstro, a
chyn bo Dai a minnau yn cael amser i agor ein llygaid dyma’r trōpship
yn stopio. Ymlaen eto dipyn bach, a chwiw â ni i ochr y ‘landing stage’ |
|
Sôn am waith arn Dwlash! Y wistlan, y stêm, an’
so on, odd gwaith arn Dwlash on rwpath fel côr plant wrth ochor Côr
Caradog os slawar dydd. |
Sôn am waith arn Dwlash! Y wistlan, y stêm, an’ so
on, ōdd gwaith arn Dwlash on’
rhwpath fel côr plant wrth ochor Côr Caradog os slawar dydd. |
Sôn am waith haearn Dowlais! Y whistlan, y stêm, an’ so on, Yr
oedd gwaith haearn Dowlais ond rhywbeth fel côr plant wrth ochr Côr Caradog
ers llawer dydd. |
|
Myn amsar o ni’n sefyll ar y landin’ stage,
showdar tw showdar, fel sa Wìl meiswn sych weti bod yn gneyd wal o ono ni. |
Myn amsar ō-ni’n
sefyll ar y landin’ stage, “showdar tw showdar”, fel sa Wìl meiswn
sych weti bod yn gneid wal o ono-ni. |
Ymhén amser yr oeddem ni yn sefyll ar y ‘landing stage’,
“showdar tw showdar”, fel y buasai Wìl meiswn sych (saer maen) wedi bod yn
gwneud wal ohonom ni. |
|
Ma Ffrench Officars” yn passo i gal pip gytta’n
officars ni, a dicon awdd darllan wrth i gwynepa nw i bod nw weti cal i
pleso. |
Ma “Ffrensh Óffisars” yn
paso i gāl pip gyta’n óffisars-ni, a dicon awdd darllan wrth ‘i gwynepa-nw ‘i bod-nw
weti cāl ‘i pleso. |
Mae “Ffrensh Óffisars” yn pasio i gael pip gyda (i gael golwg ar) ein
óffisers ni, a digon hawdd darllen wrth eu wynebau hwy ei bod hwy wedi cael
eu plesio. |
|
Off a ni sha’r Barricks yn Bolougne, yn canu, fel
y Royal Male Voice, y don ‘Tipperary’, yn Gwmrâg a Sysnag, yn betwar
part, a ar bwla yn annar dwsan o barts fel bysa’r **’wyl - |
Off â ni sha’r barics yn
Boloigne, yn cani, fel y Royal Male Voice, y dôn ‘Tipperary’, yn
Gwmrāg a Sysnag, yn betwar part, a ar bwla yn annar dwsan o barts fel bysa’r wyl - |
Ymáith â ni tua’r barics yn Bolougne, yn canu, fel y Royal Male
Voice, y dôn ‘Tipperary’, yn Gymraeg a Saesneg, yn bedwar part, ac ar
bylau yn hanner dwsen o barts fel buasai’r wyl - |
|
Mishtir Ni’n Dou nâth y geira, a ma’n worth i chi
gâl i clywad nw. Watshwch y Shwrna nesa. |
Mishtir Ni’n Doi
nāth y geira, a ma’n wyrth i chi gāl ‘i clywad-nw. Watshwch y
shwrna nesa. |
Meistr Ni Ein Dau a wnaeth y geiriau, a mae yn wyrth (mae yn werth) i
chi gael eu clywed hwy. Watshwch (Gwyliwch) y siwrnai nesaf. |
|
1004e
Cyfeirddalen y Wenhwyseg / Gwentian index page
·····
Gweler hefyd / See also 1314ke
Isāc Lewis y Crwydryn Digri
[EI-zak LEU-is ø KRUI-drin DI-gri]
'Isāc Lewis the amusing tramp'
__________________________________________________
Sumbolau: ā ǣ ē ī ō ū ȳ w̄ W̄
/ ˡ ɑ æ ɛ ɪ ɔ ʊ ə
ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː
oː uː /
ɥ / ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ
aʊ ɛʊ əʊ /
ә ʌ ŵ
ŷ ẃ ŵŷ ẃỳ ă ĕ ĭ
ŏ ŭ ẁ Ẁ ẃ ẅ Ẁ £
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN
/THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_017_nindoi_saesneg_06_1061ke.htm
Ffynhonnell:
Creuwyd / Created / Creada:
31-05-2017
Adolygiadau diweddaraf / Latest
updates / Darreres actualitzacions: 20-03-2019, 08-06-2017, 27 12 2000
Delweddau / Imatges / Images:
---------------------------------------
Freefind. Archwiliwch y wefan hon Beth sydd yn newydd? |
Ble'r
wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la
Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from
the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait
Adran y Wenhwyseg / Secció del
dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres
Estadístiques / View Our Stats
Edrychwch
ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats