0936k Gwefan Cymru-Catalonia. Erthÿglau
amrywiol o'r ddeunawfed ganrif – er enghraifft, y “Punch Cymraeg” (1860). “Y
mae gen i air bach eto i weÿd wrth Shon y Crier. Oti hi ddim yn gall yndo fe,
pan fÿdd e'n trefni'r cwrdde gweddi cymÿsg ma, i roi gwrthgiliwrs o fane ereill
i weddio. Mi ddiaelodwÿd dÿn anstywallt budr oddwrth y Baptis yn Soar; ac y mae
Shon y Crier yn gweÿd fod Shon y Block, alias Shon Pawen y Gath, wedi ei droi
oddwrth bobl Soar ar gam.”
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_020_randibws_cendl_0936k.htm
Yr Hafan
..........1863k Y Fynedfa yn Gymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0960k
Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
........................................y tudalen hwn
|
Gwefan Cymru-Catalonia
|
Diweddariad diwethaf |
Randibws Cendl
Y Punch Cymraeg.
Chwefror 4 1860.
Mistir
Pwnch - Sir, - Yr ych chi, ar a otych chi, wedi gneyd peth anghonom o
les drwy’r mynydde ma, ac wedi colso shew ag oedd a phwer o silpher yndi nhw;
ond mawr mo ddisto yr ych wedi mynd. Ac mai arno ni getyn o eisie clywed eich
llais unwaith eto, yn ofnadw heyd; a chan fod eisie, dyma fi yn hala gair bach
i chi; ac os i chi yn meddwl fel y fi, chi fyddwch yn siwr o brinto fe fydd mor
shwr a hyny o neyd peth anghomon o les.
Wel
i chi, os tipyn yn ol yr oedd hi yn ferw ofnadwy yma gyda’r ddirwest, ac fe
nawd peth digynyg o les ma heyd, ond bildo gwal sych o’n nhw, ac y mae nentydd
y tai tafarne ma yn tynu’r cerig yn rhydd, ac y ma nhw yn twmlo yn benstrellach
o’u lle. Yr wyf yn ofidus
anghomon am hyn, waith ma rhiwbeth yn bert budr mewn taul o bobl sobr, welwch
chi. Y mae ei gweld nhw yn dod i lawr, fel Temparance Hole {sic} dynon Pencae,
cyn i cwnu nhw yn iawn, yn ddigon o throi calon dyn. Diffyg coed yn lladd
llawer dan y ddaear; y mae eisie i’r dirwestwyrs yma fod yn fwy call a
selog.
Wel, yn nghanol y ticyn
diwigiad dirwestol ma, dyma bobl y capeli ma yn dechreu neidid, ac mor wir a
bod ych ty mowr chi ar ben Caergybi, mi neidon ar dân dirwest nes odd dim yn y
byd i weld ond mwg a gwreichion, ac ma nhw yn neido oddar hyny hyd nawr, a
dirwest wedi mynd i golli yn i cylch nhw fel dynon slawer dydd gyda’r tylwyth
teg. Otw i, cofiwch chi, Mr. Punch bach, ddim fel doctorion mowr Lloegr yna yn
erbyn i bechadur neido a phrango, hefyd wrth fynd o’r tywyll i’r goleu, ac os yw
doctorion y Seison yna fel doctorion y mynydde ma, widdan nhw ddim llawer am
effeithie mowrion crefydd, - dram fach iawn ddale’r ticyn gwbodaeth nhw. Ond
dyna, otw I ddim yr un shwd a’r rheina, ond mi odw I yn anghomon yn erbyn
gweled hen grefyddwrs yn cadw randibws hyd amser plygein, heb fod i bowyd nhw
yn reit dda, os dywed Wil Llanrwst. Oti hi ddim fel hyny yn wir, ac o herwydd
hyny ma’r byd yn gneyd sport o grefydd; a rhoi sprag fach yn hyn yw’r pwrpas sy
miwn golwg gyda fi, wath ma’ch ofn chi yn fudr erni nhw.
Wel, nawr at y profion, ond
enwa i ddim neb, wath mi fydda nhw yn gwibod, ac os na bydd hyn yn ddigon, mi
gewch enwe pob copa walltog o honi nhw. Y mae yma flaenor yng nghapel yr un i
chi yn alw yn Sion Gorff gymaint o faint a Shon Ben Tarw. Fe fuodd slawer dydd
yn dotal budr, ond naqr y mae e’n stopo Shon y Crier i gyhoeddi cwrdde dirwest
yn y Wain-goch! Oti ni ddim yn erbyn i’r brawd mowr i find i’r Biwfort, ond
sano ni yn folon iddo fe fod yn lord shwd hyn chwaith.
Y mae gen i air bach eto i weyd
wrth Shon y Crier. Oti hi ddim yn gall yndo fe, pan fydd e’n trefni’r cwrdde
gweddi cymysg ma, i roi gwrthgiliwrs o fane ereill i weddio. Mi ddiaelodwyd dyn
anstywallt budr oddwrth y Baptis yn Soar; ac y mae Shon y Crier yn gweyd fod
Shon y Block, alias Shon Pawen y Gath, wedi ei droi oddwrth bobl Soar ar gam.
Nawr otw i ddim llawer dros wyr y dwr ma ond mi ddylen gael barnu pwy sy a phwy
na sy yn ffit i fod yn aelode gyda nhw. Oti hyn ddim yn frawdol, ar nad yw e.
Mae Mr. Rees y Rhyd yn ffrind iawn i’r Baptis, a gofned Shon y Crier iddo fe a
oti hyn yn iawn.
Mae eisie galw Shon y Corn o
flaen y faingc heyd, waeth y mae e’n ffond budr o uso rhagor nag un corn, ac ma
gormod o ysbryd corn bach Daniel yndo fe. Ond gan fod plant Shon Wesley yn
addaw tori ei gyrn ef, a chan fod eisie lle arnoch chithe i ofalu am wyr
bonddigions y Parlament, mi dewa I heb son am dano fe na rhagor o’r gwyr a’r
gweision yma, ond rhowch genad i fi weyd gair wrth y merched a’r gwragedd ma.
Bydd yn dda budr gyda Judi a
chithau i glywed fod y mynwod yma wedi dechre cadw cwrdde undeb, wath mai undeb
i weddio yn shwto i ferch ne wraig yn well nag undeb y te a llath y fuwch goch
a meindio busnes rhai ereill. Mi rodd Brutus slawer dydd yn cablu cwrdde gweddi
y gwragedd yn fudr, ond ma hyn yn well na’r pethach sydd yn cael eu cario yn
mlaen ar hyd y mynydde ma yn fynych. Ond y ma’n rhaid iddi nhw fod yn fwy
gofalus, a pheidio cwmpo i mas am bwy fydd yn ben, a phwy sydd yn gweddio ore,
fel y ma nhw yn dechre, onte yn wir rhaid iddi nhw ddod yn ol i’r parth at i
gwaith, - ac os cewn ni farnu mae gan bob mam ddigon o waith y fan hyny i
weddio, a phwytho, a golchi, a chysegru “yr hen gadair fraich.” Rhaid i Emi
Goch i aros gartre pan fo Dic Steven a Ianto’r Clatsher yn mynd i Rumni nesaf i
wneuthur ffolied o’u giddyl, onte rhaid iddi dewi yn y cwrdd gweddi cymysg.
Ychydig o lwer yw hyn,
gweitha’r modd, ont dyma fi yn tewi fel y gwedes I, ac yn dymuno lwc dda i chi
nes y ca I amser i sgrifenu gair bach eto.
Yr eiddoch, Mr. Punch bach, ar
drot gwyllt,
CENDL, Ion. 25, 1860.
DAI SHINKIN
DOLENNAU MEWNOL ERAILL
0934k tudalen mynegeiol y Wenhwÿseg
Sumbolau
arbennig: ŷ ŵ
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r
Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina of the Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Galles-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (=
Wales-Catalonia) Website
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) víziting ø peij
fròm dhø "CYMRU-CATALONIA" (=
Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Edrychwch ar ein
Hystadegau / Mireu les estadístiques / View Our Stats