1242 ’S Lawer Dydd / W. Llewelyn Williams,
K.C., M.P. (1867-1922), newyddiadurwr, gwleidydd a hanesydd, o Lansadwrn, Sir
Gaerfyrddin. Fe’i cyhoeddwyd am y tro cyntaf yn y flwyddyn 1918.
http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_testunau/sion_prys_022_slawer_dydd_01_1242k.htm
0001z Y Tudalen Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0960k Y
Cyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina
|
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan Cymru-Catalonia
|
Adolygiadau
diweddaraf: |
W. Llewelyn Williams. 1867-1922. Ganwyd yn Llansadwrn, Sir
Gaernfyrddin. Golygydd The South Wales Post, tan 1897, Aelod Seneddol
Rhyddfrydol dros Fwrdeistrefi Caerfyrddin 1906-1918, barnwr, llenor,
newyddiadurwr. Yn frwd o blaid Datgysylltu Eglwys Lloegr yng Nghymru, a
Hunanlywodraeth i Gymru.
Dynodir rhifau’r tudalenau ag xfelly: x23, ayyb
·····
(x1)
|
’S LAWER DYDD |
(x2) tudalen gwag
(x3) CYNHWYSIAD.
Pennod / Tudalen
I. Fy Hen Gartref 5
II. Mamgu 17
III. Yr Hen Lias 28
IV. Twmi Price 39
V. Griffith y Gôf 49
VI. Rhys Edwards a Dewi Towy 60
VII. Wil Gelynen 74
VIII. Chware Plant 83
IX. Hen Dramp 93
(x4) tudalen gwag
(x5) PENNOD I.
FY HEN GARTREF.
Fel mae’r byd wedi newid oddiar pan oeddwn i’n fachgen yn Nuffryn {sic} Towy
ddeugain rnlynedd yn ôl! Nid meddwl yr wyf am y cyfnewidiadau a wneir gan y
Rhyfel, er y gwna’r Rhyfel esgor ar fyd gwahanol iawn i’r hyn ydoedd dair neu
bedair blynedd yn ôl. Mae rhyferthwy’r magnelau yn “synnu pensyfrdanu dyn,” nes
y tueddir fi i lefain gyda Huw Morus, wrth gofio’r hen amser “’s lawer dydd,”
Pan oeddwn in fachgen,
Mi welais fyd llawen
Cyn codi o’ genfigen flin filen yn fawr.
Ond cyn i’r Rhyfel dorri allan yr oedd Cymru wedi newid mwy mewn un genhedlaeth
nag odid a wnaeth mewn un ganrif o’r blaen ar ei hyd. “Pan oeddwn i’n fachgen,”
’roedd llawer o hen ddefodau ac arferion y Cymry yn aros, os nad yn eu grym, yn
fyw ac yn flodeuog, ac ambell i hen “gymeriad” wedi ei adael na cheid ei debyg
mewn un wlad arall dan haul.
Yr oedd y teulu yn fy hen gartref yn lluosog, oblegid heblaw ni’r plant, ’roedd
rhyw ddwsin neu ragor o wasanaeth-ddynion, yn wŷr ac yn wragedd, ac
edrychid ar bob gwasanaeth-ddyn fel un o’r teulu. Cyflogid hwy am flwyddyn adeg
Calan Gaeaf - the Winter (x6) Kalends
- y 12fed o Dachwedd. Yr oedd ffeiriau cyflogi yn Llandeilo a Llanymddyfri, ond
nid yn y ffeiriau y cyflogid y goreuon o’r gwasanaeth-ddynion. Am bythefnos neu
dair wythnos cyn C’lan-gaea’ yr oedd y ffermwyr a’u gwragedd yn brysur yn
gwneuthur trefniadau am y flwyddyn ddyfodol, - yn “cytuno” a’r gweision a’r
morwynion. “Mis y celwyddau” y gelwid mis Tachwedd, gan gymaint y cyffro a’r
gleber yn yr ardal, - gymaint cyffro a chleber ag a geir yn Nhy’r Cyffredin pan
newidir Llywodraeth, ac y mae gweision newydd yn cael eu cyflogi gan y deyrnas,
- pawb am wybod faint o gyflog addawyd i Rhys y Fron, beth oedd cyflog
llaeth-wraig Cwmbran, faint o “ern” (ernest) a roddwyd i was mawr
Llwyngwenno, pwy oedd yn aros yn neu yn ymadael â’i hen lê, a phwy oedd wedi
bod yn euog o’r anfadwaith o “hala’r ern yn ôl.”
Ar nos C’lan-gaea’ telid yr hyn oedd yn ddyledus i’r gwasanaeth-ddynion. Nid
oedd y cyflogau ond bychain. Ugain punt y flwyddyn a delid i Tomos, y “gwas
mowr.” ’roedd Tomos wedi bod gyda ni oddiar pan yn grwtyn, ac aml yr adgoffai
mai pum punt y flwyddyn a’i fwyd oedd ei gyflog y flwyddyn gyntaf iddo fod yn
was mawr. Yr oedd yn byw mewn tyddyn bach gerllaw’r tŷ, a digon o dir i
gadw buwch, ac yr oedd ganddo hanner cyfer o ardd heblaw, a thalai chwech punt
y flwyddyn o rent am danynt. Er lleied ei gyflog, cododd ef a Neli dri-ar-ddeg
o blant, a thyfasant yn bobl iach a chryf. Deunaw punt oedd cyflog yr ail was,
a phunt yn llai y waginer. Yr oedd pymtheg punt yn cael ei ystyried yn gyflog dda
i’r cowman, ac yr oedd dau was bach na chawsant fawr ond eu bwyd. Un neu ddwy
bunt ar bymtheg oedd (x7) cyflog y
llaethwraig neu’r “forwyn fowr,” ac yr oedd rhyw dair neu bedair o forwynion
ereill dani, heblaw “croten fagu.” Ar nos C’lan-gaea’ aent oll, un ar ol y
llall, y gwŷr yn gyntaf a’r merched ar eu hôl yn eu tro, o’r gegin i’r
neuadd i gael eu talu. Yn y neuadd eisteddai fy nhad wrth y ford a ledger mawr
o’i flaen, a mam yn eistedd ger y tân yn y gadair freichiau. Yn swil ac afrosgo
deuai’r gwasanaeth-ddynion i mewn, ac yn ei dro Wil y Waginer. Eisteddai ar
ymyl ei gadair gyferbyn a nhad. “Deunaw punt oedd y gyflog gytun’son ni,
William?” gofynnai’n nhad.
“Ie, ie,” atebai Wil.
“Wel, fe gesoch ’wheigen (deg swllt) i fyn’d i ffair Glan-gaea’ llynedd?”
“Ag ’rych chi’n cofio, William,” torrai mam i mewn, “i fi ymhwedd arno chi
beidio gofyn am fwy na choron, o achos nag oech chi ddim wedi talu Tomos y
Crydd am y pâr o ’sgidie parch.”
“Odw, odw, Mystres fach, ’rwy’n cofio o’r gore,” ebe Wil druan.
“Ag yna fe gesoch ’wheigen amser N’dolig i dalu Tomos y Crydd?” meddai nhad.
“Eitha gwir, mishtir,” ebe Wil.
“Ag fe gesoch ’wheigen arall i fyn’d i breimin (ploughing match)
Pantllwyfen?” meddai nhad.
“Do’n siwr,” atebai Wil.
“A choron i fyn’d i ’Steddfod Caio dydd Gwener Croglith gyda’r Côr?”
“O’r gore,” meddai Wil. “A choron arall i fyn’d i daith Leisa Fronddeunant i
dalu’r pwyth dros eich ’wha’r?”
“Eitha gwir,” ebe Wil.
(x8) ’roedd Wil, druan, wedi hen ddyrysu
erbyn hyn, ac yn teimlo fel pechadur pan ddadlennir y Llyfr yn nydd bam, a
thynnai ochenaid o wir ryddhad pan glywai’n nhad yn dweyd,
“A fel’ny, William, ’does dim ond deg swllt ar hugain yn dwad i chi.”
“A rhag y’ch c’wilydd, William,” dywedai mam, “a chithe’n caru merch neis, lanwaith
fel Mari’r Esger, medde nhw, a dych chi ddim yn trio safio dime. Wa’th ’rych
chi heb dalu John Teilwr am y pâr dillad gesoch chi’r haf d’wetha i fyn’d i
ffair Gwyl Barna’. Da chi, William bach, triwch gynilo tipyn y flwyddyn nesa’
wa’th wyddoch chi ddim pryd bydd eisie punt neu ddwy amoch chi.”
“’Rych chi’n gweyd y gwir, Mystres fach,” ebe Wil gyda gwên ddireidus, “’rwy’n
penderfynnu troi’n gybydd fel Morgans y Siop o hyn i ma’s.”
Ond os dannod hen oferedd oedd yn y neuadd, ’roedd rhialtwch yn y gegin, -
chware cannwyll a’r afal, codi arian mân o’r dŵr, ac ereill o gampau’r
aelwyd. Arferai Griffith y Gof a William y Saer ddod yno bob amser i
feirniadu’r llwyau coed a’r pasgedi fu’r gweision yn eu gwneuthur wrth oleu’r
tân ar yr aelwyd. Ie, ac y mae’n gof gennyf am y trenshwnau coed a ddefnyddid
bob amser adeg y “fedel wenith,” ac a wnawd gan ddwylaw celfydd y
gwasanaeth-ddynion, cyn bod llestri pridd wedi dod mor rhad a chyffredin.
Nemawr byth y byddid yn prynu rhaca gwair, - gwaith cartref oedd y rhan fwyaf
o’r eirf amaethyddol a ddefnyddid ar y tir - ac nid anghofiaf byth fy malchder
pan ges yn eiddo i mi fy hun y “rhaca bach” cyntaf o law Tomos y gwas
mawr!
(x9) Er lluosoced y teulu, yr oedd rhagor na
hwy yn eistedd i fwyta yn y gegin. Ddwywaith y flwyddyn deuai John Teilwr a dau
o’i weithwyr i dreulio wythnos neu ddwy i wneuthur neu i gywiro dillad i’r
teulu. Amser melys i ni’r plant oedd hwn, oblegid gwr hynaws a llawen oedd
John, a gŵr digrif oedd ei weithwyr. Ond nid oedd digon o le iddynt wrth y
ford fawr, ac felly eisteddent wrthynt eu hunain o gylch bord gron a osodid
ynghanol y gegin. Un tro gwelodd Marged y forwyn fawr John yn torri ychydig o’r
menyn oedd ar y ford a’r prentis ar yr un pryd yn torri ychydig o ben arall y
menyn.
“John bach,” meddai Marged, oblegid, parch da i’w choffa, ’roedd hi mor
bryderus i rwystro gwastraff a’i mheistres, “pam na fyddwch chi’ch dou yn
torri’r menyn yr un ochr?”
“O dewch chi, Marged fach,” atebai John gan chwerthin, “fe ddewn ni’n dou at
ein gilydd cyn bo hir.”
Unwaith yn y flwyddyn byddai Morgan Jones y Saddler a’i fab yn dyfod am
wythnos i gywiro’r offer (harness), ac nid oedd nemawr wythnos na fuasai
y ddau Willam y seiri neu Dafi’r meuswn yno. Yr oedd gwehydd yn byw yn y plwyf
ac efe oedd yn gweu defnydd ’sanau a chrysau i ni gyd; ac yr oedd lliwdŷ a
phandŷ hefyd yn y plwyf cyfagos. Brethyn a gwlanen cartref a wisgid gan
bawb, ac un o’r ffugenwau mwyaf poblogaidd yn yr Eisteddfodau lleol oedd
“Brython llon mewn brethyn llwyd.” Ond mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i’n
llon iawn pan yn gwisgo crys gwlanen gwlad am y tro cyntaf. Flynyddoedd ar ol
hynny deuthum i wybod beth oedd Shakespeare yn ei feddwl wrth ddywedyd, (x10) “Winter garments must be lined,”
oblegid yr oedd gymaint o tunica molesta a chrys Nessus. Pe tae’r Rhyfel
wedi torri allan ddeugain mlynedd yn ôl, ni fyddai raid i bobl yr hen blwyf
ofni newyn. Nid oedd neb y pryd hwnnw yn gwerthu llaeth, a’r uriig beth at
wasanaeth y fferm a ddygid “oddi bant” oedd calch. ’roedd ffermwyr yn trin eu
tir yn y dyddiau hynny, oblegid ’roedd digon o lafurwyr yn y wlad oeddynt heb
deimlo swyn y trefydd a’r gweithiau. Ni ymadawai neb braidd o’r hen blwyf os
nad oedd mewn rhyw fath o drwbwl. Clywais ddywedyd gan fy nhad am hen greadur a
enwid Bili Jaci Deimoth. Yr oedd wedi ei “dorri ma’s” gan y tri enwad
crefyddol, a dyma ryw un yn gofyn iddo, “Wel, Bili bach,. ble ei di ’nawr?”
“O,” ebe Bili’n ddigyffro, “mae’n o’r gore arna’ i. Fe alla i fyn’d eto i
Ferthyr neu i Eglwys Loegr, ’wa’th mae nhw, fel trugaredd, a’u drws heb ei
gau.” Dim ond un noson dreuliodd fy nhad erioed yn Lloegr, os yn wir y dylid
galw Henffordd yn rhan o Loegr. Un o’r ychydig o’r plwyfolion a fu’n byw yn
Lloegr oedd Tomos y Crydd. Bu efe yn gweithio wrth ei grefft am dri mis yng Nghaerloyw,
a mawr oedd ei ymffrost byth wed’yn. Yr oedd Tomos bob amser yn y cwrdd gweddi
cenhadol nos Lun cynta’r mis, ac os gofynnid iddo gymryd rhan, ni anghofiai
ddywedyd rhywbeth fel hyn ar ei weddi:
“Cofia, hefyd, Arglwydd, am y paganiaid sy’n cyfaneddu yn ein trefydd mawrion.
Mae rhai o honom. ni’n gwybod am danynt,” &c.
Ond erbyn hyn mae pawb yn y plwyf wedi ymweled a’r “trefydd mawrion”; mae mwy
na hanner y tyddynnau yn anghyfannedd, ac y mae’r bobl ieuainc (x11) wedi ffoi. “Tri pheth sydd eisieu i ’neud
ffarmwr yn Shir Gâr y dyddiau hyn,” ebe hen walch wrthyf rai blynyddoedd yn ôl;
“Basic slag yn lle tail; barbed wire yn lle clawdd; a chrwt o
Sais yn lle gweithiwr.”
Ond ’roedd trin ar y tir ’slawer dydd. O’r Mynydd Du y ceid y calch. Mae fel
ddoe yn fy nghof y tro cyntaf yr euthum yn y wagen i ymofyn calch o’r odynau
gyda Wil y Waginer. Yr oedd cystadleuaeth lem drwy’r holl gwmpasoedd p’un
fyddai gyntaf wrth yr odyn. Yr oedd yr odynau rhyw ddeg milltir oddiwrth fy hen
gartref, ac felly yr oedd yn rhaid cychwyn tua chanol nos er mwyn bod wrth yr
odyn gyda’r wawr. Yr oeddem i gychwyn fore Llun, a gwaherddid ni i dorri’r
Sabboth drwy ddechreu ar ein taith cyn bod y cloc wedi taro deuddeg. Ond er nad
oedd lle i ni gychwyn, yr oedd Wil wedi dodi’r pedwar ceffyl yn barod yn y
wagen fawr bedair-olwyn, Lester, a Ventin, a Duchess, a Diamond. Ac wrth gofio,
onid yw’n hynod fel mai enwau Saesneg sydd gennym ni’r Cymry ar geffylau? Enw
march rhyfel Syr Rhys ap Tomos, gwron Maes Bosworth, oedd “Llwyd-y-Bacsau”; ac
fel “Dafydd y ceffyl cwta” yr adwaenid ei ewythr. Ond anghofiodd y bonedd eu
Cymraeg:
Yn rhyw garn Saeson trawsion y troisant,
A’r groyw-iaith wiwdeg Gymraeg wrthodant.
Y bonedd yn unig oedd yn berchen ceffylau yn y dyddiau gynt, a galwasant hwy ar
enwau dieithr. Ag ychen y byddai’r ffermwyr yn aredig:
A mynych yr ych o’r iau
A bawr lawr ei barlyrrau.
(x12) A phan ddaethant yn berchen ceffylau
ryw ganrif a hanner yn ol, dilynent esiampl y bonedd a rhoddasant enwau Saesneg
iddynt am nad oedd enwau Cymraeg wrth law. Ond enwau Cyrnraeg oedd ar bron bob
un o’r deg-ar-hugain gwartheg - Seren, Moelen, Mwyn- wen, Cynffonwen, ac felly
yn y blaen.
Yn union wedi’r cloc daro’r ergyd olaf o’r deuddeg ymaith a Wil fel taranfollt.
Yr oedd er’s dyddiau wedi bod yn dwyn ceirch i’r ceffylau nes oeddynt mor llawn
ysbryd a hwyl gystadleuol a Wil ei hun. Golygfa hardd, gallwn feddwl, oedd
gwel’d y pedwar ceffyl mawr porthiannus, a’u mwng a’u cynffon wedi eu plethu,
ac yn edrych mor ffroenuchel yn eu cerbyd amryliw - coch a glâs a gwyn – a
meirch rhyfel. Yr oeddem fel pe tae yn hedeg heibio plâs Abermarles, Wil yn
sefyll yn gryf ar ei draed yn y wagen, a minnau yn gorwedd yn fy hyd ar wely o
wellt yn y gwaelod. Cyn bo hir clywwn grochwaedd Wil yn galw “Gât” o flaen
toll-borth Abermarles. Nid oedd gennym braidd ddigon o amynedd i aros hyd nes
i’r hen wr oedd yn cadw’r gât ddod allan i’w hagor, - yn enwedig pan glywsom
fod wagen Cwmbran a wagen Glandulais wedi myn’d trwodd eisoes ddeng mynud o’n
blaen. Nid cynt y talwyd y doll ac y derbyniwyd y tocyn nag yr oeddem yn
carlamu nerth traed dros Bont-ar-Dowy, a thrwy bentref Llangadog, a’r
pentrefwyr yn syllu arnom drwy’r ffenestri, tra ’roedd Wil yn slashan ei chwip
a thraed y ceffylau a phwys y wagen fawr yn peri i’r ddaear grynu! Yna rhaid
oedd dechreu dringo i fyny drwy Gwm Sawdde nes d’od i Bontarllechau. Bu Twm o’r
Nant am ysbaid yn cadw hen gât Abermarles, ac ysgrifennodd englyn i
Bontarllechau. Ni welais ef mewn print, ond rhoddaf (x13)
ef fel y’i dysgwyd ef i mi,- er na wn a oes na synnwyr na chynghanedd ynddo:
Penigamp, groywgamp ar greigiau - pincod
Pencydiad mân lwybrau,
Paunes pennant gomdnt gau -
Pwynt yr holl ochr, Pontarllechau.
Ar ol y Bont rhaid oedd dringo rhiw serth hyd nes cyrraedd yr odynau calch.
Wrth edrych yn ol, mae’n rhyfedd gennyf na fuasai llawer cyflafan wedi digwydd,
oblegid ’roedd Wil yn gyrru fel Jehu yny tywyllwch dudew. ’nawr ac yn y man
byddem yn gorddiwes wagen arall, - aethom heibio wagen Cwmbran a Glandulais,
diolch i’r annwyl, er iddynt hwy dorri’r Sabboth, y creaduriaid brwnt! - ac o’r
chwipian a’r carlamu a’r bloeddio! Pa fodd y gallasom basio rhyw hanner dwsin
o’r wageni yn yr heol gul ac wrth oleu’r sêr yn unig yn ddi-anhap nis gwn, ac
nis gofynnais, oblegid yr oedd gennyf yr hyder mwyaf diysgog yn neheurwydd Wil
fel gyrrwr; ond cyrhaeddasom yr odynau fel yr oedd y wawr lâs yn torri dros y
Mynydd Du, - y cyntaf oll o’n hardal ni!
Rhyfeddais lawer paham yr oedd pobl yr ardal yn siarad am “Gymraeg cerryg
calch,” neu, beth bynnag, y rhai hynny o’r ardalwyr oedd wedi treulio peth
amser “yn y gweithiau.” Os byddai rhywun yn siarad Cymraeg gwael, trwsgl,
“troednoeth” (chwedl Syr John Rhys) - yn “mixio Cymraeg a Saesneg” ys dywedai
Ceiriog - dywedid ei fod yn siarad “Cymraeg cerryg calch.” Yr oedd y dywediad
yn ddirgelwch mawr i mi pan yn grwtyn, a synnwn paham a pha fodd yr oedd cerryg
calch yn elyniaethus i burdeb yr hen iaith. Flynyddoedd lawer wedi ymadael â
chartref, cefais oleuni ar y mater. Mae’n (x14)
debyg mai Saeson o Wlad-yr-Haf a Dyfnaint oedd y cyntaf i weithio calch ar
lannau’r môr yn.y Deheudir, yn Aberthaw ger y Barri, yng ngwlad Gŵyr, yn
Lacharn, a lleoedd ereill. Dysgent ddigon o Gymraeg i’w galluogi i
ymgyfathrachu â brodorion y wlad, ond pidgin Welsh oedd eu Cymraeg, a
daeth “Cymraeg cerryg calch” yn ddiarhebol drwy’r Deheubarth.
“Fe godais heddyw gyda’r wawr,
Gan frysion fawr fy lludded,”
canai Wil Hopcyn. Nid yw’r desgrifiad yn un hapus iawn o garwr sydd ar ei
ffordd i’r goedwig i gusanu ôl troed ei Wen. Ond yn fy hen gartref codai pawb
gyda’r wawr, ac nid oedd neb yn fawr ei ludded. Mor ddiddan oedd sŵn yr
adar yn telori yn yr ardd a’r berllan, a’r anifeilaid yn deffro o’u cwsg, y
ceiliogod yn canu o flaen yr ysgubor, y llaethwraig yn galw’r da, Wil y Waginer
yn chwibanu yn y stabal, - ie, ac yr oedd hyd yn oed sŵn y moch yn
rhochian pan oedd y forwyn fach yn eu bwydo yn llonder ysbryd. Ac wedi i’r
gwartheg gael eu godro, a llu o orchwylion eu gorffen, wele’r fintai brysur,
newynog yn tyrru i’r gegin i frecwast am hanner awr wedi saith, a phob un o’r
gweision oedd ar enw crefydd yn gofyn bendith yn ei dro. Ac ar ol i’r chwant am
fwyd a llyn gael ei osod heibio, ys dywed Homer, a’r ford gael ei chlirio,
byddai fy nhad a’m mam, a ninnau’r plant, yn dod i’r gegin o’r neuadd i’r
ddyledswydd deuluaidd, - fy nhad yn dwyn Beibl Peter Williams dan ei gesail ac
yn ei osod ar ben y ford. Ni waeth pa mor brysur ydoedd, boed hindda boed
ddrychin, boed haf boed aeaf, boed dymor aredig neu gynhaeaf, rhaid oedd cynnal
y ddyledswydd deuluaidd. Os byddai pregethwr yn treulio noswaith yno, ef
fyddai’n darllen (x15) a gweddio. Yr oedd fy
hen gartref wedi bod yn “lletty fforddolion” am genhedlaethau, ac nid oes odid
un o’r hen “hoelion wyth” na fu’n tynnu wrth raffau yr addewidion yn y gegin
fawr. ’rwyf fi’n cofio, ymysg ereill, Williams, Llanwrtyd, ac Ap Fychan, S.R. a
J.R., Nicholson, Groeswen, a John Thomas, Lerpwl, Thomas Hughes, Machynlleth, a
Lleurwg, David Saunders a Harris Jones, Trefecca, Herber a Penry Evans,
Hiraethog a David Roberts, Wrexham, Gwalchmai a James, Nefyn, Dr. Rees,
Abertawe, a Michael Jones, y Bala, Brythonfryn a Chaeronwy, Matthews Ewenny a
Watcyn Wyn. Garw nas gallwn gofio ymddiddan Dafydd Williams, Llanwrtyd. Yr oedd
yn ymylu at gant oed ar y pryd, ac yr wyf yn cofio ei fod yn sôn am Williams,
Pantycelyn, ond beth a ddywedai am dano nis gwn; ond cofiaf un frawddeg o’i
weddi wrth ford y gegin. “Rho i ni dy nerth, O Dduw,” meddai, “ac yna fe
ymladdwn fixed baginet battle â’r diafol ei hun.” ’roedd Dafydd Williams
wedi dechreu pregethu cyn blwyddyn Waterloo.
Clywais am lawer ereill o’r hen gewri fu’n cynnal y wasanaeth yn y gegin, -
Williams o’r Wern, a John Evans, Llwynffortun, William Williams, Llandeilo, ac
Evans, Capel Seion, y Tri Brawd a Rhys Price, Cwmllynfell, Dr. Phillips,
Neuaddlwyd, Thomas Jones, Hermon, a Lewis Powell, Caerdydd, Dafydd Rees,
Llanelli, Brutus, a Rhys Dafis y Glun Bren, y gwr llwm ei ddoniau a fu’n
foddion i argyhoeddi Williams o’r Wern. Pa le a freintiwyd ac a gysegrwyd yn
fwy gan “draed y rhai fu yn efengylu”?
Ond pan na fyddai pregethwr yn aros gyda ni, byddai pob un o’r gwrywod oedd yn
“arddel crefydd” yn gweini yn ei dro. ’rwy’n cofio un frawddeg a (x16) ddefnyddiwyd gan yr ail was un waith, - adeg
hau gwenith, gallwn dybio. “Rho i ni, O Arglwydd,” ebe ef, “ras i hau grwn yn y
byd hwn fydd yn bleser gyda ni ei fedu yn y byd a ddaw.”
Wrth edrych yn ol drwy nidd y blynyddoedd, ai tybed fy mod yn colli fy ngolwg
ar bopeth ond gwyndud yr hen amser? Efallai fy mod. Ond bywyd tawel, heddychol,
yn llawn gweithgarwch amyneddgar a digrifwch diniwed oedd bywyd fy hen gartref
fel y daw i’m cof heddyw, ynghanol ffwdan afler bywyd arall tra gwahanol. Ond
pe awn yn ol i’m hen gynefin nid yr hen fywyd syml fyddai’n fy nisgwyl, oblegid
mae dull yr hen fyd wedi myned heibio am byth. Yn wir, yr oedd cysgod
cyfnewidiad ar y wlad hyd yn oed ddeugain mlynedd yn ol. Clywais yr hen frawd
Dafydd y Gam yn dywedyd: “’Rwy’n cofio tair cenhedlaeth,” meddai. “Y
genhedlaeth gyntaf oedd cenhedlaeth Bili a Belo a chawl; yr ail oedd
cenhedlaeth Mishtir a Mystres a broth; a’r drydedd yw cenhedlaeth Syr, a
Madam, a thê!”
(x17) PENNOD II.
MAMGU.
Enwau pert yw “mamgu” a “thadcu,” - maent yn awgrymu rhyw diriondeb ac anwyldeb
na cheir mewn “nain” a “thaid.” “Cu iawn fuost i mi,” galarnadai Dafydd ar ol
Jonathan; a chu iawn fu llawer hen wr a hen wraig i’w hwyrion. Ni welais fam fy
nhad erioed; bu farw cyn fy ngeni. Merch ydoedd i Jac Harri Dafydd, neu o’i
Seisnegeiddio, John Henry Davies, Pistyll Dewi, Llanfynydd, a mab i Thomas
William Thomas Ruffydd, neu Thomas Williams, o’r Crossnant, yn yr un plwyf,
oedd fy nhadcu. Unig hawl Thomas Williams i anfarwoldeb oedd iddo dalu am yr
unig dipyn ysgol a gafodd bachgennyn a elai dan yr enw Twm Sali, ŵyr i hen
wneuthurwr cychau gwenyn, oedd yn byw mewn tyddyn bychan ar ei dir. Yng
nghyflawnder yr amser daeth y bachgennyn yn ddyn enwog, neb llai na’r Hybarch
Thomas Rees, Abertawe.
Yr oedd rhyw gweryl wedi torri allan rhwng teulu’r Pistyll a theulu’r
Crossnant, ac nid oedd y ddau benteulu yn foddlon i garwriaeth y bobl ifanc.
Rhyw fore wele ’nhadcu yn brochgau (marchogaeth) i Landeilo, a merch y Pistyll
ar banier wrth ei sgil, a phriododd y ddeuddyn heb gariatad yr hen bobl.
Ffromodd y ddau dad yn aruthr, a gorfu i’r pâr ifanc (x18)
ymladd eu brwydr heb help llaw eu rhieni. Ond os gwgu amynt wnaeth y ddau hen
wr ystyfinig, gwenodd Rhagluniaeth ar eu cariad ffyddiog. Ganwyd iddynt wyth o
blant, chwech mab a dwy ferch, ac yr oedd eu da a’u defaid yn lluosogi flwyddyn
ar ol blwyddyn. Aethant i fyw i’m hen gartref, y ffarm fwyaf yn yr holl ardal.
Pan welodd Jac Harri Dafydd fel yr oedd buddiannau bydol ei ferch a’i
fab-ynghyfraith yn cynyddu, a phob peth yn llwyddo dan eu llaw, lliniarodd ei
lid a’i ddigasedd. Clywais ddywedyd gan fy nhad fel y maddeuodd yr hen Jac i’w
ferch henaf am “garu’n ôl ei ffansi.” Un bore teg yn yr haf yn 1830 daeth hen
wr gwisgi i Brownhill ar gefn poni felen. Yr oedd wedi ei wisgo’n daclus i’w
ryfeddu mewn cot lâs, gwasgod fflwsh, a britshis penlin. ’Sanau glânddu’r
ddafad oedd ei ’sanau, ac am ei draed yr oedd esgidiau bach a bwclau arian
amynt. Synnai’r plant wrth wel’d gwr bonheddig dieithr ar y clôs o flaen y tŷ,
a rhedasant i mewn i ddywedyd wrth eu mham. Aeth hithau allan i roesawu’r gwr
dieithr, ond pan ei gwelodd, dyma hi’n gwelwi ac yn crynu fel y ddeilen, ac yn
llefain, “O nhad annwyl, yr y’ch wedi dwad o’r diwedd.”
“Odw, Beti,” ebe’r hen wr yn grynedig, “’rwyf wedi dwad cyn marw i ddweyd wrtho
ti fy mod wedi maddeu i ti.”
“O diolch, diolch, nhad bach,” meddai mamgu rhwng ei dagrau, “dyna’r unig beth
sydd wedi fy mecso erio’d.”
Ac ni chafodd y mab afradlon well croesaw nag a gafodd yr hen wr ystyfnig,
calon-galed, gan ei ferch. Arhosodd yno am noswaith, a mamgu druan, - oblegid
un drafferthus fel Martha ydoedd - yn methu gwneyd (x19)
digon o’i thad, na welsai am ugain mlynedd a rhagor. Bore drannoeth dyma Jac yn
cychwyn yn ol i Lanfynydd ar gefn ei boni, a dyna’r tro diweddaf y gwelodd
mamgu ef yn fyw.
“Diolch i ti, Beti,” ebe wrth ymadael, “am y greso ges i ar dy law. Fe gofiaf
am danat ti yn fy ewyllys.”
Torrodd argaeau teimladau fy mamgu ar hyn, ac yr oedd ei mwynhad a’i llawenydd
yn ddigymysg. Cyn pen hanner blwyddyn yr oedd Jac Harri Dafydd wedi huno gyda’i
dadau, ac y mae copi o’i ewyllys yn fy meddiant.. Gadawodd ddwy fil o bunnau’r
un i’w dair merch ieuengaf, ac am fy mamgu dywed:- “And to my daughter
Elizabeth, as a sign of my forgiveness, half a guinea and a pair of blankets.”
Yr unig beth arall a glywais am yr hen wraig oedd ei bod yn meddu ar lais
cerddgar a soniarus. Hi a Sara Daniel oedd yn arwain y moliannu yn Ebenezer pan
dorrodd y diwygiadau allan yn 1849 a 1859. Williams, Llandeilo, oedd gweinidog
Ebenezer ar y pryd, - y gwr a ddaeth a Diwygiad ’59 i’r Deheubarth o Lerpwl.
Mab yr Hafod yn Llanfynydd oedd ef, ac yn berthynas i’r teulu. Nosweithiau
lawer bu ef a mamgu a Mari ei merch, a John ei mab, yn “canu yn y nos” yn fy
hen gartref alawon y diwygiad.
Mynych y gofynaf, A welais i mamgu Bancylan, mam fy mam? Mae gennyf rith cof i
mi gael fy nghodi i fynny ym mreicmau rhywun i edrych arni yn ei harch, a’r
amdo gwyn am dani. O’r braidd na chredaf fy mod yn cofio ei hwynebpryd, - yn
debyg i fy mam, ond yn welw, O mor welw! Ai cof neu rith cof yw hyn? Anodd
gwybod, oblegid nid oeddwn ond tair blwydd oed pan fu farw. Goroesodd yr hen wr
fy nhadcu hi am ddeugain mlynedd, ond ni wellodd (x20)
fyth ei galon friw. Ni chlywodd neb ef yn dywedyd ei henw na sôn am dani, - hyd
yn oed fy mam, a hithau ei unig blentyn. Ond ’roedd ei choffa yn berarogl yn ei
hen gartref, a hithau ei hun yn aros yno beunydd, fel pe tae, tu ôl i’r llen.
Ni flinem ni’r plant ar glywed sôn am dani, - ei hysbryd llon, ei direidi
diniwed, ei charedigrwydd i’r tlawd a’r anghenus, ei duwiolfrydedd - er mai Eglwyswraig
oedd hi - a’i thiriondeb cariadus atom ni’r plant. Hoffem yn enwedig glywed y
stori am ei thad a’i mham yn brochgau o’u cartref, Derimoelon, ym mhlwyf
Llanegwad, i ymladd a’r Ffrancod oedd wedi glanio yn Abergwaun yn 1797, gan
adael y plant yn ddi-amddiffyn gartref. Bid siwr, ni anwyd mamgu am flynyddoedd
ar ol hynny, ond nid oedd waeth am hynny. Ac fel yr edmygem hen gleddyf rhydlyd
ei thad oedd yn hongian uwch ben y tân yn Bremenda Isaf, lle’r oedd ei brawd
hynaf yn byw. Oblegid nid oedd cleddyfau mor gyffredin yn y dyddiau tywyll
hynny ag ydynt yn “yr oes oleu hon.”
Yr oedd fy nhadcu yn berchen ar ei ffarm, wedi ei chael yn etifeddiaeth
oddiwrth ei ewythr, “Williams y ’ffeirad.” Dyn pwysig yn ei ddydd a’i dymhor
oedd y Parch. Thomas Williams, M.A., gynt o Goleg Wadham, ym Mhrifysgol
Rhydychen. Bu yn Ficer Llansadwrn a Llanwrda o 1790 hyd 1826. Yr oedd ganddo
bump bywioliaeth arall, un o honynt mor bell a Rhandirmwyn - oherwydd dyddiau’r
pluralists oeddynt-a gelwid ef, ar lafar gwlad, yn “Angel y Saith
Eglwys.” Ond mae’n debyg y perchid ef gan ei gyfoedion, oblegid, rhag brifo’i
deimladau, ni chodwyd un tŷ-cwrdd Ymneillduol yn Llansadwrn yn ei ddydd.
Yr oedd llawer o seintiau’n byw yn y plwyf, ond (x21)
addolent mewn tai annedd ac ysguboriau, ac aent i dderbyn cymundeb bob pen mis
i Grug-y-bar. Un o honynt oedd yr enwog Nansi Jones, Godreu’r Mynydd, ond gan
mai yng Nghrug-y-bar yr oedd yn aelod, fel Nansi Jones, Crug-y-bar, yr adwaenid
hi yn ei dydd ac hyd yr awr hon. Hen gyfaill annwyl a chymydog agos iddi oedd
Dafydd Sion Edmwnt. Achubwyd ei enw rhag myned ar ddifancoll ar y ddaear gan un
o bregethau John Williams, Castell Newydd Emlyn, brawd fy nhad. Clywais lawer o
adrodd ar y bregeth hanner can’ mlynedd wedi iddi gael ei thraddodi, a chlywais
Herber ac Owen Glandwr a Brythonfryn ac ereill yn dynwared y pregethwr tanllyd.
Son yr oedd am farwolaeth y duwiol, a chyferbynnai farwolaeth Thomas Hobbes, yr
athronydd, a Dafydd Sion Edmwnt. Ar ol manylu ar alluoedd a gwybodaeth yr
athronydd, desgrifiai ei wely angeu a’i eiriau olaf, “A leap in the dark.” Ond
am Dafydd Sion Edmwnt, “Beth wyddai fe am ddaearyddiaeth na daeareg, ond
dyfnder pâl yn yr ardd iddo fe gael digon o gennin erbyn y gwanwyn. Beth wyddai
Dafydd Sion Edmwnt am seryddiaeth ond digon i ddanfon Mali i gornel y tŷ i
wel’d os oedd y lleuad wedi codi iddo fe gael goleu i fyn’d drwy’r cwm i’r
cwrdd gweddi. Ond pan ddaeth Dafydd Sion Edmwnt i lyn tywyll cysgod angau,
llefodd, “Fe welaf doriad dydd.”
Gerllaw bedd yr hen Ficer y claddwyd fy mamgu, ym mynwent y plwyf. Carreg lwyd
ddiaddurn a ddengys man fechan ei bedd. Uwchben yr hen Ficer y mae rhywun wedi
codi carreg fedd, ac wedi cerfio arni feddargraff Lladin. Copiwyd ef y dydd o’r
blaen gan dri o raddedigion Prifysgol Cymru a danfonwyd ef i mi. Dyna newid ar
fyd! Tri gwr ifanc graddedig (x22) yn gwario
eu gwyliau yn y pentref bach anenwog, - ie, ac y mae llawer yn rhagor o wŷr
dysgedig wedi eu codi yn Llansadwrn erbyn hyn. Dyma’r tipyn Lladin a
gyfieithiais yn gyntaf erioed, ond “Balbus mensam facit” a ffwlbri
cyffelyb o’r Primer. Yn Ysgol y Plwyf yr oeddwn ar y pryd. Na synned neb glywed
i mi ddechreu dysgu Lladin yn y Board School. Yn 1877 cynygiodd Viscount
Sandon, gweinidog addysg y pryd hwnnw, roddi “ysgol rydd” i blentyn fuasai’n
pasio’r arholiad o Standard IV. ymhob testyn cyn ei fod yn un mlwydd ar ddeg
oed. Bum i mor ffodus ac ennill yr ygoloriaeth, ond yr oedd amod ynglyn â hi,
sef fod yr ysgoler i ddewis “special subject” yn ychwanegol at wersi
arferol yr ysgol. Ni wn paham, ond y testyn arbennig a ddewisais i oedd Lladin.
Euthum ym mhen ychydig i’r fynwent i geisio dehongli beddargraff fy nghâr yr
hen Ficer. Fel hyn y darllena:
Hic jacet
Vir admodum Reverendus
Thomas Williams
Qui cum Vicarius fuisset
hujus ecclesiae per
Spatium vi et XXX annorum
Cum summo omnium
Maerore obiit dic
vii men. Sept. A.D.
MDCCCXXVI. AET.,
LXIX.
In memoria aeterna erit justus. Psalm cxii.
Ond er marw mamgu cyn fod fawr cof gennym ni’r plant am dani, clywsom lawer o
son am dani gan y cymydogion a’r ardalwyr, - am ei
Dull digrifbert o wau
Ei dedwydd ddywediadau.
(x23) Ond yr hyn, efallai, a wnai i ni
ryfeddu mwyaf oedd ei bod wedi cyfansoddi barddoniaeth. Nid er mwyn cystadlu
mewn Eisteddfod - ychydig o Eisteddfodau a geid yn Nyffryn Towy yn ei hadeg hi,
- nac er mwyn ei gyhoeddi mewn cylchgrawn neu newyddiadur. Ni phrintiwyd
llinell o’i heiddo yn ei bywyd, ac ni wyddai neb ei bod yn barddoni. Ar ol iddi
farw cafwyd gafael mewn llyfryn bychan yn ei llawysgrif yr hwn a orwedda o’m
blaen fel yr wyf yn ysgrifennu. Gallwn feddwl fod hanner y tudalennau wedi eu
dinystrio. Ar un tudalen fe geir cyfarwyddyd ffordd i wneyd “furniture
polish”; ar dudalen arall ceir dan y dyddiad “June, 1863: To Herbert
Davies, 34lbs. of wool for blankets; July 24, 3lbs. of grey wool; July 80,
6lbs. of grey do.” Yna yn Gymraeg y modd “i godi unrhyw saim oddiar
ddillad.” a phethau cyffelyb. Ond ar rai tudalennau yr oedd penillion wedi eu
hysgrifennu, na wyddai neb am danynt o’r blaen. Beth a gynhyrfodd gwraig
ffarmwr syml i geisio barddoni? Ffarmwr oedd ei thad, ac ni chafodd hithau,
mae’n dra thebyg, lawer o ysgol, ac yn sicr ni chafodd gyfarwyddyd, mwy na
minnau, ffordd i ysgrifennu’r Gymraeg. Bid siwr, nid oes llawer o werth
llenyddol yn y “farddoniaeth,” ond nid dyna’r pwnc. Pa fodd y daeth gwraig
ffarrnwr, heb gael cyfarwyddyd gan neb, i ysgrifennu penillion o gwbl? Os gall
neb ateb y gofyniad, gwnaiff ddeongli cyfriniaeth y bywyd Cymreig a gwna
esbonio dirgelwch arbenigrwydd yr hen genedl ymysg cenhedloedd y ddaear.
Ar un adeg mae’n amlwg fod cyflwr ei brodyr yn blino ei hysbryd tyner:
(x24) O na b’ai fy mrodyr annwyl
Yn ufuddhau’r Efengyl fwyn,
Ac i’r drefen ogoneddus-
Yr Iesu’n marw er eu mwyn.
Dyro iddynt ras i weled
Y fath ogoniant ynot Ti,
Nes y delont a’u teuluoedd
I lefain, “Arglwydd, achub ni.”
O am fodd i hau i’r Ysbryd
Tra fo’m yn y byd yn byw,
Fel cawn fedi mewn llawenydd
Yn y nefoedd gyda’m Duw.
Y mae’r adeg yn yr ymyl
Nad oes dim a dâl i ni,
Ond fo rhyngom yn sylweddol
Yr ochr yma a Thydi.
Un o ragorolion y plwyf oedd Sarah Thomas, - neu i roi ei henw cyffredin, yn ol
dull gwledig ein cyndeidiau - Sara Daniel. Yn Ebenezer, tŷ-cwrdd yr
Annibynnwyr, yr oedd Sara’n addoli; ond nid oedd anghariadoldeb yn ffynnu yn y
dyddiau hynny rhwng Eglwyswyr ac Ymneillduwyr. Eglwys-wraig o’i mebyd i’w bedd
oedd fy mamgu, a’r unig gysgod ar heulwen eu bywyd priodasol oedd fod fy
nhadcu, ac yntau wedi ei godi gan yr Hen Fam ac yn un o etifeddion yr hen
Ficer, wedi troi’n Fethodus ar ol symud i Lansadwrn. Ond o barch a chariad tuag
ato, ai mamgu i’r capel am ddeg bob bore Sul gyda’i phriod, ac yna äi’r ddau am
hanner awr wedi un-ar-ddeg i’r gwasanaeth i Eglwys y Plwyf. Deuai’r Ficer i
holl oedfaon y Diwygiad, a llawenychai wrth wel’d y defaid oedd ar ddisperod yn
cael eu dwyn yn ôl o’r anialwch, ac ni chenfigennai am eu bod yn myn’d i gorlan
arall na’r eiddo ef. Yn un oedfa wlithog gwaeddodd Sara Daniel allan yng ngwres
ac angerddoldeb ei hysbryd (x25) tanbaid,
“Dere am dro, Arglwydd, yn Dy gerbyd achub,” a dyna fu arwyddair Diwygiad 1859
yn yr ardal. Er mai Eglwys-wraig oedd mamgu, yr oedd hi a Sara Daniel yn
gyfeillion mynwesol. Gwraig dlawd, yn byw mewn bwthyn bach tô gwellt yn y
pentref, oedd Sara, ond flynyddoedd ar ol iddi ymadael siaredid am dani fel mam
yn yr Israel. Ysgrifennodd fy mamgu ychyclig bennillion syml er coffa am dani.
Ti ddisgwyliaist lawer, Sara,
Am i’r amser ddod i ben,
It’ gael gwel’d dy annwyl Iesu
A’i fwynhau Ef yn ddilen.
Fe ddaeth adeg dy ogonedd
Ar yr eilfed ddydd o Fai,
Ce’st dy ollwng o’th gaethiwed
At y gwaredigol rai.
Yn dragwyddol debyg iddo,
Dyma’th amcan tra fo’t byw,
Cefaist hynny ’nghyd a phobpeth
A ordeiniwyd i blant Duw.
“Y garreg wen alr enw newydd,”
D’wedaist wrthyf yn dy ddydd,
Oedd yr adnod a fendithiwyd
Iti gael dy draed yn rhydd,
Y cuddiedig fanna nefol
A’th gynhaliodd ar dy daith,
Ac a’th nerthodd yn yr anial
Ysbaid hir flynyddoedd maith
Pwy mor barod i gyhoeddi
Doniau’r Arglwydd yn ei Dŷ,
Ar bwy eto y gorffwysa
Deuparth o dy ysbryd di?
Bu yn bleser genni’th glywed
Yn y cyrddau lawer pryd,
Dy ddull ath lais’n gwaeddi diolch
Am gyfreidiau gras i gyd.
(x26) Yn dy gystudd buost dawel,
Cedwaist olwg ar y nôd;
Pwy na ddwed wrth wel’d dy hyder
Am fodd i ddilyn ôl dy dro’d?
Cefaist ti fynediad helaeth
‘Mhlith angylion tua thre,
Rhai sydd wedi eu hordeinio
I weinir sawl ai carant E’:
‘Nawr mi’th welaf dithau yna,
‘Mhlith y dorf o fewn i’r nef,
‘N canu’r gloch ddechreuaist yma,
“Diolch byth i’w enw Ef.”
Daeth i’m meddwl wrth fyfyrio
Am dy holl ddedwyddwch di,
Na pherffeithir ddim o honot
Heb ryw wael un fel myfi!
Ac os byth caf ddyfod atat
I drigiannu yn y nef,
“Diolch Iddo” fyth ni ganwn,
“Clod a mawl i’w enw Ef.”
Ni roddaf yma’r penillion marwnadol ereill a geir yn y llyfryn. Dyfynnais
ddigon eisoes i ddangos gymaint oedd dylanwad Pantycelyn arni. Ni roddaf,
chwaith, ond dwy o’r “Emynau” a gyfansoddodd, er nad oedd hi, druan, yn ei
gwyleidd-dra, wedi beiddio rhoddi’r fath enw uchelgeisiol arnynt.
TRAGWYDDOLDEB.
Tragwyddoldeb sydd yn faith
Heb un terfyn,
Minnau’n gyflym ar fy nhaith
Sydd yn cychwyn;
Arglwydd cyfiawn, santaidd, pur,
Rhaid wynebu,
Modd i lynu wrth y gwir
Yw fy ngweddi.
(x27) ’nawr yw’r adeg i bar’toi,
Gwnawn ystyried,
Cyn y caffo’r drws ei gau,
Rhaid ein harbed,
Os diangaf ddydd a ddaw,
Minnau gana’
Ar fryniau gwyn Caersalem draw,
‘Haleliwla.”
AR FIN YR AFON.
Mae angeu yn y babell,
Rwyf yn ei deimlo ’nawr
Yn gwasgu’m natur egwan
Nes yw’n fy llethu lawr.
O am gael ’nabod Iesu
Heb un amheuaeth ddim,
Cyn myn’d i rydiau’r afon -
Ei fod yn briod im’.
Hawdd gennyf gredu y try’r Colegau allan, sydd erbyn heddyw’n britho’n gwlad,
wragedd mwy eu gallu a’u diwylliant na Jane Davies, Banc-y-lan, ond os cadwant
ei chalon dyner, a’i phurdeb ysbrydol, a’i ffydd syml, gwyn eu byd, - a gwyn
fyd y wlad a’u magodd.
(x28) PENNOD
III.
YR HEN LIAS.
Yn yr hen amser gynt ’roedd yn arferiad yn Llansadwrn i dalu pum punt er
gwneuthur plentyn tlawd yn “brentis plwyf.” Yr olaf o’r prentisiaid oedd “yr hen
Lias,” fel ei gelwid pan gofiaf fi ef gyntaf. Prentisiwyd Lias pan yn grwtyn
deng mlwydd oed yn was bach, neu page boy, gydag Admiral Syr Thomas
Foley, ym Mhlas Abermarles. Yr oedd yr Admiral wedi priodi Lady Lucy
Fitzgerald, merch y Duc Leinster, a chwaer Lord Edward Fitzgerald, gwr Pamela a
gwron gwrthryfel 1798. Ef oedd y cyntaf, yn ei long-ryfel y “Goliath,” i ymosod
ar y llynges Ffrengig ym mrwydr y Nile, ac ar ei long ef, yr “Elephant,” yr
oedd Nelson ym mrwydr Copenhagen, ac wrth ei ochr ef y safai’r gwron pan gododd
ei ysbienddrych at ei lygad tywyll. Bu farw yn 1888 yn Admiral of the Fleet
yn Portsmouth, - ym mreichiau Lias, y prentis plwyf o fynydd Llansadwrn. Aeth
ei weddw, Lady Lucy, i fyw i Ffrainc, lle y treuliodd y gweddill o’i dyddiau, a
Lias gyda hi. Pan fu’r hen foneddiges farw tua 1850, gadawodd ddwy fil o bunau
yn y Three per cents. i Lias i fyw ar yr iws (interest), a ffarm
Llettyrywen, gerllaw fy hen gartref, yn eiddo iddo tra byddai byw. Pan aeth
Lias i Abermarles yn grwtyn, ni wyddai air o Saesneg. Ar ol byw gyda’r hen
Admiral yn Lloegr am flynyddoedd, anghofiodd (x29)
yn agos bob gair o’r hen iaith. Wedi aros yn Ffrainc am ddeng mlynedd a rhagor,
yr oedd yn fwy cyfarwydd a’r Ffrangeg nag a’r Saesneg. Ac yna, pan oedd tua
hanner-canmlwydd oed, daeth yn ol i fyw yn yr hen blwyf, lle nad oedd ond
ambell un yn gallu dim ar yr iaith fain.
‘Rwy’n cofio, fel engraifft, y tro y daeth sparbil o Gapten, yr hwn oedd wedi
newydd briodi ag aeres ystâd gyfagos, i ymweled â threftadaeth ei wraig. Daeth
ar ei dro i’n tŷ ni; dangoswyd ef i’r parlwr - ystafell na ddefnyddid ond
pan fyddai “pregethwyr mawr” yn aros gyda ni. Gofynnodd fy nhad iddo’n foesgar
os dymunai gael rhywbeth i fwyta neu i yfed. Dyna’r cwestiwn cyntaf a ofynnid
bob amser i ymwelydd. “Mae gyda ni ddigon o bopeth yma,” arferai fy nhad ei
ddywedyd, “ond gras ac arian.” Atebodd y Capten yr hoffai gael glasiaid o home
brew, oblegid yr oedd pob ffarmwr yn darllaw yn y dyddiau hynny. Yr oedd
darluniau Gladstone a Bright ar y muriau, a golwg sur a sarug a daflai’r Capten
arnynt. Nid oedd moesgarwch yn goddef i fy nhad adael yr ymwelydd wrtho’i hun,
ac yr oedd mam oddicartref. Nid oedd dim i’w wneyd felly ond rhoddi rhywbeth
i’r gwr bonheddig i’w ddarllen tra byddai fy nhad allan o’r ystafell, ond nid
oedd ond un llyfr Saesneg yn y tŷ, sef “The Missionary Travels of the Rev.
Thomas Thomas in South Africa.” Ac wele fy nhad, druan, yn ei ddiniweidrwydd
llednais, yn cynnyg hwnnw i’r Capten, tra yr elai ef allan i ymofyn y ddiod.
Beth fu achos yr anghydfod a gymerodd le wed’yn rhyngddynt ni allaf ddywedyd
gyda sicrwydd, oblegid nid oeddwn ond rhyw saith neu wyth mlwydd oed y pryd, yn
dilyn fy nhad yma a thraw. Pa un ai’r (x30)
darluniau Radicalaidd ar wal y parlwr goreu, ynte llyfr y Cenhadwr Cymreig, neu
rywbeth arall, ni allaf benderfynu. Gan nad p’un, pan oeddem ein tri yn yr
ydlan, dyma’r Capten yn dywedyd rhywbeth swrth wrth fy nhad yn Saesneg, - ni
ddeallais beth, - ac yr oedd fy nhad, fel llawer Cymro arall, dipyn yn wyllt ei
natur. Fflamiodd fel mellten, ond nid oedd ganddo ddigon o feistrolaeth ar y
Saesneg i ddweyd ei feddwl. Wedi methu cael gafael ar eiriau, cydiodd yn
ysgwydd y Capten a throdd ef yn rownd nes oedd yn wynebu gât yr ydlan. “See
that gate, man?” ebe’n gynhyrfus. “Then wâc thro’ it.” A myn’d
wnaeth y Capten, fel ci a phadell wrth ei gwt.
Ond i ddod ’nol at Lias. Ar ol dychwelyd i Lansadwrn, priododd â merch o’r
pentref, a gwriaeth ei oreu i ddyfod yn ffarmwr. Er gwaethaf ei holl
ymdrechion, ni fu fawr llewyrch ar ei amaethu. Valet oedd Lias, ac anodd
gwneud ffarmwr o hen valet. Ceisiodd ail-ddysgu’r Gymraeg, ond rhyw
gymysgedd ryfedd a siaradai o Gymraeg a Saesneg, ac aml lw neu air llusg yn
Ffrangeg. Nid oedd ball ar storhaus am yr hen Admiral a Lady Lucy, - yn enwedig
Lady Lucy. Gan mor fynych yr oedd ei henw ar ei dafod, “Lady Lucy” y galwai
Griffith y Gof yr hen Lias, a glynodd y llysenw wrtho tra fu byw. Erbyn i mi
gyrraedd oedran i ddeall beth oedd Lias yn siarad am dano, yr oedd pobl yr
ardal wedi hen ’laru (flino) ar ei storhâus. Yr oedd yr hen wr wedi myned yn
drwm ei glywed, a chymerai awr i ddywedyd hanesyn y byddai adroddwr deheuig yn
gallu ei ddweyd mewn degwm o’r amser. Yn ei henaint, felly, digwyddodd Lias ar
ddyddiau blin. Nid oedd neb yn foddlon gwario awr i wrando ar y laudator
temporis acti yn (x31) ymffrostio yng
ngwrhydri’r hen Adrniral a glendid Lady Lucy, a’u dywediadau pert a’u
gweithrediadau digymhar.
Er nad oedd Llettyrywen ond lled cae oddiwrth fy hen gartref, ni wyddwn i lawer
am yr hen Lias hyd nes yr oeddwn tua deuddeng mlwydd oed. Dechreuodd dafaden (wart)
dyfu ar drwyn Lias; dywedodd y meddyg wrtho mai cancer ydoedd, ac na
ellid ei gwella. Ond yn y dyddiau gynt ’roedd llawer o “ddoctoriaid bôn clawdd”
yn yr ardal. Yn Llansawel yr oedd doctor esgyrn; yn Llangadog trigai gwr oedd
yn berchen ar eli llosg-tân digyffelyb; yn Nhal-y-llychau yr oedd gof a chanddo
eli ardderchog at wella’r ddarwden (ringworm) a fflamwydden (erysipelas);
ac yn y Plough Inn ym mhentref Caio yr oedd gan Morgans y tafarnwr eli digymhar
at wella cancer. Penderfynodd Lias dreio meddyginiaeth y tafarnwr, a chan nad
oedd càr ganddo, syrthiodd y gorchwyl arnaf fi i yrru’r hen Lias unwaith yr
wythnos i Gaio i gael eli cancer ar ei drwyn. Fel yna y deuthum i’w adnabod ac
i hoffi ei ddirif ystoriau. Yr oedd adgofion yr hen Lias yn gystal a chrwth a
thelyn i imi, gan nad oeddwn erioed wedi darllen un nofel ond “Taith y Pererin”
a “Chaban F’ewyrth Twm.” Ni chafodd yr hen Lias erioed o’r blaen y fath
wrandawr, ac o’r pryd hwnnw hyd ddydd ei farwolaeth edrychai arnaf fel “silly
bucket” (ys dywed Coleridge) i arllwys ei adgofion iddo.
“Wyddot ti pam mae dy gartre’n ca’l ei alw’n Brownhill?” meddai un tro. “Na? Mon
Dieu, what ignorance! Wel, pan dalwyd y prize-money i’r hen Adrniral
ar ol the Battle of Copenhagen - thousands and thousands of pounds -
penderfynodd brynu stât - (x32) cete va
sans dire, that’s what all the Admirals did! He was the son of the squire
of Ridgeway in Pembroke, ond stât fach oedd honno - not big enough, comprenez
vous, for a great man like Sir Thomas. ’roedd stât Abermarles yn cael ei
gwerthu - it had been in Chancery for 60 years and more - a fe brynnodd yr hen
Admiral ei hanner, a Williams y ’ffeirad, your ancestor, mon ami, -
gwarter o honi. ’roedd yr hen blâs wedi myn’d yn hopeless ruin - no one
living there for 60 years - a fe dynodd yr Admiral ef i lawr, ac o’r cerryg fe
gododd blas newydd Abermarles a thŷ ffarm Brownhill. Cododd hefyd y tŷ
bach lle mae Isaac Nathan yn byw, a galwyd hwnw’n Copenhagen - ar ol y Battle,
wel’d di. He wanted to call your house Copenhagen Farm, but my lady would not
have it. Lady Lucy was a great admirer of Bobby Burns, - all the Whigs loved
Burns and hated William Pitt - a chan fod Bobby wedi bod yn byw unwaith mewn
lle o enw Brownhill, Brownhill y galwyd the new house.”
Ni wn hyd y dydd heddyw a ydoedd esboniad yr hen Lias yn iawn ai peidio am yr
enw: ond credaf ei fod yn iawn wrth ddywedyd mai o gerryg hen blâs enwog
Abermarles yr adeiladwyd Brownhill yn 1801. Yn yr hen blâs y cynlluniodd Dr.
Lewis, meddyg Iarlles Rismwnt, a Rhys ap Tomos pa fodd y gallai Harri Tudur
lanio yn Aberdaugleddau a goresgyn Cymru a Lloegr. Yno hefyd y llawnododd Ficer
Pritchard ei ewyllys. Wel, wel, mae’r ffaith i mi dynnu fy anadl gyntaf rhwng
cerryg yr hen blâs yn dwyn Cymru Fu rywfodd yn agosach ataf.
“We always loved to have the Napier boys staying with us,” eb ef dro arall.
“Roedd Lady Lucy’n (x33) perthyn yn agos
iddi nhw. Eh bien - those were great days. ’roedd y cryts bob amser yn
full of fun and frolick. I remember once Lady Lucy heard that Charlie was
killed in the Peninsula. Fe gadd pob gwasanaeth-ddyn suit of mourning, ond, ma
foi! the first day we wore them, who should turn up but Charlie himself.
And what a feast we had!”
Ond efallai mai ei ’stori oreu yn ol fy marn i ar y pryd oedd ei ddesgrifiad
byw o’r guillotine ar waith yn Paris yn 1848, a’r pennau wedi eu hysgaru
a’r cyrff yn dawnsio yn y basged! Nid oeddwn byth yn blino ar glywed yr hanes,
ac ar ol i mi ei adrodd wrth blant yr ardal, byddent yn tyrru at yr hen Lias ar
y ffordd fawr, ac yn gweiddi, “Dwedwch wrtho ni, Lias Lewis, ffordd mae nhw’n
torri penne bant yn Ffrainc.”
Un haf, pan oeddwn gartref ar fy ngwyliau, digwyddodd amgylchiad ynglyn â’r hen
Lias sydd wedi bod yn destyn llawer ystori gyfeiliornus, ac felly, gwell yw i
mi adrodd yr hanes yn union fel y digwyddodd.
Un bore ym mis Awst daeth Mari Lloegr-fach i ddywedyd wrth mam fod Willie’r mab
wedi cael gafael ar ddwy goes ôl mochyn yn un o’r caeau. Tyddyn bach, a lle i
gadw pedair buwch, oedd Lloegr-fach, nid nepell o’m hen gartref. Bu unwaith yn
dafarn, a’i enw’r pryd hynny oedd Parc-y-beili. Ond ar ddechreu’r ganrif olaf,
pan oedd plâs newydd Abermarles yn cael ei adeiladu, daeth gweithwyr o Saeson i
westya yno, a chan gymaint o Saesneg a glywid yn y tŷ, galwodd yr ardalwyr
doniol ef yn Lloegr-fach. Ac fel y gŵyr pawb, oddiar pan alwodd gŵyr
Antioch ddeiliaid y grefydd newydd yn Gristionogion hyd ein dyddiau ni, ’does
dim a lŷm fel llysenw (x34) enw, ac
wrth yr enw Lloegr-fach yr adwaenir Parc-y-beili hyd heddyw.
Yr oedd Mari mewn cryn bryder, oherwydd ni allai ddirnad ffordd y daeth y
darnau mochyn i’r cae, ac yr oedd yn ddrwgdybus mai rhyw elyn iddi oedd wedi eu
taflu yno.
“Beth ’na i, Mystres fach?” ebe’n gythryblus. Dwy i ddim am i neb dowlu i’n
ngwyneb i na’r plant nad ydym ni ddim yn bobl onest.”
“O,” meddai mam, “mae Llewelyn yn myn’d i bosto llythyron yn Llangadog y
prydnawn, a geiff e’ ddweyd wrth y polis.”
Ac felly bu. Pan oeddwn yn ei throedio’n gyflym tua’r pentref, pwy welwn ar
ochr yr heol, a cheffyl a chart a gwas gydag ef, ond yr hen Lias. Nid oedd
gennyf amser i wrando ar storhâus dibendraw yr hen wr hanner-byddar, ac felly
aethum heibio yn dawel a llechwraidd, gan hyderu na welsai fi. Ond siomwyd fi.
Cyn i mi ei basio ugain llath, clywn lais yr hen fachgen yn gweiddi-
“C’est tu, scelerat! Be’ gebyst sy’ arnat ti’n rhedeg heibio fel ’na heb
’weyd siw na miw wrtha i?” “’Does gen i ddim amser i aros, Lias bach,” meddwn
innau.
“Beth yw’r hast sy’ amat, imbecile?” gwaeddai Lias.
“Mae eisieu gwel’d y polis ama i,” ebe finnau.
“Y polis?” gofynnai Lias. “Pwy eisieu nhw sy’ arnat ti?”
“Chlywsoch chi ddim?”
“Naddo, wir i Dduw,” ebe Lias. “Fe gawson afel mewn corff ar dir Lloegr-fach
bore heddi!” meddwn innau.
(x35) “Sacre bleu!” gwaeddai Lias. “Murder
at our doors, and we know nothing of it! Mae’n waeth na Gwerddon ’ma! Dyn neu
feniw o’dd e’?”
“O, corff meniw oedd hi,” meddwn innau.
“O’r fileined d-----!” ebe Lias. “And how old was the poor thing?”
“I can’t say,” meddwn innau, “but her hair was quite white.” “A1lez vite,
mon ami,” ebe Lias. “Bant a ti, ’ngwas bach i, paid loetran, a dwed wrth y
plisman am fwstro. There’s not a moment to lose.”
Ac ymaith a fi, heb feddwl rhagor am y peth, ond fy mod wedi cael y goreu ar yr
hen Lias.
Pan ddaethum i’r pentref ac wedi posto’r llythyrau, euthum i ddweyd y stori
wrth y plisman, ac addawodd yntau ddyfod cyn nos i Loegr-fach. Arhosais yn y
pentref am awr neu ddwy yn hollol ddifeddwl-ddrwg, wedi anghoflo’r hen Lias, ac
ar ol tê troais fy wyneb tuag adre’.
Pan ddeuthum i Gât Abermarles, gwelais rhyw ddwsin neu ragor o geir o flaen y Square
and Compass, a chlywn lais clochaidd yr hen Lias y tu fewn yn baldorddan am
y “murder” oedd wedi cym’ryd lle yn Lloegr-fach. Nid oedd dim i’w wneyd ond ei
gwanu hi gartref gynted ag y medrwn.
Erbyn hyn ’roedd y sôn wedi myn’d ar led, fel y gwna mewn ardaloedd gwledig,
fod cyflafan erchyll wedi cym’ryd lle yn Lloegr-fach. Danfonodd rhywun am y
Sergeant o Lanymddyfri, a daeth hwnnw a dau blisman gydag ef i wneud ymchwiliad
i’r “terrible tragedy.” fel y’i gelwid yn y papurau newyddion bore drannoeth.
John Crwca oedd y gohebydd, ac (x36). am
ddeuddeg awr ’roedd John yn tybio ei fod yn fwy o ddyn na golygydd y Times.
Y cyntaf i gyrraedd Lloegr-fach oedd John Saer, Cwmllife. Gwelodd Arthur, mab
Lloegr-fach, yn brwsho’r clôs o flaen y tŷ. ’roedd John yn gosod cryn fri
arno ei hun fel llenor, a phan yn gwneuthur coffin neu mewn angladd, ’roedd bob
amser yn siarad Cymraeg “clasurol.”
“Maent yn d’eyd wrthyf fi, Arthur,” ebe John - yr oedd yn hoff o fenthyg
priod-ddull y Gogledd ar achlysuron difrifol - “maent yn d’eyd wrthyf fi fod
damwain alaethus wedi cymeryd lle yma heddyw’r bore.”
“Beth?” gofynnai Arthur yn syn.
“Clywais ddeyd,” ebai John, “eich bod wedi cael gafael ar gorff ar un o’r caeau
- “
“O do,” atebai Arthur.
“Ac fod y gelain wedi ei sybedu’n arswydus,” meddai John.
Edrychai Arthur yn hurt am foment. Yna dywedodd gyda gwên:
“O, ’rwy’n diall ’nawr. Do, do, ’roedd ei hams hi wedi ca’l eu torri bant.”
“Hams, y crwt melldigedig!” rhuai John. Hams! Cofia’r, bredych brwnt, dy fod yn
siarad am fenyw’n gorwedd yn ei gwaed
“Meniw?” llefai Arthur. “Ond hwch yw hi!”
“Hwch!” meddai John. “Hwch! Wel, wel, ni fydd dim eisieu coffin arni, sownd.”
A throdd ymaith, fel y gwr ieuanc goludog, yn athrist. Cyn pen nos yr oedd yr
holl ardal yn ferw drwyddi gyda’r newydd, ac fel yr oedd gwaetha’r modd, ’roedd
(x37) cwrdd gweddi’n digwydd bod yn y
pentref. Erbyn hyn ’roedd pawb ond y gweinidog wedi dyfod i wybod mai canard,
ys dywedai yr hen Lias, oedd y stori. Wrth ddiweddu’r cyfarfod, defnyddiodd y
gweinidog ryw eiriau fel hyn:
“Gwared Di, Arglwydd, rhag y picellau sy’n ymlid liw nos. Bydd yn dyner wrth
anwyliaid y chwaer a gollasom mor ddisyfyd,” &c.
Ni chlywodd Lias, druan, y diwedd fyth ar “stori’r hwch,” ond chware-teg iddo,
estynnodd lawn faddeuant i mi.
“Tu malin!” meddai wrthyf, “yn twyllo hen ddyn! But boys will be boys. I
remember Charlie Napier once,” - a gorfu i mi wrando ar ryw stori ddiddiwedd am
hwnnw, ac yr oedd yn falch gennyf mai dyna’r unig benyd a dalais am “rigan” yr
hen Lias. ’Doedd dim Defence of the Realm Act mewn bod y pryd hynny!
Os oedd yr hen Lias yn hanner addoli’r Admiral a Lady Lucy, edrychai ar y
Capten oedd yn briod ag aeres Abermarles gyda dirmyg ysgornllyd. Nid oedd dim a
wnelai’r Capten yn iawn. “That is not how things were done by Sir Thomas and
Lady Lucy,” oedd ei fyrdwn bob cinio rhent. Llawer i ysgarmes boeth a gymerodd le
rhwng y Capten â hen pensioner y teulu, a chan fod y ddau’n dafodrydd,
celai’r deiladon hwyl fawr wrth wrando ar y ddau’n bragawthan ac yn chwythu
bygythion a chelanedd, un yn erbyn y llall. Yr oedd Lias yn feistr ar lwon mewn
tair iaith, ond bu’r Capten fyw am flynyddoedd yn Quebec ac yr oedd yn well
ysgolor yn y Ffrangeg na’r hen Lias. Barn y gymydogaeth oedd fod y Capten yn (x38) cael y goreu ar Lias, gan gyfoethoced ei vocabulary
a hyawdledd ei regfeydd.
O’r diwedd, yn llawn o ddyddiau, bu farw Lias, a chladdwyd ef ym mynwent y
plwyf yn agos i fur dwyreiniol yr Eglwys. Cyn pen blwyddyn ar ei ôl bu farw ei
hen elyn, y Capten, a thrwy ryw hap, penderfynwyd ei gladdu gerllaw’r hen Lias.
Digwyddodd Tom fy mrawd fyn’d i’r fynwent pan oedd bedd y Capten yn cael ei
dorri.
“Wyddoch chi pwy sy’ wedi ei gladdu man yna?” gofynnai’r torrwr beddau, gan
bwyntio at fedd Lias.
“Na wn, wir,” atebai ’mrawd.
“Yr hen Lias,” ebe’r torrwr beddau. “Ag a wyddoch chi lle ’rwy’ i’n myn’d i
ga’l fy nghladdu?”
“Na wn i,” meddai ’mrawd.
“Rhwng y ddou!” ebe’r torrwr beddau. “’Wa’th fe fydda i’n codi o’u bla’n nhw, -
mae’r Gair yn dweyd mai’r meirw yng Nghrist a adgyfodant yn gyntaf. Ond ni wna’
i syflyd o’r man yma hyd nes y coda’ nhw a gwel’d i gilydd. Y mowredd annwl, dyna
reiets fydd gyda nhw!”
(x39) PENNOD IV.
TWMI PRICE.
Gwr bach, tew, graenus, oedd Twmi Price, pum troedfedd a modfedd o hyd, ac
yn agos cymaint a hynny o led. Yr oedd yn llydan drosto, ond yr oedd fel stond,
yn lletach yn ei ganol nag mewn un man arall. Edrychai Twmi mor ddiniwed a’r
golomen, ond dywedid fod nid ychydig o gyfrwysder y sarff ganddo hefyd. Gof
oedd o ran ei grefft - yn hanner brawd i Griffith y Gof, ond wedi iddo briodi â
gweddw’r Three Horse Shoes, rhoddodd y goreu i’r efail, a daeth yn
dafarnwr digon medrus i allu cynnal y fusnes ymlaen ar ol colli Marged ei
wraig. Ie, a llwyddodd gymaint yn ei amgylchiadau fel mai ef oedd y Vicar’s
Churchwarden ym mlynyddoedd olaf ei fywyd. Yr oedd yn meddu, fel y teulu i
gyd, ar lais soniarus, ac yr oedd ei glod drwy’r holl gwmpasoedd am ei
ddatganiad o “Hob y Deri Dando,” “Glan Meddwdod Mwyn,” “Ar Hyd y Nos,” ac
ereill o’r hen alawon. Ond ei gampwaith, meddid, oedd tair cân na welais mewn
llyfr erioed: “Yr Eneth wrthodedig,” “Daeth mwydyn i Maesteilo,” a “’Stim posib
a chael.” Nid wyf yn cofio geiriau’r ddwy gyntaf, ond dyma fel y cofiaf fi
eiriau’r olaf:
(x40) ’Rwy’ ’nawr yn un ar hugain oed
Heb damed o faraf a loesen;
Mae’n ngwyneb i yn gwmws fel
Gwyneb rhyw hen groten.
Cydgan-
‘Stim posib a cha’l,
‘Stim posib a chocl,
‘Stim posib ca’l baraf a loosen.
Wrth brynu a gwerthu ebol blwydd
Enillais hanner sofren;
A honno i gyd a rown yn rhwydd
Am damed o faraf a locsen.
I siop y druggist ’n union es,
A gofyn wnes yn syden,
“Os gennych chi ddim rywbeth i roi
I fi i ga’l baraf a locsen?”
“O dyma eli gwerthfawr iawn,
A hwnnw’n eli gwawrgoch,
Wrth rwbio’n dda a rhwbio’n lew
Cewch wishgers lle y mynnoch.”
Wrth fynd i’r gwely rhwbio wnes,
A rhwbio nes bo’n twymo,
A bore dranno’th synnu wnes,
Yr own i’n wishgers drosto!
Edrychid ar Twmi, am ryw reswm neu’i gilydd, fel gwr oedd o flaen ei oes. Ni
allaf ddywedyd pam, oherwydd nid oedd wedi cael fawr o ysgol, ac nid oedd
chwaith yn ddarllenwr. Ni chlywodd neb ef erioed yn ’nelu siarad Saesneg, ac yn
wir yr wyf yn “ddirgel gredu” (ys dywed y pregethwyr) na wyddai ond ychydig
eiriau o’r iaith fain.
(x41) Un gaeaf bu i rai ohonom rai’r bobl
ifenc gychwyn darllenfa yn y pentre, ac er mwyn diddori’r rhai nad oeddynt yn
hoff o ddarllen, prynwyd draught-boards. Yr unig chware o’r fath a welwyd yn y
plwyf o’r blaen oedd “chware carw” (rhyw fath o backgammon), ond ar ol
dysgu’r ffordd i chware draughts cyfaddefai pawb fod y chware newydd yn
llawer trech na chware carw. Lledodd y blŷs am y chware newydd fel haint y
nodau drwy’r ardal; yr oedd y Ddarllenfa’n llawn bob nos, a’r tafarndai’n wâg.
Gwnaeth rhai o’r tafarnwyr brynu draught-boards er ceisio denu eu hen
gwsmeriaid yn ol. Un dydd, pan oedd ffair yn y pentre, aeth dau ŵr i’r Three
Horse Shoes, a gofynasant i Twmi os oedd draughts ganddo. Safodd
Twmi’n llonydd am eiliad neu ddwy, yna meddai:
“Na, ’does dim draughts gen i, ond mae gen i Druman, a Burton, ac
Allsopps.”
Wedi clywed sôn am draught beer yr oedd Twmi, mae’n debyg, heb erioed ddeall
ei ystyr.
Er nad oedd ei arabedd mor gyfoethog ag eiddo Griffith, ei frawd, eto adroddid
llawer stori ddigrif am Twn)i. Un tro ’roedd Twmi a Marged ei wraig yn
dychwelyd yn lled hwyr o’r Gwter Fawr, yr ochr arall i’r Mynydd Du, - Marged yn
gyrru’r cel (ceffyl) bach, a Twmi’n cysgu wrth ei hochr. Pan ddaethant at
Garreg Fawr Abermarles - lle’r oedd bwci’n aros bob amser - safodd y ceffyl yn
ddisymwth. Treiai Marged fel y mynnai, ’doedd dim modd cael Jac i symud, ac o’r
diwedd gorfu iddi ddihuno Twmi. Ac ebe Twmi pan ddeallodd beth oedd yn bod
“Be’ sy’ na, howyr bach? Pwy sy’n stoppo’r cel bach i fyn’d tua thre? Nid yr
Hollalluog, mi wranta, wa’th ’dyw e’ ddim yn gneud drwg i neb. A nid y (x42) d---1, wa’th ’rwy’ i wedi priodi ’i whar e’.
Come Jac, ’y ngwas i - bant a’r cart!”
A dyma Jac, wedi clywed llais ei feistr, yn myn’d yn ei flaen yn ddiddig ei
wala.
Bu Twmi am flynyddoedd yn cario caws a ’menyn ac wyau a blawd ceirch i’r Gwter
Fawr. Nid oedd relwê yn Nyffryn Towy’r amser hwnnw, ac äi Twmi bob nos Wener yn
y cart gyda Jac, gan gyrraedd y Gwter Fawr - fel y gelwid Brynamman - yn gynnar
bore dydd Sadwrn. ’roedd rhai pobl faleisus yn drwg-dybio mai nid caws a ’menyn
yn unig a gariai Twmi, ond fod ffesants a phetris i’w cael weithiau yng ngwaelod
y cart. Un tro pan oedd yn myn’d drwy Bontarllechau daeth plisman at Twmi.
“Stopiwch, Twmi,” ebe fe. “Oes game gennych chi heno?”
“Game?” atebai Twmi. “Game? Oes, fe dynga’ - fe dynnith Jac nes
bod ei fola bach ar y llawr! Come, Jac,” ac yn slashio’i chwip. A dyma
Jac yn carlamu nerth traed, nes oedd y plisman wedi ei adael ymhell o’i ôl.
Ond prif deitl Twmi i enwogrwydd oedd ei allu i ragweled marwolaethau. Pan oedd
yn ddyn ifanc, ’roedd yn gwel’d “toilu” (drychiolaeth o angladd), ac ni ddoi
cannwyll gorff i’r ardal heb i Twmi ei gwel’d o flaen neb arall. Clywais fy
nhad yn adrodd lawer gwaith fel yr oedd ef a Twmi’n dod ’nôl un tro o ffair
Trecastell, ac yr oedd tua hanner nos erbyn iddynt ddod i gymydogaeth cartref.
Yr oedd y ddau’n flinedig a chysglyd, a’r ddau geffyl oedd danynt heb fod yn
fawr gwell. Yn ddirybudd dyma’r ceffylau’n sefyll, a’r ddau wr ifanc yn dihuno.
“Welwch chi hwn ’co? “ ebe Twmi’n gynhyrfus.
(x43) “Na, wela i ddim,” atebai fy nhad, gan
lygadrythu yn y tywyllwch.
“Mae ceffyl yn neidio ar yr hewl,” ebe Twmi.
“Chlywch chi ddim rhyw ochen yr ochr arall i’r berth?”
Clustfeiniodd fy nhad, ond ni chlywai ddim.
“Hisht! clywch ’nawr!” meddai Twmi. “Mae’r ochen i’w glywed ’nawr yn blaen.”
Credodd fy nhad am foment ei fod yntau’n clywed rhywun yn griddfan yn y cae.
“Cydiwch ym mhen y ceffyl, Twmi,” ebe ’nhad, “ag fe af i i wel’d pwy sy’ yco.
Mae rhywun wedi ca’l anhap.”
Gyda’r gair dringodd dros y berth i’r cae, ond er chwilio a chwilio, ni welai
neb yno, ac ni chlywai’r ochain mwyach, er fod Twmi’n taeru o hyd ei fod ef yn
ei glywed. Aethant adref, ac yr oedd fy nhad wedi ei ddirgymell erbyn hyn mai
wedi breuddwydio’r cyfan yr oedd Twmi ac yntau.
Drannoeth yr oedd ffarmwr cyfagos yn marchogaeth ar yr heol fawr, a phan ddaeth
i’r man lle clywodd fy nhad yr ochain y noson cynt, neidiodd ei geffyl yn
ddisymwth naill ochr, a thaflwyd y ffarmwr ar ei ben dros y berth i’r cae.
Ymhen ysbaid clywodd rhai fforddolion ei ochain. Dygwyd ef i dyddyn bach
gerllaw, ond bu farw cyn i’r meddyg gyrraedd.
Llawer stori gyffelyb a adroddid am Twmi a’i ddawn ryfedd ac ofnadwy. Wedi
myn’d i gadw tafarn, gwnaeth Twmi ei oreu i guddio ei dalent, ond parhau a
wnaeth yr ardalwyr i gredu’n ddiysgog yn ei alluoedd.
Yn fuan wedi i Twmi gael ei wneuthur yn Churchwarden daeth ciwrad newydd, o’r
enw Williams, i’r (x44) plwyf - dyn ifanc
oedd wedi ei urddo o Goleg St. Bees heb fawr o baratoad at y weinidogaeth. Nid
oedd ball ar y storhâus adroddid am dano. Un tro yr oedd yr Esgob yn dyfod i
ymweled â’r plwyf, ac yr oedd “cyrddau mawr” i gael eu cynnal yn yr Eglwys.
Syrthiodd i ran y ciwrad i ddarllen y llithiau, a bu’r offeiriad am ddyddiau yn
ei ddysgu’n fanwl fel na chawsai anair gan yr Esgob. Daeth y dydd, a gwnaeth y
ciwrad ei ran yn fedrus ddigon hyd nes y daeth at un adnod, ac fel hyn y
darllenodd hi:- “Pilate saith unto him, What is truth? And when he had said
this, he went out again unto the juice.”
Cyn bo hir daeth y ciwrad i wybod fod yr ardalwyr yn credu fod Twmi’n gallu
rhagweled marwolaethau. Enynnodd ei lid pan glywodd fod y fath ofergoeledd yn
ffynnu yn y plwyf. Aeth i wel’d Twmi un bore i ymresymu ag ef.
“Thomas Price,” ebe’r ciwrad, “mae’n ddrwg gen i glywed eich bod chi’n twyllo’r
bobl anwybodus - eich bod yn gallu rhagweled marwolaethau.
“Mr. Williams,” meddai Twmi’n ôl, “’rwy’n rhoi ’ngair i chi nag w’ i ddim wedi
ynganu gair wrth neb am y fath beth er’s blynydde.”
“Feallai nag ych,” ebe’r ciwrad, “ond mae’n nhw’n credu hynny ta p’un, a’ch
dyledswydd chi, - fel churchwarden, yw i hargyhoeddi nhw i bod yn
camsyned.”
“Wel, Mr. Williams,” meddai Twmi, “dalla i ddim help os yw pobol yn cyfeiliorni
fel ’na.”
“Gallwch, mi allwch help,” meddai’r ciwrad, waeth ta chi’n dweud yn blaen wrthi
nhw nag ych chi ddim yn perthyn y fath ddawn, fe fyddai’r grêd farw cyn bo
hir.”
(x45) “Wel,” atebai Twmi, “dalla i ddim
gneud mwy nag a wnes i.”
“O gallwch, gallwch, Thomas Price,” meddai’r ciwrad drachefn. “A mae’n rhaid i
chi ’neud rhagor hefyd, neu fe weda i wrth y ficer fod ei churchwarden
yn twyllo’r bobl ofergoelus, ag ni fyddwch yn hir fel churchwarden wedyn.”
“Y dyn!” ebe Twmi’n wyllt, “odi chi’n meddwl mod i’n falch fy mod yn gallu
rhagweld pwy sy’n myn’d i farw nesa’ yn y plwydd? Odi chi’n meddwl i fod e’n
beth neis i fi wybod pan fydd rhywun yn yfed glased yma gyda fi na fydd e’ byw
i wel’d diwedd y mis? ’dwy’i ddim wedi gweud gair wrth neb am hyn ers blynydde,
ag ’rwyf fi’n fo’lon bod yn ddistaw byth, ond ’dalla i ddim gwadu’r ffaith mod
i’n berchen ar y ddawn, fel mae gwaetha’r modd.”
“Thomas Price!” llefai’r ciwrad yn syn. “A ych chi’n beiddio dweud wrtha i ryw
rigmarôl ddwl fel na?”
“Nid rigmarôl yw e’,” ebe Twmi’n frawychus, mae e’ mor wir â’r Efengyl.”
“Rwy’n synnu’ch clywed chi,” meddai’r ciwrad, ag os nad oes dim rhagor i ga’l
oddi wrtho chi, fe fydd yn rhaid i fi ddweud wrth y Ficer.”
“Gwedwch chi fynnoch chi, syr,” ebe Twmi, “wneiff e’ ddim altro’r gwir. Ag os i
chi’n dowto ’ngair i, fe weda wrthoch chi’r fyned yma pwy fydd y cynta’ i farw
yn y plwydd.”
Safodd y ciwrad yn fud am foment neu ddwy.
Yna eb ef:
“Rhowch enwau’r tri cyntaf, ag yna, os byddwch yn iawn, fe’ch creda chi.”
“Na, na,” llefai Twmi, “mae un yn ddigon.”
(x46) “Na,” meddai’r ciwrad, “os ych chi’n
iawn, mae mor rhwydd i chi roi tri ag un.”
Y diwedd fu i Twmi gytuno i ysgrifennu tri enw ar dri phapur a’u dodi mewn tri envelope.
Ar ol marcio’r envelopes yn 1, 2, 3, a’u cau, penderfynnwyd eu rhoddi
i’r ysgolfeistr i’w cadw. Clywais yr ysgolfeistr yn dywedyd y stori lawer
gwaith.
Y cyntaf i fyn’d oedd merch ifanc ddeunaw oed, yr hon oedd wedi bod yn dihoeni
ers misoedd o’r darfodedigaeth, gelyn creulonaf Cymru wledig. Ar ol yr angladd,
aeth y ciwrad at yr ysgolfeistr, agorwyd yr envelope cyntaf, ac ar y
papur tufewn cafwyd enw Ann Morgan, druan.
“Wel, lwc oedd hyn,” ebe’r ciwrad, “’roedd pawb ers wythnosau’n disgwyl clywed
ei bod wedi myn’d.”
Cyn pen mis digwyddodd marwolaeth arall, a’r tro hwn marwolaeth ddisyfyd oedd.
Yr oedd Nathaniel Rees wedi gwneud ffortiwn fach fel grocer yn y gweithiau, ac
wedi dychwelyd i’w hen gynefin i dreulio’r gweddill o’i ddyddiau. Nid oedd
eto’n dri ugain oed, ac yr oedd yn ddyn cryf, bywiog, iachus. Ond un diwrnod yr
oedd yn brysio i ddal y trên. Yr oedd yr amser yn brin, dechreuodd redeg,
syrthiodd mewn llewyg ar yr heol, a bu farw’n union o apoplexy.
Ar ol y gladdedigaeth aeth y ciwrad at yr ysgolfeistr. Agorwyd yr ail envelope,
ac ar y papur tufewn yr oedd enw Nathaniel Rees wedi ei ysgrifennu yn llaw
grynedig Twmi Price.
Gwelwodd y ciwrad a’r ysgolfeistr. Ofnent edrych ar eu gilydd. Y cyntaf i dorri
ar y distawrwydd oedd yr ysgolfeistr.
“Mr. Williams,” ebe fe, “daf fi ddim ymla’n â hyn. Mae rhywbeth arswydus yma
nag w’ i ddim yn gallu (x47) ei ddiall. Fy
nghyngor i yw i dowlu’r trydydd envelope i’r tân.”
“Na, na,” meddai’r ciwrad yn ofnus. “Fe ddylem wel’d enw pwy sy’ lawr a
rhybuddio’r dyn fel na fydd iddo fyn’d i’r farn heb baratoi.”
“Nonsense!” ebe’r ysgolfeistr. “’Dwy’ i ddim yn gallu penderfynu a oes rhywbeth
yn hyn neu beidio. Ta beth, wneiff e’ les i neb i w’bod pwy enw sydd lawr yna.
’Does dim eisieu i ni weud wrth neb am y peth, ond llosgwn yr envelope ar
unwaith.”
“Na!” meddai’r ciwrad, “’rwy’n penderfynu ei agor.’
“Wel,” ebe’r ysgolfeistr, “chi roddodd yr envelope i fi, ag mae gennoch chi
hawl i ofyn am dano’n ôl. Dyma fe. Ond cofiwch mod i wedi’ch rhybuddio chi.”
“O’r gore, o’r gore,” meddai’r ciwrad yn swrth, gan gydio yn yr envelope.
Agorodd ef, tynnodd aran y papuryn i llaw grynedig, edrychodd ar yr enw oedd
arno. Trodd mor welw ag angeu.
“Drychwch!” meddai wrth yr ysgolfeistr, gan estyn y papur. Edrychodd yr
ysgolfeistr, a gwelodd y geiriau, “Mr. Williams, curate,” yn llaw Twmi
Price wedi ei ysgrifennu arno. Ni allodd un ddywedyd gair wrth y llall am rai
munudau. O’r diwedd ebe’r ysgolfeistr
‘Twt, lol yw’r cyfan! Shwd y gall Twmi ragwel’d yn ots na rhywun arall! Mae’n
hen bryd lladd yr hen ofergoelaeth am second sight. Dylai fadel â’r wlad
gyda’r ysbrydion a’r canwyllau cyrff a’r holl ffwlbri arall oedd yr hen bobl yn
credu yndyn nhw.”
(x48) “Eitha gwir,” meddai’r ciwrad yn
groch, ond ’roedd ei rudd yn welw a’i wefusau’n crynu. “Nos da, fe af fi
gartre’n awr.”
“Ie, dyna sy’ ore,” ebai’r ysgolfeistr. “A pheidwch a gweud wrth neb am y
nonsense ’ma, a meindwch ’nawr beido a becso.”
“O na wnaf, wir,” meddai’r ciwrad, gan geisio chwerthin; ond ’roedd ei
chwerthin yn annaturiol. “Fe ’nawn ddiwedd bythol ar enwogrwydd Twmi Price fel
proffwyd.”
Ac ymaith yr aeth y ciwrad. Y noswaith honno aeth ar ei union i’r gwely, ac ni
chododd ohono mwy. Cyn pen pythefnos yr oedd wedi marw, ac ni allodd y meddyg
ddarganfod beth oedd ei glefyd. Barn yr ysgolfeistr oedd ei fod wedi ei
ddychrynu i farwolaeth.
(x49) PENNOD
V.
GRIFFITH Y GOF.
Dyn gwahanol iawn i Twmi Price oedd ei hanner brawd, Griffith y Gôf. Yr oedd
Griffith mor deneu ag oedd Twmi’n dew, ac mor dal ag oedd Twmi’n fyr. Er fod y
ddau yn berchen ar arabedd, cyfaddefid mai Griffith oedd wit y plwyf, ac
yr oedd ei bon mots, ys dywedai’r hen Lias, ar dafod pawb. Yr oedd
Griffith yn un o’r ychydig Eglwyswyr yn y plwyf, ac er nad oedd yn aelod
rheolaidd, yr oedd yn wrandawr cyson ac yn amddiffynnwr selog o gysylltiad yr
Eglwys â’r Wladwriaeth. Ei arwr mawr oedd Brutus, yr hwn oedd wedi ymsefydlu yn
ei ddyddiau olaf yn yr Half Way, ger Llanymddyfri, ac yn golygu’r “Haul” dros
William Rees, yr argraffydd clodwiw. Siaradai Griffith gyda dirmyg am Dafydd
Rees “y Diwygiwr,” yr hwn y bu Brutus yn ymryson beunydd ag ef. Barn isel oedd
gan Griffith am Ymneilltuaeth, a’r syndod oedd fod yr Ymneilltuwyr yn foddlon
goddef enllibion Griffith tra byddent yn cynhyrfu wrth glywed ereill, llai eu
dawn, yn dywedyd rhywbeth angharedig am danynt. Efallai mai un rheswm am. hyn
oedd fod Griffith yn perthyn i deulu Tomos Lewis, “y gôf ysbrydoledig,” o’r plwyf
cyfagos, Tal-y-llychau.
(x50) “’Rwy’n cofio Dafi Rees un tro,” ebe
Griffith, yn ysgrifennu llythyr at Lord John Russell, a’i gyhoeddi e’ yn y
Diwygiwr, a fe wna’th i bobol gredu fod Lord John yn gallu darllen Cymraeg, a’i
fod yn derbyn y Diwygiwr. Yr oedd yn gweiddi byth a hefyd am Ddadgysylltiad yr
Eglwys. Fe oedd y cynta’ bron i wneud, - fe a’r rhest o’r pregethwyr. Ond fe
gafodd bryd o dafod gan Brutus. Baptis oedd Brutus wedi bod, ond fe welodd
gyfeiliorni ei ffordd, ac fe dda’th yn Eglwyswr cadarn cyn diwedd. Ond fe
gredai i ddiwedd ei oes mai Christmas Evans oedd y pregethwr mwyaf siangodd
mewn esgid erio’d. Christmas Evans yn wir! Dim ond gwas ffarm o’dd e’, ag fe
gollodd i lygad wrth ymladd mewn ffair, a chas e’ ddim cystal ysgol ag a ges i.
Fe glywes Brutus yn adrodd rhai o’i bregethau, a chlywes i’r fath ffwlbri
erio’d â ’nghlustiau. ’roedd gydag e’ un bregeth am y doethion yn dwad o’r
Dwyrain i edrych am y mab bychan yn Methlem. Yr oedd yn desgrifio’r ffordd yr
oedd y doethion yn galw mewn siop grocer, ac fod y grocer yn
arfer dodi sand yn y shwgir. Fel pe ta’ grocer i’w ga’l ym Methlem ’ramser
hynny, a’i fod e’n gwerthu shwgir brown a Demerara cyn i Columbus
ga’l gafel ar America. Glywodd neb shwd lol erio’d?”
Yn 1885, ar ol “unauthorised programme “ Mr. Chamberlain, daeth cwestiwn
Dadgysylltiad i’r amlwg, ac yr oedd yr holl gym’dogaeth wedi ei chyffroi. Aeth
Griffith o’i gof, a meddai:
“’Does dim eisie Dadgysylltiad. ’does neb ond y pregethwyr a’r Radicaliaid yn
’mofyn y fath beth. ’doedd dim son am y fath beth ’slawer dydd pan oedd yr
Eglwys yn wannach nag yw hi heddi. Yr (x51)
Eglwys yw gwraig y Wladwriaeth. Beth ddeuthai ohonno ni’r gwrywod ta gyda ni
ddim gwragedd gartre’ i fod yn gydwybod i ni? Mae’r gwrywod yn gorfod myn’d i
ffair a marchnad, ond mae’r gwragedd yn aros gartre’ i ddryched ar ol y plant.
Ydych chi’n meddwl y buswn i’n dwad gartre’ o ffair ne seshwn mor daliedd ag w’
i, ta dim o Jane yn y’ nisgwyl i? Mae tafod Jane yn well na chydwybod i fi! A
beth ddeuthai o grefydd oni bae am y menywod? Yr argoel fawr, fyddai dim na
seiet na chwrdd gweddi cyn pen blwyddyn! ’roedd yr apostolion yn cwmpo mâs a’u
gilydd hyd yn oed pan oen nhw yng nghwmpni’r Gwaredwr, a ’doedd neb ohonyn
nhw’n specto pwy oedd e’. Ond ’roedd y gwragedd, Mair a Martha a Magdalen, yn
gwbod yn iawn. A mae’r Wladwriaeth yn gorfod gneud ambell i dro brwnt, ond fe
ddylai’r Eglwys fod uwchlaw’r fath dricks. Mae eisieu cydwybod ar y wlad
fel sy’ ar ddyn, a’r Eglwys Sefydledig yw’r gydwybod i gadw’r wlad yn weddol right.”
Un tro aeth Griffith a Dafi’r Felin i’r Sasiwn i Langadog. Pan gyrraeddasant y
cae lle cynhelid y Sasiwn yr oedd tyrfa fawr wedi dyfod ynghyd.
“Dier mi, dier mi,” meddai Dafi gydag ochenaid, mae rhyw haid o bobol wedi dwad
at i gilydd.”
“Oes,” ebe Griffith, “mae rhyw gwplach yma.”
“Mae nhw yma wrth y cannoedd a’r miloedd,” meddai Dafi.
“Falle bod rhyw ddege yma,” ebe Griffith.
“Weles i gymaint o bobol erio’d!” medai Dafi.
“Mae nhw yma fel haid o wenyn.”
“Glywsot ti beth ’wedodd ’rhen Rowlands Llangeitho am y gwenyn?” gofynnai
Griffith.
(x52) “Naddo i,” meddai Dafi.
“O, fe wedodd y bydde’r Methodistiaid yn dwad ’nol fel haid o wenyn i’r hen
gwch,” ebe Griffith.
“Wel,” meddai Dafi’n ddireidus, “wela i fowr o argoel arnyn nhw’n dwad. Mae nhw
wedi gneud nythe iddyn nhw’u hunain yn y prif-ffyrdd a’r caeau, ac y mae nhw’n
byw’n eitha diddig yndyn nhw hefyd, er gwaetha’ padelli tyn y ffeiradon.”
“’Rwyt ti’n gweud y gwir,” atebai Griffith yn sych. “Mae nhw wedi troi’n bicwns
(gwenyn meirch) i gyd.”
Yr efail oedd cyrchfa bechgyn ifenc, a llawer o bobl mewn oed hefyd, drwy’r
gym’dogaeth. Yno y trinid materion eglwysig a gwleidyddol a lleol, a theflid
llinyn mesur dros bawb yn ddiwahaniaeth. Ar ddiwrnod glyb ceisiai pob gwas
ffarm gael gafael ar neges i fyn’d i’r efail, ac os na ellid cael gwell esgus,
byddai’r ddannodd yn siwr o boeni Wil y Waginer, a rhaid oedd myn’d i’r efail i
gael tynnu’r dant digllawn. Griffith oedd “doctor dannedd” yr ardal, ond nid
cynt y gwelai Wil yr offerynnau mawr, hyll, i dynnu’r dant nag y gwellai’r
ddannodd yn llwyr.
Ambell waith y gwelid Griffith heb bib glai yn ei ben, ac arferai ofyn i
grytsach yr ardal danio’r bib iddo. Cyn pen hir byddai’r crwtyn wedi magu blŷs
at dybacco, ond os gofynnai am bibed gan Griffith, arferai Griffith ateb:
“Na, na, ’y machgen mowr i, fe gest dy ddysg am ddim, - rhaid i ti fyw ar dy
gost dy hunan ’nawr. Mae gen ti grefft, ’y ngwas i, na fadewith a thi byth.”
Byddai Griffith yn hoff o siarad am yr achosion a ddeuai o flaen y seiet. Un
tro daeth achos mwy pwysig nag arfer dan ddisgyblaeth eglwysig. Yr oedd yn
arferiad gan bobl dlawd y plwyf i dorri brwyn (x53)
ar lannau’r Towy i doi’r mwdwlau gwair. Wedi torri’r brwyn, rhwyment hwy yn
ysgubau, a gadawent hwy ar y cae am ddiwrnod neu ddau cyn eu cario adref. Un
tro aeth gwr a alwaf yn Morgan y Fron (nid dyna oedd ei enw), i lan yr afon,
ond yn lle torri brwyn iddo’i hun, cludodd ymaith yr ysgubau oedd yn gorwedd
yno’n barod. Yn naturiol ddigon digiodd y bobl oedd wedi torri’r brwyn, a
deuthpwyd a’r achos o flaen y seiet. Yr oedd Griffith yn gryf o blaid Morgan.
“Ddylid dim o’i dorri e’ ma’s am hynna,” maentumiai Griffith, “wa’th ’doedd e’
ddim ond yn cyflawni’r Ysgrythyr, ond nag ych chi’r dissenters ddim yn
gwbod eich Beibl.”
“Wel,” meddai rhyw ddissenter oedd yn ei glywed, “fe glywes fod un o’r
deng air deddf yn gorchymyn ’na ladrata,’ ond chlywes i erio’d sôn fod y Beibl
yn cyfiawnhau neb am ddwyn (lladrata) o’r blaen.”
“Clywch chi e’ ’nawr!” gwawdiai Griffith.
“Chlwsot ti ddim fod y Testament Newydd yn ein hannog ni i ’ddwyn beichiau’n
gilydd,’ a dyna i gyd mae Morgan, poor fellow, wedi wneud.”
Wrth y gair “dissenter” golygid yr Annibynnwyr yn ung. “Tŷ cwrdd” (meeting
house) bob amser y gelwid capelu’r Annibynnwyr a’r Bedyddwyr, - yr unig
“gapel” oedd capel y Methodistiaid. Ac yn hyn ’roedd yr hen bobl yn iawn,
oblegid rhyw fath o “Chapel of Ease” i’r Eglwys Wladol oedd capelau’r
Methodistiaid hyd yr ymraniad yn 1811.
Ni chlywodd neb byth mo Griffith yn chwerthin. Pan fyddai pawb yn crechwen wrth
glywed ei “ddedwydd ddywediadau,” ni welid gwên ar ei wyneb ef. Tynnai’r “bwa
hir” gyda chymaint difrifoldeb a (x54) phe
bae’n traddodi pregeth, nes yr oedd pobl ddiniwed nad oeddynt yn adnabod yr hen
walch, yn barod i gredu pob gair. Dywedai bethau rhyfedd wrthym ni blant yr
ardal, pan gaffai gyfle heb fod pobl mewn oed yn clywed. Yr oedd wedi cael
gafael, meddai, ar ynys yn y môr tu draw i Gaerfyrddin, lle’r oedd marbles yn
tyfu ar y coed. Yr oedd yn bwriadu danfon llong i ddwyn y marbles i
Lansadwrn, a phan gyrhaeddai ’nol, byddai digon o farbles i holl blant y
plwyf yn rhad ac am ddim. Buom am flynyddoedd yn hanner credu’r stori, ac ni
fyddem byth yn gwel’d Griffith heb ofyn iddo am helynt y llong. Weithiau ’roedd
y llong ar y ffordd, a byddai’n siwr o ddod yr wythnos nesaf. Pan ddeuthai’r
wythnos nesaf, ’roedd Griffith yn isel iawn ei ysbryd oherwydd fod y llong wedi
suddo a’r marbles gyda hi. Ond y flwyddyn nesaf, yr oedd yn addaw danfon
llong arall, ond er disgwyl a disgwyl, ni ddaeth y llong a’r marbles i’r
porthladd byth. Daeth “wythnos nesa” Griffith mor ddiarhebol yn ein mysg ni’r
plant i “fory Sion Crydd” yr hen gân.
Dro arall dywedai wrthym ei fod yn cofio un gaeaf oedd mor oer fel yr oedd y
geiriau’n rhewi wrth ddod allan o’i enau. Yn ystod y gaeaf yr oedd yn codi beudŷ
gerllaw’r tŷ. Digwyddai fod ar ben y wal pan y syrthiodd y morthwyl o’i
law i’r llawr. Nid oedd ysgol yn agos. Y pwnc oedd, ffordd i gael gafael
eilwaith ar y morthwyl? ’roedd ystên yn llawn o ddŵr twym yn digwydd bod
gerllaw. Arllwysodd y dŵr o’r ystên ar ben y morthwyl. Rhewodd y dŵr
wrth ddisgyn, nes oedd ffon o iâ o’r ystên i’r morthwyl, ac wrth dynnu’r ffon
cododd y morthwyl i fyny! Flynyddoedd wed’yn gwelais stori gyffelyb (x55) yn “Baron Munchausen,” ond ni chlywodd
Griffith sôn am y barwn geirwir erioed.
Cofir un arall o ddywediadau Griffith nad oedd yn newydd, er y credaf ei fod yn
hollol wreiddiol iddo ef.
“Pam nag ych chi’n shafo? “ meddai rhywun wrtho.
“Pwy eisieu dioddef poen sy’ heb yn rhaid?” gofynnai Griffith. “Mae pobl yn
credu y dylai gwrywod ddioddef poen wrth shafo er gneud i fyny i’r menywod am
na enir plentyn i’r byd heb boen.”
Rhoddir dywediad cyffelyb yn “Spence’s Anecdotes,” a phriodolir ef i Dr.
Abernethy, y physigwr enwog a doniol yn amser y Frenhines Ann!
Ychydig o gyfreithia oedd yn yr ardal, - nid wyf yn cofio ond am un “gyfraith”
o’r plwyf yn ystod y deugain mlynedd diweddaf. Pobl ddoeth yw pobl y plwyf! Ond
bu’n gyfreithia caled rhwng dau wr mewn plwyf cyfagos, a bu llawer o siarad yn
ei gylch. Pan ddeuthum adre o’r ysgol un haf, cyfarfum â Griffith ar yr heol.
“Dwedwch wrtho i,” meddai, “- wa’th ches i ddim amser i ddryched ar y papur
bore heddi - faint fu orfod i Charlie Bach dalu i Rogers Myddfai?”
“O, rhyw dri chant o bunau,” ebe fl.
“A, bid siwr, fe fydd y coste’n rhagor,” meddai Griffith. “Mae’r trimmings
yn wastod yn costi mwy na’r brethyn! Faint wedwch chi fydd y coste?”
“Rwy’n clywed,” ebe fi, “y bydd y coste tua phum cant.”
“Lycoch chi’n awr, dir-yn-safio-ni,” meddai Griffith. “Tri chant a phum
cant-dyna wyth cant o bunne, ynte?”
“Eitha’ gwir,” ebe fi.
“Wyth cant o bunne!” ebe Griffith. “Dyna i (x56)
chi dwshged o arian ’nawr, - gymaint ag a ellwn i enill mewn rhyw gwarter
blwyddyn!”
Yr oedd gan Griffith le i gadw buwch, ac weithiau byddai’n magu llô. Un
flwyddyn penderfynodd werthu’r fuwch a phrynu treisiad (anner) ddwy flwydd yn
ei lle. Daeth John Felindre, yr hwn oedd dipyn o borthmon, i geisio taro bargen
i Jane, tra’r oedd Griffith yn yr efail. Wedi methu dod i delerau â Jane, aeth
John at Griffith i’r efail.
“Rwy’ wedi bod yn treio prynu’r fuwch, Griffith,” meddai, “ond mae Jane a finne
wedi ffeilu cytuno ar y pris.”
“Faint oedd Jane yn ofyn?” gofynnai Griffith.
“Deuddeg punt,” ebe John.
“A faint oeddet ti’n gynnyg?” meddai Griffith.
“Saith punt,” ebe John. “O ’r llô welsot ti, ’s dim dowt!” meddai Griffith.
Daeth “efengyles” heibio ar daith bregethwrol un tro, a bu pawb yn tyrru i’w
chlywed. Dywedid i’r hen Walter Thomas, na fu erioed gyda chrefydd hyd yn oed
yn nyddiau’r diwygiadau nerthol, ei chlywed un waith ar ddeg, ac iddo gerdded
un dydd ryw bymtheg milldir, er ei fod dros bedwar ugain oed ar y pryd. Cafodd
droedigaeth yn ei ben ddyddiau, a phan ymadawodd â’r fuchedd hon rai misoedd
wed’yn, mae’n ddilys ddigon iddo farw o farwolaeth y cyfiawn. Gofynnai rhywun i
Griffith ffordd oedd e’n cyfrif am boblogrwydd yr Efengyles o’i chymharu â’r
pregethwyr lleol.
“O, mae’n hen, hen hanes shwd mae pobl wamal yn rhedeg ar ol pethe newydd,” ebe
Griffith. “Dyna oedd bai mowr yr Atheniaid yn nyddiau Paul, a ta ’nhw’n byw yn
ein dyddie ni, fe fusent yn troi’n (x57) ddissenters
bob un. Wath dyna yw’ch hanes chi’r dissenters erio’d - eise rhywbeth newydd
o hyd. ’doedd y Llyfr Gweddi Cyffredin ddim yn ddigon da i chi, er fod y
seintiau duwiolaf welodd y byd erio’d a’r pregethwyr mwyaf hyawdl wedi bod
wrtho. Fe flinsoch ar yr un gweddiau Sul ar ol Sul. Mae’n well gyda chi glywed
gweddi o’r frest gan ryw lasgrwt diddysg ne ffwlcyn digywilydd na gweddi
Chrysostom ei hun! A tae chi’n gallu, fe fynsech Feibl newydd hefyd! Ac yr oech
chi wedi blino ar homiliau’r Eglwys oedd yn ddigon da i frenhinoedd ’s lawer
dydd, a fe fynsoch gael pregethwyr bôn clawdd i weiddi rhyw ddwli ddoethe i’w
penne gwag yn eu lle. A ’nawr yr ych yn dechre ’laru ar bregethe’r pregethwyr,
ac yr ych yn rhedeg ar ol pob hen groten ddaw o’r gweithe i diwno’r Efengyl fel
pe bae yn anthem mewn cymanfa ganu. A dyna’r hen Wallter, yr hen bechadur
oesol, yn downso ’nol a blân ar hyd ale Ebenezer, ac wedi ca’l gras i’w hen
galon garreg, medde fe, pan oedd yr Efengyles yn canu solffa uwch i ben. Os,
drwy ryw ryfedd wyrth, yr ewch chi’r ’Senters byth i’r nefoedd, fe fyddwch wedi
’laru cyn pen mis ar whare’r delyn aur, a fe fyddwch yn hala petisiwn at
Gabriel am ganiatad i chi ga’l ’whare giwga neu whistle dyn. Fe glywes i’r
Efengyles, ac. ar f’encos i, giwga ddime yw hi!”
Er ei bod yn bercben ar lais da, ac yn aelod ffyddlon o’r Côr Undebol, nid wnai
Griffith byth gystadlu am wobr mewn Eisteddfod. Eto ’roedd yn caru ac yn
gwerthfawrogi’r Eisteddfod.
“Mae eisie’r Eisteddfod,” meddai, “arno ni’r Cymry, wa’th ’rŷn ni’n rhy
ffond o fyn’d i eithafion. (x58) Mae’r
Eisteddfod yn Hâff Wai (half way) rhwng y ffair a’r seiet.”
Er ei fod yn Gymro o waed coch cyfan, yr oedd yn gritic llym o’n beiau a’n
diffygion cenedlaethol.
“Tri chynnyg i Gymro!” meddai un tro wrthyf. “Pwy oedd y cecer (coward)
’wedodd y ddiareb ’na gynta’? Pwy eisie tri chynnyg sy’ ar Gymro os yw e’
gystal dyn a Sais? Ond mae’r Cymry wedi gwaethygu wedi ’madel â’r Hen Fam. Mae
arnyn nhw ofon eu cysgod wedi troi’n ddissenters, - ofon byw rhag iddyn
nhw bechu, ag ofon marw rhag iddyn nhw gael eu cospi! Shwd gallwch chi ddishgwl
ca’l tipyn o blwc mewn fath bobol? A dyma’r holl blwyf yn plygu gân ac yn
gweiddi Abrec o fla’n ’rhen gapten pwdwr ’na sy’n y Plas! Pwy ryfedd? ’Does neb
wedi eu dysgu nhw i barchu eu hunen ag i sefyll i fyny fel dynion a grewyd ar
lun Duw. O na! dyma ddysgir iddyn nhw i weud byth a hefyd, - ‘Nid oes man glân
a chyfan arnom o goryn y pen i sawdl y troed.’ Ych! mae’n gâs gen i arddel
weithe ’y mod i’n Gymro. Glywsoch chi’r hen stori am y trafaelwr? ‘Faint gymeri
di am gario’r baich ’ma?’ meddai wrth y Sais. ‘Peint o gwrw,’ atebodd y Sais.
‘Faint gymeri di?’ meddai wrth Scotchman. ‘Faint rowch chi?’ mynte hwnnw
’nol wrtho. ‘Beth gymeri di?’ meddai wrth Wyddel. ‘Mae’n diwel y glaw,’ mynte
Pat, ‘a fe gymera annwyd.’ ‘A beth gymeri di?’ meddai o’r diwedd wrth Gymro.
‘Beth bynnag, syr, y fyddwch chi, syr, yn gwel’d bo’n dda i roi, syr,’ meddai’r
ffwlcyn meddal. A dyna’n hanes ni’r Cymry - yn fo’lon derbyn beth bynnag roiff
y Sais i ni o hyd.”
(x59) Y tro diweddaf y gwelais Griffith ar
dir y byw oedd pan euthum i ymweled a’m tadcu. Ar y ffordd i’r pentre nos Sul
goddiweddais Griffith ar yr heol.
Ar ol y moesgyfarchiadau arferol, meddai Griffith:
“Ble mae’r wraig gyda chi?”
“O, mae’n dwad tu ôl man ’na gyda tadcu,” ebe fi.
“A ble mae’r plant gyda chi?” meddai Griffith.
“O, maent i gyd yn y nefoedd gyda fi, Griffith bach,” meddwn yn ysgafn.
“Druain o’r amddifaid bach atebai Griffith. “Welan nhw byth o’u tad!”
(x60) PENNOD
VI
RHYS EDWARDS A DEWI TOWY.
Nid wyf yn cofio ond dau lenor yn yr hen blwyf, sef Rhys Edwards a Dewi Towy.
Cefais y fraint, ar ol ymadael â chartref, o eistedd wrth draed llawer athro
hyglod, ond dywedaf, ar air a chydwybod, fy mod yn fwy dyledus i’r ddau wladwr
syml nag i feistri’r ysgolion a fynychais na’r tutoriaid yn Rhydychen. Yr oedd y
ddau yn wir ddiwylliedig, nid yn herwydd eu dysgeidiaeth na’u gwybodaeth, ond
oblegid eu bod yn myfyrio ar bob peth a wyddent ac yn meddwl drostynt eu hun.
Yr oedd Rhys Edwards yn byw mewn ffarm fach o’r enw Bwlchygwynt. “’Does dim
llawer o sŵn bywiolaeth yn yr enw,” meddai Griffith y Gôf yn ei ddull
gwatwarus, oherwydd nid oedd gydag ef fawr olwg ar yr Ymneilltuwr selog, y
Rhyddfrydwr pybyr, a’r llenor gwych. “Wrth glywed Rhysyn yn siarad,” dywedai
Griffith, “fe allech gredu fod doethineb y byd wedi cyd-grynhoi yndo fe; ond yn
Bwlch-y- gwynt y mae’n byw, ac yno y bydd farw.” Os llwyddiant bydol yw’r
safon, yna ’roedd degau o bobl ereill yn y plwyf a ddylent gael eu coffhau o
flaen Rhys. Ond os nad oedd Rhys yn gyfoethog ym mhethau’r byd hwn, yr oedd ganddo
olud meddyliol (x61) nad oedd neb arall yn y
plwyf yn berchen arno. Beth pe bae wedi cael ei eni hanner canmlwydd yn
ddiweddarach? Beth pe bae wedi cael dysgeidiaeth yr ysgolion a’r colegau?
Efallai y byddai wedi cyrraedd bri ac enwogrwydd; neu, efallai, y byddai wedi
colli’r gwreiddiolder a’r cryfder meddwl oedd yn ei hynodi. Rhys oedd y
beirniad ym mhob Eisteddfod, ac ef oedd oracl y cwmpasoedd mewn pethau
llenyddol. Yr oedd golwg urddasol arno. Nid oedd ond o daldra cyffredin, ond
gan mor lluniaidd ei gorff a thywysogaidd ei ymddangosiad, rhoddai’r argraff ei
fod yn fwy o gorffolaeth nag ydoedd mewn gwirionedd. Yr oedd ganddo drwyn mawr
Rhufeinig y byddai Iwl Caisar yn falch ohonno, a barf laes hir fuasai’n gosod
anrhydedd ar Aaron, a llygaid byw, disglair, a fyddent yn melltenu pan oedd
wedi ei gyffroi. Mae wedi marw ers blynyddoedd bellach, a chyn pen hir bydd y
cof am dano, mae’n ddiau gennyf, wedi diflannu o’r tir. Eto gwnaeth waith mawr
yn ei ddydd a’i dymor yn ei gylch cyfyng ei hun, - gwaith fu’n help i greu’r
Gymru Newydd sydd erbyn heddyw’n herfeiddio cenhedloedd mwy eu maint a
chyfoethocach eu breintiau. Er nad oedd ganddo lais peraidd, yr oedd yn deall
ac yn gwerthfawrogi cerddoriaeth. Ef a fu’n foddion i ddwyn gwybodaeth o’r
tonic soffa i’r ardal.
“Os ych am ddeall cyfrinion dyfnaf cerddoriaeth,” meddai, “rhaid i chi fod yn
gyfarwydd â’r hen nodiant, ond am ganu gwerinol, ’does dim fel y solffa.”
Am flynyddoedd bu’n cynnal ysgol gân ym mhob pentre tu fewn i saith milltir i’w
gartref. Pan gynhelid Eisteddfodau’r Gogofau yng Nghaio hanner can mlynedd yn
ôl, Rhys Edwards oedd yn arfer paratoi (x62)
Côr Undebol yr ardal erbyn y gystadleuaeth. Deuai Caradog neu Eos Morlais neu
ryw arweinydd enwog arall o’r “gweithfeydd” i gynnal dwy neu dair rehearsal cyn
dydd mawr yr Eisteddfod, a hwy, ac nid Rhys, fyddai’n arwain y côr ar y
llwyfan. Enillodd y côr lawer gwobr, ond yr oedd Rhys yn hollol foddlon i
ereill gael y clod a’r poblogrwydd. Y noswaith cyn yr Eisteddfod cynhelid
cyngerdd yn ysgoldy’r plwyf, pryd y byddai Caradog yn swyno’r ardalwyr â’r
crwth, neu, Eos Morlais yn canu Cymreigaeth bur i eneidiau’r gynulleidfa.
Yr oedd Rhys Edwards yn ymylu ar henaint pan gofiaf ef gyntaf, ond yr oedd mor
ifanc ei ysbryd a’r un glas-lanc yn y lle. Gyda’r bobl ifenc yr hoffai fod bob
amser. Nid oedd dim cyffredin yn ei olwg.
“Rwy’n lico bod gyda dynon ifenc,” arferai ddywedyd. “Fe ddyle pob dyn ifanc
dreio bod yng nghwmpni hen bobol, er mwyn iddo ga’l iws eu profiad, a fe ddyle
hen bobol fod gyda’r bobol ifenc er mwyn eu cadw ar ddyhun.”
Ni allasai siarad fawr o Saesneg, er y gallai “ddarllen llyfrau mawrion,” ys
dywed yr Hen Ficer, yn yr iaith honno. Arferai ddwyedyd na fu erioed yn cysgu
ddeng milltir o’i gartref. Ond yr oedd yn efrydydd diflino, ac yr oedd yn
hyddysg yn llenyddiaeth Cymru, ac i raddau yn eiddo Lloegr hefyd. Yr oedd
gweithiau Dewi Wyn o Eifion ar ei gôf ac ar ei dafod beunydd. Dyfynnodd un
frawddeg o waith y gwr mawr hwnnw mewn cyfarfod dirwest unwaith, er na wn hyd y
dydd heddyw o ble y’i cafodd.
“Y mae meddwdod,” meddai, “nid yn unig yn mochyneiddio y corff, ond yn
cythreuleiddio’r enaid, nes y mae’r meddwon yn rhy aml yn gefneintiau (x63) gorffwyllog yn rhuthro dros ddibynnau
dinistr i ddyfnderoedd pob math o drueni.”
Bu ef a mi’n cyd-ddarllen llawer ar Shakespeare. Ni flinai ar ganmol “Sesame
and Lilies” Ruskin. Clywodd sôn am “First Principles” Herbert
Spencer, ac ni chefais lonydd ganddo hyd nes y benthyciais y cyfrolau o ryw
lyfrgell a rhoi eu benthyg iddo. Ni allai ddirnad paham nad oeddwn i’n gallu eu
mwynhau fel y gwnai ef. Ond er cymaint ei flys at ddarllen, nid anghofiai
feddwl drostoi’i hun. Ni ddilynai “the pedantry of courts and schools,”
ond ymresymai bob peth allan. Y canlyniad oedd i lawer o bobl yr ardal edrych
arno fel heretic, ac er mai ef oedd “prif ddiacon” Ebenezer, amheuid ei fod yn
uniongred gan y mwyafrif o’i gyd-aelodau. Garw fyth na fyddwn wedi gwneuthur
nodiadau o’i ddywediadau gwreiddiol, synhwyrgall ar y pryd, fel Athro yn yr
Ysgol Sul, yn y Seiat, ac yn y Ddarllenfa, - ond, gan na wneuthum, nid oes dim
i’w wneud ond ceisio gosod i lawr, goreu y gallaf, yr ychydig a gofiaf ar ol
deng mlynedd ar hugain a rhagor.
Bum yn ei ddosbarth yn yr Ysgol Sul am flynyddoedd. Byddai dadleu brwd yn
cymryd lle yno’n fynych ynghylch dyrys bethau’r ffydd, ac yr oedd rhywun bob
amser yn barod ag esboniad Idrisyn neu James Hughes neu Barnes neu Matthew
Henry; ond ar ddiwedd yr ymdrafodaeth ’roedd yr Athro yn barod â rhyw sylw
gwreiddiol o’i eiddo ei hun.
Unwaith dechreuodd Tomos y Crydd ddadl boeth ar y geiriau, “Nac arwain fi i
brofedigaeth.” Maentumiai Tomos fod hyn yn dangos fod yr Arglwydd yn temtio
dynolryw, “neu pwy eisie gofyn iddo i beidio’n harwain i brofedigaeth,” ac nad
oedd dynion (x64) felly yn gyfrifol am eu pechodau.
Ni allaf ddywedyd pwy heresi yw hon, oblegid mae’n dra thebyg ei bod mor hen
bron a Christionogaeth. Ni wn chwaith - ac ni wyddai Rhys Edwards - beth oedd
ateb y Tadau i’r hereticiaid. Ond yr oedd Tomos y Crydd yn barod i gadarnhau ei
osodiad gydag enghreifftiau Beiblaidd. Dangosodd fod Duw wedi rhoddi caniatad i
Satan demtio Job, a’i fod wedi caledu calon Pharaoh. Yr oedd y dosbarth bron yn
arswydo wrth glywed y crydd, ac nid oedd nemawr air yn cael ei ddywedyd i’r
gwrthwyneb. Ar derfyn y ddadl, ebe’r Athro: “Dirgelwch na allwn esbonio yw fod
pechod yn bod mewn byd sydd dan lywodraeth yr Hollalluog. Ond mae dwy adnod yn
profi nad oes eisieu i ddyn wangalonni. ’Digon i ti fy ngras i, fy nerth i a
berffeithir mewn gwendid.’ Ac y mae’r Apostol yn dweyd yn bendant wrthom yn
groes i athrawiaeth y brawd Tomos Jones: ’na ddyweded neb, pan demtier ef, gan
Dduw y’m temtir, canys Duw nis gellir ei demtio â drygau ac nid yw efe yn
temtio neb.’ Drwy ymegnio y megir cryfder, a thrwy demtasiynau y megir rinwedd.
‘Gwyn ei fyd y gwr sydd yn goddef profedigaeth: canys pan fyddo profedig, efe a
dderbyn goron y bywyd.’ Fe demtiwyd Crist yr un ffunud a ninnau, ac os oedd e’
heb bechod, ein dyledswydd ni yw treio bod mor debyg iddo ag y gallwn. Efe
fydd yn ein barnu ni yn nydd mawr y prawf, ac os na fyddwn ni’n berffaith, mae
e’n gwybod nerth y temtasiynau ddaeth i’n cwrdd. Ae fe’n barna ni, nid yn ôl
ein ffaeleddau, ond yn ôl yr hyn dreiom ni wneud.”
Annibynnwr o’r “Hen Gyfansoddiad” oedd Rhys, ac yn edmygwr mawr o Mchael Jones
o’r Bala. (x65) “Mae rhai pobol,” meddai,
“yn gwneud spri ar ben ‘annibendod Annibynia,’ ond dyna yw ei phrif ogoniant.
Os bydd dau neu dri wedi ymgynnull yn enw’r Gwaredwr, dyna Eglwys y Duw byw, -
‘where two hands meet each other helpfully,’ fel y dywed Ruskin, ‘that
is the only true Mother Church that ever was or ever will be.’ Mae John
Thomas, Lerpwl, a gwŷr y Cyfansoddiad Newydd, yn treio troi Annibynia yn
Gorff fel y Methodus, ac os llwyddan nhw, fe fydd Annibynia’n gorff rnarw cyn
bo Mr. Egwyddor sylfaenol yr hen Independiaid oedd - pob aelod yn offeiriad a
phob cynulleidfa yn Eglwys.”
Meddai dro arall, “’Doedd yr hen bobol ddim yn credo mewn offeiriadaeth, ond
mae tuedd yn ein dyddiau ni i ddodi’r gweinidogion mewn lloc wrthynt eu hunain.
Yr oedd John Evans y Bala yn siarad yn y set fawr un tro ac yn cadw ei wyneb
tua’r pwlpud. ‘Trowch eich gwyneb at y bobol, John Evans,’ meddai Thomas
Charles wrtho. ‘Y dyn!’ ebe’r hen saiit ‘ydych chi ddim yn un o’r bobol?’ Ac un
o’r bobol oedd y pregethwyr i gyd ’s lawer dydd. Yn nyddiau’r apostolion ’roedd
un aelod yn meddu ar y ddawn o broffwydo, ac arall ar y ddawn o lefaru â
thafodau, ac yr oedd hawl i bob dawn gael ei harfer. A fel’ny oedd hi’n arfer
bod gyda ni. Pregethu wnai un aelod am fod ganddo ddawn pregethu, ond ’doedd e’
ddim yn fwy cysegredig na neb arall, a ’doedd neb yn ei alw’n ‘barchedig,’ ac
ni allai neb wel’d mai pregethwr oedd oddiwrth ei wisg. Ond ’nawr mae’r
pregethwyr yn mynnud gwisgo côt ddi {sic} a thei wen er bod yn ots na dynion
ereill. Ac y mae hyd yn oed y diaconiaid am wneud eu hunen yn urdd ar ben eu
hunen, ac (x66) aros yn y swydd tra fyddont
fyw. Nid fel’ny oedd hi’n arfer bod. Pan own i’n grwt ’rwy’n cofio diacon yn
cael ei ddiswyddo. ‘Beth ’w’ i ’nawr, ynte?’ meddai wedi i’r seiat ddybennu.
‘Odw i ’nawr fel dyn arall?’ ’roedd y gofyniad yn ddigon i ddangos nad oedd e’n
ffit i’r swydd.”
“Yr ŷn ni lawer yn rhy lym, ac yn llawer yn rhy llac, yn ein disgyblaeth
Eglwysig,” meddai, dro arall. “Yr ŷn ni’n galed iawn yn erbyn pechodau
cyhoeddus, medd’dod neu esgeulustra i fynychu’r cyfarfodydd. Ond beth am y
pechodau ysbrydol - llid, malais, digofaint, cybydd-dod, balchder, ffurfioldeb,
a rhagrith? ’does gyda ni ddim llinyn mesur i daflu dros y rhai’n, a fe ddylai
hyn ein gwneud yn fwy gwylaidd ac i gofio gorchymyn y Meistr, ‘na fernwch fel
na’ch barner’.”
Yr oedd “gwr o’r byd” wedi marw, ac ebe Rhys: “Pwy feiddia ddweyd ei fod e’n
golledig? ’rwy’n cofio John Evans, Llwynffortun, yn dweyd pan gwympodd dyn
meddw o hen bont Llandeilo i Dowy a boddi, a rhyw ddyn ar bwys yn dweyd, ’dyma
ddyn wedi myn’d i uffern.’ ’na,’ meddai John Evans, “wyddoch chi ddim beth
ddigwyddodd rhwng y bont a’r afon.” Mae’r addoliad cyhoeddus yn llesol i’r rhan
fwyaf o’r bobol. Mae’r ffaith fod ereill yn uno yn yr addoliad yn creu
cydymdeimlad, ac y mae dynion wrth reddf yn ffond o gwmpni i gilydd. ‘Man is
a political animal,’ meddai’r athronydd. Ac fel mae’r Band of Hope yn
helpu’r gweiniaid i fod yn (x67)
ddirwestwyr, mae’r eglwys yn helpi pechaduriaid i fod yn Gristionogion. Ond fe
all dyn fod yn ddirwestwr heb fod yn y Gobeithlu, ac fe all dyn fod yn Gristion
heb fod yn aelod o un eglwys. Mae rhai, fel Elias, yn gallu cymuno â Duw yn
well yn unigedd y mynydd neu’r anialwch, ond y perygl yw i bob diogyn i gredu
ei fod e’n Elias.”
Dro arall: “Pan ddywedodd Crist wrth y wraig o Samaria fod y dydd yn dod pan na
fyddai Duw’n cael ei addoli yn Jerusalem nac yn y mynydd hwn, rhoddodd ben am
byth ar y syniad fod unrhyw le yn y byd yn fwy cysegredig na rhyw le arall.
Gobennydd carreg yn yr anialwch fu’n Dŷ Dduw i Jacob, ac yn y meusydd y
mae cawodau gras wedi dyhidlo lawr ar genedl y Cymry.”
“Un o ddiffygion mawr Cymru,” meddai mewn rhyw ddadl yn y Ddarllenfa, “yw nad
oes gyda ni ddim tref fawr yn hollol Gymreig. Cer’wch i Abertawe, - dim ond
Saesneg glywch chi ar hyd y stryd - oedd, er fod tai-cyrddau Cymreig i gael yno
wrth y dyssenifi. Mae’r beirdd mwya’ wedi bod yn trigo mewn trefydd. Ydych
chi’n meddwl y byddai Romer wedi gwneud y fath gampwaith oni bai ei fod e’, fel
ei arwr, wedi gwel’d llawer dinas? Ond fe ddaw y dydd cyn bo hir pan fydd y
Cymry’n teimlo’n gartrefol mewn trefydd mawrion, a dyna’r pryd y daw’n
hathrylith yn fyd-enwog.”
(x68) “Mae rbai pobol yn credu,” meddai mewn
seiet, “y cânt eu cadw oherwydd eu bod yn yr arfaeth. Ond nid dyna ffordd Duw
gyda dyn. Mae Rhagluniaeth wedi darparu bendithion dirif ar ein cyfer, ond
mae’n rhaid i ddyn wneud ei ran cyn eu mwynhau. Mae’n rhoi anadl einioes yn
ffroenau’r baban, ond rhaid i’w fam ei fwyda. Mae wedi paratoi digon o fwyd i’r
miliynau sydd yn y byd, ond mae’n rhaid iddyn nhw hau a medi. ‘Drwy chwŷs
dy wyneb y bwytei.’ Pan ddaeth Crist i Bethania i godi Lazarus o’r bedd,
gofynnodd i’r bobol oedd yn sefyll oddi amgylch i dreiglo ymaith y maen. Fe
allai’r Gwr oedd yn adgyfodi’r marw dreiglo’r maen i ffwrdd ag ‘ysbryd ei
enau.’ Ond nid dyna oedd ei ffordd Ef. ’roedd Ef yn foddlon gwneud y wyrth, -
ni allai neb arall wneud, ond treiglo’r maen, dyna waith allai ac a ddylai
dynion ei wneud. Arwyddair trefn gras yw ‘cleddyf yr Arglwydd a Gideon’.”
Ebe yn y dosbarth: “Yr unig ddeffiniad o grefydd geir yn y Testament Newydd o
gwbl yw eiddo Iago Leiaf: ‘crefydd bur a dihalogedig ger bron Duw a’r Tad yw
hyn: ymweled â’r amddifaid a’r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a’i gadw ei hun
yn ddifrycheulyd oddi wrth y byd.’ Ond mae’n rhaid cymeryd yr efengyl gyda’i
gilydd, heb bwysleisio gormod ar un adnod yn fwy na’r llall. ’roedd Iago’n
ysgrifennu ei epistol at y deuddeg llwyth ar wasgar. ’roeddent hwy yn
gredinwyr, ond ’doeddent ddim yn wneuthurwyr y gair. ’roedd eisieu ar Iago eu
dysgu nad oedd ffydd heb weithredoedd yn werth dim. Gallwn feddwl fod y deuddeg
llwyth o’r un farn a’r (x69) hen brydydd
hwnnw oedd wedi meddwi a chwympo i ffos. Codwyd ef i fyny gan Sosin. ’rhag eich
cwilydd,’ ebe’r Sosin, ‘a chithe’n arddel crefydd.’ Atebodd y prydydd:
Achubwyd Lot er meddwi,
Mae’r Beibl genni’n dyst,
Achubwyd neb sy’n gwadu
Dwyfoldeb lesu Grist.
Dyna’r fath bobol oedd lago am argyhoeddi. ’roedd Paul yn ysgrifennu at bobol
ystyfnig oedd yn gwrthod credu yn Iesu, ac yn pwyso ar eu rhinweddau eu hun, ac
yr oedd ef am eu hargyhoeddi nad oedd gweithredoedd heb gariad, heb ras, heb
ffydd, yn werth dim. Yr ŷm ni’r Cymry wedi gosod gormod o bwys ar
athrawiaeth Paul, gan anghofio nad yw ond hanner y gwir.”
“Man gwannaf ni’r Annibynnwyr,” meddai dro arall, “yw ein daliadau am fedydd.
’Does gyda ni ddim cyffes ffydd nac erthyglau crêd, - a mae hynny’n nerth i ni.
Mae gyda ni le i bryfo fel’ny, - mae’n rhaid cael esgid fwy i ddyn mewn oed nag
i lasgrwt heb ddibennu tyfu. Ond yr ŷm ni’n barod iawn i ddilyn hen
draddodiadau, fel pe baent yn erthyglau’r ffydd. Mae’r Eglwys Wladol yn gosod
pwys mawr ar fedydd, - dywed fod rhyw gyfnewidiad gwyrthiol yn cymeryd lle
drwy’r ordinhad, a mynna gael tad a mam bedydd i sefyll yn feichiau dros y
baban bach. Mae’r Methodistiaid hefyd yn hollol resymol o’u safbwynt nhw.
Mynnant fod y tad neu fam yn aelod, ac fel’ny hwy yw’r meichiau dros y plentyn.
Ni fynn (x70). y Bedyddwyr neb i gael eu
troche ond credinwyr, ac, wrth gwrs, nid oes eisieu tad na mam bedydd fel’ny.
Cyfeiliornad yw meddwl fod y Bedyddwyr yn credu fod pechodau’r credinwyr yn
cael eu glanhau drwy’r ordinhâd. Canodd hen brydydd o’r Gwter Fawr fel hyn:
Pe bawn i ddim ond gwybod
Fod dwr yn golchi pechod,
Fe awn i Aman tra bo’n lli,
A ’molchwn am dri diwrnod.
Ond ’roedd y prydydd yn gwneud cam â’r Baptis yu ei rigwm. Nid y dwr, ond y
droedigaeth, oedd yn golchi’r pechod. Arwydd yw bedydd fod y crediniwr yn
rhoddi ei hun ar enw Crist. Yn y credu mae’r effeithioldeb, ac nid yn yr
arwydd. Ond am danom ni’r Annibynnwyr, ’dydyn ni ddim yn credu fod gwyrth yn
cymeryd lle wrth fedyddio, a fe fyddai’n chwith gen neb ohonom gredu y byddai’r
Hollalluog yn poeni plentyn bach yn nhân uffem am byth am iddo farw cyn cael ei
fedyddio. A ’dydyn ni ddim yn credu fod eisieu i’r bedyddiedig fod o oedran pan
y gall amgyffred beth yw ystyr yr ordinhad, na chwaith y dylai y plentyn gael
ereill i addaw drosto i fod yn Gristion. ’Does dim ystyr nac amcan na rheswm ym
medydd yr Annibynnwyr, - dim ond ofergoelaeth, - a goreu i gyd po gyntaf y
dilynwn siampl yr Undodwyr a’r Quakers a rhoi heibio y ffurf-wasanaeth yn
hollol.”
Pan gychwynnwyd y Ddarllenfa, yr oedd Rhys Edwards yn gefnogwr ffyddlon iddi.
Dysgodd chware (x71) draughts er mawr
dramgwydd i rai o’i gydiddiaconiaid, a daeth yn fedrus iawn gyda’r “chware
coed,” fel ei gelwid. Ef oedd bob amser yn y gadair pan fyddem yn trafod
materion y dydd - Dadgysylltiad a Masnach Rydd a Phwnc y Tir, - ac ni fu Llefarydd
Tŷ’r Cyffredin erioed yn fwy teg a diduedd, nac yn fwy ei barch a’i
ddylanwad. Un tro bu gennym mock-trial. Cyhuddwyd Isaac y Crydd o fod
wedi lladd ffesants yng Nghwm Bryndyfan liw nos. Un o’r athrawon yn yr ysgol
ddyddiol oedd yn erlyn, a rninnau’n amddiffyn, a Rhys Edwards oedd y Barnwr. Yr
oedd deuddeg o wŷr cyfrifol yn rheithwyr, a mawr fu’r spri a’r rhialtwch. Circumstantial
evidence yn unig oedd yn erbyn Isaac. Dywedodd un o’r tystion, Tom
Pengwar-neuadd, ei fod wedi cyd-gerdded âg Isaac ar y noson ddywededig o’r
pentre, iddo ei weled yn troi lawr drwy heol fach gul oedd yn arwain i’r Cwm,
ac iddo glywed sŵn ergyd o ddryll cyn pen deng munud. Cyfaddefodd y tyst
yn hollol deg, pan groesholid ef, ei bod yn noswaith dywyll, ac nad oedd wedi
gwel’d wyneb ei gydymdeithydd yn eglur, ond ei fod yn adnabod ei lais yn dda.
“Os oedd y nos yn dywyll,” gofynnais, “ffordd galle neb wel’d i saethu
ffesant.?”
“O,” atebai Tom yn barod, “’roedd y lleuad wedi dwad mâs o’r tu ôl i’r cwmwl
pan glywes i’r ergyd.”
Gelwais innau dyst - James Rees y Teiliwr - yr hwn a gyfaddefodd mai ef oedd yn
cyd-drafaelu â Tom Pengwar-neuadd ar y nos dan sylw, mai ef ymadawodd â Tom ar
ben hewl fach Bryndyfan, ac iddo fe glywed sŵn ergyd ym mhen rhyw bum
munud ar ol ’madael i Tom.
Daeth yr amser i’r Barnwr annerch y rheithwyr. (x72)
Aeth yn fanwl dros y dystiolaeth. Siarsodd hwy i fod yn deg a chyfiawn, ac os
oedd ddadl yn eu meddwl, y dylent ryddhau’r carcharor. Yr oedd James Rees wedi
tyngu mai ef fu’n cyd-gerdded â Tom, ac, mor belled ag y gwyddent, ’roedd James
Rees yn ddyn cywir a geirwir. O’r ochr arall, yr oedd Tom yn bendant mai’r
carcharor oedd ei gyd-ymdeithydd. Mae’n wir fod Tom yn cyfaddef na welodd wyneb
y gwr oedd yn cyd-gerdded ag ef, ac yr oedd hyn yn dangos fod Tom yn dyst
gonest. Beth fuasai’n fwy hawdd nag iddo daeru ei fod wedi gwel’d wyneb y gwr,
ac mai’r carcharor ydoedd? Ond dywedai Tom ei fod yn adnabod y carcharor wrth
ei lais. Gellid newid ymddangosiad person, ond nid yn rhwydd y newidid y llais.
Gallai Jacob wneud ei ddwylaw yn debyg i ddwylaw Esau, ond y llais oedd llais
Jacob o hyd. “Ac a ydych, foneddigion y rheithwyr,” meddai yn ei sylw diweddaf,
“yn meddwl y byddai bachgen cyfarwydd a phrofiadol fel Tom yn debyg o gamsyniad
gwynt teiliwr am wynt crydd?”
Cafwyd Isaac, druan, yn euog, a dedfrydwyd ef i dri mis o lafur caled. Pe bai
pob Barnwr ar y fainc mor deg a chyfrwys-gall a Rhys Edwards, ac yn gallu
ymresymu â’r rheithwyr yn eu hiaith arferol, dilys y byddai’n fwy anhawdd cael
traed carcharion yn rhydd mewn llawer sir yng Nghymru.
Yr oedd Dewi Towy yn llawer ieuangach na Rhys Edwards. Ffarmwr yn byw ar ei
dyddyn ei hun ydoedd, ac yr oedd wedi derbyn gwell ysgol na’r hen ddiacon. Nid
oedd ganddo gymaint o wreiddiolder meddwl, ond yr oedd yn efrydydd diball ac
amyneddgar. (x73) Ef ddysgodd i mi yr
ychydig Ramadeg Cymraeg a ddeallais erioed. Cynhaliai “gwrdd pobl ifenc” bob
nos Lun, ac yn hwnnw bu’n ein tywys drwy “Ysgol Farddol” Dafydd Morganwg. Bu’n
ein dysgu ychydig am seryddiaeth a daeareg a gwyddoniaeth, a rhoddai, o’i
logell ei hun, wobrau am draethodau a phenillion ac englynion.
Garw na fuasai’r orgraff newydd wedi ei darganfod y pryd hynny, oblegid sicr yw
gennyf y byddwn wedi ei deall dan ei arweiniad ef. Pan yn ddeg-ar-hugain oed
cymhellwyd ef i bregethu’n achlysurol. Yr oedd y tŷ-cwrdd yn orlawn pan
draddododd ei bregeth gyntaf, a rhoddodd foddlonrwydd mawr i bawb. Ond siomwyd
disgwyliadau ei garedigion: ni ychwanegodd gyfudd at ei faintioli fel pregethwr
byth wed’yn. “Ganwyd Dewi Towy fel pregethwr,” ebe Griffith y Gôf, “a’i
ddannedd i gyd yn ei ben.” Pan eto’n ddyn ifanc gafaelodd y darfodedigaeth
ynddo. Ymfudodd i Awstralia. Bu farw cyn pen wythnos ar ol glanio, ac y mae ei
weddillion yn gorwedd mewn bedd anhynod rywle ym Melbourne. Erbyn hyn mae ei
ddisgyblion wedi gwasgar i bedwar ban y byd, ond ble bynnag y maent, ni wna un
o honynt byth anghofio y cyfaill didwyll, y llenor a’r bardd celfydd, a’r athro
ffyddlon - Dewi’Towy. Heddwch i’w lwch!
(x74) PENNOD
VII.
WIL GELYNEN.
Hen greadur “rhwng hanner call a dwl” oedd Wil Gelynen, testyn gwawd i blantos
yr ardal, a difyrrwch i bobl mewn oed. Yr oedd yn wr siaradus, ac yr oedd ei
lais uchel, gwichlyd, main yn rhoddi rhyw ysmaldod i bob peth a ddywedai. Eto,
er ei symlrwydd, meddai, fel llawer o’i fath, ar ryw graffter cyfrwysgall ac
arabedd annisgwyliadwy a fyddai’n taro syndod hyd yn oed yn y rhai oedd yn ei
adnabod yn dda. Mae Gerallt Gymro wedi cofnodi rhai o ffraethebion John Speng,
digrifwas yr Arglwydd Rhys. (Y mae gan bobl “Shirgâr” air ar lafar gwlad, -
“spengan,” sef o’i gyfieithu, “pull one’s leg.” Tybed ai dyna oedd tarddell
teitl y cellweirwr?) Tybiaf, pe bai Wil wedi ei eni chwech neu saith canrif yn
gynt, mai yn Llys Dinefwr y byddai’n trigo ac yn ennill ei damaid fel cellweirwr
i’r hen Dywysogion. Bu am flynyddoedd yn dipyn o oferddyn. Un dydd Sul gwelodd
yr offeiriad ef yn gwaddota (h.y., yn gosod maglau i ddal tyrchod daear), a
cheryddodd ef am dorri’r Sabboth. “O, pob un wrth ei grefft, syr,” ebe Wil;
“chi a’ch pader, a finne â ’nhrap.” Yn ei hen ddyddiau derbyniai dâl gan y
plwyf. Mae’n ddrwg genni glywed, William,” meddai’r offeiriad (x75) wrtho, “eich bod chi wedi gorfod derbyn
tâl.” “Chi a fi, syr, yw’r unig ddou respectable yn Llansadwrn,” ebe
Wil; “’r ŷn ni’n dou’n tewhau wrth bori’r plwydd.”
Yn ystod un o’r Diwygiadau cafodd Wil droedigaeth, ac ar ol hynny hyd ddydd ei
farwolaeth nid oedd neb yn fwy cyson ym mhob gwasanaeth crefyddol nag ef. Ym
mhen amser gofynnodd Wil am gael “ei le” gyda’r Methodistiaid. Mynnai rhai nad
oedd yn ddigon call i ddeall y Gyffes Ffydd, tra’r oedd ereill yn taeru na
ddylid ei ddedfrydu i golledigaeth oesol am nad oedd yn union “fel rhywun
arall,” nac wedi bod “ym mhen pella’r ffwrn.” Bu ar brawf am fisoedd, a mynych
yr holwyd ac y croesholwyd ef yn y seiet.
“Wyt ti’n credu,” gofynnodd hen ddiacon llym iddo unwaith, “i Jona gael ei
lyncu gan forfil ac iddo fyw yn ei fola am dridiau?”
“Wel, falle do fe,” oedd yr ateb; “dwy’ i ddim yn gwbod fawr am y pysgod ’na
sy’ yn y môr.”
Meddylid nad oedd yr ateb yn hollol foddhaol, a daeth ei fater ymlaen eilwaith
ym mhen mis neu ddau.
“Wyt ti’n credu i Daniel fyw yn ffau’r llewod heb ei ’nafu?” gofynnodd yr un
blaenor iddo.
“O odw i, ebe Wil, “’rwy’n fo’lon credu hynna, wa’th fe weles i ddyn yn y
circus yn dodi ei ben yn safan hen lew.”
Bernid nad oedd yr ateb hwn ychwaith yn foddhaol, a bu Wil ar brawf am dymor yn
ychwaneg.
“Wyt ti’n credu i’r tri llanc fyw yn y ffwrn wedi ei phoethi seithwaith yn
boethach nag arferol?” gofynnwyd iddo’r tro nesaf. “Na, na,” ebe Wil, yr hwn
oedd bob amser yn (x76) helpu Gruffydd y Gôf
i gylcho wheels, “’rwy’n gw’bod rhwbeth am dân a ffwrn, a ’dalla i ddim
credu hynna, A chan fod ni’n siarad am y pethe ’ma, mae genni ddowt am yr hen
forfil hefyd.”
Yr oedd yn gyson iawn yn yr Ysgol Sul, er na phasiodd erioed o ddosbarth y
plant, a gwnaeth ei oreu glâs i ddysgu darllen. Ni allaf ddywedyd p’un a oedd y
storhâus a adroddid am dano’n gywir ai peidio; ond yr oeddynt yn ben trovato
os nad yn wir. “A fedri di regi?” oedd ei ddarlleniad o ofyniad y capten i
Paul, “A fedri di Roeg?” “Hen fuwch wellt” oedd “henffych well.” “Lle ar ben
cloc” oedd “lle’r benglog.” Ond os oedd ei ddarllen yn rhyfedd ac ofnadwy, yr
oedd ei esboniad yn fwy hynod fyth. Yr oedd yr athro yn treio bob amser gael
rhyw gwestiwn hawdd i Wil.
“Ac fel yr oedd efe yn llefaru,” meddai’r athro, pan oedd y dosbarth yn darllen
hanes y gweddnewidiad; “pwy yw’r ‘efe’ yn y man yna?”
“Moses?” anturiai Wil.
“Nage, nage,” ebe’r athro,
“Elias?” meddai Wil.
“Nage, Wil bach, Iesu Grist,” ebe’r athro.
“Ie, wrth gwrs,” meddai Wil.
Ym mhen tipyn daeth y geiriau, “ac efe a ddywed- odd” dan sylw.
“Pwy yw’r ‘efe’ yma?” gofynnai’r athro.
“O, fe stica i at Moses,” ebe Wil.
Dro arall gofynnwyd i’r dosbarth pwy oedd y Judas yn Heol Uniawn yn Damascus yn
nhŷ yr hwn y llettyodd Paul.
“O ’stim dowt,” meddai Wil, “mai Judas Iscariot o’dd e’, wa’th hen dramp oedd y
creadur.”
(x77) “Ystyriwch y brain,” meddai’r athro
dro arall. “Nawr, William, oes gyda chi air i ddweyd ar y geiriau hyn?”
“Well i chi ofyn i rai o’r plant ’ma,” ebe Wil. “Fe ateba i ryw gwestiwn
caletach.”
“Na, na,” meddai’r athro, “eich tro chi yw hi i ateb ’nawr.”
“Wel,” ebe Wil, “meddyliwch chi ’nawr i bod hi’n amser pan fydd yr egin yn
dechre tyfu, a’r ffarmwr yu myn’d ma’s i’r clôs a gwel’d y brain yn byta’r egin
yn y cae-dan-tŷ. Mae e’n galw ar grwt y gwas:
‘Hei, Deio, wel di’r brain yco?’
‘Gwela,’ mynte’r crwt.
‘Wel, cer, styria nhw.’”
Er gwaethaf popeth, gwasgu at y disgyblion a wnai Wil drwy’r blynyddoedd. Daeth
ei achos eto o flaen y seiet.
“A oes ofon uffern arnat ti?” gofynnwyd iddo.
“O’s, o’s, ofon ofnadwy,” ebe Wil.
“Licet ti fyn’d i’r nefoedd?”
“O licwn wir,” ebe Wil.
“Wyt ti’n caru Iesu Grist?” gofynnai’r gweinidog iddo.
“O, odw’n wir, Mr. Thomas bach,” atebai Wil, a’r dagrau’n hidlo dros ei
ruddiau, “’rwy’n i garu e’ o waelod ’y nghalon.”
“A pham ’rwyt ti’n ei garu e’?” gofynnai Mr. Thomas.
“O, Mr. Thomas bach,” atebai Wil, “am i fod e’n fy ngharu i, yr hen Wil Gelynen
ag mae pawb yn ’wherthin ar i ben e’.”
“Ond beth ta Iesu Grist yn myn’d i lawr i uffern?”
“Gydag e’ licwn i fod, ta ble mae e’,” ebe Wil; ac ar hyn penderfynwyd derbyn
Wil yn aelod rheolaidd.
(x78) Bu fyw’n ddiargyhoedd drwy ei oes. Ni
fu neb ffyddlonach gyda’r moddion, ac ni chadwodd neb honno ei hun yn fwy
difrycheulyd oddiwrth y byd. Dim ond unwaith y bu’n euog o unrhyw amryfusedd,
ond daeth allan yn fwy na choncwerwr. Pan gawsem gyfle, yr oeddem ni’r plant yn
hoff o glywed Wil yn adrodd y stori pa fodd y cipiwyd ef un noswaith gan y
diafol. Honno, a “stori’r cel-pren” (oblegid dyna’r gair y pryd hwnnw am
bicycle) oedd dwy stori Wil; ond o’r ddwy, “stori’r Gwr-Drwg” oedd yn cael y
lle blaenaf gyda’r plant. Nos Ffair Fedi Llangadog oedd hi. Yr oedd Wil wedi
bod yn y ffair, ac wedi bod yn ennill ychydig docyns (h.y. tokens, neu
gein- iogau,) drwy helpu’r porthmyn i fyn’d â’u da ymaith gyda’r trên i
Landeilo, oblegid dyna oedd y stesion nesaf yn y dyddiau hynny. Gan fod ganddo
saith milltir i gerdded adref, yr oedd yn hwyr ar Wil yn dychwelyd i’r Gelynen,
lle’r oedd yn byw gyda’r hen wraig ei fam.
Pan ddaeth i Ben-duad, croesffordd mewn lle unig, yn ddisymwth gwelodd Wil ryw
ledrith enfawr yn y llwydnos. Arhosodd yn frawychus, a’i galon yn curo yn erbyn
ei eis, nes iddi bron hollti.
“Dere gyda fi!” ebe llais fel trydan wrth Wil.
“Ble’r ŷch chi’n myn’d, Syr?” oedd gofyniad naturiol Wil.
“Paid a balban,” atebai’r llais, “fe ddangosa i’r ffordd i ti.”
Gyda’r gair, dyma Wil yn teimlo llaw ar ei ysgwydd yn gafael ynddo mor dynn fel
y teimlai fel pe tae haearn poeth ar ei gnawd.
“O, peidiwch a’n sero i, os gwelwch chi’n dda, Syr, ebe Wil.
(x79) “Hisht.!” ebe’r llais yn sarrug, “neu fe
sera i di gorff ac enaid.”
Erbyn hyn yr oedd Wil, druan, yn crynu fel y ddeilen. Llusgwyd ef oddiar yr
heol, drwy’r berth, i gwm Llwyntywyll gerllaw.
“Roedd hi mor ddued â’r fagddu erbyn hyn,” arferai Wil ddywedyd, “a ’doedd dim
posib i fi wel’d yn llaw o fla’n y’n llyged. ’roedd y llaw dân yn gafaelyd yn
fy ysgwydd o hyd, ond ’dallwn i wel’d dim ond rhyw hwdwch fileinig, gymaint
dairgwaith o faint na fi. ‘Cydia yn hwn,’ mynte’r Gwr Drwg, wa’th ’rwy’n siwr
mai’r hen Fachgen o’dd ’no, wa’th ’ro’dd e’n gwynto o dân a brwmstan.
“A dyma finne’n cydio yn rhwbeth, a theimles mai pen pâl o’dd hi. ‘Torra dwll
man hyn,’ mynte’r Gwr Drwg, a gorfu i fi ’neud. Ar ol torri a thorri am awr a
rhagor, nes o’wn i’n ’whŷs poten, dyma’r bâl yn bwrw yn erbyn twlpyn o ha’rn.
‘Cydia yn hwnna,’ mynte’r Gwr Drwg, ‘a thyna fe i fynydd.’
“Fe gydies yn yr ha’rn, ac fe dynnes i’r Ian grochon mowr, a fel rhw gawl o
frwmstan yn berwi yndo fe, ac yn gneud swn ofnadwy. Cyn i fi ga’l amser i
feddwl dyma fe’n cydio yndo i wrth ’y ngwegil, ac yn hedfan a fi i’r awyr, a’i
adenydd mowr ar led fel adenydd slymyn, a’r hen grochon yn fy llaw o hyd, -
wa’th do’dd dim posib ca’l y’n llaw yn rhydd oddiwrtho fe, fel pe buse fe’n un
o’r hen fachines yna sy’ yn y ffeire. I’r lan, i’r lan yr euthom ni, nes
mod i’n credu y buse ’mhen i’n bwrw yn erbyn rhyw seren, ac ’roedd Clochdy
Llansadwrn ddim yn fwy na marblen fach yn ’y ngolwg i. A dynna ni’n hedfan yn
gynt na gwenolen drwy’r awyr a thua’r Mynydd Du, a feddyles i byth y gwelswn i
neb o’m ffrindie wed’yn. ‘Ffarwel, (x80)
Gelynen Fach,’ myntwn i wrth fyn’d. ‘Mae mam druan yn ’y nisgw’l i ga’tre, yn
darllen y Beibl wrth y tân, ond welith hi Wil y mab byth yto.’” Erbyn hyn
’roedd Wil yn tywallt dagrau, a ninnau’r plant, ie, a phobl mewn oed hefyd, yn
gwrando gyda dychryn a galar.
‘Ffarwel, hen Gapel Seion,’ myntwn i wed’yn, ‘llawer i odfa flasus ges i rhwng
dy welydd, ond welith neb ohono i yna yto. Ffarwel, Bryn Towy annwl, lle mae
Mr. Tomos y gweindog yn byw, - mae e’ wedi bod yn garedig iawn i’r hen Wil, ac
wedi ei helpi i ga’l gras. Ychydig feddyliodd e’ na neb arall y buswn i byth yn
hedfan bant dan adenydd y Gwr Drwg.’
“Ac yna bant â ni dros y Towy a heibo Llangadog fel y fellten, a lan a ni dros
Gwm Sawdde, a heibo Llanddeusant, nes y dethon ni uwchben Llyn-y-Fan Fach. A
dyma’r Gwr Drwg yn gweiddi rhwbeth fel ta fe’n rhegi mewn iaith ddierth, ond
nag own i ddim yn diall un gair ond ‘Abracadabra,’ a fe’n shiglodd i mor
greulon nes y colles i’n ngafel ar yr hen grochon, a dyma hwnnw’n cwmpo i’r
llyn, a’r cawl berwedig yndo fe. Ym mhen eiliad wed’yn, dyma’r llyn i gyd yn
berwi nes oedd y tonne’n wyn ar i wyneb, a’r pysgod yn neido i’r tir, ac ar ol
hynny dyma ladi wen yn codi o ganol y llyn, ac yn rhoi sgrech ofnadwy, ac yna
fe gwmpodd ’nol i’r dwr, a suddodd o’n ngolwg. ‘Ha! ha l’ ag fe ’wherthinodd y
Gwr Drwg nes o’dd yr holl le’n crynu, a finne’n crynu’n fwy na dim.
‘Wel, ’rwyt ti wedi gneud dy waith,’ mynte fe wrtha i, ‘a fe af a ti’n ol i
Lansadwrn, ’y ngwas i. Uchel wynt, neu isel wynt fynni di?’ .
“Rown i wedi ca’l digon ar fod yn y cymyle, ac (x81)
’rown i wedi dotio’n arswydus. ‘Isel wynt, un isel iawn, syr, os gwelwch chi
fod yn dda,’ myntwn i. A gyda’r gair dyma ni’n cwmpo fel carreg blwm o’r awyr,
nes own i’n meddwl y cesen ni’n towlu’n rhacsjibbedêrs yn erbyn y creige coch
sy’ rownd i’r llyn. Ond fe stopodd yn syden pan o’en ni rhyw ugen tro’dfedd o
wrth y ddaear, a bant a ni fel tân gwyllt yn ol tua Llansadwrn. Fe ddeuthon yn
ddianhap hyd Bontarlleche. ’Dipyn bach yn uwch, os gwelwch chi’n dda, syr,’
mynte fi, wa’th ’rown i’n gwel’d fod brige’r co’d ar ein ffordd. ‘Bydd yn
llonydd,’ mynte’r Gwr Drwg, ‘isel wynt ofynsot ti am dano, ag isel wynt gei
di.’ A bant a ni drwy frige’r co’d, a thrwy’r perthi, a’r drysni, a’r drain,
nes o’dd ’y ngwyneb i’n gwaedu, a ‘nghnawd yn ddolur i gyd. ’nol a ni dros
Langadog, lle bues i jist a bwrw yn erbyn clochdy’r eglws, a thros y Towy, ac
i’r lan tua’r Gelynen. ‘Arglwydd grasol, cadw fi,’ myntwn i, wa’th ’rown i’n
meddwl fod fy niwedd i wedi dwad a ’down i ddim wedi ’styried am weddio o’r
bla’n.
“Yn y man dyma’r Gwr Drwg yn rhoi sgrech arswydus, a dyma fe’n ’ngellwng i’n
rhydd. Fe gwmpes ar ’y mhen ar ben y mwdwl gwair ar bwys y tŷ, a dyna lwc
mai ar hwnnw y cwmpes i, neu fu’swn i ddim byw i ’weud yr hanes. Mae’n rhaid i
fi fod wedi ffeintio, wa’th ’wy’ ddim yn cofio dim wed’yn hyd nes i fi ddwad
ato’n hunan bore dranno’th, a’r houl wedi codi er’s orie, a hen wraig ’y mam
bron colli arni’i hunan, am nad o’dd Wil i mab wedi cyrraedd gatre o’r ffair.”
“Odi chi’n gweud y gwir, Wil?” gofynnem ninnau’r plant bob tro y clywen y
stori; ac ni fynnem i Wil newid un gair nac ymadrodd o’r dechreu i’r diwedd. (x82) Yn wir, o hir arfer ei chlywed, yr oeddem yn
gwybod y stori gystal â Wil ei hun. “Odi chi’n gweud y gwir, Wil?”
“Mae’n eitha’ gwir, ’tawn i’n aped barn,” atebai Wil gyda dwyster difrifol.
“’Roedd ’y ngwyneb i’n greithe i gyd am wythnose, ag ’roedd hynny’n dangos mai
nid wedi breuddwydio neu wedi cael hunllef own i.”
“Ond beth o’dd yn y crochon?” gofynnem.
“O, rhyw frwmstan at gwnsheri, ’stim dowt,” ebe Wil, “ond wrth gwrs alla i ddim
a gweud, wa’th ro’dd gormod o ofon arna i i dasto fe.”
“Ond pam o’dd e’n gneud i chi i dowlu e’ i’r llyn?”
“Fe fues gyda Harris Cwrt-y-cadno, y dyn hysbys, chi’n gwbod, i dreio ca’l
diall,” meddai Wil, “wa’th o’dd gan Harris lyfre cwnsheri, a fe wedws wrtha i
mai Abracadabra oedd un o’r rhegfeydd glwes i. ’ro’dd Harris yn tyngu mai eisie
lladd y ladi wen, mam Meddygon Myddfai - wa’th ’ro’dd hi’n arfer byw yng ngwaelod
y llyn - o’dd ar y Gwr Drwg, rhag iddi hi ddwad i helpi pobol dlawd yn erbyn
afiechyd. Ag mae’n eitha’ gwir - neu gofynnwch chi i Jac Sucan, wa’th mae e’n
gwbod, o achos fe ’na’th e’ ffortiwn ar y pryd wrth werthi sucan ym Merthyr -
i’r colêra dorri ma’s yn y gweithe yn union ar ol ’ny, a fe dda’th y ddyrton
(h.y. y cryd), i’r ardal hyn y gaea’ ar ôl, a ’do’s neb wedi gwel’d y ladi wen
ar ddydd Llun cynta Awst byth wed’yn. Ond diolch i fi ddwad yn rhydd o’i
grafange fe, er fod gwynegon yn fy ysgwydd i, jist lle cydiodd y Gwr Drwg yndo
i, hyd heddi.”
“Ond pam ddaeth e’ atoch chi, Wil oedd y gofyniad diweddaf.
“O’! ’rown i newydd ga’l fy nerbyn yng Nghapel Seion,” ebe Wil, “a ’stim dowt
mai dyna fel yr o’dd e’n talu’r pwyth yn ol i fi.”
(x83) PENNOD
VIII.
CHWARE PLANT.
Wrth edrych yn ôl, y mae’n syn gennyf gymaint o hen arferion oedd eto ar gael a
chadw “pan oeddwn i’n fachgen.” Amser Nadolig deuai “Mari Lwyd” heibio, - dau
neu dri o wŷr â phen ceffyl pren yn gorchuddio eu pennau. Ni wyddem ifi,
na’r chwareuwyr eu hunain, mai mystery play y Canol Oesoedd oedd Mari
Lwyd, mai dynwared yr asyn a farchogwyd gan Joseph pan aeth ef a’r mab bychan a
Mair Fendigaid (Mari Lwyd) yr oedd y chwareuwyr a’r pen ceffyl, ac mai
Pabyddiaeth rhonc oedd wrth wraidd yr hen ddefod. Nid wyf yn cofio’r rhigymau a
genid, ond fel hyn y dechreuent:
Mari Lwyd lawen
Ddaeth lawr o Bendarren
I ofyn am gennad i ganu:
a thebyg, gan mai o Bendarren y deuthant, mai gwŷr o’r gweithiau” oedd y
chwareuwyr.
Clywais lawer o sôn am y “gwahoddwr,” hynny yw, gwr fyddai’n myn’d oddiamgylch
i wahodd pobl i briodas, ond nid wyf yn cofio gwel’d un o’r tylwyth erioed.
’rwy’n cofio, serch hynny, am y briodasferch yn cuddio pan ddeuai’r priodfab
i’w hymofyn, ac am y ddeuddyn yn carlamu ymaith ar ol y seremoni, a’r gwŷr
ceffylau yn eu dilyn. Clywais ddywedyd gan Rhys Edwards ei fod ef yn cofio’r
amser pan oedd (x84) prydydd yn myn’d gyda’r
priodfab i geisio’r ferch ifanc. Byddai drws y tŷ ynghlô, a byddai prydydd
y priodfab o’r tuallan yn ymryson â phrydydd y ferch ifanc o’r tu mewn cyn yr
agorid y drws.
Yr oedd y daith (neithior) yn beth cyffredin, er mai ychydig o blant ffermwyr
oedd erbyn hyn yn cadw’r hen arferiad i fyny, ond cofiaf mai’r un ddiweddaf a
fum i ynddi oedd taith gan berthynas imi. Weithiau, yn lle taith cynhelid “cwrw
bach” i helpu’r pâr ifanc i ddechreu eu byd, neu i gynorthwyo rhywun tlawd. Nid
oedd neb yn cael ei geryddu gan y seiet am “fyn’d ar y criws” mewn taith neu
gwrw bach, oblegid golygid, er fod y dyn yn gwneud drwg iddo ei hun, yr oedd yn
gwneud, hynny er mwyn helpu arall, ond ’roedd disgyblaeth lem yn disgwyl neb
pwy bynnag äi “ar y cnap” mewn ffair neu acshwn. (Ac wrth son am “fyn’d ar y
criws,” ai “go on a cruise” a feddylier? Gair hynod arall ar lafar gwlad oedd
dweyd fod dyn wedi troi allan yn “eitha Rodne” pan wedi colli ei gymeriad. Ai
cyfeiriad at Admiral Rodney yw hyn - hen forwr dewr ond dibarch oedd yn blodeuo
“flwyddyn y tair caib” - 1777?) Mae’n agos i dri chan mlynedd er pan geisiodd
Harri’r Wythfed, drwy rym cyfraith, osod i lawr y “cymhorthau,” ond er gwaethaf
cyfraith, yr oedd yr arferiad yn ei rwysg ddeugain mlynedd yn ôl. Gwelais
gynifer a chant o wŷr, gwragedd, a phlant yn y “fedel wenith” yn fy hen
gartref, a mawr oedd y spri a’r rhialtwch wrth swpera wedi dyfod a’r ysgub olaf
dan dô. Bid siwr, nid oedd y “fedel wenith” yn sefydliad arbennig i Gymru,
oblegid, yn yr amser gynt, yr oedd “melsupper” neu “harvest home” yn
beth cyffredin drwy Loegr, a gorchymynnwyd i’r (x85)
Israeliaid gadw gŵyl i’r Arglwydd ar ol casglu ffrwythau’r ddaear. A pheth
cyffredin oedd i weithwyr a’u gwragedd dalu am gymwynas drwy roddi “diwrnod o
waith gyda’r cynhaeaf.” Bum mewn llawer gwylnos, cwrdd gweddi a gynhelid mewn
tyddyn y noson cyn claddu’r marw, a byddid yn cynneu canwyllau o gylch yr arch,
heb feddwl mai defod Babyddol ydoedd. Ar Sul y Blodau byddai pawb yn gosod
blodau ar fedd eu hanwyliaid, arferiad sydd erbyn hyn wedi ail-daenu dros yr
holl wlad, ond oedd y pryd hwnnw’n gyfyngedig braidd yn hollol i Gymru Brotestanaidd.
Clywais ddywedyd gan yr hen bobl eu bod ’s lawer dydd yn plygu glin cyn cymeryd
eu sedd yn yr Eglwys, fel y moesgryma aelodau Tŷ’r Cyffredin o flaen
Cadair y Llefarydd. Meddyliai’r hen bobl mai er dangos parch i’r offeiriad y
gwnaent hyn, fel y cred llawer aelod mai er dangos parch i’r Llefarydd y mae ef
yn plygu ei ben. Ond tarddell yr arferiad, yn ddiau, yn y ddau le oedd y
moesgrymu o flaen llun y Groes. Pan groesai pioden, aderyn aflan - er na wn pam
y meddylid hynny am un o’r creaduriaid harddaf mewn natur - ein llwybr, rhaid
oedd tynnu llun y Groes ar y ffordd, gan ddywedyd “gris-gro’s.” Pan fyddai’r
plant yn bargeinio a’u gilydd, ar ol cytuno daliai un ei law allan gan weiddi
“llaw dân,” a tharawai’r llall hi’n ffyrnig, gan ateb “tâl po’th.” “Persondy” y
gelwid y vicarage, er mai “’ffeirad” oedd y person. Ar y cyntaf o Ionawr äi’r
plant oddi-amgylch y plwyf i hel “calennig,”-p’un ai arian neu bicenni, - ond
dethlid “Calan Gaeaf” ym mis Tachwedd yn ol yr hen arfer, a syrthiai “Calan
Mai” ym mis Mai.. Yr oeddem ni felly wedi gwella ar y (x86)
Rhufeinaid, oblegid yr oedd gennym ni dri yn lle dau “galan.” Nid oedd fawr o
hen chware-gampau’r Cymry yn aros. Chwareuem ryw fath o fando, a chaffem hwyl
fawr wrth “neidio caerbedw,” ond, gan mwyaf, chwareuon “dwad” oedd chwareuon y
plant, - marbles, sixstones, hop scotch, a’r bêl-ddu. Yr oedd pawb yn
gyrru ffolantau (valentines) ym Mis Bach, ac yr oedd merched yr ardal yn
cystadlu p’un a fyddai wedi derbyn mwyaf. Ond arfer Seisnigaidd a newydd
ydoedd, ac y mae erbyn hyn wedi darfod o’r tir, oherwydd nid oedd iddi ddyfnder
daear. Ond yr oedd yr hen arferiad Cymreig o ddanfon “capan helyg” i fab oedd
wedi ei wrthod gan ei gariad yn aros mewn bri.
Mae llawer o sôn yn y dyddiau hyn am “Eisteddfod y Plant,” a chlywais lawer yn
honni mai hwn-a-hwn neu hwn-a-hwn oedd wedi dechreu’r sefydliad defnyddiol am y
tro cyntaf, ond pan oeddwn yn ddeng mlwydd oed, bum yn ysgrifennydd Eisteddfod
o’r fath. Plant oedd y pwyllgor, plant oedd y cystadleu- wyr, a Tom fy mrawd,
ac yntau heb fod ond 14 mlwydd oed, oedd y cadeirydd. Yn yr awyr agored, yn yr
allt gerllaw’r tŷ, y cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf o’r gyfres, a
chofiaf, fel pe na bai wedi digwydd ond ddoe, wel’d yr hen Nansi, Lloegrfach,
yr hon oedd dros bedwar ugain oed ar y pryd, yn eistedd yn ei shôl fach a’i
phais fach a’i chap lasis mewn cadair freichiau ar y llwyfan yn mwynhau’r
Eisteddfod gyntaf - a’r olaf - y bu hi ynddi erioed. Cafodd y bobl mewn oed y
fraint o dalu am fyn’d i mewn i’r Eisteddfod, a phobl mewn oed oedd y beirniaid
i gyd.
Yr oedd Mynyddog wedi newydd fod ar ymweliad â’r plwyf cyfagos, i arwain a
beirniadu mewn Eisteddfod (x87) yn y
prydnawn, ac i ganu yn y cyngerdd yn yr hwyr. Dyma’r unig waith y gwelais y gwr
amryddawn, ac y mae’n fyw yn fy nghof hyd y dydd heddyw. Ef oedd y cyntaf a
welais erioed yn chware’r berdoneg ac yn canu yr un pryd, a chredwn i a phawb
arall na welwyd y fath gampwaith o’r blaen. Bu cystadlu ar adrodd ei benillion,
“Curwch yr haearn tra fyddo yn boeth,” ac i Tom fy mrawd y dyfarnodd Mynyddog y
wobr. Ni chreodd dim gymaint o gynnwrf yn yr ardal ag ymweliad y gwr enwog, ac
am fisoedd buwyd yn adrodd ac ail-adrodd ei ffraethebion. “Be ’di’r sŵn
wyt ti’n gadw yn y gallery?” gofynnai’r arweinydd yn wawdlym. “’Rwy’ wedi colli’n
hat,” atebai rhywun. “Wel, beth os wyt? ’rwyf fi wedi colli’n ngwallt, a ’dwyf
fi ddim yn gneud hanner y row wyt ti.” Ymweliad Mynyddog a wnaeth i ni’r plant
benderfynnu cychwyn Eisteddfod, - yn union fel y cynhaliem “breimin” (ploughing
match) ar ochr y clawdd, - a dernyn o bren yn aradr, - a chymanfa yn y
llwyn arel (laurel) yn yr ardd, i ddynwared y bobl mewn oed.
Beth amser yn ol danfonodd fy hen gyfaill a chydoeswr, James Rees y Teiliwr,
gopi ataf o raglen “Eisteddfod y ’Sgubor,” a gynhaliwyd yn 1878. Nid yn yr un
lle y cynhelid yr Eisteddfodau. Yn yr Allt y bu’r gyntaf. Cymerodd Gruffydd y
Gôf y gadair yn “Eisteddfod y Cartws” (cart-house); Tomos Pencae (y gwas
mawr) yn “Eisteddfod y Storws” (storehouse); a fy nhadcu yn “Eisteddfod
y ’Sgubor.” Eisteddfod werinol oedd Eisteddfod y plant, ac ni ddisgwylid i’r
cadeirydd wneud dim ond rhoddi ei bresenoldeb ynoi. O si sic omnes!
Dyma’r Rhaglen wedi ei thalfyrru ychydig.
(x88) BROWNHILL, LLANSADWRN.
Cynhelir Eisteddfod Gadeiriol yn y lle uchod ar ddydd Mercher, y 15fed o
Hydref, o dan nawdd
Rhai o Brif Foneddigesau a Boneddigion yr Ardal,
pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ol y drefn ganlynol.
CERDDORIAETH. s. d. {solidus, = swllt; denarius = ceiniog}
1. I’r un a gano yn oreu, Unawd Soprano, “Tyn am y lan,” a’r cydgan i’w ganu
gan Bedwarawd. Gwobr 4 {d.}
2. I’r un a gano yn oreu “Y Milwr Bach.” 2 {d.}
3. I’r un a gano yn oreu “Carmel” (Stephens & Jones). 2 {d.}
BARDDONIAETH.
4. Am y Bryddest oreu ar “Yr olygfa geir o ben y Fan (Llansadwrn)” dim dros 100
o linellau. Gwobr, Cadair, Capan Comicyll, ac 20 ffyrling.
5. Am yr englyn goreu i “Lansadwrn a Llanwrda.” Gwobr 2 {d.}
RHYDDIAITH.
6. Am y Traethawd goreu ar “Y gwenyn ar addysg a roddant i ddyn.” Gwobr, Llyfr
gan gyfaill, a 2 {d.}
7. Am y Traethawd goreu i rai dan ddeg oed ar “Samson.” Gwobr, Llyfr gan
gyfaill.
8. Am y Llythyr goreu at frawd neu chwaer. Gwobr 3 {d.}
AMRYWIAETH.
9. Am y ddadl, “Pa un sydd fwyaf defnyddiol i ffarmwr, Buwch neu ddafad.” Gwobr
2 {d.}
10. Araith ar y pryd. Gwobr 1½ {d.}
11. Am yr Araith oreu ar “Yr Eisteddfod a’i daioni.” Gwobr 2{d.}
12. Am yr Adroddiad goreu o’r Salm gyntaf. Gwobr 1½ {d.}
13. Sillebu. Gwobr 1½ {d.}
14. Darllen. Gwobr 1½ {d.}
(x89) CELFYDDYDWAITH.
15. Am y Ffon oreu. Gwobr 2 {d.}
16. Am yr Hosanau goreu. Gwobr 1½ {d.}
17. Gwobr-gwd goreu i wobrwyo’r Bardd buddugol ar y Bryddest. Gwobr 3 {d.} 18.
Am y gwniad goreu: rhyw ddernyn o ddewisiad yr awdwr. Gwobr 3 {d.}
Ymysg y beimiaid ceir enwau prif wŷr a gwragedd y plwyf. Y cadeirydd oedd
“Thomas Davies, Ysw., Banc-y-lan” (ac yntau, druan wr, yn tynnu at ei ddeg a
thrigain oed, ac heb gymeryd y gadair mewn cyfarfod cyhoeddus byth ond hynny),
a’r Arweinydd oedd Dewi Towy. Ymysg yr “Amodau” ceir hwn:
Rhaid i’r holl gystadleuwyr fod dan 17 oed.
Diwedd y gân. oedd y geiniog:-
Mynediad i mewn. Esgynlawr, 3d. Blaen-seddau, 2d. Ol-seddau, id.
Nid wyf yn cofio ond pedair llinell o’r Bryddest fuddugol:-
Llandilo Fawr ar ael y bryn,
Llandilo Fân gerllaw,
Llandyfri dref a’i grydd yn wlyb
Yn cwato rhag y glaw;
a dwy linell o’r unig Englyn a ddanfonwyd i mewn i’r gystadleuaeth
Llansadwrn didwrn a da,
Llawn order yw Llanwrda. –
Dyfarnodd Dewi Towy, ar ol gwneud llawer o spri ar ben y “didwrn” a’r “order,”
hanner y wobr i’r cystadleuydd am ei anturiaeth!
Ni fu Pwyllgor Eisteddfod Genedlaethol erioed yn fwy eu ffwdan nag oeddem ni’r
plant am ddyddiau (x90) cyn yr Eisteddfod, -
yn poeni’r merched i wneud “gwobrgydau” (oblegyd meddylid mil-mwy am y bag hyd
yn oed nag am y wobr), yn paratoi’r tocynnau a’r rhaglenni (oblegyd ni ellid
fforddio eu hargraffu), ac i godi’r llwyfan a gwneuthur y meinciau.
Pa ryfedd, meddaf, - wrth gofio am Eisteddfodau’r plant - fod yr hen iaith wedi
goroesi cymaint o’i chaseion a’i gelynion? Y fath ynni a brwdfrydedd mewn
plantos! - yn ffurfio pwyllgor, yn ethol swyddogion, yn trefnu’r rhaglen, yn
bwrw’r draul, yn paratoi’r cyhoeddiadau, yn codi’r llwyfan, yn dysgu’r tonau,
yn ysgrifermu traethodau a phenillion ac areithiau, a’u dysgu ar gof, - a’r
cyfan heb gyfarwyddyd gan “bobl mewn oed”! Ni chlywid gair o Gymraeg yn yr
ysgol ddyddiol, ac ni ddysgwyd un ohonom y ffordd i ysgrifennu’r hen iaith. Nid
oedd gan neb ohonom, chwaith, lawer o lyfrau Cymraeg, a’r ychydig oedd yn ein
meddiant, tra anghymwys oeddynt i blant o’n hoedran ni. Ystoriau’r Beibl, Taith
y Pererin, a’r Rhyfel Ysbrydol, Caban F’Ewyrth Twm, John Halifax (wedi ei
gyfieithu a’i gyhoeddi yn “Nhrysorfa’r Plant”), Gweithiau Ceiriog, Mynyddog, a
Watcyn Wyn oedd ein prif lyfrau. ’roedd un neu ddau yn hyddysg yng nghampwaith
yr hen Theophilus, “Drych y Prif Oesoedd,” a “Chymru Fu,” a darllenais yn
gynnar “Llewelyn Parri” Llew Llwyfo, a “Jeffrey Jarman” Gruffydd Rhisiart. Ond,
o’u cymharu â’r llyfrau a ddarperid ar gyfer plant Saeson, mor llwm oedd ein
llenyddiaeth! Er hynny, yr oedd rhyw allu gwyrthiol yn yr hen iaith, yn ein
symbylu i wrteithio’n talentau syml a’n cynheddfau cynhenid. A dyna, mi gredaf,
yw hynodrwydd a rhamant y Gyrnraeg, - er lleied ei buddiannau, (x91) mae rhyw fywyd a chynnydd gwyrthiol ynddi.
Hi a dâl ar ei chanfed i’r rhai a’i carant, ac y mae mor wir am dani hi ag am
ddoethineb: “Dyrchafa di hi, a hi a’th ddyrchafa di.”
Ond mae’r byd wedi newid, ac yn parhau i newid, o dô i dô. A ydyw bywyd gwledig
yng Nghymru heddyw mor gyfoethog, mor llawn diddordeb ag ydoedd cynt? Caiff
ereill ateb, oblegid ni allaf fi dorri’r ddadl. A yw prif areithwyr a
phregethwyr ein gwlad yn y dyddiau hyn yn arfer talu ymweliad â’r pentrefi
dinod? Neu a ydynt yn boddlon ar areithio a phregethu yn ein “trefydd mawrion,”
ys dywedai Tomos y Crydd? ’rwy’n cofio Llew Llwyfo yn canu ac adrodd am oriau,
Eos Morlais yn canu a Charadog yn chware’r crwth, Hiraethog a Matthews Ewenny,
Cranogwen a’r Ferch o Ganaan yn darlithio, Tanymarian yn arwain Cymanfa Ganu, a
chewri’r pulpud yn pregethu “ar y maes,” mewn ysguboriau a thai annedd a
chapelau bach diaddurn. Nid oedd gan Gymru na phrifddinas na phrifysgol, ac ni
ddaeth i’w meddwl roddi Prif Weinidog i Brydain Fawr. Ond ai tybed nad ydoedd y
genedl yn ei chyfanrwydd yn fwy ei breintiau, yn gryfach a gwreiddiolach ei
doniau, ac yn fwy Cymreig ei hathrylith? Aberthodd y tadau lawer dros gael
addysg i’r werin. “Gwell dysg na golud” oedd eu harwyddair. A ydyw’r Cymry
dysgedig bob amser yn foddlon eilio’r hen ddihareb? Malldod ac nid bendith fydd
ein haddysg os defnyddir ef i godi’r ychydig ar draul esgeuluso’r llawer. Boed
i ni ymestyn at ragori ar Gymru Fu rnewn dysg a diwylliant, mewn gwybodaeth,
mewn (x92) cariad at y prydferth a’r cain.
Ond na foed i ni anghofio mai prif ogoniant Cymru ’s lawer dydd oedd ei
diwylliant gwerinol, ei hegni meddyliol, ei greddf lengarol. Nid yw Cymru heb
Gymraeg ond fel Dafydd ap Gwilym heb ei Wen:
Un ydwyf pan bwyf heb Wen,
Afrywiog heb fawr Awen,
Ac ernych tost i’m gornwyf -
O flaen neb aflawen wyf,
Heb gof, heb ynof enaid,
Na rhith o’r synnwyr fo rhaid.
Ond tra erys y Gymraeg yn fyw ac yn flodeuog, yn destyn ymchwil ac yn offeryn
llên, gall Cymru ganu gyda’r bardd
Gyda Gwen wy’n ddibenyd,
Gwna hon fi’n galon i gyd,
A’m can, yn rhedeg i’m cof
Yn winaidd awen ynof;
Ond ni ddaw im awr lawen
I’m bywyd mewn byd heb Wen.
Ymffrostiwn yn ein cariad at ddysg, a chlywais wladweinydd o Sais, ac efe’n
Weinidog Addysg, yn ein canmol ar g’oedd gwlad a Senedd am ein sêl a’n brwdfrydedd.
Ond na foed i ni anghofio mai “gwell dawn na dysg,” na cholli yr hen ddawn
Gymreig yn ein sêl ysol am wybodaeth a llwyddiant.
Hydref 2, 1917.
(x93) PENNOD
IX.
HEN DRAMP.
Ar brynhawngwaith tesog ym Mis Awst, fel yr oeddwn yn dychwelyd yn llwythog o
lannau’r Tywi, a’r wialen bysgota ar fy ysgwydd, gwelwn hen ŵr yn rhodio’n
wisgi o’m blaen ar y ffordd fawr. Yn fuan deuthum i fyny ato, a chanfum mai dyn
dieithr, neu yn ol y gair lleol, “dyn dwad” ydoedd.
“Prynhawn da i chi, syr,” eb ef wrthyf, a gwên hapus ar ei wyneb llwyd. Yr oedd
tua hanner cant oed, a’i wallt a’i farf yn frith, ond gan gymaint hoywder ei
gerddediad a llonder ei lygad glâs, braidd y gellid credu fod henaint wedi
gosod llaw i gyffwrdd ag ef.
“Prynhawn da,” meddwn innau yn Saesneg, - oherwydd yn Saesneg y cyfarchodd fi.
“’Rwyf wedi cerdded o Lambedr heddyw,” meddai, “ac ’rwyf wedi blino’n ofnadwy.
’does gennyf un geiniog, Mr. Lloyd bach -”
“Nid Lloyd yw f’enw,” atebais yn swrth.
“Nage?” eb ef yn syn. “’Roeddwn i’n meddwl mai Mr. Lloyd Glansefin oeddech
chi,” gan enwi ysgweier yn yr ardal. “Ond pwy bynnag ydech chi, gŵr
bonheddig ydech chi, a fyddwch chi ddim yn gâs wrthyf os dof i byth o’ch blaen
chi.”
“Ond ’dwyf fi ddim yn Ustus Heddwch,” meddwn innau.
“Ddim yn J.P.?” gofynnai “Wel, wel, fe glywes cyn heddyw fod pobl Shirgâr
ymhell yn ol yn hyn o beth, ac fod y bobl oreu yn cael eu cau allan o’r Fainc, (x94) ond chredes i ddim o hynny o’r blaen.
Meddyliwch nawr - y chi, syr, yn ŵr bonheddig, ac heb fod yn J.P.!”
“Nid gŵr bonheddig wyf fi,” atebais yn Gymraeg, gan gofio hen chwedl Tal.,
“ond Cymro.”
“Cymro?” ebe’r hen dramp. “Weles i ’rioed ffasiwn beth! Ac yn siarad Cymraeg
glân gloyw! O fel mae’r hen genedl yn mynd yn i blaen! Dyna beth nad oedd i’w
gael yng Nghymru pan oeddwn i’n hogyn yn Nhowyn ystalwm! Gŵr bonheddig fel
chi, syr, yn siarad Cymraeg cystal a minne! Cymru am byth, ynte? Mae’r hen
genedl a’r hen iaith yn mynd yn i blaen! Piti na faswn inne, syr, yn mynd yn fy
mlaen efo nhw,” ychwanegai gydag ochenaid. “Do, do, mi ges i’r chance
ore yn y byd. Ac aberthodd yr hen wraig fy mam lawer i’m codi’n berson -”
“A fuoch chi’n ’ffeirad?” gofynnais yn syn.
“Dier mi, do, syr,” atebodd gan chwerthin, “ac roedd pawb a’m clywodd yn deud y
gallwn i bregethu gystal a’r un Sentar, ond fe feddwes yn yfflon jibarders, fel
y byddan nhw’n deud yn Nghwm Rhondda, a fe ddaeth fy ngyrfa offeiriadol i sudden
stop. ’roeddwn i yn y coleg efo person y plwy yma, ond ’daiff John Evans
ddim ato yn i garpie. Na, na, mae gormod o honour yn yr hen John i wneud
hynny hefyd.”
“Ond ffordd trowyd chi ma’s o’r Eglwys?” gofynnais eilwaith.
“Syr,” eb ef, a’i lygad glasddu’n dawnsio gan ddigrifwch ac ysmaldod, “’does
dim ond un ffordd i stopio pregethwr - drwy dorri’i dafod o! Ond mae tair
ffordd i stopio person - yn y lle cyntaf, fel yr oeddwn i’n arfer deud, drwy
dynnu’r Llyfr Gweddi Cyffredin oddiwrtho, ac yna feder o ddim traethu; yn ail, (x95) drwy dynnu’r wenwisg oddiamdano, ac yna
chaiff o ddim traethu; ac yn drydydd ac yn olaf, drwy dynnu’r degwm oddiwrtho,
ac yna fyn o ddim traethu. Ac fe wnawd y tri pheth bendigaid â mi ar yr un
pryd.”
“Wel,” meddwn, “fuoch chi ddim yn treio cael mynd ’nol? Wedi’r cyfan, efallai y
cewch faddeuant” -
“Maddeuant?” ebe’r hen dramp. “Life Sentence, Syr, oedd hi. Ac yn wir yr
oeddwn i wedi danto, fel y dywed gwŷr Shirgâr, ar grefydda ystalwm.”
“Danto achos peth?” gofynnais irmau.
“Wel, ’r ydw i’n fab i ’nhad, ag ’r ydw i’n cofio’r gweinidog yn dwad i weld fy
nhad yn y Bala -”
“Ond ’rown i’n meddwl mai yn Nhowyn oedd ych cartre chi?”
“Ddwedes i hynny, Syr? “ eb ef, yn hollol ddigyffro. “Y Bala oeddwn i’n feddwl
- lipsus languae, fel y dyweden ni yn y Coleg gynt. Yn y Bala, Syr, a fe
ddaeth y gweinidog, fel ’roeddwn i’n deud, i weld fy nhad i’w gymell o i ddwad
i’r moddion. ‘Dowch rwan, Robert Ifans,’ medde fo, ‘dowch i’r capel. Fe naiff
les i chi ddwad. Fe fydd rhywbeth yn y bregeth, ne yn narlleniad y gair, ne yn
y weddi ne’r emyn, yn siwr o neud lles i chi. Ne dowch petae ddim ond i weld y’ch
cymydogion, yn lle pendrymu wrth y tân fel hyn ’na,’ medde ’nhad, “rwy’ wedi
danto,’- achos Hwntw oedd y ’nhad, ac iaith yr Hwntws oedd o’n siarad. ‘Danto
sut?’ medde’r gweinidog. ‘Wel, medde ’nhad, ‘’rwy’ wedi bod yn meddwl nawr am
dana i a chi, a ’nhad a mam, a ’nhadcu a’m mamgu, a’r hen dduwiolion erill
oddiar amser Iesu Grist hyd y’n hamser ni. Beth maen nhw wedi bod yn ’neud ond
cwrso’r diawl? A mae’n nhw mor bell o’i ddala fe heddi ag erio’d.’ Ac yr oeddwn
inne wedi hen ddanto (x96) ar grefydda, syr,
cyn i mi gael fy nhroi allan o’r eglwys. A dyma fi heno heb geiniog yn fy
mhoced, na gwely i fynd iddo. Mae gan y llwynogod ffeuau -”
“Ond pam na throwch chi ddalen, John Ifans ebe finnau. “Fe ellwch gael digon o
waith yn yr ardal ’nawr ynghanol y cynhauaf.”
“Gwaith, syr,” meddai’r hen dramp, yn ddireidus. .”Roedd mam - mae hi’n angel
gwyn yn y nefoedd ers blynyddoedd, druan, - yn arfer deud nad oedd dim ofn
gwaith ar John i mab - y gwnae o gysgu wrth i ochor o. A gwir ddeudodd yr hen
santes ogoneddus, ’roedd hi’n deall John i mhab i’r blewyn. Ac os ydi chi’n
edrych dros ganllawie’r nef ar hynt y ddaear, fel y crede hi pan oedd hi yma ar
y llawr, - a fydd y nefoedd ddim yn nefoedd iddi hi os na chaiff hi drafod
busnes pobol erill - mi wêl fod i phroffwydoliaeth wedi dwad yn wir, ac na
chaiff John i mhab ddiwrnod o waith yn i fywyd, - a dydi o ddim yn mynd i
ddechre ar y fath job yn i hen ddyddie. ’rydw i’n gwybod yn dda fel yr oedden
ni’n arfer siarad am the dignity of labour, ond mae dull y byd hwn yn mynd
heibio. Dyna i chi adnod i brofi’r pwnc, syr, a ’does neb yn gweithio ’rwan os
gall o fyw heb neud.
Mae’r wraig yn gwisgo sidan,
A’r gwr a’i aur yn ffri,
A’r ferch ar gefn ei bicycle,
A’r beili yn y tŷ..
Ond Mr. Rice bach-”
“Nid Rice yw f’enw,” meddwn innau.
“Nage? “ ebe’r hen walch, gan grychu ei dalcen a sefyll yn syn ar y ffordd.
“’Roeddwn i’n siwr mai mab Lord Dynevor oeddech chi, oblegid mi glywes i (x97) fod oln gallu siarad Cymraeg a’i fod o’n wr
bynheddig glân llednais! Ond pwy bynnag ydech chi, syr, mi wn mai gwr bynheddig
fine, caredig, elusengar, ydech chi. Cofiwch yr adnod, ‘Gwyn fyd y
trugarogion,’- ond dyna, dyna, ’does dim ond eisie edrych ar ych gwyneb chi i
weld ych bod chi’n dilin ôl y Meistr, gan fyned oddiamgylch gan wneuthur
daioni! ’rydw i’n cydfynd â Luther, syr, nad ydi Epistol Iago ddim yn rhan o’r
Gair Ysbrydoledig. Mae, o wedi gwneud drwg mawr yn y byd, ac wedi peri i lawer
gyfeiliorni.”
“Shwd hynny?” meddwn.
“‘Crefydd bur a difrycheulyd,’ ebe Iago, ‘yw ymweled â’r gwragedd gweddwon yn
eu hadfyd,’ a phwy grefydd sydd eisie i fynd i weld gweddw ifanc, hawddgar, a
dal i llaw, a chydymdeimlo â hi yn i hadfyd? Pan oeddwn i’n weinidog yn Rhymni
-’
“Ond ginne fach ’roech chi’n gweud mai ’ffeirad oech chi’n arfer bod? “
“A ddeudes i hynny? Wel, wel, peidiwch bod yn rhy gritic, Syr. ’roeddwn i’n
meddwl pryd hynny mai Eglwyswr oeddech chi. Mi fum i’n bolitician
blaenllaw unwaith, a mae rhai o’r hen drics yn glynu wrtha i o hyd! Ond dyna
oeddwn i’n mynd i ddeud, syr, - mae’n hawdd cydymdelmlo â gwidw - yn enwedig os
ydi hi’n ifanc a chlên - ond mae eisie crefydd ar ddyn cyn y rhoiff o gardod i
hen dramp na wnaeth ddiwrnod o waith yn i fywyd. Ac, a deud y gwir i chi, ’rydw
i’n cael fod cryn lawer o grefydd yn aros yng Nghymru o hyd! Neithiwr yn
Llambed mi ges chwe cheiniog gan berson, a ’dalla i ddim credu fod llai o
grefydd ymhhth Ymneilltuwyr Dyffryn Tywi.”
“Ac yn Llambed buoch chi neithiwr?”
(x98) “Ie, yn y workhouse, yn y Tŷ
Mawr! Diolch fod tô i gael i gadw’r storm rhag curo ar fy nhalcen slip ’does
dim lle rhy gysurus yn workhouse Llambed, ond ’roeddwn i’n penderfynu
cael gwerth chwech o gwrw Jem - yr hen Number One bendigedig - ar ben y
mynydd heddyw’r bore. Ond ow! ow! ‘Does dim workhouse yn Llangadog, a
’does gen i geiniog bren i dalu am wely, na châr na pherthynas i fynd ato.
’rydw i’n cofio’r hen Sergeant Williams yma flynyddoedd yn ol pan oeddwn i’n
dwad yma i glera, ond mae plisman newydd yma, meddan nhw, erbyn hyn yr hwn nid
adwaen mo’r hen John Ifans. Ach y fi, fel dywedwch chi’r Shirgârs, fel mae
cyfnewidiadau yn cymryd lle mewn lle bach fel hyn!
Mae llawer iawn o droeon
Yn digwydd yn y byd;
Ond os marw wnaiff y Sergeant,
Mae’r lock up yr un o hyd.
Ond mae’n rhaid i mi’ch gadel chi, syr, i chwilio am wely, er, y nefoedd fawr a
ŵyr ffordd galla’i dalu am dano, a mae credit John Ifans wedi mynd dipen
yn isel ers blynyddoedd! O diolch yn fawr iawn i chi, syr, - swllt? Y nefoedd
a’ch bendithio, ’r ydech chi ddwywaith yn fwy o Gristion na pherson Llambed - gaf
wely cynnes heno, a pheint cyn mynd iddo, syr. ’roeddwn i’n gwybod mai gŵr
bynheddig oeddech chi. Mae llygad ym mhen yr hen John Ifans o hyd. Ac a allwch
chi ddeud pwy amser mae’r trên cynta yn mynd i Landeilo bore fory? Chwech o’r
gloch? Rhy gynnar i wŷr byddigions fel chi a fi, syr, ‘Pryd mae’r trên
diwetha’n mynd i’r Bermo?’ medde mam druan wrth station-master Towyn.
‘Dyn dy (x99) helpo di ’rhen wreigan,’ medde
hwnnw, “ddim yn dy oes di na minne!’ Ddowch chi ddim i mewn i gâl glasiad efo’n
gilydd? Wel, nos dawch ynte, a diolch ganwaith am helpu hen dramp!”
Ac aeth i mewn i’r tafarn cyntaf wrth law.
Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan James Davies a’i Gwmni, Cyf.,
Gwasg Deheudir Cymru, Llanelli.
|
DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN |
·····
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o
dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA”
(= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA