|
|
|
CEINION ESSYLLT. Sef Rhai o Brif Weithiau Barddonol a Rhyddieithol Thomas
Essile Davies, neu Dewi Wyn o Essyllt, Dinaspowis. Caerdydd. Argraffwyd gan
D. Duncan a’i Feibion. Yn Swyddfa y “South Wales Daily News.” 1874.
|
|
|
|
Yr eiddoch yn gywir,
Dewi Wyn o Essyllt.
|
|
|
|
ANERCHIAD I’R “CEINION.”
…..
ANERCHIAD ro'f i gynyrchion - awen
Hoew, gref, a ffrwythlon;
O wych haniad - ei "CHEINION,"
Wefra wlad, yw'r gyfrol hon.
ESSYLLT wneir yn dywysog - ein cenedl
Drwy'r CEINION amrywiog;
Awdwr goludog - nid oes genym ni
Hafal i DEWI mewn style flodeuog.
Bardd ystwyth yn ei bryddestau ― hirion,
Cawraidd feddylddrychau, -
Eidal bomgranadau - a mêl awen,
A gwin Eden sy'n llond ei ganiadau.
Cyfoethog, hidlog,* awdlau - ein Essyllt
Sy'n oesol golofnau;
Newidir gofyniadau - gan bob gwr,
Pwy wyr rym awdwr y Pyramidiau?”
Eneidiol ysgrifeniadau - uchel,
Beichiog o resymau;
Eilwaith barn graffus, olau, -DEWI WYN,
Sy'n eu dilyn yn ei haur sandalau.
I'th aelwyd deued detholion -- ESSYLLT-
Y tlysaf fyfyrion-
I'n cenedl dim ond CEINION
Anwylodd ef i'r wledd hon.
Pontypridd.
CARNELIAN.
…..
CEINION ESSYLLT - caneuon oesol - y'nt
Hwy, a thrasylweddol
Farddoniaeth fyw, arddunol,
Ad o hyd fywyd o'u hôl.
Ha! daw o waith Dewi WYN - o ESSYLLT,
(T'wysog Cân ac Englyn);
Hardd welliant i'r gerdd ddillyn
A rhyw le uwch ar ol hyn.
WILLIAM.
…..
In Cambria's fertile field of ancient time-
Rich in the literature of Bards renowned-
Sweet flowers of odoriferous worth are found;
Their fragrance unsurpassed in Eastern clime!
Old Gwalia's muse hath not yet passed her prime:
The ESSYLLT garden, like a gay parterre,
Blooms with perennial grandeur, all as fair,
And gives us promise of reward sublime;
Here glory gilds the gentle poet's page,
And o'er Siluria sheds its lustrous ray,.
To consecrate for aye his deathless name;
That, like a pearl, shall shine from age to age,
Undimmed in radiance, till earth's latest day, --
Thus DEWI WYNN to us bequeathes his fame.
* hidlog, abundantly LEON.
|
|
|
|
RHAGYMADRODD
ANWYL GYFEILLION, -Teimlwn, wrth eich anerch, mai ein dyledswydd
gyntaf yw eich cydnabod gyda y diolchgarwch mwyaf egwyddorol a thrwyadl,
am y nawdd a'r gefnogaeth ydych wedi eu hestyn i ni tuag at gario allan yr
anturiaeth bryderus o gyhoeddi ein Gweithiau Llenyddol.
Yr ydym yn ddyledus am yr amlygiad o'r cariad hwn i bob dosbarth o
gymdeithas - o'r gweithiwr diwydlaw hyd at y pendefig urddasol; ac o
ddeiliaid
yr Ysgol Sabbathol hyd at Gadeirtraw yr Athrofa. Meddyliasom unwaith am
roddi cofres o enwau ein tanscrifwyr yn y " CEINION; " ond gwelsom
y buasai
neillduo un - tudalen - ar - bymtheg o'i ofod, yn ormod o aberth er mwyn
cyrhaedd
y cyfryw amcan.
Yn mhlith nifer ein tanscrifwyr, ac yn mhen y rês, y saif y boneddwr
haelfrydig a'r gwladgarwr twymgalon, GWILYM WILLIAMS, Yswain, o Gastell
Meisgyn, yr hwn nid yn unig a roddes ei enw at y gwaith, eithr hefyd a
gyplysodd yr unryw ag archeb ar yr Ariandy am £ 10, -rhodd na ddarfu i ni
mewn un modd ddychymygu ddim yn ei chylch, llawer llai dysgwyl am dani.
Bydded gwiw gan y boneddwr anrhydeddus dderbyn ein diolchgarwch mwyaf pur a
diffuant am ei haelfrydigrwydd digymhar. Y mae genym hefyd yr anrhydedd o
ddiolchus goffa enw ei Arglwyddiaeth yr Ardalydd BUTE, yr hwn bendefig
urddasol a ddarfu yn rasusol ymostwng i roddi ei enw fel tanscrifiwr at y
Gwaith; ac nid hyny yn unig, eithr hefyd, megys preswylydd enwog Castell
Meisgyn, a wnaeth yn ddiapeliad estyn in i ei gymhorth materol tuag at ddwyn
yn mlaen yr anturiaeth, -haelfrydedd hollol annysgwyliadwy o'n tu ni, eithr
am yr unrhyw, dymunem yn y modd mwyaf gostyngedig gyflwyno i'w Arglwyddiaeth
ein diolchgarwch mwyaf calongynwysfawr. Yr ydym o dan rwymau mawr hefyd i'r
boneddigion haelfrydig hyny o'n derbynwyr a fynasant dalu am eu cyfrolau yn
mlaen llaw, pa rai, wrth ymddwyn felly, a arwyddasant y teimlad a'r syniad
croesawus a'u meddianai tuag at ymddangosiad y gwaith, yn gystal a'u hawydd
am lwyddiant yr anturiaeth.
Y mae dosbarth arall o'n derbynwyr nas gallwn mewn un modd eu hangofio, sef y
rhai hyny a roisant y fath roesaw a derbyniad calonog i'n mab ANEURIN ar ei
ymweliad a'u hardaloedd ac â'u preswylfeydd, ac a estynasant iddo hefyd bob
cymhorth ag a fedrai eu cariad, eu doethineb, a'u dylanwad ei heffeithio, er
sicrhau i ni luaws mawr o enwau rhagurol tuag at y gwaith.
Eraill o'n derbynwyr a ymosodasant i gasglu enwau at y gwaith yn hollol
digymhelliad, eithr yn unig o'u hewyllys da tuag attom, a dymuniad am ein
llwyddiant. У
Hefyd, y rhai hyny o'n dosbarthwyr y buom mor ffodus a sicrhau eu gwasanaeth,
ag a fuont bob amser mor ffyddlawn, cyson, a dioedi yn eu taliadau am "
CEINION; " nid cynt yr anfonem y Rhanau iddynt, na byddai y tâl am
danynt yn dychwelyd, yr hyn a fu yn galondid, hwylusdod, a chymhorth mawr i
ni fyned rhag ein blaen gyda yr anturiaeth. Iddynt hwy, ynte, yn nghyd a phob
dosbarth arall o'n derbynwyr a gymerasant y fath ddyddordeb
|
|
|
|
yn ymddangosiad y " CEINION, " yn nghyd a rhan mor weithgar er
sicrhau llwyddiant yr anturiaeth, y dymunem gynyg ein diolchgarwch mwyaf
trylwyr a diffuant. Nid yw yn ein gallu i ad - dalu i neb o honynt yn ol fel
yr haeddant, nac fel yr ewyllysiem; ond yr ydym yn dymuno ar iddynt gael bod
yn dderbynwyr helaeth o wobrwyon melus rhinwedd, a bod hefyd i ffynonellau eu
llwydd gael bod yn wastadol yn rhai llawnion, gloewon, a chryf - lifeiriol.
Wel, anwyl gyfeillion, dyma y " CEINION " o'r diwedd ger eich bronau,
ond nid heb ein bod yn ymwybodus fod ynddo lawer iawn o wallau, gwaeleddau, a
diffygion, megys ag y mae yn dygwydd bod yn nghyflawniadau y perffeithiaf o
blant dynion. Y mae ein gwaliau cysodyddol i'w priodoli yn fwy i frys a
phwyswasgiad amgylchiadau, nag i esgeulusdod gwirfoddol. Amrai hefyd o'r
darnau, er eu bod yn rhai buddugol, a gawsant eu cyfansoddi gan yr awdwr yn
mlynyddau boreuaf ei yrfa lenyddol, yr hyn, feallai, a rydd gyfrif am lawer
o'r anmherffeithderau a gynwysant.
Bu gorfod arnom adaelllawer o ddarnau allan o'r " CEINION ag y buasai yn
well genym eu bod wedi cael ymddangos yn hytrach nag amrai ag y sydd. Llawer
hefyd o fân - ddarnau ydynt wedi cael ymddangos ynddo nas gallant fod o un
budd na dyddordeb i'r meddwl clasurol; ystyriasom ei bod yn ddyledswydd arnom
osod i fewn gyfansoddiadau o'r cyfryw nodweddiad, er mwyn cyfarfod a chwaeth
syml a diaddurn meddyliau llai caboledig, yr hon chwaeth sydd yn rhwym o fod
yn ffynu yn helaeth yn mhlith nifer mor luosog o dderbynwyr. Ni chynwysa y.
" CEINION, " feallai, fwy na haner yr hyn a gyfansoddasom yn ystod
ein bywyd; ond gan ei fod wedi cyrhaedd y terfynau gosodedig, nid oes genym
le i ychwanegu. Nid yw ei gynwysiad mor goeth, cywir, a gorphenedig ag y
dymunem, nag, yn wir, ag y gallasem, be buasai sefyllfa ein iechyd ond
caniattau: ac oddieithr i'n teimlad fod etto yn wahanol i'r hyn ydyw yn
bresenol, nid ymddengys y byddwn o duedd i wneuthur rhyw lawer mewn ystyr
lenyddol byth mwyach. Y mae barn, yr hon a gadarnheir gan brofiad personol,
yn ein dysgu mai ein doethineb fyddai ymneillduo bellach o'r maes llenyddol -
neu, o'r hyn lleiaf, o`r maes cystadleuol - am y gweddill o'n hoes. Nid ydym
wedi dyfod i'r penderfyniad bwn heb deimlo peth galar meddwl, canys, er mer
digynyrch a diaddaliad yw y maes llenyddol Cymreig i'r rhai hyny ag sydd yn
ei lafurio, etto, yr ydym yn rhwym o gyfaddef ein bod yn caru bod arno; ac yn
hoff rhyfeddol o'n iaith, ein gwlad, a'n cenedl; ac wrth ddiweddu ein
anerchiad presenol, ein dymuniad yw cyflwyno y " CEINION " i fynwes
y genedl hono oddiwrth ba un, drwy ei dosbarthiadau canol - raddol, yn benaf,
yr ydym wedi derbyn y nawdd a'r gefnogaeth hono a'n galluogodd i fyned yn
mlaen gyda'r anturiaeth bresenol gyda llawer iawn o gysur a llwyddiant. Wrth
ddiweddu, ynte, bydded i'n anwyl dderbynwyr, unwaith yn ychwaneg, dderbyn ein
diolchgarwch mwyaf dwfndeimladol.
Yr eiddoch oll, & c.,
DEWI WYN O ESSYLLT.
Dinaspowis, Mawrth, 1874.
.
|
|
|
|
(x6a) CYNWYSEB
ERTHYGLAU
The Beauty and Excellence of the
Welsh Language.....x061
Iaith.....x069
Y Gymraeg - Ei Henafiaeth a’i
Gwreiddioldeb.....x076
Y Gymraeg - Tynghed yr unrhyw.....x077
Y Bibl - Ei Lenyddiaeth.....x086
Diarebion- “Neb cyn dloted a’r hwn
sy’n meddu arian yn unig”.....x089
Yr Haf.....x099
Addysg Foreuol - Ei Dylanwad ar y
Cymeriad.....x168
Y Dyn Balch.....x182
Y Bardd.....x213
Glanau y Mor.....x227
Y Moesol a’r Anianyddol.....x233
Llythyrau Gwyddonol - Y
Sugnwynt.....x270
Llythyrau Gwyddonol - Y Gawod
Frogaod.....x273
Llythyrau Gwyddonol - Y
Goruchion.....x278
Llythyrau Gwyddonol - Y
Comedau.....x282
Llythyrau Gwyddonol - Y Ffynonau
Foethion.....x285
Y Beirdd Cymreig.....x309
Y Gwynt, neu Gysylltiad y Materol
a’r Ysbrydol.....x430
The Death of “Gwen Fach”.....x451
Henafiaeth y Bardd, neu Ragfudiant
Barddoniaeth.....x514
AWDLAU
Llwyddiant, Mawredd, a Gogoniant
Prydain Fawr.....x019
Ar y Flwyddyn.....x108
Llys Ifor Hael.....x237
Ar Ddyn.....x348
Ar Gymru .....x409
Marwnad i’r Gwir Anrhydeddus John
Nicholl, D.C.L......x445
Ar Ferthyrdod Stephan.....x458
Ar Ragluniaeth.....x490
Ar Ymweliad y Geri Marwol â Chymru,
yn 1849.....x546
PRYDDESTAU
Buddugoliaethau y Meddwl Dynol at
Natur Allanol.....x009
Y Mynydd.....x171
Prydferthwch.....x189
Y Nadolig.....x574
MAWLGERDDI
Richard Fothergill, Ysw......x301
Gwilym Williams, Ysw.. Meisgyn.....x389
David Williams, Ysw.,
Ynyscynon.....x393
MARWNADAU
Ioan Tegid.....x220
Thomas Powell, Ysw......x262
Henry Williams, Telynor.....x269
Ieuan Gwynedd .....x292
Gwilym Ilid.....x406
Y Cadfridog Havelock.....x437
Thomas Richards, Porthceri.....x505
Gwilym Huw,
Llanfair-Caereinion.....x579
|
|
|
|
(x7a) CANIADAU
Mae’r Gwynt yn Oer.....x063
Y Porthladd.....x066
Y Wialen Geryddol.....x092
Blodau’r Gwanwyn.....x094
Etifeddes yr Aelwyd.....x097
Y Gwallgofdy.....x098
Ofn.....x181
Cariad Mamol.....x187
Diwydrwydd.....x188
The Poet’s Task.....x219
Y Blewyn Brith.....x254
Y Ser! Y Ser!.....x257
Dylanwadau’r Nos.....x258
Y Bardd yn Ofni Marw.....x259
Wrth Odre’r Mynyddoedd.....x335
Yr Afon Towy.....x337
Bettws Fountain.....x338
Duw yn Llywydd Rhagluniaeth.....x339
Meistresan C. Davies,
Aberteifi.....x340
Dyddiau Maboed.....x449
Cynydd Masnachol Caerdydd.....x452
Priodas Ardalydd Bute.....x455
Cymdeithas Heddwch.....x472
Agoriad Rheilffordd Deheudir
Cymru.....x483
Galar Rhieni ar ol eu Mab.
&c......x510
Fferylliaeth Natur.....x569
Amaethyddiaeth.....x571
“Asgre Lân Diogel ei Pherchen”.....x583
CYWYDDAU
Castell Caerphili .....x401
Dyffryn Cynon .....x485
ENGLYNION
Yr Iaith Gymreig.....x062
Y Gauaf a’i Ddioddefiadau.....x064
Yr Hen Flwyddyn a’r Newydd.....x084
Nef ac Uffern.....x084
I Bont Fwa Pontypridd.....x093
Marwolaeth Samuel Evans.....x107
Angau a’r Bedd.....x107
Y Seren Ogleddol.....x165
Ar Farwolaeth William a Thomas,
&c......x165
Llywelyn y Llyw Olaf.....x167
Yr Hinwydr, a’r Cwmpawd.....x180
Angorfa Penarth.....x181
Y Gwefrefydd.....x212
Y Nwywawl.....x225
Adferiad Tywysog Cymru.....x226
Beddargraff Mebyn Dewi Isan.....x234
Marwolaeth Gwilym Mai ac Eliza,
Caerfyrddin.....x255
Y Farn.....x260
Yr Ysgoldy Brytanaidd.....x261
Anerchiad i Margaret Rowlands.....x291
Marwolaeth Ifor Cwm Gwys.....x298
Marwolaeth Alexander Smith.....x299
Ymweliad a’r Bardd Gwilym Ilid.....x300
Marwolaeth yr Enwogion.....x334
Prydferthwch Rhianod Gwent a
Morganwg.....x342
|
|
|
|
(x8a) Llwydlas a Gwenynen
Gwent.....x343
Cantoresau yr Eisteddfod a’r Cysegr
Cymreig.....x346
Merch a Gwasanaethferch yr Amaethwr
Cymreig.....x347
Ar Briodas Gwilym Williams, Ysw.,
Meisgyn.....x387
Marwolaeth Alaw Goch.....x398
Marwolaeth Alaw Goch ac Eben
Fardd.....x400
Ar Walter Savage Landor.....x405
Gwlad Canaan.....x408
Gwraig Dda.....x408
Eisteddfod Caerdydd.....x436
Y Parch W. Morgan, Llywydd
Eisteddfod Treforis.....x442
Talhaiarn.....x443
Llawdden.....x444
Cynddelw.....x445
Ardalydd Bute.....x457
Y Gelynen.....x480
Caradog.....x481
Y Cardotyn Dioglyd.....x484
Wyth Englyn i Carvan.....x508
Y Gomed.....x544
Anerchiad i Arthur Taliesin
Davies.....x572
Anerchiad i Laura, Maban
Llysfaenwr.....x572
Anerchiad i Gomer, Mabyn Gwilym Ddu
o Went.....x573
Anerchiad i Febyn H. Humphreys,
Ysw. .....x582
Gwilym Maesaleg.....x584
Trallod.....x586
Y Meddwyn.....x587
Garibaldi.....x587
Cyfiawnder Dwyfol.....x588
Cenfigen.....x588
Enllib.....x588
Yr Eppa.....x588
CYFIEITHIADAU
The Dying Maiden to her Mother.....x068
The Spirit has no Rest till it
Returns to God.....x080
Deserve it.....x082
Charles o’r Bala.....x448
GWELLIANT GWALLAU. Tu dal. 25, yn lle ". yn mdy, "
darllener " yn myd, " neu " yn mro. " lle yn
66 " " 99
" " 93 dar. 114
128 99
" " 162 " " " " 162
99 99 188
99 99 221
" " 99 245
99 99 256
" " "
" 345 99
99 365 " " " " " Lle cwyd yr hwylfenau, " dar.
" Lle cwyd yr hwylbrenau. " " Cant oed yn awr, cawn, wyt ti.
" " Yn llysdy'r hunan,
" dar. " llysdy'r huan. " " O'i mewn a ddihunwyd, "
dar. " a gynhyrfwyd. " " Ni wyr nad y flwyddyn, " dar.
" y flwyddyn hon. " " Gwreiddia, " dar. " gueiddia.
" " Ni wylant, " dar.
" ni wybydd. ” " O! ser
mawr, " dar. " O sêr mawr. '
" A draidd o'r gorphenol, " dar. " o'r gorphenol draw.
" ' Angau llaw mall, " dar. " llaw angau mall, " 66
" Yn y Dwyrain, " dar. ". yn nhir y dwyrain.
" 66 Adnewydder eu holl adnodder, " dar.
" adnoddau. "
|
|
|
|
x001
1
EISTEDDFOD IFORAIDD TREFORRIS,
DAN LYWYDDIAETH GEORGE GRANT FRANCIS, YSW., F.S.A., PRIF YNAD ABERTAWE.
Y BRYDDEST FUDDUGOL
AR
Fuddugoliaethau y Meddwl Dynal
AR Y
Greadigaeth Allanol.
( VICTORIES OF THE HUMAN MIND OVER EXTERNAL NATURE. )
CYFANSOD
BEIRNIADAETH Y CYFANSODDIADAU,
GAN EBENEZER THOMAS ( EBEN FARDD ).
CAERDYDD:
66
B. DUNCAN A'I FEIBION, SWYDDFA Y SOUTH WALES DAILY NEWS. '
|
|
|
|
x002
2
|
|
|
|
x003
3
Y FEIRNIADAETH. 1. Gallofydd ap Gwyddon. - Dechreua gyda desgrifiad bywiog a
barddonol o gyttrefniad cyssodol Anian, " yn olwyn mewn olwyn, " a
dôl mewn dôl, o'r mymryn distadlaf, a'r bychanigyn lleiaf, hyd y bydoedd
anferth, a'u rhodau hollgwmpasog ac eangfawr. Yna y darlunia y modd y mae yr
holl fodau, elfenau, ac ansoddau wedi eu darostwng i weithrediadau y meddwl
dynol. Yna dilyna rhestr o orchestion dŷn yn ei ymdriniaeth â Natur. Nid
yw y gwrthgyferbyniad a ddisgyna i'w wneud rhwng Gweithfoedd Cymru, yn eu
cychwyniad â'r hyn ydynt yn awr, yn fanteisiol i osod allan amcan y testyn yn
y modd mwyaf cryf a tharawiadol; heblaw fod y llanw barddonol yn treio i ryw
draethell ddiddyddordeb, mae y meddwl a'r iaith hefyd yn gostwng i gynefinedd
isel, megys— " Cludo haiarn trwm y MERTHYR, Yn sypynau bychain rhydd,
Mewn cawelli gyda'r mulod, Yn anniben i GAERDYDD; Codi llechi trymion ARFON,
Hyd yr ysgol ar y cefn; Llithro'n ol a cholli'r haner, Rhwymo'r goflaid bach
drachefn. " Nid oes yn y llinellau hyn fawr o gompliment i'r meddwl
dynol am ei fuddugoliaethau; ac y maent, yn nghyd a'u cymeiriaid yn yr adran
hon o'r caniad, yn bur isel a baleaidd o ran eu nodweddiad prydyddol. Mewn
adran helaeth arall o'r caniad, y nesaf mewn dilyniad i'r un a nodwyd, gwna y
Bardd gyfeiriad cyffredinol at y gwahanol ddarganfyddiadau a'r gwelliantiau
sydd yn effeithio cymaint o gyfnewidiadau ar y byd a'i amgylchiadau yn yr oesoedd
diweddaf hyn,
|
|
|
|
x004
4
yn enwedig yr agerbeiriannau. Ychydig y mae yn fanylu ar ddim yn fwy na'u
gilydd; ond clodfori effeithiau y Buddugoliaethau yn hytrach na chofnodi y
Buddugoliaethau meddyliol eu hunain. Mae y brydyddiaeth yn yr adran hon yn
bur lithrig, amrywiadol, a difyrus.
-
Try yn awr at drem - wydrau - melinau - yr argraffwasg - yr hysbysai gwefrol
— amaethyddiaeth wyddorol - carol yr amaethon— meddyginiaeth gwefryddiaeth -
galfaniaeth - mesmeriaeth ― ferylliaeth ― mwnyddiaeth - ychydig o
farddoniaeth fywiog a chyffrous a deimlir wrth ddarllen y rhanau hyn. Mae yn
awyddus iawn yn wastad i nodi uwchraddoldeb yr oes hon ar bob oes o'i blaen
mewn darganfyddiadau.
66 Adeiladau yr hynafiad-
Saith ryfeddod mawr y byd--
Pontau'r AIPHT a Muriau CHINA, A'u gorchestion oll ynghyd, Wyrant oll i'r
cysgod oesol, Wrth ddyfeisiau'n dyddiau ni,
Pan mae gwyddor a chelfyddyd Yn ymwisgo'n eitha'u bri. "
Buasid yn tybied nad oedd y testyn yn gofyn i'r Bardd osod cyrhaeddiadau
meddyliol gwahanol oesodd mewn rhyw gyferbyniad cymhariaethol neu gystadleuol
cymaint. Gadawer bod yr oes hon yn rhagori ar bob oes erioed yn nghyfoeth ei
darganfyddiadau, a gogoniant ei buddugoliaethau meddyliol, etto, wrth ammodau
y testyn, y mae gan bob buddogoliaeth o eiddo'r meddwl dynol ar y greadigaeth
allanol, bid hen bid newydd, yr un hawl i gael ei chofnodi a'i chlodfori.
Cyferia yn mhellach at bylor - glo - mun - y pump - a'r speaking trumpet,
―cerddoriaeth yn ffurfio difyrion y crefftwr yn ei oriau hamddenol -
nad yw peirianwaith yn lleihau y galwad am wasanaeth llafuriwr - nad oes
terfyn ar dreiddiadau darganfyddol y meddwl dynol y cwbl yn ein barwain at
Dduw - eu defnydd yn y diwedd i helaethu teyrnas Crist - awgrymiad am y
fantais debygol a dderbynir oddiwrth yr awyren - emyn y celfyddydwr wedi
tramwy trwy'r ddaear a'r ffurfafen i sylwi ar geinion athrylith ddynol, a'r
fantais a ddeilliai oddiwrth y cyfan i adnabod Duw. Gydag ychydig linellau
|
|
|
|
x005
yn cyfeirio at ddilead holl orchestion celfyddyd yn yr amser y bydd y
defnyddiau gan wir wres yn toddi, a'r ddaear a'r gwaith fyddo ynddi yn
llosgi, terfyna ei ganiad, yr hwn sydd, ar ryw olwg, yn ddarn campus, yn
cynnwys amrywiaeth mawr o fesurau, y rhai a gedwir yn llyfn a chyson; ynghyd
ag iaith gywir a choeth, a phob peth yn bur, a dillynaidd, a chaboledig; ond
nis gellir dweyd fod ynddo lawer o farddoniaeth rymus, na bod yr awdwr yn
gweithio allan y testun yn y modd goreu a mwyaf priodol; nid yw urddas y
caniad, chwaith, yn cael ei gynal i fynu mor gyson ag y buasai ddymunol.
2. Bardd Gwyn o Fon. - Y mae islaw sylw o un math, ac yn gymaint ag mae tri
chyfansoddiad a dderbyniwyd ar y testyn, mae yr ymdrech yn gorwedd yn gwbl
rhwng " Meddyliwr " a " Gallofydd ap Gwyddon, " dau Fardd
gorchestol, ac y mae yn hyfrydwch edrych ar eu " gwanafau ” barddonol;
felly cymerwn mewn llaw, yn
3. Meddyliwr. - Yr ydym yn teimlo yn hyfryd wrth ei ddarllen o'r dechreu, yn
portreiadu beiddgarwch, chwilfrydedd, cyflymder, a grym y meddwl dynol,
gyda'r fath danbeidrwydd, grym, a nwyfiant barddonol: -
--
" O'r fath anturiaethwr hyf, hyf, ydyw'r meddwl, Y mae wedi marchog y
fellten a'r cwmwl, Hedlamu o blaned i blaned ysblenydd.
A throi gyda'r gomed o gylch yr wybrenydd
' Nol crwydro trwy'r tywyll, bell, bell, faith wagleodd, Mae'n gwnethur ei
orsaf ar un o'r haulfydoedd, Yn rhoddi trem eilwaith ar anian fawr ogylch Gan
hofian ac hofian uwchlaw ei therfyngylch; Ac fel pe ' n aniwall ar olygfeydd
defnydd, Rhydd lam i fro niwlog yr anwel breswylydd. "
Gwelir ei fod yn hoff o ddyblu ansoddair pan y myn ei arfer yn yr uchelradd,
megis. " hyf, hyf, " " bell, bell. " Y mae hyn yn hen
briod - ddull cynhenid i'r Iaith Gymraeg. Yr un modd y gwna gyda'r ferf
hofian, neu yn hytrach " hofran, " yr hon, fel y gellir sylwi wrth
fyned heibio, nid yw yn dda yn yr un o'r ffurfiau uchod, yn gymaint ag nad yw
ond llygriad o'r Saesonaeg hover. Yn y desgrifiad canlynol o'r meddwl dynol,
nid priodol iawn yr ymddengys y llinell olaf debygid - o leiaf mewn ystyr
gyffredinol - ond y mae y llinellau yn hynod o farddonol mawreddus a thlws; -
|
|
|
|
x006
" Mor eang ac amrywiog yw ei ddylanwadau cry '!
Pan eilw, ' r milyn dof a'i clyw, a'r bwystfil gwyllt a ffy; Mae ganddo swyn,
un dyner swyn, sy ' drech na chalon dyn; Mae ganddo un ochenaid fwyn sy DRECH
NA DUW EI HUN. "
Prin y gellir caniatau fod poetical license yn cyrhaedd mor bell a hyn,
oddiethr cyfyngu y ffigwr at feddwl y Sant, am yr hwn y dywedir Cefaist nerth
gyda Duw fel Tywysog, a chyda dynion, a thi a orahfygaist. " Gwel Gen.
xii. 25-29.
Nid yw mor ffodus ag y dymunasid bob amser wrth fathu geiriau, megys "
dystaw - fud, " " holl - rydd, " " dyn - fwriad, "
" " anwel, " a rhai ereill; etto rhaid caniatau cryn ryddid i
feddwl cryf a beiddgar, mewn dullweddu ymadroddion at ei gyfleusdra.
Wrth gyfeirio at wahanol enghreifftiau o fuddugoliaethau y meddwl dynol ar
anian a'i helfenau, y mae yn dechreu gyda dechreuad pob peth yn Eden, fel
arferol; ond nid yw yn talu sylw rheolaidd i ddilyniad amser, a dadblygiad y
meddwl dynol yn y cyfnodau cyd - ddilynol o amser, ond eheda o borthladdoedd
Carthage i binnaclau Eglwysydd Rhufain, ac oddiyno yn ôl drachefn i
Byramidiau yr Aipht, a Chromlechau y Derwyddon yn Mhrydain. Teimlir fod
llawer o danbeidrywydd barddonol yn y meddwl a'r iaith wrth ddarlunio y
pyramid: -
" A'r Pyramid cadarn, diysgog, arswydus, Yr hwn sy ' n derchafu ei ben
anrhydeddus Uwch rhwyg breniniaethau a drylliad teyrnasoedd, A'i drem yn
drag'wyddol, a'i wedd yn oes oesoedd. Mae ' n estyn ei ben megys draw i'r
cymylau, I wrandaw CYFRINACH Y SER YN EU LLWYBRAU; Ymdorched y fellten o
gylch ei YSGWYDDAU, A rhuthred y gwyntoedd ar draws ei ESGEIRIAU, Fe saif mor
ddiysgog ag un o'r mynyddau, Gan edrych mewn dirmyg ar lid yr elfenau.
Trosglwyddo creigddarnau anferthol o'r Nilus * Fel hyn, a'u pentyru ' n
gywreinddull a threfnus, Nes ffurfio o honynt y fath fryn - adeilad, Sydd un
o brif fuddugoliaethau dyn - fwriad. "
Er fod y meddwl yn fywiog a'r ymadrodd yn gryf yn y llinellau uchod, nid ydys
yn gallu eu cymeradwyo yn hollol; buasai yn fwy priodol i ddesgrifio y
pyramid a'i ben yn y cymylau, yn gwrando ar gyfrinach y taranau a'r
gwyntoedd, nag ar " gyfrinach y ser. " Nid oes llawn briodoldeb,
efallai, i nodi pyramid wrth gyffelybrwydd ysgwyddau ac esgeiriau; buasai bon
neu osail, a phigwrn neu flaen, * Dywed rhai mai CLAI y Nilus, yn gymysgedig
â gwellt i'w weithio yn briddfeini, a ddefnyddid i adeiladu un o'r
Pyramidiau.
|
|
|
|
x007
yn well. Gwnaethai ysgwyddau ac esgeiriau yn well i'w cymhwyso at ddarluniad
o'r Sphinx.
Fel enghraifft o'i hyawdledd a'i rymusder barddonol, yr hyn a gynelir i fynu
yn fwy neu lai trwy ei holl gân, dyfynir y penill godidog a ganlyn, mewn
cyfeiriad at y ffordd a weithiwyd dros y Simplon, yn Switzerland: -
" Fe ddringodd dyn ei ysgwydd gref, A sangodd ar ei goryn ef;
Ac ol ei draed yw'r SIMPLON sy '
' N ymdorchi gylch ei ysgwydd fry. Ei rawd sy ' n ymestyn ar draws ei
ystlysau, Gan droi ac ymddirwyn yn fyrdd o ddolenau; Ei bontydd ucheldrem ar
draws y dyffrynoedd Sy ' n debyg i ddeildai yn disgyn o'r Nefoedd; Arweinia
dros glogwyn, gagendor, a dyffryn, Drwy'r graig a thrwy'r Alprew, gan esgyn
ac esgyn Yn uwch, uwch i fynu rhwng myrdd o raiadrau, Afonydd, coedwigoedd, a
llenyrch, a llynau, Nes cyrhaedd bro oerllyd yr eira tragwyddol, Goruwch y
cymylau, mewn hinsawdd ysbrydol, Lle nad oes ond dystaw ac erchyll arddunedd
Mewn anghyfanedd - dra yn gwneuthur ei annedd. ” Awgrymwn y buasai aruthr
arddunedd, yn y linell olaf ond un o'r dyfyniad uchod yn well.
Temtir ni i ddyfynu un adran etto o'r Caniad, lle y desgrifir y Dyn v'i
Feddwl, wedi diflasu ar edrych ar ryfeddodau y nef o bell, yn esgyn i fynu yn
ei awyren ogoneddus, i ymgydnabod â'r unrhyw mewn agosrwydd cyfleus: —
" Ond, fel pe ' n anniwall ar dremio o'r pellder,
Mae ' n awr yn ymdrechu rhoi naid i'r uchelder;
Gwel! gwel! fel mae'n esgyn fry! fry! trwy'r las awyr,
I gyrau nas treiddwyd gan lygad yr Eryr;
Mewn cerbyd o sidan, a'r nwy yn ei dynu,
Mae ' n esgyn mor esmwyth a'r angel i fynu.
Mae ' n awr yn rhoi trem ar amgylchoedd y ddaear,
Yn gweled ei bryniau fel brychau ar wasgar,
A'i llydain afonydd fel meinion linynau,
A'i mawrion ddinasoedd fel bychain lanerchau.
Fry! fry! mae ' n ymgodi, uwch! uwch! i'r uchelder,
Nes gadael y ddaear fel niwl yn y pellder,
Ac yntau'n ymgrwydro yn nos y dystawrwydd,
Heb ddim yn ei wyddfod ond mawredd yr Arglwydd!
Yn myn'd ac yn dyfod trwy byrth y cymylau,
Ac eistedd yn ymyl y mellt a'r taranau!
Y fellten ofnadwy sy ' n taro'r awyrgylch,
Nes rhuo ' n wallgofus gan wewyr o'i hamgylch,
Ei llef sydd yn ysgwydd colofnau y ddaear,
A'i tharo dros enyd yn fud ac yn fyddar!
Drwy'r cwmwl trwm, aelddu, gwel hon, mewys ellyll, Yn agor ei llygad coch,
poeth, gwyllt, ac erchyll,
Yn poeri ' n gynddeiriog i wyneb yr haulwen, Yn gwingo, dirdynu, a gwanu
trwy'r wybren,
|
|
|
|
x008
Yn barod, debygid i chwythu'r wybrenydd, A llyngeu'r holl ddaear i ddistryw
tragywydd! A feiddia DYN, ynte, ymryson a'r fellten? Ai tybied yr ymgais
flaendorri ei haden? O, Feddwl! -- oes tebyg y cei oruchafiaeth Ar elfen mor
gyflawn ei rhwysg a'l llywodraeth? Wel! syned y ddaear at ddewrder y MEDDWL
Yn rhagod y fellten wrth gychwyn o'r cwmwl! A oes yn ei feddiant ryw hudlath
effeithiol, Neu ynte ryw gyfran o ddansawdd sy ddwyfol, Gan fod y boeth
fellten - ofnadwy mewn rhwysgeddYn gorfod ymgrymu i lawr wrth ei orsedd?
Y fellten sy ' filwaith ffyrnicach na'r bwystfil, Yn awr a arweinir gan
wifren fach eiddil?
Yn ngolud ei ddoniau awenyddol, dysgleirdeb a nerth ei farddoniaeth, a'i
ymdriniaeth drwyadl a chynwysfawr a'r testyn, y mae " Meddyliur "
yn tra rhagori ar " Gallofydi. " Y mae yn feddyliwr angherddol a
threiddiol, ac yn feistr ar danbeidrwydd a gloywder iaith cyfatebol.
Awgrymwyd eisoes fod ynddo rai pethau yn edrych yn wanach na'u gilydd, fel y
gellir disgwyl y bydd bob amser yn ngwaith yr awdwyr mwyaf llwyddianus
rywbeth yn brawf o anmherffeithrwydd dynol; ond yn nghwmpas ei gyrhaeddiadau,
a bywiogrwydd ei yni awenyddol, y mae yn mlaen ar ei gydymgeisydd talentog,
" Gallofydd, " cyfansoddiad pa un fuasai, mewn cystadleuon cyffredin
yn debyg o dra ragori, oblegid y mae, fel y crbwyllwyd o'r blaen, yn meddu
llawer o addurn a gwychedd anian a chelfyddyd; yn ddarn prydferth a choeth,
yn meddu llawer o amrywiaeth a ffraethineb awenyddol; ond er y cyfan o'i
honiadau teilwng ac anrhydeddus, wrth i ni ei osod yn ymyl arddunedd,
cynwysfawredd, beiddgarwch, a thanbeidrwydd barddonol “ Meddyliwr, " y
mae ei ddisgleirdeb yn gwelwi, a'i dlysni yn ymdoddi i gyffredinedd
cymhariaethol.
" Gall-
Oddiar hyn, er fod gen f feddwl uchel am deilyngdod ofydd, " ar y cyfan,
etto nid oes genyf un petrusder i amlygu fy meddwl am deilyngdod "
Meddyliwr, " ei fod yn fwy, ac o ganlyniad yn meddu yr hawl gyfiawn o
gael ei gyhoeddi yn OREU, yn yr ymdrechfa hon. Gan hyny dealler mai y Caniad
godidog a arwyddnodwyd " Meddyliur " a olygaf yn oreu.
EBEN FARDD.
|
|
|
|
x009
BUDDUGOLIAETHAU Y MEDDWL DYNOL
AR
Y GREADIGAETH ALLANOL.
CYNWYSIAD.
Ymsyniaeth ar hanfod, gweithgarwch, a chyneddfau y MEDDWL -- Ei alluoedd a'i
fuddugoliaethau dychymygol a darfelyddol, parth lle, gwrthddrychau amser a
thragwyddoldeb― Ei ysgogiadau, a'i weithredoedd, a'i ddylanwadau ar
wahanol wrthddrychau, & c. - Olion, achosion, ac effeithiau ei
fuddugoliaethau - Mawredd ac amrywiolaeth ei fuddugoliaethau, o Eden hyd
fynediad Noah a'i deulu allan o'r Arch - Ei fuddugoliaethau o'r cyfnod hwnw
hyd yr amser presenol, mewn Morwriaeth, Daearyddiaeth, Adeiladaeth,
Llawweithyddiaeth, & c., mewn Peirianaeth, o'r drasol i'r ermig, ac o'r
ermig hyd y peiriant cymysgryw - Ar yr Elfenau, yn Wynt, Tân, a Dwfr, yr
Ager, yn nghyd ag effeithiau cynyrchedig y buddugoliaethau hyn -Ei
fuddugoliaethau ar wahanol ac amrywiol wrthddrychau, ac elfenau, à
defnyddiau, drwy gyfrwng celf a gwyddor - Ei fuddugoliaethau ar y creaduriaid
direswm - gwyllt a gwâr - Cyffredinolrwydd ei fuddugoliaethau - Ei
fuddugoliathau Seryddol, a'i anturiaethau wybrenol - Yr Awyrau - Ei
fuddugoliaethau ar y Fellten - Y gwefrebydd trydanawl - Tybfwriad o barth
eangder, ac annherfynolrwydd ei fuddugoliaethau - Cynnydd y Meddwl, fod
darganfyddiadau lawer yn gorwedd megys rhwng ei blygion -Y daw pryd i'w
hamlygu- -mae fod gweithredoedd Dyn mor fawr a nerthol, a'i Feddwl mor
ardderchog, yn ein harwain i ofyn. pa mor fawr ac ardderchog rhaid fod Duw,
yr hwn a'i creodd - Gan fod Engyl glån, Seintiau pur, ac Anian oll, yn moli
Duw, paham y mae Dyn vn oedi? —Y dylai ef, yn anad pawb a phob peth, ddatgan
ei fawl a'i ogoniant.
O, FEDDWL! i feddwl wyt fôr o ryfeddod,
Ni phlyma maith linyn athroniaeth dy waelod;
Pa wyddor ddadlena ddirgelwch dy hanfod?
Beth oeddit? beth ydwyt? beth fyddi'n ddiddarfod?
Ai nid rhyw wreichienen o'r Duwdod ar wasgar Wyt ti? fel gwawl - esyn o'r
haul gylch y ddaear? Ah! mae cydmhariaethau holl anian yn gwrthod Rhoi
teilwng feddylddrych i ddyn am dy hanfod; Nis gellir cael trem ar dy nawd
dirgeledig Ond drwy dy weithredoedd amryfal yn unig. Gorchestol, ardderchog,
cywreinfawr, goruchel, A phrydferth iawn ydwyt, yn deilwng o'r angel.
|
|
|
|
x010
Mor ddyfal ddiorphwys yw'r peiriant meddyliol, Yn troi ac yn troi ar begymau
trag'wyddol, Tra syniad mewn syniad - fel olwyn mewn olwyn, Rhyw syniad ar
syniad o hyd sydd yn ymddwyn; Pa ddirgel weithredydd? pa ddwyfol ddylanwad
Sy'n ffurfio'r berthynas rhwng gwrthddrych a syniad? Mae'r meddwl yn fath o
ysbrydol bum - undod, Yn Gof, Serch, a Deall, Ewyllys, Cydwybod, Pa rai sy'n
gwneud dyn yn greadur rhesymol, A nodwedd pob gweithred o'i eiddo yn foesol,
- Sy'n urddas i'w natur - ac wrth ei fodolaeth, Sydd hefyd yn bythol
gyssylltu uwchfiaeth:
Drwy nerthoedd yr unrhyw gall dreiddio'n llwyddianus I ganol dirgelwch holl
natur anhysbys,
A dilyn heirdd gamrau ei Dduw mawr yn helaeth, A thaflu ei drem hyd eithafion
bodoliaeth— Myfyrio dros byth ar brydferthwch a mawredd
Yr Hwn nad oes iddo na dechreu na diwedd.
Oh! ' r fath anturiaethwr hyf! hyf! ydyw'r Meddwl! Y mae wedi marchog y
fellten a'r cwmwl! Hed - lamu o blaned i blaned ysblenydd,
A throi gyda'r gomed o gylch yr wybrenydd,
' Nol crwydro drwy'r tywyll bell, bell, faith wagleoedd, Mae'n gwneuthur ei
orsaf ar un o'r haul - fydoedd, - Yn rhoddi trem eilwaith ar anian fawr
ogylch, Gan hofian ac hofian uwchlaw ei therfyngylch, Ac fel pe'n anniwall ar
olygfeydd defnydd, Rhydd lam i fro niwlog yr anwel breswylydd. E faidd y
meddwl mawr ymwibio'n mhell I drag'wyddoldeb draw: -a dechreu byd: Gan symud
gydag Ysbryd Duw ar gylch Y dyfnder mawr: ac edrych arno yn Dodrefnu'r gwagle
du â bydoedd cain,
BRITISHN
|
|
|
|
x011
SEPHI
Cyfunol wawl, pa rai, yn gwisgo gaid Y ddaear ieuanc oll, nes edrych fel
Rhyw faban gwyn a glân yn nghôl ei Dduw. Maidd ddyfod rhag ei flaen ar edyn
chwim Dychymyg, tuag Eden nefol wawr, I edrych ar brydferthwch dwyfol yn
Ymorphwys ar ddihalog berson dyn; Un nefoedd felus, ddedwydd, eang oedd Holl
ymerodraeth Duw yr adeg hon.
O! euraidd oes, O! ddiniweidrwydd pur- Nid euraidd oes darfelydd ffugiol
oedd, Ond creadigaeth cariad dwyfol ryw, Ac effaith cydnaws ddelw Duw ar
ddyn, Tan nawdd a chyfeillgarwch engyl cu;
Pob elfen oedd mewn heddwch y pryd hyn- Yr awel îr a suai heibio'r ardd,
Mor dyner ag anadliad angel cu;
Edrychai'r môr fel baban tlws mewn hûn; A'r wybren fel cariadferch ar ei
gwên;
Y ddaear oedd gysurus, megys mam Yn gwel'd ei thelu'n llon o gylch ei bwrdd;
Tangnefedd oedd ar led fel goleu, r haul, A rhyddid fel y gwagle ëang, maith.
Nid oedd un milyn gwyllt na bwyst i'w gael; Y Llew a'r Arth, y Sarff a'r
Condor mawr- Cartrefol greaduriaid oeddynt hwy;
Pa ryfedd i'r angelion selog fry
Gydgana nes y dawnsiai'r sêr oedd bell,
Wrth wel'd y byd mor hardd dan ddwyfol hedd? Boddlondeb Duw orphwysai ar bob
peth: Mae'r enaid prudd yn llawenhau yn fawr Wrth aros uwch y mwyniant hyfryd
hwn. Ond, Ow! mor drist yw gorfod neidio'n ol
|
|
|
|
x012
I gyfnod llawn caethiwed, dig, a phoen. Fel hyn y maidd crafangol feddwl dyn
Ymwel'd a'r trag'wyddoldeb dystaw oedd, A chasglu'r trag'wyddoldeb pwysig
ddaw, A'r amser prysur sydd - i'r fynyd hon! A dwyn yn ol wrthddrychau gynt a
fu Ac edyrch arnynt oll yn nrych y côf; Ac felly gael un fuddugoliaeth fawr
Ar Amser, sydd yn ɩrechu bron bob peth.
O! mor rhyfeddol yw ei symudiadau ef— Fel cyflym angel Duw, fel esmwyth wawl
y nef! Pwy sydd yn gwybod am ei anweledig ffyrdd, Nes gwelir ol ei gam mewn
harddwch bythol wyrdd; Ei orchestgampau sydd rhif tywod mân y môr, Tra mae o
ddydd i ddydd yn ychwanegu'r stor; Ei ddadguddiedigaethau rhydd y'nt s ndod
iddo'i hun, Cywreinrwydd ei gynlluniau sydd yn gwisgo dwyfol lun. Ni wna
gwrthddrychau anian oll ond datgan enw Duw, Ond mae ysbrydol feddwl dyn o
hono'n arlun byw; Mor eang ac amrywiog yw ei ddylanwadau cry- Pan eilw, ' r
milyn dôf a'i clyw, a'r bwystfil gwyllt a ffy; Mae ganddo swyn, un tyner
swyn, sy'n drech na chalon dyn, Mae ganddo un ochenaid fwyn sy drech na Duw
ei hun. Mae ol ei droed fuddugol ef yn awr
Ar dir a môr - drwy'r nen a'r ddaear lawr.
Edrychwn fel mae ei fanieri buddugol
Ar uchel rew - gacrau y moroedd gogleddol--
Ar gestyll symudol Trafnidaeth gyfoethog,
A thwr Amaethyddiaeth yn chwifio'n yn ardderchog; Eu plygion sydd hefyd i'r
gwynt yn ymagor, Fwy, fwy ar biuaclau celfyddyd a gwyddor. Cynhyrfiol
achosion ei ymdrech a'i antur
Y'nt anghen, chwilfrydedd, buddioldeb, a chysur.
|
|
|
|
x013
Ac O! mor llwyddianus yw braich ymosodol A dwrn ei athrylith ar natur
allanol:
Mae un buddugoliaeth mewn un darganfyddiad Yn esgor ar luaws o'r unrhyw
ddylanwad, Fel nad yw'r amrywiog ddilynol effeithiau I gyd ond cynifer o
fuddugoliaethau.
Y mae buddugoliaeth y meddwl darbodol, Yn nygiad argraffwasg yn gyfrwng
meddyliol, · Yn dwyn yn yr effaith wybodaeth a rhinwedd- A hyny ddyngarwch,
moesoldeb, tangnefedd- A hyny'n dwyn rhyddid cyfiawnder, a heddwch I
fuddugoliaethu mewn llwydd a dedwyddwch.
Mor fawr yw ei fuddugoliaethau er pan Y gyrwyd dyn o Baradwys;
Pryd hwnw'n wylofus, yn dlawd, ac yn wan, Yn grwydryu, heb gartref na
gorphwys.
Y ddaear o'i flaen oedd annrhefnus i gyd- Drain, blodau, ac ysgall yn
gymhlith, Heb nemawr i'w ganfod ar led nac ar hyd, Ond ffrwythau bras - dyfol
y Felldith.
Drud wisgoedd, dâ lawer, na lluniaeth yn stôr,
Na golud, nid oedd yn ei feddiant,
Na chwaith ( os na chafodd o ddwylaw ei Iôr )
Un erfyn, offeryn, na pheiriant.
Y prês a'r plwm ydoedd yn mherfedd y moel,
A'r haiarn yn eigion y ddaear;
Y cymrwd cyssylltol, yr astell a'r hoel, A'r maen adeiladol ar wasgar.
Ni chaid yr anifail, oedd ddôf, i ddwyn baich-
Y Felldith a'i gwnaeth yn fwystfilyn;
Nac un o'r elfenau yn gymhorth i'w fraich-
Cryf oeddynt, angydnaws, a chyndyn.
|
|
|
|
x014
Ond, wele y Meddwl - y meddwl bythddiwyd- Yn dechreu cylchdremio, ymysgwyd,
ymsymud, Troi, barnu, cydmharu, dyfeisio, cynllunio, Trin, profi, dosparthu,
cyssylltu, cymhwyso, Darostwng elfenau gwrthrywiol y Felldith, A gwisgo â
harddwch gwareiddiol, ei thryblith. Ha! dacw amgylchoedd bro Eden o newydd Yn
pwngu gan aeron, a gwenith, a gwinwydd; Y march a'r ych hefyd sy'n gorwedd yn
foddlon Mewn dolydd llysieuog ar lan afon Gihon; A'r defaid esmwythfwyn, yn
mryndir Hafila, Adwaenant lais Abel - edrychant o'r borfa; Y bugail mwyn,
yntau, yn deall athroniaeth Ac achos ei lwyddiant, offrymai yn helaeth O
flaenffrwyth ei ddefaid a'u brasder i'r Arglwydd, Ac arno'r edrychai y Nef
mewn boddlonrwydd. Ond, wele! gywreinrwydd buddugol y meddwl O hyd yn ymledu
fwy - fwy. megys cwmwl, Fe gaid athroniaeth weithian,
A'i llygad seraph seirian,
Ar gyfansoddiad anian,
A buan drwy ei budd.
Cawd allan le'r trysorau, Gorchfygwyd gwrthelfenau, A mynwyd gwel'd y mŵnau
O'r haenau'n dod yn rhydd.
Cyflwynodd Gallofyddiaeth Ei mudalluoedd odiaeth,
I hwylio celf yn helaeth
A'i hychwanegol nerth.
Arddwriaeth, o'i hen ddorau,
Estynodd ei llinynau;
Anturiaeth feiddgar, hithau
A sangai'r bryniau serth.
|
|
|
|
x015
Y nâdd - aing, a'r llwyarn, a'r morthwyl pwyadol, Ar newydd Gaer Enoch oe'nt
brysur ryfeddol! Ardaloedd Nòd lonydd sy'n adsain i'r bryniau Gan fiwsig
celfyddyd a dawns y defnyddiau! Wel! dacw'r fam - ddinas ddwyreiniol yn
sefyll Yn awr yn ei harddwch, a'i meib yn ymgynull. Ond Iabal oedd amaeth
anturus ei fryd, Adawodd amgylchoedd y ddinas; Estynai ei dyddyn yn mhell -
bell i'r byd, O swn a manteision cymdeithas. Porth - hela o lanerch i lanerch
a wnai; Ond ' r oedd anhawsderau yn aros; Y bwystfil ar ddryghin heb anedd a
gai, Na dynol breswylydd yn agos.
Ond wele, ' r amaethwr meddylgar, cyn hir, Feistrolodd yr holl anhawsderau;
Derchafodd ei babell yn ngraidd y gwyllt - dir,
Bu diddos a dedwydd ei deithiau.
Yn awr daeth y dduwies berorawl i'r byd, O'r Dwyfol Naf - wênol drigfanau,
Gan arllwys ar sain yr anialwch yn nghyd, Fawl, serch, ac addoliad yn ddiliau
Cysegrodd athrylith hen Tubal, a bu
Ei law ar y delyn a'r organ;
Deffrödd dan ei fysedd gwyddorol yn gu,
Wirionedd sy'n nheimlad pur anian.
Gwnaeth ddefnydd aflafar i arllwys hyawdledd,
Ac elfen ddideimlad yn fywyd a rhinwedd.
Clywch clywch! sain
Y morthwyl chwim - ddisgynol, ar eingion Tubal Cain,
A thinc y pres a'r haiarn,
Dan law y gweithydd cadarn,
Yn mhob cywreinwaith main.
|
|
|
|
x016
Fel hyn y cychwynai celfyddyd a gwyddor, Yn fywyd a harddwch, gogoniant a
thrysor. A phan fu'r Diluw mawr yn llarpio'r byd, A distryw'n dringo bron
gyfuwch a'r nef, Gorchfygol oedd y meddwl dewr o hyd, Yn marchog ar ei gefn
ysgytiol ef.
Ac er bryd hyn gymysgu môr a thir, A difa'n llwyr brydferthwch daear lâs, Y
meddwl dynol eilwaith ni fu'n hir Cyn troi Ararat lwm yn dyddyn brâs.
Ond amlhau yn fawr wnai teulu dyn- Ymranu'n awr oedd anghenrheidiol iawn; Ac
er fod anial diroedd erch eu llun, Clogwynog fryniau certh, afonydd llawn,
Ar draws eu hynt, gorchrygu wnaethant hwy, Gan etifeddu pedwar ban y byd;
Ond wedi hyn rhaid oedd gorchfygu mwy, — Anhawsder oedd yn aros dyn o hyd.
Fe gaed diffygion lawer mewn un gwlad,
A ellid eu cyflenwi gan y llall;
Ond p'odd y cyfnewidid rhad am râd,
A'u dwyn dros ëang for, drwy'r dymhestl ddall?
A oes tebygolrwydd y ceir goruchafiaeth Ar donau cynddeiriog, ar wynt
dilywodraeth,
Ar greigiau cuddiedig, traethellau bradychus, Neu nôs anghyfarwydd, neu
niwloedd twyllodrus? A oes tebygolrwydd ceir cynllun llwyddianus,
A chyfrwng gyfetyb i'r antur peryglus? Ha! wele y meddwl anturus yn forau
Yn ymladd a'r gwyntoedd, yn ymdrech a'r tonau Yn buddugoliaethu ar fyrdd o
beryglon,
Yn gosod ei babell ar wyneb yr eigion,
|
|
|
|
x017
Yr hon sydd ar unwaith yn gerbyd ac anedd, I sefyll neu symud, i godi a
gorwedd;
Sydd berffaith mewn ffurf i droi rhwysg yr awelon
A digder y tònau i fuddiol ddybenion.
Mor hardd, mor fawreddog, mor fuddugoliaethus, Yn awr y mae'n symud o ynys i
ynys,
Drwy hydred a lledred y pedwar terfyngylch, Dan daenu llwydd, cyfoeth, a
chysur gylch ogylch! Gwel lawned yw'r llongbyrth a'r ëang borthladdoedd, Gan
longau trafnidol, fel tewion goedwigoedd: Brith hefyd yw mynwes y môr
annherfynol Gan demlau, gan dai, a dinasoedd symudol! Ni welir yn canlyn ei
fuddugoliaethau Trafnidol, na difrod, na gwaed, na gruddfanau; Ond undeb
cenedloedd, diwydrwydd, dyngarwch, Gwareiddiad, gwybodaeth, gogoniant, a
harddwch. Mae digder y tònau, cynddaredd y gwyntoedd, Cuddleni ' r tywyllwch,
gwawi - dyrau ' r ynysoedd, Tywyniad y fellten, ac ymdaith y cwmwl, Yn datgan
mawl buddugoliaethau y meddwl.
Yn awr, os o'r moroedd y trown ein golygon
I'r tir, i roi trem ar fuddugol orchestion
Y meddwl bythweithgar, mewn celf ac mewn gwyddawr, Y maent yn ardderchog, yn
addrun, a chlodfawr. Edrychwn ar Sidon, prif ddinas Phoenicia!
A Babylon enwog, prif ddinas Caldea-
Y fath fuddugoliaeth ar ddefnydd gaid yma, Cyn fyth adeiladu'r fath addurn
olygfa! Ei llysoedd ysplenydd, a'i themlau godidog, Ei dyfroedd ymranol, a'i
phontydd ardderchog. Ei llydain heolydd, a'i heirdd betryalau, Ei gerddi
crogedig, llawn bythol wyrdd flodau, Ei muriau hirfeithion, ucheldrem,
tewdrwchus, A'i dau gant a haner o dyrau mawreddus,
|
|
|
|
x018
Ei ffos amgylchynol, a'i chànt o byrth gloewon, A'i gwnaeth yn hyfrydwch a
syndod pob calon. Edrychwch ar Athen, hen fam y breingelfau, Preswylfa
hyawdledd a chryd yr awenau; Yn hon y canfyddir ôl buddugoliaethau Y meddwl
mewn drudfawr a chain adeiladau. Yn hon y mae'r Pynx, yr areithfan fythsafol,
A ffurfiwyd yn gyfan o'r graig anysgogol; Lle bu Demosthenes, Socrates, a
Phlato, Drwy nerthol hyawdledd yn gwasgu a gweithio I deimlad synedig yr
astud Atheniaid- Eu coeth athrawiaethau ddyrchafant yr enaid; Ac yma mae'r
Apeopagus santeiddlan,
Lle gynt iddynt hefyd pregethai Paul allan; Lle mae'r Lycabettus ardderchog
ond pruddfawr, Yn llawn o feddgelloedd naddedig o'r creiglawr. Ond, Ow! mor
ddystawfùd mae craig Acropolis Yn eistedd yn nghanel adfaelion pruddglwyfus
Minerfa Polias; a'r enwog Barthenon; A'r hen Bropylea; ei themlau gorychion
Sydd hyd yn oed heddyw, yn ngwarth eu hadfeiliad, Yn tystio cywreirwydd, a
nerth, a dylanwad,
A BUDDUGOLIAETHAU y Meddwl ar ddefnydd, Yn dattod y creigiau neu g'lymu'r
llwch hollrydd.
Edrychwn ar Carthage a'i thriphlyg amgaerau, Eu heang borthladdoedd a'i
dwyfil o longau; Neu Rhufain ardderchog, y " ddinas dragwyddol! "
Sy'n eistedd ar orsedd o seithfryn urddasol; Ei drudfawr Eglwysydd, a'i
phrydfeth balasau, Ei bwâu buddugol, a'i huchel gerf - ddelwau, Ei marmor
golofnau, a'i meithion fedd - gelloedd, Gyd - draethant fryd -
fuddugoliaethau'r cyn - oesoedd. Cyffelyb yw Cairo a'i thri chant o demlau,
Ei chestyll, a'i llysoedd, a'i thiroedd, a'i thyrau;
|
|
|
|
x019
A'r Pyramid cadarn, diysgog, arswydus,
Yr hwn sy'n derchafu ei ben anrhydeddus
Uwch rhwyg breniniaethau a drylliad teyrnasoedd, A'i drem yn dragwyddol, a'i
wedd yn oes oesoedd! Mae'n estyn ei ben megys draw i'r cymylau, I wrandaw
cyfrinch y sêr yn eu llwybrau; Ymdorched y fellten o gylch ei ysgwyddau, A
rhuthred y gwyntoedd ar draws ei esgeiriau; Fe saif mor ddiysgog ag un o'r
mynyddau, Gan edrych mewn dirmyg ar lid yr elfenau Trosglwyddo creig -
ddarnau anferthol o'r Nilus, Fel hyn, a'u pentyru'n gywreinddull a threfnus,
Nes ffurfio o honynt y fath fryn - adeilad, Sydd un o brif - fudduogoliaethau
dyn - fwriad.
;
Gorchestwaith diaddurn y meddwl derwyddol, Pryd nad oedd Celfyddyd ond baban
gobeithiol, Yw'r Allawr, a'r Gromlech, a'r Maen - chwyf oraclaidd- Hen greig
- adeiladau yn sengi tir santaidd; Twr Emrys, fel un o'r hen demlau aruthrol,
Saif fyth yn oruchaf mewn mawredd rhamantol.
A'r Kremlin, nen - dyrog, arianwisg, ëangfawr, Y llys ymerodrol, yn Moscow
wastadlawr, Un adail, lle cyd - ymgyferfydd palasau, Lleiandai, eglwysydd, a
mawrwych fangorau, A'u holl addurniadau dan aur a pherl drudfawr, A'r cyfan
yn debyg i ddinas ar un - llawr.
A'r Camlas mawr hwnw sy'n maith - maith ymestyn O'r Erie hyd Alban, drwy'r
anial diderfyn; Pont Menai gadwynog sy'n uno Môn - ynys A Chymru gyfandir,
a'i dàl wrth ei gwregys;
* Llyn Erie, yn America.
|
|
|
|
x020
Y ffynon artesaidd, i lawr o ddyfnderoedd Y ddaear sy'n codi'n golofnau'r
hallt ddyfroedd; Llyn Haarlem, lle gynt gaed y tònau'n ymryson, Yn awr a
feddianir gan ddwylaw'r amaethon; Y Rheilffordd anturfawr sy'n parthu'r
anialwch, A gwisgo'i unigedd â bywyd a harddwch; A'r SIMPLON, annhraethol
orchestwaith celfyddyd, Rhagorgamp anturiaeth uchelgais ryfel - fryd- Oh!
ryfedd dramwyfa! tydi bia syndod, Y byd mawr a'th eilw ei wythfed ryfeddod,
Yr hwn wyt yn uno mewn golygfeydd didawl, Yr hyn sy'n arswydlawn, yn dlws, ac
arddunawl.
Draw, draw ar fron yr Alpau serth, Gwnaeth natur fawr mewn llid a nerth,
Grynhoi yn nghyd ei lluoedd certh
Yn erbyn dyn;
Y gadarn graig, y moel a'r cwm,
Yr Alprew erch, yr eira trwm,
Y wythlawn ' storm, a'r gwylltedd llwm,
Sydd yno'n un.
Lle na roes ellyll braidd ei droed,
Na chelf ei chywrain fys erioed; Ond er mor fawr ei rhwysg a'i nerth, Yn
amgylchynu'r cawrfryn certh, Fe ddringodd dyn ei ysgwydd gref,
A sangodd ar ei gòryn ef; Ac ol ei droed yw'r Simplon sy
' N ymdorchi gylch ei ysgwydd fry.
Ei rawd sy'n ymestyn ar draws ei ystlysau, Gan droi ac ymddirwyn yn fyrdd o
ddolenau; Ei bontydd ucheldrem ar draws y dyffrynoedd, Sy'n debyg i ddeildai
yn disgyn or nefoedd;
* Yu America.
|
|
|
|
x021
Arweinia dros glogwyn, gagendor, a dyffryn,
Drwy'r Graig, a thrwy'r Alprew, gan esgyn ac esgyn Yn uwch! uwch! i fynu,
rhwng myrdd o raiadrau, Afonydd, coedwigoedd, a llenyrch, a llynau, Nes
cyrhaedd bro oerllyd yr eira tragwyddol, Goruwch y cymylau mewn hinsawdd
ysbrydol, Lle nad oes ond dystaw a threiddiol arddunedd, Mewn anghyfanedd -
dra yn gwneuthur ei anedd.
Pwy sydd ni ryfeddant y freiddgar athrylith, Anfonai'r fath gynllun dros
drothwy meddylrith? A phwy ni ryfedda'n ogymaint wrth ddisgwyl Fedrusrwydd y
dwylaw gyflawnodd y gorchwyl? Oh! Feddwl, mae'th fuddugoliaethau'n aneiri ',
Pa elfen, pa wrthddrych, ar nas darostyngi? Pa gŵr, pa gyfeiriad, pa
gyfnod rhyfeddol Ar nad yw'n dwyn olion dy fraich oresgynol?
A thithau, Gaerludd, a wnaethost fawrhydri, Dy foliant a fydd lle cerdd y
goleuni.
Dy Balas Crisial sydd
Ogoniant yn dy ganol, Cofgolofn fythol fydd
O wyrthiau'r meddwl dynol.
A'th arddangosiad mawr
O wyddor a chelfyddyd,
Lle cwrddodd yr un awr Athrylith y cyfanfyd.
Nid oedd y cywreinrwydd, yr harddwch, a'r gwerth,
A fwriwyd yn llif rhwng ei furiau,
O! Feddwl anfeidrol, ond blaenbrawf o'th nerth-- Cadfuddion o'th fuddugoliaethau.
|
|
|
|
x022
Rhyfeddol yn wir
Yw'r buddugoliaethau Ennillaist ar dir
Y llawgelfyddydau.
Cychwynaist o'r drosol Ddiaddurn i'r ermig,
O'r ermig amrywiol
I'r peiriant mawreddig.
Clywch dwrf anorphenol
Aneirif olwynion;
A'r cyffro masnachol
Drwy'r llaw - weithfeydd mawrion.
Gorfodwyd y gwynt,
Wrth fyn'd a dychwelyd,
A'r dw'r ar ei hynt,
I hwylio celfyddyd.
Gorphwysed y march
Ar lawr y gwyrdd - ddolydd,
A dyn drwy fawr barch,
Na foed ond edrychydd!
Cawd gweithw yr llawddiwyd
O blith yr elfenau, Daw seibiant ar fywyd
Teimladol yn ddiau.
Rhyfeddod celf lân
Yw'r dynol ddoethineb
Fu'n dwyn dw'r a thân
I gymod ac undeb.
Fu'n gosod ei nerth
I symud peirianau Trwmlwythog a cherth
Rhwng gwylltion fynyddau.
|
|
|
|
x023
Masnachaeth a hêd
Mewn nerth a chyflymder,
Ar hyd ac ar lêd,
Ar edyn yr ager.
Nid raid i'r llong mwyach wrth hwyl ar y dón, Na cheisio'r awelon twyllodrus;
Braich nerthol yr ager a'u gyr ar eu hynt,
Er tonau a gwynt gwrthwynebus.
Eangwyd terfynau trafnidaeth yn fawr, Hwylyswyd ei throed ar yr eigion;
Chwanegwyd cysuron dynoliaeth yn awr, Gwybodaeth a wisgodd ei choron.
Pwy ddywed rif buddugoliaethau anorphen Y Meddwl, ar fywyd, ar ddefnydd, ac
elfen?
Mae'n gwneuthur y sychdir yn llynoedd nofiadwy, A'r llynoedd yn sychdir, a
dyn arno'n tramwy; Mae'n arwain y dyfroedd o'r llynoedd pellenig Yn ffrydiau
tryloewon i'r ddinas sychedig; Fe ddring y ban Atlas, fe gerdd y poeth
losgfal; Tramwya'r diffaethwch, a rhodia drwy'r anial; Fe gwyd y pantleoedd,
fe ostwng y bryniau; Fe haerllug yspeilia y mor o'i derfynau; Arweinia ef
hefyd mor addfwyn a chaethwas; O'i draethell gareugar i fynu i'r ddinas; Fe
gliria'r coedwigoedd, fe ddetyd y creigiau; Fe egyr y ddaear, fe ysgar y
bryniau; Fe dreiddia i gelloedd tywyllaf y ddaear, A dyg ei thrysorau i wyneb
haul llachar; Fe rwydd adeilada dan waelod afonydd Lle merchyg y llongau,
ddinasdai ysplenydd; Fe egyr gloedig gyfrolau cynfydoedd, Sy'n eigion y
ddaear, gan ddarllen ar gyhoedd,
|
|
|
|
x024
1
Athroniaeth cloddfilyn, a chregyn, a chreigiau, A dengys ddoethineb ar wyneb
yr haenau; Fe esgyn i draethu dirgelion y nefoedd; Fe ddisgyn i chwilio
gwaelodion y moroedd; Mesurodd a phwysodd hyd drwch y main flewyn Y ddaear
a'r eigion heb glorian na llinyn.
Defnyddiau'r byd, elfenau o bob rhyw, Orchfygodd oll, a phob creadur byw;
Aeth sain ei lef dros yr anialwch tew; A chrynai'r arth, ac ofnai'r creulon
lew; Yr estrys chwim, a'r eryr gwancus fry, ' Run fath a'r dryw, o wyddfod
dyn a ffy; Y boa braisg, a'r asp golynawg, lem, Arswydant rhag ei awdurdodawl
drem; Y morfil mawr sydd ar ei rwysgfawr hynt, Yn chwipio'r môr am wrandaw
llais y gwynt, Yn cuddio'i ben rhwng creigiau bythol rew, Fe rwymir ef gan
fraich y morwr glew; Yr ych a'r march, a'r ddafad dawel draw, A'r adar dôf,
sy'n cael eu bwyd gerllaw,
Y'nt ddeiliaid llawn ufuddod, gwaith, a serch, Yn ymerodraeth fawr y meddwl
derch; Ei deyrnwialen ef, a'i ddeddfau drud, Sy'n estyn draw dros bedwar ban
y byd.
Gwnaeth hefyd wrhydri nas traethir ei hàner, Tan faniar athroniaeth, ar faes
yr eangder;
Mae yno yn galw y sêr wrth eu henwau,
Yn adwaen eu hansawdd, yn olrhain eu llwybrau;
Yn dal rhyw gymdeithas â bydoedd nis gwelir,
Rhai grwydrant eithafion gwybrenol gyfandir;
Fe ddring i'r lloer wylaidd, rhydd hynt ar ei moroedd, A mapia'i chyfandir yn
uchder y nefoedd;
|
|
|
|
x025
Maidd fesur y fflamlyd gomedau ar hedfan,
Maidd fesur a phwyso yr haul mawr eu hunan! Ond, fel pe'n anniwall ar dremio
o'r pellder,
Mae'n awr yn ymdrechu rhoi naid i'r uchelder;
Gwel! gwel! fel mae'n esgyn fry! fry! drwy'r lâs awyr, I gyrau nas treiddiwyd
gan lygaid yr eryr,
Mewn cerbyd o sidan a'r nŵy yn ei dynu,
Mae'n esgyn mor esmwyth a'r angel i fynu;
Mae'n awr yn rhoi trem ar amgylchoedd y ddaear, Yn gweled ei bryniau fel
brychau ar wasgar,
A'i llydain afonydd fel meinion linynau,
A'i mawrion ddinasoedd fel bychain lanerchau; Fry! fry! mae'n ymgodi, uwch!
uwch i'r uchelder, Nes gadael y ddaear fel niwl yn y pellder,
Ac yntau'n ymgrwydro yn mdy y dystawrwydd, Heb ddim yn ei wyddfod ond mawredd
ei Arglwydd;
Yn myn'd ac yn dyfod trwy byrth y cymylau, Ac eistedd yn ymyl y mellt a'r
taranau— Y fellten ofnadwy sy'n taro'r awyrgylch, Nes rhuo'n wallgofus gan
wewyr o'i hamgylch;
Ei llef sydd yn ysgwyd colofnau y ddaear, A'i tharo dros enyd yn fud ac yn
fyddar, Drwy'r cwmwl trwm aelddu gwêl hon megis ellyll, Yn agor ei llygad
coch, poeth, gwyllt, ac erchyll, Yn poeri'n gynddeiriog i wyneb yr haulwen,
Yn gwingo, dirdynu, a gwânu trwy'r wybren, Yn barod, debygid, i chwythu'r
wybrenydd, A llyngcu'r holl ddaear i ddistryw tragywydd! A feiddia dyn ynte
ymryson â'r fellten? A'i tybied yr ymgais flaendori ei haden? O feddwl! oes
tebyg cei di oruchufiaeth, Ar elfen mor gyflawn ei rhwysg a'i llywodraeth?
Wel! syned y ddaear at ddewrder y meddwl, Yn rhagod y fellten wrth gychwyn
o'r cwmwl;
|
|
|
|
x026
A oes yn ei feiddiant ryw hudlath effeithiol? Neu ynte ryw gyfran o ddansawdd
sy ddwyfol? Gan fod y boeth fellten ofnadwy mewn rhwysgedd, Yn gorfod ymgrymu
i lawr wrth ei orsedd! Y fellten sy filwaith ffyrnicach na'r bwystfil, Yn awr
a arweinir á gwifren fach eiddil.
Wel, dyma i dduwies Celfyddyd o'r newydd, Gyfeilles rhagorol, a'i nerth yn
ddihyspydd;
Mae'n rhaid i'r gwynt nerthol a'r tân a'r dw'r mawrfri, A'r ager galluog gyd
- ostwng pen iddi;
Daeth meibion celfyddyd bob un i'w chydnabod,
Aeth son am ei gwyrthiau drwy'r ddaear yn syndod
Ehed fel ar angel - adenydd yn dyner-
Fel wedi anghofio ei llid a'i chreulonder-
O orsaf i orsaf; o ddinas i ddinas;
O dalaeth i dalaeth; o deyrnas i deyrnas;
O ynys i ynys; o fôr i gyfandir;
Gan adrodd ei neges ddyddorol yn gywir.
Mor rhyfedd fod dyn yn rhoi tafod i siarad, Troed ebrwydd, llaw fedrus, i'r
fellten ddideimlad! Ni raid wrth y coedcerth i wylied peryglon; Ni raid wrth
y g'lomen i gludo newyddion; Rhagorodd y fellten mewn nerth a chyflymder, A
sicrwydd, ar goelcerth a ch'lomen ac ager; Ei gwifrau cyfrinol sy'n uno pob
dwywlad, Gwnant amser a phellder yn gam ac yn eiliad! Maent megys yn tyner
gofleidio'r holl wledydd, Fel am eu dwyn bellach i gymod â'u gilydd; Ac O! na
foed iddynt drosglwyddo'r un newydd, Ond eiddo tangnefedd a chariad
tragywydd.
|
|
|
|
x027
Ai gwir
Y gwelir gwawl y fellten yn hwylio cyn bo hir,
Hyd wastad lwybrau'r Ager, fel colofn danllyd glir? Neu, megys seren olau
Drwy'r nos ar fwrdd y llongau,
Yn gwasgar ei phelydrau
O'r tonau draw i'r tir.
Bydd tlôs
Ei gwawl o'r goleudyrau goruwch y creigiau croes, Fel disglaer èm yn hongian
ar dywell ael y nos; Neu yn bendithio'n trefydd,
A'i gwên fel gwên goleudydd;
Pawb, ond y drwg - weithredydd, A lawenhant heb ôs.
B'le bydd
Eithafion anweledig buddugoliaethau rhydd,
Y meddwl mawr, bob enyd, yn symud, symud sydd? Nid oes i'w haul ysplenydd,
Gyhydedd na chanolddydd, Ond esgyn, esgyn beunydd, Ac agor yn dragywydd, Hyd
fythol ddwyfol ddydd.
Mae, mae
Y meddwl mawr anfeidrol o hyd i ymgryfhau; Egora ' i wyrdd flaguryn byth,
byth mewn nefol bau; Mae rhyfeddodau mawrion
Yn gorwedd rhwng ei blygion,
Pa rai, yn ôl anghenion,
I sylw'r oloesolion
A roir i'w heglurhau.
1
|
|
|
|
x028
Daw'r awr
Yr egyr cronfa meddwl fel mynydd tanllyd wawr;
Mae twrf rhyw faith alluoedd yn ei ddyfnderoedd mawr; Daw eto ei fuddugol
Orchestion anghydmarol,
A'i nerthoedd adnewyddol, Yn llif ar lif i lawr.
Os yw
Gweithredoedd dyn mor nerthol ( greadur meidrol, gwyw ),
A'i feddwl mor anferthol, beth dybiwn ni yw Duw— Creawdwr a Chynalydd
Pob meddwl, elfen, defnydd?
Pwy sydd gyffelyb iddo,
Yr Hwn mae pob peth ynddo
Yn symud, bod, a byw?
Os dawr
I engyl glân goleuni, a seintiau pur eu gwawr, I ganu Ei ogoniant, yn nef y
nef yn awr,
Ac os yw anian heini
Yn foliant dwyfol drwyddi, Paham mae dyn yn oedi? Fe ddylai'n brif addoli, A
moli'r Duwdod mawr.
MEDDYLIWR.
|
|
|
|
x029
AWDL
AR
Lwyddiant, Nawredd, a Gogoniant Prydain Fawr.
CYNWYSIAD. PEN. I.
Cynfrodorion Ynys Prydain, & c.
LLWYDDIANT - Milwrol, Amaethyddol, Masnachol, a Thrafnidol Prydain Fawr. PEN.
II.
MAWREDD - Anianyddol, Moesol, a Meddyliol Prydain Fawr.
PEN. III.
GOGONIANT - Prydain Fawr yn gynwysedig yn ei Dynoliaeth, ei Gwleididaeth ei
Llenyddiaeth, a'i Christicnogaeth.
PENNOD I.
CYNFRODORION YNYS PRYDAIN.
GWEDI syn rwygiad Sinar, -y llwythau
Oll, aethant ar wasgar;
Blino ar Babel anwar - a wneddynt,
Ac o honynt, e droes rai yn gynar, I diriogaeth dra hygar, —yn serchog A
dieuog, Orllewin daear.
Llyma hwy fodau, yn llu ymfudol, Dan rydd adenydd eu duwiau dynol; Yn dod
rhyw enyd o'r byd dwyreiniol Oddi gerbron y ddwy afon ddwyfol *, I'r llanerch
orllewinol, -y ddewis, Ber, wen Oasis, rhwng bryniau oesol.
* The Euphrates and Tigris.
|
|
|
|
x030
Enwi'r enyd na'r awr hono, -ni wyr Neb, ac ofer chwilio;
Am nas cair un gair o go ',
Ar ei bedd, i'n rhybuddio.
Er hyny e ' olrheinir - eu helynt, Drwy'r Tumili'n gywir,
O'r wlad bell, yn llinell hir; -cofnodion O'u marwolion, oedd wyr mawr, a
welir.
Yn croesi barug a rhew Siberia,
A maith geimleoedd tiroedd Tartaria, Hyd waelod rhosydd deheuwlad Rwsia, Drwy
gulffyrdd onglog, mawnog Almaenia; Hyd at ganfod teg wynfa, —yn heddwch,
Nawdd a dirgelwch mynydd - dir Gwalia. Hirfaith fu'r yrfa, —ac er mai tywell
Yw gwedd y linell dragwyddol hona, Ar ei hyd yr eheda - ysprydoedd Y tra hen
oesoedd arni teyrnasa Arddunedd o'r wedd hena; -i'm mynwes, Dystaw hanes
boreufyd estyna;. Fy enaid glustfeinia - mewn dwfn osteg, I gael chwaneg o'r
dirgelwch yna.
Dyma'r fro gan Gymro gaid,
Un tymhor, heb un tamaid;
O'i thir, na'i thòn, yn eiddo neb; -nid oedd Bryd hyn drais na geudeb,
Iddo yno'n wrthwyneb; -nac i'w floedd Un genau yttoedd ond creigiau'n atteb;
Hardd randir ddierwindeb - hawdd iddo Yr adeg hono, oedd rhodio ' i gwyneb.
Eiddo oedd iddo ei hun; Hon a wybu cyn nebun; Drwy hyn ei iawnder a’i hawl
Iddi hefyd sydd ddwyfawl.
|
|
|
|
x031
Dyma'r fro deg hono, gynt - oedd bybyr Ei phreswylwyr, cyffrous eu helynt.
Ein teidiau oeddynt odiaeth - am arddel Mawrddysg a gwybodaeth;
Gwaith rhinwedd ac athroniaeth
O'u mysg yn ddyfnddysg a ddaeth—
A mawr drefn am hir dro - cyn i Roeg ffraeth Nac Europ helaeth greu eu
Happolo.
Hanes hynt yr ynys hon - hyd heddyw,
O'r dydd gwelodd feibion,
A gyhoeddai ddygwyddion,
Nas gwelwyd mewn breuddwyd, bron!
Heibio aethant fawr bethau - a feiddiant Wisgo ael Rhamant â disglaer emau.
Gwlad fawrwych a glodforir - hyd nef wyd;
Prydain Fawr yth elwir, -
Mawr ydwyd, O fy mrodir,
A mawr iawn er's tymhor hir.
Diluddias yw dy lwyddiant, -dy fryniau
A'th hael lechweddau ai bythol chwyddant; Y parthau pell ai porthant,
Môr a thir i'w ddarmerth ant;
Anhafal yw ' th nwyfiant, -anghydmarol
Yn dy ganol yw dy ogoniant;
Gwledydd enwog lwydant, -gerbron golau- Ei ddwyfol wenau, -hwy a ddiflanant.
Dy enw a adwaenir - drwy bob ynys, A'th ewyllys yn mhob parth ddiwellir; Dy
eiddo anrhydeddir, a'th fawredd, Hynod ei amled drwy'r, byd a deimlir!
|
|
|
|
x032
Ychydig boblach ydoedd dy ddechreu, Yn y boreu, yn ngwddf ein haberoedd; Dau
lon'd dwrn o Jutland oedd - dy bobl di; Heddi, hwy elwi wrth y milfiloedd!
Mae llwydd yn dy wydd er y dyddiau ― gynt, Pan gaid dy Fritwaldau, *
Hil Woden, ddwyfol hadau, -yn arwedd
Yni dy fonedd a'th dynghedfenau.
Hil Woden oedd i ledu - ei hesgyll,
A gwisgo ' r prifallu;
Yn feddiant llwyddiant i'w llu, -e fu rhaid
I'r hyf Rufeiniaid roi'r fro i fynu.
Y Saxon yn union aeth,
I galon buddugoliaeth.
Am lwyddiant yr ymladdai- Llwyddiant a gogoniant gai,
Ei faniar ddaliai fynu;
Arswydd oedd drwy'r Oesau Du.
Tynodd y tair - gwlad tano, -ei deyrnas
Ai'n gadarnach etto;
Trwy ddwyn grym at rym bob tro, Estynwyd concwest hono.
Gwr teyrngar, gwladgar a glew,
Disegurdod - esgairdew,
Yw'r Cymro - rhagddo y rhed - heb lwfrhau,
Er gweled angau yn treiglo ' i dynghed!
* Ymerawdwr, neu Unbenaeth yn mhlith y Saxoniaid gynt.
Un o brif - dduwiau y Saxoniaid, oddiwrth ba un yr hana eu holl freninoedd.
Cyfrifant fod Victoria o'i linâch.
Cymru, Alban, a'r Iwerddon,
D
|
|
|
|
x033
Hwyrdrwm yw'r Scotyn hirdro, Ond dewr fydd pan dery fo: Hyf y cwyd ei gleddyf
cadarn, Tery ag ef nes tyr ei garn: Ofer yw hyn ni lwfrha
Ef eilwaith a ryfela
A'i fidog, hyd fo wedy'n
Wrtho y gwaed yn darth gwyn!.
Mae'r Gwyddel fel awel wyllt, Ergydia yn wr gwaedwyllt: Fe a wana ar fynyd,
Trwy angau eirf tri yn nghyd! ]
Fyth, drwy aliu y fath drillwyth - campus
Nis cwympir hi'n esmwyth:
I Brydain, pan bo'r adwyth,
Un o'i gwyr wna fwy nag wyth!
Dewrgalon yw'r Saxon syth - mewn câd wyllt, Ac yn y gwersyllt mae'n ddigon
gwarsyth.
Ei hyder a'i falchder fyn
Yr olaf ar ei elyn.
Pwy fyth wrthsaif y Brython? -maidd enwog, Drin y bidog à dwrn Abbadon!
Draw y Gauliad dewrgalon - a ffoà, E ' baid cweryla a'r bidog creulon.
Penderfynol a gwrol wladgarw,
Yn gryf o'i waclod, yw'n beiddgar filwr: Nid oes na dryghin na goflin gyflwr
A dyr afaelion y dewr ryfelwr:
Dyna'i daith drwy dân a dw'r: -ni thry'n ol, Drwy ing â'n wrol, drwy angau'n
arwr!
|
|
|
|
x034
Dugiaid yw'n cadfridogion — aurgleddyf, Ac arglwyddi mawrion: Enwogasant yn
gyson
Hanes eirf yr ynys hon.
Hwy arweiniasant, drwy'r Gorynysoedd, Ein heirf haeddianol a'n dewr
fyddinoedd, O gâd i gad, ac ardderchog ydoedd
Y llwydd a gaent o'u llueddog hyntoedd: Hwy gyfodasant, rhag drygfyd oesoedd,
Eu baniar enwog drwy'r maith benrynoedd; Ein " Llew " o blith ein
lluoedd - a ruai Ac ofn a dorai drwy'r cyfandiroedd!
Y pryd hwn BONAPARTE ai I oresgyn, a rhwysgai.
O'i flaen pob peth ddiflanai, -ië'r Alp Dan ei droed a blygai!
Am y wlad yr ymledai: -o gwmpas Bywyd ac urddas y byd y cerddai.
Naddai gyrn breninoedd gant, -teyrnasoedd Y gorynysoedd a gydgrynasant.
Eangai ' r Ergr Ffrenging - ei esgyll,
A'u hysgwyd wnai'n ffyrnig
Uwch Europ lân, yn dân dig, -gan dybio Yn llipa roi dano'r Llew Prydeinig.
Ond danedd celyd hwnw - oedd bybyr; Briwiwyd yr Eryr newn can ' brwydr arw
Ei lu certh yn Rolica - fawr rwygwyd, Ei nwyf anmharwyd yn Viemiera; Y
Brython mewn bâr eitha - ardderchog Wasgai'i wyr enwog ar faes Corunna; Ow!
ryfedd, pwy rifa — ' i glwyfedigion, A'i lu o feirwon yn Talavera!
|
|
|
|
x035
Ei resoedd yn Barrosa a dorwyd; Yn eu hol bwriwyd hwy ' n Albuera; Encyd o
Salamanca - ddinas fawr, Y bu dialeddfawr enbyd laddfa.
Rhwygwyd Ciudad Rodrigo- gadarn; Gwaedwyd glanau'r Ebro;
Wele hefyd ddylifo - gwaed calon
Llu o'i wyr dewrion, nes lliwio'r Douro.
Holl gampiau'r Llew o gwmpas - yr Eryr, Ar wàr Torres Vedras, -
Lwyddodd i'w luddias, —eithr yn Waterloo, -- Y marwol le hwnw, bu mawr
alanas.
Efe a weloedd ar fyr,
Hyf waelod ein traedfilwyr—
-
Cewri y dydd, caer o dan
Oent hwy ar Fryn Sant Ieuan!
Ni allodd, er llawer llu,
Eu henill, na'u gwahanu.
Eu tân egorynt, a chaid hwy'n gyru, Ar ei chwai adlam ei holl warchawdlu
Ymerodrol, mewn hollol anallu
I ledu'r Faniar, nac ail droi ' i fynu. Y dydd oedd yn diweddu, -NAPOLEON,
A'i holl arfaethon, wedi llwyr fethu!
Yno BONA unbenig — a rwygwyd Ar graig dderchafedig,
Gadarn, anysgogedig, -gwroldeb Parodwyneb y milwr Prydeinig.
Pwy? O, wâr Europ, pa arwron - wnaeth-
Pan oe't yn sarn wirion
I luoedd NAPOLEON-
Ynot hedd, ond WELLINGTON?
|
|
|
|
x036
Yr oedd ei enw arddunol - yn arswyd
I wersyll estronol,
A gwys i'r uchelgeisiol,
Ar un waith i droi'n ei ol!
Helaeth fuddugoliaeth gain - sydd wedi
Erioed,
briodi dy eirf drud, -Brydain.
Dylanwad dy law enwog, Fu derydd gerydd ar Gog.
Dimygaist gryfdwr Magog - ti doraist Ei darian ardderchog: Oferfost y
cryfarfog - ostegaist:
Er ys tro baeddaist ei restrai beiddiog.
O dyrched Rhyddid, ddiofid, ddwyfol, Am le i'w choron - ei mawl a'i charol;
Cylchyned seiniau y tonau taniol, Le pau ' r Eryri, a'r Alp arwrol;
Aed sain cân heddwch yn swyn cynyddol, O lanau Tiber hyd lwyni Tobol; Trahaus
fyddinoedd y trawsfeddianol Gossac, uchelgeisiol - a lwyr ddrylliwyd; Bywyd
gyrhaeddwyd i'r byd gwareiddiol.
Dy eirf, 0, Albion, wnant dwrf a helbul, Dial a ddichon dy law ddiachul,
Ar nwydau gwyrgam rhyw deyrniaid gorgul; Tydi a sengi uchelgais anghul,
Hyd faith for a goror gul - o wlad Gog,
A daear Magog i dir y Mogul.
Cyn hir ymwelir yn drwm ei wala,
A chreulondeb croch, croch - ruol India; Cyfiawnder dwyfol a ymgnawdola,
Ei eirf a waedant addolwyr Vedah;
Ar Oude y farn a rodia, -mewn gwaed sang Ymylau eang yr Himalaia!
|
|
|
|
x037
Czar, Sultan, Sha, Khan, a Sheik, hwy - gadwant,
Gyda pharch dyladwy,
Le mawr i dy hawliau mwy, -gan omedd,
Yn dy anrhydedd, wneyd unrhyw adwy.
A'th fyddin gerth, fe wyddir, Wyt yn darostwng y tir; Ac, a'th lynges eres,
wych, Y môr, drwy gampau mawrwych; Edymyg y merchyg y môr,
Rhy drem i'r ddaear dramor, -- I weled hanes ei deiliad yno— I dori heddwch
ac iawnder iddo; Ei hwyl lydan, pan ledo - sydd, lle'r hêd, Barhaus nodded
i'w berson a'i eiddo.
Curo gwillmyriaid * crigyllau moroedd; Gwarchod dyhirod hyd y dyfnderoedd;
Adeinio trafnidaeth - dwyn trefn ydoedd; Cofio iawnderau drwy'r cyfandiroedd,
A'u hiachau o'r fasnach, oedd yn creulon Elwa mewn dynion duon, fel daoedd!
Difraw y rhodia'r dyfroedd - yn enwog Frenines amgylchoedd
Y don; trech nag Holland oedd - Hispania, Na'i myg Armada, mwy ei grym
ydoedd.
Ba werth yw brau byrth o brès? —o'n mòr prid A'n " Mur Pren, "
mae'n hachles;
Gelynion glyw ei hanes, -yn ddiau, Deheulaw angau yw'n diwael lynges!
Wele! mae rhyw ddysgwyl mud - i'n bro hon, Pan ro'i braich hi'n symud:
Gan fraw saif gwallt yr alltud; -pan gyffry- Ei llais, diau, wrendy'r pell
estrondud.
* Pirates. † Alltud - Stranger, or Foreigner.
|
|
|
|
x038
Hwyr erys ei harwredd cyn taro, Ond pan delo gwyr wneyd pen - dialedd.
Ei mwynder hefyd, cyn myn'd i ryfel, Geir, o achos ei syniad goruchel-— Mai
hedd yw'r duedd dawel - sy'n esgor Y ddawn at agor llwyddiant diogel.
Gwlad dawel, wedi gwel'd diwedd - bradau, Yw Brydain ddiduedd;
Elwa fyn yn nghelfau hedd,
A rhanu dawn a rhinwedd.
Egyr bob bryn ac eigion, -llafuria
A llaw fawr a chyson;
Tywysa bob manteision, -gan ystyr
Iawn drin ei gweithwyr, nid eu rhoi'n gaethion.
Ewybr weithiwr yw'r Brython, Gwythen frwd yw gwaith ' n ei fron; Trin anian
a'i boddia ' n bur,
Un ytyw ' n caru natur.
Dywenydd y Prydeiniwr - yw anian,
Yn mhob hoen a chyflwr;
Mor lôn ei galon yw'r gwr,
Y dwthwn y bo ' n wlad - deithiwr.
P'ond difyr yw'r pendefig,
A'i lys haf ger bron glas wig?
Gwel wedd ei bare mawreddog - yno ewyd
Y coedydd bras - ddeiliog
Eu penau yspynog - gan dawel fwrw
Eu llun a'u delw i'r llyn dihalog;
Ac yno mae'r pysg cenog - ar grwydr fflwch, Yn nhawelwch yr hwyrnawn heulog;
|
|
|
|
x039
Hithau ' r alarch yn marchog - mewn helaeth A hoew bendodaeth, heibio'n
odidog;
Ar ei lawntiau garlantog - mae'r ceirw'n bod, - Yno cerdd iyrchod mewn rhwysg
ardderchog.
Ei draed a fyn hyd rodfau F'o oludog o flodau, Rhai hygar o bob trogylch
Wisgant ogoniant o'i gylch; Trwy ei erddi try harddwch Ysplander, a ffloewder
fllwch; Dringo hyd wal ei balas
Ceir blodau yn g'lymau glas. Yr un fath mae'r hen fwthyn, Yn ei wisg falch o
galch gwyn! Yno, etto, chwardd natur
Mewn banc glân, neu berllan bur, Mewn muriau'n rhaffau o rôs, A llwyni ' n
demlau llinos.
Myn yntef sy'n y dref draw, Rhwng y cerig yn curiaw,
Le i'w adar a'i flodau, -gwna'n fuan Rhyw Eden fechan er dwyn ei feichiau.
Y gweithiwr, fel garddwr gwych - gwyd ffrwythlon Welyau breision, o ddail a
bresych.
Llon yw ef, a llawn o hwyl,
Ag archwaeth at bob gorchwyl.
Mab tawel yn mhob tywydd, -llaw barod,
Wyr iawn ymosod i drin y meusydd.
Hardd oror yr arddwriaeth - briodol,
Yw Brydain ehelaeth;
Drwy drin, wrth rin athroniaeth, Cryfdwr i'r tyddynwr ddaeth.
|
|
|
|
x040
Ei wyddor a'i gelfyddyd, -ei wiwdrefn,
A'i ddiwydrwydd hefyd,
A'i gwnaeth yn benaeth y byd, —a'i fro wen, O'r Udd i'r Hafren, yn ardd o'r
hyfryd. Bro hynaws ei hwybrenoedd, -gauedig, Gysgodol ei glynoedd,
Araul ei gwastad - diroedd, Hudoliaeth i amaeth oedd.
Ar wedd ei daearyddiaeth - mae addurn A meddwl yr amaeth,
' N chwareu o'r truman i'r traeth - dan dawel Rym yr awel, mewn mawr
amrywiaeth; Meusydd o ddolydd helaeth - yttir sydd Twyni a chlosydd o tan
achlesiaeth.
Diwyllir gwyllt - tir à galltoedd - geirwon, A gwarau'r mynyddoedd;
A chuddir y llechweddoedd - porfaog, A defaid gwlanog, dôf, hyd y glynoedd.
Af i wel'd bro Trefaldwyn,
I fyd mawr y
defaid mwyn
Oddiyno'n ddianaf,
!
I Cheviot Fryn wedi'n af; Safaf ar South Downs hefyd, Gan dramwy bro Radnor,
hyd Droi i Dorset, drwy deirsir; Ac wedi'r faith ymdaith hir, Caf amlwg olwg
helaeth - ar orau Ddëadellau dan urdd diwylliaeth.
Mae'r ŷch tew, ar march tàl - hardd a grymus,
Buan, nwyfus, heb un o'i hafal.
Dianaf yw'r eidionau, -a'r ebol
Arabig ei branciau;
Tyrchod a buwchod y bau - yn cychwyn
Hyd y tyddyn ar gwastadeddau.
|
|
|
|
x041
Goludog yw'r gwaelodion - ceinddeg oll, Gan ŷd, gwair, a meillion;
Mor brysur, mewn llafur llon, -i'w canfod Trwy y gwaelod, yw y trigolion.
Mawr
Bwy wyr am un bro o'i maint, Ddwg o amaeth dda, gymaint?
ᎩᎳ ei chnwd i'r marchadoedd, —yn ŷd, Yn wair, ac
enllynoedd;
Llysiau, adar gwar ac oedd - wrthynt raid, Ac anifeiliaid tewogion, filoedd.
Arddwriaeth a aeth weithion - i loni
Siglenydd Iwerddon;
Agor wnawd, rhwng gwernau hon,
Le i wair, ŷd, a chloron.
Gwael wedd fu ar Gelyddon, -- ond holliach Ddëadellau, weithion,
Döant ei bryniau duon, -hardd y dyrch Y fro ddigynyrch, dan fyrdd o geinion.
Cymru lòn ei bron, heb rus, Mae hithau yn amaethus; Beichir ei ffarmoedd
bychain
Gan gnwd trwm trwy bob cwm cain.
Wyd, Frydain gywrain, drwy law gyhyrog Dy weithwyr heini, a'th nwyd athronog,
Wedi ymhoeni; y mae'th drem enwog, Fel hên dud Eden, yn fwy godidog- Yn fwy
cain - orchwyl, neu'n fwy cynyrchiog Na diwael ddaear yr Eidal ddiog;
Rhagoraist, wlad drugarog - ar fröydd llon Yr ir awelon, a'r awyr heulog.
|
|
|
|
x042
Mor ethol amrywiaethir Prydferthwch, tegwch ein tir!
Cwyd i wych olwg y coed uchelion; Y caeau cynyrch, a'r parciau ceinion;
Dihalog erddi, a dolau gwyrddion; Dyffrynoedd tawel, isel, a breision, Tra
gloew - wawr hefyd lle treigla'r afon; Llechweddau heulog, lle chwydd awelon;
Barwnig lysoedd, a bryniau gleision; Trefnus ac iachus dyddyndai gwychion;
Bythynod perffaith, glanwaith, gwalwynion; Arddunol a lledol gestyll
llwydion; Eglwysi'n eistedd mewn dwysedd dison; Dinasoedd yn llywio'r moroedd
mawrion: - Golwg sy ' wledd i galon, ―wisg ein gwlad— Drych o
wareiddiad mewn derch arwyddion.
Ei gwyneb sy'n llawn gogoniant - celfol, Un o'i llywyddol elfenau llwyddiant.
Ond dawn ei phrif lwyddiant hi A daenwyd oddi dani;
O'i mewn hi y mŵn haiarn, A'r glô, sydd dragywydd garn; Copr, plwm, a
zine, gan dincian, Ddaw byth o'i mynyddoedd ban! Daw'r clai, a'r siale, a'r
alcam, A'r pres, o'i mynwes- eu mam.
Lluchir y maen a'r llechau, -a chraig wen Y calch a'r halen, o'u cêl
chwarelau.
Wele foneddig hil o fynyddau, Yn troi eu gwyneb tua'r eigionau; A rhai eraill
yn sengi'r gororau, -- Gwahodd trafnidaeth y môr i'w dorau;
|
|
|
|
x043
Arllwys, megys o'u bystlysau - llawnion, At reidiau dynion, wrth draed y
tonau, Ri ' y ser o drysorau, -a feiddiant
Greu gwiw lwyddiant yn fwy nag aur - gloddiau.
Yntau'r môr, drwy'n gororau, -rywbryd oedd Yn agor ei gelloedd a'i grigyllau;
Agor ebyr a'i gribau - i'r perwyl
O gael llwybr anwyl i gell y bryniau; —
Bryniau - bob rhai o honynt - difesur Ystordai natur, is traed dyn ytynt!
Gorwibia'r enwyllt agerbeirianau ' Lawr trwy y siroedd, o le'r trysorau; Y
fro a lethant gan ddirfawr lwythau O lô a haiarn, o'u dwfn welyau, Gyru i
waered tua'r gororau.
Meib trafnidaeth sy'n mhob tref yn heidian, Gydag " hoi - oian, "
weithian hwynt - hwythau Draw a'u hestynant dros donau - ' r moroedd
Llwydion, i diroedd llydain eu dorau.
Difyr eu newid hefyd,
Am aur, drwy holl barthau'r byd!
Gwalia deg! hyglod yw hi,
Yn ei thrafod a'i threfi.
Chwai y rhwygir ei chreigiau - lluosog,
Arllwysir ei bryniau;
Mae acw o hyd drwm waghau,
Ar ei hên, werthfawr haenau.
Tra mawrwych tua'r moroedd - llifa
Llafur ei mynyddoedd;
Hwythau y llongau, ' n llengoedd, —a'u ceisiant;
Parthau o lwyddiant yw ein porthladdoedd.
|
|
|
|
x044
O'i thywyll Weithiau ëang,
O ddyn byw clyw! clyw y clang!
Golau'r ffwrneisiau, drwy'n hoff fro ' n isel, Hed yn llif rhuddaur dros
gaerau'r gorwel; Mynwes y nefoedd o'i mewn sy'n ufel; Gloewodd y tywyll
wagleoedd tawel; Hwynt yn awr y'nt un oriel - lewyrchus, O'r bryniau iachus
i'r wybren uchel.
Son am werth haiarn Merthyr A droes y ' mhell dros y myr; A thyfodd, fel
gwyrth hefyd, Ei ha'rnwaith yn bengwaith byd! Twrf a nadau trafnidwyr ---
Tanllyd feirch - tonau llwyd fyr, O lanau'r Wysg lonwawr - hi, A Thâf, a
Nedd, a Theifi; Drwy'r orawr, dry yr awr'on, Uwch y'mhell i Amlwch - Môn.
Os yw haul Tyrus mewn iselderau, Os duo a wnaeth haul Sidon, hithau, Mae
eirian haul hen Gymru yn olau, A daw'n y fan i daenu hâf - wenau— Hîn wych ar
ein masnachau - ffrwythlonant, I'n plant rhy ' llwyddiant ei aur - allweddau.
Cawn wel'd ardderchawgrwydd cyn hir-- Daw adeg maes Glô'r Deheudir,
I'w gloddio a'i dreiglo a'i drin-
Effro adeg anghyffredin!
Diffodd wnaeth gogoniant Ophir — isod,
A Thartesar ddyhir;
Ymroi'n well wna Cymru'n wir, —dechreu'r da
Ar hên Walia, yw'r hyn a welir.
|
|
|
|
x045
Cu Iwerddon - bro'r corddi, Yn tywallt menyn hallt, yw hi; Hêd i mewn ei
chnydau mad, Yn llif i byrth Llynlleifiad.
O blith Celyddon hithau - daw allan Yn mhob dull, erthyglau
Llin, a gwlân, -llawn yw o glau Olwynion a melinau.
O Glasgo, drwy bob glwys - gwm --hyd fŷr chwai, Gwerydd a Chatai, ' e
gerdd ei chotum.
Maelog yw Birmingham, eilwaith - ei chrefft Ai chraffder sy ' berffaith, Yn
rhoi saith deng - mil ar waith,
Ar ei hoffer hir - effaith.
Ei durdrec sydd yn clecian,
Drwy holl Ewrob yn mhob man.
Ac enwog yw Manceinion,
Uchel law fasnachol hon,
Ai dododd yn odidog - yn mhob swyn; Ei meib sy ' gyfoethog;
O'i henill hi, ' n derbyn llôg, Adawsem i dywysog.
Ceinwaith wehyddion cynil
Ddwg hon o'i mewn - ddeugain mil;
Hi sy'n dwyn ysnodenau,
A meinwaith perffaith ein pau-
Y pali ar tenlli teg,
A'r sidan disglair, sywdeg;
E rydd eirchion ardderchog - pob talaeth,
Ei pheirianaeth mewn cyffro enwog.
|
|
|
|
x046
Mae eraill drefi mawrion,
Na roi'r eu rhi yr awr hon— Hoew law - weithfeydd helaeth - fil, O ogoniant
digynil, -
I fudo'r drafodaeth yn ngwahanol Ganghenau'r fasnachaeth, Ddiwala hon -- yn
ddiluw aeth, Drwy y teilwng bedair talaeth. Lliosog, er ei llesiant - yw'r
bryniau, A'r bronydd - arllwysant
Eu dwr oer, pur, i droi'r peiriant; A'u dwr pêr ddisycheda'r pant, Heolydd
llyfn, helaeth - sy ' drwy'r Ynys, I glau dywys ei holl gludeiaeth.
Unwyd trafod, ein trefydd - neu lwyddiant Porthladdoedd a'u gilydd,
Ag aml asiad camlesydd, -draidd yn rhês Araf, o fynwes ein prif afonydd.
Clau wedi'n yw pob cludiad,
Gan fyrdd o gledrffyrdd drwy'n gwlad; Masnach sy'n llamsach yn llon,
Ar ager ac ar eigion.
Clywch draw'r oroian lawen - ar bob traeth— Sŵn trafnidaeth sy'n trefnu
ei haden.
Gwibia, a dwg o ebyrth,
Pop pau, pob parthau i'n pyrth; Llawn o'i chlod yw Caerodor- Dinas ardderch,
merch y môr.
Ail hon i Sidon, hi sai - yn drydedd, Drwy drafnidaeth erfai;
I'w ' stor a'i hwyl nid oes drai, Na nychdod i'w masnachdai.
|
|
|
|
x047
Clifton fawr hon, fry, fry! -- mewn gogoniant, Yn ddrych o fwyniant, a ddyrch
i fyny.
Ond, Oh! Llynlleifiad gadarn, Mae'th drem di yn boddi barn!
-
Uwch un i'w fydru - yn ddrych anfeidrol, Byw, o arddunedd cyffrous barddonol,
—-- O lwydd a chyfoeth a gwerth anferthol; - Ysplander, mawryd y byd
darbodol; Dysplead llawn wyd o'r nwyd drafnidol, Yn mawredd anghydmarol - ei
llwyddiant, — Twr o ogoniant y byd trigianol!
Dwyoes yn ol, nid haiach
Yr oedd y lle ' n bentre bach;
Drwy'r amgylchoedd nid oedd dŷ,
Na lle attal na lletty;
Na braidd un llef o'r un bryn,
Ond hiraeth yr aderyn!
Llwfr iawn edrychai'r holl fro Diffrwyth, heb ddim yn deffro Y dyn i synied,
unawr, Y deuai'r fàn yn dre ' fawr! Ond heddyw, onid dyddan Edrych yn fynych
i'r fan,
A chanfod masnach enfawr
Ei thai myg, a'i llongbyrth mawr?
Gan estyn ei llinynau - drwy'r meusydd, Aeth a'r afonydd yn ei therfynau.
Ei di - eilradd borthladdoedd, -heb attal, Y'nt yn bwyta'i thiroedd;
Y llongau sy'n llengoedd o'r terfyngylch, Yn dew o'i hogylch, fel y
coedwigoedd.
|
|
|
|
x048
Glân fordeithwyr, i'w glenydd Yn d'od, ugeinmil y dydd! Peirianau, cerbydau
ban, Yn ei dorau yn daran! Oherwydd ei rheilffyrdd hirion, Ei braich am y
deyrnas sy ', bron!
Dodant o dan ei dedwydd - geseiliau. Wych ororau y Tawch a'r Werydd.
Yr ager dros yr eigion - i'w mynwes Gymona'r Iwerddon;
Holl ororau'r lli'r awr'on - a fygant! Dacw o lwyddiant diwyd celyddon, -
Americ, a phyrth mawrion - dwyreinfyd, A deheufyd, yn dod i'w hafon!
Dinas - mae son mawr am dani,
Tŷ mawr y cotwm yw hi,
Tŷ olew'r palmwydd tàlion,
Tŷ pob gwlad, pob rhad - pawb, bron!
Ond, beth am lwydd gorymchwyddol - Llundain, Ai llawnder annrhaethol?
Ni rydd hanes arddunol - yn nrheiglau Ymerodraethau, ddim mor dra ethol.
Wele'i hygar boblogaeth, O rif, fel cenedl fawr aeth! Ei thai orchuddiant ei
thir- Redasant ar hyd dwysir; Sŵn ei chelf ai masnach hi, A draidd yn
dymhestl drwyddi.
Rhifnodau ei thrafnidaeth,
I ryw swm uwch reswm aeth; A cheir holl fasnachwyr hon,
O agwedd tywysogion;
|
|
|
|
x049
Dawnus ben - dinas y byd,
Yn mhob môr - yn mhob mawryd. Pe bai o les, Babi - lon, -orenwog, Olrheiniwn
yr awron;
Trwy ei heolydd, a'i phetryalon;
Ei thai a'i haml leoedd, ei themlau hoëwon; Ei huchel dyrau, a'i muriau
mawrion; A'i chywrain - grogedig - erddi gwyrddion; Ei ffrwythawg welyau, a'i
phyrth gloëwon: Gorphwys lefyd ger ei ffôs, a'i hafon, I weled holl olud hon,
-ei mawredd, Ai hanrhydedd yn nydd ei chariadon.
Er ei holl orwychder hi,
Bu wael wrth ddinas BELI. *
Dinasoedd enwog y dawnus ddynion- Hyd dir a moroedd, -trafnidwyr mawrion,
Trwy oesau, ydoedd Tyre a Sidon;
Golud a ddygent, o bob gwlad, ddigon:
Eithr eu gwrid aeth, rhagorwyd hwy weithion: Mwy enwog ydyw minion -- Tafwys
ddrud, - Chwe ' mwy o olud gyrch i'w hymylon.
Gwlad gaerog, oludog, gywrain, -- awchus, Fasnachog yw Brydain;
O'i fewn ceir elfenau cain - sy'n arwedd, Hynt ei mawredd a'i llwyddiant
mirain.
Oni thraethir o'i threthi - tra helaeth,
A'r traul mawr sydd wrthi;
Ac o ben eluseni - ardderchog
Ei llaw odidog, a'i chyllid wedi:
Mor ddwys yw ei mawredd hi, -mor helaeth,
Yw llwydd odiaeth ei llaw ddioedi!
* London,
E
|
|
|
|
x050
Lle i enill a gynlluniodd, ―enill
Yn mhob man a fynodd:
Awyr, dw'r, a haul yn aur drodd, — Duw y golud a'i gwelodd!
PENNOD II.
AR
FAWREDD
PRYDAIN.
Dy Fawredd oedd fel dyferyn, -yrwyd
Yn for mawr diderfyn;
Ac achos wedi cychwyn
O ddef uwch natur oedd hyn.
Fe luniwyd i'w gyflawnu - waith mawr it ', Gwerth ymroi o'i ddeutu: Gogoniant
dyfodiant, fu— Un oeddit i gynnyddu.
Pa genedl wypu gynydd - poblogawl, Tan nef wawl, i ti yn hefelydd? Plant o
nifer sêr it ' sydd - sêr golau, Yn oleuadau tywyllion wledydd. ' Neur pob
lle y taenir pebyll dynion, Neu wlad, iddi nawf goludoedd neifion: Lle
cyrhaedda haul - lle cerdd awelon, Neu y wawr, hithau, yno mae'r Brython; Ac
ôl ei law a'i galon, -yn gynnydd, Bywyd, llawenydd, a phob dillynion. Wele dy
deyrnwialen - alluog,
Yn llywio tynghedfen
Hanner y byd mawr o'i ben: Rheoli lle try haulwen.
Draw y gwiw weithir dy diriogaethau,
Ọ wâr fro Ewrob, hyd brif ororau
|
|
|
|
x051
Affriga anial, -cyffroi gewynau Y gwr o antur, a'r negro yntau; Ar draws
Amerig estyni'th frigau, O Ogledd daear hyd forglawdd Deau: Hyd foroedd
aethost, y dyfroedd hwythau Etto barthaist * i ddwyn it ' aberthau: Ynysoedd
eang, -lle neis i dduwiau— Yn tyru o fwyniant y trofanau, -
Yn llu feddianaist a'u holl hâf - ddoniau: Wyt wedi estyn dy faith linynau,
Nes adwaen eithaf Hindwstan hithau; Agoraist ffordd hyd gyrau - ' r anialwch,
— Trwy y diffaethwch try dy effeithiau: O, fro uchel! dy freichiau - o gylch
aeth I'r ddaear helaeth, yn wrydd aur olau.
Un o fawredd anarferol - ydyw
Ei thrafnidaeth nerthol; Hi sy'n uwcha'n fasnachol, - Heibio daeth a'r byd
o'i hôl.
Mawr a chref yw Prydain hefyd - o'i mewn, Yn mhob llawgelfyddyd;
Hi yw cronfa cywreinfyd,
At ei bwrdd mae hynt y byd.
Oes llednais ddyfais, na ddaeth O'i dwylaw i fodolaeth?
Mae'r ymchwil, weithian, a'r gogonianau, Ar ymadael â'r hen Byramidau; Ni
bydd olrhain hen gywrain feddgorau Acw a rwygwyd o'r cedyrn greigiau; Ni
chodir teimlad gan wychder temlau, Yn gyfan naddwyd o'r creigfynyddau—, * Ei
physgodfeydd.
|
|
|
|
x052
Rhai têg y ddaear - tai y gaudduwiau, A hir ranasant glôd yr hen oesau:
Weithian uwch yw'r arfaethau ― ddadlenir, A mwy'r dawn welir yn
Mhrydain olau.
Pa ail fan i Sant Paul fawr?
Eglwys nas caid ar greiglawr- Areopagus, ddim mawreddusach? Y Tŵr Gwyn,
etto, -b'le trig hynottach Mawredd hwnw? b'le mae ei arddunach? Westminster,
hefyd - pa lŷs o'i dlysach? Ni bu lawn addurn o'i ysplenyddach, Yn un
oes arall; na'r hon sy ', hwyrach; Ac ni ddaw, o gynnydd iach - galluoedd
Newydd oesodd, ei ogoneddusach.
Pwy a welodd ail y Palas - Grisial, Goriesin, mawr gwmpas?
Anhawdd yw dirnad mawredd y deyrnas Allai weinyddu'r fath gynllun addas, I
ddwyn celfgarwch, harddwch, ac urddas Byd crwn, mewn dwthwn, yn un
gymdeithas.
Ydwyd, ydwyd, O, Balas godidog! Yn rhyw hedd - orchest! -fil mwy ardderchog
Na chaerwaith China - na Charthage enwog- Na themlau Tyre - na thy mawl
twrog, Belus, dalgrib, halog; -wyd adeilad Lle mae i wareiddiad ddull
mawreddog.
A oes ail i'w Llynges hi,
O fawredd a niferi?
Oes llong ar fôr un gorawr, O'r un faint a'r " Eastern Fawr? "
A dry o byrth pedwar ban, Ail fyth i'r " Leviathan? ”
|
|
|
|
x053
Mae Prydain firain yn fawr, Fel un heb iddi flaenawr: Yn ei heirian
Wyddoriaeth, Ar ei hynt i'r pellder aeth.
Mesur ei mawredd moesol - sy ' anhawdd;
Maes hwn sydd anfeidrol:
Drwy bob lle wele ei ôl,
Hyd y byd ymwybodol.
Yn mawredd y cymeriad - garia'i moes,
Mae grym ei dylanwad;
E glyw pob teyrnas a gwlad, -heb wneud dadl, Dwrf ei hanadl a'i
phenderfyniad.
Mor enwog y mae'r Ynys - am rhinwedd! Mawr iawn yr ymddengys,
Yn a all iawn ewyllys, -neu a all Goleuni deall a'r galon dywys.
Ei rhyfedd fawredd sydd yn llifeiriant O brif - wahaniaeth - o bob rhyw
fwyniant, A all addurn a llwyddiant - ei gasglu; A dawn a gallu ddwyn dan eu
gwelliant.
PENNOD III.
AR OGONIANT PRYDAIN FAWR.
O, BRYDAIN! mor briodol - i'th anian, Yw'th enw arddunol!
Ei lanw wyd, heb le yn ol,
I addurn adnewyddol.
Ynot, hepian, mae Utopia * -daear; Tydi yw ei thrigfa:
O honot y cychwyna - gwawr bywyd, — Hawddfyd, dedwyddyd y " dyddiau
diwedda. "
* Y Mil - flwyddiant, neu yr Oes Euraidd.
|
|
|
|
x054
Dedwyddu dynolryw yw dy awydd, - Dryllio pob rhagfarn gadarn egwydydd; Dwyn
dynion o galon at eu gilydd, Fel un frawdoliaeth odiaeth o ddedwydd. Dwyn
ewyllys dyn allan, -a'i ddeall,
O gaethiwed anian, -
-
Rhoi i'w ysbrydol ran - le clir, dystaw, I ymegluraw'n ngrym ei gwawl eirian.
Nid dy olud, na'th lwydd anattaliol, Yw dy ogoniant prif yn dy ganol; Ond
anian rîn - dywynol - ysplenydd Dy enaid ufydd, —dy ỳni dwyfol. Amlen
dy gydymdeimlad - a ledaist Dros dlawd ac amddifad;
I wael wr, at fwrdd y wlad, -i'r rheidus, Ac i'r adfydus y ceir dyfodiad.
Wele, mae'r anifail mud - o dan ael Ei dynoliaeth astud;
Pa faint mwy ar drothwy drud - ei breswyl, Y tal disgwyl at ei deiliad esgud?
Ei dynoliaeth a dywyna aeliau,
Meib yr anial sy ' drathrum eu bronau; Hwynt hil Ishmael gant adael ei tidau,
Ac olew hefyd gant ar eu clwyfau; Hi a brynodd eu breiniau, Jubil oedd Ei
threm i diroedd y gorthrymderau. Agawr clwm y negro clau - troi wyneb At yr
anwar lwythau;
Maethu hedd ac esmwythhau - meib artaith, Yw priod anwylwaith Prydain olau.
Mae'r un ffoadur fu mor anffodus, A thori amod ei wlad orthrymus;
|
|
|
|
x055
Na cha'dd yn Mhrydain firain, glodforus, Neillduedd enwog a lle dyddanus,
A maes o encil rhag gormes wancus? Er esgyrnygu a throi ' scorn wgus, Ni
ellai'i ddilyn a llaw ddialus: Dyma Rhyddid mawreddus - nas temptir Ag aur o
Ophir, na geiriau hoffus. Aed tir y gwinwydd - natur a'i gwênau; Aed daear
felus, gwlad aur - afalau; Pau wâr elysium, a bro'r pêrlysau, Neu bau aur -
afonydd: pob rhyw fanau, I'r sawl a'u caront - rhy sal eu cyrau, Os yno
Rhyddid sy ' wan ei wreiddiau. Ond, O fendigedig wlad fy nhadau,
Rhyddid sy'n reddf drwy'th ddeddfau, -gwnai heddwch A diogelwch i waed ac
hawliau.
Mae i Wasg ei rhyddid moesgar: —i bawb
Rhyddid barn a llafar;
Rhodd Duw yw ein Rhyddid wâr,
Yn tywys Rhyddid daear
Rhoddir a noddir i ni - y Rhyddid Hwnw, a ddylid ' i iawn addoli.
Goludog yw'n gwladol - gyfansoddiad, O oddefiad â'r hyn sy ' ddwyfol:
Mewn gwir ryddid, mae'n graddol - ddynesu, A rhwydd dynu at berffeithrwydd
dynol. Ein Senedd yn mhob syniad - uchelryw,
A geir heddyw yn safon gwareiddiad. Unbenaeth iawn, beunydd, -pendefigaeth, A
gweriniaeth sydd ynddi'n garenydd; Ni ŵyrant ddim, o herwydd - maent,
rhag drwg, Yn bwrw golwg ar lwybrau'u gilydd.
Pybyr yw'n Seneddwyr ni - gwyr mawrion, Etholedigion wrth hawl diwegi;
|
|
|
|
x056
Hyspys, megys Magi, -i dynoliaeth,
Wedi eu helaeth ysprydoli
Aeddfed i ffurfio deddfau - at anghen
Tynghed yr amserau;
Codi'n gwlad - cadw'n glau, —mewn ac allan, Ei chlod eirian ar uchelderau;
A'i gwneyd yn ddadganedig - a chyhoedd, Ddrych i fydoedd mewn rhin
dderchafedig. Duwies yw'n Brenines ni,
G'nawd i hon gwneyd daioni; Ar ei thir, na'i phyrth araul, Na'i chlôd hi, ni
fachlud haul! Ei chyfraith berffaith sy ' bur, Un ytyw a deddf natur:
E draidd cyfiawnder drwyddi; Cyfiawnder a'i harfer hi; Nid deg o'i
gweinidogion, Na lliw'r aur all wyro hon: Nid wrth farn gadarn un gwr, Sai '
a haedda troseddwr.
Hyawdl, con ddadleuwyr - ni thyciant,
Er a draethant; -y diofryd reithwyr A'i barn ef, heb aur yn nôd,
Na dybén, ond cydwybod.
Pau Prydain! lle pob rhadau, -tir gwynfyd; Llwyddfyd, dedwyddfyd, sy'n llon'd
ei deddfau.
Ei thêr ragoriaeth arall yw addurn Ei meddwl mawr, diball:
Yn ei hawydd anniwall - aeth yn glau Uwchlaw y duwiau, yn chwyl ei deall.
Nid edwyn ei meddwl didor - i'w daith, A'i deil, un gagendor;
Calon y mellt, cloion môr, I'w neges sydd yn agor.
|
|
|
|
x057
Toreithiog anturiaethau - gyflawnodd, Y ' mhob byd teithiodd am wybodaethau;
Gwedd arall i'r gwyddorau - gyfranodd, - Goleu hâf ddododd ar gelfyddydau.
Goleu dydd, o'i herwydd, ddaeth, Ar weddill Daearyddiaeth. O, HUGH MILLER,
dyner, dêg, Ti ddoraist Ddaeareg;
Ti lenwaist o oleuni,
Gylch ei holl ddirgelwch hi: Daethost â hi mewn dwthwn, Yn esponiad Crëad
crwn: DADGUDDIAD a gyhoeddai, - " Fy chwaer hon, i'm cyfochr ai. ” O'i
mysg meddylddysg a ddaeth, I'r byd yn glaer wybodaeth; Yn ei theulu, ' n ffaith
ddilyth,
Fe fydd sôn am BACON byth.
Drwy'r oesoedd yr oedd Sêryddiaeth - dan sêl, Hyd nes i Newtoniaeth
Agor creadigaeth; -o hyn allan
Llithrai anian dan well athroniaeth.
NEWTON yn datgan ytoedd, -drwy ddyfal Gwymp un afal, holl gamp y nefoedd!
Yn llaw ei DDuw, allwedd oedd - i ddadgáu Y cêlwybodau, dadgloi y bydoedd.
-
Arddunedd dy Farddoniaeth; -amrywdeb- Mawrhydi - uwchafiaeth,
A delw dy ysbrydoliaeth - uchel, sydd Ddihefelydd, mae'n llawn o
ddwyfoliaeth.
O'th fyw, ddieilryw Feddylrith - genir Gogoniant athrylith;
Brydain, caid y blaid o'th blith,
Roes hono ar ei zenith.
* Revelation.
|
|
|
|
x058
O'th Wasg ceir nerth i ysgwyd - y ddaear; Ei gordd hi a deimlwyd,
Ar wàr pob anhygar nwyd, —dan bwysau Ei grymus ddyrnau gormes a ddarniwyd.
Anadla ar y cenedloedd - ryddid,
Cyfarwydda'r bobloedd;
Ei nerthol, hyf - ledol floedd - bair ddibaid Fraw yn enaid llaw - drwm
freninoedd.
Mewn mawredd mae'n ymyryd, Gair o'i barn ysgoga'r byd.
Eangaist ar gyfryngau - gwybodaeth, Llawn yw y dalaeth o'u llên a'u diliau.
Ysgolion dyfnion mewn dysg - aml ydynt, Athrawon ynddynt sy'n mhob
athronddysg.
A saif i dlodion wiw sefydliadau,
Lle gall y gweithwyr llogell - wag - hwythau, Gael siriol hwyrol oriau, wrth
araf Wibiaw, hyd eithaf y gwybodaethau.
Ysgol Sabbothol, sai ' bythoedd - ei mawl,
Ar ymylau'r nefoedd:
Rhyw dlawd, yn yr ardal oedd, ―gadd gychwyn Y ddawn fyw, wedy'n, a
ddenai fydoedd.
Y Gyfrol Ddwyfol, pan ddaeth, I'r genedl wnai'r gwahaniaeth;
Mae ei hôl ar ein miloedd: -rhyw wawr glir, O Air Duw, welir yn toi'n
hardaloedd.
Puredig syniad Prydain,
A'i rhodiad mewn cariad cain, —
Ei Sul, ei Chapel, ei Sant, -a'i Heglwys, Yw'r enwau gynnwys yr iawn
ogoniant. " Dy ' Sul " addolir Duw Sant; -diëilfath Ydyw ein
Sabbath - ein Duw, a'n seibiant.
|
|
|
|
x059
O! ' r weddi daer, i wydd Duw A gerdd, o gyssegr gwir - Dduw; Ac O! mor bêr y
chwery, Caniadau cynteddau'r Tŷ! A'r bregeth ddifeth hefyd, Sy'n fflam
dân neu'n gân i gyd.
O'r nef y daeth ei chrefydd - oruchel; Saif yn ddrych ysplenydd.
O'r fywiol effeithiol ffydd, -sydd mor loëw Yn rhoi ei hardd ddelw ar yr
addolydd.
Prydain dda, mewn pryd iawn ddaeth, At wyneb Protestaniaeth.
Hedd yma, a hawdd amor, -
I gylchyni'r allor,
-a chenad
Heb ofni gwys, chwilys, na chôr Nac ing, o blith un cynghor.
O, fro - dir, nef - haelfrydedd! -dan ei bron Hi mae y galon i wneud
ymgeledd.
Wele! sŵn elusenau
Ei meib hael sydd yn mhob pau: Biblau a roes i'r bobloedd,
A llên Duw i'r lle nid oedd: Gyrodd wawl Trugaredd ar Ddu, dywyll leoedd
daear.
Hyhi yw syw Fynydd Sion-
Dinas y Duw mawr yr awr hon; EI gyfraith faith ni fetha-
O Brydain lân allan â;
A Gair y Bywyd a gerdd
Hyd eitha'r ddaear ddywerdd: Nid ymwêl, heb ddychwelyd
Pobl lawer o bellder byd,
Atto Ef, bydd etto hwyl - ar ddwbl * wau
Y sain o enau Merch Sion anwyl.
* Repetition is a peculiar characteristic of Welsh congregational singing.
|
|
|
|
x060
Bydd trech y " gareg fechan " -a dreiglir
O'th drigle di ' n fuan,
Ar bwdr draed y ddelw welw, wan: -syrth cyn hir, A hi a ddryllir o'r ddaear
allan.
Ni unir gwrth - anianau - os uno, Dros enyd, wnei'th arfau:
E roi'r y dall - gynghreiriau *, Rhyngod sydd, rhyw ddydd yn ddau.
Oni weli'r Bwystfilod - yn crynhoi Eu cyrn er gwneyd difrod? Ar eu cyrn Duw
ry ' ddyrnod, -- " Cyrnau ddeg, " - ceir hyn i ddod. Mae gwaedu
Armageddon — yn agos, Pryd ddygir, drwy fawrion Nerthoedd a byddinoedd IÔN,
Ddinystr yr anwir ddynion.
Tynu mae Protestaniaeth - y gwledydd At ei gilydd yn llu têg, helaeth:
Gwelir, wrth bob argoeliaeth, -bydd, bob - tu, Rhwbio a bacddu mawr ar
Babyddiaeth.
Rhwygo garw fydd ar y gau - grefyddau; Gogoniant mynegol Duw y duwiau Leinw y
ddaear: ni chaiff eulundduwiau Mor ddihawl wedy'n ' mo'r addoliadau; Y dydd
hwnw sydd yn neshau, ―llenwir cant + Daear à moliant Duw i'r ymylau.
Duw Iôr wnaeth Prydain dirion - yn brif wlad Ei sylw a'i gariad, a'i rasol
goron.
“ Moli Nêr am le yn hon,
Yw galwad y trigolion. "
* Ei hundeb cyngrheiriol â Ffrainc, ac â theyrnasoedd Pabyddol ereill. +
Circle.
|
|
|
|
x061
THE BEAUTY AND EXCELLENCE OF THE
WELSH LANGUAGE.
BY EDWARD JONES, " BARD TO THE KING. " A.D. 1825.
Says the author: -Another cause, which operated with equal power on our
poetry, was the strength and beauty of the language in which it was conveyed;
if it may not with greater truth be said, that by the poetry those inherent
properties of the language were called forth. The character of Welsh poetry,
and its dependence on the language, have been so well displayed in a
dissertation on the subject by the Rev. Mr. WALTERS, that I am unwilling to
make use of his sentiments in any other words than his own.
" is
" The Welsh language " ( he observes ) " is possessed of
native ornaments and unborrowed treasures. It rivals the celebrated Greek in
its aptitude to form the most beautiful derivations, as well as in elegance,
facility, and expressiveness, of an infinite variety of compounds, and
deserves the praise which has been given it by an enemy, that notwithstanding
the multiplicity of gutturals and consonants with which it abounds, it has
the softness and harmony of the Italian, with the majesty and expression of
the Greek. "
6.
Ni phrofais dan ffurfafen
Gwê mor gaeth a'r Gymraeg wèn.
Of all the tissues ever wrought
On the Parnassian hill,
Fair Cambria's web, in art and thought, Displays the greatest skill
The glory of a language is a copious rotundity, a vigorous tone, and a
perspicuous and expressive brevity, of which a thousand happy instances might
be produced from the Cambro - British MSS. Their compass reaches from the
sublimity of the ode to the conciseness of the epigram. Whoever explores
these ancient and genuine treasures will find in them the most melodious num-
bers, the most poetical diction, the most nervous expression, and the most
elevated sentiments to be met with in any language. "
A language, however fortunate in its original construction, can never attain
such perfection without a very high degree of cultiva- tion. It is evident,
therefore, that at some remote period the Welsh themselves were highly
cultivated, and had made great progress in learning, arts, and manners; since
we discover such
|
|
|
|
x062
elegance, contrivance, and philosophy in their language. Some authors have
attributed this refinement of the Cambro - British dialect to the Druids.
From this opinion I dissent; because I observe that Taliesin and his
contemporaries, by whom they were followed and imitated, do not afford such
specimens of polished numbers and diction as the Bards who lived under the
later Princes have exhibited.
The Eisteddfod was the school in which the Welsh language was gradually
improved, and brought at last to its unrivalled per- fection, " The
Bards, " says the ingenious critic I have before quoted, " have
been always considered by the Welsh as the guar- dians of their language and
the conservators of its purity. "
Dr. Llewellyn ingeniously refers the curious and delicate struc- ture of the
Welsh language to its peculiar property of varying artificially, euphonia
gratiâ, its mutable initial consonants; making it superior in this respect to
the Hebrew and the Greek See Historical and Critical Remarks on the British
Tongue, 8vo., London, 1769, p. 58, & c.; likewise, Antiqua Lingua
Britannica, by Dr. Davies, 8vo., London, 1621.
ENGLYNION AR YR UN TESTUN.
IAITH hên, a'i pherffaith haniad - o GOMER, Gymhwys at bob syniad;
Unwaith, mewn llawn ddylanwad,
Ar gael oedd, mewn llawer gwlad.
Iaith hysbys mewn llŷs a llàn - unwaith fu! Iaith fawr Ewrob gyfan;
Iaith awenol - iaith anian-
Iaith a roes i bob iaith ran.
Mamiaith pedeiriaith dirion, —a chwaeriaith
Chwe ' ereill y'nt feirwon;
Ac iaith fyw heddyw yw hon,
Yn llaw Nêr a llenorion.
Ei seiliau grymus a helaeth, -ar holl
Oruwch adeiladaeth,
Sydd megys un cynllun caeth,
Ar anian ac athroniaeth.
|
|
|
|
x063
י
Iaith gref, fel gwàr y daran, --neu rwyiog
Fel yr awel egwan;
Iaith bêr ar gyfer y gân, -
Archangel gâr ei chynghan.
Canfu ddiwedd y cynfyd, —a diwedd
Daear a wêl hefyd;
E ' ga'i chaseion i gyd,
Oddef ei gwel'd mewn llwyddyd.
" MAE'R GWYNT YN OER. "
MAE'R gwynt yn oer, mae'r gwynt yn oer, Pa beth a ddaw o'r llwm anwydog?
Mae'r gwynt yn oer, ond nid mor oer A chalon llawer gwr goludog.
Mae'r eira'n dew, mae'r eira'n dew, Pa peth a ddaw o'r troednoeth grwydrad?
Mae'r eira'n dew, ond nid mor dew A'r peth sy'n cuddio'r fron ddideimlad.
Mor dyn mae'r rhew, mor dyn mae'r rhew, Yn cloi elfenau'r ddaear werddlas;
Mae'r clo yn dyn, ond nid mor dyn A'r clo sy'n cauad calon crinwas. *
Mor noeth a llwm, mor noeth a llwm Yw gwedd y maes, y berth, a'r goedwig; Ond
er mor llwm, nid y'nt mor llwm A'r dyn na fedd ond aur yn unig.
Daw'r haul o'r Dê, daw'r haul o'r Dê,
I adgyfodi bywyd anian;
Ae O na ddeuai gydag e ',
Y nerth gwyd ddyn o feddrod hunan!
* Crinwas - a Miser,
|
|
|
|
x064
AR rudd drom y Werydd draw, -er ys talm, Mae'r ' storm yn ymffurfiaw;
Ac uwch y tir llwydgoch daw,
Yn ei chwrlyd a churwlaw.
Y gwynt dig, i'w hynt, o'i ogo ', - nawr a gwyd: Mor gadarn mae ' n curo
Ei dabwrdd, wrth fyn'd heibio:
Rhû fawr hon syfrdana'r fro!
Daeth yr hwyr, ac i'r Dwyrain - iasog, oer,
Troes y gwynt teneufain;
Y nôs sy ' glir a mirain,
A sêr gwing, lon'd asur gain.
Sŵn y gwynt drwy'r nôs yn gwau — draw'n y wîg,
Dry'n oer ar ein clustiau;
A'r gŵyn ry ', drwy agena:
Dôr a mur, wna'n mawr drymhau.
Y boreu ddaeth i'r wybr ddur, -Y llwydrew
Sy'n llawndrwm ar natur:
Trwy hên ddwylaw try ' n ddolur, A'r hen goes ga ' i rhan o gur.
Draw mae Zero ' n drem sarug, —ar ei ael, Mewn mawr wg sai'r caddug;
Daw, ' n y boreu, ' n dwyn barug, Ac hwyr nawn, ag eira ' n hûg.
Mae rhew yn nhrem yr awyr: -ymrewi Mae yr awel bybyr:
Y rhew â heibio yr ebyr,
Clywir ei fod ' n eu cloi ar fyr.
Gwasgarwyd gwisg o eira - tros y tir, Trist iawn yw'r olygfa; Masnach bellach
a bwylla, A llaw celf yn fwy llac â.
|
|
|
|
x065
Ac weithian, fel y mae gwaetha - y modd,
Daeth i mewn fwy gwasgfa, -
Cêlwyd bîr - clöwyd bara,
Llawer un yn ngellau'r ià.
O, Dduw lôr! tro di, o Ddwyrain - y gwynt; Clyw gwyn ein rhai bychain:
Clyw eu badwyth - caua lydain Byrth y rhew, -gwel borthi y rhai'n.
' E gychwyna'r brongoch anwyl -- weithian, Tua throthwy'r breswyl:
Llwyd ei esgyll y dysgwyl, Yn ein dor, yn hynod wyl.
Ein Duw Ior, ti bia'r aderyn - bach, Sy'n môn y berth resyn! O! rho i hwnw '
i fan ronyn,
Mae ' n oer ei goes mewn eira gwyn.
Ni cheir ni ' r un chwerw nos - heb aelwyd, Nac heb wely diddos;
Ond ereill heb dŷ i aros,
Na màn i ffoi, ond mîn y ffôs!
Nyni gawn brofi ' n boreufwyd - hapus,
A'n swper, dan gronglwyd
Gynhes, heb rŷn nac anwyd: —ymsirioli A charoli o gylch yr aelwyd.
Ond ereill ga'dd yn dirion - eu magu,
Megys ninau ' n union,
Sy ' lwyd eu gwawr yr awr hon,
Yn nghyni pob anghenion.
Arnat, oludog, daw barn tlodi - ' n wir,
Oni wnei dosturi:
Cloi ' th saig bêr, cloi ' th seleri,
A chloi dy aur - gochel di!
|
|
|
|
x066
Ymochel ddweud mae achos - gwr ei hun,
Yw'r groes mae ' n ei ddangos;
Ni wyr neb, drwy'r haner nos Sy ' n awr, beth sy ' n ei aros.
Ni all dyn, er lledaenu - ei asgyll, Esgyn fawr i fynu; Rhaid iddo ef
gartrefu
Yn aml dan y cwmwl du,
Pa fodd y medrwn oddef - i wel'd neb
Yn dlawd, neu ' n ddigartref,
A doniau hael Duw o nef,
A'i nawdd, yn llou'd ein haddef.
O, Dduw anwyl! cofia, ' th hunan, -- am bawb
Yn mhob ing yn mhobman;
A rho i ninau ' r iawn anian, Gyfeirio ' i gwas i gofi'r gwan.
O, Dduw hael! dy addoli - yw'n dyled,
Wyt deilwng o fawrfri;
Bob dydd o newydd i ni,
Rhed ' stor dy fawr dosturi.
Y
PORTHLADD.
Ar lan y mor draw, mewn cymundeb a'r dref,
Lle tyrdda'r elfenau,
Lle cwyd yr hwylfenau
Eu blaenau pigfeinion yn goedwig i'r nef;
Lle, dros y gororau,
Yn hwyr ac yn forau,
Daw'r seinber hoi! hoian! yn llef ar ol llef,
Pa fan ydyw ef?
|
|
|
|
x067
Y Porthladd! y Porthladd! lle cwrdd heb nacâd, Breswylwyr pob hiusawdd,
masnachaeth pob gwlad, Lle ' medy cyfellion
( Gan ddagrau yn ddeillion )
A'u gilydd, nid mwyach i gael cydfwynhad; Lle ettyb y tonau,
I chwerwder calonau,
Brawd, Chwaer, Mam, a Thad.
THE DYING MAIDEN TO HER MOTHER.
MOTHER! MOTHER! I am going, In the springtide of the year; And the buds I now
see blowing, Shall be strewn upon my bier: Tell the gentle ones that love me,
That I cannot longer stay, For that angel - hands above me, Beckon me to come
away.
Hark! the birds are sweetly singing, That my death - dirge soon shall sing.
Hark! the bells are gaily ringing, That my death - knell soon shall ring:
See, the sun is brightly shining, He will shine upon my grave; Cold decay is
round me twining, Willows soon will o'er me wave.
Plant sweet flowers o'er me, MOTHER, When I'm laid beneath the sod; They will
smile at one another, When my spirit smiles with GOD: And when they are
blooming gaily, They will make thee think of me, And remind thee, MOTHER,
daily, That in heaven I hope for thee.
MOTHER, there is music stealing Soft and low around my head; Oh! the blissful
joy of feeling Peace upon a dying bed;
|
|
|
|
x068
:
I am going! I am going! In the springtide of the year; And the buds I now see
blooming, Shall be strewn upon my bier.
CYFIEITHAD O'R UNRHYW. MAM! O, MAM! ' rwyf fi yn myned, Yn y gwanwyn gwyrdd
ei wedd; Blagur wela'i ' n awr yn ysgwyd, Gant eu gwasgar ar fy medd: Gwedwch
wrth y sawl a'm carant, Nad wy'n aros ddim yn hwy: Codi'u dwylaw mae'r
angelion,
Arna'i ddyfod attynt hwy.
Clywch! mor beraidd cân yr adar, Gân fy marwnad i ʼn y man;
Clywch! mor llòn mae'r clych yn canu,
Fuan eilw'm corph i'r Llàn: Wele'r haul yn t'wynu'n ddisglaer, T'wyna ar fy
medd cyn hir: ' R wy'n dadfeilio, -troswy'n fuan, Chwyfia canghau'r helyg
hir.
Troswyf, MAM, ar ol fy nghladdu, Plenwch flodau heirdd eu lliw: Gwênant yno
ar ei gilydd,
Pan gwna f'ysbryd gyda'm Duw: A phant f'ont yn hardd flodeuo, Meddwl wnewch
am danaf fi; Hwy'ch hadgofiant ' mod i'n aros, Yn y nef, am danoch chwi.
MAM, mae miwsig mwyn a thyner, ' Nawr yn disgyn ar fy nghlyw: Oh! ' r fath
deimlad pêr a dedwydd Yw cael marw'n hedd fy Nuw. Wyf yn myned! wyf yn myned!
Yn y gwanwyn gwyrdd ei wedd: Blodau ' n awr sydd yn eu blagur, Gant eu
gwasgar ar fy medd.
|
|
|
|
x069
IAITH yw y cyfrwng trwy ba un yr ydym yn mynegi ac yn tros- glwyddo ein
syniadau a'n meddylddrychau i eraill; ac er fod iaith yn llinell wahaniaethol
fawr rhwng y greadigaeth resymol ac afresymol, etto nid hyhi yw yr un benaf
ac ardderchocaf ― gallu- oedd neu gyneddfau ymresymiadol dyn yw y gwir
deithi sydd yn ei dderchafu ef i raddau anrhaethol uwch na'r anifail yn
ngraddfa bodolaeth. Y mae NICANDER yn dywedyd yn rhywle fod dyn yn ymresymwr
o'i grud i'w fedd - mai effaith ymresymiad dileferydd y baban ᎩᎳ ei fod yn myned at fynwes ei fam i
ymofyn y fron, yn lle at fynwes ei dad. Ond dichon fod hon yn athrawiaeth na
oddef ymchwiliad athronyddol manwl i'w gwahanol gysylltiadau, heb i'w
phroffesydd orfod cyfarfod a llawer o anhawsder wrth geisio ei chysoni, a
phrofi ei dilysrwydd.. Ond i ddychwelyd at ein pwnc. Y mae iaith, neu y
cyfrwng drwy ba un yr ydym yn amlygu ein meddyliau, yn ddawn ag sydd, i
raddau mwy neu lai, yn feddianol gan bob creadur, mewn rhyw ffurf neu gilydd.
Yn y creadur afresymol, y mae yn ddawn reddfol, ond yn y dyn, yn wybodaeth
gyrhaeddiadol neu gasgliadol.
Y mae yr iaith ddynol, neu y cyfrwng drwy ba un y mae dyn yn amlygu ei
syniadau, yn ymranu i dair o ganghenau, sef yr ystumiol, yr ebychol, a'r
lafarol. Y mae y ddwy gyntaf, o ran eu cyfan- soddiad, yn perthyn yn
uniongyrchol i Natur; o ganlyniad yn per- thyn, o ran dim ag a wyddom ni yn
wahanol, i bob bôd organ- eiddiedig; ond nid yw yr olaf yn perthyn ond i fod
yn meddu galluoedd rhesymol yn unig. Y mae, fel ag y sylwasom yn barod, gan
rai, os nid gan bob aelod o'r greadigaeth afresymol, ddwy o ieithoedd drwy ba
rai y maent yn cyflwyno yr hysbysiaeth anghen- rheidiol y naill i'r llall; y
gyntaf, ac fe allai y benaf, o'r rhai hyn ydyw y leisiol, a'r ail ydyw y
gyffyrddiadol. Y mae y cî, y march, y mochyn, & c., yn feddianol ar y
ddwy iaith hon; a cheir enghraifft rymus a phrydferth iawn o'r iaith
gyffyrddiadol yn y wenwynen a'r morgrugyn, ac eraill o ddeiliaid y deyrnas
drychfilaidd. Ni wyddis ond ychydig am fywyd trigianyddion y dyfroedd
dyfynion; ond gellir dyfalu, oddiwrth eu symudiadau, fod ganddynt hwythau ryw
lwybr i gyflwyno rhyw gymaint o hysbysiaeth y naill i'r llall.
Ond testun ein olrheiniadaeth bresenol a fydd y iaith lefarol, neu eiriol; yr
hon yw cyfrwng hysbysiadol y bôd rhesymol o ddyn yn unig. Cynyrchiad iaith
sydd bwnc ag sydd wedi bod yn achos o gryn ddadleuaeth rhwng yr athronwyr
ieithyddol â'u gilydd. Myn rhai fod ADDA wedi derbyn y ddawn yn uniongyrchol
a digyfrwng oddiwrth ei GREAWDWR, ar adeg ei gread; tra y myn eraill mai dawn
gyrhaeddiadol a chynyddol ydyw. Ac os edrychwn i mewn i'r hanes ysbrydoledig,
cawn, yn mhlith yr amgylchiadau a gofnodir
F
|
|
|
|
x070
mewn cysylltiad à chreadigaeth dyn, neu yn ganlynol i hyny, rhai ffeithiau ag
sydd yn ffafriol i'r golygiad olaf. Yno y mae yr ysgrifenydd ysbrydoledig
wedi cofnodi, gyda gradd helaeth o fanylder, yr holl amgylchiadau
cyssylltiedig a chreadigaeth ADDA. Desgrifir y rhyddid, y doniau, a'r
rhagorfreintiau gyda pha rai y cynysgaeddwyd ac y bendithiwyd ADDA ac EFA a
hwy, yn eglur ac i helaethrwydd; ond nid ydym etto yn clywed son fod rhoddiad
iaith yn mhlith un o'r doniau a grybwyllir. Os rhodd uniongyrchol a digyfrwng
oddiwrth Dduw i ADDA oedd iaith, a hithau hefyd yn ddawn o gymaint pwys a
gwerth, yr ydym yn synu na byddai rhyw grybwylliad i'r perwyl hyny yn cael ei
roddi, yn mhlith ffeithiau ac amgylchiadau eraill yr hanes. Paham nas
cynysgaeddesid ni â rhyw frawddeg debyg i'r ganlynol: - " A'r ARGLWYDD
DDUW a roddes iaith i ADDA, " & c., os ei rhoddi hi a wnaethpwyd?
Paham y cof- nodir amgylchiadau, ffeithiau, a doniau eraill mor ffyddlawn,
a'r ddawn oruchel a gwir ddefnyddiol hon heb gymaint a son am dani, os yn ol
y ddamcaniaeth o roddiad uniongyrchol a digyfrwng y daeth ADDA yn feddianol
arni? Mae tystiolaethau amgylchiadol yr hanes yn awgrymu yn eglur, os nid yn
bendant hollol, na ddarfu i'n CREAWDWR roddi iaith i ADDA yn y ffurf lafarol,
wyddorol, neu gelfyddydol arni; eithr yn egwyddorol neu feddylddrychol - h.y.
rhoes iddo athrylith, crebwyll, ac amgyffredion ieithyddol, ―gallu
cyneddfol i ffurfio meddylddrych, a dirnadaeth athronyddol i roddi i'r
meddylddrych hwnw ddarluniad neu amlygiad seiniol, cydnaws, a chydweddol â
natur ac ag ansawdd gwrthddrychau anianyddol, ac a chynyrchion darfelydd,
myfyrdod, ac ymwybodolrwydd. Darfu i'r CREAWDWR roddi yr offerynau a'r celfi
anghenrheidiol a phriodol i ADDA at ei waith, gan ei adael ef i'w ddefnyddio
a'i ddwylaw ei hun, ac yn y modd ag y byddai i'w ddirnadaeth ei hun ei
gyfarwyddo Ymddengys oddiwrth yr hyn a ddywedir yn y 19eg adnod o'r 2ail
bennod o Genesis, fel pe buasai'r Athraw Mawr am ddwyn ei ys olor newydd o
dan fath o arholiad, er mwyn profi ei alluoedd a'i gym- hwysderau ieithyddol;
dywedir ddarfod i'r " ARGLWYDD DDUW lunio o'r ddaear holl fwystfilod y
maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac iddo eu dwyn at Adda, i weled pa enwau a
roddai efe iddynt hwy; a pha fodd bynag yr enwodd dyn bob peth byw, hyny fu
ei enw ef. " Yn awr, os oedd y CREAWDWR wedi rhoddi iaith gyflawn a
pharod yn meddwl ADDA yn ei greadigaeth, yr oedd enw pob creadur a phob peth
arall yn rhwym o fod yn gynwysedig ynddi; ac os felly, i ba beth yr oedd efe
etto yn dwyn yr holl greaduriaid at Adda, i weled pa enwau a roddai efe
arnynt, ac yntau wedi cael iaith orphenedig a chyflawn eisoes, a'r cyfryw
enwau a roddai efe ar y creaduriaid yn gynwysedig ynddi? Ac yn mhellach, mae
y frawddeg, " a pha fodd bgnag yr enwodd dyn bob peth byw, hyny fu ei
enw ef, " yn ein harwain i dybio nad oedd un " modd " penod-
|
|
|
|
x071
Ar goll
|
|
|
|
x072
Ar goll
|
|
|
|
x073
Ar goll
|
|
|
|
x074
Ar goll
|
|
|
|
x075
iddynt. Oblegid hyn y dywed HERMES ( 816 ), " Fod ystyr iaith wedi
deilliaw drwy gydundeb. " Nid oes dadl nad yw y ddamcan- iaeth hon o
arwyddion arbenig neu awdurdodol yn hollol ddealladwy ynddi ei hunan. Mae
arwydd - faneri llynges, ac ymsigladau nod- wyddau yn swyddfa'r gwefrebydd,
yn ddyledus am eu gwerth yn gyfangwbl i ddealldwriaeth, neu gydundeb
blaenorol; ond y mae yr eglurhad yn hollol anfoddhaol yn ei berthynas ag
iaith yn gyff- redinol, oblegid y mae yn anhawdd dyfalu fod un dyn yn feddianol
ar awdurdod digonol i orchymyn y fath ddeddfau gorfodol, nac, yn wir, i
wneuthur hyd yn nod ei ddymuniadau ei hun yn hysbys. A phe ychwanegem at hyn,
yr ystyriaeth o absenoldeb pob cysylltiad naturiol rhwng y sain arwyddocaol
a'r peth a arwyddoceir, ymddan- gosai y gorchwyl yn fwy anhawdd fyth i
gyrhaedd ac i gadw iaith a fyddai wedi ei chyfansoddi felly. Dylid gadael
damcaniaeth ynte ag sydd yn seilio cynyrchiad iaith ar yr haeriad o gydundeb,
i gyfranogi o dynghed damcaniaethau ereill cyffelyb, megys " Contrat
Social " ROUSSEAU, & c. Ar y llaw arall, addefir yn awr yn mron yn
gyffredinol fod rhyw gyfran o iaith o'r hyn leiaf, yn ddyledus am ei
tharddiad i efelychiad seiniau ag sydd yn dygwydd mewn natur. I mae su yr
awel - turf y môr - bref y ddafad - rhu y llew -rhoch y mochyn; cwcw, peewit,
y Whip - poor - will, y tuco - tuco, & c., yn rhyw engreifftiau syml ond
anwrthwynebol o'r ddeddf hon. Ac y mae yr un egwyddor genym yn cael ei
chynrychioli yn yr ymddyddan hwnw a fu rhwng dau berson mewn gwledd Chineaidd,
pan, fel ag y dywed y chwedl y ceisiodd ymwelydd Seisonig gael ychydig
hysbysiaeth gan ei gydwestydd Chineaidd yn nghylch natur y ddysglaid ag oedd
efe ar fyned i fwyta, drwy y geiriau ym- holiadol a ganlyn- " quack,
quack, eh? " pryd derbyniodd yr atebiad mwy dealladwy na derbyniol,
" bow - wow! " Ond os cyfaddefir fod yr efelychiad o seiniau yn
diwallu un rhan o iaith, byddai yn ormod o feiddgarwch i ni dybied fod yr
holl yn deilliaw o'r ffynonell hon. Nid am y dylid dysgwyl i ni allu olrhain
ystyr pob gair i fyny hyd at ei gyndad dychmygeiriol ( onomatopoetic ),
oblegid ceir fod geiriau yn cyfnewid ac ail drefnu eu hystyron yn ddiymbaid,
ac mae yr egwyddor o gymdeithasiaeth drwy ba un y mae hyn yn cael ei ddwyn
oddiamgylch, yn fynych iawn yn dra anhawdd i'w holrhain a'i chanlyn. Cymerwn,
er enghraifft, y gair " cymhwys; " y mae dau gyfnewidiad neu
ddulliad, wedi cymeryd lle ar y gair hwn. Ei ystyr gwreiddiol yw cyfartaledd
pwys - cyd - pwys; ei ail ystyr yw exactly, " fel hyny y bu hi yn
gymhwys; " ei drydydd ystyr yw cyfaddas, - " i'w gwneuthur yn
gymhwys i gael rhan o etifedd- iaeth y saint yn y goleuni. " Ond y mae
mwy o wyrdroad ystyrol wedi dygwydd yn y Saesnaeg, y Lladin, a'r Rywaeg, nag
sydd yn Gymraeg.
|
|
|
|
x076
Y GYMRAEG:
EI HENAFIAETH A'I GWREIDDIOLDEB.
WEDI siarad fel hyn am gynyrchiad iaith, awn rhagom i sylwi ar Henafiaeth a
Gwreiddioldeb yr Iaith Gymraeg. Mae yn ddiau fod y Gymraeg o henafiaeth mawr,
ac yn perthyn yn agos i'r ieithoedd gwreiddiol, llawer o ba rai yn awr sydd
wedi marw. Mae MAX MULLER, yn ei ddarlithiau dyddorol a dysgedig ar
wyddoniaeth iaith, yn profi, tu hwnt i bob amheuaeth a dadl, fod yr ieithoedd
Celtig a Sanscritaidd yn tarddu o'r unrhyw wreiddyn cyffredin. Mae efe yn
galw ein sylw at y gair " Duw, " yr hwn, fel y ceir gweled, sydd
bron yr un peth ag eiddo y Sanscrit. Wedi peth amser, darganfyddwyd fod, nid
yn unig elfenau gwreiddiol yr ieithoedd hyny a elwir yr Aryaidd a'r Indo -
Ewropeaidd nid yn unig eu rhifolion, rhagenwau, arddodiaid, a therfynau
gramadegol -nid yn unig geiriau teuluaidd, megis tâd, mam, brawd, merch. gwr,
brawd - yn - nghyfraith, buwch, ci, ceffyl, daoedd, pren, ŷch, grawn,
melin, daear, awyr, dwfr, sêr, a llawer o ganoedd yn ychwaneg, yn mron, yn
gwbl yr un peth, ond eu bod hefyd yn feddianol ar elfenau geirweddiad
chwedloniaethol, yn arddangos ôlion amlwg o'r un gwreiddyn cyffredin.
Mae MAX MULLER yn ymdrechu gwneud hyn yn eglur drwy, o'r hyn lleiaf, un
enghraifft, ac yn dethol tuag at hyny yr enw mwyaf pwysig yn nghrefydd a
chwedloniaeth y cenedloedd Aryaidd, sef yr enw Zeus - duw y duwiau ( theos
theon ), fel y geilw PLATO ef. Gadewch i ni yn gyntaf, medd MAX MULLER,
ystyried y ffaith, yr hon nis gellir ei hameu, yr hon hefyd, os iawn
werthfawrogir hi, a deimlir ei bod yn orlawn o wersi mwyaf tarawiadol ac
addysgiadol hynafiaeth, y ffaith wyf yn feddwl yw, fod Zeus, yr enw mwyaf
cysegredig yn y chwedloniaeth Roegawl, yn gwbl yr un gair a Dyaus yn y
Sanscrit, Jovis neu Ju yn Jupiter yn y Lladinaeg, Tiw yn yr Anglo - Saxonaeg
yn gadwedig yn yr enwau Tiwsday, Tues- day, sef dydd y duw Edaidd Tŷr;
Zio, yn yr Uchalmaenaeg. Ffurfiwyd y gair hwn unwaith, ac unwaith yn unig. Ni
fenthyc- iwyd ef gan y Groegiaid oddiar yr Hindwaeg; na chan y Rhufein- iaid
na'r Ellmyn oddiar y Groegiaid. Yr oedd yn rhwym o fod yn bodoli cyn fod yr
achau cyntefig hyn wedi ymwahanu mewn iaith a chrefydd cyn iddynt adael eu
pawrleoedd cydfwynhaol, i ymfudo ar y dehau ac ar yr aswy nes i glwydeni eu
corlanau dyfi yn furiau dinasoedd mawrion y byd. I gynwysiad y gair parchus
hwn, ynte, y gallwn edrych am rai o syniadau crefyddol boreuaf ein
hiliogaeth, wedi eu mynegu a'u creirgadw rhwng muriau didrancadwy ychydig o
lythyrenau syml. Beth oedd ystyr Dyu yn y Sanscritaeg? Pa fodd y defnyddir
ef? Pa beth oedd y gwreiddair yr hwn a allwyd ei orfodi i gyrhaedd
gorawyddion uchelaf y meddwl dynol? Buasai
|
|
|
|
x077
TYNGHED YR IAITH GYMRAEG.
(x77) yn anhawdd iawn i ni olrhain ystyr gwreiddiol neu honiadol Zeus yn y
Rywaeg; ond y mae dyaus yn y Sanscritaeg yn adrodd ei hanes ei hun. Y mae yn
tarddu o’r un gwreiddyn ag sydd yn cynyrchu y ferf dyut, ystyr yr hon yw
pelydru neu dywynu. Gallai gwreiddair o ystyr mor gyfoethog ac ëang ag ydyw
hwn, fod yn gymhwysiadol at amryw feddylddrychau: gellid dywedyd am y wawr,
am yr haul, yr awyr, y dydd, y sêr, y llygaid, yr eigion, a’r ddôl, eu bod yn
ddysglaer, tywynol, gwênol, blodeuog, dysglaer; ond yr iaith arferol a
sefydlog India, y mae dyu, fel enw, yn arwyddo awyr a dydd. Cyn i hymnau
henafol y Veda ddadlenu i ni ffurfiau cynaraf yr iaith a’r meddwl Indiaidd,
o’r braidd y cydnabyddid y gair dyu fel enw duw Indiaidd, - ond yn unig fel
yn fenywaidd, ac fel y term adwaenedig am awyr.
Er fod yr enw uchod agos yr un ffurf yn mhob iaith, ac yn eiddo pob iaith,
megis: eto mae yn rhaid fod y gwreiddyn oddiar ba un y tarddodd yn aros yn
mysg rhyw un iaith yn rhywle; nis gall pob un o’r ieithoedd uchod fod yn
berchen ar ei wreiddyn. Yn awr, yr iaith hono yn mha un y gallwn olrhain
ystyr ei wreiddair heb drais na gorfodaeth a ddylai gael ei ystyried a’r hawl
fwyaf cyflawn iddo. Nid yw y drychfeddwl a gysylltir â’r enw dyaus yn y
Sanscritaeg yn cynwys mwy o briodoldeb darluniadol o’r gwrthddrych a
gynrychiola na’r enw Cymreig Duw. Os ystyr y gair Dyaus yw pelydru, tywynu,
mae ystyr y gair Duw yn fwy athronyddol, cynwysfawr, a pherffeithiach fyth. Y
mae w yn nherfyniad amryw o wreiddeiriau Cymreig yn gwrthdroi ystyr dosran
ddechreuol y gair; megys gwêdd-w, h.y., sefyllfa groes i fod dan y wedd neu’r
iou briodasol: heb fod dan y wedd - gweddw (widow.). Marw - mar-w; ystyr mar
yw bywiog, megys yn y ddaear a enwir marl, a marlbêl (marble). Mar-w, ynte,
yw sefyllfa hollol groes i sefyllfa fywiog. Ystyr y gair Du-w, gan hyny, yw
peth neu sefyllfa hollol groes i dywyllwch (Du). Du-w - h.y., goleuni. Mae yr
enw Cymreig ar Dduw yn myned yn mhellach yn ei ystyr na’r enw Dyaus yn y
Sanscritaeg, o gymaint ag y mae achos yn myned y tu hwnt i effaith: pelydru,
tywynnu, yw ei ystyr yn y Sanscritaeg, ond goleuni yw ei ystyr yn y Gymraeg.
Nid yw pelydru, tywynu, ond effaith rhyw achos; a’r achos hwnw yw goleuni; a
goleuni yw ystyr y gair Duw.
TYNGHED YR IAITH GYMRAEG, YN OL BARN Y SAESON.
UN ffaith fawr ac anwadadwy am yr hen iaith Gymreig yw ei bod yn ymluosogi yn
fawr ar lyfrau, eithr yn anamlhau ar dafodau. Pa beth yw ei sefyllfa tua
chymydogaeth calon y genedl nid yw mor eglur,
|
|
|
|
x078
(x78) oddieithr i ni allu barnu oddiwrth frawddeg hono sydd yn tystio mai “o
helaethrwydd y galon y mae y gemau yn llefaru.” Gan nad ydym mewn un modd am
dristâu na chythryblu calon ein ieithgarwyr, nac am ddirgymhell ein opiniwn,
ein credo, nac ein athroniaeth arnynt, ond cyn belled ac y byddent yn
cydweled a chydamgyffred pethau eu hunain; yr unig gymwynasgarwch ag ydym yn
ei ddysgwyl oddiar eu dwylaw yw fod iddynt gydnabod a derbyn y gwirionedd,
gan nad o ba gyfeiriad bynag y delo.
Yr ydym yn awr yn cynyg i’w sylw ac i’w hystyriaeth farn a thystiolaeth gwr o
genedl arall, ac mae y syniadau a gynwysir ynddynt yn ffafriol hynod i’r hen
iaith; a dyma fel y dywed y Saxon:
- “Mae yr iaith Gymreig yn awr mewn sefyllfa dra blodeuog. Darfu i dynghed ei
chymdoges, y Gernywaeg, yr hen a fu farw drwy esgeulusdod, arwain rhai i
dybio y buasai y Gymraeg yn diflanu o herwydd yr un achos; ac yn wir, darfu i
Mr. WYNN, llywydd y Gymdeithas Asiaidd, yr hwn oedd Gymro ei hunan, -gyfeirio
at ddadfeiliad graddol yr iaith Gymreig, fel prawf o effeithiolrwydd y
gyfundraeth anymyrol yn y cyfryw achosion, mewn dadleuaeth ar y pwnc o ddwyn
yr iaith Seisonig i fewn yn lle rhai o ieithoedd brodorol yr India. Er ys mwy
na chanrif yn ol, crybwyllodd GORONWY OWAIN, yn un o’i lythyron (argraffedig
yn y Cambrian Register), ddarfod mewn dadl ar yr iaith Gymreig gyda Chymro
arall, i OWEN, cyfieithydd y Juvenal i’r Saesonaeg, - yr impyn drygionus -
ddywedyd, a hyny gyda gwawr o foddlonrwydd, nad oedd dim yn yr iaith yn werth
ei ddarllen, a’i fod ef yn sicr fod yr iaith Saxonig yn enill tir arni, ac
nad oedd ynddo yr amheuaeth lleiaf na buasi wedi llwyr ddiflanu cyn pen can
mlynedd. Ond mae digwyddiadau yr amser sydd wedi myned heibio wedi profi fod
Mr. OWEN wedi carmsynied! ‘Oblegid er ys mwy na deg canrif,’ medd y Parch W.
J. REES, mewn anerchiad a draddodwyd yn 1821 ar ffurfiad y Gymdeithas
Gymreigyddol yn Ngwent, ‘oddiar deyrnasiad Offa, yr hwn a wnaeth ei glawdd
enwog hwnw er atal ymgyrchoedd y Cymry i’w diriogaethau, nid yw yr iaith
Gymreig wedi encilio ond ychydig mewn cymhariaeth oddifewn i’r terfyn, yn
neillduol felly mewn rhai parthau yn Ngogledd Cymru: ond mewn rhandiroedd
ereill, pan ystyrir y cyfwng hir o amser sydd oddiar fuddugoliaeth IORWERTH Y
CYNTAF hyd yn awr, a’r cydgorfforiad agos hwnw gan HARRI Y CYNTAF yn nghyd
a’r gefnogaeth fawr a roddwyd i gyrhaedd gwybodath o’r iaith Saesonig, y mae
yr olaf wedi enill llai o dir nag a allesid yn rhesymol ddysgwyl. Y mae y
Sais, pan y mae yn ymdeithio ar hyd heolydd cyhoeddus y dywysogaeth, yn
fynych yn cyfarfod a phersonau sydd yn siarad y Saesonaeg; a’r rhai hyny
hefyd ag y mae ganddo achos i’w cyfarch ar hyd y gwestai, y maent hwythau yn
alluog, yr un modd, i’w ateb yn y Saesonaeg; ac y mae y boneddigion y mae yn
ymweled a hwy yn
|
|
|
|
x079
(x79) siared {sic} Saesonaeg; a’r rhai hyny ag sydd yn galw gyda y cyfryw rai
yn siarad yr unrhyw iaith yn ei glywedigaeth; ac oddiwrth rhy’w ffeithiau
eiddil fel hyn ag sydd yn dyfod i’w wybodaeth, y mae yn cyfeiliornus gasglu
mai y Saesonaeg yw iaith ffynianol yr holl wlad. Nid oes neb ond yr hwn ag
sydd wedi preswylio yn hir yn rhanau mewnol y wlad, a chael ymdrafodaeth a’r
bobl gyffredin, a all ffurfio unrhyw farn tebyg i fod yn gywir am helaethder
yr iaith Gymreig, ac fe gyfaddefa y rhan fwyaf o bobl wirionedd yr haeriad,
mai y Gymraeg yw unig dafodiaith fyw, nid yn unig miloedd, ond degau o
filoedd, ie, rhai canoedd o filoedd o drigolion y dywysogaeth.”
(Cambro-Briton, vol. iii., p. 229).
Nid yn unig y mae yn dal ei thir yn yr Hen Fyd, ond y mae hefyd wedi ymfudo
i’r Newydd. Yr oedd MACLEOD, yn ei ragymadrodd i’w Leabhar nan Cnoc, yn
ymorfoleddu yn y gobaith, os oedd y Gaelaeg wedi ei thyngedu i farw yn yr
Ucheldiroedd, y byddai iddi groesi i’r ochr draw yr Atlantig, yn nhafodiaith
fyw llawer mwy nag a’i siaradodd erioed yn Ewrop. Yr oedd CARNHUANAWC yn
gorfoleddu ac yn ymffrostio yn gyffelyb, - ei fod wedi derbyn o’r Amerig rhai
rifynau o’r cyhoeddiad hwnw a elwir Cyfaill yr Hen Wlad. Ond pe buasai byw
heddyw, pa faint mwy fyddai ei orfoledd a’i ymffrost? oblegid y mae yn hysbys
mai nid Cyfaill yr Hen Wlad yw yr unig gylchgrawn Cymreig a gyhoeddir yn
Amerig. Y mae y cynydd hwn yn myned rhagddo yn barhaus. Mewn hanes am y Wasg
yn yr Unol Daleithiau, am y flwyddyn 1861, crybwyllir fod pump newyddiadur
Cymreig yn cael eu cyhoeddi yn y wlad hono - amgylchiad ag a ddichon arwain
rhyw hanesydd Celtig dyfodol i gasglu gwirionedd y grediniaeth, yr hon a
ddelir mor gadarn gan rhai Cymry, fod yr iaith wedi blodeuo ar Gyfandir
Amerig er dyddiau MADOG. Ac ar yr un pryd, ceir fod Llenyddiaeth a Gwasg
Gyfnodol Cymru ei hunan yn cynyddu yn flynyddol; tra yn y rhifyn cyntaf
erioed a ymddangosodd o gyhoeddiad Cymreig, nid mwy nag haner can mlynedd yn
ol, yr awgrymid mai o’r braidd y buasai yr iaith yn goroesi y genedlaeth
hono. Mae yr Eisteddfodau, ag oedd gynt yn dra anaml, yn awr yn lluosog, ac
yn myned yn fwy fwy poblogaidd. Mae y galwad am esgobion a ddeallent yr iaith
Gymreig wedi bod yn ddigon croch a grymus i orfodi sylw y Cyfringynghor
Seisonig. Ar y foment bresonol, nid yw’r uchelgais gwladgarol hwnw ag sydd
mor fynych ar eneuau y Cymry, ‘Oes y byd i’r Iaith Gymreig,’ yn ymddangos ond
mewn perygl bychan am anghyflawniad.”
Yn awr, anwyl ddarllenwyr, dyna farn y Sais am dynghed yr iaith Gymreig.
Profwch chwithau, ynte, bob peth, a deliwch ar yr hyn sydd dda.
|
|
|
|
x080
The Spirit has no Rest till it Returns to God.
WATER parted from the sea,
Bathing the valley and the hill, Though in the river it may stray,
Though in the sparkling fountains play, Will murmur still,
And still complain,
Till to the sea returned again;
The sea from which it rose,
The sea its native bed,
And where, by thousand mazes led,
Again it seeks repose.
DWR, ar wahân oddiwrth y môr,
Yn mwydo'r glyn a'r mynydd draw,
Er crwydro yn yr afon hir,
Er chwareu yn y ffynon glir, Efe ni thaw
A'i gwynus lef,
Hyd nes i'r môr y dychwel ef;
Y môr - o'r hwn y daeth,
Y môr - o'r hwn mae'n rhan,
Yw'r lle, ' nol myrdd o droion maith, Gais etto ' n orphwys fan.
&&
DESERVE
BY ELIZA Cook.
IT. "
NE'ER drop your head upon your hand,
And wail the better times;
The self - same bell
That tolls a knell,
Can ring out merry chimes.
|
|
|
|
x081
And we have still the elements That made up fame of old; The wealth to prize
Within us lies,
And not in senseless gold.
Yes, there exists a certain plan,
If
you will but observe it
That opes success to every man
The secret is — DESERVE IT.
What use to stand by fortune's hill,
And idly sigh and mope?
Its sides are rough,
And steep enough,
' Tis true; but if you hope To battle ' gainst impediments
That rudely stop your way, Go boldly to ' t,
Strike at the root.
You'll surely gain the day. Prate not about new - fangled plans; Mine's best,
if you'll observe it;
I say success is any man's,
If he will but DESETVE IT.
HOMER and MILTON reigned supreme,
With SHAKSPERE, worthy band!
And HOWARD's name,
And HARVEY'S claim,
Are sung throughout the land;
And MARLBOROUGH and WELLINGTON.
Illustrious stand in fight;
And NEWTON gleams
Amid the beams
Of an undying light!
|
|
|
|
x082
What did they do to gain a name? What did they to preserve it
With an untarnish'd, deathless fame? They simply did DESERVE IT.
And thus may you, and you, and you, From depths the most profound, Your
wishes teach
Success to reach
Up to the topmost round.
But if from some unreckon'd cause- Say, markets o'erstock'd- Your hoped - for
spoil
Pay others ' toil,
Think not your efforts mock'd. If fortune's smile so faintly beam, That you
can scarce preserve it, Remember there is ONE above Who knows that you
DESERVE IT.
HAEDDU.
( LLED - GYFIEITHAD O'R PENILLION BLAENOROL. )
Na wyla uwch “ amseroedd gwell, "
Na fydded drist dy fron;
' R un gloch ag sydd
Yn clulio ' n brudd,
All chwareu cynghan lon: Mae ynom ni ' r elfenau ' nawr,
Wnaeth bob enwogrwydd gynt; Gwir gyfoeth clau,
O'n mewn y mae,
Ac nid mewn punt ar bunt.
Oes, mae un cynllun, ond ei wneyd,
Sy'n sicr o'th dderchafu
I binacl llwydd a dyna yw
' R dirgelwch - dim ond HAEDDU.
|
|
|
|
x083
Pa les, wrth odreu mynydd ffawd, Yw oedi, ' n llesg a llwyd? Gwir fod ei
gerth
Ystlysau ' n serth;
Ond, os gobeithio ' r wyd
Orchfygu'r rhwystrau sydd o'th flaen, Dos ati ' n llawn o ffydd,
Gwna'th waith o dde ',
A tharo i dre;
Wyt siwr o gario'r dydd.
Gad fan - gynlluniau pawb ar ol,
Fy nghynllun i sy'n talu:
' Rwy'n dweyd fod llwydd yn eiddo pob
Rhyw ddyn, os myn ei HAEDDU.
Mae LLYWARCH HEN ac IFOR HAEL,
AC ARTHUR gyda hwy, TALIESIN goeth
A CHATWG Ddoeth,
A'u henwau'n glodus mwy;
CARADAWG hyf, LLEWELYN ddewr, Enwocaf feib y gâd,
A GWYN AB Nudd,
Yn t'wynu sydd
Fel sêr yn mrut eu gwlad:
Beth wnaethant hwy i enill hyn?
Beth wnaethant wedi hyny,
I gario ' u henwau mawr yn mlaen?
Dim, ond yn unig HAEDDU.
Fel hyn gall pawb dderchafu ' r lan,
O'r safle isaf sydd,
O lwydd i lwydd,
O swydd i swydd,
I gylchoedd uwcha ' r dydd:
|
|
|
|
x084
Ond os trwy'r hyn nas gwyddost ti, Try'th ddysgwyliadau'n siom, A cholli'th
nôd,
Na thybia fod
Dy dynghed etto'n drom:
Ac os yw gwenau ffawd mor wan, Fel braidd mae dal i fyny;
O, cofia fyth fod UN uwch ben, A wyr dy fod yn HAEDDU.
Yr Hen Flwyddyn a'r Newydd.
Yr hen flwydd o'i swydd ys aeth — ac, wele, Galwyd gan Ragluniaeth
Y newydd un - hono ddaeth
Y nôs hon i'w gwasanaeth.
Cerddodd y ddwy, nes c'wrddyd — a'u gilydd,
Ar geulan bytholfyd;
Rhanu yno'r un enyd;
Wnai'r ddwy fawr yn rhyw ddau fyd!
Yr hên a aeth o'n daear ni - i'r llys Draw'r llen, i roi'n cyfri;
O Dduw Dad! beth a ddwed hi, Yn y farn, mi - pan ferni?
I ni - y flwyddyn newydd — a fyddo'n Etifeddiaeth ddedwydd;
Ac hon fo'n dyst o'n cynydd - mewn gras a dawn, A bywyd uniawn, a phob
dywenydd.
NEF AC UFFERN.
Y nef wen ac uffern fawr - onid yn't
Mewn dwy wrthegwyddawr? Nef - mewn santeiddrwydd, sy'n ' n awr; Uffern - mewn
pechod praffwawr,
|
|
|
|
x085
DYNGAR WCH.
( PHILANTHROPY. )
Cyn bod haul, na lloer, na sêr, Dyngarwch bêr dan goron,
Ar orsedd aur y nefoedd wen, Eisteddai ' n ben fel banon; Nef - luoedd oddi
ger ei bron, I'r ddaear hon a ddeuynt: " Tangnefedd ac ewyllys da "
I ddynion a ddadgenynt.
O nefol ddawn! O ddwyfol rin, Llif dros dy fin dangnefedd; Trig yn dy law bob
haeledd llon, Ac yn dy fron drugaredd; Ti ymgeleddi ' r tlawd a'r llwm A'r
hwn sy ' drwm gan drallod; I'r caeth ar gorthrymedig prudd, Cyhoeddi ddydd
gollyngdod. Tydi sy'n creu'r Ysgolion Rhad, I ddysgu gwlad o dlodion; Tydi
sy'n anfon Biblau draw I law'r Paganiaid duon; Wyt fam i'r Cymdeithasau gyd,
Sy'n siglo crud haelioni— Sy'n darpar cysur, hedd a hoen, Ar gyfer poen a
thlodi.
Dy haelgar blant o dan dy wên, Oedd LLYWARCH HEN alluog, AC IFOR HAEL, -fe '
u cofir hwy Tra rhed yr Wy ddoleuog; Dy blant o hyd fo'n amlhau, A'th
Gymdeithasau haelion, Ymdaenont drwy bob bryn a bro, Fel byddo dedwydd
dynion.
H
|
|
|
|
x086
LLENYDDIAETH Y BIBL.
WRTH lenyddiaeth y golygir pob math a rhyw o gyfansoddiadau, ar- graffedig
neu ysgrifenedig, hen a diweddar. Y mae gan bob cenedl wareiddiedig ei
llenyddiaeth, yn gwahaniaethu cryn lawer, oddiwrth eu gilydd yn eu hansawdd,
eu heangder, eu cynwysiad, a'u gwerth. Bernir mai gan China, India, Persia,
Rwssia, Germani, Ffrainc, Lloegr, ac America, y mae y llenyddiaethau prif ac
arweiniol; ac fe allai, mai gan y genedl fawr Sacsonaidd y mae yr un eangaf
ei chylch, sylweddolaf ei chynwysiad, a mwyaf ei hamrywiaeth; dichon fod
eiddo yr Almaen, neu Germani, yn gyfartal, os nid yn rhagori, yn nyfnder,
gwreiddioldeb, a beiddgarwch ei hathroniaeth dduwin- yddol; ac eiddo y
cenedloedd Celtig yn rhagori mewn urddas a gogoniant henafol; ac fe allai mai
gan y ganghen hono o'r genedl Geltig, a elwir y Cymry, y mae y lenyddiaeth
henaf, buraf, a mwyaf dihalog o holl genedloed y ddaear. Ond er mor helaeth
eu cynwysiad ac uchel eu nodwedd yw llawer o lenyddiaethau, y mae
llenyddiaeth y Bibl yn rhagori o ddigon yn mhwysigrwydd ei gwir- ioneddau,
mawredd ei dadguddiedigaethau, anffaeledigrwydd ei hawduraeth, eangder ac
amrywiaeth ei chysylltiadau, purdeb, gor- ucheledd ac ysprydolrwydd ei
hathrawiaethau.
Fe allai y gellir cyfleu holl lenyddiaeth y Bibl o fewn cylch y gwahanol
wyddorau a ganlyn: sef, Hanesyddiaeth, Achyddiaeth, Gwleidiadaeth,
Deddfwriaeth, Proffwydoliaeth, Barddoniaeth, Ar- eithyddiaeth, Uchanianiaeth,
Meddylddysg, Rhesymaeg, Moesoldeb, a Dwyfoliaeth. Mae yn wir nad yw y
gwahanol wyddorau a enwyd wedi eu casglu at eu gilydd i sefyllfa ddosparthus,
rheolaidd, a chyfundrefnol, hyny yw, i agwedd a ffurf wyddorol gyflawn; ond
er hyny y mae egwyddorion neu brif elfenau cyfansoddiadol y cyfryw wyddorion
wedi cael eu gwasgar yma a thraw, megys yn ddygwyddiadol, ar hyd meusydd
ffrwythlawn llenyddiaeth gysegr- edig y Bibl.
1. Pwysigrwydd Gwirioneddau y Bibl. - Mae y gwirioneddau a gyflywnir i'n sylw
gan Athroniaeth Naturiol, mewn gwyddor a chelfyddyd, yn bwysig ac yn
werthfawr, oblegid eu perthynas uniongyrchol â bywyd ymarferol, ac â
gwrteithiad meddyliol y dyn; ond y mae cyfnod eu goruchwyliaethau hwy yn
gyfyngedig i amser, a chylch eu hymarferiadau yn gyfyngedig i'r byd hwn yn
unig. Ond mae gwirioneddau y Bibl yn amgylchu yr hyn sydd amserol a
thragwyddol, ysbrydol a dwyfol; ac mae eu pwysigrwydd yn cyfodi oddiar natur
y cyflyrau a'r sefyllfaoedd y maent yn ym- drin a hwy ac yn eu dwyn ger bron
ein llygaid; a chymaint ag yw pwysigrwydd ein cysylltiadau ysbrydol yn
rhagori ar eiddo ein cysylltiadau naturiol, a'r tragwyddol ar eiddo yr
amserol, y mae pwysigrwydd gwirioneddau y Bibl yn rhagori ar eiddo
athroniaeth a gwyddor. Rhyw adeiladau anorphenedig yw holl wyddorau a
|
|
|
|
x087
darganfyddiadau yr athrylith anysbrydoledig: nid oes yr un wyddor ddynol heb
fod rhyw appendages damcaniaethol yn ym- hongian wrthi - rhyw dywyllwch, rhyw
amheuaeth, a rhyw an- orphenedd yn ei nodweddu. Nid felly girioneddau syml,
mawrion, a chyrhaeddbell y Bibl Y maent hwy oll yn ffeithiau pwysig, pa rai
sydd wedi eu sylweddoli yn y gorphenol, yn cael eu sylweddoli yn y presenol,
neu i'w sylweddoli yn y dyfodol pryderus a phwysig sydd o'u blaenau.
2. Anffaeledigrwydd Awduraeth y Bibl. - Nid anfynych y ceir fod athroniaeth,
neu o leiaf athronwyr, yn gwrthddywedyd eu gilydd: yr Asceniaid fel hyn, y
Pythagoriaid fel arall; ZENO fel hyn, PLATO fel arall; SOCRATES fel hyn,
EPICURIUS fel arall; LOCKE, HOWE, a PALEY fel hyn, HOBBES, DESCARTES, a
WHATLEY, fe ddichon, fel arall. Ond pwy erioed a gafodd allan fod IOAN Y
DIFEINYDD yn erbyn DANIEL, neu DANIEL yn erbyn EZEKIEL, neu yr Epistolau yn
erbyn y Psalmau, neu y Psalmau yn erbyn y Prophwydi, neu y Prophwydi yn erbyn
MOSES, neu MOSES yn erbyn CRIST? Na, yr oedd meddwl, gan nad beth am dafod ac
ysgrifell, yr holl awduron Biblaidd, yn ymsymud o dan gyfarwyddiad
anffaeledig yr un Ysbryd- oliaeth Ddwyfol.
3. Mawredd Dadguddiedigaethau y Bibl. - Nid oedd dadguddiad nerth yr ager -
buander a gwasanaethgarwch y fellten - ystorfeydd y bryniau - rhyfeddodau
daeareg - holl alluoedd celf, gwyddor, a gwareiddiad, yn ddim at
ddadguddiedigaethau y Bibl. Mae y cwbl yn suddo i ddinodeb tragwyddol yn ymyl
ei ddadguddiedig- aethan ef; megys - Cwymp dyn drwy bechod - ei adferiad drwy
râs - adgyfodiad y corff - anfarwoldeb yr enaid - bodolaeth ysbrydol -dydd
barn - cospedigaeth, bywyd, dedwyddwch, a gogoniant tragwyddol - Trindod o
Bersonau yn yr un Hanfod Ddwyfol - ac ymddangosiad Duw yn y cnawd. Na, y mae
y gwirioneddau hyn yn gyfryw ddirgeledigaethau ag nas gallasai llinynau hiraf
y rheswm ddynol byth gyrhaedd eu gwaelodion anrheiddiadwy.
4. Eangder ac Amrywiaeth ei Gysylltiadau. - Pa lyfr, heblaw y Bibl, sydd yn
dwyn cysylltiad â phob dyn, yn mob man, a phob amser? Pa lyfr sydd yn
cyfatteb dyn yn mhob sefyllfa, cyflwr, ac amgylchiad fel y Bibl? Mewn gair,
mae y Bibl yn dwyn cysylltiad â holl gylch bodalaeth faterol, foesol, ac
ysbrydol y cyfanfyd mawr, -corff, enaid, ysbryd - dyn, angel, Duw - daear,
nefoedd, uffern- amser a thragwyddoldeb.
5. Purdeb, Gorucheledd, ac Ysbrydolrwydd ei Athrawiaethau.- Nid oes un
llenyddiaeth yn y byd yn cynwys moeswersi mor bur— cynghorion mor ddoeth -
rhybuddion mor ddwys - ac addewidion mor werthfawr, ag eiddo y Bibl. Amcan
fawr llenyddiaeth foesol ac ysbrydol y Bibl yw gwella, adffurfio, a
pherffeithio y ddynol- iaeth; ac ailwisgo yr enaid mewn prydferthwch,
gwybodaeth, cyf-
|
|
|
|
x088
iawnder, a santeiddrwydd, a'i wneuthur yn gymhwys i gael rhan o etifeddiaeth
y saint yn y goleuni; ac i sefydlu ar y ddaear hefyd deyrnas cyfiawnder a
barn; heddwch a rhyddid; trugaredd a gras; cymwynasgarwch, cydymdeimlad,
undeb, a chydweithrediad; gogoniant Duw, a dedwyddwch pob dyn. Ond hyn sydd
yn gwneuthur llenyddiaeth y Bibl yn wahanol i bob lleynyddiaeth arall yw fod
ynddi allu i gynyrchu yn y meddwl yr hyn y mae yn ei ddysgu, ei anog, a'i
gymhell arnom. " Cyfraith yr ARGLWYDD sydd berffaith, yn troi yr enaid.
" " Yr holl ysgrythyr sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac
sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi, mewn
cyfiawnder. " " Fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei
berffeithio yn mhob gweithred dda. " Ni fedr athrawiaethau cenedloedd,
gorchymynion brenin- oedd ac ymerawdwyr, deddfau na chyfreithiau, na holl
sefydliadau gwareiddiad yn nghyd, wneuthur dim rhagor nag ofni ac attal, a
phrydferthu ychydig ar yr olwg allanol; ond y mae Gair Duw yn medru myned at
wraidd y drwg, hyd waelod y clwy; gan newid egwyddorion ac anianau, a
gwneuthur pob peth o newydd. Yn wir, y mae y Bibl yn gyfrol o gynwysiad
anghydmarol, ac yn un ag y mae yn annichonadwy i ni ei hefrydu yn ormodol,
na'i pharchu yn rhy fawr. Nid oes yr un llyfr arall y gellir ymorphwys ar ei
wirioneddau wrth farw ond y Bibl yn unig. Y mae ganddo DDUW yn Awdwr iddo -
Iachawdwriaeth yn ddyben - Gwirionedd, heb gymysgedd o gyfeiliornad, yn
fater: y mae oll yn ddiragrith, heb ddim yn ormod, na dim yn eisiau.
Medd GILFILLAN: - " The Bible is a mass of beautiful figures; its words
and its thoughts are alike poetical; it has gathered around its central
truths, all beauty and interest; it is a temple with one altar and one Gop,
but illuminated by a thousand varied lights, and studded with a thousand
ornaments. "
Medd Sir WILLIAM JONES: - " I have carefully and regularly perused these
Holy Scriptures, and am of opinion that the volume, independent of its divine
origin, contains more sublimity, more important history, and finer strains of
eloquence than can be col- lected from all other books, in whatever language
they may have been written. "
-
Medd CARLYLE: - - " I call the Book of Job, apart from all theories
about it, one of the grandest things ever written with pen: there is nothing
written, I think, in the Bible or out of it, of equal literary merit. ”
Medd MILTON: -
-
" There are no songs comparable to the songs of Zion; no orations equal
to those of the Prophets; and no politics like those which the Bible teach.
"
Diweddwn yn awr gyda dyfynu geiriau un awdwr enwog arall: — " The Bible
is the light of my understanding; the joy of my heart;
|
|
|
|
x089
the fulness of my hope; the clarifier of my affections; the mirror of my
thoughts; the consoler of my sorrows; the guide of my soul through this
gloomy labyrinth of time; the telescope sent from heaven to reveal to the eye
of man the amazing glories of the far distant world. Every promise in it
invites me to heaven; every precept commands, every warning alarms, against
the danger of its eternal loss. Prize the Word of God by the worth of it,
that you may not come to prize it by the want of it. " — DYER.
DIAREBION.
" NID OES NEB CYN DLOTTED A'R HWN SYDD YN MEDDU ARIAN
YN UNIG. "
DICHON y bydd ambell un yn barod i ofyn, a hyny gyda gradd fawr o syndod, pa
fodd y gall yr hwn sydd yn meddu arian fod, hyd y nod yn dlawd, chwaethach yn
dlottach na neb arall - ei fod ef yn arfer tybio fod meddu digon o arian yn
gyfystyr â meddu pob rhyw fwynhad ag a all y byd a'r bywyd hwn ei gynyrchu.
Ond, os sylwir yn fanwl, nid yw y ddiareb yn dywedyd fod yr hwn sydd yn meddu
arian yn dlottach na neb arall; eithr mai yr hwn sydd yn meddu arian yn unig
― arian, ac heb ddim arall. Dyn tlawd iawn, er y gall fod yn berchen
llawer iawn o gyfoeth a da y byd hwn, ydyw hwnw nad yw yn meddu ar gymeriad
da. Nis gall arian, gan nad faint fyddo eu rhif a'u swm, gyfranu ond ychydig
o addurn i bersonoliaeth dyn, os bydd efe yn amddifad o'r elfenau moesol hyny
ag sydd yn cyfansoddi cymeriad teilwng a da. Gwybodaeth, rhinwedd, moesoldeb,
a chrefydd sydd yn cyfranu addurn, gwerth, bywyd, ac anfarwoldeb i gymeriad;
ac nid cyfoeth, pe byddai mor fawr a'r eiddo CRESUS.
Nid yw y canwyllyr, er y gall fod wedi ei wneuthur o aur pur, o fawr budd na
dyben yn y tywyllwch, os na fydd y ganwyll wedi ei goleuo a'i gosod ynddo yn
ngoleuni y ganwyll, ac nid yn lliw a phwysau yr aur dilewyrch, y mae y
defnyddioldeb a'r prydferthwch gwirioneddol yn hanfodi. Byddai canwyllyr o
bren, a chanwyll oleuedig ynddo, yn fwy gwirioneddol werthfawr na chanwyllyr
o aur heb yr un. Y mae SOLOMON yn dywedyd fod " enw da yn well nag
enaint gwerthfawr; " os felly, pa mor wiliadwrus y dylem ni fod yn mhob
cylch a sefyllfa, gan nad pa mor ddinod bynag y byddo y rhai hyny ar gadw o
honom ein cymeriadau yn ddigondemniad, yn ddi- lwgr, ac uwchlaw pob
amheuaeth; canys, fel ag yr awgryma'r ddiareb a geiriau y gwr doeth, y mae cymeriad
da, serch bod yn gysylltiedig â thlodi mawr, yn well na chymeriad drwg, er y
gall fod yn gysyllt- iedig â chyfoeth lawer. Dylai ein hymddygiadau a'n
hymarwedd- iadau yn y byd fod yn gyfryw ag a weithiont eu hunain yn
|
|
|
|
x090
ddiorthrech i gymeradwyaeth unfrydol y public opinion; er yn ddiau nas
gallwn, er pob gochelgarwch, ac er yr ymdrechion mwyaf teilwng, weithio ein
hunain i sefyllfa o gymeradwyaeth, fel ag i fod yn hollol rydd oddiwrth
feirniadaeth gondemniol, awgrymiadau enllibus, ac ymosodiadau cenfigenllyd
rhai dynion drwg a dieg- wyddor. Ond ni ddylai hyn gael ei oddef i'n tristau
na'n digaloni, eithr yn hytrach i'n llawenychu a'n gwroli, gan wybod nad yw
cenfigen, un amser, yn ymosod ar ddim nac ar neb ond lle y byddo rhagoriaethau,
o ryw natur neu gilydd, yn aros. Nid yw cenfigen byth yn ymosod ar gymeriadau
islaw iddi ei hun, eithr bob amser ar rai uwch a rhagorach; ac nid oes ar un
dyn eisiau gwell arwydd o'i fod yn feddianol ar ragoriaethau nag fod dyn
arall yn cenfigenu wrtho. Ond y mae dynion weithiau yn cenfigenu wrthym am
ragoriaethau dibwys - rhyw arwynebolion y dychymyg- ant hwy en bod yn
rhagoriaethau, ond a allant fod yn fwy o ddiffygion, gwaeleddau, a ffaeleddau
na dim arall yn y diwedd; gan hyny y llwybr diogelaf i ni ydyw ffurffo ein
hymddygiadau yn y fath fodd ag na allo ein cydwybodau ein hunain ein cyhuddo,
na rheswm a chyfiawnder ein collfarnu o'u plegid.
Sefyllfa arall ag y byddwn yn dlottach na neb, er bod yn gyfoeth- ocach na
llawer mewn arian, yw y sefyllfa ddi - gyfaill. Ni waeth beth fydd lliw a
llun, rhif a swm ein harian, os byddwn, ar yr un pryd, yn amddifad o'r teithi
moesol hyny a'n gweithiant ac a'n cyflwynant i sylw, parch, anrhydedd, serch
ac ewyllys da ein cyd- ddynion. Ni fydd ein cyfoeth ond melldith i ni ein
hunain a maen- tramgwydd i eraill, oddithr fod genym yr egwyddorion pur,
hynaws, cydymdeimladol, a haelfgydig hyny a'n gwnelont yn ddefnyddiol i, ac
yn weithgar mewn, cymdeithas; ynddynt hwy y mae yr hyn sydd werthfawr,
prydferth, parhaus, ysprydol a dwyfol yn aros. Nid swm ein cyfoeth, eithr swm
y daioni a fyddwn wedi ei gyflawnu yn y byd, a fydd safon ein gwobrwyad
gerbron Duw, a'n cymeradwyaeth gerbron pob dyn iawnoleuedig. Y mae amgylch-
iadau, cyflyrau, a sefyllfaoedd yn y byd, y gall gwir gyfaill wneuthur mwy
trosom pan ynddynt, nag y gall unrhyw swm o aur ac arian; oes, y mae un
amgylchiad i'w gyfarfod, ag y bydd gwên gariadlawn Cyfaill cywir, yn gallu
gweini mwy o ddyddanwch i ni, na phe byddai holl lestri aur teml SOLOMON yn
dysgleirio ger ein bronau, a ninau yn berchen arnynt; ië, pan bydd sain y
gair o'i enau yn filwaith mwy perorol, melus, ac anwyl, na thine mwyaf
seinber holl aur ac arian trysoredig ariandai y byd
fe
Y mae yr hwn sydd yn meddu arian yn unig, hefyd, yn dlottach na neb arall pan
na fydd ganddo ddigon o haelfrydedd tuag atto ei hun, na thuag at eraill, i
fedru eu defnyddio.
Y mae y dyn hwnw nad oes ganddo allu i gydymdeimlo â thos- turio wrth, nac
ewyllys i gynorthwyo ac ymgeleddu, ei gyd - greadur
|
|
|
|
x091
a fyddo wedi ei lwyr oddiweddyd gan gystudd, helbul, a thrallod, a'i
ddymchwelyd gan brofedigaethau a chroes - ragluniaethau, yn rhwym o fod mewn
sefyllfa o dlodi moesol mawr; ac yn hynod o brin yn yr elfenau moesol, a'r
egwyddorion dwyfol hyny sydd yn ëangu, derchafu, urddasoli, santeiddioli,
dedwyddoli, angeleiddio, a phryferthu ein natur. Ond pa faint mwy y rhaid fod
tlodi moesol ac anianyddol hwnw, na fedr fagu digon o wroldeb a phen-
derfyniad i gymhwyso ychydig o'r pentwr cyfoeth mawr sydd yn ei feddiant,
tuag at ddiwallu anghenion naturiol a phersonal ei hun? Dyma gymeriad na oddefir
iddo, gan drachwant anniwall calon fythol - sychedig ei hun, i osod ei law ar
gymaint ag un o'r darnau o'r pentwr mawr ac ymchwyddol o arian ag sydd yn ei
feddiant, ond yn unig i'w rhifo, eu haddoli, eu pentyru, a'u cloi am byth
allan o olwg llygad, ac o afael pob cylchrediad; ie, serch fod ei anrhydedd
ei barch, ei gysur, ei iechyd, ac hyd y nod ei fywyd yn ymddibynu ar wyned
defnydd o honynt; ie, er hyn oll, ni faidd efe eu cyffwrdd: y mae ei galon yn
gwrthneidio yn ei hol wrth feddwl am y fath antur- iaeth boenus. Y mae holl
fwynhad arwynebol a thrwyllodrus y cyf- ryw adyn a hwn yn gynwysedig yn y
syniad o'i fod yn meddu arian, a'u bod yn myned ar eu cynydd; er y byddai yr
un peth iddo gael ar ddeall fod tywod y môr, glaswellt y maes, a llwch y mynyddoedd
yn myned ar gynydd, a'u bod hwythau, o ran dim a faidd efe ei ddefnyddio o'r
naill yn fwy na'r llall. Dyma siampl o ddyn, pe dyn hefyd, ag y mae ei
lawnder yn ei lwmhau, ei ddigonedd yn ei newynu, a'i gyfoeth yn ei wneyd yn
dlawd - dyma gybydd! O bob ynfyd, dyma yr ynfytaf. O bob truenus, dyma y
truenusaf. Mae yr hwn a feddiano gymeriad da, serch ei fod yn brin mewn
arian, yn meddu parch; ac mae yr hwn sydd yn meddu gwybodaeth, serch ei fod
yn brinach mewn arian, yn meddu parch a dylanwad; ac mae yr hwn a feddiano
rinwedd, serch ei fod yn brinach fyth mewn arian, yn meddu parch, dylanwad, a
hapusrwydd; ond y mae yr hwn sydd yn meddu duwioldeb, serch ei fod heb yr un
geiniog i osod ei law arni, yn meddu parch, dylanwad, a hapusrwydd, a'r can
cymaint yn y byd hwn, ac yn y byd a ddaw, fywyd tragwyddol. "
66
RHYDDID.
TYDI, O, fwyn! O fawr! a nefanedig Ryddid,
I bob creadur byw, wyd ddirfawr ddawn gynhenid; Ni aned neb yn gaeth, nes
caeth drwy hunanrwymiad, - Sefyllfa gynwys ormes fwy, na chaethder drwy
orfodiad. Mae dyn, o'i grud i'w fedd, yn ddeiliad rhyddid moesol; Nid yw, am
farn na chred, i neb ond Duw'n gyfrifol: Cydwybod dyn, a'i farn,
rhyddweithredyddion ydynt, Duw IOR yn unig sydd i gael ufudd - dod ganddynt.
|
|
|
|
x092
x92)
Y WIALEN GERYDDOL.
Os bu fy nghnawd yn boenus i’m,
Wrth ddwyn ei llym geryddon,
Ah! dyna pam, ddarllenydd bach,
Wyf heddyw’n iach fy nghalon.
Pwy a wyr pa faint o gystudd,
Poen a thrallod, gwarth a chwilydd,
A ragflaenwyd gan ei cherydd?
Fe wnaeth cerydd y “Wialen”
Asio llawer grymus ddolen,
Yn nedwyddwch ein tydghedfen.
Pa sawl merch ieuanc all’sai fod
Ar lwybrau clod a deall,
Ag sydd, o ddiffyg cynar foes,
Yn treulio’i hoes fel arall?
O! na chawsai’r “Wialen” sefyll
Rhwng ei chalon ieuanc, dywyll,
A phob gair ac ystum trythyll:
Rhoddi ambell gwialenod,
Pan oedd llygad, llaw, neu dafod.
Ond yn esgus gwneuthur pechod.
Pwy wyr sawl adyn heddyw sydd
Rhwng muriau prudd y carchar;
Neu ynte’n alltud prudd ei gell,.
Yn nghyrau pell y ddaear;
Neu yn gorphen ei dynghodfen
O dan boen a gwarth y gro - bron,
A allasai fod yn amgen?
O, na fuasid yn eu guro,
Pan oedd gobaith i’w ddiwygio,
Yn lle gadael - gadael iddo!
Tybiais ganwaith i’m gael cam,
Pan oedd fy mam ofidus
|
|
|
|
x093
(x93) Yn gollwng y “Wialen” lefn
Ar draws fy nghefn clwyfus:
On pe buasai mam rhy dyner,
I’m ceryddu mewn iawn-amser,
Cawswn gam oedd fwy o lawer;
Pe dygwyddwn weled rhywdro,
Y “wialen” anwyl hono,
Gwn y gallwn ei chofleidio.
**’R wy’n cofio’r hen ddysgyblaeth lem,
Pan oeddem gylch yr aelwyd;
Pan ydoed y “Wialen” hael,
Yn cael ei mynych ysgwyd;
Medrodd hon, a ni’n anhywaith,
Do, ein hargyhoeddi ganwaith,
Pan oedd rheswm yn ddieffaith;
Cadwodd ni rhag llwybrau anfod, -
Hi ddiwygiodd ein hymddygiad,
Ae a ffurfiodd ein cymeriad.
Bendigaid wyt, “Wialen” gu,
Wyt yn cenhedlu rhinwedd;
Ae mae’th geryddon boreu di,
Yn tywys i anrhydedd;
Dysgaist i mi lwyr gydnabod,
Hawl ac iawnder, moes a defod,
Ti’m perffeithiaist mewn ufydd-dod;
Boed i’r sawl a fo’n dy arfer,
Gael doethineb, pwyll a chleuder,
Fol nad elo’th waith yn ofer
ENGLYN I BONT UN-FWA PONTYPRIDD, AR GYRHAEDDIAD El
CHANT OED.
ADEILAD un-fwa uwch dyli’ - Taf,
Pont hardd, llawn mawrhydi,
Cant oed, yn awr, wyt ti
Cant arall it, cyn tori.
|
|
|
|
x094
BLODAU'R GWANWYN.
MAE'R haul yn dod yn ol o'r De ', Gan orfoleddus ddwyn drwy'r ne ', Elfenau
bywyd gydag e ',
Dros fynydd, dôl a dyffryn;
Mae yn ymwel'd ar gwreiddyn cudd; Mae'n ffurfio ' r blagur ar y gwŷdd,
A'r greadigaeth newydd sydd
Yn gwenu ' n " Mlodau'r Gwanwyn. "
Hwynt - flodau hoff - y'nt flaenffrwyth hardd Y gwanwyn gwych, mewn dôl a
gardd: Eu gwenau byw ag yspryd bardd, Sydd mewn cymundeb dichlyn; Mae ffydd
yn canfod yn eu gwawr, Y llawn - dwf haf yn dod i lawr, Sydd megys baban tlws
yn awr
Yn gwenu ' n " Mlodau'r Gwanwyn. "
Pèr yw'r mwynhad gynyrchir gan
Y gobaith gwyd o'r blodau can;
Sef y cawn weled yn y man, Hardd weddnewidiad dillwyn;
Yn lle yr Euroclydon chwith, Daw'r Zephyr fwyn ar esmwyth wlith, A'r deiliog
goed a'r meusydd brith,
Sy'n gwenu'n " Mlodau'r Gwanwyn. "
Ieuanghol hoen, mabanol hedd, Sydd ar eu trem yn gwneyd eu sedd, Tra
cynrychiolir yn eu gwedd, Y pur, yr hardd, a'r dillyn: Dihalog yw eu
gwisgoedd hwy, Dwyfoldeb sydd wêuedig drwy Eu harwe oll, -mae tegwch mwy
Na'u lliw yn " Mlodau'r Gwanwyn. "
|
|
|
|
x095
Maent hwy yn dod i'n cyfarch cyn Deffroi o'r Gôg o'i breuddwyd syn, Na'r
Wenol hithau'n nw'r y llyn, Flaendrochi ' i duon edyn:
Cyn derfydd twrf y dymhestl faith, Na'r rhew yn llwyr roi heibio ' i waith,
Bydd " Henffych well! " yn llonaid iaith A gwyneb " Blodau'r
Gwanwyn. " Mae Cloch Y baban eirian wawr, Yn gwisgo'i glog amryliw ' n
awr, Yn ariandlysau hyd y llawr;
Ac yntau'r Saffyr melyn, Fel tywysogaidd, lwysaidd lanc, Heb arno ol na nych
na thrane, Dan dlysau aur breswylia'r banc, Yn un o " Flodau'r Gwanwyn.
" Mae'r Blodyn cigliw yn eu plith, A'r Tiwlip coch, a'r Bincen frith, A
Blodyn Gorphen - haf, dan wlith Y boreu, ' n brydferth berlyn; Mae'r Brechlys
bach a'i lygad clir, A Blodau'r Fagwyr ar y mur, Yn perthyn holl i deulu pur,
Neu genedl " Blodau'r Gwanwyn. " Heirdd Flodau'r Gwynt, a'r Olbrain
rydd, A Gwaew'r Brenin, rhwng y gwŷdd, A'r Rhwyddlawn, a'r Peneuraidd
sydd Dan fil o flodau ' n felyn:
-
Hosanna'r Gog, a Rhawn y March, A'r Hydyf wen mewn gwisgoedd parch, Sydd
allan, newydd droi o'u harch, Yn gynar " Flodau'r Gwanwyn. " Ond
blodau prif y Gwanwyn derch, Sy'n dwyn y sôn, sy'n denu serch,
|
|
|
|
x096
Pob rhyw, pob oed, pob mab, pob merch, Wrth rodio llwybrau'r dyffryn,
Yw'r Crinllys pêr, mor wylaidd sydd, Wrth fon y berth yn ceisio'r dydd, O
gyrhaedd rhwysg yr awel rydd,
Sy'n gwywo " Blodau'r Gwanwyn. " Mor hardd, yn awr, yw Dagrau Mair,
A'u gwyrog ben fel clych o aur, Tra mae eu gwedd, yn mhlith y gwair,
Yn dwyn pleserau'r plentyn Yn ol i'r cof, o'r dyddiau gynt,
Pan oedd dedwyddwch yn mhob hynt- Yn nhrem y coed, yn sain y gwynt, A gwênawg
" Flodau'r Gwanwyn. ”
Ac nid y lleia ' n mhlith y rhai'n Yw hithau, y Friallen gain; Am dani, ' n
mysg y llwyn a'r drain, Mae mil a mwy ' n ymofyn:
A hwythau serchog Flodau'r Dydd, Sy'n dyrchu ' u pen tua'r nefoedd rydd, Heb
wyro dan y dymhestl brudd,
Sy'n gwywo " Blodau'r Gwanwyn, "
Maent hwy wrth godi ' u penau rhydd, Tua'r nef, trwy'r storm o'u hamgylch
sydd,
Yn portreiadu ysbryd ffydd,
Yn enaid y credadyn;
Rhyw awgrym cwyd y meirw'n fyw,
Rhyw ddydd a ddaw, drwy allu Duw, A gobaith Adgyfodiad yw
Gogoned " Flodau'r Gwanwyn. "
O! santaidd " Flodau'r Gwanwyn " syw, Mor llawn o'r ysbryd barddol,
byw, Mor llon i ddyn, mor llawn o Dduw,
Yw eich ysbrydol dremyn;
1
|
|
|
|
x097
Fe wel y Bardd dragwyddol haf, Duwinydd - nerth, a doethder NAF, A'r Cristion
anfarwoldeb braf,
Yn gwenu ' n " Mlodau'r Gwanwyn. " Pan roi'r y Bardd yn ngwely'r
bedd, I gael ei hirfaith hun o hedd, Na ro'er un marmor dysglaer wedd,
Goruwch ei ben gan nebun; Ond planer rhês o flodau brith, I dderbyn gloewon
ddagrau'r gwlith, A phiger hwynt i gyd o blith
Gogoned " Flodau'r Gwanwyn. "
Cyfeilles y Bardd ac Etifeddes yr Aelwyd.
GREADUR bach, greadur mwyn,
Mor hoff wyt ti o'r tân,
A golchi'th glust, a rhwbio'th drwyn,
A chadw'th wisg yn lân;
Pan fyddwyf isel iawn fy mryd,
Ac unig yn fy mwth;
Mor fwyn i mi ei chwmni hi,
Yn chwareu'i greddfol " grwth. "
Hi naid yn esmwyth i fy nghlin, Gorphwysa ar fy mraich;
Ac er bod lawer hwyr yn flin,
Nid wy'n ei theimlo ' n faich; Pan fyddo'r gwynt yn cwyno'n grudd, Rhwng
canghau'r goeden rwth:
Mor fwyn i mi ei chwmni hi,
Yn chwareu'i greddfol " gruth. "
Hi a'm cofleidia gan ei phwyll,
A rhwbia ynwy ' ' i phen;
|
|
|
|
x098
Mae yn ei serch yn fwy di - dwyll Na llawer geneth wen!
Wel, boed ei wîn i'r sawl a'i câr, A boed ei saig i'r glwth; Ond boed i mi ei
chwmni hi,
Yn chwareu ' i greddfol " gruth. "
Ah! nid yw'r teulu byth yn llawn, Heb gwmni Pusi lon;
Ac nid yw'r aelwyd fyth yn iawn,
Os na fydd hi ger bron;
Mae oriau'r hwyr brydnawn, mewn hedd,
Yn myned heibio'n fwth,
A phawb yn iach, os Pusi fach
Fydd yno'n chwareu'i " chruth. "
Y GWALLGOFDY.
( THE ASYLUM. )
GYNT gwelid y Symlyn yn erwydro'r ardaloedd, Heb gartref, heb gyfaill, heb
gar yn y byd, Heb nawdd nac ymgeledd, yn wawd trwy'r blynyddoedd, I'r caled
ei galon a'r uchel ei fryd:
Cai fyw drwy ei oes ar elusen ddiroesaw,
Ac aml, am ryw gamymddygiad a wnaed, Pan oedd ei ewyllys heb farn i'w
chyfeiriaw, Cai'r fflangell golynog ei throchi ' n ei waed! Ond, Henffych! it
', fendigedicaf sefydliad, -
Meddylddrych nas caed ei haelfrytach erioed, Yn tramwy trwy galon a meddwl
Gwareiddiad,
Oedd hwnw osododd dy gynllun ar droed; Gwallgofdy yw'th enw, -mae'r enw'n
alarus, Can's ffaeledd ein natur a'th alwodd i fod: Gwallgofdy yw'th enw,
-mae'r enw ' n gysurus, Pan cofiom mai adfer yr unrhyw yw'th nod.
|
|
|
|
x099
YR
HAF.
YN y tymhor hwn o'r flwyddyn y mae natur yn myned drwy un o'i
thrawsnewidiadau mwyaf gogoneddus a swynol. Y mae hi weithian yn tori allan,
megys o chrysalis y gauaf; ac yn lle bod yn phenomenon oerllyd, prudd, gwelw
a difywyd ag ydoedd hi yn y tymhor hwnw, wele, hi yn ail - ymwisgo mewn
ieuenctyd a hoender; ac yn meddu, nid yn unig gyflawnder o lawenydd ynddi ei
hun, either hefyd yn tywallt o'r yspryd iachus, gorfoleddus, ac adfywiol hwnw
ar bawb a phob peth o'i amgylch Mae y cwbl heddyw yn edrych fel pe byddai yn
ddim ond un bedydd dwyfol o bryd- ferthwch, bywyd, a gogoniant adnewyddol. Y
mae natur, er holl ruthriadau tymhestlog y gauaf a aeth heibio arni, yn
edrych heddyw etto mor ffrês, mor loew, mor ddihalog, mor brydferth, ac mor
ddwyfol a'r boreu hwnw yr ymwelodd â broydd heirddion, pur, dilwgr, a
thangnefeddus Eden gyntaf erioed.
O! mor iach, mor lân, mor hardd, ac mor hapus, y mae pob peth yn ymddangos y
tymhor hwn o'r flwyddyn. Mae yn ddiau fod yr hwn sydd yn dihoeni, a threulio
ei gyfansoddiad allan, gyda gorchwylion curiol bywyd eisteddawg ( sedentary
life ), yn teimlo hiraeth yn ei galon, a dymuniad yn ei enaid, am gael bod yn
gyfranog o'r rhyddid dymunol hwnw, o fyned allan am unwaith i gyfarfod a
natur, a derbyn o'i bendithion newyddion a lliosog - fe allai mai ar lan y
môr tawel a gwastadlyfn, neu ar wyneb y maes agored, neu ar ben y mynydd
derchafedig y bydd hyny; canys y mae natur yn fwy dengar, hawddgar, haelionus
ac adfywiol yn y manau hyny, nac mewn un man arall yn y tymhor hwn o'r
flwyddyn.
•
Y mae fod y gôg a'r wenol yn cael y fraint ddymunol o gario trail yr haf, ac
o ymlawenhau yn ei wyrddlesni, ei ffrwythlonder, a'i ardderchawgrwydd, a'i
ogoniant yn wastadol, yn ddigon i beri eidd- igedd, hyd y nod ar y meddwl
mwyaf prosaic a bydgarol.
Yr wyf laweroedd o weithiau wedi plentynaidd ddymuno bod yn feddianol ar
reddf, cenadwri, ac aden yr aderyn ymfudol, fel y byddai i mi yn wastad gael
bod yn nghymdeithas y gwanwyn; a byw mewn Eden o anwywder tragwyddol, a
gorphwys yn nghysgod deildai o winwydd, liliau a rhôs - yfed o ffynonau'r
dyfroedd byw, drachtio o berarogl yr awelon, a gwledda ar beroriaeth frwd a
gor- foleddus greddf ac anian, a chydgyfranogi o'i theimlad iach a dedwydd,
ië, byth, bythoedd!
O y fath ymarferiad hapus, hoenus ac adfywiol i'r teimlad, yw rhoddi ambell
wibdaith oddiar balmentydd twymboeth y drefo swn a thrwst byddarus olwynion
masnach, a dwndwr anniwall, celfyddyd - allan i'r wlad agored, lle nad oes
dim ond natur ddi-
|
|
|
|
x100
halog a dwyfoldeb digymysg yn cartrefu; a phan mae pob golygfa hefyd yn
ymddangos yn ffrês, ieuanc, gwyryfol, a phur; fel pe wedi eu newydd droi
allan oddi dan ddwylaw y CREAWDWR mawr. Mewn gwlad o dragwyddol haf o'r fath
hyn y carai y bardd fyw.
O! na fuaswn yn drigienydd,
Gwlad a'i thir dan haul ysplenydd; Glir a gloew'i nôs - wybrenydd,
Lle ni chai'r ystorm obenydd;
Na gwneyd sedd.
Gwlad lle cai y bardd - athronydd, Rodio y prydnawnddydd llonydd, Ar hyd
glanau glwys afonydd;
Byth mewn hedd!
Gwlad a'i meusydd fyth dan flodau, Gwlad a'i llwyn dan fel gafodau; Gwlad heb
ynddi fawr cysgodau, Ond yn unig rhag trallodau,
Poen a chur.
Gwlad heb ddigder mewn calonau, Gwlad a'i hedd yn dod yn donau; Gwlad lle'r
yfwn o'i ffynonau,
Wynfyd pur.
Mae yr olwg ar y ddaear a'r wybren, y tymhor hwn o'r flwyddyn, yn hynod o
brydferth, swynol, ac effeithiol y mae ysplander a gorucheledd clir yr wybren
eang yn ystod y dydd; ymdaith dys- tawfwyn y lloer, ynghyd ag edrychiad mwyn,
boddlongar, arddunol, a thangnefeddus y sêr yn y nos, yn tueddu yn fawr at
ysbrydoli y meddwl, crefyddoli y teimladau, ac i dderehafu y serchiadau, a
chyfeirio ein myfyrdodau uwchlaw helyntion y byd a'r bywyd yma. Y mae yr
enaid yn awr yn cael myned trwy y fath brofiad melus o ymddifyru, ymhyfrydu,
ac ymorphwys yn y dihalog, y dedwydd, a'r dwyfol, nes y mae, o dan ddylanwad
y swyn mynydol, ond nefol, hwn, yn gallu anghofio llawer o'i helbulon, a
dadlwytho y fynwes o lawer o'i gofidiau.
Pwy a all, yn y tymhor hwn o'r flwyddyn, edrych ar burdeb seraphaidd y
wawrddydd — profi o faddonfa adfywiol y gwlith - yfed o ddyfroedd teneuon,
gloewn, ac oerion y ffynonau - sylwi ar drwm-
|
|
|
|
x101
gwsg y dyffrynoedd gerllaw, ac ar hun freuddwydiol y mynyddoedd yn y pellder
- rhodio yn nhawelwch hapus y glynoedd, a thang- nefedd dyfnddwys llwybrau
addurnedig y dolydd, heb deimlo ei fynwes yn cael ei hysgogi gan fil o
emotions tyner a hyfryd, a myrdd o deimladau pur, addolgarol, a derchafedig?
Yn wir, y mae yn anhawdd troi y llygad ar y de na'r aswy heb ddyfod i
gyffyrddiad a'r prydferth, yr arddunol, yr ysprydol, a'r dwyfol ar bob
moment. Mae yn wir fod yr ysprydol a'r dwyfol i'w canfod ar wynebweddau anian
ar bob tymhor arall, ond nid yn y ffurf ddengar, hawddgar, brydferth, ogoneddus,
a gorswynol ag y maent yn ymwisgo ynddi yn y tymhor trawsgyfnewidiol yma o'r
flwyddyn. Mae y cwbl yn awr fel pe byddent mewn cydweddiad a chydnawsedd a
gobeithion, dymuniadau, a serchiadau hiraethlawn ein natnr; ac i raddau pell
yn sylweddoli yr ideal sydd genym am y nefol, yr hapus, y pur, a'r perffaith.
Y mae natur fel pe byddai yn arogli rhyw " arogl esmwyth " arnom yn
y tymhor hwn; y mae y tangnefedd a'r ysplander a'i harwisga, yn disgyn yn
ddylanwad tyner, adfywiol, a hapus ar y galon, yn gordial esmwythhäol ar ein
teimladau, ac yn fel - gafod " faethlonus ar ein hysprydoedd; mae y
meddwl fel pe byddai yn ymwisgo ar ddelw natur, ac fel pe byddai yn ddim ond
adlewyrchiad pur a difrycheulyd o honi. O, Natur brydferth! O, Natur
ddedwydd! os oes yn yr olwg arnat ti, os oes yn y cymundeb â thi, y fath
adnoddau dihysbydd o ddedwyddwch a mwynhad, pa faint mwy yw yr olwg a'r
cymundeb digyfrwng â'r ysprydol a'r dwyfol ei hun?
66
Mae yr argraffiadau mae natur yn eu gwneyd ar y meddwl yn rhai grymus, effeithiol,
a pharhaol; ei hargraffiadau arosol hi ar y meddwl, yn ddiamheu, ydynt rhai
o'r elfenau cryfaf a mwyaf gweith- gar yn nghyfansoddiad ein gwladgarwch.
Hoffder at natur, fel yr ymddangosai yn ei gwahanol olygfeydd, ac yn
unrywiaeth cyson ei hamrywiaeth hyfryd, o amgylch cyrchfanau a safleoedd ein
mebyd, yn nghyd a'n cynefinedd a'n cymundeb boreuol a mynych a hwy, ydyw
elfenau bywyd y serch a'r teimlad gwladgarol hwnw sydd yn bythol hanfodi ac
ymsymud yn ein mynwesau. Pan yr edrychom yn ol, drwy lygad y darfelydd, ar
olygfeydd swynol boreu oes, O mor brydferth yr ymddangosant! Y fath liwiau
tlysion sydd arnynt! Y fath oleuni tawel a santaidd a dywyna drostynt! Y fath
ddiniweidrwydd babanaidd, y feth bleser dihalog, y fath dang- nefedd dwfn a
pharhaus, a'r fath ystôr ddiderfyn o ddedwyddwch sydd yn aros ynddynt! Mae yr
adgof am danynt yn creu hiraeth yn ein calonau, a galar yn ein hysprydoedd,
am gael ail - brofiad o'r mwynhad a'r dedwyddfyd boreuol hwnw. Mae yr
adolygiad arno, a'r fyfyrdodaeth felus am dano, yn tywys yr enaid drwy fath o
reverie o'r fwyaf swynol o brudd - der ac hyfrydwch cymysgedig; a than y fath
oruchwyliaeth serch - dderchafol a theimlad - barhaol, ac
|
|
|
|
x102
i'r fath sefyllfa o ddedwyddwch mynydol, fel na ddymunai fyth gael ymddiosg o
honynt, na'i ddychwelyd yn ei ol i ymwneyd â realities geirwon bywyd llafurus
y presenol. Y mae natur yn llawn o elfenau crefydd drwyddi oll; ae er nad yw
darpariaethau ei chre- fydd hi mor gyflawn, pwrpasol, a holl - ddigonol ag
eiddo crefydd ddadguddiedig y Bibl, etto y mae yn llawn, i'r ddau ymyl, o'r
un Duw tragwyddol, hollalluog, a hollbresenol. Y mae ei enw Er yn
ysgrifenedig ar bod tudalen o'i chyfrol fawr a llydan - agored. Mwynhau,
ynte, o'i phrydferthwch hi - yfed o'i hysprydoliaeth- dysgu ei duwinyddiaeth
- gwahodd iechyd i'r corph, a cheisio adeiladaeth i'r meddwl, ac nid pleserau
cnawdol ac anifeilaidd, a ddylai fod ein prif, os nid ein hunig, ddybenion
wrth fyned allan ar ein gwib - deithiau i'w cyfarfod yn y tymhor hyfryd hwn
o'r flwyddyn.
Y mae natur yn feddiant cyffredinol, ac yn ysgol rydd i bawb. Y mae
prydferthwch a gogoniant ei golygfeydd, gwasanaethgarwch rhinweddol ei
helfenau iachus, yn gymaint o eiddo i'r hen ac i'r ieuanc, i'r tlawd ac i'r
cyfoethog. Nid oes cymaint ac un careg ffin ar ei holl dreftadaeth, ac ni wyr
hi ddim am y castes ag sydd yn gwahanu ac yn pellhau aelodau y gymdeithas
ddynol oddiwrth eu gilydd; y mae hi yn estyn deheulaw cymdeithas i bawb, ac
yn arlwyo ei gwleddoedd ar fwrdd crwn, fel eiddo yr hen ARTHUR, O amgylch pa
un y ca pawb eistedd yn gydystâd a'u gilydd: y mae ei chyfarchiadau, ei
gwahoddiadau, a'i darpariaethau i bawb, ac at bawb, yn ddiwahaniaeth. Yn awr,
ynte, yw y tymhor i bawb ag a allant fwynhau a gwerthfawrogi ei
phrydferthwch, i fyned allan i chwilio am yr adloniant, yr hyfrydwch, a'r
addysg sydd yn aros yn mhlith ei thrysorau; ac i gasglu iddynt eu hunain yr
ychydig dameidiau o'r nefoedd ag sydd yn wasgaredig ar hyd ei hwyneb
hawddgar.
Un dydd o ddifyrwch yn nghanol yr Hâf,
Ni thloda fy nheulu, ni ddigia fy NAF;
Na'm galwer yn symlyn, na'm galwer yn ffôl,
Am fyn'd ar ol Natur, drwy'r maes a thrwy'r ddôl.
I beth y rhoed llygad i mi yn fy mhen,
Os nid er mwyn tremio drwy'r ddaear a'r nen,
A byw ar yr harddwch anfeidrol o fawr,
Sy'n wisg ogoneddus am Natur yn awr?
A ydwyf i gauad fy nghlustiau yn dŷn,
Rhag gwrandaw ar reddfol beroriaeth y glyn?
Os felly, rhoed clustiau yn ofer i mi, -
Serch, Rheswm, a Theimlad, —i beth eich rhoed chwi?
1
|
|
|
|
x103
Y mae y cydweddiad rhwng llygad a lliw- Rhwng sain yr elfenau amrywiog a'r
clyw— Rhwng natur a natur, yn dangos yn gain Fod melus gymundeb i fod rhwng y
rhai’n. A blanwyd yn yspryd dyheuol y dyn,
Rhyw faith ddymuniadau i fyw byth yr un, Heb ddim i'w ddiwallu drwy'r nefoedd
na'r llawr, A wnaed gan Ddoethineb a Chariad mor fawr? Os do, y mae hyny ' n
greulondeb a cham Ar dyn; ac os felly, i beth? a phaham? Ond, ah! fy
nghyfeillion, nid felly y mae, - ' Does dim i'w ddymuno nad oes i'w fwynhau.
Pan byddo'i ' n troi ngolwg hyd wyneb y tir, ' Rwy'n aros mewn mwyniant yn
hir ac yn hir; Heb brisio fawr pwy yw etifedd y stâd, Myfi yw etifedd y
moesol fwynhad.
' Does neb a all rwystro ' i phrydferthwch a'r bri, Rhag ddisgyn yn nefoedd
i'm calon fach i.
Y galon sy'n meddu, nid llygad a llaw, - Eu pethau hwy'n fynych sy'n myn'd
yma a thraw; Ond bywyd prydferthwch, o'm calon fach i, Ni chilia, pan gilio
aur, cyfoeth, a bri; Y galon - trysorfa dragwyddol yw hi.
Hwynt - hwy, ' r pendefigion uchel - waed a chwai, Bieuynt laweroedd o'n
tiroedd a'n tai; Ond glâs y wybrenydd, a gwyrddni y dail— Hawddgarwch y
lleuad - gogoniant yr haul— Barddoniaeth y mynydd - a thraethgan yr aig-
Peroriaeth y goedwig - athroniaeth y graig-
Y bywyd, a'r tangnef, a'r harddwch sy ' rioed,
Drwy'r nef uwch fy mhen, a drwy'r llawr dan fy nhroed, — Ai hwy bia'r
rhein'y? O, nage, fwyn ddyn,
Myfi bia'r rhein'y - y rhein'y bob un.
Guel disor
|
|
|
|
x104
-Awn, awn drwy y meusydd, y dôlydd, a'r dail, Y glaswellt, a'r meillion, a'r
gwair bob yn ail; A rhodiwn lle rhodia, ' n ardderchog ei ffyrdd, Yr Yspryd
tragwyddol mewn mantell o wyrdd; Cawn garped angelion i lawr dan ein traed,
O'r fath, gan gelfyddwyr, ni wneir, ac ni wnaed. Cawn wrandaw seraphiaid y
coedwig yn gor, Yn canu carolau mewn temlau wnaeth IOR: Cawn yma, uwch gofid,
a gofal, a chur, Ymdroi mewn cymdeithas a bywyd sy ' bur.
Awn, awn fel y gwleddom ar goch, gwyrdd, a gwyn, Prydferthion persawrus,
amrywiog y glyn,
Ffrwd fywiol y mynydd, ac awel y bryn.
Cawn heulrod y coedwydd yn fwyn uwch ein pen, Pan flamio'r haul cadarn yn
aelwyd y nen,
Ac eistedd dan gysgod y dderwen fawr gre ', A derbyn i'n mynwes awelon y Dê.
Ac yna ' n ol teithio,
A'r meddwl gael gweithio,
A'r serch ei wrteithio,
A'r dyn ei berffeithio,
Dychwelwn, dychwelwn i dre '.
Ond, O! ddarllenydd anwyl, nid yw hyfrydwch puraf, a phryd- ferthwch mwyaf,
natur, ond rhyw frwision bychain ag sydd yn syrthio oddiar fyrddau llawnion y
nef; ac nid yw ei holl ysplander yn ddim ond rhyw adlewyrch dysgleirbur a
deflir oddiar lestri aur ei theml santaidd hi - y surplus o ogoniant a
ddylifa allan, megys, dros drothwy'r ddinas nefol; ac y mae hyny yn llawn
ddigon i wneuthur natur yn hawddgar a phrydferth, a dyn yn dymhorol bapus. Yn
nghyflawnder, neu o dan ysprydoliaeth y mwynhad hapus, neu yr hiraeth
pleserus, ag y mae y tymhor hwn yn eu cynyrchu yn y meddwl, y canodd y bardd:
--
Hyfryd Haf - gemwaith Naf, I roi gwynfyd i bob bywyd; O dros enyd, aros -
sâf!
"
|
|
|
|
x105
Dwyfol ffaith, fywiol, faith-- Fflam ddiseibiant o ogoniant, Wyt, ar
fythgylchynol daith.
Swn dy droed sydd yn d'od,
Drwy'r mynyddoedd a'r dyffrynoedd, Gyda miwsig, mawl, a chlod. Cauaist ddôr
Gogledd oer, - Rhoist lawenydd yn lleferydd Glyn a mynydd, glan a môr. Jubil
gu, ednod lu, - Dydd gollyngdod daear isod, O gaethiwed Gauaf du.
Tymhor tês, gwawl a gwrês, - Meusydd cnydiog, coed gwyrdd - ddeiliog, A'u
canghenau ' n aur a phrês.
Gwawrddydd glir, anterth ir; Perl - foreuddydd, aur - ddiwedydd, -- Balmiog,
ddedwydd hwyrddydd hir.
Mwyn yw'r nos
lleuad dlos,
Sêr digyffro wedi'u pinio,
Ar hyd furiau'r ne ' fel rhôs.
Tristwch ffol ' nawr dry ' n ol; Gwledda'r yspryd mewn dedwyddyd, Ar
newyddfyd croew'r ddôl.
Pêr yw'r pant, gloew yw'r nant, Pur pob ffynon, megys calon, Neu olygon nefɔl
sant.
Llwys pob llyn, glàs pop glyn,
O! mor hawddgar ydyw'r ddaear, Yn ei ' scablar gwyrdd a gwyn; Rhodia'r
nefoedd drwy'r dyffrynoedd, Edeneiddiwyd moel a bryn.
|
|
|
|
x106
Dewch yn awr, deulu'r llawr, A darllenwch mewn prydferthwch, Arwyddluniau'r
Duwdod mawr.
Ydwyt, Haf - emwaith Nâf,
I roi gwynfyd i bob bywyd.
O! dros enyd, aros - saf.
Y mae yr haf yn ddydd o jubili, nid yn unig i'r adar ar deyrnas drychfilaidd,
& c., ond i bob dosparth o'r gymdeithas ddynol; ond yn fwyaf neillduol,
fel ag y sylwasom o'r blaen, i'r dospeirth cyfyngedig hyny o gymdeithas, sydd
a'u gorchwylion oddi fewn i fagwyrydd ein masnachdai, ein hystordai, a'n
swyddfeydd y mae yn ddydd o ollyngdod a dyspeidiant achlysurol oddiwrth lafur
caeth a pharhaus masnach wastadol; er mwyn adferiad i'w cyrph ac ad- fywiad
i'w hysprydoedd; bydd llafur y fyfyrgell yn cael ei rhoi heibio i raddau yn
awr, er mwyn y gorchwyl mwy pleserus of adolygu llyfr natur; cyfnewidir bywyd
o ideality am fywyd o reality - y dychymygol am y sylweddol - y myfyriol am y
golygol- yr ysgrifbin am yr omnibus - y swyddfa am y maes ― y masnachdy
am y môr - y môr am y mynydd, a'r dref am y wlad. pawb yn awr, fel pe baent
am ddyfod i gyffyrddiad mwy agos a phersonol a natur - dyfod wyneb yn wyneb a
hi - mwynhau ei phresenoldeb digyfrwng, a derbyn o'i hamrywiol ddoniau, a'i
haml fendithion yn newydd a ffrês, megys o ddwylaw teleidion ei hun; -
' Tis summer, joyous summer time!
In noisy towns no more abide;
The earth is full of radiant things,
Of gleaming flowers and glancing wings; Beauty and joy on every side.
Y mae
Y mae hon hefyd yn adeg fanteisiol iawn i'r bardd fyned allan i arehwilio
natur, er mwyn casglu oddiwrthi ddelweddau o dlysni, ceinder, prydferthwch, a
hyfrydlonedd, a hyny drwy sylwi yn fanwl ar ei hamrywiol liwiau, a '
igwahanol wynebweddau, ac ar ys- plander, hyfrydwch, a gogoneddusrwydd ei
phenomena pryd- ferthion; a'u trysori yn y côf ar darfelydd, fel y byddo y
cyntaf yn gryf ac yn eang, a'r olaf yn gyfoethog a hardd, ae yn gyflawn o bob
defnyddiau cyfaddas at wasanaeth yr awen, ac yn wastad yn barod wrth law, pa
bryd bynag y geilw am danynt. Rhaid i ni derfynu yn awr gyda y desgrifiad
prydferth a rydd H. G. ADAMS, o geinder a hyfrydlonedd Haf: -
-
|
|
|
|
x107
A dreaming sound of waters. Falling, ever falling! Voices of sweet songbirds
To each other calling; Fowers all rainbow - tinted, Springing, ever
springing! On the vagrant breezes Richest perfume flinging.
A perfect satisfaction, A fulness of delight, A sense of gliding onward,
Through regions ever bright; All balm, all bloom, all beauty,
Like some ambrosial clime; These are the signs that tell us Of glorious
Summer time.
MARWOLAETH SAMUEL EVANS.
( GOMER. )
MARW a fu ein GOMER fawr, -wedi byw
Yn dad bardd a llenawr:
Oes o waith, heb orphwys awr,
Fu ei yrfa lafurfawr.
Llifodd ei oes rhwng llafur - athrylith, A'i thraul, arno'n brysur, -
Ac iau IESU - ei gysur, -
Hyd y bedd, yn ddwy ffrwd bur.
Gorphenodd orgraff uniaith - ei genedl, Bron yn ganon berffaith; Mynai GOMER,
mewn gemwaith, Wisgo ' r Oes, y Wasg, a'r Iaith.
ANGAU A'R BEDD.
Y GAIR Marw sy'n gyru mawredd y byd Yn boen ac yn chwerwedd;
Ac awr felus gorfoledd
A'n chwerw boen yn ochr y Bedd,
|
|
|
|
x108
Y
CYNWYSIAD.
PENNOD I. - Seryddiaeth Gyntefig yn mhlith y Babiloniaid, y Caldeaid, yr
Aifftiaid, yr Edomiaid, a'r Cymry.-- Dosparthiad y Sidydd, yn nghyd a
pherthynas yr unrhyw a Gorddangosion y Flwyddyn.
PENNOD II. - Tarddiad a Chwedloniaeth y Sidydd.
PENNOD III. - Athroniaeth Gorddangosion y Flwyddyn.
PENNOD IV. - Cyfnodau y Flwyddyn.
PENNOD V - Y Prif Dymhorau - Gwanwyn, Haf, Hydref, a Gauaf; yn nghyd a
Myfyrdodau Cynghloawl,
YR
ADW L.
ARDDUN waith seryddion oedd - chwilio glan, Orchwylion anian, drwy'r uchel
nenoedd.
Dadgan gwawl - lydan dreigliadau — y sêr
Sydd ar fythol deithiau;
Ac effaith eu gwaith a'u gwên,
Ar ein hên ddaear ninau.
Mesurwyd yr amseroedd - ac enwyd
Hwy mewn cynar oesoedd;
Mesur dyddiau - misoedd - a thymhorau, -
Rhoi eu mesurau wrth drem
Sêr
y ne'n fesuron oedd,
Ar wyneb y wybrenoedd.
y seroedd.
Wele, y Dwyrain i'r uchelderau,
Ei llygad cywrain gyfeiriai ' n forau; Er gweled y ser golau - yn cychwyn, Ar
eu hedyn drwy y cydseriadau.
BABILONIAID - bobl enwog, -wnaent cyn neb,
Fesur wyneb y nef serenog.
K
|
|
|
|
x109
CALDEAID: oraclau daear - oeddent,
Mewn seryddiaeth feiddgar-
Yn gweled tynghed ar - bob seren foel, — Ar gref ofergoel, gwyr gorfyfyrgar,
Hwy i'r wyddor seryddol - a roisant Y grisyn sylfaenol;
Y grefft deg - i'r Aifft o'u hol - a ledodd, A chyrhaeddodd i fri uwchraddol.
Yr ydoedd y cydseriadau - weithian, Yn britho colofnau,
A thai amlwg, a themlau - yr Aifft brid: Hwy a heirdd lenwid o'u
harwyddluniau.
EDOM hefyd, a'i myfyr,
Fu'n forau ar sygnau'r sŷr.
JOB, yn un o'i meibion oedd- Wybu ranau'r wybrenoedd.
MAZAROTH, a'i amseroedd, -newidiawl Ordinadau'r nefoedd,
A dull ei phell ' stafelloedd, Wyddai oll --ser - ofydd oedd.
Ar un o heirdd fryniau Us, -y safai'r Nôs - ofydd molianus;
Oddiyno'r wedd hoenus - lenwa'i galon, I'w pher ymylon a chyffro melus.
Mawr waith y Cymry hwythau, -oedd dadgan Llwybrau anian drwy'r pell wybrenau.
Y fawrddysg orsedd farddol, -oedd berffaith Arwyddwaith seryddol:
Hon oedd hên oesoedd yn ol, Oleuni arwyddluniol.
|
|
|
|
x110
Fel hyn, drwy'r byd yr ydoedd - eu Magoi Mygyr, gan genedloedd
Yn forau niferoedd, -myn'd yn helaeth A wnai'r wybodaeth olrheinia'r bydoedd.
Yr haul, uwch daear welyrt, -yn syflyd O'i safle debygynt-
Hin o'i ol, wrth droi'n ei hynt, -tymhorau— Cyfan dueddau'n cyfnewid oeddynt
I nodi wedy'n y newidiadau
Hyn yn briodol, -yn eu hiawn brydiau, Gwilient yr haul golau - o fan i fan,
Yn bwrw ei hunan drwy y wybrenau.
Yna ranasant, yn ol yr iawn eisiau, Y Rhôd, i ddeuddeg o Gydseriadau; Enwid,
a'u harwyddluniau - wrth a gaed, Neu a wnaed, yn y priod gyfnodau.
Rhyw nifer o Gydser gaid, Ar enwau rhyw wroniaid- Gwroniaid wisgai'r annuw,
Gwan, a dall, ag enwau Duw! A'u mawl yn ddwyfawl ydd oedd, Yn awdlau y
cenedloedd.
Y gwron wnai ragoriaeth, - o herwydd Gwyrog serch dynoliaeth,
A dylanwad Chwedloniaeth-
Yn seren - dduw seirian, ddaeth.
Ond rhy hir fydd myn'd ar ol, Hanes y ffydd chwedlonol; Rhyw un drem rho'wn
arni draw, Neu dyb, wrth fyned heibiaw.
|
|
|
|
x111
Y
SIDYDD,
NEU GYLCH Y DEUDDEG ARWYDD.
TRWY y Sidydd traws - hedol - hwylia'r haul,
Ar ei hynt flynyddol;
A hynod o wahanol,
Drwy y maes, yw'r drem o'i ol.
Efe a gyflawna'i flwydd,
Yn nghyrau'r Deuddeng Arwydd.
Yr HWRDD yw'r blaena ' n y rês, -efe sy'n Dwyn y Gwanwyn o'r Deau ' n gynhes.
Yr Hwrdd hwn, rhyw arwydd oedd O'r adeg pan yr ydoedd,
Wyn a defaid yn difa - pawr cynar Dolydd ffrwythlongar daear Caldea.
Aeth
Fry gwelai ofergoeledd
Yr Hurdd hwn mewn rhyw hardd wedd:
Yr oedd ei gyrn o ruddaur,
A'i wlân oll o felyn aur.
Ar ol y dirfawr helynt,
A ddarfu'r Hurdd ei gwrdd gynt,
Cymerwyd ef i'r nefau,
Yn aberth hedd i borth IAU.
yr haul drwy waith yr Hwrdd, ac weithian
Ei ben coeth sy'n cyffwrdd
-
Troiog gyrn y TARW gwrdd, mae'n cyfodi,
I rywiogi y Tarw agwrdd.
I'n golwg, pan y gwelwn
Rhawd haul drwy'r Cydseriad hwn,
Y bydd y ddedwydd adeg
I'r llyfnion loi, tewion, têg,
Gael eu troi a'u rhoi yn rhydd,
O'u corau rhwng y ceurydd,
|
|
|
|
x112
Yn llawndwf i'r meilliondir, Ac i wledd y dyfroedd clir. Lloi eraill i'r
allorau - barattoid, Bryd hyn yn aberthau, I oedi gwg duwiau gau, Yn nos y
pell gynoesau.
O hyn y Tarw heini, -yn y meithion Oruchelion, sy'n cynrychioli Prif gynyrch
gwanwyn tyner— Y Llo tew, -yn Ebrill der.
Y Tarw hwn - JUPITER oedd- Rhodio mewn doldir ydoedd: Yno daeth merch
AGENAWR, Brydnawngwaith, i ymdaith awr; Bu ryfedd y wedd iddi--
Ei wedd hardd a'i hudodd hi; Ni fu Tarw ' n fwy tirion- Deilliai hedd o'i
lygad llon, Taenent oleuni tyner,
A nefol serch, fel y sêr;
Ei groen oedd o'i gŵr yn wyn- Gwynach na lili'r gwanwyn, Ac i'w noeth
ben caed coethaur, Droiog gyrn fel dau drec aur.
Daeth yr haul, ar gylchdaith rwydd, I ddor y trydydd arwydd:
Ei daith sy'n lled frwd weithian,
Yn mysg y GEFEILLIAID Mân.
Yn awr, ydoedd yr adeg
I eifr y tir fwrw eu teg
Fynod, ar uchelfanau - y Dwyrain, -
Diroedd ffrwythlawn, golau:
Dwyn yn aml wnaent eu dau, ac ysgatfydd,
Y bu o herwydd eu dwyn yn barau.
I'r Arwydd gwawr - euraid - hwn, yn nef fry, Ei enwi felly - yn Efeilliaid.
Dywed chwedlau borau byd,
Eu nofel am hyn hefyd― Castor a Pollux, cystal
Rhywdro fu, eu dewrder, fal-
|
|
|
|
x113
Eu hanrhydeddwyd, drwy eu duweiddio, Rhyw nawn, cael wedy'n i'r nen eu cludo,
Acw i'r Rôd, lle maent yn gwrido - ' n ddwyfawl, - Hwy sy ' arddunawl
sêrdduwiau yno.
Dacw'r haul wrth droed y CRANC, —ac yn ol,
I'w rawd Deheuol yn dechreu dianc.
Gan ddianc, y Cranc ar ei encil — â,
Bron o'i ol, ar wrthgil;
Felly'r huan can, cynil, -yn awr â-
Iawn ysgoga yn wysg ei wegil.
Mae'n awr yn flamio yn arwydd ― y LLEW,
Gyda llawn danbeidrwydd;
Gan ei wrês, bydd digon rhwydd ― gan ddiawg,
Geisio coed deiliawg yn gysgod hylwydd.
Ffyrnig, gyneuedig nwyd,
Y Llew oersain - llyw arswyd Y goedwig - ffyrnig ydyw, —
O haul nef, arwyddlun yw, Pan goruwch ben Gorphenaf, A'i wrês trwm yn
rhostio'r hâf.
Yr awr hon ymlwybra'r haul - Arwydd mwyn, Y dirion FORWYN, drwy y nef araul.
|
|
|
|
x114
Yr yd, sy'n addfed, i'n rhan, - Hoga'r amaeth ei gryman: Y lafurus lawforwyn,
A i'r maes yn wâr a mwyn,
I loffa'r yd da, drwy'r dydd- Ymesyd ar y meusydd.
Dyrnaid ' nol dyrnaid hyd hwyrnawn,
A'i epha o loffa fydd lawn:
O'i herwydd hi'r Arwydd hwn, Ddodwyd yn y nef ddidwm.
Yr huan dyddfyrhaol, -a wyra
I Arwydd y FANTOL;
Feinwych, dynghedfenol - lle pwysir gan Iau - dduw, ei hunan, bob tynghed
ddynol.
Hon yw'r Glorian eirian wedd, Godwyd i'r claer gyhydedd;
I ranu y wybrenydd,
Yn deg, rhwng y nos a'r dydd.
Wele'r Fantol ddeddfol dda, -yn hongian,
Yn llysdy ' r hunan, yn llaw Astraea,
Acw sydd yn mysg y sêr,
Yn fendith a chyfiawnder.
A'r huan hwyrwan i Arwydd - y Sarff, Sy'n dwyn cyffelybrwydd
I fawr, egr, afrywiogrwydd - Hydref hên; Cau am ael wybren mae cymyl ebrwydd.
Ond i fewn yr aeth i'r SAETHYDD,
Bwa a saeth ar ei bwys sydd;
Adeg yr heliwr ydyw,
Mae sain fawr y maes yn fyw.
Y corn waedd - crŷn y wig, -ar bedwar carn, A'r heliwr cadarn drwy lawer
coedwig.
|
|
|
|
x115
Yr haul ag oer olwg wan,
A â i'r fraith AFR weithian.
O'r glyn, a dyfnderau'r glenydd, —dringo Fel y mae hono, i foel a mynydd; Mae
yntau'r haul araul wedd, Yn codi i'r cyhydedd.
O'r Deau ' n awr daw yn ol, Yn dwyn rhyddid, yn raddol, I Natur ddigysur,
gaeth,
O hualau marwolaeth.
Ac i gwr y DYFRWR daeth, A'i ben yn llawn gwlybaniaeth: Taena gwmwl dwl,
drwy'r dydd, Ar wyneb y wybrenydd.
Aeth i'r Pysa drwy derfysg dŵr,
Ai saig at y pysgwtwr.
Bysgodwyr, b'le mae eich basgedau - teg?
Hon yw yr adeg i daenu rwydau.
Wedi pur gyflawnu ' r flwydd, Yn nghyrau ' r Deuddeng Arwydd; Yr haul iach
drwy'r awyr laith
.
Ddaw o'i ol, i'r Hwrdd eilwaith-
Frenin tlws, -lle câr ymdrwsio - ' n brysur, I lywyddu Natur flwyddyn etto.
|
|
|
|
x116
ATHRONIAETH GORDDANGOSION Y
FLWYDDYN.
Yr haul yn ganolbwnt attyniaeth. Ei ddylanwad ar y byd anianyddol a moesol.
Ei addoliad, ei demlau, ei oraclau, ei gerfddelwau a'i orseddau.
Symudiadau y ddaear, —ei llinellau, ei chylchau, ei gwregysau, a'i Albanau;
yn nghyd a gorddangosion anian, ar adegau Albaniad yr haul neu y ddaear.
Yr haul sy ' ganolbwnc rhwng - y bydoedd; O'i dângelloedd mae Duw yn gollwng,
Gwawl i blith y gwagle blwng; -- ei ganaid Wyneb telaid, yw bywyd teilwng
Anian ddillyn ddiollwng; -ef iw llwybr. Drwy y syn wybr draw sy'n ei hebrwng.
Gwên ei argan awyrgylch - a lona Ael anian fawr, ogylch;
Trymgyrff sy'n troi amgylch-
Bywyd ga pob byd o'i gylch.
Dylanwad ei oleuni, Drwy y nef a'n ddaear ni,
Ai ragoriaeth helaeth, ar Yr holl uchel sêr llachar.
A arweiniodd yr anwar - i dybio, Mae Duw byw'r holl ddaear
Ydoedd ef; ai fryd oedd ar
Ei addoli ' n ddialar.
Duw aml oedd: -ei demlau ar-
Rhufain, oen't ddigymhar:
-fynyddau
Oedd amlach, wychach ei lachar - demlau,
Nag eraill dduwiau gan yr holl ddaear.
117
|
|
|
|
x117
ATHRONIAETH GORDDANGOSION Y FLWYDDYN.
Nid ail, iw Oracl, yn Delos: -nid ail
I'w deml deg, yn Delphos:
Nid ail i wedd, ei allor dlos,
O aur, oedd yno'n aros.
Wele ddrych yn mhorthladd Rhôd, -eres oedd, -
Un o'r " Saith Rhyfeddod; " -
Eulun glan, i Apollo'n glod Dewisol, wedi'i osod.
Y sêr, gan ei uchder, oedd
Yn huno ar ei nenoedd.
Wele, ein hên genedl ninau, -i'r haul Yn rhoi addoliadau:
Gwilient gadw eu Gwyliau, -pan wnai'r dydd, Ei obenydd ar yr Albanau.
Ond Duw y duwiau, nid haul,
Na seren hoenus araul,
Yn awr, a addolwn ni-
Iôn glân, wnaeth bob goleuni- Y gwiw Nêr, yr hwn a'n gwnaeth— Duw Iôr, ein
Iachawdwriaeth.
Yr haul sy ' benreolydd, ―ac iasydd Cysawd fawr, ysplenydd
O sêr o'i amgylch y sydd Yn gwau ar hwyl dragywydd.
Un o'r rhai'n ar dro heini, Drwy y nef, yw'n daear ni; Iddi rhoed gan Duw yr
hawg, Bedwar symudiad beidiawg.
O barth a wnant, a berthyn i'r - flwyddyn, Dau o honyn ' yn brif adwaenir.
|
|
|
|
x118
118
ATHRONIAETH GORDDANGOSION Y FLWYDDYN.
O'r Deau mwyn, draw hyd y maith - Ogledd, Y treigla'n chwyrn ymaith;
Ac i'r De, ar gywir daith,
Daw'n ol, gan d'wynu eilwaith.
A thrwy wneyd ei throion hyn, -o amgylch Trwmgorph yr haul melyn;
Y daill y pedwar dillyn - dymhorau Amryfal weddau, sy'n mru y flwyddyn. Ac
hefyd, gwna yn gyfun, -a difeth, Yn ol dwyfol gynllun, —
Gylch tawel echel ei hun, Roi dyddiol droad eiddun.
Ac fel hyn yn cyflawni
Ein dydd a'n nôs dyddan ni.
E ranwyd y wybrenau - yn foreu, I chwech o fawr Gylchau-
Dych'mygol bell linellau, -i ddangos. Diymaros hynt y tymhorau;
Ac i wir arwyddocâu - cyflead,
Neu gyfnewidiad ein mangyfnodau.
Rhanu ein hên ddaear ninau - wnaethwyd,
Yn feithion linellau;
A'i gosod rhwng pump o wregysau - rhydd, - A'r rhai hyn sydd i nodi'r
hinsoddau.
Lleinw oll o'r llinellau, -a groesant
Y grisial wybrenau, —
A i'r lan drwy'r Albanau; -lawr eilwaith, I wneyd mawrwaith ein holl
dymhorau.
Ban el i Alban Eilir, -gwenau ' r haul Gan reddf y byd deimlir- Gan fraith
wybr - gan for a thir; Ar Gwanwyn rhywiog enir.
|
|
|
|
x119
Ban nawf i Alban Hefin,
Daw yr Hâf a'i newid rin.
Ban â i hwylfa Alban Elfed, -daw Hydref daer i waered; A deddfau bywyd
addfed, O'i law, ' n ymwasgar ar led.
I Alban Arthan, pan êl, -daw'r Gaua ' Ar ei yrfa yn fawr, fawr ei oerfel.
CYFNODAU Y FLWYDDYN.
Y Flwyddyn orfoleddus, -a renir
Yn gyfnodau trefnus;
Drwy hyn, y mae'n dra hoenus - wybodaeth, O fodolaeth, wna fywyd hwylus.
Eiliadau, mynydau mynedol― Oriau, wythnosau perthynasol; Ar eu hynt
ydynt anghenrheidiol, Cywir adegau creadigol,
Gan wyddor fawr, gynyddol - mewn cynghyd
A chelfyddyd oruchel, fuddiol.
Y Sabath sy ddwyfol seibiant: -adeg
O ysprydol fwyniant,
Dydd Sul, neillduai DDUw Sant,
I gynal ei ogoniant.
Difyr ' nol gwewyr a gwaith - a dirni'r
Chwe diwrnod lledfaith,
Yw Dydd Sul - un dydd o saith, -yn gwmhwys, I ddyn byw orphwys, a'i hedd yn
berffaith.
Ein dydd ter, sy ' ddiferyn - haelionus, O oleuni ' n disgyn,
O ymyloedd haul melyn, -i lawr ar Awyrgylch daear, -o gylch a dywyn.
|
|
|
|
x120
Ein nos eilwaith, rhaid sylwi, -yw effaith Diffyg haul - oleuni,
Ar ran o'n daear heini:
Y nôs - sydd o'i thu cefn hi.
Y misoedd anghymesur - ddynodant Weddnewidion Natur-
Ei lle hefyd ai holl lafur, I ddwyn i ben y flwyddyn bur.
Deuddeg del angel y'nt, -a'u phiolau Yn gyffelyb ganddynt:
Awel wan - uchel wynt - dryghin gaua ', A hyfryd hindda haf, a roed ynddynt.
Wele IONAWR yn blaenu - ' r osgordd fawr, O dan rew Ionawr mae'r byd yn
rhynu.
O'i ol, daw CHWEFROR ddilyth;
Drwy'r fro'n rhwysgfawr Chwefrawr chwyth; Gydag ef yn gawod gain,
Y daw eira o'r Dwyrain.
Ac yn awr Chwefrawr a'i chwa - laith, o'r môr, Fedyddia'r oror, -fe dawdd yr
eira;
O'r bryn penwyn i'r pant. - drwy'r gwastadedd, Yn ei holl fawredd rhuthra'r
llifeiriant.
MAWRTH yn awr sy'n mhorth y nef - dywynol, Adwaenir ei ddolef;
Heibio â - ysguba ef - a'i wynt ban,
Holl lawr anian nes tywylla'r wiwnef.
A'i law gadarn teifl goedydd - Y bryniau, - Brenin mawr y ' stormydd:
Tawel fôr, gan ei dymhestl fydd fel crochan, Yn bwrw ei hunan hyd y
wybrenydd.
|
|
|
|
x121
Wele, EBRILL Wyrdd ei lwybrau, —yn dyfod
I'r difyr wybrenau,
A mil o heirdd gymylau - gylch ei ben: Tori mae heulwen trwy eu hymylau; Mae
myrr, balm, a salmau, —mae awelon, Daear Saron, yn mhlith ei drysorau.
MAI iachus, oleudrem, uchel - yntau, Gyda'i santaidd awel,
Ysgafn sang, megys angel, -ar amlgainc Flodau ieuanc, drwy'r ddôl nefol -
dawel.
Y mae i'w wel'd, yn Mai wyn, Ogoniant Haf a Gwanwyn.
MEHEFIN iesin, ac amldlysog, -ddaeth A'r hin dwym, sefydlog;
Haf weithian sy ' gyfoethog, -o flodau
Diwael, a llysiau a dail lliosog.
AWST aeddfed! ar led, mor lân - ei drem yw, Drwy y maes a'r berllan;
Ffrwythau o bob ffriw weithian, ―ar baladrau, Ac a'r ganghau, sy'n
gwyrog hongian.
Tawel a theg yw'r tywydd,
A gwresog, desog, drwy'r dydd; O'r meusydd daw'r cynydd càn, Yn rhedlif tua'r
ydlan.
Awst hoff! i'n didristâu, -mor ardderchog, Yw dy law enwog drwy yr ydlanau.
MEDI yntau ' n ddiau ddaeth, A'i wrid yn hawddgar odiaeth: Ac un llaw mae'n
cynull ŷd, Ag arall, treiglo'r gweryd;
|
|
|
|
x122
Ei lwybrau drwy'r glynau glân, O'r adladd draw i'r ydlan, Gan frasder a
ddiferant- O hufen nef, llifo wnant; Ei awyr las - siriol yw- Ei phryd - ail
saphir ydyw; Seirian a dyddan yw ' r dydd; Yr hinon ar wybrenydd; Ond er hyn,
e ' dry ei wedd, Yn daeog cyn y diwedd.
Cyn ymadael cawn Medi, -a golwg Ei ael yn fwy difri-
Ei foreu ' n llaith, llaith o'r lli,
Ai hwyr, sy'n dechreu oeri.
Daeth HYDREF ai lef wylofus, -ger llaw,
O'r Gorllewin ' stormus;
Ar ei esgyll daw'n rhwysgus, -o'r Werydd,
Y gwlawogydd, drwy'r nen gilwgus.
Daeth TACHWEDD hwyrwedd, oerwawr, Ir nef werdd, gan gan ruo ' n fawr; Try'r
eon wynt trwy'r awyr, - Yn gwthwm, ar gwthwm gyr: Ysgwyda y lesg adail-
Efe ydyw dystryw'r dail.
RHAGFYR ddaeth ai ddydd byr, fach,
Ai nos oerllyd, ddisarllach-
Ddisarllach i boblach bydd,
Ond difyr i fryd ofydd.
O foroedd oer, llaw Rhagfyr ddwg - y nudd,
Wna ' r fro yn anamlwg;
Tros for hallt a gallt, mewn gwg, -wyneb hir, Y gaua welir yn dod ir golwg,
|
|
|
|
x123
Prif ymharau y Flwyddyn.
Y GWANWYN.
CYNWYSIAD. - Y Gweithredyddion, neu y cyfryngau drwy ba rai y mae
Gorddangosion y Tymhor yn cael eu dwyn oddiamgylch, sef y Gwynt purhaol -y
Gwlaw tymherus ar Haulwen faethlongar. Y Gorddangosion maweddog ' mewn
cysylltiad ai ddyfodiad mewn gwahanol wledydd, Cenadon, rhagredyddion
argoelion ac arwyddion ei ddyfodiad. Ei amaethyddiaeth - ei dyfoliaeth, &
c., yn nghyd a'i fawredd, ei brydferthwch a'i ogoniant cyffredinol.
Oedi wnawn fynydyn, -uwch rhol enfawr Cylcharlunfa ' r Flwyddyn:
Dirfawr yw'r, drem, heb derfyn, A gwyd Duw i olwg dyn.
Rhyfedd ' a dirfawr hefyd,
Ydyw gwaith ein Duw i gyd.
O'i fawredd Ef - diferyn, -yw mawredd Tymhorau y Flwyddyn:
O'i synwyr Ef - briwsionyn - yw rhyfedd, Fawr ogonedd, y gwyrddfrig Wanwyn.
Y Gwanwyn ddarogenir, Gan wynt effro ' n teithio ' n tir.
Ar ergyr drwy'r awyrgylch, —â'n chwimwth, A chwmwl o'i amgylch: Rhwyga yr
awyr o gylch,
I iachâu y tarth o'i chylch.
Ymyra ar y moroedd, -gan erfawr
Gynhyrfu eu dyfroedd-
Dwyn y niwliach afiach oedd - mewn undeb A'u harwyneb, drwy bair y
wybrenoedd.
A'i gludo yn glau wedy'n, -a nwyau
Newydd yn mhob mymryn,
I'w hidlo yn ddiawdlyn,
Rhydd, rhad, iach, ar ddaear dyn
|
|
|
|
x124
Purwyd y nen - darperir ― yr awel- Hono'n llaw angel yr hin ollyngir,
Ar ei thaith, a mor a thir - gan nwyfus, Awelon iachus, a lywenychir.
Ar ol gwaith purhaol gwynt ― y Gogledd, Ac irllonedd y Gorllewin -
wynt;
Y gwlaw a ddaw a'i Ddeheu - wynt - ara ', Natur a daena bob llestr o danynt.
Ar ol y gwlaw, daw'r haulwen; -sy'n enill Llon oriau Ebrill - sy'n llenwi'r
wybren, A goleu newydd - sy'n siglo'n awen Dihalog engyl pob deiliog ganghen,
Ganant, heb unrhyw gynen - naw'r drwy'r dydd, I DDUw glodydd, fel pe'n ddydd
Gwyl Eden. Yr haulwen draidd yn enaid, -i fywhau Holl hunfeydd y pryfaid:
Cwyd hwyrion gysgaduriaid — yn heidiau, O'u hoer agenau i'r awyr ganaid.
Yr haulwen wech rydd iechyd - a'r awel Ein boreuau hyfryd:
Yr haulwen bêr leinw y byd - swrth, syfrdan, Yn bur fuan a phob rhyw fywyd.
Clyw acw'r wybr sy'n clecian, -ymollynga Yr oer lithr eira ar lethrau'r Aran.
O ffroenau dwfn ddyffrynoedd - yr Alpau, Cwyd taranau fel sŵn
cattrinoedd-
Yr iâ trwm, trwm o'r trumoedd, yn deilchion, Tua'r gwaelodion yn treiglo
ydoedd.
Têr, afonydd, y Terfynau - Rhewllyd, Nawr ollwng eu rhwymau:
Agenwyd yr eigionau— Moroedd oll sy'n ymryddhau.
|
|
|
|
x125
Dacw gadarn, ddarn addurnol, —o'r iâ oer, Ar yr aig anfeidrol;
Mewn mawredd certh, a nerthol - ofnadwy, Nesha y meudwy fel bryn symudol!
Rhyw wydrin, iesin ynysoedd, -weithian, A thrumau arian sy'n britho'r
moroedd!
Y bywiol Wanwyn! O mor ysplenydd,
Y daw i waered ar hyd y Werydd:
Ei rew - feirch mor ddisglaer fydd - marchog wna, Ar rew y gaua ', a'r iâ
tragywydd.
Y Gwanwyn, pan ga ei eni, -genir Y Gân drwy'r holl lwyni:
Y genir gydag yni,
Fywyd pur drwy'n natur ni.
Ei ddyfodiad yn ddiofidion,
A gyhoeddir yn mhob agweddion,
Gan ei wiwdeg genadon, -ei lwybr clir, A anrhydeddir gan ragredyddion.
Wele, hi - y Fronfraith lawen,
Yn awel brig rhyw uchel bren;
Yn nechreu Mawrth, yn chwareu'i mân - danau,
A'i hyglyw seiniau yn goglais anian.
Mwyn yw ei chân, mae'n ei cheg, Rhai o danau'r berdoneg.
A'i gwaedd fel eiddo gweddw, -y Durtur Bedeir - tôn, sydd acw;
Yn ei galar y geilw
Am ei châr, yn drwm ei " chŵ. "
Y Brain ar uchel brenau - y meusydd, Ymosod maent hwythau,
Yn brysur, prysur, i wneuthur nythau, Fel blaenffrwyth yr holl adeiniog
lwythau.
L
|
|
|
|
x126
A diwael ydynt eu hadeiladau
I'r lan, yn sionc hongian sy'n y canghau; Ceir hwynt i'w sicrhau, nes na
faidd gwyntoedd, Rhuawg y moroedd rhwygo eu muriau.
Uwch y cae codant, clywch eu cawciadau, Chwyrn y disgynant, ceisiant y
cwysau― Ymwasgar wedy'n yn mysg yr ydau- Niweidio'r egin, hyn yw eu
drygau;
O ba herwydd ben borau, -cant ddwyn rhydd Lid yr amaethydd o'i law drom
weithiau.
Brogaod, fu'n byw'r gauaf - o olwg, Yn ngwaelod y dyfnaf
Lynoedd, gan nerthoedd haul Naf, Yn awr, a ddo'nt yn araf
I'r wyneb - lle'r hoenant, -weithiau crawcian I lawr y geulan, a gwlaw
argoelant.
Y brwyniaid canaid er cynydd - eu rhyw O'r aig mawr aflonydd; Nofiant yn awr
yn ufydd, -i gynhes, Dawel fynwes cysgodol afonydd.
Y fro weithian a frithir,
Gan ŵyn ar bob twyn i'r tir.
Codi o lwyni haelionus - yr ardd,
Mae'r per " hwm, " " hwm, " hapus;
Sy ' arwydd fod rhyw bêrsawrus - ddeilen, Gan y wenynen i'w sugno'n hoenus.
Yn nhônau y wenynen - yr erys Swn rhyw oriau llawen; Breuddwydir fod bröydd
Eden, -- wedi
Eu rhoi a'u dodi ar ei dwy aden.
Rhai glöenod drwy'r glynau - a welir, Yn yr haul yn chwarau;
|
|
|
|
x127
Megys blaenffrwyth y trawsffurfiol lwythau, Cyn hir ollyngir o bebyll angau,
I ryddid y tirweddau, -i gym'ryd, Neu greu eu hawddfyd yn ol eu greddfau.
Dechreua FLORA fflwch, -ardderchogi Ein moelion erddi, a'i melyn harddwch; Ei
pheraidd Saffyrau - sydd yn llinyn. O aur melyn ar eu hymylau.
A dod mae Llygaid y Dydd, -i'n lloni Ambell un drwy'r meusydd:
Tua'r nef troi yn ufydd,
Ei ben bach ar bob pin bydd.
Felly Ffydd, dan dywydd du, Yn fwyn edrycha i fyny. Daw'r Friallen felen,
fach, O'i chuddfan allan bellach: Mor briodfoes, mor brydferth, Y mae ' n byw
yn môn y
Gwenau pêr ei gwyneb hi
A lanwyd o oleuni;
berth;
Gwisg rhyw wylaidd, santaidd serch, A lòna ' r bruddaf lanerch.
Yr awyr eglur, gan berarogli, O amgylch ogylch, sydd yn mynegi Y lle sai'y
nais Grinllysen, hi - sydd Yn fwyn a llonydd wrth fôn y llwyni. Cenawon
cochion y Cŷll; -cenawon Eurliwiog, tewion yr Helyg tywyll, Sy ' n llen
ar eu canghenau; -tyn y plant, A chofleidiant eu harddwych flodau.
Mae'r Almon bren a'i lonaid - o nodd pur, Mwyn yw ei flagur, -mae ' n fyw o
lygaid.
|
|
|
|
x128
Haul yn awr sy ' lòn ei wedd, Yn codi i'r cyhydedd;
A deuodd amser diwyd,
Amser dodi ' r gerddi ' gyd.
Gan wên a bri ' r Gwanwyn brâs, —diymdawr Yw holl dwymdai ' r palas; Harddach
yw'r wawr, a'r urddas A roi'r o liw ' r awyr lâs.
Mewn awydd y menywod - a binciant Eu banciau yn barod;
Mae ' n werth, nad mwyn ei wrthod, Wel'd y fan mae'r blodau ' i fod. Y bâl
a'r gaib welir gan - y gweithiwr, Yn gwthio ' i ardd fechan; Cloddia, ceibia,
rhychia ' i ran, - Ni phaid gan faint ei ffwdan.
A diwyd hefyd mae'n hau A'i law ei fân - welyaų; Ond odid gorchwyl
dedwydd Ganddo ar fyrdro a fydd,
Gwilio y gwelyau hyn,
Yn geni yr eginyn,
A'i roi yn wych, er yn wan,
Ar liniau rhiol anian,
Ei fresych ydynt freision, -a gwrol
Yw'r gwawr ar ei gloron;
Daeth y farchnad weithion - yn ysplenydd, I'w ddarfelydd, i euro ' i ofalon.
Heddyw anian ddihunwyd, —ei mynwes
O'i mewn a ddihunwyd;
Y briddell, oedd mewn breuddwyd, At ei gwaith etto a gwyd.
|
|
|
|
x129
Buddiol, ragorol oedd gwynt - ystormus, Afreolus Mawrth, fawr ei helynt;
Sugnai a lleibiai o'r llawr, Wlych afrad ar ol Chwefrawr; E leibia'r blwng
wlybwr blin,
A ddrygai wraidd yr egin.
Sî y iach wynt a'i sychin,
Ar yr âr sydd fawr ei rîn.
Ymorwedd yn dymherus - y mae'r âr, Ymroi ' n ddiesgeulus,
Mae ' r amaeth diwyd, grymus; -pan welo Awr diwyllio, mae ' n wr deallus.
Gyr weithion ei weision brysiog At waith cadr yr aradr a'r ôg; I'w dir ŷd
yr aradr a, A'r ôg o'i ol a rwyga; Haua geirch yr adeg hon, Ar y gwys
lefnwawr, gyson; Wedi briwioni ' r braenar, Haua yr haidd yn yr âr; A'i law
wen deil i hau ' n dew, Neu traidd i fewn a'r trwyddew; Hau ' r aidd sy '
well na rhuddaur, Hau ' n llwch sy ' well na aur.
Daeth yr adeg deg ei dydd,
Dynd glanhau y dolydd,
Chwilio ' r tir, ' nol chwalu ' r tail, Cario gwydd ceryg addail,
A dreiniach draw o hono- Cau y bwlch lle bynag bo; A rholio yn arial - wych
Yr yttir a'r gweirdir gwych,
|
|
|
|
x130
Yr hwn a ysgafnhawyd,
A rhew llym oer aua ' llwyd, Ond a wesgir, nes disgyn
At wraidd y glaswellt drwy hyn.
Bellach, y gorchwyl balla,
A dechreu ' i gwaith gobaith ga; Ar hyd y tir, gwedi ' r gwaith, Y gwibia
ysbryd gobaith.
Wedi hau yn ddiwyd iawn, -yr egin
Ni frigant yn ffrwythlawn,
Heb i'r ARGLWYDD roi llwydd llawn; -ffrwythloni, A rhoi daioni, sy'n llaw ' r
Duw uniawn.
EBRILL sy'n sengi ' r wybrau - yn amlwg; Mae ei olwg, rhwng haul a chymylau,
Yn dra dihalog, -daw drwy y dolau, A'i awel dyner, a'i delaid wênau, A'i
foreu iachus, yn llon'd ei freichiau; Iechyd i lwyd - fochau, -nerth a
nodded, A lif i waered o'i awel forau.
Awelon dofion Deheufyd - a ddeuant Dros y ddaear hyfryd; Yn mhob awel y mae
bywyd, A balm i berarogli'r byd.
Daw i lawr y gafod lân,
Yn awr yn ddafnau arian; Egora bob blaguryn
Ei ben hardd, can's erbyn hyn,
Bywyd drwy'r gweryd sy'n gwau, -daeth anian
Yn beraidd allan o'r llwyd briddellau.
Ysgafn leithbwl, gwmwl gwyn, Haulwen wiwdeg, lòn, wedy'n, Feddianant wiw a
miwail
Wyneb y nef, bob yn ail.
|
|
|
|
x131
Cysgodau'r cymylau mân,
Wrth hedfan, prydferth ydynt;
Heb sain, hwy ' n myn'd heibio sydd, Adenydd yspryd danynt:
Draw, draw yr ant mewn awydd, -o'n gwyddfod, Drwy haul y gwaelod ar ol eu
gilydd.
Ond weithian ambell dwthwn
A geir yn debyg i hwn, -
Ar ol awr o oleu haf,
Awr o nos yw ' r un nesaf; Boreu clauar, mwynwar, maith, - Hwyr lled wael,
oerllyd eilwaith; Neithiwyr tawel awel oedd- Heddyw, gwantan, ddig wyntoedd.
Ond hinon gyson ei gwedd
Etto ddaw tua'i ddiwedd.
Gauaf oer ga farw, -cân ednod ffraeth, Fuddygoliaeth uwchben ei fedd gwelw.
Cerddgar adar ymfudol, Yn awr ddychwelant yn ol.
O faith bellderau y Deau deuant, Fry uwch eigion, y gwynt farchogant; Eu hên
gyrchfanau gorwych a fynant, Heb wyro gwedi'n eu llwybrau gadwant; Yn llaw
greddf yn llu gwârant, -ni rydd hi, Le i wyrni, hwy ni chyfeiliornant.
Mae'r yrol Wenol heini, -i'w hên daith,
Wedi d'od eleni:
Yn awr hi eistedd a'i chôb ddu drosti,
Ar y ty anedd, neu ' sguba'r twyni; Ei uchel dôn, wichlyd hi, -sy'n ein
gwydd, Yn hyfryd arwydd fod hâf ar dori.
|
|
|
|
x132
Hithau'r Gôg enwog, anwyl; -adwaenir Gwerth ei dawn a'i gorchwyl;
Mae gobaith teg yr egwyl, -i'r brigyn, Wedi esgyn drwy'r holl wlad i'w
dysgwyl. Serchog " gw, " " " gw, " y Gôg loew a
glywir, Ei dwy nod amlwg, gan bob dyn a deimlir; O fwyned ydynt, o'u fewn hwy
dodir, Hâf - freuddwydion, lle difyr addoedir; Ei gwersi a'i hawen hi
groesawir Gydag hyfrydwch, drwy'n gwiwdeg frodir; Haf teg uwch ffurf y tir,
-pan fo'n clustiau, Yn fyw o'i hodlau hi, a sefydlir.
Llona bob cwr a llanerch,
A dau sill yn dew o serch.
Mwyn esgyn y mae nôsgainc - brudd, ddofn, dlos, Y rywiog Eos, o'r deilfrig
ieuainc.
Alawon rhwydd leinw'r wig, - Toddeidiau'r cystuddiedig: Ar y dôn hawddgar,
dyner, Yn dra syn y gwrendy'r sêr.
Daear a ne ' wrandawant, -pan y gwna Philomela hoff wylo ei moliant.
Mae brig y goedwig yn gân, Hyfryd oll, daw'n frwd allan.
Glyn a maes, a glanau môr, -gipia'r sain, Lleinw arwyrain holl lwyni yr oror.
Ar amrywnod glod y glyn, Mud wrandaw nis medr undyn; Rhodio geir yspryd y
gân, A rhyw hapus ymgripian, Hyd danau'r enaid dynawl, - Dihuno mwyn danau
mawl.
.
|
|
|
|
x133
Myn'd a'r forau golau gwyn, I'w hymyl - gwrando'i hemyn Bereiddglod, wna i
bruddglwy ', Gilio ' mhell o'r galon mwy.
Beth yw testynau y corau cywrain? A'i sain carwriaeth yw'r sione arwyrain?
Ynte cerdd - foliant gain, -i hynawsedd,
A bri a mawredd y boreu mirain?
Tangnefeddus,
Orfoleddus,
Swn hyderus, sy'n eu dyri; Diolchgarwch,
Cariad, heddwch,
A dedwyddwch yn cyd - doddi.
O, ddoniau dwyfol! braidd nad ofer Yw si y berdoneg sobr, dyner, - Odlau y
nabl a'r delyn wiwber,
A mawl geirdd hoff, mil o gerdd offer, Yn ymyl pwnc a mawl pêr, -a gwres
awdl, Anfeidrol hyawdl, hâf adar lawer.
Ebrill sy'n gadaw y wybren, -a'i waith, Yn anmherffaith, i MAI i'w orphen.
Deorodd yr aderyn, -mae ' n porthi Ei gyw heb oedi, ar gwiw abwydyn.
Y Glöyn byw, glân ei ben, —ef yn awr Fyn wel'd newydd elfen;
O'i blisg coeth, mewn cwbl wisg wen, —y Pila, I'r wybr loew goda, ar berlog
aden.
A dyma hi, ' r Fagien, -yn mhob perth, A'i lamp aur ddysgywen,
Sy ' hwyrol, loew seren, -wna'n llawenhau Yn ei llwybrau, pan ballo y wybren
|
|
|
|
x134
134
Cynhes, o dan dês y dydd, Ydyw'r llyn a'r dw'r llonydd;
Mor gywrain mae'r bychain bysg Yno, ' n dorfoedd diderfysg,
Yn chwarau ' n dorchau drwy ' r dydd,
Ac hêl ar ol eu gilydd.
Ac yn awr y genweirydd - ddeil law ' n llòn, Acw ar finion y croew afonydd.
Lluon olaf y teithbell wenoliaid,
Yn awr a geir adref, fa ' n hir grwydraid; Y cywion adar, y cân - ehediaid,
A lliaws croew - blu yr holl ysgrybliaid Yn awr sy ' n rhwyso yn euraid, —a
glan Wyneb haul anian, eu bywiol enaid. Ysplenydd yw meusydd Mai, Dihalog;
-pwy nad elai
I'r hen ffyrdd, hyd fryn a phant,
I gynull eu gogoniant?
Wanwyn disglair!
O, mor hilbair
Yw ei ddiwair, -santaidd awel;
Bywyd dardda,
Harddwch wena,
Lle y senga - fo, ' r llwys angel.
Heolydd ac anialwch, -y graig hên, Grug oer, a diffaethwch,
Yr Alpau a'r truman trwch, Sy'n wyrdd o'i swyn a'i harddwch. Dyna bêr
flodeuyn bach,
Na fu wyrth o'i brydferthach.
Fe uchel, dawel flodeua, -yn mhen Mynydd rhew ac eira
Annifyr Scandinavia; -mae'r Gwanwyn
Am ei goryn, ei fru ymegora.
|
|
|
|
x135
Hael Wanwyn sy ' ysplenydd - ei genion, Drwy'r gwahanol wledydd; Y Prairi
pêr, o'i herwydd, Hyd y ser yn flodau sydd.
Ei wedd sy'n ogoneddus, -yn mlodau Y pêr rosynau drwy Persia hoenus.
Aroglau gwinllanau llwys, -amryfal Y bêr Eidal, sydd fel o Baradwys.
Drwy holl fro deheudir Ffrainc Y sai ', o'r Crinllys ieuanc,
Lu lawer; a liliau, -hwy ' n ddirfawr, Dyffiau eirianwawr, sydd drwy y
dyffrynau.
Mae aswy a de ' n meusydd, Yn dew o Lygaid y Dydd; Llysian'r Ymenyn llwysion,
Yn ddafnau aur, sydd fan hon.
Ac yna yn eu canol, -yn benes, Sai'r Dewbanog siriol:
1
O, mor ddifyr, mor ddwyfol,
A hardd yw hi ' n mhawr y ddol.
Egnio weithian y mae'r genethod, A chalon heini, i chwilio ' n hynod Ymyloedd
iachus y moelydd uchod, A'r perthi iesyn, drwy'r parthau isod, Am y pur emau
parod - deifl Flora Yn rhad eu gwala ar hyd y gwaelod.
Ar y ddôl, diferodd aur
Rhoddodd bob cwr dan ruddaur.
flycard & ANT tted laporan-
meugen.
Plantie
ve Ju Cusflu blodem
Mor brydferth mae'r berth, mor bêr, -i'n cwrdd ni
Y daw o honi yr awel dyner.
|
|
|
|
x136
136
PRÍF DYMHORAU Y FLWYDDYN.
Y Ddraenen Wen ysplenydd, Arni ' n ffrês, fel santes sydd; Hardd iawn yw y
Wen a'r Ddu, Yn eu gwyn arni ' n gwenu.
Blodau eisoes wyneb - ledasant, -llwyni
Sy'n eu llawn ogoniant;
Mae'r gwydd, yn mynydd, yn mhant, -yn curaw Yn llawen - ddwylaw, yn eu llawn
ddeiliant.
Geillt, twyni, llwyni, a pherllenydd, -y'nt Oll mewn gwisgoedd newydd:
O nef wen ddaeth, na fu ' n ei ddydd I selyf, bais o'u heilydd.
Gresyn fod unrhyw groeswynt - a ddifa'r Wedd ddwyfol sydd arnynt: Duw ro
nawdd rag ddwyrain wynt- Na âd dristwaith fyn'd drostynt.
YR
HAF.
CYNWYSIAD. - Cneifiad y defaid. Boreu haf - y Wawr - codiad ac esgyniad haul,
& c. Gwres y dydd y tês. Prydferthwch ymddangosiadol gwahanol
wrthddrychau. Desgrifiad o'r ddôl - y llyn - y ffynon - y mor - y mynydd - yr
afon - a'r wybren. Nos Haf: Desgrifiad o'r lleuad, y ser, a'r wybren.
Helyntion a difyrion haf, & c. Y gorddangosion cysylltiedig a phoethder
yr hin ar y tymhor hwn o'r flwyddyn. Y sychder. Y cyfarfod gweddio am wlaw -
y gwlaw yn dyfod mewn atebiad i weddiau yr Eglwys. Y gafod daranawl. Y
Cynauaf - gwair - gwenith - ceirch - haidd. & c. Yr Harvest Home.
Cyfarfod diolchgarwch.
Yn awr, gwnawn godi ' n araf,
Leni heirdd cylcharlun HAF.
Cànaid yw'r defaid dofion - a olchwyd Acw ' n mwlch yr afon;
Hwythau, gneifir weithion, -daeth bref - leisiog
Gynaua ' gwenog, y cnuau gwynion.
Bugeiliad bywiog welir,
A llaw falch ar wellaif hir.
|
|
|
|
x137
Ac ar y maes egored - y cneifiant, Hwynt - hwy a gofiant fwyta ac yfed,
O fysg y cawg a'r fasged; -iawn i'r gwyr, Yn huan awyr gael gwledd ddiniwed.
Boreu hâf! O, mor bêr yw! Gwriḍog a hawddgar ydyw.
Awyr iachus, difrychau, -leinw gynhes Li ' y fynwes a phur elfenau: Gwell
na'r gwin yw ei riniau, -na'r dyfroedd, I'n hysprydoedd hesp, yw ei radau,
O, b'le mae myr, balm, a mêl,
O ryw y
foreu awel?
Ar foreu o haf eirian, -mwyned yw
Myned ar daith, allan
Drwy'r dolau a'r glynau glan, -sylwi ar Fri, iaith, a chynar brydferthwch
anian.
Gwel'd y wawr yn dadgloi dydd— Taro'r miwsig trwy'r meusydd, Yr ehedydd yn
rhodio - palmentydd
-
Cynhes wybrenydd, -canu soprano;
Breilw a gwellt yn berlau gwyn,
A'r moelydd yn aur melyn.
レ
г
Drwy rywiog wlith daw'r wawr glau — yn drwyadl
Bêr ei hanadl, i lawr o'r wybrenau.
Holl ser y ne ' lydau, gan ogoniant
A bri eu golwg, o'r wybr a giliant;
Gwaith porphor, pali, bliant, -o'i chylch sydd,
Ei haur adenydd a fawr dywynant;
Croesaw i'w gwyneb crisiant, -mae ' n llenwi Wybren a cherddi - y bryniau
chwarddant.
E ' wena y boreu ' n wyneb iraidd, Nofia ' i awelon drwy wlith nefolaidd;
|
|
|
|
x138
Yr awyr eglur sy ' beraroglaidd; Lleuera ' r haul yn llariaidd - arnynt, A
brysia i'w hynt drwy y wybr santaidd.
Trwy eglur wybren y treigla - yr haul, A'i wres a gynydda;
Y nen enyna; -dyn, am dwyn uchel, Neu y dda awel a ymddyheua.
Chwarau y mae'r tonau tes,
Draw - ' n fwyn ar dirion fynwes
Y werdd don, a'r gwyrdd dwyni; -mor ddyddan Sigla anian yn ngwres y goleuni.
Hapus gwna'r ddol hepian - yn y gwaelod,
Yn ei gwely arian;
Rhoi hún ber mae'r bryniau ban, -ymsuddant I ogoniant a thrwmgwsg anian..
Y llyn a dywyn yn dawel, y mor- Ymorwedd mae'n isel;
Pur yw'r ffynon fingron fel - y gwawl glân, A geidw i hongian yn llygad
angel.
Gwena yr afon gynhes, -mae'i hagwedd Megys hên Euphrates;
Blodau aur, bywiol des -- ar ei glanau, — Mae ha ' a'i wenau'n santeiddio'i
mynwes.
Y wybren lwyswên, laswedd, -fry y ' mhell, I fôr mawr diddiwedd,
Uthr, a dieithrwedd - yr uchelderau, Ddyrch ei haeliau mewn hardd orucheledd.
Daeth ysplenydd hirddydd hâf,
A'r nos î'r, hynaws, araf,
Wele, y dêg, leuad agos,
A'i choron aur yn nechreu nos; Rhwng y ser yn dringo sydd I lan i'r wybren
lonydd.
|
|
|
|
x139
Ar ei thaith mor brydferth yw hi, —yn myn'd,
Mewn môr o oleuni
Tyner; a'r holl fyd tani, -fel y bedd,
I fynwes hedd yn dwfn, dwfn soddi.
Y sêr heirdd sy ' megys rhôs, -fry a'r noeth Furiau'r ne'n ymddangos;
Tawel y'nt, fel seintiau tlos, Yn norau'r nef yn aros.
O'r fath ddedwydd, lonydd len, Loew a sobr, yw'r lâs wybren; O! nad haeddwn
gael toddi, Byth i'w gwynfyd hyfryd hi.
Cysgod dwyfol edyn, estyn drosti, Dystawrwydd santaidd a draidd oll drwyddi
Ei sobr dawelwch wna ysprydoli,
Y nwyd a'r meddwl wrth dremio iddi; Heddwch a dedwyddwch sy'n cyd - doddi, Ar
wedd y lanerch mewn gwyrdd oleuni; Ni ddichyn gwenwyn byd y drygioni, 1
burdeb calon Caergwdion godi; Mae y nef o'i mewn hi, —onid urddas, A gwawr y
deyrnas sy'n gwrido arni, Ond, enyd i rodiana,
A rhoi hynt yw tymhor ha '.
E ' geir gwel'd y llesg a'r gwan, -truain wedd, Yn troi yn awr allan;
Adfywiol wrid haf huan, -mor gywraint, A wna i Henaint anghofio'i hunan!
Trigolion blinion y Blaenau, —a seilion Breswylwyr y Gweithiau,
I waered i'r gororau, - ' n ymdaith gair, A chyniwair o dawch y nwyau?:
Tomania Govel hele
141
|
|
|
|
x140
Palms, I
Tynant i awyr tonau, y moroedd,
---
Eneiniad ydoedd rhag hên wendidau.
Troi mawr sy ' tua'r moroedd, —i fwynhau, O fuddiol wyau y prif faddleoedd.
Mawr lonir ein môr lanau - gan wyr mawr, Gan rai mewn sidanau;
Rhianod uehel riniau, -gan fwyniant Tywynol, wridant dan eu heulrodau; Hwy
ydynt y Naiadau - cysegrlan, Ar eu tro weithian sy'n rhodio'r traethau.
E ' geir rhai eraill o'n gororau - prif, Yn ffoi yn heinyf tua ' r "
Ffynonau, " Ber wenant rhwng y bryniau; -iechyd rydd Awyr y mynydd a
dw'r y mwnau.
Pan daw haf, â'r pendefig
I'w lŷs iach, ger bron glâs wig.
Fe ddaw hwn o'r Brifddinas, -- o ganol Gogoniant ac urddas,
I'w daith, i gael cymdeithas
Geillt tew y glyn, a'r gwellt glâs.
Awel, adar, a blodau,
A'r afon iach gar fwynhau.
Gwel wedd ei barc mawreddog, -yno cwyd
Y coedwydd brasddeiliog
Eu penau sypynog, -gan dawel fwrw
Eu llun a'u delw i'r llyn dihalog;
Ac yno mae'r pysg cenog, -ar gwydr fflwch, Yn nhawlwch yr hwyrnawn heulog:
Hithau, ' r alarch, sy'n marchog - mewn helaeth A hoew bendodaeth, heibio ' n
odidog;
Ar ei lawntiau garlantog — mae'r ceirw ' n bod, — Yno cerdd iyrchod mewn
rhwysg ardderchog.
|
|
|
|
x141
Ei droed a fyn hyd rodfâu, Fo oludog o flodau, — Rhai hygar o bob trogylch
Wisgant ogoniant o'i gylch: Trwy ei erddi try harddwch, Ysplander a ffloewder
fflwch; A dringo gwàl ei balas
Mae'r blodau yn glymau glâs.
Yn awr, drwy'r ardd yn eres - o rwydd, Yr â'r bendefiges;
Hawddgar y rhodia rhwng rhes - o lawrwy dd, A blodeuwydd, fel pe b'ai le
duwies; Hedd yno i'r wyddanes; -rhag twymgar, Dywyn haul llachar, ca'r deildy
' n lloches; Yno, pan t'wyno ' r tes, -gwna ' n wyleiddfryd, Droi am enyd i
awyro ' i mynwes.
Un arall â er ei lles, -i'r iach ffyrdd;
Goruwch ei phen cynhes,
Ei heulrod sy'n y gwawlwres,
Yn dal ffrwd o'r awel ffres.
Yr adeg a ddaeth i rodio - yn yr ardd, Yn yr hwyr digyffro;
I wydd NAF, pan dderchafo, -mewn purdeb Diwrthwyneb, berarogldarth hono.
Yn yr hwyr, pan byddo ' r haul Yn oerach ei wen araul, -
I palas
Y gwelir gyda'u gilydd, -mewn heddwch, Trwy wiw dawelwch ter y dolydd, Lawer
dau, ' n ol treulio'r dydd - o dan gâ, Yn llaswyra, a chael lles o'i herwydd.
Dirfawr hedd yw rhodio'r fro,
Yn rhin yr awr hwyr hono.
M
For the Eslurps
a
www
grodeo
|
|
|
|
x142
smolche y Hart?
Man rhyfedd yw min yr afon - yno Mewn llawenydd calon;
Y plant a lamant yn noethlymion- Ant i'r dyfroedd, golchant eu dwyfron: Hwy
ymdrochant, gan wneyd ymdrechion I nofio wedi fel ynfydion;
Ar hynyna ' n grwynwynion - allant ant, A brywusant drwy'r dolydd breision.
O mor dwym, mor dwym yw'r dydd - y nen flwch Sy'n flam ' ben bwy gilydd:
Y ddaear sêch, ddiawyr, sydd Yn llen o danbeidrwydd llonydd.
Milod y gwaelod giliant, Rhag ei wrês i'r wig yr ant; Y lloi ymaith sy'n
llemain, Rhuthrant fwyfwy drwy y drain; A rhed y buwchod rhydwym, I'r nant
oer ar y nawn twym; A'r hwch heb gofio'i gwrychyn, Draidd i'r llaid, a'r wydd
i'r llyn; Y blodau hwythau ' n eithaf, Y glyn, bengrymant yn glâf; Lludded a
syched mawr sydd, Yn adwytho'r ymdeithydd.
Hiraeth am ddyfroedd oerion, -dymuniad,
Am enau'r lloew ffynon;
Neu alar am awelon
Tirf, oer, iach, ant trwy ei fron.
Weithiau, fe dry'r haf poethwawr, Yn dri mis o sychder mawr; Gwres y nen
gras, enynol, A ddaif holl laswellt y ddol;
|
|
|
|
x143
Y blodau bywiol edwant,
A'r egin î'r, gwywo wnant; Y nant syn, a'r llyn llonydd,
I fynu yn sychu sydd; Milod y gwaelod goleu,
Am ddwr sydd yn ymddyheu;
Wele'r cnwd drwy'r holl frwd fro - ' n ddiadfer, Ac, ar haner addfedu, ' n
crino.
Y mae aeliau y moelydd - bron ar dân, Erys llaw anian dan y gwres llonydd.
Edrych, chwenych, a chwynaw Y mae'r wlad am awr o wlaw. Ofnir fod Duw yn
cefnu,
Neu yn dod a'r newyn du,
Arnom, fel gwlad a theyrnas, —yn gerydd, Heb oed, o herwydd ein bywyd diras.
Weithion Zion at ei Duw neshaodd, Am ei bai wylai - am wlaw ymbiliodd; A'r
Iôn da a'i gwrandawodd; -trysorau Y cymylau o bob cwm a alwodd: Tywyllwch a
fantellodd - y wybr las, A DUW ELIAS drwy'r holl fyd wlawiodd.
Wele, dod y mae cwmwl du - yn awr, Yn araf i fynu:
Hyd wyneb nef ymdaenu - mae'n fawrdrwch, Dan ei dywyllwch mae'r byd yn dallu.
Y gafod chwyrn a ffyrnig,
Glywir hwnt ar glawr y wig,
Drwy'r curwlaw, flychiaw mae'r fflachiog - fellten;
Fe hyllt y nen ruog
Yn ddarnan! mae'r creigiau crog, —a'r penrydd,
Hyll afonydd yn genllif ewynog.
Tori wna taran ehud,
Daearen fawr dery ' n fud!
|
|
|
|
x144
Aman drway in ellen
Jephys luch
Ond rhiniog yw gwlaw'r taranau, -i fad Addfedu pob ffrwythau;
A cheir fod gwefrdan yn iachau Bru anian a'r wybrenau.
Goludog yw'r gwaelodion - ceindeg oll,
Gan ŷd, gwair, a meillion; Golwg a lona'r galon
Ydyw gwyrth yr adeg hon.
Heirdd ddyspleadau o'r dduwies Blodon, Dan lawer rith, ar daen welir
weithion, Hyd ael y mynydd a'r dolau mwynion, Y glyn hir hefyd a glanau'r
afon; Un deg yw'r flodeuog goron, -hi'n iawn, Ni eilfydda dawn celfyddyd
dynion. Uwch ei rin, na choronau - mwya ' ' splenydd, Y rhai sydd yn berchen
gorseddau.
Syw a phêr yw'r Zeyhyron, —yn dod sydd Ar dawel hwyrddydd o'r dolau
heirddion.
A daw gyda brig y dydd, -bersawrion Byw yr awelon heibio ' r heolydd; Ninau
yn yfed yn ufydd - o'u rhin, Ac o bêr win y gwridog wybrenydd; I galon y
dysgwylydd, -o'r fath wledd, Yw difyr hedd yr hyfryd foreuddydd.
Cyniwair mae'r Cynaua, -diwall ŷd, Newid lliw mae'n ara;
Cyn hir ni thal ysmala - ddarymred, Hyd y maes egored - dim segura.
Oriau segur sy ' wagedd, Rhai i'r byw, fel oriau'r bedd; Rhai da yw'r oriau
diwyd-
Oriau gwaith sydd aur i gyd.
with
Guvait
|
|
|
|
x145
མ་
Mae gwawr a threm
y gweiriau - ' n prysur,
Wahodd y bladur - lle'r oedd y blodau
Mor wridog, yn awr mae'r hadau - ' n hongian, Ar ddiosg allan o'u harddwisg
gellau.
Y gweiriwr prif ' n ol llifo - dry i ladd, A'i gostrel lawn ganddo; Diau'r ŷf
o dro i dro,
A thyn ei nerth o hono.
A draw y gwelir bron gyda'r golau, Yr awchog weiriwr, iach ei gyhyrau, Ar y
gwastadedd rhwng brig " ystodau, " A'i arf gloewrid yn ffurfio ei
gloriau: Wele, y gwron a blyg ei arau,
Yn ei fawrwychedd a thaen ei freichiau; Gyra'r bladur drwy y gwair a'r
blodau, Tynu wna hefyd dewion wanafau;
Erbyn hwyr heb ei wanhau, -y mae'r gwr, Yn burion dorwr bron dwy o erwau.
Ar ganol y dydd, ar gynydd — y gwres, Ar y gwair iach, newydd, Gorwedd am awr
fwynfawr fydd, I gael hun rywiog, lonydd.
Wedi hun fwyn, er nad un faith, -efe Adfywiwyd yn berffaith:
Egnia fwy o ddwywaith, -- fel gwron,
At ei orchwylion, mae'n torchi eilwaith.
Ei waith sydd wych heb wrychyn, -- a'i ystod Yn eistedd yn ddillyn:
Deryw ladd; daw ar ol hyn,
Y gwridgoch, fochgoch fechgyn,
I'w ysgwyd a'i wasgar, —gan ei dreiglo Y dydd i wywo ar hyd y ddaear,
Sury
eto
mer of
|
|
|
|
x146
A daw GWEN i wneyd y gwair, -daw ELEN
Harddbryd, wylaidd, ddisglair;
Daw hithau'r lawforau FAIR-
Forwyn dda, firain, ddiwair.
Gwna Mair a'i llefair, yn llon Gynauaf a'i egnion.
Nwyfus yw'r cribyn hefyd, -gwna ddigon, Yn mreichiau tewion y merched diwyd.
Y gwair, un lliw ag arian, I'w daenfàu daw yn y fan.
Y " daenfa " wedy'n ga'i dwyn i fwdwl, A phig hirgoes rhyw braff
fywiog Aergwl, Dygir y gwair digwl - i'r dâs harddwedd; Da fo - nas gomedd
difwynus gwmwl.
Ydoedd, ' nawr sy'n aeddfedu, - Y dywysen felen, fu.
A'i phen tua'r nen yn troi'n hir, -- yn awr, Yn ei ol wrthdröir:
Y nodd, a'i cadwodd yn ir, -- a ballodd, Y grawn a'i yfodd - a hi a grin
wyfir.
Y " cawell " saethog, cywir,
Ar ei chwyf sydd drwy'r ceirch hir.
O fon, yn awr, i fynu, -drwy fendith, Corsen y gwenith crâs, sy'n gwỳnu:
I'r amaeth yn awgrymu, -ddod o'r pryd, I'w dori hefyd - ni raid arafu
Rhoi min ar eu crymanau, —yn bybyr Y mae'r gweithwyr amrywiog hwythau: Heb
aros ar ben borau - myn'd i'r tyddyn Hyd yr hwyr wed'yn, i dori'r ydau
Parluvar
y Cynara!! Sweeer
|
|
|
|
x147
Wele, ugeinwr a golwg hoenus, -
Rhai gwardew, gwychion - rhai gwridog, iachus— Del eu hymadrodd; a dwylaw
medrus,
Yn rês olynol dan wres haelionus
Haulwen, yn medi'n hwylus, -draw yn mhlith Yr aeddfed wenith, ar wedd
fydianus.
Yn eu blaen, ant heb fawr blinaw, - -yn ol Eilwaith, heb ddiffygiaw;
Hogi wed'yn - ail - gydiaw, -cydgychwyn, Hirweithio, dilyn, hyd nerth eu
dwylaw.
O'u hol y pranc y llanciau, -dan rymus, Dyn rwymo'r ysgubau;
Yn eu plith y ceir GWEN hithau, - ' n llawn harddwch,
A moesgarwch yn cymysg geiriau.
A chan yr hael berchenog - ' n ol syber Reol ac arfer, daw'r hyli ' gwirfog.
Wedi yfed o'r difyr - goch enaint, Adgychwyna'r gweithwyr,
Ac awydd drwy bob cyhyr; —ail - gyffraw, A grym i'w dwylaw, a ga'r medelwyr.
Llu ffraeth o'r lloffwyr hwythau, -ar wasgar,
Oresgyn y gryniau;
Gyda'r hwyr, gwedi'r oriau - diwyd, maith, Llon fydd yr effaith - llawn fydd
y rhaffau.
Da wâs, a edy'r d'wysen - ar ei ol,
I'r hwn sydd a'i hanghen;
Efe byth, yn dirf ei ben,
Ni wêl eisiau elusen.
Acw, aur - ystwcanau crâs, tew, ceinion, Sy'n marchog y rhychiau'n rhesau
breision; Britha'r goludoedd, barthau'r gwaelodion, Yn dorchau haelfrig hyd
yr uchelfron,
|
|
|
|
x148
Ust! clyw, hyd awyr drwst y cludeion Trwy'r heolydd a'r meusydd mawsion;
Brysia'r ewybr weision, -a'u cnydau, Tua'r ydlanau tra y deil hinon.
Mae'r haidd yn marweiddio; -rhwyg y bladur
Gaboledig drwyddo;
Acw o'i fwdwl ca'i fudo, -i'r ydlan,
Llaw fwyndew Ornan, ry'r llyfndo arno.
Daeth, yn awr, fendithion hâ ', - " i mewn " oll, Mwynheir yr
olygfa;
Chwa o hawddfyd, uwch y Wyddfa - ' n cyrhaedd, Ydyw y waedd gyda'r llwyth
diwedda '.
Yn y tyddyn hwnt, heddyw,
" HARVET HOME, " a mawrfost yw.
E ' dueddir y didduw - i wneyd gwledd, Nid o glod i'r Gwir - dduw; Dwyn ei
wîn y mae'r dyn annuw, Ac yfed o hwn heb gofio Duw. Boed i ni gydnabod Nâf,
Yn niwedd ein cynauf; Aed i wydd ein Duw haeddawl,
O'i byrth mwyn ein hebyrth mawl.
O, mor hardd! dan do mae'r ŷd; -digonedd
Gaed i gynal bywyd
Anifail, a dyd hefyd;
A Duw gaiff y clod i gyd,
Wele, " Merch Zion " wylaidd, -troi mae hon
66
Tua'r Mynydd Santaidd; "
Lle, i'w Duw, mewn tanllyd aidd, -dyrch mewn sŵn
Geneuau filiwn ar gân nefolaidd.
Goluch, a mawl o galon,
A rydd hi drwy'r weddi hon: -
|
|
|
|
x149
" Diolch it ', DDuw y duwiau, -wyt Awdwr, A gwir Roddwr ein holl
drugareddau.
" Yn dy law fawr deli foroedd, -hercyd Y tarth hefyd wyt o'r eithafoedd;
66
Ti IÔR sy'n mwydo'r tiroedd, -troi'r niwlen, A'i rhoi yn hufen i lawr o'r
nefoedd.
Darpar yn gynar wlaw'r gwanwyn - yr wyt, I ddyfrhau'r glaswelltyn;
Ac i wan eginyn, -diweddar wlaw, Wnai roi i'w fwydaw drwy yr haf wed'yn.
" Tydi'n y dechre a'n creaist, -ac eilwaith Dad ein cynilwaith, Tydi'n
cyneliaist.
" O DDUW Rhagluniaeth, -Iôr y goleuni, Drwy y bydoedd tydi sy'n darbodi;
Dawn a lluniaeth, mawr fel wyd yn lloni, Byrddau anlan a phob rhyw ddaioni;
Drwy y nef a'n daear ni, - ' n drugarog, Dy hael law enwog sy'n dal i weini.
" Yn odiaeth iawn y cnydiaist - ein meusydd, I ni'n dda fwydydd eu grawn
addfedaist; Ein Duw Ion ti adwaenaist - ein heisiau, A'n gwiw ydlanau ag ŷd
a lenwaist;
Pob peth byw a lywiaist, -ti Dduw ' n ddilys, O dy ewyllys da, a'n
diwellaist.
" Dy law bair nawdd, dy lwybrau Nêr, —a fawr, Ddiferant gan frasder;
Ys hawdd drwy'r ddaear a'r sêr, Yw dy wel'd yn dy haelder.
" Y flwyddyn orfoleddus, -IÔR enwog,
Goronaist yn ddawnus;
A'th ddaioni porthianus, -gwnest erddom, Nyni a wyddom - yn ogoneddus.
|
|
|
|
x150
" Y ddaear o'th faddeuant, -a'th ddawn oll,
A'th enw a'th ogoniant;
A'th harddwch, sy ' fflwch - ei phlant, O'i hachos lawenychant.
" Wedi hyn oll, na ad i ni - ein Duw, Er dim afradloni;
Dy roddion - gyru drwyddi,
O Dad, a'th anghofio di.
" Na ad hefyd rhag ein difa,
Drwy dy ddig, i'n droi dy dda; Yn eirf, i wael wrthryfela,
Yn d ' erbyn, ddiderfyn Dduw da.
" Dysg, O Nâf y dasg i ni,
Yn wyneb dy ddaioni,
Fyn'd yn awr i'r llawr a'r llwch, Yn fawr ein hedifeirwch;
Ymroi, a byw b'om ar bwys
Y myrdd o'th ddoniau mawrddwys, Yn addas, i'th ogoneddu,
Moli'th holl waith yn mhlith y llu.
" Diolch it ', DDuw y duwiau - wyt Awdwr, A gwir Roddwr ein holl
drugareddau.
" Duw Iôr sy'n cynal aderyn - y to; Ef yw Tad y pryfyn;
·
Mae ei ofal am wyfyn, A'i law deil angel a dyn.
" Gogoniant a moliant mwy,
A chlod i'r anchwiliadwy;
DDUW IÔR, drwy'r holl ddaearen,
Yr un fath a thrwy'r nef wen. "
|
|
|