3946k Gwefan Cymru-Catalonia. CEINION ESSYLLT. Rhai o Brif Weithiau Barddonol a Rhyddieithol Thomas Essile Davies, neu Dewi Wyn o Essyllt, Dinaspowis. Caerdydd. Argraffwyd gan D. Duncan a’i Feibion. Yn Swyddfa y “South Wales Daily News.” 1874.

09-11-2023

 

0001 Y Tudalen Blaen Google: kimkat0001

..........2657k Y Porth Cymraeg Google: kimkat2657k

....................0009k Y Barthlen  Google: kimkat0009k

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) Google: kimkat096k

............................................ www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_dewi_wyn_o_essyllt_01_1272k.htm CEINION ESSYLLT: Y PRIF DUDALEN

 

A red and green flag

Description automatically generated
..

 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

 Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

CEINION ESSYLLT
Rhai o Brif Weithiau Barddonol a Rhyddieithol Thomas Essile Davies, neu Dewi Wyn o Essyllt, Dinaspowis. Caerdydd. Argraffwyd gan D. Duncan a’i Feibion. Yn Swyddfa y “South Wales Daily News.” 1874.

RHAN 3/4


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/

a-7000_kimkat1356k

Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

A map of the european continent

Description automatically generated

(delwedd 7419)

 

 

Tudalennau 1-150
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_01_3944k.htm

Tudalennau 151-300
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_02_3945k.htm


Tudalennau 301-450
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_03_3946k.htm


Tudalennau 451-588
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_04_3947k.htm

Detholion
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_detholion_3948k.htm

Y testun wedi ei gywiro  mewn llythrennau duon / el text corregit en lletra negra / Corrected text in black type.
Y testun heb eu gywiroi eto mewn llythrennau gwyrddion / el text encara no corregit en lletra verda / Text not yet corrected in green type.

 



x301


MAWLGERDD I RICHARD FOTHERGILL, YSW., RHEOLWR GWEITHIAU ABERNANT A’R LLWYDCOED.
PWY yw y gwladgarwr gwir deilwng o foliant -
Ai’r milwr twymfrydig, dewrgalon, a gaed,
Ar rwysg a chreulondeb yn selio’i ogoniant,
A phorthi ei gleddyf ar anrhaith a gwaed
Ah! na, nid efe yw y teilwng wladgarwr,
Eithr hwnw sy’n ystyr dedwyddwch y gweithiwr,
A’r lles cyffredinol - sy’n sathru’n ei gryfdwr,
Drais, gormes, a llygrodd, a thwyll dan ei draed.

Pwy yw y rhinweddol? Ai pawb a foliennir
Ar golofn a beddrod, a thafod, a thw^r?
Ai’r hwn sy ddysgedig, sy gyfiawn, sy gywir,
A’i holl ymddygiadau cyn llyfhed i dw^r?
Ah! na, nid efe yw yr un gwir rinweddol;
Eithr hwnw sydd hynaws, haelfrydig, tosturiol,
Yn gwneuthur trugaredd a barn yn oestadol,
A ffrwd ei elusen yn rhedeg heb ’stw^r!

Pwy yw’r gogoneddus? ai’r teyrn ar ei orsedd?
Ai’r arwr sy’n cychwyn mewn rhwysg ar ei farch?
Ai’r hwn sydd yn berchen awdurdod a mawredd,
A miloedd ar filoedd yn gwneuthur ei arch?
Y gwir ogoneddus yw’r hwn y mae rhinwedd
Yn gwneyd iddo goron o berlau trugaredd,
Yr hwn nid yw golud, awdurdod, na mawredd,
Na dim ond egwyddor yn sylfaen i’w barch.

Yn nosparth y cyfryw ddynoliaeth oruchel
R. FOTHERGILL enwog sy’n gwneuthur ei le;
Nid comed lenyddol yn fflamio’r bell orwel,
Na seren wleidyddol fawr, fawr, yw efe;
Ond tawel Gaergwydion o ddysglaer rhinweddau,
Gwladgarwr cymedrol yn estyn ei freichiau

 

 

x302

O gylch ei gym'dogaeth, oherwydd, yn ddiau, Mae gwir garedigrwydd yn dechreu yn nhre '. Nid am nad yw'n teimlo anghenion y Pagan,

Gorthrymder, ac adfyd yr estron yn nghyd; Na, na, mae ei galon, fel y cwmwl, yn hedfan Goruwch diffeithleoedd dynoliaeth i gyd, — Eithr am fod y cyfryw anghenion yn nghartre ', Nas gall y gwladgarwr Crist'nogol ei godde '; Ac onid y dwyfol orchymyn oedd dechreu. Pregethu ' Nghaersalem, ac yna'r holl fyd? Gadewch i ni weled ein harwr urddasol Yn awr yn ymsymud yn ardal ei hun; Efe yw canolbwynt sefydlog, attynol,

Rhyw ganoedd ar ganoedd o weithwyr sy gûn; * Hwy droant o'i amgylch yn gyson a gwastad, Yn teimlo dirgelwch ei nerth a'i ddylanwad, Yn obaith, llawenydd, cyfiawnder, a chariad; Grwgnachwr yn mhlith yr holl dorf nid oes un. Yn wir, dyma fangre boddlondeb a chysur, Diwydrwydd, digonedd, a llwyddiant heb rith, Mae megys cyfamod rhwng meistr a gweithwyr I gadw anghydfod a'i achos o'u plith; Mae un yn ystyriol, haelfrydig, a thirion, A'r llall yn ddiwydlaw, ymdrechgar, a ffyddlon— Un olwyn yn dilyn y llall yn ei throion,

A'r peiriant yn ysgog mor esmwyth â'r gwlith. Ni chlywir ei weithwyr lluosog yn grwgnach- " Mae'r tâl yn rhy isel, a'r gwaith yn rhy drwm, Mae'r farchnad i fyny, a bywiog yw masnach,

Mae'n meistr mewn llawnder, a ninau yn llwm; Gadewch i ni godi, a sefyll bawb allan, Mae'r fantais yn ddyblyg in ' gyrhaedd ein hamcan,

* O 1,500 i 2,000 o weithwyr.

 

 

A black and white text

Description automatically generated

x303

Yr eirchion sy'n helaeth, a gwaith bron yn mhobman, Mae gobaith y llwyddwn i gael mwy o swm. "

Ni chlywwyd ein harwr hael yntau'n dywedyd— " Mae'r gyflog i fyny, a'r farchnad i lawr, Ein nwyddau sy'n gostwng, paham na fydd hefyd Ostyngiad yn nghyflog y gweithiwr yn awr? Olwynion masnachaeth sy'n troi yn rhy araf, Troi rhai o fy ngweithwyr ar gerdded sydd oraf, A rhoddi fy ngwaith i'r cynygiwr iselaf,

Gan fod amgylchiadau yn cyfnewid mor fawr. "

Ah, na ! y mae cysur, a dawn, a dyrchafiad

Ei weithwyr yn pwyso'n rhy drwm ar ei fryd, A chôf o'u honestrwydd, a'u serch, a'u cydgordiad, A'u rhin ymarferol yn aros o hyd;

Gwell ganddo yw myned ei hunan yn oestad I lawr gyda'r aflwydd nâ gwasgu'n ddideimlad Gyflogau ei weithwyr i lawr gyda'r farchnad,

Na chwaith eu gwasgaru ar draws yr holl fyd.

Pa les yw i weithwyr a meistriaid gynghreirio Yn erbyn eu gilydd parth cyflog a gwaith? Bydd elwant y naill yn lleihau ac yn treulio, Tra'r llall yn newynu ar haner ei daith; Ac, O ! nad ystyriai y gweithiwr anffodiog, Cyn rhoi y " Strike " ynfyd, gall meistr cyfoethog Fyw'n hwy heb ei elw nag ef heb ei gyflog,

Fod sail ei holl ddewrder ar waelod rhy laith.

Mae'n FOTHERGILL deilwng yn deall athroniaeth Ei lwydd a'i ddedwyddwch a'i weithwyr yn nglŷn, - Mai cymwynasgarwch, addfwynder, dynoliaeth,

Sy'n ennill ffyddlondeb a hyder y dyn;

Nad yw trais a gormes, na thrahaus ymddygiad,

Yn nghylchoedd cymdeithas, fwy nag mewn gwlad - lywiad,

 

 

 

x304

Ond creu anfoddlonrwydd, cenhedlu gwrthweithiad, — Fod gormes yn fynych yn lleiddiad ei hun.

Ceir ef a'i holl weithwyr yn doeth gydystyried Manteision eu gilydd, a'u gwneuthur yn rhwydd; Cydrhyngddynt mae'r cyfryw ddiysgog ymddiried Sy'n rhwym o gyfarfod mewn cysur a llwydd; Fe folir ei weithwyr am hedd ac ymroad, Ac yntau am gleuder, uniondeb, a chariad, A medrus athrylith, gwroldeb, a phrofiad,

I droi yn ngwahanol orchwylion ei swydd. *

Nid talu ei weithwyr mewn aur ac mewn arian, Heb wasgu a grwgnach yn unig y mae, Ond estyn manteision i fawr ac i fychan

I enill a gwneuthur ei llwyddiant yn glau, A phrynu eu nwyfau lle nad yw cyfundrefn Y Truck yn gwneyd anrhaith, gorthrymder, ac annhrefn, Ni chafodd, er cynyg drachefn a thrachefn, O fewn ei derfynau wneyd lloches na ffau.

Oherwydd ei ofal dros iechyd ei weithwyr,

A'i sêl dros lânweithdra, dynoliaeth a'i câr, Hyn hefyd a'i cododd yn fywiog a phybyr

Gadeirydd " Bwrdd Iechyd " bro deg Aberdâr; Os budredd yn aros yw achos afiechyd, Ac ymborth yr heintiau - ca hyn ei lwyr symud, Mae gobaith na welir y Geri'n dychwelyd

I'r ardal byth mwy yn nghyflawnder ei far.

Wrth hapus reolau athroniaeth a rhinwedd

Y gesyd ei gynllun godidog i lawr,

Drwy hyny mae'r gweithiwr mewn bwthyn mor lanwedd, Mor siriol ei olwg â gwridog ei wawr;

Fel Arolygwr y gwaith.

 

 

x305

.

Ei fwthyn bach sydd wedi'i hardd adeiladu Ar dwynyn gorheulog a'r awel o'i ddeutu, Lle mae yr afallen a'r rhoslwyn yn tyfu, A'r calch a'r blodeuyn yn gwsgar eu sawr.

Efe a gâr agor ei ddôr i'r amddifad,

Ei lydain adenydd sy gysgod i'r tlawd, Mae'n briod i weddwon - mae'n går i drueiniaid, Ac idd ei holl weithwyr yn briod a brawd; Efe yw gweinidog eu prif anghenrheidiau, Efe ydyw angel gwarchodol eu breiniau, Efe yw rhinweddel arweinydd eu camrau,

Efe yw tymhorol dywysog eu ffawd.

Efe ydyw doeth a darbodus gynlluniwr,

Twymfrydig sylfaenydd, a noddydd, a nerth, Eu Budd Gymdeithasau - gyferfydd â'u cyflwr Mewn llawer amgylchiad adfydus a cherth; Os hwy oddiweddir gan ddamwain a chystudd, Cant ynddynt orphwysdra a meithrin llawenydd, A byw mewn cyflawnder — a phan y dêl hwyrddydd Ei heinioes, cânt brofi mai mwyfwy eu gwerth.

Er mwyn pa beth bynag all chwyddo'n cysuron, Ei enw rydd gydag hyfrydwch i lawr; Pwy sydd fel tan'scrifwr mor helaeth ei galon,

A phwy mewn dylanwad sydd hefyd mor fawr? Os yn ei haelioni yr egyr ei fynwes,

Bydd myrdd yn ei ganlyn - ond heb ei orddiwes; Efe yw y peiriant sy'n ysgog cerbydres

Holl brif ddiwygiadau ein hardal yn awr.

Ei ddwylaw sy'n ysgog a'i draed yn ymsymud Hyd lwybrau trugaredd, cyfiawnder a barn, Caethiwed a gormes, cribddeiliaeth a geufryd,

Gerbron ei wynebyryd a gwympant yn garn;

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x306

O gylch ei holl weithiau mae rhyddid yn llamsach, A llwyddiant yn gwneuthur ei gartref dianach, I gario celfyddyd, a gwyddor, a masnach, Fe wnaeth yr yspwrial a'r sindrys yn sarn. Clywch ! clywch ! ar ucheldwrf ei filmil beirianau, Fel mellt rhwng y bryniau yn gwau ac yn gwân, Edrychwch ar fawredd ardderchog ei weithiau- Pob un sydd o'n cwmpas fel dinas o dân ! Trafnidaeth y moroedd sy'n parchus ymgrymu, I fasnach oludog mynyddoedd hen Gymru, Diwydrwydd a llwyddiant sy'n cydymgusanu- Y môr a grechwena, a'r mynydd a gân. Llwyddianus dywysiad ei weithiau cwmpasog, A gwawr ei haelfrydedd hyd fro Aberdâr, ' Ynt dystion o nerthoedd athrylith gyfoethog Ei feddwl a'i galon dywynant yn glaer; Mawrygant gynlluniau'r Peirianydd dyfeisgar- Y medrus Gyfrifydd a'r Fferyllt cywreingar, Y bryd anturiaethus, a'r fron gymwynasgar, - Athrylith a Rhinwedd sydd yma'n ddwy chwaer. Y mae ei athrylith grafangol, gref, ddioed, Yn cadarn amgylchu y mynydd a'r pant; Ei llygad sy'n gwylio celfyddyd y Llwydcoed, A'i bys sydd yn tywys holl waith Abernant. * Olrheinir ei chamrau o'r mwnglawdd i'r odyn, O'r odyn i'r tawdd - dy, o'r tawdd - dy goleuwyn I'r gadarn forthwylfa - ac yna rhoer llinyn I fesur yn gywir ëangder ei chant + Athrylith ei feddwl sy'n dra gogoneddus,

Ond dwyfol athrylith ei galon sy'n hardd, Y mae ei phrydferthwch yn ddigon llewyrchus I ddwyn yr athronydd i deimlad y bardd;

* Y mae efe yn arolygu Gwaith Abernant a'r Llwydcoed. + Circle,

,

 

 

 

x307" Ysprydion gwas'naethgar " y gwnaeth ei serchiadau I weini ar bawb a ofynant ei ffafrau,

Yn nghanol hawddgarwch ei chreadigaethau, Y Nefoedd a wena, a'r ddaear a chwardd.

Pa sawl cydnabyddiaeth ddiolchus a geirber, Pa sawl dirprwyaethol * anerchiad a gadd, Am wneuthur cydwybod a phleidio cyfiawnder,

Heb edrych ar gyfoeth, na gallu, na gradd? Ac O ! na chyflwynid pob pleideb mor wrol, Ac fel ei un yntau yn ryddid llifeiriol: Pob treisiwr cydwybod gai drengi'n yr heol,

A phob anghyfiawnder a gormes eu lladd.

Pob serch yn ei galon lifeiria gan Ryddid, Dyfnderoedd ei fynwes hiraethant am hon; " Meddianed pawb, " meddai, " ei hawliau cynhenid, " Prysured, O, Ryddid, dy Jubili lon;

Boed rhyddid i weithiwr - boed rhyddid i gaethwas, Boed rhyddid cyfiawnder anfarwol ei urddas, Yn llenwi pob calon - pob talaeth a theyrnas, Boed rhyddid cydwybod trwy'r ddaear o'r bron. Angelion edmygant ddyngarwch goruchel

A chwaeth ddyrchafedig moesoldeb ei fryd, Nid noddi ei weithwyr rhag newyn ac oerfel, A wna ef yn unig - ond estyn o hyd; A darpar cyfryngau lle dysgant wirionedd, - A chanfod prydferthwch, moesoldeb, a rhinwedd, A theimlo nad bwyta, a chodi, a gorwedd, Yw unig ddybenion eu byw yn y byd.

Y mae ei haelioni fel ffrwythlawn afallen,

A'i changau trwmlwythog yn gostwng i'r llawr; A llawer un welodd drychineb ag anghen

Yn eistedd o danynt yn hyfryd ei wawr.

* Mae holl Aberdâr yn ffurfio dirprwyiaethau, yn awr ac eilwaith, i gydnabod Mr. Fothergill am ei bledleidebau rhyddgarol, ac am ymdrechion diwygiadol

 

 

x308

Ond awn a gofynwn i'r Llyfrgell * a'r Ysgol, Yr Eglwys, a'r Capel, a'r Achos Cenadol, A gawsant hwy ganddo? Atebant yn unol

" Yr ydym ddyledus i'w gariad a'i ddawr. "

Mor werthfawr fod gallu a rhywiog ewyllys,

Haelfrydedd a chyfoeth yn cwrddyd yn nghyd, Rhagoriaeth cynneddfol ― uwchafiaeth llewyrchus, A gwir ostyngeiddrwydd yn gwisgo'r un bryd, - Awdurdod yn wesyn i rad a hynawsedd— Athrylith yn forwyn i foes ac i rinwedd, — Y mae y fath radlawn a threfnus gymysgedd Yn gwneuthur ein harwr yn addurn i'r byd.

Er cymaint ennillwyr yw canoedd ar ganoedd, Drwy'r teithi engylaidd a enwyd yn awr, Eu perchen yw'r mwyaf, oherwydd o'r nefoedd Hwy dynant ddwyfolach bendithion i lawr; Fe wyr am dangnefedd nas gwyr y rhai crintach, A phleser nas gwybydd cariadau'r gyfeddach, A choron a theyrnas sy ' filwaith gadarnach Nag eiddo'r gormesdeyrn trahausfalch ei wawr. Bu llawer gorymdaith cyn hyn yn cydnabod Gweithredoedd llewyrchus ei gariad a'i hedd; Ond mae, fe debygid, un arall i ddyfod

Mewn rhwysg a gogoniant, er gwneuthur ei sedd, Yn mhlith y dyngarwyr, yn nheml anrhydedd: A phan y gorpheno ei einioes ddysgleirwedd, Duwiesau Athrylith, Prydferthwch, a Rhinwedd,

A blodau bythwyrddion a drwsiont ei fedd.

* Ychydig amser yn ol, cyfranodd Mr. Fothergill £ 30 at Lyfrgell Aberdâr.

 

 

 

x309 Y BEIRDD CYMREIG.

LLYTHYR I.

Y MAE y beirdd, neu y rhai hyny a ymgyfenwant felly, yn aml a lluosog iawn yn Nghymru y dyddiau presenol; yn fwy felly nag yn unrhyw oes flaenorol, ar a wyddom ni am dani; ac mae y ffaith hon o amlder ein beirdd yn achos o syndod i rai, ymffrost i eraill, a gwatwaredd i lawer, —syna rhai, nid am fod ein beirdd yn aml, eithr am eu bod yn amlach yn ein gwlad ni nag mewn unrhyw wlad arall; ymffrostia eraill yn y ffaith, am y tybiant eu bod yn arwydd anghamsyniol i'r byd o bresenoldeb, ffafr, helaethrwydd, a chyflawnder ein hathrylith; gwawdia llawer, oblegyd tlodi, iselder, anwybodaeth, a dinodedd y teulu lluosog hwn, a elwir yn broffeswyr awen ac athrylith. Y mae golygiadau yn gystal a serchiadau di- rywiedig dynoliaeth yn gyffredinol, wedi myned mor fydol, materol, ac anianol eu hansawdd yn ein hoes ni, fel nas edrychir ar unrhyw broffes, neu ddadblygiad o athrylith, gan nad pa mor ddwyfol bynag y geill ei natur a'i bonedd fod, gyda y parch, y mawredd, a'r teilyngdod priodol iddi, os na bydd y cyfryw un yn gysylltiedig â chyfoeth, teitl, awdurdod, neu ryw sefyllfa wladol neu gymdeith- asol anrhydeddus arall. Dyma drueni mawr athrylith drwy yr oesau, ―oddiyma y mae ei helbulon a'i thrallodion - ei rhwystrau. ei chroesau, a'i phrofedigaethau chwerwaf yn cyfodi i pa sawl perchenog athrylith - parchus, glandeg, a boneddigaidd o wedd ac ymddygiad - a yrwyd gan iselder ei amgylchiadau i'r tafarndy, i geisio boddi syniadaeth ac ymwybyddiaeth ofidus ei feddwl, yn nhrwyth dinystriol y cwpaneidiau meddwol? Pa sawl bardd a llenor haner - ddwyfol arall, megys CowPER ac eraill, a yrwyd gan y syniad a'r teimlad, cysylltiedig â thlodi ac â'i sarhad, i brudd- glwyf anadferadwy, ac i'r bwriad brawychus o hunan - d dinystriad- a neb heb ystyried? " Nid oes dadl nac amheuaeth, nad yw tlodi yn ffynonell gynyrchus llawer o'r helbulon, y drygau, a'r prof- edigaethau ag sydd yn cyfarfod â phlant dynion yn y byd hwn; yn fwy felly na chyfoeth, er nad yw hwnw heb ei brofedigaethau cryfion, a'i lygredigaethau dwfndreiddiol. Paham y mae Rhaglan- iaeth foesol neu yr ewyllys ddwyfol wedi gweled bod yn dda gysylltu neu ieuo athrylith â thlodi ac â helbulon y byd hwn, sydd broblem nad yw y meddwl dynol yn ei sefyllfa bresenol yn alluog i'w ddadansoddi a'i amgyffred yn gyflawn. Mae yn ddiau fod yn hyn. yn mhob gyruchwyliaeth arall o eiddo Rhagluniaeth, ddoeth- ineb, bwriad, neu ddyben daionus yn gorwedd y tudraw i'r lleni, y rhai nis gall llygad o gnawd ganfod yn glir drwyddynt. A ydyw Rhagluniaeth Ddwyfol wedi gweled yn oreu beidio ieuo athrylith a chyfoeth â'u gilydd, rhag i'w perchenog ymddiogeiddio, ymlythu,

66

fel

 

 

 

x310

ac ymlygru, ac esgeuluso gwrteithio ac ymarfer y ddawn werthfawr a roddwyd iddo i'r dybenion teilwng hyny? Neu, a ydyw Rhag- luniaeth, wrth ordeinio athrylith i ymweled â chyrchfanau tlodi fel hyn, am ddangos i ddynion ei diystyrwch o olud a mawredd y byd hwn, fel pethau nad ydynt feddianol ar allu i ychwanegu dim at ei gwerth a'i theilyngdod hanfodol hi, y mae ysbrydolrwydd a dwyfoldeb eu bonedd yn ogoneddus ynddynt eu huuain, ac yn tra rhagori ar yr holl bethau a ystyrir yn fawr ac anrhydeddus gan ddynion? Neu, a ydyw athrylith wedi ei bwriadu gan ddaioni dwyfol i fod yn ffynonell cysur a chyfrwng mwynhad i ambell un o'r dosbarth hwnw nad oes ganddo fawr o bethau daionus y bywyd hwn i ymgysuro ynddynt? Fodd bynag am hyny, y mae yn ffaith fod athrylith yn talu ymweliadau mynychach âg anedd y llafurwr nag â phalasdŷ y pendefig; a'i bod yn fynych yn llewyrchu yn loewach a gogoneddusach yn nghanol anfanteision tlodi nag y mae yn nghanol rhwysgfawredd a gwychderau amrywiog cyfoeth a moethusrwydd. Y mae athrylith, yn herwydd ei chysylltiad â thlodi, wedi bod yn achos iddi gael ei phrisio o dan ei gwir werth gan y bydolfrydig cyn yma, ac, o'r ochr arall, wedi bod yn achos iddi gael ei thra - derchafu oherwydd ei chysylltiad â chyfoeth ac anrhydedd - athrylith athronyddol neu farddol, os bydd yn dyfod o bresenoldeb cyfoeth, rhyfedd y fath wychder a rhagoroldeb sydd yn perthyn iddi, fel ag y cyd - dystia y ddwy linell ganlynol allan o'r Family Herald: —

" If a lord should own the happy lines,

How the wit brightens, how the style refines ! "

Mae yn wir y gall addysg a chyfoeth addurno a chlasureiddio ychydig. ar gynyrchion athrylith, ond megys ag nas gall gwisgoedd drudfawr na chyfoeth lawer wneyd dyn yn foneddwr, felly nis gall addysg, cyfoeth, nac enw genhedlu athrylith, lle na byddo yn hanfodi yn barod.

LLYTHYR II.

Mewn oesoedd a aethant heibio ni fu un dosbarth o gymdeithas, nac un urdd yn mhlith un llwyth, iaith, na chenedl o ddynion yn fwy anrhydeddus a dylanwadol na'r beirdd Cymreig. Hwynt - hwy oeddynt weinidogion y ffydd arwyddluniol a goruchel hono, credoau pa un a gynrychiolid gan wahanol wrthddrychau, ac amrywiol phenomena natur. Natur oedd eu crefydd hwy, yr hon yw y nesaf o ran ei dwyfoldeb i grefydd ddadguddieg, neu Gristionogaeth, Gallesid galw Derwyddiaeth yn farddgrefydd, neu grefydd farddol y genedl. Derwyddiaeth ydoedd fath o sefydliad crefyddol, yn yr hwn y canolbwyntiai holl addysg, gwybodaeth, gallu, ac awdurdod y genedl. Perthyn i weinyddiaeth y sefydliad hwn oedd yr ofydd,

 

 

x311

neu y gwyddon, yr athronydd, y dysgawdwr, a'r deddfwr; a'r cwbl, feallai, yn cydgyfarfod yn mherson y bardd - y bardd oedd prif weinidog, neu ysbryd llywyddol yr holl sefydliad. Yr oedd clod a mawredd, nerth a dylanwad y sefydliad hwn yn taranu drwy holl Ewrob, os nid y rhan fwyaf o'r byd adnabyddus yn yr amser hwnw. I lawr drwy y ffurf a'r ddefodaeth ardderchog hon ar farddas, y disgynodd yr awen Gymreig yn ffrwd o'r ysbrydoliaeth fwyaf effeithiol a phur ag a allasai natur gynyrchu; bu am oesoedd wedi hyn yn gwneuthur ei lloches yn mynwes y teyrn, y tywysog, a'r pendefig. Mewn oesoedd diweddarach y disgynodd yn îs tua bôn y goeden, ac ymnythodd yn mynwes yr yswain, y periglor, a'r pregethwr. Y mae y tri chymeriad olaf hyn ag a fu yn gwneuthur i fyny lawer o'i phroffeswyr wedi myned yn fwy prin ac anaml yn yr haner canrif diweddaf hyn, fel nad oes yn mhlith ei phroffeswyr yn bresennol ond ambell fasnachwr, ambell gelfyddydwr, ond lluaws mawr o lafurwyr tra amddifad o bob manteision; hithau, wrth iddi ymddarostwng a dyfod o honi i lawr i gylchoedd iselaf cymdeithas, a gollodd lawer iawn o'i bri a'i hurddas yn ngolwg blaenoriaid a phendefigion y genedl. Y mae ein bardd feirniaid yn lluosog ac amrywiog iawn hefyd; y mae yr ymhonwyr hyn yn cael eu dethol o blith pob dosparth o ddynion - yn mhen y rhês gwelir y pre- gethwr, yna'r argraffwr, yr ysgolfeistr, y masnachwr, y peirianwr, y goruchwyliwr, yr hynafieithydd, y meddyg, y pobydd, y cigydd, y cobler, a'r ffidler - - h.y., unrhyw un y byddo y tipyn lleiaf o lenyddiaeth yn ei ben, neu arian yn ei boced - serch fod ei galon mor amddifad o farddoniaeth ag yw creigiau yr Eryri o laswellt. Yn ngwyneb ffeithiau fel hyn, o fath ansawdd y gellir yn rhesymol ddysgwyl fod llenyddiaeth ein gwlad?

LLYTHYR III.

Myn rhai fod a fyno golygfeydd Cymru âg amlder ei beirdd, neu â chreadigaeth athrylith farddonol y genedl; pa olygiad, i'n tyb ni, sydd wrthresymol ac anathronyddol. Pa reswm fod golygfeydd Cymru yn creu beirdd yn fwy na golygfeydd rhyw wlad arall? A yw yr ysbrydoliaeth sydd yn hanfodi yn ngolygfeydd Cymru yn meddu mwy o'r gallu barddgreawl tybiedig hwn na'r ysbrydoliaeth a ymgyfyd oddiar olygfeydd gwledydd eraill? Nid oes genym un sail i gredu hyny, oblegyd y mae golygfeydd mwy gwyllt, mwy rhamantus, mwy ysblenydd, mwy ardderchog, mwy mawreddus, a mwy arddunol mewn amryw wledydd nag y sydd yn Nghymru; o ganlyniad, dylai yr ysbrydoliaeth a ymgyfyd oddiar y cyfryw olyg- feydd fod yn fwy epilgar a dylanwadol na'r ysbrydoliaeth a ymgyfyd oddiar olygfeydd Cymru, mewn cyfartalwch i ragoriaeth eu golyg- feydd hwy ar yr eiddo hi - os yw y ddamcaniaeth o fod a fyno

 

 

 

x312

golygfeydd gwlad â chreadigaeth ac âg amlder ei beirdd, yn gywir. Os yw mân afonydd, mân ddyffrynroedd, mân greigydd, a mân fynyddoedd Cymru wedi creu beirdd mor wych, a chymaint o honynt hefyd, pa faint, a pha fath feirdd ddylem ddysgwyl o ymyl- oedd y Niagara, yr Ohio, y Prairi, yr Alp, yr Andes, a'r Himalaya? Oni ddylai fod beirdd y parthau hyn, lle mae golygfeydd mor fawr- eddog yn bodoli, fod yn lluosocach, neu o'r lleiaf fod yn rymusach ac eangach eu hathrylith na beirdd mân - olygfeydd Cymru, neu ryw wlad arall, os yw y ddamcaniaeth y soniwyd am dani yn flaenorol yn gywir?

Nid ydym yn meddwl fod cymaint ag un ffaith yn hanes cenedl yn ffafriol i'r ddamcaniaeth o fod gan olygfedd gwlad ran yn nghreadigaeth yr awen, ac yn amlder ei phroffeswyr; ond y mae yn wirionedd athronyddol fod a fyno golygfeydd gwlad â nodweddion meddwl, neu âg ansawdd athrylith ei thrigelion Y mae pob gwrth- ddrych, pob golygfa, pob moes, a phob meddwl ag y mae meddwl arall yn dyfod i gyffyrddiad mynych â hwy, yn gadael rhyw faint o'u hargraff arno, Y mae y meddwl yn graddol lunio ar eu delw, ac y mae y ddelw hono yn ganfyddadwy, nid yn unig ar gyfan- soddiad moesol a deallol y dyn, ond ar brydweddau ei wyneb, ac hyd y nod ei wisgoedd, yn nghyd a'i gysylltiadau mwyaf allanol. Mae y dylanwad gwrthddrychol hwn yn ddeddf sicr a diymod, i'r hon y mae yr holl fyd moesol yn ddarostyngedig - ffrwyth a dylan- wad hwn yw pob efelychiad, yn oddefol a gweithredol. Goddefol yw yr efelychiad pan mae y dyn o ran ei feddwl, ei foes, a'i athry- lith, yn ymlunio ar ddelw y dylanwadau a'i amgylchynant, a hyny braidd yn anymwybyddus iddo ei hun; gweithredol, pan y bydd y dyn, mewn celfyddyd neu ymarweddiad, yn ceisio dilyn yr esiamplau hyny ag y bydd efe yn llygad - dyst o honynt; yn mha rai hefyd y bydd ei ewyllys a'i ddeall yn cydweithredu. Efelychiad goddefol- ( passive ) - yw y ddelw neillduol hono ag y mae ardymheredd, lliw, meddwl, ac athrylith cenedl, neu hinsoddaid o ddynion yn ei gwisgo. Ond nid y ddelw anianyddol ar ddyn yw testyn ein olrheiniad ni yn bresenol, eithr y ddelw foesol neu y dylanwad oddiwrth olygfedd gwlad, ag sydd yn gosod ei argraff ar athrylith farddol ei thrigolion. Fe wyr darllenwyr craffus y Fellten fod gan hinsawdd dylanwad mawr ar liw ac ardymheredd ei breswylwyr y mae yr un fath gyda golwg ar eu hathrylith.

Y mae golygfeydd natur yn cynyrchu teimladau cyfatebol yn mynwes y dyn, a'r teimladau hyny, eilwaith, yn actio ar ei gyfan- soddiadau moesol a deallol nes eu dwyn i gydymagweddiad, cyd- ffurfiad, cydnawsedd, neu fath o gyd - ddelweddiad â'r golygfeydd hyny; er enghraifft, gellir dysgwyl i gynyrchion yr athrylith awen- yddol hono a breswylia y gwastadeddau llyfnion, y twyni gleision, y dolydd melfedaidd, a'r meusydd blodeuog i gael eu nodweddu

 

 

A page of a text

Description automatically generated

x313

gan brydferthwch, tlysni, tynerwch, a symledd; hono a breswylio y ddinas balasog, a'r llys pendefigaidd, i gael ei nodweddu gan addurn, urddas, ysplander, a godidowgrwydd; hono a breswylio y llanerch unig, y dyffrynoedd culion, a'r fforestydd tywyllion, i gael ei nodweddu gan ddwysder, difrifoldeb, edmygedd, ac addolgarwch; hono a breswylio y llechweddau clogwynog, y gelltydd anial, a'r trumau creigiog, i gael ei nodweddu gan wylltedd, rhamantedd, hyfder, a beiddgarwch; hono, eilwaith, a breswylio yr afonydd rhaiadrog, y coedwig tymhestlog, a'r mynyddoedd uchelben, i gael ei nodweddu gan rymusder, ardderchogrwydd, a gorucheledd; hono a breswylio wlad yr afonydd grisialog, y bryniau glasliwiog, y nos serenog, y dydd heulwenog, a'r nen dderchafedig, i gael ei nod- weddu gan hawddgarwch, dillynder, lledneisrwydd, a phurdeb, a hono fydd yn dyfod o'r ysgol, y capel, a'r coleg, i gael ei nodweddu gan amrywiaeth, clasuroldeb, moes, a dyhewyd. Fel yna mae yr allanol yn effeithio ar fewnol y dyn; ond dichon nad yw y dalan- wadau yn cario yr un dwysder ar bob cyfansoddiad fel eu gilydd; eithr eu bod yn dylanwadu i raddau mwy neu lai ar berson, cym- deithas, a chenedl, sydd ffaith amlwg, a gwirionedd anwadadwy.

LLYTHYR IV.

A oes rhywbeth gan foesddysg neu feddylddysg a deifl ryw frith- oleuni ar y cwestiwn, Paham mae ysbryd y genedl Gymreig mor farddonol, a phaham mae y beirdd yn lluosocach yn ein gwlad ni, mewn cymhariaeth i rifedi ei thrigolion, nag mewn un gwlad arall? Nid ydym yn clywed rhyw lawer am luosogrwydd ei chelfyddydwyr medrus, ei gwyddonwyr enwog, ei hathronwyr amgyffredfawr; mae yn wir fod ambell un, yn achlysurol, i'w gael, ond dim mewn cym- hariaeth i'r pentwr dirfawr o feirdd ag a geir ynddi yn yr oes bresenol. Wel, beth all fod yr achos neu yr achosion o amlder locustiaidd y beirdd Cymreig? Nis gall ein golygfeydd fod yn achos o hyny, oblegyd mae y rhai hyny gan bob gwlad, ac i raddau ardderchocach a gogoneddusach nag yn Nghymru; ac eto, nid yw y gwledydd hyny lle y bodolant yn hynod yn y byd am amlder eu beirdd, fwy nag yn y gwledydd hyny lle mae y golygfeydd yn brinach a llai effeithiol.

Mewn atebiad i'r cwestiwn uchod, tybiwn, yn y man cyntaf, fod y Gynghanedd Gymreig yn gyfrifol am fodolaeth llawer iawn o'n beirdd, Mae hanfodolion cynghanedd yn bodoli yn hollol naturiol yn yr iaith Gymreig; ac mae y gynghanedd hono yn disgyn gyda'r fath swyn neu deimlad pleserus ar bob clust Gymreig, nes hud- ddenu llawer dyn o duedd gywreiugar i geisio ei meistroli, gan gwbl gredu ar yr un pryd fod holl anhebgoroion bardd a barddon- iaeth yn hanfodi ynddi. Wedi meistroli llinell o gynghanedd fel

 

 

 

x314

hyn, hynod oedd hunanfoddhad y dyn yn herwydd hyny, yr hyn eil- waith a'i symbylai yn mlaen at anturiaethau pellach yn yr un cyfeir- iad, nes o'r diwedd y bydd y gynghanedd ar ben pob bys ganddo; erbyn hyn credai, wrth gwrs, ei fod yn fardd cyflawn a diledryw, yn ol braint a defod Beirdd Ynys Prydain; gorphwysodd a boddlon- odd ar hyn, ac nid aeth yn ol nac yn mlaen drwy gydol ei einioes. Nodweddid ei gynyrchion barddol gan amddifadrwydd gwreiddiol- der a newydd - deb - eiddilwch meddwl, cyffredinedd syniadaeth, sychder ac anghydnawsedd eu pathos - ymadroddion annesgrifiadol a chymysglyd - a rhyw hoffder ac ymgynyg tragywyddol at gyng- haneddu pob mesur rhydd y canai ynddynt, canys credai mai hyn oedd prif addurn y gerdd, ac hynyma oedd unig wrthddrych ei ymgais, ac unig nôd ei uchelgais o'r dechreuad.

Ffynonell gynyrchus arall barddoniaeth, neu ysbryd barddonol Cymru - ac, yn wir, ei hysbryd cerddorol hefyd yw teimladaeth grefyddol y genedl. Y mae syniadaeth crefydd wedi treiddio yn ddyfnach i, ac wedi disgyn yn helaethach ar, feddwl ein cenedl ni, a'i gwirioneddau wedi gwreiddio yn ddyfnach yn ei phrofiad, nag yn eiddo un genedl arall. Nid ydym am haeru nad oes llawer cenedl arall yn fwy gwylltselog a phenboeth grefyddol na hi, ond arwynebol a ffurfiol ydynt. Y mae dyhewyd a duwiolfrydedd y genedl Gymreig yn fwy pur, dwfn, ac egwyddorol - y mae ysbryd ein cenedl ni wedi ei nawseiddio drwyddo gan y deimladaeth gref- yddol fwyaf bur, derchafedig, ysbrydol a dwyfol: a pha anturiaeth, pa speculation, neu pa destyn sydd mor gyfoethog o farddoniaeth â Chrefydd? - mor lawn o'r farddoniaeth fwyaf hawddgar, orfoleddus, dedwydd, a byth - ogoneddus? Yn ei meddiant hi y mae y darfelydd mwyaf cyfoethog, claerliwiog, pur, a thangnefeddus - y dymuniadau melusaf, y gobeithion sicraf, a'r rhagolygon hyfrytaf a phrydferthaf, a'r ystôr helaethaf ac addasaf ar gyfer diwallu holl anghenion y meddwl.

Os yw y darfelydd crefyddol, ynte, mor lawn o olygfeydd a theimladau ag sydd mor farddonol yn eu natur, a chrefydd hefyd wedi cael y fath feddiant cyffredinol o serchiadau y genedl, pa ryfedd fod ein beirdd ymarferol mor lluosog? pa ryfedd fod yr egwyddorion, y gwirioneddau a'r profiadau crefyddol hyn, yn tori allan mewn barddoniaeth ymarferol? Y mae Barddoniaeth a Chrefydd yn ysbrydion cydnaws iawn, a lle y byddo y naill, odid fawr na fydd y llall hefyd.

LLYTHYR V.

Hyd y blynyddoedd diweddaf hyn, nid yw y beirdd Cymreig wedi ymgynyg ond ychydig at y rhywogaeth uchelaf o farddoniaeth; ac y mae yn ddiau, fel ag yr awgryma rhai ysgrifenwyr, fod y

 

 

 

x315 llyfytheiriau y gynghanedd yn rhwystrau mawrion yn ffordd ym- gynyg at y cyfryw anturiaeth; canys nid gorchwyl hawdd a hapus yw cynyg rhoi desgrifiad manwl, eglur, a chyflawn o gymeriadau neu olygfeydd amrywiog yn y cyfryw fesurau, yr hyn sydd anghen- rheidrwydd mynych mewn arwr - gerddi; ac nid yw traws - symudiad llithrig a naturiol o'r naill bwnc i'r llall, neu o un pwnc i bwne arall, hyd y nod mewn rhyddfydraeth, yn orchwyl hawdd ac esmwyth, llawer llai felly mewn caethfydraeth. Hefyd mae yr ymdrech at gyrhaedd cynghanedd foddhaol yn foddion yn fynych i gymylu y darfelydd, ac i dori ar linell reolaidd y feddylddrychaeth. Y mae yn ddigon i'r meddwl i geisio cael gafael, neu ddal ar y syniadaeth briodol i'r pwnc a'r testyn, yn nghyd a rhoi expression hapus i'r unrhyw, heb geisio hefyd cynghanedd orchestol i'w gwisgo ynddi, a hyny ar yr un pryd. Y mae erlyn ar ol y ddych- ymygaeth, yn nghyd a rhoi ffurf a threfn briodol iddi, yn rhwym o anmharu ein medrusrwydd cynghaneddiadol; neu ynte, y mae yr erlyniad ar ol y gynghanedd yn rhwym o anmharu y ddychymyg- aeth. Nis gellir dwyn y ddwy elfen hyn i gydweithredu yn hwylus ac egniol yn nhrafodaeth unrhyw destyn mawr a phwysig. Nis gallwn ni yn ein byw ystyried ymgynygiad DAFYDD IONAWR at yr arwrol yn nghywydd y Drindod, " a chywydd " Joseph yn yr Aifft, " ond erthylwaith anhapus ac annyddorol; a'r sawl a allo gasglu ddigon o nerth ac amynedd i ddarllen y cywyddau hyn fwy nag unwaith, a gyflawnant fwy o orchestwaith nag a wnaeth yr awdwr wrth eu cyfansoddi. Ond y mae rhwystrau mwy pwysig a diffygion mwy uchanianyddol ar ffordd y bardd Cymreig i fod yn gyfan- soddwr llwyddianus yn yr arwrol. Y mae ysbryd ymddibynol, darostyngedig, a damsangiedig y Cymro yn atalfa arno i ymgyr- haedd at y mawr, yr uchel, a'r derchafedig, canys y maent yn gyflyrau hollol anghydnaws â'r eiddo ef ei hun. Pa fodd y gall yr ysbryd hwnw ymestyn at yr hyf, y beiddgar, yr uchelgeisiol, a'r anturiaethus yn berthynasol, tra nas gwyr ond ychydig neu ddim am y cyfryw serchiadau a nwydau yn eiddo personol? Yn anterth eu rhwysg, eu mawredd, a'u llwyddiant - eu hysfa uchelgeisiol, a’u hysbryd anturiaethus, y cyfansoddodd Groeg a Rhufain eu harwr- gerddi clodforus; wedi eu cwymp a'u darostyngiad, ni chlywyd son am danynt fel cyfansoddwyr arwrgerddi byth mwy. O dan yr un amgylchiadau cynhyrfiol yn gymhwys y mae Ffrainc uchelgeisiol, hithau, wedi bod yn enwog am eu harwrgerddi. Os felly, o ba le y gellir dysgwyl i Gymru dlawd, yr hon sydd yn llafurio o dan amgylchiadau hollol wahanol, fod yn ffrwythlawn yn ei chynyrchion arwrol? Os ydym am roddi dadblygiad effeithiol i'r mawrfrydig a'r rhagorol mewn eraill, rhaid i ni wybod, yn gyntaf am danynt. yn brofiadol ac egwyddorol ein hunain. Os yw ysbryd y Cymro, gan hyny, mor anwrol o ran ei elfenau cyfansoddiadol, a'i deim-

 

 

 

x316

ladau cynhwynol, pa fodd y gellir dysgwyl iddo fod yn wahanol yn ei gysylltiadau allanol? Ond y mae ysbryd y Cymro wedi ymsythu cryn lawer yn y blynyddoedd diweddaf hyn, ac mae ein harwrgerddi yn dechreu ymddangos ac amlhau; y mae NICANDER a LLWYFO, GWILYM HIRAETHOG a IEUAN GLAN GEIRIONYDD, ac ychydig eraill wedi ymddadblygu yn ardderchog yn y ffordd hon; yr hyn a brawf mai nid diffyg gallu yn ein beirdd yw yr achos na byddai genym luosocach a gwell cyfansoddiadau o'r natur hyn, eithr yn hytrach diffyg cyfleusderau.

LLYTHYR IV.

Yn ol fel ag y byddo tôn, ansawdd, a sefyllfa ysbryd y genedl, y bydd ei holl gyflawniadau, yn llenyddol, gwyddonol, celfyddydol, a masnachol. Nis gall yr individual spirit, fwy na'r ysbryd cenedl- aethol, na'r ysbryd cenedlaethol fwy na'r individual spirit, ddim cyfodi uwchlaw y teimlad a'i meddiana, fwy nag y gall y dwfr gyfodi yn uwch na'i lefel yr un ddelw sefydlog, hefyd, a'r un nodweddion anwahaniaethol sydd yn gwisgo ysbryd y naill fel y llall. Mae yn wir y dichon i'r ysbryd unigol dori ychydig ar wastadrwydd y llinell sydd yn nodweddu yr ysbryd cenedlaethol: ond ychydig a fydd hyny, ac achlysurol iawn. Y mae ymwybyddiaeth y Cymro o'i ddarostyngiad cenedlaethol a gwladwriaethol, wedi ymsefydlu i lawr yn ei feddwl yn deimlad arosol, nes llethu ei holl egnion, a marweiddio pob awyddfryd ac uchelgais o'i fewn, ac nis gall ei ysgwyd ymaith oddiar ei feddylfryd, fwy nag y gall y cysgadur ysgwyd ymaith yr hunllef oddiar ei fynwes yn eigion y nos. Y mae rhyw ymostyngiad, difrawder, llyfrdra, a gwaseidd - dra andwyol, wedi treiddio trwy ysbryd yr holl genedl Gymreig; ac y mae natur bellach fel pe byddai wedi ymaflyd yn y prydweddau hyn, a'u har- graffu yn nodweddebion annileadwy ar ysbryd unffurf ein cenedl y maent bellach yn deithi etifeddol, ac yn dyfod i lawr yn eiddo i ni, megys o ryw fru genedlaethol; ac oddieithr i ni, yn yr oes hon, ddechreu gwregysu ein hunain âg ychydig wroldeb, hunanbarch, a hunanhyder, nis gellir dysgwyl i'n hiliogaeth, y rhai a ffurfiant ddeiliaid yr oes nesaf, fod fymryn yn well na ninau; rhaid i ni, rhywfodd neu gilydd, geisio anghofio ein darostyngiad - anghofio mai cenedl orchfygedig ydym, a theimlo ein bod yn rhywbeth heb- law cipher yn y byd, - ein bod yn barchus ac yn enwog, a bod i ni safle nid annheilwng yn mhlith cenhedloedd y ddaear; a thuag at hyn rhaid i ni arfer pob moddion o fewn ein cyrhaedd, serch gor- fod dysgu'r Saesonaeg ar draul haner anghofio'r Gymraeg; serch newid yr Eisteddfod am y Social Science Meeting, & c., yr englym am yr epigram, y cywydd am y sonnet, a'r awdl am y poem. allai yr ystyrir yr awgrymiadau hyn fel ffrwyth ein anwladgarwch

Fe-

X

 

 

 

A close-up of a page

Description automatically generated

x317

gan rai; ond gallwn sicrhau iddynt mai nid yr hwn a ddalio, gyda chyndynrwydd a phengamrwydd monomaniacal, at hen ddefion ac ofergoeledd cenedl yw y gwir wladgarwr, eithr yr hwn a fyfyrio ac a hyrwyddo ei lles ysbrydol a thymhorol, serch fod y moddion at effeithio hyny yn troi ar draws hen ddefodau ac arferion haner cys- egredig gan hynafiaeth. Mae yr ysgrifenydd hwn yn rhy hoff o'i wlad, ei iaith, ei genedl, a'i lenyddiaeth i ddymuno gweled y cyf- newidiau hyn yn cymeryd lle; ac os byth y gorfodir ef i fod yn llygad - dyst o'r gogoniant hwn yn llwyr ymadaw â'i anwyl wlad gyda llygad llifeiriol, calon drom, ac ysbryd pruddglwyfus y bydd hyny. Nid ydym ni fel cenedl yn gwybod nemawr am y rhyddid a'r mawrfrydigrwydd hwnw sydd yn aros yn nheimlad eang, cwm- pasog, a meistrolgar cenedl annibynol; yr ydym, o herwydd creb- › achedd yr uchelgais sydd o'n mewn, yn boddloni ar droi byth a hefyd mewn rhyw gylchoedd cyfyng, - rhai cyffelyb i gyrations y gwibed ar brydnawn - ddydd haf, yn lle eu bod fel yr enfys yn crafangu am yr wybren, neu fel y gorwel yn amgylchynu y ddaear. Nid ydym am wadu nad oes rhyw fath o uchelgais ddirgelaidd yn llechu yn mynwes y Cymro, ond rhyw uchelgais anobeithiol a diegni ydyw; nid yw fyth yn dadblygu ei hunan mewn unrhyw anturiaeth fawr a phwysig, yn wyddonol, celfyddydol, na llenyddol; ond os dygwydd i hyny weithiau fod, mewn iaith ac yn ol style cenedl arall yn gwbl y bydd hyny - a'r genedl hono hefyd fydd yn mwynhau budd y cynyrchion, ac yn hawlio clod yr awduraeth. Y mae ochenaid teimlad athrist, a llais ysbryd pruddglwyfus a daros- tyngedig y genedl i'w clywed drwy ei holl fânganiadau i gyd. Anhawdd yw darllen ond ychydig o farddoniaeth Gymreig heb ddyfod ar draws y cwynfanus, yr hiraethus, y toddedig, a'r tyner; mae yr ysbryd hwn yn treiddio ei holl delynegion - mae hyd y nod y wreichionen olaf o'r tân a gyneuai yn rhyfelgerddi ein henafiaid wedi marw allan yn llwy.

LLYTHYR VII.

Rhwystr mawr arall ar ffordd y bardd Cymreig i droi allan gyn- yrchion mawrion, pwysig, a gorchestol, yw iselder ei amgylchiadau, neu brinder amser, yn herwydd cyssylltiadau masnachol, neu ddir- wasgiad dyledswyddau bywyd ymarferol. Y mae yr awen Gymreig fel pe wedi ei thynghedu i droi yn nghanol tlodi, llafur, gofal, a helbul - cyflyrau hollol anffafriol ac anfanteisiol i'w hymddadblygiad. Yr oedd, ac y mae, y beirdd Saesonig mewn sefyllfaoedd tra chys- urus, mewn cydmhariaeth i eiddo llawer un o'r beirdd Cymreig nid oedd gan lawer o honynt hwy nemawr o ddim i ddwyn eu bryd a'u myfyrdodau ond eu cyflawniadau llenyddol yn unig, ac os byddai ganddynt hwy rhyw alwad neu broffeswriaeth arall, byddai

 

 

 

x318

rhyw gydnawsedd rhyngddi â'r un lenyddol; oni byddai y beirdd Seisnig yn werth o gant i ddau o bunoedd yn y ffwyddyn, ystyrid hwy yn dlawd, ac yn llafurio o dan orthrymderau bywyd yn fawr; ond beth am y bardd Cymreig, yr hwn sydd yn gorfod llafurio yn galed am haner cant o bunoedd yn y flwyddyn - heb awr i'w eiriach i'r awen ond a ysbeilid oddiar gwsg neu ddydd gwyl? Danodir i ni yn fynych gan ein henllibwyr nad yw y meddwl Cymreig wedi cynrchu dim eto ag sydd fawr a rhagorol; wel, pe byddai y cyfryw gyhuddiad yn hollol wir, pa ryfedd fyddai, canys nid oes dim gan yr awen Gymreig i gynal ei meddienydd ond llafur - waith beunyddiol ei ddwylaw ei hun, heb wên, nawdd, na chefnogaeth o un cwr na chongl o'r Dywysogaeth.

Y mae y galwedigaethau ag y mae y bardd Cymreig yn gorfod eu dilyn, mor faterol eu natur, ac mor sych eu hansawdd, fel y mae barddoniaeth a hwythau yn ysbrydion hollol anghydnaws ac anghydgordiol - o ba le hefyd y gellir dysgwyl i ddynsawd fel hyn, sydd yn llesgymsymud o dan faich o ofalon teuluaidd, gael ham- dden, cael hwyl, a chael ysbryd i gyfansoddi dim o eangder a theilyngdod mawr; tybier hefyd fod meddwl o'r fath hwn yn gyf- lawn o'r athrylith fwyaf gweithgar, nis gellid wedi y cwbl ddysgwyl dim oddiwrtho ond ychydig delynegion o nodwedd alarus, llawn o adfyfyrdodau ar ei sefyllfa isel ac adfydus; dichon, mae yn wir, iddo weithiau, o dan ysbrydoliaeth ffydd, gobaith, a chariad, a dyheuad serchiadau dyfnaf a phuraf ei natur, ymddyrchafu i'r gor- foleddus, neu ymlonyddu yn y resigned; ond nis gall y teimladau hyn fod ond rhwngysbeidiol a mynudol; dychwela syniadau gofal, gofid, a thrallod, gyda eu nerth cynhwyrol, nes llethu pob awyddfryd a dyfalbarhad; gwyr pob bardd profedig fod yn rhaid i sefyllfa ei feddwl fod yn sefyllfa o dangnefedd cyn y geill efe gyfan- soddi dim yn llwyddianus - a pha faint o dangnefedd all fod yn medd- iant y prin ei arian, y prin ei amser, y caled ei lafur, a'r mawr ei ofal? Yr oedd cyfansoddi cerddi o fath y " Paradise Lost, " yr " Henriade, ” a'r " Jerusalem Delivered, " " Iliad " HOMER, " Eneid " VIRGIL, " Faust " GOETHE, yn nghyda dramaon SHAKESPEARE ac eraill, yn waith blynyddoedd lawer, ac yn gofyn ymneillduad eu hawdwyr yn mron yn llwyr oddiwrth bob gofalon bydol; ond pa fardd Cymreig perthynol i'r ganrif ddiweddaf, a'r un flaenorol iddi, a wybu am y naill neu y llall o'r manteision hyn? - nid yw, hyd y nod, ein pre- gethwyr a'n hoffeiriaid, llawer llai ein masnachwyr, ein celfyddyd- wyr, a'n llafurwyr llenyddol, yn gwybod ond ychydig am y cyfryw gyflyrau a sefyllfaoedd dymunol. Cwestiynau ag y mae llawer bardd Cymreig yn eu gofyn yn fynych iddo ei hun yw y rhai can- lynol: - O ba le y caf hwyl ac hamdden i gyfansoddi? ac i buy ac i ba beth y cyfansoddaf o gwbl? Nid oes fawr gymhellyddion i'r bardd a'r llenor Cymreig i gyfansoddi, ond yr hunanfoddhad y

 

 

x319

maent yn ei dderbyn drwy hyny; ond y mae llawer o'r hunan- foddhad hwnw wedi ei gymysgu â wermod gofidiau a gofalon beichus y bywyd hwn.

LLYTHYR VIII.

Wrth dlodi amgylchiadol y beirdd Cymreig y golygwn, nid y sefyllfa hono yn ei hystyr helaethaf, eithr yn ei hystyr gymharol yn unig. Ystyriwn ymwneud âg unrhyw gelf neu wyddor, ar na ffordio adnoddau digonol i gynal ei phroffesydd, eithr a'i gorfodo i erlyn ar ol galwedigaethau eraill, feallai, hollol anghydnaws a'r un hono y mae efe yn gorfod ei chanlyn yn barod, yn sefyllfa neu gyflwr o dlodi mawr yr oedd llawer o'r beirdd Seisnig yn amddifad o fonedd urddasol a phendefigaidd, ac yn isel eu hamgylchiadau yn eu dechreuad; ond cyfodasant i fri, anrhydedd, a chyfoeth drwy i linynau eu hathrylith syrthio mewn lleoedd mor hyfryd, ac mewn tir mor frâs a ffrwythlawn ag ydyw bod yn mhlith lluosogrwydd cenedl fel y Saeson; y mae y rhan luosocaf o'r dosparth canol ac uchaf y Saeson yn llengarwyr mawr a brwdfrydig, - nid yn unig y mae yno feddwl i werthfawrogi llenyddiaeth, ond y mae yno galon i'w charu, ewyllys i'w noddi, a gallu i'w chynal. Ond ysywaeth, y mae y teithi a'r cyneddfau hyn yn brinion iawn yn Nghymru, - nid yw y gwladgarwch Cymreig fyth yn ymsymud yn mhellach na blaen y tafod - oddiar y safle hwnw dichon y moesgyfarcha ei wrandawyr yn brydferth iawn; dichon hefyd y dyweda ei fod yn falch ei fod yn Gymro - fod ein henafiaid wedi cyflawni gwrhydri gwerth ei gofnodi, a bod yn falch tragywyddol o hono; - y fath genedl enwog - y fath filwyr dewrion - y fath feirdd ardderchog - y fath iaith hen a godidog y fath lenyddiaeth bur, ddilwgr, a chyfoethog o bob hyfforddiant a chyfeiriadau hanesyddol a hynafiaethol gwerthfawr - y fath gerddorion a chantorion - y fath dalent, a'r fath athrylith ! ac anoga ei gydwladwr anwyl i fyned rhagddynt gyda phob dyfal- barhad. Yna, wedi ychydig o weniaith fel hyn, try y gwladgarwr pothellog hwn, fel draenog, yn ol i'w gwd, ac yno yr erys yn ei gastell pigog, hyd oni chaffo gyfle drachefu i arllwys ei weniaith gwagsaw a diles ar draws haid o ddyliaid hygoelus; ewch ato i geisio ei nawdd a'i gynorthwy materol at unrhyw sefydliad cenedl- aethol, bydd yn anmhosibl cyrhaedd ei galon - bydd hono wedi ei hamgaeru yn ei chastell pigog. Odid fawr na fydd rhyw fai ar y cynllun hwn, neu y ddefod arall, fel nas gall yn gydwybodol gyf ranu dim at achos mor deilwng: cwyna fod cymaint o apeliadau yn cael eu gwneud at ei logell a'i haelfrydigrwydd, fel nas gall gyfranu dim y pryd hwnw, ac fod yn ddrwg, ddrwg iawn ganddo am hyny. Dyma y fath yw gwladgarwch blaentafodol llawer o Gymry y dyddiau presenol, - gwladgarwch yn byw ac yn marw ar yr un

 

 

 

x320

foment - gwladgarwch na wnaeth iddynt osod eu llaw yn un o'u llogellau erioed, oddieithr fod hyny yn fantais dau - ddyblyg iddynt hwy eu hunain. Ond i gael dychwelyd at y pwnc dechreuol, pan y dywedwn am dlodi ein beirdd, na feddylied neb mai rhyw greaduriaid diymadferth, gwisg - garpiog, bolweigion, llwydruddiog, a gresynus ydynt o gwbl; na, mae llawer o honynt mewn sefyllfaoedd cysurus, ac yn mhell uwchlaw anghenoctid; ond nid oes neb o honynt mor gyf- oethog ac annibynol fel ag i allu cysegru eu holl amser a'u myfyrdod i'r awen yn unig. Yn hyn y maent yn dlawd mewn cymhariaeth i'r rhan luosocaf o'r beirdd Saesonig, a beirdd cenedloedd eraill. Mae yn rhaid i'r bardd, os myn fod yn broficient - os myn ragori yn ei alwedigaeth - fel pob crefftwr neu gelfyddydwr arall gysegru ei holl amser, ei ddeall a'i fyfyrdod, i weinyddiad yr un alwedigaeth. Y mae cymaint o angen ymgysegriad ar y bardd ag sydd ar y pre- gethwr, yr athronydd, yr hanesydd, yr arlunydd, y cerfiwr, yr actor, neu unrhyw artiste arall; ac y mae yn llawn mor annymunol gweled llofio yr bardd yn offer amaethyddol, neu y celfi crefftwrol, ag a fyddai gweled yr athronydd, y pregethwr, a'r offeiriad yn gwneuthur hyny. " Ni ellir gwasanaethu dau arglwydd. "

LLYTHYR IX.

Ein dyledswydd ni fel cenedl, neu lenerion y genedl, feallai, yw ymdrechu cynal, eangu, a choethi ein llenyddiaeth, hyd y mae yn ein gallu. Gan mai yr iaith Gymreig yw yr unig gyfrwng drwy ba un y gallwn ni obeithio ddadblygu ein syniadau, a gwagaru yr ychydig wybodaeth a dysg a feddwn, gydag un gradd a rhagolwg o lwyddiant, defnyddioldeb, a daioni, - ein dyledswydd ynte yw ei noddi a'i hymarfer, a llafurio ar ei meusydd llenyddol hyd oni pheidia ein llais yn nystawrwydd y bedd; ond gorchwyl anghalonogol ac annymunol iawn yw ymdrechu gyda llenyddiaeth, neu unrhyw aeth arall, sydd a'i had - daliad arianol a'i hanrhydedd awdurol mor anghyfartal i'r draul, y llafur, a'r lludded cydfynedol â hi. Syniad blin a theimlad gofidus yw y rhai hyny a gyfodant oddiar y farn hono, y bydd i'r llenyddiaeth ag yr ydym yn ymdrechu cymaint drosti, nychu a marw cyn pen deng mlynedd ar hugain, ―y mae y llafur a'r lludded, y tlodi a'r trallod cyd - fynedol â hi yn ddigon o hunllef ar ysbrydoedd y dewraf o honom; ond y mae meddwl am ei difodiant buan yn ddigon i ddarostwng ein hysbrydoedd i'r llawr, a llethu ein holl egnion yn gyflwyr. Byddai yn dda gan ein calon ni pe byddai yr haeriad mynych, ond disail a gwagymhongar hwnw, o fod terfynau ein hiaith yn ymeangu, a'i bywyd ymarferol yn myned ar ei gynydd yn wir; ond ysywaeth, y mae arnom ofn mai fel arall y mae pethau yn bod. Ffeithau anffafriol iawn i'r golyg- iadau blaennorol o gynydd ein hiaith yw fod ein capeli Seisnigaidd

 

 

 

x321 yn amlhau, ein hysgolion Sabbathol yn ymseisnigeiddio, ein trefydd porthladdol ac arfordirol yn ymseisnigeiddio hefyd yn gyflym, a'n llenorion, yn feirdd a gwyddoniaid, yn dyferu i'r bedd y naill ar ol y llall yn ddiymatal. Pa fodd y gellir dysgwyl i oruwchadeiladaeth y deml lenyddol Gymreig i sefyll i fyny yn hir, tra mae ei cholofnau mwyaf cedyrn yn ymollwng o un i un yn feunyddiol? Os edrychwn i mewn i lechres ein llenorion, y mae y difrod yn eu plith wedi bod yn ofnadwy yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf. Pa le mae y beirdd a'r llenorion gwladgarol, ystig, galluog, a dylanwadol hyny, enwau pa rai a swnient yn ein clustiau fel afonydd, mynyddoedd, a dinasoedd mawrion ddaear? Pa le mae GWALLTER MECHAIN, R. Ap G. Ddu, DEWI WYN O EIFION, TEGID, AB ITHEL, PEDR FARDD, LEUAN GLAN GEIRIONYDD, CARNHUANAWC, IEUAN GWYNEDD, IOR- WERTH GLAN ALED, EBEN FARDD, CAWRDAF, ALAW GOCH, CREU- DDYNFAB, CALEDFRYN, GWILYM ILID, GLAN ALUN, TEGAI, DEWI O DDYFED, MEUDWY GLAN TAF, CADFAN, RHYDDERCH O FÔN, RISIART DDU O WYNEDD, DEWI MOELWYN, Ieuan DDU, & c.? A all unrhyw fardd neu lenor Cymreig, neu unrhyw wladgarwr o'r mwyaf cym- edrol, edrych dros y llechres angeuol uchod heb wylo y dagrau yn hidl, ac heb deimlo ei galon ar dori? " Fy ngwlad ! O, fy ngwlad ! " Bu amser pan oedd gogoniant llenyddol, cymdeithasol a gwladwr- iaethol, Cymru fel coeden fawr, braffganghenog, eangfrigog, a chys- godol - lle y carai holl adar llenyddol y byd ymnythu; ond ar ba un, yn awr, y mae llaw drom rhyw dynghed ddialgar wedi bod, ac yn bod, fel bwyall y cymynydd, yn tori canghen ar ol canghen i lawr drwy y blynyddoedd, hyd nad oes ond y boncyff yn aros yn unig, ac heb un arwydd o fywyd ond yr ychydig ysbrigau meinion a diffrwyth a welir yn tarddu allan o'i ystlysau crachenog; ac ofnwn fod ei rhuddin yn dechreu braenu yn gyflym hefyd, mae ein gwladgarwch yn dechreu cilio, ac yn teneuo yn fawr nid oes ynddo ddim o'r nerth, y diffuantrwydd, y brwdfrydedd, y gweithgarwch, a'r penderfyniad cyntefig - arwynebol ac ansefydlog ydyw yn ei holl arweddau.

Wrth arolygu y ffeithiau a gofnodwyd yn flaenorol, yr ydym yn rhwym o ddyfod i'r penderfyniad ei bod yn arwyddo yn ddrwg am ddyfodol Cymru, yn ei chysylltiad â'i llenyddiaeth. Nid ydym yn gallu canfod fod yr adwyau a wneir gan angau yn rhengoedd ein beirdd a'n llenorion, yn cael eu llenwi i fyny mewn un modd â def- nyddiau cyffelyb i'r rhai a'u llanwent yn flaenorol, a phan welir seroedd galarus hyny pan roddir ein HIRAETHOG, ein EMRYS, ein NICANDER, ein GWALCHMAI, ein ISLWYN, ein EMLYN, ein AP FYCHAN, ein HWFA MÔN, ein Gwrgant, ein CYNDDELW, ein NEFYYDD, ein T. STEPHENS, ein GWILYM MAI, ein NATHAN DYFED, ein MYFYR, ein DEWI HARAN, ac ychydig o rai eraill ieuangach, i orphwys oddiwrth eu llafur, bydd y " gogoniant wedi llwyr ymadael. "

 

 

 

x322

LLYTHYR X.

Y mae holl farddoniaeth ein cenedl ni yn gynwysedig mewn telynegion o'r rhywogaeth garwriaethol, fawliadol, alarebol, ac emynol. Clywir y serch - delyngion yn adseinio rhwng parwydydd temlau Bacchus yn fynych, mynych; ac nid oes grwt mewn na thref na dinas nad yw yn ddatganwr ar serch - delyneg o ryw fath neu gilydd. Ceir rhai o'r caneuon hyn o nodwedd eiddunol neu apeliadol ychydig o honynt yn gynadleddol, ond y mwyafrif yn ymsonol. Nid yw y naill na'r llall o honynt yn meddu ar deil- yngdod syniadol na barddonol mawr iawn. Rhyw ffiloreg adeiriadol, rhigymol, a lolyddol yw cynwysiad y rhan fwyaf o honynt, oddi- eithr rhieingerddi y blynyddoed diweddaf hyn. Y mae peth o'r rhai hyn yn gynyrchion gwir rhagorol. Y mae ein telynegion mawliadol, neu ein mawlgerddi, yn lluosog iawn. Nid oes braidd ddyn o ddim dylanwad, sefyllfa, neu gyfoeth na fydd ei fawlgerddi yn diluwio y gymydogaeth lle y byddo yn trigfanu, gan nad pa mor amddifad bynag y gallant fod o bob rhinwedd a daioni ymar- ferol. Nid oes nemawr un o'r cerddi hyn yn enghreifftiau teilwng o'u dosbarth; cynwysa llawer o honynt ormodiaith afresymol, nes cynyrchu ynom fwy o ddirmyg at eu harwyr nag a wneir o edmyg- edd a pharch. Rhoddir anrhydedd y tirfeddienydd i'w ddeiliad- anrhydedd pendefig i oruchwiliwr eiddo'r boneddig i wreng- eiddo'r tywysog i'r masnachwr - ac eiddo'r angel i ddyn. Dylid cadw sefyllfa, gradd, ac urddas y person y cenir iddo mewn golwg, a dwyn y syniadaeth â hyny i gydymagweddiad a'u gilydd. Un o'r mawlgerddi prydferthaf y gwyddom am danynt yw eiddo ein cyfaill CREIDIOL, i'r DAVISIAID Blaengwawr,

Y mae ein telynegion galarebol, neu ein marwnadau, mewn bri ac ymarferiad mawr hefyd. Nid cynt y clywir am farwolagth un, na fydd ei farwnadau yn adseinio'r heolydd. Nid yw llawer o'n marwnadau yn ddim mwy na dadganiad o hiraeth personol - wylir, hiraethir, ebychir llawer, heb i'r darllenydd gael gwybod yn y byd am beth. Cyfansoddid agos yr oll o'r hen farwnadau mewn dull rhy unffurf ac undonog, heb ddim ynddynt i greu dyddordeb na chynyrchu edmygedd; ond cynwysa ein marwnadau diweddar am- rywiaeth mewn mesur, syniad, a phathos.

Mae ein telynegion emynol, neu ein hymnau, yn gyfansoddiadau gwir ragorol, gan mwyaf o honynt, ac yn bobpeth ag a ellid ei ddymuno, yn brofiadol ac yn athrawiaethol.

Nid llawer o ddesgrifgerddi sydd genym yn ein llenyddiaeth, oddieithr rhyw adranau achlysurol mewn caneuon o ddosbarthion eraill.

Mae ein bugeilgerddi yn brin, a'n barddoniaeth hyfforddiadol ( didactic poetry ) yn brinach fyth. Ceir ychydig o'r olaf yn " Can- wyll y Cymry, " gan yr hen Vicar PRITCHARD.


 

 

x323

Nid oes genym nemawr ddim barddoniaeth neu gynyrchion dra- mayddol, oddieithr ychydig o interliwdiau Twм O'R NANT, ac nid yw y rhai hyn ond efelychiadau gweinion iawn o'r real comedy.

LLYTHYR XI.

Y rhywogaeth uchelaf o farddoniaeth y gelwir hono ag y mae yn rhaid wrth alluoedd crebwyllig y meddwl i'w chyfansoddi, neu yr un ag y byddo y rhan fwyaf o'i chynwysiad yn greadigaethau o eiddo y meddwl; feallai mai nid hyhi a fydd y felusaf na'r effeith- iolaf yn wastad, eto hyhi, oblegyd y rhesymau a nodwyd, a ystyrir y benaf. Megys ag yr ystyrir creu unrhyw beth, ac nid ei ysgogi, y gallu anianyddol penaf, felly hefyd yr ystyrir creadigaeth y deall y gallu meddyliol penaf.

Nis gellir ystyried Hymnau WILLIAMS Pantycelyn, er mor rha- gorol ydynt o ran eu hathrawiaeth a'u hawenyddiaeth, yn gynyrch- ion gwreiddiol, oblegyd mae eu helfenau cyfansoddiadol i'w caffael yn wasgaredig ar hyd a lled y gyfrol ysbrydoledig; y mae ei " Theomemphus, " & c., yn gynyrchion mwy gwreiddiol na ei hymnau, er nad ydynt mor farddonol a melus, —y mae y teimladau, y profiadau, a'r athrawiaethau a gynrychiolir yn yr hymnau yn hen ddefnyddiau: nid oedd dim gan y bardd i'w wnenthur ond eu cyrchu o'r hen chwarel, eu caboli a'u ffitio i fyny yn deml ogoneddus; ïe, yr ogoneddusaf hefyd y fewn terfynau Cred.

Y mae " Myfanwy " CEIRIOG yn gyfansoddiad o amgyffrediad gwreiddiol, yn gystal a llawer o rieingerddi eraill; y mae y gyntaf yn siarad iaith a theimlad natur, a'r cwbl mor debyg i ffaith ag y mae yn bosibl i ffug fod.

Y mae " IESU " GOLYDDAN yn gyfansoddiad hynod o wreiddiol, - y mae yn llawn o'r ddychymygaeth fwyaf cyffrous, rhamantus, a dyeithr mae ei duwinyddiaeth yn ddrwg, a'i hathrawiaeth yn wallus mewn rhai manau, ac yn arddangos cryn ddiffyg mewn barn a phwyll; ond y mae ynddi rai darnau melus fel y diliau mêl, ac am ba rai y dywed NICANDER y buasai ofe yn foddlon i roddi teyrnas gyfan am allu cyfansoddi eu cystal.

Ond y mae yn beth pur debyg mai " EMANUEL " HIRAETHOG YW y cyfansoddiad ardderchocaf yn yr ystyr hwn, ac nad oes un arall yn yr iaith yn dyfod i fyny â'i ddychymygaeth fawr, eang, ac am- rywiog ef.

Llinell amlwg iawn yn holl weithiau barddonol ein cenedl ni yw reality, - nid yw am sefydlu ar ddim ond ffeithiau, nac adeiladu ar ddim ond gwirioneddau, a'r rhai hyny o'r fath fwyaf pwysig, gor- uchel, a dwyfol eu natur a'u cysylltiadau.

Y mae genym yn ein hiaith lawer o awdlau gorchestol, a phrydd- estau gwychion iawn; ond nid oes genym farddoniaeth gwerth

 

 

 

x324

cyfeirio ati fel peth cenedlaethol fawr, oddieithr Hymnau WILLIAMS Pantycelyn. Y mae y rhai hyn ynddynt eu hunain yn Goryh o Dduwinyddiaeth iachus ac uniongred, heblaw eu bod yn cynwys y syniadau a'r meddylddrychau mwyaf derchefedig, arddunol, dyhew- ydus, a phur, ac yn llawn o'r pathos mwyaf nefolaidd, dwfn, genuine, ac enaid - gynhyrfiol, - anhawdd cyfeirio at ysbrydoliaeth fwy dwyfol na'r un a gynyrchodd y rhai hyn y maent yn anadlu gan fywyd o'r mwyaf ysbrydol. Mae y nef ei hun yn llifeirio yn ffrydiau bywiol drwyddynt; ac ynddynt y dygir tragwyddoldeb a ninau megys wyneb yn wyneb. Mae swn cerddiad y mawr, yr uchel, y pell, a'r tragwyddol yn mhob llinell o honynt. Mae y pererin blin, y Cristion ffyddiog, y sant tryloew, yr angel pur, a'r seraph tanllyd yn canu eu solos bob yn ail ynddynt a thrwyddynt; megys ag yr ymddyrchafa yr Himalaia a'r Andes uwchlaw holl fynyddoedd eraill y ddaear, yr ymddyrchafa hymnyddiaeth, felus, fawr, a goludog Bardd Panty- celyn uchlaw holl farddoniaeth gysegredig cenedloedd y ddaear, gyda'r eithriad o eiddo Pêrganiedydd Israel yn unig. Yr ydym wedi darllen rhai o hymnau WATTS, COWPER, ac eraill, ac y maent yn rhai hynod o felusion: ond ni welsom ni ddim eto o ddyfnder profiad - o fawredd, ardderchawgrwydd, arucheledd, ac ysbyrdol- rwydd syniad - purdeb a chyflawnder pwnc ac athrawiaeth - y fath gydgorfforaeth o deimladaeth grefyddol y fath Cyclopædia o fardd- oniaeth gysegredig, ag eiddo Pêrganiedydd Cymru. Ymddengys ar yr olwg gyntaf fel pe buasai yr awdwr a thuedd ynddo i fod yn ddibris ac esgeulus gyda chelfyddydwaith ei gyfansoddiadau. Mac yr iaith weithiau yn sathredig a lledrywiog - defnyddir llawer gair basdarddol; ond wedi y cwbl, mae yn y geiriau hyny rhyw gyfadd- asrwydd hynod i drosglwyddo'r pathos i galon y darllenydd gydag effeithiolrwydd neillduol, ac i gyfleu y meddylddrych o flaen ei feddwl yn oleu ac yn eglur; a byddai detnyddio geiriau mwy clas- urol yn y cysylltiadau hyny, nid yn unig yn gwanychu y syniad, ond byddai bron yn ddinystr hollol i'w fywyd, ei yni, a'i effeithiol- rwydd. Gwelsom, yn rhai o'r argraffiadau diweddar, amryw gynyg- iadau at ddiwygio ieithyddiaeth yr hymnau hyn; ond y maent, i'n tyb ni, yn fwy o anafau nag ydynt o ddiwygiadau; ac y mae llawer o'r ystwythder, y melusder, a'r effeithiolrwydd cyntefig a berthynai iddynt wedi cael mwy na'u hanner diddymu drwy y fath anturiaeth ynfyd a diangenrhaid.

Wel, dyna lenyddiaeth farddol, ynte, ag y gallwn ni fel cenedl deimlo balchder digymysg o'i herwydd, ac yn un y gallwn gyfeirio bysedd y cedloedd atti heb wrido. Genym ni, y Cymry, yn ddi- amheu, y mae y farddoniaeth grefyddol eangaf, felusaf, a chyfoeth- ocaf yn yr holl fyd.

Beth pe buasai y pentwr digyffelyb hwn o hymnau — ac, yn wir, llawer cyfansoddiad arall, megys " EMANUEL, " HIRAETHOG; " En-

 

 

 

x325

 

 

einiog, " NICANDER; " Adgyfodiad, " IEUAN GLAN GEIRIONYDD- wedi eu cyfansoddi yn yr iaith nesaf atom? - ni fuasai terfyn ar edmygedd y Saeson atynt, nac ar eu hymffrost o'u plegyd. Ond y mae ein hiaith annealledig ni yn ein halltudio o gylch pob beirn- iadaeth o'r eiddynt, oddieithr rhagfarn; ac o diriogaeth pob sylw, ond y sylw hwnw sydd yn gyplysedig â phob dirmyg. Nid yw ymddygiadau fel hyn o eiddo ein brodyr Saxonaidd yn debyg o enill ein serchiadau, na'n hasio galon wrth galon am beth amser eto. Nid yw noddwyr presenol ein llenyddiaeth ni yn ddosbarth digon galluog a dylanwadol i fod o un lles ymarferol i'n hawdwyr. Y mae gwahaniaeth dirfawr rhwng y nawdd a dderbyniai DAFYDD AP GWILYM oddiar law IFOR HAEL, & c., â'r hyn a dderbyniwn ni, yn ei fan goraf arno, yn y dyddiau presenol.


 

LLYTHYR XII.

Y mae llawer cynyg at glorianu y beirdd Cymreig wedi cael ei wneuthur, o bryd i bryd, yn ein gwahanol gyfnodolion, megys yn yr " hen " Wladgarwr, a Seren Gomer gynt, a rhai o'r prif gyhoedd- iadau eraill; y drefn fwyaf arferol oedd eu clorianu o dan bedwar penawd, sef, Awen, Meddwl, Gwybodaeth, a Barn. Y mae yn gofus genym ddarfod i'r Prif - fardd CALEDFRYN, ar ryw dro, geisio rhoddi deffiniad o'r, neu eglurhad yn ol ei olygiad ef ar y pedwar gair sydd yn ffurfio y pedwar penawd uchod. Ond nid oeddem ni, ac nid ydym eto, yn gallu cydolygu âg ef o barthed i'r eglurhad a'r ystyr a roddai efe iddynt. Tybiai CALEDFRYN mai yr un ystyr oedd yn rhwym o fod i'r gair awen a meddwl. Wel, os yr un ystyr oedd iddynt, paham yr oedd yn raid cael geiriau gwahanol i'w ham- lygu? ac, yn mhellach, os ymgynghorwn â rhesymeg, ceir gweled fod y cyfryw osodiad yn dwyllodrus. Pe cymhwysid y prawf ag y mae syllogism yn alluog o hono at y gosodiad hwn, gwelir ei ffaeledd ar unwaith. Nid meddwl y dyn yw ei awen, eithr ei awen yw yr elfen farddonol hono o dan ddylanwad pa un y mae yn rhaid i'r meddwl ddadblygu ei hunan, os myn ddadblygu ei hunan yn fardd- onol. Drwy oruchwyliaeth yr awen y mae y meddwl yn ymwisgo neu yn ymlunio ar wedd y peth hwnw a elwir barddoniaeth; y mae awen yn rhwym wrth feddwl i ddadblygu ei hunan, ond nid yw meddwl yn rhwym wrth awen i wneuthur yr un peth. Y mae meddwl gan bawb, ond a oes awen gan bawb? Un o accessories- un o agweddau - un o gyfryngau y meddwl yw awen, ac nid y meddwl ei hun; un o gerbydau y meddwl - un o'r royal robes, yn mha un y mae yn gwisgo ac yn rhodio allan ynddynt; un o'i fadd- leoedd mwyaf cysegredig, lle y mae yn ymdrochi mewn teimladaeth holl - orchfygol - arcadia, elysium, a pleasure - grounds y meddwl, lle y mae yn llaswyra yn nghanol pob prydferthwch swynol a mwyn-

Y

 

 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x326

had llesmeiriol, yw awen y bardd. Yr oedd yr hen Gymry, i rai graddau, fel y Groegiaid, yn bur dueddol i bersonoli abstract terms; ac felly yr oedd hi yn yr amgylchiad presennol - rhoddasant i'r dad- blygiad cyfunol hwn o eiddo syniad a theimlad dwys - gynhyrfiedig y meddwl, yr enw o Awen - sef y bersonoliaeth urddasol, dderchaf- edig, a goruchel o dduwies. Yr oedd bardd yn fod mor urddasol, cysegredig, a dylanwadol fel y tybiai cymdeithas yn gyffredinol nas gallai fod yn cael ei arwain, ei gyfarwyddo, a'i ysbrydoli gan ddim Ilai na'r duwiau a'r duwiesau eu hunain. Os yw yr awen yn ddawn gyffredinol, paham na byddai yn ymddadblygu mwy yn mhlith pob dosbarth o ddynion? Rhaid mai rhyw ddawn latent a dirgeledig iawn ydyw, canys ychydig mewn rhifedi yw y beirdd ymarferol, mewn cymhariaeth i rifedi aelodau cymdeithas fawr y ddynoliaeth yn gyffredinol. Mae yn rhaid i bawb ag sydd o'r un golygiadau a CHALEDFRYN mewn meddylddysg, gyfaddef fod pawb yn rhwym o fod yn feirdd, neu ynte gredu nad yr un peth a olygir wrth awen a meddwl. Os ydym yn cofio yn iawn, fel hyn yn agos yr ymresymai CALEDFRYN ar y pwnc y pryd hwnw- " Ai nid yr un peth a olygir wrth awen a meddwl, canys pa beth yw awen ond meddwl? " & c. Wel, yr ydym am ateb y pwnc yn nacaol - mai nid yr un peth yw awen a meddwl, eithr mai dawn neu dalent dywalltedig i'r meddwl yw awen, ac nid cyneddf neu briodoledd anwahanol gysylltiedig â'r meddwl: dawn, talent, athrylith, tymher, neu duedd achlysurol, ac nid wreiddiol - berthynol a hanfodol i'r meddwl ydyw. Dengys y syllogism canlynol ar unwaith nas gall y gyfryw athroniaeth fod yn gywir: - Awen sydd feddwl, y mae meddwl gan bawb, gan hyny y mae pawb yn awenyddion. Ond ai felly y mae pethau yn bod? Y mae y prawf a ddyrydd syllogism i ni, yn ein dysgu, naill ai fod pawb yn awenyddion, neu ynte fod athroniaeth CALEDFRYN yn gyf eiliornus.

" Dawn natur pob dyn ytyw, "

ebe DEWI WYN. Pe buasai DEWI WYN wedi dywedyd hynyna am athrylith yn lle am awen, buasai yn ei le. Y mae athrylith, o ryw nodwedd neu gilydd, gan bawb wrth natur, ac y mae hono yn rhedeg i wahanol gyfeiriadau - weithiau ymddadblyga ei hun mewn darganfyddiadau seryddol, daearegol, duwinyddol, areithyddol, cerddorol, barddonol, & c.; mewn gair, y mae hi yn feddianol gan bob dyn, i raddau mwy neu lai, ac yn rhwym o ddadlenu ei hunan naill ai mewn ffurf wyddorol neu gelfyddydol i berffeithrwydd mwy neu lai, ac yn mywyd ymarferol pob dyn. Wrth awen, ynte, y golygwn yr athrylith, yr ardymheredd, neu y duedd farddol mewn dyn, ac nid ei feddwl, na chyfran o'i feddwl, fwy nag yw gwisg dyn yn gyfran o'i gorff, neu ei anadl yn gyfran o'i enaid - rhyw append- age wrth y meddwl, ac nid y meddwl ei hun ydyw.

Rhyddfrydaeth sydd elfen arall berthynol i'r mantoliad. Gwyddom

 

 

x327

am lawer o feirdd godidog yn berchenogion meddwl grymus a threiddiol, awen oludog, darfelydd ffrwythlawn, a chrebwyll cyn- yrchus iawn - mewn gair, yn feddianol ar holl anhebgorion bardd; ac eto, nas gallant fynegi ei syniadau gyda rhwyddineb, eglurder, llyfnder, na meistroledd yn y caethfesurau. Byddai yn wrthuni ac anghyfiawnder mawr i ni ysgubo y cyfryw allan o restr beirdd a phrif - feirdd ein gwlad, am eu bod yn ddiffygiol, neu i raddau, yn un o ranau celfyddydol mwyaf dibwys cerdd dafod. Y mae yn llawn bryd, bellach, i feirniaid ac i ddarllenwyr cynyrchion llen- yddol ein gwlad i fabwysiadu, fel un o erthyglau eu credo, y gwir- ionedd, mai athrylith ac nid celf sydd yn gwneuthur y bardd - nid yw iaith ond cyfrwng, ac nid yw cynghanedd, odl, ban, ac acen ond addurniadau perthynasol, ac nid elfenau hanfodol, barddoniaeth cenedl athrylith yw ysbryd, bywyd, a gallu ysgogol yr holl wyddor. Mae y teithi cyntaf a nodwyd, neu addurniadau perthynasol y gerdd, yn ymlygiad teilwng o fedr celfyddydol; eithr yr elfen neu y gallu olaf sydd amlygiad o wirionedd egwyddorol y gerdd: athry- lith yw y brif ysbrydoliaeth, neu yr egwyddor sylfaenol, ar ba un y mae pob egwyddor arall yn adeiladu neu yn gweithredu drwyddi y ddawn, y dalent, y gallu, neu y duedd naturiol mewn dyn yw ei athrylith neu ei ysbrydoliaeth benaf: y mae ysbrydoliaethau achlys- urol eraill yn bod, ag sydd yn actio ar yr ysbrydoliaeth egwyddorol hon, megys ysbrydoliaeth prydferthwch, arddunedd, & c.; cariad, cydymdeimlad, tosturi, & c.; ffydd, gobaith, & c.; llawenydd, galar, & c. Mewn gair, ysbrydoliaeth yw pob phenomenom ag sydd yn actio ar ein nwydau a'n serchiadau, ac yn eu cynhyrfu i weith- rediad bywiog. Wel, fel yr awgrymasom o'r blaen, y mae genym lawer o feirdd ryddfesurol yn Nghymru ag sydd yn gyfoethog iawn yn yr ysbrydoliaeth wreiddiol neu gyfryngol y soniasom am dani, drwy gyfryngdod pa un hefyd y mae ysbrydoliaeth natur, moes, a chrefydd wedi gweithredu gyda dylanwad hollorchfygol - drwy ba un mae y gwirioneddau sydd yn gorwedd yn mhlygiadau Natur a Dadguddiad wedi cael eu dadlenu gyda y prydferthwch mwyaf swynol. Wel, tybed, os yw y mydrwyr hyn yn feddianol ar yr hyn sydd egwyddorol, bywydol, ac anfarwol yn hanfod cerdd, nad ydynt deilwng o'r cyfenwad o feirdd, am na baent i fyny â thegan ddiflanol o wneuthuriad gwageddus celfyddyd? Cystal fyddai dweyd nad yw sidan yn sidan, am na byddai arno ffugyrwaith, neu gareg yn gareg am na byddai wedi ei naddu; neu nad yw y ganwyll yn rhoddi cystal goleu ar ŵyl y Nadolig, am na byddai wedi ei goreuro, a'i gwisgo mewn ffril o bapyr ! Y mae llawer o farddoniaeth gaeth y Cymry yn debyg iawn i'r asgwrn pen ceffyl hwnw a elwir yn Mari Lwyd, wedi ei wisgo a'i addurno yn ardderchog â phob math o ysnodenau amryliw, ond heb ynddo na bywyd nac ysgogiad ond yr hyn sydd yn fenthyciol neu gelfyddydol. Ai nid cynghanedd yw

 

 

 

x328

yr unig ysbrydoliaeth y gŵyr llawer o'n beirdd am dani? Y mae arnaf ofn fod amlder beirdd Cymru i'w briodoli i hudoliaethau y gynghanedd, yn fwy nag i ysbrydoliaethau eu golygfeydd.

ryfedd fod ein planigion barddol mor stunted a digynydd, os mai mewn daear mor ddiffaeth a diachles ag yw'r gynghanedd y mae gwraidd ei hawen wedi ymledu?

 

 

LLYTHYR XIII.

Meddwl sydd elfen arall, a'r bwysicaf hefyd, yn nghlorianiad y beirdd. Wrth feddwl y golygwn yr egwyddor feddylgar mewn dyn - -y gallu i synied, dirnad, amgyffred, barnu, cymharu, dosbarthu, & c. Ond wrth feddwl, yn ei gysylltiad â chlorianiad y beirdd, y golygir, nid y gallu meddylgar yn ei grynswm, eithr y gallu hwnw yn ei weithrediad y gallu hwnw yn un o'i gyneddfau; y weithred, ac nid y gweithredydd - y syniad, ac nid y syniedydd. Syniad, meddylrith, neu ddrychfeddwl, ynte, a olygir wrth y gair meddwl yn y clorianiad presenol: mae yn rhaid i ni gadw mewn cof, hefyd, y bydd i'r syniad gael ei bwyso yn y glorian yn ol ei wahanol raddau a'i ansoddau, neu y teithi a'r priodoleddau perthynol iddo. Geill y syniad, o ran ei radd a'i berthynas, fod yn grebwyllig, dar- felyddol, neu athronyddol; o ran ei ansawdd, fod yn rymus, yn ddwfn, yn dreiddgar, yn eang, yn dderchafedig, prydferth, neu addurnol; o ganlyniad, bydd yn rhaid i'r glorian gymeryd y meddwl neu y syniad i mewn yn ol ei wahanol agweddau a'i wa- hanol nodweddebion, a thynu yr estimate oddiwrth ei ragoriaethau cyfunawl neu gyfansawdd.

Barn, eto, sydd elfen bwysig arall ag a ddygir i fewn i'r glorian. Wrth farn y golygwn y gallu hwnw o eiddo y meddwl i gymharu, dosbarthu, a phenderfynu pethau, yn ol eu rhyw a'u hansawdd, eu rhagoriaeth neu eu gwaeledd; ac yn wir, i'n tyb ni, nid yw chwaeth ond enw arall ar farn, gorchwyl yr hon yw dethol, derbyn, neu wrthod pethau, yn ol eu priodoldeb neu eu anmhriodoldeb, eu cyf- addasder neu eu hanghyfaddasder i gyfarfod â chynlluniau ac âg arferion cymdeithas wareiddiedig, neu à greddfau y syniad moesol sydd o'n mewn. Y mae i farn, hefyd, ei thri chylch o weithredu, sef yr anianyddol, y moesol, a'r llenyddol.

Gwybodaeth sydd elfen bwysig a dylanwadol arall yn nghlorianiad y beirdd; ac ar gynyrchion hon y mae eangder, amrywiaeth, addurn, a llawer o brydferthwch barddoniaeth yn ymddibynu. Ni fyddai deffiniad athronyddol Mr. LoсKE o wybodaeth, yn ein hysgrif bresenol, o un budd na phwrpas neillduol. Yr unig ddeffiniad a roddwn ni yn bresenol o wybodaeth, fydd yn yr ystyr ac ar yr olwg ymarferol o honi. Geill dyn fod yn wybodus heb fod yn ddysg- edig; ond nis gellir bod yn ddysgedig heb fod yn wybodus. Y

0

 

 

 

x329 mae gwybodaeth yn cynwys dysgeidiaeth neu addysg, neu ddiwyll- iad ein galluoedd meddyliol drwy ddarllen; y mae gwybodaeth, hefyd, yn cynwys ymbrauf, neu gyrhaeddiad meddylddrychau neu wirioneddau newyddion, drwy ganfyddiad amrywiaeth o wrth- ddrychau, a gwneuthur sylwadau arnynt yn ein meddyliau ein hunain. Gellir dosbarthu gwybodaeth hefyd i ddwy ran, sef i'r fuddiol a'r addurnol: y ran gyntaf yn cynwys ein hymbrawf yn nghelfyddydau bywyd ymarferol; a'r ail yn y gwyddorion, y celfau teg, neu fel y gelwir hwy weithiau, y breingelfau. Y mae llawer

dyn yn wybodus iawn, ac eto heb fod yn orddysgedig, neu heb fod wedi ymgydnabyddu llawer â'r gwyddorion, ac â'r ieithoedd, trwy gwrs rheolaidd o addysg. Y mae llawer dyn arall yn ddysgedig iawn, ac eto heb fod yn orwybodus; y mae efe yn gynefin iawn âg ychydig o'r gwyddorion, ac âg amryw ieithoedd, ond eto yn ddiffyg- iol mewn gwybodaeth gyffredinol.

Cynghanedd, sef cyfatebiad cydseiniadol mewn cyfleadau penodol a neillduol, yn ol rheolau gosodedig cerdd dafod, sydd elfen arall a ddygir i'r clorianiad. Y mae cynghanedd yn wreiddiol, yn llithrig, neu rymus ei hansawdd; ac yn ol ei pherffeithrwydd yn y gwahanol deithi hyn, y penderfynir ei gwerth a'i theilyngdod.


LLYTHYR XIV.

Ymddangosodd y mantoliad hwn, o eiddo y Bardd a'r Henafiaeth- ydd hwnw, LEWIS MORYS, gynt o bentre Eirianell, yn Môn, ar dudalenau y Dywysogaeth yn ddiweddar; a chan nad yw llawer o ddarllenwyr y Fellten, fe ddichon, yn gweled y cyhoeddiad hwnw, meddyliasom na fuasai ei adgyflead yn y Fellten yn annerbyniol. Meddyliem pe byddai yr awdwr dysgedig wedi gosod pob un o'r teithi mantoledig ddwy neu dair gradd yn îs, y buasent yn nes i'w lle nag ydynt yn eu hagwedd bresenol; ond bydded i ddarllenwyr y Fellten farnu drostynt eu hunain: —

Cynghanedd.

ENWAU.

Awen. Barn. Dysg. Aneurin Wawdrydd 18 18 19 15 ...... Bedo Brwynllys 14 12 12 17 Llywarch Hen …..... 18 19 18 16 Taliesin 16 18 18 15 Myrddin Wyllt 18 17 18 15 ..... Cynddelw Brydydd Mawr 19 18 18 18 ...... Dafydd Ddu o Hiraddug 15 17 19 18 ... Dr. Sion Cent 18 15 18 10 Deio ap Ieuan Ddu 16 16 16 17 Dafydd ap Gwilym.... 19 18 18 19 Dafydd Llwyd ap Llewelyn ap Gruffydd 14 16 18 16 ... Dafydd Nanmawr 16 19 16 18 Hugh Lleyn 10 10 10 10 Lewis Mon 12 12 14 15 Sion Prisiart Prys 3 4 0 Cludro, Llanelwy

 

 

x330

ENWAU.

Dafydd Manuel

Huw Morus, Llansilin

Edward Morus, Ceryg - y - Druidion.....

Owain Gruffydd, Llanystumdwy

Goronwy Owain, Llanfair - Mathafarn-eithaf, offeiriad....

Dysg. Cynghanedd.

4 Awen. 4 Barn. 4 2 ...... 19 17 .......:........... 18 8 ...... 10 17 15 15 10 10 8 10 19 18 19 18 .... 19 18 19 17 18 18 17 10 10 17 10 ... 10 10 17 10 10 8 18 0 ......

Ieuan Brydydd Hir, offeiriad

William Wyn, Llangynhafal, offeiriad 16 Edward Samuel, Llangar, offeiriad

Elis ap Elis, Llandudno, offeiriad

Robin Ragad.......

Yma y terfyna mantoliad y Bardd a'r Hynafiaethydd, LEWIS MORUS, gynt o bentre Eirianell, Môn.

LLYTHYR XV.

Nid drychfeddwl o genedliad diweddar yw tafoliad athrylith; eithr, fel ag y dengys y llythyr cysylltiedig, yr hwn a ysgrifenwyd yn y flwyddyn 1788, y mae yn ddrychfeddwl o gryn henafiaeth. Dengys hefyd mai nid rhyw un athrylith neillduol a dafolid, eithr eiddo y gelfol a'r wyddonol, yn mron, yn gyffredinol. Pedair priodoledd yn unig a bwysid yn nghlorian yr awen Gymreig, tra y gwelir oddiwrth y llythyr cysylltiedig fod y glorian Saxonaidd yn cynwys wyth. Yr ydym, oblegid henafiaeth, cywreinrwydd, a dyddordeb y llythyr hwn, a'i berthynasedd, feallai, â'r llythyrau blaenorol, yn chwenych ei gyfleu yn mhlith llenyddiaeth y " CEINION: ".

-

To the Printer of the Town and Country Magazine.

He

SIR, - M. DE PILES is one of the most judicious writers on the art of painting. He has added to his treatise on that subject a very curious paper, which he calls, The Ballance of the Painters. divides the whole art of painting into four heads; composition, design, colouring, and expression; in each of which he assigns a degree of perfection which the several masters have attained. To this end he first settles the degree of sovereign perfection, and which is beyond even the taste or knowledge of the best critics at present; this he rates at the twentieth degree. The nineteenth is the highest of which the human mind has any comprehension; but which has not yet been expressed, or executed by the greatest masters. The eighteenth is that to which the greatest masters have attained, and so downwards, according to their comparative genius and skill. M. DE PILES makes four columns of his four chief articles or parts of painting; and opposite to the names of the greatest masters, writes their several degrees of perfection in each article. The thought is very ingenious; and had it been executed with acuracy, and a just rigour of taste, would have been

 

 

x331

of the greatest use to the lovers of that noble art. But we can hardly expect that any man can be exactly right in his judgment, through such a multiplicity of the most delicate ideas.

I have often wished to see a ballance of this kind, that might help to settle our comparative esteem of the greater poets in the several polite languages. But as I have never seen or heard of such a design, I have here attempted it myself, according to the best information which my own taste could afford me. I shall be extremely glad if any of your ingenious correspondents will correct me where I am wrong; and, in the mean time, shall explain the general basis of my scheme, where it differs from that of the French author: for he has not taken in a number of articles to form a complete judgment of the art of painting; and though if he had, yet poetry requires many more. I shall retain his numbers, and suppose twenty to be the degree of absolute perfection; and eighteen the highest that any poet has attained.

His first article is composition; in which his ballance is quite equivocal and uncertain. For there are in painting two sorts of composition quite different from each other. One relates only to the eye; the other to the passions; so that the former may not be improperly stiled picturesque composition; and is concerned only with such a disposition of the figures, as may render the whole group of the picture entire, and well united: the latter is concerned with such attitudes and connections of the figures, as may effectually touch the passions of the spectator. There are in poetry two analogous kinds of composition or ordonnance; one of which belongs to the general plan or structure of the work, and is an object of the cool judgment of a connoisseur; the other relates to the most striking situations, and the most moving incidents. And though these are most strictly connected in truth, and in the principles of art, yet, in fact, we see them very frequently disjoined; and they depend, indeed, on different powers of the mind. Sir RICHARD BLACKMORE, a name for contempt or oblivion in the commonwealth of peotry, had more of the former than SHAKESPEAR, who had more of the latter than any man that ever lived. The former we shall call critical ordonnance; the latter pathetic and these form the two first columns of my ballance.

It may, perhaps, be necessary to observe here, that though literally speaking, these two articles relate only to Epic and Dramatic poetry; yet we shall apply them to every other species: as in Lyric poetry, satires, comedy, or Ethic epistles, one author may excel another in the general plan and disposition of his work; and yet fall short of him in the arguments, allusions, and other circumstances, which he employs to move his reader, and to obtain the end of his particular composition.


 

 

x332

The succeeding article corresponds with that which M. DE PILES terms expression; but this likewise in poetry requires two columns. Painting represents only a single instant of time; consequently it expresses only a present passion, without giving any idea of the general character or turn of mind. But poetry expresses this part as well as the other; and the same poet is not equally excellent in both. HOMER far surpasses VIRGIL in the general delineation of characters and manners; but there are in VIRGIL Some expressions of particular passions, greatly superior to any in HOMER. I shall, therefore, divide this head of expression, and call the former part dramatic expression, and the latter incidental.

Our next column answers to what painters call design, or the purity, beauty, and grandeur of the contour or outline in drawing; to which the taste of beauty in description, and the truth of expression, are analogous in poetry. But as the term design, except among painters, is generally supposed to mean the general plan and contrivance of a work, I shall, therefore, omit it to prevent mistakes; and substitute for it the truth of taste, and thereby distinguish the fifth column. This article would, indeed, also admit of several sub - divisions; for some poets excel in the grandeur of their taste, others for its beauty, and others for a kind of neatness. But they may all be ranged under the same head as MICHAEL ANGELO, RAPHAEL, and POUFFIN, are all characterised from their design. The truth of taste will, cæteris paribus, belong to the first in the highest degree; but we must always remember there can be no greatness, without justice and decorum, which is the reason that RAPHAEL is counted higher in design than MICHAEL ANGELO. For though the latter had a grander and more masculine taste, yet RAPHAEL with a truly grand one, was incomparably more correct and just.

It is not easy to assign that part of poetry which answers to the colouring, the procuress of her sister, design, gaining admirers for her, who, otherwise, might not have been captivated by her charms.

If we pursue this idea through poetry, we may determine poetical colouring to be such a general choice of words, such an order of grammatical construction, and such a movement and turn of the verse, as are most favourable to the poet's intention, distinct from the ideas which these words convey. For whoever has reflected much on the pleasure which poetry communicates, will recollect many words which, taken singly, excite very similar ideas; but which have very different effects, according to their situation and connection in a period. It is impossible to read VIRGIL, and stil more especially MILTON, without making this observation a thousand times. The sixth column of the balance shall, therefore, be named from this, poetical colouring.

 

 

 

 

x333 As for versification, its greatest merit is already provided for by the last article; but as it would seem strange to many, should we omit it, the seventh column shall, therefore, be allotted for it, as far as it relates to the mere harmony of sounds.

The eighth article belongs to the moral of the several poets, or to the truth and merit of the sentiments which they express, or the dispositions which they inculcate, with respect to religion, civil society, or private life. The reader must not be surprised if he find the heathen poets not so much degraded, as he might expect in this particular; for though their representations of Divine Providence be so absurd and shocking, yet this article is intended to characterize the comparative goodness of their moral intentions, and not the comparative orthodoxy of the speculative opinions. Where little is given, little is required.

The ninth and last column contains an estimate of their comparative value and eminence upon the whole. This is greatly wanting in the French author. The degrees of perfection which he assigns to RUBENS make up a sum, when the four articles are added to each other, exactly equal to what he calculates for RAPHAEL; so that one not greatly versed in the study of pictures, might imaginé from thence that RUBENS was as great a painter as RAPHAEL. This general estimate is also more necessary in the present scheme, as some of the articles, particularly that of ordonnance, are applied equally to every species of poetry; so that a satyrist will be rated as high in that column as an epic poet, provided his ordonnance be as perfect for the satire as that of the other is for heroic poetry. Upon this acconnt, justice to the names of the more celebrated poets, requires that we should acknowledge their pre - eminence upon the whole, after having thus set their inferiors upon a level with them in particular parts.

You see this method is applied to a few of the most exalted names of poetry in the polite languages. I have avoided introducing any living authors, that neither their vanity might be hurt, or their emulation damped, by being ranked with those they might judge their inferiors. — I am, Sir, your constant reader, — POETIKASTOS. POETICAL BALLANCE. 17 15 .. ... 10 16 18 14 ... ... ... 16 18 15 ... 17 10 18 18 ... 18 17 18 17 18 ... 17 16. 10 13 Shakespeare... 0 18 18 18 Homer 18 17 18 15 Milton 17 15 15 ....... ... ... Ariosto 0 15 10

 

 

 

x334

........  Boileau Cervantes Corneille Churchill

......  .........  18

...  16 17

Critical

141504 Ordonnance.  ...  ...  12

Pathetic Ordonnance.  Dramatic

17

Dante...... 12

...  ...  ...  ..  ...  ..  ...  16  12  16  15  16  12  5  ...  ...  ...  ...  ...  Dryden  Euripides  Horace  12  Lucretius  14  ......  ...  Moliere  15  .........  ...  Pindar  10  10  ...  Pope  16  17  ...  ...  Racine  ........  17  ..  16  16  ...  Sophocles 18  Spenser  Tasso  Terence  8  17  18  Virgil............ 17  ...  ...  ...  ...  17  15  14  12  ...  ...  ...  ...  15  16  14  10  8  ...  ...  ...  ...  ...  Incidental  Expression.  Taste.  14  17  16  14  15  17  14 17  10  17  12  15  15  10  14  10  ...  ...  ...  ...  ...  ...  ...  ...  16  ...  10  ...  16  17  17  17  17  15  15  16  13  12  17  ...  ...  ...  ...  ...  ...  ...  ...  ...  ...  ...  ...  ..  ...  ...  ...  17 12  16  7265623  15  16  12  13  17  17  15  17  16  17  16  17  12  17  18  14 13  16  14  ...  ...  ...  ...  ...  ...  ...  10  14  ...  ...  ...  ...  ...  ..  ...  12  10  14  ...  ...  ...  16  16  16  15  17  ...  ...  Final  12  14 14  11  ...  12  ...  15 14 14 13  14  17  14  16  16  15  13 14  ...  ...  ...  15  12  ...  ...  16  13  ...  ...  ...  ...  ...  16  15 12  --  17 17  13  14  ...  ...  ...  16  17 17  ...  ..  ...  ...  ...  ...  14  16 16  ...  ...  ...  ...  16  14  14  17 13  15  16  17  13  16  17  MARWOLAETH YR ENWOGION.  Y GAN - er ei dydd geni - ni lifodd  Cyfaflan fwy trosti:  Llaw barn y sy ' drom arni,  Aeth rhwyg fawr i'w thrigfa hi.  O wyled engyl wel'd angau - a'r ruthr Yn anrheithio'i themlau,  A dwyn o blith ei doniau - ' r fath amledd O'i rhywiog Fonedd i'r bedd - drigfanau.  Dygodd ein ieithbur DEGID - glasurol- Gloew seren drybelid;  A gwlad gron, ond gwel'd ei gwrid, I lawr a'i ' r seren loew - brid.  Ac ar ei ol AB ITHEL graff; - yr hwn A roes a'r hen orgraff,  Ein iaith brif, yn wynllif - wawl Clasurawl ysgol seraph.  ...  ...  ...  ...  ...  ...  ...  13  13  14  12  10  16 

Och ! wedy'n, yn mhen ' chydig, ―e gladdwyd GOLYDDAN fawledig-

Gem yr awen Gymröeg: - hyd yma, Y cawr a'i bella i'r byd crebwyllig.

Ac Ow ! anobaith, oedd cau ein HEBEN, Dan brudd dew orchudd y Llan - dywarchen; Pwy'n fyw gawn heddyw i'r Gân addien, O fron dra hael, wna farn fwy drylen? Llyw ein Hurdd - byth lle yn nen - ein temlau, Ga, ' n un o dduwiau'r ganonaidd awen.


 

 

x335 Ond, yn ei ol, Ow ! gwel'd ein HALAW - GOCH, - Y gwr fynai lwyddaw

Ein gwlad; yn cael ei gludaw - at feirwon, Wnai i wir eigion y galon rwygaw.

Efe, gan rhyw saeth fuan, - a dorwyd

Fel ' deryn ar hedfan;

I bau angau, heb yngan, Yr un gair o'i enau gwan.

Ow ! i Walia, marwolaeth,

A chwymp ein HALAW GоCH, aeth,

Yn waedd drwy'n holl fynyddoedd, —a dolef

Hyd waelod ein glynoedd:

Taran a siglai'n tiroedd, -

Gair a wnai ddaeargryn oedd.

WRTH ODREU'R MYNYDDOEDD.

O ! FYNYDD ban !

Y fraich a'th gododd di ( nid gwan ) O'r gorddyfnderoedd maith i'r lan, Sydd hefyd yn dy ddal yn awr, Rhag suddo'i ' n ol i'r dyfnder mawr, Byth yr un man.


 

 

x336

Mor fwyn yw'th wedd ! Wyt megys rhinwedd ar ei sedd; Teyrnasa arnat ddwyfol hedd;

Holl rwysg y byd - holl dwrf y llawr, Sydd yna wrth dy droed yn awr, Yn gwneyd eu bedd.

Oedranus fryn !

Ti wyddost lawer helynt syn, Aeth dros ein daear ni cyn hyn; ' Ti wyddost gyfrinachau'r nen: A'i yna - lle derchefi'th ben,

Mae cartre'r sant, neu deyrnas wen Yr angel gwyn?

O ! na chawn i,

Pan wisgo'r nos ein daear ni, Ddyrchafu ' mhen ' r un fath a thi; I wrandaw'r sêr yn seinio'u cân, Pan ar eu gorymdeithiau glan, Can's per yw hi.

Mi wn, mi wn,

Dy fod di weithiau'n clywed sŵn Y dorf sy ' gylch y dwyfol drŵn *, - Sŵn gwynfyd pell - sŵn bywyd gwell Na'r bywyd gorthrymderus hwn.

Disgynwch ! O ! engyl y nefoedd wen, fawr, Dros benau'r mynyddoedd tragwyddol i lawr, At un, sydd ar bwys eu godreuon yn awr, A chwant ar ei galon gael esgyn i'r lan,

Ar hyd eu hystlysau nes cyrhaedd y fan, Mae gwynfyd digymysg yn fyth, fythol ran; Pob un o'r preswylwyr; ond O ! engyl - frodyr,

Y mae fy ysprydol esgeiriau'n rhy wan;

Rhowch fenthyg eich hedyn - rhowch gymhorth eich llaw,

Fel hedwyf neu ddringwyf, i'r gwynfyd sy ' draw.

* Trwn - Throne.

 

 

x337

YR

AFON

TOWY.

( PRIZE POEM AT THE WELSH COLLEGIATE INSTITUTION, LLANDOVERY. )

Ti enwog Iorddonen, ti sanctaidd Euphrates,

Ti Digris, ti Ganges, ti Ddanube, ti Rin, Yr ydych yn glodfawr ar lafar ac hanes, A'ch henwau'n berseiniol i galon a min; Ond, O, y mae bychain, ond serchog afonydd Hen Gymru'n anwylach o lawer i mi: O, Dowy ! mi garwn gael syllu'n dragywydd, Ar harddwch dy lenydd a phurdeb dy li '.

Y llwyni blodeuog addurnant dy lenydd,

Y brieill a'r crinllys a'th wisgant yn hardd; Dy ddyfroedd y'nt loewon fel llygad y wawrddydd, Neu'r gwlith sydd yn disgyn ar Fynydd y bardd; O, na chawn yn awr ymneillduo mewn heddwch, A byth ar lan Towy cael gwneuthur fy nhref, I wrando'r beroriaeth, a gweled yr harddwch, Sydd yn dy gylchynu o'r ddaear a'r nef.

Os meithach yw'r afon sy'n mwydo'r anialwch,

Os dyfnach yw dyfroedd y gwledydd sy ' draw, Ni welir o'u hamgylch ond gwylltedd a serthwch- Ni chlywir ond rhuad y bwystfil gerllaw: Ond, Towy ! hardd Dowy ! ' rwyt ti'n ymddolenu Trwy ddôl a thrwy ddyffryn i derfyn dy daith, Ag adsain Gwareddiad yn hofian o'th ddeutu, A bywyd a harddwch yn sylwedd a ffaith. Rhed heibio'th ystlysau y chwyrn agerbeiriant, O dref Llanymddyfri i Landilo - Fawr; I wrando'i ruadlais, dy ddyfroedd arafant,

Can's cerdd yw nas clywsant can mlynedd i ' nawr;

Tydi bia'r ogof lle bu ( medd traddodiad )

Yr erch DWM SION CATI'n meudwya yn hir;

 

 

 

x338

Tydi bia'r Brithyll, yr, Eog, a'r Rhwyad, *

Y Sewin, a'r Samlet, sy'n nofio'th dòn glir.

Ond, O ! ardderchawgrwydd — mae'th rawd di, O, Dowy, Drwy wlad o balasau, mawreddus a hardd; Mae'r drem sydd o'th amgylch i lawr ac i fyny, Yn ddigon i wneyd yr athronydd yn fardd; Dolgareg, Llandingad, yr Henllys, a'r Eryd,

Llansefin a'r Eurllwyn, addurnant dy wawr, A Chastell Dinefwr sydd uwch dy dir hyfryd, Yn edrych fel brenin o'i orsedd i lawr.

Dos rhagot, O Dowy, - rhy egwan yw'm hawen,

I draethu'r prydferthwch, y swyn, a'r mwynhad Sy'n byw ar dy lanau - dos rhagot yn llawen, —

Ti ffrwd ardderchocaf mynyddau'r hen wlad; Dys rhagot, a Dulais a Brân yn dy fynwes; Ac i ti cyffelyb f'o bywyd y bardd, - Yn llifo'n dragwyddol, heb rwysg ac heb rodres, Trwy ganol bob peth sy ' ddymunol a hardd.

Y PARCH J. DAVID, A.C.

BETTWS

FOUNTAIN.

Ar Bettws village stands a fount,

Where copious waters fall, Abundance issues from its source To serve the wants of all. A precious boon bestow'd by one, Who dwells within the place; Oh ! may not time, corroding time, Her merits e'er efface !

Clear as crystal is the stream,

Which this old fount bestows;

* Pike,

 

 

 

x339 And sweet is the melodious sound-

It gives whene'er it flows. Free access is to one and all, To draw their own supply; The traveller - weary with fatigue— May drink when passing by.

Fair Fount ! fair Fount ! I'll thee extol, To thee my voice I'll raise !

Thy precious gifts more than deserves

My feeble song of praise.

No mortal can, with words sublime, And talents e'er so fine,

Too highly laud the matchless worth

Of thy refreshing wine.

REV. J. DAVID, M.A., BETTWS.

DUW YN LLYWYDD RHAGLUNIAETH.

Duw Rhagluniaeth ! mawr yw'th enw,

Ti sy'n hwylio gwynt y nen;

Ti sy'n arwain ser y nefoedd, Ti sy'n dal yr haul uwch ben;

Ti sy'n galw'r ' storom allan,

Ti sy'n ysgwyd tònau'r môr; Mae dy allu yn anfeidrol,

A'th ddoethineb fyth yn stôr.

Gair o'th enau greodd fydoedd,

Gair dy nerth a'u cynal hwy; Wrth dy ddeddfau digyfnewid Chwyliant drwy'r eangder mwy: Myn'd a do'd, hyd drwch y blewyn,

Maent drwy'r eangderau maith;

Nid oes un a gyll ei lwybr,

Nid oes un yn methu'r daith.


 

 

x340

Haul a edwyn ei fachludiad,

I lawr yr â o rîs i rîs; Gwyr y lleuad ei hamserau, Ceidw hwynt o fis i fis: Er sy'n erchi'r holl dymhorau I dd'od heibio'n gyson iawn; Y mae natur fawr cwmpasog,

O'i ogoniant Ef yn llawn.

REV. J. DAVID, B.A. ( AP DEWI WYN ).

PENILLION

A gyfansoddwyd ar ddymuniad Miss C. DAVIES, Aberteifi, yr hon oedd yn dyoeddf oddiwrth chwydd gwyn ar ei glun, ac ar y pryd hwnw o dan driniaethau llwyddianus y Proffeswr A. W. JARVIS, Canton, ger Caerdydd. FAM anwylaf, Dad tirionaf,

Wele fi, eich anwyl ferch, Eto'n anfon gair i'ch cyfarch-

Gair a ga'dd ei greu gan serch: Serch ag sydd yn myn'd a'r meddwl Tua'm cartre'n fynych iawn, Serch sy'n tynu llun fy ngheraint Ar fy mryd yn bictiwr llawn.

O, na bawn yn nghartref eto, Ac yn gallu, megys cynt, Ysgafn gerdded yr hen lwybrau,

Yn nghymdeithas haul a gwynt; Ond mae gobaith wrtho'i ' n addaw, Caf ail wel'd y llenyrch hoff, A Galfaniaeth yn prophwydo Na chaf aros fyth yn gloff.

Wyf yn hoff o'r tŷ a'r teulu

Lle'r wy'n trigo hyd yn hyn;

Mae eu caredigrwydd ataf

Wrthynt yn fy nglymu'n dyn;

 

 

 

x341

Ond mae'r llinyn hwnw'n dynach, Sy'n fy ngh'lymu wrth fy nhref; Nid bys damwain a'i cylymodd,

Eithr llaw naturiaeth gref.

Wyf yn meddwl dyfod adref Rhywle tua chanol haf,

I gael gwel'd hyd ddolydd Llanarth, Anian yn ei dillad braf;

Y mae anian yno'n dlysach-

Yn fwy hawddgar, yn fwy mwyn- Nag yn unrhyw fan o'r ddaear, Ynte'm llygad i dan swyn.

Aml yw'r adgofion hefyd,

Sydd yn gwneyd eu lle'n fy mryd, Am yr hen odfaon gwlithog,

Gês yn Llanarth lawer pryd; Cofio'r canu pêr, nefolaidd, Cofio'r weddi daer a dwys, Wna i'm calon gwyno'n fynych Am fod eilwaith ar eu pwys.

O na chawn roi'm bysedd eto Ar delynau Llanarth lon; Wylo'r wyf fel plant y gaethglud, Wrth eu cofio'r fynyd hon:

Dewch awelon gorllewinfyd, Dewch a'r adsain gyda chwi, Sydd yn dwyn mwynderau'r nefoedd Lawr i'm calon glwyfus i.

Bellach rhaid im ' dewi, gyda Eich bendithio un ac oll;

Na foed llwyddiant, na foed iechyd, Na foed cysur un ar goll:

Z

 

 

 

x342

Cofiwch anfon ambell weddi Tua'r nef dros CATHRIN fach, Ar fod iddi gael dychwelyd, Tua thref, cyn hir, yn iach.

PRYDFERTHWCH RHIANOD GWENT A MORGANWG.

BUN harddfoes, feingoes, fwyngu, - wyl - olwg,

Law - lefn, feinwasg, ael - ddu;

Yn ei gwedd yn heulwen gu, Y tyner sy'n tywynu.

Ei llygaid pêr, têr, tirion - y'nt fygyr O deg liw awyr, neu'r ffrydiau gloewon.

Lle tora Dealltwriaeth - a Rhinwedd Eu claer enwau'n odiaeth:

Dan ei haeliau, dynoliaeth sy'n chwarau, Ac uwch ei haeliau, pwyll gwych a helaeth.

Pêr yw ei phrydferthwch prid— Cwpan lle'n meddwa CIWPID; - Syber fel boreu Sabbath, Heibio i bawb, heb ei bath,

Ar ei phryd dedwyddyd sy'n cyd - doddi, A hâf - liw harddwch rhyw nefol erddi; Mae ei dwy - rudd yn ymdori - ' n amlwg Ar siriol olwg y rhôs a'r lili.

Yn ei dullwisg y daw allan - o'i llŷs,

A'i llaeswallt dysgleirlan

Ail un angel - yn hongian

I lawr, heibio'i dwyrudd lân.

Dolenau aur dilin y'nt—

Tidau o'r agate ydynt,

 

 

 

x343 Rhwydd - wên wefusau rhuddwawr, - tenau, tlws,

Uwch daint o liw'r ifawr; A gruddiau fel gwenau gwawr Y dwyreinfyd eirianfawr.

Glânach na'r gloew hinon Yw'r wên bêr o wyneb hon, A glânach na'r goleuni, Ei llaw deg a'i dillad hi: Gwynach yw'r ffril na'r lili,

Sy'n cuddio'i gwar hawddgar hi; Ysgafnbrid esgid wisga,

Ac ymaith fel awel â.

LLWYDLAS, GWENYNEN GWENT, AC EISTEDDFODAU Y FENI.

GWAE ! ini golli o Gwent - riddfanog, Y fwya ' enwog o'i phlant, i'r fynwent, LLWYDLAS wnai ddiwall odli, - ac enyn

Cân o ryfedd dlysni;

Ac o hyd wnai gysgodi

Ein hên iaith, a'n hawen ni.

Ond, wele ! ' n ol i'n hardal ni - heddyw

Arglwyddes uchelfri,

Yn llawn dawn a daioni, —

Ein LADY HALL ydyw hi.

Hi rydd gynorthwy i'r hen, - Dringa i dori anghen.

Byw ar westaeth a brasder - ei thiroedd A'i harlwyoedd, y mae rhyw lawer.

Lle nefol yw Llanofer, - o herwydd Ei rhagorol fwynder;

Ildia pob rhyw waelder - i'w doethineb, A'i duwioldeb, a'i dibaid haelder.


 

 

x344

Arweinia'r oes i'r iawn rith, * A thry olwyn athrylith.

Bu hi, i'r Feni, fynydd

Yr awen dêg - bryn y dydd, — Yn addurn ac yn nodded, A'i thra hael law fyth ar led, Yn rhoddi'r llon wobrwyon brith, Ar ael y brif athrylith;

Ei chlod hi tra'r Feni fydd, A'i mawl tra safo'r moelydd.

Tydi, O, Feni fwynaf ! Nid digon hir deugain hâf, Na deugain oes, hyd gwn i, Na dau fyd, er difodi

Y Cof o'th wladgarwch gynt, A'th Wyliau diwrth - helynt.

Dy glych a seinient glod - a gorfoledd Y gref Wyl, wnaet ddarbod: Pob celf lawn, pob dawn f'ai'n dod. I addurno'th ddiwrnod.

Dy Wyl ai ( can's diwael oedd ) Yn daran drwy'r holl diroedd.

Hwnt yr ehedai y trydan - yn ffrwd Gyffrous hyd Morbihan;

Heibio'r India, ' r wybrendan Ai'n ystor'm hyd Hindwstan.

Ti, Feni, oe't fynydd - APOLLO wymp,

Olympus y prydydd;

Lle rho'e gwyr mawr y llawrydd,

Gylch ael wen yr awen rydd.

* Form

 

 

 

x345 Pruddglwyfus felus i fi - yw'r adgof

Am yr udgorn mawrgri,

Alwai y dorf i'th Wyl di-

Gwyl oedd lle caed arglwyddi.

Gwyl adwaenai nawdd gwladweinwyr oedd hen,

Ddenai yn ymwelwyr,

Oleuedig lywiawdwyr

Daear sy ' mhell, dros y mŷr.

Tydi, O, Feni fwynwawr,

Yr hen feirdd a'th gar yn fawr !

Hwy, brif - weis, a brofasant - yn helaeth O'th lenyddiaeth a'th ddiwael noddiant.

Llys hudolus llais y Delyn, - cawell Y Cywydd a'r Englyn; Ynot bu, ' n hir gydenyn,

Eu hacen hedd hwy, cyn hyn.

Tônau cynhes, tinc anian, - dy gantwyr Di, gynt, greai'r gwefrdan: A gyrai'r miwsig arian - o'th eres, Delyn deir - rhes, dy Wyl yn daran.

O, Feni bert ! y fan bêr, Dy fawredd a adferer.

Hawdd - fyd i'th Eisteddfodau; - ar fyrder Adnewydder eu holl adnodder;

Ailaner i'th delynau - eu llon geirdd; Gwlyched da feirdd eu min gylch dy fyrddau.

Ynot eto y Teuton, * - yr un dydd

A'r Hindŵ a'r Breton,

* Cyfeiriad sydd yma at y llenorion tramor enwog hyny, megys Le Gonidec, Tywysog Hindostan, & c., a fuont yn ymweled ag Eisteddfodau anrhydeddus y Feni.


 

 

x346

Gwrddont â meib Gwerddon, - i drin llenddysg Yn Nghwyl dy fawrddysg, yn nghol dy feirddion.

Boed hedd i'th fonedd, Feni,

A chartref tangnef f'o ti;

Aros yn faes llenorion—

Lle'r palmwydd a'r llawrwydd llon;

A thrig yn nyth i'r Gân wâr

Hyd ddiwedd oed y ddaear.

Cantoresau yr Eisteddfod a'r Cysegr Cymreig,

DDENG MLYNEDD AR HUGAIN YN OL. TRA ëosaidd gantoresau, ―sangant

Orsingoedd ein temlau;

Swyn miwsig sy'n eu moesau, - tân gwefrog A swyn lluosog sy'n eu lleisiau.

Ymarfer â chân MORFYDD, * - neu'r Eos,

Grea wynfyd newydd;

Swyn a blas eu seiniau blydd, Ddodant y byd yn ddedwydd.

Deuwch ! O, deuwch ! i lawr i'r Deau, I ddiwael fwyniant ein haddolfanau; Ac yno'n mhob oedfa cewch nef - oslefau Deugaint o rasol, dêg gantoresau; Y rhai a welir ar yr orielau, Yn nef - addurnol, arosol resau, A thirion obaith ar eu hwynebau; Canant, hwy ganant, a'r mawl o'u genau, Yn dirwyn, dirwyn drwy'r uchelderau, Nes dwyn, â swyn eu derchafol seiniau, Angelion doethion i'w gwrando weithiau; Taniant y dorf â'u tônau, - mae'u mawl mad Yn darwain teimlad y nef trwy'n temlau.

* Dwy o'r cantoresau enwog a fynychai Eisteddfodau y Feni gynt.

 

 

 

x347 Merch a Gwasanaethferch yr Amaethwr Cymreig.

BUN wridgoch, lawnion fochau, —syber wedd,

Rymus, braff, ei breichiau;

Iachus, hoenus ffraethenau,

Na phair o ddim ei phruddhau.

Clywch o'r ddôl werddfawr, y lwythfawr laethferch, Dan y wawrddydd, a'i theimlad yn ardderch,

Yn arllwys allan ei chân i'ch hanerch:

Holl natur a esyd yn llawn traserch;

Ei chân sydd yn cychwyn serch; - mae'i cherddi, Y boreu, ' n lloni dôl, bryn, a llanerch.

Didwyll yw hi, a dedwydd, A diwyd, diwyd drwy'r dydd, Ac yn yr hwyr cawn ar waith, Ei dwylaw'n ddiwyd eilwaith.

Nid rhoi dwylo

Ar Biano, - Chwareu'r bonedd; Dysgu dawnsio,

A myfyrio - Am oferedd:

Nid yn llwybrau

Y breingelfau,

Y mae rhanau - Ein morwynion;

Eithr yn nhriniaeth Teuluyddiaeth,

A maeroniaeth, - Mae eu rhinion.

Mor wych y doniwyd ein merched heini, A phob rhyw fuddiol, odiaethol deithi; Llon yw eu henaid, a llawn o yni;

Gwnant ddwyn yn fwyn bob cwyn a phob cyni; Difodant ein hadfydi, - bydd hwylus

Eu llaw glodus yn ein holl galedi.


 

 

x348

AWDL

ᎪᎡ

DDYN.

Y

CYNWYSIAD.

Duw yn creu, neu yn adffurfio y ddaear, a'i gwneuthur fel aneddle gysurus. Yn parottoi Eden fel ei phrif ystafell - prydferthwch yr unrhyw. Fod addasrwydd Eden - prydferthwch, cysondeb, a dedwyddwch ymddangosiadol anian, yn rhagarwyddo fod rhyw fod uwchraddol i wneuthur ei ymddangosiad, yr hwn a ellai fwynhau ei golygfeydd, a dadgan gogoniant mynegol ei hawdwr. Y cynghor Dwyfol mewn cysylltiad a chreadigaeth dyn. Ymddangosiad y bod rhyfeddol hwnw - Creadigaeth ei enaid - ei syndod a'i addoliad, wrth ganfod golygfeydd ardderchog natur - EFA. Ei brydferthwch anianyddol, moesol, a dwyfol - ei anrhydedd ei lywodraeth, ac ufydd - dod yr holl greadigaeth a fresymol iddo Enwi y creaduriaid. Ei wybodaeth uchanianol. Hapusrwydd ADDA ac EFA yn yr ardd. Heddwch a santeiddrwydd yn teyrnasu. Diniweidrwydd y creaduriaid. Galar na buasai yr adeg dedwydd hono ar y byd yn parhau. Satan yn eiddigeddu wrth anrhydedd a dedwyddwch y dyn; ei ymson faleisus, a'i gasineb at DDUW a dyn. Yn llwyddo i ddarostwng yr olaf. Dyn yn euog, a'i hiliogaeth ynddo ef yn cyfranogi o'i gwymp a'i lygredigaeth. Gwrthryfel anian fel canlyniad i drosedd dyn. Yr enaid wedi ei lygru, ond er hyny, fod rhyw weddillion o'r ddwyfoliaeth gyfranogol yn aros hab ei llwyr golli ei fod yr un o ran ei hanfod. Nid ydys yn deall enaid, ac fod hyd y nod yn y corph ddirgelwch anrheiddiadwy. Cywreinrwydd a phrydferthwch y corph, yn tra rhagori ar y gelfyddyd odidocaf- ei wahanol beirianau ac aelodau - eu defnyddioldeb a'u haddasrwydd fel cyfryngau ei wybodaeth a'i ddedwyddwch - eu traragoriaeth ar eiddo yr anifail. Colledion anianyddol a diffygion moesol y dynion anffodus hyny ag sydd yn amddifad o rai neu o'r oll o honynt. Nad yw'r Ourang - Outang, er ei fod, yn holl ranau ei gorph, yn debyg i ddyn, ond gweithredydd afresymol. Nas gall un defnydd, er teced byddo, gyfranu MEDDWL; ac nad yw y corph prydferthaf, heb enaid, ond iselwael. Ymson holiadol ar natur a hanfod Eraid. Damcaniaethau yr athronwyr Groegaidd o barth yr unrhyw - eu hanmherffeithrwydd; ond mai eu hymchwiliadau hwy, er mor anghyson oeddynt, a arweiniodd at ddarganfyddiadau perffeithiach uwchanianaeth ein dyddiau ni. Nad yw na LOCKE na BACON yn deall hanfod teithi, na moddau gweithrediad y meddwl yn gyflawn — y gwyddom ei fod ynom - fod ei weithredoedd yn amlwg - ei fod yn feddianol ar gyneddfau, serchiadau, teithi, teimladau, a chyffrawon; ac y gall y rhai hyn fod yn gyfryngau ei gysur, o dan dan dywysiad rhinwedd. Mai adeiladaeth ysbrydol yw yr enaid - ei fod yn sychedu am anfarwoldeb, ac am rhyw ystad o uwch mwynhad na yr un bresennol - fod hyn yn un o'i gyngreddfau - fod pobpeth mewn natur yn ymddangos yn ddedwydd oddieithr ef ei hunan - nad oes dim yn y greadig aeth faterol a all ei ddigoni - ei grwydiadau a'i ymchwyliadau aneffeithiol am ddedwyddwch yn ol y meddiano unpeth, ei fod yn hiraethu am beth arall- fod ei ddymuniadau yn anniwall - yn amgylchu y tragwyddol, ac nad oes dim ond Duw ei hun a'u cyflenwa. Er fod Duw wedi gosod dyn i fyw ar y ddaear, nad oedd wadi bwriadu cadwyno ei obeithion a'i ragolygon wrthi; ac er fod megys yn nghymdeithas isel yr anifail, fod ei ddyheuon a'i ddymuniadau yn dderchafedig; ac er fod Duw wedi cau ei enaid i fynu rhwng gronynau o ddefnydd, pa rai cyn hir a ddadgyfanir gan lygredigaeth y bedd, nad oedd er hyny yn bwriadu datod hanfod yr enaid, ond y byddai i hwnw ymdderchafu o'r difrod i fwynhau ei ddymuniadau anfarwol; neu os yn amgen fod tynghed yr anifail yn rhagorach na'r eiddo ef, yn gymaint a bod gwrthddrychau eu serchiadau hwy o fewn eu cyrhaedd. Fod yr enaid, yn nghanol ei betrusder a'i ddyryswch, yn ymholi a oes fan lle y gellir diwallu ei anghenion - fod goleuni Ysbrydoliaeth wedi tywynu arno, ac yn ei gyfarwyddo at yr Iachawdwriaeth fawr yn Nghrist - prydferthwch ac effeithiolrwydd hono. Mai yn ei Air y mae Duw yn ein dysgu i'w adnabod fel ein Creawdwr, Cynaliwr, & e. Ei fod wedi cynysgaeddu enaid dyn a chyneddfau rhesymol, ac mai hwynt - hwy sydd yn ei wneuthur yn greadur moesol, ac yn fod cyfrifol i'r Llywodraeth Ddwyfol, ac yn ddeiliad deddf fawr a thragwyddol y JEHOVAH. Nad

 

 

x349

yw deddfau dynol ond pethau israddol; mai yn ol ein cydffurfiad a'r ddeddf hono, sef y ddeddf feesol, y bydd dognedd ein cysur: natur y ddeddf hono. Mai yr enaid yw urddas, mawredd, a gwirionedd y dyn. Fod dynion oll o ran eu hanfodaeth eneidiol yn gydraddol - mai un gwaed ydym; na ddylem ddirmygu na gormesu y tlawd a'r anffodus - y bydd angau yn dattod anrhydedd a theitlau daerol, a'r dyn yn dymchwelyd i'w symledd cyntefig. Y cydraddolir ni gan y bedd y byddwn gydraddol yn y farn, o ran hanfod enaid, os nid felly o ran cyflwr. Adgyfodiad y corph - corph y saint - galluoedd yr enaid mewn corph ysprydoledig ac anfarwol, pryd bydd y meddwl wedi ymryddhau o'i hen lyfetheiriau.

Ymddadblygiadau y meddwl. Dylanwad addysg foreuol. Gogwyddiadau y meddwl. Athrylith. Anghenrheidrwydd gwahanol sefyllfaoedd. Ymddybyniad y naill ddyn ar y llall. Fod amrywiaeth amgylchiadau yn cael eu trefnu gan Ragluniaeth ddoeth i'r dybenion goreu. Nad yw cydraddoliaeth yn un o ddeddfau y byd materal na moesol. Athrylith wyddorol. Dylanwadau y meddwl, o'r esgynlawr yr areithfa - y wasg - cymdeithasau a sefydliadau dyngarol. Dylanwadau a buddugoliaethau y meddwl ar y greadigaeth faterol ac afresymol. Ei anturiaethau ei ddarganfyddiadau, a'i ddiwygiadau. Nas gellir darlunio holl weithrediadau meddwl a chalon dyn. Mai dyn yw y creadur hynotaf yn nghreadigaeth Duw. Y pethau mawrion a wnaed erddo. Na roddwyd iddo ddoniau mor wych, a serchiadau mor angherddol i fwynhau dim ond pleserau diflanedig; ond mae dyben cread dyn oedd gogoneddu Duw; ei fod yntau drwy bechod wedi tori yr unig dant hwnw a ganai ei ogoniant. On fod marwolaeth Crist dros bechadur yn ei ddiwallu a thanau newydd, ar ba rai y chwareua ei ogoniant yn dragywydd; ac fod gobaith y dychwelir ef i fynwes ei DAD yn y diwedd, er ei holl grwydriadau; ac y bydd gweled dyn yn y nefoedd ar ddelw y Duw - ddyn yn rhyfeddod fawr.

YR

AWDL. PENNOD I.

Y GREADIGAETH - ADDA YN EDEN, & c.

YN y dechre y creaist y ddaear,

O, Dduw, fel y mynaist;

Ac eilwaith, pan gelwaist - y tywyllni Tew oddiarni, ti a'i haddurnaist.

Ti, DDuw, a wnest y ddaear - fel anedd

Gyfluniol, was'naethgar,

Allan o fyd llawn o far,

Yn lle têg, gwyn, lleteugar.

Dacw'r benaf ystafell - wedi'i darpar, Yn Eden hawddgar, - hyfryd newyddgell.

Yno dangosodd anian - ei gwyneb Mewn gogoniant erian;

Yn ei chlog emog yman - ymwisgai,

A'i hedd a hanai o DDUw ei hunan.


 

 

x350

Ednod mwynion,

Dyfroedd gloewon,

Gwâr awelon - A garolynt Ar ei dwyfron; Nef angelion

A'i hymylon - A ymwelynt.

Heibio'r hoff redai y bêr Euphrades, Hufenai oror y Wynfan eres;

Blodau aur - bywiol dês - ar ei glanau, A Mai a'i wênau'n santeiddio'i mynwes.

' E wenai y borau'n wyneb iraidd; Nofiai awelon drwy wlith nefolaidd; Yr awyr eglur oedd beraroglaidd, Gan hedion blodau a llysiau llwysaidd; Lleuerai yr haul llariaidd — arnynt, A brysiai i'w hynt drwy y wybr santaidd.

Trwy eglur wybren y treiglai, - a'i wres, Pan fawr iawn gynyddai,

Awel dyner ledaenai, - neu niwlen

A wisgai Eden, ac ymgysgodai.

Caed nen ddiniwlen y nôs, - yn siriol

Gan sér yn ymddangos;

Tawel oe'nt fel seintiau tlos, Yn norau'r nef yn aros.

Grawn parhaus, ac aeron prydd - hongianent

Ar ganghenau'r coedydd;

Gwnaeth Duw, ' n Eden ysplenydd, - fwrdd moethus, Ryfedd gostus, - un mawr fydd ei gwestydd.

Dystaw arwyddaw yr oedd

Wyneb Eden, a'r bydoedd,

Fod Duw, yn brif fywyd daear, ―ar fedr

Dwyn rhyw fod meddylgar.

!

 

 

 

x351 Fwynheai'r drigfa newydd, - ac a'i fant, Ro'ai ogoniant ei DDʊw ar gynydd.

TRINDOD mewn DUWDOD dedwydd, O'i herwydd ymgynghorynt; Nef dég, oll yn fud a gwâr,

A daear, a wrandawynt.

Duw, yr hwn sydd Awdwr hedd,

Lefarai ' n ol ei fawredd: -

" Gwnawn ddyn ar lun ein hunain ! " — yn y fan, O'r elfenau addfain,

Hanodd corph newydd, cain, —corph pur, dinych, O olwg orwych, anfeidrol gywrain.

Rhoi anadl yn ei ffroenau - a wnaeth Duw,

Ac aeth y dyn, yntau,

Yn enaid byw yn union; - hael agor

Ei lygaid wnai weithion

Ar wedd ryfeddodau'r Iôn, Ac, wele ! chwyddai ' i galon Mewn syndod, wrth ganfod gwedd

Gu anian, a'i gogonedd;

Edrych ar y drych wnai dro, —

Atal, - addoli eto:

Edrychai, rhyfeddai'n faith, -

Addolai ei DDUw eilwaith.

Coroniad y cywreinwaith, - er hyny,

Oedd yr enaid perffaith;

Gwnaed hwnw'n gànaid unwaith - gan Iôr glân, Ar ddelw ei hunan, yn wreiddiol lânwaith.

Erglyw, ddaear, dyna'r dyn

Heddyw arnat, yn ddernyn O'r hynotaf, - dwy ran ytyw, Daear a nef yn un darn ᎩᎳ

 

 

 

x352

Prif degwch anian, a'i ban unbenaeth, Ar ei gorph ydoedd yn argraff odiaeth: Perffeithrwydd cyfranogol dwyfoliaeth A redai i waelod ysbrydolaeth Y dyn dihalog, - dyna waedoliaeth ! Llawn oedd ei galawn oludog, helaeth, O gariad a theimladaeth - y nefoedd, A'i wyneb ydoedd lawn o wybodaeth; O hyn hefyd y bu'n nofio, - heddwch A dedwyddwch y DuwDOD iddo.

A rhodio mewn anrhydedd - oedd hefyd, Yn ddwyfol ei agwedd; Rhanwyd iddo rinwedd - lywodraethol, Do, dymhorol awdurdod a mawredd.

Yr oedd, o dan urddau Duw, Anwylddyn fel yn eildduw: Anianawd ei freniniaeth,

A deddf ei awdurdod, aeth O Eden wen ar unwaith, Drwy fôr, nen, a daear faith.

Mawr a chwyrn bysg y môr chwai, Ar ei waelod reolai !

Ehediaid odiaeth, - distadl ymlusgiaid, - Anifeiliaid uchelnwyf, helaeth,

Ac eraill diragoriaeth, - oll oeddynt Yn dwyn yr helynt dan ei reolaeth; A chyfiawn, i'w uwchafiaeth, - dacw'r llu Yn dod i dalu ufudd - dod helaeth; Rhoi rhyw hygar warogaeth, - cydnabawd Difyr anianawd ei wiw freniniaeth.

Tueddwyd hwynt at ADDA, - a deuynt I'w dawel orphwysfa:

Is traed hoff eu Meistr da - ymorweddent, Yno hwy lyfent anwyl law EFA.

.


 

 

x353 Fe a'u henwodd yn fanol, - athriniai Athroniaeth oedd ddwyfol;

Duw Iôr iddaw roes dreiddiol - wybodaeth, Uchanianiaeth ddwfn, bur, a chynwynol.

Ai ni wyddai ein ADDAF - athroniaeth, I'w thrin hyd yr eithaf, —

Yntau dan urddau Duw NAF, - ar ei ddelw Y pryd hwnw, yn fôd pur, dianaf?

Ai mwy yn awr ydym ni Yn adwaen anian, wedi

I bechod a'i nychdod wanhau Yr enaid a'i beirianau?

ADDA ydoedd etifedd Eden - fras: Yn y fro ddianghen,

Ei oriau fel awyren - nefol hynt, Ymaith ehedynt ar esmwyth aden; Wrth fwynhau o wênau IôN, - ar fynwes Ei EFA gynhes, oedd fyw o geinion. Yno rhodient, ddau ddwyfol greadur,

A difyr obaith hyd y fro wiwbur; Heb fraw'n ei ddilyn, heb friw, na dolur, Na phen sâl hefyd, na phoenus lafur I'w gorph; nac i'w feddwl gur, - na chyffro, Nac elfen, eto, i glwyfo'u natur.

Goruchel, dawel westeion, ―y ddau

. Oeddent ddoeth angelion;

Caru a molianu IÔN

Yr oeddent am ei roddion.

Hwynt - hwy a'u molienent EF, - a chanent

Ar gychwynol oslef:

Yn ol atebai'r nef, - siglai'r gydgan,

Ochrau anian a chaerau y wiwnef

 

 

x354

Y dydd hwn nid oedd yno - greadur Llygredig, yn rhodio,

Neu lesg, yn ymlusgo; - neu ysgafndeg Yn ehedeg, a thuedd niweidio.

Llew, yn awr, nid cynllwyn oedd, Maldodi'r milod ydoedd;

Yno rhwng y llew a'r arth, Oen byw, oedd fel mewn buarth; Y tigr brith, yntau gerbron, Yn gorwedd ddigon gwirion.

Yr eryr i'r awyr ai, At yr huan y troai.

Yno'n nysgleirdeb ei wyneb hoenai, Yn y môr tawel, uchel y trochai Ei fawr adenydd - hyfryd dywynai: Hir uwch Eden yn yr entrych oedai; Wedi hyn disgynai - am ei luniaeth, Ond yn ysglyfaeth un edn nis clwyfai.

I ymlygru - dim halogrwydd: —daear Dan do o santeiddrwydd: A'r byd yn syflyd i'w swydd, Dan odrau diniweidrwydd.

O na fuasai mwyn fiwsig - moesol, Meusydd gwynfydedig

Eden, yn parhau ychydig; - heddyw Gwan ddaear ydyw'th gân ddirywiedig.

Satan - eiddigus ytoedd,

Gwelai ddyn, mai arglwydd oedd, Yn rhodio mewn anrhydedd,

A'i fwynhad yn ngwynfa'n hedd

 

 

 

x355 Dyn i'w gael mewn Eden gu, - yn mhob dawn, A meib Duw ' n ei garu-

Yntau'n alltud brwnt o neilldu, —dan lid Duw ' n ei ofid, wedi ei anafu.

Yn cofio yno ei haniad - uchel, O brif achau'r Cread; Ond weithian dan felldithiad, -

Mor sur oedd y mawr sarhad.

Cashâai DDUW - ceisiau ddyn, - hwnw hefyd, Oedd yn anwylyd i DDUw wnai'n elyn.

Llwyddodd, do, i dwyllo'r dyn, A'i wneyd yn gyflawn adyn.

Ef i DDUw anufuddhaodd; —euogrwydd, fel teigr cryf, a'i brathodd;

A braw am danaw ymdôdd, - Ac o olwg Duw ciliodd.

Ninau, oeddem yn ADDAF - yn trigo,

I'n rhan yno daeth yr un anaf.

Hedd o'i flaen a ddiflanodd; - pob elfen,

Nen a daearen, yn rhyfel dorodd: Nef oruchel a frochodd, - anianawd

Y ddaear isawd gydymddyrysodd.

Dygai'r llygredigaeth - y ddwyfol wrid, Arddun a welid ar y ddynoliaeth;

Hynod yw'r gwahaniaeth ! - nid oes weithion Un o deleidion yr adeiladaeth Wiw - dlos, yn aros yn ol — yn gyfrdo, I deg arwyddo ei mawryd gwreiddiol.

Dwyfoliaeth mewn adfeilion - yw'r enaid; Pob rhan o'r dyn weithion,

O dan waeledd sy'n dwyn olion - briwiau, A rhwygiadau yr hen ergydion,

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x356

Eto yr un ytyw'r enaid - enfawr,

Mewn hanfod yn ddibaid;

Pob greddf neu gyneddf gaid, ―sydd fyw eto, ( Er eu gwenwyno ) yn trigo'n weiniaid.

Yr enaid sydd yn coroni ― y dyn,

A dal ei fawrhydi:

Dyma'r hanfod sy'n codi

Tua'r nef ein natur ni.

Y dyn - a'r ddaear dano, - O ! hardded Mewn urddas mae'n rhodio;

Ei arweddiad sy'n arwyddo - ' i fonedd, Ac i fawredd ei radd yn cyfeirio.

A'i droed wen, a daear dani - ' e sang, Megys un am godi

Yn gadarn oddiarni,

I le uwch ei helbul hi.

Ni all un deall enaid;

Yn y corph ei hun y caid,

Rhagoriaeth, sydd yn dy gywrain, —i'r un Athronydd ei olrhain:

Ah ! i fysg pob effaith fain, - ni thycia Y deall llwyra i'n diwall arwain.

Beth ydyw llwyddyd celfyddyd feiddiol, Yn ei champiau a'i chastiau gorchestol? Athrylith, hefyd, a'i thraul eithafol Galluoedd anian, rhai ddwg llaw ddynol I gyflawni ei champ gyfluniol? Beth yw cywreinfryd y byd darbodol, Mewn cydymgais â dyfais y Dwyfol Awdwr hollwybodol, - yn nghyfansoddiad A phenodiad y corph eneidiol?

.


 

 

x357 PENNOD II.

Y CORPH DYNOL.

Rhyw Fframwaith ydyw sy'n llawn amrywiaeth, A'i amledd wedi'n rhyw symledd odiaeth; Rhy galed agor dirgeledigaeth

-

Llwybrau ei einioes, a'i holl beirianaeth; A oes rhyw neuadd o'r fath saerniaeth, Mor drefnus a medrus mewn cymeidraeth, - Pob rhan, fel anian, mewn llwyr gyfluniaeth? O ! ' r fath amryddarn garn yw'r esgyrnaeth ! Ond, a oes yno un diwasanaeth?

Hwy ddygant eu swyddogaeth, - o'r lleiaf Hyd y mwyaf, ni raid amheuaeth.

Drachefn, mae cyd - drefniad - pob pin dyfal, Colofn, a chymal, o'r dal adeilad, — Pob cwn a phegwn, heb un diffygiad, Wrth bwll a saidwll, mewn cydosodiad, Yn addas er gweinyddiad ymarfer,

-

Nes mae hoewder y corph, a'i symudiad, Yn ystwyth a gwastad: - fel y mynir, Efe a ŵyrir yn mhob cyfeiriad.

Cywrain yw gwaith y Cyhyrau - bywiog, A lluosog pob lle a'u heisiau; — Anweledig aelodau; - pob cyfran, O fewn ac allan; - pob dwfn gellau; — Gwaith anadl a gwythenau, —yn amledd Byw eu rhinwedd, gwna'r llafarbeirianau Symud yn ehud yn ein geneuau, I agoryd mewn geiriau — amrywiawl, A sain newidiawl ein holl syniadau: Gwnant, hwy ledant ein cudd - deimladau Dros y wyneb, neu mewn cyd - ryw seiniau, Ffraw ehêd cyffroadau - y fynwes Dywell, yn hanes hyd eu llinynau

 

 

x358

Twymli yw'r gwaed, dan aml ergydion

O ddirgelaidd lif - ddorau y galon; O'i throthwy, hefyd, aeth i'r eithafion, I luchio drwyodd, yn ei gylchdroion, Fywyd bob mynyd i'w rhanau meinion, A maeth, drwy helaeth gyflenwi'u treulion: Rhoi gwawl ar holl ddirgelion — ei gylchdaith, A rhin ei waith, ni ŵyr Awen weithion.

Hwythau, ' r gwythi îr, gweithiant — o ddifrif; Y bywiol hylif perffeithgwbl hwyliant Drwy bob aelod, a dodant — sirioldeb Ar y wyneb, - y rudd a eirianant.

Ail dyfnwaith llednais, o ddyfais ddwyfol, Wele, ydyw'r gwythenau gwaedgludol: Â bywyd trwyddynt, hwy bibau trieiddiol, I bob cwlas o'r ddinas - gorph ddynol: Fel y mân ffrydiau sy'n gwau drwy geuol Lwybrau dyfrllyd y gweryd rhyddgarol, I adfywio anian yn dufewnol; Neu a red yn afonydd rheidiol, Drwy y dyffrynoedd drud a phawrwênol, Tua'r môr, eu ' stôr gyfleusderol; Oddiyno wedy'n ar wedd newidiol, Trwy y nen try yn ol, - gan fwydo A rhywiogeiddio ar gylch tragwyddol.

Awyrol beiriant eres - ac ufydd Yw'r Ysgyfaint cynhes;

Anfona waed y fynwes

Ar ei hynt yn llawn o wres:

Yfa awyr yn fywyd,

Ei waith ef sydd wyrth o hyd.

 

 

 

 

x359 Llafur y Cylla, hefyd - gyfrana

At gyfrinach bywyd;

Ni all un deall diwyd - fyth ddangos Naws ac achos einioes a iechyd.

Pwy ddywed beth yw bywyd - dienaid Anian, sydd yn diwyd

Dyfu a hadu o hyd? - rhyw beth ail Yw bywyd anifail - pob dyn hefyd.

Hanes y rhywbeth hwnw, - a'i ranu, Yn wirionedd gloew,

Ni faidd athroniaeth feddw '; - nis gwyddom, Er ei wneyd ynom, fawr ond ei enw.

Ein gweledig aelodau, - pybyr y'nt, Pob rhyw gymhwysderau

Sy ' iddynt yn eu swyddau: —mor gelfydd A dedwydd yw ei holl symudiadau.

Troed a llaw - tra diwall y'nt, —aelodau Yn dwyn nodau uwchafiaeth dyn ydynt.

Y Llaw a fedd alluoedd - i rwymo

Y grymus elfenoedd:

Uthr ydyw ei gweithredoedd; - - ni wna'n ail,

Un anifail o dan y

nefoedd.

Edrych ar ei gwrhydri !

Pwy a wêd ei champau hi?

I allu yr ewyllys - morwyn yw,

Ei mawr nerth sy'n hyspys:

Yn mhob peth mae ei phump bys - yn helaeth,

Yn y wladwriaeth a'r anial dyrys:

Mae olion prydferth, melys - ei llwyddiant,

Yn fawr ogoniant hyd for ac ynys.


 

 

x360

Yn y Pen pywllelfenol - a meinwych, Mae'r Ymenydd bywiol,

Y ddalen fawr feddyliol, ―lluniedydd A darllenydd natur allanol.

Ei weision hoewon yw'r Giau - cywrain, Hwy sy'n arwain drwy byrth y synwyrau; Anian, ac elfenau - adeiladaeth

Cywir wybodaeth, - hwynt yw'r cerbydau.

Y Glust a yr y sain a glyw - i mewn I'r ymenydd hyglyw;

A barn a'i gwna yn syniad byw; - pwyll, wedy'n, A ddeil ei edyn, - drychfeddwl ydyw.

Y Llygad a all agor

Ei drem hardd ar dir a môr, —

Nefoedd a'i bydoedd, - casglu gwybodaeth, Nes daw o'i herwydd yr adystyriaeth, A raddol waeloda'r addoliadaeth Naturiol hono sy'n nghol dynoliaeth;

I'w foddiant etifeddiaeth, - gan DDUw mawr Wedi ei hagawr yw'r Greadigaeth.

Dy arfaeth, O, DDUW, ' n ddoethineb dirfawr, -

Dy allu enwog yn fywyd llonwawr;

Dy wynfyd, O, Douw, yn gariad enfawr, Yw Natur addfwyn i'r llygad treiddfawr: Wele, mae cyfrolau mawr - o'i ddeutu, I'w hedmygu wedi cydymagawr.

Pa ddeall? pwy a ddywed - ofnau dwys, Anrhefn dost, a cholled,

Dywyll un dall a aned; —a'i glustiau O dan gloiau rhy dŷn i glywed?

 

 

 

x361 Na fu wrtho ' rioed brydferthwch — anian;

Hono, ' n llwyr dirgelwch,

Wedi'i chloi; - mae'n troi mewn trwch O niwl a mawr anialwch?

Na fu haul ar ei ddarfelydd - unwaith, Hwnw ' crwydro'n benrhydd:

Ei farn dan gwmwl a fydd,

A'r enaid heb arweinydd?

Drwy y golwg daw i'r galon - wênau Anian, a'i phrydferthion, —

Y ffurfiau a'r lliwiau llon,

Rhodfa fawr adfyfyrion.

Rhy'r llygad, heb baid, wybodaeth - fynych O'r fewnol fodolaeth;

Yma treigla i'r traeth - donau llifaid Bywiog enaid, dan bob gwahaniaeth,

Yn moddhad y llygad llon,

Y gwelir hedd y galon:

Yno naid gwreichion nwydau - gwahanol,

A gwên y serchiadau;

Gwêd iaith y llygad, weithiau, - ' r gyfrinach Yn gywirach nag adsain geiriau.

Mae ei olwg i'r milyn: - fe a wel Ei fwyd, neu'r hyn berthyn I'w rheidiau, - beth ŵyr wedy'n? Efe ni wêl fwy na hyn.

Ond dyn, - efe adwaena

Y prydferth, y diwerth, a'r da.

Eu dyben hwy a wybydd, - ymesyd I'w cymhwyso'n gelfydd; Ei ddyfais a'i fantais fydd Yn galw ar eu gilydd.


 

 

x362

Drwy rinwedd cof a phrofiad, - a deall

Y

I dywys ymchwiliad,

myn wirionedd mad - i oleuni,

Y cais hollti a gwel'd pob cysylltiad,

Cwyd ei fad lygad i'r lan,

I siarad â'r nef seirian.

Dringa gyda rhyw angel, - i chwilio Yr uchelion tawel;

O effaith i effaith hêl, - o achos Hyd y Diachos - y DuwDOD uchel. Efe a wyr ymddifyru — yn y drem Dra hardd sydd o'i ddeutu. Ar gloion ei galon gu, - prydferthwch, Yn swyn a difyrwch, sy'n dyferu.

A chawn ef yn berchen iaith - i seinio Pob syniad yn berffaith;

Yn hyn mae'r milyn, mewn maith - wahanedd, Yn dwyn ei waeledd gerbron dyn eilwaith.

Os greddf, yn y milyn, sy ' gry ', — ei chylch Sydd fach iawn er hyny;

Doed a ddoed, led troed nis try - o'i hen lwybr,

Fwy na rhod wybr, neu'r afon red obry.

Ond Rheswm dyn a dreisia - holl anian

Hyd ei linell bella;

Rhoi trem hwnt, o'r tir yma, - drwy'r niwl pwl, I fyd y meddwl ac Hanfod, meiddia.

Onid Rheswm y sy'n agor drysau Llŷs Gwirionedd, lluosog ei ranau, I ganfod ei ryfeddodau - dirfawr, - At yr egwyddawr hwnt o'r agweddau. Er hyn mae ei derfynau - i reswm; Fe'i dyryswyd yntau

 

 

x363

Wrth yn swrth neshau - i geisio synied, Dieithriol dynghed uthr wlad angau.

Ni wel yn glir drwy niwloedd - tir angau, Nis dring erch fynyddoedd

Ban, y tragwyddoldeb oedd, - na'r hwn a ddaw, Hawdd yw arswydaw - rhy ddyrys ydoedd.

Pwy, ond Ffydd, pan diffoddo Gwenau llwyd ei ganwyll o ', A oleua? - hi fedd lewyrch - dwyfol, Hed hefyd i'r entyrch

Tragwyddol, at ganol gyrch - pob rhagor, Fe wyr hon agor y fro anhygyrch.

Y dyn, yn ddeiliad enaid - anfarwol, Yw ei fawredd dibaid:

Hyn yw ei degwch bendigaid, - a'i dwg Ef i olwg uwchlaw'r anifeiliaid.

Er i DDUw wneuthur iddyn ' hwythau, Rai o honynt, gyffelyb ranau Corphorol, nid dynol yw'r doniau

Sy ' iddynt, na'r unrhyw eu swyddau: Gorweddant yn eu graddau, - am nas caid Nerth pur enaid wrth eu peirianau.

Heibio'i rês, ar ol dyn yn brysur, - sang Yr Ouran - Outang ar oror natur:

Ei wedd ef ( bron fel pe'n ddyn ) —sydd hynod; Un ᎩᎳ ei dafod i'r main edefyn, —

A rhanau'r pen pob gronyn; - ond er hyna, Nis ymgoda i gylch rheswm, gwedy'n.

Ni rydd un defnydd, raid ofni, - Feddwl, Er a fyddo'i deithi;

Na chorph fawr harddwch, na chaid Enaid yn wraidd i'w yni.


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x364

PENNOD III.

Y R

ENAID.

Pwy sy'n gwybod hanfod hwn? Beth ydyw? Pa beth ' wedwn? Os holir am ei sylwedd,

Mae'r byd mor safndrwm a'r bedd ! Dywedwyd, Ysbryd ydyw: A'i ysbryd fel angel yw?

Ynte'r un ei natur o ' - a'r Ddwyfol, - Rhyw nwyf dywynol o'r hanfod hono, Fel dysgleirwyn esyn o - oludoedd Haul iachus nefoedd o'n cylch sy'n nofio?

Beth ydoedd pan yr hanyw? Beth a fydd, byth, byth i fyw?

A ddadguddia

Aifft a Phrygia,

Neu Phoenisia, - ' Nghorff hanesiaeth,

Enaid ini?

Ynte cyni

A thrueni - Meib athroniaeth.

Enwog Ioniaid,

Bythagoriaid,

Eleatiaid, - Pa le ytych?

Beth yw'r beiddgar

Enaid treiddgar?

A oes gynar - Hanes genych?

ANAXEMES,

DIOGENES, -

Ai o fynwes - Yr elfenau

Doi'r ysbrydol

Fod anfarwol,

Anwahanol, - Hwn i ninau?

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x365

Anwir oedd ei Synwyryddiaeth, - yn llawn

Llwch a materolaeth;

Rhyfedd iawn y ffurf a ddaeth

A'r enaid o'u hathroniaeth.

Nid oes mawredd,

Ysbrydoledd,

Na chysonedd - Uwch eu syniad; Ofer aros

Gwel'd ymddangos

Haul a hwyrnos - Cyfeiliornad.

O'i ol ef, eu hymchwil oedd - ail un ai, Liw nos i'r mynyddoedd:

I anialwch a niwloedd - - ol a blaen, Na welai'i adwaen yn mha le ydoedd.

Eto'r oedd eu hantur hwy,

Ond odid yn glodadwy,

Drwy ddwysder a chleuder ymchwiliadaeth, Gobaith leuerog, a bythol hiraeth,

A gwaith arweiniol Groeg a'i hathroniaeth, I gael hyd eigion dirgeledigaeth

Y byd a welwn, a phob bodolaeth: O dipyn i dipyn daeth, - o enyd I enyd, waith mawr uwch anianaeth.

Y wawr a dorai yn y Dwyrain, Toai y gorwel yn PLATO gywrain, Ai yn gryfach, gryfach o Groeg a Rhufain, I'r wybr ehedai yn ddydd ar Brydain; LOCKE oedd yr haul cain - dywynai i lawr, Yn ddiluw mawr ar y meddwl mirain.

Er hyn eto, pwy a wyr ei natur? Ba wr esyd i draethu'n brysur

 

 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x366

Ei hanfod wiwglod, a'i waith yn eglur, A'i allu hefyd? - mae'n ormod llafur I galon BACON bur; - gwaith rhy ryfedd I LOCKE a'i fysedd oedd sialcio'i fesur ! Ni wyr gwyddor, i'n hargyhoeddi, - ddim; Drwy Douw, yn ngoleuni

Glân ei Air, gwelwn ni - ei uchel rês, Diwedd ei hanes a dydd ei eni.

Ni a wyddom

Ei fod ynom, - fe adwaenir

Ei weithredoedd;

Eu naws cyhoedd - hwy nis ceuir:

Rhyw uwchraddol,

Fyth - wellhaol,

Wawr addurnol - orwedd arnynt, - Aml, amrywiog,

Tlws, ardderchog,

A godidog, - i gyd ydynt,

Elfen fywiol,

Weithgar, nerthol,

Heini, syniol- ( hyn sy ' honaid ), Faidd obeithio,

Canfod, cofio,

A dymuno, - ydyw'm henaid:

All resymu, Wyr gydmharu,

Penderfynu: - pan drwy fwyniant Ei feddyliol Allu gwibiol

A i ganol - pob gogoniant.

Mae addoliad

Yn ei deimlad;

Ofn a chariad - o'i fewn chwery;

 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

 

x367Dwyn tangnefedd,

Gwneyd gogonedd,:

Yn llaw rhinwedd - all y rhei'ny.

Ysbrydol, anfarwol fôd ! Yn wylo yn ei waelod

Byth, am anfarwoldeb yw, -

Anedwydd grwydryn ydyw.

Anfarwol yn ei fwriad - yw'r enaid;

Dyma ran o'i deimlad, —

Hir oes deg mewn rhyw ystad - ddedwydd, wych, Yn fynych, mynych yw ei ddymuniad.

Mae'r tragwyddol

Holl - ddigonol,

Wedi hollol - fyned allan;

Nes dychwelyd,

Ni cha'r ysbryd

Awr o hawddfyd: - deil i ruddfan.

Mae pob gwrthddrych Heddyw'n edrych

Yn llawenwych - drwy holl anian;

Mor fendigaid

Eu holl ddeiliad,

Ond fy enaid - i fy hunan !

Teimla wagder

Nad oes fwynder

Oll a lunier — all ei lenwi,

Drwy amrywiaeth

Creadigaeth;

Dyma hiraeth - dim i'w oeri !

Fe a grwydra,

Draw ac yma,

Ac a geisia - acw ei gysur,

 

 

 

A close-up of a poem

Description automatically generated

x368

Yn mwynderoedd

Tai a thiroedd

A'r hyn ytoedd — oreu natur.

Er cael euraid

Fyd i'w goflaid,

E ' fyn enaid - fwy na hyny, —

Rhyw ddyheuad

Am uwch profiad

Yn y bwriad - byth a bery.

Ni wna addaw ddeng mil o flynyddoedd, Na mawredd iesin deng myrdd o oesoedd, Na maith gyfnodau rhif gro'r holl foroedd, Iddo i nofio yn ngwynfyd nefoedd,

Lanw ei wanc, —anfoddlawn oedd: —hiraetha, Fe a obeithia y caiff fyw bythoedd.

Rhyfedd yw nodwedd ei ddymuniadau, Estynant, neidiant dros bob cyfnodau; Rholiant o amgylch ogylch camegau Y byd mawr tragwyddol; bythol bethau Duw a'i râs dyr eu heisiau; - diflanol Waelni amserol ni leinw'u mesurau.

Er i DDUW DAD roddi dyn Mewn byd yn min abwydyn, Nid oedd yn ei fwriad O ' Nychu dyn, na chadwyno

Ei geinmyg ragolygon,

Na'i ddawr, wrth y ddaear hon.

Ei osod wnaed yn isel - yn y byd, Ar bwys yr anifel:

Er hyny, ar ei anel - heibio rhai'n, Enaid, dan ochain, ehed yn uchel.

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x369

Ac er i'r CREAWDWR gau Ein henaid rhwng gronynau O ddefnydd a fydd, ar fer Adeg, yn llawn o wywder, Yn ymollwng a mallu,

A'u rhoi dan y beddrod du, Ni fwriadodd difrodi

Na datod ein hanfod ni: -

Enaid, rhwng dinystr angau, - hed uchod, I wydd y DuwDDOD, yn rhydd o'i didau. Os amgen, O ! mor siomgar - y'm dodwyd ! Mwy dedwydd y'w'r adar,

A gwell, er crymed eu gwar, Na dyn, yw'r milod anwar.

Ca adar ddringo'r coedydd, - ac aros

Yn eu cyrau'n ddedwydd; A'r milod llon rodio'n rhydd Eu moesau hyd y meusydd.

Mae nod eu dymuniadau - ger eu bron, Egyr bru'r dyffrynau, -

Y deiliog wydd, a'r dolau, —a phob nant, Yn hawdd y llesiant ddiwalla'u heisiau.

Minau ydwyf yn llawn dymuniadau Anfeidrol - ysol, yn teimlo'u hiasau; Er edrych yn fynych i drigfanau Hedd a digonedd, Ow ! ' r fath deganau ! Er tremio eilwaith, er troi ymylau Golud a mawredd, a gweled muriau Uchel llwyddiant, a chael allweddau

--

Melyn moliant, gogoniant a gwênau Y ddaear isod, ac eiddo'r oesau, — Nychu wedy'n mae fy serchiadau Nid oes gan anian ddoniau - digonol- Neu allu moesol ddiwallu'm heisiau.


 

 

A black and white text

Description automatically generated

x370

A oes, ynte, le sy ' lwys, - i'r enaid Fwrw'i hun, a gorphwys?

Rhy wan y caed athroniaeth - yr oesau, I drosi'r wybodaeth;

Mwyach nid oes amheuaeth—

GAIR O DDUW yn sicrwydd ddaeth. Ac enaid - er ei gyni, - mae gobaith O DDUw eilwaith i'w ddedwyddoli.

Pechod yn ddifrod a ddaeth, —yn wewyr, Yn wae, a marwolaeth,

Yn nheulu mawr dynoliaeth; - Ow ! dyna A fu, o ADDA, ein hetifeddiaeth.

Yr urdd lwys yn yr Ardd lan, - y goron Gariai ADDAF weithian,

Drwy bechod ( nid tro bychan ) - gadd ganddo, Ow ! do, ei ddryllio, yntau'i droi allan.

Ond o Dduw do'i addewid,

Am LACHAWDWR, Prynwr prid, Enillai hono'n hollol,

A mwy bri, i ni yn ol:

Draw aethom hyd yr eithaf,

Yn ol am ogoniant NAF; Haeddu ei lid tragwyddol

Oeddem ni heb ddim

yn ol.

Ond LESU, ' r OEN dewisiol, - dan y llid Ai, yn lle'r condemniol;

Yfodd y cwpan dwyfol, - bywyd gloew A red, o'i farw, i'r edifeiriol.

Wele hi, Efengyl hedd,

Egora ddrws trugaredd.

Y dirion Iachawdwriaeth a ddengys

Draidd anghen dynoliaeth;

 

 

A black and white text

Description automatically generated

x371

Gwawl o'r nef, egluro wnaeth, - ddedwyddwch

Egorai degwch anllygredigaeth.

Golau ar bwys gwely'r bedd - a esyd,

A grasol dangnefedd,

A pharodd o hwn ffordd i hedd, gwnaeth ' stryd, O ei fro wiwlyd, i anfarwoledd.

O enau Duw ei hun y daeth I'r byd y fawr wybodaeth; Yn ei Air y dysg i ni Wir adwaen ei Fawrhydi: Creawdwr pob cwr ydyw- Amrywion byd - meirwon, byw; A Llyw mawr yr holl lu maith, A'u Cynaliwr cain eilwaith.

Ein HIÔN, pan wnaeth ein henaid, Rheswm ynddo ganddo gaid; Ac hono oedd y gyneddf

Wnai y dyn yn ddeiliad deddf:

Yn rhyfedd fod cyfrifol - i wiwdrefn

Y llywodraeth ddwyfol; Ef a wnaed i fyw yn ol

Agweddau'r ddeddf dragwyddol: Rhyw ffiniau mân, gwahanol - eu teithi, I fyw o dani, yw'r deddfau dynol.

A hono ytyw deddf fawr ei natur, - Y " ddeddf foesol " o DDUw ddo'i i fesur Holl fuchedd y dyn, - dilyn wna'i ddolur, Hwnw a feiddio'i ddibrisio'n brysur, I'r hwn a'i mawrha, dangosa gysur; Arweinia i borth y fron bur - dangnefedd; Eithr rhinwedd omedd wobrwyo'r amhur.


 

 

A black and white text

Description automatically generated

x372

Mae'r Duw byw n ' mhurdeb hon, A'i gariad arni'n goron.

Y dyn, yn nghariad hono, - byw i Dduw Bydd of hyd a allo;

A phawb ( yn lle ffoi heibio ),

Fel ei hun, ga'i ofal o ',

Cariad, yn wir, yw coron - y DUWDOD,

Dedwydd gân nefolion, Hedd a rhad y ddaear hon,

A golud pena'r galon.

Ei glau elfenau ef, fydd I ddodi'r byd yn ddedwydd.

Y Ddeddf a'r Efengyl ddaeth I anwylo dynoliaeth;

Yn IESU yr unasant

Eu swydd i berffeithio'r sant.

Bywyd, a maddeu beiau, —drwy waed gaid, A hedd i enaid, yn ei haeddianau.

Yr un yn mhawb yw'r enaid,

E'n mhob gradd yn gydradd gaid.

Ar ddeulin cydraddoliaeth - hanfodol,

Ef edy ddynoliaeth;

Hardd a châs, rhydd a chaeth, - er urdd a moes, A swyddau einioes, sy ' ddiwahaniaeth.

Hen wr gwan a baban bach, Y cryf, y llesg, a'r afiach;

Y tew oludog, fel y tlodion;

Y tywysog yntau a'i weision;

Y gwr a breswyl gyrau breision, Fel preswylydd y gelltydd gwylltion, — Diwahaniaeth yw dynion; - hwynt, yn wir, O wraidd a welir yn gydraddolion.

.

B B

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x373 Yr Esquimaux byrion, llwydion, lledol, Dan gaeth arglwyddiaeth y rhew gogleddol; Tartar tra anwar y byd dwyreiniol;

A'r Caffir tywyll, erchyll ymgyrchol; Yntau Indiad y wlad haul - fachludol, Megys yr Ewropead edmygol, -

Er gwyneb tra gwahanol, - a theithi, Mae'r enaid wedi'i roddi'n gydraddol.

Ac er dwyn y Negro dû

O dawelwch ei deulu,

Rhegi bloedd ei wraig a'i blant,

O'i herwydd pan alarant,

A'i droi o wyddfod ei drâs Acw i weithiaw yn gaethwas;

A'i flingaw dan y fflangell, A'i waed i'w gael hyd y gell, Crio o'i ol, a sicrhau

Yn dynach ei gadwynau; Gwarthus wyt ti, y gwerthwr, Euog wyd o waed y gwr; Ei waed ef a'th erlyn di, Geilw ei waed a'i galedi

NAF o'i lŷs - nid â ei floedd

Yn ofer hyd y nefoedd:

Gwae ! gwae ! gwae ! i ti ' r dyn gwyn-

Gwael wyd, Grist'nogol adyn !

Un o waed dy hunan yw,

Dy frawd eneidfawr ydyw; Mae yntau'n berchen enaid,

Ar hyn betruso ni raid;

Gan hyny, yn gynenid, —mae ganddo Le i arwyddo ei hawl i ryddid:

O herwydd hyn, cydradd yw, Un waed a ninau ydyw

 

 

A close-up of a poem

Description automatically generated

x374

Urddau ac enwau gogoniant - daear,

Ger bron Duw ddiflanant:

Ffoa agwedd a ffugiant, -

Yr un a saif yw'r enw sant.

Dynion yn ingion angau - a wesgir

O'u gwisgoedd a'u breintiau; Egwyddor, nid agweddau,

Heibio'r oll sydd i barhau.

Angau'n hawdd a dawdd y dyn O'i fawredd yn ddyferyn.

Holltiadau neillduedig - fydd graddau A gwahaniaethau'r byd gau a nwythig.

Ac ar olau forau'r farn,

Pan cwyd cwmpeini cadarn

Y bedd, cydraddol byddant - mewn hanfod; Y gwahannod a fydd y gogoniant,

Neu y gwarth tragwyddol gant, - ddwy dorf gref,

Ei fanol oddef yn ol eu haeddiant.

Corph, at ei enaid pan cwyd, - nid edwyn

Wendidau a deimlwyd;

Gwahaniaeth mawr uwch y llawr llwyd ― welir, Pan eu hunir, i'r modd pan wahanwyd.

Hen gorph newydd fydd efe,

Hwylus fel mellten ole '; Eginyn o'r hedyn roed Yn y ddaear, a ddioed Gyfyd i fywyd, yw fo,

Na oddef ail - heneiddio.

E ' gwyd yn fendigedig - o'r pentwr, Yn llaw ei GREAWDWR, yn anllygredig.

:

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x375

Pwy a wyr pa gamp o waith Wna'r enaid drwy beirianwaith Y corph hwn, pan ca rhaff fawr Y meddwl cyflym, hyddawr Ei hestyn heb betrusder

I'w llawn hyd, yn llaw ei NER?

PENNOD III.

Y MED D W L.

Trown, mewn dawr, yn awr yn ol, - i edrych Ar lywodraeth foesol, A doniau'r meddwl dynol, - yn ffurfiad Ac arweddiad y byd gwareiddiol,

Weithwyr enwog athroniaeth,

Wele, cewch y gorchwyl caeth-

O ddwyn, a'ch treiddgar ddoniau, - i'r golwg Ddirgelwch ei ddeddfau;

Nid yw Cân ond i ddad - gau - ei fawryd, A dywedyd ei weithrediadau.

Mae eiddil dwf meddwl dyn

A'i gynydd fel eginyn.

Nid greddf ydyw deddf y dyn; —y mae hi Yn ei maint wrth gychwyn:

Eithr y diddwl Feddwl fyn - i'r perffaith, Am ei oesdaith, ac hyd fyth, ymestyn.

Ei wawr dêg yn forau dyr, —yn amcan

A dawn y baban - er nad yn bybyr.

Fe wyr ef gan bwy mae'r fron - orau'i ffrwyth, Gwyr ffriw ei anwylion;

A gwyr y dyn bach, gwirion, - yn forau Alw'i deganau - myn wel'd ei geinion

 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x376

Gwyr eu sut, a gwyr eu sain, A gwyr eu chwareu'n gywrain.

Fe a wyr ymddifyru - yn ei gamp, Pan gais efelychu:

Ei fys gwan, ar ddyfais gu,

A esyd i'w chwmpasu.

Ac yn wir cyn hir cawn arwydd — egwan O ryw wag gywreinrwydd:

Gan yr hyn yn ddigon rhwydd, - efe a Ddiofryda reddf i waradwydd.

Daw yn awr i adwaen iaith, - ynganu'i Anghenion yn berffaith;

Sylwi o'i gwmpas eilwaith, A rhoi ei reswm ar waith,

Dylanwad argraffiadau - allanol, Cynllunion, enghreifftiau, Yr aelwyd a'i rheolau - diffuant, A araf ddaliant ar ei feddyliau.

Yn wir fe dorir y dyn - i'w nodwedd Yn adeg y plentyn:

O b'le daw blodeuyn - i berffeithrwydd,

Heb ol ac arwydd yn y blaguryn?

Y ddawn, neu'r ddeddf, neu'r reddf, roes

Freniniaeth foreu'n heinioes,

Yw'r egwyddor gueiddia,

Drwy'n hoes a ddeil deyrnas dda;

Rhyw rinwedd hyd ddiwedd oes, Yw rhinwedd boreu einioes.

O ! ddedwydded yw addysg Foreuol, f'o ' n dduwiol ddysg; Mor gain mae'n arwain i hedd, A rhad, a phob anrhydedd;

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x377

Gan fathru penrhyddid, gwna feithrin A chreu prydferthwch a rhin-

Tywallt cysur pur, nas paid

Drwy einioes ado'r enaid.

Rhieni hawddgar, anwyl,

Da chwi, ' n awr gwrandewch yn wyl, — Rhoddwch yn gynar addysg,

Rasol a moesol, yn mysg

Eich plant, fel b'ont yn eich plith

Yn fwynder ac yn fendith.

Egin bach enwogion byd

Yw rhai'n, ond gwilio'r enyd: Boreu gais a bia'r gamp—

Rhagargais y ragorgamp.

Cymer arddwl meddwl mad, Yn forau rhyw gyfeiriad.

Athrylith i ryw alwad - neu broffes,

Hyd briffordd tueddiad, Wyra'i lawr, a theimla'r wlad Lawenydd ei dylanwad.

I rywle ar ei helynt - naturiol, Tora mgys cerynt:

A throi hon o'i haruthr hynt,

Yw curo'n erbyn corwynt.

Ei meib hi sydd yn mhob iaith, Yn gewri mewn rhagorwaith.

Aeth rhyw un yn athronydd, - ac arall

Yn gywrain luniedydd;

Ato rheda y trydydd- Morwr neu ryfelwr fydd.


 

 

A close-up of a poem

Description automatically generated

x378

Gwr arall geir, o herwydd - ei dalent, Yn deilwng fasnachydd;

Un gwr yn farsiandwr sydd, Rhwng gwlad a gwlad yn gludydd.

O'i ol ef mae dylifiad - syniadau, Trugareddau a brasder gwareiddiad.

Y nesaf aeth yn amaethon, —deall Trin daear mae'r gwron;

Ar ei faes tirf, a'i weision, - mae'i lygaid, A'i anifeiliaid dry'n ei ofalon.

Un â'n fardd, a'i awen fawr

Yn cynull blodau ceinwawr,

A ffrwythydd meusydd moesol - y galon, A dillynion y bywyd allanol: A dwg yn adegol - ambell beraidd Flodeuyn hafaidd o'r brifwlad nefol.

I fro

y dim yn frwd â, - - ac yno Gogoniant a draetha:

Yn y dim hynod yma - a'i law fawr, E ' grea orawr ac a'i goreura.

Dynion, a'u cysuron, sydd

Yn gwlwm wrth eu gilydd;

A'u pwys ar y naill a'r llall, —lle dengys Rheidiau un, erys rhadau un arall.

Pon'd doeth fod rhai'n gyfoetheg, - i daenu Adenydd y geiniog;

Ac eraill yn drugarog, - i'w hestyn

O'u rhin fawr wedi'n i'r hwn fo rheidiog.

Rhai yn weithwyr cyhyrog - yn nghanol Anghenion lluosog,

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x379 I'w chynull hi'n dra chwanog - nes hwylio Drwy y wedd hono ddiwydrwydd enwog.

Rhai ydynt yn feistradoedd, a'u calon Ar ofalon a gweithwyr filoedd;

Rhai ' n hynaws freninoedd; - rhai ' n swyddogion, A rhai yn weision i drin teyrnasoedd.

Rhai ' n feddianwyr,

Rhai yn werthwyr,

Rhai yn brynwyr - O rin brinaidd,

A'r byd mawrhynt,

Yn myn'd rhyngddynt

Ar ei helynt - Yn rheolaidd.

Er mor eang yw'r amrywiaeth - yma, Nid oes dim anhrefnaeth,

Anelant at unoliaeth;

Digon yw mai Duw a'i gwnaeth.

Ni arddelir cydraddoliaeth - o fewn Holl drefn fawr Rhagluniaeth, Nac Anian, hi - ION a'i gwnaeth I gynwys pob gwahaniaeth.

Duw, i fôr, a dyferyn, —ac afon,

A gofer, a gwlithyn,

Roes eu gwaith, - effaith hyn - yw cyflawnu A diwallu un bwriad dillyn.

Duw, â'i law enwog, sy'n dal awenau

' R llywodraeth helaeth, hyd fyrdd o heuliau; Allan gyr anian â gair o'i enau,

Ac ni all Abred gau un o'i llwybrau; Efe a wel arwain pob cyflyrau, Gan estyn uwch edyn amgylchiadau; Taena hwy'n ol ei fythol arfaethau, Diboen, i gyrhaedd y dyben gorau;

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x380

E ' wnaeth ei Ragluniaethau - ' n ardderchog, Y mae ei odidog symudiadau,

Yn anian a ninau, - ' n dadgan clod Dirfawr ei DDUWDOD a'i ryfeddodau.

Unwaith at Athrylith eto - rhedwn, - - Mawr yw rhadau hono;

Hi roes i'r peirianwr o - ei gynllun, Tan ei llaw eiddun mae yntau'n llwyddo.

Un a gwyd yn Ddysgawdwr, —arall fydd Yn Beroriaethydd, neu bur Areithiwr; Arall yn Ddeddfwneuthurwr - yn gomedd Un lle i drosedd, na llaw i dreisiwr, - E ' a hoffa amddiffyn

Hawliau ac iawnderau dyn.

Anhawdd yn wir yw enwi - ei meib oll,

Yn mhob urdd a mawrfri,

Yn agos, na mynegi

Un oes, o'i gorchestion hi.

Dyrchafodd, ymwelodd â'r cymylau Tywyll, i hebrwng y mellt o'u llwybrau; Mawr
ᎩᎳ ei hantur ar y môr yntau— Rheda o danodd, rhodia ei dònau; Drwy eithaf daear hithau - llewyrchodd, Yno gwthiodd ei chreadigaethau.

Adwaen ei nerthoedd ydym, - - a rhinwedd Byw ei hyawdledd, a'i dawn tanbeidlym;

O'r Esgynlawr, a'r werthfawr Areithfa, Iâs fywiol welir o'r safle ola ';

Ei grym sy ' ddwyfol yma; - wrth ei swn, Enbyd gaer anwn, a'r byd, a gryna.

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x381

Y Wasg geir eto'n ysgwyd - y ddaear; Ei gordd hi a deimlwyd

Ar war pob anhygar nwyd, —cadwynau, A grymus dyrau gormes, a dorwyd. Anadla ar y cenedloedd - Ryddid, Cyfarwydda'r bobloedd:

Ei nerthol hyf - ledol floedd, - bair ddibaid Fraw yn enaid llawdrwm freninoedd. Dan nawdd tangnef, hon hefyd Sydd famaeth gwybodaeth byd.

Ac eres yw gweithgarwch - y Meddwl, Yn moddion dedwyddwch; Mae ei rin yn ffloewi'n fflwch, Dan goron fawr Dyngarwch

Daeth i osod Cymdeithasau, - ddygant

Ddiwygiad yr oesau;

Ei fawr ddawn i fyrddiynau, —môr a thir, Yn fywyd ledir o'i sefydliadau.

Meddwl ar feddwl a fydd, -

,

a chalon

Ar galon, yn mawrhau eu gilydd; Ac maes o law daw y dydd I ddodi pawb yn ddedwydd.

Efengyl ni chyfyngir, -

A llef Duw drwy'r pellaf dir; Hedodd fflam haelfrydedd fflwch, Yn olau drwy'r anialwch. Wele ! sŵn elusenau

Ei meib hael sydd yn mhob pau; Biblau a roes i'r bobloedd, A llên Duw i'r lle nid oedd; Gyrodd wawl trugaredd ar Ddu, dywyll leoedd daear.


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x382

Ei hynawsedd sy'n cynhesu - y Gogledd; Mae'r gwagle'n llewyrchu;

Daear lân sy'n un gân gu,

A gwyneb nef yn gwenu.

Ti, Feddwl ardderchog, bywiog, buan, Wyd orenwog Ymerawdwr Anian; Trwyllo ydwyd y cefnfor tra llydan— Caethiwo'r dyfroedd a'r gwyntoedd gwantan: Gloewi'r tir, a chasglu'r tân - i'th weini, Anturio wedi i rwymo'r trydan !

Ei lwybrau drwy'r uchel wŷbren - y sydd, E ' sang y ffurfafen;

Hed i wàr y gomed wèn; - fe bwysa Ac a fesura'r gyflymaf seren.

Acw, y'mol y cymylau - troa'i ben,

Trwy byrth y taranau;

E ' wnaeth i'r fellten hithau - ymostwng, Ei law oedd gyfrwng ddaliodd y gwefrau,

Heddyw'r fellten ysplenydd Iddo'n addfwyn forwyn fydd.

Fe unodd yr elfenau - - anghydnaws, Yn llu hynaws i weithio'i gynlluniau; E ' wnaeth yn un wrthanianau; - dysgodd A gwareiddiodd y byd a'i geryddau.

Ei oruchel drem frawycha - y teigr, — Hwnt, hwnt i'w ymguddfa

Ffoa ef, hithau'r sarph, a Dyn o'i wyddfod i'w noddfa.

Yr adar a ehedant,

O'i wydd ef i'r coedydd a'nt.

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x383

Fe a all eu dofi hwy: - eu moliant

A lawen draethant o flaen ei drothwy.

Wele, ei anifeiliaid

Cartrefol o'i ol yn haid,

Ei dyner lais adwaenant, - mewn cudeb At ei breseb yn fintai brysiant.

Ei gerydd, braidd, a garant, Idd ei air yr ufuddhant.

Trigaw, araws, troi, gwyro

Y maent, wrth ei awgrym o '.

Ddyn ! ynost ti'r ymddiried - y ddafad Ddôf, a'r fuwch ddiniwed;

Y march a'th gyfarch am ged, — Ti yw angel en tynghed.

Dy ddiwyg hyd y ddaear - a gynwys Bob gogoniant hawddgar:

O'i hwyneb yr arloesi anwar - chwyn, Adwyth, a gwenwyn y Felldith gynar.

Lle cauai tywyll goed tewion - y dydd Rhag d'od i'w cyfrinion;

Mae holliach wair a meillion; - lle'r ydoedd Gwernau a llynoedd, mae gryniau llawnion.

A chair, lle'r oedd y prairi - yn estyn, Balasdai a gerddi;

Lle töai lawnion wylltlwyni - y tir, Y siriol welir y rhos a'r lili.

Heolydd drwy'r anialwch - egorodd, I gario'i brydferthwch;

Mwnau llesg, a main a llwch, A dawdd i wneyd dedwyddwch.


 

 

A black and white text on a white background

Description automatically generated

x384

Lle'r oedd y cam wigwam anniogel, Ochelai'r huan, a chwalai'r awel, Ceir anedd drwsiadus, iachus, uchel; Ac ar le aswy y krâal isel,

Sai ' diwyd ddinas dawel '; — ac yma Dyn a rydd senga dan urddas angel.

Dyfroedd y moroedd mawrwyllt, O'i flaen ef a lawen hyllt; Edmyg y merchyg y môr,

A gyr drwy wlad a goror.

Taenodd ar frig y tònau - siomedig, Symudol balasau;

Y dòn wyllt sy'n dwyn ei iau, Ei trethodd ar traethau.

Ni wel abred ei lwybrau - dirgelaidd, Drwy galon y bryniau; Ust ! y tir sy'n gwastadhau, Dan ei wydnion daen wadnau, E ' a hwylia i waelod - isel fôr, - Preswylfeydd y pysgod;

A ohwery ef uwch y rôd, Arfeiddia mewn rhyfeddod.

Rhwygodd a darniodd y dyn Y creigiau megys cregyn.

Ac onid aeth drwy ganol - - y ddaear,

I ddeall creadol

Law Duw, ac i weled ol

Cyfnodau cyfnewidiol.

Cynull hanes cynlluniau - llaw a phen, Lliw a ffurf ei ddoniau;

Traethu ' glir y gwir a'r gau, - bob arfod A ddaw o waelod ei ddwfn feddyliau-

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x385 Gweled holl ffyrdd ei galon - confalch, A'i hynfyd ddych'mygion, A llunio'i chwantau llawnion Ni all neb, ond llaw ein HIÔN.

Ni ddywedir rhif darganfyddiadau, Nac enwau toreithiog anturiaethau Y meddwl yn fanwl - pa derfynau Ddwg le eithaf ei fuddugoliaethau? Chwyfia'n orwych ei fanerau - hawddgar, Ar for a daear fawr, fawr y Deau; Ac ar oer wag ororau ― y Gogledd, Ei ogonedd amgylcha'r Pegynau.

Ei ogoniant a'i gynydd Anrhaethadwy fwyfwy fydd.

Egora ei flaguryn - yn y byd, Cwyd ei ben dros ronyn; Ond yn y nef gartref gwyn Y daw i'w lawn flodeuyn.

O DDUW ! ti a wnaethost ddyn Yn rhyfedd - ef yw'r Rhifyn, Hynota'n nghyfrol natur- Duwdod yn mhob adnod bur.

Undeb ydyw o dri bywyd, - e ' geir Ei gorph yn gyfanfyd;

I'w ryfedd natur hefyd,

Y daw rhyw beth o dri byd.

Tirion wnaed daear a nef - i gynal

A gweini i'w dangnef, Gweddus i'r mil yw goddef

Ei waed er ei fywyd ef.

Yn morau'i daith, O, mor dêg

Ei nodwedd bu un adeg.


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x386

Duw a'i gwnaeth yn benaeth byd, —yn harddaf— Yn oruchelaf fôd difrycheulyd.

A wnaed dyn yn berchen doniau - - mor wych, Mor hardd ei serchiadau,

A hyn oll ond i fwynhau Sorod a gwael bleserau?

Ai i yfed mewn afiaeth, - a bwyta Heb atal wttresaeth, O law y Duw uchel daeth

I weled ei fodolaeth?

Ni bu hyn yn nybenion

Ein creu ni, eithr caru ein HIÔN.

Ymorwedd mewn hedd a mwynhad — arno, · A gweini iddo ei ogoneddiad.

Wele, heddyw'n haflwyddiant - trwy bechod

Tra beichus wrthgiliant:

Ydym wedi tori'r tant

A ganai ei ogoniant.

IESU hael — ei râs a'i hedd, - ei ingion,

A'i angau dros gamwedd,

A'i adgyfodiad o fedd

I eiriol yn ei fawredd, -

Ydyw'r sail, a'r hyder sydd, ―rhed elfen A dawn ein hawen ar danau newydd; -

Ein cyweirir mewn cariad, - yn Nuw hael Cawn eilwaith ddychweliad

Adref, er pob rhyw grwydriad Tost, tost, i fynwes y TAD.

Y nef, i ddyn yn hafod, ―ac yno Ar gain wedd Duw - ddyndod, Yntau o'r dyfnderau'n dod, A fydd yn fawr ryfeddod.

 

 

 

A page of a book

Description automatically generated

x387 Telynegion Priodasol

I GWILYM WILLIAMS, YSWAIN, MISGYN. A MEISTRESAN WILLIAMS, ABERPERGWM.

A GWENDDYDD heb adael yr entrych tryloew, Ac ednod bro Misgyn heb gychwyn eu cân; Fel pe buasai gweithred y dydd yn ei galw, O'i gwely yn gynar y codai'r Wawr lân; Ond, Oh ! yr oedd lluaws i fyny o'i blaen. Ust ! beth ydyw'r twrf sy'n rhoi tafod i'r creigiau, Paham mae'r edrychwyr yn llenwi pob dôr? Pa beth yw'r llawenydd sy'n symud drwy'r Llanau, Yn ding - dong diderfyn o Misgyn i'r môr? Paham y dyrchefir bwâu goruwch llwybrau

Bro Misgyn a hên Aberpergwm yn awr? Paham mae'r heolydd yn gwisgo garlantau? Paham, â phêr flodau, palmantir y llawr? Pa beth yw'r goroian sy'n ardal. y Gweithiau? Paham y llifeiria y gwirod a'r gwin? Pa beth ydyw ystyr yr holl lwncdestynau, Rhoi'r rhwng cysylltiadau y cwpan a'r min? Paham yr adseinia ' stafelloedd y delyn? Paham yr ymchwydda tôn - nodau y gân? Paham y mae'r awen mor llon uwch ei thestyn? Beth roddes wladgarwch yr ardal ar dân? Dau lân, o waed a lwynau, - a nwyfiant Ein henafiaid gorau, Briodwyd: - Duw pob rhadau

F'o â'i râs yn eu dyfrhau.

Dwy ewyllys, dau allu, —dau gerynt, Yn llengarwch Cymru,

Wnaed yn un, - rhaid enynu

Allor Cân – tân, tân ! bob tu !

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x388

Caed llawer pleser i'n plith, ond yn awr Caed i ni'r brif fendith;

Bellach daw y gwlaw a'r gwlith Ar Walia a'i hathrylith.

I WILYM a'i angeles - rhoed Duw hil, Ar eu delw'n rhifres

Lân; ac wedi byd a'i les,

Nef wen mewn Dwyfol fynwes.

ARALL.

ATHRYLITH, ac Awen, ac Heniaith fy ngwlad, Fu'n hir o dan orthrwm, llid, dirmyg, a brâd, Dyrchefwch eich penau yn uchel i'r lan,

Daeth dydd eich gorfoledd o'r diwedd i'ch rhan; Cyweiriwch y delyn yn rhwydd, a tharewch Rhyw rai o'r hên dônau, yn hir na ddystewch, — Adgorwch y Garol, a chyd - lawenhewch; Cyhoedded y fagnel, dadganed y gloch,

A thraethed tafodau fil myrddiwn yn groch, — " Llwydd, llwydd i Briodas ein AP ALAW GOCH ! "

Hael Ferch Aberpergwm - ail NEST ydyw hi, Mewn gwir genedlgarwch, a rhinwedd, a bri; Ei theulu henafol goffeir gyda gwên,

A bendith, fel noddwyr ein hawen a'n llên; Cyffelyb yw hithau - cyffelyb yw ef

Y rhoes ei llaw iddo, - mae'n ffawd yn un gref: Aed bloedd ein gorfoledd hyd entrych y nef; Cyhoedded y fagnel, dadganed y gloch,

A thraethed tafodau fil - myrddiwn yn groch, - " Llwydd, llwydd i Briodas ein AP ALAW GOCH ! "

AB ALAW GOCH enwog sydd garwr ei wlad, A'i thelyn, a'i hawen, yn debyg i'w dad; Y tad a gollasom, ond cofiodd y ne ' Roi mab o'r un ysbryd a gwaith yn ei le;

 

 

A page of a document

Description automatically generated

x389

A rhoes i'r mab hwnw gydmhares deg wawr, O'r unrhyw dueddfryd, - ac felly'r ai ' nawr Y ddwy ffrwd wladgarol yn un afon fawr: Cyhoedded y fagnel, dadganed y gloch, A thrathed tafodau fil myrddiwn yn groch, - " Llwydd, llwydd i Briodas ein AP ALAW GOCH ! " Preswylydd hen Gastell bro Misgyn hyd fyth, Mewn serch a chysuron fo'n gwneuthur ei nyth; A boed i'w gydmhares yr unrhyw fwynhad, A'r ddau gaffo'u hanerch yn " fam ac yn dad; " A byw yn hir byddont yn deulu'r nef - daith, Yn meithrin pob rhinwedd, yn dal at y gwaith O noddi ein telyn, ein hawen, a'n hiaith: Cyhoedded y fagnel, dadganed y gloch,

A thraethed tafodau fil - myrddiwn yn groch, - " Llwydd, llwydd i Briodas ein AP ALAW GOCH ! "

Can o Glod i Gwilym Williams, Vsw..

MISGYN.

MAE gan ein hoff genedl oes, oes, ambell un,

-

Y maidd dweyd am dano " fy eiddo fy hun, - Un mawr ei ddyddordeb yn llwyddiant ei wlad- Un rydd, fwy na rhoi, ei wasanaeth yn rhad: Un cadarn dros ryddid - un dewr dros y gwir, — Rhyw byramid moesol, uchelben a chlir,

Yn uwch ac amlycach na phawb drwy'r holl dir; Un felly, bob amser, yw arwr ein cân,

A'i yspryd yn llosgi, a'i galon ar dân, Gan sêl dros dderchafiad ei genedl lân.

Os ef, yn y cylchoedd try ynddynt yn awr, Sy'n gwneyd cymwynasau mor fynych - mor fawr, I fyrdd o'i gydwladwyr, pa faint erddynt hwy, A wnelai mewn cylchoedd, lle gellai wneyd mwy?

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x390

O na chaffem glywed tarandwrf ei lais

Rhwng muriau Sant STEPHAN: mi wn mai ei gais, A fyddai troi'n ofer orthrymder a thrais; Mi wn mai nid yno y byddai efe,

Fel llawer, —yn cofio pob man ond y lle, Maent iddo'n ddyledus am urdd, ' stad, a thre '.

Nid oes na chystuddiol, na rheidus, na gwan, O waelod bro Miscin, hyd dwyndir y Llan, Na phrofodd ei ysbryd - na theimlodd ei fin, O frasder ei foethau a mwynder ei rin: Ni raid iddynt hefyd neshau at ei ddôr, I geisio'u cardodau - can's allan o'i ' stor, Maent byth yn ymdreiglo fel tonau ar fôr Nid sŵn yw ei fwyn gydymdeimlad, a gair Yn byw ar ei enau, a threngi'n ei air; Eithr ffynon fythlifol a'i dyfroedd yn aur !

Mae rhyw fath o ddynion a glywant yn well Y cwyn a'r cyfyngder fo'n adsain o bell: Hwy ro'nt y pryd hwnw, heb unrhyw uwch nod, Nag agor y llwybrau'n fwy llydain i'w clod ! On gwir garedigrwydd ddechreua yn nhref; A chlyw yr ochenaid yn gystal a'r llef, Heb gofio am wobrwy o'r ddaear na'r nef; Un dystaw yw'n GWILYM - fel awel yr hwyr, Yn gwasgar ei roddion - a'i nifer, yn llwyr, Nid oes ond y nefoedd yn unig a wyr.

Amddifaid a gweddwon ei ardal o'r bron, - Y llwythog ei yspryd, a'r athrist ei fron Gant ynddo'r diddanydd a'r noddydd yn un, - - Eu cysur hwynt - hwy yw ei gysur ei hun; Ond ef, megys Cristion, athronydd, a brawd, Heblaw dwyn anghenion tymhorol y tlawd, A ystyr yr uwch a'r dwyfolach eu nawd

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x391

Ac ar ei haelfrydedd un diwedd nid oes, Yn nglŷn â phrydferthu gwyr ieuainc yr oes, Mewn rhin a gwybodaeth, ac addysg a moes.

Cadeirydd Bwrdd Ysgol Llantrisant fe'i gwnaed, Nid herwydd ei olud, ei enw, na'i waed: Ond herwydd ei rinwedd, ei ddeall, a'i ddawn, I droi'n y cylch hwnw - a throi ynddo'n iawn: Bydd yno, fel ag y bydd ef yn mhob man, Dros iawnder a rhyddid yn gwneuthur ei ran— Rhwng dosparth a dosparth - rhwng cryf a rhwng gwan. Os trengodd y Leader, gwas rhyddid y nef, Byw etto yw GWILYM, a'i ysgwydd fawr, gref, O dan yr egwyddor - fel gynt dano ef. A oes dirfeddienydd drwy Ogledd neu Dde ', Yn uwch yn syniadau ei ddeiliaid nag e '? Ei fawr gydymdeimlad, a wnaeth iddo nyth Yn mynwes ei ddeiliaid nas syflir am byth; Mae'n parchu ei ddeiliaid â chalon lawn gwres, ' Does pwnc yn fwy hyddawr, na nemawr ddim nes, I'r pryder sy'n hono, na'u llwyddiant a'u lles; Maent hwythau yr un mor frwdfrydig a llon, Eu serch ato yntau: mae'r wobr fawr hon, Yn siarad cyfrolau dros deimlad eu bron. + Mae'n caru hen Gymru - mae'n siarad ei hiaith, Yn mhlith ei gydnabod, a phob man, a'r daith, Ei geiriau perorol adseiniant mor glws,

Drwy bob rhan o'r Castell, hyd drothwy pob drws ! Os na chafodd fantell brophwydol * ei dad,

Cadd ddeuparth o'i yspryd - fu'n yspryd bywhad, Iaith, awen, llenyddiaeth, a thelyn ei wlad;

* Wrth hyn y meddylir y fantell awenol, herwydd edrychir ar y bardd fel prophwyd natur, neu esboniedydd natur. Gwyr y ran fwyaf fod y diweddar D. WILLIAMS, Ysw., yn perthyn i'r urdd hono.

+ Cwpan arian, gwerth, £ 6 6s., a rhoddwyd gan ei ddeiliaid, ac ardalwyr y Felin Newydd, am y Gân oreu o glod i G. Williams, Ysw., yr hon a enillwyd gan Awdwr y llyfr hwn.


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x392

Ar ddydd yr Eisteddfod, fel maen yn ei le, Yn llenwi y gadair lywyddol, bydd e ', Tra'i hoff bresenoldeb yn chwyddo'r " hwre - e, "

Y mae ei haelfrydedd fel afon fawr, hir, Yn llifo yn loew a dibaid drwy'r tir,

A'r mil - myrdd gwrthddrychau sy'n byw ar ei glan, O'i maethlawn gynwysiad yn derbyn eu rhan; A oes un sefydliad fan yma neu draw, Drwy'r hwn, i'w gydwladwyr rhyw fantais a ddaw, Na chad help ei galon, ei logell a'i law Mae clod ei haelioni crefyddol, yn wir, Yn seinio'n felusber ac adsain yn glir, Drwy lawer addoldy dan ddyled fu'n hir.

Bendigaid yw'r hwn o'i drysorau sy'n rhoi— Yr hwn sydd yn gwasgar, yw'r hwn sy'n crynhoi; Y ffynon fach, loew, sydd wrth droed y bryn, Yn tywallt ei dyfroedd yn rhad lawr i'r glyn; Ni threia'n dragwyddol - ca dderbyn o ' stor, Rhyw gwmwl wrth grwydro, - a'r cwmwl o'r môr: ' R un fath y mae moes - ragluniaethau ein HIOR; Rhagluniaether oedi, ac edrych o draw, Cyn hir i fendithio'r bendithydd a ddaw-- Rhy'r nef yn ei galon, neu'r byd yn ei law.

Boed, henffych ! i'n GWILYм i dderbyn o'i bri, Mae wedi troi yn ei gwasanaeth rhad hi, Ac yn mhob ymddiried i'w ddwylaw a roes, Yn ddiwyd a ffyddlawn drwy ystod ei oes; Wel ! Wel ! dyma hithau o'r diwedd yn dod, Gan agor ei mynwes, ac arllwys ei chod, A'i lwytho a chyfoeth, anrhydedd, a chlod; Rhoes iddo dir Miscin - rhoes deulu i'w ran- Gwnaeth ef yn Gadeirydd Bwrdd Ysgol y Llan- Gwnaeth ef yn Heddynad - gwna fwy yn y man.

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x393 Preswylied ein GWILYM a'i hepil dros fyth, Yn hen Gastell Miscin, yn esmwyth eu nyth; Boed merched a meibion, ei feibion, yn fil, Fel na welo Cymru fyth dranc ar ei hil; Poed lawn ei ffynonau - poed helaeth ei ' stor, Ei hedd fyddo'n afon, a'i lwydd fyddo'n fôr, Yn taflu ei donau i'r traeth wrth ei ddôr; Gwrid iechyd a hoender fo'n hir ar ei wedd; A phan y disgyno i gyntedd y bedd, Pyrth hwnw fo'n agor i ddinas yr hedd.

ysw.,

Mawlgerdd i David Williams, sw.,

YNYSCYNON,

ABERDAR. *

CYN bod haul, na lloer, na sêr, Dyngarwch bêr, dan goron, Ar orsedd aur y nefoedd wen, Eisteddai'n ben fel banon,

A'i llygad hoff ar deulu'r llawr, Yn gwel'd eu mawr anghenion.

Ei phrif dyrsorau, rif y sér,

Sy'n mynwes dyner DUWDOD; Er fod ei llys goruwch y llawr, A'i rhiniau'n werthfawr hynod; Cysegrwyd rhai i weini'n rhad

O dani'n ngwlad y trallod.

Gwynfyd y gwr sy'n porthi'r gwan,

Tyr allan ei oleuni

Fel y wawr, a'i d'wyllwch fydd

Fel haner dydd yn heini;

A Duw a'i gweryd ef heb goll

O ganol ei holl gyni.

Mae y gwr enwog ac anwyl uchod wedi marw er ys rhai blynyddoedd bellach, er galar a cholled fawr i ddyngarwch a llenyddiaeth Cymru.


 

 

A close-up of a poem

Description automatically generated

x394

Wrth roddi'n fwyn i'r tlawd o fodd, Ni chollodd neb ei wobrwy; Bendithia Duw ei eiddo'n hael, Cynydda'i fael yn fwyfwy; A bendigedig fydd ei hâd, O rad i rad cânt dramwy.

Un o'r cyfryw, ' n byw i bawb Yw'n ALAW fendigedig; Ail IFOR * yw ei lafur ef,

A'i nwydau, nef - anedig; Ei gysur prif yw datod iau, Neu didau'r trallodedig.

Hael yw ei fryd, a'i law, a'i fron, Yn nghwynion yr anghenus; Mae gwin o'i gell a balm i'w gael, I'r cleifion gwael a'r clwyfus; Ac i'r amddifad wrth ei ddôr, Elusen orfoleddus.

Mae Aber - dâr, rhwng bri a dawn Y gwr, yn llawn llawenydd: Y gweiniaid oll, a'i weithwyr hên, A'u molant e'n dragywydd;

A'r weddw, ' n un a'i phlant di - nam, A ganant am ei gynydd.

At holl achosion rhinwedd, rhydd

Ysblenydd gyfraniadau;

Ei addewidion sydd dan sêl, Yn sicr fel y bryniau, Heb anwadalwch, yn un wedd, Gwirionedd geir o'i enau.

Cynysgaeddedig yw ei fron

A nwyfion ein henafiaid;

* Ifor Hael, o Wern - y - Cleppa - cymeriad enwog gynt am ei wladgarwch a ' haelioni.

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x395 Gwr yw o waed, ac o wir wedd

A mawredd y Gomeriaid; Gwladgarol ragoriaethau gant A unant yn ei enaid.

Mae'n caru'n wresog enwog iaith, A diwyll waith ei dadau,

A Chymru lwys, ei anwyl wlad,

A'i hamryw fad ddefodau;

Ond Cymro, ' n uwch - ïe, ' n uwch na neb-- A gâr drwy'r purdeb goreu.

Ei ofal a'i ymdrech dros fwyniant ei weithwyr, Sydd megys diareb gan wych a chan wael; Sefydla beth bynag all weini i'w cysur, Fel pe na b'ai ystyr i lafur a thraul.

Os un o'i hoff weithwyr gyferfydd a damwain, Ni cha fyn'd yn ' sylyfaeth i drallod y byd: Ca falm idd ei glwyfau, ca le dan ei adain I fwyta ac yfed, a gorwedd yn glyd: Cant hefyd fanteision i wneuthur eu llwyddiant, Cant arian ar echwyn - cant dasgwaith yn glau, A phrynu ei nwyddau lle nad yw gorfaeliant, Cribddeiliaeth nac oeraeth yn beiddio neshau.

Fe eilw o amgylch teuluoedd ei weithwyr, Gan holi eu helynt yn un ac yn un,

Rhydd gynghor i'w haddysg, i'w hiechyd a'u cysur, Ac anrheg gefnogol, ond odid yn nglyn;

I hyn cadd ein harwr ei ddysgu yn forau,

Yn ysgol Rhagluniaeth a phrofiad yn rhwydd; Y nefoedd ei hunan a'i tynodd drwy'r graddau, Sy'n hollol gymhwyso'r dyngarwr i'w swydd.

Fe wyr ef am lwybrau helbulus dynoliaeth,

Yn well na'r pendefig, neu'r teyrn ar ei sedd;

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x396

Gan hyny fe wyr gydymdeimlo'n fwy helaeth: Gwyr hefyd am loewach ffynonell o hedd; Fod hefyd gan gyfoeth ei wir ddyledswyddau,

Yn gystal a'i hawliau, a ddysgodd mewn pryd; Nid cynyrch hunanles oedd un o'i rinweddau, Ond ffrwyth yr egwyddor a wreiddiai'n ei fryd.

Ei ddwylaw ddyferant wobrwyon a brasder, Ar feusydd teilyngdod, gwybodaeth, a rhin; Y mae ei haelfrydedd, fel haul yr uchelder, Yn croesi bob talaeth, a goror, a ffin; Ca Neuadd, ac Ysgol, ac Eglwys, a Chapel, A dyngar Gymdeithas ei gymhorth yn gun, Trychineb ac anghen, - pob peth, ond gwrthryfel, Diogi, a llygredd, a gwagedd, a gwŷn.

O bydd rhyw symudiad daionus ei amcan Ar droed yn ei ardal, rhydd iddo ei sêl; Ac mae ei holl deulu yn gydnaws eu hanian— ' Does ynddo flodeuyn nad yw yn dwyn mêl; Os pwyllgor a eistedd drwy'r eang gym'dogaeth,

Uwch pwnc o ddarbodaeth, cyfiawnder, a barn, Efe yw'r Cadeirydd sy'n gwel'd y gwahaniaeth— Afaela'n y blewyn, a'i hyllt yn ddau ddarn.

Ei lŷs sy ' gyffelyb i letty fforddolion,

Lle gall y blin orphwys a gwneuthur ei le; Mae yma hawddamawr i feirdd a llenorion,

A hwythau dra ffyddlon Genadon y Ne '; I'w cyfarch bydd GOMER, a GWILYM, a GWLADYS, A'u trem yn lliferio gan gariad a hedd; Ysbrydion gwas'naethgar y'nt hwy, garant dywys Hawddgarwch y byrddau, y gadair, a'r sedd.

Ah; dyna ysmotyn yn nghysgod y bryniau, Sy ' wyrdd gan wladgarwch cynyrchus ei rad:

:

 

 

 

A black and white text

Description automatically generated

x397

Ah ! dyma Baradwys mil myrdd o rinweddau, — Oasis athrylith ac awen ein gwlad: Efe yw tywysog llenyddiaeth y bryniau,

Efe yw Cadeirydd yr awen o hyd; Efe ydyw gobaith ein prif Eisteddfodau, Efe sydd yn dal yr adeilad yn nghyd.

Ei wedd yn y Gadair Lywyddawl sy ' brydferth Gan awen, haelfrydedd, a symledd sy ' dlôs; Ei ael fel y wawrddydd, a'i wên fel yr anterth, A'i eiriau'n dyferu fel gwlith ar y rhôs.

Pan sieryd, ei ysbryd a chwery mewn llonder, A cherdd dros ei wyneb mewn fflam o wawl gwyn; Ac ysbryd y dorf, dan ddylanwad ei ffraethder, A gwyd i'w dau lygad yn wreichion bryd hyn.

Faint bynag a fyddo diffrwythder ei destyn-

Pe fel y diffaethwch, heb ffrwyth o un rhyw, — O dan ei law yno daw blodyn ' n ol blodyn,

Nes gwneyd yr olygfa o'n hamgylch yn fyw.

Mae yntau yn un o Genadon yr Awen, — Esboniwr y Gwir, y Daionus, a'r Hardd; Er nad yw'n addoli na Chêd na Cheridwen, Mae'n mynych offrymu ar allor y bardd.

Mae ef yn wobrwywr, ac mae'n wobrwyedig, — Coronodd yr Awen ei aeliau cyn hyn; Llais Masnach a wnaeth iddo oedi ychydig, Neu ynte fe'i gwelsid yn uwch ar ei bryn.

Ei fawl sydd gof - golofn a wnaed gan deilyngdod, Ag iddi gyfiawnder a rhinwedd yn sail, — Ac nid gwag ogoniant anheilwng, rhyw ddiwrnod Ysguba'r llifeiriant fel crinwydd a dail;

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x398

Ac hyn sydd yn gysur, mai canu ei foliant, Ac nid ei brudd farwnad, * yr ydym yn awr, A llonder yn eistedd ar ael ac ar amrant,

Heb ddeigryn i fynu, na thristwch i lawr.

Nis gallwn yn gyflawn esbonio'i deilyngdod,

Nis gwyddom beth hefyd all chwyddo'i fwynhad; Mae cyfoeth, anrhydedd, a mawl, a gogoniant

Yn gorwedd cyn amled a'r gwlith wrth ei draed; Wel, hyn a ddeisyfwn, - ei deulu boed diloes,

Ei iechyd boed cyflawn, a'i einios boed hir, I wneuthur daioni fel ag y gwnaeth eisoes, Can's dyna ddirgelwch dedwyddwch yn wir.

MARWOLAETH ALAW GOCH.

SOBRWYDD, dystawrwydd, adystyriaeth - trwm, Sy'n tramwy'r holl dalaeth !

Holl henuriaeth llenoriaeth,

Ar ei hyd gan wewyr aeth.

ALAW GOCH, ein anwyl gâr, - wedi marw !

Dyma hiraeth treiddgar;

Tir ymweliad trwm alar,

Sobr a dwys yw Aber - dâr.

Ochenaid masnach yno - o'i mynwes dyr

Mewn ystor'm o wylo:

Aeth i'w fedd dwyswedd, do, do !

Y penaf o feib hono.

Gwlyb yw allor globyllau - y tir hwn,

Gan ddeigr trist galonau

Hên weithwyr gweddwon hwythau—

--

Fu o'i nawdd yn hir fwynhau.

* Mae yr olygfa wedi newid erbyn hyn, yswaeth, fel ag y dengys y Galarnadau a ganlynant y Fawlgerdd.

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x399 Gwae ! farw un a gofiai rad ― y weddw

Brudd, a'i phlant amddifad;

Eu hynt hwy, â chalon tad,

A wnai ystyr yn wastad.

Gwae fedd ! diguedd, it ' gauad - genau

Gedwai gân yn wastad,

A nyth i lon iaith ei wlad,

Ac i eiriau llawn cariad.

Rhyw bruddglwyf mawr sy'r awr'on - yn gorwedd

Ar gaer Ynyscynon:

Swn wylo sy'n awelon

Y nef, wrth basio'r fan hon !

Gwae, hefyd, sy'n dragyfyth - i Feisgyn,

A'i foesgar wehelyth;

Ow ! deil trychineb dilyth

Penybont i'n poeni byth !

Mor lleddf mae'n prif Eisteddfod - heb ALAW,

Pob olwyn ar ddatod;

Beth bynag, bynag f'ai'n bod,

Alaw bur oedd law barod.

Awen heddyw heb un noddwr - teilwng !

Talent heb wobrwywr;

Mae'r fro yn cwyno bob cwr,

Wel'd gorwedd ei gwladgarwr.

Athrylith, fel dyeithr, wylan; - Rhinwedd,

Fel difronawg faban;

A'r Iaith sydd, ar lonydd, lan Gorweddfa'r bardd, yn gruddfan.

E ' gerir y fan lle gorwedd; —a'i barch

Byth, byth ni wel ddiwedd;

Er ei fod yn ei oer fedd,

Fe

erys clod ei fawredd,

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x400

MARWOLAETH ALAW GOCH AC EBEN FARDD.

O ! OGLEDD drom, lom ! O ! wlad - marwolder ! O ! Ddeau ofer, dlawd, amddifad !

ALAW GOCH, fy anwyl gâr, - wedi marw ! Dyma hiraeth treiddgar; Oh ! ofid, Oh ! afar - doi, dan dywell Haenau y beddgell, ei wyneb hawddgar.

Chwa arall ddaeth i chwerwi Tynghedfen ein hawen ni, -

Wedi EBEN fyn'd heibiaw - i'r bedd llaith, Wele, elwaith, ein hanwyl ALAW.

Fe oeda ein Heisteddfodydd; I'w hynt fawr, hyn eto fydd Ataliad: - pa was teilwng A rydd ei ysgwyddau rhwng Eu holwynion sy ' lonydd, A'u rhoi ar gychwyniad rhydd?

ALAW GOCH, i'w hail - gychwyn,

Ni ddaw mwy ! Y bedd a'i myn ! Rhoi ALAW ar ei elawr-

Rhoi EBEN FARDD oedd rhyw boen fawr; Un am farn bwysid arnaw,

Y llall am rinwedd y llaw;

O holl noddwyr llenyddiaeth, I'r bedd, mwy na hwy, ni aeth; Dau oeddynt anrhydeddir Yn y wlad tra'r wybren glir. Llenyddiaeth sy'n llonyddu, Awen dêg sydd yn ei dû: ALAW GOCH oedd hwyl eu gwaith, Ac EBEN oedd eu gobaith: Yn ei hiraeth, o'u herwydd, Holl Walia yn foddfa fydd.

O ! na welid pob niwlen- O ! na f'ai môr yn fy mhen ! Mi a wylwn gymylau

O ddw'r uwch beddrod y ddau; Wylwn, ac wylwn eilwaith- Wylo fydd fy olaf waith.

 

 

 

A text on a white background

Description automatically generated

x401 Eywydd ar Gastell Caerphili.

ar

GLODFAWR a disigl adfail ! Yn aros sydd ar ei sail, Hyd heddyw ! wedi dioddef

A dal grym aml dymhest gref. Pa sawl awel uchel aeth

Drwy y wig, a'r diriogaeth, Er pan fu, gan hen GENYDD, ( a ) Deml i roi clod a mawl rhydd, Ac hael addoliad calon,

I'w fyw NER, yn y fan hon?

Lle têg sydd, Gastell, i ti, — Hên lýs angel a sengi ! Mae y bri fu yma, bron Dwyfoli dy adfeilion !

Eiddo'n peryfon prifwaed, -

Ai gan y Norman ( b ) y'th wnaed? Ynte IORWERTH, deyrn nerthol, Neu ryw wr fu fawr o'i ol?

Ni wyddis gan bwy'th naddwyd? Ni wyr neb ba oedran wyd !

Adail Erewlffaidd ( c ) ydyw ! Pentwr o faint pentref yw ! O'i fewn, yn hir drigfanu,

Rhyfedd y rhwysgfawredd fu !

( a ) The earliest history we have of this place is that CENYDD, son of GILDAS, the author of the Epistle de Excidio Britanica, founded a church and monastery here.

( b ) When and by whom this Castle was founded, is enveloped in mystery, like many more castles in Wales. Before the Norman Conquest, the Lordship of Senghenydd ( llygriad o Sant Cenydd ) belonged to Prince IVOR, and Caerphilly was the manorial Castle.

( c ) This is by far the largest Castle in Wales, and is said to cover altogether about 30 acres.


 

 

A black and white text

Description automatically generated

x402

Ei neuaddau aneiddil

Oedd o faint a wleddai fil;

Parlyrau pêr - leuerawl,

Rhai gaid mor ddysglaer a'r gwawl;

A glwys ystafelloedd glân,

A'u lloriau fel lli ' arian.

Rho'id dawns ar dy loriau di,

A gwleddoedd i Arglwyddi;

Bu'th fyrddau'n mhob lluniau'n llawn

O seigiau tywysogiawn;

Ond heddyw hyn nid eiddynt― Llwyr brudd geir lle'r byrddau gynt. Yn lle hoen a llawenydd,

A chân, a goroian rhydd- Prudd - der a dwysder dystaw, O'i fewn a drig i'r fan draw: Pob man sydd anghyfanedd, Heb air, mor ddystaw a'r bedd; Na llais oll, drwy y lle syn, Ond hiraeth yr aderyn.

Hên gaerfa ( d ) gadarna'i ddydd,

Sa'i ' n nghynar fro Senghenydd, Fu a'i brochus feib breich - hir, Yn diffyn terfyn ( e ) y tir.

Pwy a wed pa sawl gwaith bu Acen eirf yn cynhyrfu

Y tir hwn, a'r tai, er oes

Arwrawl IFOR ( f ) eirioes,

( d & e ) It was the great border fortress, standing on debateable ground between England and Wales, commonly called the Marches. " Huge Caerphilly " is situated in a wide spreading valley, bounded by mountains of moderate height and gentle slope. It was not so beantifully built or situated as most of its contemporaries; it is simply a ruin of great extent, possessing a great degree of sublime grandeur. It was dismantled in 1219, by RHYS VYCHAN; re - built by JOHN DE BREOASE, in 1221; and enlarged and strengthened by RALPH MORTIMER, and HUGH SPENCER the younger.

( f ) Before the Norman Conquest, the Lordship of Senghenydd belonged to Prince IFOR, and Caerphilly was the Manorial Castle.

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x403 Hyd oes y SPENCERIAID hy'-

Yr hen orthrymwyr hyny?

Yn y fan hon bu'n fynych, Wron yn ngwrth gwron gwych; Ar dew lawr yr adail hon, Ceulodd gwaed llawer calon: Meusydd, gwaed am oesoedd g'ai- Môr o waed yma redai.

Ymhonwyr o Normaniaid, ( i ) A Saeson boch - gulion gaid, A mawr rwysg am oresgyn Y parthau heirdd a'r pyrth hyn. Gwae oedd i Rys ( k ) eu goddef I losgi drwyddi'r holl dref: Gwelodd y bryniau gwiwlan Caerphili'n toddi mewn tân !

Gostwng, a dysg in ', Gastell, Wersi pur o'r oesau pell: Gwelaist frau forau fawredd

Ein gwlad, cyn dwyn arni gledd;

A gwelaist, pan dremiaist draw,

Ei chlod yn prudd fachludaw,

( 9 ) HUGH DE SPENCER, the younger, became the Lord of Glamorgan by marriage, and by purchase or compromise from the other co - heiresses. No sooner than he became Lord of Glamorgan, he seized on the Castle, and built it in a stronger manner than it was before. He took possession of the land which belonged to it, and added considerably to the strength and magnificence of the Castle; and to him undoubtedly we are indebted for the present magnificent ruins. The two DE SPENCERS were great tyrants, and their rapacity knew no bounds. They enriched themselves by plundering their tenants and vassals, It became a proverb in Glamorgan, when anything was irrecoverably lost, - " It is gone to Caerphilly. " DAVID AB GWILYM says " Let his dog run away with his soul, and may his body go to Caerphilly. " The people looked at Caerphilly Castle in those days with horror, being the seat of DE SPENCER.

& c.

( h & i ) Prince IFOR was dispossessed of this fortress by the Normans. In the year 1094 the Earls of Arundel and Gloucester, ARNOLD DE HARCOURT and NEALE DE VICOUNT, came with an army into Wales, in aid of FITZHAMON.

( k ) CARADOC says that in the year 1217, RHYS VYCHAN, Prince of South Wales, led an army against Caerphilly Castle, and took it; but it is not known from whom, probably REGINALD DE BREOS, or BRUCE, & c., & c.


 

 

A black and white text

Description automatically generated

x404

A'i phêr - dant ogoniant gwyn, Yn ymadaw'n drwm wedy'n: Do, do, ti wylaist pan daeth I ben ei hannibyniaeth.

Ai nid waith hyn o gyni Bu i'th dŵr ( 1 ) diobaith di Wgu byth, a phlygu ' i ben, O olwg lloer a heulwen?

Fel hên wr dwys mae'n pwysaw Ei ben ar ei lwydwen law,

A'i fryd yn myfyriaw ar

Ddiwedd ffol - bethau'r ddaear: Neu'n ddystaw gwynaw uwch gwedd A hoedl fèr fydol fawredd; Neu wr f'ai ' n teimlo hiraeth

Ar ol rhyw fwynder a aeth.

Henffych well, Gastell ! os gwyw A diaddurn wyd heddyw,

Ceir Hedd yn cywir roddi

Ei gwrid hardd i'th gaerau di; BUTE ( m ) lân yw dy feddianydd- Pendefig seintig, y sydd

A'i law fawr yn nghelfau hedd, A'i fron yn fyw o rinwedd: BUTE hael, o'i faboed dilyth,

Gastell hên ! fo'th berchen byth !

( 1 ) Near the east angle of the central of the main buildings there is a round tower of great height, called the Mint, and close by this stands the Leaning Tower ( Twr Cam ). The present fragment is about 80 feet high, and leans 10 or 11 feet from its perpendicular.

( m ) The Castle was given to the Earl of Pembroke, a family noted for their liberality to Welsh literature. One of them held a grand Eisteddfod at Cardiff. The late Marquis of Bute married a daughter of this house, consequently the property came to his possession.

D D

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x405 ENGLYNION,

A GYFANSODDWYD WEDI DARLLEN AM RHYW GAMAMDDYGIADAU O EIDDO WALTER SAVAGE LANDOR, Y BARDD.

Oh ! LANDOR, gwnaeth aflendid - dy awen,

I DEWI fawr o ofid !

Rhyfedd oedd llygredd a llid - ei genau; Ffei ! anwireddau hon, a'i phenrhyddid.

A ddichon athrylith uchel - ostwng O'r lle'r eistedd angel, —

O fwyta mana a mêl, —i lyfu A mynwesu'r tomenau isel?

Dygaist, drwy'th halogedigaeth - wrthun, Hir warth ar Lenyddiaeth;

Yr Awen drwy'th ddifriaeth, - amser hir A ffieiddir fel merch Anffyddiaeth.

Ymosod yn anghymesur - a fynaist,

Ar fenyw hael, oesbur;

Ei rhinwedd, â danedd dur, - a frethaist, Oni achosaist ddifwyno'i chysur.

Nid dyn, ond bawddyn, sy'n baeddu - dynes, Serch bod hono'n haeddu;

Ond bun gall, wedi byw'n gu, - ni ddychwel Ond anifel brwnt, brwnt, i'w hanafu.

Garw, LANDOR, a fu'th greulondeb - Tyrcaidd. At DORCAS mewn cudeb; Mewn difriaeth, ni wnaeth neb Haner dy fawr ffolineb.

Troseddwr o natur SUDDAS - ydwyd,

Yn gwaedu Cymdeithas; D - 1 yw y dyn a dâl gâs Hamanaidd am gymwynas.


 

 

A black and white text

Description automatically generated

x406

MARWOLAETH GWILYM ILID.

TITHAU, O, ILID ! ddiengaist i'r beddrod,

1

A ninau yn dysgwyl rhyw hirfaith barhad,

I oes ac i lafur dy awen bereiddglod,

A byw mewn dedwyddwch ar bwys y mwynhad; Rhy gynar, fel eraill o feibion yr Awen, Trosot y taenodd y beddrod ei aden; Oh ! p'am y mae angau yn dal mor ddiorphen, I lenwi â chwerwder dynghedfen ein gwlad? Rhagluniaeth ! O, anamgyffredadwy Ragluniaeth ! Llais galar ddynoda dy lwybrau'n ein mysg; A ydwyt, drwy'th oruchwyliaethau difrodol, Ar feibion athrylith, ac awen, a dysg, Am ddangos i ni fod ein dydd wedi darfod,

Ac nad oes i'n hiaith a'n llenyddiaeth fyth mwy, Eu cenadwriaethau yn mhlith y cenedloedd? - A'i megys dilledyn yr heibio rhoi'r hwy?

Neu, dywed, p'am arnom mor drom mae dy ddyrnod? Paham wyt yn cloddio bob dydd a phob awr

O dan adeiladaeth ein bri a'n gogoniant,

A thynu'i cholofnau yn garnedd i'r llawr?

O, d'wed, a fydd marw'r freintiedig iaith hono, Oedd gadarn drysorfa'r Gwirionedd mawr gynt-

Y dwyfol wirionedd dywyna'n yr huan-

A rua'n y daran - a gân yn y gwynt? Yr iaith y bu LLEURWG, ac ILLTYD, & FFAGAN, Drwyddi'n cyhoeddi dawn bywyd a hedd? A gaiff y iaith hono, a haner santeiddiwyd ' Gylch allor ein tadau, fyth ddisgyn i'r bedd? O ! wyla, Iaith anwyl ! un arall o'th garwyr Sy'n gorwedd yn awr yn ei feddrod yn farw; Dros wefus yr hwn y beunyddiol ymdreiglai Dy eiriau cynwysfawr yn seinber a chroew;

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x407

Oe't, Iaith, ei fyfyrdod - oe't, Iaith, ei leferydd— Oe't Iaith, ei ysgrifell - oe't, Iaith ei awenydd; Cyd - rhwng dy frawddegau dysgleiriai ' i ddarfelydd, Fel lleuad nos glir oddi rhwng y sêr gloew.

Wladgarwch ! mi wn deui dithau, i dywallt

Dy ddeigryn hiraethlawn ar fynwes ei fedd; Can's yntau ymladdodd yn mysg dy fyddinoedd, A chleddyf ei enau, dy frwydrau o hedd;

' Roedd e ' ' n un o feibion hoffusaf yr awen, Ei delw oedd arno fel heulwen ar lyn; Goruwch ei olygon meddylgar, tryloewon Eisteddai ar orsedd o ifori gwyn; Ei drem foneddigaidd - ei ystum urddasol, Ei eiriau athrawaidd, a'i agwedd fyfyriol, Ddywedant ei fod mewn cymdeithas wastadol, A'r pell a'r goruchel, y prydferth a'r syn.

Do, awen, ti wisgaist ei fynwes a gemau-

Llawn oedd o sêr gloewon, fel mynwes y nen: Eu gwrid a dderchafai pan oll ar ei ddwyfron, Yn gylch o oleuni o amgylch ei ben;

A phwy sydd a ddywed ( a'r gwir yn ei galon ), Mai llaw anghyfiawnder fu ' n trwsio ei ddwyfron? O na, ' r oedd teilyngdod ein bardd ar ryw safon Nas beiddid ei gostwng gan enllib na sen.

Lle byddai Eisteddfod y byddai'r bardd ILID, Ac megys y blodyn amlyca'n ' r ardd, Fe ddenai ein sylw, can's yno lle'r ydoedd,

A'i drem fel tywysog, yn fawr ac yn hardd; Caed yno'r craff Feirniad a'r swynol Areithydd, Yr uchel Bendefig, a'r deddfol Gadeirydd; Ond yno i deimlad a sylw'r edrychydd,

Nid neb mwy urddasol nag ILID y Bardd.


 

 

A page of a document

Description automatically generated

x408

O, Feni ! bu unwaith it ' gedyrn llenyddol, Oe'nt sêr dy gylchwyliau mawreddus a myg: B'le mae CARNHUANAWC, AB ITHEL, & THEGID,

CALEDFRYN, a CHAWRDAF, a'r mwyn IEUAN GRYG ! Maent hwy wedi machlud tu draw i'r holl fryniau, Ac, Ow ! anwyl ILID, ei seren glaer yntau Yn awr a fachludodd - ' does obaith ail forau- Mae'r hwyr fel y fagddu, a'r nos fel y pyg ! Gaerdydd ! tithau welaist ei wyneb llewyrchus, Gynt yn dy gylchwyliau lluosog eu rhi ', Pan oedd GWILYM MEIRIN, a HARI, ac IOLO,

A'r MEUDWY, ac yntau yn uchder eu bri; Hwynt - hwy, ddoeth a thadol feirdd Gwent a Morganwg, Y'nt oll wedi tewi ! ac wrth droi fy ngolwg

Yn ol, a rhoi trem ar y dinystr amlwg,

Mae'm calon yn gwaedu, a'm llygad yn lli '.

GWLAD

CANAAN.

GWLAD Canaan glir - gwlad y ceinion gloew - wrid- Gwlad nefarwyddion - gwlad iawnaf Rhyddid- Gwlad Patriarch, Prophwyd, Angel ' trybelid- Y Deml, a'r Allor, a'r Arch fawr - barchid ': Gynt bro'r Sheckina prid - gwlad cyflafar Duw a'r ddaear oedd " Gwlad yr addewid. "

ENGLYN A WNAED I WRAIG DDA.

GWRAIG foesgar, megys SARAH, - wraig dda, hoew; Gwraig ddiwyd, fel MARTHA;

Gwraig fel MAIR, o'r gair gora '; - gwraig ffyddlon, Addola Iôn fel y dduwiol HANNAH.

AWDL AR GYMRU.

Y

CYNWYSIAD.

GWLADGARWCH, yn ei achos a'i effeithiau - Cymru yn wrthddrych gwladgarwch y bardd - Enwogrwydd Cymru, presenol a chynoesol; yn wladol, Ilenyddol, moesol, a chrefyddol.

.


 

 

A close-up of a paper

Description automatically generated

x409 DAEARYDDIAETH Cymru - Ei ffrwythlonrwydd - Ei hamaethyddiaeth - Ei hagwedd arwynebol - Tlysni ei dyffrynoedd - Arddunedd ei bryniau - rhamantedd ei glynoedd, & c.

EI MASNACH - Ei delidau gwerthfawr - Ei gweithfeydd - Ei chyffro masnachoi - Ei chyfleusderau dyfrol - Effeithiau masnach - Ei mwnau - Cymhwyllion daearegol mewn perthynas i'r unrhyw - Rhagolwg ar fasnach a threfnidaeth Cymru - Nad yw haul ei llwyddiant ond ar y gorwel, tra mae haul Ohir, Tyrus, Sidon, a Thartessar wedi machlud - Ond er cymaint ei chyfoeth tanddaearol, & c., mai nid hwnw yw ei chyfoeth a'i dylanwad penaf, eithr ei ei rhinwedd, llenyddiaeth, moesoldeb, a chrefydd.

LLENYDDIAETH. - Yr awen Gymreig, yn mha rhyw deithi neu briodoleddau y mae hi yn rhagori ar eiddo awen dlysaf Groeg baganaidd - Teleidion yr awen Gymreig Y pegasus awenyddol Cymreig Anfarwoldeb yr awen Gymreig- Cynydd addysg Cymru, yn y celfau a'r gwyddorion - Ysgolion Clasurol, Athrofeydd, Sefydliadau, Darllenfâau, & c. - Ond mai y Bibl yw prif ddiwygiedydd Cymru - Er hyn, nad yw Cymru heb llawer o annuwioldeb - Sefydliad yr Ysgol Sabbathol - Rhagoriaeth yr Ysgol Sul.

CREFYDD Cymru - Ei dylanwad - Ei Rhagoriaeth - Ei natur - Haelfrydigrwydd crefyddol Cymru - Y Colegau crefyddol — Y Genadaeth - Y Diweddglo.

YR

AWDL.

Os enyna swyn anian - athrylith,

O rywle, ' n fflam eirian

O fawl; - od oes unrhyw fan, - Hono yw gwlad ei hunan.

Y mae rhyw swyn a mawr serch, Ar dwyn, a llwyn, a llanerch, Dyffryndir, bryndir, a bro; - hoff arfer

A ffurf pobpeth yno;

Ubain y gwynt ban o'i go ', - haul, lloer, ser, Ac awel dyner y gu wlad hono.

Swyn o gariad sy'n gorwedd Ar lys gwyn, bwthyn, a bedd, Ac ar agwedd y creigiau,

A phob peth drwy ein hoff bau

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x410

Dengys ac erys cariad,

A glŷn wrth gartref a gwlad, Drwy afaelion darfelydd - a mwynder Hen gymundeb dedwydd

Boreu serch, â'i bri hi, sydd, - hyd weithion, Yn nghraidd y galon, yn c'wrdd a'u gilydd.

O, Gymru enwog, y ' moreu anian,

O ddwys dywyllwch, pan ddaethost allan Yn galed ddaear, a gwel'd dydd huan, — Ai ni fu hoenus y nef ei hunan,

Wrth ganfod y DUWDOD da ' n - peri, ' n wir, Eni tir o'r fath ogoniant eirian?

Tir enwog yw, lle trinir

Pob bythol sylweddol wir.

Sydd orsedd mawredd cymeriad — a rêd

O rin a gwareiddiad;

av

Sydd ardderchog oludog wlad, Doniau goreu Duw'n ei gariad.

Daear addolwyr Duw, ar ei ddelw, Yn weithle ëang Crist'nogaeth loew, A lle yw ' r adwaenir llaw ' r Duw hwnw Barthai y môr, egyr byrth y meirw;

Y Gwir wna'i chreigiau garw — yn hawddgar, Harddu ei daear mae Rhyddid hoew.

Rhyddid ! bro ' r Rhyddid i bob rhyw raddau ! Hardded, o ganol Rhyddid, yw gwênau

Ei hen weithwyr iachus, a phob gwrthddrychau ! Pwy wyr y loes sy'n ngwlad y pêrlysiau- Pwy a wyr gamwedd pau aur a gemau— Os yno Rhyddid sy ' wan ei wreiddiau?

Ond, O, fendigedig wlad fy nhadau !

Rhyddid sy'n reddf drwy dy ddeddfau, - heddwch, A diogelwch i waed ac hawliau.

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x411 Poed iddo'r ddaear lle gwena'r gwinwydd- Lle distyll gwin ar fin claer afonydd; Ac aed daear enwog y Cedronwydd, Neu fro'r aur tew, neu'r lle chwyf olewydd, Yn rhesi plan dan awyr ysplenydd,

I'w prisio a'u hawlio i'w preswylydd;

I minau rhoer, a mi ' n rhydd, —greigiau crog, Ac amawyr lenog Cymru lonydd.

Caed mawredd a bri cydmharol - erioed Wrth wraidd Cymru'n fywiol;

Yr oedd, hên oesoedd yn ol, - cyn neb braidd, Yn llawn o aidd a bywyd llenyddol.

Y mae hên olion y manau heulog

I'w gwel'd yr awrhon drwy'n gwlad ororog, — Y lle traddodai y llu trwyddedog,

O'u gwiw orseddau, eu gwersi eiddiog, - Lle gwelwyd awen uwchlaw gwlad euog, A swyn anian yn teyrnasu'n enwog, - Manau llên fu'r meini llôg- ( sydd eto ), Rhoi bri oedd yno i'r beirdd awenog.

Ar aml ucheldir ' e welir olion

Hên greig - adeiladau ' n grôg - deleidion; Ar lawr mae'r tramawr gromlechi trymion— Gwyddfâu areithiawl, a gwedd farw weithion ! Llwybr difywyd yw'r lle bu'r odfaon Crefyddol gynt, a'r gwladol helyntion;

Y tai mawl, trwyddynt - temlau derwyddon- Welir yn adfeilion, ―eto cywir

Yw'r hyn ddeallir drwy'r hên weddillion.

Drwyddynt gwelir Derwyddiaeth, Heb holi dim o b'le daeth; O'i holrhain i'r Dwyrain dir,

Ei grweiddyn a gyrhaeddir;

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x412

Hedyn Patriarchol ydoedd,

A darn o waith y Dwyrain oedd.

Dygid, meithrinid mwy o Athroniaeth- Gwyddid, a noddid mwy o Dduwinyddiaeth— A mwy o sêl at rin a Moesoliaeth— Ac o wir ddawr at Gelf a Gwyddoriaeth, Drwy addysg Derwyddiaeth, - nac un grefydd Wypu gynydd drwy holl gylch Paganiaeth.

Er pan, o Ddeffrobani, —darfu i'r Hen dorf ei phoblogi, —

A dawn deg dynodwyd hi,

Hen addurn yw hyn iddi.

Llawn o nerth a phrydferthwch, - gydag hynt

Llenyddol gerynt, ―llawn addolgarwch, —

Oedd ein dedwydd hen deidiau, —

Yr hyn o hyd sy'n parhau: Mwy oedd min eu doethineb Cyrhaeddfawr na nemawr neb; Diarebion ffrwythlon, ffraeth, A Thrioedd eu hathrawiaeth, Gyhoeddant i'r byd egwyddawr - rasol, A rheswm cynwysfawr;

A nerthol, reddfol, wreiddfawr Athrylith, o fendith fawr.

Athrylith a reolai, - foesau gwyr,

Hyd faes y gâd treiddiai:

Ei llais gwrdd trwy'r llys gerddai, —ar enddwl Ac ar feddwl pob gradd y gorfyddai.

Pybyr wladgarwyr, o waelod gorau, Ac yni didor oedd ein cyndeidiau; Er na wahoddent hwy ond rhinweddau Tra gwiw - fwyniant heddwch i'w trigfanau;

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x413 Eto gelynion ddeuent i'w glanau, — Gaseion diriaid i geisio'u hiawnderau; Ar hyn hwy godent yn erwin gadau, I daro'r estron a'i droi a rhwystrau; Taer ymladdasant, trwy amledd oesau, Dros eu gwlad anwyl - dros glod eu henwau, - A'u hannibyniaeth drwy fawrion boenau.

Ac wedi mawr lwydd, am feithion flwyddau, Gwnaeth uchelgais, neu drais agor drysau Brâd yn agored, bryd hyn, i gaerau Ein hannibyniaeth y daeth adwythau, - Gwaharddwyd Rhyddid o'n gwyrdd dirweddau- Ein bro anwyl a'n breiniau - gollasom, - - Gormes ddoi arnom â grymus ddyrnau. Ond HARI ' n Frenin tirion - deyrnasodd; Efe ddychwelodd, o fodd a chalon, Ein Rhyddid ac arwyddion - tynerwch: Iach bu dyngarwch byw dan ei goron. Ac os yw'n aros yn ol,

Hyd weithian ran ddwyreiniol O'r Ynys, gan y rhein'i

A'u dygodd o'n hanfodd ni, -

Eto er yr hyfder hwn,

Yn ddiau ni faddeuwn

Yr hên frâd a'r lladrad llym;

Ni achwynwn a chenym.

Y llanerch orllewinol, - Gwalia deg,

Le y dawn tragwyddol,

A maes pob tlysni moesol, - tra rhoes RHI Ddoniau iawn yn eiddi, ' n anianyddol, -

Darparodd a hauodd hi

Yn dew iawn oddi dani,

Dani ac arni i gyd, —mor lawnfron Yw o gêlfoddion dwyfol gelfyddyd !

E E

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x414

Ar wedd ei daearyddiaeth - edrychaf,

A drych o amrywiaeth Gwyd o olwg y dalaeth—

Digon o bob moddion maeth.

Llawn gwyll, a meillion, a gwair, —a gwenith Boldew, gwyn, a disglair,

Aeron gwych a phêr rawn gair, —a'r holl hâf Yn un cynauaf in ' i'w cyniwair.

Cael ŷd o fol y cleidir,

A chloron o dwymfron dir

Ei chareg - galch - ni cheir gwell

O âr un daear dywell.

Rhoi trem ar y tir amaeth - hyfryd yw Gwel'd y fro dan driniaeth;

Meusydd o ddolydd helaeth - yttir sydd, Twyni a chlosydd o tan achlesiaeth.

Yd - wisgir gwyllt - tir a galltoedd - geirwon, A gwarau'r mynyddoedd;

Cynnyrchir o dir nad oedd ― ond tryblith, Ffå byw a gwenith - a phob eginoedd.

O, mor gain yw Morganwg ! Cynyrchion ddigon a ddwg, O'i dolydd a'i meusydd mawr Ymleinw yr ŷd melynwawr; Bu SERES, a'i bys euraid, A chalon Blodon o blaid Anian yn ei ffrwythloni, - " Gardd Cymru " lwyd enwyd hi; Pob bryn, a dyffryn, a dôl, O'i mewn sy ' wir ddymunol- Gwenu mewn tirf ogoniant, Yn ngwisoedd y nefoedd wnant.

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x415 Môr Hafren sydd mor hyfryd Gan longau golau i gyd, Islaw, ar ei mynwes lân, Orwedd fel cadwyn arian. Llenyrch breision Afon Wy, A minion ceinion Conwy, A Thowy fry fawrhawyd, A rhanau clws Dyffryn Clwyd; A bro Môn sydd mewn bri mawr Am gynyrch a threm geinwawr. Golwg rhamantus Gwalia

I'r awen sy'n destyn da;

Adeilwyd, ar drem ein holl dalaeth - lân, Fawredd anian, mewn dwyfol farddoniaeth.

Y bryn hir i'r wybryn â — ei ben moel Sy'n byw ' n myd yr eira;

Drwy'r awyr draw, draw rhua - - ffrydlif pur Y rhaiadr eglur, dros ei wàr dreigla.

Bro hyfryd hefyd yw hi - am ffrwythlon Fryniau gwyrddion - am fronau a gerddi.

Mor addien ar ben y Banau - - iachus Mae'r fuwch a'r ŷch yntau,

A'r defaid esmwyth hwythau, Heb rif, oll yn cydborfâu.

Dyffrynoedd, leoedd lawer - fel Eden,

Sy'n flodau aroglber;

Daw i'n pyrth eu hedion pêr, - gyda'r dydd, Ar loew adenydd yr awel dyner.

Ar foreu o hâf eirian, - mwyned yw

Myned ar daith allan,

-22

Drwy'r cymoedd a'r glynoedd glân edrych ar Fri, iaith, a chynar brydferthwch, ania, h - tô A

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x416

Beirdd y llwyn, heb gwyn, ganant, - oherwydd

Y wawr llawenychant;

A thirion hwyl, hithau'r nant, A gynal y gogoniant.

Blodau a llysiau arllwysant - eu sawr,

A siriol ddyrchafant

Yn forau eu penau o'r pant; - rhinoedd Haul y nefoedd a'r awelon yfant;

Eu gruddiau coch a drochant - mewn gwlith glân Yna'n nhrem huan yn hir ymhoewant.

Hithau'r awel, yn ei throion - araf,

Orwedd ar fy nwyfron,

Gan siglo, suo, a sôn, —

Rho'n eiddof rhyw newyddion

O arall dir, o'r lle daeth, - tramwy'r oedd Heibio i ardaloedd ysbrydoliaeth.

Cwyna'n wan - hi ' m cusana, Yna i'w thaith ymaith â.

O Walia dlos ! O wlad lân ! Ei thiroedd a'i thai eirian; Hêdd ar ei dyffrynoedd hi, Ac harddwch ar ei gerddi, Yr hâf sydd yn cartrefu, Tra hâf a gauaf mae'n gu.

' E gâ'r iawn ofydd a gâr henafiaeth, A'r gwr aneisor a gâr hanesiaeth- Ffeithiau i'w hadwaen a phethau odiaeth Yn bodoli ar wyneb y dalaeth:

A bair i deilwng fardd ysprydoliaeth; A cha'r arlunydd dedwydd, attodiaeth

Myg i'w ddychymyg, a'i chwaeth cynlluniau, A nêf - ddelwau, o'i golygfeydd helaeth.

.


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x417 Mawr i'w ei chnwd i'r marchnadoedd, - yn ŷd,

Yn wair, ac enllynoedd;

Llysiau, adar gwâr, ag oedd - - wrthynt rhaid,

Ac anifeiliad tewogion, filoedd.

Oni cheir ei masnach hi

Ar hwyl, ac yn sirioli

Gwlad a thref? Teimlir, hefyd, Ei llaw fawr drwy yr holl fyd: Acw ynysoedd cynheswawr Sy'n mwynhau ei nwyddau ' nawr, Nwyddau sy ' fwy defnyddiol Na'r rhai, yn wir, roir yn ol; Pa wir les mewn pêr lysiau? Bu'm yn hir heb eu mwynhau; Ond hollol fyw nid allaf, Heb ddillad y ddafad ddâf; Ni osodwyd i'r sidan

Haeddfawr glod cyneddfau'r gwlân; Ni fu aur, yn ei fawrwerth, O wreiddiol sylweddol werth, — Prinder wnaeth ( pa ryw wendid ), Ac nid rhin ei brofi'n brid; Eithr mae glo ein bro yn brid, * Cawn hwn o werth cynhenid; Nid yw y perlau, ' n un darn, Werth eu rhoi wrth yr haiarn; Nid yw meini dymunawl Ddim, o ran eu hunan hawl, Yn gydwerth â'n calch gwiwdeg, Na'n llechi, mewn teithi têg; -

Ein mun, a'n glo, a'n meini, - wrth anian, Ar aur ac arian sy'n tra rhogori !

* Gwerthfawr

 

 

A close-up of a poem

Description automatically generated

x418

Dyledus i'r delidau - yw holl hwyl Y llaw - gelfyddydau; Ca'dd masnach i wylltach wau O'r rhai hyn, ei pheirianau.

O'i thywyll weithfeydd ëang,

O, ddyn byw ! clyw, clyw y clang !

Edrych ar chwyl anfeidrol ― olwynion, A'u dylanwad nerthol,

' N mileinig wau'n mlaen ac ol - yn drefnus; Oh ! mor lwyddianus mae'r hoew law ddynol. Pybyr yw'r gweithwr rhwng gwyllt - ermigau, Trwy'r mwg a'r tan poethwyllt,

Yn chwarau'r barau a'r byllt, - llanw, gwaghau Y ffwrneisiau sy'n ffrio'n iaswyllt.

Miloedd o fflamiau melyn,

Coch, llwyd, glas, gwelwlas, a gwyn, A welir ar yr un olwg

Yn chwarau drwy'r muriau a'r mwg.

Edrych ar eu drych erian, - yn y nos Arddun yw'r olygfan !

Ail ydyw'r fflamwawr lydan

I urddas dinas ar dân !

Gan fwg anamlwg yw nen - y Gweithfeydd,

Gwau a thoi fel niwlen

Wna drwy'r dydd; chwiwio bydd uwch ben - nes daw Awel i'w droliaw, i wel'd yr haulwen.

Onid syndod yw trafod y trefydd,

Y gwiw drigolion sy'n gwau drwy'u gilydd;

Dacw fawr werin ar fin yr afonydd,

Ac aml weision ar hyd y camlesydd:

Trwst, ffrwst, ffroch, croch, roch rydd ― y peirianau, — Egyr y bryniau, ―rwyga'r wybrenydd.

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x419

Gorwibia'r enwyllt agerbeirianau ' Lawr trwy'r siroedd i le'r trysorau; Y fro a lethant gan ddirfawr lwythau O fwnau llachar, o fain a llechau; A glo a haiarn - anferthol ddarnau, Y rhai ollyngir i wyr y llongau, - Meib trafnidaeth sy'n mhob tref yn heidiau; Gydag " Hoi - hoian, " weithian, hwynt - hwythau A'u hestynant dros dònau - y moroedd, I deyrnasoedd sy ' draw, draw'n eu heisiau.

Bro'r tryloewon ffynonau - lluosog, Llesawl yw ei ffrydiau;

Y dw'r yw cyfleusdera Buddiolaf, penaf ein pau.

Oddiar ei nerthoedd hyn Daw elw a llwydd i'w dilyn; Ni cha'r cadr raiadr rhuol, Braidd o'r bryn, ddisgyn i'r ddôl—

Nac afon, ffrwd, na gofer,

Nac un nant drwy y pant pêr, Ddylifo yn ddilafur,

Na threiglo, heb weithio'n bur- Fywiog, ryw fawr weithfaoedd, - melinau, A pheirianau ar hyd y dyffrynoedd.

Ni roliodd i'r môr heli,

Braidd well ei haberoedd hi; Aml ydynt, a mawladwy-

Lle llamsach ein masnach mwy.

Wele, iddi borthladdoedd - diogel Rhag dig y tymhestloedd;

Ac yno, o'r dryghinoedd drwy'r tònau Geirwon, y llongau sy'n gyru'n llengoedd.


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x420

Dan brifwas addas iddi, Yn anfon ei heirchion hi,

O Fôn i'r Amerig faith- Yw môr y Werydd mawrwaith; Ac ar hyd y byd o'i ben,

Mor hyfryd yw môr Hafren.

Clywch draw'r oroian lawen - ar ei draeth-

Swn trafnidaeth sy'n trefnu ei haden; Hon gwyd gan ysgwyd y nen, - pawb dyrant I wasgu llwyddiant o'i hesgyll addien.

Mae nwyddau ein mynyddoedd - hyd gan ' oes, Wedi gwneyd gweithredoedd

Mawrion - ar lanau'r moroedd--

Allan o dyb, - lle nad oedd- Ond rhosydd llonydd, lluniwyd - goreffro Drefoedd yno - yr holl dir feddianwyd.

Pontydd a wnaed uwch pantiau- ( wych effaith )

A cheuffyrdd drwy fryniau, - - Llonglyn lle'r oedd bryncyn brau, A llenyrch lle'r oedd llynau.

Ein tud pe gwelai'n teidiau, - holl, heddyw Yn llwyddiant y celfau ! D'wedent, Oh ! gyfnewidiadau, A'i yr un byd yw yr hên bau !

Golud a nwyf ein gwlad ni, A daenwyd oddi dani.

Mynyddau a mwn iddynt - heb fesur, Ystordai natur is traed dyn ytynt:

Daiareg sy'n agor dorau - i fyrdd O fawr ryfeddodau

Ein gwlad, darllenwyd yn glau, Athroniaeth ar ei haenau.

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x421

Cawd arnynt helynt ac ôl Cyfnodau cyfnewidiol.

Ai ' r môr pan heibio Norwai Ar ei hynt yn llanw mawr, â'i? Ystoriodd, a glôdd yn glau Yn hon ei dyfnion haenau? Ai traethau fu'r haenau hyn, Lle oedai'r pilfaen llwydwyn? Ai goror yn llocio'r lli, Rhyw hiroes fu'r Eryri?

Ai trydan fu'n gwân, a gwau O'i mewn i ffurfio'i mwnau?

Cawn wel'd ardderchogrwydd cyn hir, -

Daw adeg Maes Glo'r Deheudir,

I'w gloddio, a'i dreiglo, a'i drin— Effro adeg anghyffredin

Fydd hono, pan feddianir

Y maes hwn am oesau hir !

Daw'n tanddaearol ofynol fwnau- Hwy, ' n anherfynol, aneirif haenau— Odd'ar eu gilydd, rhyw ddydd i'r golau, I ddwylaw'r oesoedd, pan ddel yr eisiau. Os yw haul Tyrus mewn iselderau- Os duo a wnaeth haul Sidon hithau, — Mae eirian haul hen Gymru'n olau,

A daw'n y fan i daenu hâf wenau-

Hin wych - ar ein masnachau, - ffrwythlonant, I'n plant rhy Llwyddiant ei aur - allweddau.

Diffodd wnaeth gogoniant Ophir - eisioes, A Thartessar anwir;

Ymroi'n well mae Cymru'n wir; - dechreu'r da Ar hên Walia yw'r hyn a welir.


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x422

Ar ol, mae llawn faintiolaeth - ddydd gwridog Ei gwyrdd - ddeilog, enwogrwydd helaeth.

Cyn bo hir gwelir Gwalia - anhywerth, * Yn un ëang Faelfa;

Yno'r byd ni arbeda - ei aur coeth; Ei medr a'i chyfoeth mwy a'i derchafa.

Ond, er ei chyfoeth, nid ei derchafiad Prif ydyw hwnw; ond puraf dywyniad Ei rhinwedd yw mawredd ei chymeriad- Awyr lân ei llenyddol erlyniad— Ffrwyth ei moesol, ddeallol ddiwylliad— A'i chrefydd iawn, friglawn, nef - arogliad; Dyma'r bywiol, uwch - raddol wareiddiad Glwys, sy'n ogoniant ein gwlad, —a diloes Anadl einioes i'w henw a'i dylanwad.

Os i wel'd ein moesoldeb - y daw'r byd, A rhoi barn uniondeb, -

Gwêna o flaen ein gwyneb,

A'n henwi wna'n uwch na neb.

Hardd edrych ar ddiwydrwydd — a galwad Y trigolion ebrwydd; Brysiant, ymroddant mor rhwydd, Yn foreu a chyfarwydd.

Y siriol, siriol was eirian - mor bêr

Mae, ' r boreu, ' n myn'd allan,

A'i fawrwych glod'n ei feirch glân; —e'n gwridio A hwy'n dysgleirio fel dysglau arian.

Gwrolfron weision prysur,

Yn gweithiaw â dwylaw dur;

Meib tawel, yn mhob tywydd, - llaw barod,

Draw'n ymosod i drin y meusydd.

* Inestimable - anmhrisiadwy.

 

 

A black and white text

Description automatically generated

x423

Ust ! clywch glir, hir, hir arwyrain - y gwr Sydd yn gyru'r ychain;

Wrth ei fawl a'i ierthi fain - mae'n medru Eu trin, a'u gyru, a'u troi yn gywrain. A oes gur ar lafurwr?

Mor lon ei galon yw'r gwr ! Cychwyn mae'r bechgyn bochgoch, A myned cyn clywed cloch; Llawen y'nt, a llawn o hwyl Ac archwaeth at eu gorchwyl. Rhoddir i'r Cymro addas, Yn nghyflwr gweithiwr a gwas, Helaeth flaenoriaeth yn awr

Ar bawb geir drwy bob gorawr.

Mawr yw aidd Cymru heddyw - yn noddi Llenyddiaeth ddiledryw;

Y swyn fawr drwyddi sy'n fyw— Trwy ein nwyd taran ydyw.

Llaw awen sydd yn llywio - ' n llenyddiaeth, Mewn llawn aidd a chyffro;

Sŵn ei dawn sy'n dihuno - athrylith

O bob rhyw rith i bybyr wir weithio.

Ei llais sy'n agor llysoedd - a chalon Uchelwyr ein tiroedd;

Rhag ei blaen rhwygai ei bloedd, A'i mawrair dros y moroedd.

Y tarandwrf trwy India - oludog Ledodd o wyllt Walia;

Ah ! ein tirion VICTORIA,

O gan ' mwy rhwysg, a'n mawrhâ !

Y cyffrawd roes ar foesau - ein cenedl, Megys ceinach lliwiau;

Newidiodd erlyniadau - ein meibion,

Eu bwyd hwy weithion yw'r gwybodaethau.


 

 

A close-up of a paper

Description automatically generated

x424

Nid oedawl draddodiadau - na gwywlyd Ofergoelion oesau;

Ond awen, llên, a chynlluniau - rhinwedd, Ac uwch hyawdledd, yw pynciau'u chwedlau

Fe âd ein Histeddfodau - i'n gafael Gyfoeth prif - feddyliau

Ein hoes, gan nad yw'n eisiau - lenorion Ac awenyddion o ogoneddau.

Naw awen Groeg, enwog ryw, Ni feiddiant hyfhâu heddyw,

O flaen y nef - oleuni

Sydd ar wên ein hawen ni.

Pa gân a ddeil Paganiaeth - Groeg gynar, Ger cân Cristionogaeth?

Enynodd hon ein haweniaeth â thân Santaidd, eirian, sy ' hwnt i wyddoriaeth.

Ein Pegasus nwyfus ni

A rêd, mewn llawn fawrhydi, Drwy'r byd, a thu draw i'r bedd,

I weled anfarwoledd.

Pegasus Groeg, pe ceisiai, O dir dychymyg nid a'i; Ni welai, gan y niwloedd,

Y tir hwnt i natur oedd.

Onid AGLAIA, a'i nodau gloewon- AC EUPHROSENE - coffeir eu swynion- A THALAIA, ydoedd ei theleidion Awenyddol? a hwy yn weinyddion APOLO fawr, ond b'le maent yr awrhon? Mwy yw rhai ethawl y Cymro weithion; Gwiliant wrth byrth ei galon, —a'r gân rêd Yn fawl ogonedd mewn nefol geinion.

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x425 Awen Joв yn adwaen JAH, - ydd awen Ddioer MOSES ara ',

Awen DAFYDD ddedwydd, a - dysgleirwen Fawreddus awen yr hen fardd ISAIAH; —

Awen uchel angel yw, Nef - anedig fun ydyw, - Awen y saint yno sydd, - Awen i fyw'n dragywydd, Wedi awen byd dewi, Yn nef wen, yw'n hawen ni.

Y mae Cymru

' N ymddyrchafu,

A chynyddu, - ' N chwai'n ei haddysg; Mewn ieithyddiaeth,

A cherddoriaeth,

A Rhifyddiaeth, - Mae rhif hyddysg.

Yr oes sy'n teithio'n brysur, —yn ol Howe A LOCKE, yn ei llafur;

Mae eisioes rai'n mesur - dirgelion,

' N ail - wyr i NEWTON yn olrhain natur. Llawn - ddawn ysgolion llenddysg, —a rhif fawr O athrofeydd ddyfnddysg,

Geir ynddi, ac er iawnddysg - mae ar hynt Athrawon ynddynt yn mhob athronddysg.

Gwres haelfrydedd, a grasol fwriadau, Gynyrchodd radlawn, fawr uniawn freiniau, - Manteision i dlodion - sefydliadau,

Lle'n awr gall ein pybyr weithwyr hwythau Droi llawn fudd o'r darllenfâu, —ca'nt araf Wibiaw hyd eithaf y gwybodaethau.

Y Gyfrol Ddwyfol, pan ddaeth, I'r genedl wnai'r gwahaniaeth;

 

 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x426

Ie, ' r Gyfrol Ddwyfol dda, Weithion a'i gwahaniaetha: Er hyn nid yw Cymru heb Waelder ac annuwioldeb.

Ceir fod balchder, Gwyniau lawer,

Nwydau ofer, - Yn ein deifio;

Anystyriaeth,

Anghrediniaeth,

I radd helaeth - Yn gwyrdd - ddeilio.

Ond eto, ' n rym diattal Cydwybod, sy'n d'od i'n dal,

Ni fedrir gwneyd pob ynfydrwydd, A dirmyg, a rhyfyg yn rhwydd; Ni ellir byth yn hollol

Ei thrin hi i'w throi yn ol;

Hi fyn ei lle'n y fynwes- Yno mae'n llywio mewn lles: Gair Duw, wnaeth egoryd hon, Sy ' hefyd iddi'n safon.

Rhai duwiol dadau, ' r hyd y wlad, ydoedd Yn blino'u heddwch drwy y blynyddoedd; Wylent lawer uwch helynt teuluoedd, Rhai ni wyddent fawr am y rhinweddoedd A gynauafir yn nysg y nefoedd. Byr oedd darbodaeth Biblaeth y bobloedd; Ond hwy weithiasant, er bendith oesoedd, I wasgar llewyrch — i ddysgu'r lluoedd. Wele'n awr, Ysgolion oedd, - dysgu prid Ar Air Duw welid drwy'r ardaloedd.

Mawl, mawl am Ysgol Sabbathol, bythoedd Ei llais sy ', fu, elw a lles i filoedd;

 

 

A black text on a white background

Description automatically generated

x427

Yma gall llawer, am eu galluoedd,

Eu holrhain i'w croew, rydd, loew darddleoedd;

Yr A B C, yn Horeb, oedd - gwreiddyn

Y ddawn fyw wedi'n a ddenai fydoedd !

Ysgol råd i wlad o dlodion, - rhyfedd Athrofa'r duwiolion;

Ysgol iawnryw ydyw hon,

A'i gwawl yn treiddio'r galon,

Adlewyrch duwiol awydd,

Cryf, addas, wawr Crefydd sydd

Yn belydr, yn caboli

Ein holl sefydliadau ni;

Ei delw ar gyfnodolion

Ein hoes sydd - mae'n wiw y sôn.

Gymru ddedwydd !

Eiddost grefydd,

Nad oes g'wilydd - Dwys, a galar,

Yn ei llwybrau,

Fel crefyddau

Eulun dduwiau - Blin y ddaear.

Ni roi’th fabah

Ar goed allan,

I grôg - hongian, - Nac i'r Ganges;

Ond yn gyflwyn,

Tlws, i addfwyn

Afael y fwyn - Ddwyfol fynwes.

Hi a wnaeth rinwedd - na wna athroniaeth, Rheswm na chynghor, llên na gwyddoriaeth, Addas godiad, nac arddun ddysgeidiaeth; Hi afaela yn nelw dwyfoliaeth,

Hon ddyd a'r enaid dan y DDUw - driniaeth; Gyr o dan waelod, hen lwgr dynoliaeth;

 

 

 

A close-up of a poem

Description automatically generated

x428

Egyr degwch ar faes llygredigaeth: Ah ! mae ei rhadau, yn Nghymru odiaeth, Wedi, yn ddiffael, gael buddugoliaeth

Ar draddodiadau borau a bariaeth, Troes ofergeolion dylion o'r dalaeth; O'i llaw caf iawndrefn a gwell gyfundraeth, Llawn a chyfiawn oruchafiaeth - - ar fyd blwng, - Yn y ne ', teilwng ogoniant helaeth.

Crefydd yw gallu cryfaf, ―haelioni, A dylanwad penaf

Ein bro hon - ei bri iawnaf,

Bod yn forwyn addfwyn NAF.

O, frodir, nef - haelfrydedd, - dan goron Doniau goruwch rhinwedd; At fawr gyd - deimlad hi fedd Galon i roi ymgeledd.

Wele ! sŵn elusenau

Ei meib hael sydd yn mhob pau; Biblau a roes i'r bobloedd,

A llên Duw i'r lle nad oedd; Gyrodd wawl trugaredd ar Ddu, dywyll leoedd daear.

Cael eu hagor mae'r Colegau - i'n meib; Bydd mwy'u cymhwysderau- Dysgant, eglurant yn glau,

Ieithoedd a gwybodaethau.

Ac yna, wedi'n, yn llaw'r Genadaeth,

Hwy ânt, a dygant trwy'r greadigaeth Hanes Duw, a neges Cristionogaeth-

Eang alwadau Efengyl odiaeth-

Heddwch Iôr i rydd a chaeth - pawb dynion, Duon a gwynion, heb un gwahaniaeth.

Fflam y ddwyfol wawl o Walia - ' nynwyd

Yn nen Rarotanga;

F F

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x429

Ac aeth, er a wnaeth rhagfarn eitha - egr, - Freiniau y cysegr i Fryniau Casia.

Duw'r nefoedd, trwy lysoedd Awstralasia, Ar fyr addolir, - fe a'u harddelwa; Plana ei weision yn Polynesia, Eglwysi enwog; y gwawl o Sina Gylcha'r byd ëang ! crŷn Eromanga, A Madagascar anwar a gryna- Ei phlant lifeiriant tua Chalfaria, Fel ŵyn yn addfwyn, i geisio'r noddfa: Bydd un didwn sŵn Hosannah - cynhes, Hyd o'r hên Andes i'r Dwyrain - India.

Gogoniant mynegol Duw y duwiau Leinw y ddaear, - ni chaiff eulundduwiau Mor ddihawl wedi'n ' mo'r addoliadau; Rhwygo garw fydd ar y gau - grefyddau ! Gyrir Mahometaniaeth o gaerau

Y Dwyrain, a Mormoniaeth o'n dorau, A Phaganiaeth oddiar ei phegynau, — Pabyddiaeth, Iddewaeth drenga'n ddiau:

Y dydd hwnw sydd yn neshau, - llenwir cant Daear â moliant Duw i'r ymylau !

O, Gymru wen ! darllener

Yn hon o hyd iawn enw NER:

Efengyl fwy - fwy ëango,

Ac edryd i fywyd a f'o;

Ei llusern drwy'r holl oesoedd - dywyno Yn dân rhwng mynyddoedd

Cymru ddilyth byth bythoedd, - gan frysio,

Duw IÔR ymwelo eto â'r miloedd.

Boed llwydd mawr ar glawr ein gwlad, Amen ! mewn gwir ddymuniad.


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x430

Y

GWYNT;

NEU GYSYLLTIAD Y MATEROL A'R YSBRYDOL.

66

ELFEN ryfedd iawn yw y gwynt - elfen ystwyth, lithrig, symudol, gynhyrfus, gyffrous, ymruthrol, deneufain, ac anweledig; ond, er bod yn anweledig. eto yn deimladwy; ac er bod yn deimladwy, eto yn anngafaeledig. Fod y gwynt yn elfen deimladwy yw yr unig arwydd sydd genym i brofi ei pherthynas â'r materol; ac yn wir, ni phetrusai y meddwl barddonol gysylltu â'i hanfod ( gan nad beth yw hono ) bersonoliaeth ysbrydol bur. Y mae ei swn dieithr, dyfnddwys, ac arddunol - ei ysgogiadau disymwth, dilywodraeth, a dymchweliadol yn nghyd a dirgeledigaeth ei ffurf, ei agwedd, a'i ysgogiad, yn ein tywys yn naturiol i synied am dano fel ymwelydd o ryw fyd mwy ysbrydol na'n daear ni. Ac onid yw efe yn myned o dan y trawsenwad o Ysbryd " mewn, o leiaf, un man yn yr Ysgrythyrau- " A Duw a welodd ei ysbryd yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd? " Nid oedd yr ysbryd hwn yn ddim llai na mwy na'r gwynt, yn araf a dystaw - fwyn ymsymud ar hyd wyneb mawr, ëang, ac anferthol eigion di - lan, di - lais, di - lewyrch, prudd, dyfn - ddwys, syn, rhyfeddol, ac arddunol y chaos cyntefig. Yn wir, y mae y teneuder ( sublety ) mwyhaol hwnw ag y mae natur, o elfen i elfen, yn ymdynu drwyddo tua'r diflanedig yn dystaw awgrymu i ni fod y llinell yn bodoli yn rhywle, lle y mae y materol a'r ysbrydol yn ymgysylltu â'u gilydd. Myntumia athronyddion fod mater, ynddo ei hun, yn annystrywiadwy ( indestructible ); y mae yn meddu, gan hyny, y briodoledd o barhad, o ganlyniad, un o briodoleddau yr ysbrydol. A phwy a wyr nad yr egwyddor o fywyd wedi ei chymhwyso at un o'i elfenau meinaf ( subtle ) ef, sydd yn ffurfio personoliaeth pob ysbryd creuedig? neu pa fodd y gellir ffurfio un math o feddylddrych eglur am bersonoliaeth ysbrydol, oddieithr i ni gysylltu y bersonoliaeth hono â rhyw fath o ffurf? ac os ffurf, mae yn rhaid fod iddi gyfansoddiad o ryw fath. A ydym i gredu fod bodolaeth mater yn darfod yn llwyr, am ei fod yn myned yn rhy deneufain i'n llygaid diffygiol ni i'w olrhain a'i ddilyn yn mhellach na therfynau natur?

Ymddengys i mi nad yw yr holl greadigaeth ond rhyw un pentwr mawr ac anfesurol o amrywiaethau a chyfundrefnau cydgysylltiedig a'u gilydd - a hwythau â Duw, fel eu Hachos dechreuol, cynaliol, a llywodraethol. EFE yw y canolbwynt dwyfol mawr o amgylch pa un y mae pob meddwl a mater - pob dyn, pob angel - pob peth naturiol a phob peth ysbrydol yn tragywyddol ymsymud. Mor rheolaidd, ac mor rhyfeddol hefyd, y mae cadwyn fawr bodolaeth yn ymglymu ddolen wrth ddolen - yn ymsymud o fywyd i fywyd, o natur i natur, ac o sefyllfa i sefyllfa, nes y mae pob amrywiaeth,

 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x431

yn y pen draw, megys yn ymgysylltu ar, ac yn ymdoddi i'r DWYFOL mawr ei hun. Mor rheolaidd, mor neis, mor naturiol, ië, mor annirnadwy yw y traws - symudiad o'r naill ffurf, cyflwr, sefyllfa, organaeth, a bywyd, i'r llall ! Onid drwy drawsgyfnewidiadau o'r fath y cyrhaeddodd ein daear ni ei sefyllfa bresenol? Onid fel hyn y mae daeareg yn ein dysgu ddarfod i greadigaethau cyfnodau blaenorol y ddaear ymdoddi i sefyllfaoedd uwch a pherffeithiach creadigaethau ei chyfnodau dilynol? Ymddengys y fferylliaeth ddwyfol hon i mi fel pe byddai yn un o ddeddfau diesgeulus a diwyrdroad creadigaeth.

Er mwyn cael un enghraifft o'r traws - symudiad hwn, o'r byd llysieuol i'r byd anifeilaidd, bydded i ni sylwi arno yn nghyfansoddiad y Polypus; ac ar y traws - symudiad o'r anifail i'r dyn, yn nghyfansoddiad y Chimpanzee. Nid ydym wrth hyn am i neb gredu ein bob yn ddaliedydd yr athrawiaeth DDARWINAIDD. Na, pell ydym oddiwrth hyny, oblegid credwn fod y natur anifeilaidd a'r ddynol yn rhai eithaf gwahanredol. Y peth ag ydym ni yn ceisio ei ddangos i'n darllenwyr yw yr ymgysylltiad anolrheinadwy sydd rhwng y gwahanol naturiaethau â'u gilydd, fod y naturiaethau hyn, ar linellau eu cyfuniad, yn myned mor agos i'w gilydd, ac mor debyg o ran eu hansawdd, nes o'r diwedd ymgolli yn, neu ymdoddi yn llwyr i, identity eu gilydd. Oddiwrth gyfatebiaethau fel hyn, â pha rai y mae natur yn ein cynysgaeddu a hwy, y meiddiwn awgrymu hefyd fod y cyffelyb gyfuniadau yn bodoli rhwng y materol â'r ysbrydol, a'r ysbrydol â'r dwyfol; ac nad yw yr holl greadigaeth ond dwyfoldeb yn dadblygu ei hunan mewn ffurfiau a deddfau ordeiniedig. Nid ydym wrth hyn am arwain ein darllenwyr i gredu a choleddu yr athrawiaeth gyfeiliornus o Holldduwiaeth ( Pantheism ); canys nid EFE ei hun yw ei ymddadblygiadau, eithr deilliadau o hono, ac ymddibynol arno. Megys nad yr haul ei hun yw ei oleuni a'i wres, eithr deilliadau o hono; felly nid Duw ei hun yw ei ymddablygiadau, eithr deilliadau anamgyffredadwy o hono, a thragwyddol ymddibynel arno. Meddylia rhai athronwyr duwinyddol nad yw yr ymddadblygiadau hyn o DDUW ond cynyrchion naturiol ei berffeithderau; hyny yw, eu bod yn dylifo yn naturiol, ac o anghenrheidrwydd, o weithgarwch ei natur. Os felly, y mae yn rhaid fod rhai o'i weithredoedd mor dragwyddol a diddechreuad ag ef ei hun. Os yw Duw fel hyn yn gweithio oddiar anghenrheidrwydd ei natur, er y tragwyddoldeb diddechreuad, pa mor anamgyffredadwy y rhaid fod mawredd ac eangder ei greadigaethau ! Yn wir, y mae hyd y nod ein daear fechan ni yn ein cynysgaeddu ag amryw enghreifftiau o'r gweithgarwch pell - ddechreuol hwn. Ni fedr athroniaeth ond yn unig fud - ddychymygn uwch ben y pwnc o henafiaeth di - ben - dechreuol ein daear ni; ac yn wir, y mae

 

 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x432

-

Ysbrydoliaeth ei hun wedi gadael y pwnc yn hollol benagored ac anmhenodol. Meddai MOSES- " Yn y dechreuad y creodd Duw y nefoedd a'r ddaear. " Y mae y ddaear, ynte, a'r nefoedd hefyd, mor hyned â'r " dechreuad " annechreuol hwnw ! A fedr dy law fechan di, ddarllenydd, gael gafael arno? a fedr dy amgyffred di ei amgylchu, neu'th ddychymyg ei sylweddoli?

Os mynwn enghreifftiau pellach o ymgyfuniad gwahanol naturiaethau, edrychwn fel y mae y dyn yn ymgysylltu â'r angel, yn ei ysbryd; ac fel y mae yr ysbryd dynol yn ymgysylltu â'r Ysbryd Dwyfol, yn undeb anamgyffredadwy y ddwy natur yn Mherson y DUW - DDYN. Pwy a fedr wneuthur dim ond synu wrth fyfyrio ar, neu synied am, linellau cysylltiadol, eto gwahanredol, y naturiaethau hyn? Y mae eu cyfuniad gwahanredol - neu eu gwahanredoldeb cyfuniadol yn ddirgelwch mwy nag y medr rheswm dynol ei amgyffred. Ni allodd mwy, a gwell, athronydd na ni wneuthur dim ond synu a rhyfeddu uwch ben yr olaf o'r cyfuniadau hyn, gan ddywedyd, - " Mawr yw dirgelwch duwioldeb ! "

Ond i ddychwelyd at gysylltiad y materol â'r ysbrydol. Gellir gofyn, Paham y mae yn rhaid credu, fel ag y dychymyga rhai dynion, fod rhyw gagendor neu rwyg anghysylltiadol fawr, rhwng y materol a'r ysbrydol, yn wahanol i gyfundrefnau eraill o weithredoedd Duw? Beth a dybiwn ni am undeb y gwahanol naturiaethau ag sydd yn gwneuthur i fynu bersonoliaeth dyn - corph, enaid, ac ysbryd? - yr anifail, y bywyd anifeilaidd a'r bywyd ysbrydol? - y peiriant, yr ysgogiad a'r ysgogydd? A dybiwn ni fod y gwahanol naturiaethau hyn yn cael eu hysgiwrio wrth eu gilydd, neu eu hiaso y naill wrth y llall, fel y iasir dau ddarn o haiarn? Nid felly, y mae yn sicr, eithr y mae yr undeb yn cael ei effeithio drwy gyfrwng elfenau o feinder a theneuder anamgyffredadwy, nad oes gan y naill naturiaeth fwy o hawl iddynt na'r llall, ond er hyny yn gyfryw ag y cydymgyfarfyddant ynddynt mewn heddwch, cydweithrediad, a chydgordiad - lle hefyd y cydgyfranogant o ddylanwadau eu gilydd yn ddidrais, diorthrech, a dirwystr.

Beth wyddym ni am y galluoedd dirgelaidd a elwir dylanwad ac effaith, nad math o elfenau teneufain ar dramwyfa o'r naill wrthddrych, a'r naill feddwl i'r llall, ydynt, er yn llwyr anweledig ac annheimladwy i ni? Edrychwn fel mae y graig arw a chaled yn ymddatod i'r cerygos mân, neu i'r marl briwsionllyd; a'r marl briwsionllyd i'r pridd tomlyd; a'r pridd tomlyd i'r llaid dyfrllyd; a'r llaid dyfrllyd i'r dwfr hylifol; a'r dwfr hylifol i'r tarth hofianol: a dyna y tarth hofianol yn cymdeithasu âg elfen deneuach fyth, sef yr awyr anweledig. Beth hefyd am yr elfen drydanol, yr elfen dynfaenol, a'r elfen iodylaidd? Dichon eu bod hwy yn deneuach fyth. A phwy a wyr nad oes elfenau mwy ysbrydolddull na hwynt.

hwy eto - yn myned o fain i feinach, o deneu i deneuach, a theneuach, deneuach nes yn y diwedd lwyr ddiflanu yn yr anweledig- ymgyfuno â'r ysbrydol, neu ymsefydlu yn y dwyfol? Y syniad cyffredin yw, fod rhyw bellder mawr rhyngom a byd yr ysbrydoedd; ond dichon, yn wir, nad oes mwy na thrwch rhwydlen llygad o gnawd rhyngom â'r byd dieithr ac anweledig hwnw.

" Nid yw y mur ond teneu a gwan,

Rhyngom ag anfawroldeb. "

 

 

 

A close-up of a paper

Description automatically generated

x433 Paham nas gall y byd ysbrydol ac anweledig fod o'n hamgylch ac ar ein pwys, yr un fath ag y mae y byd elfenol anweledig ar ein pwys ac o'n hamgylch? Ni ddarfu i ni erioed weled yr elfen awyrol, yr elfen drydanol, yr elfen dynfaenol, na'r elfen iodylaidd, ac eto y maent o'n hamgylch ac ar ein pwys. Paham nas gall fod yr ysbrydol hefyd? Ni wyddom ni nad rhyw nerthoedd neu ddylanwadau ysbrydol yn cael eu taflu gan ddwyfoldeb i beirianweithiau y byd materol, er rhoddi bywyd ac ysgogiad iddo ac ynddo, yw tynfaeniaeth, dysgyrchiant, iodyliaeth, & c., ac fe allai, luaws o elfenau meinion, ond nerthol, eraill ag ydynt hollol anweledig i lygad o gnawd.

Y mae pob ysbryd yn rhwym o fod yn rhywbeth ( pa beth yw y rhywbeth hwnw, atebent y sawl a fedrant ), heblaw y bywyd a feddiana nid efe ei hun yw y bywyd, eithr llestr, megys, yn derbyn ac yn dal y bywyd hwnw. Mae i bob ysbryd dair o briodoleddau, sef, ei gyfansoddiad ( beth yw natur hwnw? ) neu ei bersonoliaeth, ei fywyd, a'i anfarwoldeb; y mae ei bersonoliaeth yn greuedig, ei fywyd yn gyfranedig, a'i anfarwoldeb yn osodedig. Gan mai bywyd cyfranedig sydd gan ysbryd, ac mai nid efe ei hun yw y bywyd hwnw, y mae yn rhaid ei fod yn rhywbeth arall y mae yn ddealltwriaeth, neu bersonoliaeth sengl a gwahanredol. Wel, y gofyniad yma yw, beth sydd yn cyfansoddi neu yn dynodi y gwahanredoldeb hwnw? Os oes gwahanredoldeb, y mae yn rhaid hefyd fod ffurf; wel, os oes ffurf - fel ag yr edrycha yn beth ddigon tebygol i lygad rheswm ei bod — a gawn ni yn wylaidd ofyn, a oes cysylltiad rhwng y ffurf hono â mater, yn ei sefyllfa fwyaf bur, refined, a theneuedig? A ydyw y naill ddim yn ymdoddi i'r llall yn nghyfryngdod y ffurf y soniwyd am dani?

Yr ydym yn ymwybodol ein bod yn trafod dirgeledigaethau mawrion, ac yn olrhain am wirioneddau tra anhawdd i reswm dynol i gael gafael arnynt, a phrofi eu dilysrwydd; ond, er hyny, nid yw dirgelwch peth yn un rheswm dros beidio gwneyd yr ymchwiliad, eithr, i'r gwrthwyneb, y rheswm cadarnaf dros wneyd hyny; canys pe na byddai dirgelwch, ni byddai achos na chymhellydd i ymchwiliad, am y byddai y gwirionedd ar y wyneb, ac yn eglur i amgyffredion pawb. Chwilio allan ddirgeledigaethau, a

 

 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x434

chymhwyso eu gwirioneddau at ddybenion cymdeithas, yw ac a fu goruchwyliaeth fawr athrylith gydgynulliedig yr oesoedd. Egluro dirgeledigaethau, dadblygu gwirioneddau, a dangos modus operandi amrywiol phenomena natur a moes, a fu y prif, os nid yr unig, foddion i arloesi ein gwlad o'i hofergoledd dirfawr, yr hwn a orlwythai ei darfelydd â'r brawychus ac â'r arswydlawn, ac a ataliai, i raddau pell, gynydd dymunol gwareiddiad. Oni buasai yr awydd hwn i chwilio allan ddirgeledigaethau, ni buasai gwyddor mor nifeiriol, cyfoethog, ac ardderchog mewn darganfyddiadau; na chelfyddyd mor luosog, cywrain, a defnyddiol ei chyfryngau; na gwareiddiad mor hawddgar, prydferth, a gogoneddus ei ddyspleadau. Yma lle, hefyd, sef yn nghaffaeliad gwirioneddau a gyrhaeddir drwy ddadguddiad dirgeledigaethau, yr erys y pleser a'r hyfrydwch sydd yn gynwysedig mewn gwybodaeth.

Rhai o ddiffygion mawr ein cenedl ni - ag sydd ganfyddadwy hefyd yn mhob canghen o'i llenyddiaeth yw ei bod yn ei barn mor ymddibynol, ac yn ei meddyliaeth mor fenthyciol. Rhaid iddi hi, gan nad pa le bynag y rhodio, gael naill a'i cymhorth y ffon neu y ganllaw; ac oddieithr iddi hi gael y llwybr wedi ei arloesi o'i blaen, ni esyd hi ei throed ar lawr ! Paham nas arfera fy nghenedl fwy o annibyniaeth barn, ac nas ymgynyga at fwy o wreiddioldeb meddwl? a phabam y rhaid iddi hi gymeryd pob genau megys oracl ond yr eiddo ei hun? Paham yr ymddyga yr athrylith Gymreig mor wylaidd, yswil, ofnus, a dianturiaeth, yn fwy nag eiddo cenedloedd eraill? Pe ddygwyddai iddi weithiau yn ei holrheiniadau i golli golwg ar, neu gamgymeryd, y gwirionedd, ni fyddai hyny ond yr un peth ag y mae athronwyr a dysgawdwyr heb rifedi wedi gwneuthur o'i blaen. Nid oes yr un ddamcaniaeth nad yw yn cynwys rhyw ranau o'r gwirionedd y ceisia ei brofi; a'r hyn sydd gyfeiliornus ynddi a adewir i'w ysgythru ymaith, neu i'w gywiro, gan athrylith cenedlaethau dyfodol; canys fel hyn, o athrylith i athrylith, ac o oes i oes, y mae y gwirionedd yn cael ei ddadguddio, gwyddor ei sefydlu, a gwirionedd ei berffeithio. Awn rhagom, ynte, fy nghydgenedlddynion, a thorwn i ni ein hunain lwybrau newydd, eang, a mawreddus yn nhiriogaethau annhramwyedig celf a gwyddor, ac nag ymfoddlonwn ar fod yn gaethweision cadwynedig wrth olygiadau na damcaniaethau unrhyw athrylith estronol.

Ond, i ni gael dychwelyd yn ein hol at y pwnc o gysylltiad y materol â'r ysbrydol, a'r ysbrydol â'r dwyfol, ac i ddiweddu yn fuan, gallwn sylwi, fel ag y sylwasom yn flaenorol, mai rhyw un gadwyn amlddolenog, hirfaith, fawr, ac anfeidrol, a'i phen yn ymfachu yn yr HANFOD Ddwyfol ei hun, yw pob bodolaeth greuedig; a phan ystyriom mai yn Nuw y mae pobpeth yn byw, symud a bod, ac fod pob peth wedi deillio o'i Hanfod ef ei hun, mor anhawdd yw tynu y llinell wahanredol, neu nodi allan y cysylltiad neu y dad-

201

 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x435

gysylltiad, yr undeb neu yr ysgariad, sydd yn bodoli mewn rhyw ystyr rhwng yr Hanfod a greodd a'r pethau a grewyd gan yr Hanfod hono. Mor anamgyffredadwy i reswm dynol yw yr undeb a'r gwahanredoldeb sydd yn bodoli rhwng y Gallu Anfeidrol ag oedd ynddo ei hun yn greydd ac yn greadigaethau, â'r creadigaethau hyny ! Y mae y dyrysbwnc hwn wedi arwain rhai athronwyr enwog, cyn yma, i goleddu yr athrawiaeth gyfeiliornus o Holldduwiaeth; ond y mae genym ni Ddadguddiad, yr hwn sydd ddwyfol, yr hwn hefyd sydd yn ein dysgu fod y Dwyfol GYNYRCHYDD a'r cynyrchedig, er yn ymddangos i reswm dynol megys yn un - hanfodol, eto yn ddansoddau a pherthynasau gwahanredol, yr hyn hefyd yr ydym yn ei ddilys gredu, er nad ydym yn ei lwyr amgyffred.

Ai ni ellir, mewn rhyw olwg, edrych ar gysylltiad y materol a'r ysbrydol â'u gilydd megys ag yr edrychwn ar gysylltiad yr amserol a'r tragwyddol a'u gilydd? Yr ydym yn wastad yn edrych ar amser fel cyfnod maith, hollol ar wahan oddiwrth dragwyddoldeb, heb gofio fod rhwng y ddau y berthynas a'r cysylltiad mwyaf anwahanol; canys nid yw amser ddim ond cyfran fesuredig o'r tragwyddol, a gellir yn briodol ei ddynodi fel y tragwyddoldeb presenol. Gwyddom fod y materol yn ymgyfuno â'r ysbrydol yn enaid y dyn; ond credwn fod rhyw gysylltiad yn bodoli rhwng sylwedd ag ysbryd, hyd y nod ar ol ei ymadawiad à'r corph presenol. Pa beth sydd yn ein rhwymo i gredu fod sylweddolrwydd yn gyfryng edig i natur ac amser yn unig? A ydym ni i gredu, am fyd yr ysbrydoedd, mae dealltwriaethau di - ffurf, annheimladwy ac anweledig sydd yn bodoli yno? Mae y fath feddylddrych yn boenus, ac yn hdllol anghydnaws a theimladau ein natur. Pa beth yw ystyr y " corph ysbrydol " hwnw y sonia yr Apostol am dano? Beth hefyd oedd elfenau neu gyfansoddiad y ffurf hono yr ymddangosodd MOSES ac ELIAS ynddi ar Fynydd y Gweddnewidiad? a'r ffurf hono yr ymddangosai yr angelion i'r patriarchiaid a'r prophwydi ynddi, ac i MOSES ac eraill o dan yr oruchwyliaeth seremoniol? A'i rhyw bethau rhithiol, ffugiol, benthyciol, a thymhorol oeddent? A allwn ni gredu am y nefoedd, lle y trigfana pob gwirionedd, fod ei phreswylwyr santaidd yn ymwneyd ag ymddangosiadau lledrithiol a ffugiolaethol o'r fath? Y mae y syniad yn rhy aunheilwng o urddas a gogoniant y Weinyddiaeth Ddwyfol sydd yno. Credwn fod yr ymwelwyr nefol hyn wedi dychwelyd yn eu hol i'r nefoedd, a'u bod y fynyd hon yn amgylchu yr orseddfainc wen fawr yn yr un gwisgoedd ac yr ymddangosasant i ddynion ar y ddaear.

Cof genym am y llyfr melus hwnw a elwir " Heaven our Home, " fod ei awdwr yn profi, drwy resymau tra chryfion ac argyhoedd. iadol, a chrybwyllion Biblaidd lawer, fod y nefoedd yn lle, yn gystal

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x436

ac yn sefyllfa; as os lle, nis gall fod felly ond mewn cysylltiad â sylweddolrwydd; ac mae yn rhaid mai bodau yn meddu rhyw fath o sylweddolrwydd ydyw y preswylwyr, neu ynte ni fuasai anghen am gartref nefol o'r fath arnynt. Ac yn wir, dyma y fath nef yn unig sydd gydnaws a chydgordiol â theimladau ac â serchiadau cyngreddol ein naatur: dyma y fath nef a ddymunai y bardd ei chael- lle y gallai efe rodio ac eistedd yn ymyl ei ffynonau o ddyfroedd byw ymhyfrydu a mwynhau ei golygfeydd anwywedig, prydferth, dihalog, a dwyfol adwaen, a chymdeithasu, a chyfnewid geiriau a gwênau â brodyr, ac â chwiorydd, plant, a rhieni, cyfeillion a pherthynasau, a rhai a fuont anwyl a hoff genym ar y ddaear, - a hyny mewn cariad, tangnefedd, santeiddrwyd, a dedwyddwch di- drai, a di - derfyn, yn oes oesoedd.

EISTEDDFOD CAERDYDD ( 1858 ).

( ANERCHIAD. )

DRWY'N Tref boed tangnef bob tu, - un diwrnod

O deyrnas a gallu,

I'r awen fawr, yr hon fu - drwy lysoedd,

A hynt yr hen oesoedd, yn teyrnasu.

O, nad hanai, eto unwaith, —ddiwrnod I'w haddurno'n berffaith;

O, na welem ni eilwaith, Yr aur oes fu ar yr iaith.

Heddyw torodd gwawr athrylith, Ymdrech - coron, mawl, a bendith, Ar amgylchoedd Tref Caerdydd; Goruwch ben mae'r nen yn olau, Gan ysbrydion gwyn ein teidiau, ' Lawr yn edyrch arnom sydd; Mae ar Ffydd a Gobaith weithion Chwant prophwydo wrth ein calon- Trenga llawer gelyn creulon Cyn y trenga iaith y Brython !

Deil, hi ddeil hyd olaf ddydd.

 

 

 

A page of a paper with text

Description automatically generated

x437 Marwolaeth y Cadfridog Havelock.

HAVELOCK ! mae'th enw'n ngeneuau'r cenedloedd, A chlod dy fawr ddewrder yn myn'd ar ei dw ', Can's ti ddarostyngaist, a'th eirf a'th fyddinoedd, Greulondeb y Sepoy a brâd yr Hindŵ '; Dy enw bareblid gan dafod y fellten,

Ar unwaith yn bryder, llawenydd, a chlod, - Y byd a glustfeiniai ar lais y dynghedfen, A f'ai oddiwrthyt o'r Dwyrain yn d'od.

O, HAVELOCK ! O, HAVELOCK ! tu draw i'r maith gefnfor Yn mhell, y gorweddi o fynwes dy wlad; Carasai milfiloedd gael canlyn dy elor,

A gwneuthur gwell beddrod i benaeth y gad. Alumbagh ! gwna'n dyner o farwol weddillion Y gwr sydd yn awr yn enwogi dy lwch; Mwy gwerthfawr yw'r trysor a feddu o ddigon,

Na'r main ac na'r mwnau sy ' drwyddost yn drwch.

Pan ydoedd chwyldroad creulonaf yr oesoedd,

A dystryw'n ymdaenu drwy holl Hindwstan- Llais marwol gyfyngder yn rhwygo'r holl nefoedd, Ac anrhaith ac yspail yn cyrhaedd pob man, - Athrylith creulondeb yn ymddadhenhuddo,

Mewn myrdd o gynlluniau oe'nt gochion gan waed, - Mil myrdd o Sepoyaid yn cydymfyddino, —

A'n meibion a'n merched yn ddrylliau dan draed, -

Holl Oude a Bengal dan y ' storm yn ymysgwyd, Ac Agra a Lucknow, Del - hi, a Chawn - pore, Yn meddiant y gelyn, - a'r cyfan yn arswyd,

O'r jungle i'r mynydd, o'r mynydd i'r môr, - Ein HAVELOCK, yn gyflawn o rin a gwroldeb, Medrusrwydd, gwladgarwch, dyhewyd, a sêl,

G G

 

 

 

A page of a text

Description automatically generated

x438

A'i ddyrnaid o filwyr, ar faes y trychineb Yn awr a wynebai — a deued a ddel.

Tynghedfen yr India Brydeinig oedd megys Yn hongian wrth finion ei fidog a'i gledd: Efe a'i hadferodd a'r newydd cynhyrfus Oedd - India i Frydain, ond Havelock i'w fedd ! Do, do, fe gychwynodd yn fuddugoliaethus, O dref Allahabad i Lucknow fawr hynt, Gan ddryllio cynlluniau y NANA bradwrus, A gwasgar ei gedyrn fel ûs gyda'r gwynt. Lluosog oedd nifer y rhwystrau a gafodd,

Di - rif y peryglon amgylchent ei ffyrdd; Er hyny, â'i ddyrnaid o filwyr, fe chwalodd Y gelyn, yr hwn oedd a'i rif yn fil - myrdd; Eu heirf a'u cadoffer a ddygodd yn yspail, Chwilfriwiodd eu caerau, datododd eu pyrth: Hen ddinas y Mogul adawodd yn adfail,

A'i hanes sydd debyg i ramant neu wyrth,

Efe oedd y cyntaf a gododd y gwrthglawdd, I droi y llifeiriant ofnadwy'n ei ol; Efe oedd y cadarn a wnaeth mor ddiansawdd, Uchelgais y bradwr a gobaith y ffol- A gipiodd yr India Brydeinig fel ' sglyfaeth, Fel oddirhwng danedd y Sepoy yn lân, Ac idd ei gydwladwyr a fu'n iachawdwriaeth Rhag gwarth, darostyngiad, a chleddyf, a thân. Efe wedi marw ! a ddaliodd, yn ddigwl, Ogoniant y dewrder Prydeinig i'r lan, Pan ydoedd cenedloedd y ddaear yn meddwl Fod Lloegr alluog yn dlawd ac yn wan? Tydi wedi marw ! yr hwn fuost fywyd

I'r dorf dynghediedig rhwng muriau Cawnpore, -

Yr hwn a arloesaist yr India o'i hadfyd,

O greig Himalaia hyd draethoedd y môr?

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x439 Daeth allan waelodion gwroldeb ei ysbryd, Pan gynt yr ymladdodd ar Faes Waterlŵ; Deonglwyd breuddwydion uchelgais ei febyd, Yn Persia, a'r Punjaub, a gwlad yr Hindŵ; Gwroldeb, ymroad, a dioddefgarwch

Yn ngwaelod ei ysbryd oe'nt gedyrn eu gwraidd; Cyfyngder, afiechyd, gornifer, dieithrwch, Nid oeddent ddigonol i ddiffodd ei aidd; Nid syched yr ymdaith i Kill a Puttolah, Nid newyn yr Indus, nid oerni Cabool, Nid ' stormydd y Bolan ataliodd ei yrfa,

Na throi fflam ei ddysglaer wroldeb yn bwl. Oedd yn mhlith y cedyrn a blanodd hen faniar Sha - Soojah - Ool - Moolk ar amgaerau Ghuznee; Llewyrchodd yn muddugoliaethau digymhar Erde - lenydd y Sutlej - coch - feusydd Moodkee, Chychwi gysegredig afonydd y Dwyrain- O darddell y Ganges hyd eithaf Rangoon- A wyddoch am fawredd gogoniant, a chydsain Ei fuddugoliaethau? - chwi glywsoch en sŵn ! Ond marw fu'r gwron a wnaeth y gwrhydri ! A'r newydd a d'rawai ororau'r Fam - wlad, Fel syndod y daran - pan oedd yn ymloni, A'i meibion, fil miloedd ar flaenau eu traed, Yn edrych a chyfrif ei fuddugoliaethau,

A thywallt cafodydd o fawl ar ei ben, A dysgwyl ei wel'd yn d'od adre ' rhwng torfau, A bloedd eu gorymdaith yn siglo'r holl nen. Da fuasai gan filoedd Caerludd gael cyfarfod Y gwron gorchfygol yn d'od ar ei hynt, I lan y werdd Dafwys, o froydd yr anghydfod, A'u mil - fyrdd fanieri yn chwyfio'n y gwynt, A'i arwain i fyny rhwng llu o gerbydau, Tan wyrdd - ogoneddus - fuddugol fwâu,

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x440

A'i roesaw'n mhob calon, a'i glod ar bob genau, Ac yntau gael einioes yn hir i'w fwynhau. Ond marw fu'r gwron, tra'r oedd y wlad eto Yn darpar y wobrwy deilyngodd ei waith; Ond of os ni chafodd fwynhau yr un hono,

Ca'dd arall, ragorach, ar derfyn ei daith. Gwas'naethodd ei frenin, ei wlad, a'i genedlaeth, Yn ddiwyd a ffyddlawn, yn ofn ei DDUW; O fewn yr un fynwes â'r milwr dewr, odiaeth, Caed hefyd yr arwr Crist'nogol yn byw.

Bu farw'r ysgolor, yr hwn y caed ieithoedd Y Dwyrain yn symud yn rhwydd dros ei fin; Bu farw'r dyngarwr, oedd lawn i'r ymyloedd

O grefydd, moesoldeb, gwybodaeth, a rhin; Fe ddysgodd ei fyddin i fyw mewn ufudd - dod I ddirwest, cyfiawnder, gwirionedd, a gras; Fe wyla ei fyddin yn llif uwch ei feddrod, Wrth gofio'i gyfeillach oedd beraidd ei blas. Saif Agra, ac eraill ddinasoedd y Dwyrain, Yn dystion o foes a dyhewyd y dyn; Can's yno y cododd ei demlau dirwestol, Ac yno pregethodd o bwlpud ei hun; Sain mawl i Dduw Israel, o demlau'r eulunod Yn fynych a glywid yn esgyn i'r nef; Ac allor a gododd i Dduw yn ei gwyddfod, Ac yno'r addolai, a'i wyr gydag ef.

Ni ddysgai ddyledswydd, ni chospai droseddau, Drwy gyfrwng y fflangell arteithiol ei chur; Ond of a gymhwysai ei holl argyhoeddiadau

At farn, a chydwybod a chalon ei wyr; Nid oedd yn ei fyddin na medd'dod na chabledd, Penrhyddid, na rhysedd, twng, rheg, nac un llw; Am foes a dyhewyd, prydferthwch, a rhinwedd, Ni throediodd ei thebyg uwch daear Hindŵ.

 

 

 

A page of a paper with text

Description automatically generated

x441 Ah ! filwyr, mae'n iawn i chwi wylo marwolaeth Un trosoch ofalai fel tad am ei blant;

A thithau, O, Brydain ! mae'n weddus dy hiraeth Ar ol y fath wron, dyngarwr, a sant. Aberthodd ei einioes ar allor gwladgarwch,

Fe syrthiodd yn ferthyr i ludded a gloes; Un llinell ysblenydd o gamp a gweithgarwch Yn llwybrau dyledswydd oedd ystod ei oes. Ca Alumbagh wel'd y pererin Prydeinig, ' Mhen oesoedd i ddyfod, yn troi ar ei hynt I ymyl ei feddrod i wylo ychydig,

A thywallt ei alar yn gymysg â'r gwynt ! Chy - chwi, O ! wylofus awelon, prysurwch

I draethu galarnad ei wlad uwch ei ben; A thriged fel ernes o'i dagrau a'i thristwch, Drwy'r dydd ar ei feddrod wlith santaidd y nen. Na sanged un Sepoy llofruddiog yn agos-

Ei fedd na haloged â'i droed yn un man; Can's tir cysegredig yw'r fan lle mae'n aros— Y ' smotyn dwyfolaf yn holl Hindo - stan; Na thorer gan daran y fagnel ddifrodus,

Ar hûn a dystawrydd arddunol ei fedd; Ac megys ei feddrod boed India gythryblus Fyth mwyach yn fangre tawelwch a hedd.

Y DYN

HAELIONUS.

FE ddysgodd fod gan gyfoeth, Heblaw ei hawliau drud,

Ei ddyledswyddau hefyd,

I'w gwneuthur yn y byd: Lles eraill nid anghofia, Wrth gofio lles ei hun; Mae llwydd yr hael ei galon Yn elw i lawer un.


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x442

ENGLYNION ANERCHIADOL

I'r Parch. M. Morgans, Llywydd Eisteddfod Treforis,

Yn yr hon y bu yr Awdwr yn fuddugol ar y " Bryddest ar Fuddugoliaethau y Meddwl Dynol ar Natur Allanol. "

YSBLEYNDD was a blaenor - yw'n MORGANS,

' Mhob mawrgamp, a rhagor;

Yn llys beirdd deallus bôr,

Ac angel yw'n mhob cynghor.

Ac heddyw y cyhoeddir - ei rinwedd, —

Mae'n taranu'r frodir;

Ei enw ef, ar awen wir,

Yw dadwrdd y Deheudir.

Chwarau trwy furiau Treforis, - seinio'n

Ei syniad a'i h'wyllys— Troi'n llawen ar ben pob bys Mae ei foliant twym - felus.

IFOR law - egor, a'i logell - yn dweyd. Mwy na dawn ysgrifell;

Ei enw mawr a'i air ai'n mhell,

Ond aeth a wnaeth yn wyth - well. Torodd Eisteddfod dirion - Treforis

Trwy ei fawr ymdrechion,

A'i ymgeledd twymgalon,

B

Yn wawl dydd drwy'r holl wlad hon.

Arweinydd pererion, - rhyw nifer,

Un

Tua'r nefol Zion;

ᎩᎳ eilw annuwiolion

Yr oes ddwl at orsedd IôN.

Yn ei urddau, un harddach - ni welir, -

Mae'n lili mewn dreiniach;

Os gwyn ei wisg a'i wên iach,

Ei oes a'i enw sy ' wynach.

 

 

 

A page of a book

Description automatically generated

x443 Hyd batriarch oed boed byw - y duwiol sant,

I leshau dynolryw;

Hyn a wyddom, a wneddyw

Drwy ei oes - gwas Duw IÔR yw.

ENGLYNION

A gyfansoddwyd ar ymweliad DEWI WYN, CYNDDELW, TALHAIARN, CUHELYN, TEILO, & c., â'r Parch. D. HOWELL ( LLAWDDEN ), yn amser un o Eisteddfodau'r Feni, a phan oedd yr olaf yno yn yr ysgol, a chyda pha un y cawsant fwyd a llety am y cyfamser.

TALHAIARN.

O LUNDAIN, yn nghyflawnder - ei ddoniau Dyddanus, doi'r ffraethber DALHAIARN - yn frawd i lawer, -

I fan y beirdd, y Feni bêr.

Mae TAL yn glod i Gwalia; —ei dafod Difyr sy'n chwareufa

Athrylith fawr, ni threulia Dro hir fel cyflawnder ha '.

Un ydyw'n llawn hynodion; - ar ei drem

Ceir drych o'r hen Frython;

Un o fryd llew, yn frawd llon- Oen gwylaidd yn ei galon.

Ei hyawdledd sy'n hedlif, - a'i awen Fyw fel llangces heinif,

A'i feddwl gloew'n llanw fel llif; Daw o'i waelod fel dylif.

Iawn gwyr y Saesonaeg wen, - mewn synwyr,

Mewn sain, ac mewn acen;

Trwy ddwyiaith traidd ei awen

Yn hawdd fel awel drwy'r nen.

Derwyddfardd, cawrfardd cywirfarn, - - parchus Perchen meddwl cadarn,

Chwaeth, gwybodaeth, a barn, - heb hunander, Tu hwnt i lawer wyt ti, ' n TALHAIARN,

 

 

 

A text on a white background

Description automatically generated

x444

Ai ' n fud ein Histeddfodydd, - dilewyrch, Heb DALHAIARN wawdrydd;

Rhyw swyn yn ei ffraethder sydd, A ddoda bawb yn ddedwydd.

LLAWDDEN.

A all eiddil i LLAWDDEN - rhoi haner Clod ei rin diamgen?

Ni ddaw fy nychlyd awen

Byth, byth, a'r gorchwyl i ben.

Drwy rad wahoddiad o'i eiddo, —a'i wen Wraig wâr ( pwy'n well hono? ),

Wyth o honom aeth yno, -

Wyth fardd oe'm wrth ei fwrdd o '.

Ei ddewis fwyd a'i ddiawd, - ei wely,

A'i aelwyd, a'i wasawd, Gawson yn wir, a bri'r brawd,

Deirnos a thri diwarnawd.

Dywasgu'r oedd i'n dysgwyl, - a'n tywys

Tua'i faethog breswyl,

Lle yr oedd, i wella'r hwyl,

Rhywiog wênau'i wraig anwyl.

Bellach, rhagorach ryw geirdd - ga i'w hawl;

A gelwir gan brif - feirdd

Ei dŷ ef - medd deheufeirdd--

Trwy y byd, yn llety'r beirdd.

Bardd yw ef, a bri ei ddysg — yn uchel

Ymdrecha mewn llênddysg;

Dyn mawr yn codi o'n mysg,

Yw LLAWDDEN, yn llyw hyddysg.

Llwyddiant yn mhob lle iddo - a’i wraig lân,

Rhagluniaeth a'u noddo;

A hil fyth o'u hol a f'o,

A hael iawn fo'r hil hono,

 

 

 

A black and white page of a poem

Description automatically generated

x445 CYFARCHIAD I'R PARCH. R. ELLIS ( CYNDDELW ).

ELLIS ! os iawn yw holi, - dywed im ',

Wedi d'od o'r Feni,

Ac enill bron bum ' gini,

P'odd yr wyt? sut ydwyt ti?

Awdl - Farwnad

I'R GWIR ANRHYDEDDUS JOHN NICHOLL, D.C.L., A.S., O'R MERTHYR - MAWR.

BU FARW YN RHUFAIN.

Ow ! Rufain ! Rufain ! wyt air o ofid I lawer heddyw ! - fe wyla Rhyddid, A Hedd alara, a Rhinwedd loew - wrid: Ac onid yw ein cwynion,

A'n gofid ninau'n gyfion,

Tra ceir yn mhlith dy feirwon Un gaid o enaid union,

A chalon ddifrycheulyd,

Fu'n araf

yn ei eiriau-

Gwiwdeg mewn ymddygiadau- Eiddiog mewn dyledswyddau, A diau mewn dyhewyd?

Ow ! mor fud ei dramor fedd ! - - amddifad A llwm iawn o gariad yw'r lle mae'n gorwedd, Heb Gymro yno'n unwedd; - O, na's caid I roi ochenaid goruwch ei anedd !

Rhufain ! y ddinas ryfedd

Sy'n estyn seithfryn yn sedd Danat, - 0, bydd yn dyner - o'i fedd gwyl; Nefoedd gâr dy fwynder;

Ti gai hefyd dy gyfarch

A mawr barch o Gymru bêr.


 

 

A black and white text

Description automatically generated

x446

Os ef ni charai'th grefydd,

Na phob erthyglyn o'th ffydd, Na foed cydwybod yn fai, - Fe garai dy fagwyrydd.

Dyn i ddyn, dyna oedd ef-

Dyn i Dduw yn dwyn ei ddelw, — Dyn yn awr ar dwyni nef,

Heb rwd y glyn, yn ysbryd gloew.

Hewydus Gristion ydoedd,

A gloew sant o'r Eglwys oedd.

Ail tônau'n ddiorphws i'r Eglwys oedd treigliad A chwydd ei haelioni, a'i serch, a'i ddylanwad.

Hon oedd ei Fryn Seion, lle'n foreu neshaodd At allor ddihalog - y Tŷ lle'r addolodd Ei Dduw cu, drwy IESU; lle hefyd'r arosodd Yn dyn ei reffynau hyd oni orphenodd.

Efe gyrhaeddodd uchelddysg raddau, O'r Ysgol i'r Senedd - sedd a swyddau, Drwy ei ddysgeidiaeth helaeth hawliau, A thirion haeddiant Saith o rinweddau * Ond iraidd a gwylaidd athrylith ei galon, A'i allu i garu, oedd prif berl ei goron.

Pwy, yn amser y Geri, + Wnai'n hafal drwy'n hardal ni? Arswyd, achreth, brys, dychryn, A gwasgfa'n dala pob dyn ! Ond NICHOL ddyngarol, gu,

Y pryd hwn, beb raid denu,

O anedd i anedd ai,

At y claf hwnt - acw lefai;

* The Seven Cardinal Virtues. + The Cholera Morbus,

 

 

 

A black and white text

Description automatically generated

x447 Gyru meddyg, rhoi moddion, ―rhoi wedy'n

Anghenrheidiau ddigon,

Oedd i bawb - dibrisiaw, bron,

Yn ei sêl, einioes ei hun,

I noddi'r tlawd yn eiddun.

Hwylus y troai at lais y truan,

A'i ddôr f'ai'n agor wrth lef un egwan: Y mae Merthyr - Mawr yn cofiaw'r cyfan O'i ragoriaethau, mewn mawr gur weithian, Noddodd a thywysodd Gymdeithasau Tirion i dlodion, a sefydliadau

Er lles y gweithwyr lluosog, hwythau, - Rhai er gwasgar i anwar filiynau Diofal byd y Dwyfol wybodau;

Mawr oedd ei lafur, medd myrdd o lefau, Er llwyddo addysg drwy ei holl ddyddiau.

Aml, yr âwrhon, yw cedion dysgeidiaeth; Cry ' yw clau ffrydiau yr offeiriadaeth, Yn Merthyr - Mawr, wedi'i erfawr arfaeth Ei gariad agor yn greadigaeth.

Uniawn oedd ef fel Ynad, - - a gwron Teyrngarol yn wastad.

Ni welwyd ei lwysach yn Nghadair gwladlysoedd; Cywirfarn, un cadarn yn ngwaith y fainc ydoedd; Treiddgraff fel seraph - yn llawn o drysorau Pwyll, doethder, a chleuder ar gylch o alwadau.

Llafuriodd nes nychodd o blaid Rhyddfasnachaeth; Ond daliodd, a gwelodd awr lon buddugoliaeth.

Fry, fry, y treuliai, ' n gyhoedd - a diwyd. Ei holl fywyd mewn prif sefyllfaoedd.

Cyfiawnder, trugaredd, gwirionedd, gwiw rin, A wilient byrth mawrlles ei fynwes a'i fin;

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x448

Ddysgleirient yn hyfryd ar hyd ei weithredoedd, Fel gemau'n mreichledau merch wiw o oludoedd: Wehynent i'w urddau ogoniant a harddwch, Wnae'n ddiwedd ei einioes yn wên o ddyddanwch, — Sy ' weithion o amgylch terfyngylch ei fedd, Yn gwisgo'i dywyllwch â harddwch a hedd.

Un mawr iawn oedd, ond marw wnaeth I weled anfarwolaeth.

CHARLES O'R BALA,

A SEFYDLIAD Y BIBL

( CYFIEITHAD. )

GYMDEITHAS.

YMDEITHYDD ! byth os heibio Llyn Y Bala'r ai, dwg gof bryd hyn, Am CHARLES, yr hwn fu yma'n hir, Mewn llafur dwys ar faes y Gwir-

Ef gododd y Sefydliad drud Sy'n anfon Biblau dros y byd; Un boreu ( can's adwaenai'r sant Ei holl wrandawyr - hwy a'u plant ) Cwrdd wnaeth â phlentyn Ysgol Sul, Ac i'r un fach gofynai'n ful, * " Fy anwyl ferch, a wyddoch chwi, Pa adnod oedd fy nhestyn i, Foreu ddydd Sul, ddiweddaf dro- Neu a aeth hyn yn llwyr o'ch co '? " ' Be hithau, gan och'neidio'n ddwys, A'r deigryn yn ei llygad llwys, — " Nis gellais, Syr, gan hin mor laith, I wel'd fy Meibl, fyn'd i'm taith, Er chwilio'r wers na'r bennod chwaith; " Can's nid oedd Bibl idd ei gael

Gerllaw'n un man, a hi'n rhy wael

* Modest.

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x449 Ei hiechyd i fyn'd ar ei thaith, I'w geisio ef rhyw bellder maith, Mewn gofid dwys y clywodd hyn, Can's gwyddai fod y Biblau'n brin, A phenderfynodd dreio'n awr I lenwi hyn o ddiffyg mawr; A chan gyhoeddi'r prinder ga'd Am Fiblau yn ei anwyl wlad, Aeth i Gaerludd, a'r grasol lu Oedd yno yn ei wrandaw'n gu, Gydgynlluniasant oll i gael Biblau Cymreig i Gymru'n hael— Yn nesaf i holl Loegr gun— Ac wedi'n, pawb o deulu dyn.

Ah, Fala ! ' th fraint yn fawr a fu Yn mhlanu'r dwyfol bren y sy ' A'i ddail yn llawn iachâol rhin I'r holl genedloedd, clwyfus, blin- Fel Beth - le - hem, wnaeth eni'r hwn Sydd yn bendithio'r byd yn grwn. Ah, SIARLS ! o galon gyda thi, Gwnawn gadw'n Bibl - jubili.

DYDDIAU MABOED.

WYF weithiau'n troi fel yn fy ol, I edrych ar y mwynder fu; Ac, O mae'r olwg megys dôl Flodeuog rhwng y twynydd cu.

Llewyrchwn fel y boreu llon,

Chwareuwn fel yr oenig lwyd, Heb ddim i'w gofio dan fy mron, Ond cofio am fy mrydiau bwyd.


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x450

Wyf hoff o'r graig, a'r twyn, a'r pant, A'r llwybrau cul drwy'r dyrys goed, Lle, mewn ufudd - dod i rhyw chwant, Y sengodd fy ieuangaf droed.

Mae'n fil melusach geny'n awr

Rhoi tro hyd lwybrau boreu foes; Nag edrych rhwysg dinasoedd mawr, Cywreinrwydd celf, a gwychder moes, Y mae rhyw bresenoldeb syn- Rhyw ysbrydolrwydd cryf ei hynt, Byth yn cylchynu'r llwybrau hyn— Fy nhemlau addoliadol y'nt.

Mor anwyl oedd pob ' smotyn bach— Mor lawn o bob prydferthwch byw, Lle rhodiais gynt â chalon iach,

Ond heddyw'r mwynder hwn nid yw.

Nid oes yn awr ond gweddill gwan O'r hen ddedwyddwch hwnw'n stôr; Prin yw'r llawenydd sy'n fy rhan— Gwreichionen fach rhwng tònau'r môr.

Pa beth yw'r mawr ddadfeiliad sydd

Yn mhlith teimladau'r fynwes hon, —

Nid mwyn yw'r nos - nid tég yw'r dydd- Mae'n cwympo'i maes â phobpeth, bron?

Rhyw gwyno'n awr mae'r awel drom, Rhyw wylo y mae'r gwynt a'r lli ';

Mae anian oll yn traethu siom, Wrth fyned heibio'm calon i.

B'le aethoch, ddyddiau dedwydd gynt? O, na chawn eilwaith wel'd eich gwawr,

A theimlo'ch tangnefeddus hynt

Yn symud drwy fy mron yn awr.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae’r llyr I weld yn Google Books:

https://play.google.com/books/reader?id=ObIYKxYVDi0C&pg=GBS.PR4&hl=ca

 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː 
 B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː 
i̯, u̯
CROMFACHAUː 
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG: ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / y Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »

 
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org
httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 Hwngarwmlawtː A̋ a̋
g
w_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: 
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_01_3946k.htm


---------------------------------------
Creuwyd:
Adolygiad diweddaraf:
01 02 2002 08-11-2023
Delweddau:

Ffynhonell: archive.org
---------------------------------------

Freefind.
---
Archwiliwch y wefan hon
Cerqueu aquest web
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
Estructura del web

SITE STRUCTURE
---
Beth sydd yn newydd?
Que hi ha de nou?
WHAT’S NEW?


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

StatCounter - Free Web Tracker and Counterhit counter script

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats

 

Diben y gwefan hwn yw bod yn ddolen gyswllt rhwng Cymru  a’r Gwledydd Catalaneg, gan roi gwybodaeth ar iaith a diwylliant Cymru i siaradwyr Catalaneg, a gwybodaeth am yr iaith Gatalaneg a’r Gwledydd Catalaneg i’r Cymry Cymraeg. Y Gymraeg  a’r Gatalaneg yw prif ieithoedd y gwefan. Mae rhai o’r tudalennau wedi eu trosi i’r Saesneg ac i ieithoedd eraill.