3947k Gwefan Cymru-Catalonia. CEINION ESSYLLT. Sef Rhai o Brif Weithiau Barddonol a Rhyddieithol Thomas Essile Davies, neu Dewi Wyn o Essyllt, Dinaspowis. Caerdydd. Argraffwyd gan D. Duncan a’i Feibion. Yn Swyddfa y “South Wales Daily News.” 1874.

 

09-11-2023 18.30

 

0001 Y Tudalen Blaen Google: kimkat0001

..........2657k Y Porth Cymraeg Google: kimkat2657k

....................0009k Y Barthlen  Google: kimkat0009k

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) Google: kimkat096k

 

 

............................................ www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_dewi_wyn_o_essyllt_01_1272k.htm CEINION ESSYLLT: Y PRIF DUDALEN

 

A red dragon on a green and yellow flag

Description automatically generated
..

 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

 Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

CEINION ESSYLLT
Sef Rhai o Brif Weithiau Barddonol a Rhyddieithol Thomas Essile Davies, neu Dewi Wyn o Essyllt, Dinaspowis. Caerdydd. Argraffwyd gan D. Duncan a’i Feibion. Yn Swyddfa y “South Wales Daily News.” 1874.

RHAN 4/4


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/



Beth sy’n newydd yn y wefan hon?



A map of the european continent

Description automatically generated

(delwedd 7419)

 

 

Tudalennau 1-150

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_01_3944k.htm

 

 

Tudalennau 151-300

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_02_3945k.htm

 

 

Tudalennau 301-450

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_03_3946k.htm

 

 

Tudalennau 451-588

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_04_3947k.htm

 

Detholion

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_detholion_3948k.htm

 

 

Y testun wedi ei gywiro  mewn llythrennau duon / el text corregit en lletra negra / Corrected text in black type.

Y testun heb eu gywiroi eto mewn llythrennau gwyrddion / el text encara no corregit en lletra verda / Text not yet corrected in green type.

 

 

 

 

 

 

 

A close-up of a letter

Description automatically generated

x451   DEATH OF GWEN FACH.

Ond dianc wnaethoch arna'i ' n llwyr,

A ffoi i wlad dragwyddol bell;

'Rwy'n gwel'd yn awr, ond gwel'd rhy hwyr,

Mae chwi oedd yr "Amseroedd gwell."

 

THE DEATH OF " GWEN FACH. "

( A LETTER. )

THIS black - edged sheet * will, in all human probability, lead you to ask, " Who is dead ? " In anticipation I must answer, with sad heart, GWEN FACH, my little daughter, after two days ' illness. On Friday, the 4th inst., I got a telegram to come home at once; arrived at noon, to find my darling child unconscious to all around her externally, but inward pain - a brief struggle between the human and spiritual. God had sent his messenger for her to come home, that a golden harp was awaiting to be attuned by her tiny fingers. From 2 p.m. till 5, she suffered much, when a change took place. Her full, dark, love - beaming eyes had been turned up towards Heaven, as if imploring to be let loose from a house of clay, and to be on the wing for eternal joy, dimmed their usual aspect for a few moments. The heart of a father was gladdened to see the little sufferer at rest, but all hopes of my child's recovery was gone soon. I but too plainly saw that death had gained an earthly victory, and that another Floweret had been planted in Paradise, or soon would be. At 8 p.m., GWEN FACH was ours no more; her mission on earth had been completed; a brief struggle, ending in calm and placid repose - reminding us very forcibly that we are only here for a time and for a purpose. Though she was but 4 years old when death turned a sweet, lively, and loving child into a cold, marble - like form, I see in her brief existence and departure a terrible warning to be ever ready to answer the call. We were five, and are still, in cherished me- mory; but there is a vacancy in the family circle never to be filled by GWEN FACH. I often fancy as if her spirit was hovering about me, saying, ' Father, I am only gone before you; there is yet room in heaven; follow me. Mother, you take comfort; trust in God; you will meet me again; present trials and sorrows are only the necessary means to fit you for the heavenly home; be ready ! " What an awful theme for deep contemplation and medi- tation is this death - the vestibule we flutter in its porch for a moment, then we are gone ! Where ? Ah ! my friend, could we but walk along the path, though narrow, is yet sure to lead to eternal felicity and rest. Adieu.

66

* The black edged sheet of the letter.

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x452

(x452)
CYNYDD MASNACHOL CAERDYDD
O, GAERDYDD! mae’th fasnach ddrudfawr,
Yn eillwydd a’i chynydd dirfawr,
Yn rhyw phenomenon synfawr;
Wele, ’i gorawr gain,
O Benarth hyd afon Rhymnai,
Ae o Longborth Bute hyd Elai,
Yn un fasnach fawr a didrai;
Oni chlywch ei sain
Yn esgyn o’i phorthladdoedd,
Ei rheiffyrdd, a’i hystrydoedd,
Yn ysgwyd, siglo, taro’r tir,
O’r bryniau i’r wybrenoedd.

Hawdd y cofia ein henafgwyr
Sut y dygid haiarn Merthyr
Mewn certwyni gan y gyrwyr,
**’Lawr i dref Caer-dydd {sic}:
Nid oedd son bryd hyn am gamlas,
Reilffordd, llongborth, nac am urddas
Llawer maelfa, bwth, a phalas,
**’Nawr o’n cwmpas sydd;
A chofiant y diwrnod,
Pan drefnid meirch a mulod,
I ddwyn y glo i lawr i’n bro,
Ac lawer tro mewn trallod.

Y mae cynydd ei masnachaeth
Wedi amlhau’r boblogaeth,
Gyda hyn ei thai a’i thoraeth
Aeth yn helaeth iawn;
Ymestynodd ei hadenydd,
A’i ystôr o’r môr i’r mynydd
Chwydda mewn maintioli beunydd,
A defnydd pob dawn:
 

 

 

 

x453 (x453) Aeth Canton, bentref bychan,
Yn dref oludog lydan;
A’r Crockherbtown, drwy’r meusydd noeth,
Hyd at y Roath dry weithian.

Llai nag haner cant o flwyddau,
Ni chaid, tu draw Porth-llongau,
Ond yn awr maent yn glysdyrau
Hyd ymylau môr;
Ei phorthfâu a ymestynant,
A’i ’storfeydd a luosogant,
Ai masnachdai mewn gogoniant
A safant ddôr wrth ddôr;
Bryd hyn ni chaid i chynil
Drigolion braidd yn ddwyfil,
Ond hwy drwy glau, fawr amlhau,
Yn’t heddyw’n ddau ugeinmil.

Y mae treigliad araf oriau
Deg ar ugain o flynyddau,
Wedi gwneuthur rhyfeddodau
Mawr yn Nhref Caerdydd.
Dacw Gamlas Mawr Morganwg
Wedi gwiwlan dd’od i’r golwg.

Dacw Rheilffordd Tâf yn amlwg
Er ys lawer dydd
Ac dacw Reilffordd heinif
Deheudir Cymru difrif,
Yn dwyn i mewn o nwyddau mad
Y ddwywlad iddi’n ddylif.

Wele’r llongau fel coedwigoedd,
Yn ymdoi ei holl borthladdoedd
Fe fasnacha’r holl genedloedd
Yn ein bryniau ni.  

 

 

x454


(x454) Damsang braidd, Gaerdidd dirion,
Wyt ar sawdl Tyre a Sidon,
Mewn masnachaeth fawr a chyson,
Cyfoeth, llwydd, a bri;
Dy lô a’th haiarn gynau,
O’ent ganmil o dunellau;
Ond gwerth y rhai’n a aeth cyn hir
O’r miloedd i’r myrddiynau.

Mae’th sefyllfa, yn arwyddo,
A’th ddaeareg yn cyd-dystio,
Yr estynir llawer eto
Ar dy derfyn di;
Ai â’r Morfa mawr yn gyfan -
Bydd Penarth a thithau’n fuan,
Megys glust yn nghlust yn yngan,
Goruwch tonau’r lli’;
Anturiaeth sy’n ymsymud,
O gylch Penarth yn esgud, -
Ei thai i’r lan o’r ddaear lwyd,
A gwyd fel bwyd y barcud.
 
Ceir clywed miwsig celfau,
A dawns masnachaeth hithau,
O gylch Penarth, lle nad oedd gynt
Ond twrf y gwynt a’r tònau;
Dacw’r Llongborth wedi’i gychwyn,
Dacw’r geillt yn cilio’n sydyn,
Dacw lunio pant a bryncyn
Yn wastadedd tlws.
Gaerdydd – Penarth - mae eich dyfodiant
Draw yn gwenu mewn gogoniant;
Mae amseroedd miwr eich llwyddiant
Bron ar bwys y drws.
 

 

 

 


(x455)
TELYNEG AR BRIODAS ARDALYDD BUTE A MISS GWENDOLINE HOWARD O GLOSSOP.
ARDALYDD BUTE enwog, gan bwy y mae bri,
O radd a theilyngdod yn debyg i ti?

Pwy hefyd mewn rhinwedd yn debyg i’r hon
Dderbyniaist di heddyw i’th fynwes mor llon?
Chwareued telynau, dadseinied y clych,
Poed hynt yr awelon, drwy goedwig a gwrych,
Yn gân a gorfoledd am undeb mor wych.
 
Cymreig yw ei henw - GWENDDOLEN fwyn, fad;
Nid rhyfedd ei gwel’d, ynte, ’n troi tua’n gwlad
Amgylcher ei llwybrau â bendith pob oes,
A boed fol ei henw mewn meddwl a moes;
Ar lan y Dâf loew boed farw, boed fyw,
Heb ddim ond hyfrydwch yn ngolwg a chlyw,
A’i serch ar ei theulu, a’i phwys ar ei DUW.

BUTE anwyl! nid heddyw yn unig yw’r dydd
A greaist i loni gororati Caerdydd;
Pob adeg o’th fywyd, pob diwrnod o’th oes,
Sydd destyn llawenydd, a theilwng o’th foes;
Mae ôl dy haelfrydedd tu fewn i bob dôr,
Tra’n estyn y ceir dy weithredoedd, fwyn bôr,
Yn llinell ysblenydd o’r mynydd i’r môr!

GWENDDOLEN! parch Glossop* - o’th hôl yn llif daen,

{*Cartref ieueuctyd y Briodasferch.}

A groesaw Caerdidi’n darandwrf o’th flaen;
A pharch ein BUTE, yntau, sy’n gwisgo pob llun,
O draethau Môr Hafren hyd Ynys* ei hun;

{*Ynys Bute.}

Chwareued telynau, dadseinied y clych,
Aed chwyth yr awelon drwy goedwig a gwrych,
Yn gân a gorfoledd am undeb mor wych.

 

 

 

 

A close-up of a document

Description automatically generated

(x456)
Pob llwydd a’u dilyno, a’u hâd fyddo’n fil,
Na weled Gwlad Forgan fyth dranc ar eu bil -
Ac, O! bydded iddynt, yn Nghastell Caerdydd,
Gyd-dreulio eu heinioes mewn cariad a ffydd!
Ar lan y Daf loew b’ont farw, b’ont fyw,
Heb ddim ond hyfrydwch yn ngolwg a chlyw,
A’u serch ar eu gilydd, a’u pwys ar eu Duw.

PRIODAS YR ARDALYDD BUTE A’R ANRHYDEDDUS FEISTRESAN GWENDDOLEN (GWENDOLINE) HOWARD, GLOSSOP.
Anerchiadau a argraffwyd ar y Bwäau ar Pilerau Celfyddydol a godwyd mewn gwahanol fanau yn Nhref Caerdydd, ar Ddydd eu priodas, Ebrill 16, 1872.

Hawddamor, BUTE! drwy wlad a thref,
Hawddamor, BUTE! hyd entrych nef,
I dreulio’th einioes bur i ben,
Dan g’lwm ac arno ddolen-wen.*

(*Dolen-wen h.y., Gwenddolen - enw y Briodasferch)

Hawddamor! can’s heddyw y decaf o bryd,
A’r haelaf o galon, a g’lymwyd yn nghyd.

Hawddamor, GWENDDOLEN! i fwyniant ein tref,
Cai wel’d fod ein calon mor ddidwyll a’n llef.

Hawddamor, BUTE anwyl! mor brydferth, mor llon,
Yw lili bro Glossop i’w gwel’d gylch dy fron.

GWENDDOLEN! tyr’d, groesaw! mae’n eiddot dri thwr, -
Dy Gastell* - ein Calon - a chalon dy Wr.

(*Castell Caerdydd.)

GWENDDOLEN fwyn! Cymreig yw’th enw,
Poed dy galon fel dy enw.

GWENDDOLEN fwyn! GWENDDOLEN fad!
Pob groesa’w it’ i Gymru wlad;
Mae’th enw cu’n Gymraeg glân, gloew,
Poed dy anian fel dy enw.

 

 

 

(x457)
Can’ groesaw, GWENDDOLEN, i’th newydd ddwy Stâd,
Sef calon dy Arglwydd a chalon ein gwlad.

Heddyw cydglymwyd gan Gariad a Ffydd,
Brydferthwch bro Glossop,* a Mawredd Caerdydd.

(*Cartrefle ieuenctyd y Briodasferch.)

ARDALYDD BUTE.

DYMUNIAD teirgwlad* it’, ARGLWYDD – CAERDYDD!
Ceir dy wel’d yn ebrwydd,
Yn neddf oedran addfedrwydd,
Yn aer llawn, ar bigdwr llwydd; -

(*England, Scotland, and Wales)

A’th gyfoeth yn dynoethi - ei allu,
Yn ei holl fawrhydi,
Drwy weithio’n hên draethau* ni-
Drwy linach - drwy haelioni.

(*Alluding to the Docks, &c.)

Doethineb gadwo’th enau; - Daioni
F’o’n dwyn dy serchiadau;
Addoliant dy feddyliau;
A DUW’r Nef i’th gadarnhau.

Rhinwedd, - yn naear hono - bo’th fonedd, -
Bo’th fynwes yh ffrwytho;
A duwioldeb di-ildio,
Yn fawrodd i’th fawredd fo.

Ac eistedd di’n dy gastell - yn was DUW,
Nes del, ar daen asgefl,
Archangel NAF i’th ’stafell,
I’th hercyd i’r gwynfyd gwell.

Iechyd, y fendith uwchaf - yn natur,
Hon i’t a eiddunaf;

A bydded, dan nodded NAF,
Hir einioes it’, aer iawnaf.

 

 

x458

AWDL AR FERTHYRDOD STEPHAN.

Y CYNWYSIAD.

Yr Eglwys yn Jerusalem - Stephan yn un o'r saith arolygwyr ynddi - Teithi a chymeriad Stephan - Ei ddewis a'i urddo i'r swydd ddiaconawl, a'i ffyddlondeb yn y swydd hono - Yr Eglwys yn cynyddu - Stephan yn rhagori ar ei chwech cydwas mewn gwyrthiau, & c. - Yn pregethu yr Efengyl a chollfarnu Iuddewaeth - Yr Iuddewon yn anfoddloni - Y Libertiniaid, & c., yn dyfod i ddadleu ag ef Rhediad, agwedd, a chynwysiad y ddadl - Adnoddau dadleuol Stephan - Y Colegwyr yn llidio - Y gwirionedd yn enill ei bwnc - hwythau yn creuloni, ac yn gosod gwyr i'w gamgyhuddo - Yn rhuthro arno, a'i ddwyn i'r Sanhedrim - Y terfysg yno - Cynwysiad tystiolaeth y tystion am dano - Y Sanhedrim yn edrych i'w wyneb am euogrwydd; yn lle hyny, yn cael ei wyneb fel gwyneb angel, a hyny fel prawf o'i ddiniweidrwydd, & c. - Ond er fod gwirionedd Duw ganddo, delw Duw arno, ac Ysbryd Duw ynddo, ni pheidiasant a'i gamgyhuddo - Mai addoli yr un Duw â hwythau yr oedd efe, ac nad oedd yn erbyn y gyfraith, & c. - Cynwysiad ei bregethau a'i weinidogaeth yn gyff- redinol at yr Iuddewon - Stephan yn amddiffyn ei hun yn mhellach, ac yn olrhain y genedl o Haran hyd yn Nghanaan, gan edliw amryw o'u drwg- ymddygiadau iddynt Y Sanhedrim yn sori yn arswydus, yn ei regu, yn ysgyrnygu arno - Yntau yn ddigryn trwy y cwbl, ac yn troi ei wyneb tua'r nef -Y byd megys yn ei wrthod, a'r nef yn agoryd iddo - Ei weledigaethau nefol, ac yn eu hadrodd ar gyhoedd - Y Sanhedrim yn llidio waeth waeth - Yn rhuthro arno yn ddisymwth, ei gipio allan o'r ddinas, a'u hymddygiad tuag ato ar y ffordd - Cyrhaedd y man dienyddol - Diosg ei ddillad - Y tystion yn taflu y gareg gyntaf, yna yr holl dorf yn canlyn - Ei ymddygiad tyner a duwiol yntau dan y driniaeth chwerw, a'u creulondeb hwythau yn ngwyneb y cyfan - Ei farwolaeth, ei grefydd, a'i gladdedigaeth - Y galar mawr ar ei ol - Bod hyny yn awgrymu ei dduwioldeb, ei werth, a'i gymeriad yn ngolwg yr Eglwys.

EGLWYS IÔR, fel y glwys em - mewn gro llwyd,

Yn aros welwyd yn Jerusalem.

Yn hono STEPHAN unwaith Yn was oedd, yn un o saith, Yr hwn dros grefydd a roes I lawr ei wenwawr einioes; Megys pybyr ferthyr, fo I olwg byd wnaeth selio

Y wir dystiolaeth â'i waed- Arwyddodd hi â'i ruddwaed;

Llawn oedd o ffydd loyw ddyddan, Ac o lwydd yr YSBRYD GLAN.

Didwyll, heb ofni d'wedyd - ar unwaith

Y gwirionedd tanllyd,

Ni allai bar na thwyll byd O safle'r gwir ei syflyd,

 

 

x459

Ei ddewis o gwbl wnai'r holl ddysgyblion I'w ddawn - eneinio, a'i ddwyn yn union Wnawd, a gosawd yn ol defod gyson Arnaw bwys dwylaw yr Apostolion; A bu drwy weddi wybod arwyddion Boddlondeb o wyneb Duw a dynion; Y'ngolwg pur angelion, -b'le bellach Y mae gwas tecach megys diacon ? Ei ddylanwad foddlonai Bawb ond cenfigen a bai.

Yn y dêg " weinidogaeth - feunyddiol, " Fe weinyddai'n helaeth;

Ond ar ol cyfiawnder aeth, -gan drafod Drwy gydwybod uwchlaw pob drwgdybiaeth.

Ef a wyliai â mawr ofalon

Ar borthi a digoni'r gweinion,

A rhoi taliadau'n mhilth y rhai tlodion;

Efe roi hefyd iawn gyfrifon

A gaid o'r eiddo, a'r holl gydroddion; Ni fu ychwaneg o fai a chwynion,

Neu gyhuddaw'n nghylch y gwragedd gweddwon, Caid o'r blwch degwch i bawb a digon; Groegiaid â llygad llon - edrychasant, Hoffi a wnaethant ein STEPHAN weithion.

Yr Eglwys ' nawr a dreiglai - yn ei llwydd, Yn llif mawr y chwyddai;

Rhyw ffrwd hir o'r Offeiriaid ai — at hon, I'w gyrfa'n afon gref, gref y nofiai.

STEPHAN oedd was da'i effaith - a churai

' R chwech arall mewn mawrwaith: " Llawn oedd o ffydd, " ffydd a ffaith Yn ei phrofi â phrifwaith.

 

 

 

x460

Llawn o " nerth " holl anian oedd, —yn ufudd

I'w nefol alluoedd:

Gwnai iawn wyrthiau gan nerthoedd - diamau, A rhyfeddodau, -arf ei DDuw ydoedd.

Pregethai, egorai'r gair

Beunydd, yn wyneb anair.

A'i DDUw eilwaith a'i harddelwai, —y groes Yn ei grym ddysgleiriai: Iuddewaeth a dduai, -a'r Iuddew syn O feddwl hyn a lwyr anfoddlonai. Yn eu bâr taniai y Libertiniaid, Ac ar unwaith brochai'r Cyreniaid; Drachefn, yn undrefn, yr Alexandriaid Gerllaw a wgent â gwawr eu llygaid, Yn dew o elyniaeth - delw eu henaid: Rhai o Cilicia yn ddig melldigaid, Ereill o Asia'n ddiraid - oedd yno, - Oll yn eu herio fel hyll anwariaid. Cilwgai y Colegwyr, -ac wele ! O'r pum Coleg mygyr, Hyawdl, ëon ddadleuwyr, -

Pum plaid - nid dyrnaid o wyr, -

I'w erbyn yn ymddarbod,

Ac un dydd dacw hwy'n d'od,

I gad yn ail i gedyrn,

Fel y teirw neu'r ceirw'n troi'u cyrn,

Ac arnynt awydd cornio,

O ! ' r awch oedd i'w drechu o ' !

Dadl fawr wedi deol fu,

A rhwydd ateb o'r ddeutu:

Y colegawl ysgoleigion - daerent

Bron ar dori calon,

Weithiau aent i annoethion - nwydau drwg, Llidgar olwg, a geiriau lled greulon.

 

 

x461

Olrhain wnaent urddasolrwydd, -a gwreiddyn,

A graddau santeiddrwydd

Crefydd MOSES, lles a llwydd - eu teml faith, A'u diwall gyfraith, bron hyd wallgofrwydd.

STEPHAN ei hunan yno - yn eu mysg Oedd yn moesgar wrando,

Ac ateb pob pwnc eto,

Yn ei drefn ac yn ei dro.

Ni wyddent hwy am adnoddau - STEPHAN, Nad oes diffyg doniau

Ar ddyn a roddo'i enau - a'i galon Yn llaw Iôn i ddwyn ei gynlluniau.

STEPHAN enwog, o'r dystaw ffynonau Dwyfol, yn wrol sugnai'i eiriau,

A thrwy'r offeiriadaeth rhuthrai'r ffrydiau Yn lli ' mawr nerthol, nes hôl ei seiliau, Grym y llifeiriant grymai wâll furiau Iuddewaeth serfyll - aeth hon yn ddrylliau: Llawer a siomwyd, a thwyll - resymau Y dyfal awdwyr dorwyd fel edâu, Gwyw a diobaith aeth eu gau - dybiau: y ddoethineb a ddaeth o enau STEPHAN, a'r anian oedd gyda'i riniau, Fel tan fflamllyd o hyd i'w teimladau; Yn hwy ni allasant ddwyn holl loesau Y dylanwedydd, na dal eu nwydau; Gwawdient mewn ymddygiadau, ―gwanc y bedd ! Am ddialedd a lenwai'u meddyliau.

Bu

Ar er enill o'r gwirionedd - ei bwnc, Ni bu wiw drwy symledd,

Gan ragfarn gadarn ei gwedd - ymostwng, Eithr ymollwng i waeth rhyw amhwylledd,

 

 

 

x462

Disymwth, wedi siomiant - fe egyr Cenfigen ei dwyfant;

Ac ar frys dengys ei dant; Ni all oddef un llwyddiant !

O achos cael eu trechu, Hoffen ' gosp ar STEPHAN gu ! Gwyr bas a osodasant I sâl gamgyhuddo'r Sant; Y werin a'r henuriaid, A gwyr y gyfraith a gaid, Bawb a'u henllib o unllef Yn cychwyn i'w erbyn ef.

Arno cwympo wnai cant, -yr un orig Yn eu dig pwysig hwy a'i cipiasant,

I'w ddwyn i'r Sanhedrim ddig, Mal hyn, drwy lais mileinig; Ac yno y bu cynhwrf

I'w mysg, a therfysg a thwrf, A lladd ar bob trefn yn llwyr, Dros enyd, draw i synwyr; Ond gosteg wnaed, ac eistedd, A bu dystawrwydd y bedd, A chododd ' mhen ychydig

Y creulon audystion dig, -

I'w gyhoeddus gamgyhuddo - yn gwbl O gabledd amrosgo; Cywilydyus gelwyddo

Fuwyd am ei fywyd o !

Beio waethwaeth gan obeithio - llwyddent

I weled lladd arno;

Lladd, ac nid llai iddo,

I'w nawter hwynt wnai y tro.

 

 

x463

Meddynt, - " Mae'n drwm ei oddef I'n mysg, ni a'i clywsom ef, ( Waradwyddus wr didduw, Yn ben dant yn erbyn Duw A MOSES gynhes, y gwr Oedd fawreddog ddefroddwr, ) Yn d'wedyd cabledd didaw,

A'u mathru hwynt yma ' thraw !

Yna'r gwyr, yn fawr eu gwg, -edrychent, Wedi'r achwyn amlwg,

' Nawr, i weled pa ryw olwg

Oedd ar drem y cableddwr drwg !

Ai nid euog - ddyn ydoedd ?

Neu dêg wr dieuog oedd ?

Ha ! ' n lle hagr hyll euogrwydd, -o'i wyneb Tywynol santeiddrwydd

Ddysgleiriai'n ddisigl arwydd— ( O, ' r fath ddrych ! ) O DDuw yn edrych i'w diniweidrwydd.

Trem oruchel angel oedd—

Cysgod y DUWDOD ydoedd; -

Llewyrch, yn brawf i'r lluaws, -o iawnder A glendid ei achaws, —

O Nef - foddlonrwydd a naws - ddiniwaid Ei galon ganaid a'i enaid hynaws.

Ie, er fod i'w gryfhau - hyawdledd, A da wirionedd Duw ar ei enau,

Er fod hefyd Ysbryd Iôr Hyd yr eisiau'n ei drysor,

A gloyw ddelw ei DDUw - mewn gwyl burdeb,

Ar ei wyneb, eto yr annuw

Ni pheidiodd ( ffei ! ffei ! adyn ) A dwys gam - gyhuddo'r dyn;

 

 

 

x464

Y dyn ëang, diniwaid, Y gwr haelfrydig a gaid, Yn addoli yn ddilyth

Yr un Duw byw, wrendy byth Drist gwynion blinion eu blant, A'u gweddi pan y gwaeddant: Ac i'w enaid yn gyneddf Caid rheol y ddwyfol ddeddf; Nid oedd yn ei herbyn hi, Nage'r oedd yn gâr iddi, Yn wych ef a'i dyrchafai Fel moesol reol i'r rhai A garant DDuw a'i goron, Ei ddelw wir a ddeil yw hon; D'wedai nad yw'n rhoi bywyd, Na balm at glwyfai y byd,

Ac fod ei gofod rhy gaeth - i anian Enill haeddedigaeth; Hyderus iachawdwriaeth

O Douw drwy'r efengyl ddaeth.

Bod rhinion dawn hon nid yn unig - rodd

I'r Iuddew breintiedig,

Eithr yn syflyd hefyd i

Gyrhaeddiad Groegwyr eiddig:

Bod trefniant gwelliant pob gwall, Bod dôrau'r bywyd arall,

O led y pen, er's enyd,

I bawb o genedloedd byd;

Eu denu wnai yn dyner, -a'u hanog O'u hunan - gyfiawnder,

I rodio, a rhoi'u hyder - yn berffaith, Ar ras a gobaith yr IESU gwiwber.

Hyn ydoedd yn gyhoeddi — yn Salem, A'i sêl ynddo'n llosgi;

 

 

x465

Dyma'i frad - a dyma'i fri, Ei ogoniant a'i gyni.

Hyn oedd, mae'n syn ei addef, Eu bloedd hwy, a'i gabledd ef ! Ac yna STEPHAN, pan y dybenodd Ei gamgyhuddwyr a'i wawdwyr, gododd I ddewr amddiffyn ei hun, a lluniodd Rymus araeth, a'r Sanhedrim sorodd.

Amddiffyn rhyngddyn ' yn rhwydd - wnai o'i ing Efengyl ei Arglwydd,

A'i wiwdrem ddiniweidrwydd

Ei hun, yn gun yn eu gwydd.

A'i araeth faws, pe cawsai Yn fwyn ei gorphen, heb fai, Un bur dlws briodol oedd- D'wedyd trwy'r ysbryd ydoedd:

Rhwygai'r araeth ragorol - eu mynwes, Fel min cledd angeuol; Mileinig wau'n mlaen ac ol Oeddynt yn annyoddefol.

Llid, ac euogrwydd nid llai, Ar unwaith a'u trywanai:

Herwydd eu rhagfarn gref a gollfarnodd, A'u balchder a'u gau hyder ergydiodd, A'u cyndyn ddeddfoldeb wrthwynebodd, A'u hysgelerder lawer edliwiodd, O lawer hanes fe a olrheiniodd Y genedl annoeth, ac a'i dilynodd O Haran i Ganaan, ac a gwynodd I'w gwrthgiliadau, a'u gwarth a gludodd, A'u heulun - addoliaeth a lawn ddaliodd O flaen eu hwyneb; Oh ! fel ennynodd

 

 

 

x466

Hyn eu bar, pob un à boerodd - arnaw, Gwneyd twrf fu ynaw, cyn y terfynodd. Nidri aeth drwy'r Sanhedrim,

Uchel dwrf, ni chlywid dim !

Rhai o'i ogylch yn ei regu — yn arw, Ereill yn ei gablu,

' Roedd atynt rai o'i ddeutu -- mewn gwylltedd A gerwin agwedd yn ysgyrnygu !

Yntau yn y corwyntoedd

Gerwin hyn yn ddigryn oedd, Troi'i wyneb tua'r wiwnef

Yn ddyfal, ddyfal oedd ef,

Heibio enllib a banllef - y Senedd, Oedd swyn dwyfol dangnef; Llawn o DDUW, a llon oedd ef, Hawdd oedd iddo ddyoddef.

A thra'r oedd y byd mewn gwyd a gwawdiau,

Yn taflu STEPHAN allan o'i gellau,

O'i flaen egordd nef - loewon gaerau

Er derbyniad i wr Duw o'i boeuau;

Ac o'r twrf gwelodd ei gartref golau, Lle uchel, nas dring nac ing nac angau; Saint ac angelion gwynion eu gynau Arno a wênent o'r dysglaer nenau; Arosent fel wrth ddrysau - llys nef gain, Er ei bêr arwain drwy'r byw ororau.

A gwelodd, ar wawr yr hoenfawr wynfa, Wêniad dwyfol ogoniant JEHOFAH, Megys y canaid a'r myg Shecinah Gynt a welid yn y Santeiddiola '. E ' a welodd ei wala - cymaint o DDUW a welodd a allai cnawd ddala.

 

 

x467

Ac ar ei ddeheulaw ef yn sefyll

MAB Y DYN welodd rwng sêr ne'n deryll; Të, o'i geinwedd orsedd yn ngwersyll

Nef, yn barod i orfod ei serfyll

Elynion duon, a'i ddwyn o'i dywyll

Orchudd o ddyoddefiadau erchyll,

Mewn rhwysg a grym, ar esgyll - saith angel ! O le y babel i'r dwyfol bebyll.

A chan orfoledd, tangnefedd, nwyfiant, Gai i'w enaid wrth wel'd y gogoniant, Ni allai atal ei ddyfal ddwyfant Rhag cyhoeddi, er bob drwg gyhuddiant, Y drem a welodd, gan dori moliant, Wele ! mi welaf yn yr uwchafiant, Y nef yn agored - claer ymlediant, A MAB Y DYN yn eistedd mewn ffyniant, Ar y ddeheulaw'n cael yr addoliant, Gwel'd dyrchu IESU, ' r hwn a laddasant, Ddaeth â'r cynghor i uchder ei soriant, Ow ! fleiddiau ysig, hwy a floeddiasant, " O ! gablwr trahaus ! " a'u clustiau gausant, Troi, gwylltu, brochi, annoethi wnaethant, Ysgwyd dwrn, a gwasgu dant, -arno ' drwm, Heb rith o reswm, hwy bawb ruthrasant.

Ac a'u bwriasant gydag aine brysiog, Yn ol y reol ar gablwyr euog ! Allan o'r ddinas llawn urddau enwog, A thrwy'r heolydd y rhuthwyr halog Wnaent ei wthio a'i ddirio'n gynddeiriog, Ereill i'w wawdio oedd yn orllidiog, A rhai i'w guro'n anrhugarog; Hwtio, gwawdio, bloeddio cableddog, Godwrf a chynhwrf, a phawb yn chwanog I ddyfetha y dyn da, dieuog !

 

 

 

x468

O ! Salem ! Salem ! wall - selog, -mae lli ' Gwaed dy brophwydi'n gwaeddi'n gyhuddog !

Mor hynod y mae'r annuw !

Curo dyn waith caru Duw !

Wedi dwyn STEPHAN allan o gelloedd Santaidd hen ddinas y byd hyn ydoedd Rhag i'w gabledd halogi'i chynteddoedd; Yna dyosgwyd hyd gnawd ei wisgoedd; A SAUL ymerlidus oedd -- i'w dderbyn, Fo'n benaf elyn fu'n boen i filoedd.

Weithion y tystion tostiaith, -ïe'n ol Manylion eu cyfraith,

Fel yn beiddio gwisgo'u gwaith - oedd gynddrwg A rhyw olwg o gyfiawnder helaeth, -

A wresog ddechreuasant

Y swydd o labyddio'r sant; Hwy'n gyntaf o'r holl gantoedd I roi'r ergyd enbyd oedd.

Wedi hyny cydweiniodd Y llu i'w faeddu o fodd; Careg ar gareg yrid, Naill ar ol y llall mewn llid; Ac wedi'n doi'r cawodydd Aml fel cesair disglair dydd: Glasodd ei gnawd gan gleisiau, Ni bu hyn ond i'w bywhau,

A chreulonach chwerwai'i elynion, Taflu'n fwy ffyrnig y cerig geirwon, Cafod ar gafod ar ben STEPHAN gyfion, Torent ddyfnach, erchyllach archollion; Gwaedodd dan yr ergydion ! -créchwenynt Gyda y gwelynt y gwaed o'i galon !

 

 

x469

 

Ac ar ol hyny taflu'n greulonach

A wnaent hwy ryw bwysig gerig garwach, Y ffrom gafod drom ai'n drymach, drymach, Nid oedd ar labyddio bwyllo bellach

Yn y byd i STEPHAN bach, —a'r lluoedd

Yn uwch, uwch oedd eu bloedd a'u hyspleddach.

Yntau, yn y corwyntoedd

Gerwin hyn, yn ddigryn oedd; Troi'i wyneb tua'r wiwnef,

Yn ddyfal, ddyfal oedd ef.

Yn gyhoedd hollol gweddiai allan, —

" O ! fy Nuw mawrglod, canfod fi'n cwynfan; O ! rho ragor o nerth i mi, ' r egwan,

I ddal

driniaeth ddelo drwy anian;

Dy râs moes eto, er siomi Satan;

Er mwyn gogoniant gloyw enw dy hunan, Na âd im ' fethu ! -dyma fi, weithian,

O dan y gafod a'r gwawd yn gyfan:

Marw wyf fi dyma'r fan ! -ti, DDuw'r gwynfyd, Derbyn f'ysbryd i fywyd yn fuan. "

Gan syrthio weithian ar ei lân liniau,

Uchel lefodd, dan waed a chlwyfau, -

Iddynt, mwy iddynt, O ! fy Nuw, maddau,

Na ddod hyn o bechod yn eu beichiau; Rho edifeirwch, a thor di farau

Eu rhagfarn waedwyllt yn nhrigfa'r nwydau; Ni wyddant eu troseddau; -O ! Dduw naid, Goleua'u henaid, a'u hoer galonau.

" O ! dihoena'u hanghrediniaeth, dychwel

-

Hwynt o dawch Iuddewaeth;

Tyn hwy'n rhydd o'r corsydd caeth, I dir dy iachawdwriaeth.

 

 

 

x470

" Er mwyn y gwaed a gaed gynt, O ! maddeu ' gorthrwm iddynt. "

Wele, boddus labyddio - yr oeddynt, Er ei weddi effro;

Y ddawnus weddi hono

Ni lwyddai ond i'w ladd o.

Rhoiai iddynt arwyddion - o gariad, Geiriau dwys ei galon Glywent, a'i ddagrau glowon Yn frwd yn golchi ei fron.

Ow ! ' r olwg hon, ni threuliai Eu llid un gronyn yn llai !

Troiai war liwgar olygon, -carai Dan y cerig geirwon; Golwg a doddai galon O ddur debygid oedd hon.

Eithr eu calon eingion hwy Ydoedd yn annhoddadwy.

Er ei ddyhewyd yn taer weddio

Drostynt, nid oeddynt ond rhoi gwawd iddo !

Bwrient gerig, hwy barhaent i'w guro, Gollwng, taer ollwng o hyd nes dryllio Ei esgyrn, a'i wisgo, -- o'i ben i'w draed, A llen o waed, ac yna llon neidio !

Ys diffodd a wnaeth STEPHAN, A marw'r pryd hwnw, dan

Weli y gafod olaf,

Yn dawel fel awel hâf, —

Wedi rhoddi arwyddion

I'r byd rhydd o grefydd gron, —

 

 

 

x471

 

 

Gariad, a wnai flaguro - ' n frâs dêg,

Er y fawr ' storm arno, —

Cariad, er maint y curo,

Na fu ddim a'i deifiodd o; —

O ! Ffydd, nad oedd diffoddi, Na gwaelu ar ei gwawl hi; - O ! Obaith, didroi heibiaw, A'i drem ar y bywyd draw.

Fe a welai orfoledd - i'w aros, Wedi awr o waeledd; Gwelai y deuai diwedd I'w gur a'i boen ger y bedd.

Hyder am adgyfodiad Galluog law a gwell gwlad, Idd ei enaid feddianodd, A chan farw, bu farw o'i fodd.

Ac ar ei ing olaf, dacw'r angelion, Ar eu gorchwyliad o'r goruchelion, ' N d'od fel eryrod nefol yr awrhon, I arwain ei enaid adre'n union: Dacw hwy'n esgyn uwchlaw y sêr gwynion, Heibio yr aethant i'r lleni brithion, Yn glau, glau at y nefol byrth gloewon, Lle'r oedd, yn filoedd, y glwys nefolion I'w lawen - gyfarch a'i hwylio'n gyfion O gylch tlws ardaloedd nefoedd Neifion, Ac i'w osod ar orseddfainge gyson, A rhyw gerub i roi arno'r goron; Lle byth teyrnasa, uwch tyn elynion- Gloes, gwawd, a gofid, llid, a thrallodion, —

Wedi ei lenwi o lon - ogoniant,

Hewyd, a moliant, hyd ei ymylon !

 

 

 

x472

A'r ran ag ydoedd ar ol - o STEPHAN, Yn farw ' rwan wrth furiau'r heol,

Gyda pharch ( er pob gwawd ffol ) —a gasglwyd, A daiar - dowyd gan frodyr duwiol.

Ac wylo gyda'u gilydd

Yn dost a wnaethant drwy'r dydd; Rhyw fawr, fawr alaru fu, Herwydd ei fawr, fawr garu, Od wylo wna duwiolion— Mae colled fawr yr awr hon.

Arwydd llawn, er aidd a llw — anghyfion Ei elynion, oedd yr wylo hwnw O wir liw - o wawr loew - ei nodwedd, A gwedd ei fawredd, wedi ei farw.

CYMDEITHAS

HEDDWCH.

Pa rin, pa feddylddrych, mwy pur, mwy daionus, Ddaeth allan o galon marwolddyn erioed, Nag eiddo Cymdeithas yr Hedd ? O, ERASMUS, Drwy hyn rho'ist egwyddor anfarwol ar droed; Ah, NOAH WORCESTER, ein cadarn Hedd - angel, Tydithau yn unfryd ddyrchefaist dy lais O blaid yr Hedd - achos, can's gwelaist fod Rhyfel Yn dâd pob creulonder, gorthrymder, a thrais: Tu draw i'r pell Werydd, lle machlud haul natur,

Y torodd gwawr heddwch, ac uwch, uwch i'r lan, Esgynodd o hyd yn fwy pur a mwy eglur,

Nes, ' nawr mae'r goleuni'n amgylchu pob man. Gymdeithas ddyngarol ! Ferch Dwyfol Ragluniaeth ! Llawforwyn Efengyl ! beth, beth ydyw'r nod Wyt yn ei dderchafu ar drostan dynoliaeth ? A oes iachawdwriaeth rhag Rhyfel yn d'od ?

y wund Tutegar

 

 

 

x473 Ah ! Cyflafareddiad yw'r nod derchafedig, Ac arno edryched teyrnasoedd y byd; A bydd iechydwriaeth yn fyth - anffaeledig,

Rhag rhyfel, ac anrhaith, a gormes i gyd ? Gwel ! gwel ! mae haul heddwch yn mell uwchlaw'r gorwel, Ar linell canolddydd y bydd yn y man; Ffy rhagfarn o'i wydd, megys niwl gyda'r awel, Gan nerth ei ddysgleirdeb wrth esgyn i'r lan. Ow, Ryfel ! Ow, Ryfel ! pwy draetha'r camwri Y buost yn achos o houo cyn hyn ?

Wrth feddwl am haner yr anferth drueni,

Mae'm calon yn gwaedu, a'm llygaid yn llyn; Ti fwriaist ddinasoedd i lawr yn garneddau— Tai, llysoedd, a themlau ddifrodaist a thân; Ow ! fel yr halogaist y cysegr - fanau, -

Ti beraist wylofain lle clywid llais cân: Y bobloedd a yraist am nawdd i'r mynyddoedd- Gwyllt - redent, syn - safent gan arswyd a braw; O'u blaen yr oedd newyn, o'u hol yr oedd heintiau, Tra eirf ac elfenau yn lladd ar bob llaw.

Yr wyt mewn egwyddor yn symud sylfeini Gwaireiddiad, cymdeithas, a rhinwedd ar ŵyr; Yn llawn anystyriaeth dirmygu dosturi, Gan ddymchwel yr anniffynedig yn llwyr; Gwatweri gyd - ddygiad, amynedd, a mwynder, A phob rhyw rinweddau Crist'nogol yn un; A holl dueddiadau haelfrydig a thyner Ein natur ddileui heb adael eu llun: Coleddi bob awydd, pob dyfais, pob ystryw,

Ogwyddant at ddifrod ac anrhaith, a gwaed; Diffyni hwy hefyd fel rhiniau uchelryw,

Neu foddion cyfreithlawn gan rhywun a wnaed ! Cynyrchaist bob nwydau llygredig yn unchwant, Ag ysbryd ymddial ti lenwaist y wlad;

Hand Rach

In codi

 

 

 

x474

Moes, rhinwedd, a chrefydd a brysur ddihoenant, Yn hinsawdd ystormus ac heintus y gâd. Ti ddrylliaist deimladau, ti rwygaist deuluoedd, Alltudiaist ddedwyddwch o fron ac o fryd; Dymchwelaist orseddau, caethgludaist freninoedd, Tywyllaist ogoniant teyrnasoedd y byd; Difrodaist dra gwerthfawr fendithion ragluniaeth, Gwobrwyon diwydrwydd a fethraist dan draed; Wyt dadmaeth creulondeb, wyt ellyll marwolaeth, — Och, Rhyfel ! gwnest dywallt afonydd o waed. Golygfa arswydlawn yw gweled gyferbyn A'u gilydd, ddwy fyddin yn cyd - barottoi I dderbyn yr euog a'r marwol orchymyn, I ddechreu'r alanas, heb feiddio ysgoi: Oh ! dacw'r gair allan - mae'r llu'n ymgynhyrfu- Magnelau yn rhuo fel daeargrynfâu;

Cleddyfau'n gwrthdaro - bidogau'n mygdarthu

Gan waed twym y galon, heb ddim trugarhau; Ow ! dyna hwy'r meirwon, yn bentwr ar bentwr, Laddasant eu gilydd heb wybod paham ! Oh ! faint yw'r euogrwydd sy'n gorphwys ar gyflwr Yr hwn fu'n achosydd o gymaint o gam ?

Pwy dderlun arteithiau y milwr clwyfedig, Ar wely anesmwyth o briddell neu faen, Ac angau'n ei wyneb yn edrych yn ffyrnig, A phorth tragwyddoldeb yn agor o'i flaen; Ac yntau yn nghanol y twrf dychrynadwy,

Rhwng arswyd a hiraeth, a chariad a chas, Heb gysur, heb obaith, heb nerth, na chynorthwy, Yn gorfod rhoi'r olaf anadliad i maes ? Pryd hyn daw i'w feddwl fwynderau'r hen breswyl, Ac adgof am gyfaill, a brawd, a chwaer fwyn; Ond, Ow ! ni fydd yno na thad na mam anwyl, Na neb tynergalon a wrendy ei gwyn.

 

 

x475

Mae bywyd yn werthfawr - mae'n hawl gysegredig, - Ac os anghyfreithlawn yw dwyn ymaith un, A'i nid anghyfreithlawn i'r arwr mileinig

Ddwyn ymaith ei fyrddiwn wrth ' wyllys ei hun ? Gyfiawnder ! Gyfiawnder ! b'le mae by glorianau ? Ddynoliaeth ! Ddynoliaeth ! pa le mae dy lais ? Gydwybod a Rheswm, b'le mae'ch dylanwadau, Na byddech yn attal gorthrymder a thrais ? Ah wele Ddyngarwch drwy DDuw yn egoryd Drws gobaith, a llyma'r cenedloedd yn d'od I gyflafareddiad, -holl lwythau'r cyfanfyd ' Sy'n cydorfoleddu - clywch adsain eu clod ! Golygfa foddhaol i'w gwel'd, fydd cydgynghor O amryw genedloedd yn nghyd wedi cwrdd, I fwyn benderfynu dadleuon anhebgor,

Rhwng teyrnas a theyrnas, heb ryfel na thwrdd; Can's yma doethineb, cyfiawnder, a chariad Orfyddant ynfydrwydd, a chamwedd, a châs, Tra ni chydnabyddir na deddf na dylanwad, Ond eiddo uniondeb, a rheswm, a grâs. O ! dyma ddiwygiad wna'r byd yn ddiogel,

Ni roir ein meib mwyach yn ebyrth i'r cledd―

Ni flinir ein llygaid a golygfeydd Rhyfel, -

Daeth dirprwy rhagorach drwy'r hoff Gynghor Hedd.

Gymdeithas orenwog ! O, mor dra - rhagorol

Yw'th orchwyl yn gwasgar gwybodaeth drwy'r byd; Argreffi draethodau llawn doniau duwinawl; Traddodi areithiau llawn golau i gyd;

Ac anerch yn gynhes y deall a'r galon,

Darbwyllo, cyfeirio, a dangos nad yw Rhyfeloedd dan unrhyw amgylchiad yn gyson

Ag ysbryd Crist'nogaeth a budd dynolryw; Ac ' rwyd wedi bathu rhyw gynllun gobeithiol, Lle gwelir Cyfiawnder, a Rheswm, a Rhad

 

 

 

x476

Yn dwyn allan Heddwch parhaus, cyffredinol, Heb bylu anrhydedd na gloewder un gwlad.

Nid yw'r Hedd - gymdeithas yn anerch un enaid, Crefyddol neillduol sy ' nawr is y nen; Ond erfyn cydweithiad pob gwr - pob cyfenwad, Er dwyn ei hamcanion dyngarol i ben; Ei byth - fendigedig haelfrydig fwriadau, Gan leol ymlyniad cyfyngawl nid y'nt; Ni wyr ddim am ddaeargraffyddol derfynau, Ac nid oes terfyngylch i gau ar ei hynt; Rhyw ail - bren y bywyd yw, ' n estyn ei ffrwythlon Ganghenau dros gyrau'r holl ddaear, mor wiw, Ac awel rhagluniaeth yn ysgwyd yr aeron

I'r holl genhedlaethau, bob llwyth a phob lliw.

Y mae yn ei natur i gynal cyflawnder,

Gogoniant, dedwyddwch, a chyfoeth pob gwlad, A chywir amddiffyn achosion cyfiawnder,

A rhyddid, a chrefydd, a noddi'r mwynhad; Ymwisgodd am dani holl eirf haelfrydigrwydd- Elfenau cadarnach na dur, tân, na dw'r; Ei gallu gorchfygol yw mwyn ddiniweidrwydd, Ac anwrthwynebiad ei tharian a'i thŵr: Anfynych mae'r storom yn dryllio'r blodeuyn, A'r gorsen blygiedg ar waelod y ddol, - Ar ganghen y dderwen wrthsafol a chyndyn Fynychaf y gwelir y mwyaf o'i ol.

Mae amryw achosion yn gyd - dueddiadol

Er dwyn y Gymdeithas Heddychol i fod; - Mae gallu'r argraffwasg, ' r areithfa, a'r ysgol, A'u moesol ddylanwad, yn uchel eu nod; Eängiad trafnidaeth, a chynydd gwybodaeth, Diwygiad gwleidyddol a rhyddid ar hyd; Ymdaeniad gwareiddiad a gwawl Cristionogaeth, Mor brysur, drwy diroedd paganaidd y byd:

Sytched ner

Yn Rueckion

pameran, gan canyon ovwgylsk

41

 

 

 

x477 Ac mae fod cynaliad hoff gymdeithasiadau Hedd - garwyr gwahanol deyrnasoedd y byd, Mewn lleoedd mor lawn o ryfelawg elfenau,

Yn arwydd gwna heddwch deyrnasu rhyw bryd.

Gostegu mae'r gwyntoedd - cymylau'n ymranu— Yn fuan tywyna haul Heddwch yn glir, Mae ambell lygedyn o'i wawl yn ymsaethu

N'awr rhwng y cymylau dros wyneb y tir; Mae rhyw fân - gysgodau - rhyw fywiog argoelion, - Oes, rhyw ragredyddion i'w gweled ar daen, Yn awr, yn cyhoeddi fel cywir genadon

Fod Heddwch yn dyfod o hyd rhag ei flaen; Mae uniad dinasoedd - dynesiad ynysoedd- Drwy'r ager ar trydan mor llon ar bob llaw, - Mae cerdd Rhydd - fasnachaeth, a'i dawns ar y dyfroedd, A'r Mawr Arddangosiad * yn dywedyd y daw.

Hawddamor gymdeithas pob mawredd tymhorol; Ti sy'n athronyddol - sy'n berffaith - sy'n pur, Amddiffyn a chynal y bri cenhedlaethol,

Yr hyn nis geill rhyfel drwy belau a dur; Dwyn iawn ffurfly wodraeth - rhoi addysg grefyddol, Perffeithio pob darganfyddiadau gwir fad,

Mewn celf ac mewn gwyddor, yw'r bri cenhedlaethol, Nid gallu milwrol na glewder un gwlad;

Gwên heddwch hwylusa'n mlaen waith eu perffeithiad, Mwyn megys haul gwanwyn ei lewyrch yw o; A'r ddynol orchwylion - cyn hir bydd gwareiddiad, Dedwyddwch a llwyddiant i'n daear yn dò.

Gwna'n wrol gymdeithas, mae'th lwydd yn dy ymyl, Ar fyrder sefydlir it ' deyrnas ddi - lyth;

Mae fod y rhagolwg, a'i sail mewn efengyl,

Yn sicrwydd na " ddifa y cleddyf dros byth; "

* Exhibition.

 

 

 

x478

Personale

dol

& Eden

Ni raid digaloni, mae llaw fawr Rhagluniaeth, Iaith deddf ac efengyl, llais Duwdod, gwaedd dyn, Yn dadleu'th egwyddor; mae dydd claddedigaeth Rhyfelwaith yn agos, er gwaethaf pob gwyn: Mae bys prophwydoliaeth yn dangos ei dynghed, - Medd, ARGLWYDD y lluoedd, " rhyfeloedd a wnaf- I beidio hyd eithaf y ddaear " agored, -

' R addewid a esgor yn nhymhor Duw NAF.

Fe gurir y cleddyf a'r waewffon bigfain,

Yn offer i'r amaeth - a boddlawn y bydd; I'r newydd swch dduriog, a'r bladur ariansain, Fe weithia'n egniol drwy gydol y dydd; Ac ni chyfyd cenedl ' n erbyn cenedl gleddyf, Ac ni ddysgant rhyfel ' n ol hyny, fyth mwy; A thrig y gwylltfilod fu'n byw ar eu hysglyf,

Yn mhlith y rhai dofion - un - duedd yn't hwy: A bachgen bach hefyd a'u harwain heb arswyd, A'r hwn sydd yn sugno a esyd ei law,

Ar dwll yr asp greulawn; a'r hwn a ddiddyfnwyd— A'r ffau'r farwol wiber heb arswyd na braw. Mor wych y gweithredai'r egwyddor yn Eden, ' D oedd yno greadur awyddai am waed, Chwareuai'r amryryw fwystfilod yn llawen, O gylch ein rhieni, a llyfent eu traed; Aur - fach yr hen gadwyn oedd perffaith ufydd - dod, A defnydd pob dolen oedd cariad ei hun;

Ond ADDAF wrth gynyg at uchel sedd Duwdod, A ddrylliodd ei heuraidd fodrwyau bob un; Ond heddyw dyngarwyr drwy Dduw sy'n diwydgar, Gryfasio ' r hen gadwyn a'i hestyn o hyd: Mae hon i gyrhaeddyd o gylch yr holl ddaear,

A boreu'r milflwyddiant daw'r ddeupen yn nghyd ! Lle clywid chwyrnogliad olwynion y magnel, Lle clywid dryllguro nes teimlai y tir;

 

 

x479

Trwst esmwyth olwynion hen gerbyd goruchel Efengyl tangnefedd, a glywir cyn hir: Fe droi'r yr Yspyttai milwrol ' mhen enyd, Yn faethleoedd addysg oruchel ei rhyw; Fe droi'r y Lluestai a'r athrofeydd hefyd, Yn demlau i gywir addoli'r gwir Dduw. Fe gleddir y tomahawk Indwaidd yn fuan, Daw cyfnod y grochwaedd ryfelgar i ben; Yn lle cwyn ac ochain, bydd nefol oröian, A sain Halleluiah yn adsain y nen.

O dan dy ddylanwad o ddedwydd Gymdeithas, Rhyfeloedd a beidiant; a llon ar bob llaw, Cyn hir, bydd rhieni a'u meibion o'u cwmpas,

Mewn mwyniant o'u gilydd heb ofal na braw; Mi wela ' r milflwyddiant yn d'od ar dy edyn, Tangnefedd a chariad yn llenwi pob lle; Y diffrwyth anialwch flodeua fel rhosyn, Bydd gwyneb y ddaear fel gwyneb y ne '; Duw IOR a brysuro y cyfnod gorhawddgar, Bydd pob anghyfreithlawn uchelgais ar ben; Gwybodaeth o'r ARGLWYDD yn llenwi'r holl ddaear, Mal töa y dyfroedd y moroedd - Amen.

NODIAD. - Mae yn ddiau y cenfydd y darllenydd y gwrthdarawiad sydd rhwng syniadau a'r egwyddorion a amlygir yn y gân hon â'r rhai hyny a amlygir yn y gân hono ar Farwolaeth HAVELOCK; ond yr esgusawd sydd genym i'w gynyg yw hyn, -nad allasem llai wrth glywed am fawredd y waredigaeth a gafodd rhyw nifer o'n cydgenedl o ddwylaw gwaedlyd NANA SAHIB a'i gydfilwyr creu- lawn, yn amser y chwyldroad Sepoyaidd ― ni allasem lai, meddem, na chanu yn galonog, a mawrygu y fath ragluniaeth waredigaethol hapus, er ei bod yn cael ei dwyn oddiamgylch drwy offerynoliaeth cyfryngau mor wrthodedig ag yw y fagnel, y bidog, a'r cledd. Mae yr ysgrifenydd hwn yn wrthwynebwr o galon, i'r expedient brawychus o ryfel i derfynu dadleuon ac anghydfodau rhwng teyrn- asoedd a'u gilydd; a'r syniadau heddychol a gynrychioli yn y gân hon, mae ei enaid ef yn ei harddel a'u mawrygu; a gwyn fyd na welid, ar fyrder, yr egwyddorion a broffesir ynddi, yn cael eu dwyn i ymarferiad cyflawn a chyffredinol dros wyneb yr holl ddaear.

 

 

 

x480


(x480)
Y GELYNEN
O! LANED yw’r Gelynen, - mae hi’n werdd,
Pan mae’n wyw bob coeden:
Hed gwiw hâf o’r goedwig hên,
Tra gyda hi trig Eden.

Nid gwenu’n hyd y gwanwyn, - ond gwena’n
Deg iawn drwy’r holl flwyddyn -
Gwenu, nes denu pob dyn,
I fawrygu’i haur-frigyn.

Digalon ydyw Gwyliau - Nadolig,
A dwl yw’n haneddau,
A sarug, bob drysorau
Y llwyn hwn i’w llawenhau.

Ys hygar ydyw, - prif lwyn cysegredig
Drwy’r oe’soedd hen oedd i Sadwrn eiddig, -
Oedd acw yn waedlyd au-dduw cenedlig;
Ond, w’e’le ei grawn a’i dail gwyrenig,
Wedi hyny’n Brydeinig - addurn ddaeth,
A glan hudoliaeth Gwyliau Nadolig.

Gwasg aur hon sy’n gwisgo’r hâ’, - yn nghanol
Yr anghenus aua’;
Troi’i gwrid na’i newid ni wna,
Er corwynt, rhew, ac eira.

Felly gwir gyfeiflgarwch - ni newid:
Un yw ei brydferthwch;
Yn nos drom ein heisieu trwch,
A dydd ein hannedwyddwch.

A’i ffawd fu’n trwsio’i phen - y gaua’ oer,
Fwy nag arall goeden?
I’m rhoi prawf, bod Duw mae’r pren -
Addolaf dan ei ddeilen.

 

 

 

x481

CARADOC (CARACTACUS).
Mawrhydi ymerawdwr, - milwri,
Mawrwri my’r arwr;
A holl wiwdeb llywiawdwr,
Mwyn iawm, a gaid mown un gwr.

Y gwr ydoedd hen GARADAWG - ab BRAN,
Brenin neu dywysawg;
Yr hyf Siluriaid, hir hawg -
Aerwr yn arwr enwawg,

Enwawg am lewder anian, - ei arswyd
Aeth o’i wersyll allan
Heibio’r tir fel braw taran
Ofnai’r byd - gattrefnw ban.

Ban ar Went, - yn Unben rhaith - galluog,
A llew wrth, ddwyn anrhaith, -
Llywydd mawr ei lluoedd maith,
An ceidwad yn eu cadwaith.

I gadwaith yr aent gyda - ’u dewryn cu,
Deyrn ac aillt - gattyrfa
Gan nad oedd âg egni da,
Wr o’i fal i ryfela.

Rhyfela a wnai’n orfilain, - darnio
Holl gadernid Rhufain -
Profwyd ei meib - pryfed main -
Crynent rhwng caerau’u hunain.

Eu hunain o’ent yn honi - eu bod ar
Y byd oll, yn feistri;
Neu’n ol o’n Hynys ni,
A gawsynt er agosi.

 

 

x482



(x482)
Agosi wnaent yn gysain - naw mlynedd,
Mal hyn naw ar ugain
Câd a fu, ac edau fain
Y profwyd coegdyb Rhufain.

Rhufain, unwaith o’i rhyfyg - yn chwaneg,
Yn chwenych ymgynyg
Ostor gain arfogai’n fyg,
A’i holl aerwyr mewn lluryg.

Lluryg haedd, nid oedd yn dô - na chysgod,
Uwch esgyrn ein Cymro;
Dewr nawd oedd ei darian o, -
Addurn rhagoraeb iddo.

Bu iddo daro, mal dewryn - ystig;
Ond OSTOB o’r dyffryn,
Drwy wychr eirf, fu drech; er hyn
Awr galed fu i’r gelyn.

Gelyn brad, cwyniad, cyni, -ni lwyddynt
I ladd ei wrhydri;
Dilwfr oedd yn dal ei fri -
Ymerawdwr mawrhydi.

NODION. - Heblaw fod yn rhaid i’r math yma o gyfansoddiad
gynwys deuddeg englyn, pa rai a elwir yn “Gosteg o Englynion”
mae yn rhaid hefyd i’r un gair fod yn nechreu yr englyn cyntaf,
yn niwedd yr un diweddaf; a gair gorphenol pob englyn arall
yn air dechreuol yr englyn nesaf ato, hyd oni bo y cyfansoddiad
un cadwyn ddolenog, ac yn un cylch cyfgrwn a diadwy; ond nid
hyn, wedi y cwbl, ond gwag-gywreinrwydd afreidiol a llwyr aflesiol.

“Rhoi meddwl a grym iddo,"
Mewn cael hyn y mae’r “maen clo.”
 
.

 

 

x483

 



(x483)
AGORIAD RHEILFFORDD DEHEUDIR CYMRU
Wele! O, fuddiol anturfawr gelfyddyd,
Dy Reilffordd er’s enyd yw bywyd y bau
Mae “Rheilffordd Deheudir" hen “Gymru” ’n dywedyd
Fod amser llwyddianus yn serchus neshau:
Mae dydd ei Agoriad yn awr bron a gwawrio,
Bawb unwn bob enw i’w gadw’n ddydd gwyl;
Mae hwn yn ddiiwrnod sy’n werth ei addurno,
Gosodwn eneuau’r magnelau mewn hwyl;
Awn, awn gyda’r gwyrda yn mlaen i’r gydgordaith
Fawreddus, foreuddydd gwir ddadwydd a ddaw;
Bryd hwn bydd arwyrain, bryd hwn bydd yr araith,
Yn ysgwyd bob teimlad, a llygad a llaw.

Hawddamor, Fasnachaeth! hir fuost yn nychu,
A’th gynyrch mewn conglau anhygyrch yn hir;
A blin iawn amaethon y Blaenau yn methu
Cael addas gludeiaeth i doraeth ei dir;
Ond dyma hi’n hawddach i wyr y mynyddau
I ddwyn eu cynyrchion yn llon i bob lle;
Dowch, dowch, heb un ffaeledd, a’ch ceirch a’ch ceffylau,
A’r hen ychain duon ar droin i’r dre’;
Cewch dd’od a chnydau i lawr i farchnadoedd
Difaol Morganwg a Gwentllwg deg wawr,
A dwyn anifeiliaid, os mynwch, yn filoedd
I’n ffeiriau cyfarwydd yn ebrwydd yn awr.

Hwy ddo’nt o Garedin i lawr i Gaerodor,
Caerwrangon, Caergrawnt, a Chasnewydd-ar-Wysg;
Caerdydd a Llantrisant, Llanharan - llon oror, -
Llanilid, Llangrallo, gan ruthro mewn rhwysg
Pen’bont, Aberafon, a Chastellnedd hefyd,
I dref Abertawy, yn hy’ at  y nod;
 

 

 

x484

(x484)A lawr i Gaerfyrddin, drwy’r wlad ddigyfurddyd
Yr hen RHYS AP TEWDWR a GLYNDWR fawr glod.
Mor hyfryd! mor hyfryd! fydd tremio Môr Hafren,
A gwel’d holl ragorion a gleinion ein gwlad;
Bydd golwg ar dlysni mawreddi mor addien,
I fryd yr ymdeithydd yn newydd fwynhad.

Ceir gweled yn union newyddion aneddau,
A gerddi ysplenydd hyd lenydd y ’Lai;
Mor felus a difyr i’r teithwyr hwynt-hwythau,
Fydd hynt hyd ei glanau ar forau o Fai.
Celfyddyd a masnach ddawn hoewach o newydd -
Mae’r cyffro cyfagos yn dangos eu dydd;
Yr agerbeirianau yn rhwygo’r wybrenydd
A’u twrf awdurdodol, arfeiddiol a fydd
A’r gwefrol Hysbysai ddwg bob hanes bwysig
O eithaf y ddwy wlad mewn eilad yn awr;
Aed Rheilffordd Dehoudir hen Gymru nodedig
Fyth fwy-fwy mewn llwyddyd - bob enyd, bob awr

 

 

Y CARDOTYN DIOGLYD.
Oh! mae adyn i’m hudo - wrth y drws,
Araith drist sydd ganddo;
Cadd gelled drom, drom, rhyw dro,
Neu ryw loes i’w barlysio.

Maes o waith er’s mis yw o’, - ymofyn
Mae hefyd am dano:
Ond, o mewn yn dymuno
Alln byth, nad felly bo.

Yn dallu’r hael, hen dwyllwr yw, - yn hêl
Cynaliaeth drwy ystryw;
Fel hyn mae’r bawyn yn byw -
Cardottyn o’r crud yttyw.

 

 

x485

 


(x485)
DYFFRYN CYNON O BEN Y DDYSGWYLFA.
SYLLU yn neutu Natur,
O ben y Ddysgwylfa bur,
Aros yno dros enyd
A garai beirdd goreu byd.

Mae’r bryn, yu mro wybrenydd,
Yn dal glas-gronglwyd y dydd
A’i awel yn rhoi bywyd
Drwy’m bron ddigalon i gyd.

Nid oes dwyn na chlogwyni,
Na chreigydd llonydd, na lli;
Un rhaiadr yno’n rhuaw,
Nes siglo’r dref ddysglaer draw.

Gwyrdd oll yw gwawr ei ddillad, -
Uchol yw goruwch y wlad;
Twr a wnaeth Natur hen yw,
Adail y duwiau ydyw;    
Oh! dyma olygfa lawn,
Cenyf, ar Ddyffryn Cynawn.

Canaid yw Dyffryn Cynon
Gan wawliau’n mhob lliwiau llon:
Rhanu dydd i fryn a dôl,
Wna’i ffwrnesi ffroenysol;

Mae cyrau’r deau ar dân,
A’r ymyl Aberaman;
Hafal, o’r Llwydcood hefyd,
Yw gwedd y gogledd i gyd;
Gwawr Hirwaen sy’n goreuro
Holl nef rydd gorllewin fro:
 

 

 

x486

(x486)Ac unwedd yw gogoniant
Wybr y nôs o Abernant;
Bob hwyr mae nôs y dwyrain,
O’i herwydd, fel cyfddydd cain.

Edrych ar y drych eirian,
Wele fl, o uchol fan,
A’r ddu nos - mor arddun yw!
Ai gwlad yn ffaglu ydyw ?
Miloedd o fflamiau melyn,
Du, llwyd, glas, gwelwlas a gwyn,
A welir ar yr un olwg
Yn chwarau drw’r muriau a’r mwg:
 Ail ydyw’r fflamwawr ledan,
I urddas dinas ar dân!

Oh! dyma fan! dyna fyd,
O wyddor a chelfyddyd!
Ni thaw gweithiau ëang!
O ddyn byw, clyw! clyw eu clang!
Tonc, ar ol tonc, a chloncian,
Su a chwyth, a llais a chân,
Twrf, trwst, ffrwst, ffroch, crocb, roch, rhu,
Yn ddiattal o ddeutu!

Odynau geir yn dân gwyllt!
Ffwrneisiau’n ffrio’n iaswyllt;
A’r bywiog werthivyr buan,
Grug wrth grug, fel morgrug mân,
Yn chwarau’r barau ar byllt,
A’r toddion poeth, tueddwyllt
Edrych arnynt! troi, chwyrnu
Mae preiffion olwynion lu
Dacw liwiog ’staciau lawer
A’u penau wrth sodlau’r sêr!
Ar dalcen y wybren werdd,
Crogi mae caer o agerdd;
 

 

 

 

x487

 

(x487) A mwg sydd yn ymagor,
Drwy bob parth, fel mygdarth môr.

Ac yn esgyn gan ysgwyd,
Uwch y llawr yn dorchau llwyd.

Ar y gwaelod mawr gwelir, -
Yn croesi neu’n tori’r tir,
Heolydd hir eu helynt,
A’r meirch tan yn gwan drwy’r gwynt
Yn nes hwnt, mae’r Camlas hir,
Ar hyd y sarniol frodir,
A’r Orsaf, er mawr arswyd,
Yn llawn o beirianau llwyd!
A gwyngil deirmil o dai,
Yu gorwedd yn hir garai?
Tai gwych, nid eiddo’r to gwellt -
Tai a enfyn y tanfellt,
Yn ddi-werth oddiwrthynt -
Tai fel y Garth, nas teifl gwynt.
Tai awyrog, lle taria
Iechyd hoen, a chochwaed da,-
Tai bach, glân, dyddan, diddos,
A’u muriau’n rhaffau o rôs -
Tai hudolus wnaed i deulu
Y mw^n tawdd a’r diamond du.

A cheir bob lle cyfeiriwn,
Y tai ar hyd y tir hwn
Tai da i bona’ bonedd,
A gair mawr i’r gwyr a’u medd,
Am olud lawer miliwn,
Ac hael law or treiglo hwn.

Wele, iesin balasau,
Hyd y cwm, yn ei decáu;
 

 

 

x488

(x488) BAILIS gwyd ei balas càn,
Ar ymyl Aberaman;
Y Gadlys - fendigeid-le -
Llys MORGAN eirian yw e’;
Y siriol Gadlys arall,
Llys ROBERT gu, eirbert, gall;
Glandâr, o’r hawddgar ryddgell, -
Palas WAYNE, pa le sy’ well?
Brynheulog, caerog bob cwr,
Llys WILLIAMS, ein llesiolwr;
Blaengwawr, rhiwiogfawr drigfan -
Difeius lys DAFIES 1ân;
Ac anwyl Ynyscynon,
Llys mawr, mawr, ein llenawr llon,
ALAW GOCH, heulog ei wên -
Gwron yw, sy’n garn awen;
Ty^’r Gamlas, addas heddyw,
Hoew lys hardd ein LEWIS yw;
A’r Ty^ Mawr, pert, a mirain -
Llys FOTHERGIL gynil, gain;
Cu yw trem y Llwydcoed draw -
Haul hwyrnawn tawel, arnaw -
Adail ardderchog ydyw,
Llys ein Rhys feddylgar yw;
Y Palas newydd dyddan,-
Gogoniant y glwysbant glân -
Llys WILLIAM WAIN gain ei gêd,
Y gwron llawagored;
A gwelir ar y gwaelod,
Dan swynol henafol nôd
Y Fedw Hir - fel gwynfa deg.
Llys EDWARDS yw’r lle sywdeg.
Dyna b’lasau golau y gwyr,
Sy’ yn uchel fasnachwyr;
 

 

 

x489

 

(x489)Glo a haiarn - meib gloewach,
Nis ca neb yn mysg un ach.

Ond, pwy a enwa haner,
Gwrthddrychau y parthau pêr, -
Pob twyn, pob llwyn, pob llanerch,
A phob math o dwmpath derch, -
Heolydd, pontydd, pantiau,
A nentydd y cymydd cau, -
Tlysni y gerdd gwyrddion -
Amgylchoedd y llysoedd llon, -
Y dolydd ar gweunydd gwych,
A’r afon Gynon geinwych,
Islaw, ar y fro frâs, lân,
Orwedd fel cadwyn arian?
Ni enwa neb mewn unawr,
Y byd o gelfyddyd fawr;
A’r llwyddiant - disiomiant, sydd
Yn mbob hoen, yma beunydd.

Bert Awen, mae’n bryd tewi,
Can’s gormod i’th dafod di
Yw canu i Ddyffryn Cynawn,
A rhoi i’r lle ei fawrair llawn
Gad y dasg i gyd o ’d ol.
I ryw ddawn fwy arddunol.

Ond daear hedd Duw a’i râd,
Ac ardal y cydgordiad -
Lle o addurn a llwyddyd,
A fyddo tra byddo byd.

 

 

x490

AWDL AR RAGLUNIAETH.

CYNWYSIAD YR AWDL.

RHAGLUNIAETH. - Dysgrifiad deffiniadol o Rhagluniaeth.

RHAGLUNIAETH GYFFREDINOL. — Rhesymau dros ei chyffredinol- rwydd. - Fod Duw yn ei rhagluniaeth yn cynnal ac yn gofalu am ei holl greaduriaid, -yn dwyn oddiamgylch dymhorau y flwyddyn, & c.

RHAGLUNIAETH NEILLDUOL. - Rhesymau dros ei neillduolrwydd, -Duw oll yn oll. - Ei fod yn ei rhagluniaeth yn gofalu am ei greaduriaid distadlaf - aderyn y to - y pryfyn - y gwyfyn, -ei fod yn porthi y brain -- yn gwisgo y lili, ac fod hyd y nod gwallt ein penau dan gyfrif ganddo. - Gwrthresymau yr anffyddiwr i neill- duolrwydd rhagluniaeth, ynghyd a'r atebion i hyny. Neillduol- rwydd rhagluniaeth rasol Duw - na oddef efe i'w blant i gael eu cystuddio yn hwy nag y gwelo hyny yn angenrheidiol er eu lles ysbrydol. Neillduolrwydd rhagluniaeth Duw yn ymddangos yn amgylchiad JOSEPH, MOSES, DANIEL, a JONAH, & c. - Y moddion trwy ba rai, yn fyLych, y mae Duw yn cyflawni ei rhagluniaethau. -Fod holl anian fywydol ac anfywydol yn ufuddhau iddo.

RHAGLUNIAETH WYRTHIOL. - RHAGLUNIAETH FOESOL. - Fod gor- uchwyliaethau Duw yn ei rhagluniaeth, yn fynych, yn anym- gyffredadwy i ddyn. - Fod rhyw ddygwyddiadau cyfnodol yn cym- meryd lle yn helyntion y byd, ag sydd, wrth bob tebyg, yn anghenrheidiol er ei hoenusrwydd a'i gysur. - Fod gwahaniaeth graddau a chyflyrau, ynghyd a chysylltiad a dadgysylltiad am- gylchiadau a phethau yn anghenrheidiol, neu yn cael eu goruwch- reoli er cynnyrchu lles, llwyddiant, a dedwyddwch cymdeithas. Fod tynged ymerodraethau a theyrnasoedd yn llaw rhagluniaeth. -Fod Prydain Fawr yn gyfranog, i'r helaethrwydd mwyaf, o'i ffafrau neillduol - mai hi yw unig gartref crefydd bur a dihalog, ac y bydd yn offerynol yn llaw rhagluniaeth i efengyleiddio y byd.- Fod eglwys Dduw yn wrthddrych neillduol ei ragluniaeth, ac y bydd iddi gynnyddu a llwyddo er gwaethaf pob rhwystrau. - Mai yn llaw Duw mae llywodraeth yr holl greadigaeth. - Ac y daw dydd y bydd i'w saint gael dirnad, a mwynhau ei ragluniaethau, & c.

GOLEUNI yw rhagluniaeth, -sy ' beunydd

Yn esbonio arfaeth

Duwdod yn nhrafodaeth - ddoeth, gyson, lefn, Ei fythol wiwdrefn a'i faith lywodraeth:

 

 

x491

Nid yw helynt prophwydoliaeth - na'r hyn A roi'r mewn hanesiaeth,

Ond eiddo'r un rhagluniaeth, -hi sy'n llanw Y ddau enw yn ddiwahaniaeth.

Llaw hon sy'n dwyn cynlluniau - troiog wedd Y tragwyddol forau

Dirgelaidd, i fryndir goleu - natur, Duw yw awdur ei holl symudiadau,

Haera'r dyn diryw nad ydyw'r Duwdod Yn gwilio eisiau pob peth gwael, isod: Ond os oedd ddichon i'r Duw sydd uchod Ymostwng i greu'r myrdd mil trychfilod: Ymostwng i DDUw ' r grymusdod, —a'r nerth, I wneyd darmerth i'r rhai'n, nid yw ormod.

Fe wada rhai ynfydion, -ymyraeth Tymhorol Duw cyfion:

Bod daioni meib dynion - trefn natur, A'i hwyl a'i chysur mewn ail - achosion.

Un achos sydd, annichon - ydyw ail Ond i olwg dynion:

Un llaw sydd - ewyllys IoN - yn fywyd, A nerth hefyd, i bob rhyw eithafion.

Pwys a thyniad, wnant hapus waith anian, Ië, fe'u gelwir yn ddeddfau gwiwlan: Tra'n ddiau nad ydynt hwythau weithian Ond enwau erail gan y dyn hwyrwan, Ar uchel ddoethder Nêr y nen eirian. A gallu didor Duw Iôr y daran, Yn taro gafael am natur gyfan: Nid yw deddf, ond Duw dan - adeiladaeth Y greadigaeth, -y " Gair " diegwan.

 

 

 

x492

Ni eill llygad tywyll, egwan - y dyn, Wel'd llaw Duw ' n cyhwfan,

Yn mysg yr elfenau mân, -hono'n wir, A ddifenwir yn ddeddfau anian.

Duw oedd yn llon'd pob diddim,

Pob peth a wnaeth, ddaeth o ddim.

Duw o hyd sydd gyda'i waith - y Duw mawr, Yn mhob dim ar unwaith;

Anian deg - troi'n ei hén daith - ni fedr hi, Na bodoli heb ei Duw eilwaith.

Nid damwain yw'r pedwar tymhawr, —na dim Ond Duw dad yn agawr

Noeth fwrdd ei rhagluniaeth fawr, -gan neshau I dori eisiau y byd a'i drysawr.

Ei " gynar wlaw " ' n y gwanwyn, —Ef a'i rhydd, I ddyfrhau ' r glaswelltyn;

Wedi gwaith yr ŷd gwyn, - " diweddar wlaw " A ry ' i fwydaw yr Hydref wedy'n.

Daw y Gwanwyn ag adgynnydd, -— a dwg

Greadigaeth newydd;

Holl anian oedd yn llonydd,

Gan fywyd yn syflyd sydd.

Wele'r Hâf, mor ddysglair yw - gan gynyrch-

Gan geinion amryryw;

Trugaredd sy'n agor heddyw

Ei dôr, i bob creadur byw.

Rhyw adeg werthfawr wedy'n, -i gynull

Gogoniant y flwyddyn,

Yw'r Cynauaf; rhag newyn

I ddal anifail, neu ddyn.

Wedi hyn y dihoena - anian werdd,

Gan hin oer y Gaua:

 

 

 

x493

Anian yn awr huno wna, —eithr hefyd, Yn ei thwyg gysglyd ail - nerth a gasgla. Rhagluniaeth yn nhreigl anian — arialus, Sy'n rheoli'r cyfan,

O'r haul mawr i'r ulw mân, —o'r môr chwyddawg, Dwfn a beichiawg, i'r dafnau bychan.

Dywedir nad yw'r Duwdod — yn sylwi, Ar y sy ' wael isod;

Mai rhyw achos mawr uchod, Sy ' lawn werth ei sylw a'i nod.

Os Iôn sydd holl - bresenol, -oll

A'i nerth yn anfeidrol;

oll,

Ni fedr ei waith fod ar ol, —na'i drem ar

Holl lu daear, heb fod yn neillduol,

IÔR

Os yw Iôr yn cofio'r cyfan,

ᎩᎳ

Efe o raid a gofia'r rhan;

Onid ydym mewn Duwdod

Yn byw, yn symud, a bod ?

Yn ei gofres dan gyfri, -od yw pur, Wallt y pen i'w enwi;

Ni a wyddom, i'w noddi,

Y sai'n uwch ein heinioes ni.

Duw wisgodd ffril y lili - diwair wedd, Duw yw'r hwn sy'n porthi, Brain ac ednod heb ri ', - onid estyn

Efe i ddyn fwy o ddaioni ?

Duw Iôr sy'n cynnal aderyn - y tô,

Ef yw tad y pryfyn;

Mae ei ofal am wyfyn,

A'i law deil angel a dyn.

Dyweda'r anghredadyn,

" Os yw Duw ar bwys y dyn,

 

 

 

x494

" Yn agawr ei olygon " Ar waith yr holl ddaear hon; " Od yw ef DDUw da o hyd-

66

Cyfiawn, Hollalluog hefyd, —

" Pa fodd y mae'n goddef, -i ryw filain

" Orfoledd a thangnef;

" A'r hwn sy'n ei garu ef,

" Weled wylo a dolef ?

" Paham na chospai gamwedd - yr euog,

" A gwobrwyo rhinwedd ?

" Byw'n hir ga meib anwiredd; -ebrwydd iawn,

66

Rhyw un cyfiawn ga'i roi'n y ceufedd. "

Pwy wyt ti i holi hyn ? - A brofir Duw gan bryfyn !!

Y gwr hwnw a gâr rinwedd, Mawrlles yn ei fyuwes fedd.

Yntau'r euog ddyn truan, —a gwyna, Rhyw Gain yw yn mhobman;

Yspaid oes mae ei gosp dan

Ei fynwes ef ei hunan.

Duw'n hir baid ag anwiredd, -- o herwydd

Ei fawr, fawr anynedd;

Ond daw barn wedi y bedd,

Fe weinir pob cyfiawnedd.

Blin yw taith ei blant ef, -yn ei gyrfa

Maeut yn gorfod dyoddef;

Ond awelon yw pob dolef,

At weithio

rhai'n tua thref.

Ychydig bach, ni chedwir - hwy'n ddiau, Yn nhân y peiriau, yn hwy na'u purir.

 

 

x495

Ni roddir ar ei eiddo - drwy eu hoes, Ond yr hyn a fyno;

Os yr ARGLWYDD sy'n llwyddo - ei weision, Ni eill llaw'r estron na llu ei rwystro.

IÔR a wêl ac a oruwch - reola,

Galonau estron a'u galanastra;

O'u hamcan drwg, Duw a ddwg dda; -amcan

Y llidus HAMAN, llaw Duw a'i sioma.

Cynghor hoff АHITHOPHEL - ni lwydda Na chleddyf gwrthryfel;

Daw JOSEPH o'r pydew isel - etwa, I swydd wycha yr Aifft, a'i sedd uchel.

Er i'w frodyr fwriadu - ei ladd ef, Wele DDUw'n cyfryngu; Rhagluniaeth ei fammaeth fu, Rhaid oedd ei anrhydeddu.

Onid hwn, y bachgen tyner, -ydoedd I gadw'n fyw bobloedd, luoedd lawer ?

Dacw'r bachgeu llesg yn esgyn - yn llaw Duw,

' N llyw ddoeth, yr Aifft gyndyn,

Yno i ddarbod digonedd erbyn

Ei dydd o drallod i ddod oedd wedy'n:

Efe'n nhŷ PHAROH a fu'n offeryn

I ddiwallu yn ddillyn, -amryfal

Luoedd, yn nial y seithmlwydd newyn.

Dacw ddiwael )

Obaith Israel, Pan fu dodi,

Wedi adael,

MOSES harddbryd, )

Rhag dwyn ergyd, Ar y ffrydli '.

PHAROH waedlyd,

 

 

 

x496

Beth am fywyd

Gwerthfawr, gwiwbryd, Ar y Nilus ?

Yr anwylyd,

Unsut iddo

' I ladd gan PHAROH, Le truenus.

A'i ro'i yno

Ni thycia llaith " gawell hesg, "

Ar y dyli ' mawr, dilesg:

Os troi allan

A i'r gwaelod:

Wna o'r geulan,

Pwy a'i nodda

Mae'n rhyfeddod !

Oni fodda,

Yn y Nile mae'r crocodile dû, Fyth, fyth yn ysglyfaethu !

Wylo fu i'w anwyl fam,

A chur mawr i'w chwaer MIRIAM.

Cwyno ac wylo'n galed, ―gan dremio Yn fynych heibio'r fan wnai JOCHEBED.

Wrth ferch traethai y fam, -myn weled A oes ymwared yn agos MIRIAM.

Ah ! MIRIAM, ceir ymwared - i MOSES, Maes o law, cei weled;

Mae Duw gerllaw a'i law ar led,

Dianga ar ei dynghed.

Mawr yw'r afon

A'i pheryglon,

Ond mwy IÔN

Mae cynnadlaeth,

Na phob damweiniau;

Rhwng dynoliaeth, Ar ei glanau.

A rhagluniaeth,

Bydd hen y bachgen bochgoch,

Mai i roi cam drwy'r Môr Coch !

 

 

 

x497

A thywys o gaethiwed - Israel wan, Fry i Ganaan, y fro ogoned.

Dan cigion y dòn nid â'r tlws febyn, Rhaid byw i esgyn yr hyfryd Bisga;

I weled cyn ei ddydd ola ', - gwlad brid Yr addewid - ei awr a ddeua.

Nid dw'r fydd ei feddrod o, -hwnw a fydd Yn rhyw fan ar Nebo;

Ac i SATAN gas, etto - ofer waith Ymofyn unwaith am y fan hono.

Fel hyn mae Duw'n cyflawnu - ei fwriad, Fe wyr sut mae trefnu;

Pan mae pob peth yn methu, -dyna'n deg, Ydyw yr adeg i DDUw waredu.

Y Nile aeth yn wely weithian, -lli ' balch, Yn lle bedd - chwareufan;

Ac heb wybod cai y baban - fywyd, A gofal hefyd o le'r gyflafan !

Pysg y moroedd pwysig, mawrion, -glywant

I'w trigleoedd dyfnion;

Ei air ef, pan archo'r IoN - hwy gauant, Neu fwyn agorant ei safnau gwirion.

Dacw'r morfil dieiddil wedd,

I JONAH yn dy anedd !

Ni chai'r llew, er fod newyn - yn y ffau,

Un ffordd i oresgyn DANIEL, yr oedd rhyw dennyn Yno'n dal ei safn yn dŷn !

Yr adar a ehedant

I fro nef, a'i air a wnant,

 

 

 

x498

Hedfan wnai'r gigfran gegfrith - o rywle,

Ar alwad Duw'r fendith,

A bwyd i'r hen brophwyd brith - ac yntau O fewn cyrau yr afon Cerith. Yn fynych try'r elfenau - anghydnaws Yn llu hynaws i ddwyn ei gynlluniau Anunol anianau - haint, newyn, dür, A eilw i wneuthur ei ragluniaethau. Allan i wneuthur ewyllys - fy Iôn, Daw'r elfenau dyrys;

Heibio yr ânt gyda brys, -a thraethant Ei fawr ogoniaut hyd for ac ynys.

Eddeil y gwynt yn ei ddwrn, " - drwy'r wybr lwyd, Ei law a ysgwyd y seren losgwrn.

Rhodia drwy'r wybr, dengys eu llwybrau ― maith I'r mellt a'r taranau;

Mae helynt y cymylau - anturus,

Yn ei law weithus, a'r dymhest hithau. Pan ddwg Duw ei weision gweinion o gyni, Dyma yr adeg mae'n gwneyd mawrhydi, Y môr ga agor o'i flaen fel gwegi, Y caerau celltaidd a'r creigiau hollti, Haul a lloer, awel a lli, dros lwyddiant Ei blant a frwydrant, a gwnant fawrhydri.

Dwg Duw ban ei holl amcanion - i ben, Trwy byrth ei gaseion;

Geilw a gwrendy'r galon - ymollynga, A hi a lifa o'i flaen fel afon.

Ni welwn ni unoliaeth, -aml droion Nifeiriog olwynion nef ragluniaeth:

Eu troion mewn gwrthd'rawiaeth - ymddengys; A'u dull dyrys uwchlaw dealldwriaeth;

 

 

 

x499

Er hyny nef - athroniaeth, sydd gyson A'i heang dreion heb anghydrywiaeth, Welir gan ddynoliaeth yn ol dyfod Yn iach o waelod yr oruchwyliaeth. Mae rhyw bér a chwerw - ar gyfeilliaeth, Yn nhynghedaeth y byd yn nghadw; Rhyw droell hynod, rhyw drai a llanw, Yn helynt y byd wnawn alw - ' n rhagluniaeth; Helaeth amrywiaeth fel y môr hoew,

Drwy hyn y cedwir hwnw - rhag trwy lygredd Neu dra - a'mhuredd drewi a marw.

Onid doeth, fod rhai'n gyfoethog, ―i daenu Adenydd y geinig;

Ac ereill yn drugarog - i'w hestyn, I ryw adyn fo dlawd a rheidiog ?

Rhai yn weithwyr cyhyrog, —yn nghanol Anghenion lliosog,

I'w chynnull hi yn chwannog - nes ffurfio Drwy y wedd hono ddiwydrwydd enwog ? Dynion a'u cysuron sydd,

Yn gwlwm wrth eu gilydd;

A'u pwys ar y naill a'r llall, -lle dengys Rheidiau un, erys rhadau un arall.

Un a gwyd yn ddysgawdwr, -arall fydd, Yn berorieithydd neu bur areithiwr; Arall yn ddeddf - wneuthurwyr, -yn gomedd Un lle i drosedd, na llaw i dreisiwr: E a hoffa amddiffyn

Hawliau ac iawnderau dyn.

Aeth rhyw un yn athronydd - ac arall

Yn gywrain luniedydd;

Daw ar adeg rhyw drydydd,

Morwr neu ryfelwr fydd.

 

 

 

x500

Un â'n fardd, a'i awen fawr Yn cynnull blodau ceinwawr,

A ffrwythydd meusydd moesol - y galon A dillynion y bywyd allanol; A dwg yn adegol, -ambell beraidd Flodeuyn hafaidd, o'r brif - wlad nefol.

Y nesaf wnaeth yn amaethon, -deall Trin daear mae'r gwron;

Ar ei faes tirf, a'i weision - mae ' lygaid A'i anifeiliaid dry'n yn ei ofalon.

Gŵr arall geir o herwydd - ei dalent Yn deilwng fasnachydd; Un gwr yn farsiandwr sydd, Rhwng gwlad a gwlad yn gludydd. O'i ol ef mae dylifiad — syniadau, Trugareddau, a blasder gwareiddiad. Rhai ydynt yn feistradoedd, -a'u calon Ar ofalon a gweithwyr filoedd; Rhai'n hynaws freninoedd, rhai'n swyddogion, A rhai yn weision i drin teyrnasoedd.

Rhai'n feddianwyr,

Rhai yn werthwyr, O rin brinaidd;

Rhai yn brynwyr,

A'r byd mawrhynt

Yn myn'd rhyngddynt, Yn rheolaidd.

Ar ei helynt,

Er mor ëang yw'r amrywiaeth - yma,

Nid oes dim anhrefnaeth;

Anela at nnoliaeth,

Digon yw, mai Duw a'i gwnaeth.

Duw i for a diferyn, ac afon,

A gofer a gwlithyn;

KK

 

 

 

x501 Roes eu gwaith, effaith hyn - yw cyflawnu,

A diwallu un bwriad dillyn.

Ba hyd caiff anarbodaeth -- a gwallau Ein bywydau, drwy anwybodaeth, Esgeulusdod, difrodaeth, —diogi,

Eu galw a'u henwi yn waith Rhagluniaeth ?

Wele, adyn mewn tlodi, -yn herwydd

Yn hir gyfeiliorni;

E ga rheswm ei groesi,

Wrth roi hyn i'w herbyn hi.

Pa wedd y daw llwydd i'r meddw ? —neu y daw

I'r dyn diog elw ?

Daw rhyw un arall heb drin ei erw,

Beia law IÔN fod ei ŷd heb lanw,

Oferedd i neb fwrw - ' r anhoraeth

Ar Rhagluniaeth, a wnaeth drwg hwyl hwnw.

Yn ei llaw gwobrwyon llwydd — a erys, Mae'n caru diwydrwydd;

Ni fedr i blant, ynfydrwydd - a chware, Ond rhoi cyfle i flinder ac aflwydd.

Yr hyn ni ellir yn hollol - ochel, Er ymdrechu'n nerthol, Na drwy un wedd ei droi'n ol, I waith hon sy ' berthynol.

I'r unrhyw nerth y perthyn Yr holl dasg, na fedr llaw dyn.

Ni eill calon gwr esbonio - y maint Na'r modd y mae'n gweithio;

Nac y fan y mae'n cyfuno Llaw ei hun, a'i allu o.

 

 

 

x502

Na d'wedyd y cysylltiadau - a raid Fod rhwng amgylchiadau

A'u gilydd; na rhoi golau -- pa'm nad all Fel arall fod amryw gyflyrau;

Na pheth yw'r gwir effeithiau — a weinir, Drwy wahaniaeth graddau:

Ni ŵyr neb beth yw'r undebau - moesol, Mwy na'r anianol rhwng mân ronynau. Fe unir tynghedfenau - cenedloedd Daear, ieithoedd ac ymerodraethau; A chedwir amgylchiadau - neillduol, Yn ei llaw nerthol sy'n llawn o wyrthiau. Trwy ei chyfoeth dyrchefir Deyrnasoedd am oesoedd hir.

Duw IÔR wnaeth Prydain dirion — yn brif wlad Ei sylw, a'i gariad, a'i rasol goron.

Paradwys byd yw Prydain, -goleuni Rhagluniacth fu'n arwain

Ei thynged ogoned gain - drwy'r oesoedd Hyd dir a moroedd i'w gwychder mirain.

Gwlad fawrwych a glodforir - hyd nef wyd, Prydain Fawr y'th elwir;

Mawr ydwyd, O ! fy mro - dir. A mawr iawn er's tymhor hir. Dy enw a adwaenir - drwy bob ynys, A'th ewyllys drwy bob parth ddiwellir; Dy eiddo anrhydeddir - a'th fawredd, Hynod ei amledd drwy'r byd a deimlir.

Diluddias yw dy lwyddiant - dy fiyniau A'th hael lechweddau a'i bythol chwyddant, Y parthau pell a'i porthant,

Môr a thir i'w ddarmerth ânt.

 

 

 

x503 Anhafael yw'th nwyfiant, -anghydmarol, Yn dy ganol yw dy ogoniant;

Gwledydd cyfoethog lwydant - gerbron golau Ei ddwyfol wenau, hwy a ddiflanant.

O'r nef y daeth ei chrefydd - oruchel, Saif yn ddrych ysplenydd

O wiwdeb a phurdeb ffydd, yn nghanol Adfeiliadol a deifiol wledydd.

Hyhi yw syw Fynydd Sion,

Dinas Duw mawr yr awr hon !

Ei gyfraith faith ni fetha,

O Frydain lan allan â,

A galr y bywyd a gerdd

Hyd eitha'r ddaear ddywerdd;

Ni chwilia heb ddychwelyd

Pobl lawer o bellder byd,

I'w lys ef y dwyfol Sant,

I gynal ei ogoniant.

Bydd trech y " gareg fechan, " -- a dreiglir,

O'th drigle di'n fuan;

Syrth ar draed y ddelw welw, wan, -

Hyhi a ddryllir o'r ddaear allan.

-a chyn hir

Wele ! y mae'r " bwystfilod " -yn crynhoi

Eu cyrn er gwneyd difrod;

Ond ar eu cyrn Duw ry ' ddyrnod, — Cyrnau ddeg, ceir hyn i dd'od.

Tynu mae Protestaniaeth - y gwledydd At eu gilydd yn llu têg helaeth;

Gwelir, wrth bob argoeliaeth, -bydd, bob tu, Rhwbio a baeddu mawr ar Babyddiaeth.

Efengyl ni chyfyngir, -

A llef Duw i'r pellaf dir.

 

 

 

x504

Cael eu hagor mae'r Colegau - i'n meib, Bydd mwy'r cymhwysderau;

Dysgant, eglurant yn glau,

Leithoedd a gwybodaethau.

Ac yna, wedi'n, dros y Genadaeth,

Yn llwyr galonog, yn llaw Rhagluniacth, Brysiant a dygant drwy'r greadigaeth Hanes Duw a neges Crist'nogaeth; Eäng alwadau efengyl odiaeth,

Heddwch IOR i rydd a chaeth, -pawb dynion,

Duon a gwynion heb un gwahaniaeth.

Daw y diwrnod i deyrnas - y Duw byw

Doi y byd o'i gwmpas;

Maes o law ei groesaw,

a'i gras,

Dry ledled ein dacar lwydlas.

Daw natur i'r dyn eto - ' n fwy hynaws; Mae'r nef wen, er's hirdro,

Wedi'u hethol i gydweithio - ' n helaeth, O du rhagluniaeth i dreiglo hono.

Uffern, er maint yr hoffa, -ac er maint

Ei grym a'i chyfrwysdra,

I'w lluddias hi ni nis llwydda, - NER a'i waith yn mlaen yr â.

Gogoniant mynegol Duw y duwiau

Leinw y ddaear, ni chaiff eulun - dduwian Mor ddihawl wedi'n ' mo'r addoliadau; Rhwygo garw fydd ar y gau - grefyddau;

Y dydd hwnw sydd yn neshau, -llenwir cant * Daear à moliant Duw i'r ymylau.

Duw a'i law enwog sy'n dàl awenau

' R llywodraeth helaeth hyd fyrdd o heuliau;

* Circle.

 

 

x505

Allan gyr anian â gair ei enau, Ac ni all Abred gau un o'i llwybrau; Efe a wêl arwain pob cyflyrau,

A'i law uwch edyn pob amgylchiadau, Trefna hwy'n ol ei fythol arfaethau Diboen, i gyrhaedd y dyben gorau: E wnaeth ei ragluniaethau - ' n ardderchog, Y mae ei odidog symudiadau,

Yn anian a ninau, - ' n dadgan clod Dirif ei DDUWDOD a'i ryfeddodau.

Ni welir heddyw'n olau - i fwriad

Ei fawr ragluniaethau;

Ond ar fyr daw rhyw forau - ca'i saint glân,

I hen lyfr anian, o uchel fryniau

Nef, edrych a mwynhau, —byth mewn heddwch A hyfrydwch, ei holl fwriadau.

Marwnad

ER COFFADWRIAETH AM Y DIWEDDAR

THOMAS RICHARDS,

O BORTHCERI,

YSGOLFEISTR;

Yr hwn a fu farw Awst, yn y flwyddyn 1858,

NID coffa athrylith o ddirfawr ogoniant,

Nac uchel ddysgeidiaeth yw'm gorchwyl yn awr, Ond coffa ffyddlondeb, diwydrwydd, a llwyddiant, Mewn cylch ag oedd bwysig, er nad oedd yn fawr; Mae'r hwn fu'n troi ynddo, sef gwrthddrych ein cofnod, Yn awr yn gorphwyso'n nhawelwch y bedd,

Tra mae clod a bendith, a serch ei gydnabod Yn gwylaidd gyhwfan o'i amgylch mewn hedd.

Un oedd THOMAS RICHARDS, o ardal Porthceri, Penmarc, lle bu'n gweithio'n nghelfyddyd saer maen;

 

 

 

x506

Nid fel ei gyfoedion y mynai ymloni,

Aeth clod ei weithgarwch a'i sobrwydd ar daen. Yr oedd y gym'dogaeth bryd hyn heb un ysgol, Na'r gwr a'i tywysai i'w gael yn un man; A'r plant hwythau'n tyfu i fynu'n andwyol, O eisiau gwybodaeth defnyddiol i'w rhan.

Ond ebrwydd e glywai'r haelfrydig ROMILIAID

Fod RICHARDS yn meddu ar ddognedd o ddysg; Er mwyn rhoddi prawf ar gyflawnder ei enaid, Fe gafodd wahoddiad groesawgar i'w mysg: Canfyddwyd y meddai'r elfenau athrawol,

A rhaid oedd, mae'n debyg, eu gollwng yn rhydd, A rhoi iddynt hefyd y ffurf oedd briodol,

I hyn, ca'dd ei ddwyn drwy ysgolion Caerludd;

Lle cafodd mewn addysg a'i ffurf ei berffeithio, Ar draul y ROMILIAID haelfrydig a chun; Dychwelodd yn meddu cymhwysder yr athraw, At deithi'r ysgolor ac urddas y dyn: Y morthwyl a'r cun a ro'es bellach o'r neilldu, Nid am fod gwobrwyon celfyddyd yn brin, Ond herwydd y mynai rhagluniaeth ei gasglu At waith y silliadur, y pwyntyl, a'r pin.

Cyfodwyd ysgoldy cyfleus yn Mhorthceri,

A'i ddôr a agorwyd ar led i'r holl wlad; A phlant yr amaethwyr gaent yno'u haddysgu Am brisoedd rhesymol, a'r tlawd braidd yn rhad: At hyn y cysegrodd ei hunan a'i amser,

Dyledswydd yr ysgol gyflawanai heb ffael; A gwnaeth ysgolheigion llwyddianus o lawer, Maent heddyw o amgylch Porthceri i'w cael.

Er cymaint oedd llafur â lludded yr ysgol, Mewn dysgu'n feunyddiol bum ugain o blant,

 

 

x507

Efe ni ddiffygiodd, ond daliodd yn wrol, Heb roi lle i ddiogi, nac amser i chwant;

Rhyw ganoedd ar ganoedd a ddysgodd mae'n debyg, O feibion a merched yn ystod ei oes, Ac nid mewn gwybodaeth elfenol yn unig,

Eithr hefyd mewn rhinwedd, prydferthwch, a moes.

Fe safai yn dŷn at reolau yr ysgol,

Arferai ddysgyblaeth ddiartaith, ond llem; Yr oedd sefydlogrwydd y meddwl gorch'mynol, A'r farn annibynol yn byw yn ei drem: Mae'n wir y cynhyrfai'r geryddol wialen,

Rhai gweithiau deimladau anfoddus y fam, Ond ef ni cheryddai ond pan f'ai gwir anghen, Am hyny ni feiddai neb ofyn paham.

Trefnusrwydd, prydferthwch, a doethder cydweddol A wisgent gynlluniau yr ysgol i gyd; A'r addysg weinyddid oedd gryf a sylweddol, Y peth oedd yn anghen i fyw yn y byd: Fe dystiai'r Dirprwywyr ddaeth dros y Llywodraeth, I edrych ysgolion y deyrnas o'r bron,

Nad oedd drwy holl Gymru, ' nol graddau'r ddysgeidiaeth, Un ysgol drefnusach na harddach na hon.

Nid fel ysgolfeistr yn unig ei cerid,

Nid hyny yn unig oedd sylfaen ei barch; Meddianai rhyw eraill ragorion cynhenid,

A wnaeth i rai wylo yn drist ar ei arch: Hawddgarwch ei dymher, parodrwydd ei ysbryd, Hynawsedd ei deimlad, didwylledd ei fryd, A'i gwnaeth yn gymydog a chyfaill cywirfryd, Na chwrddir yn fynych a'i fath yn y byd.

Caid yn ei ymddiddan ffraethineb a chraffder, Cynaliai ddyddordeb cymdeithas i'r lan;

 

 

 

x508

At synwyr naturiol oedd lawn o felusder, Bu hefyd wybodaeth ararywiog i'w ran; Fe wyddai gryn dipyn am ffeithiau daeareg, Darllenai gerddoriaeth yn rhwydd ac yn bêr; Ac mewn daearyddiaeth atebai'n ddiatreg, A gwyddai beth hefyd am droion y sêr.

Ei blant a gyfododd mewn addysg i fynu, Gosododd eu meddwl ar bethau sy ' dderch; A'r ysgol lle'r ydoedd ef gynt yn addysgu, Yn awr a dywysir gan CATRIN ei ferch. At gyfoeth o rinwedd, a moes, a gwybodaeth, Trysorau gwir grefydd a fynodd efe;

Yn Eglwys Porthceri y gwnaeth ei aelodaeth, - Ond cael bod yn gywir, ni waeth yn mha le.

Ond marw wnaeth RICHARDS, a chollwyd gwir gyfaill, Fe deimlir ei eisiau yn hir yn y lle;

Ond os oedd ei farw yn golled i eraill, Gobeithiwn mai elw oedd hyn iddo fe: Pwy bynag a garo gael parch yn ei fywyd, Ac enw da hefyd ' nol myned i'r bedd,

Gwnaed fel y gwnaeth RICHARDS, bob amser, oblegid Mae'r llwybrau a rodiodd yn arwain i hedd.

WYTH ENGLYN I CARVAN.

" CARVAN. - A Saint of whom nothing further is known than that he founded the Church of Llancarvan in Glamorgan. ” — Dictionary of Eminent Welshmen. *

O'i holl hynt, dim ond y Llan - a welir,

Lle'r addolai CARFAN;

A gwae fod yr enwog fan Hithau yn adfail weithian.

* O ganlyniad nid oes gan yr awdwr ond dibynu ar associations.

 

 

 

x509 Ond ar hon ei enw a drig, —a'i hanes Yn ei en seintig;

O'i rin a'i ddawn, rhagfarn ddig

Ni chadwodd ond ychydig.

Ffei ddiles hanes, ai huno - oeddit, Neu pa wedd yn angho ', Was Duw hwn gadewaist o,

A CHATWG mewn parch eto ?

A wnaeth rhyw drin blin o'i blwy ' — ei yru Dros for, fel GORONWY-

Fel MADOG - neu fel MEUDWY,

Wedi myn'd na's cafwyd mwy ?

Ond hwyrach i DDUw'n dirion - alw'i was

I le uwch helbulon,

Yn gynar cyn i'w geinion

Agor brig na blagur bron.

Ai nid seren wen yn t'wynu - ydoedd,

Gyda bod i fynu,

Gyfeiriad llygad y llu,

Wele hono'n diflanu.

Ac hwyrach mai yma gorwedd - ei gorff,

Dan garn o arddunedd !

Gwiliaf na faeddaf ei fedd,

Crynaf uwch ei gysegr - anedd !

Os na chafodd bris na chofiant - ei oes,

Ni waeth, digon haeddiant.

Rhin a swyn yr enw Sant, I gynal ei ogoniant.

 

 

 

x510

Can yu Desgrifio Galar Rhieni ar ol eu Mab,

YR HWN A FU FARW AR Y MOR WRTH FYNED TUA'R AMERICA,

YN iach ! yn iach ! Rieni mad, Wy'n meddwl myn'd yn mhell, Draw tua'r Orllewinol wlad,

I edrych tynghed well;

Ac, O mor dêg yw'r drem o'm blaen, Gan flodau llwydd yn frith ar daen !

Draw, draw, yn ngwlad machludiad haul, Y gwelaf wawr fy llwydd; Rhaid newid Prydain fawr ei thraul Am wlad mwy rhad a rhwydd; Mae beichiau hon yn fawr a thrwm, Ar ysgwydd gwr fel mynydd plwm.

Ond os na welaf lwydd ar lan

Y Gorllewinol fyd,

Mi ail - gychwynaf yn y man

I gefnfor llwydd i gyd, -

I'r wlad lle mae dedwyddwch claer Yn eistedd ar ei orsedd aur. *

O ! gwrando, RHYS, fy machgen, paid

A thori'm calon gun;

Ti wyddost nad oes arnat raid

I ado gwlad dy hun;

Mae pob rhyw fendith ger dy fron Sydd anghen yn y fuchedd hon.

Ah ! nid yw'r desgrifiadau heirdd O'r wlad a gefaist gynt, Ond ffrwythau ymenyddion beirdd,

Ac ansylweddol wynt;

* Califfornia.

 

 

x511

Nid oes ond siom i'r sawl sy'n hau En llwydd yn mensydd gobaith gau.

Nid gyda'r perl na'r gwerthfawr faen Y trig dedwyddwch clau; Fel byddych di'n ymdynu'n mlaen, Bydd yntau yn pellhau: ' Run fath ag enfys hardd ei phryd, Yn diane o dy flaen o hyd.

Gollyngwch, anwyl fam a thad, Linynau'm calon i;

Wyf am gael prawf o rin y wlad. Sy'r ochr draw i'r lli ':

Mae yn ddyledswydd ar bob dyn I wneyd y goreu drosto ei hun.

Wy'n myn'd, wy'n myn'd, ac os myn Duw, Dychwelaf eto'n ol,

I'm genedigol wlad i fyw,

A llwyddiant lon'd fy nghol;

A thra fo cyfran genyf fi,

Ni chaiff fod anghen arnoch chwi.

Wel, myn'd a wnaeth, er dagrau mam,

Ac ymbiliadau tad;

Heb syniad fawr am unrhyw nam,

A llai am farwol ' stâd;

Bu wylo mawr y dydd yr aeth, Ond dydd i wylo mwy a ddaeth.

Aeth heibio lawr diwrnod blin, A noswaith brudd a dwys, Cyn i lais hiraeth ado'u min,

Nac ysgafnhau o'u pwys;

Eithr amser wnaeth, fel meddyg gwiw,

Bron lwyr iachau eu teimlad briw.

 

 

 

x512

Ond un boreuddydd, pan oe'nt oll Mewn cariad wedi cwrdd,

I gyd - fwynhau, heb ddim yn ngholl, O ddarpariadau'r bwrdd:

Pob bron yn iach, a haelwen hedd Yn ddysglaer d'wynu ar eu gwedd,

Doi'r llythyr - gludydd at y ddôr, Ac Oh ! ' r chwyldroad fu, Pan gawasant lythyr dros y môr, O dan arwyddion du !

Nis gallai neb o'r teulu crwn

Braidd ddatod sêl fygythiol hwn.

Ond pan ei gwnaed, hwynt - hwy ar frys Deimlasant bwys ei iaith, -

Bu farw, Ow ! " bu farw RHYS, Cyn cyrhaedd pen ei daith ! "

Ar hyn fe syrthiai'r fam i lawr, A'i phlant o'i chylch yn wylo'n fawr.

Ac ' nawr y tad, mewn teimlad dwys, A waeddodd, " O ! fy ngwraig ! Fy mhlant ! fy mhlant ! fy machgen glwys Sy'n ngwaelod erchyll aig !

Fy mab, fy mab ! pa le ' rwyt ti ? Rho im ' fy mab, O ! greulawn li ' ! "

Mhen enyd fach dadebrai'r fam,

Gan roi gwaeddolef ddwys,

Gan ddweyd, — “ Rhagluniaeth fawr ! paham

Na chawsai ' machgen glwys

Rhoi'i ben i lawr ar wely plu,

A marw yn ei gartref cu ?

" Ac O ! na chawswn â fy llaw

Ddal pwys ei ben i'r lan;

 

 

x513

Ymdrech'swn gadw angau draw,

Er nad yw'm braich ond gwan; O ! p'am na chawsai groesi'r lli ', Neu farw rhwng fy mreichiau i ? " Paham na chawswn deimlo'i law, Neu wel'd ei olaf wedd, Ac wylo uwch ei arch heb daw, A'i ganlyn hyd y bedd,

A chlywed gair uwchben ei gell, Am obaith adgyfodiad gwell ? '

"

" Mi eisteddaswn ddydd a nos,

Ar bwys ei erchwyn ef,

Heb rwgnach dim, na dweyd yn groes

I or chwiliaethau'r nef;

Ond cael ei wel'd o fewn fy nghell,

Yn marw o farwolaeth well.

" Mi ges y fraint o roi fy llaw Yn llaw'm perth'nasau oll, Eu beddau sy'n y fynwent draw,

Ond b'le mae beddrod coll Fy anwyl Rys ? Ow ! b'le mae ef ? O, dywed for ! O, dywed nef !

" Mi wn yn awr, drwy brofiad prudd, Pa beth yw calon drom;

Mae dagrau DAFYDD ar fy ngrudd-

Bu farw'm ABSALOM;

Fy anwyl Rys ! O, dirion ne ' !

Na chawswn farw gydag e '.

" Ow ! mae'm dychymyg gwyllt mor lawn

O ddelw'r dynghed brudd, -

Erch ledrith hon, bob hwyr brydnawn, O flaen fy llygaid sydd;

Fy nghymwynaswr fyddai'r bedd, Can's yno'n unig mae fy hedd. "

 

 

 

x514

HENAFIAETH

NEU

Y BARDD.

RHAGFUDIANT BARDDONIAETH.

Y MAE y bardd yn gymeriad, nid yn unig o urddas, ond o henaf- iaeth mawr hefyd. Y mae bardd a dyn, yn mron, yn gyfoediog. Nid hir y bu treigliad oesoedd y cynfyd cyn i darandwrf yr awen dori ar ei undonaeth feddyliol. Yr ydym yn clywed trwst cerdded- iad ymneshaol yr awen yn nghyfarchiad mawreddus a grandiloquent LAMECH i'w wragedd ADDA a SILAH, pan ddywedodd efe, — " ADDA a SILAH, clywch fy llais; wragedd LAMECH, gwrandewch fy llef- erydd; canys mi a leddais wr i'm harcholl, a llanc i'm clais. " Heblaw y neillduolrwydd a berthyna i'r ieithwedd, neu i'r ffurf sydd yn gwisgo y brawddegau uchod, y mae mawrhydi ac ucheldonedd y syniadaeth, gwrid a therwynder ( fervour ) y pathos y fath, nes gwneuthur i ni deimlo fod rhyw swyn a dylanwad yn ein ham- gylchynu, yn wahanol iawn i'r hyn a deimlwn wrth ddarllen para- graffau eraill yr un bennod.

Yn mhen ychydig o amser ar ol hyn, cawn fod LAMECH, ar yr achlysur o enwi ei fab NOAH, yn canu eilwaith, ac mewn ysbryd prophwydol hefyd; yr hyn a ddengys ei fod yntau yn gyfranogydd achlysurol o'r ddwy ysbrydoliaeth nef - anedig hyny ag oeddynt, yn mrcn, bob amser yn gyplysedig, neu yn gymdeithion yn narfelydd- ion prophwydi yr Hen Destament; yn wir, yr oedd rhyw gyfath- rach agos iawn rhwng yr ysbrydoliaeth farddol a'r un brophwydol, canys byddai y bardd a'r prophwyd Hebreig, yn mron, yn ddi- eithriad, yn cydgyfarfod yn yr un person uchel a dwyfol - ddoniedig.

Ond bernir gan rai mai y beirdd - dadau, neu y ddosparth boreuaf o feirdd oedd y dosparth bugeiliol o gymdeithas. Yr oedd galwed- igaethau symudol a chrwydrol y bugeiliaid yn rhoddi y fantais o newid golygfeydd, a thrwy hyny gyfoethogi eu darfelyddiou - eu bywiogi, a'u mynych gynhyrfu i weithgarwch. Yr oedd eu hab- senoldeb o gymdeithas, a'u mwynhad o unigedd tawel a thangnef eddus natur, wrth ganlyn eu deadelloedd ar hyd llechweddau gwyrddleision mynyddoedd, neu wastadeddau llysieuog a brâsdyfol y Dwyrain, yn meithrin ynddynt ysbryd sylwgar, myfyriol, ac edmygus. Yr oedd natur yn un panorama brydferth a gogoneddus, yn noeth ac agored o'u blaenau; ei llais bob amser yn eu clyw; a'i rhyfeddodau bob amser yn eu hamgylchynu. Nid oedd trwst celfyddyd, dwndwr masnach, na ffwdan cymdeithas un amser yn cyfryngu fel ag i dori ar eu cymdeithas a'u cyfrinach â hi, nac i

 

 

x515

wahanu rhyngddynt a'i hargraffiadau mwyaf uniongyrchol, dwys, ac effeithiol.

O'r ffynonell henafol hon y tardd y rhywogaeth hono o farddon- iaeth a elwir y fugeilgerdd, anhepgorion pa un yw darlunio neu ddesgrifio golygfeydd gwledig; ac os bydd y cyfryw gân i fynu ag amcan ei ddosparth, bydd y desgrifiadau mor hyfryd a naturiol nes ein dwyn i'w hedmygu; neu mor swynol a phrydferth nes creu ynom hiraeth am gael bod yn gyfranog o'r unrhyw fwynderau dymunol.

Ymddengys yn dra thebygol mae y rywogaeth foreuaf o lenydd- iaeth yw barddoniaeth. Ymarllwysiad naturiol y galon ydyw - yr iaith drwy ba un y mae darfelydd a theimlad yn ceisio ynganiad; tra y mae rhyddiaith yn arwyddo mwy o adfyfyriaeth a chywirdeb rhesymol, ac oblegid hyny yn arwyddo sefyllfa uwch o allu dèall- twriaethol.

Gellai hyn, ar yr olwg gyntaf, ymddangos yn haeriad tra gwrth- ddywediadol. Y mae dynion bob amser yn siarad â'u gilydd mewn rhyddiaith, ac oblegid hyny gallesid meddwl y buasai y gweithiau hyny a fwriadent i'w gorocsi i gymeryd arnynt y ffurf fwyaf na- turiol, ac nid wedi cu rhwymo yn hualau mydraeth. Ond y mac hancs pob cenedl yn myned yn mhell i brofi mai nid felly yr oedd pethau yn bod, a gellir drwy yr ystyriaethau byrion canlynol roddi eglurhad ar y pwnc. Byddai y gwrandawyr, pa un bynag ai cynal defod gyfrinachol, cymdeithasol, neu grefyddol - pa un bynag ai wrth fwrdd y wledd neu o amgylch yr allor y byddent yn dysgwyl neu yn gorchymyn rhyw fath o gyfansoddiad wedi ei gyfaddasu i'w ganu gydag offerynau cerdd; ac ni fuasai gosod y cyfryw gyfan- soddiad mewn dull mydryddol yn un anhawsder gwirioneddol. Y mae y cymhorth ag y mae mydraeth yn ei hyfforddio i'r côf, ag oedd y pryd hwnw heb gymhorth celfyddydol un math o ysgrifen, yn gorbwyso o ddigon yr anghyfleusder a allai gyfodi oddiwrth anhawsderau mydryddiaith. Dylid cadw mewn cof, hefyd, fod yr amrywiol sefyllfaoedd ag y caniatteid i eiriau yr ieithoedd hynafol i fyned o danynt yn lleihau yr anhawsder ag oedd yn nglyn a myd- ryddiaeth yn fawr; yr hon fantais a wrthodir i ni yn awr gan y deddfau mwy caeth ag sydd yn rheoleiddio trefn gystrawenol ieith- oedd diweddar.

Tybia rhai, ac yn eu plith awdwr yr " History of Greek Classical Literature, " mai mewn cysylltiad digyfrwng â chrefydd y dad- blygodd barddoniaeth ei hunan gyntaf; a'r addoliad hwnw - dy- hewyd, brwdfrydig, pa un a gorphorid mewn barddoniaeth ydoedd addoliad natur. Preswyliai y Groegwr dir a gwlad ag oedd wedi eu cyfaddasu yn dda at feithrin y crebwyll a'r darfelydd. Yr oedd ei wlad ef yn wlad o brydferthwch pictwrol ac amrywiog - gwlad y

 

 

 

x516

mynydd a'r llifeiriant - gororau pa un oeddynt wedi cael eu daneddu gan amryw o gilfachau a dyfragenau prydferth; a'i thir, yn mron yn mhob parth o hono, yn cael ei olchi gan y môr; yr hyn oll gyda eu gilydd yn naturiol a awgrymant i'r meddwl ddelwddau o'r prydferthwch mwyaf tawel, ac weithiau o'r gorucheledd mwyaf mawreddus ac ardderchog. Yr oedd hinsawdd y wlad, hefyd, yn llawn mor brydferth a'i golygfeydd. Yr oedd y beirdd hynafol bob amser, yn hoffi siarad am dryloewder yr unrhyw. Y mae un ysgolor ac ymdeithydd diweddar yn ysgrifenu am wybren ac awyrgylch Groeg: -

" It is impossible to describe the varied tints which dye the marbles of Hymettus which bathe the islands of Ægean, and fringe the crests of the mountains. So magnificent are these effects of light that even HOMER has not attempted to paint a sunrise or a sunset, He has substituted metaphor for details which his pencil could not trace. He has spoken to us of the rosy fingers of AURORA, to distract our attention and make us forget that he has never described AURORA herself. "

" Nor does the light of the sun in Greece alone defy description; the night has its own peculiar brilliance. The stars shine like fire. The rays of the moon are not of silver, as in the cold North. The attributes of PHOEBE are similar to those of her brother; the poets, with truth. encircle her brow with a crown of gold. "

" The bright and cheerful climate was supposed, by the ancients, to exert an influence over the mental powers; and CICERO attri- butes the clearness of Attic wit to that of the Attic atmosphere. "

Byddai y Groegiaid, yn eu chwedloniaeth, yn cysylltu y chwedlau hyny a drosglwyddwyd i lawr iddynt gan draddodiad, à golygfeydd lleol eu mamwlad; ac fel hyn yn poblogi pob afon, ffynon, a mynydd â duwiau ac â gwyddonesau, neu rhyw fodau goruwchnaturiol eraill. Yr oedd pob golygfa y gorphwysai llygad y Groegwr arni yn cael, yn ol fel ag y dychymygai ef, ei herlyn gan rhyw hanfodan dirgelaidd a dieithriol, nes fel hyn yr oedd hyd y nod bethau trengol a diflanedig y byd yn cael eu harfathu megys âg anfarw- oldeb. Oddiwrth hyn, ac fel ag ein hysbyir drwy draddodiad, y caniadau boreuaf oeddynt hymnau dwys a difrifol, â pha rai y cyferchid yr arddangosiadau duweiddidg hyn o eiddo natur. Fel hyn, ynte, yr oedd barddoniaeth, pan yn ei sefyllfa o fabandod, yn sylweddoli y deffiniad hwnw o eiddo STRABO o honi, sef, “ Y dylai pob barddoniaeth fod yn gynwysedig o hymnau a mawlgerddi. "

Y cynyrchion hyn, er yn anysgrifenedig i'r oes foreuol hono, oedd ei llenyddiaeth. Barddoniaeth oedd y cynyrchion boreuol hyn, yn meddu llinellau yn cyfodli â'u gilydd, pa rai a wasanaethent i ddifyru y glust, a swyno, os nad adeiladu, y deall hefyd; a hyny yn

 

 

 

x517 mhell cyn i'r Groegiaid ddyfod i wybodaeth o'r gelfyddyd o ys- grifenu, nac hyd y nod i wybodaeth o lythyrenau yr egwyddor.

Er mai ychydig a wyddis am y beirdd neu y cerddorion boreuol hyn, eto y mae yn sicr eu bod, fel cyfansoddwyr hymnau, ac fel rhai yr ymddiriedid iddynt am goffadwriaeth o chwedlau teuluaidd y genedl, yn sefyll yn uchel yn marn, a thyb, a theimlad y bobl. Yr oedd y bardd Groegaidd, megys y bardd Cymreig a Hebrëig, yn gynysgaeddedig, nid yn unig ar ysbrydoliaeth farddol, ond hefyd â gwybodaeth o'r dyfodol; efe gan hyny oedd y prophwyd a'r gweledydd, ac arwyddid y ddwy swydd drwy yr un enw cyffredin. Ac megys ag yr oedd efe yn arweinydd iddynt mewn addoliad cyff- redinol, ac yn geidwad eu traddodiadau, yr oedd hefyd yn offeiriad, hanesydd, a dysgawdwr lleygol iddynt. Nid yn unig yr oedd yn gweinyddu i'w difyrwch, ond yr oedd ei sefyllfa hefyd yn un o ddylanwad ac awdurdod mawr. Efe, yn aml, oedd gynghorwr gwleidyddol y tywysog, yr hwn hefyd a ymddiriedai iddo y dyled- swyddau mwyaf lednais. Y boreuaf o'r beirdd a'r cyfansoddwyr hymnau hyn ag y mae eu henwau wedi eu trosglwyddo i lawr i ni oeddent ORPHEUS, EUMOLPUS, THAMYRIS, MUSEUS, CHRYSOTHEMIS, PHILAMMON, OLEN, ag ychydig eraill; a'r duwiau hyny, âg addoliad pa rai yn neillduol y cysylltid y caniadau cwynfanus neu orfoleddus y soniwyd am danynt yn flaenoral, oeddent APOLLO, DEMETER, DIONYSIUS, a CYBELE.

Er fod dyheuadau crefyddol dyn, yn yr oesoedd boreuaf, yn ceisio ac yn cael ynghaniad mewn caniadaeth, eto nis gallwn sicr- hau bodolaeth llenyddiaeth farddol Roegaidd cyn amser HOMER. Dichon y gallasai y beirdd a'i rhagflaenai fod wedi gwneuthur llawer tuag at ffurfiad iaith seinber a chaboledig; gallasant fod wedi trosglwyddo i lawr i'r oesoedd ystorfeydd helaeth o chwedlau arwrol i ddyddori, dywediadau doethion i addysgu, a darfelyddiaeth bryd- ferth i ddifyru eu gwrandawyr. Ond i'r awdwr Homeraidd yn unig, yr ydym yn wir ddyledus am gydymgyfuniad yr holl ranau hyn mewn un cyfanrwydd cydgordiol.

Ond gadawn yr awen Roegaidd ar hyn o bryd, a dychwelwn at yr awen hono, neu yr awenau hyny, ag ydym ni, y genedl Gym- reig, yn fwy cyfarwydd â'u hanes ac â'u hathroniaeth.

"

Yr oedd dynion santaidd Duw, " neu brophwydi yr Hen Des- tament, yn mron i gyd yn feirdd. Edrychwn fel y mae eu cynyrch- ion calon - a - meddwl - afaelgar yn addurno, prydferthu, a melysu llen- yddiaeth y llyfr digyffelyb hwnw: mor gyfoethog mae y gyfrol anghydmharol hono o'r syniadau barddonol mwyaf derchafedig- o'r meddylddrychau mwyaf coeth a detholedig - y crebwyll mwyaf cynyrchus - y darfelydd mwyaf toreithiog. Yn marddoniaeth y llyfr hwn yr amlygir y pathos mwyaf tyner, toddedig, nwydus, ac angherddol; a'r enthusiasm, neu v brwdfrydedd mwyaf molianus,

L L

 

 

 

x518

gorfoleddus, santaidd ac ysbrydol o holl lenyddiaeth farddol hên a diweddar y byd. Ac ni allasai hyn lai na bod felly, pan gofiwn fod athrylith ffrwythlawn a chyfoethog ei beirdd o dan eneiniad graslawn a thywysiad anffaeledig ysbrydoliaeth ddwyfol. Cynwysa y Bibl, yn mron, holl lenyddiaeth cenedl, yr hon a feddianai allu- oedd darfelyddol uchel, bywiog, a gweithgar. Yr oedd barddon- iaeth yr Hebrewr yn llawforwyn i'w grefydd; y mae, gan hyny, yn marddoniaeth y Bibl rhywbeth ag sydd yn ei derchafu uwchlaw pob llenyddiaeth arall o'r fath. Y mae natur bur a derchafedig ysbrydoliaeth farddol y Bibl, wedi taflu rhyw swyn a chysegredig- rwydd, megys, o amgylch yr holl weithiau hyny o eiddo yr athrylith ddynol â pha rai yr ydym yn arfer cysylltu yr enw ysbrydoledig.

Y mae pryddest arwrol Joв, Llyfr y Salmau, y Diarebion, y Caniadau, yn dadgan eu cymeriad eu hunain. Mae y prophwydi weithiau fel pe byddent yn ymsiglo rhwng barddoniaeth a rydd- iaith. Y mae eiddo ISAIAH, oddieithr ychydig nifer o benodau yn Llyfr y Breninoedd, yn farddoniaeth o'r fath ddillynaf a goruchelaf. Y mae efe, y blaenaf o'r prophwydi, mewn trefn ac urddas yn gyf- lawn o'r fath ragoriaeth gorodidog fel y gellir dywedyd gyda phri- odoldeb mai efe sydd yn hyfforddio yr enghraifft mwyaf perffaith o farddoniaeth brophwydol. Y mae JEREMIAH, er nad ydyw ddiffygiol mewn na dillynder na gorucheledd, eto yn ymresu yn îs nag ISAIAH. Nis gellir dywedyd fod mwy na haner ei lyfr ef yn gwisgo y cymer- iad o farddoniaeth. Y Galarnadau ydynt farwnad lawn o deimlad dwfn a pharhaol. Y mae EZEKIEL yn ddwfn, angherddol, a phrud- chwareuol ( tragical ), a'i syniadau yn dderchafedig a llawn o dân. Y mae y rhan fwyaf o'i brophwydoliaeth yn farddoniaeth mewn mater, yn gystal ag ieithwedd. O'r prophwydi lleiaf, y mae yn rhaid rhesu JONAH - oddieithr ei hymnau - gyda HAGGAI a DANIEL, fel ysgrifenwyr rhyddieithol. Nid yw eiddo ZECHARIAH ond bardd- onol mewn rhan; tra mae MALACHI wedi cyfansoddi mewn math o arddull ganolog. Y mae y lleill, tra y mae pob un yn arddangos ei arddull neillduol ei hun, oll i'w hystyried fel yn dyfod o'r tu fewn i derfynau y rhan farddonol o'r Bibl.

Ond nid yw y llechres yn gyflawn yma, oblegid ceir drwy yr Ysgrythyrau hynafol hyn, o'u dechreu, adranau o farddoniaeth o raddiad uchel - hymnau, rhyfelgeirdd, awdlau deisyfol caniadau buddugoliaeth, salmau o fawl, yn nghyd a galarebion o dynerwch a pathos nodedig. Ac nid yw y ffrwd farddonol yn diflanu ymaith gyda yr Hen Destament, eithr mae yn ailymddangos, o'r anial- gyfnod ag sydd yn ei ysgaru oddiwrth y Newydd, megys afon gladdedig, yr hon sydd gyda nerth a thaerineb yn tori allan i'w goleuni a'i hawyr gynhwynol ei hun. Yn olaf, yn mhlith y cyfan- soddiadau hyny ag sydd yn meddianu i gryn helaethrwydd y ran fwyaf o'r elfenau barddonol, y gellir cyfrif y pentwr rhyfeddoi hyny

 

 

 

x519 o weledigaethau a ddadlenwyd o flaen llygad gweledydd Patmos, pa rai sydd yn ffurfio y fath ddiweddlo cyfaddas i'r Canon Cys- egredig.

Y mae yn ddiau fod MOSES yn fardd ardderchog iawn, fel ag y dengys y gân odidog hono a gyfansoddodd ar yr achlysur o wared- igaeth plant Israel drwy y Môr Coch. Mae y prophwyd yn y gân hon fel pe byddai wedi ei lwyr feddianu gan orfoledd, edmygedd, a diolchgarwch gwresog, brwdfrydig, ac angherddol. Meddylia rhai beirniaid y gellir yn gyfiawn ystyried y gân hon fel un o'r darnau mwyaf hyawdl a fedd henafiaeth. Y mae y meddwl yn odidog, yr ymadrodd yn rymus, y ffugyrau yn hyfion, a'r arddull yn arddunol a mawreddig; mae pob rhan o honi yn gyflawn o ddelweddau ag sydd yn taraw y meddwl ac yn meddianu'r darfelydd. Rhagora, fel y tybir, ar y darluniadau mwyaf prydferth a roddwyd i ni gan y beirdd cenedlig yn y rhywogaeth hon o farddoniaeth.

Dyma VIRGIL a HORACE, er yr ystyrir hwy y cynlluniau mwyaf perffaith o hyawdledd barddonol, eto nid ysgritenasant ddim ag oedd yn deilwng i'w gydmharu a'r gân odidog hon. Mae yn wir fod bri a gwerth mawr yn cael eu rhoddi ar gynyrchion y ddau fardd clasurol uchod, gan y rhai hyny ag sydd wedi eu hastudio yn dda; ac y mae yn wir fod y darnau hyny a ganodd VIRGIL mewn anrhydedd i AUGUSTUS, yn nechreuad y trydydd lyfr o'r Georgics, ac yn yr wythfed o'r Eneid, a'r darn hwnw o fawl i HERCWLFF, a osodwyd ganddo yn ngenau IVANDER yr offeiriad, yn yr un llyfr, yn wych rhyfeddol; eto pan eu cydmherir a'r gân dan sylw, y maent yn dirfawr waelu. Teimlir fod VIRGIL fel yr iâ oer- llyd, tra y ceir MOSES oll fel y tân fflamllyd.

Y mae, yn mron, gan holl genedloedd henafol y byd - eu beirdd proffesedig - eu pêr - ganiedyddion. Un o'r cyfryw oedd DAFYDD, bardd dwyfol - ysprydoledig yr Hebreaid.

Yr oedd HOMER hefyd, fel ag sylwasom o'r blaen, yn un o feirdd boreuaf y Groegiaid.

OSSIAN, yn un o feirdd henafol Iscoed Celyddon ( Scotland ). TALIESIN oedd un o brif - feirdd henafol y Cymry; ac yr oedd ODIN yn fardd boreu iawn yn mhlith y Scandinafiaid.

Ar ryw olwg, ystyrir mai y Groegiaid oeddent dadau, neu o'r hyn lleiaf, wrteithwyr, mawr Barddoniaeth, Llenyddiaeth, Athron- iaeth, a'r Celfyddydau. HOMER oedd y cyntaf a thywysog y Beirdd, yr hwn a anfarwolodd warchae Caerdroia, yn ei " Iliad " a'i " Odyssey " -dwy o'r cerddi arwrol y rhai ni wnaed, ac ni wneir, feallai, fyth eu rhagorach.

Canlynwyd HOMER yn yr un dosparth o farddoniaeth yn mhen naw can mlynedd wedi hyny, gan VIRGIL, yn ei " Æneid; " a chan TASSO, yn mhen 1500 o flynyddoedd ar ol hyny, yn ei " Jeru- salem Delivered; " a chan MILTON, o gylch 190 o flynyddoedd yn

 

 

 

x520

ol hyny yn ei " Paradise Lost " -y bryddest wychaf a ysgrifenwyd fyth wedi yr " Iliad. ”

Heblaw yn eu HOMER, ymffrostiai y Groegiaid hefyd yn eu PINDAR a'u ANACREON mewn barddoniaeth delynegol; ac yn eu ARISTOPHANES, EURIPIDES, SOPHOCLES, ac ESCHYLUS, mewn barddon- iaeth ddramayddol. Ar eu hol hwy, yn yr arwrol, y canlynai OVID a THIBULUS; ac fel dramayddion, PLAUTUS a THORENCE; ac fel beirdd hyfforddiadol ac athronyddol, yr oedd ganddynt eu LUCRETIUS, eu VIRGIL, eu HORACE, a'u SILIUS ITALICUS.

Dyma yr enwogion a ystyrir gan feirniaid yr oesau, yn brif- feirdd clasurol y byd gwareiddiedig, ac sydd fel cynifer o wyrthiau o eiddo yr athrylith ddynol; ac a safant hyd ddiwedd amser yn enghreifftiau byth - efelychol yn ngwahanol ganghenau llenyddiaeth farddol.

Y mae y ran fwyaf o weithiau yr henafiaid hyn, o ran y meddwl, os nid o ran yr yspryd o honynt, wedi cael eu cyfieithu i'r Saes- onaeg, a ieithoedd eraill. Yn y modd hwn y mae genym Homer, COWPER a POPE; Virgil, Dryden; Pindar, WEST; Euripides a Sophocles, COLMAN; Ovid, GARTH; Lucretius, WOOD a BUSBY; a Horace, FRANCES, ac eraill.

Wrth ddyfod yn nes at amseroedd ein hunain, yr ydym yn cael, wedi hir nos o dywyllwch monachaidd, ac yn rhyw le o gylch y bumthegfed canrif, fod llenyddiaeth yr henafiaid yn cael ei had- feryd yn Itali. I'r adfywiad llenyddol hwn y perthynai DANTE, ARIOSTO, PETRARCH, a TAsso; pa rai a ganlynwyd yn Ffrainc gan RACINE, CORNEILE, BOILEAU, VOLTAIRE, FONTAINE, a DELILLE; ac yn Lloegr, gan CHAUCER, SPENCER, SHAKESPEARE, MILTON, DRYDEN, POPE, THOMSON, YOUNG, COLLINS, a GRAY. Heblaw yr enwau mawrion hyn, bu genym yn Lloegr a Chymru, o'r hyn lleiaf, ddeg - ar - ugain, neu ddeugain o feirdd eraill, gweithiau pa rai a ellid eu cystadlu ag eiddo unrhyw oes a gwlad.

Yn mhlith prif - feirdd henafol Cymru y saif enwau Taliesin Ben BEIRDD, ANEURIN GWAWDRYDD, a LLYWARCH HêN. Yn mhlith ein beirdd diweddar y saif enwau Dafydd ap GwilyM, GORONWY OWAIN, GWALLTER MECHAIN, IEUAN GLAN GEIRIONYDD, Pedr Fardd, Dewi WYN O EIFION, ROBERT AP GWILYM DDU, IORWERTH GLAN ALED, IEUAN GWYNEDD, CAWRDAF, CALEDFRYN, EBEN FARDD, IOAN EMLYN, ILID, GOLYDDAN, TELYNOG, a rhai eraill, pa rai sydd weithion wedi tewi yn yr angau. At y gyfres ardderchog a nod- wyd, y mae genym hefyd, yn awr, res ragorol o feirdd byw, y rai o herwydd amrai ystyriaethau, ni enwir yn bresenol, ond beirdd, am foesoldeb a phurdeb eu syniadaeth; amrywiaeth pwnc; addurn a phriodoldeb ymadrodd ( expression ); trefnusrwydd cynllun; prydferthwch a choethder arddull; beiddgarwch a chyfoeth creb- wyll; ffrwythlonder a bywiogrwydd darfelydd; gwreiddiolder

 

 

 

x521 meddwl; eangder dirnadaeth; cryfder athrylith, a chwmpas eu cyrhaeddiadau yn gyffredinol, na fu gan un oes na chyfnod ar Gymru eu rhagorach, ac ni phetruswn lawer ddywedyd eu cyfartal.

Y tri bardd proffeswrol cyntaf ag y mae genym hanes am danynt --sef Tri Chyntefigion Beirdd Gorseddog Ynys Prydain - oeddynt PLENYDD, ALawn, a GWRON, y rhai a flodeuasant 430 o flynyddoedd cyn CRIST. Prif feirdd yr oesoedd canlynol yn oed CRIST oeddynt-

Gildas Cambrius, bardd i'r Brenin Prydeinig Aviragus

O. C.

Elidir Sais

O. C. 1170

...

60 Gwalchmai

1150

...

...

...

Bacharius, dysgybl Sant Patrig ab Aelfryd

Cynddelw Brydydd Mawr

1160

..

440

Owain Cyfeiliog

...

1160

Ystudfach

440

Gwynfardd Brycheiniog

1160

...

Caw

450

Dygynelw

1170

Gwyddelyn

460

Gruffydd ab Gwrgenau

1200

Meugant

460 Llywarch Brydydd y Moch

1200

...

Merddin Emrys

470 Gwyddfarch Gyfarwydd

1206

Cywryd

480

...

Moris Morganwg

1220

Teilaw

520

Einion ab Gwalchmai...

1230

Gwyddno Garanhir

500

Ystudfach

1240

Dyfrig

500 Einion Wan

1240

Cadair

500

Adda Fras

1240

Aneurin Gwawdrydd

580

Einion ap Madawe

1250

Gwalchmai mab Gwawdrydd

517

Phylip Brydydd

1250

Elwlod ap Madog

519

Einion ab Gwgan

1250

Llywarch Hen

530

Bleddyn Fardd

1260

Talhaiarn Tad Awen

540 Dafydd Benfras

1260

Taliesin Ben Beirdd

540 Meilir ab Gwaichmai

1260

Y Bardd Llwyd

540 Casnodyn Fardd

1260

Tristfardd

540 Gwilym Ryfel

1260

Ugnach ab Mydno

545 Gruffydd ab yr Ynad Coch

1270

Gildas ab Caw

550

Edeyrn Dafod Aur

1270

Myrddyn ab Morfryn

550

Llygad Gwr

1270

Ugnach ab Mydno

570

Ednyfed Fychan

1270

Dygynelw

570 Einion Offeiriad

1280

Ysgolan

570

Seisyll Bryfwrch

1280

Culfardd

590 Llywelyn Fardd

1280

Elaeth

600 Y Prydydd Bychan

1280

Gwrnerth

610

Cadwgan ab Cynfrig

1280

Llywarch Hir

617

Elidyr Sais

1290

...

Afan Verddig...

640 Gwilym Ddu o Arfon

1320

Arofan

640 Hywel Voel

1300

Meigant

660 Dr. Dafydd Ddu

1340

Llefod Wynebglawr

660 Casnodyn Fardd

1320

Golyddan

670 Trahaearn Brydydd Mawr

1370

Geraint y

Mab Cryg Ioan Mynwy

Bardd Glas o'r Gadair 880

Dafydd ab Gwilym

1370

880 Llywelyn Ddu

1370

920 Mabelaf ab Llywarch

1370

Meilir Brydydd

1009

Iorwerth Beli...

1380

Cellan Bencerdd

1086

Hywel Ystoryn

1380

Gwgan Brydydd

1090 Gruffydd Gryg

1380

...

Bleddyn Ddu was y Cwd

1090

Yr Ystus Llwyd

1380

Y Bergam

1090

Syr John Gower

1380

Robert Dug Normandy

1006

Dr. Sion Cent..

1390

Gwrgant ap Rhys

1130

Llywelyn Moel y Pantri

1400

...

Howel ab Owain Gwynedd Peryf ab Cadifor

1140 Syr Gruffydd Llwyd 1140 Llewelyn Llogell

1400

1400

 

 

 

x522

O. C.

O. C.

Llewelyn Goch ab Meirig Hir... 1400

Iolo Goch, Arglwydd Llechryd.

1400

Llewelyn ab Guttyn Iefan Lwyd

1480

1480

Ithel Ddu

1400

Rhys Nanmor

1480

...

Rhys Goch o Eryri

1420

Meredydd ab Dafydd Fychan

1490

...

Elor Goch

1450

Tudur Aled

1490

Lewis Glyn Cothi

1450

Lewis Morganwg

1510

Dafydd ab Edmwnt Guto o'r Glyn Robert Leiaf

Guttyn Owain

1450 Dafydd Gorlech

1500

...

1460 Syr Hugh Penant

1510

...

1460

Efan Dyfi

1500

1480

Gruffydd o Hiraethog

1530

Rhys Nanmor

146

Rhys Brychan

1500

Lewis Dwn

1460

Richard Dafis

1560

Tudor Penllyn

1468

T. ab Gr. ab H.

Gadair

1580

Cynfrig ab Gronw

1440

Bedw Hafhesp

1590

Dafydd Nanmor

1460

Ieuan Drwch y Daran

1570

Iorwerth Fynglwyd

1460 Rhys Cain

1580

Iorwerth Cyriog

1460 Dafydd Benwyn

1586

Llywarch Bentwrch

1460 Gwilym Salisbri

1590

Syr John Leiaf

1480

Robin Iachwr...

...

1610

Ieuan ab Tudur, Penllyn

1480

Hugh Llwyd o Cynfael Edmwnd Prys

1620

1590

Fychan

...

***

1485

Sion Dafydd Las

. 1691

1481

Gruffydd ab Llewelyn ab Efan

Inco Brydydd

Nid yw EDWARD JONES, Bardd y Brenin, yn dwyn ei lechres yn îs na'r flwyddyn 1691, ac ystyriwn fod hyny yn ddigon, fe allai, i ateb ein hamcanion presenol ninau. Yr oedd gan Gymru, heblaw ei beirdd, ei dynion enwog yn mhob canghen arall o lenyddiaeth, y rhai nas gallwn eiriach amser i'w holrhain yn bresenol. Gwas- anaetha y llechres uchod i ddangos na fu un oes ar Gymru heb fod ganddi ei beirdd a'i phrif - feirdd; ac fod llawer o honynt yn ddynion o gyfoeth, safle, a dylanwad mawr; yn mhlith pa rai y gellid enwi offeiriaid ac esgobion, ieirll ac arglwyddi, pendefigion a thywysog- ion, drwy ddysgeidiaeth a than dywysiad pa rai y treiglwyd y Gwareiddiad Cymreig i lawr o oes i oes - burach, burach - eangach, eangach - hyd at gyrhaedd yr agwedd goethedig, y wrid brydferth, a'r ffurf ogoneddus yr ymwisga ynddynt yn y bedwaredd ganrif - ar- bymtheg.

Yr oedd barddoniaeth, mewn ffurf wyddorol a chelfyddydol, yn bodoli yn Nghymru 810 o flynyddoedd cyn ei bod felly yn Lloegr. Syr JOHN GOWER, o Browyr, yn Morganwg, oedd y bardd Seisonig cyntaf, yr hwn hefyd oedd arfbeisydd i'r Brenin RHISIART yr 2ail, ac i ba un y cyflwynodd ei weithiau, o gylch y flwyddyn 1380. Medd JOHNSON, yn ei " Hanes o'r Iaith Seisnig, " - " The first of our English authors who can be properly said to have written Eng- lish was Sir JOHN GOWER, who in his " Confession of a Lover, ' calls CHAUCER his disciple, and may therefore be considered as the Father of English poetry. '

99

Y mae yn mhlith y lechres farddol uchod amryw gymeriadau o neillduolrwydd mawr, y byddai yn ddyddorol sylwi arnynt wrth fyned heibio.

 

 

 

x523 GILDAS CAMBRIUS oedd fardd i AVIRAGUS, Brenin Prydain, yr hwn a flodeuodd yn nghylch y flwyddyn 60 o oed CRIST. Y mae JOHN BALL, yn ei Scriptores Anglici, yn ei ganmol yn fawr am ei farddoniaeth a'i ddysg. Y mae LILIUS GIRALDUS yn ei ganmol yr un modd, ac yn dywedyd mae efe a ysgrifenodd Flwyddolion ( Annals ) yr Hanes Brydeinig, ac a gyfieithodd Gyfreithiau DYFN- WAL MOELMUD i'r Ladinaeg, pa rai wedi hyny a gyfieithwyd i'r Sacsonaeg gan y Brenin ALFRED.

BACHARIUS oedd Frython dysgedig a ddysgodd Sant PATRIG, sant - noddwr yr Iwerddon, yr hwn y bostia y Gwyddelod gymaint yn ei enw a'i weithredoedd. Sant PATRIG, Apostol mawr yr Iwerddon, a anwyd yn Nyffryn y Rhôs, yn swydd Benfro, yn nghylch y flwyddyn 373, a dywedir mae mab i CALPHURNIUS a CONCHA ydoedd. Dywed llaw - ysgrif arall am ei linach fel hyn: - PATRIG Sant, ab ALFRYD, ab GORONWY, o Wareddawg, yn Arfon. Ac y mae peth arall yn dwyn tystiolaeth i'r linachaeth hon. Y mae lle gerllaw glan y môr, yn swydd Feirionydd, a elwir Sarn Badrig ( Patrick's Causeway ); ac hefyd y mae eglwys yn swydd Fôn yn myned wrth ei enw, yr hon a elwir Llanbadrig; ac y mae yno weunydd a elwir Rhos Badrig. Ei enw Cymreig gwreiddiol oedd MAENWYN; a'i enw urddol neu eglwysig oedd PATRICIUS, yr hwn a roddwyd iddo gan y Pab CELESTINE, pan yr urddodd ef yn Esgob, ac yr anfonodd ef yn genadwr i'r Iwerddon er pregethu i'r Gwyddelod, yn y flwyddyn 433. Pan diriodd PATRIG gerllaw Wicklow, yr oedd y trigolion yn barod i'w labyddio am gynyg o hono ddwyn peth newydd i grefydd eu henafiaid. Dymunodd am gael ei wrandaw ganddynt, a chan eu hanerch efe a eglurhaodd iddynt fod Duw yn Ysbryd santaidd a hollalluog, yr hwn a greodd nefoedd a daear, ac fod y Trindod yn gynwysedig yn yr Undod. Ond yr oeddynt hwy yn dra hwyrfrydig i gredu y gyfryw athraw- iaeth newydd. Ar hyny tynodd St. PATRIG feillionen o'r ddaear, ac a ddadleuodd a'r Gwyddel, gan ddywedyd, " A ydyw ddim mor ddichonadwy fod y TAD, y MAB, a'r YSBRYD GLAN yn gynwysedig mewn un hanfod, ag ydyw fod y tair dalen hyn yn tyfu ar yr un paladr ? " Yna gwelodd y Gwyddelod yn uniongyrchol eu bod wedi cyfeiliorni, a hwy a fedyddiwyd gan St. PATRIG gyda dwysedd a difrifoldeb mawr.

Darfu i'r Sant Prydeinig hwn adeiladu llawer o eglwysi ac athro- feydd yn yr Iwerddon. Y mae Saball Badrig ( Patrick's Grange ) a Monachlog Armagh, yn ddyledus am eu sylfaeniad iddo ef; yr olaf, hefyd, oedd brif - ysgol yr Iwerddon. Mewn gair, PATRIG oedd a ddysgodd iddynt y llythyrenau. Y mae Neumius's History yn dywedyd- " Argraffodd PATRIG Apostol y Gwyddelod 365 o lyfrau yr A. B. C.; sylfaenodd 365 o eglwysi; urddodd neu gysegrodd 365 o Esgobion; ordeiniodd 8,000 o Bresbyteriaid; dychwelodd

 

 

 

x524

a bedyddiodd 12,000 o ddynion yn nhiriogaeth Connaught; a bed- yddiodd saith Brenin, sef meibion AMOLGITH. Efe hefyd a ym- prydiodd 40 niwrnod ar Fynydd Eli, ac a lwyddodd i gael tri deis- yfiad o'r nefoedd i'r Gwyddelod ( ? ) un o ba rai oedd, na byddai i un creadur gwenwynig fyth i flino yr Iwerddon; un arall, fe ddichon, oedd fod i'r rhai hyny a gredent yn ei athrawiaethau, gael eu gwared a'u cadw rhag y Purdan; o barth y trydydd, y mae yn rhaid ei adael i'r Gwyddelod eu hunain i'w gaffael allan. Dywedir i Sant PATRIG fyw i'r oedran mawr o 120.

ROBERT DUG NORMANDY oedd frawd i WILLIAM RUFUS, yr hwn, yn nghylch y flwyddyn 1106, a gaethiwyd am 28 mlynedd yn Nghastell Caerdydd, gan y Brenin HENRY y Cyntaf; yn ystod pa amser dywedir iddo gyrhaedd gwybodaeth berffaith o'r iaith Gym- reig, a chael ei gydnabod yn fardd Cymreig. Mae yr amgylchiad neillduol hwn yn cael ei gofnodi mewn hen Hanes Gymreig o Ar- glwyddi Morganwg, o JESTYN AB GWRGANT hyd at JASPER DUG Bedford,

OWEN GYFEILIOG oedd fardd a Thywysog Gwynedd.

YSTUDFACH oedd fardd a rhyfelwr glew, yr hwn yn fynych a glodforid gan y beirdd am ei lettygarwch; yr hwn hefyd oedd gasgliedydd o ddiarebion Cymreig, ac am ba un y dywed DAFYDD AB GWILYM

" Gwir a ddywed YSTUDFACH, Gyda'i feirdd yn cyfeddach. '

DAFYDD BENFRAS oedd fardd i LLEWELYN ap Gruffudd, Tywysog olaf Cymru, yr hwn a fradychwyd yn Mhuallt, yn nghylch y flwyddyn 1282. Darfu i'r bardd hwn gofnodi cynifer ag wyth mrwydr ar hugain yn mha rai yr ymladdodd y Tywysog LLEWELYN.

Dr. DAFYDD DDU, o Hiraddug, yn swydd Fflint, oedd fardd a gramadegydd; ac oddiwrth ei wybodaeth o fferylliaeth ac athron- iaeth naturiol, efe a gafodd yr enw o ddewin. Bu fyw o gylch y flwyddyn 1340. Claddwyd ef yn Nhremeirchion, yn swydd Fflint, ac ar ei feddrod mae y frawddeg ganlynol yn ysgrifendig: - " HIC JACET DAVID FIDIUS HOWELI FILI MADOCI. " Dywed trawscrif.wr yr ysgrif uchod yn mhellach, - " The tomb of DAFYDD DDU, of Hiraddug, Archdeacon of Diserth, and Vicar of Tremeirchion, in Flintshire, who was a learned bard, and flourished between the years 1310 and 1380. He wrote a British Grammar; " Cywydd Dysgedig, " or the learned Ode; and invented three of the metres in Welsh poetry. He was likewise author of a pious Ode; and has given an elegant poetical translation of the " Te Deum, " and several of the Psalms, which are preserved in the 1st volume of the " Archaiology of Wales. " He possessed great knowledge in natural philosophy, chymistry, and mathematicks, which got him the name of a conjuror, among the vulgar; and there are many strange stories told of him in Wales to this day.

 

 

 

x525 LEWIS GLYN CоTHI oedd fardd a swyddog o dan JASPER Iarll Penfro. Efe oedd yr hwn a adysgrifiodd y ran fwyaf o'r farddon- iaeth a'r cofnodion Cymreig, mewn cyfrol a elwir " Y Llyfr Coch " ( yr hwn sydd heddyw yn Llyfrgell Coleg yr Iesu, yn Rhydychain ), allan o law - ysgrif henafol iawn a elwid " Llyfr Hergest. "

GUTTYN OWAIN oedd Arwyddfardd a Hanesydd, ac a fu byw, gan mwyaf, yn Monachdy Ystrad Fflur, yn swydd Aberteifi.

CYNFRIG AB GRONW oedd Fardd ac Achwr, yr hwn a flodeuodd yn nghylch y flwyddyn 1450. Y bardd hwn, a Syr MEREDYDD AB RHYS yw y rhai sydd yn crybwyll am ddarganfyddiad America gan MADOG, mab OWEN GWYNEDD.

RHYS NANMOR, ydoedd Fardd i'r Brenin HARI y Seithfed. Syr HUGH PENANT, ydoedd Fardd ac Offeiriad.

LEWIS MORGANWG, ydoedd Pencerdd y tair talaeth, neu Brif- fardd Tywysogaeth Cymru, a Bardd Teuluaidd Abbatty Castellnedd. Cadben WILLIAM MIDDLETON ydoedd Brydydd enwog.

EDMWND PRYS, o Drawsfynydd, a'r Tyddyn Du, Periglor Ffes- tiniog a Maentwrog, ac Archddiacon Meirionydd, yr hwn a gladd- wyd o dan fwrdd y cymun yn Maentwrog, yn y flwyddyn 1623. Efe ydoedd y bardd enwocaf yn ei ddydd, ac un o gyfieithwyr y Bibl i'r Gymraeg, a mydrwr y Salmau.

Gellid ychwanegu, yn mron yn ddiderfyn, at y llechres flaenorol o enwogion Cymreig perthynol i'r oesoedd a aethant heibio; ac nid yn unig yn feirdd, ond yn gerddorion, haneswyr, athronwyr, duwinyddion, celfyddydwyr, deddfwneuthurwyr, deddfweinyddwyr, gwladweinwyr, & c., pa rai nis gallwn fyned ar eu holau yn bresenol, yr hyn a fyddai hefyd yn anghydunol ag amcanion y testyn.

Y mae hanes yn ein dysgu fod y Beirdd Cymreig wedi gweled eu Hoes Euraidd cyn yma; ac er mwyn ein darllenwyr nad ydynt, feallai, wedi cael y fantais o weled ond ychydig o hanes gyntefig ein beirdd, ni a ddyfynwn ychydig i'r perwyl hyny, o'r hyn a gaf- wyd mewn hen Lawysgrif yn y Bodleian Library, yn Rhydychain ( vide page 207 ); ac er mwyn ein cyfeillion Seisonig, ni a'i rhoddwn i lawr yn eu hiaith hwy, megys ag y mae ar gael yn y " Musical and Foetical Relics of the Welsh Bards: '

" The office or function of the British or Cambrian Bards was to keep and preserve Y Tri Chof Ynys Prydain; that is, the Three Records or Memorials of Britain, otherwise called the British Antiquities; which consist of three parts, and are called Tri Chof; for the preservation whereof, when the Bards were graduated at their commencement, they were trebly rewarded, one reward for each Cof, as the ancient bard TUDUR ALED recites; and also his reward for the same at his commencement, and graduation at the royal wedding of Evan AB Dafydd ab ITHEL FYCHAN, of Northop, in

-RHAN X.

 

 

 

x526

Inglefield, Flintshire, which he, in the Cerdd Marunad of the said EVAN AB DAFYDD AB ITHEL FYCHAN, records thus: -

" Cyntaf neuadd y'm graddwyd Vu oror llys yr Eryr llwyd; Am dri chof i'm dyrchavodd, Yn neithior - llyma'r tair rhodd.

" In English thus: —

" The first Hall wherein I was initiated Was the Court of the Grey Eagle;

For by the Tri Chof I was elevated

In the Nuptial Feast; behold, the three Gifts !

" Which shews that he was exalted and graduated at the wedding for his knowledge in the said Tri Chof, and was rewarded with with three several rewards.

The first of the Tri Chof is the history of the notable acts of the Kings and Princes of Britain and Cambria.

" The second of the Tri Chof is the language of the Britons, of which the bards were to give an account of every word and syllable therein, when demanded of them, in order to preserve the ancient language, and to prevent its intermixture with any foreign tongue, or the introduction of any foreign words in it, to the prejudice of their own, whereby it might be corrupted or extirpated.

*

" The third Cof consisted of the pedigrees or descents of the nobility, their division of lands, and the blazoning of arms. " The ancient bards had a stipend out of every plow - land in the country for their maintenance, and also a perambulation, or a visi-

* Arms took their origin from the example of the Patriarchs; for Holy Writ informs us that the twelve Tribes of Israel were distinguished by signets. See Exodus chap. 28 and chap. 39; Num. chap. 2; Psalms 20: and Daniel chap. 6.

Coats of arms were in use among the Old Britons from the remotest period, although arms were not generally diffused among the different nations until the Holy Wars.

" The Cymri, or Britons, had their bodies and shields decorated with various colours, animals, birds, & c., which at first denoted valour, afterwards the nobi- lity, of the bearer; and in process of time gave origin to armorial ensigns. See Tacitus, iv.; Cæsar's Commentaries, ' book v. chap. 10; and Plutarch's ' Life of Marius. ' Also, it is recorded that King Arthur bore on his shield, in the battle of Coed Celyddon, the image of the Virgin Mary, See Lewis's Ancient History, ' p. 182; and pp. 7, 8, 9, and 10 of this work; also Gwilym's Heraldry. '

·

6

" The Arwyddfardd, Ensign - bard, or Herald - at - arms; his duty was to declare the genealogy, and to blazon the arms, of nobles and princes, and to keep the record of them; and to alter their arms according to their dignity and deserts, who were with the kings and princes in all battles and actions. As for their garments, I think they were such as the Prydyddion had; that is, a long apparel down to the calf of their legs, or somewhat lower, and were of divers colours. Also, the Song of Victory ' describes that the ancient chiefs wore divers colours. Judges chap. 5, ver. 30. ”

 

 

 

x527 tation, to make once in every three years to the houses of all gentle- men in the country, which was called Cylch Clera, being for the preservation of the said Tri Chof; at which perambulation they collected all the memorable things that were done and fell out in every country that concerned their profession to take notice of, and wrote them down, so that they could not be ignorant of any memo- rable acts, the death of any great person, his descent, division or portion of lands, coat of arms, and children, in any country within their district. At these perambulations the bards received three rewards, being a fixed and certain stipend, from every gentleman in whose house they were entertained; and this reward was called Clera.

“ Those men that are termed above by the name of gentlemen are called Gwyr Bonheddig; and there is no man by the law en- titled to the appellation of Gwr Bonheddig but he that is paternally descended from the Kings and Princes of Britain; for Bonheddig is equivalent to Nobilis in Latin; and the paternal genealogy of every gentleman must ascend to some royal personage, from whom he originally held his land and his arms.

" A gentleman so descended by father and mother, is styled or entitled by the law, Bonheddig Cynhwynawl, which signified a perfect nobleman by father and by mother. This title, Bonheddig, is the highest that a man can have, and remaineth in his blood from his birth to his death, and cannot be conferred by any man whatever; nor any, that hath it really, be deprived of it. All other titles may be taken from man, may become extinct by his death or other casualties; but this remaineth in his blood to his posterity, so that he cannot be severed from it. Common persons, of late years, have taken upon them the title of Bonhedd, or Noble; but they are not really so, though so called by courtesy, by reason of their wealth, offices, or merit; these, however, being only personal, and Bonhedd being permanent. You may understand hereby that the gentry of the country had a special interest in the Tri Chof, or the histories where the acts and deeds of their ancestors and king- men, and the preservation of the language, arms, descents, and divisions of lands were recorded; and therefore the stipend paid by them to the bards were not instituted without good cause, nor their entertainments in their perambulations allowed them without good reason; as all histories and acts of the kings and nobility were collected, and all the battles recorded, by them, and expressly remembered in the Cerdd Voliant of such noble persons as had performed services in the field, and in their Cerdd Varwnad; so that there could be no perversion of truth in composing histories, from three years to three years. There was, besides, a severe punishment inflicted by the law upon the Bards, of long imprison-

 

 

 

x528

ment, loss of place and dignity, besides great disgrace, if any of them should record for truth anything but the truth in any histo- rical treatise whatsoever.

" No man described any battle but such as had been an eye- witness thereof; for some of the Chief Bards were Marshals of all the battles. They sat in council in the field, and were the King's or General's intelligencers how the action went on; so that they could not be ignorant of any circumstance or thing done in the field. They did not write of battles by heresay, nor of affairs by relation, unless it were some sudden or unexpected fight or skirmish; for in all battles of moment they were present, as I shall prove at large in another place. Our histories were not written by a school- master, that travelled no further than a child's journey from his breakfast to his lesson; nor by any monk, that journeyed no fur- ther than from mass to meat; nor by any apprentice, that had no education than from shop to market; nor by any person of low birth, condition or calling; but by Bards nobly descended, barons, and fellows to lords and princes. King ARTHUR, and two of his knights, Sir TRYSTAN and Sir LLYWARCH, were bards, as this verse testifies:

-

" ARTHUR oesdwn, a THRYSTAN,

A LLYWARCH, ben cywarch can. '

" ARTHUR, with broken shield, and TRYSTAN woo'd The muse; but LLYWARCH was the most belov'd.

" The Pen Bardd, or Bardd Teulu, was of so high a vocation that he sat at meals next to the Penteulu ( who was called princeps familiæ ), and had such respect and honour done unto him that it was the office of the Penteulu, who was the fourth person of the land, to present the harp to him when he performed a song in the presence of the king, at the principal festivals of the year— Christmas, Easter, and Whitsuntide.

" The chief Bards were very often of the King's council; and the chief Bard of the land was, besides, allowed a chair in the royal palace, on festivals when the King and his family sat in state. As a symbol of this, at the commencement of the bards for their gra- duation, their chiefest title was Pencerdd; and the head Pencerdd had a jewel in the form of a chair bestowed upon him at his creation or graduation, which he wore suspended from his neck by a ribbon or chain. He then was called Bardd Cadeiriawg, which is a chaired Bard; and he sat in a chair in the King's hall, or anywhere else, by virtue of his dignity as supreme Bard, which it was not lawful for any other bard to claim, but only the Bardd Cadeiriawg, who had won the chair upon disputation, publicly before the King, at commencement time, or at a royal wedding.

.

 

 

 

x529

" When the Bardd Cadeiriawg was dead, that formerly enjoyed the said jewel, it was sometimes yielded to the chief bard of know- ledge and worth by the others, without disputation ( if his sufficiency in his profession was known to surpass all the rest, and so he had pro confesso ), that he was the chief bard of knowledge in that dominion. But if any bard whatsoever challenged to dispute for it, it could not be given him ( pro confessi ); but he disputed for it, and thereby accomplished the proverb ( viz., win it and wear it ); for he could not wear it unless he won it by trial of skill, or was yielded to him by all the other bards upon conviction of his pre- eminence and singular knowledge and worth above all the rest, for the dignity of a Bard among the ancient Britons was very honour- able. The bards were men of high descent, often of the blood royal, and called the kings and princes by the title of cousins and fellows, as BLEDDYN FARDD called LLEWELYN AB IORWERTH ( whom the English style Leolinus Magnus ), Prince of Cambria, his cousin, in these verses:

" Collais a gerais, o gâr ac Arglwydd; Erglyw ein tramgwydd, trymgwyn anwar; Collais chwe teyrn cedyrn cydfar, Chwe eryr cedwyr cadr eu darpar; LLEWELYN a'i blant blaengar - frodorion, A'i haelion ŵyrion; -oer ein galar. '

" I have lost him I loved, my kinsman and my lord; Pity our dire fall, sad and violent is our complaint: I have lost six mighty chiefs, who were one in wrath; Six warring eagles, of irresistible onset.

For LLEWELYN, and his sons, a promising race,

And his generous grandsons, -direful is our moan !

That was, LLEWELYN himself, and DAVID and GRUFFUDD, his sons; and OWAIN GOCH, LLEWELYN, and DAVID, the three sons of GRUFFUDD AB LLEWELYN. So did CYNDDELW, the great Bard, who called MADOG AB MEREDYDD, the Prince of Powis, his lord and fellow, or fellow - lord, in his poem made in commendation of the said MADOC, viz.: -

66.

Cyfarchaf i'm rhi rad obaith; Cyfarchaf, cyfarchais o ganwaith; Yn profi prydu o f'iaith eurgerdd, Yn Arglwydd Gydymaith. '

" I will greet my prince, hopeful in grace;

A hundred times have I greeted him;

I essaying poetic lore, in my language of golden song, To my Lord and Companion

 

 

x530

" And in like manner IOLO GOCH claims kindred with ITHEL AB ROBERT, of Coed y Mynydd, Tegengl, in his poem made to the said ITHEL, wherein he writes as follows: -

" Hyd ar untro elo y clôd,

Er un llwyd a RONWY Llwyd, Post dievrydd, pais dryvrwyd; A'n hên - feistr gwys yn hanfod; Cyd wersog Cof diweir - salm, Vum ag ev yn dolev dalm. '

" Highest in the Temple of Fame,

Is the great grey - headed GRONWY;

A staunch pillar, clad in the close - woven coat of mail;

It is known that we are of the same stock as our aged chief; Often have he and I sung together with the voice of gladness; Sweet to me is the remembrance.

" Thus we find that the Bards, in the times of the Kings and Princes, were their kinsmen; and in the following age, after the Princes, they were akin to the nobility of the country; as IOLO GOCH to ITHEL AB ROBERT, of Coed y Mynydd, and LLEWELYN GOCH AB MEURIG HEN to the noble family of Nannau. Neither could any mean person, in the time of the Cambrian Kings, presume to study the learning or profession of a Bard. But when the princes were extinct, this limitation ceased also, and men of inferior birth, hav- ing good qualities, were admitted to the study of the science of the Bards, and to proceed in their profession to their graduation; but under the title and vocation of Prydyddion, or Poets.

" After the dissolution of the ancient Government of Cambria, and the reduction thereof under EDWARD the First, that monarch, not respecting the honour nor the dignity of the ancient British laws, antiquities, or rights, endeavoured to the utmost of his power ( as did all his successors, until HENRY the Seventh's time ) to destroy and extinguish both them, their fame, and antiquities.

" At this time the nobility and barons of Wales received such old Bards, after the deaths of the Princes, as were then in being, into their protection, and encouraged them to make pupils that were fit and apt for that profession; and gave them all their stipend rights, privileges, and entertainments as fully as when the law was in force. But now, alas ! the great knowledge of the Bards, their credit, and their worth, are altogether decayed and worn out, so that they are almost extinguished amongst us. "

Dyna ni wedi rhoddi ychydig ddesgrifiad o swyddogaethau a sefyllfaoedd y beirdd cyntefig, yn ol fel ag y mae eu hanes wedi ei roddi ar lawr yn y Llawysgrif henafol sydd yn gorwedd yn y

 

 

x531

Bodleian Library, yn Rhydychain; oddiwrth ba un y gwel ein cyfeillion Seisnigaidd na fu Cymru, yn unrhyw oes arni, heb ei hathrawon a'i dysgedigion uchel ac enwog, -ac nid y genedl far- baraidd hono y myn llawer o honynt hwy ei chamddarlunio.

Ond megys ag y mae rhai o'r Saeson wedi tra darostwng ein cenedl, y mae hefyd rhai o'i phlant brwydfrydig ei hun wedi ei thra - derchafu, yn neillduol felly mewn cyssylltiad â'i barddoniaeth henafol. Siaredir yn fynych am ANEURIN, TALIESIN, LLYWARCH HEN, OWAIN GYFEILIOG, DAFYDD AB GWILYM, GYTTUN OWAIN, DAFYDD NANMOR, ac eraill, fel pe buasent yn ben beirdd yr oes a'r oesoedd; ïe, o'r braidd y ceir neb, hyd y nod yn yr oes oleuedig a chynydd- fawr hon, yn dynesu atynt mewn awen, dysg, ac athrylith.

Ond os mewn cysylltiad â'r oesoedd yr oedd y beirdd hyn yn byw ynddynt, âc yn gydmharol ag athrylith cenedloedd eraill, y llefarir mor uchel am danynt, dichon fod peth gwirionedd yn hyn yr ymffrostir o'i blegid. Eithr am gyfartalu athrylith ANEURIN, TALIESIN, a LLYWARCH HEN âg eiddo DAFYDD AB GWILYM, neu eiddo DAFYDD AB GWILYM âg eiddo GORONWY OWAIN, sydd ynfyd- rwydd; a chymaint ynfydrwydd â hyny, yn mron, ydyw haeru fod GORONWY OWAIN yn rhagorach bardd na neb o feirdd yr oes bresenol !

Nid oes dadl nad oeddent yn feirdd gwych mewn cydmhariaeth feirdd cenedloedd eraill ag oeddynt yn cydoesi â hwy. Eithr pan eir i gydmharu beirdd y cyn - oesoedd â beirdd y canol - oesoedd; a a beirdd y canol - oesoedd â beirdd yr oes bresenol, y mae y gwa- haniaeth rhwng y cyntaf a'r ail, a'r ail a'r olaf, yn fawr ac amlwg. Er mwyn rhoddi mantais i'n darllenwyr i farnu drostynt eu hunain yn hyn o bwnc, dyfynwn, er engrhaifft, ychydig ddarnau allan o weithiau beirdd y cyn a'r canol - oesoedd.

" CANU URIEN " GAN ANEIRIN WAWDRYDD.

Y bore ddyw Sadwrn cad fawr a fu, O'r pan ddwyre haul, hyd pan gynu, Dygrysws Flamddwyn yn bedwarllu, Godden, a Rheged, i ymddyllu, Dyfwy o Argoed hyd Arfynydd, Ni cheffynt einioes hyd yr undydd. Atorelwis Flamddwyn, fawr drybestawd, A ddodynt gyngwystlon, a ynt parawd; Yr atebwys OWAIN, ddwyrain ffosawd, Ni ddodynt iddynt, nid ynt parawd; A chenau, mab COEL, byddai gymwydwg lew, Cyn y talai o wystl nebawd !

Y CYFIEITHIAD.

Morning rose, the issuing Sun Saw the dreadful fight begun;

 

 

 

x532

And that Sun's descending ray, Clos'd the battle, closed the day. Flamddwyn poured his rapid bands, Legions four o'er Reged's lands. The numerous host from side to side, Spread destruction wild and wide; From Argoed's summit, forest - crown'd, To steep Arvynydd's utmost bound; Short their triumph, short their sway, Born and ended with the day.

Flush'd with conqnest, Flamddwyn said, Boastful at his army's head;

" Strive not to oppose the stream, " Redeem your lands, your lives redeem. " Give me pledges, " Flamddwyn cried, " Never " Urien's son replied;

Owen of the mighty stroke,

Kindling as the hero spoke.

Dichon na fydd i bawb o ddarllenwyr y " CEINION, " ddeall y meddwl yn y penillion Cymreig blaenorol, yn herwydd ei bod yn cynnwys cymaint o eiriau tywyllion ac anarferol; ac orgraff ac ieithwedd anghynefin i Gymry y bedwaredd ganrif ar bymtheg; fodd bynag am hyny, gallwn sicrhau iddynt nad yw y syniadaeth na'r pathos, yn y gwreiddiol, ddim yn debyg i'r hyn ydynt yn y cyfieithiad; eithr mae yr olaf yn tra - rhagori ar y blaenaf. Mewn cân arwrol fel hon, dysgwyliesid fod y pathes yn frwdfrydig a flam- ychol, a'r iaith yn addurnol, mawreddog, a grymus; a'r syniad- aeth yn hyf, gwrol, a buddugoliaethus; ond ychydig iawn o'r naill neu y llall a geir ynddi. Pe cyfieithiesid y gwreiddiol yn llythyr- enol a chywir, edrychasai mor debyg i ryddiaeth, ac ydyw rhydd- iaeth iddi ei hun. Y mae cynyrchion y trydydd dosparth o feirdd ein dyddiau ni, yn rhagori yn mhell ar y darnau blaenorol, yn mhob priodoledd hanfodol i wir farddoniaeth. Nid yw TALIESIN, LLYWARCH HEN, OWAIN CYFEILIOG, MEILIR AB GWALCHMAI, yn nghyd a'u holoeswyr, i fynu hyd ddyddiau DAFYDD AB GWILYM, yn arddangos ond ychydig o gynydd a rhagoriaeth yn y gelfyddyd; yr un orgraff anystwyth, ieithwedd chwithig, ymadrodd diaddurn, a syniadaeth gyffredin, sydd yn nodweddu cynyrchion y naill fel y llall o honynt.

Dyfynwn yn nesaf ranau o ryw " Awdlau " dienw allan o'r " Myfyrian Archaiology, " yn y rhai y gellir ar unwaith ganfod eiddilwch ac israddoldeb athrylith farddol y cynoesoedd. Y mae y cymysgedd gwrthun ac anwarantadwy, o'r arddunol a'r digrifol

.

 

 

 

x533( the sublime and the ridiculous ), y syniadaeth anaddfed - y medd- ylddrychau eiddilion - yr iaith glogyrnog - yr orgraff afreolaidd- yr atalnodiant andwyol - a'r ddringraddeb anheilwng a gynwysant, yn peri i ni i ofyn i ni ein hunain - Pa beth, yn enw synwyr cyff- redin, a berodd i'n henafiaethwyr i feddwl am adysgrifio a thros- glwyddo i lawr i'r ol - oesoedd y fath lenyddiaeth ddiaddurn a dian- sawdd ? Nid oes dim yn y rhai hyn i hòni sylw na chreu dyddordeb o gwbl, oddieithr eu henafiaeth yn unig. Nid oes ynddynt fwy o ôl yr eneiniad barddol nag sydd ar graig y mynydd, ac ni chyn- wysant fwy o'r meddwl barddonol nag a gynwysa yr egwyddor ar y llyfr corn. Nid ydym yn meddwl y bydd i un o bob cant o Gymry

oes bresenol ddeall hen iaith dywell a chlogyrnog y cyfansodd- iadau hyn; ac nid oes yr un cyfieithiad ar gael o honynt, ar ddim ag a wyddom ni, ac nid yw awdwyr y " Myfyrian " yn ymgynyg at egluro y dim lleiaf arnynt. Gan hyny, nid oes genym ond ym- gymeryd a'r gorchwyl ein huain, a'i gyflawni goreu y medrom,

AWDY L.

Gogonedauc argluit hanpich guell. Athue dicco de eguis. a chagell. A. kagell. ac egluis. A. vasted. a diffuis. A. Teir finhaun yssit. Due uch gwidd. ac un uch elwidd. Athuendiguiste awraham pen fit. A. Viched traguit. A. adar agu- -enen. A attpaur a dien.

Athuendiguiste aron a moesen A. vasul a femen.

A.

Seithnieu a sêr. A. awir

ac ether. A. piscaud in hydir- A. kywid. a gueithred.

-uer.

A. tyuvod a thydued.

A. yssaul da digoned. Ath- -uendigaf de argluid gogo- -ned. Gogonedauc. a. h. g.

EGLUR HAD.

Gogoneddawg Arglwydd, henffych well, A thi sy'n tycio dy eglwys a'i hangel. Ac angel ac eglwys, Yn wastad a ddiffwys. A thair ffynon y sydd. Dwy uwch gwydd, Ac un uwch elfydd.

A thi a fendigaist Abraham pen - ffydd, A buchedd dragywydd.

Ac adar a gwenyn

Ac adpawr ( ymborth ) a dyn.

A thi a fendigaist Aaron a Moses

 

 

x534

A fascul ( masculine ) a femen ( feminine ) ( A gwrryw a benyw )

A seithnieu ( seith - nydd, Sabbath ) a sêr, Ac awyr ac ether ( æther ) A llyfrau a llythyr. *

A physgod yn y dyfnder. A chywydd a gweithred A thywod a thudwedd A'r sawl a da ddigonwyd. Mi a'th fendigaf di Arglwydd gogoned. Gogoneddawg, & c.

ARALL.

Ardwyreaue. vn. issi Deu ac un issi tri arnun. issi Duu hun. Aunaeth maurth a llun. A. mas- cul a bun ' ac nad kyuorum bas ac anetun. Aunaeth tuim ac oer. a. heul a lloer. allythir igcuir afflam im pabuir, a serch in sinhuir. a bun hygar huir.

EGLURHAD,

Arddwyrea ( ymddyrcha ) un, y sydd ddau ac un, Y sydd dri arnynt, y sydd DDUw ei hun. A wnaeth Mawrth ( Mars ) a Lloer ( Luna ) A mascul a bun ( dyn a dynes )

A nad ( twrf ) cyforyn bas, ac anoddyn. A wnaeth twym ac oer, A haul a lloer. A meddaledd i gwyr ( neu lythyr i'r cwyr ) A fflam i'm pabwyr, A serch i'm synwyr, A bun hygar hwyr.

ARALL, YCHYDIG MWY DERCHAFEDIG. Ynenu domni meu y vali mawr y volaud. Molawe douit maur y kynnit ar y cardaud. Duu anamuc. Duu angoruc. Duu anguaraud. Duu angobeith teilug perffeith tec y purfaud. Duy a collei bei nas prinhei diuei devaud. Or croc crevled y deuth guared ir vedissyaud, kadarn bugeil crist nid adweil. y teilygdaud.

EGLUR HAD.

Yn enw domni ( Arglwydd ) mae fy moli, mawr y molawd. Molaf y Dofydd, mawr yw'r cynydd ar y cardawd ( bendith )

*

Or, perhaps, llenferau ( lights ) and llyther ( humidity, flaccidity. )

 

 

x535

Duw a'n amddiffyn. Duw a'n gwnaeth. Duw a'n gwared. Duw yw'n gobaith teilwng perffaith - teg y purffawd. Duw a'n collasai, pe nas prynasai, —ddifai ddefawd. O'r Crog ( Croes ) creulyd ( gwaedlyd ),

Y daeth gwared - igaeth, -I'r bydyssawd; Cadarn fugail, -Crist nid adfail,

Ei deilyngdawd ( haeddiant ).

CREADIGAETH DYN.

Llyma attebion llywiawdr dynion, Wrth i Angylion rhoddion an rhydd: Ni a wnawn nebun o ddyn credadun, Ar ein llun ein hun a honaid fydd A hwnw yn benaf creadur a wnaf ADDAF fu'r hynaf or henw bedydd A chymmar hir hên a roed oi assen Anghymmen medd llên y lle o'r dydd Wrthynt y traethawdd y gwr au creawdd Erthyst ymadrawdd gannawdd gynnydd Tyfu a gerwch tyfid yr einwch Tyfwch amllewch ym blant beunydd Gorug gwaith didlawd defawd Dofydd Gorphowys dyged o bob rhyw weithred A wnaeth y seithfed teyrnged dydd Am hyny i dedryd y Sul seguryd Hirfyd drwy gywyd bid dragywydd Dangos nos i liossydd

Ac wedi nos dangos dydd.

Y mae cymaint a hyna yn ddigon i ddangos ansawdd ein bardd- oniaeth gyntefig. Y mae yn amlwg nad oedd na dysgleirdeb nac eangder darfelydd mawr gan ein teidiau, nac ond ychydig o allu crebwyllig. Yr oeddent yn camystumio cystrawen ac orgraff yn mhob dull a modd, er mwyn cyrhaedd rhyw fath o gynghanedd erthylaidd a ffynai yn marddoniaeth y cyfnodau yr oeddent yn byw o danynt. Yr oedd eu hieithwedd yn anystwyth, a'u hymadroddion yn fynych yn amddifad o ddillynder; ac nid oedd yn eu syniadaeth ond ychydig o'r hyn ag oedd fawreddus, arddunol, a derchafedig. I'n tyb ni, y mae llawer o'u cyfansoddiadau yn edrych yn debycach i gynyrchion amhrwd ac anaddfed rhyw newyddion, nag i eiddo dynion o brofiad, oed, a synwyr. Nid oedd eu cynyrchion, ychwaith, yn amlygu ond ychydig iawn o chwaeth bur a barn aeddfed. Byddai eu mawlganau defosiynol yn fynych yn cynwys syniadaeth led anghydrywiog; byddent yn disgyn yn ddisymwth a diseremoni o'r cysegredig a'r goruchel i lawr at yr ysmala a'r digrifol

 

 

 

x536

( comical ) weithiau, a hyny yn yr un paragraff hefyd; ac fel un enghraifft o lawer o'r cyfryw, dyfynwn a ganlyn: -

I DDuw y diolchaf, Dewin plant ADDAF A'i ddoniau cwplaf Euraf eryr Caethed ym faerdy Caeth iawn yw hyny Fal cwthr iâr anhy Yn erina.

Pa ddyn o chwaeth destlus a barn deilwng a fuasai yn meddwl am ymsymud oddiwrth yr enw cysegredig Duw, a'r weithred dde- fosiynol o ddiolch iddo, at y gyffelybiaeth wrthun o " ewthr ( rec- tum ) iâr ( hen ) anhy, " ïe, hyd y nod yn yr un cyfansoddiad, chwaithach yn yr un penill ? Duw, fel Creawdwr, yn y llinellau canlynol, sydd gyffelyb: -

Duu paul ac anhun,

Aunaeth maurth a llun A mascul a bun. ac nad Kyuorun bas ac anotun Aunaeth tuim ac oer. a heul a lloer. a llythir

igcuir afflam im pabwyr.

Gwelir fod y raddeb ( climax ) yn y llinellau uchod yn ymdreulio o fawredd urddasol i fychander dibwys a chwerthinus. Pwy feddyl- iasai y buasai yr awdwr yn ysponcio oddiwrth greadigaeth gwrth- ddrychau mor fawreddog a " haul a lloer, " at wneuthuriad " llythyr i'r cwyr a fflam i'r pabwyr; " ac os disgyn i lawr at greadigaeth pethau bychain o gwbl, paham na ddetholasid y rhai hyny nad oes dim a fyno llaw celfyddyd â hwy ? Y mae a fyno celfyddyd â'r llythir " ac â'r " cwyr, " ac â " fflam y pabwyr " hefyd; gan mai sôn am DDUw fel Creawdwr yr oedd y bardd, pa beth oedd a fynasai cynyrchion celfyddyd â hyny ?

66

Ond y mae yn ddichonadwy wedi y cyfan, fod barddoniaeth ein teidiau lawn gystal o ran ei hansawdd, a phurach feallai o ran ei helfenau a'i hegwyddorion, nag eiddo unrhyw genedl arall ag a gydoesai â hwy; dichon hefyd fod eu syniadaeth yn gwisgo cymaint odaclusrwydd a chydweddiad ag a allesid ddysgwyl iddi wneuthur yn yr agwedd gymysglyd ac ansefydlog ag oedd ar wareiddiad yn yr amseroedd hyny. Pan gofiom mai Pabyddiaeth oedd yr unig grefydd a ffynai yn Nghymru, yr amser y cyfansoddodd ein cyn- deidiau lawer o'u caniadau, yn yr hon grefydd y mae cymaint o'r ysprydol a'r anianol - yr egwyddorol a'r ffurfiol - y ddefodol a'r arwyddluniol wedi ymgymysgu â'u gilydd, nid yw ryfedd yn y byd

 

 

 

x537

fod darfelydd ein cyndeidiau, megys yn adlewyrchiad o honi, a'u syniadaeth grefyddol wedi ymwisgo yn llwyr ar ei delw. Ond gan nad beth am ansawdd awenyddol barddoniaeth ein teidiau, y mae ei hansawdd syniadol yn profi i sicrwydd fod ein teidiau yn mhell yn mlaen mewn gwareiddiad anianyddol a moesol; ac, fel cyfrwng hanesyddol, y mae yn ddiau fod eu barddoniaeth o ddefnyddioldeb a gwerth mawr.

CY WYDD Y CUSAN ( THE SONG OF THE KISS. )

GAN GRUFFYDD HIRAETHOG, O.C. 1522.

Cefus, un cofus Wener, Cyfa îs bwnc wefus bêr, Cysegriad, trwsiad traserch, Cysegr min, cus goreu merch, Cael hwn sydd calon hawshad, Cwrets o hirnych cariad: Cyd - afael byncio deufin, Ciniaw gwell na'r càn a gwîn. Cyffro enwog, hoff rhinwedd, Cariad, mal cymwysiad medd: Caen dloswawd, cnawdliw iesin, Cawn flas sacc, neu falmsey win. Cym'rais win, cymmar osai, Cla'n iach o bob clwy a wnai; Corph iechyd fywyd heb far, Clywed ei anadl claiar.

Cyflaeth mîn eurfrig hafloer, Cynnes i fynwes fa'i oer; Cnoad manfwyn cnawd meinferch, Cnewllyn o siwgr - win serch. Cawn unrhodd, cu iawn anrheg, Caru obr tost, croewber teg: Cwmin o siwgr - win, ôs iach, Cawn flas anys felysach. Croew oreu fedd Creirwy fin, Cyfryw un nis cai frenin; Clyd enaint, clau had annerch, Clo cauad safn, cliccied serch. Calenig loew eurfrig loer, Cariad, triagl cur tra - oer; Clau flysiad cariad cywraint, Cael hwn, a weryd cul haint; Celfyddyd rhag clwyfoddef; Cariad eneiniad o nef ! Cyfeddach nis cai fawddyn, Caf oes hir o cefais hyn:

 

 

 

x538

Clo min yn clymu einioes,

Claim ar hwn cael i'm a'i rhoes.

Y mae rhai beirniaid yn canfod teilyngdod a rhagoroldeb mawr yn y Cywydd uchod; dywed un beirniad am dano fel hyn: — " This poem is esteemed one of the most elegant and masterly composition in the Welsh language ( !! ) with respect to the skilful arrangement of its alliterations, and the sweetness and easy flow of its harmonious sounds. Perhaps no specimen can be selected from the Basia of Joannes Secundns Nicolaius, nor from Ovid, that excels this song on the subject of Love. " Y mae y feirniad- aeth hon yn sicr o fod yn cynwys llawn cymaint o ganmoliaeth ag y mae y Cywydd hwn yn ei deilyngu. Y mae yr ysgrifenydd yn canmol cywreinrwydd a melusder ei gynghaneddion; ond wrth sylwi yn fanwl canfyddir nad yw y rhai hyny oll yn gywir a diwall, a'u bod yn fynych ya pylu, os nid yn anafu y synwyr. Canfyddir hefyd nad oes gan y bardd ond un meddylddrych mewn golwg, sef melusder anianyddol y cusan, o gylch pa un y mae yn ymdroi ac ail - ymdroi o ddechreu y Cywydd hyd ei ddiwedd.

Y mae rhywbeth mewn cusan heblaw ei felusder tybiedig i'r teimlad anianyddol; y mae iddo ei effeithiau, ei ddylanwadau, a'i rhinweddau moesol a dirgeledig; y mae iddo, fel pob peth arall, ei athroniaeth. Ond ychydig o'r teithi uwchafol hyn sydd yn cael sylw y bardd yn ei Gywydd. Y llinellau ag sydd yn dynesu agosaf at ddesgrifiadaeth o'r natur hyn yw y rhai hyny lle dywed y bardd am gusan mai " Cyffro enwog hoff rinwedd, ' a " Cariad eneiniad o nef, " ydyw. Gwelir fod y meddylddrych yn ymëangu ac yn newid ychydig ar ei ansawdd yma; y mae yn myned yn fwy at y pur a'r egwyddorol - at hanfod a gwirionedd - megys ag y gwna yr athrylith adfyfyriol a chyrhaedd - bell bob amser. Hefyd, y mae amryw o'r cydmhariaethau yn difwyno yn fawr y meddylddrych y ceisir ei ddesgrifio drwyddynt. Mae yn wir eu bod yn cyfleu y meddylddrych o felusder y cusan ger ein bronau; ond nid yw pob peth melus yn hardd, yn brydferth, a dymunol. Nid yw rhai o'r gwrthddrychau ar ba rai y mae rhai o'r cyd- mhariaethau yn sylfaenedig ( er eu bod yn cynrychioli melusder ), yn gwisgo ffurf ddengar o'r fath ag a dueddai i chwyddo dymunol- deb y cusan yn ein meddwl, yn lle ei leihau a'i halogi. ' Cariad, triagl cur tra - oer. " Nid yw " triagl, " er ei fod yn felus, ond gwrthddrych anymunol ddigon i ddyfod i gyffyrddiad âg ef: ni charai neb gael cusan fel cusan triagl. " Cnoad manfwyn cnawd meinferch. " Nis gall " cnoad, " o unrhyw fath, fod yn ddes- grifiad o gusan yn un o'i wynebweddau. Wrth son am gusan cyn- yrchir ynom y syniad o hyfrydwch a chariad; ond " cnoad, " yn hollol i'r gwrthwyneb, ni chynyrcha ynom ddim ond y syniadau o boen ac adgasrwydd. Ond y mae yn y Cywydd amrai linellau tlysion a phur ddesgrifiadol; ac y mae llawer o gywreinrwydd a

66

" "

66

 

 

 

x539 champ yn cael eu harddangos yn nghyfansoddiad y gynghanedd; gwelir mai y llythyren " C " yw y pegwn mawr o gylch pa un mae y gynghanedd yn troi, o ddechreu y Cywydd i'w ddiwedd, ac i'n tyb ni, dyma lle y mae llawer o'i ragoroldeb yn gorwedd.

Dyma fel

y mae BURNS yn canu i'r cusan: -- Humid seal of soft affections,

Tenderest pledge of future bliss; Dearest tie of young connections, Love's first snowdrop, virgin kiss. Speaking silence, dumb confession, Passion's birth, and infants ' play; Dovelike fondness, chaste concession, Glowing dawn of brighter day. Sorrowing joy, adieu's last action, When lingering lips no more must join; What words can ever speak affection, So thrilling and sincere as thine.

Etto gan BYRON: —

And saw each other's dark eyes darting light Into each other, and beholding this,

Their lips drew near, and clung into a kiss; A long, long kiss, a kiss of youth and love, And beauty; all concentrating like rays Into one focus, kindled from above; Such kisses as belong to early days,

Where heart and soul, and sense, in concert move; And the blood's lava, and the pulse a blaze; Each kiss a heart - quake, for a kiss's strength I think it must be reckon'd by its length. By length I mean duration; theirs endured,

Heaven knows how long: no doubt they never reckoned; And if they had they could not have secured The sum of their sensations to a second. They had not spoken, but they felt allured,

As if their souls and lips each other beckoned:

Which, being join'd, like swarming bees they clung, Their hearts the flowers from whence the honey sprung.

Etto gan HALIBURTON: - " A kiss fairly electrifies you; it warms your blood, and sets your heart a beating like a brass drum, and makes your eyes twinkle like stars in a frosty night. It ain't a thing ever to be forgot. No language can express it, no letters will give us the sound. Then what in nature is equal to the flavour of it ? What an aroma it has ! How spiritual it is ! It

 

 

 

x540

ain't gross, for you can't feel on it; it don't cloy, for the palate ain't required to test its taste. It is neither visible nor tangible, nor portable, nor transferable. It is not a substance, nor a liquid, nor a vapour. It has neither colour nor form; imagination can't conceive it. It can't be imitated or forged. It is confined to no clime or country, but is ubiquitous. It is disembodied when com- pleted, but is instantly reproduced, and so is immortal. It is as old as the creation, and yet is as young and fresh as ever. It pre- existed, still exists, and always will exist. It pervades all nature. The breeze, as it passes, kisses the rose, and the pendent stoops down and hides with its tendrils its blushes, as it kisses the limpid stream that waits in an eddy to meet it, and rises its tiny waves like anxious lips to receive it. Depend upon it, EVE learned it in Paradise, and was taught its beauties, virtues, and varieties by an angel; there is something so transcendant in it. How it is adapted to all circumstances ! There is the kiss of love, of joy, and of sorrow; the seal of promise, and the receipt of fulfilment. Is it strange, therefore, that a woman is invincible, whose armoury consists of kisses, smiles, sighs, and tears ? "

66

Yr ydym wedi dyfynu y paragraphau uchod, er mwyn dangos fod rhywbeth mewn cusan, heblaw " gwin " ac " osai " - siwgr " a " thriagl. " Credwn fod y sylw mawr a dalai ein teidiau i'r gyng- hanedd, yn rhwystr iddynt i osod y pwys priodol a'r feddwl; boddlonent a'r syniadaeth arwynebol a golygiadau cyffredin, ond iddynt gael gafael ar gynghanedd ffraethbert, chwareus a pherorol. Yr oedd eu cariad gymaint at y gynghanedd, a'i pheroriaeth mor swynol i'w clustiau, fel na fynent ganu gymaint a phenill mewn rhyddfydraeth heb ei dacluso mor gynghaneddol a phe buasai gaethfydraeth ei hun. Nid oes i'r englynion canlynol ar gusan, fawr i'w cymhell i sylw, ond eu ffraethder cynghaneddol a'u chwareuaeth geiriol yn unig: -

Dy gusan bychan dibechod, -digrif,

Mal deigryn o wirod; Medrusaidd medri osod,

Er mwyn Duw ar fy min dod.

Moes gusan i'm rhan er hwy, -moes fil,

Moes ddwyfil, moes ddeufwy;

Moes ugeinmil, moes ganmwy,

Moes yma, am f'oes i'm fwy.

5

Mun lan ! moes gusan, moes gant - moes ddwsin,

Moes ddeusaith bedwarcant:

Ddinaca, moes ddeunawcant, Dri wyth mil dyro o'th mant.

 

 

 

x541 Yr oedd DAFYDD AB GWILYM, yn ddiau, y bardd mwyaf a ym- ddangosodd yn mhlith cenedl y Cymry o'r drydedd - ganrif - ar - ddeg i fynu, feallai, hyd at y ddwyfed - ganrif - ar - bymtheg. Ond dywedyd am dano, fel ag y dywed rhai beirniaid penboeth a phleidiol, mai efe oedd " the greatest genius the world ever saw, ' a fyddai yr yn- fydrwydd mwyaf. Mae yn wir fod barddoniaeth Gymreig yn ei ddyddiau ef, neu yn ei athrylith ef, fel pe buasai yn myned drwy drawsnewidiad araf, ond amlwg, er gwell. Efe oedd y chrysalis lle yr ymnewidiai llindysyn barddoniaeth yr oesoedd cyntefig yn löyn byw, hedegog, barddoniaeth yr oesoedd diweddar. Ond ni safodd barddoniaeth gydag ef, eithr aeth rhagddi ar ei chynydd yn ddirfawr mewn urddas, amrywiaeth, prydferthwch, a chwmpas hyd y dydd hwn. Meddianai DAFYDD AB GWILYM ddarfelydd nwyfus a ffrwythlawn, cynyrchion pa un bob amser a wisgent newydd - deb a ffresLi. Yr oedd ei gydmhariaethau, neu ei ffugyrau, yn lluosog, prydferth, ac weithiau yn darawiadol iawn; ond nid oeddent bob amser mor gywir, cydweddol, cyfaddas, a detholedig ag y dymun- asid; megys, pan y darluniai wallt MOFRYDD, fel " Banadl aur o ben hyd lin; " nid oes dim yn y gydmhariaeth hona, er ei bod yn newydd a dengar, ond lliw y banadl yn unig a ellir ei gymhwyso fel desgrifiad o wallt MORFYDD. Nid ydym yn credu fod ei gwallt cyn braffed â'r banadl, nac yn cyrhaedd i lawr hyd ei glin, ynte buasai MORFYDD yn wrthddrych mwy hynod nag ydoedd o bryd- ferth. Yr oedd DAFYDD AB GWILYM, fel hyn, yn amlygu peth diffyg barn yn y detholiad o'i gydymhariaethau; ond y peth ag oeddynt andwyo eu athrylith ef oedd ei ddiffyg chwaeth yn y cymhwysiad o honynt.

Y

Yr oedd yr anghydnawsedd a'r anghydrywiaeth mwyaf weithiau rhwng y gwrthddrychau a fynai efe eu desgrifio, â'r cydmhariaethau drwy ba rai y byddai efe yn ceisio desgrifio yr unrhyw. Byddai y golygfeydd mwyaf arddunol a gogoneddus mewn natur yn cael eu desgrifio drwy y cyffelybiaethau mwyaf gwirionllyd ac ysmala. gwirionedd ag ef yw hyn, nid oedd gan DAFYDD AB GWILYM y pathos hwnw a fedrai gymeryd i mewn y goruchel a'r mawreddus; na'r meddwl hwnw a fedrai olrhain y dwfn, y pur, y pell, yr ysbrydol, a'r dwyfol mewn natur. Yn y digrifol ( comical ), y difyrus ( hu- morous ), neu y sengar ( sarcastic ) y byddai awen DAFYDD AB GWILYM bob amser yn ymbleseru; a gwyddis nad yw y dwfn, y dwys, y mawr, yr ëang, a'r derchafedig un amser yn aros gydag arwyneb- olion o'r fath; rhyw ffrwd fechan, glir, a chwareus iawn, ond bas ryfeddol oedd ei awen ef. Awen deuluaidd a chymdeithasol ydoedd, yr hon a wyddai fwy am sain ddifyrus y delyn, nag am y " llais dystaw, main, " sydd yn natur - dadblygiad o serch personol, ac nid o syniad cyffredinol ydoedd ei awen ef; nid oedd ynddi ddim o'r hanesydd, y duweinydd, na'r athronydd; na dim o'r bardd gaefgalgar, ëang, a chwmpasog.

NN

 

 

 

x542

GORONWY OWAIN oedd y bardd mawr nesaf, drwy yr hwn darfu i'r awen Gymreig fyned o dan drawsnewidiad arall, er gwell; ynddo ef y mae hi megys yn ymddadblygu yn mawredd ac ar- dderchogrwydd ei nerth - urddas, purdeb, ysprydolrwydd a dwy- foldeb ei natur.

Ni fu DAFYDD AP GWILYM gyfuwch ag ysgwydd GORONWY erioed; nid oedd y cyntaf at yr olaf, ddim mwy nag yw yr Eryri at yr Andes; ac yr oedd cymaint o wahaniaeth rhwng moesoldeb chwaeth, neu foesoldeb athrylith yr olaf a'r cyntaf, ag sydd rhwng dyfroedd tryloewon Libanus a dyfroedd lleidiog y Môr Marw. Medrai GORONWY deimlo pwysfawredd ei destyn, a chanu yn gydweddol â'i urddas. Y mae ei awen yn ymsymud drwy ei linellau gyda nerth a mawrhydi; ac mae ei chamrau fel eiddo GOLIATH, yn peri i'r ddaear i grynu o dan ein gwadnau. Gwelwn drwy holl Weithiau GORONWY y purdeb a'r dillynder hwnw ag sydd yn dynodi y meddwl clasurol yn unig; y maent yn dwyn ôlion y gofal, y manylder, a'r gorphenedd mwyaf; mae pob cynghanedd, gair, a syniad yn geinion detholedig, ac fel meini nadd mewn adeilad harddwych. Ond er godidoced bardd yr ystyrid GORONWY, ac er fod ei feddwl yn gynysgaeddedig â'r elfenau barddol uwchaf, etto nid ydym yn gallu canfod oddiwrth ei Weithiau fod ei athrylith yn meddu grasp a chumpas prif - feirdd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nid yw cywyddau nac awdlau GORONWY ond rhai byrion iawn, tra yr oedd llawer o'r testynau y canai arnynt yn rhai o am- gylchedd ac eangder mawr; yr hyn sydd yn profi nad oedd ei grebwyll ef mor alluog a gweithgar ag y meddyliasid. Y mae rhai yn gresynu na buasai GORONWY wedi ymgymeryd â chyfansoddi cerdd arwrol, gan feddwl, wrth hyny, y buasai efe yn abl i gynyrchu un a fuasai yn anrhydedd oesol i'r awen Gymreig. Ond y mae yn amheus a fedrai athrylith gynlluniol GORONWY orchymyn yr ad- noddau anghenrheidiol at waith o'r fath eangder ac amrywiaeth. Gellir fod yn sicr o hyn, nad ydyw wedi gadael yr un arwydd ar ei ol ei fod yn meddu y gyfryw athrylith afaelgar ac ymestynol.

Wrth derfynu ein sylwadau, goddefer i ni draethu ein barn unwaith yn ychwaneg, sef, y credwn nad ymddangosodd yn un oes ar Gymru feirdd mor alluog, gorphenedig, a rhagorol â beirdd y bedwaredd ganrif ar bymtheg; ac nad oedd goreuon y cynfeirdd, Ilawer llai y go - gynfeirdd, yn deilwng o'u cydmharu, hyd y nod, â beirdd ail a thrydydd dosparth y dyddiau presennol. Ac o ba le, yn rhesymol, y gallesid dysgwyl iddynt ddal y gydmhariaeth, pan ystyriom y gwahaniaeth dirfawr oedd rhwng ansawdd a sefyllfa eu haddysg a'u gwybodaeth hwy â'r eiddom ni ? Nis gall moesoldeb na llenyddiaeth un genedl fod ar uwch safon na ei gwareiddiad, canys nid yw y blaenaf ond cynyrch naturiol yr olaf. Mae yn wir fod ein teidiau yn meddu gwareiddiad pur flaengar mewn cydmhar-

 

 

 

x543 iaeth i lawer o genedloedd eraill. Ond nid oedd, er hyny, ond gwareiddiad mewn sefyllfa elindysaidd; nid oedd iddo yr agwedd gaboledig na'r egwyddor uchelryw ag sydd i wareiddiad ein hoes ni; ni feddai ddysgleirdeb y moesoldeb pur, nac addurn y ddysg- eidiaeth uchel, na chyfoeth mawr y wybodaeth eang, amrywiog, a chyrhaeddfawr ag a feddiana gwareiddiad yr oes bresenol. Nid oedd natur wedi agor i'n cenedl ni, nac, yn wir, i'r rhan fwyaf o genedloedd y byd, feallai, yn yr amseroedd hyny, ond megys cîl ei dôr er iddynt gael edrych i mewn i'w dirgeledigaethau. Nid oeddent etto wedi dyfod o hyd i'r agoriadau hyny ag sydd erbyn heddyw wedi dadclou a dadlenu llawer o wirioneddau natur, pa rai oedd iddynt hwy, yn ddyrysbynciau anamgyffredadwy. Mae lle i feddwl fod ysbrydolrwydd a dwyfoldeb y cwbl, i raddau, yn ddieithr i'w syniadaeth a'u dychymyg. Yr ydym yn siarad am ein llenydd- iaeth foreuaf; ac er fod ein cyndeidiau mewn amseroedd diwedd- arach wedi ymgydnabyddu cryn lawer âg ymddangosiadau ac ar- wynebolion natur, eto pur ychydig, gellid meddwl, a wyddent am ei hegwyddorion a'i deddfau. Y mae yn amheus a oedd y ddring- raddeb hono sydd yn esgyn o effaith i achos, ac o achos i achos, hyd at y Diachos mawr ei hun, yn gynefin a dealladwy i'w meddyliau. A oedd eu ffydd yn personoli ac amgylchynu rhywbeth heblaw neu uwchlaw materolaeth ? - a oedd gwrthddrych eu haddoliad yn rhyw beth heblaw natur wedi ei dduweiddio ? —a berthynai i'w credo ysbrydolrwydd o gwbl, neu, os perthynai ysbrydolrwydd iddo, a oedd i'r ysbrydolrwydd hwnw santeiddrwydd a dwyfoldeb ? sydd gwestinynau, os atebir hwy yn nacâol, a ddengys ar unwaith nas gallasai cynyrchion ein beirdd cynoesol, nac yn wir, canol - oesol, fod yn rhai gorddwfn, na goruchel, athronyddol, na goleuedig iawn. Ond erbyn heddyw y mae ffynonellau ysbrydoliaeth ein beirdd ni wedi eu lluosogi, a'r adnoddau a gynwysant wedi myned yn anhys- bydd. Y mae natur genym heddyw wedi ei diosg o'r ofergoeledd a'r dirgelwch synus a'i hamgylchynai gynt. Y mae genym heddyw athroniaeth ddiderfyn ei hymchwiliadau ac aruthrol ei darganfyddiadau. Y mae genym heddyw yr addysg fwyaf dofn, eang, bur, a goruchel ei gwersi. Y mae genym y ffydd, hefyd, dar- felydd yr hon sydd yn heigio gan y delweddau, a'r rhagolygon mwyaf hapus, goruchel, a gogoneddus. Yn ngwyneb manteision mor fawi a lluosog, a'i nid ydym o anghenrheidrwydd mewn sef- yllfa y gellir yn rhesymol ddisgwyl i'n barddoniaeth drarhagori ar eiddo ein cyndeidiau ? Gall y sawl a fynont ymffrostio yn eu ANEURIN, eu TALIESIN, a'u LLYWARCH HEN; ïe, yn ei Dafydd ab GWILYM, a'u GORONWY OWAIN, os mynant; ond os am dynerwch ac esmwythder, rhodder BLACKWELL i ni; am ddwysder a nerth, R. AP GWILYM DDU; am ddysgleirdeb a gogoneddusrwydd, DEWI WYNN O EIFION; am swyn a melusder, ISLWYN; am olud,

 

 

 

x544

llyfnder, a gorucheledd, EMRYS; am dryloewder a grym, CALED- FRYN; beiddgarwch crebwyll, GOLYDDAN; am ffeinedd a cheinder, HWFA MON; am goethder a chlasuriaeth, NICANDER; am allu des- grifiadol, EBEN; ac am gyrhaeddiad, ëangder, ac amgylchedd ath- rylith, rhodder i ni GWYLIM HIRAETHOG. Y mae llawer o feirdd gwych, yn hen ac yn ieuainc, yn Nghymru, heblaw y rhai a enwyd, nad ydym ni hyd yn hyn yn ddigon cynefin â'u gweithiau fel ag i'n galluogi i fwrw un math o farn gywir am werth ac an- sawdd eu hathrylith; ond wedi y cwbl, nid oes neb wedi medd- ianu y teimlad Cymreig - teimlad crefyddol y genedl Gymreig- na phoblogrwydd mor fawr a chyffredinol, a'r Bardd defosiynol o Bantycelyn. Ni chynyrchodd un oes, na chenedl, oddieithr yr un Hebreig yn unig, Emyn - fardd mor dra - rhagorol ag efe. Etifedd athrylith y cysegr, Poet Laureate Zion, pêrganiedydd Cymru, oedd efe; ni ymddangosodd yr awen mewn prydferthwch mwy ysprydol a dwyfol yn un man erioed nag yn ei farddoniaeth anghydmharol ef. Nid o ffrydiau Helicon a Pharnasus ddychymygol y beirdd cenedlig, y byddai efe yn tynu ei ysbrydoliaeth, eithr o'r ffynonau bywiol hyny sydd yn rhedeg allan o ystlysau " mynydd santaidd " Duw. Rhaid i COWPER, BARTON, HEBER, a WATTS; D. IONAWR, JONES, Maesyplwm, WILLIAMS, Bethesda, a BARDD DU Y BETTWS, ddiosg eu coronau oddiam eu penau a'u bwrw i lawr wrth draed tywysog ein hymnyddiaeth Gymreig - yr anghydmharol WILLIAM WILLIAMS O Bantycelyn.

Y GOMED.

( Ymddangosiad yr hon ni ragfynegwyd gan y Seryddion. )

WELE ! oh ! wele'r un eiliad, -godi

Gyda dawr a syniad,

Bob dychymyg a llygad

I'r un fan i'r wybren fad !

Gerllaw terfyngylch Gorllewin, -- erys

Arwydd anghyffredin-

Ysol oleuad iesin,

A gwawl o ryw ddirgel rin.

Oh ! mae'r nef a'i muriau'n ufel ! - -seren Boeth sy ' ar y gorwel, -

Un gron, fawr, a'i llosgwrn fel Gloewaidd, engyrth, gledd angel. Ei nawf ar draws y nefoedd - dywynol, Sy'n mudanu'r bobloedd;

Ei llaeswallt drwy'r holl oesoedd, A'i chorn hir, yn ddychryn oedd.

Ba alltud yw hon ddaeth o bellder - gwybr, Gyda gwawl - fuander—

 

 

 

x545 Tebyg i danllyd wiber

Yn chwareu wrth sodlau'r sér ?

Yn enw deddf, o ble mae'n dod - i'n hwybr ni, Bron yn ddiarwybod ?

Ac i ble'r â cyn cwblhau rhôd

A rhandir ei phererindod ?

A'i ' r BIELA ar wib eilwaith, -neu'r ENCK,

Gylch yr haul yn ymdaith ?

Neu'r HALLEY fawr, oleu, faith, Ytyw hon, etto, unwaith ?

A'th dremyn sydyn arswydi, -y byd,

Beth yw'th genadwri ?

Arwyddion o beth roddi,

Dery'n waedd drwy'n daear ni ? A'i i fygwth llifogydd, -neu wynt mawr, Neu haint marwol beunydd ?

Ynte rhyw chwyldroad rhydd, Y daethost, erch ymdeithydd ?

Na'ch twyller, anwyl werin, —na chredwch ( ¹ ) Haeriadau'r sêr - ddewin;

Nid oes yn y gomed iesin, Argoel o wae, na pherygl i'n.

Ni wyddai'r un ddiweddaf, -adfydiau Y dyfodol anaf;

Na hynt eiddil blant ADDAF, O ddydd Awst i ddiwedd hâf. Cymoder chwi â'r comedau, —sêriol, Canys sêr y'nt hwythau; Hynod addfwyn i'w deddfau, - O dan Iôr, yn dwyn ei iau.

Ei air EF a wnaeth eu rhod, -gu archodd Eu gorchwyl - fu'n gosod

Rhandir eu pererindod-

Duw yw deddf eu myn'd a'u dod. Er mor hynod trem rhai o honyn ', — ni Wnant ond doeth orchymyn;

Eu llyw enwog - eu llinyn Yw bys Duw, -boed hapus dyn. Gwedd y rhai'n gyhudda'r annuw, —y sêr

Sydd yn amheu'r di - DDuw; Dydd a nos sy'n dangos Duw:

Un gerdd yw'r oll, i'r Gwir - DDUW.

( 1 ) Dealler mai syniaadeth ofergoelus y werin sydd yn cael ei chynrychioli yn rhan flaenaf y cyfansoddiad, ac fod gwyddor yn siarad y ran olaf.

 

 

 

x546

/  
   

(x546)
AWDL AR YMWELIAD Y GERI MARWOL A CHYMRU YN Y FLWYDDYN 1849.
GWAE’R byd! O’i gysegr ban, - y diofer
DDUW sy’n dyfod allan:
Ei law ddyrchafodd i’r lan,
I drafod holl bedryfan.

Herwydd euog yw’r ddaear,
O bob anwiredd a bâr.

Y Geri anghrugarawg
A roes ymweliad yr hawg -
Ymweliad am ein miloedd,
Anwyl iawn o’n cenedl oedd.

Gwelai Duw ’nawr, ein gwlad ni,
Ar gynydd mewn drygioini.

Hi fwriodd edifeirwch – o’i golwg,
Drwy galon-galedwch;
Ei lle oedd ymostwng i’r llwch, - eithr ni
Fu hyn iddi, - Ow!  ni fynai heddwch.

Gwawdiai yr orsedd gadarn, -
Mae Cymru’n addfedu’ farn!

Arwyddion anfoddloni,
O du’r nef ga’i ’n daear ni;
Ond attal wnai Duw ettaw,
Ddwyn ei lid oedd yn ei law;
Iôn yn aml oedd â ni’n ymladd,
A’i wg a’i wen yn lle’n lladd.

Lladd yr anifail ger llaw, - a wnelai,
Dryllio’n heulun drwyddaw:
Neu’n ein llwyddiant ein lluddiaw, - gwneyd
A mân diobaith, yna mynd heibiaw.


 

 

x547  

 

(x547)
Yn ngorchwyliaeth
Ei ragluniaeth, - IÔR golueni,
A’n rhybuddiodd
Daroganodd - do’i rhyw gyni.

Duw mawr, yn ei dymhorau - a wgodd,
Pwy yw na welodd uwchben ei aeliau?

Mor hardd oedd tremyn y gwanwyn gwenog,
Bywiol egorai y gwydd blagurog;
Ymdrwsiai’r glesin - yr egin gwrygiog,
A’r bondew laswellt oedd mor bendlysog,
Gan laeth Aurora - gan wlith hwyr eurog;
Yn llad rhagorol gwnai llaw drugarog
Rhagluniaeth dirion rhoi gwlaw neithdarog,
Clauar awelon ac henlwawr hiliog;
Nes torai’r hadau’n llysiau lluosog
Allan o fòl daear, llen flodeuog,
Oedd ar fryn a glyn, yn glog, - wele’n awr,
Anian oreuwawr oedd un wên rywiog.

Addawai gwawr y ddaear - gynauaf
Gwyn, eang, ffrwythlongar:
Arwyddai gwên werdd a gwàr,
Y gwanwyn y do’i’n gynar.

Ond IÔN yn ol a dynodd - ei law hon,
Rhagluniaeth a rwymodd
O drau’r cymylau’n mhob modd,
A’r nen a hir hinonodd.

Llawer mis uwchlaw’r meusydd, - i’w brwylio,
Bu’r haul poeth, gwynebrhydd,
Heb gafod yn dod un dydd,
Na dafn braidd ar un defnydd.

Y flin wybr ai fel yn bres - coeth, uwch ben
Wyneb daearen yn danbaid eres:
Traflyncodd, attyriodd tes - yr haul rhydd
Nentydd ac afonydd acw i’w fynwes.

 

 

 

x548

(x548)
Clwyfodd anian - clâf-ddihoenai, - ei grudd
Gan y gwres a wywai;
Hyder yr anifail gyda’i - wair a’i y^d
Y ddifaol enyd bon ddiflanai.

Ofnid fod Duw yn trefnu
I’n dal drwy y newyn du;
Ond Zion lân, weithian, hi,
Yu gyhoeddus mewn gweddi,
Yu drist at ei Duw a drodd;
Ar IÔN da a’i gwrandawodd,

Wedi troi barn nid hir bu - diwygiad;
Yn ol ai’m gwlad, yn ail - ymgaledu;
Aeth hon, cyn braidd ei thynu
O afael barn, fel y bu.

Iôn etto ambarodd ein tymhorau;
I’w law Ef ei hun y mae’r elfenau
Yn hynod o addfwyn yn eu deddfau:
Dacw ef o’r môr yn galw ei drysorau -
Yn bwrw ei niwloedd i’r wybren olau,
Yn ganoedd a miloedd o gymylau
Tywyll, tew, oedawl; a’u tywalltiadau
Garw, gwrthnysig, ar y gwair wythnosau;
O dan y gofidus daen-gafodau,
Llwyr ddirywiwyd sawr a gwawr y gweiriau
Ydoedd mewn ystodau; - ymborth miwail
Yr anifail yn dail ar y dôlau.

Ac yn nhywydd cynauaf
Yr y^d, yn nghyflawnder ha^f,
Bwriodd ar ffon ein bara, - bygythiodd
Ei thori drwyodd o waith hir draha.

Ond Zion, weithion, a aeth - at ei thad,
Doeth Awdwr Rhagluniaeth;
A gofyn gan erfyn wnaeth, -
“Duw, agor waredigaeth!”
 

 

 

x549

 


(x549)
“Er mwyn yr Addfwyn a rodd
It’ Iawn, a’th lawn foddlonodd!”
Duw, yn hwn, diau’n union,
A chan daer ochenaid hon,
A drodd hyd draw law ei lid,
A rhoddodd ini ryddid.

Yn lle ei gerydd, llaw ei gariad - a wnaeth
Ddynoethi’n ddieithriad
Estyn wnai etto’n wastad,
Ger ein bron arwyddion Rhad.
Nifer o gynauafau* -a gawsom,
Er gosod caniadau
O glod i’r ARGLWYDD yn glau,
Yn ein heuog eneuau.

(*Cawd nifer o gynaufau rhagorol yn olynol.)

Ymwênai’r haul dymunol - yn awyr
Y cynauaf siriol;
Caed tirion hinion i hòl*
Yr y^d i’w le priodol.

(*Cyrchu, yn ol cangheniaith y Deheudir.)

Bu heddwch* a’i wyneb addien - arnom,
Yn ddiwrnod o heulwen;
Yra’r ydoedd twrw ar aden - o’n deutu,
A llu yn gwaedu, - yn llanw gwae Eden.
 
(*Cawd tymhor hir o heddwch.)

Dirwest*, hefyd, dros Dofydd,
Yn daer a’n galwai bob dydd,
I adael ein pechodau - llygredig,
A gwyniau blysig y gwin-balasau.

(*Ystyrid fod gan Ddirwest ei chenadwri atom.)

Diofn oeddem yn defnyddio - rhoddion
Ein HIÔN oedd dirion, idd ei daro.

Troi’n eirf, ddoniau tirion JAH - ar gyhoedd,
Wnaeth rhyw filoedd i wrthryfela
I’w erbyn Ef, er byw’n wych
Ar ei gariad ragorwych.

 

 

 

 

x550

O, DDUW! pa’m arbedi ddyn?
Rhyfedd na ddrylliet bryfyn i

Wele! sain Efengyl sydd - glywedig
Drwy ein gwlad ni beunydd;
O, mor hoff a thwym y rhydd
Am danom ei hadenydd!

Gymru freiniol!
Pob dawn nefol
A daearol - a gyd-dyrant,
Ar dy ddwyfron;
Dy fendithion
Fyth, ail afon - faith a lifant.

Naturiol lwydd sy’n toi’r wlad,
A rhoddion pob gwareiddiad;
Ond, mwy yw’r gwarth, - dyma’r gwir, -
O’r haeledd, er a welir,
Er y tail a’r cariad hyn
A roddwyd at ei gwreiddyn,
Ni phar weithion ddwyn ffrwythau, -
Lluaws hedd nid yw’n lleshau:

Addewidion
A bygythion - heibio gwthiodd;
Ar yr alwad
O’r andwyad - ni wrandawodd.

A’n gwlad a ymgaledodd; - mewn dirmyg,
Annuwiaeth, a rhyfyg noeth, y rhwyfodd.
Niweidiol gyfeiliornadau - llawgryf,
A llygredigaethau,
Godynt yn gorwynt, a gau
A thrythyll athrawiaethau.

Golaesodd sêl yr eglwysi; - Zion
Roesawodd gnawd ati;
Ciliodd gogoniant Celi
Yn ol, hwnt o’i chanol hi,

 

 


 

 

 

x551

 

 

(x551) Y wlad oll a ledai gwyn; - myn’d, hefyd,
I fyw’n ei hawddfyd yn fwy anaddfwyn
Cwyno, tuchan, ceintachu -
Ymryson anfoddlon fu;
Llawn o derfysg cymysg caid
Y werin a’i blaenoriaid.

Arwyddodd y nef i raddau - ei llid
Yn llais yr elfenau;
Bu, braidd, ddyryswch bob ran,
Yn mheirian y tymhorau.

Etto, er bod bell dram natur
Yn bygwth barn o gadarn gur,
Hwyrfrydig i ddig oedd IÔN,
A thyner iawn wrth ddynion
Ni fynai fo daro dyn,
Na’i arswydo’n rhy sydyn:
Codi ei ddwrn cauedig,
Yr oedd ef yn ara’ ddig
Ei wialen a nolai,
Cydio’n hon, a’i hysgwyd wnai
Taraw ystlysau’r tiroedd,
A thrwy hyn fel athraw oedd,
Neu dad, er atal dadwrdd
Ei rai bach, yn taro’r bwrdd
Hyn a wnaeth ein HIÔN i ni,
O ddefnydd, idd ei ofni,
A’n cael i’n lle clau, ’n y llwch,
Yn foreu’n hedifeirwch;
I ochel barn, a chael byw
Dan ei nawdd - dyna wneddyw.

Ond er a wnaeth Iôr i ni, - troem
A diystyrem ei wiw dosturi:
Ciliem, ni fynem ei fad - leferydd,
Nag yn ei gerydd, na’i gwyn, na’i gariad,
 

 

 

x552

(x552) Cymru o fodd ddigiodd DDUW,
Yr annuw a wronodd;
Cedai barn, yn ei dyb ef,
A wedai’r nef a wawdiodd:
Gwaradwyddai’r gwr diddliw
Fawr dda IÔN, fe heriai DDUW:
Uchel iawn aeth ei bechod,
Chwifio wnaeth i’w uchaf nod;
Gan hyny y deffry Duw,
I roi unwaith i’r annuw,
Brawf o’i Gyfiawnder rhyw bryd,
A’i wirionedd rhyw enyd:
Ef yn hollol fyn allan
Ei glod a’i santeiddrwydd glân.

Heddyw cododd y cadarn
DDUW hyny i weinyddu barn:
Agorodd ddrws i’r Geri,
A lle’n awr i’u dryllio ni.

Hanes drom ei ddinystr o’,
Yr adeg y bu’n rhodio,
Hanes flwyddyn hono -
Y Ddeunaw Cant (ddaw i’n co’)
A Naw a Deugain, yn hir,
Ac hâf am oes a gofir.

Wele’r cwmwl dwlyn d’od - yn araf,
A’i wawr yn arwyddo
Dwys dymhestl fawr, fawr i fod, -
Brawychus yw’r wybr uchod!

Ac ymlaen o’r cwmwl, oedd
Angau’n melltenu ingoedd,
Tua’r Gorllewin tawel
Mae’n d’od, a difrod lle del.

Y daran-dymhestl dorodd!
A’i dylif difrif a dôdd –
  

 

 

 

x553

 

(x553) Wledydd y dwyrain lydan, - a lluoedd
Y Gorllewin bobman,
O dês dir Hindwstan - hyd eithafoedd
Amrywiog gyroedd Americ eirian.

Hwysgodd ef o’i flaen hefyd
Lu i fôr tragwyddol fyd;
Gerwin oedd y dryghin draw,
A’r awel drom yn rhuaw:
Nesu oedd, nês, nês o hyd;
Er hyny Cymru enyd, -

Ydoedd yn breuddwydiaw - lle i’w ochel:
Diau, llechai’n ddystaw
Dan ei bron, rhwng edyn braw,
Rhyw obaith yr ai heibiaw.

Ond tua’n goror y tynai’r Geri
Mileinig, barnol, yn mlaon hob wyrni
NAF a’i arweiniodd, yn ei fawr yni,
Ar wlad o ryfyg, ar lu o drefi;
Ie, fe rodiodd mewn erch fawrhydi, -
Dyna’i swydd yn y dinasoedd heini, -
Taro’n feirw ganoedd trwy enfawr gyni
Ow! mae’r negesydd mawr yn agosi
Obry ’nawr i’n bro ni; - gan ddychrynu
Ceir hon, hyd wreiddyn, yn crynu drwyddi.

Llefai a sylwai ein holl Fisolion -
Llyfrau a daenid - llefarai dynion
Wrth eu gilydd, a’u llaw wrth y galon,
Am wyllt rwygiadau a mellt ergydion
Y Geri Marwol ysol ei loesion;
Ei anwar ddystryw yn nhiroedd estron,
A’i gam mawr aethus i Gymru weithion
Am ddiwedd einioes oedd ymddiddanion.
 

 

 

 

 

x554

(x554) Pob graddau, - pawb ag arwyddion - ofn mawr,
O’r un ogwyddawr yn eu hagweddion.

Bwrdd yr Iechyd, yn ebrwydd o’r achos,
Gyhoeddynt eirchion i union anos
Pob un i ddori- awb yn ddiaros -
Ddeddfau glanweithdra, sy’ dda, yn ddios;
Troi eu tuedd at awyro’u teios,
Ac hoewaf, egor bob man cyfagos
Lle’r oedd budredd yn gorwedd ac aros,
A’u bwrw ymaith rhag effaith i’r geuffôs
Llwyr lanhau ffau a ffôs, - drwy’r holl dalaeth,
Rhag rhoi anogaeth ir Geri’n agos.

Yn hyn oll ein hanallu - eglurwyd,
I’w gloi o air Cymru
Oferedd cyflafareddu
A’r mawrwych deyrn ar y “March Du.”

Tramwyai’r dolur trwm, trwm ardaloedd
Cymru welw, euog, - cymerai luoedd
Yn ei grafangau yn gryf eu hingoedd
Y Geri Marwol ysponcia i’r moroedd
Pa raith a lwydda yn y porthladdoedd
I attal cry’ beintiau? - dal y corwyntoedd? -
I rwystro angau? -roi ust ar ei ingoedd?
Ni all longau na badau bydoedd
Un awr ei gario i unrhyw gyroedd,
Na’i yru etto or fan lle’r ytoedd,
Na llaw nae egni lluoedd - ei ffrwyno.
Ac yntau’n noflo ar gànt* y nefoedd.

(*Cant - cylch, circle.)

Oh! gyfnod trwmlwythog ofnau! - afar
Wylofain a dagrau;
Cerhynt ing, corwynt angau.
I’r bedd yn ysgubo’r bau!
 

 

 

 

x555

 


(x555)
Gollyngwyd esgyll Angau -, yn rhyddion,
Ac ymroddodd yntau
Gan’ mwy’i lid, gan amlhan
Wythwaith ei farwolaethau.

Ysgydwad rhwysg ei aden - echrys,
Oedd ddychryn daearen
Ar frys, megys am agen,’
Y byd ostyngodd ei ben!

Arswyd! achreth! brys! dychryn
Euogrwydd, a sobrwydd syn,
Feddianodd fwy o ddynion
Na deg oes yr adeg ben.

Y daran drom o’r Dwyrain draw - glywid,
Glewian f’ai’n llesmeiriaw;
Bu pob bron, bu pawb, a braw, - bu syndod,
A bu, dan cryndod, y byd yn gwrandaw!

Agoshau’n ëon wnai i Gasnewydd,
Blinai y gaer a blaen ei gerydd;
Bwrw wedi hyny y bu’r dienydd
Ei lid drwy ganol y wlad ar gynydd:
Angau ar dasg yn Nghaerdydd - fu’n gweithio
Troi’r lle i wylo trwy’r bell heolydd.

Fe ranai dorf yr un dydd - i drengi
Drwy ing dihefelydd;
Galar o ben bwy gilydd - ai fwy-fwy,
Yn dwrw ofnadwy, - Ow! dref anedwydd

Etto, bu yn y Taibach
Yn ddrycin cynddeiriocach.

Aberafon a brofodd - ei artaith,
Nes ei hurtio drwyodd;
Haner ei phlant a hunodd
A phawb gan ddychryn a ffodd
 

 

 

 

 

x556

(x556) Abertawy bert, hoewedd
Llawen oe’t, a Chastellnedd,
A Hirwain, a Chwmgwyrach,
Dro byr, ac Aberdar bach.

Ond heddyw swn dioddef,
A swn llu sy’ yn y llef;
Clywaf gref lef wylofai,
A garm oer yn rhwygo’r main;
Y Geri annhrugarawg
Sydd yno yn rhwygo rhawg
Dyna lu o dan ei loes,
A rhai’n diweddu’r einioes.

Angau, yn mharthau Merthyr, - ni fu ’rioed
A’i fraich yn fwy pybyr;
Dan ei wae’n dwyn ei wewyr - dacw filoedd,
A’u hoer grioedd yn rhwygo’r awyr.

Yno lle’r Geri mall a ragorodd;
Ow! mor eiddig i ddystryw ymroddodd!
Cur a dinystr i bob cwr a daenodd;
Holl boblogaeth y lle byw a blygodd;
Y rhai oedd rymus yn rhwydd a rwymodd,
A’i fys cadarn efe a’u hysgydwodd,
Ail i wawn oeddynt - trwyddynt treiddiodd:
Ba lid a fu! Pob ail dy^ ofwyodd;
Rhai yma, rhai acw, yn feirw fwriodd:
Deunaw cant, bron, yn gleifion a glwyfodd,
Yn awr ei lwyddiant, a’u haner laddodd!
Merthyr gan wewyr wyodd, - ar bob llaw,
Wylofain drwyddaw yn elfen dreiddiodd.

Ow! ’r uchel, uchel ochi! – Ow! groch fawr,
Ysgrechfeydd a gwaeddi!
Ow! dorcalon, greulon gri, -
Canoedd yn drwm eu cyni!
 

 

 

 

x557

 

(x557) Ing a gwae ac angau gwyllt
Ar frig y Geri gorwyllt;
Masnach gref wedi sefyll,
Ac un drefn aeth yn gan’ ddryll!
Yr oedd pob peth ar fethu
Dan bwys tyn y dychryn du!
Rhai wnaent osgoi a ffoi ffwrdd - oe’nt am gael
Rhyw le i adael y marwol odwrdd.

Clywid wylo, ac wylo o galon
Ar ol eu telaid gydmhariaid meirwon,
Gynau a laddwyd, - gan lu o weddwon;
Rhieni eilwaith, am rai anwylion
A chwerw wylant nes ocha’r awelon;
Blin ytyw gweled llu o blant gwaelion -
Rhai yma, rhai draw yn wylaw’n welwon,
A gwedd ddiallu uwchben gweddillion
En rhiaint oerwedd - yr enwau tirion
Yspeiliodd angau; a hwythau weithion
Heb nawdd, na neb yn ngwyneb anghenion
Bywyd, dylanwad byd, a’i elynion:
B’le’r ant? b’le troant, mewn byd tra ëon?
Prudd yw eu golwg! pa wawr ddigalon!
O, ddaionus DDUW union, - pa rhyw wedd
Daw trugaredd hyd at y rhai gwirion?

Duw ION a egorodd law dyngarwyr,
Ac i’r amddifaid, gur-ymoddefwyr;
A’r gweddwon hefyd, wragedd annifyr,
Bu eu hebyrth o bob rhyw yn bybyr;
O’i bodd cymhorthodd Merthyr, - bydd coffhau
Yn mhen oesau, ei chymwynaswyr.

Wedi hyn, ar adenydd - f’ai wylltach
Na’r fellten ysplenydd,
Llamai’r haint llym a rhydd - tua’r Blaenau,
Neu dir y bryniau, y wybrenydd.
 

 

 

 

 

x558

(x558) Cryghywel uchel, ac iach
Ei thiroedd, ni wnaeth eiriach;
Hedfanodd hyd y Feni,
A thost ysglyfaethodd hi.

Ar ei amnaid y Rhymni - a grynodd;
Pan y cuchiodd, gwnaeth Pen-y-cae ochi;
Aeth Tredegar hawddgar, hi - yn isel,
Yn ias yr awel hon, a Sirhowi.

Tawlodd, er dawn, er talent, - rhai o’n meib
O’r Brynmawr i’r fynwent;
Gwaedodd Nantyglo’n ei gadwent,
A blin i gyd fu Blaenau Gwent.

Yr un-ddull Aberhonddu,
Yn llaw’r haint rhyw faint a fu;

Ei ddifrod yn Llanymddyfri  - a welwyd,
A Llandilo wedi;
Arddu wnaeth Caerfyrddin hi,
Yn hyllig a Llanelli.

Rhwysgo wnaeth a goresgyn
A llaw ddwys y lleoedd hyn:
Ddu haint tost! ynddynt hwy - yn ei ddwysedd
Boenau trymaf, y bu’n tramwy.

Anhawdd iawn, yn ddiau, i
Unrhyw ddawn yn rhwydd enwi
Pob tref neu bentref y bu
Yr haint anwar yn taenu
Tonau arswyd Duw, ’n wersi - i’r holl oes;
A dystryw einioes yn dost drueni.

Gwibiodd o ben Caergybi - hyd Gaerdydd
Fraw dig oherwydd difrod y Geri;
Ac o Lanandreas gu, wâr,
Hwnt i ddaear Ty-Ddewi.
 

 

 

 

x559

 


(x559)
Sydyn oedd ymosodiad - y Geri,
Drwy gur a dirdyniad,
A.gwrwst, a gwaedguriad - yspeidiol,
Hyd wawch iasol - hyd oer-draed a chwysiad.

Gwelwedd sy’n eistedd yn awr
Ar wyneb oedd eirianwawr;
Cur beichus a’i crebachodd
Yn ddim oll, - arwydda modd
Y drem hyll, gyfyngder maith
Enaid a chorff ar unwaith;
Rhyddni a chyfogi fydd
Yn galed ar eu gilydd .
Sudda’r llygad, sy’ addien,
I lawr yn mhell, pell i’r pen
Dan ddu gylch o’u hamgylch hwy,
Edrych, sydd fel dwy fodrwy;
Y ddwy wefus liwus, lon.
Is y loesau sy leision

Mae gwres y fynwes yn fawr, - nes ochain
Gan y syched dirfawr
Y cylla sydd fel callawr,
Ni thrig er hyn lyn i lawr.

Ir, dylaith, oer -, a dulas
Yw’r croen, er y poethder cras
Sydd o fewn sedd y fynwes;
Yno lle’r aeth yr holl wres.

Mae’r loesau marwol, ysig,
Yn cryfhau’n donau dig, -
Y cur ysgarawl grecia’r esgeiriau
Drwy wewyr brochwyllt nydd-droir y breichiau;
Mae’r coluddion yn eigion gwynegau,
O tan y ddyrnod, ar hollti’n ddarnau;
Mae cur, llafur, a llefau – ’r goddefydd,
Goranedwydd, yn gur i eneidiau.

 

 

x560

Ei dynghed ydyw angau,

Yr hwn sydd ' nawr yn

neshau.

Y gwaew a laesodd a'r gloesion - i gyd, Gwaith y bywydolion

A'n gaethach, gaethach gweithion, — Yn brinach, brinach o'r bron !

Y croen a'n oerach, oerach, fel eira, Y tafod arain yntau fud oera, Y gwythi dduant, gwelwant eu gwala, A gwaed y galon i gyd a geula; Mae'r llygad fel gwydr, ei belydr byla; Delw angau erch ar y wedd eistedda: Y cyfansoddiad llesg o'i fewn sudda Is ei lwyth, i lawr, yn awr, yn ara, Dan waelod y dòn ola ', - a'r dyn oedd Yn nirdra'i ingoedd yn awr a drenga !

Ymwriai'r Geri Marwol,

Mal en gwyllt, yn mlaen ac ol; Ar ganol yr heol, rhai,

Yn gleifion, feirwon fwriai.

Y tad, yn cychwyn o'r tŷ, Yn bêr oedd boreu heddy ',

Yn iach, heb arwydd bach, bod

Un dû ofwy yn dyfod.

Ond, Ow ! cyn haner y dydd, Tan nodau'r haint annedwydd,

Yn ol, yn farwol, efe,

Y didraws, ddygwyd adre ' !

Wele, ar fore, rhyw fam

Dyner, oedd iach a dinam, Yn dechreu'i gwaith, —ymaith ai, O'r wlad, ar alwad elai

 

 

x561

·

Tua'r dref, taer a dewr oedd, -

Nid oedai, marchnad ydoedd, -

Myned oedd, tua min deg,

Ac yn diodde, cyn deuddeg !

Llawer teulu, cu ac iach - y bɔreu, Oe'nt bêr eu cyfeillach; Ond, er a fu, dwy awr fach A ranodd y gyfrinach !

Cafodd teuluoedd cyfain - eu lluchio, Megys llwch gan adain,

Y dro - awel, yn druain - i'r bedd difri, O flaen y Geri, yn flin eu goriain

Amryw hefyd,

Ond dychwelyd - gyda chalon Drom o arwyl

Rhyw un anwyl, -rhai yn union, Drwy'r un ergyd,

Wnaeth ddymchwelyd,

I lwm weryd, -lu o'u meirwon

Berthynasau;

Cawsant hwythau

Brofi angau - a'u brif ingion,

A'u cario at eu ceraint,

Cyn y nos, rhag enyn haint.

Hwy wylasant o loesion - ac hiraeth, Am eu ceraint meirwon;

Felly gwna rhyw gyfeillion - yn ddiau, Ar eu hol hwythau oer wylo weithion.

Ni fu ar Gymru gynt, -i'r un mesur, Un mawr ddolur mor ddu ei helynt: Iôn, o'r nef ei fangre, fu A llaw fawr, yn llefaru

 

 

 

x562

Wrth Gymru gu, lawer gwaith, -ac ofnai, Ond hi ni chrynai dan ei chur unwaith;

Eithr fe wnaeth pwys dwys a du Y gair hwn iddi grynu.

Nid yw'r angel cryf ond gwyfyn,

Yn llaw Duw, - ' faint llai yw dyn ?

Rhag y Geri, a'i rwygiad— Ffrewyll IOR, ffoai'r holl wlad.

Taraw, hedeg, fel trydan - yr oedd ef; Ger y ddwyfol daran

Hon, y crynai cewri anian, -

Y plygai dyn fel gwelltyn gwan

!

Gwnaeth Ryfyg noeth, arafu,

Gwyrodd dan euogrwydd du

Dyna fel dwfr llwfr, holl lu — crynedig, Y gwyniau blysig yn gwyneblasu.

Rhai o honynt, er enwi - yn uchel,

Iechyd da i'r Geri !

Oent sobrach, crochach eu cri, -wael ddynion, Trwy ei ingion cyn teirawr yn trengi.

Y dawns aeth, a'r chwareudai'n sy'n - heb neb Yn troi eu hwyneb at rai o honyn ';

Nid llawenydd oedd nôd llinyn — natur, Ond cwyn a dolur - nid cân y delyn.

Braw aeth ar Gymru o'r bron; -arswyd

Ar orsedd pob calon:

Rhyw gryd yr enyd oer hon,

Wnai welwi annuwiolion.

Yr annuw a wirionodd - gerbron Duw, Ië'r didduw yn awr a doddodd,

 

 

 

x563 Ow ! olwg oedd ei weled - wrth drengi, Yn gwylltu, ochi, gwelwi, gan galed

Wylo'n lli, -gwaeddi a gwed - mewn dychryn, Angau a'm derbyn i ing mwy diarbed !

Ond y duwiol da, dawai, -ef er ' stwr Y fawr ' storm ni frysiai:

Godidog y dywedai,

Megys ar dant - moliant, mai-

" Cerbyd rhad ei DAD ydoedd, I'w hercyd ef adref oedd. "

Nid oedd Rhwysg, na'i duedd rhydd Yw weled drwy'r heolydd;

Eithr angladdau

' N llenwi'r llwybrau,

A thrwst eichiau - athrist ochain,

Sŵn teimladau

' N hollti'n ddarnau:

Môr o lefau - mawr wylofain.

Un fawr ffwdan yw'r cyfan, gwallgofi- Mae'r wlad ar unwaith - marwol drueni, A thonau tristwch a aethant drosti: Hurt trwy ofid yw'r gweithfeydd a'r trefi, Lle mae rhai'n goddef ― llu mawr yn gwaeddi, — Yn crio'n uchel - dacw rhai'n ochi, —

Y twrw eangodd - dyma rai ' n trengi, - Dyna rhai'n rhedeg - hedeg heb oedi I gyrchu'r meddyg, i gynyg gweini, Rhyw feddyginiaeth orfyddai gyni, Neu laesai gyhyrol loes y Geri: Yntau ' n dyfod a pharod gyfferi, I wneyd ei ran, ond ofer ydyw rheini; Y gloesfawr oddefydd sydd yn soddi,

 

 

 

x564

Yn awr i lawr i li, -dwfn angau maith, Er pawb ar unwaith - er pob rhyw yni.

Trwm a diattal yw'r twrw o'm deutu,

Rhai braidd yn wylltion, neu rhy brudd o neilldu: O na chaent loches fach, hwnt i lechu Rhag y dymhestl, oedd ar eu codymu. Gwel acw'r meddygon taerion yn tyru, Ac ar ei hwyl ymaith yn carlamu I bob cyfeiriad, dïau ' n bwriadu Hyrwyddo gwelliant, ond ' r oedd eu gallu A'u medr yn mhellach, pellach yn pallu, Hwy a droisant fel rhai wedi d'rysu; Ni allai athroniath, na'i llwyth ranu-- Na chelfyddyd, un ymchwil i faeddu; Gwewyr dwfn y Geri du, -- ef heb bris, A droai megis yn eu dirmygu.

Nid ar finion y llwydwawr afonydd, Nac yn y bloriog lidiog waelodydd, — Corsiog lynau, nac ar y siglenydd, Y rhodiai'r Geri - grwydrog awyrydd:

Ond mynai wel'd y mynydd gwneyd anrhaith, A brysiaw i'w olaith ei breswylydd.

Yr oedd, yn anianawd rhai, Egwyddor a'i gwahoddai, — I balasai y blysig,

Yn rhwydd a'i, fel Dera ddig. Tai y drewiant - a d'rawai,

E ' d'rawai'n rhwydd fudron rai; Ond t'rawai, weithiau'r truan, -

Y nychlyd -- y gwywlyd, a'r gwan.

A'i heibio, weithiau, i'r bwthyn, ―rhedai O rawd y cardottyn,

Helbulus, gwael, i blâs gwyn, -rhyw enwog ] Wr goludog, a'i rhwygo ail adyn !

 

 

 

x565 Cyndyn, anhydyn iawn yw,

Pwy byth wed, pa beth ydyw ?

Ai gwirion darth, yw'r Geri ? ' n ol esgyn I'n daear, wed'yn yn gwneyd direidi ? Pa bang gadd llif y Ganges

I daenu tarth dan y tes: Y flwyddyn hon, unon, er

Ein gorfod fwy nag arfer ?

Pa fod y bwriodd, heb wall - ei tharth hi I fynu y Geri fwy nag arall ?

A brofir mai mân bryfed Yn heidiau ar heidiau hêd, Yn dew ar led awyr las, A barodd yr haint berwias ? Neu brinder ( tybier ), o'r tân Gwefrawl, i unrhyw gyfran; Ar hyd yr awyr ydoedd,

Y waith hon, neu pa beth oedd ?

A'i yn anian yn unig, -y rhoddwyd Ei wreiddyn cuddiedig ?

A'i ' mosodiadau deddfau dig - neud oedd ? Neu y law, ydoedd, -sydd anweledig ?

Athroniaeth a wirionodd; -dyryswyd Rheswm mewn ymadrodd:

Ni fedd anian, na man, na modd, I'w ddeall, y cwbl a dduodd !

Af yn awr i gysegr fy NHAD- Tŷ gweddi - lle mae'r Dadguddiad: Gwelaf yn hwnw i'r gwaelod, Ac yn ddifeth, beth sy'n bod.

Diamheu nad damwain oedd- Rhyw did ' nol bwriad ydoedd.

 

 

 

x566

IÔR glan yn ei Ragluniaeth - drwy y byd, Yr i ben ei arfaeth:

Ef o'r bron, sy'n gwylio'n gaeth Y byd drwy ' i hollwybodaeth.

Darluniodd Duw ar leni

Ei Air glân ein hanian ni; Ein rhwyf a'n nwyf anufydd, A'n hanes oll yno sydd, Yn oleu iawn, yn helynt Neu'r hwyl a gadd ISRAEL gynt: Pechodau'u gwlad oen't gadarn, Ac yno bu gweini barn; Felly Cymru ddu, wnaeth dd'od I grib uchel gorbechod: Aeth ei hannuwiaeth i nod,

Nad oedai barn y

DUWDOD.

Nid oedd rhaid un dydd i'r Iôn I ymosawd am weision,

Oddifaes i ddeddfau hy '

Anian, i wneuthur hyny:

Pwy wyr yn llwyr beth all haul,

A'r lloer, neu'r holl lu araul, Neu'r gwynt, neu'r cerynt, er cur, Na hithau'r fellten wneuthur ?

Na myrdd o elfenau mân, Gowenwynig yn anian, Lunio ( ac yn ol aniaeth Ei deddfau gorau yn gaeth ), Os Duw, fyn laesu y did, A rhoi iddynt eu rhyddid,

I hyd eu nerth anferth hwy, I wneyd eu gwaith ofnadwy ?

Os ar asau'r awyr " iesin, -y rhed Yr Haint yn gyffredin,

 

 

x567

A'r Malldod sy'n troi a rhoi rhin - llysiau, Ffrwythau a chnydau iach, yn edwin, —

Pa ddyn, mor gyndyn, nas gwél, Fod ing y " Seithfed Angel " Wedi ' i arllwys fel dy'rlli,

Yn awr, yn ein dyddiau ni ?

Oh ! y fath adeg dyfetha ydoedd; Ymwibia'r Geri yn mhob rhyw gyroedd: Lladdai ugeiniau, lluddiai ganoedd; Masnach attaliwyd, tarfwyd y torfoedd Gan oer ofn angau - gan anhrefn ingoedd: Braw a dyryswch fel brwydrau oesoedd, Oll a wywent brydferthwch y lleoedd- Gadaw aneddau gyda neuaddoedd,

Wnaed yn weigion, i'r gwyllion yn gelloedd; Wele, mewn pryder lawer o luoedd, Yn troi am nodded tua'r mynyddoedd, A chwilio i dyrau ucheldiroedd; Olwynai'r Mawrion i lanau'r moroedd, Yr haint yntau o'u holau, hwy hiloedd Diymwared, yn myned i'r manoedd Hyn, gan eu taro'n feirwon niferoedd, Ië, ar haner eu taith laweroedd, Ofer chwilio a cheisio llochesoedd; O dan yr wybren, nid oedd - lle rhagddo, Na ellai chwilio drwy'r holl ucheloedd,

Cacd meddygon,

Hwythau weithion

Oe'n ' mor lewion - yn meirw lawer;

Aeth pob ymgais,

Cynghor, mantais,

Allai dyfais - yn llwyl ofer.

Pob cynyg, pawb a'u cynwrf, Aent yn awr i'r llawr yn llwrf;

 

 

 

x568

Ac wele'r

cynyg olaf

Yn awr, wrth orseddfaine NAF.

Prid gyhoeddwyd dydd ympryd a gweddi, — Dydd ' mostyngiad ein gwlad dan g'ledi; Y dydd a wawriodd, unodd yn heini Bob Cyfenwad a'u galwad a'r Geli, Am ei drugaredd, -am droi y Geri O Gymru achwynog - mawr ei chyni: Llawer MOSES fwyn, gynhes fu'n gweini Ei weddi ffyddlon o ddwyfron ddifri: Dan eu taerineb caed Duw ' n tirioni, — Troai ei wyneb at ein trueni;

Yn dewis darwain i'n ei dosturi,

Parodd i'r haint pruddwawr i - droi'n ei ol,

O'n bro syniol, a brysiaw o honi.

Gyda'r gair gadawai'r Geri - ein bro, Dyma brawf diwyrni;

Nad gwyddor - dim ond gweddi, Yw'n hiawn ddiogelwch ni.

Y dydd hwn ydoedd enwog - i Zion, Canys hi'n odidog;

Luddiodd y dialeddog - haint marwol, Drwy weddi unol, daer, wiw ddoniog.

Diolch, O ! diolch it DAD - tosturiol, Am dy arbedol, ragorol gariad.

Peraist, wrth wel'd darparu, -adferol Edifeirwch Cymru;

I " drugaredd orfoleddu, "

Yn wyneb " barn " -fel hyny bu.

Ti DDUW ION tirion, yw'n twr, Erioed a'n mawr waredwr: IoN mad, tydi gaiff ein mawl, A'n gweddi yn dragwyddawl.

 

 

 

x569 FFERYLLIAETH;

NEU ORUCHWYLIAETHAU TRAWSNEWDIOL NATUR.

AR un tu, i natur gu,

Y gair garw,

" Marw " -marw,

Sy'n weledig, mewn cerfiedig

Lythyrenau breision, du; Y tu arall, y gair diwall, - " Bywyd, " — bywyd, yno sy ':

Tri gair bychan yw holl anian, — Mae, bydd, bu !

Fe dawdd y delidau, er c'letted y'nt hwy, — Rhai drosir yn hylif, ac eraill yn nwy, Ac ymaith yr ant,

Ar gylch trawsylweddol o hyd ac o hyd, Nes idd eu helfenau cyntefig rhyw bryd, Dychwelyd a wnant.

Mwn unwaith, nwy wedy'n, yr awrhon lamp wen, Yw'r syrthseren acw sy'n t'wynu'n y nen,

Goruwch y nos ddu;

O'r ddaear y cododd, i'r ddaear y syrth

Yn ol, wedi'i newid - trwy ddeddf, nid trwy wyrth- I'r peth ag y bu.

Heddyw mae'r dyfroedd yn cysgu'n y llyn, Y fory yn gorphwys yn darth ar y bryn, Neu'n myn'd gyda'r gwynt,

Gylch ogylch i'r awyr; ond hwy maes o law Ddisgynant i'r ddaear yn wlith ac yn wlaw, Yr un peth a chynt.

Fe dardd y llysieuyn o'r ddaear i'r lan, Yn llawn o ryw fywyd i farw'n y fan. Can's marw yw'r drefn;

Bu farw y llynedd, ond ca'dd ei fywhau, -

Mae'n marw eleni, ond marw y mae

Er mwyn byw drachefn.

 

 

 

x570

Y dderwen sy'n ysgwyd, yn mlaen ac yn ol, Ei changhau'n yr awel, ar waelod y ddol, Oblygir cyn hir,

Yn nghroth gudd y fesen; ' r hon fesen a fydd Yn rhoi genedigaeth i'r dderwen rhyw ddydd, Yn nghanol y tir.

Y gloyn byw, welir yn hedeg yn awr, Goruwch y gwyrdd - ddolydd, mor brydferth ei wawr, Pwy dybia mai ef,

Un waith, fu'n ymgripian ar fresych yr ardd, — A gysgai ' n ei blisgyn ar bared y bardɩl, Drwy'r gauaf ystormus; ond heddyw a chwardd Rhwng daear a nef.

Myfinau gaf ddisgyn i'r bedd yn y man, A'r corph - hedyn yma sy ' nawr yn fy rhan, Gwyd etto'n eginyn tra phrydferth i'r lan, Pan ddel olaf ddydd.

Yr un fydd fy ffurf, eithr nid fy ystâd;

Yr un fydd fy nheimlad, eithr nid fy mwynhad, — Yr un fy nghymdeithion, ond arall fy ngwlad; Traws - newid mawr fydd !

Anian - rhyw gylchdro, ar gylchdro, byth yw, O fywyd i farw, o farw i fyw, -

Diderfyn faith fôr,

Yw'n myn'd a dychwelyd, yn mlaen ac yn ol, — Yn taflu oddiwrtho, yn tynu i'w gôl,

Yr un bythol stôr.

Y GWENIEITHWR.

NID yw ei gawdel ond geudeb, -na'i air

Na'i wên, ond ffurfioldeb;

Gelyn yw, a'i galon heb

Wirionedd, fwy na'r wyneb.

 

 

 

x571 AMAETHYDDIAETH,

YR henaf a'r uwchaf o'r holl gelfyddydau, Yw celf yr amaethon heddychol ei fri; Mae'n faeth ac yn fywyd i'n holl anturiaethau, Prif olwyn y peiriant masnachol yw hi; A weli di'r llong sydd yn marchog y tonau, Mewn mawredd a balchder yn d'od ar ei hynt ? A wyddost ti beth ydyw'r nerth sy'n ei hwyliau ? Llaw fawr Amaethyddiaeth - mil cyrfach na'r gwynt. A glywi di dwrf y gerbydres orlwythog,

Sy'n llawn o drysorau cuddiedig y bryn ? Cynyrchion yr amaeth yw'r nerth sy'n ei hysgog: Beth dalsai'r delidoedd pe heb y rhai hyn ?

A wyddost ti faint ydyw rhif y myrddiynau,

Sy'n byw fel ar fwrdd Amaethyddiaeth i gyd ? Adwaenost ti'r meib sydd yn gwisgo coronau,

Neu'r arwr sy'n tywys tynghedfen y byd ? A weli di acw'r ucheldrem bendefig,

Sy'n ymdaith mewn cerbyd dysgleiriach nâ'r wybr, ' Rol meirch sydd yn loewach nâ'r arian toddedig, Ysgogiad eu traed, a wreichionant y llwybr ? A wyddost ti am yr ysgolor a'i athraw-

Gwleidiedydd, athronydd, a llenor a bardd: Mae'n rhaid i'r rhai yma, yn nghyd a'u holl eiddaw, Wrth gynyrch y gweirdir yr yttir, a'r ardd.

Tydi yr hwn ydwyt breswylydd y Tlotty,

A thithau ' r hwn weini wrth allor y Llan, A thithau yr hwn a'r fil myrdd sy'n teyrnasu,

O ' stor amaethyddiaeth sy'n derbyn eich ran: Diflanai y llynges, fe safai y gwersyll,

A'i ' r fydddin a'i dewrder, a'r fyrder, a'r feth; Pe na byddai llaw amaethyddiaeth yn cynull, A dwyn i'r trysorlys y deyrnged a'r dreth:

 

 

 

x572

Hyhi yn wir ydyw deheulaw'r wladwriaeth; Hyhi sydd yn cynal ei breichiau i'r lan;

Mae ffrwyth ei diwydrwydd, a rhin ei darbodaeth, Yn myn'd at bob achos - yn myn'd i bob man ! Gyfeilles gwareiddiad, -o'th ôl mae dy yrfa, Yn llinell werdd - olau, er borau y byd: Mor hardd y gwnaed Eden, a brindir Hafila, Gan dwyfol law natur, a thithau yn nghyd, Gwlad Canaan - tir Edom, ac Aifft, a Chaldea, A Mesopotamia addurnaist a'th ddawn- Groeg, Rhufain, ac Eidal, a Phrydain yn bena, O'th gyfoeth, a'th gynydd, a'th geinion sy ' lawn; Ti wisgaist yr anial â bywyd a harddwch, —-

Ti wnei y tywodlyd ddiffeithwch fel gardd: Lle bynag y sengi, bydd llwydd a phrydferthwch, Celfyddyd a natur o'th hamgylch a chwardd.

ANERCHIAD Į ARTHUR TALIESIN DAVIES, MEBYN " BRYNFERCH. "

YN wobr enfawr i BRYNFERCH; Fe roid mab- -ar fyr daw merch, A'i henw da'n HANAH NEwnham— Law a min yn ail i'w mam, -

-

Ail SARAH, MARTHA, a MAIR,

Neu MIRIAM, yn mhob mawrair.

I fawr waith, y nef o'i rhin - a nertho

Ein ARTHUR TALIESIN;

Awen fel eneinio'i fin-

Addoliad blygo'i ddeulin.

ANERCHIAD I LAURA, MABAN LLYSFAENWR.

AR dy foch, gariad fechan, -y mynwn

Gael rhoi mwynaf gusan;

O ! mae dy foch yn goch gan Lewyrch rhyw ddwyfol huan.

P P

 

 

 

x573

Newydd ddiane i'r ddaear - yr ydwyd,

O'r Baradws hawddgar;

Mae gwrid hono etto ar

Lechwedd dy ddwyrudd lachar.

Llygad y leuad loew - sy'n eiddot, Swyn a hedd a'i lleinw;

Mae gwrid hâf, neu decaf dw ',

Eden wen o dan hwnw.

A ddaw'r dydd pan fydd i'r fath ― wyneb hardd,

Sy ' mor bur a'r Sabbath,

Lwydo, neu wywo o'i wawr,

Hoenfawr, drwy lwgr o unfath ?

O fyd oer y gofid du, -na chur hi'n

Chwerw iawn, paid gadu

Y chwa waethaf i chwythu Lawer gwaith ar LAURA gu.

LAURA anwyl ! olrheinier - dy hanes,

Mewn daioni lawer;

Fel merch a'i serch uwch y sêr, A'i chalon uwch a weler.

LAURA anwyl ! i Rinwedd - ro'th einioes, Ffrwyth hyn fydd tangnefedd,

A gair da; ac o'r diwedd,

Wobrau uwch mewn bro o hedd.

ANERCHIAD I GOMER, MEBYN GWILYM DDU O WENT. Boed GOMER, yn mhob da, gymaint — a'i dad,

Boed well na'i holl geraint;

Foreu'i oes, caed feddu'r fraint,

Ddyddano ddydd ei henaint.

Ne ' deg, a'th eneinio di - ' n awenydd, Neu'n un o'i phrophwydi;

Pob gras a dawn, yn llawn lli,

It, pe gwyddit, yw'm gweddi.

 

 

 

x574

Y

NADOLIG.

Hamddenol Ddydd ! -dydd wedi ei neillduo, Gan ddynol ddeddf - nid drwy ei Ddwyf - santeiddio; Dydd i roi gwyl i fasnach a chelfyddyd, Adfywio'r corph a llawenychu'r ysbryd.

Fwynhaol ddydd - pryd ca y gweithiwr caled, Am enyd roi i lawr ei faich a'i ludded, Ac aros gartref idd ei dreulio hefyd, Mewn cerdd a chân ac ymddyddanion hyfryd; A bod yn frenin bach am ddiwrnod cyfan, Can's heddyw mae yn berchen arno'i hunan. Gorphwysdra ga'dd i'w droed a'i law, Rhoed pâl a rhaw o'r neilldu;

Ac hapus yw'n ei fwthyn clyd, Yn gwledda gyda'i deulu. Arogla'i fwrdd hyd at y ddôr, Gan gynyrch goreu'r farchnad; A cha'dd am unwaith gwpan llawn, A throi mewn dawn a chariad.

A phwy rwgnacha wel'd y gwr, Sy'n enill, drwy galedwaith, Ei damaid prin heb fawr o hedd,

Yn caffael gwledd am unwaith ?

O, elusengar ddydd ! dydd cofio'r tlodion,

A'u gwneuthur am un waith yn llon eu calon; Er d'od yn oer, yn oer yn nghwmni'r gaua ',

Mae ynost wres a dawdd y rhew a'r eira

Rhag maglu traed Llawenydd ar ei yrfa.

Mae'n eiddost wên, rhyw wên sydd glaer a gwresog, Tawdd hono'r iâ sy'n nghalon y cyfoethog,

Nes llifo'n ffrwd drwy grasdir yr anghenog; Mae'th ymneshâd yn bywiocau cymdeithas, Egori byrth y dyrchafedig balas,

 

 

x575

A dorau'r neuadd fawr a'r gegin fwyglyd, I'r tlawd sydd ar y plwy ', - i'r gweithiwr hefyd. Ah ! wele fwrdd y gwylaidd wladwr weithian, Yn heigio gan aberthau gorau'r gorlan; A'r tlotaf wr yn mhlith y rheidus werin, Yn caffael bwrdd fel bwrdd danteithiol ODIN.

Wel, henffych Ddydd Nadolig fawr dy ffafrau, Mae'r nefoedd yn croniclo'th elusenau; Dydi yw'r unig ddydd o ddyddiau'r flwyddyn, Sy'n t'wynu ar gysgodau'r dinod fwthyn.

O, ddydd cymdeithasgar ! mae'n dlysach Ei olwg i obaith a ffydd,

Na'r aur ar ymylau'r haul melyn,

Wrth ddisgyn ar derfyn y dydd.

Mae'n ddydd o lawenydd i lawer Sy'n mhell o'u hen ardal yn byw; Dydd gwel'd yr absenol yn nghartref— Dydd Jubili'r teulu holl yw.

Dychwela'r was'naethferch am unwaith, Yn ol tuag aelwyd ei thad, Lle troir ei holl obaith a'i hiraeth, O'r diwedd yn uchel fwynhad.

Yr eneth wrth frysio'n ei hawydd, Am weled ei chartref a'i mham, Ni chlyw yr ystorm wrth fyn'd heibio, Ni theimla ei throed yn rhoi cam.

Ond, O ar ol cyrhaedd ei chartref, A'i chalon mor ysgafn a'r gwynt, Bydd yno ail adrodd helyntion,

A choffa'r hen olygfeydd gynt.

Hwn ydyw dydd mawr yr ymwela, — O'r pleser ar fyrder sy ' fod,

 

 

 

x576

Can's meddwl at feddwl sy'n tynu, A chalon at galon sy'n d'od.

Bydd llaw mewn llaw arall yn glynu, Rhai fu'n ysgaredig cyhyd;

A min ar fin arall yn traethu,

Rhyw deimlad ddeil dafod yn fud.

Wel, henffych it ' ddydd, sy'n ail - ffurfio Y cylch bach teuluaidd yn llawn, A thaflu'r fath swyn a difyrwch,

Ar oriau'r gauafol brydnawn.

Dydd hoen a llawenydd, hyd for ac hyd fynydd, Er garwed y tywydd, wyt ti;

Mewn bwythyn a phalas, yn nhref ac yn ninas, Fe'th wisgir ag urddas a bri.

Daw'r fythwyrdd gelynen, a'r friglydan dderwen, A'r wylaidd lawrwydden o'r ardd;

A'u boddus aberthau, o rawn, dail, a blodau,

I drwsio'th gyrchfanau yn hardd.

Ac wele'r uchelwydd, santeiddlwyn y derwydd, Roed iddo swydd newydd yn awr;

Hwynt hwythau y clychau, mewn sain - feddylddrychau Mwy llon, sydd yn cyfarch y wawr.

Brawdgarwch, tangnefedd, dyngarwch, haelfrydedd, Boddlondeb, sirioldeb, sy'n ngwyneb pawb oll;

Mae teimlad ieuenctid fel wedi dychwelyd, Neu rhywbeth a gafwyd ' nol hir fod ar goll.

Mae sŵn buddugoliaeth, neu fawr waredigaeth, Yn holl oruchwyliaeth, orhoenus y dydd; Gweddillion rhyw deimlad oedd bur ei ddechreuad,

Ond ' nawr mewn dirywiad, yw'r llonder y sydd.

 

 

x577

Rhyw ymgais camsyniol i droi'r egwyddorol, Yn barch ymarferol i enw'r Duw - DDYN, Yw'r cymysg orfoledd; er bod ofergoeledd, A llawer o lygredd, â'r syniad yn nglyn.

Ond, trown ein trem yn awr tuag uchelfeydd Bro Zion, i gael purach golygfeydd; Agorodd myrdd eu llygaid yn eu cell, Y boreu hwn o flaen y wawr yn mhell; Ac esgyn wnaethant holl i fynydd Duw- Ei fynydd hoff, a'i fynydd " santaidd " yw, - I goffa'r dydd a'i amgylchiadau syn,

Ac edrych ar y rhyfeddodau hyn;

O ! wele hwynt yn wylaidd dorf yn awr, Gylch gorsedd gras yn plygu glin i lawr, Rhoi diolch maent trwy weddi, mawl, a chân, Am eni iddynt heddyw GEIDWAD glân,

O ! gysegredig ddydd, y dydd, bob dydd fendithir, Gan saint y Ganaan dawel fry, a saint yr anial dyhir; Cydganodd corau nef y nef, yn bêr, a chryf, a chroew, Ar wawr Nadolig cynta'r byd — y boreu hyfryd hwnw, Pan chwyddodd llanw cariad Duw, idd ei eithafol uchder, Gan dori'n fyth - ymdaenol dôn, ar draeth sychedig amser; Caraswn inau glywed sain, y newydd anthem hono,

A wnaeth i'r nefoedd lawenhau, ac uffern drist i wylo; Ffrwyth awen SERAPH oedd y gân, a'r dôn rhyw Gerub - gerddor, Ymchwyddai'r sain yn dymhestl gref, nes llenwi'r nef - agendor; Arddunol oedd, rhyfeddol oedd y sŵn uwch Bethle'm oror— Sŵn gorddyfnderoedd cariad Duw, -sŵn rhyw ysprydol gefnfor. Mae'r gân o hyd yn para ar ei hynt,

Ond nid mor bur a'r gân uwch Bethle'm gynt;

Mi wn fod engyl nef - cenadon IAH,

Fu yno yn perori'r " newydd da; "

Yn hoffi gwrandaw ar ein hanthem ni,

Ac uno yn ei chydgan felus hi.

 

 

x578

O daew hwynt yn gwmwl gwyn, Yn amgylchynu'r allor;

Yn disgyn drwy'r nôsleni brith, Rhif gwlith y boreu porphor; Gan ymsefydlu ' n llinell wen, Ar gylch y nen enynol;

Ac fel mewn hun, neu lesmair glân, Yn gwrando'r gân blygeiniol; Dychwelyd wnaent, gan gipio'r gân, Oedd lawn o dân dyhewyd; A chan ei sain dychlamai'r nef, Lle'r aeth yn llef daranllyd.

-

Fendigaid ddydd, fe'th anrhydeddir di, Gan holl deyrnasoedd cred drwy'n daear ni; Dy arogldarth oddiar bob allor gwyd, - Dydd claeroleuad Cristionogaeth wyd— Claeroleuedig yw holl demlau Nêr, Maent fel rhyw un eirianrod fawr o sêr; Dod wyd i'n mysg cyn toriad boreu gwawr, Am hyn goleuir llwybrau'th draed i lawr; Ond ah ! mae genyt ti oleuni mwy, A gwell, nag sy'n eu celfoleuni hwy, - Goleuni ffyrdd, drwy'r hwn y gwelwn Ef I isder byd, o entrych nef y nef, Yn d'od yn dlawd fel cyfoethogid ni,

A'n dwyn o'n gwarth i'w nef dragwyddol fry.

Yn iach it ', ddydd ! dydd o ddyddanwch maith

Wyf wedi cael o'th gysur lawer gwaith: Ond, wn i ddim a gaf fi'th brofi mwy,

Na cheraint oll, —a gaf eu gweled hwy; Ond os nâ chaf byth mwyach ar fy nhaith, O'u gwênau hwy, na'th gysur dithau chwaith Gobeithio'r wyf caf etto o'ch mwynhad, - Cyfeillion yn eu hedd, a thi'n mharhad

-

Dy fwynder fyth, mewn llawer gwychach gwlad.

 

 

 

x579 MARWNAD GWILYM HUW, LLANFAIR - CAEREINION.

Pwy yw'r gwyl dduwiesau acw,

Sy'n mynychu mangre'r meirw, Gerllaw deuddeg ywen dywyll

' Mynwent Blaenau Gwent sy'n sefyll ? Maent hwy megys yn myfyrio,

Aros, dysgwyl, uwch un anwyl ' smotyn yno, A phob un yn planu blodyn

Gwyrddlas arno, i arwyddo parch o'r eiddyn '. Dacw Rhinwedd yn amgylchu Yr " ysmotyn anwyl " hyny, Ac yn mwydo gwraidd y blodyn Blanodd arno gyda'i deigryn; Awen gu, a Chyfeillgarwch,

Yno'n ddiwall, er eu haball, sy'n rhoi ebwch; Maent am wylio llwch marwolaeth

Un, mor eirioes, roes ei einioes i'w gwasanaeth. Dacw ef hyd ddolau gwyrddion, A gwyl fryniau gwlad Caereinion, Pan nad oedd ond glaslanc etto, Gyda'r Awen iach yn rhodio

Ac ymborthi ar brydferthion

Gwridog flodau - awyr olau - a gwawr hoewlon: O ! fel byddai'r dwyfol dlysni-

Ddystaw gyfrwng — yn ei deilwng ysbrydoli.

Daeth a'r awen fyw'n ei fynwes, Lawr i wlad Morganwg gynhes, Lle'r adwaenwyd nerth ei doniau, Yn y rhydd a'r caeth fesurau:

Mae'i " Ffrwyth Awen " yn ein dwylaw, O, mor eiddun mae pob testun yn cyd - dystiaw, Chwaeth ei awen wyl ddihalog,

A'i chryf duedd at fawr rinwedd uchelfreiniog. Awdl Mordaith yr Apostol

PAUL, sydd lawn o'r ddawn farddonol

 

 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x580

Fe ddo'i ' r hen, dan rhyw drem newydd, O afaelion ei ddarfelydd:

Mae dwfn deimlad, nerth, a chyffro, Ac ysgytiad, yn narluniad rhial hono: Dygodd hon i'n bardd llwyddianus, Dlws a Chadair, gyda mawrair cyd - dymherus.

Treuliodd feithion hwyrion oriau, Do, mewn dedwydd fyfyrdodau: Casglai wybodaethau'r doethion- Chwiliai dir yr uwchawduron; Eithr yn benaf yn llenyddiaeth

Gwlad ei hunain ' roedd chwyl lydan ei chwiliadaeth; Prawf ei waith fod Huw'n fardd cyfrin,

I radd helaeth âg henafiaeth yn gynefin.

Ond yr oedd ei amgylchiadau

Ar ei ddawn yn llyfetheiriau, Braidd cawd gwel'd ei lawn oleuni, Gan gysgodion cur a thlodi:

Fel yr haul yn rhoi ei olau,

Tan gyffinion ac ymylon tew gymylau, Oedd fel seren dawel, gyfrin, Ar y gorwel, byth yn isel, etto'n iesin.

DANIEL DDU a GWALLTER MECHAIN A daenasant drosto'u hadain Urddog, yn Eisteddfod fawrddysg Aberhonddu - bro awenddysg;

Profodd Penydarran odiaeth, Coed - y - Cymar, a Thredegar, a'i chym'dogaeth, Fel hin hâf, ei fwyn gyfeillach;

Ond, o'n hanfodd, Ow ! fe ballodd hono bellach.

Mae calonau llu'n hiraethu,

Ac amrantau rhai'n dyferu,

Wrth adgofio'r cyfaill ffyddlon- GWILYM HUGH, Llanfair - Caereinion;

 

 

 

x581

Cyfaill cywir, doeth, diweniaeth, - Pob ymddiried ar ei arffed ef, yn berffaith Ellid roi heb un amheuaeth,

' Roedd ei galon e'n rhy dirion i fradwriaeth.

Caru ydoedd wlad ei dadau,

Hoffai gynal ei defodau; Pleidiai ' i sefydliadau hefyd

Gyda chalon, llaw, ac ysbryd; Parod oedd i'n hymgeleddu

Ond nid megys ei ewyllys, oedd ei allu: O na fuasai uwchlaw tlodi,

I'w gyflawniad fel ei gariad gael rhagori. Ond, mae'i drosodd ! Ow ! mae drysau A gagendor tywyll angau,

A gwahanlen tragwyddoldeb,

Rhyngom, mwy, a gwedd ei wyneb; Darfu'r mwyniant pêr a brofwyd, —

Arllwys bronau - newid gwênau, -fe'n gwahanwyd: Fry ehedodd - trwm yw'r frodir;

Wylo'r ydym am ein GWILYM, am nas gwelir.

Nid yw llewyrch haul a lleuad, ' Nawr mor llon i fryd na llygad Nid yw anian yr un wyneb,

A'r pryd oe'm yn mhresenoldeb GWILYM HUW, Llanfair Caereinion, - Pryd y clywem ac y gwelem drwy y galon: Collwyd ef, a'n bron sydd glwyfus, Gyda'n hyspryd, anian hefyd a'i ' n anafus.

O boed hedd i'w lwys weddillion, Ar ei fedd na sanged dynion;

Cadwed gwawr y boreu glaswyn,

Arno'n wlyb, drwy'r dydd ei deigryn:

Hithau'r awel yno wyled,

Ninau wylwn, hawdd y gallwn, waith y golled; Nid am nad oes obaith genym

Mai gwlad hawddgar uwch pob galar yw lle GWILYM.

 

 

 

x582

 

(x582)
ANERCHIAD I HUGH GODFREY HUMPHREYS, MEBYN
H. HUMPHREYS, ESQ., ABERTAWE.


Lân Hugh, ein angel newydd,
Arnat serch dy riaint sydd
Ninau sydd yn uno’n serch
A’n doniau i dy anerch.

Dy anerch ar dy eni, - a chyfarch
Hefyd dy fwyn fami,
A dywedyd i’th dadi,
Y golud oedd dy gael di.

Groesaw it’, febyn grasawl, -
Ein tiwlip gwyrdd - ein talp gwawl, -
I oreu’n holl ddaear ni,
Teyrnas a gaffot arni;
Eithr, yn wir, tir mewn gwlad dost
Yw deithio, yw’r lle daethost;
Echrys gur a chroesau gant
Sy’ yma, a phob siomiant.
Ond, er dim, dilyn di’r da,
A Rhinwedd a’th dariana, -
Rhinwedd wobrwya rhein’i
Sy’n ei theg wasanaeth bi.

Boed iti deithi a bendithion - dwys
Dy dad, “Amanwyson”;
Moes da dy fam astud, fo’n
Gwylied wrth byrth dy galon.

Rhaid hefyd rhoi dy ofal - i DDUW, ’n IÔR;
Ei ddawn Ef a’th gynal;
Rhoed Ef ei YSBRYD dyfal - i’th wyliaw,
 A’th arweiniaw, trwy ddisathr anial

Y byd drwg, i’r bywyd draw, - a’r etifeddiaeth
Hardd a helaeth sydd ar y “Ddeheulaw.”
 

 

 

 

 

x583

 


(x583)
“ASGRE LAN DIOGEL El PHERCHEN.”
“ASGRE lân (darllenydd clyw)
Diogel yw ei pherchen,"
Er cyfarfod, ystod oes,
A llawer croes dynghedfen;
Saif yn wrol yn eu canol,
Megys craig mewn môr ymchwyddol;
Mae ei gryfder dan bob toster
Yn ei fynwes - cwyd ei faner,
Heria’r byd, a dystryw’r bodd,
I ddwyn ei hedd a’i hyder.

 “Asgre lân,” angelaidd ryw,
“Diogel yw ei pherchen,”
Bydded lwyd, a llwm, a thlawd,
Dan fynch wawd ac absen;
Maen ei galon hynaws, union,
Olud mwy nag eiddo MAMON;
Mae ffynonau ei fwynderau,
Fyth yn llawnion, - nid fel llynau,
Sychant wedi’r ê1 y gwlaw
Yr ochr draw i’r bryniau.

Asgre lân, “ddieuog, syw,
Diogel yw ei pherchen;”
Tra diysgog ydyw ef,
Fel gwreiddfawr gref gedrwydden;
Ni oes gydag ef yn trigo,
Dwyll na chelwydd - deil i’w chwilio;
Nid yw’n ofni ei groes-holi-
O flaen barnwyr saif heb wyrni:
Ei ddiniweidrwydd, cyn prydnawn,
A ddaw i lawn oleuni.

“Asgre lân,” rinweddol, wiw,
“Diogel yw ei pherchen,”
 

 

 

 

 

x584


(x584)Rhag camwri, - Duw, ’n mhob man,
A’i ceidw dan ei aden;
Fel ei “asgre,” glan bydd ynte -
Glân mewn gweithred, moes, a mangre;
Ni oes elyn a’i goresgyn, -
Nid oes arf a lwydd i’w erbyn
Ei ddiniweidrwydd, yn mhob lle,
Fydd iddo ’fe’n amddiffyn.


GWILYM MAESALEG.
Finau, cyn myn’d i’r fynwent, - i WILYM
MAESALEG, ro’f adfent;
Un yw, o deulu’r hen dalent,
Oesau yn ol, a swynai Went.

GWILYM, wyt fardd o goleg - wybrenydd,
A bryniau MAESALEG;
Bardd ystwyth y “Tylwyth Teg,”
Awenydd y delyneg.

Wyd frodor o’r wlad hyfrydwedd, - brodor
 O’r baradwys harddwedd;
Gweryd yr hen, lle gorwedd
IFOR HAEL yn fawr ei hedd.

I’th wrandaw’n geiriaw mawl goror, - gwlad Went -
Gwlad wych bardd a cherddor;
Nefawl ysbrydion IFOR,
A NEST, ddaw ar bwys dy ddôr.

Gwladgarwr disigl, diguro, - ydwyt,
Wedi’th eni’n Gymro;
Gwaedi’th fron cyn gwedi’th fro, -
Cywir iawn, ceri hono.
 
 

 

 

x585

 

 


(x585)
Wyt gyfaill ystig hefyd, - dy olwg
Dd’wed haeledd dy ysbryd;
Mae’th ddwyfron esmwyth, hyfiyd,
Yn wlad o gariad i gyd.

WILYM, mae’n rhaid i’m farwelio - weithian;
Y daith sy’n ol etto
O’th ddiwyd fywyd, a fo
Yn hedd, a Duw yn eiddo.

MARWOLAETH GWILYM ILID.
(PARHAUEDIG O DUDALEN 408)
Rhywfodd neu gilydd aeth y prawfleni gynwysent y ran olaf or alarnad
ac oblegid hyny methwyd a’i gosod i mewn gyda y ran gyntaf; ond
daethpwyd o hyd i’r ran ag oedd ar goll; a meddyliwyd y buasai, ei gosod
yn y man hwn, yn well na bod hebddi o gwbl.

FARDD ILID! ei awen oedd ffrwd fythlifeiriol -
Ffynonell, yr hou Did a’i ’a hesp unrhyw awr;
Rhyw ffrwythlawn ffigysbren, a’r awel yn wastad
Yn ysgwyd ei ffrwythau’n gafodydd i lawr;
Efe ni segurodd - dal wnaeth i wrteithio
Y ddawn a feddianodd yn faith a diflino
Efe a weithredodd oddiar y ffydd hono, -
Fod maes i bob llafur, a’r wobrwy yn fawr.
Iddo ni roddwyd y dalent farddonol,
Yn ofer fel llawer o ddynion y byd
Can’s ef, trwy ddiwyddrwydd diymbaid a’i dyblodd, -
Ei awen ysgodai, ei ’scrifell o hyd;
Ah! ’r dydd difyr hwnw, dechreuodd ei yrfa -
Lenyddol yn mhlith Cymreigyddion Tre-oes;
A’r oriau a dreuliwyd hyd feusydd bro ILID,
Yn mhell i gysgodau’r gorphenol a ffoes.
Mae ef wedi myned, ond mae ei gyfeillion,
Fu’n cydgyfranogi o fwynder y pryd -
 

 

 

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x586

(x586)Ein HARAN deimladol a’u HOWELLS feddylgar,
A’n MYFYR dderwyddol yn aros o hyd.

Ond, Ah! y maent hwythau fel llongau’n y pellder,
Ag ol yr ystormydd yn drwm ar eu gwedd;
Yn prysur ddynesu yn mlaen tua’r porthladd, -
Cyn hir hwy angorant yn nh’wyllwch y bedd.

**’R wyf finau yn canlyn fy mrodyr barddonol;
Myfi ni chaf ganu eu marwnad yn hir
Ond eraill a ganant fy marwnad i minau,
Ac fe allai ei gwlychu a deigryn bach clir.

Yn iach it’, fy mrawd! yr wyt weithiau yn canu,
A’r destyn oedd hoff i dy awen cyn hyn
Os yma y cenaist dan boen a than gystudd,
Mae heddyw’n wahanol tu arall i’r glyn.

Nos dywell o gystudd a welaist o’r ddaear,
Ond daeth dy foreuddydd o’r nefoedd i lawr;
A’th yspryd mewn môr o oleuni digwmwl,
Ddiflanodd o’n golwg, fel seren y wawr.

TRALLOD.
Os o loes, ar aswy law,
Neu ddolur ar ddeheulaw,
Neu draw, draw, o’r cyfyngder hwn,
I dir eangach y dringwn, -
Os ein lletty ’fyny fydd,
Yn mhen uchela’r mynydd, -
Yno wed’yn, rhyw niweidiol - elfen
Wna chwalfa ddinystriol  -
Daw y ’storm i wneyd ei stôl
Ar wàr y fro awyrol.

Cofiwn, y bryn, er cyfuwch,
Y mae naid y ’storm yn uwch.

 
 

 

 

 

x587

(x587)
Y MEDDWYN.
Rhyw adyn, yn methu rhodio - ’n un modd
Yw’r meddwyn, er ceisio;
Yn yr heol gwna ruo;
Neu e’ gân fel dyn o’i go.

Tyngu a rhegu’n anrhugar - a wna,
Gwawdio nef a daear;
Gablu, rhyfygu’n ei far, -
Rhwygo’i wisg-herio, gwasgar.

Cauad ei ddeint - codi ei ddwrn, - brochi,
Noethi braich, ac arddwrn -
Rhwysgo i dori asgwrn,
Rhyw un sydd gerbron ei swrn.

Taro ei wraig - troi a rhwygo - pobun,
Pybyr y mae’n brolio;
Ato ef rhed plant y fro,
Ar ei wendid i wrando.

Newynllyd ei groen- llwyd ei grys, - bratiog,
Heb rot* dan ei wregys (*Fourpence)
Maglog lyfoerion myglys,
Liwia’i farf, ei wefl, a’i fys
.
Am dro bydd yu ymdrybaeddu, - ’n y baw,
Dan y berth, ’n
 ol cysgu;
Yn fawr ei syched foru,
Fe eilw’i beint, a bydd fel bu.

GARIBALDI.
Gwr bold yw GARIBALDI, - cawr yw ef;
Rhagddo y cryn Sisili:
Ei ddyrnod, pan ddaw arni,
Gryma sedd ei gormes hi.

 

 

 

x588

 

 

CYFIAWNDER DWYFOL.

GWIRIONEDD wna'r byd i grynu ! -- y chwâ A chwyth flamiau'r fagddu; Hanfod deddf, a'r nef o'i du, -

Tân ysol, ond yn IESU.

CENFIGEN.

CENFIGEN glâf o'i ' stafell Ddaw, i roi gwarth ar ei gwell; Beio a fyn bawb a fedd

Ronyn o barch a rhinwedd, - Ar frys y dengys ei dant: Ni all oddef un llwyddiant, Nac edrych ar neb cydradd, - Gogoniant llwyddiant a'i lladd.

ENLLIB

DRWY ben y goeden a goda - ' n uchelaf, Y chwâl y gwynt fwya ';

Felly dig, ar gyfaill da,

Neu'r gwr a fawr ragora.

ARALL.

LLUNIO bai, y lle ni bydd, Am ben rhyw un, mae beunydd.

YR EPPA.

 

MILYN hirgwt, cuchiog, swta, -gorgul Gargam, ffals, ysmala;

Ac hagr ei wep ydyw'r Epa;

Ni wyr un cnawd bob ' stranc a wna.

BRITISH

HER ART

SEP

ARGRAFFWYD GAN D. DUNCAN A'I FEIBION, CAERDYDD.

 

 

 

 

 

Mae’r llyr I weld yn Google Books:

https://play.google.com/books/reader?id=ObIYKxYVDi0C&pg=GBS.PR4&hl=ca

 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː 
 B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː 
i̯, u̯
CROMFACHAUː 
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG: ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / y Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »

 
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org
httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith 
δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: 
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_04_3947k.htm


---------------------------------------
Creuwyd:
Adolygiad diweddaraf:
01 02 2002 08-11-2023
Delweddau:

Ffynhonell: archive.org
---------------------------------------

Freefind.
---
Archwiliwch y wefan hon
Cerqueu aquest web
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
Estructura del web

SITE STRUCTURE
---
Beth sydd yn newydd?
Que hi ha de nou?
WHAT’S NEW?


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

StatCounter - Free Web Tracker and Counterhit counter script

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats

 

Diben y gwefan hwn yw bod yn ddolen gyswllt rhwng Cymru  a’r Gwledydd Catalaneg, gan roi gwybodaeth ar iaith a diwylliant Cymru i siaradwyr Catalaneg, a gwybodaeth am yr iaith Gatalaneg a’r Gwledydd Catalaneg i’r Cymry Cymraeg. Y Gymraeg  a’r Gatalaneg yw prif ieithoedd y gwefan. Mae rhai o’r tudalennau wedi eu trosi i’r Saesneg ac i ieithoedd eraill.