1276k  Ar ol gorphwys diwrnod neu ddau daethom yn awyddus i fyned i Caledonia, i edrych am deulu H. Roberts o Dalaeth New York, ac i edrych allan am fferm; ond yr unig ffordd

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_031_genesee_1896_1276k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

Dechrau Byw Mewn Gwlad Newydd
Erthygl a ysgrifennwyd gan arloeswr o Gymro yn y flwyddyn 1896 a ddaeth i Wisconsin yn 1849

 

(delwedd 7387)

Adolygiadau diweddaraf:: 13 12 2000

 

  1052ke This page in English (“Beginning Life in a New Country” - translation of an article written in 1896 by a Welsh pioneer who arrived in Wisconsin in 1849  
 
 Ein sylwadau ni mewn teip oren


Yr ym ni wedi rhannu’r erthygl yn 15 o ddarnau

(1)
Dechreu Byw Mewn Gwlad Newydd
Gan E. E. Jones,
Genesee Depot, Wisconsin.
Y Teulu, Tachwedd 28 1896. O'r Drych .

__________________________


(2)
Yr wyf lawer gwaith wedi meddwl rhoddi ychydig o hanes dechreu byw mewn gwlad newydd, sef yn
Wisconsin, agos i hanner can mlynedd yn ol. Yn mis Mehefin, 1849, cyraeddais i a'm priod a brawd hy^n na mi i Racine, lle yr oedd chwaer i mi yn byw, sef gwraig John Ellis, Skunk Grove.

__________________________


(3)
Ar ol gorphwys diwrnod neu ddau daethom yn awyddus i fyned i
Caledonia, i edrych am deulu H. Roberts o Dalaeth New York, ac i edrych allan am fferm; ond yr unig ffordd i deithio y pryd hwnw ydoedd cyflogi gwedd neu gerdded yno. Nid oedd genym arian i logi cerbyd, ac felly ar ein traed y cychwynais i a'm brawd. Erbyn cyrhaedd Portage yr oeddwn i wedi blino; ond yr oedd fy mrawd yn fwy gwydn na mi i gerdded.

__________________________


(4)
Ar ol gorphwys noson yn
Portage, aethom ymlaen bellder o bum' milldir nes cyrhaedd Caledonia, lle yr oedd ychydig o Gymry eisoes wedi prynu tir; a phan ddeallodd y cyfryw fod arnaf finnau eisieu tyddyn, dyna lle yr oeddynt yn dangos ac yn denu nes y llwyddasant.

__________________________


(5)
Yr oedd genyf 'land warrant', a chefais 160 o erwau o dir y llywodraeth, a phrynais 80 o erwau am $1.25 yr erw, nes oedd genyf fferm fawr o dir gwyllt; ond yr oedd yn costio agos i $20 yr erw am grybio ac aredig. Dyna olwg am ddigon o waith onide?

__________________________


(6)
Wel, y peth nesaf oedd cael y wraig a'r baban ar y fferm; ac nid oedd dim i'w wneyd ond ei throedio hi yn ol i
Racine, a llogi gwedd yno i'w cludo i Caledonia, lle y cyrhaeddasom erbyn canol Gorphenaf. Nid oedd genyf yn fy meddiant ond tua $5.00, ac heb un math o dy i roddi fy nheulu bach ynddo. Yn ein cyfyngder cawsom addewid gan H. Roberts o ystabl log i fyw, nes gallem gael digon o amser i godi ty log. Hefyd cawsom addewid i lusgo y logiau at eu gilydd, pan fuasent yn barod.

__________________________


(7)
Y peth nesaf oedd edrych am le cyfaddas i godi ty. Yr oedd yno dri o fân fryniau, a thorais seler ar ben un ohonynt, fel y gallem fod yng ngolwg y ffordd, ond methodd yr ychain dynu y logiau i ben y bryn, felly yr oedd yn rhaid tori seler wrth waelod y bryn.

__________________________


(8)
Yna yr oedd yn rhaid cael cynnorthwy deg neu ddwsin o ddynion cryfion i godi y logiau, yr hyn gafwyd; ac yna prynais goed i wneyd llawr a llofft a tho gyda $150, a fenthycais gan fy mrawd ar log am chwe mlynedd. Nid oedd dim arall i'w wneyd ond benthyca gan fod yn anmhosibl cael gwaith yn nes na 30 milldir, ac nid oedd modd gadael fy nheulu bach i gymeryd eu siawns mewn gwlad newydd. Fel hyn gorphenais y ty fy
hunan, gan fod genyf ychydig o arfau saer wedi eu prynu cyn cychwyn.

__________________________


(9)
Wedi gorphen y ty log prynais fuwch dda a phâr o ychain tair oed, wedi eu tori at waith; ac yr oedd genyf ychydig o arian yn weddill at fyw y flwyddyn gyntaf. Tra yn aros yn yr ystabl daeth "copper head" fawr rhwng y logiau i lawr at y baban i'r gwely, ond cipiodd y fam ei baban heb dderbyn niwed. Bu yr ychydig arfau a brynais o werth mawr hefyd i wneud dodrefn goreu y gallwn.

__________________________


(10)
Cymerais goed a gwnes brenau gwely, gan ddefnyddio cortyn yn waelod iddo; yna lluniais fwrdd plaen gyda phlanciau, a hanner dwsin o gadeiriau a chadair siglo. Yr oedd genym stove a llestri yn bur dda, ac hefyd ddilladau. Erbyn Hydref 1849, yr oedd genym dair erw o dir wedi ei aredig; a rhwng pob peth daethom i deimlo yn weddol hapus, er fod eisieu llawer o bethau ereill i fod yn gysurus, megys gwagen, aradr, ac ôg.

__________________________


(11)
Erbyn y gwanwyn gwnaethum ôg i lyfnu y tair erw, a thelais $1.50 i ddyn am lifio pedair olwyn o bren trwchus. Tyllais hwy, a gwnes ddwy echel a bocs gyda lle i ddau eistedd - yna yr oedd y cwbl yn barod i fachu yr ychain wrthi.

__________________________


(12)
Bu raid i'r wagen hono wneyd y tro i mi am bedair blynedd; yna gwerthais hi i Gymro gerllaw am $1.50. Bu hwnw drachefn yn ei defnyddio am dair blynedd, a gwerthodd hi i Ellmyn am $2. Go dda, onide?

__________________________


(13)
Pan ymsefydlais i yn
Caledonia yn 1849 nid oedd yno yr un lle pwrpasol i addoli; ond yn sicr yr oedd yno addoli gwirioneddol er hyny, a rhyw naws nefolaidd yn cydfyned a gweddiau a phrofiadau yr hen frodyr a'r chwiorydd yn y moddion. Toc, cododd Cymry yr ardal ysgoldy logiau i gadw ysgol ddyddiol ac Ysgol Sabbothol, a phob moddion o ras; ac yr wyf yn cofio i ddau Gyfarfod Misol rhagorol gael eu cynnal yn yr hen adeilad hwnw.

__________________________


(14)
Buom ni fel teulu ugeiniau o weithiau yn myned yno yn yr hen wagen bren, a'r ddau ych yn ei thynu gan gnoi eu cil; ac os byddem yn brin o iraid, clywid yr hen wagen yn gwichian ei chalon hi, nes oeddym yn cael digon o fiwsig ar hyd y ffordd. O! amser dedwydd oedd hi y pryd hwnw! Dim balchder neu gwag ymffrost yn blino neb!

__________________________


(15)
Ond fe godwyd capel tua'r flwyddyn 1858 - os iawn y cofwyf. Cawsom lawer o oedfaon cysurus yn y capel hwnw; a chlywais lawer yn gwaeddi am faddeuant ac achubiaeth, yr hyn sydd yn dra dyeithr yn y dyddiau hyn. Codasom ail gapel yn yr ardal, ac yr oedd hwn yn tra rhagori ar y cyntaf. Codwyd hwn yn 1889; ac fe dalodd y bobl amdano, yn gystal ag am y lall, heb ofyn cent gan neb o'r tu allan i'r ardal.

__________________________

 


Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA
 
  

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats