1345k  Pont-ar-Fynach, a’i Hamgylchoedd -Y Traethodydd (1851).  Mae yma ddwy bont - un oddiar y llall. Mae yr uchaf fel rhyw bont arall,
ond ei bod yn rhy gul uwchlaw sul safnrwth ag sy dani: yn nghrombil hon y bodola gorchestwaith “y gŵr drwg.”

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_041_pontarfynach_traethodydd_1851_1345k.htm
Cysylltwch â ni trwy’r llyfr ymwelwyr: YMWELFA
 

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Barthlen

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..







 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

Pont-ar-Fynach, a’i hamgylchoedd
Erthygl ddienw
Y Traethodydd (1851)
Tudalennau 218-223


 


(delwedd 0729)


Rŷn ni wedi cadw at yr orgraff wreiddiol


PONT-AR-FYNACH, A’I HAMGYLCHOEDD

Taflodd y Creawdwr mawr fwy o amrywiaethau mewn rhai ardaloedd nag eraill: pan deithiwn trwy y cyfryw leoedd nis gallwn lai na theimlo eu presennoldeb. Esmwythëir a dedwyddir y meddwl gan newidiad gwrthddrychau. Yn ei wibdeithiau o'r naill beth i'r llall, gorphwysa ambell waith gydâg ymfoddhâd nid bychan ar ffrwythau celfyddyd. Ymddifyrra’r ehedydd ar droion ar y brigau gweinion, yn gystal ag ar y derw cryfion a’r clogwyni serthion. Ond pan ein teflir i oror lle mae naturiaeth gwedi ymddilladu â dyeithr wisgoedd, a lle hefyd y gwasgarodd llaw celfyddyd eu blodau teg – yn y cyfryw amgylchiad, nofia ein dychymyg mewn awyr baradwysaidd. Nis gallem fod yn amddifad o'r profiad hwn wrth ymdaith trwy ranau uchaf sir Aberteifi. Blinir ni ar wastadedd hirfaith a helaeth gan ormod undoniaeth yr olygfa; carcherir ni yn y trefydd a'r dinasoedd mawrion yn ngweithiau dyn (y fath ysgafnhâd wrth rodio ynddynt, yw cael edrych ar y perlau prydferth a serenant ac a ddysgleiriant wisgoedd “yr Hwn a ferchyg nef y nefoedd â’i enw yn Iah!”); ond am y gyfran o’n gwlad a nodasom, ca yr archwaeth feddyliol ynddi wledd barhaus o’r danteithion mwyaf amrywiol. Gâd yr hen fynyddoedd penlas, a’r hen fryniau penfoel a goleddir o fewn eu mynwes, argraff ar y meddwl iddynt gael eu llunio mewn tipyn o frys - y llinell amlycaf yn eu gwedd yw esgeulusdra, a hyny yw eu prif hawddgarwch. Ymddengys graddau go lew o gysondeb lluniadol mewn dyffrynoedd heirdd a gwastadtir eang; ond nid felly y rhanau mynyddig. Y gwirionedd yw, yr ydym yn rhy dueddol i farnu gwaith Duw fel y barnwn waith dynion. Gwelwn a deallwn yn gyffredin yr oll o waith dyn - gwaith ein cydgreadur ydyw. Ar y cwbl y dylid barnu pobpeth. Unionir ein syniadau i raddau anghyffredin, pan “osodom un peth ar gyfer y llall.” Ond mae dyn yn rhy fach i ddeall “gwaith Duw yr hwn sydd yn gwneuthur y cwbl.” Nis gwelwn ond rhanau ei ffyrdd; pe gwelem yr oll yn gyfan fel y mae Efe yn ei weled, a phe dirnadem holl gysylltiadau moddion a dybenion ei oruchwylion, caem, er ein mawr foddhâd, fod yr oll i gyd yn canu gan gydgordiad, a threfn. Nis gallwn ddilëu o'n meddwl olion y golygfeydd a’n cyfarchasant yn mlaenau sir Aberteifi - y bryniau, y dyffrynoedd, y coedydd, yr afonydd, &c. Cynhesir rhai or bryniau, o’u pen i’w traed, gan fentyll gwyrddleision o goedydd cysgodfawr - chwery yr awel benrydd ar y cribynau fry; yn yr hon yn awr a phryd arall y gwelir yn nofio rhai o aelodau y llwythau asgellog, y rhai a breswyliant uchelderau y creigiau - gylch yr hen fryniau blinedig eu traed yn yr afonydd a ymddolenant o bobtu eu sodlau – (x219) wyla 'r bryniau yma a thraw ddagrau o’u llygaid, y rhai a ymdreiglant yn wylofus fel plant gwedi colli eu mammaeth, gan gyfeirio eu hysgogiadau, trwy bob anhawsderau, nes cyrhaeddont yr afon obry, i fynwes yr hon yr ymdaflant, gan fod yn sicr y dygir hwy yn ddiogel i'r “pentwr o ddyfroedd mawrion.” Nid yn unig gwena yr uchelion hyn gan brydferthwch allanol, ond hefyd llanwyd eu hymysgaroedd â thrugareddau mewnol. Mae y dyffrynoedd yn debyg i ambell lodes lân - cymaint a fedd am dani; ond mae y bryniau yn gyffelyb i rai hen ddynwyr - yn ddigon llwydion eu golwg, ond tipyn yn lew tu cefn serch hyny.

Pan oeddym yn nhymmor diniweidrwydd plentyndod, clywsom son pryd hyny am “Bont y gŵr drwg;” ac wrth agosâu ati, nis medrem ymattal rhag peri i’r merlyn roddi un troed heibio i'r llall yn fuanach nag arferol: felly, braidd yn ddiarwybod, caem ein hunain ar y “Devil's Bridge!” Mae yma ddwy bont - un oddiar y llall. Mae yr uchaf fel rhyw bont arall, ond ei bod yn rhy gul uwchlaw sul safnrwth ag sy dani: yn nghrombil hon y bodola gorchestwaith “y gŵr drwg.” Mae y chwedl ar led, taw cynnyrch noswaith o galedwaith ei fawrhydi Satanaidd oedd hon. Nid ym yn sicr bod y chwedl yn hysbysu pa un ai nos dydd gŵyl Domos, ai nos dydd gŵyl Barnabas, neu ryw noson arall, oedd y cyfnod; ond sut bynag am hyny, yr oedd yn rhy fer - yr oedd “mab y wawrddydd” gwedi bod tua 'r bryniau cyfagos, medd yr hanes, yn ymofyn baich o geryg - yr oedd y goflaid ar y trymaf, dybygid: methodd, bid a fyno, a gwneuthur y brys dyladwy; agorodd amrantau y boreu gil ei lygad arno; pallodd ei nerth, a dyferodd ei lwyth i lawr. Yr oedd yn weladwy yn ddiweddar yn y man y disgynodd, os nad yw felly yn awr. Fodd bynag y bu pethau, sicr yw, bod y bont heb ei gorphen; neu, os cafodd erioed ei gorphen, cyfarfu, rywfodd, gwedi hyny, âg anmhariad. Nid ydym yn rhyfeddu mymryn os “y gŵr drwg” fu wrthi, iddo ei gadael heb ei dybenu. Fe adawodd lawer gorchwyl arall ar ei hanner. Mae y chwedl yn ceisio esbonio y bont fel hyn hefyd (hen arfer chwedlau yw bod yn anghyson â'r gwirionedd, ac â hwy eu hunain): - Hen wreigan dlawd, gwedi colli ei buwch, a'i canfu yr ochr draw i'r a afon. “Och y fi! sut y caf i fy muwch fach adref,” gwaeddai yr hen wraig. Ar y pryd, fe gydymdeimlodd yr “hen Grwydryn” â’i llef, a dywedodd wrthi y gosodai bont dros yr afon yn y fynyd, os cai y peth cyntaf a elai drosti - ammod haiarnaidd. Beth bynag, cytunwyd. Dyma yr hen fodryb yn y fagl: ond yr oedd yr hen gi brith, os brith ydoedd, bron newynu. Dygwyddodd bod tamaid o grystyn yn llogell yr hen ferch: draw âg e dros y bont, a’r corgi diniwed, wrth geisio myned ar ei ol, a syrthiodd yn wobr i’r Pontwr Satanaidd. Dichon nad yw y chwedl hon ein celwyddog na miloedd o chwedlau eraill a gredir yn ddiysgog gan liaws o blant Adda. Ond y gwirionedd am y peth yw hyn: - Enwir yr afonig, ar yr hon y taflwyd y bont, “Mynach,” yr hon a red i lawr o’r clogwyni gogleddol, ac a ymdroa tua chymydogaeth y bont hon rhwng ochrau hyllion, a thrwy ddyfnderoedd dyfnion. Ymarllwysa y Mynach yn union gwedi pasio'r bont i’r Rheidiol. Tebyg yw bod mynachod Ystrad Fflur, a'r rhanau gogleddol, yn eu pererindodau tuag at Abad-tŷ, Pont Rhydfendigaid, dan yr angheurheidrwydd o groesi y Mynach. Felly, wrth weled culni y llynclyn, a’r buddioldeb o fyrhau eu ffordd, nid hir y bu y tadau ysbrydol hyn cyn ei wneyd yn groesadwy, drwy daflu y bont drosto; a di-os bod yno gryn drafferth cyn i feibion yr (x220) abad gwblhau eu tasg. Ni synem am amrantyn os syrthiodd rhyw hanner dwsin o honynt i’r “berw bair” odditanodd; ac wrth eu trochi hwy, bedyddiwyd yr afon a’r enw “Mynach.” Meddylir i’r mynachod adeiladu y bont tua 'r flwyddyn 1087. Un bwa yw y naill fel y llall: yr isaf yn ugain troedfedd, a’r uchaf yn ddeg troedfedd ar hugain, yn y tant. Yr oedd cadernid yr hen bont yn ammhëus; ac yn y flwyddyn 1753 adeiladwyd y bont bresennol ar draul y sir. O Aberystwyth i Bont y gŵr drwg mae deuddeng milltir; o Lanidloes, pedair ar bymtheg. Golygir bod dernyn fel hyn yn well eglurhad ar y pwnc na’r chwedlau eraill. Mae yn hollol groes i arferiad y diafol helpu plant Adda: ac, am dano ef ei hun, nid oes arno nac eisieu pont na chanllaw - mae mor gyfarwydd â llwybrau llithrig yr awyr. Yn yr ymyl y mae Ystafell plant y Fat. Helpai y rhai’n eu hunain o eiddo eu cymydogion heb eu cenad. Fe allai bod eu llwch yn gorphwys yma: os felly, diau eu bod yn cysgu yn drymach na’r forwyn hòno yr ymdrechodd yr “Hen Bant-y-celyn” ei dihuno, pan mewn rhywfan y galwodd yr awen heibio iddo ryw noswaith. Gwedi methu deffro’r hogen gysglyd, canodd yr hen frawd fel hyn. –

“’R wy’n awr yn gwel’d yn eglur
Tai glychau mawr y llan;
A rhod y felin bapyr
A gyrdd y felin ban;
A’r crochan mawr a’r badell,
Yn twmlo oddeutu’r tŷ:
A’r gwely’n tori dani,
Taw cysgu wnelai hi.”

Ymddengys y rhaiadrau a’r dyrfgwymp yn ardderchog ofnadwy, ac yn fawreddog ryfeddol, yn enwedig o rai mannau cyfagos. Geilw eu disgyniad byrbwyll, a’r effaith gynhyrfiol a gynnyrchant yn y dyfnderoedd obry, linellau Virgil i gof (“Aeneid,” iii. 120): -

“Dextrum Scylla latus, laevum implacata Charybdis
Obsidet; atque imo barathri ter gurgite vastos
Sorbel in abruptum fluctus, rursusque sub auras
Erigil alternos, et sidera verberat undâ..”

CYFIEITHEDIG: “Ar yr ochr dde Scylla, ar yr aswy y gwancus Charybdis eistedda; ie, ac a sugna deirgwaith â’i drobwll i llifogydd cynddeiriog tua dibya yr eigion; -drachefn dyrcha y unrhyw i’r awyr, a chyffyrdda’r ser â'i dònau trochionog!”

Cymer ymuniad y Rheidiol â’r Mynach le y tu gorllewinol i’r bont. Ymddangosent yn gyfeillgar i'w ryfeddu yn eu cyfarfod; cydlawenhaent yn fawr dros ben wrth gofio'r teithiau blin, y troion hirion, a’r dyfnderau duon, y daethant trwyddynt - ant tua'r môr, fraich yn mraich, fel priodfab a phriodferch gwedi iddynt gytuno i fyw gydâ’u gilydd “er gwell ac er gwaeth.”

Pedair milltir yn uwch i fyny, ar yr afon Ystwyth, yn nghilfachau y mynyddoedd, y ceir y breswylfa dra hynod a rhyfedd a elwir “Yr Hafod.” Trigfa boneddwr yw. Mae yr adeiladau yn wychfawr ac yn gynnwysfawr anghyffredin – heb haner eu gorphen. Amgëir y fangre o amgylch-ogylch âg ysnodenau o goedwigoedd. Gorwedda yr ardd rhwng y tŷ a’r Ystwyth, ar lan ogleddol yr afon. Wrth edrych o’u hamgylch dros ei (x221) muriau,
nis gwelem ddim ond gelltydd gwyrddleision yn chwareu eu dail, yn cwhwfanu eu cangau, ac yn byw mor ddedwydd a phe buasent yn ngardd Eden, heb un yn dyweyd gair croes wrth y llall. Cawsom ffafr yn ngolwg y gŵr a gyflawnai ddyledswyddau patriarchaidd y wybodaeth a'r gelfyddyd hynaf yn y byd - y garddwr. Y tu gogleddol i’r palas, mae y capel teuluol, neu y llan. Cofadail o fewn i’r breswyl hon a sugnodd ein sylw fwyaf o ddim. Yr oedd yn byw yn yr Hafod, er’s ryw amser yn ol, foneddwr o’r enw Johnes, yr hwn, yn undeb ei deulu, a dreuliodd fywyd rhinweddol, dyngarol, a duwiol. Nis cedwir neb o honom, mewn un sefyllfa nac amgylchiad, rhag corwyntoedd cystuddiau ac ystormydd angeu. Nis meddai y boneddig hwn ond un plentyn – unig ferch ei thad a’i mam. Gadawyd “Marianne” i loni a dedwyddu ei rhïeni, nes oedd holl ogoniant dyn, yr hwn sydd fel “blodeuyn y glaswelltyn,” yn gynfyddadwy arni.. Aeth hen “frenin y dychryniadau” heibio, ac nid oedd neb a wnai y tro yn ysglyfaeth iddo ond y foneddiges ieuanc! Y cofadail a grybwyllwyd sy ddarluniad o Miss Johne yn marw. Gorwedda ar gader-wely (sofa): yr ochr draw iddi saif ei thad. Gesyd ei law aswy dan wegil ei anwyl blentyn, â’i law ddeheu ymeifl yn ei braich ddeheu, ac a edrycha arni yn syn, eto yn ddirwgnach; er galar a hiraeth, eistedda ymostyngiad i’r Ewyllys Ddwyfiol yn ei wedd. Dacw ef yn ei gildio hi i fyny i ddwylaw trugarog “Tad yr ysbrydoedd, a Duw pob cnawd.” Eistedda ei mam wrth ei thraed - goblyga ei phen - cuddia ei gwyneb - metha teimladau mam ag edrych ar rwygiadau hen elyn ein natur yn ei hamddifadu o’i hunig blentyn - ymeifl â'i dwylaw yn neheulaw y marw, a gwasg hi at ei genau, fel pe dymunai, â chynhesrwydd ei hanadl, adwresogi y gyfran a yspeiliwyd gan angeu. Gwlych hi â'i dagrau - cusana hi â'i gwefusau: ond marw mae etifeddes yr Hafod er pobpeth. Teifl ei llaw chwith yn llaes a dïofal i lawr yr ochr at yr edrychydd: erys ar lyfr, go fawr, yn agored, dan yr hwn mae llyfr arall yn gauad – ni feddyliem taw y Bibl yw y llyfr, waith yr oedd gan y teulu anrhydeddus hwn barch mawr i'r hen lyfr. A ydyw llaw Marianne ddim yn nodi allan ryw gyfran o’r gwirionedd, ar yr hwn y gorphwysodd ei henaid “yn y dyfroedd mawr a’r tònau?” Ni anerchwyd ein llygaid yn ystod ein hoes â golygfa ryfeddach! Mae y tad, y fam, a’r ferch yn eu llawn faintioli. Yn y fan, tra y safem ac y syllem ar “y gelyn diweddaf” yn yspeilio bywyd y foneddiges landeg, teimlem ein natur yn toddi, ac effeithiai yr olygfa arnom mor ddwys nes y parodd i'n llygaid ddyferu cawodydd gloewon o ddagrau. Da y cofiem am amgylchiad cyffelyb, rai blyneddau yn ol, yn dwyn agos gysylltiad â ni ein hunain: -

“Oh!
Marianne, now for thee
The hearts for which thou blest are bleeding. -
Oh! Mariamne, where art thou?-.
And is she dead?
But thou art cold -
And these dark hearts are vainly craving
For her who soars alone above.”

Sylw â llawer o wir ynddo yw hwnw - y manau a nodir gan natur y chelfyddyd âg amryw neillduolion a gynnyrchant effeithiau tebyg yn y trigolion. Cyflwynir i'n meddwl yn awr ddau blwyf: hynodir un o honynt âg amldra preswylfeydd boneddigion; mae y llall yn amddifad hollol o'r cyfryw drigfeydd. Mae rhywbeth o’r gŵr boneddig yn mhob llipryn llwm (x222) yn y cyntaf: ond am yr ail, “cuwch cwd a ffetan” ydyw, heb un safon uwch gan neb na hwy eu hunain – “mesurant eu hunain wrthynt eu hunain.” Heb os nac oni bai, dir yw y gofelir mwy am y meddwl gan breswylwyr ucheldiroedd a blaenau gwledydd nag a wneir gan y rhai a wladychant iselfanau ffrwythlawn a theg. Cyflyma i’n sylw wladyddion y tair
Arabia. Nis gellir llai na chydnabod plant mynyddig gwlad William Tell - y Swisiaid. Yr ydym yn rhwym o gofio am feibion Caledonia: ac er i Coleridge ddodi ei ellyn yn ddiarbed ar feibion a merched Gwalia, nid ydym er hyny gwedi ein darbwyllo eu bod yn ol i eraill mewn dim: na, yn wir, mae trigolion gwledig Lloegr bedair gwaith ar bymtheg ar hugain, a rhagor, yn debycach i asynod na hwy. Nid oedd Coleridge ond dyeithr-ddyn - estron i bob sill o'n hiaith - mor anwybodus o'n harferion a phe buasai wedi byw yn y Llwybr Llaethog. Daeth ef, fel yr “Ymwelwyr,” i Gymru, wedi ein mesur a’n pwyso cyn cychwyn o gartref - yn llawn cibddallni a rhagfarn, fel y dyn hwnw yn cynnyg goleuo'r ganwyll, â’r diffoddydd ar ei phen! (Gwel “Colerdige’s Bio. Literaria:” cyf. ii)

Arweinia cryn nifer o drigolion blaenau gwledydd fywyd bugeiliol - cânt trwy hyny fwy o amser nag eraill i ddarllen a meddwl. Mae yr awyr, tua’r bryniau yn burach ac yn iachach - ceir effeithiau cyferbyniol i hyn yn y trigolion. Nid ydynt yn byw mor fras chwaith a chyfanneddwyr y dyffrynoedd, fel y dywedai yr hen wraig wrth ei phlant ys llawer dydd, “oes dim o fryd llawer o'r rhai’n ond ar eu boliau.” Trwy fod yn rhydd o’r baich hwn cedwir eu natur rhag trymhau. Hefyd swynir eu hysbrydoedd gan hyfdra mawr a phrydferthwch y gwrthddrychau a’u hanerchant. “Yn mhob gwlad y megir glew,” medd y ddiareb: yn mlaenau pob gwlad y megir glewion. Nid ychydig yw rhagorolion dynolion pen uchaf sir Aberteifi. Maent yn ddynion synwyrol, yn gryfion o gyrff, yn iach o gyfansoddiad, ac yn alluog o feddwl. Maent yr un farn hefyd ar “hen bêr ganiedydd o Bant-y-celyn;” hyny yw, nad oes fawr o wahaniaeth rhwng dyn ac epa, neu “fwnci gwyn,” os na’i hyfforddir mewn gwybodaeth a dealldwriaeth. Gŵyr y bobl hyn yn burion bod cyfryngau gwybodaeth yn Nghymru; ceir rhai epaod dynol yn ein gwlad nas gwyddant gymaint a bod y fath gyhoeddiad a’r “Traethodydd “wedi ei eni chwaithach hyny. Cartrefa dosbarth gweithiol yn y lleoedd hyn hefyd, y rhai ydynt yn llawn mor drachwantus am ddarllen a’r dosbarth tyddynol, os nid yn fwy felly. Er eu bod yn treulio ei hoes yn y mwyngloddfeydd, eto deallant lawer mwy na bagad o bobl sydd â’u traed yn uwch na'u penau hwy.

Prifddinas yr ardaloedd hyn yw Aberystwyth; nid ychydig ydynt ei rhagoriaethau. O un tu, anadla yr awyr arni ei hawelon iach dros gopäau y mynyddau: o’r tu arall, ymdeifl y gwyntoedd tuag ati dros y gyfran buraf o’r môr. Mae yr adeiladau yn brydferth, yn neillduol y rhes a wyneba y môr. Dealla y trefolion bod glanweithdra yn ras ymarferol. Ni fu erioed ddyfrfa mewn man iachach: trueni na byddai ager-gerbyd yn galw wrth glustiau ei phreswylwyr - mae eisieu gwell cyfleusderau i fyned ati. Mae crefyddoldeb y lle yn enwog: y gynnulleidfa grefyddol y buom ynddi sydd, dybygem, yn bobpeth a ellir ddysgwyl mewn cynnulleidfa o Gristnogion. Ni chlywsom erioed well canu: O! mae'n hyfryd, hyfryd, hyfryd! Mae wedi teithio tua’r cymydogaethau cylchol (x223)

“Megys fflam yn llosgi llin.”

Hynod mor gydweddol âg achos Iesu Grist yw canu trefnus, pwyllus, blasus, a melus!

Nis gallwn yn ein byw lai na chredu i raddau pell, mewn Gwyneboliaeth: gellir ei gymeryd yn rheol, dybygem, os bydd rhywbeth o werth ei weled neu ei glywed tufewn, y bydd rhyw ddangoseg o hyny y tuallan. Os bydd yno dalcen llwm yn suddo i lawr - os bydd yn y wynebpryd fwy o'r llo a’r llwdn nag o'r ych a'r dyn - os bydd yno fwy o’r cadno a’r asyn nag o’r angel a'r eryr - tebyg yw na ddaw nemawr dda o'r cyfryw Nazareth. Mae gwahanol ddosbeirth o'r natur ddynol fel gwahanol ranau o’r ddaear - rhai yn ddrwg, rhai yn ganolig, a rhai yn dda: nid mewn ystyr foesol, y golygir. Taflwyd ni yn achlysurol ar ein taith i gymdeithas dynion gwledig athrylithgar; ac yr oedd yn hawdd canfod cynneddfau eu meddyliau yn llun, yn null, yn edrychiad, yn ngwedd eu gwynebpryd hwy a'u perthynasau. Ymhyfrydem hefyd yn mhelydron eu sirioldeb, hoffem eu sobrwydd a’u syberwyd, carem foneddigeiddrwydd Cymreig eu gwisgoedd. Mewn gair, er nad yw trigolion Blaenau sir Aberteifi wedi cyrhaedd perffeithrwydd, mae eu gwaeleddau yn cael eu gorbwyso ymhell gan rinweddau a rhagoriaethau. Na feddylied neb ein bod yn darostwng y godre a chanol y sir pan barchwn fel hyn y rhanau uchaf: nac ydym yn wir; mae genym wir barch iddi trwyddi - o gorn i garn. Mae'r traddodiad yn y gwynt bod un o dalentau mwyaf Cymru wedi dodi ei ffon lath ar rai o siroedd y Deheudir fel hyn: - “Os y'ch am welyau glân, teiau glân, a dynion glân, cerddwch i sir Gaerfyrddin; os y’ch am foesau, dewch i sir Benfro; os am grefydd, cerddwch i sir Aberteifi.” Nid ydym yn proffesu manylrwydd na pherffeithrwydd yn ein cyffyrddiadau ond rhoddasom yr argraffiadau cyntaf mor onest ag y medrem.


 

Simbolau arbennig : ŵ ŷ

 

Adolygiadau diweddaraf:  02 07 2002


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website


CYMRU-CATALONIA


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats

Adolygiadau diweddaraf:  02 07 2002