1346k Yr
Adgyfodiad - Nicander (Morris Williams 1809-1874) - Y Traethodydd (1851). Eoslais
Awen lwyslef, / Tyr’d i lawr yn awr o’r
nef;
/ Disgyn attaf i’m dysgu / A’th bereiddsain cywrain cu:
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_042_adgyfodiad_nicander_1851_1346k.htm
0001z Y Tudalen Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Barthlen
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
|
Nicander (Morris Williams 1809-74)
Clerig Anglicanaidd ac emynydd. Ganwÿd yn
Llangybi, Gwynedd. Ar ôl graddio yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, yn 1835, aeth
yn giwrad i Dreffynnon, Sir y Fflint; wedyn bu’n giwrad Bangor, Gwynedd, ac o 1859
hyd ei farw yn giwrad Llanrhuddlad, Ynÿs Môn. Nicander oedd y ffugenw a
ddefnyddiwyd ganddo yn Eisteddfod Abérffraw yn 1849, lle enillodd y Gadair am
ei awdl “Y Greadigaeth’.
(x153)
YR ADGYFODIAD.
AWDL.
GAN M. WILLIAMS, M.A. (Nicander).
Y CYNNWYSIAD.
Annerchiad yr Awen, a gosodiad allan y testun; wrth ymdrin â’r hwn y mae’r
Awdwr yn ymwrthod âg ardderchowgrwydd cynghaneddol, er mwyn ymgeisio yn unig at
ddarluniad syml mewn iaith briodol.- Erfyniad am nerth a chyfarwyddyd i ganu
(x154)
YR
ADGYFODIAD.
Eoslais Awen lwyslef,
Tyr’d i lawr yn awr o’r nef;
Disgyn attaf i’m dysgu
A’th bereiddsain cywrain cu:
A’th nabl ac â’th barabl baidd
Iawn Arwyrain eryraidd
Gwell nag yw’r gwin i’r min mau
Yw dewiniaeth dy donau
Miloedd o aur, mel i ddyn,
Ydyw diliau dy delyn:
Fal mel yw dwsmel dy dôn,
Neu felys nabl nefolion:
Dawn nef sydd ar dy barabl,
Dawn nef ar dannau dy nabl.
Càn yn drylen, f’Awenydd,
Yr ADGYFODIAD a fydd:
Cân gerdd dawn wiwgerdd Duw Naf,
A dyddelwa’r DYDD OLAF;
Dydd mad ein Ceidwad cadarn,
Diwedd y byd, a Dydd Barn;
Dydd o ing diddïengyd,
Dydd barn, a Diwedd y byd.
Ion f’einioes, ennyn f’anian,
Ennyn, O Ner, fy nawn wan;
Pâr fywyd pur i f’Awen,
Tewyn o fad dân nef wen;
Moes heb ball im’ o’th allor,
Dân o wir waith doniau’r Ior.
Wyf ry ddinerth i farddoni
Dim, fy hun, ar dy destun Di;
Mawreddus, arswydus yw,
Gormodol i’m grym ydyw;
Er mawl Ion, rho im’ oleuni
Dy wyneb yn rhwydd-deb, fy Rhi;
A bo’th fflam byth hoffawl immi
I gynnen tân y Gân i Ti:
Duw Ior mawr a godi’r meirwon
O lwm bridd, ysprydola’m bron.
Wele’n awr olwyn eres
Oer a thwym, eiry a thes,
Yn nygiad blwyddyn ogylch,
Ar sefyll, - rhod gwyll a gwawl,
A’u dyrannau dirwynnawl;
Dir gofio, sai’n dragyfyth
Rawd Amser, heb adfer byth.
Oriawr nef, mae ar sefyll,
Hen oriawr ein gwawr a’n gwyll;
Ei holwynion, hwy lynant
Yn d`yn, a’i bysedd nid ant;
Pwyntiant i’r awr fawr a fydd
Trwy y gwaeau tragywydd
Yn un trwy’r oesol ddunos,
Henwir yn awr Hanner nos:
Yn nef wech y Naf uchod
Hanner dydd a fydd i fod,
Yn un awr wen ysplennydd
Byth ar dàl deial eu dydd.
Gwan a musgrell yw pellen
Daearfyd, hagrbryd a hen;
Gŵyr’r ddaear i ddiwedd,
Daw’r byd ‘n addfed i’r bedd;
Saif rhodau’r tymmorau mad,
Ac olwynion Rhagluniad;
Gwawl Anian a Rhagluniaeth
Yn sydyn i’w derfyn daeth;
Terfyn einioes trefn anian
A ddaeth - do, ca’i deifio’n dân:
Dirfawr fydd llosg daearfyd,
Daw eirias boeth dros y byd:
Plygir ynghŷd y byd bach
Ail llwydaidd hen ddilladach.
Yna glwys gyflawnir yn glau
Lithoedd y prophwydoliaethau;
A gwelir mai geirwir i gyd,
Gwir heb au, yw Gair y Bywyd:
Gobrwya Duw’r nef wir grefydd,
Gorphenir a pherffeithir ffydd.
Hynodol wahaniadau
A welir rhwng gwir a gau:
Daw gwyll ar ganwyll geinwawr
Y ffol annuwiol yn awr;
Pur ennaint lamp yr uniawn
Goleua Ner mal gwawl nawn.
Drws addas ras yr Iesu,
Drws gorsedd trugaredd gu,
Heb eiriach cânt eu barrio, -
Oh Duw! clywch sibrwd y clo.
Mwy na chlywir mynych luoedd
Yn ioli’r Naf yn ail i’r nefoedd
A mwyn lais yma’n ei Lysoedd:
Cloir dalenau Biblau’r bobloedd.
Distewi dithau, Sion,
Efangyles eres Ion;
Distewir dy lwyswir lais
A fu radlon hyfrydlais;
Ni leisia mwy dy lais mad,
Di-wg eiriau dy gariad:
Mi glywais, do, lais dy lef,
Yr haf ar gauaf ar gylch
Ganwaith, Angyles gwiwnef;
Pereiddfwyn, cufwyn y’i caid,
A’i swyn oedd fwyn i f’enaid
Uwch pob dim hyfryd immi
Y bu lais dy Iubili:
Dy anwyl lais a dâw’n lân,
Oriawr nef, mae ar sefyll,
Hen eiriau’th udgorn arian.
Dangos, “Awen drylen draeth,”
Llawn o wir a llenoriaeth,
O air Duw yr Ior dywaid;
(Bo’i Lyfr i’th Gywydd yn blaid),
Wireddawl ragarwyddion
Dydd hynod a diwmod Ion.
Arch-ddiafol yr uffernol ffau,
Dig, a dynnwyd o’i gadwynau
Mal blaidd, yspaid y Mil-blwyddi,
Yn d`yn y’i rhoed ynghadwyn Rhi:
(x155) Llammai’r
Ellyll mawr allan
I’r dydd o’i lyfethair dân;
Hanai ar led trwy’r gwledydd
Bob bai, a diffoddai ffydd;
Gwanhâi, llugoerai gariad
At ddyn mwyn, at Dduw Ion mad.
Clywir trin (a blin y bla), (= Mathew xxiv 6)
A thwrf alaeth rhyfela;
Clywch fagneldwrf cynnwrf câd
Ac ystryw Twrc ac Awstriad!
Son am Rwssiaid sy’n ymresu,
Pob Hungariaid, pawb yn gyrru,
Pab Italaidd, pawb a’u teulu;
Yma Daniaid sy’n ymdynnu,
Llunio torfoedd, oll yn tyrfu;
Yma’r Awstriaid sy’n ymrestru,
Ymrafaeliant am ryfelu;
Wbain godwrdd! pawb yn gwaedu!
Yn wir mae gwaeddi’r gweddwon
A’u hwylaw yn briwiaw’m bron;
Trywana cri trueinion - heb dadau,
Drwy ddyfnaf barthau ciliau’m calon;
Rhed heb baid o’m llygaid fu’n llon, - hallt ddwr,
Am ddu fyd garw’r amddifaid gwirion.
Sais a Gwyddel rhyfelant,
Bob yn un yn benben ant;
Ergyd ffrom rhydd Mahomed
At galon pob Cristion cred;
Negro gloywddu g’yr gleddyf, -
Pob dafn ar ei lafn a lyf;
Meddwa’i gledd â gwaed heddyw,
Difrod o waed ei ffrawd yw.
Torri tiroedd Tartaria
Mae ierthi blwng Mawrth a’i bla:
Chwerwlym yn y gyflym gâd
Ceir Cossac a’r Circassiad,
Assur o bell, Syria boeth,
India, Arabia ryboeth,
Hindostan, Deffrobani,
A chrau ar eu lloria’n llu.
Y March Coch dan ffroenochi,
Dyry naid drwy’n daear ni:
Ofnadwy ei fynediad,
Chwidr yw ei guwch drwy y gâd:
Ymwylltia’i fwng, - meelt a fydd
Ar godiad yr egwydydd:
Tania’i ffroen, tywynna’i ffriw
A gwawl elydr goleuliw:
Daw r mellt o’r llygad a’r mant,
Hygr a channaid gwreichionant:
Ei brangc a ddychryna’r bryn,
A deffry graig a dyffryn:
Drwy’i weryriad arwrol
Y cryn pob dyffryn a dôl:
A ffroen rydd heb ffrwyn yr â
Yspryd (= Breath.) Ion a’i ’sparduna.
Ing a rhwysg Angau oer hyll
Yw y marchog mwy erchyll;
A ffewyll ei gyffroad
Ydyw dig barnol Duw Dad.
Daw alaeth newyn duloes,
Dwys, dybryd, at fyd di-foes;
Dynion daear heb farn,
Ac yn eu plith cowyn pla,
Teneua haint a newyn,
(Drwm adwyth!) aml dylwyth dyn.
Gan y gwewyr gwn y gwywant,
Dan y plaau a’r gloesau glasant,
Y nodau an dïeneidiant,
Haint a newyn an teneuant.
Er hyn oll prin y cyffry neb;
Llanwyd y byd â dallineb:
Ymdrafod â phechod ffol,
Dan iau y byd annuwiol,
Myn dynion, am na adwaenant
Law Dduw; wrth y miloedd ant
I annoddyn llyngclyn llif
Duloes, chwyrn, yr ail Dylif.
Gwel genhadon, dynion da,
Llawn awydd, yn null Noah;
Deuan’ oll, cyn dwyn allan
Gan Dduw y diluw o dân,
A thraddodant yn gantoedd
O lyfr Ior en cyngor c’oedd;
Gwŷr Ion dônt, a’u geiriau’n dân,
Hyderus Feib y Daran,
Gwŷr hedd., y tro diweddaf
Ar ddyn ya erfyn dros Naf: -
“Deuwch i’r Arch, dowch er Ion
Enneiniog, dowch yn union!
Dowch yn awr, deuwch un waith,
Dychrynwch, dowch ar unwaith!
Dowch, Oh dowch, a ffowch drwy ffydd,
Tra adeg, at Waredydd:
Dros Ion cenhadon ydym,
Dros yr Ion cenhadon ym:
Nac oedwch; brysiwch; ba raid
(Gallech hyn), golli’ch enaid?”
Er hyn oll, ni chyffry neb;
Llanwyd hwy â dallineb,.
Ynghaledwch trwch eu trachwant
At Mammon lle’r Ion yr ant.
Masnachu maes neu ychen
Yw en bryd, a’r byd yn ben;
Amlhâu tras priodasol,
Plannu bryn, dyffryn, a dôl;
Adeiliaw a lluniaw’n llon
Eu neuaddau newyddion:
Mewn bri’n ymgodi’n gadarn,
Heddyw’n hy, fory’n y farn;
Heddyw gwledd ar ei sedd sy,
Edifeirwch daw fory;
(x156) Heddyw mae
gwledd trosedd trwell,
Daw fory edifeirwch.
Yn egwan hen Huan haf
A dry i’w wely olaf:
Ammhybyr yn lletty’r llif,
Mewn henaint, nid mwy’n heinif;
Huan hen, etto’n ’splennydd,
Haul melyn yn dirwyn dydd.
Ti a oleuaist i lawer
Oes a gwlad, Huan dad, yn dêr;
Dy wawl twym, dy oleu teg,
Mwy ni chawn yma’n ’chwaneg;
Ffarwel im’ byth gael gweled
Mwy fri d’oleuni ar led;
Ffarweliaf (trymmaf y tro!)
Ffarweliaf , a phair wylo!
Hust! fe gryna’r ddaear ddu,
Daear gron sy’n dirgrynu;
Nos â gwyll tywyll a’i todd,
Erch gaddug a’i gorchguddiodd.
Cryn fy nghalon, pan soniaf,
Merwina gloes fr mron glaf:
Cryfhhâ, cyfnertha fi, Naf; - moes, fy Rhi,
I’m ddwyfol yni, neu mi ddiflannaf.
Myglyd frwmstan poeth a dania,
O enau neient esgyn a wna:
Drwy’r nen, drwy’r wybren draw’r ä – o’i fagnel,
A dorchau ufel i’r nen dyrchafa:
Pyst mwg a than taranant,
Syth i nef ymsaethu wnant;
Tiroedd sydd â llais taran
I’r asur yn taflu’r tân: Deifiawl yr esgyn y dufwg,
Tywyrch a main yn y tyrch mwg.
Try’n awr y tir yn eirias,
Try’n greision y loywdon las.
’E ferwa hen lif Hafren lwys
O waith ufel, a Thafwys:
Sech yw y Don, sycha Dwy,
Ac eilwaith Clwyd ac Elwy:
Tyrch tân a brwmstan heb ri’
A seriant lif Missouri:
Iorddonen a’i hurdduniant,
Ebro a Nil, berwi wnant.
Rhua’r môr dygyforwyllt,
Ei bair yn awr berwa’n wyllt:
Môr y Gogledd dadmera,
Ei sedd oer, a’i feusydd iâ:
Iasog eirias agora
Glo durew oer gwlad yr iâ;
B’le mae’n awr y blymmen iâ,
Drwy oeredd gwlad yr eira?
B’le mae’n awr blymmen eira
Goleudir oer gwlad yr iâ?
Tery’r ias trwy rew oesawl,
Gwynias fydd Boreas a’i bawl: (= The
Berwa iâ oesol Boreas,
Ei eiry glain, a’i rew glas;
Berwa’i weilgi’n genlli gwyn
Dan anadl Duw’n ei ennyn:
A barn Duw y berwa’n dân,
Ufel crychias, fal crochan.
Tery’r tân ddychryn trwy’r tir,
Dirgryna’r drwg a’r enwir;
Paid rhin gloywwin yn glau,
Chwerwir y ddawns a’r chwarau;
Trin neu ormes try’n wermod.
Hallt fydd i gybydd ei god.
Clyw! y dyn caled ei warr
A rydd waedd ry ddiweddar;
Mewn egr ffull mae’n gorphwyllaw,
Drwy brif gyfyngder a braw.
Croch y bloedd drwg bobloedd byd,
Bloedd ing, - ba le i ddiengyd;
I ffauau nos ffoi a wnant,
Yn nydd ing ni ddïangant
Duwiolion oll dal a wnant
Naf a’i ras, - hwy ni frysiant:
Er ymrwygaw’r mawr eigion
Wrth dwrf a rhyferthwy’r don,
Er bod i ruthr aruthr hwn
A’i donnau ysgwyd annwn,
Deil yn gref sail eu crefydd,
Yngwae’r farn eu hangor fydd;
A’n gryfach, cryfach eu cred,
Dan nawdd eu Duw a’i nodded.
Ffyddlon Saint anwylfraint nef,
Teg anwyl seintiau gwiwnef,
Bloeddiwch a chrechwennwch chwi
Yn eich calon i’ch Celi;
Yn awr daw’n rhwysgfawr eich Rhi – o’i gartref,
Caerau y wiwnef, i’ch coroni.
Och! heddyw’r haul yn dywyll
Uwch byd a gyfyd mewn gwyll;
Drwy ing y dring - i drengu;
Tywyll ei ddwys fantell ddu:
A’i addolwyr a ddelwant,
Byth oll i anobaith ant.
A’n deilch olwynion y Dydd,
A chwalir ei echelydd;
Purwawl ei aur lamp eirian
A dderfydd, - diffydd ei dân.
A’r lloer ymddifad ger llaw,
Mewn alaeth mae’n wylaw;
Y lloer heddyw â lliw rhuddwaed
Sy’n ddugoch, ufel goch, fal gwaed
Yn ei chwÿn cuddia’i hwyneb,
Liw nos ni rydd wawl i neb;
Gwiw loer i’w therfyn yn glau
A ddaeth, - a diffydd hithau.
Newidiodd yn ofnadwy,
Ei llun myg ni’s llenwa mwy.
(x157)
·····
Ffarwel, Loer o ffriw ail arian,
Oh! ffarwel, fy mâd Leuad lân
I neuadd nef ni ddoi’n ol,
Lwyd faswaidd Leuad fisol.
Beth yn uchel a welaf,
Gloywach na thân huan haf?
Seirian argraph seren eurgroes,
Aur oleunl cryf ar Ion croes!
Daw i lawr yn awr yn nes,
A phur wawr saphir eres:
Arswydus yw, - mor sydyn
Y daeth - Arwydd Mab y Dyn!
Ger bron y wyrth syrth y ser
Ar chwildafl o’r uchelder:
Syrth y ser a’u clirder clau
Fry o’u tesog forteisiau:
Planed a chomed chwimmwth
Draw rhed i’r dyfnderau rwth.
Iau glaerwen, lawen leuer,
Lwys a ffy, a Lusiffer:
Syrth Sadwrn swrth ei sidell,
A Mawrth i’r eigion ym mhell;
Drwy’r awyr draw Orion
Ffy ar drangc, diangc i’r don:
Chwelir tân seirian Siriws,
Trwy wewyr ffrawdd (= tumultuous) try ar ffrwst.
Eidiawl gannaid lu gwiwne’
A lithr, - Duw ŵyr i ba le!
Syth i’r llawr ymsaetha’r llu
Uwch ben, dan chwyrn chwibanu.
Addurnau’r wybr yn ddarnau’r ant,
Hydr a channaid y gwreichionant;
Ffriant a sïant y ser,
Draw yr aethant drwy’r ether. (= the upper sky).
Draphen y syrth gloywnen yn glau,
Ffy o ganol ei phegynau.
Gwefrir, ffrochir yn ffrychwyllt
Gorph anian â gwefrdan gwyllt;
Dyna wefriad yn nwyfre.
Nid oes na Gogledd na De’:
Llyna drangc Gorllewin draw,
Yn serth o’i le mae’n syrthiaw:
Y gwefrais gwynias, follt gain,
A dorrodd byrth y Dwyrain:
Chwai dorrwyd uwch daearen,
Cwympwyd yn awr cwmpawd nen!
Gwefrir llachar ddaearen
Yn awr, mal gwefriad y nen;
Poeth yw ei bron, poeth a brau,
Yn nhoddiad ei defnyddiau.
Ei mŵn a dawdd, a’i meini,
Gan wefrdan ei hanian hi.
Llenwi’r oedd llyn o ruddaur
Hylif y rhed lava’r aur:
Wele’n awr lynnau arian
A barn Duw yn berwi’n dân;
Dur a phlwm draw’a fflamiant,
Yn greision wreichion yr ant.
Ddelwau gweigion llymion llwch,
Yn y dydd hwn ’e doddwch;
Baal o atir, a Bèl arian,
I’r llwch fe doddwch yn dân;
Delwau Belial a Baalim,
Yn y chwerw dân ewch i’r dim
Toddir a melir Moloch,
O wres gwyllt yr eirias goch;
Milchom hylldrem, a Chemos,
I ffwrdd a doddant yn ffos.
Braw ’meifl yn Brahma aflan,
Vishnoo yr Hindoo ä’n dân.
Gau ac ofer, gwag hefyd
Mewn barn a fydd mwnai byd;
Dilewyrrch gan y tyrch tân
Daw’r aur, a dua’r arian;
Drwy rin barn ’e droir yn bwl
Aur y cybydd a’r cwbwl.
Gwelaf Archangel golau,
Gwelaf Archangel golau,
A’i esgyll uwch gwyll yn gwau, -
Sant Mihangel; uchelaf
Gun yw o swyddogion Naf:
Geilwad i’n Ceidwad cadarn
Yw’r angel, a bedel (= beadle) barn.
Dyry o gylch daearen
Draw yn awr dro drwy y nen;
Ail i follt ufel fellten
Yw ei daith, neu gomed wen:
A thrwmp o wir waith yr Ion,
Mawrwaedd, i ddeffro’r meirwon,
Wrth ei fant; - a rhy’r cantawr
O ias ei fin y wŷs fawr: -
“Dowch o flaen sedd Crist heddyw,
Chwi fawr a bach, feirw a byw;
Deuwch i’r farn i’ch barnu,
Chwi’n awr, blant y llawr, yn llu
Dod, O Fôr, di dy feirwon
O ymchwydd dyfrchwydd y don;
Deled, O Fedd, o’r dulawr
I farn Ion dy feirw yn awr.”
Dyna lais Duw Ion a’i lef
Trwy wymp ganiad trwmp gwiwnef:
Y waedd i nef treiddio wna,
Try gynnwrf trwy Gehenna:
Clyw y fyddar ddaear ddu,
Ar holl fôr, y llefaru,
A llawn ettyb holl natur,
Y don, a’r clogwyni dur:
Bydoedd sy’n diaspedain,
Aruthr yw’r si wrth ru’r sain.
Egyr y wyrth byrth y bedd,
Caled afael clo dufedd;
Egyr ddorau’r gwrdd weryd
Tyr folltau beddau y byd;
A buan wefriad bywyd
Ym mro gerth y meirw i gyd
Pureiddia ammhureiddiwch
Brwnt y bedd, llygredd y llwch.
(x158)
Cynhullir, cesglir y corph,
Ac ail agwedd y clei-gorph,
Mewn harddwch o’r llwch a’r llaid;
Nodir hwn yn dy’r enalid
Syflir ei lwch i’w safle
Ceir llwch at ei lwch i’w le:
Daw’n un corph glân dïanaf,
Daw’n un drwy fferylliad Naf.
LIuniwyd ef â llaw Ion da,
Llaw Ion etto a’i llunia;
Yr un corph, yr hen gorph gynt,
Gwan uwyl, mewn amgen helynt;
O’r hen fath yr un a fydd,
Hen yw, ac etto newydd
O ran ei fath yr un fydd,
Yr hen yw, er yn newydd;
Yma’n wiw, er mai newydd,
Yr un fath a’r hen a fydd;
Daw’r corph, gyd â’i waed a’r cig,
I gyd yn ddiwygiedig.
Nid ydyw ond newidiedig – odiaeth,
Pur adeiladaeth ysprydoledig.
Y cyfanwiath cyfunwyd
A llaw, deau law Duw Lwyd;
Drwy dywyll droiau daear,
Ym mro gwynt, Ym môr ac âr,
Yr Ion unodd ronynnau
Hoff hen bridd y corpyn brau:
Chwiliodd âr, chwalodd weryd;
Yn ddi-ffael i’w gael i gyd:
Da foroedd a’u dyferion
O ddwr hallt chwiliodd yr Ion;
Chwyrn ewynfrig dig y don
Chwiliodd, a’r chwai awelon;
Lloches argel pob llwchyn,
A’i agwedd oll, - gwyddai hyn:
Mewn eiliad, adeilad wiw,
Adeiladaeth delediw,
O falurion llymion llwch,
O ddu oerlwm ddaerlwch,
A wnaed o’r dull hynodaf
O gywrain wyrth gair y Naf.
Daw yr enaid ar einioes
I’w le i ddechreu ail oes;
Daw yr enaid i’r annedd
Lle bu cyn abell y bedd;
Daw o’r nef i gartrefu,
O’r nef daw i’r cartref cu.
Lle gwael oedd ei babell gynt,
Addwael hwyl, eiddil helynt;
Lluestyn a bwthyn bach,
Sal ofer breswyl afiach;
Eiddil ys oedd, o wael sail,
Llegach o fur a llogail;
Teneu fwth, lluest wan fach,
Un heb sail, ni bu salach;
Allanol babell un-nos:
Heb waith yn hwy, bwthyn nos:
Gwael edwin briddgai ydoedd,
A brau ddi-nerth briddyn oedd;
Gweryd oedd ar y gorau,
Lluestyn o briddyn brau:
Un oedd wael, lawn eiddilwch,
Yn gwywo’n ffest, lluest llwch;
Lle gwael oedd, pabell o glai,
Chwilen a’i dadymchwelai;
Nerth gwyfyn, llychyn, a llai,
Yma i lawr a’i maluriai: -
Ond yn awr drwy waith Duw nef,
Heddyw caiff anigen haddef;
Caiff balas addas heddyw,
Palas i fod, plas i fyw;
Un a ddeil, neuadd ddilyth,
Yw’r plas, a sai’n balas byth.;
Palas hoen, plas y wiwnef,
Palas di-nych, plasdy nef;
Ba ail sydd i’w balas ef? – Gogoniant!
Palas digwyniant, plasdy gwiwnef!
Mewn awr ’e wnaed maenor nef – o fedd llwyd
Mewn aur ’e luniwyd maenor y loywnef!
Yn addwan, mewn egwan agwedd,
O dir y byw hauwyd e’ i’r bedd;
Ceir e’ mewn nerth cry’ yma’n awr
O ardaloedd âr y dulawr;
Hauwyd ef i’r bedd, llygredd llwch,
Yn las, bwdrlas, wynlas wan-lwch;
O oerfro âr îr yw ei frig,
Lliwgar ydyw, anllygredig;
Mewn ammharch, er mwyn arch, mae’n wir,
Clöedig y bu mewn cleidir;
Y dwthyn hwn y daeth yn hoenwych
O’r clei-bant mewn gogoniant gwych.
Cyfyd i’r bywyd o’r bedd,
Cyfyd o byrth y ceufedd,
Glwys ei wedd, o’r dyfnfedd du,
Hoffusawl, ail corph Iesu.
Trangc i’r bedd yw Crist heddyw,
Daw’r pydron feirwon yn fyw:
Angau a’i gethin fyddin a faeddodd,
Dychryniadau ei boenau dibennodd,
Heddyw ei darian a’i gledd a dorrodd,
O’i galon dân ei golyn a dynnodd;
A’i leiddiad yr ymladdodd – ein Ceidwad,
Yn yr ymladdiad y lleiddiad lladdodd.
Buost, Angau,
I’n o’r dechreu’n deyrn oer dychryn:
Angau anwar,
Llym waith galar, lle mae’th golyn?
Daeth d’ergydiad,
Wr digariad, ar dy goryn.
Groesaw helaeth
It’, farwolaeth;
Nid oes alaeth yn dy sylwedd;
Hedd yw gweled
Bedd agored,
Awn i wared yno i orwedd.
Gwych gorwedd mewn bedd, lle bu - hoffusaf.
Gorph fy Iesu’n cysgu;
Yn y bedd, y dyfnfedd du,
Gorphwysodd gwiw gorph Iesu.
(x159) Pan i’r bedd, oer wedd yr af, - o
alar
Na wylwch am danaf;
Caf ddeffraw yn nwylaw Naf,
I deg fyd adgyfodaf.
Y gronyn o’r gwir Wenith
Hauwyd, planwyd yn ein plith;
Syrthiodd i’r âr, a bu farw,
Egino wnaeth, daeth yn dŵ:
I’w ydle yn addfedlawn
Mae’n dwyn ei ffrwyth yn llwyth llawn.
O’i waith fe ddaw’n doreithfawr, - i’m Iesu,
Dyma’r maes yn gnydfawr;
O ŷd irlwys daearlawr
Gwn y med Gynnaua’mawr:
Miliynau’n dorfau dirfawr
Yw cynnyrch llennyrch y llawr: -
O blith y gwenith gwynwawr,
Rawn nef, ceir yr efrau’n awr.
O dir a môr y daw’r meirwon,
Lu di-rif ar alwad yr Ion:
Geilwad nef, ei glywed wnant,
O’r clai y meirw a’i clywant:
Daw cyrph pob rhyw wlad ac oes
Ar unwaith i wir einioes:
Plant Addaf a gaf i gyd, ridd,
Torf eang, mewn tirf fywyd;
Wele ’i hil a’i wehelyth
I gyd mewn bywyd am byth,
Heb rif, oll yn feib yr Ion,
Lu yngwawl, ail angylion.(= Luc xx. 36.)
Aneirif eu rhif mawr hwy, - dirif ŷnt,
Aneirif ydynt ac anrhifadwy;
Myrdd myrddiwn, mil milwn, mwy; - dirif ^ynt,
Aneiri’iawn ydynt annirnadwy:
Ail i’r dail ar lawr dolydd
Ar daen, pan fo byrra’r dydd,
Neu ail i bluennau ôd
Eiry tew; - ail i’r tywod;
Ail i’r gwlith o leuer glân,
Aneirif ddafhau arian;
Ail gwellt mad glwysfad glas-Fai,
Ail i gan mil egin Mai.
Ni bydd baban, addwan ŵr,
Anheinif wrach na henwr:
Ni bydd na mud, na byddar,
Na deillion, na gwirion gwâr (= Idiot)
Na lloerig yn ffyrnigaw,
Na llwm o na throed na llaw:
Llestri perffaith waith weithian
I ddal pwys dïal o dân,
I ddal haf trag’wyddol hedd,
Ac i gynnal gogonedd.
Hagr deulu gwŷr y diluw
I’w barnu dônt ger bron Duw;
A marwol fôr Gomorrah
Fry’n awr bwrw ei feirw a wna:
O’r Môr Coch, dan wyllt ochi,
O waelod lleithdod y lli,
Daw Pharaoh dan udo’n awr,
Och a’i deil uwch y dulawr.
Daw Dathan; a doi dithau,
Mewn gloes, Abiram, yn glau
Drwy enau daear annwn
I dywydd hagr y dydd hwn.
O dir pydredd daw’r Padrieirch
Yn llu byw heddyw o’u heirch;
Abra’m, Isaac, a Jaco’;
Lu gras, o’u gwelyau gro,
O drangc yn deulu di-ri’,
A therwyn lu’r merthyri;
Stephan sy lamp na’s diffydd,
A Cyprian yn seirian sydd,
Gwelaf Cranmer mal seren
Ail i haul, a Ridley hen:
Mir yw eu gwedd, Oh mor gain!
A’u brodyr, hen Saint Brydain;
Bydd Bran, bydd Brychan ein bro,
Mewn hoen, a Garmon yno:
Gwynion fydd mewn gogoniant
Beuno a Thyssilio Sant;
O’i dŷ daear daw Dewi,
Tywynna ’i wedd, ein Sant ni.
Daw’n Morgan wâr, a’n Parri – o’r cleibridd,
O glwm iselbridd, a Gwilym Sal’bri,
A’n Rhisiart sy yn eu rhesi, - Prys fawrlles,
Anwylber eres, yn ail berori.
Mair rasol, mam yr Iesu, - ac Anna,
Ceinwych maent yn t’wynnu;
Eliza gain, a Lois gu, - mor delaid,
A Sarah’n gannaid, mal ser yn gwenu.
Oh ! daccw mam bach! mae’n iach mewn hwyl;
Oh! a dyna fy nhad anwyl!
Henffych, addien rïeni,
O bell, henffych well i chwi!
Mor eirian ŷch, mor araul!
Eich dau mor olau a’r haul!
Yn ddwys ynglynn Bacha ddu
Yr hauasoch i’r Iesu;
Yia awr cewch fedi mewn hedd
Gwir felus ffrwyth gorfoledd.
Pa olwg! pwy a welaf!
Fy Nuw! fy Mhrynwr! fy Naf!
Aruthred weled ei wedd.
Drwy arswyd ar ei orsedd;
Mal tân ar y owmmwl têr
Yw gwelediad ei gloywder:
Cadam Orseddfaingc barn y byd,
Cyfiawn Orseddfaingc hefyd;
Dilysiant frawdle Iesu; -
Yr Ynad yw’n Ceidwid cu.
Enfys dân sydd am dani,
Enfys o’i chylch ogylch hi,
Draw’n cynneu’n sardin ceinwych,
Sardonyx ac onyx gwych;
(x160) Beryl têr
o burliw tân,
Pur eres iasper eirian;
Ys odiaeth dopaz ydyw,
Hardd saphir, aur Ophir yw.
Cryma’th ben., O f’Awen fau,
Diosg wedy’n d’esgidiau;
Dwyfol, sancteiddiol yw’r tir
A’i sang gennyt a sengir;
Ymbwylla, sobreiddia’n brudd
(Dir wybod) dan dy rybudd;
Boed wâr, boed wylgar dy wedd
Drwy arswyd Ior a’i orsedd.
Crist mad, ein Ceidwad cadarn
Y sydd heb ail ar sedd barn;
Yr un Gwr hwn a garaf,
A’i borth yn gymhorth a gaf:
Cu yw im’, - Ecce Homo!
Duw cuaf im’, - Daccw fo!
Ei wisg sy laeswisg lwyswawr,
Gannaid, ogonald ei gwawr;
Pur ermin barn sydd arni,
Ermin hardd ar ei min hi;
Gwregys glwys cymmwys yn cau,
Melynaur am ei lawynau:
Ys ei wallt a’i ben sy wyn,
Claearch na’r eiry clirwyn.
Dwyfol, ragorol gywrain
Y drych, lle bu gynt y drain!
Oh! ’i enau gwych! y mae’n go’
’R diwrnod y poerwyd
Ond cledd dialedd Duw Ion
Pair ddial poer Iuddewon:
Daccw rudd cusan Suddas,
Y man lle bu’r cusan cas;
Cas oedd y poer oer i’w ran,
Casach ganwaith y cusan:
Gwel, atgas Suddas, heddyw,
(Gwae’r dydd) dy Farnydd yn fyw:
D’arian a’th gusan a gânt
Heddyw daliad eu haeddiant.
Ei lygaid cannaid sy’n cynnau,
Tywynaidd ŷnt, - mellt yn y ddau:
Gynt wylai’r rhai’n, truain eu trem,
Eu gras wylai dros Gaersalem.
Duw Ion, ond Brawd yw inni,
O’r un gwaed a wnaed â ni;
Dyn yw’n un â Duw’n Ion Naf,
Araul wedd yr ail Addaf:
Iachawdwr o’n hâch ydyw,
Barnwr a Chyfryngwr yw
O urddas Iesu grasawl!
Ofnadwy a mwy na’n mawl:
A chyfiawn y’i dyrchafwyd
A deau law Duw Lwyd:
Bri teg o wobrwy Tad
Yw ei swydd a’i orseddiad.
Henffych, fy Mhôr, Cynor cu! wyt agaws,
Ti Ion, heb wyrnaws ydwyt i’n barnu,
Yr unig Wr wy’n ei garu – ’n hollawl,
Ti fy newisawl, Ti fy Nuw Iesu.
O gylch ei sedd fawreddawl,
Ei sedd wen, ei orsedd wawl,
Gweini mae engyl gwiwnef
I farn Ion yn lifrai nef:
Ail i fodd nefawl fyddin,
Ail rhengciau cattrodau trin;
Miliynfawr lu mal enfys,
Heirdd gattrodau llengau’r llys,
Ysgogant mewn rhagwant rhydd
Drwy daeniad aur adenydd;
Dygain a mad ugain mil
Ceinmyg ddeg ugain canmil:
Têr gant (= circle) a ffurfiant ar gylch
Trwy argae to’r awyrgylch:
Nefolwych eu llewych llawg, (= intense)
Mad lewych symmudliawg.
Dygir heb rif, daw ger bron,
Yngolwg, gan angylion,
I’r un man yr un munyd,
Holl feirwon a bywion byd:
Gwŷr heb rif, mal môr ger bron,
Myrddiynau, môr o ddynion!
A nifer llawnder y llu
Ddidolir yn ddau deulu;
Teulu’r ne’ ar y ddeau
A geir, ar yr aswy’r gau:
Gwenfawr ddïadell gwynfyd
Gaf ar gael, a’r geifr i gyd;
Ys ’e geir yr us i gyd;
A’r sanctaidd beraidd buryd.
Pa le y bydd lle a llawr,
Lle i dorf y llu dirfawr?
A sai’r byd ar
Ger
Awen fad, hygaradwy,
Am hyn nac ymofyn mwy;
Y llaw dau ar d’ enau dod,
Tybiaf nad iawn it’wybod.
Wele’r Ior yn agoryd
Coflyfrau beiau y byd,
Pob cred a phob gweithred gau,
A’r hyn oedd o rinweddau:
Yna llydain y lledir
Heb un twyll uwch ben y tir
Ddalennau y llyfrau llawn,
Pob llyfr, pob coflyfr cyflawn,
Coflyfrau beiau bywyd,
Llyfrau cydwybodau’r byd.
Holl ysgrifen felltennawl
Y llenni gwych sy’n llawn gwawl;
(x161) Llewyrch y fam sydd arnynt,
Cynneu o dân, cannaid ŷnt!
Gwel y dorf, trwy’r gwawl dirfawr,
Bob un, ei hanes bob awr,
Eu portreiad ofnadwy,
Eu cyngaws a’u hachaws hwy:
Gwel pob un drosto ’i hunan
Feiau ri’ myrdd, fawr a mân;
Yn drywel y gwel pob gwr
Iawn, ac aflan, ei gyflwr;
Yr holl dorf a’r llu dirfawr
Ynghanol y fantol fawr;
Yr adyn gau, a’r dyn gwir,
Yn glir iawn a gloriennir.
Gwelaf ddynion gwelwon eu gwedd
Yma’n delwi mewn dialedd;
Edrychant, gwelant y Gwr,
Y Pôr aawyl, y Prynwr,
Yn nydd gras a lysasant,
A glasu, ’sgyrnygu wnant:
Y damniol lu condemniant - eu hunain,
Dan w’yn yn wbain i dân wynebant.
Wele’r cof yn gwallgofi; -
Yn nhryblith melldith y mae;
A’r gydwybod yn codi
Fel arth yn y gwarth a’r gwae!
Clywat Bilat mewn clwyf heb eli,
Gwyw ei anadl, yn gwaeo’i eni;
’E gŵyd uchenaid gwawd a chyni,
Cael ochain rhagor, - Clywch e’n rhegi
Irad cyni Herod ac Annas,
Cableddau sy yn eu genau gwynias;
I’r trueni soddi mae Suddas
I ffwrn Herod yn uffern eirias.
O g’wilydd! Paine ysgeler
Yn ufel tân, a Voltaire:
Dwyfol fâr a deifiawl fin - poeth losgfa,
Heb os, ys ysa Hobbes a Sosin.
Chwiliant am le i ochelyd
Trem cerydd Barnydd y byd;
Clywch eu hoerlef ddolefol;
A’u nâd am y bedd yn ol:
Taer grefant ar i’r ddaear ddu
Trwy ufel wangc eu traflyngcu,
Rhag toster y digter du,
Gorysawl ddig yr Iesu;
Llid yr Oen yw’r boen ddi-baid,
Dig yr Oen - dagr eu henaid.
Terwynion fyllt taranau
O gylch y Barnwr sy’n gwau;
Cwmmwl gorddu sy’n pardduaw
Llwybrau a drych yr holl wybr draw:
Mae gosteg, oes, adeg syn
Ofnadwy, am funudyn: -
Yn awr ys o enau’r Iesa
Daw geiriau’r ddybryd ddedryd ddu: -
“Ewch oll, felldigedigion,
Ym mrawd oddi ger fy mron;
Drwg ŷch, a gweithredwyr gau,
Ewch i dân a chadwynau.”
Amen! ebe nen y nef
Trwy gannaid dyrau gwiwnef;
Amen! ettyb Gehenna
Gan ofn, - a llewygu wna.
Egyr uffern, hagr aphwys,
Gynneu dân, ei genau dwys;
Genau du o gynneu dân,
Un dieflig, un du, aflan;
Danheddog, ysgythrog yw,
Arswydol eirias ydyw;
Du eirias hyll yw’r drws hwn,
Gwenwynig enau Annwn:
A’r llu damniol, heb olwch,
A lwngc ar un traflwugc trwch:
Gwawchiant hwy âg ochain tost,
Chwerw odiaeth eu gwawch rydost;
Oh! ’u hysgrech! iasog yw’r waedd,
Iasawg rochwyllt ysgrechwaedd.
Heb barch gan engyl ein Por - hwy dröwyd
Tu draw i’r gagendor;
Ac i’r hwn a gano’r Ior,
Llaw egwan pwy all agor?
O’u pwll hyll erchyll archwa
A chwyth yn frwmstanaidd chwa;
A’u nad o bell yn udo
Daw i’r glust trwy y dur glo:
Och eu halaeth clywch, a’u hwylo - dibaid,
Dan wŷn y diawliaid yno’n eu dulio:
A chrïaw gwnant gan chwerw gno – ufferngwn,
A gwaeau Annwn yn eu cigweinio.
Gwraidd f’enaid sy’n griddfannu
Rhag d’ofn, uffern ddofn, ffwrn ddu;
Er Crist mwyn na byddwy’n bod,
Oh! boeth Annwn, byth ynod:
Duw, gwared f’enaid gwirion,
A’m had, rhag y wenfflam hon!
Ar hyn Iesu gwyn ar g’oedd
Nifer daear a nefoedd,
Barna ’i saint, heb wyrnaws, oll
Drwy deg uniawnder digoll:
Nid rhith barn ydyw’r fam a fydd,
Goeliaf, i neb mwy na’u gilydd;
O’r nef, mal i’r digrefydd,
I’r duwiol barn farnol fydd:
Daw’r oll o’u da ac o’u drwg,
Daw o’r gwaelod i’r golwg:
Llawn y daw llenni duon
Eu llwgr heb rif oll ger bron;
Wele, dwyfol law Dofydd
Biliau’r nef o’u blaen a rydd;
(x162) Biliau eu beiau bob un,
A gwarth pob pechod gwrthun.
Dyrcha’n awr, edrych yn nes
Yn awr, fy Awen eres; -
Gwel linell, llinell o waed,
Lliw gwych llinell o gochwaed;
Llinell waed, haeddwaed, yw hi;
A’i llun ar draws y llenni:
Gwaed y Groes ddarfu groesi
Ar draws, feiau mawr di-ri’;
Crist draw a’i ddwy law ar led
Dalodd ei hun eu dyled :
O’i fodd ’e rodd ei ruddwaed
Ac Iawn yn gyflawn a gaed;
A dodwyd en glodadwy
O ddawn y Tad iddynt hwy;
Derbyniodd, cym’rodd Duw cu
Y prid hwn i’w pardynu;
Dawn hael y pardwn hylawn
Drwy ryfedd rinwedd yr iawn,
I’w dwylaw oll rhoes Duw Lwyd,
A ’nhwy a gyfiawnhawyd.
Dyrchwch waedd, wi! lwyswaedd lon,
Rhoddwyd y saint yn rhyddion!
I gyd dïeuog ydynt,
Caf yn awr mai cyfion ŷnt.
Wi! weithiau, hoian! ha! ha!
Wi lawen Haleluiah!
Cenwch, Angylion ceinwawl,
I Dduw’r farn - haeddai wir fawl;
Trwmpedwch, udgenwch gân,
Sain honno synno Anian;
Bloeddiwch a chenwch, ha! ha!
A chwi seiniwch Hosanna!
Caer wen y nef crynu wna - gan grechwen
Swn alaw lawen sain Haleluia!
Mae ‘r Barnydd ar lefaru;
Hust, angylaidd lwysaidd lu:
“Deuwch, fenigedigion
Blant fy Nhad o rad yr Ion,
I nef ynghŷd yn fy nghol,
I deyrnasu draw’n oesol;
Eich sedd lachar sydd barod
Gan y Duw Rhên cyn gwneud rhod.”
Dyna ’i ber lafar; ac ar y geiriau
’E ddaw’r angylion yn ddwy reng olau,
Yn chwifio’n arial eu chwai lanerau,
Côr hedd, adeiniog, â phob cerdd dannau.
Miwsig angylaidd, trydanaidd donau,
Psaltring, a nabl, a pharabl offerau,
Terwymp eidiawl, a seiniad trwmpedau,
Yn ewybr hoenus, nes cryn wybrenau;
A daccw’r cyfwng sy rhwng eu rhengau
Yn brif-ffordd wybrawl, awyrawl loriau,
Lle heol lydan i’r holl aelodau,
Plant Duw trugaredd, santwedd Seintiau,
I esgyn uwch ben drwy’r ffurfafennau,
O fro cur trafael fry i’w cartrefau.
O gwel hwy’n esgyn mewn gwawl wisgi,
Dirif iawn. araul, yn dorf aneiri’,
Mirain, gwymp, unol, mawr iawn gwmpeini,
Llu cywir anwyl, oll i’w coroni;
Rhai wedi ennill gan Dduw’r daioni,
Trwy redeg addas, trwy rad a gweddi,
Gamp yr uchelfraint, harddfraint urddfri,
Ym mywyd ac einioes, ym myd y cyni,
Er gwaetha’r Gelyn, a’i d’yn gadwyni,
Er abwyd ei wagedd, er byd a’i wegi:
Clywaf hwy’n diolch, wedi eu llwyr olchi
Yn dra gwynion oddiwrth eu drygioni,
O ’wyllys calon a llais i’w Celi,
Am hael gariad a rhad ei Fawrhydi:
A minnau‘n gerddor yn cyd-berori,
Yn un o honynt, mewn Awen heini,
I’n Ion, o gariad; a’r ne’n agori,
Hoff wyrth! ar unwaith ei phorth aur inni.
O llyma ogoninant! lle mae gweini
I Dduw, gwel’d ei fawredd, a’i glodfori
Gyd â’r saint mewn braint a bri – tragywydd
Mirawg lawenydd ym mro goleuni.
Sumbolau arbennig ŷ ŵ
Adolygiadau
diweddaraf: 10 07 2000
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n
ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the
“CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu
les estadístiques / View My Stats