1353k Ewÿllÿs Shon Morgan. Glynfab. Gwn, gwn, fy merch fach i; yr y’ch chwi, Mary, wedi profi eich hunan yn ferch i mi mewn gwirionedd. Duw a’ch llwyddo.

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_047_ewyllys_shon_morgan_1353k.htm

0001 Yr Hafan Google: kimkat0001

..........1863k Y Fynedfa yn Gymraeg Google: kimkat1863k

....................0009k Y Barthlen Google: kimkat0009k

..............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai Google: kimkat0960k

........................................y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111

..

 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

Ewyllys Shon Morgan
Glynfab (?1918)

 

0285_map_cymru_trefynwy_061117
 
(delwedd 0285)

 

 

·····

Dangosir y tudalennau gwreiddiol felly: (x2), (x30), ayyb

(x1)
EWYLLYS SHON MORGAN
COMEDI FER MEWN DWY OLYGFA
GAN GLYNFAB
CAERFYDDIN: W. M. EVANS A’I FAB, SWYDDFA “SEREN CYMRU”
Pris Naw Ceiniog


(x2) -

(x3)
CYMERIADAU.

SHON MORGAN (Datta, oddeutu 70 oed).
DAFYDD MORGAN (Mab Shon: Ysgrifwas).
MARY MORGAN (Gwraig DAFYDD).
JOHN JONES (Glowr: Mab-yn-ngyfraith Shon).
MISS REES.
MISS WILLIAMS.

D.-(Llaw Dde). C.-(Canol). CH.-(Llaw Chwith).


(x4)
Rhaid cael caniatad i chwarae'r ddrama hon.


Anfoner ceisiadau at y Cyhoeddwyr.

 

Dalier Sylw. Gellir cael caniatad i Berfformio y Ddrama hon am gydnabyddiaeth (fee) isel.


Ymofyner a’r Cyhoeddwyr yn unig.

W. M. EVANS A’I FAB, CYHOEDDWYR, CAERFYDDIN.

(x5)
Ewyllys Shon Morgan

GOLYGFA 1.

(Ystafell yn nhy Dafydd Morgan. Amser tê. Mary Morgan yn gosod y bwrdd. Shon yn eistedd mewn cadair freichiau yn y gongl ger y tân (D). Drws ar y chwith yn arwain i'r neuadd lle mae drws y ffrynt).

SHON: Ma Dafydd ar ol ei amser heno, Mary.

MARY: Odi, Datta bach, ond fydd ef ddim yn hir iawn. Y mae cymaint o’r hyn y ma’r Sais yn alw “extra work” yn gorphwys arno y dyddiau presennol. Smociwch Datta, fe fydd y tê yn barod mewn eiliad. Ust, dyma Dafydd yn dod.

(Dafydd yn dod i mewn). (CH).

Fe ddaethoch cyn pryd heddyw, Deio, ymolchwch a thrwsiwch eich hunan, y mae Morgan ar y tân, ac wedi dechreu canu.

(Dafydd yn ymneillduo (D), Mary yn codi’r tegell, etc.).
(x6)

SHON: A ydw i yn y ffordd, Mary?

MARY (yn garuaidd): Yn y’n ffordd i? Datta anwyl! Nac ydych; chwi bia’r cornal - ie, chwi sydd i gael y lle goreu yn y tŷ hwn. Yn fy ffordd yn wir (yn chwerthin).


(Dafydd yn dyfod i mewn). (D).

DAFYDD: Wel, Datta, sut i chi’n teimlo heddyw?

SHON: Symol, oni bai am y lumbago a rheumatis yma (yn rhwbio ei goes).

DAFYDD: “Old age does not come by itself,” Datta bach. Nid roccyn i chi ’nawr cofiwch (yn cymeryd ei sedd wrth y bwrdd). (Canol yr ystafell).

MARY: Treiwch godi, Datta, i mi gael symud eich stol at y bwrdd (yn gwneud). Cydiwch yn fy mraich i, nawr dowch ymlaen (yn ei osod i eistedd). Fe gewch gwpanaid o de, Datta, i’ch cynesu, a fe fyddwch fel crwt ugain oed. (Shon yn siglo’i ben). Druan o Datta bach.

(Pawb yn bwyta. Mary yn ofalus i roddi’r danteithion i Datta).

DAFYDD: Fuoch chi allan o gwbl, Datta?

SHON: Am dro bach. Dw i ddim yn hoffi rhoi trwbwl i neb; ’dyw Mary ddim yn cael chwareu teg i lanhau’r tŷ, a minnau - hen grippil fel w i - yn y cornel.
(x7)

MARY: Datta! Nawr, peidiwch chwi a dweyd pethau fel yna eto. Mae’r lle goreu, y pethau goreu, a bwyd goreu, i fod i chwi tra byddo i byw. O odi. (Yn arllwys dwr i’r tepot).

SHON: Gwn, gwn, fy merch fach i; yr y’ch chwi, Mary, wedi profi eich hunan yn ferch i mi mewn gwirionedd. Duw a’ch llwyddo. Am fy merch fy hunan - Bessie, - wel, goreu po leiaf ddywedir am dani. (Yn syllu yn drist o’i flaen).

MARY: Rhagor o hufen ar eich tê, Datta bach, peidiwch a gadael i Bessie, a’r “common low fellow” briododd hi, dryblu dim ar eich meddwl.

DAFYDD: Ble buoch y boreu, Datta?

SHON: Fe es am dro i office Mr. Evans, y cyfreithiwr.


(Dafydd a Mary yn syllu ar eu gilydd yn syn).

DAFYDD: Oh, oh! (yn chwerthin). Beth oedd gan Shon Morgan i’w wneud â chyfreithiwr, dwedwch.

MARY: O, Datta, chwi fuoch yn sly (yn chwerthin). Cymerwch fara ymenyn.

SHON: Wel, fe es yno er mwyn gwneud fy ewyllys. Fe ddaw Mr. Evans a hi yma heno. Rw’ i am ymadael a’r byd, A phob peth wedi ei drefnu yn rheolaidd, ac yna pan daw yr “alwad”.

MARY: Hush, Datta, peidiwch son am ymadael:
(x8) alla i ddim meddwl am wel’d eich stol yn wâg, alla i ddim - (yn sychu ei llygaid â’i chadach).

DAFYDD: Mary, arferwch dipyn o synwyr.

SHON: Mary anwyl, peidiwch wylo: ’dyw gwneud ewyllys ddim yn golygu fod yn rhaid i mi farw.

DAFYDD: Nac ydyw, nac ydyw, Datta bach. O frenin bydd fyw byth.

SHON: ’Does dim eisiau i chwi ofidio, fe wnes bob peth yn iawn. Gadewais yr oll i chwi eich dau.

MARY: Datta, dw i ddim am glywed, - na, rw i wedi gofalu am danoch fel pe buasech dad i mi. Odw - a fe wna hynny eto heb ddisgwyl dimau-goch: llafur cariad ydoedd, a llafur cariad yw e nawr, a llafur cariad fydd e’ yn y dyfodol.

SHON: Mary, yr ydych wedi gwneud eich rhan, a gobeithio y bydd i’r hyn wnes i heddyw brofi yn ad-daliad bychan. Fe gewch wel’d, pan ddaw’r Ewyllys, fy mod wedi gadael y cyfan i chwi, rywbeth fel wyth cant o bunau. ’Rwyf wedi gorchymyn i Mr. Evans roddi yr ewyllys i’ch gofal personol chwi.

(Mary yn syllu mewn syndod i lygaid ei gwr).

MARY: Dw i ddim yn foddlon fod Bessie yn cael ei gadael allan o’r ewyllys, Datta, - ond dyna, fe ofala i am dani hi, - druan. Rhagor o “Welsh cakes”
(x9) Mrs. Thomas, Datta? Dim rhagor? Wel, trowch at y tân, a dyma gwarter o facco Ringer i chwi i gael “real enjoyment.” (Shon yn codi). Cydiwch yn fy mraich i, Datta bach. Dyna fe. (Shon yn eistedd yn ei gongl). Now Rest in Peace.

DAFYDD (o’r neilldu): Mary: rhaid i mi fynd yn ol i’r office am awr


(yn myned i ymofyn ei gôt fawr a’i hat: (CH) yn dod yn ol. (CH). Mary yn brysio i glirio’r bwrdd).


Galwaf yn office Mr. Evans.

MARY: Datta, mae Dafydd yn gorfod myn’d yn ol i’r office am awr, a rhaid i minnau dalu ymweliad â’r shop, Fe ofalwch am danoch eich hun.


(Mary yn gwisgo ei hat)
, (Yn syllu yn y drych sydd uwchben y lle tân).

SHON: Gwnaf, gwnaf.


(Dafydd a Mary yn myn’d allan). (CH).

MARY: Dafydd anwyl. Dyna beth oedd Santa Claus ship - wyth cant i (Yn cau y drws).


(Shon yn codi ac yn myned at y ffenestr (c); y pared ar gyfer yr edrychwyr, i syllu ar ol y ddau).

SHON: Dyna ddau mor hapus â’r gôg; wel, yr wyf wedi gwneud fy rhan. Beth? (yn syllu yn bryderus o’i amgylch). Glywais i ryw un yn dwayd – Bessie.
(x10) Dyna fe eto! (yn agor y drws) (c). Na; ’does neb yna (yn myn’d i’w sedd). Bessie, ie, Bessie! Ond fe ofala Mary am dani hi, - dyna ddywedodd hi.

Diwedd yr Olygfa Gyntaf.

(LLEN).

GOLYFGA 2.
(Yr un ystafell yn mhen chwe’ mis. Shon yn ei sedd arferol ger y tân, a bwrdd bycban crwn yn agos iddo. Mary yn brysur barotoi y bwrdd, yn disgwyl ymwelwyr; yn gosod y tegell ar y tân; yn taro yn erbyn Shon Morgan).

MARY (yn sarug): Yn enw pobpeth, Datta, fe fydd arnoch eisiau yr ystafell i gyd i’ch hunan cyn bo hir. Dyma’r ail dro y bum i bron syrthio ar fy mhen i’r tân.

SHON (yn addfwyn): Mae’n ddrwg gen i, Mary, ond mae’r hen goesau yma bron mynd yn ddiffrwyth.

MARY: Diffrwyth yn wir, cystal i fi ganu cloch, er mwyn i chwi gael amser i dynu’ch traed i mewn.
(x11) (Yn brysio at y ffenestr), (c). Dyma Miss Williams yn dod (yn rhedeg i agor y drws). (CH). “Take your things off.” Ble mae Miss Rees? Dewch i mewn (yn ei chusanu). O dyma hi’n dod. Dewch i mewn, darling. (CH).

(Miss Rees yn canfod Shon Morgan. Yn myned ato).

MISS REES: Cystal i mi siglo llaw â Mr. Morgan.

MARY: Na hidiwch, he’s a bit of a nuisance - you know - girls. Dw i ddim yn gwybod i ba ddiben y mae hen bobl yn cael caniatad i fyw.


(Miss REES yn dynesu at Shon).

MARY: “Leave sleeping dogs lie,” ferched. Ond os oes rhaid i chwi -.

MISS REES: Sut ydych chwi, Mr. Morgan? Mae mamma yn danfon ei chofion cynes atoch.

SHON: Mae’r hen gymalau yma fel astyllod; mae yn bryd i mi fyn’d o’r byd. Aroswch, Blodwen fach ydych chwi?

MISS REES: Ie, Mr. Morgan.

MARY: Dowch, Miss Rees, come my dear, he is not a very interesting object now.

SHON: Cofiwch fi at eich mamma, Blodwen,

MARY: Twt, twt, dowch yn mlaen, Blodwen.
(x12)

MISS REES: ’Dyw Mr. Morgan ddim yn cael tê, Mary?

MARY: Ridiculous. Na, fe gaiff dê ar y ford fach round; y mae fel babi wrth y bwrdd.

(Y tair yn cychwyn i fwynhau y tê, etc.)

MARY: Dowch ferched - enjoy yourselves. H’m glywsoch chwi’r latest?

MISS REES: Am Liza Penrhiw - yr hen garan, we’ eishe gwr arni.

MISS WILLIAMS: Wedd yn wir.

MISS REES: Yr oedd eisiau gwraig ar yr hen Dwm Tanlan hefyd. Dyn a’i helpo! All Liza wneyd dim ond chwareu piano.

MARY; Adar o’r un lliw ehedant i’r un lle. Y prif beth mai Twm Tanlan yn allu ei wneyd yw “chwythu ei gorn” ei hun. Glywsoch chwi am Liza, yn cookio’r pysgod?

MISS REES.: Naddo’n wir. Beth am hynny?

MARY:
Good story girls ar fy nghair. Mynte Nannie, mam Liza, wrthi un diwrnod, “Liza, cofiwch olchi’r pysgod cyn eu dodi yn y “perfection stove.” “Golchi pysgod!” mynte Liza, “ mam fach, there is no need to wash fish, they have been in the water all their lives.” (x13)

(Miss Rees a Miss Williams yn chwerthin yn iachus. Dafydd yn dod i mewn . . . . )

DAFYDD: Prydnawn da, ladies. Halo! Dyw Datts ddim yn cael tê?

MARY:
Afternoon tea yw hwn: ’dyw Datta ddim am ei dê cyn yr amser arferol. Gadewch iddo, y mae wrth ei fodd. Eisteddwch.

(Dafydd yn gosod ei got fawr a’i hat i hongian wrth gefn y drws - yn eistedd. Y merched yn parhau i chwerthin).

DAFYDD:
What’s the joke, ladies?

MARY: O, dweyd stori Liza Penrhiw a’r scadan wnes i.

DAFYDD: Mae stori arall ar led drwy’r pentre.

MISS REES: Dwedwch hi, yn wir.

DAFYDD: Chwi wyddoch fod digon o “dwtch” gwrboneddig yn Twm Tanlan. Fe ddwedodd wrth Liza un noson “
Liza, darling, you must understand that I like my potatoes boiled in their jackets.” Ar ol cyrraedd gartref i Benrhiw, fe ddwedodd Liza y genadwri wrth Nannie. “O, wela i,” mynte Nannie, “cystal i ti roi’r sack iddo, os yw Twm Tanlan yn disgwyl i ti wau “jumper” i bob taten,” (Chwerthin mawr).

MISS WILLIAMS: Fe glywais fod Liza yn treio cael dipyn
(x14) o brofiad mewn cadw tŷ - experience in housekeeping.

MARY: Ydi mae hi. Fe aeth i siop y bwtcher newydd i ordro cig. “
Let me have two pounds of steak, please, and kindly send it to Penrhiw in time for lunch.” “Thank you, mum,” mynta’r bwtchwr. “Anything else, mum!” “H’m,” mynta Liza, “perhaps you better send two of gravy too.” (Pawb yn chwerthin).

SHON,: (Yn troi yn ei gadair-fraich). Da mhlant i, gadewch Liza Penrhiw yn llonydd.

MARY; Twt, twt,
take no notice of an old fogey like Datta. (Yn annog y merched i fwytta).

DAFYDD: Dyw Liza ddim gronyn gwaeth na’r Saesnes ’na briododd Will, mab Marged Pensteps.

Y LLEILL: Beth am dani, Aw, dwedwch.

DAFYDD: Fe ddechreuodd ffeedo’r mochyn a “
Self Raising Flour” - fe gododd y mochyn o’r twlc gyda’r gwynt, ac off ag e’ fel baloon. Mae Will yn danfon llythyr bob dydd at yr “Air Force Committee” yn Llundain i holi hanes y mochyn.

SHON: Gwagedd o wagedd medd y pregethwr, gwagedd yw’r cwbl.

MARY. (Yn chwerw). Da chwi, smociwch, Datta.
(x15)

SHONI: Dyna fydd oreu efallai er mwyn puro’r awyr.

MISS REES: Wel, rhaid meddwl am fynd. Dim ond dau bractice gaiff ein côr ni cyn Eisteddfod Saron. (Y tê drosodd - Miss Williams a Miss Rees yn parotoi i ymadael. Dafydd a Mary yn eu hebrwng).

DAFYDD: Mae Ianto Ty-Draw yn cystadlu ar y Solo Tenor. Fe berswadiodd Ned y postman Ianto fod “canary seed” yn beth da i’r llais, mai dyna’r rheswm mae’r canary y fath gantwr. Fe ddwedodd Lewis, y Chemist, fod Ianto wedi prynu pedwar pound o canary seed eisoes.

MISS WILLIAMS: Wag yw Lewis – peidiwch credu haner yr hyn ddywed.

DAFYDD: Mae Peggy, gwraig Ianto, medde nhw, yn gwneyd pwdin o’r canary seed, ac yr oedd Ianto yn taro Dwbl C fel cloch nos Lun.

MARY: Datta, fe ddown yn ol yn mhen awr, a chwi a gewch dê ar y ford fach.


(Y pedwar yn myned allan (CH). Shon yn myned i syllu drwy’r ffenestr (C). Yn myned yn ol i’w sedd).

SHON: Yn mhen awr; te ar y ford round; a beth
(x16) glywais i Mary yn ddweyd - a nuisance, a lumber. Y mae wedi cyfnewid - braidd nad oes chwant arnaf ddweyd fol yr Hen Simeon – “Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd.” {NODYN: Luc 2:29} Dyma rywun yn dod. (Curo). Dewch i mewn.


(Dyn ieuanc o wisgiad hardd yn dyfod i mewn) (CH).

SHON: Prydnawn da, Syr. Pwy ga i ddweyd ydych chwi?

Y DYN IEUANC: John, gwr Bessie.

SHON: Beth? Pwy? John, gwr Bessie? Eisteddwch, eisteddwch. Ry’ch chi wedi gwisgo yn grand iawn, yr y’ch chi yn fachgen lluniaidd.


(John yn eistedd ar ol siglo llaw (C). Yn pwyso ar y bwrdd).

JOHN: Ie, Mr. Morgan. (Yn gwenu). John, gwr Bessie.

SHON: ’Ron nhw’n dweyd wrtho i mai ryw hanner blaggard oedd gwr Bessie, rhyw Shoni o’r gweithe, yn meddwi, yn tyngu a rhegu yn – yn - (Yn myned i’w sedd ger y tân).

JOHN: Mae “nhw’n” dweyd llawer o bethau, Mr. Morgan, ond dyma fi - John Jones, Head Manager, Pwll Cwmharris, gwr i un o ferched glanaf, anwylaf, a mwyaf darbodus Sir Benfro, Bessie eich merch chwi, Syr.

SHON: Ydych chwi wedi cael tê? Dw i ddim, ond
(x17) aroswch am awr fe ddaw Dafydd a Mary yn ol Mae yma ferched wedi bod yn cael beth ma nhw yn ei alw yn “afternoon tea.”

JOHN: ’Rwyf wedi cael tê, diolch i chwi, Mr. Morgan, ’rwyn aros yn yr Hotel. Nid dyma’r tro cyntaf i Dafydd a Mary yfed tê heb eich cwmni chwi, aie?

SHON: Nage, nage; eitha gwir, y mae pethau wedi cyfnewid oddiar pan y gwnes i --. (Yn tanio ei bibell).

JOHN: Eich ewyllys, onide? ’Rwyn gwybod y cyfan, y Mae gan Bessie a minnau ddigon o arian, ond yr wyf am i Dafydd a Mary gael gwers. Mae’r ewyllys gyda Mary dan glo, y mae yn sicrhau iddynt wyth gant o bunnau pan fyddwch chwi farw. Hyd nes i’r ewyllys gael ei gwneud, yr oedd Mary yn rhoddi’r lle goreu yn y tŷ i chwi. Erbyn heddyw, ’rwyn clywed ei bod yn dweyd eich bod yn “lumber” ac yn “nuisance.”

SHON: Mae’r ewyllys yn ddiogel, yn y drawer, dan glo, o odi, odi.

JOHN: ’Does dim gwahaniaeth, fe fydd yn eich dwylaw chwi yn union, a phan y cewch hi, taflwch hi i’r tân.

SHON: Sut y caf fi yr ewyllys, a hithau dan glo? Dwedwch! Yr ydych yn llefaru mewn dammegion John gwr Bessie. Dy’ch chi ddim yn adnabod Mary gwraig Dafydd. O nac ydych.
Sleeping dogs, - o ie (x18) nuisance, o ie, dim hawl i fyw, a hyn i gyd am fod yr ewyllys yn y drawer o dan glo.

JOHN: Gadewch hyny i mi, a peidiwch dweyd gair.


(Dafydd a Mary yn dyfod i mewn, (CH). Yn synn wrth wel’d y dyn ieuanc. John yn codi).

JOHN: Dydd da.. ’Rwyf wedi dwyn newydd dda i’r hen frawd, Shon Morgan. Mae y shares oedd ganddo yn Mhwll Cwmharris wedi troi allan yn “good investment!” Gwerthwyd hwynt yr wythnos ddiweddaf am bum cant.

MARY: Eisteddwcb, Syr. Pum’ cant! Glywsoch chwi, Datta bach? (John yn eistedd). (C).

SHON: Do, Mary; ond ’doedd ond brith gof gennyf am danynt. ’Rwyf braidd yn sicr nad oes gair o sôn am danynt yn yr ewyllys.

(Mary yn brysio i gyrchu’r ewyllys). (D).

Nac oes, Dafydd, ’rwyf braidd yn sicr, a diolch i chwi Syr, am fod mor garedig a dod â’r newydd.

 

(Mary yn dyfod i mewn â’r ewyllys). (D).

SHON: Gadewch i fi gael golwg arni hi, Mary, ’rwyn gwybod y man i roddi bys arno – os - oes son am y shares.
(x19)


(Mary yn estyn yr ewyllys i Shon).

Mae arnaf ofn nad oes. Y mae dipyn yn dywyll (Shon yn proccio’r tân). Dyna welliant.

MARY: Datta bach, ’does dim eisiau i chwi drafferthu i broccio’r tân, fe ddo i a chanwyll.

SHON (yn parhau i broccio’r tân): Na Mary, fe ffeindia i ffordd i gael goleuni heb gannwyll (yn gwthio’r ewyllys i’r fflamau), Dyna dân, Mary! Dyna, dyna dân, Dafydd! Fe ddywedir yn y Beibl am buro trwy dân, a gobeithio y bydd tanio’r ewyllys yn foddion i’ch tanio chwithau i wneud eich dyledswydd tuag at hen bererin, deg a thri ugain oed, pa un a fyddech yn disgwyl arian ar ei ol ai peidio.

MARY: Datta, Datta! (yn eistedd yn syn (D), ar gyfer Shôn).

JOHN: Rhy ddiweddar, Mrs. Morgan. Y mae yr hen frawd yn dyfod gyda mi heno i gychwyn ei daith i dŷ ei ferch, Bessie. Ei gwr ydwyf fi - Head Manager Pwll Cwmharris. Chwi Mrs. Morgans, wenwynodd feddwl Datta yn erbyn ei unig ferch, chwi hauodd anwireddau am danaf fi. Ni fydd angen i Datta adael yr wyth cant i mi a Bessie, yr ydym, trwy drugaredd Duw, wedi ein breintio â digon. Digon tebyg y bydd i dlodion ein gwlad gael rhan dda o’r wyth cant. Deuwch, Datta, fel yr ydych, cewch dê yn yr Hotel, cewch gysgu yno heno, a nos yfory byddwch yn Cwmharris,
(x20) ar aelwyd merch sydd er ys blynyddau yn hiraethu am eich gweled.


(Distawrwydd tra y symudai Shon dan fraich John i gyfeiriad y drws. Y ddau yn myned allan (CH). Mary a, Dafydd yn mud-syllu),

MARY: Wyth cant!


(John yn ail agor y drws)
. (CH).

JOHN: Os bydd y newydd o un cysur i chwi, derbyniwch ef. Doedd gan Datta DDIM Shares yn Mhwll Cwmharris. Dyma wers i chwi. Cofiwch hyn: - “Gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch.” Nos da.


(Yn myned allan.) (Yn cau y drws ar ei ol. Dafydd a Mary yn mud-synnu.)

[LLEN.]

XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX

(x21)
LLYFRAU.
Cyhoeddedig gan W. M. Evans a’i Fab, Swyddfa “Seren Cymru,” Caerfyrddin.

WELSH DRAMAS.
(1) Y PERL DIADDURN neu “ENW DA.”
Drama Gymraeg Newydd, mewn Tair Act. Gan E. E. HUGHES.
Pris 1s. 6g.; trwy’r post 1s. 8g,
Cymeradwyaeth. “Y mae plot y Ddrama hon yn gywrain a chyffrous. Nid oes foment anniddorol yn yr holl olygfeydd.” –GWILI.

(2) TEULU BRONYGRAIG. DRAMA AR ADDYSG.
Drama Newydd ar Addysg, gan Z. MATHER. Gyda Rhagymadrodd gan SYR ED. ANWYL. Tuedd yr holl Ddrama hon ydyw ein dwyn i garu dysg a goleuni yn hytrach nag anwybodaeth a thwyllwch.
Pris 1s. 6g.; trwy’r post lc. 8c .

(3) DIC SION DAFYDD (RICHARD JONES-DAVIES, ESQ.).
Y Ddrama mwyaf poblogiadd a llwyddiannus yn yr iaith. Gan y Parch. J. TYWI JONES.
Pris 1s. 6g.; trwy’r post lc. 8c

(4) JACK MARTIN, neu BOBL LLANDDERWYDD
Mae y Ddrama hon yn llawn o
humour, ac wedi ei threfnu fel ag i fod yn un o’r chwareuon mwyaf derbyniol. Gan y Parch.. J. TYWI JONES.
Pris 1s. 6g.; trwy’r post lc. 8c

(5) ELUNED GWYN OWEN, neu YR ENETH GOLL.
Credaf y bydd i’r agweddau i fywyd ein gwñlad, drwg a da, a da, Cymreig ac Anghymreig a bortreadir yn y Ddrama hon, yb ddyddorol ac yn adeiladol. Gan y Parch.. J. TYWI JONES.
Pris 1s. 6g.; trwy’r post lc. 8c

(6) “SIOMIANT JAMES HUGHES.”
Drama Gymraeg. Gan D. L. Evans.
Pris 1s; trwy’r post lc. 1c

(x22)
(7) “HELYNT GWARTHEG BRYNCRUG.
Drama Gymraeg Newydd. Gan D. L. Evans.
Pris 1s; trwy’r post lc. 1c

(8) GLOEWACH NEN (A Clearer Sky).
Drama Newydd mewn Tair Act. Gan Glynfab.
Pris 1s. 6d.

(9) TROION YR YRFA
Drama Newydd mewn Tair Act. Gan Glynfab. Pris 1s. 6d; Trwy’r Post, 1s. 8d.

(10) “AI HYD SEITHWAITH?”
Mewn Pedair Golygfa. Gan Glynfab.
Pris 1s. 6d., trwy’r post 1s. 8d.

(11) “WNCL JOHN.”
Comedi Fer mewn Pedair Golygfa. Gan Glynfab.
Pris 9d., trwy’r post 11d.

(12) EWYLLYS SHON MORGAN.
Comedi Fer mewn Dwy Olygfa. Gan Glynfab.
Pris 9d., trwy’r post 11d.

(13) “NI’N DOI.”
Drama Gymraeg Sylfaenedig ar Hanes “Ni’n Doi”.
(Mewn Pedair Act),. Gan Glynfab.
Pris 1s. 6d.; trwy’r post 1s. 8c.

(14) BORE’R CAM DIFRIFOL.
Comedi mewn Un Act. Gan J. Tywi Evans.
Pris 1s., trwy’r post 1s. 2d.

(15) SAMSON A DALILAH.
Drama Ysgrythyrol
(seiliedig ar Barnwyr XVI..), mewn Pump Act. Caneuon a Chydganu yn y Sol-ffa. Gan J. BONFYL DAVIES.
Pris 9c.; trwy’r post 11c.

(16) BORE CYNHYRFUS.
Comedi Gymreig. Comedi ysmala mewn un Act; gan E. E. Hughes.
Pris 9c.; trwy’r post 11c.

(17) Y FERCH O CEFN YDFA.
Drama Gymraeg Newydd, yn awr yn barod. Gan J. BONFYL DAVIES. Treorky.
Pris 1s. 6c., trwy’r post 1s. 8c.

xxxxxxxxxxxxxxxxxxxx

(1) BEDYDD.
Pa fodd y dylid Bedyddio? a Phwy ydynt Ddeiliaid addas Bedydd? gan y diweddar BARCH. J. JONES
(MATHETES), wedi ei ddiwygio a’i helaethu gan y Parch. Abel J. Parry, D.D.
Pris 1s. 6c., trwy’r post 1s. 8c.

(2) Y BEDYDD EFENGYLAIDD.
Traethawd Rhyddfrydig ar y Bedydd Efengylaidd yn ol y Testament Newydd, gan y Parch D. M. Williams, Rhondda.
Pris 1s.

(x23)
LLYFRAU ADRODDIADOL.

(1) YR ADRODDWR IEUANC.
Yn cynnwys dros Hanner Cant o Ddarluniau Syml a Byrion at Wasanaeth y Plant. Gan Y PARCH. J. TAFIONYDD DAVIES.
Pris 1s.; trwy’r post 1s. 2g.

(2) ADRODDLYFR DIRWESTOL.
Yn cynnwys Dadleuon, Caneuon, a Darnau priodol i’w hadrodd. Gan AWENYDD. DAVIES.
Pris 1s.; trwy’r post 1s. 2c.

(3). Y GWENITH GWYN.
Amcenir i’r llyfr hwn fod at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol a Chyfarfodydd Llenyddol. Gan y Parch. D. OLIVER EDWARDS.
Pris 1s. 3g.; trwy’r post 1s. 5c.

(4) YR ARDD FLODAU.
Un o’r llyfrau goreu i Adroddwr:, &c. Gan yr un Awdwr.
Pris 1s. 3g.; trwy’r post 1s. 5c.

(5) Y PREN AFALAU.
Llyfr yn cynnwys Traethodau, Dadleuon, &c., at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol a’r Cyfarfodydd Blynyddol. Gan yr un Awdwr.
Pris 1s. 3g.; trwy’r post 1s. 5c.

(6) Y DADLEUWR
Yn cynnwys Casgliad o Ddadleuon Digrif a Chrefyddol. Gan y Parch. D. OLIVER EDWARDS.
Pris 1s. 6g.; trwy’r post 1s. 8c.

(7) LLYFR YR ADRODDWR.
Yn cynnwys Casgliad o Adroddiadau, Dadleuon, ac Ymddyddanion. Gan AWENYDD.
Pris 1s. 3g.; trwy’r post 1s. 6c.

(8) YR ADRODDWR DIFYRUS. (The Welsh Comic Reciter.)
Sef Adroddiadau, Dadleuon, Caneuon ac Actau Difyrus.
(English and Welsh.) Gan T. M. MORGAN.
Pris 1s. 4g.; trwy’r post 1s. 6c.

(9) Y DADLEUWR DIFYRUS. (Welsh Comic Dialogues.)
Sef Casgliad o Ddadleuon Difyrus. .
Pris 1s.; trwy’r post 1s. 2c.

(10) YR ADRODDWR DIGRIF.
Welsh and English Comic Recitations.
Price 1s. 2c.; through post 1s. 4c.

(x24)
(11) YSGOL YR ADRODDWR,
ei hanes cyntaf, 82 tud., yn cynnwys Gwersi Yr Adrodd, gyda Darluniau Eglurhaol, gan y Parch. J. Gwrhyd Lewis; Yr Hanes
Olaf, 62 tud., yn cynnwys darnau Adroddiadol gan tua 60 o Bigion Beirdd y Genedl, detholedig gan Cynalaw
Pris 1s. 6c.; trwy'r post 1s. 8c.

(12) YR ADRODDWR YSMALA,
sef Adroddiadau, Dadleuon, Caneuon Difyrus a Ffraeth, cymhwys i Gyfarfodydd Adloniadol a Chystadleuol. Gan D. Luther.
1s. 6g.; trwy'r post 1s. 8c.

(13). Y DADLEUWR YSMALA.
Welsh and English Humorous Sketches. Gan amryw Awdwyr.
Pris 1s. 6g.; trwy'r post 1s. 8c.

(14) DADLEUON BUDDUGOL.
Buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin.
) Yn cynnwys Deg o Ddadleuon at wasanaeth Cyfarfodydd Llenyddol.
Pris 8c.; trwy'r post 9c.

(15) YR ADRODDWR DONIOL.
Casgliad o Adroddiadau a Chaneuon Digrif, allan o Farddoniaeth Telynog. Pris 1s.; trwy'r post 1s. 2c.

(16) Y RHOSYN DIWEDDAF,
sef Darnau Barddonol a Rhyddiaethol, yn gymhwys fel Adroddiadau. Gan Alltud Glyn Maelor
(Awdwr “Y Fodrwy Aur”).
Pris 7c.; trwy'r post 8c.

(17) PERLAU ADRODDWR,
yn cynnwys dros 70 o Ddarnau Adroddiadol. Gan Cynalaw.
Pris 1s.; trwy'r post 1s. 2c.

TRI LLYFR NEWYDD GAN GLYNFAB.
(1) “NI'N DOI.”
Sef Hanes Ysmala DAI a SHONI yn y Rhyfel.
Pris 1s. 6c., trwy’r post 1s. 8c.

(2) “Y PARTIN DWPWL.”
(Ail Lyfr “NI'N DOI.”) Sef Parhad o Hanes DAI a SHONI yn y Rhyfel.
Pris 1s. 6c., trwy’r post 1s. 8c.

(3) “Y TWLL CLOI.”
(3ydd Llyfr “NI'N DOI.”) Sef Rhagor o Hanes Ysmala DAI a SHONI yn y Rhyfel.
Pris 1s. 6c., trwy’r post 1s. 8c.

(x25)
LLYFYRAU DYDDOROL.

(1) EFAIL Y GOF.
Sef Ymddiddanion ar Brif Bynciau’r dydd.
Gan y Parch. D. Oliver Edwards.
Pris 1s. 2c., trwy’r post 1s. 4c.

(2) ESBONIAD YR EPISTOL PAUL AT Y GALATIAID.
Gan. y Parch. John Wesley, M.A. Cyfieithiedig o'r Saesneg.
Pris 6ch.

(3) SWPER YR ARGLWYDD yn ol y Testament Newydd,
gan Mathetes.
Pris 6ch.

(4) GWEITHIAU BARDDONOL TELYNOG.
Yn cynnwys nifer fawr o Bryddestau, Awdlau, Caniadau, Digrif a Gwladgarol, Cywyddau ac Englynion; yn nghydâ Byr Gofiant o'r Awdwr Talentog.
(Y Pedwerydd Argraffiad.) Wedi eu rhwymo yn gyfrol hardd.
Pris 3s. 6ch.

(5) “Y GWIR ANRHYDEDDUS D. LLOYD GEORGE: Ei Hanes o'r Cryd i'r Cyfrin-Gynghor.”
gan y Parch. J. TAFIONYDD DAVIES. Un o’r Llyfrau Rhataf a gyhoeddwyd o'r Wasg Gymreig erioed. Cynwysa 12 o Benodau, 100 o Dudalenau, ac amryw Darleniau. Cyfaddas iawn fel Anrheg i Bobl Ieuaingc.
Pris 9c.; trwy'r post, 11c.

(6) THE RIGHT HON. D. LLOYD GEORGE: The Story of his life.
By REV. J. TAFIONYDD DAVIES.
(English Edition.)
Price 9d., through post 11d.

(7) Y FFRAETHEBWR,
yn Cynnwys Casgliad o Ffraeth-Ddywediadau, Byr-Chwedleuon, &c.
Pris 9c., through post 11c.

(8) HANES Y BEDYDDWYR,
gan y Parch. W. Stokes, Manchester, yn gyfrol hardd, yn nghyda Traethawd ar
”Hanes y Bedyddwyr Cymreig,” gan y Cyfieithydd, y Parch. J. Rowlands, D.D., Llanelli. Ceir crynodeb o Hanes y Bedyddwyr o amser Crist hyd yn bresenol. Ei ddull yw rhoddi eu hanes o ganrif i ganrif.
Pris, 2s. 6ch, ei rwymo miwn llian; gyda'r post 3s.

(9) LLAWLYFR DUWINYDDIAETH,
gan y Parch. John Stock, yn nghyd a Hysbysiad Rhagarweiniol gan y Parch. C. H. Spurgeon. Cyfleithedig gan y Parch. Thos. Nicholas.
Pris gostyngol 3s. 6c.

(x26)
(10) ESBONIAD Y TEULU ar y Testament Newydd
(Argraffiad Nevydd: yn Awr yn Barod, yn gyflawn mewn un Gyfrol), gan y Parch. Thos. Lewis.
Prisiau: Mewn Llian, 7s. 6ch.; Haner Lledr, 10s. 6c.

Cynnwysa yr Argraffiad Newydd ychwanegiad o yn agos i 100 o dudalennau o fater newydd hollol, yr hwn a fydd o'r gwerth mwyaf i holl ddarllenwyr Beiblaidd, a chynnwysa y Gyfrol rhwng 700 ac 800 o dudalenau, ac mae yn un o'r Gweithiau Rhataf â mwyaf gwerthfawr gyhoeddwyd gan y Wasg Gymreig.

(11) CYMMERADWYAETH:-
“Un o'r esboniadau gwerthfawrocaf yn yr iaith, ac un na fydd râid cywilyddio ei osod ochr yn ochr ag unrhyw un o'r un dosparth yn iaith ein cymmydogion.”-
Y Greal.

(12) ADDYSG CHAMBERS I'R BOBL, yn ngwahanol Ganghenau GWYBODAETH GYFRREDINOL, yn Addurnedig a thros 700 o Ddarluniau Eglurhaol. Yn gyflawn mewn Dwy Gyfrol.
BARGEN ARBENIG.
Pris Cyhoeddedig, yn ddwy gyfrol, mewn Llian, 31s.; Cynnigir y gwaith enwog ac amhrisiadwy hwn yn awr yn gyflawn am: - Llian, 12s.; trwy'r post 13s.

(13) GRAMADEG J. MENDUS JONES, wedi ei helaethu a'i ddiwygio gan yr Awdur. Gramadeg Cymreig Ymarferol, yn cynnwys Sylwedd yr holl Ramadegau Cymreig, yn nghys a lluaws o Sylwadau gwreiddiol ar Egwyddorion a Theithi yr Iaith, a Chyfres o Reolau Newyddion ar Lythyreniad a Chystrawiaeth, y cwbl wedi eu trefnu ar gynllun newydd a chelfyddgar. Hefyd Rheolau Barddoniaeth Cymreig. Cyhoeddedig am 3s.; Pris Gostyngol mewn llian 1s. 6ch.

(14) “LLIN AR LIN.”
Penodau'n Hanes a Chrefydd Israel. Gan J. Jenkins, M.A.
(Gwili).
Pris 2s,; trwy'r post, 2s. 3c.

(15) DYLANWAD ANGHYDFFURFIAETH AR CYMRU (sic)
Sef Anerchiad Mr. Lloyd George o Gadair Undeb y Bedyddwyr yn Nhreorci.
Pris lc., drwy'r post 2c.

(x27)
(16) TELYN SEION.
Sef Pedwar-ar-bymtheg o Garolau Nadolig, amryw o Brif Feirdd Cymru, ar wahanol Fesurau poblogaidd.
Pris 6c.

(17) CAROLAU OWEN LLYFNWY.
Sef 19 o Garolau Nadolig a’r Pasg, ar amryw fesurau, gan y bardd awenber Robt. Ellis.
Pris 6c.

(18) YR HAFOD:
Nosweithiau Gauafol yn yr Hafod, sef ymddiddan ar Bynciau Ysgrythyrol rhwng y Tad a'i Blant, ar wahanol nosweithiau yn yr Hafod, ei gartref yn y gauaf.
Pris cyhoeddedig 3c. Pris 2g.; gyda’r post 3c.
Y mae'n llyfr rhagorol i wobrwyo plant yr Ysgol Sul.

(19) BYWYD O FEIRW: sef Hanes Tan-Ddaearol yn Mhwll Tynewydd, Cwm Rhondda, gan Dd. Jenkins a Moses Powell (dau o’r carcharorion).
Pris cyhoeddedig 6c.

(20) LIFE FROM THE DEAD: being the History of the Entombed Colliers (nine days) in the Tynewydd Pit, Rhondda Valley, as told by two of the Prisoners – David Jenkins and Moses Powell.
Published at 6d.

(21) 100 O SYPYNAU O LYFRAU I BLANT.
Cynwysa bob Sypyn o 40 i 50 o Lyfrau Cyfaddas i Blant yr Ysgol Sul, y Band of Hope, &c. - “Sypyn o Lyfrau gwir werthfawr at plant yr Ysgol Sul a'r Gobeithluoedd.”
Pris 1s. 30.; gyda'r post, 1s. 6c.

(22) ENGLISH CATECHISMS.
On the Principal Characters in the Old and New Testament, for the use of Families, Sunday Schools, and the Band of Hope.
Pris 1d. each, post free 2d., or in packets of 12 at 1/3, post free.

History of Moses 1c.
Noah 1c.
Abraham 1c.
Isaac 1c.
Jacob 1c.
Job 1c.
Joseph 1c.
Josuah 1c.
Samson 1c.
Ruth 1c.
Samuel 1c.
David 1c.
Solomon 1c.
Elias 1c.
Eliseus 1c.
Josiah 1c.
Nehemiah 1c.
Daniel 1c.
Esther 1c.
Jonah 1c.
John the Baptist 1c.
Jesus Christ 1c
Peter 1c.
Paul 1c.
John 1c.

(x28)
(23) GEIRIADUR MATHETES.
Argraffiad Newydd yn awr yn barod, yn cynnwys Nodiadau Eglurhaol, &c., ar bob pwnc a berthyn o fewn gwybodaeth ddynol. Mae yn Llyfrgell ynddo ei hun. Yn gyflawn mewn Tair Cyfrol.
Prisiau – Mewn Croen Llo
(3 cyf.) ₤3.
Haner Rhwym eto ₤2 15s.

(24) HANES Y BEDYDDWYR YN NGHYMRU
Gan J. Spinther James, M.A.
(Yn Gyflawn mewn Oedair Cyfrol.)
Cyf. I – Mewn Llian, 8s.; Haner Lledr, 10s.; Croen Llo 10s. 9c.
Cyf. II – Mewn Llian, 7s.; Haner Lledr, 9s.; Croen Llo 10s.
Cyf. III – Mewn Llian, 7s.; Haner Lledr, 9s.; Croen Llo 10s.
Cyf. IV – Mewn Llian, 7s.; Haner Lledr, 9s.; Croen Llo 10s.

(25) Y PARTHSYLLYDD, neu Eirlyfr Daearyddol,
yn cynwys Hanes yr Holl Fyd, wedi ei addurno â Mapiau Heirdd, ac wedi ei ysgrifenu gan J. Spinther James, D. Lit., a’r diweddar Barch. J. Emlyn Jones, Ll. D. Cynwysa y “Parthsyllydd” 32 o Ranau Swllt yr un. Ei bris yn ddwy gyfrol hardd oedd ₤2. Pris gostyngol, yn gyflawn, wedi eu rhwymo yn hardd mewn llian
(2 gyfrol) 12s., trwy’r post 13s.

(25) GWEITHIAU FLAVIUS JOSEPHUS,
yn cynwys Hynafiaethau yr Iuddewon, yn nghyd a hanes eu Rhyfeloedd hyd ddinystr Iadauusalem; traethawd Josephus ar Hades, mewn atebiad i’r Groegiaid; ac amddiffyniad Josephus i hynafiaethau yr Iuddewon, yn erbyn Apion; yn nghyd ag amddiffyniad i dystiolaethau Josephus, o berthynas i Iesu Grist, Ioan Fedyddiwr, ac Iago y Cyfiawn. Cyfieithiedig o’r Groeg a’r Hebraeg, yn nghyda nodiadau eglurhaol, hanesyddol, bywgraffiadol, beirniadol, a daeryddol; testynau cyfeiriol o’r Ysgrythyrau, ac Amseryddiaeth cywir yr amrywiol hanesion. Gan William Whiston, M.A. At yr hyn yr ychwanegwyd, Parhad o hanes yr Iuddewon hyd y dydd hwn, gan Dr. Bradshaw a’r Parch. John Mills, Llundain. Pris Gostyngol, llian 11s., Croen Llo 15s.

(x29)
(26) GEIRIADUR Y BARDD
sef Geirlyfr Odlyddol at wasanaeth y Beirdd; yn yr hwn ytrefnir y geiriau yn ol eu Hodlau
(ac nid yn ol y llythyren gyntaf, fel y trefnir Geiriaduron yn gyffredin). O dan Olygiad CYNDDELW. At yr hyn yr ychwanegwyd CYFRINACH BEIRDD YNYS PRYDAIN: cynnwys ef Llwybryddiaeth ag Athrawiaeth ar y Farddoniaeth Gymraeg a’i Pherthynasau, yn ol trefn a dosparth y Prif Feirdd gynt ar y Gelfyddyd wrth Gerdd Dafod. Gan IOLO MORGANWG. Y ddau wedi eu cydrwymo.
Pris 7s. 6ch.

(27) YR YSTORGELL
Yn cynnwys Hanes Bywydau Personau Hynod – Teithiau, Anturiaethau, a Darganfyddiadau ar Dir a Môr – Prif Chwildroadau a Rhyfeloedd Hen a Diweddar – Amgylchiadau neillduol yn Hanes y Byd a’r Amserau – Rhyfeddodau natur a Chelfyddyd – a materion ereill adeiladol i filoedd Cymru. Bargen Ardderchog!
Pris 1s., trwy’r post, 1s. 3c.

(28) YR YSGOL FARDDOL.
Gan Dafydd Morganwg. Y Pedwerydd Argraffiad yn awr yn barod. Yn cynwys Cyfarwyddiadau eglur i ddeall Rheolau Barddoniaeth Gymreig. Dylai yr Ysgol Farddol gan Dafydd Morganwg fod yn llaw pob bardd ieuanc.” Hwfa Mon.
Pris 3s. 6d., trwy’r post, 3s. 9d.

(29) DRYCH Y PRIF OESOEDD.
Yn cynwys hanesion am hen âch y Cymry, eu dyfodiad i Brydain, y rhŷfa’r
(sic) aeson, a’u moesau gynt cyn troi at Gristnogaeth. Hefyd traethir am bregethiad a llwyddiant yr efengyl ym Mhrydain, athrawiaeth y brif eglwys, a moesau y prif Grist’nogion. Gan Theophilus Evans.
Pris 1s. 2g.; trwy’r post 1s. 4c.

(30) TREITHIADUR.
Sef y Gelfyddyd o Ddarllen a Llefaru yn Synwyrol, yn nghyd ac eglurhad ar draethganu
(Chanting). Gan Robert Herbert Williams (Robyn Hydref, neu Corfanydd). Pris 1s. 6c. Ni ddylai neb sydd am ragori mewn darllen neu lefaru yn gyhoeddus fod heb y llyfr hwn, oblegid nid oes ei fath at hynny yn yr iaith Gymraeg.

(x30)
DRAMAS BYRION at wasanaeth ein Hysgolion Sul.

(1) GWAREDIGAETH PEDR o'r Carchar.
Drama i 14 o Bersonau, gan D. Michael
(Dewi Afan).
Pris cyhoeddedig 4c.; gyda'r post 5c.

(2) Y TRI LLANC.
Drama i 8 o Bersonau. Gan D. Michael
(Dewi Afan).
Pris cyhoeddedig 4c.; gyda'r post 5c.

(3) Y PENTECOST.
Drama i 9 o Bersonau.
Pris cyhoeddedig 4c.; gyda'r post 5c.

(4) HANES JONAH.
Drama i 12 o Bersonau. Gan y Parch. W. P. Williams, D.D.
Pris 2c., Post lc.

(5) HANES GENEDIGAETH A CHADWRAETH MOSES.
Drama i 14 o Bersonau. Gan y Parch. W. P. Williams, D.D.
Pris 3c. Post lc.

(6) ADFYWIAD CREFYDDOL.
Drama i Naw o Bersonau, gan David Evans
(Mynyddfab).
Pris 3c., trwy'r post 4c.

CYFRES O LYFRAU NEWYDD I FFERMWYR AC ERAILL.
(1) Ffordd Newydd o Ddofi Ceffylau Gwylltion a Chastiog, a'r modd i'w trin ar ol eu dofi. (Gwerth Deg gini am Chwe' cheiniog).
Pris 6ch.

(2) Llyfr Doctor at y Ceffyl, yn cynnwys sylwadau ar yr Anhwylderau ag y mae Ceffylau yn agored iddynt; Disgrifiad o'r arwyddion o honynt; a’r Cyfarwyddiadau
Meddygol Mwyaf Effeithiol i’w Gwella. Wedi eu dethol o Weithiau yr Awduron goreu.
Pris 6c.

(3) Llyfr Doctor Moch, yn gosod allan en Hafiechydon, a’r Moddion i'w
Meddyginaethu, hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau at Brynu, Cadw, a Magu Moch, ynghyda’r modd i'w lladd, a chiwro, a halltu y cig.
Pris 6c., trwy’r post 7c.

(4) Llyfr Doctor at Wartheg a Lloi, yn cynnwys Sylwadau ar yr Anhwylderau y mae Da Corniog yn agored iddynt; disgrifiad o'r arwyddion o honynt; a’r Cyfarwyddiadau Meddygol mwyaf effeithiol i’w gwella. At yr hyn yr ychwanegwyd, Cyfarwyddiadau at ryddhau y Llo.
Pris 9c., trwy’r post 10c.

(x31)
CYFRES “CORONAU” O LYFRAU GWOBRWYON.
Chwe Cheiniog yr un.
Yn Cynnwys Cronfa o Wybodaeth Fuddiol a Dyddorol i Ddarllenwyr yn Gyffredinol.

(1) Coron Llafur; yn cynnwys hanes
1. Thomas Charles, B.A., o’r Bala
2. Howel Harris o Drefecca
3. William Williams o Bantycelyn
4. Daniel Rowlands o Langeithio
5. Dr. Doddridge, Gweinidog yr Efengyl
6. Francis Spira, y Gwrthgiliwr oddiwrth Brotestaniaeth, a’i gyflwr arswydus mewn anobaith
7. Moses Roper y Caethwas, ei Ddiangfa ryfedd a’i ddyfodiad i Brydain.
Pris 6ch., trwy’r post 7c.

(2) Coron Diwydrwydd: yn cynnwys hanes
1. John Wesley
2. George Whitfield
3. Samuel Hick, Efengylwr hynod
4. Ned Wright, y Pechadur Mawr, a ddaeth yn Gristion gloyw
5. Darganfyddiadau rhyfeddol o fyd arall mewn Llewyg
6. Anerchiad i Ieuenctyd ar rai o elfenau bywyd llwyddiannus
Pris 6ch., trwy’r post 7c.

3. Coron Gwroldeb; yn cynnwys hanes
1. Martin Luther
2. Brad y Powdwr Gwn, sef dyfais y Pabyddion er dinystrio y Protestaniaid
3. Yr Archesgob Cranmer a’i Ferthyrdod
4. Gau-Grefyddwyr
5. Yr Erledigaethau a’r Merthyriadau âr y Cyfâmodwyr yn yr Alban
Pris 6ch., trwy’r post 7c.

4. Coron Anhrydedd; yn cynnwys hanes
1. John Howard, y Dyngarwr nodedig
2. Oberlin, Gweinidog Protestaniadd enwog
3. William Wilberforce, Prif Offeryn Diddymiad y Gaethfasnach
4. Albert Dda, Priod-Dywysog y Frenhines Victoria
5. Syr Hugh Owen a’i Weithrediadau daionus i’w wlad
Pris 6ch., trwy’r post 7c.

(5) Coron Goruchafiaeth; yn cynnwys hanes
1. Yr Huguenots, sef y Diwygwyr Protestanaidd yn Ffrainc
2. John Roberts y Crynwr, Ymddiddanion rhyngddo âg Archesgob Caerloyw
3. Peter Williams, Awdwr yr Esboniad ar y Beibl
4. Joseph Harris, Sylfaenydd a Gol. “Seren Gomer”
5. John Elias o Fôn.
Pris 6ch., trwy’r post 7c.

(x32)
(6) Coron Werthfawr; yn cynnwys hanes
1. Y Cospedigaethau y sonir am danynt yn yr Ysgrythyrau
2. Dinystr Jerusalem, y Gyflafan fwyaf arswydus a welodd y byd erioed
3. Teml Juggernaut, yn yr India
4. Socrates yr Athronydd, ei Fywyd a'i Farwolaeth
5. Cyfieithiad a Chyfieithwyr y Beibl i'r iaith Gymraeg
6. Triugain o fân-hanesion i ddeau y meddwl i lwybrau Duwioleb a Rhinwedd.
Pris 6ch., trwy'r post 7c.

7 Coron Buddugoliaeth; yn cynnwys hanes
1. Y Chwilys Babaidd a'i Weithrediadau ârswydus
2. William Penn, y Crywr Cydwybodol a Dyngarol
3. John Penry, Efengylwr Llafurus a Diwygiwr Puritanaidd, a'i Ferthyrdod
4. John Jones o Dalysarn, Desgrifiad o hono fel Pregethwr
5. Ynys Madagascar: Llafur y Cenhadon Cymreig yno a'r Erledigaeth a fu arnynt yno.
Pris 6ch., trwy'r post 7c.

8. Coron Sobrwydd; yn cynnwys hanes
1. Dr. Benjamin Franklin o'r America
2. Treial Alcohol, cyhuddedig o Ysbeilio, Llofruddio, a Drygau aneirif ereill
3. John B. Gough, y Darlithydd Dirwestol anghydmarol o’r America
4. Merched Cymru: eu Cymmeriad a'u Sefyllfa bresenol
5. Bywyd Meddwyn a'i Gyflwr truenus
6. Thomas Edwards yr Helw-heliwr, a ysgrifenwyd ganddo ef ei hun o’i Alltudiaeth.
Pris 6ch., trwy'r post 7c.

W. M. Evans & Son, “Seren Cymru” Office, Hall Street, Carmarthen.

DIWEDD




Adolygiadau diweddaraf: 20 07 2002

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA
 
 
hit counter script
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats