1456k Gwefan Cymru-Catalonia. Bugeilgerdd. Gwilym Penant. 1863. ’Roedd ganddi wyneb hawddgar, Yn grwn fel afal pêr, A’i gwallt yn ddu sidanog, A’i llygaid megis sêr; Dau rosyn ymrysonent Heb baid am harddu’i boch; Un fyna’i wneyd yn glaerwyn, Y llall a’i lliwiai’n goch.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_056_bugeilgerdd_gwilym_penant_1863_1456k.htm

0001 Y Tudalen Blaen Google: kimkat0001

..........2657k Y Porth Cymraeg Google: kimkat2657k

....................0009k Y Barthlen  Google: kimkat0009k

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) Google: kimkat096k

 

..........................................y tudalen hwn


..






Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya

 Cywaith Siôn Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
 El projecte Siôn Prys (Col·lecció de textos en gal·lès)



BUGEILGERDD
GAN MR. WILLIAM POWELL (GWILYM PENANT)
Buddugol yn Eisteddfod Abertawy, 1863

O gylchgrawn “Yr Eisteddfod”, Ionawr 1865,
tudalennau 354-372

Adolygiad diweddaraf: 08 11 2002


(delwedd 7387)
 

Y llyfr ymwelwyr: 0860k, Google kimkat0860k

 


Nodyn: (x354) ayyb = rhif y tudalen yn y testun gwreiddiol

 
(x354)

BUGEILGERDD.
GAN MR. WILLIAM POWELL (GWILYM PENANT).

Buddugol yn Eisteddfod Abertawy, 1863.

Amaethwr y Tyddyn a hoffodd ryw fachgen
           A gwnaeth ef yn fugail ei ddefaid ei hun;
A DAFYDD ddechreuodd fod yno’n ei elfen,
           Nes adwaen y defaid yn fuan bob un;
Efe a aeth rhagddo yn gyflym mewn cynydd,
           Ar fod yn fugeiliwr y rhoddodd ei fryd:
A deuodd yn fuan yn ddigon cyfarwydd
           A lleoedd cynefin y defaid i gyd.

Fe ddysgodd chwibanu a chanu’n soniarus,
           Ei lais a adwaenid pan fyddai’n mhell draw;
Y cŵn a arferent a rhedeg yn fedrus,
           Fe’u gyrai i bobman â throad ei law.
Yr ydoedd yn llenwi holl swyddau bugeiliaeth
           Nes oedd ei gym’dogion yn credu o’r braidd
Nad ydoedd un amcan yn nhrefn ei fodolaeth
           At unrhyw waith arall ond canlyn y praidd.

Y Bugail a brofwyd ar ddiwrnod y cneifio,
           Trwy roddi dwy ddafad o’r gorlan dan gudd;
Ond canfu eu colli o’r cannoedd oedd yno -
           Edrychai’n siomedig a’i wyneb yn braidd
Gofynodd ei Feistr, fel dyn yn llawn teimlad,
           “Beth wnaeth i ti DAFYDD i edrych mor drwm?”
Medd yntau, “’Rwy’n methu a gweled dwy ddafad,
           Mi gwelais hwy’r bore ar ochr y Cwm.”

A mam yr “oen corniog” yw un sy’n absenol,
           Bydd hi yn wastadol yn cadw ei lle.
Y llall ydyw’r “hesbin” wyllt farus ryfeddol,
           Mae nodyn du bychan ar fôn ei chlust dde.”
Yn ebrwydd gollyngwyd y ddwy hyn o’u cuddfan,
           Er gwneuthur y Bugail a’i galon yn iach;
A daliwyd yr “hesbin” wyllt farus yn fuan,
           Fel gallai pawb weled y “nodyn du bach.”

Gwir graffder y Bugall a’i ofal manylaf
           Heb iddo ef wybod, a brofwyd y pryd;
Cyflawnodd orchestwaith i’r graddau perffeithiaf,
           Er gwaethaf y dichell a’i rwystrau ynghyd:
Euillodd ymddiried am sefyll y profiad,
           Cadd oenig yn anrheg fel tysteb o’r tro;
Ei graffder digymhar oedd testyn y siarad,
           A phawb yn dywedyd, “Mor graff ydyw o.”

(x355)
Tueddiad y defaid adwaenai, a’n llwybrau:
           ’Roedd rhai yn bur wylltion, y lleill yn fwy dôf;
A goleu ei lygaid y tynai eu lluniau
           Yn fedrus, a chywir, ar leni ei gôf;
Da gwyddai nad ydoedd y “marcio” yn ddigon,
           I atal y lladron i ddwyn llawer un;
Newidiant hwy nodau y praidd yn hawdd ddigon,
           Ond nid all y lladron ddim newid y llun.

Yr oedd yn ddefnyddiol i bawb o’i gym’dogion,
           Trwy wneyd cymwynasau yn rhwyddlon a hael;
Pob dafad ddyeithriol a gadwai yn ffyddlon,
           Fel gallai ei pherchen wrth geisio, ei chael;
Nid ydoedd yn blino ar fodd y bugeiliai
           Ar oerder y mynydd, ar niwl oer y glyn;
Yn nghadair boddlonrwydd yn dawel eisteddai,
           A mynych y canai yn debyg i hyn: -

“Mor ddifyr caf gerdded hyd lwybrau y defaid,
           I gopa y mynydd y bore fo’n glir;
Hardd oriel naturiol, fanteisiol i’m llygaid,
           I weled milldiroedd o fôr ac o dir;
Mynyddoedd a bryniau, clogwyni a chreigiau,
           Rhaiadrau a nentydd, afonydd a choed;
A’r praidd yn cydbori ar hyd y llechweddau,
           Yw’r olwg brydferthaf a welais erioed.

“Mor deg yw’r gym’dogaeth ddillynaidd, ramantus,
           Crynhöad amrywiaeth y crëad yw’n nghyd;
Mae’r banawg fynyddau fel câd wyliadwrus
           I’r neint fu’r dyffrynoedd sydd rhyngddynt yn glyd.
Heirdd goffrau yw’r bryniau o bob math o fŵnau,
           Rhai sydd yn troi olwyn fasnachol y byd;
Mae’r derw praff, cryfion, i wneuthur y llongau,
           Er’s oesau yn barod i’w tori’n ein tud.

“Pa beth yw harddwch Llundain,
           Sy’n wlad yn llawn o dai,
I harddwch cartre’r defaid,
            ‘R liwn baentir bob mis Mai?
Pwy all ddynwared natur
           A’i chymysgedig liw,
Ar flodau grug y mynydd
           Rhai geir y gwanwyn gwiw?

“Dyn wnaeth y dref ar palas,
           Duw wnaeth y ddôl ar bryn;”
Gwybedyn ŵyr trwy brofiad
           Wahaniaeth y rhai hyn.
Peth marw yw llun blodyn,
           Neu lun yr afal crwn:
Gofynai y wenynen,
           ‘Pa le mae bywyd hwn?’

“Mor hardd yw yr afr wen a’i myn yn ei chanlyn,
           Ar oriël y dalgraig, yn pori heb boen ,
Ei nodded yw’r creigiau lle’r erys drwy’r flwyddyn,
           Gadawa’r tir isel i’r ddafad a’r oen;
Caf weled y cudyll, y barcut, a’r gigfran,
           Yn gwneuthur eu nythof ar ddanedd craig hell,
Ac yntau y llwynog, lladradaidd ei anian,
           Yn cario’r da pluog i guddfan ei gell.

(x356)
“Gwrthrychau fy ngofal yw’r wŷn (sic) a’u mamogiaid,
           ‘Hesbiniaid,’ a hyrddod, a hwythau y myllt;
Os ânt ar ddisberod i rywle yn wydriaid,
           Neu leoedd anghysbell yr anial mawr gwyllt;
Pan welaf eu colli, cychwynaf heb oedi,
           Ac er fy nifyru daw ‘Sinco’ y ci
I’w ceisio’n ol adref - ac am eu drygioni
           Mi wnaf eu carcharu am ddeuddydd neu dri.

“Mawr yw fy hyfrydwch wrth ganlyn y defaid,
           Hyd lethrau y mynydd ’r wy’n byw yn ddi baid;
Fel brenin urddasol yn gwylio ei ddeiliaid,
           Eu casglu a’u gwasgar bron fel byddo rhaid;
Trwy dywydd dryghinog, oer wynt, a hin wlawog,
           Ac eira trwm lluwchiog, heb ochel yr un,
Yr âf i fageilio fy mhraidd yn galonog;
           Yr wyf yn eu caru hwy fel fi fy hun.

“Arweiniaf hwy’n union i bori’r dyffrynoedd,
           Pan elo y mynydd yn llwm ac yn llwyd;
Fe dora fy nghalon faint bynag fo’n gwleddoedd,
           O’u clywed hwy’n brefu mewn angen am fwyd:
Ar ol y trwn auaf, yn nechreu y gwanwyn,
           Ail gasglaf hwy’n dyner o’r dyffryn a’r ddol -
I’w gorlan i’w ‘marcio’, ac yna eu cychwyn
           Tu ucha’r llidiardau i’r mynydd yn ol.

“Mor brydferth yw’r mynydd o dan ei wisg newydd,
           Ei rug yn flodeuog, ‘a’i flewyn yn las;’
Brefiadau y llydnod i mi sydd yn arwydd,
           Eu bod hwy yn caru eu hymborth a’i flas:
Yn fuan gorweddant yn nghanol eu lluniaeth,
           Gan edrych yn foddlon, yn araf cnoi cil,
Fel pe baent yn gwenu wrth wel’d eu bwydd helaeth;
           Maent ran eu rhifedi, yn agos i fil.

“Ar fore barugog mi ge’s oenig fechan,
           Yn gorwedd bron marw yn unig heb fam,
Yr hon a gyfodais i’m mynwes yn fuan,
           A cheisiais ei mamog i achub ei cham:
Canfyddais y ddafad, gwrthodai ei hoenig,
           Rhaid oedd ei chymeryd hi adref o’r ffridd;
Ymdrechais gynhesu’r creadur rhynedig -
           A gwneuthur mam iddi, o hen debot pridd.

“Mor geimion yw’m llwybrau, hyd leoedd caregog,
           Af weithiau i’r ceunant yn isel i lawr,
Pryd arall y dringaf y clogwyn serth, cribog,
           Wyf weithiau yn uchel ar gopa’r graig fawr;
Ac weithiau’n gauedig yn nghanol niwl tywyll.
           Bron methu adnabod y lle ar un llaw;
Yn ofni rhag ymyl y dibyn dwfn erchyll,
           Gan orfod dyoddef holl driniaeth y gwlaw.

“Bydd mellt yn gwau heibio, a’r daran yn rhuo,
           A’r creigiau’n adseinio y twrw mawr trwm,
A’r gwlaw yn ymdywallt, a minau o dano
           Heb loches agosach na Fotty y Cwm;
Beth bynag fo’r tywydd’r wy’n ddigon baddàol
           I aros yn fugail tra byddaf fi byw :
Mae mywyd a’ ngorchwyl i’r byd yn ddyeithrol,
           Nid llawer sy’n gwybod trwy brofiad beth yw.

(x357)
“Aur, arian, a pherlau, ac etifeddiaethau,
           Anrhydedd, ac enwau, mewn graddau o fri,
Sy’n chwyddo calonau gwŷr mawrion filiynau, -
           Nid hyn sydd yn chwyddo fy nghalon fach i;
Yn swyddi bugeiliaeth ’r wyf fi yn ymffrostio -
           Y defaid a’m swynodd i fod yn eu mysg;
Caf eithaf bywoliaeth am imi eu gwylio,
           A’u gwlan yn bur ddefnydd i wneuthur fy ngwisg.”

A dyna yw caniad y Bugail gofalus,
           Wrth gadw y defaid y darfu ei gwneyd;
Ac fel yr ydoedd yn ddigon gwybodus
           I brofi ei behtau cyn iddo eu dweyd:
Y bachgen a dyfodd, a daeth yn llanc heini,
           I feddwl (fel ereill) am garu rhyw ferch;
Dechreuodd yn uchel, heb ofn cael ei siomi,
           Ar “Gwen,” merch ei feistr, y rhoddodd ei serch.

Gwen ydoedd unig blentyn
           A ga’dd ei rhiaint clyd;
Canolbwynt serch hi ydoedd,
           A’u cysur yn y byd:
Yr ydoedd yn eu golwg
           Yn bobpeth, ni chai gam,
Dim rhyfedd, canys oeddynt
           Yn anwyl dad a mam.

’Roedd ganddi wyneb hawddgar,
           Yn grwn fel afal pêr,
A’i gwallt yn ddu sidanog,
           A’i llygaid megis sêr;
Dau rosyn ymrysonent
           Heb baid am harddu’i boch;
Un fyna’i wneyd yn glaerwyn,
           Y llall a’i lliwiai’n goch.

’R oedd ganddi wefus denau,
           A danedd gwynion mân,
A’i llais fel sain perdoneg,
           A’i gwddf fel eira glân;
Gwrthrychau dymunoldeb
           Oedd ynddi’n cwrdd y’nghyd,
Nes swyno llanciau’r ardal,
           I graffu arni i gyd.

Cyfrifid hi yn synhwyrol,
           A’i thymer yn ddi fai,
Gwir garu Duw, a pharchu
           Ei chymydogion wnai;
Er byw ym myd y balchder,
           Ei feithrin ni wnai hi,
Can’s yn ei gostyngeiddrwydd
           ’R oedd Gwen yn cael ei bri.

Rhy anhawdd ydoedd peidio
           A charu’r fwyndeg fûn -
Dim ond ei gweled unwaith
           A swynai galon dyn;
Yr ydoedd ymofyniad
           I’w glywed yma a thraw, -
Pa lanc a fydd mor ddedwydd
           A gallu cael ei llaw?

(x358)
Prif destyn ymddyddanion
           Gwyr ieuainc yn ddiball,
Oedd Gwen, - ac O! fel byddent
           Yn ofni’r naill y llall;
Dros ganllaw pont ei gynllun,
           Wrth geisio enill Gwen,
I afon cariad syrthiodd
           Aml lencyn dros ei ben.

’Roedd Gwen, yn medrusrwydd y Bugail,
           O hyd yn cael gwledd o fwynhad, -
Yn llawen ei chalon wrth glywed
           Ei ganmol bob dydd gan ei thad;
Daeth hedyn serch bywiog i’w chalon,
           Cryfâodd, ymledodd ei wraidd;
A phwy oedd y tyner flaguryn,
           Ond DAFYDD hof Fugail ei phraidd.

Sisialai fel hyn wrthi’i
hunan,
           “Mae’n resyn fod DAFYDD yn dlawd;
Er hyny mae’n dda ei gymeriad,
           Pwy feiddiai gan hyny wneyd gwawd?
Pe bawn i yn gofyn ei feddwl,
           Efallai y safai ê’n ôl,
Ac felly gwnawn boeni fy
hunan,
           Gwnai yntau fy nghyfrif yn ffol.”

Adwaenodd hawddgarwch yn NAFYDD,
          
Nis gallai wel’d undyn mor hardd;
Hi wyddai ei fod yn dalentog -
           Yn hynod obeithiol fel bardd:
Gofynai’n aml iddo am benill,
           ’Roedd yntau yn barod i wneyd;
Er methu’n lân wybod i bwrpas
           Pa beth gai ef wrthi hi ddweyd.

Pan ydoedd ef bron ag ymdd’rysu
           Mewn cariad tuag at yr hoff fûn;
Bron tori ei galon wrth ofni
           Nad ydoedd yn ddigon o ddyn;
Dyfeisiai beth allai ef wneuthur,
           Heb ofyn mewn geiriau i hon;
“Mae bardd yn wirionach wrth garu
           Na neb yn y crëad o’r bron.”

Casglu blodau heirdd, a’u dwyn
           I’r feinir fwyn wnai DAFYDD;
Eu rhwymo ynghyd â brwynen lâs,
           Gwneyd cwlwm fel gwas celfydd
Fel y gwelo hi drwy ffaith
           Ar unwaith ei gywreinrwydd.

Tynghedu’r dyrnaid blodau wnai,
           I fod yn llatai swynol,
I ddweyd wrth Gwen â’u gorwych liw
           Ei fod yn byw’n obeithiol;
Cael thoi ei
hunan iddi’n bur
           A fyddai’n wir dderbyniol.

(x359)
Wrth roi y blodau’n llaw y ferch,
           Gwrid serch gyfodai i’w gwyneb;
“Nos dawch,” medd DAFYDD, wrth eu rhoi,
           Ac yna’n troi heb ateb;
Yn lle dweyd gair wrth y ffin wyl
           Am nodau ei hanwyldeb.

Dywedai’r ferch, “Y mae o’n swil,
           A chynil am ymddiddan;
Paham na byddai’n ddigon hyf
           I geisio genyf gusan?
Yn wir mi roddwn ddau am un
           Ar fin y dyn yn fuan.”

’R oedd wedi meddianu prif orsedd ei galon,
           A’i gwên a’i rhinweddau hi ddygodd ei fryd,
Ac ar ei gorseddfainc y gwisgodd ei choron,
           Nes ydoedd fel duwies yn gariad i gyd;
’R oedd hithau’r un cyflwr yn gymhwys â DAFYDD,
           Y naill oedd heb wybod teimladau y llall, -
Y ddau o’r un feddwl am garu ei gilydd,
           Ond pob un yn cadw ei feddwl yn gall.

Yr oeddynt bob amser yn hoffus gyfeillion,
           Ond wele daeth eisiau cymdeithas oedd nês;
Nid oes dim cyffelyb i burdeb dwy galon,
           Yn toddi i’w gilydd y’ngrym yr un gwres:
A chariad y ddeuddyn oedd bur fel aur melyn,
           Ac fel y ffynonau un dyfroedd yn lân;
Y’ ngwres ei serchiadau y canodd y llencyn
           Pan ydoedd e’n glwyfus, a hon yw ei gân: -

“O! mor anoddefus yw bod yn serchglwyfus, -
           Oferedd yw f’einioes os na chaf fy mûn;
Yr hon am clafychodd eill eto yn fedrus
           Fy ngwneuthur yn holliach â’i chariad ei hun;
Wrth wel’d y mynyddoedd yn uchel eu penau,
           Fel pe’r ymrysonent ro’i cusan i’r nen,
Fy serch a ofyna’, paham na chawn inan
           Mewn nef o ddedwyddwch ro’i cusan i’m Gwen.

“Mae’r ffrydiau grisialaidd yn rhedeg i’w gilydd
           I wneuthur un afon gan gadw ystwr;
Paham y terfysgant wrth redeg trwy’r nentydd?
           O herwydd fod rhwystrau i rediad eu dw’r.
Paham yr wyf finau yn gwneyd y fath derfysg,
           Gan chwyddo’m hochenaid a gostwng fy mhen?
O herwydd fod rhwystrau am gwendid yn gymysg
           Yn atal i’m allu cael gafael ar Gwen.

“Bydd pawb yn groesawgar yn derbyn y gwanwyn,
           Gan ganmol ei ddyddiau, eu bod yn rhai braf;
Pryd hyny bydd anian mor brydferih yn cychwyn
           A’i phen yn llawn blodau i dderbyn yr haf.
Fe ddaw y cynhauaf, a chesglir y cnydau,
           Derbynir o ffrwythau pob maes a phob pren
Derbynir digonedd o ymborth rhag eisiau, -
           Gwyn fyd na chawn inau dderbyniad gan Gwen,
(x360)

“Mor hyfryd yw clywed yr adar yn canu,
           Ar doriad y wawrddydd yn nghanol y llwyn;
Mor hyfryd yw clywed y defaid yn brefu,
           Yn ngwyneb peryglon i wahodd eu hwyn.
Hyfrydwch dau gariad yw cael ymgyfarfod
           I garu eu gilydd, a siarad heb sen;
Hyfrydwch gen inau a fyddai cael gwbyod
           Am foddlon digonol i enill fy Ngwen.”

“Mae pobpeth trwy’r crëad mewn undeb â’u gilydd,
           Mor ufudd yn gwneuthur ewyllys yr Iôr;
Mae’r afon ddolenog, y llyn yn y mynydd,
           A’r oll o’r mân ffrydiau, mewn undeb â’r môr;
Mae’r belen ddaiarol, ynghyd â’r planedau,
           Mewn undeb â’r huan, canolbwynt y nen;
Mewn undeb y cadwant eu trefn a’u troadau,
           Ow! ow! na fawn inau mewn undeb â Gwen.”
“Y pysgod tryfrithion, amlryw anifeiliaid,
           A’r adar amrywliw, sy’n harddwch i’r byd;
Ond nid y’nt hwy haner can hardded a’r merched,
           A Gwen ydyw’r harddaf o’r merched i gyd.
A’i harddwch fe’m swynodd, pe gwyddai hi ’nheimlad
           Fe allai y rhoddai gyfodiad i’m pen.
O! tyred wynt tyner, bydd imi yn genad,
           Dos, sïa fy helynt yn nghlustiau fy Ngwen.”

Fel yna y canodd yn brofedigaethus,
           Ai serch yn seliedig ar wrthrych ei gân;
’R oedd DAFYDD yn myned yn fwyfwy awyddus
           I enill Gwen anwyl i’w feddiant yn lân;
Deallodd fod amryw o lanciau’r gym’dogaeth
           Mewn awydd fel yntau i gael y ferch hardd;
Am hyny edrychodd am gyfle ar unwaith
           I’w gweled, a gofyn y pwnc heb wahardd.

Y ffordd a gymerodd oedd braidd yn ddichellgar,
           Er hyny nid ydoedd yr amcan yn wael;
Gollyngodd y ganiad ar laswellt y ddaiar,
           Ger llidiard y fuches, i Gwen fwyn ei chael.
Y ferch a ddaeth yno i odro’n ddi-niwaid,
           Cyfododd y ganiad a wnaed er ei mwyn;
Ac wedi mynd drosti, gollyngodd ochen’aid!
           A DAFYDD yn clywed tu arall i’r llwyn.

Boddlonwyd ei chalon wrth ddarlien y ganiad,
           Trwy weled ei henw mor uchel ei fri;
Ond buan y cofiodd, er chwerwi ei phrofiad
           Fod llawer o ferched ’r un enw a hi.
Ac O! fel y cafodd anhawsder i odro,
           Y gân a chwareuai ar danau ei serch
Anghofiai braidd bobpeth wrth geisio difeisio,
           Nid pwy oedd yr awdwr, ond pwy oedd y ferch.

Medd Gwen, “Dylai ofyn fel dyn, a mi wnawn
           Fel merch, roi yr ateb, a hwnw’n un iawn,
Fel gallom ein deuoedd gyd-daflu ein pwn,
           A charu ein gilydd, yn lle cario hwn.” -

(x361)
“Addfeded ei gariad fel afal yn awr,
           Yr hwn heb ei dynu, a syrthia i lawr;
Pe gallwn ro’i geiriau yn ngenau y gwynt,
           Gorchmynwn, ‘F’anwylyd addfeda yn gynt.’


“Mae genau doethineb a rheswm yn fyd,
           Fy serch a fyn siarad ’n awr drostynt i gyd:
Ti anwyl ehedydd, sy’n canu uwch ben,
           Dos, gofyn i’r Bugail, ‘Ai â yw ei Wen?’

“Fy nghalon sydd ganddo, gwnaf farw heb hon,
           ’R wyf megis gwag lestr yn nhymestl y dòn;
Fe’m curir yn ddrylliau yn erbyn rhyw fanc,
           A’m hunig gwch bywyd yw mynwes y llanc.”

Dan dderwen fawr gauadfrig,
           Fel yna canodd hi,
Ar risgl y pren canfyddai
           Y deg lythyren “D;”
Ei hyspryd a wefreiddiwyd,
           ’R oedd rhywbeth ynddi’n dweyd,
Yn nhrefniad y llythyren,
           Llaw pwy fu yn ei gwneyd.

Gwnaeth hithau “G” yn ymyl
           Y “D,” O! do gwnaeth fwy;
Hi dorodd lun hardd galon
           Yn ddwfn o gylch y ddwy.
Gadawaf i fyfyrdod
           Wneyd darlun pur o Gwen,
Pan ydoedd hi’n gwneyd darlun
           O gariad ar y pren.

Y Bugail wrth fynd heibio
           A ganfu waith y ferch,
Rhyw iasau byw ddaeth trosto,
           A balm i i glwy’ ei serch;
O! fel yr ocheneidiai
           Pan yn deongli’r peth,
Ei ffon i’r llawr ollyngodd,
           Wrth ro’i ei ddwylaw’n mhleth.

’R oedd Gwen yn gwel’d y Bugail
           Drwy ffenestr cefn y tŷ,
Yn sefyll yn synedig
           O flaen y dderwen hŷ’;
’R oedd gwel’d y ffon yn syrthio,
           Ac yntau’n aros c’yd,
I’w golwg yn genhadau
           Yn datgan gwyn eu byd.

Aeth allan i gyfarfod
           Y llanc i’r drws yn awr,
Gofynodd pa’m y safai
           Ef wrth y “goeden fawr?”
Ac wele’r ddau anwylaf
           O’r diwedd wedi d’od,
I dd’wedyd gair i’w gilydd,
           A chyrchant at y nôd.

(x362)
Maent wedi cyfarfod ac anerch eu gilydd,
           Mewn agwedd gariadus yn ysgwyd dwy law.
Medd DAFYDD, “Pan oeddwn yn myned i’r mynydd
           Mi gollais ryw bapur, yr ydwyf mewn braw.”
Ar hyn y fun lanwaith a wridodd mewn meityn,
           Ei llygaid yn lloni, ei dagrau bron dod,
Er rhoddi arwyddion digonol i’r llencyn
           Fod iddo gryn obaith i gyraedd ei nôd.

Y llanc a roes gusan i’r ferch yn wirfoddol,
           A chusan bendithiol fu hwnw i’r ddau;
Yr oedd yn rhinweddol, fel mêl yn flasusol,
           Yn ernes o chwaneg i’w cael heb nacáu;
Y gusan fu’r allwedd ddattododd y cloiau,
           Oedd ar eu serchiadau yn rhwystrau mor fawr,
I adwaen eu gilydd, o ran eu meddyliau;
           Ond dorau eu cariad agorwyd yn awr.

Medd Gwen, gan wasgu’n dyn ei law,
           “’Rwy’n myned heno i’r ‘Tŷ draw,’
Dowch.chwithau i’m cwrdd wrth ddod yn ô1
           Aroswch fi yn mlaen y ddôl.”
“Gwnaf,” meddai’r llanc: “fy mwyniant i
           Yw bod yn agos atoch chwi,
Cael gwneuthur rhywbeth i’ch boddâu
           A wna i’m calon lawenhau.”

Cyflawni gorchymyn y Nef
           Wnaeth DAFYDD yn union a’i fun,
Wrth eilio rhaff cariad yn gref
           I rwymo’u dwy galon yn un;
Ni thybiant eu gilydd yn gau,
           Eu cariad wnai guddio pob gwall;
Yr ydoedd ymddiried y ddau
           A’u gwynfyd y naill y llall.

Rhy anhawdd yw gweled y gwlith
           Yn disgyn ar ruddiau y rhôs;
Yr hwn na adnabu un rhith,
           Er cerdded ei lwybrau y nôs;
Ae felly gwlith cariad yn gudd,
           Yn nghanol nos ofnau y ddau,
Ddisgynodd, ac wele daeth dydd
           I DAFYDD a GWEN ei fwynâu.

A ddarfu yr holl rwystrau
           I’r ddau ddyn hyn yn awr?
Na! na! mae’r nef yn duo,
           Hwy gant ystorm go fawr,
Wrth dychwel adre’r noswaith
           Yn dirion o’r “Tŷ Draw,”
Aeth tad y ferch i’w chyfwrdd,
           Fe’i canfu er ei fraw.

Ymguddiodd yn lladradaidd,
           O’u golwg dan y banc,
A chlywodd addewidion
           Ei ferch mewn llŵ i’r llanc;
(x363) O’n blaen y rhedodd adref,
           Unioni’r ffordd a wnaeth,
A’i briod ganfu’n ebrwydd
           Fod yn ei galon saeth.

Ar hyn ’r oedd Gwen yn dyfod
           I’r tŷar ysgafn droed,
A milwaith yn llawenach
           Nas gwelwyd hi erioed;
Ond O! yn ei gorfoledd,
           Ei thad a wisgodd ŵg;
Dechreuodd holi ei hunan
           “Beth allai fod y drwg”?

Ei thad ddywedodd wrthi
           Yn dyner ac yn llym,
Addawodd a bygythiodd,
           Ond pobpeth yn ddi rym;
Dywedodd “Rhaid i’r Bugail
           Yfory fyn’d i ffwrdd
A chymer dithau ofal
           Nad ei di byth i’w gwrdd.”

Medd Gwen, “Fy Nhad, os y’ch yn caru’ch merch,
Er mwyn pob peth, na roddwch ddagr i’m serch;
Paham, fy nhad, y mynwch ddangos gwawd
I’r llanc am ddim, ond am ei fod yn dlawd?
Dewiswn ef o flaen t’wysogion byd,
Mae cariad pur yn well na golud drud;
Pe gyrech fi i gwr y byd yn mhell
Yn alltud i ryw dywell diaeargell,
Wnai hyny ddim ond ychwanegu ’nghlwy’
A pheri imi garu’r mab yn fwy;
Gwell genyf roi fy mywyd wrth y stanc,
Na galw’m gair yn ol oddiwrth y llanc,
Ei garu’r wyf, ac yntau yr un modd
A’m cara i, - mewn cariad Duw a’m clodd.”

Aeth geiriau’i hamddiffyniad
           I’w fynwes megis cledd,
Ei galon oedd yn gwaedu
           Deallid wrth ei wedd:
Fe droes ei fugail ymaith
           A’i fygwth yn ddi foes,
Os deiai’n agos yno,
           “Cai garchar am ei oes.”

“Go galed i mi ydyw myn’d,”
           Medd DAFYDD, a GWEN yn ei glyw,
“Ond cofiwch y byddaf yn ffrynd,
           I Gwen yn mhob man tra bwyf byw;
Pwy wyr na ddychwelaf rhyw bryd
           Yn berchen ar gyfoeth go fawr;
‘Mae llawer tro hynod ar fyd,
           Fy nhlodi yw’m rhwystr yn awr.”

Atebai’r tad, “Ti gei fy merch
           Pan fyddi yn gyfoethog”;
Ae aeth ei air fel cledd drwy serch
           Y llanc i’w galon ddrylliog.


(x364) Gofynodd am gael caniatâd
           I siarad un gair gyda’i fun;
Gall ddweyd yn wir fwyn wrth ei thad,
           Fod hyny yn deg i bob un;
Ond ef a omeddodd ei gais,
           Yn bendant er lleied un oedd;
A’i ferch pan y clywodd ei lais
           Wrth syrthio i lewyg, rhoes floedd.

Dadebrodd, “Fy Nhad,” meddai’r fun,
           “Mae cariad yn gryfach na chledd;
Os rhwystrwch fy ffarwel â’r dyn,
           Nid ellwch fy rhwystro i’m bedd;
Ei geiriau orchfygodd ei thad
           Aeth ffynon ei deimlad mor llawn,
Nis mynai ef wneuthur un brad
           I’w blentyn a garai’n hoff iawn.

Y llanc ar fun, ffarweliodd yn bur glaf;
Medd ef, “Fy Ngwen cewch wybod i ble’r af;
Eich caru wnaf, lle bynag byddaf byw,
Mae cariad pur ’r un peth a gallu Duw,
Os caf byth lwydd, fy llwydd fydd eiddo chwi”
“’Run modd”, medd Gwen, “’R wyf inau’n eiddo i ti.”

Mae’r llanc yn myn’d, yn bruddaidd drwy y ddôl
Gan deimlo fod ei galon ef ar ôl;
Er hyny’n ddewr i fyned yn ddi gêl,
I ffwrdd yn syth, a deued fel y dêl,
Meddyliodd nad allasai wneyd yn well,
Na myned ymaith i dramorwlad bell.

           Yr haul fachludodd, daeth yn nos,
           Cyfododd hithau y lloer dlos;
           Goleuo’r ffordd mae hi i’r gwlith
           I fyn’d i garu’r blodau brith;
           A phan ddisgynent ar y ddôl
           Arosant nes daw’r haul i’w nol;
           Yr oedd hi’n noswaith brafia ’rioed,
           Y gwynt yn sïo dail y coed;
           Ac yntau’r ceunant yn ei nwyd
           Yn canu bâs i’r eos lwyd;
           Rhwng brigau’r coed dros lethr y bryri
           Y lloer oedd yn cusanu’r llyn;
           Ac wrth ei gweled sêr y nen
           I gyd yn chwerthin am ei phen:
           Pryd hyn yr oedd y bugail mad,
           Yn cefnu ar ei Eden wlad
           Yn gyflym, gyflym, yn y “trên,”
           Nes cyraedd i Lynlleifiad hen,
           Cadd yno long, aeth ar ei bwrdd,
           Ddarllenydd, gwel e’n myn’d i ffwrdd.

Yr agerlong brydferth gychwynodd
           I’w mordaith ar doriad y wawr
Yr awel a’r llanw yn ffafriol
           I’w chario yn mlaen i’r môr mawr;
Cydgan.y morwyr yn ddifyr,
           Wrth godi yr hwyliau i’r gwynt:
Ond DAFYDD, O! DAFYDD, oedd drymaidd
           A’i galon yn curo’n gynt, gynt.

(x365)

Fel aradr yn nwylaw yr hwsmon
           Y llestr agorai ei chŵys,
A rhanu y gwenyg yn ddwy-dorch
           Gan faint ei chyflymder a’i phwys.
Erlidiodd yr haul pob gwyll ymaith,
           Y ddaear a’r môr oedd yn glir,
A’r bugail a gafodd y tremiad
           Diweddaf ar drumau y tir.

Eisteddodd yn nhrymder ei ysbryd;
           Fel brwynen y plygodd ei ben;
Anghofiodd am enyd p’le’r ydoedd,
           Yn nghanol myfyrdod am Gwen;
Lliniarodd wrth wneyd penderfyniad
           Ymdrechu (pob gwastraff sydd ffol)
Am enill, ac yna dychwelyd
           Dan nodded ei Luniwr yn ol.

Hardd ddarlun ei gariad oedd ganddo,
           Prif eilun ei lygaid oedd hwn;
Cusanai e’n fyrych, gan geisio
           Gwneyd rhywbeth i leddfu ei bwn;
Mae cysgod yn profi fod gwrthrych,
           Yn absen y gwrthrych ei hun;
’Roedd DAFYDD o ’wyllys ei galon
           Yn gallu mynwesu y llun.

Cadd ’snoden â’i enw’n wnïedig
           Rhwng dail ei wych Feibl wrth droi,
Ac arno ddiweddnod melynddu,
           Sef, deigryn yr un wnaeth ei roi;
Nis gwyddai efe ei fod yno,
           Ond gwybu mewn eiliad lla pwy
Fu’n gwneyd y llyth’renau siadanaidd;
           Rhai wnaethant ei hiraeth yn fwy.

Wrth ddarllen ei Feibl bryd arall
           I’w gysur ar gefn y mor hallt,
Beth ganfu - nes neidiodd ei galon -
           Ond cydyn plethedig o’i gwallt;
Yr hwn a eneiniodd a’i dagrau,
           A’i roi o fewn amlen ei llun;
Mor falch yr ymdeimlai fod ganddo
           Un sylwedd o honi ei hun.

’Nol bod ar y cefnfor am ddeufis
           (A chymaint a hyny’n rhy hir),
Dywedodd rhyw forwr calonog
           “Yr ydym yn ngolwg y tir”;
Y bugail daclusodd ei eiddo,
           Yn barod i fyned i’r lan,
Gan deimlo yn hynod bryderus
           Heb wybod beth fyddai ei ran.

Pan gafodd waith, peth cyntaf wnaeth,
           Oedd anfon at ei gariad;
I ddweyd y modd o draeth i draeth
           Y cafodd ei fordwyad;
Cadd yntau gan ei feinir fâd,
           Atebiad call a phrydlon;
Yr hwn oedd mewn estronol wlad
           Yn olew byw i’w galon.

(x366) Anfonodd yntau yr ail waith,
           Rhyw air wrth fodd ei gariad;
Ac yn ei lythyr dros fôr llaith,
           Derbyniodd hyn o’i ganiad.

“Gorchfygaf y rhwystrau sy’n uwch na mynyddau,
           Er fod amgylchiadau yn faglau i mi;
Ond pwy sydd yn gwybod na welaf y diwrnod,
           Y rhoddir mewn amod Gwen imi?”

Gan gyfoeth mae aden gall ’hedeg i’r wybren,
           A gadael ei berchen fel deilen wael lom:
Ond cariad sydd berffaith byth, byth ni chwymp ymaith,
           ’R hwn unwaith a wnaeth ei waith ynom.”

“Hoff anadl fy enaid wyt ti fy ochenaid,
           Dôs, chwyth yn fendigaid o’i llygaid bob llwch;
Fel gwnelo’n ddiwyrni fy mhurdeb tuag ati
           Fy mywyd ’rown drosti’n ddi dristwch.

Spiendrych yw gobaith caf hwn yn gydymaith
           Ei lygaid sydd lanwaith i edrych yn mlaen,
Gall wel’d yn bresenol, i’r amser dyfodol
           Rhyw withred benodol i’w hadwaen.”

Bugeilio’r oedd y llanc pryd hyn
           Ar dir estronol draw,
Dwy flynedd faith bu gyda’r gwaith
           Mewn hiraeth mawr a braw.

Brefiadau’r praidd, a’r ychain oedd
           Fel clychau yn y gwynt,
Yn cofio iddo yn barhaus,
           Am ei fugeiliaeth gynt.

I lleddfu {sic – dim treiglad meddal} ffrwd ei feddwl trist,
           I’r aur gloddfeydd yr aeth;
Gan anfon gair ei fod yn myn’d
           I’w Wen, a chanu wnaeth.

“Gwir gariad sydd fel yr haul mawr
           A’i holl oleuni ynddo’i hunan;
Ond aml bydd cymyl du eu gwawr
           Yn orchudd dros ei wyneb purlan;
Er hyn yn bur, mae e’n parhau
           Nis gall un cwmwl ei wanhau.”

“Ni ddiystyra dlodi dyn,
           Ac nid yw’n bleidgar i’r cyfoethog,
Mae pob amgylchiad ynddi’i hun,
           Fel gwynt y nef yn gyfnewidiog;
Ond cariad pur fel haul mae o,
           Yn caru ’i wrthrych fel y bo.

Fel hyn mae Gwen yn Wen i m i,
           Gwir gariad dysglaer yn ei burdeb,
Y sydd ar sedd ei chalon hi
           Yn adlewyrchu’n ngwen ei gwyneb:
Mae’r haul, y lloer, a ser y nen,
           Yn’mryson gwneuthur llun fy Ngwen.”

(x367)
“’R wy’n gwel’d fy Ngwen yn nglesni’r dail,
           Ac yn y blodau mân tryfithion;
Dydd a nos sydd bob yn ail
           Am ei chwymni yn ymryson;
O’r bell rianod, Gwen ael fain,
           Yw’r bura i mi, a’r hardda o’r rhai’n.”

Ef weithiodd am flynyddoedd yn
           Y gloddfa’n ddigon gwael;
Yn gorfod profi gwir ffaith,
           Haws dewis aur na’i gael.’

Er ymdrech, ymdrech ceisio aur,
           Anffodus braidd y bu;
Mae’n methu gweithio, dyna loes,
           Fe gadd y dwymyn ddu.

Bu’n wael, mor wael nes credodd ef
           Gwnai farw ar y pryd;
Gan ddwyeyd, “Ni chaf ond bedd er d’od
           Yn bell ay draws y byd.”

Ond yn y ddunos torodd gwawr,
           Haul gobaith ddaeth uwch ben;
Fe deimlai’n well, gan lawenhau,
           Fod gobaith gweled Gwen.

Anfonodd lythyr at y ferch,
           Yr hwn wnaeth iddi wrido;
Wrth ddarllen. am y dwymyn erch,
           Ond hedd, wnai’r gair, “’Rwy’n mendio.”

Anfonai hithau yn ddi wâd
           Atebiad i bob llythyr;
Er nad oedd ganddi fawr i’w ddweyd,
           Hi geisiai wneyd rhyw gysur.

Y llanc o’r diwedd ga’dd wellâu,
           Ail weithiodd a’i holl nerth;
Daeth dydd ei ffawd, ca’dd gloddfa aur!
           Un oedd o ddirfawr werth!

Caiff iaith myfyrdod ddweyd yn awr
           Am ei deimladau byw;
Y nef sy’n gwybod beth fu’r gair
           Ddywedodd wrth ei Dduw.

Ei Wen ganfyddai yr yr aur
           A’r hyn foddlonai’i thad;
Gwnaeth benderfyniad yn y fan,
            I ddychwel i’w hen wlad

Saith mlynedd galed wnaeth eu hol
           Ar ei wynebpryd hardd;
Gorchuddiai’i farf ei wyneb llwyd
           Fel chwyn yn cuddio gardd.

Wrth wel’d ei wyneb yn y dryeb,
           O’r braidd’r adwaenai’i hun:
Fe fynai gwag amheuaeth ddweyd
           Nad oedd ef yr un un.

(x368)
’Nol sicrhau ei eiddo oll
           I’w cael i Brydain gref,
I Sydney y daeth, lle cafodd long
           I’w gario tua thref.

Mewn llestr hardd yn nofio’r dŵr,
           Mi wela’m harwr eilwaith,
Yn hwylio at ei feinir ef,
           I’w artref ar ei fordaith.

Wrth adolygu’r hyn a wnaeth
           Er pan ddaeth ef o Gymru,
A’r holl anturiaeth wrth ei fodd,
           Yn fwyn dechreuodd ganu: -

“O Gymru anwylwlad, fy nghartref hoff gwiw,
           I’th fynwes dof eilwaith, dan nodded fy Nuw;
Paradwys y ddaear i’m golwg wyt ti,
           Fy nghalon sydd ynot gan f’Efa fwyn i.

“Rhagorais ar filoedd mewn llwyddiant i’m lles,
           I’m Duw rhof ogoniant am bobpeth a ges;
Daw tymhor cyflawniad’ dymuniad i ben,
           Pan gaf yn neddf cariad gu udiad a’m Gwen.

“Mae’r ager a’r awel yn awr yn gytun,
           Yn cymhorth eu gilydd i’m dwyn at fy mun;
Mi gedwais fy ngobaith, trydd hwn yn fwynâd,
           Yn mynwes f’anwylyd rhwng bryniau’r hen wlad.

“Am iddi fy ngharu pan oeddwn mor llwm,
           Yn gwylio ei defaid hyd ochran y cwm
Mi ranaf fy nghyfoeth a’m Gwen yn ddilwyn.
           Yr hwn a enillais i gyd er ei mwyn.”

Yn Lerpwl y glaniodd yn nechreu mis Hydref,
           Heb undyn yn disgwyl am dano i ddod;
Dyeithrodd ei hunan, nid aeth yn syth adref,
           Gael gwybod sut’r ydoedd y pethau yn bod.
Cyraeddodd i’r gwesty yn mhentref y Dyffryn,
           Lle canfu hysbysiad ar bapyr ger llaw,
Sef, rhybydd ariwerthiant holl eiddo y “Tyddyn,”
           Yr hwn fyddai dranoeth i ddechreu am naw.

A holai’r tafarnwr yn syn am yr helynt;
           Yr hwn a ddywedodd, “Myn’d yn ol yn y byd
Y maent er’s blynyddoedd, mae’n ddrwg gan bawb drostynt
           Yn methu cael deupen y llinyn ynghyd;
Mae hithau’r ffarm hefyd i’w gwerthu ar fyrder;
           Gall rhywun gael bargain, nid yw yn lle drud.”
Medd DAFYDD (yn ddistaw), “Mi ddaethum mewn amser
           Gwnaf ar fy ngwir hefyd, mi pryna’ nhw i gyd.”

Rhoes y tafarnwr iddo’r hint,
           Am Gwen yn caru’r Biigail gynt,
Yr hwn a yrwyd gyda’r gwynt,
           Am nad oedd yn gyfoethog.

Mae nhw yn dweyd i fod y fun
           O hyd yn meddwl am y dyn;
Mae wedi gwrthod llawer un
           O ddynion puar gyfoethog.

(x369)
Ni buasai ar y teulu ball,
           Pe buasai Gwen yn gwneyd mor gall,
A rhoi ei llaw i hwn nen’r llall,
           I fod yn wraig gyfoethog.

’R oedd geiriau’r gŵr fel diliau mêl,
           Yn myn’d heb gêl i galon
Y llanc wrth wrandaw ar y pryd
           Mor hyfryd am ei Wenfron.

Daeth boreun dranoeth, aeth i’r ffair,
           Heb dd’wedyd gair o’i hanes;
Mewn ofn na safai’n well na’r mwg
           Yngolwg ei angyles.

Unioni’r ffordd wnaeth draws y ddol,
           Aeth at y freiniol dderwen,
I weled llun eu calon hwy
           O gylch y ddwy lythyren.

Ond er ei loes, fe’i siomwyd e’,
           Dirisglwyd lle yr oeddynt
Gan dad y ferch, yr hon mor wych,
           Fai’n mynych edrych arnynt.

Pan gyntaf gwelodd ei Wen lon,
           Bu bron anghofio’i gynllun,
Wrth haner gofyn iddi hi,
           “A ydych chwi’n fy adwyn?”

Ond fe’i gadawoddyn y fan
           Bron syrthio gan’ei aeimlad;
eb gael un gair, ond “ Boreu da,”
           Gan ei gywiraf gariad.

Canfyddai’i thad a’i mam yn brudd
           Poreuddydd yr arwerthiant,
Yn gyfyng arnynt dan y rhod,
           Heb wybod p’le gwynebant.

Ond y tywyllwch a’i hamdôdd
           I’r llanc oedd yn oleuni:
’R hwn oedd a’i galon yn rhy hael
           I’w gadael i galedi.

Mae dynion yr ardal yn casglu yn llu
           Cyn dechreu’r arwerthiant i’r buarth;
Mae’r daoedd a phobpeth o amgylch y tŷ,
           A ffigiwr yn enw pob dosbarth.

Dyn dyeithr ddaeth atynt yn union i’r maes,
           Un nad oedd neb yno’n ei ’nabod;
Ei wyneb yn farfog, a’i farf yn dra llaes,
           A’i wisgiad i raddau oedd hynod.

Fe ddaeth yr arwerthydd i’r gadlas mewn pryd,
           A’i swyddog a’i lyfr yn ei ganlyn;
Y teisi gwair werthodd, a phob cyrnen ŷd,
           Fe’u prynwyd oll gan y dyeithrddyn.

(x370)
“Dowch,”ebai’r arwerthydd, “cynnygied rhyw ffrynd,
           Rhaid gwerthu’r holl gelfi amaethol,
I’r uchaf ei geiniog, y maent yn myn’d myn’d:”
           Fe’u t’rawodd i’r prynwr blaenorol.

Yr holl anifeiliaid a brynodd i gyd: -
           Pan ydoedd wrth gorlan y defaid,
Wrth gofio’r hen amser, fe gafodd gryn fyd
           I guddio’r deigr ffrydiai o’i lygaid.

Drwgdybiwyd i raddau,’r arwerthydd roes hynt
           Gwell sicrâu’r taliad yn fuan”;
All right,” meddai yntau, gan roddi can’ punt
           Yn wystl am y gweddill o’r arian.

Y gŵr gyda’i forthwyl gychwynai yn hy’
           I werthu’r heirdd ddodrefn henafol,
Pryd ’r ydoedd mam dyner a’i merch yn y tŷ,
           A’u dagrau’n afonydd llifeiriol.

Yn gyntaf fe werthwyd ymenyn a’r caws,
           I’n harwr y cawsant eu taro
Yr hwn ydoedd agos a thori ar ei draws
           Wrth wel’d y ferch lanwaith yn wylo

Y cwpwrdd mawr derw, y dresser a’r clock,
           Y byrddau a’r hen gadair freichiau
A ddaeth i’r dyeithrddyn, trwy gnoc, ar ol cnoc,
           A’r cyfan oedd yno o welyau.

Y cryd a’r cadeiriau, a chistiau y blawd,
           A brynodd ynghyd a’r droell nyddu;
“Ymhell bo’r dyn barfog,” medd Gwen gyda gwawd,
           Beth gwelsai hi’i galon e’n gwaedu?

“Fy nhad,” meddai’n drymaidd, a’i grudd hardd yn wleb,
           “’Rwy’n ofni’r dyn yna sy’n prynu;
O bawb o’n cym’dogion, ai tybed’does neb,
           Bryn rywbeth er mwyn yr hen deulu?

Medd yntau, “Rwy’n methu a deall fy han
           Fod hwn yn cael prynu y cyfan;
Nac ofnwn, fy ngeneth, mae’n edrych fel dyn
           A chanddo ddigonedd o arian.”

Mae’r llyfrau yn myned, yn myn’d, myn’d yn awr
           Am unwaith am ddwywaith a’u taro;
Loes fawr ydoedd gweled yr hen Feibl mawr,
           Yn myned i’r estron oedd yno.

Mae pobpeth ’nawr trosodd, mae’r bobl yn syn,
           (Wrth fethu a deall y prynydd)
Gan ddweyd wrth eu gilydd, “ Peth hynod yw hyn,
           Cawn weled beth wna yn mhen deuddydd.”

At feistr y tir aeth ef yn hy’
           Mewn pryd i brynur tyddyn;
Fe roes i lawr ragdaliad hael
           I’w gael yn nechreu’r flwyddyn.

Oddiyno’n ol at dad ei fun
           I ofyn cais “bendigaid,”
A wna ef aros yno dro
           I wylio’r anifeiliaid.

(x371)
Rhowch waith i’r gweision yn ddi feth,
           ’Rwy’n gwel’d pob peth mewn anhrefn:
Gwnant hwythau’r merched yn y ty
           Ofalu am y dodrefn.

Ac os ’ngorchymyn i a wnewch
           Chwychwi gewch eitha’ taliad;
“Gwna’n wir,” medd yntau, “anwyl Syr,
           ’Rwy’n falch iawn o’r cynygiad.

“Gofalu am bobpeth wnaf yn iawn
           Fel pe bawn yn eu perchen;
A’r nefoedd a’ch bendithio chwi
           Am gofio dyn mewn angen.”

Fe deimlodd ein barwr pryd hyny,
           Nad allai ef wneuthur dim mwy,
Heb iddo ddatguddio ei hunan,
           Nid allai ddyeithro yn hwy.

Yn Ngwesty y Pentref gorch’mynodd
           Am swper i’r teulu’n gytun
I fod ar yr adeg benodol
           A byddai ef yno ei hun.

Gwahoddodd y teulu - a daethant
           Yn llawen o amgylch y bwrdd
A llygaid y Nefoedd yn craffu,
           Beth fyddai diweddad y cwrdd -
Y Llanc oedd yn gwisgo bryd swper,
           O bwrpas ei wasgod hardd fraith,
Yr hon gadd ef gan ei anwylyd,
           Yn anrheg wrth gychwyn i’w daith.

Gwen gafodd gipolwg ar hono
           Pan roddes ei law arni hi,
Fe waeddodd y feinir “O! Dafydd!
           O! Dafydd; fy Nafydd wyt ti!
O! Dafydd, O! dywed, O! Dafydd,
           Ai ti ydyw’m Dafydd, beth wnaf?
R wy’n nychu mae’nghalon yn ddarnau,
           O! Mam a Nhad anwyl. ’R wy’n glaf.”

Hi syrthiodd i freichiau’i hanwylyd
           Pryd hyny ei rhiaint roes floedd,
Wrth weled ei ddagrau yn dystion
           Yn profi mor uniawn pwy oedd!
Edrychent yn syn ar eu gilydd,
           Eu pedwar heb allu dweyd dim!
Ond siarad yn iaith eu dystawrwydd
           Pan nad oedd i’w geiriau un grym.

Carasant eu gilydd mewn purdeb digonol
.           Ar ol y ddu hirnos - dydd hyfryd a ddaeth,
I rwymo i’r ddau gariad a chadwen urddasol
           Mewn undeb a’u gilydd “er gwell ac er gwaeth.”
Trwy rym penderfyniad gorchfygu wnaeth Dafydd
           Mae’n awr yn cartrefu yn Nhyddyn y Nant,
Daeth ef a’i hoff briod drwy gariad a chynydd
           Yn dad a mam tyner i lawer o blant.


(x372)
Iselu gwàr y Wyddfa syth,
           Bydd yn gae gwenith gwastad,
A theflir Cadair Idris gref
           I ymyl tref Llynlleiflad,
Ac a Plynlimon gyda’r lli’
           Cyn gellir tori cariad.

Mae’n haws gwneyd rhaff o dywod môr
           A rhwymo’r gwynt yn union -
A llawer haws yw cynen tân
           O ddyfroedd glân yr afon,
A haws troi ffrwd yn ol i’r cwm
           Na thori cwlwm calon.

 

(Diwedd)





Adolygiad diweddaraf  2009-12-02, 08 11 2002

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ ə

Fformat 100 chwith, 200 de


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) äm ai? Yüu äa(r) vízïting ə peij fröm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA
 
  

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats