1482k Gwefan Cymru-Catalonia. Atgofion Hen
Lowr. Gan Hen Bartnar Dai. 1934. Wel, ’nawr ta, gad weld, ’rwy’n bedwar ucain,
jest a bod, a ma’ hynny’n mynd a ni’n ôl i’r flwyddyn 1854, pan ceso i ’y
ngeni.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_057_atgofion_hen_lowr_1934_1482k.htm
0001 Y Tudalen
Blaen Google: kimkat0001
..........2657k Y Porth Cymraeg
Google: kimkat2657k
....................0009k Y
Barthlen Google: kimkat0009k
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) Google:
kimkat096k
..........................................y
tudalen hwn
|
Gwefan Cymru-Catalonia
Buddugol yn Eisteddfod Castell Nedd 1934 Adolygiad
diweddaraf: 2009-12-02, 2010-10-09 |
Y llyfr ymwelwyr: 0860k,
Google kimkat0860k |
·····
Atgofion Hen Lowr – Straeon ac
Ysgrifau – Buddugol yn Eisteddfod Castell Nedd 1934
John Davies (Pen Dâr)
Atgofion Hen Lowr.
Gan HEN BARTNAR DAI.
O ie; ac yr wyt am
gael tipyn o’m hatgofion i, wyt ti, idd ’u hala nhw i Gastell Nedd? Wel, yr w i
yn ddicon bolon, ac os o’s awr fach gyta ti i spario, fe awn ati ’nawr ar
unwaith.
Ishda di lawr yn y
gornal fan’a, a fi stedda inna yn y fan hyn, wrth ochor y tân, ac fe allwn
dynnu pwff bach ’nawr ac yn y man, wrth fyn’d ymla’n. Ond ble i ddechra, os gwn
i? Atgofion, hynny yw, ’rwy’n sposo, cofio, a atrodd petha yn fy hanes fel hen
lowr.
Wel, ’nawr ta, gad
weld, ’rwy’n bedwar ucain, jest a bod, a ma’ hynny’n mynd a ni’n ôl i’r
flwyddyn 1854, pan ceso i ’y ngeni. A fi alla weud, ’y mod i’n gallu cofio’n ôl
am rai petha, oddiar pan o’n i ond bothti betar neu bum mlwydd o’d.
Daw hynny â ni i’r
blynydde
Colier o’dd ’y
nhad, ti’n gweld, a ’rwy’n cofio mor dda fel yr o’n i, yn hwyr y dydd, yn
watsan yr amsar, pan o’dd nhad yn dod o’r gwaith, a finna yn rhytag i gwrdd â fa,
ac yn meddwl ’y mhunan yn slebin mawr o ddyn wrth ga’l cario’i focs, a’i jac a,
i’r tŷ, a dyna lle bysa nhw, nhad a mam, yn ca’l sbort yn iawn wrth weld
yr hen grotyn yn i’ swanco hi ar hyd y ty.
Tua’r amsar hynny,
he’d, bachan, ’rwy’n cofio mam yn llefan a’r dŵr yn rhytag lawr dros ei
gwynab hi; ’rodd nhad wedi dod tua thre yn ’i ddillad gwaith, a’i wynab yn lân,
a’r bocs, a’r jac yn llawn. Fe glywas mam yn gofyn iddo beth oedd y mater ’i
bod hi’n stop mor amal o hyd? A fe wetws ’nhad rwpath am ‘streic,’ ‘tarw,’
‘scotch,’ a ‘glo-môr,’ a phethach. Wrth gwrs, d’on i yn gwpod dim beth o’dd
ystyr petha y pryd hynny; ond fe ddetho i wpod yn dda ar ôl hynny.
’Rwy’n cofio’r
dynon, dou ne dri o nhw, yn dod yn ôl ac ymla’n i’n tŷ ni, i wilia gyta
nhad, ac yn sôn fod rigment o sowldiwrs wedi dod o Ferthyr, ne Dowlais, a’u bod
nhw wedi ca’l lle i aros yn ysgoldy newydd Cwmbach, fel y bysa nhw’n barod i
daro ar y coliars odd ar streic, os bydda nhw yn catw’r mwstwr lleia.
’Rw i wedi dod i
wpod ar‘ hynny, taw Streic ’58 a ’59 oedd y streic honno. Fe barhaodd honno am
bothti dou fis, yng nghenol y gaea, he’d li. A beth odd yn wath na’r cwbl odd,
fod y gwithwrs, pwr ffelos, wedi gorffod mynd yn ôl i’r gwaith ar dri swllt y
bunt o gwmpad. A fe ffaelodd nhad, a thri ne bedwar o’i bartnars a, i ga’l
gwaith yn ôl o gwbwl, a gorffod iddi nhw symud o’r lle, a dyna ffor’ y detho ni
i’r lan y ffordd hyn i fyw, a dyma lle’r w i byth.
Pan o’n i bothti
saith mlwydd o’d, fe geso fynd dipyn bach i’r ysgol. Rodd yr ysgol hynny yn ca’l
i chatw gyta hen fenyw, a honno’n iwso snuff, he’d li.
A fe gynta dy fod
ti wedi darllan am ysgol hen Robin y sowldiwr yn hanas Rhys Lewis? Wel, rhwbath
yn debyg odd ysgol Shani Wat gyta ni. Slat wech chinog i neud syms, llifyr “Mayor”
i ddysgu spelin, a darllan Sisnag o’r Beibl. Diaich i, bachan, ro’n ni’n gallu
mynd ymlan fel y gwynt, ac yn raso trw’r llyfra am y cynta. O ysgol fudir odd
ysgol Shani Wat.
Ond fe ddath yr
amsar i fi i ddechra gwitho, ac O! dyna’r amsar y gwelas i mam mewn trwpwl. Y fi
yn becan am gal mynd i witho gy’ta ’nhad, er mwyn cal arian y pai, i roi i mam,
a galls’wn i ddim a godde i weld mam yn colli dagra pan fysa nhad yn dod sha
thre ar ddydd Satwn y pai, heb hannar dicon o arian i dalu’r siop.
Wel, ’rodd ’nhad
yn folon i fi i gal trio, ond r’odd mam yn ofni y byswn i yn cal ’y niwadd o
dan y ddaear. Ond, yn goliar bach yr etho i o’r diwadd, a fe geso waith gyta
Twmi Shams, o’r Comin, yng ngwythian y petar. Dyma fi’n ’nawr yn ddyn, bachan.
Wrth gwrs, ’rodd yn rhaid cal trowsis dyc, strapan i ddala’r trowsis am y
nghenol i, scitsa gwaith cryf, a phedola ar ’u bla’n nhw, a lamp newydd.
Y pryd hynny,
bachan, yr oedd y lampe glasis, y “Clanny,” newydd ddod i gal ’u iwso yn y
pylla oedd wedi cal ’u shinco dipyn yn ddwfwn, ac yn rhoi sopyn o gas mas. Wel,
y balchdar fu yndo i am sbel o amsar odd i gatw’r lamp yn lân; yr ow’n i yn
rhwto, a rhwto, y tu fas i’r cas, nes bod y cwbwl yn shino fel glas. O, y
machan i, ’rodd pobun yn gorffod talu am ‘i lamp ’i
Wel, nawr ta, gad
weld, ma’n drueni i fi i bido gwed gair neu ddou am Twmi Siams, yr hen fistir y
buo i yn gwitho gyda fa gynta.
Dyn o’r Wlad odd
Wel, wyt ti’n
gweld, ’ro’n i’n tyfu o hyd, a’r pryd hynny ’roedd merched yn cal gwitho ar ben
y pylla, yn y gweitha tân, ac yn halio glo tai ar hyd y lle. A jaich ariod i,
bachan, ’roedd rhai ohonyn’ nhw yn bert iawn he’d li. A falla ’i bod i cystal i
fi wed a ’nawr, do’s dim isha i fi fod a chwilydd, fi fuo i yn caru gyta’r
ferch fach lana’ welast ti ariod. ’Rodd hi’n helpu gyda’r drams ar ben y pwll,
ac yn tawlu glo mân at y tana wrth y boileri; ond ’rodd hi’n ferch fach bert.
Yr amsar hynny, yr
odd hi bothti pymthag, neu un ar byrnthag o’d, a finna, ti’n gweld, yn
ddwy-ar-bymthag. O, annwl, annwl, ’row’n i’n ’i charu hi’n dwym! Ond bachan, y
trueni odd, fod bechgyn ryff a digaritor yn amal iawn yn cymryd ewndra ar y
merched hyn yn ’u dillad gwaith, ac yn ymddwyn yn gwrs a thramgwyddus tuag
atynt.
Un tro, bachan, fe
a’th Ianto’r Defil i drio’i law ar y wadgen fach hynny odd gyta fi, ac fe
wetodd rwpath yn insyltin wrthi; hi wetws hitha wrtho i, ac os wyt ti’n y fan
’na, dyma hi yn fatl ryngtom ni’n dou. ’Down i ddim wedi arfadd ymladd, ond
jaich ariodi, ’rown i mor ffond o’r hen ferch fach, ac yn meddwl cymint amdani,
fe elwn drw’r tân drosti, Wel, y diwadd odd, fi roias gystal plastrad i Ianto a
gas a’riod. Fe gas y ferch fach lonydd ar ôl hynny.
Ond yn y diwadd,
nid y hi ddath yn wraig i fi. Wel dyna, a’i ddim ar ôl atgofion y caru fuo i yn
’i neud; atgofion yr hen goliar sydd i fod, ac nid atgofion y carwr.
Yn y blynydda
cynta, bachan, ceffyla, a haliars, a dryswrs oedd yn dod a’r glo’n ôl i waelod
y pyllau. ’Rodd hynny cyn bod y rhaffa ‘
Ond dyna, y ma
popath yn newid, ta p’un a er gwell, ne wath, d’wn i ddim. Bachan w, y ’slawar
dydd, yr o’n ni’n mynd a phipa a thybaco i’r gwaith, a rhyddid i ni gal dod yn
ôl i’r twll cloi i gal whiff fach genol dydd. a dyna lle’r odd smoco, a siarad,
a dadlu yn mynd ymlan. Wedi mynd yn ôl i’r ffas glo, dyna’r lle ’roedd gwitho,
bachan, llathed o gwt, tunelli o lo, twll gwilod, ne dwll top, a phob un yn
gwitho fel y mail.
Wel, ’rwyt ti’n
gwpod shwd ma hi’n awr. ’Roedd y gaffars y ’slawar dydd yn ddynon weddol o
grefyddol, ac yn gyffredin iawn, local preacher, diacon, ne flaenor
capel odd yn cal ’i ddoti’n faniger, overman, neu fireman, yn amal. Yr odd y
dwediad yn cal ’i glywad yn amal: “Os wyt ti’n dod i’n capel ni ti gei waith yn
ein pwll ni.” A ma’n rhaid i fi weud, ’rodd yna frawdgarwch yn bodoli y pryd
hynny rhwng y perchennog a’r gwithwr.
Fe fysa’r mistir
yn dod i ben y pwll ac yn napod i withwrs, yn cyfarch hwn fel hyn, a’r llall
fel arall. A phan fydda rhyw jobin spesial i gal ’i neud, a isha sopyn o ddynon
decha idd ’i neyd a, fe fydda mistir yn addo ecstra pai, a chwpwl o bunnodd i
gal cwrw-lwans. Dyna’r ffordd odd hi y ’slawar dydd, y machan i.
Wel, nawr ta, yto,
gad inni ddod yn ôl i’r 70’s. Y mae dros drician mlynedd nawr oddi ar Streic
Fawr ’71. Aberdar ac Aberpennar odd fwya yn y boddar o hyd. A fe ath petha’n gas iawn
yr amser hynny rhwng y meistri a’r gwithwrs.
Wedi i’r gwithwrs
drwy y Cwm, o’r top i’r gwaelod, sefyll mas ar y streic am gwpwl o wthnosa, fe
halws y mistri i’r lan i Loegr, i Staffordshire, i wahodd collars i ddod oddi
yno i’r Mount, a ’Berdar i witho, gan ddwed y celsa nhw waith llawn am wages
o bedwar-a-wech a choron y dydd, a lodgins cwmffwrddus hyd nes y bysa ’nhw’n
cal tai ’u hunen.
Bachan, bachan, fe
ddethon, bothti bedwar ucian ne gant o nhw, a phan ddetho’n nhw, dyna le fu yn
y Mownt. Fe ddath y menywod a’r merched i’r stesion i gwrdd a’r tren, a phob un
â chitl tun, ne ffrimpan gyta hi, i roi welcom i’r turncoats.
Wrth gwrs, yr oedd yr
awdurdoda, fel arfer, wedi paratoi dicon o bolismyn i gardo’r goliars newydd.
Ond fe ddigwyddws peth od ac anarferol iawn ym mhylla’r Mownt y bore ar ôl i’r turncoats
ddod. Fe ballodd y firemen â mynd i lawr gyda’r dynon dierth, a fe sefon
ar y streic, rhyw wyth ne naw o nhw. Fe geson ’u tynnu o fla’n y cwrt yn
Aberdar, a fe geson ’u cosbi.
Wedi rhyw dair wthnos
ne fis o ymladd fel hyn, rhwng y mistri, a’r gwithwrs, fe setlwyd y fusnes, a
fe roddwyd send off iawn i’r turncoats eto, gyta’r gwragedd, a’r
merched, yn canu’r kettle tins a’r ffrimpans. Fe gosbwyd tua hannar
dwsan o’r gwracedd yn Aberdar am gymryd rhan yn y drafodath hyn, a ma’ enwau’r
menywod a’r dynon hynny ar ga’l o hyd, os bydd isha.
Wel, wyt ti’n
barod am whiff fach ’nawr? Cynn di dy bib, a fi a i ymlan a’r stori dipyn bach
yto. Ie, gwed am y streic yr o’n i, on ta fe? Streic arall lled gas wy’n ’i
chofio odd streic ’75.
Dodd dim llawar o undab
yn bodoli’r pryd hynny, ti’n gweld. ’Rodd y coliars yn cal ’u rhannu gyta ni
yma yn Sowth Wales fel rheol, yn ddwy ran, coliars y gwitha tân, a choliars y
glo môr.
Ac yr odd yn anodd
iawn idd ’i cal nhw i ddiall ’i gilydd; jealousy, eiddigedd, ti’n gweld,
a ofan fod un set yn cal mwy o wagis na’r rhai erill. A phan bysa’r coliars yng
ngwithe’r glo môr yn streico am gwnnad, dyna lle bysa gwyr y gwithe tân yn
pitcho mewn fel nigars i droi gymint o lo mas ag a allsa nhw; “good for
trade,” ’menta nhw.
A dyna’r ffordd
odd hi gyta’r ochor arall, he’d ’li. Ac yn ’75, fel ’rwy’n gwed, fe fu bothti
tri mis o streic. Yr oedd mistri y ddwy ochor wedi dod i ddiall ’i gilydd yn
weddol iawn erbyn hyn, a’r fatl rhwng mistir a gwithwr yn dod yn fwy wherw a
ffyrnig nag o’r blan.
’Rodd Mabon ’lawr
sha ’B’rafon, a’r West ’na; Isaac Ifans yn ochr Castall Nedd, a Dai o’r Nant a
Phylip Jones, gyta ninna i’r lan y ffordd hyn, yn dechra dod i’r ffrynt fel
ledars.
A’r amsar hynny fe
ddath Haliday a Macdonald - nid hwn sy yn Llundan ‘nawr, cofia - lawr i’r parta
’ma, i drio’n helpu ni yn y streics a phethach; ond Saeson o’n nhw, a dath ddim
llawar o siap ar betha; mynd yn ôl ar gwmpad odd hi o hyd, a fe fu petha’n
dlawd iawn am flynydda wedi hyn, y gwitha tân yn stopo ym mhobman, bron, a’r
gwithwrs yn gorffod mynd i rwla i ddisgwl am waith, off i’r ’Merica, ac i
bobman lle celsa nhw waith. Fe allswn i ddwud sopyn wrthot ti am yr Haliday
’ma, fel y bu a yn Aberdar, Merthyr a’r Rhondda yn cynnal mitins, a phethach,
ac yn sefyll lecsiwn yn erbyn Fothergill a Henry Richard, i gal mynd i’r
Parlament.
Ond fel y
digwyddws hi, a’th a ddim i miwn, ond cofia di, fe gas dros betar mil o fôts, a
fe ddangosws hynny fod y gwithwrs wedi dechra acor ’u llycid i’r beneffit o gal
dynon o’u plith ’u hunen i fynd i’r Parlament drostyn nhw.
Weta i ddim rhacor
ar y pen ’a, ond fi â ’mlân i wed dicyn yn fwy am streic ne ddwy arall. Fe
geson streic ffyrnig, ond cymharol fyr, yn 1893. Ma honno yn cal ’i galw yn
“streic yr Haliers.” Fe ath honno fel tan drwy Sir Fynwa, y Rhondda, Aberdar,
ac i lawr i’r West, a bechgyn pert, fel ti’n gwpod, odd yr hen haliers y
’slawar dydd.
Ond ta beth i, fe
ddath yr hen Garreg Siglo sy ar y twmp ar bwys Pont-y-pridd yn bopilar iawn, o
achos fod rhai o’r mitins mwya yn y streic hynny wedi cal ’u cynnal wrth y
Garreg Siglo.
A fe ddath ’na
fachan ifanc o ’Berdar i drwpwl mawr y pryd hynny, he’d li. ’Rodd a’n un o
growd fawr yn marcho trwy ’Braman i lawr i’r Mownt. Fe berswatws y sargiant
polis nhw yno i fynd yn ôl o’r Mownt, ac fe ethon. Ond i’r lan ar bwys gwaith
’Braman, fe danws rhywun ergyd o bistol, a dyma hi yn alibalw gwyllt, ac fe
ffindwd mâs taw gi’ta’r boi ifanc hwn odd y pistol. Wedi trial ne ddou, fe gas
fynd i’r jâil am wech mis. Fe ddath y boi’n enwog wedi ’ny fel membar o’r
Parlament am sbel, ond o achos iddo dro ’i gôt, fel gollws ’i set, a ma fa ar y
comin byth oddi ar ’ny, a dw i ddim wedi clwad dim amdano ers blynydda.
Streic arall, a’r
un fwya yn hanas y byd, i’r lan i’r amsar hynny, odd streic y ’98. ’Rodd yr hen
generals i gyd yn cymryd rhan yn honno - Mabon, Dai o’r Nant, Daronwy
Isaac, John Williams, Tom Richards, Alfred Onions, Will Brace, a’r blwmin lot i
gyd.
Fe ddechreuws y
ledars ffraeo a’i gilydd; yr hen Fabon yn dala’n ôl, a’r ceffyla ifanc yn moin
mynd ymlân, a’r dynon call ymhlith y gwithwrs yn gwed nag odd hi ddim yn ddecha
iawn, i newid ceffyla yng nghenol yr afon.
Trodd rhai o’r
iyngstars yn mo’yn doti John Williams yn geffyl blaen yn lle Mabon. Ac i
gwpla’r cwbwl, pan odd yr hen streic ar ’i chenol, fe gas Dai o’r Nant, pwr
ffelo, ddou fis o jâil am ’i fod a, menta nhw, wedi ledo streicars Pwll y No.
9, Abernant, i ala ofan ar rai turncoats odd wedi aros i witho wedi i’r
mwyafrif i ddod mas ar streic.
Yr oedd yr hen
Ddai, ’ti’n gweld, yn cal ’i styriad yn fwy gonast na’u hannar nhw, a chyda bu
e miwn o dan glo yn y jâil fe setlwyd y streic, ar ôl bod yn agos iawn i whech
mis yn ymladd. Bothti dwy flynedd y bu’r hen fetran yn fyw wedi bod yn y jâil,
a fe fu farw betar-blynadd-ar-ddeg-ar-ucain yn ôl.
Wedi’r streic
hynny, fe ddath y Ffederasion i fodolath gyta ni yn Sowth Wales a Sir Fynwa.
’Rodd Will Brace a chwpwl o’r rebels o Sir Fynwa wedi bod yn cecran ynghylch
Ffederasion coliars Lloegr dwy ne dair blynadd cyn y streic fawr, ac yn gwed yn
gryf y dyla ni yng Nghymru joino gyda’r Saeson, a chal un undab mawr solid, fel
y bysan ni i gyd - y Scotch, y Saeson, a ninna’r Cymry, pan odd streic ne fatl
yn rhwla, yn gallu dod mas gyta’n gilydd yr un pryd, yn lle’n bod ni, rai yn gwitho
a llanw glo pan fysa’r rhai erill ar y streic. Bachan, bachan, fe âth mor gas
rhwng Mabon a Brace fel ag idd ’u achos nhw i fynd i’r seisis, a fe ’nillodd yr
hen Fabon y dydd, a fe gas ffyrlin o iawn am damagis yn erbyn Brace.
Ond whara teg iddi
nhw, fe ddethon yn bartnars piwr wedi ’ny, a fe ymladdon lawer i fatl galad
gyda’i gilydd ar ôl hynny yn ochr y gwithwrs. Ac wrth gwrs, ’rwyt ti’n gwpod
bod yr hen Fabon wedi mynd sha thre y ’slawar dydd, a ma Brace, ’rwy’n clywad,
yn ’i lorchan hi yn rhwla wrth yr afonydd dyfro’dd, wedi cwpla gwitho, ac yn
aros am yr alwad iddo fynta i gal mynd sha thre.
Cofia di, bechgyn
cryf odd y bois hynny i gyd, ond ma nhw’n awr wedi mynd a’u cownt i miwn i gyd,
ond yr hen bartnar Will Brace, a’r tro diwetha y gwelas i a, ’todd ’i fowstas a
mor ddu ac mor hirad ag ariod.
’Dos dim isha i fi
’weud dim wrthot ti am streics mawr
Beth taw’n i yn
gwed wrthot ti am rai o’r tanata a’r explosions ’rwy’n gofio? Bachan w,
pan o’n i’n grotyn bach, bach, ‘rodd tanata yn dicwdd yn rhywla ne gilydd bron
bob wthnos, a chwpwl o’r gwithwrs, pwr dabs, yn cal ’u diwadd bob tro.
’Dodd dim llawar o
son am Fines Act y pryd hynny; y mistri a’r gwithwrs yn neud jyst fel y
mynsan nhw; mynd a gola no’th miwn i’r gwaith, iwso powdr rhydd, gyda scwibs, a
saffti a phethach. ’Rodd lowans i’r fireman, shwd fireman ag odd
a, i frwso’r gas off gyta’i got, ne bisin o fratis yn y bora, cyn bysa’r coliar
yn starto, a weti ’ny ’rodd y coliar i frwso’i le ’i
Fe gas ugeinia
fynd i dragwyddoldeb gyda’r tanata ’ma, ond y rhai mawr cynta rw i yn ’u cofio
o’dd rhai Bla’nllecha.
Fe ddigwyddws yr
un cynta yn 1867, a’r ail ddwy flynadd ar ôl hynny, yn 1869. Fe gas 178 o bŵr
ffelos ’u lladd yn y cynta, a 58 yn yr ail danad.
O, bachan, bachan, fi
etho i draw i Blanllecha y dy’ Sul ar ôl y tanad cynta, a dyna le i ti. Yr odd
yno filodd o ddynon wedi dod yno i gal gweld petha, a’r tafarna - dim ond dou
ne dri odd ’no - yn llawn choc, a rhai wedi hannar meddwi ac yn ffraeo
am racor o gwrw.
Wel, yn y ngwir i,
’rodd hi’n fwy tebyg i ffair na dim arall, a hynny ar ddydd Sul, ac ar
amgylchiad mor ofnadw.
Fi glywas ’nhad yn
gwed am danad mawr cynta Llety Shencyn, a ddigwyddws yn 1849, ar fora dydd
Llun; fod dynon wedi dod yno o bobman erbyn canol dydd, a bod llawar wedi dod
yno’n feddw. A dim ond un plisman odd yn y lle i gatw’r crowd yn ôl
o’r pwll. Wel, os wyt ti’n y fan ‘na, fe ath bothti hannar dwsan o’r rhai
meddw, ynghyd a’r plismon, druan, ac fe’i trafotson a yn arw iawn. Trwy
drugaredd, fe ddath yno ddou blismon arall o’r diwedd, a fe roison stop ar y
ffwlied meddw. Fe gas 58 ’u diwadd yn y tanad hynny, ac yr odd tri ne bedwar
crotyn bach o dan 11 o’d, ymhlith y rhai meirw.
Ma llawar o sôn,
bachan, fod dynon yn gweld drychiolath” o dan y ddaear, ond yn wir it ti, welas
i ddim ariod fel’ny, a finna wedi bod yn gwitho miwn am fwy na thrician
mlynadd.
Fi weta wrthot ti
yr ofan mwya’ geso i ariod un bora: ’ron i’n dicwdd acto fel fireman un
tro, ac, wrth gwrs, yn mynd yn rownd i’r gwaith cyn fod y coliars yn dechra yn
y bora.
Ond ta beth i, y
bora hyn, wrth fynd i’r pen bla’n bothti filltir o’r pwll wrth ym hunan bach,
heb un dyn byw yn acos, fi welwn rwpath fel bulls’ eye, bachan, yn shino
o’m mla’n i.
Fe glywas, fel ta
dŵr o’r yn rhytag lawr drws y nghefan i, a fi stopas yn sytan fel post.
Beth allsa fa fod? Ond cyn i fi allu gwed gair, dyma’r bull’s eye yn dod
shag ato i, ac yn neido hibo fel llychetan. A beth ti’n feddwl odd ‘na? Dim ond
yr hen gwrcath o’r stapal wedi bod ar dramp ’i
’Dw i ddim am weud
sopyn o hen lol wrthot ti am y petha rwy’n gofio, ond ’rwy’n gwpod y lici di glywad
dipyn bach am y cwrdda gweddio on ni yn arfadd gal y ’slawar dydd ar waelod y
pwll ar fora dydd Llun. Bachan w, dyna gwrdda da, a dyna weddio!
A’r pregethwrs -
’ron nhw yn dod lawr ar yn ail a’i gilydd, ac yn rhoi precath ne anerchiad byr;
ac yn amal iawn fe fysa rhai o’r bosus yn cymryd rhan, oblecid ’rodd cwpl lled
dda o nhw yn ddiaconiaid ac yn pregethu ’nawr ac yn y man ar ddydd Sul. A whara
teg iddi nhw, he’d, yr amsar hynny ’rodd y rhan fwya o’r bosus yn trafod dynon
fel dynon, ac nid yn ’u drifio nhw fel cwn, a’u tyngu a’u rhegi nhw i’r cymyla.
Ond gad i fi i
scwaro top ne ben y stori ‘nawr, fel ’ron i yn arfadd scwaro top y drams glo yn
barod iddi nhw i fynd mas, y ’slawar dydd.
Fe allswn dy gatw
di yma am oria hir, yto, p’tawn i yn gwed y cwbwl w i yn ’i gofio. Ond fi gwpla
nawr gyta gwed am dri ne bedwar o fechgyn gas ’u diwedd ar y mhwys i, ac y ma’r
dicwyddiata hynny wedi aros yn ddwfwn ac yn fyw iawn ar ’y nghof i.
’Rwy’n cofio
Morris, ’y mhartnar i, yn cal ’i ddiwedd trwy gwmpo o dan dra’d y ceffyl
“Roman,” a’r ddwy dram lawn odd yn dod ar ’i ôl a. Dryswr bach, douddeg o’d odd
Morris, a fi. glywas i fa’n gweiddi o ben y twyn: “Oti’r hewl yn glir?”
Ond cyn fod neb yn
gallu atab, ’rodd yr hen geffyl wedi dechra rhytag i lawr dros y ryn, a fe
ffaelws Morris bach a chatw yn ddicon cwic o’i flan a, a fe ath yr hen geffyl
a’r ddwy dram dros ’i gorff bach a. A dyna hi’n stop, wrth gwrs, a’i gorff a yn
cal i gario ’nol sha thre, mwn bothti awr wedi iddo fatal a’r tŷ yn y
bora.
Tro arall budir iawn
yn y nghof i odd am fachan o’r enw Frank. ’R’on i yn dipyn o fireman
regilar yr amsar y digwyddws hyn. ’Rodd twll gwaelod wedi fflato, ti’n gweld,
ac wrth gwrs, dodd neb i fynd yn agos i’r man hynny am betar awr ar ucian. Ond
ta beth i, fe ath dou ne dri diwrnod hibo, ac fe alws y manager ddou fachan
diarth miwn i witho yn y talcen lle ’rodd y twll wedi fflato.
A fel digwyddws hi, fe ath Frank,
odd yn gwitho yn y talcan nesa lawr, at y ddou fachan newydd, a ma’n depyg iawn
iddo’u helpu nhw, drwy ddala’r tarad i dyllu yn y twll odd wedi fflato.
’Rodd a yn ishta ar y gwaelod, a’r
tarad yn ’i ddwylo yn cal ’i droi, ac yn ddisymwth fe ath yr ergyd off, a fe
wthwd Frank yn yfflon yn erbyn y top, ac fe safiws y ddou fachan diarth.
Dyna galad y bu hi
Un digwyddiad arall, a fi gwpla i weti’ny.
Tri parti yn gwitho mewn tair hewl nesa at ’i gilydd. Tylla i saethu’r gwaelod
gyda’r tri yn barod ar ddiwadd y dydd, pob un wedi cal rhyddid i dano’i dwll ’i
O, annwl, annwl, petha ofnatw yw’r
lladdiata ’ma, sy’n dicwdd o dan y ddaear.
’Nawr ta, machan i, os wyt ti wedi
doti’r cwbwl lawr ar y note-book ’na sy gyta ti, ’rwy i’n cretu y gallu
di fod yn folon. Ac os byddi di yn mofyn rhacor o details rhywdro eto, ti
elli ’u cal nhw pryd y mynnot ti! ’Nawr ta, ’rwy’n cretu ’i bod hi’n deg i
finna i gal whiff fach arall ’nawr, a ni smocwn gyda’n gilydd.
Dera ’mlan.
DIWEDD
Adolygiad
diweddaraf 2009-12-02, 08 11 2002
Sumbolau
arbennig: ŷ ŵ ə
Fformat 100 chwith, 200 de
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n
ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) äm ai? Yüu äa(r) vízïting ə peij fröm dhə
“CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page
from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu
les estadístiques / View My Stats