1486k Gwefan Cymru-Catalonia. Hanes pregethwr o Fethodist a anwyd ym mhentref Llaneirwg, Sir Fynwy, yn y flwyddyn 1836. Cofiant a Phregethau y Diweddar Barch. David James, Llaneurwg. 1896.”Magwyd glewion yn Llaneurwg o flaen David James, ond nid oedd eu poblogrwydd yn gyfryw ag i allu dwyn enw eu lle genedigol uwchlaw enwau cymydogaethau eraill.”

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_061_david_james_llaneurwg_1896_1_1486k.htm

Yr Hafan

..........1863k Y Fynedfa yn Gymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai

........................................y tudalen hwn


..

 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Cywaith Siôn Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg) El projecte Siôn Prys (Col·lecció de textos en gal·lès)

COFIANT A PHREGETHAU
Y DIWEDDAR BARCH. DAVID JAMES
LLANEURWG

(ganwyd 24 Hydref 1836, bu farw 30 Tachwedd 1889, yn 53 oed)

GAN Y PARCHEDIGION
THOMAS REES, D.D., Merthyr
A
D. M. PHILLIPS, TYLORSTOWN. 1896


(delwedd 6671)

Adolygiad diweddaraf: 02 200318 :: 02 12 2002

 



translate this page


 

Ein sylwadau mewn teip oren.

 

Cofiant a Phregethau - Clawr y Llyfr


(Testun electronig yw hwn wedi ei godi o lyfr y cefais hÿd iddo yn Aberystwyth yn y flwyddyn 1980 – yn sicr iawn yn Siop y Pethau. Ar y tudalen gweili ceir label ag enw cyn-berchennog y llyfr – “L. R. Richards / Chirk” (hynny ÿw, Y Waun yn Sir Wrecsam). O’i ddal i fyny yn erbyn y ffenest, dyma’r golau dydd yn datguddio enw’r pechennog cyntaf, sef “Evan Jones / Aberfan Road / Merthyr Vale”.)

 

Richards y Waun

.....

 

 

 Y Parchedig D. James, Llaneurwg
.....

Cofiant a Phregethau - y dudalen deitl

 

I fynd at dudalen neilltuol rhowch x o flaen rhif y tudalen - x10, x25, ayyb - a defnyddiwch eich archwiliwr tudalen

 

Yr ydym wedi cadw’r orgraff wreiddiol.

 

(x1)

COFIANT A PHREGETHAU
Y DIWEDDAR BARCH. DAVID JAMES
LLANEURWG.


GAN Y PARCHEDIGION
THOMAS REES, D.D., Merthyr
A
D. M. PHILLIPS, TYLORSTOWN.

Ail Argraffiad.

“Efe oedd Efengylwr o’r iawn ryw,
Yn rhanu bwyd i’r enaid, ac yn byw.
Ei hunan arno. Yn y cudd a’r c’oedd
I Iesu Grist gweinidog, ffyddlawn oedd.”
ISLWYN.


CAERDYDD.
ARGRAFFWYD GAN Y BRODYR ROBERTS,WORKING STREET. 1896.

 

 (x2) GWAG

(x3)

CYNWYSIAD

Y COFIANT –
……I. Ei Rieni (x9)
.......II. Dechreuad Methodistiaeth yn Llaneurwg (x13)
.......III. Ei Enedigaeth a’i Febyd (x17)
.......IV. Yn myned i’r Ysgol Ddyddiol, &c (x22)
.......V. Ei Ymroddiad i Gerddoriaeth (x25)
.......VI. Ei Ddyfodiad at Grefydd (x29)
.......VII. Yn cychwyn Pregethu (x32)
.......VIII. Cynydd eithriadol ei Boblogrwydd (x37)
.......IX. Yn Orchfygwr Anhawsderau (x41)
.......X. Ei Gymeriad fel Dyn a Christion (x45)
.......XI. Ei Nodweddion Meddyliol, &c. (x49)
.......XII. Elfenau ei Boblogrwydd (x52)
.......XIII. Adgofion (x56)
.......XIV. Eto (parhad) (x60)
.......XV. Ei Symudiad i Gaerdydd a’i Farwolaeth (x63)
.......XVI. Llythyrau a Phenillion Coffadwriaethol (x69)

Y PREGETHAU -
.......(1) Syched am Dduw (x78)
.......(2) Prynu a Phuro (x87)
.......(3) Cyrchu at y Nod (x94)
.......(4) Anchwiliadwy Olud Crist (x102)
.......(5) Mynydd Sinai a Mynydd Seion (x107)
.......(6) Achub hyd yr eithaf (x116)

(x4)

.......(7) Y Cyfamod Newydd (x125)
.......(8) Duw pob Dyddanwch (x132)
.......(9) Dyrchafiad Crist (x140)
.......(10) Rhad Ras (x148)
.......(11) “Duw, Cariad yw” (x155)
.......(12) “Ystyr y Perffaith” (x162)
.......(13) Yr Eiriolwr (x166)
.......(14) Dadblygu a Pherffeithio Ffydd (x175)
.......(15) Yr Efengyl fel Trysor (x180)
.......(16) Y Bywyd Cuddiedig (x188)
.......(17) Yr Etifeddiaeth Nefol (x194)
.......(18) Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu” (x199)

 

 

(x5)

RHAGYMADRODD

Nid wyf yn meddwl fod angen gwneyd unrhyw esgusawd dros ymddangosiad y llyfr bychan hwn. Yr oedd y diweddar Barch. David James, Llaneurwg, yn un a gerid, ac a berchid mor fawr ar gyfrif ei gymeriad pur, dilychwin, a’i weinidogaeth gymeradwy, fel yr ydwyf yn tra hyderu y rhoddir derbyniad parod i’r gyfrol hon i’w goffadwriaeth. Cam â gŵr mor anwyl, ac un ymroddodd i waith ei Arglwydd gyda’r fath egni, a cham hefyd â’i edmygwyr lluosog, fuasai ei adael heb ryw fath o fywgraffiad er ei gadw yn nghof yr enwad y llanwodd le mor bwysig yn ei bwlpud.

Ar un olwg, buasai yn dda genyf pe byddai y gorchwyl o ysgrifenu y Cofiant wedi syrthio i ddwylaw rhywun oedd fwy cymhwys na mi i’w gyflawni; ac ni buaswn wedi ym gymeryd â’r gwaith ond ar gais taer plant Mr. James, yn nghŷd â Mr. Williams, ei fab yn nghyfraith (yr hwn sydd. wedi bod yn gynorthwy mawr i ddwyn y gwaith drwy y wasg). Erbyn hyn, beth bynag, nid drwg genyf fy mod wedi treulio ychydig fisoedd yn nghymdeithas Mr. James, ac yr wyf yn credu fod ceisio olrhain hanes gwr mor dda a duwiol wedi gwneyd lles dirfawr i mi, ac y gedy argraff barhaol arnaf. Yr wyf yn mawr obeithio nad wyf wedi dweyd yr un gair yn y tudalenau hyn a fydd â’r duedd leiaf ynddo i ostwng syniadau neb am Mr. James fel dyn na phregethwr, ond yn hytrach i’r gwrthwyneb. Gwn mai digon annheilwng o’i goffadwriaeth yw yr hyn sydd wedi ei ysgrifenu, ac y gwel y darllenydd lawer o anmherffeithrwydd ynddo; ond yr wyf yn sicr na wna hyny beri mwy o deimlad i neb nag i mi fy hun.

(x6)

Da fuasai genyf pe byddai yn berffaith, ac yn ddarlun mwy byw o’r gwrthddrych. Gallasai fod yn helaethach Cofiant o lawer; yr oedd genyf ddigon o ffeithiau i’w wneyd yn gymaint arall; ond er mwyn cael nifer dda o’r pregethau i mewn, ac i bris y llyfr beidio bod yn uchel, gadewais allan bob peth ond prif linellau hanes ei fywyd.

Nid teg fuasai i enw y Parch. Thomas Rees, D.D., Cefn-coed, Merthyr, beidio bod ar y wyneb-ddalen, oblegid y cynorthwy mawr mae wedi roddi gyda’r gwaith. Bu mor garedig a dethol allan bregethau i’w gosod i fewn, ac i wneyd y gorchwyl hwn nid oedd neb yn fwy cymhwys, o herwydd cyd-bregethodd lawer â Mr. James ar hyd ei oes. Darllenodd y prawf-leni (proofs) o’r pregethau a’r Cofiant, a bu ei awgrymiadau caredig o fantais fawr. Er fod Dr. Rees yn gwneyd yr oll oddiar gariad, ac yn teimlo yn groes i gymaint â hyn o gydnabyddiaeth i gael ei wneuthur o’i lafur, eto yr ydwyf yn teimlo dan rwymau i wneyd y crybwylliad hwn.

Dymunaf gydnabod yn ddiolchgar y Parchedigion J. M. Jones, Caerdydd; Robert Lloyd, Casbach; E. Rees (Dyfed); a Cynwyd Thomas, Caerdydd, am eu cynyrchion pwrpasol; a derbynied pawb eraill fu mor garedig a rhoddi i mi ffeithiau at y gwaith yr un diolchgarwch didwyll.

D. M. PHILLIPS.
TYLORSTOWN,
Hydref 30ain, 1895.

·····
 

(x7)

RHAGYMADRODD I’R AIL ARGRAFFIAD.
Rhydd yr alwad annysgwyliadwy fuan am ail-argraffiad gyfleusdra i ni ddatgan ein diolchgarwch gwresocaf am y derbyniad eang a chroesawgar y mae y llyfr wedi gael. Diolchwn hefyd yn gynes am yr adolygiadau ffafriol a chalonogol sydd wedi ymddangos drwy y wasg, y rhai sydd yn rhoddi lle cryf i ni gredu fod y gyfrol wedi cyrhaedd yr amcan mewn golwg wrth ei chyhoeddi, ac hefyd wedi bod o adeiladaeth ysbrydol i’r darllenydd.

Oddieithr ychydig eiriau yma a thraw, y rhai nad ydynt yn cynwys unrhyw gyfnewidiad sylweddol, nid oes yr un gwahaniaeth rhwng yr argraffiad hwn a’r cyntaf.

D. M. PHILLIPS.
TYLORSTOWN,
Ebrill laf, 1896.


(x8) GWAG


(x9)

Y COFIANT.


PENOD I.

El RIENI.
Mewn bwthyn tô gwellt ar lechwedd bryn bychan yn Neheubarth Sir Fynwy, mewn pentref o’r enw Llaneurwg, yr hwn sydd tua phedair milldir i’r Gogledd-Ddwyrain o Gaerdydd, y trigianai teulu cysurus driugain mlynedd yn ol.
Enw y gwr oedd John Rees, ac enw y wraig oedd Elizabeth. Mab ydoedd John Rees i un James Rees, o Sant Fagans, ger Caerdydd, ac y mae llawer o’i dylwyth yn gorwedd yn mynwent Llandaf, a thriga amryw o’r dysgynyddion yn bresenol yn nghymydogaethau Llandaf a Sant Fagans. Hanai y wraig, sef Elizabeth Rees, o deulu oedd yn byw yn Nhredelerch, pentref bychan rhwng Gaerdydd a Llaneurwg. George ac Elizabeth Edmunds oedd enw ei rhieni - pobl dawel, ddichlynaidd, a pharchus iawn yn eu cartref. O amgylch y lle hwn a Llaneurwg y preswylia nifer mawr o berthynasau Mrs. Rees hyd y dydd hwn. Dyfod i wasanaethu pan yn fachgen i ardal Llaneurwg, yn ol pob tebyg, a wnaeth John Rees, a thrwy hyny daeth i gyfarfyddiad âg Elizabeth ei wraig. Wedi ymbriodi, aethant i fyw i’r bwthyn uchod, lle y ganwyd iddynt naw o blant - pump o feibion a phedair o ferched. Nid oedd y tad ond gweithiwr cyffredin ar y ffermydd - labrwr, fel y dywedir - ac o ganlyniad gellir yn hawdd gasglu nad oedd amgylchiadau y teulu lluosog yma yn rhyw helaethwych iawn. Bach ydoedd cyflog gweithwyr amaethyddol yr adeg hono; a chyfran fechan o honi a delid mewn arian. Rhoddi blawd, caws, ac ymenyn yn gyfnewid am waith fyddai yr yr amaethwyr, yn lle “pres,” fel y dywedent. Ond yn sicr yr oedd yn rhaid i’r teulu yma wrth arian, pe ond i gael ychydig dillad ac esgidiau am eu traed, a gallwn dybio fod (x10) cryn dipyn yn angenrheidiol i gyfarfod ag angen un-ar-ddeg; a’r oll, o’r hynaf hyd yr ieuengaf, fel yr ydym yn deall, yn cael eu gwisgo yn dra gweddus. Er fod y teulu yn lluosog, codwyd y plant oll yn lanwedd a gonest; ac yr oeddynt yn cael eu dilladu yn y fath fodd fel nad oedd eisieu iddynt un amser i gadw o’r Ysgol Sul a’r capel. Yr oedd y fam yn wraig weithgar, drefnus, a chynil, a’r tad yn weithiwr cyson, diwyd, a diwastraff; cadwai yn mhell oddiwrth bob arferion fyddai yn difa arian. Nid oedd John Rees mor annoeth a miloedd sydd yn taflu eu henillion megys gyda’r gwynt ar ol gweithio yn galed am danynt. O na! deuai â’i arian bob ceiniog adref i’w briod, yr hon oedd yn gallu eu trefnu mor dda; a dacw ef ar nos Sadwrn fel brenin, gyda’i wraig a’i naw plentyn - ie, ac o bosibl yn fwy dedwydd na’r brenin ar ei orsedd - yn canu hymnau yn nghanol ei deulu lluosog ar ddiwedd wythnos galed o waith. Tystia pobl y lle na welsant neb yn fwy hapus erioed na John Rees, ac yr oedd wedi cyfarfod a chydmares yn hollol o’r un nodwedd, fel nad oedd ond dedwyddwch yn teyrnasu o fewn i’r bwthyn.

Yr ieuengaf o’r naw plentyn a anwyd iddynt oedd gwrthddrych y Cofiant hwn, sef y Parch. David James, Llaneurwg, fel yr adnabyddid ef drwy Gymru yn gyffredinol. Cyn myned yn mhellach, cyfyd cwestiwn sydd yn gofyn am atebiad, mewn trefn i wneyd pethau yn eglur; a’r gofyniad hwnw ydyw, Sut y gelwid ef yn David James, pan mai John Rees oedd enw ei dad? Gwelir oddiwrth hyn mai David James Rees ddylasai fod, ac nid David James, oblegid David James Rees y bedyddiwyd ef.
Beth, gan hyny, sydd i gyfrif am iddo gael ei alw yn David James? Wel, gan mai David James Rees oedd ei enw, gelwid ef yn David James gan blant a phobl y pentref, a gadawent Rees allan; adnabyddent ef, o ganlyniad, fel David James. Mae yn dygwydd yn aml, os bydd tri enw gan un, y gadewir un allan, ac nid ydym yn meddwl fod dim arall i gyfrif am gyfnewidiad enw Mr. James, neu yn hytrach ei gwtogiad, ond yr arferiad hon, a diffyg gofal o’i du yntau i gadw yn dyn at Rees. Pan ddechreuodd bregethu, parhai y bobl i siarad am dano fel David James. Cyfarfyddai blaenoriaid â’u gilydd tua Chaerdydd a manau eraill, a gofynai y naill i’r llall,

“Pwy oedd yn pregethu gyda chwi y Sabboth diweddaf?”

“David James, dyn ieuanc o Laneurwg,” oedd yr atebiad.

“Fath bregethwr yw e’ yn argoeli bod?” gofynai’r (x11) cwestiynwr drachefn.

“O! rhagorol,” meddai y llall.

“Wel, mae yn rhaid i ni gael cyhoeddiad ganddo,” meddai y cyntaf. “David James yw ei enw, onide?”

“ Ie,” oedd yr ateb.

Danfonid at Mr. James am Sabboth, ac os buasai yn gallu dyfod cyhoeddid ef fel David James, ac nid David James Rees. O ganlyniad, daeth i gael ei adnabod yn gyffredinol fel David James, ac o’r diwedd ymsefydlodd ei enw felly. Nid cywilydd arddel enw ei dad sydd i gyfrif am na fuasai Mr. James yn cadw at Rees yn lle James, ond rhoddi ffordd a wnaeth i arferiad oedd y pryd hwnw yn gryfach nag y mae yn bosibl i ni sylweddoli yn bresenol. Bydd llawer bachgen, ysywaeth, ar ol codi i safle, parch, a bri, yn barod i newid ei enw os bydd ei rieni yn dlodion a dinod; ond nid felly “ James Llaneurwg.” Yr oedd coffadwriaeth ei dad a’i fam yn fendigedig iddo ef hyd ei fedd.

Ond i ddychwelyd at ei rieni. Fel y darfu i ni sylwi yn barod, yr oedd John Rees, tad Mr. James, yn wr gofalus am ei deulu, yn weithiwr difefl, ac yn gynil a diwastraff. Nodweddid ef hefyd gan addfwynder; yr oedd yn wr heddychol â’i gymydogion, ac yn un a berchid yn fawr gan bawb a’i hadwaenai ar gyfrif ei gymeriad rhagorol. Eto, er ei fod yn ddyn tra rinweddol, nid oedd yn grefyddol yn moreu ei oes, ac ni ddaeth yn aelod am rai blynyddau wedi i’w fab ieuengaf ddechreu pregethu. Mor bell ag yr ydym wedi cael ar ddeall, yn y Diwygiad yn y flwyddyn 1859 yr ymunodd gyntaf â’r frawdoliaeth yn Llaneurwg. Nid dim yn ei fuchedd a’i ymarweddiad oedd yn ei gadw yn ol, ond rhyw ofn slafaidd, yr hwn a gollodd pan ddaeth llanw y Diwygiad i mewn. Gweddïodd Mr. James lawer drosto yn gyhoeddus, a hyny yn ei glywedigaeth, oblegid yr oedd John Rees yn ffyddlawn i’r oll o’r moddion ond y gyfeillach mynyddoedd cyn dyfod yn grefyddol. Teimlai pobl y capel fod ei achos yn gwasgu yn drwm ar ei fab bob tro y buasai yn anerch yr Orsedd yn y cyfarfodydd, ac yn ddiddadl atebwyd ei weddiau, a chafodd y mwynhad o weled ei dad yn aelod ffyddlawn a gweithgar yn mlynyddoedd olaf ei fywyd. Nid oedd John Rees yn ddyn talentog iawn, nac ychwaith yn hynod oleuedig yn ei Feibl; ond yr oedd yn ddyn o synwyr cyffredin cryf, ac yn meddu ar y ddynoliaeth oreu. Awyddai yn fawr hefyd am roddi yr addysg uchaf oedd yn bosibl i’w blant; addysg grefyddol yn gystal a chyffredinol; a llwyddodd i gyrhaedd ei (x12) amcan i fesur helaeth, oblegid cawsant addysg mor berffaith ag oedd o fewn cyrhaedd yn Llaneurwg ar hyny o bryd.

Yr oedd Mrs. Rees yn llawer mwy dysglaer ei thalentau na’i phriod, ar uwchlaw y cyffredin o ddigon mewn galluoedd meddyliol. Dywedai un o wragedd mwyaf craff Llaneurwg wrthym yr edrychid ar Elizabeth Rees, mam Mr. James, fel un o’r rhai cryfaf ei deall a chliriaf ei barn yn y gymydogaeth. Dysgai lawer o’r Cyffes Ffydd ac Hyfforddiwr Mr. Charles ar ei chof, ac yn ychwanegol at hyn medrai feddwl yn ddwfn a deheuig arnynt. Ei hoff waith oedd addysgu ei phlant yn y llyfrau uchod, yn nghyd â’r Beibl, ac amryw emynau; a, chymaint yr awyddai am hyn fel, yn ol tystiolaeth Mr. Daniel James Rees (ei mab, yr hwn oedd yn fyw pan ysgrifenwyd y tudalenau yma, ond sydd erbyn hyn wedi dianc i’r byd arall), yr oedd wedi dysgu llawer iawn o benodau a phenillion i David, ei frawd ieuengaf, sef gwrthddrych ein sylwadau, pan rhwng pedair a phum’ mlwydd oed, a phan yn bump llawn gallai David bach ddarllen Saesneg yn bur ddidaro.

Gwelwn oddiwrth y sylwadau uchod nad oedd Mr. James. yn hanu o deulu cyfoethog yn berchen tai a thiroedd; nid oedd ychwaith yn dysgyn o linach yn glodfawr am ei hathrylith a’i dawn, nac yn enwog am ei chewri mewn gwahanol ganghenau gwybodaeth. Ond os na chafodd hyny o fraint, cafodd ei fendithio a mam dduwiol odiaeth, wedi ei chodi erioed yn grefyddol, ac na wyddai beth oedd bod allan o’r seiat; mam yn llawn asbri am weled ei phlant yn ngafael yr etifeddiaeth lân deg; y cyfoeth anchwiliadwy; y trysor na lygra’r bedd ac na heneiddia tragwyddoldeb mo hono. Ac, fel y sylwyd, cafodd dad synwyrgall, yn meddu ar ddynoliaeth ardderchog, a chydrhwng y ddau cafodd ei freintio â pheth llawer mwy gwerthfawr nag unrhyw gyflawnder o dda y byd hwn, sef awyrgylch foesol iach pan yn dechreu ffurfio cymeriad. Tystiolaeth y rhai a adwaenai ei rieni ac yntau ydyw, fod pob peth da y tad a’r fam wedi cydgyfarfod yn David James.

Pa un a ydyw athrawiaeth trosglwyddiad tueddiadau, teimladau, ac arferion (doctrine of heredity) yn gyfryw a ellir ei phrofi ai peidio sydd gwestiwn nag yw a fynom yn y fan yma; ond hyn sydd sicr, fod Mr. James wedi etifeddu holl nodweddion ei fam. Gofynai un wrthym, pan yn holi pa fath un ydoedd hi, “A welsoch chwi Mr. James?” “Do, rhai ugeiniau o weithiau,” meddwn inau. “ “Wel, dyna,” meddai yntau, (x13) “nid oes eisieu i chwi ofyn am ei fam; yr oedd yn mhob peth yr un ag ef. O ran ffurf eu gwynebau a’u cyrff, yn eu cerddediad, ac hefyd yn eu llais, yr oeddynt yn hollol yr un. Os oedd yn bosibl, yr oeddynt yn fwy tebyg fyth yn eu meddyliau a’u hysbrydoedd. Un dyner, lednais, lawn caredigrwydd ydoedd Mrs. Rees, fel Mr. James yn union; yn wir, nid wyf yn cofio gweled mab a mam mor debyg yn fy mywyd.”

Mae y tad fu yn gweithio yn hwyr ac yn foreu i enill bwyd a dillad i’w blant, ac i roddi cymaint fedrai o addysg iddynt, a’r fam fu ar ei goreu yn ei gynorthwyo, yn eu bedd. Mae wyth o’r plant hefyd wedi eu canlyn i arall fyd, ac nid oes yn awr ond un yn fyw, sef Mrs. Rebecca Lewis, Cathays, Caerdydd.

PENOD II.
DECHREUAD METHODISTIAETH YN LLANEURWG. YN NGHYD A’R PREGETHWYR SYDD WEDI CYFODI YNO.

Cyn ymdrin â genedigaeth a mebyd Mr. James, nid annyddorol fydd dyweyd gair am gychwyniad Methodistiaeth yn Llaneurwg, yn nghyd â’r pregethwyr sydd wedi cyfodi yno. Mae dechreuad yr achos yn y lle hwn yn anwahanol gysylltiedig âg enw un o’r dynion goreu ac hynotaf a fagwyd yn Sir Fynwy erioed, set Edward Coslet o Gasbach. Ganwyd Edward Coslet yn Machen, lle tua chwech i saith milldir i’r Gogledd-Orllewin o Laneurwg, yn y flwyddyn 1750. Pan yn bur ieuanc, prentisiwyd ef yn of yn y pentref, a chyn iddo orphen dysgu denwyd ef rywfodd neu gilydd i wrandaw naill ai hen bregethwr da a duwiol oedd gyda’r Annibynwyr yn Nghroeswen, ger Caerphili, neu rai o’r pregethwyr Methodistaidd oedd yn dyfod heibio ar eu tro. Tueddir ni i gredu mai gwrandaw yr olaf fu yn foddion argyhoeddiad iddo, gan iddo adael yr Annibynwyr ar fyr ac ymuno a’r Methodistiaid. Beth bynag, cawn Coslet yn aelod yn Nghroeswen pan yn bedair-ar-bymtheg oed, ac aelod o’r iawn ryw ydoedd; un llawn nwyf (x14) a gweithgarwch, yn ffyddlawn i’r holl gyfarfodydd, ac yn teimlo mawr ddyddordeb ynddynt. Yn nghymydogaeth ugain oed ymbriododd, a chafodd ei fendithio â chydmares grefyddol a llawn o synwyr cyffredin, yr hon fu yn foddion i nerthu ei gwr yn y ffydd. Cymaint oedd awydd y ddau am bethau crefydd fel y gwahoddent y cynghorwyr Methodistaidd oedd yn dyfod yn fynych drwy y wlad i bregethu, a hyny ar eu traul eu hunain.

Yn fuan wedi en huniad priodasol darfu iddynt symud o Machen i Gasbach, lle tua dwy filldir i’r Gogledd o Laneurwg. Ar ol cael pethau i’w trefn, dechreuodd Edward Coslet a’i wraig feddwl am ffordd i gael rhyw fath o foddion crefyddol; a phenderfynasant chwilio y lle er mwyn gweled a oedd yn bosibl dyfod o hyd i rywun neu rywrai fuasai yn uno â hwynt. Enillasant gydweithrediad un Miss B. Evans, yr hon oedd wedi cael y fraint o wrandaw Jones Llangan a Dafydd Morris; a denasant ddau ereill hefyd, nad yw eu henwau yn wybyddus, ac o ganlyniad cychwynwyd ar unwaith i gadw cyfarfod yn nhŷ Coslet. Clywodd meistr y tŷ am y cyfarfodydd a gynhelid yma, a chan nad oedd hyny yn unol â’i deimladau, dechreuodd ddwrdio yn ofnadwy; a rhybuddiodd Coslet, os na fuasai yn rhoddi i fyny, y cawsai ei droi allan o’r tŷ a’r efail ar unwaith. Nid oedd yntau am golli ei fywoliaeth, os gallai; a chan mai newydd ymsefydlu yno yr oedd, meddyliodd mai gwell fuasai iddo chwilio am le arall i addoli. Aeth i Laneurwg i edrych a oedd yn bosibl cael lle i’r Arch yno, oblegid yr oedd yn penderfynu cael lle i addoli yn rhywle. Ni chaniatai crefydd Edward Coslet iddo fod yn llonydd, am fod y tân Dwyfol yn llosgi yn ei galon. Gafodd le yn Llaneurwg, a chyn hir cychwynwyd achos yno. Bychan iawn oedd ar y dechreu - dim ond rhyw bump neu chwech; ond yn fuan tyfodd yn achos digon cryf i adeiladu capel hardd. Nid oedd Llaneurwg yn ddigon i Edward Coslet, ychwaith. Sefydlodd achos mewn blynyddau i ddod yn Nghas-bach, ac un arall yn y Morfa. Gweithiwr di-ildio ydoedd yn hyn, fel wrth ei alwedigaeth. Gan ei fod yn ddyn mawr o gorffolaeth, a deheuig yn ei waith, anhawdd oedd cael gôf yn yr holl wlad i ddod i fyny ag ef. Un felly hefyd ydoedd gyda chrefydd. Cerddai ddeg ac ugain milldir foreu Suliau i bregethu; pregethai deirgwaith, ac weithiau bump, a dychwelai gartref nos Sul, gan nad oedd ei alwedigaeth yn caniatau iddo aros hyd foreu tranoeth. Dyn rhyfedd oedd Coslet yn mhob ystyr - cymeriad ar ei ben ei hun, yn llawn gwreiddioldeb a (x15) ffraethineb, a thrueni mawr na fuasai mwy o’i hanes a’i ddywediadau ar gael. Efe oedd y pregethwr cyntaf yn Sir Fynwy gyda’r Methodistiaid wedi i’r ail gyfnod ddechreu. Bu rhai hen gynghorwyr o’i flaen yn y cyfnod cyntaf yn cynorthwyo Howel Harris, megys Morgan Jones, Abraham Williams, ac ereill; ond llithrodd yr aelodau a’r cynghorwyr at enwadau ereill rhwng
1740 a 1760; felly gellir edrych ar Edward Coslet fel y pregethwr cyntaf yn y sir, ac efe oedd yr unig bregethwr ynddi hefyd am flynyddoedd. Dywedai yn fynych yn ei ffraethineb, pan yn cyfarfod â rhai o’i frodyr, “Y fi yw y pregethwr mwyaf fedd Sir Fynwy,” ac mewn cyfarfod lle yr oedd nifer o weinidogion yn nghyd, wrth ei glywed yn dweyd mor sobr a difrifol, dywedodd un wrtho unwaith, “Coslet, yr wyt ti wedi myn’d yn hunanol ofnadwy!” “Hunanol neu beidio, yr wyf yn dweyd y gwir,” ebe Coslet, “oblegid dim ond y fi sydd yn Sir Fynwy.” Nodweddid ei weinidogaeth gydag arabedd a gwreiddioldeb neillduol; ac fel rheol byddai llawer o’i enghreifftiau yn cael eu cymeryd oddiwrth bethau o fewn cylch ei alwedigaeth; yn wir, arferai ddweyd ei fod ef yn cael ei bregethau rhwng yr eingion a’r tân. Pan yn dangos sut yr oedd y pechadur yn cael ei uno â Christ, dywedai fod rhywbeth tebyg yn cymeryd lle a phan y buasai ef yn asio dau ddarn o haiarn. “ Y tân sydd yn eu parotoi a’u dwyn i naws i’w huno, ac ar ol eu cael yn barod byddaf yn cymeryd y morthwyl a’u curo yn un; felly yn nhrefn gras,” meddai; “pregethwyr drwy yr Ysbryd Glân sydd yn parotoi y pechadur i’w uno â Christ, ac ar ol ei gael i naws y mae yr Ysbryd yn eu hasio yn un.”

Bu farw Coslet yn 1828, wedi cyrhaedd yr oedran teg o 78ain mlwydd, ac ar ol bod yn gweinidogaethu am 56 o flynyddau, yn ystod y rhai y gwnaeth waith dros ei Arglwydd nad oes ond tragywyddoldeb a’i datguddia.

Ein hamcan wrth olrhain hanes Edward Coslet ydyw dangos i’r darllenydd mai efe oedd cychwynydd yr achos yn Llaneurwg; o ran hyny, gellir edrych
arno fel un o bregethwyr y lle, er mai yn Nghasbach yr oedd yn byw, oblegid yma y gellir dweyd iddo lafurio fwyaf, yn enwedig yn mlynyddoedd cyntaf ei fywyd.

Cyfododd chwech o bregethwyr yn Llaneurwg gyda’r Methodistiaid wedi dechreuad yr achos gan Edward Coslet, a’r cyntaf o honynt ydoedd Harri Jones, yr hwn a ddechreuodd bregethu yn 1801; felly cafodd Edward Coslet weled un o’i (x16) blant yn y ffydd yn pregethu saith mlynedd ar hugain cyn iddo farw. Ni ddaeth Harri Jones yn boblogaidd fel pregethwr, ond yr oedd yn un a hoffid yn fawr ar gyfrif ei gymeriad da a’i ffyddlondeb. Credai mewn cadw i’r llythyren at ei air yn mhob peth, a dywedir na thorodd gyhoeddiad erioed! Mynychai y Cyfarfod Misol hefyd gyda chysondeb mawr, a byddai yn deyrngarol tuhwnt i holl reolau a sefydliadau y Cyfundeb. Bu yn llafurus iawn gyda’r achos yn mhob gwedd hyd ei farwolaeth yn 1843, yn 71 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu am 42 o flynyddoedd.

Yr ail ydoedd William Lewis. Nid oedd yntau yn neillduol am ei dalentau; eto yr oedd, fel Harri Jones, yn ddyn da ei gymeriad, ac yn llawn sel a ffyddlondeb.

Ar ol William Lewis daeth Daniel Roberts oddiwrth yr Annibynwyr at y frawdoliaeth Fethodistaidd i Laneurwg. Bu yntau yn gweinidogaethu yn llafurus iawn yma am flynyddau lawer. Dyn gweithgar gyda’r Ysgol Sul oedd Daniel Roberts, a gwelir ol yr adrodd pwnc mynych fyddai yno yn ei amser ef hyd y dydd hwn yn Llaneurwg. Diau i’w lafur gyda phobl yr ardal mewn holwyddori a dysgu Gair Duw fod yn foddion symbyliad i’r tri nesaf a nodir i gyfeirio eu meddyliau i’r weinidogaeth.

Yn adeg gweinidogaeth Daniel Roberts y dechreuodd Edward Edmunds bregethu yn Llaneurwg. Cyrhaeddodd Mr. Edmunds gryn boblogrwydd ar gyfrif ei fywiogrwydd ac arabedd ei bregethau, ac yr oedd yn adnabyddus iawn fel darlithiwr. Priododd â Miss Cross, chwaer i wraig y Parch. David James (gwrthddrych y Cofiant hwn).

Yn mhen ychydig ar ol hyn, dechreuodd Abraham Edmunds (brawd Edward Edmunds) bregethu, a’r Parch. David James hefyd tua’r un adeg. Ni chyrhaeddodd Mr. Abraham Edmunds i gymaint poblogrwydd, fe ddichon, a’i frawd, ond yr oedd yn bregethwr sylweddol iawn a chymeradwy yn mhob man.

Yn Mr. David James, yr olaf o’r chwech, y cyrhaeddodd y don bregethwrol ei heithafbwynt, er fod llawer o elfenau rhagorol yn y lleill, ac elfenau tra phoblogaidd yn rhai o honynt; eto ynddo ef yr oedd mwyaf o elfenau pregethwr poblogaidd ac effeithiol wedi cydgyfarfod. Nid poblogrwydd lle na sir oedd yr eiddo ef, ond un cyfled a’r enwad, ac fel y cawn weled mewn penod arall poblogrwydd eangach na’r enwad hefyd. (x17) Er mai pentref bychan yw Llaneurwg, a’r wlad oddiamgylch heb fod yn lluosog ei phoblogaeth, eto anhawdd dysgyn ar lawer o fanau ag y mae mwy o ddynion cyhoeddus wedi cyfodi ynddynt nag yn yr ardal hon. Tua milldir i fyny o’r pentref i gyfeiriad Casbach, mewn fferm o’r enw Wernfawr, y ganwyd Dr. Thomas Davies, yr hwn a fu farw ychydig fisoedd yn ol. Bu Dr. Davies yn athraw am amryw flynyddoedd yn Ngholeg y Bedyddwyr yn Hwlffordd, a chydnabyddid ef fel un o’r athrawon a’r pregethwyr mwyaf galluog. Yn uwch i fyny, o gwmpas haner milldir arall, mewn ffermdy a elwir Maesycrochan, y ganwyd ac y magwyd un arall o enwogion y Bedyddwyr, sef y Parch. John Rhys Morgan, D.D. (Lleurwg), sydd yn fyw yn awr, ac yn weinidog yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin. Nid oes nemawr wedi bod yn fwy poblogaidd fel darlithiwr a phregethwr na Lleurwg o fewn i’w enwad, heblaw ei fod yn fardd o radd uchel. Yr hyn sydd i gyfrif yn ddiau am fod cynifer o ddynion enwog wedi eu magu yma ydyw, fod yr Ysgol Sul wedi bod mor uchel ac yn cael y fath le yn nghymydogaethau Llaneurwg a Chasbach er yn foreu. Hi sydd wedi bod yn hen athrofa i’r Cymry, ac iddi hi y gall llawer lle ddiolch am ei henwogion. Yn yr adeg y cyfodwyd Dr. Davies a Dr. Morgan, Edward ac Abraham Edmunds, yn nghyd â’r Parch. David James, yr oedd son am Ysgolion Sul y lleoedd hyn, a hyny nid heb achos, fel y gwelir oddiwrth y ffrwyth a gynyrchasant.

PENOD III.
EI ENEDIGAETH A’I FEBYD.

Yn y bwthyn y soniwyd am dano yn y benod gyntaf, ar 24ain o Hydref, 1836, y ganwyd David James, neu David James Rees, fel y dylasai fod. Mae muriau yr hen dy fel yr oeddynt driugain a phedwar ugain mlynedd yn ol; ond y mae ben wedi newid. Yn lle tô gwellt gwisga dô llechau yn awr, yr hyn sydd wedi cyfnewid llawer ar ei ymddangosiad henafol, a’i wneyd i edrych yn llawer mwy ieuanc. Gwell o lawer fuasai genym ei weled yn ei hen ddiwyg, a’i benwisg (x18) wellt
arno, fel yr oedd pan anwyd yr enwog wr dan sylw ynddo. Saif y tŷ wrtho ei hun yn rhan uchaf y pentref ar ychydig lechwedd, a’i wyneb tua’r Deheu-Ddwyrain, ar gyfer un o’r darnau gwlad harddaf ag y mae yn bosibl i ddyn agor ei lygaid arno. I fyny i gyfeiriad Casnewydd mae milldiroedd lawer o wastadedd, a’r un modd y gellir dweyd wrth edrych i gyfeiriad Môr Hafren, neu y Bristol Channel, fel ei gelwir, yr hwn sydd i’w weled yn eglur o’r tŷ. Arno y gwelir y llongau, bychain a mawrion, yn chwareu fel ŵyn ar ei frigwyn donau yn ol a blaen, o gyfeiriad Abertawe, Caerdydd, Casnewydd, a. manau ereill. Mae y gwastadedd eang sydd yn y golwg pan yn sefyll yn ymyl y tŷ yn llawn o’r meusydd mwyaf ffrwythlawn; ac wrth edrych ar yr olygfa, y perllanau eang, y blodau amryliw, a’r mor trochionog tudraw sydd yn golchi traed y darn gwlad ardderchog yma, yr hyn sydd yn cael ei awgrymu ar unwaith i’r meddwl yw geiriau y bardd:-

“Fod Natur o amgylch y bwthyn
Yn gwisgo prydferthwch diail.”

Dyma yr olygfa arddunol yr agorodd David James ei lygaid arni gyntaf, ac yn ddiddadl
nis gallasai gael ei eni ar un llecyn a llawer mwy o harddwch yn perthyn iddo. Ar hyd y caeau gwyrddlas yma y bu yn chwareu pan yn fachgen. Ac O! y fath le ardderchog i dreulio flynyddoedd mebyd, mewn dystawrwydd, heb ddim ond swn côr y wîg i aflonyddu ar ei fyfyrdod.

Y mae yn dra sicr fod gan olygfeydd natur ran fawr yn nadblygiad galluoedd meddyliol - hyny yw, yn ffurf dadblygiad cyneddfau. Y creigiau ysgythrog, daneddog y cymoedd a’r mynyddoedd mwyaf rhamantus - i ddadblygu yr elfen farddonol neu i ddadblygu y bardd, fel y dywedir; lle yn llawn peirianau a gweithfeydd i dynu allan y meddwl sydd â thuedd at beirianwaith. Os am dynu allan yr athronydd, gosodwch y dyn yn ymyl y mor mawreddog, lle y mae deddfau a galluoedd mawrion y greadigaeth yn dyfod i’r golwg; yr haul a’r planedau, natur gweithrediadau deddfau a pherthynas meddyliau a’u gilydd, ydyw y pethau sydd yn gydnaws a thueddfryd ei feddwl ef, a’r pethau mwyaf manteisiol i’w ddadblygiad. Ond i ddadblygu y prydferth a’r tlws, gosodwch y dyn mewn lle tebyg i Laneurwg. Ysmotyn hardd, yn llawn coed afalau a ffrwythau o bob math; y golygfeydd mwyaf ysblenydd, (x19) a’r rhai hyny yn amrywio bob yn ail fel yr edrychir i’r cyfeiriad yma a’r cyfeiriad arall. Mewn gair, lle ydyw Llaneurwg ag y mae Natur i’w gweled yn ei gogoniant. Anmhosibl ydoedd i’r golygfeydd yma beidio dylanwadu yn nerthol yn ffurf dadblygiad meddwl David James, yr hwn oedd mor fyw i harddwch a phrydferthwch Natur drwy ei holl fywyd. Cofus gan y rhai a’i clywodd mor dlws a phrydferth oedd ei syniadau. Byddai amryw o honynt wedi eu gwisgo mewn dull barddonol, ac ereill yn ymylu ar yr athronyddol; eto, nis gallesid dweyd ei fod na bardd nac athronydd, nac ychwaith yn dduwinydd dwfndreiddiol yn ei bregethau, fel y gwel y darllenydd oddiwrth y rhai sydd i fewn yn y gyfrol hon; ac eto yr oedd duwinyddiaeth iach yn ei bregethau bob amser. Yn wir, yr oedd ei bregethau yn debyg iawn i Laneurwg - yn llawn o dlysni a phrydferthwch - heb fod na barddonol, athronyddol, na duwinyddol yn hollol, ond yn gyfuniad o’r naill a’r llall o honynt. Lle ydyw Llaneurwg i ddadblygu gallu amrywiol, ac nid gallu yn rhedeg oll i un cyfeiriad. Llaneurwg am roddi mantais i ddadblygu gallu rhwng y bardd a’r athronydd a’r duwinydd. Gallu fel yma oedd eiddo Mr. James, a gofalodd Duw am iddo gael ei eni mewn man ffafriol i’w ddadblygiad.

Ond er mor hardd ydyw cymydogaeth Llaneurwg, ac er mor ardderchog ac amrywiol yw ei golygfeydd, fel y desgrifiwyd, buasai mor anwybyddus i Gymru ag unrhyw gymydogaeth arall, oni bae am i’r anfarwol David James gael ei eni a’i fagu a threulio ei oes yma. Yn rhinwedd y ffaith hon, y mae cymydogaeth Llaneurwg wedi dyfod yn adnabyddus i Gymru drwyddi oll, a phob tref yn Lloegr lle y mae Cymry Methodistaidd yn trigo. Magwyd glewion yn Llaneurwg o flaen David James, ond nid oedd eu poblogrwydd yn gyfryw ag i allu dwyn enw eu lle genedigol uwchlaw enwau cymydogaethau eraill. Bu enwogion yn byw yn Methlehem Judea, megys Dafydd Frenin ac ereill; ond genedigaeth Iesu yn y preseb tufewn i furiau y ddinas fechan hono sydd wedi ei chodi mor anwyl yn meddyliau cenhedloedd y ddaear, ac wedi anfarwoli ei henw byth mwy yn mhlith holl ddinasoedd y byd. Felly am Laneurwg. Mae hithau erbyn heddyw wedi dyfod i enwogrwydd mawr, yn enwedig yn Nghyfundeb y Methodistiaid, am fod tywysog o bregethwr i Grist Iesu wedi dod allan o honi. (x20) Diau, fel y cyfeiriwyd, fod gan y lle y genir dyn ynddo ran fawr yn nadblygiad ei feddwl; oblegid cadarnheir hyn gan ffeithiau yn barhaus. Y mae rhai o feirdd ac athronwyr mwyaf y byd wedi cyfodi mewn lleoedd tebyg i’r rhai a nodwyd uchod. Ond eto,
nis gall lle ddadblygu ond yr hyn sydd yn y dyn; os na fydd yn alluog naturiol, ffarwel i unrhyw le i’w ddwyn i enwogrwydd. Y dyn bob amser sydd yn enwogi y lle, ac nid y lle y dyn. Rowlands sydd wedi anfarwoli Llangeitho, ac nid Llangeitho Rowlands. Yr un peth ellir ddweyd am Trefecca, Pantycelyn, a’r Bala; y Wern, lle y bu Williams, y pregethwr poblogaidd gyda’r Annibynwyr; a’r Ewenni, cartrefle Edward Matthews, pan y daeth i boblogrwydd fel un o gewri y pulpud. Os bydd adnoddau yn y dyn, goreu oll pa mor gydnaws y bydd y lle a nodwedd ei feddwl, a mantais fawr yw fod y cydgordiad llwyraf rhyngddynt; fel, yn ddiau, oedd rhwng meddwl Mr. James a chymydogaeth Llaneurwg. Gan fod ffurf ei feddwl yn cyfateb mor dda i’r golygfeydd o’i gwmpas, bu hyny yn foddion i ffurfio a dadblygu y talentau oedd ynddo.

Heblaw y golygfeydd arddunol y buom yn son am danynt, bu galluoedd cryfach yn chwareu rhan yn nhyfiant ei feddwl, a’r cryfaf o’r rhai hyn oedd ei fam. Hi fu yn canu emynau Williams, Pantycelyn, Ann Griffiths, ac ereill uwch ei gryd pan yn faban gwan; ac nis gŵyr neb pa faint yw dylanwad mam ar blentyn pan mor ieuanc a hyn. Gosodir hyn allan yn eglur yn y ddiareb hono, “Yr hon sydd yn siglo y cryd sydd yn llywodraethu y byd;” yr hyn a olygir wrth y ddiareb yw, fod cyfeiriad y byd yn cael ei ffurfio gan famau da a rhinweddol y byd. Cerddores ardderchog oedd Elizabeth Rees, a gwnaeth ddefnydd da o hyny, mae’n debyg, wrth fagu ei phlant, ac yn enwediggyda gwrthddrych y Gofiant hwn, yr hyu yn ddiddadl sydd i gyfrif mewn rhan am ei fod mor hoff o gerddoriaeth ar hyd ei oes.

Wedi iddo ddyfod i ddechreu siarad, ni chollodd ei fam ddim amser cyn dechreu dodrefnu ei feddwl tyner ag adnodau, penillion, â darnau o’r Hyfforddwr. Gosodid ef i adrodd y rhai hyn o flaen dyeithriaid, y rhai a roisent ganmoliaeth fawr iddo. Ymfalchiai yntau, ac awyddai am ddysgu rhagor; ac fel yr awgrymwyd o’r blaen, pan yn bum’ mlwydd oed, nid oedd iaith ei fam yn ddigon iddo, a dechreuodd ddysgu Saesneg. Gan fod ei fam yn medru yr iaith hono yn dda, ni bu David James yn hir cyn dod i ddarllen Saesneg. (x21) Dywedai Dr. Samuel Johnson mai i’w fam yr oedd ef yn priodoli y syniadau cyntaf a gafodd am nefoedd ac uffern. “Un grefyddol iawn oedd fy mam,” meddai y gwr galluog; “ a chofus genyf pan yn blentyn bach gyda hi yn y gwely un boreu, ei bod yn ymdrechu desgrifio i mi fath le oedd y nefoedd – lle gogoneddus a hyfryd, ac yno y mae dynion da oll yn cael myned; ond uffern sydd le ofnadwy, yn cael ei drigianu gan y diafol a’i angylion; lle ydyw uffern yn llosgi o dân a brwmstan; ac i argraffu y desgrifiad a roddodd o’r ddau le yn ddyfnach ar fy meddwl,” meddai Dr. Johnson, “gwnaeth i mi adrodd yr oll wrth Thomas Jackson, bachgen oedd yn ein gwasanaeth. Oddiar hyny hyd yn awr, meddaf yr un syniadau am y ddau le ag a fabwysiedais am danynt y boreu hwnw; ac os yw fy syniadau yn gywir, mam bia’r clod.” Gellir dweyd yr un modd am y gwr poblogaidd o Laneurwg. Ar ol cyrhaedd pump i chwe’ mlwydd oed, yr oedd wedi tynu sylw llawer fel plentyn eithriadol am ddysgu ac adrodd, ac fel un yn meddu ar gof tu hwnt i’r cyffredin.. Yn yr adeg hono cynaliai Bedyddwyr Llaneurwg eu Hysgol Sul yn y boreu, ac yr oedd ganddynt un dyn ieuanc o athraw medrus, set y Parch. J. Rhys Morgan, D.D. (Lleurwg), sydd yn weinidog gyda’r Bedyddwyr yn Llanelli, fel y cyfeiriasom yn y benod flaenorol. Cymaint oedd awydd mam Mr. James am drysori y Beibl yn ei feddwl fel y danfonasai ef a’i ddau frawd hynaf i’r ysgol at Lleurwg, yr athraw poblogaidd a galluog, yn y boreu, ac i’w capel eu hun, sef y Methodistiaid, yn y prydnawn. Cyn hir daeth Dafydd bach i gael edrycb arno fel prif ddarllenwr ac adroddwr yr Ysgol, a dylid cofio fod Ysgol Sul Llaneurwg yn flodeuog iawn ar y pryd. Yr oedd Daniel Roberts yno yn weinidog, ac Edward ac Abraham Edmunds yn ddynion ieuainc llafurus ynddi; adroddid yr Hyfforddwr a’r Cyffes Ffydd yn gyson yno, ac yn mhlith ei gyfoedion nid oedd neb yn rhagori ar David James. (x22)

 

PENOD IV.
YN MYNED I’R YSGOL DDYDDIOL A’l BRENTISIO YN GRYDD.
Yr oedd un o’r enw David James yn cadw ysgol yn Llaneurwg ar hyn o bryd, dyn gwahanol i lawer o’r hen ysgolfeistri. Nid ei gymhwysderau ef i’r swydd oedd ei fod wedi colli un goes, llygad, neu fraich mewn rhyfel neu drwy anffawd. Yr adeg hono buasai aml un yn ymgymeryd â’r gwaith o gadw ysgol wedi methu gwneyd yr un gorchwyl arall. Ni pherthynai David James i’r dosbarth hwnw; cadwai ef ysgol nid am ei fod yn anghymwys i enill ei fywoliaeth mewn unrhyw ffordd heblaw hyny, ond am ei fod yn meddu cymhwysder neillduol i’r gwaith. Anhawdd fuasai cyfarfod â dyn mwy synwyrgall nag ef, ac yn ychwanegol at hyny meddai wybodaeth dra helaeth o amryw ganghenau addysg. Gan hyny byddai llawer o blant y pentref a’r gymydogaeth yn cael eu danfon ato, ac yn eu plith un boreu, pan oddeutu saith i wyth mlwydd oed, wele David James Rees yn dyfod yn llaw ei fam. Ychydig feddyliai ei fam na’r ysgolfeistr mai efe oedd i fod y David James, Llaneurwg, un o brif bregethwyr uchel-wyliau y Methodistiaid. Na; ni ddychymygodd ei fam, er cymaint ei golwg arno, ei bod yn arwain mab i’r ysgol y boreu hwnw oedd i deithio o Gaergybi i Gaerdydd, ac hefyd holl drefydd Lloegr lle y trigai Methodistiaid. Cyn hir dysgynodd llygad yr ysgolfeistr ar y dysgybl ieuanc; gwelai fod rhywbeth eithriadol ynddo, oblegid mynai fod ar ben y rhes yn ei ddosbarth braidd yn mhob peth; ac mewn amser cymharol fyr edrychid arno fel prif ysgolhaig yr ysgol. Wedi hyny daeth Samuel James, pregethwr gyda’r Methodistiaid, a brodor o Lanon, Sir Aberteifi, i gadw ysgol i Laneurwg. Meddai Samuel James ar alluoedd i weled talent, yn nghyd â llawer o gymhwysderau i dynu y dalent hono allan. Yr oedd yn ysgolor pur gyfiawn, yn deall gramadeg a rhifyddiaeth yn dda, a meddai wybodaeth bur eang o’r iaith Saesoneg. Tynodd David James ei sylw mewn ychydig ddyddiau, yn ol yr hanes, a dechreuodd gymeryd dyddordeb mawr ynddo, oblegid credai fod dyfodol gwych o’i flaen os cawsai chwareu teg i ddadblygu y galluoedd oedd ynddo. Proffwydai bethau mawrion am dano, fe ddywedir, o’r adeg gyntaf y daeth i gyffyrddiad ag ef. Ni fu ei broffwydoliaeth, ychwaith, yn ofer; ac yn mhen blynyddau teimlai gryn falchder ei fod wedi rhagfynegu y fath bethau, ac (x23) hefyd ei fod wedi cael yr anrhydedd o fod yn athraw i’r poblogaidd “James Llaneurwg.” Ymddygodd ei hen athraw ato yn wahanol i lawer: nid oedd yn anfoddlawn gweled ei ddysgybl yn dyfod i enwogrwydd; yn hytrach llawenhai Samuel James yn ei lwyddiant, a gwnai bob peth yn ei allu i’w gynorthwyo i ddringo yn uwch.

Pan gyrhaeddodd David James tua phedair-ar-ddeg i bymtheg oed efe oedd hero yr ysgol mewn dysgu a chwareu. Dysgai bob peth a ddeuai yn agos ato, a chan fod ei gof mor gryf ychydig o amser a fyddai yn gymeryd i fyned drwy ei wersi. Mewn chwareu cydnabyddid ef yn mhlith y plant fel y blaenaf yn y gymydogaeth i redeg gyrfa, chwareu pêl, a thaflu careg mewn sling; yr oedd wedi tyfu yn bur dàl pan ond ieuanc iawn, fel mai anhawdd oedd cael neb i dd’od i fyny âg ef yn y pethau hyn. Ond er cymaint ydoedd ei awydd am chwareu, nid oedd yr awydd hwnw yn cael lladd ei awydd am ddysgu; yn hytrach yr awydd am ddysgu oedd yn graddol ladd yr awydd i chwareu, a phan wedi cyrhaedd pymtheg oed yr oedd wedi dianc ar bawb o’i gyfoedion yn yr ysgol. Fel Saul mab Cis, yr oedd o’i ysgwyddau yn dalach na neb mewn gwybodaeth o’r gwahanol ganghenau a ddysgid gan Samuel James.

Erbyn hyn yr oedd cerddoriaeth wedi cymeryd gafael anarferol ynddo, ac fel y cawn weled yn y benod nesaf cyrhaeddodd wybodaeth eang o’r gangen hono. Penderfynai feistroli egwyddorion cerddoriaeth os oedd modd. Ond yn nghanol ei awyddfryd am ddysgu, a phan yn dechreu ymagor a dyfod i agwedd meddwl i dderbyn gwybodaeth i fewn - pan oedd ei gyneddfau wedi dadblygu digon i fanteisio ar yr addysg a gyfrenid yn yr ysgol - dyma David James, fel llawer o blant gweithwyr, yn gorfod myned i enill ei fywioliaeth. O! drueni, onide? Gorfod gadael yr ysgol pan oedd ei enaid yn llosgi am wybodaeth! Beth bynag, felly y bu. Yn awr, cwestiwn ei dad a’i fam ydoedd, beth i wneyd o David; pa un ai ei adael i fyned fel gwas fferm neu roddi crefft iddo? Arferai David James fynychu gweithdy y crydd yn y pentref, lle y buasai llawer o ddadleu ar wahanol bynciau yn myned yn y blaen; a chan yr awyddai am wybodaeth, diau i’r wedd yma ar gymdeithas yn ngweithdy y crydd dueddu ei feddwl i ddymuno cael myned yno i ddysgu ei grefft. Prentisiwyd ef gyda David Evans (yr hwn oedd yn byw yn ymyl ei dad) pan rhwng pymtheg a (x24) dwy-ar-bymtheg oed, ac yn ngoleuni amodau y brentisiaeth, gwelwn ar unwaith nad crydd oedd David James yn meddwl bod.
Dywedai Garfield pan yn fachgen yn tori coed, “I shall be something better than a wood chopper;” felly dywedai gwrthddrych ein sylwadau, mi goeliaf. “Mi fynaf wneyd rhywbeth gwell dros Fab Duw ac i ddynion na gwneyd esgidiau.”

Yr amod y cyfeiriwyd ati yn y brentisiaeth ydoedd cael mis o wyliau yn yr haf. I ba beth, tybed? Ai er mwyn cael myned i lan y môr neu i’r “ffynhonau,” fel y bydd dynion yn gyffredin? O! nage, er yn sicr fod cymaint o eisieu hyny ar y bachgen eiddil o Laneurwg a neb. Meddienid David James. erbyn hyn âg awydd angherddol am lyfrau, ac ni welai un ffordd i’w cael ond drwy wneyd y defnydd goreu o’r mis yma i enill arian; a phan ddaeth yr amser cymerodd prentis David Evans y mis gwyliau ac aeth allan i fedi, er mwyn casglu ychydig arian i gael llyfrau. Medelwr ardderchog oedd; ni chawsid neb i dd’od yn agos ato yn y gymydogaeth. Mynai fod ar y blaen yn hyn fel yn yr ysgol. Cofus gan rai o hen bobl Llaneurwg am dano pan tua deunaw oed yn trechu prif fedelwyr y lle, rhai oedd eu clod wedi eu sefydlu fel meistriaid mewn trin y cryman. Ond waeth hyny na pheidio, y crydd ieuanc o’r pentref oedd y blaenaf o ddigon.

Wedi darfod y mis o fedi caled a chael ei arian, aeth gydag awch i brynu llyfrau; a dywedai Mr. Joseph Evans wrthym (mab David Evans, hen feistr Mr. James) y buasai yn treulio ei oriau hamddenol yn Esboniadau James Hughes ac Albert Barnes. Darllenai lawer hefyd ar Eiriadur Mr. Charles; “ac yr wyf yn credu,” meddai Mr. Joseph Evans, “y gwyddai yr Hyfforddwr a’r Cyffes Ffydd bron ar ei gof erbyn hyn.” Gall y darllenydd weled oddiwrth yr uchod gyfeiriad meddwl Mr. James pan o bymtheg i ddeunaw mlwydd oed. Yr ydym bellach wedi cael ar ddeall ei fod yn ddarllenwr mawr ac yn fedelwr nodedig. Pa fath grydd ydoedd? Pan yn gofyn hyn i Mr. Joseph Evans (yr hwn oedd yn dysgu ei grefft yr un adeg ag ef), dywedai ei fod yn medru. gwneyd esgid cystal a neb. “O! crydd da iawn ydoedd,” meddai yn mhellach, “ond gellid adnabod wrth ei weled uwch ben yr esgid nad crydd yr amcanai fod drwy ei fywyd; wrth sylwi
arno yn gwnïo hawdd oedd gweled fod ei feddwl yn teithio tir uwch na gwlad yr esgidiau. Byd y meddyliau oedd ei drigfan ef pan yn curo y lapstone.” Dywedai un pan yn (x25) cweryla â chrydd unwaith, “Y dyn, gyda chwi y mae y grefft iselaf ar y ddaear,” “Sut yr ydych yn beiddio dyweyd y fath beth a hyny?” ebe y crydd. “ O!” atebai y cyntaf, “gweithio rhwng dynion a’r ddaear yr ydych chwi drwy eich oes, ac felly nid oes bosibl fod crefft îs.” Dywedir i’r crydd hwnw pan glywodd hyn roddi i fyny y grefft ar unwaith. Nid dim o’r fath barodd i David James roddi ei alwedigaeth i fyny. Na; nid oedd arno gywilydd arddel ei fod wedi gweithio blynyddoedd wrthi yn nhymor cyntaf ei fywyd, ac ni fuasai neb yn treulio awr yn fwy dedwydd nag ef yn ngweithdy y crydd hyd y diwedd. Ond daeth cymhellion i’w fynwes at alwedigaeth uwch, a da y gwnaeth i ufuddhau iddynt, onide buasai Cymru wedi colli un o’r pregethwyr anwylaf a fu mewn pwlpud erioed.

PENOD V.
EI YMRODDIAD I GERDDORIAETH.

Fel y cyfeiriwyd yn barod, yr oedd Mr. James yn dra awyddus i ddeall cerddoriaeth cyn gadael yr ysgol. Clywid ei lais yn mhlith yr altos yn yr ysgol gân a’r cyfarfodydd ereill gyda chysondeb. Byddai ei lais uwchlaw y lleisiau ereill - llais dir, cryf, a chymesur - ac yn fuan iawn daeth yr oll o’i gyfoedion i ddibynu
arno; canent yr un modd a David James pa fodd bynag yr elai, oblegid yr oeddynt wedi myned i’w gymeryd fel eu harweinydd heb yn wybod iddynt. Mynych iawn y gwelid ef o flaen twr o blant tua’r un oed ag ef, yn eu harwain i ganu rhyw dôn fuasai yn gyfarwydd iddo. Gwnai hyn yn ddeheuig dros ben pan tua deuddeg i bedair-ar-ddeg oed. llawdd oedd gweled elfenau arweinydd medrus ynddo y pryd hwnw, oblegid prophwydai ei holl ysgogiadau hyny pan yn sefyll o flaen y plant i’w harwain a chadw yr amser. Pan oddeutu pymtheg oed gwnaed ef yn arweinydd yr ysgol gan yn y capel, a chytunai pawb mai efe ydoedd y mwyaf cymhwys i’r gorchwyl. Rhoddodd hyn symbyliad iddo yntau i weithio (x26) mwy ac i ymdrechu cael ychwaneg i gymeryd dyddordeb yn y canu; a chyn hir bu yn foddion i dynu amryw o’r newydd i uno, fel y daeth cymdeithas gerddorol gref yn y capel yn bur fuan. Bu yn offeryn i ddwyn amryw i’r ysgol gân sydd wedi bod yn dra defnyddiol gyda’r rhan hon o wasanaeth y cysegr o’r dydd hwnw hyd heddyw yn Llaneurwg. Gydag ef y daeth arweinydd presenol y capel i gyfeirio ei feddwl at gerddoriaeth. “David James,” meddai Mr. Evans, “ddarfu roddi y symbyliad cyntaf i mi i geisio dysgu canu, ac mae yr awydd hwnw a gynyrchodd ynwyf wedi aros gyda mi ar hyd fy oes.”

Yn fuan iawn daeth Mr. James i fedru darllen cerddoriaeth yn rhwydd a rhydd, a chydnabyddid ef ar hyny o bryd fel y blaenaf yn y gymydogaeth yn y ganghen hon. Myned yn ei flaen a bod yn orchfygwr oedd arwyddair ei fywyd; mynai fod yn feistr ar y gwaith yr ymaflai ynddo, beth bynag fuasai yr anhawsderau. Cymaint oedd ei awydd am fyned yn mlaen fel y teimlodd yn fuan nad oedd yr ysgol gân ac arweinyddiaeth y capel yn rhoi digon o le iddo i goethi ei hun yn y gelfyddyd gerddorol. Rhyw ddiwrnod gwelodd fod eisteddfod i’w chynal yn Maenllwyd, lle yn ymyl Caerphili. Edrychid ar hon yn eisteddfod o gryn bwys, oblegid byddai corau da, yn cael eu harwain gan ddynion galluog, yn dyfod iddi i gystadlu. Ehedodd y syniad i feddwl arweinydd ieuanc Llaneurwg y buasai myned a chôr i gystadlu i Maenllwyd yn rhoi cyfle nodedig iddo i arfer ei ddawn gerddorol. Cyn yr hwyr, gwnaeth ei feddwl i fyny ar y mater, a dacw ef yn myned o dŷ i dŷ, gan roddi camrau breision, i ymdrechu cael côr yn nghyd. Gosodai y peth i lawr yn ei ddull mwynaidd a dengar, gan ddangos y fath fantais fyddai treio, beth bynag, er mwyn tynu y bobl ieuainc allan i arfer eu lleisiau, ac felly yn y blaen. Pur siomedig y dychwelai o’i ymchwiliad, am na chawsai nemawr yn foddlawn i gydsynio â’i gais, a hyny am ddau reswm. Yn gyntaf, nid oedd digon o ymddiried gan y bobl ynddo am ei fod mor ieuanc. Ofnent, er cymaint ydoedd ei gymhwysderau fel arweinydd, mai ffolineb fuasai myned gydag ef i eisteddfod i gystadlu â hen arweinwyr galluog, corau y rhai oeddynt wedi bod yn fuddugoliaethus lawer tro. “Na, na,” meddai ambell i hen frawd a hen chwaer wrtho, “paid a bod mor ddwl, Dafydd bach; byddai yr un man i ti geisio symud y
Bristol Channel o’i le a myn’d a chôr i feddwl enill i eisteddfod. Mae digon o le i ti arfer dy ddoniau yn y capel.’” (x27) Yr ail reswm na chafodd nemawr o gefnogaeth ydoedd fod pobl flaenaf a hynaf y capel yn wrthwynebus iawn i gystadlu mewn eisteddfodau. Edrychent ar y bobl ieuainc oeddynt yn mynychu y fath leoedd fel rhai yn gyflym ar y ffordd i ddystryw. Yr oedd y syniad yn annyoddefol iddynt, ac ni chaniataent i’w plant ymuno â’r côr ar un cyfrif. Ymddangosai y ddau anhawsder uchod yn rhai anmhosibl dyfod drostynt, yn enwedig i fachgen un-ar-bymtheg oed. Ond nid un i’w ddigaloni ydoedd David James. Llwyddodd i gael ffordd ar yr hen bobl a’r ieuainc mewn ychydig ddyddiau; aeth ei daerni a’i ddengarwch yn drech na’r cwbl; a chrynhodd y côr yn nghyd i ddechreu ymarfer ar unwaith. Y darn cystadleuol ydoedd, “Y Bardd yn ei Awen.” Wel, bellach, dacw yr arweinydd ieuanc un-ar-bymtheg oed yn sefyll o flaen ei gôr; bachgen teneu, teg yr olwg arno, a mwyneidd-dra a lledneisrwydd yn rhedeg drwy bob ysgogiad o’i eiddo. Mae yn llawn nwyf a bywyd, yn arddangos llawer o allu cerddorol, a’r meddwl am gystadlu mewn eisteddfod yn rhoddi y fath ysbrydiaeth ynddo nes y mae yn tanio ei gôr â brwdfrydedd cerddorol y noswaith gyntaf. Sylla pob llygad arno; y mae pob clust yn agored i’w eglurhad a’i fynegiadau a’i bwyslais ar wahanol ranau o’r darn. Byddai yn llawn mor fedrus i dynu sylw ei gôr pan yn fachgen ieuanc fel yma ag y byddai i hoelio y miloedd wrth ei wefusau pan yn pregethu yn anterth ei boblogrwydd bymtheg ac ugain mlynedd wedi hyny mewn cymanfaoedd.

Ar ol bod yn ymarfer am rai wythnosau, daeth dydd yr Eisteddfod, ac wele David James gyda’r wawr yn galw ei wŷr yn nghyd i gychwyn tua’r frwydr. Yn ei amser daeth adeg y corau i. gystadlu, ac wele yr arweinydd ieuanc o Lanenrwg yn esgyn i’r llwyfan heb ond ychydig o arwydd ofn a chryndod arno. Gosododd ei gôr yn ei le mewn modd destlus a boneddigaidd. Yr oedd y boneddwr a’r destlus ynddo yn llawn yr adeg hono, ac mewn gwirionedd ni bu un amser yn amddifad o hyn - born gentleman ydoedd David James. Aeth drwy y dadganiad o’r dernyn yn rhagorol - mor rhagorol nes y synodd pawb oedd yn bresenol; a phan ddaeth y feirniadaeth, er fod amryw gorau yn cystadlu, côr y bachgen un-ar-bymtheg oed o Laneurwg oedd un o’r ddau oreu; ac oni bae iddo golli ychydig mewn un rhan o’r darn, buasai, yn ol y feirniadaeth, wedi canu yn berflfith a chipio y wobr oll. Ond yr oedd y dadganiad mor dda, er colli mewn un man, fel y cafodd haner y wobr y (x28) tro cyntaf iddo ef a’i gôr gystadlu, a hyny pan oedd corau gwych yn cymeryd rhan yn y gystadleuaeth. Rhoddodd Mr. Cosslett, y beirniad, ganmoliaeth uchel iawn iddo, a dywedai os y dalidi ati y deuai yn un o brif arweinwyr y wlad. Peth lled eithriadol yw gweled côr yn cael ei arwain mewn eisteddfod gan lanc mor ieuanc ag oedd Mr. James y pryd hwn, ac yn enwedig ei weled yn myned â haner y wobr ar y prif ddarn. Felly y bu yn hanes gwrthddrych ein sylwadau yn Maenllwyd, beth bynag, yr hyn sydd ar unwaith yn profi fod ei dalentau cerddorol yn llawer tuhwnt i’r cyffredin.

Ar ol y fuddugoliaeth hon llanwyd ef nid ag hunanoldeb balch, ond ag awydd angherddol i gyrhaedd gwybodaeth eangach o egwyddorion cerddoriaeth. Dyma ddylanwad llwyddiant yn wastad ar ddynion gwir fawr - eu hysbrydoli i geisio ymberffeithio a chymhwyso eu hunain i wasanaeth uwch yn y byd. Y cwestiwn yn awr ydoedd pa fodd y gallasai wella ei hun yn y cyfeiriad yma, oblegid yr oedd wedi hen ddianc ar gerddorion Llaneurwg. Yn mhen ychydig ddyddiau symudwyd yr anhawsder hwn eto o’i ffordd. Glywodd fod Mr. Rosser Beynon, cerddor medrus oedd yn byw yn Merthyr Tydfil, yn mynychu Caerdydd unwaith bob wythnos i roddi gwersi i luaws mawr o ddysgyblion. Gan y cydnabyddid Mr. Beynon fel un o brif athrawon cerddorol y Deheudir y pryd hwnw, tyrai rhai awyddus am ddysgu cerddoriaeth ato o bob cyfeiriad. Nid llawer o ddyddiau ar ol buddugoliaeth Maenllwyd y bu David James cyn gwneyd ei ffordd yn rhydd i fyned i gyfarfod â Mr. Beynon i Gaerdydd. Er fod ganddo bedair milldir o ffordd i gerdded, äi gyda chysondeb am fisoedd ar bob tywydd i’w gyfarfod; ac yn ol tystiolaeth yr athraw, ni fu yn mhlith ei ddysgyblion neb mwy gobeithiol na bachgen Llaneurwg. Yfai wybodaeth i fewn, ac eithriad oedd fod camsyniad yn y wers a gawsai i’w gweithio gartref. Diau pe bae yn dal ati y buasai yn dyfod yn un o gerddorion dysgleiriaf Cymru. Yr oedd ganddo lais ardderchog o ran ansawdd - llais odiaeth o lawn a swynol, digon o gydymdeimlad a cherddoriaetih, a phenderfyniad i feistroli ei hegwyddorion.

Ond er cymaint ei gymhwysderau at gerddoriaeth, gorweddai ynddo gymhwysderau at waith uwch a gwasanaeth gwerthfawrocach i Fab Duw hyd yn nod na chaniadaeth y cysegr, ac y mae yn bur debyg i’r ymwneyd yma â cherddoriaeth fod yn foddion i’w ddwyn i ymwybyddiaeth o’r galluoedd (x29) defnyddiol oedd ynddo at y gwasanaeth hwnw. Ceir fod amryw o bregethwyr hyawdl a phoblogaidd ein gwlad yn neillduol hoff o gerddoriaeth a barddoniaeth pan yn ieuanc: mae y serch at y pethau hyn fel rhyw risiau i’w dwyn i adnabyddiaeth o alluoedd uchaf eu natur, ac yn gynorthwy iddynt i adlewyrchu ar y cymhellion mewnol sydd ynddynt at waith mawr eu bywyd, ac i ufuddhau i’r cyfryw gymhellion. Fel yma y bu yn hanes David James. Nid arweinydd canu oedd efe i fod, ond pregethwr; a buan iawn yr aeth yr awydd am bregethu yn gryfach na’r awydd am ganu. Rhaid oedd i’r cyntaf gynyddu ac i’r olaf leihau. Parhaodd yn neillduol o hoff o gerddoriaeth ar hyd ei oes, ond gorfod i’r awydd a’r serch tuag ati fod yn ail i bregethu. Wedi iddo adnabod pa rai oedd ei alluoedd a’i gymhwysderau penaf, gwrteithio y rhai hyny fu ei waith ar hyd y blynyddoedd.

PENOD VI.
EI DDYFODIAD AT GREFYDD.

Nid oes sicrwydd beth ydoedd oedran Mr. James pan y derbyniwyd ef yn gyflawn aelod, oblegid yr oedd wedi ei fagu yn y seiat. Tuedda y rhai hyny sydd yn cofio yr adeg yn dda i gredu ei fod tuag un-ar-bymtheg oed. Aeth i’r gyfeillach y noson gyntaf gyda Mr. Philip Jones, Penypil, amaethwr cyfrifol heb fod yn mhell o bentref Llaneurwg, a’r hwn sydd yn flaenor parchus gyda’r Methodistiaid yn y lle yn bresenol. Iddo ef yr ydym yn ddyledus am lawer o’r hanes sydd yn y tudaleuau hyn. Yn ol ei dystiolaeth ef ni fu unrhyw droedigaeth amlwg yn Mr. James pan ddaeth at grefydd; “Oblegid,” meddai Mr. Jones, “yn mha beth yr oedd yn myn’d i droi?
Yr oedd yn bob peth a ellid ddymuno cyn hyny. Byddai yn mhob cyfarfod; efe oedd yn arwain y canu; yn yr Ysgol Sul efe oedd y blaenaf; ac mewn adrodd pwnc (x30) byddai yn wastad yn ddiguro. “Bachgen difai,” ychwanegai, “oedd James, heb un ysmotyn ar ei gymeriad cyn dyfod yn grefyddol, a chadwodd felly hyd y diwedd. Gan hyny, nid oedd ei ddyfodiad i’r seiat yn ddim ond canlyniad naturiol i’w ymarweddiad er yn blentyn.”

Wedi cael ei dderbyn yn gyflawn aelod, ni fu ond ychydig iawn cyn ymgymeryd â holl waith cyhoeddus crefydd. Tynodd sylw neillduol yn fuan iawn drwy ei weddïau. Yr oedd rhyw newydd-deb eithriadol yn ei ffurf o ofyn am faddeuant wrth agor ei weddi, a phan y dadleuai dros achubiaeth pechaduriaid yr oedd yn anorchfygol. Ni fuasai yn terfynu un amser heb ofyn yn daer am achubiaeth ei dad, yr hwn nad oedd yn grefyddol (fel y cyfeiriwyd o’r blaen) am rai blynyddau wedi i Mr. James ddechreu pregethu. Yr oedd ei ddull o ymwneyd â Duw mwn [sic] gweddi yn gyfryw nes peri i’r bobl gredu ei fod ef a’r Arglwydd yn siarad wyneb yn wyneb; ac nid oedd neb yn amheu bodolaeth byd ysbrydol pan fyddai David James ar ei ddeulin, oblegid sylweddolent ei bresenoldeb mor berffaith.

Un nos Sabboth, tua’r adeg y dechreuodd Abraham Edmunds a David James bregethu, daeth yr hen frawd parchus William Thomas, o Gaerdydd, i Laneurwg i bregethu, a gosodwyd y ddau ddyn ieuanc i ddechreu y cyfarfod o’i flaen. Gafodd Mr. Edmunds afael neillduol wrth yr Orsedd, a theimlid awelon Calfaria yn chwythu yn esmwyth ar y cyfarfod. Dilynwyd ef gan David James, a chododd yr hwyl at folianu; gwaeddid “Amen” a “Diolch Iddo byth” dros yr holl le. Erbyn i’r hen frawd ddechreu pregethu
nis gwyddai pa le yr oedd yn sefyll na pha beth i’w ddyweyd, oblegid yr oedd y ddau ddyn ieuanc wedi ei daflu oddiar ei linellau yn llwyr. Cododd ei destyn, ond nid oedd dim hwyl, ac ychydig iawn allodd ddyweyd y noson hono. Ar ddiwedd yr oedfa gofynodd un o’r blaenoriaid iddo, “Beth yw eich barn chwi am ein students ni, Mr. Thomas?” “Mae digon o goethder yn y ddau gorgi,” oedd yr ateb, wrth yr hyn y golygai yr hen frawd duwiol “haerllugrwydd.” “Sut yr ydych yn dyweyd hyny?” ebe y blaenor. “O!” ebe yntau, “maent yn gweddïo fel pe bae ganddynt license. Gellid meddwl wrth eu doniau a’u hwyl eu bod mor hened pregethwyr a minau.”

Ond nid wrth weddï’o yn unig yr oedd David James yn tynu sylw. Mae llawer yn weddïwyr da a doniol, a gellir dyweyd nad oes eu bath ar eu gliniau; ond gwyliwch graffu (x31) arnynt ar eu traed, oblegid nid yr un dynion ydynt. Yr un ydoedd Mr. James yn y ddau le - yr un ar y Sabboth ac ar hyd yr wythnos, yn y capel ac yn y gweithdy, ar ei ddeulin ac ar ei draed. Gan hyny, tynodd llawnder neu gymesuredd ei gymeriad sylw cyffredinol ato fel un o’r bechgyn mwyaf gweddaidd a boneddigaidd yn y gymydogaeth. Tyfodd felly yn raddol, heb, fel y dywedwyd, un cyfnewidiad amlwg o gwbl.

Nid mellt a tharanau Sinai fu yr oruchwyliaeth gan Dduw i’w achub, oblegid yr oedd yn ddiamheuol wedi ei gyfnewid er yn blentyn, a thyfodd yn Gristion talgryf heb allu cyfeirio at unrhyw adeg pan y cafodd droedigaeth. Mewn Cyfarfod Misol unwaith, pan oedd y gweinidogion yn dal yn gryf y dylasai pob dyn allu cyfeirio at ryw gyfnewidiad amlwg yn ei fywyd fel prawf ei fod wedi ei achub, gofynwyd i’r ffraethbert Griffith Jones, Tregarth, ddyweyd gair. “Wel,” ebe fe, “crydd oedd fy nhad, a bu llawer o brentisiaid yn dysgu y grefft gydag ef; gwyddai y rhai hyny y dydd, a braidd yr awr, y dechreuasant ar eu prentisiaeth. Crydd hefyd ydw inau, ond
nis gwn i pa bryd y dechreuais nac y dysgais, oblegid yn ngweithdy y crydd y magwyd fi; ond un peth a wn -gallaf wneyd cystal pâr o esgidiau a’r un o honynt. Felly, mi dybiaf,” meddai, “y mae yn hanes llawer Cristion; nis gŵyr beth yw troedigaeth hynod, nes haner ei ladd, fel Paul ac ereill, oblegid y mae y bywyd Cristionogol wedi cyd-dyfu ag ef.” Felly yn hollol y gellir dyweyd am Mr. James, Llaneurwg. Yn yr eglwys y dygwyd ef i fyny, ac yn mynychu y seiat y cofiai efe ei hun gyntaf; ac ni fu ei fywyd drwyddo ond perffeithiad ar yr hyn oedd ganddo er yn blentyn mewn rhan neu yn yr hedyn.

Cyflym iawn oedd dadblygiad David James yn mhob cyfeiriad. Fel y dangoswyd o’r blaen, dysgai felly yn yr Ysgolion Sul a dyddiol; dysgodd hefyd ei grefft mewn byr amser, a chyfrif ei fod mor hoff o ddarllen; gyda’r canu eto daw yr un ffaith i’r golwg ynddo. Rheda yr un nodwedd i fewn i wedd grefyddol ei fywyd, ac yn mhen o ddeunaw mis i ddwy flynedd wedi ei dderbyn yn aelod cyflawn yr oedd wedi dadblygu i gryn addfedrwydd yn mhob cylch. Yn ei weddïau yr oedd rhywbeth mwy na dawn a geiriau coeth a brawddegau destlus; felly y gellir dyweyd am ei gynghorion yn y gyfeillach a’i atebion yn yr Ysgol Sul; a’r rhywbeth hwnw ydoedd y bywyd ysbrydol yn gweithio ei hun allan drwy bob meddwl, teimlad, (x32) ac ysgogiad. Canlyniad y dadblygiad cyflawn, cyflym yma ar eglwys Llaneurwg fu ei llwyr argyhoeddi nad oedd ond un lle yn gymhwys i’r bachgen gobeithiol hwn; a darfu i’w cymhellion hwy a’r Ysbryd Glan ei berswadio ar fyr i fyned i’w le ei hun, fel y cawn weled yn y benod nesaf.

PENOD VII.
YN CYCHWYN PREGETHU.

Fel y crybwyllwyd yn y benod o’r blaen, gweithiodd gweddïau hynod David James, a’i lafur gyda phobpeth perthynol i’r achos, argyhoeddiad mor ddwfn yn meddyliau pobl Llaneurwg fel na welent yr un man yn gymhwys iddo ond y pwlpud, Dechreuodd y naill a’r llall ei anog i bregethu, ac yn eu plith y Parch. Daniel Roberts, y gweinidog oedd yn byw yn y lle. Tueddu i fod yn ofnus ydoedd ar y cychwyn, er fod yr holl gymhellion a gawsai yn berffaith gydnaws â chymhellion ei fynwes ei hun. Cyfodai mynyddoedd o anhawsderau o’i flaen o lawer cyfeiriad. Ofnai nad oedd wedi ei alw i’r gwaith, ac mai twyll ydoedd ei awyddfryd am siarad dros Grist. Gwelai anhawsder mawr arall yn ei ffordd, yr hwn nad oedd ganddo ronyn o obaith i’w orchfygu, sef diffyg addysg. Erbyn hyn rhoddid lle mawr i addysg y rhai fuasai yn myned i’r weinidogaeth, ac mewn trefn i gael yr addysg ofynol rhaid oedd cael arian. Beth oedd i’w wneyd, ynte? Bachgen tlawd ydoedd David James, ac heb ddyfod i enill dim wrth ei grefft eto; gan hyny, edrychai yn dywyll anobeithiol
arno yn y cyfeiriad hwn. Ysywaeth, dyma ran llawer o feibion athrylith; ond eto fe ddichon nad anfantais i gyd ydyw hyny; oblegid yn aml gwna tlodi i ddyn ymwroli ac ymdrechu yn erbyn amgylchiadau, a gwasanaetha y cyfryw ymdrech i dynu allan ei alluoedd. Yn ngwyneb yr holl ofnau a’r anhawsderau a nodwyd, ymwroli a wnaeth Mr. James; a (x33) phan ychydig gyda deunaw oed penderfynodd roddi ffordd i’r cymhellion allanol a mewnol, a dechreu pregethu. Dewisodd ei destyn o Salm xxiii. 4: “ Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angeu nid ofnaf niwed, canys yr wyt Ti gyda mi; dy wialen a’th ffon a’m cysurant.” Bu am wythnosau yn meddwl ar yr adnod; ai allan i’r caeau a siaradai wrtho ei hun, gan fyned dros ddarnau o’r bregeth, nes o’r diwedd iddi ddyfod yn orphenedig. Wedi hyny, pregethodd hi ar y cae yn ymyl y tŷ i’w gyfaill Joseph Evans, mab ei feistr; ac aeth drwy ei waith gyda’r fath hwyl, yn ol tystiolaeth Mr. Evans, nes y parodd deimladau dwysion iddo nad ydyw byth wedi eu hanghofio. Un, felly, oedd ei gynulleidfa y tro cyntaf; ac ychydig feddyliai y pregethwr na’r gynulleidfa y buasai y bregeth yn foddion i ysgwyd canoedd, fel y gwnaeth lawer tro ar ol hyn. Bu yn hoff anarferol o’r Salm hon ar hyd ei fywyd. Clywsom ef yn pregethu gyda dylanwad mawr ar yr adnod gyntaf o honi y flwyddyn olaf y bu byw; a thro arall clywsom ef yn traddodi pregeth nodedig ar yr oll o honi. Yn ddiameu iddi gymeryd gafael ddwfn yn ei feddwl pan yn ieuanc iawn, am mai hi a ddysgodd ei fam iddo gyntaf. Nid annyddorol, gan hyny, yw sylwi mai Salm xxiii., Salm fechan anwyl dros ben ar gyfrif y gwirioneddau cysurlawn sydd ynddi, oedd y darn cyntaf o’r Ysgrythyr Lâan a drysorodd yn ei gof; arni hi y pregethodd ei bregeth gyntaf; ac adnod gyntaf y Salm oedd testyn un o’i bregethau olaf, os nad yr olaf oll.

Wedi myned dros ei bregeth o flaen ei gyfaill, traddododd hi un o’r nosweithiau cyntaf ar ol hyny yn y capel. Cafodd pawb eu llwyr foddloni; ac os oeddynt yn ei berswadio i bregethu cyn hyny, mwy o lawer felly yn awr. Ni thalai iddo sôn am beidio myned yn ei flaen, oblegid yr oedd yr eglwys oll yn daer am iddo ddal ati. Traddododd ei ail bregeth (yr hon am y rheswm hyn a gynwysir yn y gyfrol) yn Nghasbach, oddiar y geiriau yn Ephesiaid iii. 8, “I mi, y llai na’r lleiaf o’r holl saint, y rhoddwyd y gras hwn, i efengylu yn mysg y cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist.” Cafodd oedfa ragorol, a theimlai pobl Casbach, yn ogystal a Llaneurwg, mai yn y pwlpud yr oedd ei le. Wedi iddo orphen yr oedfa, dywedodd hen flaenor wrtho, a adnabyddid wrth yr enw Shon French –

“Gwnewch eich goreu, machgen i, i wneyd esgidiau a gwneyd pregethau.”

“Mi wnaf fy ngoreu i wneyd pregethau, beth bynag,” oedd atebiad Mr. James.

Siglodd Shon French ei ben (x34) mewn anghymeradwyaeth, oblegid ofnai fod y gŵr ieuane yn dechreu porthi balchder a hunanoldeb cyn ei fod yn fis oed fel pregethwr. Syniad Shon oedd, fel y gwelir oddiwrth ei gynghor, y dylasai y bachgen o Laneurwg osod gwneyd esgidiau yn amcan penaf a gwneyd pregethau yn ail; ond syniad David James ydoedd, a’r syniad iawn hefyd, mai gwneyd pregethau oedd i fod yn amcan penaf ei fywyd, a gwneyd esgidiau yn is-wasanaethgar i enill bwyd i’r pregethwr.

Nis gwyddom ai rhywbeth tebyg oedd barn Shon French am Mr. James y noson hono i un brawd a adwaenem, yr hwn oedd wedi bod yn gwrandaw dyn ieuanc yn pregethu ar brawf trwy y dosbarth. Ar ol y cyfarfod aeth i’r tŷ capel i gael ymgom â’r brawd oedd wedi bod yn ceisio ei argyhoeddi fod yno ddefnydd pregethwr; a gofynodd iddo,

“Beth yw dy waith di pan gartref, ‘y machgen i?”

Atebodd yntau, dan grynu ac ofni,

“Golier wyf fi, syr, wrth fy ngwaith.”

“Wel, mi ro’i gynghor i ti, gan obeithio y gwnai wrandaw arno,” ebe y cwestiynwr, “a hwnw yw - paid a gwerthu dy fandrel a’r rhan arall o’r tools sydd genyt am flwyddyn o leiaf, rhag ofn y bydd arnat eu heisieu.”

Un tra chraffus i weled cymhwysderau mewn dyn ieuanc ydoedd yr hen frawd yma, a gwir ddywedodd y tro hwn, o herwydd gorfu i wrthddrych ei gynghor ddychwelyd at ei fandrel cyn pen haner blwyddyn; a thrwy offerynoliaeth y mandrel yr enilla ei fara o hyny hyd yn awr. Tybed mai dyna ydoedd syniad blaenor parchus Casbach am David James. Os mai, gwnaeth gamsyniad truenus.

Wedi iddo fyned ar brawf drwy y dosbarth, a hyny gyda chymeradwyaeth y mwyafrif, dygwyd ei achos i’r Cyfarfod Misol er mwyn cadarnhau barn y dosbarth a dewis cenhadau i’w arholi yn ei wybodaeth gyffredinol o’r Beibl, ac hefyd ei ddirnadaeth am bynciau sylfaenol crefydd. Penodwyd y diweddar Barch. David Edwards, Casnewydd, i gyflawni y gorchwyl hwn. Daeth y noson apwyntiedig i David James fyned drwy ei arholiad. Dechreuodd Mr. Edwards ofyn cwestiynau ar y Bod o Dduw - cwestiynau anarferol o galed; a chymaint y daliodd ar y rhai hyn, gan holi a chroesholi, nes i Mr. James bron colli ei dymer. Wedi dal yn hir a manwl ar y Bod o Dduw, aeth Mr. Edwards yn mlaen i ofyn pethau hawddach, ac erbyn hyn yr oedd yr atebwr ac yntau yn dechrau deall eu gilydd. Wedi cyrhaedd y terfyn, cafodd yr holwr foddhad neillduol yn yr atebion ar y cyfan, a dadganai (x35) hyny yn gryf ger bron yr eglwys ar y diwedd. Gymerwyd pleidlais rhai oedd yn bresenol, a chafwyd hwy yn unfrydol dros iddo fyned yn ei flaen. Cydunai Mr. Edwards yn hollol â hwy, ac yn y Cyfarfod Misol dilynol rhoddodd adroddiad ffafriol iawn, gan ychwanegu ei fod yn hollol argyhoeddedig fod David James yn fachgen tra gobeithiol. Wedi clywed yr adroddiad, rhoddodd y Gyfarfod Misol ryddid calonog iddo i fyned yn ei flaen i bregethu.

Daeth ar unwaith yn bregethwr cymeradwy. Ni bu ond tua chwech mis cyn bod eglwysi y cylch yn danfon am dano; a pha le bynag yr ai, byddai yn sicr o adael argraff dda ar ei ol. Pan ddaeth cymaint o alw
arno i bregethu gadawodd y grefft - a hyny am byth - ac aeth i gadw ysgol ddyddiol i Dredelerch, hen gartref ei fam. Tyrai plant ato o bob cwr o’r gymydogaeth, ac ar fyr amser daeth yn boblogaidd iawn fel ysgolfeistr. Cam tuag yn mlaen fu hwn yn ei hanes; oblegid yn un peth, yr oedd yn gwella ei hun wrth ddysgu ereill. Mae hon yn ddeddf, fod yr hwn sydd yn dysgu ereill yn dysgu ei hun yr un pryd, yr hyn oedd Mr James yn ddiddadl wedi ei ddeall erbyn hyn. Hefyd caffai lawer mwy o amser i ddarllen, astudio, a gwneyd pregethau na phan yn gweithio wrth ei grefft; ac fel y dywedai ef ei hun flynyddoedd wedi hyny, yr oedd cael y prydnawnau ar ol gadael yr ysgol i ddarllen yn llawer mwy cydnaws â’i fryd na dim arall dan haul. Enillai ychydig hefyd wrth yr ysgol i’w gynorthwyo i fyw; oblegid mewn eglwysi bychain y byddai yn gwasanaethu, y rhai oeddynt yn analluog i roddi ond cydnabyddiaeth fechan iawn am weinidogaeth Sabbothol. Ni fu ei arosiad yn Nhredelerch yn hir; dychwelodd i Laneurwg i gadw ysgol yn nghapel yr Annibynwyr. Deuai lluaws o blant ato yma eto fel yn Nhredelerch. Byddai ei garedigrwydd digyffelyb, ei ysbryd addfwyn, a’i ddull boneddigaidd o drin y plant yn eu tynu ar unwaith i’w garu; a chan ei fod yn medru enill calonau y plant mor llwyr, bu yr ysgol yn llwyddiant mawr. Dywedodd un o’r ysgolheigion wrthym mai David James oedd yr ysgolfeistr goreu a welodd erioed.

“Nid wyf yn cofio ei weled,” meddai, “yn defnyddio gwialen un amser, oblegid yr oedd edrychiad o’i eiddo yn ddigon i beri i ni oll fod yn dawel.”

Tua’r adeg yma dechreuodd ei boblogrwydd gynyddu yn gyflym, a daeth galwadau am dano i eglwysi o bwys yn y Sir a thuallan iddi, ac yn fuan iawn daeth yn bregethwr cyfarfodydd (x36) mawrion. O ganlyniad rhaid oedd gwneyd un o ddau beth yn awr - naill ai rhoddi i fyny yr ysgol neu wrthod y galwadau mynych a. gawsai i fyned i leoedd nad oedd bosibl dychwelyd o honynt erbyn boreu Llun; oblegid pan yn pregethu y Sul a’r Llun byddai yn hwyr prydnawn dydd Mawrth
arno yn dychwelyd. Gan hyny byddai yr ysgol o angenrheidrwydd yn cael ei hesgeuluso ac yn syrthio i annrhefn. Beth oedd i wneyd - cadw at yr ysgol neu bregethu? Diau mai cynghor rhai iddo fuasai dal at yr ysgol. Ond nid dyna oedd ewyllys Duw yn y mater, a buan y tueddwyd meddwl y pregethwr ieuanc i roddi i fyny yr ysgol, a chysegru ei hun yn llwyr i’w hoff waith. Erbyn hyn gelwid ef yn fynych i eglwysi mawrion y gwahanol siroedd, ac mewn canlyniad gwelai yntau ei ffordd yn glir i allu byw wrth bregethu. Gwnaeth y cyfnod yma y bu yn cadw ysgol - er mai byr ydoedd - ei ôl arno am ei fywyd: gwreiddiodd ei hun yn elfenau Gramadeg a Rhifyddiaeth, a meistrolodd Saesoneg i’r fath raddau fel ag i allu ei siarad yn bur gywir. Ffrwyth y tymhor hwn oedd i’w weled arno yn mlynyddoedd olaf ei fywyd pan yn pregethu yn Saesoneg mor
nerthol, a chyda’r fath ofal am ei frawddegau a chywirdeb gramadegol ei iaith.

Fel y cyfeiriwyd yn barod, yr oedd wedi dysgu y Cyffes Ffydd ac Hyfforddiwr Mr. Charles pan yn ieuanc iawn, ac wedi ymgyfarwyddo llawer ag esboniadau James Hughes a Barnes pan ar ei brentisiaeth. Dadleuid llawer yn ngweithdy y crydd ar adnodau a phynciau, a’r safon i benderfynu pob dadl oedd Barnes, James Hughes, neu Thomas Boston ar Bedwar Cyflwr Dyn. Yn fuan wedi i Mr. James ddechreu pregethu, cafodd ryddid i wneyd defnydd o lyfrgell boneddwr oedd yn byw yn Llaneurwg o’r enw Mr. Long. Gwnaed y llyfrgell hon i fyny o amryw o’r llyfrau goreu yn y ddwy iaith; megys Geiriadur Mr. Charles, Charnock ar Y Priodoleddau Dwyfol, Cyfatebiaeth Butler, Dr. Owen, Thomas Goodwin, Taith y Pererin, Gurnal ar Y Cristion yn ei Gyflawn Arfogaeth, yn nghyd a nifer mawr o lyfrau da ereill. Cymerai Daniel Roberts, y gweinidog, ddyddordeb mawr ynddo, a’r un modd Samuel James, ei hen ysgolfeistr, fel yr oedd pob llyfr o’u heiddo hwythau at ei wasanaeth. Gwnaeth yntau ddefnydd da o’r oll, a chyfoethogodd ei feddwl â gwybodaeth a fu o’r buddioldeb mwyaf iddo ar hyd ei oes. (x37)

 

PENOD VIII.
CYNYDD EITHRIADOI. EI BOBLOGRWYDD.
Wedi gadael yr ysgol, a chael ei holl amser iddo ei hun, a’i gysegru at wasanaeth pregethu, hawdd dychymygu ei fod yn ymroddi o ddifrif at y gwaith yr ymhyfrydai ei enaid ynddo. Darllenai y pethau goreu y deuai o hyd iddynt, ac ymdrechai droi yr oll yn eiddo iddo ei hun ac yn is-wasanaethgar i’r Efengyl. Tua’r adeg hon daeth i gyffyrddiad â Thomas Rees, Cendl, gweinidog gyda’r Annibynwyr, sef Dr. Rees, Aberfcawe, wedi hyny. Efe ydoedd cyfieithydd Esboniad Barnes i’r Gymraeg; a chan fod Mr. James wedi darllen llawer ar Barnes, a derbyn cynorthwy mawr o hono, diau ei fod yn awyddu am gael ffurfio cyfeillgarwch â’r cyfieithydd mewn trefn i ddiwyllio ei hun yn mhob modd oedd yn bosibl. Cafodd gyfleusdra i ddyfod i adnabyddiaeth o Mr. Rees, ac aethant ar fyr o dro yn gyfeillion mynwesol iawn. Credai Dr. Rees fod dyfodol gwych o flaen Mr. James fel pregethwr; ac mewn trefn i ddangos ei fod yn dymuno ei lwydd, dywedodd wrtho fod pob llyfr o’i eiddo at ei wasanaeth. Rhoddodd gyfarwyddyd iddo hefyd gyda golwg ar y gweithiau goreu i’w darllen, yr hyn oedd o werth mawr i ddyn ieuanc. Mabwysiadodd yntau y syniadau uchaf a pharchusaf am Dr. Rees, a theimlai yn anwyl ato ar hyd ei oes am y cynorthwy mawr gafodd ganddo, ac nid llai oedd edmygedd Dr. Rees o hono ef.

Yn fuan iawn wedi hyn dechreuodd ei boblogrwydd gynyddu gyda chyflymdra eithriadol. Gelwid y dyn ieuanc o Laneurwg gan eglwysi pwysig i’w prif wyliau; efe fyddai ffafrddyn cyfarfodydd y Nadolig, y Pasc, a’r Sulgwyn. Tyfodd nid yn unig yn fwy na Llaneurwg a’r cymydogaethau cylchynol, ond aeth y Sir yn rhy fychan iddo; ac yn fuan aeth yn fwy na Chymru, a mynych y gwelid ef yn nghapelau Llundain, Lerpwl, a Manceinion.

Ond cyn myned yn mlaen yn mhellach yn y cyfeiriad hwn, rhaid i ni droi am ychydig i sylwi ar ddau beth cysylltiedig â’r cyfnod hwn. Wrth weled cynydd mawr ei boblogrwydd, a’r dyfodol dysglaer ymddangosai fod yn ei aros, teimlai pobl oreu a mwyaf craffus Sir Fynwy mai trueni - a cham ag ef hefyd - fuasai iddo beidio myned i’r Coleg, mewn trefn i wrteithio cymaint ag oedd yn bosibl ar y talentau gwerthfawr (x38) oedd yoddo i’r weinidogaeth. Cymhellai personau unigol ef i feddwl am hyny, ac ymbarotoi ar gyter myned i Athrofa. Trefecca. O’r diwedd, danfonodd Cyfarfod Misol Mynwy gais pendant ato i’r perwyl hwnw, gan ddymuno yn daer
arno i gydsynio. Ond waeth hyny na pheidio, gwrthod wnaeth Mr. i James. Er hyny, dylid cofio mai nid diffyg cred mewn addysg, nao ychwaith unrhyw deimlad o anmharch i gais y Cyfarfod Misol a barodd iddo wrthod cydymffurfio. Na; cam dybryd fyddai tybied y naill neu y llall. Ni fu neb erioed yn uwch ei syniad nag ef am addysg, na neb ychwaith yn fwy teyrngarol i’w enwad a’i reolau. Teimlai barch mawr i Drefecca, a siaradai yn uchel iawn bob amser am yr addysg a gyfrenid yno. Yr oedd hefyd yn un o ffyddloniaid y Gyfarfodydd. Misol; ond o herwydd ei fod gymaint oddicartref, nid oedd yn gallu eu mynychu fel y carai y blynyddoedd olaf y bu fyw.. Nid oes amheuaeth na fu y cwestiwn hwn yn gwasgu yn galed arno, oblegid sychedai am wybodaeth, a gwelai bwysigrwydd pa benderfyniad a ddeuai iddo. Beth yw yr eglurhad, ynte, ar y ffaith na ddarfu iddo fyned i’r Coleg? Wel, yr oedd wedi dyfod dan ddylanwad arall erbyn hyn, yr hwn a brofodd yn fwy cryf ar effeithiol ar hyny o bryd na’r syched mawr am wybodaeth. Mewn geiriau byr, yr oedd wedi syrthio mewn cariad, a phenderfynai wneyd y ddynes ieuanc yn gymhar ei fywyd. Merch ydoedd i John ac Elizabeth Cross, ac wedi ei chydfagu â Mr. James. Dywedir iddo osod cais y Cyfarfod Misol o’i blaen, a gofyn ei barn arno, ac iddo gael ei ddylanwadu gan yr ateb a roddodd i benderfynu myned yn mlaen heb gymhorth y Coleg. Beth bynag fu y golled iddo wrth beidio myned i Drefecca (amlwg ydyw iddi fod yn golled fawr), cafodd ei gwneyd i fyny i raddau pell yn ei briodas. Un o’r gwragedd goreu yn mhob ystyr fu Mrs. James, a bendith fawr oedd iddo ef gael un felly; oblegid iechyd gwanaidd gafodd ar hyd ei oes, ac felly galwai am dynerwch a gofal mawr. Nid oedd tynerach na mwy gofalus am ei hanwyl briod na hi yn y byd; gwnaeth weini arno mewn gwirionedd. Dedwydd iawn fu eu huniad; yr oedd eu serch yn ymglymu am eu gilydd fwy-fwy drwy y blynyddau. Daeth hyn yn amlwg iawn i’r golwg pan gyfarfu ef â’i gystudd olaf. Ni chysgodd Mrs. James ond ychydig yn ystod y flwyddyn y bu yn sâl, gan na wnai neb y tro i aros gydag ef a gweini arno ond hi; ac nid oedd yn foddlon iddi fyned ond ychydig o’i olwg. (x39) Wedi penderfynu cwestiwn y Coleg, wele hwynt yn myned gyda thoriad y wawr i Gaerdydd ar yr 21ain o Ragfyr, 1859, a phriodi yn dawel. Yn fuan wedi hyn aethant i fyw i Laneurwg, lle y ganwyd iddynt saith o blant, o ba rai nid oes ond tri yn awr yn fyw. Wedi ymsefydlu llafuriodd Mr. James ei oreu i wneyd i fyny am golled addysg athrofaol. Penderfynodd, yn ngwyneb pob peth, ddyfod yn bregethwr; ac ychydig yw nifer y rhai gyrhaeddodd eu hamcan yn llwyrach. Cynyddu wnai y galwadau am dano; a hwyrach na ddaeth. nemawr un mor gyflym i binacl enwogrwydd, a hyny mor ieuanc.

Er mwyn rhoddi syniad i’r darllenydd am y poblogrwydd eithriadol a gyrhaeddodd, gosodwn y ddwy engraifft ganlynol i lawr - un yn y flwyddyn 1860 (pan nad oedd ond 24ain oed), a’r llall yn 1861. Yn 1860, gwasanaethai mewn cyfarfod pregethu yn Dowlais; ac yn un o’r oedfaon pregethai oddiar 1 Cor. ii. 9, “Eithr fel y mae yn ysgrifenedig, ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust,” &c. Yr oedd yn bresenol yn yr oedfa un o weinidogion blaenaf Sir Forganwg heddyw. Dyn ieuanc heb ddechreu pregethu ydoedd yr adeg hono. Mor anorchfygol oedd y dylanwad fel y cododd y gynulleidfa braidd oll ar eu traed, ac o flaen y pwlpud safai y dyn ieuanc uchod yn gwaeddi allan “Amen!” ac yn wylo yn ddilywodraeth. Yr oedd yr hwn a adroddai yr hanes yma wrthym yn y capel hefyd, yn. fachgen tua deng mlwydd oed; a chymaint oedd yr ofn gafodd wrth weled y fath gynhwrf fel y dymunai gael lle i redeg allan. Mae yntau yn weinidog erbyn hyn, a thystia, er cymaint o bregethu y mae wedi glywed wedi hyny, nad ydyw yn cofio y fath olygfa mewn oedfa a’r tro hwnw. Darluniai Mr. James mor fyw ogoniant y pethau mawrion y mae y duwiol yn brofiadol o honynt, ac hefyd odidowgrwydd yr hyn sydd yn ei aros tudraw i angeu a’r bedd, nes peri i’r gynulleidfa anferth oedd yn bresenol lwyr anghofio y ddaear, fel Pedr gynt ar y mynydd.

Yn y flwyddyn 1861 siomwyd pobl Casbach yn un o’r brodyr oedd i wasanaethu yn eu cyfarfod blynyddol. Nid oeddynt wedi cael manteision lawer i wrandaw Mr. James wedi iddo orphen pregethu ar brawf; ond yr oedd ei boblogrwydd mawr mewn manau ereill yn hysbys iddynt, a darfu iddynt geisio ganddo lanw lle y brawd oedd wedi eu siomi, gyda’r diweddar Dr. Harris Jones, Athraw Trefecca. Yn yr (x40) oedfa ddau o’r gloch ddydd Sul, cododd David James o flaen y Dr. parchedig, a rhoddodd y penill hwnw allan mewn modd mor effeithiol nes tynu dagrau o lygaid amryw -

.....................Pa Dduw yn mhlith y duwiau
.............................Sydd debyg i’n Duw ni?
.....................Mae’n. hoffi maddeu’n beiau,
.............................Mae’n hoffi gwrandaw’n cri.

Yna cododd ei destyn yn Deut. iii. 24, “Oblegid pa Dduw sydd yn y nefoedd, neu ar y ddaear, yr hwn a weithreda yn ol dy weithredoedd a’th nerthoedd di?” Gyrodd bawb i syndod wrth ei wrandaw yn darlunio Duw yn ei weithredoedd yn y greadigaeth a rhagluniaeth, a dechreuodd y tân dwyfol ddysgyn ar y gynulleidfa, fel pan ddaeth at Dduw fel maddeuwr anwiredd a phechod yr oedd y dylanwad yn anorchfygol. Methodd rhai o’r hen frodyr a dal heb waeddi, “Diolch iddo!” Mor llwyr yr oedd wedi cael gafael ar y gynulleidfa fel y teimlai Dr. Jones gryn anhawsder i bregethu ar ei ol; a dywedai ar ddiwedd yr oedfa fod David James yn sicr o fod yn un o’r rhai mwyaf gobeithiol feddai Cymru. “Mae wedi cael gafael ar y ffordd fyraf at galonau cynulleidfa,” meddai y Dr., “ac os ceidw yn mlaen, daw yn un o’r pregethwyr mwyaf poblogaidd.” Gallem ychwanegu nifer luosog o engreifftiau cyffelyb yn ei hanes yn yr adeg hon, ond caiff y ddwy uchod wasanaethu fel esiamplau o’i boblogrwydd pan rhwng pedair a phump-ar-hugain oed. Parhau i fyned rhagddo a wnai yn gyson, a phan ordeiniwyd ef yn 1866 yn Nghymdeithasfa Maesteg, er nad oedd y pryd hwnw ond 30ain oed, diau ei fod yn un o bregethwyr blaenaf y Deheudir. Ordeiniwyd amryw o frodyr gydag ef yn y Gymdeithasfa hon sydd wedi cyrhaedd cryn boblogrwydd - megys y diweddar Barch. J. Wyndham Lewis, Gaerfyrddin; W. Mydrim Jones, Llanelli; a David Jones, M.A., Brynsadler. (x41)

 

PENOD IX.
YN ORCHFYGWR ANHAWSDERAU.

UNn o nodweddion mwyaf amlwg Mr. James ydoedd ei benderfyniad i orchfygu yr anhawsderau hyny oeddynt ar ei ffordd yn nglyn â’i fywyd cyhoeddus. Yn gyntaf, anfantais fawr - yn ymddangosiadol, beth bynag - ydoedd ei amgylchiadau bydol. Fel y cyfeiriwyd yn y benod gyntaf, gweithiwr cyffredin oedd ei dad, ac wedi codi teulu lluosog; gan hyny,
nis gallasai fod wedi gosod rhyw lawer, os dim, o’r neilldu. Ymdrechodd John Rees hefyd i roddi ychydig ysgol i’w naw plentyn, yr hyn a olygai lawer i weithiwr y dyddiau hyny. Yn ychwanegol at hyn, rhoddodd grefft i David, y mab ieuengaf; a dechreuodd yntau bregethu cyn ei fod wedi dyfod i enill nemawr, os dim, wrth ei alwedigaeth. Mae y Brenin Mawr fel pe wedi trefnu i rai o ddynion galluog y byd i gael eu dwyn i fyny mewn tlodi, ac nid yw hyny yn ddiamcan, yn ddiau; oblegid os bydd gallu yn y dyn y mae gwasgfa amgylchiadau yn sicr o’i dynu allan. Cafodd David James ymdrechfa galed pan yn dechreu, ond manteisiodd ar yr oll; ac mewn byr amser cyrhaeddodd safle anrhydeddus yn y weinidogaeth, yn hollol drwy ei wroldeb ei hun.

Wrth ddarllen tudalenau hanesyddiaeth, cawn fod ereill heblaw Mr. James wedi cerdded ar hyd yr un llwybr i boblogrwydd. Diau na fuasai Wordsworth, yr hwn a gydnabyddir fel cychwynydd cyfnod newydd mewn barddoniaeth athronyddol, wedi dadblygu ei alluoedd i’r fath raddau oni bae fod yn rhaid iddo (yn enwedig yn mlynyddoedd cyntaf ei fywyd) weithio neu newynu. Trodd ei lyfrau cyntaf yn fethiant hollol, am fod y wlad yn amddifad o chwaeth at ei farddoniaeth aruchel; ond er hyny, dal ati a wnaeth; ymwrolodd yn erbyn y methiant mwyaf digalon. Both fu y canlyniad? Cyn diwedd ei oes cyrhaeddodd i fod yn fardd brenhinol (poet laureate) a rhestrir ei gyfansoddiadau gyda phrif weithiau barddonol y byd. Gellir dyweyd yr un modd am Coleridge. Ysgrifenodd yntau rai o’i bethau goreu pan mewn angen am ychydig arian er cadw corff ac enaid wrth eu gilydd. Yn ddiddadl, y mae y byd ar ei enill fod dynion fel yma wedi eu gosod mewn amgylchiadau o’r natur hyn, .oblegid dyna i (x43) raddau helaeth iawn sydd wedi bod yn foddion i dynu allan a dadblygu eu hathrylith ddysglaer.

Pell ydym o ddyweyd nad oedd elfenau pregethwr poblogaidd iawn yn gorwedd yn gynhenid yn Mr. James, Llaneurwg; ond beiddiwn ddyweyd na fuasai wedi cyrhaedd mor uchel ar wahan i’r amgylchiadau a nodwyd. Dywedai wrth gyfaill ei fod yn cerdded o Laneurwg i Gaerdydd ar brydnawn Sadwrn mewn penbleth gyda golwg ar adael ei waith - pa un ai gadael y grefft ai ymroddi i bregethu oedd oreu iddo. Methai yn lân a gweled goleuni clir ar y mater; ond yn sydyn fflachiodd y penill hwnw i’w feddwl-

.................... “Rhagluniaeth fawr y Nef o’m plaid
.............................Ei holl olwynion try;

.....................Agora’r môr pe byddai raid -
.............................Mae’r afael sicraf fry.”

Bu y penill yn foddion i dori y ddadl ar unwaith. Gadawodd ei alwedigaeth yr wythnos ganlynol, ac ni bu angen am iddo ddychwelyd.

Ond yr oedd ganddo anhawsder mawr arall, un llawer mwy sylweddol na’r cyntaf, a rhaid ydoedd cael gwron o’r iawn ryw i orchfygu hwn. Er yn fachgen nid oedd ei gyfansoddiad ond gwanaidd. Pan o ddeunaw i ugain oed, ac am flynyddoedd wedi hyny, ni welai neb lawer o arwyddion afiechyd ynddo, mae yn wir; er hyny, yr oedd yn ddyoddefydd parhaus oddi wrth anhwylderau corfforol oedd yn ei raddol wanhau. Pan gyrhaeddodd yn uchel mewn poblogrwydd, a dechreu teithio drwy wahanol ranau y De a’r Gogledd, Llundain, a lleoedd ereill, gwelid arwyddion amlwg fod rhywbeth yn gweithio yn ddystaw dan sylfaen ei gyfansoddiad. Ar hyd y blynyddau bu dan driniaeth meddygon, a braidd y dychwelai o un daith bregethwrol heb physigwriaeth o ryw natur ganddo. Mynych y deuai gartref ar ol pregethu y Sul a’r Llun, ac yr äi i’w wely ar ei union; yno y byddai am ddyddiau ambell dro, ac weithiau hyd foreu dydd Sadwrn, pryd y cyfodai i fyned at ei gyhoeddiad. Gymaint oedd ei awydd am bregethu fel yr ydoedd yn anmhosibl ei gadw gartref, er ei fod yn aml bron yn rhy wael i fyned i gyfarfod y train. Tystiai ei fod yn cael rhyw adgyfnerthiad wrth bregethu oedd yn talu y ffordd iddo i ymladd er ei fwyn. Chwarddodd yn ngwyneb yr afiechyd oedd fel cancr yn ei ddifa drwy y blynyddau; ac er ei waethaf, daeth yn un o bregethwyr mwyaf effeithiol ei enwad. O, ïe, (x43) gwron oedd efe; medrai droi clust fyddar hyd yn nod i lais afiechyd er mwyn ymdrechu hardd deg ymdrech y ffydd, a mynu dyfod i’r man mwyaf manteisiol i wneyd gwaith dros Iesu Grist.


Anhawsder arall oedd ganddo i’w orchfygu ydoedd diffyg addysg. Sylwasom o’r blaen na fu mewn Athrofa na Phrifysgol; ac er ei fod wedi cael gwell addysg gyffredin na’r mwyafrif o blant gweithwyr y dyddiau hyny, ac iddo goethi llawer
arno ei hun pan fu yn cadw ysgol, eto anfantais fawr oedd bod heb addysg golegawl. Nis gallwn gydsynio am foment a’r rhai sydd yn dal na fuasai Mr. James yn gymaint o bregethwr pe cawsai addysg athrofaol, am fod tuedd mewn addysg felly i wneyd dynion yn debyg i’w gilydd, ac i’w gweithio i ryw ffurf neillduol. Y tebygolrwydd ydyw y buasai yn llawn mor effeithiol fel pregethwr, os nad yn fwy felly, oblegid un oedd efe i wneyd y defnydd goreu o bob mantais a gynygiai ei hun i’w sylw. Mae yn wir na fuasai yn fwy doniol naturiol na chynhenid alluog pe cawsai Goleg. Wel, yn mha beth y buasai yn well? Mewn dadblygiad meddyliol, eangder gwybodaeth a syniadau; mewn gallu i ddarllen a gwneyd defnydd o lyfrau o’r dosbarth blaenaf. Yr anfantais fwyaf gyda golwg ar ddiffyg addysg iddo ef ydoedd ei fod yn dechreu pregethu mewn cyfnod pan oedd addysg pregethwyr yn dyfod i sylw mawr; cyfnod yn yr hwn yr oedd yr hen bregethwyr hunan-ddysgedig yn cael eu symud, a dosbarth arall o rai wedi cael addysg golegawl yn cyfodi yn eu lle. Felly yr oedd Mr. James yn fath o ddolen gydiol rhwng yr hen ysgol a’r newydd. I raddau mawr iawn, gorchfygodd yr anfantais hon eto. Llafuriodd yn ddi-ildio i goethi ei feddwl, a’i lanw â gwybodaeth; defnyddiai Gymraeg dda yn wastad yn ei bregethau; ac hefyd meistrolodd Saesoneg yn bur drwyadl, fel yr edrychid arno fel un o’r rhai mwyaf destlus a chwaethus pan ond pregethwr ieuanc iawn. Nid oedd eisieu i’r enwad ofni na chywilyddio gosod David James i’w gynrychioli yn y lleoedd mwyaf pwysig; oblegid nid oedd perygl iddo ef ostwng dim ar ei urddas o ddiffyg chwaeth, coethder, a destlusrwydd.


Yn ychwanegol at yr anhawsderau a nodwyd, cyfarfyddodd a phrofedigaethau dwysion yn y teulu. Rhwng pedair a phum’ mlynedd ar ol iddo briodi, cymerodd angeu ei fab hynaf, John, i ffwrdd yn sydyn pan yn dair biwydd oed, llawdd yw dychymygu pa mor galed fu yr oruchwyliaeth hon (x44) i un mor dyner ac anwyl a Mr. James; ei golli pan oedd mewn oedran i dynu cymaint o sylw a serchiadau y tad a’r fam. Yr oedd yn blentyn hynod o ddeallgar a henaidd ei ffordd, yn ol yr hanes; ac o ganlyniad, ffurfiai ei rieni lawer o gynlluniau gyda golwg arno. Ond yn nghanol eu cynlluniau, dywedodd yr Arglwydd wrthynt, “Nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi;” a dygwyd John bach i fyd sydd well i fyw. Yn mhen deng mlynedd wedi hyny (sef yn 1874), ymwelodd y diphtheria a’r teulu, a bu farw dri o’r plant yn ystod pump wythnos o amser - Mary yn 9 oed, David yn
12, a John yn 8. O! brofedigaeth lem! Aeth hon mor ddwfn i galon Mr. James a’i briod nes na wyddent beth i’w wneyd gan ddwysder eu gofid a’u hiraeth. Gydymdeimlid yn ddwfn â hwy yn eu trallod, a gwnaed casgliad lled gyffredinol yn yr eglwysi er dangos hyny mewn modd sylweddol. Yn y profedigaethau hyn sylweddolodd, yn ol ei dystiolaeth ef ei hun, mai “trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid myned i mewn i deyrnas Dduw.” Trodd dyfroedd chwerwon Marah yn foddion gras iddo, a daeth yn brofiadol o’r hyn ddywedai y diweddar Dr. Saunders, o Abertawe, mewn angladd un tro,

“fod marwolaeth yn y teulu yn gynorthwy i gynyrchu cydymdeimlad, ac hefyd i sylweddoli ysbrydolrwydd pethau crefydd.”

Flynyddoedd ar ol claddu ei blant, mewn pregeth sydd yn fyw yn ein cof yn awr, dywedai Mr. James fod colli ei dri phlentyn mewn ysbaid pump wythnos o amser wedi ei ddwyn i deimlo y byd tragywyddol yn ei ymyl, ac i benderfynu bod yn fwy difrifol nag erioed i rybuddio pechaduriaid i ffoi rhag y llid a. fydd. Rhyw Fynydd Gweddnewidiad oedd yr amgylchiad hwn iddo; daeth rhyw ysbrydolrwydd neillduol i’r golwg ynddo wedi hyny; a gellid meddwl weithiau wrth edrych
arno pan yn anterth ei hwyl nad oedd ganddo ond cam bychan iawn i lamu allan o’r coiff i fyd yr ysbrydoedd.

Gorchfygu pob anhawsder fu ei hanes, a throdd yr anfanteision oll, i raddau mwy neu lai, yn foddion dadblygiad iddo ei hun. Un o’r dynion hunan-wneuthuredig (self-made men) ydoedd David James, ond yn mhell o fod yn debyg i’r dyn hwnw gyflwynwyd i sylw Arglwydd Beaconsfield. “Dyma ddyn wedi gwneuthur ei hun,” meddai yr hwn a’i cyflwynai. Edrychodd Beaconsfield yn graff
arno, ac yna dywedodd, “Os mai y dyn hwn sydd wedi gwneuthur ei hun, yr wyf yn sicr ei fod yn addoli ei greadur “ (sef yn addoli ei hun). Nid felly (x45) gyda.gwrthddrych ein sylwadau; cysegrodd ef ei dalentau a’i alluoedd, nid i addoli ei hun, ond i addoli a gwasanaethu ei Grewr a’i Gynaliwr.

PENOD X.
EI GYMERIAD FEL DYN A CHRISTION.

Wrth ysgrifenu cofiant un o enwogion y byd, dywedai bywgraffydd unwaith fod holl linellau dynoliaeth a chymeriad gwrfchddrych y cofiant yn ei wyneb.

“Pwy bynag a’i gwelodd,” meddai, “nid oedd eisieu iddo ddyfalu dim y fath ddyn ydoedd, ond iddo edrych yn graff yn ei lygaid a phrif linellau ei wynebpryd; oblegid ond gwneyd hyny, anmhosibl fyddai ei gamsynied, am y deuai cymaint o’r dyn oddimewn i’r golwg yno.”

Un felly oedd gwrthddrych y cofiant hwn. Wrth edrych
arno, y syniad anocheladwy fuasai yn cael ei ffurfio yn y meddwl am dano ydoedd, ei fod yn meddu y cymeriad a’r ddynoliaeth fwyaf ardderchog; ac felly yr ydoedd mewn gwirionedd. Ni fu natur ddynol mwy teg a llawn o’r boneddwr erioed na’r eiddo ef; natur ddynol heb ronyn o erwinder yn perthyn iddi. Gellid meddwl fod elfenau goreu dynoliaeth wedi cydgyfarfod ynddo. Yr oedd yn llawn o addfwynder, caredigrwydd, a lledneisrwydd ar un llaw; ac ar y llaw arall, yr oedd cadernid, penderfyniad, gwroldeb moesol, a sefydlogrwydd yn linellau llawn mor amlwg yn ei gymeriad. Er ei fod mor fwynaidd a’r oen, eto meddai wroldeb moesol mor sefydlog a’r graig. Nid oedd ei larieidd-dra yn peri iddo fod yn feddal a gwasaidd. O! na; nid oedd arno ofn dyn, ac nid oedd un amser yn esgeuluso ymosod ar bechod yn mhob ffurf arno, heb ofni gwg na sen neb. Yr oedd ei gasineb sanctaidd at bechod yn ddeddf ddigon cryf yn ei natur i beri iddo ar bob achlysur, a than bob amgylchiadau, i sefyll yn gadarn dros yr hyn oedd iawn. Mewn gair, sylfaenesid ei gymeriad ar egwyddorion tragywyddol, sanctaidd, a phur; o ganlyniad, mwyneidd-dra yn tyfu o sancteiddrwydd oedd i’w weled yn ei gymeriad. (x46) Pan yn edrych yn ei wyneb, hawdd gweled fod dynoliaeth lawn yn gorwedd tu ol i’r wedd efengylaidd a difrifol oedd arno. Ie, dyna’r casgliad y deuid iddo wrth ei weled yn y pwlpud; ond a oedd felly ar ol disgyn? Oedd, yn hollol. Byddai yn wastad yn llawn mor sylweddol yn y tŷ ar ol yr oedfa a phan yn anerch y dyrfa. Nid ei arfer ef ydoedd cadw cwmni yn ddifyr am oriau drwy adrodd ystoriau a chwedlau hollol ddifudd i’r adroddwr ei hun yn ogystal ag i’r rhai fyddai o’i gwmpas, a thrwy hyny beri i bobl gyfnewid eu syniad am dano, a gwneyd iddynt ddywedyd wrth eu gilydd,

“ O! ‘r fath gyfnewidiad yn y pwlpud ac yn y tŷ, onide?”

Na; ni allai ef fforddio amser i roddi ei feddwl ar bethau mor wag a di-sylwedd. Ni chlywsom neb yn dyweyd erioed ei fod wedi newid ei syniad am David James ar ol bod yn ei gwmni, ond clywsom lawer yn tystio fod eu syniad wedi myned yn llawer uwch am dano wedi cael awr neu ddwy gydag ef yn y tŷ.

Dywedai un wrthym, y dydd o’r blaen, ei fod wedi ei glywed yn pregethu pan yn fachgen bach, ac iddo ffurfio barn uchel am dano y pryd hwnw.

“Cefais gyfleusderau lawer wedi hyny,” ychwanegai, “i gyd-deithio a chyd-bregethu ag ef, ac ni chefais ronyn o le i newid fy marn am dano; yn wir, llawer uwch oedd yn myned yn fy ngolwg yn barhaus.”

Mewn pregeth nodedig o eiddo Dr. Stalker, “The Four Men,” ceisia y gwr parchedig brofi y posiblrwydd i ddyn fod yn dra gwahanol yn ngolwg ei deulu i’r hyn yw yn ngolwg cymdeithas; ac eto yn wahanol iawn yn ngolwg cymdeithas i’r hyn a ymddengys iddo ei hun; ac, yn mhellach, y gall fod yn bur wahanol yn ngolwg Duw i’r hyn a ymddengys yn y naill a’r llall o’r cylchoedd a nodwyd. Diau fod hyn yn wir am aml un, ond nid yw yn gymhwysiadol at wrthddrych y sylwadau yma. Yr un oedd ef yn ngolwg ei deulu ac yn y cylch cymdeithasol; un oedd efe a gerid yn ddwfn gan bob dosbarth o gymdeithas; ac anhawdd credu ychwaith yr ymddangosai yn wahanol iawn yn ngolwg Duw i’r hyn a ymddangosai iddo ei hun. Esiampl o ddyn unplyg yn ei ffurf fwyaf perffaith ydoedd, tuhwnt i ddadl.

Fel priod a thad, ni bu erioed ei anwylach. Fel yr awgrymwyd, gall dyn. ymddangos i gymdeithas yn bur wahanol i’r hyn yw yn ei deulu. Ymddengys aml un yn bur ddiniwed yn y cyhoedd, ond yn ei dŷ bydd yn bobpeth annymunol, yn anhawdd i’w foddio, ac yn dwrdio rhyw aelod o’r teulu o foreu (x47) hyd hwyr, Un hollol wahanol i hyn ydoedd David James; deuai ef gartref yn ddieithriad a gwên ar ei wyneb, a mawr fuasai dysgwyliad y fam a’r plant ei weled yn dychwelyd; derbynient ef fel brenin, gan lawenhau wrth glywed swn ei draed yn agoshau at y tŷ.

Meddai ar elfenau a nodweddion y cyfaill mwyaf cywir, a diau nad oes dim yn dyweyd yn uwch am ddynoliaeth un na hyn. Cyfaill cywir, yn ngwir ystyr y gair, yn ddiddadl, yw y peth prinaf sydd yn bod. Beth sydd i feddwl wrth gyfaill, ynte? Dywed Cicero, yn ei draethawd nodedig, mai ail-hunan (second-self) ydyw ffrynd neu wir gyfaill; un y medra dyn ymddiried ynddo yn ei absenoldeb fel pe byddai yno ei hun; ar y gall adrodd ei ddirgelion iddo yn ddigêl. Un felly oedd Mr. James, cyfaill calon i bawb a ddeuai i gyffyrddiad âg ef. Dywedai un aelod parchus o Laneurwg wrthym, “Yr oedd Mr. James yn gyfaill o’r iawn ryw. Llawer gwaith y dywedais fy nhrafferthion a’m gofidiau wrtho - ïe, ac arllwys fy holl feddwl o’i flaen - ac ni chlywais air am hyny gan neb yn ol llaw.”

“Cyfaill didwyll i ni oedd ef,” dywedai un arall, “a phan gollasom ef, collodd pawb drwy’r lle gyfaill o’r fath oreu.”

Medrai gydymdeimlo â phawb fyddai mewn adfyd a blinder, tylodi a chystudd, a bu yn esmwythâd mawr i lawer brawd a chwaer i gael dyweyd eu helynt wrtho.

Un o’r dynion mwyaf heddychol, diniwed, a difeddwl-ddrwg a esgynodd i bwlpud erioed ydoedd, tuhwnt i bob amheuaeth. Ni bu gair o anghydfod rhyngddo â neb yn ystod. yr un-flynedd-ar-ddeg a deugain y bu yn byw yn Llaneurwg. Ei gas beth oedd cweryla; oblegid yr oedd yn byw mewn awyrgylch uwch o lawer. Aml i air croes sydd wedi bod rhwng brodyr yn y weinidogaeth yn awr ac yn y man, oblegid dynion ydynt hwythau fel ereill; end ni chlywsom i air croes gymeryd lle erioed rhwng Mr. James ag unrhyw weinidog na blaenor ar hyd ei oes. Y rheswm am hyny, yn ddiau, oedd ei fod mor ddiniwed a difeddwl-ddrwg. Ni fynai gredu pethau gwael am neb; rhaid oedd iddo gael prawf digonol, terfynol, cyn y buasai yn ffurfio ei farn am berson fel un drwg, a ffolineb oedd ceisio ei borthi â gwrachïaidd chwedlau, oblegid ni dderbyniai hwy. Dywedai un o aelodau hynaf Llaneurwg wrthym - dyn da a duwiol ac yn llawn o synwyr –

“Dywedwch bob peth da am Mr. James; nid oes berygl i chwi ddyweyd gormod. Cefais i y fantais oreu i’w adnabod ar hyd y blynyddau, ac
nis (x48) gwn yn mha beth y gallasai fod yn well; yr wyf yn llwyr gredu mai efe oedd un o’r dynion perffeithiaf fu yn y byd erioed. Cyfarfyddai holl elfenau boneddwr ynddo yn y modd cyflawnaf; parchai bawb o bob safle, heb wneyd gwahaniaeth rhwng cyfoethog na thlawd; ac yr wyf yn sicr na wnaeth dro sâl a neb, heb i hyny ddygwydd drwy anwybodaeth. Nid boneddwr gwneyd mo hono, mae agwedd foneddigaidd yn codi oddiar falchder; ond boneddwr am nas gallai fod yn ddim arall, am fod nodweddion boneddwr yn hanfodol yn ei natur.” Gellir casglu oddiwrth y sylwadau uchod fod rhinweddau cyfoethocaf a rhagoraf y natur ddynol wedi cydgyfarfod yn ei berson.

Pa fath un ydoedd fel Cristion? Y rheswm y gofynwn hyn yw, am fod gwahaniaeth mawr rhwng llawer dyn yn y cylch crefyddol ac yn nghylchoedd ereill bywyd. Ond yma nid oes gwahaniaeth o gwbl. Mae David James yn hollol yr un yn mhob cylch. Dyn o’r fath oreu ydoedd, fel y sylwyd; Cristion o’r fath oreu ydoedd hefyd - Cristion mor debyg ag y gall dyn anmherffaith fod i’r Esiampl perffaith ei
Hunan. Gwnai y diweddar Barch. David Morgan, Cefncoed, wahaniaethu rhwng dyn duwiol a Christion. Dywedai fod pob Cristion yn ddyn duwiol, ond nad oedd pob dyn duwiol yn Gristion. “Yr oedd Ioan Fedyddiwr yn dduwiol,” meddai, “ ond nid oedd yn Gristion; oblegid Cristion yw un tebyg i Grist.. Nid oedd Ioan yn debyg iddo. Un garw, rough iawn oedd Ioan, ond un mwyn a dengar oedd Crist. Sinai fyddai Ioan yn bregethu, ond cariad oedd swm a sylwedd neges yr Iesu.” Dichon fod mwy o gywreinrwydd yn y gwahaniaeth yma na dim arall; ond a chaniatau fod y darnodiad hwn yn gywir, Cristion o’r iawn ryw oedd Mr. James - un tebyg i Grist mewn mwyneidd-dra, sêl, cariad, ffyddlondeb, gweithgarwch, ac awydd i achub eneidiau. Gan ei fod yn meddu dynoliaeth mor ardderchog, nid oedd ond ychydig o rwystr i’r bywyd ysbrydol i dyfu a blodeuo, nes gwneyd ei fuchedd a’i ymarweddiad mor debyg ag oedd yn bosibl i’r Dyn a’r Duwdod ynddo’n trigo. Er ei fod wedi myned mor uchel a chyrhaedd y fath boblogrwydd, nid oedd ei ffyddlondeb yn ddim llai i’r eglwys fechan gartref. Byddai yn mhob cyfarfod pan fyddai gartref, er nad oedd yn fugail yno, a chymerai ran yn gyson yn y cyfarfodydd. Teimlid parchedigaeth dwfn yn yr eglwys tuag ato, a meddylient fwy-fwy o hono o flwyddyn i flwyddyn. (x49) Pan yn siarad ag un o flaenoriaid yr eglwys am hyn, dywedodd yn sydyn yn nghanol yr ymddyddan,

“Wyddoch chwi beth? Fe fuasai James yn fwy o Gristion heb ras na chanoedd â gras.”

Mor uchel oedd y syniad am dano fel Cristion fel y goddefid ef i ddyweyd y pethau mwyaf heilltion yn ei bregethau ac yn y cyfarfodydd wythnosol; a pha beth bynag a ddywedai nid oedd neb yn digio wrtho.

“Dau beth sydd wedi fy synu lawer gwaith yn ei berthynas â Mr. James,” meddai un o’r aelodau a’i hedmygai yn fawr; “yn gyntaf, fod un mor fwyn a llariaidd yn medru dyweyd gwirioneddau mor llymion os buasai rhywbeth o le yn yr eglwys; ac hefyd fod y personau oedd yn euog yn dyoddef yn dawel - nid yn unig ni ddigient, ond elent i gredu yn uwch am dano.”

Er enghraifft o’i sêl dros anrhydedd yr achos, rhoddwn ei eiriau un noson yn y seiat pan oedd rhyw frawd wedi llithro gyda’r diodydd meddwol: -

“Y mae yn rhyfedd,” meddai, “fod dynion yn medru treulio oriau lawer mewn tafarndai o amgylch y lle yma ar nos Sadwrn, ac yn myned adref yn feddw; ond y mae yn rhyfeddach fyth i we’led y rhai hyny yn cymuno foreu Sul ar ol hyny heb ronyn o gywilydd nac edifeirwch. Wyddoch chwi beth! Y mae hyn yn rhyfyg o’r fath fwyaf erchyll, ac y mae yn ofnadwy i feddwl fod dynion yn gallu myned i’r fath eithafoedd mewn pechu.”

Ond er siarad mor llym, efe, yn ol tystiolaeth y brawd uchod, oedd ffrynd goreu yr hwn a geryddid yn y diwedd, a hyny yn ddiddadl am fod ei gymeriad fel Cristion mor ddiargyhoedd.

PENOD XI.
El NODWEDDION MEDDYLIOL, A’I DDULL O ASTUDIO A GHYFANSODDI PREGETHAU.
Mae rhyw nodweddion neillduol yn perthyn i feddwl pob dyn ag sydd yn ei wahaniaethu oddiwrth bawb ereill. Nid oes y fath beth yn bod a dau ddyn yn hollol yr un o ran nodweddion eu meddyliau, mwy nag o ran ffurf eu cyrff. Gellir cael llawer yn debyg, ond nid yr un fath; a pha faint bynag fydd y (x50) tebygolrwydd, bydd yn wastad ddigon o annhebygolrwydd i allu eu gwahaniaethu. Felly am David James. Perthynai neillduolion i’w feddwl ag oedd yn ei wneyd yn annhebyg i bawb, er fod llawer ynddo hefyd oedd yn debyg i ereill. Ni nodweddid ei feddwl gan allu duwinyddol cryf i ddarganfod bydoedd yn nghyfundrefnau duwinyddiaeth - gallu dwfn-dreiddiol i ymgodymu a’r gwirioneddau dyfnaf a’u meistroli. Nid gallu dadansoddol (analytic), ychwaith, ydoedd dirgelwch ei nerth. Bydd rhai yn medru synu cynulleidfaoedd drwy eu gallu i ddadansoddi pob gwirionedd i’w elfenau symlaf, nes byddo holl ranau y pwnc yn noeth ac agored. Cymer y rhai hyn at y bydoedd sydd yn cael eu darganfod mewn duwinyddiaeth ac athroniaefch, a holltant hwy i fyny nes cael gafael yn yr oll o’u cynwys. Nerth ereill ydyw gallu i esbonio yn fanwl y testyn a’i gysylltiadau, a dwyn allan yn eglur rediad ac amcan yr ymresyniad. Nid oedd yr un o’r neillduolion uchod yn amlwg nodweddu meddwl Mr. James; eto, meddai rai llawn mor werthfawr, ac nid oedd un gronyn llai o bregethwr am nad oedd yn perthyn i un o’r dosbarthiadau a enwyd. Na; llawer mwy ydoedd wrth fod yn “James Llaneurwg,” ac nid neb arall. Yn ddiddadl, yr oedd ynddo ddefnyddiau duwinydd cryf, dwfn, yn ogystal ag esboniwr manwl, pe buasai wedi cael mantais foreuol i ddadblygu ei alluoedd. Hawdd casglu hyny oddiwrth ei hoffder i bregethu ar Offeiriadaeth Crist a phynciau cyffelyb, yn nghyd â’i arfer o esbonio cysylltiadau y testyn; ond ni chafodd fanteision priodol i fod yn feistr yn y cyfeiriad hwn. Nid mewn egluro pynciau dyrys duwinyddol ac athronyddol y gorweddai ei nerth, ond yn ei allu di-ail i weled y prydferth, y tlws a’r gogoneddus. Medr i weled y beautiful oedd nodwedd arbenig meddwl David James. Gellir ei debygoli i ddyn yn cerdded drwy ardd flodau, ac yn crynhoi pob blodeuyn prydferth ar ei ffordd. Coronau o flodau wedi eu hongian ar benau duwinyddol oedd ei bregethau, os mai duwinyddol fuasai ei fater; neu os mai ymarferol, byddai y cymhariaethau fel sun flowers mawrion yn britho ei sylwadau. Beth bynag a ddarllenai, byddai bob amser yn gweled y cymhariaethau mwyaf tlws, a meddai allu i wneyd y defnydd goreu o honynt, Nodwedd arall berthynol i’w feddwl ydoedd gallu desgrifiadol. Cadwai gynulleidfa wrth ei wefus, pob llygad yn syllu arno, pan yn darlunio trueni yr annuwiol a dedwyddwch gogoneddus y saint, neu pan yn adrodd rhyw (x51) hanesyn neu amgylchiad a gofnodir yn y Beibl. Portreadai y peth mor fyw a phe buasai o flaen llygaid y gynulleidfa. Yn ychwanegol at hyn, meddai gydymdeimlad dwfn a chyflwr ar amgylchiadau y bobl fuasai yn eu hanerch, nes ei alluogi i fyned i’r agosrwydd mwyaf atynt. Caffai y gwirioneddau y fath afael
arno ef ei hun fel rheol nes y cymerai y cynulleidfaoedd yn rhwydd gydag ef, teimlent fel y teimlai yntau; meddylient a dymunent hefyd yr un modd.

Nid oedd ei feddwl, ychwaith, heb gael ei nodweddu gan i drefn a destlusrwydd; a phe buasai wedi cael gwrteithiad; mewn Coleg, buasai yn un o’r rhai mwyaf trefnus a esgynodd i bwlpud erioed. Ni chlywid ef ar unrhyw bwnc yn pregethu yn annhrefnus; byddai ei drefn yn hynod ddymunol yn ddieithriad, os nad y goreu a’r mwyaf cywir yn ol perthynas sylfaenol gwirioneddau.

Wrth edrych ar y nodweddion uchod, gwelir fod rhywbeth ynddynt ag oedd yn ei wneyd yn ddyn cyffredinol; nid nodweddion meddyliol yn perthyn i ddosbarth neillduol, ond pob dosbarth. Mae ynddynt elfen uwchraddol, yr hyn oedd yn ei wneyd yn gymeradwy gan ddynion mwyaf deallgar y cynulleidfaoedd; ar yr un pryd, nid ydynt yn nodweddion ag oedd yn peri iddo hedfan uwchlaw y dosbarth mwyaf anwybodus. Mewn gair, nid yn fynych y gellid cyfarfod â meddwl wedi ei gynysgaeddu ag elfenau mwy poblogaidd.

Cafodd ei ddysgu gan amgylchiadau i fod yn efrydydd caled yn nechreu ei yrfa bregethwrol, fel y sylwyd o’r blaen. Dechreuodd bregethu cyn ei fod wedi gallu arbed dim arian; a chyda ei fod yn eangu ei gylch, a chael galwadau i eglwysi mawrion, priododd. Mynych y dychwelai o’i gyhoeddiadau heb ond chwech i wyth swllt ar ol pregethu ddwy a thair gwaith ar y Sabbath, am nad oedd eto yn cael galwadau cyson i eglwysi cryfion. Yn ngwyneb yr oll penderfynodd lynu wrth ei hoff waith, deued a ddelai; ac nid llai oedd penderfyniad ei briod. Ni ymdrechodd gwraig erioed yn fwy na hi i gynorthwyo ei phriod i fyned yn ei flaen, ac ni fyddai yn iawn â’i chofladwriaeth i beidio dyweyd hyn wrth fyned heibio. Drwy fod Mrs. James yn cymeryd pob gofal arni ei hun, cafodd ef lonyddwch perffaith i barotoi ei bregethau; ac ychydig flynyddoedd wedi priodi ffurfiodd arferiad ag y cadwodd ati tra parhaodd ei iechyd. Wedi cymeryd ei foreufwyd, äi i’w fyfyrgell ar ei union, ac yno y byddai fel rheol drwy y dydd, (x52) oddigerth awr ar ol ciniaw. Treuliai yr awr yma gyda’i deulu yn hamddenol, ac yna dychwelai drachefn at ei lyfrau. Gasglai flodau pob llyfr a ddarllenai mewn trefn i’w gwau i fewn i’w bregethau. Mae canoedd o nodiadau ar ei ol ag sydd yn cynwys perlau y byddai yn werth eu cyhoeddi yn llyfryn; a phan yn edrych dros yr oll, gellir gweled na fu na segur na diffrwyth gyda’r alwedigaeth uchel a ddilynai.

Nid oedd yn cyfansoddi ei bregethau yn gyflym iawn, fel y byddai yn gwneyd llawer o bethau ereill; treuliai wythnosau i gyfansoddi ambell un. Ar ol darllen yn helaeth ar destyn, dechreuai grynhoi y defnyddiau i ryw fath o drefn, ac yna äi allan i’r cae wrth gefn y tŷ, gan gerdded yn ol a blaen yn dra chyflym. Pregethai ambell ddarn yn uchel a hyglyw; safai i feddwl ychydig wedi hyny; ail gychwynai gerdded dan siarad drachefn, ac felly y byddai am awr neu ddwy, fel rheol. Yna dychwelai i’r tŷ i ysgrifenu yr hyn oedd wedi feddwl a threfnu allan. Byddai bob amser yn pregethu lawer gwaith drosodd y darn a ysgrifenai cyn ei osod i lawr, er mwyn clywed a barnu a oedd yn werth ei osod i mewn yn ei bregeth ai peidio. Gan fod myned allan i’r cae fel yma yn arferiad ganddo, yr oedd pobl y lle wedi dyfod i ddeall pan fuasai pregeth newydd ar waith; ac o ganlyniad, edrychent yn mlaen at y Sabbath y byddai Mr. James gartref nesaf er mwyn ei chlywed, ac fel rheol byddai eu dysgwyliadau yn cael eu llenwi. Ysgrifenai ei holl bregethau bob gair fel y traddodai hwynt, ac nid ydym yn meddwl ei fod yn ormod dyweyd iddo adael ar ei ol ugeiniau o honynt, heblaw amryw bregethau Seisnig. Gallwn weled oddiwrth hyn ei fod wedi gwneyd gwaith y pwlpud yn brif nod ei fywyd.

PENOD XII.
ELFENAU EI BOBLOGRWYDD.

Pan yn anturio esbonio poblogrwydd un mor anwyl a hoff gan bawb a Mr. James, nid ydym heb deimlo mesur o ofn rhag. (x53) i mewn un modd wneyd cam âg ef; ond gan ei fod, yn ein tyb ni, yn meddu ar elfenau mor rhagorol, yr ydym yn hyderus gredu na fydd i ddim a ddywedwn dynu oddiwrth syniad uchel y wlad am dano. Yr oedd amryw elfenau yn gwneyd i fyny ei boblogrwydd mawr, ac nid rhyw un neu ddwy amlwg; a dichon y bydd sylwadau byr ar y rhai hyn yn gymhorth i ddeall ei ddylanwad dwfn a chyson ar y wlad.

..........(1) Ei ymddangosiad. - Hwyrach yr ymddengys hyn yn. rhyfedd ar yr olwg gyntaf, oblegid gellir gofyn, Beth sydd gan ymddangosiad corfforol i wneyd â phoblogrwydd? Gellir ateb fod gan ymddangosiad ran neillduol mewn dylanwad, a phrofir hyny gan y cyfeiriadau mynych a wneir at y diweddar Barchn. Henry Rees, John Elias, Daniel Rowlands, ac ereill. Yr oedd edrychiad ac ysgogiadau y dynion hyny yn tynu sylw, ac yn gynorthwy iddynt wrth bregethu. Felly yr ydoedd gyda gwrthddrych ein cofiant. Yr oedd yn ddyn tal, teneu, tua phump troedfedd a deg modfedd o hyd, gyda breichiau hirion, gwyneb teg heb ond ychydig o farf na chnawd arno, llygaid llwyd-leision, byw, treiddgar, a gwallt mor ddu â phlu y fran. Byddai ei holl ysgogiadau, fel efe ei hun, yn llawn boneddigeiddrwydd. Dacw ef yn cerdded yn araf i fyny i’r pwlpud, yn cydio yn y llyfr hymnau, ac yn rhoddi rhif yr emyn allan mewn llais dwfn a lled isel - braidd y clywid ef yn mhen draw y capelos byddai yn un mawr. Gwelsom ambell un yn wylo fel plentyn wrth ei weled yn esgyn i’r pwlpud, cyn y byddai wedi agor ei enau; a’r cof cyntaf sydd genym am dano ydyw, clywed rhai yn siarad wrth fyned o gyfarfod pregethu ugain mlynedd yn ol wedi iddo bregethu gyda nerth anarferol yn yr oedfa ddeg y boreu.

“Wel,” meddai un, “mae James Llaneurwg yn peri i mi feddwl am angel mawr mor gynted ag y gwelaf ef yn codi yn y sêt fawr i fyned i fyny i’r pwlpud.”

“Felly finnau,” meddai y llall; a’r nesaf yr un modd.

Mor ddwys oedd yr ymddyddan wedi ei argraffu arnaf fel y gwnaethum ymdrech i fyned i’r cyfarfodydd dilynol er mwyn cael cyflawn olwg ar un dybiwn i oedd yn rhyw fod uwchlaw dyn cyffredin; a chofus genyf iddo basio heibio i mi yn agos iawn noson olaf y cyfarfodydd pan yn myned i fewn i’r capel, ac O! y fath deimladau ddaeth droswyf pan y cefais fod yr angel-bregethwr yn fy ymyl! Pa ryfedd, gan hyny, fod ei ddylanwad mor anorchfygol pan y byddai pawb yn meddwl am angylion wrth ei weled? Hawdd iawn oedd iddo dynu y (x54) nefoedd i lawr at y bobl pan oedd ei ymddangosiad ef wedi codi eu meddyliau hwy i fyny at y llu angylaidd. Byddai Saeson uniaith yn cael eu llanw â’r un syniadau yn ei bresenoldeb; a dyna ddywedai boneddwr a’i wraig ar ol ei weled a’i wrandaw yn pregethu, er na ddeallent hwy yr un gai –

That man from Llaneurwg is exactly like an angel.”

..........(2) Ei lais.- Llais ardderchog oedd gan Mr. James; ond oherwydd ei wendid corfforol byddai yn gorfod dechreu siarad yn isel; codai yn araf, ac fel yr oedd yn codi byddai ei lais yn dyfod yn fwy treiddgar a swynol. Ar ddiwedd ei ragymadrodd, byddai wedi esgyn o’r dyfnder yn yr hwn y dechreuai siarad nes y clywid ef gan bawb drwy y capel. Esgynai yn raddol eto; ac yn fuan, byddai treiddgarwch ei lais yn dechreu gwefreiddio y gynulleidfa, a’r dylanwad yn anorchfygol. Cariai yr oll fel llifeiriant o’i flaen yn awr, gan mor nerthol, treiddgar, a swynol oedd ei draddodiad; a chan fod ganddo lywodraeth berffaith ar ei lais, llefarai gyda nerth hyd ddiwedd y bregeth.

..........(3) Ei hyawdledd. - Y mae yn bosibl i un feddu llais da, melodaidd, ac eto heb fod yn hyawdl, a hyny am na fydd y geiriau yn dilyn eu gilydd yn rhydd ac yn rhwydd.
Ni wyddai Mr. James ddim am unrhyw atalfa felly; siaradai mor naturiol ag y rhed yr afon i’r môr. Byrlymai y geiriau allan o’i enau fel pe am y cyntaf, heb unrhyw anhawsder i roddi llawn swn i bob gair a lefarai. Yn ychwanegol at hyn, yr oedd yn ofalus iawn am goethder ei iaith yn wastad. Addurnai ei feddyliau â’r wisg oreu oedd yn bosibl. Gwisg meddyliau ydyw iaith, ac mewn trefn i’r meddyliau gael yr effaith oreu, rhaid i’r wisg fod yn dda. Ni fedrai neb wisgo syniadau yn fwy ardderchog na gwrthddrych ein sylwadau; byddai dillad ei feddyliau mor grand nes peri i’r bobl orfoleddu yn yr olwg arnynt.

..........(4) Tlysni ac eglurder ei syniadau. - Elfen anarferol o boblogaidd yn ei weinidogaeth oedd hon. Fel y sylwyd yn barod, un o brif nodweddion ei feddwl ydoedd gallu i weled y tlws. Gellid yn gywir ddesgrifio ei bregethau fel blodau meusydd athrylith. Gwelir hyn pan feddyliom am ei gymhariaethau. Detholai y cymhariaethau mwyaf prydferth ag a ellid ddychymygu am danynt, ac yr oeddynt mor newydd a byw fel ag i beri i’r cynulleidfaoedd yn fynych i lwyr anghofio eu hunain wrth eu gwrandaw. Rhagoriaeth fawr arall yn ei bregethau a’i syniadau oedd eglurder. Ni fyddai tywyllwch o (x55) amgylch y cysylltiadau rhwng y naill syniad a’r llall, nac o amgylch y syniadau eu hunain ychwaith; ond byddai yr oll fel y dwfr gloew: nid oedd eisieu i neb ddyfalu beth oedd y pregethwr am osod allan, gan ei fod yn gallu gwneyd ei hun yn eglur i’r mwyaf anwybodus. Bydd llawer un yn medru gwneyd pregeth dda, ond dinystria hi wrth ei thraddodi, a thywylla y syniadau yn hytrach na’u hegluro. Ar y llaw arall, chwyddai gwirioneddau yr efengyl dan law Mr. James, a gwnai hwy i edrych yn fwy ardderchog a gogoneddus nag y dychymygodd neb eu bod.

..........(5) Ei ddifrifoldeb. - Nid un i siarad ffolineb a phethau difyr i beri i ddynion chwerthin oedd ef; i’r gwrthwyneb, nodweddid ei weinidogaeth yn ddieithriad gan y difrifwch mwyaf. Teimlai fod mater enaid anfarwol yn beth rhy bwysig i gellwair yn ei gylch. Clywsom ef yn dyweyd fwy nag unwaith o’r pwlpud, os na fuasai dynion yn credu yr efengyl heb ddyweyd ystoriau gwag a disylwedd, y buasai yn well ganddo ef beidio eu gweled yn credu o gwbl, oblegid nad oedd efe yn deall fod Duw wedi amcanu i ddynion gredu trwy y fath foddion. Ychwanegai ei ddifrifoldeb yn fawr at ddyfnder ei ddylanwad, ac argraffai ar bawb a’i gwrandawai fod iachawdwriaeth dynion yn agos at ei galon; a’r syniad cyffredinol am dano oedd, ei fod yn credu i ddyfnderoedd ei fodolaeth yr hyn a bregethai.

..........(6) Ei gydymdeimlad ar bobl gyffredin. - Gellir dyweyd na esgynodd neb i bwlpud yn medru enill sylw y dosbarth hwn yn well nag ef. Priodol iawn fyddai dyweyd am dano, fel am Grist,

“And the common people heard him gladly.”

Llawer i hen frawd tlawd, anwybodus, a’i canlynodd am ddegau o filldiroedd i’w wrando. Tyrai y bobl gyffredin ar ei ol i bob man, a theimlent ei fod yn siarad â hwy yn uniongyrchol; ond er mor agos y medrai fyned atynt, llwyddai i wneuthur hyny heb ddarostwng dim ar safon a chwaeth y pwlpud. Gallwn ddychymygu am dano fel yn sefyll yn y canol rhwng y rhai dysgedig a’r rhai annysgedig, ac yn hoelio y ddau ddosbarth wrth ei wefus. Yn yr ystyr eangaf, yr oedd yn “un o’r bobl; “ medrai fyned i mewn i’w teimladau a’u hamgylchiadau yn drwyadl. Mewn canlyniad, cafodd le dwfn yn eu serch, ac yr oedd ei ddylanwad gyda hwynt yn fawr iawn.

..........(7) Ei fywiogrwydd a’i yni. - Er ei fod yn dechreu yn araf 60 yn isel ei lais, eto nid oedd yn parhau yn hir yn y cywair (x56) hwnw; fel yr äi yn mlaen, byddai yn bywiogi, a chodai y gynulleidfa gydag ef. Yr oedd hefyd yn llawn yni; ni byddai yn sefyll yn llonydd, ond pregethai â phob ysgogiad o’i eiddo yn ogystal ag â’i enau. Nid ydym yn credu iddo flino cynulleidfa erioed â meithder, a llawer gwaith y gwaeddwyd allan yn y cynulleidfaoedd pan y dywedai,

“Ni chadwaf chwi yn hwy,”

“Ewch yn mlaen ychydig, yn wir!”

Yn ychwanegol at hyn, byddai yn ddestlus dros ben yn ei raniadau o’r bregeth, fel yr oedd cymesuredd perffaith yn rhedeg drwy yr oll.

..........(8) Y lle mawr a roddai i Grist yn ei weinidogaeth. - Crist croeshoeliedig oedd baich ei bregethau ar hyd ei oes. Os byddai yn pregethu ar “ddyfnder calon dyn trnenus,” byddai yn sicr o ddwyn i mewn “anfeidrol olud gras” cyn y diwedd. Dyrchafu Crist a’i ddangos yn ddigonol Geidwad i bechadur, fu ei ymdrech penaf, ac oblegid hyny bendithiwyd ei weinidogaeth gyda llwyddiant mawr. Nis gall un weinidogaeth ddal yn boblogaidd heb yr elfen hon ynddi; a’r anniygrwydd a gafodd gan Mr. James sydd i gyfrif i fesur mawr am ei boblogrwydd neillduol.

PENOD XIII.
ADGOFION AM DANO YN ANTERTH EI BOBLOGRWYDD.

Y mae cynydd eithriadol Mr. James mewn poblogrwydd pan yn ieuanc, yn nghyd â’i nodweddion meddyliol ac elfenau ei boblogrwydd, eisoes wedi cael ein sylw, ond pe gadawem y darllenydd ar hyny yn unig ni chaffai ond syniad pur anghyflawn am eangder ei ddylanwad. Fel y cyfeiriwyd yn barod, daeth galwad am dano drwy yr oll o Gymru, yn nghyd â Llundain, Lerpwl, Manchester, a manau eraill, pan nad oedd ond cymharol ieuanc fel pregethwr. Pan oddeutu deg-ar-hugain oed, gweinyddai gyda phrif bregethwyr yr enwad mewn cyfarfodydd mawrion, a dilynai y bobl ef yn llu y pryd hwnw.’ Tua’r cyfnod yma daeth i sylw mawr yn Lerpwl, a hyny dan (x57) amgylchiadau neillduol. Yr oedd wedi myned i fyny i Gymanfa Lerpwl, ond nid ar wahoddiad i bregethu yno. Rywfodd neu gilydd, cafodd y cyfeillion eu siomi mewn pregethwr, ac yn eu helbul aethant at y diweddar Barch. Henry Rees, gweinidog Prince’s Road, i ofyn beth i wneyd dan yr amgylchiadau.

“O!” meddai Mr. Rees, “peidiwch a gofidio dim. Mae yma ŵr ieuanc o’r De acw yn y Gymanfa, o’r enw David James, Llaneurwg. Gosodwch ef i bregethu; mae o yn un o’r rhai mwyaf gwydn ag a welais i erioed.”

Derbyniwyd cynghor Mr. Rees yn llawen, gosodwyd y gŵr ieuanc “gwydn” i bregethu, a chafwyd prawf digonol fod yr hyn a ddywedai yr angel-bregethwr o Lerpwl yn wir. Mor ddwfn oedd yr argraff a wnaeth y pryd hwn fel y bu yn un o hoff bregethwyr y dref cyhyd ag y bu fyw. Gwasanaetha hyn nid yn unig i egluro sut y daeth yn adnabyddus yn Lerpwl, ond hefyd dengys feddwl uchel y Parch. Henry Rees am dano pan nad oedd ond cymharol ieuanc. Rhaid fod Mr. Rees yn gweled yn y pregethwr o Laneurwg alluoedd dysglaer cyn y buasai yn rhoddi barn mor ffafriol arno; ac nid heb brofiad digonol y darfu iddo siarad, oblegid yr oedd David James wedi cael yr anrhydedd o gydbregethu ag ef amryw weithiau.

Ychydig wedi hyn pregethai yn Abertillery, yn Sir Fynwy, gydag un o brif bregethwyr y cyfundeb, yr hwn oedd hefyd yn ysgolor gwych. Ond er hyny, David James oedd yn myn’d â’r bobl, oblegid medrai fyned yn unionsyth at galon y bobl gyffredin. Myned drwy y galon at y pen y byddai ef bob amser, ac nid drwy y pen at y galon. Dylanwad cryf, iach, a pharhaol ydyw yr un sydd yn myned drwy y pen at y galon, ond ambell un sydd yn llwyddo i wneyd hyny; aros gyda’r pen, heb gyffwrdd y galon, fel rheol, y bydd y dosbarth sydd yn ymwneyd â’r deall. Yr oedd Mr. James wedi darganfod os gellid enill y galon yn llwyr y buasai y pen yn siwr o’i ddilyn; gan hyny, gwneyd ei ffordd at y galon y byddai ef y peth cyntaf. Yn Abertillery torodd allan yn folianu fwy nag unwaith pan y pregothai, ac aeth son am dano trwy yr holl wlad oddiamgylch. Dywedai un tra galluog pan yn siarad am y ddau bregethwr wrth fyned o’r cyfarfod y noson olaf,

“Wel, a thaflu yr oll at eu gilydd, bachgen Llaneurwg yw y pregethwr; fe fydd hwna, chwi gewch wel’d, yn foddion i achub miloedd, os caiff fyw.”

Pan rhwng pymtheg-ar-hugain a deugain oed, nid oedd nemawr Sabbath yn myned heibio na fuasai Mr. James yn (x58) gweinyddu mewn rhyw wyl bregethu neu gilydd. Byddai yn treulio wythnosau weithiau heb allu dychwelyd gartref, oblegid pregethai ar hyd yr wythnos mewn manau gwledig, lle y cedwid y cyfarfodydd blynyddol ar ddyddiau gwaith, er mwyn sicrhau pregethwyr na allent gael ar y Sul. Yr oedd galwad mawr am dano i gymydogaethau felly, a byddai yn hynod ffodus i ddewis testynau, a gwneyd sylwadau arnynt, fyddai yn cyfateb i’r dosbarth a anerchai. Gan ei fod wedi ei ddwyn i fyny mewn cymydogaeth amaethyddol, gwyddai holl arferion ac amgylchiadau y ffermwyr, a defnyddiai y wybodaeth hon, fel rheol, gydag effaith neillduol.

Tuag ugain mlynedd yn ol, yr oedd ef a’r diweddar Barch. Richard Owen, y Diwygiwr, yn cynal cyfarfod pregethu yn un o ranau amaethyddol Dwyrain Morganwg. Dygwyddai fod dau o ddynion blaenaf yr eglwys yno wedi cweryla yn ddrwg iawn rai misoedd cyn hyny, ac un, os nad y ddau, wedi gwrthgilio mewn canlyniad. Pan glywsant y dysgwylid James Llaneurwg i’r cyfarfod pregethu, aeth yn rhy galed arnynt i aros gartref, a daeth y ddau i’r oedfa ddeg o’r gloch boreu Sul. Testyn pregeth Mr. James ydoedd, Pedr yn tori ymaith glust gwas yr archoffeiriad, a dechreuodd ddarlunio yr hanes, a dangos sut y dylai dynion gadw eu tymer mewn amgylchiadau cynhyrfus, a maddeu i’w gilydd, a cheisio gwella hen glwyfau fyddent wedi roddi i’w gilydd, fel y gwnaeth Crist â chlust Malchus wedi i Pedr ei dori i ffwrdd. Fel yr ai yn mlaen, gwelai y gynulleidfa y ddau frawd oedd wedi cweryla yn toddi dan y dylanwad; ac o’r diwedd, dyma un o honynt yn gwaeddi,

“I fi y mae y bregeth hon bob gair; ond ni ddaru i fi ei daro ef, wir; naddo, ac yr wyf yn maddeu yr oll iddo.”

Syrthiodd i’r llawr dan wylo; ac yna, tynodd bwrs allan o’i logell, a dywedodd, “Dim ond wyth punt sydd genyf, ar yr wyf yn eu rhoddi bob dimai yn y casgliad.”

Erbyn hyn, yr oedd y llall wedi codi ar ei draed, yn wylo fel plentyn, ac yn dywedyd ei fod yn foddlon maddeu a chuddio yr oll. Yr oedd yn eistedd yn y set fawr hen ddiacon gyda’r Annibynwyr, o Mountain Ash, o’r enw William Bevan, yr hwn a haner addolai Mr. James. Yn nghanol y cyffro mawr, dywedodd Mr. James,

“Wel, rhaid i mi dynu tua’r terfyn, rhag eich blino â meithder,” ond dyma yr hen frawd, Mr. Bevan, yn neidio ar ei draed, ac yn gwaeddi,

“Na, cerdd yn mlaen am dipyn, da machgen i. Y mae y nefoedd led y pen, a Duw yn (x59) danfon angylion i lawr i dy wrandaw. Dyma y lle y bu y nefoedd a’r ddaear nesaf i’w gilydd erioed; maent wedi d’od yn un; yn mlaen, Llaneurwg anwyl.”

Wedi i Mr. James orphen yn nghanol y molianu mawr, daeth yr hen frawd o Mountain Ash ato, gan wasgu ei law a dyweyd,

“Ti fyddi yn y nefoedd ar dy hyd. Ti fyddi fel goleuad mawr yno, ac os caf fi dd’od i’th ymyl, bydd hyny yn ddigon o nefoedd i mi. Pe buaset yn dal ati ychydig yn mhellach, fe fuasai holl angylion a seraphiaid y nefoedd wedi d’od i lawr i dy wrando. Fan hon,” ychwanegai, gan gerdded yn ol a blaen yn y set fawr, “y bu y nefoedd a’r ddaear agosaf erioed.”

Nid oes neb yn cofio y fath oedfa yn y lle hwn; yr oedd ei dylanwad yn anorchfygol.

Mewn lle arall, ar agoriad festri newydd, pregethai ar ddyrchafiad Crist; a thua diwedd y bregeth gofynai,

“Pa mor uchel y caf ei ddodi? A ydyw yn deilwng o fod cyfuwch a hwn a hwn?”

“O, na,” atebai rhywun o’r gynulleidfa, “Up with him much higher than that.”

Desgrifiai y pregethwr yr Iesu yn esgyn heibio i’r angylion, ac yn dyrchafu eto’n uwch; ac erbyn hyn dyma wraig a gydnabyddid yn un o’r rhai mwyaf galluog a chryf ei chyneddfau, yn methu dal, ac yn gwaeddi allan,

“I’r lan âg ef i’r man uchaf yn y drydedd nef!”

a chyn pen mynyd, yr oedd y gynulleidfa braidd fel un gwr yn uno â hi i lefain,

“I fyny ag ef!”

Fel rheol, yr oedd rhyw un neu ddau hwynt yn ei bregeth fuasent yn fynych yn peri i’r cynulleidfaoedd i lwyr anghofio eu hunain, ac ar ol eu cyfodi i’r fan hono, dygai ei sylwadau i ben; ond byddai y teimlad mor angerddol fel y gwaeddai rhai am iddo fyned yn ei flaen. Ond gwaeddi ai peidio, gwyddai ef y fan i dori i fyny, a byddai yn ddieithriad yn gwneyd hyny. Yr ydym yn sicr na theimlodd neb dan ei weinidogaeth ef fel y teimlodd y brawd hwnw mewn angladd ar ddiwrnod oer yn y gauaf. Gweinyddid gan hen weinidog parchus; ac wedi cyrhaedd y capel, darllenodd “benod yr adgyfodiad” drwyddi, a gweddïodd am lawn haner awr. Wedi codi ei destyn, bu yn traethu yn agos i awr am rinweddau yr ymadawedig tra yr ochr yma i’r bedd.

“Wel,” ebe fe, ar ben yr awr, “dyna ni wedi darfod âg ef yma. Ni awn yn awr am ychydig gydag ef i’r ochr draw.
Pa le y dodwn ni ef yno? A wna lle Abraham y tro iddo? O! na wna ddim. A wna lle Gabriel y tro? Na; nid yw hwnw yn ei suito ’chwaith.”

Yr oedd y brawd wrth y (x60) drws yn mron rhewi, a’i ddannedd yn curo yn nghyd; ac wrth glywed yr hen weinidog yn chwilio a methu cael lle i osod y dyn da oedd wedi dianc, gwaeddodd allan,

“Wel, os na chewch ch’i le iddo cyn hir fe gaiff fy lle i!”

Nid felly y byddai dynion wrth wrandaw Mr. James, ond yn dyheu am iddo barhau, ac yn sychedu am ei glywed drachefn.

PENOD XIV.
ADGOFION AM DANO YN ANTERTH EI BOBLOGRWYDD (PARHAD).

Nid yw yr adgofion geir yn y benod flaenorol yn amgen nag ychydig enghreifftiau i ddangos ei ddylanwad cyffredinol. Gellid ychwanegu ugeiniau o oedfaon cyffelyb pe caniatai gofod. Anaml y buasai Mr. James yn cael oedfa farwaidd; eithriadau oedd y rhai hyn yn ei hanes, ac nid y rheol. Byddai ei lais, ei yni, a’i ddesgrifiadau byw yn deffro teimladau y gynulleidfa yn fuan wedi iddo ddechreu siarad; ac yn ychwanegol at hyn, fel y cyfeiriwyd yn barod, yr oedd ei allu i gymhwyso ei sylwadau i gyfateb y bobl y pregethai iddynt ar unwaith yn cynyrchu dyddordeb. Er mwyn dangos hyn yn mhellach, rhoddwn gynwys llythyr a dderbyniasom yn desgrifio nifer o oedfaon pan yr oedd Mr. James ar ei uchelfanau: -

“Un tro, yr oedd yn pregethu mewn tref ar lan y môr yn Sir Forganwg, ac oedfa fythgofiadwy i mi oedd hon,” meddai yr ysgrifenydd. “Cododd ei destyn yn Heb. vi. 29, ‘Yr hwn sydd genym megys angor yr enaid.’ Desgrifiodd yr angorau, eu defnyddioldeb, yn nghyd â’r dull Dwyreiniol o’u gosod yn ddyogel ac yn sicr; yr arferiad o ddwyn yr angor i’r porthladd, &c., fel pe buasai wedi bod yn forwr ei hun; a chan fod nifer fawr o’r gynulleidfa yn forwyr, gellir deall fod y pregethwr yn cael eu sylw mwyaf astud. Gweithiodd yn mlaen, a dadblygodd y ffigiwr, a chyn y diwedd aeth y dylanwad yn anorchfygol, nes y torodd allan yn folianu drwy y capel.
Boddwyd llais Mr. James gan lefau y bobl, a gorfu iddo dori i fyny cyn gorphen ei bregeth. (x61) “Dro arall, mewn man lle yr oedd amryw o aelodau’r eglwys wedi eu claddu yn ddiweddar, pregethai oddiar y geiriau, ‘Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith.’ Desgrifiai deimladau drylliedig y dysgyblion wrth glywed yr Iesu yn dywedyd ei fod yn myned i’w gadael; dygai esiamplau o’r tristwch yma, megys tristwch plant o amgylch clafwely eu mam, a hithau yn dywedyd wrthynt ei bod yn ymadael; cadben da a charedig yn dywedyd felly wrth ei gydforwyr, nes eu llanw â thristwch wrth feddwl am yr ysgariad; a chadfridog yn hysbysu ei filwyr o’i ymadawiad. Cymhwysai Mr. James y pethau hyn oll at y tristwch a gynyrchir wrth golli dynion duwiol, a dangosai fod yr oll er buddioldeb i’r rhai sydd yn caru Duw. Yn yr oedfa hon cododd y teimlad i rhyw naws nefolaidd fel nas gallasai neb waeddi, ond wylo yr oedd pawb yn ddystaw drwy y capel.

“Oedfa neillduol arall wyf yn gofio i Mr. James gael pan yn pregethu gyda’r Parch. W. Mydrim Jones. Pregethodd Mr. Jones yn anarferol o afaelgar oddiar y geiriau, ‘A dyweded yr holl bobl Amen.’ Cyfodwyd y gynulleidfa fawr oedd yn bresenol i.hwyl neillduol dan bregeth Mr. Jones. Ar ei ol, wele Mr. James yn sefyll i fyny, ac wedi codi ei destyn dywedodd,

‘Nid wyf fi yn meddwl gadael pwno fy mrawd a myned at rywbeth arall. O na! yn wir, mhobl i, rhoddwch Amen i Fab y Brenin; y mae wedi gadael mynwes ei Dad er eich mwyn chwi a minau. Rhoddwch Amen iddo; na hidiwch y ffasiwn; na hidiwch nad yw yn arferiad y dyddiau hyn; ar lan ac ar lawr, rhowch cheers i Fab y Brenin.’ Aeth yn ei flaen fel yma am ychydig fynydau nes yr oedd pawb, yn hen ac yn ieuanc, yn canmawl Mab Duw. Oedfa na aiff o gof neb oedd yn bresenol ydoedd hon.”

Gellir dyweyd mai dyma hanes Mr. James o tua’r flwyddyn 1870 hyd nes i’w iechyd ballu. Ni chafodd nemawr oedfaon mwy nerthol nag ef, yn ddiddadl, yn ystod y chwarter canrif diweddaf; a hyny nid ar ambell dro, ond yn gyson. Pan ar binacl ei hwyl, yr oedd yn medru dyweyd ambell frawddeg a fuasai yn foddion i beri i’r gynulleidfa golli pobpeth ond y pregethwr a Iesu Grist. Cofus genym ei glywed yn dyweyd mewn capel bychan, ddeunaw mlynedd yn ol, frawddegau fel y canlyn –

“Os wyt ti, bechadur, yn meddwl myned i uffern, rhaid i ti fyned yno dros ben Mab Duw; ac mi ddyweda’ ragor wrthyt, ti gei weled gwrid y gwaed ar flaenau y fflamau pan y (x62) byddi yn dysgyn i lawr i’r trueni.”

Aeth y brawddegau fel tân drwy y dorf; a’r nos Iau canlynol, daeth un o fechgyn mwyaf annuwiol y gymydogaeth i’r seiat mewn.dwys edifeirwch; a dywedai dan wylo mai y brawddegau uchod oedd wedi bod yn foddion i’w ddwyn i ystyried ei ddiwedd. Y mae y bachgen hwnw hyd y dydd heddyw yn un o’r rhai mwyaf crefyddol a gweithgar yn yr eglwys hono.

Nid oes angen ychwanegu engreifftiau; y mae pawb a’i clywodd yn meddu adgofion llawn mor ddyddorol, a rhai, fe allai, fwy felly. Daeth i sylw yn sydyn, fel seren ddysglaer; ac fel yr haul, yr oedd yn llewyrchu fwy-fwy hyd ganol dydd. Canol dydd goleu oedd hi arno pan fu farw. Yn ei ddyddlyfr nid oedd ond ychydig Sabbothau am bum’ mlynedd yn mlaen nad oedd i fod mewn cyfarfodydd pregethu arnynt, a rhai degau o gyfarfodydd pregethu ar ddyddiau o’r wythnos; ac wrth gymharu hyn â’i ddyddlyfrau blaenorol, gwelwn na fu erioed yn fwy poblogaidd nag ar derfyn ei yrfa. Yn y lleoedd gweithfaol mwyaf poblog, megys Gwm Rhondda a manau ereill, yr oedd galwad parhaus am dano; byddai ddwy a thair blynedd yn olynol yn cynal cyfarfodydd pregethu yn yr un lleoedd. Tyrai pobl o bob enwad i’w wrandaw; ac ar ol ei glywed, byddai aml un yn dyweyd,

“Trueni na fuasai y dyn yna gyda ni.”

Yr oedd yn gymaint o foneddwr Cristionogol fel na roddodd deimlad i neb fuasai yn ei wrandaw, er ei fod yn Fethodist selog. Defnyddiai gymhariaeth dlos gyda golwg ar y gwahanol enwadau. Cyffelybai y Methodistiaid, yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, y Wesleyaid, yr Eglwys Sefydledig, &c., i lynoedd bychain - neu byllau yn hytrach - yn yr afon pan fyddai yn sych.

“Mae pysgod yn mhob un o’r pyllau,” meddai, “ond y maent ar wahan hyd nes y cwyd yr afon, ac y llifa dros ei gwely; yna nofia y pysgod o’r gwahanol lynoedd at eu gilydd. Felly am yr enwadau. Y maent ar wahan yn awr, ond pysgod o’r un rhyw ydynt; a phan ddaw llanw tragwyddoldeb i mewn, hwy nofiant mewn cariad anfeidrol i’r un lle oll.”

Enill mewn parch a phoblogrwydd y byddai yn ei gartref hefyd yn barhaus, yn ogystal ag oddi cartref. Nid oedd neb yn dyfod i bregethu i Laneurwg a allai dynu cystal cynulleidfa ag ef; a chyrchai pobl o bump a chwech milldir o ffordd i wrandaw arno. Pregethai yn fynych yn nghyfarfodydd diolchgarwch y Bedyddwyr a’r Annibynwyr yn Llaneurwg, ac (x63) hefyd yn eu cyfarfodydd pregethu yn achlysurol, ac nid oedd neb yn cael gwrandawiad gwell. Efe hefyd fyddai hoff bregethwr uchel wyliau Sir Fynwy yn y blynyddoedd olaf; cymaint oedd eu hawydd am dano fel braidd na fyddent yn rhyw haner cweryla am ei wasanaeth.

Yn y deng mlynedd olaf bu fyw, penderfynodd ymroddi i bregethu yn Saesoneg; ac yn hyn, fel mewn pethau ereill, llwyddodd i gyrhaedd ei amcan. O’r flwyddyn 1880 yn mlaen cyfansoddodd amryw bregethau Seisnig, a byddai yn gwneyd amlinelliad Seisnig o’i bregethau Cymreig oll yn ystod y cyfnod hwn, rhag ofn y buasai galwad arno i bregethu yn Saesoneg yn ddirybudd.

Wel, pa fath bregethwr Seisnig ydoedd? Llawn cystal ag yn y Gymraeg, meddai pobl Llaneurwg. Y nos Sabboth diweddaf y pregethodd yno, cafodd gystal hwyl ag a gafodd yn y boreu yn iaith ei fam. Pregethodd lawer yn eglwysi Seisnig Sir Fynwy yn y blynyddoedd olaf, ac nid yn unig ar Suliau cyffredin, ond mewn cyfarfodydd mawrion, ac yn ddiau pe cawsai fyw ddeng mlynedd arall, buasai yn ffafr-ddyn yr eglwysi Seisnig. Felly gwelwn mai parhau i eangu, cynyddu, a dyfnhau oedd ei boblogrwydd hyd y diwedd.

PENOD XV.
EI SYMUDIAD I GAERDYDD, YN NGHYD A’I GYSTUDD A’I FARWOLAETH.

Tua chanol haf 1888 penderfynodd symud i fyw i Gaerdydd. Parodd hyn syndod a gofid nid bychan i bobl Llaneurwg; oblegid ni ddychymygent am ei ymadawiad o’u plith, gan ei fod wedi aros yno y rhan oreu o’i fywyd, a hyny yn ngwyneb taer gymhellion i fyned yn fugail i rai o eglwysi blaenaf Sir Forganwg a Sir Fynwy. Wrth edrych drwy ei lythyrau, gwelwn ei fod wedi derbyn galwadau ffurfiol o saith o eglwysi cryfion yn y Siroedd uchod, sef Caerphili, Mountain Ash, Blaenafon, Clifton Street (Gaerdydd), Taibach, Treforis, yn nghyd â gwahoddiad i wasanaethu yn Nghapel Arglwyddes (x64) Llanofer. Cafodd alwad hefyd o eglwys bwysig yn y Gogledd, yr hon nad ydym wedi gallu dyfod o hyd i’w henw. Ond er cymaint y dymunai yr eglwysi uchod - ac amryw ereill, yn ol pob tebyg - arno ddyfod atynt, glynu yn Llaneurwg wnaeth hyd o fewn y deunaw mis olaf y bu byw. Er nad ydoedd yn fugail ar yr eglwys yno, nac ychwaith yn derbyn tâl am ei waith gyda gwahanol weddau yr achos, eto teimlai ef a’i briod eu hymlyniad tuag at y lle yn rhy gryf i ymadael, er cael cynyg cyflog sylweddol mewn manau ereill. Gan ei fod yn un o ysbryd mor llednais a chariadlawn, yr oedd caredigrwydd ei hen gyfeillion a’i gymydogion yn ei glymu wrth y lle rywfodd drwy y blynyddau. Dilynent ef ar nos Sabbothau pan yn pregethu yn Nghaerdydd (neu rywle arall o fewn deng milldir), er mwyn ei glywed a bod yn gwmni iddo i ddychwelyd gartref. Un hynod ydoedd am lynu wrth ei hen gyfoedion; byddai hyd yn nod y rhai hyny oeddynt wedi ymadael â Llaneurwg, ac yn dilyn llwybrau y Mab Afradlon, yn tyru i’w glywed, os buasai yn bosibl; ac ni chawsai yr un o honynt ddianc sylw Mr. James. Gwnai ei ffordd atynt ar ddiwedd yr oedfa, ac estynai ei law yn serchog iddynt bob amser. Credent hwythau nad oedd dyn tebyg iddo ar y ddaear. Os oedd ei ymlyniad mor fawr tuag at rai felly, am y rheswm eu bod yn hen gyfoedion, hawdd deall fod ei serch at aelodau a blaenoriaid yr eglwys yn Llaneurwg yr un mor gryf. Beth bynag, o herwydd rhesymau neillduol, gwnaeth ei feddwl i fyny, yn ngwyneb y cwbl, i symud i Gaerdydd. Un rheswm oedd, fod ei iechyd yn dechreu rhoddi ffordd, ac o ganlyniad nid oedd yn teimlo yn alluog i gerdded i Gaerdydd neu Marshfield i gyfarfod y train, a hyny ar bob tywydd, Rheswm arall oedd fod y mab yn yr ysgol yn Nghaerdydd; a chan ei bod yn rhy bell iddo ddyfod adref y nos, rhaid oedd iddo letya yno, yr hyn oedd yn anghydweddol iawn â theimlad Mr. a Mrs. James. Trodd y ddau reswm yma y glorian; a chan adael mangre anwyl eu genedigaeth, daethant i fyw i 63, Talbot Street, Canton, Caerdydd.

Llanwyd Eglwys Salem, Canton, â llawenydd pan ddaeth Mr. James a’r teulu a’u tocynau aelodaeth, gan amlygu mai yno yr oeddynt yn meddwl gwneyd eu cartref; a derbyniwyd hwy gyda chalonau agored. Ni bu ef ond ychydig amser cyn enill serch pawb o bob gradd ac oedran yn yr eglwys; a phe buasai yn cael iechyd am ychydig fisoedd yn mhellach, (x65) diau y buasent wedi rhoddi galwad iddo i’w bugeilio. Ond cyn pen chwech mis dechreuodd waelu a gwanychu, a gwelid fod ei gyfansoddiad gwanaidd yn cyflym roddi ffordd. Tua dechreu y flwyddyn 1889, wedi bod yn pregethu yn Nhrefforest, dychwelodd adref yn glaf; a dyma y tro diweddaf y pregethodd yn gyhoeddus. Er hyny pregethodd lawer yn ei ystafell ac hefyd yn y gwely. Gweddïo, gwneyd pregethau newyddion, a phregethu y rhai hyny, fu ei waith ar hyd yr un-mis-ar-ddeg y bu yn glaf. Yr oedd hyn yn brawf fod pregethu wedi myned yn ail natur iddo. Pregethu oedd y ruling passion gydag ef ar hyd ei fywyd, a pharhaodd yn ruling passion ynddo hyd angeu. Yr oedd yn dyheu am gael pregethu un bregeth arall cyn marw ar y testyn, “Da i mi yw fy nghystuddio,” &c. Beth fuasai nerth a dylanwad y bregeth hono, tybed, pe cawsai adferiad iechyd i’w thraddodi? Diau y buasai yn anorchfygol. Ni fu yn cadw ei wely yn gyfangwbl ond ychydig ddyddiau cyn iddo farw; cyfodai bob dydd, a siaradai yn obeithiol a’r teulu am y dyfodol, gan ddysgwyl yn gryf cael gwella - a gwella i bregethu neu ddim. Nid oedd gwerth mewn gwella yn.ei olwg ef os na cha’i ddychwelyd i’r pwlpud. Ond yr oedd ei hen elyn, sef y darfodedigaeth, wedi cymeryd gafael rhy gryf ynddo; ac er i angeu ddyfod braidd yn annysgwyliadwy iddo ef ei hun, nid oedd felly i’r meddygon a’r rhai oedd o’i amgylch; gwelent hwy ef yn graddol suddo o ddydd i ddydd.

Yn yr wythnosau diweddaf y bu fyw cychwynwyd tysteb iddo gan y frawdoliaeth yn Salem, yr hyn sydd yn dangos cariad mawr y cyfeillion yno ato, yn ogystal a phrofi eu haelioni a’u cydymdeimlad âg ef a’r teulu. Ymledodd yr hanes fod Canton yn gwneyd tysteb drwy yr eglwysi mewn ychydig amser, ac yn fuan cyfododd y syniad o wneyd y dysteb yn un gyffredinol. Darfu i Mr. David Morgan, Canton, blaenor parchus a’r hynaf yn eglwys Salem, gydymgynghori â’r diweddar Barch. David Edwards, Casnewydd, gyda golwg ar y ffordd oreu i fyned yn mlaen gyda’r dysteb yn ei ffurf gyffredinol; ac wedi ystyried y mater yn mhellach, apwyntiwyd y Parch. J. M. Jones, Caerdydd, a Mr. David Evans, Docks, yn ysgrifenyddion, yn nghyd a Mr. David Morgan, Sunny Bank, Canton, yn drysorydd y gronfa. Cyn pen ychydig wythnosau, yr oedd dros dri chant o bunau wedi dyfod i law. Deuai yr arian nid yn unig oddi wrth eglwysi, ond oddi wrth ddegau o bersonau unigol o wahanol ranau y Dywysogaeth. Anfonai (x66) eglwysi gweiniaid symiau anrhydeddus i fewn, a theimlent ei bod yn fraint i gael gwneyd hyny. Tystiai ugeiniau yr adeg hono mai Mr. James oedd wedi bod yn foddion achubiaeth iddynt, ac ni fuasai llawer o’r rhai hyn yn ymfoddloni ar gyfranu i’r casgliad a wneid yn eu heglwysi; rhaid oedd iddynt gael dangos eu cariad tuag ato drwy ddanfon yn bersonol symiau mawr i’r trysorydd, a llythyr o gydymdeimlad gyda hyny. Gwyddom am rai ddanfonasant yn agos y geiniog olaf oedd ganddynt yn y tŷ ar y pryd, gan ddyweyd â’r dagrau ar eu gruddiau,

“Gwell genym ddyoddef eisieu, pe bae raid, er mwyn cynorthwyo ‘James Llaneurwg,’ oblegid fe fu, yn llaw Duw, yn foddion troedigaeth i ni.”

Hawdd iawn oedd gwneyd tysteb i ddyn fel yma, fel y gwelir, oblegid nid oedd nemawr i eglwys yn y cyfundeb nad ydoedd rhai o blant Mr. James yn y ffydd ynddi. Byddai ei ddifrifoldeb yn galw y rhai mwyaf cellweirus ac anystyriol i feddwl am eu cyflwr ac ystyried eu diwedd; ac mewn canoedd o enghreifftiau, profodd y cyfryw ystyriaethau yn gadwedigaeth i’r personau hyny. Perchid ef yn fawr gan bawb, yn hen ac yn ieuanc, cyfoethog a thlawd; ac nid yn unig yr oedd yn barchus gan bawb, ond cerid ef o eigion calon gan y rhai hyny feddent adnabyddiaeth agos o hono. Pan ddaeth y newydd am ei farwolaeth, taflwyd yr eglwysi i dristwch dwfn; ond ni chafodd y dysteb ei hesgeuluso mewn un modd, ac yn y diwedd cyrhaeddodd y swm anrhydeddus a. fynegwyd uchod. Nid oedd dim yn rhoddi mwy o foddhad i lawer na chael dangos eu teimlad yn y ffordd yma tuag ato; yn wir, braidd na edrychent ar hyny fel moddion gras yn gystal a mwynhad.

Llonwyd ei ysbryd yn fawr gan y llythyrau caredig ddylifent i mewn y diwrnodau olaf. Wylai weithiau wrth wrandaw arnynt; gwenai yn siriol bryd arall wrth feddwl am y cariad mawr a’r cydymdeimlad a ddangosid tuag ato.

Fel yr awgrymwyd o’r blaen, nid oedd yn meddwl llai na gwella drwy y misoedd y bu yn glaf. Gobeithiai gael adferiad hyd y ddau ddiwrnod olaf y bu fyw; ond boreu dydd Gwener cafodd le i gasglu fod y diwedd yn agos. Er hyny ni lwfrhaodd, ond gwynebodd y glyn yn ddedwydd a digyffro; ac nid yw hyn yn rhyfedd, ychwaith, oblegid yr oedd pobpeth wedi ei drefnu rhyngddo a’i Geidwad er’s amser maith, a chredai ei fod Ef “yn abl i gadw yr hyn a roddir ato erbyn y dydd hwnw.”
Nos Wener clywid ef yn ddystaw ganu y penill, (x67)

 

.................. “Yn mreichiau fy Ngwaredwr
........................’Rwy’n ddyogel yn mhob man,” &c.

Iaith un cryf ydoedd hon, onide? Un â’r glyn yn oleu claerwyn iddo. Boreu dydd Sadwrn, daeth cyfnewidiad amlwg drosto, a gwelid ei fod yn prysur deithio i fyd arall. Gwaethygu a wnaeth drwy y dydd; y poenau yn cynyddu, a’r corff yn gwanychu hyd yr hwyr. Gyda’r post prydnawn dydd Sadwrn derbyniodd lythyr oddi wrth foneddiges o Laneurwg o’r enw Mrs. Cope - llythyr o gydymdeimlad ag ef yn ei gystudd; ond nid cydymdeimlad mewn geiriau yn unig, oblegid yn amgauedig gyda’r llythyr yr oedd cheque am £5. Pan ddaeth y llythyr hwn yr oedd poenau Mr. James yn ormod iddo gael gwybod ei gynwys; ond yn mhen oddeutu awr, esmwythaodd y poenau, a gofynodd yn fywiog i’w ferch hynaf am gyrchu llythyr Mrs. Cope iddo gael ei glywed. Wedi darllen y llythyr, siriolodd ei lygaid wrth glywed y geiriau caredig a gynwysai; yna llanwodd ei lygaid o ddagrau wrth feddwl fod y fath garedigrwydd yn cael ei ddangos tuag ato. Trodd yn gryf yn y gwely a’i wyneb tua’r pared - yr hyn nad oedd wedi medru gwneyd er ys dyddiau - a llefodd allan bump o weithiau - “Arglwydd Iesu! derbyn fy ysbryd!” fel pe buasai yn dymuno arno ddyfod i’w gyfarfod; a chyda fod y frawddeg yn dysgyn dros ei wefusau y tro diweddaf, daeth yr Iesu, a chipiodd ei enaid ato Ef ei hun nos Sadwrn, Tachwedd 30ain, 1889.

_____________________________________

Dyna ni wedi ei ddesgrifio goreu a fedrom (ond digon anmherffaith) hyd at ei fynediad i arall fyd; a gallwn ddyweyd fan yma, yn ngeiriau Tennyson, gydag arall-eirio ychydig ar y llinellau olaf -

................
“So passed the strong heroic soul away!
..................And when they buried him the town of Cardiff
..................Had seldom seen a more princely funeral.”

Y dydd Iau canlynol, Rhagfyr 5ed, daeth lluaws mawr yn nghyd o wahanol siroedd y Deheudir i hebrwng i Laneurwg weddillian marwol un a garent mor gynes. Gynaliwyd gwasanaeth am 12 o’r gloch yn Nghapel Salem, Canton, yr hwn a drefnid gan Mr. D. Morgan, un o flaenoriaid y lle. Dechreuwyd drwy ddarllen a gweddïo gan y Parch. H. P. James, (x68) Caerphili; yna cymerwyd rhan gan y Parchn. David Jones, M.A., Blaenavon, a David Young, gweinidog gyda’r Wesleyaid yn Nghaerdydd ar y pryd. Siaradwyd hefyd gan Alfred Thomas, Yswain, A.S., un o hen gyfoedion Mr. James; y diweddar Mr. David Evans, U.H., Bodringallt; a Mr. E. Davies, U.H., Taibach. Braidd y gallai Mr. Davies, Taibach, ddal heb dori i lawr gan ei deimladau wrth siarad, gan mai Mr. James oedd wedi bod yn foddion troedigaeth i’w fab flynyddoedd cyn hyny. Dywedodd Mr. David Morgan, Canton, bethau nodedig hefyd am gysylltiadau Mr. James âg eglwys Salem yn yr ychydig fisoedd y bu yn eu plith. Wedi cael ychydig eiriau gan Dr. Davies, Caerdydd, terfynwyd y cyfarfod trwy ganu, “Ar lan Iorddonen ddofn,” a ffurfiwyd yr orymdaith i 63, Talbot Street. Yno yr oedd llu mawr wedi dyfod yn nghyd - gweinidogion a blaenoriaid o bob rhan o Fynwy a Morganwg, ac amryw gyfeillion o Sir .Gaerfyrddin, Sir Aberteifi, a Sir Frycheiniog. Ffurfiwyd yn orymdaith fawr; a phan gyrhaeddodd yr angladd Queen Street ac i fyny i Newport Road, yr oedd yn anarferol o dywysogaidd yr olwg arni; hawdd oedd canfod fod gwr mawr yn Israel wedi syrthio. Y dystiolaeth gyffredinol ydoedd na fu nemawr angladd mwy boneddigaidd a thywysogaidd yn nhref Caerdydd. Perchid ef fel angel Duw pan yn fyw; felly hefyd yn ei farwolaeth. Cafodd angladd tywysog, claddedigaeth deilwng o un o brif broffwydi yr Arglwydd. Cyrhaeddwyd Llaneurwg tua thri o’r gloch, a chludwyd y corff i’r capel lle y bu yn pregethu a chydaddoli â’r frawdoliaeth oedd mor anwyl ganddo. Agorwyd y gwasanaeth yma gan y Parch. E. Rees (Dyfed), Caerdydd, ac yna cafwyd areithiau pwrpasol gan y diweddar Barch. David Edwards, Casnewydd; y Parchn. R. Lloyd, Casbach; J. M. Jones, Caerdydd; W. Lewis, Cwmpark; a T. Davies, Treorky; Mri. David Evans, Docks, a W. Morgan, Pant, Dowlais. Ar lan y bedd, siaradwyd gan y Parch. W. Lewis, Pontypridd; ac wedi canu “Bydd myrdd o ryfeddodau,” offrymwyd gweddi gan y Parch. W. Lewis, Cwmpark, ac yna rhaid oedd gadael yr anwyl bregethwr i orphwys yn esmwyth

.................. “Hyd nes byddo dorau beddau’r byd
....................Ar un gair yn agoryd.”

Caled iawn oedd gwneuthur hyn, ac nid oedd braidd neb yn bresenol yn gallu dal heb golli dagrau yn hidl. (x69) Ond er mor galed oedd i bobl Llaneurwg ac ereill i’w weled yn cael ei roddi i orwedd yn y ddaear oer, yr oedd yno bedwar dan wasgfa annesgrifiadwy, sef Mrs. James a’i thri phlentyn. Hwynthwy oedd yn nghanol y cwmwl du pan yn gorfod gadael priod mor hoff a thad mor anwyl, a dychwelyd gartref i beidio gweled ei wyneb byth mwy. Cymaint fu yr archoll i Mrs. James fel na ddarfu fod yr un peth byth wedi hyny. Bu yn gweini nos a dydd ar ei hanwyl briod am yn agos i flwyddyn; a phan y collodd ef, torodd ei chalon yn lân ar ei ol. Mynych y dywedai nas gallasai byth gael gwared o’i hiraeth am dano; a gwir a ddywedodd, oblegid yr oedd ei hiraeth yn llawn cymaint yr wythnosau diweddaf y bu fyw, ac am dano ef y siaradai ychydig oriau cyn i’w henaid ehedeg i fyny ato ar y 27ain o Ebrill, 1895.

Felly gwelir fod y plant erbyn hyn wedi colli eu tad a’u mam. Ond gofalodd Tad yr Amddifaid na chawsant fod yn ddiymgeledd; a chyda’r ferch hynaf (yr hon sydd yn briod) y mae ganddynt eto gartref cysurus, yr hyn sydd yn dra ffodus gyda golwg ar y ferch ieuengaf, yr hon nad yw ond pedair-ar-ddeg oed ac o iechyd gwanaidd.

D.M.P.
_____________________________________________________

PENOD XVI.
LLYTHYRAU ODDIWRTH GYFEILLION, A PHENILLION GOFFADWRIAETHOL.


Derbyniwiyd y llythyrau canlynol oddiwrth y Parchn. John Morgan Jones, Caerdydd, ac E. Lloyd, Casbach:-

ANWYL GYFAILL,
Da genyf fod yn eich bryd ddwyn allan gyfrol fechan o Gofiant a Phregethau y Parch. David James. Y mae genyf gof byw am y tro cyntaf y gwelais ac y clywais ef. Daeth ar daith trwy Sir Aberteifi rywbryd yn haf 1863, fel cyfaill i’r diweddar Barch. Thomas Evans, Rock; a rhyw nos Sul, yr oedd eu cyhoeddiad yn Nhregaron, lle yr oeddwn i yn preswylio ar y pryd. Nid oedd enw y naill na’r llall yn (x70) adnabyddus; ni wyddai y bodau gwybodus, y rhai a gymerent arnynt fod yn gyfarwydd â phrif bregethwyr y cyfundeb, ddim am danynt; felly ychydig o asbri a dysgwyliad oedd yn nglyn â’u dyfodiad - dim ond y chwilfrydedd naturiol a deimlid wrth fod dau wr dyeithr yn dyfod trwy y wlad. Am Mr. James yr oedd braidd yn sicr nad oedd efe yn neb, oblegid erbyn ymgynghori â’r dyddiadur, gwelid nad oedd wedi ei ordeinio; a phrofai ei safle isel ar restr pregethwyr Mynwy nad oedd fawr amser er pan gawsai ei dderbyn yn aelod o’r Gyfarfod Misol. Modd bynag, pan gododd ar ei draed i roddi emyn allan i’w chanu, gwnaeth argraff ffafriol ar y gynulleidfa. Ei wedd oedd dra difrifol; tueddai ei wynebpryd llwyd a theneu i gynyrchu cydymdeimlad; ac yr oedd ganddo lais dwfn treiddgar, yn cyrhaedd conglau pellaf y capel eang. Darfu i’r eneiniad oedd yn cydfyned â rhanau dechreuol y gwasanaeth barotoi y dorf i ddysgwyl rhywbeth arbenig yn y bregeth.
Ac ni chawsant eu siomi. Ei destyn ydoedd, “Duw, cariad yw.” Cafodd oedfa rymus. Nid oedd y syniadau yn dangos meddylgarwch dwfn; ni cheisiai y pregethwr blymio i’r dyfnderoedd er dwyn i’r golwg berlau nad oedd neb wedi eu darganfod yn flaenorol; ni wisgai ei feddyliau ychwaith mewn barddoniaeth swynol; ond yr oedd y meddylddrychau mor efengylaidd, agwedd y pregethwr mor ddifrifddwys, ei ysbryd mor wresog, a’i draddodiad mor gyson, ac yn ychwanegol yr oedd yr eneiniad oddiwrth y Sanctaidd Hwnw mor amlwg, fel y darfu iddo yn fuan godi y gwrandawyr i hwyl hyfryd, a chadwodd hwy wrth eu bodd hyd ddiwedd y bregeth. Yr oedd ei ddawn hefyd yn hollol newydd i Sir Aberteifi. Nid dawn bloeddio ydoedd - yr oedd amryw yn y sir yn medru dyrchafu eu llais fel udgorn; nid dawn canu ydoedd, ychwaith - yr oeddym yn gydnabyddus ag amryw a feddent ffidl o’r fath oreu; ond rhyw ddawn lifeiriol ydoedd eiddo Mr. James, megys ffynon yn bwrlymu ei chynwys allan yn ddibaid. Ychydig o argraff a wnaeth y bregeth arall ar fy meddwl, nac ar feddwl neb, er fod y pregethwr, yn ol dim wyf yn gofio, yn llefaru yn gyson ac yn dda; yr oedd ardderchowgrwydd y bregeth gyntaf wedi llyncu bryd pawb. Y peth cyntaf wedi myned allan oedd eistedd mewn barn ar y gwyr dyeithr. Dywedai un a arferai fod yn bur gynil gyda ei ganmoliaeth fod y gwr ieuanc a bregethodd gyntaf yn un tra addawol. Digiais trwyddof wrth ei glywed. Ymddangosai y term “addawol” fel desgrifiad llawer rhy (x71) eiddil o’r pregethwr. I’m bryd i, yr oedd yn debyg i’r hyn a eilw y Saeson “damming with faint praise,” a mynwn ei fod, nid yn dringo yr ysgol i fyny, ond agos a chyrhaedd y ffon uchaf. Erbyn y gauaf canlynol yr oeddwn wedi symud i fyw i Dowlais; ac un o’r Suliau cyntaf i mi yno yr oedd Mr. James yn pregethu yn Hermon. Am ddau o’r gloch arferai y capel eang gael ei orlenwi, ac nid oedd yn eithriad y Sul hwnw. Pregethodd yntau yn rymus, a chydag awdurdod amlwg. Ni ddaeth cwsg yn agos at amrantau neb, er ei bod yn adeg drymaidd ar y dydd; a sefydlodd ei hun ar unwaith yn mysg y pregethwyr mwyaf cymeradwy a esgynent i’r pwlpud. Clywais ef ddegau o weithiau wedi hyn, a chefais y fraint o gyd-bregethu ag ef lawer tro; ond cadwodd ei le yn sefydlog yn fy meddwl fel un o’r pregethwyr mwyaf cyfaddas i gyhoeddi yr efengyl i werin Gymru.

Nid wyf am gynyg un math o feirniadaeth arno fel pregethwr, nac am geisio ei osod yn y glorian. Ond priodol dyweyd ddarfod iddo daflu ei holl enaid i’r weinidogaeth. Gwnaeth bregethu yn unig amcan ei fywyd. Megys y dywedai Hiraethog am ei frawd enwog, yr Hybarch Henry Rees, ar ol un pryf yr ymlidiai Mr. James; ni throai o’r neilldu i erlyn rhyw aderyn arall allai godi y fan hyn, nac i ganlyn rhyw sawr a allai groesi ei lwybr fan arall; ond yr oedd ei fryd yn sefydlog ar un peth, sef pregethu. Nid oedd yn gwastraffu ei nerth trwy ymwneyd â masnach a helyntion y byd; nid oedd na darlithydd doniol ar wahanol destynau nac yn ysgrifenydd medrus i’r wasg. I bregethu yr oedd Duw wedi ei alw, ac i hyn, a hyn yn unig, yr ymroddodd yntau. Nis gall neb wadu ddarfod iddo lwyddo i fesur helaeth yn y gwaith a pha un yr ymgymerodd; y mae y poblogrwydd dirfawr a enillodd yn Nghymru, ac a gadwodd am yr ysbaid maith o ddeng mlynedd ar hugain, yn sail digonol o’i apostoliaeth. Cyfarfyddais âg amryw yn nghymydogaeth Caerdydd a briodolent eu hargyhoeddiad iddo ef fel offeryn, ac a edrychent arno fel eu tad ysbrydol. Y mae arnaf hiraeth mawr ar ei ol, ac y mae gofid yr eglwysi yn ddwfn oblegid ei golli.

Gan ddymuno i’ch llyfr werthiant helaeth,

Ydwyf, &c.,

JOHN MORGAN JONES
CAERDYDD, Medi 23ain, 1895. (x72)

ANWYL FRAWD,
Daethum i gffyrddiad â’r anwyl ddiweddar frawd David James yn fuan wedi fy sefydliad yn Nghasbach yn y flwyddyn 1862; ac o hyny allan bu ein cyfeillgarwch yn gynes a didor. Buom fyw am ddwy neu dair blynedd o fewn llai nag ergyd careg i’n gilydd, ac yn ein horiau hamddenol arferem ymweled â’n gilydd yn nhŷ y naill neu y llall, fel y dygwyddai, pryd y cafwyd llawer ymgom felus a dyddorol am lyfrau a phregethau. Yr oedd Mr. James wedi dechreu pregethu cyn i mi ei adnabod, ac yn cyflym dyfu mewn poblogrwydd yn yr enwad parchus i ba un y perthynai. Yr oedd o ran y dyn oddiallan yn dàl a theneu, ond o ymddangosiad boneddigaidd; yn wastad yn drwsiadus, ac yn mhob modd yn deilwng o’r pwlpud Gristionogol.
Yr oedd yn naturiol ddetholedig a choeth o ran chwaeth feddyliol. Nid byth yr ymostyngai at yr isel a’r dirmygus. Yr oedd yn dra hoff o hanesyn mewn ffordd o egluro neu wasgu ei bwnc adref, ond yr oedd yn wastad yn chwaethus a chymeradwy. Hysbys i’w gyfeillion yw na chafodd y fraint o fwynhau addysg athrofaol. Ar bwy y bu y bai, tybed? Sicr genym mai nid ar ei enwad. Ar bwy, tybed? Ai arno ef ei hun? Yn hyn nid ydym yn sicr. Tybiwn fod y bai yn gorwedd yn rhywle rhwng dau - ef ei hun, a’r feinwen dlos, yr hon a ddaeth wedi hyny yn wraig ffyddlon ac ymgeledd gymhwys iddo. Tebyg fod llinynau eu serch wedi ymglymu mor dyn am eu gilydd fel mai anmhosibl oedd i’r dyn ieuanc ymadael er myned trwy gwrs o addysg athrofaol. Nis gwyddom pa un ai colled ai enill fu hyn. Pa un bynag am hyny, hysbys i bawb a’i hadwaenai yw y medrai fel pregethwr beri cywilydd i lawer un fu yn yr athrofa, ac a ddaeth oddi yno â B.A. neu M.A. yn gynffon i’w enw. Pan yn dechreu pregethu, clywais i Mr. Edward Coslet, Gôf Gasbach, ddyweyd ei fod yn gobeithio nad oedd wedi ei eni a’i ddanedd yn ei ben (mab y Parch. E. Coslet roddodd enw a nôd i’r teulu byth wedi hyny ydoedd yr uchod). Ond nid felly yr oedd gyda Mr. James, eithr tyfodd o fod yn blentyn i fod yn ddyn o bregethwr ac â danedd ganddo i gnoi ei gil ar wirioneddau y Gair, a dwylaw hefyd i arlwyo bwrdd llawn o ddanteithion Efengyl i’w wrandawyr.

Anffawd, tybiwyf, ydoedd iddo symud i fyw i Canton - anffawd i’r eglwys yn Llaneurwg- anffawd iddo ei hunan a’i deulu; oblegid yr oedd Llaneurwg yn ardal llawer mwy iachus na gwastadedd myglyd Caerdydd. Buan wedi ei fynediad yno (x73) y gwanychodd ei iechyd; a chan nad oedd y babell bridd y preswyliai yr ysbryd bywiog ynddi o’r fath gadarnaf, nid hir y bu angeu cyn gorphen ei waith. Unwaith y gwelsom ef yn ei gystudd, ac yr oedd y pryd hwnw fel yn mlynyddoedd iechyd a goenusrwydd - yn hynod hyderus, hamddenol, a diofn. Y gorchwyl diweddaf i mi i’w gyflawni oedd uno â lluoedd ereill i wlychu ei fedd yn mynwent Llaneurwg â’m dagrau. Hoff iawn oeddwn o hono, a theimlaf y byd yn wacach ar ei ol. Hyn yn awr yn lle rhagor a gwell, gan fyw trwy ffydd ac mewn gobaith o’i gwrdd eto yn y Wlad Well.
Ydwyf, Anwyl Frawd,
Yr eiddoch yn rhwymau yr Efengyl,
CASBACH, Medi, 1895.    
ROBERT LLOYD
__________________________________________________________

Cyfansoddwyd y penillion a ganlyn ar farwolaeth Mr. James gan y Parchn. E. Rees (Dyfed), a Cynwyd Thomas, Caerdydd:-

....................AM DDAFYDD, yn amddifad - y cwynir,
..............................Mae canu galarnad
.........................I’r hardd wr yn rhyw ryddhad,
.........................O’i gur i glwyfus gariad.

....................Llawn addfwynder dyferol - ydoedd hwn,
..............................Mab dyddanwch hollol;
 
.........................Dirodres, o gynhes gol,
.........................Fu’r disorod frawd siriol.

....................Pregethodd, teithiodd y tir - a’i dirion
..............................Genadwri gywir;
 
.........................Oracl hedd, a’i eiriau clir
.........................Yn llwyr enill yr anwir.

....................Ei lais dwfn, felused oedd - i dyner
..............................Drydanu y bobloedd;
 
.........................Ei berorus, flasus floedd - drwy y byd
.........................Raiadrai fywyd ar ei dyrfaoedd.

....................Y goreu beth a gai’r byd - yn ei deg
..............................Weinidogaeth danllyd;
 
.........................Llef hyawdl ei holl fywyd
.........................A roes i ras ar ei hyd. (x74)

 

 

....................Gwron duwiol: gwrandawiad - a hawliai
..............................Drwy hwylus barabliad;
 
.........................I’r ddaear oer rhoddai’r had, - a’r galon
.........................Dynerai’n union dan yr “eneiniad.”

....................Eisteddodd mewn cystuddiau, - a duaf
..............................Dywydd cysgod angeu;
 
.........................Duw i’r nef fu’n cadarnhau
.........................Y dyn grasol dan groesau.

....................Galar sy’n dod i’r golwg, - ar ruddiau
..............................Yn ireiddiol amlwg;
 
.........................Hunodd ef, ac awen ddwg - galon gaeth,
.........................I’w dryllio’n hiraeth ar dir “Llaneurwg.’

_________________________________________________________________

....................Yn ei fedd oer ai DAVYDD yw? - tawel iawn
..............................Yw’n telynau heddyw!
.........................Da frawd, di-farw ydyw,
.........................Yn nghol hedd mae’n angel byw!

....................Oer yw gwyneb Morganwg - dyna follt,
..............................Dwyn fath sanct o’i golwg!
.........................Serch gwlad gan deimlad amlwg, - toddi wnaeth
.........................Yn llyn o hiraeth am “James Llaneurwg!”

....................Mynwy wêl adwy lydan, - yn ddystaw
.........................Ddiystyr yw’r llwyfan;
 
..............................I oror mud gro oer man
..............................Chwyrn yrwyd ei chorn arian 1

....................Ar ei dyner feddrod anwyl - wylo
..............................Sydd yn felus orchwyl;
.........................A’i brudd gerdd y daw’r bardd gwyl, - am enyd,
.........................Hyd lan ei weryd a’i delyn arwyl.

....................Ein dwys adfydus dafodau - unant
..............................Mewn cwynfanus nodau;
 
.........................Yn dewgron y daw’n dagrau, - yn ddyfroedd
.........................A gloewi’r gwinoedd ein galarganau!

....................Yn fyth dost wyt, Fethodistiaeth, - duwyd
..............................Daear dy genhadaeth;
 
.........................Ar dy dwr cu nychu wnaeth - Gwyliwr mad -
.........................Dengar offeiriad dy wyn “ Gorfforiaeth. (x75)

 

.........................Dyn heddychol eneidiol ei nodwedd,
.........................Yma â’i galon yn llawn ymgeledd;
 
.........................Yn ei holl hanes ni bu digllonedd
.........................A’i nwyd afiachus yn duo’i fuchedd;
 
.........................Cywir iawn rodiai, cariai anrhydedd,
.........................Heini a duwiol ei anian duedd;
 
.........................Ger ei ael ‘roedd gwawr o hedd, - yn wastad
.........................Ar ei gymeriad y trigai mawredd.

....................Hoewdrem llawn diniweidrwydd, - ni welwyd
..............................Anwylach wr hylwydd;
 
.........................A’i galon ni wnaeth gelwydd, - er twyllo
.........................Neu ddinystrio neb drwy ddionestrwydd.

.........................Fel coeth bregethwr, ein gwr ragorai,
.........................Deheuig foddus bob adeg fyddai;
 
.........................Yni ei enaid â’i wres enynai
.........................Hwyliau llifeiriol fel y llefarai;
 
.........................O, lais perseiniol, yn lwysber swynai
.........................Ein gwron duwiol y rhai ‘i gwrandawai,
.........................A’i air union arweiniai - ‘n odidog
.........................Ei lu lluosog fel ewyllysiai!

....................O fewn i eang derfynau - Gwalia,
..............................Gwelir ôl ei gamrau;
 
.........................Ar hyd dêr loewbryd lwybrau - maes helaeth
.........................Ei fawr wasanaeth y tyf rhosynau.

....................Difyr iawn bu’n dyfrhau - â’i ddoniau
..............................Ein harddunol drumau;
 
.........................Ac ar war ein gororau,
.........................Ei fôr hedd fu’n ymfawrhau!

....................Nefol wr! a Duw’n ei floedd, - a’i froddeg
..............................Yn gwefreiddio’r miloedd!
.........................Hardd a llawn ei arddull oedd,
.........................A llawen ddyn y lluoedd.

....................Yn wastad gyda’i destyn, - a chaled.
..............................Chwiliai am y cnewyllyn;
 
.........................Godidog wledd gaed wed’yn
.........................O win Duw wnai loni dyn.

....................Dlws hynodol syniadaeth, - arabedd
..............................Ddiarhebol helaeth;
 
.........................Brwd hwyliau ysbrydoliaeth,
.........................Ddeuai yn ffres o’i ddawn ffraeth. (x76)

 

....................Gwr Duw oedd yn agor deall - dynion,
..............................Gan eu denu’n ddwysgall
.........................Drwy y Gair, gan nodi’r gwall
.........................O ddringo ffyrdd yr anghall!

....................Angel oedd âg efengyl Ion, - boddus
..............................Yn rhybuddio dynion;
 
.........................Beunydd ei phrif ddybenion - gyhoeddai,
.........................A’i phuredd ddaliai i’w gyd - fforddolion.

.........................Delw hynodol a dylanwadau
.........................Y nef ddihalog, geid o’i feddyliau
.........................Ag yni addfwyn cryfion gynheddfau,
.........................Adwaenent wynder ei sêr drysorau;
 
.........................Bendithion eglur, mor bur a’r borau,
.........................Ddygai arddunedd ei hygar ddoniau;
 
.........................Ddaliodd aruchel ddwfn feddylddrychau,
.........................Yn rasol iddynt fel claer sylweddau;
 
.........................A rhediad holl fwriadau - dihalog,
.........................Ein têr weinidog oedd troi eneidiau.

.........................A’i daer rym hefyd fe wnai dramwyfa,
.........................I lawr i oerfyd feddyliau’r dyrfa;
 
.........................Y gwael, andwyol, galonau dua
.........................Wnai ddwyn yn addfwyn i geisio noddfa;
 
.........................I wella’i hadfyd, y gynulleidfa
.........................Gariai i wyddfod y drugareddfa;
 
.........................Athraw doeth, pregethwr da - a beunydd
.........................Pwnc ei leferydd oedd Pen Calfaria.

....................Glân fel y teg olenni, - ei fywyd
..............................Fu’n gwynfäol loewi;
 
.........................Yn ffyddiog heb ddiffoddi, - lamp ei hedd,
.........................Hyd enbyd lesgedd wnaeth danbaid losgi.

....................Atal ein our doluriog - ni ellir,
..............................Collwyd ein gweinidog;
 
.........................Un fu’n was mor urddasog -
.........................Angel gwlad, dan ingol glog!

....................Gwelwn aur enfys golau - y cymod,
..............................Drwy ein cwmwl dagrau;
 
.........................Dringodd uwch rhandir angau,
.........................Nef y nef mae’n ymfwynhau.

....................Ei grefydd yn nig yr afon - a tu .
..............................Yn fôr o gysnron;
 
.........................Arch ei Dduw yn orchwydd hon, - wnaeth ffordd rwydd
.........................I oror ddedwydd bro’r addewidion. (x77)

 

 ....................Tra haul a sêr yn treulio, - ac oesau
..............................Yn gyson fyn’d heibio;
 
.........................I fedd ein DAFYDD fyddo - ’n ddiragrith,
.........................Y wir athrylith yn aruthr wylo.

....................Y wawr deg tra’n taenu’r dydd, - yn nwyfus,
..............................I mewn i heintus fro y mynwentydd;
 
.........................Y boreu wlith a fritho, - ei fedd ffres,
.........................Yn rhyw loew ernes o’n harwyl arno.

....................Y Da Fwriad hyd farw, - Duw ein Ner,
..............................Rho dy nawdd i’w weddw;
 
.........................O! Geidwad hoff, gwna gadw - rhag pob haint,
.........................Ei anwyl geraint drwy’r anial garw.

Caerdydd, 1889........................................................CYNWYD THOMAS. (x78)

 

PREGETHAU.
(1) SYCHED AM DDUW.

“Sychedig yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw.”-SALM xlii. 2.

Mae dyn o ran ei gyfansoddiad y fath, fel nad oes dim a’i digona ond Duw. Mewn trefn i foddloni dymuniadau dwfn y galon, rhaid iddo fyned tuallan i gylch bychan ei bersonoliaeth ei hun, ac ymdaflu ar y tragywyddol a’r annherfynol, oblegid nid oes yr un dyn yn cario o’i fewn ffynonell fedr gyflenwi ei angenion. Os yw y galon i gael ei diwallu, mae yn rhaid iddi fyned y tuallan iddi ei hun - a thuallan i gylch y greadigaeth - rhaid esgyn at y Creawdwr ei hun, a dyfod yn gyfranog o rinweddau anfeidrol ei berson. Wna meddianau a thrysorau crëedig ddim o’r tro - rhaid dyfod i gyffyrddiad â’r galon Ddwyfol iddi gael ei digoni. “Sychedig yw fy enaid,” nid am bethau allanol, ond “am Dduw; ïe, am y Duw byw.” Pe byddai yn bosibl i ddyn gael holl gyfoeth y ddaear - holl drysorau y cread - byddai ei enaid mor sychedig ag erioed, oblegid ni feddant yr hyn a’i boddlona. Nid yw bod yn feddianol ar roddion Duw - gweithredoedd ei ddwylaw, a bendithion Rhagluniaeth - yn boddloni dymuniadau y galon. Rhaid iddi hi gael y Rhoddwr gyda’r rhoddion - y Crewr gyda’r daioni creadigol; cael Duw yn rhan, yn briod, yn iachawdwriaeth. Dyma yn unig ddigona ddymuniadau dyfnaf natur dyn. Ymddengys hyn oddiwrth deimlad pruddaidd a hiraethlawn y Salmydd am y presenoldeb dwyfol, “Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid am danat ti, O Dduw.” Ac er mai â’r duwiol y mae a fyno y testyn mewn modd uniongyrchol, eto gellir ei gymeryd fel yn gosod allan ddymuniadau dyfnaf a. hiraethlawn y ddynoliaeth yn gyffredinol. Gwir fod dynion yn coleddu syniadau tra gwahanol am a phwy ydyw y gwir Dduw. Priodolir iddo wahanol bethau, gelwir ef wrth wahanol enwau, portreiadir et trwy wahanol ddarluniau, eto mae’r syched am dano yr un yn mhob oes a gwlad. Mae hanes y byd eilun-addolgar yn ei eglur brofi; myn dyn dalu parch a (x79) gwarogaeth i ryw fod neu gilydd yn barhaus. Cri dyfnaf y galon ydyw, “Sychedig yw fy enaid am Dduw,” ac i gyfarfod â’r angen hwn o’i heiddo mae’n rhaid i ni wrth amlygiad triphlyg o hono - Duw personal, presenol, a maddeugar.

I. Mae’n rhaid i ni wrth amlygiad o Dduw personol.- Mae gwahanol gyfundraethau gyda golwg ar Dduw a’i weithredoedd wedi cael eu llunio a’u cynyg, nad ydynt yn cyfateb i angenion dyfnaf dyn. Ni thâl son am yr hyn elwir yn egwyddorion sefydlog, a deddfau tragywyddol. Medrwn feddwl am bethau felly, ac o bosibl feddu dirnadaeth i fesur o honynt, ond nis gallwn eu caru. Mae’n rhaid i ni wrth Dduw personol - un y gellir siarad a chymdeithasu âg ef - ei garu, ei wasanaethu, a’i addoli. Ac y mae yn rhaid cael person byw yn feddianol ar briodoleddau arbenig, yn meddu ar rinweddau fedr gyffroi y galon, enill y serchiadau, a rhwygo ffynonell cariad nes y rhedo allan yn ffrydiau pur. Gall y cyfundraethau eraill neu y duw a gyflwynant ddifyru chwilfrydedd a rhoddi tipyn o foddhad i’r dychymyg, ond nis gallant foddloni dymuniadau y galon. Rhaid iddi hi gael bod personol y medr ymarfer âg ef, ymddiried ynddo, a thywallt ei theimladau dyfnaf ger ei fron. Dyna y fath un yw Duw y Beibl, un yn meddu pob priodoledd, pob rhinwedd, pob cymhwysder angenrheidiol er cyfateb i’n holl angenion.

Amlygodd ei hun fel bod personol amryw weithiau o dan yr hen oruchwyliaeth. Bu Abraham yn dadleu ag ef ar ran dinasoedd y gwastadedd, a chlywodd ei lais ar ben Moriah. Gwelodd Jacob ei ogoniant yn Bethel, ac yn mhen ugain mlynedd wedi hyny bu yn ymdrechu ag ef yn Peniel. Gwelodd Moses ef yn y weledigaeth ryfedd o berth yn llosgi ac heb ei difa. Galwodd ar Samuel wrth ei enw. Ymddangosai i’r proffwydi yn ngweledigaethan y nos. Amlygodd ei hun i’r tri llanc yn y ffwrn dân, pan y synodd Nebuchodonosor wrth weled dull y pedwerydd yn debyg i Fab Duw. Ond pa mor ogoneddus bynag ydoedd yr amlygiadau hyn, nid oeddynt ond rhagredegwyr o amlygiadau mwy, rhyfeddach, a gogoneddusach, sef yr amlygiad o Dduw yn ein natur.


Yr ydym yn cael fod dyn er yn foreu wedi dangos tueddiad cryf at eilun-addoliaeth, fel pe na byddai yn medru addoli yr ysbrydol a’r anweledig. Aeth yn awyddus am Dduw a ellid ei deimlo a’i weled, ac i fod yn bresenol ei hun mewn ffurf i’r synwyrau. Mewn trefn, gan hyny, i gyfarfod â’r dymuniad (x80) hwn, ac i’w enill oddiwrth eilun-addoliaeth, wele Dduw yn ymddangos yn y cnawd - person dwyfol a thragywyddol yn ymddangos yn y natur ddynol. “Ac yn ddiddadl, mawr yw dirgelwch duwioldeb; Duw a ymddangosodd yn y cnawd.” Llefarai a gweithredai fel Duw; cyflawnai wyrthiau, datguddiai feddyliau a bwriadau y galon; gwnai bobpeth fel Duw - arddangosiad gweledig o’r Duwdod, “yr hwn yw delw y Duw anweledig,” “dysgleirdeb ei ogoniant a gwir lun ei berson.” Mae’r pellder anangyffredadwy oedd rhyngom a Duw wedi ei ddifodi; mae Iesu trwy ei ymgnawdoliad wedi gwneyd y dynol a’r dwyfol yn un am dragywyddoldeb. Dyma Berson digon mawr i ymaflyd yn y ddau eithafion. Dywed Pascal nas gallai edmygu mewn un dyn eithafion un rhinwedd os na welai ynddo ar yr un pryd eithafion y rhinwedd cyferbyniol, oblegid nis gallai y cyfryw gymeriad lai na syrthio, am ei fod yn unochrog; ond dyna’r pryd, meddai, y dengys dyn wir fawredd, nid pan yn cyffwrdd ag un eithafion, ond wrth gyffwrdd â’r ddau ar yr un adeg, a llanw i fyny y cyfwng rhyngddynt. Ond anaml y ceir dynion digon mawr i wneyd hyn. Ond am Iesu Grist, dyma berson digon mawr i gyffwrdd â’r ddau eithafion penaf yr un pryd - yr anfeidrol a’r meidrol, y tragywyddol a’r amserol, y dwyfol a’r dynol - a llanw y gwagle ofnadwy oedd rhyngddynt. “Yr hwn ac efe yn ffurf Duw ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw; eithr efe a’i dibrisiodd ei hun, gan gymeryd arno agwedd gwas, a’i gael mewn dull fel dyn; efe a’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angeu, ïe, angeu y groes.” Bechadur, sydd yn teimlo anesmwythder yn dy galon, yn teimlo syched am yr hyn fedr ddiwallu dy angenion, dos at yr Iesu, yr Immanuel, y Duw-ddyn, efe a gyflawna dy holl raid, yn ol ei olud gogoneddus ef. Mae dy enaid ar drengu gan syched, ar yr wyt yn chwilio’r greadigaeth am ffynonau dyfroedd i dori dy syched, ond yn methu eu cael. Dos at yr Iesu; efe yw ffynon bywyd; gydag ef y mae y dwfr bywiol; a phwy bynag a yfo o hono, ni sycheda yn dragywydd. Os oedd moroedd annherfynol y Duwdod allan o’n cyrhaedd, mae Iesu wedi agor llwybr i’r ffrydiau bywiol redeg atom er ein disychedu. Mae’n bosibl i’r moroedd dwyfol i ymarllwys i’r galon ddynol ar hyd sianel cyfryngdod y dyn Crist Iesu. A dyma yw iaith y Ceidwad heddyw, “Yr hwn sydd a syched arno, deued; a’r hwn sydd yn ewyllysio, cymered o ddwfr y bywyd yn rhad.” (x81)

 

II. Ond y mae dyn yn sychedu nid yn unig am Dduw personol, eithr hefyd am Dduw presenol - presenol i’w amddiffyn, ac i dderbyn addoliad ganddo. Nid yw y drychfeddwl oeraidd fod Duw yn preswylio tragywyddoldeb, y goruchelder a’r cysegr, yn llywodraethu y bydoedd a’r cyfundrefnau mawrion yn yr eangderau, heb ddim a wnelo âg amgylchiadau y byd a’r bywyd hwn, yn cyfateb i angenion eiu natur. Mae yn rhaid i ni wrth Dduw presenol i ofalu am danom, i wylied drosom, ac i’n hamddiffyn yn mhob cyfnod o’n bywyd. Yr ydym oll yn ymwybodol ein bod yn agored i demtasiynau a phrofedigaethau parhaus, a’n bod mewn peryglon bob awr, ac yr ydym oll yn coleddu y gobaith y gwna y Goruchaf ofalu am danom, a thaflu ei aden amddiffynol drosom. Onid teimlad o’r fath hwn barodd i’r pagan luosogi ei dduwiau, fel y mae ganddo eilun ar gyfer holl sefyllfaoedd ac amgylchiadau bywyd; eilun ar gyfer y teulu, eilun ar gyfer y farchnad, eilun ar gyfer y fordaith, ac eilun ar gyfer y frwydr? A phe dygwyddai iddo fyned ar daith bellenig trwy anialwch lle gorweddai bwystfilod gwylltion, a chreaduriaid ysglyfaethus, os buasai heb ei dduw gydag ef, teimlai yn y fan nad oedd ganddo un hawl i ddysgwyl gwaredigaeth; ond os buasai yr eilun gydag ef yn ei logell, neu yn crogi wrth ei berson yn rhywle, tybiai ei hun yn berffaith ddyogel. O ba le y cododd syniad fel hwn ond oddiar hiraeth dwfn y galon am Dduw presenol? Yn awr, dyma’r fath un yw Duw y Beibl - Bod Hollbresenol, sydd yn ein hymyl bob amser, fel y dywed y Salmydd, “Amgylchyni fy llwybr a’m gorweddfa, a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd;” “Nid yw efe yn ddiau yn neppell oddiwrth bob un o honom;” “Oblegid ynddo ef yr ydym yn byw, yn symud, ac yn bod.” Nis gallwn ddianc o’i bresenoldeb, oblegid fel y dywedir yn eithaf cywir, “mae ei ganolbwynt yn mhob man, ond nid yw ei amgylchedd yn un man.” Y mae yn llanw y nefoedd a’r ddaear, fel nas gellir myned y tuallan i gylch ei bresenoldeb. “I ba le yr af oddiwrth dy Ysbryd, ac i ba le y ffoaf o’th wydd? Os dringaf i’r nefoedd, yno yr wyt ti; os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno; pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y mor, yno hefyd y’m tywysai dy law ac y’m daliai dy ddeheulaw.” Mae yr athrawiaeth hon yn destyn cysur a gorfoledd i’r credadyn; faint bynag fyddo ei adfyd, ei drallod, a’i gyfyngder, gall ddyweyd yn eu canol, “Yr wyt ti gyda mi; dy wialen (x82) a’th ffon a’m cysurant.” “Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi; a thrwy yr afonydd fel na lifant drosot; pan rodiech trwy y tân ni’th losgir, ac ni enyn y fflam arnat. Canys myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, Sanct Israel dy “Waredydd.” Dysger ni, gan hyny, i “gydnabod yr Arglwydd yn ei holl ffyrdd.”

Ond y mae ar ddyn eisieu Duw presenol, nid yn unig i’w amddiffyn, eithr hefyd i fod yn wrthddrycb addoliad iddo. Mae dyn yn greadur addolgar; fe fyn dalu parch ac addoliad i ryw wrthddrych yn barhaus; ond er cryfed y duedd addolgar, mae’n ofynol, er rhoddi boddlonrwydd i’w ddymuniadau, fod y gwrthddrych hwnw yn un presenol. Nid yw clywed fod Duw yn cael ei addoli gan angylion a seraphiaid gogoniant yn ddigon; mae’n rhaid i ni ei gael ef yn ein hymyl, mewn trefn i ymwneyd âg ef, ac yntau a ninau. Cyn y gallwn addoli yn wirioneddol, rhaid i ni gredu a theimlo fod gwrthddrych ein haddoliad yn bresenol i wrando ein cwynion a’u hateb; a dyma y fath un yw Duw y Beibl, un ag sydd yn bresenol gyda’i bobl bob amser. “Canys lle bynag y mae dau neu dri wedi ymgynull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol.” Ac meddai Crist er cysur ei ddysgyblion, ar eu hanfoniad allan i bregethu yr efengyl, “Ac wele yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd.” Mae Duw yn bresenol yn mhob lle, o ganlyniad gallwn ei addoli yn mhob lle, ar bob adeg. Addolodd Nathanael ef dan y ffigysbren; Pedr oddiar nen y tŷ; Paul yn y carchar; a Ioan yn Patmos. Mae y ddaear wedi ei chysegru yn un deml at wasanaeth y gwir a’r bywiol Dduw. Un o’r pethau amlycaf yn nysgeidiaeth yr Arglwydd Iesu ydoedd, gwneyd yn hysbys y ffaith fod Duw yn bresenol yn mhob man fel eu gilydd. Ni siaradai Ef un amser am ddeddfau natur, ond am Dduw yn gweithio yn a thrwy natur yn barhaus, yn gwisgo y lili, &c. Pan ddysgynai y gwlaw o’r nefoedd, ei Dad oedd yn peri hyny; pan dywynai goleuni a gwres yr haul, ei Dad oedd yn ei beri:


“Canys y mae efe yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da, ac yn gwlawio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn.” “Yr hwn a dry gysgod angeu yn fore ddydd, ac a dywylla y dydd yn nos; yr hwn a eilw ddyfroedd y môr, ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear; yr Arglwydd yw ei enw.” Mae Cristionogaeth yn ein dysgu i gydnabod presenoldeb Duw yn mhob peth ac yn mhob lle fel eu gilydd. Gwedir hyn pan yr ydys yn lleoli ac yn gosod (x83) terfyn i’r annherfynol. Os gwedir y ffaith hon yr ydys yn creu eilun-addoliaeth, oblegid hanfod eilun-addoliaeth ydyw ystyried y naill le neu wrthddrych yn fwy cysegredig na’r llall. Anghofir hyn weithiau, a thybir fod lleoedd yn cael eu cysegru trwy seremoni ddynol. Ond os addefir yr hyn a ddysgwn, y mae pob mynydd a dyffryn yn dyfod yn llawn o Dduw, a’r ddaear yn un deml gysegredig i’w addoli. Ond er fod presenoldeb Duw yr un fath yn mhob man fel eu gilydd, eto nid yw yr amlygiadau ddyry o hono ei hun yr un fath yn mhob man fel eu gilydd. Na, mae yr amlygiadau rydd Duw o hono ei hun i’w bobl yn gwneyd lleoedd yn gysegredig iawn yn ein golwg ni. Yr oedd y ceryg ar y rhai y breuddwydiai Jacob yn “dŷ i’Dduw, ac yn borth y nefoedd,”‘ byth wedi hyny. Yr oedd Mynydd y Gweddnewidiad, lle yr ymdorodd y gogoniant dwyfol trwy ddynoliaeth y Gwaredwr, byth wedi hyny yn ngolwg Pedr “y mynydd sanctaidd;” a’r lle hwnw oddi dan y ffigysbren byth wedi hyny yn ngolwg Nathanael yn lle gweddi. Yr oedd yr amlygiadau rhyfeddol gafwyd o Dduw yn y cyfryw leoedd wedi gosod cysegredigrwydd arbenig arnynt. Ac o bosibl fod genym ninau ryw fanau penodol lle y dadguddiodd Duw ei hun i ni yn y fath fodd fel nad anghofiwn hwynt tra byddom ar y ddaear. Gwir nas gellir ei weled â llygad o gnawd, eto y mae yn dadguddio ei hun yn y fath fodd fel nad oes yr amheuaeth leiaf o reality ei bresenoldeb. Ei weled nis gellir, ond ei deimlo fe ellir; ‘yr hwn er nas gwelsoch yr ydych yn ei garu; yn yr hwn heb fod yr awrhon yn ei weled, ond yn credu, yr ydych yn mawr lawenhau â llawenydd annrhaethadwy a gogoneddus.”

III.
Ond y mae dyn nid yn unig yn sychedu am Dduw presenol, eithr hefyd am Dduw maddeugar. Mae dyn yn mhob oes a gwlad yn ymwybodol o euogrwydd cydwybod, ac fel y cyfryw yn teimlo ei fod yn agored i gosbedigaeth. Nid oes rhaid wrth yr un Beibl i’n gwneyd yn hysbys o hyn; mae tyst parhaus yn y fynwes; mae y ffaith wedi ei cherfio ar lech y gydwybod. Gŵyr dyn yn dda ei fod yn droseddwr yn erbyn Duw, wedi anmharchu ei ddeddfau, ac fel y cyfryw yn agored i’w ddigofaint. Ac y mae llawer yn ngwyneb y teimlad poenus hwn wedi ceisio diangfa mewn hunanladdiad; y baich o euogrwydd yn gwasgu mor drwm nes ceisio gwaredigaeth a gorphwysdra yn nhawelwch y bedd. Nid yw gau-grefyddau y byd yn ddim ond gwahanol ymdrechion o eiddo cydwybod. (x84) euog i ymryddhau ac effeithio gwaredigaeth oddiwrth bechod a’i ganlyniadau dinystriol. Beth yw yr holl allorau, yr holl aberthau, y cosbedigaethau, a’r penydiau ddyoddefir, yn nghyd â holl ddefodau creulawn a barbaraidd y byd paganaidd, ond prawf fod trueni dyn yn fawr arno, a’i ymdrech am waredigaeth oddiwrtho. Teimla fod ei bechodau wedi myned rhyng-ddo â Duw, a’i fod yn haeddu cosbedigaeth; o ganlyniad, cri dyfnaf y galon ydyw, “Pwy a’m gwared?” Y mae yn barod i ofyn yn ngeiriau y Salmydd, “Ai yn dragywydd y gwrthyd yr Arglwydd? ac oni bydd efe boddlon mwy? A ddarfu ei drugaredd ef dros byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd? A anghofiodd Duw drugarhau? a gauodd efe ei dosturi mewn soriant?” Pwy rydd ateb i’r ymofyniadau dwys a difrifol hyn? Mae holl dduwiau y ddaear yn ddystaw; ond mi glywaf Dduw’r nefoedd yn ateb, “Myfi, myfi yw yr hwn a ddileaf dy gamweddau fel cwmwl, a’th bechodau fel niwl.” Gwelir y ffurfafen weithiau wedi ei chuddio gan gymylau, hwyliant fel fleet ardderchog trwy yr awyrgylch; ond yn fuan wedi i’r ystorm fyned heibio, nid oedd yr un cwmwl yn gorchuddio y ffurfafen. Yr oeddynt oll wedi diflanu; bellach, nid oedd dim i’w ganfod ond gwyneb dysglaer yr haul. Felly pan faddeua Duw i’r pechadur, nid oes yr un pechod yn aros. Y maent oll wedi diflanu - wedi eu taflu tu ol i’w gefn, i bellder na fedr yr un llygad eu canfod; “Cyn belled ag yw y dwyrain .oddiwrth y gorllewin y pellhaodd efe ein camweddau oddi wrthym.”
Pa mor bell yw hyny? Mor bell na ddaw tragywyddoldeb byth a hwy at eu gilydd. Teflir hwynt i “ddyfnderoedd y môr,” lle na chynhyrfir hwy i fyny gan yr un ystorm am byth. “Yn y dyddiau hyny, medd yr Arglwydd, y ceisir anwiredd Israel, ac ni bydd; a phechodau Jacob, ac nis ceir hwynt; canys myfi a faddeuaf i’r rhai a weddillir;” byddant wedi eu cuddio mewn môr o anghof tragywyddol. Mae yn natur cariad i guddio. “Cariad,” meddai yr Apostol, “a guddia luaws o bechodau.” Mor fuan y cleddir troseddau plentyn yn moroedd cariad ei rieni! Cloddia cariad yn nghalonau y rhieni feddrod digon dwfn i gladdu ei droseddau, ac adeiledir ar ei ben gofgolofn i ddangos ei rinweddau. Felly y gwna Duw â phechodau ei bobl; mae digon o gariad yn Nuw i guddio eu pechodau am byth. Yr oedd un o fasnachwyr mawrion Llundain wedi methu yn ddiweddar, a thaenwyd y newydd i bob man trwy y newyddiaduron, gan fynegu maint y (x85) ddyled. Ond rhyw brydnawn dywedai wrth gyfaill, “Nid oes dim yn tori fy nghalon gymaint a bod pawb yn gwybod maint fy nyled.” Ond a wyddost ti, bechadur, pan faddeua Duw i ti ni chaiff neb wybod maint y ddyled. Fe groesir y ledger yn llwyr â gwaed y Meichiau; ni fydd yr un ffigiwr yn aros, “Mi a ddileaf dy gamweddau er fy mwyn fy hun.” Ac unwaith y sylweddola y pechadur y maddeuant dwyfol, cyfyd ei olygon tua’r nef, gan ddywedyd, “Ynot ti, Arglwydd, y gobeithiaf, canys ti, O Arglwydd, ydwyt dda a maddeugar, ac o fawr drugaredd i’r rhai oll a alwant arnat.” Crefydd y Beibl ydyw yr unig un ddywed wrth y pechadur, nid yn unig nas gall, ond nad oes angen iddo wneyd cymod dros ei bechod; fod defnydd cymod i’w gael mewn Un arall; “fod Duw yn Nghrist yn cymodi y byd âg ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau.” Dywed wrth y coelgrefyddwr nad oes dim rhaid iddo ddryllio ei gnawd ei hun - fod Iesu wedi cymeryd ei ddryllio ar Galfaria yn ei le. Dywed wrth y fam, druan, sydd yn aberthu ei mab trwy ei daflu i’r Ganges, nad oes dim rhaid iddi wneyd hyny - fod Duw wedi aberthu ei Briod Fab; fod ei gariad mor fawr at fyd colledig nes iddo draddodi ei Uniganedig Fab “fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragywyddol.” Coledda y pagan, mae’n debyg, ryw syniad am y posiblrwydd o weinyddu maddeuant; mae ganddo ei dduwiau a dybir ganddo ef sydd yn meddu ar awdurdod i faddeu. Ond yr ydym yn cael fod eu maddeuant yn rywbeth gwamal ac anwadal iawn; er maddeu i’r troseddwr heddyw, dichon y cosba efe yfory am yr un trosedd. O ganlyniad, nid yw maddeuant felly yn cyfateb i ddymuniadau y galon. Sycheda hi am Dduw fedr faddeu am byth, yn rhad a hollol, heb ddanod. Dyma y fath un eto yw Duw y Beibl, “Canys trugarog fyddaf wrth eu hanghyfiawnderau, a’u pechodau a’u hanwireddau ni chofiaf ddim o honynt mwyach.” Nid wyf yn gwybod a ydyw yn bosibl i Dduw anghofio pechodau ei bobl yn llythyrenol ai peidio. Tybia rhai hyny, a bod y gallu hwn yn un o linellau prydferthaf y cymeriad dwyfol; bod gwir faddeuant yn cynwys fod y beiau wedi myned yn llwyr allan o’r cof. Ond beth bynag am hyny, ddaw y pechodau byth i’w herbyn, ni chosbir hwy byth am danynt; fe fydd i Dduw ymddwyn mor dyner tuag at ei bobl fel pe buasent heb droseddu erioed i’w erbyn; fydd yr adgof o’u hen bechodau byth yn dylanwadu arno er Ei atal i ddal cymundeb a hwynt, ac i ddadguddio Ei (x86) Hun iddynt. Dyna fel y mae gyda dynion pan y mae y naill yn ceisio maddeu i’r llall yn ysbryd yr efengyl. Metha yn lân ag anghofio y trosedd, ac y mae yr adgof o hono yn dylanwadu arno yn barhaus er ei atal i gymdeithasu â ac i osod ymddiried yn y troseddwr fel o’r blaen. Ond nid felly y mae gyda Duw a’r pechadur.

Cofiwch, wrandawyr, os na ddisychedir yr enaid yma, ddisychedir byth mo hono, ond myned yn fwy angerddol fydd yn ngwres fflamiau uffern, gan waeddi allan yn iaith y gŵr goludog, “O dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lazarus i drochi pen ei fys mewn dwfr i oeri fy nhafod, canys fe a’m poenir yn y fflam hon.” (x87)

 

PREGETHAU.
(2)
PRYNU A PHURO.
“Yr hwn a’i rhoddes ei hun drosom, i’n prynu ni oddiwrth bob anwiredd ac i’n puro ni iddo ei hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da.” - TITUS ii. 14.

Mae yr Apostol yn yr adnod flaenorol i’r testyn yn anog Titus a’i gyd-Gristionogion i edrych yn mlaen at ail ymddangosiad yr Arglwydd Iesu, ei ymddangosiad gogoneddus ar gymylau y nef, pan y byddai i’w holl obeithion gael eu sylweddoli, “Gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a’n Hiachawdwr Iesu Grist.” Anoga yr Apostol hwy i edrych yn mlaen at yr amgylchiad hwnw, am y byddai hyny yn symbyliad ac yn gymhelliad iddynt i “ymwadu âg annuwioldeb a chwantau bydol, ac i fyw yn sobr, yn gyfiawn, ac yn dduwiol yn y byd sydd yr awrhon.” Ond yn adnod y testyn, cyfeiria eu sylw at ymddangosiad cyntaf yr Arglwydd Iesu - ei ymddangosiad yn y cnawd i ddyoddef a marw yn lle a thros bechaduriaid.

Sylwn - ,
I. Ar y gwaith mawr briodolir i Grist.
II. Y dyben gogoneddus mewn golwg.

I. Y gwaith rhyfeddol briodolir i Grist – “Rhoddi ei hun.” Nid rhoddi miloedd o feheryn, neu fyrddiwn o ffrydiau o olew; nid rhoddi yr Aipht neu Seba, fel ag y gwnaeth am Israel gynt; nid rhoddi cerubiaid a seraphiaid, ond “ei hun,” yn yr hyn oll ag ydoedd. Nid rhoddi darn o hono ei hun, fel ag y gwnaeth un o frenhinoedd Groeg gynt dros gamwedd ei fab, ond rhoddi ei hun yn anfeidroldeb ei Berson, “yn offrwm ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd;” Y mae hyn yn cyfleu dau syniad - mai gweithred wirfoddol, ac mai gweithred ddirprwyol ydoedd. Yr oedd yn weithred wirfoddol - “rhoddi ei hun.” Nid cael ei orfodi a wnaeth; yr oedd gorfodi Hollalluawgrwydd allan o’r cwestiwn; yr oedd gorfodi Creawdwr a Chynaliwr y bydoedd yn anmhosibl. Beth bynag wnaeth ac a ddyoddefodd yr Arglwydd Iesu, fe wnaeth y cwbl o fodd ei galon. “Yr hwn a’m carodd, ac a’i dodes ei hun drosom.” “Am hyn y mae y Tad yn fy ngharu i, am fy mod yn dodi fy einioes, fel y cymerwyf hi drachefn; nid oes neb yn ei dwyn oddiarnaf, ond myfi sydd yn ei dodi hi (x88) i lawr o honof fy hun.” Yr oedd y Tad yn caru y Mab o angenrheidrwydd erioed, ond y mae y ffaith fod y Mab wedi ymgymeryd yn wirfoddol â gwaith y prynedigaeth yn rheswm newydd, ychwanegol, dros i’r Tad ei garu. “Am hyn y mae y Tad yn fy ngharu i,” &c. Gallesid tybio oddiwrth honiadau. Pilat fod tynged y Gwaredwr yn ymddibynu arno ef, fel Rhaglaw Rhufeinig. “Oni wyddost ti,” meddai, “fod genyf awdurdod i’th groeshoelio di, a bod genyf awdurdod i’th ollwng yn rhydd?” “Ond,” meddai yr Iesu yn ol, “ni byddai i ti ddim awdurdod arnaf fi, oni bae ei fod wedi ei roddi i ti oddi-uchod” - oddiuchod y mae yr awdurdod, ac nid oddi isod. Ni fuasai gan Pilat yr un gronyn o awdurdod ar yr Iesu, oni bae ei fod yn ngrym ei gariad tragywyddol wedi ymgyfamodi i sefyll yn lle’r pechadur, ac i farw yn aberth iawnol drosto; oblegid rhaid i ni gofio mai dyfod i’r byd i farw a wnaeth yr Iesu.
Marw oedd pen yr yrfa - y nod at ba un y cyrchai, y cyfeiriai ato, ac y siaradai am dano o hyd. Trwy ei farw yr oedd i ddinystrio “yr hwn oedd â nerth marwolaeth ganddo.” “Oherwydd, paham, y mae efe wrth ddyfod i’r byd yn dywedyd, Aberth ac offrwm nis mynaist, eithr corff a gymhwysaist i mi; offrymau poeth a thros bechod ni buost foddlawn iddynt; yna y dywedais, Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw.” Os ydyw yr aberthau seremonïol yn annigonol, “Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw.” “Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, a gorphen ei waith ef.” Yr oedd mor awyddus i osod yr ewyllys mewn gweithrediad, fel nas gallai oddef i’r rhwystr lleiaf gael ei roddi ar y ffordd. Fe ddarfu i Pedr wneyd hyny unwaith. Wedi iddo glywed am y dyoddefiadau a’r farwolaeth boenus oedd yn aros ei Geidwad, torodd allan yn ei wylltineb a’i frwdfrydedd arferol, gan ddywedyd, “Arglwydd, trugarha wrthyt dy hun, ni bydd hyn i ti.” Gosod dy allu mewn gweithrediad. Onid oes genyt awdurdod i alw allan forces y byd ysbrydol? Oni elli gael deuddeg lleng o angylion at dy wasanaeth? Ond fedrai yr Iesu ddim goddef y fath ymadroddion, a dacw ef gydag eiddigedd sanctaidd yn troi ar Pedr, gan ddweyd, “Dos yn fy ol i Satan, rhwystr ydwyt i mi, am nad wyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion.” Gesyd hyn allan nid yn unig ei wirfoddolrwydd, ond hefyd ei benderfynolrwydd; nid yn unig yr oedd yn foddlon marw, eithr ewyllysiai farw - mynai (x89) farw. Yr ydym o bosibl yn rhy dueddol i edrych ar Grist yn ei ddyoddefiadau a’i angau fel goddefydd yn unig, heb gofio ei fod yn weithredydd hefyd. Yr oedd yn oddefydd, ac yn oddefydd anghymharol, “Fel oen yr arweinid ef i’r lladdfa, ac fel y tau dafad o flaen y rhai a’i cneifiai, felly nid agorodd yntau ei enau.” Ond nid goddefydd yn unig ydoedd, eithr yr ydoedd yn weithredydd hefyd. Fel aberth yr oedd yn oddefydd, ond fel offeiriad yr oedd yn weithredydd. “Yr hwn trwy yr Ysbryd Tragywyddol a’i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw.” “Canys ni ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.” Ac mewn trefn i osod ei feddylfryd tragywyddol mewn gweithrediad, fe ddywed yr efengylwr iddo “osod ei fryd ar fyned i Jerusalem,” “Gosododd ei wyneb fel callestr.” Ac fe ddywed Marc ei fod yn y fath frys fel “yr oedd yn myned o flaen y dysgyblion.” Nid ymlusgo ar eu hol; nid cerdded ochr yn ochr â hwy, ond “myned o’u blaen.” “Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fyny i Jerusalem, ac yr oedd yr Iesu yn myned o’u blaen hwynt, a hwy a frawychasant; ac fel yr oeddynt yn canlyn yr oedd arnynt ofn.” Yr oedd wedi ei feddianu gan y fath awyddfryd, ac yn amlygu y fath benderfynolrwydd, fel yr oedd y dysgyblion yn ofni ac yn brawychu wrth ei ganlyn. Gallasai yn hawdd aros yn Galilea; gallasai yn hawdd ymguddio yn ogofeydd a chilfachau y mynyddoedd. Ond yn lle hyny yr oedd yn rhaid gadael Galilea, Nazareth, a Chapernaum, a myned i fyny i Jerusalem. Ac fe ddywed Ioan ei fod yno chwe’ diwrnod cyn y Pasc. Beth oedd ei amcan? Wn i ddim, oddieithr i ddangos ei barodrwydd i farw yn lle a thros bechaduriaid; Mae y desgrifiad ddyry yr Efengylwyr o’i farwolaeth yn profi yr un peth. “A’r Iesu a lefodd â llef uchel, a chan ogwyddo ei ben efe a roddes i fyny yr ysbryd;” efe a “anfonodd ymaith,” “a anadlodd, allan yr ysbryd.” Neu fel y dywed Luc, “efe a orchymynodd ei ysbryd i ddwylaw ei Dad.” Dengys hyn mai nid mewn canlyniad i’w hoelio draed a dwylaw y bu farw; “Gogwyddodd ei ben a rhoddodd i fyny yr ysbryd.” Bu farw am ei fod yn dewis marw. Yr oedd marw yn act o’i eiddo ef ei hun; yr oedd yn weithredol wrth farw yn gystal ag wrth fyw. Goddefol, gwrthddrychau i weithredu arnynt, yw pawb ereill wrth farw; ond am yr Iesu, yr oedd yn weithredydd. Yr oedd marw yn weithred frenhinol o’i eiddo, yn gystal ag offeiriadol, gan gyflwyno ei fywyd yn wirfoddol drosom. (x90)

 

II. Y dyben gogoneddus mewn golwg. - “I’n pryuu oddiwrth bob anwiredd, ac i’n puro ni iddo ei hun, yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da.” Yn gyntaf, “i’n prynu.” Dengys hyn ein bod mewn sefyllfa o gaethiwed, yn gaeth gan Satan a phechod, “Oblegid pob un a’r sydd yn gwneuthur pechod y mae efe yn was i bechod; “ ac o bob caethiwed y mwyaf truenus ydyw caethiwed ysbrydol; caethiwed meddwl, ewyllys, serch. Y mae fod y corff mewn caethiwed yn ddrwg, ond y mae fod yr enaid mewn caethiwed yn annhraethol waeth. Mae’n bosibl i’r corff fod mewn caethiwed a’r enaid yr un pryd yn mwynhau y rhyddid mwyaf. Yr oedd cyrff Paul a Silas yn rhwym yn hen garchar Philipi, ond yr oedd eu hysbrydoedd yn mwynhau rhyddid gogoneddus yr efengyl. Oddiallan i’r dyn, mewn gwirionedd, y mae y naill, ond oddimewn y mae y llall; gwreiddio yn nghalonau dynion ereill y mae y naill, ond gwreiddio yn nghalon y dyn ei hun y mae y llall. Ac er i’r corff gael ei gaethiwo, gellir ymgysuro yn y ffaith ei fod yn derfynol; ond am gaethiwed yr enaid, os na wna Duw o’i ras gyfryngu, ni fydd terfyn arno byth. Cynwysa elfenau o dragywyddol barhad; fedr angeu ddim tori y rhwymau na dryllio y llyfetheiriau sydd am yr enaid. Y cwbl fedr angeu ei wneyd fydd ei drosglwyddo yn ei gadwynau i ofal swyddog y carchar tragywyddol, ac ni ddaw allan oddiyno hyd oni thalo y ffyrling eithaf. Bydd deddf a chyfiawnder dwyfol yn dal eu gafaelion ynddo i dragywyddoldeb. Mae lle i ofni fod llawer yn coleddu syniad cyfeiliornus am gymeriad Duw. Tybiant ei fod yn rhy drugarog a maddeugar i allu cosbi y pechadur am dragywyddoldeb; ei fod yn rhy dyner ei deimladau i allu goddef i’w greadur fod mewn sefyllfa o boenedigaeth am byth, fel pe na byddai deddf a chyfiawnder yn ddim amgen na chwmwl du wedi ei osod i hongian uwchben y pechadur fel bygythiad, i fod yn atalfa arno i droseddu; ac er iddo droseddu y gwna y cwmwl hwn, fel pob cwmwl arall, ymwasgaru a llwyr ddiflanu rywbryd, gan adael y troseddwr i ymddedwyddu o dan ffurfafen lâs, dysglaer maddeuant. Ond nid rhywbeth felly ydyw cyfiawnder tragywyddol; nid rhywbeth yn codi ac yn machlud fel cwmwl, ond yr hyn sydd mor sefydlog a gorsedd Duw ei hun. Yn wir, mae hyd yn nod deddfau y byd hwn, rhai y greadigaeth faturol, yn cael eu nodweddu gan y cadernid a’r sefydlogrwydd mwyaf. Meddyliwch am ddeddf y bywyd llysieuol, sef bod i’r egin, y llysiau, a phrenau yn dwyn ffrwyth; (x91) fod iddynt oll hadu had wrth eu rhywogaeth, y rhai y mae eu had ynddynt eu hunain wrth eu rhywogaeth. Mor sefydlog a diysgog y mae y ddeddf hon wedi gweithredu oddiar ddyddiau y greadigaeth hyd heddyw! Mae pob peth o fewn ei thiriogaeth, o’r glaswelltyn hyd y gedrwydden gryfaf, wedi rhoddi perffaith ufudd-dod iddi. Ac os deuir o hyd i hedyn unigol wedi bod yn llechu yn dawel er amser Pharach o fewn amwisg un o “Mummies” yr Aipht, unwaith y gosoder ef yn y ddaear, bydd yn sicr o dalu gwarogaeth i’w ddeddf, gan fwrw allan yr un fath ddalen, a blodeuyn, a ffrwyth ag a welwyd yn tyfu ar lanau y Nile bedair mil o flynyddoedd yn ol. Fedr y fferyllydd, er ei holl skill, ddim cyfnewid yr un iod na’r un tipyn ar y ddeddf. Y mae wedi cyfranogi o natur ei Hawdwr, “gyda’r hwn nid oes cyfnewidiad na chysgod troedigaeth.” Meddyliwch drachefn am ddeddf dysgyrchiant. Gweithreda mor gyson a rheolaidd heddyw a’r diwrnod “y cydganodd sêr y boreu, ac y gorfoleddodd holl feibion Duw.” Parha i rwymo y planedau mawrion wrth eu canolbwynt; y môr terfysglyd o fewn ei wely; a man ronynau yr holl greadigaeth wrth eu gilydd, fel nad oes yr un gallu mewn bod fedr ysbeilio y gronyn lleiaf o’i gafaelion. Fel yna, y mae trefn, bywyd, a phrydferthwch natur yn ymddibynu ar sefydlogrwydd ei deddfau. Yn awr, os oes y fath nerth, dylanwad, a chadrnid yn perthyn i ddeddfau y greadigaeth faterol, beth all fod nerth deddfau y byd moesol, nad oes neb ar y ddaear ond dyn yn deilwng o fod yn ddeiliad o honi? Deillia y rhai hyn o natur Duw ei hun, y maent mor sefydlog a’i orsedd oruchel ef ei hun. “Nef a daear a änt heibio, ond nid ä un iod nac un tipyn o’r gyfraith (foesol) heibio, hyd oni chwblhaer oll.” Dyma y ddeddf y mae person y pechadur yn ei gafael, gan ei ddal yn gaeth i’w gofynion a tharanu ei melldithion uwch ei ben, “Gan farw ti a fyddi farw.” “Melldigedig yw pob un a’r nid yw yn aros yn yr holl bethau a ysgrifenwyd yn llyfr y ddeddf i’w gwneuthur hwynt.” Ond bendigedig fyddo Duw, mae’n bosibl dyfod yn rhydd o afael ei chosb; mae darpariaeth yn yr efengyl er ein gwaredu oddiwrth ei melldithion. Mae y Deddfroddwr wedi dyfod i natur y deddf-dorwr o bwrpas i ddwyn hyn oddiamgylch. “Yn yr hwn y mae i ni brynodigaeth trwy ei waed, sef maddeuant pechodau yn ol cyfoeth ei ras ef.” Dyma sail ein gollyngdod – y pridwerth dalwyd er ein rhyddhad. “Canys er gwerth y’ch prynwyd.” Pa faint o werth (x92) roddwyd am danom? Gwerth bywyd y dyn a’r Duwdod ynddo’n trigo; gwerth gwaed Oen Duw. “Gan wybod nad â phethau llygredig, megys arian neu aur, y’ch prynwyd oddiwrth eich ofer ymarweddiad, yr hwn a gawsoch trwy draddodiad y tadau; ond a gwerthfawr waed Crist.” Nid yw yn bosibl dianc o’r caethiwed hwn ond trwy brynedigaeth. Diangodd llawer un o gaethiwed yr Unol Dalaethau, ond ddiangodd neb o’r caethiwed ysbrydol, oddieithr a ollyngwyd yn rhydd trwy y gwaed. Nis gall neb, ychwaith, brynu ei hun yn rhydd. Cof genyf ddarllen am hen bregethwr negroaidd yn cael ei osod ar auction unwaith; yr arwerthwr yn ei ganmol yn anghyffredin, gan ddyweyd, “Y mae yn ddyn da, yn Gristion gloew, ac yn bregethwr poblogaidd; pa swm gynygir am dano?” “Ugain dollar,” meddai rhywun; “Pump-ar-hugain,” meddai un arall; “ Deg-ar-hugain,” meddai y trydydd; “Deugain,” meddai y pedwerydd. Ar hyn yr oedd yr hen bregethwr yn dechreu crynu. Yr oedd ganddo, mae’n debyg, ddeg dollar a thri ugain ei hun, a gobeithiai y gallasai â’r cyfryw swm brynu ei hun yn rhydd, ond tra yr oedfl yn crynu elai y cynygion i fyny. “Pump a deugain,” “Haner cant,” “Pymtheg a deugain,” “Triugain,” “Triugain a phump.” Ar hyn, wele yr hen bregethwr yn gwaeddi allan, “Triugain a deg dollar!” Tarawyd y dorf â syndod, fel na feiddiodd neb gynyg ychwaneg, a tharawyd ef i lawr i fod yn eiddo iddo ei hun. Yr oedd ganddo, er ei fod yn gaethwas, ddigon o fodd i brynu ei hun yn rhydd. Ond am danoch chwi a minau, mae pechod wedi ein dwyn i’r fath sefyllfa fel nas gallwn brynu ein hunain yn rhydd byth. Mae’r ddyled yn rhy fawr, fel y mae tragywyddoldeb ei hunan yn rhy fyr i’w thalu. Ond bendigedig yn dragywydd, os yw y ddyled yn ormod i’r dyledwr i allu ei thalu, mae y Meichiau yn ddigon cyfoethog i’w thalu drosto, ac y mae yn rhinwedd ei hunan-aberthol gariad wedi gwneyd hyny o hono ei hun, “Yr hwn a’i rhoddes ei hun drosom i’n prynu,” &c.

......................... “‘Nawr dim heb dalu rhoddwyd Iawn
.............................Nes clirio llyfrau’r nef yn llawn,
.....................................Heb ofyn dim i mi.”

Nid rhyfedd fod rhyddhad pechadur wedi bod yn achlysur i gyfansoddi cân newydd yn y nefoedd - cân annhraethol felusach na’r un genid yno o’r blaen, “A hwy a ganasant gân newydd, gan ddywedyd, Teilwng wyt ti i gymeryd y llyfr, ac i agor ei (x93) seliau ef, oblegid ti a laddwyd, ac a’n prynaist ni i Dduw trwy dy waed.”

Ond fe ddywedir yma fod yr Iesu nid yn unig yn prynu ei bobl oddiwrth bob anwiredd, ond hefyd “yn eu puro iddo ei hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da.” Y mae nid yn unig yn eu rhyddhau, ond hefyd yn eu glanhau; nid yn unig yn eu rhyddhau o gaethiwed, ond hefyd yn eu sancteiddio a’u cymhwyso i wlad o ryddid tragywyddol. Faint bynag ydyw effeithiau pechod arnynt, nid oes rhaid iddynt wynebu y farn â gronyn o’i ôl arnynt. Mae defnydd yn eu hymyl fedr ei symud ymaith yn llwyr. “Gwaed Iesu Grist Ei Fab Ef sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod.” “Oblegid os ydyw gwaed teirw a geifr, a lludw aner wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd, pa faint mwy y bydd i waed Crist buro eich cydwybod chwi oddiwrth weithredoedd meirwon i wasanaethu y Duw byw?” Os yw yr eglwys o dan ei chreithiau heddyw, os ydyw yn cael ei hanurddo gan frychau pechod a llygredigaeth, mae diwrnod ar wawrio pan y gwelir hi heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o’r cyfryw; “Not having spot nor wrinkle.” Pe fydd y brychau wedi eu symud; oblegid y mae Crist wedi ei charu, ac wedi rhoddi ei hun drosti o bwrpas i’w phuro a’i sancteiddio, “fel y cyflwynai hi yn ogoneddus iddo ei hun.” Wrth weled ambell i gwmwl gwyn, gwlanog, ar y ffurfafen mor brydferth, yr ydym yn barod i ofyn iddynt, “Gymylau gwynion, prydferth, o ba le y daethoch? Nid oeddych yma ychydig amser yn ol.” “O,” meddent yn ol, “o gorsydd lleidiog yr hen ddaear y daethom ni.” “Sut y daethoch i fyny yna?” “O, yr haul mawr syrthiodd mewn cariad â ni, ac a’n sugnodd i fyny, a rhoddodd wisg newydd, wen, ddysglaer, a gogoneddus am danom.” Felly am y dyrfa sydd yn lân gerbron gorseddfainc Duw a’r Oen. Mae yr olwg arnynt mor hardd fel y mae hen frodorion y wlad yn barod i ofyn, “Pwy yw y rhai hyn sydd wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion, ac o ba le y daethant?” Yr ateb yw, “Y rhai hyn yw y rhai a ddaethant allan o’r cystudd mawr.” Pa fodd y codwyd hwy i’r fath safle? Haul Mawr y Cyfiawnder syrthiodd mewn cariad â hwy, ac a’u sugnodd i fyny ato ei hun, ac wrth eu sugno tynodd hwy trwy y gwaed, a rhoddodd wisg newydd am danynt - gwisg o burdeb dysglaer – “Ac a olchasant eu gynau ac a’u canasant hwy yn ngwaed yr Oen.” (x94)

 

PREGETHAU.
(3)
CYRCHU AT Y NOD.
“Yr wyf yn cyrchu at y nod, am gamp uchel alwedigaeth Duw yn Nghrist Iesu,”- PHIL. iii. 14

Gellid tybied ar yr olwg gyntaf fod gradd o anghysondeb rhwng adnod flaenorol i’r testyn a’r un ddilynol. Yn y naill cydnebydd yr Apostol ei anmherffeithrwydd, “Nid fel pe bawn wedi ei gyrhaeddyd eisoes, neu fy mod eisoes wedi fy mherffeithio;” ond yn y llall y mae yn siarad fel pe wedi ei berffeithio, “Cynifer gan hyny ag ydym berffaith, syniwn hyn.” Ond y mae yn amlwg nad yr un ystyr sydd i’w roddi i’r ddau air gyfieithir felly yn y ddwy adnod; eithr fod y gair yn adnod 15fed yn cyfleu y syniad o gyflawn faint - cyflawn ymddadblygiad, a’r gair yn adnod 12fed yn cyfleu y syniad o gwblhad neu orpheniad; y cyntaf yn golygu cymhwysder i gyflawni gorchwyl o bwys, a’r olaf yn golygu fod y gorchwyl pwysig hwnw wedi ei orphen neu ei gwblhau mewn modd boddhaol. A dim ond i ni gadw mewn cof y dull y dygid yn mlaen y rhedegfeydd Groegaidd, at ba rai y cyfeiria’r Apostol, ni welwn yn amlwg y gwahaniaeth rhwng y ddau air. Yr oedd yn perthyn i’r yrfa Roegaidd lawer iawn o reolau a chyfreithiau, ac yr oedd yn rhaid i bob ymgeisydd gydffurfio yn drwyal â’r cyfryw cyn y goddefid iddynt ymgystadlu o gwbl. Yr oedd yn rhaid wrth ddeg mis o ragbarotoad (training) caled cyn y caniatäai swyddogion y cwrs i un redeg am wobr. Dyna berffeithrwydd adnod 15fed - y perffeithrwydd o fod yn gymhwys i redeg am y gamp. “Cynifer gan hyny ag ydym berffaith” - ag ydym wedi myned trwy y parotoad angenrheidio - “syniwn hyn.”

Ond yr oedd yn perthyn i’r yrfa berffeithrwydd arall - perffeithrwydd o nodwedd uwch - sef y perffeithrwydd o redeg yn gyfreithlawn, cyrhaedd y nod, enill y wobr, gwisgo’r goron, a derbyn yr holl anrhydedd oedd mewn cysylltiad â’r cyfryw fuddugoliaeth. Dyna berffeithrwydd adnod 12fed, sef y perffeithrwydd o gwblhad neu orpheniad. Yn awr, yr oedd yr Apostol wedi cyrhaedd y perffeithrwydd cyntaf, sef y cymhwysder i redeg, yn ei droedigaeth, pan “yr ymaflwyd ynddo gan Grist Iesu,” pan ddodwyd anian newydd ynddo i newid cwrs ei fywyd. Ond cyn y gallasai gyrhaedd y perffeithrwydd (x95) olaf, yr oedd yn rhaid rhedeg i’r pen yr yrfa a osodwyd o’i flaen, a’i rhedeg hi yn gyfreithlawn, “gan edrych ar Iesu, pen tywysog a pherffeithydd ein ffydd;” cyrhaedd y nod o berffeithrwydd ysbrydol, gwisgo y goron ar ei ben, a derbyn yn sylweddol yr holl anrhydedd anfarwol oedd yn ei aros yn y nefoedd. Nid wyf, meddai yr Apostol, wedi cyrhaedd y sefyllfa hono eto; “Y brodyr, nid wyf yn bwrw ddarfod i mi gael gafael. Nid fel pe bawn wedi ei gyrhaeddyd eisoes, neu fod eisoes wedi fy mherffeithio;” eithr dilyn yr wyf, rhedeg fy ngoreu yr wyf, trethu fy holl alluoedd yr wyf hyd yr eithaf wrth ddilyn - a dilyn yr wyf – “fel y gallwyf ymaflyd yn y peth hwn hefyd yr ymaflwyd ynof gan Grist Iesu.” “Yr ydwyf yn cyrchu at y nod,” &c. Sylwn –

I. Nod uchel y dyn duwiol. - Mae y nod a’r gamp yn anwahanol gysylltiedig â’u gilydd, eto y maent i’w gwahaniaethu. Wrth y nod yr ydym yn golygu perffeithrwydd moesol; wrth y gamp dedwyddwch digymysg, Y nod yw tebygolrwydd cymeriad i’r Arglwydd Iesu Grist; y gamp ydyw y gwynfydedigrwydd tragywyddol sylweddolir pan ddeuir yn debyg iddo. Cyrhaeddir y nod drwy ymdrech barhaus y rhedegydd, a’r gamp yn cael ei rhoddi yn wobr am yr ymdrech lwyddianus. Amlwg yw, gan hyny, nad cyrhaedd dedwyddwch ydoedd amcan uchaf yr Apostol, ond cyrhaedd perffeithrwydd; nid cyrhaedd nefoedd, ond y cymhwysder angenrheidiol i’w mwynhau; cyrhaedd y safle anrhydeddus hono pan y gallai sefyll ger bron Duw yn sanctaidd a difeius mewn cariad. Yr oedd yr Apostol yn meddu ar natur rhy haelfrydig, ar ysbryd rhy ddyngarol, i wneyd peth mor selfish a dedwyddwch personol yn nod neu amcan mawr ei fywyd. Clywch ef yn dadgan ei barodrwydd i wneyd unrhyw aberth dichonadwy er mwyn ei gydgenedl. “Canys mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddiwrth Grist dros fy mrodyr, sef fy nghenedl yn ol y cnawd.” Yr oedd yn barod i wneyd ei hun yn bobpeth i bawb “os gallai ryw fodd gadw rhai.” Ni fuasai dyn o’i egwyddorion ef byth yn meddwl am osod dedwyddwch personol yn nod neu amcan mawr ei fywyd. Na, yr oedd yn hyn, fel yn mhobpeth arall, am fod yn debyg i’w Arglwydd, “yr hwn nis boddhaodd ei hun.” Felly Paul; nid boddhau ei hun ydoedd ei bwnc ef, ond boddhau ei Geidwad; cyrhaedd y safon osododd Crist o flaen ei ddysgyblion, “Byddwch chwi gan hyny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr Hwn sydd yn y (x96) nefoedd yn berffaith.” Cynwysa y perffeithrwydd hwn ddau ddrychfeddwl, rhyddhad hollol oddi wrth bechod, ac ymdebygolrwydd hollol i’r Arglwydd Iesu, y Dibechod. Drychfeddwl gogoneddus yw yr un nacaol; pob gronyn o lygredd sydd yn ein natur wedi ei dragywyddol alltudio allan o honi; yr hen wahanglwyf pechadarus wedi ei hollol lanhau; yr idea brydferth hono o eiddo y bardd wedi ei sylweddoli -

................... “A pob gwahang’lwyf ymaith,
.........................Glân fuddugoliaeth mwy.”

Wn i ddim pa bryd y cymer hyn le gyda’r Cristion; o bosibl mai rhwng dwy dòn wrth groesi’r hen Iorddonen; ac os bydd spark o farddoniaeth yn ei natur, efe, a gyfnewid dipyn ar yr hen benill, gan ddyweyd-

................... “Aeth pob gwahanglwyf ymaith,
.........................Glân fuddugoliaeth mwy;

 ....................Mae’r boreu wedi gwawrio
.........................Na welir arnaf glwy’.”

Ond mae’r gair perffeithrwydd yma yn golygu mwy na’r nacaol, sef y cadarnhaol - tebygolrwydd hollol i’r Arglwydd Iesu. “Oblegid y rhai a ragwybu a ragluniodd efe hefyd, i fod yn unffurf a delw ei Fab Ef.” Os ydyw’r artist nefol wedi tynu outline y ddelw ddwyfol ar dy enaid, fe fyn ei llanw i fyny nes dy wneyd yn unffurf a’r model gwreiddiol, “delw ei Fab Ef.” Yn araf iawn, medd rhywun, yr wyf fi yn teimlo fod y ddelw yn cael ei dwyn yn mlaen arnaf fi.
Ie, o bosibl, ond os yw yn araf y mae yn sicr. Fe ddywedir am Michael Angelo ei fod unwaith yn tori allan gerflun o berson arbenig yn y llywodraeth, ac yr oedd yn trethu ei holl alluoedd celfyddydol er gwneyd y ddelw mor berffaith ag oedd yn ddichonadwy. Yr oedd cyfaill iddo yn arfer ymweled ag ef yn ei studio, ac araf iawn yr oedd yn gweled y figure yn gwneyd ei ymddangosiad. Aeth y cyfaill oddi cartref, ac ar ei ddychweliad aeth i mewn i’r studio drachefn, oud rhyfedd mor leied o wahaniaeth oedd yn. y cerflun, a gofynodd i’r cerfluniwr,

“A ydych wedi bod gyda’r cerflun tra bum i ffwrdd?”

“Ydwyf,” meddai yntau yn ol, ddeuddeg awr o lafur caled bob dydd.”

“Wel,” meddai y cyfaill, “beth ydych wedi bod yn ei wneyd?”

Atebai yntau, “Yr wyf wedi bod yn tynu allan y gewyn yn y fraich chwith; yr wyf wedi rhoddi gwell expression i’r ddau lygad, maent yn fwy life-like o lawer nag oeddynt; yr wyf wedi bod yn teneuo (x97) tipyn ar y wefus uchaf.”

 Dear me,” meddai’r cyfaill, “trifles ydyw pethau felly.

“Gwir,” meddai Angelo; “ond cofiwch mai trifles sydd yn gwneyd perffeithrwydd, ac nid trifle ydyw perffeithrwydd.”

O bosibl fod aml un yn barod i ddyweyd am danoch chwi sydd yn bresenol, “Nid oes fawr iawn o wahaniaeth rhwng hwn a hwn heddyw rhagor blwyddyu i heddyw, er mynychu’r capel Sabboth ac wythnos; eto, rhyfedd mor lleied o wahaniaeth sydd yn ei gymeriad moesol.” Ond os oes yna dipyn bach o hunanymwadiad ac awydd gwneyd daioni, a chariad at yr Arglwydd Iesu yn fwy, fe wna y pethau bach yna y peth mawr o berffeithrwydd i fyny yn y diwedd; ac nid peth bach fydd bod yn berffaith foreu’r farn. Ond er y cydnebydd yr Apostol nad oedd wedi cyrhaedd yr ystad hon, y mae yn ymestyn ati; “ond un peth” - yn ol y Saesneg, “Yr un peth hwn yr ydwyf yn ei wneuthur.” Un peth Paul oedd bod yn debyg i Grist. “Fel yr adnabyddwyf ef, gan fod wedi fy nghydffurfio â’i farwolaeth ef; os mewn un modd y gallwn gyrhaeddyd adgyfodiad y meirw.” Yr oedd Paul yn gwneyd llawer o bethau, ond yr oedd y cwbl yn ddarostyngedig i’r un peth mawr o fod yn debyg i Grist. Dyna’r nod at ba un y cyrchai yn barhaus.

II. Y cyfarwyddyd ddyry yr Apostol i gyrhaedd y nôd – “Anghofio y pethau o’r tu cefn, ac ymestyn at y pethau o’r tu blaen.” Cyfeiriad eto at y rhedegfeydd Olympaidd. Ni edrychai y rhedegydd un amser yn ol i weled faint o ffordd yr oedd wedi myned droasti. Ni sylwai ychwaith ar nifer yr edrychwyr fyddai yn syllu arno; na, cadw ei lygaid ar y nôd fyddai ef, a’i lygad yn tynu ei law, a’i law yn tynu ei droed am gael gafael ar y goron. Felly, meddai yr Apostol, os ydym am gyrhaedd y nôd o berffeithrwydd moesol, mae’n rhaid anghofio y gorphenol - rhwystrau a diffygion ei holl ymdrechion blaenorol; anghofio’r ystad fabanaidd ac ymestyn at fod yn wr perffaith at fesur oedran cyflawnder Crist; “Anghofio y pethau o’r tu cefn;” fel y mae’r aderyn yn anghofio’r nyth, i fyned i ystad berffeithiach; yr hedyn yn anghofio’r plisgyn; y blodeuyn yn anghofio y blaguryn. Mae y pren pan yn llawn blodau yn edrych yn brydferth rhyfeddol; ond rhaid iddynt oll wywo a chael eu hanghofio mewn trefn i’r ffrwyth addfed wneyd ei ymddangosiad. Felly mae’n rhaid i’r Cristion anghofio y cwbl perthynol i’w sefyllfa anmherffaith flaenorol, ac ymestyn at y pethau o’r tu blaen - at y perffeithrwydd sydd (x98) yn Nghrist. Nid cylch i droi ynddo yn barhaus yw crefydd, neu ddrws yn troi ar ei golyn, ond gyrfa o fyned rhagom tragywyddol. Gellid tybied wrth ymddygiadau aml un mai cylchgrawn ydyw crefydd, yn cynwys nifer penodol o ddyledswyddau, ac nad oes dim yn angenrheidiol ond troi ynddo, gan gyflawni y rhai hyn o flwyddyn i flwyddyn. Ond nid peth felly ydyw, eithr gyrfa i fyned rhagom am dragywyddoldeb, “o ogoniaut i ogoniant.”

Dyma un linell wahaniaethol rhwng y materol a’r ysbrydol. Yn y byd materol y mae y cwbl yn troi mewn cylch, ac yn yr unrhyw gylch yn barhaus; fel y dywed y Pregethwr, “Yr haul hefyd a gyfyd, a’r haul a fachlud, ac a brysura i’w le, lle y mae yn codi. Y gwynt a ä i’r deheu, ac o amgylch i’r gogledd; y mae yn myned oddiamgylch yn wastadol, ac yn dychwelyd yn ei gwmpasoedd. Yr holl afonydd a redant i’r môr, eto nid yw y môr yn gyflawn; o’r lle y daeth yr afonydd, yno y dychwelant eilwaith.” Yr oedd Solomon yn canfod mewn natur yr hyn a eilw’r athronwyr yn ddeddf cylcholrwydd (the law of circularity). Canfyddai hi yn yr haul pan yn codi o ganol tywyllwch, yn rhedeg ei yrfa fel cawr, ac yn suddo i ganol tywyllwch eilwaith; a’r un modd y gwynt a’r dyfroedd. Esgynai yr afonydd o’r cefnfor trwy fygdarthiadau, a nofient yn gymylau yn yr awyr uwchben, “afon Duw yr hon sydd yn llawn dwfr,” ac ymdywalltent drachefn yn gawodydd mawrion ar hyd y bryniau a’r gwastad-diroedd, a. rhedeg yn ffrydiau gorwyllt tua’u cartref. Fel yna y mae pob peth perthynol i’r byd materol yn ymsymud yn barhaus yn yr un cylchoedd. Ond nid felly y byd ysbrydol. Nid troi mewn cylchoedd sefydlog y mae y Cristion, ond myned rhagddo i diriogaethau newyddion. Cyrhaedda berffeithrwydd, nid trwy ymdroi yn yr un cylch o hyd, ond trwy fyned rhagddo i dir uwch, gan ychwanegu at ei “ffydd rinwedd, ac at rinwedd wybodaeth, ac at wybodaeth gymedrolder, ac at gymedrolder amynedd, ac at amynedd dduwioldeb, ac at dduwioldeb garedigrwydd brawdol, ac at garedigrwydd brawdol gariad.” Dyma’r grasusau yn rhinwedd pa rai y mae y Cristion yn cyrhaedd y nôd o berffeithrwydd sydd wedi ei osod o’i flaen yn Nghrist. Ond y mae lle i ofni ein bod yn gwrthdroi geiriau y testyn yn aml; yn lle meddwl am y dyfodol, meddwl am y gorphenol yr ydym; yn lle anghofio y pethau o’r tu cefn, ac ymestyn at y pethau o’r tu blaen, yr ydym yn (x99) anghofio y pethau o’r tu blaen, ac yn ymestyn at y pethau. o’r tu cefn. Wrth edrych yn mlaen, ac nid yn ol, y mae i ni gynyddu mewn sancteiddrwydd.
Nid oes dim yn ol ond sydd â thuedd ynddo i lesgau a digaloni. Beth sydd yn ol? Anffyddlondeb, oerfelgarwch, esgeulusdra; llawer oedfa wedi ei cholli pan y gallesid yn hawdd fod ynddi; llawer Sabboth wedi ei anmharchu, llawer adduned wedi ei thori, llawer pechod wedi ei ddirgel gyflawni, sydd ar ol. Ond os gwnawn eu hanghofio ac ymestyn yn mlaen, ceir pethau i’n sirioli a’n cynhyrfu i weithgarwch. Beth sydd yn mlaen? Llawenydd pur y nef; teyrnasu, mewn bywyd; cymdeithas y gwaredigion; Iesu, Cyfryngwr y Testament Newydd. Gan hyny, “awn rhagom at berffeithrwydd.” Cyfeirir yn y frawddeg at long pan ar ei mordaith yn myned rhagddi yn barhaus tua’r porthladd dymunol. Felly, meddai’r Apostol, gwthiwn ein llestri bychain i’r dyfnderoedd; yr ydym wedi bod yn ddigon hir o gwmpas y glenydd. Codwn yr hwyliau, fel ein dyger ymaith gan awelon yr Ysbryd i ddyfnderoedd môr y cariad tragywyddol. Pan ddaliai Spain yn ei meddiant y ddwy ochr i Fôr y Canoldir, yn ymyl y Straits of Gibraltar, ystyriai fod eithafoedd y byd yn ei meddiant, a phenderfynodd osod ar bob coin o’i heiddo, eiriau yn cyfateb i’r Gymraeg, “Dim rhagor tuhwnt.” Ond wedi i Columbus hwylio ei lestr heibio i “Golofnau Hercules,” a chael allan gyfandir mawr America, darfu i Spain mewn modd cywilyddgar dynu ymaith y gair “Dim” gan adael y ddau arall, “Rhagor tuhwnt.” Mae rhywrai yn y byd yn ceisio ein perswadio ninau i gredu mai angeu ydyw terfyn eithaf yr yrfa grefyddol, nad oes dim tuhwnt i diriogaeth y bedd. Ond y mae ein Iesu ni wedi hwylio heibio i “Golofnau. Hercules,” ac wedi dwyn bywyd ac anllygredigaeth i oleuni trwy yr efengyl, fel y mae pob coin yn ysgrifenedig arno, “Rhagor tuhwnt,” Bydded gan hyny eiriau’r Apostol yn arwyddair i ni, “Awn rhagom at berffeithrwydd.” Na ymfoddlonwn ar yr hyn sydd yn ein meddiant yn barod, oblegid mae tir lawer eto heb ei feddianu –

....................
“Gadawn y byd yn ol,
.........................Y byd y cawsom wae:

.........................Y byd ag sydd bob dydd
....................Yn ceisio’n llwfrhau;

 ...............Ni welwn wlad rhwng sêr y nef
...............Sydd fil o weithiau’n well nag ef.” (x100)

 

III. Y cymhellion nodir i wneyd pob ymdrech i gyrhaedd y nod. - Mae yma gamp mewn addewid; camp uchel, “camp uchel alwedigaeth Duw yn Nghrist Iesu,” neu yn hytrach, camp galwedigaeth uchel Duw; oddiuchod, o’r nefoedd y daeth, ac i’r nefoedd y mae yn dwyn pawb a ufuddhant iddi. Mae y gamp - y prize - yn gymhelliad grymus i wneyd pob ymdrech i gyrhaedd y nod. Yr oedd amryw bethau yn cymhell y rhedegydd yn Olympus i wneyd ei oreu i enill y fuddugoliaeth. Un peth ydoedd nifer yr edrychwyr. Ymgesglid o bob parth i gael golwg ar yr ymdrech. Tybiwch am nifer o ddynion ieuainc yn ymgeisio am y tro cyntaf. Mae y syniad fod y cewri a enillasant y blynyddoedd blaenorol yn edrych arnynt yn tanio eu hysbrydoedd, ac yn peri iddynt drethu eu holl alluoedd er cyrhaedd yr un safle. Wel, meddai yr ysgrifenydd sanctaidd, “gan fod cymaint cwmwl o dystion wedi ei osod o’n hamgylch, trwy amynedd rhedwn yr yrfa a osodwyd o’n blaen.” Mae nifer yr edrychwyr yn ddirifedi. Maent o Abel dduwiol yn edrych i lawr dros ganllawiau’r nefoedd, i gael gweled pa fodd yr ydym ni yn rhedeg. “Filwyr,” meddai Napoleon Fawr, yn ymyl Pyramidiau yr Aipht, “gwnewch eich goreu heddyw, mae deugain canrif yn edrych i lawr arnoch oddiar benau y Pyramidiau yma.” Ond nid deugain canrif sydd yn edrych arnoch chwi a minau, ond holl seintiau peiffeithiedig y nefoedd, o Abel gyfiawn hyd yr awrhon; edrychant gyda dyddordeb arnom yn rhedeg yr yrfa. Fab ieuanc, gwna dy oreu i fyw yn dduwiol; mae dy dad o dan ei goron yn edrych arnat. Ferch ieuanc, gwna dy oreu gyda chrefydd; mae dy fam a’i llygad arnat. Ie, gwnawn ein goreu; mae’r Iesu yn edrych arnom, ac yn dweyd wrthym, “Yr hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo ef eistedd gyda mi ar fy ngorseddfainc, megys y gorchfygais inau, ac yr eisteddais gyda’m Tad ar ei orseddfainc Ef.”

.....Cymhelliad arall ydoedd y goron, er mai coron lygredig ydoedd - coron o ddail, ag oedd yn gwywo gyda’i bod yn cael ei gwisgo. Ond nid coron felly sydd yn aros y Cristion, eithr “coron y bywyd,” “coron cyfiawnder,” coron na wywa byth, “anniflanedig goron gogoniant,” coron sydd yn gyfranogiad o ogoniant Mab Duw ei hun. Dyma goron gwerth gwneyd pob ymdrech er ei mwyn, ac nid oes dim yn eisieu ond bod yn ffyddlon mewn trefn i’w sicrhau.
....Cymhelliad arall oedd yr anrhydedd oedd yn ei aros. (x101) Dygid y buddugol gartref mewn cerbyd special o eiddo y Llywodraeth; rhyddheid ef oddiwrth bob treth wladol, gosodid ei enw ar lechres y gorchfygwyr, ac mewn henaint a phenllwydni cynhelid ef yn respectable o drysorfa y wladwriaeth. Ond beth ydoedd hyn oll at yr anrhydedd anfesurol sydd yn aros y gorchfygwr ysbrydol? Caiff yntau ei ddwyn gartref mewn cerbyd special o eiddo y Llywodraeth Ddwyfol,” a’i ddwyn gan yr angylion i fynwes Abraham,” a’i ryddhau oddi wrth bob treth; ysgrifenir ei enw ar lechres y gorchfygwyr yn Llyfr Bywyd yr Oen, a chynaliaeth respectable o drysorfa y Llywodraeth, nid pan ä yn hen, oblegid nid ä byth yn hen; bydd mewn ieuenctyd tragywyddol yn mwynhau y wobr addawedig. Anwyl gyfeillion, holwn ein hunain, A ydym ar yr yrfa? A ydym wedi cychwyn? Os na, mae’n dda genyf feddwl, mae’r Iesu yn parhau i ymaflyd - ymafled yn rhywun heddyw. Ninnau sydd yn proffesu bod ar yr yrfa, gwnawn ein goreu i redeg yn ddifwlch, yn ffyddlon, fel y caffom yn y diwedd “goron y bywyd.” (x102)

 

PREGETHAU.
(4) ANCHWILIADWY - OLUD CRIST.
(Ail bregeth Mr. James. Gwel tudalen 33.)
“I mi. y llai na’r lleiaf o’r holl saint, y rhoddwyd y gras hwn i efengylu yn mysg y cenedloedd anchwiliadwy olud Crist.”- EPHESIAID iii. 8.

Yr oedd rhai yn amser yr apostolion am i’r eglwysi gredu nad oedd Paul yn Apostol. Eu hamcan wrth geisio taflu Paul o’r swydd oedd codi eu daliadau gwag a llygredig eu hunain i fri, yn groes i holl anogaethau Paul. Y mae dynion drwg bob amser yn ymdrechu diraddio a darostwng dynion da, er mwyn dyrchafu eu hunain; felly yr oedd y gau-athrawon yn diraddio Paul fel gwas Duw trwy wadu nad oedd ef yn Apostol, gan fod Crist wedi esgyn i ogoniant cyn i Paul gael ei alw. Er hyny i gyd, y mae Paul yn dwyn yn mlaen brofion ei fod ef wedi cael hanfodion apostolaeth, sef gweled Crist pan ymddangosodd Efe iddo ar y ffordd i Damascus; ei fod wedi cael ei alw ganddo yn bersonol; a’i fod wedi derbyn cenadwri ganddo i’w chario at y Genhedloedd. A dyma bwnc yr Apostol yn ein testyn. Dywedir gan rai fod Paul yn defnyddio y geiriau hyn, “I mi, y llai na’r lleiaf,” i osod allan ei ostyngeiddrwydd a’i hunan-ymwadiad. Dywed ereill mai ymffrostio yn ei swydd o Apostol y mae. Cymerwch chwi y golygiad a fynoch. Pe buasai Paul yn golygu yr hyn y mae llawer yn ddywedyd ei fod yn feddwl, buasai yn rhoddi cyfle a mantais deg i’r gau-athrawon i gyrhaedd eu hamcan trwy berswadio y bobl nad oedd Paul yn meddu mwy o awdurdod nag unrhyw sanct arall. Yn mhellach, y mae iaith yr Apostol mewn manau ereill o’r Gwirionedd yn gwrthdaro yn erbyn y dychymyg hwn. Cyferbynu ei hun â’r apostolion ereill y mae Paul, “Canys myfi yw y lleiaf o’r apostolion, yr hwn nid wyf addas i’m galw yn apostol.” Paham, Paul? “Am i mi erlid eglwys Dduw.”

Yn awr, edrychwn yn mha ystyr yr oedd Paul yn llai na’r apostolion ereill. Nid oedd yn llai mewn dawn, nac ymdrech, na llafur, na sêl, na gwybodaeth, na duwioldeb. Dywed Paul ei hun ei fod wedi llafurio yn helaethach na hwynt oll, a’i fod yn meddwl na fu ef yn ol mewn dim i’r apostolion penaf. Rhesymol, ynte, ydyw gofyn, Yn mha beth yr oedd Paul yn llai na’r apostolion ereill? Ac er mwyn rhoddi ateb, cymeraf (x103) eiriau Paul ei hun, sef am ei fod wedi cael ei alw i’r swydd apostolaidd ar ol esgyniad Crist i’r gogoniant – “Ac yn ddiweddaf oll gwelwyd ef genyf finau hefyd, megys gan un annhymig,” “megys gan un a anwyd allan o amser.” “Canys myfi yw y lleiaf o’r apostolion,” sef llai o amser er pan galwyd ef i’r swydd. Eto, er mai efe oedd y lleiaf o’r apostolion, efe gafodd y gras mawr o gario cyfoeth Crist i’r Genhedloedd; efe a ordeiniwyd gan Dduw i gario y genadwri fawr atom ni. Darllenwch y benod yma yn fanwl, a chewch weled mai ymffrostio yn ei swydd y mae Paul. Nid ymffrostio ynddo ei hun, cofiwch, ond yn y gras oedd wedi ei dderbyn gan Dduw; ac nid y gras gyfnewidiodd ei galon o fod yn elyn erlidgar i fod yn blentyn ufudd a feddylir, ond y gras o gael ei osod yn apostol, i gario y fath anchwiliadwy olud i’r Cenhedloedd, nes eu codi o ddyfnderoedd eu trueni a’u tlodi ysbrydol, a’n gwneyd yn addas ddeiliaid o’r Jerusalem fry. Gwaith yr Apostol oedd cyhoeddi y newyddion da o lawenydd mawr, fod Ceidwad wedi ei eni i gadw colledigion, fod maddeuant i droseddwyr, fod cymod. i elynion, gwisgoedd i’r noethion, rhyddid i’r caethion, noddfa i lofruddion, gwledd ddanteithiol i’r newynog, a chyfoeth didrai i dlodion – “anchwiliadwy olud Crist” ar gyfer tlodi y Genhedloedd.

.....Yr oedd y golud yma yn un goruwchnaturiol.-Yr oedd golud natur wedi ei gyfranu yn helaeth gan Dduw iddynt o’r blaen; yr oedd y ddaear yn ei lluosog drysorau ganddynt hwy fel ereill; yr oedd Rhagluniaeth fel rhyw long fawr yn dwyn ei thrysorau gwerthfawr iddynt hwy fel i’r Iuddewon. Ond nid oedd yr amrywiol bethau hyn yn diwallu eu hangenion, yn llanw eu dymuniadau, nac yn dedwyddu eu meddyliau; oblegid yr oeddynt, er y cwbl, heb obaith ganddynt ac heb Dduw yn y byd, yn feirw mewn camweddau a phechodau. Gan hyny, er holl olud naturiol Duw, yr oeddym ni, y Cenhedloedd, mewn cyflwr truenus, heb lygad yn tosturio wrthym, fel troseddwyr condemniedig yn haeddu marw, ac heb obaith am fywyd. Ond yn y genadwri gafodd yr Apostol yn ei dderbyniad i’r swydd, ni welwn gyfoeth tragywyddol yn yr Arglwydd Iesu wedi dyfod i wlad y Cenhedloedd, er eu gwneyd yn gyd-etifeddion, ac yn gydgorff, ac yn gydgyfranogion o’r cyfoeth nefol. Am hyny y mae Paul yn ymffrostio mai efe gafodd y fraint aruchel o efengylu yn mysg y Genhedloedd “anchwiliadwy olud Crist.” Dirmyged gau-athrawon Paul, os mynent; (x104) y mae Duw wedi ei ddyrchafu, ac y mae yntau yn ymffrostio yn y gras ddaeth i’w ran.


.....Golud dwyfol yn ei hanfodiaeth yw hwn.

 

- Gwir mai cyfoeth Duw yw y cwbl a welir, o’r tywodyn ar lan y môr hyd yr haul mawr uwchben, o’r gwybedyn yn mrig y glaswellt hyd yr eryr llygadgraff, o’r pysgodyn lleiaf hyd y morfil cadarn sydd yn gwneyd cynhwrf yn yr eigion, ac o’r morgrugyn hyd y llew ofnadwy, brenin y goedwig. “Eiddo yr Arglwydd y ddaear a’i chyflawnder, y byd ac a breswylia ynddo.” Ond nid yw y golud hwn yn ddwyfol yn ei natur, ac am hyny nis gall ddedwyddu dyn na llanw ei ddymuniadau. Ond am y golud y soniai Paul am dano y mae hwn yn ddwyfol yn ei natur, “cyflawnder y Duwdod” yw ei hanfodiaeth. Mae fel y Jehofah ei hun, yn bur, anllygredig, ac anfesurol; mae yn creu dedwyddwch pa le bynag y ca ei dderbyn; mae yn dwyn y meddwl i elfen yr anfeidrol; mae yn codi yr enaid i’r cylch gwynfydedig o ogoniant a llawenydd a lenwir gan Dduw ei hun; ie, y mae y golud hwn yn dwyn natur ac anian Duw i fynwes pob meddienydd. Dyma y golud yr ordeiniwyd Paul i’w gyhoeddi yn mysg y Genhedloedd.

Yn nesaf, golud ysbrydol yw. - Yr oedd Duw wedi darparu cyfoeth o’r un natur a’r corff yn y greadigaeth, ac yn rhoddi hwnw i holl drigolion y ddaear trwy gyfrwng Rhagluniaeth. Ond yr oedd yr enaid yn marw yn ymyl y cwbl, oblegid ysbryd ydyw, ac am hyny nis gellir ei borthi a phethau’r byd hwn.. Ond am olud Crist y mae o’r un natur a’r enaid, ac yn hollol gyfateb i’w holl angenion, ac yn digoni ei holl serchiadau.

Hefyd, golud annherfynol yw hwn. - Y mae terfyn i hirfaith oes yr haul - y lamp roddodd Duw yn nen y cread er goleuo yr ystafell y trigwn ni ynddi; y mae ymddatodiad i weithio drwy holl gymylau y greadigaeth, a’r cwbl i gael oi blygu a’i newid megys gwisg. Ond am y golud a efengylai yr Apostol yn mysg y Cenhedloedd, nid oes trai na therfyn iddo; “anchwiliadwy olud” ydyw. Tragywyddoldeb yw cylch ei hanfodiaeth, a bodolaeth yr Arglwydd Iesu yw sicrwydd ei barhad. Parha y golud hwn i addurno yr enaid mewn gwynfyd gogoneddus tra saif colofnau gorsedd y Jehofah. Dyma y golud yr ymffrostiai Paul ei fod fel Apostol wedi ei ordeinio i’w efengylu yn mysg, y Genhedloedd.

Peth arall ag oedd yn gwneyd swydd Paul yn destyn ymffrost oedd cymhwysder y golud i angen ac amgylchiadau y (x105) Cenhedloedd. - Y mae yn cynwys cymaint ag sydd angen ar bechadur - cymaint ag a all yr enaid ei chwenychu - ïe, cyfoeth y Duwdod ydyw, ac y mae yn gwbl gyfateb i’n holl angenion. Goludoedd goleuni gogoniant ar gyfer ein tywyllwch dirmygus ni; goludoedd bywyd ar gyfer y farwolaeth sydd ynom; rhyddid gogoneddus yn lle caethiwed truenus; trugaredd i’n codi i binaclau gwynfyd yn lle trueni haeddianol a gwae tragywyddol; maddeuant yn lle euogrwydd; nerth Duw yn lle ein gwendid. Dichon yr Iesu gwbl iachau ein dyfnion glwyfau ni; ffynon rinweddol o waed ar gyfer ein halogrwydd a’n haflendid; Bara y Bywyd ar gyfer ein newyn marwol; afon y bywyd i dori ein syched, i ddiffodd tân euogrwydd yn y fynwes, a’n cynal mewn bywyd byth. Os yn estron, dyma fabwysiad; os yn mhell, dyma waed Crist er ein dwyn yn agos; os yn blant digofaint, dyma Grist ein tangnefedd ni; dyma anrhydedd y nefoedd yn lle dirmyg uffern; gogoniant Duw yn lle gwarth cythreuliaid, ac anfeidrol gariad i lanw y fynwes â hedd diddiwedd. Nid rhyfedd, felly, fod yr Apostol yn ymffrostio yn y gras a dderbyniodd “i efengylu yn mysg y Cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist.”

Edrychwn eto ar effeithiau y golud ar feddianwyr. - Mae yn effeithio i ddileu yr achos o annedwyddwch dyn, gan ddwyn dedwyddwch i mewn yn ei le; mae yn dileu y trais a’r gormes, ac yn dwyn cyfiawnder a chariad i deyrnasu yn eu lle. Cyn i channel cariad gael ei agor i’r “anchwiliadwy olud” dirio yn mysg y Genhedloedd, yr oeddym ni yn gaethion dan “wyddorion y byd,” yn “rhodio yn ol helynt y byd hwn,” yn gaethweision i Satan, ac yn ddyeithriaid oddiwrth y sefydliad y perthynai yr addewidion iddo, neb obaith ac heb fywyd. Dyma ein sefyllfa andwyol ac annedwydd. Ond diolch byth! fe basiodd trugaredd ysgrif rhyddid yn senedd-dy y Nef, a dyma ydoedd ei chynwysiad - y byddai y Cenhedloedd yn gyd-etifeddion, ac yn gydgorff, ac yn gydgyfranogion o’i addewid ef yn Nghrist trwy yr efengyl. Ac ar ben Calfaria cododd Crist yr ysgrifenbin oedd yn ein herbyn oddiar y ffordd, ac a’i hoeliodd wrth y groes; dirymodd ddeddf y gorchymynion; agorodd free trade tragywyddol rhwng nefoedd a daear; a ffurfiodd foddion digon grymus i wneyd Iuddewon a Chenhedloedd yn un corff, i gydgyfranogi byth o’r un golud gogoneddus heb genfigen nac ymryson – “heddwch fel yr afon, a chyfiawnder fel tònau y môr.” Mae y golud hwn yn wahanol yn ei effeithiau (x106) i bob golud a fedd y ddaear. Mae hwn yn lladd gelyniaeth o’r fynwes, ac yn cenhedlu tangnefedd yn ei le; mae yn dileu hen ysgrif gondemniol pechod o’r fynwes, ac yn dwyn heddwch â Duw trwy waed y groes yn ei le; mae yn troi yr enaid o’i anian wreiddiol, ac yn ei brydferthu â’r anian nefol; mae yn ei gyfodi o fod yn gofadail barn a damnedigaeth i fod yn gofadail o allu a dylanwad “anchwiliadwy olud Crist” mewn gogoniant. Nid rhyfedd fod Paul yn ymffrostio yn y swydd ogoneddus o efengylu y fath olud i rhai gymaint eu trueni.

Geilw Paul hwn yn “anchwiliadwy olud Crist” am mai Crist a’i dygodd ef i’n byd; Efe, o’i annherfynol haelioni, sydd yn ei gyfranu; ynddo Ef y mae wedi ei drysori; ac y mae yn dwyn ei holl dderbynwyr i’r un ffurf â’i ddelw Ef. Cael Crist yw cael y golud, a chael y golud yw cael Crist, o herwydd y mae wedi ei wneyd yn ddoethineb, yn sancteiddrwydd, yn gyfiawnder, ac yn brynedigaeth - ïe, yn bob peth ac yn mhob peth. Enaid anwyl! A wyddost ti rywbeth am y golud hwn? Ai yn y tlodi ofnadwy y mae dy enaid gwerthfawr? O! cofia, beth bynag yw dy olud bydol, ti fyddi yn dragywyddol dlawd os dirmygi di y golud hwn. Er cael holl berlau yr India, heb olud Crist i’r enaid yn gyfoeth tragywyddol, damnedigaeth mewn bythol dywyllwch fydd dy ran. Ond wedi derbyn y golud, dedwydd fyddi mewn cystudd, gorchfygol yn angeu, llawen yn y farn, ac am byth yn ogoneddus yn ngoleuni Duw a’r Oen.

 

 (x107) PREGETHAU.
(5) MYNYDD SINAI A MYNYDD SEION
.
“Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Seion, ac i ddinas y Duw byw, y Jerusalem nefol, ac at fyrddiwn o angylion; i gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf-anedig, y rhai a ysgrifenwyd yn y nefoedd; ac at Dduw, Barnwr pawb; ac at ysbrydoedd y cyfiawn, y rhai a berffeithiwyd; ac at Iesu, Cyfryngwr y testament newydd, a gwaed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na’r eiddo Abel.” -HEBREAID xii. 22-24.

Wrth ddarllen y geiriau hyn, y mae yn naturiol i ni ofyn, â phwy y mae yr awdwr yn siarad? Diamheu ei fod yn desgrifio cyflwr a sefyllfa yr eglwys ar y ddaear, neu ynte yn y nefoedd. Barna rhai mai desgrifio yr eglwys fuddugoliaethus wedi cyrhaedd ger bron gorseddfainc Duw a’r Oen y mae; myn dosbarth arall mai yr eglwys filwriaethus a arddangosir yma; ac ereill eto a farnant fod y geiriau yn cymeryd i mewn y ddwy. Ond beth bynag am wir ystyr y geiriau, tybygid fod lle cryf i gredu mai yr eglwys ar y ddaear sydd o flaen llygaid yr awdwr; oblegid ymddengys fod y golygiad hwn mewn perffaith gydgordiad âg ymresymiad yr awdwr drwy yr epistol. Ei brif amcan, y mae yn amlwg, ydyw anog yr Hebreaid i beidio syrthio yn ol at Iuddewiaeth; ac ymdrecha gyrhaedd yr amcan hwn drwy gyferbynu yr oruchwyliaeth Gristionogol â’r un Iuddewig â’u gilydd. Ar ol dangos fod Sylfaenydd Mawr y grefydd Gristionogol yn tra rhagori ar y proffwydi, Moses a’r angylion, ä yn mlaen i ddangos fod Archoffeiriad Mawr yr oruchwyliaeth newydd yn rhagori ar archoffeiriaid yr hen oruchwyliaeth, ac nad oeddynt hwy ond arddangosiad neu gysgod o Grist, y gwir Archoffeiriad. Tra yr ai yr Archoffeiriad Iuddewig unwaith yn y flwyddyn i’r cysegr sancteiddiolaf yn y deml, aeth yr Archoffeiriad Mawr i’r lle sancteiddiolaf yn y nefoedd â’i waed ei Hun unwaith am byth i wneyd cymod dros bechodau ei bobl. Pa fawredd bynag oedd yn perthyn i’r defodau a’r seremonïau Iuddewig, nid oeddynt wedi eu bwriadu i fod ond dros amser, tra y mae y grefydd Gristionogol i barhau; a thrwy yr ystyriaethau hyn ymdrecha yr awdwr i’w cadw rhag syrthio yn ol at yr hen ddefodau, ac i ddal gafael ar yr efengyl. Mae hyn yn fwy cydweddol â’r ymadroddion sydd o flaen y testyn, lle y darlunir sefyllfa y bobl yn yr anialwch pan yn derbyn y gyfraith. “Canys ni ddaethoch chwi at y mynydd teimladwy sydd yn llosgi gan dân, a chwmwl, a thywyllwch, a thymhesti, a sain udgorn a llef (x108) geiriau,” &c. “Ond chwi,” y Cristionogion, dan oruchwyliaeth yr efengyl, chwi sydd yn credu yn y Mab – “Eithr chwi a, ddaethoch i fynydd Seion, ac i ddinas y Duw byw, y Jerusalem nefol, ac at fyrddiwn o angylion,” &c. Mae yn amlwg fod yr awdwr yma yn cyferbynu Sinai â Mynydd Seion, ac yn dangos fod yr olaf yn meddu ar fwy o bethau i enill y galon a chynyrchu ffyddlondeb nag a feddai y cyntaf; oblegid yr oedd pob peth cysylltiedig â rhoddiad y ddeddf yn tueddu i lanw yr enaid âg arswyd a dychryn. Yno yr oedd taranau a mellt, a chwmwl tew, ond yma mae goleuni gogoneddus yn ymddysgleirio drwy efengyl fendigedig Iesu Griat; yno yr oedd mawredd a hollalluawgrwydd, ond yma mwyndoer a thrugaredd; yno yn ei grym yn cyhoeddi ei dedfryd gondemniol, yma efengyl yn cyhoeddi maddeuant, bywyd, ac iachawdwriaeth; yno yr oedd ysbryd caethiwed i beri ofn, yma rhyddid gogoneddus plant Duw. “Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Seion.” Dynoda Mynydd Seion y bryn deheuol yn Jerusalem, ar ba un yr adeiladwyd rhan o’r ddinas. Dyma y lle hefyd y safai y Deml, yn yr hon y cynhelid addoliad y Duw Goruchaf, a’r lle y preswyliai Duw drwy arwydd gweledig. Dyma y lle yr oedd yr amrywiol allorau oddiar ba rai yr offrymid hwyr a boreu; yma y gwasanaethai y Lefiaid; tufewn i’r llen, yn y cysegr sancteiddiolaf, yr oedd Arch y cyfamod a’r pethau sanctaidd, yn nghyd â’r cerubiaid yn cysgodi y Drugareddfa, a goruwch y Drugareddfa y preswyliai y Jehofah ac yr ymddysgleiriai yn ei ogoniant drwy y Shecina. I’r lle hwn yr äi yr Archoffeiriad unwaith yn y flwyddyn â gwaed yr aberth i’w daenellu ar y Drugareddfa, mewn trefn i wneuthur cymod dros bechodau y bobl. Yr oedd calon yr Iuddew wedi ymglymu am Jerusalem a’r Deml, a dyna oedd ei iaith, “Gogoneddus bethau a ddywedir am danat ti, O ddinas Duw.” Ond nid oedd yr holl bethau hyn yn ddim ond cysgod o bethau gwell i ddyfod – “Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Seion,” i’r deml fywiol ac ysbrydol, yr hon sydd wedi ei goruwchadeiladn ar sail yr apostolion a’r proffwydi, ac Iesu Grist ei hun yn ben congl-faen. “A chwithau,” meddai Pedr, “megys meini bywiol ydych wedi eich adeiladu yn dŷ ysbrydol, yn offeiriadaeth sanctaidd, i offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist.” Dyma lle y mae gair y gwirionedd a’r efengyl dragywyddol yn (x109) cael ei phregethu, a’i hordeiniadau sanctaidd yn cael eu gweinyddu, a dyma lle mae Oen Duw yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd; a’r Ysbryd Glân yn dysgyn yn ei ddylanwadau grasol ac achubol i roddi effeithiolrwydd i weinidogaeth fawr y cymod, fel na byddo yr efengyl mewn gair yn unig, ond yn eglurhad yr Ysbryd a nerth. Yma hefyd y mae yr enaid clwyfus yn cael balm i wella ei archollion, a’r blinedig yn cael gorphwysfa; y gwan yn derbyn nerth; ac yma y mae plant Seion yn ymlawenhau yn eu Brenin, ac yn canfod gogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist.

Yr oedd Jerusalem yn cael ei galw yn “dinas Dafydd” o herwydd iddo ei dwyn oddiar y Jebusiaid; ond pan ddaeth Jehofah i breswylio ynddi galwyd hi yn “ddinas y Duw byw.” Geilw Paul y rhai sydd yn credu yn “gyd-ddinasyddion â’r saint, ac yn deulu Duw.”
Yn y ddinas hon y ganwyd hwynt; dyma le genedigol y gwir Gristion. Dyma lle y maent yn derbyn eu haddysg yn ngwirioneddau y grefydd Gristionogol, ac yma y cyfrenir iddynt y bendithion ysbrydol sydd yn dyfod drwy Grist i’w ganlynwyr.

Syniad arall sydd yn perthyn i ddinas hefyd yw dyogelwch ac amddiffyn. Un o’r pethau mwyaf ei bwys mewn perthynas i ddinasoedd yn yr hen amseroedd, ac yn wir rhoddir sylw i hyny yn awr hefyd, ydoedd fod amddiffynfa a dyogelwch ganddynt - y muriau yn ddigon cryf ac uchel rhag i’r gelyn ddyfod i fewn, a phob man yn ddyogel rhag y lleidr. Dyma ddinas a dyogelwch a chadernid yn perthyn iddi yw dinas y Cristion. Dinas Duw yw hon; y mae holl nerth y Duw Hollalluog yn amddiffynfa iddi, a theulu dysglaer gwlad gogoniant, sef yr angylion, i gyd yn gofalu am dani. “Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth?”
Mae y ddinas hon wedi ei hadeiladu ar graig, “a phyrth uffern nis gorchfygant hi.” Ond yr hyn sydd yn coroni y cwbl yw, mai yn y ddinas hon mae y teulu brenhinol yn aros. Llawer o ddinasoedd sydd yn ein byd ni a’r brenin yn ddigon pell oddiwrthynt; ond am ein Brenin ni, mae Ef yn trigo gyda ni yn Seion: “Yma y trigaf,” meddai, “oblegid chwenychais hi,” a chan Ei fod yn aros yn Seion, dinas y Duw byw, mae yn rhoddi Ei bresenoldeb Sanctaidd ynddi hi, ac yn tywallt gras a bendithion i breswylwyr y ddinas, a dyma y fan i ninau geisio cael gafael arno. (x110) .... “Y Jerusalem nefol.” Rhaid i ni gofio mai anerch yr Hebreaid crediniol - dynion oeddynt wedi dychwelyd oddiwrth Iuddewiaeth at Gristionogaeth - mae yr awdwr yma. “Chwi a ddaethoch,” nid i’r Jerusalem ddaearol, fel eich tadau, ond i’r Jerusalem nefol. Gelwir hi felly am mai o’r nefoedd y mae wedi dyfod. Nid dyfais ddynol yw yr efengyl, ond dwyfol.

....................... “Dyfais fawr trag-wyddol gariad
.............................Ydyw’r iachawdwriaeth lawn.”

Dyfais Brenin y brenhinoedd ac Arglwydd yr holl arglwyddi, ac y mae Ioan yn dyweyd: “Myfi Ioan, a welais y ddinas sanctaidd, y Jerusalem newydd, yn dyfod oddiwrth Dduw i waered o’r nef;” felly gelwir hi yn Jerusalem nefol, oblegid ei bod wedi dyfod oddiyno, ac hefyd yn hollol wahanol yn ei natur a’i nodweddion i bob peth daearol. “Canys fy mrenhiniaeth i,” meddai’r Iesu, “nid yw o’r byd hwn;” nid yw ei natur yn cyfranogi dim o bethau’r llawr. Gellir ei galw yn Jerusalem nefol hefyd, am ei bod yn paratoi dynion i fyned i’r nefoedd i fyw byth. Mae yn peri i ddynion i feddwl am y nefoedd, ac yn eu tynu i garu ac ymserchu yn y pethau hyny, a dymuno am gael eu cymhwyso i fyned i fyw i’r Jerusalem sydd fry.

.... “Ac at fyrddiwn o angylion.” Mae yr ymadrodd hwn yn cyfeirio at roddiad y ddeddf ar Sinai drwy drefniad angylion. “Cerbydau Duw ydynt ugain mil, set miloedd o angylion; yr Arglwydd sydd yn eu plith megys yn Sinai yn y cysegr.” Meddyliai yr Iuddewon lawer am eu crefydd, am fod gan angylion law yn ei rhoddiad; gan hyny hawdd oedd i’r awdwr gael eu sylw wrth son wrthynt am angylion. Fe welodd eich tadau, fel pe dywedai, ambell angel yn awr ac eilwaith, ond yr ydych chwi wrth uno â’r grefydd Gristionogol wedi dyfod at fyrddiwn o honynt, ac wedi dyfod i agosach cymdeithas â hwynt. Yn yr oruchwyliaeth efengylaidd yr ydych wedi dyfod at yr angylion fel eich cyd-weision; oblegid yr un yw eich Harglwydd chwi a hwythau, ac Efe sydd yn gosod gwaith i’r angylion yn ogystal ag i ninau; y mae ewyllys Duw yn ddeddf i’r angel fel y mae i ddyn. Fe welodd Ioan un o’r bodau yma, ac fe aeth i’w addoli, ond cyn iddo wneyd, dywedodd yr angel wrtho, “Gwel na wnelech hyn, canys cydwas ydwyf â thi.” Gwasanaethu Duw yw eu gwaith hwy fel ninau; o ganlyniad, cydweision â ni ydynt.
Dyna eu hanes yw cario negeseuau i’r byd yma dros Dduw. Angel fynegodd i Abraham am ddinystr (x111) Sodom a Gomorah; angel hysbysodd Elias y proffwyd beth oedd i’w ateb i genhadau brenin Samaria; angel fynegodd i Joseph feddwl Duw mewn perthynas i Mair a Christ; daeth yr angylion ya llu mawr i ganu “Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da,” i feusydd Bethlehem pan anwyd Ceidwad dyn, a buont yn weision ffyddlon i’n Harglwydd yn nyddiau ei gnawd. Hwy fu yn treiglo y maen oddiar ddrws y bedd, ac yn hysbysu y gwragedd fod yr Iesu wedi cyfodi; ac ar ddydd Ei esgyniad yr oeddynt hwy yn bresenol yn Ei dderbyn i fyny i’w hen gartref gyda llawenydd. Pan oedd y dysgyblion yn cysgu, yr oedd yr angylion yn ddigon effro ac yn gwylied pob symudiad, a phan yr oedd dynion yn ei erlid, ei gysuro a’i ddyddanu wnaent hwy. Nid ydynt segur eto dan yr oruchwyliaeth newydd. Pan fyddo gweinidogaeth fawr y cymod yn ail-eni pechadur mae llawen­ydd yn tori allan trwy holl ororau’r nef, ac wrth weled dagrau yr edifeiriol torant allan i foli y Duwdod yn y dyn mewn anthemau gogoneddus. “Mae llawenydd yn ngwydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao.” Er fod llawer hen Gristion yn marw yn ddigon disylw gan y byd, eto nid yw yn ddisylw gan angylion Duw; maent hwy yn ei wylio ar bob moment, ac yn cludo ei enaid pur i fynwes ei Dduw mor gynted ag y byddo yn ymadael â’r babell bridd. Fe fu Lazarus y cardotyn farw, ac fe’i cludwyd gan angylion i fynwes Abraham; felly, ni welwn fod gan yr angylion ran yn iachawdwriaeth dynion, ac edrycha yr awdwr ar y rhai sydd wedi dyfod i afael y drefn yma fel rhai wedi dyfod at fyrddiwn o ungylion, ac “i gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf-anedig, y rhai a ysgrifenwyd yn y nef oedd.”

Yr oedd y “cyntaf-anedig” yn mhlith yr Hebreaid, fel yn mysg rhai cenhedloedd ereill, yn meddu hawl i freintiau neillduol. Yr oedd yn meddu hawl i ddeuparth o’r etifeddiaeth; y cyntaf-anedig fyddai yn gweini swydd offeiriad yn y teulu yn absenoldeb ac ar ol marwolaeth y tad. “Chwi a ddaethoch i gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf-anedig,” hyny yw, yr ydych wedi ymuno â’r rhai sydd wedi eu geni oddiuchod, sef plant Duw, rhai sydd â hawl ganddynt i’r etifeddiaeth nefol. Mae y rhai hyn oil yn gyd-etifeddion â Christ, ac yn deulu Duw. Diau fod yma gyfeiriad at y saint oedd wedi bod yn enwog, megys y patriarchiaid a’r proffwydi, y rhai oeddynt yn ffurfio rhan o gymanfa a chynulleidfa y rhai
(x112) cyntaf-anedig, yn ogystal a’r eglwys ar y ddaear, a dylai y syniad, meddai yr awdwr, eich bod wedi uno â’r fath gwmni ardderchog fod yn rheswm cryf dros i chwi ddal eich gafael yn nghrefydd Mab Duw. Cael bod yn nghymdeithas y dynion goreu fu ar y ddaear erioed - mae hon yn fraint y dylech ei gwerthfawrogi i’r man eithaf.

.... “Y rhai a ysgrifenwyd yn y nefoedd,” neu a gofrestrwyd yn y nefoedd. Defnyddir y gair a gyfieithir yma yn “ysgrifenwyd” am “gofrestru” un fel dinesydd, yr hwn oedd yn meddu hawl i holl freintiau y ddinas unwaith y byddai ei enw yn cael ei roddi ar lyfr y cofrestrydd. Felly y mae gyda phob gwir Gristion; y mae ganddo hawl i holl ragorfreintiau yr Efengyl am fod ei enw yn ysgrifenedig yn y nefoedd. Mae yr holl Gristionogion yn “gyd-ddinasyddion â’r saint.” Yr oedd Iesu Grist yn galw ar y dysgyblion i lawenhau am fod eu henwau wedi eu hysgrifenu yn y nefoedd. “Eithr yn hyn na lawenhewch, fod yr ysbrydion wedi eu darostwng i chwi,” er fod hyny yn achos llawenydd, “ond llawenhewch yn hytrach am fod eich henwau wedi eu hysgrifenu yn y nefoedd.” Os cei di, bechadur, sicrwydd digonol fod dy enw wedi ei ysgrifenu yn y nefoedd ti elli lawenhau, oblegid y mae y swyddfa yn yr hon y mae wedi ei gofrestru yn rhy uchel i un gelyn i’w dynu allan byth. O! peth bendigedig yw cael ein henwau wedi eu hysgrifenu yn Llyfr Bywyd yr Oen.

.... “Ac at Dduw, Barnwr pawb.” Ar Sinai yr oedd y taranau yn rhuo a’r mellt yn gwau, a chwmwl tew a llais udgorn; inygai y mynydd oblegid dysgyn o’r Arglwydd arno; dyrchafai ei fwg fel ffwrn i’r nen, a chrynai nes peri i’r holl bobl arswydo a dychryuu; ond yn ngoruchwyhaeth yr efengyl mae’r taranau a’r mellt wedi cilio, a Duw wedi ymlonyddu yn yr Iawn. Mae yr Archoffeiriad mawr wedi myned i fewn i ymddangos drosom ni, fel erbyn hyn mae y ffordd yn rhydd i agoshau at orseddfainc y gras yn hyderus. Gan hyny, anoga yr awdwr hwynt i nesaa at Dduw heb ofni dim, “Am hyny, frodyr, gan fod i ni ryddid i fyned i mewn i’r cysegr trwy waed Iesu, ar hyd ffordd newydd a bywiol, yr hon a gysegrodd efe i ni drwy y llen, sef ei gnawd ef, a bod i ni offeiriad mawr ar dy Dduw, nesawn â chalon gywir mewn llawn hyder ffydd.” Nid oedd neb yn gallu agoshau at Dduw i’r cysegr sancteiddiolaf dan yr hen oruchwyliaeth ond yr archoffeiriaid, a hyny unwaith yn y flwyddyn; eithr dan oruchwyliaeth yr efengyl y mae hawl (x113) gan bawb i agoshau drwy waed Iesu. Dichon fod cyfeiriad hefyd yn y frawddeg, “Duw, Barnwr pawb,” at redeg yr yrfa ysbrydol yn nechreu y benod, “Rhedeg yr yrfa a osodwyd o’n blaen.” Wrth redeg yr yrfa naturiol rhaid oedd i rywun ofalu am y wobr i’r enillwr. Felly gyda’r yrfa ysbrydol; y mae Duw wedi penderfynu gwobrwyo y Cristion; a dyma fel y dywedodd Paul ar y mater yma, “Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orphenais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd; o hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder i’w chadw i mi, yr hon a rydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, i mi yn y dydd hwnw; ac nid yn unig i mi, ond i bawb a garant ei ymddangosiad ef.” Gan eu bod wedi dyfod at Dduw, “y Barnwr cyfiawn,” yr oedd sicrwydd, o ganlyniad, y buasai y wobr yn cael ei chadw iddynt.

.... “Ac at ysbrydoedd y cyfiawn, y rhai a berffeithiwyd.” Yr oeddynt mewn undeb, nid yn unig a Christionogion anmherffaith ar y ddaear, ond â’r rhai hyny a lwyr waredwyd oddiwrth bechod, ac a gymerwyd i’r nefoedd at Ddnw. Yn y benod o’r blaen, mae yr awdwr wedi bod yn enwi rhestr fawr o’r rhai a berffeithiwyd. Dechreua mor bell yn ol âg Abel dduwiol, ac Enoch, yr hwn a rodiodd gyda Duw; Abraham, tad y ffyddloniaid, Moses, Dafydd, a Samuel, a’r proffwydi. Perffeithiwyd y rhai hyn oll drwy waed yr Oen. Pechaduriaid duon oeddynt, ond cawsant eu cyfiawnhau a’u sancteiddio, ac y maent er’s canrifoedd yn ysbrydoedd perffeithiedig. Ceisia yr awdwr wasgu ar yr Hebreaid fod yr oruchwyliaeth newydd mor ysbrydol fel y mae ei deiliaid yn dyfod i gwmni y llu gogoneddus sydd wedi dianc i’r nefoedd. Mae marwolaeth pen Calfaria wedi dwyn y ddau fyd i undeb â’u gilydd.

.... “Ac at Iesu, Cyfryngwr y testament newydd.” Dyma brif ragoriaeth yr oruchwyliaeth efengylaidd ar yr hen, sef ei Chyfryngwr. Nis gallasai neb gael bywyd trwy gyfryngwr yr hen. Nid oedd yr archoffeiriad pan yn ceisio cyfryngu rhwng Duw a dyn ar ddydd y cymod yn medru gwneyd dim ond eiriol am arbediad i’r bobl am flwyddyn arall; ond mae Cyfryngwr y testament newydd wedi enill i ni dragywyddol ryddhad. Dylid cofio mai nid am ei fod yn newydd yn meddwl Duw y gelwir ef yn destament newydd, oblegid y mae holl fwriadau Duw yn berffaith er tragywyddoldeb. Yr oedd danfoniad ei anwyl Fab i’r byd i fod yn Waredwr, ymroddiad y Mab i’r gwaith, danfoniad yr Ysbryd Glân i gymhwyso trefn (x114) yr iachawdwriaeth at fyd colledig, yn gynwysedig oll yn y cynghor boreu. Paham y gelwir ef yn destament newydd, ynte? Y rheswm penaf dros ei alw felly, yn ddiau, ydyw er mwyn ei gyferbynu â’r hen, yr hwn oedd oedranus ac agos a diflanu, ac hefyd am fod Cyfryngwr y testament hwn yn byw, ac yn aros yr un, a’r holl fendithion a berthyn iddo yn newydd. Yr oedd Moses yn gyfryngwr yr hen oruchwyliaeth, ac felly Aaron, ond buont hwy feirw.
Cyfraith a roddwyd drwy Moses, a rhaid oedd i rywun arall ei hegluro ar ol ei farw. Ond gras a gwirionedd a ddaeth drwy Iesu Grist, ac y mae yn byw byth, nid yn unig i’w hegluro, ond i’w cyfranu. Dyn oedd Moses, a dim rhagor, ond am Gyfryngwr y newydd y mae ef yn Dduw byw. Er iddo farw dros bechaduriaid, y mae wedi cyfodi, ac yn byw yn oes oesoedd i eiriol dros y saint; ac “Efe a ddichon yn gwbl iachau y rhai sydd trwyddo ef yn dyfod at Dduw, gan ei fod yn byw bob amser i eiriol drostynt.”

“A gwaed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na’r eiddo Abel”. Dyna waed Crist ei hun, gwaed y Cyfamod, yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth. Nid â phethau llygredig yr ydym ni wedi ein prynu oddiwrth em ofer ymarweddiad, ond â gweithfawr waed Crist fel Oen difeius a. difrycheulyd. Trwy ei waed y cyfiawnheir m, a thrwyddo yr ydym yn cael ein glanhau oddiwrth bob pechod. Gwaed Iesu Grist sydd yn ein parotoi i’r nefoedd, ac yn rhoddi i ni fuddugoliaeth ar ein holl elynion. Ond cofiwn fod yn rhaid cael cymhwysiad o hono, fod yn rhaid iddo gael ei daenellu ar y galon. Nid oedd yn ddigon fod oen y Pasc yn cael ei ladd, a’i waed yn cael ei dywallt; yr oedd yn rhaid ei osod yn y cawg, a’i daenellu ar gapan y drws, ac ar y ddau ystlys-bost, oblegid. hyny oedd yr arwydd i’r angel dinystriol i fyned heibio. Nid. yw yn ddigon i ninau glywed fod Oen ein Pasc ni wedi ei aberthu; fod ei waed wedi ei dywallt ar y groes; mae yn rhaid, mewn trefn i achub ein heneidiau, i gael taenelliad o hono ar y galon. “Os yw gwaed teirw a geifr, a lludw aner,” meddai yr awdwr, “wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd, pa faint mwy y bydd i waed Crist huro eich cydwybod chwi oddiwrth weithredoedd meirwon i wasanaethu y Duw byw.” Nid tawelu y gydwybod mae gwaed Cnst, ond yn ei phuro hefyd


.... “Yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na’r eiddo Abel.” (x115) Dywed rhai wrthym nad oedd Iesu ond dyn yn unig, ac iddo ddyoddef fel merthyr da, a dim mwy - dyoddef yn debyg i Abel. Dyn yn unig oedd Abel - dyn da, mae yn wir, ond dyn er hyny. Os mai dim ond dyn ydoedd Iesu o Nazareth, pa fodd y mae ei waed yn dywedyd pethau gwell na’r eiddo Abel? Pe na fuasai ond dyn, ni fuasai ei waed yn well na gwaed. rhyw ddyn arall. Ond gan ei fod yn ddyn a’r Duwdod ynddo yn trigo, y mae ei waed yn dywedyd pethau gwell na gwaed Abel dduwiol. Dywed rhai mai y syniad sydd gan yr awdwr ydyw, fod gwaed Abel yn gwaeddi am ddial, ond fod gwaed Crist yn gwaeddi maddeuant Er fod llawer o bethau yn debyg yn Abel a Christ i’w gilydd, eto gwahaniaethant yn fawr yn y ddau beth uchod, sef fod yr Iesu yn Dduw-ddyn, tra nad oedd Abel ond dyn yn unig Galwai gwaed Abel eto am ddial, eithr dim ond swn maddeuant sydd yn ngwaed Cyfryngwr y testament newydd A oes dim awydd arnoch chwi, gyfeillion, i waeddi am gymhwysiad o’r gwaed yma at eich cydwybodau? Gofiwch hyn, nad oes un ffordd i’r nefoedd heb hyny. (x116)

 

PREGETHAU.
(6) ACHUB HYD YR EITHAF.
“Deuwch yr awrhon ac ymresymwn, medd yr Arglwydd; pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, ânt cyn wyned a’r eira; pe cochent fel porphor, byddant fel gwlân.” - ESAIAH i. 18.

Yr hyn sydd yn cyfansoddi prif ragoriaeth dyn ar bob creadur arall ydyw, ei fod wedi ei gynysgaeddu â galluoedd cyfaddas i ddal cymundeb â’i Dduw, ac i sylweddoli ei feddyliau tragywyddol. Mae mawredd dyn yn dyfod i’r golwg yn y ffaith ei fod yn greadur anfarwol, ac i fodoli yn gyfochrog â’r Hwn a’i gwnaeth. Daw ei fawredd i’r golwg hefyd yn ei arglwyddiaeth ar y greadigaeth israddol, fel y dywed y Salmydd, “Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddw-law, gosodaist bob peth dan ei draed ef.” Gwelwn ei fawredd eto yn ei allu i ymddyrchafu yn barhaus mewn gwybodaeth o, a llywodraeth ar, elfenau natur a’n dwyn yn is-wasanaethgar iddo ei hun. Ond pa mor fawr a gogoneddus bynag yr ymddengys dyn pan yn eistedd ar ei orseddfainc i lywodraethu y greadigaeth israddol, eto nid yn ei arglwyddiaeth ar y pethau islaw iddo, yn nghyd â’i wybodaeth o alluoedd y greadigaeth, y mae ei fawredd a’i ogoniant penaf yn gynwysedig, ond yn ei gymhwysder i ymwneyd â Duw. Ac er fod pechod wedi andwyo natur dyn, wedi tywyllu ei ddeall, gwyro ei farn, pylu ei serchiadau, a serio ei gydwybod, eto nid yw pechod wedi ei ysbeilio o’r gallu i ddal cymundeb â Duw; ac yn y testyn gelwir arno i osod y gallu hwn ar waith – “Deuwch yr awrhon ac ymresymwn.”

I. Y gwahoddiad grasol a roddir i bechadnr yn y testyn i ddyfod i ymresymu â’i Wneuthurwr.-Y mae y gwahoddiad hwn yn cael ei roddi i’r dosbarth gwaelaf o bechaduriaid - “Pe byddai eich pechodau fel ysgarlad ac fel porphor”- y lliwiau mwyaf amlwg sydd yn bod, rhai y gellir eu gweled o bellder; lliwiau yr oedd yn anmhosibl drwy unrhyw ddyfais eu cael allan o’r defnydd y buasent wedi myned iddo. Felly y mae pechod wedi myned i’r natur ddynol, ond y mae graslonrwydd Duw yn ei Fab y fath fel y mae yn gwahodd hyd yn nod y rhai hyny i ddyfod ato. Yr oedd y genedl Iuddewig wedi myned yn eithafol lygredig a phechadurus, er arfer pob moddion i geisio ei diwygio a’i (x117) hadferu. Yn lle troi o gyfeiliorni eu ffyrdd drwy y cymhellion oeddynt yn gael, ymgyndynu fwyfwy yn barhaus y byddent. Mae yn anmhosibl cael desgrifiad o sefyllfa fwy truenus i ddangos cyflwr pechadur nag yn y benod dan sylw. Ymddengys oddiwrth yr ail adnod eu bod wedi myned mor galed a dideimlad, fel mai oferedd ydoedd ymresymu â hwy. Mae Duw fel pe yn troi ymaith, ac yn galw sylw y greadigaeth faterol, fel pe byddai mwy o deimlad mewn mater marw nac yn nghalon gyndyn y genedl. “Gwrandewch nefoedd, clyw dithau ddaear.” Mae yr Arglwydd fel pe yn gwysio y nefoedd uchod, a’r ddaear isod, i ddwyn tystiolaeth i’w caledwch a’u dideimladrwydd. “O chwi nefoedd! synwch wrth hyn, ac ofnwch yn aruthrol, a byddwch anghyfanedd iawn, medd yr Arglwydd. Canys dau ddrwg a wnaeth fy mhobl; hwy a’m gadawsant i, ffynon y dyfroedd byw, ac a gloddiasant iddynt eu hunain bydewau - ïe, bydewau wedi eu tori, na ddaliant ddwfr.” Ond er eu holl ddideimladrwydd a’u gwrthgiliad, y mae’r Arglwydd yn eu gwahodd gyda’r tiriondeb mwyaf i ddyfod ato: “Deuwch yr awrhon ac ymresymwn.” “Nid i’ch cosbi y galwaf arnoch,” fel pe y dywedai, “ond i ymresymu.”

Ond y mae y genedl nid yn unig yn galed, ond hefyd yn anniolchgar a gwrthryfelgar. “Megais a meithrinais feibion, a hwy a wrthryfelasant i’m herbyn,”- gwnaethum yn fawr o honynt, codais hwy i sefyllfa ddyrchafedig, mabwysiedais hwy yn bobl briodol i mi fy hun, rhoddais iddynt hawliau a rhagorfreintiau meibion, ymddygais atynt fel tad tyner a gofalus. “Pan oedd Israel yn fachgen, mi a’i cerais ef, ac a elwais fy mab o’r Aipht” - gwaredais ef o’i gaethiwed. “Myfi hefyd a ddysgais i Ephraim gerdded, gan ei gymeryd erbyn ei freichiau, ond ni chydnabuont mai myfi a’u meddyginiaethodd hwynt.” Onid cyffelyb yw hanes llawer o honom ninau? Cawsom ein geni mewn gwlad Gristionogol, a’n magu mewn teuluoedd crefyddol; cawsom ein bendithio â rhieni duwiol i’n cynghori a’n haddysgu, ac i’n harwain ar hyd llwybrau rhinwedd.
Nid ar lanau’r Ganges, neu yn nghanolbarth Affrica, y ganwyd ac y magwyd ni. Nid ychwaith dan gysgodion Mahometaniaeth nac ar fynwes y Babaeth gyfeiliornus, ond o dan gysgod “Pren y Bywyd;” mewn gwlad lle y mae yr efengyl dragywyddol yn cael ei chyhoeddi i bechadur; yn swn ei gwahoddiadau yr ydym ni yn cofio cael ein hunain o’r (x118) dechreu; ond er ein holl fanteision, y mae lle i ofni y gellir dyweyd am danom fel y dywedwyd am y genedl, “Mogais a meithrinais feibion, a hwy a wrthryfelasant i’m herbyn.” Er hyny i gyd y mae y gwahoddiad yn aros; geilw Duw yn ei Fab arnom i ddyfod ac i ymresymu ag ef, yn ngwyneb ein holl bechu yn ei erbyn. Mae yn trugarhau er gwrthryfela yn ei erbyn, ac yn maddeu dan ganu.


Ond yr oedd y genedl wedi myned yn waeth ei chyflwr na bod yn ddideimlad a gwrthryfelgar, sef wedi suddo yn is na’r anifail direswm. Daw hyn yn amlwg i’r golwg yn ngeiriau y proffwyd, “Yr ych a edwyn ei feddienydd, a’r asyn breseb ei berchenog; ond Israel nid edwyn, fy mhobl ni ddeall.”
Maent trwy bechod wedi ymsuddo mor ddwfn nes myned yn is na’r anifail a ddifethir. “Ië, y ciconia yn yr awyr a edwyn ei dymhorau; y durtur hefyd, a’r aran, a’r wenol a gadwant amser eu dyfodiad; eithr fy mhobl i ni wyddant farn yr Arglwydd.” Pa ryfedd, gan hyny, fod y fath ymadroddion cryfion yn cael eu defnyddio i osod allan eu sefyllfa. “O! genhedlaeth bechadurus, pobl lwythog o anwiredd, had y rhai drygionus, meibion yn llygru; gwrthodasant yr Arglwydd, digiasant Sanct Israel, ciliasant yn ol.” Yr oeddynt nid yn unig yn llwythog o anwiredd, yn methu symud o dan y baich, ond yr oeddynt hefyd yn llygru ereill drwy eu hesiampl. Nid oedd eu cyflwr yn well nag eiddo gwyr Sodom a Gomorah, pa wedd bynag yr edrychid arno; ond er yr oll, geilw Duw arnynt i ddyfod ato ef.” Gwrandewch air yr Arglwydd, tywysogion Sodom; clywch gyfraith ein Duw ni, pobl Gomorah;” ac os gwrandewch fy ngeiriau, ufuddhau i fy neddfau, ac edifarhau am eich gwrthgiliadau, mi faddeuaf i chwi eich holl anwireddau, ac a’ch golchaf oddiwrth eich holl lygredigaeth. A rhag i neb o honynt ddigaloni yn ngwyneb mawredd ac amledd eu pechodau, y mae yn eu hysbysu, “pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, änt cyn wyned a’r eira; pe cochent fel porphor, byddant fel gwlân.” Y mae digon o ras a thrugaredd yn y fynwes ddwyfol i achub y pechadur mwyaf; ac os oes yma rywun fel Cain yn barod i ddyweyd, “Mwy yw fy anwiredd nas gellir ei faddeu,” y mae Duw ar sail Aberth ac Iawn ei Fab yn dy wahodd i ddyfod ato fel yr wyt i gael ymresymu âg Ef yn nghylch dy gyflwr. Paid a digaloni dim; y mae rhai mor bechadurus a thithau wedi myned ato, ac wedi eu golchi (x119) oddiwrth eu holl aflendid. Y mae yn ogoniant i Dduw fod y fath gymeriadau yn dyfod ato, sef y rhai gwaethaf oll, “A hyn fydd i’r Arglwydd yn enw ac yn arwydd tragywyddol, yr hwn ni thorir ymaith.” Sut mae’r meddyg yn gwneyd enw iddo ei hun? Nid drwy wella archollion a briwiau bychain diberygl, ond drwy wella archollion, briwiau, a chlefydau a ystyrid yn anfeddyginiaethol. Gwelsom ambell glaf wedi gael ei roddi i fyny gan holl feddygon y gymydogaeth, yn cael ei ddwyn i’r hospital, ac fe ddaeth rhyw feddyg yno i dreio ei law ar yr achos. Cyn hir adnabyddodd ei glefyd, a llwyddodd i’w wella yn holliach. Beth fu y canlyniad? Aeth enw y meddyg drwy yr holl wlad, am ei fod wedi medru gwella un oedd wedi ei roddi i fyny fel yn anwelladwy. Felly am y meddyg Dwyfol; y mae wedi gwneyd enw tragywyddol iddo ei Hun drwy wella miliynau o gleifion Eden, oedd wedi myned yn anfeddyginiaethol i bawb ereill. Mae y Physigwr sydd yn Gilead yn medru gwella pob afiechyd yn mhlith y bobl, “Yr hwn sydd yn maddeu dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iachau dy holl lesgedd.”

II. Mae y testyn yn cynwys addewid o faddeuant llawn a hollol i’r rhai a ddeuant at Dduw. – “Pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, änt cyn wyned a’r eira.” Dengys hyn fod pechod wedi cymeryd gafael yn yr holl natur; nid gafael arwynebol; nid wedi anmharu ychydig ar yr enaid y mae pechod wedi wneyd; ond y mae wedi treiddio drwy holl ranau ein natur, ac wedi effeithio ar bob rhan er llygredigaeth; y pen oll yn glwyfus, a’r holl galon yn llesg; o wadn y troed hyd y pen nid oes man glan a chyfan arnom; y mae pechod a’r pechadur wedi myned yn un. Pan ofynodd yr Iesu i’r cythreulig hwnw yn ngwiad y Gadareniaid, “Beth yw dy enw?” ei ateb oedd “Lleng, am fod llawer o honom.” Yr oeddynt yn llawer, ac eto yn un. Yr oedd y fath gysylltiad agos rhyngddynt fel nas gwyddai y truan beth i’w ddyweyd; ac felly yn ei ateb cyfuna y ddau. Ond er fod y fath gysylltiad rhyngddynt, fe fedrodd yr Iesu eu gwahanu pan ddywedodd, “Ysbryd aflan, dos allan o’r dyn!” a chyda’r gair wele y diafol yn rhuthro allan, a dacw’r dyn yn ei ddillad a’i iawn bwyll. Felly y gellir dyweyd am bechod; y mae wedi myned yn un a’ch natur chwi a minau; wedi treiddio trwy bob rhan o honi. Er hyny, y mae yn bosibleu gwahanu, oblegid nid yw pechod yn hanfodol i’r natur ddynol. Fe’i gwelwyd hi unwaith yn y Baradwys (x120) gyntaf yn hollol rydd oddiwrtho, ac fe’i gwelir eto heb arni na brycheuyn na chrychni yn y Baradwys fry.

Mae y gair “ysgarlad” yn y testyn yn golygu peth wedi ei liwio ddwywaith, fel na gellir mewn un modd ei gael allan o’r hyn yr ä iddo. Ond os yw hyn yn wir am y ffigiwr, nid yw yn wir am y dyn a’i bechod, er fod pechod yn gydwauedig â’n natur, ac wedi treiddio drwyddi. Pa mor ddwfn bynag mae wedi myned, y mae digon o rinwedd yn ngwaed y groes i symud yr oll i ffwrdd. Mae y gwaed yn medru

....................... “Golchi’r ddu gydwybod aflan
.............................Lawer gwynach eira man;

 ........................Gwneyd y brwnt, ganwaith ddifwynodd
.............................Yn y domen, fel y gwlân.”

Felly nid dyfais ddynol yw y ddyfais o ysgar rhwng y pechadur a’i bechodaa. Mae y drychfeddwl yma wedi gwreiddio yn Nuw; Efe a’ï pia. Ei hunan-gynhyrfiol gariad Ef ysgogodd gyntaf tuag ati. Mae y syniad mor fawr fel nas gallai yr un meddwl meidrol ei gynyrchu. Gall y meddwl dynol gynyrchu a darganfod llawer o bethau, ond nis gall roddi bod i unrhyw beth heb gael sylfaen i gychwyn - hyny yw, rhaid iddo gael rhywbeth tuallan iddo ei hun i roddi ei droed i lawr, ac i’w gynorthwyo i gychwyn. Gweled yr afal yn syrthio oddiar y pren barodd i Newton ddarganfod deddf fawr dysgyrchiant; gweled lamp yn araf siglo yn hen Eglwys Gadeiriol ddygodd Galileo i feddiant o ddrychfeddwl y pendulum; gweled y pryf copyn bach yn taflu ei rwyd o’r naill lwyn i’r llall roddodd y drychfeddwl o Bont Menai i Stephenson. Felly y gellir dweyd am holl ddrychfeddyliau dynion; mae iddynt oll ryw starting point, neu achos dechreuol. Ond yn annibynol ar y datguddiad roddodd Duw o’r drefn i faddeu, nid oedd yr un starting point i’w gael - yr un achos dechreuol mewn bod yn y greadigaeth faith i gyd a allasai roddi y cynorthwy lleiaf i ddarganfod y drychfeddwl gogoneddus hwn. Mae creadigaeth a Rhagluniaeth yn datguddio gallu Duw a’i ddoethineb. “Canys ei anweledig bethau Ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragywyddol allu Ef a’i Dduwdod.” Mae y nefoedd yn datgan gogoniant Duw, a’r ffurfafen yn mynegu gwaith ei ddwylaw Ef; ond nid oes o fewn creadigaeth yr un syniad am drefn i faddeu.. Edrychwn eto i Ragluniaeth, nid oes yma awgrym yn cael ei (x121) roddi am gadwedigaeth i’r euog. Dyna ddywedir y ffordd yma, fod “digofaint Duw wedi ei ddatguddio o’r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion.”

Meddyliwch am y ddeddf drachefn; nid yw hon yn rhoddi un gobaith am faddeuant; cyfiawnder a sancteiddrwydd yw holl gylch y ddeddf; nid yw trugaredd a maddeuant o fewn ei chyffiniau hi. Ei hiaith hi wrth bawb o’i deiliaid yw, “Yr enaid a becho, hwnw a fydd marw;” ac nid yn unig dyna ydyw tystiolaeth eglur y ddeddf, ond hyn yw tystiolaeth eglur cydwybod hefyd. Y fynyd y troseddodd Adda orchymyn Duw, yr oedd y ddeddf a’r gydwybod yn cyduno yn y ddedfryd - “Gan farw ti a fyddi farw.” Ond er nad oedd deddf a chydwybod, creadigaeth a Rhagluniaeth, yn gwybod dim am faddeuant, mao’r athrawiaeth wedi ei dwyn i oleuni yn yr efengyl, yr hon sydd yn ein hysbysu fod Duw yn Nghrist yn cymodi y byd âg ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau, “Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth drwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau, yn ol cyfoeth ei ras ef; “ ac wrth edrych ar y drefn ogoneddus hon, gellir dyweyd:-

....................... “Pa Dduw yn mhlith y duwiau
.............................Sydd debyg i’n Duw ni?
........................Mae’n hoffi maddeu’n beiau,
.............................Mae’n hoffi g’wrandaw’n cri.”

Yr oedd y syniad godidog hwn am faddeuant yn cael ei osod allan yn yr aberthau o dan y gyfraith, yn neillduol felly ar ddydd y cymod – “A gosoded Aaron ei ddwylaw ar ben y bwch byw, a chyffesed arno holl anwiredd meibion Israel, a’u holl gamweddau hwynt, a’u holl bechodau, a rhodded hwynt ar ben y bwch, ac anfoned ef ymaith yn llaw gwr cymbwys i’r anialwch; a’r bwch a ddug eu holl anwiredd hwynt i dir neillduaeth” - i dir digon pell fel nas gallasai byth ddychwelyd. Ond er cymaint o ddyddordeb a deimlid yn ngwasanaeth gwyl y cymod, nid oedd ond cysgod wedi’r cwbl, “Canys anmhosibl yw i waed teirw a geifr dynu ymaith bechod.” Gwnelai gwaed y rhai hyn y tro i adgoffa pechod, ond nis gallasent ei dynu ymaith. Ond ryw ddiwrnod mi welaf Ioan Fedyddiwr yn cyfeirio sylw ei wrandawyr at Sylwedd Mawr. yr holl gysgodau, gan ddyweyd, “Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd,” neu yn hytrach, “yr hwn sydd yn cario ymaith bechodau y byd.” “Yr Arglwydd a (x122) roddes arno Ef ein hanwiredd ni i gyd.” “Efe a ddygodd ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren,” ac y mae wedi eu dwyn i dir neillduaeth, i dir anghof tragywyddol, fel na ddychwelont byth, “Cyn belled ag yw y dwyrain oddiwrth y gorllewin, y pellhaodd efe ein camweddau oddi wrthym.” Iaith Duw yn awr yw, “Canys trugarog fyddaf wrth eu hanghyfiawnderau, a’u pechodau a’u hanwireddau ni chofiaf ddim o honynt mwyach.” Dyma y Duw sydd yn gwahodd yn ngeiriau y testyn, “Deuwch yr awrhon ac ymresymwn;” ac ond i ti bwyso arno, bechadur, fe dy olcha yn llwyr ddwys oddiwrth dy bechod, fel y byddi yn wynach na’r eira. Mae dynion yn medru gwneyd pethau yn wyn odiaeth, megys y papyr a wneir ganddynt; ond pe dygoch y papyr gwyna a wnaed erioed i ymyl yr eira, mae yn ymddangos yn dra melyn ei liw; ond dyger y Cristion, pan fyddo y Glanhawr Dwyfol wedi gorphen ei waith arno, i ymyl yr eira glan pan yn dysgyn yn newydd o manufactory y Duwdod, mae fel pe yn gwrido yn ymyl yr hwn a ganwyd drwy waed y groes. Mae gwyndra y groes yn trechu gwyndra natur; ac y mae gogoniant trefn y cadw yn taflu eclipse ar ogoniant y greadigaeth ar ei goreu. Mae y drefn hon yn medru canu yn wynach na’r eira. Dywedir nad yw dyfais fferyllol wedi dadblygu i’r fath raddau hyd yn hyn fel ag i allu gwneyd papyr gwyn o garpiau ysgarlad a phorphor. Gellir gwneyd papyr gwyn y gellir ysgrifenu arno o bob cerpyn ond y rhai hyn. Wel, beth wneir o’r carpiau porphor ac ysgarlad, ynte? Dim ond blotting paper coch, am fod yn anmhosibl gwneyd gwyn o honynt. Tebyg fel yma oedd hi dan yr hen oruchwyliaeth. Nid oedd yr un ddyfais i faddeu i bechaduriaid oedd a’u pechodau fel porphor ac ysgarlad; ond y mae fferylliaeth ddwyfol y Groes wedi cael ffordd i wneyd y galon aflanaf yn wynach na’r eira. Pwy na ddywed wrth feddwl am y fath ddyfais-

........................ “Golch fi
....................Oddiwrth fy meiau aml eu rhi’
....................Yn afon waedlyd Calfari.”

III. Yr adeg a nodir i ddyfod at Dduw – “Deuwch yr awrhon ac ymresymwn;” “Heddyw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonau;” “Wele yn awr yr amser cymeradwy, wele yn awr ddydd yr iachawdwriaeth.” (x123) O bosibl na chewch chwi gyfleusdra byth i ddyfod ato eto; fe allai fod angeu wrth y drws yn parotoi i’ch trosglwyddo i wyddfod y Barnwr Cyfiawn. Gan hyny, deuwch yr awrhon. Deuwch fel yr afradlon gynt, gan gyfaddef eich annheilyngdod; fe’ch derbyn, nid fel gweision, ond fel meibion; fe rydd fodrwy ar eich llaw, ac esgidiau am eich traed, a gwledd dragywyddol ei pharhad.

Adwaenwn fachgen gafodd ei fagu mewn teulu crefyddol; mam dduwiol i’w gynghori, a thad oedd yn gweddïo llawer drosto; ond er pob peth aeth yn fachgen drwg. Rhyw ddiwrnod cymerwyd ef yn glaf iawn, a thybiai pawb ei fod yn anobeithiol, nad oedd dim ond angeu o’i flaen ar fyr o dro. Ymwelais ag ef ryw ddiwrnod, a gofynais iddo os carai i mi ddanfon gair drosto at ei dad a’i fam.
“O! na,” meddai, “nis gallaf oddef y syniad i dad a mam mor dda gael eu gofidio â hanes bachgen mor ofnadwy o ddrwg a mi. Yr wyf wedi sarnu eu gweddïau a’u dagrau, yn nghyd â’u cynghorion, dan fy nhraed.” “Ië,” meddwn inau, “ond tad a mam ydynt er hyny; ac er eich bod wedi treulio bywyd afradlon, y mae y berthynas yn aros. O ganlyniad, dichon y gwnant dosfturio yn ngwyneb yr oll.” O’r diwedd, cefais ei ganiatâd i ysgrifenu, ac yn mhen tridiau dyma lythyr yn d’od yn ol oddiwrth y tad a’r fam, a’r gair “Immediate” ar ei gongl. Ei gynwys ydoedd croesaw i’r mab i ddychwelyd adref, a Post Office Order i dalu ei dreuliau. Beth welir yma? O! tosturi tad a mam yn rhedeg allan at eu plentyn. Ond beth yw tosturi o’r fath yma at gariad y Tad yr ydych chwi a minau yn cael ein gwahodd ato yn y testyn? Er ein bod wedi sarnu ei ddeddfau dan ein traed, a phechu yn mhob modd yn ei erbyn, eto y mae wedi danfon llythyr ar ein hol, a rhan o’i gynwys yw, “Deuwch yr awrhon ac ymresymwn;” ac y mae yn cynyg talu ein holl draul adref i dir y bywyd. Gan hyny, bechaduriaid, deuwch ato-

................... “ De’wch, flinderog a thrwmlwythog,
.........................Drwy y cwymp ga’dd farwol friw; ....................Crist sy’n. barod i’ch gwaredu,
.........................Llawn tosturi yw Mab Duw.”

Cofiwch, hi aiff yn rhy ddiweddar cyn hir; a pha hwyaf y byddwch heb dd’od chwi deimlwch y bydd yn anhawddach o hyd. Mae pechod yn gyffelyb i dreigliad y gareg ar hyd lethr y bryn, yr hon sydd yn casglu nerth gyda phob treigliad; neu (x124) fel dylifiad yr afon - fel y mae yn myned yn y blaen ymleda ac ymchwydda drwy fod nentydd yn d’od i fewn iddi, ac o ganlyniad casgla fwy o nerth fel y mae yn myned ar ei thaith. Felly pechod, wrth ymarfer ag ef, y mae yn myned yn gryfach, gryfach bob dydd, a’r dyn yn myned yn wanach i’w wrthsefyll Gan hyny, deuwch yn awr, a pheidiwch esgeuluso dydd yr Iachawdwnaeth. Dyma sydd yn damnio miloedd o Gymry - esgeuluso ac oedi. Gwnewch gymod â Duw mewn pryd. Pa adeg yw y pryd hwnw? meddai rhywun Yn awr nid oes genym hawl i daflu hyd yfory, yn ol y testyn – “Deuwch yr awrhon ac ymresymwn.” (x125)

 

PREGETHAU.

(7) Y CYFAMOD NEWYDD.

“Oblegid hwn yw y cyfamod a amodaf fi â thŷ Israel ar ol y dyddiau hyny, medd yr Arglwydd, Myfi a ddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac yn eu calonau yr ysgrifenaf hwynt; a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant i minau yn bobl - HEBREAID viii. 10.

 

Dyfyniad yw y testyn o broffwydohaeth Jeremiah. Gwna yr awdwr hyn er mwyn dangos rhagoriaeth y cyfamod newydd ar yr hen gyfamod, ac wrth hyny ddangos rhagoriaeth offeiriadaeth Crst ar offeiriadaeth yr hen oruchwyliaeth. Mae y rhagoriaeth yn dyfod i’r golwg yn y ffaith ei fod yn Gyfryngwr cyfamod gwell, “Yn awr, efe a gafodd weinidogaeth mwy rhagorol, o gymamt ag y mae yn Gyfryngwr cyfamod gwell, yr hwn sydd wedi ei osod ar addewidion gwell.” Nid yn unig y mae y cyfamod yn well, ond y mae y weinidogaeth felly hefyd, a’r addewidion perthynol iddo. Genedlaethol a thymhorol ydoedd yr hen gyfamod, ond y mae y cyfamod newydd yn cymeryd i fewn bob cenedl, a’r holl fendithion perthynol iddo yn rhai ysbrydol. Gan hyny, y mae yr holl oruchwyliaeth yn rhagorach, “oblegid pe buasai y cyntaf” - sef y cyfamod a wnaed wrth droed mynydd Sinai – “pe buasai hwnw yn ddifeius, ni cheisiasid lle i’r ail.” Ond gan fod hwnw yn aneffeithiol mewn ystyr foesol ac ysbrydol, y mae yr awdwr yn dwyn ar gof yr addewid iasol roddodd Duw iddynt drwy y Proffwyd Jeremiah, “Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, ac mi a wnaf â thŷ Israel ac a thŷ Judah gyfamod newydd, nid fel y cyfamod a wnaethum â’u tadau hwynt, ond cyfamod rhagorach, gwell, yr hwn sydd wedi ei osod ar addewidion gwell,” &c. Mae y testyn yn cyflwyno i’n sylw bedair o fendithion y cyfamod newydd.

 

I. Adnewyddiad ysbrydol – “Myfi a ddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac yn eu calonau yr ysgrifenaf hwynt.” Tebyg yw fod “meddwl” a “chalon” yn y testyn yn gosod allan holl natur ysbrydol dyn, y “meddwl” yn myned am y rhan ddeallol, a’r “galon” am y serchiadau a’r ewyllys. Yr oedd Duw o’r blaen wedi ysgrifenu iddynt, ond yn awr y mae yn myned i ysgrifenu ynddynt, yr hyn sydd yn golygu fod y gyfraith, neu y Dadguddiad Dwyfol, i fod yn awr, nid yn umg yn rheol buchedd neu ymarweddiad allanol, ond hefyd yn (x126) egwyddor neu allu ysbrydol oddifewn. Ysgrifenir hi nid â phin, ond gan Ysbryd y Duw byw; nid mewn llechau ceryg, ond ar lechau y galon; gan hyny y mae i fod yn awr yn anian fewnol ac yn allu ysbrydol i lywodraethu yr holl fywyd. Mae gwahaniaeth mawr rhwng y llong hwyliau a’r agerlong; oblegid y mae y cyntaf yn ymddibynu ar allu neu ddylanwadau allanol, ond yr olaf ar allu mewnol. Mae y naill yn agored i gael ei chwythu a’i gyru o flaen yr ystorm, tra y mae y llall yn medru aredig y tonau, a gweithio ei ffordd yn llwyddianus drwy yr ystormydd cryfaf. Fel y rhagora yr agerlong ar y llong hwyliau, felly y rhagora y cyfamod newydd ar yr hen. Oddiallan ar lechau ac mewn arwyddluniau yr oedd y gyfraith yn yr hen gyfamod, ond yn y cyfamod newydd y mae yn cael ei gosod yn egwyddor lywodraethol yn yr enaid. Gan mai yn y meddwl a’r galon y mae eisteddle pechod, yn y meddwl a’r galon, o ganlyniad, y mae y gyfraith yn cael ei gosod, mewn trefn i’w cyfnewid a’u puro. Mae yn rhaid cael y gyfraith yn y meddwl i’w oleuo, ac hefyd er mwyn ei adnewyddu, “Ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl.” Duw yn unig all wneyd pethau fel yma. Efe sydd yn “gorchymyn i’r goleuni lewyrchu yn y tywyllwch.” Yn y galon y mae ffynonell y drwg, ac ynddi hi y mae Duw yn dechreu gweithio, er ei phuro a’i sancteiddio. Dyma un llinell wahaniaethol rhwng Duw a dyn yn gweithio: dechreu gyda’r allanol y mae dyn, ond dechreu gyda’r mewnol y mae Duw; ceisio myned at y mewnol drwy yr allanol y mae dyn, ond myned at yr allanol drwy y mewnol y mae Duw. Diau eich bod wedi sylwi ar y blodau celfyddydol. Maent wedi eu llunio a’u lliwio mor debyg ag sydd bosibl i’r gwir flodau a gynyrchir gan natur. Ond sut y gwnaed hwynt? Oddiallan y mae y cwbl. Ond pan y mae Duw yn gwneyd blodau, y mae ef yn dechreu yn y canolbwynt, ac yn gweithio allan at yr amgylchoedd. Y mae yn gosod yr hedyn bychan, bywiol, oddimewn, yr hwn a ymegyr ac a ymddadblyga nes y cyrhaeddo ei gyflawn faintioli. Gall dyn wneyd blodau celfyddydol, ond rhaid cael Duw i wneyd y gwir flodau. Medr dyn hefyd, drwy ddysgyblu, gwrteithio, a gofalu am ei ymarweddiad, gyfnewid llawer ar yr allanol sydd yn perthyn i’w gymeriad, ond rhaid cael Ysbryd yr Arglwydd i gyfnewid y mewnol trwy “osod y gyfraith yn y meddwl a’i hysgrifenu yn y galon.” Fe ddywedir fod yn bosibl, drwy ddwyn gwefr (galvanism) i gyffyrddiad (x127) â chorff marw, i beri iddo ymddangos fel pe yn fyw. Mae yn ymysgwyd, yn cynhyrfu, ac yn symud fel pe bae bywyd ynddo. Ond y mae yr holl ysgogiadau yn cael eu hachosi gan allu allanol - gallu yn gweithredu arno, ac nid gallu bywyd yn gweithredu ynddo. Felly y gellir dyweyd am y marw ysbrydol; y mae yn bosibl iddo yntau, wrth ddyfod i gyffyrddiad â geiriau y bywyd tragywyddol, i ymddangos fel pe yn fyw. Y mae dychrynfeydd marwolaeth, pwysigrwydd y farn, ac ofnadwyaeth uffern yn cael y fath ddylanwad arno nes peri i aml ddeigryn gloew i dreiglo dros ei ruddiau; ond y mae y cwbl yn cael ei achosi gan ddylanwad allanol, ac nid gan nerth egwyddorion mewnol. Ond am y dyn duwiol - y dyn sydd â’r gyfraith yn y meddwl, ac wedi ei hysgrifenu yn y galon - y mae yr holl ysgogiadau yn cael eu hachosi gan nerth bywyd ysbrydol oddifewn. Y mae hwn yn gwasanaethu crefydd nid oddiar ofn uffern nac oddiar awydd am y nefoedd, nac ychwaith o herwydd dychrynfeydd cydwybod, ond oddiar gariad tuag at yr Hwn a’i carodd ac a’i rhoddes ei Hun drosto. Mae cariad Crist yn ei gymhell i fyw i’r Hwn a fu farw drosto; mewn gair, y mae yr holl wasanaeth a gyflawnir ganddo yn tarddu oddiar nerth bywyd oddifewn. Rhwymer y dyn ieuanc â rhaffau moesoldeb; gosoder deddfau a rheolau fel muriau o’i amgylch, fe weithia y gelyn drwyddynt gyda’r rhwyddineb mwyaf. Mae yn rhaid cael rhywbeth oddi fewn ac nid oddiallan iddo; rhaid cael deddf ynddo ac nid deddfau am dano – “Deddf ei Dduw sydd yn ei galon ef, a’i gamrau ni lithrant.” Ac yn ei galon, cofier, y mae yn rhaid ei chael, ac nid yn ei ben - yn nghanolbwynt ei fodolaeth ysbrydol. Ac ond ei chael yno, mae yn sicr o gadw y cwbl yn eu lle. Geidw y tafod rhag cablu a’r traed rhag llithro, ac wrth hyny sathru deddfau Duw. Cael egwyddorion crefydd oddifewn, mewn trefn i’n puro a’n sancteiddio, sydd yn eisieu arnom; egwyddorion wedi suddo yn ddyfnach i’n natur na’n penau; yn is na’n galluoedd deallol; nes y byddont wedi gwreiddio ac ymdreiddio drwy holl alluoedd moesol yr enaid. “Gwreiddyn y mater gaed ynof,” meddai Job. Yr un peth ddywed yr Iesu am wir grefydd. “Teyrnas Dduw o’ch mewn chwi y mae;” “Y dwfr a roddwyf fi iddo a fydd ynddo yn ffynon o ddwfr, yn tarddu i fywyd tragywyddol.” Nid rhyw drapery oddiallan i’r dyn yw crefydd, ond egwyddor fewnol ysbrydol, yn llawn bywyd a gweithgarwch.

 

 (x128)

II. Y berthynas urddasol a osodir allan yn y testyn - “Mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant i minau yn bobl.” Mae y fendith gyntaf yn golygu newid ansawdd fewnol pechadur, a’r ail yn golygu newid ei berthynas allanol â Duw; y cyntaf yn golygu ei ail-enedigaeth, a’r ail y berthyuas gyfamodol; yn y cyntaf rhoddir anian Duw ynddo, yn yr ail rhoddir meddiant o bob peth Duw iddo. Yr oedd yr Arglwydd o dan yr hen gyfamod yn Dduw i’r genedl fel cenedl, ond nid oedd felly i bersonau unigol; cyfamod cenedlaethol ydoedd. Fel hyn y desgrifia Duw ef, “Cymeraist yr Arglwydd heddyw i fod yn Dduw i ti, ac i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei ddeddfau a’i orchymynion a’i farnedigaethau, ac i wrando ar ei lais ef. Cymerodd yr Arglwydd dithau heddyw i fod yn bobl briodol iddo ef, ac i’th ddyrchafu yn uchel, goruwch yr holl genhedloedd a wnaeth efe, mewn clod ac mewn enw, ac mewn gogoniant, ac i fod o honot yn bobl sanctaidd i’r Arglwydd dy Dduw.” Deil y cwbl berthynas â’r genedl fel cenedl, ac nid â phersonau unigol. Ond am y cyfamod newydd, mae ei holl gynwysiad i bersonau unigol. Nid Duw cenedl mo hono, ond Duw i bob credadyn ar ei ben ei hun; ac mae cael Duw yn Dduw i ni yn cynwys pob peth sydd yn angenrheidiol arnom i fyw ac i farw, am amser ac am dragywyddoldeb – “Canys haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw, yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant; ni atal efe ddim daioni oddiwrth y rhai a rodiant yn berffaith.” Ac yn wir, mae y fendith fawr hon yn gwisgo gwedd dynerach yn y Testament Newydd nag yn yr Hen, “Ac a fyddaf yn Dad i chwi, a chwithau a fyddwch yn feibion ac yn ferched i mi, medd yr Arglwydd Hollalluog.” Nid yw y meddylddrych o dad i’w gael yn yr un grefydd arall. Mae gan bob crefydd wrthddrych a elwir yn dduw, ond nid oes ganddynt yr un tad i’w hamddiffyn ac i ofalu am danynt. Ond am grefydd Iesu Grist, y mae ganddi hi nid yn unig Dduw, ond Duw yn y cymeriad o Dad tyner a thosturiol. Nid barnwr caled, nid brenin dideimlad; ond tad yn llawn trugaredd. “Fel y tosturia tad wrth ei blant, felly y tosturia yr Arglwydd wrth y rhai a’i hofnant ef.” Ond un haner i’r cylch yw fod Duw yn dad; y mae yr haner arall yma hefyd, sef, “A chwithau a fyddwch yn feibion a merched i mi, medd yr Arglwydd Hollalluog.” Nid rhyfedd i Ioan dori allan mewn syndod yn ngwyneb y fath ragorfraint, gan ddyweyd – “Gwelwn pa fath (x129) gariad a roddes y Tad arnom, fel y’n gelwid yn feibion i Dduw.” “Anwylyd, yr awrhon meibion i Dduw ydym, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn; eithr ni a wyddom, pan ymddangoso efe, y byddwn gyffelyb iddo, oblegid ni a gawn ei weled ef megys ag y mae.” Fe fydd y meibion a’r merched yn cael eu gwneyd yr un ffurf a delw ei Fab Ef, oblegid “y rhai a ragwybu a ragluniodd efe, i fod yr un ffurf a delw ei Fab Ef.”

 

III. Adnabyddiaeth bersonol o Dduw – “Ac ni ddysgant bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd yr Arglwydd; oblegid hwynthwy oll a’m hadnabyddant i, o’r lleiaf o honynt hyd y mwyaf o honynt.” Yn yr hen gyfamod dynion oedd yn dysgu dynion, ond yn y cyfamod newydd y mae Duw ei hun yn eu dysgu, “A phawb a fyddant wedi eu dysgu gan Dduw.” Y mae Duw trwy Ei Ysbryd yn rhoddi iddynt ei adnabod – “I ti yr ydwyf yn dioloh, O Dad, Arglwydd nef a daear, am guddio o honot y pethau hyn oddiwrth y doethion a’r deallus, a’u datguddio o honot i rai bychain. Ie, O Dad, canys felly y rhyngodd bodd i ti.” Mae miloedd o rai bychain, anwybodus yn yr ystyr ddynol, yn gwybod mwy am drefn ogoneddus yr efengyl na llawer o ddysgawdwyr ac athronwyr penaf ein gwlad. Y maent wedi derbyn yr “eneiniad oddiwrth y sanctaidd hwnw,” ac o ganlyniad yn gwybod dirgelion gras. “Y cam cyntaf mewn crefydd,” meddai Calvin, “yw adnabyddiaeth o Dduw; ac nid yw perffeithrwydd mewn crefydd yn ddim ond perffeithrwydd yr adnabyddiaeth hono.” “A hyn yw y bywyd tragywyddol, iddynt dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist; “ “Ac efe a roes i ni feddwl, fel yr adnabyddem yr hwn sydd gywir.” Dymuniad penaf calon y cyfryw ydyw cael adnabyddiaeth helaethach o hono – “Fel yr adnabyddwyf ef, a grym ei adgyfodiad ef” - ac un o fendithion penaf y cyfamod newydd ydyw yr addewid i roddi yr adnabyddiaeth hon i bawb, “Oblegid hwynt-hwy oll a’m hadnabyddant i, o’r lleiaf o honynt hyd y mwyaf o honynt.”

 

.....IV. Maddeuant llwyr a thragywyddol – “Canys trugarog fyddaf wrth eu hangyfiawnderau, a’u pechodau hwynt a’u hanwireddau ni chofiaf ddim o honynt mwyach.” O’r holl ymadroddion a ddefnyddir gan ysbrydoliaeth i osod allan berffeithrwydd maddeuant Duw, nid oes yr un o honynt i mi mor gryf a’r ymadroddion hyn. Mae y geiriau “dileu” a (x130)

“dileaf” yn rhai cryfion; ond mae “ni chofiaf ddim o honynt mwyach” yn llawer cryfach. Mae “dileu” yn golygu dileoli pechod o’r galon ac o Lyfr Duw; ond y mae “ni chofiaf ddim o honynt mwyach” yn golygu ychwaneg, ellid meddwl. Pan yn maddeu o dan yr hen gyfamod, maddeu a chofio y byddai Duw – “Eithr yn yr aberthu hyny y mae adgoffa pechod bob blwyddyn; “ond pan yn maddeu ar sail Aberth ei Fab, y mae yn maddeu ac yn anghofio. Yr oedd maddeuant yr hen oruchwyliaeth yn dobyg i reprieve y Llywodraeth Brydeinig. Mae y carcharor condemniedig yn cael ei oddef i fyw ar gyfrif rhyw ystyriaethau, er wedi ei ddedfrydu i farw; ac os bydd yn ymddwyn yn dda, ac yn talu ufudd-dod i reolau y carchar, fe allai y câ ryddhad ar yr amod ei fod i ymddangos pan fyddo galwad am dano gerbron yr awdurdodau, ac y mae pob ymddangosiad o’i eiddo yn adgoffa yn fyw iddo y trosedd a gyflawnwyd ganddo. Felly am faddeuant yr hen gyfamod. Yr oedd Duw yn maddeu, ond maddeu a chofio y byddai; maddeu ar yr amod eu bod yn gwneyd eu hymddangosiad yn mhen blwyddyn yn mherson yr archoffeiriad. Nid oedd digon o rinwedd yn aberthau yr hen oruchwyliaeth ond yn unig i adgoffa pechod, i gydnabod y ddyled, a gwneyd pethau yn bosibl i fyned yn y blaen am flwyddyn arall. Ond am Aberth pen Galfaria, mae digon o rinwedd ynddo, nid yn unig i ddileu pechod oddiar Lyfr Duw, ond hefyd i beri iddo eu hanghofio. Defnyddia y Beibl frawddegau cryfion ereill heblaw y rhai a nodwyd, er dangos llwyredd maddeuant Duw, megys “taflu pechodau ei bobl i ddyfnderoedd y môr,” nid i’r môr, ond i ddyfnderoedd y môr, lle na ellir eu codi byth i’n hadgofio o honynt. Mae dynion wrth geisio claddu pechodau eu gilydd yn eu claddu yn respectable anghyffredin; yn debyg fel ag y cleddir mawrion y ddaear. Codant gofadail hardd ar ben y bedd, ac argraff arno mewn llythyrenau breision, yn nodi yn fanwl y fan lle y gorwedd y gweddillion marwol. Ond pan mae Duw yn claddu pechodau, mae yn eu claddu mewn man nad oes dim posibl codi cofadail ar y bedd. Nid i’r llyn llonydd y gellir gweled ei waelod, neu y gornant fechan sydd yn sychu yn yr haf, ond i ddyfnderoedd y môr, lle nas gall yr un ystorm byth eu cyrhaedd, a drwy hyny eu codi i’r wyneb; yn rhy bell i lef yr un archangel ag udgorn Duw i’w deffro yn y dydd diweddaf o’u cwsg. Rhyw Atlantic annherfynol yw y môr y mae Duw (x131) yn taflu pechod iddo, yr hwn nad oes perygl iddo sychu, nac i’w waelodion gael eu cynhyrfu yn dragywyddol - môr o Iawn yn ymdòni yn dragywyddol ar ei wyneb, a phob tòn yn adlewyrchu heddwch y Duwdod. “Ni wel Efe anwiredd yn Jacob, na thrawsedd yn Israel.” Beth wêl ef, ynte? Gweled. ei Hunan mewn boddlonrwydd yn môr haeddiant ei Fab, Gweddïwn ninau yr hen benill –

 

.............. “Cudd fy meiau rhag y werin,

...................Cudd hwy rhag cyfiawnder ne’;

................Cofia’r gwaed un waith a gollwyd

....................Ar y croesbren yn fy lle;

.............................Yn y dyfnder

....................Bodd y cyfan sy’ ynwy’n fai.”

 

Mae Duw yn maddeu y cwbl hefyd; hyny yw, pob math o bechodau – “Eu hanghyfiawnderau,” sef pechod yn ei berthynas. a’n cyd-ddynion. “Pechodau” eto, wrth yr hyn y golygir - pechod yn ei berthynas â’r dyn ei hunan. Gesyd y gair hwn allan ansawdd foesol yr enaid. “Anwireddau” a olyga bechod yn ei berthynas â Duw; felly, gwelir fod y tri gair yma yn cymeryd i fewn bob dosbarth o bechodau. Ond er ein bod yn pechu yn erbyn dynion, ni ein hunain, a Duw, y mae digon o drugaredd yn y fynwes Ddwyfol i faddeu yr oll. Yr oedd Duw yn maddeu, fel y dywedwyd, dan yr hen oruchwyliaeth, ond nid oedd yn maddeu yr oll; nid oedd yn maddeu pob pechod. Yr oedd yr archoffeiriad yn aberthu dros bechodau a wnaed mewn anwybodaeth neu amryfusedd, ond nid oedd un aberth dros bechodau rhyfygus, na maddeuant o honynt ychwaith. Nid felly y mae’n bod dan y cyfamod newydd; y mae y fath gyflawnder o ras a thrugaredd wedi eu dadguddio ynddo fel mae Duw yn medru maddeu pob pechod. “Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlawn yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y’n glanhao oddiwrth bob anghyfiawnder.” Wel, a ydym ni yn gwybod am y bendithion mawrion ac anmhrisiadwy hyn? Os nad ydym, y mae yn gysur meddwl fod yn bosibl dyfod o hyd iddynt heddyw, ac y mae Duw yn ein gwahodd i ddyfod i gyfamod âg ef – “Gogwyddwoh eich clust a deuwch ataf; gwrandewch, a bydd byw eich henaid; a mi a wnaf gyfamod tragywyddol a chwi, sef sicr drugareddau Dafydd.” Cofiwn hyn, nid yw Duw yn anghofio dim ond y pechodau faddeuir ganddo i’w bobl. Cofia bob peth arall gyda manylwch mawr, ond am bechodau y rhai sydd yn credu, ei iaith gyda golwg arnynt ydyw – “Ni chofiaf ddim o honynt mwyach.” (x132)

 

PREGETHAU.

(8) DUW POB DYDDANWCH.

“Bendigedig fyddo Duw, a Thad ein Harglwydd ni, Iesu Grist, Tad y trugareddau, a Duw pob dyddanwch.” - 2 CORINTHIAID i. 3.

 

Mae yr Apostol, ar ol ysgrifenu ei gyfarchiad arferol, yn dechreu yr Epistol hwn trwy ddatgan ei fawr ddiolchgarwch am y dyddanwch yr oedd wedi ei dderbyu gan Dduw yn ei drallodion a’i ddyoddefiadau. Gwaith anhawdd yw penderfynu at ba drallodion y mae yn cyfeirio yma, am nad yw yn eu nodi. Tybia rhai mai at rhyw gystudd corfforol blin oedd wedi ei oddiweddyd y cyfeiria. Deil ereill fod y geiriau, “dyoddefiadau Crist,” yn yr adnodau dilynol yn milwrio yn erbyn y syniad o afiechyd corfforol. Nid oes genym hanes i Grist ddyoddef oddiwrth anhwylderau corfforol erioed, felly rhaid nad am ddyoddefiadau o’r fath hyny y mae Paul yn sôn yn adnod y bumed eu bod yn “amlhau” ynddo. Ond pa ddyoddefiadau bynag oedd o flaen meddwl yr Apostol yma, y mae y dyddanwch a gafodd ynddynt yn peri iddo dori allan mewn gorfoledd yn iaith y testyn.

 

Mae y datguddiad o Dduw fel “Dyddanydd,” fel llawer datguddiad arall o hono, wedi dyfod i ni drwy yr Arglwydd Iesu. Trwy ei ddyoddefaint a’i angeu ef dros bechod y cafodd elfenau cysur a dyddanwch eu dwyn i bechadur. Mae Crist croeshoeliedig wedi dyfod yn Barnabas (mab dyddanwch) i ni. Yn y Groes cafwyd balm i wella archollion dyfnaf y ddynoliaeth, “Trwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni.” Y mae pob dyferyn o olew a gwin a dywelltir gan yr Iesu i glwyfau ac archolliau y pechadur wedi eu gwasgu allan yn ngwinwryf dyoddefaint, pan archollwyd ac y drylliwyd Ef. Gorfu i’r tragywyddol Fab golli ei waed mewn trefn i gael ffordd i’n dyddanu ni; a chan fod y draul wedi bod mor fawr, y mae Duw yn gofalu cadw defnyddiau ein dyddanwch yn ei feddiant ei Hun. Yn ol y testyn, nid oes dyddanwch tuallan i Dduw yn bod, “Duw pob dyddanwch.” Ac yn Angeu y Groes y mae “Duw pob dyddanwch” wedi dyfod yn un o deitlau mwyaf gogoneddus Duw, “Yr hwn a’n carodd ac a roddes i ni ddyddanwch tragywyddol;” nid dyddanwch am amser, ond am byth-dyddanwch ddeil yn angeu a’r farn. Y mater y cawn alw sylw ato oddiwrth y geiriau yw - Cyfaddasder Duw i fod yn Ddyddanydd. (x133)

 

 

I. Mae yn gyfaddas i fod yn Ddyddanydd i ni am ei fod yn meddu gwybodaeth berffaith o’n holl drallodau. - Anmhosibl yw i neb ddyddanu heb ei fod yn gyntaf yn gwybod yn dda , natur tristwch yr hwn y ceisia ei ddyddanu. Mae tristwch y galon edifeiriol am bechod – “y duwiol dristwch sydd yn gweithredu edifeirwch er iachawdwriaeth” - y mae tristwch y cyfryw rai y fath, fel nad oes neb fedr ei ddirnad ond yr Hollwybodol ei hun; oblegid nid rhywbeth ar y wyneb ydyw, rhyw ripples bychain yn ymdòni ar wyneb y natur, yn parhau am ddiwrnod, ac yna yn darfod; ond tristwch sydd yn cynhyrfu yn enaid i’w ddyfnderoedd. Ysgydwa hwn y galon i’w gwaelodion, gan greu ystormydd ofnadwy trwy yr holl natur foesol. Mae hwn yn dristwch mor ddwys fel y gellir dyweyd ei fod yn cyfateb i ryw raddau i dristwch yr Arglwydd Iesu, ond yn unig nad oedd yr eiddo ef yn cael ei achosi gan bechod ynddo. Nid oedd dim ynddo ef yn achos o dristwch; yr hyn roddwyd arno ef oedd yn peri ei ddyoddefaint, “Cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef.” Daw y saint yn gyfranogion o ddyoddefiadau Crist fel y maent yn aelodau o’i gorff dirgeledig ef. Maent yn dwyn ei waradwydd ef, yn cyflawni yr hyn sydd yn ol o’i ddyoddefiadau ef, yn dwyn nodau ei farwolaeth ef yn eu cyrff – “Gan gylcharwain yn y corff bob amser farweiddiad yr Arglwydd Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein cyrff ni; canys yr ydys yn ein rhoddi ni, y rhai ydym yn fyw, yn wastad i farwolaeth, er mwyn Iesu; fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni. Oblegid nyni a wnaethpwyd yn ddrych i’r byd, ac i’r angylion, ac i ddynion.” Yn ddrych i ddifyrwyr - i “edrychwyr” - neu, yn ol ymyl y ddalen, “yn ddrych i’r chwareudy “ (theatre), lle y buasai y rhai a boenwyd yn cael eu harddangos, Yr oedd cyrff yr apostolion fel llwyfan (stage) ar ba un yr oedd dyoddefiadau a marwolaeth yr Arglwydd Iesu yn cael eu chwareu, yn ol syniad Paul pan yma; fel y gallai dynion ac angylion ganfod oddiwrth y drama fod yr Iesu yn fyw i gynal a dyddanu ei ganlynwyr – “Fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni.” Amlwg yw, gan hyny, nas gall neb ddirnad y dirgelwch sydd yn nglŷn â dyoddefiadau y Cristion ond yr Hollwybodol Duw. Ni fedr y naill ddyn ddeall. dyoddefiadau y llall i berffeithrwydd, pa mor alluog bynag a byddo; ac er dyoddef oddiwrth yr un achosion, ni fedrant amgyffred i fanylwch ddyoddefiadau eu gilydd. Ond. (x134) am y Dyddanydd Dwyfol, mae yn deall y cwbl i’r perffeithrwydd mwyaf – “Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th gystudd, a’th dlodi;” gŵyr am bob trallod a gorthrymder all ein cyfarfod, a gofala fod dyddanwch yn cyfateb i’r tristwch; “Oblegid fel y mae dyoddefiadau Crist yn amlhau ynom ni, felly trwy Grist y mae ein dyddanwch ni hefyd yn amlhau.” Mae y naill bob amser yn gyfartal i’r llall. Cryn berygl yw i ni anghofio fod Duw yn hysbys o’n holl ffyrdd, yn gwybod ein holl hanes, ac yn sylwi ar ein holl amgylchiadau. Pe ddarfu i Israel anghofio hyn, ac y mae y proffwyd Esaiah yn eu ceryddu yn dyner am hyny, “Paham y dywedi, Jacob, ac y lleferi, Israel, cuddiwyd fy ffordd oddiwrth yr Arglwydd, a’m barn a aeth heibio i’m Duw?” Paham y dywedi felly? Paham y darfu i ti erioed dybied fod dy ffordd yn guddiedig oddiwrth yr Arglwydd; a’th farn (neu dy sefyllfa) yn ddisylw gan Dduw? “Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr, geilw hwynt oll wrth eu henwau.” Ac os ydyw yn gwybod am y sêr, tybed na ŵyr am y saint? Os yw yn rhifo y sêr, ac yn eu galw wrth eu henwau, sicr yw fod enwau y saint oll yn ofalus ganddo, a’i fod yn eu galw wrth y cyfryw enwau; ïe, a rhagor na hyny, y mae eu henwau wedi eu cerfio ar gledr ei law – “Wele ar gledr fy nwylaw y’th argreffais, dy funau sydd ger fy mron bob amser.” Mae hyn yn dangos fod ei blant yn annhraethol fwy gwerthfawr yn ei olwg na’r sêr. Y maent hwy yn wrthddrychau ei sylw a’i hoffder parhaus, “Ar hwn yr edrychaf, sef ar y truan a’r cystuddiedig o ysbryd.” Mae hwn yn gyfryw yn ngolwg y Duw Mawr fel y tâl sylw neillduol iddo; a mwy na hyny, nid yn unig y mae yn talu sylw parhaus i’w blant, ond yn trigo gyda hwy, “Canys fel hyn y dywed y Goruchel a’r Dyrchafedig, yr hwn a breswylia dragywyddoldeb, ag y mae ei enw yn Sanctaidd. Y goruchelder a’r cysegr a breswyliaf; a chyda’r cystuddiedig a’r isel o ysbryd.” Dyma y ddau le y preswylia yr Anfeidrol – “Y goruchelder a’r cysegr,” a chyda’r “isel o ysbryd.” Nid ydym yn synu ei fod yn preswylio yn y cyntaf, ond y mae yn syndod tragywyddol ei fod yn preswylio gyda’r ail, sef gyda’i pechadur. Dengys hyn fod gan Dduw ofal manwl am holl amgylchiadau ei bobl, nid gofal cyffredinol, ond gofal personol. Tra gwahanol yw sylw a gofal Duw am ei blant i’r eiddom ni. Pan fyddom ni yn sylwi ar y meusydd prydferth o’n cwmpas, nid ydym yn gallu canfod pob glaswelltyn; na, (x135) taflu cipdrem gyffredinol ar y cwbl y byddwn ni; ond pan fyddo yr haul mawr yn codi ac yn edrych arnynt, y mae ef yn canfod pob glaswelltyn, ac yn siriol wenu ar bob blodeuyn. Fel yna mae Duw pan yn edrych ar ddynion - mae yn canfod pawb yn mhob man, ac yn sylwi yn fanwl ar bob un yn bersonol. “Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef.” Ac nid yn unig y mae yn edrych ar bob un yn bersonol, ond mae yn gwybod hefyd beth sydd yn mhob un o honynt. Mae ei wybodaeth yn treiddio at guddiedig ddyn y galon; barna feddyliau a bwriadau y galon. “Chwiliwr y galon a phrofwr yr arenau” yw un o’i enwau; nid sylwi ar y dyn oddiallan yn unig y mae, ond y dyn oddimewn yn ogystal. “Ti a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad; deall fy meddwl o bell.” Y fath gysur i’r Cristion ydyw meddwl fod ei Dad Nefol yn gwybod ei holl hanes yn mhob gwedd arno, a’i fod yn alluog i’w ddyddanu yn ei holl drallodau. Y wybodaeth hon wnaeth i Paul dori allan yn y testyn i ddyweyd, “Bendigedig fyddo Duw,” &c.

 

II. Y cyfaddasder nesaf yn Nuw i fod yn Ddyddanydd ydyw ei fod yn meddu cariad perffaith at ei bobl. - Rhaid mewn trefn i allu dyddanu, nid yn unig feddu gwybodaeth berffaith o ddyoddefiadau y rhai a ddyddenir, ond hefyd feddu cariad tuag atynt. Rhaid i’r dyoddefydd wybod fod y dyddanydd yn ei ddwfn garu cyn y cymer ei ddyddanu ganddo; felly y mae yn hanfodol cael cariad yn y dyddanydd, a sicrwydd o hyny yn y dyoddefydd, mewn trefn i’r dyddanwch a gynygir i gael ei werthfawrogi. Nid yw y pris uchaf yn cael ei roddi ar y rhoddion goreu, os na fyddwn yn argyhoeddedig eu bod yn ffrwyth cariad calon lawn o gydymdeimlad. Fe fedr braich cariad godi yr ysbryd mwyaf cystuddiol; fe fedr olew a gwin cariad lawenychu y galon fwyaf bruddaidd. Y mae cariad fel y pren hwnw daflodd Moses i ddyfroedd Mara nes eu pereiddio. Pereiddia cariad ddyfroedd chwerwon dyoddefiadau a phrofedigaethau bywyd nes melysu llawer arnynt; ysgafnha cariad y beichiau trymaf, a lleddfa y poenau llymaf. Cariad am ddyddanu! A chan mai cariad ydyw Duw, rhaid ei fod yn ddyddanydd heb ei fath. Nid nodwedd berthynol i Dduw ydyw cariad, ond “cariad yw” yn ei hanfod, a byddai mor hawdd iddo beidio bod a pheidio caru; ac er fod ei blant yn llithro mewn llawer o bethau, y mae ei hunan-gynhyrfiol gariad yn ddigon cryf i redeg yn ffrydiau bywiol atynt er eu (x136) cysuro a’u dyddanu yn eu holl orthrymder. A chan mai cariad ydyw Ei hanfod, gall ddyddanu gyda’r gofal a’r tynerwch mwyaf - dyddanu fel y dyddana y fam ei phlentyn, “Fel un y dyddana ei fam ef, felly y dyddanaf fi chwi, medd yr Arglwydd.” Nid yw y fam yn gweled dim yn ormod i’w wneyd er dyddanu ei phlentyn; y mae yn foddlon aberthu ei bywyd er ei fwyn. Felly Duw, nid yw yn gweled dim yn ormod i’w wneyd er cysuro ei bobl. Nid oedd yn ormod ganddo roddi Mab ei fynwes i’w fflangellu a’i groeshoelio rhwng y lladron i gael defnydd i’w dyddanu hwy, “Canys felly a carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab; fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragywyddol.” Dyma Fab Duw, drwy yr ymgnawdoliad, wedi dyfod yn “Fab dyddanwch;” Brawd wedi ei eni erbyn dydd o galedi, “cyfaill a lyn yn well na brawd.” Mae y brawd daearol ffyddlonaf yn methu, a’n cyfeillion anwylaf yn marw, ond dyma Frawd na fetha byth; dyma Gyfaill na fydd marw yn dragywydd, “Yr hwn a fum farw, ac wyf fyw; ac wele, byw ydwyf yn oes oasoedd.”

 

Darllenais hanesyn a adroddid gan Norman Macleod, am. fam dyner, a’i baban yn ei chol, yn croesi un o fynyddoedd gwylltion ac unig Scotland yn nghanol y gauaf; a phan tua chanol y mynydd, yr oedd cysgodion yr hwyr yn dechreu ymdaenu, a’r eira oer yn dysgyn, nes o’r diwedd y collodd ei ffordd. Er hyny, cerddodd yn galed am oriau, ac ymdrechodd yn erbyn nerth yr ystorm; ond o’r diwedd, pallodd ei nerth, llesgaodd ei chalon, a syrthiodd i’r llawr gan wendid. Ond yr oedd ei chariad mor angerddol at ei phlentyn fel y tynodd ei mantell oddi am dani, a’r rhan fwyaf o’i dillad, mewn trefn i’w roddi am y baban; rhwymodd ef i fyny ynddynt, a gorweddodd i lawr, gan ei wasgu at ei bron. Boreu dranoeth, pan ddaeth un o’r bugeiliaid heibio, cafodd y fam wedi rhewi i farwolaeth, a’r baban bach yn cysgu yn dawel yn ei breichiau. Beth mwy allasai y fam hon wneyd i’w baban nag a wnaeth? Hi aberthodd ei bywyd er ei fwyn. Gellir gofyn yr un cwestiwn gyda golwg ar Dduw, Beth mwy allasai yntau wneyd i bechadur nag a wnaeth? Gadawodd y Mab y nefoedd er ein mwyn, gan ddyfod i’r ddaear heb le i roddi ei ben i lawr. Ymdrechodd yn galed i weithio allan ein hiachawdwriaeth; aeth dan gawodydd melldithion deddf doredig, ymlwybrodd drwy ganol mellt a tharanau cyfiawnder, nes yr oedd ei chwys (x137) fel defnynau o waed yn dysgyn ar y ddaear; ac yn y diwedd, offrymodd ei hun yn aberth difai i Dduw; tywalltodd ei enaid i farwolaeth, fel y gallai achub a dyddanu eich bath chwi a. minau, “Yr hwn a’i rhoddes ei hun dros ein pechodau, fel y’n gwaredai oddiwrth y byd drwg presenol.” Beth mwy allasai wneyd? “ Gariad mwy na hwn nid oes gan neb, sef bod i un roddi ei einioes dros ei gyfeillion.” Ond nid dros ei gyfeillion y rhoddodd efe ei fywyd, ond dros ei elynion. “Crist mewn pryd a fu farw dros yr annuwiol.”

 

III. Daw ei gyfaddasder i fod yn Ddyddanydd i’r golwg eto yn y ffaith ei fad yn alluog i gynorthwyo ei bobl yn mhob cyfyngder. - Anmhosibl dyddanu heb rhyw gymaint o allu i gynorthwyo yr hwn a ddyddenir; oblegid nid yw g eiriau heb weithredoedd ond ychydig o werth. Pan ddarfu i’r Iesu ddyweyd wrth y weddw o Nain, “Nac wyla,” yr oedd yn dyweyd hyny oddiar ei ragwelediad o’r weithred oedd yn canlyn. Ni fuasai yn fawr cysur iddi glywed y geiriau, “Nac wyla,” oni bae fod. adgyfodiad ei mab yn canlyn. Nid oes hawl gan neb i ddyweyd, “Nac wyla” os na fydd ganddo allu i adfer y golled, a dyna sydd yn gwneyd Duw yn Ddyddanydd heb ei fath, fod digon o allu ganddo i adfer pob colled. Mae pob gallu ac awdurdod yn ei law. “Myfi yw Duw Hollalluog,” meddai am dano ei hun. Y mae yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth. Beth bynag fyddo y tristwch neu y gorthrymder all ein cyfarfod, y mae digon o allu yn Nuw i’n cynorthwyo. Os na wna symud y baich i ffwrdd, fe rydd nerth digonol i’w gario – “Digon i ti fy ngras i; canys fy nerth i a berffeithir mewn gwendid;” “Yr hwn a rydd nerth i’r diffygiol, ac a amlha gryfder i’r dirym.” Er eu bod yn wan ac eiddil eu hunain, eto y maent yn nerthol drwy Dduw. Dywed yr Apostol, “Yr wyf yn gallu pob peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu.” Pan yr oedd braich wan yr apostol yn ymaflyd yn mraich yr Hollalluog, yr oedd yn cael ei alluogi i wneyd pob peth, ac y mae Hollalluogrwydd Duw yn dyfod yn nerth a dyogelwch iddo rhag pob niwed. “Y cwningod,” meddai Solomon, “nid ydynt bobl rymus, eto hwy a wnant eu tai yn y graig;” hyny yw, os mai creaduriaid gweiniaid a distadl ydynt, y maent yn ddigon doeth i wneyd eu cartref yn nghadernid y creigiau. Er i’r gwyntoedd guro, y mellt wibio, a’r taranau ruo, y maent yn eithaf dyogel yn nghysgod y graig gadarn. Felly am y Cristion; faint bynag y trallodau, y (x138) cystuddiau, a’r gorthrymderau ddaw i’w gyfarfod yn nhaith yr anialwch, bydd yn eithaf dyogel, er gwaned ydyw; oblegid y mae wedi ei guddio yn holltau “Craig yr Oesoedd” - yn nghadernid Hollalluogrwydd y Duwdod.

 

.................. “Cael Duw yn Dad, a Thad yn noddfa,

.......................Noddfa’n graig, a chraig yn dwr;

....................Mwy nis gallaf ei ddymuno

......................’N ddyogelwch i’m rhag tân a dw’r;

....................O hono ef mae fy nig-onedd

.......................Ac ynddo trwy fyddinoedd âf;

....................Hebddo, eiddil gwan a dinerth,

.......................Colli’r dydd yn wir a wnaf.”

 

Mae y môr weithiau yn berwi, yn ymderfysgu, ac yn ymgynddeiriogi, nes taflu ei donau trochionog tua’r nefoedd, fel pe byddai wedi penderfynu ysgubo pob seren oddiar wyneb y ffurfafen; ond yn nghanol ei gynddaredd, mae y creginbysg bychain yn cymeryd gafael mor ddyogel yn y graig fel na all y môr, er cymaint ei derfysg eu syflyd o’u lle. Paham hyny? O! dyna paham - y mae gwendid wedi cydio mewn nerth; y graig yw eu dyogelwch. Y mae holl nerth y graig, drwy y cysylltiad agos sydd rhyngddi a’r limpets bychain, wedi dyfod yn nerth iddynt hwy i sefyll gerwin donau’r môr. Rhywbeth tebyg i hyn yw hanes llawer Cristion. Mae tonau mawrion yn codi o’i amgylch, megys colledion, cystuddiau, profedigaethau, ac yn curo yn ffyrnig am ei draws, ac yn bygwth ei ysgubo ymaith i fôr dinystr; ond y mae yn gafaelyd drwy ffydd yn Nghraig yr Oesoedd, yn Hollalluogrwydd y Duwdod, yn cydio yn haeddiant y Gyfryngwr, fel y limpet wrth y graig, fel nas gall holl ystormydd y byd ei ysgar oddiwrth ei Dduw; ac wrth edrych ar hyn, dywed yr Apostol yn gryf a difloesgni, “Pwy a’n gwahana ni oddiwrth gariad Crist?” gan herio pob gallu sydd mewn bod. Y mae yn hyfryd meddwl am nerth a chadernid y greadigaeth; y mynyddoedd cedyrn, y bryniau cribog, y creigiau daneddog; mor gadarn yr ymddengys Plinlimon, Cader Idris, a’r Wyddfa fawreddog, ond benthycol wedi’r cwbl yw eu nerth hwy. Y mae boreu i wawrio pan y bydd eu nerth a’u cadernid wedi diflanu, “Canys y mynyddoedd a giliant, a’r bryniau a symudant;” ond am nerth y credadyn, ni ddiflana byth. “Fy nhrugaredd ni chilia, a chyfamod fy hedd ni syfl, medd yr Arglwydd sydd yn trugarhau.” Gan hyny, mae yn werth i ni ymddiried ynddo. (x139)

 

 

Yn y Tŵr yn Llundain ehwi gewch weled pob math o arfau rhyfel; y maent yn cael eu cadw yn ofalus fel hen relics buddugoliaethau y gorphenol. Y mae edrych arnynt yn creu dyddordeb ynoch ar y pryd; ond y mae yr oll yn myned yn ddim pan edrychwn i dŵr gwirioneddau Duw. Beth yw y Beibi? Tŵr arfau Duw; ac y mae yr arfau hyn wedi enill y buddugoliaethau mawrion yn y gorphenol; ond hwy enillant fwy yn y dyfodol. Trowch i fewn i un o ystafelloedd y Beibl os am weled relics buddugoliaethau y Duwdod. Yma chwi gewch hanes fod nerth a chadernid y deyrnas wedi cario pob peth o’u blaen. Yn mhwy y mae y nerth a’r cadernid yma? Yn y Dyddanydd sydd yn y testyn. Wel, ai bychan yn eich golwg y wybodaeth, y cariad, a’r gallu sydd yn gwneyd Duw yn gyfaddas Ddyddanydd i bechadur? Na, mi obeithiaf ei fod mor fawr yn eich golwg nes peri i chwi ddyfod ato, ymddiried ynddo, a chysegru eich bywyd iddo; yna, chwi gewch eich dyddanu ganddo yn eich holl orthrymderau. (x140)

 

 

PREGETHAU.

(9) DYRCHAFIAD CRIST.

“Hwn a ddyrchafodd Duw â’i ddeheulaw, yn Dywysog ac yn Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau.”- ACTAU v. 31.

 

Yn yr adnodau blaenorol yr ydym yn cael fod Pedr a’i gyd-apostolion wedi myned mor boblogaidd yn Jerusalem a’r cyffiniau nes yr oedd y Saduceaid a’r archoffeiriaid wedi eu llanw o genfigen tuag atynt. Y fath oedd y genfigen a’r dygasedd fel na wnelai dim y tro i foddloni eu teimladau ond dal yr apostolion a’u bwrw i’r carchar cyffredin. Ond os oedd yr archoffeiriaid a’r Saduceaid yn meddu ar awdurdod i’w taflu i garchar, yr oedd Duw yn alluog i’w gwaredu yn wyrthiol allan o hono, a dyrysu holl gynlluniau eu gwrthwynebwyr, “Eithr angel yr Arglwydd o hyd nos a agorodd ddrysau y carchar, ac a’u dug hwynt allan, ac a ddywedodd, Ewch, sefwch a lleferwch yn y deml wrth y bobl holl eiriau y fuchedd hon.” “Ewch i’r deml” hefyd, y man mwyaf cyhoeddus, “a lleferwch yr holl eiriau,” nid rhan o honynt, ond holl athrawiaethau gogoneddus yr efengyl. “A phan glywsant, hwy a aethant yn foreu i’r deml, ac a athrawiaethasant;” ni ddarfu iddynt betruso nac ymgynghori â chig a gwaed, ond rhoddasant ufudd-dod parod ac ewyllysgar i genadwri yr angel. Erbyn hyn yr oedd yr archoffeiriad a’r rhai oedd gydag ef wedi galw yn nghyd y Sanhedrim mewn trefn i gyallunio rhyw ffordd i osod terfyn bythol ar weinidogaeth yr apostolion; a’r peth cyntaf y penderfynwyd arno yn y Gynghor ydoedd, anfon y swyddogion i’r carchar i gyrchu yr apostolion a’u dwyn ger bron y llys. Ond erbyn i’r swyddogion fyned i mewn i’r carchar, er eu mawr syndod, nid oedd un o’r carcharorion yno. Mewn canlyniad i hyn dychwelasant mor gynted ag oedd yn bosibl i fynegu i’r Cynghor, gan ddywedyd, “Yn wir, ni a gawsom y carchar wedi ei gau o’r fath sicrhaf, a’r ceidwaid yn sefyll o flaen y drysau; eithr pan agorasom, ni chawsom neb i mewn.” Tarawyd y Cynghor â syndod wrth glywed hyn, a dyryswyd eu holl gynlluniau, fel nas gwyddent pa beth i’w ddywedyd na pha beth i’w wneuthur. Ond pan oeddynt yn nghanol y benbleth, dyma rhywun yn dyfod i mewn, ac yn gwaeddi allan, “Wele, y mae y gwyr a ddodasoch chwi yn y carchar yn sefyll yn y deml ac yn dysgu, (x141) y bobl.” Os oedd eu syndod yn fawr wrth glywed eu bod wedi dianc o’r carchar, yr oedd eu syndod yn fwy wrth glywed eu bod yn pregethu yr efengyl yn y deml. Ond wedi i’r syndod fyned heibio, penderfynwyd anfon y blaenor a’r swyddogion at yr apostolion, i’w dwyn hwy ger bron y Cynghor “heb drais, oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl.” Wedi iddynt ddyfod, wele yr archoffeiriad yn gofyn iddynt, gan ddywedyd, “Oni orchymynasom ni, gan orchymyn i chwi na athrawiaethech yn yr enw hwn? ac wele, chwi a lanwasoch Jerusalem â’ch athrawiaeth, ac yr ydych yn ewyllysio dwyn arnom ni waed y dyn hwn.” Ychydig cyn hyn gwaeddent allan, “Ymaith ag ef! bydded ei waed ef arnom ni ac ar ein plant; “ond yn awr, y maent o euogrwydd cydwybod yn arswydo rhag y fath beth. Nid yw yr archoffeiriad yn gwneyd cymaint ag enwi yr Iesu, fel pe na byddai hyny yn unol â’i urddas; o ganlyniad, geilw ef y “dyn hwn.” Ond defnyddia Pedr a’i gyd-apostolion yr Enw yn ddigon eglur wrth ei ateb, “A Phedr a’r apostolion a atebasant ac a ddywedasant, Rhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion; Duw ein tadau ni a gyfododd i fyny Iesu, yr hwn a laddasoch chwi, ac a groeshoeliasoch ar bren.” Yna, dengys yn adnod y testyn fod Duw nid yn unig wedi ei gyfodi, ond hefyd wedi ei ddyrchafu a’i ddeheulaw, yn Dywysog ac yn Iachawdwr, &c. Y mater y ceisiwn sylwi arno oddiwrth y geiriau yw, Dyrchafiad Crist. Cawn edrych ar y pwnc mewn pedair gwedd, sef -

 

........ 1. Y Dyrchafiad.

........ I1. Y modd y dyrchafivyd Ef.

........ 1II.Y cymeriad yn yr hwn y cafodd Ei ddyrchafu.

........ 1V.. Amcan y Dyrchafiad.

 

1. Y Dyrchafiad - “Hwn a ddyrchafodd Duw.” Duw y Tad sydd yma yn dyrchafu neu yn gogoneddu y Duw-ddyn. Dyrchafu ydyw iaith y ddaear; gogoneddu ydyw iaith y nefoedd. Wrth edrych ar y ffaith oddiar safle ddynol, dyrchafu ydyw; ond wrth edrych arni oddiar safle ddwyfol, gogoneddu ydyw. Y mae y Beibl yn ein dysgu fod y Personau Dwyfol yn gogoneddu naill y llall; y Tad yn gogoneddu y Mab, a’r Mab yn gogoneddu y Tad, a’r Ysbryd Glân yn gogoneddu y Mab, “Efe a’m gogonedda i, canys efe a gymer o’r eiddof ac a’i mynega i chwi.” Dywed yr Iesu hefyd ei fod ef yn gogoneddu (x142) y Tad, “Mi a’th ogoneddais di ar y ddaear, mi a gwblheais y gwaith a roddaist i mi i’w wneuthur.” Eto, dengys fod y Tad yn ei ogoneddu yntau, “Ac yr awrhon, O Dad, gogonedda di fyfi gyda thi dy hun, a’r gogoniant oedd i mi gyda thi cyn bod y hyd.” Amlwg yw oddiwrth yr adnod olaf fod y Mab wedi gosod o’r neilldu ei ogoniant gwreiddiol, sef y gogoniant y gofyna am dano yn ol, onide ni fuasai ystyr yn ei weddi ar ei Dad am ei gael drachefn. Llefaru am dano fel peth fu yn eiddo iddo o’r blaen mae’r Iesu yn y fan hon, ond a roddodd heibio yn ei sefyllfa o ddarostyngiad; ac ar derfyn ei daith ddarostyngol erfynia ar ei Dad am adfeddiant o hono. Beth yw y gogoniant hwn? Nid gogoniant hanfodol yr Iesu ydyw, oblegid nis gallai ymddiosg o hwnw heb hefyd ymddiosg o’i Dduwdod. Nid ei ogoniant Cyfryngol a olygir ychwaith, oblegid dywed mai y gogoniant oedd iddo cyn bod y byd ydoedd, tra y dywed am ei ogoniant Cyfryngol, “Y gogoniant a roddaist i mi a roddais iddynt hwy, fel y byddont un, megys. yr ydym ni yn un.” Pa ogoniant, gan hyny, a feddylir fan hon? Gogoniant allanol oedd yn perthyn i’r ffurf ddwyfol o fodoli, yr hwn a osodir allan gan Paul yn yr adnod hono, “Yr hwn, ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw; eithr efe a’i dibrisiodd ei hun, gan gymeryd arno agwedd (ffurf) gwas.” Efe a waghaodd, neu a ddiosgodd ei hun o’r gogoniant dwyfol a berthynai iddo. Fe ddarfu i Fab Duw wrth gymeryd arno natur dyn roddi heibio y ffurf ogoneddus hono a berthynai i’w Dduwdod, gan gymeryd arno ffurf gwas. Yn lle ymddangos yn ffurf Duw, fe’i dibrisiodd ei hun, gan gymeryd ffurf dyn; ac ar orpheniad y gwaith fel gwas, y mae yn apelio at ei Dad am iddo gael ei ogoneddu yn ei ddynoliaeth a’r gogoniant oedd yn perthyn iddo yn wreiddiol fel person dwyfol cyn bod y byd. Y mae dyrchafiad neu ogoneddiad yr Arglwydd Iesu, gan hyny, yn cynwys ei fod yn cael yn ol yr hyn yr ymwaghaodd, neu yr ymddiosgodd o hono wrth ddyfod i sefyllfa ei ddarostyngiad.. Golyga ei fod yn ail wisgo y gwisgoedd gogoneddus a dynodd oddi am dano wrth gymeryd eich natur chwi a minau; fod y cwbl a osodwyd o’r neilldu ganddo fel Duw yn cael ei adfeddianu ganddo fel Duw-ddyn, neu fel Cyfryngwr. Y ris gyntaf yn narostyngiad Crist oedd cymeryd natur dyn; yr ail ydoedd dyoddef a marw yn y natur hono. Y cam cyntaf ydoedd dibrisio ei hun, gan gymeryd arno agwedd gwas; yr ail ydoedd bod yn ufudd hyd (x143) angeu, ïe, angeu’r groes. Wrth hyn gwelir fod yr Arglwydd Iesu wedi gallu cymeryd y ris gyntaf yn ei ddarostyngiad heb y natur ddynol; ond nis gallai gymeryd y ris gyntaf yn ei ddyrchafiad heb y ddwy natur gyda’u gilydd, oblegid wedi i’r natur ddynol gael ei huno â Pherson Dwyfol y Mab, nid yw i beidio bod mewn undeb ag ef byth mwyach. Mae yr undeb sydd rhwng y ddwy natur yn gyfryw ag sydd yn peri fod gweithrediad y naill natur yn cael ei briodoli i’r llall, ac yn undeb hefyd sydd yn rhoddi mantais i’r natur ddwyfol i fyned yn is nag a fuasai yn bosibl iddi fyned oni bae am dano. O’r ochr arall, y mae y natur ddynol wedi cael mantais i fyned yn uwch, ïe, yn annhraethol uwch, nag a fuasai yn bosibl iddi byth fyned oni bae am ei hundeb â’r ddwyfol. Drwy yr undeb hwn y mae Mab Duw wedi gallu myned mor isel ag angeu a’r bedd; ac y mae y natur ddynol, yn rhinwedd yr un undeb, wedi ei chodi yn uwch na’r nefoedd, sef i “ istedd ar ddeheu-law y Mawredd yn y goruwchleoedd.” Os oedd y darostyngiad yn cynwys yr iselder dyfnaf y gallasai y natur ddwyfol gael ei dwyn iddo, y mae y dyrchafiad yn cynwys yr uchder mwyaf y gallasai y natur ddynol gael ei chodi iddo, “O herwydd paham Duw a’i tra-dyrchafodd yntau, ac a roddes iddo enw yr hwn sydd goruwch pob enw.” Gellid meddwl fod ymdrechfa galed wedi bod rhwng y ddau fyd, sef y byd hwn a’r byd ysbrydol, mewn perthynas i’r ris gyntaf yn y dyrchafiad, sef ei ddyrchafiad o’r bedd. Yr oedd y ddaear wedi penderfynu ei gadw i lawr, ac wedi ymarfogi i’r amcan hwnw. Yr oedd wedi crynhoi yn nghyd ei holl alluoedd - Iuddewon a Rhufeiniaid, barnwyr a milwyr - a’r oll wedi ymgynddeiriogi yn ei erbyn, ac ymgynghreirio i’w gadw i lawr. Seliwyd y maen ar ddrws ei fedd, a gosodwyd milwyr arfog i’w wylio rhag i’w ddysgyblion ei ladrata o hyd nos. Ond er gwaetha’r maen a’r milwyr, i fyny y daeth; ïe, er gwaethaf cadwynau angeu, adgyfododd, oblegid yr oedd y nefoedd wedi penderfynu ei ddyrchafu; a boreu y trydydd dydd, wele y maen wedi e dreiglo ymaith, a’r Iesu wedi adgyfodi, a’r milwyr, druain! wedilsyrthio yn wysg eu cefnau ar y ddaear fel meirwon, ac angeu wedi ei Iwyr orchfygu.

 

................... “Nis gallodd angeu du

.......................Ddal Iesu’n gaeth

....................Ddim hwy na’r trydydd dydd,

........................Yn. rhydd y daeth.”

 

(x144) Yr oedd Duw wedi penderfynu ei ddyrchafu, ac am hyny nid oedd digon o allu mewn bod i’w gadw i lawr.

 

II. Y modd y dyrchafwvyd ef - “Hwn a ddyrchafodd Duw a’i ddeheulaw.” Fe’i dyrchafwyd i’r ddeheulaw; ond “a’i ddeheulaw” ddywed y testyn. Y mae gwahaniaeth rhwng y ddau ymadrodd. Golyga “i’r ddeheulaw” ei fod wedi ei ddyrchafu i’r lle mwyaf gogoneddus yn y nefoedd, tra y golyga dyrchafu “a’i ddeheulaw” y nerth dwyfol fu yn gweithredu yn adgyfodiad Crist. Nid yw Duw yn defnyddio ei ddeheulaw ond i gyflawni gweithredoedd neillduol a phwysig. Pan yn dwyn y greadigaech i fod yr oedd yn gwneyd hyny â gair ei enau; yr oedd yn medru taenu y gogledd ar y gwagle, crogi y ddaear ar ddiddim, a’r gair “Bydded,” ac y mae yn cynal pob peth a gair ei nerth. Ond pan aeth i ddyrchafu ei Fab, y mae yn gwneyd hyny â’i ddeheulaw, “â mawredd ei nerth,” neu fel y dywed yr Apostol, “Yn ol gweithrediad nerth ei gadernid ef, yr hon a weithredodd efe yn Nghrist, pan y cyfododd ef o feirw, ac a’i gosododd i eistedd ar ei ddeheulaw ei hun yn y nefolion leoedd, goruwch pob tywysogaeth, ac awdurdod, a gallu, ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw.” Pan waredwyd Israel o’r Aipht, fe ddywedir fod deheulaw y Goruchaf wedi cael ei defnyddio; ac y mae Moses a meibion Israel yn canu i’r Arglwydd, gan ddywedyd, “Canaf i’r Arglwydd; canys gwnaeth yn rhagorol iawn; taflodd y march a’i farchog i’r mor. Dy ddeheulaw, Arglwydd, sydd ardderchog o nerth.” Dywed Esaia eto ar yr un pwnc, “Yr hwn a’u tywysodd hwynt â deheulaw Moses, ac a’i ogoneddus fraich, gan hollti y dyfroedd o’u blaen hwynt, i wneuthur iddo ei hun enw tragywyddol.” Yr oedd Duw am wneyd enw tragywyddol iddo ei hun trwy waredu ei bobl o dŷ y caethiwed; a phan y mae yn gwaredu y pechadur o gaethiwed ysbrydol, y mae yn gwneyd enw tragywyddol iddo ei hun, yr hwn ni thorir ymaith. Bydd canu tragywyddol am y ddwy waredigaeth yma - “A chanu y maent gân Moses a chân yr Oen.”

 

III. Y cymeriad yn yr hwn y cafodd ei ddyrchafu - “Yn Dywysog ac yn Iachawdwr.” Daeth i lawr i fod yn faban egwan i’r tlodi a’r iselder dyfnaf; aeth i fyny yn Dywysog brenhinoedd y byd. Daeth i lawr gan gyfaddef fod “gan y llwynogod ffauau, a chan adar y nefoedd nythod, ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr;” ond aeth i fyny (x145) yn Dywysog yr ymherodraethau. Daeth i lawr i fod “yn wr gofidus a chynefin â dolur;” aeth i fyny yn Iachawdwr tragywyddol i’w bobl. Fe gafodd Esaia oddiar fynydd proffwydoliaeth olwg arno yn dyrchafu, ac wrth ei weled mor hardd yn ei wisg, yn ymdaith yn amlder ei rym, gofynodd mewn syndod - “Pwy yw hwn sydd yn dyfod i fyny o Edom, yn goch ei ddillad o Bosrah?” a’r ateb gafodd oedd - “Myfi, yr hwn a lefaraf mewn cyfiawnder, ac wyf gadarn i iachau.” Os yw holl filwyr y groes yn glwyfus, mae y Tywysog yn iach, ac yn meddu ar allu i’w iachau hwythau. Gan hyny cymerwch gysur, filwyr Iesu; mae eich blaenor nid yn unig yn Dywysog Cyfoethog, ond mae hefyd yn Iachawdwr galluog, ac wedi ei ddyrchafu er mwyn iachau ei bobl. Bydd brenhinoedd y ddaear yn cael croesaw mawr pan yn dychwelyd ar ol enill brwydr, ond pe dodid holl groesaw brenhinoedd a thywysogion y byd at eu gilydd, nid yw yn ddim o’i gymharu a’r hyn gafodd Tywysog Iachawdwriaeth pan esgynodd wedi enill buddugoliaeth pen Calfaria. Yr oedd y llawenydd mor fawr wrth ei weled yn dyfod adref nes y darfu i’r Tad anfon miloedd o angylion i’w gyfarfod. Fel y darfu i’r angylion ei ddilyn pan yn dysgyn, felly darfu iddynt fyned gyda llawenydd mawr i’w gyfarfod pan yn esgyn; ac fel yr oeddynt yn agoshau at byrth y ddinas nefol, y maent yn gwaeddi allan, “O! byrth, dyrchefwch eich penau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragywyddol; a brenin y gogoniant a ddaw i mewn. Pwy yw brenin y gogoniant hwn? Yr Arglwydd nerthol a chadarn, yr Arglwydd cadarn mewn rhyfel.” Jehofa yn natur dyn sydd yn dychwelyd yn fuddugoliaethus o faes y frwydr, “Efe yw brenin y gogoniant,” oedd yr ateb. Ar hyn dacw’r pyrth yn agor led y pen, a’r drysau tragywyddol yn ymddyrchafu, mewn trefn i’r orymdaith ogoneddus i fyned i fewn, ac yn mlaen a hwy heibio i’r tywysogaethau a’r awdurdodau; heibio i’r thronau a’r arglwyddiaethau, nes cyrhaedd goruwch iddynt oll - “Goruwch yr holl nefoedd;” a chan ei fod wedi esgyn mor uchel, dywed Paul ei fod yn awr yn medru cyflawni pob peth.

 

IV. Amcan y dyrchafiad.- “I roddi edifeirwch a maddeuant pechodau.” Daeth i lawr i barthau isaf y ddaear er mwyn rhoddi, ac y mae wedi esgyn i’r un dyben. Rhoddwr heb ei. fath ydyw; dyna ei hoff waith pan ar y ddaear - rhoddi llygaid i ddeillion, traed i gloffion, clustiau i fyddariad, bywyd (x146) i feirwon. Ond nid yw ei holl roddion ar y ddaear yn ddim o’u cymharu a’r hyn mae yn roddi yn awr wedi esgyn i’r ddeheulaw. Rhoddi megys o’i brinder y byddai ar y ddaear - tynu ar ystordy ei Dad; ond erbyn hyn mae yn rhoddi o’i gyflawnder anfeidrol ei Hun. Mae y Tad wedi trosglwyddo i’w feddiant holl gyfoeth yr ymherodraeth ddwyfol, ac wedi ei “roddi ef yn ben uwchlaw pob peth i’r eglwys.” Mae pob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear wedi ei roddi iddo; ac y mae allweddau uffern a marwolaeth yn grogedig wrth ei wregys; ïe, mae allweddau hen gistiau llawnion tragywyddoldeb yn ei feddiant hefyd, yn ogystal a rhai uffern a marwolaeth. Eistedda ar orsedd fawr y nef gerbron y Tad, a phob awdurdod yn ei law i wneyd yr hyn a fyno. Rhoddodd brawf o’i awdurdod yn union wedi iddo esgyn; oblegyd ar ddydd y Pentecost fe roddodd o’i Ysbryd nes oedd y ddaear wedi myned i syndod. Yr oedd y miloedd fel pe wedi colli arnynt eu hunain wrth fwynhau y rhoddion gwerthfawr a dwyfol. Cyn naw o’r gloch y boreu, darfu i dair mil dderbyn digon i fod yn frenhinoedd. ac yn offeiriaid i Dduw a’i Dad ef yn dragywyddol, ac yn fuan iawn yr oedd y dyrfa wedi chwyddo i bum’ mil. (x148)

 

 

Wedi enill brwydr o nod, bydd brenhinoedd y ddaear ar eu dychweliad yn bathu medals, ac yn gosod enw y frwydr, neu rywbeth cysylltiedig â hi, ar y bathodyn, ac yn rhoddi un i bob milwr yn goffadwriaeth am y fuddugoliaeth. Felly Brenin Seion, wedi iddo ddychwelyd o frwydr fawr Calfaria, fe wnaeth fedals, sef rhoddion ysbrydol, erbyn dydd y Pentecost, ac fe gerfiodd “edifeirwch” a “maddeuant” arnynt, ac y mae yn rhoddi y rhai hyn i’w holl filwyr er coffadwriaeth am y frwydr. Anmhosibl fuasai cael ffordd i faddeu oni bae am Galfaria. Y fuddugoliaeth fawr hon sydd wedi enill y bendithion gwerthfawr sydd yn awr o hyd cyrhaedd i ni; ac y mae yr Hwn a’u pwrcasodd wedi ei ddyrchafu i’w rhoddi hwy i bwy bynag a’u derbynio. Y mae wedi caethiwo caethiwed drwy ei fuddugoliaeth, meddai Dafydd, ac wedi esgyn i roddi rhoddion i ddynion. Mae cyfiawnhad, ail-enedigaeth, ffydd, maddeuant, mabwysiad, sancteiddhad, oll i fewn yn y rhoddion yma. Neu, mewn geiriau ereill, mae yr oll mewn maddeuant. Beth yw maddeuant? Dyna beth ydyw, meddai y diweddar Mr. Charles, Gaerfyrddin - “Duw mewn Iawn yn troi ei wyneb at bechadur.” Beth yw “edifeirwch?” Y pechadur yn rhinwedd yr un Iawn yn troi ei wyneb at Dduw - y ddau (x147) yn siriol wenu ar eu gilydd yn Nghyfryngdod y Mab; a pha fwyaf eglur fyddo maddeuant, cryfaf oll fydd yr edifeirwch. Yr ydym yn darllen weithiau am lifogydd mawrion yn ngwledydd y Dwyrain, a’r achos o honynt ydyw fod yr haul yn toddi yr eira ar benau y mynyddoedd uchel, nes peri i’r afonydd orlifo dros eu ceulanau. Felly y mae pan fyddo pelydrau Haul y Cyfiawnder mewn maddeuant yn toddi yr eira a’r iâ sydd yn nghalon y pechadur; mae yn peri i ddyfroedd edifeirwch orlifo drosodd - fel y bechadures yn nhŷ Simon, yn golchi traed yr Iesu â’i dagrau, ac yn eu sychu à gwallt ei phen. Dylem gofio hyn, nad oes fawr o bwys mewn edifeirwch os na fydd yn tarddu oddiar faddeuant, os na fydd yn dyfod o’r orsedd Ddwyfol.

 

Yr wyf yn cofio darllen am ferch fechan mewn mission room yn Llundain yn cael ei haddysgu; ac wedi dyfod i fedru sillebu geiriau unsill, megys Duw, Crist, &c., dechreuodd ar eiriau dausill, megys cariad, nefoedd, ac uffern; yna fe’i harweiniwyd at eiriau trisill, a’r gair cyntaf a gafodd ydoedd “repentance.” Methai yn lân a dyfod drwy hwn, a gorfu iddi ei roddi i fyny. Cyn hir, fe’i cymerwyd yn glaf, yr hyn a barodd iddi golli ei hymwybyddiaeth i raddau pell; ond bob tro y deuai ati ei hun, ei phrif ymdrech oedd ceisio sillebu y gair “repentance.” Un diwrnod, pan oedd ei thad, yr hwn oedd anffyddiwr, yn gweini arni, gwaeddodd allan pan yn methu sillebu y gair, “O! father, can you spell the word ‘repentance’?” a chyda hyny tynodd yr anadl ddiweddaf. Ond os dystawodd llais y fechan, parhaodd ei brawddeg olaf i adseinio yn nghlustiau ei thad. Yr oedd yn methu cael llonydd ddydd na nos gan y geiriau. Ni fu yn hir cyn myned i’r mission room ei hun, ac yno syrthiodd ar ei liniau, gan lefain allan, “O! God teach me to spell the word ‘repentance.’ “ Mae ein Duw ni yn medru gwneyd i bethau bychain fel hyn fod yn foddion i ddwyn y bendithion gogoneddus a berthyn i iachawdwriaeth i afael dynion, a hyny am fod Gwr ei ddeheulaw wedi rhoddi Iawn digonol Iddo, ac wedi esgyn i’r orsedd gyda’r amcan i roddi edifeirwch a maddeuant. i bawb a ddel ato. Wel, awn eto i ofyn am y bendithion hyn. (x148)


PREGETHAU.

(10) RHAD RAS.

 

“Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac yntau yn gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi drwy ei dlodi ef.”- 2 CORINTHIAID viii. 9.

 

Yn yr adnodau blaenorol anoga yr Apostol y Corinthiaid i wneyd casgliad i gynorthwyo y saint tlodion oedd yn Jerusalem, ac mewn trefn i’w symbylu i wneyd casgliad da a theilwng o honynt eu hunain, mae yn cyfeirio at haelfrydedd yr eglwysi yn Macedonia, y rhai oeddynt wedi cyfranu tuhwnt i’w ddysgwyliad.” Yr ydym ni hefyd yn hysbysu i chwi, frodyr, y gras Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia; ddarfod mewn mawr brofiad cystudd i helaethrwydd eu llawenydd hwy a’u dwfn dlodi ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy. Oblegid yn ol eu gallu (yr wyf fi yn dyst), ac uwchlaw eu gallu, yr oeddynt yn ewyllysgar o honynt eu hunain.” Nid oedd dim gorfodaeth arnynt i gyfranu ond yn unig gorfodaeth cariad hunangynhyrfiol at Dduw a’i bobl. Buasai yn hawdd iddynt lunio esgusodion i ysgoi y casgliad, fel y bydd llawer yn gwneyd yn ein dyddiau ni. Gallasent ddadleu pellder ffordd, gan ddyweyd, Beth yw tlodion Jerusalem i ni? mae genym lawn ddigon o waith gartref, heb fyned i gynorthwyo dynion pell fel yna. Neu buasai yn hawdd iddynt ddadleu eu hanallu, eu cystudd, a’u tlodi; ond yn lle gwneyd unrhyw esgusawd o’r fath, wedi iddynt glywed am eu brodyr a’u chwiorydd yn Jerusalem y rhai oedd mewn eisieu, yr oeddynt yn barod i wneyd pob aberth er eu mwyn, er eu bod mewn dygn dlodi eu hunain. Deisyfasant ar yr Apostol i dderbyn eu rhoddion, a’u cyflwyno drosodd iddynt gyda mynegiad o gydymdeimlad dwfn. Yn awr, wedi i Paul gael y fath foddlonrwydd yn nghyfeillion Macedonia, mae yn eu dal i fyny fel esiampl er symbylu y Corinthiaid i wneyd yr un modd. Ymddengys fod yr eglwys yn Corinth, trwy ddylanwad Titus, wedi dechreu ar y gwaith o gasglu, ond pur araf y gwelai yr Apostol ef yn cael ei ddwyn yn y blaen; o ganlyniad dymuna arnynt ei ddwyn i derfyniad, a hyny yn deilwng o honynt eu hunain; yn deilwng o’u hamgylchiadau a’u doniau ysbrydol. Yr oedd eglwys Corinth wedi ei chynysgaeddu yn helaeth â doniau ysbrydol, yn ol adnod y seithfed - “Eithr fel yr ydych yn mhob peth yn (x149) helaeth mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tuag atom ni;” gan hyny, meddai yr Apostol, “Edrychwch ar fod o honoch yn y gras hwn hefyd yn helaeth,” sef yn eu casgliad tuag at saint Jerusalem. Bydded eich haelfrydedd y fath nes argyhoeddi pawb o reality eich crefydd, ac o nerth eich cariad tuag at Dduw a’i bobl. Heblaw hyn oll, meddai yr Apostol, yr ydych chwi yn hysbys o’r esiampl uchaf mewn bod o gariad yn aberthu er mwyn ereill; yr ydych chwi wedi clywed am raslonrwydd anfeidrol ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a adawodd y nefoedd gan ddyfod i’r ddaear i ddyoddef a marw yn lle a thros bechaduriaid. “Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist,” sydd wedi ei amlygu yn y ffaith iddo ef, er yn gyfoethog, ddyfod er ein mwyn ni yn dlawd. Dylai hyn, gan hyny, fod yn ddigon o gymhelliad i chwi i roddi rhan, o leiaf, o’ch Cyfoeth at ei achos. Cawn sylwi ar bedwar o bethau oddiar y testyn:-

 

I. Sefyllfa wreiddiol Crist.

II. Y sefyllfa y daeth iddi drwy Ei ymgnawdoliad.

III. Amcan dyfodiad Crist i’r sefyllfa hono.

IV. Achos gwreiddiol yr oll -” Gras ein Harglwydd Iesu Grist.”

 

I. Sefyllfa wreiddiol Crist. - “Iddo ef ac yntau yn gyfoethog.” Nid cyfoethog o ran meddianau allanol yn gymaint a feddylir y fan hon, ond cyfoethog o ran priodoleddau a gogoniant personol; nid cyfoethog mewn pethau oedd ar wahan iddo, ond cyfoethog yn yr hyn oedd ynddo ei hun yn wreiddiol ac hanfodol; nid cyfoethog gyda golwg ar y bydoedd a’r cyfundraethau, y thronau a’r arglwyddiaethau, yr awdurdodau a’r meddianau ddygwyd i fod ganddo; ond cyfoethog gyda golwg ar y gallu a’r ddoethineb anfeidrol yn rhinwedd y rhai yr oedd yn medru rhoddi bod i’r cyfryw bethau. Mewn gallu i gynyrchu y mae gwir gyfoeth yn gynwysedig. Y mae hyn yn dyfod i’r golwg yn ei berthynas à dynion; y mae gallu meddyliol yr awdwr yn fwy gwerthfawr na dim a fedd, yn fwy gwerthfawr hyd yn nod na’r llyfrau a gynyrchir ganddo. Llawer mwy ei werth ydyw athrylith (genius) yr artist nag unrhyw amlygrwydd allanol a rydd efe o hono. Ond er cymaint, yw gallu a medrusrwydd y meddwl dynol, mae yn (x150) syrthio yn annhraethol fyr i allu creu y gronyn neu y glaswelltyn lleiaf. Gall roi ffurf newydd i beth sydd yn bod yn barod, ond nis gall roddi bod i ddim. O’r ochr arall, yr oedd yr Arglwydd Iesu yn ddigon mawr a chyfoethog mewn gallu a doethineb, nid unig i roddi ffurf i’r hyn oedd yn bod, ond i roddi bod yn ogystal i bob peth. “Canys trwyddo ef y crewyd pob dim ag sydd yn y nefoedd ac ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig.” O ‘ berson mawr! O! berson teilwng o’ch addoliad a’ch ufudd-dod chwi a minau, onide? Digon mawr i greu pob peth, digon mawr i fod yn amcan pob peth, ac i fod yn ganolbwynt yr oll a grewyd ganddo - “Ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll.” Pa ryfedd i’r Apostol dori allan mewn syndod gan ddyweyd, “O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw, mor anchwiliadwy yw ei farnau ef; a’i ffyrdd mor anolrheiniadwy ydynt.” Ac nid yn unig yr oedd yn gyfoethog mewn gallu a doethineb, ond yr oedd yn gyfoethog yn holl gyfoeth Duw; yn holl briodoleddau yr hanfod ddwyfol. “Oblegid ynddo ef yr oedd holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol; “ “Rhyngodd bodd i’r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef.” Mae yr ychydig gyfoeth sydd yn mhlith dynion yn rhanedig - hyny yw, yn cael ei ddosbarthu rhyngddynt. I un rhoddir athrylith, i arall alluoedd meddyliol cryf i wthio i’r dwfn ar ol perlau, i arall nerth moesol; ca ereill eu bendithio â safleoedd cymdeithasol uchel, a chyflawnder o olud daearol. Fel hyn y mae y Duw mawr wedi trefnu iddi fod, ac yn ddiddadl dyma fel y mae oreu. Ond am yr Arglwydd Iesu, y mae cydgyfarfyddiad ynddo ef. Beth bynag oedd cyfoeth yr hanfod dragywyddol, yr oedd yr Iesu yn feddianol ar y owbl. Dyna ei sefyllfa cyn ymgnawdoli - cyfoethog yn holl gyfoeth Duw.

 

II. Y sefyllfa y daeth iddi drwy ei ymgnawdoliad.- Myned yn dlawd er mwyn pechaduriaid - dyna y desgrifiad a roddir o hon yn ei ddarostyngiad. Y mae bod yn dlawd heb fod erioed yn ddim arall yn beth digon truenus a thorcalonus, ond beth ydyw gweled dyn mewn sefyllfa o’r fath at weled Duw felly? Dyma i chwi olygfa! Gweled Brenin y gogoniant, Etifedd y bydoedd, heb le i roddi ei ben i lawr, yr Hwn oedd yn feddianol ar holl gyfoeth y Duwdod yn ymddibynu ar elusenau gwragedd a weiniasent iddo o’r pethau oedd ganddynt; Creawdwr cyrau y ddaear wedi dyfod i’r fath sefyllfa nes gorfod dyweyd “fod gan y llwynogod ffauau, a chan adar y (x151) nefoedd nythod, ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr.” Wyddoch chwi, fe fydd tlodi yr Arglwydd Iesu yn un o ryfeddodau. y nefoedd i dragywyddoldeb. Bydd y ffaith fod y Person Anfeidrol hwn wedi dyfod i’r fath sefyllfa druenus yn destyn syndod pob seraph a sanct yn oes oesoedd.

 

Y mae ei dlodi yn dyfod i’r golwg pan ystyriwn y natur yn yr hon y gwnaeth ei ymddangosiad ynddi. Os ymddangos yn natur ei greadur o gwbl, buasai yn naturiol iddo ymddangos yn y natur uchaf a gogoneddusaf mewn bod - yn natur y cerub

 tanllyd, neu y seraph dysglaer; ond yn lle hyny, fe wnaeth ei ymddangosiad yn ein natur ni, natur isel wael. “Canys ni chymerodd efe naturiaeth angylion, eithr had Abraham a gymerodd efe.” Daeth yr hwn oedd yn ffurf Duw i fod yn ffurf gwas. Beth sydd yn gynwysedig yn y geiriau rhyfedd yma? Y maent yn cynwys, beth bynag, a dyweyd y lleiaf, fod Person Anfeidrol wedi dyfod i breswylio o fewn cylch natur feidrol a therfynol. “Mawr yw dirgelwch duwioldeb, Duw a ymddangosodd yn y cnawd.” Pwy all fesur y pellder rhwng yr orsedd dragywyddol a phreseb Bethlehem; rhwng y fynwes ddwyfol a mynwes Mair y Forwyn? Pa greadur fyddai yn foddlon cymeryd natur yr abwydyn sydd yn ymlusgo yn y llwch, er mwyn yr abwydyn? Ac yn wir, pe byddai yr archangel yn boddloni gwneyd hyny, byddai hyny yn ddarostyngiad mawr arno; ond ni byddai hyny, wedi’r cwbl, ond y naill greadur yn cymeryd arno natur creadur arall. Yn y testyn y mae rhywbeth annhraethol fwy na hyny, sef Creawdwr cyrau’r ddaear yn dyfod o’i wirfodd i natur creadur o ddyn; Person Anfeidrol, annherfynol, yn dyfod i breswylio mewn natur feidrol a therfynol. Y Gair Tragywyddol, yr hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw, a wnaethpwyd yn gnawd ac a drigodd yn ein plith ni. Pa fodd y darfu i’r annherfynol ddyfod o fewn cylch y terfynol, nid wyf yn cymeryd arnaf i esbonio; ond os nad ydwyf yn ei ddeall a’i amgyffred, yr wyf yn ceisio ei gredu ac ymostwng yn addolgar o’i flaen, gan ddyweyd -

 

............... “Yn mhlith holl ryfeddodau’r nef,

.......................Hwn yw y mwyaf un

..................Gwel’d yr Anfeidrol Ddwyfol Fod

........................Yn gwisgo natur dyn.”

 

A bendigedig fyddo ei enw, nid yw yn meddwl ei dadwisgo byth; oblegid y mae wedi priodi y natur ddynol, nid hyd (x152) angeu pen Calfaria, ond i dragywyddoldeb. Y mae yn fy natur i y funyd yma, a bydd ynddi foreu y farn a ddaw; ac ar ol i’r farn fyned heibio, Mab y dyn fydd ef wedi hyny, a chawn ei weled ef byth yn y natur ddynol ar ei orsedd.

 

Daw y sefyllfa o dlodi y daeth iddi i’r golwg eto yn ei amgylchiadau yn nyddiau ei ddarostyngiad. Gallasai fod yn ddyn heb fod yn dlawd, ac heb fod yn wr gofidus a chynefin a, dolur; ond mewn trefn iddo fod yn mhob peth yr un ffunud a ninau, fel y gallai gydymdeimlo â ni yn ein holl drafferthion, daeth yn gyfranog, nid yn unig o’n natur, ond o’n hamgylchiadau, “Canys nid oes i ni Archoffeiriad heb fedru cyd-ddyoddef â’n gwendid ni, ond wedi ei demtio yn mhob peth yr un ffunud. a ninau, eto heb bechod.” Fe ddaeth i’r amgylchiadau isel hyn yn ei enedigaeth, ac nid yn unig hyny, ond parhaodd ynddynt hyd angeu. Bydd llawer yn dechren eu gyrfa yn ddigon isel, ond drwy ddiwydrwydd ac ymroddiad dringant i sefyllfaoedd cyfoethog ac anrhydeddus; ond am yr Iesu, fe barhaodd ef trwy ei holl fywyd yn yr amgylchiadau tlawd y cychwynodd ei yrfa ynddynt. Yn llety yr anifail y tynodd yr anadliad cyntaf, ac ar bren garw y groes y tynodd yr olaf, a’i hanes rhwng y ddau begwn hyn yw, “heb le i roddi ei ben i lawr.” Cymerodd roddion gan dlodion i’w gynorthwyo, a benthycodd arian y dreth gan un o bysgod Môr Galilea. Mewn ystafell fenthyg y bwytaodd y Pasc olaf gyda’i ddysgyblion, a benthyg bedd a gafodd i orwedd ynddo dridiau.

 

.................. “ Nid oedd gan ein Harglwydd ni

..........................Na, thir, na thai, na thref,

......................Bu farw ac felly bu,

..........................A benthyg gafodd ef.”

 

Dyma hanes yr hwn yrodd y ffynonau i’r dyffrynoedd, &c., pan ar y ddaear - eistedd yn sychedig ar ei daith wrth ffynon Jacob, a throi yn newynog at y ffigysbren i edrych a oedd arni ffrwyth. Pa fodd y mae esbonio y fath bethau a hyn? Nid oes esboniad iddynt ond eiddo y testyn, sef iddo fyned er ein mwyn ni yn dlawd. Nid tlodi amgylchiadau yn unig oedd yr eiddo ef, ychwaith; ond yr oedd yn ymwybodol o dlodi annhraethol waeth, sef tlodi cymdeithas, tlodi cyfeillion. Gellir dyweyd nad oedd ganddo neb i gydymdeimlo ag ef; yr un cyfaill i ddyweyd ei gwyn wrtho, na’r un dadleuydd i ddadleu ei achos pan o flaen Pilat. Er iddo ddewis deuddeg, (x153) (x153) eto darfu i un o’r rhai hyny ei fradychu, ac un arall ei wadu, a chefnodd y lleill arno yn nydd ei gyfyngder. Ac yn nghanol ei dlodi a’i unigedd, wele ei Dad yn cuddio ei wyneb arno ar ben Calfaria, nes peri iddo lefain a llef uchel, “Fy Nuw! fy Nuw? paham y’m gadewaist?” Wel, sut yr aeth i’r fath dlodi a’r fath unigedd? Yn unig er eich mwyn chwi a minau, fel y dywed y testyn. Rhydd hyn ar ddeall i ni fod y darostyngiad yn weithred wirfoddol o eiddo Grist ei hun. Nid cael ei dreisio neu ei orfodi, ond dyfod yn ewyllysgar yn ngrym ei gariad ei hun. Nid cipio y goron oddiar ei ben Sanctaidd a wnaed, ond efe ei hunan a’i gosododd o’r neilldu. Diosgodd yn wirfoddol o’i ogoniant tragywyddol, ac nid cael ei ddiosg gan neb. Gymerodd ein natur ni o’i fodd, yn nghyd a’n gwendidau dibechod, a’r oll er lles pechadur.

 

III. Amcan dyfodiad Grist i’r sefyllfa hono - “Fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef.” Crist yn ei sefyllfa ddarostyngol ydyw y cyfrwng sydd wedi ei gwneyd yn bosibl i gyfoethogi pechaduriaid. Drwy ei Berson Dwyfol-ddynol y dylifa y bendithion i’n byd ni. Daeth ef i lawr er mwyn ein codi ni i’r lan; daeth ef i waradwydd fel y’n gogoneddid ni; daeth ef yn gyfranog o’r natur ddynol fel y gallem ni drwy hyny ddyfod yn gyfranog o fywyd tragywyddol “Gwnaed ef yn bechod fel y’n gwnelid ni, yn gyfiawnder Duw ynddo ef.” Y mae tlodi Crist nid yn unig yn arwain y Cristion i olud, ond .i anrhydedd tragywyddol hefyd. Fe arweiniodd ei dlodi yr Iesu ei hun i anrhydedd a gogoniant, ac y mae wedi dyfod yn gyfoethocach drwy ei dlodi nag erioed o’r blaen. Enillodd iddo ei hun enw ac anrhydedd trwy dlodi Bethlehem, ingoedd Gethsemane, ac unigedd Pen Galfaria nas gallasai ddyfod yn feddianol arno mewn un ffordd arall. “O herwydd paham, Duw a’i tra dyrchafodd yntau, ac a roddes iddo enw, yr hwn sydd goruwch pob enw.” Fe ddyrchefir yr oll o’i ganlynwyr yr un modd. Os bydd rhaid iddynt ddyoddef tywydd garw, tlodi, a phrofedigaethau, yn nghyd a’u gwawdio gan y byd, hwy gant eu dyrchafu gyda Christ, yn gystal a’u cyfoethogi mewn gras; oblegid y mae ef wedi esgyn a phob awdurdod yn ei law, ac y mae ei dlodi a’i esgyniad wedi bod gyda’r unig amcan o’n cyfoethogi ni.

 

IV. Achos gwreiddiol yr oll - “Gras ein Harglwydd Iesu Grist.” Gras sydd wrth wraidd y cwbl; gras fu yn gweithio allan y cynllun; y mae y cwbl wedi gwreiddio yn (x154) ngraslonrwydd y Duwdod. Gras sydd yn dechreu y gwaith da, gras sydd yn ei gario yn mlaen, a gras sydd yn ei berffeithio, “Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, a hyny nid o honoch eich hunain, rhodd Duw ydyw.” Nid yn ol ein gweithredoedd ni, ond yn ol gras ei arfaeth Ef - “Wedi ein cyfiawnhan yn rhad drwy ei ras ef, drwy y prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu.” Felly gwelwn mai gras yw y cwbl, ac nid rhyfedd i’r bardd ganu -

 

............................... “Rhad ras

......................Yw’r newydd gan bereiddia’i blas

......................Fu ’rioed ar wyneb daear las;

..................................Hi ddeil ei blas pan losgo’r byd,

......................A berwi o’r môr, a’i donau’n dân,

..................................Y nefol gân fydd gras i gyd.”

 

A ydym ni yn adwaen y gras hwn? yw y cwestiwn mawr. Nid ei adwaen trwy hanes am dano a feddyliwn, ond trwy brofiad o hono yn ein calonau. Cofiwn fod yn bosibl myned o ymyl cyfoeth yr efengyl i wlad y tlodi tragywyddol, a pheth ofnadwy fydd hyny. Megys y bydd melusder yn nghwpan y Cristion na wyr an angel am dano, felly y bydd chwerwder yn nghwpan yr annuwiol na wyr yr un cythraul am dano, am y bydd y pechadur wedi myned o ymyl digon o gyfoeth i dragywyddol dlodi, a bydd yr ymwybyddiaeth hono yn dan yn ei gnawd byth, Gweddïwn, gan hyny, am ras yn ein calonan er ysgoi y fath dlodi ofnadwy. Gwelir weithiau ar rai o’r mynyddoedd uchel yna rhai darnau o eira, a hyny yn nghanol yr haf, er fod pelydrau gwresog a thanbaid yr haul wedi dysgyn arnynt drwy y misoedd blaenorol. Mae cymaint o oerni yn y darnau eira fel mae misoedd o belydrau’r haul yn aneffeithiol i’w toddi. Felly y mae aml i bechadur; er bod yn nghanol haf yr efengyl saif yn galed a dideimlad dan belydrau Haul Cyfiawnder ar hyd y blynyddau. Ond cofia hyn, bechadur, yr wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint erbyn dydd digofaint a dadguddiad cyfiawn farn Duw. (x155)


PREGETHAU.

(11) “DUW, CARIAD YW.” (1 IOAN iv. 8).

Y mae y gwirionedd sydd yn y testyn yn un o’r rhai mwyaf goruchel a fedd y Datguddiad Dwyfol. Dyma berffeithrwydd y Goruchaf, sylfaen ein gobaith, a ffynonell ein holl ddedwyddwch. Cariad yw addurn prydferthaf y natur ddynol - ïe, dyma rhwymyn cymdeithas a tharddle pob cysuron. Cariad yw sylfaen crefydd a moesoldeb, oblegid beth all fod yn fwy gwrthun na chrefydd heb gariad at Dduw, ei gwrthddrych? A phwy allai gyflawni dyledswyddau crefydd heb feddu cariad ac anwyldeb tuag atynt? Na; cariad at Dduw yw y gwaed bywiol a gylchreda trwy holl wythienau y corff crefyddol, ac a’u ceidw mewn nerth a hoenusrwydd parhaus. Yr hyn yw yr awel i’r llong, neu y steam i’r agerbeiriant, yw cariad i’r Cristion. Hwn yw y gallu cymhellol yn nghyflawniad pob dyledswydd, ac yn ngweinyddiad pob gwasanaeth. Cariad ydyw y rhinwedd penaf yn nghymeriad y Cristion. Y mae gobaith yn werthfawr, a ffydd yn anmhrisiadwy; ond y mae cariad yn werthfawrocach na’r un o honynt: “a’r mwyaf o’r rhai hyn yw cariad.” Cariad ydyw y gadwyn euraidd sydd yn dal yn nghyd y gymdeithas Gristionogol trwy’r hyd o’r bron fel un teulu mawr, cysurus, i feddwl yr un meddyliau, i garu yr un gwrthddrychau, i gydorfoleddu mewn llwyddiant, ac i gydymdeimlo mewn adfyd a thywydd garw; megys y mae deddf atdyniad yn y gyfundrefn heulog fel nifer o raffau nerthol yn dal yr holl fydoedd wybrenol yn eu cylch priodol, felly y mae cariad yn y byd cymdeithasol yn dal yr oll rhag syrthio i annhrefn a dyryswch. Felly, chwi welwch mai cariad yw addurn a gogoniant y ddaear, a chariad yn ei berffeithrwydd fydd yn cadw telynau a thelynorion gwlad y goleuni fyth-fyth mewn nefol hwyl. Dyma y pelydr dysgleiriaf dywynodd ar ein byd ni erioed - y peth mwyaf tebyg i Dduw ei Hun, oblegid “Duw cariad yw.” Ceisiwn egluro gwirionedd y testyn -

 

I. Oddiwrth weithredoedd Duw mewn Natur.

II. Oddiwrth y Datguddiad Dwyfol. (x156)

 

I. Oddiwrth weithredoedd Duw mewn Natur.- Er mwyn deall ychydig am gymeriad Duw, mae’n rhaid ein harwain at feddyliau neu gynlluniau Duw. Yr ydym yn dueddol iawn i arfer y fath eiriau a chynlluniau, arfaethau, neu fwriadau Daw, heb gofio nad yw y geiriau hyn, pan briodolir hwy i Dduw, yn meddu yr un ystyr a phan y priodolir hwynt i ddyn. Pan y bydd dyn yn cynllunio y mae yn ystyried yn bwyllog ac yn meddwl yn ddifrifol; ond nid felly Duw. Ni fu erioed angen arno Ef i feddwl ac i ystyried fel yna, oblegid “hysbys i Dduw ei weithredoedd oll erioed.” ’Doedd dim angen arno Ef i gontrifo a chynllunio; yr oedd yn gwybod er tragywyddoldeb beth oedd oreu, pa ffordd a pha fodd i weithredu, heb betruso nac ystyried dim yn flaenorol. O ganlyniad, pan y byddom yn siarad am Dduw yn trefnu a chynllunio, yr ydym yn golygu fod yr holl gynlluniau, yr holl weithredoedd, a’r holl ogoniant yn bodoli o angenrheidrwydd yn y meddwl Dwyfol er tragywyddoldeb; ac ni all neb weled y cynlluniau yn y meddwl Dwyfol ond fel y byddont yn cael eu dadblygu mewn amser, a diamheu genyf y bydd iddynt gael eu dadblygu mewn rhyw ffordd neu gilydd i dragywyddoldeb. Ond y mae hyn yn ein harwain oddiwrth feddyliau Duw at ei weithredoedd, oddiwrth y cynlluniau at eu cyflawniad, oddiwrth y doethineb Dwyfol at y gallu Dwyfol. Dichon fod rhai o honoch yn barod i ofyn, Paham y creodd Duw y byd? Paham y rhoddodd Efe fodolaeth i’r holl greaduriaid? Paham y gwnaed y meidrol ar ddelw yr Anfeidrol? Beth oedd mewn golwg gan y Duw Mawr wrth ddwyn y greadigaeth i fodolaeth? Wel, gellir roddi atebiad triphlyg i’r cwestiynau hyn.

 

Yr atebiad cyntaf yw - Sicrhau arddangosiad o ddaioni moesol, neu ddadblygiad o rinwedd pur a digymysg. Ond beth yw daioni moesol? Wel, hyn - cyfiawnder, sancteiddrwydd, gwirionedd, a chariad; a thyner un o’r rhai hyn ymaith, dinystrir prydferthwch yr oll. Tynwch ymaith gariad, corff heb enaid fydd ar ol; bydd y gogoniant wedi ymadael, a’r bywyd wedi ei golli. Gellir dyweyd, mae yn wir, fod Duw yn gyfiawn, yn sanctaidd, ac yn drugarog; ac yr ydym yn galw ei gyfiawnder, ei sancteiddrwydd, a’i drugaredd yn briodoleddau moesol. Ond nid priodoledd yn Nuw ydyw ei gariad, ond ei hanfod. Nid yn unig fe ddywedir ei fod yn caru, ac wedi rhoddi amlygiadau neillduol o’i gariad; ond cariad ydyw - cariad pur a digymysg. Felly, os mai arddangosiad (x157) o ddaioni moesol ydoedd prif ddyben y greadigaeth, rhaid fod arddangosiad o’i gariad mewn golwg ganddo hefyd, oblegid nis gall daioni moesol fodoli ar wahan i gariad. Beth yw hollwybodaeth Duw ond llygaid cariad? Beth yw hollalluogrwydd Duw ond braich cariad? Beth yw yr holl fendithion yr ydym yn eu derbyn yn barhaus o’i law ond rhadroddion cariad? Mae pobpeth yn dwyn tystiolaeth i wirionedd y testyn, mai “Duw, cariad yw.”

 

Yr ail atebiad yw - Cynyrchu dedwyddwch ei holl greaduriaid. Yr oedd Duw mor ddedwydd ynddo ei hun fel y darfu iddo ddwyn i fodolaeth y greadigaeth eangfawr hon, yn llawn o greaduriaid, er mwyn cyfranu iddynt o’i ddedwyddwch anfeidrol Ei Hun. Ac yn wir, y mae hyn yn beth digon naturiol, oblegid fel y mae y môr mawr yn rhoddi allan ei ddyfroedd er cyflenwi y ffynonau, y ffrydiau, a’r afonydd, ac yn dyfrhau y ddaear, felly y mae Duw, ffynonell dihysbydd wyddwch, yn arllwys allan Ei ffrydiau anmhrisiadwy i’w qmrywiol greaduriaid er mwyn diwallu eu holl angenion. Y mae hyn eto yn amlwg brofi ei fod yn Dduw cariad, oblegid pe na byddai yn caru ei greaduriaid ni fuasai yn ewyllysio eu dedwyddwch; ond o herwydd ei gariad tuag atynt y mae yn ewyllysio yn dda iddynt, ac y mae wedi gosod pob peth yn y modd goreu er eu dedwyddwch. Ac er fod dyn wedi troseddu yn ei erbyn, ac wedi gosod ei hun yn agored i dragywyddol wae, eto y mae Duw wedi darparu iachawdwriaeth ddigonol trwy gyfryngdod Ei unig-anedig Fab, er mwyn ei adferu. Priodol, ynte, y dywedir, “Duw, cariad yw.”

 

Y trydydd atebiad yw - Sicrhau Ei ogoniant ei Hun. Nid ydym wrth hyn yn meddwl fod unrhyw ychwanegiad yn cael ei wneyd at ei deilyngdod neu ei ogoniant gwreiddiol drwy neb o’i greaduriaid. Yn yr ystyr hono y mae yn anmhosibl ychwanegu ato mwy na thynu oddiwrtho, oblegid y mae Duw yn anfeidrol berffaith yn mhob peth, heb un cyfnewidiad na chysgod troedigaeth. Hefyd, nid ydym i feddwl with fod Duw yn gwneyd ei ogoniant ei hun yn ddyben ei holl weithredoedd ei fod yn ceisio hyny ar draul daioni a dedwyddwch deiliaid ei lywodraeth. Na, y mae gogoniant Duw yn cynwys gweithredu allan ddaioni yn ei holl greadigaeth a’i lywodraeth. O ganlyniad, y mae Duw wrth sicrhau ei ogoniant ei hun yn rhoddi allan amlygiadau neillduol o’i gariad hefyd, oblegid y mae gogoniant Duw a chariad Duw mewn undeb annatodol (x158) â’u gilydd. Ceir rhoddion o’i law, trugaredd o’i galon, nefoedd o’i fynwes, a bywyd tragywyddol o’i wynebpryd. O hono ef y mae holl ffrydiau cariad yn tarddu; ynddo ef y mae mor cariad; ac am hyny nis gall holl ganiadau nef y nef, na’r addoliad gyflwynir iddo yn nheml fawr y greadigaeth, ychwanegu dim at ei ddedwyddwch gwreiddiol ei hun.

 

.......................... “Dedwydd breswyliai y Duwdod

............................Yn holl fwynhad ei fawr hanfod;

............................Annibynol fythol Fod,

............................Ei fawredd a’i hyfrydoledd yn fôr diwaelod.”

 

Gwelwn wrth hyn fod holl weithredoedd Duw mewn Natur yn amlygiadau neillduol o’i gariad. Y mae yn tywynu yn mhelydrau dysglaer yr haul, yn sisial yn yr awyr a anadlwn, ac yn gwisgo’r cwbl à harddwch a gogoniant.

 

II. Fod gweithrediad achubol ei ras yn profi gwirionedd y testyn yn fwy amlwg fyth. - Pa faint bynag o’i gariad sydd yn cael ei amlygu mewn Natur, yn iachawdwriaeth dyn yr amlygwyd ef yn benaf. Yma y dangoswyd “rhagorol olud ei ras ef,” ei fawr amryw ddoethineb, ac annherfynol nerth ei gariad. Mae Duw yn meddwl mwy am waith ei ras yn iachawdwriaeth pechadur na’i holl weithredoedd, oblegid “y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom, a nyni eto yn bechaduriaid i Grist farw drosom.” Yn wir, y mae yn anhawdd credu y buasai yn werth i Dduw greu y belen ddaearol oni bae ei fod yn bwriadu iddi fod yn blatform oddiar ba un y gallai ddangos rhyfeddodau ei gariad yn iachawdwriaeth euog ddyn trwy waed yr Oen; oblegid y mae neillduolrwydd yn perthyn i’r cariad hwn na chanfyddir mewn un cariad arall, sef yr anghyfartaledd anfeidrol a fodolai rhwng yr Hwn a garodd a gwrthddrychau ei gariad. Fel rheol, mae rhyw gyfartaledd naturiol yn bodoli rhwng y pleidiau; ond yma nid oes dim - mae y gagendor rhyngddynt mor eang a’r un a fodola rhwng meidroldeb ac anfeidroldeb, rhwng y creadur a’i Greawdwr. Pwy ydyw yr Hwn a garodd? Yr Hwn a osododd i lawr sylfaeni y ddaear trwy ei nerth, a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, a daenodd y nefoedd trwy ei ddeall; yr hwn a eistedd ar amgylchoedd y ddaear, ac a sathra ar donau y môor; “yr hwn a wnaeth Arcturus, Orion a Phleiades, ac ystafelloedd y deheu; yr hwn sydd yn gwneuthur pethau (x159) mawrion anchwiliadwy, a rhyfeddodau aneirif.” Pwy ydyw y gwrthddrychau? Plant marwolaeth, y rhai sydd yn trigo mewn tŷ o glai sydd a’i sail mewn pridd, ac a falurir yn gynt na gwyfyn. Ond beth yw hyn at yr anghyfartaledd raoesol todola rhwng y pleidiau? Mae y pellder moesol sydd rhwng Duw a thrigolion y ddaear yn anfeidrol. Beth yw cymeriad yr Hwn a garodd? Y puraf a mwyaf gogoneddus mewn bod. Gwisga oleuni fel dilledyn; cyfiawnder yw gwregys ei lwynau; teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen ei deyrnas ef; y mae yn lanach ei lygaid nas gall edrych ar anwiredd. Beth yw cymeriad y gwrthddrychau? Pechaduriaid, rhai llygredig o ran eu natur, euog o ran eu cyflwr, a thruenus o ran eu sefyllfa; “nid oes a wnel ddaioni, nac oes un.” Dyma bellder moesol eangach na’r greadigaeth, dyfnach nag uffern. A fedr cariad lanw yr adwy hon i fyny? Medr trwy drugaredd. Os ydyw y pellder yn anfeidrol, mae y cariad yn anfeidrol hefyd; “A chariad tragywyddol y’th gerais, am hyny tynais di a thrugaredd.” “Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragywyddol.” Syned nefoedd, gorfoledded y ddaear! Dyma destyn cân am oesoedd rif y gwlith! Beth ond cariad allasai ddwyn Arglwydd y Gogoniant i’n byd pechadurus i roddi ei hun yn lawn dros ein pechodau? Beth ond cariad allasai ei ddwyn, ac efe yn gyfoethog, er ein mwyn ni yn dlawd, i adael y nefoedd er dyfod i’r ddaear, i adael yr orsedd er dyfod i’r groes?. Ie, cariad anfeidrol ydoedd, oblegid nid dyfod i rodio yn mhlith y blodau, ac i gael ei lwytho ag anrhydedd, ond i fod yn wr gofidus, cynefin a dolur; nid i fod yn frenin mewn rhwysg a mawredd, ond heb le i roddi ei ben i lawr - ïe, i farw dan wawd a dirmyg ar Galfaria. Pan aeth Abraham i offrymu ei fab Isaac ar ben Moriah, wele lef yr angel yn rhwygo yr awyr gan ddywedyd, “Abraham! Abraham! atal dy law; na dd’od dy law ar y llanc.” Yr oedd un uwchlaw Abraham wedi parotoi hwrdd i fod yn aberth yn ei le. Ond pan aeth ein Duw bendigedig ni i offrymu ei Fab ar Galfaria, nid oedd neb uwchlaw i waeddi, “Atal dy law! “ ’Doedd neb a allasai ddarparu aberth yn ei le. O ganlyniad, “yr Arglwydd a fynai ei ddryllio ef.” Wele uffern yn ymosod arno, daear ar ei heithaf yn ei wawdio; ïe, y Nefoedd yn arllwys arno gawodydd (x160) o ddigofaint dwyfol: ac wedi dyoddef y cwbl, clywaf ef yn gwaeddi. “Gorphenwyd!” Pwy na ddywed -

 

............................. “Hopana! Haleliwia!

................................I’r Oen fu ar Galfaria,

.........................Gorphenwyd iachawdwriaeth dyn,

................................Efe ei hun yw’r Noddfa.”

 

Yn hyn yr eglurwyd ei gariad. Mae doethineb Duw i’w weled yn tanbeidio yn yr haul, ac yn dysgleirio yn y ser; y mae ei allu i’w ganfod yn dal y gogledd ar y gwagle, yn crogi y ddaear ar ddiddym, yn dal y gwynt yn ei ddwrn, ac yn ei ollwng allan megys rhwng ei fysedd; ond “yn hyn yr eglurwyd cariad Duw, oblegid ddanfon o hono ef ei uniganedig Fab, fel y byddem byw trwyddo ef.” “Yn hyn y mae cariad, nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn lawn dros ein pechodau.” Gariad gymhellodd y Tad i’w anfon, cariad ddygodd y Mab o fynwes ei Dad, cariad barodd iddo ddal yn amyneddgar dan yr holl ddyoddefiadau; ïe, cariad a’i cadwodd ar y groes, nid grym yr hoelion - na, nid oedd digon o hoelion yn nghreadigaeth Duw i’w ddal ef yno. Yr oedd rhwystrau mawr ar ei ffordd i ddyfod atom. Yr oedd y pellder anfeidrol rhwng Duw a dyn yn rhwystr, ond fe gafodd ei symud - “Duw a ymddangosodd yn y cnawd.” Yr oedd y pellder moesol rhwng Duw cyfiawn a sanctaidd a phechadur euog a cholledig yn rhwystr mawr, ond fe’i symudwyd; nid yn unig fe ymddangosodd Mab Duw yn y cnawd, ond yn nghyffelybiaeth cnawd pechadurus; fe’i gwnaed ef yn bechod drosom, “Yr hwn nid adnabu bechod a wnaeth efe yn bechod drosom ni, fel y’n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef.” Yr oedd melldith y ddeddf ar ffordd ei gariad, ond “Crist a’n llwyr brynodd oddiwrth felldith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith drosom.” Yr oedd y gwarth a’r dirmyg oedd ar y ddynoliaeth ar ei ffordd, ond fe orchfygodd y cwbl. Fe dorodd cariad drwy bob rhwystr nes cael gafael yn ei wrthddrych, a’i osod ar blatform digon uchel i gael bywyd tragywyddol “yn ei enw Ef.” Ond er fod pethau fel hyn, eto yr ydym yn aml, rywfodd, yn methu cymeryd gafael ffyddiog yn ngwirionedd ein testyn. Mae ein taith drwy y byd yn dywyll a dyryslyd; wylo mewn galar a gruddfan gan ofid y mae y Cristion yn aml; ac o dan ddylanwad amheuaeth yn gofyn, “Os Duw cariad yw, paham yr wyf fi, ei blentyn, yn y (x161) fath dywydd garw? Beth yw y rheswm fod yr ystormydd yn curo arnaf fel hyn? A yw yn bosibl fod yr holl bethau chwerwon hyn o gariad tuag ataf? “Ië, f’enaid, cariad ydynt i gyd; y mae y cwbl er daioni tuag atat. Bydd amyneddgar; ä heibio’r dywell nos, fe ddaw boreu dedwydd just yn union; môr tymhestlog y byd wedi ymlonyddu, Haul y Cyfiawnder yn dysglaer belydru arnat; ti gei dragywyddoldeb i waeddi allan fod “pob peth wedi cydweithio er daioni” i ti - y diwrnod tymhestlog fel y diwrnod heulog - fod y cwbl wedi dy buro a’th sancteiddio, a’th wneyd yn debyg i Fab Duw ei Hun. (x162)

 

PREGETHAU.

(12) “YSTYR Y PERFFAITH,” &c.

 

“Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr unawn; canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd.”-SALM xxxvii. 37.

 

Mae y geiriau hyn yn cynwys darluniad o gymeriad a marwolaeth y dyn duwiol o bosibl y bydd iddo gyfarfod ag ystormydd blinion ar fordaith bywyd; gall gyfarfod a phrofedigaethau a themtasiynau, blinderau a chystuddiau; gall fod yn dlawd a dinod yn ngolwg cymdeithas; eto y mae yn fawr yn ngolwg y Nefoedd, ac yn gyfoethog tuag at Dduw. Mor wahanol ydyw diwedd yr annuwiol; “ Ond y troseddwyr a gyd-ddystrywir; diwedd yr annuwiolion a dorir ymaith;” “Canys yn ebrwydd y torir hwynt i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant fel gwyrddlysiau;” “Canys eto ychydigyn, ac ni. welir yr annuwiol; a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim o hono;” “Gwelais yr annuwiol yn gadarn ac yn frigog fel y lawryf gwyrdd; er hyny efe a aeth ymaith, ac wele nid oedd mwy o hono, a mi a’i ceisiais ac nid oedd i’w gael.” Er mor gryf a chadarn ei ymddangosiad, diflanodd fel cwmwl o flaen awelon oerion marwolaeth - “mi a’i ceisiais ac nid oedd i’w gael.” “Ond gwr a fydd marw, ac a dorir ymaith; a dyn a drenga, a pha le y mae?” Wel, mi a’i ceisiais, meddai’r Salmydd, ond nid oedd i’w gael. Ond am y duwiol, y mae Ysbrydoliaeth wedi ei weled yn werth i roddi tipyn o’i hanes.

 

I. Y cymeriad ddesgrifir.

II. Ei ddiwedd dedwydd.

 

I. Y cymeriad ddesgrifir - y “perffaith” a’r “uniawn.” Nid perffaith yn yr ystyr o fod yn ddibechod a difrycheulyd feddylir; nid oes neb felly ar y ddaear; ond perffaith yn yr ystyr o fod yn gyflawn yn holl hanfodion crefydd. Nid .cyflawn mewn un rhinwedd, a diffygiol hollol mewn rhinwedd arall; nid yn or-fanwl yn nghyflawniad un ddyledswydd, ac yn esgeulus hollol o ddyledswydd arall lawn mor bwysig; ond. yn gyflawn a chyfan, “heb ddiffygio mewn ddim” - fel y . dywedai’r hen bobl, bod yn feddianol ar “grefydd round,” crefydd ddifwlch, crefydd yn feddianol ar holl egwyddorion neu elfenau cymeriad perffaith; crefydd yn cyfateb i un y patriarch Job, “Ac yr oedd gwr yn ngwiad Us a’i enw Job; (x163) ac yr oedd y gwr hwnw yn berffaith ac yn uniawn, ac yn ofni Duw, ac yn cilio oddiwrth ddrygioni.” Mae yr un syniad yn cael ei osod allan gan y Salmydd, “Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai a rodiant yn nghyfraith yr Arglwydd.” Ac er nad yw y gair yn golygu bod yn ddibechod, yn berffaith mewn sancteiddrwydd, eto y mae yn cynwys yr ymroddiad a’r ymestyniad mwyaf egnïol tuag at hyn, fel ag y dywed yr Apostol, “Nid fel pe bawn wedi ei gyrhaeddyd eisoes, neu fod eisoes wedi fy mherffeithio; eithr dilyn yr wyf, fel y gallwyf ymaflyd yn y peth hwn hefyd yr ymaflwyd ynof gan Grist Iesu;” “Y brodyr, nid wyf fi yn bwrw ddarfod i mi gael gafael, ond un peth - gan anghofio y pethau sydd o’r tu cefn, ac ymestyn at y pethau o’r tu blaen,” &c. Mae rhai pethau yn nglyn a chrefydd nad oes dim graddau yn perthyn iddynt, megys cyfiawnbad. Os cyfiawn, y mae yn anmhosibl bod yn ddim arall; unwaith y cyfiawnheir dyn gerbron Duw, bydd mor gyfiawn y fynyd hono ag a bydd byth. ’Does dim llwybr canol yn bod. A’r un modd y dyn newydd, y mae yn berffaith yn ei holl ranau, er na fydd yn berffaith mewn graddau yn y fuchedd hon. Dyma amcan mawr gweinidogaeth yr efengyl - cyfnewid a pherffeithio dynion mewn sancteiddrwydd, “Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi;” “Ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn broffwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon, i berffeithio y saint i waith y weinidogaeth, i adeilad corff Crist, hyd oni . ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd, a gwybodaeth Mab Duw, yn wr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Grist.” Ac nid yn unig dyma amcan mawr gweinidogaeth yr efengyl, ond dyma awyddfryd mawr y Cristion, a’i uchelgais penaf, cyrhaedd y safon osododd yr Arglwydd Iesu o flaen y dysgyblion, “Byddwch chwi, gan hyny, yn berffaith, fel ag y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith.” Dyma ddrychfeddwl mawr y dyn duwiol - cyrhaedd y perffeithrwydd sydd yn Nghrist Iesu. Mae’n bosibl y bydd rhwystrau fyrdd ar ei ffordd; ond er gwaetha’r cwbl, yn mlaen yr ä, gan droi y rhwystrau yn groesffyn i’r ysgol, fel y gallo ddringo i fyny, a chyrhaedd y nod uchel a osodwyd o’i flaen.

 

Nodwedd arall yn nghymeriad y dyn hwn ydyw uniondeb - “edrych ar yr uniawn.” Dyma’r cyflwr yn mha un y crewyd dyn ar y cyntaf - “Wele, hyn yn unig a gefais, wneuthur o Dduw ddyn yn uniawn.” Ond er fod dyn wedi (x164)

(x164) colli ei uniondeb a’i berffeithrwydd gwreiddiol, y mae Duw yn ei ras wedi trefnu llwybr i’w adfer yn ol drachefn, “Ac ymadnewydda yn ysbryd eich meddwl, a gwisgo y dyn newydd, yr hyn yn ol Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd;” “Canys haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw; yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant; ni atal efe ddim daioni oddiwrth y rhai a rodiant yn berffaith;” “Hauwyd goleuni i’r cyfiawn, a llawenydd i’r rhai uniawn o galon.” Wel, gweddïwn yn ngeiriau’r Salmydd, “Crea galon lân ynof, o Dduw, ac adnewydda ysbryd uniawn o’m mewn.”

 

II. Ei ddiwedd dedwydd.- “Canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd.” Os ydyw ei fywyd yn fywyd o ymdrech - ac ymdrech galed ydyw byw yn dduwiol, “Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol-lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd” - ond os ydyw y bywyd yn fywyd o ymdrech, mae’r marw yn fuddugoliaethus, “Canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd.” Wrandawyr anwyl, mae’r diwedd gerllaw, mae diwrnod yr ymddatodiad yn agoshau. Fedrwn ni ddyweyd, pan ddaw, “Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orphenais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd. O hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder i’w chadw i mi, yr hon a rydd yr Arglwydd, y Barnwr Cyfiawn i mi yn y dydd hwnw; ac nid yn unig i mi, ond hefyd i bawb a garant ei ymddangosiad ef.” Mae yn gwella ar y duwiol tua’r diwedd; mae dydd eu farwolaeth yn well na dydd ei enedigaeth. Yr oedd yna lawenydd mewn cylch bychan ar ddiwrnod ei enedigaeth, ond bydd llawenydd mwy ar ddydd ei farwolaeth, “Ac mi a glywais lais o’r nef yn dywedyd wrthyf, Ysgrifena, Gwyn eu hyd y meirw, y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd, o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorphwysont oddiwrth eu llafur, a’u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt.” “Gyfyd goleuni i’r rhai uniawn yn y tywyllwch.” Pan fydd eu traed yn taro wrth y mynyddoedd tywyll, cyfyd Haul Mawr y Gyfiawnder i oleuo arnynt, nes. troi glyn cysgod angeu yn oleu ddydd. Pan fydd canwyll yr annuwiol yn diffodd, a’r seren ddiweddaf yn machludo, bydd Haul y duwiol yn codi i’w feridian - “Y cyfiawn a obeithia pan fyddo marw;” “Mewn heddwch, hefyd, y gorweddaf ac yr hunaf; canys ti, Arglwydd, yn unig a wnei i mi drigo mewn dyogelwch.” Os bydd hi yn cau arno o’r ddaear, bydd (x165) yn agor arno o’r nefoedd; os bydd y dyn oddi allan yn llygru,. Dydd y dyn oddi mewn yn ymadnewyddu o ddydd i ddydd, “Oblegid llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a.lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd” - a chanol dydd y bydd hi byth! Pa ryfedd i’r hen Simeon waeddi allan, “Yr awrhon y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ol dy air, canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth,” Pan ddaeth Voltaire, yr anffyddiwr beiddgar hwnw, i farw, dywedodd wrth ei feddyg,. pan oedd y diwedd yn agoshau, y rhoddai haner y cwbl a reddai am gael chwe’ mis yn ychwaneg i fyw. “Ah!” meddai’r meddyg, “y mae yn anmhosibl i chwi fyw chwech wythnos.” “Os felly,” meddai Voltaire, “mi fyddaf yn uffern, a byddwch chwithau yno gyda mi.” O! ddiwedd truenus, onide? Mor wahanol i ddiwedd y Cristion - “Canys, diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd.”

 

Yn ol cyfraith y gwahanglwyfus yn Israel gynt, y diwrnod y barnai yr offeiriaid ef yn lân, yr oedd yn gorchymyn iddo gymeryd dau aderyn y tô, ac i osod un o’r ddau i farwolaeth;. yna yr oedd yr aderyn byw i gael ei drochi yn ngwaed yr aderyn marw; ac wedi cyflawni y seremoni, yr oedd yr aderyn byw yn cael ei ollwng yn rhydd. Bum yn dychymygu gweled yr aderyn bach yn canu ar frig y llwyn; a’r adar ereill, wrth weled ei adenydd cochion, yn gofyn iddo, “Frawd bach, pa fodd yr wyt ti yma heddyw? Oni ddaliwyd di y dydd o’r blaen gan y gwahanglwyfus?” Do, digon gwir, fe’m daliwyd; bum yn garcharor am ysbaid; ond yr ydwyf yn rhydd heddyw, am fod fy mrawd wedi marw yn fy lle. Welwch chwi ôl ei waed ar fy adenydd cochion?” Ah! Gristion anwyl, mi ddychymygaf dy weled dithau yn y Baradwys fry, yn canu yn orfoleddus am ddiangfa; a’r angylion a’r seraphiaid, hen drigolion y wlad, yn ymgasglu o’th gwmpas, ac yn gofyn, “Frawd bach, pa fodd y daethost ti yma? Oni chefaist dy ddal gan gyfiawnder, i farw, a marw byth?” “Do, digon gwir; bum yn garcharor am flynyddau lawer; ond ’rwyf yn fyw heddyw, am fod fy Mrawd Hynaf wedi marw yn fy lle. Welwch ehwi effeithiau Ei waed ar fy ngwisgoedd?” “Y rhai a olchasant eu gynau, ac a’u canasant yn ngwaed yr Oen.” Bendigedig fyddo Duw, mae’r gwaed a’u golchodd hwy yn abl i’n golchi ninau; mae’r Hwn a’u perffeithiodd hwy yn abl i’n perffeithio ninau. Duw roddo ras i ni i feddu cymeriad yr hwn y mae y testyn yn son am dano, fel y byddo ein diwedd fel eiddo yntau. (x166)


PREGETHAU.

(13) YR EIRIOLWR.

“Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifenu atoch,.fel na phechoch. Ac o phecha neb, y mae i ni Eiriolwr gyda’r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn,”-1 IOAN ii. 1.

 

Gwirionedd mawr y benod flaenorol ydyw, mai goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim tywyllwch. Nid fod goleuni yn Nuw a ddywedir, ond mai goleuni yw Duw o ran ei natur a’i hanfod. Y mae Duw yn Dad y goleuni, ac yn trigo, mewn .goleuni nas gellir dyfod ato; ond heblaw hyny, goleuni tragywyddol ydyw; “A hon yw y genadwri a glywsom ganddo ef, .ac yr ydym yn ei hadrodd i chwi, mai goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim tywyllwch.” Ar ol gosod i lawr y gwirionedd mawr hwn, ä yr Apostol yn ei flaen i dynu casgliadau ymarferol oddiwrtho; a’r casgliad cyntaf ydyw, yr anmhosiblrwydd i gael cymdeithas â Duw a rhodio yn y tywyllwch, “Os dywedwn fod i ni gymdeithas ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur gwirionedd.” Nid yw yn bosibl cymdeithasu â phurdeb tragywyddol a byw mewn pechod yr un pryd. Mewn trefn, gan hyny, i ddal cymundeb â’r goleuni, y mae yn rhaid rhodio yn y goleuni, “Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megys y mae efe yn y .goleuni, y mae i ni gymdeithas â’n gilydd, a gwaed Iesu Grist Ei Fab Ef sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod.” Yr ail gasgliad ydyw, y ffolineb i’r Cristion i geisio gwadu nad oes ynddo bechod, “Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a’r gwirionedd nid yw ynom.” Er nad oes un Cristion yn rhodio yn y tywyllwch, eto mae tywyllwch ynddo i fesur mwy neu lai; er nad oes yr un dyn duwiol yn byw mewn pechod, eto mae pechod yn byw ynddo ef, oblegid mae y pechodau gyflawnir ganddo yn brawf o hyn; “Os dywedwn na phechasom yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a’i air ef nid yw ynom.” Nid yn unig yr ydym yn ein twyllo ein hunain wrth ddyweyd nad ydym yn pechu ac nad oes pechod ynom, ond yr ydym hefyd yn gwneyd Duw yn gelwyddog. O’r ochr arall, “Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlawn yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y’n glanhao oddiwrth bob anghyfiawnder.” Ond rhag i neb dynu camgasgliad oddiwrth yr athrawiaeth o feddeuant, a (x167) thrwy hyny gymeryd achlysur i fyw mewn pechod, y mae yr Apostol yn ngeiriau y testyn yn rhagflaenu hyn trwy ddangos mai amcan yr oll a ddywedwyd ganddo yn y benod flaenorol ydyw atal dynion i bechu, “Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifenu atoch fel na phechoch.” Y mae holl ymwneyd Duw â dyn mewn creadigaeth, rhagluniaeth, a gras, yn dyweyd wrtho am beidio pechu. Os goleuni yw Duw, peidiwch pechu; oblegid pechod, tywyllwch yw. Os bywyd ydyw Duw, peidiwch pechu; oblegid pechod, marwolaeth yw. Ac os mai cariad ydyw Duw, na phechwch yn ei erbyn; oblegid pechod, casineb yw. Cofiwch hefyd mai pechod yw pob anghyfiawnder, ac mai Duw cyfiawn a sanctaidd yw ein Duw ni. ‘Gan hyny, yr wyf yn ysgrifenu y pethau hyn, fel pe dywedai, er mwyn eich cadw rhag pechu yn ei erbyn. Ond rhag i neb ddigaloni yn ngwyneb anmherffeithrwydd ei natur a mawredd ei bechod, y mae yr Apostol yn cyfeirio at y ffaith fod iddynt Eiriolwr gyda’r Tad, sef Iesu Grist y Cyfiawn, yr hwn a ddadleua eu hachos yn ffyddlawn, ond iddynt gyffesu eu pechodau.

 

Y mater y cawn sylwi arno oddiwrth y testyn yw - Cynihwysder Crist i fod yn Eiriolwr. Daw y cymhwysder hwn i’r golwg -

 

I. Yn mherffeithrwydd ei gymeriad - “Y Cyfiawn.”

II. Yn ei berthynas â’r pleidiau - “Iesu Grist.”

III. Yn ei sefyllfa urddasol - “Gyda’r Tad.”

IV. Yn helaethrwydd ei wybodaeth - “Ac o phecha neb.”

 

I. Yn mherffeithrwydd ei gymeriad - “Y cyfiawn.” - Fe gafodd y byd yma lawer cymeriad da, teilwng o efelychiad, ond ni chafodd erioed gymeriad perffaith. Yr oedd Abraham, Moses, ac Elias; Job, Samuel, a Daniel, yn gymeriadau dysglaer anghyffredin, ond yr ydym yn cael eu bod hwy oll yn cydnabod eu anmherffeithrwydd, yn edifarhau am eu pechodau, ac yn gweddïo am drugaredd a maddeuant. Ond am yr Arglwydd Iesu, ni chydnabyddodd ef yr un amherffeithrwydd erioed; ni weddïodd am faddeuant o’r un bai na chamwedd yn ei fywyd pan ar y ddaear; a’r hyn a ddywedir am dano yw, “Ni wnaeth gam, ac nid oedd twyll yn ei enau.” Rhoddodd hêr i’w holl elynion, gan ddywedyd - “Pwy o honoch a’m hargyhoedda i o bechod?” Er rhodio mewn byd llawn o (x168) bechod, aeth trwyddo heb gyfranogi i’r radd leiaf o hono; cerddodd ar hyd lan afon llygredigaeth bywyd heb yfed yr un dafn o honi. Eto dylid cofio mai nid perffeithrwydd nacaol yn unig oedd yr eiddo ef, ond perffeithrwydd cadarnhaol. Nid bod yn rhydd oddiwrth bob drwg oedd y perffeithrwydd hwn, ond perffeithrwydd yn dyfod i’r golwg yn y cyflawniad o bob da yn gystal ac ymwrthod â’r drwg. Yn nghymeriad yr Arglwydd Iesu gwelir daioni wedi ymgorffori; wedi dyfod i fyw a gweithredu yn mhlith dynion; “Myned oddiamgylch gan wneuthur daioni” ydyw y cymeriad rydd Dwyfol Ysbrydoliaeth Iddo. Yr oedd pob rhinwedd wedi cydgyfarfod ynddo, a’r rhinweddau hyny mewn cymesuredd hollol. Wrth ddarllen bywgraffiadau dynion enwog y byd yma, yr ydym yn cael fod rhyw un rhinwedd wedi llyncu y lleill, ac fel rheol yn gosod ei argraff ar yr holl rinweddau ereill. Ond darllenwch fywgraffiad yr Iesu gan y pedwar efengylwr, a chewch fod pob rhinwedd yma yn ogyfuwch â’u gilydd. Bydd llawer o ddynion yn dra chyfoethog mewn rhinweddau gweithredol, ond yn ddiffygiol mewn rhinweddau goddefol; ni fedrant ddyoddef y croesau lleiaf. Ond am yr Iesu, ni weithiodd neb fel efe o blaid rhinwedd a daioni, a sicr yw na ddyoddefodd neb yn gyffelyb iddo ychwaith. Gweithiwr heb ei fath, a dyoddefydd heb ei fath hefyd oedd Grist. Cydgyfarfyddai y ddau ddosbarth o rinweddau, sef y goddefol a’r gweithredol, yn berffaith yn ei gymeriad. Dywedir am Plato, yr athronydd Groegaidd, iddo unwaith dynu darlun o ddyn perffaith, ac ar ei orpheniad dywedodd, “Os dygwydd i gymeriad o’r fath byth i wneyd ei ymddangosiad ar y ddaear, dyna fydd ei dynged - fe’i gwawdir, fe’i dirmygir, fe boerir yn ei wyneb, ac yn y diwedd fe’i hoelir ar bren.” Pa ryfedd fod rhai o’r hen Buritaniaid yn edrych ai y geiriau uchod fel proffwydoliaeth anymwybodol am ddyfodiad y Messiah, oblegid pan ddaeth “y Perffaith,” mor fuan y darfu i’r byd yma ddechreu ymosod arno! Gorfu iddo adael ei wlad cyn cyrhaedd dwy flwydd oed, ac wedi iddo ddechreu ar ei fywyd cyhoeddus, cafodd ei erlid, ei wawdio, ei ddirmygu, ac yn y diwedd ei groeshoelio. Sut mae ei gymeriad yn dal y prawf? Beth am yr ochr oddefol iddo? Mae yn dal yn ardderchog “Fel oen yr arweinid ef i’r lladdfa, ac fel y tau dafad o flaen y rhai a’i cneifia, felly nid agorai yntau ei enau.” “Pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn; pan ddyoddefodd, ni fygythiodd.” Sut y mae yr ochr weithredol yn dal? Llawn (x169) cystal; clywch Ei eiriau, “O Dad, maddeu iddynt, canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur.”

 

Nid yn unig mae yr Eiriolwr mawr yn gyfiawn o ran ei gymeriad, ond y mae hefyd yn cario ei eiriolaeth yn mlaen yn unol âg egwyddorion cyfiawnder. Dadleu yn y llys dwyfol ar sail cyfiawnder y mae ein Gwaredwr; nid ar sail diniweidrwydd y gwrthddrychau, ysgafnder eu troseddau, neu luosogrwydd eu temtasiynau, ond dadleu teilyngdod anfeidrol Ei Aberth drostynt. Mae sail yr eiriolaeth yn mherson yr ‘Eiriolwr. Eiriolaeth yw hon yn sylfaenedig nid ar haeddiant a theilyngdod y pechadur, ond ar haeddiant a theilyngdod yr lean ei hun. “Ac efe yw yr Iawn dros ein pechodau ni.” Nid efe a wnaeth yr Iawn a ddywedir, ond “Efe yw yr Iawn.” Efe wnaeth y ddaear, ond byddai yn ynfydrwydd dyweyd mai efe yw y ddaear; ond gellir dyweyd yn groew mai “Efe yw yr iawn.” Mae yn gysur mawr i’r Cristion fod ei achubiaeth yn unol à chyfiawnder Duw yn ogystal ag â thrugaredd, fod yr eiriolaeth drosto yn sylfaenedig ar gyfiawnder tragywyddol y Meichiau. Flynyddoedd yn ol trodd un o’r Mahometaniaid yn Calcutta at Gristionogaeth, ac yn mhlith pethau ereill gofynodd y cenhadwr iddo pa ragoriaeth oedd ef yn weled mewn Cristionogaeth ar Fahometaniaeth. Yr atebiad oedd - “Y mae digon o drugaredd yn nghrefydd Mahomet; Duw trugaredd yw ef i gyd; ac i ddyn sydd heb deimlo euogrwydd, gwna y fath grefydd y tro. Felly y teimlwn i; ond pan ddeffrodd fy nghydwybod, cefais y fath olwg ar fy euogrwydd nes haner fy llethu; gwelais nad oedd dim ar fy nghyfer yn nghrefydd Mahomet; oblegid nid â thrugaredd Duw yr oedd a fynwn yn awr, ond â’i gyfiawnder, a gwelwn hefyd fod gofynion cyfiawnder y fath fel nad oedd dim mewn Mahometaniaeth i’w cyfarfod; ond wrth eich clywed chwi yn son am Aberth Grist, deallais fod mewn Cristionogaeth rywbeth ar fy nghyfer, gan fod yr Hwn ‘nid adnabu bechod wedi ei wneyd yn bechod drosom ni, fel y’n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef.’ Rhagoriaeth fawr crefydd Iesu Grist i mi, yw ei bod yn cwrdd â gofynion cyfiawnder arnaf.”

 

II. Yn ei berthynas â’r pleidiau - “Iesu Grist.” Nid un dyeithr i’r ddwy blaid yw y dadleuydd, ond Mab i’r Gofynwr, a Brawd i’r troseddwr; “Am ba achos y dylai efe fod yn mhob peth yn gyffelyb i’w frodyr, fel y byddai drugarog ac archoffeiriad ffyddlawn mewn pethau yn perthyn i Dduw, (x170) i wneuthur cymod dros bechodau y bobl.” Gwna yr ystyriaeth fod yr Eiriolwr yn un o honom ni y peth yn eglur, debygem, na chawn gam ar ei law. Pan feddyliom fod angylion a seraphiaid yn llu ger bron ei orseddfainc wen fawr ynngogoniant nef y nef, yr ydym yn barod i gilio draw mewn braw a dychryn; ond pan gofiom Ei fod ar Ei orsedd yn ein natur ni, a’i fod yn y natur hono yn dadleu gwerth Ei waed ar ein rhan, y mae hyn yn cynyrchu hyfder ynom i agoshau ato, ac i ymddiried ein hachos iddo. Dyma Ganolwr a all osod ei law ar y dwyfol ac ar y dynol, ar y Barnwr a’r troseddwr. “Wele eich Duw,” meddai Esaiah wrth ddinasoedd Judah; “Wele eich dyn,” meddai Pilat; ac y mae y ddau yn dwyn tystiolaeth i’r gwirionedd. Y mae yn Dduw ac yn ddyn; yn “ Emanuel,” “Duw gyda ni.” Duw uwchlaw i ni sydd yn y greadigaeth; Duw yn ein herbyn ni sydd ar Sinai; ond Duw o’n plaid sydd yn Bethlehem a Chalfaria, a dyma y Person gogoneddus sydd yn eiriol ar ein rhan.

 

III. Yn ei sefyllfa urddasol - “Gyda’r Tad.” Y mae y ffaith ei fod yn y fath sefyllfa urddasol, sef gyda’r Tad, neu yn eistedd ar ddeheulaw y Tad, yn gyfaddasder neillduol ynddo i eiriol drosom. Wedi i’r Iesu esgyn i’r nefoedd, ei waith mawr yw eiriol dros ei bobl. Dim ond un ran o’r gwaith mawr oedd y bywyd ar y ddaear, y dyoddef a’r marw; y mae ei waith archoffeiriadol i barhau byth. Tragywyddol drefniant hefyd yw ei eisteddiad gyda’r Tad fel Eiriolwr, ac y mae ei eiriolaeth yn sicrhau gogoniant tragywyddol i’r Tad; nid rhyfedd, gan hyny, fod y Tad yn caniatau iddo bob peth a ofyna ganddo. “Mi a wyddwn,” meddai wrth fedd Lazarus, “dy fod yn fy ngwrandaw bob amser;” ac os oedd yn ei wrandaw pan ar y ddaear, cyn gorphen y gwaith a ynaddiriedwyd iddo, pa faint mwy y bydd iddo ei wrandaw yn awr wedi gorphen pobpeth, ac yn eistedd ar ddeheulaw gorseddfainc y Mawredd yn y goruwchleoedd? Nid oes raid i Grist ddadleu mewn trefn i ddwyn y Tad i’r un golygiadau ag ef ei Hun gyda golwg ar y gwrthddrychau, ac i geisio ganddo yn groes i’w ewyllys faddeu iddynt. Na, mae y Tad mor barod i faddeu ar sail yr iawn ag yw y Mab i ofyn am hyny. Y mae y Tad hefyd yn caru y Mab mor fawr fel y mae wedi rhoddi pobpeth yn ei law ef; “Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear hefyd,” meddai Grist; ac yn ol yr Apostol Paul y mae wedi ei roddi yn “ben uwchlaw pobpeth i’r eglwys.” (x171) Hwn, gan hyny, yn y sefyllfa oruchel, urddasol, ar ddeheulaw y Tad, yw ein Eiriolwr ni. Pwy amheua ei gyfaddasder i’r swydd, ynte, a sicrwydd ei lwyddiant?

 

IV. Yn helaethrwydd ei wybodaeth - “Ac o phecha neb.” Oni bae ei fod yn gwybod am holl bechodau, temtasiynau, ac anhawsderau y rhai yr eiriola drostynt, ni fuasai yn gymhwys i’r gwaith. Llawer achos sydd wedi ei golli ar y ddaear oblegid

anwybodaeth a diffyg dyddordeb y dadleuydd; ond nid oes berygl i’n Iesu ni fethu byth, oblegid mae ei ddyddordeb yn angerddol, a’i wybodaeth yn annherfynol. Bydd ambell ddadleuydd yn cymeryd y fath ddyddordeb yn yr achos fydd ganddo mewn llaw nes gadael y brifddinas, a dyfod am rai diwrnodau i’r lle y cyflawnwyd y trosedd. Chwilia allan bob ysmotyn o amgylch y lle, ac ar ddydd y trial mae mor hyddysg yn hanes y gymydogaeth a phe ganesid ef yno; a defnyddia ei wybodaeth mor ddeheuig nes troi yr oll o blaid y sawl y dadleua drosto. Fe adawodd ein Dadleuydd mawr ni y brifddinas nefol am dair-blynedd-ar-ddeg-ar-hugain a haner i ddyfod i lawr i’r byd lle y mae y troseddwyr y dadleua drostynt yn byw, ac nid oes dim yn eu hanes nag yw Ef yn gwybod am dano. Ac yn ychwanegol at ei fod yn gwybod yr oll, y mae yn teimlo y dyddordeb mwyaf yn eu hachos. Rhyfedd mor daer y bydd llawer un yn dadleu os bydd yn teimlo gwir ddyddordeb mewn achos. Gwelir hyny yn amlwg iawn yn ngwaith Abraham yn dadleu dros Sodom. Dyna sydd yn ardderchog, fod Grist yn teimlo y fath ddyddordeb yn achos pechadur. Arferai yr hen bobl ddyweyd na chollodd yr Arglwydd Iesu achos erioed, a gwir a ddywedent, gan y gwyr holl achosion ei blant; ac y mae ei Berson Anfeidrol yn ddigon o sylfaen i’w cyfiawnhau a’n sancteiddio, ac hefyd i’w gogoneddu yn dragywyddol. Ni byddai wahaniaeth genyf pe codai fy holl elynion i dystiolaethu yn fy erbyn foreu y farn, a dwyn pob pechod gyflawnais erioed i’r golwg, ond i mi gael Eiriolwr fy nhestyn o fy mhlaid, oblegid gallai ddangos, pa beth bynag yw fy annheilyngdod i, fod digon o haeddiant ynddo Ef ar eu cyfer.

 

Y mae yn anhawdd penderfynu pa fodd y mae Crist yn eiriol. Tybia rhai ei fod yn defnyddio geiriau; barna ereill fod ei eisteddiad gerbron y Tad yn y natur y dyoddefodd ynddi yn ddigon. Ond nid yw hyn o bwys mawr; bod o fewn cylch yr eiriolaeth sydd yn bwysig i ni. Darllenais dro yn ol (x172) am un o’r Atheniaid yn sefyll ei brawf, a dedfrydwyd ef i farwolaeth; ond gyda bod y frawddeg olaf o’r ddedfryd yn dyferu dros wefusau y barnwr, daeth brawd i’r troseddwr yn mlaen oedd wedi colli darn o’i fraich mewn brwydr, ac wedi bod yn foddion i enill y fuddugoliaeth. Gymaint oedd ei deimladau fel nas gallasai ddyweyd gair dros ei frawd, ond meddyliodd y buasai adgofio y barnwr o’r frwydr a enillodd y Groegwyr drwyddo ef yn dylanwadu rhywfaint. I’r perwyl hwn cododd y darn braich oedd ar ol, a dangosodd hi i’r hwn oedd yn eistedd ar y fainc. Cofiodd y barnwr ar unwaith wasanaeth mawr y dyn i’w wlad, ac ar gyfrif hyn rhoddodd ei frawd yn rhydd. Tebyg i hyn yw eiriolaeth fawr y nef ar ran pechaduriaid. Yr oeddym ni oll wedi ein dedfrydu i farwolaeth, ond y mae ein Brawd Hynaf wedi enill y fath frwydr ar ben Calfaria, fel y mae ei bresenoldeb ar ddeheulaw y Tad yn ddigon i sicrhau diangfa dragywyddol i bawb a ymddiriedant eu hachos Iddo. (x173)

 

PREGETHAU.

(14) DADBLYGU A PHERFFEITHIO FFYDD.

“Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau, er eich bod ychydig yr awrhon, os rhaid yw, mewn tristwch trwy amryw brofedigaethau; fel y caffer profiad eich ffydd chwi, yr hwn sydd werthfawrocach na’r aur colladwy, cyd-brofer ef trwy dân, er mawl, ac anrhydedd, a gogoniant, yn ymddangosiad Iesu Grist.” - 1 PEDR i. 6, 7.

 

Mae yn amlwg fod yr Epistol hwn wedi cael ei ysgrifenu at rai oedd yn dyoddef blinderau ac erledigaethau o herwydd crefydd. “Anwylyd,” meddai yr Apostol, “na ryfeddwch ac na thristewch yn herwydd y profiad gofidus hwn, eithr llawenhewch yn gymaint a’ch bod yn gyfranogion o ddyoddefiadau Crist, fel pan ddatguddier ei ogoniant, y byddoch yn llawen ac yn gorfoleddu.” Yr oedd y ffaith fod y dyeithriaid gwasgaredig hyn y sonia Pedr am danynt yn nechreu y benod yn cofleidio Cristionogaeth, ac yn gwrthod cydymffurfio âg arferion llygredig a phechadurus y talaethau y preswylient ynddynt, wedi enyn y fath ddigofaint ac adgasrwydd yn eu herbyn nes eu gwneyd yn wrthddrychau erledigaeth. At ddynion yn y sefyllfa yma yr ysgrifenwyd yr Epistol hwn, ac y mae cofio hyn yn fantais neillduol i’w ddeall. Ond er fod y Cristionogion hyn yn dyoddef oddiwrth amryw brofedigaethau, eto yr oedd ganddynt ddefnydd cysur a mwynhad, ac o ganlyniad yr oeddynt yn medru gorfoleddu mewn gorthrymderau. Anhawdd yw penderfynu at ba beth y cyfeirir yn nechreu adnod ein testyn, “Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau.” Tybia rhai mai cyfeiriad sydd yma at “yr amser diweddaf” yn niwedd yr adnod flaenorol, sef yr amser y byddai iddynt gymeryd meddiant o’r etifeddiaeth oedd yn eu haros, yn nghadw yn y nefoedd - yr amser y byddai i’r Iesu wneyd ei ymddangosiad ar gymylau y nef i ddatguddio iddynt ei iachawdwriaeth dragywyddol, “Yn yr hyn (sef yn y rhagolwg) yr ydych yn mawr lawenhau.” Ond fe dybir gan ereill mai cyfeiriad sydd yma nid at y dyfodol, ond at y presenol, sef at y gobaith bywiol oedd yn eu meddiant O fendithion mawrion yr efengyl, a’u bod yn rhinwedd y gobaith hwnw yn medru llawenhau yn ngwyneb y tristwch a’r profedigaethau mwyaf. Mae crefydd yn cynwys llawenydd yn y presenol yn gystal ag yn y dyfodol, ond mai llawenydd yn gymysgedig â thristwch ydyw yn awr, eithr yn y dyfodol bydd yn llawenydd pur a digymysg, yn “llawenydd annhraethadwy (x174) a gogoneddus.” Gellir tybied fed gwrthddywediad yn y testyn, sef “mawr lawenhau” a “thristwch trwy amrvw brofedigaethau.” Pa fodd y gallasent fod yn llawen ac yn drist ar yr un pryd? Nid oes dim ond crefydd all esbonio yr anghysondeb ymddangosiadol hwn. Profiad y Cristion ei hun yn unig all daflu goleu ar hyn, a phrofiad pob gwir Gristion yw eiddo yr Apostol, “Megys wedi ein tristau, ond yn wastad yn llawen; megys yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer; megys heb ddim genym, ond eto yn meddianu pob peth.” Nid yw crefydd yn symud ymaith flinderau, ac nid yw yn codi ei meddianydd uwchlaw iddynt, ond gwna rywbeth annrhaethol fwy na hyny, sef gweini llawenydd a gorfoledd sydd yn gorbwyso y blinderau mwyaf. Yn ngoleuni y pethau hyn ymddengys yn fwy naturiol i gymeryd yr esboniad olaf ar yr adnod, sef mai â’r presenol y mae a fyno y llawenydd ac nid â’r dyfodol. Oddiwrth y testyn cawn sylwi ar yr angenrheidrwydd i ffydd gael ei phrofi.

 

I. Mae yn angenrheidiol i ffydd gael ei phrofi er mwyn. ei dadblygu. - Daw hyn yn eglur wrth ystyried dau beth, sef- (1) Natur ffydd; a (2) Natur galluoedd yr enaid.

 

(1) Natur ffydd. - Mae ffydd yn allu sydd yn canfod gwrthddrychau ysbrydol ac anweledig. Deil ffydd gysylltiad â dau wrthddrych arbenig yn ol y benod hon, sef a’r “etifeddiaeth sydd yn aros y Cristion yn y dyfodol,” ac â “Christ anweledig yn y presenol; “â bodolaeth y rhai hyn y mae a fyno ffydd, ac o ganlyniad cysyllta yr Apostol y ddau â phrofiad ffydd. “Bendigedig fyddo Duw,” meddai, “a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn yn ol ei fawr drugaredd a’n hadgenhedlodd ni i obaith bywiol trwy adgyfodiad Iesu. Grist oddiwrth y meirw, i etifeddiaeth anllygredig a dihalogedig, a diddiflanedig, ac yn nghadw yn y nefoedd i chwi, y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig trwy ffydd i iachawdwriaeth, parod i’w datguddio yn yr amseroedd diweddaf.” Yn yr adnod sydd yn dilyn y testyn, cyfeiria at Grist anweledig, “Yr Hwn, er nas gwelsoch, yr ydych yn ei garu; yn yr Hwn, heb fod yr awrhon yn ei weled, ond yn credu, yr ydych yn mawr lawenhau a llawenydd annrhaethadwy a gogoneddus.” Gwelwn felly fod ffydd yn ymafaelyd yn y ddau wrthddrych, sef yr etifeddiaeth, a Christ yr hwn a’i pwrcasodd; y deyrnas a’r Brenin; y mae yn canfod y byd tuhwnt i derfynau y byd gweledig presenol; byd ysbrydol, sylweddol, a thragywyddol. (x175) Sylweddola ffydd wirionedd geiriau ein Harglwydd wrth ei ddysgyblion, “Ac wele yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd.” Pa beth bynag fydd sefyllfa y credadyn, pa un ai tristwch neu lawenydd, cyfoeth neu dlodi, anrhydedd neu waradwydd, y mae yn teimlo fod yn ei ymyl Berson fedr ei gynorthwyo a’i amddiffyn, Person sydd yn anfeidrol o ran ei allu, ac yn ddigyfnewid o ran ei hanfod-” Iesu Grist, ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd.” Ond er fod ffydd yn medru dwyn y byd ysbrydol a Christ anweledig yn wirioneddol ger bron, eto y mae dylanwad y byd hwn yn gyfryw ag sydd yn gosod ffydd yn aml ar ei phrawf, fel y mae yn rhaid iddi ymdrechu yn ei erbyn, ac mae’r ymdrechfa yn galed iawn - mor galed nes gosod ffydd mewn tanllyd brawf. Yn yr ymdrechfa hon y mae natur, gwerth, a chryfder ffydd yn dyfod i’r golwg, “A hon yw yr oruchafiaeth sydd yn gorchfygu y byd, sef ein ffydd ni.” Gorchfyga ffydd ddylanwadau y byd hwn ar feddwl a chalon y credadyn, trwy ddwyn galluoedd y byd a ddaw ar eu cyfer i’w gorbwyso. Heb hyn, bydd pethau y byd a’r bywyd hwn yn sicr o’n gwneyd yn gaethion iddynt, drwy fyned â’n serchiadau yn ormodol. Os na fydd ffydd yn ein galluogi i edrych ar y byd hwn yn ngoleuni y byd a ddaw, ä pethau bychain amser i edrych yn fawr rhyfeddol, a chylymant y galon wrthynt. Ond dyma waith ffydd - arwain ei meddianydd i feusydd tragywyddoldeb i ddangos gwrthddrychau y byd a ddaw iddo, ac hefyd egluro eu rhagoriaeth anfeidrol o’u cymharu â gwrthddrychau y byd hwn. Pwysa y pethau a welir a’r pethau ni welir; pethau amser â phethau tragywyddol; pethau creadigaeth a phethau iachawdwriaeth; gesyd hwy yn y glorian, a dengys wagedd y naill a sylwedd y llall, byrdra un a pharhad diddiwedd y llall, a dyna ddywed yn yr olwg arnynt, “Y ddaear a heneiddia fel dilledyn, a’i phreswylwyr yr un modd a fyddant feirw; ond fy iachawdwriaeth i a fydd byth, a’m cyfiawnder ni dderfydd; “ “Canys y pethau a welir sydd dros amser, ond y pethau ni welir sydd dragywyddol.” Fel yma y mae ffydd yn cael goruchafiaeth ar y byd, fel mai priodol y dywed yr Apostol, “Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau, gan wybod fod profiad eich ffydd chwi yn gweithredu amynedd; ond caffed amynedd ei pherffaith waith, fel y byddoch berffaith a chyflawn, heb ddiffygio mewn dim.” (x176)

 

(2) Natur galluoedd yr enaid. - Mae yn ffaith amlwg fod crediniaeth ddiysgog yn yr anweledig yn cael ei gryfhau a’i rymysu wrth ddyfod i gyffyrddiad âg anhawsderau. Y maent nid yn unig yn foddion i ddysgyblu a dadblygu yr egwyddor o ffydd; ond dysgyblant a dadblygant holl alluoedd y meddwl hefyd. Profir hyn gan hanes athronwyr a darganfyddwyr mewn gwahanol ganghenau gwybodaeth. Yn ddiddadl, darfu i’r gwawd a’r anhawsderau gafodd Columbus, pan y gwnaeth yn hysbys ei argyhoeddiad fod cyfandir arall yn bod, ei wneyd yn fwy penderfynol i fynu ei ddarganfod, ac ni fu yn llonydd nes cyrhaedd ei amcan. Yn ol pob tebyg, gwanaidd iawn oedd ei grediniaeth am fodolaeth America hyd nes cyfarfod â rhwystrau, y rhai fu yn foddion i’w gryfhau, nes oedd braidd yn anorchfygol. “Ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig.” Felly am y Cristion sydd yn ceisio sylweddoli y byd ysbrydol; y mae yn gorfod brwydro âg anhawsderau lawer; brwydro yn erbyn y byd, y cnawd, a diafol; ond wedi’r cwbl, nid yw yr oll ond moddion i’w wneyd yn fwy gwrol, ac yn fwy penderfyuol i orchfygu, ac fe ddaw drwy’r cwbl “yn fwy na choncwerwr drwy yr hwn a’i carodd.”

 

II. Y mae yn angenrheidiol i ffydd gael ei phrofi mewn trefn i’w pherffeithio. - Er mai aur yw y metel gwerthfawrocaf, y mae yn angenrheidiol ei daflu i’r ffwrnes danllyd er mwyn ei buro a’i berffeithio; y ffwrn yn unig fedr dynu y dross a’r anmhuredd oddiwrtho. Felly am ffydd, “yr hon sydd yn werthfawrocach na’r aur colladwy;” mae yn angenrheidiol ei phrofi drwy dân; a dyna ddywed Job ar hyn, “Wedi iddo fy mhrofi, myfi a ddeuaf allan fel aur.” “Da i mi yw fy nghystuddio,” meddai y Salmydd, “fel y dysgwn gadw dy ddeddfau.” “Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni, ond yn awr cedwais dy air di.” Er nad oes un cystudd na cherydd “dros yr amser presenol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd,” eto mae y dyben gogoneddus sydd iddynt oll yn cyfreithloni y moddion, “Ond gwedi hyn y y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder.” Rhaid gwasgu aml i flodeuyn cyn y ceir allan ei arogl. Y mae yn rhaid wrth y tonau cynddeiriog i gaboli a llyfnhau y pebbles; os am gael cerig llyfn, nid ar lan y Pacific Ocean y cewch hwynt, ond ar lanau moroedd sydd yn agored i ystormydd mynych. Yr un modd y gellir dyweyd am Gristion teilwng o’r enw; nid ar esmwythfeinciau (x177) nac mewn palasau gwych y deuir o hyd iddo fynychaf, ond mewn bwthyn to gwellt yn nghanol y tlodi dyfnaf. Peth rhyfedd iawn yw fod y perlau a’r meini gwerthfawrocaf sydd yn addurno coronau brenhinoedd y ddaear yma wedi bod unwaith yn ddigon diaddurn yr olwg arnynt. Ond wedi myned dan yr arfau celyd a’r triniaethau geirwon, y maent yn dyfod allan yn berlau dysglaer. Tebyg i hyn y gellir dyweyd am bechadur. Pan yn myned o dan ddylanwad gras yr efengyl, y mae golwg arw ac afluniaidd arno; ond unwaith yr aeth dan driniaeth yr Ysbryd Glân, nid hir y bu cyn dechreu ymddysgleirio, ac fe’i gwelir rhyw ddiwrnod yn berl dysglaer, ac yn deilwng i addurno coron y Brenin Tragywyddol ei hun.

 

Dygir y prawf hwn ar ffydd yn mlaen “trwy amryw brofedigaethau,” nid un profedigaeth; ac fe’i dygir yn mlaen hefyd trwy amryw fathau o brofedigaethau, nid trwy un math. Mae yn debyg yn hyn i arholiad ymgeisydd. Os bydd yr arholiad yn un o safon uchel, nid mewn un pwnc yr arholir ef, ond mewn amryw; nid mewn un ganghen o wybodaeth, ond amryw ganghenau. Gorfodir ef i fyned trwy y prawf hwn er cael allan beth yw hyd, lled, dyfnder, ac uchder ei wybodaeth, ac er mwyn gwybod i fesur beth yw nerth ei alluoedd meddyliol. Gwneir prawf cyffelyb ar ffydd y credadyn; y mae yn cael ei phrofi, nid trwy un brofedigaeth, ond trwy lawer, a’r rhai hyny yn amrywio yn ei natur, er ei phuro a’i pherffeithio. Felly y profwyd Joseph. Yr oedd y breuddwydion a gafodd pan yn llanc wedi cynyrchu gobeithion mawrion ynddo o berthynas i’r dyfodol, ond cafodd ei brofi yn llym cyn i’r un o honynt dd’od i ben. Profodd gasineb ei frodyr, cafodd ei werthu i’r Ismaeliaid, a’i garcharu yn yr Aipht. Milwriai y pethau hyn, i bob ymddangosiad, yn erbyn y gobeithion a gynyrchwyd gan y breuddwydion; ond pan daeth yr amser priodol i ben, gwelwyd fod yr oll yn cydweithio er daioni. Hyn yw hanes llawer Cristion; cynyrcha yr addewidion mawr iawn a gwerthfawr sydd yn y Beibl obeithion lawer yn ei galon; ond mae yn cael ei brofi yn llym ar y ffordd. Cyferfydd â chystuddiau chwerwon ac amgylchiadau dyrys cyn y caiff gyflawniad o’r addewidion sydd yn gysylltiedig â’r efengyl; er hyny y mae yn ymgysuro yn yr oll, gan mai yr amcan yw - “Fel y caffer profiad eich ffydd chwi.” Nid rhyfedd i Iago ddyweyd, “Gwyn ei fyd y gwr sydd yn goddef piofedigaeth, canys pan fyddo profedig efe a dderbyn (x178) goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i’r rhai a’i carant ef.” Y mae Abraham yn engraifft neillduol o hyn, “Ac wedi y pethau hyn y bu i Dduw brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Cymer yr awrhon dy fab, sef dy unig fab Isaac, yr hwn a hoffaist, a dos rhagot i dir Moriah, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar un o’r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wythyt.” Yr oedd hwn yn un o’r tests caletaf ac anhawddaf oedd yn bosibl i ddyn fyned trwyddo; Heblaw hyn, yr oedd y gorchymyn yn groes i’r addewid oedd Duw wedi roddi i Abraham yn flaenorol. Ymddengys y cwbl yn groes i reswm. Ond beth bynag am hyny, nid aeth Abraham i ddadleu yn nghylch yr addewid; gadawodd rhwng Duw a hono, ufuddhau ydoedd ei waith ef - “Ac Abraham a fore-gododd” y diwrnod wedi cael y gorchymyn, a ffwrdd âg ef ac Isaac, a dengys yr hanes yr ufudd-dod mwyaf parod ac ewyllysgar. Er ei bod hi yn galed arno i gychwyn, gallwn dybied ei bod hi yn myned yn galetach bob cam o’r ffordd. Yn mhen y trydydd dydd - diwrnod bythgofiadwy i Abraham - daeth pen Moriah i’r golwg. Y mae Isaac mewn syndod yn galw ei sylw, gan ddyweyd, “Fy nhad, wele dân a choed, ond pa le y mae oen y poeth-offrwm?” Pwy ddichon ddychymygn teimladau Abraham pan ofynwyd iddo y fath gwestiwn? Ond ymddengys fod yr ateb gafodd wedi rhoddi perffaith foddlonrwydd, “Duw a edrych iddo ei hun am oen y poethoffrwm;” ac felly y bu. Cafwyd hwrdd yn rhwym wrth ei gyrn mewn drysni, ac fe’i offrymwyd yn boeth-offrwm yn lle Isaac. Er caleted oedd y prawf rhyfedd hwn, fe ddaliodd ffydd Abraham; ac nid yn unig fe ddaliodd y prawf allan, ond fe ddaeth allan o hono yn gryfach, yn burach, ac yn ogoneddusach. Yr oedd yn ddigon cryf i ymddiried yn Nuw. Os yw ein profedigaethau yn galed a chwerw, cymerwn gysur, nid ydynt ond o fyr barhad, “Dros brydnawn yr erys wylofain, erbyn y bore y bydd gorfoledd;” “Canys ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn odidog rhagorol, yn gweithredu tragywyddol bwys gogoniant i ni;” “Oblegid yr wyf yn cyfrif nad ydyw dyoddefiadau yr amser presenol hwn yn haeddu eu cyffelybu i’r gogoniant a ddadguddir i ni.” “Nid o’i fodd y blina efe nac y cystuddia blant” dynion;” na, gorfod gwneyd hyny y mae er eu lles, er eu puro a’u sancteiddio. “Os rhaid yw” - yn ol y rhaid mae Duw yn profi ac yn ymddwyn yn mhob peth atom ni. Efe w^yr beth sydd oreu ar ein lies. Yr eurych (x179)

sydd yn gwybod beth sydd oreu i buro yr aur, a’r gemydd pa fodd i drin y perlau gwerthfawr. Felly gyda golwg ar buro a pherffeithio ffydd; Duw w^yr pa driniaeth sydd oreu. Efe yn unig all gymhwyso y dyn i dderbyn yr etifeddiaeth dragywyddol. Nid yw y cerfiwr yn rhoddi ergyd i’r block ond sydd yn hanfodol i berffeithio y ddelw; ac ni wna yr un meddyg teilwng o’r enw roddi gronyn o boen i’r claf ond sydd raid er ei wellhad. Mae hyn yr un mor wir am y Meddyg Dwyfol; gelli benderfynu, bechadur, na wna roddi dim ond yr hyn sydd raid o boen i ti mewn trefn i dy wella yn ysbrydol - yn ol y rhaid mae ef yn gwneyd, “os rhaid yw.”

 

Yr amcan mewn golwg yw ein gwneuthur yn deilwng o gymeradwyaeth y Barnwr yn y dydd a ddaw, “Er mawl, ac anrhydedd, a gogoniant yn ymddangosiad Iesu Grist;” “Pan ddel efe i’w ogoneddu yn ei saint, ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu.” Fe ddywedir mai diwrnod i’w gofio yn Llundain a’r amgylchoedd oedd y diwrnod hwnw pan laniodd y Dywysoges Alexandria o Denmark yn Gravesend i gael ei harddel fel ei ddiweddi gan etifedd coron Prydain Fawr. Yr oedd masnach wedi sefyll, banerau yn chwifio, cyflegrau yn rhuo, clychau yn canu, a’r miloedd yn rhwygo yr awyr a’u bloeddiadau. Beth oedd yn bod? Tywysog Cymru oedd yn gwneyd arddeliad cyhoeddus o’i ddyweddi. Yr oeddynt yn deall eu gilydd yn dda yn y cychwyn, ond dyma y pryd yr aeth y priodfab i lan y dwfr i’w chyfarfod, a’i harwain i’r palas brenhinol, ac y dangosodd i’r cyhoedd ei wir berthynas â hi’. Gallwn ddyweyd yr un modd am ferch yr hen Amoriad. Mae hithau wedi ei dyweddïo i etifedd yr Orsedd Dragywyddol, ac y mae ganddi hithau hefyd ei Gravesend, sef y lan yr ochr draw i’r bedd; ac mae dydd yn dyfod pan y caiff ei harwain oddiar lan yr afon gan Dywysog brenhinoedd y ddaear i’r Palas Brenhinol, ac y gwneir arddeliad cyhoeddus o honi fel Ei ddyweddi. “Pan ymddangoso Crist ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gydag ef mewn gogoniant.”

 

............ “Dyma ddydd - dydd ei ddyweddi,

..................Dyma’r briodasol wledd;

..............Dyma’r dydd caiff pererinion

..................Yfed o’i dragwyddol wledd.”

 

PREGETHAU.

(15) YR EFENGYL FEL TRYSOR O ANGHWILIADWY WERTH.

 

“Eithr y mae genym y trysor hwn mewn llestri pridd, fel y bydda, godidowgrwydd y gallu o Dduw, ac nid o honom ni.” - 2 COR. iv. 7.

 

Yn yr adnodau blaenorol, cyflwyna yr Apostol i’n sylw y gwirioneddau pwysicaf a gogoneddusaf mewn bod, sef y gwirioneddau am Dduw, am Grist, am yr efengyl, ac am weinidogaeth y Gair. Mae y gwirioneddau mawrion hyn yn cael eu gosod allan ganddo yn eu perthynas neillduol y naill a’r llall, sef â Duw yn Nghrist, Crist yn yr Efengyl, yr Efengyl yn y weinidogaeth, a’r weinidogaeth yn ei dylanwad a’i hefieithiolrwydd ar gydwybodau dynion. “Am hyny, gan fod i ni y weinidogaeth hon” - y weinidogaeth gafodd ei desgrifio mor rhagorol yn y benod flaenorol; y weinidogaeth sydd yn rhagori cymaint ar weinidogaeth Moses, a’r hon drwy ba un y mae yr Ysbryd Glân yn gweithredu mor effeithiol ar galonau pechaduriaid - “megys y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu, nid ydym yn llesgau, ac yn digaloni, ond yr ydym yn mawrhau ein swydd,” ac yn teimlo yn ddiolchgar am gael em cyfrif yn ffyddlawn a’n gosod yn y weinidogaeth. “Eithr megys y’n cyfrifwyd ni gan Dduw yn addas i ymddiried i ni am yr efengyl, felly yr ydym yn llefaru, nid megys yn rhyngu bodd i ddynion, ond i Dduw, yr hwn sydd yn profi em calonau ni;” “Nid ydym, gan hyny, yn pallu,” ond yn hytrach yr ydym yn ymwroli ac yn ymffrostio yn ein swydd. “Eithr ni a ymwrthodasom â chuddiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn cyfrwysdra, na thrin gair Duw yn dwyllodrus, eithr trwy eglurhad y gwirionedd, yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bob cydwybod dynion yn ngolwg Duw.” Ac er fod llawer o herwydd eu dallineb ysbrydol yn methu gweled prydferthwch yr efengyl, eto nid yn yr efengyl y mae y diffyg, ond ynddynt hwy; “Eithr os cuddiedig yw ein hefengyl ni, yn y rhai colledig y mae yn guddiedig, yn y rhai y dallodd duw y byd hwn feddyliau y rhai digred, fel na thywynai iddynt lewyrch efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Duw.” Dyma y rheswm rydd yr Apostol fod dynion yn methu canfod gogoniant a phrydferthwch yr efengyl. Ond y mae (x181) yn gysur meddwl, er cymaint yw ein tywyllwch a’n dallineb ysbrydol, fod Duw yn ei ras a’i drugaredd yn medru eu symud trwy yr efengyl. Gall hon oleuo llygaid ein meddyliau i weled gogoniant ei gymeriad fel yr amlygwyd ef yn mywyd yr Arglwydd Iesu; “Canys Duw, yr hwn a orchymynodd i’r goleuni lewyrchu o dywyllwch, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonau i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist.” Yna daw geiriau y testyn i fewn. “Eithr y mae genym y trysor,” sef efengyl gogoniant Grist neu y bendigedig Dduw. Sylwn oddiar y geiriau ar dri o bethau -

 

I. Fod yr Efengyl yn drefn o anfeidrol werth.

II. Fod gweinidogaeth yr Efengyl wedi ei hymddiried i offerynau distadl.

III. Fod gweinyddiad yr Efengyl gan offerynau mor ddistadl yn arddangosiad arbenig o’i gallu Dwyfol.

 

I. Fod yr Efengyl yn drefn o anfeidrol werth. Y mae genym y trysor hwn.” Dengys y gair “trysor” ar unwaith ei bod yn werthfawr. Mae i’r gair ddau ystyr yn y Testament Newydd. Un ystyr yw lle i gadw neu ddyogelu peth sydd yn werthfawr. Dyma yr ystyr sydd iddo yn y geiriau hyny lle y dywedir am y doethion yn dyfod o hyd i’r Iesu, “Ac wedi agoryd eu trysorau (neu eu cistiau), a offrymasant iddo anrhegion, aur, a, thus, a myrr.” Cawn yr un ystyr eto yn y lle y dywedir am weinidogion Crist eu bod yn “debyg i ddyn o berchen ty^, yr hwn sydd yn dwyn allan o’i drysor bethau newydd a hen.” Golyga y gair yn yr ail le yr hyn sydd yn werthfawr ynddo ei hun, “Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes.” Amlwg yw mai nid yr hyn sydd yn dal neu yn cynwys peth gwerthfawr a olygir fan hon, ond y peth gwerthfawr ei hunan. Cawn yi un ystyr eto i’r gair yn y geiriau canlynol, “Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear, lle y mae gwyfyn a rhwd yn llygru;” “Canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd.” Dywedir eto am Grist, “Yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig,” yr hyn a olyga yr un peth. Yn y testyn, mae cyfuniad hapus o’r ddau ystyr yma, oblegid yr efengyl yw y trysor a’r trysordy. Y mae o anfeidrol werth ynddi ei hun, ac y mae yn drysorfa o holl fendithion aneirif Duw i bechaduriaid. Dyma y blwch yn mha un y cedwir gemau a pherlau penaf y Jehofah, i wneuthur y (x182) pechadur yn gyfoethog dragywyddol. Ond ei gwerth ynddi ei hun yw y peth pwysig; anchwiliadwy olud Crist ydyw; cyfoeth gwell ac un parhaus; y peri gweithfawr o uchel bris; yr aur wedi ei buro drwy dân y gelwir hi yn y Beibl. Yn yr olwg yma ar yr efengyl y dywed Paul a’i gyd-apostolion, “Megys yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer,” trwy eu gwneyd yn etifeddion bywyd tragywyddol. O ba gyfeinad bynag yr edrychir ar yr efengyl, mae hi yn werthfawr. Edrychwch arni oddiar unrhyw safle y bydd dynion yn edrych ar ac yn penderfynu gwerth peth, a chewch weled ei bod hi yn dra gwerthfawr; yn drysor anmhrisiadwy o ran gwerth, ac annherfynol o ran cyflawnder. Mae amryw ffyrdd i benderfynu gwerth pethau, ac un o honynt yw prinder. Nid hir y byddwn cyn prisio peth os ä yn brin, ac ä pethau cymharol ddiwerth yn ein syniad yn uchel eu pris os na fydd yn bosibl dyfod o hyd iddynt pan fyddom mewn gwir angen am danynt. Hyn sydd yn peri fod aur yn fwy gwerthfawr na haiarn, a gemau yn fwy eu gwerth na’r cerig cyffredin. Wel, os yw prinder pethau yn gosod gwerth arnynt, mae yr efengyl o angenrheidrwydd yn werthfawr, oblegid nid oes ond un efengyl yn bod. Un ffordd o waredigaeth sydd wedi ei darganfod; un Ceidwad sydd wedi ei eni; un Cyfryngwr, “Canys un Duw sydd, ac un Cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, y dyn Grist Iesu;” “Ac nid oes Iachawdwriaeth yn neb arall, canys nid oes enw arall dan y nef wedi ei roddi yn mhlith dynion trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig.”

 

Prawf arall o werth peth ydyw, tystiolaeth dynion am dano - dynion o safle ac awdurdod, dynion sydd wedi eu cynysgaeddu a galluoedd, profiad, a phob cymhwysder angenrheidiol; y mae barn y cyfryw am unrhyw wrthddrych, fel rheol, yn profi ei werth. Wyddoch chwi, mae y dynion galluocaf, dysgedicaf, mwyaf meddylgar, a’r dynion goreu welodd y byd yma erioed yn dwyn tystiolaeth i werth yr efengyl, fel y gellir dyweyd am dani fel yr ysgrifenwyr ysbryoledig am ddoethineb, “Ni w^yr dyn beth a dâl hi, ac ni ellir pwyso ei gwerth hi âg anan. Canys gwell yw ei marsiandiaeth hi na marsiandiaeth o arian, a’i chynyrch hi sydd well nag aur coeth; gwerthfawrocach yw hi na gemau, a’i holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi;” “Ie, yn ddiameu, yr wyf yn cyfrif pob peth yn golled o herwydd arddeichogrwydd gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd.” (x183)

 

 

Ffordd arall i brofi gwerth pethau ydyw eu parhad. Mae yn bosibl i beth fod yn hardd a deniadol, ac eto yn frau a dadfeiliedig o ran ei natur, ac felly yn amddifad o wir Werth. Un o elfenau hanfodol gwerth yw parhad. Os am drysor tragywyddol ei barhad, yr efengyl am dani “Wedi eich ail-eni, nid o had llygredig, eithr anllygredig, trwy air Duw (neu yr efengyl), yr hwn sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd;” “Eithr gair yr Arglwydd sydd yn aros yn dragywydd.” “Dyrchefwch eich llygaid,” meddai y proffwyd, “tua’r nefoedd, ac edrychwch ar y ddaear isod; canys y nefoedd a ddarfyddant fel mwg, a’r ddaear a heneiddia fel dilledyn, a’i phreswylwyr yr un modd a fyddant feirw, ond fy iachawdwneth a fydd byth, a’m cyfiawnder ni dderfydd.”

 

Byddwn yn prisio pethau eto wrth eu defnyddioldeb. Wel, os felly, beth sydd mor fuddiol a’r efengyl? Beth sydd mor wasanaethgar, mor gyfaddas i angen pechadur, a chyflawnder y bendithion sydd yn Nghrist? Mae yma fara i’r newynog, dwfr i’r sychedig, gwisg i’r noeth, cyfiawnder i’r euog, sancteiddrwydd i’r aflan, a bywyd i feirwon -

 

 

.................. “Balm cryf i’m clwyfau o bob rhyw,

...................A chordial i’m rhag ofnau yw.”

 

Gellir tybied am amgylchiadau pan na fyddai aur ac arian a pherlau gwerthfawr yn ddim mwy yn ein golwg na’r llwch o dan ein traed. Meddyliwch am ddyn mewn llongddrylliad ar suddo o dan y tonau cynddeiriog; a rhywun yn cynyg iddo aur, arian, neu berlau, ni fyddai y fath bethau ond gwagedd yn ei olwg. Ond dewch a chwch iddo, a chewch weled yn bur fuan beth sydd yn werthfawr yn ei olwg. Y mae y cwch bychan yn fwy o werth yn ei olwg na mynyddoedd o aur, ac pa pherlau yr India, pe caffai eu cynyg oll y foment hono. Neu, meddyliwch am ddrwg-weithredwr wedi ei gondemnio i farwolaeth. Dacw ef yn ei gell dywell yn aros diwrnod ei ddienyddiad. Ewch i mewn ato, a gofynwch iddo beth garai gael yn y fath gyflwr annedwydd. Tybed y carai glywed swn cynghanedd a dawnsio? O! na charai, yr wyf yn siwr. A garai ef gael aur ac arian? Na, ni allai llon’d byd o honynt wneyd dim i’r truan yn yr ystad hon. Yr unig beth y rhoddai ef werth arno yw, swn traed swyddog o dan y llywodraeth yn dyfod i fewn ac yn cyhoeddi rhyddhad iddo oddiwith y gosb haeddianol. Ah! drwg-weithredwyr o dan gondemniad ydym (x184) ni bawb o honom, os heb gredu yn yr Arglwydd Iesu, “Yr hwn nid yw yn credu a ddamniwyd eisoes, o herwydd na chredodd yn unig-anedig Fab Duw.” Ond da genyf ddyweyd, y mae yr efengyl ag awdurdod i gyhoeddi rhyddid i’r caethion, ac agoriad carchar i’r rhai sydd yn rhwym, “Canys deddf ysbryd y bywyd yn Nghrist Iesu a’m rhyddhaodd i oddiwrth ddeddf pechod a marwolaeth.” Ac nid yn unig y mae yn rhyddhau oddiwrth bechod a marwolaeth, ond y mae yn sancteiddio y cyfryw hefyd; y mae yn dyrchafu yn gystal a rhyddhau o garchar. Cyfyd trysorau y ddaear eu perchenog uwchlaw tlodi a helyntion blin y byd hwn, a dyrchafant hwy i sefyllfaoedd uchel yn fynych. Ond beth fedrant hwy wneyd, ar eu goreu, at yr hyn a wna trysorau gras? Cyfyd y rhai

hyn y tlawd o’r llwch a’r anghenus o’r domen, a’u gosod i eistedd gyda phendefigion pobl Dduw. Dyma drysor - yr efengyl - gwerth i’w gael, oblegid mae o anfeidrol werth ynddo ei hun.

 

II. Fod gweinidogaeth yr efengyl wedi ei hymddiried i offerynau distadl - “llestri pridd.” Nid llestr haiarn neu bres. Cyfeiria yr ymadrodd hwn o bosibl at yr hen arferiad o osod trysorau gwerthfawr mewn llestri pridd i’w cuddio yn y ddaear yn amser rhyfeloedd a chwyldroadau pwysig ereill. Neu gall fod yma gyfeiriad at Gideon a’i biserau. Math o lestri pridd, mae yn debyg, oedd y rhai hyny, a lampau bychain oddi mewn iddynt. Arfau rhyfel hynod o ddistadl, onide? Piserau pridd, lampau, ac udgyrn i gyfarfod y Midianiaid a’r Amaleciaid, y rhai oedd mor aml a’r locustiaid; er hyny, enill y fuddugoliaeth wnaeth Gideon, am fod Duw gyda’r arfau. Dacw Gideon a thri cant o wyr yn myned allan haner nos i gyfarfod y gelyn, gan chwythu yn yr udgyrn a dryllio y piserau, ac yn bloeddio allan, “Cleddyf yr Arglwydd a Gideon!” Tarawodd hyn y Midianiaid â braw a dychryn, nes iddynt ffoi am eu bywyd i gyfeiriad yr Iorddonen. Pa un bynag a oes cyfeiriad yn y testyn at yr amgylchiadau yma ai nac oes, y mae y ffaith yn aros fod gweinidogaeth yr efengyl wedi ei hymddiried i offerynau gwael ac eiddil, fel y byddai godidowgrwydd y gallu o Dduw, ac nid o honom ni. Mae y trysor yn ddigon gwerthfawr i gael ei osod mewn llestri aur, sef mewn angylion a seraphiaid y nef, ond yn lle hyny yn llestri pridd preswylwyr y ddaear y mae wedi ei osod, y rhai sydd a’u sail yn y pridd ac a falurir yn gynt na’r gwyfyn. (x185) 

 

 

 

Gesyd yr ymadrodd “llestri pridd” allan sefyllfa isel, ddistadl yr apostolion, yn wrthgyferbyniol i sefyllfa urddasol y cyfoethogion. “Canys yr ydych yn gweled eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o rai doethion yn ol y cnawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o rai boneddigion a alwyd; eithr Duw a etholodd ffol bethau y byd fel y gwaradwyddai y doethion; a gwan bethau y byd a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai y pethau cedyrn; a phethau distadl y byd a phethau dirmygus a ddewisodd Duw; a’r pethau nid ydynt, fel y diddymai y pethau sydd, fel na orfoleddai un cnawd ger ei fron ef.” Dengys yr adnodau uchod yn amlwg iawn y cyferbyniad pwysig mae yr Apostol yn ei wneyd rhwng plant Duw a phlant y byd hwn, yn ol syniad y byd am danynt.

 

Defnyddir yr ymadrodd “ llestri pridd “ hefyd i osod allan yr hyn sydd wael a dirmygus i’r golwg yn fynych, yn gystal a distadl, fel ag y dywed y proffwyd am yr eglwys, “Gwerthfawr feibion Seion, a chystal ag aur pur, pa fodd y cyfrifwyd hwynt fel ystenau pridd, gwaith dwylaw y crochenydd?” Ond er eu bod yn wael a dirmygedig yn ngolwg y byd, fe welodd Duw yn dda i roddi yn y rhai hyn y trysor penaf, fel y byddai godidowgrwydd y gallu o hono Ef ei hun.

 

III. Fod gweinyddiad yr Efengyl gan y fath offerynau gweiniaid yn arddangosiad arbenig o’i gallu Dwyfol - “Fel y byddai godidowgrwydd y gallu o Dduw.” Pe buasai yr offerynau yn nerthol a galluog, naturiol fuasai priodoli ei llwyddiant i’w gallu a’u dylanwad hwy eu hunain, ac nid i allu a dylanwad y Nefoedd; tra y mae y ffaith fod offerynau mor weiniaid yn cyflawni y fath orchestion ar unwaith yn profi fod y gallu o Dduw. Edrychwch arnynt yn sefyll o flaen llywiawdwyr a phenaethiaid y bobl; yn cael eu harwain o lys i lys; yn cael eu herlid, eu fflangellu, a’u carcharu am bregethu Crist; ac yn sefyll yn ngwyneb yr oll gan ddyweyd yn groch, “Rhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion.” Beth oedd yn eu gwneyd mor wrol a hyf? Presenoldeb yr Ysbryd Glân gyda hwynt. Mae Duw yn mhob oes o’r byd wedi gwneyd pethau mawrion trwy offerynau bychain, gweiniaid, ac eiddil. Edrychwch ar Pharaoh, y teyrn penaf yn y byd yr adeg hono. Dacw ef yn nghanol ei rwysg a’i fawredd, yn ysgwyd ei deyrnwialen haiarnaidd dros y miliynau sydd yn gaethion yn ei lywodraeth. Pwy, tybed, a’i gorchfyga? Pwy gipia y deyrnwialen o’i law? Pwy ddadymchwela ei lywodraeth? (x186) Dim ond baban bychan gwan ar lan yr afon Nilus yn dri mis oed, hwnw wedi dyfod yn ddyn a’i llwyr orchfyga. Pwy garia yr efengyl am y tro cyntaf i ganol y cenhedloedd, i Groeg ddysgedig a Rhufain rwysgfawr? Saul o Tarsus, gwneuthurwr pebyll. Pwy ysgwyd i lawr Babyddiaeth sydd wedi teyrnasu dros Gyfandir Ewrop am ganrifoedd? Dim ond Martin Luther, y mynach. Dyma yr offerynau ddefnyddiodd Duw i droi y byd megys wyneb i waered. Faint bynag o nerth sydd gan hyawdledd, drychfeddylian, rhesymeg a thlysni cyfansoddiadau, y mae y cwbl yn rhy wan i gyfnewid y galon ac i symud pechadur o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw Gwyddai Paul hyn pan aeth i bregethu yr efengyl gyntaf yn Corinth. “A myfi pan ddaethum atoch, frodyr,” meddai, “a ddaethum nid yn ol godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan tynegu i chwi dystiolaeth Duw; canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio.” Fe wyddai yr Apostol am dueddiadau ymchwilgar y Groegiaid, am eu hoffder o hyawdledd ac areithyddiaeth swynol; ond er gwybod hyn oll, ni wnai ymostwng i foddio eu cywreinrwydd a’u chwilfrydedd cnawdol; yn hytrach cyhoeddai mewn modd syml yr ymadroddion am y Groes, sef fod Grist wedi marw drosom ac wedi adgyfodi i’n cyfiawnhau; ac er nad oedd Paul yn arfer geiriau o ddoethineb ddynol, eto yr oedd ei bregethau yn eglurhâd yr Ysbryd a nerth, fel na byddai eu ffydd mewn doethineb dynion ond mewn nerth Duw; ac nid mewn nerth dawn a dysg, ond nerth yr Ysbryd Glân; nerth o’r uchelder; nerth yr Iawn a’r haeddiant annherfynol gafwyd ar ben Calfaria. Hwn yw yr unig nerth fedr ladd gelyniaeth y galon, a’i gwneyd yn ufudd i Dduw. Mae y nerth hwn wedi gwneyd i aml un ganu -

 

............. “Anweledig, ’rwy’n dy garu,

...................Rhyfedd ydyw nerth dy ras,

...............Tynu f’enaid i mor hyfryd

...................O i bleserau pena’ i maes,

...............Ti wnest fwy mewn un mynydyn

..................Nag a wnaethai’r byd o’r bron,

...............Enill it’ eisteddfa dawel

..................Yn y galon gareg hon.”

 

Pa mor galed bynag y byddo y galon, mae yr efengyl yn gallu ei thyneru a’i dwyn i ufuddhau i Grist; “Gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un sydd yn credu.” Mae y nerth (x187) dwyfol sydd yn yr efengyl yn dyfod i’r golwg yn amlwg yn achubiaeth y pechadur, ac hefyd yn y ffaith ei fod yn cael ei gadw ganddi yn nghanol temtasiynau a phrofedigaethau; ac y mae yn dyfod i’r golwg yn fwy amlwg byth yn y nerth mae yn roddi i’r Cristion i farw. Mae yr hwn sydd wedi teimlo ei nerth hi yn gallu bod yn dawel yn mhob man. Cofus genyf ddarllen am un yn myned dan chloroform, ac wedi dyfod allan o’r oruchwyliaeth hono dywedai, “Pan gollais fy hun mewn cwsg dan ddylanwad chloroform, heb wybod a gawn agor fy llygaid byth ar y byd hwn wedi hyny, mi gollais fy hun yn mreichiau yr un anwylaf genyf ar y ddaear; a phan ddihunais, cefais fy hun yn yr un breichiau drachefn.” Bobl dduwiol, pan gollwch chwithau eich hunain yn nghwsg marwolaeth, chwi gollwch eich hunain yn mreichiau y Gwr anwylaf feddwch - y Gwr fu farw drosoch ar Galfaria. A phan ddihunwch foreu rhyfedd yr adgyfodiad, chwi gewch eich huuain yn mreichiau yr un Gwr. O! am deimlo nerth dwyfol yr efengyl yn ein dwyn i’w freichiau yn awr mewn dydd o ras ac yn nhymor Iachawdwnaeth.

 

(x188)

 

PREGETHAU.

(16) Y BYWYD CUDDIEDDIG.

“Canys meirw ydych, a’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw.” -COLOSSIAID iii. 3.

 

Mae y geiriau hyn yn rheswm dros yr anogaeth roddir gan yr Apostol yn yr adnod flaenorol, “Rhoddwch eich serch ar bethau sydd uchod, nid ar bethau sydd ar y ddaear.” Paham? “Canys meirw ydych.” Tybia rhai fod yr ymadrodd yn gyfystyr â “marwol ydych.” Mae hadau marwolaeth yn eich cyfansoddiad; mae y cysylltiad sydd rhyngoch â’r ddaear a’r byd a’r bywyd hwn i ddarfod yn fuan; gan hyny rhoddwch eich serch ar bethau sydd uchod - pethau byd arall, pethau nefol, ysbrydol, a thragywyddol. Ond er bod byn yn wirionedd, ac yn wirionedd sydd yn cynwys rheswm digonol dros roddi ein bryd ar bethau’r byd ysbrydol, eto mae’n ymddangos mai nid dyna wirionedd y testyn, oblegid mae’r ymadrodd yn y gorphenol, “Canys meirw ydych,” neu “Buoch feirw.” Mae y frawddeg yn gosod allan nid yr hyn oedd i gymeryd lle yn y dyfodol, ond yr hyn oedd wedi cymeryd lle eisoes - yr ydych wedi meirw i’r byd, i’r ddeddf, ac i bechod; yr ydych wedi meirw gyda Christ, wedi eich cydgladdu gyda Christ, wedi adgyfodi gyda Christ, “Am hyny, os cydgyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod;” rhoddwch eich bryd ar bethau tragywyddol; sefydler eich serchiadau ar wrthddrychau nefol; yr ydych wedi eich codi i gyflwr uchel; yr ydych wedi eich dwyn i undeb â Mab Duw, yr ydych wedi eich dyrchafu i’r nefoedd yn eich Cynrychiolydd, ac o ran sicrwydd eich hawl. Byddwch gan hyny yn y nefoedd o ran eich meddylfryd, “Rhoddwch eich serch ar bethau sydd uchod, nid ar bethau sydd ar y ddaear,” “Canys meirw ydych,” &c. Mae y testyn yn gosod allan farwolaeth a bywyd y Cristion.

 

I. Marwolaeth y Cristion - “Canys meirw ydych.” Yr ydych wedi myned trwy gyfnewidiad mor fawr a myned trwodd o farwolaeth i fywyd. Mae y cyfnewidiad hwn yn cael ei osod allan trwy wahanol ymadroddion. Gelwir ef weithiau yn adenedigaeth. Dyma’r enw roddodd yr Arglwydd Iesu arno yn ei ymddyddan a Nicodemus, “Oddieithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw.” Nid diwygio (x189) tipyn ar y dyn allanol, ond ei gyfnewid yn fewnol, a’i eni o ddwfr ac o’r Ysbryd. Llawer o son sydd y dyddiau hyn gan rai am ddadblygiad - damcaniaeth sydd yn ceisio profi fod yr hil ddynol wedi myned trwy gyfres hirfaith o gyfnewidiadau; ac er fod ei dechreuad yn hynod o isel, eto fod ynddi allu i ymddyrchafu ac ymberffeithio yn barhaus, ac y bydd iddi rywbryd, yn rhinwedd y gallu cynhenid hwn, ddyfod i afael cyflawniad o’r addewid hono o eiddo’r sarff, “A byddwch megys duwiau,” &c. Ond beth, atolwg, sydd yn yr hil ddynol i ymddadblygu ond pechod a llygredigaeth? ’Does ynddi yr un gronyn o ddaioni ysbrydol, yr un wreichionen o burdeb a sancteiddrwydd, “Canys mi a wn nad oes ynof fi (hyny yw, yn fy nghnawd i) ddim da yn trigo.” Wna dadblygiad ddim o’r tro. Ddadblygodd yr un pechadur erioed o hono ei hun i fod yn sanct, “Oblegid yr hyn a aned o’r cnawd sydd gnawd.” Nid codi dyn o sefyllfa is i sefyllfa uwch yn unig y mae Duw yn yr adenedigaeth, ond ei ail-wneyd, ei eni drachefn - “Wedi eich ail-eni, nid o had llygredig, eithr anllygredig, trwy air Duw,” &c. Gelwir y cyfnewidiad hwn hefyd yn greadigaeth, “Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yn Nghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a ragddarparodd Duw fel y rhodiem ni ynddynt;” “Od oes neb yn Nghrist, y mae efe yn greadur (neu yn greadigaeth) newydd.” Mae y cyfnewidiad sydd yn cymeryd lle ar gyflwr, cymeriad, a sefyllfa pechadur yn gyfnewidiad mor fawr fel mai priodol y gelwir ef yn greadigaeth newydd. Nid cyfnewid, gwella, neu ddiwygio tipyn ar yr hen greadur, ond dwyn i fod greadur newydd - anian newydd, egwyddorion newydd, teimladau newydd, neu, fel y dywed yr Apostol mewn man arall, “Dyn newydd, yr hwn yn ol Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd.” Dengys hyn fod dirgelwch mawr yn perthyn i bob dyn duwiol. Mae ynddo ddau ddyn, dwy egwyddor, dwy anian - elfenau nefoedd ac uffern yn ymrafaelio â’u gilydd ar faes ei natur foesol. Dirgelwch mawr Crist ydyw, dwy natur mewn un person; dirgelwch mawr y Cristion ydyw, dwy anian mewn un person; a pherffeithiad y greadigaeth newydd ydyw adfer unoliaeth o’i fewn a’i wneyd yn un, yn lle bod yn ddau - difodi’r hen ddyn, lladd yr hen egwyddorion, alltudio yn dragywyddol bob gronyn o’r llygredigaeth allan o’i natur, a’i berffeithio mewn sancteiddrwydd, a’i wneuthur yn ddyn newydd ar ddelw y dyn Crist Iesu. Nid gweithredu ar wyneb y natur y mae (x190) Ysbryd Duw pan yn cyfnewid pechadur; nid gweithredu fel mae yr awel dyner yn wneyd ar wyneb y cefnfor, gan gynyrchu tonau bychain i chwareu ar y wyneb, a gadael y dyfnder mawr heb ei gyffwrdd. Na, pan fyddo Ysbryd Duw yn gweithredu yn achubol ar gyflwr pechadur, y mae yn gweithredu ar ddyfnderoedd ei natur foesol. Os ydym, gan hyny, yn feddianol ar wir grefydd, y mae peth mor fawr a chreadigaeth wedi cymeryd lle o’n mewn; mae y Duw orchymynodd i’r goleuni lewyrchu o dywyllwch wedi llewyrchu yn ein calonau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist.”

 

Ond hoff enw Paul ar y cyfnewidiad hwn ydyw “marw.” Mae pob Cristion wedi marw i’r byd, a’r hyd iddo yntau; y maent yn rhinwedd croes Grist wedi eu croeshoelio y naill i’r llall, “Trwy yr hwn y croeshoeliwyd y byd i mi, a minau i’r byd.” Mae y croeshoeliad hwn o bob tu yn gosod allan yn y wedd gryfaf fod pob cymundeb rhwng y Cristion a’r byd wedi darfod, a’i fod wedi ymgysegru yn drwyadl i wasanaeth yr efengyl. Nid ydyw yn golygu wrth hyn fod yr hen ddyn wedi cael ei ddifodi, ond ei fod wedi ei ddedfrydu i farwolaeth; y mae mewn ystyr gyfreithiol wedi marw, y mae mewn ystyr foesol yn marw; y mae wedi ei osod ar y croesbren, y mae wedi derbyn ergyd farwol, y mae yn marw - fe dyn yr anadliad olaf maes o law. A chofiwch, ’does dim gobaith iddo farw byth ond ar y groes.

 

II. Bywyd y Cristion - “A’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw.” Mae y bywyd hwn yn guddiedig -

 

(1) Ar gyfrif ei ddirgelwch - Bywyd ydyw. Mae bywyd yn mhob ffurf arno yn llawn o ddirgelwch. Er i’r athronydd syllu gyda manylder ar fywyd yn ei ffurf iselaf, ac er iddo ddeall i ryw fesur y modd y gweithreda gwahanol elfenau Natur arno, eto pe gofynid iddo ddeffinio yr egwyddor fywiol sydd yn tori allan ar bob llaw, ’does ganddo ddim i wneyd ond cyfaddef ei anwybodaeth. Wel, os ydyw bywyd yn ei ffurf iselaf yn ddirgelwch, nid rhyfedd fod bywyd yn ei ffurf uchaf - bywyd ysbrydol, bywyd Duw yn enaid dyn - felly. Mae hwn yn llawn o ddirgelwch fel nas gellir ei adnabod ond wrth ei ffrwythau a’i wahanol nodweddion. Mae’n guddiedig o ran ei darddiad, ei ddechreuad yn y galon. Yr enwau roddir yn y Beibl ar ei ddechreuad yn yr enaid ydynt - adgenedlu, aileni; ond mae’r enwau yma i gyd yn cyfleu y syniad o (x191) ddirgelwch. Mae yn wybodaeth gyffredinol fod yn rhaid i bob pechadur, mewn trefn i etifeddu bywyd tragywyddol, i gael ei aileni trwy ras, ei greu o’r newydd yn Nghrist Iesu; ond pa fodd y mae y cyfnewidiad mawr hwn yn cael ei ddwyn oddi amgylch sydd ddirgelwch. Pa fodd mae hen bechadur yn dyfod yn blentyn gras; pa fodd mae yr enaid yn diosg yr hen ddyn, ac yn gwisgo y dyn newydd, sydd ddirgelwch anesboniadwy. “Y mae y gwynt yn chwythu lle y myno,” meddai’r Iesu wrth Nicodemus, “a thi a glywi ei swn ef; ond ni wyddost o ba le mae yn dyfod nac i ba le y mae yn myned; felly mae pob un a’r a aned o’r Ysbryd.” Ac nid yn unig y mae yn guddiedig yn ei ddechreuad, ond hefyd yn ei gynydd a’i berffeithiad. Ond er ei fod yn guddiedig o ran ei hanfod, eto mae ei effeithiau yn amlwg yn y fuchedd a’r ymarweddiad. Mae yn gyffelyb i Dduwdod yr Arglwydd Iesu; yr oedd ei Dduwdod ef yn guddiedig o fewn teml bur Ei ddynoliaeth, eto yr oedd yn tori allan yn barhaus mewn gweithredoedd o drugaredd a chymwynasgarwch. Felly’r bywyd ysbrydol; mae’n guddiedig o ran ei hanfod, ond y mae yn amlygu ei hun mewn gweithredoedd da ac ymarweddiad sanetaidd. Y mae fel gwialen Aaron yn y Sancteiddiolaf, yn blaguro, yn blodeuo, ac yn ffrwytho, “y ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r diwedd yn fywyd tragywyddol.” Ond er fod y bywyd ysbrydol yn dangos ei hun lle bynag y byddo, eto cuddiedig ydyw i lygaid y byd. ’Dydi’r byd ddim yn canfod ei ogoniant; mae doethineb y byd y fath fel nas gall ganfod ei effeithiau daionus. “Gwelwch pa fath gariad a roes y Tad arnom, fel y’n gelwid yn feibion i Dduw; oblegid hyn nid edwyn y byd chwi, oblegid nid adnabu efe Ef.” Mae y bywyd ysbrydol sydd yn mhobl Dduw yn guddiedig i’r byd, oblegid nad ydyw yn adnabod Duw, ei Awdwr. ’Dydi’r byd ddim yn adnabod yr Hwn a genhedlodd, ac am hyny nis gall adnabod y rhai a genhedlwyd, “Y dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw, canys ffolineb ydynt ganddo ef; ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt.” Nid yw y dyn anianol yn dirnad yr ysbrydol yn mhobl Dduw; ac yn wir, ’does dim raid i ni synu rhyw lawer at hyn; yr oedd y byd yn methu ei ganfod yn Mab Duw ei hun, “Yn y byd yr oedd Efe, a’r byd nid adnabu Ef.” Yr oedd yn rhyfedd hefyd na ddarfu i’r byd adnabod y Creawdwr, er mai mewn disguise yr oedd. Yr oedd pob peth arall yn ei adnabod yn dda; yr oedd natur yn ei adnabod, ac (x192) yn rhoddi ufudd-dod uniongyrchiol iddo; yr oedd y môr yn ei adnabod, ac yn troi yn balmant dan ei draed; yr oedd y gwynt yn ei adnabod, ac yn gostegu wrth ei air; yr oedd y clefydau yn ei adnabod, ac yn ffoi o’i wydd; yr oedd angau yn ei adnabod, ac yn gollwng ei ysglyfaeth o’i afael; ac hyd yn nod y cythreuliaid yn gwaeddi allan, “Myfi a’th adwaen pwy ydwyt, Sanct Duw!” Ond am ddynion, nid oeddynt hwy yn ei adnabod. Yr oedd bywyd yr Arglwydd Iesu yn ddirgelwch i lawer y pryd hwnw, ac o bosibl ei fod felly eto. Ond os cuddiedig heddyw, y mae diwrnod yn dyfod pan y caiff ei ddatguddio, “Pan ymddangoso Crist ein bywyd ni.” Mae y Crist cuddiedig heddyw i fod yn Grist amlwg foreu’r Farn, pan ddaw gyda’r cymylau, “a phob llygad a’i gwel ef.” Bydd brenhinoedd y ddaear, a’r gwy^r mawr, a’r cyfoethogion, a’r pencapteniaid, a’r gwy^r cedyrn, nad oeddynt yn ei adnabod yma, yn ei adnabod ar unwaith yn ei ail-ymddangosiad; ac wrth ganfod ei ogoniant byddant yn gwaeddi ar y mynyddoedd a’r creigiau, “Syrthiwch arnom ni, a chuddiwch ni o w^ydd yr Hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac oddiwrth lid yr Oen; canys daeth dydd mawr ei ddigter ef, a phwy a ddichon sefyll?”

 

Wel, yr un fath gyda golwg ar fywyd y Cristion. Mae’n guddiedig heddyw, ’dydi’r byd ddim yn ei adnabod, ac nis gall ychwaith, oblegid y mae yn anmhosibl adnabod y bywyd ysbrydol ond yn unig trwy fod yn feddianol arno. Gall y dyn anianol ddarllen traethawd gorchestol ar ffydd, ond ni ddaw byth i wybod beth yw ffydd ond trwy gredu; gall wrando gyda dyddordeb ar y pregethwr yn traethu ar edifeirwch, ond ni ddaw byth i ddeall edifeirwch ond trwy edifarhau. Mae pethau’r efengyl uwchlaw eu deall ond yn unig trwy eu meddu; profiad o honynt yn unig a’n galluoga i gael unrhyw ddirnadaeth am danynt. Pethau dwyfol, ysbrydol, a thragywyddol ydynt; o ganlyniad, y maent uwchlaw ein cyrhaeddiadau. Mae yn ngly^n â’r bywyd hwn dangnefedd, ond “tangnefedd uwchlaw pob deall;” mae yn ngly^n â’r bywyd hwn gariad, ond “cariad uwchlaw gwybodaeth, “mae yma lawenydd hefyd, ond “llawenydd annhraethadwy a gogoneddus.” Trwy eu meddu y mae cael unrhyw syniad priodol am danynt. Ond er mai bywyd cuddiedig, i fesur helaeth, ydyw bywyd y Cristion heddyw, nid felly y bydd byth. Na, mae dadleniad i fod arno yn y man. Mae “dydd datguddiad (x193) meibion Duw “ i wawrio; “Pan ymddangoso Grist ein bywyd ni, yna yr ymddangoswch chwithau gydag ef mewn gogoniant.” Bydd y saint y dydd hwnw nid yn unig yn ymddangos gyda Christ mewn gogoniant, ond byddant yn cyfranogi o’i ogoniant, ac yn “llewyrchu fel yr haul yn nheyrnas eu Tad.”

 

(2) Yn guddiedig ar gyfrif ei ddyogelwch - “Wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw.” “Ië,” meddai rhywun, “onid yw bywyd pob peth wedi ei guddio?” Gwir; mae bywyd y blodeuyn yn guddiedig o’i fewn; welodd llygad treiddgar y microscope erioed mo hono. Mae bywyd yr anifail yn guddiedig o’i fewn; ’does yr un athronydd yn gwybod pa le, er hyny. Eto er fod y bywyd llysieuol a’r bywyd anifeilaidd yn guddiedig, y mae yn hawdd lladd y ddau. Ond am fywyd y credadyn, mae wedi ei guddio mewn man nas gellir byth mo’i ladd; mae trwch Duwdod rhwng pob gelyn a chael gafael arno; mae muriau Anfeidroldeb yn gylchoedd tragywyddol o’i gwmpas - “gyda Christ yn Nuw;” “Dy Noddfa yw Duw tragywyddol, ac odditanodd y mae y breichiau tragywyddol;” “Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell; yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd i;” “Cuddi hwynt yn nirgelfa dy wyneb rhag balchder dynion; cuddi hwynt mewn pabell rhag cynen tafodau;” “Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf a erys yn nghysgod yr Hollalluog.”

 

Mae pawb yn ceisio cuddio neu ddyogelu eu pethau gwerthfawrocaf - cyfoeth, iechyd, bywyd; ond er cuddio y pethau hyn, cuddio ydyw i’w colli ryw ddiwrnod. Ond wrth guddio yn Nuw, cuddio ydyw i gadw am byth. “Wn i ddim,” meddai cenadwr unwaith oedd yn myned allan i India, “a wela’ i India, ai na wnaf. Yr ydwyf wedi codi pass yno, ond ’dydi hyny ddim yn sicrhau India i mi. Ond,” meddai, “yr wyf wedi codi pass i’r nefoedd er’s blynyddoedd, ac y mae hwnw yn sicrhau nefoedd i mi. Os i ddyfnder y môr, nefoedd o’r fan hono; os i India, nefoedd o’r fan hono.” “Minau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragywyddol, ac niy cyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o’m llaw i; “ “Canys y mae yn ddyogel genyf na all nac angeu, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddianu, na phethau personol, na phethau i ddyfod; nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw, yr hwn sydd yn Nghrist Iesu ein Harglwydd.”

 

PREGETHAU.

(17) YR ETIFEDDIAETH NEFOL.

“Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn yn ol ei fawr drugaredd a’n hadgenedloedd ni i obaith bywiol, trwy adgyfodiad Iesu Grist oddiwrth y meirw, i etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a diddiflanedig, ac yn nghadw yn y nefoedd i chwi, y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig trwy ffydd i iachawdwriaeth, parod i’w datguddio yn yr amser diweddaf.”-1 PEDR i. 3-5.

 

Mae y nefoedd, neu gartref pobl Dduw, yn cael ei osod allan trwy wahanol enwau yn yr Ysgrythyrau Sanctaidd. Gelwir hi weithiau wrth yr enw “ dinas” - “O achos paham, nid cywilydd gan Dduw ei alw yn Dduw iddynt hwy, oblegid efe a barotôdd ddinas iddynt;” “Canys dysgwyl yr oedd efe am ddinas ag iddi sylfeini, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw.” Bryd arall gelwir hi wrth yr enw “teyrnas” - “Canys rhyngodd bodd i’r Tad roddi i chwi y deyrnas;” “Gwrandewch, fy mrodyr anwyl, oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas a barotôdd efe i’r rhai sydd yn ei garu ef?” Bryd arall gelwir hi yn “orphwysfa” - “Y mae, gan hyny, orphwysfa eto yn ol i bobl Dduw.” Ond yn y testyn yr enw roddir yw “etifeddiaeth,” a hono yn un anllygredig, dihalogedig, a diddiflanedig. Sylwn ar -

 

..........I. Ragoriaethau yr etifeddiaeth.

..........II. Ddyogelwch yr etifeddiaeth.

..........III. Yr etifeddion.

..........IV. Yr adeg y bydd yr etifeddiaeth yn cael ei chyflawn feddianu.

 

I. Rhagoriaethau yr etifeddiaeth. - Mae yn “etifeddiaeth anllygredig;” ac o ganlyniad y mae yn dra gwahanol i etifeddiaethau y ddaear. Mae y pethau mwyaf cedyrn a pharhaua yma yn llygru ac yn dadfeilio; mae y pyramidiau mawreddog, y temlau marmoraidd, y palasau arddercheg, a’r adeiladau mwyaf cedrn yn graddol ddadfeilio - mae anadl amser yn eu malurio, ac yn eu dwyn yn gydwastad â’r llawr. Pa le mae ymherodraethau cedyrn Pharach, Belsassar, Alexander, a Cesar? Y maent oll wedi eu chwalu yn ddarnau. Pa le mae Tyrus a’i masnachwyr cyfoethog? Pa le mae Groeg a’i hathronwyr enwog? Pa le mae Rhufain a’i byddinoedd (x195) lluosog? Mae’r cwbl wedi diflanu fel cysgod. Ac nid yn unig mae y ddaear a’i phethau yn diflanu, ond y mae y nefoedd, prif arwyddlun purdeb a sefydlogrwydd, i fyned heibio gyda thwrf, “Hwynthwy oll fel dilledyn a heneiddiant; megys gwisg y plygi hwynt, a hwy a newidir.” Ond dyma etifeddiaeth anllygredig, hollol rydd oddiwrth elfenau dadfeiliad - ni lygra ac ni ddiflana byth. Ni chyll yr heolydd euraidd ddim o’u gogoniant i dragywyddoldeb; ni chyll afon bur y bywyd byth ei gloewder grisialaidd; ni wywa yr un blodeuyn yn ngardd anfarwoldeb, - mae y cwbl a berthyn i’r etifeddiaeth nefol yn anllygredig.

 

Ac nid yn unig y mae yn anllygredig, ond hefyd yn bur a “dihalogedig.” Nid etifeddiaeth wedi ei henill trwy anghyfiawnder, wedi ei meddianu, trwy dwyll, trais, a gormes, fel llawer etifeddiaeth yn mhlith dynion. Na; mae wedi ei phrynu a gwerthfawr waed Crist - mae’r Iesu wedi rhoddi ei fywyd i lawr er ei phwrcasu i’w ganlynwyr. Fydd pechod, sydd fel gwahanglwyf moesol yn llygru pob peth ddaw i gyfiyrddiad ag ef, byth i’w weled yn rhodio ar un rhan o’r etifeddiaeth hon, oblegid “Nid ä i mewn iddi ddim aflan, nac yn gwneuthur ffieidd-dra,” ond yn unig y rhai sydd â’u henwau yn ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen.” Mae purdeb a sancteiddrwydd yn hanfodol i’r etifeddiaeth hon; y glân ei ddwylaw a’r pur ei galon yn unig gaiff ei mwynhau, “oblegid heb sancteiddrwydd ni chaiff neb weled yr Arglwydd.”

 

Mae hefyd yn etifeddiaeth “ddiddiflanedig” - y mae i barhau byth yn ei dysgleirdeb a’i gogoniant. Mae pob peth daearol yn gwywo ac yn diflanu. Bydd y gwyrddlesni welir heddyw yn gwisgo y meusydd erbyn yfory wedi diflanu; bydd y blodau amryliw sydd heddyw yn arogli yn beraidd erbyn yfory wedi gwywo a mallu, “Canys cyfododd yr haul gyda gwres, a gwywodd y glaswelltyn, a’i flodeuyn a gwympodd, a thegwch ei bryd ef a gollodd.” Ond am yr etiteddiaeth hon, mae ei phrydferthwch yn aros yr un.

 

Nid yn unig y mae yr etifeddiaeth yn anllygredig yn ei natur, dihalog o ran ei phurdeb, a diddiflanedig o ran ei gogoniant, ond y mae yn anfeidrol yn ei helaethrwydd - etifeddiaeth eang ac annherfynol ydyw, digon eang ar gyfer tyrfa nas gall neb ei rhifo. Gristion anwyl, mae digon rhyngot a myned yn dlawd byth - mae’n rhaid treulio “holl gyflawnder y Duwdod” cyn yr ä’r duwiol i afael tlodi. Nid oes (x196) berygl treulio yr etifeddiaeth hon; nid yw ronyn llai heddyw na’r diwrnod y gosododd Abel dduwiol ei droed arni - “Cyfoeth gwell, ac un parhaus” ydyw, “ anchwiliadwy olud Crist.” Pa ryfedd fod Pedr yn tori allan i folianu, “Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn yn ol ei fawr drugaredd a’n hadgenedlodd ni” - ni, nad oeddem yn addas i ddim ond damnedigaeth; ni, y rhai oeddem yn elynion - “i obaith bywiol,” &c. Paid rhyfeddu, ddyn duwiol, os yw Duw heb roddi i ti lawer o gyfoeth daearol; am roi cyfoeth gwell a mwy parhaus i ti y mae. Mae y tad weithiau yn gwrthod teganau i’w blentyn, am ei fod yn eu hystyried yn wael a diwerth; mae am roddi pethau sylweddol iddo. Felly ein Tad nefol; mae yn fynych yn cadw oddiwrth Ei blentyn lawer o bethau ddymunai ef eu cael, am mai teganau gwael a diwerth ydynt; mae am roi pethau sylweddol yr iachawdwriaeth iddo, am roi gogoniant annhraethadwy, coron anniflanedig - ïe, “etifeddiaeth ddiddiflanedig, yr hon sydd yn nghadw yn y nefoedd.”

 

II. Dyogelwch yr etifeddiaeth - “yn nghadw yn y nefoedd,” “lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru, a lle nis cloddia lladron trwodd, ac nis lladratant.” Mae yr etifeddiaeth yn ddyogel nid am fod iddi amddiffynfeydd nerthol, muriau uchel, a phyrth cedyrn, ond am mai Duw ei Hun sydd yn ei hamddiffyn a’i dyogelu. Nid wedi ei rhoddi i ofal angel, seraph, na cherub y mae, ond wedi ei hymddiried i ofal Crist ei Hun, Pen Mawr yr eglwys. Efe yw ei Brenin, ac yn ei law Ef y mae pob llywodraeth ac awdurdod. Ac yn wir, dylem ddiolch llawer mai yn llaw yr Iesu y mae yr etifeddiaeth, oblegid pe cawsem ni hi o dan ein dwylaw ein hunain, buasem yn lled debyg o golli pob hawl iddi yn fuan iawn. Fe gafodd ein rhieni cyntaf etifeddiaeth eang yn Mharadwys, ond cyn pen ychydig iawn o amser aethant drwy yr oll. Ond yn y cyfamod newydd cadwodd Duw yr etifeddiaeth yn ei law ei Hun - “yn nghadw yn y nefoedd i chwi, y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig.” Yr oedd Canaan yn cael ei chadw gan Dduw i feibion Israel, ond cyn ei meddianu yr oedd rhaid myned trwy anialwch llawn o beryglon, ac wedi hyny croesi’r Iorddonen. Felly y Cristion: “trwy lawer o anhawsderau y mae yn rhaid myned i mewn i deyrnas nefoedd.” Mae yn rhaid myned trwy anialwch dyrys y hyd, ac wedi hyny mae hen afon donog yr Iorddonen rhyngom â gwlad yr addewid. (x197) Ond paid ofni; fe ddaw yr Archoffeiriad Mawr ei hun i’th arwain i fewn i feddiant o’r etifeddiaeth;, ac nid yw yn rhyfedd fod aml i hen Gristion yn awyddus i fyned adref i’w mwynhau.

 

III. Yr etifeddwn - “y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig trwy ffydd i iachawdwriaeth.” Nid yn unig mae yr etifeddiaeth yn ddyogel, ond mae yr etifeddion hefyd yn cael eu dyogelu a’u cadw iddi. Dichon fod y geiriau yn cyfeirio at yr arferiad ffynai mewn rhai gwledydd o osod yr etifedd, tra dan oed, o dan gadwraeth filwrol; ond y diwrnod y deuai i oedran gollyngid ef yn rhydd i gymeryd meddiant o’r etifeddiaeth. Felly y Cristion; mae tra ar y ddaear yn cael ei gadw a’i ddyogelu gan Hollalluowgrwydd, ond pan ddaw i’w oedran, “yn wr perffaith at fesur oedran cyflawnder Crist,” fe’i gollyngir yn rhydd i fwynhau yr etifeddiaeth anilygredig sydd yn nghadw iddo yn y nefoedd. Y fath gysur i’r duwiol, yn ngwyneb ei wendid a’i beryglon a holl ymosodiadau y gelyn, ydyw fod ganddo Dduw i ofalu am dano. Edrychwch ar Joseph yn cael ei werthu i’r Ismaeliaid, yn cael ei gamgyhuddo a’i garcharu yn anghyfiawn; eto trwy allu Duw, cafodd ei waredu a’i ddyrchafu i binacl anrhydedd. Er i Daniel gael ei fwrw i ffau’r llewod, eto trwy allu Duw gwnaed y llewod fel ŵyn diniwed. A beth ond gallu anfeidrol allasai waredu y dyeithriaid hyn oedd ar wasgar ar hyd Asia Leiaf, yn nghanol eu gelynion? Pa fugail all ddyogelu y praidd pan fyddo’r bleiddiaid yn rhuthro arnynt o bob cyfeiriad? Ond er fod praidd Duw yn wasgaredig yn nghanol bleiddiaid rheibus, mae y Bugail mawr yn medru eu dyogelu a’u gwaredu o’u holl beryglon. Mae yr Arglwydd Iesu nid yn unig wedi byw a marw drosom, ond y mae yn awr yn eiriol yn y nefoedd ar ein rhan. Ac y mae yn dywedyd wrthym ni heddyw, fel wrth Pedr gynt, “Mi a weddïaist drosot, fel na ddiffygiai dy ffydd di.” “Y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig trwy ffydd i iachawdwriaeth.” Dyma’r cyfrwng trwy ba un y’n cedwir. Os oes genym ffydd yn Nuw, byddwn yn berffaith ddyogel, “Ni frysia’r hwn a gredo.” Trwy ffydd mae y credadyn yn ymaflyd yn ei Dduw, fel ag y mae y plentyn mewn cyfyngder yn cydio yn llaw ei dad. Pa wahaniaeth fod y dderwen yn dal yn ddiysgog yn ngwyneb yr ystormydd nerthol? mae’n rhaid i’r eiddew ymaflyd ac ymblethu am dani, er hyny, os am ddyogelwch. Pa wahaniaeth fod y graig yn gadarn a diysgog, os ydyw y gadwyn sydd yn dal yr angor yn rhy wan? fe ä’r (x198) llong yn ddrylliau ar y creigiau yn nghanol yr ystorm. Pa wahaniaeth fod Duw yn Hollalluog os na fydd i ni à’n holl enaid ymaflyd yn ei nerth? A thrwy ffydd y mae i ni wneyd hyn. “Tŵr cadarn yw enw yr Arglwydd; ato y rhed y cyfiawn, ac y mae yn ddyogel.”

 

IV. Yr adeg y bydd yr etifeddiaeth yn cael ei chyflawn feddianu - “parod i’w datguddio yn yr amser diweddaf,” neu yn niwedd y byd. Mae yr etifeddiaeth yn berffaith barod heddyw, ond nid yw yn barod i’w datguddio. Mae llawer o’r etifeddion dan oedran heddyw, ac y mae’n rhaid i’r etifedd olaf ddyfod i’w oedran cyn y bydd yr etifeddiaeth yn barod i’w datguddio. Er fod y bwrdd wedi ei hulio, a thyrfa aneirif o wahoddedigion o’i gwmpas, fydd y wledd ddim yn gyflawn hyd nes y daw yr etifedd olaf adref; yna, wedi i’r teulu i gyd ddyfod yn nghyd, dechreuir y wledd dragywyddol, dechreuir yr anthem nefol; yna y gwelir yr Iesu “yn ogoneddus yn ei saint, ac yn rhyfeddol yn y rhai oll a gredant.” Ni fydd dim i dori ar eu llawenydd, dim i aflonyddu ar y gân, “Digonolrwydd llawenydd sydd ger ei fron; ar ei ddeheulaw mae digrifwch yn dragywydd.” Nid rhyfedd fod Pedr yn tori allan i ganmol trugaredd Duw. Hyn barodd Iddo anfon ei Fab i’r byd, i agor drws gobaith o’n blaen pan oeddym ar fin dinystr;

“O’i fawr drugaredd yr achubodd efe nyni trwy olchiad yr adenedigaeth ac adnewyddiad yr Ysbryd Glàn, yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth trwy Iesu Grist ein Iachawdwr.” Etifeddion bywyd tragywyddol! codwch eich penau. Faint bynag o golledion gewch chwi tra ar y ddaear, mae yr etifeddiaeth nefol yn ddyogel; yn nghanol holl gyfnewidiadau a chwyldroadau y ddaear, mae iachawdwriaeth gras yn gadarn a sefydlog, “Fy iachawdwriaeth i a fydd byth, a’m cyfiawnder ni dderfydd;” “Canys y mynyddoedd a giliant, a’r bryniau a symudant; ond fy nhrugaredd ni chilia oddiwrthyt, a chyfamod fy hedd ni syfl, medd yr Arglwydd.” (x199)

 

PREGETHAU.

(18) “YR ARGLWYDD SYDD YN TEYRNASU.”

“Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; gorfoledded y ddaear; llawenyched ynysoedd lawer” - SALM xcvii. 1.

 

Mae trefn llywodraeth Duw ar y byd wedi ei amcanu er dwyn gogoniant iddo ei Hun, a daioni a lleshad i’w greaduriaid. Er mwyn canfod hyn, y mae yn angenrheidiol edrych ar y llywodraeth fel cyfanwaith, ac nid edrych arni yn ei man ranau. Nid yw dyn ond rhan o deulu, nid yw teulu ond rhan o gymydogaeth, nid yw cymydogaeth ond rhan o genedl, nid yw cenedl ond rhan o ddynolryw, ac nid yw dynolryw ond rhan o ddeiliaid llywodraeth y Goruchaf. Un o fendithion penaf y bywyd presenol yw llywodraeth dda, oblegid heb hyn nid oes gysur i ni o’n bywyd na’n meddianau. Mae llawer o anmherffeithrwydd, mae’n wir, yn perthyn i’r llywodraeth wladol oreu, a hyny, i raddau pell, o herwydd anwybodaeth dynion; nid yw dyn yn gwybod dim ond yr allanol; y mae hanfod pob peth yn guddiedig oddiwrtho. Ond am yr Hollwybodol Dduw, y mae ef yn deall ansawdd cuddiedig ddyn y galon, ac y mae ei lywodraeth, o ganlyniad, yn destyn gorfoledd. Cyn y gellir teyrnasu yn gyfiawn, rhaid meddu hawl gyfreithlawn i deyrnasu; nid nerth yn unig sydd yn rhoddi cymhwysder i deyrnasu, eithr awdurdod, ac y mae’n bosibl fod nerth yn annibynol ar awdurdod. Ond am Dduw, y mae y gallu mwyaf a’r awdurdod uchaf yn ei feddiant. Fel Arglwydd y mae ganddo hawl i wneuthur cyfreithiau, ac fel Duw Hollalluog mae ganddo allu i’w dwyn i weithrediad. Y mater y cawn sylwi arno yw - Fod llywodraeth Duw ar y byd yn achos gorfoledd a llawenydd,

 

I. Am fod Ei lywodraeth yn sylfaenedig ar egwyddorion rheswm a chyfiawnder. - Mae aml i lywodraeth wladol yn sylfaenedig ar egwyddorion afresymol a drwg; am hyny, nis gall ei deiliaid lawenhau o’i herwydd. Meddyliwch fod holl drigolion y ddaear yn myned i ddewis brenin i deyrnasu arnynt, a bod yn mhlith yr ymgeiswyr am y sefyllfa anrhydeddus hono un yn meddu amryw rhagoriaethau - yn fwy galluog na’r lleill, yn meddu ar fwy o wybodaeth, yn uwch o ran ei gymeriad moesol, yn meddu ar fwy o dynerwch a chyd-ymdeimlad, ac hefyd yn dal perthynas â’r holl etholwyr. Pwy (x200) na fuasai yn dewis y cyfryw un o flaen pawb arall? Wel, mae yr holl ragoriaethau hyn mewn ystyr anfeidrol yn bodoli yn Nuw. Mae ei allu yn anfeidrol a’i fawredd yn anchwiliadwy, y mae uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd; gwisga oleuni fel dilledyn; cyfiawnder yw gwregys ei lwynau, ac y mae perthynas yn bodoli rhyngddo â’i holl greaduriaid. Efe yw Greawdwr a Meddienydd pawb a phob peth, “Y nefoedd ydynt eiddo yr Arglwydd, y moroedd a’r hyn oll sydd ynddynt;” “Eiddo yr Arglwydd y ddaear a’i chyfiawnder, y byd ac a breswylia ynddo;” “Efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain; ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa.” Efe yw Tad ein ysbrydoedd a lluniwr ein cyrff; gan hyny, y mae ganddo hawl i’n llywodraethu. Os oes hawl gan y tad naturiol i lywodraethu ei deulu, mwy o lawer y mae gan Dduw hawl i lywodraethu ei deulu ef; a phwy fedr lywodraethu fel y Greawdwr Anfeidrol ei hun? Priodol y dywed Ioan, “Mawr a rhyfedd yw dy weithredoedd, O Arglwydd Dduw Hollalluog; cyfiawn a chywir yw dy ffyrdd di, Brenin y saint. Pwy ni’th ofna di, O Arglwydd, ac ni ogonedda dy enw? oblegid tydi yn unig wyt sanctaidd; oblegid yr holl genhedloedd a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di; oblegid dy farnau di a eglurwyd.” Llawenhawn, gan hyny, fod genym Frenin a’i lywodraeth yn sylfaenedig ar egwyddorion sanctaidd a chyfiawn.

 

II. Am fod ei lywodreth yn cael ei dwyn yn mlaen, er lles a daioni y deiliaid. - Mae rhai dynion yn addef bodolaeth Duw, ond yn amheu ei lywodraeth ar y byd. Addefant fod a fyno Duw â’r mawr a’r dyrchafedig, ond nid â phethau bychain a distadl. Tybiant ei bod yn ormod o ddarostyngiad i’r Hwn sydd â’i orseddfainc yn y nefoedd i ymyraeth âg achosion mor fychain a’r rhai sydd yn cyfarfod dynion yn eu bywyd ar y ddaear. Ond y maent yn camsynied yn fawr. ’Does dim yn rhy fychan i Dduw wneyd sylw o hono. Rhyw un gadwyn fawr yw y greadigaeth i gyd, ac y mae cymaint o Dduw i’w weled yn y pethau lleiaf ag yn y pethau mwyaf; mae cymaint o Dduw i’w weled yn narganfyddiadau y microscope ag sydd i’w weled yn narganfyddiadau y telescope. Mae Duw i’w ganfod yn mhob peth, ac y mae ei lywodraeth ar bob peth; ac y mae y llywodraeth hon yn cael ei dwyn yn mlaen er lles cyffredinol. Gwelir weithiau mewn teulu blentyn eiddil, afiach, analluog i wneyd dim drosto ei hun; eto dengys y tad fwy o anwyldeb tuag ato nag at y lleill o’r plant (x201) gyda’u gilydd. Paham? Nid am ei fod yn rhagori ar y lleill, nac ychwaith o fwy o wasanaeth. Paham, ynte? O! dyma y rheswm - y mae beunydd yn ei boenau; a phan y bydd ei frodyr yn chwareu yn y meusydd, yn ei gryd y bydd ef, am ei fod yn invalid bychan; a hyn sydd yn rhoddi iddo y flaenoriaeth yn nghalon a serchiadau y tad. Mae gan Dduw deulu lluosog - mae’r angylion cedyrn o nerth yn gwneuthur ei air, y seraphiaid dysglaer yn gwasanaethu yn ddidor ger ei fron, a’r cerubiaid cyflym yn gweini iddo; ond am ddyn, rhyw blentyn eiddil ydyw, wedi andwyo ei hun gymaint drwy bechod nes methu gwneyd dim drosto ei hun; a phan y mae yr angylion yn chwareu ar feusydd Paradwys, mae dyn yn gorwedd yn ei boen a’i adfyd - dyn yw y plentyn afiach yn nheulu Duw. Er hyny, mae Duw wedi rhoddi ei galon arno, ac wedi gwneyd mwy drosto nag a wnaeth dros yr un creadur arall; mae ei glustiau yn agored bob amser i wrando ar ei gwynion, “Y tlawd hwn a lefodd, a’r Arglwydd a’i clybu, ac a’i gwaredodd o’i holl drallodau.”

 

III. Am fod yr Hwn sydd yn llywodraethu yn caniatau cymod i’r gwrthryfelwyr. - Os mai byd gwrthryfelgar yw ein byd ni, mae Duw yn foddlon gwneyd cymod â’r gwrthryfelwyr. Mae Crist, yn yr efengyl, yn gwahodd gwrthryfelwyr y ddaear yn y modd mwyaf dengar at orseddfainc y gras; mae’n foddlon “cymodi y byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau.” Pan y bydd gwrthryfelwyr yn erbyn teyrnas ddaearol heb eu cymodi, mae’n rhaid naill nad yw y brenin yn ewyllysio trugarhau wrthynt, neu nad oes yr un ffordd ddyogel ganddo i weinyddu trugaredd, neu ynte fod y gwrthryfelwyr yn gwrthod trugaredd. Beth yw y rheswm nad yw pechaduriaid yn dyfod i gymod â Duw? Nid am nad yw Ef yn ewyllysio iddynt gael trugaredd - clywch ei eiriau, “Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd nid ymhoffaf yn marwolaeth yr annuwiol, ond dychwelyd o honynt oddiwrth eu ffyrdd drygionus a byw;” “Gadawed y drygionus ei ffordd, a’r gwr anwir ei feddyliau, a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymer drugaredd arno; ac at ein Duw ni, o herwydd efe a arbed yn helaeth.” Nid am nad oes ffordd ddyogel gan Dduw i weinyddu trugaredd. Mae ffordd gyfreithlawn a gogoneddus gan Dduw i faddeu. ’Does un ffordd gan lywodraethau’r ddaear yn fynych i ddarostwng gwrthryfelwyr ond trwy eu difetha; ond bendigedig (x202) fyddo’r nefoedd, mae gan Dduw ffordd i ddarostrwng gwrthryfelwyr heb eu lladd; mae ganddo ffordd i ladd yr elyniaeth, a chadw y gelyn yn fyw -

 

............ “Ffordd i gyfiawnhau’r annuwiol,

.................Ffordd i godi’r marw’n fyw;

.............Ffordd gyfreithlon i droseddwyr

.................I hedd a ffafr gyda Duw.”

 

Yr unig achos, o ganlyniad, fod pechaduriaid heb eu cymodi â Duw yw, am eu bod yn gwrthod ufuddhau i’r llywodraeth, yn gwrthod cymeryd yr Iesu yn Frenin arnynt. Bechadur anwyl, tafl oddiwrthyt arfau gwrthryfel, ac ymostwng i ddeddfau tirion yr Arglwydd Iesu. Cofia, os na wnai ymostwng i drugaredd a graslonrwydd Duw yn ei Fab, bydd rhaid i ti ddyoddef ei gyfiawnder dialeddol y dydd a ddaw.



ARGRAFFWYD GAN Y BRODYR ROBERTS, WORKING ST., CAERDYDD.




Sumbolau arbennig: ŷŵ

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats