1449k Gwefan Cymru-Catalonia. Mae’r Ysgol Sabbothol wedi cael daear gyfoethog yn Nyffryn Tywi, ac o fod yn hedyn bychan, y mae erbyn heddyw wedi tyfu yn bren mawr...

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_062_yn_nyffryn_tywi_1894_1449k.htm

Yr Hafan

..........1863k Y Fynedfa yn Gymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai

........................................y tudalen hwn


..






Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Cywaith Siôn Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
El projecte Siôn Prys (Col·lecció de textos en gal·lès)



YN NYFFRYN TYWI SEF BRASLUNIAU O FYWYD GWLEDIG.
D. RHAGFYR JONES
O’r cylchgrawn “Cyfaill yr Aelwyd a’r Frythones”, 1894



Diweddariad diwethaf
18 01 2003

 

Ein sylwadau mewn teip oren.

Nodir rhifau’r tudalennau gwreiddiol o’u blaen felly : x42

 

translate this page
 

ADRANNAU:

 

(1)

HEL CLENIG

x42

 

(2)

MEWN WYLNOS

x50

(3)

CARU A PHRIODI

x89

 

(4)

“PRIMIN”

x149

 

(5)

SADWRN YN Y DRE

x181

 

(6)

SUL CWRDD MAWR

x221

 

(7)

CADW’R MIS

x252

 

(8)

YR YSGOL AR GER’ED

x288

 

(9)

GWEITHIO’R CYNHAUA’

x331

 

(10)

FFAIR AWST

x384

 

(11)

MEWN OCSIWN

x421

 

(12)

PEN TYMHOR

x461

 

___________________________________________________________________
(x42)
PENOD I. - HEL CLENIG. (tudalennau 42-44)
___________________________________________________________________
Nid y sefydliad lleiaf ei bwys o holl sefydliadau pwysig y wlad y ceir ei henw uchod - ac y maent yn lleng - ydyw yr un sydd yn gwasanaethu yn benawd i’r braslun cyntaf hwn. Yr ydym yn defnyddio y gair “sefydliad” yn fwriadol; oblegid os yw henafiaeth a pharchusrwydd, yn nghyd a’i ymweliad cyfnodol, yn enill yr enw, y mae yn eiddo i hwn yn ddi-ffael. Ni ŵyr neb pa mor foreu y dechreuodd pobl “hel c’lenig,” mwy nag y gŵyr neb pa mor foreu yn y dydd y cwyd rhai o’r rhai mwyaf selog i “hel c’lenig” eto; ac y mae ei barch yn cynyddu bob blwyddyn, os cymerwn nifer ei bleidwyr, a’r awch a pha un yr ymdaflant i’w wasanaeth, yn engraff. Felly, pwy a warafun iddo enw a lle yn mysg sefydliadau traddodiadol y wlad?

Parotoir ar ei gyfer am ddyddiau lawer cyn ei ddyfodiad. Dyma sydd yn gwneyd i fyny weledigaethau dydd a breuddwydion nos y plant, o bymtheg oed a than hyny; a dyma yw testyn ymgom hen wyr a hen wragedd y pentai a’r pentrefydd, ar ben pob aelwyd, o godiad haul hyd ei fachludiad. Cyhoeddir ympryd mewn llawer ystumog, a cheir esboniad ymarferol y tuhwnt i ddadl yn fuan ar yr hen air, mai “hirbryd a wna fawrbryd.” Ysgubir dimeiau a cheiniogau o bop siop drwy’r wlad, yn gyfnewid am “arian gleishon;” a gwagheir y masnachdai o’u melusion i gyd, y rhai a osodir mewn manau cyfleus yn y gwahanol anedd-dai: lle yr edrychant fel adnoddau milwrol parod i waith gogyfer â’r ymgyrch fawr fore dydd Calan. Yn y prif ffermdai nid oes ond pics i’w gweled, i’w clywed, i’w teimlo, i’w harogli, i’w harchwaethu; a bu agos i mi ddweyd, i’w gwisgo, am dridiau, o leiaf, cyn i’r “dydd hwnw” wawrio. Teisenod crynion, teneuon, o faintioli cymedrol, ac wedi eu gwneyd o’r peilliaid gwynaf, yw y rhai hyn. Nid “pics” cyffredin mo honynt; y mae cymaint o wahaniaeth rhwng “pics” dydd Calan a “phics” bob dydd ag sydd rhwng bara gwyn a bara shipris, neu rhwng gwenith a rhyg. Y ffermwraig ei
hunan biau’r hawl a’r fraint o’u cymysgu, a’u tylino, a’u crasu; ni ymddiriedir y gwaith hwn i ddwylaw neb ond ei dwylaw hylaw hwylus hi. Dyma “fara gosod” y sefydliad, a “bara dangos” yr amaeth-dai. Mae cymeriad y ffermdy a’i breswylwyr yn hongian i fesur mwy nag a feddyliech ar gymeriad y “pics.” Mae’r “pics,” fel arian y Llywodraeth, yn myned i gyrau pellaf y plwyf, a phlwyfi cylchynol; a’u maint, a’u gwynder, a’u breuder sydd yn penderfynu’r ddedfryd yn y gystadleuaeth. Gwasgerir cannoedd a miloedd o honynt yn ystod y dydd. Sicrhant ugeiniau o “brydiau bwyd” i dylodion y gymydogaeth; a gosodir sail i ddiffyg treuliad, ac anhwylderau ereill, mewn llawer cyfansoddiad, drwyddynt, am y flwyddyn ddyfodol.

Gallem feddwl nad oeddem, y Noswyl Galan gyntaf i mi yn Nyffryn Tywi, wedi ymneillduo rhwng y blancedi er ys rhagor na chwarter awr, ac mai prin yr oeddem wedi cael prawf o’u cynhesrwydd mewn cyferbyniad i oerni’r wlad a orweddai y tu allan iddynt, gan osod ein hunain mor gysurus ag y medrem hyd y bore, - (x43)
pan y torwyd ar ein cynlluniau a’n hunan-ddigonolrwydd gan floedd groch a sydyn trwy dwll y clo nes tarfu’r llygod o’r bron - “‘Nghlenig i! Blwydd Newydd Dda!” Da machgen i, meddem, cychwyniad rhagorol - ac i lawr dros yr erchwyn a ni. Wedi “galw am oleu,” fel ceidwad carchar Philippi, a bwrw ein hunain i mewn i bâr o hosanau a phâr o lodrau, aethom i lawr y grisiau, a llwyddasom i foddloni haner dwsin o “gryts” bochgoch a mwfflog, y rhai a safent yn haner cylch o flaen y drws, a’u dwylaw yn dyn yn eu pocedi, a “phob o geinog.” Nid hir y buom cyn cyrhaedd yr hen ardal drachefn; ac wedi cau i fyny bob twll a rhigol y gallasai Jac y Rhew wànu ei fys i mewn, neu Forus y Gwynt anadlu drwyddo, parotoisom ein hunain i fwynhau egwyl o awr neu ddwy yn ddiddiolch (debygem) i neb. Ni wadwn nad oeddem wedi taro cyweirnod cryf mewn chwyrniad digamsyniol, ac nid aem i ameu pe dywedid wrthym ddarfod i ni roi “llythyrau gollyngdod” i ddwy neu dair o chwyrniadau rheolaidd – “aelodau ffyddlawn” yn eglwys Cwsg; ond gwyddom ein bod yn ymwybodol o fodolaeth sylweddol cyfres hir o floeddiadau, o’r un natur a’r grochfloedd gyntaf, yn mhell cyn i ni wneyd ein meddwl i fyny i’w hateb. Yr oedd y genad obry, fodd bynag, yn rhy ddifrifol o daer, a’i ergydion a’i ebychiadau yn cynyddu ar gyfartaledd rhy ddigalon o gyflym, fel nad oedd wiw ceisio chwareu rhan y “neidr fyddar” yn hwy, gyda’r gobaith o lwyddo. A ffwrdd â ni drwy yr un seremoni ag o’r blaen, mor Gristionogol
ein hysbryd a’n tymer ag y dysgwylid i greadur syrthiedig o dan amgylchiadau mor brofedigaethus fod.

Yr oedd rhyw benderfyniad dystaw, di-droi-yn-ol, yn yr oll o’r parotoadau dilynol a wnaem i dreisio teyrnas Hud, ag oedd yn argoeli brad i unrhyw un a geisiai ein troi oddiar lwybr ein dyledswydd. Cauid i fyny yr holl byrth, yn enwedig porth y glust, yn y modd sicraf. Yn hytrach na bod y pen ar y gobenydd, yn ol “braint a defawd”
pob dyn synwyrol, rhoed y gobenydd ar y pen, er dirfawr berygl i’r anadl, a chryn anhwylusdod i’r trwyn. Bellach, llongyfarchem ein hunain ar y fuddugoliaeth a enillasom, a winciem yn ddireidus ar ryw ysbryd anweledig a greai ein dychymyg o’n blaen. Ond och! cyrifasom yr wyau cyn eu deor. Tra yr oeddem yn newid ychydig ar safle’r trwyn, ac yn ceisio gwella rhywfaint ar ei gyflwr gwasgedig, dygwyddodd i borthor y glust golli ei wyliadwriaeth; a’r canlyniad fu, i’r swn creulonaf weithio ei ffordd i mewn nad oes dim, gwnaem lw, yn mysg llwythau anwaraidd yr Indiaid Cochion, yn debyg iddo. Ofer oedd gwingo yn erbyn y symbylau mwy. Rhyddhawyd y pen o’r caethiwed, a gosodwyd y glust orthrymedig mewn sefyllfa i ymwrando. O Fiwsig! gymaint galanas a wneir yn dy enw! Pe byddai holl ddallhuanod y gelltydd wedi crynhoi at eu gilydd i berfformio “Cantawd Pandemonium,” a ’sgrech-y-coed yn eu harwain, ni phetrusem ranu’r wobr rhyngddynt a’r waits a nyddent ac a ymnyddent fel ysbrydion anian yn nghanol y llwydrew o dan ffenestr ein hystafell wely. Son am German Band! Chwi gymerasech y rhai hyny am y Grenadiers yn eu hymyl. Ar ol gwrando arnynt yn rhygnu’n ddincodaidd, fel pe meddyliech am gant o lifdduriau mewn llawn waith, hyd nes iddi fyned yn anmhosiblrwydd perffaith o du cnawd ac ysbryd i wrando yn mhellach, neidiasom dros yr erchwyn am y drydedd waith y bore hwnw, ac ni buom fawr amser cyn gwthio ein “calenig” ar y waits, mor aiddgar ag y gwthiai yr Aifftiaid eu tlysau ar Israel gynt, a chyda’r un amcanion, ac hefyd yr un canlyniadau. Teimlem ein hunain yn deilwng o le yn rhestr “ardderchog lu y merthyri” wrth droi yn ol i “orphwysfa’r saint” y tro hwnw! Ond i ba beth yn [sic] awn i wneyd arddangosiad o’n cwynion? Onid dyma ran ein phïol bob bore dydd Calan fel y daw bore dydd Calan heibio? Os codasom deirgwaith y noson hono, codasom ugain o weithiau; a phe dechreuem sefyll ar ein (x44) hannibyniaeth, a dewis cynhesrwydd y gwely o flaen oerni’r llofft a’r grisiau, buan y caem arwyddion croew fod “cwstwm ac arfer” yn teyrnasu yn Nyffryn Tywi, “â braich gref ac â llaw estynedig,” yn dryllio pob anwybyddiad “â gwialen haiarn,” ac yn malurio’r gwrthwynebiadau oll “fel llestri pridd.”

Fel mae’r dydd yn cynyddu mae’r ymwelwyr yn lluosogi. Nid oes dim ond “’Ngh’lenig i!” a “Blwyddyn Newydd Dda” i’w glywed o bob cyfeiriad. Gofelir am y blaenaf cyn dymuno’r olaf gan y rhan fwyaf, yr hyn a brawf fod cryn doraeth o
hunan yn llechu yn y natur ddynol hyd yn nod yn ei chyfarchiadau goreu. Dyma hwy yn dyfod yn dyrfaoedd, yn wyr, gwragedd, a phlant! Cewch ddynion i’ch cyfarch heddyw na welsoch mo honynt erioed o’r blaen, a dyna efallai sydd yn cyfrif am eu sirioldeb diball a’u heofndra digymar - y maent am i’r unig ymrwbiad sydd wedi bod, ac hwyrach i fod byth, rhyddynt a chwi ar yrfa dragwyddol bodolaeth, i fod yn ymrwbiad siriol o’r ddeutu, beth bynag arall ellir ddweyd am dano. Welwch chwi’r hen wraig deneulwyd, feindrwyn, sionc ei throed a chwim ei llygad, sydd yn dyfod i’ch cyfarfod a basged drwmlwythog yn un llaw, ac a’r llaw arall yn cydio’n dyn am geg cwdyn sydd yn hongian dros ei hysgwydd, mor dolciog ei wedd a drwg ei gyflwr a phe buasai wedi bod yn y rhyfeloedd? Dyna un o brif noddwyr sefydliad y Calan. Mae yn nes i bedwar ugain oed nag ydyw i driugain a deg, ac eto dywedir na chollodd ddiwrnod o galenig erioed. Coda’n foreuach na’r wawr, teithia filldiroedd lawer dros dir anhygyrch a diffaith, a chyrhaedda ei chaban cyn nos wedi cael ysglyfaeth lawer. Adwaenir hi fel y fwyaf “egr” o holl addolwyr y Baal hwn; ac eto, y mae yn amlwg yn nghyfarfodydd yr eglwys yr ymaeloda ynddi (mewn enw) drwy ei habsenoldeb o’r naill Galan i’r llall! Mae “canolfur y gwahaniaeth” rhwng pobl y capel a phobl yr eglwys yn cael ei dynu i lawr i raddau pell yn y peth hwn, oblegid y mae’r naill a’r lleill yn gwneyd mor hyf ar yr offeiriad a’r pregethwr a’u gilydd, a’u croesaw a’u derbyniadau yr un cymaint. Ceir y rhai nad oes eisieu dim arnynt yn ymlusgo’n drachwantus i blith y tlawd a’r rheidus; ac ereill yn aros gartref am fod balchder yn yr un ystabl a thlodi - dau farch nad oes byth gyd-dynu yn eu hanes.

Nid yr un galenig a wna’r tro i bob un. Gwell gan rai arian, gwell gan ereill luniaeth ar y pryd; dewisa’r dosbarth lluosocaf “ bicen” neu ddwy, tra na rydd dosbarth cryf arall ddim diolch am lai na haner peint o “dablen,” neu “lon’d pen” o chwisci heb fawr dwfr ynddo. A chyda llaw, mae’r cyfeillion olaf hyn yn dyfod i dipyn o dristswch cyn diwedd y daith. Mae’r aml ddognau o chwisci a lyncant ar gylla gwag o fan i fan, yn gymysgedig a diferyn o “dablen” os na bydd y brawd cryfach gartref, yn trechu eu natur luddedig, ac yn eu glanio yn ystlysau’r ffos, neu yn peri iddynt gyflawni rhyw chwithigrwydd neu gilydd ag y bydd pen a chalon yn gofidio o’i herwydd dranoeth. Ac yr ydym wedi sylwi - gwnaed y darllenydd a fyno o’r ffaith - fod y merched a’r gwragedd, yn enwedig y dosbarth hynaf, yn barotach i farnu “yn fwy golud” y llymeitiau hyn, nac unrhyw “drysor” arall a gynygir iddynt yn galenig, heb eithrio’r “pics!”

Ond dyweder a fyner, wedi “hilo’r” wyneb i gyd, a nithio’r us o’r bron, mae yna swm pur fawr o garedigrwydd a chydymdeimlad, a chymwynasgarwch, a thrugaredd yn aros, i wynebu ar flwyddyn o angen, a thlodi, a newyn, a noethni, a chyni o bob math. Diolch i Dduw, yr hwn yn gyntaf a roes ei Fab yn galenig i’r byd trwy ddwylaw angelion, nad ydyw pechod wedi ein llwyr ysbeilio o’r trysorau gwerthfawr hyn, nac ychwaith o’r gallu i’w rhoi ar lôg yn mane Duw at wasanaeth dyn.
___________________________________________________________________

(x50) PENOD II. - MEWN WYLNOS. (tudalennau 50-52)
___________________________________________________________________

“Bydd cwrdd wylnos yn Cwmceir nos yfory, arhybudd yr angladd am ddeuddeg o’r gloch dranoeth.”

Dyma un o gyhoeddiadau’r Sabboth mewn tri o gapeli Ymneillduol ac un eglwys blwyfol yn Nyffryn Tywi rywbryd y llynedd; a gallasem osod bys ar lawer oeddynt yn glustiau i gyd i’r cyhoeddiad, ac yn llygaid i gyd i’r cyhoeddwr wrth ei gyhoeddi, tra yr oeddynt mor fyddar a phost i “gwrdd gweddi’r eglwys” nos Fawrth a’r “gyfeillach” nos Iau, ac mor ddall a’r wahadden i’r cyhoeddwr wrth eu cyhoeddi. Ymgomiwn ychydig am wylnosau yn gyffredin cyn cychwyn i’r wylnos arbenig hon yn Cwmceir.

Ai tybed fod eisiau egluro gair i’r darllenydd? Os mai yn Neheubarth Cymru y triga - pa un bynag ai y rhan amaethyddol ai y rhan weithfaol - y mae yn ddiangenrhaid; ond os mai un o breswylwyr y Gogledd yw, i’r hwn nid yw’r gair yn cyfleu un syniad rhesymol oddiar safbwynt Protestaniaeth, rhaid ei oleuo i fewn trwy chwanegu, mai cyfarfod gweddi ydyw, a gynelir mewn ty anedd lle y gorwedda corff marw, y noson cyn y claddedigaeth. O ba le, ac oddiwrth ba beth y deilliodd y gair “wylnos” sydd gwestiwn a egyr y drws i lawer o dybiau, rhesymol ac afresymol. Creda y rhan luosocaf o’i wrthodwyr mai un o weddillion y Babaeth ydyw - disgynydd uniongyrchol o’r hen arferion fu mewn bri gynt yn Nghymru yn nyddiau ei thywyllwch mawr, ac sydd mewn bri eto yn y gwledydd lle mae’r Babaeth yn teyrnasu, pan y llosgid canwyllau yn ystafell y marw, ac y gwylid y corff gan y teulu a’r gwahoddedigion drwy’r nos, a phob nos hyd yr adeg y gosodid ef i orwedd dan dyweirch y fynwent. Perthynas agos i’r Irish wake, medd y dosbarth “anghredadyn” hwn – “gwyl drwy’r nos,” lle y ceid canu, a dawnsio, a chystadlu mewn adrodd chwedlau celwyddog, ac yfed, a meddwi, ac ymladd, a phob maswedd a baldordd. Os gwir hyn, y mae genym le i fod yn ddiolchgar dros ben am y cyfnewidiad sydd wedi peri i gampau’r ysbryd drwg roi lle i ganu mawl a gweddi! Dywed ereill ydynt yn fwy cymedrol, tra y daliant mai gweddillyn Pabyddol ydyw, nad yw yn golygu mwy na llai na “gwylio” ar hyd y nos, oddiar hen syniad ofergoelus fod y diafol hefyd yn gwylio’r marw, ac y cipiai y corph ymaith yn ebrwydd oni bai fod yna wyliadwriaeth fanol yn cael ei chadw drosto. Ond dadleuir gan y mwyaf selog o gefnogwyr y cwrdd wylnos mai “wylo’r nos” yw’r gwreiddair a’r ystyr: pobl grefyddol yn ymgyfarfod, trwy gydsyniad a chyd-ddealldwriaeth, i ddatgan eu cydymdeimlad â’r teulu trallodus, i “wylo a’r rhai sydd yn wylo,” ac i gyd-gerdded a hwy at Orsedd yr Un a wybu am “lefain cryf a dagrau” ei hunan, i ymofyn y balm a’r triagl. Ni pherthyn i ni geisio penderfynu pwy sydd iawn a phwy sydd heb fod, neu beth sydd gam a pheth sydd gymwys: pan y cytunir i anghytuno, “poed rhwng gwyr Pen-tyrch a’u gilydd.”

Mae hen frodorion Dyffryn Tywi - pobl y traddodiadau a’r ofergoelion - yn eithafol o selog dros y “wylnos,” fel pob sefydliad arall sydd a’i wreiddyn’ (fel y tybiant) yn y cynoesoedd, ac wedi cyd-dyfu a hwy drwy holl ddyddiau blynyddoedd eu heinioes, yn enwedig os bydd yn apelio at eu natur grefyddol, neu yr hyn a gymerant hwy (x61) weithiau yn lle hyny. O’r ffermdy uchaf a phwysicaf i lawr at y “tŷ bach lleiaf na fedr ymffrostio ond mewn un ystafell gyffredin, ystyrir y wylnos mor hanfodol ragflaenydd i’r angladd ag ydoedd Ioan Fedyddiwr i’r Gwaredwr; ac y mae’r syniad o wneyd hebddi, pan bo taro, mor chwithig ac anghrefyddol yn eu golwg fel nas coleddant ef am foment. Byddai esgeuluso “cadw wylnos” yn drosedd na byddai “aberth” wedi ei adael drosto; a’i hanwybyddu yn gosod y teulu hwnw y tuallan i ffiniau brawdgarwch a chymydogaeth dda - cyfrifid ef “megys yr ethnig a’r publican.” Ni chlywsom fod neb wedi eu tori o’r seiat o herwydd y peth, na’i fod wedi bod yn “fater cwrdd eglwys” ychwaith; ond y mae ambell i arferiad a gymerir yn ganiataol yn unig a mwy o nerth a dylanwad yn perthyn iddi nac ambell i un arall y deddfir yn ei chylch. Felly yr arferiad hon. Pe baech yn dyfod yma fel gwr dyeithr, a setio i lawr y’mysg y dyffrynwyr, ac i angeu wneyd yn eofn ar eich teulu, a chwithau, oddiar gyhoeddiad, neu fympwy, neu ddiofalwch Galio-debyg, i wrthod “cadw wylnos” dan gronglwyd eich eich pebyll yn ol arferiad y wlad, buan y caech deimlo mai syniad y wlad yn bur gyffredinol am danoch fyddai - “’Does dim llawer o barch i grefydd gan Hwn-a-hwn!” Ac ni phetrusai aml i hen chwaer a adwaenom gyhoeddi ei barn yn fwy pendant a phwysleisiol, a dywedyd eich bod yn ddyn perffaith. annuwiol. Ond mae’n ddrwg genym orfod dweyd mai nid yr agwedd grefyddol i’r wylnos sydd wrth wraidd y zel mawr a ddangosir gan nifer o’r bobl a ddesgrifir uchod - hyny yw, nid ydynt yn dyfod i’r wylnos i weddio a a chanu ac addoli gymaint a rhywbeth arall, fel y cewch weled cyn diwedd y benod. Ac nid ydym yn ofni unrhyw gyhuddiad o ragfarn neu anwybodaeth a ddygir yn ein herbyn wrth ddweyd hyny.

Mae’n bryd i ni bellach fyned i Cwmceir. Ar y ffordd tuag yno, gadewch i mi eich hysbysu am y lle a’i amgylchiadau. Ffermdy helaeth o’r hen ffasiwn yw Cwmceir, yn dal aceri lawer o dir, yn cadw o ddeugain i haner cant o dda “o bob enw a phob gradd,” a chystal nifer o geffylau ag a welwch unrhyw ddydd o’r nwyddyn, ac yn cyflogi haner dwsin o wasanaethyddion, heb son am weithwyr wrth y diwrnod. Ond er y tiroedd, a’r da, a’r ceffylau, a’r hwsmoniaeth i gyd, daeth angeu i fewn i’r tŷ rywsut, amneidiodd ar y penteulu i’w ddilyn, ac yntau a gododd ac a aeth. Yr oedd yn gymeriad adnabyddus trwy’r holl wlad, yn ddiacon yn yr eglwys y perthynai iddi, yn gentleman farmer yn nghyfrif ei gydnabod, yn aelod o’r Farmers’ Club, a chylch ei berthynasai [sic] yn ymestyn dros y plwyf, a thros y sir. Mewn gair, yr oedd pobpeth yn dweyd y caffai gwr Cwmceir “gwrdd wylnos “ anghydmarol, ac angladd na welwyd ei gyffelyb yn nghof neb oedd yn fyw. Dewch i mewn i’r neuadd. Yno mae’r Beibl Mawr a’r Llyfr Emynau wedi cael eu gosod ar ford orchuddiedig a’r llian claerwynaf, yn barod erbyn y delo’r gweinidog a’r gynulleidfa. Ystafell barchus yw’r “neuadd,” a geir bron yn. ddieithriad mewn unrhyw ffermdy o ymhoniad yn Nyffryn Tywi; ac
nis gwyddom am ei chymhares mewn tŷ cyffredin. Nid yw yn golygu’r parlwr, ac nid yw yn gyfystyr gwbl â’r “gegin oreu,” ond saif rywle rhwng y ddwy. Dyga pob celfigyn, bach a mawr, dystiolaeth ddifrychau i’r glanhau creulon sydd wedi bod arnynt y dyddiau o’r blaen; a phe caech ganiatad i fyned dros y ty, gwynebid chwi gan lu o dystiolaethau ereill i’r un perwyl. Eistedda’r galarwyr - y weddw a’i phlant - yn ymyl y tân, a ffryndiau dewisol o bob tu iddynt; a sibryda rhywun yn ein clustiau eu bod yna er ys dros awr o amser. Druain o honynt! tynir cwysau dyfnion dros eu teimladau cyn diwedd y cwrdd. Dechreua’r gynulleidfa ddyfod i mewn o un i un, a bob yn dipyn o ddau i ddau, ac yna yn finteioedd bychain, nes llenwi’r neuadd bob congl o honi, a chymer pob un ei le mor weddus, a threfnus, a defosiynol (x52) a phe dilynai reddf neu rhaglen. Erbyn hyn, mae’r gweinidog yn agor y gwasanaeth trwy roddi emyn i’w ganu, priodol i’r amgylchiad. Yr unig wahaniaeth sydd rhwng y cyfarfod hwn a chwrdd gweddi cyffredin yw, fod y lle amlycaf yn cael ei roddi yn y canu, a’r benod, a’r gweddiau i weinidogaeth angeu yn gyffredinol, ac i’w chymwysiad at deulu a phenteulu Cwmceir yn neillduol. Tra y cenir ac yr ymdrechir â Duw mewn gweddi, teimlwn ein bod yn sangu ar dir cysegredig, ac nad yw “santaidd santeiddiolaf” y Shecina ddim yn mhell; a phe yr elai pob un “i’w dy ei hun” yn ddiymdroi ar ddiwedd yr oedfa, atebai ei dyben uwchaf, a gellid yn ddibetrus restru’r “cwrdd wylnos” yn mysg cyfarfodydd crefyddol mwyaf ysbrydol a bendegedig saint Duw ar y ddaear.

Ond i lawer mae’r “gwin goreu” ar ol, a chyfranogir o hono gan bawb yn ddiwahaniaeth. Mewn ystafell arall gerllaw mae “gweddillion marwol” gwr Cwmceir, druan, yn gorwedd in state, wedi eu gwisgo mewn gwyn, a’u haddurno â blodau. Maent wedi eu cludo i fewn i’r arch i gyd; erys yr arch ar fwrdd cyfyng, a saif y bwrdd ar ganol llawr yr ystafell. Beth yw hwn sydd yn pwyso ar y mur yn y fan yma? O, dyna’r “clawr” - cauad yr arch, sydd yn dangos y plate gorwych, yr hwn a ddywed Alpha ac Omega’r marw mewn dwy linell. Wrth ben yr arch, fel pe bai gynrychiolydd angeu, saif y “fydwraig,” yr hon sydd wedi helpu llawer i ddod i’r byd, ac wedi helpu llawer i fyn’d o hono. Ei swyddogaeth hi yma yw dangos y marw i’r byw: a gwna hyny gydag urddas anneffiniadwy. Goleuir yr ystafell gan nifer o ganwyllau talion, preiffion, a gorchuddir y muriau a’r celfi i gyd a huganau gwynion fel yr eira, Ust! mae’r cwrdd drosodd, a dyna symudiad dystaw ac unol i gyfeiriad ystafell y marw. O un i un y deuant, yn single file, a’r swn yn union fel pe byddai pob un wedi tynu ei esgidiau oddiam ei draed, ac yn cerdded yn ei hosanau. Amgylchant y bwrdd ar ba un y mae yr arch, taflant gipdrem ar y gwyneb oer, claiog, wrth fyn’d heibio, a dychwelant “ar hyd ffordd arall.” Wrth fyned gartref y noson hono, ceir sylwadau beirniadol gan y merched a’r gwragedd ac ambell ddyn benywaidd, ar yr arddangosfa - canmolir a chondemnir, yn ol fel y byddo’r duedd naturiol, a chodir dincod ar ddanedd yr absenolion pan adroddir yr hanes iddynt wedi cyrhaedd y tŷ. Bydd son am wylnos gwr Cwmceir wedi i ddegau o wylnosau ereill a ddaw ar ei hoi ddisgyn i ebargofiant.

___________________________________________________________________

(x89) PENOD III. - CARU A PHRIODI. (tudalennau 89-92)
___________________________________________________________________

Nid ydym yn gwyhod a oes gwahaniaeth rhwng bechgyn a merched yr oes hon a bechgyn a merched yr oes o’r blaen yn Nyffryn Tywi yn dwyn yn mlaen y fusnes garu. Tueddir ni i gredu mai “megys yr oedd yn y dechreu y mae yr awr hon” gyda golwg ar y caru; ond y mae yna gryn gyfnewidiad wedi cymeryd lle yn musnes y priodi. Dywed rhai fod mwy o garu, neu, beth bynag, fwy o ddilysrwydd yn y caru cyn priodi nac wedi hyny. Poed fo, ond yn y dosbarthiad cyffredin a chydnabyddedig, daw’r caru o flaen y priodi; a chymaint o hono a fydd yn weddill, ac a ddaw wed’yn, cleddir ef yn y priodi, ac ni chlywir son am dano wrth yr hen enw byth mwy. Dilynwn y drefn arferol yn y benod, a chyn myn’d i’r capel, neu’r eglwys, neu’r “offis” yn Llandilo, awn i garu ychydig gyda’r bechgyn a’r merched yn ol y ffasiwn.

Mae dau neu dri o weision ffermydd cyfagos i’w gilydd wedi dod i’r penderfyniad, ar ol ymgynghoriad pwysig, i fyn’d i “gnoco” i Llanlai y noson a’r noson. Mae un o honynt yn ymofyn siarad â merch y tŷ, ac y mae’r ddau arall, am eu bod yn adnabod y morwynion, yn myned i gadw cwmni iddo. Y noson y maent wedi ei phenodi ar gyfer yr anturiaeth ydyw noson y cwrdd gweddi, a thrwy fod y tri yn arfer myned i’r un cwrdd, daw i daro yn òd o gyfleus iddynt gychwyn gyda’u gilydd, heb fod neb yn drwgdybio dim o’u hanes, nac yn breuddwydio fod yn eu bryd i ystormio castell Llanlai, llwgr-wobrwyo’r gwylwyr, ac enill rhai o’r gwarchodlu, y noson hono. Felly, gan ymddangos yn bur ddifater, a threio bod mor waglyd ag oedd modd - mewn trefn i daflu’r gweilch ffroendeneu ereill, a aroglent helfa fel hon yn reddfol, oddiar y scent - cychwynasant ar ddiwedd y cwrdd i gyfeiriad eu cartrefi eu hunain; ac wedi cyrhaedd i fan neillduol, troisant yn sydyn megys yn eu gwrthol, a dacw hwy â’u gwynebau ar faes y frwydr, a chalon pob un yn curo fel calon aderyn bach. Bechgyn diguro yw bechgyn ffermydd i son am garu pan bo’r lodes yn mhell, a siarad am “gnoco” pan na bo’r ffenestr yn y golwg! Mae cryn ffordd i Llanlai, a digon o amser cyn deg o’r gloch. Cracir cellweirebau ar hyd y ffordd fel cracio cnau, a damsengir perthi wrth y dwsinau, nes peri i lawer ffarmwr gael sicrwydd cyn brecwast dranoeth na pherthynai o’r nawfed âch i’r gwr boneddig amyneddgar o Us. O’r diwedd, dacw’r tŷ, a dyma hwy yn y “clôs.” Gan y tywyllwch a’r dystawrwydd, chwi allech feddwl fod yr adeilad ei
hunan wedi myn’d i gysgu. Mae ei ffenestr, fel llygaid, wedi eu cau a’u gorchuddio bob un, ac nid oes dim i’w glywed i ddynodi fod bywyd yn y lle. Ond nid ddoe y ganwyd y bechgyn hyn, ac nid dyma’r tro cyntaf iddynt fyned allan i “gnoco.” Wedi sicrhau safleoedd y gwahanol gysgwyr yn y ty, yn ol yr hyn a wyddent, ac yn ol yr hyn a dybient, aeth un i chwilio am ysgol (yr hon sydd yn debyg o fod wrth law ar “glôs” ffarm), aeth yr ail i grafu am dipyn o raian, neu gerig man, y rhai nad ydynt mor gyfleus a’r ysgol bob amser; ac arosodd y trydydd dan bentis y tŷ gwair i wylio yn erbyn ymyrwyr oddiallan, yn ogystal a symudiadau annisgwyliadwy oddifewn. Caed yr ysgol yn ddidrafferth, a dodwyd un pen iddi i orphwys ar y palmant odditanodd, a’r (x90) pen arall ar ddarn o wàl y tŷ, yn union dan y ffenestr sydd uwchben drws y gegin fach; a mawr yw’r llawenydd i hyny o anturiaeth droi allan mor ffodus. “Gest ti rafel, Dai? “ gofynir i’r anturiaethwr aeth i chwilota am raian; ac wedi i hwnw ddyfod a phrawf gweledig cadarnhaol o lwyddiant ei ymchwil, gelwir ar y gwyliedydd i ddyfod allan o’i “wâl” o dan bentis y tŷ gwair, mewn trefn iddynt ddechreu’r gweithrediadau yn nghyd ac ar unwaith. Yn awr, teifl Dai ryw “binsiad clochydd” o raian yn erbyn y ffenestr, a gwrandewir fel am fynyd. Os na thycia hyny i beri i’r golomen drydar a dangos ei hun, ychwanegir “pinshed” arall. Ond fel rheol mae’r ymosodiad cyntaf yn ddigon; oblegid gwyr y bechgyn i b’le i fyned i “gnoco,” ac y mae’r merched ar y watch am danynt. Mentrem unpeth yn y byd fod Sal a Dinah y tu ol i lenni ffenestr lloft y gegin fach yn gwylio John dan bentis y tŷ gwair mor effro ac aiddgar ag oedd John ei hunain yn gwylio’r tŷ a’i amgylchoedd. Ond os yw’r merched yn meddu ar ddogn o gyfrwysder, arosant nes y bydd y bechgyn wedi lluchio’r “grafel” i gyd cyn y rhoddant un arwydd o’u presenoldeb; a chyn y ca’r carwyr dderbyniad i mewn, ceir weithiau yr ymgom ddoniolaf rhwng y partïon - y crotesi yn anfaddeuol o brofoclyd tra yn cadw’r cryts mewn ansicrwydd o barthed i’w tynged, yn enwedig os bydd y tywydd yn oer, a hwythau wedi chwysu wrth gerdded tuag yno; a’r cryts drachefn yn dwyn allan eu holl addnoddau i berswadio y teg rïanod i’w gollwng i mewn. Ond wedi gwastraffu digon o dalentau i wneyd County Council cymedrol, a dyhysbyddu’r holl adnoddau, ä un o’r merched i hysbysu merch y tŷ fod gwas Llwynmawr yn ymofyn ei gweled wrth ddrws y ffrynt, tra yr esgyna Dai a’i gyfaill ar hyd ffyn yr ysgol, ac y diflana’r naill ar ol y llall i ganol y tywyllwch dudew sydd yn gorwedd yr ochr tufewnol i’r agorfa, fel pe bai anghenfil wedi agor ei safn a’u llyncu. Cauir y ffenestr yn ddystaw bach, tynir y llenni i lawr yn raddol, ac nid oes dim yn aros i’n hadgofio o’r olygfa ond - yr ysgol.

Mae ambell i ddygwyddiad trwstan dros ben yn cymeryd lle weithiau mewn cysylltiad â’r gwibdeithiau nosawl carwriaethol hyn. Erbyn y daw’r carwr yn ol at y ffenestr am bedwar neu bump o’r gloch y boreu, gan feddwl dychwelyd ar hyd yr un ffordd ag y aethai, er ei syndod a’i fraw, gwel fod yr ysgol wedi myn’d, “a’i lle nid edwyn ddim o honi mwy!” Golyga hyny iddo (os na fentra ei wddf a’i esgyrn drwy hongian gerfydd ei ddwylaw, a’i siawnsio hi oddiyno i’r gwaelod) y gorchwyl diflas o dynu ymaith ei ddwy esgid (efallai am yr ail waith y noson hono), a chroesi cyfandiroedd peryglus dan arweiniad Sal cyn y ca afael ar y fynedfa allan. Ac nid yw yn syn iawn na ddaw’r gwr symudodd yr ysgol ar ei wàr cyn iddo gael amser i roi ei draed yn ol yn yr esgidiau, ac y daw yn fater o iechyd iddo “gymeryd y goes” (os na lwydda i gymeryd yr esgidiau) gynted y gallo. Neu, hwyrach mai i garwr anffodus arall y mae i ddiolch am y tro; yr hwn, ar ol dod yno yn ddiweddarach gan feddwl cael “noson” gyda un o’r merched, a gwel’d fod y castell wedi ei gymeryd gan ei well, a ymddïal ar ei gydymgeisydd llwyddianus trwy daflu yr ysgol i lawr; ac ymguddia yntau yn amyneddgar i wylio a mwynhau y canlyniadau. Ond odid, os bydd y ffenestr yn ddigon agos i’r ddaear i warantu y tebygolrwydd i’r nosgarwr ollwng ei hun i lawr, na rydd y gwr siomedig badellaid (ac os oes ganddo gydymaith, gasgenaid) o ddwfr yn union odditani; a phan ddaw’r truan i’r lle, a gweled sefyllfa pethau, yn hytrach na chael ei wadnau mewn gwrthdarawiad â terra firma pan ymedy â’r ffenestr, yn ol ei ddysgwyliad, ca ei hunan dros ei benliniau neu hyd ei ganol mewn dwfr oer, a dyna lle y bydd yn bustachu, fel cath ar foddi, ac yn tori’r ffigyrau rhyfeddaf cyn y llwydda i ymryddhau o’r gasgen a’i chynwysiad. A phrin yr ychwanegir at ei gysur gan y grechwen a (x91) ddaw o’r tywyllwch gerllaw, a’r chwerthiniadau iachus a dorant y naill ar ol y llall ar ddystawrwydd y boreu.

Mae’n ddrwg genym orfod dweyd fod y cyfathrach rhwng meibion a merched Dyffryn Tywi, fel rhai ardaloedd ereill, yn llawer rhy agos i fod yn ddiberygl, a’r cyfleusderau a roddir iddynt i fyned at eu gilydd yn llawer rhy aml a hawdd i beri iddynt osod gwir werth ar eu cymeriadau moesol. Pan gofiom fod “caru’r nos” a “charu yn y gwely” yn parhau mewn bri nid bychan, ac mai egwan yw’r lleisiau a gyfodant i’w condemnio, nid yw ryfedd yn y byd fod rhan luosog o ferched ieuainc y wlad yn cael eu hunain yn mherthynas mam cyn cyrhaedd perthynas gwraig. Peth arall: er y dywedir mai “cywilydd pobloedd yw eu pechod,” ychydig, os dim cywilydd a gysylltir â, ac a deimlir am, y pechod hwn gan y pechaduriaid eu hunain na’u cymydogion yn gyffredinol. Go brin yr ystyrir ef yn bechod, heb son am gywilydd. Mae rhyw syniad llac am foesoldeb mewn rhyw arweddau neillduol yn parhau i fodoli yn y lle. Os oedd bod yn anmhlantadwy yn waradwydd i wraig yn
Israel gynt, bron nad yw meddu arwyddion i’r gwrthwyneb yn nghyfrif y rhai hyn yn gymeradwyaeth mawr, ïe, mewn un nad yw eto wedi ei hieuo yn ol deddf gwlad. Yn wir, pan ddaw’r son fod hon-a-hon fel-hyn-ac-fel-hyn, y cwestiwn cyntaf a ofynir yn y cyffredin yw: “Oes yna briodas i fod?” Os mai nacaol fydd yr atebiad, tosturir wrth y ferch, druan, nid am ei bod yn y cyflwr annymunol y mae ynddo, ond am nad oes hanes am briodi yn y fusnes. Ond os mai fel arall y bydd, chlywir am na thosturi, na chondemniad, na chydymdeimlad, na dim o’r fath beth, ond pasir y cwbl heibio fel matter of course, oblegid y mae’r priodi sydd i ganlyn yn “cuddio lluaws o bechodau” o’r natur yna. Ond gan mai nid beirniadaeth, eithr desgrifiadaeth yw baich yr ysgrifau hyn i fod, rhaid ymatal.

Nid oes eisieu myned at “Gwesyn”i wybod mai y rheol yw priodi ar ol caru. Fel y crybwyllwyd eisoes, mae gwahaniaeth mawr rhwng priodasau Dyffryn Tywi a’r amgylchoedd “yn y dyddiau diweddaf hyn,” a’r peth fuont ddeugain a haner can’ mlynedd yn ol. Mae’r “teithiau” wedi gorphen eu taith, a’r “neithiorau” o ddiffyg ymgeledd wedi darfod am danynt. Ni chlywir swn camrau meirch yn carlamu am y cyntaf tua’r Eglwys, nac ychwaith am y cyntaf yn ol, fel y bu. Mae “llythyr priodas” wedi myn’d yn beth mor farw a “Llythyr Cymanfa,” ac y mae llawer iawn o’r hen rialtwch gynt yn nglyn â phriodi wedi diflanu mor llwyr a phe na buasai erioed wedi bod. Ond y mae’r hen ffasiwn o briodi mewn cymaint bri yn awr ag ydoedd yn nyddiau ein tadau a’n mamau, a’u tadau a’u mamau hwythau; ac nid oes odid i wythnos (nac odid i ddiwrnod ar ambell gyfnod o’r flwyddyn) nad yw “priodi a rhoi i briodas” yn ffeithiau sylweddol a dyddorol dros ben.

Nid i’r un man yr â pob pâr i briodi. Fe ä rhai, ydynt mewn nifer yn debyg i ffigys y proffwyd – “rhyw ddau neu dri yn mlaen y brig” - i’r capel i dderbyn y seremoni. Ond y maent fel “ymweliadau angelion,” ac yn beth “newydd dan haul” bob tro, i wel’d pâr ieuanc yn chwilio am y capel i briodi! Ca eu gweinidog y fraint o fedyddio eu plant, a’u claddu, a’r drudgery proffidiol o wneyd eu hewyllys weithiau, yn nghyd a’u claddu hwythau, bid siwr.
Ond y mae’r gweinidog a’r capel allan o honi rywle pan yr â yn bwnc o briodi. Cof gan lawer y cyffro fu y’mysg Ymneillduwyr dros gael eu capeli yn rhydd i weinyddu priodasau ynddynt; tro trwy Ddyffryn Tywi a agorai lygaid yr ymwelydd i’r ffaith mai llythyren farw yw y ddeddfwriaeth hono yma “to all intents and purposes.” Bu cyffro tebyg yn ddiweddarach dros gael y mynwentydd. plwyfol yn agored i weinidogion Ymneillduol i weinyddu gwasanaeth angladdol uwchben beddau eu haelodau; trem dros Ddyffryn Tywi a argyhoeddai nawddogwyr y Burials Bill fod y 48 hours (x92) notice hefyd wedi myned oddiyma i ryw Dead Letter Office neu gilydd, i bob pwrpas ymarferol. Oni fydd ein gwaith yn gwrthod y tafelli yn rheswm dros oedi’r dorth i ni? A ereill i Eglwys y Plwyf i briodi; ond Eglwyswyr selog yw y rhai hyn oll, gyda’r eithriad o ambell i bâr Ymneillduol hefyd. Ond i’r “offis” - swyddfa’r cofrestrydd - y mae “dylifiad pobloedd!” Paham? Am yr eir yn llawer dirgelach, yr hyn sydd yn bwnc mawr gan rai. Rhowch faint fynoch o gyhoeddusrwydd i’r claddu, ond rhaid priodi heb yn wybod i neb. Am yr eir drwy’r seremoni beth yn rhatach hefyd yno, yr hyn sydd yn ystyriaeth bwysig gydag ereill. Sut bynag am hawliau’r cofrestrydd ei hun. ’does yno yr un pregethwr â’i lygad trachwantus yn tynu coron neu chweugain o waelod eich llogell. Hefyd, am yr eir drwy’r gwaith yn gyflymach yn yr “offis” o’r haner, a despatch sy’n myn’d â hi y diwrnod hwnw. ’Does yno ddim seremoni grefyddol, a rhyw “drimmins” felly, fel sydd yn y capel - dim ond tori’r enw - cris cross () - talu’r ffi - a dyna’r cwbl drosodd. Yr ydym yn llwyr argyhoeddedig mai un, neu ragor, neu’r oll o’r rhesymau uchod sydd wrth wraidd y duedd gref a dyn y nifer luosocaf o bobl ieuainc Dyffryn Tywi i ryw “offis” neu gilydd o Landdyfri i Gaerfyrddin, i’w priodi. Ac wedi treulio haner diwrnod yn Abertawe, neu ryw Lan neu Aber arall, try Sal a Dai eu hwynebau yn ol, a dechreuant feddwl am fyw.
___________________________________________________________________

(x149) PENOD IV. – “PRIMIN” (tudalennau 149-152)
___________________________________________________________________

Saif y gair uchod – “primin” - yn ei berthynas â ni yn debyg fel y safai Melchisedec gynt yn ei berthynas a’i offeiriadaeth – “Heb dad, heb fam, heb achau.” Nid heb lawer o drafferth, a chymaint a hyny o siomedigaeth, y daethom i’r penderfyniad i’w ychwanegu at y nifer lluosog o “blant ymddifaid,” yn mysg geiriau - y rhai nad oes genym gyfrif yn y byd i’w roi sut na pha bryd y gwnaethant eu hymddangosiad gyntaf yn y cysylltiadau lle ceir hwy. Ond dyna lle y maent, mor gartrefol ar dafod y werin a phe buasai eu hanes i’w ddarllen “yn wyneb haul, llygad goleuni,” a’u cofiant can rhated ag efengyl. A chan fod y gair anhymig hwn wedi herio ein holl lafur i ddyfod o hyd i’w achyddiaeth, a mynu bod mor fud ar bwnc ei deulu ag ambell hen ferch adwaenom ar bwnc ei hoedran, nid oes genym ond ei drosglwyddo i ofal y darllenydd yn noeth ac amddifad fel y mae - os na chymer Nawdd-dy y “Notes and Queries” ef i mewn, gan ei osod yn ymgeisydd am henafiaid teilwng a bona fide. Wrth ei ynganu, gofaler am wneyd yr “i” gyntaf yn Saesnes, a’r “i” olaf yn Gymraes, rywbeth yn debyg i hyn - preimin. Mae’n wir fod sawl cynyg pell ac agos wedi cael ei wneyd i’w esbonio, ond nid oes yr un o honynt yn cymeradwyo ei hunan i’n boddlonrwydd, na’r oll o honynt gyda’i gilydd, pe gwneid un esboniad gwych o’r cwbl. Ni fyddai ond chwysfa diangenrhaid i fyned ar eu holau yn mhell iawn; mae ambell un yn òd o gywrain, yn rhy gywrain i fod yn natur­iol; ac ambell un arall yn rhemp o chwerthinllyd, nes ein gorfodi i gredu fod yna ryw gam-chware’ wedi bod yn rhywle. Cysyllta rhai y gair â rhyw fath o gwrw - Prime Ale - yr hwn (ebe efe) a arferid ei yfed ar y cae pan ddygid y gweithreidiadau yn mlaen, sef dracht yn awr ac eilwaith, ar gynllun “ffair ocsiwn.” Ond byddai yn llawn can hawsed genym lyncu y “Prime Ale” ei hunan a llyncu’r esboniad yma - a hwyrach yn haws, gyda phob dyledus barch i Syr Wilfrid Lawson. Tybia ereill mai ansoddair ydoedd i gychwyn, a ddefnyddid gan y gwyddfodolion i ddynodi rhagoroldeb y gweithrediadau, eu bod o’r dosbarth cyntaf, o’r radd flaenaf, hyny yw, prime; ac i’r ansoddair bach dyfu, a chwyddo, a dyfod o dipyn i beth yn enw mawr ar y miri poblogaidd sydd yn dwyn y teitl “primin” yn Nyffryn Tywi. Mae hwn yn fwy synwyrol na’r llall; ond y mae’r daith yn ormod o’r ansoddair i’r enw, ac y mae’r dybiaeth fod rhyw air cyffredin felly, a ddefnyddid mewn modd cyffredin, yn myned mor anghyffredin nes llyncu’r “consarn” i gyd iddo ei hun, yn dyb­iaeth rhy anghyffredin i’w chredu. Am hyny, ni a’i gadawn i dynged ffydd heb weithredoedd. Y cynyg goreu o ddigon yw yr un a ddywed mai cyfeiriad sydd yn y gair at ddechreuad gwaith y tymor - mai yn y “primin” y mae’r cyweirnod yn cael ei daro, neu y cychwyniad yn cael ei roi i weithrediadau’r gwanwyn - ac mai yn y gair prime (cyntaf) y ceir y drychfeddwl. Dyna’r syniad y byddai y gogwyddiad cryfaf ynom tuag ato pe na cheid ei well; ac eto nid ydym yn teimlo yn gartrefol yn ei gwmni yntau chwaith.

Wedi’r siarad i gyd, beth, ynte, yw “primin ?” Wel, mewn Cymraeg glân, gloew, dyna yw - ymdrechfa aredig. Ond am bob un a gewch i ddweyd “ymdrechfa aredig” yn Nyffryn Tywi, chwi gewch gant (heb ddweyd anwiredd) i (x150)
ddweyd “primin.” Beth bynag am y gair, nid yw ymdrechfeydd aredig yn gyfyngedig i’r Dyffryn. Y maent i’w cael bron yn mhob ardal amaethyddol. Darllenwn am danynt yn y newyddiaduron, a chlywn eu hanes gan “ddyeithriaid a dyfodiaid “ yma o wahanol gyrau’r Dywysogaeth. Mae yn dygwydd yn aml y ceir lluaws o honynt yr un tymor yn yr un plwy’. Anturia’r ffarmwr i gyhoeddi ac i gynal “primin” ar ei gyfrifoldeb ei hun, ac ar ran o’i dir ei hun, bid siwr; a chyda chydweithrediad arianol a gweithiol cymydogion ac ereill, daw trwyddi yn burion, a thry’r anturiaeth yn fantais (ar y pryd), efallai, i boced y ffarmwr - ond nid yn fantais i’w boced na’i dir yn y pen draw. Lle mae ymdrechfa flynyddol wedi ei sefydlu yn y plwy’, ni chymeradwyir, ac ni chynorthwyir yn sylweddol y mân ymdrechfeydd hyn, am eu bod yn milwrio yn erbyn llwyddiant y fwyaf, ac yn tueddu i’w gwanychu yn ei hanfod, sef y tanysgrifiadau. O ganlyniad, ymdrechir i wneyd i ffwrdd a’r “sprats” bob blwyddyn, fel y gallo’r “morfil-brimin” mawr gael digon o le i chware, a magu brasder at wasanaeth y dynion sydd yn byw ar ei gefn llydan.

Bernir yn gyffredin mai ar ffermdir Llwyngwyn y cymerodd y “primin” cyntaf le yn ardal Dyffryn Tywi, a hyny o gwmpas haner can mlynedd yn ol. Gyda llaw, gelwid ef y pryd hwnw, ac am flynyddoedd wedi hyny, yn “brimin moelyd.” Awgryma hyn y tebygolrwydd i’r gair sydd uwchben ein hysgrif fod o ddefnyddiad eangach a mwy cyffredinol rywbryd nag ydyw yn awr, a bod amryw “briminod,” megys “priminod saethu,” &c., heblaw “priminod moelyd” (neu aredig}, mewn bri yn y Mynyddoedd gynt. Teimlwn fod y termau hyn i raddau yn anystwyth a chlogyrnog i’w hysgrifenu a’u darllen, ond nid oes genym ddewisiad amgen na thraethu am danynt yn mhriod-ddull y wlad a’i brodorion. Bob yn dipyn, syrthiodd y gair “moelyd” yn y cysylltiad hwn allan o arferiad; ac er y parheir i’w ddefnyddio am aredig syml a chyffredin, y mae wedi derbyn “llythyr ysgar” oddiwrth ei hen gydmar er ys dros ugain mlynedd - a phan y sonir am ymdrechfa aredig yn awr, nid fel “primin moelyd” y gwneir hyny, eithr “primin,” pure and simple. Yn yr ymdrechfeydd cyntefig ddeugain a haner can mlynedd yn ol, erydr coed oedd yn y ffasiwn; hyny yw, yr oedd eu defnydd i gyd, oddigerth y swch a’r cwlltwr, o bren. Tyfasai y pren, o’r hwn y gwnaethid yr aradr, mewn daear Gymreig, ac oblegid hyny gelwid y math yma o aradr yn “Welshen.”

.....Arnod gref, dwy heiddel rymus,
.....Brân, a chwâr, a chleddau graenus,

a gyfansoddai saernïaeth y “Welshen.” Dyma hen oruchwyliaeth yr erydr. Gofynodd rhywun mewn hen gyhoeddiad pwy oedd y gwneuthurwr erydr cyntaf, ac atebwyd ef yn bur ddiapêl gan henafieithydd o awdurdod, mai

.....Noah oedd tad yr holl aradrau,
....A Thubal Cain yr holl gwlltwrau:

ac yn mhellach, fod y “Welshen” o’r un “blan” yn gymwys â’r aradr y cawsai (neu y teilyngai) Noah gael patent arni! Nid oes dim o’r math hyn ar gael erbyn heddyw; ac er mor dda fuasai genym ddod o hyd i engraff o’r hen ddull o dynu cwysi, rhaid boddloni ar ond yr hanes am danynt. Ac am y ceffylau hefyd y dywedir:

.....Offer brwyn oedd gan ein tadau,
.....Rheffyn gwellt oedd eu mwncïau;
...“Hait” a “ hŵe” oe’nt hwy’n waeddi,
.....Nid “Come here” a “Gee Doxy.”

Dilynwyd y “ Welshen” gan “Scotchen,” yr hon, ni dybiwn, ddygwyd drosodd o Ysgotland, a’r hon, hefyd, oedd gryn welliant ar ei chwaer oedranus. Yr oedd mwy o tonic (haiarn) yn nghyfansoddiad “Scotchen” na’r llall, yr hyn a’i gwna yn gryfach a mwy parhaol.
Ond y mae “Scotchen” hithau wedi myned i ffordd yr holl erydr hyny bellach, ac amryw oruchwyliaethau wedi di a myn’d ar ei hol. Pe y dygwyddai i hen bobl dda y dyddiau a fu gerdded i (x151) faes “primin,” yn Nyffryn Tywi heddyw, byddai llawn can hawsed iddynt gredu taw ar faes rhyfel y safent ag mewn ymdrechfa aredig. Ac ni synem, wrth gymharu gwelliantau y Mynydd­oedd diweddaf â phosibliadau y deng mlynedd nesaf, na welir, cyn y daw y tymhor hwnw i ben, aredig llethr, gwastad, a gwndwn wrth nerth ager.

Gair neu ddau am y “primin” blynyddol. Cynelir hwn, fel cymanfa neu eisteddfod genedlaethol, yn y man y ca wahoddiad iddo. Anfynych y bydd yn yr un man - ar yr un fferm a feddyliwn - ddwy flynedd yn olynol. Eistedda pwyllgor a fyddo yn cynrychioli gwahanol ranau’r plwy’ ar ei achos, yr hwn a wneir i fyny o gadeirydd, ysgrifenydd, trysorydd, a stiwardiaid - a dynion bach cyffredin yn cyfansoddi y rhelyw. Cyfarfyddant i drin ac i drafod yr holl amgylchiadau mewn tafarn; ac er mwyn bod yn hollol ddibartiol yn mhob peth, nawddogant holl dafarnau’r plwy’ yn eu tro. Y pwyllgor sydd yn dewis beirniaid, yn cyfartalu’r dosbarthadau, ac yn penderfynu’r gwobrau. Mae i’r primin” hwn ei danysgrifwyr blynyddol, y rhai a rifir o blith “gwyr y cwn hela,” yn benaf; ond yn ychwanegol at hyny, rhoddir llyfr i bob aelod o’r pwyllgor, a chyfeillion ereill sydd yn ddigon teyrngarol i’r sefydliad i aberthu llawer er ei fwyn, gyda’r amcan o geisio help gan hwn a’r llall i gadw’r “primin” i fyn’d. Cyhyd ag y bydd y “llyfrau casglu” allan, y maent dan eich trwyn yn barhaus. Mae bron yn berygl bywyd i chwi fyned o’r ty; ac am fyned i dre’ farchnad, chwi allwch gyfrif eich hunan wedi eich geni dan blaned lwcus iawn os cewch fod genych ddigon yn weddill i dalu am le’r ceffyl (heb son am yr “osier”) cyn dychwelyd. Mae llawer o blwyfi yn cydgyfarfod yn y dre’ farchnad, a phob wy’ a’i “brimin,” a phob “primin” a’i “lyfr casglu.” Nid oes eisieu goleuo’r darllenydd - pe mai mewn pwll glo y treulia ei “getyn” - yn y ffaith mai yr un tymor ar y flwyddyn yr aredir y ddaear, ac, o ganlyniad, fod “priminod” (x151) yr holl wlad o fewn cwmpas ychydig wythnosau i’w gilydd, Dychymygir bellach yn rhwydd y fath nuisance yw llyfrau casglu y sefydliadau hyn, yn enwedig pan y dywedwn eto na chewch gerdded odid i gam ar draws nac ar hyd yr heol, beth bynag fyddo’ch busnes, heb i ryw law annhrugarog ymaflyd yn ngholer eich cot, a llaw arall (ei chwaer, yn ddiameu) ddal tamaid o “lyfr cownt” o fewn agosrwydd annymunol i’ch gwyneb, oedd a mwy o ol bodiau ar ei ddail nag o ôl arian yn ei golofnau. Parotoir ar gyfer yr ymdrechfa am ddyddiau lawer, ac y mae yr entries ar bapyr yn lluosocach dipyn na’r entries ar y cae. Bydd bechgyn a gweision ffermydd wrthi fore a hwyr fel am fywyd yn cymhwyso eu hunain a’u ceffylau ar gyfer dydd y frwydr. Benthycir erydr, benthycir ceffylau, a benthycir dynion. Beirniedir y beirniaid cyn eu dyfodiad - mynir gwybod eu hanes a’u holl gymhwysderau, a rhoddir pwys mawr ar gael datguddiad o’u chwaeth a’u harddull eu hunain. O’r diwedd, gwawria’r dydd, a daeth yr awr. Mae’r cae yn fyw i gyd gan ddynion ac anifeiliaid. Dyma’r beirniaid ag y mae llygaid y cystadleuwyr arnynt mor sefydlog ag y bydd eu llygaid hwythau ar y cystadleuwyr maes o law; a ’does dim byd yn arswydlawn iawn yn eu hymddangosiad. Dyma’r ymgeiswyr - pigion aradwyr y wlad am bymtheg milldir o amgylchedd. A dyma’u ceffylau, a’u cefnau uchel a llydain, a’u mwng llaes wedi ei gribo yn ofalus, a’u crwyn yn dysgleirio yn mhelydrau’r haul, a’u morddwydydd preiffion, a’u pedion rhawnog, a’u cynffonau plethedig wedi eu haddurno â chnotiau o ribanau aml-liwiog. Dyma’r erydr - gôrwyrion yr hen “Welshen” a’r “Scotchen” - yn edrych mor lân a gloew a phe na baent wedi eu pwrpasu ond i fod yn ornaments ar y cae. Yn y fan acw y gwerthir bwyd a diod am “brisiau rhesymol,” ac y mae mwy o “fyn’d” ar y ddiod nag sydd ar y bwyd. Hwnt ac yma ar hyd y cae, gwelir hen wragedd (gan mwyaf) wedi cario eu holl stoc o (x152) “losin,” a “chacs,” a chnau, a ginger pop, i’r “primin,” ac yn gwneyd cystal masnach a neb yn y lle. Wedi’r gwahanol ymdrechfeydd, cyhoeddir enwau’r buddugwyr cyn gadael y cae; yna, symuda’r pwyllgor a’u ffryndiau eu pebyll i barlwr y “Brown Cow” gerllaw, lle yr yfant “iechyd da” i’r “primin” a’i holl gysylltiadau, o hyny’n mlaen i “stop tap.”

___________________________________________________________________

(x181) PENOD V. - SADWRN YN Y DRE’. (tudalennau 181-184)
___________________________________________________________________

Mae yn “aros” yn Nyffryn Tywi dair o drefi a gyfrifir yn bwysicach na’u gilydd, Llandyfri yn y pen gogleddol, Llandilo yn y canol, a Chaerfyrddin yn y pen deheuol; y tair hyn; a’r fwyaf, yn nghyd a’r bwysicaf o’r rhai hyn yw Caerfyrddin. Fel pob tref arall sydd yn dibynu am ei bywioliaeth ar y cylch amaethyddol y mae yn ganolbwynt iddo, y mae’r trefi hyn yn ddiarhebol am eu cysgadrwydd poenus a’u tawelwch unffurfiol dros y rhan fwyaf o ddyddiau’r wythnos, o wythnosau y misoedd, ac o fisoedd y flwyddyn. Y maent ar yr amserau hyn fel pe baent o dan lywodraeth ysbryd y gwastad-dir a’u cylchyna, a chyfranogant yn helaeth o nodwedd flat y wlad oddiamgylch - nodwedd a gyll y swyn a berthyn iddi yn y wlad, mor gynted ag yr ä i ganol ceryg a phriddfeini y dref. Ewch i Gaerfyrddin ar ddiwrnod cyffredin o’r wythnos am y waith gyntaf erioed yn eich bywyd, ac fe’n synir yn fawr os na fyddwch, cyn dychwelyd y noson hono, yn barotach i’w galw wrth yr enw “Necropolis”-dinas y meirwon - nag wrth un enw arall. O ben uchaf Heol Prior i ben isaf Heol Awst, bron na fedrwch rifo y personau a gyfarfyddwch, ar benau eich bysedd. Nid oes dim i’w weled ond tai - tai, tai, yn fasnachdai a thafarndai, gan mwyaf; na dim i’w glywed ond cyfarthiad breuddwydil ambell i Rip Van Winkle o gi, sydd byth a hefyd yn cysgu ar draws rhiniog siop ei feistr, pasiwch pryd y mynoch; a murmur undonog plant yr ysgol sydd yn y drill draw. Chwi gewch gerdded bron drwy’r dydd heb glywed neb yn gofyn eich hynt, na gweled neb i ofyn eu hynt, nes peri i chwi deimlo fel Alexander Selkirk: - nad oes neb byw i amheu eich hawl i fod yn frenin - neu faer - yr anghyfaneddle i gyd. A’r hyn sydd yn wirionedd am y naill sydd wirionedd am y lleill. Y maent fel tair chwaer oedranus yn cysgu yn yr un gwely - a gwely braf yw Dyffryn Tywi - am bump o ddiwrnodau allan o saith; a gwaith ofer yw i chwi geisio eu dihuno, oblegid fel rhai gwragedd parchus adwaenom ydynt yn yr arferiad o ymneillduo ar ol y ginio Sabbothol, felly hwythau, hwy fynant gael eu nap i ben, “a deued hi fel ag y dêl.”

Ond y mae’r hen chwiorydd yn gofalu dihuno’n brydlon ar foreu dydd Sadwrn, neu foreu dydd ffair, ac ni ddaw cwsg yn agos i’w llygaid, na hûn o fewn can’ milldir i’w hamrantau drwy gydol y dydd hwnw. Ac yn awr, gadewch i ni dreulio rhan o ddydd Sadwrn yn mhrif dref y Dyffryn, a cheisio desgrifio yr hyn a welwn ac a glywn goreu byth y medrwn; efallai y cawn gyfle eto cyn diwedd y flwyddyn i’w gweled yn “ei holl ogoniant” ar un o’r ffeiriau.

Mae Sadwrn y dre’ yn dechreu yn gynar prydnawn dydd Gwener yn y wlad. Dyna’r pryd y dechreuir y parotoadau, ac y dygir hwy i derfyniad, o ran hyny, fel na byddo dim yn eisieu boreu dranoeth ond codi a gwisgo, brecwasta a chyfrwyo, a gwneyd pethau angenrheidiol a chyffredin ereill, y rhai a wneir bob boreu. Prydnawn dydd Gwener y lleddir y dofednod, yn hen ac yn ieuainc, ac y plyfir ac yr ysgiwerir hwy yn barod i’r daith o’r hon ni ddychwelant y dydd dilynol; y rhifir yr wyau ac y pwysir yr ymenyn; ac os bydd “myn’d” ar y fasnach foch, gwneir llety symudol i oddeutu dwsin o (x182) “byrcs,” yn gymwys i dderbyn y boneddigion ar funud o rybudd gogyfer a’n trosglwyddiad i fachau rhyw fochwr neu gilydd dranoeth. Glanheir y ceir o bob llwchyn ha’ neu laid gaua’ (fel y bo), sydd wedi glynu wrthynt ar ol taith y Sadwrn blaenorol, neu’r Sul i’r cwrdd, neu ryw hynt o helynt arall - a rhwbir yr offer nes bo’r rhwbiwr yn gallu gwel’d ei wyneb llon yn adlewyrchu ynddynt. Ni cha’r ceffylau ddal ati yn hwyr nos Wener, ond cant noswylio yn gynar, a digon o amser i orphwys a magu ysbryd erbyn taith y bore - ac y mae’r gweilch yn gwybod hyny’n burion bellach; os ydych yn ameu, treiwch eu cadw o’u gwâl y noson hono yn hwy nag arfer. Os mai un o’r “ceirt,” neu’r “gambo,” sydd yn myn’d i lawr, caiff fyned mor syber a pharchus ag y mae’n bosibl i greaduriaid afrosgo a lledchwith o’r fath fod; a chwilir am y gwellt glanaf, pereiddiaf ei sawr, i’w osod yn ngwaelod y fen, fel na fydd raid i’r ffermwraig ei hunan, pa mor “binco” bynag y dichon fod ar achlysuron cyhoeddus o’r natur yma, ofni eistedd na gorwedd arno mwy na phed eisteddai ar ei hesmwythfainc oreu yn ei pharlwr clyd, neu y gorweddasai ar ei gwely o fanblu yn ei hystafell wely ei hun. Ofer yw i chwi gyhoeddi oedfa, neu gyfarfod o unrhyw fath, ar nos Wener, os am gynulleidfa galonogol - nid aem ry bell pe dywedem y byddai yn haws i chwi gael dynion at eu gilydd i ffurfio cyfarfod ar nos Sadwrn nac ar nos Wener; yn sicr, byddech yn debycach o gael llawer mwy o “fywyd “ ynddo, os byddai rhai o honynt wedi bod yn y dre’ y prydnawn hwnw. Anaml y dewisir y nos hon gan y bechgyn fyn’d i garu, er maint eu sel yn y cyfeiriad hwn; oblegid nid yw caru drwy oriau mân y bore - heb son am y cerdded - yn cytuno â’r dyledswyddau y rhaid eu cyflawni gyda thoriad y wawr.

Bellach, mae’n bryd i ni ei gwadnu tua’r dref. Os mai gyda thren y bore y dewiswn deithio, ceir hwnw yn llawn o farchnadwyr a marchnad-wragedd, a’u basgedi o bob maintioli a llun - mor llawn fel mai mater o “dreisio’r” deyrnas ydyw i greaduriaid bach cyffredin fel ni gael lle y’mysg y dyrfa amrywiog. Tra yn son am fasgedi, y mae un rywogaeth o honynt, yn ol pob hanes, wedi eu creu o bwrpas i fod yn ddrain yn ystlysau dyn (yn llythyrenol), ac yn swmbwl i’w amynedd. Basged fawr, ysgwar yn mron, ydyw, heb ddim dyfnder ynddi, ond a wna i fyny am y diffyg hwnw gyda llôg mewn llêd o’r fath fwyaf digalon. Ei gwasanaeth penaf ydyw cario ymenyn i’r “farced.” Lle bydd degau o honynt ar y platform yn dysgwyl y trên i mewn, a chwithau mewn brys i gael congl gysurus i chwi eich
hunan, dyna lle bydd brwydr! - ond brwdrwch chwi a gwingwch faint a fynoch, chwi ddewch i deimlo yn fuan mai eich nerth fydd bod yn llonydd. Pan y cewch eich hunan wedi eich gwasgu yn dyn rhwng cylch o fasgedi heb yn wybod i chwi, nes y byddoch yn dwyn rhyw debygrwydd i’r Light Brigade yn y charge bythgofiadwy hwnw - ac eithrio’r basfedi yn lle’r cyflegrau - ac mai po daeraf y bo’ch ceisiadau i ymryddhau o’r caethiwed, lleiaf i gyd yr ä eich gobaith y llwyddwch i wneyd hyny, yr ydym yn bur sicr y cyd-dystiolaethwch â ni fod y sefyllfa yn un brofedigaethus i’r eithaf. A phan y gorfodir chwi i fyned i’r cerbyd yn eu cwmni, ac y tynga un o honynt y myn wybod rhif eich asenau cyn cyrhaedd Caerfyrddin; pan y daw yn fater o reidrwydd arnoch i eistedd yn dawel am ugain munud o dan y prociadau gogleisiol a phoenus hyn i gyd, heb son am bwysau basged arall a’i chynwysiad a rydd ei hunan yn ddigenad ar eich dwylin o’r ochr gyferbyniol - anturiem unpeth yn y byd eich bod yn barod er ys meityn i ychwanegu’r poenydwyr hyn at nifer gelynion eich heddwch a’ch tymer dda. Ond os mai ar hyd y ffordd yr ewch, cewch gwmni ceir gwychion a’u meirch porthianus; hen geir, a hen geffylau yn eu tynu, a’r ceffylau y’mron ac ymddadgysylltu fel y ceir; ceir marchnad, yn edrych mor drwm a phwysig a phe (x183) cynwysent dynged holl brisiau a nwyddau’r sir; ambell i “gart a donci” yn myn’d mor ysgafndroed ac annibynol nes codi eiddigedd ar ddosbarth y ceir trymion, a chodi’r chwip ar y ceffyl, druan; ‘“ceirts” boddog a thrystiog, yn myn’d mor dawel a phe na byddai ond dydd Sadwrn mwy byth i fod; pedrolfenni hirion yn myn’d dan yr enw paganaidd “gambos,” a’r ddau farch sydd yn eu tynu bob amser yn trotian, oddigerth i fyny’r “tyle”; llu o wyr meirch, ac nid ychydig o wyr traed - a’r oll yn cyfeirio tua’r hen dref gysglyd, swrth, a welsom y dydd o’r blaen.

Ond hawyr! ai tybed mai yr un ydyw? Yn yr orsaf y mae cerbydres ar ol cerbydres yn arllwys eu cynwysiad o “wyr a gweision, merched a gwragedd” (ys dywed pobl Morganwg), a’r basgedi anocheladwy, a’r twbiau adnabyddus; nes bod y lle cyfyng yn un gymysgfa fyw o’r Babel creulonaf a “chwdyn y saint” ar scale anghymedrol. O’r naill ben i’r llall i Hewl Prior y mae catrawd i gludau o bob lliw, llun, a lle, wedi eu gosod yn rheng hir, fel be byddent yn aros y gorchymyn i wneyd galanastra o honi ar yr adeiladau yr ochr draw. Cewch olygfa debyg yn Heol Awst, a’r mân heolydd ymganghenol. Os am gael gwybod p’le mae’r meirch, ewch i’r ystablau sydd ar eu cyfer; ac os am gael gwybod p’le mae’r nifer luosog o’i perchenogion, ewch i’w hystablau hwythau, sydd yn perthyn i’r un sefydliad – y dafarn. Mae dirwestwyr Caerfyrddin a’r amgylchoedd yn crynhoi at eu gilydd yn awr ac yn y man i “chwythu bygythiau a chelanedd yn erbyn” ffermwyr a phobl y wlad yn gyffredin, am eu bod, pan ddeuant i’r dref, yn gwneyd y tafarndai yn lleoedd i ystablu eu hanifeiliaid, ac yn fanau cyfarfod i drafod eu busneson eu hunain ynddynt. Codent hwy dai cyhoeddus ereill iddynt yn gyntaf, a’u cyfleustra cystal ag eiddo’r tai presenol, ac os na thynir nifer y tafarndai i lawr ar ol dwy flynedd o brawf, cwynent wed’yn. Mae’r hen dre’ yn fywyd i gyd. Pwy ddiwrnod yr oeddym yn synu o b’le yr oedd yr holl fasnachwyr yma yn myn’d i gael digon o cement bywyd i gadw corff ac enaid wrth eu gilydd; heddyw, mae’r ofnau a’r pryderon oll wedi diflanu - a’r syndod yn awr yw, sut y maent yn llwyddo i fedru cadw digon o stoc i gyfarfod a’r diluw pobl sydd yn myned i mewn ac allan trwy gydol y dydd. Rhyfedd fel y mae pobl y wlad yn cyfnewid pan y deuant i awyrgylch y dre ddydd marchnad; oblegid gartre, pob un ar ei oreu i feindio busnes ei gymydog yw trefn y dydd, ond yma heddyw, mae pob un ar ei oreu yn meindio ei fusnes ei hun. Cewch ddigon o gyfreithwyr yn mhrif dref Dyffryn Tywi, yn edrych yn dordyn a graenus, a’r gwladwyr, gan mwyaf, sydd yn eu porthi. Mae at-dyniad anghyffredin i rai o’n cymydogion yn llys yr ynadon, neu lys y cwrt bach; a gwyr y lluaws ble i gael gafael arnynt unrhyw awr o’r dydd, cyhyd ag y bydd y “cwrt” yn eistedd. Adwaenom un sydd yn y dre bob dydd Sadwrn fel y cloc, heb unrhyw neges yn y byd ganddo ond sefyll i wylio gweithrediadau’r ynadon yn y Town Hall; ac er na wyr air o Saesneg, nac ond y Cymraeg mwyaf ymarferol, dyna’i nefoedd ar y ddaear yw treulio’r oriau yn y diffeithle hwn, yn gwbl anghofus o fodolaeth pobpeth arall. Gofynwyd iddo rywdro pa bleser a gafiai yn y lle annyddan, ac yntau mor anwybodus o’i iaith a’i arferion, a dyna oedd ei ateb -

“Mae nhw’n dishgw’l mor ffyrnig ar ’i gilydd, welwch ch’i!”

Rhyfedd cyn lleied sy’n llanw dedwyddwch ambell i ddyn ar y ddaear. Clywsom am un arall oedd mor hoff o dd’od i’r dre fel nad elai Sadwrn heibio heb ei fod yn ei hanrhydeddu â’i phresenoldeb; ac ar ol cerdded saith milldir i gyrhaedd yno, prynai’r Faner, a cherddai saith milldir yn ol! Ceir maelfa’r llyfrwerthwr yn llawn hyd yr ymylon heddyw - gwyr yr eisteddfodau yn chwilio am eu darnau cystadleuol, bechgyn yrYsgol Sul yn speculatio ar yr esboniad goreu, a phobl y “Sunday made easy” yn prynu’r papyrau lleol i’w bwyta a’u treulio dranoeth. A welwch chwi y dyn acw yn sefyll wrth y drws fan draw, ac yn edrych dros yr ysgwydd (x184) yma a thros yr ysgwydd arall bob yn ail, fel y llofrudd gynt yn Israel yn ofni i ddialydd y gwaed ei ddal cyn i borth y ddinas noddfa gael ei agoryd iddo? Drws tŷ un o feddygon y dre yw y drws y mae yn sefyll wrtho, ac y mae arno ofn yn ei galon i’w ddoctor ei hun yn y wlad dd’od i wybod ei fod wedi bod yn ymgynghori â doctor y dre, ac yntau yn derbyn ei “foddion” o hyd. Pob lwc iddo, druan! Os mai am iechyd y mae, pa wahaniaeth iddo ef na neb arall pa un ai trwy ddoctor y wlad ai trwy ddoctor y dre, ai yn annibynol ar y ddau, y daw?

Gresyn fod Syr John Heidden yn chwareu rhan mor bwysig ar ddydd Sadwrn yn nhrefi Dyffryn Tywi!

Craffwch ar y dyn trwsiadus yma sydd yn dyfod i’ch cyfarfod - dillad da am dano, ond yn berffaith hen faril - ei lygaid fel llygaid pysgodyn, ac yn cerdded mor hercog a phe byddai newydd lanio o Batagonia.
Ah! y mae’r hen genaw wedi ein hadnabod.

“Shwd-ch-hedd’-syr? ’Nabod-i? ’Clwes-ch-p’g’thu-yn --. Do - myn --. ’Nabod-i? P’g’thwr-da-f’leinig-’dychi. Ael-od-yn -- ‘dw i. Pob-parch-syr!”

Mae cymaint o’i hanes, ag a fedrodd y dyn ddweyd, yn wirionedd, ac fel mae’r gwaetha’r modd, y mae iddo frodyr lawer yn y dref ar ddyddiau Sadyrnau. Hwyrach y bydd hwnw yn gwrando arnoch yn pregethu bore fory, a’i lygaid mor loew ag ydyw heddyw o bwl; a ’does dim llawer o drust na fydd yna elfenau cysegredig yn pasio o’ch llaw chwi i’w law yntau, ac o’i law yntau i ddwylaw ereill, cyn y terfyno’r oedfa.

Rhwng dau a thri o’r gloch y prydnawn, bydd y boblogaeth yn dechreu teneuo. O hyny’n mlaen hyd bump mae’r llanw yn myned yn ol yn gyflym. A’r anifeiliaid adref fel dynion, ond a llawer o’r dynion adref fel anifeiliaid. Gwelwn rai a ddaethant i’r dref yn y bore mor araf a Moses, yn dychwelyd yn mrig yr hwyr mor ynfyd a Jehu. Erbyn saith, mae’r benod olaf yn yr Exodus hwn wedi ei dirwyn i fyny.

A phe deuech yma foreu dydd Llun, caech eich hen ffrynd Rip Van Winkle yn yr un man yn union ag y gwelsoch ef ddiweddaf, ar draws rhiniog siop ei feistr. A dyna i gyd.


 

___________________________________________________________________
 
(x221)
PENOD VI. - SUL CWRDD MAWR. (tudalennau 221-224)
___________________________________________________________________

I‘r meddwl llonydd, breuddwydiol, y mae y wlad yn nghanol haf, pan wedi ymwisgo “yn ngwisgoedd ei gogoniant,” yn fwy o Baradwys na dim a welodd De Quincey erioed yn myd yr opiwm, yr ysbaid fwyaf hudoliaethus a aeth dros ei ben. Sylwa’r darllenydd ein bod yn cysylltu’r fraint hon a dosbarth neillduol o feddyliau - y meddwl myfyrgar ac ystyriol: am nas gwaeth gan y dosbarth cyferbyniol - y meddwl gwamal ac arwynebol - pa un ai y dref ai y wlad fyddo ei amgylchoedd. Tebyg yw’r meddwl gwamal i ddyn ar gefn olwynfarch (bicycle), yn teithio deng milldir yr awr, ac er pasio trwy ganol y golygfeydd rhamantusaf yn ogystal a’r mwyaf diramant, y mae yn gwbl ddall iddynt oll - yr un dynged a ga’r naill a’r llall ar ei law, a’r un ffunud yw byd Duw a byd dyn iddo ef. Ond y mae’r meddwl myfyrgar fel gwr boneddig yn ei gerbyd, a’i ewyllys ei hun yn trin yr awenau, yn gallu myn’d fel y myno ac aros pryd y myno; ac fel gwr boneddig o chwaeth bur a choeth, ca fod yna fwy o gyfatebiaeth rhwng y wlad a’i golygfeydd a’i ansawdd ei hun - yma y teimla yn gartrefol; a dyma lle mae ei fwyd a’i ddiod. Os goddefir i ni newid y gymhariaeth, nid annhebyg i’r “pili pala” ydyw’r naill, a’i sylw yn cael ei ranu’n gyfartal rhwng yr holl wrthddrychau a ddeuant o fewn cylch ei ehediadau, a’igusanau’n gyffredin iddynt i gyd; ond tebycach i’r wenynen feriniadol yw’r llall, a’i sylw’n ddewisolach, a’i chusanau’n brinach, na orphwys oddigerth ar y blodau cyfoethocaf, ac na foddlonir ar lai na’r gwir yn nheyrnas y persawrau. I’r cyfryw feddwl llonydd a breuddwydgar, sydd a dogn o lefain crefyddol yn rhedeg drwyddo, y mae’r dydd Sabboth yn y wlad, yn anad un o ddiwrnodau’r wythnos, yn enwedig y tymor hwn o’r flwyddyn, yn gyfystyr ag un o ddarnau goreu’r nefoedd.
.
Nid ydym yn credu fod yn bosibl cael golygfa fwy swynol ar y ddaear na’r hon a fwynhawyd genym y Sabboth sydd newydd basio pan yr ydym yn ysgrifenu y llinellau hyn. Er ein bod yn ddigon cynefin a’r wlad yn ei holl amrywiaeth er ys blynyddau bellach, yr oedd yna ryw newydd-deb y diwrnod y cyfeiriwn ato ar bob peth, ag oedd yn gwneyd yr hen wlad yn newydd bob modfedd o honi. A dyna hanfod ei rhagoriaeth ar y dref. Tra y cewch y dref yn y cyfanswm o honi, er byw ynddi am ugain mlynedd neu ragor, yn cyflwyno i’ch llygaid yr un ymddangosiad drwy ystod yr amser yn ddidor, chwi gewch y wlad yn myned trwy drawsffurfiadau dirif a gogoneddus mewn ysbaid blwyddyn, o waith Duw a dyn, y fath ag a’ch teifl i ystad o foddusder annesgrifiadwy, ac a’ch gwna yn fardd o dan eich dwylaw. Mae’r Sabboth yn Juwbili cyffredinol trwy’r wlad, i’r tir, yr anifeiliaid, a’r dynion - oddieithr yr hyn sydd hanfodol angenrheidiol i’w gyflawnu. Ni chlywir swn morthwylion, fel yn y trefi, i dori ar yr ysbryd addolgar; na bloedd gynffonfain y llaeth-werthwr i daflu surni i lyn y myfyrdod crefyddol; ac ni cheir ysgrechfeydd annaearol peiriaint o unrhyw natur, fel yn y “gweithie,” i darfu’r meddwl ystyriol oddiar “bethau sydd uchod,” a’i fesmerio i aros ar “bethau sydd ar y ddaear.” Dylanwadir arnom gan y tawelwch lleddfol a deyrnasa o’n cwmpas; yr asur laswen uwch ein pen a
(x222) sieryd wrthym am asur lasach sydd uwch; y porfeydd breision yr ymlwybrwn trwy eu canol; y meusydd llawnion sydd yn cyflym addfedu i’r bladur a’r cryman; y perthi plethog a’r cloddiau blodeuog a geisiant ein dal yn garcharorion mewn cadwyni o’r peraroglau moethusaf; y da a edrychant arnom a’u llygaid difynegiant dros lwyni’r gwrychoedd o bob tu; yr adar a’ch dilynant dan ganu o frigyn i frigyn, ac a’ch hebryngant nes y byddwch yn ddigon pell o gymydogaeth eu “rhai bach;” yr awel fwyn a sibrwd ddirgelion y bore dan chwerthin yn nghlustiau’r dail; a’r afon a furmur ei “Hen Ganfed” mor gerddorol ag erioed yn y pant odditanoch - fel, erbyn y cyrhaeddwn yr addoldy diaddurn y bwriadwn gyfarfod â Duw ynddo, y byddwn wedi cael ein gweithio ar y ffordd i’r cywair y medr Ysbryd Duw chwareu arno.

Os oes un Sabbcth yn gysegredicach na’u gilydd yn marn a chyfri pobl Dyffryn Tywi - os oes un yn dyrchu ei ben, fel rhyw Saul fab Cis o Sabboth, yn uwch na’r Sabbothau cyffredin o gwmpas - ac os oes un y gwneir mwy o ymdrech i fod yn bresenol yn nghyfarfodydd y saint arno na’r llall, y Sabboth sydd yn myned dan yr enw “Sul Cwrdd Mawr” yw hwnw. Syrthiasom mewn cariad â’r enw y tro cyntaf y clywsom ef, ac nid yw wedi colli ei swyn i ni eto ar ol ymgydnabyddiaeth blynyddau. Onid oes yna urddas yn perthyn iddo sydd yn gosod mawredd
arno? Yn ei bresenoldeb gwelwa yr enwau ystrydebol “Sul Cymundeb” a “Sul pen mis,” megys y gwelwa’r lloer; a’r sêr yn mhresenoldeb yr haul, hyd nes na byddo dim o honynt. Onid oes yna ryw briodoldeb tarawiadol yn yr enw yn ei berthynas â’r gwaith tarawiadol a ddygir yn mlaen arno? Dydd gwledd dinasyddion Sion, diwrnod cofio pen Calfaria, pan y darllenir ewyllys y Brawd Hynaf, ac yr ad-dyngwn ein “llw ffyddlondeb” mewn gwaed! O ie, “Sul Cwrdd Mawr” mewn gwirionedd! Ceisiwn ddesgrifio ei brif olygfeydd, os medrwn.

Oni fydd rheidrwydd anocheladwy yn galw, anaml y ceir tŷ heb fod yn wag yn mhlith tai crefyddol y wlad y diwrnod hwn, yn enwedig y bore. Mae yn bwnc dealledig yn y teulu o’r parlwr i’r gegin nad oes neb i aros gartref heddyw, ac y mae’r parotoadau ar gyfer y symudiad mawr cyffredinol wedi dechreu yn blygeiniol iawn. Gadewir rhwng Rhagluniaeth a’r anifeiliaid; ac nid ydym yn cofio am un engraff o esgeulusdra o’i thu, nac o golled i neb o’i phlant am ymddiried eu meddianau i’w gofal tra y byddent yn gwasanaethu ei Duw hi a’u Duw hwythau fore “Sul Cwrdd Mawr.” Daw llawer o’r dwyrain a’r gorllewin, o’r gogledd a’r de - pobl ydynt yn rhy bell i ddyfod i
Jerusalem bob Sabboth; ac a eisteddant gyda’r ffyddloniaid agos - y tlodion sydd gyda ni bob amser - o amgylch bwrdd y cymundeb heddyw. Maent yn duo’r ffyrdd wrth ddod, ac yn duo’r ffyrdd wrth ddychwelyd. Mewn cerbydau y deuant i’r wyl, o dair a phedair milldir o ffordd - yn henafgwyr a henafwragedd, y rhai a edrychant yn mlaen at y dydd heddyw fel at ddydd o adgyfodiad i’w bywyd ysbrydol, sydd wedi bod dan bridd a llaid y byd, i fesur mwy neu, lai, am agos i fis o amser. Dyma fechgyn a merched ieuainc, sydd yn gwasanaethu mewn ffermydd anghysbell, ac wedi bod wrthi yn cerdded yn galed am yr awr ddiweddaf i gyrhaedd yr oedfa ddeg mewn pryd; anghofiant eu llafur a’u lludded i gyd, er cerdded yn ol drachefn, yn y mwynhad o fod yn bresenol yn y “cwrdd mawr.” Mae’r addoldy yn llawn o gynulleidfa sydd yn dwyn arwyddion o ragbarotoad allanol a mewnol i’r gwasanaeth. “Y tlawd a’r cyfoethog a gyd-gyfarfyddant;” a phe baech yn ddigon daearol fel ag i fyned i elfenu’r addolwyr, chwi gaech gyferbyniadau a chyfumad rhyfeddach na hyny. Dechreuir y gwasanaeth yn brydlawn am ddeg o’r gloch: mor hyf - rydyw “cwrdd mawr” ar fore Sabboth - mae arogl fresh air ar y gweithrediadau oll. Clywch y canu! Pan symudasom o’r “gweithie” i Ddyftryn Tywi, buom am (x223) amser yn methu’n lân a dygymod a chanu’r wlad - disgynai ar ein clustiau mor drwsgl a dieneiniad. Bellach, yr ydym wedi darganfod fod llawn cymaint o galon pobl y wlad yn eu canu a phobl y gweithfeydd; ac os nad oes llawer o ddeall yn dyfod i’r golwg yn y rhan hon o’i gwasanaeth crefyddol, mae cryn swm o ysbryd sydd yn gwneyd iawn am y cwbl. Sylwch ar ddefosiwn y gynulleidfa. Mae’n wir y gallasai rhai “wylio ar eu troed “ yn well wrth ddfod i mewn, ond rhaid i ni gofio mai nid gwŷr y kid boots a’r mincing gait yw’r dynion sy’n gweithio ar y tir drwy’r flwyddyn. Pe dedfrydid ambell un sydd yn eu condemnio i wythnos o lafur caled rhwng dau gorn yr aradr ar lethr twmpathog, buan y diflanai’r ysgafnder o’u traed, ac y deuent i fedru cydymdeimlo â thrwm-gerddediad ein hamaethwyr a’u gwasanaeth-ddynion. Ond wedi iddynt gymeryd eu lle, yn ofer y clustfeinir am y clebran poenus sydd i’w glywed ar hyd yr oedfa mewn cynulleidfaoedd a broffesant fod yn safonau “y’mhob ymarweddiad,” ac yn ofer y chwilir am y gwamalrwydd ddiesgus a wthia ei hunan ar eich sylw y’nghynulliadau lluosog y trefi. Nid oes yma ond yr astudrwydd mwyaf dyfal, y difrifwch mwyaf dilys, a’r gwrandawiad mwyaf deallgar. Pob parch i ardaloedd ereill a’u rhagoriaethau, ond os am y peth prin hwnw y dyhëa ein pregethwyr am dano’n fynych - gwrandawiad intelligent i weinidogaeth yr efengyl, Dyffryn Tywi am dani! Cyn diwedd yr oedfa, amgylchynir “bord yr Arglwydd” gan “gwmwl o dystion” i’r “caru’n gyntaf” o du’r Nefoedd; ac os yw’r dagrau, a’r ocheneidiau, a’r “prydferthwch santeiddrwydd” sydd yn nodweddu yr addolwyr a’r addoliad yn brawf y gellir dibynu arno, mae yma “garu’n ol” hefyd o du’r ddaear mewn llawer calon. Mae’n hawdd gweled wrth wynebau’r bobl mai nid ffug a ffurf, ac nid gwyl ddiystyr ganddynt yw’r wyl a geir ar fore “Sul Cwrdd Mawr.” Ac onid yw’r llwyredd a pha un yr ymdaflant i’r gwasanaeth yn heintus? Diau genym ei fod; oblegid yr ydym ein hunain wedi bod yn ymwybodol droion o rwyddineb ymadrodd a brwdfrydedd ysbryd o flaen Bwrdd y Cymundeb, sydd yn ddirgelwch i ni ar wahan i’r hyn yr ydym yn son am dano, - a dylanwad yr Ysbryd Mawr, bid siwr, - a’r hyn nad ydym yn euog o hono ar achlysuron cyffredin. Mae’r ordinhad gysegredig hon “bob mis yn rhoddi ffrwyth” addfed yn Nyffryn Tywi, a phell bo’r dydd y cyll y gafael genuine sydd ganddi ar y bobl, ac y darostyngir hi i lefel llawer o gyfarfodydd diystyr a difywyd ein heglwysi.

Y “peth penaf” a’ch tarawai yn mywyd ac arferion crefyddol pobl y Dyffryn fyddai yr elfen gref o Buritaniaeth sydd yn rhedeg drwyddynt. Chwi gewch gryn lawer o’i nerth a’i gwendid yma. Ac ni ddaw’r nerth a’r gwendid Puritanaidd yna i’r golwg yn amlycach mewn cysylltiad â dim nag y daw mewn cysylltiad â’r Sabboth. Ond gan fod y mater hwn yn un a hawlia benod iddo ei hun, rhaid ceisio gorchfygu’r demtasiwn o ymhelaethu
arno yn awr. Ac felly dybenwn y benod yma yn “ bwt” fel hyn.

___________________________________________________________________

(x257) PENOD VII. - CADW’R MIS. (tudalennau 257-261)
___________________________________________________________________

Nid yw y trefniant sydd yn myned dan yr enw uchod yn gyfyngedig i Ddyffryn Tywi, ond ceir ef mewn llawn waith dros y rhan fwyaf o siroedd Cymru - weithiau yn y trefi, ond fynychaf yn y wlad. Y mae iddo ei fanteision a’i anfanteision, a chryn lawer i’w ddweyd drosto ac yn ei erbyn; eto i gyd, beth bynag am y trefn, yr ydym o’r farn ei fod yn drefniant godidog, yn wir, y trefniant goreu, ar gyfer y wlad lle bo gweinidogaeth sefydlog. Mae aelodau yr eglwysi gwledig mor wasgarog eu preswylfeydd, fel nad oes gan eu gweinidog y siawns leiaf i ddod i gyffyrddiad agos â hwy, yn eu teuluoedd a’u hamgylchiadau cartrefol cyffredin, ond trwy. gyfrwng “cadw’r mis.” Gwir y cyfarfyddant a’u gilydd yn y “cwrdd” ar y Sabboth, ond yno, y maent, er yn agos, eto’n mhell oddiwrth eu gilydd; ac o ran dim cyfathrach bersonol sydd rhyngddynt y pryd hwnw, y maent mor ddyeithr y naill i’r llall a phe trigent yn y pegynau. Eithr y mae’r trefniant yr ydym yn son am dano yn rhoddi cyfleusdra ardderchog i’r gweinidog, nid yn unig i ddyfod i adnabod y teulu yr erys ynddo ar y pryd, ond hefyd i ymweled ag amryw fythynod sydd yn llechu o dan gysgod ceidwad y “mis,” a thrwy hyny (os nad ydym yn newid y ffugr yn rhy fynych) ladd cryn nifer o adar, a allasent ei boeni, ag un gareg. Mae’r fantais hon, yr ydym yn addef, yn cael ei chyfrif o fwy gwerth yn nwylaw rhai gweinidogion na’u gilydd. I’r gweinidog a fedr fod ar grwydr fel trempyn o’r dosbarth uchaf, o dŷ i dŷ, a hyny o fore gwyn tan nos, ac o godiad haul ddydd Llun hyd ei fachludiad y Sadwrn - yr hwn a ŵyr sut i gyfnewid “decs” â’r ffermwraig yn y neuadd yn well nag y gŵyr y sut i gyfnewid meddyliau a syniadau ag awdwyr ei fyfrgell - yr hwn sydd yn fwy hyddysg yn nghynwysiad y “pantri” a’r “llaethdy” a berthyn i dai ei aelodau nag ydyw yn nghynwys yr ychydig lyfrau sydd ganddo yn myned dan yr enw “study” - a’r hwn a wna ei hun yn “bob peth i bawb” heb fod ganddo’r gobaith gwanaf ei fod ar y ffordd i enill neb, ond a ddaw i orfod teimlo ei fod wedi colli llawer o drysorau wrth golli ei amser mor ddibarch – i hwnyna, meddaf, nid yw “cadw’r mis” yn golygu dim uwch na chiniaw gyfoethocach nag arfer, a the a’r llawforwynion yn lluosocach na’r cyffredin. Ond gan nad ydym yn perthyn i’r dosbarth yna, mae’r cynllun misol hwn yn amheuthyn mawr i ni, yn fantais anmhrisiadwy, ac yn un o anhebgorion pwysicaf ein bywyd gweinidogaethol. Ceir dau, tri, neu bedwar Sul (fel y dygwyddo) yn y mis i ymgydnabyddu â’r teulu y byddwch yn aros ynddo, yn ei amgylchiadau, yn ei arferion, yn nylanwad crefydd arno o’r parlwr goreu i’r gegin fach, yn ei angenion moesol ac ysbrydol; ac i osod yr argraff ddymunol ar feddwl y teulu ei fod yn lletya ei “gynghorwr ysbrydol” mewn gwirionedd, ac nid tincer tafod-lithrig, gwag ei ben a gwacach ei galon, unig drwydded yr hwn i ddyfod i mewn i’r urddgylch yw “neisied” wen a dillad duon. Allan o ddefnyddiau’r “mis” yn y teulu hwn a’r teulu arall y ca’r gweinidog ffyddlawn ei bregethau goreu - y pregethau sydd yn cydio, y pregethau sydd yn taro, y pregethau sydd yn ffitio i drwch y blewyn amgylchiadau’r bobl y llafuria yn eu mysg, yn eu holl amrywiaeth a’u neillduolion. A dyna’r (x258) pregethau sydd yn talu; dyna’r weinidogaeth sydd sydd yn profi ei hawl i fodoli. Dyweder a fyner am “gadw’r mis,” oddiar brofiad y dygwn y dystiolaeth hon am dano, ei fod y “pregethwr cynorthwyol” mwyaf cynorthwyol y mae yn bosibl i’r weinidogaeth gartrefol wledig byth ei gael.

Ac nid y gweinidog ei hunan sydd yn meddu dyddordeb yn y “mis,” ond y mae ei Sabbothau yn red letter days yn hanes y teulu, ac edrychir yn mlaen atynt gan bob aelod o hono, fychan a mawr, gyda’r boddhad mwyaf digymysg. Os bydd yr eglwys yn lluosog ei haelodau a’i theuluoedd, a nifer y rhai a fedrant “gadw’r mis” yn fawr, ond odid nad unwaith bob blwyddyn a haner neu ddwy flynedd y ceir yr ymweliadau hyn, a gwerthfawrogir hwy o bob ochr yn llythyrenol fel “ymwel-iadau angelion.” Parotoir ar ei gyfer cyn i’r “mis” blaenorol redeg trwy haner ei gwrs. Bydd goruchwyliaeth y glanhau, yn ei holl ysgubo a’i ’sguro, yn cael ei chario’n mlaen gyda’r llymder a’r manylwch mwyaf eithafol yn ystod y tymhor hwn - nid am nad yw ffermdai Dyffryn Tywi yn ddigon glan yn gyffredin i unrhyw ymgnawdoliad o fursendod i fedru bwyta ar y llawrbarth, heb lïan na newyddiadur na dim o’r cyfryw rhwng y bwyd ag ef, cystal a phe byddai yn yr ystafell oreu yn y tŷ, ac ar y ford wychaf ynddi. Ond ar adegau tebyg i’r rhai y cyfeiriwn atynt, glanheir y glân, rhwbir yr un celfigyn drosodd a throsodd drachefn nes y bydd ei wyneb yn dysgleirio fel gwyneb yr afon dan belydrau’r haul, ac yn chware fel y tês ar ganolddydd haf, ac y mae “llunio bai lle na bydd,” ac erlid ar ol ysbrydion o lwch a b’rychau a baw, yn rhan bwysig o ragbarotoadau’r “mis.” Gofelir am flasusfwyd o’r fath a gerir ar y bwrdd i gwrdd a’r “’gethwr,” bydded ef y gweinidog, neu damaid o bregethwr cynorthwyol, neu eginyn pregethwr o’r Coleg neu yr Ysgol Barotoawl - ni wneir gwahaniaeth, ca’r naill a’r llall a’r trydydd yr un bwyd, a’r un gwely, .a’r un croesaw. Eiddigeddir âg eiddigedd mawr dros le’r “mis,” a bydd yn siomedigaeth dost os na thry’r pregethwr i fyny at ei gyhoeddiad. Y mae tori cyhoeddiad y “mis” yn llawn cymaint trosedd a thori cyhoeddiad y “tŷ cwrdd.” Ystyrir y pregethwr am y diwrnod hwnw yn frenin yr holl sefydliad, a phob peth wrth ei lywodraeth; oblegid efe yw y gwr y mae pawb, o’r penteulu i lawr hyd at y “forwyn fach,” yn dewis ei anrhydeddu.

Mewn rhai manau o’r Dyffryn, y mae yn arferiad i wr y tŷ fo’n “cadw’r mis” fyned a dau neu dri ereill gyd’ag ef o gwrdd y bore, i giniaw, i’w helpu i gadw cwmpeini i’r pregethwr. Y rheol yw mai y rhai pellaf eu ffordd gartref yw’r gwahoddedigion breintiedig hyn, ac y maent mor falch o’i gwahoddiad ag yw’r gweinidog a’r teulu o’u dyfodiad. Elfen brydferth yw hon yn lletygarwch pobl y wlad yr ysgrifenwn ei hanes. Fel,y daw’r gweinidog i adnabod “pobl ei ofal,” ond odid na fydd ganddo ei ddewisolion cyn hir; a bob yn dipyn, daw yn ddeddf ddystaw, gydnabyddedig, fod ganddo lais yn newisiad y personau sydd i ffurfio’r cwmni am y dydd. Pe gwyddem y caniateid hyny gan y darllenydd, rhoddem fraslun o un neu ddau o’r “cymeriadau” y mae yn hyfrydwch genym roi ein pleidiais yn eu ffafr, i ddyfod gyda ni i lanw’r cylch lle cedwir y “mis” yn un o eglwysi’r wlad yma. Cymerwn yn ganiataol fod cydsyniad y darllenydd wedi ei enill, ac os ydym yn methu, tyned y golygwyr eu hysgrifell dros y darn hwn o’n hysgrif.

Gan na charwn fyned yn rhy bersonol, ffugenwn y blaenaf yn Ifan Fowc, o’r Breindir. Mae Ifan yn “garictor” mor wreiddiol yn ei ffordd a neb yn y tir. Mae pobpeth a berthyn iddo yn meddu ar ryw hynodrwydd dihafal. Pe’r elech i’r cwrdd a fynychir ganddo, sicrhaem unpeth yn y byd mai efe fyddai un o’r gwrthddrychau cyntaf i fynu eich sylw. Clobyn o ddyn mawr corffol, esgyrnog, cyhyrog, brest-lydan - pen o faintioli a ffurf nas ceir yn gyffredin, (x259) ychydig o wallt teneu, mewn rhyfel parhaus â’r grib, yn tyfu bob ochr iddo, a’i goryn mor foel a llithrig a choryn pen Crug Melyn yr haf diweddaf - gwyneb yn llawn mynegiant, a’r ddau lygad mwyaf byw a welsoch erioed yn llechu odditan aeliau ydynt berthynasau agos i’r gwallt - traed a heriant unrhyw grydd i’w gwneyd yn garcharorion anobeithiol mewn pâr o esgidiau - a chyfandir o gorff rhwng y ddau eithaf hwynt yna a barai i chwi fyned ar eich llw fod yno “syrffed” o glai lle crewyd Ifan Ffowc. Y mae rhyw sydynrwydd bywiog yn ei holl symudiadau. Pan y siarada, y mae yna’r fath gleciadau yn ei ynganiad nes gwneyd i chwi feddwl am ambell i ail was ffarm yn myned i’r “calch” ar lasiad y dydd, dan glecian ei chwip nes tarfu’r cwningod o’u gwâl. Y mae yn gnöwr tybaco medrus, a pha un bynag ai canu, ai gweddio, ai dweyd ei brofiad y bydd Ifan yn y cwrdd, chwystrella ar ganol y cwbl, pan fydd angen, yn union yn ei gyfer, a cheidw lygaid ei gymydogion yn effro i wylio cyfeiriadau ei saethau cyhyd ag y bydd wrthi. Pan elwid
arno i weddio, cwympa yn sydyn ar ei ddwy benlin, a deil ei gorff a’i ben mor syth nes o’r braidd yr ofnwch iddo syrthio’n ol ar ei gefn. Pan y gelwir arno i ofyn bendith ar bryd o fwyd, saif ar ei draed yn uniawn ac mor anmhlygedig a’r Wyddfa, a gwna hyny mor ddirybudd nes gwneyd i chwi haner godi eich hunan gydag ef. Y mae ganddo gof aruthrol; a phan y tyn allan o’r ystordy hwnw “bethau newydd a hen,” chwi allech chwilio am flwyddyn cyn y llwyddech i gael ei drech fel cwmniwr. Perchenoga gyfoeth o ystoriau, ac edrydd hwynt mor ddoniol o ddesgrifiadol fel ag i’ch cadw mewn pangfeydd o chwerthin o’r boreu hyd yr hwyr. Bu am beth amser flynyddau yn ol yn cyrchu i gapel y Bedyddwyr, am nad oedd addoldy Annibynol yn agos i’w breswylfod. Clywsom ef yn adrodd droion am ymdrechion y brodyr selog hyny i’w ddarbwyllo i gymeryd ei “drochi,” a’r modd y “ffustodd” efe hwynt yn y pen draw. Yr oedd ef a’i frawd (yr hwn oedd Fedyddiwr), a gweinidog y capel crybwylliedig yn cydgerdded ar hyd prif-ffordd a redai yn gyfochrog am encyd a’r afon Tywi. Pwnc y bedydd oedd sylwedd yr ymddyddan cydrhyngddynt, ac meddai’r gweinidog wrth Ifan,

“ Twt, wa’th i ch’i roi ’fyny heb ragor o blê, ’rydan ni’n benderfynol o’ch ca’l ch’i dros eich pen cyn y cwplwn ni a ch’i.”

Erbyn hyn, yr oeddynt wedi dyfod at “ffordd gart” oedd yn arwain i lawr at yr afon, a phwll go ddwfn gerllaw. Safodd Ifan gyda’r sydynrwydd arferol –

“O’r gore,” ebai, “dyma bwll Llwyndu yn y fan, trochwch fi’n awr, ’rwy’n ildo!”

Tybiai ei frawd a’r gweinidog mai cellwair oedd, ond yr oedd Ifan mor ddifrifol a mynach. Wrth ei weled felly, trodd y cynghorwr yn ei dresi, ac meddai –

“Dyw hi ddim yn saff i’ch trochi ch’i ’nawr yn y fan yma, ’does gydach ch’i ddim dillad i newid, a ch’i gaech anwyd a allai droi yn ange i ch’i.”

“ Howld,” ebai Ifan, “os y’ch ch’i’n cysylltu perygl ag un o ordinhadau yr Efengyl fel yna, ’dych ch’i ’rio’d wedi ’deall hi.”

Ni raid dweyd i Ifan Ffowc gael llonydd ar bwnc bedydd o’r dydd hwnw allan, er i’r gweinidog ac yntau barhau yn ffrindiau calon, cystal os nad gwell nag y buont erioed. Gwel y darllenydd bellach fod yr hen frawd o’r Breindir mor debyg a neb o gael pleidiais ei weinidog drosto i’w helpu i fwyta cinio’r “mis.”

Ffafryn arall yn y cylch cyfrin hwn ydyw “Gwr Cae’resgob.” Dyna’r teitl yr adwaenir ef wrtho fynychaf, ac nid ydym yn sicr iawn a wneid ef allan ar y foment wrth un enw arall, nac ychwaith a ddeallai ef ei
hunan ar darawiad pwy fuasech yn ei feddwl pe cyfarchech ef wrth ei enw priodol. Dyn o doriad hollol wahanol i Ifan Ffowc o ran teithi meddyliol yw gwr Cae’resgob; y mae nes perthynas cydrhwng “pebyll” y ddau a’u gilydd. Cydnerth o gorff, a sgwarog o’i goryn i’w sawdl, gwyneb llyfndew, a’i fynegiant yn sarug pan fyddo’r prif linellau yn gorphwyso, ond yn ddymunol dros ben pan yr aflonyddir ar eu tawelwch gan ambell i rôg o gerub ar lun ’stori fachog neu sylw gogleisiol (x260) wrth basio, - ei ddwylaw (ond ar amserau neillduol) bob amser yn dyn yn ngwaelod pocedi ei lodrau, ei wddf yn torchi’n dew, ac yn goch mewn canlyniad, ei draed yn blanedig yn y ddaear bob cam a rydd, a phob ysgogiad ac ystum o’i eiddo yn adsain penderfyniad Galileo –

“D’wedwch ch’i fynochi, troi mae hi!”

Perthyn i lwyth Issachar, yn ddiddadl, y mae gwr Cae’resgob, oblegid nis gwyddom am neb a mwy o’r “asyn asgyrnog” yn ei natur ag efe; nac, o’r ochr arall, neb parotach i ddwyn ei ysgwydd dan deyrnged gyda chyn lleied o ddadwrdd a dwndwr. Mae yn llawn o wrthebiadau, a gellwch fentro, beth bynag fo ar droed yn y cwrdd eglwys, neu ar law yn yr Ysgol Sul, neu ar y gweill yn nglyn â’r Gymanfa Ganu, y bydd efe, fel ambell i gynrychiolydd llafur yn y Senedd, yn eich erbyn ar bob cwestiwn; ac fe ddadleua mor bengam a llyswenog, ac eto’n llawn o natur dda, nes yr ydych yn cael eich hunain yn llawer parotach i ddigio wrthych eich hunain am fod eich gwrychyn yn codi, nac i ddigio wrth yr hen frawd am chware ei dactics mor brofoclyd. Ond yr hyn sydd yn rhagori ynddo yw, ei barodrwydd i wneyd ei oreu ac i gydweithio dros yr hyn y sieryd mor ffyrnig yn ei erbyn, fel pe na byddai dim o’r fath siarad wedi bod. Mae’n rhaid iddo gael ei blâ; ac mae’n werth iddo gael ei blê, oblegid fe rydd lawer mwy yn ol i chwi nag a fyn iddo ei hun. Creda’n gryf mewn seryddiaeth, ac yn gryfach mewn ser-ddewiniaeth (astrology); ac y mae ei gred yn ddiderfyn yn ei allu ei hun i ddehongli cenadwri’r planedau, a datguddio cyfrinach y cariadon sydd fry yn tramwyo dros y “Llwybr Llaethog.” Ond yn nghanol y cwbl, ei ystyfnigrwydd, ei hunaniaeth, a’i hynodion i gyd, mae gwaelod ardderchog gan wr Cae’resgob, a’i deyrngarwch i’r weinidogaeth fel yr aur, wedi clirio tipyn o’r rwbel oddiarno. Yn enghraifft o’i wreiddioldeb digymar, adroddwn un stori am dano cyn rhoi llaw ffarwel iddo. Aeth yn blê (fel arfer) rhyngddo a haner dwsin o’r dynion oedd wedi crynhoi i’r “llofft fach” cyn yr oedfa chwech nos Sabboth, a thestyn y plê oedd y “cof.” Dywedai Ifan Ffowc fod y cof, fel pobpeth arall, yn cryfhau wrth ei ddefnyddio, a dygodd fraich y gof, a’r hen dermau yna yn un rhes, i ategu ei osodiad. Daliodd gwr Cae’resgob ar y frawddeg ysgubol – “pobpeth arall” - a ddywedasai Ifan, a dyma ef ar ei wàr fel barcut.

“Na,” ebai, “’dydi pobpeth ddim yn cryfhau wrth ei iwso chwaith.”

“Odi,” medde Ifan, mor sydyn a bwled.

“Nag ydi,” ebe Cae’resgob, gan roi awgrym i’w ben, mor hamddenol a phe buasai yn ei wely.

Cochodd Ifan, oblegid nid oedd byth yn hoffi cael ei drechu, a dyna fwled arall oddiwrtho –

“Odi!” Fodd bynag, yn yr un pwll tro y difyrai ei wrthwynebydd ei hunan o hyd; ac wrth weld hyny, gofynodd Ifan iddo a welai efe yn dda ddweyd beth oedd yn gwanhau wrth ei “iwso.”

“Spring watch!” oedd yr atebiad ar ei ben, mor ddigwmpas a phe yn dywedyd pris treisied ar ben ffair. Yr oedd golwg gas ar wyneb Ifan Ffowc, a phan y chwarddodd y cwmni wrth atebiad annysgwyliadwy Cae’resgob, tybiasom mai gwell oedd troi yr ymddyddan i gyfeiriad arall. Lle bynag y byddai “mis” Capel-y-Bryn, ni byddai yn gyflawn, gan nad pwy a bregethai, heb y naill neu’r llall, neu bobun o’r ddau, y buwyd ychydig yn eu cwmni yn awr, i wneyd i fyny’r gymdeithas.

Na wawried y bore pan fyddo “cadw’r mis” wedi cael ei roi i gadw ei
hunan yn Nyffryn Tywi. Nis gwyddom am drefniant gwell i feithrin dyddordeb teuluoedd eglwysig a’u gweniidog yn eu gilydd, na dim sydd yn cyfleu i ni yn well y syniad o letygarwch Cristionogol, a “chadw’r mis.” Na ddeued y lletya by proxy yn agos i’r wlad, a’i sawyr afiach o aur ac arian a chopr; ond arosed system y misoedd yn fyw ac yn iach hyd genhedlaeth a chenhedlaeth, a ffrwythed eto mewn heddwch a chymydogaeth dda rhwng pobl dda a’u gilydd ddyddiau’r ddaear. Gwyddom (x261) nad ydym yn modern iawn yn ein golygiadau ar “letya pregethwyr” wrth ddadleu dros “gadw’r mis”; ond modern neu beidio, rywsut yr ydym mor benstiff a gwr Cae’resgob ar y pen hwn, ac yn eitha’ parod i dynu cot a thorchi llewys drosto. Beied a feio, a choded y sawl a fyno ei drwyn, dyna’r gwir. A’r l “gwir yn erbyn y byd.”

___________________________________________________________________

(x288)
PENOD VIII. -YR YSGOL AR GER’ED. (tudalennau 288-291)
___________________________________________________________________

Ar ddiwedd yr Ysgol - Ysgol Mahanaim - prydnawn Sul, tery yr Arolygwr ei ddwrn yn swyddogol yn erbyn y bwrdd, a chyda llais sydd yn cario argyhoeddiad i bob mynwes fod yn a doraeth o awdurdod yn gorwedd y tucefn iddo, hawlia ddystawrwydd cyffredinol ac uniongyrchol. Dengys y dwrn a’r llais fod rhyw genadwri bwysicach nag a gynwysir yn gyffredin mewn cyhoeddi “rhif yr ysgol” i’w mynegu heddyw, a theyrnasa tawelwch yn mhob dosbarth - o’r rhai bychain, sydd newydd fod yn “sprotian” pocedi eu hathraw tra yr ymddifyrai yn mreichiau cwsg, hyd at “ddosbarth y set iawr,” sydd yn araf roddi ei arfau i gadw ar ol bod wrthi yn “croesi cleddyfau” drwy’r prydnawn. Ac wele “swm a sylwedd” araeth yr Arolygwr:

“Frodyr a Chwiorydd, -- Mae’n hysbys i ch’i ’gyd fod yr Ysgol wedi bod yn y seithfed benod o Fatthew er’s rhai wsnothe’ bellach, a bod yma dipyn o ‘barotoians’ gyda’r canu hefyd, heb fod un nod neillduol mewn golwg. Ac yn awr, yr w i yn dymuno galw sylw’r Ysgol at hynyma - a ydy’r benod a’r canu i fyn’d yn ‘void,’ ai ynte a ydy’r Ysgol yn myn’d ar ger’ed eleni fel arfer? Pwy wed?”

Nid oes prinder siarad a chlebran wedi bod trwy’r dosbarthiadau am yr awr ddiweddaf; yn wir, a’i bod yn myned yn “godi llaw” ar y mater, fe allesid hebgor dwy ran o dair o hono, a gadael swm cysurus yn weddill. Ond pan y rhoddir gwahoddiad taer i’r gwahanol ddoniau i wneyd eu hunain yn hyglyw ar bwnc o ddyddordeb, y mae fel pe bai barn Zacharias wedi disgyn arnynt i gyd. Edrycha’r naill ar y llall mor ddyeithr i’w gilydd a phe heb weled eu gilydd erioed cyn y prydnawn hwnw: ac am lawn driugain eiliad wedi i’r Arolygwr eistedd i lawr, chwi allech glywed “pin bach” yn cwympo, heb wybod y gwahaniaeth braidd rhyngddo a throsol.

“Dewch, frodyr, dewch, d’wedwch yn rhydd, a pheidiwch a dishgwl wrth ’ch gilydd.”

“Wel,” ebe un - a dyna lygaid pawb
arno – “yr w i’n cynyg fod yr Ysgol i fyn’d ar ger’ed.”

Tybiem, fel ymwelydd am y diwrnod; yn y lle, fod y cynygydd yn wr craffus iawn, ac yn gweled yn mhellach na’i benryn i gryn bellder, a bod ei gynygiad yn arddangosiad o feddwl clir, yn medru deall anghenion presenol yr Ysgol, a’u gosod allan mewn geiriau byr, dewisol, ac i’r pwrpas. Yr oedd yn amlwg iawn i mi, ac i bawb, wedi clywed y cynygiad, ei fod yn cynwys prif angen yr Ysgol yn wir, sef; myn’d ar ger’ed; oblegid, yn bendifaddeu, os bu rhywbeth “ar stop” rywbryd, yr oedd yr Ysgol hono felly am y darn olaf o’i hoedl y diwrnod crybwylliedig. Cafwyd eilydd heb golli dim amser, a phasiwyd yn ddiseremoni.

“Frodyr a chwiorydd,” ebe’r Arolygwr drachefn, mor ddeddfol ag un barnwr ar ei fainc, “y cwestiwn nesa’ i’w benderfynu ydi hwn – I b’le mae’r Ysgol yn myn’d ar ger’ed?”

Oni bai am y ffaith mai dan
aden y Permissive Bill (mewn ffordd) yr oeddem yn bresenol, buasem yn awgrymu y priodoldeb iddi gymeryd walk o ddeng milldir, a dweyd y lleiaf, cyn oedfa’r nos. Ond achubwyd ein blaen gyda llôg gan athraw ar ddosbarth o ferched, yr hwn a siaradai ac a weithredai, fel (x289) rheol, o dan gyfarwyddyd ei ddysgyblion:

“Yr ydym fel Ysgol yn nyled amryw Ysgolion bellach, ac y mae’n llawn bryd i ni dalu’n gofynion.
Byddai yn briodol iawn i ni, ar ol cychwyn, eu cymeryd o un i un o’r bron. A chan nad oes rhyw lawer o wahaniaeth yn mh’le y dechreuwn, yr w i yn cynyg i’r Ysgol fyn’d i Thyatira yn gyntaf oll.”

Wel, wel, meddem, dyna “fyn’d ar:gerdded” with a vengeance! I Thyatira! hawyr bach! Paham nad aent i Terra del-Fuega ar unwaith? Neu hwyrach mai yn nyled Ysgolion Sabbothol saith eglwys Asia y maent, ac mai yn Laodicea y dybenant. A phwy son am “fyn’d ar gerdded” i Thyatira mae’r dyn? buasai yn nes i’w le pe dywedasai am i’r Ysgol fyn’d ar redeg, er mai braidd yn wan a fuasai hyny hefyd. Mae’n fwy na thebyg fod ein gwyneb wedi cymeryd ffurf rhyfeddnod amlwg i’r rhai a eisteddent yn nesaf atom, oblegyd trodd un brawd atom a sisialodd wrthym dan ei anadl –

“Un o Ysgolion Sul gweinidogaeth Mr. Apolos, Bethabara, yw Thyatira.”

 “O!” meddem; a thywynodd goleuni arnom.

Heb fyned i fanylu, penderfynwyd yn mhellach fod yr Ysgol i “fyned ar ger’ed” i Thyatira y Sabbath canlynol, gan fod y benod yn barod, a rhag i “barotoians” y canu fyned yn ofer.

Yn y fan yma cymerwn ein hanadl. Mae’r Ysgol Sabbothol wedi cael daear gyfoethog yn Nyffryn Tywi, ac o fod yn hedyn bychan, y mae erbyn heddyw wedi tyfu yn bren mawr. Yn wir, yn nesaf at Siroedd y Gogledd, Caerfyrddin a Cheredigion “pia hi” o ddigon am eu Hysgolion Sabbothol. Mae’n rhaid i ni roi’r llawryf yn hyn i Fon, Arfon, a Meiron, oblegid ynddynt hwy, yn ddiameu, y ceir y sefydliad rhagorol hwn yn ei ogoniant penaf. Mae dylanwad yr hen Domos Dafis, “apostol yr Ysgol Sul,” yn aros yn y Gogledd hyd y dydd heddyw; a chyhyd ag yr erys Ysgol yn allu cryf er. daioni yn y wlad, cyhyd a hyny y cofir am enw yr hen wron uchod, ac y parheir i gysylltu ei ymdrechion clodfawr a’i hanes, ac a’i llwyddiant. Gwir iddo fod yn ymweled ag amryw o Siroedd y De ar ran yr achos oedd mor agos at ei galon, ac iddo wneyd daioni mawr trwy ddwyn i mewn gynlluniau a pheirianau i hyrwyddo gwaith yr Ysgol - y rhai y deuwn ar eu traws yn awr ac eilwaith, er boddhad a difyrwch nid bychan i ni; eto, mae’n amlwg na chymerodd y Deheuwyr at ei gyfundrefn a’i welliantau mor garedig a “phobl y North,” a thrwy hyny eu bod ar eu colled, a’r lleill ar eu henill erbyn heddyw. Fodd bynag, y mae Siroedd Myrddin a Theifi yn dilyn yn dyn wrth sodlau’r siroedd uchaf, ac nid yw Penfro, y rhan drwyadl Gymreig o honi, yn mhell ar ol. Fel yr awgrymwyd, gellir senglu Dyffryn Tywi drachefn o ganol Sir Gaerfyrddin fel stronghold yr Ysgol Sabbothol. Er fod achos i ofni nad yw yn cael cystal chware teg ar law’r plant ag a gaffai ar law’r tadau, mae’r Ysgolion yn gryfion yn mhob ystyr. Yr ydym yn siarad am danynt yn awr yn y cyfanswm o honynt, gan eu bod i’w cael, fel y pysgod yn rhwyd y ddameg, yn wael, yn dda, ac yn well - yn gryfion mewn rhif, yn gryfion mewn cynyrchiolaeth, yn gryfion mewn gwybodaeth, ac yn gryfion mewn gallu i gyfranu ac i dderbyn addysg Feiblaidd. Cynelir cyfarfodydd neillduol bob hyn-a-hyn i gadw’r gwaith a’r dyddordeb i fyny. Ceir y Cyfarfodydd Chwarterol, a’r Cymanfaoedd Biynyddol, a’r Ymweliadau achlysurol yn dilyn eu gilydd yn ddidor; fel, rhwng y “parotoians” i gyd (ys dywedai yr Arolygwr), nid yw yr Ysgol yn cael fawr amser i fod yn segur a diffrwyth o’r naill ben i’r flwyddyn i’r pen arall iddi. Cyfnodau pwysig yn ei hanes yw cyfnodau’r Cymanfaoedd, pan y bydd pedair, pump, chwech, a saith o Ysgolion yn cyfarfod a’u gilydd, i ganu, adrodd, ac esbonio Gair Duw. Ac nid yw yr Ymweliadau Achlysurol yn ol mewn dim pwysigrwydd iddynt, yn enwedig yn eu perthynas a’r Ysgol sydd yn ymweled, a’r Ysgol yr ymwelir â hi.

A phan y mae un Ysgol yn talu ymweliad (x290) ag Ysgol arall yn y gymydogaeth, dywedir ei bod yn myned “ar gerdded.” Nid am fod y dywediad yn llythyrenol gywir, gan y ceir amryw yn myned mewn cerbydau, ereill ar geffylau, ereill ar draed. Dibyna hyny i fesur ar hyd y daith; os mai bèr fydd, gwna’r traed y tro, ond os rhifa ei phedair a’i phum milldir, darostyngir y ceir a’r ceffylau i’r gwasanaeth. Pan y sonir am “ddyled” y naill Ysgol i’r llall, golygir mai i’w rhan hi y mae gwneyd yr ymweliad nesaf yn syrthio, yn ol deddf neu ddefod “ar yn ail”; ac ystyrir y dyledion hyn yn Nyffryn Tywi yn bethau ag y mae anrhydedd yn gysylltiedig a’u talu yn llawn cymaint ag unrhyw ddyledion masnachol. Gelwir y gwaith a wneir gan yr Ysgol ar ddiwrnod fel hyn, neu gan yr Ysgolion yn y Gymanfa, yn “lafur.” Ystyriwn ei fod yn ddesgrif-air priodol iawn mewn gwlad amaethyddol, i osod allan y cynhauaf llafur a’r medi sydd yn dilyn yr aredig, a’r hau, a’r llyfhu a fu yr wythnosau a’r misoedd a basiodd. Gwneir y “ llafur “ i fyny yn gyffredin o donau, a phwnc y plant yn gyntaf, a thonau a phenod yr Ysgol Fawr wedi hyny. Pan yr â y naill Ysgol i Ysgol arall, disgwylir i weinidog, neu supply yr olaf, gymeryd at yr “holi,” ac, yn gyffredin, rhoddir hysbysrwydd iddo yn ymlaen llaw. Mae fod y gweinidog yn medru “holi Ysgol “ yn gryn bwnc yn Nyfiryn Tywi a’r amgylchoedd, ac yn ychwanegu amryw gufyddau at ei faintioli yn nghyfrif pobl y wlad. Mae yn digwydd yn aml fod pregethwr da yn gwneyd holwr sal truenus, ac weithiau fod pregethwr “tila” yn meddu ar y ddawn o holi, sydd yn ei wneyd yn boblogaidd i’w ryfeddu. Ac o’r ddau, credwn y dewisid yr olaf o flaen y cyntaf gyda mwyafrif parchus. Yr oedd y diweddar Dafis o Bantteg yn un o’r rhai enwocaf fel “holwr Ysgol” - nid am ei fod yn bregethwr gwael, oblegid yr oedd ef yn un o’r ychydig a gyfunai ynddo ei
hunan brif anhebgorion dyn crefyddol cyhoeddus. Mae adgofion am dano fel ysbrydion yn aros yn y wlad o hyd. Pan yr holai ei Ysgol ei hun ar brydnawn Sabbath, elai drwy gwrs o wersi byrion mewn darlleniadaeth i gychwyn; ac os na ddarllenid adnod wrth ei fodd, caffai pob un gynyg arni, a darllenai yntau hi ar ol y cwbl. Holai yn fywiog, awgrymiadol, ac adeiladol; ac un o’i gas bethau oedd gweled esboniad yn y llaw, neu glywed esboniad yn cael ei grybwyll, neu sawru esboniad ar yr atebiad, pan fyddai wrth y gwaith. Aeth yn ddadl boeth rhwng dau o dduwinyddion Pantteg pan oedd Dafis yn holi, a chymerodd yntau blaid un yn erbyn y llall. Collodd hwnw ei dymer pan welodd ei fod yn colli’r dydd - oblegid yr oedd barn Dafis i fod “yn derfyn ar bob ymryson” - ac meddai,

“Wel, fel yr w i’n deud y dywed Adam Clarke, bid fyno.”

“Ie, ie,” ebe’r hen wr, “ dyn call oedd Adam Clarke, yn ddiame, ond - nid ’na g’nâth e’n gall!”

A fuost, ddarllenydd, yn nghwmpeini yr Ysgol “ar ger’ed” rywbryd? Naddo. Beth pe baem yn myned gyda’r Ysgol y buom yn un o’i hymgyngoriadau ar ddechreu yr ysgrif? Caem felly engraff o’r cwbl, oblegid wrth weled a chlywed un, yr ydym yn gweled ac yn clywed yr oll. Oddeutu haner awr wedi deuddeg prydnawn y Sabboth y cytunwyd
arno, yr oedd yr Ysgol yn Mahanaim yn barod i gychwyn am Thyatira. Yr oedd adgof am Ysgol Thyatira yn Mahanaim, ei bod yn gryf a lluosog, fod iddi durn-out ardderchog, a’i bod wedi myned drwy ei gwaith yn rhagorol. Enynai hyny ei zel a’i huchelgais hithau am ragori yn y pethau uchod, os yn bosibl yn y byd; o leiaf, am beidio a bod yn ol mewn dim. Gan fod tua thair milldir a haner o ffordd i Thyatira, yr oedd yn rhaid cael ceir, er mwyn y plant lleiaf, meddid; ond yr oedd y plant mwyaf yn y fargen hefyd. Crynhowyd cynifer o geir ag oedd yn ddichonadwy o fewn cylch rhesymol; a rhwng y gwŷr meirch a’r gwŷr traed, yr ydym yn ffurfio gorymdaith deilwng. Mae yn brydnawn hafaidd, ac ar y ffordd wrth fyned yn mlaen, tarewir dwy neu dair o’r tonau a fwriedir eu canu yn Thyatira. (x29l) Calonogir ni gan longyfarchiadau’r gwragedd a’r plant, a safant ger drysau’r “tai to gwellt,” wrth basio; ac ymunir yn y gan gan y fronfraith a’i chymydogion, y rhai a’n hebryngant “mewn sain cân a moliant.” Paâr yr awel deneufwyn i “goed y maes guro dwylaw,” ac “o enau plant bychain” y dyrcha molawdau ar edyn y dydd. Mewn amser cyfaddas cyrhaeddir y fangre ddysgwyliedig, a chawn fod yno dyrfa fawr yn ein haros, ac yn barod i “gadw gwyl” gyda ni. Awn i mewn ar ein hunion i’r addoldy. Trefnir yr Ysgol i fod ar y galeri, a’r gwrandawyr odditanom. Hawlia’r parotoadau rhagarweiniol fwy o swn nag sydd yn weddus, a rhagor o amser nag sydd yn angenrheidiol. O’r diwedd, y mae pawb yn eu lleoedd, ac yn barod i waith. Dacw Mr. Apolos, gweinidog y lle, yn y pwlpud. Dyn bach fine yw efe, ac nid yw yn ei natur i wneyd cam âg unrhyw Ysgol yn ei “mater.” Mae’r addoldy yn orlawn, oblegid y mae yn arferiad i ymgynull o bell ac agos i gwrdd â’r Ysgol fo “ar ger’ed.” Dechreuir trwy ganu ton gyffredinol. Yna, rhoddir rhaglen yn llaw y gweinidog gan un o swyddogion Mahanaim, a geilw yntau ar ddeiliad o’r Ysgol i adrodd penod. Merch fechan ydyw, ac nid oes ganddi ond ei llais i brofi ei bod yn bresenol. Mae ganddi swm digonol o hwnw, ac edrydd y bymthegfed benod a deugain yn Esaiah yn deilwng o Herry Irving. Offryma’r gweinidog weddi, a chenir amrai donau gan y plant, o dan arweiniad gwr ieuanc sydd yn llawn o’r peth eilw ein hen ffrind Ifan Ffowc yn “gonjees.” Wedi hyny, holir y plant oddiar Ddameg y Mab Afradlon gan Mr. Apolos. Un holwr plant adwaenem erioed, a hwnw oedd yr hen Robert Dafydd, Llanelltyd: yr oedd yn ddiguro. Ond perthyn i ddosbarth yr “Ie” a’r “Nage,” y “Do” a’r “Naddo,” a’r “ Gwedwch gyda’ch gilydd, ’mhlant i,” oedd gweinidog Bethabara, heb ddim o bupur a halen Robert Dafydd o’r dechreu i’r diwedd. Yr unig “tut” a wnaeth oedd dweyd fod edifeirwch y Mab Afradlon yn perthyn yn nes i’w ’stumog na’i galon!

Yn dilyn y plant daw’r bobl mewn oed. Cenir dwy neu dair o anthemau gan y côr, ac y mae beirniaid cerddorol Thyatira a’u penau ar gam, a’u llygaid yn nghau bob un. Bob yn dipyn daw’r benod - y seithfed yn Efengyl Matthew. Chwenycha Mr. Apolos chware ar y lan gyda’r cregin, ond tynir ef i’r dyfnder dros ei ben a’i glustiau cyn pen fawr amser gan dduwinyddion Ysgol Mahanaim. Ceidw ei hunanfeddiant yn rhagorol, fodd bynag; a rhwng pobpeth, caed haner awr o holi ac ateb mor fywiog a dim allesid ddysgwyl. Rywsut neu gilydd, daethpwyd ar draws “ffydd” yn yr ymgodymu, a gofynai yr holwr:

“Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ‘ffydd’ a ‘chredu?’”

Yr oedd yno ddyn bach main o gorff, ffraeth ei dafod, a chawliog ei feddwl, yn perthyn i’r Ysgol, yr hwn a amcanai at fod yn gyntaf bob amser i ateb unrhyw gwestiwn y tybiai ef y gallai ei gyrhaedd. Ac mor gynted ag y diferodd y cwestiwn uchod yn hamddenol dros wefusau Mr. Apolos, dyma Twmi’r Hafod ar ei draed fel ergyd o wn:

“Yr un faint o wahaniaeth ag sydd rhwng caib a cheibo!” a chwarddodd pawb yn galonog.

Cymhellwn esboniad Twmi i sylw Geiriadurwyr a Geiriaduron y dyfodol.

Daeth yr holi a’r ateb, a’r canu, a’r cwbl i ben erbyn pedwar o’r gloch. Diolchwyd i Ysgol Mahanaim am y discharge, ac addawodd Mr. Apolos, dros Ysgol Thyatira, osod dyled arall arni’n fuan. Wedi “bwyta bwyd,” a rhwymo’r ceffylau wrth y ceir, yn ol a ni i gyfeiriad cartre’, yn llawen ein hysbryd ac yn foddus ein tymer. Ac os wyt ti a ninau, ddarllenydd, o’r un farn, dychwelwn i’n cartrefle mewn perffaith gydymdeimlad a’r syniad iach a’r arferiad ragorol sydd yn myned dan yr enw “Yr Ysgol ar ger’ed.”


___________________________________________________________________

(x331)
PENOD IX. - GWEITHIO’R CYN’HAUA’. (tudalennau 331-335)
___________________________________________________________________

Prin y mae eisieu i ni ddywedyd mewn trefn i ychwanegu at wybodaeth gyffredinol y darllenydd fod dau brif gynhauaf yn bod yn y wlad - y cynhauaf gwair a’r cynhauaf llafur; nac ychwaith i ddywedyd fod y naill yn dilyn y llall yn y drefn y gosodir hwy i lawr yma - y gwair yn gyntaf, a’r llafur wed’yn. Dyna y rheol. Ond y mae wedi dygwydd ragor nag unwaith iddynt groesi terfynau eu gilydd a threspasu ar diriogiaethau eu gilydd, fel na wyddid yn iawn pa bryd y dybenai un ac y dechreuai’r llall. Wrth gwrs, y tywydd sydd yn penderfynu pethau fel hyn; ac fel athraw mewn Coleg, y mae weithiau yn ceisio pwnio rhywbeth tebyg i Hebraeg i benau ei ddysgyblion, a gwneyd iddynt ddarllen ei dext-book o chwith. Bu felly y llynedd. Daeth y cynhauaf gwair i ganol y llall mor ddigywilydd a phe na buasai dim allan o’r cyffredin yn cymeryd lle; a blinodd y llafur ar y gwair, ac aeth i mewn i’w etifeddiaeth yntau. Eleni eto, cyfeiria’r argoelion at yr eithriadol yn hytrach na’r rheol gyffredin; ac os na rêd y naill i mewn i bremises y llall, fel y llynedd, y tebygolrwydd yw y bydd Jacob y llafur yn ymaflyd yn sawdl ei frawd Esau y gwair, ac ar ei war cyn iddo gael amser i gymeryd ei anadl. Nid oes neb braidd yn byw yn fwy uniongyrchol at drugaredd Rhagluniaeth na’r ffermwr, na neb yn cael cyn lleied o gredit am hyny ag efe. Mae rhywbeth gan y masnachwr a’r crefftwr i’w wneyd byth a hefyd yn holl gylch eu gwasanaeth er enill eu bara a’u henllyn; ond am y ffermwr, wedi iddo gyweirio ei wely i’r hedyn yn y ddaear, a gosod yr hedyn yn ei wely, a throi’r dillad priddlyd arno a throsto drachefn, nid oes ganddo ddim i’w wneyd iddo mwy ond ei adael yno yn ei wely pridd mewn “gwir ddyogel obaith” y bydd i rew ac eira’r gauaf. a chafodydd haul a gwlaw’r gwanwyn roddi iddo adgyfodiad perffaith yn nghyfeiriad Alban Hefin. Na thybier am foment ein bod yn maentumio mai dyna i gyd yw gwaith y ffermwr; ac na thyned neb y casgliad oddiwrth yr hyn a ddywedwyd mai “plethu dwylaw” yw ei ran o’r hau i’r medi. Clywir y gair yn cael ei ddywedyd yn fynych y ffordd hon, “nad oes diwedd ar waith y ffermwr,” a “gwir yw y gair”; ond eto, y mae mor wir a hyny fod ei brif ddibyniaeth yn gorwedd yn farw yn y ddaear, ac nad oes ganddo ef ddim i gyfryngu rhyngddo a’r bywyd hwnw ac a’i fywyd ei hun ond Rhagluniaeth noeth, heb “drimmins” o fath yn y byd o’i chwmpas. Beth dâl son am ei dda a’i ddefaid, ei foch a’i geffylau? Mae un haf drwg, ac un cynhauaf gwan, yn peri i’w prisiau gwympo yn union yn y ffair a’r farchnad. A beth feddylir am bump neu chwech o flwyddi cyffelyb o’r bron, fel y bu y blynyddoedd a basiodd, pan y caech gystal buwch ag a ddymunech byth am bump a chwe’ punoedd, a dim yn codi ond pris y gwair, na dim yn cadw’i lefel ond y rhent? Y gwirionedd am dani yw, nid yw cymdeithas, fel y cynrychiolir hi gan drefwyr a dinaswyr, wedi deall y ffermwr eto, nac wedi cael allan y fath ddolen bwysig yn nghadwen llwyddiant a dyogelwch y wladwriaeth ydyw amaethyddiaeth. Mae lle i ofni, os bydd y pum’ mlynedd nesaf yn hanes y dosbarth dyoddefgar a chamliwiedig hwn yn debyg i’r pum’ mlynedd a basiodd, y gwesgir ni oll rhwng (x332) bys a bawd amgylchiadau i orfod cydnabod fod y gwr sydd rhwng dau gorn yr aradr yn debycach i’r Atlas hwnw sydd (mewn hen chwedloniaeth) yn dal y byd ar ei ysgwyddau na neb arall y gwyddom am dano. Gwelsom Almanac y dydd o’r blaen, ac
arno bump o ddarluniau. Brenines Prydain Fawr oedd yn y canol, ac odditani yr oedd yn ysgrifenedig, “I govern all.” Milwr oedd y llall yn ei lifrai, ac meddai, “I fight for all.” Offeiriad oedd y trydydd, yn ei lifrai yntau, yr hwn a ddywedai, “I pray for all.” Nid ydym yn cofio’r fynyd yma beth oedd y pedwerydd darlun, ond “hen ffarmwr” o gymydogaeth y Mynydd Du - gallem feddwl wrth ei ymddangosiad - oedd y pumed, yr hwn a ddywedai, gan daro ei law ar ei frest, “I PAY FOR .ALL!” Bydd ffermwyr y mil blynyddoedd yn sicr o anfarwoli coffadwriaeth yr “athrylith mewn cnawd” a dynodd y darlun uchod, a llawer gyda hwy yn gorfod plygu i’r gwirionedd a ddysga.

Yr ydym yn bryderus er ys meityn rhag i’r darllenydd feddwl ein bod yn dal brief dros y ffermwr, i ddadleu ei hawliau a chyfiawnhau ei gwynion yn yr ysgrif hon, a thrw [sic] hyny anwybyddu’r testyn. Ymgysured, fodd bynag, yn y ffaith y bydd i ni ddychwetyd o’n crwydriadau heb funud yn rhagor o ymdroi, ac y “disgynwn” (chwedl Wil Brydydd y Coed) ar ein testyn bellach yn ddiaros. Soniasom eisoes mewn ysgrifau blaenorol am rai o’r cyfnewidiadau sydd yn y byd amaethyddol, megis yn y dull o aredig, neu “foelyd,” ac yn y gwahanol offer i ddwyn yn mlaen y gwaith. Mae cryn gyfnewidiad hefyd yn y dull o gynhauafu gwair a llafur, o’i “ladd” a’i “dori” hyd at y cywain i’r ysguboriau. Wrth basio, paham y dywedir “lladd gwair” a “thori llafur?” Hyd yn ddiweddar, ac, mewn rhai manau, eto, pladuriau a chrymanau oeddynt yn arfau i ladd a thori; erbyn hyn, gwneir y gwaith wrth beiriant. Ceir y peirianau wedi diorseddu yr hen ddull braidd yn mhobpeth. I ladd ac i dori, i rwymo a chodi, i nithio a dyrnu, gwnant eu gwaith mor ddi-rwysg a chyflym, nes gwneyd i chwi deimlo ar y pryd mai afreidiau bellach yw’r ddwylaw, gyda’u bysedd a’u bodiau, ac y gellid gwneyd y tro amser cynhauaf yn llawn cystal hebddynt. Mae adgof anhyfryd genym am y “ffust ddyrnu,” ac nid ä y creadur anhymig o’n cof cyhyd ag y bydd y pen hwn yn sefyll rhwng yr ysgwyddau. Arferem, yn nyddiau ein hieuenctyd, fyned i ffermdy cyfagos i’r dref lle yr oeddem yn byw bob hyn-a-hyn, i ymofyn llaeth ac ymenyn; ac yn ol y cywreinrwydd naturiol sydd mewn dyn, hyd yn nod yn ystadau cyntaf ei ddadblygiad, cymerwn fwy na’m rhan o amser i fyn’d a d’od i wylio gweithrediadau’r dynion ar y tir ac yn y tai. Un o’r pethau a’n gogleisiai yn benaf ydoedd y dyrnu â ffust, yn ol yr hen ddull. Safem oriau bwygilydd, yn gwbl anghofus o’n neges, a’r ysgol, a’r cwbl, wrth ddrws yr ysgubor, yn sylwi ar blethiadau’r ffust uwchben pan godid hwy i fyny, ac yn mwyhau eu miwsig wrth amser ac acen pan ddeuent i wrthdarawiad drachefn a’r llawr-dyrnu. Cododd chwant arnom yn sydyn i dreio’n llaw. Nid oedd yno y pryd hwnw ond llanc o was heb fod hynach na ninau, a phan fynegasom iddo uchelgais ein henaid, cymhellodd ni i mewn. Yr oedd y ffusten arall yn gorwedd yn segur gerllaw. Ymaflasom ynddi, a chan gwbl gredu ein bod yn feistr ar y gwaith, codasom hi, a cheisiasom roi tro iddi o gwmpas ein pen. Buasai yn well i ni beidio. Yn lle myned o gwmpas y pen, aeth yn syth yn erbyn y pen - gwelsom fwy o sêr, er ei bod yn ganol ddydd goleu, nag y mae yn debyg i ni weled cynt na chwedyn - ac aethom adref y prydnawn hwnw yn “sobrach a doethach dyn,” ac yn gyfoethocach o un “wy iar” o dan ein gwallt yn rhywle. Yn nglyn â medi gwenith yn Nyffryn Tywi er’s llawer dydd, yr oedd yr hyn a elwid “dwrn-fedi” a “sad-dremo.” Mae’r cyntaf yn esbonio ei
hunan. Ymafaelid mewn cynifer o’r tywysenau ag a amgylchid gan y llaw aswy, nes y byddai pen y fawd a phen y bys mwyaf (x333) yn cydgyfarfod, yna torid y tusw â’r cryman a fyddai yn y llaw arall. Tybiem y byddai medi cae o faintioli mwy na chyffredin yn y dull hwnw yn golygu arafwch a chaledi mawr; ond pan y cofiom fod cymaint deirgwaith o weithwyr i’w cael ddeugain mlynedd yn ol a than hyny ag sydd i’w cael yn awr, rhaid cydnabod yr eid drwy’r gwaith yn òd o rwydd a buan; heb son fod y “dwrn-fedi” yn waith cryno, llwyr, a glân y tuhwnt i ddim a welir yn y dyddiau hyn. Mae’r gair arall – “sad-dremo” - yn anhawddach i dd’od o hyd i’w wreiddyn. Ond wedi chwalu rhyw gymaint o gwmpas ei fôn, tybiwn fod a fyno’r sawdl ag ef, ac mai fel hyn y’i hesbonir: Pan yn medi yn ol y dull crybwylledig, yr oedd y troed aswy yn mlaen, a’r troed de yn ol. Yn awr, wrth roi yswingiad i’r gryman am y dyrnaid tywys, yr oedd yn rhaid bod yn ofalus na byddai iddi gymeryd y sawdl aswy yn y fargen; ac yr oedd dwyn y gryman nes y byddai ei threm at y sawdl yn rhwydd a naturiol bob tro yn cael ei ystyried yn dipyn o gampwaith. Felly, yr oedd “sad-dremio,” neu sawdl-dremio, yn rhan hanfodol o’r “ dwrn-fedi.” Ni chaniata gofod i ni fyned ar ol yr “hedfed,” un arall o neillduolion y cae medi, er cymaint ein hawydd am hyny.

Mae cyfnewidiadau y blynyddoedd diweddaf, er eu bod, yn ddiau, yn welliantau wrth edrych arnynt â llygad oer rheswm, wedi dihatru bywyd a gwaith yn y wlad o lawer iawn o’r rhamantusrwydd a berthynai iddynt gynt. Nid yw Dyffryn Tywi wedi dianc yr anocheladwy hwn. Nid oes dadl nad oes gan yr agerbeiriant a’i gludfenni gyfrifoldeb aruthrol yn y peth hwn; ac y mae’r dull trefol o fwyta a gwisgo, a’r dull peirianol o weithio, wedi ysbeilio yr ardaloedd amaethyddol o luaws o’u hynodion, a’u darostwng i lefel unffurfiol “pobman.” Pe baech yn meddwl am fwydydd a diodydd amser cynhauaf, er engraft, fe’ch tarewir gan y gwahaniaeth yn union. Yn yr hen amser - dwysged o flynyddoedd wedi i Bess orphen teyrnasu - nid oedd son am de yn y tir, na choffi, na chwrw, o fewn terfynau’r maes lle yr oeddid yn gweithio y tymor hwn ar y flwyddyn. Ond beth feddyliai menywod llafurdai a phentrefi Dyffryn Tywi a’r cyffiniau heddyw, pe dedfrydid hwy i wneyd diwrnod o waith ar y cae gwair neu’r cae llafur heb de? A pha ryw fath leferydd y dybiech chwi, a ollyngid dros wefusau’r gwrywod, pe gorfodid hwy i ysgwaru, neu “bitchio” ar ben y tŷ gwair, neu rwymo, a’r cyffelyb, heb wlychu eu pig yn awr ac eilwaith yn nghynwysiad y jar cwrw? Byddai y drychfeddwl noeth yn ddigon i’w gyru i ffitiau yn y fan. Rhaid i’r ffermwr fod yn gryn arwr i fentro ar ddiod fain a llaeth enwyn yn lle’r gwlybyrpedd a enwyd; ac er fod ambell un yn anturio - gwneir cuchiau wrth son am ei enw: priodolir ei waith yn alltudio yr ysbrydion drwg o’i gae, ac yn bwrw allan gythreuliaid o’i gynhauaf, i’r ysbryd drwg ei hunan, fel y gwneid a’r Iesu: gerfydd eu clustiau y ca efe weithwyr i’w gynorthwyo - ac nid yw chwarter mor boblogaidd gyda’r gweision a’r llafurwyr yn y gymydogaeth a’i gymydog sydd yn byw yn y fferm agosaf ato, yr hwn y mae ei dir ar adeg cynhauaf yn llifeirio o’r stwff y gelwir cwrw arno. Sut yr oedd er’s llawer dydd? Cyfrifid sucan blawd ceirch ac enwyn wythnos oed - enwyn a ddechreuai fagu barf - y bwyd goreu i unrhyw ddyn i ladd diwrnod o wair; ac un o’r pethau a gredid yn ddiameu gan gewri’r dyddiau hyny oedd nad oedd ei fath i roddi nerth yn y gewynau, ac i osod atalnod ar ol blinder pob dydd yn ei ddydd. Gyda’r eithriad o’r te a’r cwrw, ceir purion ymborth yn amaethdai Dyffryn Tywi eto - cig moch a chig eidion fel y myner a faint a fyner; cawl dibendraw, a phob math o lysiau ynddo, yn gloron ac yn foron, yn fresych ac yn faip, yn banas ac yn genin - Ah! ie, dewch a’r cenin yn dew, a goreu oll po leiaf fydd eu berw, nes y byddant yn clecian dan eich danedd. Mae’r ochr nesaf i’r croen o’r mochgig - y donen - yn sicr o fod yn llawn mor gymeradwy wrth y ford ag (x334) un rhan arall o hono; ac oni bae am yr awydd anniwalladwy sydd ar y merched i’r tê, a’r dynion i’r cwrw, ni buasai’r plant fawr nes yn ol na’r tadau.

Ambell i flwyddyn, dygwydda fod pawb yn brysur yr un pryd, a dyna lle bydd rhedeg am ddynion, am fod dynion yn llawer prinach yn y wlad yn awr na chynt. Ond odid na fydd haner dwsin neu ragor yn mhen un, ac os na fydd gan rhyw le fwy o hawl ar ei wasanaeth na’r lleill, efallai mai’r bwyd a dry’r fantol. Y mae yn hen gyfarwydd â chynwys byrddau’r ffermdai ar adeg cynhauaf am filldiroedd o gwmpas, a gŵyr beth i’w ddysgwyl yn mhob un o honynt; a chan fod ganddo yntau ei ddewisiad, fel rhyw anifail arall, y tebygolrwydd yw yr ä efe i’r fan y gwasanaethir ffyddlonaf i’w dduw - oblegid un o’r Cretiaid ydyw, a duw’r Cretiaid a fyn ei addoli. Clywsom am un hen law oedd wedi byw ar yr hwyaf yn y byd, pan yr apelid am ei wasanaeth am y diwrnod, a ai at ei bladur mor ddefosiynol ag yr ai at ei bader, ac a gymerai
arno ymgynghori a hono drwy rwbio’r “gareg hogi“ drosti. Os dywedai’r bladur –

“Cig eidion a chabbage - cig eidion a chabbage,”

rhoddai ei air i wr Cae’resgob y deuai yno yn ddiffael; ond os mai

“Bacon and beans - bacon and beans”

fyddai’r dehongliad a roddid ar leferydd y bladur, i’r Breindir yr elai, a ’doedd dim troi i fod
arno. Chwi ryfeddech y trachwant sydd ar ambell i ddyn a gyfrifir yn barchus am “lon’d pen” o ddiod ar y cae. ’Does dim disychedu arno, ac yn y gongi lle mae’r jar y cewch ef bob pum’ mynyd, a’i drwyn yn byw yn y cwpan. Nid oes neb yn cofio iddo dalu am wydriad erioed iddo ei hunan, heb son am arall; ond os bydd rhyw ffermwr yn fwy haelionus ar ei gwrw na’r cyffredin, neu os bydd ocsiwn wlypach na’i gilydd heb fod yn mhell, yno y cewch y dyn trachwantus cyn wired a’ch geni. Adwaenom ef yn dda. Mae yn hen grefyddwr, ond mor drachwantus am ei “dablen” a’r sotyn mwyaf trwythedig ynddi; a dyna’r gwybedyn marw sydd yn andwyo ei enaint ef, druan. Penderfynwyd gwneyd cais i’w wella ryw ddiwrnod cynhauaf, trwy beri iddo syrffedu ar y drwyth oedd mor ddinystriol i’w gorff a’i gymeriad. Smyglwyd haner potelaid o frandi i haner galwyn o gwrw, a gosodwyd y llestr mewn safle fanteisiol i Abram gael gafael ami. Pan oedd pawb ar eu goreu yn gweithio, dyma Abram yn sythu ei gefn, yn sychu’r chwys, ac yn llithro mor ladradaidd a dim welsoch erioed gydag ochr y berth i gyfeiriad y galwyni. Y llestr a reibiwyd oedd y gyntaf i’w lygad ddisgyn arni, a dyna’r trwyn i mewn ar ei union. Y troion o’r blaen, yr oedd yn rhaid galw ar Abram i adael y jar a dychwelyd at ei waith; ond ’doedd dim galw i waith i fod ’nawr. Gwyliai’r bechgyn ef dan eu haeliau, a gwelent fod y llestr yn myned i fyny’n raddol - o lwnc i lwnc, ac o ddracht i ddracht, yn “uwch, uwch, uchach yr êl,” heb aros i gymeryd ei anadl, nes o’r diwedd y saif fel corn simnai ar ei wyneb, a’r dyferyn olaf o’i chynwysiad wedi myned i lawr ar hyd ffordd yr holl ddyferynau blaenorol. Hwnw oedd y gwelltyn olaf ar gefn y camel sychedig (maddeued y darllenydd i ni am newid y ffugr mor sydyn), a syrthiodd Abram a’r llestr i’r ddaear bron yr un pryd. Bu agos iddo a myned yn aberth i’w drachwant, cadwodd ei wely am fis, a chadwodd ei hunan o fewn terfynau gweddusder am flwyddyn. Ond megys y dychwel y ci at ei chwydfa, a’r hwch, wedi ei golchi, i’w hymdreiglfa yn y dom, felly y dychwelodd yntau at ei ffyrdd trachwantus, nes y mae heddyw yn gymaint o “dablen-addolwr” ag a fu yr awr oreu arno.

Cynelid rhïolti nid bychan ar ddiwedd y cynhauaf yn y dyddiau gynt, na cheir son am dano yn yr oes ryddieithol a matter-of-fact hon. Fel y dywedai y diweddar Danymarian o fythwyrdd goffadwriaeth wrth ganu yr hen “Foriah” – “Am y cyntaf i’r pen, mhobol i” - felly yr oedd y pryd hwnw – “am y cyntaf i’r pen.” Yr (x335) oedd son mawr drwy’r wlad i gyd am y sawl ddybenai ei gynhauaf gyntaf, a chedwid ei enw yn fyw am flwyddyn, o leiaf. Tybiwch fod deg neu bymtheg o ddynion ar y llethr yr ochr hyn, a’r cwbl yn gwaeddi’n unsain -

...................Yn fore mi godes i,
...................Yn hwyr mi dilynes hi,
...................O’r diwedd mi ces hi.

Atebid hwy gan gynifer a hyny drachefn ar y llethr yr ochr arall, y rhai a berthynent i fferm arall –

“Beth a ge’st ti?”

A dyna floedd fel taran – “Pen medi!”

Bloedd goruchafiaeth ydoedd, wedi d’od gyntaf i’r pen. Hen arferiad ysmala eilwaith oedd cario’r “gaseg fedi” - neu ysgub olaf y cynhauaf - i faes ac at dŷ’r ffermwr-gymydog agosaf, a’i gadael yno. Os llwyddech i wneyd hyny cyn i’r ffermwr neu un o’i gwmni gael gafael arnoch, yr oedd yn arwydd buddugoliaeth o’ch tu chwi oedd yn dyfod yn rhy agos adref i foddloni’ch cymydog. Ond yr oedd mor debyg a dim o fod ar wyliaduriaeth am danoch, ac os na lwyddech i ddianc i’ch tiriogaeth eich hun ar ol gollwng y “gaseg fedi” o’ch llaw, caech eich dwyn i gydnabyddiaeth â gwaelod y “pound” gerllaw, yn annibynol hollol ar eich cydsyniad eich hunain. .Mae gweddillion o’r hen “gwstwm” yna yn aros hyd y dydd hwn. Gwneir ymdrech i fyned a’r “gaseg” i r tŷ - nid tŷ’r cymydog - heb yn wybod i’r merched fydd yno, a’i chrogi wrth nenbren y gegin. Ond mae’r merched, - dan fantell diniweidrwydd, yn llygaid i gyd, ac wedi darparu’n helaeth ar gyfer unrhyw dŷ-doriad posibl a thebygol felly; a phan y gadewir i’r sawl fydd â’r “gaseg” dan ei gôt ddyfod o fewn agosrwydd dymunol, tywelltir arno swm o ddwfr mor ddirybudd nes ei fod mor wlyb a physgodyn, mor hurt a phe bai’r bendro arno, ac mor fach yn ei olwg ei hun a’r cwmni a phe byddai wedi cael ei ddal gan dad y ferch a garai wrth ffenestr ei hystafell ganol nos. Gwell genym beidio son am yr hyn a fforffetiai i’r merched oblegyd ei drwstaneiddiwch, rhag i ledneisrwydd rhyw hen lanc gael ergyd o’r parlys.

___________________________________________________________________

(x384)
PENOD X. - FFAIR AWST. (tudalennau 384-388)
___________________________________________________________________

Nid cynt yr ysgrifenasom benawd ein hysgrif, nag y cyfododd mintai o ysbrydion hen adgofion am ffeiriau yn fyw o’n blaen, nes duo awyrgylch ein meddwl - yr hon nad yw glir iawn ar y goreu - a pheri i ni osod ein hysgrifbin o’n llaw am enyd, ac aros i rywbeth neu rywun caletach nag ysbryd ddyfod heibio. Oblegyd nid am ffeiriau chwarter canrif yn ol yr ydym yn myned i son, ond am ffeiriau eleni; ac nid un o ffeiriau’r Gogledd chwaith ydyw’r testyn i fod – ysbrydion y rhai sydd newydd fod yn ein poeni, ac sydd eto yn llercian yn y maesdrefi - ond un o ffeiriau mawr poblog a phoblogaidd Caerfyrddin, tref y marchnadoedd a’r ffeiriau, y prynu a’i gwerthu, y jockeys a’r porthmyn, y da, a’r ceffylau, a’r moch. Ac eto, nid anhyfryd yw genym fod fachigyn yn yn nghwmni ysbryd ambell i hen ffairyn y Gogledd a arferai fod yn ddarn pwysig o’n bywyd yn nyddiau mebyd ac ieuenctyd. Eisteddwn i lawr gyferbyn â’n gilydd, yr ysbryd a ninau, ac fel hen gyn-bartneriaid heb weled ein gilydd er ys haner oes, awn dros yr hen hanesion - am y modd y “mitchem” o’r (x385) ysgol ar ddiwrnod ffair; y crwydrem i fyny ac i lawr drwy’r dydd, heibio’r stondinau, yn y gobaith o weled