http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_073_hanes_eglwysi_annibynnol_2183k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru

Thomas Rees a John Thomas

1871?.

 

 

Adolygiadau diweddaraf:
2005-09-02

 

 

 

Hanes anghyflawn sÿdd gennÿm yn y fan hÿn. Prynais i gyfrol am wÿth bynt a hanner yn eisteddfod Tyddewi 8 Awst 2002 ar Stondin Siop yr Hen Bost. Ar feingefn y gyfrol y mae “Yr Eisteddfod 1864-5, sef cyfol 1 o gylchggrawn o dan olugiaeth Creuddynfab”. Mae rhywun wedi nodi mewn ysgrifen bensil yn Saesneg ar du fewn y clawr ‘very oddly bound up’. Ac yn wir mae wedi eu rhwÿmo yn od o annechau am fod yno ddarnau o gylchgronau’r ‘Eisteddfod’, gan gynnwys Hanes anghyflawn Eglwÿsi Annibynol Cymru, sef tudalennau 81-160 a 393-472. Yr ydym wedi ychwanegu yr hyn sydd gennym yn y tudalen hwn. Efallai ar fy ymweliad nesaf i siop lyfrau ail law y caf afael yn weddill yr hanes.

 

 

Ar y gweill gennym

 

(mewn bloc gwyrdd: tudalennau wedi eu gwneud gennym)

81 82 83 84 85 86 87 88 89 90 91 92 93 49 59 69 79 98 99 100 101 102 103 104 105 106 107 108 109 1110 111 112 113 114 115 116 117 118 119 120 > 160

 393 394 395 396 397 398 399 400 > 472

 

 

 

HANES  EGLWYSI ANNIBYNOL  CYMRU.

___________________________________________________

 

(x81)

Morgan Williams. Mae yn debygol ei fod ef yn un o sylfaenwyr yr achos yn y lle. Byddai yn cynnorthwyo eglwys yr Aber yn fynych cyn ac wedi dechrenad gweinidogaeth Mr. W. Williams yno. Hyn yw y cwbl a wyddom o’i hanes.

 

William Williams.  Daw ef ynglyn a hanes eglwys yr Aber, a daw

William George ynglyn a hanes eglwys Brynbiga.

 

John Jayne. Bu ef yn yr eglwys hon, ac eglwysi cymydogaethol, am lawer o flynyddau yn bregethwr cynnorthwyol parchus. Yn fuan ar ol dechreuad y ganrif bresenol, symudodd i fyw i blwyf Llanfaple. Cyn gynted ag yr aeth yno dechreuodd bregethu mewn ty anedd, ond cyfododd yr offeiriad, a rhai eraill o’r plwyfolion, wrthwynebiad iddo, fel y bu raid iddo drwyddedu y ty^ cyn cael llonydd i bregethu ynddo. Yn mhen ychydig wedi hyny adeiladodd gapel ar ei dir ei hun. Bu farw tua y flwyddyn 1815.

 

George Williams oedd wr ieuangc gobeithiol a chymeradwy a ddechreuodd bregethu yma yn amser y gweinidog presonol. Y mae er’s llawer o flynyddau wedi ymfudo i’r America. Ni wyddys yn awr pa un ai byw ai marw ydyw.

 

Daniel B. James. Y mae efe yn fab i Mr. Daniel James, Cwmbwrwch, am yr hwn y soniasom yn hanes Hanover. Cafodd ei addysgu yn yr atbrofa Orllewinol, ac urddwyd ef yn Castle Green, Caerodor, 1868. Y mae yn weinidog ieuangc hyawdl a gobeithiol iawn.

 

 

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

 

MORGAN JOHN LEWIS. Ychydig iawn o hanes personol y gwr da hwn sydd yn hysbys i ni. Cafodd ei eni a’i fagu yn Nghwm Ebbwy Fawr, yn mhlwyf Aberystruth, ond nis gwyddom amser ei enedigaeth, o herwydd fod Mr. Edmund Jones, yn ei hanes am blwyf Aberystruth, wedi bod yn rhyfeddol o esgeulus i roddi amseriad y dygwyddiadau a grybwylla. Nis gallwn, o herwydd yr un rheswm, benderfynu pa bryd y dechreuodd Mr. Lewis ei fywyd crefyddol. Ar ol son am ymweliad Mr. Howell Harries â Chwm Ebbwy, yn 1738, pryd y cryfhawyd y diwygiad crefyddol oedd wedi dechreu yno tua deunaw mlynedd cyn hyny, dywed Mr. Jones i bump o bersonau a ddychwelwyd yn y Cwm, “o gylch yr amser hwnw,” fyned yn bregethwyr, ac un o’r pump oedd Morgan John Lewis. Ond y mae yr ymadrodd “o gylch yr amser hwnw,” mor benagored fel y cynwysa unrhyw flwyddyn o 1720 hyd 1740, a gwyddys yr amcanai yr ysgrifenydd iddo gael ei ddeall felly, canys enwa Phillip Dafydd fel un o’r pump pregethwr a ddychwelwyd yn Nghwm Ebbwy “o gylch yr amser hwuw;” ac y mae yn ddigon hysbys fod Phillip Dafydd, nid yn unig wedi dechreu crefydda cyn 1738, ond ei fod wedi dechreu pregethu yn 1732, os nad yn 1731. Felly nis gallwn benderfynu pa bryd y cymerodd troedigaeth Morgan John Lewis le. Dichon mai yn 1738, neu tua phump neu ddeng mlynedd cyn hyny, o ran dim a ymddengys i’r gwrthwyneb yn hanes Edmund Jones. Pa fodd bynag, mac ei droedigaeth yn, neu cyn 1738 yn fatter o sicrwydd. Yr ydym yn cael ei enw fel pregethwr cyhoeddus yn hanes cymdeithasfa gyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, yr hon a gynaliwyd yn nghapel yr Annibynwyr, neu y Presbyteriaid, fel y gelwid hwy weithiau y pryd hwnw, yn y Watford, gerllaw Cacrphili, Ionawr (x82) 5ed a’r 6ed, 1742. Digon tebygol ei fod wedi dechreu cynghori rai blynyddau cyn hyny. Yn 1743, penodwyd ef yn un o arolygwyr y cymdeithasau trwy Fynwy a rhan o Forganwg, ac yn 1744, cawn ganddo adroddiad o sefyllfa y cymdeithasau yr ymwelasai a hwynt. O’r flwyddyn hono, hyd amser ei urddiad yn New Inn, yr ydym heb un hanes am dano, ond y mae yn sicr ei fod wedi llafurio yn ddiwyd trwy y blynyddan hyny, ac yn benaf, yn ol pob tebygolrwydd, yn y New Inn a’r gymydogaeth. Mae hanes y rhan ddiweddaf o’i oes yn hynod a difrifol iawn, os yw yn wir. Dywedir ei fod wedi pregethu yn y New Inn foreu y Sabboth, ac yn yr hwyr yn nhy^ Mr. Jayne, un o’r aelodau, yr hwn oedd yn byw rhwng Pontypool a Blaenafon. Cysgodd yn y ty^ lle y buasai yn pregethu y noswaith hono, ac yn fore iawn bore dranoeth, daeth meistr tir Mr. Jayne yno, a milwr gydag ef, a gofynodd pa le yr oedd y pregethwr; atebwyd ei fod heb gyfodi o’i wely. Mynodd y gwr a’r milwr fyned i’w ystafell wely, a chawsant ef yn cysgu. Dynoethodd y milwr ei gleddyf, ac ysgydwodd ef uwch ei ben, gan waeddi, “Deffro Heretic.” Deffrodd yntau, ac wrth weled y fath olygfa arswydus, ac annisgwyliadwy, cafodd gymaint o ddychryn nes y dyrysodd ei synwyrau. Bu yn y cyflwr hwnw am tua blwyddyn, ac yna bun farw.

 

Dyna yr hanes, fel yr adroddir hi yn y gymydogaeth. Mae yn peri mesur o betrusder i ni. Teimlwn yn anhawdd ei hannghredu, am ei bod yn cael ei hadrodd gan ddynion parchus a geirwir, y rhai a’u cawsant o enau hen bobl oeddynt yn ddigon hen i gofio yr amser yn yr hwn y cymerodd y peth le, os cymerodd le o gwbl; o’r tu arall, yr ydym yn teimlo anhawsder mawr i’w chredu, oblegid na ddarfu i neb yn yr oes hono gofnodi amgylchiad mor hynod. Yr ydym yn gadael yr hanes i’r darllenydd i’w dderbyn neu ei wrthod fel y tueddir ei feddwl. A ganlyn yw y cwbl a ddywedir am Morgan John Lewis gan Edmund Jones, yn hanes plwyf Aberystruth: “Efe a fu am beth amser yn gynghorwr selog ac egwyddorol yn mysg y Methodistiaid, ond o’r diwedd aeth yn weinidog i nifer o Fethodistiaid, y rhai a ymffurfiasent yn eglwys Annibynol mewn lie tua thair milldir islaw Pontypool, a’r rhai ydynt yn awr yn eglwys lEwyrchus dan ofal y Parchedig Mr. Abraham Williams. Yr oedd efe yn bregethwr grymns; yn un o wybodaeth a meddwl treiddgar mewn pethau dwyfol; o gymmeriad difrycheulyd; ond ystyrid ef i fesur yn rhy erwin yn ei ffordd, ac yn rhy barod i feio. ryw faint o amser cyn ei farwolaeth syrthiodd i bruddglwyf dwfn, ond ychydig cyn ei farw dywedodd ei fod yn cael cysur oddiwrth yr adnodau diweddaf o’r wythfed bennod o’r epistol at y Rhufeiniaid. Y mae yntau hefyd wedi marw er’s amryw flynyddau yn ol.” Bu farw, fel yr ydym ni yn tybied, tua y flwyddyn 1757 neu 1758, a chladdwyd ef, meddir, yn mynwent Aberystruth.

 

ABRAHAM WILLIAMS. Ganwyd ef mewn amaethdy a elwir Pontyfelin, yn mhlwyf Panteg, Mynwy, yn y flwyddyn 1720. Yr oedd ganddo ddawn rhagorol i ganu, ac ymddengys ei fod yn deall cerddoriaeth yn dda. Byddai yn ei ieuengctyd yn myned oddiamgylch o blwyf i blwyf i ddysgu pobl i ganu Salmau. Dywedir mai trwy weinidogaeth Morgan John Lewis yr ennillwyd ef at grefydd. Wedi iddo ddyfod yn grefyddol rhoddodd heibio fyned oddiamgylch i gadw ysgolion can, ac ymroddodd yn fwy at weddio o hyny allan. Dechreuodd bregethu yn fore, oblegid y mae ei enw yn nghofhodion Trefecca fel “cynghorwr” yn y flwyddyn 1744, ac yn ol yr hyn a gofnodir ar ei gareg fedd, yr oedd yn bregethwr cyhoeddus, o (x83) leiaf flwyddyn cyn hyny. Bu yn pregethu yn y New Inn a Brynbiga am ddeugain mlynedd, ond dywedir mai am bum’ mlynedd ar hugain y bu yn weinidog yn y New Inn, ac felly mac yn rhaid mai yn 1758 yr urddwyd ef. Fel pregethwr cynnorthwyol, gan hyny, y pregethai yno am y pymtheg mlynedd blaenorol. Priododd ag unig ferch John Morgan, Yswain, o’r Ystafarnau, gerllaw Brynbiga, ac yn y lle hwnw y bu yn byw hyd derfyn ei oes. Bu farw Medi 3ydd, 1783, yn 63 oed, a chladdwyd ef mewn daeargell yn y capel y buasai yn offerynol i’w adeiladu yn Mrynbiga. Mae Phillip Dafydd, yn ei ddyddlyfr am Medi 17eg, 1783, ar ol cofnodi marwolaeth Thomas Lewis, Llanharan, yr wythnos flaonorol, yn ysgrifenu, “Heddyw y clywais fod Mr, Abraham Williams wedi ei gladdu. Rhwyg ar rwyg: dau weinidog yn cael eu symud o fewn pythefnos i’w gilydd. Yr wyf fi yn meddwl fod Abraham Williams yn fwy uniawngred (hyny yw, yn fwy o Ymneillduwr, ac yn llai o Fethodist, yn ddiau a olygai yr ysgrifenydd) na llawer, ac yr wyf yn gobeithio fod ynddo ef beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel.”

 

Mae yn ymddangos fod Abraham Williams yn ddyn llafurus a defnyddiol iawn, ac yn bregethwr nodedig o alluog. Byddai yn pregethu yn lled fynych yn Mhenmain, a chanmolir ei bregethau yn fawr gan Phillip Dafydd, yr hwn nid oedd yn barod iawn i ganfod unrhyw ragoriaeth mewn neb ag a fuasai yn gogwyddo yn y mesur lleiaf at Fethodistiaeth. Cawn y cofnodiad canlynol yn ei ddyddlyfr am Tachwedd 9fed, 1766: - “Cefais fy arbed i bregethu heddyw gan Mr. Abraham Williams, yr hwn a bregethodd oddiwrth Heb. iv. 14; pregeth dda a sylweddol iawn, y fwyaf alluog a wrandewais i er’s llawer o amser,”

 

Dywed awdwr Methodistiaeth Cymru, “Nad oedd Mr. A. Williams yn dal llawer o undeb âg un corff o grefyddwyr, ond cymaint ag oedd gyda’r Methodistiaid yr oedd,” ond nid yw yn dyweyd yn iawn. Annibynwr trwyadl ydoedd, ac a’r Annibynwyr braidd yn unig yr ymgyfeillachai trwy holl dymor ei weinidogaeth yn y New Inn. Bu am flynyddau yn derbyn cymhorth blynyddol o’r Drysorfa Gynnulleidfaol yn Llundain, ac nis gallasai gael dim oddiyno heb ei fod yn cael ei gydnabod gan weinidogion y sir fel gweinidog Annibynol.

 

DANIEL JAMES. Cafodd ef ei eni a’i ddwyn i fyny mewn lle a elwir y Bryncoch, yn mhlwyf Maesaleg, gerllaw y Casnewydd, ac ymddengys mai yno y treuliodd ei oes, ac y bu farw. Dywedir fod yr enwog Whitefield wedi bod yn lletya amryw weithiau yn y Bryncoch, a chan y dywedir fod Mr. James yn y flwyddyn 1791 “wedi myned yn mlaen yn mhell mewn dyddiau,” mae yn naturiol i ni gasglu ei fod yn un o’r rhai a ddechreuasant yr achos yn y New Inn. Yr ydym yn tybied iddo gael ei urddo yn gynnorthwywr i Mr. Abraham Williams tua y flyyddyn 1760, pryd y symudodd Mr. William Williams i’r Aber. Dywedir mai yn mynwent eglwys Maesaleg y claddwyd ef, ond er chwilio coflyfr y claddedigaethau yno, yr ydys wedi methu cael hyd i’w enw ef yn mysg y rhai a gladdwyd yno o 1794 hyd 1802, ac nid ymddengys ychwaith fod careg wedi cael ei gosod at ei fedd. Treuliodd ei holl fywyd heb briodi, ac felly dygwyddodd tynged gyffredin “hen langciau” iddo yntau, sef cael ei adael i syrthiio i ebargofiant. Yr oedd yn fyw yn 1796, oblegid yr ydym yn cael ei fod yn pregethu yn Heol-y-felin, Casnewydd, Awst I7eg, yn y flwyddyn hono. Pa cyhyd y bu fyw ar ol hyny, nis gwyddom.

 

Er nad oedd Mr. James yn helaeth yn ei ddoniau fel pregethwr, yr oedd (x84)

 

 

84

85

86

87

88

89

90

91

92

93

94

95

96

97

98

99

101

102

103

104

105

106

107

108

109

110

111

112

113

 

(x114) athrofa dduwinyddol i’r Annibynwyr yn Dublin. Ar ol bod yno am bum’ mlynedd gorfodwyd ef gan waeledd iechyd Mrs. Loader i ymadael oddiyno. Yn 1822, sefydlodd yn Nhrefynwy, lle y bu, fel y gwelsom, yn foddion i gyfodi achos gwan a dinod i barch a sylw. Er iddo yn 1855, roddi i fyny y weinidogaeth, parhaodd hyd derfyn ei oes i roddi pob cymhorth a fedrai i’r achos. Bu farw Mawrth 28ain, 1858, yn 84 oed.

 

Yr oedd Mr. Loader yn cael ei gyfrif yn bregethwr da, yn ysgolhaig rhagorol, yn Gristion teilwng, ac yn weinidog da i Iesu Grist. Yr oedd yn nodedig am ei garedigrwydd a’i barodrwydd i estyn cymhorth i’w frodyr tlodion yn y weinidogaeth.

 

Gan fod Mr. Blow, Mr. Paul, Mr. Campbell, a Mr. Baker yn fyw, nid oes galwad am i ni gofnodi eu hanes.

 

LLANFAPLE.

Llanfaple sydd blwyf bychan yn cynwys 156 o drigolion, tua phum’ milldir o dref Abergavenny, heb fod yn mhell o’r brif ffordd o’r dref hono i Drefynwy. Yn 1662, cafodd Charles Williams, un o’r “ddwy fil,” ei droi allan o Eglwys y plwyf hwn. Os oedd ganddo ef ychydig ddysgyblion yn y gymydogaeth, yr oedd eu henwau a’u coffadwriaeth wedi eu colli oesau cyn cychwyniad yr achos Annibynol sydd yma yn bresenol.

 

Cafodd yr achos hwn ei ddechreu yn gynar yn y ganrif bresenol trwy offerynoliaeth John Jayne, Ysw. a Mr. William Watkins. Yr oedd Mr. Jayne yn aelod ac yn bregethwr yn y New Inn. Symudodd i’r gymydogaeth hon, i dyddyn o’r enw Pwll-y-ci, ac yn fuan wedi iddo sefydlu yma dechreuodd bregethu mewn gwahanol dai yn yr ardal. Yr oedd y rhag-grybwylledig, Mr. William Watkins, Tynewydd, yn gefnogwr gwresog iddo. Ond yn fuan cyfododd person y plwyf a rhai o’i gyfeillion, wrthwynebiad iddynt, fel y bu raid iddynt, er mwyn diogelwch, drwyddedu ty at bregethu ynddo. Yn fuan wedi hyny adeiladwyd capel ar ddarn o dir o eiddo Mr. Jayne, yr hwn a roddodd yn rhad, mewn gweithred ddiogel. (x117) Yn y flwyddyn 1810 yr adeiladwyd y capel. Tua yr amser hwnw, os nad ychydig cyn hyny, rhoddwyd galwad i Mr. Daniel Lewis, y pryd hwnw o Zoar, Merthyr Tydfil, i sefydlu yma fel gweinidog ar yr eglwys ieuangc. Hoffid Mr. Lewis yn fawr gan yr ardalwyr, a bu yn foddion i ennill llawer o eneidiau at yr Arglwydd yn nhymor byr ei weinidogaeth. Symudwyd ef yn nghanol ei ddyddiau a’i ddefnyddioldeb, yn y flwyddyn 1813, pryd nad oedd ond 52 oed. Ar ol marwolaeth Mr. Lewis bu yr eglwys am ddeng mlynedd heb un gweinidog sefydlog. Mai 28ain, 1823, urddwyd Mr. Thomas Rees, aelod gwreiddiol o Zoar, Merthyr, yn weinidog yma. Yr oedd trefn y gwasanaeth fel y canlyn: - Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. D. Jenkins, Brychgoed; pregethwyd ar Natur eglwys gan Mr. D. Lewis, Aber; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. T. B. Evans, Ynysgau; gweddiwyd yr urddweddi gan Mr. E. Skeel, Abergavenny; pregethwyd ar Ddyledswydd y gweinidog gan Mr. E, Jones, Pontypool; ac ar Ddyledswydd yr eglwys gan Mr. W. Lewis, Tredwstan. Parhaodd Mr. Rees i lafurio yma hyd 1833, pryd y symudodd i Gasgwent. Bu ei weinidogaeth yma yn dderbyniol a llwyddianus. Cafodd amryw eu hychwanegu at yr eglwys, ac yr oedd pawb yn teimlo fod ei ymadawiad yn golled fawr i’r eglwys a’r ardal. Dilynwyd Mr. ERees gan Mr. James (x115) Williams, yr hwn a orfodwyd i roddi y weinidogaeth i fyny yn mhen dwy flynedd o herwydd gwaeledd ei iechyd. Wedi bod tua dwy flynedd heb un gweinidog, darfu i ran o’r eglwys, yn groes i ewyllys y rhan arall, roddi galwad i un Jonathan Davies, myfyriwr yn athrofa y Drefnewydd, a nai i’r diweddar Mr. Davies, Cana, sir Gaerfyrddin. Urddwyd ef yma yn 1838. Bu yma yn agos i ddwy flynedd, ond blin iawn oedd agwedd pethau trwy yr holl amser. Aeth oddiyma i Victoria, ac oddiyno i Dredegar, ac y mae er’s tuag wyth mlynedd ar hugain bellach wedi ymuno a’r Bedyddwyr. Yr ydym yn gadael y gweddill o’i hanes i haneswyr yr enwad hwnw i’w gofnodi, os gwelant yn werth gwneyd hyny.

 

Yn nechreu y flwyddyn 1840, rhoddwyd galwad i Mr. David Lewis, y gweinidog presenol, yr hwn oedd ar y pryd yn fyfyriwr yn athrofa Mr. Davies, Penywaun; ac urddwyd ef yma Ebrill 15fed, y flwyddyn hono. Gweinyddwyd yn ei urddiad gan y Meistriaid Rowlands, Pontypool; Davies, Penywaun; Powell, Brynbiga; Rees, Casgwent; Powell, Hanover; ac Evans, Maesaleg.

 

Mae Mr. Lewis wedi bod yma bellach am ddeng mlynedd ar hugain yn barchus a llwyddianus. Aelod gwreiddiol o eglwys y Mynyddbach, Abertawy, ydyw, ac yno y dechreuodd bregethu. Yn fuan ar ol ei urddiad yn Llanfaple, dechreuwyd achos ganddo yn Ragland, yr hwn a ddaw etto dan ein sylw. Yn y flwyddyn 1855, aed i’r draul o 45p. i adgyweirio y capel yn Llanfaple, a thalwyd y cwbl ar unwaith gan yr eglwys a’r gynnulleidfa. Mae Mr. Lewis yn ei lythyr atom yn crybwyll am farwolaeth Mr. Thomas Parry, un o’r diaconiaid, ac y mae yr hyn a ddywed am y gwr da hwnw yn werth ei gofnodi er siampl i holl ddiaconiaid ac aelodau ein heglwysi: - “Yn ddiweddar collais hen gyfaill anwyl, sef Mr. Thomas Parry, Cefn-ddwy-glwyd. Bu yn ddiacon yn yr eglwys am lawer o flynyddau, a chyflawnodd ddyledswyddau ei swydd yn ffyddlon. Yr oedd yn Gristion o ymarweddiad teilwng; yn ‘Israeliad yn wir.’ Un o dymer ddistaw a heddychlon ydoedd, ac o galon lawn o haelioni. Cyfranai yn haelionus at bob achos da. Yr oedd yn ganwr rhagorol, ac yr oedd yn mhob ystyr yn ddyn gwir ddefnyddiol. Nid wyf erioed yn cofio ei weled yn absenol o’r cyfarfod gweddi, oddieithr ei fod yn glaf. Bu ef, a’i henafiaid o’i flaen, yn brif gynalwyr yr achos yma. Efe a fu farw Awst 13eg, 1869, yn 62 oed. Mae yn dda genyf allu dyweyd fod ei fab, yr hwn sydd yn ddwy-ar-hugain oed, yn dilyn siampl ei dad. Efe yw blaenor y canu, ac y mae yn weithgar a defnyddiol iawn yn yr ysgol Sabbothol. Yn wyneb pob cyfnewidiad mae yn dda genyf allu hysbysu fod yr achos yn myned rhagddo yma. Cafodd amryw bobl ieuaingc eu hychwanegu at yr eglwys y flwyddyn ddiweddaf, y rhai, wrth yr olwg bresenol, fyddant yn ddefnyddiol gyda yr achos.”

 

COFNODIAD  BYWGRAPHYDDOL.

DANIEL LEWIS. Ganwyd ef tua y flwyddyn 1761, yn Tai’rlan, yn mhlwyf Merthyr Tydfil. Pan yn llangc ieuangc anfonwyd ef gan ei rieni i’r ysgol i Abergavenny, ac yno y derbyniwyd ef gan y Dr. Benjamin Davies yn aelod o’r eglwys yn Castle Street. Mae yn debygol hefyd mai yno y dechreuodd bregethu; ond pa bryd nis gwyddom. Yn nyddlyfr Mr. Phillip Dafydd am Rhagfyr 28ain, 1783, cawn y cofnodiad canlynol: (x116)

 

“Bum heddyw yn Mhenmain, ond cefais fy arbed i bregethu gan wr ieuangc, Daniel Lewis, Tai’rlan.  Ei destyn oedd Heb. n. 3.  Efe a lefarodd yn dda o ddyn ieuangc.”  Mae yn debygol ei fod wedi dechreu pregethu rai misoedd o leiaf cyn hyn, fe allai flwyddyn neu ddwy.  Yn fuan wedi symudiad yr athrofa o Abergavenny i Groesoswallt, cynghorwyd Mr. Lewis gan ei gyfaill Mr. Jenkin Lewis, yr hwn a fagesid yn yr un ardal ag yntau, ac oedd yn awr yn is-athraw yn Nghroesoswallt, i fyned yno i’r athrofa, yr hyn a wnaeth.  Bu yno am dair blynedd ar ei draul ei hun. Yn y flwyddyn 1788 neu ‘89, urddwyd ef yn weinidog i’r eglwys a gyfarfyddai yn Rhydymardy a’r Cwmmawr, gerllaw Abertawy.  Bu yno am oddeutu pymtheg mlynedd yn gysurus a llwyddianus iawn.  Tua diwedd y flwyddyn 1803 neu ddechreu 1804, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Zoar, Merthyr, a symudodd yno, ond ni chafodd fawr gysur tra y bu yno.  Yr oedd y capel cyntaf yn Zoar newydd gael ei adeiladu, a’i ragflaenydd, Mr. Howell Powell, newydd ymfudo i’r America, gan adael y capel dan faich o ddyled digon trwm i lethu yr achos ieuangc. Cyn gynted ag yr ymsefydlodd Mr. Lewis yno, bu raid iddo barotoi i fyned i ffwrdd i Loegr, er casglu at ddyled y capel. Yr oedd hyny ynddo ei hun yn ddigon annymunol, ond yr oedd y gofidiau a’i dilynodd yn llawer gwaeth.  Mae y diweddar Dr. Jenkyn, yn nghofiant Mr. Eyans, Zoar, yn yr Evangelical Magazine am Awst 1834, wedi rhoddi hanes yr helbul hwn, ac nis gallwn ni ei osod allan yn well nag yn ei eiriau ef.  “O’r diwedd” meddai, “dewiswyd y Parch. Daniel Lewis o’r Cwmmawr, gerllaw Abertawy, yn weinidog.  Yr oedd Mr. Lewis yn ddyn santaidd ac addfwyn, ac yn ei ddull o gyflawni dyledswyddau y weinidogaeth yr oedd llawer iawn o dynerwch a boneddigeiddrwydd Cristionogol.  Prin yr ymsefydlodd gyda y gynnulleidfa ieuange hon cyn iddo gael teimlo oddiwrth ofidiau a thrallodion dyled capel. Yn anffodus mae yn y Dywysogaeth lawer o enghraifftiau o eglwysi gweinion yn myned i ddewis gweinidog, yn benaf i’r dyben iddynt gael dyn cymwys i fyned o gylch y wlad i gasglu at ddyled y capel. Mae yr arferiad ddrygionus hon wedi troi allan mor ddinystriol i heddwch y cyfryw eglwysi, ac wedi effeithio yn ddrwg ar enw, defnyddioldeb, a duwioldeb y cyfryw weinidogion.  Daliwyd Mr. Lewis ar unwaith yn rhwydau niweidiol y peirianwaith cardotyddol hwn (begging machinery}. Bu raid iddo adael ei eglwys a’i deulu lluosog a chynyddol, a myned i Loegr a Llundain, ar fath o wibdaith weinidogaethol i gasglu arian. Yr oedd yr eglwys yn cael ei gwneyd i fyny, agos yn gwbl, o lowyr, mwnwyr, &c., y rhai nid oeddynt yn unwedd yn ddynion cymhwys i farnu pa dreuliau oedd yn ofynol ar daith o’r fath ag yr oeddent hwy wedi gyru eu gweinidog iddi; y canlyniad fu,  pan aethpwyd i wneyd i fyny y cyfrifon, i’r bobl annghymwys hyn fyned i wrthddadleu yn erbyn y treuliau.  Rhanodd yr eglwys, ac aeth gwrthwynebwyr y gweinidog addfwyn a rhagorol mor ystyfnig, chwerw, ac aflywodraethus, fel yr ymneillduasant i ffurfio eglwys ar eu penau eu hunain.”  Yn y gymanfa bedair sirol a gynaliwyd yn Nhredwstan Mehefin 24ain a’r 25ain, 1807, daeth achos y terfysg hwn dan sylw, pryd y “penderfynwyd mewn perthynas i’r ymrafael yn nghapel Zoar, Merthyr Tydfil, fod y gweinidog wedi ymddwyn yn llariaidd, yn onest, yn gyfiawn, ac yn ffyddlon, ac mai ei ddyledswydd yw parhau yn ei ymdrechiadau gweinidogaethol.”  Un engraifft yw hon o ddegau, o’r helbul a’r gofid, y gorfu i weinidogion teilwng fyned trwyddynt wrth adeiladu a thalu am gapeli yn yr oesau a aethant heibio.

 

Yn y flwyddynt 1810, ymadawodd Mr. Lewis o Ferthyr, ac ymsefydlodd yn weinidog yr eglwys ieuangc yn Llanfaple. Dywed Mr. Lewis, gweinidog presenol Llanfaple, o enau hen aelodau yr eglwys, “Cerid ef yn fawr gan y bobl, a chafodd ei ymdrechion ffyddlon eu bendithio yn nodedig er lles i eneidiau anfarwol” Bu y gweinidog da hwn farw fel y nodasom Mehefin 15fed, 1813, yn 52 oed, a chladdwyd ef yn y capel yn Llanfaple. Mae maen coffadwriaeth am dano ar fur y capel. Gadawodd ar ei ol weddw alarus a nifer o blant rhy ieuangc i deimlo eu colled, ond gofalodd Tad yr amddifaid yn dirion am danynt. Mab iddo ef yw Daniel Seys Lewis, Ysw., yn awr o Fynyddislwyn; boneddwr ag y mae ei enw yn ddigon adnabyddus i holl weinidogion Annibynol Cymru. Ei frawd ef hefyd oedd Mr. Walter Lewis, Tredwstan. Gan i Mr. Lewis farw cyn oes y cyhoeddiadau misol, nid ymddangosodd unrhyw hanes am ei fywyd a’i farwolaeth yn y wasg hyd yn bresenol. Buasai yn dda genym pe buasem yn feddianol ar ddefnyddiau i ysgrifenu bywgraphiad helaethach iddo.

 

THOMAS REES. Yn nglyn a hanes yr eglwys yn Casgwent y rhoddwn ei fywgraphiad ef.

 

JAMES WILLIAMS.  Gweler hanes yr eglwys yn Llanfaches.

 

DOCK STREET, CASNEWYDD.

Yn 1801, nid oedd trigolion plwyf a thref y Casnewydd ond rhy brin bymtheg cant o bersonau, ac nid oedd ond dau dy addoliad yn y plwyf, sef yr Eglwys, a chapel Heol-y-felin. Mewn canlyniad i agoriad gweithiau glo, a sefydliad amryw weithfaoedd haiarn ar y mynyddau, yn nghyd a gwneuthuriad camlas, sir Fynwy, i gludo cynyrch y gweithfaoedd i borthladd y Casnewydd, cynyddodd y dref yn gyflym, fel yr oedd ynddi erbyn 1811, dros dair mil o drigolion; ac erbyn hyn y mae ei thrigolion yn tynu at ddeugain mil. “Wrth weled y trigolion yn cynyddu mor gyflym, ac yn eu mysg niferi dirfawr o Saeson, darfu i Mr. William Thomas, un o ddiaconiaid yr eglwys yn Heol-y-felin, yn nghyd ag ychydig bersonau, a dueddent yn fwy at y Methodistiaid Calfinaidd nag at un enwad arall, ymuno yn gymdeithas grefyddol, ac adeiladu Hope Chapel. Nis gwyddom pa flwyddyn y gwnaed hyn, ond gallem feddwl mai rywbryd o 1810 i 1812 ydoedd. Daeth Mr. John Rees, pregethwr galluog perthynol i’r Methodistiaid i’r dref i fyw, a chan ei fod yn medru pregethu yn rhwydd yn yr iaith Saesonaeg, cymhellwyd ef i’r capel newydd i bregethu yn y ddwy iaith. Arweiniodd hyny yn fuan i mewn destynau annghydfod i’r gymdeithas. Gan mai Methodistiaid oedd Mr. Rees a’r rhan fwyaf o’r eglwys, ni chaniatai y Corff iddo fod yn weinidog sefydlog yno; ac yr oedd y ddwy iaith yn llawer o rwystr i gydgordiad. Galwai rhai am ychwaneg o Saesonaeg, ac eraill am ychwaneg o Gymraeg. Diwedd y pethau hyn fu i Mr. Rees dderbyn galwad oddiwrth yr eglwys yn y Tabernacle, Rodborough, sir Gaerloew, ac i’r Gymdeithas yn Hope Chapel dori i fyny, gan adael y capel, yr hwn oedd wedi costio dros fil o bunau, a’r rhan fwyaf o’r ddyled arno, yn llaw un Henry Evans, yr hwn a fu dan yr angenrheidrwydd o’i gynyg ar werth. Prynwyd ef am 800p. gan nifer o bersonau, y rhai a chwenychent ffurfio yno eglwys Annibynol Saesonaeg. Agorwyd ef fel capel Annibynol Ebrill laf, 1814. Un-ar-ddeg oedd rhif yr aelodau pan ffurfiwyd yr eglwys, a’r blaenaf o honynt oedd (x118) Mr. William Thomas, yr hwn a grybwyllasom yn barod.  Erbyn diwedd y flwyddyn 1814, ychwanegwyd naw eraill atynt.

 

Ar ol bod yn cael eu gwasanaethu gan wahanol weinidogion hyd ddiwedd y flwyddyn 1814, llwyddasant i gael gan yr enwog Jenkin Lewis, yr hwn oedd y pryd hwnw yn cyfaneddu yn agos i Manchester, i addaw dyfod atynt am bump neu chwech Sabboth. Dechreuodd ei lafur ddydd Nadolig 1814, yr hwn oedd yn Sabboth y flwyddyn hono. Cyn iddo ymadael, cawsant ganddo dderbyn galwad i ddyfod yn weinidog iddynt, a dechreuodd ei weinidogaeth yn eu mysg Mawrth 8fed, 1815. O’r pryd hwnw hyd ei farwolaeth yn 1831, bu yn myned i mewn ac allan o’u blaen, ac yn cael edrych arno gan bawb fel “Gwr Duw.” Er na ddarfu iddo gasglu cynnulleidfa luosog iawn, llwyddodd i sefydlu achos ag yr oedd yr holl dref yn gorfod edrych yn barchus arno. Yr oedd y rhai a’i hadwaenai yn dda, ac a fedrent ddeall gwerth ei weinidogaeth, yn ei gyfrif yn un o’r dynion gorau ar y ddaear. Mae y rhag-grybwylledig Wm. Thomas, yr hwn a ellir ystyried fel tad yr achos hwn, wedi ysgrifenu yn ei ddydd-lyfr, yn mhen blynyddau ar ol deehreuad gweinidogaeth Mr. Lewis yn eu plith, “Pe gofynid i mi, A gawsoch chwi eich siomi yn ngweinidogaeth Mr. Lewis? atebwn, Yn mhell, pell iawn i’r gwrthwyneb y bu. Mae wedi myned yn mhell tu hwnt i unrhyw ddisgwyliad a goleddwn i ar y dechreu, ac y mae yn myned well well o hyd. Yr wyf yn galaru na byddai yn cael ei derbyn yn well, ac na byddai mwy o arwyddion gweledig o lwyddiant arni. Ond yr wyf fi yn meddwl nad oes gan Mr. Lewis un achos i edifarhau iddo ddyfod i’r Casnewydd, ac yr wyf fi yn bendithio Duw am iddo ei ddwyn ef yma, ac am yr holl wirioneddau gogoneddus a wrandewais tra yn eistedd dan ei weinidogaeth.” Ysgrifenai un arall o’r aelodau am dano yn mhen blynyddau ar ol hyn: “Mae fy adgofion am dano yn hyfryd iawn; ei ddull hynaws a serchus; ei ymddygiad mwyn at bawb, yn enwedigol yr ieuengctyd; yn nghyd a’i fywyd santaidd. Yr wyf fi yn barnu ei fod yn nes at berffeithrwydd nag un dyn a adnabum erioed.” Ond er rhagored dyn oedd Mr. Lewis, cafodd ofid yn ei gysylltiad a’i eglwys yn y Casnewydd. Heb fod yn faith wedi iddo sefydlu yno, daeth rhyw destyn cynen i’r eglwys, ac ar ol cryn ystwr a gofid, ymadawodd nifer o’r aelodau; yr hyn yn mhen amser a arweiniodd i ddechreuad yr achos yn y Tabernacle. Nid oes genym unrhyw wybodaeth am achosion na natur y terfysg hwn. Y cwbl a wyddom ydyw iddo gymeryd lle.

 

Yn mhen ychydig fisoedd ar ol marwolaeth Mr. Lewis, rhoddwyd galwad i Mr. Benjamin Byron, o Lincoln. Ar y Sul cyntaf yn Hydref 1831, y pregethodd Mr. Byron yma gyntaf. Derbyniodd yr alwad, a sefydlodd yn y lle yn ddioed. Er fod Mr. Byron yn ddyn gwahanol iawn yn ei gorff, ei feddwl, ei ddull o bregethu, ac o ymwneyd a dynion, i’w rag-flaenydd hynaws a boneddigaidd, etto, gan ei fod yn ddyn gwir dda, a nodedig o alluog a llafurus, perchid ef yn fawr gan ei bobl. Yr oedd i raddau yn fyrbwyll, ac anwyliadwrus ar ei eiriau, a thrwy hyny yn achlysurol yn cyfodi teimladau annymunol a thramgwyddus mewn rhai personau. Gan ei fod yn