http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_076_athrawiaeth_yr_iawn_2204k.htm

0001 Y Tudalen Blaen Google: kimkat0001

..........1863c Y Porth Cymraeg Google: kimkat1863c

....................0009k Y Barthlen  Google: kimkat0009k

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) Google: kimkat096k

........................................y tudalen hwn


..







 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

Athrawiaeth yr Iawn
Y Parchedig L. (= Lewis) Edwards, D.D., Y Bala.
g. 27 Hydref 1809, Pwllcenawon, Llanbadarn Fawr,
Ceredigion

m. 19 Gorffennaf 1887

Dyddiad yr argraffiad hwn: Anhysbys
(1860 yw dyddiad y cyhoeddiad cyntaf)

Adolygiadau diweddaraf: 2005-09-02


(delwedd 7415)

Y llyfr ymwelwyr: 0860k, Google kimkat0860k

 





Ar y gweill gennym: tudalennau

080-123, 677-701 heb eu gwneud eto

 

00 01 02 03 04 05 06 07 08 09

10 11 12 13 14 15 16 17 18 19

20 21 22 23 24 25 26 27 28 29

30 31 32 33 34 35 36 37 38 39

40 41 42 43 44 45 46 47 48 49

50 51 52 53 54 55 56 57 58 59

60 61 62 63 64 65 66 67 68 69

70 71 72 73 74 75 76 77 78 79

80 81 82 83 84 85 86 87 88 89

 

 

.9 *0 *1 *2 *3 *4 *5 *6 *7 *8 *9

10 *0 *1 *2 *3 *4 *5 *6 *7 *8 *9

11 *0 *1 *2 *3 *4 *5 *6 *7 *8 *9

12 *0 *1 *2 *3 

 

67 ** ** ** ** ** ** ** *7 *8 *9

68 *0 *1 *2 *3 *4 *5 *6 *7 *8 *9

69 *0 *1 *2 *3 *4 *5 *6 *7 *8 *9

 

Ein sylwadau ni mewn teip oren

 

Rŷn ni wedi cadw at yr orgraff wreiddiol - ar wahân i ambell gambrintiad amlwg. Dynodir y tudalennau felly (x20), (x21), ayyb,

 

Mae ŵ, ŷ, **’ i’w gweld yn y fersiwn hon - mae’n haws i’w teipio felly. Byddwn yn eu cywiro unwaith y bydd y cwbl wedi ei deipio gennym.

 

Ar ôl sganio’r testun, bu’n rhaid mynd ar hynt y llwyth o fân wallau - rŷn ni’n meddwl i ni gael hyd iddynt i gyd, ond efallai bod ambell un heb ei weld gennym.

 

 

DOLENNAU ALLANOL:

 

http://encyclopedia.jrank.org/ECG_EMS/EDWARDS_LEWIS_18061887_.html

Erthygl Saesneg ar Lewis Edwards o’r Encyclopaedia Britannica 1911

 

http://yba.llgc.org.uk/AnaServer?ybawbo+1360025+pageview.anv+v=pv&l=c
Erthygl Saesneg ar Lewis Edwards - Y Bywgraffiadur Arlein (YBA) /  Welsh Biography Online (WBO) - Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

translate this page

 

PENNOD 1

PENNOD 2

PENNOD 3

PENNOD 4

PENNOD 5

PENNOD 6

PENNOD 7

PENNOD 8

PENNOD 9

 

 

                              

 

 

                                

 

                                          T. Aurelian Davies

                                                                                                                                47 Denbigh St.

                                          Llanrwst

 

                                          Medi 1894

                                          Rhodd gan y

                                          Parch Wm. Roberts

                                          Frondeg

                                        

                                          Yn Nosbarth

                                         “Athrawiaeth yr Iawn”

                                          Capel Seion

                                         

                             

 

 

(x-i) ATHRAWIAETH YR IAWN
GAN Y DIWEDDAR
BARCH. L. EDWARDS, D.D., BALA.
GYDAG
AMLINELLIAD O HANES BYWYD YR AWDUR
PRIF ATHRAW COLEG ABERYSTWYTH
WREXHAM
CYHOEDDEDIG GAN HUGHES AND SON, HOPE STREET


(x-ii) TUDALEN WAG

(x-iii) AMLINELLlAD O HANES BYWYD YR AWDWR.
Ni byddai yn weddus i ysgrifenydd y Rhagymadrodd hwn anturio gwneyd unrhyw sylwadau, beirniadol na chanmoliaethol, ar y llyfr. Ond, gan mai hon yw y waith cyntaf ar ol marwolaeth yr awdwr i un o’i gynyrchion ymddangos trwy y Wasg, priodol a derbyniol fydd ychydig o hanes ei fywyd a’i lafur. Rhaid gadael llawer allan gan brinder lle. Yr hyn oll y gallwn gynyg ei wneyd fydd rhoddi amlinelliad o’i hanes.

Ganwyd Lewis Edwards mewn fferm-dy o’r enw Pwllcenawon (neu yn hytrach Pwllcwnafon), oddeutu pedair milltir o Aberystwyth. Efe oedd cyntaf-anedig ei rieni. Rhoddir dyddiad ei enedigaeth fel y canlyn yn Mibl y teulu, yr hwn a gedwir eto yn yr hen gartref:— “Lewis the son of Lewis and Margaret Edward was born at Pwllcenawon in the parish of Llanbadarn fawr County of Cardigan the 27 Day of Octbr. 1809 at 2 o’clock after noon.” Yr oedd ei dad yn flaenor yn Nghapel Penllwyn. Tynerwch duwiol ac arafwch doethineb a’i nodweddai ef, tra yr oedd y fam, er ei bod yn llawn mor wir grefyddol, yn  wahanol iddo trwy ei bod, “nid yn sûr ond yn sharp.” Adroddir am y tad ei fod, ar gychwyniad ei fywyd, yn llwyddo yn brysur, ac yn dechreu teimlo dylanwad y byd yn gweithio i mewn i’w ysbryd. Ofnodd, a thrôdd at yr Arglwydd gyda’r weddi, “Na ddyro i mi y byd ar draul dy golli di!” Ymddengys yn lled eglur i’w weddi gael ei gwrando. Oblegid ni lwyddodd i wneyd llawer o arian wedi hyn, ond derbyniodd fesur da dwysedig o brofiad ysbrydol ar hyd ei oes, a chafodd y fraint o weled dau o’i feibion, Lewis a Thomas, yn weinidogion yr Efengyl, ac un arall, James, yn gyd-flaenor rhagorol iawn gydag ef ei hun yn eglwys Penllwyn.

Derbyniodd y plant addysg grefyddol drwyadl yn y ty ac yn y capel. Dysgent yr Hyfforddwr a llawer o’r Bibl ar eu cof. Darilenent y Geiriadur, y Merthyrdraeth, llyfr Gurnal, Taith y Pererin, a Hymnau Williams gyda blas; ac, os mynent, yr oedd Eliseus Cole yn y llyfrgell fechan, a Boston ar “Bedwar Cyflwr Dyn.” Anfonwyd Lewis ar y cyntaf i ysgol fechan ar “Ben banc,” a gedwid gan hen filwr methedig. Symudwyd ef i ysgol ei ewythr (Lewis Edwards oedd yntau) yn Penllwyn, ac oddiyno drachefn i ysgol offeiriad Llanfihangel-geneu’r-glyn. Yno y dechreuodd ddysgu yr ieithoedd clasurol. Tybiodd ei dad ei fod erbyn hyn wedi cael llawn ddigon o ysgol a pharotodd i’w osod ar y fferm i drin y tir. Dyna fuasai ei banes pe na ddigwyddasai bod hen ŵr o deiliwr yn gweithio yn Mhwllcenawon ar y pryd. Deallodd hwn fod gallu yn y bachgen, ac eiriolodd drosto gyda’i rieni. Anfonwyd ef mewn canlyniad i hyn i ysgol Mr. John Evans, yn Aberystwyth. Dyn anghyffredin oedd John Evans. Pe buasai y manteision sydd yn awr yn Nghymru o fewn ei gyrhaedd pan yn ieuanc, diau y buasai wedi enill enwogrwydd mawr, yn arbenig mewn rhif a mesur. Siaradai y disgybl bob amser yn barchus iawn am ei hen athraw, ac ymffrostiai yntau hyd ei ddiwedd yn y mwyaf galluog o’i holl efrydwyr. Ond bu raid i’r bachgen fyned i enill ychydig arian. Agorodd ysgol fechan yn Aberystwyth, y tu cefn i Great Darkgate Street, ar yr aswy wrth fyned i fyny. Yr adeg hon y gwelodd am y waith gyntaf un o gyhoeddiadau cyfnodol y Saeson. Digwyddai fod yn siop lyfrau Coxe, ac ar y bwrdd yr oedd rhifyn o “Blackwood’s Magazine.” Agorodd byd newydd, meddai, ar ei feddwl, a phenderfynodd y mynai wybod rhywbeth am lenyddiaeth yn yr iaith Saesneg. Hyd yma, cylch ei lenyddiaeth oedd “Goleuad Oymru” a “Seren Gomer.” Ysgrifenai i’r “Goleuad,” a cheir ar ei dudalenau ofyniadau mewn rhifyddiaeth wedi eu hanfon o Bwllcenawon.

(x-iv) Symudodd i Langeitho i ysgol y Parch. John Jones, lle y darllenodd rai o brif ysgrifenwvr Groeg a Rhufain. Yma hefyd y dechreuodd bregethu. Rhoddwyd caniatad iddo ef a Mr. Stephen Lewis, un o’i gydefrydwyr, i “ddyweyd gair ar y benod” mewn tŷ annedd. Derbyniodd y ddau fesur o gymeradwyaeth. Ond Stephen Lewis ragorodd, am ei fod yn fwy llithrig ei ymadrodd, ac wedi dewis testun mwy addas, sef “Gwae  y rhai esmwyth arnynt yn Seion.” Nid oes sicrwydd y buasai y llall yn dyfod i fyny â’r safon, oni bai bod yn eglwys Llangeitho flaenor mwy craff na’i frodyr, sef Mr. David Jones o’r Dolau Bach, a thipyn o ymffrost oedd gan yr hen ŵr hyd ei ddiwedd ei fod ef yn mhlith yr ychydig a “welsent“ Lewis Edwards o’r cychwyn. Llefarai Stephen Lewis “yn rhydd, yn rhwydd, ac yn rhigl.” Yr oedd yn naturiol i Lewis Edwards hefyd ollwng ei eiriau yn gyflym dros ei wefusau. Cawsai hyn oddiwrth ei fam, yr hon a siaradai mor chwim fel nas gallai ei pherthynasau yn nghyfraith o’r Bala ei deall. Ond medrai hi drefnu ei geiriau, pa mor cyflym bynag yr ehedent allan. Bu y peth yn brofedigaeth am rai biynyddoedd i’w mab. Nid atal dyweyd oedd arno, ond y gwrthwyneb, anallu i reoleiddio ei ymadrodd, a’i eiriau fel tyrfa o bobl mewn drws yn gwasgu am le ac yn rhwystro eu gilydd. Weithiau methai fyned yn mlaen gyda’i bregeth. Un tro yn Nghapel Dewi torodd i lawr ar y canol i wylo. Cynghorodd ei dad ef yn dyner i roi i fyny y bwriad o fod yn llefarwr cyhoeddus oblegid y gwendid hwn. Ond ni fynai lwfrhau. Yr oedd cryfder ewyllys a phenderfyniad anhyblyg yn un o nodweddion ei gymeriad. Adroddai flynyddoedd lawer ar ol hyn iddo weddïo yn daer ac yn hir iawn un diwrnod ar i Dduw un ai rhoi gwaredigaeth iddo neu ynte gymeryd oddiwrtho yr awydd cryf am fod yn bregethwr, ac ychwanegai iddo dderbyn gwaredigaeth hollol ar unwaith. Credai yn ddiysgog drwy ei oes i hyn ddyfod iddo mewn atebiad i’w weddi. O Langeitho aeth i Bentowyn, yn Sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1830, i fod yn athraw yn nheulu boneddwr o’r enw Lloyd, yr hwn fu yn gyfaill calon iddo o hyny allan. Yma y clywodd am y Brifysgol newydd yn Llundain, sef y Coleg yn Gower Street; canys ar y cyntaf y Coleg hwn a fwriedid i fod yn Brifysgol. Hon oedd yr unig athrofa y gwyddai ef am dani a dderbyniai neb o’r Methodistiaid Calfinaidd i mewn. Cafodd wahoddiad taer i fyned i Eglwys Loegr, ac addawyd y cai ei addysg yn rhad, os oydsyniai. Ond yr oedd wedi ei ddwyn i fyny yn awyr gynhes Methodistiaeth, a chyda’r Methodistiaid y penderfynodd fyw a marw. Yn wir, yr oedd y bwriad o godi athrofa i bregethwyr y Methodistiaid eisoes yn dechreu ymgynyg i’w feddwl. Ond yn yr amser hwnw rhaid gofyn caniatad y Gymdeithasfa i fyned i Brifysgol. Anturiodd yn wylaidd fyned i Gymdeithasfa Woodstook, yn Sir Benfro, a gosododd ei gais yn ostyngedig ger bron. Ni ofynai geiniog o gynorthwy; yr oedd erbyn hyn wedi cynilo ychydig bunoedd. Y mae yn anhawdd credu mai gwawdiaith oedd yn ei aros. Ond dyna’r gwir. Yr oedd geiriau miniog y Parch. Thomas Richard o Abergwaen, yr hwn a eisteddai yn y gadair lywyddol, yn tori fel cyllell, ac, er fod ei frawd, y Parch. Ebenezer Richard o Dregaron, yn fwy boneddigaidd, anffafriol iawn fu yntau i ganiatau y cais. Methodd y gŵr ieuanc atal ei ddagrau. Tosturiodd rhai o’r blaenoriaid, a meiddiasant ddweyd fod y Gymdeithasfa yn rhy galed wrtho. Y diwedd fu iddo dderbyn caniatad y Corph i fyned i Brifysgol Llundain. Yr oedd hyn yn 1831. Y diwrnod cyntaf cyrhaeddodd i Bristol, gyda ei gyfaill Mr. Lloyd, ac yno y clywodd, am yr unig dro yn ei oes, Robert Hall yn pregethu. Teithiodd o Bristol i Lundain ar ben y coach drwy y nos heb prin ddigon am dano, nes rhynu gan yr oerfel. Cyfeiriodd ei gamrau Jewin Crescent, ac yn nhŷ capel yr “hen Jewin“ y lletyodd am fisoedd. Yno bu am rai wythnosau yn cydletya â’r Parch. John Elias, yr hwn fu yn gyfeillgar iawn iddo ac yn dra chefnogol i’w amcan. Lled ddigrifol ydyw yr ydyw yr hanes am dano, yn ol ei adroddiad ei hun, yn myned yn ofnus at borth y Brifysgol. (x-v)  Daeth gŵr i’w gyfarfod o ymddangosiad awdurdodol, mewn gwisg laes, ac yn dwyn math o deyrnwialen yn ei law. Cymerodd y Cymro ieuanc yn ganiataol ar yr olwg arno mai hwn oedd y llywydd. Tynodd ei het ac ymgrymodd yn barchus iddo. Ond hysbysodd y gŵr iddo mai y drysawr oedd efe. Ychwanegodd hyn at bryder y llanc. Os oedd y drysawr yn gymaint gŵr, beth raid fod yr athrawon! Dysgodd lawer yn y Coleg hwn. Ond bỳr fu ei arosiad. Ar ddiwedd un gauaf yr oedd y gôd yn wag. Corfu iddo droi tuag adref. Yn 1832 cymerodd ofal bugeiliol eglwys fechan Saes’neg oedd gan y Methodistiaid yn Lacharn yn Sir Gaerfyrddin, a bu ei arosiad yn yr hen dref lwydaidd hono am flwyddyn a haner o fantais arbenig iddo. Oblegid yno yr arferodd ei hun i bregethu yn Saes’neg. Yno hefyd y daeth i gydnabyddiaeth agos a Miss Jane Charles, wyres Charles o’r Bala, yr hon rai blynyddoedd wedi hyn a briododd efe. Ychydig cyn hyn bu ar daith trwy ranau o Ogledd Cymru. Tynodd sylw y rhai mwyaf meddylgar, ac yn eu plith y Parch. Richard Humphreys o’r Dyffryn. Aethant yn gyfeillion myuwesol, a pharhasant felly dros eu hoes. Ar y daith hon bu Mr. Elias yn dirion o hono yn Môn. Y bregeth a wnaeth fwyaf o argraff oedd ar y geiriau, “Onid oedd raid i Grist ddyoddef y pethau hyn a myned i mewn i’w ogoniant?” Y penau oeddynt, rhaid o ochr dyn, a rhaid o ochr Duw. Yn fuan ar ol hyn penderfynodd fyned i Brifysgol Edinburgh. Aeth Mr. John Phillips o Bontrhydfendigaid gydag ef. Ar eu ffordd cymerasant ran yn Nghymdeithasfa y Bala. Dechreuwyd yr oedfa y noson olaf ar y Green gan Mr. Edwards, a phregethwyd gan Mr. Phillips. Ni ddychwelodd Mr. Phillips i Edinburgh ar ol y tymhor cyntaf. Ond bu efe yno am dair blynedd. Derbyniai ei draethodau gymeradwyaeth uchel ei athrawon. Ond y ddau a ddangosodd fwyaf o ddyddordeb ynddo oedd Dr. Chalmers a’r Prof. Wilson — ”Christopher North,” fel y galwai ei hun ar dudalenau “Maga.” Ar gais Prof. Wilson caniatawyd iddo sefyll ei arholiad am y gradd o M.A., ar ddiwedd y drydedd flwyddyn, yn lle aros am bedair blynedd, fel y gofynai y rheol. Oblegid yr oedd yr arian erbyn hyn wedi darfod. Pasiodd yr arholiad, a daeth yn ol i Gymru, yr Ymneillduwr cyntaf o Gymro i enill gradd mewn Prifysgol. Mawr oedd y siarad yn ngwersyll y Methodistiaid; llawer yn llawenychu, rhai yn ysgwyd eu penau mewn pryder rhag i ddysgeidiaeth ddynol ddiffodd yr Ysbryd. Ordeiniwyd ef yn Nghymdeithasfa Castellnewydd Ernlyn yn 1837. Heb ymdroi agorodd ysgol yn y Bala i bregethwyr, ac ymunodd ei frawd yn nghyfraith, y Parch. David Charles, B.A., yn yr anturiaeth; canys yr oedd Mr. Edwards erbyn hyn wedi priodi. Cychwynwyd yr ysgol yn y warehouse sydd eto yn sefyll y tu cefn i’r masnachdy, yn yr hwn y preswyliai ei fam yn nghyfraith. I bregethwyr yn benaf y bwriedid yr ysgol. Ond da oedd cael bechgyn ieuangach i chwyddo nifer yr efrydwyr a dwyn ychydig elw; oblegid yr oedd y rhan fwyaf o’r pregethwyr a ddaethent yno, nid yn unig yn cael eu haddysg yn rhad, ond gan amlaf yn eistedd wrth fwrdd yr athrawon. A ganlyn ydyw yr hysbysiad a anfonent allan ar ol haner blwyddyn o brofiad :—

 

 

 

..................................EDUCATION.
Messrs. Edwards and Charles beg to inform their friends that their School will Re-open, at Bala, on Monday the 8th day of January, 1838.

The plan of Education comprehends English Grammar and Composi­tion; the Latin and Greek Classics; Hebrew and Biblical Literature; Natural Philosophy; Astronomy, &c.

There are at present a few vacancies for Boarders.

Terms:— Day Pupils, Eight Guineas per annum. Boarders, Thirty Guineas ditto.

Further particulars will be given on application.


Dyna gychwyniad, Athrofa y Bala. Yr efrydwyr y tymhor cyntaf oedd (x-vi) D. C. Davies o Aberystwyth, yn fachgenyn meddylgar a dichwareu; W. Wood o Manchester; David Davies o Henllan; Thomas Jones o Sir Drefaldwyn, cenadwr cyntaf y Methodistiaid i Fryniau Khasia; James Williams o Lacharn, eu cenadwr cyntaf i Lydaw; John Ffoulkes Jones o Fachynlleth; Thomas Edwards o Benllwyn; Hugh Roberts o Fangor; Daniel Jones o Langeitho; Thomas Hughes o Garnarfon; John Jones o Gapel Dewi; Griffith Jones o Dregarth; Edward Roberts o Fallwyd; W. Pugh o Landrillo; D. Williams o Faentwrog; ac efallai rai eraill.

Yn lled fuan dechreuodd brodyr yn y gwahanol siroedd ddatgan dymuniad yn y Cyfarfodydd Misol a’r Gymdeithasfa i fabwysiadu yr ysgol yn Athrofa i’r Cyfundeb. Ymgynullodd brodyr o’r De a’r Gogledd yn Machynlleth i ystyried y posibilrwydd o gael un Athrofa i’r ddwy dalaeth. Y diwedd fu i Mr. Edwards aros yn y Bala, a Mr. Charles agor Coleg i’r Deheubarth yn Nhrefecca, yn y flwyddyn 1842. Diau y buasai yr ysgol mewn amser yn talu yn dda fel anturiaeth; ac y buasai yntau, fel ei dad, mewn profedigaeth gan ormod golud. Ond gwaradwyd ef rhag y drwg neillduol hwn, pan fabwysiadwyd yr ysgol gan y Cyfundeb ac y penwyd iddo gyflog blynyddol o £100. Ar y gyflog hon y magodd ei blant hynaf. Ychydig iawn a dderbyniai am bregethu, am ddau reswm. Gwnai yn arferiad drwy ei oes i fyned i’r teithiau bychain yn Sir Feirionydd, a phan yr âi i le mawr, fel Dolgellau, yr oedd costau teithio yn llyncu y cwbl bron, fel na byddai ganddo ond swllt neu lai yn dychwelyd adref. Yu y blynyddoedd diweddaraf yr oedd yn llawer mwy cysurus ei amgylchiadau. Ond rhaid cyfaddef y buasai, yn ol pob tebyg, yn methu cario y Coleg yn mlaen, oblegid diffyg prydlondeb y siroedd yn anfon iddo ei gyflog, oni bai iddo weithredu yn benderfynol a hysbysu y Gymdeithasfa ei fod yn ymddiswyddo os na ffurfid fund i gynhal yr athrofa. Hysbys i bawb am ffyddlondeb a medr y diweddar Barch. Edward Morgan o’r Dyffryn yn casglu at y drysorfa hon. Llwyddwyd i ffurfio cronfa o werth £25,000.

Yn y flwyddyn 1844 cychwynodd gyhoeddiad bychan dan yr enw ”Yr Esboniwr,” ond ni chafodd nemawr gefnogaeth. Penderfynodd gychwyn “Y Traethodydd,” cyhoeddiad trimisol, yr hwn a ymddangosodd yn Ionawr, 1845. Gofynodd i’r Parch. Roger Edwards o’r Wyddgrug ei gynorthwyo fel is-olygydd, ond cadwodd yn ei law ei hun y gorchwyl o ofyn am erthyglau a phenderfynu ar gynwysiad pob rhifyn, er na ddaliodd yn dỳn at y rheol hon. Yn 1847 cychwynwyd “Y Geiniogwerth“ ganddo ef a’i gyfaill mynwesol, y diweddar Barch. Lewis Jones o Lwyneinion.

Yn y flwyddyn 1853 cymerodd daith trwy ranau o’r Cyfandir gyda’i gyf­aill, y Parch. John Jenkins o Gaer. Arosasant amryw wythnosau yn Bonn. Yno y dysgodd yr Ellmynaeg yn fwy perffaith. Bu yn Geneva, a theithiodd ar draws Ffraingc hyd Quimper yn Llydaw, lle y cymerodd ran, gyda’i hen gyfaill, y Parch. James Williams, yn ordeiniad cenadwr o’r enw Planta. Bu y daith hon yn fanteisiol dros ben iddo. Ar ol hyn ymgydnabyddai fwy o lawer nag o’r blaen â llenyddiaeth dduwinyddol Ffrainc, ac yn enwedig yr Almaen.

Bu yn olygydd “Y Traethodydd“ am ddeng mlynedd. Yn 1855 rhoddodd ef i fyny am nas gallai fforddio colli arian arno yn hwy. Eto dylasai dalu. Cychwynwyd ail gyfres yn uniongyrchol gan Mr. P. M. Evans o Dreffynon, dan olygiaeth y Parchn. Roger Edwards ac Owen Thomas, ac y mae “Y Traethodydd” eto yn fyw.

Dichon hefyd ei fod yn awyddus i ymroddi yn fwy llwyr i fyfyrdod ar bynciau duwinyddol. Yr oedd y Gymdeithasfa wedi ei awdurdodi rai blynyddoedd (x-vii) cyn hyn i benodi ail athraw. Dewisodd un o’i efrydwyr, Y Parch. John Parry, o Manchester. Mor gyfyng oedd gwybodaeth y rhan fwyaf o’r efrydwyr yn yr iaith Saes’neg a changhenau cyffredin addysg, fel y gorfu iddo, er cael cynorthwy Mr. Parry, esgeuluso duwinyddiaeth yn y blynyddoedd cyntaf. Cymerai ef yr iaith Roeg a’r Saes’neg, tra y dysgai Mr. Parry yr iaith Lladin, a rhif a mesur. Ond yn raddol enillai duwinyddiaeth fwy o le, ac yn fuan ar ol rhoi “Y Traethodydd“ i fyny, cawn ef yn traddodi darlithiau ffurfiol ar yr “Evidences,” ar “Egwyddorion Moesoldeb,” ar “Egwyddorion Crediniaeth,” ar “Athroniaeth Plato ac Aristotle.” Ni ysgrifenai air. Ei ffordd oedd meddwl yn ddwys ar y pwnc, ac ar yr adegau hyn arferai ysmocio yn fore ac yn hwyr. Yna rhodiai filltir neu ddwy, yn gyffredin tua’r llỳn, at Bryn Rhudd, ac yn ol i’r Coleg erbyn tri o’r gloch i draddodi y ddarlith. Yr oedd ei arddull yn Saes’neg yn gywir, cryf, a hollol eglur, ond nid mor brydferth a’i arddull yn y Gymraeg. Siaradai yn rhydd, heb betruso am air, ond yn lled araf; oblegid yr oedd yn ffurfio ei frawddegau fel yr âi yn mlaen. Gallai yr efrydwyr ysgrifenu y cwbl wrth ei wrandaw.

Wedi hyn crynhôdd ei fyfyrdodau ar un pwnc, sef athrawiaeth yr lawn. Darllenai lawer yr amser hwn ar Plato, weithiau gyda’r dosbarth Groeg ac yn fynych iddo ei hun yn y tŷ. O dan ddylanwad ieithwedd Plato trefnodd ei feddyliau ar yr Iawn mewn ymddiddanion, y rhai a ddarllenodd yn Gym­raeg yn y Coleg ac a gyhoeddodd yn y “Gyfres Gymraeg,” — llyfrau swllt a gychwynasid trwy ei anogaeth ef. Y mae yn sicr fod angen neillduol ar y pryd yn Nghymru am eglurhad dyfnach ar yr athrawiaeth hon. Yn Lloegr y duedd oedd gwadu natur iawnol marwolaeth Crist, a’i golygu yn unig fel esiampl o hunanymwadiad. Hyn oedd rhediad dysgeidiaeth Maurice. Yn Nghymru yr hen olygiad oedd mai dyled ydyw pechod, ac mai taliad cyd-bwys o’r ddyled oedd yr Iawn. Hon oedd yr athrawiaeth a bregethid ar un adeg gan y Parch. John Ellas. Dywedodd ef unwaith mewn Cymdeithasfa, “Ni chanwn byth mwy y llinellau hyny,

..............‘Ac er trymed ydoedd pechod
...............Cariad bwysodd hyd y llawr.’

Na! Iawn cydbwys!” Ond yr oedd y syniad hwn wedi colli ei nerth yn y pwlpud. Yr oedd y dosbarth mwyaf meddylgar o’r pregethwyr a broffesent Galfiniaeth yn hiraethu am syniadau mwy cadarn a goleu ar natur marwolaeth Crist.

Yn ychwanegol at y darlithiau duwinyddol darllenai yr athraw y Testament Groeg gyda’r efrydwyr. Nid anghofiai fod yn angenrheidiol iddynt feistroli yr iaith; ond ei amcan penaf oedd esboniadaeth. Aeth trwy Efengyl Ioan, yr Epistol at y Rhufeiniaid, yr Epistol at y Galatiaid, Epistol Cyntaf Ioan, a rhanau eraill, yn ofalus a thrylwyr. Nid oes nemawr ddim o’i sylwadau ar gael. Llawn fwriadai ysgrifenu Esboniad ar Efengyl Ioan, ond nid oes ond ychydig o linellau o hono mewn ysgrifen. Un achos o hyny oedd ei annhueddrwydd i ddefnyddio yr ysgrifell, — gŵyr pawb mor anhawdd fyddai cael ganddo ateb llythyr! Ond y prif reswm oedd ei anfoddogrwydd i’w esboniadau. Er dyfned y treiddiai ac er eglured y gosodai yr ystyr ger bron yr efrydwyr, nes peri iddynt hwy dybied ei fod wedi dyhysbyddu yr adnod, teimlai ef, a dywedai hyny yn fynych, ei fod yn meddwl bod mwy yn y geiriau nag a ddaethai eto i’r golwg. Oedai ysgrifenu, gan obeithio y gallai blymio yn ddyfnach i feddwl Duw. Dywedodd unwaith yn haner chwareus bod ei falchder wedi cael cwymp pan y meddyliasai am eglurhad hollol newydd ar un o adnodau cyntaf Ioan ac y gwelodd, wedi hyny, fod Ewald wedi (x-viii) awgrymu yr un esboniad o’i flaen. Gellir ffurfio syniad am ei ddull a chael rhai angreifftiau o’i esboniadaeth yn “Nodiadau” rhagorol y diweddar Barch. John Ogwen Jones ar Efengyl Ioan. Ni byddai neb yn barotach na’r ysgrifenwr galluog hwnw i gydnabod ei ddyled i’w hen athraw.

Cyhoeddwyd “Athrawiaeth yr Iawn“ yn 1860, yn fuan ar ol yr adfywiai crefyddol a ganlynai weinidogaeth y diweddar Barch. David Morgan o Ysbytty Ystwyth. Safai yr athraw yn blaid i’r adfywiad, a rhoddodd anerchiad difrifol ac effeithiol iawn i’w efrydwyr ar y pwys o ymdrechu am ymweliad arbenig iddynt eu hunain fel pregethwyr. Ar yr un pryd canfyddai berygl, ac un amcan o ysgrifenu “Athrawiaeth yr Iawn” oedd rhoddi ymborth duwinyddol iachus a chryf i’r ieuenctid a deimlasent nerth y cynhyrfiad.

Heb ddatgan unrhyw farn ar y llyfr, y mae yn rhydd i ni fynegu y golygiad cyffredinol fod “Athiawiaeth yr lawn” wedi effeithio yn ddwfn ar dduwinyddiaeth Cyfundeb y Methodistiaid hyd heddyw, ac wedi gosod yr awdwr fel meddyliwr a duwinydd yn y rheng flaenaf yn ei oes. Cydnabyddiaeth o hyn barodd i Coleg Princeton gynyg iddo y teitl o D. D. Y mae yn wir iddo wrthod yr anrhydedd; ond nid am ei fod yn ddiystyr o’r Coleg hwnw y gwrthododd, eithr am ei fod yn tybied y gallai dysgedigion oedd yn preswylio mor bell o Gymru feddwl yn uwch o hono nag yr haeddai. Pan gynygiwyd yr un anrhydedd iddo gan ei Brifysgol ei hun yn 1865, aeth i Edinburgh i dderbyn y teitl.

Yn 1875 derbyniodd dysteb hardd oddiwrth liaws mawr o’i edmygwyr trwy Gymru. Gosododd hyn ef mewn sefyllfa fwy cysurus. Ymddygodd y Cyfundeb yn anrhydeddus iawn tuag ato am flynyddoedd lawer, a hyny yn arbenigol pan arafodd olwynion ei gerbyd ac y gwanychodd y nerth a dreuliasai yn ngwasanaeth ei genedl.

Ni ysgrifenodd nemawr yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd. Pwnc penaf ei fyfyrdod a’i efrydiaeth oedd Person Crist. Bwriadai ysgrifenu arno. Ond oedodd roi ei feddyliau ar bapyr, ac aeth yn rhy ddiweddar.

Nid oes genym le i ddyweyd gair am ei ddull o bregethu, nac am ei ddylanwad fel arweinydd y Cyfundeb. Ysgrifenodd erthygl i’r “Drysorfa” ar Fugeiliaeth Eglwysig fu y symbyliad cryfaf i’r symudiad, a thynodd yr ysgrif ar ben yr awdwr ystorm nad yw ei sŵn eto wedi llwyr ddystewi. Ond ni ofalai am y gwyntoedd a’r curwlaw. Sicrhaodd y Fugeiliaeth. Ei awgrymiad ef oedd y Gymanfa Gyffredinol. Efe yw tad y Gronfa Gynorthwyol; a rhoddodd ei holl ddylanwad o blaid codi Achosion Saes’neg.

Yn Nghymanfa Gyffredinol Liyerpool, y Pasg, 1884, tarawyd ef yn ysgafn a’r parlys. Am dair blynedd gwanychai ei nerth yn raddol, a deallai pawb, oddieithr efallai efe ei hun, fod ei waith ar ben. Oud addfedai mewn tynerwch a chydymdeimlad tuag at bawb. Bu ei briod yn famaeth o’r tyneraf iddo hyd ei ddiwedd. Ar y 19eg o Gorphenaf, 1887, ymadawodd â’r byd yn hollol ddiboen. Dygwyd ei gorph i fynwent Llanycil ar ysgwyddau ei hen efrydwyr, ac amgylchynid ei fedd gan bregethwyr a diaconiaid a chyfeillion lawer, pan y rhoddwyd ef i orwedd yn ymyl corph athraw goreu Cymru o’i flaen, — Charles o’r Bala.


Nid oes tudalennau (x1) (x2) (x3) (x4) - cychwyn ar dudalen pump y mae corff y llyfr.

(x5)
ATHRAWIAETH YR IAWN.

PENNOD I.

Dysgydd. Bum yn ddiweddar yn darllen y ddau draethawd a gyhoeddwyd genych flynyddau yn ol ar yr IAWN; ac y mae y ddau — yn enwedig y cyntaf — wedi rhoddi i mi gryn lawer o oleuni; ond y mae rhai pethau etto mewn cyssylltiad a'r athrawiaeth hon yn ymddangos i mi braidd yn dywyll; a byddai yn dda genyf gael ychydig o eglurhad arnynt, os yw eich amser yn camatau.

Athraw. Y mae genyf amser bob dydd, a phob awr o'r dydd, i ymddyddan â dynion ieuaingc ymofyngar a meddylgar; a byddaf yn cael fy mod yn derbyn lles i mi fy hun trwy hyny, os nad wyf yn alluog i wneuthur lles iddynt hwy. Ac yr ydych wedi rhoddi i mi un addysg yn barod, sef na ddylwn ddysgwyl i ereill farnu yr un fath a mi am deilyngdod yr hyn a fyddaf yn ei ysgrifenu, o blegid yr oeddwn wedi tybied mai yr ail draethawd oedd y mwyaf goleu a'r mwyaf gwreiddiol. Ond ewch yn mlaen, a rhowch glywed pa beth sydd yn ymddangos i chwi yn aneglur.

D.
Wrth weled cyfeiriadau mor fynych yn rhai o'r cyhoeddiadau Seisonig at Maurice a Jowett, cododd awydd ynof i ddarllen eu hysgrifeniadau; ac y maent i raddau wedi ansefydlu fy meddwl.

A.
Nid wyf yn rhyfeddu llawer at hyny; ac y mae lie i ofni mai nid chwi yw yr unig un sydd wedi derbyn niwed oddi wrthynt. Ac nis gallaf lai na meddwl fod elfenau peryglus mewn amryw lyfrau ereill sydd yn lled boblogaidd y dyddiau hyn.

D.
Dyna un peth yr oeddwn yn meddwl ei ofyn i chwi pan y cawn gyfle. Pe gallech roddi gair o hysbysrwydd i mi yn nghylch y llyfrau goreu i'w darllen mewn duwinyddiaeth, byddwn yn dra diolchgar.

A.
Y mae hyny yn ymddibynu llawer ar oedran a galluoedd y darllenydd, ynghyd â’i fwriadau gyda golwg ar yr amser dyfodol. I'r cyffredin, nis gellir meddwi am lyfrau mwy cyfaddas na'r rhai sydd yn awr yn fwyaf poblogaidd yn mysg y crefyddwyr goreu yn Nghymru a Lloegr. (x6) Ond i ddyn ieuanc fel chwi sydd mewn bwriad i efrydu dirwinyddiaeth yn drwyadl, y mae yn angenrheidiol bod yn gyfarwydd â’r prif awdwyr mewn pedwar dosbarth, y rhai y gellir en rhestru drachefn yn ddau gyda golwg ar y drefn o’u darllen. Y mae yn iawn i ereill, os byddant yn dewis, eu trefnu yn wahanol; ond o’m rhan fy him, mi a roddwn y lle blaenaf i’r Diwygwyr Protestanaidd a’r Puritaniaid. Ac yna, wedi i chwi yfed yn helaeth o ysbryd yr ysgrifenwyr goreu yn y ddau ddosbarth yma, gellwch anturio at y ddau ddosbarth arall; sef y Tadau Eglwysig, a hen gewri Eglwys Loegr. Bydd tri neu bedwar o’r prif awdwyr yn mhob un o’r dosbarthiadau hyn yn llawn ddigon i’w hefrydu yn barhaus fel gwaith eich oes, er fod ereill y byddai yn dda i chwi eu darllen yn achlysurol. Yr wyf yn cyfeirio eich sylw fel hyn yn arbenig at yr hen ysgrifenwyr o blegid amryw resymau: — yn gyntaf, i wrthweithio y duedd gref sydd mewn pobl ieuaingc i ddarllen rhywbeth ysgafn a hawdd, yn lle ymaflyd mewn llyfr fydd yn rhoddi gwaith iddynt. Yn ail, i wrthweithio tuedd arall mewn pobl ieuaingc i ddibrisio yr hen, ac i edrych yn mlaen o hyd am rywbeth newydd; yr hyn sydd yn peri fod llawer, yn lle efrydu, yn treulio eu hamser i chwilio am rywbeth i’w efrydu. Yn drydydd, er mwyn eich cadw rhag cael eich cylcharwain gan bob awel dysgeidiaeth, gan nad oes nemawr olygiad duwinyddol yn cael ei gynyg i sylw yn yr oes hon nas gellir dweyd am dano,


 “efe a fu eisoes yn yr hen amser o’n blaen ni.” Er hyny, pell iawn oddi wrthyf yw dychymygu fod yn afreidiol i chwi ddarllen llyfrau newyddion, yn enwedig mewn hanesiaeth eglwysig a beirniadaeth ysgrythyrol. Pe dywedwn hyny, byddwn yn anghysson â mi fy hun; o blegid pa bryd bynag neu pa le bynag y dygwydd i mi gyfarfod â meddwl athrylithgar, byddaf yn awyddus i wybod pa beth sydd ganddo i’w ddywedyd. Ond os bydd llyfrau newyddion yn peri i mi golli bias ar yr hen, byddaf yn cymmeryd hyny yn arwydd sicr fod fy archwaeth yn gwaethygu, ac nad ydyw fy meddwl mewn cyflwr mor iach ag y dylai fod.

D.
Y mae yn rhaid i mi addef mai gwaith anhawdd iawn yw darllen yr hen awdwyr, a’m bod yn tueddu yn hytrach at y newydd. Os gwelaf ganmoliaeth uchel i ryw lyfr mewn rhai o’r cyhoeddiadau cyfnodol, nis gallaf orphwys yn dawel nes ei weled.

A.
Y feddyginiaeth sicraf yn yr achos hwn yw amser a phrofiad; o blegid wedi i chwi gael eich siomi rai troion, ni fyddwch mor barod i gredu pob canmoliaeth.

D.
Ond cyn y daw y feddyginiaeth hon i weithrediad, y mae perygl i mi wario llawer o’m hamser yn ofer. A oes un rheol i’w chael o barth y llyfrau goreu sydd yn dyfod allan o’r wasg yn y dyddiau hyn?

A.
Nid wyf yn gwybod am reol well na’r cynghor apostolaidd, “Profwch bob peth, a deliwch yr hyn sy dda,” Nid rhaid i mi ddywedyd (x7) wrthych chwi fod y gair “profi” yn yr adnod hon yn cynnwys chwilio yn fanwl, a barnu yn gywir; ac mewn canlyniad i hyny, gwrthod y drwg, a dewis y da.

D.
Yr wyf yn gwybod mai fy nhywyllwch i fy hun yw yr achos; ond nid wyf yn teimlo fy mod etto ryw lawer yn nes; o blegid yr anhawsder yw penderfynu pa beth sy ddrwg, a pha beth sy dda.

A. Y mae gan bob dyn gydwybod, a serch, a deall. Os na fydd y llyfr yn tueddu i ddeffro y gydwybod, neu i buro y serch, neu i oleuo y deall nid ydyw yn werth ei ddarllen. Y mae rhai llyfrau yn ateb ar unwaith i’r holl ofynion hyn; ac y mae rhyw ychydig yn esgyn yn uwch fyth, at y gwirioneddau pur sydd yn llewyrchu fyth yn eu goleuni eu hunain. Ond os bydd llyfr yn tueddu i wneyd daioni rywfodd, pa un bynag ai trwy gyfrwng y gydwybod yn benaf, neu y serch, neu y deall, ni ddylid ei ddiystyru. A chofiwch reol Dr Johnson — na raid i chwi fwyta y cwbl er mwyn gwybod pa un ai da ai drwg yw ei ansawdd. Bydd ychydig dudalenau yn ddigon i ddangos a oes gan yr awdwr feddwl; a bydd eich archwaeth naturiol chwithau yn dywedyd yn ebrwydd pa fath ydyw ei duedd. Ond y diogelwch mwyaf yw meithrin barn a theimlad ysbrydol trwy ymgynnefino â’r Beibl; o blegid “y dyn ysbrydol sydd yn barnu pob peth.”

D.
Y mae y gwahaniaeth yna rhwng amrywiol awdwyr, a’r rhai hyny oll yn werth eu darllen, yn amlwg erbyn i chwi ei ddywedyd. Y mae yn ymddangos i mi y gellir cymhwyso yr un rheol at bregethwyr; ac yr wyf yn cael fy hun yn euog o ddiystyru llawer pregeth ddefnyddiol, am nad oedd ynddi nemawr o adeiladaeth i’r deall, heb ystyried ei bod yn tueddu i wneuthur daioni trwy gyfeirio at y gydwybod neu y serchiadau.

A.
Yr wyf yn ddiolchgar i chwi am y sylw yna. Nid oes dim ag y mae mwy o ffolineb yn cael ei siarad yn ei gylch na phregethu. Y mae rhai yn gosod y serch fel yr unig safon; ac os na fydd y bregeth yn cynhyrfu y teimladau, nid yw yn werth dim. Safon y lleill ydyw y deall, a chollfarnant bob pregeth na fyddo yn llawn o faterion, fel y dywedant, er nad ydynt eu hunain, efallai, yn alluog i werthfawrogi gwir fawredd mewn materion.
“Y mae amryw ddoniau, eithr yr un Ysbryd; ac y mae amryw weinidogaethau, eithr yr un Arglwydd.” Ond, os ydych wedi eich boddloni o barth y llyfrau gorau i’w darllen, dichon y byddai yn well i ni ddychwelyd at y pwngc oedd genym yn y dechreu, sef ATHRAWIAETH YR IAWN.

D.
Cyn i chwi fyned at y pwngc, byddai yn dda genyf, os nad wyf yn eich blino, gael ychwaneg o oleuni o barth y llyfrau. Mi feddyliwn fy mod hyn yn gweled ychydig; ond y mae un anhawsder etto y dymunwn ei grybwyll; y mae yn dwyn perthynas i ryw radduu â hen ysgrifenwyr, (x8) er yn fwy neillduol â’r rhai diweddar. Yr ydych yn ein cynghori i ddarllen gwaith rhai o’r hen dadau eglwysig; ac etto yr wyf yn deall eu bod yn gyfeiliornus eu barn ar rai materion pwysig. Yr wyf yn cofio hefyd eich bod ar wahanol amserau yn rhoddi canmoliaeth uchel i Arnold, a Coleridge, a Hare, a Neander; ac ar yr un pryd yr oeddych yn dweyd fod ynddynt rai pethau nad oeddych mewn un modd yn eu cymeradwyo. Yn awr, pe buasech yn dweyd wrthyf am beidio darllen un llyfr ond y rhai perffaith uniongred, buasai y rheol yn amlwg; ond gan eich bod yn canmawl rhai sydd yn cynnwys syniadau cyfeiliornus, ac yn collfarnu ereill, yr wyf yn methu deall yn iawn pa fodd i wahaniaethu rhyngddynt.

A.
Mae yn dda genyf gael y cyfleusdra i wneuthur fy meddwl yn fwy eglur. I’r dyben hwn, efallai y byddai yn well i mi ranu y duwinyddion yn bedwar dosbarth etto, yn ol eu perthynas ag athrawiaethau sylfaenol y grefydd Gristionogol. Y dosbarth cyntaf sydd yn cynnwys y rhai hyny a bleidiant athrawiaethau yr efengyl, ac nad oes ynddynt, fel yr ydym ni yn barnu, ddim o bwys yn groes i dduwinyddiacth iachus: megys Owen, Howe, Leighton, Jonathan Edwards, yn nghyd â’u holynwyr. Yr ysgrifenwyr hyn, a’u cyffelyb, yw y rhai y cynghorwn ddynion ieuaingc i’w darllen hyd nes y byddo eu meddyliau wedi addfedu ychydig, a’u barn wedi ymsefydlu i ryw radd mewn golygiadau cywir ar brif wirioneddau y Bibl. Mae gan ereill yr un rhyddid i farnu a chynghori fel arall.

D.
Fel y dywedai yr hen Gymry, “Rhydd i bawb ei feddwl; a rhydd i bob meddwl ei lafar.”

A.
Eithaf gwir: ac felly y dymunaf o’m calon iddi fod. Yr ail ddosbarth yw y rhai hyny sydd yn cyduno â’r dosbarth cyntaf mewn un ystyr, trwy nad ydynt yn gwrthwynebu athrawiaethau yr efengyl; ond y maent yn annhebyg iddynt mewn ystyr arall, trwy nad ydynt yn eu pleidio.
Yn mysg y rhai hyn y mae Butler a Paley. Yr oedd y cyntaf yn un o’r meddylwyr cryfaf, a’r ail yn un o’r meddylwyr egluraf a ysgrifenodd erioed; a gwnaethant wasanaeth na ellir ei brisio i achos crefydd trwy brofi gwirionedd y Beibl: ond ofer yw edrych iddynt am oleuni ar yr ath­rawiaethau a gynnwysir yn y llyfr.

D.
Ond y mae Butler yn dangos ei fod yn credu athrawiaeth yr Iawn: ac y mae yn amddifiyn yr athrawiaeth hon yn ei Analogy; neu o leiaf, yn profi nad oes un rheswm dros ei gwrthod.

A.
Ydyw: ond ar yr un pryd mae yn dangos fod ei syniadau ar y mater hwn yn dywyll a chymmysglyd. Yn ol ei ddisgrifiad ef y mae cyfundrefn yr Iawn yn gyffelyb i oruchwyliaethau cyffredin Duw tuag at ddynion. Felly, wrth ymresymu dros wirionedd y Beibl, y mae yn gwanhau y prawf o blaid ei ddwyfoldeb. Y prawf cryfaf fod y Beibl, nid yn wir yn unig, ond yn ysbrydoledig, ydyw ei fod yn cyfateb yn berffaith i anghenion (x9) rheswm a chydwybod, ac etto fod y gwirioneddau mawrion sydd yn cyfansoddi sylwedd y llyfr yn gyfryw o ran arucheledd anfeidrol eu natur, fel na welodd llygad, ac na chlywodd clust, ac na ddaeth i galon dyn eu cyffelyb; ac am hyny, fod yn rhaid mai "Duw a'u heglurodd i ni trwy ei Ysbryd."

D.
Onid ydych felly yn rhestru Butler ym mhlith gwrthwynebwyr yr athrawiaethau yr ydych chwi yn dadleu drostynt.

A.
Dim o'r fath beth. A gobeithiaf na fydd i chwi dybied am fynyd fy mod mor annhraethol ynfyd a cheisio darostwng y fath ddyn a Butler. Dylid ei farnu ef, fel pob awdwr arall, yn ol yr amcan oedd ganddo mewn golwg; a'i amcan ef oedd, nid egluro athrawiaethau y Beibl, ond profi fod yr hyn a ddysgir yn y Beibl yn cyfateb i oruchwyliaethau cyffredin Duw yn ei ragluniaeth. Yn ei le ei hun, y mae yn anghymharol; ac annogwn ddynion ieuaingc i'w ddarllen yn fanwl ac yn fynych. Ond awn yn mlaen yn nesaf at y trydydd dosbarth. Y mae hwn yn cynnwys yr ysgrifenwyr hyny oeddynt yn ymdrechu o blaid y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu, ac yn adeiladu ar y sylfaen, er fod cymmysgedd, mwy neu lai, o goed, gwair, a sofl, yn yr adeiladaeth; ac felly y maent yn cyduno â’r dosbarth cyntaf mewn brwdfrydedd i bleidio athrawiaethau pwysicaf yr efengyl; ond yn gwahaniaethu gyda golwg ar gau allan yr hyn sydd }n ymddangos i ni yn groes i dduwinyddiaeth iachus. I'r dosbarth hwn y perthyn Augustine, Luther, Baxter, a Coleridge, a'r duwinyddion goreu yn mhlith Almaenwyr yr oes hon. Y pedwerydd dosbarth yw yr ysgrif­enwyr hyny sydd yn rhoddi eu hymdrech penaf i wrthwynebu athraw­iaethau hanfodol yr efengyl, er nad ydynt yn cau allan bob rhan o'r gwirionedd dwyfol; megys Pelagins, Socinus, a'u holynwyr. Y mae y gwahaniaeth yn amlwg rhwng y trydydd a'r pedwerydd dosbarth. Y mae cyfeiliornadau, fel yr ydym ni yn tybied, yn ngwaith Augustine; ac y mae gwirioneddau yn y gweddillion sydd ar gael o waith Pelagius; ond os edrychwn ar ysbryd a dyben y ddau, ac ar duedd gysson eu hysgrifeniadau, yr ydym yn cael fod un yn cyssegru ei oes i ymladd o blaid y gwirionedd, a’r llall o blaid cyfeiliornad. Nid oes nemawr gad-lywydd nad ydyw wedi gwneuthur - rhai camsyniadau pwysig yn ei ymdrechfeydd: ond os yw ar y cyfan wedi bod yn ffyddlawn i'w wlad, ni ddylid ei gyfrif fel gelyn. Yn ysgrifeniadau Luther drachefn, neu Baxter, neu Coleridge, neu Neander, yr ydych wrth deithio yn mlaen yn cyfarfod weithiau â maen tramgwydd, ond yr ydych yn teimlo o hyd fod yr awel yn iachus ac adfywiol: ond wrth ddarllen ysgrifeniadau rhai o awdwyr poblogaidd y dyddiau hyn, yr ydych yn anadlu awyr afiach; ac onid ydych o gyfansoddiad cryf, nis gellwch fyned yn mlaen yn ddiberygl. Fel y dywedais o'r blaen, dylid barnu awdwyr yn ol en hamcan a'u hysbryd.
Amcan un dosbarth ydyw adeiladu; ond amcan y llall ydyw distrywio. Prif waith y naill yw (x10) amddiffyn, a phrif waith y llall yw gwrthwynebu y gwirioneddau mwyaf pwysig y bu eglwys Dduw yn eu credu trwy yr oesoedd.

D.
Nid oes un ammheuaeth nad oes gofal yn angenrheidiol wrth fyned yn erbyn yr hyn a gredir yn gyffredin, rhag i ni ddistrywio y da yn gystal a’r drwg: ond oni feddyliech chwi fod perygl i ninnau ymorphwys ar ryw hen dybiau, y rhai ni ddaliant en profi yn ngwyneb goleuni yr oes? Mae y byd yn myned yn ei flaen — y mae gwybodaeth yn cynnyddu — y mae dynion yn myned yn fwy goleuedig — y mae hen draddodiadau hybarch yn cael eu taflu i dragwyddol anghof — y mae darganfyddiadau yn cael en gwneuthur yn barhaus yn y gwyddonau; a pha ham na ellid disgwyl yr un peth mewn crefydd a duwinyddiaeth?

A.
Y mae yn gysur cyfarfod â dyn gonest, un yn dweyd ei feddwl yn rhydd a diledrith; ac nid ydych yn dweyd dim nad yw yn ymgynnyg ar rai achlysuron i ystyriaeth y rhan fwyaf o ddynion ieuaingc sydd yn arfer darllen, a sylwi ar yr hyn y maent yn ei ddarllen. Y mae y byd yn myned yn ei flaen, er nad mewn llinell union fel y tybia rhai; ac ofer yw i neb geisio ei attal. A’r gwrthwynebiad cryfaf sydd genyf yn erbyn ysgrifeniadau Maurice, a Jowett, a’u cyffelyb, ydyw, nid eu bod yn cymmeryd yn ganiataol fod y byd yn myned yn ei flaen, ond eu bod yn gwneyd pob ymdrech a fedrant i beri iddo fyned yn ei ol. Beth a ddywedech am ddynion a gynnygient ddistrywio yr adeiladau harddaf a’r cerfluniau gwerthfawrocaf a fedd y gwledydd, ac a ddadleuent fel rheswm am hyny, fod y byd yn myned yn ei flaen? Nid trwy ddynwared y Vandaliaid y mae i ni brofi ein bod yn myned ar gynnydd mewn gwareidd-dra, ac nid trwy dynu i lawr a distrywio y mae i ni fyned yn mlaen mewn duwinyddiaeth; ond trwy chwilio yn ddyfnach i feddwl Duw yn y Beibl, a dwyn allan oddi yno bethau newydd a hen, nid y newydd yn lle yr hen, ond y newydd at yr hen; ac felly helaethu, yn lle lleihau, y cyfoeth o feddyliau sydd i fod yn feddiant arosol yn eglwys Dduw.

D.
Os wyf yn eich deall yn iawn, yr ydych yn barnu na ddylid gwrth­wynebu unrhyw gred a fyddo wedi cael hir dderbyniad. Ond os felly, pa fodd y gellir cyfiawnhau y Diwygwyr Protestanaidd yn eu gwrthwynebiad i gyfeiliornadau y grefydd Babaidd? Ac heblaw hyny, er na ddylai neb ymfoddloni ar ddistrywio yn unig, etto, onid yw yn angenrheidiol tynu i lawr yn fynych er mwyn adeiladu?

A.
Y mae eich gofyniadau yn ddigon priodol; ac hyd yn nod pe bawn yn barnu fel yr ydych chwi yn tybied fy mod, y mae yn dra thebyg na fyddwn yn mhell oddi wrth y gwirionedd, o blegid y mae yn ammheua a oes neb wedi gwneyd llawer o les trwy frwydro yn benodol yn erbyn cyfeiliornadau. Meddyliwch eich bod yn myned i ganol Pabyddion neu y paganiaid, ac yn dechreu trwy ymosod yn erbyn eu daliadau cyfeiliornus (x11) hwy yn uniongyrchol, yn lle cyhoeddi y gwirionedd syml, yn ei oleuni a’i nerth ei hun, beth fyddai y canlyniad? Chwi a wnaech elynion: ond y mae lle i gredu na wnaech ond ychydig o ddychweledigion. Da y gwnaethoch yn cyfeirio at y Diwygwyr Protestanaidd; ac nis gallaswn gael gwell anghraifft i ddangos fy meddwl; o blegid nid yn nacaol yr oeddynt hwy yn gweithredu, ond yn gadarnhaol: hyny yw, nid trwy ryfela yn erbyn daliadau y Pabyddion yn unig, nac yn benaf, yr oeddynt yn llwyddo, ond trwy ddwyn gwirioneddau mawrion y Beibl i’r golwg, ac yn fwyaf neillduol trwy ddwyn y Beibl ei hun o flaen y bobl. Dyma ddirgelwch eu llwyddiant; a dyma yr hyn wyf yn dadleu drosto fel rheol resymol i bob plaid, pa un bynag ai efengylaidd ai gwrth-efengylaidd. Yr ydych yn gofyn, Ai nid yw yn angenrheidiol tynu i lawr er mwyn adeiladu! Mwy addas fyddai dweyd mai y gwirionedd ei hun sydd yn dinystrio y celwydd, na bod yn rhaid dinystrio y celwydd er mwyn codi y gwirionedd. Nid ydych yn myned i’r drafferth o geisio ymlid y nos, er mwyn cael lle i’r dydd. Ond os caniataer fod yr angenrheidrwydd hwn yn bod; er hyny, y mae yn iawn i ni gael gwybod pa beth y bwriedir ei osod i fyny yn lle yr hyn sy genym, cyn y gallwn gydsynio i chwalu yr hen adeiladau sydd wedi bod yn gysgod ac yn gysur i filoedd trwy lawer o oesoedd. Ond y mae dinystrwyr y dyddiau hyn, un ai heb ddim i’w gynnyg yn lle yr hyn sydd yn awr, ac yn dinystrio yn unig er mwyn dinystrio; neu yn faleis-ddrwg yn cuddio eu dybenion o’r golwg.

D.
Y mae gormod o wir yn yr hyn a ddywedwch; ac yr wyf yn gweled y gellir ei gymhwyso at lawer math o ysgrifenwyr, nad oes ynddynt un tebygrwydd o ran dawn a gallu i Maurice a Jowett.

A.
Diau y gellir, at bawb yn y rhai y mae bychander meddwl a hunanoldeb ysbryd yn cydgyfarfod. Nid oes neb yn rhy fychan i ddistrywio; ac nid oes ffordd rwyddach i ddyn hunanol wneyd son am dano dros ychydig amser.

D.
Y mae yn rhaid i mi addef fod darllen y cyfryw ysgrifeniadau yn cynnyrchu ynof fwy nag a ddymunwn o ysbrydiaeth anfoddog; anghariadus, a thrahaus at bawb a phob peth.

A.
Y mae hyny yn ganlyniad digon naturiol; ond gwyliwch rhag y duedd yna. Nid oes un cymhwysder yn fwy angenrheidiol i ddyn ieuangc nag ysbryd nawsaidd, neu fel y dywedy Beibl, “calon hawddgar a da.”

D.
Ymdrechaf fod o hyn allan yn fwy gochelgar. Ond gyda golwg ar y pedwar dosbarth a nodasoch, yr wyf yn ofni nad wyf yn ddigon cryf i efrydu llawer ar ysgrifenwyr y pedwerydd dosbarth heb dderbyn niwed; ond os nad wyf yn camsynied, yr ydych yn caniatau i mi ddarllen gwaith yr holl awdwyr yn y tri dosbarth arall, ac nid ydych am fy nghaethiwo i gylch yr ysgrifenwyr mwyaf uniongred. (x12)

A. Nid wyf am eich caethiwo mewn un modd nac mewn un gradd; o blegid nid trwy ddeddfau allanol y mae llywodraethu dynion ieuaingc meddylgar fel chwi, ond trwy egwyddorion tufewnol. Pe bawn yn eich cynghori i ymwrthod â’r llyfrau a ystyriaf yn gyfeiliornus, mae yn debyg na wnai hyny ond codi mwy o awydd ynoch am eu darllen. A pheth arall, wrth edrych ar y gwirionedd o un cyfeiriad yn unig, yr ydym yn dueddol i fyned yn naill-ochrog yn ein golygiadau, yr hyn a effeithia yn raddol i’n gwneuthur yn ddynion cul, cyfyng, crebachlyd ein meddyliau. Dyma yr achos fod cynnifer o ysgrifenwyr efengylaidd Lloegr yn dangos cyn lleied o allu ac eangder meddwl. Y maent wedi myned yn afiach a musgrell wrth gadw eu hunain yn rhy ofalus; yn lle myned allan yn wrol, ac arfer eu hunain i gyfarfod â phob math o dywydd. Ac etto, y mae rhyw derfynau yn bod yn yr achos hwn, y rhai nis gellir myned drostynt yn ddiberygl. Y mae rhyddid dyn i ddarllen pob math o lyfrau yn cyfateb mewn amryw ystyriaethau i’r rhyddid a ddylai gael i fyned a dyfod wrth ei ewyllys yn un o’r trefydd mawrion. Y mae yn amlwg mai annoethineb o’r mwyaf fyddai gadael plant, neu hyd yn nod ddynion mewn oed heb ryw gymmaint o brofiad, i grwydro yn y cyfryw leoedd heb neb i ofalu am danynt; ac y mae heolydd cyfain yn rhai o’n dinasoedd mawr­ion na charai un dyn a fyddai yn gwybod am danynt ac yn parchu ei gymmeriad ei hun, gael ei weled yn myned iddynt. Felly, y mae lluaws o lyfrau yn dyfod allan o’r wasg Saesneg, a rhai, ysywaeth, o’r wasg Gymraeg, nad oes ynddynt duedd i ddim ond i lygru y rhai a’u darllenant. Nid oes achos i mi ddweyd wrthych am beidio cyffwrdd â’r cyfryw. Ond o’r ochr arall, nid yw yn ddoeth i ni ystyried pawb yn blant ond ni ein hunain. Ac am ddyn ieuangc fel chwi, sydd yn meddu synwyr i farnu, a’r hyn sydd o fwy gwerth na synwyr, sef egwyddor gywir, y mae genyf gymmaint o ymddiried ynoch, fel nad wyf yn hoffi eich rhwymo i beidio darllen gwaith neb ond yr ychydig awdwyr sydd yn ymddangos i mi yn uniongred, mwy nag y dymunwn eich cyfyngu i ryw ychydig nifer o heol­ydd penodol, pe dygwyddai i chwi fyned i fyw i’r brif ddinas.

PENNOD II.
D. Yr wyf yn ddiolchgar am eich barn dda; a gobeithiaf na wnaf ddim a fydd yn peri i chwi newid eich meddwl am danaf.

A.
Yr wyf yn sicr na wnewch: ond nid wyf etto wedi gorphen gyda’r gymmhariaeth. Er mwyn deall y sefyllfa yr ydych ynddi yn eich perthynas â’r aneirif farnau a thybiau sydd yn cael eu cyhoeddi y dyddiau hyn, (x13) meddyliwch eich bod chwi yn un o’r miloedd ar filoedd sydd yn cyfansoddi poblogaeth Llundain. Meddyliwch hefyd eich bod yno yn nghanol yr holl amrywiaeth golygfeydd am y tro cyntaf. Fel y dywedais, y mae genyf bob ymddiried yn eich egwyddor; ac nid wyf am eich caethiwo mewn un modd; ond efallai na wnai cynghor neu ddau ddim niwed i chwi er hyny. Ac yn y lle cyntaf, pan ewch allan i’r heolydd, na fyddwch yn rhy barod i gredu pob peth a weloch mewn hysbysiadau, neu a glywoch yn cael ei ddywedyd am newydd-deb, a rhagoroldeb, a rhadlonrwydd y nwyddau sydd yn cael eu cynnyg ar werth; ond cymmerwch amser i gymmharu, i holi, ac i farnu drosoch eich hun; ac os ydyw y rheol hon yn fuddiol gyda golwg ar yr hyn a gynnygir i ddiwallu angenrheidiau y corph, y mae yn llawer mwy buddiol gyda golwg ar yr hyn a gymmhellir i’ch meddwl trwy gyfrwng areithiau ac ysgrifeniadau. Ac yn ail, byddai yn dra manteisiol fod genych wybodaeth sicr am ryw fanau nodedig, am berthynas eich preswylfod a rhai o’r prif adeiladau, fel y byddo genych ryw bwynt adnabyddus i gyrchu ato, pa le bynag yr eloch, ac y byddoch yn gwybod pa le yr ydych ar ol ei gael. Yn awr, a oes genych ryw byngciau sylfaenol sefydlog fel hyn yn eich duwinyddiaeth?

D.
Hyderwyf fod amryw; o blegid ni fynwn er dim ollwng fy ngafael ar wirioneddau hanfodol crefydd.

A.
Nid wyf yn ammheu yn y gradd lleiaf; ond enwch rai o honynt.

D.
Yn y lle cyntaf, yr wyf yn credu yn ddiysgog fod Duw yn bod.

A.
Dyna un gwirionedd anwadadwy; ac y mae yn cynnwys pob gwir­ionedd arall. Os cewch iawn olwg ar y gwirionedd hwn, y mae yn sicr O’ch cadw rhag pob cyfeiliornad, yn athrawiaethol ac yn ymarferol. “Gosodais yr Arglwydd,” medd y Salmydd, “bob amser gyr fy mron; am ei fod ar fy neheulaw, ni’m hysgogir.” Ond y mae rhywbeth mewn credu fod Duw, heblaw credu fod un yn bod i’r hwn yr ydym yn arfer priodoli yr enw hwn. Y gofyniad ydyw, Pa beth a feddylir wrth y gair “Duw,” pan ddywedir fod “Duw yn bod?” Yr oedd y paganiaid yn credu fod un neu chwaneg yn bod, a elwid ganddynt yn “dduw,” neu yn “dduwiau.” Gan hyny, caniatewch i mi ofyn yn mhellach pa fath un yw y Duw hwn yr ydych yn credu ei fod?

D.
Yr wyf yn credu ei fod yn hollalluog, yn hollbresennol, ac yn hollwybodol.

A.
Y mae eich atebiad yn foddlonol, mor bell ag y mae yn myned; ond nis gellwch lai na chydnabod ei fod yn ddiffygiol, pan ystyriwch fod y diafol yn meddu gallu a gwybodaeth, ac etto nad yw yn meddu y gradd lleiaif o debygolrwydd i Dduw. Nid diffyg mewn gallu neu wybodaeth sydd yn peri fod rhai o greaduriaid Duw wedi colli ei ddelw; ac o ganlyniad, nid yw y priodoliaethau hyn yn cyfansoddi yr hyn yw Duw o ran ei (x14) natur. Y mae Duw yn hollbresennol, ond nid hollbresennoldeb ydyw Duw; y mae yn hollalluog, ond nid hollalluogrwydd ydyw; y mae yn hollwybodol, ond nid hollwybodaeth ydyw. Os dymunwn wybod pa beth yw Duw, y mae yn rhaid i ni fyned at ei gariad a’i sancteiddrwydd: “Duw cariad yw;” ac felly y gellir dweyd am ei sancteiddrwydd.

D.
Dyma ni wedi dyfod yn awr at un o’r materion sydd wedi achosi mwyaf o brofedigaeth i fy meddwl. Y mae amryw o’r awdwyr diweddar yn ceisio profi fod y farn gyffredin am yr Iawn yn cymmylu daioni Duw, ac yn cuddio ei anfeidrol raslonrwydd a’i barodrwydd i achub pechaduriaid; ac y mae rhai o honynt yn disgrifio yr holl syniad am yr angenrheidrwydd o gospedigaeth mewn canlyniad i bechod fel yn anghysson â natur Bod sydd yn anfeidrol dda.

A.
At hyn yr oeddwn am eich arwain. Nid ydyw yr holl ymresymiad hwn ond hen wrthddadl mewn gwisg newydd. Y mae, pa fodd bynag, yn dangos y cyssylltiad rhwng ein barn am yr Iawn, a’r gofyniad, Pa fath un yw Duw; ac y mae yn brawf fod yr athrawiaeth am y bod o Dduw yn un o’r nodau sefydlog yn ein duwinyddiaeth oddi wrth yr hwn y gallwn ddeall yr iawn ffordd at bob pwnc arall. Ond yr ydych yn gweled nad yw yn ddigon i ni gredu yn unig fod Duw, mwy nag y gallwn gael cynnorthwy i wybod y ffordd mewn gwlad ddieithr, trwy glywed enw rhyw le arbenig y dywedir wrthym am gyrchu ato, oddi eithr i ni gael disgrifiad cywir i’n dysgu pa fath le a feddylir wrth yr enw hwnw; ac os bydd y disgrifiad yn anghywir, y mae yn debyg o wneuthur mwy o niwed nag o les. Felly, yn y mater hwn, y mae syniadau anghywir am Dduw wedi arwain llawer i wrthod yr Iawn; ac o’r un gwreiddyn y tardda y duedd a welir mewn amryw sydd yn proffesu parch mawr i’r Testament Newydd, i ddiystyru yr Hen Destament, fel pe byddai yn rhoi golwg rhy gyfyng ar ddaioni Duw.

D.
Ond mewn gwirionedd, gan eich bod wedi son am yr Hen Destament, onid oes anhawsder i ganfod pa fodd y mae rhediad cyffredmol ei ddysgeidiaeth, yn nghyd âg amryw anghreifftiau neillduol, megys y gorchymmyn i ladd y Canaaneaid, a’r melldithion a gynnwysir yn rhai o’r Salmau, yn cydfyned â meddwi teilwng am haelfrydedd a graslonrwydd y Creawdwr? Ac onid oes gwahaniaeth eglur yn yr ystyriaethau hyn rhwng yr Hen Destament a’r Newydd?

A.
Gwahaniaeth graddau yr wyf yn addef, ond nid gwahaniaeth natur. Yr un haul sydd yn llewyrchu o’r boreu hyd hanner dydd, er fod gwahan­iaeth rhwng graddau y llewyrch ar wahanol amserau.

D.
Ond os nad oes yma wahaniaeth rhwng yr Hen a’r Newydd yn yr olwg a roddir ganddynt ar natur Duw, pa fodd y mae syniadau dynion am Dduw, fel y crybwyllwyd, yn eu harwain i wrthod yr Hen Destament mwy na’r Newydd. (x15)

A. Yr wyf yn gweled fod yn rhaid i mi edrych pa beth a ddywedaf. Ond yr ydych yn ymresymu yn eithaf teg; ac y mae yn rhaid cydnabod fod yma anghyssondeb: ond pa un ai ynddynt hwy ai ynof fi y mae yr anghyssondeb, sydd ofyniad arall.

D.
Nid oes genyf un bwriad i arwyddo mewn un modd fod yma anghyssondeb o gwbl; ond yn hytrach ceisio dangos fy mod yn analluog i weled y cyssondeb, ac yn dymuno cael chwaneg o oleuni ar y mater.

A.
Y mae yn afreidiol i chwi wneuthur yr esgusawd lleiaf; o blegid wrth ddadgan ein meddyliau yn rhydd y deuwn i ddeall ein gilydd; ac efallai bob yn dipyn i ddeall y pwngc. Ond gadewch i ni edrych i mewn yn fanylach i ansawdd yr wrthddadl hon. Y mae rhai yn tybied fod y dadguddiad a roddir o natur Duw yn yr Hen Destament yn anghydweddol â’r syniad a ddylai fod genym am ei ddaioni; ac am hyny, y maent yn gwrthod yr Hen Destament; ac ar yr un pryd, y maent yn derbyn y Testament Newydd; er fod Duw yr un fel y dangosir ef yn yr Hen Des­tament a’r Newydd. Os nad wyf yn camsynied, yr achos ydyw hyn: y mae goruchwyliaeth yr Hen Destament yn fwy allanol, yn cyfeirio yn fwy uniongyrchol at y synwyrau corphorol, na goruchwyliaeth y Testament Newydd; ac er fod cyfiawnder Duw a’i ddigllonedd yn erbyn pechod wedi ei ddadguddio mor amlwg, ac hyd yn nod yn fwy amlwg, yn y Testament Nowydd, etto, gan fod y dadguddiad hwnw yn fwy ysbrydol, nid ydyw pawb yn alluog i’w ganfod. Ond y mae rhai drachefn, o feddyliau cryfach, yn ei ganfod; ac am hyny, yn gwrthod y Newydd yn gystal a’r Hen.

D.
Yr wyf yn tybied fy mod yn awr yn deall eich meddwl; ond yr ydwyf o hyd yn methu gweled nad oes gwahaniaeth hanfodol rhwng yr Hen Destament a’r Newydd. Y mae yn ymddangos i mi mai swm yr Hen yw barn; ond fod swm y Newydd wedi ei grynhoi yn y gair hwnw, “Duw, cariad yw.”

A.
Fel y dywedais o’r blaen, y mae gwahaniaeth graddau, nid trwy fod mwy o gyfiawnder yn y naill, a mwy o drugaredd yn y llall, ond trwy fod cyfiawnder a thrugaredd yn fwy amlwg yn y Testament Newydd. Er hyny, y mae trugaredd mor amlwg a chyfiawnder yn yr Hen Destament; ac yr oedd y patriarchiaid a’r prophwydi yn canu am drugaredd a barn. Ac ar y llaw arall, y mae sancteiddrwydd a chyfiawnder Duw mor amlwg a’i drugaredd yn y Testament Newydd. Hyd yn nod yn Epistol Cyntaf Ioan, yr hwn sydd yn orlawn o gariad, ac yn yr hwn y mae y geiriau a goffawyd genych, “Duw, cariad yw,” y mae yr apostol cyn hyny wedi dangos y gwirionedd gwrthgyferbyniol: “Mai goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim tywyllwch. Os dywedwn fod i ni gymdeithas âg ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd.” (x16)

 

D. Y mae yr ystyriaeth yna yn newydd i mi, ac nid oes genyf ddim i’w ddywedyd yn erbyn; ond pa fodd y mae i ni ddeall y geiriau hyny, “Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses; ond y gras a’r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist.”

A.
Nid wyf yn teimlo fy mod yn alluog i benderfynu; ond dichon y caem ryw gymmhorth i ddeall y geiriau, pe cymmerem esboniad Paul ar natur cyfraith Moses. Mae yn amlwg ei fod ef yn gwahaniaethu rhwng cyfammod Sinai, yr hwn sydd yn cenedlu i gaethiwed, a’r cyfammod Abrahamaidd, bendithion yr hwn sydd yn cynnwys bywyd tragwyddol yn hollol o ras, ac yn perthyn i bawb a gredant, ac iddynt hwy yn unig, yn yr enwaediad ac yn y dienwaediad; a’i fod yn gwahaniaethu hefyd rhwng cyfraith Moses fel sefydliad gwladwriaethol ac amserol, yn dwyn perthynas â chenedl Israel yn unig, a’r dadguddiad o feddwl Duw i’r byd, yr hwn a ymddirieddwyd yn gyntaf, mae yn wir, i’r Iuddewon, ond a rodd­wyd trwyddynt hwy i bob dyn fel deiliad byd arall. Y mae yr apostol, ar ol sylwi mai trwy y ddeddf y mae adnabod pechod, yn dangos yn mhellach fod y ddeddf a’r prophwydi yn dwyn tystiolaeth i drefn cyfiawnhad trwy ffydd. Yr oedd efengyl gan hyny, yn gystal a deddf, yn yr Hen Destament, megys y mae deddf gystal ag efengyl yn y Testament New­ydd: ac y mae yn amlwg fod yr un gwahaniaeth rhwng cyfraith Moses a sylwedd yr Hen Destament, ag sy rhyngddi a’r Testament Newydd.

D.
Beth yw eich barn chwi ynte am gyfammod Sinai? Beth ydyw, Pa un ai cyfammod gras, ai cyfammod gweithredoedd?

A.
Y mae hwn yna yn ofyniad mwy anhawdd nag a feddyliech; ac arweiniai ni yn rhy bell oddi wrth ein testyn y tro hwn. Efallai y cawn hamdden i ymddyddan yn ei gylch rywbryd etto; ond yn awr gadewch i ni ddychwelyd at yr adnod a grybwyllwyd genych. A ddarfu i chwi sylwi ar y gair “gwirionedd” yn yr adnod hon? Os yw Iesu Grist yn rhagori ar Moses mewn gras, y mae yn rhagori llawn cymmaint mewn gwir­ionedd: o blegid “y gras a’r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist.” Ac os edrychwn ar holl ddysgeidiaeth yr Arglwydd Iesu Grist, pwy roddodd gymmaint o oleuni ar ysbrydolrwydd y gyfraith, a phwy a lefarodd mor llym yn erbyn pechod? Bod un mor sanctaidd yn gyfaill publicanod a phechaduriaid, sydd anfeidrol ryfedd.

D.
Yr wyf yn gweled fod pob peth a gynnygiaf, pa un ai rheswm ai Ysgrythyr, yn troi yn fy erbyn; ond nid wyf yn digaloni, o blegid nid ymladd am fuddugoliaeth yw yr amcan, ond cael allan y gwirionedd; ac fel y dywedodd rhyw hen frawd unwaith, “Myfi ennillodd, canys yr oeddych chwi yn gwybod o’r blaen.” Ac nid er fy mwyn fy hun yn unig yr wyf yn siarad, ond er mwyn cael modd i symmud y rhagfarn sydd yn meddyliau rhai o’m cyfeillion; o blegid yr wyf wedi cael achos i ddeall fod (x17) amryw o’r Cymry mewn rhai manau yn coleddu teimlad cryf fod rhy fach o bregethu y dyddiau hyn ar gariad Duw.

A.
Clywais awgrym i’r perwyl yna o’r blaen; ac y mae y cyfryw deimlad yn un o’r pethau nas gallaf roddi cyfrif am danynt. Os ydynt yn tybied fod cariad Duw yn cael ei adael allan o’r pregethau yn y dyddiau hyn, yr wyf yn methu deall pwy all fod y pregethwyr y maent yn arfer eu gwrandaw; ond os eu meddwl yw, fel y mae yn fwyaf tebygol, y dylid pregethu cariad ar wahân oddi wrth yr iawn — y mae hyny yn ammhosibl: “Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei uniganedig Fab, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragwyddol.” “Eithr y mae Duw yn canmawl ei gariad tuag atom; o blegid a nyni eto yn bechaduriaid, i Grist farw drosom ni.” “Yn hyn y mae cariad, nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein cam ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau ni.”

D.
Hyd yr wyf yn gwybod am eu teimladau, nid ydynt yn erbyn pregethu yr iawn; ond eu barn hwy ydyw, y dylid ei ddangos fel amlygiad o gariad pur a digymmysg, megys y gwneir yn yr adnodau a goffawyd; ac nid fel pe buasai anhawsderau o du yr Arglwydd i achub pechaduriaid, ac nas gallesid symmud yr anhawsderau hyny ond trwy yr iawn.

A.
Yn awr yr wyf yn deall. Ond nis gall y golygiad yna fod yn gywir, o blegid dau reswm: yn gyntaf, y mae y Beibl yn dangos yn anwrthwynebol fod yr iawn yn arddangosiad o gyfiawnder Duw; ac yn ail, nis gallasai yr iawn ddangos cariad os nad oedd cyfiawnder yn ei wneuthur yn anhebgorol angenrheidiol.

D.
Nis gellir gwadu nad yw y Beibl yn dysgu fod yr iawn yn dangos cyfiawnder; ond fel y dywedasoch ar bwngc arall, y gofyniad yw, pa beth sydd i’w ddeall wrth y gair “cyfiawnder?” A ydyw yn cynnwys mwy na bod Duw yn sanctaidd, ac o angenrheidrwydd yn casau pechod, fel nas gallasai dderbyn pechadur yn ol i’w heddwch heb ei gyfnewid? Ond nid ydyw hyn yn arwyddo fod angenrheidrwydd natur yn galw ar i Dduw weinyddu cosp ar y diniwed er mwyn arbed y troseddwr.

A.
Os yw y Beibl yn arfer dau air gwahanol, y mae yn rhaid fod iddynt ddau feddwl gwahanol. Ac heblaw hyny, yn ol y golygiad yna, pa beth allasai fod dyben marwolaeth Grist?

D.
Yr oedd yn arddangosiad o sancteiddrwydd Duw, ac yn tueddu i wneuthur argraff sancteiddiol ar feddyliau dynion.

A.
Os nad oedd sancteiddrwydd Duw yn ei gwneuthur yn angenrheidiol cospi am bechod o gwbl, pa fodd yr oedd ei sancteiddrwydd yn ei gwneuthur yn angenrheidiol rhoddi cosp neu boen o unrhyw natur, ar un ni wnaeth bechod? (x18)

D.
Ond nid ydwyf yn dywedyd ei fod yn angenrheidiol gyda golwg at Dduw; eithr yn unig gyda golwg ar ei greaduriaid moesol.

A.
Felly, nis gallasai fod yn arddangosiad o sancteiddrwydd Duw; o blegid os nad oedd ei sancteiddrwydd yn galw am dano, nac mewn un modd yn ei wneuthur yn angenrheidiol, pa fodd y gallasai fod yn arddangosiad o sancteiddrwydd?

D.
Er hyny, dichon ei fod yn angenrheidiol, er mwyn argraffu ar feddyliau dynion y drwg sydd mewn pechod.

A.
Y mae yn ddiammheu ei fod: ond pa fodd y mae yn gwneuthur hyny? Onid trwy ddangos fod yn ammhosibl maddeu pechod heb i Grist farw? Ac os yw yn dangos hyny, y mae yn rhaid fod hyny yn wirionedd; o blegid y mae yn annhraethol anaddas, ac yn llwyr ammhosibl, i ni feddwl fod y Duw sanctaidd trwy arddangosiad anfesurol o gelwydd yn dysgu gwirionedd i ddynion.

D.
Y mae yn rhaid addef nas gall hyny fod.

A.
Nis gall fod, ac nis gellir ei feddwl. Ac hefyd, onid ydych yn gweled fod anghyssondeb gwreiddiol yn y golygiad yr ydych yn dadleu drosto? Ar un llaw, dywedir wrthym fod y syniad am Dduw yn rhoddi cospedigaeth pechod ar y diniwed o angenrheidrwydd natur, er mwyn arbed yr euog, yn groes i reswm ac uniondeb; ac o ganlyniad, fod y grediniaeth yn cynnyrchu effeithiau annymunol ar feddyliau dynion; ac ar y llaw arall, dywedir drachefn fod y meddwl am dano yn gwneuthur yr un peth heb ddim gwir angenrheidrwydd yn tueddu i effeithio yr ddaionus.

PENNOD III.
D.
Nid wyf yn gwybod yn iawn pa beth i’w ddweyd; ac etto yr wyf o hyd yn methu canfod pa angenrheidrwydd allasai fod yn Nuw yn galw am roddi cosp pechod ar y diniwed. Pa beth yr ydych chwi yn feddwl wrth y cyfiawnder a ddangosir yn yr iawn? A oes dim modd i ni gael eglurhad athronyddol ar y gair?

A.
Goddefwch i mi ofyn, pa beth yr ydych yn feddwl wrth eglurhad athronyddol? O blegid, er fy mod yn gwybod fod eich amcan yn gywir, y mae yn rhaid i mi addef fod arnaf braidd ryw radd o ofn y cyfryw eiriau mawrion, pan y clywaf hwy yn cael eu harfer gan bobi ieuaingc.

D.
Onid ydych yn barnu fod yn fuddiol i ddynion ieuaingc efrydu athroniaeth? (x19)

A.
Y mae athroniaeth yn angenrheidiol, fel y mae peiriannau. y fferyllydd yn angenrheidiol; ac etto, ni ddymunech weled neb yn gwneyd prawf o honynt heb en deall.

D.
Mae yn rhaid caniatau fod perygl camddefnyddio athroniaeth; ond maddeuwch i mi am ddweyd fod perygl yr ochr arall; o blegid yr wyf yn gwybod fod llawer o bobi ieuaingc yn cymmeryd yn ganiataol pan glywant bregethwyr yn siarad yn erbyn athroniaeth a dysgeidiaeth, fod yno ryw ymwybodolrwydd o wendid. Cesglir yn uniongyrchol eu bod yn gwrthwynebu gwybodaeth am y gwyddant fod eu hen dybiau hwy yn analluog i ddal goleuni y dydd; ac y mae hyn wedi gyru llawer yn anffyddwyr. A pha ham y dylem adael yr holl faes athronyddol yn meddiant gelynion crefydd? Os ydyw ein cyfundraeth yn wirionedd, pa ham y rhaid i ni ofni goleuni, o ba le bynag y daw, pa un ai oddi wrth ddaiareg, neu hanesyddiaeth, neu athroniaeth? Yn hytrach, oni ddylai Cristionogion ddwyn pob gwybodaeth dan deyrnged i efengyl Crist?

A.
Y mae llawer o synwyr yn yr hyn a ddywedwch, ac yr ydych yn ei ddweyd mor dda fel yr wyf bron meddwl y deuwch mewn amser yn teithiwr yn gystal ag athronydd. Yr anhawsder yn hyn, fel mewn llawer peth arall, yw arfer heb gamarfer. Yr un yw gwirionedd yn mhob oes, ac yn mhob byd; ac y mae pob rhan o hono yn rhwym o fod yn gysson âr cwbl, y lleiaf yn wasanaethgar i’r mwyaf. Y mae athroniaeth yn enwedig, o’i deall yn iawn, yn sicr o fod, fel y dywed Paul am y ddeddf, yn athraw at Grist. Ac os ydych yn addaw bod yn ddigon amyneddgar, nid wyf yn anfoddlawn i roddi ychydig ystyriaeth i’r hyn a elwir yn “athroniaeth yr athrawiaeth.” Ond pa gyfundraeth a gymmerwn fel ein safon? Beth meddwch chwi am Plato; yr hwn, yn ddiau, yw tywysog yr holl athronwyr?

D.
Byddai hyn yn rhoddi pob tegwch i’r blaid arall; o blegid y maent hwy yn ddiddiwedd yn son am Plato. Ond y mae yn anhawdd genyf gredu fod yn bosibl eu gorchfygu ar y tir hwn.

A.
Nid wyf yn addaw hyny; ond os methaf, gobeithiaf y cymmerwch yn ganiataol mai fy anfedrusrwydd yw yr achos, ac nid gwendid y pwngc; ac y cedwch mewn cof fod yr hen wirioneddau y cyfeiriwyd atynt o’r blaen yn aros yr un o hyd. Ond i fyned yn mlaen at Plato; os nad wyf yn camgymmeryd, yr ydych yn cydfyned â’i olygiadau yn y Philebus.

D.
Rhy brin y gallaf ddyweyd fy mod yn deall y traethawd hwnw yn ddigon da i ffurfio barn; ond yr wyf wedi darllen y rhan fwyaf o hono, fel y gwyddoch, ac yn ei hoffi yn fawr mor bell ag yr wyf yn alluog i’w amgyffred.

A.
Fel yr oll, bron, o ysgrifeniadau Plato, gellir cymhwyso ei ymresymiad yn y Philebus at Dduwinyddiaeth. Yr ydych yn cofio ei fod yn (x20) dangos nas gellir ffurfio un syniad cywir heb olwg ar gydgyfarfyddiad y terfyn â’r diderfyn.

D.
Yr wyf yn cofio ei fod yn trin llawer am y terfyn a’r diderfyn; ac hefyd am rifedi mewn cyssylltiad â hwynt: ond dyna un o’r pyngciau sydd ganddo, y rhai y mae yn perthyn i mi gyfaddef nad wyf yn eu deall.

A.
Cymmerwch anghraifft neu ddwy er eglurhad. Pan y mae y gweithiwr celfydd yn meddwl ffurfio unrhyw fath o beiriant, y mae y defnyddiau angenrheidiol ar y cyntaf yn dryblith diderfyn; ac ni cheir y peiriant i fod heb ddwyn i mewn yr egwyddor derfynol i roddi mesur a llun i’r defnyddiau. Neu, meddyliwch eich bod yn cyfansoddi traethawd ar unrhyw bwngc: mae y testyn yn un, ond y mae yr hyn a ellir ei ddyweyd ar y testyn yn ddiderfyn. Yn awr, pa fodd y gwnewch? Onid ydych yn ffurfio rhyw gynllun sydd yn rhoddi terfyn i’r diderfyn? Ac nid hyn yn unig, ond yr ydych yn crynhoi y cwbl i ryw rifedi pennodol o feddyliau, pa un a fyddwch yn dewis enwi y rhifedi hwnw yn ffurfiol ai peidio.

D.
Y mae yr angreifftiau yna yn rhoddi goleuni ar Plato; ac y mae yn amlwg y gellir cymhwyso yr egwyddor at holl weithredoedd dynion; ond nid yw mor amlwg pa fodd y gellir ei chymhwyso at Dduw, gan nad oes terfyn yn bod iddo.

A.
Y mae yn wir nad oes terfyn yn bod i Dduw; ond y mae terfyn i’w weithredoedd. Cofus genych, yn ddiau, fel y mae Milton yn disgrifio y Mab yn nodi allan a’i gwmpawd derfynau y greadigaeth; neu fel y mae Solomon yn dyweyd fod y Creawdwr yn gosod cylch ar wyneb y dyfnder. Y mae gallu Duw yn ddiderfyn; ond yn ngwaith y greadigaeth yr oedd yn angenrheidiol i’r gallu hwn weithredu o fewn rhyw derfynau. Felly hefyd y mae ei gariad a’i sancteiddrwydd yn ddiderfyn: ond y mae yn angenrheidiol iddynt weithredu bob amser o fewn terfynau cyfiawnder a deddf.

D.
Un peth yn unig sydd yn ymddangos yn aneglur yn y gymhariaeth. Yn y drychfeddyliau y cyfeiriwyd atynt, mi a feddyliwn fod y terfyn yn ymddibynu ar yr ewyllys. Pan fyddo y cerfiwr cywrain yn myned i ffurfio cerfddelw, y mae yn wir fod yn rhaid iddo roddi rhyw derfyn i’r defnyddiau sydd ganddo i weithredu arnynt; er hyny, gall eu gwneuthur o’r maint a’r llun a welo efe yn oreu. Nid oes yma un angenrheidrwydd: ac yn ol yr ymresymiad hwn, y mae yn anhawdd canfod pa fodd nad yw pob gweithred o gyfiawnder yn weithred benarglwyddiaethol. Ac felly nid oes angenrheidrwydd yn bod am gospedigaeth o herwydd pechod, ac am iawn mewn trefn i faddeu.

A.
Yr wyf yn gweled fod yma fwy o anhawsder nag oeddwn wedi ei (x21) feddwl. Ond wrth alw eich sylw at yr ymchwiliadau hyn o barth y terfyn a’r diderfyn, nid oeddwn yn amcanu rhoddi ar ddeall fod y prawf yn gorphwys ar gyfatebrwydd perffaith yn mhob ystyr. Ond gan eich bod yn arwyddo nas gallech ffurfio syniad eglur am gyfiawnder dwyfol yn achosi cospedigaeth, ac yn gofyn am eglurhâd athronyddol, tybiais mai buddiol fyddai dangos am un o’r meddylwyr mwyaf yn holl oesoedd y byd, ei fod ef yn hollol i’r gwrthwyneb; yn barnu — nid gyda golwg ar y gwirionedd hwn yn uniongyrchol, ond fel egwyddor gyffredinol — nas gellir cael gafael mewn un drychfeddwl nad yw yn cynnwys ynddo ei hun y terfyn a’r diderfyn; ac o ganlyniad, nas gellir meddwl am yr un o’r priodoliaethau dwyfol, heb dybied fod rhyw derfyn i’w gweithrediadau. Pa fodd bynag, yr wyf yn ddiolchgar am yr wrthddadl; o blegid y mae yn peri i mi ail ystyried y pwnc. Gadewch i ni edrych yn fanylach, a threiddio ychydig yn ddyfnach, ac yr wyf yn lled sicr y daw cadernid yr ymresiymiad yn fwy amlwg. Pa le y dechreuwn?

D.
Nid oes genyf ond gadael i chwi ddewis eich llwybr, a cheisio dilyn hyd eithaf fy ngallu.


A.
Un o’r materion mwyaf tywyll yn holl athroniaeth Plato yw y cyssylltiad rhwng rhifedi a drychfeddyliau. Ond y mae yn dra thebyg ei fod yn golygu mai rhifedi yw y terfyn. Os felly, y mae yma angenrheid­rwydd; o blegid nid oes mwy o angenrheidrwydd yn perthyn i ddim nag i rifedi. Ond cofiwch mai nid am rifedi cyffredin y mae efe yn siarad, ond yn hytrach am egwyddorion anghyfnewidiol, er ei fod yn defnyddio cyffelybiaethau oddi wrth rifedi cyffredin i ddangos ei feddwl: ac nis gallesid cael gwell enw ar yr egwyddorion hyn, gan eu bod bob amser yn cynnwys rhyw fath o gymmesuredd. Cymmerwch y gymhariaeth sydd ganddo ef ei hun oddi wrth gerddoriaeth; mae yr amrywiaeth lleisiau yn ddiderfyn, ac eglur yw nas gellir cael un drychfeddwl cerddorol heb roddi terfyn i’r amrywiaeth hwn trwy rifedi pennodol o dônau, hanner-tônau, a’r cyffelyb. Ond a yw y terfyn hwn yn fympwyol? Nac ydyw mewn un modd; am fod rhifedi y tonau hyn yn cael eu llywodraethu gan ddeddfau anhyblyg. Ond fe allai y canfyddwch yr hyn yr wyf yn ceisio ei ddangos yn well mewn peirianwaith. Y mae y peiriannydd yn gwneuthur ei beiriant i ateb rhyw ddyben penodol; ond er mwyn iddo ateb y dyben hwnw, y mae yn rhaid iddo gydymffurfio â deddfau neillduol, y rhai sydd fel terfyn nas gellir myned drosto. Y mae rhyw faint o nerth angenrheidiol yn bod i ateb y dyben sydd mewn golwg; ac y mae yn rhaid hefyd i holl ranau y peiriant gyfateb i’w gilydd ac i’r cyfan. Y mae yn wir nad yw y rheol mor hawdd i’w chanfod mewn rhai achosion, megys mewn arluniau, cyfansoddiadau barddonol, a’r oll sydd yn perthyn i’r arddunol a’r prydferth; er hyny, y mae y meddylwyr mwyaf craffus yn barnu, a diammheu (x22) eu bod yn barnu yn gywir, fod pob syniadau teilwng am yr arddunol a’r prydferth yn sylfaenedig ar egwyddorion cyffredino] ac angenrheidiol. Felly yr ydych yn gweled fod rhyw derfyn yn perthyn o angenrheidrwydd i bob drychfeddyliau.

D.
Gan eich bod wedi cyffwrdd â’r drychfeddyliau hyn, byddai yn dda genyf gael chwaneg o oleuni arnynt; o blegid er i chwi eu hesbonio mewn ymddyddanion blaenorol ar amryw achlysuron, nid wyf eto yn teimlo fod genyf ddrychfeddyliau eglur am y drychfeddyliau yr ydych yn son am danynt.

A.
Iawn y dywedasoch fod yn rhaid cael drychfeddyliau am y drych­feddyliau, o blegid nid yr un peth yw y drychfeddyliau fel y maent yn anmherffaith ynom ni, ac fel y maent yn berffaith ynddynt eu hunain. Ond pe amcanem eu holrhain yn eu holl gyssylltiadau ar yr achlysur presennol, arweinid ni yn rhy faith, ac yn rhy bell oddi wrth y testyn. Gan hyny, ni chaf ond rhoddi o’ch blaen un gofyniad syml. Pan fyddoch yn siarad am unrhyw wrthddrych, megys fod dyn yn farwol, neu ei fod yn greadur cyfrifol, am ba beth y byddwch yn meddwl? Ai am ryw un dyn neillduol, neu am ryw nifer o ddynion o fewn cylch eich cydnabyddiaeth?

D.
Nid am y naill na’r llall, ond am ddyn yn gyffredinol, neu fel y dywedant, dyn yn yr abstract.

A.
Ond beth yw y dyn cyffredinol hwn? A ydyw yn bod, ai nid yw?

D.
Fe’n dysgir gan Whately, a’r holl awduron penaf, i gredu nad yw yn bod.

A.
Nid y rhai penaf; ond gadewch i hyny fod. Felly, pan ddywedoch fod dyn yn greadur cyfrifol, yr hyn yr ydych yn ei feddwl ydyw, fod rhyw un, yr hwn nid yw yn bod, yn greadur cyfrifol.

D.
Ond os ydyw y drychfeddyliau hyn yn bod, y mae yn rhaid iddynt fod mewn rhyw le.

A Y maent yn bod, nid fel personau, ac nid yn gyrph nac ysbrydoedd, ond fel drychfeddyliau, yn annibynol ar amser a lle.

D.
Ond yr wyf yn methu deall pa fodd y gall unrhyw beth fod, heb fod mewn lle, ac heb fod yn gorph nac yn ysbryd.

A.
Yr ydych yn credu fod cyfiawnder yn bod, a deddf foesol yn bod er tragwyddoldeb.

D.
Yr wyf yn credu eu bod yn hanfodi er tragwyddoldeb yn meddwl Duw, ac nid mewn un dull arall.

A.
Dyna sylwedd yr hyn yr wyf yn ddadleu drosto; o blegid yn Nuw y mae pawb a phob peth yn bod. Yr hyn sydd o bwys yw credu fod iddynt hanfodiad yn annibynol ar ein meddyliau ni. Nid nyni sydd yn eu creu nac yn eu ffurfio trwy rym ein galluoedd ein hunain, ond yr oeddynt yn bod o flaen un creadur. Pa un a ydynt yn bod y tu allan i feddwl (x23) Duw, sydd ofyniad arall; ac y mae dadl yn mhlith dysgedigion mewn perthynas i farn Plato ei hun ar y mater hwn. Yn ol Trendelenburg, yr oedd yn golygu fod y drychfeddyliau hyn yn hanfodi yn unig yn meddwl Duw er tragwyddoldeb; ond y mae Stallbaum yn gryf o’r farn wrthwynebol. Yr hyn sydd ddiammheuol am ei olygiadau, a’r hyn sydd angenrheidiol i ninnau ddeall, ydyw, eu bod yn hanfodi mewn gwirionedd yn ddiddechreu. Ond yn lle dadleu mai yn y meddwl dwyfol y maent yn bod, mwy priodol fyddai gofyn a ydynt yn annibynol ar ewyllys Duw, ai nid ydynt. Os cymmerwn y mater yn y wedd yma yn destyn ymchwiliad, fe allai na fyddem ym mhell iawn o’n lle pe dywedem fod Plato yn uno y ddau olygiad. Y mae yn sicr ei fod yn dywedyd yn amlwg fod Duw wedi creu drychfeddyliau, neu yn hytrach nid wedi eu creu, ond yn eu creu; nid mewn amser, ond yn dragwyddol ddiddechreu ddiddiwedd. Ond yr oedd yn barnu hefyd — ac y mae yn rhaid i bob dyn ystyriol farnu yn gyffelyb — fod egwyddorion anghyfnewidiol yn bod; ac nis gall fod yr egwyddorion hyn yn tarddu o ewyllys Duw, onid e, yr ydym yn gwneuthur gweithredoedd o gyfiawnder yn weithredoedd o benarglwyddiaeth. O ddiffyg gweled y gwahaniaeth hwn, y mae dysgedigion yn dyrysu, ac yn methu cyssoni Plato âg ef ei hun. Yr egwyddurion angenrheidiol hyn, fel y dywedwyd eisoes, yw y rhifedi heb yr hwn nis gall yr un drychfeddwl ddyfod i fod: ac wrth gymhwyso y terfyn hwn at y diderfyn, y mac Duw er tragwyddoldeb yn creu drychfeddyliau.

D.
Ond pe cydnabyddem fod y drychfeddyliau hyn yn bod er tragwydd­oldeb, onid wrth sylwi ar y gwrthddrychau sydd o’n hamgylch, ac wrth eu cymharu â’u gilydd, a gwneyd casgliadau cyffredinol oddi wrthynt, yr ydym ni yn dyfod i adnabyddiaeth o’r drychfeddyliau? Ac hyd y mae a wnelom ni â hwynt, onid hyn yw y cwbl sydd yn bod?

A.
Y mae eich gofyniad cyntaf yn gywir mewn rhan; ac nid oes nob yn ammheu nad fel hyn yr ydym yn dechreu: ond pell iawn ydwyf oddi wrth feddwl mai hyn yw y cwbl sydd yn bod. Hyd yn nod os gwrthodir pob gwirionedd ysbrydol, gallwn ddyfod i lawr at y gwybodaethau hyny a gyfrifir yn fwyaf diammheuol gan yr ammheuwyr eu hunain. Nid oes neb yn tybied nad yw ymresymiadau Euclid yn wirionedd; ond sicr yw, na threiddia neb yn mhell i’r wybodaeth hon os na chredant fwy nag a welant â’u llygaid, a mwy nag a allant gasglu yn uniongyrchol oddi wrth yr hyn a welant. Yr ydych yn gwybod fod yr holl onglau mewn triongl yn gwneuthur i fyny hanner cylch; nid rhywbeth o ddeutu hyny, ond hyny yn berffaith: ond nid trwy edrych arnynt, na thrwy eu mesur, y daethoch i feddiant o’r wybodaeth hon, ond ar wahan oddi wrth bod prawf allanol — trwy ymresymiad pur yn myd y meddwl. Gan hyny, onid afresymol yw tybied nas gallwn gyrhaedd adnabyddiaeth o ddrychfeddyliau (x24) oddi eithr yn unig yr hyn a gesglir oddi wrth y gwrthddrychau gweledig? Dyma wreiddyn y ddadl rhwng yr Aristoteliaid a’r Platoniaid. Barn yr Aristoteliaid ydyw, fod y drychfeddw] yn tarddu o’r gwrthddrychau gweledig, ac yn cynnwys dim mwy nag priodoliaethau cyffredin sydd yn perthyn i bob gwrthddrych yn y dosbarth, ac o ganlyniad, fod y drychfeddwl yn llai perffaith nag un o’r gwrthddryclhau: ond barna y Platon­iaid, o’r ochr arall, mai y drychfeddwl yn unig sydd yn berffaith, ac mai mewn rhan yn unig y mae priodoliaethau y drychfeddwl yn cael eu cyfranogi gan y gwrthddrychau.

D.
Bum yn agos a gofyn eto, pa le y mae y drychfeddyliau hyn yn bod? ond cofiais eich bod wedi dywedyd eisoes nad ydynt mewn lle o gwbl. Er hyny, os nad yw yn addas gofyn pa le, a oes dim modd i ni ddeall pa fodd y maent yn bod yn annibynol ar y gwrthddrychau?

A.
Buaswn innau yn dueddol i ofyn yn hytrach, Pa fodd y mae unrhyw wrthddrychau gweledig yn bod heb gyullun blaenorol, mwy nag y mae yr adeilad mwyaf gorwych yn dyfod i fod trwy daflu y defnyddiau at eu gilydd yn bentwr? Os credwn mai Duw a wnaeth pob peth, y mae yn rhaid i ni gredu hefyd ei fod yn gwneyd y cwbl yn ol cynllun tragwyddol, yr hwn oedd yn cynnwys drychfeddyliau perffaith am bob byw a bod. Y mae efe yn gwneuthur pob peth, nid wrth ei ewyllys yn unig, ond wrth gynghor ei ewyllys ei hun. Ac os yw yn angenrheidiol i ni gredu fod pob peth sydd mewn bod, neu a ddaw i fod byth, yn y cynllun tragwyddol, nis gallwn feddwl eu bod yno blith draphlith, heb reol na threfn; o blegid pe felly, nid cynllun a fuasai: ond dilys ydyw, eu bod yno yn ei ddosbarthiadau gwahanol; pob dosbarth yn cyfateb i ryw ddrychfeddwl dwyfol, yn gynnwysedig o fewn cylch penodol, ac yn meddu priodoliaethau perthynol iddo ei hun. Yn nghanol yr aneirif ddrychfeddyliau, yr oedd y drych­feddwl o ddyn: nid dynion fel rhanau amryfal o’r greadigaeth weledig; ond dyn, fel dosbarth arbenig ar wahan oddi wrth yr holl ddosbarthiadau ereill, ac nid dyn fel y gwelir ef heddyw mewn unrhyw berson unigol, ond dyn perffaith, wedi ei adferu ar lun a delw ei Greawdwr, yn meddu galluoedd i fyned yn miaen yn ddiderfyn mewn gwybodaeth a sancteiddrwydd, ac eto, wedi ei amgau o fewn terfynau deddf. Ond dysgir ni yn y dadguddiad dwyfol i gredu mai nid dyn oedd yr unig greadur rhesymol yn y cynllun dwyfol, eithr fod yno hefyd “thronau, ac arglwyddiaethau, a thywysogaethau, a meddiannau.” Y mae yn wir mai dyn yw haul y byd bychan yr ydym ni yn byw ynddo; ond mae seiliau i gasglu fod heuliau dirifedi yn y byd moesol, fel yn y byd naturiol; ac o ganlyniad, y mae yn rhaid fod Un yn bod, yr hwn sydd yn ddigon mawr i fod yn haul yr holl heuliau. Fel canolbwynt i’r holl ddrychfeddyliau, y mae yn rhaid fod yno un drychfeddwl, yn yr hwn y maent oll yn cydsefyll (x25) drychfeddwl hwn yw Duw wedi ymddangos yn y cnawd; yr Uniganedig Fab yn rhoddi ei fywyd dros ddyn syrthiedig. Nid oedd pechod yn y cynllun: ond yn y rhagolwg ar ddyfodiad pechod i’r byd, yr oedd yno ddrych­feddyliau tragwyddol o gariad a hedd, yn dwyn mwy o ogoniant i Dduw, a mwy o ddyrchafiad i ddyn, na phe buasai pechod heb erioed ymddangos. Ac yn awr, yr hyn sydd yn perthyn yn fwyaf uniongyrchol i destyn ein hymddyddan presennol yw, y gofyniad, A yw y drychfeddyliau dwyfol yn ddrychfeddyliau heb drefn? A yw cariad Duw at fyd colledig yn gariad cyffredinol, direol, a diamcan, yr hwn nid yw yn gwneuthur un gwahaniaeth rhwng pechod a sancteiddrwydd? Onid hanfod pechod yw ei fod yn anghyfraith, neu mewn geiriau ereill, yn groes i drefn; ac a ellir meddwl mai trwy weithredu heb un drefn y mae Duw wedi bwriadu dileu pechod? Ond os yw ein meddyliau yn rhy weiniaid i graffu ar ddrychfeddyliau fel y maent ynddynt eu hunain, gallwn edrych arnynt fel y maent wedi ymgorpholi mewn gweithredoedd. Ar bob llaw, o’n hamgylch ogylch, yr ydym yn gweled gallu mewn gweithrediad parhaus. Nid oes dim nad yw yn ei ddangos, o’r llysieuyn at y gedrwydden, o’r gwlithyn i fyny at y cyrph dysglaer sydd yn olwynaw yn entrych y ffurfafen: ond yn yr holl greadigaeth, nid yw gallu un amser yn ymddangos ar wahan oddi wrth ei ddeddfau priodol. Ie, gellir gofyn, a yw yn bosibl i allu weithredu mewn un modd heb fod o fewn terfynau rhyw ddeddf? Ac os yw hyn yn egwyddor gyffredinol, a ellir tybied mai yn yr uchaf a’r gogoneddusaf yn unig o weithredoedd yr Anfeidrol y mae efe yn gweithio heb drefn? Y gallu yn iachawdwriaeth dyn yw cariad; ac y mae yn rhaid i ni gredu fod y gallu hwn yn gweithredu yn ol trefn cyfiawnder tragwyddol. Gogoniant Duw ydyw ei fod o angenrheidrwydd yn ymddwyn tuag at ei holl greaduriaid rhesymol yn unol âg egwyddorion deddf foesol: a gogoniant yr iachawdwriaeth ydyw, ei bod yn mawrhau y gyfraith, ac yn ei gwneuthur yn anrhydeddus, trwy fod y Deddfwr wedi dyfod dan yr un ddeddf a’i greadur; ac yn rhinwedd y berthynas hono rhyngddo ef a’r troseddwr, yn dwyn dyn yn ol i gydymffurfiad perffaith â deddf Duw.

D.
Efallai mai tewi a ddylwn: ond y mae awydd ynof am wybod; ac y mae un peth yn ymddangos i mi eto yn dywyll. A ydwyf i ddeall eich bod yn dweyd fod terfyn i gariad Duw fel y mae yn gweithredu yn nhrefn yr iachawdwriaeth?

A.
Un peth yw fod terfyn i gariad fel y mae yn briodoledd yn Nuw; a pheth arall yw fod terfyn i weithrediadau y cariad dwyfol. Y mae yn ddiau fod y briodoledd o gariad yn Nuw yn ddiderfyn; o blegid “Duw, cariad yw:” ond nid yw hyn yn profi nad yw cariad Duw yn gweithredu bob amser o fewn rhyw derfynau. Er mwyn eglurhad, cymmerwch anghraifft oddi wrth weithrediad y gallu dwyfol yn ngwaith y greadigaeth. (x26) Nid oedd llai na hollalluogrwydd yn ddigon i greu, ac eto y mae yn amlwg fod Duw yn yr oll a wnaeth yn rhoddi rhyw derfyn i weithrediad ei hollalluogrwydd. Ond ar yr un pryd y mae gwahaniaeth hanfodol rhwng gwaith y greadigaeth a gwaith yr iachawdwriaeth: o blegid yn y greadigaeth, nis gellir meddwl fod y gwaith yn ogymaint a’r gallu oedd yn gweithio; ond yn nrychfeddwl y prynedigaeth, y mae holl gariad diderfyn y Duwdod yn ymddangos o fewn terfynau cyfiawnder a deddf. Y mae yma ddirgelwch; ond nid oes yma anghyssondeb, mwy nag sydd yn ngeiriau yr Ysgrythyr pan ddywedir fod y Gair wedi ei wneuthur yn gnawd, ac wedi trigo yn ein plith ni — fod Duw wedi ymddangos yn y cnawd — ac mai ynddo ef y mae holl gyflawnder, y Dnwdod yn preswylio yn gorphorol.

PENNOD IV. 
D.
Mi feddyliwn bellach fod y ddadl o barth i gyfiawnder wedi ei phenderfynu. Ond byddai yn dda genyf gael chwaneg o oleuni ar y dywediad arall; sef, nas gallai yr iawn ddangos cariad, os nad oedd cyf­iawnder yn ei wneuthur yn angenrheidiol.

A.
Nid oeddwn yn dwyn Plato yn mlaen i benderfynu y ddadl, ond i brofi nad yw y farn hon mor groes i reswm ag y myn rhai i ni dybied. Y safon yw y Beibl; yr hwn sydd yn dangos nas gallasai Duw fod yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau, oni buasai iddo osod ei Fab yn iawn. Ond yn awr i fyned yn mlaen at y dywediad arall. Yr ydym yn cyfarfod â’n gwrthwynebwyr ar eu tir eu hunain. Yr ydym ni a hwythau yn dyweyd fod Duw wedi amlygu ei gariad trwy roddi ei Fab i fod yn iawn. Ond pa fodd y gellir meddwl fod hyn yn amlygu ei gariad, os gallasai achub pechaduriaid heb i Grist farw? A ydyw yn brawf o raslonrwydd, fod un, wrth wneuthur cymmwynas, yn cymmeryd llawer o boen i argraphu ar feddwl ei dderbyniwr fod y gwaith yn fawr ac anhawdd, pan y gallasai wneuthur y cwbl yn uniongyrchol heb draul na thrafferth. A gellir myned yn mhellach, a throi y dywediad yn ol at y gwrthddadleuwyr; o blegid os nad oedd yr iawn yn angenrheidiol, yna, yr oedd marwolaeth Crist yn brawf o ddiffyg cariad. Yr oedd yn brawf o ddiffyg cariad hyd yn nod at y rhai a achubir: ond yn enwedig, pa beth a feddylir am waith Duw yn rhoddi cospedigaeth ein heddwch ni ar ei uniganedig Fab, os yw y gosp hono yn afreidiol. Ar y tir hwn, nid yn unig y mae yma ddiffyg cariad, ond yr hyn nad yw yn weddus ei ddyweyd mewn ffordd o dybiaeth wrth son am Dduw, o blegid nis gall cosp fod yn gyfiawn, os nad yw cyfiawnder yn ei gwneuthur yn angenrheidiol. Gan hyny, nid oes un lle (x27) canol i sefyll arno rhwng yr athrawiaeth o angenrheidrwydd yr iawn yn tarddu o gyfiawnder Duw, a’r farn Socinaidd fod Crist yn marw yn unig fel merthyr.

D.
Y mae rhai ysgrifenwyr diweddar wedi traethu llawer ar y rhihwedd sydd yn deilliaw i’r natur ddynol o ymgnawdoliad Crist, er nad ydynt yn barnu fod ei farwolaeth yn aberth. Onis gall fod rhywbeth yn hyn? Os yw ein perthynas ag Adda wedi ein gwneuthur oll yn bechaduriaid, pa ham na ellir meddwl fod ein perthynas â Christ wedi effeithio yn y fath fodd, fel y mae ei ymddangosiad yn ein natur, a’i ymostyngiad yn y natur hono i fyned trwy yr un amgylchiadau a ninnau, yn ddigon i godi yr holl hil ddynol.

A.
Y mae hwn yn hen olygiad sydd yn y byd er’s oesoedd, o blegid fe’i ceir yn ngwaith amryw o’r hen awdwyr cyfriniol: a phell oddi wrthyf fyddo dyweyd dim yn ddirmygus am rai oedd mewn ymdrech enaid yn ymbalfalu am y gwirionedd; ond yn colli golwg yn rhy fynych ar bob gwrthddrych tu allan iddynt eu hunain, a thrwy hyny yn colli eu hunain mewn dychymmygion. Diammheu hefyd nad oes un o honynt wedi mynegu yr hanner am gynnwys y pwnc hwn; o blegid y mae dyfnder o ddirgelwch yn ymgnawdoliad Mab Duw, nas gellir byth ei amgyffred. Ond er caniatau y gwirionedd hwn yn ei helaethrwydd mwyaf, y mae y ffaith yn aros fod y Beibl yn rhoddi arbenigrwydd neillduol ar ei farwol­aeth, ac yn dangos ei fod wedi ymgnawdoli i’r dyben i farw drosom. “O blegid hyny, gan fod y plant yn gyfrannogion o gig a gwaed, yntau hefyd yr un modd a fu gyfrannog o’r un pethau; fel trwy farwolaeth y dinystriai yr hwn oedd a nerth marwolaeth ganddo, hyny yw, diafol; ac y gwaredai hwynt, y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt dros eu holl fywyd dan gaethiwed.” Sonir llawer gan yr ysgrifenwyr hyn, fel y crybwyllasoch, am rinwedd yn deilliaw o ddynoliaeth y Cyfryngwr; a diau fod hyn yn wirionedd: ond y mae Crist ei hun yn dangos yn eglur nas gallasai y rhinwedd hwn ddyfod i ni heb iddo farw drosom; megys yn Ioan vi. 51; “ Myfi yw y bara bywiol, yr hwn a ddaeth i waered o’r nef. Os bwyty neb o’r bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd. A’r bara a roddaf fi yw fy nghnawd i, yr hwn a roddaf fi dros fywyd y byd.”

D.
Y mae yn rhaid i mi gydnabod fod syniadau yr ysgrifenwyr hyn yn dra niwlog; ac nad oes un lle arbenig yn cael ei roddi ganddynt i farwolaeth Crist: ond y mae yr anhawsder mwyaf yn aros eto heb ei egluro.

A.
Cyn myned yn mlaen at yr anhawsder hwnw, pa beth bynag ydyw, goddefwch i minnau ofyn un peth i chwithau. Nid oes dim yn fwy peryglus i ddynion ieuainc nag arfer ymfoddloni ar eiriau heb feddyliau. Hyderaf fod genych erbyn hyn olygiadau eglur ar un pwnc sylfaenol, sef (x28) y Bod o Dduw: neu i fyned yn ol unwaith eto at y gymhariaeth oedd genym yn y dechreu, yr ydych wedi cael golwg ar un o’r manau mwyaf nodedig yn “ninas Duw.” Yn awr, y gofyniad yw, a oes genych ddirnadaeth gywir am rai o’r prif heolydd sydd yn cyssylltu y lle hwn â gwahanol ranau o’r ddinas?

D.
Nid wyf yn sicr fy mod yn eich deall.

A.
Fy meddwl yw hyn; heb law credu fod Duw, a oes genych syniadau eglur am rai egwyddorion neu wirioneddau ymarferol? Er anghraifft, a ydych, yn credu yn ddiysgog fod gwahaniaeth hanfodol rhwng da a drwg?

D.
Buasai yn rhaid i mi gredu hyn, hyd yn nod pe na buasai genyf un Beibl.

A, Da iawn: ac yr ydych yn credu fod perthynas rhwng gweithredoedd moesol a Duw.

D.
Y mae yn ddiammheu fod.

A.
Gan hyny, yr ydych yn credu hefyd fod Duw o angenrheidrwydd yn ymddwyn yn wahanol tuag at bechod a sancteiddrwydd?

D.
Nis gwn pa fodd i wadu hyn, er fy mod yn gweled ei fod yn arwain yn uniongyrchol at yr angenrheidrwydd o gospedigaeth dragwyddol o herwydd pechod. Ond yr ydym yn awr wedi dyfod at yr anhawsder y cyfeiriais ato. Y mae yn debyg nas gellir ammheu fod cyfiawnder yn peri fod yn angenrheidiol cospi pechod. Er nad wyf eto yn deall y gwirionedd hwn yn hollol, nid wyf yn gweled un ffordd i’w wrthbrofi. Ond yr hyn sydd yn ymddangos i mi yn fwyaf anhawdd yw y dywediad fod gofynion cyfiawnder yn cael eu hateb trwy i’r cyfiawn ddyoddef yn lle y troseddwr. Os oedd yn angenrheidiol cospi, onid oedd mor angenrheidiol fod y gosp yn disgyn ar yr euog yn ei berson ei hun? Onid yw rhoddi cosp ar un diniwed yn fwy croes i gyfiawnder nag a fuasai gadael pechod heb ei gospi? Yr wyf yn methu gweled pa fodd y gellir trosglwyddo euogrwydd, ac y mae yn sicr nad yw yr hen olygiad ar yr iawn fel taliad dros y dyledwr i’r gofynwr yn rhoddi un goleuni ar y mater. Y mae yn ymddangos i mi mai yn y fan yma y mae gwreiddyn yr holl anhawsder.

A.
Y mae yma ddirgelwch; ac nid oes dim cyffelyb iddo mewn llywodraethau dynol: ond y mae egwyddor i’w chael, yr hon sydd yn ei esbonio. Os ystyriwch pa beth sydd yn gynnwysedig yn y drychfeddwl o iawn, bydd yn hawdd i chwi ganfod pa fodd y gallai y cyfiawn farw yn lle yr anghyfiawn. Pa beth ydych chwi yn feddwl ydyw hanfod yr iawn?

D.
Yr oeddych yn dyweyd yn un o’r ddau draethawd y cyfeiriais atynt yn y dechreu mai hanfod yr iawn yw haeddiant

A.
Nid myfi sydd yn ei ddyweyd: ond dyma farn y duwinyddion goreu; ac y mae Calvin yn ei Gorph Duwinyddiaeth yn traethu yn helaeth (x29) ar y mater. Ond oni feddyliech chwi fod y drychfeddwl hwn yn symmud yr anhawsder?

D.
Wrth ei ystyried, y mae yn ymddangos fod mwy ynddo nag oeddwn yn dybied; ac yr wyf yn rhyw deimlo fy mod, fel hwnw gynt, yn gweled dynion megys prenau yn rhodio.

A.
Os parhewch i edrych, chwi a ddeuwch i weled o bell ac yn eglur; yn enwedig os dilynwch yr egwyddor tu hwnt i lysoedd bychain a llywodraethau cyfnewidiol y byd hwn i lys cyfiawnder tragwyddol. Y mae teimlad greddfol yn meddwl dyn y dylai pechod gael ei gospi: ond y mae yma deimlad mor gryf o’r ochr arall y dylai haeddiant gael ei wobrwyo. Yn awr, pa le y mae yr anhawsder? Bu Grist yn ufudd hyd angeu; a thrwy hyny, fe haeddodd gael pa beth bynag a ofyno gan ei Dad. Y mae haeddiant anfeidrol ei ufudd-dod ef nid yn unig yn gorbwyso anhaeddiant pechodau y rhai oll a gredant ynddo, ond yn eu llwyr ddileu. Am fod Crist yn berson dwyfol, y mae haeddiant yn ei ddyoddefiadau; ac am fod ynddynt wir haeddiant, y maent yn iawn, ac y mae gwerth yr iawn yn cyfateb i werth yr haeddiant.

D.
Nid ydych yn ystyried fod yr iawn yn haeddu adferiad pechaduriaid i heddwch Duw heb un golwg ar iddynt adael eu ffyrdd drygionus, a dychwelyd at yr Argylwydd mewn gwir edifeirwch?

A.
Nac wyf yn ddiau: ond y mae yma ddau eithafnod i’w gochelyd. Yn gyntaf, dylem ofalu rhag tybied fod y cyfnewidiad hwn yn rhan o’r haeddiant; o blegid byddai hyny yn cymylu gogoniant yr iawn, yn dinystrio cyfiawnhad trwy ffydd, ac yn rhoddi sancteiddhad, mewn rhan o leiaf, yn achos o gyfiawnhad, yn lle cymmeryd cyfiawnhâd, fel y disgrifir ef gan Paul, yn achos o sancteiddhâd. Oud ar y llaw arall, y mae mor beryglus i ni bwyso ar ryw fath o gyfiawnhad tybiol, yr hwn nid yw yn effeithio i sancteiddio y pechadur. Nid haeddu maddeuant” a chyfiawnhâd yn unig y mae yr iawn; ond haeddu y cwbl sydd angenrheidiol er ein trag­wyddol ddedwyddwch. Yn rhinwedd yr haeddiant hwn, y mae yr Arglwydd Iesu Grist wedi ei ddyrchafu yn dywysog, i weinyddu holl fendithion y cyfammod gras. “Pan osodo efe ei enaid yn aberth dros bechod, efe a wel ei had, efe a estyn ei ddyddiau; ac ewyllys yr Arglwydd a lwydda yn ei law ef. O lafur ei enaid y gwel ac y diwellir.” Nis gellir gwahanu rhwng y naill ran o’r iachawdwriaeth a rhan arall; ac nis gellir gwahanu rhwng y cwbl a haeddiant yr Arglwydd h Iesu Grist. Haeddiant yr hyn a wnaeth efe ar y ddaear yw sail yr hyn a wneir ganddo yn y nefoedd. Ond y mae cymmaint o wahaniaeth rhwng y golygiad hwn a’r gyfundrefn fasnachol ag sy rhwng y meddwl am ddyn yn cyrhaedd swydd uchel trwy dâl, ag un arall yn ei hennill trwy wir deilyngdod.

D.
Nis gellir ammheu nad yw y golygiad hwn yn symmud llawer, os (x30) nad y cwbl, o’r anhawsder, ac y mae hefyd yn cyfarfod â’r brif wrthddadl sydd gan Hofmann yn erbyn yr hen syniadau am feichnïaeth Crist. Y mae yn ymddangos fod y pwnc hwn yn destyn dadl y dyddiau hyn yn yr Almaen; ac nis gallaswn lai na thybied fod grym yn ymresymiad Hofmann, fod yr hen ddisgrifiad o bechod fel dyled, a’r iawn fel tâl a roddwyd gan y Meichiau yn lle y dyledwr, yn tueddu i ddiddymu ffydd.

A. Os cymmerir y golygiad yna ar yr iawn, y mae yr wrthddadl yn anatebadwy: o blegid, yn gyntaf, y mae yn diddymu yr angenrheidrwydd am ffydd, gan fod taliad y ddyled ynddo ei llun yn rhyddhau y dyledwr;

ac yn ail, y mae yn dinystrio natur ffydd gadwedigol, gan mai nid credu ffaith yw y ffydd hon, ond credu ym mherson y Gwaredwr.

D. Ond yn awr, y mae anhawsder arall yn ein cyfarfod; sef, pa fodd i esbonio yr Ysgrythyrau hyny sydd yn disgrifio yr iawn fel taliad. Onid yw yn amlwg fod yr awdwyr hyny yn gwneyd cam â’r Beibl, y rhai sydd yn cymmeryd y geiriau hyn yn eu hystyr lythyrenol?

A. Fel arall yn hollol: y maent yn gwneyd cam dirfawr â’r geiriau trwy beidio eu cymmeryd yn eu hystyr lythyrenol. Yn ol iaith y Beibl, nid talu dyledion pechaduriaid wnaeth Crist, ond prynu eu personau. Nid â phethau y mae a fyno athrawiaeth yr iawn, ond â phersonau. “Efe yw yr iawn;” nid y naill beth wedi ei roddi yn lle peth arall; ond person Crist wedi ei roddi yn lle y personau a roddwyd iddo gan y Tad. Y mae yma brynedigaeth yn ystyr manylaf ac eangaf y gair: — ”nid â phethau llygredig, megys arian neu aur; ond a gwerthfawr waed Crist.” Y gwerthfawredd hwn oedd yr haeddiant a berthynai i’w angeu: ac y mae yn ammhosibl gwahanu rhwng yr haeddiant a’r person. Yr oedd ei berson anfeidrol yn yr haeddiant ac yn awr y mae yr haeddiant yn aros byth yn ei berson. Y mae hyn yn dangos yr angenrheidrwydd am eiriolaeth Crist yn y nef; o blegid y rhai a ofyno efe gan y Tad yw y rhai y cyfrifir yr haeddiant hwn iddynt; ac y mae yn rhoddi lle hefyd i ffydd weithredu, nid ar ffaith farw, ond ar berson byw.

D. Er hyny, onid ydych yn meddwl fod ychydig o wirionedd yn yr hyn a ddywedir gan Hofmann am natur yr iawn?

A. Y mae llawer o wirionedd yn yr hyn a ddywedir ganddo ef, a chan Nitzsch o’i flaen. Y maent yn myned yn ddyfnach i’r mater nag ysgrifenwyr y wlad hon yn gyffredin; a thrwy hyny yn gweled fod mwy yn yr iawn na darpariaeth i wneyd argraff foesol ar feddyliau dynion, neu ryw rinwedd anianyddol yn tarddu o’i ymgnawdoliad i godi yr holl natur ddynol, a mwy hefyd na thaliad masnachol, hyd yn nod er tybied fod y taliad hwnw yn gorbwyso holl ddyledion y byd. Mae ystyr a gwerth yn yr hyn a ddywedant am gydymdeimlad yr Arglwydd Iesu, yn cymmeryd ein sefyllfa ni arno ei hun, yn gwneuthur ein hachos ni yn achos iddo ei (x31)hun, yn myned dan ein cystuddiau, ac yn gorchfygn y diafol. Ond trwy wrthod y drychfeddwl o feichnïaeth, y maent i raddau mawr yn gwneuthur y dywediadau hyn yn eiriau heb feddyliau. Y mae yn hawdd gweled eu bod yn teimlo mai dyma y meddwl a drosglwyddir i ni gan eiriau eglur yr Ysgrythyr, os cymmerir hwy yn eu hystyr naturiol; ac mai eu gwrthwynebiad i’r syniadau masnachol am yr iawn sydd yn peri iddynt ei gau allan: ond pe ystyrient mai hanfod yr iawn yw haeddiant, canfyddent y gellir dal meichnïaeth, heb ddwyn i mewn yr egwyddor fasnachol. Mor bell âg y maent wedi cyrhaedd meddyliau cadarnhaol, nis gellir eu beio; a phe buasent yn eu defnyddio i fod yn arweiniol, yn lle yn wrthwynebol, i’r hen gyfundrefn o feichnïaeth, gallasent wneuthur llawer o les. Ond y maent, fel y cyffredin o ddynolryw, yn hytrach nag ymfoddloni ar ddangos yr hyn sydd yn bwysig yn eu golwg hwy, yn barnu mai eu dyledswydd yw tynu i lawr yr hyn sydd wedi ei sefydlu, er mwyn cael lle i’r hyn y maent hwy yn ceisio ei ddyrchafu.

D. Yr wyf yn addef fod yn rhaid chwanegu y meddylddrych o haedd­iant; ac ni a gymmerwn yn ganiataol nad oes mi ddadl i fod am hyny mwyach. Ond a yw yn ammhosibl i ni aros ar hyn, heb ddwyn i mewn yr egwyddor o feichnïaeth? Dyma berson y Mab wedi cymmeryd ein natur i undeb âg ef ei hun; ac yn ein natur wedi myned trwy bob math o brofedigaethau, wedi ei demtio yn mhob peth yr un ffunud a ninnau, ac etto heb bechod; wedi byw a marw dan yr un ddeddf a’i greaduriaid, ac wedi rhoddi ufudd-dod perffaith i’r ddeddf hono:— onid yw hyn ynddo ei hun yn cynnwys haeddiant anfeidrol? Ac onid yw yr haeddiant hwnw yn iawn digonol, heb dybied ei fod yn marw dros ac yn lle personau neillduol. Y mae yn taraw fy meddwl i fod yma gyfundrefn gysson, gryno, gyflawn, yr hon nid yw yn agored i’r gwrthwynebiadau sydd yn codi yn erbyn y drefn feichnïol.

A. Y mae eich cais, mor bell âg y mae yn cyrhaedd, yn haeddu cymmeradwyaeth: a phe buaswn yn medru rhoddi i fyny y pwngc o feichnïaeth, nid wyf yn gwybod am un golygiad y buaswn mor barod i’w dderbyn. Ond yn y lle cyntaf, fel pob cyfundrefn âg sydd yn gwadu meichnïaeth Crist, nid yw yn rhoddi lle dyladwy i’r gwirionedd, fod gelyniaeth yn Nuw at bechod, a bod yr iawn yn effeithio cymmod gwrthddrychol yn gystal a thufewnol. Addefaf gyda’r parodrwydd mwyaf nad oes modd rhoddi gormod o bwys ar addasrwydd yr iawn i ladd gelyniaeth y pechadur; ond y mae y gwirionedd cyferbyniol yn cael ei ddal allan yn amlwg mewn amryw fanau yn yr Ysgrythyr; megys yn Rhuf. v. 10 — ”Canys os pan oeddym yn elynion y’n heddychwyd a Duw trwy farwolaeth ei Fab ef, mwy o lawer wedi ein heddychu, y’n hachubir trwy ei fywyd ef.” Y mae y geiriau “heddychwyd a Duw,” yn ddiammheuol, yn dangos yr hyn (x32) a wnaethpwyd drosom, ac nid yr hyn a wnaethpwyd ynom; o blegid y maent yn cyfateb i’r hyn a ddywedir am waith Crist yn marw drosom ni yn yr adnod o’r blaen. “Eithr y mae Duw yn canmawl ei gariad tuag atom; o blegid, a nyni etto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni. Mwy ynte o lawer, &c.” “Canys os pan oeddym yn elynion y’n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef; mwy o lawer, &c.” Fel hyn yr esbonir hwy gan yr holl ysgolheigion goreu yn yr oes hon, megys De Wette, Tholuck, Meyer, Fritsche, Philippi, Alford, &c. Ac y mae adnod arall i’r un ystyr yn 2 Cor. v. 19; “Sef, bod Duw yn Nghrist yn cymmodi y byd âg ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau.” Y mae y geiriau yn yr amser gorphenol: “Sef mai Duw oedd yn Nghrist yn cymmodi y byd âg ef ei hun.” “Oedd yn cymmodi,” meddai amryw o’r esbonwyr goreu, yn marwolaeth yr Arglwydd Iesu Grist. Ond pa un a gymmerir yr esboniad yna ai peidio, addefir yn gyffredin fod y geiriau yn arwyddo, dwyn i gyflwr cynimodlawn ger bron Duw.

D. Ond, onid yw yn ganiataol, ac yn fwy priodol, i ni farnu fod y ddwy adnod yn cyfeirio at symmudiad y gollfarn yn y cyfiawnhad?

A. Y mae yn dra thebyg fod yr apostol yn cymmeryd yr ystyr yna i mewn yn y geiriau; a’i fod yn rhoddi golwg gynnwysfawr ar holl drefn y cymmod, fel y mae yn codi dyn i gyflwr cymmeradwy ger bron Duw. Yr oll yr wyf yn ddadleu drosto yw, fod y cymmod hwn yn cymmeryd lle yn y cyfiawnhâd trwy yr iawn. Felly, tueddir fi i feddwl fod eich esboniad, mor bell âg y mae yn myned, yn hollol gywir. Ond hyd yn nod yn y wedd yna, y mae yn dinystrio y gyfundrefn wrthwynebol: o blegid yn ol hono, nid oes ond cariad yn Nuw at bob dyn; ac nid oes un goll­farn na gelyniaeth o du y nefoedd i’w symmud.

 

D. Yr wyf yn addef fod y rheswm yna yn ddigon i wrthbrofi y rhan fwyaf o’r golygiadau sydd yn gwrthod yr egwyddor feichnïol: ond rhy brin yr wyf etto yn gweled ei fod yn taraw yn erbyn y gyfundrefn a grybwyllwyd ddiweddaf. Yr wyf yn caniatau fod yr adnodau a ddyfynwyd yn profi fod mwy yn angenrheidiol na gorchfygu gelyniaeth y pechadur: a pha beth bynag a feddylir wrth symmud y gollfarn a’r elyniaeth o du y nefoedd, yr wyf yn barod i chwanegu hyn at y gyfundrefn. Ond onis gellir gwneyd hyn heb ddwyn i mewn y pwngc o feichnïaeth?

 

A. Y mae eich cyfundrefn yn cynnyddu yn dra boddlonol; a gellir dysgwyl y bydd cyn bo hir yn agos i berffaith. Yr wyf yn ei ddyweyd yn ddiragrith, o blegid y mae yr holl wirioneddau hyn mewn cyssylltiad â’u gilydd, ac y mae gafael sicr mewn un o honynt yn arwain at y lleill. Os ceir golwg ar ddrwg pechod, bydd yn rhaid credu fod haeddiant anfeidrol yn angenrheidiol cyn y gellir ei faddeu: ac os edrychir ar yr iawn fel haeddiant, gwelir yn amlwg ei fod yn gwneuthur cymmod yn y nefoedd. (x33) Heb hyn, nis gall fod genym un syniad cywir am iawn. Yr ydym yn awr wedi dyfod hyd yma; ac yn cytuno yn y golygiad fod yr iawn yn sylfaen cymmod rhyngom â Duw. Y mae yn ddiau mai yn y cyfiawnhâd y mae y cymmod hwn yn cymmeryd lle yn weithredol: ond nid yw hyn yn effeithio ar yr ymchwiliad presennol; o blegid y mae yn rhaid i ni gredu mai yr iawn, neu yn hytrach Crist trwy yr iawn, sydd yn gwneuthur y cymmod. Gwyddoch mai ystyr y geiriau a gyfieithir iawn yn y Testa­ment Newydd yw cymmod, neu ddyhuddiant. Ac oddi wrth yr adnodau a goffawyd yn barod o’r bummed bennod o’r Epistol at y Rhufeiniaid, ac oddi wrth rediad yr holl bennod, y mae yn amlwg fod yr apostol yn gweled perthynas mor agos rhwng marwolaeth Crist a’r cymmod gweithredol yn y cyfiawnhâd fel y mae yn llefaru am danynt megys yn gyfystyr, ac yn gyfamserol. Ond os ydym yn rhoddi derbyniad i’r grediniaeth yma, fod Crist trwy yr iawn wedi gwneuthur cymmod, y mae yn rhaid i ni fyned yn mlaen i gredu yn mhellach ei fod yn marw fel meichnïydd; o blegid y mae i bob cymmod ei wrthddrych; ac afreidiol yw dyweyd mai nid pechod yw y gwrthddrych; gan hyny, y mae yn rhaid fod Crist yn ei farw­olaeth yn gwneuthur cymmod dros bersonau. Y mae hyn yn cael ei ddysgu yn nhrefniadau gŵyl y cymmod yn Israel, pan y byddai yr arch-offeiriad, unwaith yn y flwyddyn, yn dwyn gwaed y pechaberth dros y bobl o fewn y wahanlen, ac yn ei daenellu ar y drugareddfa, ac o flaen y drugareddfa; ac yn glanhau y cyssegr oddi wrth aflendid meibion Israel, ac oddi wrth eu hanwireddau, yn eu holl bechodau; yna yn myned allan at yr allor aur, ac yn gwneyd cymmod arni, ac yn ei sancteiddio oddi wrth aflendid meibion Israel; ac wedi darfod glanhau y cyssegr, a phabell y cyfarfod, a’r allor, yn cymmeryd y bwch byw, yn gosod ei ddwylaw ar ei ben, ac yn cyffesu arno holl anwiredd meibion Israel, a’u holl gamweddau hwynt yn eu holl bechodau, ac yn eu rhoddi ar ben y bwch, yr hwn a ddygai eu holl anwiredd hwynt arno i dir neillduaeth. Nis gellir meddwl fod yr holl drefniadau hyn wedi eu gosod gyda’r fath fanylrwydd a phwysigrwydd, heb fod ynddynt ryw ystyr.

D. Diammheu fod iddynt ystyr; er hyny, onid oes berygl i ni fyned. yn rhy bell, i gynnwys tybiau rhy ddaearol am Dduw, os esboniwn hwynt yn llythyrenol.

A. Y perygl mwyaf yw peidio myned yn ddigon pell, trwy aros yn y llythyren heb fyned drwyddi at y meddwl ysbrydol. Rheol ddiogel, wrth esbonio cymhariaethau a chysgodau y Beibl, yw cymmeryd yn ganiataol fod y meddwl, nid yn llai,ond yn fwy nag y dichon un gyffelybiaeth ddaearol ei gynnwys: ac felly yn yr achos hwn, nid camddysgu y bobl yr oedd goruchwyliaeth Moses; ond yr oedd ystyr oruchel i ddydd mawr y cym­mod; y mae ystyr i eiriau y Beibl pan ddywedir fod Duw yn ddigllawn (x34) beunydd wrth yr annuwiol; y mae ystyr i weddi yr Arglwydd, pan y’n dysgir i weddïo, “maddeu i ni ein dyledion.” Ond yn chwanegol at y rheswm hwn, i brofi fod Crist wedi marw yn feichnïydd, y mae yr un athrawiaeth yn cael ei dysgu yn uniongyrchol mewn lliaws o fanau, megys pan ddywedir ei fod yn prynu ei bobl,yn eu pwrcasu, yn eu llwyr brynu oddi wrth felldith y ddeddf, a’i fod yn rhoddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.

D. Mi a deimlwn yn ddiolchgar pe dangosech etto pa beth yw y digofaint hwn yn Nuw. A ydyw yn gyffelyb i ddigofaint mewn dynion?

A. Nid yn gyffelyb, y mae yn ddiau, ond o natur anfeidrol uwch. Er hyny, y mae yn bod, ac yn bod yn fwy sylweddol yn Nuw nag mewn creadur. Y mae perthynas agos rhyngddo a’r cyfiawnder y soniwyd am dano o’r blaen: er hyny, nid ydynt yn hollol yr un peth; eithr y mae digofaint Duw yn cyfeirio yn hytrach at yr eiddigedd sydd ynddo dros gyfiawnder. Nid yw y cyfiawnder tragwyddol hwn yn tarddu o ewyllys Duw: er hyny, nid yw ei ewyllys dan lywodraeth deddf allanol; eithr y mae Duw, o angenrheidrwydd natur, yn ewyllysio yn unol â chyfiawnder.

D. Nid oes genyf ddim i’w ddyweyd yn erbyn yr eglurhâd yna ar y mater: ond yr wyf er hyny yn tueddu i feddwl nad yw yn cyfarfod â’r holl anhawsderau. Yr hyn sydd yn fwyaf anhawdd yw y dybiaeth fod Duw wedi derbyn llawn foddlonrwydd yn yr iawn dros y rhai yr oedd y Mab yn eu cynnrychioli fel meichnïydd: ac eto, fod y personau hyny yn wrthddrychau ei ddigofaint hyd nes y cyfiawnheir hwynt yn eu personau eu hunain.

A. Y mae yma anhawsder; ond nid mwy nag sydd yn mhob amgylchiad lle y mae y tragwyddol a’r amserol, y dwyfol a’r dynol, yn dyfod i gyffyrddiad â’u gilydd. I ddynion, y mae amser a lle yn rhywbeth mwy na dychymmyg; y maent yn bod mewn gwirionedd: ac y mae Duw o angenrheidrwydd yn edrych ar ei holl greaduriaid fel y maent; ond y mae efe ei hun uwch law amser a lle. Yr anhawsder ydyw canfod pa fodd y mae y ddau wirionedd yn cydsefyll. Y mae yma ddirgelwch, yr hwn nis gellir ei amgyffred. Ond os ymfoddlonwch i gymmeryd cymmhariaeth — a’i chymmeryd yn unig fel cymmhariaeth — gellwch feddwl am gadfridog mewn lle cyfaddas i gael golwg ar holl ranau y fyddin ar unwaith yn eu perthynas â’u gilydd. Y mae pob rhan, o herwydd pellder lle, yn anwybodus o symmudiadau y rhanau ereill, ac yn gwneuthur y gwaith a osodwyd iddi fel pe na byddai neb arall yn bod; ond y mae gan bob milwr ymddiried yn y cadfridog — ei fod ef, tra yn gweled pob adran o’r fyddin yn gweithredu yn ei lle ei hun, ar yr un pryd âg un olwg gyffredinol yn difodi gwahaniaeth lle, ac yn eu gweled oll yn cydweithredu i ateb yr un dyben. Y mae y lle y mae pob milwr ynddo yn ffaith bwysig iddo ef ei hun, ac (x35) i’r cadfridog yn gystal â’r milwr cyffredin: ac y mae yn ffaith mor bwysig fod gwahaniaeth lle yn cael ei ddifodi yn meddwl y cadfridog. Yr hyn yw ychydig wahaniaeth lle i feddwl y cadfridog yn y gymmhariaeth hon, hyny yw holl dreigliad amser, a thragwyddoldeb ei hun, i feddwl yr Anfeidrol. Y mae pob corph yn bod mewn lle; y mae meddwl uwch law lle: ond nid oes un meddwl crëedig uwch law amser: ond y mae Duw uwch law lle ac amser.

D. Os barnaf oddi wrth fy mhrofiad fy hun, y mae yn hawdd iawn credu mai gwir a ddywedasoch, fod yma ddirgelwch: o blegid nid wyf yn teimlo fy mod nemawr goleuach nag oeddwn yn y dechreu. Yr wyf yn medru deall y ddwy gyfundrefn eithafol. Ar un llaw, dywed yr Uwch-Galfiniaid fod yr etholedigion wedi eu cyfiawnhau er tragwyddoldeb. Y mae hyn yn syml ac eglur:— ac nid oes yma ddim dirgelwch. Ar y llaw arall, dywed y Pelagiaid a’r Arminiaid fod Duw yn edrych ar bawb, ac yn ymddwyn at bawb, yn ol eu gweithredoedd: ei fod yn derbyn pawb ar eu hedifeirwch, a bod eu parhâd mewn cyflwr o gymmeradwyaeth yn ymddibynu ar barhâd eu hufudd-dod:— ac yma drachefn nid oes un dirgelwch.

A. Mae yr hyn a ddywedir genych fel canmoliaeth i’r ddwy gyfundrefn yn ddigon o reswm yn eu herbyn; o blegid y mae yn rhaid fod dirgelwch yn holl weithredoedd Duw. Y mae un o honynt, er mwyn symmud y dirgelwch, yn ceisio difodi deddfau amser; a’r llall yn ceisio difodi tragwyddoldeb. Ond y mae amser yn bod i greadur; ac y mae cyn ei gyfiawnhau yn annuwiol. Er hyny, nid yw pellder amser, mwy na phellder lle, yn gwneuthur un gwahaniaeth i Dduw: ond fel y mae sugndyniad yr haul yn effeithio ar y ddaear, er y pellder sy rhyngddynt, felly yn ei drefn ef y mae iawn Crist yn achosi cyfiawnhâd pawb a gredasant ynddo er dechreuad y byd, neu a gredant ynddo hyd ddiwedd amser, mor wirioneddol a phe buasent oll yn cael eu cyfiawnhau y funud y bu Crist farw ar y groes.

D. Nid yn gymmaint yn y meddwl fod pellder amser rhwng marwolaeth Crist a chyfiawnhâd y credinwyr, yr wyf yn teimlo yr anhawsder: ond yn y meddwl fod Duw wedi cael ei lwyr foddloni yn yr iawn, ac ar yr un amser yn ddigllawn beunydd wrth bersonau y bu Crist farw drostynt.
Y mae hyn fel yn cynnwys ei fod yn caru ac yn casau yr un personau ar yr un amser.

A. Pa olygiadau bynag a gymmerwch, bydd yr un anhawsder yn eich cyfarfod. Y mae yn ffaith ddiammheuol fod Duw wedi cam y byd; a’r rhai sydd yn fwyaf gwrthwynebol i iawn meichnïol yw y rhai sydd o leiaf yn proffesu eu bod yn gosod mwyaf o bwys ar y pwnc hwn: ac eto y mae yn rhaid iddynt addef ei fod ar yr un pryd yn ddigllawn wrth yr annuwiol. Mewn gwirionedd, y mae mwy o anhawsder yn perthyn i’r eithafion o’r ddwy ochr, o blegid os cariad yn unig yw Duw, fel y dywed y Pelagiaid, (x36) pa fodd y mae yn casau y drygionus? ac os cyfiawnder ydyw yn unig, fel y mae rhai o’r Calfiniaid yn rhy dueddol i’w ddysgrifio, pa fodd y mae yn caru y byd annuwiol? Yn y farn yr wyf finnau yn dadleu drosti, yr wyf yn addef fod anhawsder; ond nid mwy nag sydd yn tarddu o anallu creadur meidrol i gyssoni amser â thragwyddoleb. Dyma lle y mae yr anhawsder, ac y mae yn cyfarfod â phawb mewn rhyw ddull, beth bynag fyddo eu syniadau athrawiaethol. Nid yw yn dwyn unrhyw berthynas neillduol â phwnc yr iawn; ac nid ydym yn ei fwyhau, nac yn ei leihau, trwy ddal neu trwy wadu meichnïaeth Grist.

D. Prin yr wyf eto yn gallu ei weled yn y goleu yna. Yr ydym oll yn addef nas gellir dwyn tragwyddoldeb dan ddeddfau amser; ac am hyny nas gall deall dyn ei amgyffred. Ond y mae yn ymddangos i mi fod anhawsder neillduol, ar wahân oddi wrth hyn, yn perthyn i’r syniad meichnïol am yr iawn. Dyma ein dyled ni wedi ei thalu gan un arall: ac eto yr ydym yn arfer dyweyd fod y ddyled hon yn aros arnom nes y credwn yn Iesu Grist. Yn awr, y gofyniad ydyw, pa fodd y mae yn gyfiawn gofyn y ddyled genym ni, pan y mae eisoes wedi ei thalu drosom. Neu, os cymmerwch y gair “cosp“ yn lle y gair “dyled,” yr wyf yn methu gweled pa fodd y gallwn fod yn rhwymedig i gosp, os yw y gosp hono wedi ei dyoddef gan y Meichnïydd.

A. Hwyrach y dylwn ofyn eich maddeuant am eich arwain oddi wrth y mater; ond yr oeddwn yn awyddus i ddiosg y pwnc oddi wrth bob anhawsder nad yw yn perthyn iddo. Ac yn awr, i, ddyfod at eich gofyniad yn fwy penodol, y mae yn rhaid cydnabod fod amryw ysgrifenwyr yn rhoddi dysgrifiad o athrawiaeth yr iawn yn gyffelyb i’r modd yr ydych chwi wedi ei eirio; yr hwn sydd yn hollol anghysson âg ef ei hun, â’r Ysgrythyr, ac â phob egwyddor o gyfiawnder. Na thybiwch fy mod yn ceisio ei amddiffyn. Ond os gelwch i gof yr hyn a fu genym eisoes dan sylw, chwi a ddeallwch fod golygiad arall i’w gad; yr hwn sydd yn rhydd oddi wrth yr anghyssondeb hwn, ac eto yn cynnwys yr oll yr wyf yn dadleu drosto.

D. Yr wyf yn analluog i ganfod pa fodd y gellir ei gael heb roddi i fyny y syniad meichnïol.

A. Goddefwch i mi ofyn unwaith etto beth yw hanfod yr iawn?

 

D. Yr ydym wedi cytuno o’r blaen mai hanfod yr iawn ydyw haeddiant.

A. Yn awr, a oes rhywbeth yn y drychfeddwl hwn yn anghysson â’r egwyddor feichnïol.

D. Nid wyf yn gweled fod.

A. Nis gall fod; o blegid pe caniataem y gall un haeddu heb feichnïo, y mae yn amlwg nad yw ei waith yn meichnïo yn ei rwystro i haeddu; ac am hyny, nis gall haeddiant fod yn anghysson â meichnïaeth. Ond, (x37)edrychwn etto o’r ochr arall, a yw yn anghysson â’r gwirionedd fod y rhai y meichnïwyd drostynt yn rhwym nes y credant yn y Meichinïydd. Pan y mae un yn talu dyled un arall, nid yw yr hyn a roddir, pa beth bynag ydyw, yn eiddo mwyach i’r neb a’i rhoddodd: ond pan y mae yn haeddu, er fod y weithred haeddiannol yn cael ei chyflawni er mwyn a thros un arall, y mae yr haeddiant yn aros yn y person a haeddodd. Dyma wahaniaeth hanfodol; ac os creffwch arno, y mae yn debyg o’ch arwain allan o’r dyryswch. Dyoddefodd ein Meichnïydd y gosp oedd ddyledus i ni; o blegid “cospedigaeth ein heddwch ni a roddwyd arno ef.” Ond dylid cofio mai nid rhyw swm penodol o ddyoddefiadau fel tâl yw yr iawn; ond haeddiant y Person anfeidrol, “yr hwn, ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw; eithr efe a’i dibrisiodd ei hun, gan gymmeryd arno agwedd gwas, ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion: a’i gael mewn dull fel dyn, efe a’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angeu, ie, angeu y groes.” Yr ufudd-dod hwn hyd angeu sydd yn cyfansoddi yr haeddiant; ac y mae yr haeddiunt hwn yn aros byth o angenrheidrwydd yn y Meichnïydd; ac nis gellir ei gyfrif i ni nes y dygir ni i undeb gweithredol â pherson Mab Duw.

 

PENNOD V.
D. Mae yn ddiau, pe bawn yn alluog i olrhain y golygiad hwn yn ei holl gyssylltiadau, y canfyddwn ei fod yn egluro pob anhawsder: ond pe dywedwn fy mod ar hyn o bryd, gwnawn gam â mi fy hun yn gystal âg a’r gwiriouedd.

A. Mae yn rhaid i bob gwybodaeth ddechreu mewn ffydd. Credwch fod rhywbeth ynddo; ac yna daw eich meddwl i ymsefydlu arno, ac yn raddol i’w ddeall. Er hyny, nid wyf yn addaw na chyfarfyddwch â dirgeledigaethau, ond yr wyf yn hyderu y gwelwch nad oes yma un gradd o anghyssondeb.

D. Yr wyf yn credu eich; bod chwi yn gweled; a’r hyn a ddymunwn yw, i chwi ddangos y golygiad hwn, yn ei gynnwys a’i gyssylltiad, fel y byddo yn weledig i minnau.

A. Nid ydwyf yn teimlo fy mod yn gweled ond ychydig o’r eangder diderfyn sydd yn yr athrawiaeth hon. Er hyny, os yw ein llygaid yn rhy weiniaid i dreiddio yn mhell, gallwn, trwy ddyfal edrych, gyrhaedd gradd o sicrwydd am yr hyn sydd yn agos atom. Ond er mwyn ffurfio barn gywir am unrhyw wirionedd, byddai yn fuddiol i ni edrych arno o fwy nag un cyfeiriad; ac am hyny, fe allai mai gwell fyddai i ninnau bellach newid ein safle. (x38)

 


D. Yr wyf eisoes yn dechreu colli golwg ar eich meddwl. Yr oeddwn yn tybied ein bod o hyd yn ymresymu oddi wrth Ysgrythyr a rheswm; ac nid wyf yn gwybod am un safle arall. Ac heb law hyny, y mae yn ammheus a oes sicrwydd perffaith i’w gael am un pwngc yn nghanol yr holl wahanol olygiadau a goleddir gan ddynion, y rhai ydynt mor gymmhwys i farnu a ninnau.

A. Un o’r pethau cyntaf sydd genych i’w wneuthur yw ymlid yr ammheuaeth yna o’ch meddwl; o blegid y mae gwirioneddau sylfaenol crefydd yn amlwg, ac y mae sicrwydd mewn pethynas [sic] iddynt yn gyrhaeddadwy. Ond fel y dywedwyd yn barod, y mae yn angenrheidiol, tuag at i ni gyrhaedd golygiadau sefydlog, ein bod yn gyfarwydd â rhyw ganolbwynt neillduol. Hyd yma, yr ydym wedi cymmeryd Duw yn ganolbwynt ein hymchwiliad; ac wedi edrych ar holl wahanol byngciau yr athrawiaeth yn eu perthynas â’r priodoliaethau dwyfol. Ond os cydsyniwch, ni a edrychwn etto ar yr un athrawiaeth yn ei pherthynas â pherson yr Arglwydd Iesu Grist. Hyd yma, yr ydym wedi ystyried yr athrawiaeth hon yn benaf yn ngoleuni egwyddorion y gyfrol sanctaidd; ond yn nesaf, cymmerwn olwg arni yn ei chyssylltiad â ffaith fawr y Beibl. Ar ol chwilio yn ngoleuni yr Ysgrythyr pa beth oedd yn rhaid fod, ni a edrychwn yn nesaf pa beth sydd yn bod. Gan fod y meddwl dynol mor egwan i graffu ar yr Hanfod Dwyfol, er ei ddadguddio mewn geiriau, bydded i ni edrych ar Dduw wedi ymddangos mewn cnawd. Y mae yr holl egwyddorion tragwyddol wedi ymgorffori yn mherson y Cyfryngwr; ac o hono ef fel canolbwynt y cwbl y mae goleuni yn pelydru ar holl athrawiaethau yr efengyl.

D. Os daw goleuni o rywle, y mae yn ddiau mai oddi yno y daw. Fy mhrofiad ydyw, ar ol ymddyrysu mewn ymresymiadau, fod darllen yr hanes syml am Iesu Grist yn gwasgaru pob ammheuaeth o fy meddwl, ac yn rhoddi sefydlogrwydd tawel yn ei le.

A. Mae yn ddiau mai felly y mae yr hanes hwn i bawb sydd yn dyfod ato gyda chalon hawddgar a da. Efe yw goleuni y byd. Ac os cyd­syniwch, ni a edrychwn oddi yma yn gyntaf ar y pwnc o feichnïaeth yn gyffredinol.

D. Dyna fy nymuniad; o blegid er mai sefyllfa dyn cyn credu oedd genym ddiweddaf dan sylw, byddai yn dda genyf weled pa fodd y mae yr holl egwyddor feichnïol neu ddirprwyol yn ymddangos o’r canolbwynt hwn.

A. Yr oedd yr Hen Destament yn ddadguddiad perffaith o Dduw yn ei gyfiawnder a’i drugaredd: yn ei gyfiawnder fel deddfroddwr yn gofyn ufudd-dod, ac yn cospi am anufudd-dod; ac yn ei drugaredd yn rhoddi hysbysrwydd mynych am drefn i faddeu, yn nghyd âg arddangosiad trwy gysgodau pa fath oedd yr iawn i fod - trwy yr hwn, cyn dyfodiad Crist yn y cnawd, yr oedd maddeuant o’r pechodau (x39) a wnaethid o’r blaen trwy ddyoddefgarwch Duw. Ond ni chafwyd anghraifft o ufudd-dod perffaith yn neb dan yr Hen Destament, na chwaith un weithred na pherson i fod yn iawn gweithredol a sylwceddol i gyfiawnder. Ond yn y Testament Newydd, dyma hanes am un na bu erioed ei gyffelyb o’i flaen nac ar ei ol. Dyma y priodoliawthau dwyfol oedd yn pelydru arnom o ryw bellder annherfynol wedi tabernaclu o’r diwedd yn ein plith ni: “ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megys yr uniganedig oddi wrth y Tad, yn llawn gras a gwirionedd.” Yr hyn oedd o’r blaen yn cael ei ddangos mewn cynllun yn unig am gyfiawnder a thrugaredd, a welir yma mewn bywyd. Y mae yn rhaid fod yr hanes yn wir, o blegid pwy fuasai yn medru ei ddyfeisio? Y mae yn haws dychymygu am ddyn yn creu haul, na’i fod yn creu y fath arlun o berffeithrwydd moesol âg a welir yn hanes y dyn Crist Iesu. Os yw yn anhawdd credu fod un mor sanctaidd wedi bod yn ein byd ni, y mae yn fwy anhawdd credu fod neb wedi gallu ei ddysgrifio heb iddo fod. Y mae bod un mor lân wedi dyfod o beth aflan yn ffaith uwch law rheswm; ond y mae tybied fod syniadau mor ysbrydol am ansawdd crefydd wedi tarddu yn naturiol o blith yr Iuddewon mewn cyfnod mor ddirywiedig — fod y dysgrifiad o Fessïah yn byw a marw mewn cyflwr mor dlawd a dirmygedig wedi ei ddyfeisio gan rai oeddynt yn ei ddysgwyl i fod yn frenin daiarol — y mae hyn, meddaf, nid uwch law rheswm, ond yn groes i reswm. Na: fe fu Un ar y ddaear unwaith, yr hwn oedd ddiddrwg, a dihalog, a didoledig oddi wrth bechaduriaid.” Cafodd ei “demtio yn mhob peth yr un ffunud a ninnau, etto heb bechod.”

D. Nid oes un ammheuaeth nad yw y fath un ag Iesu Grist wedi bod yn byw ar y ddaear. Y mae yr Almaenwyr eu hunain, ac Undodiaid Lloegr, yn addef hyn; ac addefant hefyd ei fod yn rhyw un mwy na dyn cyffredin.

A. Yn awr, pe caniataem nad oedd Iesu Grist ond dyn da yn unig, y mae yma ryw ddirgelwch: ond yr oedd yn fwy na dyn. Nid ei eiriau ef un dano ei hun yn unig sydd yn profi hyny, na geiriau ei ddysgyblion, ond ei holl nodweddiad. Cyn y gallasai fod yn ddyn mor dda, yr oedd yn rhaid ei fod yn fwy na dyn. Y mae yn amlwg ei fod ef yn ystyried ei hun yn Dduw:— ac nis gallasai dyn da byth ddyweyd hyny heb ei feddwl; ac nis gallasai gynnwys y fath feddwl oni buasai ei fod yn gwybod ei fod yr hyn yr oedd yn ei ddangos ei hun. Ac heb law hyny, y mae yn ddiammheuol fod ysgrifenwyr yr hanes yn bwriadu rhoddi dysgrifiad o Dduw mewn cnawd; ac oni buasai fod y gwrthddrych yr hyn yr oeddynt hwy yn amcanu ei bortreadu, buasai y darlun yn anghraifft o’r methiant mwyaf a fu erioed. Os llwyddasant i roddi darlun dwyfol o berson dynol, y mae yn rhaid i ni feddwl fod yma un o’r gwyrthiau rhyfeddaf a fu erioed; (x40) a bod yr apostolion yn cael cymmhorth goruwchnaturiol i gyfansoddi ffug-hanes. Y mae yn rhaid i ni roddi lle i’r dwyfol yn rhywle. Ond y mae yn fwy rhesymol i ni dybied fod y gwrthddrych yn ddwyfol a’r hanes yn ddynol,


 

na thybied fod yr hanes yn ddwyfol a’r gwrthddrych yn ddynol; o blegid nis gellir meddwl fod Ysbryd Duw yn rhoddi cymmhorth goruwchnaturiol i ysgrifenu celwydd: ond mwy rhesymol na’r ddau yw tybied fod Ysbryd Duw yn rhoddi cymmhorth goruwchnaturiol i ysgrifenu gwirionedd; ac felly fod gwrthddrych yr hanes yn ddwyfol. Nid wyf yn gwybod a wyf wedi llwyddo i wneyd fy meddwl yn ddealladwy.

 

D. Mi feddyliwn fy mod yn deall y rhan fwyaf; ond nid wyf yn gweled yn iawn pa fodd y mae yn fwy rhesymol i ni gredu fod yr apostolion yn cyfansoddi hanes dynol am wrthddrych dwyfol, na hanes dwyfol am wrthddrych dynol.

A. Efallai y dylaswn ddyweyd ei fod yn llai afresymol. Y mae tybied eu bod heb gymmhorth dwyfol yn alluog i gyfansoddi darlun, yr hwn sydd yn peri i ni ddyweyd wrth edrych arno, Dyna Dduw yn y cnawd! er iddynt gael y gwrthddrych yn weledig o flaen eu llygaid, yn afresymol; ond y mae tybied eu bod yn alluog i gyfansoddi y cyfryw ddarlun dwyfol, heb erioed weled un gwrthddrych yn cyfateb iddo, yn fwy afresymol.

D. Dichon fod y profion tufewnol hyn yn cyfateb yn well i’r meddyliau uchaf, y rhai sydd yn alluog i gyrhaedd y gwirionedd heb ddringo ar hyd grisiau rhesymeg; ond ryw fodd, byddaf fi yn cael mwy o foddlonrwydd i mi fy hun trwy efrydu y profion allanol. Yn y rhai hyn yr wyf yn cael rhywbeth y gallaf ei deimlo a’i bwyso. Os cymmerwn y ffaith noeth o adgyfodiad Crist, y mae hon ar unwaith yn profi ei fod yn Dduw; fel y dywedodd Paul, “ac a eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu yn ol ysbryd sancteiddiad, trwy yr adgyfodiad oddi wrth y meirw.”

A. Gan nad pa un a yw y prawf tufewnol yn fwy cyfaddas i’r meddyliau uchaf ai peidio, y mae yn sicr mai dyma y prawf sydd yn dyfod adref gyda mwyaf o rym at y meddyliau iselaf. Ond y mae y ddau yn werthfawr; ac afreidiol yw darostwng y naill er mwyn dyrchafu y llall. Y mae y profion allanol, yr un modd a’r tufewnol, mor gryfion ag sydd bossibl iddynt fod. Cymmerwch y ffaith a grybwyllwyd genych yn barod; nis gellir meddwl am fwy o sicrwydd mewn perthynas i adgyfodiad Crist nag sydd genym. Dyma bedwar yn rhoddi tystiolaeth o’r ffaith yn annibynol ar eu gilydd. Nad oedd un cynghrair rhyngddynt, sydd amlwg oddi wrth y gwahaniaeth dibwys yn eu hanesion. Ond i gau allan bob lle i ammheuaeth, y maent yn dyweyd i’r Arglwydd Iesu ymddangos i amryw gannoedd ar ol ei adgyfodiad, y rhai oeddynt yn fyw pan oedd hyn yn cael ei ddyweyd a’i ysgrifenu.

D. Nid er mwyn gwrthwynebu yr wyf yn galw sylw at wrthddadl a (x41) glywais mewn ymddyddan yn ddiweddar — y buasai y prawf yn gryfach pe buasai Crist wedi ymddangos i rai o’i elynion, a phe buasai genym eu tystiolaeth hwy o blaid y ffaith.

A. Meddyliwch ei fod yn ymddangos i rai o’i elynion, pa effaith a ddysgwyliech i hyny gael arnynt?

D. Mae yn ddiammheu y buasai yn eu hargyhoeddi.

 

A. Ond buasent felly yn yr un rhestr a’i ddysgyblion; ac ni buasai eu tystiolaeth yn brawf o natur wahanol i’r hyn sydd genym eisoes. O ran hyny, y mae y prawf hwn genym yn llythyrenol yn hanes yr apostol Paul.


D. Ond tybiwch fod y gelynion hyn yn aros heb gredu ynddo.

 

A. Y mae y dybiaeth yna yn myned i’r fath eithafoedd fel nas gellir yn hawdd ei chanlyn. Ond rhag i ni adael un gongl o’r wrthddadl heb ei chwilio, ni a edrychwn i mewn i’r dybiaeth hon etto. Ei hystyr, dybygid, ydyw, y byddai yn ddymunol fod genym draethawd wedi dyfod i lawr o’r hen oesoedd, yn yr hwn y byddai yr awdwr yn dyweyd ei fod wedi gweled Iesu Grist yn marw ar y groes, iddo weled y milwr yn gwanu ei ystlys, i roddi y prawf sicraf ei fod wedi marw; iddo ei weled drachefn wedi ei adgyfodiad, ac etto fod yr awdwr ei hun yn aros heb gredu ynddo. Pe darllenech y cyfryw hanes, oni ddywedech yn union, “Nis gallaf finnau gredu y llyfr: y mae yn rhaid ei fod i gyd yn dwyll.” Y mae yr hanes yn y Testament Newydd yn cynnwys ffeithiau uwch law rheswm; ond y mae y dybiaeth hon yn groes i reswm.

D. Y mae un peth na feddyliais am dano o’r blaen yn ymddangos i mi oddi wrth yr ymddyddan hwn. Nis gwn a oes rywbeth ynddo; ond os oes, y mae yn myned i wrthbrofi holl gyfundrefn y myths. Os nad yw yr hyn sydd wyrthiol yn hanes Iesu Grist yn ddim mwy nag addurniadau traddodiadol yn codi oddiar y duedd sydd mewn dysgyblion i wisgo eu blaenor â’r priodoliaethau mwyaf mawreddog, a’r rhai hyny yn ymddangos yn fwy drachefn i’w holynwyr wrth edrych arnynt trwy niwl amser; ac os cynnyrch y traddodiadau hyn mewn ysgrifen yw y pedair efengyl, y mae yn naturiol meddwl y buasai yr ysgrifenwyr yn rhoddi dysgrifiadau o’i ymddangosiadau i rai o’i elynion, ac yn enwedig i rai o fawrion y byd, yn

 ebrwydd ar ol ei adgyfodiad. Rhyw lwybr tebyg i hyn a fuasai traddodiad yn ei gymmeryd. Mae yn wir, fel y dywedasoch, y buasai hyn yn gwanhau eu tystiolaeth yn ngolwg y rhai mwyaf ystyriol; ond nid yw y lluaws yn gweled mor bell a hyn. Eu tuedd hwy yw pentyru pob mawredd a allant ar eu harwr, nes y mae ei nodweddiad personol yn cael ei guddio o’r golwg.

A. Hyd y gwelaf fi, y mae eich ymresymiad yn anattebadwy ac y mae yn cynnwys egwyddor, yr hon y gellir ei chymmhwyso at holl hanes yr (x42) Arglwydd Iesu. Y mae ei nodweddiad trwyddo oll yn hollol groes i nodweddiad arwr traddodiadol. Yn lle cyfarfod â dysgwyliadau dynion — ”nid oes na phryd na thegwch iddo; pan edrychom arno, ni bydd pryd fel y dymunem ef. Dirmygedig yw, a diystyraf o’r gwŷr; gŵr gofidus a chynnefin â dolur; ac yr oeddym megys yn cuddio ein hwynebau oddi wrtho; dirmygedig oedd, ac ni wnaethom gyfrif o hono.” Y mae ei fawredd yn dyfod i’r golwg yn anfwriadol, ac o angenrheidrwydd; ond prif destyn y pedair efengyl yw iselder ei ddarostyngiad; ac nid oes ond un o honynt yn rhoddi crybwylliad am ei esgyniad i’r nef, a hyny mewn un adnod yn y modd mwyaf dysyml.



D. Er hyny, mae genym rai anghreifftiau o arwr traddodiadol yn cael ei ddwyn i’r iselder a’r dyoddefiadau mwyaf, megys yn y Prometheus gan Æschylus.

A. Nis gallasech gael gwell anghraifft i ddangos y gwahaniaeth anfeidrol rhwng traddodiad a hanes yr Arglwydd Iesu Grist. Yn y Prometheus, y mae yr arwr yn dyoddef o’i anfodd, yn dal yn anhyblyg, ac yn herio yr holl dduwiau, y rhai ydynt yn y diwedd yn methu gorchfygu ewyllys y dyngarwr. Ond yn hanes yr efengylwyr, dyma un yn dyoddef o’i fodd — yn dyoddef nes marw — a hwnw yn Dduw.

D. Yr wyf yn gweled mai y prawf tufewnol yw y mwyaf dewisol genych chwi; o blegid ar ol ei adael unwaith, dyma chwi wedi troi etto oddi wrth yr allanol at y tufewnol.

A. Braidd na feddyliwn mai chwi a’m harweiniodd. Ond i ddychwelyd at y prawf allanol: y mae grym mewn sylw o eiddo Paley, a gellir ei gymmhwyso at yr achos hwn. Y mae llawer wedi dyoddef dros grediniaeth ddisail; ond nid oes neb erioed wedi dyoddef dros yr hyn nad ydynt hwy yn gredu sydd wirionedd. Yn awr, pe caniataem mai yn mhen oesoedd ar ol marwolaeth Grist yr ysgrifenwyd ei hanes — yr hyn nid wyf yn ei ganiatau am funud, oddi eithr yn unig er mwyn ymresymiad — er hyny, y mae y rhai sydd yn ceisio gwadu i’r dysgyblion cyntaf ysgrifenu hanes Crist, yn gorfod addef eu bod yn ei bregethu, ac yn dyoddef o herwydd eu proffes o hono. Y mae yn rhaid, gan hyny, eu bod hwy yn credu ynddo; ond nis gallasent barhau i gredu ynddo pe buasai eu holl obeithion ynddo wedi troi yn siomiant llwyr a bythol. Pe caniateid mai cynnyrch traddodiad yw yr hanes ysgrifenedig, nid cynnyrch traddodiad oedd crediniaeth y dysgyblion cyntaf; o blegid yr oeddynt hwy yn rhwym o wybod y ffaith; ac oni buasai fod y ffaith yn profi iddynt hwy mai yr Iesu oedd y Messiah, ni buasent yn dyoddef drosto. Ni buasent yn gallu aberthu eu bywydau drosto, oni buasai eu bod yn credu ynddo; ac ni buasent yn parhau i gredu ynddo, oni buasai eu bod yn gwybod ei fod wedi adgyfodi.

 

(x43) D. Bum yn ymrwystro ychydig ryw amser yn ol gyda’r gyfundrefn draddodiadol; ond gwelais yn fuan fod ei phleidwyr “yn hidlo gwybedyn, ac yn llyncu camel.”

A. Felly y maent. Am na fynant gredu fod y fath beth yn bod a gwyrth, y maent yn myned yn erbyn pob tystiolaeth. Ond os credwn fod Duw yn bod, nid yw ond peth bychan i ni gredu mewn gwyrthiau. Mae yr holl wirionedd yn un, a’i holl ranau yn gyssylltiedig anwahanol: ac felly yma; y mae y mater oedd genym yn y rhan gyntaf o’r ymddyddan, sef y Bod o Dduw a’i briodoliaethau, yn dwyn perthynas agos â’r testyn sydd genym yn awr dan sylw. Y mae yn rhaid i bleidwyr y gyfundrefn draddodiadol gyfaddef nas gall fod mwy o sicrwydd mewn tystiolaeth nag sydd o blaid adgyfodiad Cnst: ond gwrthodant y cwbl am eu bod hwy wedi penderfynu yn eu meddyliau eu hunain nad oes gwyrth yn bod. Y gofyniad ar ba un y mae yr holl ddadl yn ymddibynu ydyw, A oes Duw yn bod? Os ydynt hwy wedi cyrhaedd sicrwydd anffaeledig nad oes un Duw, y maent yn iawn yn eu gwaith yn anghredu gwyrthiau. Ond os credwn fod Duw, a’r Duw hwnw yn “Dduw byw,” nid oes dim yn natur pethau yn erbyn credu gwyrthiau. Yr ydym felly yn rhydd i roddi ystyriaeth i’r tystiolaethau; ac wrth eu hystyried, y maent yn rhoddi y sicrwydd mwyaf a ellir gael fod adgyfodiad Crist yn ffaith.

D. Fel y dywedodd Galileo, “Y mae y ddaear yn symmud wedi y cwbl.”

A. Yn awr, beth y mae hyn oll yn ei brofi? Os adgyfododd Crist, y mae yn rhaid ei fod mewn gwirionedd yn Fab Duw. Dyma yr hyn oedd mewn dadl rhyngddo ef a’r Iuddewon. Am iddo ddywedyd ei fod yn Fab Duw y rhoddwyd ef i farwolaeth; ac oni buasai ei fod mewn gwirionedd yr hyn oedd yn broffesu, ni buasai y Tad yn ei adgyfodi. Ond os oedd Iesu Grist yn Fab Duw, pa esboniad a ellir ei roddi ar ei farwolaeth oddi eithr ei fod yn marw fel Meichnïydd? Yma, yr wyf yn cymmeryd fy safle ar y ffaith fod y Cyfiawn wedi marw. Os ceisir esbonio geiriau amlwg y Beibl yn y fath fodd ag i’w gwaghau o’u hystyr, y mae y ffaith yn aros fod Mab Duw wedi marw. A pha gyfrif a roddwn am dani? Pa ham y bu efe farw, a pha fodd y gallasai farw, oddi eithr yn lle pechaduriaid?

D. O’m rhan fy hun, nid wyf yn dyweyd dim yn erbyn yr ymresymiad hwn; ond prin yr wyf yn dysgwyl yr ymddengys yn hollol foddlonol i ereill, y rhai a ddadleuant y gallai fod yn unol â chyfiawnder Duw i’r cyfiawn ddyoddef er mwyn lles cyffredinol y byd, heb fod un berthynas feichnïol rhyngddo a phechaduriaid. Diammheu yr addefant na buasai yn gyfiawn iddo ddyoddef heb ei gydsyniad ei hun. Ond yr oedd y Mab yn cydsynio; ac os tybiwn ei fod yn unig yn cymmeryd ein natur, yn rhoddi (x44) ufudd-dod perffaith i’r ddeddf yn y natur hono, ac er mwyn gwneyd ei ufudd-dod yn fwy gwerthfawr, yn myned o’i fodd i’r amgylchiadau mwyaf anfanteisiol y gallasai dynion fod ynddynt, yn dyoddef, ac yn marw, gan garu Duw â’i holl galon hyd y diwedd, a’i gymmydog fel efe ei hun, gellir dadleu fod hyn yn gymmaint ag a allasai fod yn angenrheidiol er achubiaeth y byd yn ngwyneb y golygiadau manylaf ar gyfiawnder — fod yma fwy nag esampl i ddynion — mewn gair, fod yma iawn cyflawn i Dduw.




A. Yr unig atteb sydd genyf yw eich galw at y ffaith. Ni ddymunwn estyn yr ymresymiad i derfynau ammheus. Os bydd rhyw radd o ammheuaeth, gwell genyf roddi y tir hwnw i fyny, yn hytrach na dadleu drosto. Gan hyny, ni a ganiatawn y gallasai Mab Duw ddyoddef oddi wrth y byd, ac oddi wrth Satan heb fod yn Feichnïydd. Ond pan edrychwn i’r hanes sanctaidd, yr ydym yn cael fod llawer mwy na hyn yn marwolaeth yr Arglwydd Iesu. Os darllenwch ei hanes yn Gethsemane, ac ar y groes, bydd yn rhaid i chwi deimlo fod rhyw ddyoddefiadau yn ei gwpan ef uwch law gallu dynion a chythreuliaid i’w cynnyrchu, ac uwch law eu deall i’w hamgyffred.
Dyna y Beibl yn y fan yna ar y bwrdd. Trowch yn gyntaf i Marc, a darllenwch yr hanes am dano yn Gethsemane.

D. “A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane; ae efe a ddywedodd wrth ei ddysgyblion, Eisteddwch yma, tra fyddwyf yn gweddïo. Ac efe a gymmerth gydag ef Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac a ddechreuodd ymofidio, a thristau yn ddirfawr. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid yn athrist hyd angeu: aroswch yma, a gwyliwch. Ac efe a aeth ychydig yn mlaen ac a syrthiodd ar y ddaear, ac a weddïodd, o bai bossibl, ar fyned yr awr hono oddi wrtho. Ac efe a ddywedodd, Abba, Dad, pob peth sy bossibl i ti: tro heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti.”

A. Yn nesaf, darllenwch yr un hanes fel y mae yn Luc.

D. “Ac efe a dynodd oddi wrthynt tuag ergyd careg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd, gan ddywedyd, O Dad! os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: er hyny, nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler. Ac angel o’r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef, Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddïodd yn ddyfalach; a’i chwys ef oedd fel defnynau gwaed yn disgyn ar y ddaear.”

A. Cyn rhoddi y Beibl o’ch llaw, a fyddwch chwi gystal a darllen Mat. xxvii. 46?

D. “Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, lama sabachthani? hyny yw, Fy Nuw, fy Nuw, pa ham y’ni gadewaist?”

A. Dyna yr hanes: a pha fodd y mae i ni ei esbonio? Ai ofn poenau corfforol, neu ofn gwaradwydd oddi wrth ddynion, neu ofn ymosodiad y (x45) diafol ar ei feddwl, a barodd i un mor fawr a Mab Duw fod yn athrist hyd angeu, a gweddïo am i’r cwpan gael ei droi heibio oddi wrtho? A pha beth a ddywedwn am ei eiriau rhyfedd ar y groes, “ Fy Nuw, fy Nuw, pa ham y’m gadewaist?“ Nis gellir eu hesbonio ond trwy gymmeryd yn eu llawn a’u hunig ystyr lythyrenol y geiriau hyny o’r Beibl sydd yn llefaru am natur ei farwolaeth: “Ond efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni: cospedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef, a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni. Nyni oll a grwydrasom fel defaidj troisom bawb i’w ffordd ei hun; a’r Arglwydd a roddes arno ef ein hanwiredd ni i gyd;“ Esa. liii. 5, 6. “Yr hwn nid adnabu bechod a wnaeth efe yn bechod drosom ni;“ 2 Cor. v. 21. “Crist a’n llwyr brynodd oddi wrth felldith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith drosom;” Gal. iii. 13. “Yr hwn ei hun a ddwg ein pechodau ni yn ei gorph ar y pren;” 1 Pedr ii. 24. Mae yn amlwg, oddi wrth hanes yr Arglwydd Iesu Grist yn yr efengylwyr, fod hanfod ei ddyoddefiadau yn tarddu oddi wrth guddiad gwyneb ei Dad; ac y mae mor amlwg, oddi wrth yr adnodau a goffawyd o ysgrifeniadau Esaiah, Paul, a Phedr, mai yr achos o’r dyoddefaint hwn oedd, ei fod ef wedi dyfod i undeb mor agos â ni fel yr oedd ein pechodau ni mewn ystyr yn eiddo ef; a chau nas gallasai hyny fod trwy gyfranogiad, y mae yn rhaid ei fod trwy gyfrifiad. Ar yr un pryd y mae yn angenrheidiol i ni ofalu na byddom yn cymmeryd yr undeb hwn mewn ystyr mor eang fel na byddo lle i’r undeb gweithredol trwy ffydd; megys y gwneir gan rai Uwch-Galfiniaid. Yr undeb gweith­redol hwn trwy ffydd sydd yn symmud y gollfarn oddi ar berson y pechadur ac yn ei wneuthur yn gangen ffrwythlawn yn y wir winwydden. Ond ni buasai sail i’r undeb gweithredol oni buasai yr undeb cyfammodol a meichnïol.

D. Dychymmygwyf fy mod yn dechreu deall mai fel hyn y mae; ond yr wyf o hyd yn methu gweled pa ham y mae fel hyn. Yr oeddych yn dyweyd mai hanfod yr iawn yw haeddiant. Yn awr, dyma haeddiant anfeidrol yn ufudd-dod yr Arglwydd Iesu, heb ystyried ei fod yn dyoddef y gosp oedd yn ddyledus i ni; ac onid dyma y cwbl sydd yn angen­rheidiol, yn ol eich golygiad chwi eich hun, i gyfansoddi iawn digonol i atteb holl ofynion cyfiawnder?

A. Fel y dywedais o’r blaen, yr wyf yn hoffi y golygiad yna mor bell ag y mae yn myned; ac nid wyf yn deall fod mwy na hyn yn nghyfundrefn Anselm, yr hwn, trwy y llyfr bychan a elwir Cur Deus Homo, a ddechreuodd gyfnod newydd yn hanes yr athrawiaeth hon. Er hyny, yr wyf yn gorfod credu nad yw yn cyfateb i’r ffaith fel y mae wedi ei chofnodi yn hanes yr Arglwydd Iesu: Ond yr ydych yn dymuno cael esboniad ar y ffaith; ac nis gwn pa esboniad gwell a ellir ei gael na geiriau Crist (x45) ei hun. Y mae efe yn ein dysgu fod rhyw orchymyn neillduol ganddo i’w gyflawni, ac mai hyn oedd ei neges fawr i’r byd. Nid mewn rhai ymadroddion achlysurol y mae yn dysgu hyn; ond dyma dôn wastadol ei weinidogaeth. Yr oeddych yn eich lle wrth ddywedyd mai trwy ei ufudd-dod perffaith yr haeddodd fywyd tragwyddol i ni, ond mae yn angen­rheidiol cofio mai nid ufudd-dod cyffredin oedd ei ufudd-dod ef. Yr oedd mor anghyffredin yn y gorchymyn, i’r hwn yr oedd yn ufuddhau, ag ydoedd yn y person oedd yn rhoddi ufudd-dod. Felly y dywed efe ei hun yn Ioan s. 17, 18; “Am hyn y mae y Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymmerwyf hi drachefn. Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr o honof fy hun. Y mae genyf feddiant i’w dodi hi i lawr, ac y mae genyf feddiant i’w chymmeryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad.” Chwi welwch, gan hyny, nad wyf yn galw yn ol y dywediad mewn perthynas i haeddiant fel hanfod yr iawn, ond yn unig yn ei egluro. Y mae i’r haeddiant hwn ei ffurf briodol ei hun, ac y mae y ffurf hono mor hanfodol i’r haeddiant ag yw yr haeddiant i’r iawn. Yr oedd ffurf yr haeddiant yn cyfateb i ffurf yr ufudd-dod; o blegid yr ufudd-dod oedd yr haeddiant; ond ffurf yr ufudd-dod oedd y gorchymmyn a dderbyniodd gan ei Dad — a’r gorchymmyn hwnw oedd, fod iddo roddi ei einioes dros y defaid. Y mae gradd o debygolrwydd rhwng yr achos hwn ag ymchwiliad arall sydd wedi bod yn ddefnydd dadl i athronwyr trwy yr oesoedd; sef, pa un ai y mewnol ai yr allanol yw y cyntaf fel ffynnonell gwybodaeth. Meddylia rhai nad oes dim yn y meddwl ond a dderbynia trwy gyfrwng y synwyrau; ond ereill drachefn a ddadleuant, er mai mewn canlyniad i’r cynnhyrfiad a dderbynia trwy y synwyrau corphorol y mae y meddwl yn dechreu gweithredu, etto, fod egwyddorion gwybodaeth yn meddwl pob dyn pan yn dyfod i’r byd. Felly, gyda golwg ar yr iawn, gellir casglu fod yr egwyddorion o hono yn bod er tragwyddoldeb, ac mai am fod ufudd-dod Crist yn cyfateb i’r cynllun yn y meddwl dwyfol yr oedd yn iawn. Fel y mae y corph yn gyfrwng rhwng y meddwl a’r byd allanol, felly y mae yr iawn yn gyfrwng rhwng y meddwl dwyfol a phechaduriaid; ac er nad ydynt yn dyfod i undeb gweithredol âg ef nes y credont, gellir tybied fod yr uudeb hwn mewn egwyddor yn bod yn meddwl y Tad wrth anfon ei Fab, ac yn meddwl y Mab wrth ddyfod i’r byd. Os holir yn mhellach pa ham yr oedd yr ewyllys ddwyfol yn gofyn i Grist farw, nid oes genym ond myned yn ol at yr hyn a ddywedwyd yn y dechreu am gyfiawnder. Yr oedd cyfiawnder anghyfnewidiol yn gwneuthur cosp am bechod yn angenrheidiol; ond daeth Crist i undeb mor agos â ni fel yr oedd ei farwolaeth ef yr un peth yn ngwyneb deddf a phe buasem ni yn dyoddef yn ein personau ein hunain. Fel yr oedd undeb y ddwy natur yn ei (x47) berson ef yn peri fod haeddiant ei berson yn cyrhaedd at ddyoddefiadau ei natur ddynol, felly y mae yr undeb rhyngddo ef a ni yn peri fod haeddiant ei ufudd-dod yn cael ei gyfrif i ni. Yn Heb. ii. 10, 11, dywed yr apostol, “Canys gweddus oedd iddo ef, o herwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth, wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy trwy ddyoddefiadau. Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a’r rhai a sancteiddir, o’r un y maent oll. Am ba achos nid yw gywilyddus ganddo eu galw hwy yn frodyr.” Yr achos fod yn weddus i’r Tad berffeithio Tywysog ein hiachawdwriaeth trwy ddyoddefiadau oedd, ei fod ef a ninnau o’r un, sef o’r un Duw.
Yr oedd of wedi dyfod i’r un berthynas â Duw a ninnau. Yn yr adnodau nesaf, sonia yr apostol am undeb natur; ond y mae yn amlwg ei fod ef yn ystyried fod yr undeb natur yn tarddu o undeb moesol. Y mae yma, fel yn yr oll o drefn Duw, ddirgelwch, yr hwn sydd yn galw am y gwylder mwyaf wrth son am dano: ac y mae y gofal manylaf yn angenrheidiol yn barhaus rhag i ni fyned i ryw eithafoedd. Ar un llaw, ni ddylem gyfyngu ein sylw at yr undeb gweithredol sydd yn cymmeryd lle mewn amser, fel ag i anghofio yr undeb meichnïol: ac ar y llaw arall, ni ddylem estyn terfynau yr undeb meichnïol fel ag i guddio pwysfawredd yr undeb gweithredol trwy ffydd.

D. Ond yn y ddau le yna y mae yr anhawsder. Yn gyntaf, os oedd yr haeddiant yn ddigon, pa angenrheidrwydd oedd am feichnïaeth? Ac yn ail, os bu Crist farw fel Meichnïydd, pa angenrheidrwydd sydd am undeb chwanegol trwy ffydd cyn y gellir maddeu i’r rhai y bu farw drostynt.

A. Nid wyf yn gwybod fod genyf ddim o bwys i’w ddyweyd yn mhellach fel atteb i’r gofyniad cyntaf; ond edrychwn i mewn iddo yn fwy pwyllog, nid gyda’r dyben o amgyffred y mater, o blegid rhaid fod yma ddirgelwch, ond i ddangos nad oes yma un anghyssondeb. Yr ydych yn gofyn, Os oedd yr haeddiant yn ddigon, pa angenrheidrwydd oedd am feichnïaeth? Ond os ail feddyliwch, yr wyf yn sicr y gwelwch eich bod yn cymmeryd yn ganiataol yr hyn sydd yn aros etto heb ei brofi. Y gofyniad yw, A fuasai yr haeddiant yn ddigon oni buasai fod Crist yn dyoddef y gosp oedd ddyledus i ni?

D. Nid oeddwn yn tybied fod yma un lle i ammheuaeth. Y mae yn ymddangos i mi fod haeddiant anfeidrol yn yr ymddarostyngiad lleiaf o eiddo Mab Duw.

A. Mae yn ddiau fod: ond os dywedwch mewn canlyniad fod yr ymostyngiad lleiaf o eiddo Mab Duw yn iawn digonol dros bechod, onid ydych yn gwneuthur ei farwolaeth yn afreidiol?

D. Yr wyf yn gweled ei bod yn tywyllu arnaf; a byddaf ddiolchgar os gellwch fy arwain i’r goleuni.


 

(x48) A. Dymunwn ddyweyd pob gair gyda’r parch a’r gwylder sydd yn gweddu wrth son am wrthddrych mor fawr. Ond pe ystyriem y dyfnder o ddrwg sydd mewn pechod, efallai y credem yn yr olwg arno mai nid rhywbeth ysgafn a hawdd i Fab Duw oedd haeddu maddeuant i bechaduriaid. Y mae dynion duwiol ar y ddaear yn teimlo, pan yn agos at Dduw, y byddai yn well ganddynt syrthio i ddiddymdra tragwyddol na chyflawni un pechod. Ac os hyn yw teimlad y saint ar y ddaear, pa beth a feddyliwn am ysbrydoedd y cyfiawn, y rhai a berffeithiwyd? Ac os yw pecbod yn gymmaint drwg yn ngolwg creaduriaid sanctaidd y Goruchaf, pa fath gasineb a raid fod ato yn y meddwl anfeidrol? Dyma un peth sydd yn fawr yn ngolwg Duw ei hun. Nid ydyw yr holl greadigaeth ond dim, a llai na dim, o’i chymmharu âg ef; a phe meddylid fod y greadigaeth yn fwy nag ydyw fyrddiynau o weithiau, ni byddai mewn un gradd yn fwy mewn cymmhariaeth iddo ef. Ond y mae drwg pechod yn fawr mewn cymmhariaeth i Dduw; a pho agosaf yr awn at Dduw, mwyaf y mae ei ddrwg yn ymddangos. Gan hyny, cyn y gallesid cael iawn drosto, yr oedd yn rhaid i’r haeddiant fod yn fawr — nid yn unig mewn cymmhariaeth i’r greadigaeth, ond mewn cymmhariaeth i’r Creawdwr. I’r dyben hwn, y mae yn ymddangos fod dau beth yn angenrheidiol; yn gyntaf, person i ufuddhau, yr hwn oedd fawr mewn cymmhariaeth i Dduw — yr hyn nis gallasai neb fod ond un oedd yn Dduw; ac yn ail, ufudd-dod, yr hwn yr oedd ei fawredd yn cyfateb i fawredd y person oedd yn ufuddhau.

D. Onid oedd mawredd y person yn gosod mawredd anfeidrol ar bob gweithred o ufudd-dod?
Ac os felly, nid oedd angen am fawredd yn yr ufudd-dod ar ei ben ei hun.

A. Mae yn wir fod mawredd y person yn rhoddi gwerth cyfatebol yn ei ufudd-dod; ond y mae gwirionedd arall i’w ystyried ar gyfer hwn — mai po mwyaf y person, mwyaf a ddysgwylir oddi wrtho.

D. Y mae yr ystyriaeth yna yn agor maes newydd o flaen fy meddwl; ac mi feddyliwn fy mod yn dechreu gweled ychydig.

A. Er fod y person a gymmerodd ein hachos yn Fab Duw, y mae yn amlwg nas gallasai haeddu ond i’r graddau yr oedd yn hunan-ymwadu. Gallasai greu bydoedd newyddion, a’u poblogi â bodau dirifedi; ond ni buasai hyny yn haeddu maddeuant i ni, am na buasai, trwy hyny, yn tlodi ei hun: “Rhaid oedd iddo ef, ac yntau yn gyfoethog, ddyfod er ein mwyn ni yn dlawd, fel y’n cyfoethogid ni trwy ei dlodi ef.” Y mae yn ymddangos gan hyny fod hunan-ymwadiad yn un elfen hanfodol yn yr haeddiant, a bod mawredd yr haeddiant yn cyfateb i fawredd yr hunan-ymwadiad, yn gystal ag i fawredd y person. Ni fuasai goleuni natur byth yn rhoddi sail i ni feddwl fod yn bosibl i un mor fawr ddyfod i (x49) sefyllfa, yn yr hon yr oedd y ddeddf yn gofyn ufudd-dod oddi wrtho; ond wedi i ni gael gwybodaeth trwy ddadguddiad ei fod yn dyfod i’r sefyllfa hono, buasem yn dysgwyl i’r weithred o ufudd-dod fod, fel efe ei hun, yn anfeidrol. Os oedd Person — na’r hwn nis gallasai fod neb mwy — yn dyfod i ufuddhau, gallesid dysgwyl i’r weithred o ufudd-dod fod mor fawr fel nas gallasai fod ufudd-dod mwy. Yn unol â hyn, yr ydym yn cael yn y Beibl iddo ufuddhau hyd angeu, ïe, angeu y groes, iddo ddyoddef cuddiad gwyneb ei Dad; a diammheu fod yr “Eloi, Eloi, lama sabachthani“ yn rhan anhebgorol o’r hunan-ymwadiad. Y mae yr ystyriaethau hyn yn dangos i ryw fesur yr angenrheidrwydd o ddyoddef. Yr ydym yn gweled nad oedd mawredd y person yn ddigon heb fawredd yn yr hunan-ymwadiad; ac y mae mawredd yr hunan-ymwadiad yn cyfateb i fawredd y darostyngiad, a mawredd y darostyngiad yn cyfateb mewn rhan i fawr­edd y dyoddefiadau. Y mae rhyw ddirgelwch mewn dyoddef yn ei gyssylltiad â phechod, nas gallwn weled ond ychydig i mewn iddo: er hyny, gallwn ei deimlo; ac o dan rym y teimlad hwn y mae dynolryw yn holl oesoedd y byd wedi rhoddi lle mawr i ddyoddef yn eu hamrywiol grefyddau; fel y gellir dywedyd nad oes odid un math o grefydd wedi bod erioed heb fod yn sylfaenedig ar ddyoddef: ac yn lle diystyru ofergoeledd y rhai hyny sydd yn amcanu ennill bywyd tragywyddol, naill ai trwy ymattal oddi wrth gysuron cyffredin, neu trwy fyned dan yr arteithiau mwyaf llymdost, y mae y meddwl ystyriol yn canfod yma weddillion o wirionedd pwysig. Eu camsyniad yw, eu bod yn tybied fod haeddiant mewn dyoddef ynddo ei hun, ar wahan oddi wrth ufudd-dod, neu fod haeddiant mewn dyoddef yn gyssylltiedig âg ufudd-dod ar wahan oddi wrth fawredd y person. Ond yn hanes yr Arglwydd Iesu Grist, yr ydym yn cael y dyoddefiddau dyfnaf a’r ufudd-dod perffeithiaf wedi cydgyfarfod mewn Un, yr hwn yr oedd ganddo feddiant ar ei einioes, i’w rhoddi i lawr, a’i chymmeryd drachefn; a’r hwn, o ganlyniad, yr oedd haeddiant dwyfol yn ei farwolaeth. Os ydym, wrth edrych ar y mater hwn o safle cyfiawnder Duw, yn cael ein harwain i gredu fod dyoddef yn anwahanol gyssylltiedig â phechod, yr ydym, with edrych arno o safle yr hanes am Iesu Grist, yn gweled person yn rhoddi ufudd-dod i’r ddeddf, yr hwn oedd mor fawr fel nas gallai ei holl gariad anfeidrol gael digon o le i weithredu heb fod yn ufudd hyd angeu, ie, angeu y groes. Ond yn y weithred o farw dan guddiad gwyneb ei Dad, yr ydym yn gweled ufudd-dod yn cyfateb i fawredd y person.

D. Y mae fy nheimlad yn cydfyned à chwi, er fod fy neall yn cael peth trafferth wrth geisio eich dilyn.

A. Y teimlad, neu yn hytrach y gydwybod yw yr addasaf i farnu y gwirionedd hwn; o blegid y mae yn rhy fawr i’w ddwyn i diriogaeth (x50)
deddfau amser, ac am hyny nis gall y deall ei gynnwys; “Ynddo ef yr oedd bywyd, a’r bywyd oedd oleuni dynion, a’r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch, a’r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred.” Ac yn awr, os ydych yn caniatau fod dyoddef a marw yn rhan o ufudd-dod yr Arglwydd Iesu, y mae ei feichnïaeth yn canlyn o angenrheidrwydd. Pe meddyliem nad oedd y ddeddf yn gofyn ganddo ef ond ufudd-dod cyffredinol, dichon y gellid can allan feichnïaeth. Ond dyma ryw orchymyn penodol wedi ei roddi iddo ef, nad yw wedi ei roddi i neb arall. Nid ufuddhau yn ei angeu a wnaeth efe yn unig, ond ufuddhau hyd angeu. Y mae hanes ei farwolaeth, a thystiolaeth gysson y Beibl am ei farwolaeth, yn dangos fod rhyw arbenigrwydd yn y rhan hon o’i ufudd-dod. Pa ham y rhoddwyd y gorchymya hwn iddo yn neillduol? Nid oes achos cymmeryd amser yn awr i brofi nad oedd yn marw yn unig fel merthyr — o blegid y mae hyny wedi ei brofi o’r blaen; ac yr ydym yn cyduno mai nid merthyr yn unig oedd Iesu Grist, ond Mab Duw. Ond dyma Un oedd yn Fab Duw yn marw dan guddiad gwyneb ei Dad. Ni fuasai hyn yn bod heb ryw angenrheidrwydd. A’r unig esboniad a ellir ei gael ydyw, fod marwolaeth y Mab yn angenrheidiol cyn y gallasai pechaduriaid gael eu hachub. Ac os oedd hyn yn bod, y mae yn rhaid ei fod yn bresennol fel achos yn meddwl y Tad pan yn cuddio ei wyneb oddi wrth y Mab, ac yn meddwl y Mab pan yn traddodi ei enaid i farwolaeth; ac y mae yn rhaid fod y ddwy ffaith — y cyfiawn yn marw, a’r anghyfiawn yn cael ei ryddhau — yn bod mewn cyssylltiad anwahanolyn y meddwl dwyfol er tragywyddoldeb. Cofiwch yn barhaus mai cariad yw yr achos cynhyrfiol yn yr holl drefn. Am fod Duw yn caru pechaduriaid, y meddyliodd eu hachub; ond am fod cyfiawnder yn gwneuthur iawn yn angenrheidiol cyn y gallesid eu hachub, anfonodd Duw ei Fab i farw drostynt. Nid oes un esboniad arall yn rhoddi rheswm am ei farwolaeth; ac nid wyf yn gwybod fod neb yn meddwl mwy na hyn wrth ddyweyd fod Crist yn marw fel Meichnïydd.

D. Y mae un wrthddadl yn codi yn fy meddwl oddi wrth yr hyn a ddywedasoch o’r blaen. Yr oeddych yn dyweyd, neu o’r hyn lleiaf yn rhoddi lle i gasglu, fod dyoddef yn angenrheidiol fel rhan o’r ufudd-dod;

ac onid yw hyn yn rheswm am dano heb un olwg ar feichnïaeth?

A. Yr hyn yr wyf yn dadleu drosto ydyw, fod yn anmhosibl tybied y buasai y Tad yn anfon ei Fab i ddyoddef oni buasai fod cyssylltiad anwahanol rhwng ei farwolaeth ef ag achubiaeth dynion. Os yw y dyoddef yn dwyn cyssylltiad hefyd a’r ufudd-dod, fel y mae yr ufudd-dod a’r haeddiant, nid yw hyny ond dangos fel y mae yr holl drefn yn un. Nis gallasai neb haeddu maddeuant i ni ond person anfeidrol Mab Duw; nis gallasai y Mab haeddu heb ufuddhau; nis gallasai y Mab roddi ufudd-dod cyfatebol (x51) i’w fawredd ei hun heb ddyoddef a marw; ac yn olaf, nis gellir meddwl y buasai y Tad yn anfon y Mab i farw, ac yn enwedig i farw dan guddiad gwyneb ei Dad, oni buasai fod ei farwolaeth ef a’n cadwedigaeth ni yn gyssylltiedig o angenrheidrwydd yn y meddwl dwyfol.

 

PENNOD VI.
D. Yr wyf yn lled hyderu fy mod erbyn hyn wedi cyrhaedd golygiadau mwy eglur nag oedd genyf am feichnïaeth Crist. Ond y mae y pwngc arall y cyffyrddwyd âg ef yn aros heb ei lwyr esbonio; sef, pa fodd y mae dyn yn euog nes y credo, os yw ei bechodau wedi eu cyfrif ar y Meichiau. Rhaid i mi addef nad wyf etto yn ei ddeall; a bydd yn dda genyf os ewch yn mlaen i sylwi arno yn helaethach.

A. Wrth gadw y safle sydd genym eisoes, ac wrth edrych yn mhellach yn yr un cyfeiriad, fe allai y daw y pwngc hwn, a rhai pyngciau ereill o bwys mewn cyssylltiad âg ef, i fwy o eglurdeb.

D. Nid yw ddim gwahaniaeth i mi pa gynllun a gymmerir, os daw y gwirionedd i’r goleu.

A. Yr ydym wedi cyduno fod haeddiant, neu werth, yn haniodol mewn ufudd-dod cyn y gall fod yn iawn i Dduw. Y mae hyn yn dangos fod yn rhaid i’r person oedd yn ufuddhau fod yn Dduw; ac y mae yn anhebgorol i ni gymmeryd i ystyriaeth fawredd y person a mawredd y gwaith mewn cyssylltiad a’u gilydd; — nid y person heb y gwaith, ac nid y gwaith heb y person. Am fod y person yn Fab Duw, yr oedd haeddiant yn ei ufudd-dod; ac am fod haeddiant yn ei ufudd-dod yr oedd yn iawn.

D. Y mae hyn yn amlwg; ac y mae y canlyniad mor amlwg nas gall Undodwr gredu cyfundrefn yr iawn, ac nas gall neb sydd yn credu cyfundrefn yr iawn fod yn Undodwr.

A. Ond nid hyn yw y cwbl; o blegid os edrychwn yn mhellach i’r gwirionedd yr ydym yn ymddyddan yn ei gylch, yr wyf yn credu y gwelwn fod undeb agosach etto rhwng y person a’r gwaith. Y mae yn ymddangos i mi na byddai yn anaddas dyweyd fod person yr Arglwydd Iesu Grist yn y gwaith, ac am hyny fod haeddiant y gwaith yn aros byth yn ei berson.

D. Y mae y dywediad yn newydd i mi. Nid wyf yn cofio i mi ei glywed erioed o’r blaen; ac nid wyf yn deall ei ystyr.

A. Nid oeddwn yn bwriadu dyweyd dim newydd — o’r hyn lleiaf, nid oeddwn yn ei ddyweyd am ei fod yn newydd; ac nid wyf yn meddwl ychwaith ei fod yn anhawdd i’w ddeall. Meddyliwch fod un yn (x52) gwneuthur gwaith, yn unug er mwyn cyflog, a ydyw person y dyn hwnw yn y gwaith?

D. Nis gwn yn iawn pa fodd i atteb. Braidd na feddyliwn y gall fod, neu y gall beidio bod.

A. Y mae yn rhoddi ei nerth anifeilaidd, mae yn wir, i gyflawnu gorchwyl penodol; ond nid ydych yn tybied mai hyny yw ei berson.

D. Ond gall y gorchwyl fod yn waith y meddwl. Pan fyddo rhyw awdwr yn rhoddi holl nerth ei athrylith i gyfansoddi llyfr am arian, onid yw ei berson yn y gwaith?

A. Y mae yn rhaid i mi addef nad oeddwn wedi meddwl am yr wrthddadl yna; er hyny, nid wyf yn caniatau ei bod yn cyffwrdd â’r mater; o blegid y mae personoliaeth dyn yn llawer dyfnach na’i alluoedd deallawl, neu ei athrylith i gyfansoddi. Agwedd y person ger bron Duw, pa beth bynag fyddo ei alluoedd, ydyw agwedd ei galon. Yn ei olwg ef, nid yw mawredd neu fychander athrylith yn gwneuthur y person yn gymmeradwy neu yn anghymmeradwy. Pe byddai dyn yn rhoddi ei holl athrylith i ysgrifenu llyfr i brofi dwyfoldeb y grefydd Gristionogol, neu i gyfansoddi barddoniaeth grefyddol, nid yw trwy hyny yn unig yn cyflwyno ei berson i wasanaeth Duw. Mae yn wir nas gall roddi ei berson heb roddi ei athrylith; ond gall roddi ei athrylith heb roddi ei berson. Felly, y mae gwahaniaeth rhwng athrylith dyn a’i bersonoliaeth.

D. Pa beth gan hyny sydd yn hanfodol i bersonoliaeth?

 

A. Gellwch weled hyn i ryw radd wrth dybied fod un yn gwneyd cymmwynas i chwi o gariad atoch. Meddyliwch ei fod yn eich absennoldeb yn amddiffyn eich enw da — ei fod, er eich mwyn chwi, yn tynu gwaradwydd a gŵg arno ei hun — neu ei fod yn gwneuthur ymwared i chi mewn cyfyngder heb un olwg ar daledigaeth; y mae y dyn hwn, i raddau mwy neu lai, yn dwyn serchiadau ei galon i weithrediad tuag atoch; ac am hyny, i’r un graddau, y mae ei berson yn y gwaith.

D. Yr wyf yn gweled fod yma wahaniaeth; ond nid wyf etto yn gweled y cymmhwysiad.

A. Yn y lle cyntaf, y mae un weithred yn fesurol, ond y mae y llall yn anfesurol. Gellir mesur a phwyso nerth anifeilaidd; gellir mesur a phwyso athrylith; ond nid oes mesur na phwysau yn bod i enaid. Yn nesaf, a’r hyn sydd fwyaf teilwng o sylw yn ei berthynas â’n hymchwiliad presennol, y maent yn gwahaniaethu gyda golwg ar haeddiant y person sydd yn gweithredu. Nid yr un peth bob amser yw haeddiant gweithred a gyflawnir gan berson a haeddiant y person sydd yn ei chyflawnu. Pan na bydd y person yn y weithred, nid oes ynddi haeddiant moesol o gwbl; ac am yr haeddiant sydd ynddi, gellir ei wahanu oddi wrth y person; ac os trosglwyddir ef i ereill, nid yw mwyach yn eiddo i’r gweithredydd. (x53) Ond pan fyddo y person yn y weithred, y mae haeddiant y weithred yn dyfod yn haeddiant y person a’i cyflawnodd. Ac er nad yw y gweithred­ydd yn meddu llai o hawl yn yr achos hwn nag yn yr achos arall i drosglwyddo haeddiant y weithred, nid yw yr haeddiant trwy hyny yn peidio a bod yn eiddo i’r gweithredydd; ac nis gellir dadgyssylltu rhyngddynt, tra fyddo y person a wnaeth y weithred mewn bod. Yn yr amgylchiad cyntaf, y mae yr haeddiant yn ammodol: y mae y neb y gwneir y gwasanaeth iddo yn rhwym o dalu yr hyn a addawodd; ond cyn gynted ag y gwneir hyny, y mae y berthynas yn darfod, a phob rhwymedigaeth yn diflanu. Nid yw y person yn y weithred; ac am hyny, nid yw y weithred yn aros yn eiddo i’r person. Ond yn yr ail amgylchiad, pan y mae un, nid yn cyflwyno ei nerth a’i fedrusrwydd yn unig i’ch gwasanaethu am gyflog, ond yn gwneuthur cymmwynas i chwi oddi ar gariad pur a gwirioneddol barch; pe na byddai y gymmwynas hono o werth mawr ynddi ei hun, er hyny, am fod person y gweithredydd yn y weithred, yr ydych yn teimlo ar unwaith fod y weithred hono yn perthyn i ryw fyd anfesurol uwch na byd yr arian, ac nad yw olyniad amser yn difodi eich rhwymedigaeth. Y mae y person yn y weithred; ac am hyny, y mae haeddiant y weithred yn aros yn y person. Ond y mae yn angenrheidiol cadw yr ystyriaeth arall o hyd mewn cof, sef fod mawredd yr haeddiant yn ymddibynu mewn rhan ar fawredd y darostyngiad, yr hunan-ymwadiad, a’r dyoddefiadau yr eir trwyddynt wrth gyflawnu y weithred; ac nas gall neb drosglwyddo ei holl berson i’r weithred oni bydd yn gwneuthur yr oll a allo. Felly, y mae dau beth yn anhebgorol i gyfansoddi mawredd mewn haeddiant moesol; sef, mawredd y person a mawredd y weithred; ac y mae y ddau yn cydgyfarfod i raddau anghymmharol mewn undeb anwahanol yn mherson a gwaith yr Arglwydd Iesu Grist.

D. Y mae Maurice, a’r ysgol y mae efe yn perthyn iddi, yn gosod pwys mawr ar berson yr Arglwydd Iesu: yr wyf yn gwybod eich bod yn mhell oddi wrth gytuno â hwynt: ond gyda golwg ar y pwngc hwn, nid wyf yn sicr fy mod yn deall yn mha fodd, nac i ba raddau, yr ydych yn gwahaniaethu oddi wrthynt.

A. Dyna y peth yr oeddwn yn awr yn ceisio ei ddangos. Y mae yr awdwyr hyn, gyda gallu a medruswydd mawr, yn cyfeirio ein sylw at y person; ond y maent yn anghofio yr angenrheidrwydd am y weithred. Nid yw yn ymddangos fod ganddynt syniadau cywir am bechod yn yr euogrwydd o hono; ac am hyny, nid ydynt yn edrych ar yr iawn, nac yn gweled yr angen am dano, fel y mae trwy anfeidrol haeddiant yn foddlonrwydd i gyfiawnder dwyfol; ac am nad ydynt yn ystyried yr angen am dano fel haeddiant, nis gallant gael golwg ar yr angen am i berson Crist roddi ei hun mewn gweithred anfeidrol fawr yn lle (x54) pechaDuriaid. Y maent yn rhy dueddol i edrych ar bechod fel tlodi neu drueni yn unig, ac ymddangosiad Crist yn y cnawd fel ymweliad gŵr urddasol a chyfoethog, yr hwn sydd yn tosturio wrth y tlawd, ac yn ei ddyrchafa i anrhydedd a dedwyddwch, heb unrhyw weithied neillduol o hunanymwadiad o du y pendefig. Ond nid tlawd yn unig ydyw dyn. Y mae yn euog — y mae dan y gollfarn — ac nid oes neb yn alluog i’w waredu trwy dalu ymweliad iddo, ac arfer dylanwad ei berson yn unig o’i blaid. Gan hyny, nid oes gobaith am waredigaeth ond trwy i ryw berson, yr hwn sydd yn ddigon mawr i haeddu trwy wasanaethu y llywodraeth, gyflawnu gweithred a fyddo yn gosod y llywodraeth dan rwymau i roddi gwrandawiad iddo pan yn gofyn bywyd y troseddwr. Pe na buasai pechod yn ddim ond tlodi neu ddallineb, neu ryw anffawd, buasai ymgnawdoliad Mab Duw yn ddigon, heb iddo farw; ond gan ei fod yn ddrwg moesol yn haeddu cospedigaeth dragywyddol, yr oedd yn rhaid cael haeddiant anfeidrol gan un oedd yn foddlawn i roddi yr haeddiant hwnw yn mhlaid y troseddwr cyn y gallesid maddeu. Ac nid oedd neb yn ddigon mawr i haeddu dim oddi wrth lywodraeth Duw ond person dwyfol; ac ni buasai person Mab Duw yn haeddu maddeuant pechodau heb iddo roddi ei hun mewn gweithred o anfeidrol gariad yn aberth dros yr euog. Ond os oes rhai, fel yr awdwyr a grybwyllwyd ddiweddaf, yn colli golwg ar yr angenrheidrwydd am y weithred, y mae ereill yn cyfeiliorni cymmaint trwy anghofio mawredd y person. Y mae y Calfiniaid yn gyffredin wedi cyfyngu eu sylw yn ormodol at y weithred yn unig; ac y mae rhai o honynt, o’r achos hwn, wedi myned mor gul a gwyrgam eu syniadau, fel y siaradant am ryw fath o iawn cydbwys. Os y weithred yw yr iawn, gellir ei fesur a’i bwyso; ond os y person yn y weithred yw yr iawn, nid oes mesurau na phwysau yn perthyn iddo, mewn maint nac amser. Os y weithred yn unig yw yr iawn, yna y mae yn rhaid mai gweithredoedd yn unig oedd yn cael eu gofyn oddi wrth ddynion; a chan fod un weithred o eiddo y Meichnïydd yn cydbwyso, neu yn gorbwyso eu holl weithredoedd hwy, y mae holl ofynion cyfiawnder yn darfod ar unwaith o angenrheid­rwydd; megys nas gellir gofyn y ddyled oddi wrth y dyledwr ar ol ei thalu drosto gan y Meichnïydd. Yn ol y golygiad hwn ar yr iawn, nis gall neb fod yn rhwymedig yn ngwyneb y ddeddf i ddyoddef cospedig­aeth yn ei berson ei hun, os yw Crist wedi dyoddef drosto; ac felly, y mae yn ddieuog cyn ei gyfiawnhau. Ond nid gwerth masnachol yw yr iawn, yr hwn y gellir ei drosglwyddo fel hyn o’r naill i’r llall, a’r hwn sydd yn darfod â bod yn eiddo i’r naill pan drosglwyddir ef i’r llall; ond haeddiant personol yr Arglwydd Iesu Grist yn ei fywyd a’i farwolaeth. “Efe yw yr iawn:” nid yr hyn a wnaeth yn unig; ond Efe ei hun, ac am hyny, nid Efe oedd yr iawn, a ddywedir, ond Efe yw yr iawn. Yr (x55) oedd yn rhaid i dragywyddoldeb ac amser gydgyfarfod er mwyn cael trefn i achub dyn; yr oedd yn rhaid cael person tragywyddol o fewn terfyn gweithred amserol i fod yn iawn. Nid oedd un weithred yn ddigon mawr i’w gynnwys ond y weithred anfeidrol ryfedd a gymmerodd le yn Ierusalem, pan fu yr hwn oedd yn ffurf Duw yn ufudd hyd angeu, ie, angeu‘r groes. A chan fod person tragywyddol Mab Duw yn y weithred hono, y mae yr iawn yn cael ei dragywyddoli yn ei berson. Efe yw yr Oen, yr hwn a laddwyd er cyn seiliad y byd. Yn ei waed yr aeth i mewn i’r cyssegr, gan gael i ni dragywyddol rhyddhad [sic = ryddhad]. Ac y mae yr Oen yn sefyll megys wedi ei ladd yn nghanol yr orseddfaingc. Yn awr, gan fod holl haeddiant yr iawn yn aros yn mherson y Meichnïydd, y mae yn canlyn fod yn rhaid ein dwyn i undeb â’i berson ef cyn y gellir ein cyfiawnhau. Felly, nid trefu fympwyol yw y drefn hon; ac nid heb achos a rheswm y mae yr annuwiol yn cael ei gyfiawnhau. Y mae yn gyfiawnder Duw o blegid ei fod ynddo ef.




D. Yr oeddwn yn arfer meddwl bob amser mai person yr Arglwydd Iesu yw canolbwynt y grefydd Gristionogol: ond ni feddyliais fod y pwngc hwn yn rhoddi cymmaint o oleuni ar yr holl byngciau ereill. Yr wyf yn awr yn gweled pa ham yr arweiniwyd yr eglwys yn y canrifoedd cyntaf i dalu cymmaint o sylw i’r athrawiaeth am berson Crist, gan nas gallesid iawn ddeall y gwirioneddau ereill nes cael golygiadau cywir am y gwirionedd hwn fel canolbwynt y cwbl. Ac onid oes lle i feddwl mai trwy i’r gwirionedd mawr hwn golli y lle sydd yn perthyn iddo yn ffurfafen yr eglwys yr aeth y canoloesoedd mor dywyll? Aethant i graffu yn unig ar y tufewnol, ac i anghofio y gwrthddrychol, i chwilio allan lawer o ddychymmygion o’r eiddynt eu hunain, yn lle edrych i fyny ar y ffeithiau a’r gwrthddrychau sefydlog oedd yn bod cyn iddynt hwy erioed agor eu llygaid, ac ydynt yn bod wedi iddynt hwy a’u cyfundraethau ddiflanu o’r byd. Ond nid wyf yn berffaith sicr fy mod yn deall pa beth ydych yn ei feddwl wrth ddyweyd fod person yr Arglwydd Iesu yn ei waith. A ydych chwi yn meddwl rhywbeth mwy na’i fod wedi marw o’i fodd?

A. Y mae yn rhaid i ni fenthyca cymmhariaethau daearol i geisio dangos gwirioneddau ysbrydol, ond dymunaf arnoch gofio yn barhaus fod ffyrdd Duw yn uwch na’n ffyrdd ni, yn gymmaint ag y mae y nefoedd yn uwch na’r ddaear. Y mae gwirfoddolrwydd yr aberth yn wirionedd tra gwerthfawr, fel yr ymddengys oddi wrth eiriau Crist ei hun — ”Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi; ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr o honof fy hun:” er hyny, yr hyn sydd yn gosod gwerth arbenigol ar y gwirfoddolrwydd yw mawredd y person mewn cyssylltiad â mawredd y dyoddefiadau - nid y ddau ar wahan, ond y ddau yn un, mawredd y person yn mawredd y dyoddefiadau.

 


(x56) D. Nid wyf eto yn gweled eich meddwl yn hollol eglur. Yr ydym yn arfer dyweyd fod y Person dwyfol yn cynnal y natur ddynol i ddyoddef, ac yn rhinweddu y dyoddefiadau i fod yn iawn. A ydych chwi yn meddwl mwy na hyn?

A. Ydwyf, yn meddwl llawer mwy; ac yn credu fod llawer mwy na hyn yn y Beibl: ond nid wyf mor hyderus yn fy ngallu i’w ddwyn allan, a’i ddangos i eglurdeb. Un anfantais fawr yw yr hen syniadau daearol, y rhai, er nad ydym yn eu corffori mewn geiriau, ydynt er hyny yn effeithio arnom yn ddiarwybod i ni ein hunain. Y mae undeb y Duwdod a’r dyndod yn mherson Crist mor oruchel, fel y mae yn anhawdd iawn i ni gredu fod y dyn Crist Iesu yn teimlo fel ninnau, yn meddu ewyllys ddynol fel ninnau, yn cyfranogi o’r un gwendidau, ac yn agored i’r un temtasiynau. O’r tu arall, y mae yn fwy anhawdd sylweddoli y meddwl ei fod, pan yn dyoddef ac yn marw, yn berson dwyfol gogyfuwch a’r Tad. Y canlyniad ydyw, yn lle edrych ar y ddwy natur yn cadw eu priodoliaethau eu hunain yn mherson y Cyfryngwr, yr ydym yn dueddol i ymsynied am danynt fel pe buasai y natur ddwyfol ynddo ef wedi dyfod yn is nag ydoedd, i gyfarfod y ddynoliaeth; ac fel pe buasai y ddynoliaeth wedi ei chodi uwchlaw ei gwendidau cyffredin i gyfarfod y natur ddwyfol; ac felly, fod Crist mewn sefyllfa ganol rhwng Duw a dynion; nid yn unig gyda golwg arno yn ei swydd gyfryngol, yr hyn sydd wir; ond hefyd gyda golwg arno fel Bod, yr hyn nid yw wir. Y mae yn ddiau nad ydym yn dal y gred hon yn wrthddrychol; ond y mae ein teimlad mewnol, oddi ar ei anallu i feddwl am y Duwdod a’r dyndod wedi eu huno heb eu newid, yn dra thueddol i golli golwg ar briodoliaethau hanfodol y ddwy natur. Dyma un anhawsder; ac yn wrthgyferbyniol i hwn y mae anhawsder arall yn tarddu oddi wrth ein hanallu i amgyffred agosrwydd yr undeb rhwng y Duwdod a’r ddynolideth yn mherson y Cyfryngwr. Wrth ddarllen yr hanes am y cyflwr isel yr oedd Crist ynddo, a’r dyoddefiadau yr aeth drwyddynt pan ar y ddaear, yr ydym yn gyffredin yn cau allan y Person dwyfol, ac yn cyfyngu y geiriau at ei natur ddynol, yr hyn sydd hollol groes i dystiolaeth amlwg yr Ysgrythyr. Os dylem gredu ar un llaw fod y ddwy natur yn aros heb eu newid, dylem gredu mor ddiysgog ar y llaw arall fod Person y Cyfryngwr, yn Dduw ac yn ddyn, yn yr holl ddarostyngiad; a bod y Person, yn Dduw ac yn ddyn, yn awr wedi ei dra-dyrchafu.

D. Y mae yn ddrwg genyf ddywedyd nad wyf yn cael fy hun yn oleuach; ond yn hytrach mewn mwy o dywyllwch nag o’r blaen.
A ydwyf i ddeall mai eich meddwl yw, fod y Person dwyfol wedi dyoddef a marw?

 

A. Os eir i wahaniaethu rhwng y natur ddwyfol a’r ddynol, nid wyf yn (x57) ewyllysio dyweyd fod y natur ddwyfol wedi dyoddef a marw; o blegid nid oes dyoddef na marw yn perthyn i’r Duwdod. Ond o’r ochr arall, nid y natur ddynol oedd yn dyoddef ac yn marw, ar wahan oddi wrth y natur ddwyfol; ond y Cyfryngwr, yn Dduw ac yn ddyn mewn un person. Pan fyddoch yn gwahaniaethu rhwng enaid dyn a’i gorff, y mae yn debyg na ddywedech fod yr enaid yn marw; er hyny, nid ydych yn arfer dyweyd mai y corff yn unig sydd yn marw, ond y dyn, yn gynnwysedig o gorff ac enaid.

D. Er hyny, oni ddylem farnu nad yw hyn ond dull o ymadroddi? Y corff sydd mewn gwirionedd yn marw, er ein bod, mewn iaith sathredig, yn priodoli marwolaeth i’r holl ddyn. Felly, oni allem feddwl mai natur ddynol Crist yn unig oedd yn marw, er y dywedir hyn am dano fel Messiah.

A. Os dymunech gael golwg ar sylwedd hanfodol pethau, mi a’ch cynghorwn ar bob cyfrif i gefnu am byth ar yr hen ffordd gyffredin o esbonio pob anhawsder trwy gymmhwyso ato y geiriau, “dull o ymadroddi.” Yr hyn y mae yr ysgrifenwyr sanctaidd yn ei ddyweyd, y maent yn ei feddwl —oddi eithr eu bod yn fynych yn meddwl mwy, ac nid llai, nag a ddywedant, a mwy nag a allai iaith ddynol ei drosglwyddo. Y mae yr un peth yn wir, er nad i’r un graddau, gyda golwg ar ddynion cyffredin; ac os cymmerwn yr anghraifft a grybwyllwyd eisoes, pan ddywedir fod dyn wedi marw, yr ydym yn meddwl rhywbeth mwy na bod anifail wedi marw. Nid amddifadiad o fywyd corfforol yn unig yw marwolaeth dyn; ac er nad ydym yn ar­fer dyweyd fod yr enaid yn marw pan y mae ydyn yn marw, y mae marwolaeth yn effeithio mwy o gyfnewidiad yn sefyllfa yr enaid nag yn sefyllfa y corff. Felly am berson yr Arglwydd Iesu, er nas gellir meddwl am gyfnewidiad yn yr hanfod dwyfol, nid yw yn anaddas dyweyd ei fod fel person dwyfol, trwy gymmeryd ein hachos ni wedi dyfod i sefyllfa newydd yn ei berthynas â’i Dad ac a ninnau. Er fod pellder annherfynol rhwng y ddwy natur; un yn grëedig, a’r llall yn ddigrëedig, un yn feidrol, a’r llall yn anfeidrol; un yn meddu ewyllys ddynol, a’r llall yn meddu ewyllys ddwyfol; ac er fod y pellder naturiol hwn yn aros byth, eto, daethant i undeb mor wirioneddol ac mor agos yn yr ymgnawdoliad, fel yr oeddynt mewn un person yn yr un sefyllfa o ddarostyngiad, ac y maent heddyw yn yr un sefyllfa o dra-dyrchafiad. Y mae yn bossibl newid sefyllfa heb newid bod; gan hyny, nid yw priodoli cyfnewidiad sefyllfa i berson dwyfol y Cyfryngwr yn tybied mewn un modd fod cyfnewidiad yn ei han­fod. Os dymunem wybod pa fath oedd y sefyllfa y daeth iddi, nid oes genym ond troi i’r dadguddiad dwyfol. Sylwch fel y mae y Beibl yn llefaru am ei ymgnawdoliad. Luc i. 35; “Yr Ysbryd Glan a ddaw ‘arnat’ ti, a nerth y Goruchaf a’th gysgoda di: am hyny, y peth sanctaidd a enir (x58) o honot ti a elwir yn Fab Duw.” Ioan i. 14; “A’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd.” Dyma undeb mor agos fel y dywedir fod y peth sanctaidd a anwyd o’r forwyn yn Fab Duw; a bod y Gair tragwyddol, nid wedi gwisgo cnawd am dano, ond wedi dyfod yn gnawd; ac os yw yr Ysgrythyr yn dywedyd hyn, y mae hyn yn bod mewn gwirionedd. Y Person anfeidrol hwn, yn Dduw a dyn mewn undeb anwahanol, a wnaethpwyd dan y ddeddf. Y Person anfeidrol hwn, yn yr oll ag ydoedd, a roddodd ei hun drosom. Y Person anfeidrol hwn a fu farw, a adgyfododd, ac sydd yn awr yn eiriol yn y nef. Efe yw yr iawn.

D. Onid yw y golygiad hwn yn lled wahanol i’r hyn a geir yn ysgrifeniadau yr hen awdwyr? Pa fodd bynag, y mae yn gysur i mi gael symmudiad meddwl i dir newydd, yn lle ymdroi o hyd mewn hen gylch o syniadau traddodiadol.

A. Yr ydych yn awr yn camsynied yn ddirfawr wrth dybied fy mod yn dyweyd dim yn wahanol i’r hen awdwyr goreu. Nid wyf yn gwybod yn sicr i ba raddau y mae y gwirionedd hwn yn cael ei gydnabod yn ysgrifeniadau yr awdwyr diweddaraf: ond dyma fam yr Eglwys Gristionogol trwy yr oesoedd. Er mwyn gwybod pa beth sydd hen, a pha beth sydd newydd, buddiol fyddai i ddyn ieuanc fel chwi ymgydnabyddu â hanesyddiaeth eglwysig, yn enwedig hanes yr athrawiaethau. Ond gellwch gael crynhodeb o’r ymdriniaethau sydd wedi bod yn y brif eglwys ar y testyn hwn, yn nghyd â sylwadau arnynt, yn ngwaith Hooker ar Ecclesiastical Polity, llyfr 5, pen. 52., Dyma y gyfrol yn yr hen argraffiad, fel y byddaf bob amser yn hoff o gael yr hen awduron; a dyma y bennod, yr hon a ddarllenaf i chwi yn ei iaith odidog ef ei hun:—

 

“It is not in man’s ability, either to express perfectly, or conceive the manner how this was brought to pass. But the strength of our Faith is tried by those things wherein our wits and capacities are not strong. How be it, because this Divine Mystery is more true then plain, divers having framed the same to their own conceits and fancies, are found in their expositions thereof more plain then true; in so much, that by the space of five hundred years after Christ, the Church was almost troubled with nothing else, saving onely with care and travel to preserve this article from the sinister construction of Hereticks. Whose first mists, when the light of the Nicene Council had dispelled, it was not long ere Macedonius transferred unto God’s most Holy Spirit, the same blasphemy wherewith Arius had already dishonoured his co-eternally begotten Son; not long ere Apollinarius began to pare away from Christ’s Humanity. In refutation of which impieties, when the Fathers of the Church, Athanasius, Basil, and the two Gregories, had by their pain­ful travels, sufficiently cleared the truth; no less for the Deity of the Holy Ghost, then for the complete Humanity of Christ, there followed herefrom a final conclu­sion, whereby those controversies, as also the rest which Paul us Samosatenus, Sabellius, Photinus, Ætius, Eunomius, together with the whole swarm of pestilent Demi-Arians, had from time to time stirred up since the Council of Nice, were both privately — first at Rome, in a smaller synod, and then at Constantinople in a general (x59) famous assembly brought to a peaceable and quiet end, sevenscore Bishops and ten agreeing in that confession, which by them set down, remaineth at this present hour a part of our Church Liturgy, a memorial of their fidelity and zeal, a sovereign preservative of God’s people from the venomous infection of Heresie. Thus in Christ the verity of God and the complete substance of man were with full agreement established throughout the world, till such time as the heresie of Nestorius broached, it self, Dividing Christ into two persons: the Son of God, and the Son of Man; the one a person begotten of God before all worlds, the other also a person born of the Virgin Mary, and in special favor chosen, to be made intire to the Son of God above all men, so that whosoever will honor God must together honor Christ, with whose person God hath vouchsafed to joyn himself in so high a degree of gracious respect and favor. But that the self same Person, which verily is man, should properly be God also, and that by reason not of two Persons linked in amity, but of two natures, human and divine, conjoined in one and the same Person, the God of glory may be said as well to have suffered death, as to have raised the dead from their graves; the son of man as well to have made, as to have redeemed the world, Nestorius in no case would admit. That which deceived him was, want of heed to the first begin­ning of that admirable combination of God with man. The Word (saith St John) was made flesh and dwelt in us. The Evangelist useth the plural number: men for manhood, us for the nature whereof we consist, even as the Apostle denying the assumption of angelical nature, saith likewise in the plural number; he took not angels, but the seed of Abraham. It pleased not the word, or wisdom of God, to take to itself some one person amongst men, for then should that one have been advanced which was assumed, and no more; but wisdom, to the end she might save many, built her House of that nature which is common unto all, she made not this or that man her habitation, but dwelt in us. The seeds of herbs and plants at the first, are not in act, but in possibility, that which they afterwards grow to be. If the Son of God had taken to himself a man now made, and already perfected, it would of necessity follow that there are in Christ two persons, the one assuming, and the other assumed; whereas the Son of God did not assume a man’s person into his own, but a man’s nature to his own person, and therefore took semen, the seed of Abraham, the very first original element of our nature, before it was come to have any Personal Humane subsistence. The Flesh and the Conjunction of the Flesh with God, began both at one instant; his making, and taking to himself our flesh, was but one act; go that in Christ, there is no Personal subsistence but one, and that from everlasting. By taking onely the nature of man, he still continueth one Person, and changeth but the manner of his subsisting, which was before in the meer glory of the Son of God, and is now in the habit of our flesh. For as much therefore as Christ hath no personal subsistence but one, whereby we acknowledge him to have been eternally the Son of God, we must of necessity apply to the Person of the Son of God, even that which is spoken of Christ, according to his Humane nature. For example, according to the flesh, he was born of the Virgin Mary, baptized of John in the River Jordan, by Pilate adjudged to die, and executed by the Jews. We cannot say properly that the Virgin bore, or John, did baptize, or Pilate condemn, or the Jews crucifie the Nature of Man, because these all are Personal Attributes; his Person is the subject which receiveth them, his Nature that which maketh his Person capable or apt to re­ceive. If we should say that the Person of a Man in our Saviour Christ was the subject of these things, this were plainly to intrap our selves in the very snare of the Nestorian Heresie, between whom, and the Church of God, there was no difference, saving onely, that Nestorius imagined in Christ, as well a Personal Humane subsistence, as a Divine; the Church acknowledging a substance, both (x60) Divine and Humane, but no other Personal subsistence then Divine, because the Son of God took not to himself a man’s person, but the nature onely of man. Christ is a Person both Divine and Humane, howbeit, not two persons in one; neither both these in one sense, but a Person Divine, because he is personally the Son of God; Humane, because he hath really the nature of the Children of Men. In Christ therefore God and man, There is (saith Paschasim) a twofold substance, not a twofold Person, because one Person distinguisheth another, whereas one nature cannot in another become extinct. For the Personal Being, which the Son of God already had, suffered not the Substance to be Personal which he took, although together with the Nature which he had, the Nature also which he took, continueth. Whereupon it followeth against Nestorius, That no Person was born of the Virgin but the Son of God, no Person but the Son of God baptised, the Son of God condemned, the Son of God and no other Person crucified; which one onely point of Christian Belief, The infinite worth of the Son of God, is the very ground of all thing’s believed concerning Life and Salvation, by that which Christ either did or suffered as Man in our behalf. But for as much as St. Cyril, the chiefest of those Two hundred Bishops assembled in the Council of Ephesus, where the Heresie of Nestorius was condemned, had in his Writings against the Arians avouched, That the Word or Wisdom of God hath but one Nature which is Eternal, and whereunto he assumed Flesh, (for the Arians were of opinion, That besides God’s own Eternal Wisdom, there is a Wisdom which God created before all things, to the end he might thereby create all things else; and that this created Wisdom was the Word which took Flesh;) Again, for as much as the same Cyril had given instance in the Body and the Soul of Man, no farther then onely to enforce by example against Nestorius, That a visible, and an invisible, a mortal and an immortal Substance, may united make one Person; the words of Cyril were in process of Time so taken, as though it had been his drift to teach, That even as in us the Body and Soul, so in Christ, God and Man, make but one Nature. Of which error, six hundred and thirty Fathers in the Council of Chalcedon  condemned Eutiches. For as Nestorius teaching rightly, That God and Man are dis­tinct Natures did thereupon mis-infer. That in Christ those Natures can by no conjunction make one Person; so Eutiches of sound belief as touching their true Personal copulation, became unsound, by denying the difference which still con­tinueth between the one and the other Nature. We must therefore keep warily a middle course, shunning both that distraction of Persons, wherein Nestorius went awry; and also this latter confusion of Natures, which deceived Eutiches. These Natures from the moment of their first combination, have been and are for ever inseparable. For even when his Soul forsook the Tabernacle of his Body, his Deity forsook neither Body nor Soul. If it had, then could we not truly hold, either that the Person of Christ was buried, or that the Person of Christ did raise up it self from the dead. For the Body separated from the Word, can in no true sense be termed the Person of Christ; nor is it true to say That the Son of God in raising up that Body, did raise himself, if the body were not both with, and of him, even during the time it lay in the Sepulchre. The like is also to be said of the Soul, otherwise we are plainly and inevitably Nestorians. The very Person of Christ, therefore, for ever one and the selfsame, was onely, touching Bodily Substance, concluded within the Grave, his Soul onely from thence severed; but by Personal Union, his Deity still inseparably joyned with both.”●

 

[Troednodyn mewn llythrennau coch]

Y mae “Dysgybl” wedi bod mor garedig a chyfieithu y darn hwn a waith Hooker, er mwyn y Cymro uniaith:—

 

“Nid ydyw yn ngallu dyn nac i draethu i berffeithrwydd, nac i amgyffred y (x61)
 
D. Gwedi’r cwbl, y mae yn rhaid dywedyd fod rhai o’r hen awdwyr yn werth eu darllen. Beth bynag fyddo ein barn am olygiadau Hooker, y mae yn anmhossibl peidio teimlo fod rhyw beth mawreddus yn ei arddull o ysgrifenu.

 

dull yn yr hwn y dygwyd hyn i ben. Ond nerth ein flfydd a brofir gan y pethau hyny, yn mha rai y mae ein synwyr a’n galluoedd yn ddinerth. Er hyny i gyd, o herwydd fod y dirgelwch hwn yn fwy gwir nag eglur, canfyddir bod llawer o ddynion, wedi iddynt lunio yr unrhyw i gyfatteb i’w hamgyffredion a’u dychymmygion eu hunain, yn eu hesboniadau arno yn fwy eglur na gwir: yn gymmaint felly, fel yn mhen ysbaid pum can mlynedd ar ol Crist, na flinid yr eglwys gan bron ddim arall, oddi eithr yn unig gan bryder a phoen i gadw yr erthygl hon oddi wrth ddeongliad peryglus Hereticiaid. A phan wasgarwyd niwl cyntaf y rhai hyn gan oleuni Cynghor Nicea, nid yn hir wedi hyny y darfu i Macedonius drosglwyddo at Ysbryd sancteiddiaf Duw yr unrhyw gabledd a’r hwn oedd Arius eisoes wedi gwaradwyddo ei gyd-dragwyddol anedig Fab; ac ni buwyd yn hir cyn i Apollonius ddechreu naddu i ffordd oddi wrth ddynoliaeth Crist. Er mwyn gwrthbrofi y cyfryw anwireddau, wedi i dadau yr eglwys, Athanasius, Basil, a’r ddau Gregory, trwy eu hymdrechion poenus, oleufynegu y gwirionedd, nid llai o barth i Dduwdod yr Ysbryd Glân nag o barth i gyflawn ddyndod Crist; ar hyn, daethpwyd i benderfyniad sefydlog, trwy ba un y rhoddwyd i’r dadleuon hyny, yn gystal ag i’r gweddill y rhai a gynhyrfwyd, ar ol cynghor Nicea, gan Paulus Samosatenus, Sabellius, Photinus, Ætius, Eunomius, yn nghyd â holl haid yr hanner Ariaid heintus, derfyn heddychol a thawel, ar y cyntaf yn Rhufain mewn cyfrin-gynghor llai; ac yna yn Nghaer Cystenyn mewn Cymmanfa gyffredinol nodedig, pan y cytunodd saith ugain a deg o esgobion ar y cyffesiad hwnw, yr hwn, wedi ei osod i lawr ganddynt hwy, sydd yn aros hyd y dydd heddyw yn rhan o’n gwasanaeth Eglwysig, yn goffadwriaeth o’u ffyddlondeb a’u sel, yn feddyginiaeth rinweddol i bobl Dduw rhag haint gwenwynllyd heresi. Fel hyn y sicrhawyd yn Nghrist, gyda chyflawn gydsyniad trwy y byd, wiredd Duw a pherffaith sylwedd dyn, hyd y pryd y dechreuodd heresi Nesto­rius ymdaenu, gan ranu Crist yn ddau berson, Mab Duw a Mab dyn; y naill yn berson a genedlwyd o Dduw cyn bod yr holl fydoedd, a’r llall yn berson a aned o Mair y Forwyn, ac a ddewiswyd trwy ffafr arbenig i gael ei wneuthur yn gyfunol â  Mab Duw uwch law pob dyn, modd y byddo angenrhaid ar bwy bynag a anrhydeddo Duw i gydanrhydeddu Crist â  pherson yr hwn y rhyngodd bodd i Dduw ymuno mewn gradd mor oruchel o barch ffafr graslawn. Ond fod yr un person, yr hwn sydd yn wir yn ddyn, yn briodol, yn Dduw hefyd, ac y gellir dywedyd, o herwydd fod, nid dau berson wedi eu cydio yn nghyd mewn cariad, ond dwy natur ddynol a dwyfol, yn gyssylltiedig yn yr un a’r unrhyw berson, yn gystal fod Duw y gogoniant wedi dyoddef marwolaeth, ag iddo gyfodi y meirw o’u beddau, yn gystal fod Mab y dyn wedi gwneuthur ag iddo brynu y byd, ni fynai Nestorius mewn un modd ganiatau. Yr hyn a’i twyllodd ef oedd eisieu ystyried dechreuad cyntaf y cyduniad rhyfedd o Dduw â dyn. Y gair (medd St. Ioan) a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd ynom ni. Defnyddia yr efengylydd y rhif luosog, dynion am ddynoliaeth, nyni am y natur y gwnaethpwyd ni o honi, yn gyffelyb fel y dywed yr Apostol wrth wadu ymgymmeriad y natur angelaidd; yr un modd yn y rhif luosog, ni chymmerodd efe angelion, eithr hâd Abraham. Ni ryngodd bodd i’r Gair neu ddoethineb Duw gymmeryd iddo ei hun ryw un Person yn mhlith dynion, canys yna y dyrchefid yr un hwnw a gymmerasid, a dim mwy; eithr Doethineb, i’r dyben y gallo waredu llawer, a adeiladodd ei thy^ o’r natur hono, yr hon sydd yn gyffredin i bawb; ni wnaeth y dyn hwn neu hwn acw yn drigfan iddi, ond a drigodd ynom ni. (x63)




A. Yr oedd mawredd ei feddwl yn cyfateb i’w arddull. Y mae el ysgrifeniadau yn werth eu hefrydu yn drwyadi; a pho mwyaf a, ddarllenwch arnynt, mwyaf hoff fyddwch o honynt. Ond heb aros yn

 

Hadau, llysiau, a phlanigion, ar y cyntaf, ydynt, nid mewn gweithred, ond mewn possiblrwydd yr hyn wedi hyny a dyfant iddo. Pe cymmerasai Mab Duw iddo ei hun ddyn yn barod wedi ei wneuthur ac eisoes wedi ei berffeithio, byddai yn canlyn o angenrheidrwydd fod yn Nghrist ddau berson, y naill yn cymmeryd, a’r llall yn cael ei gymmeryd; eithr ni chymmerodd Mab Duw berson dyn i’r eiddo ef ei hunan, ond natur dyn i’w berson ei hun, ac a gymmerodd gan hyny semen, hâd Abraham — elfen gyntefig wreiddiol ein natur, cyn y daeth i feddu unrhyw sylwedd personol dynoliaeth. Y cnawd, a chyduniad y cnawd â Duw, a ddechreuasant ar yr un foment; nid ydoedd iddo wneuthur a chymmeryd iddo ei hun ein cnawd ond un weithred, fel nad oes yn Nghrist ond un hanfodiad personol yn unig, a hwnw o dragywyddoldeb. Trwy gymmeriad dim ond natur dyn erys etto yn un person, ac ni chyfnewidia ond yn unig ddull ei hanfodiad, yr hwn o’r blaen oedd yn ngogoniant noeth Mab Duw, ac sydd yn awr yn ngwisg ein cnawd ni. Yn gymmaint, gan hyny, ag nad oes i Grist ddim ond un hanfodiad peraonol, wrth yr hyn y cyfaddefwn ei fod yn dragwyddol Fab Duw, rhaid i ni o angenrheidrwydd gymmhwyso at berson. Mab Duw, ïe, yr hyn a leferir am Grist o ran ei natur ddynol. Er anghraifft, yn ol y cnawd efe a aned o Fair forwyn, a fedyddiwyd gan Ioan yn afon yr Iorddonen; gan Pilat a gollfarnwyd i farw, ac a roddwyd i farwolaeth gan yr Iuddewon. Nis  gallwn yn briodol ddywedyd i’r Forwyn esgor ar, nac i Ioan fedyddio, nac i Pilat gollfarnu, nac i’r Iuddewon groeshoelio natur dyn, o blegid y rhai hyn oll ydynt briodoleddau personol; ei berson ydyw y gwrthddrych yr hwn sydd yn eu derbyn hwynt, ei natur ydyw yr hyn gydd yn gwneuthur ei berson yn abl neu yn gymmbwys i dderbyn. Pe dywedem mai person dyn yn ein Hiachawdwr ydoedd gwrthddrych y pethau hyn, mae yn eglur mai maglu ein hunain fyddai hyny yn rhwyd heresi y Nestoriaid, rhwng pa rai ac eglwys Dduw nid oedd un gwahaniaeth ond yn unig fod Nestorius yn dychymygu fod yn Nghrist sylwedd personol dynol yn gystal a dwyfol, tra y caniatäai yr eglwys sylwedd dwyfol a dynol, ond nid hanfod personol amgen na dwyfol, o herwydd ni chymmerodd Mab Duw iddo ei hun berson dyn, ond natur dyn yn unig. Y mae Crist yn berson dwyfol a dynol; ond etto — nid o herwydd hyny yn ddau berson mewn un; nac y ddau hyn yn yr un ystyr, ond person dwyfol, o herwydd ei fod yn bersonol yn Fab Duw; a dynol, o herwydd ei fod yn meddu mewn gwirionedd natur meibion dynion. Yn Nghrist, gan hyny, y mae (medd Paschasius,) sylwedd danddyblyg, nid person dauddyblyg, o blegid y mae un person yn gwahaniaethu un arall, tra nas gall y naill natur yn y llall ddarfod a’i bod. Canys ni oddefodd y bod personol, yr hwn oedd eisoes yn Fab Duw, i’r sylwedd fod yn bersonol, yr hwn a  gymmerodd, er yn ngly^n â’r natur oedd ganddo, fod y natur a gymmerodd yn parhau. O herwydd hyn, y mae yn canlyn yn groes i Nestorius, nad person arall a aned o’r Forwyn amgen na Mab Duw, nad person amgen na Mab Duw a fedyddiwyd, mai Mab Duw a gollfarnwyd, mai Mab Duw ac nid person arall a groeshoeliwyd; yr hwn un pwngc yn unig o grediniaeth Gristionogol, anfeidrol werth Mab Duw, ydyw gwir sylfaen pob peth a gredir am fywyd ac iachawdwriaeth, trwy yr hyn a wnaeth neu a ddyoddefodd Crist ar ein rhan. Eithr yn gymmaint ag i St. Cyril, y penaf o’r ddau gant hyny o esgobion a ymgynnullasant yn Nghynghor Ephesus, lle y condemniwyd heresi Nestorius, honi yn ei ysgrifeniadau yn erbyn yr Ariaid, nad oedd y Gair, neu Ddoethineb Duw, yn meddu ond ar un natur, yr hon sydd dragwyddol, at yr hon y cymmerodd gnawd — canys yr oedd yr Ariaid o’r farn, yn chwanegol at dragwyddol ddoethineb Duw ei hun, fod doethineb yr hwn (x63)

 

hwy gydag ysgrifeniadau dynol, awn yn mlaen i edrych pa beth yw yr athrawiaeth a ddysgir yn y Testament Newydd. Yr ydych yn cofio y geiriau hyny yn Phil. ii. “6-8; “Yr hwn, ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw; eithr efe a’i dibrisiodd ei hun, gan gymmeryd arno agwedd gwas, ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion: a’i gael mewn dull fel dyn, efe a’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angeu, ïe, angeu‘r groes.” Os trowch i’r Testament Groeg, chwi welwch mai yr un gair a gyfieithir “ffurf” yn un adnod, ac “agwedd” yn yr adnod arall; a gwell fuasai yr un gair Cymraeg yn y ddau le; “Yr hwn, ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw: eithr efe a’i dibrisiodd ei hun, gan gymmeryd arno ffurf gwas.” Gellid meddwl fod yr Apostol yn rhoddi ar ddeall i’r Person anfeidrol roddi heibio ffurf Duw, a chymmeryd ffurf gwas yn ei lle. Y mae Calfin yn barnu mai wrth ffurf Duw y meddylir y gogoniant y mae Crist yn cyfeirio ato yn Ioan xvii. 5; “Ac yr awr hon, O Dad! gogonedda di fyfi gyda thi dy hun, a’r gogoniant oedd i mi gyda thi cyn bod y byd.” Er na pheidiodd y Mab am un awr a bod yn berson dwyfol, yn meddu yr un natur a’r Tad, y mae yn amlwg ei fod wedi ymddiosg o’r gogoniant

 

a greodd Duw cyn pob peth, modd y gallai trwyddo greu pob peth arall; ac mai y doethineb crëedig hwn ydoedd y Gair yr hwn a gymmerodd gnawd; — hefyd, yn gymmaint ag i’r un Cyril roddi anghraifft yn nghorff ac enaid dyn, heb un amcan pellach na chadarnhau trwy anghraifft yn erbyn Nestorius, y gall sylwedd gweledig ac anweledig, marwol ac anfarwol, o’u huno, wneyd un person; cymmerwyd geiriau Cyril, yn mhen ysbaid o amser, fel pe ei fwriad a fuasai i ddysgu megys ynom ni nad ydyw corff ac enaid, felly yn Nghrist nad ydyw Duw a dyn, yn gwneyd i fyny ddim ond un natur. Am yr hwn gyfeiliornad y condemnid Entiches gau chwe chant a deg ar ugain o esgobion yn nghynghor Chalcedon. Canys fel y camgasglodd Nestorius, yr hwn a ddysgai yn iawn fod Duw a dyn yn ddwy wahanol natur, oddi ar hyn nas gallai y ddwy natur hyny trwy unrhyw gyduniad wneyd un person; felly Eutiches, yn iach ei farn o barth i’w gwir gyplysiad personol, a gyfeiliornodd, trwy wadu y gwahaniaeth yr hwn sydd etto yn parhau rhwng y naill natur a’r llall. Rhaid i ni, gan hyny, gadw yn ofalus ar lwybr canol, gan ochelyd gwahaniad personau, yn yr hyn y gwyrodd Kestorius, ac hefyd y cymmysgedd diweddarach hwn o’r ddwy natur, yr hyn a dwyllodd Eutiches. Y ddwy natur hyn, o’r foment y cydunwyd hwynt ar y cyntaf, a fuont ac ydynt dros byth yn anwahanol. Canys hyd yn oed pan y gadawodd ei enaid babell ei gorph, ei Dduwdod nis gadawodd na’i gorff na’i enaid. Pe felly y buasai, yna nis gallem gyda chywirdeb ddal nac i berson Crist gad ei gladdu, nac i berson Crist gyfodi ei hun oddi wrth y meirw. Canys y corph ar wahân oddi wrth y Gair nis gollir mewn un ystyriaeth wirioneddol ei alw yn berson Crist; ac nid cywir ydyw dywedyd fod Mab Duw, wrth gyfodi y corph hwnw, wedi cyfodi ei hun i fyny, pe na buasai y corph hwnw gydag ef ac o hono ef, hyd yn oed yn ystod yr amser y gorweddai yn y beddrod, Yn yr un modd hefyd yr ydym i ddywedyd am yr enaid; os amgen, yr ydym yn eglur ac anocheladwy yn Nestoriaid. Gwir berson Crist gan hyny ei hunan, dros byth yr un a’r unrhyw, a gauwyd yn unig o ran ei sylwedd corphorol yn y bedd, a’i enaid yn unig wedi ei wahanu oddi wrth hwnw; ond trwy undeb personol, ei Dduwdod etto yn anwahanol gyssylltiedig a’r ddau.” (x63)


 

oedd iddo gyda’r Tad cyn bod y byd, onid e, ni fuasai yn gweddïo am ei gael drachefn. Ond nid wyf un amser yn caru sylfaenu y prawf ar unrhyw air y byddo ammheuaeth yn nghylch ei ystyr; ac y mae yr hyn yr wyf yn dadleu drosto yn cael ei ddangos yn ddiammheuol yn y gair arall, “eithr efe a’i dibrisiodd ei hun,” neu, fel y cyfieithir ef gan W. Salesbury, “eithr ef y diddymiawdd ehun.” Ystyr llythyrenol y gair yw gwaghau; ac y mae yn cynnwys fod Person y Mab wedi gwaghau ei hun i brynu pechaduriaid. Nid wyf yn gofyn i chwi geisio amgyffred y gwirionedd hwn; ond dymunaf arnoch gredu mai nid dull o ymadroddi sydd yma, heb un ystyr, ond fod y gair yn meddwl yr hyn y mae yn ei ddywedyd, a bod Mab Duw wedi dyfod i sefyllfa, yn yr hon, er ein mwyn ni, yr oedd wedi gwaghau ei hun o’r cwbl oedd yn perthyn iddo fel person dwyfol nad oedd yn hanfodol i’w fod. Y mae yr apostol yn chwanegu — ”gan gymmeryd arno agwedd gwas.” Daeth y Mab i sefyllfa gwas, sef gwas i Dduw. “Ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion.” Onid oedd efe yn wir ddyn, a pha ham y dywedir “mewn cyffelybiaeth dynion?“ Bydd yr atteb yn amlwg wrth gofio fod yr apostol yn llefaru am dano, nid fel dyn, ond fel person dwyfol. Dyma yr hwn oedd yn ddysgleirdeb gogoniant y Tad, ac yn wir lun ei berson ef, ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth, wedi dyfod mor isel, fel yr oedd yn nghyffelybiaeth dynion; ac y meddyliodd llawer mai dyn yn unig ydoedd. Am dano fel person dwyfol y dywedir yn mhellach, ddarfod iddo, wedi ei gael mewn dull fel dyn, ei ddarostwng ei hun. Ac am dano fel person dwyfol y dywedir iddo fod yn ufudd hyd angeu, ïe angeu y groes. I’r un perwyl y mae lluaws o ymadroddion ereill y gellid eu coffau, megys Act. iii. 15: “A thywysog y bywyd a laddasoch;”? Cor. ii. 8: “O herwydd pes adwaenasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant: 2 Cor. viii. 9; “Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac yntau yn gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef.”

D. Nid wyf yn gwrthwynebu yr athrawiaeth a ddysgir genych oddi wrth y geiriau hyn. Er hyny, y mae ammheuaeth yn fy meddwl o barth cywirdeb y rheol esboniadol, pan ydych yn dweyd y dylid cymmeryd pob gair yn ei lawn ystyr. Y mae y Beibl yn llefaru am Dduw fel pe byddai ganddo draed, a llygaid, a theimladau dynol. A ydym i gymmeryd y cyfryw ymadroddion yn eu hystyr lythyrenol?

A. Y gwahaniaeth rhyngom ydyw hyn: — pan nas gellir cymmeryd y geiriau yn eu hystyr lythyrenol, yr ydych chwi yn dyweyd fod y meddwl yn llai, a minnau yn dyweyd ei fod yn fwy na’r geiriau. Dichon fod mwy yn bod yn narostyngiad yr Arglwydd Iesu nag a gynnwysir yn y geiriau a goffawyd; ond yr wyf yn sicr nas gall fod yn llai.
A dichon fod mwy yn y geiriau eu hunain nag a allwn ni ei weled. Ond pa beth bynag sydd o’r (x65) golwg, y mae un peth yn amlwg — fod Person anfeidrol y Mab wedi dyfod i sefyllfa caethwas yn ei berthynas â’i Dad, ac iddo yn y sefyllfa hono fod yn ufudd hyd angeu. Nid y natur ddynol yn unig oedd dan y ddeddf, yn cael ei chynnal i ddyoddef gan y natur ddwyfol; ond yr oedd y Mab yn rhoddi ei hun fel Person anfeidrol yn lle pechaduriaid. Dyma yr iawn:— nid y dyoddefiadau, ac nid yr angeu; ond person Mab Duw yn y dyoddefiadau, ac yn yr angeu. “Efe yw yr iawn.” A gaf fi ofyn i chwi fyfyrio ar y geiriau hyn, a myned i mewn i’w hystyr? Nid Efe a wnaeth yr iawn, neu Efe a dalodd iawn, a ddywedir. Nid wyf yn collfarnu yr ymadroddion hyn: ond mae y Beibl yn myned yn mhell iawn tu hwnt iddynt. “Efe yw yr iawn.” Efe a wnaeth yr haul; ond ni fyddai yn addas dyweyd mai efe yw yr haul, neu mai efe yw yr holl greadigaeth. Y mae yn amlwg gan hyny fod rhyw berthynas rhyngddo a gwaith yr iawn; yr hwn nad oes cyffelyb iddo yn y berthynas sydd rhyngddo fel Creawdwr a’r oll a greodd. Efe yw yr iawn — nid efe heb y weithred; ond efe yn y weithred. Nis gallasai yn holl fawredd ei berson fod yn iawn, heb roddi ei hun drosom mewn gweithred o anfeidrol werth; o blegid nid pwngc o ewyllys yw iawn, ond pwngc o gyfiawnder; ac yr oedd cyfiawnder dwyfol mor agos at feddwl y Mab, fel nas gallasai byth ewyllysio achub dyn syrthiedig trwy ddyweyd “Bydded,” fel y dygodd yr holl fydoedd aneirif i fod. Yr oedd yn rhaid iddo, er ei fod yn Fab, ddyfod i sefyllfa gwas, ac ennill maddeuant a bywyd tragwyddol i ni; ac i’r dyben hwn yr oedd yn angenrheidiol iddo ddyfod er ein mwyn ni yn dlawd. O ran dim a wyddom ni, gallasai gyfoethogi angelion heb fyned yn dlawd; ond yr oeddym wedi myned mor isel, fel nas gallasai yr Hollgyfoethog lenwi ein hangenion heb dlodi ei hun. Yr oeddym wedi ein cau gan gyfiawnder dan y gollfarn, fel nas gallasai Mab Duw estyn ymwared i neb o hil syrthiedig Adda heb ennill hyny trwy weithred. Ond os nad oedd y Person yn iawn heb y weithred, y mae mor wir na fuasai unrhyw weithred yn iawn ar wahan oddi wrth y Person: o blegid nid oes a fyno cyfiawnder Duw â gweithredoedd oddi eithr mewn cyssylltiad â’r personau sydd yn eu cyflawnu. Yr oedd yn angenrheidiol gan hyny fod Person yr Arglwydd Iesu Grist yn y weithred; a chyn y gallasai ei berson fod yn y weithred, yr oedd yn rhaid i’r weithred fod mor fawr â’r person. Nis gallasai hyn fod pe na buasai marwolaeth Crist ond marwolaeth gyffredin. Ond yn angeu Mab Duw dan guddiad gwyneb ei Dad, yr hwn yr oedd y rhagolwg arno yn llanw ei enaid â thristwch ac ofn — yn yr angeu sydd yn ganolbwynt yr holl Ysgrythyrau, at yr hwn yr oedd yr holl oesoedd er dechreu y byd yn edrych yn mlaen, ac at yr hwn y bydd yr holl oesoedd dyfodol yn edrych yn ol — yn yr angeu hwnw, trwy yr hwn y rhoddodd Crist ei hun yn ei holl fawredd anfeidrol drosom ni, (x66) yr ydym yn gweled gweithred o ufudd-dod mor fawr a’r hwn oedd yn ufuddhau. Nis gellir meddwl am weithred fwy. Pa beth bynag yw eangder y greadigaeth, y mae meddwl dyn mewn mynydyn o amser yn alluog i ehedeg tu hwnt i’w tHerfynau eithaf: a phe dychymygem fod y Creawdwr yn creu myrddiynau o fydoedd am bob byd sydd yn awr mewn bod, yn y diwedd gallwn feddwl ei fod yn creu chwaneg. Ond yn angeu‘r groes yr ydym yn gweled gweithred mor fawr fel nas gellir meddwl am iddi fod yn fwy. Dyma un o ragoriaethau y Beibl, fod yr holl wrthddrychau a ddadguddir ganddo yn anfeidrol; ac yn yr ystyr hwn y mae delw ei Awdwr yn amlwg arno. Gwaith yr athronwyr mwyaf meddylgar yn mhob oes yw chwilio am Dduw. Y maent yn teimlo, os oes Duw yn bod, ei fod, o angenrheidrwydd, yn anfeidrol; yr hyn sydd yn cynnwys ei fod yn un mor fawr fel nas gellir meddwl ei fod yn fwy. Y maent yn gweled hefyd holl dduwiau y Paganiaid yn llai na meddwl dyn, ac o ganlyniad nas gall yr un o honynt fod yn wir Dduw. Ond pe byddai un o’r athronwyr hyn yn rhoddi darlleniad diragfarn i’r Hen Destament yn unig, byddai yn sicr o gydnabod fod ei ysgrifenwyr wedi cyrhaedd gwybodaeth nad oedd yn meddiant y meddylwyr dyfnaf yn mhlith yr Indiaid na’r Groegiaid — eu bod wedi cael dadguddiad o Un sydd yn wrthddrych addas i’w addoli ac i ymddiried ynddo, o blegid y mae y meddwl yn teimlo ar unwaith nas gall fod neb mwy. Ond gellir tybied fod yr un ymchwiliwr am y gwirionedd, ar ol cael hanes am, a dysgrifiad teilwng o’r, gwir Dduw, mewn geiriau, yn dymuno cael adnabyddiaeth agosach o hono; a’i fod oddi ar y teimlad hwn yn ymofyn pa le y gall ei weled yn ei holl ogoniant, yn dyfod i’r golwg mewn gweithred o drugaredd a chariad yn cyfateb i’w fawredd. Y mae wedi canfod awgrymiadau mynych yn Moses a’r prophwydi fod hyn i fod; ond er chwilio i hanesyddiaeth teyrnasoedd y byd, nid yw yn cael yr un dygwyddiad nad yw yn hawdd iddo feddwl am rywbeth mwy. Er ymbalfalu am Dduw yn y gread­igaeth, ac yn ngoruchwyliaethau rhagluniaeth, y mae yn methu ei gael. Ond os try mewn ysbryd diragfarn at yr hanes diaddurn a gynnwysir yn y pedair efengyl, nis gall lai na theimlo fod yma fawredd digonol i lanw ei feddwl, fel na ddichon iddo byth ddymuno mwy. Yma, gall weled gweithred mor fawr a’r Duw a’i gwnaeth. Yma gall addoli yr amlygiad o Dduw, heb fod yn euog o eilunaddoliaeth; gall ymddiried yn yr iawn a theimlo wrth wneuthur hyny ei fod yn ymddiried yn Nuw.

D. Y mae hyn oll yn brawf chwanegol fod y Beibl yn deilwng o’r enw Y Llyfr; a chredwyf na chaiff ammheuaeth ddyfod i fy meddwl byth mwy o barth ei ddwyfoldeb. Beth all fod yr achos ei fod yn rhagori cymmaint ar bob llyfr arall, oddi eithr ei fod o Dduw? Ac y mae yn ymddangos oddi wrth eich sylwadau diweddaf mai nid rhagoriaeth graddau (x67) ydyw hwn; ond gwahaniaeth mor fawr ag sydd. rhwng y Creawdwr a’i greaduriaid. Yr wyf yn gweled fod y Llyfr hwn yn dangos digon i gyfarfod âg angen byd colledig. Os yw pechod yn fawr yn ei berthynas â Duw, dyma iawn sydd mor fawr a Duw ei hun. Mi feddyliwn fy mod hefyd yn gweled rhyw gymmaint o ddyben ac amcan eich sylwadau. Oddi wrth yr egwyddor, fod haeddiant y gwaith yn aros mewn person, pan fyddo y person yn y gwaith, yr ydych yn ymresymu fod haeddiant yr iawn yn aros yn mherson yr Arglwydd Iesu Grist, gan fod ei berson ef yn y gwaith. Yr ydych wedi profi fod person yr Arglwydd Iesu yn ei waith ef, ac y mae yn canlyn o angenrheidrwydd fod haeddiant anfeidrol ei waith yn aros yn ei berson. Y mae hyn yn eglur; ond y mae genyf un cais etto i’w roddi o’ch blaen; sef, dangos yn helaethach pa fodd y mae hyn yn rhoddi goleuni ar y ffaith, fod y rhai y bu Grist farw drostynt yn euog nes y credont, er fod cyfiawnder wedi cael iawn anfeidrol drostynt gan y Meichnïydd.

A. Gwyddoch mai dyma un o’r gwrthddadleuon mwyaf cyffredin a ddygir yn rnlaen yn erbyn athrawiaeth yr iawn. Er mwyn ei gochelyd, y mae llawer o amddifiynwyr yr athrawiaeth yn gwneuthur yr iawn yn ymddangosiad, heb ddim sylwedd. Am na fedrant weled pa fodd y gallasai yr iawn fod yn fater o gyfiawnder, heb fod hyny yn ei gwneyd yn anmhossibl i neb fod yn euog wedi i Grist farw drostynt, y maent yn gwadu fod cyfiawnder yn rhwymo y troseddwr i ddyoddef cospedigaeth; ac yn gwneuthur yr iawn yn amlygiad o gariad yn unig, i orchfygu yr elyniaeth o du y gwrthryfelwr.

D. Y mae gwrthddadl arall, yr hon sydd yn dwyn perthynas agos a hon, yn ymgynnyg i fy meddwl; a byddai yn dda genyf i chwi sylwi ami ryw bryd. Os oedd yr iawn yn dwyn perthynas a chyfiawnder, ac os oedd Grist yn marw fel Meichnïydd dros y rhai a roddwyd iddo gan y Tad, pa fodd y gall yr iawn fod yn ddigonol i neb ond i’r etholedigion?

A. Y mae y ddau ofyniad, fel y dywedasoch, yn perthyn yn agos y naill i’r llall; ac ni a’u cymmerwn gyda’u gilydd, gan fod yr un egwyddor yn gwasanaethu fel atebiad i’r ddau. Y maent yn tarddu o’r un camsyniad: a gwreiddyn y camsyniad hwnw ydyw anghofio yr undeb annattodol, mewn achosion moesol, rhwng y gweithredydd a’i weithred. Pe buasai cyfiawnder yn golygu pechod fel gweithred yn unig, ar wahan oddi wrth y person sydd yn gweithredu, buasai gweithred o eiddo Mab Duw yn iawn digonol, heb fod ei berson yn y weithred; a phe buasai y weithred yn iawn, ar wahan oddi wrth y person, yna, ni fuasai a fyno cyfiawnder mwyach â pherson y troseddwr, wedi derbyn taliad dros y weithred; a buasai yr iawn o angenrheidrwydd yn derfynol, gan na fuasai gweithred o eiddo Mab Duw ei hun yn anfeidrol, oddi eithr fod ei berson yn y weithred. O’r tu arall, (x68) os oedd Person Mab Duw yn y weithred, yna y mae yr haeddiant yn anfeidrol. Ond y mae yr haeddiant hwn yn aros byth yn ei ewyllys ef, fel nad yw neb yn derbyn maddeuant trwyddo nes dyfod ato trwy gredu ynddo; ac fel na wrthodir pwy bynag a ddel. Y mae y Tad yn dyweyd, “Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i’th feddiant.” Ac y mae yntau yn dyweyd, “Yr hyn oll y mae’r Tad yn ei roddi i mi a ddaw ataf fi, a’r hwn a ddel ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim. Canys myfi a ddisgynais o’r nef, nid i wneuthur fy ewyllys fy hun, ond ewyllys yr hwn a’m hanfonodd. A hyn yw ewyllys y Tad a’m hanfonodd i; o’r cwbl a roddodd efe i mi na chollwn ddim o hono, eithr bod i mi ei adgyfodi ef yn y dydd diweddaf.”

D. A ydych chwi felly yn gwahanu yr iawn oddi wrth yr ewyllys?

A. Yr wyf yn gwahaniaethu rhyngddynt; ond nid wyf yn eu gwahanu. Yr wyf yn ystyried o angenrheidrwydd fod ei ewyllys yn anwahanol oddi wrth ei berson, gan hyny, yr oedd ei ewyllys yn ngwaith yr iawn; ac o ganlyniad, y mae yr iawn yn ei ewyllys.

D. A gaf fi ofyn unwaith etto, Pa beth ydych chwi yn feddwl wrth ddyweyd fod yr iawn yn ei ewyllys?

A. Nis gallaf roddi atteb yn well na thrwy ddyfynu geiriau yr apostol; Eph. iv. 7-10: “Eithr i bob un o honom y rhoed gras, yn ol mesur dawn Crist. O herwydd pa ham y mae efe yn dywedyd, Pan ddyrchafodd i’r uchelder, efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion. Eithr efe a ddyrchafodd; beth yw hyny ond darfod iddo hefyd ddisgyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaear? Yr hwn a ddisgynodd yw yr hwn hefyd a esgynodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawnai bob peth.” Y mae gras yn dyfod i bob un yn ol mesur dawn Crist, sef yn ol mesur rhoddiad Crist. Y mae y cwbl yn ymddibynu ar ei ewyllys ef. Y mae ganddo hawl i ollwng y caeth yn rhydd; o blegid y mae wedi caethiwo caethiwed; a’r cyfryw ydyw parodrwydd ei ewyllys fel y mae yr apostol yn ystyried fod “derbyn rhoddion i ddynion,” yr hyn yw y geiriad yn y Salm, yr un peth gyda golwg ar Grist, a “rhoddi rhoddion i ddynion.” Ond y mae yr holl olud o ras sydd ganddo i’w gyfranu yn seiliedig ar ddyoddefiadau; ac y mae yr ymadrodd, “efe a ddyrchafodd,” yn rhagdybied ei fod wedi disgyn yn gyntaf, nid i ryw iselder cyffredin, ond i barthau isaf y ddaear; neu, fel y byddai y tadau yn cyfieithu, “i barthau is na’r ddaear.” Ond pa beth bynag ydyw yn nyfnderoedd ei ddisgyniad, hyny ydyw yn ei ddyrchafiad; ac y mae uchder ei esgyniad yn cyfateb i ddyfnder ei ddisgyniad; o blegid, os disgynodd i barthau is na’r ddaear, y mae wedi esgyn goruwch yr holl nefoedd; ac yn awr, y mae yn cyflenwi pob peth, o’r dyfnder iselaf i uchder sydd goruwch pob uchder, Nid ei haeddiant sydd wedi cyflenwi (x69) pob peth; ond efe ei hun. Nid rhoddi rhyw swm penodol o haeddiant a wnaeth allan o hono ei hun i dalu gofynion cyfiawnder; ond esgyn yn llawn o haeddiant ynddo ei hun, i gyflenwi pob peth a’i bresennoldeb; ac y mae yr holl haeddiant hwn yn aros ynddo, yn sail ei awdurdodi weinyddu bendithion y cyfammod gras yn ol ei ewyllys rasol ei hun, yr hon sydd yr un ag ewyllys y Tad er tragwyddoldeb. Trwy farw drosom, ennillodd hawl i gymmeryd y llyfr o ddeheulaw yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfaingc. Y mae ei lywodraeth, gan hyny, yn gorphwys, nid ar allu, ond ar deilyngdod. “A phan gymmerth efe y llyfr, y pedwar anifail, a’r pedwar henuriaid ar hugain a syrthiasant ger bron yr Oen: a chan bob un o honynt yr oedd telynau, a phiolau aur, yn llawn o arogldarth, y rhai ydyw gweddïau y saint. A hwy a ganasant ganiad newydd, gan ddywedyd, Teilwng wyt ti i gymmeryd y llyfr, ac i agoryd ei seliau ef: o blegid ti a laddwyd, ac a’n prynaist ni i Dduw trwy dy waed, allan o bob llwyth, ac iaith, a phobl,a chenedl;” Dad. v. 7-9.

D. Nid wyf yn gwybod fod genyf un wrthddadl etto i’w chynnyg ar y mater hwn. Os oedd genyf rai, y maent wedi diflanu o’r golwg; ac yr wyf yn teimlo mai tewi a ddylwn, yn lle dadleu er mwyn dadleu. Mae yn wir fod yma anhawsder yn aros, ond nid mwy nag sydd yn perthyn i bob cyfundrefn; tra yr ydych, hyd y gallaf fi ddeall, yn cadw pob gwirionedd sydd yn rhan o’r athrawiaeth efengylaidd, ac yn gadael pob ysgrythyr sydd yn cyffwrdd a’r mater yn ei grym a’i hystyr naturiol. Yr unig anhawsder yw yr hyn sydd yn tarddu. O’r hanallu i amgyffred yr ewyllys ddwyfol; ac y mae hwn yn ein cyfarfod, pa olygiad bynag a gymmerir, os addefir fod pechod yn bod. Ond yr wyf wedi rhoddi heibio bob gobaith am fedru deall ewyllys dyn, llawer llai y gallaf ddeall ewyllys Duw.

A. Edrychwn yn awr beth yw y canlyniadau sydd yn deilliaw oddi wrth y golygiad hwn. Yn y lle cyntaf, Y mae yma bob cefnogaeth i bob un o hil Adda i gymmeryd gafael yn y bywyd tragwyddol. Nid rhyw weithred i’w hystyried ar wahan, wedi myned heibio er ys deunaw can mlynedd, ac wedi ei selio i fyny am byth, yw yr iawn. Y mae yr iawn yn cael ei dragwyddol gyflwyno i’r Tad yn mherson y Mab. Yr ydym yn cymmeryd ein safle o hyd ar yr hyn yw Person yr Arglwydd Iesu Grist; ac yn canfod yma fod yr un rhyddid a’r un gobaith i bechadur am ei fywyd tragwyddol, a phe buasai yn byw yn Ierusalem ar adeg y croeshoeliad, ac yn deisyf yn bersonol i’r Gwaredwr ei gofio wrth farw. Pa ddefnydd tybed mwy na hyn a raid i neb ei gael, neu a ellir ei gael? Os ydym yn ofni rhag fod rhyw rwystr yn yr arfaeth, neu yn yr iawn, yr esboniad goreu ar yr hyn oedd yw yr hyn sydd; a gallwn fod yn sicr nad
oedd dim yn yr ewyllys ddwyfol er tragwyddoldeb, na dim yn mherthynas (x70) yr iawn a’r rhai a roddwyd gan y Tad i’r Cyfryngwr, yn groes i ewyllys y Mab heddyw fel gweinyddwr rhydd ar holl fendithion y cyfammod. Nid oes yma fwy o anhawsder nag sydd i gyssoni effeithiolrwydd gweddi âg anghyfnewidioldeb Duw a sefydlogrwydd deddfau natur. Y mae yr ewyllys ddwyfol yn neddfau natur mor wirioneddol ag yn ngwaith yr iawn, ac mor anghyfnewidiol yn y naill ag yn y llall; er hyny, y mae Duw yn wrandawr gweddi, ac y mae ystyr i’r deisyfiad hwnw yn ngweddi yr Arglwydd — ”Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol.” Felly, er fod ewyllys y Tad fel amddiffynwr y gyfraith, ac ewyllys y Mab fel Meichnïydd, yn cydgyfarfod yn yr iawn, y mae y gair hwnw yn wir heddyw — ”Yr hwn a ddel ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim.” Y mae yr holl anhawsder yn tarddu o’n hanallu i feddwl am Dduw heb synied am dano fel un yn ddarostyngedig i ammodau lle ac amser. Fel nas gallwn feddwl am dano, oddi eithr mewn lle, felly yr ydym hefyd yn priodoli iddo olyniad amser, heb ystyried fod yr anghyfnewidioldeb ag sydd yn ein dychrynu yn anghyfnewidioldeb uwch law amser, ac o ganlyniad heb fod dan lywodraeth deddf olyniad. Ac nid peth bach yw canfod fod yr anhawsder wedi ei symud o’r llysoedd cyfreithiol i’r ewyllys freninol; o’r weithred amserol i’r meddwl tragwyddol; lle, er nas gallwn ei ddilyn, gallwn gredu ei fod yn diflanu, gan nad yw rhwystrau amser yn cyrhaedd at y meddwl dwyfol, yr hwn sydd i ni yr un ddoe a heddyw, ond ynddo ei hun yn UN, heb ddoe na heddyw yn bod iddo. Y mae ein hachubiaeth yn ymddibynu ar ewyllys uwchamserol un sydd yn byw bob amser i eiriol drosom ni — un yn ein natur ni, yr hwn a ddichon gyd-ddyoddef â’n gwendid ni, wedi ei demtio yn mhob peth yr un ffunud a ninnau, etto heb bechod. Am hyny, awn yn hyderus at orseddfaingc y gras. Pe llwyddai yr ystyriaethau hyn i gael rhyw un i fyned ato, a dywedyd fel hwnw gynt, “Os myni, ti a elli fy nglanhau,” byddai yr atteb yn barod, “Mynaf, bydd lân.” Yn ail, os yw haeddiant yr iawn yn aros yn mherson y Cyfryngwr, y mae hyn yn galw arnom i gymmeryd rhybudd rhag ein bod yn aros yn y pwngc heb ddyfod at y person. Nid yw credu yr hanes am ffaith farw yn ddigon; y mae yn rhaid i ffydd gadwedigol gael gafael mewn person byw. Ond yma etto, y mae yn angenrheidiol gwahaniaethu, o blegid y mae rhai yn cymmeryd y gwirionedd hwn yn achlysur i daflu dirmyg ar yr hanes, fel pe buasent yn alluog o honynt eu hunain i esgyn i ryw uchder, o’r hwn y maent trwy rym rheswm yn canfod pob peth a fu, y sydd, neu a ddaw. Ond nis gellir credu mewn person heb i ni gael amlygiad o hono mewn gweithred; ac yr oedd dyn wedi myned i’r fath gyflwr o anghrediniaeth tuag at Dduw, fel nad oedd un weithred yn ddigon mawr i gynnyrchu ffydd yn ei feddwl, ond y weithred o farw drosto; a’r unig ffordd y gallasem ni gael gwybodaeth am y weithred hon oedd trwy hanes. Ond os oes rhai, (x71) oddi ar uchel dybiaeth, yn meddwl y gallant wybod pob peth sydd yn angenrheidiol ei wybod am Grist, er iddynt aberthu dilysrwydd yr hanes am dano, y mae ereill yn aros yn y llythyren heb fyned at y sylwedd, yn dilyn Grist at y groes, ac at y bedd, ond yn anghofio ei fod wedi adgyfodi, ac wedi esgyn i’w ogoniant; ac am hyny, y maent o hyd yn chwilio am y byw yn mhlith y meirw. Ond nid yn Palestina y mae yr iawn, eithr yn y nefoedd, yn mherson yr Eiriolwr; ac y mae y person hwn mor gyrhaeddadwy i ni yn awr trwy ffydd, ac yn fwy cyrhaeddadwy, nag ydoedd i bawb oedd mewn blinder pan oedd yn weledig yma ar y ddaear. Nid dyfod yma yn gyfoethog a wnaeth Mab Duw, a gadael ei gyfoeth ar ol i ni; ond dyfod yma yn dlawd i ennill cyfoeth trwy farw: ac y mae wedi myned adref â’r cyfoeth hwnw ganddo, i’w gyfranu i bwy bynag a ddelo ato trwy ffydd. Y mae yr hwn a gred ynddo yn cael ei godi i undeb â’i berson anfeidrol ef; a thrwy rinwedd yr undeb hwn, y mae ei haeddiant ef yn cael ei gyfrif i ni, a’r Ysbryd Glân yn trigo ynom fel aelodau o hono ef. Undeb yw gwreiddyn pob dirgelwch; ac undeb hefyd yw gwreiddyn pob rheswm. Ac yn ddiau y mae ystyr sylweddol i’r adnodau hyny sydd yn son am undeb rhwng Grist a’i bobl,ac yn ei ddangos fel rheswm eu cyfiawnâd a’u sancteiddhad.

 

PENNOD VII.
D. Y mae eich sylwadau diweddaf yn codi awydd ynof am gael golwg ar yr athrawiaeth hon o un safle arall. Yr ydym eisoes wedi edrych arni yn ei pherthynas â Duw, ac yn ei pherthynas â Pherson yr Arglwydd Iesu. Ond yn y lle nesaf, byddai yn ddymunol genyf gael ychydig o oleufynag arni yn ei pherthynas â dyn. Mae yn debyg fod y ddau air, cyfiawnhâd a sancteiddhâd, yn cynnwys y cwbl sydd yn angenrheidiol i ddyn tuag at etifeddu bywyd tragwyddol; ac y mae yr ymchwiliad felly yn dosbarthu ei hun yn ddwy ran; — yn gyntaf, pa berthynas sydd rhwng cyfiawnhâd, ac yn ail, pa berthynas sydd rhwng sancteiddhâd, âg athrawiaeth yr iawn.

A. Nid oes achos am well penau; ac nid peth bach yw penau da mewn pregeth. Byddai yn hyfrydwch genyf finnau pe dywedech ychydig arnynt etto ar ol eu henwi.

D. Y mae “amser i dewi, ac amser i ddywedyd,” medd Solomon; ac yr wyf yn barnu mai amser yw i mi dewi ar hyn o bryd.

A. Efallai y dylem ranu yr ymadrodd yna o eiddo Solomon yn fwy cyfartal rhyngom; y dylech chwi gymmeryd mwy o’r rhan olaf, a minnau fwy o’r rhan gyntaf. Ond i beidio colli amser wrth son am dano, yr wyf (x72) yn cytuno â chwi yn hollol am y priodoldeb o sylwi ar yr athrawiaeth hon yn ei pherthynas â dyn. Dyma lle y mae llawer o dduwinyddion yr oes hon wedi methu; yn enwedig yr Almaenwyr, y rhai a ffurfiant gyfundrefn gyflawn yn eu llyfrgelloedd, heb ofalu fod iddi un math o ddyben ymarferol, nac unrhyw gymhwysder at gyflwr ac angen dyn. Y maent yn rhy debyg i athronwyr yr oesoedd gynt, y rhai a ffurfient gyfundraethau cywrain yn eu hystafelloedd, i esbonio holl ddirgelion seryddiaeth, fferylliaeth, a phob gwybodaeth, heb edrych a oedd eu hymresymiadau yn cyfateb i’r ffeithiau; ac am hyny, pan ddygid hwy i gyffyrddiad â natur, nis gallent ddal y prawf. Pe bai dysgedigion yr Almaen yn dyfod allan yn fwy o honynt eu hunain i ymwneyd â natur, sef â’r natur ddynol, yn yr achos hwn, pe amcanent yn fwy at uno ymresymiad âg ymarferiad, caent weled y byddai y prawf yn ddinystriol i’r rhan fwyaf o’u cyfundraethau.

D. Mae yn ddiainmheuol fod yr Almaenwyr yn myned i eithafoedd yn eu hymgais parhaus am newydd-deb. Ond dichon y gellid cael rhyw le canol rhwng eu duwinyddiaeth hwy a duwinyddiaeth y wlad hon. Os ydynt hwy yn rhoddi gormod o le i reswm, y mae rhai o’n duwinyddion ninnau fel pe byddent am ei ddifodi. Os yw rhai o honynt hwy yn ymddangos fel pe byddent yn credu y rhaid fod unrhyw olygiad yn gyfeiliornus os na bydd yn berffaith newydd, y mae llawer yn ein plith ninnau yn rhy barod i dybied y rhaid ei fod yn gyfeiliornus os na bydd yn hen.

A. Dyna un camsyniad sydd wedi gwneyd niwed i amryw yn Lloegr yn y blyneddoedd diweddaf; sef, meddwl y gellir cael lle canol rhwng y ddwy dduwinyddiaeth. Yr hyn a ddymunwn ei weled fyddai ysgrifenwyr yn uno y rhagoriaethau o’r ddwy ochr — ymchwiliad diflin a dyfnddysg yr Almaenwyr, ac ymlyniad diysgog wrth olygiadau efengylaidd yr hen awdwyr. Un o’r arwyddion mwyaf gobeithiol ar y Cyfandir y dyddiau hyn yw gweled yr undeb hwn yn ennill tir. Os nad wyf yn camgymmeryd, y mae cymmaint o gyfnewidiad er gwell er’s rhai blyneddoedd yn yr Almaen ag mewn un wlad; ac y mae yn debyg o fyned rhagddo, gan ei fod yn cymmeryd cyfeiriad ymarferol. Pan eir o ddifrif i geisio crefyddoli y bobl, y mae athrawiaethau efengylaidd yn rhwym o adgyfodi; o blegid nid oes unrhyw olygiadau ereill yn cyfarfod âg angenion y natur ddynol.

D. Os wyf yn eich deall yn iawn, yr ydych yn rhoddi pob athrawiaeth i sefyll neu i syrthio yn ol y derbyniad a gaiff gan y lluaws. Onid oes yma rywbeth tebyg i’r dywediad hwnw o eiddo Protagoras, mai dyn yw mesur pob peth? Ac os dyn yw y mesur wrth yr hwn yr ydym i farnu pob peth, onid mwy rhesymol fyddai ymostwng i farn y dynion mwyaf dysgedig a mwyaf meddylgar, yn hytrach nag i fympwy y lluaws anwybodus? (x73)

 

A. Nid at egwyddorion gwybodaeth yr oeddwn yn cyfeirio yn unig, nac yn benaf, ond at gyflwr angenus y natur ddynol. Y mae y meddyg yn dysgu trwy ymweled â’r cleifion; ac nis gall ddysgu heb hyny, er ei fod yn rhagori arnynt yn mhell mewn gwybodaeth am achosion ac arwyddion yr anhwylderau y mae dynolryw yn agored iddynt.

 

D. Y mae yr ystyriaeth yna yn dangos yr ymresymiad mewn goleu newydd; ac yr wyf yn cydnabod nad yw yr wrthddadl yn hollol berthynasol.

A. Nid yw ychwaith yn anattebadwy, pe cyfyngem ein sylw at egwyddorion gwybodaeth dduwinyddol: neu dichon mai mwy cywir fyddai cymmeryd y naill gyda’r llall; o blegid y mae cyssylltiad agos mewn crefydd rhwng gwybodaeth a phrofiad. Yr oedd Protagoras yn barnu mai y gwirionedd am bob peth yw yr hyn y mae pob peth yn ymddangos i bob dyn yn bersonol. Nis gall dim fod yn fwy croes i’r hyn yr oeddwn yn ceisio ei osod o’ch blaen: o blegid yr wyf yn cymmeryd yn ganiataol fod gwirionedd gwrthddrychol yn bod y tu allan i feddwl dyn, ond yr wyf yn credu hefyd fod y gwirionedd hwn yn cyfateb i ryw egwyddorion cyffredinol yn y natur ddynol, y rhai o ganlyniad nis gallant fod yn wahanol yn ac i wahanol bersonau. A gwyddoch mai achos cyffredin o gyfeiliornad yw, fod un yn gweled rhyw ddarn o’r gwirionedd, a thrwy gau ei hun i fyny ynddo ei hun, yn tybied ei fod yn gweled y cwbl.

D. Y mae yn dda genyf ganfod pa fodd bynag nad ydych yn cydfyned â Mansel. Hyd y gallaf fi ei ddeall, y mae efe yn gwneuthur y gwirioneddau mwyaf hanfodol mewn duwinyddiaeth yn anghyrhaeddadwy i feddwl dyn. Y mae yn wir ei fod yn peri i ni eu credu ar dystiolaeth y Beibl, ond y mae yn dywedyd wrthym ar yr un pryd mai ofer yw i ni ddysgwyl eu gweled byth, hyd yn oed a’r meddwl. Beth yw eich barn chwi am y ddadl rhwng Mansel a Maurice?

A. Mae yn ammhossibl peidio teimlo parch i’r ddau, nid yn unig fel ysgrifenwyr tra galluog, ond fel dynion yn amcanu gwneyd daioni. Dichon hefyd fy mod yn cydfyned â Mansel i raddau pellach nag ydych chwi yn feddwl. Y mae tuedd dda, o’r hyn lleiaf, i’w ddarlithiau, fel y maent yn dysgu gwylder a gostyngeiddrwydd, yr hyn yw y parotoad goreu i efrydu duwinyddiaeth. Ar y cyfan, y mae yn well genyf athroniaeth Maurice, a duwinyddiaeth Mansel. Y mae Mansel yn ceisio Cristioneiddio athroniaeth Syr William Hamilton; yr hwn sydd yn gwneuthur dyn yn ddim amgen na pheiriant ymresymiadol, ac yn ei amddifadu o’r cynneddfau uchaf sydd yn perthyn iddo. Yr wyf yn gwybod mai teyrnfradwriaeth yn ngolwg llawer yw dyweyd gair yn erbyn Syr William Hamilton. Rhydd yw iddynt hwythau eu meddyliau. Ond y mae yn ymddangos i mi fod gan ddyn, fel creadur, allu i adnabod Duw, er nad i’w (x74) amgyffred. Y mae ganddo allu i ganfod gwirioneddau, y rhai nis gall esgyn atynt ar hyd grisiau ymresymiad. Nis gellir esbonio y gallu hwn, na’i fesur, na’i ddarostwng dan reolau, mwy na’r gallu bywydol yn y corff; ac am hyny, y mae athronwyr yn gyffredin yn ei adael allan o’u cyfundraethau. Ond y mae yn bod er hyny; ac at y gallu hwn o eiddo y meddwl i weled y mae goleuni y Beibl yn benodol wedi ei gymmhwyso.

D. Pe byddai i rai o geidwaid yr athrawiaeth eich clywed, yr wyf yn ofni y barnent eich bod yn rhoddi lle gormodol i allu dyn.

A. Y mae hyny yn ddigon tebyg; o blegid er i chwi bleidio yr hen athrawiaeth iachus yn y modd mwyaf egnïol, os na wnewch hyny yn y dull cul a chyfyng y maent hwy wedi arfer edrych arni, cewch eich drwgdybio. Y mae yn ymddangos i mi fy mod yn awr yn dadleu dros yr angenrheidrwydd o adael lle i waith yr Ysbryd Glân. Y mae Mansel wedi gwneuthur yr UN  peth a’r cynneddfau ereill ag a wnaeth Jonathan Edwards â’r ewyllys, hyny yw, difodi y gwahaniaeth rhwng y dyn sydd heb ei aileni a’r dyn sydd wedi ei aileni. Y mae yr ewyllys wedi myned yn gaeth trwy bechod; ond y mae Jonathan Edwards yn gwadu fod gan ddyn ryddid ewyllys fel creadur — yr hyn sydd yn cynnwys nad oes ganddo ryddid wedi ei aileni, mwy na chyn ei aileni. Yr un modd y mae dyn trwy bechod wedi colli yr adnabyddiaeth o Dduw; ond yn ol athrawiaeth Mansel, ni bu erioed yn feddiannol ar yr adnabyddiaeth hon, ac nis gall ei chyrhaedd er ei adnewyddu trwy ras. Mae yn ddiau na ddaw byth i adnabod Duw nes ei oleuo gan yr Ysbryd Glân; ond nid ydym i feddwl, ac nid ydym yn arfer meddwl fod yr Ysbryd Glân yn rhoddi cynneddfau newyddion yn yr enaid, ac o ganlyniad, mae yn rhaid fod y gallu hwn yn perthyn i ddyn fel creadur rhesymol.

D. Mae yr ymddyddan wedi bod yn fuddiol i mi, pe na byddai ond yn unig y goleu a gefais ar y mater hwn; er ein bod, efallai, wedi myned ychydig oddi wrth y testyn.

A. Yr ydym o hyd gyda’r testyn; o blegid nid oes un dduwinyddiaeth ag sydd yn cau allan athrawiaeth yr iawn yn cyfateb i’r egwyddorion greddfol sydd yn meddwl dyn am Dduw, am y ddeddf, ac am ddrwg pechod; nac yn cyfateb, gan hyny, i’r hyn y mae efe ei hun yn deimlo yw ei sefyllfa fel pechadur.

D. Nid wyf yn gweled ond un wrthddadl. Os yw yr egwyddorion hyn yn mhob dyn, pa fodd y mae y fath nifer o ddynolryw yn medru bod yn dawel mewn anghrediniaeth o athrawiaeth yr iawn?

A. A ellwch chwi ddyweyd pa fodd y mae y fath nifer yn credu fel pwngc fod Duw yn bod; ac etto yn gweithredu fel pe byddent yn credu nad oes yr un Duw? Er fod rhyw adgofion yn meddwl dyn am yr hen ffordd y bu yn rhodio ar hyd-ddi mewn rhyw gyflwr cyntefig, y mae yn (x75) awr fel dafad wedi myned ar gyfeiliorn, ac yn hollol analluog o hono ei hun i ddychwelyd. Er hyny, pan aroso i edrych o’i amgylch, ac i ystyried, y mae yn teimlo nad yw lle y dylai fod; ac y mae yn gwybod am yr holl ffyrdd y mae gau-athrawon yn ceisio ei arwain ar hyd-ddynt nad yr un o honynt yw y ffordd iawn; ac er ei fod yn methu ymddad-ddyrysu o’i gyfeiliornad, etto pan arweinir ef yn ol gan yr Ysbryd Glân at Dduw a’i drefn, y mae yn gwybod mai hon yw y ffordd sydd yn arwain i’r bywyd.

D. Yr hyn y dymunwn gael chwaneg o oleuni arno yw y berthynas neillduol rhwng hyn a threfn y cyfiawnhâd.

A. Pan y mae pelydrau haul y cyfiawnder yn cyrhaedd y galon, y mae yr egwyddorion hyn yn y meddwl yn dyfod yn deimladau byw. Mae y dyn yn teimlo fod Duw yn bod — mae yn teimlo ei fod ef ei hun yn bechadur — mae yn teimlo fod y ddeddf foesol yn bod, nid fel rhyw wirionedd mewn rhifyddiaeth, ond fel rheol anghyfnewidiol, i’r hon y mae yn gyfrifol am ei holl ymddygiadau. Ac y mae y teimladau hyn yn myned yn ddyfnach na’r gweithredoedd; y maent yn cyrhaedd at wraidd personoliaeth. Yr oedd y dyn o’r blaen yn gweled fod rhai o’i weithredoedd yn ddrwg, ond y mae yn awr yn teimlo fod ei berson yn euog; a’i fod, o ganlyniad, yn sefyll mewn angen am gyfnewidiad cyflwr yn ei berthynas â deddf Duw. Y cyfnewidiad hwn, yn ol ein barn ni, yw yr hyn y mae yr apostol Paul yn ei feddwl wrth y gair “cyfiawnhad.”

D. Yn mlaen etto, os gwelwch yn dda, i ddangos y cyssylltiad rhwng hyn âg athrawiaeth yr iawn.

A. Os newidir cyflwr dyn yn ei berthynas â’r ddeddf, y mae yn rhaid i hyny fod trwy UN o ddwy ffordd —naill ai trwy weithredoedd, neu trwy ffydd. Ond yr un goleuni ag sydd yn dadguddio iddo ei gyflwr euog, sydd yn dangos hefyd nad yw ei holl gyfiawnderau. ond bratiau budron. Nid oes ganddo, o ganlyniad, ond ymorphwys ar yr un drefn a phawb a gyfiawnhawyd yn holl oesoedd y byd: “A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy y prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu; yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o’r blaen, trwy ddyoddefgarwch Duw; i ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu.” Y mae cyfiawnhâd yn dyfod trwy yr iawn; a’r hyn yw cyfiawnhâd yn weithredol, hyny yw yr iawn yn haeddiannol. Os yw cyfiawnhâd yn symmud y gollfarn yn weithredol, y mae yn rhaid fod yr iawn yn gwneuthur hyny yn haeddiannol. Os yw cyfiawnhâd yn newid y cyflwr yn ei berthynas â’r ddeddf, y mae yn rhaid fod yr iawn yn haeddiant yn ngolwg y ddeddf dros y troseddwr. Os yw cyfiawnhâd yn codi yr euog i gyflwr cyfiawn ger bron Duw, y mae yn rhaid fod yr iawn yn llanw holl ofynion cyfiawnder dwyfol. Y mae ein (x76) golygiadau ar yr iawn yn rhwym o gyfateb i’n golygiadau ar gyfiawnhâd. Os gwadwn fod yr iawn yn dwyn perthynas â chyfiawnder, yr ydym ar unwaith yn dadsylfaenu athrawiaeth fawr y Diwygiad Protestanaidd. Ac o’r tu arall, os derbyniwn athrawiaeth y Diwygwyr Protestanaidd am gyfiawnhâd trwy ffydd, yr ydym yn rhwym o gydfyned â’u golygiadau hwy am natur yr iawn.

D. Ond pa fodd y cyfarfyddech â’r rhai hyny sydd yn gwrthod yr athrawiaeth o gyfiawnhâd trwy ffydd?

A. Yn y cyfryw amgylchiad, nid oes genym ond myned yn ol at yr hyn y mae y Beibl a chydwybod pob dyn yn ddyweyd yw ei gyflwr yn ngwyneb y ddeddf. Felly, y mae yr apostol Paul yn dechreu ei epistol at y Rhufeiniaid, trwy brofi oddi wrth ysgrythyrau yr Hen Destament, ac oddi wrth oleuni natur, fod pob dyn — Iuddewon yn gystal a Chenhedloedd — mewn cyflwr euog ger bron Duw; ac am hyny fod yn rhaid cael rhyw drefn i newid eu cyflwr trwy haeddiant un arall. Y mae y rhai sydd yn gwrthod yr athrawiaeth Brotestanaidd, ac yn rhoddi ystyr arall i’r gair “cyfiawnhâd,” ar yr un pryd yn addef gan mwyaf nad yw maddeuant yn dyfod heb haeddiant. Ond tra na byddo y pechodau mwyaf yn ddim mwy yn eu golwg na throseddau o ryw osodiadau dynol, y mae haeddiant dynol yn ddigon. I’r graddau y gwelir drwg pechod fel y mae yn erbyn Duw, i’r graddau hyny y gwelir yr angenrheidrwydd am gyfnewidiad cyflwr ger bron Duw; ac yn ol yr olwg fyddo genym ar natur a mawredd y cyfnewidiad hwn, y bydd ein barn am natur a mawredd yr haeddiant trwy yr hwn y gall troseddwr gael ei adferu i heddwch â’i farnwr.

D. Mae yn ddiammheuol mai dyma athrawiaeth Paul; ac yr wyf wedi bod yn rhyfeddu lawer gwaith fod cynnifer o ysgrifenwyr galluog yn Lloegr yn gwrthod yr athrawiaeth hon; ac etto yn proffesu eu bod yn cymmeryd y Beibl yn rheol ffydd. Pe buaswn yn gweled hyn yn ysgrifeniadau yr Almaenwyr, ni fuasai mor rhyfedd.

A. A’r hyn a ymddengys ar yr olwg gyntaf yn fwy rhyfedd ydyw, fod yr Almaenwyr mwyaf craffus — sydd yn gwadu cyflawn ysbrydoliaeth y Beibl — etto yn dal yr athrawiaeth hon. Ond nid yw mor rhyfedd erbyn edrych; o blegid nid oes ganddynt hwy gyfundrefn dduwinyddol i’w gwrthwynebu nac i’w hamddiffyn. Eu hamcan hwy yw cael allan feddwl yr apostolion yn mhob adnod, heb ofalu am eu cyssondeb â hwy eu hunain, neu a golygiadau duwinyddion diweddar. Un o’r rhai blaenaf yn y dosbarth hwn yw De Wette; ac fel y canlyn y mae efe yn esbonio y geiriau “cyfiawnder Duw;“ Rhuf. i. 17. “Y mae y gair Groeg, a’r gair Hebraeg, yn cael eu cymmeryd weithiau am rinwedd neu dduwioldeb, y rhai y mae dynion yn eu meddu neu yn ymestyn atynt — weithiau mewn ystyr cyfrifol, am rhyddhad [sic= ryddhad] oddi wrth gollfarn, neu gyfiawnhâd. Yr ystyr (x77) diweddaf yw y mwyaf cyffredin gan Paul: ‘cyfiawnder’ yw yr hyn sydd felly yn ngolwg Duw (Rhuf. ii. 13); effaith ei farn gyfreithiol gyfiawnhaol ef, neu y canlyniad o gyfrifiad (Rhuf. vf. 5). Y mae yn wir y gellir gwneyd tybiaeth fod dyn yn cyrhaedd cyfiawnhad trwy gadw y ddeddf: yn y cyfryw amgylchiad, ei gyfiawnder fyddai ‘ei gyfiawnder ei hun’ (Rhuf. x. 3); ‘cyfiawnder o’r ddeddf’ (Phil. iii. 9). Ond y mae yn anmhossibl iddo gyrhaedd cyfiawnder o’r eiddo ei hun, i’w gymmeradwyo ger bron Duw (Rhuf. iii. 21; Gal. ii. 16). Yr Iuddewon nid yn unig ni chadwasant y ddeddf (Rhuf. iii. 9-19), ond nis gallasant ei chadw (Rhuf. vii. 7, &c.); a’r Cenhedloedd ydynt yr un modd wedi gwneyd eu hunain yn agored i lid Duw (Rhuf. i. 24—32). Y mae Duw wedi trefnu fod pawb wedi eu cau mewn anufudd-dod. Os yw dyn gan hyny o fod yn anghyfiawn i ddyfod yn gyfiawn,
nis gall hyny fod oddi eithr trwy ras Duw; sef, trwy fod Duw yn ei gyhoeddi yn gyfiawn, yn ei gyfrif fel un cyfiawn, yn ei gyfiawnhau (Rhuf. iii. 24, Gal. iii. 8). Y mae y gair Groeg a gyfieithir cyfiawnhau, yn arwyddo, nid yn unig yn nacaol rhyddhau, fel y gair Hebraeg yn Ecsod. xxiii. 7; Esa, v. 23; Rhuf. ii. 13; Ond hefyd yn gadarnhaol cyhoeddi yn gyfiawn; ond nid gwneuthur yn gyfiawn trwy drosglwyddiad, neu gyfranogiad o allu moesol, o’r hwn y mae moesoldeb perffaith yn tarddu. Y ffordd gywir i gymmeryd cyfiawn­had yw yr un modd a’r hen dduwinyddion Protestanaidd, mewn ystyr cyfreithiol; hyny yw, trwy gyfrifiad. Y mae Duw yn cyfiawnhau er mwyn Grist (Rhuf. iii. 12, &c.), dan yr ammod o ffydd ynddo ef fel Cyfryngwr; y canlyniad o’i gyfiawnhâd ef yw cyfiawnder o ffydd; ac o blegid ei fod yn cael ei gyfranu yn rhad, y mae yn gyfiawnder Duw, neu o Dduw (Phil. iii. 9); felly Chrysostom, Rückart, Reiche, Meyer. Y mae y cyfiawnhâd hwn yn ddiammheuol yn weithred wrthddrychol o eiddo Duw; ond y mae yn rhaid ei derbyn hefyd yn dufewnol, gan fod yr ammod yn dufewnol. Y mae yn cynnwys rhyddhad oddi wrth euogrwydd, a thangnefedd cydwybod, y rhai a gyrhaeddir trwy ffydd yn ngras Duw yn Nghrist; yr un agwedd meddwl ag a fyddai yn briodol i ddyn perffaith gyfiawn, pe byddai y fath un yn bod; cydgordiad y meddwl â Duw, heddwch â Duw. Y mae pob esboniad yn gyfeiliornus ag sydd yn gadael allan y ffaith o gyfrifiad.” Ar y gair ffydd yn yr un adnod y mae yn dyweyd — ”Ffydd yw ymddiried; sef, 1. Derbyniad o unrhyw wirionedd mewn llawn ymddiried gyda golwg ar wybodaeth; hyny yw, darbwylliad. 2. Ymroddiad y meddwl mewn llawn ymddiried gyda golwg ar y teimlad. Yma, y mae i’w gymmeryd yn fwyaf neillduol yn yr ystyr olaf; ymddiried yn cael ei roddi ar ras Duw yn Nghrist, yn tawelu y meddw], ac yn ei ryddhau oddi wrth bob euogrwydd — yn enwedig, ymddiried yn angeu iawnol yr Iesu. Gyda hyn, y mae yn gyssylltiedig — nid trwy ystyr (x78) y gair, ond trwy y drychfeddwl o ymddiried diammodol, yr hwn sydd yn cau allan bob eithriad — gostyngeiddrwydd meddwl mewn ymwrthodiad llwyr a phob haeddiant o eiddo dyn ei hun, a chydnabyddiaeth o’i annheilyngdod ei hun, ac o’i angen am waredigaeth.”

D. Nid wyf yn cofio i mi erioed glywed traethu mwy goleu a chynnwysfawr ar drefn cyfiawnhad, ac etto, mewn rhai cyhoeddiadau yn Lloegr, gwelir yr awdwr hwn yn cael ei restru yn yr un dosbarth ag anffyddwyr; tra y mae Paley, ac ysgrifenwyr cyffelyb, yn y rhai nid oes un mymryn o sylwedd yr efengyl, yn cael eu codi i’r cymmylau. Os yw rhai o ysgrif­enwyr yr Almaen yn rhoddi rhy fach o bris ar lythyren y Beibl, onid yw llawer o ysgrifenwyr y wlad hon, wrth ddyrchafu y llythyren, yn aros heb fyned at ysbryd y Beibl? Ac onid yw y rhai sydd yn canmawl yr ysgrif­enwyr olaf hyn, ac ar yr un pryd yn ceisio darostwng y rhai blaenaf, yn dangos trwy hyny eu bod yn gwerthfawrogi y llythyren yn fwy na’r ysbryd. Gwelais ddynion yn Lloegr fwy nag unwaith yn gwneyd ymdrech yn y ffordd hon i greu rhagfarn yn erbyn awdwyr mwy efengylaidd na hwy eu hunain. Beth yw hyn ond dall-bleidiaeth grefyddol, yn gyssylltiedig, fe allai, a gradd o awydd i ddangos eu bod hwythau yn gwybod rhywbeth  am dduwinyddiaeth yr oes? Maddeuwch i mi os wyf yn siarad yn rhy hyf: ond y mae rhagrith ac anonestrwydd o’r fath yma yn annioddefol.

A. Nid ydych yn sefyll mewn angen am faddeuant; o blegid y mae gormod o wir yn yr hyn a ddywedwch: ac os ydych yn gyru yn lled chwyrn, y mae hyny yn esgusodol mewn dyn ieuanc. Y mae rhifedi mawr o’r awdwyr enwocaf mewn duwinyddiaeth yn y wlad hon wedi cyfyngu eu sylw bron yn hollol at y blwch, ac wedi esgeulnso ei gynnwysiad; tra y mae llawer ar y Cyfandir o’r rhai sydd yn fwy dibris o’r blwch, yn gallu myned at y perlau sydd oddi fewn. Ond y ffordd oreu, a’r unig ffordd ddiogel, yn y pwngc hwn etto ydyw uno y ddau ragoriaeth; o blegid os dryllir y blwch, nid oes genym nemawr sicrwydd am gadwraeth ei gynnwysiad. Pe darllenech amryw lyfrau a gyhoeddir y dyddiau hyn, yn y wlad hon ac yn America, caech weled mai anhawdd yw cadw ysbryd y Beibl ar ol colli y llythyren. Y mae yr hen eiriau arferol ganddynt, “negys, ysbryd oliaeth, iawn, cyfiawnhad, ailenedigaeth, sancteiddhad, &c.; ond y maent wedi eu gwaghau o bob gwir ystyr. Wrth ddadleu yn erbyn y llythyren, y maent wedi troi yr ysbryd yn llythyren; ac ar ol yr holl ddyweyd am yr angenrheidrwydd o fyned at yr hyn sydd oddi mewn; erbyn edrych pa beth sydd yno wedi ei adael, nid ydym yn cael ond rhywbeth ymddangosiadol i dwyllo yr anwybodus. Nid yn ei gwisg yn unig, ond hefyd yn ei llais a’i gwvnebpryd y mae Duessa yn alluog i ddynwared Una.

D. Ond yr ydych yn cofio fod gwaith Duessa yn dynwared Una wedi arwain y Red-cross Knight i adael Una am ysbaid o amser, yn ol dysgrifiad (x79) Spenser; ac onid oes berygl i ninnau gamsynied, a gwrthod yr hyn sydd wirionedd yn ysgrifeniadau yr oes hon oddi ar gasineb at yr hyn sydd gyfeiliornus.

A. Gall hyny fod: ac ni ddymunwn ddywedyd dim yn ammharchus am ddynion cyffelyb i Neander a DeWette; y rhai oeddynt, trwy bob cyfeiliornad, yn chwilio am y gwirionedd, ac yn dyfod yn fwy efengylaidd hyd ddiwedd eu hoes. Nid oes un esboniwr yn fwy ymdrechgar nac yn fwy llwyddiannus na De Wette i fyned i mewn i wir ystyr pob adnod; ac nis gall neb gael sail i ddyweyd fod unrhyw ragdyb yn ei rwystro i weled meddwl yr apostol pan yn trin am gyfiawnhâd trwy ffydd.
 
D. Mor bell a hyn, nid oes un rhwystr yn ymddangos ar ein llwybr. Mae yn amlwg fod cyfiawnhad yn codi dyn i gyflwr newydd yn ei berthynas â’r ddeddf, fel y mae y ddeddf yn edrych arno mwyach fel un perffaith gyfiawn; ac y mae mor amlwg fod hyn yn dyfod trwy haeddiant yr Arglwydd Iesu Grist. Ond er i ni ganiatau fod athrawiaeth y cyfiawnhad yn profi yr angenrheidrwydd am haeddiant yn yr iawn, nid yw yn canlyn fod cyfiawnhâd yn profi meichnïaeth; o’r hyn lleiaf, nid yw hyn etto wedi ei ddangos.

A. Yr ydych yn anghofio ein bod eisoes wedi sylwi fod y drychfeddwl o haeddiant yr iawn yn cynnwys yr egwyddor o feichnïaeth. Er hyny, dichon mai nid anfuddiol fyddai cymmeryd golwg yn fwy neillduol ar feichnïaeth mewn cyssylltiad âg athrawiaeth y cyfiawnhâd. Ac i’r dyben hwn, ni a edrychwn etto yn fanylach pa beth yw cyfiawnhâd; “Megys y mae Dafydd hefyd yn dadgan dedwyddwch y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo heb weithredoedd, gan ddywedyd, Dedwydd yw y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau, a’r rhai y cuddiwyd eu pechodau. Ded­wydd yw y gw^r nid yw yr Arglwydd yn cyfrif pechod iddo; “Rhuf. iv. 6-8. “Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw?  Duw yw yr hwn sydd yn cyfiawnhau; pwy yw yr hwn sydd yn damnio?” Rhuf. viii. 33,34. “Sef, bod Duw yn Nghrist yn cymmodi y byd âg ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau;” 2 Cor. v. 19. Mae yn eglur mai nid maddeuant yw y cwbl y sonir am dano yn yr adnodau hyn. Y mae yma guddio pechod, a pheidio cyfrif pechod, a chodi y pechadur i gyflwr na bydd gan neb ddim i’w roddi yn ei erbyn. Y mae maddeuant yn golygu gweithredoedd y pechadur, a chyfiawnhâd yn golygu ei berson; ond am nas gellir gwahanu y weithred oddi wrth y person, ni ddylid gwahanu maddeuant oddi wrth gyfiawnhâd. Yr unig drefn i gadw anghyfnewidioldeb y ddeddf wrth faddeu ydyw trwy gyfiawnhau. Y mae yn rhaid i ddyn gael madd­euant, o blegid y mae wedi pechu; ond y mae yn rhaid ei gyfiawnhau, o blegid y mae y ddeddf yn anghyfnewidiol sanctaidd. Nis gall y ddeddf ollwng  neb yn rhydd a ddygir ger ei bron ond trwy gael prawf ei fod yn (x80) berffaith gyfiawn. Ac nid oes un prawf a ddeil oni bydd yn seiliedig at wirionedd: o blegid nis gall deddf Duw oddef twyll; ac nis gall gyhoeddi yr anghyfiawn yn gyfiawn, mwy na chyhoeddi y cyfiawn yn anghyfiawn. Gan hyny, y mae yn rhaid cael trefn i wneud yr anghyf­iawn yn gyfiawn; nid ei wneud yn gyfiawn egwyddorol, yr hyn yw ailenedigaeth; ond ar yr un pryd, yn gyfiawn wirioneddol o ran cyflwr yn ei berthynas a’r ddeddf, mor gyfiawn a phe buasai heb bechu erioed. Ond pa le y ceir y drefn hon? Pa fodd y gellir cyfiawnhau y troseddwr ar dir cyfiawn?  Nid oes atteb i’w gael ond mewn un llyfr, yn yr hwn “yr eglurwyd cyfiawnder Duw heb y ddeddf, wrth gael tystiolaeth gan y ddeddf a’r prophwydi; sef, cyfiawnder Duw, yr hwn sydd trwy ffydd Iesu Grist i bawb, ac ar bawb a gredant; canys nid oes gwahaniaeth.” Yn y drefn hon y mae y ddeddf, sydd yn gofyn perffeithrwydd, yn cyhoeddi y pechadur yn berffaith gyfiawn, ac o ganlyniad, y mae yn rhaid i ni gredu fod rhyw berthynas mor agos rhwng yr hyn a wnaeth ac a ddioddefodd yr Arglwydd Iesu pan oedd yma ar y ddaear a’r rhai a gredant ynddo, fel y mae eu cyflwr yr un peth gyda golwg ar y ddeddf, o hyny allan, a phe buasent wedi marw yn ei farwolaeth ef, ac wedi adgyfodi yn ei adgyfodiad ef.

D. Yr oeddych yn dyweyd fod y pechadur yn cael ei wneyd yn gyfiawn. Onid cael ei gyfrif yn gyfiawn y mae yn y cyfiawnhâd?

A. Fel hyn y dywed Paul, “O blegid megys trwy anufudd-dod un dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid; felly trwy ufudd-dod un y gwneir llawer yn gyfiawn.” Ac y mae y gair arall yn gryfach etto:— ”Canys yr hwn nid adnabu bechod a wnaeth efe yn bechod drosom ni, fel y’n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef.” Y mae o bwys i ni ddeall fod gweithred fawr y cyfiawnhâd yn codi y pechadur i gyflwr gwirioneddol gyfiawn, er hyny, dylem gofio, fel y sylwai De Wette, nad yw hyn ynddo ei hun yn cynnwys trosglwyddo neu gyfranu anian sanctaidd, er fod yr anian yn sicr o ganlyn.

D. Ond nid ydych yn anfoddlawn i ni ddyweyd ei fod yn cael ei gyfiawnhau trwy gyfrifiad o gyfiawnder Crist?

A. Nac wyf mewn un modd: ac nid oes genyf ddim ychwaith yn erbyn yr ymadrodd arall, “cyfrif yn gyfiawn.” Gobeithaf nad wyf mor hunanol a beio ar eiriau sydd wedi eu cyssegru gan deimladau crefyddol, hyd yn oed pe na byddent i’w cael yn y Beibl: ac y mae i’r ddau ymadrodd a enwyd sail ysgrythyrol yn yr adnod houo, “Megys y mae Dafydd hefyd yn dadgan dedwyddwch y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo.” Y mae yn debygol mai yr ystyr ydyw “cyfrif yn gyfiawn,” ond y mae hyny yn cynnwys cyfrifiad o gyfiawnder Grist. Y mae y gair cyfrifiad yn angenrheidiol er mwyn dangos mai nid trwy ei gyfiawnder ei hun y mae (x81) dyn yn cael ei gyfiawnhau. Er hyny, nid wyf yn foddlawn i aros yn y geiriau gwanaf, heb fyned un amser at y geiriau cryfaf: ac er mor werthfawr yw meddwl fod cyfiawnder, Crist yn cael ei gyfrif i ni, y mae y Beibl yn myned yn mhellach na hyn etto; ac yn dangos am y credinwyr yn Nghrist, eu bod mewn undeb âg ef, fel y cangenau â’r pren, eu bod yn aelodau o’i gorph ef, o’i gnawd ef, ac o’i esgyrn ef. Y mae yr undeb hwn yn bod mewn gwirionedd. Dyma yr achos o gyfiawnhâd; ac o ddiffyg gweled hyn, y mae llawer yn methu gweled cyfiawnhâd yn Efengyl Ioan.
Am fod y credinwyr yn Nghrist, nid oes iddynt ddim damnedigaeth. Y maent yn gyfiawnder Duw am eu bod ynddo ef. Ond os yw yr undeb gweithredol hwn rhyngddynt a Christ yn achos o’u cyfiawnhâd, y mae rhyw achos yn bod, yr hwn sydd yn effeithio i’w dwyn i’r undeb hwn. Yr oeddynt unwaith wedi gadael y gyfundrefn yn yr hon y gosodwyd hwynt gan eu Creawdwr, ac y maent yn awr wedi dychwelyd, ac yn troi yn eu cylchoedd priodol: a’r gofyniad yw, pa un ai sugndyniad yr haul sydd wedi effeithio arnynt hwy, ai eu sugndyniad hwy sydd wedi effeithio ar yr haul. Mewn geiriau ereill, pa un ai o honynt hwy ai o Grist y mae yr undeb gweithredol hwn yn tarddu. Ond y mae cyfiawnhâd trwy ffydd, yn ol ymresymiad Paul, yn rhagdybied cadwedigaeth o ras. Gan hyny, yr oedd rhyw undeb blaenorol yn bod fel achos o’r undeb gweithredol. Yn y cwbl o waith y Creawdwr, yr ydym yn gweled fod yr holl ranau mewn undeb â’u gilydd yn gwneuthur i fyny un cyfanwaith; a pho ddyfnaf y treiddiwn i mewn i hanesyddiaeth y byd, mwyaf eglur yr ymddengys fod yr holl ddygwyddiadau mewn cyssylltiad â’u gilydd fel achosion ac effeithiau, a’r cwbl dan lywodraeth meddwl anfeidrol ddoeth. Ac yn awr, ai yn yr uchaf yn unig o holl weithredoedd Duw y mae yr holl ranau heb fod mewn undeb â’u gilydd? I’r gwrthwyneb, yr ydym yn rhwym o gredu nad yw yr undeb gweithredol rhwng Crist a’r eglwys, yr hwn sydd yn cymmeryd lle mewn rhyw gyfnod arbenig yn hanes pob dyn a gedwir, pan y credo yn y Gwaredwr, ond rhan o ryw un gyfundrefn berffaith, yr hon sydd yn cymmeryd i mewn holl oruchwyliaethau y cyfammod gras, ac i’r hon y mae ffaith fawr yr iawn yn ganolbwynt. Fel hyn, yr oedd Paul yn edrych ar yr holl drefn fel un cyfanwaith annattodol, ac yn gweled marwolaeth Crist drosom fel iawn, a’n marwolaeth ninnau i bechod yn y cyfiawnhâd, mewn undeb â’u gilydd, fel achos ac effaith. Mae yn amlwg mai am ein marwolaeth ni i bechod yn y cyfiawnhâd y mae yn llefaru yn y chweched bennod o’r Epistol at y Rhufeiniaid; o blegid y mae yn ei gymmharu yn gystal ag yn ei gyssylltu â marwolaeth Crist i bechod; ac yn yr ystyr hwn i’r ymadrodd y mae grym yr ymresymiad yn gynnwysedig. Trwy rinwedd marwolaeth Crist yr ydym yn marw i feddiant ac awdurdod pechod yn y cyfiawnhâd, a thrwy (x81) rinwedd ei adgyfodiad ef, fel canlyniad angenrheidiol, yr ydym ninnau yn adgyfodi i fywyd o sancteiddhad: “Canys os gwnaed ni yn gydblanhigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, felly y byddwn i gyffelybiaeth ei adgyfodiad ef: gan wybod hyn, ddarfod croeshoelio ein hen ddyn ni gydag ef, er mwyn dirymu corph pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod. Canys y mae yr hwn a fu farw, wedi ei ryddhau oddi wrth bechod. Ac os buom feirw gyda Christ, yr ydym ni yn credu y byddwn byw hefyd gydag ef; gan wybod nad yw Crist, yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, yn marw mwyach; nad arglwyddiaetha marwolaeth arno mwyach. Canys fel y bu efe farw, efe a fu farw unwaith i bechod: ac fel y mae yn byw, byw y mae i Dduw. Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod; eithr yn fyw i Dduw, yn Nghrist Iesu ein Harglwydd.” Yn yr epistolau diweddaraf a ysgrifenwyd ganddo, y mae yr apostol yn myned i mewn yn mhellach etto i’r mater hwn, ac yn dwyn i’r golwg fwy o’r cyfoeth sydd ynddo. Er mwyn ein galluogi i’w ganlyn mewn rhyw fesur, byddai yn fantais i ni ranu ei ymresymiad yn ddwy ran. Yn  gyntaf, y mae yr apostol yn dysgrifio yr eglwys fel yn Nghrist, cyn i’r amrywiol aelodau o honi gael eu dwyn i undeb âg ef trwy ffydd. Nid oedd modd defnyddio gair cryfach i ddangos yr undeb rhyngddynt âg ef fel eu pen-cyfammodwr a’u cynnrychiolwr; ac yn wir, a llefaru yn fanwl, y mae y gair undeb yn rhy wan; o blegid y maent ynddo ef. Y mae gwahaniaeth pwysig rhwng eu bod ynddo fel eu cynnrychiolwr a’u bod ynddo trwy ffydd: er hyny, y maent ynddo yn wirioneddol, ac nid mewn dull o ymadroddi yn unig, er tragwyddoldeb; y maent ynddo yn yr ystyr uchaf y gallant fod ynddo, cyn iddynt hwy eu hunain ddyfod i fod: “Megys yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad;” Eph. i. 4. Nis gallaf wneuthur yn well na darllen rhan o esboniad Ellicott ar yr adnod hon — ”Ynddo ef nid yw yn lle trwyddo ef, neu iddo ef; ond fel y mae Olshausen yn gywir a dwfn yn ei egluro — ynddo ef, yn Nghrist, fel pen a chynnrychiolwr y ddynoliaeth ysbrydol, megys yr oedd Adda yn gynnrychiolwr y ddynoliaeth naturiol.” Drachefn, “Yn yr hwn y’n dewiswyd hefyd, wedi ein rhagluniaethu yn ol arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gynghor ei ewyllys ei hun;“ Eph. i. 11. Yn ol y Seisoneg, “Yn yr hwn y cawsom etifeddiaeth.” Cyfiawn yw dyweyd fod Howson a Conybeare yn pleidio y cyfieithiad Seisoneg; ond y mae Ellicott yn rhoddi y flaenoriaeth i’r ystyr yn ol y cyfieithiad Cymraeg, “yn yr hwn y’n dewiswyd fel etifeddiaeth;” ac yn deall y geiriau fel yn cyfeirio at yr hyn yw y saint yn Nghrist cyn iddynt ddyfod i fod. Yr wyf yn cyflwyno yr adnod i’ch sylw fel testyn ymchwiliad; ond nid wyf yn adeiladu ar y naill ystyr mwy na’r llall, gan fod gwahaniaeth barn yn ei gylch; ac am hyny, awn (x83) yn mlaen at adnod arall lle nas gall fod un ammheuaeth; “Yr hwn a’n hachubodd ni, ac a’n galwodd a galwedigaeth sanctaidd, nid yn ol ein gweithredoedd ni, ond yn ol ei arfaeth ei hun a’i ras, yr hwn a roddwyd i ni yn Nghrist Iesu cyn dechreu‘r byd;“ 2 Tim. i. 9. Yn ail, Y mae y saint yn derbyn eu bod fel saint yn Nghrist. Ynddo ef y maent yn cael eu cyfiawnhau; ynddo ef y maent yn cael eu haileni; ynddo ef y maent yn derbyn pob bendith ysbrydol; “Er mawl gogoniant ei ras ef, trwy yr hwn y gwnaeth ni yn gymmeradwy yn yr anwylyd; yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau yn ol cyfoeth ei ras ef;” Eph. i. 6, 7. “Eithr Duw, yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, o herwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni, ïe, pan oeddym feirw mewn camweddau, a’n cydfywhaodd ni gyda Christ — trwy ras yr ydych yn gadwedig; — ac a’n cydgyfododd, ac a’n gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd yn Nghrist Iesu;” Eph. ii. 4-6. Nid yw yn hawdd penderfynu at ba amser yn fwyaf neillduol y mae yr apostol yn cyfeirio yn yr adnodau hyn: ond nid yw hyny yn effeithio ar yr ymresymiad; o blegid pa olwg bynag a gymmerir, mae yn rhaid i bawb gydnabod fod yma berthynas mor agos rhwng Crist a’i bobl,fel y mae eu bywhâd hwy yn gynnwysedig yn ei fywhâd ef mor wirioneddol a phe buasai y ddwy ffaith yn gyfamserol. Y maent yn cael eu bywhau gyda Christ, yn cyfodi gyda Christ, ac yn cael eu gosod i eistedd gyda Christ, o blegid fod hyn oll yn cymmeryd lle yn Nghrist Iesu. Undeb bywydol yw yr undeb hwn; ac o ganlyniad, y cyfan sydd yn rhoddi bod i bob rhan, ac nid y rhanau yn rhoddi bod i’r cyfan; megys mai y goeden sydd yn rhoddi bod i’r cangenau, ac nid y cangenau yn rhoddi bod i’r goeden. Ac wrth gymmeryd yr adnodau a grybwyllwyd gyda’u gilydd, yr ydym yn gweled hefyd fod gwraidd yr undeb hwn yn ddyfnach nag amser na lle, er fod yn rhaid iddo gael amser a lle i darddu allan. Ond nis gall darddu allan heb ryw achos digonol; a’r achos hwnw yw marwolaeth yr Arglwydd Iesu Grist. Am iddo ef syrthio i’r ddaear a marw, efe a ddwg ffrwyth lawer.

D. Un o’r effeithiau y mae yr holl ymddyddan yn ei gael ar fy meddwl yw dyfnhau yr argraff o ysbrydoliaeth y Beibl. Y mae y syniad hwn fel rhyw gydgord isel yn swnio oddi tan yr oll a ddywedir. Ac yr wyf erbyn hyn bron meddwl mai y prawf tufewnol wedi y cwbl yw y cadarnaf. Dyma drefn wedi ei dadguddio, yr hon
nis gallasai dyn trwy ei ddoethineb ei hun byth feddwl am dani. Mae yn amlwg mai nid o ddychymyg yr Iuddew y tarddodd; o blegid i’r Iuddewon yr oedd yn dramgwydd: ac y mae mor amlwg mai nid unrhyw Roegwr ymchwilgar a’i cafodd allan; o blegid i’r Groegwyr yr oedd yn ffolineb. Ac etto, yr ydym yn cael mai dyma yr unig drefn sydd yn cyfateb i’r argraffiadau greddfol sydd yn (x84) meddwl pob dyn am ddrwg pechod a’i gyflwr colledig. Heb son dim am ofynion deddf Duw, nid oes un drefn arall yn cyfarfod âg angen dyn, ac yn atteb i ofynion ei gydwybod. Pa beth bynag a ddywed rhai athronwyr, yr ydym yn teimlo fod gwahaniaeth hanfodol rhwng pechod a sancteidd­rwydd. Yr ydym yn teimlo fod pechod yn ddrwg ynddo ei hun, a bod sancteiddrwydd yn dda ynddo ei hun. Yr ydym yn teimlo fod pechod ynddo ei hun yn haeddu cospedigaeth. Y mae gwadu hyn yr un peth a gwadu fod cydwybod mewn dyn. Pan ddarllenaf, neu pan glywaf, am ryw ysgelerder, byddaf yn dymuno i’r troseddwr gael ei gospi, a bydd yn siomedigaeth i mi ddeall ei fod wedi dianc. Mae yn ymddangos i mi fod hwn yn deimlad iachus, wedi ei blanu yma gan y Creawdwr; ac ni fynwn er dim ei newid, er cymmaint o bregethu sydd y dyddiau hyn ar efengyl y triagl, fel y gelwir hi gan Carlyle, yr hon sydd yn gwneyd drwg a da yn un gymmysgfa afiach, yn tosturio wrth y drwgweithredwyr yn fwy nag wrth y tlodion, ac yn ceisio diddymu pob cospedigaethau allan o’r byd. Yr wyf yn siarad yn gryf, o blegid fy mod wedi teimlo niwed oddi wrth yr athrawiaeth hon; ac yr wyf yn credu yn gydwybodol y dylech ysgrifenu yn gyhoeddus yn ei herbyn. Rhyw deimlad triaglaidd o’r fath yma ydyw gwreiddyn y rhan fwyaf o’r gwrthwynebiad a ddangosir y dyddiau hyn yn erbyn yr athrawiaeth o gospedigaeth dragwyddol am bechod, yn erbyn yr amlygiadau o gasineb Duw at bechod yn yr Hen Destament, ac yn erbyn yr iawn fel y mae yn dwyn perthynas a chyfiawnder. Ond fel y dywed Socrates yn y Phædo, fod pleser a phoen fel dau gorff yn cydgyfarfod mewn un pen, fel nas gall y naill fod heb y llall; felly, gyda mwy o briodoldeb, gellir dyweyd fod cariad at sancteiddrwydd a chasineb at bechod yn anwahanol. Y mae casineb diragrith at y  drwg yn ein rhwymo i garu y da; ac y mae cariad diragrith at y da yn ein rhwymo i gasau y drwg. Ac yn awr, os addefir yr egwyddor yma, yr wyf yn methu gweled pa fodd y gellir cau allan y casgliadau yr ydych chwi yn dadleu drostynt. Y mae ein cydwybod yn dyweyd y dylai pechod gael ei gospi; gan hyny, ni buasai un gyfundrefn yn boddloni y gydwybod ond un sydd yn dangos fod y gosp ddyledus wedi ei dioddef gan un arall, yr hwn sydd mewn perthynas mor agos â  ni fel y mae ei ddioddefiadau yn atteb yr un dyben yn ngwyneb egwyddorion cyfiawnder, ac o ganlyniad yn cael yr un effaith, i dawelu y gydwybod a phe buasem wedi dioddef y gosp yn ein personau ein hunain; a’r hwn y mae ein perthynas âg ef yn ein codi i gyflwr perffafth gyfiawn: “Am hyny, gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae genym heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist.” Heddwch cydwybod yn ddiau a feddylir yn y lle hwn; a phe buasai yr esbonwyr yn cofio hyn, ni buasent yn teimlo gwrthwynebiad mor gyffredinol i’r darlleniad yn yr (x85) ysgrif-lyfrau hynaf, “Bydded genym heddwch tuag at Dduw.” Fel yr ydych wedi sylwi, nis gallwn amgyffred y berthynas hon rhwng Crist a’i bobl; ond y mae hyn yn profi mai o Dduw y mae y dadguddiad sydd yn dwyn y fath gyfundrefn i’r golwg.

 

A. Yr wyf yn cydfyned o galon â phob gair a ddywedasoch. Ond y mae yn rhaid i mi ddyweyd hefyd fod eich gwrandaw yn peri i mi ofidio o herwydd na buasech yn ymollwng i siarad yn fwy rhydd ac yn fwy helaeth yn ystod yr holl ymddyddan.

D. Nid oedd yn hawdd i mi wneuthur hyny, gan mai yr ymddyddan presennol yn benaf sydd wedi fy ngoleuo am y pethau hyn, ac wedi eu dangos yn y pwysfawredd sydd yn perthyn iddynt. Gobeithiaf na chewch un achos i farnu fy mod, ar ol dechreu, yn myned yn rhy siaradus. Ond yr wyf yn tueddu i feddwl fod yr un egwyddorion i’w gweled mewn cyfreithiau dynol ag sydd yn argraffedig ar gydwybod pob dyn yn bersonol. Mae yn eglur fod pob llywodraeth, cyn y gall fod yn sefydlog, yn rhwym o orphwys ar y moesol yn fwy na’r anianyddol, ar y teimlad o gyfiawnder” yn meddyliau y deiliaid yn fwy nag ar fyddinoedd arfog. Mae yn rhaid hefyd fob pob gorchymyn o eiddo y llywodraeth yn sylfaenedig ar gyfiawn­der, onid e, nis gall sefyll yn hir; ac felly, nid llywodraeth sydd yn creu cyfiawnder, ond cyfiawnder sydd yn creu llywodraeth. Ond nis gall llywodraeth fod heb gospedigaethau am anufudd-dod i’r cyfreithiau; ac y mae yn rhaid i’r cospedigaethau hyn drachefn orphwys ar gyfiawnder. Nid am fod y gyfraith wedi penodi cosp y dylid cospi; ond am y dylid cospi y mae pob cyfraith gyfiawn yn penodi y gosp. Hyd yma, nid oes un anhawsder: ond nid wyf yn gweled mor eglur pa fodd i fyned yn mlaen o hyn allan. Er fod syniadau greddfol yn y meddwl y dylai pechod gael ei gospi, ac er ein bod yn gweled y syniadau hyn wedi eu corphori mewn cyfreithiau gwladol, y mae ynom o’r tu arall ryw deimlad o’r ddyledswydd fawr o faddeugarwch. Fe’n dysgir yn y Testament Newydd yn barhaus i faddeu i ddynion eu camweddau; ac yr ydym hefyd yn gwybod fod maddeuant yn cael ei roddi mewn rhyw amgylchiadau gan lywodraethau gwladol. Gan hyny, nid yw yn rhyfedd fod rhai yn gwrthddadleu mai rhesymol yw credu fod Duw yn maddeu heb iawn.

A. Y mae yn ddyledswydd ddiammheuol arnom faddeu i’n gilydd; ac ni a gymmerwn y ddyledswydd hon yn ei helaethrwydd mwyaf, heb ymofyn yn bresennol i ba raddau y mae maddeuant dynol yn debyg i’r maddeuant dwyfol. Yr ydym yr credu hefyd fod hyn yn brawf o fadd­eugarwch Duw. Ond ar gyfer hyn yr ydym yn dal y gwirionedd arall — y dylai pechod gael ei gospi; ac y mae yn rhaid i ni gredu fod y gwirionedd hwn hefyd yn seiliedig ar ryw briodoledd yn y natur ddwyfol.

 

Mae yn ammheus a yw y cyntaf, ond mae yn sicr fod yr olaf, yn deimlad (x85) greddfol yn meddwl dyn, lle nad oes llywodraeth sefydlog, y mae y gosp yn cael ei gweinyddu yn gyffredin gan bersonau yn eu nodwedd unigol. Ond gan fod hyn yn arwain i annhrefn, a chan fod y gweinyddiad o gosp yn gofyn gallu, y mae dynion yn teimlo yr angen am ryw fath o lywodraeth wladol i amddiffyn eu personau a’u meddiannau, ac i bleidio yr hyn a fernir ganddynt yn gyfiawnder trwy gospi y troseddwyr. Er hyny, fel y sylwasoch, nid llywodraeth yw sylfaen cyfiawnder, ond cyfiawnder yw sylfaen llywodraeth. Yr oedd egwyddorion cyfiawnder yn bod o’r blaen, a dyledswydd y llywodraeth yw gweithredu fel y mae yr egwyddorion hyn yn gofyn. Ond nid oeddych yn llawn mor gywir pan yn dyweyd fod llywodraethau gwladol yn maddeu. Mae yn wir eu bod ar rai achlysuron yn rhoddi yr hyn a elwir ganddynt hwy yn faddeuant; ond y mae y maddeuant hwn yn tybied fod y collfarnedig yn ddieuog, neu fod ei euogrwydd yn ammheus. Y maent hefyd yn maddeu weithiau i rai sydd wedi codi yn erbyn y llywodraeth, pan geir lle i feddwl eu bod yn gweithredu oddi ar egwyddor. Ond y mae maddeu i droseddwr, fel y cyfryw — hyny yw, maddeu yn ystyr priodol y gair — yn beth nad yw yn cael ei olygu fel yn perthyn i un llywodraeth ddaearol, ac yn beth nas gellir ei wneud heb fod hyny yn tueddu, mor bell ag y mae y weithred hono yn cyrhaedd, i ddirymu y gyfraith. Yr ammherffeithrwydd sydd yn anwahanol oddi wrth bob gweinyddiad dynol o gyfiawnder a barodd gadw y gallu maddeuol yn meddiant y llywodraethwyr, fel y gallent unioni y cam pan ddygwyddo i’r dieuog gael ei gollfarnu, ac nid er mwyn iddynt attal y gosp mewn unrhyw amgylchiad pan fyddo hyny yn groes i ofynion cyfiawnder. Dyben a dyledswydd llywodraeth yn ei pherthynas â throsedd yw gweinyddu cosp; ac os yw y llywodraeth yn llywodraeth gyfiawn, y mae pob cosp yn fynegiad o’r hyn sydd yn deimlad greddfol yn mhob creadur rhesymol. Yn awr, dyma ddwy egwyddor, y naill mor bwysig a’r llall. Ar un llaw, dyma y ddyledswydd o faddeu i ddynion eu camweddau, ac ar y llaw arall, dyma y ddyledswydd o gospi y troseddwr. Y maent yn ymddangos yn anghymmodadwy; ac o blegid hyny, y maent yn mysg dynion yn gyffredin wedi eu gwahanu oddi wrth eu gilydd, a’r ddyledswydd o gospi wedi ei throsglwyddo i’r llywodraeth. Ond Duw sydd un;

ac nis gall drosglwyddo gweinyddiad ei gyfiawnder i neb arall. Efe — yr hwn sydd yn llawn maddeugarwch — yw yr hwn sydd hefyd o angenrheidrwydd natur yn cospi am bechod. Y mae yn rhaid, gan hyny, fod rhyw drefn yn bod sydd yn uno gweithrediadau y ddwy egwyddor, yn dwyn trugaredd a chyfiawnder i gydgyfarfod yn yr un weithred. Ond pa fodd y gellir maddeu heb fod hyny yn groes i gyfiawnder, a pha fodd y gellir gweinyddu cyfiawnder gyda golwg ar yr euog heb fod hyny yn cau allan faddeuant, sydd ofyniadau nad oes un atteb i’w gael iddynt ond a roddir (x87) yn y Beibl. Yn y dadguddiad dwyfol yr ydym yn cael y ddwy egwyddor wedi eu huno yn berffaith mewn cyfiawnhâd trwy ffydd. Gan fod yr euog yn cael ei ryddhau; y mae holl faddeugarwch Duw yn cael lle i weithredu tuag ato, ond gan ei fod yn dyfod yn rhydd trwy gael ei gyfiawnhau, y mae y weithred o weinyddiad maddeuant yn weinyddiad cyfiawnder. Pan fyddo y pechadur yn pwyso ar faddeuant heb iawn, y mae yn myned yn erbyn y teimlad cryf sydd yn ei gydwybod y dylai pechod gael ei gospi; ac nis gall lai na bod mewn ofn gwastadol yn yr olwg ar gyfiawnder: ond pan yn gorphwys ar drefn cyfiawnhâd trwy ffydd, gall ofyn yn ddibryder, “Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw i Duw yw yr hwn sydd yn cyfiawnhau.” Nid oes dim tebyg i hyn mewn llywodraethau dynol; ac nis gallasai fod yn y llywodraeth ddwyfol onibai dirgelwch anfeidrol yr iawn. Y mae dynion yn maddeu pan nas gallant gyfiawnhau; a phan y maent yn cyfiawnhau, nid oes le i faddeuant. Ond yn yr iawn, y mae maddeuant a chyfiawnhâd wedi cydgyfarfod. Y mae Duw yn maddeu yn llwyr ac am byth, o blegid ei fod yn cyfiawnhau; ac y mae yn cyfiawnhau yr annuwiol trwy ei wneud yn gymmeradwy yn yr Anwylyd.

 

PENNOD VIII.
D. Un rheswm cryf dros gywirdeb yr athrawiaethau efengylaidd am yr iawn a chyfiawnhâd ydyw, fod yr un gwrthddadleuon yn cael eu dwyn yn eu herbyn ag yr oedd yr apostol yn ragweled a ddygid yn erbyn yr athrawiaeth yr oedd efe yn dadleu drosti; sef, ei bod yn arwain dynion i fyw mewn pechod, fel y byddai i ras amlhau.

A. A’r hyn sydd fwyaf dyeithr ydyw, fod dynion call, y rhai sydd yn proffesu eu bod yn credu y Beibl, yn dwyn yr wrthddadl hon yn mlaen yn barhaus, er fod yr apostol yn dangos mor amlwg mai dyma yr unig athrawiaeth sydd yn tueddu i gael effaith sancteiddiol ar y meddwl.

D. Nis gallaswn lai na  rhyfeddu yn ddiweddar wrth weled dyn mor graff a Hallam yn dangos ei hun yn ffolach na phlentyn wrth geisio barnu athrawiaethau y Diwygiad Protestanaidd. Mae yn syn na buasai synwyr cyffredin, pe na buasai ganddo ddim parch i’r Beibl, yn ei gadw rhag syrthio i gamgymmeriadau mor warthus. A phe na buasai ond yn sylwi ar ffeithiau, gallasai weled mai y gwledydd sydd wedi rhoddi derbyniad i athrawiaethau y Diwygiad yw y rhai mwyaf moesol. Ond mae yn amlwg fod beirniaid yr oes ddiweddaf yn rhy fychain i weled gwir fawredd mewn crefydd na llenyddiaeth. Ni fynai ysgrifenwyr yr Edinburgh Review fod dim barddoniaeth yn ngwaith Wordsworth; ac yr oedd pob peth tebyg (x86) i grefydd efengylaidd yn wrthddrych eu dygasedd a’u dirmyg mwyaf. Yr oeddynt yn edrych ar ddynolryw fel peiriannau yn gweithio yn ol rheolau digyfnewid, ac am hyny, nid oedd lle i’r gallu bywydol yn eu holl gyfundraeth. I’r ysgol hon, mi feddyliwn, yr oedd Hallam yn perthyn. Ac y mae yr un ysbryd i’w ganfod yn ysgrifeniadau Syr William Hamilton; yr hwn sydd yn dangos gelyniaeth at Luther ar bob cyfle. Byddaf bron meddwl weithiau nas gall neb ddeall gwir fawredd heb fod ynddo gryn lawer o’r bardd. O’r hyn lleiaf, yr wyf wedi sylwi fod yr holl awdwyr sydd yn alluog i gydymdeimlo â bywyd yn arddangos graddau helaeth o’r ysbryd barddonol yn eu hysgrifeniadau.

A. Nid wyf yn gwybod cymmaint am yr ysbryd barddonol yr ydych yn son am dano; ond mewn perthynas i Hallam a’r Edinburgh Review, y mae eich sylwadau yn berffaith gywir. Ar yr un pryd, wrth son am feirniaid yr oes a aeth heibio, dylasech wneud eithriadau. Yr oedd y deyrnas hon yn myned yn ddyfnach o hyd mewn anffyddiaeth a dideimladrwydd hyd ddechreu y Diwygiad Methodistaidd; ac wrth ddyweyd y Diwygiad Methodistaidd, nid wyf am ei gyfyngu i unrhyw blaid, neu bleidiau neillduol. Cyrhaeddodd y diwygiad hwn yn fuan i blith rhai o fawrion y deyrnas; ond er i Cowper, yr hwn oedd fardd o wir athrylith, ddyfod allan i’w bleidio, bu y byd llenyddol am hir amser naill ai yn edrych i lawr arno gyda dirmyg, neu yn cymmeryd arno beidio ei weled. Y cyntaf a orchfygodd ragfarn y byd llenyddol, ac a dynodd sylw meddylwyr yr oes at athrawiaethau efengylaidd, oedd Coleridge; ac yn awr, er’s llawer blwyddyn, mae yr Edinburgh Review yn talu gwarogaeth iddynt. Er hyny, nid llawer o ymddiried sydd i’w roddi, fel rheol gyffredin, mewn llenorion nac athronwyr, mwy nag mewn tywysogion.
I lawr, ac nid i fyny, y mae gwreiddiau gwir grefydd.

D. Ond y mae yn foddhad i ni weled y meddyliau mwyaf yn mhob oes yn ymostwng i’r Beibl. Neu, fe allai, mai nid “ymostwng” a ddylaswn ddyweyd, gan y gall y meddyliau uchaf fyned i mewn i ystafelloedd yr Ysgrythyrau heb blygu. Ac er hyny, y mae y Beibl ei hun yn son am ostyngeiddrwydd fel cymmhwysder anhebgorol.

A. Y mae yn gymmhwysder anhebgorol i bawb; ac nid i’r meddyliau cryfaf yn fwy nag i’r meddyliau gwanaf. Ond gan fod llawer etto yn gwrthod y Beibl yn gyfangwbl, ni a edrychwn am ychydig pa lwybr arall a ellir gael i wella y byd. Yr ydym yn gadael yr iawn, a holl gynnwys y Beibl, allan o ystyriaeth; ac yn cyfarfod â hwy ar eu tir eu hunain. Y mae pawb yn cyduno â ni am bwysfawrogrwydd y mater yr ydym yn awr wedi dyfod ato. Nid yw pawb yn cydnabod yr angenrheidrwydd am gyfiawnhâd; ond y mae pawb yn caniatau fod y byd yn ddrwg, ac y dylid gwneyd rbywbeth tuag at ei wella. Hwyrach, y byddai rhai yn anfoddlawn (x89) i alw y gwelliant hwn yn sancteiddhad, ond  nid awn i ddadleu yn nghylch geiriau; ac am hyny, ni a ddywedwn fod eisieu dyrchafu, neu goethi, neu adnewyddu, y natur ddynol. Dyma ni oll wedi cyfarfod gyda’r un amcan, ac yn myned i ddechreu ar yr un gorchwyl; a chan fod y pwngc yn awr yn cael ei ddwyn i brawf ymarferol, ni bydd mor anhawdd gweled pa gynllun yw y goreu. Y gofyniad yw, Pa feddyginiaeth yw y fwyaf effeithiol i wella y byd? Addefir gan bawb ei fod wedi dirywio, neu o leiaf ei fod etto yn mhell oddi wrth yr hyn a ddylai fod; a thestyn ein hymchwiliad ydyw y ffordd i’w ddiwygio. Gadewch i ni edrych ar y gwahanol gynlluniau a gynnygir gan wahanol ddosbarthiadau. Y mae gan rai gred fawr mewn cyfreithiau gwladol. Meddyliant am ddarostwng pob drwg trwy rym cyfraith. Dyma deimlad cyffredin y rhai sydd am ddiwygio y byd ar y Cyfandir, ac y mae llawer o’r un ysbryd yn y wlad hon. Beth a feddyliech chwi am gyfreithiau gwladol fel moddion i ddiwygio y byd?

 

D. Gan fod a fynom â rhai nad ydynt yn derbyn y Beibl, fe allai mai ofer fyddai sylwi fod deddf berffaith wedi methu diwygio y genedl Iuddewig. Ond gallwn gael profion i’r un perwyl yn ein gwlad ein hunain. Wrth ddarllen hanes Prydain, canfyddir fod cyfreithiau wedi methu gwella y bobl,hyd yn oed yn eu hamgylchiadau bydol; a chydnabyddir yn lled gyffredin erbyn hyn mai goreu po leiaf yr ymyro y llywodraeth âg amgylchiadau y deiliaid. Y mae angen a chyflenwad yn cyfarfod eu gilydd yn naturiol, a phan elo y llywodraeth i geisio rheoli y prisiau, nid yw yn gwneyd dim ond creu dyryswch a rhwystr. Ac os yw yn methu mewn peth mor fychan a hyn, pa fodd y gall ddysgwyl llwyddiant wrth geisio gwneyd trefn ar feddyliau dynion? Ac heb law hyny, os yw y llywodraethwyr yn myned i wella y deiliaid, pwy sydd i wella y llywodraethwyr?

A. Y mae yn rhaid i chwi aros yn hir, os aroswch am atteb. Ond fe allai fod un gair yn angenrheidiol fel chwanegiad. Nid oes dim yn fwy sicr na bod cyfreithiau yn aneffeithiol i wella amgylchiadau y bobl, ac etto, nid ydym i gasglu oddi wrth hyny nad oes gan bersonau lawer i’w wneuthur tuag at gynnorthwyo eu cymmydogion gyda golwg ar amgylchiadau bydol. Dyma lle y mae y ddwy ochr yn camgymmeryd: un trwy ymdrechu am gyfraith i reoli pob amgylchiad, a’r llall trwy ddadleu dros adael pawb i ymladd drostynt eu hunain. Er mai ychydig a all cyfraith ei wneuthur, gall personau unigol trwy eu hymdrechion roddi gwedd newydd ar yr ardal y maent yn byw ynddi. Y mae mwy o allu yn meddwl un dyn nag sydd yn holl gyfreithiau y byd. Ond gan na fynwch y gyfraith wladol, gadewch i ni chwilio am ryw gynllun arall. Y mae llawer o gynhwrf y dyddiau hyn gydag addysg dymmorol. Beth pe gellid, (x90)

 

Ar y gweill gennym: tudalennau

090-123, 677-701 heb eu gwneud eto

 

 

 

...................................
  

Adolygiad diweddaraf  2009-12-02, 08 11 2002

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ ə

Fformat 100 chwith, 200 de


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) äm ai? Yüu äa(r) vízïting ə peij fröm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA
 


 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats