http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_077_william_tomos_benja_2218k.htm
0001z Y Tudalen Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina
|
Gwefan Cymru-Catalonia |
|
Ein nodiadau ninnau mewn llythyrennau oren.
Enwau lleoedd yn y testun: Ty^-cam (“Tycam”), Aber-lan (“Aberlan”), Garreg-lwyd
(“Garreglwyd”), Maes-teg (“Maesteg”), Capel Gwyn, Bryn Seion, Glan-rhyd
(“Glanrhyd”), Tonyrefail, Llan-twd (“Llantood”)
Tudalennau gwreiddiol y llyfr wedi eu dynodi felly: (x3), (x22), (x40) ayyb
William Tomos Benja
Cymeriad Hynod a Adwaenawn
Gan J. James, Tylorstown.
Pris, Chwe’ Cheiniog.
W. T. Maddock a’i Gyf., Argraffwyr,
________________________________________
(enw’r cyn-berchennog: Emyr Lloyd Davies, Tan-y-bryn (“Tanybryn”), Llannefydd)
William Tomos Benja
Cymeriad Hynod a Adwaenawn
Gan J. James, Tylorstown.
Pris, Chwe’ Cheiniog.
W. T. Maddock a’i Gyf., Argraffwyr,
_____________________________________________
(x3) RHAGARWEINIAD.
Er na cheir cynifer a dau o bersonau ar wyneb y ddaear yn hollol yr un fath,
mewn na chorph na meddwl, eto y mae dynion, er yn amrywio fel hyn, yn meddu
llawer iawn o debygolrwydd. Hynod mor debyg ydym i’n gilydd. Yr ydym yn meddwl,
yn teimlo, yn siarad, ac yn ymddwyn, er nad yn hollol yr un modd, eto, yn hynod
o debyg i’n gilydd. Canfyddir digon o amrywiaeth yn ein plith, mae’n wir, ond
canfyddir, hefyd, gryn lawer o debygolrwydd. Gellir bod am gryn amser,
weithiau, yn nghanol torf o bobl, ie, yn nghanol llifeiriant o bobl, ac
ymddiddan a dal cymdeithas ag amryw ohonynt, heb i neb ohonynt i hoelio ein
sylw, na chynhyrfu ein cywreinrwydd, gan mor debyg ydyw pawb i’w gilydd. Ond,
wrth symud o fàn i fàn, a chymdeithasu â llawer, cyfarfyddir yn awr ac eilwaith
ag ambell un heb fod yn debyg i neb, na neb yn debyg iddo yntau. Un yn sefyll yn
hollol ar ei ben ei hun. Rhyw wreiddioldeb ac anghynredinedd yn perthyn iddo,
nes gwneud i bawb o’i gwmpas i dalu sylw arbenig iddo. Pryd bynag y cyfarfyddir
ag un o’r desgrifiad uchod, gellir yn briodol iawn ei alw yn “gymeriad hynod.”
(x4) Gwelsom ambell un cyn yma yn treio
gwneud ei
Nid ydym wedi ymgymeryd a rhoddi hanes manwl o’i fywyd; ond ein hamcan ydyw
rhoddi engreifftiau o hono yn ei wahanol gysylltiadau - fel dyn, fel amaethwr,
fel penteulu, fel crefyddwr, ac fel diacon. Credwn y caiff y darllenydd yn yr
engreifftiau hyn, olwg weddol gyflawn
(x5) EI ENW.
Rhaid olrhain yr enw triphlyg, wrth ba un yr adwaenid ein gwron, yn ol i’w
dadcu. Enw priodol ei dadcu ydoedd Benjamin Williams; ond nid wrth yr enw hwnw yr
adnabyddid ei gan drigolion yr ardal. Cysylltent hwy y ffermdy lle y
preswyliai, a dwy ran o dair o’i enw cyntaf, a galwent ef yn Benja Tycam. Enw
cyntaf ei fab, sef tad ein gwron, ydoedd Tomos, a gelwid ef yn Tomos Benja
Tycam. Yn yr un ffermdy y ganwyd ac y magwyd ei wyr yntau, ac yno y treuliodd
ei oes. Ond, gan ei fod ef yn gwisgo enwau ei dad a’i dadcu, gyda ei enw ei
hun, yr oedd digon o arbenigrwydd yn yr enw triphlyg hwn, fel nad oedd angen
cysylitu Tycam ag ef fel y gwnaed ag enwau ei dadcu a’i dad. Felly, adnabyddid
ein gwron gan bawb o’r ardalwyr, yn hen ac yn ieuanc, yn mhell ac yn agos, wrth
yr enw triphlyg - WILLIAM TOMOS BENJA.
(x6) EI HYNODRWYDD.
Pe gofynid i ni yn mha beth y deuai ei hynodrwydd i’r golwg amlycaf, anhawdd
fyddai ateb, oblegyd yr oedd yn hynod i gyd, ac yn mhob peth - yn ei edrychiad,
ei gerddediad, ei wisg, ei ymadroddion, ac yr oedd hyd yn nod ei lais yn hynod.
Yr oedd ei arabedd a’i ffraethineb braidd yn ddiderfyn, a’i atebion parod,
ffraeth, a phwrpasol i bawb, yn ddiguro. Yr oedd yn rhagori yn hyn ar neb a
adnabuasom erioed. Yr oedd, hefyd, yn orlawn o ddireidi diniwed, a gwnaeth
lawer o driciau ysmala â rhai, er dirfawr les iddynt, fel y cawn weled. Ni
byddai na gwisg, na gradd, na sefyllfa neb yn effeithio dim
Yr oedd yn hynod o ddirodres a di-seremoni gyda phob peth, a chas oedd ganddo
bob ffwdan a thrafferth di-alw am danynt Meddai ar (x7)
annibyniaeth meddwl a barn, yn nghyd a digon o wroldeb i weithredu yn unol â
hyny.
Ni phetrusai dori ar draws llawer o hen arferion a ystyriai yn ddiangenrhaid a
disynwyr. Yr oedd tua hanner cant oed y cof cyntaf sydd genym am dano, ac,
oblegyd ei fod yn dweyd, ac yn gweud, pob peth mor ryfedd, byddem yn tori i
siarad ag ef bob cyfle a gawsem, a chawsom lawer o ddifyrwch diniwed yn ei
gymdeithas, a gwell na hyny, cawsom lawer o lês i feddwl ac yspryd. Er ei fod
yn ganol oed, fel y crybwyllwyd, pan yr adnabuasom ef gyntaf, eto, trwy ymholi,
cawsom ychydig o’i hanes pad oedd yn llanc ieuanc.
Felly, ni arhoswn am ychydig, cyn myned yn mhellach, yn nghwmpeini - WILLIAM Y
LLANC.
(x8)
WILLIAM Y LLANC
“Yn awr, William,” ebe ’i dad wrtho rhyw ddiwrnod, “’r wyt ti wedi bod yn dilyn
yr ysgol yn ddigon hir, bellach, a ’dwyt ti’n dysgu dim yno.” Dichon fod ei dad
yn lled agos i’w le, oblegyd ni wyddai plant yr oes hono ddim am fanteision
addysg y dyddiau presenol.
Y qualified man i fod yn ysgolfeistr
y pryd hwnw oedd rhyw hen filwr, wedi colli aelod; neu, ynte, ryw un wedi ei
eni â diffyg ar un o’i aelodau, ac na fedrai ei rieni wneud dim arall o hono.
Ac nid oedd y qualified men hyn yn
ofalus iawn am ddim ond am gyflawm gorchymyn Solomon i’r llythyren at bob
dysgybl, sef “Cur ef â gwialen.” Cafodd William ran pur dda o’r oruchwyliaeth
hono. Wedi bod yn droseddwr gwaeth nag arfer ryw dro, cydiodd yr hen
ysgolfeistr yn ei goler, a chan ei ysgwyd dipyn arw, dywedodd, “Edrych yma,
fachgen, ’r wy’n credu’n wir fod y cythraul ei
_______
“Wel, ’does dim myned i’r ysgol i fod mwyach, rhaid i ti ddechreu meddwl am
-wneud rhywbeth,” ebe ei dad wrtho ryw fore. A’r gorchwyl cyntaf y cafodd
William orchymyn i’w gyflawni oedd olwyno pentwr o gerryg allan o’r cae i yrnyl
y ffordd, fel ag i fod yn gyfleus i’r ffordd-gyweiriwr pan ddeuai at ei waith.
Ond cafodd y berfa olwyn (wheelbarrow)
lonydd gan y llanc llygadog, oblegyd dyfeisiodd ffordd esmwythach o lawer, a
mwy difyrus. Gosododd targed ar y clawdd yr ochr arall i’r ffordd a gofalodd ei
osod yn y fath fodd fel y buasai pob carreg gawsai ei thaflu ato yn sicr o
ddisgyn i ymyl y ffordd, p’un a fuasai yn taro y nod ai peidio. Yna dechreuodd
daflu carreg ar ol carreg ato; ac yn union deg dyma blant y gymydogaeth, o un i
un wrth fyned tua’r ysgol, yn uno yn y (x10)
gwaith, ac yn fuan yr oedd yno ryw ddau ddwsin ohonynt yn taflu ei chalon, ac
wedi anghono fod ysgol mewn bodolaeth, nes yn fuan iawn yr oedd pob carreg
ohonynt yn gorwedd yn daclus wrth yrnyl y ffordd. Fel yna cyflawnodd y bachgen
ei ddiwrnod gwaith mewn ychydig oriau, gan deimlo yn flin na fuasai yno
ychwaneg o waith taflu, gan gymmaint y difyrwch a gafodd.
_______
Pan aeth William i’r ty rhyw ddiwrnod at ei ginio, gwelodd ar y bwrdd
ddanteithfwyd o’r fath a garai, sef llonaid dysgl fawr o gloron newyddol (new potatoes). Wedi bod yn ymborthi yn
lled hir ar yr hen, a rhei’ny yn y diwedd wedi myned yn lled gryf eu blas, yr
oedd y newydd yn ammeuthyn o’r fath oreu i’r bachgen. Gyda’i fod wedi eistedd
wrth y bwrdd, dyma ei law at un ohonynt, ac o’r golwg a hi, croen a chwbl.
“Aros, aros,” ebe ’i dad wrtho, “aros i ni gael gofyn bendith.” “’S dim (x11) ishe wir, nhad bach,” ebe yntau, “ma’ rhai’n
yn ddigon da heb ofyn bendith arny’ nhw.” Ac erbyn hyny yr oedd y llall o’r
golwg. Rhaid cofio mai yn ei gyflwr natur ’roedd y bachgen hyd yn hyn. Wedi ei
gyfnewidiad, bu yntau yn llawn mor ofalus am, a selog dros, y dyledswyddau
crefyddol yn y teulu ag oedd ei dad.
_______
Yr ochr arall i’r Cwm, ond y’ngolwg cartref William, preswyliai dau fachgen
talgryf; prif ddifyrwch pa rai oedd herw-hela (poaching), ac, oblegyd hyny, cawsant yr enw milgwn gan rywrai
direidus yn yr ardal; ond gwae y neb a’u galwai felly y’nglyw eu mham, yr hon
oedd yn ddynes gref, a ffyrnig ei thymer. Rhyw ddiwrnod, pan oedd William allan
ar ymyl y ffordd, daeth heliwr (sportsman)
heibio mewn ymchwil am filgi ieuanc. Wrth weled y llanc yn y fan hono yn
ddidaro ac hamddenol, meddyliodd y gallasai fod o gynorthwy (x12) iddo. Wedi ychydig o gyfarchiadau, gofynodd
a wyddai efe am ryw ffermwr yn yr ardal ag oedd yn magu milgi, ei fod yn
foddlon rhoddi unrhyw arian am dano. Saethodd i gof y llanc mewn eiliad am y
ddau fachgen a nodwyd, a, chyda gwên ddireidus, cyfeiriodd sylw y boneddwr at y
tŷ oedd yr ochr arall i’r cwm, gan ei hysbysu fod dau filgi braf yn cael
eu mhagu yno, a’i fod yn credu y buasai eu perchen yn foddlon ymadael ag un
ohonynt gyda phleser. Cyfeiriodd yr heliwr ei gamrau tuag yno, gan feddwl yn
sicr ei fod ar gael ei ddymuniad. Canlynai y llanc direidus yntau o hirbell, er
gweled a chlywed y drafodaeth. Gwelai y boneddwr yn cyfarch mam y bechgyn, yr
hon oedd yn ddiwyd yn ysgubo o flaen drws ei thy. Wedi ychydig o siarad, yn
sydyn iawn beth welai y llanc ond yr ysgubell a phenglog yr heliwr druan yn
gymydogion rhy agos iddi fod yn ddymunol iawn
(x13) Cymaint a hyn’a am William y llanc. Yn
fuan wedi hyn bu farw ei dad, a hyny yn dra sydyn. Difrifolodd hyn gryn lawer
ar ei feddwl, ac nid hir y bu cyn iddo ymuno â chrefydd, a bu fyw yn deilwng
o’i broffes, gan droi ei dalent a’i athrylith i ddefnyddioldeb gyda’r achos
goreu.
Yn nesaf ni a gawn olwg
(x14)
YMOFYN AM GYDMAR
BYWYD
Yr oedd ei ddull yn myned o gwmpas y gorchwyl hwn, fel pob peth arall, i olwg y
mwyafrif yn ddull go ryfedd, mae’n ddiau; ac eto, efallai, ei fod y dull goreu
o ddigon.
Y blynyddau cyntaf ar ol claddu ei dad, gorphwysai gofal y fferm yn llwyr ar ei
fam, ac yntau yn gwneud ei oreu i’w chynorthwyo. Ond nid hir y bu William cyn
gallu cymeryd yr arweinyddiaeth i’w law ei hun. Ymddiriedodd ei fam y cwbl i
law ei mhab, ac ymddiriedai yntau y cwbl i’w Feistr Dwyfol; a’r canlyniad oedd,
nid oedd tyddynwr mor llwyddiannus â William Tomos Benja yn yr holl wlad. Ond
daeth y “dyddiau blin, yn y rhai nid oes dim dyddanwch ynddynt,” ar warthaf ei
fam, a meddyliodd yntau mai doeth fuasai iddo yd awr i gael rhyw un i fod yn
ymgeledd gymhwys iddo ei hun, ac i fod yn gysur a chynorthwy i’w fam oedranus
yn hwyrddydd ei hoes.
(x15) Dyn â llygad yn ei ben, fel y dywedir,
ydoedd ein gwron, ac un fedrai ddarllen y natur ddynol yn lled gywir. Am rai
misoedd bu ei gynheddfau cryfion ar lawn waith, ac, o’r diwedd, penderfynodd
pwy oedd i gael y cynyg cyntaf, beth bynag.
Mewn ffermdy bychan yn y gymydogaeth, o’r enw Aberlan, preswyliai teulu hynod o
barchus, ac un ferch o’r enw Nancy, yr hon oedd yn awr yn agos a bod yn ddeugain
oed, ychydig yn ieuengach na William. Yr oedd y teulu hwn yn perthyn i’r eglwys
lle yr oedd ein gwron erbyn hyn yn ddiacon. Cydrhwng hyny, a’r ymdrafodaeth
sydd rhwng amaethwyr a’u gilydd yn yr un gymydogaeth, yr oedd wedi cael pob
mantais i adnabod
Rhyw foreu, yn union ar ol gorphen yr addoliad teuluaidd, yr hwn a gedwid yn
gyson ganddo, dacw William a’i ffon yn ei law yn cychwyn i’w daith (x16) garwriaethol gyntaf. Wedi cyrhaedd y lle, a
churo ar y drws, yn ffortunus iawn pwy ddaeth i ateb ond y foneddiges
etholedig. Croesawodd ef i mewn yn serchus, heb ddychmygu fod ganddo neges mor
bwysig. “Na, na,” meddai yntau, “ddo i ddim i mewn,
Pe buasai hi yn ateb yn nacaol, gwyddom o’r goreu na chawsai hi mo’r ail gynyg,
ond troisai ei gefn arni am byth. Ni roddodd iddo atebiad cadarnhaol ychwaith,
ond gofynodd i’r ymgeisydd difrifol a gawsai hi wythnos o amser i ystyried, ac
felly y bu.
Yn mhen yr wythnos, dacw ein gwron yn drachefn, a mawr oedd y croesaw a gafodd
y tro hwn, a deallodd ar unwaith fod y gwynt yn chwythu (x17) o’i du; ac felly yr oedd, oblegyd cafodd atebiad
cadarnhaol, ac aeth y tro hwn y dyn dedwyddaf yn yr holl wlad.
Yn fuan iawn wele ferch Aberlan yn feistres Tycam, yn ofalus am gysur ei
phriod, ac yn gweini yn dyner ar ei mham-yn-nghyfraith yn ei henaint a’i
llesgedd.
Gan i’r hen wraig a nodir uchod i huno yn yr angau yn fuan wedi hyn, daw yn
naturiol i ni yma i roddi i’r darllenydd olwg ar
(x18)
Ei Annibyniaeth
a’i Wroldeb
yn nglyn â defodau y claddu. Gofynodd ryw un iddo oedd ar ymweliad ag ef, wedi
clywed am yr amgylchiad, paham na byddai yn tynu y lleni (blinds) dros y ffenestri. Gofynai yntau am ei reswm dros eu tynu,
a’r ateb oedd mai hyny oedd yr arferiad. “Wel,” ebe
yntau, “rhaid fod rhyw un wedi cychwyn - wedi gwneud am y tro cyntaf, ac felly
am bob peth sydd wedi dod i arferiad. Ac yn awr dyma finau, d’wedwch, yn peidio
a’u tynu am y tro cyntaf, ac, ond i bawb trwy y wlad i ddilyn fy esiampl, yna,
yn mhen ugain mlynedd, bydd peidio tynu y blinds
dros y ffenestri pan fydd corph marw yn y ty wedi dod yn arferiad, ac yn ol fy
marn i, yn llawer doethach arferiad na’r arferiad presenol. Na, ffrynd bach,
mae y tŷ yn ddigon trymaidd heddyw i mi wedi colli fy anwyl fam, heb dynu
y blinds dros y ffenestri i’w wneud
yn fwy trymaidd.”
(x19) Diwrnod yr angladd cludwyd y corph o’r
ty i’r fynwent heb na chanu, na darllen, na gweddio yn gyhoeddus, a’r unig un
siaradodd ar lan y bedd oedd William ei hun.
Wedi gosod y corph yn y bedd, ac aros am ychydig eiliadau mewn distawrwydd
pruddglwyfus, edrychodd trwy ei ddagrau ar y dorf, a diolchodd iddynt am eu
caredigrwydd yn cyflawni fel hyn y gymwynas olaf i’w anwyl fam.
Nid oedd bugail ar yr eglwys y perthynai efe iddi, ond galwyd gweinidog o’r
ardal i’r angladd, ac er nad oedd i wneud dim yn gyhoeddus, eto gorfodwyd ef i
dderbyn tâl anrhydeddus o law ein gwron; yn un peth am ei fod wedi dod o gryn
bellder, sef rhyw bum milldir ar draed; a pheth arall, wedi iddo ddod a chael
ar ddeall nad oedd i wneud dim, iddo fodloni yn dawel, gan gario allan ewyllys
yr hwn a’i gwahaddodd i’r llythyren.
(x20) Y Sul canlynol yr oedd yn ei le
arferol yn y capel; gwrandawai yn astud ar y bregeth, a chydganai â’r
gynulleidfa, megys y gwnai efe cyn hyny; ond er hyn i gyd, gwelsom lawer
deigryn yn disgyn dros ei ruddiau, yr hyn a brofai nad oedd ei alar yn ddim
llai am ei fod yn uno yn yr addoliad. Pe buasai rhywun arall yn yr ardal yn
ymddwyn fel hyn, cynyrchai lawer o siarad, a beirniadu, a beio, ond nid felly
gyda golwg
Cymeriad rhyfedd oedd William Tomos Benja a phethau rhyfedd ddisgwyliai pawb
oddiwrtho. Diameu genym, hefyd, fod llawer yn edmygu ei wroldeb yn tori ar
draws hen arfenon ag yr oedd pawb yn meddwl cymmaint ohonynt; ac, efallai
llawer cydwybod yn tystio wrth adolygu yr angladd hynod hwnw, mai efe, wedi’r
cyfan, oedd yn iawn.
Bellach, beth am dano gyda’i alwedigaeth
(x21)
FEL AMAETHWR.
Yr oedd yn dra gofalus i gyflawni pob gwaith perthynol i’r fferm yn ei bryd, ac
yr oedd yn weithiwr dyfal a chyson. Ond eto, os byddai eisiau hôl neu hebrwng
pregethwr, neu ryw wasanaeth arall angenrheidiol ar yr achos, byddai y ceffyl
a’r gig bob amser yn barod, hyd yn
nod pe byddai yn nghanol prysurdeb y cynhauaf gwair, neu y cynhauaf Medi.
Dywedai yn aml, “ Rhaid gofalu am yr achos, beth bynag ddaw ohonom.”
Soniasom o’r blaen ei fod yn ymddiriedwr mawr yn ei Dad Nefol, ac felly yr
ydoedd. Cyflawnai bob amser yr hyn a gredai oedd yn iawn, pe byddai ar ei
golled wrth wneud, gan adael y canlyniadau i Dduw.
(x22) Prynodd fuwch mewn ffair unwaith, gan
gredu gair y gwerthwr ei bod yn ddifai, ac yn werth yr arian a ofynai am dani.
A phan yr oedd y wraig yn grwgnach am ei fod wedi rhoddi gormod am dani, dyna
oedd ei ateb, “Fe dd’wedodd y gwr da,
Yr unig fforddi farnu p’un ai gwr da neu gwr drwg ydoedd y gwerthwr hwn, yw
ymofyn sut y trodd y fuwch allan yn ei chartref newydd. Wel, ynte, heb
ymhelaethu, digon yw hysbysu fod William yn y ffair drachefn yn mhen y mis
gyda’r amcan o’i gwerthu, a hyny am y rheswm nad oedd yr un clawdd yn y
gymydogaeth na fedrai hi fyn’d drosto.
(x23) Byddai rhai ffermwyr yn llyfytheirio
rhai fel hyn, ac eraill yn gosod pwysau wrth eu gyddfau; ond ysytyriai Wiliam
hyn yn dipyn o greulondeb â chreadur mud. Yr oedd am wneud cynyg teg i’w
gwerthu yn gyntaf, ac os methai, ni byddai dim i’w wneud wedi hyny ond troi at
y llyfytheirio. Ond mawr y drafferth a gafodd i’w gwerthu, oblegyd rhaid oedd
iddo gael dweyd ei bai wrth bob cynygiwr. Byddai pob prynwr a ddelai heibio yn
gofyn wrth fargeinio, os oedd rhyw fai arni; atebai yntau, “Oes, oes, ffrynd
bach, mae hi fel llawer o bobl yn yr hen fyd yma, yn credu fod gwell byd ar eu
cym’dogion nac sydd arnynt hwy.” Daeth un prynwr heibio, yr hwn, wedi gofyn ei
phris, a sylwi ei bod yn greadur groenus, a estynodd allan ei law dan waeddi,
“t’rawch hi bant.” “Arhoswch fynud, ffrynd bach,” ebe yntau, “cofiwch, ’d oes
yr un clawdd yn y wlad na fedr hi fyned drosto.” “O, dyna hi ar ben,” ebe hwnw,
a ffwrdd ag ef.
Cawsom yr ymdrafodaeth yn fanwl fel hyn o (x24)
enau ei was, yr hwn oedd gydag ef yn y ffair, ac felly yn dyst o’r cwbl.
Gwelodd y gwas yn awr nad oedd fawr obaith y llwyddent i’w gwerthu tra yr oedd
ei feistr yn mynu gwneud yn hysbys i bawb beth oedd y bai oedd arni, ac
anturiodd roddi cynghor iddo. Ond dangosodd ei feistr iddo yn dra buan mai
Cymaint a hyna am dano fel Amaethwr. Yn awr, ni a roddwn ychydig engreiphtiau o
hono yn cyflawni dyledswyddau ei swydd fel Diacon.
(x25)
FEL DIACON.
Gan nad oedd yno fugail, fel y nodasom eisoes, ac i fod cynifer o gymhwysderau
wedi cydgwrdd ynddo yntau, naturiol iawn ydoedd i’r eglwys ei ddewis yn
arweinydd. Ac felly y bu. Syrthiodd yr awenau i’w law yn hynod
esmwyth, a boddhaol i bawb. Yr ydym yn cofio yn dda mor onest a didderbyn wyneb
y cyflawnai bob peth. Gwnai pob peth yn yr eglwys, yr un fath a thu allan i’r
eglwys, yn ei ffordd ei hun, a hono yn ffordd tra hynod, ond braidd bob amser
yn effeithiol er cyrhaedd y diben mewn golwg.
Cawsai y rhai fu yn trefnu y Cyfarfod Gweddi o’i flaen gryn drafferth gyda’r
gwaith, a theimlent ei fod yn orchwyl go anymunol. Yr hyn a’i gwnelai felly
ydoedd anystwythder ac anufudd-dod y rhai a enwid i gymeryd rhan gyhoeddus. Ond
pan (x26) ymaflodd ein gwron yn y gorchwyl,
rhoddodd efe derfyn bythol ar yr anufudd-dod. Ac fel hyn y bu: - Dechreuodd y
cyfarfod ei
(x27) Gweddiodd y tri gydag eneiniad, a
chlywid y gair y “maddeu” yn y gweddiau yn amlach na’r un gair arall. O’r noson hono allan, ni chafodd y
trefnwr ond yr hwylusdod mwyaf. Nid yn unig byddai pawb yn ufuddhau pan elwid
arnynt, ond deuai ambell un yb awr ac eilwaith heb ei alw.
Rhoddwn engraipht o hono fel arweinydd y Seiat, trwy roddi hanes y Seiat ag
sydd wedi aros lwyraf ar y cof.
Pan ddaeth yn amser dechreu, galwodd ar un ag oedd yn arfer bod dipyn yn
hir-wyntog ar ei liniau, fel y canlyn – “Tomos Tomos,” meddai, “dere mla’n i
ddarllen Salm fach, ac yna paid a mynd ‘o’r afon hyd derfynau eithaf y ddaear’
wrth weddio, ond dwed dy neges wrth dy Dad, a dibena.” Yna gwrandawai ar y
plant yn adrodd adnodau, gan eu cynghori fel hyn: - “Glynwch wrth ddysgu (x28) adnodau. Pan yn fachgen cefais ffon yn
anrheg, a chariwn hi genyf i bob ffair, a marchnad, ac ocshiwn; nid am fod ei
hangen arnaf, ond er tori tipyn o style,welwch
ch’i. Wel, mae’r ffon gen i o hyd, dyma hi; ond ’r wy’ yn ei chario hi yn awr
am ei bod yn help i mi. Mae
ei heisiau arnaf yn awr i bwyso arni. Dyna help
fuodd hi i mi i ddod i’r Seiat heno. Felly am yr adnodau yma. Dysgwch gymaint
fedrwch ch’i o adnodau ar eich cof, ta’ech ch’i ddim ond gwneud er mwyn rhagori
ar ei eich gilydd; oblegyd bydd yr hyn a ddysgwch ch’i pan yn blant yn siwr o
aros ar eich cof. Yna, os cewch chi fyw i weld fy oedran i, dyna falch byddwch
chi o honynt.Pan y byddwch ch’i yn pwyso arnynt, ac yn derbyn cynaliaeth mewn
canlyniad, dyna pryd y teimlwch ch’i werth yf hen adnodau anwyl yma.”
Y gwaith nesaf oedd adferu un ag oedd wedi (x29)
cael ei adferu droion o’r blaen. “Wel, Jaci bach,” ebe’r hen arweinydd, “’r wyt
ti am droi dy wyneb yn ol ato ni eto?” “Ydw, ydw,” ebe Jaci, “dyma’r lle
goreu.” “Wel, fe ddylet ti fod yn gwybod,” ebe yntau, “b’le mae’r lle goreu,
p’un ai yn yr eglw’s, neu ma’s o’r eglw’s; waith ’r wyt ti wedi treio pob un
o’r ddau lawer gwaith. Wel, ti gei dy dderbyn yn ol y tro hwn eto; a gâd i hwn
i fod y tro olaf, Jaci. Paid a myn’d eto i hen gomin y cythraul, waith ma’ dy
olwg di heno yn dweyd fod e’ mor llwm â rhos henfeddau.”
Digwyddai fod yn bresenol y noson hono un o’r enw Nic’las, un o grefyddwyr y fits and starts. Dilyn pob cyfarfod heb
golli yr un am rhyw ddaufis, ac yna cadw draw, efallai am dri. Ac meddai yr hen
frawd wrth hwnw, “Mae n dda gen i dy wel’d di, Nic’las, gyda ni yma heno. Garet
ti ddweyd bach?” “Wel na,’does gen i ddim neillduol (x30)
ar fy meddwl,” ebe Nic’las, “ond mi alla ddweyd fod yn dda gen i mod i yma
heno, a mod i’n cael llawer o bleser yn y moddion.”
“Wel, Nic’las bach,” ebe’r hen arweinydd, “mae dy wel’d di yma heno yn peri i
mi feddwl am greadur bach sydd yn talu ymweliad â ni yn y ty yco weithiau, a
dyna lle y bydd e’ am wythnosau yn canu ei chalon hi wrth gefn y tan yn y gegin
yco, ond yn sydyn iawn dyna ni yn ei golli, a dim o’i swn e’ i’w glywed am
wythnosau. Ond ryw noson pan yn eistedd ar yr aelwyd yco, Nancy yn gwau, a
finau yn darllen, a phob peth mor ddistaw a’r bedd, os ’dy’ch ch’i yn y fan,
beth glywsem y tori ar y tawelwch ond yr hen greadur bach, yn ei thiwnio hi mor
fyw ag erio’d. Wyt ti ddim yn meddwl, Nic’las, dy fod ti, a rhyw gwpwl eraill
nad ydynt yma heno, yn rhy debyg iddo? Edrych yma, Nic’las, os wyt ti am ini
gredu yr hyn dd’wedaist ti heno, sef dy fod yn cael pleser yn (x31) y moddion, rhaid i ni dy wel’d ti ynddynt yn
amlach.”
Yna, mae e’n taro ei lygad ar hen wraig, yr hon oedd yn hynod o ffyddlon, ond
dipyn yn dafodrydd, ac oblegyd hyny yn tynu ei hun i helbul rhai gweithiau.
“Wel, Nani fach,” ebe wrthi, “beth sydd ar dy feddwl di, heno?”
“Rhwng Piahiroth a Baalzephon,” ehe Nani, dan siglo, -
....................“Tra bwy’ byw mi gofia’r lle,
.........................Mewn cyfyngder eithaf caled,
....................Gwaeddodd f’enaid tua’r ne’.”
Aros fynud, Nani,” ebe yntau, “mae gryn amser oddiar hyny, ni allwn feddwl.”
“Oes, oes,” ebe hithau, “ond ’r wy’n cofio’r fel ta’i ddo’.”
(x32)“Efallai hyny,” ebe yntau, “ond mi
glywais i dy fod wedi bod mewn cyfyngder lled galed yr wythnos ddiweddaf,
oblegyd ryw stori wael fuost ti yn daenu ar led am wr y Plâs. Arna’ i ofn y
bydd yn rhaid iti fyn’d rhwng Piahiroth a Baalzephon cyn y daw graen arnat ti,
Nani.”
Wedi edrych ar y clock oedd y tu cefn
iddo, galwodd ar ddyn ieuanc, yr hwn oedd ar brawf yn yr eglwys fel ymgeisydd
am y weinidogaeth, “Joseph,” meddai, “mae gyda ni yn mron chwarter awr eto, cyn
ei bod yn amser terfynu; beth ta’n ni yn cael pregeth fach yn awr.” A dyma
Joseph ati hi, gan orphen yn brydlon. Wedi iddo eistedd, gosodai William ei law
ar ei ysgwydd, a dywedai, “Yn wir, dyna ddarn bach tidy anghyffredm. Nid brethyn shop
oedd e Joseph, ie fe?” Plygai y bachgen ei ben, p’un ai oblegyd ei fod yn euog,
neu ynte oblegyd nad oedd wedi deall yr hyn a feddyliai yr hen frawd
llygadgraff. “Os ca brethyn shop
gawod o law,” meddai drachefi “mae e’n tynu (x33)
ato, a daw y linings i’r golwg. Cofia
di, Joseph, mai brethyn gwlad, o waith gartre’, sy’n gwisgo oreu.”
Yr oedd arweinydd y gân yn digwydd bod yn bresenol y noson hono hefyd. Pechod
parod hwnw ydoedd crwydro tipyn yn awr ac eilwaith ar y Sul. Os buasai Cwrdd
Pregethu, neu Gymanfa Ganu, yn rhyw le yn yr ardal, byddai ef yn dra thebyg o
fod yno, gan adael iddynt ymdaro goreu fedrent gyda’r canu gartref. Cafodd
hwnw, druan, gerydd llym gan yr hen frawd, yn y penill a roddodd allan i’w ganu
ar y diwedd - penill yn gorphen gyda’r geiriau hyny: -
.........................“N’ad fi grwydro,
...................“Draw nac yma o fy lle.”
Dyna fe,
.........................“N’ad fi grwydro,
...................“Draw nac yma o fy lle.”
(x34) Felly terfynodd Seiat, neu Gyfeillach
Grefyddol, ddylasai fod mewn gwirionedd yn foddion gras i bawb oedd yn
bresenol.
_______
Rhoddwn yma engraipht neu ddwy ohono fel Cyhoeddwr. Cyflawnai y gorchwyl hwn,
fel pob peth arall, yn ei ddull hynod ei hun. Wedi adnewydd tipyn ar y capel,
penderfynwyd cynnal Cwrdd Agoriadol, a chael dau bregethwr i wasanaethu ar yr
achlysur.
Penodwyd ar yr adeg, a llwyddasant i gael dau weinidog tra rhagorol i’w
gwasanaethu, a’r ddau wedi cael y radd o B A., peth go anghyffredin yr adeg
hyny. Y Sul blaenorol, cyhoeddodd yr hen frawd y cyfarfod pwysig hwn fel y
canlyn: - “Cymer agoriad y capel yma le, cofiwch, dydd Mercher nesaf, diwrnod
ar ol ffair
(x35) Yr oedd ryw son wedi myned ar led am
un o’r aelodau, yr hwn a gadwai dipyn o fasnach, ei fod yn anghofio (?) yn lled
aml i groesi allan hen ddyled ag oedd wedi ei thalu, a gwnelai i rai o’i
gwsmeriaid dalu ddwy waith am yr un nwyddau, os na fyddent wedi bod yn ddigon
gofalus am y receipts.
Myddyliodd y gwr hwn y cawsai dipyn o ddifyrwch ar gost ein gwron, gyda’i ddull
cyflym a Chymreig o gyhoeddi teitlau y brodyr da, ac meddai wrtho, “Fydd dim
raid i ni dalu y pregethwyr fydd yma dydd Mercher.”
“Sut hyny?” gofynai yntau.
“Ond ’wed’soch ch’i fod un yn bia C_______, a’r llall yn bia T_______,” ebe fe,
“ac os ydynt yn berchen ar ddwy dref, nid oes angen arian arnynt ’does bosib.”
Gwelodd yr hen frawd fod gan y siopwr ryw beth i chwareu
Nodasom mai pethau go anghyffredin a phrin oedd y teitlau yr adeg hyny. Drysai
ambel un ohonynt rai o’r hen gyhoeddwyr. Clywsom am gyhoeddiad un ag oedd wedi
cael y radd o Ph.D., wedi dod i law hen gyhoeddwr yn nghanol y wlad. Gwyddai
o’r goreu beth oedd D.D. yn ei arwyddo; ond beth yn y byd oedd diben y ddwy
lythyren hyn oeddynt ar ol enw y gwr parched! Ac wedi bod wrthi yn ddyfal ar
hyd yr oedfa, yn astudio uwch ben y broblem,
o’r diwedd goleuodd arno (?); ac ar y diwedd cyhoeddodd yn hyglyw braf -
“Bydd Parch. _______ yn pregethu yma nos Iau, am saith, a bydd un o’r enw
Phillip Dafis yn (x37) pregethu gydag e’.”
Bu y Doctor galluog yn ffyddlon i’w gyhoeddiad, ond wfft i Phillip Dafis.
Ond rhaid i ni beidio crwydro. Byddai William rai prydiau yn cyhoeddi pwy
fyddai yno yn pregethu am ddau neu dri Sabboth yn mlaen. Byddai yn gwneud hyny
pan y digwyddai dau neu dri o rai go sâl fod yno yn olynol.
Bydd Mr. _______ yma y Sul nesa’, a Mr. _______ y Sul wedi hyny. Ond y Sul ar
ol hyny, sef tair wythnos i heddy, bydd y Parch. J. R., Capel Adda, yma.”
Yr oedd gan J. R. y fath gyfiawnder o ddoniau, fel y gwnai iawn digonol bob tro
y deuai dros lawer o’r rhai diddawn ddeuent yno.
Yr oedd yno aelod o’r enw Jonah, yr hwn oedd yn hoff iawn o ganlyn ar ol
pregethwyr dieithr, fyddent yn dod trwy y wlad, eu canlyn o gapel i gapel, a
hyny am gryn bellder weithiau.
(x38) Rhyw Sabboth cyhoeddai William ddau wr
dieithr o’r Gogledd i fod yno nos dranoeth, sef nos Lun. Cafodd yr hen frawd
gyfle arnynt dipyn cyn amser yr oedfa, a mynodd wybod bl’e oeddynt i fod bob am
yr wythnos.
Ar ddiwedd yr oedfa nos Lun cyhoeddodd “Bydd y ddau wr die’rth yn pregethu nos
yfory yn Capel Gwyn, a nos Fercher yn Bryn Seion, a nos Iau yn Glanrhyd, a nos
Wener - ond dyna,” meddai, gan droi at Jonah, “ti fyddi di wedi blino erbyn
hyny, Jonah, mi gynta.” Welodd neb o Jonah yn dilyn llawer ar bregethwr dieithr
ar ol hyny.
Rhoddai yr eglwys gryn dipyn o ryddid iddi gyda dewis pregethwyr. Gan mai efe
oedd ceidwad y dyddiadur, ymddiriedent gryn lawer i’w ddoethineb gyda golwg ar
roddi cyhoeddiadau i frodyr.
Ond ni chyflawnai y gorchwyl hwn bob amser i foddlonrwydd y frawdoliaeth.
Rhoddai gyhoeddiad yn lled aml i un ag oedd yn hynod o anghymeradwy (x39) gan yr eglwys, ar gyfrif ei amddifadrwydd
o’r doniau a garent hwy. Brawd a adwaenid yn yr ardal wrth yr enw Dafis,
Garreglwyd. Beiddiodd rhai o’r brodyr ddweyd wrtho, nad oedd i roddi cyhoeddiad
i Dafis drachefn, ac addawodd yntau i beidio.
Ond yr anhawsder oedd, beth i wneud a’r Sul ag oedd wedi ei addaw iddo, a’i enw
ar y dyddiadur ar ei gyfer fel sicrwydd ac ernes ohono. Yr oedd yn ormod o
foneddwr i ysgrifenu ato i’w atal; a gwyddai nad gwiw iddo ei gyhoeddi yno
drachefn. Ond nid brawd i gymeryd ei orchfygu gan anhawsderau ydoedd William.
Yn y cyfamser, daeth i wybod rhywfodd neu gilydd, fod Dafis, Garreglwyd,
flynyddau yn flaenorol, wedi bod am ryw gymaint o amser yn
Y Sul blaenorol, cyhoeddodd yn uchel a mawreddog, “I ni’n disgwyl i bregethu
yma y Sul (x40) nesaf, Mr. Davies, gynt o’r
Beth bynag, y Sabbath a ddaeth; a’r gwr dieithr a ddaeth hefyd. Ond rhyfedd y
siomedigaeth. Dyna lle’r oedd llaesu gwefl, a thynu gwyneb. Faint bynag o awydd
oedd arnynt i ddyfod i’r capel i weled a chlywed y gwr dieithr, llawer mwy
awyddus y disgwylient am yr Amen o enau y pregethwr; a phan y daeth, diangodd
ochenaid o arml i galon, fel rhai wedi cael gwaredigaeth lwyr.
Yn awr, y peth nesaf, wrth gwrs, oedd galw yr hen gyhoeddwr i gyfrif, a dyna a
wnawd. Ond, ar ol iddo egluro pethau, yn nglyn ag ymweliad (x41) y brawd o America, yn nghyd a’r Sul oedd
mewn addewid, maddeuwyd iddo gan y frawdoliaeth yn rhwydd a llawen.
Fel yna, trwy fod y tu hwnt o gall a chyfrwys, cadwodd ei addewid i’r
pregethwr, a sicrhaodd gynulleidfa luosog iddo yn y fargen, a gwnaeth y ddau
heb dynu gŵg y frawdoliaeth.
(x42)
DIREIDI ETO.
Yn herwydd ei fod mor onest a didderbynwyneb yn ei ymdriniaeth a’i gyd-ddynion,
tynai ddigofaint ambell un weithiau, a gwnaeth rhai gynyg i ymddial
Tynodd ddigofaint gwraig yn yr ardal, yn herwydd ei lymder tuag at ryw bechod
parod oedd yn perthyn iddi, a phenderfynodd i beidio siarad ag ef. Druan o
honi, nid oedd wedi llwyr adnabod ei chwsmer.
Pan oedd William allan ar ymyl y ffordd ryw foreu, pwy ddigwyddodd fyned
heibio, ond y wraig a nodwyd.
“Boreu da, Matti fach,” ebe fe.
Ond dyna Matti heibio, ac yn ei blaen a hi heb agor ei genau, na chymaint a
throi i edrych
(x43) Yn awr, gan mai ei waith allan ar ymyl
y ffordd ydoedd trwsio clawdd perthynol i’r fferm, yr oedd yno am ryw haner
diwrnod a mwy; ac elai llawer heibio yn ystod yr amser, a phawb yn awyddus am
gael ymgom gyda William. Gofalai yntau ofyn i bob un cyn y byddai yn ymadael,
os ydoedd wedi clywed y newydd am Matti, Tyllwyd.
Na, wrth cwrs, ’doedd neb wedi clywed.
“Pa newydd? Beth sydd? Hawyr bach! Wedi darfod?”
“Na, na,” meddai yntau, “chlywais i mo hyny, ond ’doedd yr un gair o’i genau hi
bore heddy’.”
Cyn yr hwyr yr oedd degau o’r cymydogion wedi bod yn ymweled a Tyllwyd, oblegyd
yr oedd y son am glefyd sydyn Matti wedi cerdded trwy yr holl ardal erbyn hyny,
a synai pawb ei gweled o gwmpas y tŷ gyda’i gorchwylion.
(x44) Wrth gwrs, cafodd y ddynes druan wybod
gan y cyntaf fu yno mai William Tomos Benja oedd wrth wraidd y stori. A dyna
oedd yn ddrwg, fod cymaint o wir ynddi, a rhwng pob peth, teimlai gymaint o
gywilydd a chwithdod, nes bron iddi fyned yn glaf mewn difri’. Gwelodd Matti
mai y cam cyntaf oedd y cam goreu iddi i fyned i siarad â William; oblegyd
William Tomos Benja oedd efe, a neb yn gwybod beth wnelai nesaf. Ac felly y bu,
brysiodd y wraig i Tycam, gan erfyn yn ostyngedig am faddeuant, ac na fuasai hi
byth mor ffol, ond hyny.
“O’r goreu, Matti fach,” ebe yntau, “cofia na wnei di ddim, rhag i’r hwn a
roddodd leferydd i ddyn ei gymeryd yn ol oddiwrthyt am iti ei gamddefnyddio.’’
Felly, aeth Matti tuag adref y noson hono wedi cael gwers nad anghofiodd
weddill ei hoes.
Gwely darllenydd erbyn hyn, mai nid cymeriad hynod yn unig oedd ein gwron, ond,
hefyd, ei fod yn GYMERIAD DA YN OGYSTAL A HYNOD.
(x45)
CYMERIAD DA YN
OGYSTAL A HYNOD.
Gallasai fod yn gymeriad hynod, a bod yn gymeriad drwg. Nid oedd heb ei feiau, wrth
gwrs, oblegyd, fel y dywedodd yr anfarwol Hughes, Maesteg, “Ar ol y cwymp y
ganwyd ef.” Rhaid fod ganddo ei feiau, ond hyn a ddywedwn, anhawdd fyddai i neb
i gael gafael arnynt; ond am ei rinweddau, yr oedd y rhai hyny yn amlwg i bawb.
Ie, ddarllenydd, cymeriad rhagorol ydoedd. Cymeriad pur, gonest, didwyll,
diduedd, a diragrith. Yr ydym wedi bod yn son am dano yn cynghori un, ac yn
ceryddu’r llall, a phawb yn gorfod teimlo fod un cymhwys wrth y gwaith - un na
allasai neb ddweyd wrtho, “Y meddyg, iachâ dy hun.”
(x46) Peth dieffaith iawn yw clywed cymeriad
amheus yn cynghori, ac yn enwedig os bydd yn euog o’r un bai ag y cynghora
arall i ymgadw oddiwrtho.
Clywsom am fachgen o forwr unwaith, yn dychwelyd adref i dalu ymweliad a’i fam;
ac wrth fyned ar hyd yr heol, a phecyn bychan o hen ddillad o dan ei fraich,
pwy ddaeth i’w gyfarfod ond swyddog y doll. Gofynodd gydag awdurdod, beth oedd
ganddo yn y pecyn.
Atebodd y bachgen nad oedd ganddo ddim ond ychydig o hen ddillad.
“Rhaid i mi gael ei agor,” ebe’r swyddog.
“O’r goreu,” ebe’r morwr.
Wedi iddo weled nad oedd ynddo un math o nwyfredyddiaeth (smuggling), rhoddodd ef yn ei ol, ond heb ei glymu.
“Rhaid i mi ei gael yn ol fel y rhoddais ef,” ebe’r morwr; ac yr oedd tipyn o
awdurdod yn ei lais yntau erbyn hyn.
(x47) Gan na wnai y swyddog un sylw o hono,
rhoddodd y bachgen gernod iddo, nes y syrthiodd ei gapan ar yr heol, a beth
ddaeth allan o’r capan, ond smuggling.
Felly, pwy bynag a gymer
Yn awr,pa mor llym bynag y ceryddai William, a chan nad pa mor ymchwilgar am
feiau y byddai yr hwn a geryddid ganddo,
(x48)
BRIWFWYD
GWEDDILL.
Yr oeddem wedi meddwl tynu yr hanes i derfyn yn y fan hyn, ond, wrth i ni
adolygu pethau, cofiasom am ychydig o ddigwyddiadau na ddaethant i’n cof yn
flaenorol, ac “fel na choller dim,” wele hwynt yma.
(x49)
FFRAETHINEB
Clywsom fod
Pan adgofiodd ryw un iddi hi am ei phenderfyniad, ar ol iddi briodi y diacon,
atebodd fel canlyn, -
“Gan mod i wedi bod mor hir cyn cael cynyg ar bregethwr, ’doe’ch ch’i ddim yn
meddwl mod i yn myn’d i wrthod pan ce’s i gynyg ar ei fishtir e’.”
(x50)
WILLIAM FEL
BEIRNIAD.
Yr oedd yn feirniad craffus neillduol. Daliai ar bob peth a deliai yn hollol
deg gyda phob peth.
Adroddai ryw frawd ddarn o bregeth glywodd ar y Sabboth, yn y Gyfeillach ryw
dro, a chanmolai ryw idea wyllt
dd’wedodd y pregethwr, yr hon oedd yn debyg i hyn: “Cyn y collir y credadyn, fe
rydd y Creawdwr yr Hen ddaear yma, yn nghyd a’r holl fydoedd eraill, i gyd ar auction.”
“Mi sylwais inau ar y dywediad, hefyd,” ebe William; “a dyna saethodd i meddwl
i mewn mynud,” ebai, “pwy fuasai yn eu prynu nhw.”
Gofynasom iddo ar ol bod mewn Cwrdd Pregethu ryw dro gydag enwad arall yn ei
gwmni, beth oedd ei farn am y ddau pregethwr.
(x51) “Blodau i gyd oedd gan y cynta’,
fachgen,” meddai,. “dim ond blodau, heb na dail na phorfa, na dim arall.
Pregeth bert oedd hi o’r dechreu i’r diwedd.”
“’Roedd blodau gyda’r llall” hefyd,” meddem wrtho.
“Oedd oedd,” meddai yntau, “ond sylwest ti y gwahaniaeth oedd rhyngddo a’r
llall; ’roedd e’n towli’r cwbwl i ni bendramwnwgl, y dail a’r blodau, a’r
borfa, a’r pridd, a gadel i ni i bigo’r blodau o ganol yr anibendod gore
Rhoddai ddesgrifiad o bregethwr ag oedd yn cael ei ystyried yn lled alluog, fel
y canlyn: - “Pregethwr sâff iawn yw e’,” meddai, “a mishtir ar ’i waith. Mae ’i
Dywedai am un arall - “Tyt, tyt, ffagal cropyn eithyn yw e’; gyd ’ch bod chi’n
dechreu teimlo gwres, dyna fe’n darfod.”.
(x52)
YMBORTH A LLAIS.
Yr oedd genych bregeth ardderchog,” meddai ryw dro wrth bregethwr ieuanc ar
ddiwedd oedfa. “Eich llais ch’i sy’ ar ol. Rhaid i ch’i newid eich bwyd,
machgen i.”
“Dyna lais oedd gan John Herring, a chan Dafi Griffith, Llantood, a chan
William Evans, Tonyrefail. Ond beth oedd eu hymborth ? Bara barlys, a iwd
ceirch, a digon o llaeth enwyn. Ond am danoch chi’r boys ifenc ma sy’n codi’n awr, tê a choffi yw hi yn round about gyda ch’i, a phan ewch ch’i
i dreio gwaeddi, r’y chwi fel gwenyn mewn ’stên. Newidiwch chi’ch bwyd, ’r y’ch
ch’i ’n ifanc eto, a mi ddiffeia i y dewch i waeddi cystal a hwythau. Mae goods ardderchog gyda ch’i, a mi ddylen’
gael eu gwaeddi trwy’r wlad yma nes bydde’r creigiau yn eco.’
(x53)
EI GYFRWYSDRA.
Byddai yn arfer tipyn o gyfrwysdra diniwed yn awr ac eilwaith, fel y byddai
galw. Pan glywai ambell un yn siarad dipyn yn fawreddog ac ymffrostgar, nid hir
y byddai William cyn mynu gwybod beth oedd maint ei wybodaeth, yn enwedig os
mai pregethwr a fyddai; ac i’r amcan hwn arferai ei gyfrwysdra.
Adroddai pregethwr hanesyn wrtho ryw dro, am weithred lled ganmoladwy o eiddo
rhyw wraig.
“Wel, wel,” meddai yntau, “’roedd hono cystal â gwraig Manoah, syr. Beth oedd
enw hono, hefyd? Beth sy’n atal i mi gofio?”
“’Rwyf finau yn ffaelu’n lân a chofio, hefyd,” ebe’r pregethwr, “ac y mae ar
flaen fy nhafod i hefyd,” meddai.
(x54) “Wel, yn wir,” ebe William, “’dyw e’
ddim ar fôn ’y nhafod i, chwaithach ar ei fla’n e’.” Ac edrychai ar y pregethwr
a gwên ddireidus yn chwareu ar ei wyneb.
Mae’n dra thebyg i’r pregethwr hwnw, ar ol iddo gyrhaedd adref, fyned ati i
chwilio yn ei feibl am enw gwraig Manoah, a chael allan er ei syndod nad oedd
wedi ei groniclo yno o gwbl. A chofier nad yw yr engraipht uchod ond un o lawer
o rhai cyffelyb a allasem nodi.
Pwy a wyr na fa tipyn o gyfrwysdra diniwed fel hyn o’i eiddo, yn fendith i
ambell un, trwy ei symbylu i fwy o ddiwydrwydd er eangu ei wybodaeth
ysgrythyrol.
(x55)
DIWEDDGLO.
Diau y gwel y darllenydd, erbyn hyn, fod yr hen gymeriad hynod sydd wedi bod
ger ei fron yn hyn o hanes, yn ddigon o athrylith i allu bod yn fyd-enwog mewn
rhyw gylch neu gilydd. Ond gan na ddaeth i gyffyrddiad a neb, pan oedd yn
ieuanc, ag oedd yn ddigon llygadgraff i ganfod fod ganddo gynheddfau cryfach
na’r cyffredin, neb i’w osod ar ben y ffordd i gael uwch a rhagorach addysg,
na’r hyn oedd y pryd hwnw yn yr ardal wledig lle y magwyd ef, na neb i gynyrchu
yn ei yspryd uchelgais i ymgyrhaedd at ryw nod arbenig, nac i ragori mewn
unrhyw gylch cyhoeddus, o ganlyniad, treuliodd ei fywyd i raddau pell mewn
dinodedd; ond gwasanaethodd ei genhedlaeth yn ei ddydd, gyda diwydrwydd a
ffyddlondeb mawr yn y cylch ag oedd yn troi, ac yn ol y manteision oedd ganddo,
a’r dydd diweddaf yn unig a ddatguddia y daioni a gyflawnodd.
Yn awr, gan ei fod bron yn hollol anadnabyddus y tu allan i’r gymydogaeth lle y
preswyliai, teimlo yr oeddem mai trueni fuasai gadael i’r fath gymeriad hynod,
a’r fath athrylith fawr, ynghyd a’i gynghorion buddiol, a’i ddywediadau
ffraethbert, i aros yn gladdedig o olwg y cyhoedd.
(x56) Hyny, yn benaf, ynghyd a pharch dwfn
i’w goffadwriaeth, barodd i ni fel hyn gosod ger bron y cyhoedd gymaint ag a
fedrem gofio o’i hanes, gan hyderu yn fawr nad ofer fydd ein llafur, ond y bydd
i bawb a’i ddarlleno, nid yn unig i gael llawer o fwynhad, ond hefyd i gael
rhyw gymaint o fudd ac adeiladaeth.
Ac yn awr, wrth gau i fyny hyn o hanes, dymunem argraphu ar feddwl pob
darllenydd ieuanc y pwys o fod yn ddefnyddiol. Y bywyd sydd a gwerth ynddo yw
bywyd o wasanaeth. Am hyny, fy nghyfaill ieuanc, os na elli fod yn hynod, ac yn
athrylithgar, fel yr hen gymeriad sydd wedi bod dan sylw, ti elli fod yn
gymeriad o’r fath ddefnyddioldeb a gwasanaeth, ag y teimla yr achos goreu yn y
gymydogaeth lle y preswyli, yn nghyd a’r ardal yn gyffredinol, golled nid
bychan ar dy ol.
“Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig;
ond enw y drygionus a bydra.”
DIWEDD.
Adolygiadau
diweddaraf: 2003-01-14
Sumbolau
arbennig: ŵ ŷ
Fformat 100 chwith, 200 de
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o
dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the
“CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu
les estadístiques / View My Stats