2336k Gwefan Cymru-Catalonia. Gwilym a a Benni Bach. Ffug-Chwedl gan William Llewelyn Williams (1867-1922) 1894

 

http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_testunau/sion_prys_079_gwilym_a_benni_bach_01_2336k.htm



0001z Yr Hafan / Home Page

..........
1864k Y Fynedfa yn Gymraeg

.....................
0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

.............................................2335k Cyfeirddalen "Gwilym a Benni Bach"

.............................................................y tudalen hwn

 

baneri
..

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
 
Cywaith Siôn Prys Aberhonddu
(Casgliad Arlein o Destunau Cymraeg)
“Llond y We o Lên y Brython

Gwilym a Benni Bach
Ffug-Chwedl gan William Llewelyn Williams (1867-1922)
1894


Tudalennau 0-24

map o gymru a'r gwledydd catalaneg (map_cymru_pc_drenewydd_050112)

Adolygiadau diweddaraf:
Dÿdd Mawrth 2005-11-20

 
Mae’r sylwadau sydd wedi eu hychwanegu gennym mewn llythrennau oren.

 

__________________________________________________________________________

 

AR Y GWEILL GENNYM:

Ceir delw o dudalen ac oddi tani yr un testun mewn teip electronig.

Mae’r llyfr i gyd ar gael yma mewn delwau. I’w teipio: tudalennau 6-104

 

:.....

(x1) GWILYM A BENNI BACH.

Ffug-Chwedl

GAN W. LLEWELYN WILLIAMS.

Gwrecsam: ARGRAFFWYD GAN HUGHES AND SON, HOPE STREET:

 

 

(x2) Tudalen wag

 

(x3)

GWILYM A BENNI BACH.

 

PENOD I.

GWILYM A BENNI BACH.

 

Yr wyf yn cofio fel ddoe y tro cyntaf y gwelais Gwilym a Benni Bach, er fod blynyddau oddi ar hyny, erbyn heddyw. Teir-blwydd oed oedd Gwilym ar y pryd, ac yr oedd Benni Bacli flwydd yn iau. Cerdded yr oeddwn, ar ddiwrnod teg yn yr haf, o stesion Llanelwid i Blas Newydd, lle’r oedd fy chwaer yn byw. Gwyddwn fod Henri fy mrawd-yng-nghyfraith ynghanol y cynauaf gwair, ac nid oeddwn am iddo ddanfon ceffyl i gyfarfod â’r trên ar amser mor stresol. Ac felly, nid oeddwn wedi ynganu gair wrtho pwy awr o’r dydd y cyrhaeddwn Llanelwid; ond yn unig y buaswn ym Mhlas Newydd rywbryd dydd Sadwrn. Hawdd ddigon oedd cael gafael yn y ffordd i’r Plas. Yr oedd yr heol fawr yn rhedeg heibio i’r ty, ac nid oedd dim i wneyd ond ei dilyn, ac er nad oeddwn yn gyfarwydd iawn â’r ardal, deuais i odrau’r heol fach sydd yn arwain i glôs Plas Newydd, heb un anhap na chamsynied.

 

Ar waelod yr heol safai dau blentyn. Nis gwyddwn yn siwr p’un a’i merched bach neu fechgyn oeddynt; oblegid yr oedd gwallt y ddau yn hir ac yn gyrliog; ac yr oeddynt wedi eu gwisgo mewn ffroc a phais fach. Yr oedd yr henaf o’r ddau yn cydio yn llaw y llall, ac yn dangos yn eglur ei fod yn barod i’w amddiffyn rhag bob cam. Er na welais hwynt erioed o’r blaen, gwyddwn ar unwaith mai plant fy chwaer oeddynt, sef Gwilym a Benni Bach. Yr oedd gwallt cydynog modrwyog y ddau mor euraidd a’r fanadl; ond tra (x4) yr oedd llygaid du chwimwth ei dad gan Gwilym, yr oedd dan lygad ei fam gan Benni Bach, mor lased a’r cenin eu lliw, a dyfnder ynddynt fel pe tae’ch yn edrych i’r nefoedd fry.

 

Arosais am fynud heb ddweyd gair, yn edrych. ar y ddau fychan yn sefyll law yn llaw ar ganol yr heol. Yr oeddynt hwythau yn syllu arnaf finau, y gwr dieithr, ac yn amlwg ddigon yn. petruso beth i wneyd. Ond ym mhen eiliad dyma Gwilym yn rhoddi plwc i Benni Bach ac yn gofyn, gan edrych yn syth yn fy ngwyneb,

 

‘ **’Nwncwl Abartawe **’ych chi, ie fe?’

 

‘Wel,’ meddwn inau, gan chwerthin, ‘mae’n rhaid i fi gael gw’bod yn gynta’ pwy **’ych chi’ch dou?’

 

‘Plant Plas Newydd y’n ni,’ meddai Gwilym, ‘a mae mami wedi gweyd wrtho ni am sefyll man hyn i **’weyd wrth **’nwncwl am fyn’d lan i’r ty drwy’r hewl fach.’

 

‘O dir,’ meddwn inau, ‘a shwd **’ych chi’n meddwl mai fi yw’ch **’nwncwl?’

 

‘Ro’dd mami’n gweyd y byse **’nwncwl yn siwr o aros i **’ddryched arno’ ni, wath **’ro’dd e’n wastod yn ffond o blant,’ meddai Gwilym.

 

Brysiais i newid yr ymadrodd. ‘A pheth yw’ch enw chi, **’nte?’ meddwn.

 

‘Gwilym yw’n enw reit i, ond mae tyta’n ngalw i yn Wil, weithe,’ meddai’r gwr bach.

 

Yr oedd yr un bach lleiaf wedi bod yn aros yn fud hyd yn hyn, heb dynu ei lygaid oddiarnaf fi, ond wrth glywed ei frawd yn siarad mor rhugl, dyma yntau yn dechreu cymeryd calon.

 

‘A—a—a —a—’ meddai, gan fethu, yn ei awydd i siarad, a dyfod a’r geiriau allan, ‘a—a—a—a—Benni Bach yw’n enw ine.’

 

‘Wel, wel, o’s cusan i **’nwncwl?’ meddwn, gan blygu a gostwng fy mhen.

 

 

(x5) Yr oedd y ddau yn disgwyl y gofyniad. Gyda’r gair dyma Gwilym yn tynu cadach o’i boced ac yn sychu gwefusau Benni Bach, ac yn dweyd wrtho, fel, mae’n sicr, y clywodd ei fam yn dweyd lawer gwaith o’r blaen, 

 

‘Nawr, Benni bach, cusan neis i **’nwncwl.’ 

 

‘Cusan neis i **’nwncwl,’ adleisiai Benni Bach, gan droi ei wyneb i fyny. 

 

Ac yna codais y ddau yn fy mreichiau. ac wrth en cario tua’r ty, cefais wybod holl hanes y ffarm i gyd, — ffordd yr oedd y lloi i gyd yn y Cae Bach, a’r ebolion yn Rhandir Cae Mawr, a’r gwartheg yn y Ddôl-dan-ty, a bod tyta gyda’r gwasanaeth-ddynion yn cywain gwair o Gors Ganol, a bod y ddau dy gwair wedi eu llanw, ac y byddai’r cynhauaf ar ben gyda’r nos. Cefais wybod, hefyd, enwau’r ceffylau i gyd, set Duchess a Lester, a Jolly, a Yentin, a Black, a’r ddwy boni, Bess a Silver; ac enwau’r gwasanaeth-ddyniou. Ond treuliwyd y rhan fwyaf o’r amser yn siarad am Tom y Waginer, oblegid ni fu erioed y fath wron ag ef, gallwn feddwl. Yr oedd yn gallu gyru wagen i’r calch a phedwar o geffylau ynddi. 

 

‘A mae e’n myn’d lawr y Mynydd Ddu fel y tân,’ meddai Gwilym. 

 

‘Odi,’ meddai Benni Bach, ‘mae e’n myn’d fel y tan pô’th.’ 

 

‘A mae e’n ffysto waginer Cwmbrân o hewl,’ meddai Gwilym. 

 

‘Odi, o hewl,’ meddai Benni Bach. 

 

‘A fe gas y preis yn y preimin,’ meddai Gwilym, ‘a mae gyda fe slash yn **’i whip gyment a hyna,’ — gan estyn ei fraich led y pen. 

 

‘A mae e’n yn g’neyd i’r slash fyn’d gric-grac,’ meddai Benni Bach.

 

 

 

 

 

DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

0043c
Yr iaith Gymraeg
“““““
0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan; o’r tudalen hwn gellir hefyd
chwilio’r gwefan hwn â’r archwiliwr mewnol
“““““

0052c
Testunau Cymraeg â throsiad Catalaneg yn y gwefan hwn
(Textos en gal”lès amb traducció catalana en aquesta web)
“““““
1051e
Testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn
(Texts in Welsh with an English translation in this website)
 


Sumbolau arbennig: ŷ ŵ

Ble’r wyf i?
Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal”les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

 

  


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats