2474k Gwefan Cymru-Catalonia. Detholion o “Y Cyfaill o’r Hen Wlad yn America”
1840
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_081_cyfaill_or_hen_wlad_mai_1840_2474k.htm
0001z Yr
Hafan / Home Page
..........1864k
Y Fynedfa yn Gymraeg
.....................0009k Y Gwegynllun
...............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
...............................................2477k Y
Gyfeirddalen i'r Cyfaill o'r Hen Wlad yn America
...............................................................y dudalen hon
|
Gwefan Cymru-Catalonia |
Adolygiadau diweddaraf: |
(2) (Rhif 29, Cyfrol 3, Mai 1840, tudalennau 139-141)
CYCHWYNASOM drachefn foreu ddydd Mercher, yn y bâd, â’n gwynebau tua
Newark, 138 m. o’r lle olaf. Cawsom rwystr ar y ffordd trwy dòriad y gamlas, a
gorfu arnom deithio 11 milltir mewn pedrolfen, (wagon). Yr oedd Mr. Rees
y boreu hwn yn ddigalon ac yn llesg, ond dywedai iddo gael cysur oddiwrth y
geiriau hyny, ‘He shall cover thee with his feathers.’ Yn mhen ychydig
drachefn dywedai, ‘By-and-by, my wretched mortal body will be changed.for an
immortality.’ Sylwid y diwrnod hwn hefyd, pa fodd y mae yr Arglwydd yn
goddef i’r creaduriaid direswm gael eu poeni am bechodau dyn; hefyd, bod yr
Arglwydd yn cospi ei bobl weithiau, fel gwyr Succoth, â drain ac â mieri. Adgoffawyd llawer o
ddywediadau enwogion Lloegr a Chymru. Pan gyrhaeddodd y cŵch Newark, yr
oedd yn tywyllu nos Iau. Derbyniwyd ni gan y Cymry yno yn garedig. Aeth fy
nghyfeillion i’r wlad, llettyais inau yn y dref. Aethym gydâ chyfaill i ymweled
â hwynt dranoeth. Gorphwysasom y diwrnod hwnw, a theimlem ein hunain yn
flinedig iawn. Tranoeth, buom yn cadw society yn Nghapel Saron ar
Fryniau y Cymry. Dydd Sul, y 23ain, pregethodd y Brodyr yno am 10 a 2; ac am 6
yn Newark, yn Nghapel y Bedyddwyr Seisonig: nos Fawrth, yn nhŷ Mr. D.
Thomas, Brick-house: a nos Fercher, yn Harrison, yn nhŷ un Mr.
Nichols - pregethodd Mr. Rees yn Saesoneg. Dychwelasom yn ol i Granville, lle
nodedig am gyfleusterau crefyddol. Tranoeth, am 2, mewn Ysgoldŷ Cerrig ar
Fryniau y Cymry, cynhaliwyd cyfarfod Dirwestol. Cawd yno gyfarfod hynod o
hwylus. Yr oedd y rhan fwyaf o’r gynulleidfa wedi ardystio cyn hyny. Ardystiodd
amrai y pryd hwnw hefyd. Mewn Cyfarfod yn Granville, ychydig ddiwrnodiau cyn
hyny, ardystiodd 194 i fod yn Llwyr-ymattalwyr, a 23 yn Gymedrolwyr. Nos Iau,
pregethwyd yn y Capel. Nos Wener, Mr. Parry yn Gymraeg, a Mr. Rees yn
Saesonaeg, yn nhŷ Mr. Thomas Hughes. Dydd Sadwrn, society yn Saron,
pryd y derbyniwyd tri, un o’r newydd, a dau o le arall. Ymdrinwyd hefyd â
llawer o bethau na oddefa amgylchiadau y lle hwn i’w crybwyll. Y Sabboth,
cynnaliwyd y moddion fel o’r blaen. Cawsom yn y lle hwn eglwys drefnus a
rheolaidd, yn cynnwys 48 o aelodau, 3 o swyddogion, 25 o blant yn yr eglwys, a
phregethwr, sef y Parch. W. Parry. Maint eu capel yw 30 wrth 30 troedfedd.
Ansawdd eu tir hefyd sydd dda, ond lled fryniog. Eu dwfr - a’u cyfleusderau i
brynu a gwerthu, braidd yn well nag un man ag a welsom gan y Cymry yn Ohio.
Dangosodd y cyfeillion i ni bob bob caredigrwydd. Ymadawson, foreu dydd Llun,
a’u gwynebau tua Radnor, mewn cerbyd a anfonwyd oddiyno i’n cyrchu 45 o
filltiroedd o ffordd.
Cyrhaeddasom y lle hwnw am 11 o’r gloch y nos. Nid oes achos crefyddol gan
y Trefnyddion Calfinaidd yn Radnor, ond cydaddolant â’r Annibynwyr. Buom yn
llafurio yn eu mysg bob dydd o hyny hyd foreu ddydd Llun. Pregethwyd yno wyth
waith, dwy society, ac un Cyarfod Dirwestol. Dangoswyd tiriondeb a
charedigrwydd i ni yma hefyd, a hebryngwyd ni ganddynt i Columbus, 35 milltir.
Dull gwyneb y ddaear yn Radnor sydd wastad iawn; ansawdd y tir yn lled dda; er
hyny yn annghyfleus at lawer o bethau, ac yn agored i’r cryd. Cawsom ddiwrnod
poeth iawn, a’r ffordd yn llwchlyd o Radnor i Columbus. Pregethodd Mr. Rees
mewn Ysgoldŷ yno i gynnulleidfa o Gymry. Ymddygodd trigolion y lle yn
dirion atom; er hyny gwrthwynebid ni yn gadarn gan ryw ddyhiryn atgas,
Universalaidd o ran barn. Meddyliwyf iddo gael rhai rhesymau gan Mr. Rees nad
annghofia mohonynt yn fuan. Lle dymunol ydyw Columbus. Gwelsom yno lawer o
bethau. ond yr hynottaf oedd carcharorion Carchar y Dalaith, o herwydd hon ydyw
prif ddinas Talaith Ohio. Gadawsom y lle hwn am wyth boreu ddydd Mawrth, a
chydâ y cerbyd ar hyd y National Road i Springfield, ac oddiyno i
Cincinnati ar hyd ffordd ddrwg, erbyn 10 ddydd Mercher. Sylwyd ar amryw bethau
ar y ffordd, megys y perygl o ieuo yn annghydmarus; hefyd, cynghor y diweddar
Barch. Rowland Hill i bregethwyr ieuaingc: 1st. He ought to have a good stock
of .sense in his head. 2d. A good stock of the Bible iin his mind; 3d. A good
stock of grace in his heart. Cyn diweddu y daith hon, clafychodd Mr. Rees o’r Bilious
Fever, er nad yn ddrwg iawn. Dywedai ei fod yn dymuno cael ei addfedu i
farw, ond nid yn yr America, ac fel y dywedodd un gŵr duwiol, ‘Please
let me down to the grave gently.’ Arferem ninau bob rhesymau a moddion a
fedrem i’w ddyddanu. Gweinyddwyd meddyginiaeth ebrwydd iddo yn Cincinnati, a
gwellhâodd yn raddol. Gwelsom yno lawer o Gymru, pa rai a ymddygasant yn
garedigol i ni. Dangosasant lawer o adeiladau gorwych eu tref, yn enwedig eu
marchnad. Cymerasant ni hefyd dros yr afon mewn cwch i Dalaith Kentucky,
&c. Mae Cincinnati yn dref fawr a hardd. Dywedent wrthym y bernid ei
phoblogaeth yn 40,000. Mae yn lle nodedig am fasgnach. Trosglwyddir mewn
agerdd-fadau werth miloedd o ddolerau o nwyfau i lawr ac i fyny yr afon yn
flynyddol. Am yr ymwneud a fu genym â’r gwaith yr aethom yno yn ei herwydd,
gwel y Cyfaill am fis Medi diweddaf. Cawsom yma gynnulleidfa o Gymry, a chapel
hardd o briddfeini, yn 28 wrth 25 troedfedd, yr hwn a godwyd dan olygiad, a
thrwy lafur diflin y Parchedig Edward Jones, yn benaf, yn nghydâg eraill. Rhif
yr Eglwys Gymreig yw 46 o aelodau, 3 o swyddogion, 28 o blant; a 2 bregethwr,
sef y Parchedigion Edw. Jones a David Rosser. Gadawasom y lle hwn am 9 foreu
ddydd Mercher, a daethom i Gallipolis am 8 nos Fercher, ar hyd yr afon mewn
agerddfad, 200 milltir. Cyd-deithiau â ni lawer o
Gymry, y rhai a ddychwelent adref o’r Gymanfa. Yn eu mysg yr oedd y Parch.
Robert Williams, a Mr. D. Lewis, Oak Hill; y Parch. W. Morgan, a Mr. John
Edwards, Pittsburg, a’r Parch. Wm. Parry, Granville.
Boreu ddydd lau, cyrchwyd ni o Gallipolis i Oak Hill, mewn cerbyd, gan Mr.
Alban a Mr.David Wynne. Lle bychan, digynnydd, yn cael ei breswylio gan
Ffrancod gan mwyaf yw Gallipolis. Y pellder oddiyno i Oak Hill sydd yn nghylch
20 milltir.
(3) (Rhif 30, Cyfrol 3, Mai 1840, tudalennau
139-141)
Yr oedd yr hin yn nodedig
o wresog tra buom yno. Cwynai fy nau gyfaill o herwydd afiechyd, ac yn benaf
Mr. Parry. Ond p’odd bynag, galluogwyd hwynt i fyned drwy y gwaith yn y modd
canlynol. Cadwyd society yng nghapel Moriah ddydd Gwener, am 5, a
chyfarfod gweddi yn ganlynol. Methodd y brodyr ddyfod yno o herwydd gwaeledd. -
Ddydd Sadwrn, am 2, pregethodd Mr. Rees. Boreu Sabboth, am 10, Mr. Parry. Am 2,
Mr. Rees. Am 5, pregethasant ill dau. – Ddydd Llun, am 9, society. Yna
ffarweliwyd yn hiraethlon ein teimladau. Yma y gwelsom y drefn oreu ar yr Achos
crefyddol yn Ohio. Rhif yr Eglwys, 150; swyddogion, 9, pregethwyr, 2, sef y
Parchedigion Mr. Robert Williams a Mr. D. Lewis. Caniatáwyd i frawd ieuangc
arall arfer ei ddawn yno i bregethu, ond deallais, trwy lythyr oddiwrth gyfaill
o’r lle hwnw, iddo orphen ei yrfa cyn dechreu ar y gwaith mawr. Amlwg yw mai
nid ein meddyliau ni yw meddyliau yr Arglwydd. Mae gan ein brodyr yno ddau
gapel; maintioli un yw 31 wrth 20. Nifer y plant a ddygir i fyny yn yr Eglwys,
86. Sefydliad newydd yw y lle hwn, a’r rhan fwyaf o’r trigolion yn lled isel eu
hamgylchiadau, eto yn hynod o ffyddlon gydâ’r Achos. Mae yma rai hefyd yn byw
yn gysurus ddigon, ac yn meddu ar eiddo go fawr. Mae i’r lle hwn, fel amryw
sefydliadau newyddion eraill, lawer o annghyfleusderau, ond mae yn debyg y
symudir hwynt bob yn râdd.
Ymadawsom oddiyno ddydd Mawrth. Lletyasom yn Galipolis y noson hono.
Cychwynasom drachefn dranoeth mewn agerddfad, â’n gwynebau tua Phittsburg,
taith o 300 o filltiroedd. Cymerwyd Mr. Parry yn glaf o herwydd y gwrês mawr,
gan y bilious fever; ac wedi teithio 2 ddiwrnod a noswaith, gorfu
arnom droi i dir, o herwydd fod ei afiechyd yn cynnyddu, a’i fywyd mewn perygl.
Enw y lle y troisom iddo yw Wheeling, Talaith Virginia. Ni arosasom yno ond
pedair-awr-ar-hugain, Aethom ymaith nos Wener mewn cwch i Steubenville; yna
mewn cerbyd, trwy ran o Virginia a Phennsylvania, i Pittsburg, erbyn prydnhawn
ddydd Sadwrn, yn hynod o lesg a blinedig. Ymofynwyd am feddyg yn ddioed, a
gwellaodd yn raddol.- Dyma y daith fwyaf annghysurus a gawsom, o herwydd
afiechyd; ond bu llaw yr Arglwydd yn ysgafn iawn arnom. Peth rhyfedd na fuasem
feirw, fel Rahel, wrth deithio, neu Moses ar y mynydd. Gorfu arnom benderfynu
peidio myned i Pottsville, a lleoedd eraill, o herwydd afiechyd.
Cawsom yn Mhittsburg, gydâ’r Trefnyddion Calfinaidd, Eglwys drefnus, yn cynnwys
60 o aelodau, 5 o swyddogion, ac un pregethwr, sef y Parch. Wm. Morgan. Ddydd
Sul, am 10, pregethodd Mr. Rees, yn nghapel yr Annibynwyr. Am 2, society
yn nghapel y Trefnyddion Calfinaidd. Am 6, pregethodd yn yr un lle a’r boreu.
Arosasom yno hyd ddydd Mawrtb, Awst y 5ed. Pregethwyd yno am ryw weithiau yn yr
wythnos, cadwyd society, a chyfarfodydd Dirwestol. Yr ail Sabboth,
pregethwyd dair gwaith. Ymgasglodd torf fawr o Gymry i wrandaw, y rhan fwyaf yn
perthyn i’r gweithiau glo a haiarn. Mae Pittsburg. yn ddinas fawr, ac ynddi, ac
o’i chwmpas, lawer o weithfeydd glô, haiarn, gwydr, hoelion, &c. Mae yn
sefyll rhwng dwy afon, sef y Monongahela a’r Alleghany, y rhai, islaw y dref, a
ymarllwysant i’w gilydd, ac a elwir wedi hyny yn Afon Ohio. Dywedwyd wrthym mai
ei lled cyffredinol o Bittsburg i Cincinnati, yw o 500 i 1,000 o droedfeddi; ei
hyd, o Bittsburg i Orleans Newydd, lle yr ymarllwysa i’r môr, yw 1,700 o
filltiroedd, a dim ond 495 troedfedd o ddisgyniad i’r dwfr ddylifo yr holl
ffordd hirfaith.
Gadawsom y lle hwn foreu y 5ed o Awst, yn y cerbyd, a daethom i Chambersburg am
1. Boreu Iau, am 9 drachefn, aethom gydâg ager-gerbydau ar y cledrffyrdd i
Philadelphia. Tòrodd yr agerdd-beiriant, ac attaliodd gyflymdra ein taith, ond
pa fodd bynag, daethom yno brynhawn ddydd Gwener. Y pellder o Bittsburg i
Philadelphia yw 300 o filltiroedd – y 150 cyntaf yn fryniog ac anwastad iawn –
y 150 eraill yn hynod o wastad a hyfryd i’r olwg.
Mae Philadelphia yn un o’r lleoedd hyfryttaf a welais erioed. Cawsom yr
hyfrydwch o weled yr holl ddinas fawr oddiar fath o dŵr oedd ar nen y tŷ
y llettyem ynddo. Synem wrth weled maint y ddinas harddwych, gorwychder ei
hadeiladau, trefn a chydsafiad ei hystrydoedd, llawnder ei marchnadoedd o
ymborth a thrugareddau, a’i hystordai cyfoethog o bob math o nwyfau eto,
ynddangosai pob peth, yn ein golwg ni, yn lled farw a difywyd. Ni welsom un
Cymro yn y lle hwn, er fod yma amrai Gymry, ond nis gwyddem pa le i gael eu
gweled.
Gadawsom Philadelphia boreu dranoeth am 8, a chyrhaeddasom Gaerefrog-Newydd am
3, gyda’r ager-gerbydau. Derbyniwyd ni yn roesawgar gan y brodyr yno. Ddydd
Sabboth, pregethodd y brodyr am 3 a 7 yn nghapel y Bowery. Ddydd Llun
bwriwyd golwg dros ein cyfrifon. Trefnwyd pob peth yn eitha’ brawdol a
heddychol yn mhresennoldeb y Brawd Wm. Rowlands. Dranoeth, sef dydd Mawrth, ar
el ciniawa, y waith ddiweddaf am byth, mae’n debyg gyda’n gilydd, yn nhŷ
Mr Roberts, Walker-street, ymneillduasom i ystafell, aeth Mr. Rees i
weddi, a sicr wyf na anghofiaf y weddi hono tra fyddwyf byw.
Yna ymadawyd yn alarus a hiraethlon, ar ol teithio gydâ’n gilydd 2,292 o
filltiroedd mewn naw wythnos a dau ddiwrnod, heb y meddwl lleiaf o weled ein
gilydd mewn cnawd hyd y boreu mawr, pan y rhoddo yr Archangel ei lef, ac y delo
y meirw i fyny o lwch y ddaear. Meddyliwn yn aml y dyddiau hyn fy mod yn profi
rhyw deimladau tebyg i henaduriaid Eglwys Ephesus, ‘gan ofidio yn benaf am y
gair a ddywedasai efe, na chaent weled ei wyneb ef mwy.’ Felly nid wyf yn
meddwl gweled eu gwynebau na chlywed eu lleisiau mwy; a thebygol genyf mai dyna
brofiadau ugeiniau a channoedd o’m cydgenedl y buom yn ymweled â hwynt, ac a
ddangosasant eu caredigrwydd i ni ym mhob lle.
Gobeithiaf hefyd y bydd eu geiriau, eu cynghorion, eu hannogaethau, a’u
rhybuddion, yn llefaru eto yn yr America, ar ol eu hymadawiad i Brydain, ac ar
ol eu marw hefyd.
Cychwynais inau adref o Gaerefrog-Newydd, yn y dull arferol o deithio. Cefais
fy nheulu oll yn fyw ac yn iach, a’m hamgylchiadau yn hollol gysurus.
JOHN S. WILLIAMS,
Steuben,
Tach. 12fed, 1839.
-----------------------------------------------------------------------------------------------
Sumbolau arbennig: ŵ ŷ
Fformat 100 chwith, 200 de
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o
dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the
“CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch
ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats