2474k Gwefan Cymru-Catalonia. Detholion o “Y Cyfaill o’r Hen Wlad yn America” 1840

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_081_cyfaill_or_hen_wlad_medi_1840_2475k.htm


0001z Yr Hafan / Home Page

..........
1864k Y Fynedfa yn Gymraeg

.....................
0009k Y Gwegynllun

...............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

...............................................2477k Y Gyfeirddalen i'r Cyfaill o'r Hen Wlad yn America


...............................................................y dudalen hon

 

baneri
..

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya


Cywaith Siôn Prys Aberhonddu (Casgliad Arlein o destunau Cymraeg)
“Llond y We o Lên y Brython”



Detholion o “Y Cyfaill o’r Hen Wlad yn America”
Medi 1840
 

 

map o gymru a'r gwledydd catalaneg (map_cymru_pc_drenewydd_050112)

Adolygiadau diweddaraf:
2006-05-18

 
 

 

Damwain alarus ar yr afon Ohio y 15fed o Chwefror diweddaf.

 

 

 

Y Cyfaill, Cyfrol 3, Rhif 33, Medi 1840, tudalen 278
(x3) HANESION CYMRY AMERICA

DAMWAIN ALARUS

Ar yr afon Ohio y 15fed o Chwefror diweddaf.

 

Fel yr oedd pump o ddynion yn myned i lawr yr afon i Louisville, mewn bâd llwythog o lô, ar y dydd uchod, pan ddaethant dri chant o filltiroedd islaw Pittsburg, cododd tymestl o wynt, yr hyn a effeithiodd gymaint ar y dwfr, nes dychrynu y dynion i ymadael â’r bâd. Diangodd dau yn ddiogel, a boddodd tri, ac yn eu plith yr oedd John Rees, mab i Mr. Rees John Rees. Ganwyd ef yn Nhredegar, swydd Fynwy, Cymru, yn y flwyddyn 1818; felly hyd ei daith ddaearol oedd 22 o flynyddoedd, pan y cymerwyd ei anadl oddiwrtho trwy yr elfen ddwr.

 

Gwyliwch ieu’ngctyd gwyllt eich nwydau

 Ar eich camrau – dyddiau’ch oes

‘Hedeg maent fel gwenol gwehydd,

 Neu ryw wyliadwriaeth nos.

Ystyriwch y blodeuyn uchod,

 Oedd fel rhosyn yn ei ryw,

Heddyw’n gorwedd mewn modd rhyfedd,

 I aros barn ei Brynwr byw.

 

Mae ei dad, ei fam, a’i frodyr,

 A’i chwiorydd gyda hwy,

Yn galaru am fab mwyngu,

 Yr hwn ni ddychwel atynt mwy.

Llinell iddynt oddi uchod,

 Oedd y dyrnod arw ddaeth;

Brysiwch, cofiwch, byddwch barod,

 Drwg yw’r dydd, a byr yw’r daith.

 

Pittsburg. THOS. D. WILLIAMS.

 

Byddai yn dda gan berthynasau yr ymawedig pe cyhoeddid yr hanes uchod yn Seren Gomer, er cyfleusdra i’w gydnabod yn yr Hen Wlad.

 

 

 

Sumbolau arbennig: ŵ ŷ
Fformat 100 chwith, 200 de
  

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats