2476k Gwefan Cymru-Catalonia. Detholion o “Y Cyfaill o’r Hen Wlad yn America”
1840
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_081_cyfaill_or_hen_wlad_tachwedd_1840_2476k.htm
0001z Yr
Hafan / Home Page
..........1864k
Y Fynedfa yn Gymraeg
.....................0009k Y Gwegynllun
...............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
...............................................2477k Y
Gyfeirddalen i'r Cyfaill o'r Hen Wlad yn America
...............................................................y dudalen hon
|
Gwefan Cymru-Catalonia |
Adolygiadau diweddaraf: |
--------------------------------------------------------------------------------------
Y Cyfaill, Cyfrol 3, Rhif 35,
Tachwedd 1840, tudalen 331
BARCH OLYGYDD, - Gwelais ar glawr y Cyfaill, am
fis Mai diweddaf, ymofyniad am ychydig o hanes llwyth o Indiaid a elwir Nabihoes.
Ychydig o hanes a allaf fi ei roddi am danynt yn bresennol. Yr ydwyf wedi
bod yn ymddyddan a llawer o’r rhai ag sydd wedi eu gweled yn
Bum yn ymddyddan ag un yn ddiweddar, yr hwn a
fu yn teithio drwy yr ardaloedd lle y mae y Welsh Indians yn cyfaneddu.
Darfu iddo addaw anfon ychydig o’u hanes, ond yr wyf heb ei dderbyn eto.
Dywedodd wrthyf eu bod yn trigfanu rhwng dau a thri chant o filltiroedd o
Y mae yn debyg fod ymddadlau yn eu cylch. Tòrir y ddal yn fuan. Y rhesymau a allaf fi eu rhoddi i brofi hyny ydyw mudoliaeth y trigolion i gyfaneddu y wlad lle y mae ein cenedl yn byw. Pan y byddo gwlad newydd i’w meddiannu, y mae llawer o siarad am dani.
Pan oeddych chwi a minau yn yr Hen Wlad, a chlywed siarad am America, yr oeddem yn meddwl, dim ond cael mediannu y wlad, y buasai agos yn nefoedd y ddaear.
Felly y mae gyda llawer am Califfornia a
Thiriogaeth Oregon. Y mae yn debygol oddiwrth hanes y wlad hono, ei bod yn
rhagori ar unrhyw barth o’r Unol Daleithiau, o ran ei thymhorau, cyfoethogrwydd
y ddaear, &c., fel y gwelais yn yr iaith arall, ‘It is the garden spot of
the earth: it is the Paradise of North America.’
Eto llawer o siarad ac ysgrifenu sydd wedi bod
yn nghylch yr Indiaid Cymreig, heb wneyd dim. Dau beth ydyw siarad a gwneyd.
Siarad ydyw bwriadau – gwneyd ydyw cyflawni. Eto, i’r dyben o wneyd, byddai yn
dda i’r Cymry gymeryd hyn at eu hystyriaethau, sef dyfod i wybodaeth gyflawn
o’r Madogiaid.
Gwrionedd yw – anfonwyd Cymry o Steuben bymtheg
neu un-ar-bymtheg mlynedd yn ol: Daethant i
Oddeutu tair blynedd yn ol yr oedd yma yn agos
i gant o deuluoedd wedi ymgyfammodi a’u gilydd i fyned i ymsefydlu yn rhyw ran
o Califfornia Newydd; ond tòrodd gwrthryfel yn adaloedd