2764k Y Ffraethebwr yn cynnwys Casgliad o Ffraeth-ddywediadau, Byr-Chwedleuon, &c.. Blwyddyn 1908..

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_088_y_ffraethebwr_2764k.htm

0001 Yr Hafan Google: kimkat0001

..........
1863k Y Fynedfa yn Gymraeg Google: kimkat1863k

....................0009k Y Barthlen
Google: kimkat0009k

..............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
Google: kimkat0960k

........................................y tudalen hwn


..

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

Y Ffraethebwr
 (1908)
(ddim yn gyflawn - rhannau yn unig)

 


(delwedd 4666)




(xclawr)

Y Ffraethebwr

Sef FFRAETH-DDYWEDIADAU, BYR-CHWEDLAU, &c.

Caerfyrddin

Cyhoeddwyd gan W. M. Evans a’i Fab, Swyddfa “Seren Cymru.”

Pris Chwe Cheiniog



(x01)

Y FFRAETHEBWR: Yn Cynnwys Casgliad o Ffraeth-Ddywediadau, Byr-Chwedleuon, &c

Caerfyrddin: W. M. Evans a’i Fab, Swyddfa “Seren Cymru.”

1908.


(x02)


(x03)

Y Ffraethebwr.


Y Corff a’r Meddwl ar wahân.

Adroddir am Sir Isaac Newton, ei fod unwaith yn brysur yn ymdrechu solvo rhyw broblem ddyrus — mor brysur yn wir — nes i’r alwad at ei foreufwyd fyned heibio yn ddisylw ganddo. Galwyd ef drachefn a thrachefn, ond ni syflai ef o’i ystafell. Yn ofni rhag i’w hir ympryd effeithio ar ei iechyd, aeth y forwyn ag ŵy i’w ystafell, gyda’r bwriad o’i ferwi iddo. Ond Newton, yn ewyllysio cael llonyddwch, a ddywedodd y berwai ef yr ŵy. Gadawodd y forwyn y saucepan a’r dwfr yn yr ystafell, a chyfarwyddodd ei meistr i ferwi’r ŵy am dair mynyd. Yn mhen ychydig, aeth y forwyn i’r ystafell drachefn, rhag ofn ei fod wedi anghofio, a dyna lle yr oedd ei meistr, mewn dwfn fyfyrdod, a’r ŵy yn ei ddwrn, a’r watch yn berwi yn y saucepan.


------------------------------------

 

Diffyg sylw

Yr ydym wedi gweled ceffylau gannoedd o weithiau ac etto nid ydym wedi sylwi ar ba ochr iddynt y mae fwyaf o flew. Ar yr ochr allanol, bid siwr.

------------------------------------


Dywedir i’r ddau hen Bregethwr, Christmas Evans a John Herring, gyfarfod â’u gilydd rywdro yn yr Haf, ar ben rhyw fynydd. “Wel, dyma beth rhyfedd, Nadolig yn nghanol yr Haf,” ebe Herring. “Rhyfeddach o lawer yw gweled Penogyn ar ben mynydd,” ebe Christmas arab; ac felly yr oedd, mewn gwirionedd, yn gymaint ag fod Nadolig Awstralia yn anterth yr Haf.


(x04)

Deugain Mil o Ddoleri.

Yn un o ddinasoedd mawrion yr Unol Dalaethau, digwyddodd i hen ŵr oedranus iawn fod ar un ochr i’r heol, ac yr oedd am fyned yn groes i’r ochr arall ond nis gallai gan gymaint y fasnach oedd yn myned yn mlaen ar hyd yr heol. Gwelodd rhyw ŵr ieuanc benbleth yr hen ŵr, ac aeth yn mlaen ato. Wedi deall yr hyn oedd arno ei eisiau, cludodd ef yn groes, a gosododd ef yn ddiogel ar yr ochr arall o’r heol. Bu yr hen ŵr farw heb fod yn hir ar ol hyny, a gadawodd ddeugain mil o ddoleri i’r gŵr ieuanc caredig hwn. Dywedir fod yr hen bobl wedi cael amser lled fywiog yn y ddinas hono am amser maith ar ol hyny, oblegid clywodd pobl ieuainc y lle am y tro uchod, a gwnaethant yn bwynt i edrych allan am hen bobl. Pan welai gŵr ieuanc hen ŵr ar yr heol, elai ato, a chludai ef yn groes i’r ochr arall, pa un bynag a fyddai ef am fyned ai peidio. A chyn gynted ag y gosodid ef ar lawr, gwelid ef gan rhyw ŵr ieuanc arall, yr hwn a’i cludai yn ol i’r ochr arall, ac felly yn y blaen. Wrth gwrs, y deugain mil doler uchod oedd yr achos o’r mwstwr.

------------------------------------


Gofynai Dr. Arthur Jones, o Fangor, i gyfaill rywdro, “Yn mha le y mae y Gymmanfa i fod nesaf, deudwch?” “Yn Lleyn, Mr. Jones.” “Da iawn; y mae hi yn ddigon dilun er’s talm.”

------------------------------------


Gamgymeriad. — Adroddir chwedl am Syr Robert Vaughan o Nannau, yr hwn oedd yn dra hoff o chwedleua â phawb ar y ffordd, ei fod un diwrnod yn chwilio am ddafad aethai ar grwydr. Cyfarfyddodd hogyn a gyfrifid braidd yn ddiffygiol yn ei gasometer, i’r hwn y gofynodd, “A welaist ti yr un ddafad, fy machgen i, a V ar ei chefn hi?” “Dyn anwyl,” ebe y bachgen, “na welais i yn siwr yr un ddafad yn ddigon cryf i’ch cario chwi, Syr.”

------------------------------------

 

(x05)

Pabydd. — Yn mha le yr oedd crefydd cyn Luther?

Protestant. — A ddarfu i chwi oichi eich gwyneb heddyw?

Pabydd. — Do,

Protestant. — Yn mha le yr oedd eich gwyneb cyn i chwi ei olchi?

------------------------------------


Gwyrth Rifyddol.

Gallwch beri cryn ddifyrwch i gwmpeini trwy ddywedyd y medrwch fynegi faint fydd cyfanswm pum rhestr o rifnodau, a hyny ar unwaith ar ol i chwi weled y rhestr gyntaf. Dyma’r ffordd i wneyd hyny:— Meddyliwch fod cyfaill yn dangos y rhestr ganlynol o rifnodau, 768258. Yn awr, ceir allan yr hyn fydd y cyfanswm (total) trwy ychwanegu “
2” at bob un o’r rhifnodau uchod oddigerth y rhifnod sydd ar y llaw ddchau — y rhifnod “8” yn yr amgylchiad hwn — a gosoder “2” lawr wrthi ei hun ar y llaw aswy i’r rhestr. Y cyfanswm yn yr amgylchiad presenol fydd, 2985478. I wneyd y peth yn eglur, bydd yn debyg i hyn:—

763258
.......
.......
.......
.......
-------
2985478 Y Cyfanswm,
-------

Ceisiwch gan eich cyfaill i beidio defnyddio y rhifnod “
0.” Yn awr y mae eich cyfaill yn myned i roddi y rhestr nesaf o rifnodau. Gan ei fod wedi dechreu trwy osod chwech rhifnod yn y rhestr, ceisiwch ganddo i ddefnyddio chwech rhifnod yn mhob rhestr o’i eiddo. Yn y rhestr hon, meddylier ei fod yn gosod 187834. Dyna’r ail restr. Yn awr eich tro chwi sydd i osod y rhestr nesaf. Gwnewch fel hyn: Tynwch (x06) (substract) bob un o’i rifnodau ef allan o ddeg, a gosodwch y gweddill ar lawr i ffurfìo’r drydedd restr; sef, 923276. Eich cyfaill sydd i osod y bedwaredd restr. Meddylier ei fod yn gosod y rhestr ganlynol, 875348. Y rhestr nesaf fydd yr eiddoch chwi. Tynwch bob un o’i rifnodau ef allan o ddeg fel hyn, 235762. Yn awr bydd pum rhestr o rifnodau. Gosodwch linell yn groes a rhifwch y rhifnodau i’r lan.

763258
187834
923276
875348
235762
------
2985478 = Y Cyfanswm fel y nodasoch i’ch cyfaill yn mlaen llaw.

Dyma ddau engraifft arall rhag ofn fod rhywbeth yn dywyll yn yr uchod.

Rhestr eich cyfaill ...... ............................................................2674.....368943
Rhestr eich cyfaill ................................... ...............................2345.....468748
Eich rhestr chwi . ....................................................................8765.....642362
Rhestr eich cyfaill. ................................................................. 4463.....541896
Eich rhestr chwi ................................. ....................................6647.....569214
Y Cyfanswm fel y nodwyd yn mlaenllaw: ...........................24894....2591163

------------------------------------


Y Ddwy Wraig.

Dywedir i ddyn, ychydig dros ganol oed, a’i wallt yn dechreu britho, briodi dwy wraig, — un yn ieuanc yn nghanol ei phrydferthwch, a’r llall yn hen a’r pren almon yn blodeuo. Yn lled fuan ar ol hyn, gwelwyd y gŵr yn myned oddiamgylch yn hollol foel. Fel hyn y bu. Yr oedd y wraig ieuanc, bob tro y celai gyfleu yn pigo allan y gwallt gwyn oddiar ei ben, er mwyn ei gadw yn ieuengaidd yr olwg, fel hi ei hunan. Yr un modd, yr henaf, bob tro y celai gyfleu, a bigai allan y gwallt du, er mwyn ei wneyd yn henaidd yr olwg, fel hi ei hunan.

------------------------------------

 

(x07)


Aeth Jonathan Hughes o Llangollen, i ffair Porthaethwy, a chlywai fod y Bardd Coch yno gyda gỳr o wartheg, a mawr oedd ei awydd am ei weled, a chan na adwaenai ef mo hono, âi oddiamgylch y ffair o’r naill ỳr at y llall, a holai geidwad pob un o honynt, fel pe buasai yn borthmon, am bris y gwartheg, ac wrth ymadaw, dywedai, —

....................................Ebrwydd y cân y Bardd Coch;

ac wedi myned drwy’r ffair at y g gỳr olaf heb gael ateb, treiai hi yno, gan ddyweyd yr un peth, sef,—

....................................Ebrwydd y cân y Bardd Coch,

 

pan yr atebwyd ef yn eithaf annysgwyliadwy, ond yn hynod o dderbyniol, fel hyn, —

....................................Sad a gweddus, sut y gwyddoch?

Ni raid d’weyd mai y Bardd Coch oedd yr atebwr.

------------------------------------


Areithydd unwaith a siaradai o blaid gwraig. “Gwraig anwyl a duwiol,” meddai, gan derfynu fel y canlyn:— “O! fy ngwrandawyr anwyl, coeliwch fi, ‘does dim yn curo gwraig dda.” “Begio’ch pardwn, Syr,” atebai un o’r gwrandawyr, “mae gwr drwg yn gwneyd”

------------------------------------


“Yr ydwyt yn myned yn deneu iawn, fy machgen,” meddai mam dyner wrth ei mab un diwrnod. “ Ydwyf fy mam,” oedd yr atebiad, “ac yr ydwyf yn dysgwyl y gellwch weied fy asen cyn bo hir.” Yr oedd y gwalch ar fyned i briodi.

------------------------------------


Aeth gwr o Dderwen i’r cynhauaf i Sir Amwythig rywdro, lle y byddai amryw fedelwyr o bentref Helygen yn arfer gweithio. Wrth weled y dyn braidd yn anfedrus gyda’i gryman, gofynodd y ffermwr iddo, “O b’le y dywedasoch eich bod yn d’od?” “O Dderwen, Syr,” ebe yntau. “O Dderwen, aïe? yn wir, mi welais eich trech wedi dyfod o Helygen cyn hyn.”


(x08)

 

Mr. Pugh o Fostyn, a Mr. Price o Ddinbych, a newidiasant bwlpudau ryw Sabbath, a phan gyfarfyddasant foreu dydd Llun ar fynydd Helygen wrth ddychwelyd adref, agorodd Mr. Pugh dân ar Mr. Price yn uniongyrchol, yn ol ei arfer. “Wel, Price, sut a fu arnoch yn Mostyn acw, a ddaeth rhywun i’ch gwrando?” Mr. Price, yntau yn llawn o ddireidi, a atebodd, “Nid oeddych wedi fy nghyhoeddi I i bregethu, Mr. Pugh; yr oedd pawb yn meddwl mai chwi oedd i fod yno, ac felly yr oedd y Capel yn haner gwag.” Gwelodd Mr. Pugh yr ergyd, wrth gwrs, a phenderfynodd dalu yn ol gyda llôg. “Sut fu hi arnoch chwi yn Ninbych acw, Mr. Pugh?” “Sut y bu hi? Ni welsoch chwi erioed y fath sut.” “Beth oedd,” gofynai Mr. Price drachefn, “a oedd yno lawer o bobl?” “Llawer! llawer! miloedd allan! miloedd allan!” ebe’r arabyd bywiog, a theimlai Mr Price ei fod wedi ei drechu ar ei dir ei hun.

------------------------------------


“Wrth drafaelio o Rhyl, cyfarfu Mr. B-- â Chlwydfardd, (yr hwn fel y gwyddis sydd bell-hanger wrth ei gelfyddyd) . Ebe Mr. B-- “Y mae rhywbeth ynot Clwydfardd yn tebygu i Calcraft.” “Aïe,” ebe Clwydfardd. “Oes; C ydyw y lythyren gyntaf yn enw Calcraft, ac C ydyw y lythyren gyntaf yn dy enw di. Crogi yw gwaith Calcraft, a chrogi yw dy waith dithau.” “Digon tebyg,” ebe Clwydfardd, “ond bod hyn o wahaniaeth — crogi bywiolion i dewi y bydd Calcraft, a chrogi marwolion i ganu byddaf finau.”

------------------------------------


“Yn yr oes o’r blaen pan nad oedd na meirch tanllyd na rheilffyrdd mewn bod, na nemawr o gyfleusderau i deithio fel sydd yn bresenol, cychwynai yr hen fardd John Thomas o Bentrefoelas, ar ei draed am Lynlleifìad, a chyrhaeddai Heol Mostyn erbyn machludiad haul; cafodd lety mewn tafarn yno, ac ar ol myned i’r gwely, ni chafodd fawr o lonydd i orphwys ar ol eî daith luddiedig — ymosodai y bugs (x09) arno, gan ei bigo yn erchyll, a’i yspeilio o’i waed yn ddidrugaredd; ond ni wyddai yr hen Fardd mai bugs oeddynt, tybiai mai rhyw rywogaeth o chwaen creulawn oeddynt; ac yn nghanol ei ofidiau tost, llefai allan, Mwrdwr! nes oedd y tŷ yn diaspedain. “Holo,” ebai gwr y tŷ, “beth yw’r mater?” pan yr atebai y Bardd merthyredig —

..........”Achwyn ‘rwyf ar chwaen yn uchel — yn Mostyn
...............Dan ‘mestyn fy hegel;
.. .........Cosi sy’ dan bob cesel,
, ..........Ffowla o hyd, ond ffaelio hel.”

------------------------------------

Dywedir fod y diweddar John Jones, Edeyrn, yn myned trwy bentref Llanystumdwy un bore, ac iddo droi i dafarndŷ i gael gwydraid o gwrw, yr hwn nid oedd o’r fath oreu. Wrth ddychwelyd yn yr hwyr, trodd i’r un tŷ, a galwodd am wydraid arall, pryd yr hysbyswyd ef gan y wraig fod y cwrw wedi darfod! “Nid wyf yn rhyfeddu dim,” ebe John, “oblegyd yr oedd yn wan iawn pan oeddwn yn pasio heibio y bore.”

------------------------------------

Twm o’r Nant oedd yn ymrafaelio un tro gyda Siamas o Wynedd, yr hwn oedd yn enedigol o Glocaenog, gerllaw Rhuthyn. Edliwiai Twm iddo ei fod yn perthyn i’r hen Simon yr hangmon, o Glocaenog, i’r hyn yr atebodd Siamas —

...................”Nid ydyw Simon’r hangmon
......................Mewn moddion, ddim i mi;
...................Ond gresyn garw iddo farw
......................Cyn tagu d’wddw di!”

 

------------------------------------

Yr oedd dau Wyddel rywbryd yn yr un carchar — un am ddwyn oriawr, a’r llall am ddwyn buwch. Yr olaf a alwai ar y blaenaf un diwrnod, “Pa faint yw o’r gloch ar dy oriawr, Pat?” I’r hyn yr atebodd y blaenaf, “Nid oes genyf foddion i wybod i sicrwydd heddyw, ond gallwn feddwl ei bod yn agos i amser godro!”


(x10)

Dywedwyd wrth un ffraeth unwaith fod cyfaill iddo wedi myned i briodi. “Da iawn genyf glywed,” oedd yr ateb. Wedi sefyll mewn myfyrdod am beth amser, dywedodd drachefn, “Wn i ddim paham y rhaid i mi lawenhau ychwaith yn mhriodas fy nghyfaill, ni wnaeth efe erioed ddim drwg i mi.”

------------------------------------

Tro digrif.

Rhoddodd dyn ieuanc hysbysiad mewn newyddiadur fod eisieu gwraig arno. Cafodd dri-ugain a dau o atebion — oll oddiwrth wŷr, yn cynnyg eu gwragedd hwynt iddo.

------------------------------------


Bachgen llawen a eisteddai unwaith ar giniaw yn nesaf at foneddwr oedd wedi helpu ei hun â darn anarferol o fawr o fara; rywbryd yn ystod y giniaw, efe a ymaflodd yn y bara, pryd y gwaeddodd y boneddwr, “Aroswch Syr, fy mara i yw hwnyna.” “O, felly yn wir,” meddai y cellweiriwr, “meddyliais. mai y dorth ydoedd.”

------------------------------------

 

Blacking esgidiau.

Cymmysger y pedwar peth hyn nes gwneyd math o paste o honynt. 12 wns o ivory black, 1 wns o’r olive oil goreu, ½ pwys o treacle, i wns o gum arabic maluriedig. Ychwaneger yn raddol, ddau gwart o vinegar at y paste uchod. Cymmysger yr oli yn dda. Yna cymmerer 1½ wns o sulphuric acid, ac ychwaneger ef yn raddol, gan ei gymmysgu fel y gwnawd a’r vinegar. Bydd genych yn awr y Blacking goreu at wasanaeth eich hun a’ch cym’dogion, os mynant beth. Cadwer ef mewn llestr a chlawr arno fel na bo baw yn myned iddo.

------------------------------------
 
“Rhedai bachgen ymaith nerth ei draed mewn dychryn, wedi taflu careg trwy ffenestr cymydog a’r cymydog ar ei ol. O’r diwedd daliodd y dyn ef, ac â gafael yn ngholer y llanc dychrynedig, dywedai, (x11) “Oni wyddost ti dy fod wedi tori fy ffenestr yn ddrylliau, was?” Atebodd y bachgen ef, bron colli e anadl, “Gwn Syr, ac yr oeddwn yn rhedeg ar fy ngoreu i geisio arian i dalu i chwi am dani.”

------------------------------------

Mantais Penfoelni. — “Yr ydych y bachgen mwyaf hurt ydwyf yn adnabod,” ebai ewythr penfoel, mewn tymher groes, wrth ei nai. “Wel,” ebe’r bachgen, gan daflu trem ar ben moel ei ewythr, “nis gellwch ddysgwyl i mi ddeall pethau mor gyflym â chwi, oblegyd nid oes arnoch chwi y drafferth o’u cael trwy eich gwallt.”

------------------------------------

“Gofynodd Ysgotiad i Wyddel paham yr oeddent yn bathu ffyrlingau yn Lloegr; ac ateb parod y Gwyddel oedd, “I roddi cyfleusdra i Ysgotiaid i gyfranu at sefydliadau daionus.”

------------------------------------
 
Ffordd ragorol i bigo cynnen.

Cludwch ysgol weddol o hir ar eich ysgwydd ar hyd heol lle bo llawer o bobl, ac edrychwch yn ol yn awr ac eilwaith i weled pwy sydd yn gwneyd ystumiau tu ol i’ch cefn.

------------------------------------

Yr Unfed-ar-ddeg Gorchymyn.

Gofaled pob un am ei orchwyl ei hun, a gadawed orchwylion pobl ereill yn llonydd.

------------------------------------


Nid ffordd yna. — “Cadben, pa bryd ydych yn cychwyn?” gofynai teithiwr diamynedd ar fwrdd agerlong oedd yn aros i’r niwl glirio. “Mor gynted clirio y niwl,” meddai y cadben. “Wel, mae yn serlo ‘nawr uwchben,” atebai y dyn. “Ydy’, ydy’,” ebai y Cadben, “ond nid ffordd yna yr ydym yn myned.”

 
------------------------------------


Curo doctor. — “Yr oedd gwraig tafarn unwaith wedi codi yn mhen ei gwr, ac mewn cythrwfl, wedi crafu ei wyneb nes oedd ei waed yn rhedeg, gyrwyd am y Dr. i heddychu rhyngddynt. “ A oes dim (x12) cywilydd arnoch, madam,” ebai’r Doctor, “i drin eich gwr fel hyn — y gwr yr hwn yw pen y wraig?” “Wel Doctor,” ebai’r wraig, “a oes dim hawl gan wraig i grafu ei phen ei hun?”

------------------------------------

“Yn mha le y mae dedwyddwch bob amser i’w gael? Yn y Geiriadur.”

------------------------------------


Paham y mae yr adar yn y Gwanwyn yn debyg i’r Banciau? Am eu bod yn rhoddi allan nodau addawol (promissory notes) .

------------------------------------

Pan yr oedd Gwallter Mechain yn ddyn ieuanc, arferai fyned i dafarn y Lion, ac yr oedd yno gadair yr hon oedd wedi ei neillduo iddo. Un noson daeth Twm y Gro i’r tŷ, ac eisteddodd yn y gadair, ond yr oedd yn rhaid iddo godi o honi, neu wneyd Englyn i Isaac Cydwybod, yr hwn oedd grydd o ran celfyddyd, pan y daeth Walter i mewn. Dyna Twm ar ei draed wedi gwneud y ddwy linell ganlynol:—

........................”Isaac ddinac sydd ddyn — naturiol,
..............................Yn tori’r croen gwydyn.”

“ Gorphen dio Walter,” ebe Twm. “Nid oes gorphen heb ddechreu,” ebe Walter: “ond gad ei ail-glywed.” Adroddodd Twm hwynt wed’yn, ac yn y fan dyma Gwallter a’r ddwy linell a ganlyn:—

........................ “I wsia gydwybod ci dobyn,
... ...........................Dod ledr o dan lodrau’r dyn.”

Gan fod gorphen, yr oedd yn rhaid bod dechreu, felly honodd Twm y gadair.”

------------------------------------


Christmas Evans a’i Gaseg Wen. — Pan oedd y diweddar Christmas Evans yn gweinidogaethu yn Môn, galwyd am dano i bregethu mewn cyfarfod mawr yn Sir Gaernarfon. Daeth, a phregethodd amryw weithiau. Wedi i’r cyfarfod ddarfod, a phan oedd yr hen bererin yn hwylio ei hun tua chartref, daeth un o’r diaconiaid ato, a dywedodd wrtho ei fod ef a’r (x13) eglwys yn bur ddiolchgar iddo am ddyfod yno, ac am ei bregethau gwlithog; “ Ond,” meddai, “yr ydym yn hynod o d’lawd fel nas gallwn fforddio rhoddi dim ond diolch ì chwi am ddyfod — cewch eich talu eto yn adgyfodiad y rhai cyfiawn.” “Hy, hy, hy, — caf, caf, caf,” ebai yr hen ffraethebydd yn ddigon pesychlyd, “ond y mae traul wedi myned ar yr hen gaseg wèn — tâl am y feed, a thâl am y gates, ac y mae wedi trafaelio yn galed i’m cario yma atoch chwi. Ni ddywedaswn ddim yn erbyn tâl yn adgyfodiad y rhai cyfiawn, ond fydd yr hen gaseg wèn ddim efo fi yn y farn i gael share o’r taliad, gan hyny dylai hi gael ei thalu yn awr, a minau aros hyd yr amser hwnw.” Hollol gyfiawn, onide?

------------------------------------

Yfed Dwfr trwy’r Bwrdd.

Gosoder gwydraid o ddwfr ar fwrdd, ac yna rhodder het un o’ch cyfeillion arno. Dywedwch yn awr y medrwch yfed y gwydraid dwfr heb i chwi symud yr het.

Fel hyn. Ewch o dan y bwrdd a gosodwch eich genau o dan y man lle y mae’r gwydraid dwfr, a gwnewch sŵn a’ch hanadl fel be baech yn yfed rhywbeth. Yna deuwch allan oddi tan y bwrdd a dywedwch, “Dyna,” fel pe baech wedi cwblhau y gwaith. Ar hyn bydd un o’ch cyfeillion, yn cael ei gymhell i hyny gan gywreinrwydd, yn sicr o symud yr het er mwyn gweled os yw y dwfr wedi myned. Yn awr gafaelwch yn y gwydryn ac yfwch y dwfr, a byddwch wedi cyflawni yr hyn a ddywedasoch, sef yfed y dwfr heb i chwi symud yr het.

------------------------------------


Boneddwr, mewn ciniaw gyhoeddus, a ofynodd i un a eisteddai yn ei ymyl, “A fyddwch chwi mor garedig ag estyn y mwstard i mi?” “Syr,” oedd yr ateb, “yr ydych wedi camgymeryd trwy feddwl mai y gwaetiwr ydwyf.” “Na,” meddai y llall, “camgymerais trwy feddwl mai gwr boneddig oeddych.”


(x14)

“Fel yr oedd y Parch. J. Williams, Llecheiddior, yn marchogaeth yn Sabbath tua Chapel yn nghymydogaeth y Garn, i bregethu, gwelai fachgen o ddullweddiad lled henaidd yn myned o’i flaen hyd y ffordd. Wedi ei oddíweddu, efe a ofynodd iddo, “I ba le yr wyt ti yn myned, machgen i?” “I’r Capel,” oedd yr ateb. “Pwy sydd yn pregethu yn y Capel heddyw?” “John Williams, Llecheiddior,” ebai y bachgen. “Sut bregethwr ydi o?” “Symol,” meddai y bachgen. “A fyddi di yn gweddïo weithiau dros y pregethwyr, fy machgen i?” “Dim ond tros ddau.” “Pwy ydi’r ddau hyny machgen i?” “T--s W--s, Rh--n, a John Williams, Llecheiddior,” meddai y bachgen. “I ba beth y byddi di yn gweddïo dros y rhei’ny, mwy nâ rhywrai ereill, machgen i?” “Fyddai i yn gweddïo am gymhorth i T--s W--s, gael rhywbeth i dd’eyd, ac am gymhorth i John Williams, beidio d’eyd gormod.”

------------------------------------

Wy mewn potel.

Gosoder ŵy ffres mewn chwart o vinegar cryf am bedair awr ar hugain, ac aiff y plisgyn mor feddal fel y gallwch wthío’r ŵy mewn i botel. Yna llanwer y botel o ddwfr croeyw, a newidier ef ddwy neu dair gwaith y dydd, a bydd i’r ŵy fyned yn galed drachefn. Ond defnyddio potel o wydr goleu, a genau tua modfedd o dryfesur {diameter) . Gallwch bery cryn syndod i’ch cyfeillion trwy ddangos y cyfryw botel iddynt, a’r ŵy ynddi.

------------------------------------


Gair Mwys. — Yr oedd y gynulleidfa yn S-- wedi deall na fyddai y casglydd yn rhoddi dim yn y casgliad ei hunan, ac awgrymodd rhywun hyny wrtho. “O,” meddai yntau, “nid yw yr hyn yr wyf fi yn ei ro’i yn ddim i neb.”

------------------------------------
 
“Cyfarfu T. â Clwydfardd yn ngorsaf y rheilffordd. Ebai T., “Pwy a gaf fi i gario fy mhortmanteau i fyny (x15) i’r dref?” “Mi cariaf fi ef,” ebai Clwydfardd. “Na,” meddai T., “nid wyf am wneyd porter o honoch Clwydfardd.” “Gwell genyf o lawer,” atebai y bardd, “i ti wneyd porter o honof nâ bîr, oherwydd pe byddem yn fîr, llyncit fi yn y fan.” Yr oedd T. yn dra hoff o’i wydraid cwrw.

------------------------------------


Dywedodd un o gyfeillion Mr. Evans, Llwynffortun, wrtho rywdro, “Mr. Evans, yr ydych gwedi cludo eich hunan yn go lew.” “Y mae yn oer, my dear Sir,” ebe yntau; “ac heb law hyny, y mae dillad y plant bob yr un am danaf fi a’r wraig.” Ni bu ìddo blant.

------------------------------------


Tair graig rhyfedd.— “Gwr da, hynod am ei arabedd, a briododd dair gwraig — y cyntaf am ei chyfoeth, yr ail am ei phrydferthwch personol, a’r drydedd a briododd yn ei hen ddyddiau er mwyn ei chael i ofalu am dano a’i gysuro, ond troes allan yn un hynod o ddrwg, ac yn achos o ofid mawr iddo. “Wel,” meddai un diwrnod wrth gyfaill, “yr wyf yn fy amser wedi priodi tair o wragedd — y byd, y cnawd, a’r diafol.”

------------------------------------


Ffolineb yn cael ei geryddu. — “Yr oedd y diweddar Barch. Dr.-- un tro yn rhodio yn ymyl y môr, pan y daeth dau ddyn ieuanc dibris ato a gofyn- asant iddo a allai eu hysbysu pa liw oedd gwallt y cythraul? Ar ol edrych ar y ddau ysgogyn yn graffus am foment, dywedodd, “Yn sicr dyma beth rhyfedd, dau ddyn wedi bod yn gwasanaethu meistr holl ddyddiau eu bywyd, ac heb wybod lliw ei wallt.”

------------------------------------


Nwy.

I wneuthur nwy (coal gas) ar raddfa fechan, cymmerer pibell, a gosoder ychydig fân ddarnau o lô yn y man lle yr arferir gosod y tybaco. Ar ben y mân ddarnau hyn o iô, gosoder darn o glai llaith nes cauad (x16) i’r lan enau y bibell yn holiol. Wedi i’r clai sychu, gosoder pen y bibell yn y tân, i losgi, gan adael y coes i sefyll allan yn glîr o’r tân. Yn fuan gwelir mwg yn dyfod allan trwy goes y bibell. Dyna’r nwy — yr un peth a’r nwy sydd yn goleuo ein trefydd ar hyd y nos. Gosoder y mŵg yma ar dân a bydd iddo losgi yn glir am beth amser.

------------------------------------

Rheswm Cadarn. —

 

Rhys. “Paham yr ydych yn gwisgo yr hen het salw yna?”
Owain. “Am fod fy ngwraig yn dweyd na ddaw gyda mi nes y ceisiaf het newydd.”

------------------------------------


Ymerawdwr, pan ei cyfarchwyd ef un diwrnod gan gardotyn,