Gwefan Cymru-Catalonia:
La Web de Gal·les i Catalunya
 

CYNNWYS Y TUDALEN HWN:

Llanidloes / O. M. Edwards / 1891

baneri http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/ sion_prys_090_llanidloes_1891_110215_2789k.htm


LLWYBR:

Yr Hafan 0001 kimkat0001

Cynhwyslen Cywaith Siôn Prys 0960k kimkat0690k
y tudalen hwn

CHWILIWCH Y WEFAN HON

 

 (delwedd 7375)

Pe buasai dolen gyswllt ar gyfer tudalen arall yn y wefan hon yn methu am ryw reswm,

gellir dod o hyd i’r tudalen trwy gyfrwng Google. Teipiwch kimkat ac wedyn rhif y tudalen –

er enghraifft, ar gyfer dolen gyswllt 1276k, rhowch kimkat1276k


Mae
tudalennau gwreiddiol yr erthygl hwn iw gweld yn:

http://www.youtube.com/watch?v=NlDCAz0U4NA (Cymraeg. 15-02-2011. Llanidloes. Erthygl gan O.M. Edwards (1891)


CYMRU

CYFROL 1, RHIF 5
RHAGFYR 15fed, 1891
 
LLANIDLOES.
O. M. Edwards.

Owen Morgan Edwards (29-12-1858 Llanuwchllyn – 15-05-1920 Llanuwchllyn)


“Llanidloes, lle i anadlu
Awyr a gwynt Cymru gu.” — Ceiriog.
 
Ym mis Gorffennaf diweddaf yr oeddwn yn teithio i fyny dyffryn yr Hafren, gan ddyfalu pa fath le allai Llanidloes fod. Ceisiwn ddarlunio ei hymddanghosiad i mi fy hun, yng nghanol mynyddoedd, lle nad yw’r Hafren ond aber; ceisiwn ddychmygu a welwn blant Siartwyr 1839, ac a oeddynt yn cofio am frwdfrydedd rhyfedd eu tadau; ceisiwn ddyfalu pa argraff adawai ei phobl arnaf. Treiais weled hanes y dref yn glir trwy droion canrifoedd, gan edrych allan ar y dyffrynnoedd ffrwythlawn y cyflymem drwyddynt; a thybiwn fod gwawr Gorffennaf, gwawr cyfoeth, darganfyddiad, a meddwl, ar hanes Llanidloes. Ond, rhag i’m meddyliau droi’n freuddwydion ofer, penderfynais beidio ffurfio syniad am Lanidloes nes y gwelwn hi, a throais i edrych ar fy nghyd-deithwyr.
 
Gwelais eu bod oll yn edrych, gyda gwên ddireidus, ar un o honom. Geneth oedd honno, a gwallt fflamgoch. Yr oedd yn eneth brydferth; ac fel pob un fedd wallt o liw blodau’r eithin, yr oedd wedi ymwisgo mewn lliwiau tanbaid, a’r lliwiau’n toddi i’w gilydd yn dlysaf peth welais erioed. Ond nid ei gwallt o liw’r goelcerth, ac nid prydferthwch lliwiau ei gwisg, oedd yn gwneyd i’w chyd-deithwyr wenu. Yr oedd yn ceisio rhoi edeu mewn nodwydd, ac yr oedd ysgytiadau’r tren yn ei wneyd yn beth amhosibl iddi daro pen yr edeu i’r crai. Treiai dro ar ol tro, ac yr oedd pawb yn ei gwylio, ac yn


(TUDALEN 200) cael rhyw hanner mwynhad wrth ei gweled mor agos i lwyddo, ac yn methu. Yr oedd yno hogyn ysgol, ac yr oedd yn mwynhau yr olygfa ymron gymaint a phe buasai ef ei hun wedi rhoi rhyw sylwedd tryloew yn llygad y nodwydd; yr oedd yno hen wraig yn edrych dros ei spectol, ac wedi gollwng ei phapur newydd; yr oedd yno hen lanc, heb weled ymgais i roddi edeu mewn nodwydd yn y tren o’r blaen, ac yn gwylio bysedd yr eneth bengoch mor ddyfal dros ei hysgwydd a phe buasai’n parotoi i drwsio’r twll oedd yn ei hosan ef; yr oedd yno hen fachgen mawr tew, a llygaid fel gwydr, a’r rheini’n llawn o chwerthin, tebyg i lewyrch haul ar risial.
 
Ond toc, rhoddodd y tren ysgytiad mwy nag arfer, a thaflwyd braich yr eneth heibio i’r nodwydd oedd yn ddal yn ei llaw arall, nes y plannodd yr edeu yn llygad yr hen lanc. Gyda fod yr ysgytiad drosodd, yr oeddym ym Moat Lane Junction, a disgynnodd yr hen lanc a minnau, oherwydd fod yn rhaid i ni newid tren. Yr oedd yn rhwbio ei lygad dolurus, a mynnai mai o fwriad y plannodd yr eneth yr edeu yn ei lygad. A chan enwi un y dywedir yn gyffredin fod yn rhaid cael dwy goch i’w wneyd, sicrhaodd fi fod lliw yr eneth honno yn sicrwydd mai tanio wnai ar y rhybudd lleiaf. Dan wrando ar achau merched, aethom trwy ddolydd meillionog, trwy Landinam a’i blodau, a thoc gwelsom Lanidloes a chopâu mynyddoedd lawer. Moel a llwm oedd yr olwg gyntaf ar y dref o’r orsaf, gwelwn ystryd lydan yn dechreu draw, ac yn rhedeg i lawr i gyfeiriad yr afon. Yr oeddwn wedi codi’n foreu, wedi gorfod cipio rhyw damaid cyn rhedeg at y tren, ac heb ymdrwsio mor ofaluis ag y dymunwn wneyd. I fanylu, nid oeddwn wedi eillio, ac yr oedd y cadach wisgwn am fy ngwddf wedi gweld dyddiau gwell.
 
Troais i’r gwesty cyntaf gawn, cefais yno foreubryd blasus, ac yna eis i’r heol i brynuu rhyw fân betheuach, gan gofio, wrth i mi eu gweled hwy, y byddai pobl Llanidloes yn fy ngweled innau. Y peth cyntaf a’m tarawodd oedd Seisnigrwydd masnachwyr y lle.
Yn y gwesty, ni fedrai’r forwyn Gymraeg mwy na barnwr neu eneth ysgol. A phan droais i mewn i siop haiarn, gofynnodd siopwr braf melynwallt imi yn Saesneg beth a gai werthu i mi. Ond pau ofynnais yn Gymraeg iddo am rasel, siaradodd Gymraeg mor rigil a minnau. Cerddais i lawr yr heol, gan synnu beth allasai’r adeilad coesau pren sydd ar ganol yr ystryd fod, a throais am y gornel i siop dilledydd, a gofynnais i ferch ieuanc weddus ei phryd am gadach fel y cadach wisgwn am fy ngwddf. Buom dipyn o amser yn deall ein gilydd, a chanodd rhywun direidus am y tro, gan ddychmygu deuawd fel hyn, —
 
“Oes gennoch chwi gadach du?”
..”What is it you want?”
“Maddeuwch fy mod mor hy.”
..”Leave off your cant.”
“Mae arnaf ei eisiau yn awr.”
..”The gibbering clown.”
“Mi dalaf, chostiff o fawr.”
..”You are a pest in the town.”
“Peth fel hwn i’w roi fan hyn.”
..”Oh, that’s better.”
“Dyma am dano ddeuswllt gwyn.”
..”Oh, what bother!
“Diolch i chwi am eich mwynder.”
..”Boy, reach me a mourning kerchief.”
“Bellach caf fy nghais ar fyrder.”
..”I’ll watch the man, he’s bent on mischief.”

“Na, nid hwnne, ond rhimin du main.”
..”Won’t that suit you, try.”
“Un gloewddu, ‘r un lliw a’r brain.”
..”Oh, you want a black neck-tie!”
“Dyna fo! Faint yw ei bris o?”
..”Thirteen pence, or say a shilling.”
“Rhof mi rof fi hynny am dano.”
..”Thanks, I wish you a good morning.”


[Exit


“Y faeden, pam na ddallte hi Gymraeg?”
..”Poor fellow, he must be an Africaner.”
“Nid y fi yng Nghymru sieryd Saesnaeg.”
..”Escaped from Stamley or the asylum warder.”
 
Ymhell wedi i mi adael Llanidloes gwelais yr uchod ar lun “ymgom rhwng gwâr ac anwar yn Seoldinall.” Ond yr wyf yn protestio yn erbyn y fath ddesgrifiad, oherwydd nad yw wir. Os oedd rhywun yn ddrwg ei dymer wrth brynnu’r cadach, myfi oedd. Yr oedd y ferch ieuanc a’i gwerthodd yn siarad Cymraeg campus, ac yn un amyneddgar iawn.
 

Ond, o’r diwedd, dyma’r cadach newydd am fy ngwddf, a minnau’u edrych drosto ar Lanidloes a’i thrigolion. Cerddais i ddechreu ar hyd yr ystryd fawr sy’n rhedeg i lawr at yr Hafren, o dan yr hen neuadd sy’n sefyll, fel dyn ar strydfachau, wrth ben yr heol. Dyma gysgod braf i’r bobl fedr fyw’n segur, ond ychydig iawn o lercwyr welais yn Llanidloes. Gadawodd y dref argraff arnaf ar unwaith ei bod yn lle glân, a thybiwn fod gan y trefwyr wynebau deallgar iawn. Yr oeddwn newydd fod yn crwydro drwy drefydd ereill ar gyffiniau Maldwyn a’r Amwythig, a theimlwn fy mod mewn tref oedd wedi cael addysg well na’r trefydd hynny. Nis gwn a ydyw’r frawddeg ysgrifennem yn ein copy books yn yr ysgol, heb ei ddeall bid siwr, yn wir, — “Cleanliness is next to godliness;” ond gwn hyn, fod rhyw gysylltiad agos rhwng dwfr glân gloew a glendid moes. Os gadewir ffosydd drewedig mewn tref, ac os gadewir ei heolydd neu ei thai’n fudron, y mae hyn yn sicr o roddi rhyw ddiogi meddwl, rhyw amharodrwydd meddwl at lanhau, i’w thrigolion. Wedi ymgynefino a gadael pethau anymunol o’i gwmpas, buan y dysgir dyn i adael llonydd i bethau anymunol ymgartrefu yn ei foes a’i feddwl. Ond am Lanidloes, — dyma hi yng nghanol y mynyddoedd, y dref


(TUDALEN 201) gyntaf ar yr afon Hafren, lle mae’r dwfr yn dryloew wrth lithro hyd lwybr glân o raian neu graig. Yr oedd glendid y dref wedi ymddelweddu ar y gwynebau welwn, ac ni fum mewn tref erioed lle mae’r hen bobl yn edrych mor sionc ac ieuanc.
 
Tan feddwl a sylwi, cyrhaeddais y Bont Fer, pont sy’n taflu dros yr Hafren lle mae erchwynau carreg gwely’r afon yn agos iawn at eu gilydd. Ac wrth edrych i fyny ar hyd yr Hafren tua’r mynyddoedd draw, gwelwn gwm yn llawn o olygfeydd y medraswn dreulio blynyddoedd i’w mwynhau. Gwyddwn fod hanes i’r cymoedd o gwmpas, gwyddwn fod Edward Morgan y Dyffryn wedi ei eni yn un o honynt, gwyddwn fod y Siartwyr wedi bod yn dadleu eu hegwyddorion chwyldroadol yn y tai o’m cwmpas. Yr oedd arnaf awydd holi, ac arhosais nes y doi rhywun hamddenol dros y bont, gan fwynhau dwndwr yr afon wrth iddi furmur yn ddedwydd tra’n troi ffatri ar ol ffatri, a thra’n torri’u ewyn o lawenydd ar graig ar ol craig. Erbyn y cyrhaedda y trefydd nesaf, bydd ei dwfr wedi colli ei burdeb, bydd hithau wedi colli llawenydd y mynyddoedd, ac yn llithro’n araf ac yn brudd ar ei chrwydriadau maith. Ond dyma ddyn yn dod, ffatrwr bach prysur, a’i ffedog wedi ei throi i un ochr. Medrais wneyd iddo aros, a dechreuais ei holi. Ond ni wyddai ddim am Lanidloes, newydd ddod yno o Drefclawdd yr oedd, ac aeth ymaith dan wenu’n hapus. Ar ei ol daeth gŵr tal teneu, gan gerdded yn hamddenol, ac ysbio arnaf oddi tan ei aeliau. Daeth ataf, a rhuddodd ei bwys ar y bont yn f’ymyl. Dyma fo, meddwn wrthaf fy hun, yrwan am holi.
 
“Na, welwch chwi,” meddai, “fum i ddim yn Llanidloes er ys deugain mlynedd, o Ruddlan y dois ar daith i weled Cymru, a dyma fi yn Llanidloes eto, ar ol amser mor hir. Yr wyf newydd weled fy mrawd, sy’n byw yn y cwm draw, a phrin yr adnabyddom ein gilydd wedi cymaint o flynyddoedd.” Dywedodd mai Anibynnwr oedd wrth ei grefydd, a thafarnwr wrth ei alwedigaeth. Gwahoddodd fi i’w dy pan awn i Ruddlan, a gwelais ef yn syllu ar dai Llanidloes nes y cuddiodd y neuadd coesau pren ef o’m golwg. Fel y gwelwn yn y man, peth pwysig iawn i deithiwr ydyw ei fod yn gofalu dweyd y gwir.
 

Cyn i neb arall groesi’r Bont Fer, troais o honi i lawr gyda’r afon ar hyd heol Pen y Graig. O hon rhed llawer o ystrydoedd bychain culion, gyda thai newyddion glân, a’r tai i gyd ar graig lâs olchwyd yn lân gan y gwlaw. Meddyliwn am dref Basel o hyd, y dref sydd ar lan y Rhein, — yr oedd dwndwr yr afon a glanweithdra’r tai a phryd y bobl yn gwneyd i mi feddwl er fy ngwaethaf fy mod yn y ddinas honna, dinas y bu ei gweithwyr yn noddwyr i ryddid a’r Beibl pan oedd tywysogion byd yn elynion iddynt. Ni welwn fawr o bobl Llanidloes ond hen bobl a phlant, — hen wyr a hen wragedd mewn amlder dyddiau, a bechgyn a genethod yn chware yn ei heolydd hi. Gwelais lawer gwyneb tarawiadol yn estyn allan o ddrysau’r tai, — llygaid duon, trwyn enfawr, a gwallt gwyn. Saesneg siaredid a’r plant, ond yr oedd pawb yn berffaith barod i siarad Cymraeg.
 
O dipyn i beth dois at yr eglwys, yr oeddwn wedi gweled ei thŵr anorffenedig o bell, yn ymddyrchafu o fysg coed a llwyni. Y mae’r eglwys a’r fynwent mewn lle prydferth iawn, ar fryncyn sy’n codi o lan yr afon; ac nid yw’r fynwent hon yn ddistaw fel mynwentydd ereill, eithr y mae dwndwr tragwyddol y dwfr i’w glywed o honi. Y mae’r fynwent yn llawn iawn,— bu Llanidloes yn lle pwysig, pan oedd wyth gant o beiriannau nyddu’n mynd ar unwaith, — ac y mae’r beddau wedi eu palmantu â cherrig a’u harddu â blodau. Y mae’r cerrig beddau’n dweyd hanes y dref, dengys yr enwau fod Saeson o rannau gweithfaol Lloegr wedi ymgymysgu a thrigolion y mynyddoedd i drin gwlan ac i’w weu’n wlanen. Woosnam, Hamer, Kay, Mills, Ashton, Bowen, Maypole, Marshall, Roderick, — dyna gymysgfa digon rhyfedd. Ar un bedd gwelais enw gwladaidd iawn, enw a’m hadgofiai am lawer hen ffermdy clyd, — “William Shôn.”
 

Wedi tro o gylch y fynwent, un o’r llecynnau prydferthaf trwy Faldwyn i gyd, troais i edrych ar yr eglwys. Y mae’n anodd i unrhyw adeilad edrych yn fawreddog a hardd yng Nghymru, nis gall yr un adeiladydd ymgystadlu a’r hwn sylfaenodd y mynyddoedd; y mae mynyddoedd Cymru’n gwneyd yr eglwys uchaf fel corach, a’r castell hynaf fel creadur doe. Ond
 
“Aros wnant hwy byth yn iellanc,
..Er eu bod mor hen a’r byd;
Natur sydd yn cadw arnynt
..Swyn ei chreadigol wrid;
Engyl ar eu trumau safant,
..I ryfeddu gymaint rodd
Duw o hono ef ei hunan
..Yn eu mawredd, wrth eu bodd.”
 
(Iolo Caernarfon. “Oriau yng Ngwlad Hud a Lledrith.” 10.)
 
Nis gwn ai mawredd trumau Phumlumon oedd yn gwneyd i’r eglwys edrych yn adeilad distadl a diaddurn. Ond wedi mynd i mewn, gwelais yn union fod cyfoeth oesoedd o fewn i’r eglwys hon. Nid oedd, mae’n amlwg, fwy na rhyw naw mlynedd neu ddeg er pan “adnewyddwyd” hi; ond yr oedd yr hen golofnau cerrig gynhaliai ei bwâu a’r nenfwd

 


(TUDALEN 202) ardderchog yn dangos fod gwaith oesoedd eraill yn aros ynddi. Hwyrach fod y cerrig yn aros ynddi. Hwyrach fod y cerrig yn aros er y seithfed ganrif, ac y mae’r derw wedi bod mewn eglwys er ys dros saith gan mlynedd. Ail adeiladwyd yr eglwys tuag amser dinistrio’r mynachlogydd, rhwng 1538 a 1542, a chariwyd coed Abaty Cwm Hir iddi, oddi tros y mynydd draw. Gwyn fyd na chadwesid holl drysorau’r mynachlogydd, — trysorau oes bur a chyfoethog wedi mynd i ddwylaw rhai amhur di-ddaioni, — yn yr un modd. Enwau crefftwyr oedd ar y beddau y tuallan, fel pe buasai’r fynwent yn un o fynwentydd yr Isel-diroedd Ellmynnig; y tu mewn yr oedd enw ambell hen deulu bonheddig Cymreig, ac ambell i deulu crefft wedi ymgyfoethogi nes bod cyfuwch a hwythau, - Lloyd Glan Dulas, Evans y Faenol, a Marsh a Woosnam.
 
O’r fynwent cerddais ymlaen drwy ystryd o dai o adeiladwaith canrif o’r blaen a chyda lloriau fel y beddau o gerrig mân, nes y dois at dalcen y Bont Hir. Bum yno ennyd yn gwylio’r Hafren a’r Glywedog yn ymuno a’u gilydd, ac yn aros hyd nes y deuai hen ŵr welwn draw i ganol y bont. Cyferchais well iddo, a rhoddasom ein dau ein pwysau ar ganllaw’r bont, i ysgwrsio. Dyn mawr, dros ddwylath o hyd, oedd yr hen wr, un fu’n syth ac yn lluniaidd iawn. Yr oedd ganddo wyneb tarawiadol ac yr oedd yn weddol lân, — trwyn Rhufeinig a thalcen fel thalcen mur. Am dano yr oedd trowsus rips clytiog syml glân, — digon glân i ddydd gwaith beth bynnag, a sane bach; gwasgod frethyn, a chôt ddisgynnai oddiar ei gefn crymedig at ei arrau. Yr oedd blynyddoodd wedi ystwytho ei het i lun ei ben, ac yr oedd yr haiarn ar flaen ei ddwy ffon wedi treulio yn agos i’w hanner. Yr oedd yn llawn o ystraeon, ond nid oedd ganddo syniad clir iawn am amser. Bu’n byw ugeiniau o flynyddoedd yn Llanidloes, ond am ryw gwm yng nghyfeiriad Llanbrynmair yr oedd ei ysgwrs, dywedai mai yno’r oedd y fro dlysaf dan haul, a’r dynion cefnocaf.
 

“Yr oeddych yn ddyn cryf yn eich dydd,” ebe fi.
 
“Oeddwn,” meddai, “mi weles ddydd yr oeddwn i’n gryfach dipyn. Ond yrwan ’rydw i’n rhy hen i ddim, ’dydw i da i ddim ond i fod ar y ffordd.”
 
“Rydech chwi’n cofio llawer iawn o bethau?”
 
“Ydw, ond ’mod i’u bur ddotlyd, ’rydw i wedi gadel fy nwy a phedwar igien. ’Rydw i’n cofio Llanidloes dipyn yn llai, ’rydwi’n cofio’r amser y bydde’r wlad yma i gyd yn byw ar beth dyfe ynddi hi, ac mi weles y sached gynta o fflŵr ddaeth yma erioed yn cael ei gwerthu fan acw o flaen yr Hall. Ond mae’r Hall wedi heneiddio erbyn hyn, fel y finne, dyn a’m helpo.”
 
“I’r Eglwys y byddwch chwi’n mynd?”
 
“Choelia i fawr! Rydw i’n perthyn i grefydd, Methodus ydw i.”
 
“Ond y mae yma berson da, a chiwrad da iawn?”
 
“Oes, medde nhw, mi glywes gamol y ciwrad lawer gwaith, ac mae’r person yn eitha dyn, am wn i. Ond Saesneg gewch chi gennyn nhw bob gair; welwch chwi’r eglwys acw, does neb yn torri’r Gymraeg ynddi Sul na gwyl na gwaith. Mae nhw’n deyd mai un o Rydychen ydi’r ciwrad, a does neb ddaw oddyno’n medru siarad Cymraeg.’’
 

“Howld on, ’rhen bererin, un o Rydychen ydyw gweinidog capel y Methodistiaid hefyd.”
 
“Ie, a bachgen neis iawn ydi o, a bachgen neis anghyffredin oedd yma o’i flaen o. Ond am gapel Saesneg y Methodistiaid ’rydech chi’n meddwl, ac am y capel Cymraeg ’rydw inne’n meddwl. Ma yma gapelydd braf yn Llanidloes, dene chi gapel crand iawn gen y Sentars, ond yn capel ni ydi’r nobla. Ma yma bregethwrs da iawn hefyd, ond y mae Cynhafal Jones yn un o’r pregethwrs mwya, mae o yn i handwyo nhw i gyd. Glywsoch chi am dano fo’n,” —
 
“Good morning, a fine day.”
 
Yr oeddwn wedi gweled perchennog y llais main merchedaidd ddywedodd y geiriau hyn yn troi o’n cwmpas er ys meityn. Dyn byr di-farf oedd, a’i awydd am siarad a ni’n gryf, a’i swildod yn gryfach na hynny. Daeth atom o’r diwedd, ac yr oedd fel pe wedi dychrynnu wrth glywed ei llais ei hun. Yr oedd het lwyd feddal am ei ben, a’i chantel wedi ei droi i fyny un ochr; gwisgai drowsus o rips gwyn newydd ei olchi, a chôt o frethyn llwyd-goch. Yr oedd golwg di-daro arno, er ei swildod; safai’n syth, ond gan edrych i lawr, gydag un law ym mhoced ei drowsus a’r llall ym mhoced ei gôt. Ni fuasai neb byth yn dweyd oddiwrth ei ymddanghosiad beth oedd ei oed na’i grefydd na’i gyflwr bydol. A phe buasai raid penderfynu oddiwrth ei wyneb a’i lais, ni fuasai neb yn medru dweyd prun ai dyn ai dynes oedd.
 
“Good afternoon,” ebe finne. “Can you speak Welsh?”
 
“Medra,’n dda,” meddai’n awchus. “Mi fedra i whlia Saesneg, ond mae’n well gen i Gymraeg. Iaith fy mam ydi’r Gymraeg, ond dysgu’r llall ddaru mi. Rwan mae’r ysgolion yn gyrru’r Gymraeg o’r wlad, does dim ond ambell hen nyddwr fel y fi am siarad Cymraeg. Oeddech chwi’ch dau yn siarad am y Siartwyr?”
 


(TUDALEN 203) “Nag oeddym. A wyddoch chwi rywbeth am danynt?”
 
“Gwn; ’rown i yn i canol nhw.”
 
“Yn eu canol, does dim posib eich bod yn ychwaneg na deugain oed; ’doeddech chi ddim wedi eich geni yn 1839.”
 
“Oeddwn, ’roeddwn i’n naw mlwydd oed yn y flwyddyn honno, ac yn i canol nhw.”
 
A thra’r oedd gyrroedd o ddefaid a throliau gwlan a mwnwyr yn pasio dros y bont, dechreuodd yr hen wr hwn, — oherwydd yr oedd yn drigain oed, — adrodd yr helynt rhyfedd hwnnw. Darluniodd fel y canodd “corn Rhyddid” i alw’r brodyr i ymgynnull ar y Bont Hir; a’r pregethu tanllyd wrth dalcen y bont. Ar ganol y cyfarfod dyna waedd fod y cwnstabliaid wedi dal rhai o’r Siartwyr a’u bod yn eu cadw’n garcharorion yng ngwesty Trewythen Arms. Cododd swn digofus oddiwrth y dorf, a dyna bawb fel un gŵr yn troi o’r bont ac yn rhedeg i ganol y dre “i dorri ffenestri.” “Ac yr oeddwn inne yn i canol nhw.” Torrwyd ffenestri’r gwesty’n gandryll, rhuthrwyd i’r ty, maluriwyd y dodrefn, a diangfa gyfyng gafodd y cwnstabliaid am eu bywyd. “Mi gweles nhw’u dengid drw’r ffenest. A’r Siartwyr fu’n rheoli’r dre yma am ddyddie. ’Roedd trefen braf ar bethe’r adeg honno. Ac yr oeddwn inne yn i canol nhw.”
 
Ond, cyn hir deallodd Lord John Russell fod perygl yng Nghymru; a gwelwyd milwyr yn cyrchu i Lanidloes o bob cyfeiriad, — o Drefalawyn dan lywyddiaeth Charles Wynne, yr aelod dros y Sir, o’r Amwythig a Chaer a’r Iwerddon. Dylifasant i’r dref, — “ac yr oeddwn inne yn i canol nhw. Mi ddengodd y Siartwyr i’r wlad i ymguddio, a’r cavaldri ar i hole nhw i’w ffeindo nhw maes, a mi gweles nhw’n dwad i’r dre rhwng y cyffyle. ’Down i ddim yn i canol nhw pryd hynny.”
 

Nid oedd y dyn mawr na’r dyn bach yn gwybod beth oedd Siartaeth, a cheisiais esbonio iddynt. Dywedais am swyn egwyddorion rhyfedd y Chwyldroad Ffrengig, — rhyddid, cydraddoldeb, brawdgarwch. Dywedais am y deffroad gwleidyddol y gwelodd Siartwyr Llanidloes ei fore.
 
“Braint oedd cael byw y dyddiau hynny, A nefoedd bod yn ieuanc,”
 
ebai bardd oedd ya Geidwadwr selog cyn diwedd ei oes. Dywedais mai nid torri ffenestri a lluchio cerrig at gwnstabliaid oedd unig amcan hen wroniaid Llanidloes, — ond croesawu bore rhyddid oedd iddynt hwy fel bore cyntaf teyrnas Dduw. Yr oedd tlysni meddyliau am fyd heb drueni wedi eu dallu, yr oedd eu brwdfrydedd wedi dallu eu ffydd.
 
“Pe gwneid y Cymry mor aiddgar dros wleidyddiaeth ag ydynt dros grefydd,” meddai gwleidyddwr o Sais am danynt yr adeg honno, “byddai eu sel yn gaffaeliad amhrisiadwy.” Nid dynion di-werth oeddynt, ond dynion yn pryderu ddydd a nos am gyflwr eu cyd-ddynion, bu un o leiaf o honynt yn ymladd dros y caethion yn yr Amerig, dynion diwyd a gonest oeddynt pau ddaethant o’u carchar. Ac erbyn hyn y mae eu meibion wedi cael ymron yr oll a geisient hwy. Dywedir i mi fod gwaed y Siartwyr yn Llanidloes eto. A ydyw hynny’n wir?
 
Yr oedd y dyn mawr a’r dyn bach yn dechre blino ar ysgwrs fel hyn, hawdd oedd gweled eu bod yn ceisio dyfalu beth oeddwn, ac y buasent yn hoffi ymgom fwy personol. A phan dewais, dechreuodd y dyn bach bysgota am wybodaeth, —
 
“Blonged i ffatri’r ydech chi?”
 
“Buasai’u dda gennyf feddu ar wybodaeth am weithrediadau llaw-weithfeydd.”
 

“Gwerthu slêts?”
 
“Ni fyddaf byth yn dweyd fy hanes fy hun wrth undyn. Ar egwyddorion, nid ar bersonau y byddaf yn traethu fy syniadau.”
 
“Dim ods, syr, dim ods yn y byd. Meddwl roeddwn i fod gennoch chi ryw newydd. Ma hi’n bur fllat yma yrwan, syr, y mae cannoedd o dai’n segur.”
 
“Mae digon o waith, ebe’r dyn mawr, “cael dynion i’w neyd o ydi’r gamp.”
 
“Ie,” ebe”r bach, “ond rhaid mynd o Lanidloes i’w gael o. Mae pawb yn ffond iawn o’i gartre, a ’rydw i wedi treio pob peth i gael bod yma. Mi fum yn y ffatri tan losgodd hi, ac yn y gwaith mwn tan stopiodd o. Ma yma le braf, ma’n biti gorfod mynd oddyma. Cerwch chi i fynu hyd y ffordd yma, gael i chi weld brafied gwlad ydi hi.”
 

Cerddais innau dros y bont, a dringais y bryn yr ochr draw iddi, heibio ffatri losgwyd, ffatri heb ddim ond muriau moelion a chorn simddeu uchel yn aros ar lan y dŵr. I ba gyfeiriad bynnag yr ewch o Lanidloes, byddwch yn y mynydd toc, ymysg creigiau ac eithin melyn. A daeth awel gynnes drwy’r cwm i’m cyfarfod, awel oddiar Blunlumon, yn llawn o iechyd adfywiol. Ar fy ffordd gwelais lawer ffatri ar lan aberoedd mewn hafannau dymunol, a bechgyn gyda gwynebau deallgar yn cario beichiau o wlan. Meddyliais am olygfeydd erchyll a thrueni a themtasiynau’r trefydd mawr, a gwelais mor iach a dedwydd y dylai bywyd fod yn y gweithfeydd hyn. Hwyrach y daw’r amser pan y defnyddir gallu dwfr aberoedd Cymru, ac y gwelir ochrau ein mynyddoedd yn llawn o weithfeydd prysur dedwydd. Ac erchylldra a phechod y trefydd mawrion ni bydd mwy.
 

(TUDALEN 204) Bum yn syllu’n hir, oddiar ben bryn, ar y mynyddoedd sy’n amgylchu Llanidloes, tarddleoedd yr Hafren a’r Wy. Cofiwn nad oes odid ardal ar lannau’r afonydd hyn heb golli eu Cymraeg, ac y mae Saesneg yn ymlid yr hen iaith yn galed i fyny hyd at ffynhonellau’r ddwy afon. Yr ochr hon i’r mynyddoedd, Llanidloes yn unig sydd wedi cadw ei Cymraeg, a rhaid fod cariad ei thrigolion at eu hiaith yn angerddol cyn y buasai wedi gwrthsefyll Saesneg cyhyd. Ni chlywir gair o Gymraeg yn ei heglwys, mi glywais, — gobeithio nad yw’r hyn a glywais yn wir; ni ddysgir Cymraeg yn ei hysgolion, — y dref wnaeth gymaint dros lenyddiaeth Cymru; ei phulpudau Ymneillduol a’i haelwydydd yw unig nodfeydd yr iaith Gymraeg.
 
“Peth digon pruddglwyfus,” ebe rhywun, “ydyw edrych ar iaith henafol yn marw yn ei chwm olaf, ond pa golled sydd oddigerth i deimlad Cymro?” Y mae colled anhraethol. Dowch i lawr i’r orsaf obry, edrychwch ar y llyfrau Saesneg werthir yno, — llyfrau’n gwanhau meddwl, yn dirywio chwaeth, yn llygru moes, — trwyddynt hwy y mae Saesneg yn dod i Lanidloes. Nid mater o golli iaith ydyw i ardal golli ei Chymraeg, — cyll nerth ei mheddwl ar yr un pryd. Nid oes yn y byd foddion addysg fel Llenyddiaeth Cymru; dalied pob Cymro ei afael yn yr hen iaith, a dysged Saesneg hefyd.
 
Wrth ddod i lawr i Lanidloes yn fy ol, er mawr lawenydd i mi, cyfarfyddais weinidog Bethel. “Rhaid i chwi ddod gyda mi heno i edrych am Hafrennydd,” meddai, “chwi a’i cewch yn un wrth fodd eich calon.” A phenodasom awr i fynd.*
 
(*Oherwydd fod y bennod hon mor hir gadewir yr ymgom â gweinidog Bethel, a’r ymweliad à Hafrenydd, a hanes Llanidloes, hyd amser arall,— GOL.)
 
Wrth adael ty yr hen frawd mwyn, gydag adlais ei “Landinam” yn fy nghlustiau, clywais beth o Saesneg truenus y dre. Rhyw hanner Cymraeg hanner Saesneg ydyw, clywais son am “top o’ town,” a chlywais am un yn gofyn i’w gariad, — “Wilt thou meet me at Plwmp o’ the Hall, fach?”
 
Boreu drannoeth, yr oedd haul ar y mynyddoedd, a phenderfynais innau dynnu llun neu ddau o brif adeiladau’r dref. Ond mor fuan ag y gosodwn fy nghamera a’i lygad ar yr adeilad, byddai tyrfa o blant o’m blaen. Ni welais gymaint o blant yn unlle erioed. Pa le bynnag y safwn, byddai tyrfa o honynt o’m cwmpas ymhen ychydig o funudau, ac nis gwyddwn o ba le y deuent, mwy nag y gwyddwn o ba gyfeiriad o’r awyr y daw brain i gae gwair yn ei ystodiau. Gwynebau plant oedd ar fy ngwydrau i gyd, ond cefais ddarluniau prydferth gan arluniwr ieuanc o’r dref.*
 
(*J. T. Davies, China Street. Oddiwrth ei photographs ef y tynwyd y darluniau inc sydd uwchben yr ysgrif hon.)
 
Erbyn i mi osod fy hun ar gyfer y Bont Hir, a bod yn barod i dynnu’r mwgwd oddiar fy nghamera, yr oedd plant dan ei bwau, a thybiwn fod yr heu bont gadarn yn gwegio dan y llwyth o blant oedd hyd ei chanllaw hir. Yr oedd digon o gerrig crynion mân dan fy nhraed, ond cofiais dri pheth, — fod llygad fy nghamera yn wydr; y medr plant, yn enwedig disgynyddion y Siartwyr —, luchio cerrig; a dihareb estron, “Those whalive in glass housen shouldna thraw stanes.”
 
Yr oeddwn wedi meddwl mynd i Lan Gurig, i ddringo Plunlumon ac i holi’r dyn hysbys; ond nid oedd amser. Er hynny cefais dro i’r cyfeiriad hwnnw, a mwynhau wrth weled aberoedd mynyddig a blodau. Cefais ysgwrs hir â hen wr a hen wraig hefyd. Pan gyferchais well iddynt, dywedodd hi, — “Swmol, swmol; ffordd ’rych chi’n ymgynnal heddiw.”
 
“Nid un o’r dre ydych,” meddai’r hen wr tal, gyda gwawr cwestiwn ar ei ddywediad.
 
“Sut y gwyddoch hynny,” ebe fi.
 
“Ych clywed chi’n siarad Cynraeg yr oeddwn; siaradith pobol y dre ddim Cymraeg, ond pan fyddan nhw ar glemio. O mae’n biti fod yr iaith Gymraeg mewn cimin o amharch. Mi geuson ni syndod mawr echdoe, mi ddoth brawd i mi, ac ’roeddwn i heb i weld o er’s deugien mlynedd. Llawer o wahanieth sydd rhwng Llanidloes yrwan a deugien mlynedd yn ol,” —
 
Ie, dywedodd yr un stori’n union ag a glywais ar y Bont Fer. Peth pwysig iawn i deithiwr ydyw ei fod yn gofalu dweyd y gwir. Aeth yr hen wr a’i bladur i’r cae, — llawer ystod hir a laddodd yn ei oes, — a throais innau’n ol, heibio i lawer bwthyn prydferth a llawcr cae deintyr. Toc gwelwn gurad y dref yn fy nghyfarfod, gŵr diddan, a llawer awr dreuliaswn yn ei gwmni. Temtasiwn fawr oedd troi’n ol gydag ef, ac anghofio holl alwadau’r byd yn unigedd Llan Gurig; ond, ymadawsom wedi ymgom fer, yr oedd ef yn prysuro i gladdu rhyw farw, a gwelais labedi hirion ei got yn fflapio yn y gwynt ar ben yr allt cyn mynd o’r golwg.
 
Drannoeth yr oedd ffair yn Llauidloes, a bum yn ymwthio drwy dyrfa ryfedd at drên bore bore. Yr oedd pobl Maesyfed yno, a’u Saesneg ysmala; porthmyn mawr a ffyn onnen ystwyth dan eu ceseiliau; mynyddwyr Plunlumon a’u cwn a’u Cymraeg,— ond nid oedd amser i ymdroi, yr oedd y tren yn dod draw, a minne i fod yn Llanfair Muallt cyn hir brydnawn.

 

______________________________________________

 

Adolygiad diweddaraf: 2011-02-15 23.48;

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA" (Cymráeg)
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya) (català)
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website (English)
Weə-r àm ai? Yùu àa-r víziting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait (Íngglish)

 

Archwiliwch y wefan hon 
---
Adeiladwaith y wefan 
---
Gwaith cynnal a chadw

 

Cysylltwch â ni trwy’r llyfr ymwelwyr: YMWELFA

 

CYMRU-CATALONIA


Free counter and web stats