SECTION 10 The Welsh in Exile / ADRAN 10 Y Cymry Alltud

SECTION 10b. The Welsh in the United States: Iorthryn Gwynedd / ADRAN 10b. Y Cymry yn yr Unol Daleithau: Iorthryn Gwynedd

 

baneri 

Gwefan Cymru-Catalonia:
La Web de Gal·les i Catalunya

Wales-Catalonia Website

 

Wisconsin: Iorthryn Gwynedd ‘History of the Welsh in America’ (1872)

Wisconsin: Iorthryn Gwynedd ‘Hanes Cymry America’ (1872)
 
http://www.kimkat.org/amryw/1_alltudiaeth/america_iorthryn_gwynedd_taleithau_wisconsin_2803e.htm

Home Page / Yr Hafan 0001 kimkat0001

2003e Yr Arweinlen yn Saesneg / Yr Arweinlen yn Saesneg kimkat2003e  

1804e Cyfeirddalen y Cymry Alltud  / Cyfeirddalen y Cymry Alltud kimkat1804e

1050e Cyfeirddalen y Cymry yn América  / Cyfeirddalen y Cymry yn América kimkat1050e

2854e Iorthryn Gwynedd - taleithau kimkat2854e
→ this page / y tudalen hwn


(delw 0825)

http://kimkat.org/amryw/gwefan_gwegynllun_0010e_archivos/image018.jpg Y tudalen hwn yn Gymraeg: gweler y mynegai Cymraeg kimkatxxxxk


 Aquesta pàgina en català: vegeu l’índex català kimkatxxxxc

 

                            

See the video Y Cymry yn Wisconsin yn y flwyddyn 1872

http://www.youtube.com/watch?v=0dIby1WIoeM

 

(delwedd 7876)

 

 

 

Hanes Cymry America:

Wisconsin (Rhan II, Pennawd III) (Part II, Chapter III)  

 

(At present we have not translated the chapter on Wisconsin into English. Use Google translator)

 

PENNOD III.
TALAETH WISCONSIN.

Dechreuad, a Chynydd Dirfawr ei Phohlogaeth; ei Diwylliad; ei Dinasoedd; ei Reilffyrdd; ei Masnach; ei Dylanwad; ei Choedydd Gwerthfawr; a’i Gweirdiroedd Ffrwythlon. Miliynau o Diroedd Rhagorol a Rhadlawn i’w cael ynddi eto. Y Sefydliadau Cymreig: - 1. Racine, a’r Wlad o amgylch iddi. 2. Milwaukee, a’r Rolling Mill gerllaw yno. 3. Waukesha a Jefferson Counties. 4. Madison a Sun Prairie. 5. Arena. 6. Spring Green. 7. Dodgeville. 8. Y Coed. 9. Ridgeway. 10. Blue Mounds. 11. Picatonica, Mineral Point, Mifflin, Linden, &c. 12. Watertown. 13. Emmett. 14. Ixonia. 15. Oshkosh. 16. Rosendale. 17. Neenah. 18. Berlin. 19. Y Sefydliadau Cryfion yn Columbia Co.: New Cambria, Columbus, Portage City. 20. Bangor, Fish Creek, LaCrosse, a Glendale. T.d. 19-43

 

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_213_) (y019·)

PENNOD III.

TALAETH WISCONSIN.

Dechreuad, a Chynydd Dirfawr ei Phohlogaeth; ei Diwylliad; ei Dinasoedd; ei Reilffyrdd; ei Masnach; ei Dylanwad; ei Choedydd Gwerthfawr; a’i Gweirdiroedd Ffrwythlon. Miliynau o Diroedd Rhagorol a Rhadlawn i’w cael ynddi eto. Y Sefydliadau Cymreig: - 1. Racine, a’r Wlad o amgylch iddi. 2. Milwaukee, a’r Rolling Mill gerllaw yno. 3. Waukesha a Jefferson Counties. 4. Madison a Sun Prairie. 5. Arena. 6. Spring Green. 7. Dodgeville. 8. Y Coed. 9. Ridgeway. 10. Blue Mounds. 11. Picatonica, Mineral Point, Mifflin, Linden, &c. 12. Watertown. 13. Emmett. 14. Ixonia. 15. Oshkosh. 16. Rosendale. 17. Neenah. 18. Berlin. 19. Y Sefydliadau Cryfion yn Columbia Co.: New Cambria, Columbus, Portage City. 20. Bangor, Fish Creek, LaCrosse, a Glendale. T.d. 19-43

Talaeth fawr, gyfoethog, ac enwog yw hon; cynnwysa yn agos i 60 o siroedd; mae yn oludog o diroedd amaethyddol da, o goedwigoedd eangfaith a gwerthfawr, ac o fwnau plwm a haiarn rhagorol. Terfynir hi o du y de gan dalaeth Illinois; o du y dwyrain gan Lake Michigan; o du y gogledd gan dalaeth Michigan a Lake Superior; ac o du y gorllewin gan afon y Mississippi, a thalaethau Iowa a Minnesota. Y mae ynddi amrai o lynoedd mawrion, a bychain, a rhai o honynt yn fordwyol; ac o afonydd dyfnion, cyfleus i nofio llongau a choedydd arnynt, megys y Wisconsin, y Chippewa, y Fox, y Rock, y Menomonee, y Wolf, y St. Croix, y Black, &c. Ymdywallta llawer o honynt i’r Mississippi, rhai i Lyn Michigan, un i Green Bay, a rhai i Lake Superior. Nid oes ynddi fynyddau mawrion; ond ceir ynddi, mewn manau, rai bryniau uchel, megys y Blue Mounds, y Platte Mounds, &c.; ac y mae y llethrau oddeutu rhai o’i hafonydd yn codi yn uchel; ond y rhan fwyaf o honynt yn goediog. Gyda’r eithriadau a nodwyd, gwastadedd eangfaith, ond weithiau yn doredig a thonog, gan goedydd a phrairies, yw holl arwynebedd y dalaeth. Mae ei dyfroedd yn loewon ac iachus; ond ei hinsawdd yn lled oer yn y gauaf, ac yn lled wresog yr haf. Dechreuwyd ei phoblogi gan bobl wynion - y Ffrancod - yn gyntaf oddeutu y Green Bay; a derbyniwyd hi i’r Undeb Mai 29, 1848. Nid oedd ei phoblogaeth yn 1850 ond 305,391; ond yn 1860 yr oedd yn 775,881; ac yn 1870 yr oedd yn 1,055,167. Cynyddodd yn agos i saith gan’ mil a haner yn yspaid yr ugain

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv

(_214_) (y020·) Y GORLLEWIN PELL.

mlynedd diweddaf! Ei siroedd mwyaf poblog a orweddant ar Lyn Michigan. Ei phrif ddinasoedd a’i threfydd ydynt Milwaukee (poblogaeth 71,499 yn 1870), Fond du Lac, Oshkosh, Madison, Racine, Janesville, Watertown, Portage City, La Crosse, Beloit, Prairie du Chien, &c. Madison yw prif ddinas swyddogol y dalaeth, a Milwaukee yw prif dref ei marchnadoedd - mae hon yn gyfleus i’r llongau o’r Llyn Michigan, ac i’r reilffyrdd bob cyfeiriad o’r wlad. Ei phrif reilffyrdd ydynt: 1. The Milwaukee & St. Paul Railway, gyda’r hon y gellir myned o Milwaukee trwy Madison ac Arena, a Spring Green, a Prairie du Chien (yn Wisconsin); a McGregory, a Lime Spring (yn Iowa), ac Austin ac Owatonna i St. Paul, yn Minnesota, (
408 m.); neu gyda changenau ereill i Waukesha a Monroe; neu trwy Horicon i Berlin ac Oshkosh, a Winneeonne, a Cambria, a Portage City; neu trwy Watertown, a Columbus, a Portage City, a Tomah, a Bangor, i La Crosse, ar lan y Mississippi; ac y maent yn awr yn ei hestyn yn mlaen o Tomah, trwy siroedd Monroe, a Jackson, ac Eau Claire, a Dunn, a St. Croix, i Hudson, ar lan afon St. Croix, gyferbyn ac yn agos i St. Paul, yn Minnesota. Hon yn sicr yw y brif reilffordd yn Wisconsin, a’r fwyaf cyfleus i ymfudwyr i fyned i ogledd-ddwyrain Iowa, ac i Minnesota; ac yn fuan bydd yn cysylltu a’r Northern Pacific R.R. 2. The Chicago and North-Western Railway, yr hon sydd yn myned o Chicago trwy Havard Junction, a Janesville, a Milton Junction, a Watertown, a Minnesota Junction, a Fond du Lac, ac Oshkosh, a Neenah, i Green Bay, yn y gogledd (242m.) Hon hefyd sydd yn rhedeg o Chicago trwy Racine i Milwaukee (85 m.); a gellir myned gyda hon hefyd i Fulton, Dubuque, Cedar Rapids, Council Bluffs, ac Omaha (491 m.) 3. The Western Union Railway, yn

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv

(_215_) (y021·) TALAETH WISCONSIN.

hon sydd yn rhedeg o Racine a Milwaukee, trwy Elkhorn, a Clinton, a Beloit, a Freeport, a Savanna, i Rock Island, yn Illinois (
197 m). Er fod yn y dalaeth hon dros bedair miliwn (4,000,000) o erwau o dir dan driniaeth, bernir fod ynddi eto 30 o filiynau o erwau heb eu diwyllio! Y siroedd mwyaf anmhoblog ac anniwylliedig ydynt Ashland, Bayfield, Barren, Burnett, Douglas, Chippewa, Marathon, Oconto, Clark, Wood, Shawano, &c.; ac wrth sylwi ar y map, gwelir fod y siroedd hyn oll yn y rhandir gogleddol o’r dalaeth, ac yn cynnwys yn agos i haner ei harwynebedd. Coedwigoedd mawrion a thewion sydd arnynt, y rhai sydd dra gwerthfawr; ond nid yw y tiroedd sydd danynt, mewn llawer o fanau, mor gymhwys at amaethyddiaeth a thiroedd breision y prairies a’r mân-goedydd sydd yn rhai siroedd y rhandir deheuol o’r dalaeth; er hyny gellir gwneyd tyddynau rhagorol mewn llawer o honynt. Ceir ynddynt lawer iawn o diroedd y Llywodraeth, yn gartrefi rhad, neu am $1.25 yr erw; thros un filiwn a haner o diroedd perthynol i lywodraeth y Dalaeth, a gellir ei brynu am o $1 i $2 yr erw, a than hyny mewn manau. Mewn perthynas i diroedd y Dalaeth, gellir cael pob gwybodaeth reidiol am danynt gan yr Anrhydeddus Llewelyn Breese, Cofiadur y Dalaeth (Secretary of the State), yn ei swyddfa yn Madison, Dane Co., Wis. (Gwel y llyfr a gyhoeddwyd yno yn Mai, 1870, o’r enw “ Ystadegau o Adnoddau, Cynyrchion, a Phoblogaeth Talaeth Wisconsin, gan ‘Fwrdd yr Ymfudwyr,’” Gellir cael rhai o honynt yn rhad ond anfon at Mr. Breese am danynt.)

Dechreuodd y Cymry ymsefydlu yn Wisconsin er ys dros 29 ml. yn ol, tua’r fl. 1842, cyn i’r dalaeth gael ei derbyn i’r Undeb, ac yn mhell cyn i reilfifyrdd gael eu gwneuthur yno. Daeth llawer o honynt o Arfon,

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv

(_216_) (y022·) Y GORLLEWIN PELL.

Meirion, Mon, a Maldwyn, G.C. Sefydlasant gyntaf yn siroedd Racine, Waukesha, Jefferson, Dodge, Columbia, Sauk, ac Iowa; a gwelsant lawer o anfanteision, a dyoddefodd rhai o honynt lawer o gyfyngderau; ond erbyn heddyw, trwy ddiwydrwydd, a llafur, a bendith yr Arglwydd, y mae llawer o honynt yn bobl gyfoethog, a’r oll o honynt mewn cartrefi cysurus, yn eiddo iddynt eu hunain, a’u plant wedi cael addysg dda, a rhai o honynt yn llenwi swyddi pwysig yn Llywodraeth y dalaeth. Y mae Llywodraeth y dalaeth yn uchel iawn ei chymeriad am ei theyrngarwch, a’i chynildeb, a’i sêl dros ryddid gwladol a chrefyddol pob dyn ac egwyddorion y Gwerinwyr, ac am ei darpariadau haelionus a phrydlon, er cefnogi yr Ysgolion Dyddiol, a’r Athrofäau, a’r Asylums, a’r Gwyddorau a’r Celfyddyddau, a hyrwyddo masnach a llaw-weithfeydd y dalaeth; rhoddant hefyd bob cefnogaeth i ymfudwyr. Mae y dalaeth hefyd yn enwog am ei Heglwysi Efengylaidd, er fod ynddi lawer o Babyddion Gwyddelig ac Ellmynaidd. Mae Prif-athrofa (university) y dalaeth yn Madison, yn yr hon yr addysgir 300 o fyfyrwyr, gan oddeutu deuddeg o athrawon dysgedig. Yn Beloit, Rock Co., y mae gan yr Annibynwyr Saesnig Athrofa ardderchog, lle y cafodd amrai o blant y Cymry addysg dda. Ceir yn y dalaeth hon yn awr bob manteision a chyfleusderau crefyddol, addysgiadol, a masnachol; ac y mae ynddi eto ddigon o le i filoedd o ymfudwyr i gael cartrefi rhad, a bywioliaethau cysurus. Gall yr ysgolor, a’r masnachwr, a’r crefftwr, a’r tyddynwr, yr llafurwr, a’r mwnwr,a’r morwr, a llawforwynion, gael lleoedd da ynddi.

Ond yn awr, arweiniaf y darllenydd i gael golwg ar y gwahanol Sefydliadau Cymreig yn Wisconsin; nid

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv

(_217_) (y023·) TALAETH WISCONSIN.
o’r hynaf i’r ieuangaf, ond fel y deuant ar ein ffordd yn fwyaf trefnus:

1. RACINE, Racine Co., Wis. - Saif y dref hardd a chynyddol hon ar wastadedd uchel a ffrwythlon, ar lan gorllewinol Llyn Michigan, tua
62 m. i’r gogledd o Chicago, a 23 m. i’r de o Milwaukee. Nid oedd ond lle bychan a gwael yn 1842, pan ddaeth y Parch. Wm. T. Mathews (A.), yno gyntaf; dywed ef fel hyn: “Yn ngwanwyn y fl. 1842, daethum i Racine, Wis., lle yr oedd amrai o Gymry ar y pryd wedi ymsefydlu, a’r Trefnyddion Calfinaidd a’r Annibynwyr yn cadw cyfarfodydd undebol, heb neb yn pregethu iddynt. Parhaodd yr undeb yma hyd ddyfodiad y Parch. Richard Davies (T.C.), yn y flwyddyn 1843, pryd y corfforwyd eglwys Gymreig y T.C. ac yn fuan wedi hyny sefydlwyd yr Eglwys Annibynol Gymreig yno.” Yn y fl. 1850, yr oedd yn bentref lled fawr; ac yn 1857 yr oedd yn dref boblog, a llawer o drigfanau ac o eglwysi, a masnachdai ynddi, a’i masnach mewn lumber, a’i llaw-weithfeydd yn dechreu blodeuo, a’i melinau blawd yn dechreu tynu sylw, y rhai ydynt eto yn fywyd a nerth iddi. Ond erbyn y fl. 1870, yr oedd ei phoblogaeth dros ddeng mil, a’i masnach yn fwy bywiog nag erioed. Hi yw prif dref y sir; ynddi y mae y Court House. Ceir ynddi lawer o heolydd llydain, o gapelau ac ysgoldai rhagorol, o stores mawrion, ac o weithdai cerbydau, &c. Mae ynddi yn awr lawer iawn o wahanol genedloedd yn byw, ac yn masnachu - Americaniaid, Ellmyniaid, Gwyddelod, &c.; ac y mae yno lawer iawn, dichon dros ddwy fil, (2,000) o Gymry parchus a chrefyddol, o fewn terfynau y ddinas, ac amrai o honynt yn fasnachwyr cyfoethog, yn forwyr llwyddianus, ac yn grefftwyr medrus; ac y mae rhai o honynt yn byw mewn digonedd yn eu palasdai. Mae yno rai llenorion a cherddorion athrylithgar a dysgedig.

Eglwys y
TREFNYDDION CALFINAIDD yn Racine. - Ymddengys fod yr eglwys hon wedi cael ei sefydlu yn y fl. 1843. “Wedi hyny llwyddodd yn raddol. Codasant gapel yno, ac ail adeiladwyd ef er ys llawer o flyneddau. Saif mewn lle cyfleus yn y ddinas, ac y mae yn gapel da a thra helaeth. Bu amrai o weinidogion parchus a doniol yn gweinidogaethu yno; a’u gweinidog presenol

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_218_) (y024·) Y GORLLEWIN PELL.

yw y Parch. William Hughes, yr hwn sydd yn enwog fel bugail ffyddlon, ac fel pregethwr efengylaidd. Y mae yno yn awr eglwys luosog, weithgar, unol, a haelionus, a llawer o Gymry cyfoethocaf a pharchus y dref yn swyddogion ac yn aelodau ynddi . Diaconiaid, 6; aelodau, 194; ar brawf a phlant, 180; Ysgol Sabbothol, 242; cynulleidfa, tua 500; casgliadau at y weinidogaeth, $880.41; casgliadau ereill, $1,454.80.

Eglwys y T. C yn Skunk Grove.
- Saif y capel hwn yn y wlad, tua phedair milldir i’r gorllewin o Racine. Y mae yno eglwys fechan, ffyddlon, dan ofal gweinidog parchus eglwys y T.C. yn Racine. Aelodau, 27; plant, &c., l6, Ysgol Sabbothol, 50; cynulleidfa, tua 80. Casgliadau, $185.87.

Eglwys y
r ANNIBYNWYR yn Racine. - Sefydlwyd hon yn
1848, a chynyddodd yn raddol. Codasant gapel coed bychan yno er yn yn agos i ugain mlynedd. Bu y gweinidogion canlynol yn llafurio yno, sef y Parchedigion Evan J. Evans, John Parry, Evan Griffiths, Cadwaladr D. Jones, ac eraill. Dechreuodd y Parch. William Watkins weinidogaethu yno yn 1868, ac y mae yno eto yn barchus a defnyddiol. Yn 1870 codasant gapel mawr a hardd o briddfeini, yn agos i’r hen gapel, ond mewn heol arall fwy cyfleus. Mae yn 60 tr. o hyd wrth 40 tr. o led - wedi ei wneyd yn chwaethus oddifewn ac oddiallan, a basement rhagorol dano. Traul, $8,000 am y lot a’r adeilad. Agorwyd ef yn niwedd y fl. 1870. Cyfranodd yr eglwys a’r gynulleidfa yn haelionus iawn er talu ei draul. Yn haf y fl. 1871, gorfu i’r gweinidog parchus Mr. Watkins roddi ei weinidogaeth sefydlog yno i fyny, o herwydd gwaeledd ei iechyd.

Eglwys
ANNIBYNOL Pike Grove. - Saif yr adeilad hwn mewn ardal amaethyddol brydferth a ffrwythlon, tua thair milldir i’r gogledd o dref Racine. Un o’r sefydlwyr cyntaf yno oedd y diweddar Griffith Richards, Ysw.; ac y mae ei blant a’i wyrion yn byw yn gysurus yno eto. Y mae yno gapel coed da; ac eglwys gref a ffyddlon ynddo. Mae yno lawer o Gymry parchus o Faldwyn a Meirion.

2. MILWAUKEE, Milwaukee Co., Wis. - Hon yw prif ddinas fasnachol talaeth Wisconsin. Nid oedd ei phoblogaeth yn 1850 ond ychydig dros ugain mil; ond yn 1870 yr oedd yn 71,499! Saif ar lan Llyn Michigan, tua
23 m. i’r gogledd o Racine. Y mae llawer o’i phreswylfeydd a i heglwysi ar lethrau bryniau iachus; a’r rhan fwyaf o’i masnachdai mawrion, a’i phrif heolydd llydain, a’i llaw-weithfeydd, ar wastadedd, a fu unwaith yn gorsiog, ond sydd yn cael ei sychu yn gyflym, fel y mae y ddinas yn cynyddu. Y mae ynddi lawer o adeiladau drudfawr, cyffelyb i’r rhai a welir yn New

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_219_) (y025·) TALAETH WISCONSIN.

York, a Chicago; ac y mae ei masnach mewn gwenith, a blawd, ac anifeiliaid, a lumber, yn fawr iawn; ac y mae yno lawer o ddarllawdai, a llaw-weithfeydd o bob math, a rhai furnesi blast, a rolling mills. Rhed afon fechan drwy ei chanol, a dygir llongau ac agerddlongau i mewn ac allan o r llyn, arni, yn llwythog o wahanol nwyddau, ac weithiau o ymfudwyr, a theithwyrr. Lle da ydyw i grefftwyr, a llafurwyr, a morwynion; ac y mae ynddi bob manteision crefyddol ac addysgladol. Ceir ynddi, yn agos i’r Union Depot, un o’r elevators gwenith mwyaf yn yr holl wlad, a Chymro parchus yn brif arolygwr arno. Mae digon o gyfleusderau teithiol, ar diroedd a dyfroedd, i’w cael ynddi; gyda phob hwylusdod i newid arian a phapyrau yn ei hariandai cyfoethog ac ymddiriedol. Ond dylai ymfudwyr fod yn ofalus rhag cael eu twyllo gan ddynion anonest yno, fel mewn dinasoedd mawrion ereill.

Poblogir Milwaukee gan wahanol genedloedd, Ellmyniaid, Gwyddelod, ac Americaniaid, gan mwyaf; a bernir fod dros un fil o Gymry yn byw yno yn awr, ond bod llawer o honynt yn fwy tueddol i siarad Saesonaeg na’r Omeraeg. Y mae yno rai Cymry cyfoethog iawn. Bu y “Lake Brewery” yn meddiant Mr. Owens, ond y mae yn awr yn eiddo Powell a Pritchard. Un o sir Fon yw Richard Owens, Ysw., a rhai o’r Towyn, Meirionydd, G.C., yw Mr. Jones a’i feibion, a fu yn cadw yr “Atlantic Hotel” yma. Dechreuodd y Cymry bregethu a chadw addoliad Cymreig yma yn unol, er ys flawer o flyneddau.

Eglwys y T.C. ar Michigan St
. - Capel coed bychan ydyw, nid llawer mwy na chapel yr Annibynwyr yno. Mae ynddo eglwys weithgar a haelionus. Swyddogion, 4; aelodau, 80; plant, &c., 26; Ysgol Sabbothol, 110; cynulleidfa, 200; casgliadau blyneddol, 1820. Bu amrai weinidogion ffyddlon yma, sef y Parch. David Williams a Mr. Humphrey Howells, ac ereill.

Eglwys yr
ANNIBYNWYR ar Jefferson St. - Sefydlwyd hon yno er ys llawer o flyneddau. Bu yno amrai yn gweinidogaethu, sef y Parchedigion Griffith Griffiths, Griffith Jones, a Griffith Evans; a’u gweinidog presenol yw ein cyfaill ieuanc talentog, y Parch. John Cadwaladr, gynt o Ffestiniog, G.C. Codasant gapel coed hardd a cyfleeus yno, ac y mae ynddo eglwys fechan ffyddlon. Aelodau 50: Ysgol Sabbothol, 40; cynulleidfa, 150. Diaconiaid -

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_220_) (y026·) Y GORLLEWIN PELL.

Robert M. Roberts, 366 Milwaukee Street, a Wm. Davies. Bu Mr, Roberts farw yn sydyn yno yn haf
1871, a chafodd ei deulu a’r eglwys golled fawr ar ei ol.

Mae cangen o’r eglwys Annibynol uchod yn ymgynull mewn ysgoldy yn agos i’r “Bay View Rolling Mill,” yr hon a saif ar lan y llyn, tua
3 m. i’r de o ganol y ddinas. Y mae yno amrai o deuluoedd Cymreig, a’r Parch. John Cadwaladr yn pregethu iddynt bob Sabboth.

3. Y Sefydliadau Cymreig yn siroedd Waukesha a Jefferson, Wis. - Gorweddant y siroedd hyn i’r gorllewin o Milwaukee; ac nid oes ond tua
21 m. o’r ddinas i dref fechan hardd Waukesha; ac y mae y St. Paul R.R. yn myned trwyddi i Prairie du Chlen. Nid oes ond ychydig o Gymry yn byw yn nhref Waukesha; ond mae eu tyddynau yn dechreu tua thair neu bedair milldir i’r gogledd oddiyno, ac yn ymdaenu am filldiroedd oddiyno, dichon 20 m. o hyd wrth 10 m. o led, i’r gogledd a’r gorllewin, yn siroedd Waukesha a Jefferson; a dichon fod yn y ddwy sir yn awr dros dair mil o boblogaeth Gymreig.

Mr. John Hughes, ger Aberystwyth, sir Aberteifi, D.C., oedd y Cymro cyntaf a sefydlodd yn Genesee Township, sir Waukesha,
5 m. o Delafield, a 5 m. o dref Waukesha, yn 1840. Tir y Llywodraeth oedd oll y . pryd hyny, a gellid ei brynu am bum’ swllt (neu tua 60 cents) yr erw. Gwlad goediog oedd y pryd hyny bron yr holl ffordd o ddinas Milwaukee yno (tua 30 milldir) - ychydig o’r tiroedd oedd wedi eu harloesi; a byddid yn cymeryd o bedwar i bum’ niwrnod i fyned a dychwelyd gyda llwyth o wenith i Milwaukee. “Yr oedd y ceffylau a’r cerbydau weithiau yn myned yn sound yn y coed tewion a’r llaid, ac yn aml rhaid oedd cael ychain i’w tynu allan; ac ar ol yr holl drafferth ni cheid ond o 40 i 50 cents y bushel am y gwenith.” Gel wid Waukesha y pryd hyny yn Prairieville. Wedi hyny daeth y personau canlynol yno - Richard Jones, John Jones, William Evans, John Evans, Morgan Jones, R Mason, a David Jarmon, o sir Aberteifi, yn 1843; Thomas Evans a John Evans yn 1845; David Jones a David Griffiths, sir Aberteifi, yn 1846; Thomas Williams, o Ochryfoel, Llanlligan, a Samuel Breese, Bwlchcaehaidd, ger y Drefnewydd, Maldwyn, G.C., a John Williams, o

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_221_) (y027·) TALAETH WISCONSIN.

Llwyn y mwn, sir Aberteifi, a’i dad (14 yn y teulu), a Wm. Williams, saddler, ac ereill, yn 1847. Yn ysbaid yr ugain mlynedd diweddaf y bu yr ymfudiad mwyaf atynt, ac i’r ardaloedd cyfagos o’u deutu. Y mae yno yn awr saith neu wyth o wahanol sefydliadau Cymreig, ac eglwysi a chapelau Cymreig yn mhob un o honynt. Mae y sefydlwyr wedi gorchfygu eu hanhawsderau, ac yn awr yn mwynhau cyfoeth a chysuron eu llafur caled; ac yn eu plith y mae llawer o’r bobl mwyaf crefyddol a chenedlgarol. Y mae yno diroedd da a ffrwythlon.

Eglwyi y TREFNYDDION CALFINAIDD yno. - Mae yr enwad crefyddol parchus hwn yn dra lluosog a defnyddiol yn yr ardaloedd. Hwynt-hwy a bregethasant yr efengyl gyntaf yno yn yr iaith Gymraeg. O’r flwyddyn 1840 hyd 1870, sefydlasant lawer o eglwysi, a chodasant lawer o gapelau da yno; ac mae rhai o honynt wedi eu hail-adeiladu yn helaethach. Dyma enwau eu capelau, a’r blyneddau y codwyd hwynt: -

1. Jerusalem, yn 1844.
2. Salem, yn 1803.
3. Bethania, yn 1853.
4. Soar, yn 1855.
5. Bethesda, yn 1858.
6. Bethel, yn 1861.
7. Seion, yn 1867.
8. Waterville.
9. Bark River.

Yn yr holl eglwysi hyn mae fel y canlyn: - Diaconiaid, 16; aelodau, 283; plant a rhai ar brawf, 196; Ysgol Sabbothol, 507; gwrandawyr, 1,200; casgliadau blyneddol, yn y flwyddyn 1870, at y Weinidogaeth, $1,110.93; at y Gymdeithas Genhadol, $24.72; at wahanol achosion, $796.83. Cyfanswm, $1,932.48. Mae ganddynt hefyd amrai o weinidogion a phregethwyi talentog a ffyddlon yn llafurio yn eu plith. Gweinidogion - Owen Hughes, Waterville; John Williams, Salem; Daniel Jenkins, Waukesha; Hugh Roberts, Soar. Pregethwyr - Robert Williams ac Edward Jones, Waukesha. Bu y Parch. William T. Williams, (Meirion,) a’r Parch. Daniel Davies, (Maldwyn,) yn ddefnyddiol iawn yn yr ardaloedd; ond y maent yn awr yn y nef. “Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig.”

Eglwysi yr ANNIBYNWYR yn Waukesha Co., Wis. - Yr hynafgwr enwog, y Parch. Richard Morris, gynt o Sir Benfro, D.C., a fu yn dra defnyddiol am flyneddau gyda’r Annibynwyr yma. Y mae yn byw yno eto. Haeddai barch ac anrhydedd fel gweinidog da i Iesu Grist. Cyd-weithredodd Mr. Thomas Williams, o Ochryfoel, ac ereill, yn ffyddlon gydag ef. Yn y flwyddyn 1846 y codasant gapel log o’r enw y Tabernacl, ar ochr y ffordd, oddeutu pedair milldir o dref Waukesha; ac y mae yno gapel newydd hardd er ys llawer o flyneddau. Ar ol Mr. Morris, bu y gweinidogion canlynol yn llafurio yno, sef G. Griffiths, R. Evans, J. V. Jones. Diaconiaid, 2; aelodau, 35; Ysgol Sabbothol, 40; cynulleidfa, 100. Perthyna iddi lawer o bobl dda a ffyddlon. Mehefin 13, 1871, urddwyd Mr. Timothy Jones o Nebo, Gallia Co., Ohio, yn weinidog yno.

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_222_) (y028·) Y GORLLEWIN PELL.

Sefydlodd yr Annibynwyr hefyd eglwys, a chodasant gapel o’r enw Libanus, yn Bark River, Ottawa township, yn y fl. 1854. Y mae yno eglwys fechan ffyddlon. Yno y mae y pregethwr ffyddlon, a’r tyddynwr cyfoethog, y Parch. Samuel Howell, yn byw. Bu ef a’i deulu yn ddefnyddiol iawn gyda’r achos yno; ac y maent felly eto.

4. MADISON, Dane Co., Wis. - Hon yw prif dref swyddogol y dalaeth; saif ar ucheldir, rhwng dau lyn bychain, yn nghanol y sir, ac y mae yn un o’r trefydd harddaf a mwyaf iachus yn yr holl wlad. Yno y mae prif adeiladau swyddogol y dalaeth, yn y rhai y cyferfydd aelodau anrhydeddus dau dy y Senedd i ffurfio cyfreithiau y dalaeth. Yno hefyd y mae yr University a’r Lunatic Asylum, a llawer o adeiladau drudfawr ereill. Bydd yno bob haf ganoedd o ymwelwyr am iechyd a phleser. Nid oes yn y dref ond ychydig o Gymry yn byw, heblaw y rhai sydd mewn swyddi parchus dan y Llywodraeth yno, sef yr Anrhydeddus Llewelyn Breese, Ysgrifenydd y Dalaeth; John T. Jones, Ysw., ac ereill.

SUN PRAIRIE, Dane Co., Wis. - Gorwedda y lle hwn tua saith neu wyth milldir i’r gogledd o dref Madison; ac yn ddiweddar dechreuodd y Cymry sefydlu yno ar diroedd da, wedi prynu ereill allan. Gall ereill gael yr un fantais yno eto. Y mae gan y Trefnyddion Calfinaidd eglwys fechan yno.

Dichon fod yn Madison a Sun Prairie oddeutu cant o Gymry.

5. ARENA, Iowa Co., Wis. - Saif y pentref bychan hwn ar wastadedd eang, 125 milldir i’r gorllewin o Milwaukee, a
29 m. o Madison, a 71 m. i’r dwyrain o Prairie du Chien. Mae y reilffordd yn myned trwyddo o’r naill ddinas i’r llall. Nid yw ond ychydig filldiroedd o’r afon Wisconsin. Tir lled dywodlyd sydd o’i amgylch; ond y mae amrai o dyddynwyr Cymreig, ac ereill, yn trigianu yno, a rhai Cymry parchus yn fasnachwyr yn y pentref, sef Morris & Jones, ac ereill.

Yno yr oedd y Parch. David M. Jones (A.,) gynt o Lanelli, Sir Gaerfyrddin, D.C., yn byw yn y flwyddyn 1870, yr hwn a ymfudodd i America yn Mai, 1831. Bu yn genhadwr ffyddlon dros Iesu

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_223_) (y029·) TALAETH WISCONSIN.

Grist yn Wisconsin am yn agos i 28 mlynedd; a sefydlodd lawer o eglwysi Cymreig a Saesnig mewn gwananol fanau yno. Pregetha eto i’r Americaniaid yn Mill Creek a Lumberville, yn Dodge Valley, 10 milldir i’r gorllewin o Arena. Yno hefyd y mae y pregethwr (B ) a’r bardd enwog, Mr. Evan M. Evans, (Morddal) yn byw. Mae yn joiner ac yn photographer medrus; ac yn pregethu i’r Bedyddwyr Cymreig yno. Gall fod poblogaeth Gymreig Arena yn agos i 60. Nid wyf yn deall fod gan yr Annibynwyr na’r T.C. eglwysi Cymreig yno; ond pregethant yno yn achlysurol, a chânt groesawiad mawr gan y Cymry cenedlgarol sydd yno yn byw. Mae stage yn rhedeg o Arena bob dydd i Dodgeville - pellder 25 milldir. Mae Cymry Ridgeway a’r Blue Mounds, a’r Coed, yn masnachu llawer yn Arena.

6. SPRING GREEN, Sauk Co., Wis. - Pentref bychan hardd ar yr un gwast adedd eang yw hwn eto, tua saith milldir i’r gorllewin o Arena. Ceir ynddo amrai o stores, Post Office, ystordai gwennith, eglwysi Saesnig, ac un Academy dda. Poblogir y lle gan Americaniaid, Ellmyniaid, Gwyddelod, &c., ac y mae amrai o Gymry parchus yn byw ac yn masnachu yn y lle, a llawer iawn o dyddynwyr Cymreig yn byw yn gysurus ar eu tyddynau gerllaw yno, a llawer o honynt yn bobl grefyddol. Tir graianog a gwan sydd oddeutu yno hefyd; ond ceir yno beth tir da (black loam) mewn manau. Nis gellir prynu tyddynau diwylliedig yno yn awr o dan 130 yr erw; gwerthwyd rhai am $55 yr erw. Mae cymeriad uchel i’r lle am foesau, addysg, a chrefydd. Dechreuodd y Cymry sefydlu yn y lle tua 25 ml. yn ol. Mr. Evan Jones oedd un o’r sefydlwyr cyntaf. Cynyddodd, ac y mae y boblogaeth Gymreig yno yn awr tua 225.

Yr Eglwys ANNIBYNOL yn Spring Green. Dechreuwyd yr achos Cymreig yno yn 1849. Sefydlwyd yr eglwys Annibynol yno yn Chwefror, 1850, gan y Parch. William Parry, genedigol o Sir Fon, yn cynnwys 18 o aelodau, a dau ddiacon, sef Daniel Williamo a Thomas Williams. Addolent o dy i dy hyd y flwyddyn 1855, pan adeiladwyd y capel. (Capel coed bychan, 40 wrth 30 tr. ydyw, yn sefyll mewn coedwig hardd, tua milldir i’r gorllewin o’r pentref.) Traul, $600. Dim dyled. Rhifedi aelodau yr eglwys ynuiwedd y fl 1870 oedd 55; Ysgol Sabbothol, 45; cynulleidfa, o 100 i 150. (Mae amrai o’r Cymry a’u plant wedi ymuno a’r Saeson.) Mae yno eglwys dda a i:weithgar. Casgliadau blyneddol, $400. Bu y gweinidôgion canlynol yn llafurio yno, sef William Parry, John Davies, Jonathan Jones; a’u gweinidog presenol yw y Parch. John Price Jones, gynt o gapel y Graig, Rymney, D.C., Mae y Parch, John Davies, gynt o Lanbrynmair, G.C., a’i deulu,

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_224_) (y030·) Y GORLLEWIN PELL.

yn byw ar eu tyddyn, gerllaw yno; bu ef yn weinidog defnyddiol yno am flyneddau; ac y mae eto yn Gristion ffyddlon, yn bregethwy da, ac yn feddyg medrus yno. Cyd-addola amrai o’r T.C. a’r Annibynwyr yno. Y mae Thomas D. Jones, John J. Jones, Evan P. Morgan, Joseph D. Jones, ac ereill, yn Gymry parchus a ffyddlon yn yr ardal eto. 7. DODGEVLLE, Iowa Co., Wis. - Hon yw prif dref Sir Iowa. Saif tua 20 neu 25 milldir i’r De-orllewin o Arena, mewn ardal fryniog, iachus a hyfryd. Tref fechan wledig ydyw. Ynddi y mae y Court House, a swyddfäau y llywodraeth sirol; ac y mae y Cymro cenedlgarol, Samuel W. Rees, Ysw., gynt o Lanbrynmair, G.C., yn gyfreithiwr enwog a chyfoethog yno. Cymro dysgedig arall yno yw John T. Jones, Ysw.; ac y mae Richard E. Evans, Ysw., yn wr cyfrifol yno. Ceir yno amrai o gapelau, stores, ac ysgoldai. Mae amrai o weithfeydd plwm oddeutu yno, lle mae llawer yn gweithio. Dechreuodd y Cymry sefydlu yn y lle er ys dros 25 ml. yn ol. Mac llawer o honynt yn awr yn ddynion cyfoethog, yn byw yn eu tai ac ar eu tyddynau eu hunain; a rhai yn arolygwyr ac yn feddianwyr ar y gweithiau plwm. Gall fod yn Dodgeville a’r.cymydydogaethau cyfagos yn awr yn agos i 800 o Gymry yn byw.

Mae gan y TREFNYDDION CALFINAIDD eglwys dda yn y dref. Diaconiaid, 8; aelodau, 65; plant, &c., 53; Ysg. Sab., 58. Casgliadau, $403. Gweinidog, Parcb. David Lewis. Yn nechreu y fl. 1871 symudodd Mr. Lewis i South Bend, Minnesota, a bu farw yno. Yr oedd yn fugail gofalus, ac yn bregethwr doniol a ffraeth. Mae ganddynt hefyd eglwysi bychain oddeutu yno.

Mae gan y BEDYDDWYR Cymreig hefyd gapel da, ac eglwys ffyddlon yn Dodgeville; ac un arall yn nghapel Salem, (y Coed,) dan ofal y Parch. Thomas Holland, yr hwn sydd weinidog enwog. Mae y Parch. Owen Williams (B.) yn byw ar ei dyddyn ei hun yn Garrison Grove, tua 4 mllldir o Dodgeville; a’r Parch. Meredydd Evans, (B.,) sef y bardd medrus “Gog Glan Ohio,” yn dyddynwr cyfoethog, o fewn yr un pellder i’r dref. Nid oes gan yr un o’r ddau yn awr eglwysi neillduol o dan eu gofal, ond pregethant yn aml. Yn Dodgeville, y mae Mr. Robert C. Owen, (Trebor Fardd,) yn byw. (B.)

Mae gan yr ANNIBYNWYR hefyd gapel ac eglwys yn y dref, ac amrai o ddynion da yn aelodau ffyddlon ynddi; sef Mr. John P. Davies, ac ereill. Aelodau, tua 30; Ysg. Sab. a chynulleidfa fechan.

 
vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_224_) (y030·) Y GORLLEWIN PELL. 
 
yn byw ar eu tyddyn, gerllaw yno; bu ef yn weinidog defnyddiol yno am flyneddau; ac y mae eto yn Gristion ffyddlon, yn bregethwy da, ac yn feddyg medrus yno. Cyd-addola amrai o’r T.C. a’r Annibynwyr yno. Y mae Thomas D. Jones, John J. Jones, Evan P. Morgan, Joseph D. Jones, ac ereill, yn Gymry parchus a ffyddlon yn yr ardal eto. 7. DODGEVLLE, Iowa Co., Wis. - Hon yw prif dref Sir Iowa. Saif tua 20 neu 25 milldir i’r De-orllewin o Arena, mewn ardal fryniog, iachus a hyfryd. Tref fechan wledig ydyw. Ynddi y mae y Court House, a swyddfäau y llywodraeth sirol; ac y mae y Cymro cenedlgarol, Samuel W. Rees, Ysw., gynt o Lanbrynmair, G.C., yn gyfreithiwr enwog a chyfoethog yno. Cymro dysgedig arall yno yw John T. Jones, Ysw.; ac y mae Richard E. Evans, Ysw., yn wr cyfrifol yno. Ceir yno amrai o gapelau, stores, ac ysgoldai. Mae amrai o weithfeydd plwm oddeutu yno, lle mae llawer yn gweithio. Dechreuodd y Cymry sefydlu yn y lle er ys dros 25 ml. yn ol. Mac llawer o honynt yn awr yn ddynion cyfoethog, yn byw yn eu tai ac ar eu tyddynau eu hunain; a rhai yn arolygwyr ac yn feddianwyr ar y gweithiau plwm. Gall fod yn Dodgeville a’r.cymydydogaethau cyfagos yn awr yn agos i 800 o Gymry yn byw. 

Mae gan y TREFNYDDION CALFINAIDD eglwys dda yn y dref. Diaconiaid, 8; aelodau, 65; plant, &c., 53; Ysg. Sab., 58. Casgliadau, $403. Gweinidog, Parcb. David Lewis. Yn nechreu y fl. 1871 symudodd Mr. Lewis i South Bend, Minnesota, a bu farw yno. Yr oedd yn fugail gofalus, ac yn bregethwr doniol a ffraeth. Mae ganddynt hefyd eglwysi bychain oddeutu yno.

Mae gan y BEDYDDWYR Cymreig hefyd gapel da, ac eglwys ffyddlon yn Dodgeville; ac un arall yn nghapel Salem, (y Coed,) dan ofal y Parch. Thomas Holland, yr hwn sydd weinidog enwog. Mae y Parch. Owen Williams (B.) yn byw ar ei dyddyn ei hun yn Garrison Grove, tua 4 mllldir o Dodgeville; a’r Parch. Meredydd Evans, (B.,) sef y bardd medrus “Gog Glan Ohio,” yn dyddynwr cyfoethog, o fewn yr un pellder i’r dref. Nid oes gan yr un o’r ddau yn awr eglwysi neillduol o dan eu gofal, ond pregethant yn aml. Yn Dodgeville, y mae Mr. Robert C. Owen, (Trebor Fardd,) yn byw. (B.)

Mae gan yr ANNIBYNWYR hefyd gapel ac eglwys yn y dref, ac amrai o ddynion da yn aelodau ffyddlon ynddi; sef Mr. John P. Davies, ac ereill. Aelodau, tua 30; Ysg. Sab. a chynulleidfa fechan.
 
 
 
vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_225_) (y031·) TALAETH WISCONSIN.
 
Bu y gweinidogion canlynol yn llafario yno am flyneddau, sef y Parchn. David M. Jones, Evan Owens, a John B. Davies. Rhoddodd Mr. Davies ofal yr eglwys i fyny yn niwedd y fl. 1870, ond y mae eto yn byw ar ei dyddyn gerllaw yno. Mae eglwysi y Coed, a Chaergybi, mewn cysylltiad a’r eglwys Annibynol yn y dref. 
 
8. ARDAL Y COED. - Saif yr ardal hon oddeutu y ffordd sydd yn myned o Arena i Dodgeville, ac o fewn 7 milldir i’r llr olaf. Lled goediog a bryniog ydwy; ac amrai o Gymry wedi diwylho eu tiroedd yn dda, ac yn byw yn gysurus arnynt, yn nghanol coedwigoedd. Ni welir na thref na phentref yn agos yno; ond y mae yno yn awr lawer o dai da, ac ambell i ddoldir hirgul rhwng y bryniau. Mae gan yr Annibynwyr gapel da, ac eglwys ffyddlon a bywiog, yn cynnwys 60 o aelodau, ac ysgol a chynulleidfa dda yn yr ardal hon. Mae yno ganu rhagorol, dan arwemiad y cerddor medrus, a’r dadganwr enwog, Mr. Thomas N. Williams, yr hwn sydd dyddynwr parchus yn yr ardal. Yma y mae Henry D. Griffiths, a Wm. B. Lewis, ac ereill, yn byw. Mae gan y Bedyddwyr hefyd gapel da, ac eglwys ffyddlon yn ardal y Coed. Dichon fod yn y gymydogaeth hon tua 200 o Gymry. Mae ychydig o dir da, a llawer o dir sal, yn y wlad fryniog a choediog hon. 
 
9. RIDGEWAY, Iowa Co., Wis. - Saif yr ardal hon tua saith neu wyth milldir i’r dwyrain-ogledd o Dodgeville. Gwlad amaethyddol hollol ydyw; mae rhan o honi yn goediog, a’r rhan arall yn adoldiroedd (prairies.) Dechreuodd y Cymry sefydlu yno er ys llawer o flyneddau; a dichon fod yno yn awr dros 300 o boblogaeth Gymreig; a cheir yn eu plith lawer o dyddynwyr cyfoethog. Enw Post Office yr holl ardal hon yw Jennieton P.O., Iowa Co., Wis. 
 
Mae gan yr ANNIBYNWYR gapel mawr ac eglwys gref yno, lle mae y pregethwr enwog a’r gweinidog ffyddlon, y Parch Evan Owens, (gynt o Morben, plwyf Machynlleth, G.C.,) yn gweinidogaethu er dechreu Ebrill, 1868. Mae yn byw ar ei dyddyn ehelaeth islaw yno, ar y ffordd i Arena. Ceir yn ei eglwys lawer o bobl ffyddlon, sef Evan D. Evans, Daniel Thomas, David Rees, Thomas Williams, David C. Morris, &c. Bu y Parch. David Lewis, ac ereill, yn gweinidogaethu yno. Yno y bu ef farw. 
 
Eglwys y BEDYDDWYR yn Ridgeway. - Bethania yw enw eu capel hwy yno - 30 wrth 24 tr. Traul, $600. Dim dyled arno yn awr. 
 
 
 
 
 
 
 vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_226_) (y032·) Y GORLLEWIN PELL.
 
Aelodau, 44; Ysg, Sab. 40; cynulleidfa, 80. Diacon, David D. Jones, tyddynwr. Gweinidog, Parch. Thomas M. Mathews, gynt o Mynydd Islwyn, D.C. Derbyniwyd ef yn aelod o’r eglwys Annibynol yno gan y Parch. Moses Ellis. Bedyddiwyd ef trwy drochiad yn Coal Valley, Illinois. Daeth i Ridgeway yn Chwefror, 1869. 
 
10. BLUE MOUNDS, Iowa Co., Wis. – Un o’r bryniau uwchaf yn Wisconsin yw y Blue Mounds - 1,729 o droedfeddi uwchlaw arwynebedd y môr - gwelir ef o bellderau. Coediog yw. Ond mae tyddynau ffrwythlon oddeutu ei odrau, a llawer o’r llethrau wedi eu diwyllio, a pheth tir wedi ei aredig ar ei gopa. Mae llawer o Gymry parchus yn byw ar eu tyddynau yn y coedwigoedd ar ei odrau, ac ar y prairies yn agos ato. Mae gan yr Annibynwyr gapel ac eglwys yn y lle hwn, dan ofal y Parch. Evan Owens; ac mae gan y Trefnyddion Calfinaidd ddau gapel a dwy eglwys yno. Yno y mae eu pregethwr ffyddlon, Mr. Edward L. Jones, yn byw. Saif yr ardal hon tua phedair milldir i’r dwyrain o Ridgeway. Dichon fod ei phoblogaeth Gymreig dros 300. 
 
11. MINERAL POINT. - Picatonica., Mifflin, Linden, &c. - Ni chefais gyfleusdra i dalu ymweliad personol a’r lleoedd hyn; ond deallwyf eu bod yn gorwedd tua saith neu wyth milldir tua’r de, a thua’r de-orllewin o Dodgeville, a bod ynddynt lawer o diroedd da, a gweithiau plwm, a rhai ffwrneisiau i doddi mwn plwm, &c. Mae reilffordd yn rhedeg o Mineral Point drwy sir Lafayette, Wis., ac yn cysylltu â’r Illinois Central R.R., ac â’r Chicago & North Western R. R., yn Warren, yn nghwr uchaf talaeth Illinois; a gellir myned oddiyno i Dunleith a Dubuque, ac i Chicago, St. Louis, Cairo, &c. Mae gan y Trefnyddion Calfinaidd eglwysi cryfion yn Picatonica, &c., lle mae y Parchedigion John Davies a Griffith Jones yn gweinidogaethu yn llwyddianus. Mae eglwys ffyddlon hefyd gan y Bedyddwyr yn Picatonica, lle mae y brodyr ffyddlon Hugh Hughes a John Evans yn gweinidogaethu. Ac yn ddiweddar, sefydlodd yr Annibynwyr eglwys fechan fywiog yno. Gall fod y boblogaeth Gymreig yn yr holl leoedd uchod oddeutu 900. 
 
 
 
vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_227_) (y033·) TALAETH WISCONSIN.
 
 
12. WATERTOWN, Jefferson Co., Wis. - Tref boblog a bywiog yw hon. Saif oddeutu y Rock River, yn mhen gogleddol y sir, bron ar derfyn deheuol Dodge Co., tua 43 m. i’r gorllewin o Milwaukee. Mae y Milwaukee & St. Paul R.R. yn myned trwyddi i Madison, a Columbus, a Portage City, a La Crosse, a’r Chicago & North Western R.R. yn croesi trwyddi o Chicago i Minnesota Junction, Oshkosh, a Green Bay. Oddeutu 24 ml. yn ol, nid oedd ynddi ond dwsin o dai, tair store, ac un dafarn; ond yn awr cynnwysa dros 12 mil o drigolion, Ellmyniaid gan mwyaf; a cheir ynddi lawer o adeiladau rhagorol, a masnach fywiog. Mae llawer iawn yn gweithio yn y foundries a’r machine shops perthynol i’r railroads yno; ac ereill yn y melinau blawd, a’r factories gwlan a brethynau sydd yno. Ond nid llawer o Gymry sydd yn byw yno. Dichon fod yn y dref o 300 i 400, ac y mae rhai o honynt yn fasnachwyr ac yn grefftwyr cyfrifol. 
 
Eglwys y T.C. yno. - Dechreuasant bregethu yno er ys llawer amser; a chodasant gapel da yno, ar Washington St. Mae yno eglwys fechan ymdrechgar. Aelodau, 15; plant, &c., 11; Ysg. Sab., 26. Casgliadau, $100. Diacon, Mr. John Jones. 
 
Yr Eglwys ANNIBYNOL yn Watertown. - Sefydlwyd hi yn 1866, gan y Parchn. Griffith Evans, Griffith Jones, a William Watkins. Prynwyd y capel bychan, hardd, 40 wrth 30 tr., ar Third St., gan y Bedyddwyr Saesnig, am $900. Talwyd y rhan fwyaf. Y diacon cyntaf oedd Mr. John Evans, yr hwn a symudodd i Kansas. Ond y diacon yn niwedd 1870 oedd yr henafgwr parchus, Wm. Roberts, Ysw., gynt o eglwys Annibynol Llanegryn, Meirion, G.C. Ymfadodd i America yn y fl. 1828. Bu yn Emmett. Mae yn byw yn Watertown er y fl. 1867. Aelodau, 16; Ysg. Sab., 28; cynulleidfa, 50. Gweinidog, Parch. Cadwaladr D. Jones. Bu y Parch. Griffith Evans yn gweinidogaethu yma. Yr oedd yn byw yno yn 1870. 
 
13. EMMETT, ger Watertown, Jefferson Co., Wis. - Saif township Emmett tua phedair milldir i’r gogledd-orllewin o Watertown. Gwlad amaethyddol dda iawn ydyw i godi gwenith Indrawn, a ffrwythau, &c. Ceir yno gyflawnder o bob math o goedydd rhagorol. Gwlad led wastad ydyw; ond y mae digon o godiadau yn y tir er cael rhediad da i’r dwfr o bob lle. (Dichon mai yn Dodge Co. y mae plwyf Emmett, oblegid y mae tref Watertown bron ar derfyn y ddwy sir, Dodge a Jefferson .)
 
 
 
vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_228_) (y034·) Y GORLLEWIN PELL.
 
 
 
Gellid cael digon o dir y Llywodraeth yno tua 23 ml. yn ol am $1.25 yr erw; ond y mae y tyddynau diwylliedig yn awr yn gwerthu am o $60 i $70 yr erw. Ceir yno gyfleustra masnachol da. 
 
Y sefydlwyr Cymreig cyntaf oeddynt Vincent Roberts, o Oneida Co., N.Y.; John Pugh a John Jones, o Lanwrin, Maldwyn; a Hugh Edwards a John Lewis, o blwyf Llanfihangel y Penant, Meirion, G.C. Prynasant diroedd y Llywodaaeth yno yn 1847. Sefydlodd llawer yno ar ol hyny ar wahanol amserau. Cymry yn awr, 100. 
 
Yr Eglwys ANNIBYNOL yno. - Sefydlwyd yr eglwys yno yn niwedd y fl. 1847, gan y Parch. David Jones, Ridgeway, a’r Parch. Richard Morris. Yr oedd Mr. Morris yn byw y pryd hyny yn Delafield, 18 milldir o Watertown. Teithiodd oddiyno i Emmett, am lawer o flyneddau, a bu yn fugail gofalus i’r eglwys. Pregethai mewn tai ac ysgoldai. Codwyd y capel presenol yn niwedd 1861, 30 wrth 26 tr. Traul, $600. Llwyr dalasant ei ddyled en hunain. Arliwiwyd ef yn hardd, yn 1869. Bu yr eglwys, flyneddau yn ol, yn lluosocach - ymadawodd llawer o’r ardal i Sun Prairie, ac i Minnesota. Aelodau, 15; Ysg. Sab., 15; cynulleidfa 50. Diaconiaid - John Lewis, Lewis Lewis, Daniel Edwards. Post office, Watertown, Dodge Co., Wis. Gweinidog, Parch. Cadr. D. Jones. Bu y Parchedigion John Parry, Griffith Samuel, Richard Williams, a David S. Davies, a Griffith Evans yn gweinidogaethu yno. 
 
14. IXONIA, Jefferson Co., Wis. - Gorwedda y township hwn tua 7 milldir i’r de-ddwyrain o Watertown. Mae ffordd dda yn arwain yno; ac y mae y Milwaukee & St. Paul R.R. yn myned trwy y lle, a depot yn y lle, yn cael ei gadw gan y Cymro parchus, Mr. H. Humphreys. Ardal amaethyddol ragorol am ei chynyrchion a’i ffrwythau, fel Emmett, yw hon hefyd. Dechreuodd y Cymry ei phoblogi yn 1846, pan y prynasant diroedd rhad y Llywodraeth. Dyma enwau y sefydlwyr cyntaf: Hugh Parry, John Parry, Griffith Humphrey, Humphrey Humphreys, John Griffiths, Robert Pritchard, Griffith E. Humphreys, Richard Humphreys, Owen Humphreys, Owen E. Humphreys, Robert Griffith (Llyfrwerthwr), o sir Gaernarfon, G.C.; Richd. Jones, Meirionydd; Evan Owen, Thos. Lewis, Edward.Lewis, Maldwyn, G.C.; Evan Davies, Rees Beynon, Evan T Evans, o sir Aberteifi, D.C.; Simon Jones a Richard 
 
 
 
vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_229_) (y035·) TALAETH WISCONSIN.
 
 
 
Griffiths, Steuben, N.Y. Yn niwedd 1870, yr oedd amrai o honynt wedi eu claddu yn mynwentau Ixonia. Dichon fod yn agos i 400 o Gymry yn yr ardal hon yn awr, ac y mae llawer o honynt yn bobl gyfoethog a chrefyddol. Buont yn addoli yn unol yma am flyneddau. 
 
Eglwys y TREFNYDDION CALFINAIDD yno. - Sefydlwyd yr eglwys hon tua’r fl. 1801. Codwyd yr hen gapel yn 1802, 18 wrth 22 tr., a’r ail gapel a godwyd yn 1866, ar dir Evan T. Evans, Ysw., 30 wrth 36 tr. Trail, $1,500. Dim dyled. Swyddogion - Edward Lewis a John Roberts. Aelodau, 29; plant, 25; Ysg. Sab., 40. - Casgliadau, $172. Pregethir iddynt gan wahanol bregethwyr. 
 
Eglwys yr ANNIBYNWYR yno. - Sefydlwyd yr eglwys hon mewn ysgoldy yno, yn 1853, gyda 12 o aelodau, ac un diacon, sef Mr. Evan Owen. Y gweinidog cyntaf yno oedd y Parch. Griffith Samuel. Bu yno am o 3 i 4 blynedd. Wedi hyny bu y brodyr Richard Williams, David S. Davies, a Griffith Evans, (mab Plas Ceidio, Lleyn, Arfon, G.C.,) yn gweinidogaethu yno. Eu gweinidog presenol yw, y Parch. C. D. Jones, Aelodau, 20; Ysg. Sab., 25; cynulleidfa, 70. Adeiladwyd y capel yn 1864, ar dir Mr. Evan Owens, yn agos i’r Depot, 26 wrth 20 tr. $400. Dim dyled. 
 
15. OSHKOSH, Winnebago Co., Wis. - Gorwedda y dref gynyddol hon ar ochr orllewinol Llyn Winnebago. Gwastad a choediog yw y tiroedd am fildiroedd; ond y mae yn dir tra ffrwythlon wedi ei ddiwyllio. Awelon oerion a chwythant dros y llun yn nhymor y gauaf; ac mae yr Wolf River, yr hon a gyfyd yn sir Oconto, yn y gogledd oer, ac a ddylifa trwy goedwigoedd siroedd ereill hefyd am ugeiniau o filldiroedd, yn rhedeg heibio, neu drwy dref Oshkosh, ac yn ymdywallt i’r Winnebago Lake. Mae yr afon hon yn nodedig gyfleus i nofio agerddfadau, a choedydd; ac oblegid hyny mae llawer iawn o felinau llifio, a lumber yards wedi eu codi ar ei glanau yn Oshkosh, a hyny sydd yn rhoddi bywiogrwydd yn holl fasnach y lle. Yn 1870, yr oedd un o’r melinau llifio, a’r lumber yards mwyaf yn y lle yn meddiant ein cenedlgarwyr gwresog, Richard T. Morgan, Ysw., a’i dad a’i frawd. Mae yno lawer o fasnachwyr Cymreig dylanwadol - Richard E. Bennett, J. D. Swancott, Richard E. Jones, Thos. C. Williams, Henry M. Jones, John A. Jones, Richard Jones, Mr. Lloyd, David Kirkham; ac o dyddynwyr llwyddianus, Richard 
 
 
vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_230_) (y036·) Y GORLLEWIN PELL.
 Jones, John Morgan, Evan Owens, David Williams, &c. Dechreuodd y Cymry bregethu yno er ys dros ugain mlynedd. Cymry, 600. 
 
Eglwys y T. G. yno. - Mae yno gapel da, ac eglwys fechan lewyrchus. Diaconiaid, 2; aelodau, 68; plant, 43; Ysg. Sab., 108. Casgliadau, $527. Dan ofal y Parch. Thomas Foulkes. Pregethwr, Mr. John K. Roberts. 
 
Eglwys yr ANNIBYNWYR yno. - Sefydlwyd yr eglwys yno er ys dros 18 mlynedd, a chodwyd capel da yno yn fuan ar ol hyny; ac y mae yno yn awr eglwys fechan fywiog, dan ofal y gweinidog duwiol a ffyddlon, y Parch. John T, Lewis, gynt o Rhesycae, Sir Callestr. 
 
16. ROSENDALE. - Ardal goediog ac amaethyddol ydyw. Dechreuwyd ei phoblogi gan y Cymry er ys dros ugain mlynedd. Gorwedda tua saith neu wyth milldir i’r de-orllewin o dref Oshkosh; ac y mae tref Ripon tua deuddeg milldir i’r gorllewin o’r ardal. Mae ein cenedl wedi meddianu milldirau lawer o’r wlad ffrwythlon hon; ac y mae gan y T.C. ddau gapel da, a dwy eglwys ffyddlon ynddi, dan ofal y Parch. Thomas Foulkes, ac ereill. Ac y mae gan y tyddyddwyr Cymreig un eglwys yno, dan ofal y Parch. Wm. Jones; a’r Wesleyaid un, dan ofal y Parch. John Jones; a’r Annibynwyr un, dan ofal y Parch. John T. Lewis. Bu amrai o weinidogion ffyddlon yn llafurio gyda’r Annibynwyr yn Oshkosh a Rosendale - sef John D. Davies, Griffith Griffiths, Humphrey Parry, a dichon ereill. Yn mynwent capel yr Annibynwyr yn Rosendale y claddwyd y bardd enwog a chadeiriol, Rhisiart Ddu o Wynedd. Mae yn wir deilwng i gael cofgolofn hardd ar ei fedd. Dichon fod yn yr ardaloedd hyn dros 800 o Gymry yn byw. 
 
 
17. NEENAH, Winnebago Co., Wis. - Pedair neu bump o filldiroedd i’r gogledd, ar y Chicago & North Western R.R. o Oshkosh, y mae tref Neenah yn sefyll. Ma« yno ychydig o Gymry llwyddianus; ac y mae gan y T C, a r Bedyddwyr, a’r Annibynwyr, eglwysi bychain wedi eu ffurfio yno. Gall fod yno 200 o Gymry. 
 
 
 
 
 
 
 
vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_231_) (y037·) TALAETH WISCONSIN.
 
18. BERLIN, Marquette Co, Wis. - Saif y dref hon tu ag 20 milldir i’r gorllewin o Oshkosh, a thua 10 milldir i’r gogledd o dref Ripon. Lle nodedig fu, ac ydyw eto, am ei melinau llifo, &c. O’i deutu, a thu draw iddi i’r gogledd oer, y mae miloedd o filldirau petryal o’r coedydd mwyaf gwerthfawr, a miloedd o bobl yn gweithio ynddynt, ac yn enill eu bywioliaeth yn gysurus. Mae eu gauaf yno yn hir ac yn oer iawn. Mae gan y T.C. a’r B., a’r Annibynwyr, gapelau ac eglwysi Cymreig bychain yno hefyd. Parch. J. W. Jones yw gweinidog y Bedyddwyr yno; a’r Parch. Hugh Davies (yn awr o Middle Granville, N.Y.), a fu yn ddefnyddiol iawn yno gyda y Trefnyddion Calfinaidd. Poblogaeth Gymreig, 300. 
 
Tebygol yw fod llawer o Gymry, a chenedloedd ereill, yn awr yn byw yn nghoedwigoedd siroedd Waushara, Adams, Portage, &c., a bod ganddynt sefydliadau bychain ynddynt, na chefais hysbysrwydd am danynt. Dymunwyf eu llwyddiant. Yn mhen ugain mlynedd eto, bydd miloedd mwy o Gymry gweithgar a chrefyddol yn poblogi gwahanol siroedd gogleddol Wisconsin. 
 
19. COLUMBIA Co., Wisconsin. - Mae mwy na haner tiroedd y sir hon gyda y goreu yn y dalaeth, a’r gweddill yn ganolig - llawer o hono yn goediog, a llawer yn ddoldiroedd (prairies) ffrwythlon. Nid oedd ei phoblogaeth yn 1850 ond 9,565; ond yn 1870 yr oedd wedi cynyddu i 28,813. Dechreuodd Cymry parchus a chrefyddol Dolyddelan, a manau ereill yn Arfon, G.C., sefydlu ar y Welsh Prairies, ac yn ardal Cambria, er ys dros 25 ml. yn ol, ar diroedd nodedig iachus a ffrwythlon, wedi eu trefnu gan natur yn ddoldiroedd meillionog, ac yn goedwigoedd bychain (groves) prydferth. Yr oedd digonedd o diroedd rhad y Llywodraeth i’w cael yno y pryd hyny; ond nid oes ond ychydig o honynt i’w cael yn yr holl sir yn awr. Gwnaeth y Cymry ddewisiad da yma, a byddai yn dda i ymfudwyr newyddion Gymru eu hefelychu. Rhaid cael tiroedd da, a gwlad iachus, cyn y gellir disgwyl llwyddiant ar un sefydliad. Oddeutu 20 ml. yn ol, nid oedd Cymry wedi sefydlu yn un man arall yn Columbia Co., Wis., ond 
 
 
 
 
 
 
vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_232_) (y038·) Y GORLLEWIN PELL.
 
yn unig yn y lleoedd uchod. Welsh Prairie, a Cambria, oedd yn tynu sylw neillduol y byd Cymreig y pryd hyny, ac wedi hyny am rai blyneddau. Daethant yn sefydliadau cryfion ac enwog yn fuan. Yn haf y fl. 1857, bum yno mewn Cymanfa perthynol i’r Annibynwyr. Yr oedd Cambria yn bentref bychan hardd y pryd hyny, wedi ei adeiladu ar, ac oddeutu bryn bychan coediog, a’r reilffordd yn rhedeg heibio iddo, o Milwaukee drwy Beaver Dam, a Fox Lake, i Portage City. Yr oedd gan yr Annibynwyr a’r Wesleyaid gapelau ac eglwysi bychain yn y lle; ac yr oedd y Trefnyddion Calfinaidd yn adeiladu eu capel newydd mawr ar y bryn yn y pentref - yn hwnw y cynaliwyd ein Cymanfa, ac yr oedd yno dyrfa fawr o Gymry parchus. Yr oedd argoelion y pryd hyny y buasai Cambria yn dyfod yn dref boblog a llwyddianus; ond, er fy syndod, pan ymwelais â’r lle yn Medi, 1870, nid oedd wedi cynyddu ond ychydig iawn. Nis gwn beth fu yr achos neillduol o hyny; ond ymddengys i mi mai diffyg amlwg y Cymy yma, ac mewn lleoedd ereill, yw esgeuluso talu sylw priodol i’r rheidrwydd am godi trefydd, a sefydlu masnach ynddynt, er llwyddiant eu sefydliadau. Y pryd hyny nid oedd Randolph mewn bodolaeth; ond yn awr y mae yn dref fechan hardd ar y prairies, o fewn chwe’ milldir Tr dwyrain o Cambria. Y mae yno lawer o Gymry yn byw, ac yn yr ardaloedd amaethyddol oddeutu yno am filldiroedd. 
 
Yn 1857, bum yn pregethu yn nghapel yr Annibynwyr, ac yn nghapelau y T.C. ar y Welsh Prairies, - safant fewn tair neu bedair milldir i’r de, a’r gorllewin, o bentref Cambria. Yr oedd ein hen gyfeillion anwyl, John Jones a’i deulu, gynt o’r Allt, ger Dinas Mowddwy, G.C.; a David Owen a’i deulu, gynt o Goetmor, Dolyddelan, Arfon, yn byw yno y pryd hyny ar eu tyddynau rhagorol, ac yn ffyddlon gydag achos y Gwaredwr. Ond y maent wedi marw yn yr Arglwydd er ys blyneddau, a’u plant yn etifeddu eu tyddynau ehelaeth a ffrwythlon. Gwelais hefyd dyddyn rhagorol o’r enw “Snowdon”, sef cartrefle dedwydd y Parch. William Jones, gydag amrai dyddynau ffrwythlon ereill ar y Welsh Prairies. Yr oedd gan y Trefnyddion Calfinaidd 
 
vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_233_) (y039·) TALAETH WISCONSIN.
 
lawer o eglwysi a chapelau yn y cymydogaethau hyny, o amgylch Cambria, y pryd hyny; ond erbyn heddyw y maent yn llawer lluosocach, ac wedi ymdaenu drwy yr holl sir, ac yn rhai o’r siroedd cyfagos. Wedi cwbl orphen y reilffordd o Watertown, trwy Columbus, sef prif dref sir Columbia, cynyddodd Columbus yn ddirfawr; ac y mae gan y T.C. eglwys gref ynddi, ac amrai eglwysi cryfion yn y wlad o’i deutu. Credwyf fod ganddynt yn awr yn Columbia Co., ac yn y siroedd nesaf ati, yn agos i 20 o eglwysi; 40 o ddiaconiaid; 1,000 aelodau; 800 o rai ar brawf, a phlant; 1,300 yn yr Ysgolion Sabbothol; a 3,000 o wrandawyr. Yn y fl. 1870, cyfranasant at y weinidogaeth yn agos i $3,800; at yr achos cenadol, $450; at wahanol achosion, $5,000. Ardderchog! Ond rywfodd ni chyfranasant ddim y fl. hono at y Beibl Gymdeithas. Nis gwyddom yr achos hyny. Ac y mae gan yr enwad crefyddol parchus hwn lawer iawn o weinidogion a phregethwyr efengylaidd, doniol, a dylanwadol, yn y sir hon, a’r cymydogaethau cyfagos iddi; sef William Jones, Rees Evans, T. Roberts, J. J. Roberts, Thomas Hughes, E. Griffiths, William M. Jones, Morris Jones, William Roberts, ac amrai ereill. Mae eu clod yn yr holl eglwysi, a’u gwobr yn nghadw gyda’u Duw. Yn mysg y deugain diacon sydd yn eu heglwysi, y mae amrai o henafgwyr yn llawn o’r Ysbryd Glan, ffydd, a doethineb, yn golofnau cryfion yn eu heglwysi. Ac yn eu heglwysi y mae amrai lenorion, beirdd, a cherddorion enwog. Dymunwyf eu parhaol lwyddiant. Dichon fod poblogaeth Gymreig Columbia Co. a’r ardaloedd cyfagos iddi yn agos i 5,000. 
 
Eglwys y WESLEYAID Cymreig yn Cambria, Columbia Co., Wis. - Sefydlasant eglwys, a chodasant gapel da yno er ys blyneddau. Ni bu erioed, ac nid ydyw eto yn eglwys gref. Gall fod ynddi yn awr tua 40 o aelodau; ceir yn eu plith amrai o bobl dda a ffyddlon. Y Parch H. H. Jones oedd eu gweinidog yn l870. 
 
Eglwysi yr ANNIBYNWYR yn Columbia Co., Wis. - Sefydlasant eglwys, a chodasant gapel bychan ar y Welsh Prairies, er ys dros ugain mlynedd yn ol, lle bu y Parch. Jenkin Jenkins, ac wedi hyny y Parch. John Parry, ac ereill, yn gweinidogaethu. Yu 1870 yr oedd yr eglwys hono, a’r capel hwnw, wedi 
 
 
 
 
 
 
 
 
vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_234_) (y040·) Y GORLLEWIN PELL.
 
cael eu symud yn mhellach i’r de; ac y mae yno eto eglwys fechan ffyddlon. Dechreuwyd eglwys, a chodwyd capel cyntaf yr Annibynwyr yn mhentref Cambria yn amser y Parch. John Parry; wedi hyny codasant gapel newydd da ar y bryn, mewn lle mwy cyfleus yn y pentref; ac y mae yno eglwys fechan egwyddorol a ffyddlon. Yno y mae Mr. Roger Rogers, gynt o Penllys, Maldwyn, G.C., yn ddiacon ffyddlon er ys blyneddau; gyda llawer ereill o Annibynwyr selog a gweithgar, sef Mr. Richards, Edward Williams, Evan Davies, John Edwards, Evan Hughes, Robt. W. Roberts, Griffith S. Jones, ac ereill. Bu y Parch. Griffith Jones, gynt o Lanberis, Arfon, G.C., yn gweinidogaethu yno am flyneddau; a safodd yn wrol dros dwyfoldeb yr Ysgrythyrau Santaidd, ac egwyddorion sylfaenol Cristionogaeth. Yn 1870 yr oedd yn byw gyda’i deulu lluosog ar ei dyddyn ffrwythlon o fewn dwy filldir i’r pentref. Bu y Parch. David Jones, gynt o Hermon, Sir Gaerfyrddin, D.C., yn gweinidogaethu yno am oddeutu blwyddyn. Symudodd oddiyno yn Medi, 1870, i Gomer, Ohio. Y mae gan yr Annibynwyr eglwys fechan arall wedi ei sefydlu er ys rhai blyneddau, yn rhywle rhwng Welsh Prairie a Randolph. Yr oedd y tair eglwys mewn undeb a’u gilydd yn amser G. Jones a D. Jones. Nis gwn pwy sydd yn gweinidogaethu yno yn awr. Mae y T.C. a’r Annibynwyr yn unol iawn a’u gilydd yn y cymydogaethau hyn, fel y mae yn ddyledswydd arnynt, ac yn anrhydedd iddynt. 
 
Yn ardal Cambria y bu Mr. Richard Jones, brawd y Parch. John Jones, o Danycastell, Dolyddelan, G.C., a’i briod Mrs. Jones, merch yr henafgwr duwiol Evan Owen (T.C.,) Llanrwst, G.C., yn byw; ac y mae llawer o’u plant a’u perthynasau yno eto yn eu holoesi. Yno hefyd y mae y meddygwr enwog Dr. John Williams, gynt o ardal Trefriw, Arfon, G.C., a’i chwaer; a’i frodyr yn byw. Bu John ab Jones, ac ereill, yn fasnachwyr cyfrifol yn Cambria; ac y mae yno amrai o lenorion, beirdd, a cherddorion enwog, megys y llenor dysgedig, y Dr. Williams; y bardd medrus, Mr. Richard Jones, o’r Hendre; a’r cerddor campus, Elias B. Williams, Ysw., ac ereill. Cynaliwyd yno amrai o Eisteddfodau enwog. 
20. PORTAGE CITY, Columbia Co., Wis. - Saif y dref fywiog hon tua 18 milldir i’r gorllewin o bentref Cambria; 48 m. o Watertown; 28 m. o Columbus. Mae yno ychydig o Gymry cyfrifol; ac y mae gan y T.C. eglwys fechan yno er ys blyneddau. Yno y mae dwy 
 
 
 
 
vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_235_) (y041·) TALAETH WISCONSIN.
 
gangen reilfffordd y Milwaukee & St. Paul, o Watertown, a Horicon, yn uno; ac y mae 62 milldir oddiyno i Tomah, a 104 milldir i ddinas La Crosse ar lan y Mississippi. 
 
21. BANGOR, La Crosse Co., Wis. Saif yr ardal amaethyddol hon, a’r pentref bychan, hwn, ar wastadedd eang, rhwng bryniau isel, coediog (a nodedig ffrwythlon wedi eu diwyillio), 89 m. o Portage City, a 27 milldir o Tomah, a 15 milldir o La Crosse. Mae y reilffordd yn myned trwyddo o Milwaukee i La Crosse. Ynddo y mae un heol fechan, ac amrai o stores, yn cael eu cadw gan Gymry parchus; post office, a brewery; un felin flawd, gan Baxter & Co.; shop saer, gan Mr. David E. Davies; shop gôf, gan Mr. John Prythroe; shop teiliwr, gan Mr. Lewis Williams; a shop grydd, gan Mr. Humphrey Pugh. Mae David D. Jones, Ysw., a David Samuel, ac R D. Edwards, a D. Jones, a Robert Bryan, a John G. Jenkins a John Wheldon, Ysw., yn ddynion parchus a chyfrifol yma, gyda lluoedd ereill. Sefydlwyr Cymreig cyntaf y lle oeddynt, Evan Jones, o Canada West; D. J, Williams, D. J. James, a Wm. Jones, ardal Delafield; a John Wheldon, o Steuben, N.Y.; tyddynwyr oll. Daethant yno yn 1853. Daeth amrai ereill yno yn 1854. Yr oedd llawer o dir y Llywodraeth i’w gael yno y pryd hyny, a thir ail-law o $2.50 i $30. Tir tywodlyd, a’r black loam, sydd ar y gwastadedd. Rhed y La Crosse River yn agos i’r pentref, yr ochr ogleddol, a’r Dutch Creek drwy y pentref. Tiroedd y bluffs yn goediog, ac yn dda i godi gwenith ar eu llethrau a’u godrau. Prisiau yn awr o $20 i $50 yr erw. Dim tiroedd y Llywodraeth i’w cael yno yn awr. 
 
Mae gan y Trefnyddion Calfinaidd eglwys gref a chapel da yn mhentref Bangor. Diaconiaid, 3; aelodau, 59; plant, &c., 44; Ysg. Sab., 55. Casgliadau, $470. Mae ganddynt ddwy arall - un yn Blaendyffryn, a’r llall yn. Cataract, a’r Parch. Thomas J. Rice, a Mr. David Hughes, a Mr. D. F. Jones, yn gweinidogaethu iddynt. 
 
Eglwys yr ANNIBYNWYR yn Bangor, La Crosse Co., Wis. - Sefydlwyd yr eglwys hon yn niwedd y fl. 1855, gyda 18 o aelodau. Diaconiaid cyntaf, Thomas H. Eynon a John Wheldon. Y Parch. Mr. Avery, o Sparta, a weinyddodd ar yr achlysur, mewn 

 


vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_236_) (y042 ·) Y GORLLEWIN PELL

ysgoldy yn y lle. Adeiladwyd y capel yn y fl. 1858, 28 tr. wrth 36 tr. Traul, $800. Dim dyled. Aelodau yn bresenol, 45; Y.S., 35; cynulleidfa, 50 i 60. Bu y gweinidogion canlynol yn llafurio yno, sef Samuel Jones, John Davies, a Humphrey Parry. Yr oedd Mr. Parry, (gynt o Dolgellau,) yn byw yno, ac yn gweinidogaethu i’r eglwys yn niwedd y fl. 1870. Bu yno am 5 ml. cyn hyny yn gysurus a llwyddianus. Poblogaeth Gymreig y pentref a’r ardal, 400.

22. FISH CREEK, ger Bangor, La Crosse Co., Wis. - Saif yr ardal hyfryd a ffrwythlon hon oddeutu 3 milldir i’r de-ddwyrain o bentref Bangor. Fel hyn yr ysgrifenodd Mr. Evan Jenkins am dani: - “Rhyw ddarnau o wastadeddau ffrwythlawn, yn cael eu hamgylchu gan fryniau coediog yw Fish Creek. Mae y mynyddau o’i hamgylch yn dragywydd, a’u copäau cysgodfawr yn herio yr ystormydd o bob cyfeiriad. Y ddaiar yma sydd ddwfn a. brâs a graianog, a chynyrcha bob grawn a berthyn i’w gwregys tymherus yn doreithiog. Llinellir y gwastadedd yn mhob cyfeiriad gan ffrydiau grisialaidd o ddyfroedd iachus. Mae pawb o’r sefydlwyr cyntaf yma wedi cael manteision i godi eu hunain uwchlaw angen, ac yn byw yn eu palasau gwychion, a’u hysguboriau yn llawnion o bob lluniaeth. Eu Post Office sydd yn Bangor, 4 milldir i’r gorllewin. Ffurfiwyd eglwys y Trefnyddion Calfinaidd yn Gorphenaf, 1855. Rhif yr eglwys y pryd hwnw oedd 14, - yn awr 54 (gyda y rhai sydd ar brawf, a’r plant.) Ysgol Sabbothol, 30; casgliadau, $124.70. Diacon - John R Jones. Ffurfiwyd yr eglwys Gynnulleidfaol Hydref 16, 1859, gan y Parch. John Davies, Spring Green, a William W. Jones, Sacsville. Dewiswyd Thomas H. Eynon a David W. Jones yn ddiaconiaid. Aelodau, 20. Y Parch. John Davies a ddechreuodd weinidogaethu yma Mawrth 4, 1860. Rhif yr aelodau yn awr (Rhag. 23, 1870) yw 24. Diaconiaid - Thomas H. Eynon ac Evan Ll. Evans. Heb weinidog yn bresenol. Nid oes yma na llenorion, na beirdd, na cherddorion, ond pawb braidd yn gydradd. Poblogaeth Gymreig yr ardal, 225. Mae y dyfroedd a’r awelon yn iachus. Dim tir y Llywodraeth yma yn awr. Y mae yn anhawdd i dyddynwyr gael lle gwell na Fish Creek.”

vvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvvv
(_237_) (y043 ·) TALAETH WISCONSIN,

23. LA CROSSE, La Crosse Co., Wis. - Saif y dref hon ar lan afon y Mississippi, ar derfyn gorllewinol talaeth Wisconsin, 195 milldir o Milwaukee, a 15 milldir o dref Bangor. Tref gynyddol yn ei phoblogaeth, a bywiog yn ei masnach, ydyw, Mae yn gyfleus i’r reilffordd i’r wlad, ac i’r agerddfadau ar yr afon. Mae yno amrai Gymry parchus yn byw er ys blyneddau; ac y mae gan y T.C. eglwys a chapel yno, a’r Parch. D. R Williams yn gweinidogaethu iddynt. Gellir myned oddiyno gyda’r agerddfadau ar y Mississippi i Winona, neu i St. Paul, yn Minnesota, ac o Winona i Owatonna a St. Peter, a Mankato; neu gyda y reilffordd yr ochr draw i’r afon i Austin Junction, Minnesota. Dichon fod yn La Crosse tua 150 Gymry.

24. GLENDALE, Monroe Co., Wis. - Ardal amaethyddol dda yw hon, a gellir cael tiroedd am brisiau isel ynddi. Sefydlodd y Parch. William W. Jones, gynt o Lanerfil, Maldwyn, G.C., a’i deulu yno yn
1868, a phregetha i amrai o eglwysi Saesonig. Mae amrai o Gymry wedi sefydlu yno, a diau y bydd mwy eto. Nid yw yn mhell o Station Tomah, ar y reilffordd o Portage City i La Crosse.


Ble’r wyf? Yr ych yn ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

End / Diwedd

Latest updates - Adolygiadau diweddaraf

19 02 2012