Belggrano, Abergele

 

baneri 

Gwefan Cymru-Catalonia:
La Web de Gal·les i Catalunya

Wales-Catalonia Website

 

Sylwadau ar yr enw ‘Belgrano’ (enw ar ardal yn Abergele)
 
http://www.kimkat.org/amryw/1_enwau/enwau_lleoedd_cymru_belgrano_2899k.htm

Yr Hafan 0001 kimkat0001
.1863k kimkat1863k Y Arweinlne yn Gymraeg
1802k kimkat1802k Enwau - Y Gyfeirddalen
1941k kimkat1941k Enwau lleoedd - Y Gyfeirddalen
1783k kimkat1783k Enwau Lleoedd Cymru - Y Gyfeirddalen
→ y tudalen hwn


(delwedd 0825)

 English (no English version of this page)


 Català (cap versió catalana d’aquesta pàgina)

 

------------------------------------------------------------------------------------------

 

BELGRANO, ABERGELE

 

(delwedd 7878)

Mewn un o edefion ar y fforwm ‘Enwau Lleoedd’ mae Siôn Rhys Wynne yn gofyn ynghylch yr enw lle Belgrano sydd i’w weld yn enw ar ardal yn Abergele (Sir Conwy):
http://www.facebook.com/groups/263839124470/10150637360839471/
Belgrano - 'pentref' yn ardal carafanau Arfordir Gogledd Cymru sy'n ymestyn o Brestatyn yn y Dwyrain tua'r Gorllewin i Bensarn (ar gyrion Abergele). Mae o rhwng Towyn a Pensarn. Dwi di holi'r Cynghorydd Sir lleol a doedd ganddo fo ddim syniad am darddiad nag hanes yr enw chwaith. Unrhyw syniad?

 

(delwedd 7888a)

 

 

(delwedd 7893)

 

(Heolydd ar y map: Ffordd Tywyn (‘Towyn Road’), Heol y Fedwen, Y Ddôl, Sunray Avenue, Seafield Drive, Brongele, Stryd y Dderwen, Rhodfa Cregyn, Llysyreos, Lôn Glanfor, Rhos-fawr, Lôn y Dryw, Tremymynydd, Lôn Glyd, Maesgele, Ffordd Gwelfryn)

 

Mae Gwyn Parry yn sôn am sylw sydd i’w weld ar wefan y BBC yn yr iaith fain. Yn hwnnw yr awgrymir i gapten o’r enw Robert Roberts ddodi’r enw ar dŷ a godwyd ganddo yn y tridegau. Ond o edrych ar y wefan honno gwelais bwt gan gyfrannwr arall yn awgrymu nad felly yn union y bu.

 

Dyma’r sylwadau perthnasol o edau’r BBC, ar dudalennau adran ‘Gogledd-ddwyrain Cymru’. Yma y ceir tudalennau o dan y teitl ‘Ask a Local’ (‘gofyn i un o’r fro’), ac mae un o’r rhai hyn yn delio ag Abergele.

 

(O’r Saesneg) “Dyma’ch cyfle i holi’r arbenigwyr – y rhai sydd yn byw yn y fan honno – am unrhywbeth sydd yn ymwneud ag Abergele”.

 

http://www.bbc.co.uk/wales/northwest/sites/abergele/pages/askalocal.shtml

 

A dyma’r ymholiadau :

 

..1 Deanna Harford, Belgrano, Abergele; Dydd Gwener Mehefin 8 2007


(O’r Saesneg) Dim ond holi i gael gwybod mwy am Belgrano, Holland Drive ayyb, y rhan hŷn. Yr wyf yn deall iddi gael ei chodi tua’r tridegau cynnar, ond nid wyf yn sicr. Prin yw’r mapiau o’r cyfnod hwn. Hefyd bu Tŷ-coch neu Tŷ-gwyn yn enw arno o bosibl. A all rhywun fod o help?

Odditanodd ceir sylw gan ‘Dîm y Wefan’: (O’r Saesneg) Yr ŷm wedi bod yn ceisio darganfod o ble daeth yr enw Belgrano ac yr ŷm newydd weld bod Vernon Hughes o Abergele wedi ysgrifennu fel hyn yng ngholofn ‘Notes and Queries’ (nodiadau ac ymholiadau) yn y ‘Guardian’ 11 Chwefror 1991 : (o’i gyfieithu o’r Saesneg): Yn 1930 ymddeolodd rhyw Gapten Robert Roberts a chododd dŷ yn yr ardal, a rhoes yr enw ‘Belgrano’ arno. Ni wyddys i sicrwydd ond o bosibl y gall fod ar ôl enw porthladd bach yn yr Ariannin neu bentref bach yn Sbaen yr hwyliodd heibio iddo a’i gwelodd yn lle prydferth’. Hoffwn ni glywed rhagor am hyn.

Ceir yr ateb a ganlyn:

..2 Delyth, Abergele; Dydd Mercher Mehefin 20 2007

(O’r Saesneg) Dyma ran o erthygl a gyhoeddwyd gan Fred Roberts o Abergele yn 1994. (O’r Saesneg) ‘Cafodd Edward Thomas o Wallasey dir gan ei frawd-yng-nghyfraith, Capten Roberts, a chodi Belgrano; mae’r stad o dai a adwaenir yn awr fel ‘Holland Drive’ wedi ei henwi ar ôl ei wraig, gan taw Holland oedd ei enw morwynol, a hithau’n un o deulu Holland o Ruthun.’

Un o’r enw Edward Thomas felly ac nid Robert Roberts a gododd y tŷ yn ôl y sylw uchod.

 

Gellir dweud yn ddiamheuol nad ar ôl pentref yn Sbaen y’i henwyd – am nad oes yr un pentref o’r enw Belgrano yng ngwledydd Sbaen.

 

Mae’n wir bod porthladd yn yr Ariannin o’r enw Puerto Belgrano, ond go brin ei fod yn sail i enw’r tŷ yn Abergele.

 

Saif y porthladd hwn 435 milltir i’r de o Buenos Aires, yn nhref Punta Alta, ar bwys Bahía Blanca, ac y mae’n gartref i Lynges yr Ariannin. (‘Base Naval Puerto Belgrano’ yw’r enw llawn; = Safle Llyngesol Porthladd Belgrano. Cyfeirir ato hefyd yn ôl ei flaenlythrennau: BNPB). Fe’i hagorwyd yn y flwyddyn 1896 o dan yr enw ‘Puerto Militar’ (= Porthladd Milwrol). Fe’i hailbeddyddiwyd â’r enw ‘Belgrano’ yn 1923.

 

None

(delwedd 7880)

 

Er nad wyf yn gallu cynnig yr un esboniad am y rheswm dros ddewis yr enw Belgrano ar gyfer y tŷ,  o chwilio ar y Rhyngrwyd deuthum o hyd i ambell ffaith ddiddorol am yr enw ei hun.

 

(Efallai y bydd rhywun yn nheulu yr hen gapten a’i frawd yng nghyfraith yn gwybod yn amgenach. A oedd perthnasau ganddo yn yr Ariannin efallai – yn y Wladfa? Mae’r enw yn awgrymu rhyw gysylltiad â’r Ariannin – dim ond yno y mae’r enw yn un arwyddocaol. Wrth gwrs, ar y llaw arall gall fod yn enw wedi ei ddewis ar fympwy, er enghraifft o ran ei sain. Tybed a oes rhyw bwt mewn papur newydd o’r adeg honno yn crybwyll rhywbeth am y ddau ddyn hwn? Neu pam yn union y rhoed enw un o arwyr yr Ariannin ar y tŷ hwnnw?)

 

Beth yw’r enw Belgrano?

Cyfenw wrth gwrs yw Belgrano yn anad dim. Bu Manuel Belgrano (enw llawn: Manuel José Joaquín del Corazón de Jesús Belgrano) (3 Mehefin 1770 – 20 Mehefin 1820, yn hanner can mlwydd oed), yn economydd, cyfreithiwr, gwleidydd ac arweinydd milwrol. Bu iddo ran bwysig yn Rhyfeloedd Annibyniaeth yr Ariannin, ac efe gynlluniodd faner y wlad honno. Fe’i hystyrir yn un o brif “Liberadores” (rhyddhawyr) y wlad o iau Sbaen.

 

(delwedd 7881)

 

Fe’i ganwyd yn Buenos Aires, yn bedwerydd plentyn i fam o Archentwraig, Josefa Casero, a thad o’r enw Domingo Belgrano y Peri, dyn busnes o’r Eidal, o dref Imperia.

Perthyn i Sbaen oedd Buenos Aires yr adeg hynny, a chan na anwyd Manuel Belgrano yn Sbaen nid Sbaenwr ‘orynysol’ (‘Peninsular’, h.y. gorynys Iberia) mohono, ond yn ‘criollo’. Fe ystyrid bod y ‘criollos’ yn Sbaenwyr hefyd ond o ddosbarth cymdeithasol is, am nad oeddynt yn Sbaenwyr ‘go iawn’.

A bod yn fanwl gywir, un o wlad Ligwria oedd ei dad, y hytrach nag un o’r ‘Eidal’. Yn ôl un wefan, Domenico Peri oedd enw gwreiddiol y tad, ond fe’i newidiodd a rhoi ffurf Gastileg arno, sef Domingo Pérez. Nes ymlaen mabwysiadodd y cyfenw Belgrano.

Serch hynny, yn ôl yr erthygl yn y wikipedia Saesneg, Domingo Belgrano y Peri (ac nid Pérez) oedd enw’r tad. Yn y gwledydd Castileg eu hiaith (ac hefyd yng Nghatalonia, lle mae arferion y Castiliaid wedi eu gorfodi ar y Catalaniaid) mae plentyn yn dwyn dau gyfenw, un y tad ac wrth ei gwt un y fam. Ond nid wyf wedi gweld esboniad hyd yn hyn ar newid cyfenw tad Manuel Belgrano.

Efallai taw enw a arferid o fewn ei deulu oedd Belgrano. Cyfenw o wledydd yr Eidal yw – ac y mae i’w weld yn amlaf yng ngwlad Ligwria.

None

(delwedd 7882)

(Rhaid dweud yma fod i Ligwria ei haith ei hun, sydd yn prysur ddiflannu wrth i’r Eidaleg ei disodli, yn enwedig ers chwe-degau’r ganrif ddiwethaf. Nid tafodiaith Eidaleg mohoni, ond iaith Ladinaidd annibynnol.)

Ffurf lenyddol ar yr iaith Doscaneg yw iaith safonol yr Eidal..

(delwedd 7882a)

 

 

(delwedd 7894)

 

Rhyw chwarter maint Cymru yw Ligwria, ond â hanner y boblogaeth

 

Ligwria / Cymru:

Arwynebedd 5,420 km2 /  20,779km2

Poblogaeth 1,592,900 / 3,006,400 (2010 - amcangyfrif)

 

 

(delwedd 7883)

 

Dyma wlad Ligwria a’r enwau yn Ligwreg. Mae’r iaith yn ymestyn tu hwnt i ffiniau pedair talaith Ligwria. Yn Múnegu (Mónaco) erbyn heddiw Ffrangeg yw’r iaith swyddogol, er taw Ligwreg ac Ocsitaneg yw’r ieithoedd brodorol. Rhwng cromfachau ceir yr enwau Eidaleg: San Roemu (Sanremo), Imperia (Imperia), Sanna (Savonna), Zena (Genova), A Spèza (La Spezzia).

 

Gwelir dosraniad y cyfenw ar y map hwn, ac fe welir ei fod i’w gael fwyaf yn Ligwria.

 

http://www.gens.info/italia/it/turismo-viaggi-e-tradizioni-italia?cognome=BELGRANO

 

Yn ôl gwefan ar gyfenwau’r Eidal (er na wn faint o goel y gellir rhoi ar y wefan hon)

 

http://www.cognomiitaliani.org/cognomi/cognomi0002e.htm

 

‘Belgrano è tipico di Imperia, Genova, Savona e San Remo, potrebbe trattarsi di un'alterazione del nome medioevale germanico Baldegarius, ma molto più probabilmente si tratta di un'italianizzazione del cognome francese Beaugrain o Beaugrand...’

 

Hynny yw, ‘Mae’r cyfenw yn nodweddiadol o [drefi] Imperia, Genova, Savona e San Remo; efallai ei fod yn llygriad ar yr enw Germanaidd canoloesol Baldegarius, ond mae’n debycach ei fod yn Eidalegeiddiad ar y cyfenw Ffrengig Beaugrain neu Beaugrand...’

 

Ni ddywedir pam y meddylir ei fod yn enw Ffrengig yn y bôn.

Os enw Ffrengig yw, mae ffurf arall ar Beaugrand (sydd yn ôl yr esboniadau yr wyf wedi eu gweld – er eu bod yn gyfeiliornus o bosibl – yn air cyfansawdd, sef ‘beau’ (= prydferth) a ‘grand’ (= tal)).  Belgrand yw’r ffurf arall hon (ceir hefyd Belgran, heb y ‘d’ derfynol).

Dywedir ei fod yn nodweddiadol o ‘départament’ Marne yng ngogledd-ddwyrain gwladwriaeth Ffrainc. Mae i’w weld hefys ond yn llai aml yn rai o’r départaments cyffiniol..Mae Beaugrand yn amrywiad arno, a fe’i ceir yn enwedig yn Pas-de-Calais ac yn Aube.

None

(delwedd 7890)

 

Mae mapiau eraill, sydd mwy neu lai yn cydfynd â’r un uchod, i’w gweld yma:

 

http://www.nom-famille.com/nom-beaugrand.html Cyfenw Beaugrand

 

http://www.nom-famille.com/nom-belgrand.html Cyfenw Belgrand

Yn yr ail fap hwn gwelir bod Belgrand yn enw Ocsitanaidd yn anad dim. Ond gall fod bod y teuluoedd yn Ocsitania yn newydd-ddyfodiaid o’r tu allan i Ocsitania. Serch hynny, mae’r elfen bel- yn fwy Ocsitaneg ei naws na Ffrangeg (Ffrangeg beau = prydferth; Ocsitaneg bèl = prydferth; yr un fel y llall o’r Lladin bellus.)

Belgrano fel enw lle.

Mae Belgrano i’w weld ymhobman yn yr Ariannin, yn enwedig yn enw ar heol. Mae sôn uchod am Puerto Belgrano. Yn y brifddinas Buenos Aires y mae ardal o’r enw Belgrano.

 

None

(delwedd 7879c)

 

Mae hefyd ardal o’r brifddinas Buenos Aires ag arni’r enw Belgrano.

 

(delwedd 7884)

 

Un arall yn Rosario

 


(delwedd 7889)

 

                              Yn Santa Fé y mae Colonia Belgrano

(delwedd 7886)

 

 

Yn nhrefi’r Wladfa, yn nhalaith Chubut, y mae heolydd (Manuel) Belgrano ym Mhorth Madryn, Tre-lew, Trerawson a Gaiman.

(Ac y mae llyn o’r enw yn nhalaith Santa Cruz).

(delwedd 7887)

Mae heol hefyd yn Esquel o’r enw Belgrano, ac ardal o’r un enw.

(delwedd 7891)

 

Rhagor o wybodaeth am Manuel Belgrano (o’r wikipedia yn Saesneg)

 

1786: Astudiodd ym Mhrifysgol Salamanca ac yn Valladolid, Castilia. Daeth yn gyfarwydd â gweithiau awduron goleuedig Ffrainc a Sbaen.

 

1796: Graddiodd mewn Cyfraith

 

Enwebwyd gan frenin Sbaen i fod yn ysgrifennydd Consiwlad Buenos Aires. Ond gwrthwynebwyd ei awgrymiadau i hyrwyddo addysg, masnach, amaeth a thrafnidiaeth yng ngwlad Buenos Aires gan y Castiliaid (Sbaenwyr).

 

1806: Er nad oedd ganddo brofiad milwrol trefnodd y frwydr yn erbyn y Saeson pan ymosododd y rhai hyn ar Buenos Aires, a’u rhoi ar ffo. Bu’r Saeson yn cynnig cael rheolaeth ar drefedigaethau Sbaen yn ardal yr afon Plata yn ystod Rhyfeloedd Napolean – bu Sbaen yn brwydro ar ochr Ffrainc. Trwy eu hymosodiadau aflwyddiannus gwnaeth y Saeson gymwynas â’r criollos, a ddaeth i sylweddoli ei bod yn bosibl brwydro yn erbyn Sbaen ac ennill eu hannibyniaeth.

 

1810: junta (llywodraeth) y Sbaenwyr yn Buenos Aires yn cael ei ddiddymu; y criollos yn ffurfio ei junta eu hunain, a Belgrano yn cael ei ethol iddo. Am ei fod yn un o’r ychydig iawn o’r criollos â phrofiad milwrol fe’i gwnaeth yn gadflaenydd. Ond bu ymosodiad a wnaethpwyd ganddo ar Paraguay yn aflwyddiant, a bu ei cyd-wrthryfelwyr yn llym eu beirniadaeth arno.

 

Brwydrodd yn erbyn y Sbaenwyr a’r criollos ffyddiol i Sbaen. Trwy anufuddháu i’w orchmynion cafodd atal symudiad y Sbaenwyr yn eu blaenau (Tucumán, Medi 24, 1812); yn sgil hyn cafodd fynd ymlaen i’r gogledd-orlllewin ac ennill brwydr arall yn erbyn pleidwyr Sbaen (Salta, Chwefror 20, 1813). Ond wedyn collodd frwydrau eraill, a bu ei gyd-wrthryfelwyr yn anfodlon ar ei fodd gweithredu unwaith eto.

 

Yn rhannol i gael gwared arno dros dro cafodd ei anfon i Loegr i ofyn am gydnabyddaeth Lloegr ar gyfer llywodraeth Buenos Aires, ac hefyd i chwilio am frenen i’r wlad newydd. Daeth yn ôl heb wireddu yr un o’i ddau fwriad.

 

Ôl-nodyn

Yn ôl yr ethygl yn y wikipedia Castileg, nid ar ôl Belgrano y cafodd Colonia Belgrano yn Santa Fe ei enw, ond yn hytrach ar ôl enw tebyg a awgrymwyd gan un o sefydlwyr y pentref, Froylán Ortiz. Cafodd hwn ei synnu gan ansawdd ardderchog yr ŷd, ac felly rhoes yr enw Eidaleg ‘Bel Gran’ ar y pentref, sef ‘ŷd prydferth’.

 

Ond yr unig broblem a welaf am yr esboniad hwn yw taw ‘grano bello’ yw’r geiriau Eidaleg (er y gallent fod yn sail i’r enw trwy dynnu’r terfyniadau a newid trefn y geiriau).. Nid oedd yr awrdurdodau yn hoff o enw tramor yn ôl yr ethygl hon, a fe’i newidiwyd i Belgrano. Mae’n mynd ymlaen i ddweud bod y cyfenw Belgrano yn meddwl yr un peth – ‘ŷd prydferth’.

 

Ni wn faint o goel y gellir ei ddodi ar yr hanes hwn (“bel-gran”). Ac mae’n debyg nad ‘ŷd prydferth’ yw sail y cyfenw Belgrano, er ei bod yn ddehongliad posibl

 

 

(delwedd 7885)

 

CLOI PEN Y MWDWL

 

Tybed pa un oedd y rheswm dros ddodi’r enw Belgrano ar dŷ yn Abergele? Boed fel y bo, y mae yn Sir Conwy enw lle sydd yn coffa ‘Owain Glyndwr yr Ariannin’. Brwydrodd Manuel Belgrano dros ei wlad, a’i amddiffiniodd yn erbyn ymosodiadau’r gelyn, yn Saeson a Chastiliaid (Sbaenwyr), a bu’n yn allweddol yn ennill annibyniaeth iddi.

 

 

--------------------------------------------------------------------------------------

DIWEDD.

 

Ein llyfr ymwelwyr (kimkat0860k)
 
Archwiliwch y wefan hon
 
Adeiladwaith y wefan
 
Beth sydd yn newydd?

 

Dyddiad creu’r tudalen: 2012-02-19

Adolygiadau:2012-02-19

 

Sumbolau arbennig: əŷ

Ffeil gwreiddiol:



Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA" (Cymráeg)
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya) (català)
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website (English)
Weər àm ai? Yùu àar víziting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait (Íngglish)
 

CYMRU-CATALONIA