0967k Gwefan Cymru-Catalonia. Dadl ar ddirwestiaeth o'r 'Athraw', 1842, yn Nghwmowen, y Bont-faen, Bro Morgannwg. “ Ond i brofi ei osodiad, sef fod rhywbeth mewn cwrw heblaw brag, hops, a dwr galwodd Mr. Evans ar ddau dyst yn mlaen, sef Mr. Common Sense a Mrs. Distil; ac yn y fan daeth Common Sense yn mlaen, a phrofodd y pwnc yn eithaf cadarn.

http://www.racocatala.com/catalunyacymru/amryw/1_testunau/sion_prys _002_ystradowen_0967k.htm

Yr Hafan

..........
1863k Y Fynedfa yn  Gymraeg

....................
0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai

........................................y tudalen hwn

 


..

 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya

Cywaith Siôn Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
El projecte Siôn Prys (Col·lecció de textos en gal·lès)

Y Cyfarfod Dirwestol,
Ystradowen, Y Bont-faen, 1842

(delwedd 7401k)

Diweddariad diwethaf: 2005-02-19

 

TARDDIAD: Yr Athraw 1842,  tudalennau 80-83

 

Dirwestiaeth

CYFARFOD DIRWESTOL, A DADL GYHOEDDUS

 

Nos Lun, y 24ain o Ionawr, 1842, cynhaliwyd cyfarfod yn Ystradowen, ger Pontfaen, i’r dyben o ddysdyllio cwrw, er mwyn dangos twyll y diodydd meddwol i drigolion yr ardal honno, y rhai oeddynt hyd y cyfarfod hwn yn meddwl ac yn ystyried hwn yn llesol iawn i’r cyfansoddiad dynol; ond cyn diwedd yr oedfa, danghosodd amrai o honynt iddynt gael eu hargyhoeddi o’u camsyniad.

Gwedi i lawr o bobl ddyfod yn nhgyd, hyd onid oedd y ty lle yr oeddynt wedi ei lanw, cynygiwyd ar fod i Mr. Robert Johns, ysgol-feistr yn Capel Seion, lywyddu y cyfarfod, yr hwn a eiliwyd, ac a gymeradwywyd gan yr holl gynulleidfa. Yn ganlynol Mr. Johns a ufyddhaodd, ac a ymgymerodd â’i swydd; ac wedi iddo, drwy araeth fer, (ond cadarn a synhwyrol i ryfeddu,) agor y cyfarfod, efe a alwodd ar Mr. David Evans, Ty-draw, i areithio, a Mr. John Williams i ddysdyllio hanner peint o gwrw. Ymgymerodd Williams a’r gorchwyl o ddysdyllio, a dechreuodd Evans lefaru ar dwyll y diodydd meddwol; a chymerodd y dywediad hwnw o eiddo ein gwrthwynebwyr am danom, sef, “Fod y dirwestwrs yn gwêd fod rhyw beth yn y cwrw - rhyw alco, neu wenwn, neu rhwpath,” dan sylw. Dywedodd y byddai iddo ef a’i frodyr roddi prawf diymwad ac anwrthwynebol fod rhywbeth mewn cwrw heblaw brag, hops a dwr; ac mai y peth hwnw sydd yn meddwi dynion, ac mai hwnw oeddynt hwy am gael allan o’r byd.

Ond i brofi ei osodiad, sef fod rhywbeth mewn cwrw heblaw brag, hops, a dwr galwodd Mr. Evans ar ddau dyst yn mlaen, sef Mr. Common Sense a Mrs. Distil; ac yn y fan daeth Common Sense yn mlaen, a phrofodd y pwnc yn eithaf cadarn. Wedi hyny daeth Mrs. Distil, gan ddechrau chwythu anadl drewedig yr hen ddioden drwy ei phib; ac wedi gosod y ganwyll wrth enau my lady, wele y steam yn tanio ac yn llosgi yn fflam lâs am hir amser; a phan oedd Mr. E. yn dangos gyda’r medrusrwydd mwyaf fod y sylwedd fflamllyd yn cymeryd lle trwy decompositon, sef trwy bydriad ac ymweithiad; a bod y gw^r glâs hwnw yn rhywbeth yn y cwrw heblaw brag, hops a dwr, ac nad oedd i’w gael mewn un peth yn y greadigaeth, cododd un Mr. Elias Davies (amaethwr parchus) ar ei draed i wrthwynebu Mr. Evans. Ac er na anerchodd Mr. Davies y cadeirydd, mewn modd serchog iawn, a ddywedodd, o’i ran ef, y cai Mr. Davies ganiatad i siared. Yna dywedodd Mr. E. Davies,-

Fe allai fy mod wedi gweled mwy cyn eich geni, nac yr ydych wedi weled yr i’od; beth bynag am hyny, nid yw fod y steam yna yn tano, yn ddim yn y byd.

Mr. David Evans. - Y steam yna, a welwch yn llosgi, yw’r sylwedd meddwol sydd yn y cwrw.

Davies. - A welsoch chwi gas? Steam oddi wrth y glo sydd yn tano yno.

Caderydd. - Nid gwirf, Syr, yw gas.

Davies. - Peth sydd yn cael ei weithio o’r glo yw, ac yn tano fel hwna, ac mae ym mhob glo.

Cadeirydd. - Nac ydyw ddim yn mhob glo: gwelais brawf o hyny ym Merthyr Tydfil.

Mr. Howell Harries, y bragwr, gw^r cyfrifol yn y gynulleidfa, a ddywedodd o’i ran ef, nad oedd dim ond dau i ymddyddan.

Cadeirydd. - Yr wyf yn cydsynied, rhoddaf y gorchwyl i Mr. David Evans.

Evans. - Anwyl gyfeillion, gwyddoch mai fy amcan i oedd profi fod rhyw beth mewn cwrw, heblaw brag, hops a dwr; ac yr wyf yn dywedyd eto, mai y gw^r a welsoch chwi yn llosgi er’s meithyn yn mhibell y distil, oedd y peth hwnw.

Davies. - Gallu y cwrw oedd hwnw.

Evans. - Os rhyw beth heblaw brag, hops neu ddwr, yr ydych yn ei alw yn allu, fe allai mai gallu y cwrw oedd.

Davies. - A welsoch chwi engine?

Evans. - Do, Syr.

Davies. - Beth sydd yn ei gweithio hi?

Evans. - Y mae’n debyg mai steam drwy confinement.

Davies. - Ie, grym y steam; a grym steam yr oeddych chwithau yn ddangos er’s meityn.

Evans. - Gwir yw fod engine yn dangos grym steam, gwna pib Morgan (teakettle) hyny hefyd, a danghosodd y distil hyny hefyd; ond danghosodd hi steam yn tanio, yr hyn ni wna dwr yn unig, nag un gwlybwr arall ond a gynwysa wirf.

Davies. - Y mae tea yn cynwys yr un peth.

Evans. - Gyda’ch cenad, Syr, rhaid i mi eich amau, canys yr wyf wedi gwneyd prawf o hono cyn heno; ond gallwn ei ddysdyllio yn awr, os gellir cael tea. (Gellir, ebe rhyw wraig, bydd yn barod yn awr jest.)

Davies. - Na, nid oes achos; gan eich bod wedi ei dreio, rhaid caniatau.

Evans. - Fy mharchus wrthwynebwr, gan eich bod yn caniatau hyn yma, a ydych chwi yn meddwl fod y rhan yna o’r ddiod, sef y defnydd a welsoch yn llosgi yn fflam lâs, yn llesiol i’r cyfansoddiad dynol?

Davies. - Na, yr wyf yn ei ystyried yn ddrwg.

Evans. - Da iawn, Syr; a chan hyny, rhaid ma ni sy’n right.

Davies. - Na, ’rwyf yn gwybod ei fod yn dda ar rai prydiau, ddim ond deall yr amser i’w gymeryd.

Evans. - Ei gymeryd fel pa beth, Syr? ai fel met’sin yr ydych yn meddwl cymeryd y peth a ganiatawyd genych mai drwg yw?

Davies. - Ie, fel met’sin.

Evans. - Diolch i chwi, yr ydych yn awr o fewn y cylch dirwestol, canys y mae dirwest yn ei ganiatau fel met’sin.

Davies. - Na, fel hyn; dyma ddyn yn teithio a chlywed eisiau arno; byddai hanner peint yn dda iddo, ond nid yn lle bwyd; byddai hanner peint bob hyn a hyn o filldiroedd yn dda.

Evans. - Ho, dyn yn teithio yn galed, ac yn galw am fet’sin i’w gymeryd bob hyn a hyn o filldiroedd! Os golygwn fod y dyn yn eithaf iach, chwi a welwch, gynulleidfa, fod ganndo orchwyl caled iawn, sef teithio ac yfed met’sin; ond os yn glaf, byddai yn fuan yn glafach druan, dybygwn i.

Davies. - Wlya ’rwi am ddyn yn gallu manigio ei hunan; gallu yfed hanner peint a myn’d i’w ffordd fel finau; onite gall dirwest fod yn dda i’r rhai sydd yn ffaelu manigio eu hunain.

Evans. - Gadewch i ni gymeryd pwyll, Syr, i ni gael dybenu un peth cyn myned at beth arall: os gwelwch yn dda, gadewch i ni glywed unwaith eto (rhag i ni annghofio)  {sic}fel pa beth yr ydych chi yn yfed diodydd meddwol; pa un ai fel met’sin, ai fel ymborth, neu ynte fel dwr i dori {sic} eich syched?

Davies. - Na, nid fel dwr; canys pa fwyaf yfir, mwyaf i gyd fydd y syched.

Evans. - Da iawn, Syr, yr ydym ein dau yn hollol yr un farn ar y pwnc; ond gadewch i ni gael clywed unwaith eto, fel pa beth yr ydych yn ei hyfed?

Davies. - Wel, fel ymborth.

Evans. - Dyma hi, dyma dy mharchus wrthwynebwr yn dechrau galw ei eiriau yn ol: fel met’sin er’s meityn, fel ymborth yn awr: fel pa beth y bydd yn eu cymeryd y tro nesaf? Y mae yn ddrwg genyf glywed gw^r mor foneddigaidd yn gorfod galw ei eiriau yn ol; ond yr wyf yn ddiolchgar i chwi, Syr, am eich cymhorth i gynal y cyfarfod hwn; nid oeddwn yn meddwl areithio yma heno; ond wedi dyfod, cefais fy ngalw i hyny, a minau heb un araeth; ond wele rhagluniaeth ddoeth wedi dyfod â Mr. Davies, yma, i roddi testynau ac areithiau i mi. Ond ewch yn mlaen yn awr, Syr; profwch fod cwrw yn ymborth.

Davies. - Na, ’rwyf fi yn rhoi’r gorchwyl i chwi.

Evans. - Ho, rhoi’r gorchwyl i fi, i brofi nad yw, bid siwr, onidê, Syr?.

Davies. - Ie.

Evans. - Druan o’r cwrw! Darfu i Mr. Davies ei bleidio yn wresog er’s meityn gan ei gyfrif yn fet’sin; ond pallodd iddo fod wedi hyny: yno treiodd wneyd ymborth o hono, ond methodd â’i brofi: ac wele ef yn rhoddi y gorchwyl i mi, i brofi nad yw; ac os gwnaf hyny, beth a ddaw o’r truan wedi hyny! Ond, pe buasai Mr. Davies yn medru profi ei fod yn ymborth maethlon, buasech oll yn rhwym o addef mai ymborth drud iawn ydyw, fel y cewch weled yn awr. Pa faint o frag a wna faril o gwrw? atebed rhyw un sydd yn gwybod? (atebodd Mr. Howell Harries mai 4 bushel.)

Evans. - Purion. Pa faint o haidd a wna bedwar bushel o frag?

Harries. - Tri bushel.

Evans. - O’r goreu; pa faint o alwyni sydd mewn baril? Mr. Chairman, yr ydych chwi yn schoolmaster, diau y gellwch ddweyd mewn gair.

Cadeirydd. - Unarbymtheg-ar-hugain.

Evans. - Wel, beth y galwyn yw cwrw? atebwyd, dau swllt.

Evans. - Wel, gwerth pa faint yw y fariled gwrw yn awr? atebwyd mai tair punt a deuddeg swllt.

Evans. - Wel, wel, talu tair punt a deuddeg swllt am dri bushel o haidd! marchnad brid, onidê, gyfeillion! Dychmygaf yn awr weled fy ngwrthwynebwyr yn teithio i lawr o Ferthyr, ac yn prynu ymborth ar hyd y ffordd yn awr ac yn man, ac yn talu yn ôl pedwar swllt ar hugain y bushel am dano. Pe buasai yn ei gael ar y goreu, buasai yn hynod o brid; ond erbyn y byddo gwedi ei drin a’i drafod gan y bragwr a’r tafarnwr, bydd yn ddrutach fyth; ïe, erbyn y byddo wedi cynyrchu y gwirf, sef y gw^r a welsoch chwi yn llosgi er’s meityn, bydd yn ddrutach eto, gan fod y gwirf gwedi hollol ddinystrio yr ychydig faeth oedd ynddo.

Davies. - Wel, pa faint o dea a ddodwch mewn teapot i ddwsin o ddynion? cymerwch hyna dan eich ystyriaeth.

Evans. - Cymeryd criws tea dan ystyriaeth! Pa sawl llwyaid o dea i ddwsin o ddynion? Fe allai mai deuddeg llwyaid. (Owns, meddai rhyw hen wraig.) Nid ydym ni, y dirwestwyr, Syr, yn ystyried tea ond fel y mae’r ladies yma yn ystyried, sef, fel gwlybwr yn feddiannol ar ryw flavour nice iawn, ac yn cynorthwyo y tamiad i fyned i lawr.

Davies. - Nid wyf, fe allai, yn ddicon cyfarwydd i shared fel hyn.

Evans. - Gan eich bod yn ystyried eich hun, Syr, yn annghyfarwydd, (gallaf finau, o ran hyny, wneud yr un esgus,) cewch dri mis, os mynwch, i studio’r pwnc, a chyfarfyddaf â chwi y pryd ac yn y man y mynoch,a hyny yn gyhoeddus; neu ynte cewch ddewis rhyw ddyn a fyddo genych ymddiried ynddo, a gwnawn ninau yr un modd, a chânt shared yn gyhoeddus. Onid yw hyn yn dêg, Syr?

Davies. - Na wna fi ddim.

Evans. - Wele, gyfeillion, ni wnaeth gwrthwynebu mwy na phleidio; y mae pob peth yn cydweithio er daioni o du dirwest.

Davies. - Y sawl a garo fod yn ddirwestwr, i fod; a’r sawl a garo yfed, i yfed; fel yna ’rwyf fi yn ei gweled oreu.

Evans. - Y mae fy ngwrthwynwebwr wedi dyfod yn dêg iawn, onid yw! Y sawl a garo fod yn ddirwestwr, i fod; a’r sawl a garo yfed, i yfed: beth a fyn dynion gael? Ond nis gallaf gyd-fyn’d â chwi eto, Syr; yr wyf yn barnu nas gall dirwest fod yn dda, ac ymarferiad â’r diodydd meddwol fod yn dda hefyd. Os yw’r naill yn dda, y mae’r llall yn rhwym o fod yn ddrwg, canys maent yn hollol groes i’w gilydd. Os profwch chwi eich bod ar lwybr eich dyledswydd wrth yfed diodydd meddwol, dylem ni roi ein dirwest i fyny; ac onidê, os profir dirwest yn dda, y mae’n ddyledswydd ar bob dyn ei phleidio; o ganlyniad rhaid i chwi roi eich yfed i fyny; nid oes lle canol i’w gael.

Ar hyn dystawodd Mr. Elias Davies, a chafodd D. Evans bob llonyddwch i fyned yn mlaen, gan ateb gwrthddadleuon, &c., ag oeddynt yn cael eu dwyn yn erbyn dirwest; a’r gynulleidfa oeddynt yn gwrando yn astud iawn. Arhosodd Mr. Davies nes y dybenodd Mr. D. Evans areithio. Erbyn hyny yr oedd y distil wedi rhanu y jugaid cwrw yn dair rhan; ac erbyn yspïo, dwr oedd y jwgaid cwrw bron i gyd, oddieithr tua llon’d llawy-fwrdd o wirf, a llon’d gwniadur o waelodion drewedig. Effeithiodd hyn yn dda iawn ar y bobl, canys ar y diwedd llawnododd dau-ar-hugain yr Ardystiad.

COFNODWR.

   



DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN / LINKS TO THE REST OF THE WEBSITE

1004e

Y Wenhwyseg

The Gwentian dialect
 
····

0043c
Yr iaith Gymraeg

The Welsh Language
·····
0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan; o’r tudalen hwn gellir hefyd
chwilio’r gwefan hwn â’r archwiliwr mewnol

Index of contents of the website
·····
1051e
Testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn

Welsh texts with English translations
 

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

30 07 2000 - adolygiad diweddaraf

Ffynhonnell: Nodlyr Rhif....


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

DIWEDD / FI / END 
 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats