2682k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya :
Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr
iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text
electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online
Edition.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_apocrypha_doethineb_salomon_72_2682k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k
....................0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k
..............................0960k Cywaith Siôn
Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k
........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl
Wiliam Morgan 1620
neu trwy Google:
#kimkat1281k
.............................................................y tudalen hwn
0860k y
llyfr ymwelwyr |
Gwefan Cymru-Catalonia
|
|
xxxx This page with an English version (1620 Welsh
Bible / 1611 English Authorized Version)
(Sganiad heb ei gywiro yw hwn, ac felly yn frith o
wallau. Cyn hir gobeithio cawn ni gyfle i roi trefn
DOETHINEB SALOMON
ºPENNOD I
º1 Cerwch gyfiawnder, y rhai
ydych yn barnu'r ddaear: ystyriwch yr Arglwydd mewn daioni, a cheisiwch ef mewn
puredd calon.
º2 Oblegid efe a
geir gan y
rhai ni themtiant ef; ac a
ymddengys i'r rhai ni anghredant iddo.
º3 Canys meddyliau trofaus a ddidol-ant oddi wrth Dduw; eithr rhinwedd brofedig a gerydda'r
ynfydion.
º4 Oherwydd nid a doethineb i enaid drygionus; ac ni chyfanhedda hi
mewn corff caeth i bechod.
º5 Oblegid sanctaidd ysbryd addysg a ffy oddi wrth dwyll,
ac a ymedy a meddyiiau
angall, ac a gystuddir lle y delo anwiredd.
º6 Canys ysbryd yn
caru dyn yw doethineb, ac ni weryd hi yr hwn a
gablo a'i wefusau: oblegid Duw sydd dyst o'i arennau ef, ac yn wir olygydd
ei galon ef, ac yn gwrando ei ymadrodd-ion ef.
º7 Oblegid Ysbryd yr Arglwydd a lan-wodd y byd: a'r hwn sydd yn
cynnal pob peth biau adnabod lleferydd;
º8 Am hynny ni chaiff yr hwn a ddy-wedo bethau anghyfiawn lechu; ac
nid a'r farn a gosbo heibio iddo ef.
º9 Oblegid fe fydd ymofyn yng nghyng-horion yr
annuwiol; a'r Arglwydd
a gaiff glywed ei eiriau ef, i gosbi ei an-wireddau ef.
º10 Canys clust eiddigus sydd yn clyw-ed y cwbl; ac ni bydd swn
grwgnach yn guddiedig.
º11 Ymgedwch gan hynny rhag grwg- nach di-fudd; ac arbedwch enllibio
a'ch tafod: oherwydd nid a ymadrodd dirgel yn ofer; a'r genau a ddywedo gelwydd
sydd yn lladd yr enaid.
º12 Na cheisiwch farwolaeth yn amry-fusedd eich einioes; ac na
thynnwch arnoch ddinistr a
gweithredoedd eich dwylo:
º13 Oblegid ni wnaeth
Duw farwolaeth; ac nid digrif ganddo ddinistr y
byw;
º14 Canys efe a wnaeth bob peth i fod; a chenedlaethau'r byd yn
iachol, heb fod meddyginiaeth ddinistriol
ynddynt, na brenhiniaeth uffern ar y ddaear.
º15 Anfarwol hefyd yw cyfiawnder.
º16 Eithr rhai annuwiol a'i cyrchasant hi a'u dwylo, ac a'u
hymadrodd: gaa dybied ei bod hi yn garedig y dihoenasant hwy, a
hwy a wnaethant gyfamod a hi,
am eu bod yn haeddu
bod yn gyfranogion ohoni.
ºPENNOD 2
º1 OBLEGID yr annuwiol a
ddywedant ynddynt eu nun, gan feddwl, ond nid yn uniawn, Ber a blin yw ein hoes
ni: yn niwedd dyn nid oes meddyginiaeth, ac ni adnabuwyd neb a ddy-chwelodd o
uffern.
º2 Canys si ddamwain y ganwyd ni, ac wedi hyn ni byddwn ni rawy na
phe na buasem: oblegid mwg yw'r fifun yn ein ffroenau ni, a gwreichionen yw'r
ymadrodd yn dyfod o symudiad y galon;
º3 Pan ddiffodder honno, yr a'r corff yn lludw, a'n hanadl a
wasgerir fel awyr denau;
º4 A'n henw nj a anghofir mewn amser, fel na chofio
neb ein gweithredoedd; a'n heinioes ni a a fel 61
niwl, ac a wasgerir fel cwmwl, yr hwn a ymlidio pelydr yr haul, a'r hwn y byddo
ei wres ef drwm wrtho.
º5 Canys ein hamser ni sydd fel myn-ediad cysgod; ac nid oes
dychweliad ar ein diwedd: canys efe a seliwyd, ac nid oes neb yn dychwelyd.
º6 Deuwch gan hynny, mwynhawn y da sydd, ac arferwn yn brysur yr hyn
a feddwn, megis mewn ieuenctid.
º7 Ymlanwn a gwin gwerthfawr, ac ag ennaint: ac na adawn i flodau'r
amser fyned heibio i ni.
º8 Gwisgwn goron o flodau rhos, cyn eu gwywo.
º9 Na fydded neb ohonom ni heb ei ran
o ddifyrrwch; gadawn
ym mhob man arwyddion o'n
llawenydd: oblegid hyn yw ein rhan ni, a dyma ein dogn ni.
º10 Gorthrymwn y tlawd cyfiawn, nac arbedwn y
weddw, ac na pharchwn hir-hoedlog benllwydni yr hynafgwr.
º11 Bydded ein cryfder ni yn lle cyfraith gyfiawn: canys gwendid a
geryddir fel peth di-fudd.
º12 Cynllwynwn gan hynny i'r cyfiawn, am ei fod ef yn anfuddiol i ni:
y mae efe hefyd yn erbyn ein gwaith ni, ac yn
edliw y pechodau
sydd yn erbyn y gyfraith, ac yn cyhoeddi er gogan i
ni y pechodau sydd yn erbyn ein haddysg ni.
º13 Y mae efe yn yrnhonni fod ganddo wybodaeth o Dduw, ac yn ei alw
ei him yn blentyn i'r Arglwydd.
º14 Efe a wnaed
i argyhoeddi ein meddyliau ni.
º15 Tnvrn gennym ei weled ef; am fod ei fuchedd ef yn annhebyg i'r eiddo eraill, a bod ei ffyrdd ef ar ddull arall.
º16 Y mae efe
yn ein cyfrif ni yn blant o ordderch,
ac yn ymgadw rhag ein ffordd ni, megis rhag peth aflan; y mae efe yn cyfrif
diwedd y rhai cyfiawn yn ddedwydd, ac yn ymhonni fod Duw yn dad iddo.
º17 Edrychwn ai gwir ei
eiriau ef, a mynnwn wybod yn sicr beth a fydd ei
ddiwedd ef.
º18 Oblegid os mab Duw yw'r cyfiawn, efe a'i derbyn ef, ac a'i
gwared ef o ddwylo ei wrthwynebwyr.
º19 Holwn ef yn
amharchus ac yn gystuddiol, fel y caffom wybod ei
add-fwynder ef, a phrofi ei ddioddefgarwch ef.
º20 Barnwn ef i
farwolaeth warad-wyddus:
oblegid fe a synnir arno, medd efe.
º21 Hyn a feddyliasant hwy, a hwy a gamgymerasant: oblegid
eu drygioni a'u dallodd hwynt.
º22 Ac ni wybuant
hwy ddirgeled-igaethau Duw,
ac ni obeithiasant am wobr cyfiawnder, ac nid ystyriasant wobr yr eneidiau difeius.
º23 Oblegid Duw a greodd ddyn i fod yn anllygredig, ac a'i
gwnaeth ef yn ddelw ei lun ei
hun.
º24 A thrwy genfigen
y cythraul y daeth marwolaeth i'r byd: a'r rhai sydd
ar ei du ef a'i profant ef.
ºPENNOD 3
º1 EITHR y mae eneidiau y
rhai cyfiawn yn Haw Dduw; ac ni
chyff-wrdd cystudd a hwynt.
º2 Y rhai angall
oedd yn tybied
eu bod hwy yn meirw; a drwg y cyfrifid eu diwedd hwynt,
º3 A'u mynediad oddi wrthym ni yn ddinistr: eithr
y maent hwy
mewn heddwch.
º4 Oblegid er eu
cystuddio hwy yng ngolwg dynion, y mae eu gobaith hwy yn
llawn tragwyddoldeb.
º5 A lle y
ceryddwyd hwy ychydig, hwy a
g&nt lawer o fudd: oblegid Duw a'u profodd hwynt, ac a'u cafodd yn addas
iddo ei hun.
º6 Efe a'u profodd hwynt fel aur yn y ffwrn, ac a'u derbyniodd fel
aberth llosg.
º7 Ac yn amser eu gofwy hwy a ddis-gleiriant, ac a redant i mewn ac
allan, fel gwreichion mewn sofl.
º8 Hwy a farnant
genhedloedd, ac a
lywodraethant bobloedd; a'u
Harglwydd hwy a deyrnasa byth.
º9 Y rhai a ymddiriedant ynddo ef a ddeallant y gwirionedd; a'r rhai
ffydd-lon mewn cariad a arhosant gydag ef: oblegid gras a thrugaredd sydd i'w saint ef, ac
efe a ofala dros ei etholed-igion.
º10 Eithr yr annuwiol, fel y meddyl-iasant, a gtat gosbedigaeth, y
rhai a ddiystyrasant y cyfiawn, ac a wrthod-asant yr Arglwydd.
º11 Canys annedwydd yw yr
hwn a ddiystyro ddoethineb ac addysg,
ac ofer yw eu gobaith: eu llafur hefyd a fydd diffrwyth, a'u gwaith yn
ddi-fudd.
º12 Eu gwragedd sydd yn angall, a'u pknt yn ddrygionus.
º13 Melltigedig yw eu
hepil hwynt: canys dedwydd
yw'r amhlantadwy ddihalogedig,
yr hon nid adnabu wely mewn pechod: hi a gaiff ffrwyth pan ymweler a°r
eneidiau:
º14 A dedwydd yw
y disbaidd, yr hwn ni wnaeth anwiredd a'i ddwylo, ac ni feddyliodd ddrygioni yn erbyn
yr Arglwydd: canys iddo
ef y rhoddir dewisol rad ffydd, a'r rhan gymerad-wyaf gan ei feddwl,
yn nheml yr Arglwydd.
º15 Canys gogoneddus yw ffrwyth poen dda; a gwreiddyn doethineb ni
ddiflan-na byth.
º16 Eithr plant y godinebus a fyddant amherffaith; a'r had
o wely anwir a ddiflanna;
º17 Oblegid os hir-hoedlog fyddant, ni wneir dim cyfrif ohonynt: a'u
henaint fydd amharchus yn y diwedd.
º18 Eithr os yn fuan y diweddir hwynt, ni chant obaith na
chysur yn nydd ymweliad:
º19 Oblegid ofnadwy yw
diwedd y genhedlaeth anghyfiawn.
ºPENNOD 4
º1 WELL yw bod heb blant, a bod
- gennym rinwedd: oblegid anfarwol yw y coffa amdani, a hysbys i Dduw a dynion
yw hi.
º2 Hwy a'i dilynant
hi pan fyddo presennol, ac a'i dymunant hi pan elo
ymaith; y mae hi yn gorfoleddu, wedi ei
choroni byth; wedi
ennill y mae wrth ymdrechu am ddihalogedig wobrau.
º3 Eithr tylwythog dyrfa'r
annuwiol ni bydd fuddiol;
ni ddwfn wreiddia chwaith yr hon sydd yn dyfod o
blan-higion bastardaidd, ac ni esyd sylfaen sicr;
º4 Oblegid er iddynt dyfu dros amser yn wrysg; gwynt a'u
symud hwynt, gan eu bod yn tyfu
yn weiniaid, a'u diwreiddio gan nerth y gwyntoedd.
º5 Yr amherffaith ganghennau a dorrir ymaith, a'u
ffrwyth hwynt a
fydd di-fudd, heb fod yn aeddfed i'w fwyta, nac yn gymwys i ddim.
º6 Oherwydd y plant a genhedler yn y gwely annheilwng sy dystion o
anwiredd yn erbyn eu rbieni, pan holer hwynt.
º7 Eithr os diweddir y cyfiawn yn gyn-nar, efe a fydd mewn
esmwythdra er hynny.
º8 Oherwydd nid yr hir-hoedlog yw'r henaint parchedig,
na'r hon a
fesurir wrth rifedi blynyddoedd:
º9 Eithr doethineb sy
benllwydni i ddynion; a henaint
oedrannus yw buch-edd ddihalog.
º10 Efe a ryngodd fodd i Dduw, ac a hoffwyd ganddo: ac efe, yn byw
ym-ysg pechaduriaid, a
fudwyd ymaith.
º11 Efe a gipiwyd ymaith rhag i ddrygioni newidio ei feddwl ef, neu i dwyll dwyllo ei enaid ef.
º12 Oblegid hudoliaeth oferedd a dy-wylla bethau da; ac anwadalwch
chwant a symud feddwl difalais.
º13 Efe, wedi ei ddiweddu yn fuan, a gyflawnodd hir amser;
º14 Canys cu oedd ei enaid ef gan yr Arglwydd: am hynny yr
aeth efe ar frys o fysg drygioni.
º15 Y mae'r bobl ya gweled hyn, ac heb ddeall nac ystyried fod gras a
thrugaredd i'w saint ef,
ac ymgeledd i'w etholedigion.
º16 Pan fyddo'r cyfiawn marw, y mae
efe yn rhoddi barn yn erbyn y rhai annuwiol byw; felly y
niae yr ieuenc-tid a ddiweddir yn fuan, yn erbyn hir-hoedlog henaint yr
anghyfiawn:
º17 Oblegid hwy a gam weled diwedd y doeth, ac
ni feddyliant beth a am-canasant iddo, ac i ba beth y cadwodd yr Arglwydd ef yn
ddiogel.
º18 Hwy a'i gwelant ef, ac a'i diystyr-ant: eithr
yr Arglwydd a'u
gwatwar hwynt, a hwy a fyddant yn gelain am-harchedig, ac
yn waradwyddus ym-ysg y meirw byth.
º19 Canys
efe a'u ddryllia
hwynt i lawr yn ddi-drwst,
ac a'u sigl hwynt o'r sylfaen, a hwy a anrheithir hyd yr eithaf, ac a
fyddant mewn gofid; a'u coffadwriaeth hwynt a dderfydd.
º20 Hwy
a ddeuant yn
ofnus trwy feddwl am
eu pechodau; a'u
hanwir-eddau a'u ceryddant
hwy o flaen eu hwynebau.
ºPENNOD
5
º1
YNA y saif y cyfiawn mewn hyder mawr o flaen ei orthrymwyr, a'r rhai a
ddiystyrasant ei lafur ef.
º2 Pan
welantj hwy a
gythryblir ag ofn aruthr;
a syn fydd ganddynt ei iachawdwriaeth ryfedd ef.
º3 A
hwy a ddywedant ynddynt
eu hun yn edifeiriol; a chan gyfyngder meddwl yr ocheneidiant, ac y
dywedant, Dyma'r hwn yr oeddem ni gynt yn ei watwar, ac yn ei ddyfalu yn waradwyddus.
º4 Nyni
ffyliaid a feddyliasom fod ei fuchedd ef ya ynfydrwydd, a'i ddiwedd yn amharchus.
º5 Pa
fodd y cyfrifwyd
ef ymhlith meibion Duw, ac y
mae ei ran ef ym-ysg y saint!
º6 Nyni
gan hynny a
gyfeiliornasom allan o ffordd y gwiricnedd, ac ni thy-wynnodd llewyrch
cyfiawnder i ni, ac ni chododd haul cyfiawnder arnom.
º7 Nyni
a lanwyd o ffyrdd
anwiredd a distryw, ac a rodiasom trwy anialwch anhyffordd; eithr
nid adnabuom ni ffordd yr Arglwydd.
º8 Pa fudd sydd i ni o falchder? a pha les a
wnaeth golud a ffrost i ni?
º9 Y pethau hynny oil a aethant ym. aith fel
cysgodj ac fel
cennad yn rhedeg;
º10 Fel
llong yn myned
trwy'r dwfr tonnog, yr hon ni
ellir caffael ei hoi, wedi iddi fyned
heibio, na'r llwybr yr aeth hi
trwy'r tonnau;
º11 Neu megis na cheir arwydd myned-iad yr aderyn
a ehedo trwy'r awyr, eithr dyrnod yr esgyll ar y gwynt tenau, yr hwn a
gurir ac a
rennir trwy nerth egniol, gan guro'r adenydd, a a
trwodd, ac yno nid oes dim arwydd pa le yr aeth efe;
º12 Neu fel pan saether saeth at nod, yr awyr
wedi ei rhannu a ddychwel yn y fan i'w lle, fel na wydder pa ffordd yr aeth hi:
º13 Felly ninnau, pan y'n ganwyd, a ddechreuasom
bwyso at ein diwedd; ac ni allasom ddangos dim arwydd rhin-wedd dda, eithr yn
ein drygioni y dar-fuom ni.
º14 Oblegid
fel llwch, yr
hwn a ar-wain y gwynt, ac fel
ewyn tenau, yr hwn a yrr y
dymestl, ac fel y mwg a wasgerir gan wynt, neu fel cof am ym-deithydd dros un
diwrnod, yr a gobaith yr annuwiol ymaith.
º15 Eithr
y mae y cyfiawn yn
byw byth; a chyda'r Arglwydd y mae eu gwobr hwyntj a chan y Goruchaf y mae
gofal amdanynt hwy.
º16 Am hynny y cant hwy ar law yr Arglwydd deyrnas
hardd, a choron deg; oblegid efe a'u gorchuddia
hwynt a'i ddeheulaw, ac a'u hamddiffyn a'i fraich.
º17 Efe
a gymer ei eiddigedd yn lle pob arfogaeth, ac a
arfoga'r creaduriaid i ddial ar y gelynion.
º18 Efe
a wisg gyfiawnder yn
ddwy-fronneg, ac a wisg farnedigaeth ddirag-rith yn lle helm.
º19 Efe
a gymer sancteiddrwydd yn darian, yr hwn ni ellir ei orchfygu.
º20 Efe a hoga ei ddicter tost yn gledd-yf; a'r
byd a ryfela gydag ef yn erbyn ffyliaid.
º21 Byllt y
mellt a ant yn union, ac a gyrchant at y nod, megis o
anelog fwa'r cymylau.
º22 A
chan ei ddigofaint ef, yr hwn sydd yn arfer o daflu meini, y bwrir cenllysg yn llawn
llid; dwfr y mor a lidia wrthynt hwy,
a'r afonydd a lifant yn dost:
º23 Gwynt nerthol a saif yn eu herbyn, ac a'u
nithia hwynt ymaith fel trowynt: ie, anwiredd
a ddifwyna'r holl dir,
a drygioni a ddinistria eisteddfeydd y cedyrn.
ºPENNOD
6
º1
GWRANDEWCH gan hynny, O v3" frenhinoedd, a deellwch; O farn-wyr eithafoedd
y ddaear, cymerwch ddysg.
º2 Rhoddwch
glust, lywodraethwyr y dyrfa; a'r rhai ydych feilchion o liaws
cenhedloedd.
º3 Oblegid y cryfder a gawsoch chwi gan yr
Arglwydd, a'r gallu gan y Goruchaf, yr hwn a ymofyn am eich gweith-redoedd
chwi, ac a chwilia allan eich cynghorion.
º4 Am i chwi yn weinidogion o'i fren-hiniaeth
ef, na farnasoch yn uniawn, ac na chadwasoch y gyfraith, ac na rod-iasoch yn 61
ewyllys Duw,
º5 Yn aruthr ac yn ebrwydd y daw efe atoch
chwi: oherwydd barn dost fydd i'r Uywodraethwyr.
º6 Y lleiaf a
ddichon gael maddeuant ya drugarog;
a'r cedyrn a
gystuddir yn gadarn.
º7 Oblegid yr hwn
sydd Arglwydd ar bawb, nid ystyr
wyneb, ac ni
ofna fawredd: canys efe a wnaeth
y mawr a'r bychan, ac a ofala yr un modd am bawb:
º8 Ond ar y
cedyrn y daw hawl gadarn.
º9 Wrthych chwi
am hynny, frenhinoedd, y mae fy ngeiriau i, fel y dysgoch ddoethineb heb ballu.
to Oblegid y rhai a gadwant y pethau sanctaidd yn
sanctaidd, a sancteiddir; a'r rhai a'u dysgasant hwy a gant beth i'w ateb
drostynt eu hunain.
º11 Chwenychwch gan hynny fy ngeiriau i; dymunwch hwynt, a chwi a
fyddwch ddysgedig.
º12 Doethineb sy ddisglair, ac ni dderfydd:
hawdd y canfyddir hi gan y rhai a'i hoffant, a hawdd y ceir hi gan y rhai a'i
ceisiant.
º13 Y mae hi yn myned i gyfarfbd y rhai a'i
chwenychant, fel yr adwaener hi yn gyntaf.
º14 Nid rhaid poen i'r hwn a gyfodo'n fore amdani
hi: oblegid efe
a'i caiff hi yn eistedd wrth ei
ddrysau.
º15 Canys perfceithrwydd synnwyr yw meddwl
amdani hi, a'r hwn a wylio amdani hi, a fydd ddiofal yn ebrwydd.
º16 Oblegid y raae hi yn myned o am-gylch, dan
geisio y rhai sy deilwng o-honi; y mae hi yn ymddangos yn llawen iddynt hwy ar
y llwybrau, ac yn cyfar-fod a hwynt ar bob meddwl.
º17 Ei dechreuad hi yw gwir chwant i addysg; a
gofal addysg yw cariad;
º18 A chariad yw ceidwad ei chyfreith-iau hi:
a sicrwydd o
anllygredigaeth yw gwrando ar y gyfraith.
º19 Anllygredigaeth hefyd sydd yn peri bod yn agos i Dduw:
º20 Oblegid
hynny, chwant doethineb sydd yn
dwyn i'r deyrnas.
º21 Am hynny, O frenhinoedd y bobl, os melys
gennych orseddfeinciau a theyrnwiail, anrhydeddwch
ddoethineb, fel y teyrnasoch byth.
º22 Eithr
beth yw doethineb,
a pha fodd y gwnaed hi, mi a
fynegaf i chwi, ac ni chuddiaf ddirgeledigaethau rhag-och: eithr o ddechreuad
ei genedigaeth yr olrheiniaf hi, ac y gosodaf ei gwy-bodaeth hi yn amlwg, ac
nid af fi dros y gwirionedd.
º23 Ac ni
chydymdeithiaf fi a chen-figen ddihoenedig,
oblegid ni bydd y
cyfryw un yn gyfrannog o
ddoethineb.
º24 Iachawdwriaeth y byd yw
llawer o ddoethion; ac ateg y bobl yw bren-in call.
º25 Am hynny cymerwch addysg trwy fy ngeiriau i,
a chwi a gewch fudd.
ºPENNOD
7
º1
DYN marwol ydwyf finnau, un fodd a phawb eraUl, ac yn dyfod o hil-iogaeth yr
hwn a
luniwyd gyntaf o'r ddaear;
º2 Ac yng nghroth fy mam y'm lluniwyd yn gnawdj
o fewn amser deng mis, gan geulo o had gwr mewn gwaed, ac o drythyllwch yn
dyfod ynghyd a chwsg.
º3 A phan y'm ganwyd, mi a dynnais ataf yr awyr
cyffredin i ni, ac a syrth-iais ar y ddaear, yr hon sydd o'r un naturiaeth; yn
wylofain y rhoddais i y llais cyntaf, fel pawb eraill.
º4 Mewn
cawiau, a thrwy
ofal, y'm magwyd.
º5 Ni chafodd un
brenin amgen dech-reuad i'w enedigaeth.
º6 Un fath ddyfodiad i lywyd sydd i bawb, ac un
fath fynediad aUan.
º7 Am hynny mi a weddiais, ac fe a roddwyd i mi
ddeall; mi a waeddais, ac fe ddaeth ysbryd doethineb ataf.
º8 Mi a'i cyfrifais hi yn well na theyrn-wiail
ac na gorseddfeydd: ac ni chyf-rifais
olud yn ddim
wrth gyffelyb-iaeth iddi,
º9 Ni chyffelybais i
faen gwerthfawr iddi hi: canys
greyenyn bychan yw pob aur yn ei golwg hi, ac fel clai y cyfrifir arian o'i
blaen hi.
º10 Mi a'i hoffais hi yn fwy nag iech-yd, ac na
thegwch; ac mi a arfaethais ei chael hi yn lle goleuni: oblegid ni fachluda'r
llewyrch a ddaw ohoni hi.
º11 Pob
daioni a ddaeth
i mi gyda hi, a golud annifeiriol yn ei dwylo hi.
º12 Ac mi a lawenychais am bob un, am fod
doethineb yn eu blaenori hwynt: ond ni wyddwn i mai hi oedd eu mam hwynt.
º13 Yn ddidwyll y dysgais, ac yn
ddi-genfigen yr ydwyf
yn cyfrannu, heb gelu ei golud hi.
º14 Diball
drysor yw hi i ddynion: pwy bynnag a'i harfero, y maent
hwy yn ymgyfeillach a
Duw, gan fod
yn ganmoladwy trwy'r doniau a gaer trwy addysg.
º15 Duw a roddes i mi ddywedyd yn
º61
fy meddwl, a meddwl yn addas am y pethau a roddwyd: oblegid efe yw pob un o'r
ddau, awdur doethineb) a chyf-arwyddwr y doethion.
º16 Yr ydym ni a'n geiriau yn ei law ef: felly y
mae pob deall, a gwybodaeth gwaith.
º17 Canys efe a roddes i mi wybodaeth ddigelwydd
am y pethau sydd, i wybod cyfansoddiad y byd,
a grym yr elf en-nau;
º18 Dechrau, diwedd, a chanol amser-au; newid
moddion yr haul, a
chyf-newid tymhorau;
º19 Amgylchiad y
flwyddyn, a gosod-iad y sSr;
º20 Naturiaethau
anifeiiiaid, llid bwyst-filod, nerth gwyntoedd, ac ymresymau dynion,
rhagoriaeth planhigioo, a rhin-weddau gwraidd;
º21 Beth bynnag
sydd, nac yn ddirgel, nac yn amlwg, mi a'i gwn.
º22 Oblegid
doethineb, yr hon a wnaeth y
cwbl, a'm dysgodd
i: oherwydd y mae ynddi hi
ysbryd deallgar, sanct-aidd, unig, amryw,
tenau, cyflym, disglair,
dihalog, eglurj annioddefadwy, yn horn
daioni, yn llym, heb aim ei atal, yn barod i wneuthur daioni,
º23 Yn cam
dyn, yn ddianwadal, yn sicr, yn ddiofal, yn
hollalluog, yn ed-rych am bob peth, ac yn myned trwy bob ysbryd deallgar, pur,
ac o'r teneuaf.
º24 Bywiocach
yw doethineb na dim bywiog; hi a a ac a dreiddia trwy bob
peth, oherwydd ei phured.
º25 Canys angerdd gallu Duw yw hi, a ffrwd bur
oddi wrth ogoniant yr Hollalluog: am hynny ni syrth dim halog-edig iddi hi.
º26 Canys
disgleirdeb y goleuni trag-wyddol
yw hi, difrycheulyd ddrych gweithrediad
Duw, a delw ei ddaioni ef.
º27 Er nad yw hi ond un, hi a ddichon bob dim;
ac yn aros ynddi ei hun y mae hi yn adnewyddu pob dim; a thrwy'r oesoedd yn
disgyn i'r eneidiau sanctaidd, y mae hi yn eu gwneuthur yn garedigion ac yn
broffwydi i Dc^uw;
º28 Oblegid nid hoff gan Dduw neb, ond yr hwn a
gyfanheddo gyda doethineb:
º29 Oblegid y mae
hi yn decach na'r haul, ac yn uwch na gosodiad y sir; os cystedlir hi a'r
goleuni, gorau y ceir hi;
º30 Canys y nos a
ddaw ar ei 61 ef, ond ni orchfyga drygioni mo ddoethineb.
ºPENNOD 8
º1 Y mae hi'n cyrhaeddyd o gwr bwy-gilydd yn
rymusol; ac yn cyfleu pob peth yn fuddiol.
º2 Hon a gerais i, ac a geisiais o'm hieuenctid, ac a geisiais ei phriodi yn
ddyweddi i mi: canys cu oedd gennyf ei thegwch hi.
º3 Y mae hi yn gwneuthur ei bonedd yn ogoneddus
trwy gytal gyda Duw: ac Arglwydd pob peth a'i hoffodd hi.
º4 Canys
athro yw hi ar athrawiaeth
Dduw, ac un yn dewis
ei weithred-oedd ef.
º5 Os meddiant dymunol yn y bywyd hwn yw
cyfoeth, beth gyfoethocach na doethineb, yr hon sydd yn
gwneuthur pob peth?
º6 Ac os doethineb a weithreda, pa un o'r
pethau sydd a wna yn well na hi?
º7 Os
cyfiawnder a hoffa
neb, rhin-weddau da yw ei llafur
hi: canys y rnae hi yn dysgu sobreiddrwydd a synnwyr, cyfiawnder a gwroldeb; na
pha rai nid oes dim mwy ei fudd i ddynion yn eu bywyd.
º8 O chwennych neb gael sicrwydd gwybodaeth
lawer, hi a wyr y pethau gynt, ac a
ddychymyg yn uniawn y pethau a
fyddant: y mae hi yn gwybod dichell-ion geiriau, ac yn medru dirnad cwest-iynau
caled, ac yn gwybod yr arwydd-ion a'r rhyfeddodau, a'r hyn a ddam-wain mewn
tymor ac amser, cyn eu dyfod.
º9 Am hynny yr arfaethais ddwyn hon i gytal a
mi, gan wybod y cynghorai hi i mi bethau da,
ac y'm diddanai mewn gofal a thristwch.
º10 Er ei mwyn hi y caf fi barch yn y dyrfa, ac
anrhydedd gan henuriaid, er fy mod i yn ieuanc.
º11 Myfi a geir yn barod fy synnwyr mewn barn,
ac a fyddaf ryfedd yng ngolwg
gwyr mawr.
º12 Hwy a arhosant arnaf tra y tawyf, ac a wrandawant
tra llefarwyf, ac a
osodant eu dwylo ar eu geneuau,
os myfi a draethaf lawer.
º13 Trwyddi
hi y caf fi dragwydd-oldeb, ac y gadawaf goffadwriaeth
trag-wyddol i'r rhai a fyddant ar fy 61;
º14 Y
llywodraethaf fi y bobl, ac y
darostyngir y cenhedloedd i mi.
º15 Gorthrymwyr aruthrol
a'm hofn-ant i,
pan glywont son
amdanaf fi; ymysg y gwerin y'm gwelir i yn dda, ac yn y rhyfel yn gryf.
º16 Pan elwyf i'm
ty, mi a
gydor-ffwysaf gyda hi: oblegid nid oes chwerw-der wrth gytal a hi, na blinder wrth fyw gyda hi, ond llawenydd a
gorfol-edd.
º17 Wrth feddwl
hyn ynof fy hun, ac wrth gofio yn fy nghalon mai yng nghar-ennydd doethineb y
mae tragwyddoldeb,
º18 A bod
hyfrydwch daionus yn
ei chyfeillach hi, a golud diball yn ilafur ei dwylo, a bod synnwyr o
ymarfer ag ym-ddiddan a hi, a bod parch wrth fod yn gyfrannog o'i
hyraadroddion, mi a geisiais o amgylch pa fodd y cawn hi ataf,
º19 Yr oeddwn i yn fachgen o athryl-ith dda, ac
a gawswn ysbrydoliaeth dda;
º20 le,
yn hytrach, a
myfi yn dda, myfi a ddeuthum i gorff dihalog.
º21 Ond pan wybum na chawn hi, oni roddai Duw
hi, ac mai synnwyr oedd gwybod
rhodd pwy oedd
hi, mi a ddeuthum at Dduw, ac a ymbiliais, ac a
ddywedais o'm holl galon,
ºPENNOD
9
º1 O DDUW
y tadau, ac Arglwydd y dragaredd,
yr hwn a
wnaethost bob peth a'th air,
º2 A thrwy dy ddoethineb a osodaist ddyn i lywodraethu ar y
creaduriaid a wnaethost,
º3 Ac i lywodraethu'r byd yn uniawn ac yn
gyfiawn, ac i roddi barn a meddwl uniawn;
º4 Dod
di i mi ddoethineb, yr
hon sydd yn eistedd
wrth dy orseddfainc di, ac na wrthod fi o blith dy
blant.
º5 Canys myfi dy was, a mab dy law-forwyn,
ydwyf ddyn llesg, ac o amser byr, ac yn llai mewn deall barnedigaeth a
chyfraith.
º6 Oblegid yr hwn sy berffeithiaf ym-ysg
meibion dynion, a gyfrifir yn ddi-ddim, os ymaith y bydd y doethineb sydd oddi
wrthyt ti.
º7 Ti a'm dewisaist i yn frenin ar y bobl, ac
yn farnwr ar dy feibion a'th fetched.
º8 Ti a ddywedaist am adeiladu teml ar dy
fynydd sanctaidd, ac
allor yn ninas dy
breswylfod, sef portreiad y tabernacl sanctaidd, yr hwn a
ddarper-aist ti o'r dechreuad.
º9 A
chyda thi yr
oedd doethineb, yr hon a
adwaenai dy weithredoedd di, ac oedd bresennol pan wnaethost ti y byd, ac a wyr beth sydd yn rhyngu bodd yn dy olwg, a pheth sydd uniawn wrth dy
orchmynion di.
º10 Anfon
hi o'th nefoedd
sanctaidd, a gyr hi o orseddfainc dy ogoniant, fel y cymero hi boen yn bresennol gyda mi, ac y
gwypwyf fi beth sy
fodlon gennyt.
º11
Canys y mae hi yn gwybod ac yn deall pob peth: a hi a'm harwain i yn fy
ngweithredoedd yn sobr, ac a'm ceidw i yn ei gogoniant.
º12 Felly y bydd fy ngweithredoedd i yn
gymeradwy, ac y barnaf fi dy bobl yn gyfiawn, ac y byddaf addas i orseddfainc
fy nhad.
º13 Canys
pa ddyn a
wyr gyfrinach Duw? a phwy a
feddwl beth a ewyll-ysia Duw?
º14 Oblegid ofnus yw meddyliau dynion marwol, ac
ansicr yw ein hamcan-ion ni.
º15 Canys
y corff Uygredig sydd
yn drwm i'r enaid, a'r breswylfod ddaear-ol sydd yn faich i'r meddwl, yr
hwn sydd yn gofalu am lawer o bethau.
º16 A phrin y medrwn ni iawn ddeall y pethau sy
ar y ddaear, a thrwy boen
yr
ydym ni yn cael y pethau sydd yn ein dwylo: eithr pwy a olrhain allan y pethau
sydd yn y nefoedd?
º17 le,
pwy a wyr dy gyfrinach
di, oddieithr i ti roddi doethineb, ac anfon dy Ysbryd sanctaidd o'r
uchelder?
º18 Felly yr uniawnwyd ffyrdd y rhai sydd ar y
ddaear, ac y dysgwyd i ddyn-ion y pethau a'th fodlonant di; a thrwy ddoethineb
y cadwyd hwynt.
ºPENNOD
10
º1
HON a gadwodd y cyntaf a luniwyd, tad y byd, yr hwn a grewyd yn unig, ac a'i
gwaredodd ef o'i fai,
º2 Ac a roddes iddo ef nerth i lyw-odraethu pob
peth.
º3 A phan ymadawodd yr anghyfiawn a hi yn ei ddicter,
efe a fethodd trwy lid i ladd ei frawd:
º4 Er
mwyn yr hwn
y boddwyd y ddaear:
eithr doethineb drachefn
a'i cadwodd hi, gan
lywio'r cyfiawn ag ychydig bren.
º5 Hi hefyd, yng nghytundeb y cenhed-loedd cymysgadwy
mewn drygioni, a adnabu'r cyfiawn, ac a'i
cadwodd ef yn ddifai i Dduw, ie,
yn ei fawr gar-iad i'w fab, hi a'i cadwodd ef yn gryf.
º6 Hi a waredodd y cyfiawn oddi wrth yr
annuwiol colledig, pan ffodd efe rhag y tan a ddisgynnodd ar y pum dinas;
º7 Am
yr hwn ddrygioni
y mae y diffeithdir
myglyd, a'r planwydd
yn ffrwytho heb aeddfedu byth,
yn dyst-iolaeth: felly y
mae y golofn halen yn sefyll yn
goffadwriaeth am yr enaid anghredadun.
º8 Oblegid
y rhai a
ddiystyrasant ddoethineb,
ni chawsant yn
unig y niwed hyn, sef bod heb
wybod pethau da, eithr hwy a adawsant goffadwriaeth i'r byd o'u ffolineb; ac ni
allent lechu yn y pethau a wnaethant ar fai.
º9 Eithr y rhai a'i parchent hi, a waredodd doethineb
o boenau.
º10 Mewn llwybrau uniawn yr arwein-iodd hi y
cyfiawn, yr hwn oedd yn ffbi rhag digofaint ei frawd; hi a ddangos-odd iddo ef
deyrnas Dduw, ac a roddes iddo ef wybodaeth am bethau sanctaidd; hi a'i
cyfoethogodd ef yn ei lafur, ac a gynyddodd ffrwyth ei boen ef.
º11 Wrth
gybydd-dod y rhai
oedd drech nag ef, yr oedd hi gerllaw, ac a'i cyfoethogodd ef.
º12 Hi a'i cadwodd ef rhag ei elynion, ac a'i
diofalodd ef oddi wrth ei gyn-Ewynwyr; ac mewn ymdrech cryf hi a roddes y maes
iddo ef, fel y gallai efe wybod fod duwioldeb yn gryfach na dim.
º13 Ni adawodd hi y cyfiawn, yr hwn a werthwyd,
eithr hi a'i hachubodd ef rhag pechod, ac a aeth i waered gydag ef i'r carchar.
º14 Ie, ni adawodd hi ef yn ei rwymau, hyd oni
ddygodd hi iddo ef deyrnwialen y frenhiniaeth, a llywodraeth ar ei or-thrymwyr:
hi a ddangosodd fod y rhai oedd yn beio arno ef, yn gelwyddog, ac a roddes iddo
ef ogoniant tragwyddol.
º15 Hon a waredodd y bobl sanctaidd a'r had difai oddi wrth y genedl a'u gorthrymai hwynt.
º16 Hi
a aeth i mewn
i enaid gwas yr
Arglwydd, ac a
safodd yn erbyn brenhinoedd ofnadwy, gan wneuthur rhyfeddodau a gwyrthiau.
º17 Hi a roddes i'r rhai cyfiawn wobr
sancteiddrwydd eu llafur; hi
a'u har-weiniodd hwynt mewn ffordd ryfedd, ac oedd yn orchudd iddynt y
dydd, ac yn fflam o ser y nos.
º18 Hi a'u dug hwy trwy'r mor coch, ac a'u
harweiniodd hwy trwy ddwfr mawr:
º19 A hi a foddodd eu gelynion hwynt, ac a'u dug
hwynt i fyny o waelod y dyfnder.
º20 Am
hynny y rhai
cyfiawn a ys-beiliasant y rhai annuwiol, ac a ddat-ganasant dy enw sanctaidd di, O Arglwydd, ac a glodforasant o unfryd dy
law orchfygus di.
º21 Oblegid doethineb a agorodd enau y rhai mudion, ac a osododd dafodau plant by chain
yn ymadroddus.
ºPENNOD
11
º1
TJI a gyfarwyddodd eu gweithredoedd •*• •*- hwynt yn llaw y proffwyd sanctaidd.
º2 Hwy
a ymdeithiasant trwy'r
di-ffeithwch anghyfanheddol, ac a osodas-ant eu pebyll mewn
lleoedd anhy-ffordd.
º3 Hwy a safasant yn erbyn y rhai a ryfelent
i'w herbyn, ac a ddialasant ar eu gelynion.
º4 Daeth syched arnynt, a hwy a al-wasant arnat
ti, ac fe a roddwyd iddynt ddwfr o'r graig serth, a meddyginiaeth rhag syched
o'r maen caled.
º5 Canys trwy'r pethau y cystuddiwyd eu gelynion
hwynt, trwy'r un pethau y
cawsant hwy les,
pan oedd eisiau arnynt.
º6 Yn lle ffynnon o afon redegog, wedi ei
chythryblu a gwaed Uychlyd,
º7 Yn gerydd am y gorchymyn i ladd y plant, y
rhoddaist ti iddynt hwy aml-der o ddwfr
trwy fodd heb
ei o-beithio;
º8 Gan ddangos trwy'r syched oedd yr amser
hwnnw, pa fodd y cystuddiesit ti y
gwrthwynebwyr.
º9 Oblegid pan demtiwyd hwy, er eu ceryddu yn
drugarog, hwy a wybuant pa fodd y dialeddwyd ar y rhai annuwiol, y rhai a
farnwyd mewn digofaint.
º10 Canys y rhai hyn a brofaist ti fel tad, gan
eu rhybuddio; a'r lleill a hol-aist ti fel brenin tost, gan eu condemn-io:
º11 Y rhai, pa un
bynnag ai yn absen-nol, ai yn bresennol, a gystuddiwyd yr un modd.
º12 Oblegid tristwch a gofid dauddyb-lyg a
ddaeth arnynt hwy, wrth gofio pethau a aethai heibio.
º13 Canys pan glywsant hwy wrth eu cystudd eu
hun, gael ohonynt
fudd, hwy a feddyliasant am yr Arglwydd.
º14 Oblegid yr hwn a wrthodasent hwy yn watwarus,
wedi ei fwrw allan gynt wrth daflu allan
y plant newydd-eni, hwnnw a fu ryfedd ganddynt hwy
yn niwedd y pethau a ddigwyddasant, gan fod arnynt syched amgen nag ar y rhai
cyfiawn.
º15 Am
anneallgar ddychmygion eu hanghyfiawnder hwynt, trwy y
rhai
º97wedi
eu twyllo yr addolasant ymlusg-iaid anrhesymol a bwystfllod gwael, yr anfonaist
lawer o anifeiliaid heb reswrn i ddial arnynt hwy;
º16 Pel y
gallent hwy vvybod
mai trwy'r pethau y pecha neb, trwy'r un pethau hefyd y cosbir ef.
º17 Oblegid ni
rwystrwyd dy law di, yr hon sydd
hollalluog, ac a wnaeth y byd o afluniaidd ddefnydd, fel na allasai anfon
arnynt hwy lawer o eirth a llew-od hy,
º18 Neu anifeiliaid dieithr llawn o ddig, wedi eu newydd greu, yn anadlu
tarth tanllyd, neu dwrf mwg, yr hwn a dry y gwynt neu wreichion aruthrol o'u
llygaid fel mellt;
º19 Y thai
ni allai eu
niwed hwynt yn unig
eu dinistrio hwy,
eithr eu golwg erchyll hwynt
hefyd eu difetha hwy ar unwaith.
º20 Heb y
rhai hyn hefyd
trwy un awel y gallasent hwy
syrthio, wrth gael eu hymlid gan
ddialedd, a'u gwasgaru trwy ysbryd dy nerth di: eithr tydi a drefnaist bob peth
wrth fesur, a rhif, a phwys.
º21 Canys bob amser yr ydwyt ti yn gallu llawer;
a phwy a
wrthwyneba nerth dy fraich di?
º22 Oblegid megis tipyn allan o glor-iannau yw'r holl fyd yn dy olwg di, ac megis
defnyn o wh'th y bore, yr hwn a ddisgyn ar y ddaear.
º23 Ond
yr ydwyt ti yn
trugarhau wrth bob peth:
oblegid ti a elli
bob dim; ac yr ydwyt
heb gymryd arnat weled pechodau dynion, fel yr
edifar-haent hwy.
º24 Y mae yn hoff gennyt ti bob peth a'r y sydd,
ac nid ffiaidd gennyt ddim a'r a wnaethost: ie, ni wnaethit ti ddim pe buasai
gas gennyt ef.
º25 A pha fodd y parhasai dim,
oni buasai dy ewyllys di? neu y cadwesid, heb ei alw gennyt ti?
º26 Ond
yr ydwyt ti yn
arbed pob peth: oblegid yr
eiddot ti ydynt hwy, O Arglwydd, yr
hwn sydd yn
caru eneidiau.
ºPENNOD
12
º1
CANYS y mae dy Ysbryd anllygredig di ym mhob peth.
º2 Am hynny yr wyt ti yn ceryddu bob ychydig ac ychydig, y rhai a
dros-eddant, ac yn eu rhybuddio trwy alw i'w
cof hwynt y pethau y pechasant
ynddynt, fel yr ymadawent a'u dryg-ioni,
ac y credent ynot ti,
O Arglwydd.
º3 Canys
dy ewyllys di
oedd trwy ddwylo ein
tadau ni ddifetha
hen breswylwyr y tir sanctaidd,
º4 Y
rhai oedd gas
gennyt ti, oher-wydd atgasaf weithredoedd swynion, ac
aberthau annuwiol,
º5 Ac
anhrugarog leiddiaid y
plant hynny hefyd, a
bwytawyr perfedd cnawd dynion,
a'u gwleddau gwaedlyd,
º6 Gyda'u hoffeiriaid o ganol eu gwe-hilion
eilunaddolaidd, a'r tadau y rhai a
laddodd a'u dwylo eu hun
eneidiau digarad;
º7 Fel y gallai'r wlad sy guaf gennyt ti gael
plant Duw i'w
chyfanheddu yn addas.
º8 Eithr
ti a arbedaist y rhai
hyn megis dynion, ac a anfonaist gacwn o flaen dy lu, i'w goresgyn hwy
bob ychydig ac ychydig.
º9 Nid oherwydd na allasit ti ddaros-twng yr
annuwiol i'r rhai
cyfiawn trwy ryfel, neu eu difetha hwy ar unwaith trwy
fwystfilod creulon, neu air caled;
º10 Eithr gan farnu o fesur ychydig ac ychydig,
ti a roddaist le i edifeirwch, pan nad oedd anhysbys i ti fod eu
cen-hedlaeth hwynt yn
ddrygionus, a'u drygioni yn
anianol, ac na newidiai eu meddwl hwynt byth:
º11 Canys
hiliogaeth felltigedig oedd-ynt hwy o'r dechreuad: ond ni roddaist
ti ddiogelwch iddynt am y
pethau y pechent hwy ynddynt, er
ofn neb.
º12 Oblegid
pwy a ddywed, Beth a wnaethost ti? neu pwy a
wrthwyneba dy farn di? pwy a gwyna rhagot ti am y cenhedloedd a
ddifethwyd, y rhai a wnaethost ti? neu pwy a ddaw i sefyll i'th erbyn, i ddial
dros ddynion ang-hyfiawn?
º13 Nid oes Duw ond tydi yn gofalu am bob peth,
i ddangos nad wyt yn bamu yn anghyfiawn.
º14 Nid
oes na brenin
na theyrn a ddichon osod ei wyneb yn dy erbyn di, am y
rhai a gosbaist ti.
º15 Am dy fod yn gyfiawn, yr ydwyt ti yn trefnu
pob peth yn gyfiawn, gan gyfrif yn beth
arnherthynol i'th allu di roddi barn yn erbyn yr hwn ni
ddylai ei gosbi.
º16 Oblegid
dechreuad cyfiawnder yw dy nerth di; a'th fod di yn Arglwydd ar
bob peth, sydd yn peri i ti arbed pob peth.
º17 Pan ni
chredir dy fod di o ber-ffaith allu, yr wyt ti yn dangos dy nerth; ac
ymhlith y rhai a'i hedwyn yr wyt yn amlygu eu hyder hwynt.
º18 Yn gyfiawn yr wyt ti yn barnu, gan feistroli
dy allu; a thrwy lawer o arbed yr wyt ti yn ein llywodraethu ni: oblegid y mae
gennyt ti allu pan fyn-nech.
º19 A thi a ddysgaist dy bobl wrth y cyfryw
weithredoedd, fod yn rhaid i'r cyfiawn fod yn gu ganddo ddyn: a thi a wnaethost
dy blant yn dda eu gobaith, oherwydd
i ti roddi edifeirwch am bechodau.
º20 Canys os mor ystyriol y cystudd-iaist ti
elynion dy blant, y rhai a ddyl-ent farwolaeth, gan roddi amser a modd i
newidio oddi wrth ddrygioni,
º21 A pha ofal y bernaist ti dy blant dy hun, i
rieni pa rai y rhoddaist ti Iwon ac amodau o addewidion da?
º22 Am
hynny lle yr
wyt ti yn ein ceryddu ni, yr ydwyt yn ffrewyllu ein gelynion ni yn
ddengmil mwy; fel pan farnom ni> y gallom feddwl am dy dda-ioni di;
a phan y'n barner, ddisgwyl am drugaredd.
º23 Am
yr hwn beth y rhoddaist
ti ddialedd ar y rhai a fuant fyw'n anghyfiawn mewn buchedd angall,
trwy eu ffiaidd weithredoedd eu hun.
º24 Canys
hwy a gyfeiliornasant yn
ffordd
cyfeiliorni ymhell, gan gymryd y rhai oedd amharchus ymysg anifeiliaid eu
gelynion yn lle duw-iau, wedi eu twyllo fel plant angall.
º25 Am hynny yr anfonaist ti iddynt hwy, megis i
blant direswm, dy farned-igaeth i'w
gwatwar.
º26 Y rhai ni chymerant rybudd trwy'r
gwatwarus gerydd hyn, a gant brofi addas farnedigaeth Duw.
º27 Canys wele, oblegid y rhai yr oedd-ynt hwy
yn grwgnach wrth
ddioddef drostynt, sef dros
y rhai a dybiasent hwy eu bod yn dduwiau, pan welsant
eu cosbi yn y rhai hynny, hwy a gyd-nabuant mai gwir Dduw oedd yr hwn a
wadasent hwy o'r blaen eu bod yn ei adnabod: ac am hynny y daeth dygn
ddamnedigaeth arnynt.
ºPENNOD
13
º1
OFER yn ddiau o naturiaeth
yw'r dynion oil sydd heb adnabod Duw, heb fedru adnabod yr hwn sydd,
wrth y pethau da a welir, ac ni adnabuant y gweithydd wrth ystyried y gwaith:
º2 Eithr
hwy a dybiasant mai'r tan neu'r
gwynt, neu'r awyr
buan, neu gylch y ser,
neu ddwfr chwyrn,
neu oleuadau'r nefoedd, oeddynt
dduwiau yn llywodraethu'r byd.
º3 Os
am fod yn
hyfryd ganddynt degwch y
rhai hyn, y
cymerasant hwynt yn dduwiau;
gwybyddant pa faint gwell
yw eu
Harglwydd hwynt: oblegid yr
hwn sydd o naturiaeth yn Awdur tegwch,
a'u creodd hwynt.
º4 Os eu gallu a'u gweithrediad sydd
ryfedd ganddynt, ystyriant pa faint mwy yw
gallu yr hwn
a'u gwnaeth hwynt.
º5 Wrth faint
a thegwch y
pethau a grewyd, wrth eu cyffelybu, y gwelir yr hwn a'u gwnaeth hwynt.
º6 Er hynny yn hyn y mae bai y rhai hyn yn
llai: canys y maent hwy mewn amryfus ond odid yn ceisio Duw, ac yn ewyllysio ei
gael ef;
º7 Oblegid
y maent hwy,
trwy drin ei waith ef, yn
chwilio yn ddyfal, ac yn
coelio
eu golwg; o achos bod y pethau a welir yn deg.
º8 Ac eto nid
ydynt hwy esgusodol:
º9 Oblegid
os gallent wybod
cymaint a medru amcanu at y byd, paham na chawsant hwy
yn gynt Arglwydd
y pethau hyn?
º10 Eithr annedwydd ydynt hwy,
a'u gobaith sy mewn pethau meirw, y rhai a alwasant waith dwylo
dynion yn dduwiau, sef aur ac
arian, pethau wedi eu dychymyg trwy gelfyddyd,
a llun-iau anifeiliaid, neu garreg
ddi-fudd o waith hen law.
º11 Ac yn awr saer pren, wedi iddo lifio pren
i'r gwaith, a thynnu o am-gylch ei holl
risgl ef yn gelfydd, a'i
weithio yn gyfarwydd, a gwneuthur llestr buddiol i wasanaethu i fywyd dyn;
º12 Ac
ymlenwi, wedi iddo
dreulio ysglodion ei waith yn arlwyo ei fwyd;
º13 Ac
yn cymryd yr
hyn a fwrid ymaith ohonynt yn
bren ystwyrgam di-fudd i ddim,
eithr yn llawn cnapiau, a'i cerfiodd yn ofalus pan gaffai ennyd, ac a'i
lluniodd with gyfarwyddyd ei ddeaU, ac a'i gwnaeth ar lun dyn,
º14 Neu a'i gwnaeth yn debyg i an-ifail gwael, gan ei amliwio & choch, a'i beintio a
lliw, a pheintio pob gwrthuni ynddoj
º15 Wedi iddo wneuthur iddo le addas, a'i
gosododd wrth bared, ac a'i sicrha-odd a haearn;
º16 Efe
a ofalodd ymlaen
Haw rhag iddo syrthio; gan
wybod na allai efe help iddo ei
hun: oblegid delw yw efe, ac yn rhaid iddo wrth help:
º17 Yna efe a weddia am ei dda, am ddyweddi iddo
ei hun, ac am blant, heb arno gywilydd lefaru wrth y marw.
º18 Y mae efe yn galw ar y gwan am iechyd; yn
gofyn hoedl gan y marw; yn ymbil am help
gan yr hwn ni wyr ddim; ac am ei daith yn gweddio ar yr hwn ni all gerdded cam;
º19 Ac am elw, a gwaith, a dedwydd-wch Haw, yn
gofyn llwyddiant gan yr hwn sy ddirymaf i wneuthur dim.
ºPENNOD
14
º1
•yRACHEFN, pan fyddo un yn ym-•*•
baratoi i fordwyo, ac ar fyned tr donnau geirwon, efe a waedda ar br
pydrach na'r llong a fyddo yn ei ddv ef:
º2 Oblegid
chwant i elw
a ddych-mygasai honno, a thrwy
ei gelfyddyd gwnaeth y gweithiwr hi.
º3 Eithr
dy ragluniaeth di,
O Dad, sydd yn ei llywodraethu:
oblegid ti a roddaist ffordd yn y mor, a llwybr di-ogel yn y tonnau;
º4 Gan ddangos y gelli di achub rhag pob peth,
ie, ped elai dyn i'r mor heb gelfyddyd.
º5 Eto ti
a fynni na
byddo gweith-redoedd dy
ddoethineb yn segur: am hynny yr
ymddiried dynion i dipyn o bren am eu heinioes, a chan dreiddio trwy'r garw
for mewn llestr
gwan, ydynt gadwedig.
º6 Ac yn y dechreuad pan ddifethwyd y cewri
beilchion, gobaith y byd, trwy ffoi i long, a adawodd i'r byd had
gened-igaeth, wedi ei
llywodraethu a'th law di.
º7 Canys
bendigedig yw'r pren
trwy yr hwn y daw cyfiawnder:
º8 Eithr melltigedig yw'r hyn a wnaed 4 llaw,
a'r hwn a'i
gwnaeth: hwn am iddo
ei weithio ef;
a hwnnw, am ei alw ef yn
dduw, ac yntau yn Uygredig.
º9 Yr
annuwiol a'i annuwioldeb ydynt mor gas
gan Dduw bob
un a'i gilydd:
º10 Oherwydd yr hyn a wnaed, yng-hyd a'r hwn a'i
gwnaeth, a gosbir.
º11 Am
hynny y bydd
ymweliad ar eilunod y
Cenhedloedd; am eu gwneuthur hwy ymysg
creaduriaid Duw yn meidd-dra, ac yn dramgwydd i eneidiau
dynion, ac yn fagl i draed y rhai angall.
º12 Canys dechreuad godineb ysbrydol oedd ddychmygu eilunod, a'u caff-aeliad hwy oedd lygredigaeth buchedd.
º13 Oblegid
o'r dechreuad nid
oedd-ynt hwy, ac ni byddant yn dragywydd chwaith.
º14 Trwy ofer ffrost dynion y daethant i'r byd;
ac am hynny y bydd eu di-wedd ar fyrder.
º15 Y tad yn
gystuddiol trwy anam-serol alar am ei fab, yr hwn a ddygwyd
ymaith yn gynnar, gwedi gwneuthur iddo ef ddelw, yn awr a'i
haddolodd megis yn dduw, yr hwn oedd y pryd hwnnw yn ddyn marw, ac a roddes i'r
rhai oedd dano seremoniau ac aberth-au.
º16 Yna y cadwyd, yn lle cyfraith, yr
annuwiol ddefod, yr
hon a gryfhasai mewn amser; ac wrth orchymyn teyrn-iaid yr addolwyd
delwau cerfiedig:
º17 Y rhai ni allai dynion eu hanrhyd-eddu yn
eu gwydd, am
eu bod yn trigo ymhell, hwy
a gymerasant lun eu gwedd hwynt o bell, ac a wnaethant
hynod ddelw brenin, yr hwn a anrhyd-eddent, er mwyn trwy eu dyfalwch hwn
wenieithio iddo ef oedd
absennol, fel pe bai bresennol.
º18 A chwant y crefftwr i gael anrhyd-edd, a
anogodd yr annysgedig i addoli fwyfwy.
º19 Oblegid efe ond odid yn ewyllysio rhyglyddu
bodd llywydd, a ymegniiodd trwy
ei gelfyddyd i
osod y llun i'r gorau.
º20 A'r
gwerin, wedi eu
denu trwy degwch y gwaith,
a gyfrifent yna yn dduw,
yr hwn ychydig
o'r blaen a berchid fel dyn.
º21 A hyn a fu yn achlysur i dwyllo'r byd: oherwydd
dynion yn gwasan-aethu mewn drygfyd a than
drahauster, a roddasant i gerrig a phrennau yr Enw anghyfrannog.
º22 Wedi hynny nid oedd ddigon cyf-eiliorni ynghylch
adnabod Duw, eithr lle yr oeddynt yn byw ym mawr ryfel
anwybodaeth, y mawr ddrygau hynny a alwent hwy yn heddwch.
º23 Oblegid tra oeddynt hwy yn lladd eu plant
mewn aberthau, ac yn arfer dirgeledigaethau
cuddiedig, neu yn gwneuthur ynfyd gyfeddach o seremoniau
dieithr,
º24 Ni
chadwent hwy na'u
buchedd na'u priodas yn Ian: y
naill a laddai'r Hall mewn cynllwyn, neu ai gofidiai trwy odineb.
º25 Pob
peth oedd yn
gymysglyd, gwaed a chelanedd,
lladrad a thwyll, llygredigaeth,
anffyddlondeb, terfysg,
anudon,
º26 Aflonyddwch i'r rhai da,
angof am gymwynas, halogedigaeth eneidiau, cyfhewid genedigaethau, anllyw-odraeth mewn priodasau,
godineb, ac anlladrwydd.
º27 Oblegid addoliad eilunod, y rhai ni ddylid eu
henwi, yw dechrau, ac achos, a diwedd, pob drygioni.
º28 Canys tra fyddont hwy yn llawenj y maent hwy
naill ai yn ynfydu, ai yn proffwydo celwydd, ai yn byw yn ang-hyfiawn, ai yn
tyngu anudon yn hawdd.
º29 Oblegid tra ydynt hwy yn coelio i
eilunod meirw, er iddynt
dyngu yn ddrwg, nid ydynt yn
disgwyl dialedd.
º30 Eithr fe ddaw iddynt hwy yr hyn sy gyfiawn
am y ddau, sef am feddwl am Dduw ar fai, gan lynu wrth eilunod; a thyngu yn
anghyfiawn ac yn dwyll-odrus, gan ddirmygu sancteiddrwydd.
º31 Oblegid nid gallu y rhai y tyngir iddynt,
eithr iawn gosb pechaduriaid, a ddaw byth ar drosedd y rhai anghyfiawn.
ºPENNOD
15
º1
"CITHR tydi, ein Duw, ydwyt dda-•»-< ionus a geirwir; yn hirymarhous,
ac mewn trugaredd yn llywodraethu pob peth.
º2 Oblegid os pechwn ni, eiddot ti yd-ym ni, y
rhai a wyddom dy gryfder: ond ni phechwn ni, a ninnau yn gwybod ein cyfrif yn
eiddot ti.
º3 Canys
cyfiawnder cyflawn yw
dy adnabod di, a
gwreiddyn tragwyddol-deb yw gwybod dy nerth.
º4 Canys ni thwyllodd drwg-gelfyddus
ddychymyg dyn mohonom
ni, na chysgod portreiadau poen ddiffrwyth, llun
wedi ei fritho ag amryw liwiau;
º5 Golwg y rhai sydd yn peri chwant i'r rhai
angall: ac felly
y maent yn chwennych llun delw farw ddianadl.
º6 Rhai yn hoffi pethau drygionus, ac yn
haeddu'r fath bethau i goelio idd-ynt, yw y rhai a'u gwnant, y rhai a'u
chwenychant, y rhai
a'u gwasanaeth-ant.
º7 Canys y crochenydd hefyd a dylina bridd meddal,
ac a lunia yn boenus bob llestr i'n gwasanaeth ni; o'r un clai y llunia efe rai
llestri i wasanaethu mewn gwaith
glan, a rhai
yr un modd i'r gwrthwyneb: i ba beth y gwasanaetha pob un o'r ddau fath
hyn, y crochenydd ei nun sy farnwr.
º8 Ac o'r un clai,
trwy ddrygionus been, y llunia
efe dduw ofer, yr hwn a wnaethid
ei hun o'r
ddaear ychydig o'r blaen, ac
ychydig wedi a a i'r hon y cymerwyd ef ohoni, pan ofynner yr einioes a
fenthyciwyd iddo.
º9 Nid am ei fod ef yn cymryd poen, nac am fod
ei hoedl ef yn fer, y mae ei ofal ef, eithr y mae efe yn ymryson a gofaint aur
ac arian, ac yn dynwared y gofaint pres; ac y mae efe yn cyfrif yn anrhydedd
iddo fod yn llunio pethau gau.
º10 Lludw
yw ei galon ef, ei
obaith hefyd sydd waelach
na'r ddaear, a'i fywyd
yn fwy amharchus
na'r clai;
º11 Am nad adwaenai efe yr hwn a'i gwnaeth, a'r
hwn a roddes enaid grym-iol iddo ef, ac a anadlodd ysbryd byw-iol ynddo.
º12 Eithr
cyfrif y maent
hwy mai chwarae yw
ein heinioes ni, ac
mai marsiand'iaeth i elwa yw
ein bywyd; oblegid rhaid,
meddant, yw elwa o ba le bynnag, hyd yn oed o ddrygioni.
º13 Canys hwn yn anad neb a wyr ei fod yn pechu,
yr hwn sydd yn gwneuth-ur breuon lestri
a delwau o ddefnydd daearol.
º14 A holl
elynion dy bob! di y rhai a
arglwyddiaethant arnynt, ydynt o'r fath ffolaf, ac yn anhapusach na
phlant bychain;
º15 Oherwydd iddynt dybied bod holl eilunod y
cenhedloedd yn dduwiau; i'r rhai nid oes na llygaid yn
gwasanaethu i weled, na ffroenau
i dynnu'r
awyr
atynt na chlustiau i glywed, na bysedd dwylo i deimlo, a'u traed hwy sy ddiog i
gerdded.
º16 Oblegid
dyn a'u gwnaeth
hwynt, a'r hwn nid oes ganddo ond benthyg ysbryd a'u
lluniodd hwynt; eithr
ni ddichon un dyn wneuthur duw tebyg iddo ei hun:
º17 Canys efe yn farwol a weithia beth marw a
dwylo anwir: gwell yw efe ei hun na'r pethau y mae efe yn eu hadd-oli; oblegid
efe a fu fyw unwaith, a hwythau ni buant erioed.
º18 Y maent hwy yn addoli'r anifeil-iaid casaf:
oblegid wrth eu cydgyffel-ybu, y
mae rhai yn waeth nag eraill.
º19 Nid ydynt mor deg ag anifeiliaid eraill i'w
dymuno: canys methodd ganddynt gael na chlod gan Dduw,
na'i fendith ef.
ºPENNOD
16
º1 AM
hynny y cosbwyd hwynt ft'r •**• cyffelyb, fel yr haeddent, ac y dial-eddwyd
hwynt a lliaws o anifeiliaid.
º2 Yn lle yr hwn ddialedd y gwnaeth-ost ti
ddaioni i'th bobl dy hun, i ba rai, i godi eu chwant hwynt, paratoaist soflieir
yn ymborth o flas dieithr:
º3 Fel y byddai iddynt hwy, yn chwen-nych ymborth,
ddigaru'r peth oedd anghenraid ei chwennych, oherwydd golwg anhawddgar yr anifeiliaid a
an-fonesid i'w mysg; ac y gwneid y rhai hyn, wedi eu bod dros ychydig ennyd
mewn eisiau, yn gyfranogion o
ar-chwaeth newydd.
º4 Oblegid yr oedd yn rhaid i angen, yr hwn ni
ellid ei ochel, ddyfod ar y rhai
hynny a arferasant drahauster: eithr i'r rhai hyn, digon oedd yn unig ddangos pa
fodd y rhoed dialedd ar eu gelynion.
º5 Canys pan ddaeth creulon lid bwyst-filod ar
y rhai hyn, a'u difetha hwynt & brathiadau seirff dolennog,
º6 Nid hyd y
diwedd yr arhodd dy ddigofaint di: eithr i'w
rhybuddio y blinwyd hwynt
ychydig o ennyd, gan gael
arwydd iachawdwriaeth, i beri
iddynt
feddwl am orchymyn dy gyf-raith di;
º7 Obkgid yr hwn a drodd at yr arwydd
hwnnw a iachawyd, nid gan yr hwn a
welid, eithr gennyt ti, lachawd-wr pob peth.
º8 A
thrwy hyn y
gwnaethost ti i'n gelynion gredu mai tydi yw'r hwn sydd yn
achub o bob drwg;
º9 Y rhai a laddodd brath locustiaid a
chacwn; ac ni chaed meddyginiaeth iddynt: oblegid
hwy a haeddent eu cosbi a'r
cyfryw.
º10 Ond
ni wnai dannedd
dreigiau gwenwynig niwed i'th blant di: oblegid dy drugaredd
di a ddeuai yn erbyn hynny, ac a'u hiachai hwynt.
º11 Canys i feddwl am dy ymadrodd-ion di y brathwyd hwynt; a hwy yn ebrwydd a iachawyd, fel, heb
syrthio mewn dwfn angof, y cofient yn wastad dy ddaioni di.
º12 Oblegid
nid llysieuyn nac eli a'u
hiachaodd hwynt, eithr dy air di, O Ar-glwydd, yr hwn sydd yn
iachau pob dim.
º13 Oherwydd y mae i ti feddiant ar einioes ac
angau; ac yr ydwyt ti
yn dwyn i waered hyd byrth uffern, ac yn dwyn i fyny drachefn.
º14 A dyn yn ei ddrygioni a ladd: a phan elo'r
ysbryd allan, ni
ddychwel efe; ac ni ddaw yn ei 61 yr enaid a gymerer i fyny.
º15 Eithr
amhosibl yw dianc rhag dy law di.
º16 Oblegid annuwiolion, y rhai sydd yn gwadu eu bod yn dy adnabod di, a
ffrewyllwyd o nerth dy fraich di, gan gael eu herlid a rhyfeddol law a
chen-llysg, ac a chafodau heb allu eu gochel-yd; a hwy a ddifethwyd a than.
º17 A'r hyn sy ryfeddaf, y tan oedd yn gweithio
fwyfwy yn y dwfr, yr hwn sydd yn diffoddi
pob peth: canys
y mae'r byd yn ymladd dros y rhai cyf-iawn.
º18 Canys
weithiau fe fyddai
lai y fflam, fel
na losgai hi'r
anifeiliaid a anfonesid yn
erbyn y rhai
annuwiol;
eithr
trwy weled, hwy a allent wybod eu hunain mai trwy farn Duw yr erlidid hwynt.
º19 Ac weithiau efe a losgai yrnysg y dwfr, yn
fwy nag y gallai tan, i ddifetha ffrwyth tir anghyfiawn.
º20 Yn lle hynny a bwyd angylion y porthaist ti
dy bobl dy hun; a thi a ddanfonaist iddynt hwy fara parod o'r nefoedd yn
ddi-boen, yr hwn a wasan-aethai i bob
hyfrydwch ac i bob ar-chwaeth yn
gymwys.
º21 Canys
dy ymborth di
oedd yn dangos dy
felystra i'th blant,
ac yn gwasanaethu chwant y
bwytawr, ac yn ymdymheru wrth fodd pob un.
º22 Yr eira hefyd a'r ia oedd yn di-oddef y tan,
ac heb doddi: fel y gallent hwy wybod mai'r tan, yr hwn oedd yn ffaglu yn y
cenllysg, ac yn llewyrchu yn y
glaw, oedd yn
difetha ffrwyth y gelynion.
º23 Hwn hefyd, fel y cai y rhai cyf-iawn eu
cynnal, a ollyngodd ei allu dros gof.
º24 Oblegid y
creadur, yr hwn
sydd yn dy wasanaethu di, yr hwn a wnaeth-ost bob peth,
a anelir i beri cosbed-igaeth ar yr anghyfiawn, ac a
ddadan-elir i wneuthur daioni i'r rhai a ym-ddiriedant ynot ti.
º25 Am hynny efe yna yn ymrithio i bob peth, a
wasanaethai dy ras di, yr hwn sydd yn
maethu pob peth wrth ewyllys y rhai
anghenus:
º26 Fel y dysgo dy blant y rhai sydd hoff gennyt
ti, O Arglwydd, nad cyn-nyrch ffrwyth sydd yn porthi dyn, eithr mai dy air di
sydd yn cadw y rhai a gredant ynot.
º27 Oblegid
y peth ni ddifethodd y tan, wedi ei dwymo ychydig gan
bel-ydr yr haul, a
feiriolodd yn ebrwydd;
º28 Fel y byddai hysbys y dylid achub blaen yr
haul i roddi diolch i ti, a gweddiio arnat ti ar doriad y dydd.
29 Oblegid gobaith yr anniolchgar a dawdd ymaith fel llwydrew'r gaeaf, ac a red ymaith fel dwfr
di-fudd.
ºPENNOD 17
º1 DY farnedigaethau di sydd
fawr, ac ni ellir eu traethu: am hynny yr aeth y rhai annysgedig ar gyfeiliorn.
º2 Oblegid y rhai
anwir yn arncanu gorthrymu'r genedl
sanctaidd, wedi eu gwarchae yn
eu tai yn garcharorion tywyllwch, a'u
llyffetheirio a rhwymau hirnos, a orweddasant yno, yn ffoadur-iaid oddi
wrth y rhagluniaeth drag-wyddol.
º3 Canys pan dybiasant
hwy lechu mewn cuddiedig
bechodau, dan dywyll orchudd angof, hwy a wasgarwyd, wedi eu dychrynu
yn aruthrol, a'u trallodi gan weledigaethau dieithr.
º4 Canys ni allai'r
gilfach a'u daliai hwynt eu cadw yn
ddi-ofn: eithr yr oedd twrf yn swnio o'u hamgylch, yr hwn
oedd yn eu blino hwynt, a gweled-igaethau pruddaidd ag wyneb sarrug yn
ymddangos iddynt.
º5 Nid oed dim gallu gan y tan i
lewyr-chu: ac ni
allai ddisglair lewyrch
y ser oleuo'r nos erchyll honno.
º6 Eithr tan yn unig yn cynnau ohono ei hun, yn
ofnadwy iawn, a ymddangos-odd iddynt; wedi eu dychrynu hwynt &'i
weledigaeth honno ni welid, hwy a dybiasant fod y pethau a welid yn waeth.
º7 Felly
y bwriwyd i
lawr oferedd celfyddyd
hudoliaeth, a'r gwaradwyddus gerydd a gafodd y rhai a wnaent ffrost o'u
doethineb.
º8 Oblegid
y rhai a addawsant yrru ymaith ofn a blinder oddi wrth enaid
llesg, a aethant yn llesg eu hun rhag ofn yr hwn y gellid chwerthin am ei ben.
º9 Oherwydd er nad oedd dim erchyll yn eu hofni
hwynt; er hynny wedi eu dychrynu
wrth fynediad bwystfilod heibio, a chwibaniad seirff,
º10 Buant
feirw o ofn,
gan omedd edrych ar yr awyr, yr
hwn nid oedd le i'w ochelyd.
º11 Canys
peth ofnus yw
drygioni, wedi rhoddi barn
i'w erbyn wrth
ei dystiolaeth ei hun;
a'r gydwybod yn gwasgu arno sydd yn darogan pethau
blin yn wastadol.
º12 Canys nid yw
ofn ddim, ond bradychu yr help a gaffer gan reswm.
º13 A'r disgwyliad oddi fewn yn llai, a gyfrif yr anwybodaeth yn fwy na'r achos yr hwn sydd yn peri
blinder.
º14 Eithr hwynt yn cysgu yr un
hun y noson honno, yr hon ni ellid yn ddiau ei dioddef, ac a ddaethai
arnynt o wael-odion uffern anocheladwy,
º15 Weithiau a flinid a gweledigaethau rhyfedd, ac
weithiau a lewygent
gan ball calon: canys
ofn disymwth, ac heb edrych amdano, a ddaeth arnynt.
º16 Felly pwy bynnag a syrthiai yno, efe a gedwid, ac a gaeid mewn
carchar heb haearn.
º17 Canys pa un
bynnag ai llafurwr fyddai un, neu fugail,
neu un yn gwneuthur y gwaith sydd yn y
diffeith-wch, pan ddelid
ef, efe a
ddioddefai yr angen nis gellid ei ochelyd: oblegid ag un
gadwyn tywyllwch y
rhwymid hwynt oil.
º18 Pa un bynnag ai gwynt
chwiban, ai hyfrydaidd sain adar ymysg y cang-hennau tewion, ai cysain
dwfr yn cerdded yn chwyrn,
º19 Ai swn erchyll
creigiau a fwrid i lawr, ai
rhedfa anifeiliaid yn
moelys-tota heb eu
gweled, ai llais
creulon bwystifilod rhuadwy, ai carreg lefain yn datseinio o
ogofeydd y mynyddoedd; y pethau hyn a'u dychrynai hwy,
fel y llewygent.
º20 Canys yr holl fyd a oleuid yn olau ddisglair, ac
ni rwystrid neb
yn eu gwaith:
º21 Yn unig arnynt hwy y daethai nos drom, cyffelybrwydd i'r tywyllwch
a ddeuai arnynt; eithr yr oeddynt iddynt eu hunain yn flinach na'r
tywyllwch.
ºPENNOD 18
º1 EITHR i'th saint di yr oedd
goleuni o'r mwyaf: llais y rhai yr oeddynt hwy yn eu clywed, ond nid oeddynt yn
gweled eu gwedd hwynt; a
hwy a'u cyfrifasant hwynt yn
ddedwydd, am na ddioddefasent hwythau yr un pethau.
º2 Rhoddasant hefyd
iddynt ddiolch am na wnaethent
niwed, wedi cael cam o'r blaen; a dymunasant faddeuant am fod yn elynion
iddynt.
º3 Yn lle hynny
y rhoddaist iddynt hwy
golofn o dan poeth, i flaenori yn y daith anhysbys, ac i fod yn haul di-niwed i'r ymdaith barchedig.
º4 Yr oeddynt hwy yn ddiau yn haedd-u bod heb oleuni, a'u carcharu mewn
tywyllwch, y rhai a gadwasant dy blant di yng ngharchar5 trwy y rhai yr oedd
anllygredig oleuni'r gyfraith i'w roddi i'r byd.
º5 Pan amcanasent hwy
ladd rhai bychain y saint, yna
trwy un plentyn, yr hwn a fwriesid allan, ac a gadwesid i'w ceryddu
hwynt, y cymeraist
ymaith lawer o'u
plant hwy, ac
a'u difethaist hwynt ar unwaith yn y dwfr cryf.
º6 Bin tadau ni a gawsant wybodaeth am y nos honno o'r blaen; fel y
bydd-ent lawen, am eu bod yn gwybod yn ddiogel i ba Iwon y credasent:
º7 Felly y derbyniodd dy bobl di iach-awdwriaeth y rhai cyfiawn, a
dinistr y gelynion.
º8 Canys megis y cosbaist ti ein gwrth-wynebwyr, trwy'r un peth y
rhoddaist anrhydedd i ni, y rhai a alwesit ti.
º9 Canys sanctaidd blant y
rhai da-ionus a aberthasant
yn ddirgel, ac a
osodasant gyfraith dduwiol
yn gytun; ar fod y rhai sanctaidd
yr un modd yn gyfranogion o dda a
drwg, a'u tadau yn awr
yn canu o'r
blaen ganiadau mawl.
º10 Eithr anghyson waedd y gelynion a ddatseiniodd o'r tu arall; a
gresynol nad oedd yn cerdded am blant y galerid amdanynt.
º11 A'r un fath ddialedd y cosbid y gwas a'r
meistr; yr un pethau yr oedd y gwreng a'r brenin yn eu dioddef.
º12 Rhai
aneirif oedd ganddynt
hwy oil, wedi meirw ar unwaith o'r un far-wolaeth, fel nad oedd digon o
rai byw i'w claddu hwynt:
canys mewn un foment y difethwyd eu hiliogaeth
an-rhydeddusaf hwy.
º13 Canys lle na chredent ddim oher-wydd y
swynion; pan ddifethwyd y cyntaf-anedig, y cyffesasant
mai plant Duw oedd y bobl hyn.
º14 Oherwydd
pan oedd pob
peth mewn distawrwydd tawel, a'r nos yng nghanol ei gyrfa fuan,
º15 Dy hollalluog air di a neidiodd o'r nef o'th orseddfa frenhinol,
i ganol y wlad ddinistriol, fel rhyfelwr ffrom,
º16 Gan arwain dy orchymyn diragrith di yn lle cleddyf llym, yr hwn a
safodd, ac a lanwodd bob peth a marwolaeth, ac oedd yn cyffwrdd a'r
nefoedd, er ei ddisgyn i'r ddaear.
º17 Yna gweledigaethau breuddwydion aruthrol a'u blinasant hwy yn
ddisym-wth, a'r ofn nid oeddynt yn ei ddis-gwyl a ddaeth arnynt.
º18 Ac wedi bwrw
un i lawr yma, ac arall acw,
yn banner marw, hwy a fynegasant am ba achos yr oeddynt yn marw.
º19 Oblegid y breuddwydion, y rhai oedd yn eu blino
hwynt, a raghysbys-asent hyn, fel na ddifethid hwynt heb wybod paham yr oeddynt yn dioddef niwed.
º20 Cyffyrddodd
profedigaeth angau weithiau
a'r rhai cyfiawn hefyd, a bu dinistr
ar y dyrfa yn y
diffeithwch: ond ni hir barhaodd y dieter;
º21 Oblegid y gwr difai a'u diffynnodd hwynt ar frys, gan arwain
arfau ei swydd ei hun, sef gweddi, a iawn o arogl-darth, ac a safodd yn erbyn y
Hid, ac a ddi-bennodd y cystudd, gan ddangos mai dy was di oedd efe.
º22 Ac efe a orchfygodd y dinistrydd, nid o gryfder corff,
na thrwy waith arfau; eithr a gair y darostyngodd
efe yr hwn oedd yn cystuddio, gan goffau llw a chyfamod y tadau.
º23 Canys pan oedd y meirw yn syrth-io ar ei gilydd yn dyrrau, efe a
safodd yn y canol, ac a dorrodd y dieter, ac a rannodd y ffordd oedd yn myned
at y
byw.
º24 Oblegid yn y wisg laes yr
oedd yr harddwch oil, a gogoniant y tadau yng ngherfiad y pedair rhes o feini,
a'th fawredd dithau yn y goron am ei ben ef.
º25 I'r thai hy y rhoddes y
dinistr-ydd le, ac a'u hofnodd hwynt: canys digon oedd yn unig brofi ohonynt y
dieter.
ºPENNOD 19
º1 EITHR dieter didrugaredd a
barha-odd hyd y diwedd i'r annuwiolion: oblegid efe a wyddai o'r blaen yr hyn a
wnaent hwy;
º2 Sef wedi iddynt roddi cennad idd-ynt i fyned ymaith, a'u gyrru
hwy ar frys, y byddai
edifar ganddynt, ac yr erlidient
hwynt;
º3 Canys pan oeddynt yn galaru ac yn wylofain with feddau'r meirw,
hwy a ddychmygasant feddwl
ynfyd arall; a'r rhai
a yrasent allan
dan ymbil a hwynt a erlidiasant hwy megis rhai yn ffoi.
º4 Oblegid y dynged
a haeddent a'u harweiniodd hwynt i'r diwedd hwn, ac a
wnaeth iddynt anghofio y pethau a ddigwyddasent eisoes, fel y cyflawnent
hwy y gosbedigaeth oedd yn
61 i'w dialedd hwy:
º5 Ac fel y cai dy bobl di fyned trwy ffordd ryfedd, ac y caent
hwythau far-wolaeth ddieithr:
º6 Oblegid pob creadur yn ei ryw ei hun a luniwyd drachefn o newydd, i wasanaethu'r gorchmynion priodol a roddwyd iddynt, fel y cedwid by Want di ya ddiniwed.
º7 Y cwmwl a gysgododd dros y gwer-syll; a lle y buasai dwfr o'r
blaen, y gwelid tir sych, ie, yn y mor coch yr oedd ffordd ddi-rwystr, a maes
yn dwyn gwelltglas yn y ffrwd chwyrn;
º8 Trwy yr hon yr aeth yr holl genedl a amddiffynnodd dy law di, gan
weled gwyrthiau rhyfedd.
º9 Fel meirch y porthasid hwynt, ac fel ŵyn y llament hwy, gan dy fol-iannu di, O Arglwydd, eu
Gwaredydd.
º10 Oblegid hwy a gofient eto y pethau a ddigwyddasai tra'r
oeddynt yn ymdaith yn y wlad
ddieithr; y modd yn lle epiliaeth anifeiliaid y dygasai'r ddaear allan wybed,
ac y dygasai yr afon allan lawer o lyffaint yn lle pysg-od.
º11 Eithr wedi hynny hwy a welsant epiledd newydd o adar, pan ddygwyd
hwynt trwy flys i ddymuno bwyd dant-eithiol:
º12 Oblegid soflieir a ddaeth i fyny o'r mor, yn ddiddanwch iddynt
hwy.
º13 Ac ar y pechaduriaid y daeth dialedd, nid heb wyrthiau o'r blaen,
trwy egni taranau: oherwydd
yr oeddynt hwy yn haeddu
dioddef am eu hanwir-edd; oblegid yr oeddynt yn dwyn dygn-gas i ddieithriaid.
º14 Canys y Sodomiaid ni dderbynient y rhai nid adwaenent, pan
ddaethant: eithr y rhai hyn a gaethiwasant y di-eithriaid a wnaethai iddynt
ddaioni.
º15 Ac nid hynny yn unig, eithr ysgat-fydd fe a edrychir peth ar y
rhai hynny, am iddynt drin dieithriaid yn
anghy-weithas.
º16 Eithr y rhai hyn wedi eu derbyn hwynt yn llawen, a
gystuddiasant a phoenau
aruthrol, y rhai oedd yn awr gyfranogion o'r un gyfraith.
º17 A'r rhai hyn a drawyd a dallineb, fel y trawsid y rhai hynny wrth
ddrws y cyfiawn, pan geisiodd pob un y ffordd i'w ddrws ei hun, wedi eu
hamgylchu a thywyllwch anferthol.
º18 Oblegid yr elfennau
a newidiwyd ohonynt eu
hunain yn gyson,
fel y newidia sain
cynghanedd mewn saltr-ing,
enw y don, er bod
y swn yn aros bob amser, megis y
gellir ystyried wrth edrych yn
graff ar y pethau
a wnaed.
º19 Canys y pethau daearol a droed yn bethau o'r dwfr, a phethau
nofiadwy a gerddasant ar y ddaear.
º20 Y tan oedd
nerthol yn y
dwfr, wedi gollwng dros
gof ei rinwedd ei hun;
a'r dwfr a anghofiasai ei natur-iaeth i ddiffoddi.
º21 Yn y gwrthwyneb,
ni wnaeth y fflam nac i gnawd yr anifeiliaid
llygradwy, y rhai a rodient
ynddo, nac i'r
anrhydeddaist ym mhob
dim, O Ar-
ymborth nefol, ddarfod, er ei
fod fel ift glwydd: ac ni
ddiystyraist hwynt; ond
tawddadwy o rywogaeth i
doddi. bod gyda
hwynt bob amser,
ac ym
º22 Canys dy bobl a fawrygaist ac a mhob lle.
DIWEDD
Adolygiadau diweddaraf: 2005-02-19
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag
un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
"CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a
page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website