2700k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.  

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_apocrypha_esdras2_68_2700k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn  Gymraeg
          neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
                    neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
                              neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
                                            neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn

 


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Y Beibl Cysegr-lân (1620): Yr Apocrypha

 

Esdras-2



 


(delw 0275)

 

 

  xxxx This page with an English version (1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version)

 

  (Sganiad heb ei gywiro yw hwn, ac felly yn frith o wallau. Cyn hir gobeithio cawn ni gyfle i roi trefn arno)

(This is a scan which has not been corrected yet. There are many errors in the text)


 

AIL LYFR ESDRAS

 

PENNOD i

º1 AIL lyfr y proffwyd Esdras, fab •*"*• Saraias, fab Asareias, fab Helchias, fab Sadanias, fab Sadoc, fab Achitob,

º2  Fab  Achia,  fab  Phinees,  fab  Heli, fab Amareias, fab Asiei, fab Marimoth, fab  Arna,  fab  Oseias,  fab  Borith,  fab Abisei, fab Phinees, fab Eleasar,

º3  Fab Aaron, o Iwyth Lefi; yr hwn a fu gaeth yng ngwlad y Mediaid, yn nheyrn-asiad Artacsercses brenin y Persiaid.

º4  A gair yr Arglwydd a  ddaeth ataf fi, gan ddywedyd,

º5  Dos ymaith, a mynega i'm pobl eu pechodau, ac i'w plant eu hanwireddau a wnaethant i'm herbyn, fel y myneg-ont i blant eu plant:

º6  Am   i   bechodau   eu   tadau   hwynt amlhau ynddynt  hwy:  canys hwy a'm gollyngasant dros gof, ac a offrymasant i dduwiau dieithr.

º7  Onid myfi a'u dug hwynt o dir yr Aifft,    o    dy'r   caethiwed?    er   hynny hwynt-hwy   a'm   hanogasant   i   ddigof-aint,   ac   a   ddiystyrasant   fy   nghyng-horion.

º8  Tyn  wallt  dy  ben,  a  bwrw'r  holl ddrygioni    arnynt   hwy;   o    achos   ru buant   ufudd   i'm   cyfraith,   ond   pobl wrthryfelgar ydynt.

º9  Pa   hyd   y   cyd-ddygaf  a'r   rhai   fl gwneuthum    gymaint    o    ddaioni    er-ddynt?

º10  Llawer o frenhinoedd a ddifethais i  er  eu  mwyn  hwy:  Pharo  a'i  weis-ion, a'i holl lu, a drewais i lawr.

n Yr holl genhedloedd a ddifethais i o'u blaen hwynt; ac yn y dwyrain yr anrheithiais bobl dwy dalaith, sef Tyrus a Sidon, ac a leddais eu holl elynion hwynt.

º12  Llefara  dithau  wrthynt,  gan  ddywedyd,   Fel   hyn   y   dywed   yr   Arglwydd;

º13  Mi    a'ch   arweiniais   chwi   trwy'r m6r, ac a roddais i chwi heol eang a diogel  o'r  dechreuad:  mi  a  roddais  i chwi Moses yn dywysog, ac Aaron yn offeiriad:

º14  Rhoddais    i    chwi    oleuni    mewn colofn o dan, a rhyfeddodau mawrion a wneuthum   yn   eich   plith:   er   hynny

  i

chwi a'm gollyngasoch i dros gof, medd yr Arglwydd.

º15  Fel   hyn   y   dywed   yr   hollalluog Arglwydd; Y soflieir oedd yn arwydd i chwi; rhoddais i chwi bebyll yn am-ddirryn:   eto   grwgnach   a   wnaethoch ynddynt.

º16  Ac nid ymlawenhasoch yn fy enw i am ddinistr eich gelynion, ond grwgnach yn wastad yr ydych, hyd y dydd heddiw.

º17  Mae'r daioni a wneuthum i chwi? Oni waeddasoch chwi arnaf, pan oedd-ech newynog a sychedig yn yr anialwch,

º18  Gan  ddywedyd,  Paham y  dygaist ti ni i'r anialwch hwn i'n lladd? gwell a fuasai i ni wasanaethu'r Eifftiaid na marw yn yr anialwch hwn.

º19  Y   pryd   hynny   y   tosturiais   wrth eich galar, a rhoddais i chwi fanna i'w fwyta: ac felly y bwytasoch fara angylion.

º20  Pan oedd syched arnoch, oni hollt-ais y graig, a'r dwfr a ddylifodd i'ch diwallu   chwi?  
ac   mi   a'ch   cysgodais rhag y gwres a dail y coed.

º21  Rhennais yn eich plith wlad ffrwyth-lon,   a   bwriais   allan  o'ch  blaen  chwi y Canaaneaid, y Pheresiaid, a'r Philist-iaid:  beth mwy  a  wnaf eroch,  medd yr Arglwydd?

º22  Fel   hyn   y   dywed   yr   hollalluog Arglwydd;   Pan   oeddech  yn  yr  anialwch,    wrth    ddwfr    chwerw'r    Amor-iaid, yn sychedig, ac yn cablu fy enw;

º23  Ni  roddais   i   chwi   dan   am   eich cabl, ond bwrw pren a wneuthum i'r dwfr, a gwneuthur yr afon yn groyw.

º24  Pa beth a wnaf i ti, Jacob?  tydi Jwda, nid ufuddheit i mi: mi a droaf at genhedloedd eraill, ac a roddaf iddynt hwy fy enw, fel y cadwont fy nghyf-reithiau.

º25  Gan i chwi fy ngwrthod, minnau a'ch  gwrthodaf  chwithau:   pan  ddym-unoch arnaf fod yn drugarog wrthych, ni thrugarhaf wrthych.

º26  Pan   alwoch   arnaf,   ni'ch   gwran-dawaf chwi:  canys  chwi  a  halogasoch eich   dwylo   a   gwaed,   a'ch   traed   sy gyflym i ladd celain.

º27  Nid myfi a wrthodasoch chwi, ond eich hunain, medd yr Arglwydd.

º28  Fel   hyn   y   dywed   yr   hollalluog Arglwydd;   Oni   ddeisyfais   arnoch,   fel y deisyf tad ar ei feibion, neu fam ar ei   merched,   neu   famaeth   ar   ei   rhai bychain,

º29  Fod  ohonoch   yn  bobl   i   mi,   a minnau  yn  Dduw  i  chwithau; fod o-honoch yn blant i mi, a minnau yn dad i chwithau?

º30  Mi    a'ch    cesglais    chwi   ynghyd, megis y casgl yr iar ei chywion dan ei hadenydd: ond yn awr beth a wnaf i chwi? mi a'ch bwriaf allan o'm golwg.

º31  Pan offrymoch  i  mi, mi   a   droaf fy  wyneb   oddi  wrthych:   canys   mi  a wrthodais  eich  gwyliau  arbennig,  eich lleuadau newydd, a'ch enwaediadau.

º32  Danfonais   atoch   fy   ngwasanaeth-wyr  y  proffwydi,  y  rhai  a  ddaliasoch ac a laddasoch,  a drylliasoch eu  cyrff hwynt  yn  ddarnau:  eu  gwaed  hwy  a ofynnaf fi ar eich dwylo chwi, medd yr Arglwydd.

º33  Fel   hyn   y   dywed   yr   hollalluog Arglwydd; Eich ty chwi sydd yn ang-hyfannedd: mi a'ch bwriaf chwi allan, fel y gwna'r gwynt y sofl.

º34  A'ch  plant  ni  chenhedlant:  canys fy  ngorchymyn  i   a   ddiystyrasantj  a'r hyn oedd ddrwg ger fy mron i a wnaethant.

º35  Eich tai a roddaf i'r bobl a ddel: y rhai, er na chlywsant son amdanaf, eto   a   gredant   ynof   fi;   i'r   rhai   ni ddangosais arwyddion, er hynny hwy a wnant yr hyn a orchmynnais iddynt:

º36  Ni   welsant   broffwydi,   er   hynny hwy   a   gofiant   eu   pechodau,   ac   a'u cyffesant.

º37  Yn  dyst  yr  wyf yn  galw  gras  y bobl a ddaw, y rhai y gorfoledda eu plant   mewn   llawenydd:   ac   er   na'm gwelant i a'u llygaid corfforol, eto yn yr ysbryd hwy a gredant y peth yr wyf fi yn ei ddywedyd.

38    Ac yn awr, frawd, ystyr pa ogon-iant; a gwel y bobl sydd yn dyfod o'r dwyrain:

 

 

º39  I'r   rhai   y   rhoddaf   i'w   harwain Abraham, Isaac, a Jacob, Oseas, Amos, a Micheas, Joel, Abdias, a Jonas,

º40  Nahum,    ac    Abacuc,     Soffonias, Aggeus, Sachareias, a Malachi, yr hwn a elwir hefyd Angel yr Arglwydd.

 

PENNOD 2

º1 FEL hyn y dywed yr Arglwydd, Mi a ddygais y bobl hyn o gaethiwed, ac a roddais iddynt fy ngorchmynion trwy fy ngweision y proffwydi; y rhai ni wrandawent, ond diystyru fy nghyng-horion i a wnaethant.

º2  Y fam a'u  dug a ddywed  wrthynt, Ewch   ymaith,   blant:   canys   gweddw ydwyf, a gwrthodedig.

º3  Mi  a'ch  megais  chwi  trwy  lawenydd:   ond   mi   a'ch   collais   chwi   trwy alar a  thrymder:  canys  chwi  a  bech-asoch gerbron yr Arglwydd eich Duw, ac a wnaethoch y peth oedd ddrwg yn ei olwg ef.

º4  A pha beth a wnaf i chwi y pryd hyn?   gweddw   ydwyf,  a gwrthodedig; ewch i ffordd, fy mhlant, a gofynnwch drugaredd gan yr Arglwydd.

º5  A minnau, O dad, a alwaf arnat ti am dystiolaeth yn erbyn mam y plant hyn, y rhai ni chadwent fy nghyfam-od,

º6  Fel y dygech hwy i waradwydd, a'u mam i anrhaith, fel na byddo epil o-honynt hwy.

º7  Gwasgarer   hwynt   ar   led   ymhlith y cenhedloedd; bwrier eu henwau ymaith  oddi  ar y ddaear:  canys diystyr-asant fy nghyfamod.

º8  Gwae dydi, Assur, yr hwn a guddi ynot  yr  anghyfiawn:  tydi  bobl  anwir, cofia   beth   a   wneuthum   i   Sodom   a Gomorra.

º9  Eu tir a droed  yn  briddellau  pyg, ac  yn  dyrrau  o  ludw:   felly  hefyd  y gwnaf   i'r    sawl    ni'm    gwrandawant, medd yr Arglwydd hollalluog.

º10  Fel   hyn   y   dywed   yr   Arglwydd wrth Esdras; Dywed i'm pobl y rhoddaf iddynt   deyrnas   Jerwsalem,   yr   hon   a roeswn i Israel.

º11  Eu gogoniant hwy hefyd a gym-eraf i mi, a rhoddaf i'r rhai hyn bebyll tragwyddol, y rhai a ddarparaswn iddynt hwy.

º12  Hwy a gant bren y bywyd yn en-naint o arogl peraidd: ni lafuriant, ac ni ddiffygiant.

º13  Cerddwch, a chwi a dderbyniwch; gweddiwch am ychydig ddyddiau, fel y byrhaer   hwynt:   paratowyd   y   deyrnas i chwi eisoes; gwyliwch.

º14  Cymer   yn   dystiolaeth   y   nef   a'r ddaear: canys myfi a ddrylliais y drwg, ac a wneuthum y da: canys byw wyf fi, medd yr Arglwydd.

º15  Tydi   fam,   cofleidia   dy   blant,   a mag  hwynt  trwy  lawenydd:   gwna  eu traed yn sicr fel colofn:  canys tydi a ddewisais i, medd yr Arglwydd.

º16  A'r meirw a atgyfodaf fi o'u lle-oedd,  ac  a'u  dygaf allan  o'r  beddau: canys adnabum fy enw yn Israel.

º17  Tydi fam y plant, nac ofna: canys dewisais di, medd yr Arglwydd.

º18  A  danfonaf i'th gynorthwyo  Esay a    Jeremi    fy    ngwasanaethwyr,    wrth gyngor y rhai y sancteiddiais ac y dar-perais i ti ddeuddeg pren, yn llawn o amryw  ffrwythau;

º19  A'r   un   rhifedi   o   ffynhonnau   yn Uifeirio o laeth a mel; a saith fynydd mawrion yn dwyn rhos a lili, a'r rhai y llanwaf dy blant a llawenydd.

º20  Gwna gyfiawnder i'r weddw, barn i'r amddifad, dyro i'r tlawd, amddiffyn yr amddifad, dillada'r noeth,

º21  lacha'r    drylliedig   a'r   gwan,    na watwar y cloff, amddiffyn yr anafus, a gad i'r dall ddyfod i olwg fy nisgleirdeb.

º22  Cadw  hen  ac  ieuanc  o  fewn   dy gaerau.

º23  Pa  le  bynnag  y  caffech y  marvv, cymer hwynt, a chladd; ac mi a roddaf i ti yr eisteddle bennaf yn fy atgyfod-iad.

º24  Gorffwys,   O  fy  mhobl,  a  chym-er dy  esmwythdra:   canys   dy  lonydd-wch di a ddaw.

º25  Mag  dy  blant,  ti  famaeth dda, a chryfha eu traed hwynt.

 

 

º26  Ni   dderfydd   am   neb   o'th   was-anaethwyr a roddais i ti: canys ceisiaf hwynt o fysg dy rifedi di.

º27  Na    ddiffygia:    canys    pan    ddel dyddiau blinder ac ing, eraill a wylant ac a alarant, ond tydi a fyddi lawen a diwall.

º28  Y    cenhedloedd    a     genfigennant wrthyt;  er hynny nis  gallant wneuth-ur dim yn dy erbyn di, medd yr Arglwydd.

º29  Fy  nwylo  i  a'th  wasgoda  di,  fel na welo dy blant uffern.

º30  Ymlawenha,    tydi    fam,    gyda'th blant: canys mi a'th achubaf di, medd yr Arglwydd.

º31  Cofia   dy   blant,   y   rhai   sydd   yn cysgu:   canys   mi   a'u   dygaf  hwynt   o gyrrau'r   ddaear,   a   byddaf   drugarog wrthynt:  canys  trugarog ydwyf,  medd yr hollalluog Arglwydd.

º32  Cofleidia  dy blant, hyd oni ddel-wyf i ddangos trugaredd iddynt: canys y mae fy ffynhonnau yn myned trosodd, a'm gras ni phalla.

º33  Myfi   Esdras   a   gefais   orchymyn gan  yr  Arglwydd   ar  fynydd   Oreb,  i fyned at Israel: ond pan ddeuthum at-ynt, hwy a'm diystyrasant, ac a ddir-mygasant orchymyn yr Arglwydd.

º34  Ac am hynny y dywedaf wrthych chwi genhedloedd, y rhai a glywch ac a ddeellwch, Edrychwch am eich bugail; efe   a   rydd   i   chwi   orffwystra   tragwyddol: canys yr hwn a ddaw ar ddi-wedd y byd, sy gerllaw.

º35  Byddwch barod i wobr y deyrnas: canys y goleuni tragwyddol a lewyrcha arnoch byth.

º36  Ffowch rhag  cysgod y  byd  hwn, derbyniwch   lawenydd   eich   gogoniant: tystiolaethaf fy achubwr yn gyhoedd.

º37  O  derbyniwch, rhodd a    roddir   i chwi, a byddwch lawen, gan ddiolch i'r hwn a'ch galwodd i'r deyrnas nefol.

º38  Codwch, a sefwch; gwelwch rifedi y rhai a nodwyd yng ngwledd yr Arglwydd,

º39  Y rhai a ymadawsant a chysgod y byd,    ac    a    dderbyniasant    wisgoedd gogoneddus gan yr Arglwydd.

º40  Cymer dy rifedi, O  Seion, cae ar dy rai gwynion y rhai a gadwasant gyf-raith yr Arglwydd.

º41  Cyflawnwyd   rhifedi   dy   blant,   y rhai   yr   wyt   yn   hiraethu   amdanynt: dymuna nerth yr Arglwydd, fel y sanct-eiddier  dy  bobl,  y  rhai  a  alwyd  o'r dechreuad.

º42  Myfi   Esdras   a   welais   ar   fynydd Seion  dyrfa  o  bobl  allan  o  rifedi,   a hwynt-hwy   i   gyd   oeddynt  yn  moli'r Arglwydd ar gerdd:

º43  Ac  yn   eu   canol  hwynt  yr   oedd gwr ieuanc tal o gorffolaeth, yn uwch na'r lleill oil; ac efe a osodes goronau ar bennau pob un ohonynt, ac efe a ddyrchafwyd   yn  fwy;   a   hynny   oedd ryfedd iawn gennyf fi.

º44  Yna y gofynnais i'r angel, gan ddy-wedyd,   Beth   yw   y   rhai   hyn,   Arglwydd?

º45  Yntau a atebodd, ac a ddywedodd wrthyf,  Dyma'r  rhai  a  ddiosgasant  y dillad marwol, ac a wisgasant yr anfar-wol, ac a gyfaddefasant enw Duw: yn awr y coronir hwynt ac y derbyniant

balmwydd.

º46  Ac mi a ddywedais wrth yr angel, Pwy yw y gwr ieuanc sydd yn eu coroni hwynt, ac yn rhoddi palmwydd yn eu dwylo?

º47  A   chan   ateb   efe   a   ddywedodd wrthyf,  Mab Duw yw  efe,  yr hwn a gyfaddefasant  hwy  yn y  byd.   Yna y dechreuais innau eu canmol hwynt yn fawr, y rhai a safasent mor bybyr wrth enw'r Arglwydd.

º48  Yna y dywedodd yr angel wrthyf, Dos ymaith, a dangos i'm pobl pa fath bethau,  a  pha gymaint o ryfeddodau'r Arglwydd Dduw, a welaist ti.

 

PENNOD 3

º1 Y DDEGFED flwyddyn ar hugain yn 61 distrywio'r ddinas, yr oeddwn  i o   fewn   Babilon,   yn   gorwedd   ar   fy ngwely   yn   drallodus,   a'm   meddyliau oedd yn dyfod i fyny ar fy nghalon: 2 Canys   mi   a  welais   anghyfanhedd-dra Seion, a golud trigolion Babilon.

 

 

 

º3  A'm   hysbryd    a    gynhyrfwyd    yn ddirfawr, a mi a ddechreuais lefaru wrth y  Goruchaf eiriau  llawn  o  ofn,  ac  a ddywedais,

º4  O Arglwydd lywydd, ti a ddywed-aist yn y dechrau, pan psodaist y ddaear, a hynny dy hun yn unig, ac a roddaist orchymyn i'r bobl,

º5  Ac  a  roddaist  gorff i  Adda   dien-aid, yr hwn oedd waith dy ddwylo, ac a anedlaist ynddo anadl einioes, ac efe a wnaed yn fyw ger dy fron di.

º6  A thi a'i dygaist ef i Baradwys, yr hon a  blanasai  dy  ddeheulaw  di,  cyn dyfod o'r ddaear rhagddi erioed:

º7  A    gorchmynnaist    iddo    garu    dy ffordd di, yr hon a droseddodd efe; ac allan  o  law ti  a  ordeiniaist ynddo  ef farwolaeth,   ac  yn  ei  genedlaethau  ef, o'r rhai y daeth cenhedloedd, llwythau, pobloedd, a thylwythau, aneirif.

º8  A phob cenedl a rodiodd wrth eu hewyllys  eu hun,  a  hwy a wnaethant bethau  rhyfedd  yn  dy  olwg  di,  ac  a ddiystyrasant dy orchmynion.

º9  Ond   yn   61   ennyd   o   amser,   ti   a ddygaist y dilyw ar uchaf preswylwyr y byd ac a'u difethaist hwynt.

º10  Ac fe ddigwyddodd ym mhawb o-honynt, fel yr oedd marwolaeth i Adda, felly yr oedd y dilyw i'r rhai hyn.

º11  Eto un ohonynt a adewaist ti, sef Noa, a'i deulu, o'r  hwn  y  daeth  pob dyn cyfiawn.

º12  A digwyddodd, pan ddechreuodd y rhai   oedd   yn   preswylio   ar   y   ddaear amlhau,  a  phan  oedd  iddynt lawer  o blant, a  phan  oeddynt yn bobl lawer, hwy a ddechreuasant wneuthur mwy o anwiredd na'r rhai cyntaf.

º13  A   digwyddodd,   pan   oeddynt   yn byw   mor   annuwiol   ger   dy   fron   di, ddewis ohonot i ti wr ohonynt a elwid Abraham:

º14  A hwnnw a geraist ti, a dangosaist iddo ef yn unig dy ewyllys;

º15  A gwnaethost ag ef gyfamod trag-wyddol,   gan   addo   iddo   na   wrthodid byth ei had ef.

º16  A thi a roddaist iddo ef Isaac, ac

 

i Isaac y rhoddaist Jacob ac Esau: a] Jacob a  ddewisaist i ti, a gwrthodaist Esau; ac felly Jacob a aeth yn genedl fawr.

º17  Yna pan arweiniaist ei had ef allan o'r Aifft, ti a'u  dygaist hwynt  i fyny i fynydd Seina:

º18  A  chan  ogwyddo'r  nefoedd,   ti  a sicrheaist y ddaear, ac a gynhyrfaist yr holl fyd,  ac   a wnaethost  i'r dyfnder-oedd grynu, ac a drallodaist ddynion yr oes honno.

º19  A'th ogoniant a aeth trwy bedwar porth, tan, daeargryn, gwynt, ac oerni, fel y gellit roddi cyfraith i had Jacob, a diwydrwydd i genhedlaeth Israel.

º20  Ac ni thynnaist oddi wrthynt hwy galon ddrwg, fel y gallai dy gyfraith di ddwyn ffrwyth ynddynt.

º21  Canys   yr  Adda   cyntaf  yn   dwyn calon ddrwg, a droseddodd ac a orch-fygwyd; a phawb  a'r a  anwyd  ohono ef ydynt felly.

º22  Fel hyn yr arhosodd gwendid, a'r gyfraith hefyd yng nghalon y bobl, yng-hyd a drygioni'r gwreiddyn, fel yr ymad-awodd yr hyn oedd dda, ac yr arhosodd y drwg.

º23  Ac felly'r amseroedd a gerddasant, a'r   blynyddoedd   a   ddarfuant;   yna   y codaist i fyny i ti was a elwid Dafydd;

º24  Ac  a  beraist  iddo  adeiladu  dinas i'th enw di, ac offrwm i ti yno thus ac aberthau.

º25  A hyn a wnaethpwyd dros lawer o flynyddoedd; yna preswylwyr y ddinas a ymadawsant a thi,

º26  Gan wneuthur ym mhob peth fel y gwnaethai Adda a'i holl genedlaethau: canys    calon    ddrwg    oedd    ganddynt hwythau hefyd.

º27  Ac   felly   rhoddaist   dy   ddinas   i ddwylo dy elynion.

º28  A  wnant  hwy  sydd  yn  preswylio yn Babilon ddim gwell, fel y caent hwy am hynny lywodraeth ar Seion?

º29  Canys pan ddeuthum yno, a gweled drygioni   aneirif, yna  fy enaid a wel-odd lawer o droseddwyr yn y ddegfed flwyddyn ar hugain hon; a'm calon a ddiffygiodd:

 

º30  Canys gwelais fel y cyd-ddygaist ti a hwynt yn pechu, ac yr arbedaist y drwgweithredwyr,   ac   y   difethaist   dy bobl dy hun, ac y cedwaist dy elynion; ac ni ddangosaist hyn.

º31  Ni   fedraf   fi   feddwl   pa   fodd   y gellir  gadael  y  ffordd  hon.    Ai  gwell gan  hynny  ydynt  hwy   o   Babilon   na hwy o Seion?

º32  Neu a oes pobl i'w cael a'th edwyn di heblaw  Israel?  neu pa  genhedlaeth a gredodd i'th gyfamodau di fel Jacob?

º33  Ac er hynny ni welir mo'u gwobr hwynt,   ac  nid  oes  ffrwyth  i'w  llafur hwy: canys euthum yma a thraw trwy'r cenhedloedd, a gwelaf hwynt yn oludog, ac   ni   feddyliant   am   dy   orchmynion di.

º34  Am   hynny,   pwysa   mewn   dorian ein pechodau ni,  a'r eiddynt hwythau hefyd sy'n preswylio yn y byd; ac ni cheffir dy enw yn un lie ond yn Israel.

º35  Neu pa bryd ni phechodd yn dy olwg di y rhai sydd yn preswylio ar y ddaear? neu pa bobl a  gadwodd  felly dy orchmynion?

º36  Tydi  a  gei  wybod  erbyn  ei  enw mai Israel a gadwodd dy orchmynion, ac nid y cenhedloedd.

 

PENNOD 4

º1 A'R angel, yr hwn a ddanfonwyd at-af, yr hwn yr oedd ei enw Uriel, a'm hatebodd,

º2  Ac a ddywedodd, Fe aeth dy galon yn rhy bell yn y byd hwn; ac a ydwyt ti yn meddwl amgyffred ffordd y Goruchaf?

º3  Yna   y   dywedais   innau,   Gwir,   fy Arglwydd.   Ac efe a'm hatebodd,  gan ddywedyd, Fe a'm hanfonwyd i ddan-gos i ti dair ffordd, ac i roddi tri chy-ffelybrwydd o'th flaen di.

º4  Os dangosi i mi un ohonynt, min-nau  a   ddangosaf i  tithau'r  ffordd  yr ewyllysi gael ei gweled; a dangosaf i ti o ba le y mae'r galon ddrwg.

º5  A mi a ddywedais, Dywed, fy Arglwydd.   Yna y dywedodd efe wrthyf, Dos, pwysa i mi bwys tan, neu fesur i

mi'r awel wynt, neu alw yn ei 61 y dydd a aeth heibio.

º6  Yna yr atebais  ac  y dywedais, Pa ddyn a all wneuthur hynny, fel y gofynnit i mi'r fath bethau?

º7  Ac   efe   a   ddywedodd   wrthyf,   Pe gofynnwn i ti pa faint o drigfannau sy yng nghanol y mor, neu pa rifedi o aber-oedd  sydd yn  nechrau'r  dyfnder,  neu pa gymaint o ffynhonnau sydd oddi ar y ffurfafen, neu pa le y mae terfynau Paradwys;

º8  Ond   antur   ti   a   ddywedit   wrthyf, Nid euthum i erioed i'r dyfnder, nac i uffern, ac ni ddringais i'r nefoedd.

º9  Ac yn awr ni ofynnais i ti ond yn unig am y tan, a'r gwynt, a'r dydd a dreuliaist, ac  am bethau  nis gellir  dy neilltuo   oddi   wrthynt;   er   hynny   ni fedri roddi i mi ateb amdanynt.

º10  Ac   efe  a  ddywedodd  wrthyf eil-waith, Nid adwaenost yr eiddot dy hun, na'r pethau a dyfasant gyda thi;

º11  A pha fodd y gall dy lestr di amgyffred ffordd y Goruchaf? a'r byd yn awr wedi ei lygru oddi allan, ddeall y llygredigaeth   sydd   yn   amlwg   yn   fy ngolwg i?

º12  A   dywedais   wrtho   ef,   Gwell   a fuasai i ni na buasem, na bod i ni fyw mewn anwireddau; a  dioddef, heb wybod paham.

º13  Efe  a'm hatebodd,  ac  a  ddywedodd, Mi a euthum i goed mawr ar faes, a'r prennau oedd yn ymgynghori,

º14  Gan   ddywedyd,   Deuwch,   awn   i ymladd   a'r   mor,   hyd   oni   chilio   efe rhagom, fel y gallom wneuthur mwy o goedydd.

º15  A  llifeiriaint  y mor  hefyd  yr un modd  a  ymgyngorasant,  gan  ddywedyd, Deuwch, awn i fyny, a darostyngwn goedydd y maes, fel y gallom wneuthur i ni wlad arall yno hefyd.

º16  A gwnaethpwyd bwriad y coed yn ofer:  canys tan a ddaeth ac a'i llosg-odd ef.

º17  Hefyd  bwriad llifeiriant  y  mor  a ballodd: canys y tywod a safodd, ac a'i rhwystrodd ef.

 

º18  Pe  byddit ti  yn  farnwr  rhwng  y ddau hyn, pa un a gyfiawnheit ti? neu pa un a gondemnit ti?

º19  Mi  a  atebais,  gan ddywedyd,  Yn wir  ofer  oedd  eu  hamcanion ill  dau: canys y tir a roddwyd i'r coed; ac y mae hefyd i'r mor le i fwrw ei donnau.

º20  Yna  y'm  hatebodd,  gan  ddywedyd, Ti a fernaist yn gyfiawn: ond pa-ham na ferni dy hun hefyd?

º21  Canys   fel   y   rhoddwyd   y   tir  i'r coed,  a'r mor i'w  donnau;  yn yr un modd y thai a drigant ar y ddaear ni ddeallant ddim ond y pethau sydd ar y ddaear;  a'r hwn  sydd  yn arcs  uwch-law'r nefoedd yn unig, a gaiff ddeall y pethau sy goruwch uchder y nefoedd.

º22  Yna   yr   atebais,   gan   ddywedyd, Atolwg, Arglwydd, rhodder i mi ddeall:

º23  Canys   nid   oedd   yn   fy   mryd   i ymofyn yn fanwl am bethau uchel, ond am y pethau sy yn myned heibio i ni beunydd; hynny yw, paham y rhoddwyd  Israel yn waradwydd i'r cenhed-loedd, a phaham y rhoddwyd y bobl a geraist ti i genhedloedd anwir, a phaham y difethwyd cyfraith ein tadau, ac y dirymwyd yr amodau sgrifenedig.

º24  Ac yr ydym ni yn myned o'r byd fel  ceiliogod  rhedyn,  a'n  heinioes  nid yw ddim ond ofh a braw, ac ni haeddwn ni drugaredd.

º25  Pa beth a wna efe gan hynny i'w enw, ar yr hwn y'n gelwir? am y pethau hyn yr ymofynnais.

º26  Yna  efe  a'm  hatebodd,  gan  ddy-wedyd, Po mwyaf yr ymofynnech, rhy-feddach fydd gennyt; canys mae'r byd ar frys i ymado;

º27  Ac ni fedr efe ddeall y pethau a addawyd i'r rhai cyfiawn yn yr amser sydd yn dyfod;  canys llawn yw'r byd o anghyfiawnder a gwendid.

º28  Ond am y pethau yr ymofynnaist a mi,  mi  a  ddywedaf i  ti;  Drygioni  a heuwyd, ond ni ddaeth ei ddinistr ef eto.

º29  Oni ddymchwelir yr hyn a heuwyd, ac onid a y fan lie yr heuwyd y drwg heibio, yna ni ddaw'r   hyn a heuwyd a daioni:

 

º30  Canys grawn yr had drwg a heuwyd yng nghalon Adda o'r dechrau, a pha gym-aint  o  anwiredd  a  ddug  efe  hyd  yn hyn?  a  pha  gymaint  a  ddwg  efe  eto oni ddel amser dyrnu?

º31  Ystyria ynot dy hun, pa gymaint ffrwyth o anwiredd y mae grawn yr had drwg wedi ei ddwyn;

º32  A phan dorrer y tywys, y rhai sy allan o rifedi, pa lawr dyrnu ei faint a lanwant hwy?

º33  Yna yr atebais, gan ddywedyd, Pa fodd a pha bryd y bydd hyn? paham y mae ein blynyddoedd yn ychydig ac yn ddrwg?

º34  Ac   efe   a'm   hatebodd,   gan   ddywedyd, Na phrysura di yn uwch  na'r Goruchaf:   canys  yn  ofer  y  prysuri  i fod uwch ei law ef; canys dy uchder a aeth yn fawr.

º35  Oni   ymofynnodd   eneidiau  y rhai cyfiawn am y pethau hyn yn eu staf-ellau,   gan   ddywedyd,   Pa   hyd   y   go-beithiaf fel hyn? pa bryd y daw ffrwyth ein llawr dyrnu, a'n gwobr ni?

º36  Jeremiel   yr   archangel   a   atebodd hynny,  gan   ddywedyd,  Pan  gyflawner rhifedi'r had ynoch; canys efe a bwys-odd y byd mewn clorian;

º37  Wrth fesur y mesurodd efe'r am-seroedd, ac wrth rifedi y rhifodd efe'r amseroedd;  ac ni chynhyrfa efe ac ni symuda   hwynt,   nes   cyflawni'r  mesur hwnnw.

º38  Yna yr atebais, gan ddywedyd, O Arglwydd lywydd, yr ydym ni oil yn llawn anwiredd.

º39  Ac  ysgatfydd  er  ein  mwyn  ni  y mae na lanwyd ysguboriau y rhai cyfiawn, o achos pechodau y rhai sydd ya, aros ar y ddaear.

º40    Ac efe a'm hatebodd i, gan ddywedyd,  Dos  ymaith,  a  gofyn  i  wraig feichiog, pan gyflawner ei naw mis hi, a all ei chroth hi gadw'r etifedd yn hwy o'i mewn.

º41  A  mi   a   ddywedais,   Na   all,   Arglwydd.   Ac efe  a  ddywedodd wrthyf, Yn y bedd y mae stafelloedd eneidiau yn debyg i groth gwraig.

º42  Canys  fel  y prysura  gwraig wrth esgor i ddianc oddi wrth angen y dra-fael,   felly   y   prysura'r   lleoedd   hyn  i roddi drachefn yr hyn a roddwyd yno.

º43  Dangosir i ti o'r dechrau y pethau a ewyllysi gael eu gweled.

º44  Yna   yr   atebais,   gan   ddywedyd, Os cefais ffafr yn dy olwg di, ac od yw bosibl, ac os ydwyf gymwys i hynny,

º45  Dangos i mi, ai mwy sydd i ddyfod nag a aeth heibio, neu a basiodd mwy nag sydd i ddyfod.

º46  Mi a wn beth a basiodd, ond ni wn i beth sydd i ddyfod.

º47  Ac  efe  a  ddywedodd wrthyf,  Saf di o'r tu deau, ac mi a ddehonglaf y gyffelybiaeth i ti.

º48    Ac felly mi a sefais, ac wele, mi a welwn  ffwrn  boeth  yn  myned  heibio o'm blaen: a digwyddodd, pan aeth y fflam heibio, i mi edrych, ac wele, y mwg oedd  yn parhau.

º49  Yn   61   hyn   fe   aeth   heibio   o'm blaen i gwmwl yn llawn o  ddwfr,  ac efe  a ollyngodd i lawr gurlaw mawr; a  phan  ddarfu'r  curlaw,  y  defnynnau a barhasant.

º50  Yna y dywedodd efe wrthyf, Ystyria ynot dy hun: megis y mae'r glaw yn fwy na'r defnynnau, a'r tan yn fwy na'r mwg: ond y defnynnau a'r mwg sydd yn aros  ar  61:  felly y rhagora'r mesur a aeth heibio.

º51  Yna  y  dymunais,  gan  ddywedyd, A dybygit ti y byddwn i byw hyd y dyddiau  hynny?   neu  pa  beth  a   ddi-gwydd yn y dyddiau hynny?

º52  Efe   a'm   hatebodd   i,   gan   ddywedyd, Am yr arwyddion a ofynnaist i mi, mi  a fedraf ddywedyd peth i ti: ond am dy einioes, ni'm danfonwyd i ddangos i ti; ac nis medraf.

 

PENNOD 5

 

º1 AC am yr arwyddion, wele, y dydd-•** iau a ddaw, pan ddalier trigolion y ddaear yn rhifedi mawr; a ffordd y gwirionedd a guddir, a'r tir a fydd diffrwyth o ffydd.

º2 A   drygioni    a    chwanega   yn   fwy

º28

na'r hyn a weli di yn awr, neu'r hyn a glywaist er ys talm.

º3  A'r wlad yr hon a weli di yn awr a gwreiddyn iddi, a gei di ei gweled yn ddisymwth yn anghyfannedd.

º4  Ond   os   y   Goruchaf  a   rydd   i   ti hoedl, ti a gei weled yn 61 y trydydd utgorn,  y tywynna'r  haul yn  ddisymwth y nos,  a'r lleuad  dair  gwaith yn y dydd:

º5  A   gwaed   a   ddifera   o'r coed,  a'r garreg a lefara, a'r bobl a drallodir:

º6  A'r neb  ni  ddisgwyl preswylwyr y ddaear amdano, a deyrnasa; a'r adar a newidiant drigfannau:

º7  A mor Sodom a fwrw allan bysgod, ac a rua'r nos, yn ddieithr i lawer; ond pawb a gaiff glywed ei lais ef:

º8  A  phethau  fydd  allan  o  drefn  yn llawer lie, a'r tan a yrrir allan drachefn yn fynych,  a'r  anifeiliaid   gwylltion   a newidiant eu Ueoedd, a'r gwragedd mis-glwyfus a esgorant ar angenfilod:

º9  A dwfr hallt a geir yn y croyw, a chyfeillion   a   ddistrywiant   bob   un   ei gilydd, a'r synnwyr a guddir; a deall a neilltuir i le dirgel,

º10  A llawer  a'i cais, ac nis cant:  ac anghyfiawnder ac anniweirrteb a amlheir ar y ddaear.

n A'r naill wlad a ofyn i'r Hall, gan ddywedyd, A aeth cyfiawnder, yr hon a wna ddyn yn gyfiawn, trwot ti? a hithau a ddywed, Naddo.

º12  Y pryd hynny y gobeithia pobl, ac nis caffant ddim; llafuriant, a'u ffyrdd ni Iwydda.

º13  Cefais   gennad   i   ddangos   i   ti  y cyfryw   arwyddion:   os   tydi   a   weddii eilwaith, ac os wyli fel yn awr, ac os ymprydi saith niwrnod, ti a gei glywed pethau mwy na hyn.

º14  Yna  mi  a   ddeffroais,   ac  fe   aeth trwy   fy   holl   gorff  ofn   dirfawr,   a'm meddwl a drallodwyd, fel y llewygodd.

º15  A'r angel yr hwn a ddaeth i ym-ddiddan a mi, a'm daliodd i, ac a'm cysurodd,   ac    a'm   gosododd   ar    fy nhraed.

º16  A digwyddodd, yr ail nos i Salath-

 

iel tywysog y bobl ddyfod ataf gan ddywedyd, Pa le y buost ti? a phaham y mae mor drwm yr olwg arnat?

º17  Oni wyddost ti ddarfod gorchymyn Israel i ti yng ngwlad eu caethiwed?

º18  Cyfod  gan   hynny,   a   bwyta  fara, ac na ad ddim ohonom ni, fel bugail a adawai ei ddefaid yn  nwylo  bleiddiaid creulon.

º19  Yna  y dywedais  wrtho,  Dos  ym-aith oddi wrthyf, ac na thyred ataf fi. Ac efe a1 glybu yr hyn a ddywedais, ac a aeth oddi wrthyf.

º20  A mi a ymprydiais saith niwrnod, gan alaru ac wylo, fel y gorchmynnodd yr angel Uriel i mi.

º21  Ac ymhen y saith niwrnod, meddyl-iau fy nghalon oedd yn flinion aruthr wrthyf eilwaith.

º22  A'm henaid a gymerodd drachefn ysbryd deall, a mi a ddechreuais draethu ymadroddion gerbron y Goruchaf;

º23  A dywedais, O Arglwydd lywydd, o holl goed y ddaear, ac o'u holl bren-nau, tia ddewisaist unlwinwydden yn unig;

º24  O  holl diroedd yr holl fyd,  ti  a ddewisaist i ti  un pydew;  ac o'i holl flodau ef, un lili;

º25  Ac o holl  ddyfnderau'r  mor, ti  a lenwaist un afon;  ac  o'r  holl  ddinas-oedd a adeiladwyd,  ti  a  sancteiddiaist Seion i ti dy hun;

º26  Ac o'r holl ehediaid a grewyd, ti a enwaist  i  ti  un  golomen;  ac  o'r  holl anifeiliaid a wnaed, ti a ddarperaist i ti un ddafad;

º27  Ac   ymysg   holl    liaws    pobloedd, ti a enillaist i ti un genedl: a rhodd-aist i'r genedl honno a geraist, gyfraith sy gymeradwy gan bawb.

º28  Ac   yn   awr,   Arglwydd,   paham  y rhoddaist i  fyny yr  un  genedl  hon  i lawer?  ac y gosodaist eraill ar yr un gwreiddyn?   a   phaham   y   gwasgeraist dy unig bobl ymhlith llaweroedd?

º29  A'r   thai    a    wrthwynebasant    dy addewidion, ac ni chredasant dy gyfam-odau, a'u sathrasant hwy i lawr.

º30  Os gan gasau y caseaist dy bobl, dy ddwylo di a ddylai eu cosbi hwynt.

 

º31  Ac wedi i mi ddywedyd y geiriau hyn, danfonwyd yr angel ataf, yr hwn a ddaethai ataf y nos o'r blaen;

º32  Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gvvran-do arnaf, a mi a'th ddysgaf; ystyr y peth a   draethwyf,   a   mi   a   ddangosaf i   ti fwy.

º33  A mi a ddywedais wrtho, Dywed., fy   Arglwydd.    Ac   efe   a   ddywedodd wrthyf,  Yr ydwyt  yn  fawr trallod  dy feddwl  er  mwyn  Israel:  a  wyt  ti  yn caru'r bobl hynny yn well nag y mae'r hwn a'u gwnaeth hwynt?

º34  A  dywedais,  Nac wyf,  Arglwydd; ond  o  wir  ofid   y  lleferais:   canys   fy aremiau a'm penydiant bob awr, wrth geisio deall ffordd y Goruchaf ac wrth chwilio am ran o'i farnedigaethau ef.

º35  Ac   efe  a   ddywedodd  wrthyf,  Ni elli di hynny.     A dywedais innau, Pa-ham,  Arglwydd?  i  ba  beth  y'm  gan-wyd? neu pa achos na bu groth fy mam yn  fedd i  mi,  fel na  chawswn weled poen Jacob, a blinder had Israel?

º36  Ac efe a ddywedodd wrthyf, Rhifa i mi y pethau sydd   eto   heb   ddyfod, casgl ynghyd y defnynnau sydd ar led, a   gwna'r   llysiau   gwywon   yn   leision eilchwyl,

º37   Agor i mi y lleoedd caeedig, a dwg allan i mi y gwyntoedd a gaewyd yn-ddynt,  dangos  i  mi  lun lleferydd;  ac yna y dangosaf i tithau y peth yr wyt yn ymboeni i'w weled.

º38  A  mi  a  ddywedais,   O   Arglwydd lywydd, pwy a all wybod y pethau hyn, ond  y  neb  nid  yw  ei  drigfa  ymhlith dynion?

º39  A   minnau,    annoeth   ydwyf:    pa fodd   wrth   hynny   y  gallaf  ddywedyd am y pethau y gofynnaist i mi?

º40  Ac  efe  a  ddywedodd  wrthyf,  Fel na  fedri wneuthur un o'r pethau hyn a enwyd, felly ni elli gael allan fy marn i,   neu'r caredigrwydd a  addewais   i'in pobl yn y diwedd.

º41    Yna mi a ddywedais, Wele, O Arglwydd, cyfagos wyt ti at y rhai a fydd-ant yn y diwedd; a pha beth a wna y rhai a fu o'm blaen i? neu ninnau y

 

rhai ydym yr awr hon,  neu y rhai a ddaw ar ein hoi ni?

º42  Ac efe  a  ddywedodd wrthyf,  Cy-ffelybaf fy marn i fodrwy: fel nad oes annibendod  o'r  diwethaf, felly nid oes brysurdeb o'r cyntaf.

º43  Minnau a atebais, gan ddywedyd, Oni allasit  ti wneuthur y rhai sy wedi eu gwneuthur, a'r rhai sydd yn awr, a'r rhai a ddaw, ar unwaith, fel y dangosit dy farn yn gynt?

º44  Ac   efe   a'm   hatebodd,   gan   ddywedyd,  Ni all y creadur brysuro uwch-law y Creawdwr, ac ni all y byd gyn-nwys ar unwaith y rhai a wneir ynddo ef.

º45  A   minnau   a   ddywedais,    Fel   y dywedaist i'th was, mai tydi, yr hwn a fywhei bob peth, a roddaist fywyd ar unwaith   i'r   creadur   a   wnaethost,   a'r creadur a'i dioddefodd; felly y gallai efe gynnwys  y  rhai sydd  yn   awr  ar unwaith.

º46  Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gofyn i groth gwraig, a dywed wrthi, Os wyt ti yn  dwyn  plant, paham  na wnei di hynny ar unwaith, ond y naill ar 61 y Hall?  dymuna  arni  gan  hynny  ddwyn deg ar unwaith.

º47  A mi a ddywedais, Ni ddichon hi: eithr rhaid iddi wneuthur hynny wrth ysbaid amscr.

º48  Ac efe a ddywedodd wrthyf, Felly minnau  a  roddais   groth  y  ddaear  i'r rhai  a  heuwyd  ynddi  yn  eu  hamser-oedd:

º49  Canys megis na ddichon dyn bach ieuanc ddwyn i'r byd y pethau a berthyn-ant   i'r   oedrannus,   felly   y   trefnais   i y byd yr hwn a wneuthum.

º50  Ac mi a ofynnais, ac a ddywedais, Gan i ti yn awr roddi i mi y ffordd, myfi a af rhagof i lefaru o'th flaen di: canys ein mam ni, yr hon a ddywedaist i mi ei bod yn ieuanc, sydd yn awr yn heneiddio.

º51  Efe    a'm    hatebodd    i,   gan   ddywedyd, Gofyn i wraig sydd yn planta, a hi a ddywed i ti:

º52  Dywed  wrthi  hi,  Paham  nad  yw

y plant a ddygaist yn awr, debyg i'r rhai o'r blaen, ond yn llai o gorffol-aeth?

º53  A hithau a'th etyb, Un fath sydd ar y rhai a anwyd yng nghryfder ieuenc-tid, a math arall ar y rhai a anwyd yn amser  oedran,   pan  oedd  y  groth  yn pallu.

º54  Ystyria  dithau  gan  hynny,  fel  yr ydych  chwi  yn llai  o  gorffolaeth  na'r rhai a fu o'ch blaen chwi;

º55  Ac felly y mae'r  rhai  a  ddaw ar eich 61 chwi yn llai na chwithau, megis creaduriaid   yn   dechrau   heneiddio   ac wedi myned dros gryfder ieuenctid.

º56  A dywedais,    Atolwg    i    ti,    Arglwydd, os cefais ffafr yn dy olwg di, dangos  i'th was  trwy  bwy yr ymweli a'th greadur.

 

 

PENNOD 6

 

º1 AC efe a ddywedodd wrthyf, Yn y **• dechreuad pan wnaethpwyd y ddaear, cyn gosod terfynau'r byd, cyn chwythu o'r gwyntoedd,

º2  Cyn   clywed  trwst  y  taranau,   cyn gweled disgleirdeb y mellt,  cyn gosod seiliau Paradwys,

º3  Cyn   gweled   y   blodau   prydferth, cyn   sicrhau'r   nerthoedd   symudadwy, cyn  casglu  ynghyd  y  lliaws  aneirif o angylion,

º4  Cyn dyrchafu uchelderau'r awyr, cyn enwi mesuroedd y ffurfafen, cyn gwres-ogi'r ffumerau yn Seion,

º5  Ac o flaen chwilio am y blynydd-oedd presennol, a chyn troi dychmyg-iadau y rhai sydd y pryd hyn yn pechu, cyn selio y rhai a gadwasant y ffydd yn drysor;

º6  Y pryd hynny yr ystyriais y pethau hyn;  a  gwnaethpwyd  hwynt oil trwof fi yn unig, ac nid trwy arall: a'u diwedd hwynt fydd hefyd trwof fi, ac nid trwy neb arall.

º7  Yna    yr    atebais,    gan    ddywedyd, Beth fydd gwahaniad yr amseroedd? a pha bryd y bydd diwedd y cyntaf, a dechreuad yr hwn sydd yn canlyn?

º8  Ac   efe   a   ddywedodd   wrthyf,   O

 

 

Abraham hyd Isaac, pan anwyd iddo ef Jacob ac Esau, llaw Jacob o'r dech-rau a ddaliodd sawdl Esau:

º9  Canys Esau yw diwedd y byd hwn, a Jacob yw dechrau'r byd sydd i ddy-fod.

º10    Elaw dyn sy rhwng sawdl a llaw.
Na ofyn i mi mwy, Esdras.

º11  Yna yr atebais, gan ddywedyd, O Arglwydd lywydd, os cefais ffafr yn dy olwg,

º12  Atolwg,  dangos  i'th was  ddiwedd dy arwyddion, y rhai y dangosaist i mi ran ohonynt y nos ddiwethaf.

º13  Ac   efe   a'm   hatebodd,   gan   ddywedyd, Cyfod ar dy draed, a gwrando lef gref soniarus:

º14  Daw fel  daeargryn:  ond y lie  yr ydwyt yn sefyll arno nid ysgog.

º15  Gan   hynny   pan   lefaro   efe,   nac ofna di;  canys  am y diwedd y mae'r gair, ac am sylfaen y ddaear y deellir ef.

º16  A phaham?  oblegid y mae'r ym-adrodd am y pethau hyn yn crynu ac yn cynhyrfu: canys efe a wyr y bydd rhaid newid diwedd y pethau hyn.

º17  A  digwyddodd pan glywais, mi  a godais ar fy nhraed, ac a wrandewais, ac wele lef yn llefaru, a'i swn ydoedd fel swn llawer o ddyfroedd.

º18  A hi a ddywedodd, Wele, y dydd-iau sydd yn dyfod, y dechreuaf nesau i ymweled a phreswylwyr y ddaear,

º19  Ac   y   dechreuaf   ymofyn   amdan-ynt,  pa  beth ydynt  hwy  a  wnaethant niwed   yn    anghyfiawn    a'u   hanghyf-iawnder? a pha bryd y cyflawnir cys-tudd Seion?

º20  A  phan   selier   y   byd  yr  hwn   a ddechrau fyned heibio, yna y gwnaf fi yr arwyddion hyn: Y llyfrau a agorir o flaen y ffurfafen, a phawb a gaiff weled ar unwaith;

º21  A phlant blwyddiaid a lefarant a 'u lleferydd; gwragedd beichiogion a esgor-ant ar blant cyn eu hamser ar ben y trimis neu'r pedwar mis, a byw fydd-ant, a chyfodir hwynt i fyny.

º22  Ac yn  ddisymwth yr  ymddengys

y mannau a heuwyd, fel y mannau nis heuwyd,   a'r   celloedd   llawn a geir yn i wag yn ddisymwth.

º23  A'r  utgorn  a  gan, a  phawb,  pan ei clywant, a ofnant yn ddisymwth.

º24  A'r pryd hynny yr ymladd cyfeill-ion a'i gilydd fel gelynion, a'r ddaear a ofna a'r rhai a drigant ynddi, a llygaid y ffynhonnau a safant, ac ni redant dros dair awr.

º25  A phwy bynnag a ddihango rhag y pethau hyn oil a ddangosais i ti, a fydd cadwedig, ac a gaiff weled fy iachawd-wriaeth, a diwedd eich byd chwi.

º26  Y rhai a dderbyniwyd a welant, y rhai ni phrofasant angau er pan eu gan-wyd hwynt: a chalon y preswylwyr a newidir, ac a droir i feddwl arall:

º27  Canys   bwrir   ymaith  ddrygioni,  a diffoddir twyll;

º28  A ffydd a flagura; a llygredigaeth a orchfygir;  gwirionedd,  yr  hon  a  fu cyhyd yn ddiffrwyth, a ddangosir.

º29  A phan ymddiddanodd efe a myfi, wele,  mi  a  edrychais  bob  ychydig  ac ychydig ar yr hwn yr oeddwn yn sefyll ger ei fron.

º30  Ac efe a ddywedodd y geiriau hyn wrthyf, Mi a ddeuthum i ddangos i ti amser y nos sydd yn dyfod.

º31  Os   tydi   a   weddii   eto   ychwaneg, ac a ymprydi saith niwrnod  drachefn, myfi a fynegaf i ti liw dydd fwy nag a glywais.

º32  Canys  y  Goruchaf a  glywodd  dy leferydd, y Galluog a welodd dy union-deb,   ac   a   welodd   y   diweirdeb   oedd gennyt o'th ieuenctid.

º33  Ac   am hynny  efe  a'm hanfonodd i ddangos i ti y pethau hyn oil, ac i ddywedyd   wrthyt,   Bydd   gysurus,   ac nac ofna;

º34  Ac na phrysura gyda'r amseroedd a aeth heibio, i feddwl oferedd, fel na phrysurech   oddi   wrth   yr   amseroedd diwethaf.

º35  Ac yn 61 hyn yr wylais drachefn, ac yr ymprydiais  saith niwrnod eraill, fel y gallwn gyflawni'r tair wythnos a ddywedasai efe wrthyf.

 

º36  A'r wythfed nos yr oedd fy nghal-on yn flin o'm mewn drachefn, a mi a ddechreuais lefaru gerbron  y  Goruchaf;

º37  Canys   fy  ysbryd  a  enynnodd  yn ddirfawr, a'm henaid oedd mewn caledi.

º38  A mi a ddywedais, O Arglwydd, ti a ddywedaist o ddechrau y greadigaeth, y dydd cyntaf, gan ddywedyd fel hyn, Gwneler  nef a  daear:  a'th air  a  aeth yn waith perffaith.

º39  A'r amser   hwnnw yr   ydoedd   yr Ysbryd, a'r tywyllwch oedd o amgylch, a   distawrwydd;   a   sain   lleferydd   dyn nid oedd wedi ei lunio eto.

º40  Yna y gorchmynnaist i oleuni dis-glair ddyfod allan o'th drysorau, fel yr ymddangosai dy waith di.

º41  Yr ail dydd y gwnaethost ysbryd y ffurfafen,   a   gorchmynnaist   iddo   ym-rannu, a gwneuthur dosbarth rhwng y dyfroedd, fel y gallai'r naill ran fyned i fyny, a'r rhan arall aros i waered:

º42  A'r   trydydd   dydd   y   gorchmynnaist i'r dyfroedd ymgasglu yn seithfed ran y ddaear; chwe rhan a sychaist ac a gedwaist, fel y byddai i rai o'r rhain, wedi eu plannu gan Dduw, a'u llafurio, dy wasanaethu di;

º43  Canys  cyn gynted ag yr aeth dy air di allan, yr oedd y gwaith wedi ei wneuthur:

º44  Canys    yn    ddisymwth    yr    oedd ffrwyth  mawr  ac  aneirif,   a  llawer  ac amryw  felystra  i'r  bias,  a  llysieuau  o ddigoll liwiau, ac aroglau o arogl rhy-feddol.   A hyn a wnaethpwyd y trydydd dydd.

º45  Y  pedwerydd  dydd   y  gorchmynnaist  i'r  haul  dywynnu,  ac  i'r  lleuad lewyrchu, ac i'r ser fod mewn trefn:

º46  A   gorchmynnaist   iddynt   wasan-aethu'r dyn, yr hwn oedd i*w wneuthur.

º47  A'r    pumed    dydd    y    dywedaist wrth  y   seithfed  ran,   lle'r   ydoedd   y dyfroedd   wedi   ymgasglu  ynghyd,   am iddi   ddwyn  creaduriaid  byw,  adar,   a physgod: ac felly y bu.

º48  Y  dwfr mud,  ac heb fyw ynddo, wrth  amnaid  Duw  a  ddygodd  bethau

byw, fel y gallai pob cenedl foliannu dy weithredoedd rhyfedd di.

º49  Yna ti a ordeiniaist ddau greadur byw; y naill a elwaist Enoch, a'r Hall Lefiathan.

º50  A   didokist   y  naill  oddi   wrth  y Hall:  canys  y seithfed ran,  lie yr ydoedd  y dyfroedd wedi  ymgynnull, nis gallai eu dal hwynt ill dau.

º51  A thi a roddaist i Enoch y naill ran, yr hon a sychwyd y trydydd dydd, fel y gallai efe aros yno, lie y mae mil o fryniau.

º52  Ond   i   Lefiathan   y   rhoddaist   y seithfed   ran,   yr   hon   sydd   wlyb:   a chedwaist ef i'w ddifetha gan y neb a fynnech, a phan fynnech.

º53  A'r  chweched  dydd  y  gorchmynnaist i'r ddaear ddwyn allan o'th flaen di anifeiliaid, bwystfilod, ac ymlusgiaid;

º54  Ac ar 61 y pethau hyn Adda hefyd, yr hwn a ordeiniaist yn dywysog ar dy noil greaduriaid; ac ohono ef y daeth-om ni oil, a'r bobl a ddewisaist ti hefyd.

º55  Hyn oil a ddywedais ger dy fron di,  O  Arglwydd, am i ti wneuthur y byd er ein mwyn ni.

º56  Am y bobl eraill, y rhai hefyd sydd yn dyfod o Adda, ti a ddywedaist nad ydynt ddim,  ond  eu bod yn debyg i boeryn;  a  thi  a  gyffelybaist  eu  golud hwy  i  ddefnyn  yn  syrthio  oddi  wrth

lestr.

º57  Am hynny yn awr,  O  Arglwydd, wele, y cenhedloedd hyn, y rhai a gyf-rifwyd erioed megis diddim, a ddech-reuasant arglwyddiaethu arnom ni, a'n difetha.

º58  A  ninnau  dy bobl  di, yr hwn  a elwaist yn gyntaf-anedig i ti, yn unig-anedig, a'r hwn a'th gar di yn gu,  a roddwyd i'w dwylo hwynt.

º59  Ac os gwnaethpwyd y byd er ein mwyn   ni,   paham   nad   ydym   ni   yn meddiannu    etifeddiaeth    gyda'r    byd? pa hyd y pery hyn?

A

 

 

PENNOD 7

 

º1 A PHAN   ddarfu  i  mi  ddywedyd y geiriau   hyn,   danfonwyd   ataf   yr

 

angel a ddanfonasid ataf y nosweithiau o'r   blaen;

º2  A   dywedodd   wrthyf,   Cyfod,   Es-dras,   a   gwrando'r  geiriau  y deuthum i'w mynegi i ti.

º3  A dywedais innau, Dywed, fy Nuw. Ac efe a  ddywedodd wrthyf, Y mor a osodwyd mewn He eang,  fel y byddo efe yn ddwfn, ac yn fawr.

º4  Eithr bwrw fod mynediad cyfyng i mewn iddo, ac yn debyg i afon:

º5  Pwy wrth  hynny  a  allai  fyned  i'r mor i  edrych arno  ef,  ac i'w  lywod-raethu? os efe nid ai trwy'r lie cyfyng, pa fodd y gallai efe ddyfod i'r lie eang?

º6  Hefyd   drachefn;   Dinas   a   adeilad-wyd ac a osodwyd ar faes gwastad, ac y mae hi yn llawn o bob peth da.

º7  Y  mynediad  i  mewn  iddi  sy  gul, wedi ei osod mewn lie enbyd i syrthio; fel pe byddai dan ar y Haw ddeau, a dwfr dwfn ar y Haw aswy,

º8  Ac un  llwybr  yn unig rhyngddynt ill dau, sef rhwng y tan a'r dwfr, cyn Ueied  ag  nas  gall  ond  un  dyn  fyned yno ar unwaith.

º9  Yr   awron,   pe   rhoddid   y   ddinas hon i wr yn etifeddiaeth, os efe nid a fyth trwy'r perygl a osodwyd o'i blaen hi, pa fodd y derbyn efe'r etifeddiaeth hon?

º10  A   dywedais,   Felly   y   mae,   Ar-glwydd.   Ac efe a ddywedodd wrthyf, Felly hefyd y mae rhan Israel.

º11  Canys er eu mwyn hwy y gwneuth-um i y byd: a phan dorrodd Adda fy ngorchmynion i,  yna yr ordeiniwyd y peth sydd yn awr wedi ei wneuthur.

º12  Yna y gwnaethpwyd mynediadau i mewn i'r byd hwn yn gyfyng, yn llawn tristwch a llafur, yn ychydig, yn ddrwg, yn llawn perygl a phoen.

º13  Canys    dechreuad    y    byd    hynaf oedd   eang   a   diberygl,   ac   yn   dwyn ffrwyth anfarwol.

º14  Gan hynny os y rhai sy fyw nid ymegniiant i fyned i mewn trwy'r cyfyng  a'r  ofer  bethau   hyn,   nis   gallant byth  dderbyn  y  pethau  a  roddwyd  i gadw iddynt.

º15  Wrth   hynny   paham   y'th   aflon-yddi dy hun, gan dy fod yn llygredig? a  phaham  y cynhyrfi, gan   dy fod  yn farwol?

º16  Paham   nad   wyt   yn   ystyried   yn dy galon y peth sydd i ddyfod, yn hyt-rach na'r peth sy bresennol?

º17  Atebais innau, a dywedais, O Ar-glwydd  lywydd,  wele,  ti  a  ordeiniaist trwy dy gyfraith i'r rhai cyfiawn fedd-iannu'r pethau hyn, ac i'r anghyflawn fethu.

º18  Er hynny y cyfiawn a ddioddefant gyfyngder,   ac   a   obeithiant   ehangder: a'r   sawl   a   wnaeth   anghyfiawnder   a ddioddefasant   gyfyngder,   ac   ni   chant weled ehangder.

º19  Ac efe a ddywedodd wrthyf, Nid oes farnwr uwchlaw Duw, na neb yn deall yn well na'r Goruchaf:

º20  Canys llawer a gollir yn y bywyd hwn, o achos diystyru cyfraith Dduw, yr hon sydd wedi ei gosod o'u blaen hwynt;

º21  Canys    gan    orchymyn   y   gorch-mynnodd Duw i'r rhai a ddaeth, ie, fel y daethant, pa beth a wnaent i fyw, a pha beth a  gadwent, fel  nas  ceryddid hwynt.

º22  Er hynny nid ufuddhasant iddo ef, ond dywedyd a wnaethant yn ei erbyn ef, a meddwl oferedd.

º23  A chan eu hamgylchu eu hun a'u beiau, hwy ar ddywedasant am y Goruchaf, nad oedd efe; ac nid adnabuant ei ffyrdd ef;

º24  Ond   ei   gyfraith   ef  a   ddiystyras-ant,  a gwadasant ei gyfamodau ef,  ac ni buant ffyddlon yn ei gyfreithiau ef, ac   ni   chyflawnasant   ei   weithredoedd ef.

º25  Am hyn, Esdras, i'r gwag y mae'r pethau gweigion, ac i'r llawn y pethau llawnion.

º26  Ac wele, yr amser a ddaw, y cyf-lawnir yr arwyddion a ddywedais i ti, a'r briodasferch a ymddengys,  a  hi  a welir yn dyfod allan, yr hon sydd yn awr wedi ei thynnu oddi ar y ddaear.

º27  A phawb a'r a ddihango oddi wrth y

 

drygioni uchod, a gaiff weled fy rhy-feddodau i;

º28  Canys fy mab lesu, a'r rhai sydd gydag ef, a ddatguddir; a'r rhai a adewir a  lawenychant o fewn  pedwar  cant o flynyddoedd.

º29  Yn 61 y blynyddoedd hyn y bydd marw   fy    mab   Crist,    a   phob   dyn byw.

º30  A'r byd a  droir i'r hen ddistaw-rwydd  saith  niwrnod, fel yn y barn-edigaethau cyntaf; fel na adawer neb.

º31  A digwydd, yn 61 saith niwrnod, y cyfodir y byd hwn sydd eto heb ddeffro, a'r peth Uygredig a fydd marw.

º32  A'r ddaear a ddyry drachefn y rhai sydd yn cysgu ynddi, a'r llwch y rhai sydd yn aros ynddo mewn distawrwydd, a'r ceUoedd yr eneidiau a roddwyd iddynt hwy.

º33  A   cheir   gweled   y   Goruchaf   ar orseddfainc  barn,   a  phob  trueni   a   a ymaith, a dioddefgarwch a gaiff ddiben.

º34  Ond barn yn unig a erys, y gwir-ionedd a saif, a ffydd a gryfha:

º35  A'r weithred a ganlyn, a'r gwobr a   ddangosir,   a'r   gweithredoedd   da   a fyddant mewn grym,  a gweithredoedd drwg ni lywodraethant.

º36  A   mi   a   ddywedais,   Yn   gyntaf Abraham  a wedd'iodd  dros  y  Sodom-iaid, a Moses dros y tadau a bechasant yn yr anialwch;

º37  A Jesus ar ei 61 yntau dros Israel yn amser Achan;

º38  A  Samuel a Dafydd  dros  y  din-istr, a Salomon dros y rhai oedd i ddyfod i'r cysegr;

º39  A  HeHas   dros  y rhai  a   gawsant law,   a  thros  y  marw,  er  cael  ohono fyw;

º40  Ac Eseceias dros y bobl yn amser Senacherib, a llawer dros laweroedd.

º41  Felly  yn   awr   gan  fod   llygredig-aeth wedi tyfu, ac anwiredd wedi aml-hau,   a   gwedd'io   o'r   cyfiawn   dros   yr annuwiol;   paham   na   bydd   felly   yr awr hon hefyd?

º42  Ac   efe   a'm   hatebodd,   gan   ddy-wedyd,   Nid  y  bywyd   presennol  hwn

yw'r diwedd, He mae gogoniant lawer yn aros: am hynny y gweddiasant dros y gweiniaid.

º43  Eithr dydd y farn  a fydd diwedd yr amser hwn, a dechreuad yr anfar-woldeb  sydd i  ddyfod,  yn yr  hwn y diflannodd pob Uygredigaeth,

º44  Y   dibennwyd   anghymedroldeb,   y torrwyd  ymaith  anffyddlondeb,  y  tyf-odd cyfiawnder, ac y blagurodd gwirion-edd.

º45  Y pryd hynny nis gall neb achub yr   hwn   a   gollwyd,   na   gorthrymu'r neb a orchfygodd.

º46  Ac  mi  a  atebais,  gan  ddywedyd, Dyma'r gair a ddywedais yn gyntaf, ac yn  ddiwethaf,  mai  gwell   a   fuasai   na roddasid  y  ddaear  i   Adda,  neu,   pan roddwyd hi, lestair iddo bechu:

º47  Canys pa lesad i ddynion fyw yn y byd presennol hwn mewn trymder, ac yn 61 marwolaeth disgwyl am gosbedig-aeth?

º48  O dydi Adda, pa beth a wnaethost? er i ti bechu, nid yw hynny yn gwymp i ti dy hun yn unig, ond i ninnau oil, y rhai a ddaethom ohonot ti.

º49  Canys  pa  les  i  ni, os  addawyd i ni   amser   tragwyddol,   a   ninnau   wedi gwneuthur y gweithredoedd a ddygant i farwolaeth?

º50  Ac er addo i ni obaith tragwyddol, ninnau wedi myned yn annuwiol iawn a wnaethpwyd yn ofer?

º51  Ac   er   darparu   i   ni   drigfannau iechyd a diogelwch, a ninnau yn byw yn annuwiol?

º52  Ac  er  darparu  gogoniant  y  Goruchaf i amddiffyn y rhai a fuant fyw yn ddioddefgar, a ninnau yn rhodio ar hyd y ffyrdd annuwiolaf o gwbl?

º53  Ac  er   dangos   i   ni   Baradwys   a'i ffrwyth yn parhau yn dragwyddol, yn yr hwn y mae diogelwch a meddygin-iaeth, a ninnau heb gael myned i mewn iddi?

º54  (Canys rhodio a wnaethom mewn lleoedd anhawddgar.)

º55  Ac er disgleirio o wynebau y rhai a arferasant ddirwest, yn oleuach na'r ser,

 

 

a'n hwynebau ninnau yn  dduach na'r tywyllwch?

º56  Canys tra fuom fyw, ac yn gwneuth-ur anwiredd, ni feddyliasom ni y caem ddioddef am hynny yn 61 marwolaeth.

º57  Ac efe a atebodd, gan ddywedyd, Dyma ddull yr ymdrech a ymdrecha'r dyn a aner ar y ddaear;

º58  Pel, os gorchfygir ef, y caffo ddioddef yr hyn a ddywedaist; ond os efe a orchfyga, y caffo dderbyn y peth a ddy-wedaf.

º59  Canys   hon   yw'r   einioes,   am   yr hon y dywedodd Moses, pan ddaeth efe at y bobl,  gan ddywedyd,  Dewis i ti einioes, fel y byddech byw.

º60  Er  hynny  ni   choeliasant  ef,  na'r proffwydi ar ei 61 ef, na minnau chwaith, yr hwn a ddywedais wrthynt,

º61  Na byddai y fath drymder yn eu dinistr hwy, ac y bydd llawenydd ar y rhai a berswadiwyd i iachawdwriaeth.

º62  Mi a atebais, gan ddywedyd, Gwn, Arglwydd,   mai   trugarog   y   gelwir   y Goruchaf, am ei fod yn drugarog i'r rhai ni ddaethant etc i'r byd,

º63  Ac yn drugarog wrth y rhai hefyd a droant at ei gyfraith ef;

º64  A'i fod yn ddioddefgar ac yn hir-ymarhous   wrth   y   rhai   a   bechasant, megis wrth ei greaduriaid;

º65  A'i fod yn hael; canys y mae yn barod i roddi, lie mae rhaid;

º66  A'i   fod   yn   fawr   ei   drugaredd; canys y mae yn amlhau ei drugareddau fwyfwy tuag  at  y rhai  presennol,  a'r rhai a basiodd, a'r rhai a ddaw.

º67  Canys os efe ni amlha ei drugareddau, ni pharhai y byd gyda'r rhai a etifeddant ynddo.

º68  Hefyd,   efe   a   faddau:   canys   oni wn&i efe felly o'i ddaioni, fel y byddai i'r  rhai  a  wnaethant  anwireddau  gael esmwythdra   oddi   wrthynt,   ni   fyddai fyw y ddeg filfed ran o ddynion.

º69  Ac oni bai iddo ef, yr hwn sydd Farnwr,   faddau   i'r   rhai   a   iachawyd trwy ei air ef, a dileu eu haml ymrysonion,

º70  Ysgatfydd ychydig iawn a adewid mewn lliaws aneirif.

º

PENNOD 8

 

º1 AC efe a'm hatebodd, gan ddywedyd, •**• Y Goruchaf a wnaeth y byd hv i lawer; ond y byd a ddaw i ychydig.

º2  Esdras, dangosaf i ti gyffelybrwydd, fel pan ofynnech i'r ddaear, hithau a'th etyb ei bod hi yn rhoddi llawer o bridd, o'r   hwn   y   gwneir  llestri  pridd,   ond ychydig   o'r  hwn   y   daw'r   aur   allan: felly y mae am waith y byd hwn:

º3  Llawer a wnaethpwyd, ond ychydij a fydd cadwedig.

º4  Yna   yr  atebais, gan  ddywedyd,  ^ fy   enaid,  llwnc   di   synnwyr   a   thraf-lynca ddeall:

º5  Canys cytunaist i wrando, ac ewyll-ysgar   ydwyt   i   broffwydo:   canys   nid oes i ti ysbaid hwy nag yn unig i fyw.

º6  O  Arglwydd,  oni  roddi  di gennad i'th  was  i  erfyn  arnat,  ar  i  ti  roddi had  i'n  calon,  a  llafurwaith i'n  deall, fel  y  del  ffrwyth   ohono;   pa  fodd  y gall pob dyn llygredig fyw, a'r y sydd yn dwyn lie dyn?

º7  Canys   ti   wyt   unig,   a   ninnau   oil ydym waith  dy  ddwylo  di,  fel y  dy-wedaist.

º8  Canys    pan    lunier    y    corff    yng nghroth y fam, a phan roddech aelodau iddo, dy greadur a gedwir mewn tan a dwfr, a naw mis y dioddef dy waith dy greadur a luniwyd ynddi.

º9  Ond y peth sydd yn cadw, a'r peth a gedwir, a ddihangant ill dau: a phan ddelo'r   amser,   y   groth   a   gadwed   a ddyry'r pethau a dyfodd ynddi.

º10    Canys ti a orchmynnaist allan o aelodau'r corff, sef o'r bronnau, roddi llaeth, yr hwn yw ffrwyth y bronnau,

º11  Fel y gallo'r peth a luniwyd gael ei fagu dros amser, hyd oni threfnech ef i'th drugaredd.

º12  Megaist   ef   trwy   dy   gyfiawnder, meithrinaist ef yn dy gyfraith, a cher-yddaist ef a'th farn :

º13  A  thi  a'i  marwolaethi  ef fel  dy greadur,    ac    a'i    bywhei    ef   fel    dy waith.

º14  Os  distrywi gan  hynny y peth  a luniwyd  trwy   gymaint   o   boen,  wrth

dy orchymyn di, hawdd oedd gadw y peth a wnaethpwyd.

º15  Gan hynny, Arglwydd, mi a lefar-af, (am bob dyn yn gyffredinol gorau y gwyddost ti,) am dy bobl di, dros y rhai yr ydwyf yn drist;

º16  Ac am dy etifeddiaeth, dros y rhai yr ydwyf yn galaru; ac am Israel, am yr hwn yr ydwyf yn drist: ac am Jacob, er mwyn yr hwn y'm trallodir.

º17  Am   hynny   y   dechreuaf   wedd'io ger dy fron di drosof fy mm a thros-tynt   hwythau:   canys  mi   a  welaf ein beiau ni, y rhai sy'n trigo yn y wlad.

º18  Ond    mi    a    glywais    gyflymdra'r barnwr sydd yn dyfod.

º19  Am hynny gwrando fy lleferydd, a deall fy  ngeiriau,  a  pharablaf ger  dy fron  di.    Dyma  ddechrau  geiriau  Esdras, cyn ei gymryd ef i fyny.     A mi a ddywedais,

º20  O   Arglwydd,   tydi'r   hwn   ydwyt yn preswylio mewn tragwyddoldeb, yr hwn wyt o'r uchelder yn gweled pethau yn y nefoedd ac yn yr awyr;

º21  Eisteddle'r hwn nis gellir ei phrisio; a'i  ogoniant  nis  gellir  ei  gynnwys;  o flaen yr hwn y mae'r lluoedd angyl-ion yn sefyll dan grynu,

º22  Gwasanaeth   y   rhai   sydd   mewn gwyn ta thta; yr hwn y mae ei air yn wir,  a'i  ymadroddion  yn ddianwadal; yr hwn y mae ei orchymyn yn gadarn, a'i ordinhad yn ofnadwy;

º23  Yr hwn y mae ei olwg yn sychu'r dyfnder, a'i ddicllonedd yn gwneuthur i'r mynyddoedd doddi; i'r hyn y mae y gwirionedd yn dwyn tystiolaeth;

º24  O gwrando weddi dy was, ac ys-tyria a'th glustiau ddeisyfiad dy greadur.

º25  Canys tra fyddwyf byw y llefaraf, a thra medrwyf ddeall yr atebaf.

º26  Nac edrych ar bechodau dy bobl; ond ar y rhai sy'n dy wasanaethu mewn gwirionedd:

º27  Na  phrisia ar ddrwg  amcanion y cenhedloedd; ond ar ddymuniad y rhai sy'n cadw dy dystiolaethau mewn cys-tuddiau:

º28  Na feddwl am y rhai a rodiodd yn

ffuantus ger dy fron di; ond cofia'r rhai yn 61 dy ewyllys a adnabuant dy ofn:

º29  Nac   ewyllysia   ddifetha'r   rhai   a ymddygasant yn anifeilaidd; ond edrych ar y rhai a ddysgasant dy gyfraith di yn   berffaith:

º30  Na    chymer    ddigofaint    wrth    y rhai a gyfrifir yn waeth nag anifeiliaid; ond c4r  di y rhai a ymddiriedant  yn wastadol yn dy gyfiawnder a'th ogoniant di.

º31  Canys  yr  ydym  ni  a'n  tadau  yn nychu   o   gyfryw   glefydau;   eithr   o'n hachos ni bechaduriaid y gelwir di yn drugarog.

º32  Canys   od   ocs   ewyllys   gennyt   i drugarhau   wrthym,   fe   a'th   elwir   yn drugarog, sef wrthym ni, y rhai sy heb weithredoedd    cyfiawnder.

º33  Canys  y  cyfiawn, y  rhai  sy  gan-ddynt  lawer  o  weithredoedd  da  yng-hadw  gyda  thi, o'u  gweithredoedd eu hun a dderbyniant wobr.

º34  Ond pa beth yw dyn, i ti i ddigio wrtho?   neu   pa   beth  yw   cenhedlaeth lygredig, i ti fod mor chwerw wrthi?

º35  Canys   yn   wir   nid   oes   un   ym-hlith   y   rhai   a   aned,   heb   wneuthur drygioni;   ac   nid   oes   un   ymhlith   y rhai cyfiawn, heb wneuthur ar fai.

º36  Canys   yn   hyn,   O   Arglwydd,   y dangosir dy gyfiawnder a'th ddaioni di, os byddi drugarog wrth y rhai nid oes ganddynt olud o weithredoedd da.

º37  Yna    y'm    hatebodd,    gan    ddywedyd,  Peth  a  ddywedaist yn  dda,  a hynny a gyflawnir yn 61 dy eiriau.

º38  Canys  yn wir nid ystyriaf weithredoedd y rhai a bechasant cyn marwolaeth, cyn barn, cyn distryw:

º39  Ond mi a lawenychaf am weithredoedd  a  meddyliau'r  cyfiawn,  ac  a gofiaf eu pererindod hwy, a'r iachawdwriaeth a'r gwobr a gant.

º40  Fel  y   dywedais   yn   awr,   felly   y digwydd.

º41  Canys fel y mae'r llafurwr yn hau llawer o had ar y ddaear, ac yn plannu llawer o brennau, ac eto nid yw y peth

 

a heuwyd yn dda yn ei amser yn dyfod i fyny, na'r cwbl a'r a blannwyd yn gwreiddio; felly y mae am y rhai a heuwyd yn y byd, ni byddant oil gad-wedig.

º42  Yna yr atebais, ac y dywedais, Os cefais ras, gad i mi lefaru.

º43  Pel y mae had y llafurwr yn colli, oni ddaw efe i fyny, ac oni dderbyn y glaw   mewn   amser   cyfaddas;   neu   os daw gormod glaw arno, a'i lygru ef:

º44  Felly  hefyd  y  derfydd  am  ddyn, yr hwn a wnaeth dy ddwylo di, ac a elwir dy ddelw di, am dy fod yn debyg iddo,  er mwyn  yr hwn  y  gwnaethost bob  peth;  a  chyffelybaist  ef i  had  y llafurwr.

º45  Na   fydd   ddicllon   wrthym,   ond arbed   dy   bobl,   a   chymer   drugaredd ar dy etifeddiaeth dy hun:  canys tru-garog ydwyt wrth dy greadur.

º46  Yna  efe  a'm  hatebodd,  gan  ddy-wedyd, Y pethau presennol sy i'r rhai presennol, a phethau i ddyfod i'r rhai a  ddaw.

º47  Canys y mae llawer i ti yn 61 eto, fel y gallech garu fy nghreadur yn fwy nag yr wyf fir ond mi a neseais lawer gwaith  atat  ti,   ac  ato  yntau,   ond  ni neseais erioed at yr anghyfiawn.

º48  Ac   yn   hyn   hefyd   yr   ydwyt   yn rhyfedd gerbron y Goruchaf,

º49  Am i  ti  dy  ddarostwng  dy  hun, fel yr oedd weddus i ti, ac ni'th dybiaist dy  hun  yn   deilwng  i  gael  gogoniant mawr ymhlith y rhai cyfiawn.

º50  Canys llawer o drueni mawr sydd i'r rhai a erys yn y byd yn yr amser diwethaf, am iddynt rodio mewn balch-der mawr.

º51  Ond   dysg   di   drosot   dy   hun,   a chwilia am y gogoniant i'r rhai sy debyg i ti.

º52  Canys i chwi yr agorwyd Paradwys, y plannwyd pren y bywyd, y darparwyd yr amser a ddaw, y paratowyd helaeth-rwydd, yr adeiladwyd dinas, ac y caniat-awyd  gorffwystra, ie,  daioni   a  doeth-ineb perffaith.

º53  Gwreiddyn   drygioni   a   seliwyd   i

fyny rhagoch chwi, gwendid a gwyfyn a guddiwyd rhagoch, a llygredigaeth a fFodd i uffern i'w hanghofio.

º54  Galar   a   aeth   ymaith,   a   thrysor tragwyddoldeb   a   ddangosir   yn   y   di-wedd.

º55  Ac am hynny nac ymofyn mwy am rifedi y rhai colledig.

º56  Canys pan gawsant ryddid, hwy a ddibrisiasant   y   Goruchaf,   diystyrasant ei   gyfraith,   a  gwrthodasant  ei   ffyrdd ef.

º57  Heblaw  hynny,   hwy  a   fathrasant ei rai cyfiawn ef,

º58  Ac a ddywedasant yn eu calonnau, Nid oes un Duw; a hynny er eu bod yn gwybod y bydd rhaid iddynt farw.

º59  Canys  fel y  darparwyd  i  chwi  y pethau a ddywedais, felly y darparwyd iddynt hwythau syched a llafur: canys nid   oedd   ei   ewyllys   ef   ddarfod   am ddynion.

º60  Onid y rhai a wnaethpwyd a halog-asant   enw  y  neb   a'u  gwnaeth,   ac   a fuant anniolchgar i'r hwn a ddarparodd iddynt   fywyd?

º61  Ac am hynny y mae fy marn i ger-llaw.

º62  Ni   ddangosais  i  y  pethau  hyn  i bawb, ond i ti, ac i ychydig cyffelyb i ti. Yna yr atebais, gan ddywedyd,

º63  Wele,  Arglwydd,   yn  awr  y  dan-gosaist liaws  y rhyfeddodau, y rhai  a ddechreui eu gwneuthur yn yr amserau diwethaf: ond pa bryd, ni ddangosaist i mi.

 

PENNOD 9

 

º1 YNA   efe   a'm   hatebodd,  gan   ddywedyd, Mesura'r amser yn ddyfal ynddo ei hun: a phan welech y naill ran i'r arwyddion a ddangosais i ti o'r blaen, wedi dyfod,

º2  Yna y cei ddeall mai'r gwir amser yw, yn  yr hwn y dechrau'r  Goruchaf ymweled a'r byd, yr hwn a wnaeth efe.

º3  A   phan   weler   daeargrynfeydd,   a chynnwrf pobl yn y byd,

º4  Yna y cei yn ddiau ddeall ddarfod i'r  Goruchaf ddywedyd  am  y  pethau

II ESDRAS 9

hynny, ar yr amser a fu o'th flaen di, sef o'r dechreuad:

º5  Canys fel y mae i bob peth a'r y sydd yn y byd, ddechrau a diwedd, a'r diwedd sydd eglur;

º6  Felly y mae  hefyd i  amseroedd y Goruchaf eglur ddechreuad mewn rhyfeddodau a nerth,  a  diweddiad mewn gweithredoedd ac arwyddion.

º7  A phob un a'r a  gadwer, ac a allo ddianc wrth ei weithredoedd, a'r ffydd, trwy'r hon y credasoch,

º8  A   achubir   oddi   wrth   y   peryglon hynny, ac a gaiff weled fy iachawdwr-iaeth yn fy nhir ac yn fy nherfynau: canys   sancteiddiais   hwynt   i   mi   o'r dechreuad.

º9  Yna y bydd y rhai a gamarferasant fy ffyrdd i mewn cyflwr gresynol; a'r sawl   a'u   taflodd   hwynt   ymaith   yn ddiystyr, a gant drigo mewn poenau.

º10  Canys    y    rhai    a    dderbyniasant dyrnau da yn eu bywyd, ac ni adna-buant   fi,

 

º11 A'r sawl a alarodd ar fy nghyfraith, tra ydoedd iddynt ryddid, a phan oedd iddynt eto le agored i edifarhau, nis deallasant, ond a'i diystyrasant;

º12  Rhaid i'r rhai hynny gael ei wy-bod yn 61 marwolaeth trwy boen.

º13  Am hvnny na ofala di pa fodd y cosbir  yr  annuwiol,  a  pha  bryd:  ond ymofyn pa fodd y cedwir y cyfiawn, y rhai biau'r byd, ac er mwyn y rhai y crewyd y byd.

º14  Yna yr atebais, gan ddywedyd,

º15  Dywedais o'r blaen, ac yr wyf yn dywedyd,   ac   a'i   dywedaf  hefyd   rhag llaw, fod mwy o'r rhai colledig nag o'r rhai cadwedig,

º16  Fel y mae ton yn fwy na defnyn.

º17  Ac   efe   a'm   hatebodd,   gan   ddywedyd, Fel y mae'r maes, felly y mae'r had; fel y mae'r llysiau, felly y mae eu lliwiau  hefyd;   fel  y  mae'r  gweithiwr, felly  y  mae'r  gwaith;  ac  fel  y  mae'r llafurwr,   felly   y mae   ei lafur   hefyd: canys amser byd ydoedd.

º18  Ac yr awr hon, pan ddarperais i y  byd,  yr  hwn  ni  wnaethid  eto,  sef

iddynt hwy i drigo ynddo, y rhai sy yr awr hon yn fyw, ni ddywedodd neb yn fy erbyn.

º19  Canys   y   pryd   hynny   pob   un   a ufuddhai: ond yn awr y mae moddau y rhai a grewyd yn y byd hwn a wnaethpwyd, wedi eu llygru trwy had diball, a thrwy gyfraith anchwiliadwy, yn  eu rhyddhau  eu hunain.

º20  Felly mi a ystyriais y byd, ac wele, yr  ydoedd  perygl,  oherwydd  y  dych-mygion a ddaethent iddo ef.

º21  A gwelais, ac a'i  harbedais  ef yn ddirfawr; a chedwais i mi un gronyn o'r swp, a phlanhigyn o genedl fawr.

º22  Darfydded gan hynny am y lliaws a anwyd yn ofer, a bydded fy ngronyn a'm    planhigyn   yn    gadwedig:    canys trwy  boen  fawr  y  gwneuthum  ef yn berffaith.

º23  Er hynny os gorffwysi saith niwrnod eto    ychwaneg;    (ond    nac    ymprydia ynddynt;

º24  Eithr dos i faes o lysiau, heb dy arno, a bwyta yn unig o lysiau'r maes; na phrawf gig, nac yf win, ond bwyta lysiau yn unig;

º25  A gwedd'ia ar y Goruchaf yn was-tadol;) yna mi a ddeuaf i ymddiddan athi.

º26  Felly mi a euthum ymaith i'r maes a elwir Ardath, fel y gorchmynnodd efe i mi, ac yno yr eisteddais ymysg y llysiau, ac y bwyteais  lysiau'r maes;  a'r bwyd hwnnw a'm digonodd.

º27  Ymhen   y   saith   niwrnod   mi   a eisteddais ar y glaswellt, a'm calon oedd yn flin o'm mewn, fel o'r blaen:

º28  Ac  mi a agorais  fy  ngenau, ac a ddechreuais   ymddiddan   a'r   Goruchaf, gan ddywedyd,

º29  O Arglwydd, ti yr hwn wyt yn dy ddangos dy hun i ni, tydi a ddangos-wyd  i'n tadau  yn yr  anialwch, mewn lie nid oes neb yn sengi arno, mewn lie llwm, pan ddaethant allan o'r Aifft;

º30  Ac a leferaist, gan ddywedyd, Clyw fi, O Israel; ac ystyria fy ngeiriau, tydi had Jacob.

º31  Canys wele fi yn hau fy nghyfraith

º39

 

 

ynoch, a hi a ddwg ffrwyth ynoch, a chwi a anrhydeddir ynddi yn drag-wyddol.

º32  Ond ein tadau y rhai a dderbyn-iasant y gyfraith, nis  cadwasant hi, ac ni chanlynasant dy ordeiniadau: ac er na   ddiflannai   ffrwyth   dy  gyfraith,   ac nis gallai, canys eiddot ti oedd;

º33  Eto y neb  a'i derbyniodd a goll-wyd, am na chadwent y pethau a heuesid ynddynt.

º34  Ac wele, y mae arfer pan dderbyn-io'r ddaear had,  neu'r mor long,  neu ryw  lestr  fwyd   neu   ddiod,   fod,   pan ddarffo am y peth yr heuwyd ef ynddo, neu y bwriwyd ef iddo,

º35  I'r peth hwnnw hefyd a heuwyd, neu a fwriwyd ynddo, neu a dderbyn-iwyd, ddarfod amdano, a bod heb aros gyda ni: ond gyda ni nid felly y di-gwyddodd.

º36  Canys nyni, y rhai a dderbyniasom y gyfraith,  a gollir trwy bechod, a'n calon hefyd yr hon a'i derbyniodd hi.

º37  Er hynny ni dderfydd am y gyfraith, ond aros y mae hi yn ei grym.

º38  A phan  ddywedais  y pethau  hyn yn fy nghalon, mi a edrychais o'm hoi, ac  ar  fy llaw  ddeau  y gwelwn wraig yn galaru, yn gweiddi yn uchel, ac yn drom ei chalon, a'i dillad wedi rhwygo, a lludw oedd ganddi ar ei phen.

º39  Yna  y  bwriais  y meddyliau  oedd gennyf o'r   blaen  heibio,   ac   a   droais ati hi,

º40  Ac a ddywedais  wrthi,  Paham yr wyt ti  yn wylo? a  phaham yr ydwyt mor drist dy galon?

º41  A hi a ddywedodd wrthyf, Arglwydd, gad fi yn llonydd, fel y gallwyf alaru drosof fy hun, a chwanegu  fy ngalar; canys  wyf yn   drist  iawn  fy  nghalon, ac wedi fy nwyn yn isel iawn.

º42  A mi a  ddywedais  wrthi,  Beth a ddarfu i ti? dywed i mi.

º43  Hithau a ddywedodd wrthyf, Myfi dy wasanaethwraig a fum hesb, ac heb blanta, er bod i mi wr ddeng mlynedd ar hugain.

º44  A'r deng mlynedd ar hugain hyn

 

yr ydwyf yn gweddi'o nos a dydd, a phob awr, ar y Goruchaf.

º45  Ar ben y deng mlynedd ar hugain, Duw  a'm   gwrandawodd  i   dy  wasanaethwraig, efe a edrychodd ar fy nghys-tudd, efe a ystyriodd fy mlinder, ac a roddes i mi fab: a mi a fum lawen amdano ef, ac felly yr oedd fy ngwr hefyd, a'm  holl  gymdogion;  ac  ni  a  roesom anrhydedd mawr i'r Goruchaf.

º46  A mi a'i megais ef trwy boen fawr.

º47  Felly  pan  dyfodd   efe,   a   dyfod  i oedran gwreica, mi a wneuthum wledd.

 

 

PENNOD 10

º1 A; felly y digwyddodd i'm mab,  pan aeth efe i'w ystafell briodas, efe a syrthiodd i lawr, ac a fu farw.

º2  Yna  ni  oil a  ddiffoddasom y  can-hwyllau,   a'm  holl   gymdogion   a   god-asant i fyny i'm cysuro i; yna y gor-ffwysais hyd y nos yr ail dydd.

º3  A phan ddarfu iddynt hwy oil beidio a'm   cysuro,  fel   y cawn   lonydd;   yna y cyfodais o hyd nos, ac y ffoais, ac a ddeuthum i'r maes hwn,  fel y gweli di.

º4  Ac y mae yn fy mryd nad elwyf yn fy 61 i'r ddinas, ond aros yma, heb na bwyta  nac  yfed,   ond  galaru  yn  was-tadol,  ac ymprydio,  hyd  oni  byddwyf farw.

º5  Yna y gollyngais  ymaith y myfyr-dod oedd ynof, ac a leferais wrthi hi yn ddicllon, gan ddywedyd,

º6  Tydi   ffolog   uwchlaw   pawb   arall, oni weli di ein galar ni, a pha beth a ddigwydd i  ni?

º7  Fel  y mae  Seion  ein  mam  ni  yn llawn tristwch, ac fel y dygwyd hi hyd lawr, ac y mae hi yn galaru yn anianol?

º8  Gan ein bod ni oil yn awr mewn trymder, ac yn cwyno, canys trist ydym oil; wyt ti cyn drymed ar 61 un mab?

º9  Gofyn i'r ddaear, a hi a ddywed i ti, mai hi a ddylai alaru am gwymp cymaint ag y sydd yn tyfu arni.

º10  Canys  o'r  dechreuad,  pob  dyn  a ddaeth  ohoni  hi,  ac  ohoni  y  daw  yr holl rai eraill: ac wele, y maent oil agos

yn rhodio i ddistryw, a'r lliaws ohon-ynt a ddadwreiddir.

º11  Pwy  wrth   hynny   a   ddylai   alaru mwy  na  hi,  yr  hon  a  gollodd  gym-aint o rifedi? ac nid tydi, yr hon nid wyt yn drist ond am un.

º12  Ond  pe  dywedit wrthyf,  Nid yw fy ngalar debyg i alar y ddaear: canys mi a gollais ffrwyth fy nghroth, yr hwn a ddygais i'r byd trwy boen, ac a ym-ddugum trwy dristwch;

º13  Ond y ddaear yn 61 arfer y ddaear; oblegid   y   gynulleidfa   bresennol   sydd yn myned iddi drachefn, fel y daeth o-

honi.

º14  Am    hynny    y    dywedaf   wrthyt, Fel   y   dygaist   i'r   byd   trwy   drafael; felly  y  ddaear hefyd o'r  dechreuad  a roddes ei ffrwyth, sef dyn, i'r hwn a'i gwnaeth hi.

º15  Ac am hynny, cadw dy drymder i ti dy hun,  a'r peth a ddigwyddodd i ti, a dioddef yn wrol.

º16  Canys os berni di arfaeth Duw yn gyfiawn, ac os derbynni di gyngor, dy fab mewn amser a gei, a chlod ymysg gwragedd.

º17  Dos  gan hynny ymaith i'r ddinas at dy wr.

º18  A hithau a ddywedodd wrthyf, Ni wnaf fi mo hynny: nid af fi i'r ddinas, ond yma y byddaf farw.

º19  Felly mi a chwedleuais fwy a hi, ac a ddywedais,

º20  Paid S hynny, cymer gyngor gennyf fi:   pa   sawl   cwymp   a   gafodd   Seion? bydd gysurus oherwydd tristwch Jerwsa-lem;

º21  Canys ti a weli fod ein cysegr ni yn anialwch, ein bailor wedi ei thorri, a'n teml wedi ei hanrheithio,

º22  Ein  saltringau  a  fwriwyd  i  lawr, ein can a  ddistawyd, ein llawenydd a aeth ymaith, ein canhwyllau a ddiffodd-wyd,   arch   ein   cyfamod   a   ddygwyd oddi   arnom,   ein   sanctaidd   bethau   a halogwyd,   a'r  enw  a   enwir  arnom  a halogwyd agos, ein plant a waradwydd-wyd, ein hoffeiriaid a losgwyd, ein Lef-iaid  a  gaethgludwyd,  ein morynion  a

 

anrheithiwyd, ein gwragedd a dreisiwyd, ein gwyr cyfiawn a dducpwyd ymaith, ein rhai bychain a ddifethwyd, ein gwyr ieuainc a gaethiwyd, a'n gwyr cryfion a wanrawyd;

º23  A sel  Seion,  yr hyn sydd fwyaf dim, a gollodd ei pharch: canys rhodd-wyd hi yn nwylo y rhai a'n casant.

º24  Ac   am   hynny,   bwrw   heibio   dy drymder mawr, a'th fynych  alar, fel y byddo'r   Galluog  yn  drugarog  wrthyt, ac y rhoddo'r Goruchaf i ti esmwyth-dra,   a  gorffwystra  oddi  wrth  dy  laf-ur.

º25  Ac fel yr oeddwn yn ymddiddan a hi, wele, ei hwyneb hi a ddisgleiriodd yn   ddisymwth,   a'i   phryd   a   dywyn-nodd: a mi a ofnais, ac a fyfyriais beth a allai hynny fod.

º26  Ac yn y man hi a lefarodd yn gryf ac  yn  ofnadwy,  hyd  oni  chrynodd  y ddaear gan nad y wraig.

º27  A  mi   a   edrychais,   ac  wele,   nid ymddangosodd y wraig i mi mwy : ond yr oedd dinas wedi ei hadeiladu, a lie eang    a    ymddangosodd    o'r    sylfeini: yna  yr  ofnais,  ac  y  gwaeddais  a  lief uchel, gan ddywedyd,

º28  Pa   le  y mae   Uriel  yr   angel,  yr hwn a ddaeth ataf yn y dechrau? canys gwnaeth   i   mi   syrthio   mewn   llawer llewyg,  a'm  diwedd  a  ddychwelwyd  i lygredigaeth, a'm gweddi i gerydd.

º29  A  minnau  yn  dywedyd  y  geiriau hyn, efe a ddaeth ataf, ac a edrychodd arnaf.

º30  Ac wele, yr oeddwn i yn gorwedd fel un marw, a'm deall wedi ei ddwyn oddi arnaf: ac efe a'm cymerth i erbyn fy llaw ddeau, ac a'm cysurodd, ac a'm gosododd ar fy nhraed, ac a ddywedodd wrthyf,

º31  Beth a ddarfu i ti? paham y mae dy feddwl a deall dy galon mor dra-llodus? a phaham yr wyt yn drist?

32     

33     

34    º32 A minnau a ddywedais, Am i ti fy ngwrthod i: a mi a wneuthum yn 61 dy eiriau di, euthum i'r maes, ac wylais; ac wele, mi a welais, ac eto y gwelaf, bethau ni fedraf eu hadrodd.

 

º33  Ac efe  a  ddywedodd wrthyf,  Saf ar dy draed fel gwr, a mi a roddaf i ti gyngor.

º34  Yna y dywedais, Llefara di wrthyf fi, fy Arglwydd: yn unig na wrthod fi, rhag i mi farw yn ofer fy ngobaith:

º35  Canys   mi   a   welais   bethau   nis adwaenwn, a chlywais bethau nis gwydd-wn.

º36  Neu    ydyw    fy    synnwyr    yn    fy nhwyllo? neu fy enaid yn breuddwyd-io?

º37  Yn  awr  atolwg  i  ti,   dangos   i'th was am y weledigaeth hon.

º38  Yna efe  a'm  hatebodd, gan  ddy-wedyd, Gwrando arnaf, a mi a'th ddysg-af, ac a ddangosaf i ti paham yr wyt yn ofni:  canys y Goruchaf a ddangosodd i ti lawer o ddirgelwch.

º39  Y    Goruchaf   a   welodd   fod    dy ffordd di yn uniawn:  canys  yr ydwyt yn  cymryd  trymder  yn  wastadol  dros dy bobl, ac yn gwneuthur galar mawr am Seion.

º40  Ac am hynny, deall y weledigaeth a welaist ychydig o'r blaen sydd fel hyn:

º41  Ti a welaist wraig yn galaru, ac a ddechreuaist ei chysuro hi:

º42  Eithr  yn   awr,   ni  weli  mwy  lun y wraig, ond ymddangosodd i ti ddinas wedi ei hadeiladu.

º43  A lie y dywedodd i ti am farwol-aeth ei mab, hyn yw'r peth , sydd i'w ddeall:

º44  Y wraig hon a welaist ti yw Seion: a lie y dywedodd i ti, (yr hon a weli yn awr fel dinas wedi ei hadeiladu,)

º45  Lie   y   dywedodd   wrthyt   ei   bod ddeng  mlynedd   ar   hugain   yn   hesb: dyna'r deng mlynedd ar hugain, yn y rhai ni offrymid offrwm ynddi.

º46  Ond yn 61 deng mlynedd ar hugain,   Salomon  a  adeiladodd   y  ddinas, ac   a   offrymodd   offrymau:   ac   yna'r hesb a ddug fab.

º47  A lie y dywedodd hi i ti, Mi a'i megais    ef   trwy   boen:   hynny   oedd preswylio yn Jerwsalem.

º48  Ond lie y dywedodd hi i ti, Syrth-iodd a bu farw fy mab, with ddyfod

i'w  ystafell  briodas:   dyna'r  cwymp  a ddaeth i Jerwsalem.

º49  Ac wele, ti a welaist ei llun hi; ac am ei bod yn galaru am ei mab, ti a ddechreuaist  roddi  cysur iddi  hi.    Ac o'r pethau hyn a ddigwyddodd, hyn sy raid ei ddangos i ti:

º50  Canys yn awr y Goruchaf sydd yn gweled dy fod yn drist dy enaid, a'th fod yn dioddef tristwch drosti hi o'th galon;  ac felly efe a  ddangosodd i ti ddisgleirdeb ei gogoniant hi, a thegwch ei phryd hi.

º51  Ac am hynny y perais i ti aros yn y  maes,  lie  nid  oedd  un  ty  wedi  ei adeiladu;

º52  Canys mi a wyddwn y dangosai'r Goruchaf hyn i ti.

º53  Am   hynny   y   gorchmynnais   i   ti fyned i'r maes, lie nid oes sail adeilad yn y byd.

º54  Canys yn y man lie y dechreuo'r Goruchaf ddangos ei ddinas, ni ddichon adeiladaeth dyn sefyll yno.

º55  Ac am hynny nac ofna, ac na ad i'th galon arswydo,  ond  dos  i mewn, ac edrych ar degwch a maint yr adeiladaeth; cymaint ag a ellych a'th lygaid ei weled.

º56  Ac  wedi  hynny  y  cei  di  glywed cymaint ag a allo dy glustiau ei glywed.

º57  Canys   bendigedig   wyt   ti   uwch-law  llaweroedd,  ac fe  a'th alwyd gan y Goruchaf: ac ychydig sydd felly.

º58  Ond yfory y nos y cei di aros yma.

º59  Ac felly y Goruchaf a ddengys i ti   weledigaethau   o'r   pethau   uchel   a wna'r    Goruchaf   i'r   rhai   a    fyddo'n trigo  ar  y  ddaear,  yn  y  dyddiau  di-wethaf.   Felly y cysgais y noson honno, a'r ail nos, fel y gorchmynnodd efe i mi.

 

 

º1 PENNOD II

YNA   y breuddwydiais,   ac  wele,   fe ddaeth i fyny eryr o'r mor, i'r hwn yr ydoedd deuddeng asgell adeiniog, a thri phen. 2 Ac mi a  edrychais, ac  wele, efe  a

 

ledodd ei esgyll dros yr holl ddaear; a holl wyntoedd yr awyr a chwythodd arno ef, a hwy a ymgasglasant ynghyd.

º3  A mi a edrychais, ac allan o'i adenydd ef y tyfodd adenydd  eraill yn y gwrthwyneb, a'r rhai hynny oedd adenydd bychain a man.

º4  Ond  ei bennau oedd yn  gorffwys; a'r pen oedd yn y  canol ydoedd fwy na'r lleill,  er hynny efe  a orffwysodd gyda hwynt.

º5  Heblaw hynny, mi a edrychais, ac wele yr eryr yn ehedeg a'i adenydd, ac yn teyrnasu ar y ddaear, ac ar y rhai oedd yn trigo ynddi.

º6  A gwelais bob peth dan y nef yn ddarostyngedig iddo ef, ac nid oedd neb yn dywedyd yn ei erbyn ef, nac oedd un creadur ar y ddaear.

º7  A gwelais, ac wele yr eryr yn sefyll ar  ei  ewinedd,  ac yn  llefaru wrth  ei adenydd, gan ddywedyd,

º8  Na    wyliwch    bawb    ar    unwaith; cysged pob un yn ei le ei hun, a gwyl-iwch wrth gylch:

º9  A chadwer y pennau hyd yn ddi-wethaf.

º10  A  mi   a   edrychais,   ac   wele,   nid aethai'r  lleferydd  allan  o'i  bennau  ef, ond o ganol ei gorff ef.

º11  A rhifais  ei  adenydd  gwrthwyneb ef, ac wele, yr oedd wyth ohonynt.

º12  Ac edrychais, ac wele, o'r tu de-au y cododd un adain, a honno a deyrn-asodd dros yr holl ddaear.

º13  Ac felly y digwyddodd, pan deyrn-asodd, y daeth diwedd iddi, a'i lie nis gwelwyd mwy: felly'r ail a safodd, ac a deyrnasodd, ac a gafodd amser hir.

º14  A digwyddodd, pan deyrnasodd, y daeth  diwedd  iddi,  fel  i'r  gyntaf,  fel nas gwelwyd mwy.

º15  Yna   y   daeth   lleferydd   ati,   gan

ddywedyd)

º16  Gwrando, tydi yr hon a reolaist ar y ddaear cyhyd o amser; hyn a ddy-wedaf wrthyt  ti,  cyn  dechrau  ohonot fod heb ymddangos mwy;

 

º17 Ni chaiff neb yn dy 61 di ddyfod i th amser di, nac i'w banner.

 

º18  Yna  y   cododd   y   drydedd,   ac   a deyrnasodd fel y lleill o'r blaen, ac nid ymddangosodd hithau mwy.

º19  Ac felly y gwnaeth y lleill, y naill yn 61 ei gilydd, fel y teyrnasodd pob un, ac nid ymddangosasant mwy.

º20  Yna'r   edrychais,   ac   wele,   mewn ennyd  o  amser,  yr  adenydd  oedd  yn canlyn  a  safasant  o'r  tu  deau,   fel  y gallent hwy reoli hefyd: a rhai ohonynt   a   lywodraethasant;   ond   o   fewn ychydig   o   amser   nid   ymddangosasant

mwy:

º21  Canys  rhai  ohonynt  a  osodwyd  i fyny, ond ni reolasant.

º22  Ac wedi hynny mi a edrychais, ac wele,  y  deuddeng  adain nid ymddangosasant mwy, na'r ddwy adain fechan.

º23  Ac nid oedd mwy ar gorff yr eryr ond  tri  phen  a  oedd  yn  gorffwys,   a chwech o esgyll bychain.

º24  A gwelais hefyd ddwy adain wedi ymddidoli oddi wrth y chwech, ac yn aros dan y pen oedd o'r tu deau; canys pedair a arosasent yn eu lie.

º25  A mi a edrychais, ac wele, yr adenydd y rhai oeddynt dan yr asgell a am-canasant  eu  gosod  eu  hun  i  fyny,  a

rheoli.

º26  A mi a edrychais, ac wele, gosod-wyd un i fyny, ond ar fyrder nid ymddangosodd mwy.

º27  A'r   ail   a   aeth   ymaith   yn   gynt na'r gyntaf.

º28  A mi a. edrychais, ac wele, y ddwy oedd yn aros a amcanasant reoli hefyd.

º29  A thra'r oeddynt yn meddwl hynny, wele, deffrodd un o'r pennau oedd yn cysgu,  sef yr hwn  oedd  yn  y  canol; canys mwy oedd hwnnw nag yr un o'r ddau eraill.

º30  Ac yna y gwelais fod y ddau ben wedi myned yn un ag ef.

º31  Ac wele, y pen hwnnw a drodd at y pennau oedd gydag ef, ac a fwytaodd y ddwy adain dan yr asgell oedd ar fedr

teyrnasu.

º32  Ond  y  pen hwn  a  ddychrynodd yr holl ddaear,  ac a lywodraethodd  ar bawb  a'r oedd yn trigo  ar y  ddaear

 

 

trwy orthrymder mawr: ac efe oedd yn rheoli'r byd yn fwy na'r holl esgyll a fuasai.

º33  Ac wedi hynny mi a edrychais, ac wele, y pen oedd yn y canol, yn ddi-symwth   nid   ymddangosodd   mwy,   yr un ffunud a'r esgyll.

º34  Ond yr oedd  eto y ddau  ben, y rhai oedd yr un ffunud yn rheoli ar y ddaear ac ar y rhai oedd yn trigo arni.

º35  Edrychais   hefyd,   ac  wele,  y  pen oedd o'r tu deau a lyncodd y pen oedd o'r tu aswy.

º36  Yna   y   clywais   lef   yn   dywedyd wrthyf, Edrych  o'th flaen, a  dal  sylw ar y peth yr wyt yn ei weled.

º37  Yna mi a edrychais, ac wele megis llew rhuadwy wedi ei ymlid allan o'r coed;  a gwelais  ef yn anfon lleferydd dyn allan at yr eryr, gan ddywedyd,

º38  Gwrando, mi a ymddiddanaf a thi; a'r Goruchaf a ddywed wrthyt;

º39  Onid tydi yw'r hwn sydd yn aros o'r pedwar anifail, y rhai a wneuthum i deyrnasu ar fy myd, fel y delai diwedd eu hamseroedd trwyddynt hwy?

º40  A'r   pedwerydd   a   ddaeth,   ac   a orchfygodd yr holl anifeiliaid a aethai o'r blaen, ac a gafodd allu ar y byd gyd-ag ofn mawr, dros holl amgylchoedd y ddaear    gyda    gorthrymder    annuwiol lawer;   a chyhyd  a hynny o amser y preswyliodd efe ar y ddaear yn dwyll-odrus.

º41  Canys ni fernaist ti y ddaear mewn gwirionedd:

º42  Canys blinaist y gostyngedig, briw-aist yr heddychol, ceraist gelwyddwyr, difethaist drigfaon y rhai oedd yn dwyn ffrwyth, bwriaist i lawr fagwyr y rhai ni wnaethant niwed i ti.

º43  Am hynny y daeth dy drawsineb i fyny at y Goruchaf, a'th falchder at y Galluog.

º44  Y Goruchaf hefyd a edrychodd ar yr amseroedd beilchion, ac wele, hwy a ddarfuant, a'i ffieidd-dra ef a gyflawn-wyd.

º45  Ac   am   hynny,   nac   ymddangos mwy, tydi eryr, na'th esgyll ofnadwy,

º44

 

na'th adenydd annuwiol, na'th bennau maleisus, na'th ewinedd ysgeler, na'th holl gorff ofer:

º46 Fel y gallo'r holl ddaear ddadflino a dychwelyd, wedi dianc oddi wrth dy drawster di, ac fel y gallo obeithio barn a thrugaredd gan yr hwn a'i gwnaeth hi.

 

PENNOD 12

º1 A PHAN ddywedodd y llew y geiriau hyn wrth yr eryr, y gwelais,

º2  Ac wele, y pen yr hwn oedd yn aros, a'r  pedair  asgell,  nid  ymddangosasant mwyach: a'r ddwy a aethant ato ef, ac a  ymosodasant i fyny i deyrnasu;  a'u teyrnas oedd fechan, a llawn cythrwfl.

º3  A mi  a  welais,  ac  wele,  nid ymddangosasant   mwy;   a   holl   gorff   yr eryr a losgwyd, fel yr ofnodd y ddaear yn fawr.   Yna y deffroais allan o Binder a llewyg fy meddwl, ac o ofn mawr; a dywedais wrth fy ysbryd,

º4  Wele, hyn a roddaist i mi, am i ti chwilio am ffyrdd y Goruchaf.

º5  Wele, y mae eto yn flin fy nghalon, ; a gwan iawn yw fy ysbryd; ac ychydig nerth   sydd   ynof,   oherwydd   yr   ofn mawr a fu arnaf heno.

º6  Am   hynny   yr   atolygaf   i'r   Goruchaf fy nghysuro hyd y diwedd.

º7  A  dywedais,  Arglwydd lywydd,  os cefais ffafr yn dy olwg di, ac os cyf-iawnheir fi ger dy fron di o flaen llawer eraill, ac os daeth fy ngweddi yn sicr o'th flaen di,

º8  Dyro gysur ynof, a dangos i'th was ddehongliad eglur y weledigaeth ofnadwy hon, fel y gallech gysuro fy enaid yn berffaith:

º9  Canys    bernaist   fi   yn   deilwng   i ddangos i mi'r amseroedd diwethaf.

º10  Ac efe a ddywedodd wrthyf, Hyn yw dehongliad y weledigaeth:

n Yr eryr a welaist yn dyfod i fyny o'r mor, yw y deyrnas a welodd dy frawd Daniel yn ei weledigaeth:

º12  Ond nis dehonglwyd iddo ef; am   , hynny y dehonglaf hi i ti.

º13  Wele fe a ddaw y dyddiau y cyfyd

 

teyrnas ar y ddaear, ac ofnir y deyrnas honno yn fwy na'r holl deyrnasoedd a fu o'i blaen.

º14  Ac yn y deyrnas  honno y llyw-odraetha deuddeng mrenin olynol;

º15  O ba rai yr ail a ddechrau deyrnasu, ac a gaiff amser hwy nag yr un o'r deuddeg.

º16  A   hyn   y   mae'r   deuddeng   asgell a welaist ti yn ei arwyddocau.

º17  Ac  am  y  lief a  glywaist  yn  dywedyd, yr hon nid aeth o'r pennau, ond o ganol y corff, hyn yw y dehongliad:

º18  Yn  61 amser  y  deyinas  honno  y cyfyd ymrysonion mawr,  a hi a fydd debyg i syrthio:  er hynny ni syrth y pryd hynny, ond hi a adferir drachefn i'w dechreuad.

º19  A lie y gwelaist wyth o adenydd bychain yn glynu wrth ei esgyll ef, hyn yw'r  dehongliad;

º20  Y  cyfyd  ynddo   ef wyth  o  fren-hinoedd, y rhai ni bydd eu hamser ond byr, a'u blynyddoedd yn fuan.

º21  A   dau   ohonynt   y   derfydd   am-danynt: pan nesao canol yr amser, pedwar a gedwir nes i'w diwedd ddechrau nesau: ond dau a gedwir hyd y diwethaf.

º22  A lie y gwelaist dri phen yn gorffwys, hyn yw'r dehongliad:

º23  Yn ei ddyddiau diwethaf y cyfyd y Goruchaf dair teyrnas, ac yr adnew-ydda lawer o bethau ynddynt: a hwy a lywodraethant y ddaear,

º24  A'r rhai a breswyliant ynddi, trwy orthrymder  mawr,  uwchlaw  pawb   a'r a fu o'u blaen hwy: am hynny y gelwir hwynt, pennau'r eryr.

º25  Canys    dyma'r    rhai    a    ddygant allan ei ddrygioni ef, ac a gyflawnant ei ddiwedd.

º26  A lie y gwelaist y pen mawr heb ymddangos  mwy,  hynny  sydd  yn  arwyddocau  y bydd  marw un  ohonynt yn ei wely, ac er hynny mewn llafur:

º27  Canys y ddau sydd yn aros yn 61 a leddir a'r cleddyf;

º28  Canys cleddyf y naill a ddifetha'r Hall: ond o'r diwedd efe a syrth trwy'r cleddyf ei hun.

º29  A lie y gwelaist ddwy adain dan yr esgyll, yn myned dros y pen sydd o'r tu deau,

º30  Mae hynny yn arwyddo mai dyma y rhai a gadwodd y Goruchaf hyd eu diwedd:   hon   yw'r  deyrnas   fechan,   a llawn blinder, fel y gwelaist.

º31  A'r llew a welaist yn  codi  allan o'r coed, ac yn rhuo, ac yn dywedyd wrth yr eryr, ac yn ei geryddu ef am ei   anghyfiawnder,    a'r   holl   eiriau   a glywaist ti,

º32  Yw y gwynt,  yr hwn a  gadwodd y Goruchaf iddynt; ac am eu drygioni hyd y diwedd, efe a'u cerydda hwynt, ac a ddyry ^u creulondeb ger eu bron-nau;

º33  Canys efe a'u gesyd hwynt ger ei fron  mewn  barn  yn  fyw,  ac  a'u  cy-hudda ac a'u cerydda hwynt.

º34  Canys gweddill fy mhobl a weryd efe trwy drugaredd, y rhai a gadwyd ar fy nherfynau; ac efe a'u gwna hwynt yn llawen, hyd ddyfodiad dydd y farn, am yr hwn y dywedais wrthyt ti o'r dechreuad.

º35  Hwn yw'r breuddwyd a welaist, a hyn yw ei ddeongliadau ef.

º36  Tydi   yn   unig   oeddit   gymwys   i wybod y gyfrinach hon eiddo'r Goruchaf.

º37  Am hynny sgrifenna'r pethau  hyn oil  a  welaist,   mewn  llyfr,   a   chuddia hwynt;

º38  A dysg hwynt i'r bobl ddoethion, y rhai a wypech fod  eu calonnau yn gallu deall a chadw y cyfrinachau hyn.

º39  Ond  gwylia  di  yma   dy  hun eto saith niwrnod,  fel y  gallech wybod y peth a fynno'r Goruchaf ei ddangos i ti. A chyda hynny efe a aeth ymaith.

º40  A   phan   ddeallodd   yr   holl   bobl ddarfod y saith niwrnod, a minnau heb ddyfod drachefn i'r ddinas, hwy a ym-gasglasant   ynghyd   o'r   lleiaf   hyd   y mwyaf, ac a ddaethant ataf, gan ddywedyd,

º41  Pa   beth  a  wnaethom  ni  yn   dy erbyn di, a pha ddrwg a wnaethom i ti, pan ydwyt yn ein gwrthod ni,  ac yn eistedd yma?

 

º42  Canys o'r holl bobl, ti yn unig a adawyd i ni, fel grawnswp o'r winllan, ac fel cannwyll mewn tywyllwch, ac fel porthladd, neu long wedi dianc rhag y dymestl.

º43  Onid  digon i  ni yr adfyd a  ddi-gwyddodd?

º44  Os   tydi   a'n   gwrthodi,   pa   faint gwell a fuasai i  ni  ein llosgi oil yng nghanol Seion?

º45  Canys   nid   gwell  ydym  na'r  rhai a fu  feirw yno.   A hwy a  wylasant a lief uchel.   Yna yr atebais hwy,  ac y dywedais,

º46  Cymer   gysur,   O   Israel;   ac   na fydd drist, tydi dy Jacob:

º47  Canys  y mae'r  Goruchaf yn eich cofio, a'r Galluog ni'ch gollyngodd chwi dros gof mewn profedigaeth.

º48  A myfi ni'ch gwrthodais chwi, ac nid  euthum  oddi  wrthych:  ond mi  a ddeuthum  i'r  lie  hwn  i  weddJo  dros anghyfanhedd-dra   Seion,  fel  y  gallwn geisio trugaredd i isel radd eich cysegr chwi.

º49  Ac yn awr, ewch bawb adref; ac yn 61 y dyddiau hyn y deuaf atoch.

º50  Felly y bobl a aethant ymaith i'r ddinas, fel y gorchmynnais iddynt:

º51  Ond mi a arhoais yn y maes saith niwrnod, fel y gorchmynnodd yr angel i  mi;   a   bwyteais  yn  unig o  flodau'r maes, ac o'r llysiau y cefais fy mwyd y dyddiau hynny.

 

PENNOD 13

º1 AC yn 61  y  saith niwrnod, y gwelais **• freuddwyd liw nos;

º2  Ac   wele,   cododd   gwynt   o'r   mor, ac a gynhyrfodd ei holl donnau ef.

º3  Ac edrychais, ac wele, y gwr hwnnw a aeth yn gryf gyda miloedd y nef: a phan drodd efe ei wyneb i edrych, yr holl bethau a'r a welid dano ef a gryn-odd.

º4  A phan aeth y lleferydd o'i enau ef, pawb a'r a'i clywodd a losgasant, fel y palla'r   ddaear   pan  gyffyrddo'r   tan   a hi.

º5  Wedi   hyn   yr   edrychais,   ac   wele,

ymgasglodd ynghyd lu o bobl allan o rifedi, o bedwar ban byd, i orchfygu'r gwr a ddaethai allan o'r mor.

º6  Ac edrychais, ac wele, efe a gerfiodd iddo ei hun fynydd mawr, ac a ehed-odd arno.

º7  Ond  mi  a   geisiais   weled  y  wlad, neu'r lie, o'r hwn y tynasai efe'r mynydd, ac ni allwn.

º8  Ac  yn  61  hynny  yr  edrychais,   ac wele,  yr holl  rai  a ymgynullasant i'w orchfygu ef, oedd yn ofni yn fawr, ac er hynny hwy a lyfasent ymladd.

º9  Ac wele, pan welodd efe greulondeb a nerth y bobl a ddaethai yn ei erbyn ef, ni wnaeth efe na chodi llaw, na dal cleddyf nac arf rhyfel:

º10  Ond yn unig mi a'i gwelwn ef yn chwythu allan  o'i  enau megis  awel o dan, ac o'i wefusau anadl fflamllyd, ac o'i   dafod   efe   a   daflodd   wreichion   a thymhestloedd.

º11  Ac yr oeddynt i gyd ynghymysg, yr   awel   dan,   yr   anadl   fflamllyd,   a'r dymestl fawr,  ac a  ddisgynasant  gyda rhuthr ar y bobl oedd yn barod i ymladd, ac a'u llosgasant hwy i gyd, fel yn ddisymwth   na   welid   o'r   llu   aneirif ddim ond llwch a sawr mwg: pan welais hyn, mi a ofnais.

º12  Yn 61 hynny y gwelais yr un gwr yn  dyfod  i  lawr  o'r  mynydd,   ac  yn galw ato dyrfa lonydd arall.

º13  A llawer o  bobl a  ddaethant ato ef; rhai oedd yn llawen, rhai yn drist, rhai yn rhwym,  ac  eraill a  ddygasant o'r pethau a offrymasid: yna yr oeddwn glaf gan ofn mawr; a deffroais, a dywedais,

º14  Dangosaist i'th was y rhyfeddodau hyn o'r dechreuad,  a chyfrifaist fi yn deilwng fel y derbynnit fy ngweddi:

º15  Dangos   i   mi   eto   ddehongliad   y breuddwyd hwn:

º16  Canys hyn yr ydwyf yn ei ddeall, gwae'r neb a adawer y pryd hynny! a mwy gwae i'r rhai nis gadawer yn 61!

º17  Canys  y rhai  ni  adawyd  oeddynt mewn tristwch.

º18  Yn awr yr ydwyf yn deall y pethau
 

a roddwyd i gadw erbyn y dyddiau diwethaf, y rhai a ddigwydd iddynt, ac i'r sawl a adawer yn 61.

º19  Am   hynny   y   daethant   i   berygl mawr, ac i angen mawr, fel y dengys y breuddwydion hyn.

º20  Eto  haws  i'r  neb  a fyddo mewn perygl   ddyfod   i'r   pethau   hyn   nag iddo fyned allan o'r byd hwn fel cwm-wl, a bod heb weled y pethau a ddi-gwyddant yn y dyddiau diwethaf.   Yna efe a'm hatebodd, gan ddywedyd,

º21  Dehongliad y weledigaeth a ddan-gosaf i ti, ac agoraf i ti y peth a ddy-munaist.

º22  Lie y soniaist am y rhai sy wedi eu gadael yn 61, hyn yw'r dehongliad:

º23  Yr  hwn   a   ddygo  berygl  y  pryd hwnnw, a'i cadwodd ei hun: a'r sawl a syrthiodd mewn perygl, yw y rhai sy a gweithredoedd  a ffydd  ganddynt i'r Hollalluog.

º24  Am  hynny   gwybydd  hyn,   fod   y rhai a adawer yn 61 yn ddedwyddach na'r rhai a fu feirw.

º25  Hyn yw deall y weledigaeth:  Lie y gwelaist wr yn dyfod i fyny o ganol y mor,

º26  Hwnnw  yw'r  hwn  a   gadwodd  y Duw goruchaf yn hir, yr hwn trwyddo ei hun a wareda ei greaduriaid: ac efe a lywodraetha'r rhai a adawer yn 61.

º27  A lie y gwelaist yn dyfod allan o'i safn ef fel chwa o wynt, a than, a thym-estl,

º28  Ac   na   chododd   efe   na   chleddyf nac arf rhyfel,  ond i'w ruthr ef ddi-fetha'r  holl  liaws  a  ddaeth  i'w  orchfygu ef; hyn yw'r dehongliad:

º29  Wele'r   dyddiau   yn    dyfod,    pan ddechreuo'r Goruchaf waredu y rhai sy ar y ddaear.

º30  Ac er syndod meddwl y daw efe ar y rhai a breswyliant y ddaear.

º31  A'r   naill   a   ymladd   a'r   Hall,   a'r naiE ddinas yn erbyn y Hall, y naill le yn erbyn y llall, y naill bobl yn erbyn y llall, a'r naill deyrnas yn erbyn y llall.

º32  A  daw'r  amser  pan  ddelo  hyn  i ben, a dyfod yr arwyddion a ddangos-

ais i ti o'r blaen; yna yr eglurir fy Mab, yr hwn a welaist fel gwr yn dringo i

fyny,

º33  A phan glywo'r holl bobl ei leferydd ef, pawb yn eu gwlad eu hun a beidiant a rhyfela yn erbyn ei gilydd.

º34  A lliaws  aneirif a gesglir ynghyd, fel y gwelaist rai yn ewyllysgar i ddyfod, ac i'w orchfygu ef trwy ymladd.

º35  Ond   efe   a   saif  ar   ben   mynydd

Seion;

º36  A Seion a ddaw, ac a ddangosir i bawb,  wedi  ei  thrwsio,  a'i  hadeiladu, fel y gwelaist y bryn wedi ei gerfio heb

ddwylo.

º37  A hwn fy Mab i a gerydda am-canion drygionus y cenhedloedd hynny, y  rhai   a   syrthiasant  i'r   dymestl,   am eu buchedd  ddrygionus;

º38  Ac   a   esyd   o'u   blaen   hwynt   eu drwg   feddyliau,   a'r   dialeddau   trwy'r rhai y dechreuant gael eu poeni, y rhai ydynt fel fflam: ac heb boen y difetha efe hwynt trwy'r gyfraith a gyffelybir i

dan.

º39  A lie y gwelaist ef yn casglu pobl lonydd eraill ato;

º40  Y rhai hynny yw'r deg llwyth, y rhai a ddygwyd ymaith yn garcharorion allan o'u gwlad eu hun, yn amser Osea y brenin, yr hwn a ddaliodd Salman-asar   brenin   Asyria   yn   garcharor,   ac a'u dug hwynt dros yr afon, ac felly y daethant i wlad arall.

º41  Ond hwy  a  gymerasant y  cyngor hyn  yn   eu   plith   eu  hunain,   i   adael lliaws y cenhedloedd, a myned ymaith i wlad bellach, lie ni thrigasai neb erioed;

º42  Fel  y   gallent  gadw  yno   eu   cyf-raith, yr hon nis  cadwasent erioed yn eu gwlad eu hunain.

º43  Ac felly yr aethant trwy Iwybrau cyfyng afon Ewffrates.

º44  Canys  y   Goruchaf a   ddangosodd yna   iddynt   arwyddion,   ac   a   ataliodd yr afon, nes iddynt fyned trwodd.

º45  Canys yr ydoedd ffordd fawr trwy'r wlad, o daith blwyddyn a banner: a'r wlad honno a elwir Arsareth.

º46  Yna yr arosasant yno hyd yr amser

 

 

 

 

 

diwethaf: ac yn awr, pan ddeehreuant ddyfod  drachefhj

º47  Y Goruchaf a etyl drachefn aber-oedd y ffrwd, fel y gallont fyned drwodd: am  hynny  y  gwelaist  y  lliaws  mewn heddwch.

º48  Ond y rhai a adawyd yn 61 o'th bobl,  yw y rhai a gafwyd o fewn fy nherfynau i.

º49  Yn awr pan  ddifetho efe liaws y cenhedloedd a ymgasglodd ynghyd, efe a amddiffyn y bobl sydd yn 61;

º50  Ac yna y dengys efe iddynt ryfedd-odau mawrion.

º51  Yna y dywedais innau, O Arglwydd lywydd,   dangos   i   mi   hyn:   paham  y gwelais y gwr yn dyfod i fyny o ganol y mor?

º52  Ac  efe  a  ddywedodd wrthyf,  Fel nas gelli chwilio na gwybod y pethau sydd yn nyfnder y mor: felly nis gall neb ar y ddaear weled fy Mab i na'r rhai sy gydag ef, ond liw dydd.

º53  Hyn yw dehongliad y breuddwyd a welaist, a thrwy'r hwn y cefaist ti yn unig yma oleuni:

º54  Canys   gwrthodaist   dy   ffordd   dy bun, a buost ddyfal i geisio fy nghyf-raith i.

º55  Dy    fuchedd    a    drefnaist    mewn doethineb,   a   gelwaist   ddeall  yn   fam i ti.

º56  Ac   am   hynny   y   dangosais   i   ti drysorau  y   Goruchaf:   ymhen  y  trid-iau etc y llefaraf bethau eraill wrthyt, ie, pethau mawrion a rhyfedd a ddan-gosaf i ti.

º57  Yna yr euthum allan i'r maes, gan roddi gogoniant a diolch mawr i'r Goruchaf Dduw am y rhyfeddodau a wnaeth efe mewn amser,

º58  Ac am ei fod ef yn llywodraethu'r amser,  a'r  pethau  a  ddigwydd  yn  eu hamserau.  Ac yno yr eisteddais dridiau.

 

PENNOD 14

º1 Y TRYDYDD   dydd    yr   eisteddais dan   dderwen;   yna   y   daeth    lief ataf o  berth  ar fy nghyfer,  gan  ddywedyd,  Esdras,  Esdras.

º2  A minnau a atebais gan ddywedyd, Dyma fi, Arglwydd: a mi a sefais ar fy nhraed.

º3  Yna y dywedodd efe wrthyf, Yn y berth yr ymddangosais i Moses, ac yr ymddiddenais ag ef, pan oedd fy mhobl yn gwasanaethu yn yr Aifft.

º4  A   danfonais   ef,   a   thywysais    fy mhobl allan o'r Aifft, a dygais ef i fyny i fynydd  Sinai, lie y cedwais ef gyda mi yn hir o amser.

º5  A  dangosais  iddo  lawer  o  ryfedd-odau,  a chyfrinach  yr  amseroedd,  a'u diwedd;    a    gorchmynnais    iddo,    gan ddywedyd,

º6  Y   geiriau   hyn   a   fynegi,   a'r   rhai hyn a geli.

º7  Ac yn awr y dywedaf wrthyt ti,

º8  Dod i fyny yn dy galon yr arwydd-ion a ddangosais i ti, a'r breuddwydion a welaist, a'r dehongliad a glywaist:

º9  Canys dygir di ymaith oddi wrth y cwbl; ac o hyn allan yr arhoi gyda'm Mab, a chyda'th gyffelyb, hyd ddiwedd yr amseroedd:

º10  Canys y byd a gollodd ei ieuenc-tid,  a'r  amseroedd  sy'n  dechrau  hen-eiddio.

º11  Canys y byd a rannwyd yn ddeu-ddeg rhan, a deg rhan o hynny a aeth ymaith eisoes, a banner degfed ran.

º12  Ac y mae yn 61 yr hyn sydd ar 61 banner y ddegfed ran.

º13  Am   hynny   gosod   dy   dy   mewn trefn, a cherydda dy bobl, cysura y rhai ohonynt  sy  mewn  helbul,  ac  yn  awr yn ymwrthod a llygredigaeth.

º14  Gollwng    oddi    wrthyt    feddyliau marwol, bwrw ymaith feichiau dynion, a diosg y naturiaeth wan.

º15  Bwrw heibio y meddyliau sy drym-af arnat, a brysia i ffoi oddi wrth yr amseroedd    hyn;

º16  Canys   drygau   mwy   na'r   rhai   a welaist yn digwydd, a wneir yn 61 hyn.

º17  Canys   po   gwannaf   fyddo'r   byd wrth oedran, mwy y tyf drygau ar y rhai a erys ynddo.

º18  Canys  y  gwirionedd  a  ffodd  ym-hell, a chelwydd sydd yn agos:  canys

 
 

bellach y prysura'r weledigaeth a welaist, i ddyfod.

º19  Yna yr atebais o'th flaen di, gan ddywedyd,

º20  Wele,  Arglwydd,  mi a af i  ger-yddu'r bobl sy gydrychol, fel y gorch-mynnaist i mi: ond pwy a rybuddia y rhai a aner ar 61 hyn? Fel hyn y gosodwyd y byd mewn tywyllwch, a'r rhai sy'n trigo ynddo sy heb oleuni.

º21  Canys dy gyfraith a losgwyd: am hynny ni wyr neb y pethau a wnaeth-ost ti, na'r gweithredoedd a ddechreuir.

º22  Ond  os   cefais   ffafr   ger   dy  fron di, danfon yr Ysbryd Glan i mi, a mi a sgrifennaf y cwbl a'r a wnaethpwyd yn y byd er y dechreuad, yr hyn a sgrifen-asid yn dy gyfraith, fel y gallo dynion gael dy Iwybr, ac fel y byddo byw y sawl a fyddo'n fyw yn y dyddiau diwethaf.

º23  Ac  efe  a'm  hatebodd,   gan   ddywedyd, Dos ymaith, casgl y bobl yng-hyd, a dywed wrthynt nad edrychont amdanat dros ddeugain niwrnod.

º24  Ac   edrych   ar   ddarparu   ohonot lawer   o   goed   bocs,   a   chymer   gyda thi Sarea, Dabria, Selemeia, Ecanus, ac Asiel, y pump hyn, y rhai a fedrant ysgrifennu yn fuan:

º25  A thyred yma, a mi a oleuaf gan-nwyil deall yn dy galon di, yr hon ni diffoddir nes gorffen y pethau a ddech-reuech di eu hysgrifennu.

º26  A phan ddarffo i ti, ti a ddangosi ryw bethau yn olau; a rhyw bethau a ddangosi  di  yn  gyfrinachol i'r  doeth-ion: y pryd hyn yfory y  dechreui  di sgrifennu.

º27  Yna yr euthum allan, fel y gorch-mynnodd efe i mi, a chesglais yr holl bobl ynghyd, a dywedais,

º28  Gwrando'r geiriau hyn, O Israel.

º29  Bin tadau yn y dechrau oeddynt ddieithriaid yn yr Aifft; o'r hwn le y gwaredwyd hwynt:

º30  A  hwy   a   dderbyniasant   gyfraith y  bywyd,  yr  hon  nis  cadwasant,  a'r hon a droseddasoch chwithau hefyd ar eu hoi hwynt.

º31  Yna y rhannwyd y wlad, sef gwiad Seion,  rhyngoch  chwi  wrth  goelbren; ond eich tadau a chwithau eich hunain hefyd a wnaethoch ar fai, ac ni chad-wasoch y ffyrdd a orchmynnodd y Goruchaf i chwi.

º32  Ac yn gymaint a'i fod ef yn Farn-wr  cyfiawn,  efe  a ddug  oddi  arnoch mewn amser, y peth a roddasai efe i chwi.

º33  Ac  yn  awr,  yma  yr ydych, a'ch brodyr yn eich plith.

º34  Am hynny os chwi a ddarostyng-wch eich deall, ac a drowch eich calon-nau, chwi a gedwir yn fyw, ac yn 61 marwolaeth y cewch drugaredd:

º35  Canys yn 61 marwolaeth y daw y farn, pan fyddom byw drachefn: ac yna y bydd enw y cyfiawn yn eglur, a gweithredoedd yr annuwiol yn olau.

º36  Am hynny na ddeled neb ataf yn awr,  ac  na  edryched  amdanaf y  deu-gain  niwrnod  hyn.

º37  Felly y cymerais y pum gwr, fel y gorchmynnodd efe i mi; a ni a aeth-om i'r maes, ac a arosasom yno.

º38  Yr   ail   dydd,   lief   a'm   galwodd, gan ddywedyd, Esdras, agor dy safn, ac yf y peth a roddwyf i ti i'w yfed.

º39  Yna  yr  agorais  fy  safn,  ac  wele, efe a estynnodd i mi gwpan llawn, yr hwn  oedd  yn  llawn  fel  pe  byddai  o ddwfr, ond ei liw ef oedd megis tan.

º40  Ac mi a'i cymerais ef, ac a'i hyfais: ac wedi i mi ei yfed, fy nghalon a ddeaU-odd, a doethineb a ddaeth i'm dwyfron; canys    fy    ysbryd    a    gryfhaodd    fy nghof;

º41  A'm genau a agorwyd, ac ni chae-odd mwy.

º42  Y   Goruchaf  a   roddes   ddeall    i'r pum gwr, a hwy a sgrifenasant weled-igaethau rhyfedd y nos, y rhai a fyneg-wyd,   y  rhai   nis   gwyddent:  a  hwy a eisteddasant   ddeugain   niwrnod,   ac   a sgrifenasant y dydd, a'r nos y bwytas-ant fara.

º43  A minnau a leferais liw dydd, ac ni thewais y nos.

º44  Mewn   deugain   niwrnod   hwy   a

 

 

sgrifenasant   ddau   cant   a   phedwar   o lyfrau.

º45  A digwyddodd, pan gyflawnwyd y deugain niwrnod,  y  Goruchaf a lefar-odd,  gan  ddywedyd,  Y llyfr  cyntaf a sgrifennaist, mynega ar gyhoedd, fel y gallo'r teilwng a'r annheilwng ei ddar-llen ef:

º46  Ond   cadw   y   deg  a   thrigain   di-wethaf, fel y gallech eu rhoddi hwynt yn  unig  i'r  rhai  sy  ddoethion  ymysg y bobl:

º47  Canys ynddynt hwy y mae gwythen y   deall,   ffynnon   doethineb,   ffrwd   y gwybodaeth.

º48  Ac felly y gwneuthum.

 

PENNOD 15

 

º1 WELE,    dywed,    lie    y    clywo    fy mhobl,    eiriau'r    broffwydoliaeth a ddanfonaf yn dy enau di,  medd yr Arglwydd.

º2  A phar eu hysgrifennu hwy ar bapur: canys ffyddlon a gwir ydynt.

º3  Nac ofna fwriadau yn dy erbyn; ac na   chyffroed   anffyddlondeb   y   rhai   a ddywedant yn dy erbyn, ddim ohonot:

º4  Canys  pob  dyn anffyddlon  a  fydd marw yn ei anffyddlondeb.

º5  Wele,   medd   yr   Arglwydd,   mi   a ddygaf ddialedd  ar  y  byd,  y  cleddyf, newyn, marwolaeth, a dinistr:

º6  Canys anwiredd a halogodd yr noil ddaear yn ddirfawr, a chyflawnwyd eu gweithredoedd drygionus hwynt.

º7  Am hynny y dywed yr Arglwydd,

º8  Ni ataliaf mo'm tafod mwy, am eu hanwiredd hwy, y rhai a wnant yn an-nuwiol,  ac ni  ddioddefaf iddynt yn y pethau a drinant mor ysgeler:  wele, y gwaed   gwirion   cyfiawn   sy'n   gweiddi arnaf, ac eneidiau y rhai cyfiawn sy'n achwyn beunydd.

º9  Am hynny y  dywed  yr Arglwydd, Mi   a   ddialaf  yn   sicr,   ac   a   gymeraf ataf  yr  holl   waed   gwirion   o'u  mysg hwynt.

º10  Wele,   fy   mhobl   a   dywysir   fel diadell   i'r   lladdfa;   ni   adawaf  iddyat yn awr aros yn nhir yr Aifft;

 

º11  Ond   mi   a'u   dygaf  hwy   allan   4 llaw gadarn, ac a braich estynedig, ac a drawaf   yr   Aifft   a   dialeddau,   fel   y gwneuthum o'r blaen, ac a ddifethaf ei holl dir hi.

º12  Yr Aifft a alara, a'i sylfeini hi a drewir  a'r  bla  ac  a'r  cerydd  a  ddwg Duw arni.

º13  Y rhai a lafuria'r ddaear a alarant: canys eu had a ddifethir gan falltod, a chenllysg, a thrwy seren ofhadwy.

º14  Gwae'r   byd,   a'r   rhai   a   drigant ynddo!

º15  Canys y cleddyf a'u distryw hwynt sydd yn nesau, a'r naill bobl a saif i ymladd yn erbyn y llall, a chleddyfau yn eu dwylo.

º16  Canys terfysg a fydd ymysg dyn-ion,   a'r   naill   a   wna   drais   i'r   llall: ni phrisiant ar eu brenin, a'r tywysog-ion a fesurant eu gweithredoedd wrth eu gallu.

º17  Gwr a ewyllysia fyned i ddinas, ac nis gall fyned:

º18  Canys   oherwydd   eu   balchder   y trallodir y dinasoedd, y distrywir y tai, ac yr ofna dynion.

º19  Ni   chymer   gwr   drugaredd   ar   ei gymydog, ond difetha eu tai a wnant a'r cleddyf, a  dwyn eu da,  oherwydd prinder bara, a chystudd mawr.

º20  Wele, medd Duw, mi a alwaf yng-hyd holl frenhinoedd y ddaear i'm han-rhydeddu i, y  rhai  sydd  o'r dwyrain, a'r  deau,   a'r  gorllewin,   a   Libanus,   i droi  yn  erbyn   ei  gilydd,  ac  i   dalu'r pwyth iddynt.

º21  Fel y gwnant y dydd heddiw i'm hetholedigion,    felly   y   gwnaf   finnau hefyd, a thalaf i'w mynwes.   Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw,

º22  Ni arbed fy neheulaw y pechadur-iaid,  a'm  cleddyf ni  phaid a'r  rhai  a dywalltant waed gwirion ar y ddaear.

º23  Y tan a  ddaeth allan  o'i  ddicter, ac  a   ddifethodd   sylfeini'r   ddaear,   a'r pechaduriaid fel gwellt yn llosgi.

º24  Gwae y rhai a bechant, ac ni chad-want  fy  ngorchmynion!  medd yr  Arglwydd.

 

º25°Ni arbedaf hwynt.   Ewch ymaith,     llid,  a'r seren yr hon chwi blant, oddi wrth y gallu; na halog-

wch fy nghysegr.

º26  Canys yr Arglwydd a edwyn bawb a'r a bechant yn  ei  erbyn  ef,  ac am hynny y rhydd efe hwynt i farwolaeth a distryw.

º27  Canys yn awr y daeth y dialedd ar yr holl ddaear, a byddwch chwithau yn eu  mysg:   oherwydd  ni   wareda   Duw chwi, am i chwi bechu yn ei erbyn ef.

º28  Wele weledigaeth erchyll, a'i hwyn-eb o'r dwyrain:

º29  Lie y daw cenhedloedd o ddreigiau Arabia a llawer o gerbydau, a'u lliaws hwy a ddygir fel gwynt ar y ddaear, fel yr ofho ac y cryno pawb a'r a'i clywo.

º30  Y   Carmaniaid   yn   ynfydu   mewn dieter a ant allan fel baeddod y coed, ac mewn nerth mawr y deuant, ac y safant yn eu herbyn hwy i ymladd, ac a ddis-trywiant ran o wlad yr Asyriaid.

º31  Ac yna y  dreigiau a gant y llaw uchaf,  gan  gofio  eu naturiaeth:  ac os hwy a ymdroant, ac a gydfwriadaiit a nerth mawr i'w herhd hwynt,

º32  Yna y rhai hyn a flinir, ac a ddis-tawant yn eu nerth, ac a ffoant:

º33  A'r gelyn a esyd arnynt o wlad yr Asyriaid,    ac  a   ddifetha  rai  ohonynt: ac yn eu llu hwy y bydd ofn ac arswyd, ac ymryson rhwng eu brenhinoedd.

º34  Wele    gymylau   o'r    dwyrain,    ac o'r   gogledd   i'r   deau;   ac   eichyll   yw edrych  arnynt  yn  llawn  llid  a  thym-estl.

º35  A thrawant y  naill  ar  y  llall,  a bwriant i lawr liaws mawr o ser ar y ddaear, ie, eu seren eu hun; a'r gwaed fydd o'r cleddyf hyd y bol:

º36  A thail dyn hyd wasarn y camelod.

º37  A bydd ofn ac arswyd mawr ar y ddaear: a'r rhai a welant y llid a ofh-ant, ac arswyd a ddaw arnynt.

º38  Ac yno y daw tymhestloedd mawr-ion o'r deau a'r gogledd, a rhan arall o'r gorllewin.

º39  A gwyntoedd mawrion a gyfodant o'r   dwyrain,   ac   a'i   hagorant   hi;   a'r cwmwl yr hwn  a gyfododd efe mewn

 

iii^,  «»  ------ .. _              gynhyrfodd  i

beri ofn ma gwynt y dv/yrain a'r gorllewin, a ddifethir.

º40  Y  cymylau  cryfion  yn llawn  llid, a'r seren a godir i fyny, fel y gallont ofni'r holl ddaear a'r neb a drigo yn-ddi; fel y gallont fwrw seren erchyll ar bob lie uchel,

º41  Tan  a chenllysg, a chleddyfau yn ehedeg, a llawer o ddwfr, fel y byddo pob maes a phob afon yn llawn o ddyfr-oedd.

º42  A bwriant i lawr y dinasoedd a'r magwyrydd,  y  mynyddoedd  a'r  bryn-iau, y coedydd, a gwair y gweirgloddiau, a'u hyd:

º43  Ac a ant yn hy i Babilon, ac a'i dychrynant hi.

º44  Deuant ati hi, a gosodant arni hi, y seren a phob llid a dywalltant arni: yna yr a y llwch a'r mwg i'r nefoedd, a  phawb  a'r  a  fyddo  yn  ei  chylch a alarant amdani.

º45  A'r   sawl   a  fyddo   tani   a  wasan-aethant y rhai a'i hofnodd hi.

º46  A thithau, Asia, yr hon wyt gyf-rannog o obaith Babilon, yr hon wyt yn ogoniant iddi;

º47  Gwae di druan, am i ti dy wneuth-ur dy hun yn debyg iddi hi, a thrwsio dy ferched mewn godineb, fel y gallent ryngu bodd dy gariadau, ac ymffrostio ynddynt,   y   rhai   a   ddymunasant   bob amser odinebu a thi!

º48  Canlynaist y  ddinas  ffiaidd  yn   ei holl weithredoedd a'i dychmygion: am hynny y dywed Duw,

º49  Danfonaf ddialedd arnat, gweddw-dod, tlodi, newyn,   cleddyf,   a  haint, i ddifetha dy dai a distryw ac a marwol-aeth.

º50  A gogoniant dy nerth a ddiflanna fel llysieuyn, pan godo'r gwres a ddan-fonir arnat.

º51  Ti a wanychir fel gwraig dlawd a gwialenodiau, ac fel un wedi ei  cher-yddu   a   gweliiau,   fel   nas   gallo'r   rhai galluog a'th gariadau dy dderbyn.

º52  A  wnawn  i  trwy  eiddigedd  i  ti felly, medd yr Arglwydd,

 

º53  Oni bai ladd ohonot bob amser fy etholedig, gan godi dyrnod dy ddwylo, a dywedyd, pan oeddit ti feddw uwch-ben eu marwolaeth,

º54  Dangos   allan   degwch  dy  wynep-ryd?

º55  Gwobr   dy   odineb   a   delir   i'th fynwes; am hynny y cei dSl.

º56  Pel  y  gwnaethost  I'm  hetholedig, medd yr Arglwydd, felly y gwna Duw

i  tithau, ac y rhydd ddialedd arnat.

º57  Dy blant a fyddant feirw o newyn, a thithau a syrthi trwy'r cleddyf:  dy ddinasoedd a fwrir i lawr, a chwbl o'r eiddot a ddifetha'r cleddyf yn y maes.

º58  Y  rhai  sy  yn  y  mynyddoedd,  a fyddant feirw o newyn, a bwytSnt eu cig eu hunain, ac yfant eu gwaed eu hunain, o wir newyn bara a syched am ddwfr.

º59  Tithau yn anhapus a ddeui trwy'r m6r, a chei ddialedd drachefn.

º60  Wrth   fyned   heibio   y   bwriant   i lawr  y  ddinas   laddedig,   diwreiddiarit un rhan o'th wlad, a difethant ran o'th ogoniant,  a   dychwelant  i   Babilon  yr hon a ddistrywiwyd.

º61  Hwy a'th daflant i lawr fel soft, a hwy a fyddant i ti fel tan.

º62  A   difethant   di,   a'th   ddinasoedd, a'th wlad,  a'th  fynyddoedd;  a'th holl goedydd   a'th   brennau   ffrwythlon   a losgant a thfin.

º63  Dy   blant   a   gaethgludant,   ac   a anrheithiant gwbl ag a feddech, ac a ddifwynant degwch dy wyneb.

''•                 

 

PENNOD 16

 

º1 GWAE dydi, Babilon, ac Asia! gwae dydi, yr Aifft, a Syria!

º2  Ymwregyswch   a   lliain   sach   ac   ft rhawn, galerwch dros eich plant, bydd-wch drist: canys eich distryw sydd ger-llaw.

º3  Cleddyf  a   ddanfonwyd   arnoch,   a phwy a'i try ef yn ei 61?

º4  Tan a ddanfonwyd yn eich plith, a phwy a'i diffydd ef ?

º5  Dialeddau  a  ddanfonwyd  atoch,  a phwy a'u gyr hwy ymaith?

 

º6  A all neb yrru ymaith y Hew new-ynog yn y coed? neu a all neb ddiffodd t£n pan ddechreuo gynnau yn y sofl?

º7  A all un droi yn ei h61 y saeth a saethodd perchen bwa cryf?

º8  Y galluog Arglwydd sydd yn dan-fon y dialeddau, a phwy yw hwn a'u gyr hwy ymaith?

º9  T3n a £ allan oddi with ei lid, a phwy yw efe a'i diffydd?

º10  Efe a deifl fellt, a phwy nid ofna? efe a darana, a phwy ni ddychryn?

º11  Duw a fygwth, a phwy ni wneir yn friwsion ger ei fron ef ?

º12  Y ddaear a gryna, a'i sylfeini; y mor a gyfyd ei donnau o'r dyfnder, a'i donnau sy derfysgus, a'r pysgod hefyd gerbron yr Arglwydd, ac o flaen gogon-iant ei allu ef.

º13  Canys   cref   yw   deheulaw'r   hwn sydd  yn  anelu'r  bwa;   a'r  saethau  a saetha  efe  sydd  lymion,   ac  ni   fetha ganddynt   pan   ddechreuer   eu   saethu hwynt i eithaf byd.

º14  Wele, y dialeddau a ddanfonwyd, ac ni ddychwelant nes eu dyfod ar y ddaear.

º15  Y  tan  a  gyneuwyd,  ac  nis   diff-oddir   ef,    nes    iddo    losgi    sylfeini'r ddaear.

º16  Fel na ddychwel y saeth, yr hon a saetho perchen bwa cryf; felly ni ddychwel  y  dialeddau  a  ddanfonir  ar  y ddaear.

º17  Gwae fi! gwae fi! pwy a'm gweryd yn y dyddiau hynny?

º18  Dechreuad tristwch a galar mawr; dechreuad  newyn  a  marwolaeth  fawr; dechreuad rhyfeloedd, a'r galluoedd a ofnant; dechreuad drygau: beth a wnaf fi yn hyn pan ddel y drygau hyn?

º19  Wele,   newyn   a   phla,   blinder   a chyni,   a   ddanfonwyd  fel  ffrewyllau  i beri gwellhau.

º20  Ond er hyn i gyd ni throant oddi wrth eu hanwireddau, ac ni feddyliant bob amser am y ffrewyllau.

º21  Wele,  bwyd  a  died a fydd  mor rhad ar y ddaear, fel y tybygant eu bod wrth eu bodd; a'r pryd hynny y daw

 

drygau ar y ddaear, cleddyf, newyn, a thrallod mawr.

º22  Canys llawer o'r rhai sy'n trigo ar y ddaear a fyddant feirw o newyn, a'r lleill a ddihango rhag y newyn, y cleddyf a'u difetha.

º23  A'r meirw a deflir allan fel tail, ac ni bydd neb i'w cysuro hwynt: canys y ddaear a anrheithir, a'r dinasoedd a fwrir i lawr.

º24  Ni adewir neb i lafurio'r ddaear, ac i'w hau.

º25  Y  prennau a  roddant  ffrwyth,  a phwy a'u cynaeafa hwy?

º26  Y grawnwin a aeddfedant, a phwy a'u sathr? canys pob man a fydd yn ddi-bobl,

º27  Fel y dymuno'r naill wr weled y Hall, neu glywed ei leferydd ef:

º28  Canys o ddinas y gadewir deg, a dau o'r maes, y rhai a ymguddiant yn y tewgoed ac yn ogofeydd y creigiau;

º29  Fel ped fai dair neu bedair o olifaid wedi eu gadael ar bob pren mewn perllan olewydd,

º30  Neu   fel  pan   gasgler  gwinllan,   y rhai a chwiliant y winllan yn ddyfal a adawant rai o'r grawnwin yn eu hoi:

º31  Felly yn y dyddiau hynny y gedy'r rhai a chwilio eu tai hwy a'r cleddyf, dri neu bedwar ohonynt.

º32  A'r  ddaear  a  adewir  yn  anghyf-annedd, a'i meysydd a heneiddiant, a'i ffyrdd   a'i  holl  Iwybrau  a  dyfant  yn llawn o ddrain, am nad ymdeithia neb trwyddynt.

º33  Y    morynion    ieuainc    a    alarant heb briodfeibion iddynt, y gwragedd a wnant gwynfan heb eu gwyr, a'u merched a  alarant,  am  nad  oes  amddiffynwyr iddynt.

º34  Yn y rhyfel y  difethir eu priod hwy,  a'u  gwyr  hwy  a  fydd  feirw  o newyn.

º35  Ond   chwychwi   wasanaethwyr   yr Arglwydd, gwrandewch y pethau hyn, a deellwch hwynt.

º36  Wele   air   yr   Arglwydd,   derbyn-iwch   ef;   na   chredwch   mo'r   duwiau, am y rhai y dywedodd yr Arglwydd.

º37  Wele'r dialeddau yn nesau, ac ni oedant ddyfod.

º38  Fel gwraig wrth esgor, yr hon a ddwg ei mab ymhen y nawmis,  pan ddel yr amser i esgor, poen a ddaw ar ei chroth, ddwy awr neu dair o'r blaen; yr hwn wrth ddyfod yr etifedd i'r byd ni oeda ronyn:

º39  Felly nid oeda'r dialeddau ddyfod ar y ddaear; a'r byd a alara, a thrist-wch a ddaw arno o bob parth.

º40  O   fy  mhobl,   gwrandewch   arnaf, ymbaratowch i'r rhyfel, a byddwch yn y  drygau  hynny,  fel  pererinion  ar  y ddaear.

º41  Yr hwn a wertho, bydded fel un yn ffoi ymaith; a'r hwn sydd yn prynu, bydded fel un a gyll;

º42  A'r hwn a farsiandio,  bydded fel un heb ennill; a'r hwn a adeilado, fel un heb gael trigo ynddo;

º43  Yr hwn a heuo, bydded fel yr hwn nis medo; yr hwn a blanno winllan, fel yr hwn ni chasgl y grawnwin;

º44  Y   rhai   a   briodant,   byddant   fel rhai ni chant blant; a'r rhai ni phriod-ant, fel gweddwon.

º45  Am hynny   y rhai   a lafuriant,   a lafuriant yn ofer;

º46  Canys    dieithriaid    a    fedant    eu ffrwythau hwynt, ac a sglyfaethant eu da hwynt, ac a fwriant i lawr eu tai, ac a gaethgludant eu plant:  canys mewn caethiwed a newyn yr enillant blant.

º47  A'r rhai a farsiandia trwy ysbeilio, po mwyaf y trwsiant eu dinasoedd, eu tai, eu meddiannau, a'u cyrff eu hunain,

º48  Mwyaf   y   digiaf   finnau   wrthynt hwythau   am   eu   pechodau, medd  yi Arglwydd.

º49  Fel    y    cenfigenna    putain    with wraig onest rinweddol,

º50  Felly y casa cyfiawnder anwiredd, pan ymdrwsio hi; ac a'i cyhudda hi yn ei hwyneb, pan ddel efe'r hwn a'i ham-ddiffyn   ef,   yr   hwn   sydd   yn   chwilio allan bob pechod ar y ddaear yn ddyfal.

º51  Ac am hynny na fyddwch debyg iddi hi, nac i'w gweithredoedd:

º52  Canys  cyn  pen  nemor  o  ennyd^

 

 

 

anwiredd a dynnir ymaith oddi ar y ddaear, a chyfiawnder a lywodraetha yn eich plith chwi.

º53  Na ddyweded y pechadur na phech-odd:    canys   marwor   tanllyd   a   lysg Duw ar ben yr hwn a ddywedo o flaen Duw a'i ogoniant, Ni phechais.

º54  Wele,   yr   Arglwydd   a   wyr   holl weithredoedd dynion, eu bwriadau, eu meddyliau, a'u calonnau:

º55  Canys   ni   ddywedodd   efe   ond   y gair, Gwneler y ddaear, a hi a wnaeth-pwyd;   Gwneler  y  nefoedd,   a  hwy  a wnaethpwyd.

º56  Gan  ei  air  ef y  gwnaethpwyd  y ser, ac efe a wyr eu rhifedi hwynt.

º57  Efe   a   chwilia'r   dyfnderoedd,   a'u trysor; efe a fesurodd y mor, a'r hyn sydd ynddo.

º58  Efe a gaeodd y mor yng nghanol y dyfroedd,  ac  a'i  air   y   crogodd   efe'r ddaear ar y dyfroedd.

º59  Efe   a   daena'r   nefoedd   fel   cron-glwyd,  ac  ar  y  dyfroedd  y  sicrhaodd efe hi.

º60  Yn   y   diffeithwch   y   gwnaeth   efe ffynhonnau   o   ddwfr,   a   llynnoedd   ar bennau'r   mynyddoedd,   fel   y   gallai'r afonydd dywallt i lawr oddi ar y creig-iau uchel, i ddyfrhau'r ddaear.

º61  Efe a wnaeth ddyn, ac a osododd ei galon ef yng nghanol ei gorff, ac a roddes iddo anadl, einioes, a deall,

º62  le, ac Ysbryd yr hollalluog Dduw, yr hwn a wnaeth bob peth, ac sydd yn chwilio   allan   bob   peth   cuddiedig   yn nirgel leoedd y ddaear.

º63  Efe  a   wyr  yn   ddiau  eich   dych-mygion chwi, a pha beth yw eich meddwl yn   eich  calon,   pan   bechoch,   a  phan fynnoch guddio eich pechodau.

º64  Am   hynny   y   chwiliodd   yr   Arglwydd   eich   holl   weithredoedd   chwi allan yn fanwl, ac   efe a'ch cywilyddia chwi oil.

º65  A phan ddyger eich pechodau chwi allan,   bydd   cywilydd   arnoch   o   flaen dynion, a'ch pechodau eich hunain a'ch cyhudda yn y dydd hwnnw.

º66  Pa  beth a wnewch chwi? neu pa

fodd y cuddiwch chwi eich pechodau o flaen Duw a'i angylion?

º67  Wele, Duw ei hun sydd Farnwr; ofnwch ef: peidiwch a phechu,  a  go-\ llyngwch dros gof eich anwireddau, na fydded i chwi a wneloch mwy a hwynt byth; felly yr arwain Duw chwi allan, ac   a'ch   gwared   chwi  oddi  wrth   bob blinder.

º68  Canys wele, digofaint tanllyd lliaws mawr a gyneuwyd arnoch chwi, a hwy a    ddygant   ymaith   rai    ohonoch,    ac a'ch   porthant   yn   segur  a   phethau   a offrymwyd i  eilunod.

º69  A'r   rhai   a   gytunant   a   hwynt   a watworir, a ddiystyrir, ac a sethrir dan draed:

º70  Canys   fe   fydd  ym  mhob   lie,   ac yn y dinasoedd nesaf, lawer yn codi i fyny yn erbyn y rhai a ofnant yr Arglwydd.

º71  Hwy a fyddant fel gwyr ynfydion, heb arbed neb, eithr yn anrheithio ac yn   dinistrio'r   rhai   a   fyddo'n   ofni'r Arglwydd.

º72  Canys   hwy   a   anrheithiant,   ac   a ddygant   eu   da   oddi   arnynt,   ac   a'u bwriant allan o'u tai.

º73  Yna   y   ceir   gwybod   pwy   yw   fy etholedigion i;  a phrofir hwynt fel yr aur yn y tan.

º74  Gwrandewch,   fy   anwylyd,   medd yr  Arglwydd:   Wele,   dyddiau'r  helbul sy gerllaw; ond mi a'ch gwaredaf chwi rhagddynt.

º75  Nac   ofnwch,   ac   na   amheuwch; canys Duw yw eich tywysog chwi,

º76  A thywysog y rhai  a gadwant fy ngorchmynion  a'm   deddfau,  medd  yr Arglwydd   Dduw:    na   phwysed   eich pechodau chwi i lawr, ac nac ymddyr-chafed eich anwireddau.

º77  Gwae'r  rhai  sy'n  rhwym  gan  eu pechodau,  ac wedi  eu gorchuddio  a'u hanwireddau,  fel maes  wedi  ei gau  a pherthi,   a'i   Iwybr   wedi   ei   guddio   3 drain  fel  na  allo  neb  fyned y ffordd honno!

º78  Caewyd  ef i fyny, a  bwriwyd  ef i'r tan yn dragwyddol i'w ddifetha.


 
DIWEDD

 

Adolygiadau diweddaraf:  2005-02-19

 

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

 

CYMRU-CATALONIA

 

 

Edrychwch ar fy ystadegau