2704k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.  

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_apocrypha_judith_70_2704k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn  Gymraeg
          neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
                    neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
                              neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
                                            neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn

 


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Y Beibl Cysegr-lân (1620): Yr Apocrypha

(70) Judith



 


(delw 0275)

 

 

  xxxx This page with an English version (1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version)

  (Sganiad heb ei gywiro yw hwn, ac felly yn frith o wallau. Cyn hir gobeithio cawn ni gyfle i roi trefn arno)

(This is a scan which has not been corrected yet. There are many errors in the text)
 

JUDITH

 

ºPENNOD 1

º1 xxx y ddeuddegfed flwyddyn o deyrn-asiad Nabuchodonosor, yr hwn a deyrnasodd yn Ninefe y ddinas fawr, yn nyddiau Arffacsad, yr hwn a deyrnasodd ar y Mediaid yn Ecbatane,

 

º2  Ac a adeiladodd yn Ecbatane furiau oddi  amgylch,  o  gerrig  nadd,  yn  dri chufydd o led, ac yn chwe chufydd o hyd, ac a wnaeth uchder y mur 0 ddeg cufydd a deugain;

 

º3  A'i thyrau hi a  osododd  efe  ar ei phyrth o gan cufydd, a'u tewdwr yn eu sylfaen o dri ugain cufydd;

 

º4  Ac  efe  a  wnaeth  ei  phyrth  hi yn byrth   dyrchafedig,   o   ddeg   cufydd   a thrigain o uchder, a'u lied yn ddeugain cufydd, yn ffordd i'w luoedd galluog i fyned allan, ac i fyddino ei wyr traed ef:

 

º5  le,  yn y  dyddiau  hynny y brenin Nabuchodonosor a ryfelodd yn erbyn y brenin   Arffacsad   yn   y   maes   mawr, hwn yw'r maes yn ardaloedd Ragau.

 

º6  Yna   holl   drigolion   y  mynydd-dir, a'r   holl   rai   oedd   yn   preswj^lio   wrth Ewffrates,   a   Thigris,   a   Hydaspes,  a gwlad   Arioch   brenia   yr   Elymiaid,   a ddaethant ato ef: a Uawer iawn o gen-

hedloedd o feibion Celod a ymgynull-asant i'r gad.

 

º7  A  Nabuchodonosor brenin  yr  As-yriaid a anfonodd at yr holl rai oedd yn trigo o fewn Persia, a'r holl rai oedd yn trigo yn y gorllewin, ac at y rhai oedd yn preswylio yn Cilicia, a Damascus, a Libanus, ac Antilibanus, ac at yr holl rai oedd yn preswylio ar hyd wyneb y mordir,

 

º8  Ac  at  y  bobloedd  y  rhai  oedd  o fewn Garmel, a Galaad, a Galilea uchaf, a maes mawr Esdrelom,

 

º9  Ac at yr holl rai oedd yn Samaria a'i dinasoedd; a thu hwnt i'r lorddon-en, hyd Jerwsalem, a Betane, a Chelius, a Chades, ac afon yr Aifft, a Thafmes, a Ramesse, a holl wlad Gesem,

 

º10  Hyd oni ddelir y tu hwnt i Danais a Memffis, ac at holl drigolion yr Aifft, oni ddelir i derfynau Ethiopia.

 

º11  Ond holl drigolion y wlad a ddi-ystyrasant   orchymyn   Nabuchodonosor brenin   yr   Asyriaid,   ac   ni   ddaethant gydag   ef   i'r   rhyfel;    oherwydd   nid ofnasant  rhagddo  ef:  ie,  yr  oedd  efe ger eu bronnau hwynt megis un gwr: am hynny hwy a anfonasant ymaith ei

 

genhadau ef oddi wrthynt neb eu neges, trwy amarch.

 

º12  Am hynny Nabuchodonosor a lid-jodd yn erbyn yr  holl wlad hon yn ddirfawr, ac a dyngodd i'w deyrngadair a'i   frenhiniaeth,   yr   ymddialai   efe   ar holl derfynau  Cilicia,  a   Damascus,   a Syria, ac y lladdai efe a'r cleddyf holl breswylwyr   gwlad   Moab,   a   meibion Ammon, a holl Jwdea, a'r rhai oil oedd yn yr Aifft, hyd oni ddelir i derfynau y ddeufor.

 

º13  Yna  efe  a  fyddinodd  a'i  gryfdwr yn   erbyn   y   brenin   Arffacsad,   yn   y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg; ac efe a orchfygodd yn ei ryfel: canys efe a ymchwelodd   holl   nerth  Arffacsad,   a'i holl feirch ef, a'i holl gerbydau.

 

º14  Ac  efe   a   enillodd   ei   ddinasoedd ef;  ac  a   ddaeth  hyd  Ecbatane,  ac  a oresgynnodd y tyrau, ac a anrheithiodd ei heolydd hi, ac a osododd ei harddwch hi yn waradwydd.

 

º15  Ac  efe  a   ddaliodd  Arffacsad  ym mynyddoedd   Ragau,   ac   a'i   trawodd trwyddo a'i bicellau, ac a'i distrywiodd ef yn llwyr y dwthwn hwnnw.

 

º16  Felly efe a ddychwelodd i Ninefe, efe a'i holl fintai o amryw genhedloedd, yn dyrfa fawr iawn o ryfelwyr; ac efe a fu yno yn segura ac yn gwledda, efe a'i lu, dros gant ac ugain o ddiwrnodiau.

 

ºPENNOD 2

º1 AC yn y ddeunawfed flwyddyn, yr ail **• dydd ar hugain o'r mis cyntaf, yr oedd y gair yn nhy Nabuchodonosor brenin yr Asyriaid, yr ymddialai efe ar yr holl ddaear, fel y dywedasai efe.

 

º2  Felly efe a alwodd ato ei holl weis-ion,   a'i   holl   bendefigion,   ac   a   ym-ddiddanodd a hwynt ynghylch ei gyf-rinach  ddirgel;  ac  a  osododd  ger  eu bron hwynt, a'i enau ei hun, holl ddryg-ioni y ddaear.

 

º3  Yna hwy a gytunasant ddifetha pob cnawd a'r na chanlynasai orchymyn ei enau ef.

 

º4  A phan orffennodd efe ei gyfrinach, Nabuchodonosor    brenin    yr    Asyriaid

a alwodd am Oloffernes tywysog ei fil-wriaeth, yr hwn oedd ail ar ei 61 ef, ac a ddywedodd wrtho,

 

º5  Fel hyn y dywed y brenin mawr, arglwydd   yr  holl   ddaear;   Wele,   dos ymaith o'm gwydd i, a chymer gyd-a thi wyr yn ymddiried yn eu nerth eu hunain, o wyr traed, cant ac ugain mil, a    rhifedi'r    meirch    a'u    marchogion, deuddeng mil;

 

º6  A dos yn erbyn holl wlad y gorllewin,    oherwydd    hwy   a   anufuddhasant i'm gorchymyn i.

 

º7  A thi a fynegi iddynt, am baratoi o-honynt hwy i mi y  ddaear   a'r   dwfr: canys myfi a af allan yn fy llid yn eu herbyn   hwynt,   ac   a   orchuddiaf  holl wyneb y ddaear a thraed fy llu, a mi a'u rhoddaf hwynt yn ysglyfaeth iddynt:

 

º8  Fel   y   llanwo   eu   rhai   archolledig hwy   eu   dyffrynnoedd   a'u   hafonydd hwynt;   a'u   llifeiriant   a   Ufa   trosodd, wedi ei lenwi a'u celaneddau hwynt.

 

º9  A mi a'u dygaf hwynt yn gaethion i eithafoedd yr holl ddaear.

 

º10  Gan hynny dos ymaith, a goresgyn i mi eu holl derfynau hwynt: ac os ym-roddant i ti,  ti a'u cedwi hwynt i mi, hyd ddydd eu cosbedigaeth.

 

º11  Ond am y rhai anufudd, nac ar-beded   dy   lygad   hwynt;   eithr   dyro hwynt i farwolaeth, ac yn ysbail trwy dy holl dir.

 

º12  Canys fel yr ydwyf fi yn fyw, ac myn gallu fy mrenhiniaeth, beth bynnag a   ddywedais,   myfi   a'i   cwblhaf   a'm llaw.

 

º13  Na   throsedda    dithau   yr   un   o orchmynion dy arglwydd,  eithr  cwblha hwynt yn llwyr, fel y gorchmynnais i ti, ac nac oeda eu gwneuthur hwynt.

 

º14  Yna Oloffernes a aeth allan o wydd ei arglwydd, ac a alwodd am yr holl benaethiaid,   a   thywysogion   a   swydd-ogion llu Assur.

 

º15  Ac efe a gyfrifodd y gwyr etholedig i ryfel fel y gorchmynasai ei arglwydd iddo ef, hyd yn gant ac ugain mil, a deuddeng mil o saethyddion ar feirch.

 

 

º16  Ac efe a'u gosododd hwynt mewn trefn, fel y mae'r arfer o osod llu mawr mewn trefn.

 

º17  Ac efe a gymerth fintai fawr iawn o gamelod ac asynnod i ddwyn eu beich-iau hwynt, a defaid, ac ychen, a geifr, yn lluniaeth iddynt, ar y rhai nid oedd rifedi:

 

º18  Ac ymborth i bob gwr o'r fyddin, a llawer iawn o aur, ac arian, allan o dy'r brenin.

 

º19  Yna yr aeth efe a'i holl lu i ffordd, fel yr aent hwy o flaen y brenin Nabuchodonosor, ac y gorchuddient holl wyneb y ddaear tu'a'r gorllewin, a'u cerbydau, ac a'u gwyr meirch, ac a'u gwyr traed etholedig.

 

º20  A   llawer   o   gymysg   ddynion   a ddaethant gyda hwynt, fel y ceiliogod rhedyn, ac fel tywod y ddaear:  canys nid oedd rifedi arnynt, rhag rnaint oedd qhonynt.

 

º21  A hwy a  aethant  o  Ninefe  daith tri diwrnodj tua gwastadedd Bectileth, ac a wersyllasant oddi wrth Bectileth, yn gyfagos i'r mynydd sydd ar y Haw aswy i Cilicia uchaf,

 

º22  Yna efe a gymerth ei  holl lu, ei wyr traed a'i wyr meirch, a'r cerbydau, ac a aeth oddi yno i'r mynydd-dir:

 

º23  Ac a ddinistriodd Phud, a Lud, ac a   anrheithiodd  holl  feibion  Rasses,   a meibion   Ismael,   y   rhai   oedd   tua'r anialwch, o du'r deau i wlad y Celiaid.

 

º24  Yna efe a aeth dros Ewffrates, ac a  aeth trwy Mesopotamia, ac a ddinistriodd yr holl ddinasoedd uchel y rhai oedd ar afon Arbonai, hyd oni ddeuir i'r mor.

 

º25  Ac   efe   a   oresgynnodd   derfynau Cilicia,  ac  a  ddistrywiodd  yr  holl rai a'i gwrthwynebent ef; ac efe a ddaeth i ardaloedd Jaffeth,  y  rhai oedd tua'r deau, ar gyfer Arabia.

 

º26  Efe a amgylchodd hefyd holl feibion   Madian,   ac   a   losgodd   eu   pebyll hwynt, ac a anrheithiodd eu lluestai.

 

º27  Yna efe a aeth i waered i wastadedd Damascus,    yn    nyddiau    cvnhaeaf   y gwenith, ac a losgodd eu holl feysydd

hwynt, ac a ddifethodd eu defaid a'u gwartheg hwynt; ac efe a anrheithiodd eu dinasoedd, ac a Iwyr ysbeiliodd eu gwledydd, ac a laddodd eu holl wyr ieu-ainc hwynt & min y cleddyf.

 

º28 Am hynny ofn a dychryn a syrth-iodd ar holl drigolion y mordir, y rhai oedd yn Sidon, ac yn Tyrus, ac yn trigo yn Sur ac Ocina, a'r holl rai oedd yn preswylio yn Jemnaan: a phreswylwyr Asotus ac Ascalon a ofnasant rhagddo ef yn ddirfawr.

 

ºPENNOD 3

º1 "C"ELLY hwy a anfonasant genhadau a •«- geiriau heddychlon ato ef, gan ddy-wedyd,

 

º2  Wele, ni gweision Nabuchodonosor y brenin mawr ydym yn sefyll yn dy wydd di; gwna i ni fel y gwelych yn dda.

 

º3  Wele   ein   tai   ni,   a'n   holl  leoedd, a'n  holl  feysydd  gwenith,  a'n   defaid, a'n   gwartheg,    a'n   holl   luestai,    a'n pebyll,  yn  sefyll  o'th  flaen  di;   gwna iddynt fel y gwelych di yn dda.

 

º4  Wele   hefyd   ein   dinasoedd   ni   a'r rhai sy yn trigo ynddynt yn weision i ti; tyred, a gwna a hwynt fel y gwelych di yn dda.

 

º5  Felly y gwyr a  ddaethant at  Olo-ffernes, ac a fynegasant wrtho ef yn 61 y geiriau hyn.

 

º6  Yna  efe  a  ddaeth i  waered  tua'r mordir, efe a'i lu, ac a osododd geid-waid yn y dinasoedd uchel, ac a gymerth   allan   ohonynt  wyr   etholedig  yn gynhorthwy iddo.

 

º7  Felly  hwynt-hwy,   a'r  holl  wlad  o amgylch, a'i croesawasant ef a choron-au, & dawnsiau, ac a thympanau.

 

º8  Er hynny efe a ddifwynodd eu holl froydd hwynt, ac a dorrodd i lawr eu llwynau hwynt: canys efe a roddasai ei fryd  ar   ddinistrio  holl  dduwiau'r  tir, fel yr addolai'r holl  genhedloedd  Nabuchodonosor yn unig, ac y galwai pob tafod a llwyth arno ef megis ar Dduw.

 

º9  Ac efe a ddaeth ar gyfer Esdraelon, yn   gyfagos   at   Dothea,   gyferbyn   fi'r gyfyng hir i Jwdea:

 

º10 Ac efe a wersyllodd rhwng Geba a dinas y Scythiaid: ac efe a fu yno fis o ddyddiau; fel y casglai efe holl Iwythau ei lu.

 

ºPENNOD 4

 

º1 PAN glybu meibion Israel, y rhai oedd yn preswylio yn Jwdea, yr hyn oil a wnaethai Oloffernes tywysog llu Nabuchodonosor brenin yr Asyriaid i'r cenhedloedd, ac fel yr anrheithiasai efe eu holl demlau hwynt, ac y distryw-iasai efe hwynt,

 

º2  Yna   hwy   a   ofnasant  yn   ddirfawr rhagddo ef, ac a drallodwyd oherwydd Jerwsalem,  ac  oherwydd  teml yr  Ar-glwydd eu Duw.

 

º3  Canys newydd ddyfod i fyny oedd-ynt hwy o'r caethiwed, ac yn ddiweddar yr ymgasglasai  holl bobl Jwdea, ac y sancteiddiasid y llestri, a'r ty, ar 61 yr halogedigaeth.

 

º4  Am hynny hwy a anfonasant i holl ardaloedd Samaria, a'r pentrefydd, ac i Bethoron,   a  Belmen,  a   Jericho,   ac  i Choba, ac Esora, ac i ddyffryn Salem;

 

º5  Ac   o'r   blaen   a   gymerasant   ben-nau'r mynyddoedd uchel, ac a furiasant y pentrefydd oedd ynddynt, ac a osod-asant ynddynt luniaeth yn ymborth er-byn rhyfei: canys yn ddiweddar y med-asid eu meysydd hwynt.

 

º6  Joacim   hefyd   yr   archoffeiriad,   yr hwn  ydoedd  yn  y  dyddiau  hynny,  a sgrifennodd at y rhai oedd yn trigo yn Bethulia, a Betomestham, yr hon sydd ar gyfer Esdraelon,  gyferbyn a'r maes amlwg, yr hwn sydd yn gyfagos i Do-thaim,

 

º7  Gan   ddywedyd  wrthynt   am   gadw bylchau'r mynydd-dir: canys trwyddynt hwy yr ydoedd dyfodfa i Jwdea: ac yr ydoedd yn hawdd eu lluddias hwynt i ddyfod yno, oherwydd y bwlch ydoedd gyfyng i ddau wr o'r mwyaf.

 

º8  A meibion Israel a wnaethant fel y gorchmynasai   Joacim   yr   archoffeiriad iddynt, a henuriaid holl bobl Israel, y rhai oedd yn trigo yn Jerwsalem.

 

º9  Yna  holl wyr  Israel  a waeddasant

ar Dduw yn ddifrifol iawn, ac a ostyng-asant eu heneidiau trwy ddyfalrwydd mawr;

 

º10  Hwynt-hwy,    a'u    gwragedd,    a'u plant, a'u hanifeiliaid, a phob dieithr a gwas cyflog, a gweision pryn, a osodas-ant sachliain am eu llwynau.

 

º11  Fel  hyn  pot)  gwr  a   gwraig,  a'r plant, a thrigolion Jerwsalem, a syrthias-ant o flaen y deml, ac a daenasant ludw ar eu pennau, ac a ledasant eu sachliain gerbron wyneb yr Arglwydd: a hwy a wisgasant yr allor a sachliain;

 

º12  A   hwy   a   waeddasant   ar   Dduw Israel i gyd oil o unfryd yn ddyfal, ar na roddai efe eu plant hwy yn ysglyf-aeth, a'u gwragedd yn anrhaith, a dinasoedd   eu   hetifeddiaethau   hwynt   yn ddistryw,  a'r  cysegr yn  halogedigaeth, ac yn waradwydd  ac yn watwargerdd gan y cenhedloedd.

 

º13  Felly  Duw  a  wrandawodd  ar  eu gweddi hwynt, ac a'u gwaredodd hwynt o'u blinder: canys y bobl a ymprydias-ant ddyddiau lawer trwy holl Jwdea a Jerwsalem o flaen cysegr yr Arglwydd hollalluog.

 

º14  A    Joacim    yr    archoffeiriad,    a'r holl offeiriaid, y rhai oedd yn sefyll gerbron  yr  Arglwydd,  a'r  rhai  oedd  yn gweini i'r Arglwydd, oedd wedi gwreg-ysu eu llwynau a sachliain, ac yn ofrrym-u    poethofrrwm    gwastadol,    ac    add-unedau     ac     offrymau     gwirfodd     y bobl; ac yr oedd lludw ar eu meitrau hwynt;

 

º15 A hwy a waeddasant ar yr Arglwydd a'u holl nerth, ar iddo ef ym-weled yn rasol & holl dy Israel.

 

ºPENNOD 5

 

º1 YNA y mynegwyd i Oloffernes tywysog milwriaeth yr Asyriaid ddarfod i feibion Israel ymbaratoi i ryfel, a chau ohonynt hwy fylchau'r mynydd-dir, a murio holl gopa'r mynyddoedd uchel, a gosod rhwystrau yn y meysydd.

 

º2 Am hynny efe a ddigiodd yn ddirfawr, ac a alwodd am holl dywysogion

 

Moab,  a  chapteiniaid  Ammon,  a  holl lywodraethwyr y mordir;

 

º3  Ac efe a ddywedodd wrthynt, Myneg-wch i mi,  chwi  feibion  Canaan,  pwy ydyw  y  bobl   hyn   sy*n  preswylio  yn y  mynydd-dir,   a   pheth  yw  y  dinas-oedd y maent yn trigo ynddynt, a pha faint sydd yn eu llu hwynt, ac ym mha beth y mae eu cadernid a'u nerth hwynt, a pha frenin sydd arnynt, neu dywysog ar eu llu hwynt,

 

º4  A phaham y  rhoesant  eu  bryd  na ddeuent i'm  cyfarfod  i,  yn  amgenach na holl drigolion y gorllewin.

 

º5  Yna   y   dywedodd   Achior   tywysog holl  feibion  Ammon,   Gwrandawed  fy arglwydd air o enau dy was, a myfi a fynegaf i ti y gwirionedd am y bobl hyn sydd yn preswylio yn y mynydd-dir, yn gyfagos i'r lie yr wyt ti yn cyfanheddu: ac ni ddaw celwydd allan o enau dy was.

 

º6  Y bobl hyn sy o hiliogaeth y Caldeaid,

 

º7  Ac a fuant gynt yn trigo ym Mesopotamia, oherwydd  na  fynnent  ganlyn duwiau eu tadau, y rhai oedd yng ngwlad Caldea.

 

º8  A hwy a aethant allan o ffordd eu rhieni, ac a addolasant Dduw y nefoedd, y   Duw   yr   hwn   a   adwaenent:   felly hwythau a'u bwriasant hwy o wydd eu duwiau; a hwythau a ffoesant i Mesopotamia, ac a wladychasant yno ddydd-iau lawer.

 

º9  Yna eu Duw hwynt a orchmynnodd iddynt  ymado   o'r  lie  yr   oeddynt  yn aros ynddo, a myned i wlad Canaan; ac  yno  y trigasant,  ac y  cynyddasant o aur, ac arian, ac o anifeiliaid lawer iawn.

 

º10  Pan orchuddiasai newyn holl wlad Canaan, yna hwy a aethant i waered i'r Aifft, ac a arosasant yno, hyd on: ddy-chwelasant; a hwy a wnaed yno yn dyrfa fawr, fel nad oedd rifedi ar eu hiliogaeth hwynt.

 

º11  Am hynny brenin yr Aifft a gy-fododd   yn   eu   herbyn,   ac   a   wnaeth yn ddicheUgar a hwynt, ac a'u darost-yngodd   hwynt   trwy   lafur   a   phridd-feini, ac a'u gwnaeth yn gaethweision.

 

º12  Yna  hwy a lefasant  ar  eu  Duw; ac efe a drawodd holl wlad yr Aifft a phlau, y rhai ni ellid eu hiachau: felly yr   Eifftiaid   a'u   bwriasant   hwy   allan o'u golwg.

 

º13  A Duw a sychodd y mor coch o'u blaen hwynt;

 

º14  Ac a'u dug  hwy  i  fynydd   Seina, a  Chades-Barne, ac a fwriodd ymaith yr holl rai oedd yn trigo yn yr anial-wch.

 

º15  A   hwy   a   breswyliasant   wlad   yr Amoriaid, ac a ddistrywiasant trwy eu cryfder y  rhai  oil  o  Esebon;  a  chan fyned dros yr lorddonen hwy a etifedd-asant yr holl fynydd-dir.

 

º16  A hwy a yrasant ymaith o'u blaen y Canaaneaid, a'r Pheresiaid, a'r Jebus-iaid, a'r Sichemiaid, a'r holl Gergesiaid, ac a breswyliasant yno ddyddiau lawer.

 

º17  A thra fuant hwy heb bechu ger-bron  eu Duw,  hwy a Iwyddasant;  o-herwydd y Duw, yr hwn sydd yn casau anwiredd, oedd gyda hwynt.

 

º18  Ond pan giliasant hwy o'r ffordd a osodasai efe iddynt, hwy a ddistryw-iwyd  trwy  ryfeloedd  lawer  iawn  dros ben,   ac   a   gaethgludwyd   i   wlad   nid oedd eiddynt hwy; a them! eu Duw a fwriwyd i lawr, a'u dinasoedd a enill-wyd gan y gelynion.

 

º19  Ac yn awr y dychwelasant at eu Duw, ac y daethant i fyny o'r wasgarfa lie y gwasgarasid hwynt, ac y meddian-   j asant Jerwsalem, lie y mae eu cysegr hwynt,  ac  y trigasant  yn  y  mynydd-dir; canys anghyfannedd fu.

 

º20  Yn awr gan hynny, fy llywydd a'm harglwydd,   od   oes   amryfusedd   yn   y bobl hyn, ac o phechasant yn erbyn eu Duw, ystyriwn mai hyn fydd yn rhwystr    i iddynt; ac awn i fyny, a goresgynnwn hwynt.

 

º21  Eithr   onid   oes   anwiredd   yn   eu cenedl hwynt, eled fy arglwydd heibio, rhag   i'w   Harglwydd   eu    hamddiffyn hwynt, ac i'w Duw fod drostynt, ac i ninnau fod yn waradwydd yng ngolwg yr holl fyd.

 

º22  A phan orffennodd Achior y geiriau hyn, yr holl bobl oedd yn sefyll p amgylch y babell a furmurasant: a phendefigion Oloffernes, a'r rhai oil oedd yn preswylio'r mordir, a Moab, a ddywedasant am ei ladd ef.

 

º23  Canys,   eb   hwynt,   nid   ofnwn   ni rhag   wynebau   meibion   Israel:   oherwydd,  wele,  pobl ydynt  hwy  heb  na nerth   na    chadernid    yn    erbyn   llu mawr.

 

º24  Am hynny awn i fyny, a hwy a fyddant yn fwyd i'th lu di, O arglwydd Oloffernes.

 

ºPENNOD 6

º1 A PHAN   ddistawodd   twrf  y   gwyr oedd o amgylch yr eisteddfod, yna Oloffernes   tywysog  llu  yr  Asyriaid  a ddywedodd wrth Achior a'r Moabiaid oil, gerbron yr holl bobl ddieithr,

 

º2  A phwy wyt ti, Achior, a chyflog-edigion Effraim, fel y proffwydaist yn ein mysg ni fel heddiw, ac y dywedaist ar na ryfelom ni a phobl Israel, am yr amddiffyn eu Duw hwynt? a phwy sy Dduw onid Nabuchodonosor?

 

º3  Efe a enfyn ei nerth, ac a'u difetha hwynt oddi ar wyneb y ddaear; ac ni wared eu Duw hwynt;  eithr nyni  ei weision  ef  a'u   distrywiwn  hwynt  fel vm   gwr;   canys   ni   allant   hwy   sefyll dan nerth ein meirch ni.

 

º4  Nyni  a'u  sathrwn  hwy  a  hwynt; a'u mynyddoedd hwynt a feddwir a'u gwaed, a'u meysydd a lenwir a'u cel-aneddau, 61 eu traed ni allant sefyll o'n blaen, eithr llwyr ddifethir hwynt, medd y   brenin   Nabuchodonosor,   arglwydd yr holl ddaear; canys efe a ddywedodd, Ni bydd un o'm geiriau i yn ofer.

 

º5  A  thithau  Achior,   cyflogwas  Ammon, yr hwn a leferaist y geiriau hyn yn nydd dy anwiredd, ni chei weled mwyach fy wyneb i o  heddiw  allan, hyd  oni  ddialwyf ar y  genedl  hon  a ddaeth o'r Aifft.

 

º6  Yna   haearn   fy   llu   i   a   lliaws   fy ngweision, a a trwy dy ystlysau di, a thi   a   syrthi   ymhlith   eu   lladdedigion hwynt, pan ddychwelwyf.

 

º7  A'm gweision i a'th ddygant di i'r mynydd-dir, a hwy a'th osodant di yn un o'r dinasoedd uchel.

 

º8  Ac ni ddifethir di, nes dy ddifetha gyda hwynt.

 

º9  Ac od wyt ti yn gadael ar dy galon na ddelir hwynt, na syrthied dy wynep-ryd:  myfi  a'i lleferais, ac ni bydd un o'm geiriau yn ofer.

 

º10  Yna    Oloffernes    a    orchmynnodd i'w weision, y rhai oedd yn sefyll yn ei babell ef, ddala Achior, a'i ddwyn ef i Bethulia, a'i roddi ef yn nwylo meibion Israel.

 

º11  Felly  ei  weision   ef  a'i   daliasant, ac  a'i   dygasant   ef allan  o'r  gwersyll i'r gwastadedd, ac a aethant o ganol y gwastadedd i'r mynydd-dir, ac a ddaeth-ant at y ffynhonnau sy dan Bethulia.

 

º12  A   phan   welodd   gwyr   y   ddinas hwynt, hwy a godasant eu harfau, ac a aethant allan o'r ddinas i ben y bryn; a phob gwr a'r a oedd yn ergydio mewn taflffon a'u lluddiodd hwynt rhag dy' fod  i  fyny,  ac  a  daflasant  gerrig  i'w herbyn hwynt.

 

º13  Yna hwy a aethant dan y bryn, ac a rwymasant Achior, ac a'i taflasant i lawr, ac a'i gadawsant ef wrth droed y bryn, ac a aethant at eu harglwydd.

 

º14  Yna meibion  Israel a ddaethant  i waered o'u dinas, ac a ddaethant ato ef, ac   a'i   gollyngasant   yn   rhydd,   ac   a'i dygasant  i   Bethulia, ac a'i gosodasant gerbron llywodraethwyr eu dinas,

 

º15  Y rhai oedd yn y dyddiau hynny, Oseias mab Micha, o Iwyth Simeon, a Chabris mab Gothoniel, a Charmis mab Melchiel.

 

º16  A   hwy   a   alwasant   ynghyd   holl henuriaid y ddinas;  a'u holl wyr ieu-ainc   hwy   a'u   gwragedd   a   redasant ynghyd   i'r  gymanfa;   a  hwy   a   osod-asant Achior yng nghanol eu pobl: yna Oseias a ofynnodd iddo yr hyn a ddi-gwyddasai.

 

º17  Ac efe a atebodd,  ac a fynegodd iddynt   eiriau   cyngor  Oloffernes,   a'r holl   eiriau  a  lefarasai   efe  ymysg  ty-wysogion Assur, a'r pethau oil a ddywedasai   Oloffernes   yn   rhyfygus   yn erbyn ty Israel.

 

º18  Yna y bobl a syrthiasant i lawr, ac a addolasant Dduw, ac a waeddasant ar Dduw, gan ddywedyd,

 

º19  O   Arglwydd   Dduw   y   nefoedd, edrych ar eu balchder hwy, a thrugarha wrth waeledd ein cenedl ni, ac edrych ar wyneb y rhai a sancteiddiwyd i ti y dydd hwn.

 

º20  Yna hwy a gysurasant Achior, ac a'i canmolasant ef yn ddirfawr.

 

º21  Ac Oseias a'i cymerth ef o'r gyn-ulleidfa   i'w   dy,   ac   a   wnaeth   wledd i'r   henuriaid:   a   hwy   a   alwasant   ar Dduw Israel yn gynhorthwy iddynt ar hyd y nos honno.

 

ºPENNOD 7

 

º1 ATHRANNOETH Oloffernes a orchmynnodd i'w holl lu, ac i'w holl bobl, y rhai a ddaethent yn gynhorthwy iddoj symud eu gwersyllau yn erbyn Bethulia, ac o'r blaen oresgyn bylchau'r mynydd-dir, a gwneuthur rhyfel yn erbyn meibion Israel.

 

º2  Yna eu gwyr cryfion hwynt a sym-udasant eu gwersyllau y dwthwn hwnnw. A    llu    y   rhyfelwyr    oedd    gan   mil a   deng  mil   a   thrigain   o   wyr   traed, a deuddeng mil o wyr meirch,  heblaw pobl   gymysg,   a   gwyr   eraill,   y   rhai oedd ar eu traed yn eu plith hwynt, yn dyrfa fawr iawn.

 

º3  A hwy a wersyllasant yn y dyffryn, yn gyfagos i Bethulia, wrth y ffynnon: ac a  gyraeddasant ar led o  Dothaim hyd Belmaim, ac ar hyd o Bethulia i Cyamon,   yr   hon   sydd   ar   gyfer   Es-draelom.

 

º4  A phan welodd meibion  Israel  eu lliaws   hwynt,   hwy   a   gyffroesant   yn aruthr, a phob un a ddywedodd wrth ei gilydd, Yn awr y rhai hyn a ores-gynasant wyneb yr holl ddaear: canys ni ddichon y mynyddoedd uchel, na'r dyffrynnoedd, na'r bryniau, gynnal eu pwys hwynt.

 

º5  Yna  pob   un  a  gymerth  ei  arfau rhyfel, ac a gyneuasant dan ar eu tyrau,

ac a arosasant yn gwylied ar hyd y nos honno.

 

º6  Ac   ar   yr   ail   dydd,   Oloffernes   a ddug allan ei holl wyr meirch yng ngolwg meibion Israel y rhai oedd yn Bethulia.

 

º7  Ac efe a ddaliodd sylw ar y ffordd yr elid i fyny i'w dinas hwynt, ac efe a   ddaeth   at   eu  ffynhonnau   dyfroedd hwy, ac a'u goresgynnodd hwynt, ac a osododd fyddinoedd o ryfelwyr arnynt hwy, ac a  symudodd ei wersyll tuag at ei bobl.

 

º8  Yna holl dywysogion meibion Esau, a holl benaethiaid pobl Moab,  a holl gapteiniaid y mordir, a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant,

 

º9  Gwrandawed ein harglwydd air yn awr, rhag dyfod afrwydd-deb yn cry lu di.

 

º10  Canys y bobl hyn, meibion Israel, nid ydynt yn ymddiried yn eu gwayw-ffyn,  eithr yn uchder y  mynyddoedd, lie y maent hwy yn preswylio,  oblegid anodd yw myned i fyny i bennau eu mynyddoedd hwy.

 

º11  Yn awr gan hynny, fy arglwydd, nac   ymladd   a   hwynt   mewn   rhyfel byddinog, ac ni dderfydd am un gwr o'th bobl di.

 

º12  Arcs yn dy wersyllau,  gan gadw pob   gwr   o'th   lu,   a   goresgynned   dy weision di y  ffynnon ddwfr sy'n dyfod allan o odre'r mynydd:

 

º13  Canys oddi yno y mae holl drigolion Bethulia yn cael eu dwfr: felly syched a'u  lladd  hwynt,  a  hwy  a  roddant  i fyny eu dinas; a ninnau a'n pobl a awn i fyny i  bennau'r  mynyddoedd  nesaf, ac a wersyllwn yn  eu  herbyn hwynt, trwy wylied nad elo un gwr allan o'r ddinas.

 

º14  Felly    hwynt-hwy    a'u    gwragedd a'u   meibion   a  drengant  o  newyn;   a chyn  dyfod y  cleddyf yn  eu   herbyn, hwy a ddymchwelir yn yr heolydd lie y maent yn trigo.

 

º15  Pel hyn y teli di iddynt hwy daled-igaeth     ddrygionus     oherwydd     iddynt wrthryfela, ac nad ufuddhasant i'th wyneb di yn heddychol.

 

º16  A'u   geiriau    hwynt   a   fu   fodlon

gan Oloffernes, a chan ei holl weision: ac efe a orchmynnodd wneuthur megis y llefarasent hwy.

 

º17  Felly  gwersyllau  meibion  Ammon a  ymadawsant,    a   chyda  hwynt  bum mil   o'r   Asyriaid;   a   hwy   a   wersyllasant yn y dyffryn, ac a oresgynasant y dyfroedd,  a  ffynhonnau  dwfr meibion

Israel.

 

º18  A meibion Esau a aethant i fyny gyda  meibion  Ammon,  ac  a  wersyllasant yn y mynydd-dir ar gyfer Doth-aim: a hwy a anfonasant rai ohonynt tua'r   deau,   a   thua'r   dwyrain,   gyfer-byn ag Ecrebel, yr hon sydd yn gyfagos i Chusi, yr hon sydd ar yr afon Moch-mur; a'r rhan arall o lu'r Asyriaid a wersyllasant yn y maes, ac a orchuddias-ant   holl   wyneb   y   wlad;   a'u   pebyll hwynt,   a'u   mud,   a   wersyllasant   yn lliaws mawr iawn.

 

º19  A meibion Israel a waeddasant ar yr  Arglwydd  eu Duw,  canys  hwy  a ddigalonasent;   oherwydd  bod  eu  holl elynion o amgylch, fel na allent ffoi o'u

plith hwynt.

 

º20  A     holl     gynulleidfa'r     Asyriaid, a'r gwyr traed, a'r cerbydau, a'u gwyr meirch, a drigasant o'u hamgylch hwynt bedwar diwrnod ar ddeg ar hugain, fel y pallodd eu holl lestri dyfroedd gan holl drigolion Bethulia.

 

º21  A'r    ffynonellau    a    ddihysbydd-wyd, ac nid oedd ganddynt  ddigon  o ddwfr i'w yfed dros un diwrnod: canys dan   fesur   y   rhoddent   iddynt   ddwfr

i'w yfed.

 

º22  Am hynny eu plant hwy a lesmeir-iasant, a'u gwragedd a'u gwyr ieuainc a ballasant gan syched, ac a syrthiasant yn heolydd y ddinas, ac yng nghyniweir-feydd y pyrth: ac nid oedd nerth yn-

ddynt mwyach.

 

º23 Yna'r holl bobl a ymgasglasant at Oseias, ac at dywysogion y ddinas, yn wyr ieuainc, ac yn wragedd, ac yn blant, ac a waeddasant a lief uchel, ac a ddywedasant gerbron yr holl hen-

 

canys chwi a wnaethoch gam mawr a ni, am na lefarasoch yn heddychlon wrth feibion Asyria.

 

º25  Canys yn awr nid oes gennym ni gynorthwywr:   eithr Duw  a'n gwerth-odd ni i'w dwylo hwynt, fel y'n cwymper i lawr o'u blaen hwynt, trwy syched, a thrwy ddinistr mawr.

 

º26  Yn awr gan hynny gelwch hwynt atoch, a rhoddwch yr holl ddinas yn anrhaith i bobl Oloffernes, ac i'w holl

luef.

 

º27  Canys gwell i ni fod yn anrhaith iddynt hwy na marw o syched: oblegid ni a fyddwn yn weision, fel y byddo byw ein heinioes, ac na welom farwol-aeth ein plant o flaen ein llygaid, na'n gwragedd a'n meibion yn meirw.

 

º28 Yr ydym yn galw yn dyst yn eich erbyn chwi y nef a'r ddaear, a'n Duw ni, ac Arglwydd ein tadau, yr hwn sydd yn dial arnom ni yn 61 ein pechodau, a phechodau ein tadau, fel na wnelo efe fel hyn y dydd heddiw.

 

º29  Yna yr oedd wylofain mawr yng nghanol y gynulleidfa gan bawb yn gyt-un: felly hwy a waeddasant ar yr Arglwydd Dduw a lief uchel.

 

º30  Yna  y  dywedodd   Oseias  wrthynt hwy,   Cymerwch   gysur,   frodyr:   dis-gwyliwn eto bum niwrnod, yn y rhai y dichon yr Arglwydd ein Duw ddychwel-yd   ei   drugaredd   arnom:    canys    o'r diwedd ni wrthyd efe mohonom ni.

 

º31  Ac   od   a'r   dyddiau   hyn   heibio, heb ddyfod cynhorthwy i ni, mi a wnaf yn 61 eich gair chwi.

 

º32  Felly efe a wasgarodd y bobl i'w gwersyllau, a hwy a aethant ymaith i'r muriau, ac i dyrau eu dinas, ac a anfonasant  eu  gwragedd  a'u  plant  i'w  tai: a hwy a fuant mewn gostyngiad mawr yn y ddinas.

 

ºPENNOD 8

º1 xxxxx dyddiau   hynny   Judith xxxxx xxxx

riaid,       xxxx                                                Paffaim xxxx

 

Duw a farno rhyngom m a chwi:  xxx   Kattaun,  xxxxx

 

ºxxxxx

Ananeias, fcb Gedeon, fab fab   Acithio,   fab   Elm,   txxxxx

 

Eliab, fab Nathanael,  fab  Samael, fab Salasadaij fab Israel.

 

º2  A Manasses oedd ei gwr hi, o'r un llwyth a  gwaedoliaeth  a  hi:  ac  efe  a fuasai    farw    yn    nyddiau'r    cynhaeaf haidd.

 

º3  Canys   yr   oedd  efe   yn   ddyfal  yn gwylied y rhai oedd yn rhwymo ysgubau yn y maes, a'r gwres a ddaeth ar ei ben ef, fei y syrthiodd efe ar ei wely; ac efe a  fu  farw  yn  ninas  Bethulia;   a  hwy a'i   claddasant   ef gyda'i   dadau,  yn   y maes sy rhwng Dothaim a Balamon.

 

º4  A Judith oedd yn ei thy ei hun yn weddw, dair blynedd a phedwar mis.

 

º5  A hi a wnaeth iddi babell yn y fan uchaf o'i thy, ac a osododd sachlen am ei llwynau, a dillad ei gweddwdod oedd amdani.

 

º6  A hi a ymprydiodd holl ddyddiau ei gweddwdod;  oddieithr  y  dydd  cyn  y Sabothau, a'r Sabothau, a'r dydd cyn y newyddloerau, a'r newyddloerau, a'r gwyliau,   ac uchel ddyddiau   ty Israel.

 

º7  Ac yr oedd hi yn deg ei gwedd ac yn Ita iawn yr olwg: a Manasses ei gwr hi a adawsai iddi aur, ac arian, a gweision, a morynion, ac anifeiliaid, a meysydd, lie yr oedd hi yn arcs.

 

º8  Ac nid oedd neb a'r a allai ddwyn drygair yn ei herbyn hi: canys yr yd-oedd hi yn ofni Duw yn fawr.

 

º9  Pan   glybu   hi   eiriau   drygionus   y bobl yn erbyn y tywysog, am eu bod hwy yn llesgau gan brinder dyfroedd: (canys Judith a glywsai'r holl eiriau a lefarasai Oseias wrthynt hwy, fel y tyng-asai efe wrthynt y rhoddid y ddinas ym-hen y pum niwrnod i'r Asyriaid:)

 

º10  Yna hi a anfonodd ei llawforwyn, yr  hon  oedd  yn  llywodraethu ei  holl olud hi, i alw am Oseias, a Chabris, a Charmis, henuriaid ei dinas.

 

º11  A hwy a ddaethant ati hi: a hithau a   ddywedodd   wrthynt,    Gwrandewch yn awr arnaf fi, tywysogion y rhai sydd yn preswylio Bethulia: canys nid iawn eich  geiriau  chwi  y rhai  a  lefarasoch gerbron y bobl heddiw,  o ran y llw hwn   a   osodasoch   ac   a   draethasoch

rhwng Duw a ninnau, pan ddywed-asoch y rhoddech y ddinas i'n gelynion, oni ddychwelai'r Arglwydd i'n cyn-orthwyo ni o fewn y dyddiau hyn.

 

º12  Ac yn awr pwy ydych chwi, y rhai a demtiasoch Dduw y dydd heddiw, ac a'ch   gosodasoch   eich   hunain   yn   lie Duw ymysg meibion dynion?

 

º13  Ac yn awr yr ydych chwi yn ceisio'r Arglwydd   hollalluog;   ond  ni   chewch wybod dim bythj

 

º14  Canys ni fedrwch gael allan ddyfn-der  calon   dyn,  na   deall  y  pethau  y byddo efe yn eu meddwl: pa fodd wrth hynny  y   chwiliwch chwi allan Dduw, yr hwn a wnaeth yr holl bethau hyn? ac y gwybyddwch ei feddwl ef,  ac y medrwch   ddeall  ei   amcanion  ef?  nid felly,   frodyr;   na   ddicllonwch   yr   Arglwydd ein Duw ni.

 

º15  Canys    oni   fyn   efe    ein    cynor-thwyo ni o fewn pum niwrnod, y mae ganddo ef allu i'n hamddiffyn ni pan fynno, a phob  dydd, neu i'n dinistrio ni o flaen ein gelynion.

 

º16  Am hynny na rwymwch gynghorion . yr Arglwydd ein Duw ni:  canys  nid fel dyn y mae Duw, fel y galler ei fyg-wth ef; ac nid fel mab dyn, fel y galler ei farnu ef.

 

º17  Gan   hynny   disgwyliwn   iachawd-wriaeth oddi wrtho ef, galwn arno ef i'n  cynorthwyo  ni;  ac  efe  a  wrendy ar ein lief, os gwel efe yn dda.

 

º18  Canys ni chyfododd yn ein hoes-oedd ni, ac nid oes y dydd heddiw, na llwyth, na theulu, na phobl, na dinas, ohonom ni, a'r 'sy'n   addoli   duwiau a wneir & dwylo, megis y bu yn y dyddiau gym.

 

º19  Herwydd paham y rhoddwyd ein tadau ni i'r cleddyf, ac yn anrhaith, fel y syrthiasant trwy gwymp mawr o flaen ein gelynion.

 

º20  Ond nid adwaenom ni Dduw arall; am hynny yr ydym ni yn gobeithio na ddirmyga efe mohonom ni, na neb o'n hiliogaeth.

 

º21  Canys os delir nyni felly, Jwdea a anghyfanheddir,   a'n   cysegr   ni   a   anrheithir, ac efe a gais ei halogedigaeth hi o'n genau ni.

 

º22  A lladdfa ein brodyr ni, a chaeth-iwed y wlad, a diffeithwch ein hetifedd-iaeth, a ddychwel efe ar ein pennau ni ymysg   y   cenhedloedd,   pa   le   bynnag y gwasanaethom ni; ac ni a fyddwn yn gasbeth ac yn waradwydd yng ngolwg y rhai a'n meddiannant.

 

º23  Canys ni arweinir ein caethiwed ni mewn hawddgarwch; eithr trwy warth y gesyd yr Arglwydd ein Duw ni hi.

 

º24  Yn   awr   gan   hynny,   O   frodyr, dangoswn   esampl   i'n   brodyr;   oher-wydd arnom ni y mae eu calon hwynt, a'r cysegr, a'r ty, a'r allor sy a'i phwys arnom ni.

 

º25  Heblaw    hyn    oil,    diolchwn    i'r Arglwydd  ein Duw, yr hwn sydd yn ein profi ni, megis y profodd efe ein tadau ni.

 

º26  Cofiwch yr hyn a wnaeth efe  ag Abraham,   a  pha  fodd  y  profodd  efe Isaac,   a'r   hyn   a  wnaed  i   Jacob   ym Mesopotamia Syria, pan ydoedd efe yn bugeilio defaid Laban brawd ei fain.

 

º27  Canys   ni   phrofodd   efe   ni   yn  y tan fel hwynt-hwy, er prawf ar eu calon-nau hwynt, ac ni ddialodd arnom ni; eithr yr Arglwydd sydd yn ceryddu y rhai sydd yn nesau ato ef, er mwyn eu rhybuddio.

 

º28  Yna Oseias a ddywedodd wrthi hi, A chalon dda y lleferaist yr hyn oil a ddywedaist: ac nid oes a ddichon wrth-wynebu dy eiriau di.

 

º29  Oherwydd   nid   heddiw   yr   eglur-wyd dy ddoethineb di; eithr er dech-reuad dy ddyddiau di y gwybu'r holl bobl dy ddoethineb; canys da yw am-can dy galon di.

 

º30  Ond y bobl oedd yn fawr iawn eu syched, ac a'n cymellasant ni i wneuth-ur iddynt fel y llefarasom, ac i ddwyn arnom lw, yr hwn ni throseddwn.

 

º31  Am   hynny   gweddia   di   yn   awr trosom ni, o achos mai gwraig grefyddol ydwyt  ti;  a'r  Arglwydd  a  enfyn  law i lenwi ein ffynonellau ni, fel na lesgaom mwyach.

 

º32  Yna  y  dywedodd Judith  wrthynt hwy, Gwrandewch arnaf fi, a mi a wnaf beth y byddo son amdano trwy'r holl oesoedd gan feibion ein cenedl ni.

 

º33  Sefwch chwi yn y porth y nos hon, a myfi a af allan, mi a'm llawforwyn: ac o fewn y dyddiau, yn y rhai y dy-wedasoch y rhoddech chwi y ddinas i'n gelynion,   yr   Arglwydd   a   ymwel   ag Israel trwy fy Haw i.

 

º34  Ond na cheisiwch chwi mo'r ymo-fyn am fy ngweithred: canys ni fynegaf fi i chwi, nes gorfien yr hyn yr ydwyf yn ei wneuthur.

 

º35  Yna Oseias a'r tywysogion a ddy-wedasant wrthi, Dos mewn heddwch: a'r Arglwydd Dduw a fyddo o'th, flaen di, er dialedd ar ein gelynion.

 

º36  Felly   hwy   a   ddychwelasant   o'r babell, ac a aethant ymaith at eu bydd-inoedd.

 

ºPENNOD 9

º1 YNA Judith a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a osododd ludw ar ei phen, ac a ddiosgodd y sachliain &'t hwn yr oedd hi wedi ymwisgo: ac ynghylch yr amser yr offrymwyd yr arogl-darth yn Jerwsa-lem, o fewn ty'r Arglwydd, y pryn-hawngwaith hwnnw, yno Judith a waeddodd S lief uchel, ac a ddywedodd,

 

º2  O Arglwydd Dduw fy nhad Simeon, i'r hwn y rhoddaist gleddyf i ddial ar y dieithriaid, y rhai a agorasant groth y forwyn trwy halogedigaeth, ac a noeth-asant y morddwyd trwy waradwydd, ac a   halogasant   forwyndod   trwy  warth; canys tydi a archesit na wneid felly, ac eto hwy a wnaethant felly:

 

º3  Oherwydd   paham   y   rhoddaist   ti eu tywysogion hwynt i'r Eaddfa, a hwy wedi eu twyllo a olchasant eu gwely trwy waed; a thithau a drewaist y gweision gyda'r  penaethiaid,  a'r  penaethiaid  ar eu gorseddfeydd,

 

º4  Ac a roddaist eu gwragedd hwynt yn ysglyfaeth, a'u merched mewn caethiwed,   a'u   holl   anrhaith   yn   gyfran i   feibion cu gennyt;   y rhai oedd yn gresynu o'th resyndod di, ac yn ffiaidd ganddynt halogedigaeth eu gwaed, ac a alwasaiit arnat ti yn gynorthwyvvr. O Dduw, O fy Nuw, gwrando arnaf fi yr hon sy weddw;

 

º5  Canys ti a wnaethost nid yn unig y pethau hynny, eithr hefyd y pethau a   ddigwyddodd  o'r  blaen,   a'r  rhai  a fyddant rhag llaw;  a thi a feddyliaist am y  pethau  presennol,  a'r pethau a ddeuant rhag llaw.

 

º6  A'r pethau yr wyt ti yn eu ham-canu   sy   bresennol,   ac   yn   dywedyd, Wele ni yma: oherwydd dy holl ffyrdd di   sy   barod,   a'th   farnedigaethau   yn dy ragwybodaeth.

 

º7  Wele    yr    Asyriaid    wedi    amlhau trwy eu nerth, ymddyrchafasant yn eu meirch   a'u marchogion, ymogoneddas-ant yng nghadernid y gwyr traed, ym-ddiriedasant i'r darian, ac i'r bwa, ac i'r daflffon:  ac nid ydynt yn  gwybod mai tydi, O Arglwydd, sydd yn torri'r rhyfeloedd; yr Arglwydd yw  dy  enw.

 

º8  Rhwyga di eu cadernid hwynt a'th nerth,  a  dryllia eu  cryfder  a'th  ddic-llonedd:    canys   y   maent   hwy   wedi bwriadu  halogi dy gysegr, a difwyno'r tabernacl lie y mae dy enw gogoneddus yn gorffwys,  a  bwrw i lawr ag arfau gyrn dy allor di.

 

º9  Edrych ar eu balchder hwynt; an-fon dy ddigofaint ar eu pennau:  dod yn fy llaw i, yr hon ydwyf weddw, y nerth a feddyliais i.

 

º10  Taro  di,  trwy  ddichell fy ngwef-usau,  y  gwas  gyda'r tywysog,  a'r  ty-wysog gyda'i was:  tor di  eu huchder hwynt trwy law benyw.

 

º11  Canys nid yw dy nerth di mewn lliaws,   na'th   allu   yn   y   rhai   cedyrn: eithr tydi wyt Arglwydd y rhai gostyng-edig, a chynorthwywr y rhai bychain, amddiffynnwr y gweiniaid, ymgeleddwr y rhai gwrthodedig, achubwr y rhai an-obeithiol.

 

º12  Yn  ddiamau  ti yw Duw fy nhad i,   a   Duw   etifeddiaeth   Israel;   Llyw-iawdwr nefoedd a daear,   Creawdwr y dyfroedd, Brenin pob creadur, gwrando fy ngweddi,

 

º13  A   chaniata   i'm   hymadrodd   a'm dichell i, fod yn archoll ac yn anaf yn eu herbyn hwy, y rhai sydd yn amcanu pethau ysgeler yn erbyn dy dystiolaeth di, a'th dy sanctaidd, a chopa Seion, a thy meddiant dy feibion.

 

º14  A gwna i bob cenedl a llwyth gyd-nabod mai tydi yw Duw pob gallu a chadernid, ac nad oes neb arall yn amddiffynnwr i genedl Israel ond tydi.

 

ºPENNOD 10

º1 A PHAN ddarfu iddi weiddi ar Dduw Israel, a gorffen yr holl eiriau hyn,

 

º2  Hi a gyfododd o'r fan  y  syrthiasai, ac a alwodd ei llawforwyn, ac a aeth i waered i'r ty, yn yr hwn yr oedd hi yn aros dros ddyddiau y Sabothau, a thros ei gwyliau;

 

º3  A hi a fwriodd ymaith y sachliain a'r hwn yr ydoedd hi wedi ymwisgo, ac a ddiosgodd ddillad ei gweddwdod, ac a olchodd ei holl gorff drosto a dwfr, ac  a ymeneiniodd  ag ennaint gwerth-fawr, ac a osododd wallt ei phen mewn trefn, ac roddodd feitr amo, ac a wisgodd ei dillad parchedig y rhai y.byddai hi arferol o'u gwisgo ym myw ei gwr Manasses;

 

º4  A  hi  a  gymerodd  sandalau  am  ei thraed, ac a wisgodd freichledau, a chad-wyni,   a  modrwyau,   a  chlustlysau,   a'i holl   deganau,   ac    a    ymbinciodd   yn wych iawn, i hudo llygaid pa wyr byn-nag a'i gwelent hi.

 

º5  Yna   hi a  roddodd  i'w  llawforwyn gostrelaid o win, ac ystenaid o olew, ac a lanwodd gwd o beilliaid, ac o ffigys, ac o fara peilliaid: a hi a ddyblygodd ei holl lestri hyn ynghyd, ac a'u gosod-odd arni.

 

º6  A  hwy  a  aethant  ynghyd  i  borth dinas Bethulia, ac a gawsant Oseias, a henuriaid y ddinas, Chabris a Charmis, yn sefyll wrtho.

 

º7  A phan welsant hwy hi, a^bod ei hwynepryd hi wedi ei newid, a'i dillad wedi eu newid, hwynt-hwy a ryfeddasant yn  ddirfawr  oherwydd   ei  glendid  hi, ac a ddywedasant wrthi,

 

 

º8  Duw, Duw ein tadau, a roddo i ti ras, ac a gwblhao dy amcanion, i ogon-iant meibion Israel a dyrchafiad Jerwsa-lem. Yna hwy a addolasant Dduw.

 

º9  A hi a ddywedodd wrthynt, Gorch-mynnwch agoryd i mi borth y ddinas, fel yr elwyf allan i  gyflawni'r geiriau a lefarasoch chwi wrthyf.   Felly hwy a orchmynasant   i'r   llanciau   agori   iddi, megis ag y dywedasai hi: a hwythau a wnaethant felly.

 

º10  Yna  yr  aeth  Judith  allan,  hi  a'i llawforwyn gyda hi: a gwyr y ddinas a edrychasant ar ei hoi, nes iddi ddisgyn o'r mynydd,  a myned trwy'r dyffryn; ac ni allent wedi hynny ei gweled hi.

 

º11  A hwy a aethant ar hyd y dyffryn yn  union:   a gwyliadwriaeth gyntaf yr Asyriaid a gyfarfu & hi,

 

º12    Ac a'i daliasant hi, ac a ofynasant iddi, O ba bobl yr wyt ti? ac o ba le yr wyt ti yn dyfod? ac i ba le yr wyt ti yn myned?   A hi a ddywedodd, Merch ydwyf o'r  Hebreaid,  a  ffoi  yr  ydwyf oddi wrthynt hwy: canys hwy a roddir yn ysglyfaeth i chwi.

 

º13  Ac yr ydwyf fi yn dyfod gerbron Oloffernes  pen-tywysog  eich  llu  chwi, fel y mynegwyf eiriau gwir, ac y dan-goswyf ger ei fron ef y ffordd yr a efe, ac y goresgyn yr holl fynydd-dir; ac ni dderfydd am  gorff nac  einioes  un o'i wyr ef.

 

º14  Pan   glybu  y   gwyr   ei geiriau hi, hwy  a  ddaliasant  sylw  ar ei hwynepryd hi, ac yr oedd hi yn landeg odiaeth ger eu bron hwynt; a hwy a ddywedasant wrthi hi,

 

º15  Tydi a gedwaist dy einioes, gan i ti ddyfod i waered ar frys gerbron ein har-glwydd ni: yn awr gan hynny tyred at ei babell ef, a rhyw rai ohonom a'th arweiniant di, nes iddynt dy roddi yn ei law ef.

 

º16  A phan sefych di ger ei fron ef, nac ofna yn dy galon, eithr mynega yn 61 dy ymadroddion, ac efe a wna yn dda i ti.

 

º17  Yna hwy a  etholasant  gannwr o-honynt,  ac  a  baratoesant  gerbyd  iddi

hi, ac i'w llawforwyn, a hwy a'i dyg-asant hi i babell Oloffernes.

 

º18  Yna   yr   oedd   rhedegfain   trwy'r holl  wersyll:   canys   ei   dyfodiad  hi  a aeth yn gyhoedd yn y pebyll: a hwy a ddaethant,  ac a safasant o'i hamgylch hi, canys yr oedd hi yn sefyll o'r tu allan   i   babell   Oloffernes,   nes   iddynt hwy fynegi iddo o'i herwydd hi.

 

º19  A hwy a ryfeddasant oherwydd ei glendid hi, ac a ryfeddasant o'i herwydd with  feibion  Israel;  a  dywedodd  pob un wrth ei gilydd, Pwy a ddirmygai'r bobl hyn,  sy a'r fath wragedd yn eu mysg? diau nid yw dda adael un gwr o-honynt; canys pe gadewid hwynt, hwy a allent dwyUo'r holl ddaear.

 

º20  A'r rhai oedd yn cysgu yn agos at Oloffernes   a   aethant   allan,   a'i   holl weision ef, ac a'i dygasant hi i'r babell.

 

º21  Ac   Oloffernes   oedd   yn   gorffwys ar ei wely mewn canopi, yr hwn ydoedd wedi ei weu o borffor, ac aur, a smarag-dus, a meini gwerthfawr.

 

º22  A  hwy  a  fynegasant   iddo  ef o'i phlegid hi; ac efe a aeth allan i'r cyntedd o flaen  ei babell, a Uusernau arian yn myned o'i flaen ef.

 

º23  A phan ddaeth Judith ger ei fron ef a'i weision, hwy oil a ryfeddasant o-herwydd    glendid    ei    hwynepryd   hi: hithau gan syrthio ar ei hwyneb a ym-grymodd iddo: a'i weision ef a'i codasant hi i fyny.

 

ºPENNOD 11

º1 xxx"NA Oloffernes a ddywedodd wrthi A hi, Cymer gysur, wraig, nac ofna yn dy galon; canys ni wneuthum i niwed i neb a fynnai wasanaethu Na-buchodonosor brenin yr holl ddaear.

 

º2  Ac yn awr dy bobl di, y rhai sydd yn aros yn y mynyddoedd, oni buasai iddynt hwy fy nirmygu,  ni  ddyrchaf-aswn   fy   ngwaywffon   yn   eu   herbyn hwynt:   ond   hwy   a   wnaethant   hyn iddynt eu hunain.

 

º3  Ond yn awr dywed i mi paham y ffoaist ti oddi wrthynt hwy, ac y daeth-ost atom   ni;   canys ti a   ddaethost  i ddiogelwch:   cymer   gysur;   byw  fyddi di y nos hon, a rhag llaw;

 

º4  Canys nid oes neb a wna niwed i ti, ond a wnel yn  dda i ti, megis  ag y gwneir   i   weision   fy   arglwydd   frenin Nabuchodonosor.

 

º5  Yna Judith a ddywedodd wrtho ef, Derbyn   eiriau   dy   wasanaethferch,   a gad i'th lawforwyn lefaru ger dy fron di,   ac   ni   fynegaf   geiwydd   i'm   har-glwydd y nos hon.

 

º6  Ac os tydi a ganlyni eiriau dy lawforwyn,  Duw a wna yn gwbl y peth trwot ti, ac ni phalla fy arglwydd o'i •amcanion.

 

º7  Fel y mae Nabuchodonosor brenin yr holl ddaear yn fyw, ac mai byw ei nerth  ef,  yr  hwn  a'th  anfonodd  di i uniawni pob enaid; nid yn unig dynion a'i   gwasanaethant   ef   trwot   ti,   eithr bwystfilod y maes,  a'r ysgrubhaid,  ac ehediaid   y   nefoedd,   a   fyddant   byw trwy dy nerth di, dan Nabuchodonosor a'i holl dy ef.

 

º8  Canys   ni   a   glywsom   son   am   dy ddoethineb di, a chyfrwystra dy galon; ac  fe  a  fynegwyd  trwy'r  holl  ddaear dy fod di yn unig yn rhagorol trwy'r holl deyrnas, ac yn alluog mewn gwy-bodaeth, ac yn rhyfedd yng nghyfarwydd-yd rhyfel.

 

º9  Ac yn awr am y peth a lefarodd Achior   yn   dy   eisteddfod   di,   nyni   a glywsom ei ymadroddion ef: canys gwyr Bethulia a'i daliasant ef, ac efe a fyneg-odd iddynt yr hyn oil a lefarasai  efe wrthyt ti.

 

º10  Am hynny, O arglwydd lywiawdwr, na ddiystyra ei air ef, ond gosod ef at dy  galon;   canys   gwir  yw:   oherwydd nid oes dial i'w gymryd yn erbyn ein cenedl ni, ac ni ddichon y cleddyf eu gorchfygu hwynt, oddieithr iddynt hwy bechu yn erbyn eu Duw.

 

º11  Ac yn awr rhag bod fy arglwydd yn ddiobaith, a methu ganddo yr hyn a amcanodd, marwolaeth a syrthiodd ar-nynt   hwy,    a   phechod   a'u    daliodd, trwy'r hwn  y  dicllonant  eu  Duw,  pa bryd bynnag y gwnelont anweddeidd-dra.

 

º12  Oblegid i'w lluniaeth hwynt ddar-fod, ac i'w dwfr brinhau, hwy a ym-gyngorasant   ar   ruthro   i'r   anifeiliaid; ac y maent ar fedr gwastraffu yr hyn oil a waharddodd Duw iddynt hwy trwy ei gyfraith ei fvvyta.

 

º13  Ac  maent   ar  fedr   treulio   blaen-firwyth  yr  yd,  a  degwm  y  gwin   a'r olew, y rhai a gadwasant yn sanctaidd i'r ofTeiriaid sydd yn sefyll yn Jerwsa-lem  gerbron  ein  Duw  ni;   y  rhai  ni pherthyn  i  neb   o'r   bobl   gyffwrdd   a hwynt a'u dwylo.

 

º14  Hefyd hwy a anfonasant i Jerwsa-iem,  oherwydd  y rhai  sy'n  trigo  yno a wnaethant felly, rai i ddwyn iddynt hwy gennad o'r seneddr:

 

º15  A phan ddygont  hwy  air iddynt, yna hwy a wnant felly: a hwy a roddir i ti i'w dinistrio y dwthwn hwnnw.

 

º16  Am   hynny   myfi   dy   wasanaeth-ferch yn gwybod hyn oil, a ffoais o'u gwydd hwynt: a Duw a'm hanfonodd i wneuthur 4 thi y cyfryw bethau ag y rhyfedda'r holl fyd, a'r sawl a'u clywant oil;

 

º17  Canys   dy wasanaethferch sy gref-yddol, ac yn addoli Duw nef ddydd a . nos.   Ac yn awr gad i mi aros gyda thi,  fy  arglwydd;   a'th  wasanaethferch

a a y nos alian i'r dyffryn, a mi a weddi'af Dduw, ac efe a fynega i mi pa bryd y gwnaethant hwy eu pechodau:

 

º18  A minnau a ddeuaf, ac a'i myn-egaf i ti, fel yr elych dithau allan a'th holl lu;  ac ni bydd neb ohonynt hwy a allo dy wrthwynebu.

 

º19  A mi a'th arweiniaf di trwy ganol Jwdea, nes i ti ddyfod o flaen Jerwsa-lem;   a  mi   a   osodaf  dy   eisteddfa   di yn ei chanol hi, a thi a'u hymlidi hwynt fel   defaid  heb   fugail,   ac  ni   chyfarth ci  a'i  dafod i'th  erbyn:  canys  hyn  a ddywetbwyd i mi trwy fy rhagwybod-aeth, ac a fynegwyd i mi, a myfi a an-fonwyd i fynegi i ti.

 

º20  A'i geiriau hi a ryglyddasant fodd Oloffernes   a'i   holl   weision:  a  hwy  a ryfeddasant oherwydd ei  doethineb hi, ac a ddywedasant,

 

º21  Nid oes mo'r fath wraig o bryd a ewedd a doeth ymadrodd, o gwr bwy-gilydd i'r ddaear.

 

º22  Ac Oloffernes a ddywedodd wrthi, Da y gwnaeth Duw, yr hwn a'th anfonodd di o flaen y bobl, fel y byddai nerth yn ein dwylo ni, a distryw ar y rhai a ddirmygant fy arglwydd.

 

º23  Ac yn awr yr wyt ti yn landeg yr olwg, ac yn ddoeth yn dy ymadrodd: os tydi  a  wnei  megis  y lleferaist,  dy Dduw di fydd yn Dduw i mi, a thi a gei   aros   yn   nhy   Nabuchodonosor   y brenin,   ac   a   fyddi   yn   enwog   trwy'r holl ddaear.

 

ºPENNOD 12

º1 YNA efe a orchmynnodd ei dwyn hi i mewn, lie yr oedd ei drysorau ef ynghadw,   ac  a   archodd   hulio   bwrdd iddi hi o'i fwydydd ei hun, ac o'i %vin iyfed.

 

º2  A Judith a  ddywedodd, Ni fwytaf fi  ohonynt,  rhag  bod  camwedd:  eithr o'r  pethau  hyn  a  ddaeth  gyda  mi  y bydd fy nhraul.

 

º3  Yna OlofFernes a ddywedodd wrthi, Os derfydd y pethau sy gyda thi, o ba le y gallwn ni roddi eu cyffelyb hwynt i ti? canys nid oes gyda ni neb o'th genedl di.

 

º4  A  Judith  a   ddywedodd  wrtho   ef, Fel y mae dy enaid yn fyw, fy arglwydd, ni threulia  dy wasanaethferch  yr  hyn sy gyda mi, hyd oni wnel yr Arglwydd trwy fy Haw i yr hyn y rhoddodd efe ei fryd arno.

 

º5  Yna gweision  Oloffernes  a'i  dygas-ant hi i'r babell; a hi a gysgodd hyd banner nos, ac a gyfododd ar yr wyliad-wriaeth foreol;

 

º6  A hi a anfonodd at Oloffernes, gan ddywedyd,  Gorchmynned  fy  arglwydd yn   awr   ollwng   dy   wasanaethferch   i ryned allan i weddio.

 

º7  Yna   Oloffernes   a   orchmynnodd   i wylwyr   ei   gorff  ef  na   rwystrent   hi: feEy hi a arhosodd yn y gwersyll dri diwrnod; a hi a ai allan liw nos i ddyffryn Bethulia, ac a ymolchai mewn ffynnon ddwfr wrth y gwersyll.

 

º8  A phan ddeuai hi i fyny, hi a wedd-lai ar Arglwydd Dduw Israel, ar iddo ef gyfarwyddo ei ffordd hi, er dyrchaf-iad meibion ei phobl.

 

º9  Felly hi a ai i mewn yn Ian, ac a drigai yn y babell, hyd oni fwytai hi ei bwyd yn yr hwyr.

 

º10  Ac   ar   y   pedwerydd   dydd,   Oloffernes a wnaeth wledd i'w weision ei hun yn unig, ac ni wahoddodd efe neb o'r swyddogion i'r wledd.

 

º11  Yna  y  dywedodd efe wrth Bagoas ei stafellydd, yr hwn oedd swyddog ar yr hyn oil a feddai efe, Dos, cais gan yr Hebrees yn awr, yr hon sy gyda thi, ddyfod  atom  ni,  fel  y  bwytao  ac  yr yfo hi gyda ni:

 

º12  Canys wele, cywilydd yw i'n hwyneb ni   ollwng   ymaith   y   fath   wraig   heb ymddiddan a hi: oni bydd i ni ei denu hi atom, hi a'n gwatwar ni.

 

º13  Yna Bagoas a aeth ymaith o wydd Oloffernes, ac a ddaeth i mewn ati hi, ac a ddywedodd, Na fydded blin gan y ferch Ian yma ddyfod at fy arglwydd, i'w hanrhydeddu ger ei fron  ef, ac i yfed gyda ni win yn hyfryd, ac i fod y dydd  hwn  fel  yn  o  ferched  meibion Asyria, y rhai sydd yn sefyll yn nh$ Nabuchodonosor.

 

º14  A Judith  a ddywedodd wrtho ef, Pwy ydwyf fi fel y dywedwn yn erbyn fy   arglwydd?   canys   beth   bynnag   a fyddo    bodlon    ganddo   ef,   myfi    a'i gwnaf yn  ebrwydd;  a hyn fydd i mi yn llawenydd hyd ddydd fy marwolaeth.

 

º15  Felly hi a gyfododd, ac a ymhardd-odd a dillad, ac a phob addurnwisgoedd gwragedd; a'i llawforwyn hi a ddaeth, ac a ledodd iddi hi ar y llawr, ar gyfer Oloffernes,  y  crwyn  a  gawsai  hi  gan Bagoas i'w chyfraid  ei hun beunydd, fel yr eisteddai hi ac y,bwytai arnynt.

 

º16  Pan   ddaeth   Judith   i   mewn,   ac eistedd, yna calon Oloffernes a ddych-lamodd o'i herwydd hi, a'i ysbryd ef a gynhyrfodd,   ac   yr   oedd   yn   chwan-nog iawn i gydorwedd a hi: canys yr oedd efe yn gwylied amser i'w thwyllo, er y dydd y gwelsai efe hi.

 

 

º17  Yna Oloffernes a ddywedodd wrthi, Yf yn awr, a bydd lawen gyda ni.

 

º18  A Judith a ddywedodd, Mi a yfaf yn awr, O arglwydd, canys fy einioes a fawrygwyd    heddiw,    rhagor    yr    holl ddyddiau er pan y'm ganed.

 

º19  Yna y  cymerodd  hi,  ac y bwyt-aodd ac yr yfodd ger ei fron ef yr hyn a baratoesai ei llawforwyn hi.

 

º20  ^.c   Oloffernes,   a   aeth  yn  llawen o'i phiegid hi, ac a yfodd o win fwy o lawer nag a yfasai efe mewn un dydd er pan anesid ef.

 

ºPENNOD 13

º1 A PHAN hwyrhaodd hi, ei weision ef a frysiasant i fyned ymaith; a Bagoas a gaeodd ei babell ef o'r tu allan, ac a ollyngodd ymaith y rhai oedd yn sefyll gerbron ei arglwydd, a hwy a aethant i'w gwelyau: canys yr oeddynt oil yn ddiffygiol, oherwydd hir y buasai'r wledd.

 

º2  A  Judith  a  adawyd  ei  hun  yn  y babell; ac Oloffernes oedd yn gorwedd ar ei wely, canys yr oedd efe wedi ym-lenwi o win.

 

º3  A   Judith   a   ddywedodd   wrth   ei llawforwyn am iddi sefyll o'r tu allan i'w  stafell,  a  disgwyl  am  ei  dyfodiad hi allan, megis y byddai hi beunydd: oblegid hi a ddywedodd yr ai hi allan i'w gweddi:  ac wrth Bagoas y dywed-odd hi yr un ffunud,

 

º4  Felly   pawb   a   aethant   ymaith   o'i gwydd  hi,   ac  ni   adawyd  neb  yn  yr ystafell  o  fychan i fawr.   Yna  Judith yn sefyll wrth ei wely ef a ddywedodd yn ei chalon, O Arglwydd Dduw pob nerth, edrych di yr awr hon ar waith fy nwylo, er dyrchafiad i Jerwsalem:

 

º5  Canys  yn  awr  y  mae  yr  amser  i gynorthwyo dy etifeddiaeth, ac i gwbl-hau fy amcanion i, er distrywio'r gelyn-ion a gyfodasant i'n herbyn ni.

 

º6  Yna hi a ddaeth at erchwyn y gwely, yr   hwn   oedd   wrth   ben    Oloffernes, ac a dynnodd i lawr ei gleddyf ef oddi yno.

 

º7  A hi a ddaeth yn nes at y gwely, ac a ymaflodd yng  ngwallt ei ben ef, ac a ddywedodd, Nertha di fi, O Arglwydd Dduw, y dydd hwn.

 

º8  A hi a drawodd ar ei wddf ef ddwy waith   a'i   holl   nerth,   ac   a   dynnodd ymaith ei ben ef oddi wrthOj

 

º9  Ac a dreiglodd ei gorff ef o'r gwely, ac  a  dynnodd  ymaith w  canopi  oddi ar y colofnau: ac wedi ychydig ennyd hi a aeth allan, ac a. roddes ben Oloffernes i'w llawforwyn:

 

º10  A hithau a'i rhoddes ef yn y tudded lie yr oedd eu bwyd hwynt: yna hwy a   aethant   allan   ill   dwyoedd   ynghyd, fel   y   byddent   arferol   wrth    fyned   i weddio:  a chan  fyned trwy'r gwersyll, hwy a amgylchasant y dyffryn hwnnw, a hwy a aethant i fyny i fynydd Bethulia, ac a ddaethant wrth ei phyrth hi.

 

º11  Yna y dywedodd Judith o hirbell wrth   y   rhai   oedd   yn   cadw'r   pyrth, Agorwch,   agorwch   weithian   y   porth. Duw, sef ein Duw ni, sydd gyda ni, i wneuthur   eto   rymuster   yn   Israel,   a chadernid yn erbyn y gelynion,  fel y gwnaeth efe heddiw.

 

º12  A phan glybu gwyr ei dinas ei llais hi, hwy a frysiasant ddyfod i waered at borth eu dinas: a hwy a alwasant yrig-hyd henuriaid y ddinas.

 

º13  A hwy a redasant ynghyd o fychan i fawr: canys amau oedd ganddynt ei dyfod hi: felly hwy a agorasant y porth, ac a'i  derbyniasant hi,  ac a  gyneuas-ant dan yn olau, ac a safasant o'u ham-gylch hwynt.

 

º14  Yna   hi   a   ddywedodd   wrthynt   a lief uchel, Moliennwch Dduw, molien-nwch,   moliennwch   Dduw;   canys   ni thynnodd efe ymaith ei drugaredd oddi wrth dy Israel, eithr efe a ddinistriodd ein gelynion trwy fy Haw i y nos hon.

 

º15  Yna hi a dynnodd ei ben ef allan o'r cwd, ac a'i dangosodd, ac a ddywedodd wrthynt, Wele ben Oloffernes pen-tywysog   milwriaeth   yr   Asyriaid, ac wele'r brycan yr oedd efe yn gorwedd ynddo yn ei feddwdod: a'r Arglwydd a'i trawodd ef trwy law benyw.

 

 

º16  Fel y mae'r Arglwydd yn fyw, yr hwn a'm cadwodd i yn y ffordd y rhodiais arni, fy wyneb i a'i twyllodd ef i'w     golledigaeth, ac ni wnaeth efe bechod  gyda mi  i'm   halogi   ac   i'm   cywilyddio.       

 

º17  Yna y synnodd ar yr holl bobl yn aruthr, ac a ymgrymasant, ac a addol-asant Dduw, ac a ddywedasant o unfryd, Bendigedig wyt ti, ein Duw ni, yr hwn a wnaethost  elynion dy bobl yn  ddi-ddim y dydd heddiw.

 

º18  Yna Oseias a ddywedodd wrthi hi, O   ferch,   bendigedig   wyt   gan   Dduw goruchaf, rhagor yr holl wragedd sydd ar y ddaear: a bendigedig fyddo'r Arglwydd Dduw, yr hwn a greodd y nef-oedd  a'r  ddaear,  yr  hwn  a'th  gyfar-wyddodd  di i  dorri pen tywysog  ein

gelynion.

 

º19  Oblegid nid ymedy dy obaith di o galon  dynion,  y  rhai   a  gofiant  nerth Duw yn dragywydd.

 

 

º20 A Duw a wnêl hyn yn glod tragwyddol i ti, ac a ymwelo â thi â daioni, oherwydd nad arbedaist dy einioes,   o achos cystudd ein cenedl ni, eithr achubaist flaen ein cwymp, gan rodio yn uniawn yng ngolwg ein Duw ni. A'r holl bobl a ddywedasant, Poed gwir fyddo, Amen.

 

 

 

ºPENNOD 14

º1 Yna  Judith a ddywedodd wrthynt •*• hwy, Clywch fi yn awr, O frodyr: cymerwch y pen hwn, a chrogwch ef ar y fan uchaf o'n rnur ni.

 

º2 A phan oleuo'r bore, a chyfodi'r haul ar y ddaear, cymerwch bob un eich arfau rhyfel, ac eled pob gwr cad-arn allan o'r ddinas, a gosodwch dv-wysog arnynt, megis pe byddech chwi ar fedr myned i waered i'r maes at wyl-iadwriaeth yr Asyriaid; ond nac ewch chwi i waered.

 

º3  Yna hwy a gymerant eu harfau, ac a  ant i'w  gwersyll,  ac  a  godant  dy-wysogion llu'r Asyriaid, ac a redant i babell   Oloffernes,   ond   nis   cant   ef: yna ofn a syrth arnynt, a hwy a ffoant o'ch gwydd chwi.

 

º4  Felly  chwi,  a holl  drigolion ardaloedd Israel, a'u herlidiwch hwynt, ac a'u methrwch ar hyd eu ffyrdd.

 

º5 Ond cyn i chwi wneuthur y pethau

hyn, gelwch i mi Achior yr Ammoniad, fel y gwelo efe, ac yr adwaeno yr hwn a ddiystyrodd dy^ Israel, a'r hwn a'i hanfonodd ef atom ni, megis i farwolaeth.      

 

 

 

º6  Yna hwy a alwasant Achior allan. o dy Oseias: a phan ddaeth efe, a gweled pen  Oloffernes yn llaw rhyw wr yng nghynulleidfa'r bobl, efe a syrthiodd ar ei wyneb, a'i ysbryd ef a ballodd.

 

º7  Eithr pan godasant hwy ef i fyny, efe a syrthiodd wrth draed Judith, ac a ymgrymodd ger ei bron hi, ac a ddywedodd,  Bendigedig  wyt  ti  trwy  holl bebyll  Jwda,  a  thrwy'r   Cenhedloedd; pwy  bynnag  a  glywant  dy  enw  di  a

synnant.

 

º8 Yn awr gan hynny mynega i mi yr hyn oll a wnaethost yn y dyddiau hyn. Yna Judith a fynegodd iddo ef yng nghanol y bobl yr hyn oll a wnaethai hi, er y dydd yr aethai hi allan, hyd yr awr honno y llefarai hi wrthynt hwy.

 

º9  A phan orffennodd hi lefaru, yna y bobl a floeddiasant a lief uchel,  ac a roddasant lef lawen yn eu dinas.

 

º10  A phan welodd Achior yr hyn oil a wnaethai Duw Israel, efe a gredodd yn Nuw yn ddirfawr, ac a enwaedodd gnawd ei ddienwaediad;  ac efe a gys-ylltwyd at dy Israel hyd y dydd hwn.

 

º11  A phan gyfododd y wawr, hwy a grogasant   ben   Oloffernes   ar   y   mur: a'r holl wyr a  gymerasant eu harfau, ac a aethant allan yn finteloedd i fylch-au'r mynydd.

 

º12  A phan welodd yr Asyriaid hwynt, hwythau a anfonasant eu tywysogion, y rhai a ddaethant at eu  capteiniaid, a'u tribuniaid, ac at eu holl lywiawdwyr.

 

º13  A hwy a ddaethant at babell Oloffernes, ac a ddywedasant wrth yr hwn oedd swyddog ar ei eiddo ef oil, Deffro yn   awr,   ein  harglwydd  ni:   canys   y caethweision   a   feiddiasant   ddyfod   i waered yn ein herbyn i ryfel, fel y di-fether hwynt yn gwbl.

 

 

 

 

º14  Yna yr aeth Bagoas i mewn, ac a gurodd  wrth  ddrws  y babell:  oblegid efe a dybiodd ei fod ef yn cysgu gyda Judith.

 

º15  Pan nad atebodd neb, efe a agor-odd, ac a aeth i mewn i'r ystafell, ac a'i cafodd ef wedi ei daflu ar y llawr yn farw, a'i ben wedi ei ddwyn ymaith oddi wrtho.

 

º16  Am hynny efe a waeddodd a lief uchel, ag wylofain, ac a griddfan ac a bloedd ddirfawr, ac a rwygodd ei ddillad.

 

º17  Yna   efe   a   aeth  i'r   babell   lie   y byddai Judith yn arcs, ac nis cafodd hi; am hynny efe a neidiodd at y bobl, ac a waeddodd,

 

º18  Y   caethweision   hyn   a  wnaethant ddirdra: un wraig o'r Hebreaid a wnaeth

, waradwydd i dy'r brenin Nabuchodon-osor: canys wele Oloffernes yn gorwedd ar y ddaear, a'i ben heb fod ganddo.

 

º19  Pan   glybu   tywysogion   llu'r   As-yriaid hyn, hwy a rwygasant yn y fan eu dillad, a'u meddyliau hwy a gyth-ryblwyd yn ddirfawr: ac yr oedd llefain a gweiddi mawr iawn o fewn y gwersyll.

 

ºPENNOD 15

º1 A phan glywsant hwy, y rhai oedd yn  y pebyll,  hwy a  synasant   o-herwydd y weithred.

 

º2  Ac ofn a dychryn a syrthiodd arnynt, fel nad oedd neb mwyach a allai aros yn wyneb ei gilydd,   eithr yn was-garedig y ffoesant o unfryd i holl ffyrdd y gwastadedd a'r mynydd-dir.

 

º3  A'r rhai a wersyUasent yn y myn-yddoedd o atngylch Bethulia a ffoesant. Yna meibion Israel, sef pob rhyfelwr o-honynt, a ruthrasant arnynt hwy.

 

º4  Yna   Oseias   a  anfonodd  i   Betho-tnasthem, ac i Bebai, ac i Chobai, ac i Chola, ac i holl derfynau Israel, rai i fynegi iddynt yr hyn a ddarfuasai, ac i beri iddynt hwy oil ruthro ar y gelyn-ion, i'w difetha hwynt.

 

º5  A phan glybu meibion Israel, hwy a ruthrasant oil o unfryd i'w herbyn hwynt hyd Choba.   Felly hefyd y rhai a ddaethai o Jerwsalem, ac o'r holl fynydd-dir, (canys rhai a fynegasai iddynt hwy yr hyn a wnaethid yng ngwersyl! eu gelynion,) a'r rhai oedd yn Galaad, ac yn Galilea, a'u hymlidiasant hwynt i phla mawr, nes iddynt fyned heibio i Damascus a'i hardaloedd.

 

º6  A'r rhan arall, y rhai oedd yn trigo yn  Bethulia,  a ruthrasant i wersyll yr Asyriaid,  ac  a'u  hysbeiliasant hwy, ac a ymgyfoethogasant yn ddirfawr.

 

º7  A   meibion   Israel,   y  rhai   a   ddy-chwelasant o'r lladdedigaeth, a berchen-ogasant   y   gweddill:   a'r   trefydd   a'r dinasoedd, y rhai oedd yn y mynydd-dir, ac yn y dyffryndir, a gawsant an-rhaith fawr: canys eu lliaws oedd fawr iawn.

 

º8  Yna Joacim yr archoffeiriad, a hen-uriaid meibion Israel, y rhai oedd yn trigo yn Jerwsalem, a ddaethant i ed-rych y daioni a wnaethai Duw i Israel, ac i gael gweled Judith, ac i ymddiddan yn heddychlon a hi.

 

º9  A phan ddaethant hwy ati, hwy a'i bendithiasant hi o unfryd, ac a ddywed-asant wrthi, Ti yw dyrchafiad Jerwsalem;   ti  yw  mawr  ogoniant   Israel;   ti yw mawr barch ein cenedl ni;

 

º10  Canys ti a wnaethost hyn oil a'th law; ti a wnaethost ddaioni ag   Israel: a Duw sy fodlon iddynt.   Bendigedig fyddych di gan yr hollalluog Arglwydd byth yn dragywydd.   A'r holl bobl a ddywedasant, Felly y byddo.

 

º11  A'r bobl a ysbeiliasant y gwersyll dros ddeng niwrnod ar hugain.   A hwy a roddasant i Judith babell Oloffernes, a'i  holl  lestri  arian,  a'r  gwelyau,  a'r cawgiau, a'i holl ddodrefn ef: a hi a'u cymerth hwynt, ac a'u gosododd ar ei mul, ac a baratodd   ei menni,  ac   a'u llwythodd arnynt.

 

º12  Yna holl wragedd Israel a redasant ynghyd i'w gweled hi, ac a'i bendithiasant,  ac a wnaethant  ddawns  yn eu mysg eu hunain iddi hi: a hi a gym-erodd   ganghennau   yn   ei   dwylo,   ac a'u rhoddes hefyd i'r gwragedd oedd gyda hi.

 

º13  Hwythau  hefyd  a'i  coronasant hi ag olewydd, a'r hon oedd gyda hi: a hi a aeth o flaen yr holl bobl mewn dawns, gan arwain yr holl wragedd: a holl wyr Israel a ganlynasant yn arfog, a choronau ac a chaniadau yn eu geneuau.

 

ºPENNOD 16

º1 YNA   y   dechreuodd   Judith   ganu'r gyffes hon yn holl Israel; a'r holl bobl a ganasant y gan hon ar ei hoi hi.

 

º2  A Judith a ddywedodd, Dechreuwch i'm Duw i a thympanau, cenwch iddo ef  salmau  a  mawl;   dyrchefwch  ef,  a gelwch ar ei enw.

 

º3  Canys   Duw   sydd   yn   torri'r   rhy-feloedd:  oherwydd  yn  y  gwersylloedd ymysg y bobl y gwaredodd   efe   fi  o law fy erlidwyr.

 

º4  Assur   a   ddaeth   o'r   mynyddoedd allan o'r gogledd; efe a ddaeth a mil-oedd yn ei luoedd, ei Haws ef a argae-odd  yr   afonydd,   a'i   farchogion   ef  a orchuddiasant y bryniau.

 

º5  Efe a ddywedodd y llosgai fy ardal-oedd i, ac y lladdai fy ngwyr ieuainc a'r cleddyf, ac y curai'r  plant  sugno wrth y llawr, ac y rhoddai fy rhai bych-ain    yn    ysbail,    a'm    gwyryfon    yn ysglyfaeth.

 

º6  Ond   yr   hollalluog   Arglwydd   a'u diddymodd hwynt trwy law benyw:

 

º7  Canys  ni  syrthiodd  y  cadarn trwy wyr ieuainc, ac nid meibion Titan a'i trawsant  ef,  ac  nid  y  cewri  uchel  a ymosodasant yn ei erbyn ef: eithr Judith merch Merari trwy ei hwynepryd a'i gwanychodd ef.

 

º8  Oblegid hi a ddiosgodd ddillad ei gweddwdod, er dyrchafiad y rhai gor-thrymedig o Israel; hi a irodd ei hwyn-eb ag ennaint, ac a glymodd ei gwallt mewn meitr, ac a gymerth wisg liain i'w dwyllo ef.

 

º9  Ei sandalau hi a hudodd ei lygaid ef, a'i glendid hi a garcharodd ei fedd-wl ef; y cleddyf a aeth trwy ei wddf ef.

 

º10  Y  Persiaid  a  grynasant  oherwydd ei hyfder hi;  a'r  Mediaid a  gythryb-Iwyd oherydd ei hyder hi.

 

º11  Yna fy rhai gostyngedig a orfoledd-asant, a'm rhai gweiniaid a floeddiasant: a   hwythau   a   ofnasant,   dyrchafasant eu lief, a dychwelasant.

 

º12  Meibion llancesau a'u trywanasant hwy,   ac   a'u   harchollasant   fel   plant ffoaduriaid: difethwyd hwynt gan ryfel yr Arglwydd fy Nuw i.

 

º13  Myfi   a   ganaf  i'r   Arglwydd   gan newydd.    O  Arglwydd,  ti ydwyt fawr a gogoneddus, rhyfeddol mewn nerth, ac anorchfygol.

 

º14  Gwasanaethed  yr  holl  greaduriaid dydi;  canys ti a ddywedaist, a hwynt a wnaed; ti a anfonaist dy Ysbryd, ac efe a'u creodd hwynt; ac nid oes neb a wrthwynebo dy lef di.

 

º15  Canys y mynyddoedd a gyffroant oddi  ar  eu seiliau gyda'r  dyfroedd, y creigiau hefyd a doddant fel cwyr yn dy wydd di; eto trugarog wyt i'r rhai a'th ofhant.

 

º16  Canys   yr   holl   aberthau   sydd   ry fychan yn arogl peraidd, a'r holl fras-ter  sydd  ry fychan yn  boethoffrwm i ti:   ond  yr   hwn   sydd  yn   ofni'r   Arglwydd, sydd fawr bob amser.

 

º17  Gwae'r Cenhedloedd sydd yn ym-godi   yn   erbyn   fy   nghenedl!   yr   Arglwydd hollalluog a  ddial arnynt hwy yn nydd y farn, trwy anfon tan a phryf-ed ar eu cnawd hwynt: a hwy a wylant gan eu clywed yn dragywydd.

 

º18  A phan aethant hwy i Jerwsalem, hwy   a   addolasant   yr   Arglwydd.    A hwy'n gyntaf ag y purwyd y bobl, hwy a   ofTrymasant   eu   poethoirrymau,   a'u haddunedau, a'u rhoddion.

 

º19  Judith   hefyd   a   offtymodd   holl lestri  Oloffernes,  y  rhai  a. roddasai y bobl iddi hi; a hi a roddodd y canopi a gymerasai  hi  o'i  stafell  ef, yn offrwm i'r Arglwydd.

 

º20  Felly y bobl a fuant lawen yn Jerwsalem gerbron y cysegr dros dri mis: a Judith a arhosodd gyda hwynt.

 

º21  Ac wedi'r dyddiau hynny, pob un a ddychwelodd i'w etifeddiaeth ei hun; a Judith a aeth i Bethulia, ac a drigodd yn ei chyfoeth ei hun: ac yr oedd hi yn ei hamser yn ogoneddus trwy'r holl wlad.

 

º22  A   Uaweroedd   a'i   chwenychasant hi; ond ni chafodd gwr ei hadnabod hi holl ddyddiau ei heinioes, o'r awr y bu farw Manasses ei gwr hi, ac y casglwyd ef at ei bobl.

 

º23  A hi a aeth rhagddi yn fawr iawn, ac a heneiddiodd yn nhy ei gwr, yn bum mlwydd   a   chant;   ac  a  ollyngodd   ei llawforwyn yn rhydd.   A hi a fu farw

yn  Bethulia:  a  hwy  a'i  claddasant  hi ym medd ei gwr Manasses.

 

º24  A thy Israel a alarodd amdani hi saith o ddyddiau.   A chyn iddi hi farw, hi a rannodd ei golud i'r holl rai nesaf i  Manasses   ei  gwr,  ac  i'r  rhai  nesaf o'i chenedl ei hun.

 

º25  Ac nid oedd mwyach neb a ddy-chrynai feibion Israel, yn holl ddyddiau Judith,    nac   wedi   ei   marwolaeth   hi ddyddiau lawer.
 
DIWEDD

 

Adolygiadau diweddaraf:  2005-02-19

 

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

 

CYMRU-CATALONIA

 

 

Edrychwch ar fy ystadegau