2694k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.  

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_apocrypha_maccabeaid1_79_2694k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn  Gymraeg
          neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
                    neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
                              neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
                                            neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn

 


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

 

Y Beibl Cysegr-lân (1620): Yr Apocrypha

 

(79) maccabeaid-1 



 


(delw 0275)

 

 

  xxxx This page with an English version (1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version)


 

(Sganiad heb ei gywiro yw hwn, ac felly yn frith o wallau. Cyn hir gobeithio cawn ni gyfle i roi trefn arno)

(This is a scan which has not been corrected yet. There are many errors in the text)
 

ºLLYFR CYNTAF Y MACABEAID

ºPENNOD i

º1 A DIGWYDDODD, wedi i Alexander y Macedoniad, mab Philip, fyned allan o wlad Chettim, a lladd Dareius brenin y Persiaid a'r Mediaid, a theyrnasu yn ei le ef, fel y teyrnasai o'r blaen yn Groeg,

º2 Efe a osododd ryfeloedd lawer, ac a enillodd ddinasoedd cedyrn, ac a laddodd frenhinoedd y ddaear;

º3 Ac a dramwyodd hyd eithafoedd y ddaear, ac a ddug anrhaith oddi ar lawer 0 genhedloedd; a'r ddaear oedd yn llonydd ger ei fron ef: ac am hynny ei galon ef a ddyrchafwyd, ac a falchiodd.

º4 Ac wedi iddo gasglu llu cadarn iawn, efe a lywodraethodd ar wledydd, a chenhedloedd, a theyrnasoedd, ac a'u gwnaeth hwy yn drethol iddo.

º5 Ac wedi hyn, efe a glafychodd, ac a wybu y byddai farw.

º6 Am hynny efe a alwodd am ei was-anaethwyr, y rhai anrhydeddus, a'r rhai a gydfaethesid ag ef o'i ieuenctid, ac a gyfrannodd ei deyrnas iddynt hwy, pan oedd efe eto yn fyw.

º7 Felly Alexander a deyrnasodd ddeu-ddeng mlynedd, ac a fu farw.

º8 A'i dywysogion ef a lywodraeth-asant, bob un yn ei le.

º9 A hwy oll a osodasant goronau ar eu pennau wedi ei farw ef, a'u nieibion ar eu hoi, lawer o flynyddoedd: a dryg-au a amlhaodd ar y ddaear.

º10 Ac ohonynt hwy y daeth y gwreiddyn pechadurus Antiochus Epi-ffanes, mab Antiochus y brenin, yr hwn a fuasai yn wystl yn Rhufain: ac efe a deyrnasodd yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain a chant o frenhiniaeth y Groegwyr.

º11 Yn y dyddiau hynny dynion anwir a aethant allan o Israel, ac a hudas-ant lawer, gan ddywedyd, Awn, a gwnawn amod a'r Cenhedloedd sy o'n hamgylch: canys er pan y'n gwahaned oddi wrthynt hwy, ni a gawsom lawer o ddrygfyd.

º12 A'r ymadrodd hwn oedd dda yn eu golwg hwy.

º13 A rhai o'r bobl a fuant mor barod, ag yr aethant at y brenin; ac efe a roddes iddynt awdurdod i wneuthur defodau y Cenhedloedd.

º14 A hwy a adeiladasant ysgol yn Jerwsalem, yn ôl arfer y Cenhedloedd;

º15 A hwy a wnaethant ddienwaediad iddynt eu hunain, ac a giliasant oddi with y cyfamod sanctaidd: ac wedi iddynt ymgysylltu a'r Cenhedloedd, hwy a ymroesant i wneuthur drwg.

º16 Ac wedi sicrhau'r deyrnas o flaen Antiochus, efe a fwriadodd deyrnasu ar yr Aifft, fel y gallai deyrnasu ar ddwy deyrnas.

º17 Ac efe a aeth i mewn i'r Aifft a thorf fawr, a cherbydau, ag eliffant-iaid a gwyr meirch, ac a llynges fawr;

º18 Ac a ddechreuodd ryfela yn erbyn Ptolemeus brenin yr Aifft: a Ptol-emeus a ofnodd o flaen ei olwg ef, ac a ffodd; a llawer a syrthiasant yn archolledig.

º19 A hwy a enillasant y dinasoedd amddiffynadwy yn nhir yr Aifft; ac Antiochus a gymerodd ysbail yr Aifft.

º20 Ac Antiochus a ddychwelodd, wedi iddo daro'r Aifft, yn y drydedd flwyddyn a deugain a chant, ac a aeth i fyny yn erbyn Israel a Jerwsalem a thyrfa fawr.

º21 Ac efe a aeth i mewn yn falch i'r cysegr, ac a gymerodd ymaith yr allor aur, a'r canhwyllbren oedd yn dal y goleuad, a'i holl offer ef,

º22 A bwrdd y bara gosod, a'r cawg-iau, a'r dysglau, a'r llwyau aur, a'r lien, a'r coronau, a'r trwsiad aur oedd ar y tu wyneb i'r deml; ac efe a dyn-nodd yr aur oddi arnynt oll.

º23 Ac efe a gymerodd yr arian a'r aur, a'r llestri gwerthfawr, ac a gymerodd y trysorau cuddiedig, y rhai a gafodd efe.

º24 Ac wedi iddo gymryd y cwbl, efe a aeth ymaith i'w wlad ei hun, ac a wnaethai laddfa fawr, ac a ddywedasai yn falch dros ben.

º25 Am hynny y bu galar mawr ymhlith yr Israeliaid ym mhob lie o'r eiddynt;

º26 Canys y tywysogion a'r henuriaid a ochneidiasant, y morynion a'r gwyr ieuainc a lesgasant, a thegwch y gwragedd a gyfnewidiwyd.

º27 Fob priodasfab a gymerodd alar, a'r hon oedd yn eistedd yn yr ystafell briodas oedd mewn tristwch;

º28 A'r wlad a gynhyrfodd oherwydd ei thrigolion, a holl dy Jacob a wisg-asid a gwarth.

º29 Wedi dwy flynedd lawn, y brenin a ddanfonodd y tywysog oedd yn derbyn y deyrnged, i ddinasoedd Jwda, yr hwn a ddaeth i Jerwsalem a thyrfa fawr.

º30 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy eiriau heddychol yn dwyllodrus, a hwy a'i credasant ef: ac efe a ruthrodd ar y ddinas yn ddisymwth, ac a'i trawodd hi a phla mawr, ac a ddistryw-iodd lawer o bobl o Israel;

º31 Ac a gymerodd ysbail y ddinas, ac a'i llosgodd hi a than, ac a ddistrywiodd ei thai hi a'i chaerau oddi amgylch.

º32 A hwy a gaethiwasant y gwragedd a'r plant, ac a berchenogasant yr anifeiliaid.

º33 Yna yr adeiladasant ddinas Dafydd a chaer fawr gref, ac a thyrau cedyrn, ac a'i gwnaethant hi yn amddiffynfa gadarn iddynt eu hun.

º34 Heblaw hyn, hwy a osodasant y genedl bechadurus yno, sef y dynion anneddfol; a hwy a ymgadarnhasant ynddi hi.

º35 A hwy a gludasant iddi arfau a bwyd: ac wedi iddynt hwy gasglu ysbail Jerwsalem ynghyd, hwy a'i gosod-asant ef yno; ac felly hwy a fuant yn rhwyd flin.

º36 Canys yr oedd yn gynllwynfa yn erbyn y cysegr, ac yn wrthwynebwr blin i Israel bob amser.

º37 Fel hyn y tywalltasant waed gwirion o amgylch y cysegr, ac yr halogasant y lie sanctaidd.

º38 A thrigolion Jerwsalem a ffoesant o'u plegid hwy: a'r dref oedd yn breswylfa i ddieithriaid, ac oedd yn estronaidd i'wjneibion ei hun, a'i phlant ei hun a'i gadawsant hi.

º39 Ei chysegr hi a wnaethid yn anghyfannedd fel y diffeithwch; ei gwyl-iau hi a drowyd yn alar, ei Sabothau yn waradwydd, ei hanrhydedd yn ddirmyg.

º40 Fel y buasai ei pharch hi, felly yr oedd ei hamarch hi; a'i hardderchowgrwydd a droesai yn alar.

º41 A'r brenin a sgrifennodd at ei holl deyrnas am fod o bawb yn un bobl,

º42 Ac ymadael o bob dyn a'i gyfreith-iau ei hun: a'r holl genhedloedd a dderbyniasant orchymyn y brenin.

º43 A llawer o Israel a gytunasant a'i grefydd ef, ac a aberthasant i eilunod, ac a halogasant y Saboth:

º44 Canys y brenin a ddanfonasai lythyrau gyda chenhadon i Jerwsalem, ac i ddinasoedd Jwda, ar iddynt fyned ar ôl deddfau dieithr y wlad,

º45 A gwahardd poethoffrymau, a bwydoffrwm a diodoffrwm, yn y cysegr; a halogi'r Sabothau a'r gwyliau;

º46 A difwyno'r cysegr a'r bobl sanctaidd:

º47 Adeiladu allorau, a llwyni, a thernl- au eilunod, ac aberthu cig modi, ac anifeiliaid aflan;

º48 A gadael eu meibion yn ddienwaededig, a gwneuthur eu heneidiau yn ffiaidd a phob aflendid a halogrwydd;

º49 Fel y gollyngent hwy y gyfraith dros gof, ac y cyfnewidient yr holl ddeddfau.

º50 A'r hwn ni wnelai yn ôl gorchymyn y brenin, y byddai raid iddo farw,

º51 Efe a sgrifennodd at ei holl deyrnas yn ôl yr holl eiriau hyn, ac a wnaeth wyliadwyr ar yr holl bobl, gan orchymyn i ddinasoedd Jwda aberthu o ddinas i ddinas.

º52 Am hynny llawer o'r bobl a ym-gasglasant atynt hwy, sef pwy bynnag a adawsai'r gyfraith: a hwy a wnaethant ddrwg yn y wlad.

º53 A hwy a wnaethant i Israel lechu mewn lleoedd cuddiedig, sef yn eu holl lochesau.

º54 A'r pymthegfed dydd o'r mis Casleu, yn y burned flwyddyn a deugain a chant, hwy a osodasant y ffieidd-beth anrheithiol ar yr allor; ac o fewn dinasoedd Jwda oddi amgylch hwy a adeiladasant allorau eilunod;

º55 Ac a arogldarthasant yn nrysau'r tai, ac yn yr heolydd;

º56 Ac a rwygasant lyfrau'r gyfraith y rhai a gawsant hwy, ac a'u llosgasant a than.

º57 A pha le bynnag y ceid llyfr y cyfamod gyda neb, neu os cytunai neb a'r gyfraith, efe a leddid wrth orchymyn y brenin.

º58 Wrth eu cryfder hwy a wnaent felly i'r Israeliaid a geid bob mis yn y dinasoedd.

º59 A'r unfed dydd ar hugain o'r mis, wrth aberthu ar allor yr eilunod, yr hon oedd ar allor Duw,

º60 Hwy a laddasant rai gwragedd wrth orchymyn Antiochus, y rhai a barasai enwaedu ar eu meibion;

º61
Ac a grogasant y plant by chain wrth eu gyddfau hwy, ac a ysbeiliasant eu tai hwy, ac a laddasant y rhai a enwaedasai arnynt.

º62 Er hynny llawer yn Israel a roesant eu bryd yn gwbl, ac a ymsicrhasant ynddynt eu hunain, na fwytaent beth-au aflan.

º63 A hwy a ddewisasant farw, rhag eu llygru a bwydydd, a rhag halogi ohonynt y cyfamod sanctaidd: a hwy a ddioddefasant farwolaeth.

º64 A bu digofaint mawr iawn ar Israel.

ºPENNOD 2

º1 YN yr amseroedd hynny, Matatheias mab loan, fab Simeon, offeiriad o hiliogaeth Joarib, a gododd i fyny o Jerwsalem, ac a breswyliodd ym Modin.

º2 Ac iddo ef yr oedd pum mab; Joannan, yr hwn a elwid Cadis;

º3 Simon, yr hwn a elwid Thassi;

º4 Jwdas, yr hwn a elwid Macabeus;

º5 Eleasar, yr hwn a elwid Abaron; a Jonathan, yr hwn a elwid Apffus.

º6 Pan welodd efe y cabledd a wnaeth-id o fewn Jwda a Jerwsalem,

º7 Efe a ddywedodd, Gwae fi fy ngeni i weled cystudd fy mhobl, a chystudd y ddinas sanctaidd, a'm bod yn trigo yno pan roddwyd hi yn llaw y gelynion, a'r cysegr yn llaw dieithriaid!

º8 Ei theml a wnaethpwyd fel gwr heb ogoniant.

º9 Ei llestri parchedig hi a dducpwyd ymaith i gaethiwed; ei phlant by chain a ladded yn yr heolydd, a'i gwyr ieu-ainc 4 chleddyf y gelyn.

º10 Pa genedl sydd a'r ni chafodd ran o'i theyrnas hi, ac ni ymaflodd yn ei hysbail hi?

º11 Ducpwyd ymaith ei holl harddwch hi: gwnaethpwyd hi'n forwyn gaeth o wraig rydd.

º12 Canys wele, ein cysegr, a'n harddwch, a'n gogoniant, a anrheithiwyd; a'r Cenhedloedd a'u halogasant hwy.

º13 I ba beth y byddwn fyw yn hwy na hyn?

º14 A Matatheias a'i feibion a rwyg-asant eu dillad, ac a ymwisgasant mewn lliain sach, ac a alarasant yn ddirfawr.

º15 Yna gweinidogion y brenin, y rhai a gymhellent y bobl i wrthgiliad, a ddaethant i ddinas Modin, i'w gyrru hwy i aberthu.

º16 Llawer o Israel a ddaethant atynt hwy, Matatheias hefyd a'i feibion a gasglwyd ynghyd.

º17 A gweinidogion y brenin a ateb-asant, ac a lefarasant wrth Matatheias, gan ddywedyd, Tywysog, a pharchedig, a mawr wyt ti yn y ddinas hon, a chadarn o feibion ac o frodyr;

º18 Gan hynny tyred yn gyntaf yr awron, a gwna orchymyn y brenin, fel y gwnaeth yr holl genhedloedd, a gwyr Jwda, a'r rhai a adawed yn Jerwsalem; felly ti a gei fod a'th dylwyth ymhlith cyfeillion y brenin; a thydi a'th feibion a anrhydeddir ag arian, ac ag aur, ac a rhoddion lawer.

º19 A Matatheias a atebodd ac a ddywedodd a lleferydd uchel, Pe gwran-dawai'r holl genhedloedd a'r sy dan lywodraeth y brenin arno ef, ac ym-ado o bawb allan o grefydd eu hynaf-iaid, a chytuno a'i orchmynion ef;

º20 Eto myfi, a'm meibion, a'm brodyr, a rodiwn yng nghyfamod ein tadau.

º21 Duw a drugarhao wrthym, rhag gadael ohonom y gyfraith a'r deddf-au.

º22 Ni wrandawn ni ar eiriau'r brenin i wyro oddi wrth ein gwasanaeth tua'r llaw ddeau, na'r llaw aswy.

º23 Pan beidiodd efe a dywedyd y geiriau hyn, rhyw Iddew a ddaeth yn eu gwydd hwy i aberthu ar yr allor ym Modin, yn ôl gorchymyn y brenin.

º24 Pan welodd Matatheias hyn, efe a wynfydodd, a'i arennau a grynasant, ac ni fedrodd ymatal rhag dangos ei lid yn ôl barn, ac a redodd, ac a'i lladdodd ef ar yr allor.

º25 Ac efe a laddodd yr amser hwnnw wasanaethwr y brenin, yr hwn oedd yn eu cymell hwy i aberthu, ac a ddistrywiodd yr allor.

º26 Ac efe a ddug sel tuag at gyfraith Dduw, fel y gwnaeth Phinees i Sambri fab Salom.

º27 A Matatheias a lefodd yn y ddinas a lief uchel, gan ddywedyd, Pwy bynnag sy'n dwyn sel i'r gyfraith, ac sy'n cadw'r cyfamod, canlyned fi.

º28 Ac efe a'i feibion a ffoesant i'r mynyddoedd, ac a adawsant beth bynnag oedd ganddynt yn y ddinas.

º29 Yna llawer, y rhai oedd yn ceisio cyfiawnder a barn, a ddaethant i waered i'r anialwch hwnnw, i aros yno,

º30 Hwynthwy, a'u meibion, a'u gwrag-edd, a'u hanifeiliaid; canys llawer o ddrwg a ddaethai arnynt hwy.

º31 A mynegwyd i wyr y brenin, ac i'r lluoedd y rhai oedd yn Jerwsalem yn ninas Dafydd, fyned o wyr a dorasai orchymyn y brenin i waered i lochesau yn yr anialwch.

º32 A llawer a erlidiodd ar eu hoi hwy, ac a'u goddiweddasant hwy, ac a wersyUasant yn eu herbyn, ac a osodasant ryfel yn eu herbyn ar y dydd Saboth,

º33 Ac a ddywedasant wrthynt hwy, Digon yw hyn a wnaethoch; deuwch allan, a gwnewch yn ôl gorchymyn y brenin, a chwi a gewch eich hoedl.

º34 A hwy a ddywedasant, Ni ddeuwn ni allan, ac ni wnawn ni orchymyn y brenin, i haiogi y dydd Saboth.

º35 Am hynny hwy a brysurasant i ryfel yn eu herbyn hwynt.

º36 Ond nid atebasant hwy iddynt, ac ni thaflasant garreg atynt, ac ni chaeasant y llochesau, gan ddywedyd,

º37 Ni a ddioddefwn farwolaeth oll yn ein diniweidrwydd: y nef a'r ddaear a dystiolaetha trosom ni, eich bod chwi yn ein difetha heb farn.

º38 Felly hwy a godasant yn eu herbyn hwy mewn rhyfel ar y dydd Saboth; a hwy, a'u gwragedd, a'u plant, a'u hanifeiliaid, a fuant feirw, hyd fil o ddynion.

º39 Pan wybu Matatheias a'i gyfeillion hynny, hwy a alarasant amdanynt hwy yn ddirfawr.

º40 Yna'r naill a ddywedodd wrth y 1 " " — -: "" fi>1 v gwnaeth a'n deddfau, hwy a'n llwyr ddifethant ni yr awron ar frys oddi ar y ddaear.

º41 A hwy a gymerasant gyngor y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, Pwy bynnag a ddelo i'n herbyn i ryfela ar y dydd Saboth, ni a ymladdwn yn ei erbyn ef; rhag ein meirw oU, fel y bu feirw ein brodyr yn y llochesau.

º42 Yna cynulleidfa o'r Assideaid a ymgasglasant atynt hwy, y rhai oedd wyr cryfion o Israel, sef pwy bynnag oedd yn ewyllysgar yn ymroddi i'r gyfraith.

º43 A phawb a'r oedd yn ffoi rhag erlid a ymgysylltasant a hwy, ac a fuant yn gadernid iddynt.

º44 A hwy a gasglasant lu o wyr, ac a laddasant y pechaduriaid yn eu dig, a'r gwyr anneddfol yn eu llidiowgrwydd: a'r lleill a ffoesant at y Cenhedloedd am help.

º45 Yna Matatheias a'i gyfeillion a dramwyasant o amgylch, ac a ddistryw-iasant yr allorau.

º46 A thrwy nerth hwy a enwaedasant ar y plant dienwaededig, cymaint ag a gawsant hwy o fewn terfynau Israel;

º47 Ac a erlidiasant y dynion beilchion: a'r gwaith hwn a Iwyddodd yn eu dwylo hwynt.

º48 A hwy a waredasant y gyfraith o law y Cenhedloedd, ac o law y brenhinoedd; ac ni roesant hwy gryfder i'r pechadur.

º49 A phan nesaodd dyddiau Matatheias i farw, efe a ddywedodd wrth ei feibion, Balchder ac argyhoeddiad a gawsant gryfder yr awron, ac amser distryw a dig llidiog:

º50 Gan hynny, fy meibion, dygwch sel yr awr hon i'r gyfraith, a rhoddwch eich hoedl dros gyfamod eich tadau.

º51 Cofiwch weithredoedd ein tadau, y rhai a wnaethant hwy yn eu hamseroedd: felly chwi a dderbyniwch fawr barch ac enw tragwyddol. Oni chaed Abraham yn ffyddlon gadwodd y gorchymyn, ac a wnaeth-pwyd yn arglwydd ar yr Aifft.

º54 Phinees ein tad, wrth ddwyn sel, a gafodd amod am offeiriadaeth dragwyddol.

º55 Josua, am gyflawni gair Duw, a wnaethpwyd yn farnwr ar Israel.

º56 Caleb, am dystiolaethu gerbron y gynulleidfa, a gafodd etifeddiaeth o'r tir.

º57 Dafydd yn ei drugaredd a etifeddodd orseddfainc y deyrnas dragwyddol.

º58 Eleias, wrth ddwyn sel i'r gyfraith, a gymerwyd i fyny i'r nefoedd.

º59 Ananeias, Asareias, a Misaelj am iddynt gredu, a achubwyd o'r tan.

º60 Daniel yn ei wiriondeb a waredwyd o safnau'r llewod.

º61
Ac felly ystyriwch, ym mhob oes, pwy bynnag sydd yn ymddiried ynddo ef3 ni orchfygir ef.

º62 Am hynny nac ofnwch rhag geiriau gwr pechadurus: canys ei ogoniant ef a fydd yn dom a phryfed.

º63 Heddiw efe a ddyrchefir, ac yfory ni bydd efe i'w gael; canys trodd i'w bridd, a darfu am ei amcan.

º64 Gan hynny fy meibion, cymerwch galonnau, ac ymwrolwch ym mhlaid y gyfraith; canys chwi a gewch barch oddi wrthi hi.

º65 Ac wele Simon eich brawd, mi a wn mai gwr cynghorus yw efe; gwran-dewch arno ef bob amser; efe a fydd yn dad i chwi.

º66 Ac am Jwdas Macabeus, yr oedd efe yn gryf ac yn nerthol o'i ieuenctid; bydded efe gapten i chwi, ac ordeiniwch ryfel y bobloedd.

º67 Felly y dygwch atoch bawb a'r y sy'n cadw'r gyfraith; a dielwch gam eich pobl.

º68 Telwch hyd adref i'r Cenhedloedd; a gwyliwch ar orchmynion y gyfraith.

º69 Yna efe a'u bendithiodd hwy: ac efe a roddwyd at ei hynafiaid.

º70 Ac efe a fu farw yn y chweched flwyddyn a deugain a chant: a'i feibion a'i claddasant ef ym medd ei hynafiaid ym Modin; a holl Israel a alarodd am-dano ef a galar mawr.

ºPENNOD 3

º1 YNA Jwdas, yr hwn a elwid Maca-beuSj ei fab ef, a gododd i fyny yn ei le ef.

º2 A'i holl frodyr a'i cymorthasam ef, a phawb a'r a lynasai wrth ei dad ef: a hwy a ymladdasant ryfel Israel yn llawen.

º3, Felly efe a helaethodd barch ei bobl, ac a wisgodd ddwyfronneg fel cawr, ac a ymwregysodd a'i arfau rhyfel, ac a osododd ryfeloedd, ac a amddiffynnodd y gwersyll a'r cleddyf.

º4 Ac yr oedd efe yn debyg i lew yn ei weithredoedd, ac fel cenau llew yn rhuo am ei ysglyfaeth.

º5 Ac efe a erlidiodd y rhai drwg, gan chwilio amdanynt; ac a losgodd y rhai oedd yn cythryblu ei bobl ef.

º6 A'r rhai drwg a giliasant rhag ei ofn ef, a phawb a'r oedd yn gwneuthur drygioni a gyd-drallodwyd, am fod iachawdwriaeth yn llwyddo yn ei law ef.

º7 Ac efe a wnaeth i lawer o frenhinoedd ofidioj ac a lawenychodd Jacob a'i weithredoedd: ac y mae ei goffadwriaeth ef yn fendigedig yn dragywydd.

º8 Ac efe a dramwyodd trwy ddinasoedd Jwda, ac a ddistrywiodd y rhai annuwiol allan oddi yno, ac a drodd heibio ddigo-faint oddi wrth Israel.

º9 A'i enw ef a gerddodd hyd eithafoedd y ddaear; ac efe a gasglodd y rhai oedd ar ddarfod amdanynt.

º10 Yna Apolonius a gasglodd y Cenhedloedd ynghyd, a llu mawr o Samaria) i ryfela yn erbyn Israel.

º11 Pan wybu Jwdas, efe a aeth i'w gyfarfod ef, ac a'i trawodd ef, ac a'i lladdodd ef: a llawer a syrthiasant yn archollsdig, a'r lleill a ffoesant.

º12 Ac efe a gymerodd eu hysbail hwy; a Jwdas a gymerodd gleddyl Apolonius, ac a ymladdodd ag ef ei holl ddyddiau.

º13 Pan glywodd Seron tywysog llu Syria, gasglu o Jwdas dyrfa a chynull-eidfa o ffyddloniaid i fyned i ryfela gydag ef,

º14 Efe a ddywedodd, Myfi a enillaf enw i mi fy hun, ac a gaf barch yn y deyrnas, ac a ryfelaf yn erbyn Jwdas a'r rhai sy gydag ef, a'r rhai sy'n diystyru gorchymyn y brenin.

º15 Ac efe a ymrodd i ddyfod i fyny: a chydag ef y daeth llu cryf o rai annuwiol i fyny i'w gymorth ef, ac i wneuthur dial ar feibion Israel.

º16 Pan nesaodd efe yn gyfagos i riw Bethoron, Jwdas a aeth allan i'w gyfarfod ef a thorf fechan.

º17 A phan welsant hwy y llu yn dyfod i'w cyfarfod, hwy a ddywedas-ant wrth Jwdas, Pa fodd y gallwn ni, a ninnau yn ychydig, ymladd yn erbyn lliaws cymaint a chyn gryfed? yr ydym ni hefyd yn barod i ddiffygio, heb fwyd heddiw.

º18 A Jwdas a ddywedodd, llawdd ydyw cau llawer yn nwylo ychydig: ac nid oes ragoriaeth gerbron Duw nef rhwng achub a llawer neu ag ychydig.

º19 Canys nid yn lluosowgrwydd y llu y mae buddugoliaeth y rhyfel, ond o'r nef y mae cadernid.

º20 Maent hwy yn dyfod atom ni mewn mawr draha a chamwedd, i'n difetha ni, a'n gwragedd, a'n plant, ac i'n hysbeilio.

º21 Ond nyni ydym yn ymladd am ein heinioes a'n cyfreithiau.

º22 A Duw a'u dryllia hwy ger ein bron ni: gan hynny nac ofnwch rhag-ddynt hwy.

º23 A phan beidiodd efe a dywedyd, efe a neidiodd yn ddisymwth arnynt hwy: ac felly y difethwyd Seron a'i wersyll o'i flaen ef.

º24 A hwy a'u herlidiasant ar hyd goriwaered Bethoron, hyd y gwastad-edd; ac yno y lladded ynghylch wyth /cant o wyr ohonynt: a'r lleill a ffoes-| ant i wlad y Philistiaid.

º25 Yna ofn Jwdas a'i frodyfj ac arswyd mawr, a ddechreuodd syrthio ar y Cenhedloedd o'u hamglych hwy.

º26 A'i enw ef a gyrhaeddodd hyd at y brenin: a phob cenedl a fynegai ryfeloedd Jwdas.

º27 A phan glybu Antiochus y brenin y geiriau hyn, efe a ddigiodd yn llidiog, ac a ddanfonodd allan, ac a gasglodd holl fyddinoedd ei deyrnas, llu cryf iawn.

º28 Ac efe a agorodd ei drysordy, ac a roddes gyflogau i'w luoedd dros flwyddyn, ac a orchmynnodd iddynt fod yn barod dros flwyddyn, pa bryd bynnag y byddai raid iddo wrthynt hwy.

º29 Ond pan welodd efe yr arian o'i drysorau yn pallu, a'r rhai oedd yn casglu teyrnged y wlad yn anaml, oblegid yr anghytundeb a'r aflwydd a wnaethai efe yn y wlad wrth dynnu ymaith y cyfreithiau a fuasai er y dydd-iau cyntaf;

º30 Yna efe a ofnodd rhag na byddai ganddo ddigon i ateb unwaith neu ddwywaith y draul, a'r rhoddion a roddasai efe o'r blaen a llaw helaeth: canys efe a fuasai helaethach na'r brenhinoedd o'r blaen mewn haelioni.

º31 Am hynny yr oedd efe mewn cyfyngder meddwl: ond efe a gymerodd gyngor i fyned i Persia, i gymryd teyrnged y gwledydd, ac i gasglu llawer o arian.

º32 Am hynny efe a adawodd Lysias, gwr anrhydeddus, ac o genedl y brenin, ar faterion y brenin, o'r afon Ewffrates hyd derfynau'r Aifft,

º33 Ac i ddwyn Antiochus ei fab ef i fyny hyd oni ddychwelai efe.

º34 Ac efe a roddes iddo ef banner y lluoedd, a'r eliffantiaid, ac a roes orchmynion iddo am bob peth a'r a ewyllysiai efe ei wneuthur, ac ynghylch y rhai oedd yn trigo yn Jwda ac yn Jerwsalem;

º35 I ddanfon llu yn eu herbyn hwy, i ddistrywio ac i ddiwreiddio nerth Israel a gweddill Jerwsalem, ac i dynnu ymaith eu coffadwriaeth hwy o'r lie hwn-nw;

º36 Ac i osod dynipn djeithr i drigo yn eu holl derfynau hwy, ac i gyfrannu eu gwlad hwy wrth goelbrennau.

º37 A'r brenin a gymerodd hanner y lluoedd, y rhai a weddillasid, ac a gychwynnodd o Antiochia, dinas ei deyrnas ef, y seithfed flwyddyn a deu-gain a chant; ac efe a aeth dros yr afon Ewffrates, ac a dramwyodd trwy'r gwledydd uchaf.

º38 A Lysias a ddewisodd Ptolemeus fab Dorymenes, a Nicanor, a Gorgias, gwyr galluog, a chyfeillion y brenin:

º39 Ac efe a ddanfonodd ddeugain mil o wyr traed gyda hwy, a seithmil o wyr meirch, i fyned i wlad Jwda, i'w distrywio hi yn ôl gorchymyn y brenin,

º40 A hwy a gychwynasant a'u holl lu, ac a ddaethant, ac a wersyllasant yn gyfagos i Emaus, ar y tir gwastad.

º41 Pan glybu marchnadwyr y wlad son amdanynt, hwy a gymerasant arian, a llawer iawn o aur, a gweinidogion, ac a ddaethant i'r gwersyll, i brynu meibion Israel yn gaethion: a llu o Syria, ac o wlad y dieithriaid, a ddaeth atynt hwy.

º42 Pan welodd Jwdas a'i frodyr fod drygau yn amlhau, a gwersyllu o'r lluoedd o fewn eu terfynau hwy; a hwy a wyddent eiriau'r brenin, y rhai a orch-mynasai efe i wneuthur dinistr a phen am y bobl;

º43 Yna'r naill a ddywedodd wrth y llallj Gosodwn ein pobl drachefn allan o orthrymder, ac ymladdwn dros ein pobl a'r cysegr.

º44 A'r gynulleidfa a ymgasglodd i fod yn barod i ryfela, ac i wedd'io, ac i ofyn trugaredd a thosturi:

º45 Canys anghyfannedd oedd Jerwsalem fel anialwch: nid oedd neb o'i phlant hi yn myned i mewn, nac yn dyfod allan: a'r cysegr oedd wedi ei sathru, a meibion alltudion yn cadw'r castell; llety oedd hi i'r Cenhedloedd: a'r hyfrydwch a dynasid ymaith oddi wrth Jacob, a'r bibell a'r delyn a beidias-ent.

º46 A'r Israeliaid a ymgasglasant ynghyd, ac a ddaethant i Masffa, gyf- erbyn a Jerwsalem: canys y lie o'r blaen i Israel i weddio oedd ym Masffa.

º47 A hwy a ymprydiasant y diwrnod hwnnw, ac a wisgasant liain sach, ac a fwriasant ludw ar eu pennau, ac a rwygasant eu dillad,

º48 Ac a ledasant lyfrau'r gyfraith, am y rhai yr oedd y Cenhedloedd yn chwilio, i argraffu lluniau eu delwau ynddynt;

º49 Ac a ddygasant ddillad yr offeiriaid, a'r blaenffrwythau, a'r degym-au, ac a gyffroesant y Nasareaid, y rhai a gyflawnasent eu dyddiau;

º50 Ac a lefasant a lief uchel tua'r nef, gan ddywedyd, Pa beth a wnawn ni i'r rhai hyn? ac i ba le y dygwn ni hwy ymaith?

º51 Dy gysegr di a fathred ac a halogwyd, a'th offeiriaid sy mewn galar a gostyngiad.

º52 Ac wele'r Cenhedloedd a ymgasglasant yn ein herbyn ni i'n distrywio: ti a wyddost pa bethau y maent hwy yn eu bwriadu yn ein herbyn.

º53 Pa fodd y gallwn ni sefyll yn eu hwyneb hwy, oddieithr i ti ein cynorthwyo ni?

º54 Yna hwy a ganasant ag utgyrn, ac a waeddasant a lief uchel.

º55 Yna Jwdas a osododd gapteiniaid ar y bobl, capteiniaid ar fil, ar gant, ar ddeg a deugain, ac ar ddeg.

º56 Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn adeiladu teiau, ac a ddyweddi-asid a gwragedd, ac oeddynt yn plannu gwinllannoedd, a'r rhai ofnus, am ddychwelyd o bob un i'w dy, yn ôl y gyfraith.

º57 A'r llu a symudodd, ac a wersyllodd o'r tu deau i Emaus.

º58 A Jwdas a ddywedodd, Ymwregyswch, a byddwch wyr gwrol, a byddwch barod i ymladd yfory a'r Cenhedloedd hyn a ymgasglasant yn ein herbyn, i'n distrywio ni a'n cysegr.

º59 Canys gwell i ni feirw yn y rhyfel na gweled drygfyd ein cenedl a'n cysegr.

º60 Ond fel y byddo ewyllys Duw yn y nef, felly gwneled.

ºPENNOD 4

º1 YNA Gorgias a gymerodd bum mil o wyr traed, a mil o wyr meirch detholedig, ac a osododd allan o'r gwersyll liw nos;

º2 Fel y gallai efe ruthro i wersyll yr Iddewon, a'u taro yn ddisymwth: a milwyr y castell oedd yn ei gyfarwyddo ef ar y ffordd.

º3 Pan glybu Jwdas, efe a aeth allan ei hun, a'r gwyr galluog gydag ef, i daro llu'r brenin, yr hwn oedd yn Emaus,

º4 Tra fyddai'r lluoedd eto wedi ym-daenu oddi wrth y gwersyll.

º5 A Gorgias a ddaeth i wersyll Jwdas liw nos, ac ni chafodd efe neb; ond efe a'u ceisiodd hwy yn y mynyddoedd, ac a ddywedodd, Y maent hwy yn ffoi oddi wrthym.

º6 Ond gyda'i dyddhau hi, Jwdas a ymddangosodd yn y maes, a thair mil o wyr; ond nid oedd ganddynt na llurig-au na chleddyfau fel yr ewyllys-ient.

º7 Pan welsant hwy wersyll y Cenhedloedd yn gryf, wedi ei wisgo mewn llurigau, a'r gwyr meirch yn eu ham-gylchu hwynt, a'r rhai hynny wedi eu dysgu i ryfela,

º8 Yna Jwdas a ddywedodd wrth y gwyr oedd gydag ef, Nac ofnwch eu lluosowgrwydd, ac nac ofnwch eu rhuthr hwy.

º9 Cofiwch fel yr achubwyd ein hynaf-iaid ni yn y mor coch, pan erlidiodd Pharo hwy a llu.

º10 Felly yr awron, gadewch i ni lefain tua'r nef, i edrych a drugarhao efe wrthym ni, ac a gofia efe amod ein hynafiaid, ac a ddryllia efe y gwersyll hwn o flaen ein hwyneb ni heddiw;

º11 Fel y gwypo'r holl Genhedloedd fod un yn gwared ac yn achub Israel.

º12 Yna y dieithriaid a godasant eu golwg i fyny, ac a'u canfuant hwy yn dyfod ar eu cyfer hwynt; ii Ac a ddaethant allan o'r gwersyll V ryfela: a'r rhai oedd gyda Jwdas a utgyrn.

º14 A hwy a drawsant ynghyd: a'r Cenedloedd a orchfyged, ac a ffoesant i'r maes gwastad.

º15 A'r holl rai olaf a laddwyd a'r cleddyf: a hwy a'u herlidiasant hwy hyd Gasera, a hyd at feysydd Idumea, ac Asotus, a Jamnia: ac ynghylch teirmil o wyr ohonynt a laddwyd.

º16 A Jwdas a'r llu a ddychwelodd o'u herlid hwy.

º17 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Na fyddwch awyddus i'r ysbail, oblegid y mae rhyfel yn ein herbyn ni;

º18 Oblegid y mae Gorgias a'i lu yn y mynydd yn agos atom: ond sefwch yn awr yn erbyn ein gelynion, a gorch-fygwch hwy, ac wedi hynny cymerwch yr ysbail yn ddiofn.

º19 Pan oedd Jwdas eto yn dywedyd hyn, rhan ohonynt a welid yn edrych allan o'r mynydd.

º20 Pan welsant yrru o'r Iddewon eu llu hwynt i ffoi, a'u bod yn llosgi'r gwersyll; canys y mwg, yr hwn a welid, a ddangosodd yr hyn a wnaethid:

º21 Pan welsant y pethau hyn, hwy a ofnasant yn ddirfawr: a phan welsant hwy lu Jwdas yn y maes yn barod i ymladd,

º22 Hwy a ffoesant oll i wlad y dieithriaid.

º23 A Jwdas a ddychwelodd i gym-ryd ysbail y gwersyll: a hwy a gaws-ant lawer o aur, ac arian, a dillad, a sidan glas, a phorffor y mor, a chyfoeth mawr.

º24 Felly hwy a aethant adref, ac a ganasant gan diolch, ac a fendithiasant Dduw nef, am ei fod ef yn ddaionus, a'i drugaredd yn dragywydd.

º25 Ac felly Israel a gafodd ymwared mawr y diwrnod hwnnw.

º26 A'r Cenhedloedd oll a'r a ddianghasent, a ddaethant, ac a ddywedasant i Lysias bob peth a ddigwyddasai.

º27 A Lysias oedd yn gywilydd ganddo, ac a ddigalonnodd, am na ddigwydd-asai'r cyfryw bethau i Israel ag a fyn-asai efe, ac am na wnaethid y cyfryw bethau ag a orchmynasai'r brenin.

º28 A'r flwyddyn nesaf ar ôl hyn, Lysias a gasglodd dri ugain mil o wyr traed detholedigj a phum mil o wyr meirch, i'w gorchfygu hwynt.

º29 A hwy a ddaethant i Idumea, ac a wersyllasant yn Bethsura, lie y daeth Jwdas yn eu herbyn hwy a deng mil o wyr.

º30 A phan welodd efe y llu mawrgryf, efe a wnaeth ei weddi, ac a ddywedodd, Bendigedig wyt ti, O Achubwr Israel, yr hwn a gystwyaist ruthr y cadarn trwy law Dafydd dy was, ac a roddaist wersyll y dieithriaid yri llaw Jonathan fab Saul, ac arweinydd ei arfau ef.

º31 Cae y llu hwn yn llaw dy bobl Israel; a chywilyddier hwy yn eu lluosowgrwydd a'u gwyr meirch.

º32 Gwna iddynt ofni, a thawdd ym-aith hyfder eu cadernid hwynt, a chryn-ant wrth eu dinistr.

º33 Tan hwy i lawr a chleddyf y rhai sy'n dy garu di; a'r sawl oll a adwaenant dy enw, clodforant di a hymnau.

º34 Yna hwy a drawsant ynghyd: ac fe a laddwyd yngbylch pum mil o wyr 0 lu Lysias; ger eu bron hwy y lladdwyd hwynt.

º35 Pan welodd Lysias yrru ei lu ef i ffoi, a gwrolaeth y rhai oedd gyda Jwdas, fel yr oeddynt hwy'n barod, pa un bynnag ai i fyw, ai i farw fel gwyr, efe a aeth i Antiochia, ac a gasglodd ryfelwyr dieithr; ac wedi gwneuthur ei lu yn fwy nag y buasai, a feddyliodd ddyfod drachefn i Jwdea.

º36 Yna y dywedodd Jwdas a'i frodyr, Wele, gorchfygwyd ein gelynion; awn i fyny i lanhau ac i adnewyddu'r cysegr.

º37 Wrth hyn yr holl lu a ymgasglodd; a hwy a aethant i fyny i fynydd Seion.

º38 A phan welsant hwy y cysegr wedi ei anrheithio, yr allor wedi ei halogi, y dorau wedi eu llosgi, a'r manwydd yn tyfu yn y neuaddau fel mewn coed neu ar un o'r mynyddoedd, ac ystafelloedd yr offeiriaid wedi eu tynnu i lawr;

º39 Hwy a rwygasant eu dillad, ac a alarasant a galar mawr, ac a fwriasant ludw ar eu pennau,

º40 Ac a syrthiasant i lawr ar eu hwyn-ebau, ac a wnaethant swn mawr ag utgyrn, ac a waeddasaut tua'r nef.

º41 Yna Jwdas a osododd wyr i ym. ladd yn erbyn y rhai oedd yn y castell, hyd oni ddarfyddai iddo ef lanhau'r cysegr.

º42 Ac efe a ddewisodd offeiriaid diargyhoedd, y rhai oedd ewyllysgar i'r gyfraith:

º43 A hwy a lanhasant y cysegr, ac a ddygasant allan y cerrig halogedig i le aflan.

º44 A chan fod allor y poethoffrym-au wedi ei halogi, hwy a ymgyngorasant beth a wnaent iddi hi.

º45 Felly hwy a feddyliasant mai gorau oedd ei thynnu hi i lawr, rhag iddi fod yn gywilydd iddynt, canys y Cenhedloedd a'i halogasent hi: am hynny hwy a dynasant yr allor i lawr,

º46 Ac a osodasant y cerrig ar fynydd y ty mewn lie cyfaddas, hyd oni ddelai proffwyd i fynegi pa beth a wneid a hwynt.

º47 A hwy a gymerasant gerrig cyf-ain yn ôl y gyfraith, ac a adeiladasant allor newydd, yn ôl dull y gyntaf;

º48 Ac a wnaethant y cysegr i fyny, a'r pethau o fewn y ty, ac a sancteidd-iasant y cynteddau;

º49 Ac a wnaethant lestri sanctaidd newydd; ac a ddygasant y canhwyll-bren, ac allor y poethoffrymau a'r arogl-aberthau, a'r bwrdd, i mewn i'r deml.

º50 A hwy a losgasant aroglau ar yr allor, ac a oleuasant y canhwyllau oedd yn y canhwyllbren, i oleuo yn y deml.

º51 A hwy a osodasant y bara ar y bwrdd, ac a ledasant y llenni, ac a orffenasant yr holl waith a ddechreu-asant ei wneuthiir.

º52 Ac ar y pumed dydd ar hugain o'r nawfed mis, yr hwn a elwir nus Casleu, yn yr wythfed flwyddyn '' deugain a chant, hwy a godasant y° fore i fyny,

º53 Ac a aberthasant yn ôl y gyfraith ar allor newydd y poethoffrymau, yr hon a wnaethent hwy.

º54 Ar gyfenw i'r amser a'r diwrnod yr halogasai'r Cenhedloedd hi, yn union, y gosoded hi i fyny o newydd, I chaniadau, & thelynau, a phibau, ac a symbalau.

º55 A'r holl bobl a syrthiasant ar eu hwynebau, gan addoli a diolch i Dduw y nef, yr hwn a'u llwyddasai hwy.

º56 Ac felly hwy a gadwasant gysegriad yr allor wyth niwrnod, gan offrymu poethoffrymau ac aberthu aberthau iachawdwriaeth a moliant mewn llaw-enydd.

º57 A hwy a harddasant dalcen y deml a choronau o aur ac a tharianau, ac a adnewyddasant y pyrth a'r ystafelloedd, ac a osodasant ddrysau arnynt hwy.

º58 Ac yr oedd llawenydd mawr ymhlith y bobl, am droi gwaradwydd y Cenhedloedd ymaith.

º59 Felly Jwdas a'i frodyr, a holl gynulleidfa Israel, a ordeiniodd gadw dyddiau cysegriad yr allor yn eu hamserau, yn uchel wyl bob blwyddyn dros wyth niwrnod, gan ddechrau y pumed dydd ar hugain o'r mis Casleu, trwy orfoledd a llawenydd.

º60 Ac ar yr un amser, hwy a adeiladasant fynydd Seion i fyny a chaerau uchel, ac a thyrau cedyrn oddi amgylch, rhag dyfod o'r Cenhedloedd, a'i fathru ef i lawr, fel y gwnaethent o'r blaen.

º61
A hwy a osodasant ynddo gryfdwr i'w gadw ef, ac a gadarnhasant Bethsura i'w gadw ef, fel y cai'r bobl am-ddiffynfa yn erbyn Idumea.

ºPENNOD 5

º1 "T\IGWYDDODD hefyd, pan glybu'r •*-' Cenhedloedd oddi amgylch ddarfod adeiladu'r allor, ac adnewyddu'r cysegr, fel y buasent o'r blaen, yna 4igio yn ddirfawr a wnaethant.

º2 Am hynny hwy a ymgyngorasant > ddistrywio cenedl Jacobs yr hon oedd yi eu plith hwy, ac a ddechreuasant 'add ac erlid y bobl.

º3 Yna Jwdas a ymladdodd yn erbyn plant Esau yn Idumea, yn Arabatthane, am eu bod yn gwarchae ar Israel: ac efe a'u trawodd a phla mawr, ac a'u darostyngodd, ac a ddug eu hysbail hwynt.

º4 Efe a gofiodd hefyd falais ac an-ffyddlondeb plant Bean, fel yr oeddynt hwy'n rhwyd ac yn rhwystr i'r bobl, ac yn eu cynllwyn hwy yn y ffyrdd.

º5 Am hynny efe a'u caeodd hwy mewn tyrau, ac a wersyllodd yn eu herbyn, ac a'u distrywiodd hwy yn llwyr, ac a losgodd eu tyrau, a phawb a'r oedd ynddynt.

º6 Wedi hynny efe a aeth trosodd at blant Ammon, ac a gafodd yno lu cadarn, a llawer o bobl, gyda Thimotheus eu capten:

º7 Ac efe a ymladdodd a hwynt mewn llawer o ryfeloedd, a hwy a ddistrywied o'i flaen ef; ac efe a'u trawodd hwynt.

º8 Ac wedi iddo ennill Jasar, a'r trefydd oedd yn perthynu iddi, efe a ddychwelodd i Jwdea.

º9 Yna y Cenhedloedd yn Galaad a ymgasglasant yn erbyn yr Israeliaid, y rhai oedd o fewn eu terfynau hwy, i'w lladd hwy: ond hwy a ffoesant i gastell Dathema,

º10 Ac a anfonasant lythyrau at Jwdas a'i frodyr, gan ddywedyd, Y cenhed-loedd, y rhai sy o'n hamgylch ni, a ymgasglasant yn ein herbyn ni, i'n distrywio.

º11 Ac yr awron y maent hwy yn ymbaratoi i ddyfod, ac i amgylchu'r castell, lie y ffoesom ni: a Thimotheus ydyw capten eu llu hwy.

º12 Tyred yn awr gan hynny, a gwared ni allan o'u dwylo hwy: canys llawer ohonom ni a laddwyd eisoes.

º13 A'n holl frodyr, y rhai oedd yn lleoedd Tobie, a laddwyd: eu gwragedd hefyd a'u plant a ddygasant hwy ymaith yn gaethion, a'u da a ddygasant, ac a laddasant yno ynghylch mil o wyr.

º14 Pan oedd y llythyrau hyn eto yn eu darllen, wele, cenhadon eraill a ddaeth o Galilea, wedi rhwygo eu dillad, y rhai a fynegasant yn ôl y geiriau hyn,

º15 Ac a ddywedasant, Ymgasglodd y rhai sy o Ptolemais, a Thyrus, a Sidon, a holl Galilea y Cenhedloedd, yn ein herbyn ni, i'n distrywio.

º16 Pan glybu Jwdas a'r bobl hyn yma, cynulleidfa fawr a ymgasglodd i ymgynghori pa beth a wnaent i'w brodyr oedd mewn gorthrymder, ac a rhyfel yn eu herbyn.

º17 A Jwdas a ddywedodd wrth Simon ei frawd, Dewis alian wyr, a dos i achub dy frodyr yn Galilea, a myfi a'm brawd Jonathan a awn i wlad Galaad.

º18 Ac efe a adawodd Joseff fab Sachareias, ac Asareias, yn gapteiniaid ar y bobl a gweddill y llu yn Jwdea, i'w chadw hi.

º19 Ac efe a orchmynnodd iddynt hwy, gan ddywedyd, Llywodraethwch y bobl yma, a mogelwch osod rhyfel yn erbyn y Cenhedloedd, hyd oni ddychwelom ni.

º20 Ac fe roddwyd teirmil o wyr Simon, i fyned i Galilea; ac wyth mil o wyr Jwdas, yn erbyn gwlad Galaad.

º21 Yna Simon a aeth i Galilea, ac a drawodd ar y Cenhedloedd mewn llawer o ryfeloedd, ac a'u gorchfygodd hwy.

º22 Ac efe a'u canlynodd hwy hyd byrth Ptolemais: ac ynghylch teirmil o wyr o'r Cenhedloedd a laddwyd; ac efe a gymerodd eu hysbail hwy;

º23 Ac a ddygodd yr Israeliaid ym-aith, y rhai oedd yn garcharorion yn Galilea, ac yn Arbattis, a'u gwragedd, a'u plant, a chymaint ag a feddent, ac a'u dygodd hwy i Jwdea a llawenydd mawr.

º24 A Jwdas Macabeus, a'i frawd Jonathan, a aethant dros yr lorddonen, ac a aethant daith tridiau yn yr anialwch;

º25 Lie y cyfarfuant hwy a'r Nabath-iaid, y rhai a ddaethant atynt yn heddych-°1, ac a fynegasant iddynt bob peth a ddigwyddasai i'w brodyr hwy yng ngwlad Galaad;

º26 Ac fel y caeasid llawer ohonynt hwy yn Bosora, Bosor, Alima, Chas-cor, Maceda, a Charnaim; (dinasoedd cryfion a mawrion ydyw y rhai hyn oll:)

º27 A'u bod wedi cau arnynt yn y lleill o ddinasoedd gwlad Galaad, a'u bod hwy wedi bwriadu dwyn eu llu yn erbyn yr amddiffynfaoedd i'w dal hwy, ac i'w difetha oll yn yr un dydd.

º28 Ac ar hyn Jwdas a'i lu a drodd ar frys, ar hyd ffordd yr anialwch tua Bosor, ac a enillodd y ddinas, ac a laddodd yr holl rai gwrywiaid a'r cleddyf, ac a gymerodd eu holl ysbail hwy, ac a losgodd y ddinas a than.

º29 Ac efe a symudodd oddi yno liw nos, ac i ddaeth tua'r castell.

º30 A phan oedd hi yn fore ddydd, hwy a godasant eu golwg i fyny, ac wele lu annifeiriol o bobl yn dwyn ysgolion ac offer rhyfel i fyny i ennill y castell: ac yr oeddynt wedi gosod arnynt hwy.

º31 Pan welodd Jwdas ddechrau o'r rhyfel, a bod gwaedd y ddinas yn dyrchafu tua'r nef gan utgyrn a lief uchel,

º32 Efe a ddywedodd wrth ei lu, Ym-leddwch heddiw dros eich brodyr.

º33 Ac efe a ddaeth o'r tu ôl iddynt mewn tair byddin; a hwy a ganasant yr utgyrn, ac a lefasant ynghyd a gweddi.

º34 Pan wybu gwersyll Timotheus mai Macabeus oedd yno, hwy a ffoesant rhagddo ef: ond efe a'u trawodd hwy a lladdfa fawr; ac ynghylch wyth mil o wyr a ladded ohonynt y diwrnod hwn-nw.

º35 Yna Jwdas a drodd tua Masffa, ac a osododd arni, ac a'i henillodd hi, ac a laddodd bob gwryw ynddi, ac a gymerodd ei hysbail, ac a'i llosgodd hi a than.

º36 Efe a aeth oddi yno, ac a enillodd Casffon, Maged, Bosor, a'r dinasoedd eraill yn Galaad.

º37 Wedi hyn Timotheus a gasglodd lu arall, ac a wersyllodd o flaen Raffon, o'r tu draw i'r afon.

º38 A Jwdas a anfonodd i sbio'r gwersyll; a hwy a ddygasant air iddo, gan ddywedyd, Y mae'r holl genhedloedd sy o'n hamgylch ni wedi ymgasglu ato ef, yn llu lluosog iawn:

º39 Ac efe a gyflogodd yr Arabiaid i'w cymorth hwy; a hwy a wersyll-asant o'r tu draw i'r afon, ac y maent yn barod i ddyfod, ac i ymladd a tbi: a Jwdas a aeth i gyfarfod a hwynt.

º40 A Thimotheus a ddywedodd wrth gapteiniaid ei lu, Pan ddelo Jwdas a'i lu yn agos at yr afon, os daw efe trosodd yn gyntaf atom ni, ni allwn ni ei wrthwynebu ef, oblegid efe a fydd trech na nyni o lawer.

º41 Ond os arswyda efe ddyfod trosodd, a gwersyllu o'r tu draw i'r afon, nyni a awn trosodd ato ef, a nyni a fyddwn gryfach nag ef.

º42 Ond pan nesaodd Jwdas at yr afon, efe a osododd ysgrifenyddion y bobl yng nglan yr afon, ac a orchmynnodd iddynt hwy, gan ddywedyd, Na adewch i un dyn aros yn y gwersyll, ond deued pawb i'r rhyfel.

º43 Ac efe a aeth trosodd yn gyntaf atynt hwy, a'i holl bobl ar ei ôl: a'r holl Genhedloedd a orchfyged ger ei fron ef; a hwy a daflasant eu harfau ymaith, ac a ffoesant i'r deml oedd yn Carnaim.

º44 A Jwdas a enillodd y ddinas, ac a losgodd y deml a phawb a'r oedd ynddi hi: felly y gorchfyged Carnaim, ac ni allodd hi wrthwynebu Jwdas.

º45 A Jwdas a gasglodd yr holl Israeliaid oedd yng ngwlad Galaad, o'r lleiaf hyd y mwyaf, a'u gwragedd, a'u plant, a'u mud, llu mawr iawn, i ddyfod i wlad Jwdea.

º46 A hwy a ddaethant i Effron; yr hon oedd ddinas fawr gadarn iawn, ar y ffordd yr elent hwy; nid oedd fodd iddynt fyned heb ei llaw hi, nac ar y llaw ddeau, nac ar y llaw aswy, ond myned trwy ei chanol hi oedd raid iddynt.

º47 Yna gwyr y ddinas a'u caeasant hwynt allan, ac a gaeasant y pyrth a Cherrig.

º48 A Jwdas a ddanfonodd atynt hwy a geiriau heddychol, gan ddywedyd, Gadewch i ni fyned trwy eich gwlad chwi, fel y gallom fyned i'n gwlad ein hun, ac ni chaiff neb wneuthur i chwi ddrwg; nid awn ni drwodd ond ar draed: ond ni fynnent hwy agoryd iddo.

º49 Am hynny Jwdas a orchmynnodd gyhoeddi trwy'r llu, ar i bob un wersyllu yn y fan yr ydoedd efe.

º50 Ac felly gwyr y llu a wersyllasant, ac a ryfelasant yn erbyn y ddinas yr hoU ddiwrnod hwnnw, a'r holl noson honno; a'r ddinas a roddwyd yn ei law ef.

º51 Ac efe a laddodd yr holl rai gwrywiaid a min y cleddyf, ac a ddiwreidd-iodd y ddinas, ac a gymerodd ei hysbail hi, ac a dramwyodd trwy'r ddinas, ar draws y rhai a laddasid.

º52 Yna hwy a aethant dros yr lorddonen, i'r gwastadedd mawr sydd o flaen Bethsan.

º53 A Jwdas oedd yn casglu ynghyd y rhai olaf, ac yn cynghori'r bobl ar hyd yr holl ffordd, hyd oni ddaeth efe i wlad Jwdea.

º54 A hwy a aethant i fyny i fynydd Seion mewn gorfoledd a llawenydd, ac a offrymasant boethoffrymau, am na laddasid neb ohonynt hwy, oni ddychwel-asant mewn heddwch.

º55 Ac yn y dyddiau hynny, y rhai yr oedd Jwdas a Jonathan yng ngwlad Galaad, a Simon eu brawd hwy yng ngwlad Galilea, o flaen Ptolemais,

º56 Yna Joseff mab Sachareias, ac Asareias, capteiniaid y llu, a glywsant y gweithredoedd ardderchog a'r rhyfeloedd a wnaethent hwy.

º57 A hwythau a ddywedasant, Gadewch i ninnau hefyd ennill enw i ni, a myned i ymladd yn erbyn y Cenhedloedd sy o'n hamgylch.

º58 A hwy a roddasant orchymyn i'r rhai oedd yn y llu oedd gyda hwynt, ac a aethant tua Jamnia.

º59 Yna Gorgias a'i wyr a ddaeth allan o'r ddinas i ymladd yn eu herbyn hwy.

º60 Ond Joseff ac Asareias a yrrwyd i ffoi, ac a ymlidiwyd hyd derfynau Jwdea: a dwy fil o wyr o bobl Israel a laddwyd y diwrnod hwnnw.

º61
Fel hyn y bu colled fawr ymhlith pobl Israel, am na wrandawsent hwy ar Jwdas a'i frodyr, eithr meddwl gwneuthur rhyw wrolaeth.

º62 Hefyd nid oeddynt hwy o had y gwyr hynny y rhoddasid ar eu dwylo achub Israel.

º63 Ond y gwr Jwdas a'i frodyr a ogoneddid yn fawr gerbron holl Israel a'r holl genhedloedd, pa le bynnag y clywid eu henw hwy.

º64 A'r bobl a ymgasglai atynt i gyf-arch gwell iddynt.

º65 Wedi hynny Jwdas a'i frodyr a aethant allan, ac a ryfelasant yn y wlad sy'n gorwedd tua'r deau, yn erbyn meibion Esau; ac yno efe a oresgynnodd Hebron a'i phentrefydd, ac a dynnodd i lawr ei chastell hi, a'i thyrau hi a losgodd efe oddi amgylch.

º66 Yna efe a ymadawodd i fyned i wlad y dieithriaid, ac a aeth trwy Samaria.

º67 Ar yr un amser y lladdwyd rhai o offeiriaid y dinasoedd, y rhai oedd yn ewyllysio gwneuthur gwrolaeth, am fyned ohonynt i ymladd heb gyngor.

º68 A phan ddaeth Jwdas i Asotus yng ngwlad y dieithriaid, efe a ddistryw-iodd eu hallorau hwy, ac a losgodd eu delwau cerfiedig, ac a gymerodd ysbail y dinasoedd, ac a ddychwelodd i wlad Jwdea.

ºPENNOD 6

º1 AC Antiochus y brenin a dramwy•**• odd trwy'r gwledydd uchaf, ac a glybu fod Elymais o fewn Persia yn ddinas enwog iawn am olud, am arian ac aur;

º2 A bod teml gyfoethog iawn ynddi hi, a gwisgoedd o aur, a llurigau, a tharianau, y rhai a adawsai Alexander mab Philip brenin Macedonia yno, yr hwn a deyrnasasai yn gyntaf ymysg y Groegwyr.

º3 Am hynny efe a ddaeth, ac a geis- iodd ennill y ddinas, a'i hysbeilio hi; ond ni allai efe, oblegid cael o'r dinasyddion wybod y peth.

º4 A hwy a godasant yn ei erbyn ef i ryfel; ac efe a ffodd, ac a ymadawodd oddi yno mewn tristwch mawr, ac a ddychwelodd i Babilon.

º5 Hefyd rhyw un a ddaeth, ac a fynegodd iddo ef yn Persia, ymlid ym-aith y lluoedd a aethai i wlad Jwdea;

º6 Ac fel yr aethai Lysias a llu cadarn yn gyntaf, ac yr ymlidiesid ef o'u blaen hwynt; ac fel yr aethant hwy yn gryf-ach o ran arfau a llu, ac ysbail lawer, y rhai a ddygasent oddi ar y lluoedd a dorasent hwy ymaith;

º7 Ac fel y tynasent i lawr y ffieidd-beth a osodasai efe ar yr allor yn Jerwsalem, ac yr amgylchasent hwy y cys-egr a chaerau uchel, fel y buasai efe o'r blaen, a Bethsura ei ddinas ef hefyd.

º8 Pan glybu'r brenin y geiriau hyn, fe synnodd arno, ac a gythruddodd yn ddirfawr: am hynny efe a orweddodd ar ei wely, ac a syrthiodd mewn clefyd oddi wrth y tristwch hwnnw, a'r cwbl am na ddigwyddasai iddo fel yr oedd efe yn disgwyl.

º9 Ac efe a arhodd yno lawer o ddydd-iau; canys ei dristwch ef oedd fwyfwy; ac efe a wnaeth gyfrif y byddai efe farw.

º10 Am hynny efe a ddanfonodd am ei holl garedigion, ac a ddywedodd wrthynt, Mae'r cysgu wedi ymadael a'm llygaid, ac fe lesgaodd fy nghalon o wir ofal: n A mi a ddywedais yn fy nghalon, I ba drallod y deuthum, ac ym mha afonydd o drymder yr ydwyf yr awr hon, lle'r oeddwn i o'r blaen yn hael ac yn gariadus yn fy awdurdod!

º12 Ac yr awron yr ydwyf fi yn cofio'r drwg a wneuthum i yn Jerwsalem, fel y dygais ymaith yr holl lestri aur ac arian oedd ynddi hi, ac fel y dan-fonais i ddistrywio trigolion Jwdea yn ddiachos.

º13 Myfi a wn mai am hynny y daeth y drygau hyn arnaf; ac wele, darfu am- danaf fi trwy alaeth mawr mewn gwlad ddieithr.

º14 Yna efe a alwodd am Philip, un o'i garedigion, ac a'i gosododd ef yn llywodraethwr ar ei holl deyrnas,

º15 Ac a roddes iddo ef ei goron, a'i fantell, a'i fodrwy, fel y gallai efe gymryd Antiochus ei fab ef ato, a'i ddwyn ef i fyny i deyrnasu.

º16 Ac Antiochus y brenin a fu farw yno, yn y nawfed flwyddyn a deugain a chant.

º17 Pan wybu Lysias farw o'r brenin, efe a osododd i deyrnasu yn ei le ef Antiochus ei fab ef, yr hwn a ddygasai efe i fyny yn ieuanc, ac a'i galwodd ef Eupator.

º18 A'r rhai oedd yn y castell yn Jerwsalem a gadwasant yr Israeliaid i mewn o amgylch y cysegr, ac a geisiasant eu drygu hwy yn wastadol, a chadarnhau'r Cenhedloedd.

º19 Am hynny y bwriadodd Jwdas eu distrywio hwy; ac efe a gasglodd yr holl bobl ynghyd i'w hamgylchynu hwy,

º20 Felly hwy a ddaethant ynghyd, ac a'u hamgylchynasant hwy yn y ddeg-fed flwyddyn a deugain a chant: ac efe a wnaeth leoedd i'r taflwyr i sefyll, a rhyfeloffer eraill.

º21 Er hynny rhai o'r rhai yr oeddid yn eu hamgylchu a aethant allan, a rhai o wyr annuwiol Israel a lynasant wrthynt,

º22 Ac a aethant at y brenin, ac a ddywedasant, Pa hyd y byddi di heb wneuthur cosbedigaeth a dialedd ar ein brodyr?

º23 Yr oeddem ni yn fodlon i was-anaethu dy dad di, i rodiq fel y dywedai efe, ac i ufuddhau i'w orch-mynion ef.

º24 Am hynny ein pobl a ymddieithrasant oddi wrthym ni, a pha le bynnag y cawsant hwy neb ohonom, hwy a'u lladdasant; a hwy a ysbeiliasant ein hetifeddiaeth ni.

º25 Ac nid estynasant hwy eu dwylo yn unig yn ein herbyn ni, ond yn erbyn ein holl gyffiniau.

º26 Ac wele, y maent hwy wedi gwersyllu heddiw yn erbyn y castell sydd yn Jerwsalem i'w oresgyn ef; a hwy a gadarnhasant y cysegr, a Bethsura.

º27 Ac oddieithr i ti achub eu blaen hwy yn fuan, hwy a wnant bethau mwy na'r rhain, fel nas gellych di eu rheoli hwynt.

º28 Pan glybu'r brenin hynny, efe a ddigiodd, ac a gasglodd ei holl garedigion ynghyd, capteiniaid ei lu, a'r rhai oedd ar ei wyr meirch ef.

º29 Yna y daeth ato ef oddi wrth frenhinoedd eraill, ac o ynysoedd y mor, lu ar gyflog.

º30 A rhifedi ei lu ef oedd gan mil o wyr traed, ac ugeinmil o wyr meirch, a deuddeg ar hugain o eliffantiaid wedi eu dysgu i ryfela.

º31 Y rhai hyn a ddaethant trwy Idumea, ac a wersyllasant yn erbyn Bethsura, ac a ryfelasant tros lawer o ddyddiau, ac a osodasant allan lawer o ryfeloffer yn ei herbyn hi: ond yr Iddewon a ddaethant allan, ac a losg-asant y rheini a than, ac a ymladd-asant fel gwyr.

º32 Yna Jwdas a ymadawodd oddi wrth y castell, ac a wersyllodd yn Bathsachareias, gyferbyn a gwersyll y brenin,

º33 A'r brenin a gyfododd yn fore iawn, ac a ddygodd y llu ar ruthr tua Bathsachareias, ac a ymrannodd i ryfela, ac a ganodd utgyrn.

º34 A hwy a ddangosasant sugn grawnwin a morwydd i'r eliffantiaid, i'w hannog hwy i ymladd;

º35 Ac a ranasant yr anifeiliaid ymysg y byddinoedd, ac a ordeiniasant fil o wyr wedi eu gwisgo mewn llurigau o fodrwyau, ac a helmau o bres am eu pennau, i bob eliffant; a phum cant o wyr meirch etholedig a ordeiniwyd hefyd i bob eliffant.

º36 Y rhai hyn oedd barod bob amser; lie byddai yr anifail y byddent, gan fyned i ba le bynnag yr elai efe; ac ni ymadawent oddi wrtho ef.

º37 A phob eliffant a orchuddiasid a thwr cadarn o goed, wedi ei sicrhau arno ef ag offer: ac ar bob un yr oedd deuddeg ar hugain o wyr i ymladd oddi arno ef; a gwr o India i lywodraethu'r anifail.

º38 A hwy a osodasant weddill y gwyr meirch o'r tu yma ac o'r tu acw, wrth ddwy ran y llu, gan roddi arwj^ddion iddynt beth a wnaent, ac wedi eu holl-arfogi ymysg byddinoedd.

º39 A phan dywynnai yr haul ar y tarianau aur a phres, y mynyddoedd a ddisgleiriai oddi wrthynt hwy; ac yr oeddynt yn llewyrchu fel lampau tan.

º40 A rhan o lu y brenin oedd wedi ymdaenu ar y mynyddoedd uchel, a rhan ar y lleoedd isel; ac felly hwy a aethant yn ddiogel ac mewn trefn.

º41 A synnu a wnaeth ar bawb a'r a glybu swn eu lliaws hwy, a cherddediad y llu, a thrwst yr arfau yn taro ynghyd; canys yr oedd y llu yn fawr anianol ac yn gryf.

º42 Jwdas hefyd a'i lu a nesaodd i'r rhyfel; ac fe laddwyd chwe chant o wyr o lu y brenin.

º43 Pan welodd Eleasar, a'i gyfenw Safaran, un o'r eliffantiaid wedi ei wisgo ag arfau brenhinol, ac yn uwch na'r anifeiliaid eraill, efe a feddyliodd fod y brenin ar hwnnw,

º44 Ac a ymroes i achub ei bobl, ac i ennill iddo ei hun enw tragwyddol;

º45 Ac a redodd yn galonnog at yr eliffant hwnnw trwy ganol y fyddin, ac a'u lladdodd hwy ar y llaw ddeau, ac ar y llaw aswy, oni ymwahanasant oddi wrtho ef o bob tu.

º46 Ac efe a aeth dan yr eliffant, ac a'i brathodd oddi tano, ac a'i lladdodd ef: yna'r eliffant a syrthiodd i lawr arno ef, ac efe a fu farw yno.

º47 Ond pan welodd yr Iddewon eraill gryfdwr y brenin a nerth y lluoedd, hwy a giliasant oddi wrthynt.

º48 A'r rhai oedd o lu y brenin a aethant i fyny i gyfarfod a hwynt i Jerwsalem; a'r brenin a wersyllodd yn erbyn Jwdea, ac yn erbyn mynydd Seion.

º49 Hefyd y brenin a wnaeth hedd- wch rhyngddo a'r rhai oedd yn Bethsura; a hwy a ddaethant allan o'r ddinas, am nad oedd ganddynt ymborth yno, i arcs y gwarchae, oblegid ei bod hi yn Saboth i'r tir.

º50 Felly y brenin a gymerodd Bethsura, ac a osododd wyr i'w chadw hi.

º51 Ac efe a osododd ryfel yn erbyr y cysegr dros lawer o ddyddiau, ac a osododd yno dafl-arfau a rhyfeloffer, bwau, a gwaith i saethu tto, a gwaith i saethu cerrig, ac ysgorpionau i saethu saethau a thaflau.

º52 Yr Iddewon hefyd a wnaethant ryfeloffer yn erbyn yr eiddynt hwythau, ac a ymladdasant a hwynt dros hir amser.

º53 Ond nid oedd mo'r bwyd yn eu llestri; oblegid y seithfed flwyddyn oedd hi, a'r rhai yn Jwdea, a'r a achub-asid o blith y Cenhedloedd, a fwytasent eu holl stor hwy;

º54 Ac ni adawsid ond ychydig wyr yn y cysegr, oblegid newyn a'u gorchfyg-asai hwy, oni thynasent hwy ymaith bob un i'w le ei hun.

º55 Pan glybu Lysias fod Philip, (yr hwn a osodasai Antiochus y brenin pan oedd efe eto yn fyw, i ddwyn Antiochus ei fab i fyny i deyrnasu,)

º56 Wedi dyfod drachefn o Persia a Media, a llu'r brenin, yr hwn a aethai gydag ef, a'i fod ef yn ceisio cym-ryd materion y frenhiniaeth ar ei law:

º57 Yna efe a frysiodd, ac a aeth, ac a ddywedodd wrth y brenin, a chaptein-iaid y llu, a'r gwyr eraill, Yr ydym ni yn lleihau beunydd, ac nid oes gennym ond ychydig ymborth: drachefn, y lie yr ydym ni yn ei amgylchu sy gadarn, ac arnom ni y mae cymryd gofal am y deyrnas.

º58 Am hynny rhoddwn ddeau ddwylo i'r gwyr hyn; gwnawn heddwch rhyngom a hwynt, ac a'u holl genedl:

º59 A chaniatawn iddynt fyw yn ôl eu cyfraith, fel yr oeddynt o'r blaen: canys am hyn y maent hwy wedi cyth-ruddo, a hyn oll a wnaethant hwy am ddileu ohonom ni eu cyfreithiau hwynt.

º60 A'r brenin a'r tywysogion a fuant fodlon: ac efe a ddanfonodd atynt hwy i gynnig heddwch; a hwy a'i derbynias-ant.

º61
A'r brenin a'r tywysogion a dyng-asant iddynt; ac ar hynny hwy a ddaethant allan o'r castell.

º62 A'r brenin a aeth i fyny i fynydd Seion; ond pan welodd efe gadern-id y lie, efe a dorrodd y llw a dyng-asai efe, ac a orchmynnodd dynnu'r gaer i lawr oddi amgylch.

º63 Yna efe a ymadawodd ar frys, ac a ddychwelodd i Antiochia, ac a gafodd Philip yn arglwyddiaethu ar y ddinas, ac a ymladdodd ag ef, ac a oresgynnodd y ddinas wrth gryfder.

ºPENNOD 7

º1 A^N yr unfed flwyddyn ar ddeg a A deugain a chant yr ymadawodd Demetrius mab Seleucus o Rufain, ac a ddaeth ag ychydig wyr i ddinas yng nglan y mor, ac a deyrnasodd yno.

º2 A phan ddaeth efe i frenhindy ei hynafiaid, digwyddodd i'w lu ef ddal Antiochus a Lysias, i'w dwyn ato ef.

º3 A phan wybu efe hynny, efe a ddywedodd, Na ddangoswch i mi eu hwyft-ebau hwy.

º4 A'r llu a'u lladdodd hwynt: a Demetrius a eisteddodd ar orseddfa ei frenhiniaeth.

º5 Yna yr holl ddynion drygionus an-nuwiol o Israel a ddaethant ato ef, ac Alcimus oedd eu capten hwy, yr hwn oedd yn chwenychu bod yn archoffeiriad;

º6 Ac a gyhuddasant y bobl wrth y brenin, gan ddywedyd, Jwdas a'i frodyr a laddasant dy holl garedigion di, ac a'n gyrasant ni allan o'n gwlad.

º7 Am hynny danfon ryw wr yr ydwyt yn ymddiried iddo, ac aed, ac edryched yr holl ddistryw a wnaeth efe arnom ni, /ac ar wlad y brenin, a chosbed efe hwynt, , a phawb sydd yn eu cynorthwyo.

º8 Yna'r brenin a ddewisodd Bac-chides, caredig y brenin, yr hwn oedd yn llywodraethu o'r tu draw i'r afon, ac oedd wr mawr yn y deyrnas, ac yn ffyddlon i'r brenin:

º9 Ac efe a'i danfonodd ef gydag Alcimus annuwiol, yr hwn a wnaethai efe yn archoffeiriad, ac a orchmynnodd iddo ddial ar blant Israel.

º10 A hwy a ymadawsant, ac a ddaethant a llu mawr i wlad Jwdea, ac a ddan-fonasant genhadon at Jwdas a'i frodyr, ac a ddywedasant eiriau heddychol yn dwyllodrus wrthynt.

º11 Eithr ni wnaethant hwy goel ar eu geiriau hwy: canys hwy a welsant ddyfod ohonynt a llu mawr.

º12 Wedi hyn cynulleidfa o'r sgrif-enyddion a ymgasglodd at Alcimus a Bacchides, i geisio cyfiawnder.

º13 A'r Assideaid oedd y rhai cyntaf ymhlith plant Israel a geisiasant heddwch ganddynt hwy,

º14 Gan ddywedyd, Daeth un sy off-eiriad o had Aaron gyda'r llu yma, ac ni wna efe gam a nyni.

º15 Ac efe a roes eiriau heddychol iddynt hwy, ac a dyngodd wrthynt, gan ddywedyd, Ni wnawn ni ddrwg i chwi, nac i'ch caredigion.

º16 A hwy a'i credasant ef; ond efe a ddaliodd dri ugeinwr ohonynt hwy, ac a'u lladdodd hwy mewn un diwrnod yn ôl y geiriau a sgrifennodd Dafydd:

º17 Hwy a daflasant allan gig dy saint di, ac a dywalltasant eu gwaed hwy o amgylch Jerwsalem, ac nid oedd neb a'u claddai hwynt.

º18 A'u hofn hwynt a'u dychryn a ddaeth ar yr holl bobl, y rhai a ddywedent, Nid oes na gwirionedd na chyfiawnder ynddynt hwy; oblegid hwy a dorasant y llw a'r amod a wnaethant.

º19 A Bacchides a symudodd o Jerwsalem, ac a wersyllodd yn Beseth, ac a ddanfonodd allan oddi yno, ac a ddaliodd lawer o'r rhai a'i gadawsent ef, a rhai o'r bobl, ac a'u lladdodd hwy, ac a'u taflodd i'r pydew mawr.

º20 Yna efe a orchmynnodd y wlad i Alcimus, ac a adawodd ryfelwyr gydag ef, i'w gymorth ef: a Bacchides a aeth at y brenin.

º21 Ac felly Alcimus a ymrysonodd am yr archoffeiriadaeth.

º22 A'r holl rai oedd yn cythryblu'r boblj a ymgasglasant ato ef, ac a enill-asant wlad Jwda, ac a wnaethant ddrwg mawr yn Israel.

º23 Pan welodd Jwdas yr holl ddrwg a wnaethai Alcimus a'r rhai oedd gydag ef i'r Israeliaid, ie, mwy nag a wnaeth-ai'r Cenhedloedd,

º24 Efe a dramwyodd trwy holl derfynau Jwda oddi amgylch, ac a wnaeth ddialedd ar y gwyr a ffoesent ymaith oddi wrtho ef at y gelynion, oni pheid-iasant hwy a dyfod mwy i'r wlad.

º25 Pan welodd Alcimus fod Jwdas a'r rhai oedd gydag ef wedi cael y llaw uchaf, a gwybod na allai efe eu haros hwy, efe a ddychwelodd at y bren-in, ac a'u cyhuddodd hwy o ddrygioni.

º26 Yna'r brenin a ddanfonodd Nicanor, un o'i dywysogion anrhydeddus, yr hwn oedd yn casau ac yn dwyn gelyniaeth i Israel, ac a orchmynnodd iddo ddistrywio'r bobl yn llwyr.

º27 A Nicanor a ddaeth i Jerwsalem a llu mawr, ac a ddanfonodd eiriau heddychol at Jwdas a'i frodyr, ond trwy dwyll, gan ddywedyd,

º28 Na fydded rhyfel rhyngof fi a chwi; mi a ddeuaf ag ychydig wyr i weled eich wynebau chwi yn heddychol.

º29 Felly efe a ddaeth at Jwdas, a hwy a gyfarchasant ei gilydd yn heddychol: ond yr oedd y gelynion yn barod i gipio Jwdas i ffordd.

º30 Eto hysbyswyd y peth i Jwdas, mai trwy dwyll y daethai efe ato ef: ac efe a'i hofnodd ef yn fawr, ac ni fynnai weled ei wyneb ef mwy.

º31 Pan wybu Nicanor ddatguddio ei fwriad, efe a aeth allan i ymladd yn erbyn Jwdas, yn ymyl Caffarsalama.

º32 Ac ynghylch pum mil o wyr o lu Nicanor a laddwyd, a'r lleill a ffoesant i ddinas Dafydd.

º33 Wedi hyn Nicanor a aeth i fyny i fynydd Seion, a rhai o'r offeiriaid a henaduriaid y bobl a aethant allan o'r cysegr i gyfarch iddo ef yn heddychol, ac i ddangos iddo'r poethoffrymau yr oeddid yn eu hoffrwm dros y brenin.

º34 Ond efe a chwarddodd am eu pen-nau, ac a'u gwatwarodd hwy, ac a'u halogodd, ac a ddywedodd yn falch.

º35 Ac efe a dyngodd yn ei ddig, gan ddywedyd, Oni roddir yn awr Jwdas a'i wersyll yn fy nwylo i, os dychwelaf mewn heddwch, myfi a losgaf y ty yma. Ac yna efe a aeth allan mewn dicllon-deb mawr.

º36 Yna'r offeiriaid a ddaethant i mewn, ac a safasant o flaen yr allor a'r deml, gan wylo, a dywedyd,

º37 O Arglwydd, ti a ddewisaist y ty yma, i alw ar dy enw di ynddo, ac i fod yn dy gweddi ac ymbil i'th bobl.

º38 Gwna ddialedd ar y gwr hwn a'i wersyll, oni ladder hwy a'r cleddyf: cofia eu cabledigaethau hwy, ac na ddio-ddef iddynt barhau.

º39 A Nicanor a aeth allan o Jerwsalem, ac a wersyllodd yn Bethoron; ac yno llu o Syria a gyfarfu ag ef.

º40 A Jwdas a wersyllodd yn Adasa, a thair mil o wyr, ac a wnaeth ei weddi, gan ddywedyd,

º41 O Arglwydd, pan ddaeth rhai oddi wrth y brenin i'th gablu di, yr angel a aeth allan, ac a laddodd gant a phump a phedwar ugain o filoedd ohonynt:

º42 Distrywia felly y gwersyll hwn o'n blaen ni heddiw, fel y gallo pobl eraill wybod ddywedyd ohono ef yn ddrwg am dy gysegr di; a barna ef yn ôl ei ddrygioni.

º43 A'r gwersylloedd a drawsant ynghyd, y trydydd dydd ar ddeg o'r mis Adar: a llu Nicanor a orchfyged, ac efe ei hun a ladded yn gyntaf yn y rhyfel.

º44 Pan welodd rhyfelwyr Nicanor ei ladd ef, hwy a daflasant eu harfau ymaith, ac a ffoesant.

º45 Ond yr Iddewon a'u hymlidias-ant hwy daith un diwrnod, o Adasa nes dyfod i Gasera, ac a ganasant larwm mewn utgyrn ar eu hoi hwynt.

º46 A'r Iddewon a ddaethant allan o holl drefi Jwdea oddi amgylch, ac a'u herlidiasant: a hwy a droesant yn erbyn y rhai a'u herlidient, ac felly y lladded hwy oll a'r cleddyf, ac ni adawed neb ohonynt hwy, naddo un.

º47 Yna hwy a gymerasant yr ysbail a'r ysglyfaeth, ac a dorasant ben Nicanor ymaith, a'i law ddeau ef, yr hon a estynasai efe allan cyn falched, ac a'u dygasant hwy ymaith gyda hwynt, ac a'u crogasant o flaen Jerwsalem.

º48 Am hynny'r bobl a lawenychasant yn ddirfawr, ac a fwriasant y diwrnod hwnnw trwy orfoledd mawr:

º49 Ac a ordeiniasant gadw y diwrnod hwnnw, sef y trydydd dydd ar ddeg o'r mis Adar, bob blwyddyn.

º50 Ac felly gwlad Jwda a gafodd heddwch dros ychydig amser.

ºPENNOD 8

º1 TWDAS hefyd a glybu son am y J Rhufeinwyr, eu bod hwy yn alluog, ac yn wyr cedyrn, ac yn fodlon i dderbyn y rhai a ymgysylltai a hwynt, ac yn gwneuthur heddwch a phawb a'r oedd yn cyrchu atyntj

º2 A'u bod yn alluog o nerth: a heb-law hyn, eu rhyfeloedd hwy, a'r gwrol-aeth a wnaethant ymysg y Galatiaid, a fynegwyd iddynt hwy, ac fel y gorch-fygasent hwynt, ac a'u dygasent dan deyrnged;

º3 A pha bethau a wnaethent hwy yng ngwlad Hispaen, i ennill y mwyn-gloddiau arian ac aur oedd yno;

º4 Ac fel y goresgynasent bob lie trwy eu doethineb a'u dioddefgarwch, er pelled fyddai y lie oddi wrthynt hwy, a'r brenhinoedd hefyd y rhai a ddaethai yn eu herbyn hwy o eithaf y ddaear, nes eu gorchfygu a'u taro yn drwm iawn; ac fel yr oedd y lleill yn talu teyrnged iddynt hwy bob blwyddyn;

º5 Ac fel y gorchfygasent hwy mewn rhyfel Philip, a Pherseus brenin y Macedoniaid, ac eraill y rhai a ymgod-asai yn eu herbyn, ac y gorchfygasent hwynt;

º6 Fel y gorchfygasent hwy Antiochus y brenin mawr o Asia, yr hwn a fynnai ymladd a hwynt, ac oedd ganddo chwe ugain o eliffantiaid, a gwyr meirch, a cherbydau, a llu mawr iawn;

º7 Ac fel y daliasent ef yn fyw, ac yr ordeiniasent iddo ef, ac i'r rhai a deyrn-asai ar ei ôl ef, dalu teyrnged fawr iddynt hwy, a rhoddi meichiau ar yr hyn a gytunesid arno;

º8 Fel y dygasent oddi arno ef wlad India, a Media, a Lydia, ei wledydd gorau ef, ac y rhoddasent hwy y rhai hynny i'r brenin Eumenes;

º9 A pha fodd y rhoddasai'r Groegwyr eu bryd ar ddyfod a'u difetha hwynt;

º10 Ac y danfonasent hwythau, pan wybuant, gapten yn eu herbyn hwy, ac y lladdasent lawer ohonynt, ac y caeth-gludasent eu gwragedd hwy a'u plant, ac yr ysbeiliasent hwy, ac y cymerasant feddiant yn eu tir hwy, ac y distrywiasent eu dinasoedd cedyrn, ac a'u darostyngasent i fod yn gaethwyr iddynt hyd y dydd heddiw;

º11 Ac fel y darfuasai iddynt ddistrywio a chaethiwo teyrnasoedd ac ynysoedd eraill, y rhai a fuasai un amser yn eu gwrthwynebu hwyj

º12 Ac fel yr oeddynt yn cadw cydymdeithas a'u cydymdeithion, ac a'r rhai oedd a'u hyder arnynt hwy, ac fel yr enillasent deyrnasoedd ymhell ac yn agos, a bod pawb yn eu hofni hwy a'r a glywsai s6n amdanynt:

º13 Oblegid pwy bynnag a chwenych-ent hwy eu cymorth i deyrnasu, y rhai hynny oedd yn teyrnasu; a thra-chefn, y neb a fynnent, a ddiswyddent: ac fel yr oeddynt wedi dyfod i oruchaf-iaeth mawr:

º14 Ac er hyn i gyd nad oedd un ohonynt yn gwisgo coron, nac yn ym-ddilladu a phorffor, i'w fawrygu felly;

º15 Ond gwneuthur ohonynt dy cyngor iddynt eu hunain, lie yr oedd tri chant ac ugain yn eistedd beunydd mewn cyngor, yn ymgynghori yn wastadol dros y bobl, i'w cadw hwynt mewn trefn dda:

º16 Ac fel yr oeddynt yn ymddiried i un gwr bob blwyddyn i'w llywod-raethu, ac i arglwyddiaethu ar eu holl wlad hwy, i'r hwn yr oedd pawb yn ufudd; ac nad oedd na chenfigen nac eiddigedd yn eu plith.

º17 Yna Jwdas a ddewisodd Eupolemus fab loan, fab Accas, a Jason fab Eleasar, ac a'u danfonodd hwy i Rufain i wneuthur cyfamod caredigrwydd a chydymdeithas a hwynt;

º18 Ac i ddeisyf arnynt dynnu'r iau oddi arnynt hwy: oblegid yr oeddynt yn gweled fod brenhiniaeth y Groegwyr yn gorthrymu Israel a chaethiwed.

º19 A hwy a aethant i Rufain; ac yr oedd y ffordd yn bell iawn; ac aethant i mewn i dy'r cyngor, lie y liefarasant ac y dywedasant,

º20 Jwdas Macabeus a'i frodyr a phobl yr Iddewon, a'n danfonodd ni atoch, i ymrwymo mewn amodau cydymdeithas a heddwch a chwychwi, ac i chwithau ein sgrifennu ninnau yn gydymdeithion ac yn garedigion i chwithau.

º21 Ac yr oedd y chwedl yma yn rhyngu bodd i'r Rhufeiniaid yn dda iawn.

º22 A dyma gopi o'r ysgrifen a argraffodd y cyngor mewn llechau pres, ac a anfonasant hwy i Jerwsalem, fel y byddai yno gyda hwy yn goffadwriaeth o'r heddwch ac o'r gydymdeithas.

º23 Bid yn dda i'r Rhufeinwyr, ac i bobl yr Iddewon, ar for ac ar dir yn dragywydd: a phell fyddo'r cleddyf a'r gelyn oddi wrthynt.

º24 O daw rhyfel yn gyntaf yn erbyn y Rhufeinwyr, neu yn erbyn neb o'u cydymdeithion, trwy eu holl arglwydd-iaeth hwy,

º25 Pobl yr Iddewon a'u cymhorthant hwy, fel y gofynno'r amser, ag ewyllys eu calon:

º26 Ac ni roddant ddim i'r rhai a ryfelant yn eu herbyn hwynt, ac ni chynorthwyant hwynt nac a bwyd, nac ag arian, nac a llongau, fel y rhyngodd bodd i'r Rhufeinwyr: eu hamodau a gadwant heb gymryd dim am hynny.

º27 Yn yr un ffunud, o digwydd i bobl yr Iddewon yn gyntaf gaffael rhyfel, y Rhufeinwyr a ymladdant gyda hwy o ewyllys da, fel y gosoder yr amser iddynt:

º28 Ac ni roddant i elynion yr Iddewon na bwyd, nac arfau, nac arian, na llongau, fel y gwelodd y Rhufeinwyr yn dda; eithr hwy a gadwant yr amodau hyn, a hynny yn ddidwyll.

º29 Yn ôl y geiriau hyn y gwnaeth y Rhufeinwyr amod a phobl yr Iddewon.

º30 Ac os ewyllysia'r un o'r ddwy blaid o hyn allan chwanegu at, neu dynnu oddi wrth, y geiriau hyn, gwnant wrth eu hewyllys: a pha beth bynnag a chwanegant atynt, neu a dynnant oddi wrthynt, hynny a saif.

º31 Ac am y drwg y mae Demetrius yn ei wneuthur i'r Iddewon, ni a sgrifenasom ato ef, gan ddywedyd, Paham y gwnaethost ti dy iau yn drom ar ein caredigion ni a'n cydymdeithion yr Iddewon?

º32 Od achwynant hwy rhagot ti dra-chefn, nyni a wnawn gyfiawnder iddynt, ac a ymladdwn a thi ar for ac ar dir.

ºPENNOD 9

º1 A PHAN glybu Demetrius ladd Nicanor a'i lu mewn rhyfel, efe a aeth rhagddo, ac a ddanfonodd Bac-chides ac Alcimus drachefn i Jwdea, a chadernid ei lu gyda hwynt.

º2 A hwy a aethant allan ar hyd y ffordd sydd yn myned tua Galgala, ac a wersyllasant o flaen Masaloth, yr hon sy yn Arbela, ac a'i henillasant hi, ac a laddasant lawer o bobl.

º3 Y mis cyntaf hefyd o'r ddeuddeg-fed flwyddyn a deugain a chant, hwy a wersyllasant o flaen Jerwsalem.

º4 Ond gan gyfodi'r gwersyll i fyny,' hwy a aethant i Berea, ag ugain mil o wyr traed, a dwy fil o wyr meirch.

º5 Jwdas yntau a wersyllasai yn Eleasa, a thair mil o wyr detholedig gydag ef.

º6 A phan welsant hwy luosowgrwydd y llu arall, ei fod ef cymaint, hwy a ofnasant yn ddirfawr; a llawer a dyn-asant allan o'r gwersyll, ac nid arhodd yno ond wyth gant o wyr.

º7 Pan welodd Jwdas fod ei lu ef wedi cilio, a'r rhyfel yn pwyso arno. efe a fawr drallodwyd yn ei galon o eisiau caffael amser i'w casglu hwy ynghyd. ac a ddigalonnodd.

º8 Eto efe a ddywedodd wrth y rhai a drigasent gydag ef, Cyfodwn, ac awn yn erbyn ein gelynion; nid hwyrach y gallwn ymladd a hwynt.

º9 Ond hwy a fynasent ei droi ef, gan ddywedyd, Ni allwn ni ddim: am hynny achubwn ein heinioes yn awr; ac yn ôl hyn ni a ddychwelwn ynghyd a'n brodyr, ac a ymladdwn yn eu herbyn hwy: canys nid ydym ni ond ychydig.

º10 Yna Jwdas a ddywedodd, Na adawo Duw i mi wneuthur hyn, a ffoi oddi wrthynt hwy; am hynny os ein hamser ni a ddaeth, gedwch i ni farw fel gwyr dros ein brodyr, ac na adawn fai yn y byd ar ein gogoniant.

º11 A llu Bacchides a aeth allan o'r gwersyll, ac a safodd yn eu herbyn hwy; a'r gwyr meirch a gyfranned yn ddwy ran: y taflyddion a'r saethyddion a gerddasant o flaen y llu; a'r rhai oll oedd yn blaenori y llu oeddynt wyr cryfion.

º12 A Bacchides ei hun oedd yn yr adain ddeau: a'r fyddin a nesaodd ar y ddeutu, a hwy a ganasant yr ut-gyrn.

º13 Gwyr Jwdas a ganasant yr utgyrn hefyd, a'r ddaear a ysgydwodd wrth dwrf y lluoedd: a hwy a drawsant ynghyd o'r bore hyd y nos.

º14 A phan welodd Jwdas fod Bacchides a chryfder ei lu ar y tu deau, efe a gymerodd yr holl wyr calonnog gydag ef,

º15 Ac a ddrylliodd adain ddeau eu byddin hwy, ac a'i herlidiodd hyd ym mynydd Asotus.

º16 Pan welodd y rhai oedd yn yr adain aswy fod y rhai o'r adain ddeau wedi eu dryllio, hwy a ganlynasant ar Jwdas a'i wyr, wrth eu sodlau, o'r tuol.

º17 Ac yna yr aeth y rhyfel yn frwd, a llawer a laddwyd ac a archollwyd o'r ddwy blaid.

º18 Jwdas hefyd a laddwyd, a'r lleill a ffoesant.

º19 A Jonathan a Simon a gymerasant Jwdas eu brawd, ac a'i claddasant ef ym medd ei dadau ym Modin.

º20 A hwy a wylasant; a holl bobl Israel a wnaethant farwnad fawr am-dano ef, ac a alarasant dros ddyddiau lawer, gan ddywedyd,

º21 Pa fodd y cwympodd y gwr galluog oedd yn achub Israel!

º22 Ond ni sgrifennwyd y pethau eraill oedd yn perthyn i Jwdas, a'i ryfeloedd, a'i weithredoedd ardderchog, a'i fawredd ef; canys llawer iawn oeddynt hwy.

º23 Wedi marw Jwdas, dynion drygionus a ddyrchafasant eu pennau o fewn holl derfynau Israel, a phawb a'r oeddynt yn gwneuthur anwiredd a gyfod-asant.

º24 Yr oedd newyn mawr iawn yn y dyddiau hynny, a'r holl wlad a ym-adawodd ar eu hoi hwynt,

º25 A Bacchides a ddewisodd wyr an-nuwiol, ac a'u gwnaeth hwy yn arglwyddi ar y wlad.

º26 Y rhai hynny a geisiasant ac a chwiliasant am garedigion Jwdas, ac a'u dygasant hwy at Bacchides, ac efe a ddialodd arnynt, ac a'u gwatwarodd hwy yn ddirfawr.

º27 A chystudd mawr a ddigwyddodd yn Israel; ni bu y fath er pan ni welwyd proffwyd yn eu plith hwy.

º28 A holl garedigion Jwdas a ym-gasglasant, ac a ddywedasant wrth Jonathan,

º29 Er pen fu farw dy frawd Jwdas, nid oes gennym neb tebyg iddo ef i fyned allan yn erbyn ein gelynion, a Bacchides, ac yn erbyn y rhai o'n cenedl sydd elynion i ni.

º30 Am hynny nyni a'th ddewisasom di heddiw yn ei le ef, i fod yn dywysog ac yn gapten i ni, i ymladd ein rhyfeloedd.

º31 A Jonathan a gymerodd y dywysogaeth arno yr amser hwnnw, ac a gododd i fyny yn lie Jwdas ei frawd.

º32 Pan wybu Bacchides hynny, efe a geisiodd ei ladd ef.

º33 Ond Jonathan a Simon ei frawd, a phawb a'r oedd gyda hwy, a wybuant hyn, ac a ffoesant i anialwch Thecoe, ac a wersyllasant wrth ddwfr llyn Asffar.

º34 Pan ddeallodd Bacchides hynny, efe a ddaeth a'i holl lu yn agos i'r lorddonen ar y dydd Saboth.

º35 A Jonathan a ddanfonasai ei frawd loan capten y bobl, i ddymuno ar ei garedigion y Nabathiaid, gaffael ohonynt hwy adael eu hoffer gyda hwy i'w cadw, oblegid yr oedd llawer gan-ddynt.

º36 Ond plant Jambri a ddaethant allan 0 Medaba, ac a ddaliasant loan, a'r holl bethau oedd ganddo ef, ac a aethant ymaitli a hwynt ganddynt.

º37 Yn ôl y pethau hyn y daeth gair i Jonathan ac i Simon ei frawd, fod plant Jambri yn gwneuthur neithior fawr, ac yn dwyn y ferch o Medaba a chynhebrwng mawr, oblegid merch oedd hi i un o benaethiaid mawrion Canaan.

º38 Yna hwy a gofiasant loan eu brawd, ac a aethant i fyny, ac a ymguddiasant yng nghysgod y mynydd.

º39 A hwy a godasant eu golwg i fyny, ac a edrychasant, ac wele, yr oedd trwst ac arlwy mawr: a'r priodasfab a ddaethai allan a'i garedigion, ac a'i frodyr, i'w cyfarfod hwy, a thympanau, ag offer cerdd, ac ag arfau lawer.

º40 Yna Jonathan a'r rhai oedd gyd-ag ef a godasant i fyny allan o'u lloch-esau yn eu herbyn hwy, ac a laddasant lawer ohonynt, a'r lleill a ffoesant i'r mynydd: a hwy a gymerasant eu holl ysbail hwy.

º41 Felly y briodas a droed yn alar, a llais eu cerddorion hwy yn farwnad.

º42 Ac felly wedi iddynt Iwyr ddial gwaed eu brawd, hwy a ddychwel-asant i oror yr lorddonen.

º43 Pan glybu Bacchides hynny, efe a ddaeth i Ian yr lorddonen a llu mawr, ar y dydd Saboth.

º44 A Jonathan a ddywedodd wrth y rhai oedd gydag ef, Cyfodwn heddiw i fyny, ac ymladdwn am ein heneidiau: canys nid ydym heddiw yn sefyll yn yr un cyflwr ag yr oeddem er ys dyddiau:

º45 Wele, y mae'r rhyfel o'n blaen ac o'n hoi ni, a dwfr yr lorddonen o'r naill du, ac o'r tu arall siglennydd a choedydd; ac nid oes i ni le i gilio.

º46 Am hynny gwaeddwch yr awr hon tua'r nef, fel yr achuber chwi o law eich gelynion.

º47 Ac felly hwy a drawsant ynghyd: a Jonathan a estynnodd allan ei law i daro Bacchides; ond efe a giliodd yn ôl oddi wrtho ef.

º48 Yna Jonathan a'r rhai oedd gydag ef a neidiasant i'r lorddonen, ac a nofiasant drosodd i'r Ian draw: ond nid ai y lleill dros yr lorddonen ar eu hoi hwy.

º49 Ac ynghylch mil o wyr Bacchides a laddwyd y diwrnod hwnnw.

º50 Am hynny Bacchides a ddychwelodd i Jerwsalem, ac a adeiladodd y dinasoedd cedyrn oedd yn Jwdea, a'r amddiffynfa yn Jericho, ac Emaus, a Bethoron, a Bethel, a Thamnatha, a Pharathoni, a Thaffon, a chaerau uchel, a phyrth, ac a barrau;

º51 Ac a osododd wyr ynddynt i'w cadw, ac i wneuthur gelyniaeth ag Israel.

º52 Efe a adeiladodd gaerau ynghylch y ddinas Bethsura, a Gasara, a'r castell, ac a osododd wyr a bwyd ynddynt.

º53 Efe a gymerodd hefyd feibion penaethiaid y wlad yn wystlon, ac a'u rhoddodd hwy yn y castell yn Jerwsalem i'w cadw.

º54 Wedi hynny, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg a deugain a chant, yr ail mis, Alcimus a orchmynnodd iddynt dynnu i lawr gaerau cyntedd y cysegr nesaf i mewn: ac efe a dyn-nodd i lawr waith y proffwydi.

º55 Ond, ac efe yn dechrau tynnu lawr, yr amser hwnnw y trawyd Alcimus, a'i orchwyl ef a rwystred: a'i enau ef a gaewyd, ac efe a syrthiodd yn y parlys; fel na allai efe ymddi-ddan mwy, na gorchymyn dim ynghylch ei d$.

º56 Alcimus a fu farw yr amser hwnnw mewn gofid mawr.

º57 Pan welodd Bacchides farw Alcimus, efe a ddychwelodd at y brenin: a gwlad Jwdea a gafodd lonyddwch ddwy flynedd.

º58 Yna'r holl wyr annuwiol a ym-gyngorasant, gan ddywedyd, Wele, y mae Jonathan a'i wyr mewn esmwyth-dra, ac yn trigo mewn diofalwch: am hynny dygwn Bacchides yma yn awr, ac efe a'u deil hwy oll mewn un noswaith.

º59 Ac felly hwy a aethant, ac a ym-gyngorasant ag ef.

º60 Ac efe a gododd i ddyfod a llu mawr, ac a ddanfonodd lythyrau yn ddirgel at ei holl gyfeillion oedd yn Jwdea, ar iddynt ddal Jonathan a'r rhai oedd gydag ef: ond ni allent hwy, oblegid y lleill a wybuant eu bwriad hwy.

 

º61
A Jonathan a ddaliodd ddeg a deugain o wyr y wlad, y rhai oedd flaenoriaid yn y drwg hwnnw, ac a'u lladdodd hwy.

º62 Yna Jonathan, a Simon, a'r rhai oedd gyda hwy, a aethant ymaith i Bethbasi, yr hon sydd yn yr anialwch; a hwy a adnewyddasant yr hyn a syrth-iasai ohoni, ac a'i cadarnhasant hi.

º63 Pan wybu Bacchides hyn, efe a gasglodd ei holl lu, ac a ddanfonodd air i'r rhai oedd yn Jwdea.

º64 Yna efe a ddaeth ac a wersyllodd yn erbyn Bethbasi, ac a ymladdodd yn ei herbyn hi lawer o ddyddiau, ac a wnaeth offer rhyfel.

º65 A Jonathan a adawodd ei frawd Simon yn y ddinas, ac a aeth allan i'r wlad, ac a aeth a rhifedi o wyr,

º66 Ac a laddodd Odonarces a'i frodyr, / a meibion Phasiron yn eu lluest.

º67 A phan ddechreuodd efe eu taro hwynt, a dyfod i fyny a'i fyddinoedd, Simon yntau a'r rhai oedd gydag ef a aethant allan o'r ddinas, ac a losgasant yr offer rhyfel,

º68 Ac a ymladdasant yn erbyn Bacchides, ac a'i gorchfygasant, ac a'i cystuddiasant yn ddirfawr, am fod ei gyngor a'i daith ef yn ofer.

º69 Am hynny efe a fu lidiog wrth y gwyr annuwiol a'i cyngorasent ef i ddyfod i'r wlad, ac a laddodd lawer ohonynt: yna efe a fwriadodd fyned ymaith i'w wlad ei hun.

º70 Pan wybu Jonathan hynny, efe a ddanfonodd genhadon ato, i wneuthur heddwch rhyngddo ac ef, ac i roddi iddynt hwy y carcharorion.

º71 A Bacchides a gytunodd i hynny, ac a wnaeth fel yr oedd ei ddymuniad ef, ac a dyngodd hefyd na wnai efe niwed fyth iddo ef holl ddyddiau ei einioes;

º72 Ac a adferodd iddo yr holl garcharorion a ddaliasai efe o'r blaen o wlad Jwdea; ac yna efe a ddychwelodd ac a aeth ymaith i'w wlad ei hun; ac ni ddaeth efe mwy i'w terfynau hwynt.

º73 Ac felly y peidiodd y cleddyf yn Israel. A Jonathan a drigodd ym Machmas, ac a ddechreuodd farnu'r bobl: ac efe a ddiwreiddiodd y rhai annuwiol allan o Israel.

ºPENNOD 10 "

º1 VT'N yr wythugeinfed flwyddyn, Alex- ander mab Antiochus a gyfenwid Epiffanes, a aeth i fyny ac a enillodd Ptolemais; a'r dinasyddion a'i derbyniasent ef, ac efe a deyrnasodd yno.

º2 Pan glybu Demetrius hynny, efe a gasglodd lu mawr anfeidrol, ac a aeth allan yn ei erbyn ef i ryfela.

º3 A Demetrius a ddanfonodd lythyrau at Jonathan a geiriau heddychol, gan ei fawrygu ef.

º4 Canys efe a ddywedodd, Nyni a wnawn dangnefedd ag ef yn gyntaf, cyn heddychu ohono ag Alexander yn ein herbyn ni:

º5 Os amgen, efe a gofia'r holl ddrwg a wnaethom ni yn ei erbyn ef, ac yn erbyn ei frodyr a'i bobl.

º6 Ac efe a roddes awdurdod i Jonathan i gasglu llu o wyr, ac i ddarparu arfau, fel y cynorthwyai efe ef mewn rhyfel: ac efe a orchmynnodd roddi'r gwystlon oedd yn y castell iddo ef.

º7 Yna Jonathan a ddaeth i Jerwsalem, ac a ddarllenodd y llythyrau, lle'r oedd yr holl bobl, a'r rhai oedd yn y castell, yn clywed.

º8 A hwy a ofnasant yn ddirfawr pan glywsant roddi o'r brenin awdurdod iddo ef i gasglu llu.

º9 A'r rhai oedd yn y castell a roesant y gwystlon i Jonathan: ac efe a'u had-ferodd hwy i'w rhieni.

º10 Jonathan hefyd a drigodd yn Jerwsalem, ac a ddechreuodd adeiladu ac adnewyddu'r ddinas.

º11 Ac efe a orchmynnodd i'r gweithwyr adeiladu y caerau, a mynydd Seion o'i amgylch, a cherrig pedwarochrog i fod yn lie cadarn: ac felly y gwnaeth-ant hwy.

º12 Yna y Cenhedloedd, y rhai oedd yn y cestyll a wnaethai Bacchides, a ffoesant.

º13 A phob un a adawodd ei le, ac a aeth ymaith i'w wlad ei hun.

º14 Yn unig yn Bethsura yr arhosodd rhai o'r rhai a wrthodasent y gyfraith a'r gorchmynion: oblegid honno oedd eu noddfa hwy.

º15 Pan glywodd Alexander y brenin yr addewidion a wnaethai Demetrius i Jonathan, a phan fynegasant hwy iddo ef y rhyfeloedd a'r gwroldeb a wnaethai efe a'i frodyr, a'r boen a gymerasent hwy;

º16 Efe a ddywedodd, A gawn ni y fath wr a hwn? gan hynny nyni a'i gwnawn ef yn gyfaill ac yn gydymaith i ni.

º17 Ac am hyn efe a sgrifennodd ac a ddanfonodd lythyr ato ef o'r geiriau hyn, gan ddywedyd,

º18 Y mae'r brenin Alexander yn cyfarch ei frawd Jonathan.

º19 Ni a glywsom amdanat ti, dy fod yn wr galluog nerthol, ac yn gymwys i fod yn un o'n caredigion ni; t

º20 Am hynny ni a'th osodasom di heddiw yn archoffeiriad ar dy bobl, ac i'th alw yn gyfaill i'r brenin; (ac efe a ddanfonodd wisg o borffor a choron o aur iddo ef;) ac i gymryd ein plaid ni, ac i gadw caredigrwydd a nyni.

º21 A Jonathan a wisgodd y wisg sanctaidd amdano, y seithfed mis o'r wythugeinfed flwyddyn, ar wyl y pebyll: ac efe a gasglodd lu, ac a baratodd lawer o arfau.

º22 Pan glywodd Demetrius y geiriau hyn, efe a dristaodd yn ddirfawr, ac a ddywedodd,

º23 Paham y gwnaethom ni hyn, pan ragflaenai Alexander nyni, yn gwneuthur cyfeillach a'r Iddewon, i'w gryfhau ei hun?

º24 Minnau a sgrifennaf atynt eiriau comfforddus, ac a addawaf godiad a rhoddion iddynt, fel y byddont yn gymhorthwyr i mi.

º25 Ac efe a sgrifennodd y geiriau hyn atynt hwy; Y brenin Demetrius at bobl yr Iddewon, yn anfon annerch:

º26 Yn gymaint a chadw ohonoch amodau a nyni, a glynu yn ein cyfeillach ni, heb fyned at ein gelynion, hyn a glywsom, ac ni a lawenychasom.

º27 Am hynny parhewch, a byddwch ffyddlon i ni, ac ni a dalwn i chwi yn dda am y pethau yr ydych yn eu gwneuthur yn ein plaid ni.

º28 Ni a faddeuwn i chwi lawer o bethau dyledus, ac a roddwn i chwi roddion.

º29 Ac yn awr yr ydwyf fi yn eich rhyddhau chwi, a'r holl Iddewon er eich mwyn chwi yr ydwyf yn eu rhyddhau oddi wrth deyrnged, ac oddi wrth daledigaethau yr halen, ac oddi wrth dreth y goron;

º30 Ac oddi wrth yr hyn sydd i mi i'w gael am drydedd ran yr had, a banner ffrwyth y coed; yr ydwyf fi yn eu maddau hwy o'r dydd heddiw allan, fel nas cymerer hwy o wlad Jwdea, nac o'r tair talaith a chwanegwyd ati, allan o Samaria a Galilea, o'r dydd heddiw allan yn dragywydd.

º31 Bydded Jerwsalem yn sanctaidd, ac yn rhydd, a'i holl derfynau, oddi wrth ddegymau ac ardrethion.

º32 Ac am y castell sydd yn Jerwsalem, yr ydwyf fi yn rhoddi i fyny fy meddiant arno, ac yn ei roddi ef i'r archoffeiriad, fel y gallo efe osod ynddo y cyfryw wyr ag a ddewiso efe i'w gadw ef.

º33 Ac yr ydwyf fi yn rhad yn gollwng yn rhydd bob perchen enaid o ddyn o'r Iddewon a gaethgluded o wlad Jwdea i fan yn y byd o'm teyrnas i: a maddeued pawb o'm swyddogion eu teyrnged hwy, sef o'u hanifeiliaid hwy.

º34 A'r holl wyliau, a'r Sabothau, a'r lloerau newydd, y dyddiau arferedig, y tridiau ymlaen ac yn ôl yr wyl, a gant fod yn ddyddiau o ryddid a maddeuant i'r holl Iddewon yn fy nheyrnas.

º35 Ac ni chaiff neb awdurdod i ymyrryd arnynt, nac i flino neb ohonynt am ddim.

º36 Ysgrifenner i lawr hefyd o'r Iddewon, i fod o lu y brenin, ynghylch dengmil ar hugain o wyr, a rhodder iddynt roddion, fel y mae'n perthyn i bawb o lu y brenin.

º37 Gosoder hefyd ohonynt hwy rai yng nghestyll mawrion y brenin, a rhai o'r rhain a osodir ar negesau y brenin, y rhai ydynt o ymddiried: bydded hefyd y rhai fyddant arnynt hwy, ac yn dywysogion, ohonynt hwy eu hun-ain, a rhodiant yn eu cyfraith eu hun, megis y gorchmynnodd y brenin yn nhir Jwdea.

º38 Chwaneger hefyd at Jwdea y tair talaith a roddwyd o wlad Samaria at Jwdea, i'w cyfrif yn un, fel nad ufuddhaont i awdurdod neb arall ond yr archoffeiriad.

º39 Ptolemais a'i chyffiniau yr ydwyf fi yn ei rhoddi yn rhodd i'r cysegr sydd yn Jerwsalem, at gymesur draul y cysegr.

º40 Ac yr wyf fi yn rhoddi bob blwydd- yn bymtheng mil o siclau arian allan o gyfrif y brenin o'r.lleoedd a berthyn.

º41 A'r hyn sydd yng ngweddill heb i'r swyddwyr ei dalu i mewn, megis yn y blynyddoedd o'r blaen, o hyn allan rhoddant at waith y deml.

º42 Ac heblaw hyn y pum mil sicl o arian, y rhai a gymerasant hwy allan o raid y cysegr o'r cyfrif bob blwyddyn, yr ydys yn maddau y rhai hynny, am eu bod yn perthynu i'r offeiriaid sydd yn gwasanaethu.

º43 A phwy bynnag a ffoant i'r deml sydd yn Jerwsalem, neu i'w holl gyffin-iau, a'r y mae y brenin yn dylu iddynt ardreth neu ddim arall, gadawer hwynt yn rhyddion, a'r hyn oll sy ganddynt yn fy nheyrnas.

º44 Ac fel yr adeilader ac y cyweirier gwaith y cysegr, fe a roddir traul hefyd o gyfrif y brenin.

º45 Felly y rhoddir traul o gyfrif y brenin i adeiladu caerau Jerwsalem, ac i'w chadarnhau o amgylch, ac i adeiladu y caerau yn Jwdea.

º46 Ond pan glybu Jonathan a'r bobl y geiriau hyn, ni roddasant goel iddynt, ac nis derbyniasant hwynt: canys hwy a gofiasant y mawr ddrygioni a wnaethai efe yn Israel, ac mor ddirfawr y cystuddiasai efe hwynt.

º47 Am hynny hwy a fuant fodlon i Alexander, oblegid efe a fuasai yn gyntaf yn crybwyll wrthynt am wir heddwch; a hwy a ryfelasant gydag ef eu holl ddyddiau.

º48 A'r brenin Alexander a gasglodd lu mawr, ac a wersyllodd yn erbyn Demetrius.

º49 Felly y ddau frenin a drawsant ynghyd mewn rhyfel, a llu Demetrius a ffodd: ac Alexander a'i herlidiodd ef, ac a'u gorchfygodd hwynt.

º50 Eithr y rhyfel a barhaodd yn frwd hyd fachlud haul; a lladdwyd Demetrius y dydd hwnnw.

º51 Ac Alexander a anfonodd genhadau at Ptolemeus brenin yr Aifft, gan ddywedyd yn ôl y geiriau hyn:

º52 Gan ddychwelyd ohonof i dir fy mrenhiniaeth, ac eistedd ar orseddfainc fy nhadau, a chael y dywysogaeth, a difetha Demetrius, ac ennill ein gwlad ni;

º53 Canys wedi cydio ohonof fi ag ef mewn cad, difethwyd ef a'i lu gennym ni, ac yr ydwyf yn eistedd ar orseddfainc ei deyrnas ef;

º54 Yn awr gan hynny gwnawn gyf-eillach rhyngom; ac yr awron dod i mi dy ferch yn wraig, ac mi a fyddaf ddaw i ti, ac a roddaf i ti ac iddi hithau roddion addas i ti.

º55 A'r brenin Ptolemeus a atebodd, gan ddywedyd, Da yw'r dydd y dychwelaist i dir dy hynafiaid, ac yr eistedd-aist ar orseddfainc eu brenhiniaeth hwynt.

º56 Ac yr awron mi a wnaf i ti yr hyn a sgrifennaist: eithr tyred i gyfarfod i Ptolemais, fel y gwelom ein gilydd; ac mi a fyddaf chwegrwn i ti, fel y dywedaist.

º57 Felly yr aeth Ptolemeus allan o'r Aifft, efe a Chleopatra ei ferch, a hwy a ddaethant i Ptolemais yn yr ail flwyddyn a thrigain a chant.

º58 A'r brenin Alexander a'i cyf-arfu ef; yntau a roddes ei ferch Cleopatra iddo ef, ac a wnaeth ei neithior hi yn Ptolemais, mewn gogoniant mawr, fel y mae arfer brenhinoedd.

º59 A'r brenin Alexander a sgrifen-asai at Jonathan i ddyfod i gyfarfod ag ef.

º60 Ac efe a aeth i Ptolemais yn ogon-eddus, ac a gyfarfu a'r ddau frenin, ac a roddes arian ac aur iddynt hwy ac i'w caredigion, a rhoddion lawer, ac a gafodd ffafr yn eu golwg hwynt.

º61
A gwyr ysgeler o Israel, sef gwyr annuwiol, a ymgasglasant yn ei erbyn ef, i achwyn arno ef: ond ni wrandawodd y brenin arnynt.

º62 A'r brenin hefyd a archodd ddiosg Jonathan o'i ddillad, a'i wisgo a phorffor: a hwy a wnaethant felly.

º63 A'r brenin a wnaeth iddo eistedd gydag ef, ac a ddywedodd wrth ei dy wysogion, Ewch allan gydag ef i ganoe y ddinas, a chyhoeddwch na achwyno neb yn ei erbyn ef am ddim mater, ac na flino neb ef am un achos.

º64 A phan welodd y rhai oedd yn achwyn arno ei ogoniant ef, y modd y cyhoeddasid, ac yntau wedi ei wisgo a phorffor, hwy a ffoesant oll.

º65 A'r brenin a'i hanrhydeddodd ef, ac a'i sgrifennodd ymysg ei gyfeillion pennaf, ac a'i gwnaeth yn dywysog, ac yn gyfrannog o'i lywodraeth ef.

º66 A Jonathan a ddychwelodd i Jerwsalem yn heddychlon ac yn llawen.

º67 Ac yn y bumed flwyddyn a thrigain a chant y daeth Demetrius, mab Demetrius, o Greta i dir ei hynafiaid.

º68 A'r brenin Alexander a glybu, ac a dristaodd yn ddirfawr; ac efe a ddychwelodd i Antiochia.

º69 A Demetrius a osododd Apolonius, yr hwn oedd ar Celo-Syria, yn ben-capten; ac efe a gasglodd lu mawr, ac a wersyllodd yn Jamnia, ac a anfonodd at Jonathan yr archoffeiriad, gan ddywedyd,

º70 Tydi yn unig yn anad neb ydwyt yn ymddyrchafu i'n herbyn; minnau a euthum yn watworgerdd ac yn waradwydd o'th achos di: a phaham yr wyt ti yn cymryd awdurdod i'n herbyn ni yn y mynyddoedd?

º71 Am hynny yn awr os ydwyt yn ymddiried yn dy gryfder dy him, tyred i waered atom i'r maes, ac yno ymgystadlwn a'n gilydd: canys y mae gennyf fi lu y dinasoedd.

º72 Gofyn, a dysg pwy ydwyf fi a'r lleill sydd yn ein helpu ni; hwy a fyn-egant i ti nad oes fodd i'th droed di sefyll yn ein hwyneb ni: oblegid dy hynafiaid a yrrwyd i ffoi ddwywaith yn eu gwlad eu hun.

º73 Ac yr awr hon gan hynny ni elli di arcs y fath feirch a llu yn y maes, lie nid oes na charreg, na maen, na lie i ffoi.

º74 A phan glybu Jonathan eiriau Apolonius, efe a gyffrodd yn ei feddwl, ac a etholodd ddengmil o wyr, ac a aeth allan o Jerwsalem; a'i frawd Simon a gyfarfu ag ef yn help iddo.

º75 Ac efe a wersyllodd yn erbyn Jope; eithr hwy a'i cadwasant ef allan o'r ddinas, am fod gwarcheidwaid Apolonius yn Jope.

º76 A hwy a ryfelasant yn ei herbyn hi; a'r rhai oedd o'r ddinas a ofnasant, ac a agorasant: a Jonathan a enillodd Jope.

º77 A phan glybu Apolonius hyn, efe a gymerodd dair mil o wyr meirch, a llu mawr o wyr traed, ac a aeth i Asotus, megis un ar ei daith: ac efe a ddaeth a'i lu i'r maes, am fod ganddo lawer o wyr meirch, yn y rhai yr oedd efe'n ymddiried.

º78 Yna Jonathan a ddilynodd ar ei ôl ef i Asotus, lie y cydiodd y ddau lu mewn rhyfel o'i ôl ef.

º79 Ac Apolonius a adawsai fil o wyr meirch mewn cynllwyn o'u hoi hwynt.

º80 A Jonathan a wybu fod cynllwyn o'i ôl ef; a hwy a amgylchasent ei lu ef, ac a daflasent bicellau yn erbyn y bobl, 0 fore hyd hwyr.

º81 A'r bobl a safodd fel yr archodd Jonathan; a'u meirch hwythau a flinas-ant.

º82 Simon hefyd a ddug allan ei lu yntau, ac a gydiodd a'r fyddin, canys y meirch a flinasent; a hwy a orchfygwyd ganddo, ac a ffoesant.

º83 A'r gwyr meirch a wasgarwyd ar hyd y maes, ac a ffoesant i Asotus, ac a ddaethant i Bethdagon, i deml eu heilun, i fod yn gadwedig.

º84 A Jonathan a losgodd Asotus, a'r dinasoedd o'i hamgylch hi, ac a gymerodd eu hysbail hwynt: teml Dagon hefyd, a'r rhai a ffoesent iddi, a losgodd efe a than.

º85 A'r rhai a laddwyd a'r cleddyf, ynghyd a'r rhai a losgwyd a than, oedd hyd yn wyth mil o wyr.

º86 A Jonathan a aeth oddi yno, ac a wersyllodd wrth Ascalon; a'r rhai oedd /o'r ddinas a ddaethant allan i'w gyfar{ fod ef a gogoniant mawr.

º87 A Jonathan a ddychwelodd i Je- rwsalem, a'r rhai oedd gydag ef, a chan-ddynt ysbail fawr.

º88 A phan glybu y brenin Alexander y pethau hyn, efe a roddes fwy o an-rhydedd i Jonathan.

º89 Ac efe a anfonodd iddo fwcl aur, fel y mae yr arfer roddi i geraint y brenin; ac a roddes iddo Accaron a'i holl gyffiniau mewn meddiant.

ºPENNOD II

º1 A BRENIN yr Aifft a gasglodd lu mawr, fel y tywod sydd ar Ian y mor, a llongau lawer, ac a geisiodd gael teyrnas Alexander trwy dwyll, a'i gosod at yr eiddo ei hun.

º2 Ac efe a aeth allan i Syria mewn modd heddychol, a'r rhai oedd yn y dinasoedd a agorasant iddo, ac a aethant i'w gyfarfod ef; am fod gorchymyn y brenin Alexander ar gyfarfod ag ef, am ei fod ef yn chwegrwn iddo.

º3 Ac yn awr, fel yr aeth Ptolemeus i mewn i'r dinasoedd, efe a osododd lu i warchod ym mhob dinas.

º4 A phan ddaeth efe yn agos i Asotus, hwy a ddangosasant iddo deml Dagon, yr hon a losgasid, ac Asotus a'i phentrefydd wedi eu difetha, a'r cyrff a daflasid allan, a'r rhai llosgedig a losg-asai Jonathan yn y rhyfel; oblegid hwy a wnaethant bentyrrau ohonynt ar ei ffordd ef.

º5 Felly y mynegasant i'r brenin yr hyn a wnaethai Jonathan, i'w oganu ef: a thewi a wnaeth y brenin.

º6 A Jonathan a ddaeth i gyfarfod a'r brenin i Jope yn ogoneddus, a hwy a gyfarchasant well i'w gilydd, ac a gysgas-ant yno.

º7 A Jonathan a aeth gyda'r brenin hyd at yr afon a elwir Eleutherus, ac a ddychwelodd i Jerwsalem.

º8 A'r brenin Ptolemeus a gafodd feddiant ar ddinasoedd y mordir, hyd Seleucia ar Ian y mor, ac a ddych-mygodd gynghorion drwg yn erbyn Alexander.

º9 Ac efe a anfonodd genhadau at y brenin Demetrius, gan ddywedyd, Ty red, gwnawn gyfamod rhyngom: ac mi a roddaf i ti fy merch sy gan Alexander, a thi a gei deyrnasu yn nheyrnas dy dad;

º10 Oblegid y mae'n edifar gennyf roddi ohonof fy merch iddo ef: canys efe a geisiodd fy lladd i.

º11 Felly efe a'i goganodd ef, am ei fod ef yn chwenychu ei frenhiniaeth ef.

º12 Ac efe a ddug ei ferch oddi arno ef, ac a'i rhoddes i Demetrius; ac efe a ymddieithrodd oddi with Alexander: felly yr ymddangosodd eu cas hwynt.

º13 Yna yr aeth Ptolemeus i Antiochia, ac a osododd ddwy goron ar ei ben; coron Asia, a choron yr Aifft.

º14 A'r brenhin Alexander oedd yn Cilicia yn yr amser hwnnw: oblegid y rhai oedd o'r lie hwnnw a wrthryfelas-ent.

º15 A phan glybu Alexander, efe a ddaeth yn ei erbyn ef i ryfel: a'r bren-in Ptolemeus a arweiniodd ei lu allan, ac a gyfarfu ag ef a llaw gref, ac a'i gyrrodd i ffoi.

º16 Yna y ffodd Alexander i Arabia i gael swcr yno: a'r brenin Ptolemeus a ddyrchafwyd.

º17 A Sabdiel yr Arabiad a gymerodd ymaith ben Alexander, ac a'i han-fonodd i Ptolemeus.

º18 A'r brenin Ptolemeus a fu farw y trydydd dydd ar ôl hynny: a'r rhai oedd yn ei gestyll ef a ddifethwyd gan y rhai oedd o fewn y cestyll.

º19 A theyrnasodd Demetrius y seith-fed flwyddyn a thrigain a chant.

º20 Yn y dyddiau hynny casglodd Jonathan y rhai oedd o Jwdea, i ennill y twr yn Jenvsalem: ac efe a wnaeth yn ei erbyn lawer o offer rhyfel.

º21 Yna yr aeth rhai gwyr annuwiol, y rhai oedd yn casau eu cenedl eu hun, at y brenin, ac a fynegasant iddo fod Jonathan yn gwarchae ar y twr.

º22 Pan glybu yntau, efe a ddigiodd; a chyn gynted ag y clybu, efe a gym-erodd ei daith yn ebrwydd, ac a ddaeth i Ptolemais, ac a sgrifennodd at Jonathan na warchaeai efe mwy, ac ar ddyfod ohono yn fuan i'w gyfarfod ef, i ym-ddiddan ynghyd yn Ptolemais.

º23 Ond pan glybu Jonathan, efe a archodd warchae, ac a ddewisodd rai o henuriaid Israel, ac o'r offeiriaid, ac a ymroddes i'r perygl.

º24 Ac efe a gymerodd aur, ac arian, a gwisgoedd, a llawer o anrhegion eraill, ac a aeth at y brenin i Ptolemais, ac a gafodd ffafr yn ei olwg ef.

º25 A rhai annuwiol o'r genedl a achwynasant rhagddo ef.

º26 Eithr y brenin a wnaeth iddo ef fel y gwnaethai y rhai a fuasai o'i flaen ef, ac efe a'i dyrchafodd ef o flaen ei holl garedigion.

º27 Ac efe a sicrhaodd iddo ef yr archoffeiriadaeth, a pha anrhydedd byn-nag oedd ganddo ef o'r blaen, ac a wnaeth ei gyfrif ef yn un o'i garedigion pennaf.

º28 Yna y dymunodd Jonathan ar y brenin wneuthur Jwdea yn ddi-dreth, a'r tair talaith ynghyd a Samaria: ac efe a addawodd iddo dri chant o dalentau.

º29 A'r brenin oedd fodlon, ac a sgrifennodd lythyrau at Jonathan am hyn oll, fel hyn:

º30 Y brenin Demetrius yn cyfarch gwell i'w frawd Jonathan, a chenedl yr Iddewon:

º31 Copi o'r llythyr a sgrifenasom ni at ein car Lasthenes yn eich cylch chwi, a sgrifenasom atoch chwi hefydj fel y gallech ei weled.

º32 Y brenin Demetrius at ei dad Lasthenes, yn anfon annerch:

º33 Y mae yn ein bryd ni wneuthur daioni i genedl yr Iddewon ein cared-igion, y rhai sydd yn cadw cyfamodau a nyni, am eu hewyllys da i ni.

º34 Yr ydym ni wedi sicrhau iddynt gyffiniau Jwdea, a'r tair talaith, Affer^ ema, Lyda, a Ramathem, y rhai a chwan-egwyd o Samaria at Jwdea, a'r hyn oll sydd yn perthyn iddynt, i'r rhai oll sydd yn aberthu yn Jerwsalem, yn lle'r ardreth yr oedd y brenin yn ei gael o'i blaen o gnwd y ddaear a ffrwyth y coed bob blwyddyn ganddynt hwy.

º35 A phethau eraill yn perthyn i ni o ddegymau a theyrnged dyledus i ni, a'r pyllau halen, a threth y goron, y rhai sydd yn perthyn i ni, nyni a'u caniatawn iddynt hwy i gyd.

º36 A dim o hyn ni ddiddymir o hyn allan byth.

º37 Am hynny cymerwch ofal am wneuthur copi o'r pethau hyn, a rhodd-er ef at Jonathan, a gosoder ef yn y mynydd sanctaidd, mewn lie cyfleus hynod.

º38 Yna pan welodd Demetrius fod yr holl dir o'i flaen ef yn llonydd, ac nad oedd dim yn ei wrthwynebu ef, efe a ollyngodd ei holl lu bob un i'w fangre, ond y dieithr luoedd y rhai a gasglasai efe o ynysoedd y cenhedloedd: am hynny holl luoedd ei dadau a aethant yn elynion iddo ef.

º39 Yr oedd un Tryffon hefyd, yr hwn a fuasai ar du Alexander o'r blaen, pan welodd efe fod yr holl luoedd yn grwg-nach yn erbyn Demetrius, efe a aeth at Simalcue yr Arabiad, yr hwn a fagasai Antiochus, mab ieuanc Alexander;

º40 Ac efe a fu daer arno ef, ar iddo roddi Antiochus ieuanc ato ef, fel y teyrnasai yn lie ei dad: ac efe a ddan-gosodd iddo pa bethau a wnaethai Demetrius, a'r cas oedd gan ei lu iddo ef. Ac efe a arhosodd yno ddyddiau lawer.

º41 A Jonathan a anfonodd lythyrau at y brenin Demetrius, am fwrw allan o Jerwsalem y rhai oedd yn y castell, a'r rhai oedd yn yr amddiffynfeydd: oblegid yr oeddynt hwy yn rhyfela yn erbyn Israel.

º42 A Demetrius a anfonodd at Jonathan, gan ddywedyd, Nid hyn yn unig a wnaf fi erot ti a'th genedl, eithr mi a'th anrhydeddaf di a'th genedl ag anrhydedd, os caf fi gyfle.

º43 Yn awr gan hynny ti a wnei yn dda, os anfoni di wyr i ryfela gyda mi; oblegid fy holl luoedd a'm gadawsant.

º44 A Jonathan a anfonodd iddo ef i Antiochia, dair mil o wyr cedyrn o nerth, a hwy a ddaethant at y brenin; a llawen iawn fu gan y brenin eu dyfodiad hwy.

º45 A'r rhai oedd o'r ddinas a ddaethant ynghyd i ganol y ddinas, ynghylch deuddeng myrddiwn o wyr, ac a fyn-asent ladd y brenin.

º46 Yna y ffodd y brenin i'r llys: a'r rhai oedd o'r ddinas a gadwasant ffyrdd y ddinas, ac a ddechreuasant ym-ladd.

º47 A'r brenin a alwodd yr Iddewon i'w helpu; a hwy a ddaethant ato ef oll ar unwaith, ac a ymwasgarasant ar hyd y ddinas, ac a laddasant y dydd hwnnw yn y ddinas hyd yn neg myrddiwn.

º48 A hwy a losgasant y ddinas, ac a gymerasant ysbail fawr y dydd hwnnw, ac a achubasant y brenin.

º49 A'r rhai o'r ddinas a welsant i'r Iddewon ennill y ddinas fel y myn-nent; a hwy a Iwfrhasant, ac a waedd-asant wrth y brenin mewn gweddi, gan ddywedyd,

º50 Cymod a ni, a pheidied yr Iddewon & rhyfela i'n herbyn ni a'r ddinas.

º51 Felly hwy a fwriasant ymaith eu harfau, ac a wnaethant heddwch: a'r Iddewon a gawsant anrhydedd o flaen y brenin a phawb yn ei deyrnas ef, ac a ddychwelasant i Jerwsalem a chan-ddynt ysbail fawr.

º52 Felly y brenin Demetrius a eisteddodd ar orseddfainc ei frenhiniaeth: a'r wlad a fu lonydd o'i flaen ef.

º53 Eithr efe a ddywedodd gelwydd am beth bynnag a ddywedasai efe, ac a ymddieithrodd oddi wrth Jonathan, ac ni thalodd adref yr ewyllys da a dalasai efe iddo, eithr efe a'i cystuddiodd ef yn ddirfawr.

º54 Wedi hyn y dychwelodd Tryffon a'r bachgen ieuanc Antiochus gydag ef; ac efe a deyrnasodd, ac a wisgodd y goron.

º55 A'r holl luoedd y rhai a wasgaras-ai Demetrius a ymgasglasant ato ef; a hwy a ryfelasant yn ei erbyn ef, ac yntau a ffodd ac a giliodd.

º56 Yna Tryffon a gymerodd yr ani-feiliaid, ac a enillodd Antiochia.

º57 Ac Antiochus ieuanc a sgrifennodd at Jonathan, gan ddywedyd, Yr ydwyf fi yn sicrhau'r archoffeiriadaeth i ti, ac yn dy osod ar y pedair talaith, ac i fod yn un o garedigion y brenin.

º58 Ac efe a anfonodd lestri aur iddo ef i'w wasanaethu, ac a roddes iddo awdurdod i yfed mewn llestri aur, ac i fod mewn porffor, ac i wisgo bwcl aur.

º59 Ac efe a osododd Simon ei frawd ef yn gapten, o riw Tyrus hyd derfyn-au'r Aifft.

º60 A Jonathan a aeth allan dros yr afon, a thrwy'r dinasoedd; a holl luoedd Syria a ymgasglasant ato ef yn help iddo: ac efe a ddaeth i Ascalon; a'r rhai oedd o'r ddinas a aethant i'w gyfarfod ef yn anrhydeddus.

º61
Ac efe a ddaeth oddi yno i Gasa; a'r rhai o Gasa a gaeasant arnynt: yntau a warchaeodd ami, ac a losgodd ei phentrefydd hi, ac a'u hanrheith-iodd hwynt.

º62 A'r rhai o Gasa a ymbiliasant a Jonathan, ac efe a wnaeth heddwch a hwynt, ac a gymerodd feibion eu tywysogion hwynt yn wystlon, ac a'u hanfonodd i Jerwsalem, ac a rodiodd y wlad hyd Damascus.

º63 A phan glybu Jonathan ddyfod tywysogion Demetrius i Cades, yr hon sydd yn Galilea, a llu mawr, ar fedr ei yrru ef ymaith o'r wlad,

º64 Yntau a aeth i'w cyfarfod hwynt, ac a adawodd ei frawd Simon yn y wlad.

º65 A Simon a wersyllodd wrth Bethsura, ac a ryfelodd yn ei herbyn ddydd-iau lawer, ac a gaeddd ami hi.

º66 A hwy a ddymunasant gael heddwch, ac efe a'i canhiadodd iddynt, ac a'u bwriodd hwynt allan oddi yno, ac a gymerodd y ddinas, ac a osododd warcheidwaid ynddi.

º67 Jonathan hefyd a'i lu a wersyll-asant wrth ddyfroedd Gennesar; a hwy a godasant yn fore i ddyfod i faes Nasor.

º68 Ac wele, gwersyll y dieithriaid a ddaethant i'w gyfarfod ef yn y maes-a hwy a yrasant gynllwyn yn ei erbyn ef yn y mynyddoedd, ac a ddaethant eu hunain ar ei gyfer ef.

º69 Yna y cynllwynwyr a gyfodasant o'u lie, ac a gydiasant ryfel; a'r rhai oedd gyda Jonathan a ffoesant.

º70 Ni adawyd un ohonynt ond Mat-atheias fab Absalom, a Jwdas fab Calffi, tywysogion milwriaeth y lluoedd.

º71 A Jonathan a rwygodd ei ddillad, ac a daflodd Iwch ar ei ben, ac a wedd'iodd.

º72 Ond efe a drodd yn eu herbyn hwynt yn y rhyfel, ac a'u gyrrodd hwy i ffo; a hwy a redasant ymaith.

º73 A'r rhai a ffoesant oddi wrtho ef a welsant, ac a droesant ato ef, ac a'u herlidiasant hwynt gydag ef hyd Cades, hyd at eu gwersyll hwynt; a hwy a wersyllasant yno.

º74 Ac fe laddwyd o'r dieithriaid y dydd hwnnw hyd yn nheirmil o wyr: a Jonathan a ddychwelodd i Jerwsalem.

ºPENNOD 12

º1 A JONATHAN a welodd fod yr amser yn gwasanaethu iddo ef, ac a etholodd wyr, ac a anfonodd i Rufain i wneuthur ac i adnewyddu cyfeillach a hwynt.

º2 At y Spartiaid hefyd, ac i leoedd eraillj yr anfonodd efe lythyrau ar yr un testun.

º3 A hwy a aethant i Rufain, ac a ddaethant i'r cynghordy, ac a ddywed-asant, Jonathan yr archoffeiriad, a chenedl yr Iddewon, a'n hanfonodd ni atoch i adnewyddu y gyfeillach a'r gydymdeithas a fu o'r blaen.

º4 A'r Rhufeinwyr a roddasant iddynt lythyrau at y bobl o le i le, ar fod iddynt eu hanfon hwy i dir Jwdea yn heddychlon.

º5 Dyma hefyd gopi o'r llythyr a sgrifennodd Jonathan at y Spartiaid.

º6 Jonathan yr archoffeiriad, a henuriaid y genedl, a'r offeiriaid, a'r rhan arall o bobl yr Iddewon, yn cyfarcb gwell i'r brodyr y Spartiaid:

º7 Cyn hyn yr anfonwyd llythyrau at yr archoffeiriad Oneias oddi wrth Da-reius, yr hwn oedd yn frenin arnoch chwi, mai ein brodyr ni ydych chwi, fel y mae y copi isod yn cynnwys.

º8 Ac Oneias a dderbyniodd y gwr a anfonasid, yn anrhydeddus; ac a dderbyniodd y llythyrau yn y rhai yr hys-bysasid am gyfeillach a chydymdeithas.

º9 Felly ninnau, er nad yw raid i ni wrth hyn, am fod gennym yn gysur y llyfrau sanctaidd sydd yn ein dwylo,

º10 A dybiasom yn dda anfon atoch i adnewyddu brawdoliaeth a chyfeillach, rhag i ni fyned yn ddieithr i chwi: oblegid llawer o amser a aeth heibio er pan anfonasoch atom.

º11 Am hynny yr ydym ni bob amser yn ddi-baid, ar y gwyliau a'r dyddiau cymwys eraill, yn eich cofio chwi yn yr aberthau yr ydym yn eu hoffrymu, ac yn ein gwedd'iau, megis y mae yn weddaidd ac yn gymwys cofio brodyr;

º12 Ac yr ydym ni yn llawen am eich anrhydedd chwi.

º13 Amdanom ni, llawer o drallod, a rhyfeloedd lawer, a'n hamgylchynasant, a'r brenhinoedd o'n hamgylch a ryfel-asant i'n herbyn.

º14 Nid oeddem ni er hynny yn ewyllysio eich blino chwi yn y rhyfeloedd hyn, na'n cydymdeithion a'n cyfeillion eraill:

º15 Oherwydd y mae gennym ni gymorth o'r nef, yr hwn sydd yn ein cymorth; ac ni a waredwyd oddi wrth ein gelynion, a'n gelynion a ostyngwyd.

º16 Am hynny ni a etholasom Nu-menius fab Antiochus, ac Antipater fab Jason, ac a'u hanfonasom at y Rhufein-iaid, i adnewyddu a hwynt y gyfeillach a'r gymdeithas a fuasai o'r blaen.

º17 Felly y gorchmynasom iddynt hefyd ddyfod atoch chwithau, a'ch cyfarch, a rhoddi i chwi ein llythyrau ni am adnewyddu ein brawdoliaeth.

º18 Ac yr awr hon chwi a wnewch yn I dda ar ateb i ni am hyn. I 19 A dyma gopi y llythyrau a anfonodd Oniares:

º20 Areus brenin y Spartiaid yn cyfarch gwell i Oneias yr archoffeiriad:

º21 Yr ydys yn cael mewn ysgrifen am y Spartiaid a'r Iddewon, mai brodyr ydynt hwy, a'u bod o genedl Abraham.

º22 Ac yn awr, gan i ni wybod hyn, da y gwnewch ysgrifennu atom am eich heddwch.

º23 Yr ydym ninnau yn ysgrifennu atoch chwithau, eich anifeiliaid chwi a'ch golud sydd eiddom ni, a'r eiddom ninnau yn eiddoch chwi: ac yr ydym yn gorchymyn i'n cenhadon, ar iddynt fynegi i chwi fel hyn.

º24 A Jonathan a glybu ddychwelyd tywysogion Demetrius a llu mwy na'r cyntaf, i ryfela yn ei erbyn ef;

º25 Ac efe a aeth allan o Jerwsalem, ac a aeth i gyfarfod a hwynt i wlad Amathis: ac ni roddes efe iddynt ys-baid i ddyfod i'w wlad ef.

º26 Ac efe a anfonodd ysb'iwyr i'w gwersyll hwynt; a hwy a ddychwelas-ant, ac a fynegasant iddo eu bod hwy yn amcanu rhuthro arnynt liw nos.

º27 A Jonathan, pan fachludodd haul, a archodd i'r rhai oedd gydag ef wyl-ied, a bod mewn arfau, i fod yn barod i ryfel ar hyd y nos; ac efe a osododd ragwylwyr o amgylch y gwersyll.

º28 A'r gwrthwynebwyr a glywsant fod Jonathan a'r rhai oedd gydag ef yn barod i ryfel, ac a ofnasant, ac a ddychrynasant yn eu calon, ac a gyneuas-ant dan yn eu gwersyll.

º29 Ond Jonathan a'r rhai oedd gydag ef ni wybuant hyd y bore: oblegid hwy a welent dan yn llosgi.

º30 A Jonathan a ymlidiodd ar eu h&l hwynt, ac nis goddiweddodd hwynt; oblegid hwy a aethent dros yr afon Eleutherus.

º31 Yna y trodd Jonathan yn erbyn yr Arabiaid, y rhai a elwid y Sabad-iaid, ac a'u trawodd hwynt, ac a gymerodd eu hysbail hwynt.

º32 Ac efe a fudodd, ac a ddaeth i Damascus, ac a rodiodd trwy'r holl wlad.

º33 Simon hefyd a aeth allan, ac a dramwyodd trwy'r wlad hyd Ascalon, a'r cestyll oedd gyfagos, ac a drodd i Jope, ac a'i henillodd hi:

º34 Oherwydd efe a glywsai eu bod hwy yn amcanu rhoddi'r castell i fyny i'r rhai oedd o du Demetrius; ac efe a osododd yno warcheidwaid i'w gadw ef.

º35 A Jonathan a ddychwelodd, ac a gasglodd henuriaid y bobl, ac a ym-gynghorodd a hwynt am adeiladu cestyll yn Jwdea,

º36 Ac am godi caerau Jerwsalem, a chodi uchder mawr rhwng y twr a'r ddinas, i wahanu rhyngddo ef a'r ddin-as, i fod ohono o'r neilltu, fel na phrynent ac na werthent yno.

º37 A phan ddaethant hwy ynghyd i adeiladu'r ddinas, efe a aeth i'r mur nesaf i'r aber o du'r dwyrain: a hwy a adeiladasant yr hyn a elwir Caffen-atha.

º38 A Simon a adeiladodd Adida yn Seffela, ac a'i cadarnhaodd 5 phyrth ac a barrau.

º39 Tryffon hefyd a geisiodd deyrnasu yn Asia, a gwisgo'r goron, ac estyn ei law yn erbyn y brenin Antiochus.

º40 Ond efe a ofnodd na adawai Jonathan; a rhag iddo ryfela yn ei erbyn ef, efe a geisiodd ffordd i'w ddal ef i'w ddifetha: am hynny efe a gododd, ac a aeth i Bethsan.

º41 A Jonathan a aeth allan i gyfarfod ag ef & deugain mil o wyr wedi eu dethol i ryfel, ac a ddaeth i Bethsan.

º42 A phan welodd Tryffon ei ddyfod ef a llu mawr, efe a ofnodd estyn ei law yn ei erbyn ef.

º43 Am hynny efe a'i derbyniodd ef yn anrhydeddus, ac a'i canmolodd ef wrth ei holl garedigion, ac a roddes iddo roddion, ac a archodd i'w holl garedigion ufuddhau iddo ef megis iddo yntau ei hun.

º44 Ac efe a ddywedodd wrth Jonathan, I ba beth y blinaist ti y bobl hyn oll, heb fod rhyfel rhyngom ni?

º45 Yr awron gan hynny anfon y rhai hyn i'w tai, ac ethol i ti ychydig wyr, y rhai a fyddant gyda thi, a thyred gyda myfi i Ptolemais; ac mi a'i rhoddaf hi i ti, a'r cestyll eraill, a'r lluoedd eraill, a'r swyddogion; a mi a ddychwelaf, ac a af ymaith: canys o achos hyn y deuthum i yma.

º46 Yntau yn ei gredu ef, a wnaeth fel y dywedodd efe, ac a anfonodd ymaith ei lu; a hwy a aethant i dir Jwdea.

º47 Ac efe a adawodd gydag ef dair mil o wyr, o ba rai efe a adawodd ddwy fil yn Galilea, a mil a aeth gydag ef.

º48 Er cynted y daeth Jonathan i Ptolemais, y Ptolemaiaid a gaeasant y pyrth, ac a'i daliasant ef, ac a laddasant a'r cleddyf y rhai oll a ddaethai i mewn gydag ef.

º49 Yna yr anfonodd Tryifon lu a gwyr meirch i dir Galilea, ac i'r maes mawr, i ddifetha y rhai oedd ar du Jonathan.

º50 Eithr pan wybuant hwy ei ddal ef, a difetha y rhai oedd gydag ef, hwy a ymgysurasant, ac a aethant ynghyd, yn barod i ryfel.

º51 Felly pan welodd y rhai oedd yn canlyn arnynt eu bod hwy yn barod i ymladd am eu heinioes, hwy a ddychwelasant.

º52 Hwythau a ddaethant oll i wlad Jwdea yn ddihangol, ac a alarasant am Jonathan, a'r rhai oedd gydag ef; a hwy a ofnasant yn ddirfawr: ac Israel oll a alarasant alar mawr.

º53 A'r holl genhedloedd o amgylch a geisiasant eu difetha hwynt: canys hwy a ddywedasant, Nid oes ganddynt na thywysog na neb i'w helpu; am hynny rhyfelwn yn eu herbyn hwynt yn awr, a dilewn eu coffadwriaeth o blith dynion.

ºPENNOD 13

º1 PAN glybu Simon gasglu o Tryffon lu mawr i ddyfod i wlad Jwdea i'w difetha hi,

º2 A gweled fod y bobl yn ddychryn-edig ac yn ofnus iawn, efe a aeth i fyny i Jerwsalem, ac a gasglodd y bobl ynghyd;

º3 Ac efe a'u cysurodd hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch eich hunain pa bethau eu mairit a wneuthum i, a'm brodyr, a th$ fy nhad, dros y gyfraith a'r cysegr; a'r rhyfeloedd a'r ing a welsom ni.

º4 O achos hyn y lladdwyd fy mrodyr oll er mwyn Israel, a mi a adawyd fy hunan.

º5 Ac yr awr hon na ato Duw i mi arbed fy einioes yn amser cystudd: oblegid nid ydwyf fi well na'm brodyr:

º6 Eithr mi a ddialaf fy nghenedl, a'r cysegr, a'ch gwragedd a'ch plant chwi: oblegid yr holl genhedloedd a ym-gasglasant i'n difetha ni o wir elyniaeth.

º7 Ac ysbryd y bobl a adfywiodd er cynted y clywsant y geiriau hyn.

º8 A hwy a atebasant a lief uchel, gan ddywedyd, Tydi yw ein capten yn lie Jwdas a Jonathan dy frodyr.

º9 Rhyfela ein rhyfel ni; a pha beth bynnag a ddywedech di wrthym, ni a'i gwnawn.

º10 Yntau a gasglodd yr holl ryfelwyr, ac a frysiodd i orffen caerau Jerwsalem, ac a'i cadarnhaodd hi o amgylch.

º11 Ac efe a anfonodd Jonathan fab Absalom a llu mawr gydag ef i Jope; ac efe a fwriodd allan y rhai oedd ynddi, ac efe a arhodd yno ynddi hi.

º12 A Thryffon a symudodd o Ptolemais a llu mawr i fyned i mewn i dir Jwdea; a Jonathan gydag ef yng nghar char.

º13 A Simon a wersyllodd yn Adida, ar gyfer y maes.

º14 Pan wybu Tryffon godi Simon yn lie Jonathan ei frawd, ac y cydiai efe mewn rhyfel ag ef, efe a anfonodd genhadau ato, gan ddywedyd,

º15 Am yr arian oedd ddyledus ar Jonathan dy frawd i drysor y brenin, am y swyddau oedd ganddo ef, y dal-iasom ni ef.

º16 Yr awron gan hynny anfon gan talent o arian, a dau o'i feibion ef yn wystlon, fel pan ollynger ef, na chilio efe oddi wrthym ni, ac ni a'i gollyngwn ef.

º17 Ac er bod Simon yn gwybod mai yn dwyllodrus yr oeddynt yn ymddi-ddan; eto efe a anfonodd yr arian a'r ddau fachgen, rhag iddo gael cas mawr gan y bobl;

º18 Y rhai a ddywedent, Am na anfonodd efe yr arian a'r bechgyn, y darfu am Jonathan.

º19 Am hynny efe a anfonodd y bechgyn a'r can talent: yntau Tryffon a fu gelwyddog, ac ni ollyngodd Jonathan ymaith.

º20 Ac wedi hyn y daeth Tryffon i fyned yn erbyn y wlad ac i'w difetha hi, ac efe a aeth o amgylch y ffordd sydd yn arwain i Adora: a Simon a'i lu a aethant yn ei erbyn ef, i bob lie a'r yr ai yntau iddo.

º21 A'r rhai oedd yn y twr a anfonas-ant at Tryffon genhadau, i beri iddo frysio i ddyfod atynt hwy trwy'r diffeithwch, ac i yrru iddynt ymborth.

º22 Yna y parat6dd Tryffon ei wyr meirch i ddyfod; a'r noson honno y bu eira mawr iawn, ac ni ddaeth efe oblegid yr eira: ac efe a ymadawodd, ac a aeth i wlad Galaad.

º23 A phan nesaodd efe at Bascama, efe a laddodd Jonathan: ac yno y claddwyd ef.

º24 Yna y dychwelodd Tryffon, ac yr aeth i'w wlad ei hun.

º25 A Simon a yrrodd, ac a gymerodd esgyrn ei frawd Jonathan; a hwy a'i claddasant ym Modin, dinas ei hynaf-iaid.

º26 Ac Israel oll a alarasant amdano ef a galar mawr, ie, hwy a alarasant amdano ef ddyddiau lawer.

º27 A Simon a wnaeth adeiladaeth ar fedd ei dad a'i frodyr, ac a'i gwnaeth yn uchel mewn golwg, & cherrig nadd yn ôl ac ymlaen.

º28 Ac efe a osododd heblaw hynny saith pyramid, y naill ar gyfer y Hall, i'w dad, a'i fam, a'i bedwar brawd.

º29 Ac yn y rhai hyn efe a wnaeth ddychmygion celfydd, ac a osododd golofnau mawrion o amgylch, ac ar y colofnau efe a wnaeth arfau yn goffad- wriaeth tragwyddol, a chyda'r arfau longau cerfiedig i'w gweled gan bawb a fordwyent y m6r.

º30 Dyma'r bedd a wnaeth efe ym Modin, ac y mae yn sefyll hyd y dydd hvm.

º31 A Thryffon a wnaeth yn dwyllodrus ag Antiochus y brenin ieuanc, ac a'i lladdodd ef.

º32 Ac efe a deyrnasodd yn ei le ef, ac a wisgodd goron Asia, ac a wnaeth ddial-edd mawr yn y wlad.

º33 A Simon a adeiladodd y cestyll yn Jwdea, ac a'u cadarnhaodd hwynt a thyrau uchel, ac a chaerau mawrion, ie, a thyrau, ac a phyrth, ac a chloeau; ac efe a osododd ymborth ynddynt.

º34 Simon hefyd a etholodd wyr, ac a'u hanfonodd at y brenin Demetrius, i geisio gollwng y wlad yn rhydd: oblegid ysbail oedd holl weithredoedd Tryffon.

º35 A'r brenin Demetrius a anfonodd ato yntau fel hyn, ac a'i hatebodd ef, ac a sgrifennodd ato ef y llythyr hwn:

º36 Y brenin Demetrius yn cyfarch gwell i Simon yr archoffeiriad a chared-ig i frenhinoedd, a hefyd i henuriaid a chenedl yr Iddewon:

º37 Nyni a dderbyniasom y goron aur, a'r maen gwerthfawr, y rhai a anfonasoch chwi; ac yr ydym ni yn barod i wneuthur heddwch a chwi, ac i sgrifennu at ein swyddogion i sicrhau y rhydd-fraint a ganiatasom ni.

º38 A'r hyn oll a ordeiniasom ni tuag atoch chwi, hynny a saif: bydded y cestyll a adeiladasoch yn eiddoch chwi.

º39 Ac yr ydym ni yn maddau pob amryfusedd a bai hyd y dydd hwn, a threth y goron yr hon sy ddyledus arnoch chwi: ac os oedd teyrnged arall yn Jerwsalem, na choder hi mwy.

º40 Ac od oes neb ohonoch yn gymwys i'w sgrifennu ymysg y rhai sy yn ein cylch ni, ysgrifenner hwy, a gwneler heddwch rhyngom.

º41 Y ddegfed flwyddyn a thrigain a chant y tynnwyd ymaith iau y cenhed-loedd oddi ar Israel.

º42 A phobl Israel a ddechreuasant ysgrifennu yn eu hysgrifenadau a'u cyf-newidiadau, Y flwyddyn gyntaf i Simon yr archoffeiriad mawr, tywysog a chapten yr Iddewon.

º43 Yn y dyddiau hynny y gwersyllodd Simon wrth Gasa, ac efe a'i ham-gylchodd hi a'i luoedd; ac efe a wnaeth ryfelofferyn, ac a'i nesaodd at y ddinas, ac a drawodd un twr, ac a'i henillodd.

º44 A'r rhai oedd yn y rhyfelofferyn a neidiasant i'r ddinas; ac fe wnaeth-pwyd cynnwrf mawr yn y ddinas.

º45 A'r rhai oedd yn y ddinas a aeth-ant i fyny ar y gaer gyda'u gwragedd a'u plant, wedi rhwygo eu dillad; a hwy a waeddasant a lief uchel, gan atolwg i Simon ganhiadu heddwch iddynt:

º46 A hwy a ddywedasant, Na wna a ni yn ôl ein drygioni, ond yn ôl dy drugaredd di.

º47 A Simon a dosturiodd wrthynt, ac ni ryfelodd mwy yn eu herbyn, eithr efe a'u bwriodd hwynt allan o'r ddinas, ac a lanhaodd y tai lie yr oedd eilunod, ac a aeth i mewn iddi dan ganu mawl a diolch.

º48 Ac efe a fwriodd allan bob aflendid ohoni, ac a osododd yno wyr oedd yn gwneuthur y gyfraith, ac a'i cadarnhaodd hi, ac a adeiladodd ynddi breswyl-fod iddo ei hun.

º49 Lluddiwyd hefyd i'r rhai oedd yn y twr yn Jerwsalem fyned allan na dyfod i'r wlad i brynu a gwerthu: ac yr oedd yn flin arnynt o eisiau ymborth, a llawer ohonynt a fu feirw o newyn.

º50 A hwy a waeddasant ar Simon ar roddi cymod iddynt, ac efe a'i rhoddes iddynt: ond efe a'u bwriodd hwynt. allan, ac a lanhaodd y twr oddi wrth halogedigaeth.

º51 Ac efe a aeth i mewn iddi hi y trydydd dydd ar hugain o'r ail mis, yn yr unfed flwyddyn ar ddeg a thrigain a chant, a mawl, ac a changhennau palmwydd, ac a thelynau, a symbalau, a nab-lau, ac a hymnau, ac ag odlau, am ddi-fetha gelyn mawr allan o Israel.

º52 Ac efe a ordeiniodd gadw y dydd hwn yn llawen bob blwyddyn. Ac efe a gadarnhaodd fynydd y deml, yr hwn oedd yn agos i'r twr, ac a arhosodd yno, efe a'r rhai oedd gydag ef.

º53 A phan welodd Simon fod ei fab loan yn wr, efe a'i gosododd ef yn gapten ar yr holl luoedd, ac a breswyliodd yn Gasara.

ºPENNOD 14

º1 A I yn y ddeuddegfed flwyddyn a thrigain a chant y casglodd y brenin Demetrius ei luoedd, ac efe a aeth i Media i gasglu iddo gymorth, i ryfela yn erbyn Tryffon.

º2 Pan glybu Arsaces brenin Persia a Media ddyfod Demetrius o fewn ei derfynau ef, efe a anfonodd un o'i dywysogion i'w ddal ef yn fyw.

º3 A hwnnw a aeth, ac a drawodd wersyll Demetrius, ac a'i daliodd ef, ac a'i dug ef at Arsaces; ac yntau a'i rhoddes ef yng ngharchar.

º4 A gwlad Jwdea a gafodd lonydd holl ddyddiau Simon; canys efe a geisiodd ddaioni i'w genedl: a bodlon oedd ganddynt ei awdurdod ef a'i anrhydedd yr holl amser.

º5 Simon hefyd, heblaw ei holl ogon-iant, a enillodd Jope yn borthladd, ac a wnaeth ffordd i ynysoedd y mor.

º6 Ac efe a helaethodd derfynau ei genedl, ac a enillodd y wlad.

º7 Hefyd efe a gasglodd gaethglud fawr, ac a feddiannodd Gasara, a Bethsura, a'r twr, ac a dynnodd yr aflendid allan ohono ef; ac nid oedd a safai yn ei erbyn ef.

º8 Felly yr oeddynt hwy yn llafurio eu tir yn heddychlon, a'r ddaear a roddes ei chnwd, a choed y maes eu fFrwythau.

º9 Yr henuriaid a eisteddent yn yr heolydd, am ddaioni yr ymgynghorent hwy oll, a'r gwyr ieuainc a wisgent ddillad parchedig a gwisgoedd rhyfel. ,10 Efe a ddarparodd ymborth i'r din-asoedd, ac a osododd ynddynt bob offer cadernid, hyd oni sonnid am ei enw an-rhydeddus ef hyd eithafoedd y ddaear. n Efe a wnaeth heddwch yn y wlad; ac fe gafodd Israel lawenydd mawr:

º12 Pob un a eisteddai dan ei winwydden a'i ffigysbren, ac nid oedd a'u dychrynai.

º13 Ni adawyd un yn y wlad i ryfela yn eu herbyn hwynt: a'r brenhinoedd a ddinistriwyd yn y dyddiau hynny.

º14 Hefyd efe a gadarnhaodd bob un darostyngedig o'i bobl: efe a chwiliodd allan y gyfraith, ac a dynnodd ymaith bob dyn annuwiol a drygionus.

º15 Efe a barchodd y cysegr, ac a amlhaodd lestri'r cysegr.

º16 A hwy a glywsant yn Rhufain farw Jonathan, a hyd Sparta hefyd; ac athrist iawn fu ganddynt.

º17 Ond pan glywsant hwy wneuthur Simon ei frawd ef yn archoffeiriad yn ei le ef, ac ennill ohono ef y wlad a'r dinasoedd ynddi,

º18 Hwy a sgrifenasant ato ef mewn llechau pres, i adnewyddu ag ef y gyf-eillach a'r gydymdeithas a wnaethent hwy a Jwdas ac a Jonathan ei frodyr ef.

º19 A hwy a ddarllenwyd o flaen y gynulleidfa yn Jerwsalem.

º20 A dyma gopi y llythyrau a anfonodd y Spartiaid: Tywysogion a dinas y Spartiaid yn cyfarch yr archoffeiriad Simon a'r henuriaid, a'r offeiriaid, a'r rhan arall o'n brodyr, pobl yr Iddewon:

º21 Y cenhadon a anfonwyd at ein pobl ni, a fynegasant i ni am eich gogoniant a'ch parch chwi; a llawen fu gennym eu dyfodiad hwynt:

º22 Ac ni a sgrifenasom yr hyn a ddywedasant hwy, ymysg cynghorion y bobl, fel hyn; Numenius mab Antiochus, ac Antipater mab Jason, cenhadau yr Iddewon, a ddaethant atom ni i adnewyddu y gyfeillach oedd rhyngddynt a ni.

º23 A bodlon oedd y bobl i dderbyn y gwyr yn anrhydeddus, ac i sgrifennu copi o'u hymadrodd hwynt yn y llyfrau a ddangosir, fel y cai pobl y Spartiaid goffadwriaeth o hynny: hwy a sgrif- enasant hefyd gopi o hyn at Simon yr archoffeiriad.

º24 Wedi hyn fe anfonodd Simon Nu-menius i Rufain, a tharian fawr o aur ganddo, o bwys mil o bunnoedd, i sicrhau'r gyfeillach 4 hwynt.

º25 A phan glybu'r bobl y geiriau hyn, hwy a ddywedasant, Pa ddiolch a roddwn ni i Simon ac i'w feibion?

º26 Oblegid efe, a'i frodyr, a thy ei dad, a gryfhasant Israel, ac a ddinistriasant elynion Israel o'u mysg, ac a sicrhasant iddo ef ryddid.

º27 A hwy a'i sgrifenasant mewn llechau pres, ac a'i gosodasant ar golofnau ym mynydd Seion. A dyma gopi yr ysgrifen: Y deunawfed dydd o fis Elul, y ddeu-ddegfed flwyddyn a thrigain a chant, a'r drydedd flwyddyn er pan yw Simon yr archoffeiriad,

º28 Yn Saramel, yn y gynulleidfa fawr o offeiriaid, a phobl, a thywysogion y genedl, a henuriaid y wlad, yr hysbyswyd i ni y pethau hyn.

º29 Oherwydd bod rhyfeloedd yn fynych yn y wlad, yn y rhai yr ymroddes Simon mab Matatheias, o feibion Jarib, a'i frodyr, i'r perygl, ac a safasant yn erbyn gwrthwynebwyr eu cenedl, er mwyn cynnal eu cysegr a'u cyfraith, ac a anrhydeddasant eu cenedl ag anrhydedd mawr.

º30 (Canys wedi i Jonathan gasglu eu cenedl hwynt, a bod yn archoffeiriad iddynt, a'i roddi at ei bobl;

º31 A'u gelynion hwynt yn bwriadu dyfod i fyny i'w gwlad hwynt i ddifetha eu gwlad, ac i estyn eu dwylo yn erbyn eu cysegr hwynt;

º32 Yn yr hwn amser y cyfododd Simon, ac a ryfelodd dros ei genedl, ac a dreuliodd lawer o'i arian ei hun, ac a arfogodd wyr nerthol o'i genedl, ac a roddes iddynt gyflog,

º33 Ac a gadarnhaodd ddinasoedd Jwdea, a Bethsura, yr hon sydd yng nghyffiniau Jwdea, lie y buasai arfau y gelynion o'r blaen, ac a osododd yno wyr o Idd-ewon i warchod.

º34 Felly y cadarnhaodd efe Jope, yr hon sydd wrth y mor; a Gasara, yr hon sydd yng nghyffiniau Asotus, lle'r oedd y gelynion yn aros o'r blaen: ac efe a osododd Iddewon yno, ac a osododd yno ba bethau bynnag oedd gyrnwys i'w cywair hwynt.)

º35 Y bobl gan hynny yn gweled ffydd-londeb Simon, a'r anrhydedd yr oedd efe yn amcanu ei wneuthur i'w genedl, a'i gosodasant ef yn gapten ac yn archoffeiriad, am iddo wneuthur hyn oll, ac am y cyfiawnder a'r ffyddlondeb a gadwasai efe i'w genedl, ac am geisio ohono ddyrchafu ei bobl trwy bob modd.

º36 Canys yn ei ddyddiau ef yr oedd llwyddiant yn ei ddwylo ef, yn gym-aint a bwrw allan o'u gwlad hwynt y Cenhedloedd, a'r rhai oedd yn ninas Dafydd ac yn Jerwsalem, y rhai a wnaethent iddynt dwr, allan o'r hwn y deuent, ac yr halogent y cwbl o amgylch y cysegr, ac y gwnaent ddialedd mawr yn erbyn sancteiddrwydd.

º37 Ac efe a osododd ynddi hi wyr o Iddewon, ac a'i cadarnhaodd hi yn ddiogelwch i'r wlad, ac i'r ddinas, ac a gododd gaerau Jerwsalem.

º38 A'r brenin Demetrius a sicrhaodd yr archoffeiriadaeth iddo ef yn hollol,

º39 Ac a'i gwnaeth ef o'i garedigion, ac a'i hanrhydeddodd ef ag anrhydedd mawr.

º40 Oblegid fe glywsid fod y Rhuf-einwyr yn galw'r Iddewon yn gyfeillion ac yn gymdeithion, a chyfarfod ohonynt a chenhadau Simon yn anrhyd-eddus;

º41 A gweled o'r Iddewon yn dda, a'r offeiriaid hefyd, fod Simon yn gapten iddynt, ac yn archoffeiriad byth, hyd oni chodai proffwyd ffyddlon;

º42 A'i fod ef yn gapten arnynt hwy, ac i ofalu am y cysegr, fel y gosodai efe hwynt ar eu gwaith, ac ar y wlad, ac ar yr arfau, ac ar y cestyll, fel y byddai, meddaf, arno ef y gofal am y cysegr,

º43 Ac y gwrandawai pawb arno, ac y sgrifennid pob sgrifen yn y wlad yn ei enw ef, ac y dilledid ef mewn porffor, ac y gwisgai aur:

º44 Am hynny ni bydd gyfreithlon i neb o'r bobl nac o'r offeiriaid ddiddymu dim o hyn, na dywedyd yn erbyn dim a ddywedo efe, na galw cymanfa ynghyd yn y wlad hebddo ef, na gwisgo porffor, nac arfer bwcl aur;

º45 A phwy bynnag a wnelo yn erbyn hyn, neu a ddiddymo ddim o hyn, euog fydd efe.

º46 A bodlon oedd gan yr holl bobl osod Simon i wneuthur fel hyn.

º47 Simon hefyd a gymerodd hyn, ac a fu fodlon i fod yn archoffeiriad, ac yn gapten ac yn dywysog ar genedl yr Iddewon a'r offeiriaid, ac i lywodraethu pawb.

º48 A hwy a barasant osod yr ysgrifen hon mewn llechau pres, a'u gosod hwynt o fewn cylch y cysegr mewn lie hynod;

º49 A gosod copi o hynny yn y trysordy, fel y gallai Simon a'i feibion ei gael ef.

ºPENNOD 15

º1 ANTIOCHUS hefyd mab y brenin **• Demetrius, a anfonodd lythyrau o ynysoedd y mor at Simon yr offeiriad, a phencenedl yr Iddewon, ac at y genedl oll;

º2 Ac yr oeddynt hwy yn cynnwys y modd hyn: Y brenin Antiochus yn cyfarch gwell i Simon archoffeiriad a thywysog ei genedl, a phobl yr Iddewon:

º3 Oherwydd i wyr ysgeler gael gafael ar deyrnas ein hynafiaid ni, a bod yn fy mryd roddi hawl i'r frenhiniaeth, i'w hailosod fel yr oedd o'r blaen; er mwyn hynny mi a gesglais lawer o filwyr di-eithr, ac a baratoais longau rhyfel;

º4 Ac yr ydwyf fi yn ewyllysio myned trwy'r wlad, i ddial ar y rhai a an-rheithiasarit ein gwlad ni, ac a wnaethant lawer o ddinasoedd yn anghyfannedd yn y deyrnas.

º5 Am hynny yn awr yr ydwyf yn sicrhau i ti yr holl offrymau, y rhai a ganiataodd y brenhinoedd a fuant o'm blaeji i ti, a pha bethau bynnag eraill a ganiatasant hwy i ti;

º6 Megis y gadawsant i ti daro bath o arian priodol i'th wlad di.

º7 Ac am Jerwsalem a'r cysegr, bydd-ant yn rhyddion, a'r holl arfau a wnaethost ti, a'r cestyll a adeiledaist, y rhai yr ydwyt mewn meddiant ohonynt, parhaed hynny i ti.

º8 Maddeuer hefyd i ti bob dyled i'r brenin, a'r hyn a fyddo dyledus i'r brenin o hyn allan byth.

º9 A phan ddarffo gwastatau ein teyrn-as, nyni a'th anrhydeddwn di, a'th genedl, a'r deml, ag anrhydedd mawr, fel y byddo eglur eich gogoniant chwi trwy'r holl fyd.

º10 Y bedwaredd flwyddyn ar ddeg a thrigain a chant yr aeth Antiochus i dir ei hynafiaid: a'r holl luoedd a ddaeth-ant ynghyd ato ef, fel nad oedd ond ychydig gyda Thryffon.

º11 A'r brenin Antiochus a'i hymlid-iodd ef, ac yntau a ddaeth dan ffoi i Dora sy ar Ian y mor.

º12 Oblegid efe a wybu ymgasglu o ddrygau yn ei erbyn ef, ac i'r lluoedd ei adael ef.

º13 Ac Antiochus a wersyllodd yn erbyn Dora, a chydag ef chwe ugain mil o ryfelwyr, ac wyth mil o wyr meirch.

º14 Ac efe a amgylchodd y ddinas, ac a osododd y llongau wrth y ddinas o du'r mor, ac a flinodd y ddinas o'r tir a'r mor, fel na adawodd efe i neb fyned allan na dyfod i mewn.

º15 Yna y daeth Numenius a'r rhai oedd gydag ef, o Rufain, a llythyrau ganddynt at y brenhinoedd a'r gwledydd, yn y rhai yr oedd hyn yn sgrif-enedig:

º16 Lucius, Consul y Rhufeiniaid, yn annerch y brenin Ptolemeus.

º17 Cenhadon yr Iddewon, ein cyfeillion a'n cymdeithion, a ddaethant atom ni i adnewyddu'r gyfeillach a'r gym-deithas a fuasai o'r blaen; wedi eu hanfon oddi wrth Simon yr archoffeiriad, a phobl yr Iddewon:

º18 A hwy a ddygasant darian o aur o bum mil o bunnoedd.

º19 Am hynny nyni a welsom yn dda sgrifemru at y brenhinoedd a'r gwledydd, na cheisient niwed iddynt, ac na ryfelent yn eu herbyn hwynt, na'u dinasoedd, na'u gwlad, ac na chynorthwyent y rhai a ryfelent i'w herbyn.

º20 Ac ni a welsom yn dda dderbyn y darian ganddynt hwy.

º21 Am hynny os ffodd rhai dynion ysgeler o'u gwlad hwynt atoch chwi, rhoddwch hwynt i Simon yr archoffeiriad, i ddial arnynt yn ôl eu cyfraith hwynt.

º22 A hyn hefyd a sgrifennodd efe at Demetrius y brenin, ac Attains, ac Arathes, ac Arsaces,

º23 Ac i bob gwlad, megis i Sampsames, at y Spartiaid, i Delus hefyd, ac i Myndus, ac i Sicyon, ac i Caria, ac i Samos, a Phamffylia, ac i Lycia, ac i Halicarnassus, ac i Rhodus, a Pharsel-is, ac i Cos, ac i Side, ac i Aradus, ac i Gortyna, a Chnidus, a Cyprus, a Gyrene.

º24 A hwy a sgrifenasant gopi o hyn at Simon yr archoffeiriad.

º25 A'r brenin Antiochus a wersyllodd yn erbyn Dora yr ail dydd, gan ddwyn ei luoedd yn wastadol yn ei herbyn hi, a gwneuthur offer rhyfel: ac efe a gaeodd ar Tryffon fel na allai efe fyned nac i mewn nac allan.

º26 A Simon a anfonodd iddo ddwy fil o wyr dewisol i'w gynorthwyo ef, ac aur, ac arian, ac arfau lawer.

º27 Ac ni fynnai efe eu cymryd hwynt, eithr efe a dorrodd yr amodau oll a wnaethai efe ag ef o'r blaen, ac a ym-ddieithrodd oddi wrtho ef.

º28 Ac efe a anfonodd Athenobius, un o'i garedigion, i ymddiddan ag ef, gan ddywedyd, Yr ydych chwi yn medd-iannu Jope, a Gasara, a'r twr yn Je-rwsalem, dinasoedd fy nheyrnas i.

º29 Chwi a wnaethoch eu cyffiniau hwynt yn anghyfannedd, ac a wnaethoch ddialedd mawr yn y tir, ac a fedd-ianasoch lawer o fannau yn fy nheyrnas.

º30 Am hynny yr awron moeswch y dinasoedd a gymerasoch chwi, ac ardreth y lleoedd a feddianasoch, o'r tu allan i gyffiniau Jwdea:

º31 Ac onid e, moeswch i mi bum cant o dalentau arian amdanynt hwy; a phum cant eraill o dalentau am y dinistr a wnaethoch, ac ardreth y lleoedd: onid e, nyni a ddeuwn, ac a ymladdwn yn eich erbyn chwi.

º32 Felly y daeth Athenobius caredig y brenin, i Jerwsalem, ac efe a welodd ogoniant Simon, a'r cwpwrdd, a'r llestri arian, a'r arlwy mawr; a rhyfedd fu ganddo: ac efe a fynegodd iddo eiriau y brenin.

º33 Yna Simon a atebodd, ac a ddywedodd wrtho ef, Ni chymerasom ni dir neb arall, ac nid ataliasom yr eiddo eraill, ond etifeddiaeth ein hynafiaid, yr hon a fu dros ennyd o amser ym meddiant ein gelynion yn anghyfiawn;

º34 A phan gawsom ni amser, ni a fyn-asom drachefn etifeddiaeth ein tadau.

º35 Ac am Jope a Gasara, y rhai yr wyt ti yn eu ceisio, er iddynt wneuthur niwed mawr i'n pobl ni, ac i'n gwlad; eto ni a roddwn am y rhai hynny gan talent. Ac nid atebodd yntau air iddo;

º36 Eithr efe a ddychwelodd at y brenin yn ddicllon, ac a fynegodd iddo y geiriau hyn, ac anrhydedd Simon, a'r hyn a welsai efe oll: a'r brenin a ddigiodd yn ddirfawr.

º37 Yna yr aeth Tryffon i long, ac a ffodd i Orthosias.

º38 A'r brenin a osododd Cendebeus yn gapten ar Ian y mor, ac a roddes iddo luoedd o wyr traed ac o wyr meirch.

º39 Ac efe a orchmynnodd iddo wersyllu o flaen Jwdea, ac a archodd iddo adeiladu Cedron, a chadarnhau'r pyrth, a rhyfela yn erbyn y bobl: a'r brenin yntau a ymlidiodd Tryffon.

º40 Yna y daeth Cendebeus i Jamnia; ac efe a ddechreuodd gyffroi'r bobl, a gosod ar Jwdea, a chaethgludo'r bobl, a'u lladd.

º41 Ac wedi iddo adeiladu Cedron, efe a osododd yno wyr meirch, a llu o wyr traed, fel y gallent fyned allan oddi yno, a rhodio ar hyd ffyrdd Jwdea, fel V gorchmynasai'r brenin iddo ef.

ºPENNOD 16

º1 AIOAN a aeth i fyny o Gasara, ac a fynegodd i Simon ei dad yr hyn a wnaethai Cendebeus.

º2 A Simon a alwodd ei ddau fab hyn-af, Jwdas a loan, ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a'm brodyr a thy fy nhad a ryfelasom yn erbyn gelynion Israel o'n hieuenctid hyd heddiw: ac fe a ffyn-nodd gennym ni waredu Israel lawer gwaith.

º3 Ond yr awron mi a heneiddiais, a chwithau trwy drugaredd Dduw ydych yn ddigon oedrannus: byddwch chwi yn fy lie i a'm brawd, ac ewch allan, a rhyfelwch dros ein cenedl; a'r cymorth o'r nef a fyddo gyda chwi.

º4 Ac efe a etholodd o'r wlad ugain mil o ryfelwyr, a gwyr meirch; a hwy a aethant yn erbyn Cendebeus, ac a gysgasant ym Modin.

º5 A hwy godasant yn fore, ac a aethant i'r maes; ac wele lu mawr yn dyfod yn eu herbyn hwynt ar draed ac ar feirch: ac yr oedd aber ddwfr yn y canol rhyngddynt.

º6 Ac efe a wersyllodd o'u blaen hwynt, efe a'i bobl: a phan welodd efe y bobl yn ofni myned trwy'r aber ddwfr, efe a aeth trwodd yn gyntaf; a'r gwyr a'i gwelsant ef, a hwythau a aethant ar er ôl ef.

º7 Yna y rhannodd efe'r bobl, a'r gwyr meirch a roddwyd yng nghanol y gwyr traed; oblegid gwyr meirch y gelynion oedd lawer iawn.

º8 Yna y canasant a'r utgyrn sanct-aidd: ac ar hynny y ffodd Cendebeus

º1 a'i lu, llawer ohonynt a syrthiasant yn archolledig, a'r lleill a ffoesant i'r castell.

º9 Yna y clwyfwyd Jwdas brawd loan: eithr loan a'u hymlidiodd hwynt hyd i oni ddaeth efe i Cedron, yr hon a adeil-adasai Cendebeus.

º10 A hwy a ffoesant hyd y tyrau sydd ym maes Asotus; ac yntau a'i llosgodd hi a than; ac fe syrthiodd ohonynt hwy gymaint a dwy fil o wyr: ac/efe a ddychwelodd i dir Jwdea yn Mddychlon.

º11 Ac yr oedd Ptolemeus mab Abubus wedi ei osod yn gapten ym maes Jericho; ac yr oedd ganddo ef arian ac aur lawer;

º12 Oblegid daw'r archoffeiriad oedd efe.

º13 A'i galon a'i cododd ef, ac efe a chwenychodd feddiannu y wlad, ac a fwriadodd trwy dwyll yn erbyn Simon a'i feibion, i'w difetha hwynt.

º14 Ac yr oedd Simon yn rhodio trwy ddinasoedd y wlad, ac yn ofalus am eu llywodraeth hwynt: ac efe a aeth i waered i Jericho, efe, a Matatheias, a Jwdas, ei feibion, yn yr ail flwyddyn ar bymtheg a thrigain a chant, yn yr unfed mis ar ddeg, hwn yw'r mis Sabat.

º15 A mab Abubus a'u derbyniodd hwynt trwy dwyll i gastell a elwid Docus, yr hwn a adeiladasai efe, ac efe a wnaeth iddynt wledd fawr, ac a gudd-iodd yno wyr.

º16 Ac wedi yfed o Simon a'i feibion yn dda, y cododd Ptolemeus a'r rhai oedd gydag ef; a hwy a gymerasant eu harfau, ac a ruthrasant i Simon yn y wledd, ac a'i lladdasant ef a'i ddau fab, a rhai o'i weision.

º17 Felly y gwnaeth efe ysgelerder mawr, ac y talodd ddrwg am dda.

º18 A Ptolemeus a sgrifennodd hyn, ac a anfonodd at y brenin i anfon ato ef lu yn gyrnorth, ac efe a roddai iddo ef y wlad a'r dinasoedd.

º19 Ac efe a yrrodd eraill i Gasara i ddifetha loan; ac a anfonodd lythyrau at y milwriaid, i erchi iddynt ddyfod ato ef, fel y rhoddai efe iddynt arian, ac aur, a rhoddion.

º20 Ac efe a yrrodd eraill i ennill Jerwsalem a mynydd y deml.

º21 Ac un a redodd o'r blaen, ac a fynegodd i loan yn Gasara ddarfod lladd ei dad ef, a'i frodyr: ac efs a anfonodd i'th ladd dithau, eb efe.

º22 Yntau, pan glybu, a ofnodd yn ddirfawr, ac a ddaliodd y gwyr a ddaeth-ai i'w ladd ef, ac a'u lladdodd hwynt: oblegid efe a wybu eu bod hwy yn ceisio ei ddifetha ef.

º23 A'r rhan arall o hanes loan, a'i 24 Wele, fe a sgrifennwyd hyn ryfeloedd, a'i wrolaeth, yr hyn a wnaeth llyfrau Cronicl ei archoffeiriadaeth ef, efe, ac adeiladaeth y caerau a adeiladodd efe, a'i weithredoedd, er pan wnaethpwyd ef yn archoffeiriad ar ôl ei dad.


DIWEDD

 

Adolygiadau diweddaraf:  2005-02-19

 

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

 

CYMRU-CATALONIA

 

 

Edrychwch ar fy ystadegau