Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en
gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620
Holy Bible in Welsh. Online Edition. 2695k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i
Catalunya : Wales-Catalonia Website.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_apocrypha_maccabeaid2_80_2695k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k
....................0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k
..............................0960k Cywaith Siôn
Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k
........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl
Wiliam Morgan 1620
neu trwy Google:
#kimkat1281k
.............................................................y tudalen hwn
0860k y
llyfr ymwelwyr |
Gwefan Cymru-Catalonia
|
|
xxxx This page with an English version (1620 Welsh
Bible / 1611 English Authorized Version)
(Sganiad heb ei
gywiro yw hwn, ac felly yn frith o wallau. Cyn hir gobeithio cawn ni gyfle i
roi trefn
(This
is a scan which has not been corrected yet. There are many errors in the text)
AIL LYFR Y
MACABEAID
ºPENNOD i
º1 Y MAE y brodyr, yr Iddewon sydd yn Jerwsalem ac yng ngwlad Jwdea, yn dymuno
i'r brodyr o Iddewon sydd yn yr Aifft, iechyd a heddwch.
º2 Duw a wnelo ddaioni i chwi, ac a gofio ei gyfamod a wnaeth efe ag Abraham,
ag Isaac, ac a Jacob, ei ffydd-lon weision;
º3 Ac a roddo galon i chwi oll i'w wasanaethu ef, ac i wneuthur ei ewyllys ef a
chalon gysurus, ac a meddwl ewyllysgar;
º4 Ac a agoro eich calon chwi yn ei gyfraith a'i orchmynion, ac a drefno i chwi
dangnefedd;
º5 A wrandawo ar eich gweddiiau chwi, a gymodo a chwi, ac na'ch gadawo byth yn
amser adfyd.
º6 Ac yn awr yr ydym ni yn gweddio yma drosoch chwi.
º7 Pan oedd Demetrius yn teyrnasu yn y nawfed flwyddyn a thrigain a chant, nyni
yr Iddewon a sgrifenasom atoch yn y blinder a'r gorthrymder a ddaeth arnom ni o
fewn y blynyddoedd hynny, er pan aeth Jason a'r rhai oedd gydag ef allan o'r
wlad sanctaidd a'r frenhiniaeth,
º8 Ac y llosgasant y porth, ac y tywalltasant waed gwirion: ninnau a weddiasom
ar yr Arglwydd, ac a gawsom ein gwrando; ac a offrymasom ebyrth a pheilliaid,
ac a oleuasom lusern-au, ac a osodasom y bara allan.
º9 Am hynny yn awr edrychwch ar gadw dyddiau gwyl y pebyll yn y mis Casleu.
º10 Yr wythfed flwyddyn a phedwar ugain a chant, y bobl oedd yn Jerwsalem ac yn
Jwdea, a'r cyngor, a Jwdas, sydd yn dymuno llwyddiant a iechyd i Aristobulus,
athro'r brenin Ptolemeus, yr hwn sydd o hiliogaeth yr offeiriaid eneiniog, ac
i'r Iddewon yn yr Aifft.
º11 Yn gymaint a bod i Dduw ein gwaredu ni oddi wrth fawr beryglon, yr ydym yn
rhoddi mawr ddiolch iddo, megis pe buasem yn rhyfela yn erbyn brenin:
º12 Canys efe a'u bwriodd hwynt allan, y rhai a ymladdasant yn erbyn y ddinas
sanctaidd.
º13 Canys pan ddaethai y capten i Persia a llu a dybid yn anorchfygol gydag ef,
fe a'u lladdwyd hwy yn nheml Nanea, trwy ddichell offeiriaid Nanea.
º14 Canys Antiochus a ddaeth yno megis i'w phriodi, efe a'i geraint gydag ef, i
dderbyn arian yn enw cynhysg-aeth.
º15 Ond wedi i offeiriaid Nanea eu rhifo, a myned ohono i mewn i'r deml heb
nemor gydag ef, hwy a gaeasant y deml, wedi dyfod Antiochus i mewn,
º16 Ac a agorasant ddrws dirgel ar nen y deml, ac a daflasant gerrig megis
saethau mellt, ac a drawsant i lawr y capten a'i wyr; ac wedi eu dryllio yn
ddarnau, hwy a dorasant eu pen-nau, ac a'u taflasant at y rhai oedd oddi allan.
º17 Bendigedig fyddo ein Duw ni ym mhob peth, yr hwn a roddes i fyny yr
annuwiol.
º18 Gan ein bod ni a'n bryd ar gadw puredigaeth y deml ar y pumed dydd ar
hugain o fis Casleu, ni a welsom fod yn angenrheidiol fynegi hyn i chwi; fel y
gallech chwithau hefyd ei gadw fel dydd gwyl y pebyll, a gwyl y tan, yr hwn a
roddwyd i ni pan offrymodd Nehemeias aberth, wedi iddo adeiladu'r deml a'r
allor.
º19 Canys yn y cyfamser yr arwein-iwyd ein tadau i Persia, yr offeiriaid,
addolwyr Duw y pryd hynny, a gym-erasant y tan yn ddirgel oddi ar yr allor, ac
a'i cuddiasant mewn dyffryn, lie yr oedd pydew dwfn a sych: ac yno y cadwasant
ef, fel na wyddai neb y man hwnnw.
º20 Yn awr wedi llawer o flynyddoedd, pan welodd Duw yn dda, Nehemeias, pan
yrrwyd ef oddi wrth frenin Persia, a yrrodd rai o epil yr offeiriaid a'i
cuddiasai ef, at y tan: ond pan fynegas-ant wrthym na chawsant ddim tan, ond
dwfr tew,
º21 Yna y gorchmynnodd efe iddynt ei gyrchu i fyny, a'i ddwyn ef: ac wedi gosod
yr aberthau, Nehemeias a orch-mynnodd i'r offeiriaid daenellu'r dwfr ar y coed
a'r pethau oedd arnynt.
º22 Wedi darfod hyn, a dyfod yr amser i'r haul i lewyrchu, yr hwn o'r blaen
oedd dan gwmwl, fe enynnodd tan mawr, fel y rhyfeddodd pawb.
º23 A thra oedd yr aberth yn darfod, yr noil offeiriaid oedd yn gweddio,
Jonathan yn gyntaf, a'r lleill yn ateb fel Nehemeias.
º24 A'r weddi oedd fel hyn; O Arglwydd Dduw, Gwneuthurwr pob peth, yr hwn wyt
ofnadwy a chadarn, cyfiawn a thrugarog, a'r unig a'r grasol Frenin;
º25 Ti yn unig wyt hael, uniawn, holl-alluog, a thragwyddol; ti, yr hwn wyt yn
gwaredu Israel o'u holl flinder, yr hwn a etholaist y tadau, ac a'u
sanct-eiddiaist hwy,
º26 Derbyn aberth dros dy holl bobl Israel, cadw dy ran, a sancteiddia hi.
º27 Casgl ynghyd y rhai a wasgarwyd oddi wrthym, a gwared y rhai sydd yn
gwasanaethu'r Cenhedloedd; edrych ar y dirmygus a'r ffiaidd, a gad i'r
Cenhedloedd wybod mai tydi yw ein Duw ni.
º28 Cosba ein gorthrymwyr, a'r rhai sy trwy falchedd yn gwneuthur cam a ni.
º29 Gosod dy bobl eirwaith yn dy le sanctaidd, megis y llefarodd Moses.
º30 Yr offeiriaid hefyd a ganent salm-au diolch.
º31 Hefyd wedi ysu'r aberth, Nehemeias a orchmynnodd dywallt y dwfr oedd yng
ngweddill ar y cerrig mawrion.
º32 Yr hwn beth pan wnaethwyd, fe a enynnodd fflam: ond hi a ddiffoddwyd gan y
goleuni oedd yn llewyrchu oddi ar yr allor.
º33 Pan wybuwyd y peth hyn, fe fyn-egwyd i frenin Persia mai yn y fan lie y
cuddiasai'r offeiriaid a arweiniesid ymaith, y tan, yr yrnddangosodd dwfr, a'r
hwn y purodd Nehemeias, a'r rhai oedd gydag ef, yr ebyrth.
º34 Y brenin a chwiliodd y peth yn ddyfal, ac a amgylchynodd y lie o'i amgylch,
ac a'i gwnaeth yn sanctaidd.
º35 A'r brenin a gymerth roddion lawer, ac a roddes ohonynt i'r rhai yr oedd
efe yn chwennych gwneuthur cymwynas iddynt.
º36 A Nehemeias a alwodd y peth hwnnw Naffthar; yr hwn yw, o'i ddeongl,
Puredigaeth: ond llawer rhai a'i galwant Neffi.
ºPENNOD 2
º1 FE a geir hefyd yn y sgrifenadau, erchi o Jeremeias y proffwyd i'r rhai a
arweiniwyd ymaith gymryd y tan, megis y mynegwyd;
º2 Ac fel y gorchmynasai'r proffwyd i'r rhai a arweiniwyd ymaith, gan roddi
iddynt gyfraith, na ollyngent dros gof orchmynion yr Arglwydd, ac na
chyf-eiliornent yn eu meddyliau, pan welent ddelwau o aur ac arian, a
gwisgoedd.
º3 Cyfryw bethau eraill a lefarodd wrthynt, gan eu cynghori na adawent i'r
gyfraith fyned allan o'u calonnau.
º4 Yr oedd hefyd yn yr un sgrifen, fel y darfu i'r proffwyd, trwy ateb Duw
wrtho, orchymyn dwyn y babell a'r arch gydag ef, hyd oni ddaeth i'r mynydd yr
esgynnodd Moses iddo, lie y gwelodd efe etifeddiaeth Duw.
º5 Ac wedi dyfod Jeremeias yno, efe a gafodd ogof, yn yr hon y gosodes efe y
babell, a'r arch, ac allor y poethoffrwm, ac a gaeodd y drws.
º6 A rhai a ddaethant i farcio'r ffordd, o'r rhai a'i dilynent ef; ond ni
fedrent ei chael.
º7 Pan wybu Jeremeias hynny, efe a'u ceryddodd hwy, gan ddywedyd, Ni chaiff neb
wybod y lie, hyd oni chasglo Duw ei bobl drachefn, a bod trugaredd:
º8 Yna y dengys yr Arglwydd iddynt y pethau hyn; a gogoniant yr Arglwydd a
ymddengys, a'r cwmwl hefyd, megis ag y datguddiwyd i Moses, ac fel y deisyfodd
Salomon, bod sancteiddio'r lie yn an-rhydeddus.
º9 Canys eglur yw, ddarfod iddo megis un a chanddo ddoethineb, offrymu aberth
cysegriad a sancteiddiad y deml.
º10 Ac megis, pan weddiodd Moses ar yr Arglwydd, y daeth tan i lawr o'r
nefoedd, ac yr ysodd yr aberth; felly Salomon a weddiodd, a than a ddaeth i
lawr o'r nefoedd, ac a ysodd y poethoffrwm.
º11 A Moses a ddywedodd, Am na ddylid bwyta'r offrwm dros bechod, am hynny yr
yswyd ef.
º12 Ac felly Salomon a gadwodd yr wyth niwrnod hynny.
º13 Y pethau hyn hefyd a fynegir yn sgrifenadau ac yng nghoflythyrau Nehemeias,
fel y gwnaeth efe lyfrdy, ac y casglodd actau y brenhinoedd a'r proffwydi,
actau Dafydd ac epistolau y brenhinoedd am y rhoddion sanct-aidd.
º14 Yn yr un ffunud Jwdas a gasglodd ynghyd yr holl bethau a gollesid o achos y
rhyfel a ddigwyddodd arnom; ac y mae hynny gennym ni.
º15 Am hynny o bydd rhaid i chwi wrthynt, danfonwch rai a'u dyco i chwi.
º16 Canys oherwydd ein bod ni a'n bryd ar gadw y puredigaeth, ni a sgrif-enasom
atoch: am hynny, da y gwnewch chwithau os cedwch yr un dyddiau.
º17 Duw, yr hwn a waredodd ei holl bobl, ac a roddes etifeddiaeth i bawb, a
theyrnas, ac offeiriadaeth, a sancteidd-rwydd,
º18 Megis yr addawodd efe yn y gyf-raith, yr ydym yn gobeithio y trugarha
wrthym ar fyrder, ac y casgl ni ynghyd o bob gwlad oddi tan y nefoedd, i'w le
sanctaidd: canys efe a'n gwaredodd ni oddi wrth fawr beryglon, ac a lanhaodd
ylle.
º19 Am Jwdas Macabeus a'i frodyr, am buredigaeth y deml fawr, a chysegriad yr
allor,
º20 A'r rhyfeloedd yn erbyn Antiochus Epiffanes a'i fab Eupator,
º21 A'r eglur arwyddion a ddaethant o'r nefoedd i'r rhai a ymddygasant yn wrol
i'w hanrhydedd yng nghweryl crefydd yr Iddewon: canys er nad oeddynt ond
ychydig, eto hwy a orchfygas-ant yr holl wlad, ac a yrasant i ffoi dyrfau y
barbariaid,
º22 Ac a adeiladasant drachefn y deml, am yr hon yr oedd mawr son trwy'r holl
fyd, ac a waredasant y ddinas, ac a sicrhasant y cyfreithiau yr oeddid ar eu
dirymu, oherwydd bod yr Arglwydd yn drugarog ac yn rasol iawn wrthynt;
º23 Y pethau hefyd a fynegodd Jason Cyreneus mewn pum llyfr, ni a brofwn eu
talfyrru mewn un llyfr.
º24 Canys wrth ystyried anfeidrol rifedi y llyfrau, a'r dryswch y maent hwy yn
ei gael sydd yn chwennych myned trwy draethawd yr histori, oherwydd amled y
materion;
º25 Nyni a gymerasom ofal ar gael o'r rhai a ewyllysient ddarllen, ddi-ddanwch,
a bod esmwythdra i'r rhai a chwenychent gofio, ac i bawb a'i darllenent gael
budd.
º26 Am hynny i ni, y rhai a gymerasom arnom y drafael flin hon i dal-fyrru, nid
esmwythdra oedd, ond gwaith a wnaeth i ni chwysu a gwylio.
º27 Fel nad ydyw esmwyth i'r hwn a wnelo wledd, ac a geisio fudd rhai eraill;
felly ninnau, er mwyn gwneuthur cymwynas i lawer, a gymerwn y blinder hyn yn
ewyllysgar;
º28 Gan adael bod yn fanwl am bob peth i'r awdur, nyni a geisiwn grynhoi y cwbl
ar fyr eiriau:
º29 Canys fel y mae yn rhaid i'r neb a wnelo dy newydd ofalu am yr holl
adeiladaeth: ond y neb a gymero arno ei osod allan, a'i beintio, nid rhaid iddo
geisio dim ond a fyddo angenrheidiol i'w harddu: felly yr ydwyf fi yn meddwl
o'n rhan ninnau,
º30 Mai perthynasol yw i sgrifennwr cyntaf yr histori fyned ynddi yn ddwfn i
son am bob peth, gan fod yn ddiesgeulus ym mhob rhan;
º31 Ond y mae'n rhydd i'r neb a'i talfyrro, arfer ychydig eiriau, ac ymadael a
phob manylwch ynddi.
º32 Yma am hynny y dechreuwn ein traethawd: am y rhagymadrodd, digon yw a
ddywedasom; canys ffolineb yw arfer hir ymadrodd o flaen yr histori, a bod yn
fyr yn yr histori.
ºPENNOD 3
º1 Y CYFAMSER yr oeddid yn preswylio y ddinas sanctaidd mewn heddwch, ac yn
cadw'r cyfreithiau yn dda iawn, oblegid duwioldeb Oneias yr archoffeiriad, ac
oherwydd ei fod yn casau pob drygioni,
º2 Digwyddodd i'r brenhinoedd a'r tywysogion farnu'r lie yn anrhydeddus, ac
anrhegu'r deml a'u rhoddion gorau;
º3 Yn gymaint ag i Seleucus brenin Asia, dalu o'i ardrethion yr holl draul a
berthynai i weinidogaeth yr ebyrth.
º4 Ond un a elwid Simon, o Iwyth Benjamin, yr hwn a wnaethid yn oruch- •wyliwr
ar y deml, a ymrafaeliodd a'r archoffeiriad i wneuthur diffeithwch yn y ddinas.
º5 Ond pryd nas gallai orchfygu Oneias, efe' a aeth at Apolonius fab Thrase^s,
yr hwn oedd yr amser hwnnw yn Irjfwodraethwr ar Celo-Syria a Phenicia;
º6 Ac a fynegodd iddo fod trysordy Jerwsalem yn llawn o arian annifeiriol, fel
yr oedd lluosowgrwydd eu cyfoeth yn aneirif, y rhai ni pherthynent i
weinidogaeth yr ebyrth, a bod yn bosibl dwyn y cwbl i ddwylo'r brenin.
º7 Wedi ymgyfarfod o Apolonius a'r brenin, efe a fynegodd iddo am yr arian a
ddangosasid iddo: yntau a etholodd Heliodorus golygwr ei drysordy, ac a'i
danfonodd a gorchymyn ganddo i gyrchu'r arian y dywedwyd amdanynt o'r blaen.
º8 Am hynny Heliodorus yn y man a gychwynnodd i'w daith, yn rhith myned i
ymweled a dinasoedd Celo-Syria a Phenicia, ond a'i feddwl ar gyflawni arfaeth y
brenin.
º9 Yn ôl dyfod ohono i Jerwsalem, a'i dderbyn yn groesawus gan archoffeiriad y
ddinas, efe a draethodd iddynt beth a ddangosasid iddo am yr arian, ac a
fynegodd paham y daethai efe yno; ac efe a ofynnodd a oedd y pethau hyn yn wir.
º10 Yna'r archoffeiriad a ddangosodd iddo fod yno y cyfryw arian wedi eu rhoi i
gadw i ymgeleddu y gweddwon a'r amddifaid;
º11 A rhai yn eiddo Hyrcanus mab Tobeias, gwr ardderchog iawn, ac nid fel y
camddywedasai Simon, y dyn an-nuwiol hwnnw, a bod y cwbl yn bedwar can talent o
arian, a dau cant o aur:
º12 Ac nad ydoedd bosibl gwneuthur y fath gam a'r rhai a ymddiriedasent i
sancteiddrwydd y man hwnnw, ac i fawredd a difrycheulyd grefydd y deml, yr hon
oedd anrhydeddus trwy'r holl fyd.
º13 Ond Heliodorus, oherwydd gorch-mynion y brenin, y rhai oedd ganddo, a
ddywedodd yn hollol y byddai raid dwyn yr arian i drysordy'r brenin.
º14 Ac wedi gosod dydd, efe a aeth i mewn, ar fedr, yn ôl eu gweled, gym-ryd
trefn amdanynt: am hynny nid bychan oedd y caledi yn yr holl ddinas.
º15 A'r offeiriaid a syrthiasant i lawr gerbron yr allor yn eu gwisgoedd sanct-
aiddj ac a alwasant tua'r nef ar Dduw, yr hwn a roesai gyfraith am y trysor
sanctaidd, ar iddo ei gadw yn gyfan i'r rhai a'i rhoddasai yno i'w gadw.
º16 A'r neb a edrychai ar wynepryd yr archoffeiriad a ddoluriai yn ei galon:
canys ei wynepryd, a newidiad ei liw, oedd yn dangos cyfyngder ei galon.
º17 Canys rhyw ofn a dychryn corff a amgylchodd y gwr hwnnw, fel yr oedd eglur i'r
rhai a edrychent arno, y dolur oedd yn ei galon ef.
º18 Rhai eraill hefyd a gyrchasant allan o'u tai, i wneuthur gweddi gyffredin,
oherwydd bod y lie yn debyg i ddyfod i ddirmyg.
º19 Y gwragedd hefyd, wedi ymwregysu a lliain sach dan eu bronnau, a lanwent yr
ystrydoedd: a'r gwyryfon, y rhai a gaeasid i mewn, a redent, rhai i'r pyrth, a
rhai i'r caerau, a rhai eraill a edrychent allan trwy'r ffenestri:
º20 A phawb ohonynt yn codi eu dwylo tua'r nef, ac yn gweddi'o.
º21 Galarus oedd gweled nifer y rhai a syrthient i lawr o bob math, a
disgwyliad yr archoffeiriad yn ei fawr ofid.
º22 Am hynny y rhai hyn a alwasant ar yr hollalluog Arglwydd, ar iddo gadw yn
ddiogel ac yn sicr y pethau a rodd-asid i'w cadw mewn ymddiriedj i'r rhai a'u
rhoddasent i'w cadw.
º23 Er hynny Heliodorus a gyflawnodd y peth a arfaethasai efe.
º24 Eithr fel yr oedd efe ei nun eto yn bresennol gyda'i sawdwyr wrth y
trysordy, efe, yr hwn yw Arglwydd yr ysbrydion, a thywysog pob gallu, a wnaeth
ryfeddod mawr, yn gymaint ag i bawb a feiddient ddyfod gydag ef ryfeddu wrth
weled nerth rhinwedd Duw; a hwy a lesmeiriasant, ac a ddychrynasant yn
ddirfawr:
º25 Canys ymddangosodd iddynt ryw farch mewn gwisg hardd o'r orau, ac arno
farchog ofnadwy, ac a redodd yn egniol, ac a drawodd Heliodorus a'i garnau
blaen: a'r hwn oedd yn eistedd arno a dybid fod ganddo arfau o aur.
º26 Hefyd fe a ymddangosodd ger ei fron ef ddau wr ieuainc eraill, nodedig 0
nerthj rhagorol o bryd, a hardd eu dillad, yn sefyll yn ei ymyl ef o bob tu
iddo, ac a'i ffrewyllasant ef yn wastad, ac a roesant iddo lawer gwialennod
dost.
º27 Am hynny pan syrthiodd efe i lawr yn ddisymwth, ac wedi ei amgylchu a
thywyllwch mawr, ei wyr a'i cipiasant ef, ac a'i gosodasant mewn elor feirch:
º28 Ef, yr hwn a ddaethai ychydig o'r blaen i mewn i'r trysordy a thyrfa fawr,
ac a'i holl gard gydag ef, ef, meddaf, yr hwn ni allai gael dim cymorth gan ei
arfau, a ddygasant hwy allan: a hwy a gydnabuant allu Duw yn eglur:
º29 Canys yr oedd efe yn fud trwy waith DuWj ac yn gorwedd wedi ei ddiddymu o'i
holl obaith am ei iechyd.
º30 Hwythau a folianasant yr Arglwydd, yr hwn yn rhyfeddol a ogon-eddasai ei le
ei hunan: oblegid y deml honno, yr hon oedd ychydig o'r blaen yn llawn o ofn a
therfysg, pan ymddangosodd yr hollalluog Arglwydd, a lanwyd a llawenydd ac a
gorfoledd.
º31 Ond yn y man, rhai o gyfnesaf Heliodorus a atolygasant i Oneias weddi'o ar
y Goruchaf, ar iddo ganhiadu yn rasusol einioes iddo ef, yr hwn oedd yn gorwedd
yn agos i farw.
º32 Yna'r archoffeiriad, yn ofni rhag i'r brenin dybied i'r Iddewon wneuthur
rhyw ddrwg i Heliodorus, a offrymodd dros iechyd y gwr hwnnw.
º33 Fel yr oedd yr archoffeiriad yn gweddi'o ar Dduw, yr unrhyw wyr ieuainc yn
yr unrhyw ddillad a ymddan-gosasant drachefn i Heliodorus, a chan sefyll a
ddywedasant, Dyro fawr ddiolch
º1 Oneias yr archoffeiriad: canys er ei fwyn ef yn rasusol y canhiadodd yr
Arglwydd i ti dy einioes.
º34 Tithau hefyd, wedi dy guro o'r nefoedd, mynega i bawb alluocaf nerth Duw.
Ac yn ôl dywedyd hyn, hwy a ddiflanasant.
º35 Heliodorus hefyd, wedi iddo off-rymu aberth i'r Arglwydd, a gwneuthur mawr
addunedau i'r hwn a ganiat-asai iddo ei hoedl, ac wedi iddo gyfarch Oneias, a
ddychwelodd, efe a'i lu, at y brenin:
º36 Gan dystiolaethu i bawb weithredoedd mawrion Duw, y rhai a welsai efe a'i
lygaid.
º37 Hefyd pan ofynnodd y brenin i Heliodorus pwy oedd gymesur i'w ddanfon
unwaith drachefn i Jerwsalem, efe a ddywedodd,
º38 Od oes gennyt un gelyn, neu un bradwr, danfon hwn yno, a thi a'i derbynni
wedi ei ffrewyllu, os dianc rhag colli ei hoedl: oblegid yn y man hwnnw y mae
yn ddiamau enwedig allu Duw.
º39 Canys yr hwn sy ganddo breswylfa nefol, sydd yn olygwr ac yn gynorthwywr
i'r lie hwnnw; yr hwn sydd yn euro ac yn difetha y sawl sydd yn dyfod i
wneuthur niwed iddo.
º40 Hyn a fu am Heliodorus, a chadwedigaeth y drysorfa.
ºPENNOD 4
º1 Y SIMON hwnnw hefyd, am yr hwn y dywedasom o'r blaen, yr hwn oedd fradychwr
yr arian a'i wlad, a ddywedodd yn ddrwg am Oneias, megis pe cymellasai efe
Heliodorus, a phe buasai yn awdur o'r drygau hyn.
º2 Ac efe a feiddiodd alw y gwr a haeddasai yn dda ar y ddinas, ac oedd ofalus
am ei wladwyr, gwr mawr ei sSl am y cyfreithiau, yn fradychwr.
º3 Pan gynyddodd y galanastra yn gymaint a lladd o un o'r rhai oedd gymeradwy
gan Simon, gelanedd,
º4 Oneias, gan ystyrio enbydrwydd y gynnen hon, a bod Apolonius llywod-raethwr
Celo-Syria a Phenice yn ynfydu, ac yn chwanegu malais Simon;
º5 Efe a aeth at y brenin, nid i gyhuddo gwyr ei wiad, ond fel un yn ceisio
lies i bawb yn gyffredinol ac yn neilltuol:
º6 Canys efe a welodd fod yn amhos-ibl cael heddwch, oddieithr i'r brenin
gymryd trefn yn y materion hyn, ac nad oedd debyg y peidiai Simon a'i
ynfydrwydd.
º7 Ond wedi marw Seleucus, a chym-ryd o Antiochus, a gyfenwid Epi-ffanes, y
frenhiniaeth, Jason brawd Oneias a weithiodd yn ddirgel i geisio bod yn
archoffeiriad;
º8 Gan addo i'r brenin, er cael y swydd, dri chant a thrigain talent o arian,
ac o ryw ardreth arall bedwar ugain talent.
º9 Am ben hyn, efe a addawodd dalu deg a deugain a chant eraill, os canhiad-id
iddo trwy ei awdurdod ef, osod campfa ac ysgol i'r gwyr ieuainc, ac i gyfrif y
rhai o Jerwsalem yn Antioch-iaid.
º10 A phan gafodd efe yr archoffeiriadaeth trwy fodd y brenin, yn y man efe a
ddenodd ei genedl ei hun i arferion y Groegwyr,
º11 Ac a fwriodd i lawr garedigol ragorfraint yr Iddewon, a gawsent hwy trwy
loan tad Eupolemus, (yr hwn a fuasai yn genhadwr at y Rhuf-einiaid i ddymuno
cyfeillach a chymorth,) a chan fwrw i lawr y llyv/od-raeth oedd wrth y gyfraith,
efe a wnaeth newydd ordeiniadau anghyfreithlon.
º12 Canys efe a adeiladodd gampfa o'i wirfodd dan y castell, ac a ddarostyngodd
y rhai pennaf o'r gwyr ieuainc, ac a barodd iddynt wisgo hetiau.
º13 Ac fel hyn y tyfodd serch i ganlyn arferau y Cenhedloedd ac estroniaid,
trwy ragorol aflendid Jason, nid yr archoffeiriad, ond y dyn annuwiol;
º14 Yn gymaint ag nad oedd yr off-eiriaid mwyach yn ewyllysgar i wasan-aethu'r
allor; ond gan ddirmygu'r deml, ac esgeuluso'r ebyrth, yr oeddynt yn prysuro i
fod yn gyfrannog o ddogn annuwiol eu campau, yn ôl taflu'r garreg;
º15 Ac heb ganddynt bris am anrhyd-edd eu tadau, gan gyfrif gogoniant y
Groegwyr yn orau.
º16 O achos yr hyn bethau y daeth arnynt adfyd mawr, tra caffent hwy yn elynion
ac yn ddialwyr iddynt, arferau y rhai yr oeddynt yn eu canlyn, ac yn dymuno eu
bod yn gyffelyb iddynt ym mhob peth:
º17 Canys nid esmwyth yw gwneuthur yn erbyn cyfraith Dduw: ond yr amser a ddaw
a ddengys hyn.
º18 Pan chwaraeid yn Tyrus y campau a arferid bob pum mlynedd, a'r bren-in yn
bresennol,
º19 Jason, y dyn ysgeler hwnnw, a ddanfonai genhadau o Jerwsalem yn rhith
Antiochiaid, i ddwyn tri chan dryll o arian tuag at aberth Hercules, y rhai a
ddeisyfai y neb oedd yn eu dwyn, na threulid ynghylch yr aberth, oblegid nad
gweddaidd oedd, ond eu harbed i anghenraid arall.
º20 Efe a ddanfonodd y pethau hyn tuag at aberth Hercules: ond er mwyn y neb
a'u dygent, hwy a. roddwyd tuag at wneuthur llongau.
º21 Wedi danfon Apolonius mab Ma-nasteus i'r Aifft, i goronedigaeth y brenin
Ptolemeus Philometor, a phan ddeallodd Antiochus ei fod ef yn an-ffyddlon yn ei
faterion ef, efe a fu ofalus am ei ddiogelwch ei hun: am hynny efe a ddaeth i
Jope, ac oddi yno efe a aeth i Jerwsalem:
º22 Lie y croesawyd ef yn fawr gan Jason a'r ddinas, ac y dygwyd ef i mewn a
ffaglau ac a llefain: ac yn ôl hyn efe a arweiniodd ei lu i Phenice.
º23 Hefyd yn ôl tair blynedd, Jason a ddanfonodd Menelaus brawd Simon, am yr
hwn y soniasom o'r blaen, i ddwyn arian i'r brenin, ac i'w rybuddio ef am bethau
anghenraid.
º24 Ond pan ddygwyd ef gerbron y brenin, efe a'i mawrygodd yn ei wydd, ac a
gafodd yr archoffeiriadaeth iddo ei hun: canys efe a roddes amdani hi dri chan
talent o arian mwy na Jason.
º25 Felly pan gafodd efe orchmynion oddi wrth y brenin, efe a ddaeth adref heb
ynddo ddim yn haeddu yr archoffeiriadaeth, ond calon gorthrymwr creulon, a
gwyniau anifail gwyllt.
º26 Felly Jason, yr hwn a dwyllasai ei frawd ei hun, wedi ei dwyllo gan arall,
a'i fwrw allan, a ffodd i wlad yr Am-nioniaid.
º27 Ond Menelaus, pan gafodd yr oruchafiaeth, ni chymerodd drefn iawn am yr
arian a addawasai efe i'r brenin, ond Sostratus ceidwad y castell a'u gofynnodd
hwy iddo:
º28 Canys i hwn y perthynai codi'r ardrethion: am hynny y ddau hyn a gyrchwyd
gerbron y brenin.
º29 A Menelaus a adawodd yn yr archoffeiriadaeth Lysimachus ei frawd; a
Sostratus a adawodd Crates, yr hwn oedd lywodraethwr Cyprus, yn ei le.
º30 Pan wnelid y pethau hynny, y digwyddodd i wyr Tarsus a Malot wneuthur
terfysg yn erbyn y brenin, oblegid eu rhoddi hwynt i Antiochis gordderch y
brenin.
º31 Am hynny y brenin a ddaeth ar frys i ostegu'r derfysg honno, gan adael
Andronicus, un o'r gwyr pennaf ei awdurdod, yn rhaglaw iddo.
º32 Menelaus hefyd, gan dybio cael ohono amser cyfaddas, a gymerth rai o lestri
aur y deml, ac a'u rhoddes i Andronicus, ac a werthodd eraill yn Tyrus a'r
dinasoedd oddi amgylch.
º33 A phan wybu Oneias hyn yn hys-bys, efe a'i hargyhoeddodd, ac a dyn-nodd o'r
neilltu i noddfa yn Daffhe, yr hon sydd yn ymyl Antiochia.
º34 Am hynny Menelaus a gymerth o'r neilltu Andronicus, ac a ddymunodd arno
ddal Oneias: felly efe a ddaeth at Oneias, ac a'i perswadiodd ef trwy dwyll,
gan roddi iddo ei law ddeau, a'i Iwj er ei fod ef yn ei amau ef, ac a'i denodd
i ddyfod allan o'r noddfa: felly yn ddisymwth efe a'i carcharodd ef, heb ganddo
bris am gyfiawnder.
º35 Oherwydd paham, nid yr Idd-ewon yn unig, ond hefyd llawer o genhedloedd
eraill, a gyffroesant, ac a fu drwm dros ben ganddynt anghyfiawn laddiad y gwr
hwn.
º36 Hefyd pan ddychwelodd y brenin o dueddau Cilicia, yr Iddewon, y rhai oedd
yn y ddinas, a achwynasant wrtho, gan fod y Groegwyr hefyd yn cydsynio a hwynt,
o achos atgasrwydd y weith-red, oblegid lladd Oneias heb achos.
º37 Am hynny Antiochus a dristaodd yn fawr yn ei galon, ac a dosturiodd, ac a
wylodd, oherwydd mawr diriondeb a gostyngeiddrwydd yr hwn a laddasid.
º38 Ac am hynny wedi ei enynnu a dicllonedd, efe a ddiosgodd Andronicus o'i
borffor, ac a rwygodd ei ddillad ef, ac a'i harweiniodd ef o amgylch y ddinas
i'r fan lie y lladdasai efe Oneias, ac yno y dieneidiodd efe y llofrudd: felly
yr Arglwydd a dalodd iddo deilwng gosbedigaeth.
º39 Ond yn ôl i Lysimachus wneuthur llawer gweithred ddrwg yn y ddinas trwy
gyngor Menelaus, a myned o'r chwedl allan, cynulleidfa a ymdyrrodd ynghyd yn
erbyn Lysimachus; canys yn awr efe a ddygasai allan lawer o lestri aur y deml.
º40 Y cygredin bobl a godasant ar hynny yn llawn llid, a Lysimachus a wisgodd
ag arfau ynghylch tair mil o wyr, ac a ddechreuodd wneuthur trawster; ac un
Auranus oedd yn flaenor iddynt, yr hwn oedd wedi myned ymhell mewn oedran, ac
nid dim llai mewn ynfyd-rwydd.
º41 Ond pan wybuant amcan Lysimachus, rhai a geisiasant gerrig, rhai bastynau,
a rhai a daflasant ddyrneidiau o'r llwch oedd gerllaw at Lysimachus, a'r rhai
oedd yn gosod arnynt:
º42 Trwy ba fodd y clwyfasant lawer ohonynt, ac y lladdasant rai, a rhai eraill
a yrasant i ffoi; ond anrheithiwr yr eglwys a laddasant hwy gerllaw'r trysordy.
º43 Oblegid hyn fe achwynwyd yn erbyn Menelaus oherwydd yr achosion hyn.
º44 A phan ddaeth y brenin i Tyrus, fe ddanfonwyd tri wyr oddi wrth y senedd, y
rhai a achwynasant arno.
º45 Ond Menelaus, wedi colli'r maes, a jaddawodd lawer o arian i Ptolemeus fa(b
Dorymenes, er gwneuthur y brenin yn fodlon.
º46 Am hynny Ptolemeus a aeth a'r brenin o'r neilltu i ryw gyntedd i ymoeri, ac
a droes ei feddwl ef,
º47 Yn gymaint ag iddo ryddhau Mene- laus, achos yr holl ddrwg, oddi wrth yr
achwynion, a barnu y rhai tru-ain hyn i angau, y rhai, pe dadleuasent eu mater
gerbron y Scythiaid, hwy a gawsent eu gollwng yn ddieuog.
º48 Fel hyn yn fuan y cosbwyd hwy yn
anghyfiawn, y rhai o'r blaen a ddad-leuasant dros y ddinas, dros y bobl, a
thros y llestri sanctaidd.
º49 Am hynny gwyr Tyrus, yn gas ganddynt yr anwiredd hyn, a roddasant yn
helaeth bob peth a berthynai i'w claddedigaeth hwy.
º50 Ond Menelaus, trwy awydd y rhai oedd mewn gallu, a wnaed yn fradychwr y
dinaswyr, ac a arhoes yn ei swydd, gan chwanegu ei falais.
ºPENNOD 5
º1 VTNGHYLCH yr amser hwnnw An-A tiochus a ddarparodd ei ail daith i'r Aifft.
º2 A'r pryd hynny digwyddodd trwy'r holl ddinas dros ddeugain niwrnod agos, fod
gwyr meirch yn rhedeg yn yr awyr, mewn gwisgoedd aur, a lluoedd o wyr a
gwaywffyn,
º3 A megis tyrfau o wyr meirch mewn byddin, yn ymdrechu ac yn rhedeg y naill yn
erbyn y Hall, dan ysgwyd eu tarianau, a llaweroedd o bicellau, a thynnu
cleddyfau, a saethu saethau, a disgleirdeb eu harfau aur, a phob math ar
lurigau.
º4 Am hynny pob dyn a wedd'iodd ar ddyfod o'r arwyddion hynny i ddaioni.
º5 Yr awron pan aeth chwedl celwydd ailan, megis pe newidiasai Antiochus fyd,
Jason a gymerth nid llai na mil o wyr, ac a ruthrodd yn ddisymwth ar y ddinas;
ac wedi gorchfygu'r rhai oedd ar y gaer, ac o'r diwedd ennill y ddinas, fe a
ffodd Menelaus i'r castell.
º6 Ond Jason a laddodd ei ddinaswyr ei hunan, heb arbed un; heb feddwl fod
llwyddiant yn erbyn ei genedl yn fwyaf aflwyddiant, ond gan dybied orchfygu
ohono ei elynion, nid ei gydwladwyr.
º7 Er hynny ni chafodd efe yr oruchaf- iaeth, ond yn niwedd ei gynllwyn efe a
gafodd gywilydd, ac a ffodd drachefn, ac a aeth i wlad yr Ammoniaid.
º8 Am hynny efe a gafodd ddiwedd ei ddrwg fuchedd, sef efe a garcharwyd gydag
Aretas brenin yr. Arabiaid, ac a ffodd o ddinas i ddinas, a phawb yn ei ymlid
ac yn ei gasau megis gwrthodwr y gyfraith, ac yn ei felltithio megis gelyn ei
wlad a'i ddinaswyr, efe a fwriwyd allan i'r Aifft.
º9 A'r hwn a barasai i lawer grwydro allan o'u gwlad, a ddarfu amdano ei hun
allan o'i wlad, wedi iddo fyned at y Lacedemoniaid, dan obaith cael yno swcr,
oherwydd carennydd.
º10 A'r hwn a fwriasai allan liaws heb eu claddu, ni alarodd neb drosto, ac ni
chafodd fedd yn y byd, ie, ni chafodd feddrod ei dadau.
º11 Ond pan wybu'r brenin y pethau hynny, efe a feddyliodd y syrthiai'r Iddewon
oddi wrtho am y pethau a wnaethid: am hynny efe a ddaeth yn gynddeiriog o'r
Aifft, ac a enillodd y ddinas ag arfau;
º12 Ac a orchmynnodd i'w filwyr nad arbedent neb a gyfarfyddai a hwynt, a lladd
y neb a ddringai i'w tai.
º13 Felly y gwnaed lladdfa ar wyr ieuainc a hynafgwyr, a dinistr ar wyr a
gwragedd a phlant; a gwyryfon a bechgyn a ddifethwyd;
º14 Yn gymaint ft difetha ohonynt bedwar ugain mil rnewn tri diwrnod: deugain
mil a gaethgludwyd, ac eraill nid llai na'r rhai a laddasid, a werthwyd.
º15 Ac heb fod yn fodlon er hyn, efe a feiddiodd fyned i mewn i'r deml
sancteiddiaf yn yr holl fyd, gan gael iddo yn flaenor Menelaus, yr hwn oedd
fradychwr ei wlad a'r gyfraith:
º16 Ac a dwylo ysgeler efe a gym-erodd y llestri sanctaidd, a pha beth bynnag a
roddasid yno i'w cadw gan frenhinoedd eraill, er cynnydd a gogon-iant ac
anrhydedd i'r man hwnnw, efe a'u teimlodd a dwylo aflan.
º17 Balchiiodd Antiochus hefyd, heb ystyried mai oblegid pechodau y rhai a
breswylient yn y ddinas y digiasai'r Arglwydd dros ychydig, ac am hynny bod
dirmyg ar y man hwnnw.
º18 Canys oni buasai iddynt hwy ymdroi o'r blaen mewn cynifer o bechod-au, hwn
hefyd er cynted ag y daethai i mewn, wedi ei fflangellu yn ddisymwth, a droesid
oddi wrth ei hyfder, megis Heliodorus, yr hwn a ddanfonasid oddi wrth Seleucus
y brenin i weled y trysordy.
º19 Ond nid oherwydd y lie y dew-isasai'r Arglwydd y bobl, ond oherwydd y bobl
y dewisasai efe y lie:
º20 Ac am hynny y lie hwnnw, yr hwn a fu yn gyfrannog o adfyd y bobl, a wnaed
wedi hynny yn gyfrannog o ddoniau'r Arglwydd; a'r hwn a wrthodwyd yn nigofaint
yr Hollaliuog, a gyweiriwyd drachefn a phob gogoniant trwy gymod yr Arglwydd
goruchaf.
º21 Am hynny Antiochus, wedi dwyn allan o'r deml fil a phedwar ugain talent, a
aeth yn gyflym i Antiochia, gan dybied o wir falchder y gallai efe wneuthur y
tir yn for, a'r m6r hefyd yn dir i'w gerdded ar draed: cyfryw falchder oedd
ynddo.
º22 Ond efe a adawodd swyddogion i orthrymu'r bobl, sef yn Jerwsalem, Philip,
gwr o Phrygia, yr hwn oedd yn ei arferion yn greulonach na'r hwn a'i gosodasai
ef;
º23 Ac yn Garisim, Andronicus; a hefyd Menelaus, yr hwn oedd flinach i'r
dinaswyr na'r lleill i gyd, a chanddo feddwl cenfigennus yn erbyn yr Iddewon ei
wladwyr.
º24 Ac efe a ddanfonodd Apolonius, tywysog melltigedig, & llu o ddwy fil ar
hugain, gan orchymyn iddynt ladd pawb a'r oedd mewn oedran, ond gwerthu'r
gwragedd a'r rhai ieuainc.
º25 Yntau, pan ddaeth i Jerwsalem, a gymerodd arno fod yn heddychol, ac a
ymataliodd hyd y sanctaidd ddydd Saboth; ac yna yn cael yr Iddewon yn cadw
gwyl, efe a orchmynnodd i'w ryfelwyr gymryd eu harfau.
º26 Ac felly efe a laddodd bawb a'r a aethai allan i edrych arnynt, a chan
redeg yma a thraw trwy'r ddinas mewn arfau, efe a laddodd liaws.
º27 Ond Jwdas Macabeus, a naw eraill gydag efj a giliodd i'r anialwch; ac efe
a'i gydymdeithion a fu fyw yn y mynyddoedd fel anifeiliaid, gan fwyta beunydd y
glaswellt, rhag eu gwneuthur yn gyfranogion o'r ffieidd-dra hwnnw.
ºPENNOD 6
º1 "VTCHYDIG yn ôl hynny y brenin a •1 ddanfonodd hynafgwr o Antiochia i
gymell yr Iddewon i ymado a chyf-reithiau eu tadau, fel nas llywodraeth-id hwy
mwyach wrth gyfraith Dduw;
º2 Ac i halogi'r deml oedd yn Jerwsalem, efe a'i galwodd yn deml Jwpiter
Olympius; a'r hon oedd yn Garisim, megis y rhai a gyfanheddent yn y man hwnnw,
a alwodd efe yn deml Jwpiter Leteugar.
º3 Dyfodiad yr aflwydd yma oedd drwm a Win i'r bobl;
º4 Canys y deml a lanwyd o lythineb a meddwdod gan y Cenhedloedd, y rhai
oeddynt yn ymchwarae a phuteiniaid, ac oddi amgylch y lleoedd sanctaidd yn bod
iddynt a wnelent a gwragedd, a hefyd yn dwyn i mewn bethau nid ydoedd weddaidd.
º5 A'r allor a lanwasid o bethau anghyfreithlon, y rhai a waharddasai y
gyfraith.
º6 Nid rhydd oedd chwaith gadw'r Saboth, na chadw gwyliau eu hynaf-iaid, nac yn
eglur gyfaddef eu bod yn Iddewon.
º7 Ar ddydd genedigaeth y brenin, yr oedd yn gorfod iddynt, heb ddiolch, fyned
bob mis i fwyta o'r ebyrth: a phan gedwid gwyl Bacchus, fe a orfyddai iddynt
fyned yn orfoleddus, ag eiddew ^anddynt, er anrhydedd i Bacchus. \
º8 Ac fe \aeth gorchymyn allan i ddin-asoedd cyfnesaf y Groegwyr, trwy gyngor
Ptolemeus, yn erbyn yr Iddewon, ar iddynt ddilyn yr unrhyw arferion, a bod yn
gyfranogion o'u hebyrth hwynt;
º9 Ac ynghylch lladd y rhai ni fyn-nent ganlyn arferion y Groegwyr. Y pryd
hynny y gallasai un weled y gofid presennol:
º10 Canys dygwyd allan ddwy o wragedd, y rhai a enwaedasent ar eu plant; ac
wedi eu harwain yn amlwg oddi amgylch y ddinas, a'r rhai bychain ynghrog wrth
eu bronnau, hwy a fwriwyd i lawr bendramwnwgl oddi ar y gaer.
º11 Rhai eraill a gydredasent yn eu mysg eu hunain i ogofeydd, fel y gallent yn
ddirgel gadw'r seithfed dydd, a gyhuddwyd wrth Philip, ac a gydlosgwyd: oblegid
ni feiddient eu helpu eu hunain, oherwydd parch ar y dydd anrhydeddus.
º12 Am hynny yr wyf yn atolwg i'r rhai a ddarllenant y llyfr hwn, nas digysurer
hwy oherwydd yr adfyd hyn: ond meddyliant fod y cosbedigaethau hyn yn perthynu
nid i ddinistr, ond i geryddiad, ein cenedl ni.
º13 Canys pan na oddefir y rhai a wnelont yn annuwiol, ond syrthio ohonynt yn
gyflym i gosbedigaeth, arwydd yw hyn o fawr ddaioni Duw.
º14 Canys nid yw yr Arglwydd yn hir arcs wrthym ni, megis wrth genhedloedd
eraill, y rhai y mae efe yn eu cosbi pan ddelont i gyflawndra eu pechodau; ond
fel hyn y bu dda ganddo wneuthur a ni,
º15 Rhag gorfod iddo ddial arnom pan gyflawnid ein pechodau.
º16 Am hynny ni ddwg byth mo'i drugaredd oddi wrthym; ond dan eu ceryddu ag
adfyd, nid ymedy efe a'i bobl ei hun.
º17 A bydded hyn a ddywedasom yn rhybudd i ni, Bellach ni a ddeuwn at y
traethawd ar ychydig eiriau.
º18 Eleasar, rhyw un o'r ysgrifenyddion pennaf, yn wr oedrannus, a glan o bryd,
a orfu iddo agoryd ei enau, a bwyta cig moch.
º19 Ond efe yn well ganddo farw mewn parch, na byw wedi gwneuthur y fath
ffieidd-dra, a aeth yn ewyllysgar i'r poenau, ac a'i poerodd allan,
º20 Pel y gweddai iddynt hwy ddyfod, y thai sydd yn ymroi yn Ian i sefyll yn
erbyn y cyfryw bethau nid cyfreithlon eu profi, er serch ar einioes.
º21 Ond y rhai a osodasid yn llywod-raethwyr y wledd annuwiol honno, oblegid y
gydnabod oedd rhyngddynt er ys talm a'r gwr hwn, a'i cymerasant o'r neilltu, ac
a'i hanogasant i gym-ryd y cig a ddarparai efe ei nun, ac i arfer y pethau oedd
gyfreithlon iddo; ond cymryd ohono arno megis pe bwytai o gig y wledd, yn ôl y
pethau a orchmynasid iddo gan y brenin;
º22 Fel y gallai wrth hyn ei achub ei hun oddi wrth angau, a derbyn y
cared-igrwydd hyn, er mwyn y gydnabod oedd rhyngddynt.
º23 Ond efe gan gymryd meddwl pwyllog, megis y gweddai i'w oedran, ac i
ragoriaeth ei henaint a'i wallt llwyd parchedig, ac i'w rinweddol fuchedd er yn
fachgen, ie, yn hytrach megis ag y gweddai i sanctaidd a duwiol gyfraith Dduw,
a atebodd iddynt, gan atolwg ei ollwng yn fuan i'w feddrod;
º24 Canys nid gweddaidd, eb efe, yw i'n hoedran ni ragrithio, fel y tybio
llawer o wyr ieuainc ddychwelyd o Eleasar, yn ddeng mlwydd a phedwar ugain o
oed, at arferion dieithr,
º25 Ac yr hudid hwythau hefyd oblegid fy rhagrith i, er mwyn ychydig amser i
fyw, ac y byddai i mi ddwyn gwaradwydd a dirmyg i'm henaint.
º26 Canys er i mi allu dianc dros yr amser presennol oddi wrth gosbedigaeth
ddynol: eto ni allaf ffoi oddi wrth law yr Hollalluog, nac yn fyw nac yn farw.
º27 Am hyn gan newidio bywyd yn wrol, ni a'm dangosaf fy hun yn addas i'm
henaint:
º28 Yna y gadawaf i'r rhai ieuainc siampl nodedig i farw yn ewyllysgar ac yn
wrol dros y sanctaidd a'r anrhyd-eddus gyfraith. Ac wedi dywedyd hyn, efe a
aeth yn gyflym i'w arteithio.
º29 Yna y rhai a'i harweinient, a droesant eu hewyllys da iddo o'r blaen yn Hid
wrtho, pan glywsant ei ymad-rodd: canys tybio a wnaethant ei fod wedi ynfydu.
º30 Hefyd, pan oedd ar farw oblegid y dyrnodiau, efe a ddywedodd, gan
och-neidio, Eglur yw i'r Arglwydd, yr hwn sy ganddo sanctaidd wybodaeth, mai
pan allaswn fy ngwaredu fy hun o angau, ddioddef ohonof fy nghuro yn dost ar
hyd fy nghorff; a'm bod yn ewyllysgar yn dioddef y pethau hyn o ran fy mod yn
ei ofni ef.
º31 Fel hyn y bu efe farw, gan adael ei farwolaeth yn siampl o galon
ddihaf-arch, ac yn goffa am rinwedd nid yn unig i'r gwyr ieuainc, ond i lawer
eraill hefyd o'i genedl.
ºPENNOD 7
º1 DIGWYDDODD hefyd ddal saith mrodyr a'u mam, a pheri o'r brenin iddynt yn
erbyn y gyfraith fwyta cig moch; a hwy a gurwyd a fHangellau a gwiail.
º2 Ond un ohonynt, yr hwn a ddadleuodd yn gyntaf, a ddywedodd, Pa beth yr wyt
ti yn ei geisio? a pha beth a fynni di ei wybod gennym ni? canys yr ydym ni yn
barod i farw yn gynt nag y torrwn gyfreithiau ein tadau.
º3 Yna y cythruddodd y brenin, ac y parodd dwymo pedyll a pheiriau;
º4 Y rhai yn y man a wnaethpwyd yn boeth; ac efe a orchmynnodd dorri allan
dafod yr hwn a ddadleuasai yn gyntaf, a'i flingo ef, a thorri ymaith ei aelodau
eithaf yng ngolwg ei frodyr eraill a'i fam.
º5 Weithian, pan na ellid dim ohono ef, efe a barodd ei ddwyn ef i'r tan, a'i
ffrio yn fyw: a thra yr oedd y mwg dros hir o amser yn mygu allan o'r pair, y
brodyr eraill a'u mam a anog-ent ei gilydd i farw yn wrol, gan ddywedyd fel
hyn,
º6 Y mae'r Arglwydd Dduw yn ed-rych arnom, ac yn ddiau efe a gymer ddiddanwch
ohonom ni, megis y myneg- odd Moses yn ei ganiad, yn yr hon y tystiolaethodd
wrth eu hwynebau hwynt, gan ddywedyd, Ac efe a gymer ddiddanwch yn ei weision.
º7 Wedi marw o'r cyntaf fel hyn, hwy a ddygasant yr ail i'w wneuthur yn
watworgerdd: ac wedi iddynt dynnu croen ei ben ef a'i wallt, hwy a ofynas-ant
iddo, A fwytei di, cyn merthyru pob aelod o'th gorff?
º8 Ond efe a atebodd yn iaith ei wlad, Na wnaf. Am hynny hwn hefyd fel y cyntaf
a ferthyrwyd yn gyflym.
º9 A phan oedd yn rhoddi i fyny'r ysbryd, efe a ddywedodd, Tydi, lofrudd, wyt
yn dwyn ein bywyd presennol oddi arnom; ond Brenin y byd a'n cyfyd ni, y rhai
ydym yn meirw dros ei gyfreithiau ef, i fywyd tragwyddol.
º10 Yn ôl hwn y dygwyd y trydydd hefyd i'w watwar: a phan ofynasant am ei
dafod, efe a'i hestynnodd allan yn ebrwydd, ac a ledodd ei freichiau yn hy;
º11 Ac a lefarodd yn wrol, Y rhai hyn a gefais i gan Dduw o'r nef, a'r rhai hyn
yr ydwyf fi yn eu dirmygu er mwyn ei gyfreithiau ef, ac yr ydwyf yn go-beithio
derbyn y rhai hyn eilwaith ganddo ef:
º12 Yn gymaint ag i'r brenin a'r rhai oedd gydag ef synnu a rhyfeddu wrth
galondid y gwr ieuanc; oblegid nid oedd efe yn prisio am ei boenau.
º13 Ac yn ôl marw hwn, hwy a ferthyrasant y pedwerydd hefyd yr un modd;
º14 Yr hwn pan ydoedd agos a marw, a ddywedodd fel hyn, Da ydyw, pan roddir ni
i farwolaeth gan ddynion, i ni ddisgwyl am obaith oddi wrth Dduw, fel y'n
cyfoder eilwaith trwyddo ef: canys i ti ni bydd cyfodiad i fywyd.
º15 Wedi hynny hwy a ddygasant y plumed, ac a'i merthyrasant:
º16 Yr hwn, gan edrych ar y brenin, a \ddywedodd, Y mae gennyt allu ymysg\
dynion, ac er dy fod di yn farwol, yr wyt yn gwneuthur a fynnech: ond na thybia
wrthod o Dduw ein cenedl ni.
º17 Ond disgwyl ennyd, a gwel ei allu mawr ef, fel y cosba efe dydi a'th had.
º18 Yn ôl hwn hwy a ddygasant y chweched; yr hwn, pan ydoedd yn rnarw, a
ddywedodd, Na sioma mohonot dy hun heb achos: canys nyni ydym ya dioddef y
pethau hyn o'n plegid ein hunain: oblegid pechu ohonom yn erbyn ein Duw, am
hynny yr ydys yn gwneuthur i ni bethau rhyfedd.
º19 Ond na feddwl di y dihengi di heb dy gosbi, yr hwn wyt yn ceisio rhyfela yn
erbyn Duw.
º20 Ond y fam oedd yn rhyfeddfawr ragorol, ac yn haeddu cof ardderchog: oblegid
pan welodd hi ei saith mab wedi eu lladd mewn ysbaid diwrnod, hi a oddefodd
hynny a chalon rymus, o-blegid ei gobaith a osodasai hi yn yr Arglwydd.
º21 A hi a anogodd bob un ohonynt yn iaith ei gwlad, ac yn llawn o ysbryd hi a
gynhyrfodd ei meddwl gwreigaidd a chalon wrol, ac a ddywedodd wrthynt,
º22 Ni wn i pa fodd y daethoch i'm croth i: canys ni roddais i chwi nac anadl
nac einioes, ac nid myfi a luniodd aelodau eich cyrff:
º23 Ond yn ddiau Gwneuthurwr y byd, yr hwn a luniodd enedigaeth dyn, ac a
gafodd allan naturiaeth pob peth, a'r hwn a rydd eilwaith i chwi, er ei
dru-garedd, anadl a bywyd, yn gymaint ag i chwi yn awr eich dirmygu eich hunain
er mwyn ei gyfreithiau ef.
º24 Ond Antiochus, gau dybio ei ddirmygu, a chan feddwl fod ei hymadrodd hi yn
waradwyddus, tra ydoedd yr ieu-angaf eto yn fyw, a geisiodd ei ddenu nid yn
unig a geiriau, ond hefyd trwy addo a llyfau ei wneuthur ef yn gyfoethog ac yn
ddedwydd, os efe a ymwrthodai a chyfreithiau ei" dadau; a hefyd y cymerai
efe ef megis yn gar iddo, ac y rhoddai iddo swyddau:
º25 Ac oblegid na wrandawai y gwr ieuanc arno er dim, efe a barodd gyrchu ei
fam ef, ac a eiriolodd ami hi gynghori y gwr ieuanc i achub ei hoedl.
º26 Ac wedi iddo ddeisyfu ami hynny a geiriau lawer, hi a addawodd iddo y
cynghorai hi ei mab.
º27 Yna ei fam a droes ato, a chan watwar y gorthrymwr creulon, hi a ddywedodd
yn iaith ei gwlad, Fy mab, trugarha wrthyf, yr hon a'th ddug di naw mis yn fy
mru, yr hon a roddais i ti laeth dair blynedd, yr hon a'th ddug di i fyny hyd
yn hyn, a'r hon a oddef-ais orthrymderau dy fagwriaeth.
º28 Atolwg i ti, fy mab, edrych ar y nef a'r ddaear, ac edrych ar bob peth ag
sydd ynddynt; cydnebydd wneuthur o Dduw y pethau hyn o'r pethau nid oeddynt, a
gwneuthur rhywogaeth dyn felly hefyd.
º29 Nac ofna mo'r cigydd hwn, ond bydd debyg i'th frodyr; cymer dy farwolaeth,
fel y gallwyf dy dderbyn gyda'th frodyr yn yr unrhyw drugaredd.
º30 A thra yr ydoedd hi yn dywedyd hyn, y gwr ieuanc a lefarodd, Beth yr ydych
chwi yn ei ddisgwyl? nid oes yn fy mryd ufuddhau gorchymyn y brenin; ond myfi a
ufuddhaf orchmynion y gyfraith, y rhai a roddwyd i'n tadau ni trwy law Moses.
º31 Tithau hefyd, yr hwn wyt ddych-mygwr pob drwg i'r Hebreaid, ni ddihengi
rhag llaw Dduw:
º32 Canys nyni ydym yn goddef hyn oblegid ein pechodau ein hunain.
º33 Ond er bod y Duw byw dros en-nyd yn digio wrthym er mwyn ein cosbi a'n
ceryddu, eto efe a gyrnyd dra-chefn a'i weision.
º34 Ond tydi, O annuwiol ac ysgeleraf o'r holl ddynion, nac ymddyrcha yn ddiachos,
ac nac ymchwydda a gobaith ofer, gan godi dy ddwylo yn erbyn gweision Duw:
º35 Canys ni ddihengaist ti eto rhag barn Duw hollalluog, yr hwn sydd yn gweled
pob peth.
º36 Fy mrodyr, y rhai weithian a oddef-asant lafur byr, ydynt yr awron dan
sanctaidd gyfamod bywyd tragwyddol: tithau hefyd trwy farn Duw, a dder bynni
gosbedigaeth addas oblegid dy falchder.
º37 Minnau hefyd, megis ag y gwnaeth fy mrodyr, a roddaf fy nghorff a'm
heinioes dros gyfreithiau ein teidiau, gan atolwg i Dduw drugarhau ohono yn
gyflym wrth ein cenedl ni, a pheri i tithau trwy benyd a chosbedigaeth gyffesu
mai efe sy Dduw yn unig;
º38 A diweddu hefyd ynof fi a'm brodyr o ddigofaint yr Hollalluog, yr hwn yn
addas a syrthiodd ar ein holl genedl ni.
º39 Yna'r brenin wedi ei enynnu a chyn-ddaredd, a wynfydodd yn erbyn hwn yn fwy
na neb, ac a fu drwm ganddo ei watwar.
º40 Hwn hefyd a fu farw yn sanctaidd, gan roddi ei gwbl ymddiried yn yr
Arglwydd.
º41 Yn ddiwethaf o'r cwbl, y fam yn ôl ei meibion a fu farw.
º42 Weithian bydded digon dywedyd hyn am eu gwleddau, a'u creulondeb aruthrol
hwy.
ºPENNOD 8
º1 YNA Jwdas Macabeus, a'r rhai oedd gydag ef, a aethant yn ddirgel i'r
pentrefi, ac a alwasant eu ceraint ynghyd, ac a gymerasant y rhai oedd yn arcs
yn nhrefydd yr Iddewon, ac a gasglasant ynghyd ynghylch chwe mil o wyr.
º2 Felly hwy a alwasant ar yr Arglwydd, ar edrych ohono ar ei bobl, y rhai yr
oedd pawb yn eu sathru dan draed, ac ar fod ohono yn drugarog wrth y deml, yr
hon a ddarfuasai i'r dynion drwg ei halogi;
º3 Ac ar dosturio ohono wrth y ddin-as, yr hon ydoedd wedi ei dinistrio, ac
agos yn un a'r llawr; ac ar wrando ohono ar lef gwaed y rhai a laddasid yn
gweiddi arao ef;
º4 Ac ar gofio ohono anghyfreithlon laddiad y plant gwirion, a'r cableiriau a
ddywedasid yn erbyn ei enw; ac ar ddangos ohono ei gas yn erbyn y rhai
drygionus.
º5 Yna Macabeus wedi cyrmull ynghyd ei luj a'r Cenhedloedd neb allu ei
wrthwynebu, gan droi o'r Arglwydd ei ddigofaint yn drugaredd,
º6 Efe a ddaeth yn ddisymwth, ac a losgodd y dinasoedd a'r pentrefi, ac a
feddiannodd y lleoedd cymhwysaf, ac a orchfygodd, ac a yrrodd lawer o'i elynion
i ffoi;
º7 Ond yn bennaf efe a arferodd liw nos wneuthur cyfryw derfysgoedd, hyd onid
aeth y gair o'i wroldeb ef i bob lie.
º8 Ond pan welodd Philip gynyddu o'r gwr hwn yn fuan, o fesur ychydig ac
ychydig, a'i fod ef yn wastad yn llwyddo fwyfwy; efe a sgrifennodd at Ptolemeus
llywodraethwr Celo-Syria a Phenice, i'w swcro ef yn achosion y brenin.
º9 Yna efe a etholodd Nicanor mab Patroclus, un o'i geraint pennaf, ac a'i
danfonodd ef, gan roddi o bob rhai o'r Cenhedloedd nid llai nag ugain mil, i
ddiwreiddio allan holl genedl yr Iddewon; a hefyd efe a gysylltodd ynghyd ag ef
Gorgias y capten, gwr cyfarwydd mewn materion rhyfel.
º10 Felly Nicanor a gymerth arno wneuthur cymaint o arian o'r Iddewon a ddelid
yn garcharorion, ag a dalai y deyrnged o ddwyfil o dalentau oedd ar y brenin
i'r Rhufeinwyr.
º11 Am hynny efe a anfonodd yn y man i'r dinasoedd ar Ian y mor, gan gynnig ar
werth yr Iddewon a ddelid yn garcharorion, i fod yn weision iddynt, gan addo y
gwerthai iddynt ddeg a phedwar ugain er un dalent: ond nid ydoedd efe yn
ystyrio dial Duw, yr hwn a ddisgynnai arno ef.
º12 Pan wybu Jwdas fod Nicanor yn dyfod, efe a fynegodd i'r rhai oedd gyd-ag^ef
fod y llu yn agos.
º13 Y~,rhai ohonynt oedd yn ofnus, ac ni choelient i gyfiawnder Duw, ffoi a
wnaethant, a myned ymaith o'r fan honno.
º14 Rhai eraill hefyd a werthasant yr hyn oll a adawsid, ac a weddiasant hef-
yd ar yr Arglwydd, ar waredu ohono ef hwynt oddi wrth Nicanor annuwiol, yr hwn
a'u gwerthasai hwynt cyn dyfod ohonynt ynghyd.
º15 Ac er na wnelai efe hyn er eu mwyn hwynt, eto ar iddo ei wneuthur er mwyn
ei gyfamod a'u tadau hwynt, ac er mwyn ei sanctaidd a'i ogoneddus enw, ar yr
hwn y gelwid hwy.
º16 Yna Macabeus wedi galw ei wyr ynghyd, hyd yn nifer chwe mil, a'u hanogodd
hwynt na ddigalonnent o-blegid eu gelynion, ac nad ofnent amlder y Cenhedloedd
oedd yn gosod arnynt ar gam, ond rhyfela ohonynt yn wrol,
º17 Gan osod gerbron eu llygaid y dirdra a wnaethant ar gam i'r lie sanctaidd,
a'r gurfa greulon a roddasid i'r ddinas a watwaresid, a dirymiad y llywodraeth
a dderbyniasent hwy gan eu hynafiaid.
º18 Canys y maent hwy, eb efe, yn ymddiried mewn arfau a hyfder; ond ein
hymddiried ni sydd yn Nuw holl-alluog, yr hwn a all ddifetha y rhai sydd yn
dyfod yn ein herbyn, a'r holl fyd hefyd, ag amnaid.
º19 A hefyd efe a gofiodd iddynt pa gymorth a gawsai eu tadau, a pha fodd yr
achubwyd hwy, pan ddarfu am gant a phedwar ugain a phum mil dan Sennacherib,
º20 A pha ryfel a wnaethent yn Ba-bilon yn erbyn y Galatiaid, fel y daethai
ohonynt hwy i gyd i'r maes wyth mil, gyda phedair mil o'r Macedoniaid; a phan
amheuodd y Macedoniaid, yr wyth mil hynny a laddasant ugain mil a chant trwy
gymorth a roddasid iddynt o'r nef, trwy ba un y derbyniasant lawer o fudd.
º21 Ac wedi iddo eu cysuro a'r geiriau hyn, a'u gwneuthur yn barod i farw dros
y cyfreithiau a'r wlad, efe a ran-nodd ei lu yn bedair rhan;
º22 Ac a wnaeth ei frodyr ei hun yn gapteiniaid ar y llu, sef Simon, Joseff, a
Jonathan, gan roddi i bob un bymtheg cant o ryfelwyr.
º23 Hefyd efe a bwyntiodd Eleasar i ddarllen y llyfr sanctaidd : ac wedi iddo
roddi iddynt yn arwydd, Trwy help Duw, efe yn gapten y llu blaenaf a aeth
ynghyd a Nicanor.
º24 A thrwy gymorth yr Hollalluog, hwy a laddasant o'r gelynion uwchlaw naw
mil, ac a glwyfasant ac a gloffasant y rhan fwyaf o lu Nicanor, ac yras-ant
bawb i ffoi;
º25 Ac a gymerasant arian y rhai a ddaethent i'w prynu, ac a'u hymlidias-ant
ymhell; ond am fod arnynt eisiau amser, hwy a ddychwelasant.
º26 Canys y dydd o flaen y Saboth oedd hi; am hynny ni fynnent eu hym-lid hwy
ymhellach.
º27 Fel hyn hwy a gymerasant eu harfau, ac a ysbeiliasant y gelynion, ac a
gadwasant y Saboth, gan roi moliant a diolch anfeidrol i'r Arglwydd, yr hwn a'u
cadwasai hyd y dydd hwnnw, ac a dywalltasai arnynt ddechreuad ei dru-garedd.
º28 Hefyd yn ôl y Saboth, hwy a ranasant ran o'r ysbail i'r anafus, i'r
gweddwon, ac i'r amddifaid; a'r hyn oedd yng ngweddill a ranasant rhyng-ddynt
eu hun a'u gweision.
º29 Ac yn ôl gwneuthur y pethau hyn, a gwneuthur ohonynt gyffredin weddi, hwy a
atolygasant i'r Arglwydd tru-garog gymodi a'i weision yn dragywydd.
º30 Hefyd o'r rhai oedd gyda Thimotheus a Bacchides a fyddent yn ymladd yn eu
herbyn hwy, y lladdasant uwchlaw ugain mil, ac a enillasant uchel a chadarn
gestyll, ac a ranasant ysbail lawer yn gyffredinol rhyngddynt hwy a'r anafus,
a'r amddifaid, a'r gweddwon, a'r oedrannus.
º31 Ac wedi iddynt gasglu eu harfau ynghyd, hwy a'u rhoddasant oll i gadw yn
ofalus mewn lleoedd cymwys: a'r ysbail arall a arweiniasant hwy i Jerwsalem.
º32 Hwy a laddasant hefyd Philarches yr hwn ydoedd gyda Thimotheus, dyn
annuwiol, ac un a wnaethai lawer o niwed i'r Iddewon.
º33 Hefyd pan oeddynt yn cadw gwyl y fuddugoliaeth yn eu gwlad, hwy a losgasant
Calisthenes, yr hwn a losgas-ai'r pyrth sanctaidd, ac a ffoesai i ryw dy bychan
i'w achub ei hun: am hynny efe a dderbyniodd wobr addas am ei anwiredd.
º34 A Nicanor ysgeler, yr hwn a ddyg-asai fil o farsiandwyr i brynu'r Iddewon,
º35 Wedi ei ddarostwng trwy help yr Arglwydd gan y rhai nid oedd efe yn
gwneuthur ond cyfrif o'r lleiaf ohonynt, a ddiosgodd ei ddillad gwychion, ac a
ollyngodd ymaith ei wyr, ac a ddaeth fel gwas crwydrus trwy ganol y tir i
Antiochia, wedi cael cywilydd mawr o ran colli ei lu.
º36 Fel hyn, yr hwn a addawsai dalu teyrnged i'r Rhufeinwyr o'r carcharorion
oedd yn Jerwsalem, a ddygodd newyddion fod gan yr Iddewon amddi-ffynnwr, sef
Duw: ac oblegid hyn na allai neb wneuthur niwed iddynt, oherwydd eu bod yn cadw
y cyfreithiau a orchmynasai efe iddynt.
ºPENNOD 9
º1 X7"NGHYLCH y cyfamser hwnnw y •i daeth Antiochus allan o wlad Persia yn
waradwyddus;
º2 Canys pan ddaeth efe i Persepolis, efe a amcanodd ysbeilio'r deml, a dwyn
dano y ddinas: ond y bobl a redasant yn gyffrous i'w hamddiffyn eu hun a'u
harfau, ac a'i gyrasant ef i ffoi: felly Antiochus a yrrwyd i ffoi gan y
preswylwyr, ac a ddychwelodd a chywilydd.
º3 A phan ddaeth efe i Ecbatana, dywedwyd iddo ef y pethau a wnaethid i Nicanor
ac i Timotheus.
º4 Am hynny, wedi chwyddo gan lid, efe a feddyliodd ddial gwarth y rhai a'i
gyrasai ef i ffoi, ar yr Iddewon: am hynny efe a barodd i'r hwn ydoedd bob
amser yn gyrru ei gerbyd ef, brysuro a dibennu ei daith; canys barn Duw ydoedd
yn ei annog ef: oherwydd efe a ddywedasai fel hyn yn ei falchedd, Myfi a wnaf
Jerwsalem yn gladdfa gyffredin i'r Iddewon, pan ddelwyf yno.
º5 Ond yr Arglwydd hollalluog a Duw Israel a'i trawodd ef a dialedd
difeddyginiaethol ac anweledig: canys er cynted ag y dywedasai efe y geiriau
hyn, dolur yn ei berfedd a ddaeth arno, yr hwn nis gellid ei iachau, a gofid
aruthrol yn ei fol.
º6 Ac iawn oedd hynny : canys efe a boenasai berfedd gwyr eraill ag amryw a
dieithr boenau.
º7 Hwn hefyd ni pheidiai er hynny a'i uchelfryd, ond a lenwid yn fwy a
balch-edd, gan anadlu allan dan yn ei ddig yn erbyn yr Iddewon, a pheri prysuro
ei daith: eithr digwyddodd syrthio ohono ef i lawr o'i gerbyd, yr hwn ydoedd yn
rhedeg yn gyflym; a gwneuthur holl aelodau ei gorff ef yn chwilfriw gan y cwymp
mawr hwnnw.
º8 Fel hyn efe, yr hwn a dybiai ychydig o'r blaen y gallai orchymyn tonnau'r
mor, (cymaint oedd ei falchedd tu hwnt i ddyn,) a phwyso'r mynyddoedd uchel
mewn clorian, a daflwyd ar y ddaear, ac a ddygwyd mewn elor feirch, gan fynegi
i bawb amlwg allu Duw:
º9 Yn gymaint ag i bryfed heidio allan o gorff Vr annuwiol hwnnw; a thra ydoedd
efe eto yn fyw, ei gnawd a syrthiai i lawr gan boen a gofid, a'i holl lu a
ymofidient oblegid ei ddrycsawr ef.
º10 Fel hyn nid oedd neb abl i aros i ddwyn yr hwn o'r blaen a dybiai y gallai
gyrhaeddyd ser y nefoedd, oblegid y drycsawr.
º11 Am hynny wedi ei glwyfo fel hyn, efe a ddechreuodd beidio a'i falchder
mawr, a dyfod i'w adnabod ei hun trwy gurfa Duw, a'i ond, yr hwn a chwaneg-id
bob munudyn awr.
º12 A phan ni allodd efe aros ei sawr ei hun, efe a ddywedodd hyn, lawn yw
ymostwng i Dduw, ac i'r hwn sydd yn farwol na feddylio fod yn ogyfuwch a Duw.
º13 A'r dyn ysgeler hwn a wedd'iodd at yr Arglwydd, yr hwn ni chymerai
drugaredd arno mwyach, gan ddywedyd,
º14 Y rhyddhai efe y ddinas sanctaidd, i'r hon yr oedd efe yn prysuro i'w
gwneuthur yn un a'r llawr, ac yn gladdfa;
º15 A hefyd y gwnai efe yn ogyfuwch a'r Antiochiaid yr holl Iddewon yr oedd efe
o'r blaen yn eu barnu yn an-nheilwng o gladdedigaeth, ond i'w taflu allan i'w
llyncu gan adar a bwystfilod, ynghyd a'u plant;
º16 Ac yr harddai efe'r deml sanctaidd a rhoddion gwychion, yr hon o'r blaen a
ddarfuasai iddo ei hysbeilio, ac y chwanegai efe y llestri sanctaidd, ac y
rhoddai efe o'i ardreth ei hun yr holl gost a ydoedd yn perthyn i'r ebyrth;
º17 Ac am ben hyn hefyd y byddai efe ei hun yn Iddew, ac y rhodiai ym mhob lie
cyfanheddol gan fynegi gallu Duw.
º18 Ond er hynny i gyd ni pheidiai ei ofidfawr boenau: canys fe ddaethai arno
gyfiawn farn Duw. Gan anobeithio ei iechyd, efe a sgrifennodd at yr Iddewon y
llythyrau sy'n canlyn, ac ynddynt y rath ddeisyfiad & hyn:
º19 I'r Iddewon daionus ei ddinaswyr, llawenydd, a iechyd, a llwyddiant, oddi
wrth Antiochus y brenin a'r pen-llywydd.
º20 Os ydych chwi a'ch plant yn iach, ac os yw pob peth yn ôl eich dymun-iant,
mi a roddaf fawr ddiolch i Dduw, gan fod gennyf obaith yn y nef.
º21 Amdanaf fi, yr oeddwn i yn wan; oni bai hynny myfi a gofiaswn yn gared-ig
eich parch a'ch ewyllys da: wrth ddychwelyd o wledydd Persia, wedi syrthio mewn
clefyd mawr, mi a dybiais fod yn angenrheidiol i mi ofalu am gyffredin
ddienbydrwydd pawb;
º22 Nid gan anobeithio o'm hiechyd, ond gan fod gennyf obaith mawr y dihangaf o'r
clefyd hwn.
º23 Ond gan ystyrio hefyd ddarfod i'm tad yr amser yr arweiniodd lu i'r
tuedd-au uchaf hyn ordeinio pwy a lywod-raethai ar ei ôl;
º24 Fel o digwyddai dim amgen nag yr oedd yn gobeithio, neu os dywedid
newyddion drwg yn y byd, na byddai i wyr y wlad derfysgu, gan eu bod yn gwybod
i bwy y rhoesid llywodraeth y materion hynny;
º25 Hefyd gan feddylio bod y pendefigion sy oddi amgylch, ac yn gymdogion i'm
teyrnas, yn disgwyl amser, ac yn edrych pa beth a ddigwyddo; myfi a ordeiniais
fy mab Antiochus yn fren-in, yr hwn pan oeddwn yn myned i'r gwledydd uchaf hyn,
a orchmynnais yn fynych i lawer ohonoch chwi, ac a sgrifennais ato ef y modd y
mae yn canlyn, yr ysgrifen yma.
º26 Am hynny yr wyf yn eiriol arnoch chwi, ac yn deisyfu ar goffa ohonoch y
cymwynasau a wneuthum i chwi yn amlwg ac yn ddirgel, a bod o bawb ohonoch yn
vvastad yn ffyddlon i mi ac i'm mab:
º27 Canys diau gennyf y ceidw efe yn gyfan ac yn ddihalog y cyngor a roddais
iddo yn eich cylch chwi.
º28 Pel hyn y llofrudd a'r cablwr, wedi iddo oddef gofid lawer, megis ag y
gwnaethai efe i eraill, a fu farw trwy farwolaeth flin mewn gwlad ddieithr.
º29 A Philip ei frawdmaeth ef a ddug ymaith ei gorff ef: yr hwn hefyd rhag ofn
mab Antiochus a ffodd i'r AifFt at Ptolemeus Philometor.
ºPENNOD 10
º1 MACABEUS hefyd a'r rhai oedd gydag ef, trwy fod yr Arglwydd yn llywydd
iddynt, a enillodd drachefn y ddinas a'r deml.
º2 A hwy a fwriasant i lawr yr allorau a'r capelau a wnaethai'r Cenhedloedd yn
yr heolydd.
º3 Ac wedi glanhau'r deml, hwy a wnaethant allor arall: ac wedi iddynt daro tan
allan o gerrig tanllyd, hwy a offrymasant aberth yn ôl dwy flynedd, ac a
arlwyasant arogl-darth, a llusernau, a bara gosod.
º4 Wedi hynny hwy a atolygasant i'r Arglwydd, gan syrthio i lawr ar eu hwynebau,
na byddai iddynt mwyach syrthio mewn cyfryw ddrygau; ond os pechent drachefn un
amser, bod iddo ef ei hun eu cosbi trwy drugaredd, ac na roddai ddim ohonynt
mwy i'r cab-laidd a'r creulon genhedloedd.
º5 A'r dydd hefyd yr halogasid y deml gan y dieithriaid, y digwyddodd gwneuthur
puredigaeth y deml yr un dydd, sef y pumed dydd ar hugain o fis Casleu.
º6 A hwy a gadwasant a llawenydd wyth niwrnod, megis ar ddydd gwyl y pebyll,
gan gofio fel y gorfuasai iddynt ychydig o'r blaen gadw gwyl y pebyll yn y
mynyddoedd a'r ogofeydd yn ôl modd anifeiliaid.
º7 Am hynny hwy a gymerasant ganghennau a cheinciau hardd, a blod-au, ac a
ganasant salmau i'r hwn a roddasai iddynt rwydd-deb i lanhau ei fangre ei hun.
º8 Hwy a ordeiniasant hefyd trwy gyffredin orchymyn a deddf, bod ymysg holl
genedl yr Iddewon gadw y dyddiau hyn yn wyl bob blwyddyn.
º9 Ac fel hyn y bu ddiwedd Antiochus a gyfenwid Epiffanes.
º10 Weithian hefyd ni a fynegwn y pethau a wnaethpwyd yn amser Eupator
Antiochus, yr hwn ydoedd fab y gwr annuwiol hwnnw, gan grynhoi ynghyd y drygau
y rhai oblegid rhyfeloedd a ganlynasant.
º11 Canys hwn, wedi cymryd arno y deyrnas, a osododd ryw un a elwid Lysias i
fod yn olygwr ar ei faterion, ac a'i pwyntiodd ef yn ben-capten ar Celo-Syria a
Phenice.
º12 Canys Ptolemeus, yr hwn a enwas-id Macron, a'i fryd ar wneuthur cyf-iawnder
a'r Iddewon, oblegid y cam a wnaethai iddynt, a aeth ynghylch dwyn eu materion
hwy i ben yn heddychol.
º13 Am hynny efe a gyhuddwyd gerbron Eupator gan ei geraint, ac efe a alwyd yn
fynych yn fradychwr, oblegid gadael ohono Cyprus, yr hon a roddasai Philometor
yn ei gadwraeth ef, a myned ohono at Antiochus Epiffanes: am hynny pan welodd
nad ydoedd mewn bri ardderchog, efe a ddigalonnodd, ac a'i gwenwynodd ei hun,
ac a fu farw.
º14 Ond pan wnaethpwyd Gorgias yn ben-llywydd ar y lleoedd hyn, efe a gyflogodd
estroniaid, ac a ryfelodd yn wastad yn erbyn yr Iddewon.
º15 Yr Idumeaid hefyd a flinent yr Iddewon, gan enmll y lleoedd cedyrn; a thrwy
dderbyn y rhai a yrrid ar herw o Jerwsalem, hwy a ymroddasant i gadw rhyfel.
º16 Am hynny y rhai oedd gyda Mac-abeus, trwy weddio a ddeisyfasant ar Dduw fod
yn gymhorthwr iddynt: ac yna hwy a ruthrasant ar gedyrn leoedd yr Idumeaid.
º17 I'r rhai pan redasant yn rymus, hwy a enillasant yr amddiffynfeydd; ac wedi
iddynt ddal ar yr holl rai oedd ar y gaer, hwy a laddasant y rhai a
gyfarfyddent, ac a ddieneidiasant nid llai nag ugain mil.
º18 Canys pan gydffoesai naw mil o'r lleiaf i ddau gastell cadarn dros ben, gan
fod ganddynt bob peth angenrheid-iol i ddioddef y gwarchae,
º19 Macabeus a adawodd Simon, a Joseff, a Saccheus hefyd, a'r rhai oedd gyda
hwynt, i amgylchu y tyrau, ac a aeth ei hun lie yr oedd mwy o eisiau.
º20 Ond y rhai oedd gyda Simon, am eu bod yn chwannog i arian, a lygrwyd ag
arian gan y rhai oedd yn y tyrau: ac • wedi cymryd deng mil a thrigain o
ddrachmau, hwy a adawsant i rai ffoi.
º21 Pan fynegwyd i Macabeus yr hyn a wnaethid, efe a gynullodd ynghyd
bendefigion y bobl, ac a achwynodd arnynt ddarfod iddynt werthu eu brodyr am
arian, gan ollwng eu gelynion yn rhydd i ymladd yn eu herbyn hwynt.
º22 Am hynny efe a'u lladdodd hwynt, wedi eu cael yn fradwyr, ac yn ddisymwth
efe a enillodd y ddau dwr hynny.
º23 A chan gael llwyddiant a'i arfau yn yr holl bethau a gymerodd efe mewn
llaw, efe a laddodd fwy nag ugain mil yn y ddwy amddiffynfa hynny.
º24 Timotheus hefyd, yr hwn a ddarfuasai i'r Iddewon ei orchfygu o'r blaen,
wedi casglu llawer o luoedd di-eithr, a llawer o wyr meirch o Asia, a ddaeth
megis ar fedr ennill Jwdea wrth arfau.
º25 Ond y rhai oedd gyda Macabeus, pan ydoedd efe yn nesau, a droesant i weddio
ar Dduw, ac a daenasant bridd ar eu pennau, ac a wregysasant eu llwyn-au a
sachliain,
º26 Ac a syrthiasant i lawr wrth droed yr allor, ac a atolygasant iddo
drugarhau wrthynt, a bod yn elyn i'w gelynion; a gwrthwynebu eu gwrthwynebwyr,
megis ag y mynega'r gyfraith.
º27 Ac wedi diweddu'r weddi, hwy a gymerasant eu harfau, ac a aethant ymhellach
oddi wrth y ddinas: a phan ddaethant yn agos at eu gelynion, hwy a arosasant ar
eu pennau eu hun.
º28 Yr awron pan ymddangosodd cyfodiad haul, hwy a aethant ill dau ynghyd; y
naill ran a chanddynt ynghyd a'u rhinwedd, yr Arglwydd yn noddfa, ac yn wystl
llwyddiant a buddugoliaeth; a'r tu arall yn gwneuthur eu llid yn llywydd eu
rhyfel.
º29 A phan oedd y gad yn dost, fe a ymddangosodd i'r gelynion o'r nef, bum gwr
harddwychion ar feirch a ffrwynau aur, a dau ohonynt a flaenorasant yr Iddewon;
º30 Ac a gymerasant Macabeus rhyng-ddynt, ac a'i gorchuddiasant o bob tu a'u
harfau, ac a'i cadwasant yn ddiniwed; eithr saethasant bicellau a mellt yn
erbyn y gelynion: am hynny wedi eu myned yn benbleth gan ddall-ineb, ac yn
llawn trailed, hwy a gwympwyd.
º31 Ac fe laddwyd o wyr traed ugain mil a phum cant, ac o wyr meirch chwe
chant.
º32 Ond am Timotheus, efe a ffodd i amddiffynfa gadarn a elwid Gasara, lie yr
ydoedd Chereas yn llywydd.
º33 Ond y rhai oedd gyda Macabeus a amgylchynasant yr amddiffynfa yn galonnog
bedwar diwrnod.
º34 A'r rhai oedd oddi mewn yn ym-ddiried yng nghadernid y lie, a gablasant
º226
º227 yn ddirfawr, ac a ddywedasant eiriau ffiaidd.
º35 Ond pan oleuodd hi y pumed dydd, ugain o wyr ieuainc o'r rhai oedd gyda
Macabeus, yn llosgi yn eu meddyliau oblegid y cablau, a osodasant ar y gaer yn
wrol, ac & meddwl gwyllt-aidd a laddasant bob un a gyfarfyddai a hwynt.
º36 Eraill yr un modd yn dringo ar eu hoi hwynt, tra'r oeddynt hwy yn brysur
£'r rhai oedd oddi mewn, a losgas-ant y tyrau, ac wedi cynnau tSn a losgas-ant
y cablwyr yn fyw; ac eraill a dorasant y pyrth, ac wedi iddynt dderbyn i mewn y
darn arall o'r llu, a enill-asant y ddinas,
º37 Ac a laddasant Timotheus, yr hwn oedd wedi ymguddio mewn rhyw geu-ffos, a'i
frawd Chereas, ac Apoloffanes.
º38 Wedi darfod iddynt wneuthur y pethau hyn, hwy a folianasant yr Arglwydd a
hymnau, ac & rhoddi diolch, yr hwn a wnaethai bethau cymaint i Israel, ac a
roddasai iddynt yr oruchaf-iaeth.
ºPENNOD II
º1 AR fyrder o amser yn ôl hyn, Lysias •**• goruchwyliwr y brenin, a'i gar, yr
hwn hefyd oedd lywydd ar ei faterion ef, a gymerth ddigofaint mawr am y pethau
a wnaethid.
º2 Ac wedi iddo gasglu ynghyd ynghylch pedwar ugain mil, a'r holl wyr meirch,
efe a ddaeth yn erbyn yr Idd-ewon, a°i fryd ar wneuthur y ddinas yn breswylfa
i'r Groegwyr;
º3 A gwneuthur elw o'r deml, fel o gapelau eraill y Cenhedloedd, ac ar osod ar
werth yr archoffeiriadaeth bob blwyddyn:
º4 Heb feddwl dim am allu Duw, ond yn ynfyd yn ei feddwl oherwydd ei fyrddiwn o
wyr traed, a'i filoedd o wyr meirch, a'i bedwar ugain eliffant.
º5 Felly efe a ddaeth i Jwdea, ac a nes-aodd at Bethsura, yr hon ydoedd dref
gadarn o fewn pum ystad i Jerwsalem, ac a'i blinodd hi.
º6 Ond pan glybu y rhai oedd gyda Macabeus warchae ohono ef ar yr
amddiffynfeydd, hwy a'r holl bobl trwy lefain a dagrau a weddiasant ar Dduw, ar
iddo ef ddanfon angel da i waredu Israel.
º7 Yna Macabeus, gan gymryd arfau yn gyntaf ei hunan, a gysurodd eraill i
gyd-ddwyn y perygl ag ef i helpu eu brodyr: felly hwy a ruthrasant gyd-a hwynt
yn ewyllysgar.
º8 Ac fel yr oeddynt gerllaw Jerwsalem, fe ymddangosodd iddynt o'u blaen wr ar
farch, mewn gwisg wen, yn ys-gwyd ei arfau euraid.
º9 Yna pawb ohonynt a gydogoneddodd y trugarog Dduw, ac a gymerasant galonnau
grymus, fel yr oeddynt barod i ymladd, nid yn unig 3 gwyr, ond hefyd S'r
anifeiliaid gwylltaf, ac i drywanu y muriau heyrn.
º10 Felly hwy a aethant rhagddynt mewn byddin, &. helpwr o'r nefoedd
ganddynt: oblegid yr Arglwydd a gym-erasai drugaredd arnynt.
º11 A than ruthro ar eu gelynion megis llewod, hwy a laddasant un fil ar ddeg o
wyr traed, a mil a chwe chant o wyr meirch, ac a yrasant y lleill oll i ffo.
º12 Llawer ohonynt wedi eu clwyfo a ddianghasant yn noethion: a Lysias ei hun a
ffoes trwy gywilydd, ac felly a ddihangodd.
º13 Ac fel nad oedd efe yn wr angall, gan feddylied ynddo ei hun pa golled a
gawsai, a chan gydsynied fod yr Heb-reaid heb allel eu gorfod, am fod yr
hollalluog Dduw yn eu helpu hwy, efe a ddanfonodd atynt,
º14 Ac a'u perswadiodd hwy i gytuno i bob peth rhesymol, ac a add-awodd am
hynny y deuai efe, ac y gyrrai y brenin i fod yn ffafrus iddynt.
º15 Yna Macabeus a gytunodd i bob peth a ddeisyfodd Lysias, gan ofalu am y budd
cyffredinol: a pha beth bynnag a sgrifennodd Macabeus at Lysias dros yr
Iddewon, hynny a ganiataodd y brenin.
º16 Oblegid yr oedd llythyrau wedi eu hysgrifennu at yr Iddewon oddi wrth
Lysias fel hyn: Lysias yn anfon an-nerch at bobl yr Iddewon:
º17 loan ac Absalom, y rhai a yrrwyd oddi wrthych, a roddasant ataf fi yr ateb
sgrifenedig, ac a ddymunasant arnaf fi gyflawni y pethau yr oedd hwn-nw yn eu
harwyddocau.
º18 Am hynny pa bethau bynnag ydoedd raid eu hadrodd i'r brenin, mi a'u
mynegais hwy, a pha beth bynnag a fai gyffelybol ei wneuthur, efe a'i
caniataodd.
º19 Am hynny os cedwch chwi yr ewyllys da hwn, yn y materion hyn, ie, yn ôl hyn
hefyd, mi a wnaf egni ar fod yn achos o ddaioni i chwi.
º20 Ond am y pethau hyn oll ar eu pennau, mi a rois orchymyn i'r rhain, ac i'm
cenhadau innau, i gydymddi-ddan a chwi.
º21 Byddwchiach. Y ganfed a'rwythfed flwyddyn a deugain, y pedwerydd dydd ar
hugain o'r mis Dioscorinthius.
º22 Ond llythyr y brenin ydoedd fel hyn: Antiochus frenin yn danfon an-nerch at
ei frawd Lysias:
º23 Wedi i'n tad ni ymadael oddi yma at y duwiau, ein hewyllys ni yw bod
preswylwyr ein teyrnas yn ddigyffro, fel y gallo pawb ofalu am yr eiddo ei hun.
º24 Yn gymaint ag i ni glywed i'r Iddewon,/y rhai ni chytunent &'t
cyfnewidiad a wnaethai fy nhad yn ôl arfer y Groegwyr, ond oedd well ganddynt
eu harfer eu hun, fod yn dymuno caniatSu iddynt fyw yn ôl eu cyfreith-iau eu
hun.
º25 O achos hynny ein hewyllys ni yw, cael o'r genedl yma fod yn ddiderfysg: ac
ni a roesom ein bryd ar edfryd iddynt eu teml, fel y gallont fyw yn ôl arferau
eu hynafiaid.
º26 O achos hynny da y gwnei os dan-foni atynt, a rhoi dy ddeheulaw iddynt,
megis pan wypont ein meddwl ni, y byddont gysurus, ac y gallont drin yn hyfryd
eu materion eu hun.
º27 Ac fel hyn yr oedd llythyr y brenin at genedl yr Iddewon: Antiochus frenin,
at y cyngor, ac at yr Iddewon eraill, sydd yn danfon annerch:
º28 Os iach ydych, ein dymuniant yw; iach ydym ninnau hefyd.
º29 Menelaus a ddangosodd i ni, fod eich deisyfiad chwi i droi adref, ac i drin
eich materion eich hun.
º30 Am hynny y sawl a ymadawant, a gant addewid rfyddlon, trwy ddiofalwch hyd y
degfed dydd ar hugain o fis Csanthicus:
º31 Fel y gallo'r Iddewon fwynhau eu bwydydd eu hunain a'u cyfreithiau, megis
o'r blaen, ac na chaffo neb ohonynt flinder am bethau a wnelid yn amryfus.
º32 Ac mi a yrrais hefyd Menelaus i'ch cysuro chwi.
º33 Byddwch iach. Y ganfed a'r wyth-fed flwyddyn a deugain, a'r pymthegfed dydd
o fis Csanthicus.
º34 Danfon hefyd a wnaeth y Rhufeinwyr lythyr atynt, yn cynnwys y geiriau hyn:
Cwintus Memmius, Titus Manlius, cenhadau y Rhufeinwyr, at bobl yr Iddewon, sydd
yn danfon annerch:
º35 Y pethau a ganiataodd Lysias carwr y brenin i chwi, yr ydym ninnau hefyd yn
eu caniatau.
º36 Eithr am y pethau y mae efe yn barnu eu bod i'w rhoi ar y brenin, gyrrwch
yn fuan ryw un i ystyried y pethau hyn, fel y gallom ni fynegi y modd a fyddo
addas i chwi: canys yr ydym ni yn myned i Antiochia.
º37 Am hynny brysiwch, a gyrrwch ryw rai, fel y gallom wybod eich meddwl.
º38 Byddwch iach. Y ganfed a'r wyth-fed flwyddyn a deugain, a'r pymthegfed dydd
o fis Csanthicus.
ºPENNOD 12
º1 WEDI gwneuthur yr amodau hyn, Lysias a aeth at y brenin, a'r Iddewon oeddynt
ynghylch eu hws-monaeth. 2 Ond o'r llywodraethwyr ar amryw leoedd, Timotheus,
ac Apolonius mab Genneus, hefyd Hieronymus, a Demo-ffon, ac heblaw y rhain, Nicanor
pen-naeth Cyprus, ni ddioddefent iddynt orffwys a byw yn llonydd.
º3 Gwyr Jope hefyd a ddibenasant y weithred annuwiol; hwy a ddymunas-ant ar yr
Iddewon oedd yn trigo gyd-a hwynt, ar iddynt hwy, a'u gwragedd, a'u plant,
fyned i ysgraff a baratoesent hwy, megis pe buasai heb fod creulon-deb calon yn
eu herbyn hwynt.
º4 Felly yn ôl cyfundeb y ddinas, hwy a fuant fodlon i'r peth, fel gwyr yn
dymuno heddwch, ac heb ddrwgdybied dim; ond wedi iddynt fyned i'r dyfn-der, hwy
a foddasant ohonynt nid llai na dau cant o wyr.
º5 Pan glybu Jwdas wneuthur creulon-deb yn erbyn gwyr ei wlad, efe a
orch-mynnodd i'r gwyr oedd gydag ef eu gwneuthur eu hunain yn barod.
º6 Ac wedi galw ar Dduw, y Barnwr , cyfiawn, efe a ddaeth yn erbyn lladdwyr ei
frodyr, ac a losgodd y porthladd o hyd nos, ac a losgodd yr ysgraffau, ac a
laddodd y rhai a ffoesent yno.
º7 A phan oedd y dref wedi ei chau o amgylch, efe a aeth yn ei ôl megis ar fedr
dyfod eilwaith, a diwreiddio allan yr holl rai o ddinas Jope.
º8 Ond pan ddeallodd efe fod y Jamn-iaid ar fedr dwyn i ben yr unrhyw beth yn
erbyn yr Iddewon oedd yn trigo gyda hwynt,
º9 Efe a ddaeth am ben y Jamniaid hefyd o hyd nos, ac a losgodd y porthladd a'r
llongau, yn gymaint ag y gwelwyd llewyrch y tan hyd yn Jerwsa-lem, ddau gant a
deugain ystad oddi yno.
º10 A phan aethant oddi yno naw ystad, yn eu taith yn erbyn Timotheus, fe a
ruthrodd o'r Arabiaid arno ef, nid llai na phum mil o wyr traed, a phum cant o
wyr meirch.
º11 A hwy a ymladdasant yn dost: eithr rhyfelwyr Jwdas trwy gymorth Duw a
gawsant y fuddugoliaeth; felly y Nomadiaid o Arabia wedi eu gorch- fygu a
ddeisyfasant ar Jwdas roi ei ddeheulaw iddynt, dan addo rhoi iddo anifeiliaid,
a bod yn fuddiol iddo mewn pethau eraill.
º12 A Jwdas yn tybied y byddent fuddiol iddo mewn llawer o bethau, a
gan-iataodd iddynt heddwch: a phan ysgydwasant ddwylo, hwy a ymadawsant i'w
pebyll.
º13 Efe a ddaeth hefyd am ben rhyw ddinas wedi ei chadarnhau a phont, a'i
chwmpasu a chaerau, yr hon a gyfanheddid gan lawer o genhedloedd cymysgedig, yr
hon a elwid Caspis.
º14 Ond y rhai o'i mewn yn hyderu yng nghadernid eu caerau, ac yn eu stor o
fwydydd, a fuant anniesgeulus, ac a ymserthasant a'r rhai oedd gyda Jwdas, ac
a'u cablasant hwy, ac a ddywedasant eiriau anghyfreithlon eu dywedyd.
º15 Am hynny Jwdas a'r rhai oedd gydag ef, gan alw ar Benadur mawr y byd, yr
hwn heb na hyrddod, nac offer rhyfel, a fwriodd i lawr Jericho yji amser Josua,
a ruthrasant yn awchus yn erbyn y caerau, \
º16 Ac a orchfygasant y ddinas \rwy ewyllys Duw, ac a wnaethant laddfa
anguriol; yn gymaint a bod llyn gerllaw, yr hwn oedd ddau stad o led, wedi
colli gwaed ynddo, hyd onid oedd yn llawn.
º17 Hwy a aethant oddi yno saith gant a deg a deugain o stadiau, ac a
ddaeth-ant i Characa, at yr Iddewon a elwir Tubieni.
º18 Ond yn wir ni chawsent afael ar Timotheus yn y lleoedd hynny: oblegid efe a
aethai ymaith oddi yno heb ddwyn dim i ben; ond efe a adawsai lu mewn rhyw
amddiffynfa, yn gryf iawn dros ben.
º19 Eto Dositheus a Sosipater, y rhai oedd o gapteiniaid Macabeus, a aethant
rhagddynt, ac a laddasant o'r rhai a adawsai Timotheus yn yr amddiffynfa, fwy
na deng mil o wyr.
º20 Macabeus a osododd ei lu yn finteioedd, ac a'u gosododd hwynt ar y
minteioedd, ac a aeth yn erbyn Timotheus, yr hwn yr oedd yn ei gylch gant ac
ugain mil o wyr traed, a dwy fil a phum cant o wyr meirch.
º21 Ond Timotheus, pan gafodd wybod-aeth o ddyfodiad Jwdas, a ddanfonodd y
gwragedd, a'r plant, a'r glud arall, i'r amddiffynfa a elwir Carnion; o-blegid
y lie hwnnw oedd anodd ei gwm-pasu, a dyfod i mewn iddo, o achos y cyfyngleoedd
o bob tu.
º22 Eithr pan ymddangosodd blaen cad Jwdas, y gelynion, wedi eu taro ag ofn a
dychryn, trwy ymddangosiad yr un sydd yn gweled pob peth, a ffoesant am yr
einioes, gan redeg y naill yma, a'r llall acw, fel y cawsant yn fynych eu
clwyfo gan eu pobl eu hunain, a'u gwanu a blaen eu cleddyfau eu hunain.
º23 Am hynny yr erlidiodd Jwdas yn dostach, ac y gwanodd efe y rhai halog-edig
hynny, hyd oni laddodd efe ohonynt ynghylch deng mil ar hugain o wyr.
º24 Hefyd Timotheus ei hunan a syrth-iodd yn nwylo Dositheus a Sosipater, a
thrwy fawr ddichell a ddeisyfodd arnynt ei ollwng ef yn rhydd yn fyw, am fod
dan ei law ef dadau llawer o'r Iddewon, a brodyr rhai ohonynt, ac y di-gwyddai
na byddai gyfrif am y rhai hynny os lleddid ef.
º25 Felly pan roesai efe iddynt sic-rwydd trwy laweroedd o eiriau, ar iddo ef
eu rhyddhau hwynt heb niwed, yn ôl y cytundeb, hwy a'i gollyngasant ef yn rhydd
er mwyn iachawdwriaeth eu brodyr.
º26 Yna'r aeth Macabeus yn erbyn Carnion, a theml Atargatis, ac a laddodd yno
bum mil ar hugain o wyr.
º27 Ac wedi iddo eu gyrru i ffoi, a'u dinistrio hwynt, efe a symudodd ei lu yn
erbyn Effron, tref gadarn, yn yr hon yr oedd Lysias yn aros, a lliaws mawr o
amryw genhedloedd; a'r gwyr ieuainc grymus a gadwasant y caerau, ac a'u
hamddiffynasant yn bybyr; lie yr oedd hefyd fawr barodrwydd o offer rhyfel a
phicellau.
º28 Ond wedi iddynt alw ar yr holl-alluog Dduw yr hwn sydd a'i nerth yn gwanhau
grym ei elynion, hwy a en-illasant y ddinas, ac a laddasant o'r rhai oedd ynddi
bum mil ar hugain.
º29 Ac oddi yno yr aethant i Scythopolis, yr hon sydd oddi wrth Jerwsa-lem chwe
chant ystad.
º30 Ond wedi i'r Iddewon oedd yno yn preswylio dystiolaethu mor dda oedd
ewyllys y Scythopoliaid tuag atynt, ac mor garedig a fuasent iddynt yn
amseroedd eu blinfyd,
º31 Hwy a roesant ddiolch iddynt, gan ddeisyf arnynt fod yn gymwynasgar i'w
cenedl rhag llaw: ac felly am fod yn gyfagos wyl yr wythnosau, hwy a ddaethant
i Jerwsalem.
º32 Ac wedi'r wyl a elwir Pentecost, hwy a aethant yn erbyn Gorgias capten
Idumea,
º33 Yr hwn a ddaeth allan a thair mil o wyr traed, ac a phedwar cant o wyr
meirch.
º34 Ac fe ddigwyddodd, wrth ymladd ohonynt ynghyd, ladd ambell un o'r Iddewon.
º35 Ar yr hwn amser Dositheus, un o lu Bacenor, yr hwn oedd ar farch, ac yn wr
grymus, a ddaliodd Gorgias, ac a'i ilusgodd ef yn rymus erbyn ei gochl; ond ac
efe a'i ewyllys ar ddal y gwr melltigedig hwnnw yn fyw, fe ddaeth arno ef ryw
wr march o Thracia, ac a dorrodd ymaith ei ysgwydd ef, fel y dihangodd Gorgias
i Marisa.
º36 A phan oedd y rhai oedd o amgylch yn ddiffygiol i ymladd ychwaneg, Jwdas a
alwodd ar yr Arglwydd, ar iddo ef ei ddangos ei hun yn helpwr iddynt, ac yn
flaenor i'r gad.
º37 Ac ar hynny efe a ddechreuodd yn ei iaith ei hun, ac a ganodd salmau a lief
uchel; a chan ruthro yn ddisymwth am ben rhyfelwyr Gorgias, efe a'u gyrrodd hwy
i ffoi.
º38 Felly Jwdas, dan gasglu ei lu, a ddaeth i ddinas Odolam: a phan ddaeth y
seithfed dydd, fel yr oedd yr arfer, hwy a'u glanhasant eu hunain, ac a
gadwasant y dydd Saboth yn y lie hwnnw.
º39 A'r ail dydd, fel yr oedd anghen-raid, Jwdas a'i lu a ddaethant i ddwyn
ymaith gyrff y rhai a laddasid, ac i'w claddu hwynt gyda'u cyfheseifiaid, ym
meddau eu tadau.
º40 Yr awron dan beisiau pob un o'r rhai a laddasid, hwy a gawsant bethau wedi
eu cysegru i eilunod y Jamniaid, yr hyn sy waharddedig i'r Iddewon yn ôl y
gyfraith: yna fe welodd pawb mai hyn oedd yr achos paham y lladd-esid hwy.
º41 Yna pawb a roes ddiolch i'r Arglwydd y Barnwr cyfiawn, yr hwn a wnaethai y
pethau cuddiedig yn am-Iwg;
º42 Ac a droesant at eu gweddi, ac a ddeisyfasant arno ef ddileu yn gwbl y
pechod a wnaethent. A Jwdas ardderchog a gynghorodd i'r gynulleidfa ym-gadw yn
Ian oddi wrth bechod, gan iddynt weled a'u llygaid y pethau a ddaethai i ben am
bechod y rhai a laddasid.
º43 Ac wedi iddo ddarpar treth o ddwy fil o ddrachmau o arian, efe a ddanfonodd
i Jerwsalem i offrymu aberth dros bechod; gan wneuthur yn dda ac yn onest, o
achos ei fod yn meddwl am yr atgyfodiad:
º44 Oblegid oni buasai iddo ef obeithio atgyfodiad y rhai a laddesid, afraid ac
ofer fuasai weddi'o dros y meirw:
º45 A hefyd am iddo ddeall fod ffafr yng nghadw i'r rhai a fuasai feirw yn
dduwiol; (sanctaidd a duwiol oedd y meddwl:) trwy hyn efe a wnaeth gymod dros y
meirw, fel y rhyddheid hwy oddi wrth bechod.
ºPENNOD 13
º1 YN y ganfed a'r nawfed 'flwyddyn a deugain y daeth y gair at Jwdas, fod
Antiochus Eupator yn dyfod a gallu mawr i Jwdea;
º2 A chydag ef Lysias ei oruchwyl-iwr, a llywydd yn ei faterion, a chan bob un
ohonynt yn ei lu o'r Groegwyr gant a dengmil o wyr traed, a phum mil o wyr
meirch, a dau eliffant ar hugain, a thri chant o gerbydau bachog.
º3 Ac fe ymgysylltodd atynt Mene-laus hefyd, a thrwy fawr watwar a gynghorodd
Antiochus, nid er diogelwch i'r wlad, ond oherwydd iddo feddwl cael bod ei hun
yn benadur.
º4 Ond Brenin y brenhinoedd a gynhyrfodd feddwl Antiochus yn erbyn y gwr
ysgeler hwn: a phan ddangosodd Lysias i'r brenin mai hwn oedd achos yr holl
ddrygioni, efe a orchmynnodd, fel yr oedd yr arfer yn y lie hwnnw, ei ddwyn ef
i Berea, a'i ddifetha ef.
º5 Y mae hefyd yn y lie hwnnw dwr o ddeg cufydd a deugain o uchder, yn llawn o
ludw, yn yr hwn yr oedd rhyw offeryn crwn, o bob tu yn llithro i lawr ar y
lludw.
º6 Yno y gyrrai pawb i farwolaeth y neb a fernid yn euog o gysegrladrad, a'r
neb a wnaethai weithredoedd drwg eraill.
º7 O'r farwolaeth yma y digwyddodd i'r gwr annuwiol hwnnw farw, heb gael
cymaint a daear i'w gorff, a hynny yn wir gyfiawn:
º8 Canys yn gymaint ag iddo ef wneuthur llawer o bechodau ynghylch yr allor
oedd a'i than a'i lludw yn sanctaidd, efe a ddioddefodd farwolaeth mewn lludw.
º9 Yr awron y brenin a ddaeth & meddwl gwyllt a balch, i wneuthur rhyw
ddialedd ar yr Iddewon, yr hwn nis gwnaethid erioed yn amser ei dad.
º10 Ond pan wybu Jwdas hynny, efe a orchmynnodd i'r lliaws alw ar yr Arglwydd
ddydd a nos, os helpiasai ef hwynt amser arall erioed, ar iddo yn awr helpio y
rhai oedd debyg i golli eu cyfraith, eu gwlad, a'u teml sanctaidd;
º11 Ac na adawai efe y bobl a gawsent yr awron ychydig lonyddwch, i'w darostwng
i'r Cenhedloedd cablgar.
º12 Ac wedi i bawb ohonynt gydwneuthur yr un peth, ac ymbil a'r Arglwydd
trugarog trwy wylofain ac ym-pryd, dan orwedd ar y llawr dri diwrnod yn
ddi-baid, Jwdas a'u cynghorodd hwy, ac a orchmynnodd iddynt fod yn barod.
º13 Ac fel yr oedd efe gyda'r henuriaid o'r neilltu, efe a fwriadodd, cyn i lu
y brenin ruthro i Jwdea, a chael meddiannu y ddinas, fyned ohonynt hwy allan, a
phrofi y materion mewn ymdrech trwy help yr Arglwydd.
º14 Felly gan orchymyn y cwbl i Greawdwr y byd, efe a gynghorodd i'r neb oedd
gydag ef ymladd yn rymus, hyd farwolaeth, yng nghweryl eu cyf-reithiau, eu
teml, eu gwlad, a'u cyfoeth cyffredin, ac a wersyllodd wrth Modin.
º15 Yna wedi rhoddi ohono ef i'w ryfelwyr yn arwydd, Goruchafiaeth sydd 0 Dduw;
gyda'r gwyr ieuainc gwrolaf a dewisol, efe a aeth liw nos i babell y brenin, ac
a laddodd yn y gwersyll ynghylch dwy fil o wyr, a'r pennaf o'r eliffantiaid,
a'r hyn oll oedd arno ef.
º16 Ac o'r diwedd hwy a lanwasant yr holl wersyll ag ofn a thrallod, ac a
ym-adawsant yn llwyddiannus.
º17 Hyn a wnaethpwyd ar y bore-ddydd, am fod amddiffyn yr Arglwydd yn ei
gynorthwyo ef.
º18 Yr awron pan gafodd y brenin brawf o hyfder yr Iddewon, efe a aeth ynghylch
ennill yr amddiffynfeydd trwy gyfrwystra;
º19 Ac a aeth i Bethsura, amddiffynfa gadarn yr Iddewon; ond efe a yrrwyd
º1 ffoi, a dramgwyddodd, ac a wanhawyd.
º20 Canys Jwdas a ddanfonasai i'r rhai oedd ynddi y cyfryw bethau ag oedd
angenrheidiol.
º21 Ond Rhodocus, o lu yr Iddewon, a ddatguddiodd y cyfrinachau i'r gelynion:
am hynny hwy a chwih'asant am-dano; a phan gawsant ef, hwy a'i rhoes-ant yng
ngharchar.
º22 Y brenin a ymddiddanodd yr ail waith a hwynt yn Bethsura, a roes ei law ei
hun, a gymerth eu rhai hwythau, a aeth ymaith, a ymladdodd a Jwdas, a
orchfygwyd;
º23 A phan wybu wrthryfela o Philip, yr hwn a adawsid ar y materion yn
Antiochia, efe a gywilyddiodd, a ymbil- iodd si'r Iddewon, a ymostyngodd, a
dyngodd iddynt ym mhob peth cyf-iawn, a dangnefeddodd, a offrymodd aberth, a
anrhydeddodd y deml, ac a fu gymwynasgar i'r lie,
º24 Ac a gofleidiodd Macabeus, a'i gwnaeth ef yn llywodraethwr pennaf ar
Ptolemais hyd y Gerrheniaid,
º25 A ddaeth i Ptolemais. Yr oedd yn anfodlon gan bobl Ptolemais yr amodau;
canys hwy a ffromasant oherwydd eu bod hwy yn chwennych torri eu hamodau.
º26 Lysias a aeth i fyny i'r orseddfa, a amddiffynnodd y weithred yn drefnus,
a'u henillodd, a'u llonyddodd, a'u gwnaeth hwynt yn ewyllysgar, a ddychwelodd i
Antiochia. Fel hyn y damweiniodd taith y brenin a'i ddychweliad.
ºPENNOD 14
º1 YN ôl tair blynedd y daeth y gair at Jwdas, fod Demetrius mab Seleucus wedi
dyfod i mewn trwy borthladd Tripolis, a chynulleidfa rymus ac a llongau,
º2 Goresgyn y wlad, a lladd Antiochus a'i oruchwyliwr Lysias.
º3 Yr awron un Alcimus, yr hwn a fuasai yn archoffeiriad, ac o'i wirfodd a
ymddifwynasai yn amseroedd eu cymysgiad a'r Cenhedloedd, pan dybiodd nad ydoedd
help iddo, na bod yn rhydd mwyach fyned i'r allor sanctaidd,
º4 A ddaeth at y brenin Demetrius, yn y ganfed a'r unfed flwyddyn ar ddeg a
deugain, gan roddi iddo goron o aur, a phalmwydden, a hefyd o'r ceinciau a
arferid ar wyliau yn y deml: a'r dydd hwnnw efe a dawodd a son.
º5 Ond pan gafodd efe amser cyfaddas i'w ynfydrwydd, a chael gan Demetrius alw
amdano ef i'r cyngor, a gofyn iddo ym mha gyflwr a pha gyngor yr oedd yr
Iddewon yn sefyll, efe a at-ebodd i hynny;
º6 Y rhai o'r Iddewon a elwir Assid-eaid, ar ba rai y mae Jwdas Macabeus yn
gapten, sydd yn magu rhyfel ac ym- ryson, ac ni adawant i'r deyrnas fod yn
heddychol;
º7 Oherwydd hynny myfi, wedi fy ysbeilio am anrhydedd fy hynafiaid, (yr wyf yn
meddwi yr archoffeiriadaeth,) yr awron a ddeuthum yma;
º8 Yn gyntaf yn wir, oblegid bod gen-nyf feddwl ffyddlon at y pethau a berthyn
i'r brenin; yn ail, oblegid fy mod yn ymroddi i geisio budd i'm dinaswyr:
oblegid y mae anrheswm y rhai y dywedwyd amdanynt yn blino nid ychyd-jg ar ein
holl genedl ni.
º9 Am hynny, O frenin, gan dy fod di yn gwybod yr holl bethau hyn, cym-er ofal
dros y wlad, a'n cenedl ni, yr hon sy mewn ing, a'r fath fwynder ag yr wyt ti
yn ei ddangos i bawb:
º10 Oblegid tra fyddo Jwdas yn fyw, nid yw bosibl i'r materion gael heddwch.
º11 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, yn y fan cyfeillion eraill, y rhai oedd mewn
gelyniaeth a Jwdas, a enynasant Demetrius yn fwy.
º12 Ac yn ebrwydd gan alw Nicanor, yr hwn a fuasai yn llywydd ar yr
eli-ffantiaid, a'i wneuthur ef yn llywod-raethwr ar Jwdea, efe a'i gyrrodd allan.
º13 Gan roi iddo lythyrau i ladd Jwdas, ac i yrru y rhai oedd gydag ef ar
wasgar, ac i wneuthur Alcimus yn archoffeiriad i'r deml fawr.
º14 Yna y Cenhedloedd, y rhai a ffoes-ent o Jwdea oddi wrth Jwdas, a
ym-gasglasant yn dyrfaoedd at Nicanor, gan dybied fod blinder a chwymp yr
Idd-ewon yn llwyddiant iddynt hwy.
º15 Ond pan glybu'r Iddewon ddyfod Nicanor, ac ymgasglu o'r Cenhedloedd yn eu
herbyn, hwy a daflasant ddaear ar eu pennau, ac a weddiasant ar yr hwn a
sicrhasai ei bobl dros byth, ac sy'n amddiffyn ei ran ei hun bob amser, trwy
amlygu ei bresenoldeb.
º16 Felly wrth orchymyn y capten, yn y fan hwy a symudasant oddi yno, ac a
gyfarfuant a hwynt wrth dref Dessaro.
º17 Yr awron Simon brawd Jwdas a gyfarfuasai a Nicanor mewn rhyfel; ond fe a
synnodd arno ef beth wrth ddisymwth ddistawrwydd y gelynion.
º18 Er hynny pan glybu Nicanor ddevvrder y rhai oedd gyda Jwdas, gwroldeb i
ymdrech yng nghweryl eu gwlad, efe a ofnodd ddibennu y mater trwy ryfel.
º19 Am hynny efe a ddanfonodd Posidonius, a Theodotus, a Matheias, i wneuthur
tangnefedd.
º20 Ac wedi cymryd ohonynt hir gyngor am y pethau hyn, ac i'r capten wneuthur y
lliaws yn gydnabyddus a hwynt, ac ymddangos eu bod hwy o'r un meddwl, hwy a
gytunasant i'r amodau,
º21 Ac a luniasant ddiwrnod: a phan ddaeth y dydd i ddyfod ynghyd yn
gyfrinachol, ac ystolion wedi eu gosod i bob un ohonynt,
º22 JWdas a osododd wyr arfog baro^I mewn lleoedd cyfleus, rhag i'r gelynion
wneuthur rhyw fradwriaeth yn ddisymwth: felly hwy a wnaethant gydymresymiad
heddychol.
º23 Yna y trigodd Nicanor yn Jerwsa-lem, ac heb wneuthur niwed, efe a ollyngodd
ymaith y bobl a ymgasglasai ato ef yn gadfeydd.
º24 Ac efe a fynnai Jwdas bob amser yn ei olwg: canys yr oedd efe yn caru y gwr
yn ei galon.
º25 Ac efe a ddeisyfodd arno briodi, ac ennill plant: felly efe a briododd, a
fu lonydd, ac a gymerth ran o'r bywyd yma.
º26 Eithr Alcimus, pan ganfu efe ewyllys da'r naill at y llall, ac ystyried yr
amodau a wnaethid, a ddaeth at Demetrius, ac a ddywedodd fod Nicanor yn ymyrryd
mewn materion dieithr; canys Jwdas, eb efe, yr hwn oedd yn cynllwyn am ei
frenhiniaeth ef, a ordein-iodd efe i fod ar ei ôl.
º27 Yna y brenin mewn llidiowg-rwydd, ac wedi ei annog trwy achwynion y gwr
llwyrddrwg hwnnw, a sgrifennodd at Nicanor, gan ddywedyd ei fod ef yn dra
anfodlon i'r amodau, a chan orchymyn iddo ddanfon Macabeus ar frys yn garcharor
i Antiochia.
º28 Pan ddaeth hyn at Nicanor, fe a'i cythryblwyd ef ynddo ei hun yn aruthr, a
blin fu ganddo orfod iddo wneuthur yn ofer yr amodau a fuasai rhyngddyntj a'r
gwr heb fod ar fai yn y byd.
º29 Ond o ran nad oedd gymwys wrthwynebu'r brenin, efe a wyliodd amser cyfaddas
i ddwyn hyn i ben trwy gyfrwystra.
º30 Ond pan welodd Macabeus fod Nicanor yn afrywiocach wrtho, a'r gyfeillach arferol
yn ddrengach, efe a ddeallodd na ddaeth yr afrywiowgrwydd hwnnw o'r meddwl
gorau; am hynny efe a gasglodd lawer o'r rhai oedd yn ei gylch ef, ac a
ymneilltuodd oddi wrth Nicanor.
º31 Y llall hefyd, gan wybod achub ei flaen yn odidog trwy gyfrwystra Jwdas, a
ddaeth i'r deml fawr sanctaidd, ac a orchmynnodd i'r offeiriaid oedd yn
offrymu'r ebyrth cyfaddas, roddi y gwr iddo ef.
º32 Ond pan dyngasant na wyddent pa le yr oedd y gwr yr oedd efe yn ei geisio,
º33 Efe a estynnodd ei ddeheulaw tu-a'r deml, ac a dyngodd fel hyn; Oni roddwch
chwi Jwdas i mi yn rhwym, mi a wnaf y deml hon i Dduw yn gydwastad a'r llawr,
ac a dorraf i lawr yr allor, ac a adeiladaf yma deml odidog i Bacchus.
º34 Ac yn ôl y geiriau hyn efe a aeth ymaith: yna'r offeiriaid a godasant eu
dwylo tua'r nef, ac a alwasant ar yr hwn a fuasai erioed yn amddifiynnwr i'w
cenedl hwy, gan ddywedyd fel hynj
º35 Ti Arglwydd pob peth, yr hwn nid oes arnat eisiau dim, a welaist yn dda fod
teml dy breswylfa yn ein plith ni.
º36 Am hynny yn awr, O Arglwydd sanctaidd pob sancteiddrwydd, cadw byth y ty
yma yn ddihalog, yr hwn yn ddiweddar a lanhawyd, a chae bob genau anghyfiawn.
º37 Yna fe a gyhuddwyd wrth Nicanor, Rasis, un o henuriaid Jerwsalem, gwr yn
caru y ddinas, ac o enw da, yr hwn am ei ewyllys da a elwid yn dad i'r Iddewon:
º38 Canys yn yr amseroedd o'r blaen, pan oeddynt heb eu cymysgu eu hun-ain a'r
Cenhedloedd, efe a gyhuddasid o grefydd Iddewig, ac yn hy a gyn-igiodd dreulio
ei gorff a'i einioes yn ddianwadal er mwyn crefydd yr Iddewon.
º39 Am hynny Nicanor, gan ewyllysio dangos yn eglur ei greulondeb yn erbyn yr
Iddewon, a ddanfonodd ychwaneg na phum cant o ryfelwyr i'w ddal ef:
º40 Canys efe a dybiodd wrth ei ddal ef, y gallai efe ddwyn dinistr ar yr
Iddewon.
º41 Ond pan oedd y dorf &'u bryd ar ennill y twr, ac wrth gryfder ar dorri
i mewn i'r drws nesaf allan, ac yn peri cyrchu tan i'w losgi; efe, pan oeddynt
o bob tu yn ymyl ei ddal, a syrthiodd ar ei gleddyf ei hun;
º42 Gan fod yn well ganddo farw yn wrol, na'i ddarostwng dan y rhai ysgeler
hynny, a goddef traha anweddaidd i'w fonedd.
º43 Ond pan fethodd ganddo gael ei ddyrnod yn union, a'r lliaws hefyd yn
rhuthro i mewn i'r drysau, efe a redodd yn hy i'r gaer, ac a'i bwriodd ei hun
yn wrol bendramwnwgl ymysg y dorf.
º44 Ond pan giliasant hwy yn fuan yn ôl, ac ymrannu, efe a syrthiodd i lawr i'r
gwagle.
º45 Er hynny ac efe eto yn fyw, yn llosgi o lid, efe a gododd i fyny: ac er bod
ei waed yn rhedeg fel ffrydiau, a'i weli'au yn ofidus, eto efe a redodd trwy
ganol yr ymwasg, ac a safodd ym mhen craig uchel:
º46 Wedi yr awron golli ei waed oll, efe a dynnodd allan ei berfedd, ac a'u
cymerth hwy yn ei ddwylo, ac a'u taflodd at y dyrfa: a chan alw ar Arglwydd y
bywyd a'r ysbryd, ar iddo eu rhoddi hwynt iddo drachefh, efe a fu farw fel hyn.
II MACABEAID 15
ºPENNOD 15
º1 OND Nicanor, wrth glywed fod Jwdas a'i lu yn nhueddau Samaria, a ym-rodd heb
ddim perygl i ddyfod ar eu huchaf hwy ar y dydd Saboth.
º2 Er
hynny yr Iddewon,
y rhai a gymhellwyd i'w ganlyn, a
ddywedas-ant, O na ddistrywia mor greulon ac mor anhrugarog; eithr
dyro anrhydedd i'r dydd, yr hwn y darfu i'r hwn sydd yn
gweled pob peth ei anrhydeddu a sanct-eiddrwydd uwchlaw dyddiau eraill.
º3 Yna y dyn ysgeler yma a ofynnodd a ydoedd
un Galluog yn y nef, yr hwn a orchmynasai gadw y dydd Saboth.
º4 A phan atebasant, Y mae yn y nef
Arglwydd bywiol galluog,
yr hwn a orchmynnodd gadw y seithfed dydd;
º5 Yna eb y Hall, A minnau hefyd wyf
alluog ar y ddaear, ac yr wyf yn gorchy-myn
i chwi gymryd
arfau, a dwyn i
ben faterion y
brenin. Er hynny ni allai efe ddwyn i ben ei annuwiol amcan.
º6 Felly Nicanor, gan ymddyrchafu a mawr falchedd, a rodd ei fryd ar wneuth-ur cof o'r oruchafiaeth
a gaffai efe ar Jwdas a'r rhai oedd gydag ef.
º7 Ond Macabeus oedd bob amser yn
ymddiried trwy fawr obaith y byddai'r Arglwydd yn amddiffynnwr iddo:
º8 Am hynny efe a gynghorodd ei wyr
nad ofnent ddyfodiad y Cenhedloedd yn eu herbyn, ond gan fod yn eu
cof y cynhorthwy a gawsent
o'r blaen o'r nef, edrych ohonynt yn awr hefyd am
yr oruchafiaeth a'r
cymorth a ddeuai iddynt oddi wrth yr Hollalluog.
º9 Ac
felly gan eu cysuro
hwy allan o'r gyfraith a'r proffwydi,
ac am ben hynny gan gofio iddynt y rhyfeloedd a wnaethent o'r
blaen yn llwyddiannus, efe a'u gwnaeth hwy'n
Uawenach.
º10 Ac
wedi iddo godi
calonnau yn-ddynt, efe a roddes
iddynt eu siars, gan ddangos hefyd iddynt
ffalster y Cenhedloedd, a thoriad eu llwon.
º11 Felly efe a arfogodd bob un
ohonynt, nid yn gymaint a diogelwch
tar-ianau a gwaywffyn, ag a
chysur trwy
eiriau da: a hefyd efe a ddangosodd iddynt freuddwyd credadwy, ac a'u llawenychodd yn fawr.
º12 A hyn ydoedd ei weledigaeth ef; Fod
Oneias, yr hwn a fuasai yn arch-offeiriad, gwr rhinweddol a da, parched-ig o
ymarweddiad, addfwyn o
naws, ymadroddus hefyd, ac wedi llafurio er yn fachgen ym mhob pwnc o
rinwedd, yn codi ei ddwylo, ac yn gweddio dros holl gorff yr Iddewon.
º13 Pan ddarfu hyn, yn yr un ffunud fe
a ymddangosodd iddo wr penllwyd, yn rhagori mewn gogoniant, yr hwn oedd o
ryfeddol a rhagorol fawredd.
º14 Yna yr atebodd Oneias, gan
ddy-wedyd, Dyma un
sy hoff ganddo
y brodyr, yr hwn sydd yn gweddio llawer dros y bobl a'r
ddinas sanctaidd, sef Jeremeias, prorfwyd Duw.
º15 Ar hynny, fe a estynnodd Jeremeias
ei ddeheulaw, ac a roddodd
i Jwdas gleddyf aur, ac wrth ei
roddi a ddywed-odd fel hyn;
º16 Cymer y cleddyf sanctaidd
yma, rhodd Duw, a'r hwn yr archolli di dy wrthwynebwyr.
º17 Fel hyn wedi eu
cysuro yn dda trwy eiriau Jwdas, y rhai oedd dda iawn
a nerthol i'w cynhyrfu at wroldeb, ac i gysuro
calonnau y gwyr ieuainc, hwy a fwriadasant na wersyllent, ond y
gos-odent arnynt yn rymus, ac yn wrol y dibennent y mater law
i law, yn gymaint a bod y ddinas, y cysegr, a'r
deml, mewn perygl.
º18 Canys yr oedd y gofal a gymeras-ant
hwy am eu gwragedd, a'u plant, eu brodyr,
a'u ceraint, yn y
cyfrif lleiaf gyda hwynt: ond
yr ofn mwyaf
a'r permaf oedd am y deml sanctaidd.
º19 Hefyd yr oedd yn fawr gofal y rhai
oedd yn y ddinas dros y llu ydoedd allan mewn ymdrech.
º20 Ac fel yr oedd pawb
yn disgwyl beth a
fyddai'r diben, a'r
gelynion weithian wedi nesau, a'r llu wedi ym-fyddino, a'r anifeiliaid
wedi eu neilltuo i leoedd cymwys,
a'r gwyr meirch wedi eu cyfleu yn yr esgyll;
º21 Macabeus, gan weled dyfodiad
y lliaws, a'r amryw
baratoad arfau, a chreulondeb y bwystfilod, a estynnodd
allan ei ddwylo tua'r nef, ac a alwodd ar yr Arglwydd yr hwn sydd yn
gwneuth-ur rhyfeddodau; gan
wybod nad yw goruchafiaeth yn
dyfod wrth arfau, ond ei fod ef yn ei rhoddi i'r rhai teil-wng, megis ag y
gwelo efe yn dda.
º22 Ac wrth weddi'o efe a ddywedodd
fel hyn; Tydi, Arglwydd, a
ddanfon-aist dy angel yn amser Eseceias brenin Jwdea, yr hwn a
ddifethodd o wersyll Sennacherib gant a phump a phedwar ugain mil.
º23 Felly yr awr hon, O Arglwydd y
nefoedd, anfon angel da o'n blaen ni, er ofn ac arswyd iddynt:
º24 A thrwy nerth dy fraich di trawer
hwy a dychryn, y rhai sydd yn dyfod yn
erbyn dy sanctaidd
bobl i gablu. Ac fel hyn y
diweddodd efe.
º25 Yna Nicanor a'r rhai oedd gydag ef
a ddynesasant ag utgyrn ac a chan-iadau.
º26 Ond Jwdas a'r rhai oedd gydag ef
a aethant ynghyd S'r gelynion
trwy weddi ac ymbil.
º27 Felly yn wir, gan ymladd a'u
dwy-lo, a gweddio ar Dduw a'u calonnau, hwy a laddasant nid llai na phymtheng
mil ar hugain: canys trwy ymddangos-iad
Duw yr oeddynt
hwy yn llawen iawn.
º28 Yr awron pan ddarfu
y rhyfel, hwy, yn
dychwelyd a llawenydd, a wybuant fod Nicanor yn
gorwedd yn farw yn ei arfogaeth.
º29 Yna hwy a lefasant yn uchel, ac a
fendithiasant yr Arglwydd yn iaith eu
gwlad.
º30 A Jwdas, pen-amddiffynnwr y
dinas-wyr yng nghorff ac enaid, yr hwn erioed a ddygasai ewyllys da i'r rhai
oedd o'i genedl, a orchmynnodd dorri pen Ni-
canor, a'i law, a'i ysgwydd, a'u dwyn i Jerwsalem.
º31 A phan ddaeth efe yno, wedi galw ynghyd
ei genedl ei hun, a gosod yr offeiriaid
gerbron yr allor, efe a alwodd am y rhai oedd o'r twr,
º32 Ac a ddangosodd iddynt ben Nicanor
ysgeler, a llaw'r cablwr, yr hon trwy fawr falchedd a estynasai efe allan yn
erbyn ty sanctaidd yr Hollalluog.
º33 Ac wedi iddo dorri ymaith dafod
Nicanor annuwiol, efe a ddywedodd y
rhoddai efe ef i'r adar yn ddrylliau, ac y
crogai efe wobr
ei ynfydrwydd ef gyferbyn a'r deml.
º34 Felly pawb a folianasant tua'r nef y gogoneddus Arglwydd, gan ddy-wedyd, Bendigedig
fyddo'r hwn a gad-wodd ei fangre ei hun yn ddihalog.
35 Yna y crogodd efe ben Nicanor ar y twr, yn arwydd amlwg ac eglur i bawb
0 gymorth yr Arglwydd.
º36 A hwy a ordeiniasant i gyd trwy
ddeddf gyffredin, na ollyngid heibio y dydd hwn mewn modd yn y byd yn anenwog,
ond cadw yn wyl y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, yr hwn a elwir yn
iaith y Syriaid Adar, y dydd o flaen gwyl Mardocheus.
º37 Am hynny gan ddigwyddo fel hyn
1 Nicanor, a meddiannu o'r Hebreaid y ddinas er yr amser hynny, minnau hefyd a ddiweddaf yma.
º38 Ac os da y gwneuthum, ac megis y
gweddai i'r histori, hynny yw'r peth a ewyllysiais; ond os yn llesg ac yn
an-noeth, hynny yw
yr hyn a allwn ei ddwyn i ben.
º39 Canys megis ag y mae yn ddrwg yfed
gwin o'r neilltu, ac felly drachefn ddwfr; ac megis y mae gwin wedi ei gymysgu
a dwfr yn hyfryd ac yn flasus; felly
gosodiad y mater
allan sydd yn flasus
i glustiau y
rhai a ddarllenant yr histori. Ac yma y bydd diwedd.
ºTERFYN YR APOCRYFFA
DIWEDD
Adolygiadau diweddaraf: 2005-02-19
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag
un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
"CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a
page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website