2702k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.  

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_apocrypha_tobit_69_2702k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn  Gymraeg
          neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
                    neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
                              neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
                                            neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn

 


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Y Beibl Cysegr-lân (1620): Yr Aprocrypha

(69) Tobit

 

 



 


(delw 0275)

 

 

  xxxx This page with an English version (1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version)


  
(Sganiad heb ei gywiro yw hwn, ac felly yn frith o wallau. Cyn hir gobeithio cawn ni gyfle i roi trefn arno)

(This is a scan which has not been corrected yet. There are many errors in the text)

TOBIT

PENNOD i

º1 TLYFR ymadroddion Tobit fab Tobiel A-* fab Ananiel, fab Aduel, fab Gabael, o hil Asael, o Iwyth Neffthali;

º2  Yr hwn yn amser Enemessar bren-in yr Asyriaid a gaethgludwyd o Thisbe, yr hon sydd o'r tu deau i'r ddinas a elwir yn briodol Neffthali yn Galilea, goruwch Aser.

º3  Myfi Tobit a rodiais holl ddyddiau fy hoedl yn fTyrdd gwirionedd a chyfiawnder, ac a wneuthum elusennau lawer i'm  brodyr,   ac  i'm   cenedl,   y  rhai  a aethant gyda   mi   i   wlad  yr   Asyriaid, sef i Ninefe.

º4  A phan oeddwn i yn fy ngwlad fy hun yn nhir Israel, a mi eto yn ieuanc, cwbl o Iwyth Neffthali fy nhad a gil-iodd oddi wrth dy Jerwsalem, yr hwn a   ddewisasid   o   holl   Iwythau   Israel, megis  y  gallai'r  holl  Iwythau  aberthu yno, lie yr oedd term trigfa'r Goruchaf wedi    ei    chysegru   a'i   hadeiladu   yn dragwyddol.

º5  A'r  holl  Iwythau y  rhai  a  gydgil-iasant, a thy fy nhad innau Neffthali, a offrymasant i'r anner Baal:

º6  Eithr myfi fy hunan, yn 61 yr ordin-had  tragwyddol  a  orchmynasid  i  holl Israel, a euthum yn fynych i Jerwsalem ar y gwyliau nodedig, gan ddwyn gyda mi   gynffrwyth   a  degwm   cynnydd   yr anifeiliaid, a'r cyngnaif, y rhai a rodd-ais i i'r offeiriaid, sef meibion Aaron, y rhai oedd yn gweini wrth yr allor.

º7  Y degwm cyntaf mi a'i rhoddais i feibion Aaron, y rhai oedd weinidogion yn   Jerwsalem:   yr   ail   degwm   mi   a'i gwerthais, ac a euthum, ac a'i gweriais yn Jerwsalem bob blwyddyn:

º8  A'r   trydydd   mi   a'i   rhoddais   i'r sawl y gweddai, megis y gorchmynasai Debora mam fy nhad i mi: canys gad-awsid fi yn amddifad o'm tad.

º9  Wedi i mi ddyfod mewn oedran gwr,


mi a briodais Anna, gwraig o dylwyth fy nhad, ac a enillais ohoni hi Tobeias.

º10  A phan y'n caethgludwyd yn gar-charorion   i   Ninefe,   fy   holl   frodyr, ac eraill o'm cenedl, a fwytasant fara'r cenhedloedd:

º11  Er   hynny   myfi   a'm   cedwais   fy hun heb fwyta;

º12  Am fy mod yn meddwl am Dduw o wir ewyllys fy nghalon.

º13  A'r Goruchaf a roddes i mi rTafr a hawddgarwch   gerbron   Enemessar,   fel y bum oruchwyiiwr iddo.

º14  Felly mi a euthum i Media, ac a adewais   ddeg   talent   o   arian   yn  Haw Gabael brawd Gabrias, yn Rages dinas ym Media.

º15  Ac   wedi   marw   Enemessar,   Sennacherib ei fab a deyrnasodd yn ei le ef; yr hwn y rhwystrodd ei fTyrdd, fel na ellais i mwy ymdaith i dir Media.

º16  Eithr yn nyddiau Enemessar mi a wneuthum lawer o elusennau i'm brodyr, ac a roddais fy mara i'r newynog,

º17  A'm   dillad   i'r   noethion:   ac   os gwelwn neb o'm cenedl wedi ei ladd, a'i    fwrw    ynghylch    muriau    Ninefe, mi a'i claddwn ef.

º18  Ac os lladdai Sennacherib y bren-in,   wrth   ddyfod   ar  fToi   o   Jwdea  yr un, mi a'i claddwn ef yn ddirgel: canys llawer a laddodd efe yn ei wyn : a phan geisiai'r brenin y cyrff, ni byddent i'w cael.

º19  Yna  aeth un  o'r Ninefeaid,  ac  a ddangosodd i'r brenin fy mod i yn eu claddu   hwynt,   a   minnau   a   ymgudd-iais; a phan wybum fod yn fy ngheisio i'm lladd, mi a giliais ymaith rhag ofn.

º20  Yna y ducpwyd fy holl dda byd; ac ni adawyd i mi ddim, ond Anna fy ngwraig a Thobeias fy mab.

º21  A chyn pen pymtheng niwrnod a deugain,   dau    o'i    feibion    a'i    lladd-asant  ef,  ac  a  ffoesant  i   fynyddoedd Ararath: a Sarchedonus ei fab a deyrnas-

 

odd yn ei le ef; ac a osodes Achiacarus fab Anael fy mrawd yn olygwr ar holl gyfrifon ei dad, ac ar ei holl oruchwyl-iaeth.

º22 Ac Achiacarus a eiriolodd drosof fi, oni chafais ddyfod adref i Ninefe: canys gosodasai Sarchedonus Achiacarus yn nesaf iddo ei hun; ac yr oedd efe yn drulliad, a seinedydd, goruchwyliwr, a chyfrifydd iddo: ac yr oedd efe yn nai fab brawd i minnau.

 

 

PENNOD 2

º1 VyTEDI i mi ddyfod adref i'm ty fy VV hun, a rhoddi i mi Anna fy ngwraig, a Thobeias fy mabj ar wyl y Pentecost, yr hon yw uchel wyl y saith wythnos, y gwnaethpwyd i mi ginio mawr.

º2  Eithr   pan   eisteddais   i   fwyta,   a gweled amlder o fwyd, mi a ddywedais with fy mab, Dos, a chyrch pa ddyn tlawd bynnag a gaffech o'n brodyr ni, ac sydd yn meddwl am yr Arglwydd; ac wele, mi a arhosaf amdanat.

º3  Eithr  efe  a  ddaeth  drachefn,  ac a ddywedodd wrthyf, Fy nhad, y mae un o'n cenedl ni wedi ei dagu, a'i fwrw allan i'r heol.

º4  Yna cyn profi dim bwyd, mi a neid-iais ar fy nhraed, ac a'i dugum ef i dy, nes machludo haul.

º5  Ac wedi  dychwelyd  ohonof,  mi  a ymolchais,  ac a fwyteais  fy mara yn athrist;

º6  Gan    feddwl    am    broffwydoliaeth Amos, y modd y dywedasai efe, Eich uchel wyliau a droir yn alar, a'ch llawen-ydd oil yn gwynfan.

º7  A mi a wylais.   A phan fachludodd yr haul, mi a euthum, ac a wneuthum fedd, ac a'i cleddais ef.

º8  A'm   cymdogion   a'm    gwatwarent, gan   ddywedyd, Onid ofna hwn eto ei angau? am  y  peth  yma  y ffodd  efe unwaith; ac wele, y mae efe eilchwyl yn claddu'r meirw.

º9  Ac ar y nos honno mi a ddychwelais o gladdu, ac a gysgais, wedi ymhalogi, wrth bared y neuadd, yn wynebnoeth;

º10  Heb wybod fod adar y to yn aros yn y fagwyr,  y rhai a fwriasant dail twym  yn   fy   llygaid,  fel  yr  oeddynt yn agored; ac felly y daeth y rhuchen ar fy llygaid: ac er fy myned at fedd-ygon, ni wnaethant i mi ddim lies.   Ac Achiacarus   a'm  porthodd  i  hyd  onid euthum i Elymais.

º11  Ac   Anna   fy   ngwraig   a   weithiai mewn nydd-dai gwragedd.

º12  A phan  aeth hi  a'r  gwaith  adref i'r perchenogion,  hwy a  dalasant iddi ei chyflog, gan roddi myn yn ychwaneg:

º13  Yr hwn,  pan  ddaeth i'm t£ i,  a ddechreuodd frefu; yna y gofynnais iddi, O ba le y daeth y mynnyn? ai lladrad yw efe?  dod ef eilchwyl i'w berchen-ogion: canys nid cyfreithlon yw bwyta lladrad.

º14  A hithau a ddywedodd, Ei roi ef a   wnaethpwyd   i   mi   gyda'm   cyflog. Eto nid  oeddwn  i  yn ei chredu, ond erchi ei roddi ef i'w berchenogion; ac yr oedd yn waradwydd gennyf drosti: eithr hi a'm hatebodd, gan ddywedyd, Mae dy elusennau di, a'th gyfiawnderau? wele, y maent amlwg oil gyda thi.

 

 

PENNOD 3

º1 YNA yr wylais yn athrist, ac a wedd-iais  mewn  gorthrymder, gan ddywedyd,

º2  Cyfiawn wyt, O Arglwydd, a chwbl o'th weithredoedd  a'th ffyrdd  oil  yd-ynt   drugaredd a gwirionedd;  dy   farn hefyd a roddi yn uniawn ac yn gyfiawn yn dragywydd.

º3  Cofia fi, ac edrych arnaf, ac na ddial arnaf am fy mhechodau, nac am fy an-wybodaeth, nac am yr eiddo fy hynaf-iaid, y rhai a bechasant ger dy fron di.

º4  O achos nad ufuddhaent i'th orch-mynion, am hynny ti a'n rhoddaist ni yn ysbail, ac i gaethiwed, ac i angau, ac yn ddihareb waradwyddus i'r rhai oil y'n gwasgarwyd yn eu plith.

º5  Ac yn awr llawer a chyfiawn yw dy farnedigaethau: gwna a myfi yn 61 fy mhechodau, a phechodau fy hynafiaid; am na chadwasom dy orchmynion, ac

na rodiasom yn y gwirionedd ger dy fron di.

º6  Yr awr hon gan hynny gwna a myfl y peth a fyddo cymwys yn dy olwg di: psir gymryd fy ysbryd oddi wrthyf, fel y'm datoder, ac yr elwyf yn ddaear: canys gwell i mi farw na byw, o achos y gwaith  anwir  a  glywais,  a'r mawr dristwch  sydd   arnaf:   am  hynny  par fy ngollwng yn rhydd o'r cyfyngder yma, i fyned i le tragwyddol:   na thro dy wynepryd oddi wrthyf.

º7  A'r un  dydd fe  a  ddigwyddodd i Sara merch Raguel yn Ecbatane, dinas ym Media, gael ei gwaradwyddo gan forynion ei thad;

º8    Sef ei rhoi hi i saith o wyr, ac i Asmodeus   yr  ysbryd   drwg   eu  lladd hwynt, cyn bod iddynt a wnaent a hi yn 61 arfer gwragedd.   Oni wyddost ti, meddent, dagu ohonot ti dy wyr? bu saith o wyr i ti hyd yn hyn, ac ni'th gyfenwyd yn 61 yr un ohonynt.

º9  Paham y'n curi  ni  amdanynt?   os meirw ydynt, dos ganddynt, na welom byth ohonot na mab na merch.

º10  A phan glybu hi y pethau hynny, tristau   yn   ddirfawr   a   wnaeth,   fel   y meddyliodd ymdagu : ac eto hi a ddywedodd, Un ferch fy nhad ydwyf; os gwnaf fi hyn, cywilyddus fydd ganddo ef, a'i henaint a ddygaf i'r bedd mewn gorthrymder.

º11  Ac yna hi a wedd'iodd tua'r ffen-estr, gan ddywedyd, Bendigaid wyt ti, O Arglwydd fy Nuw, a bendigaid yw enw sanctaidd dy ogoniant, ac anrhyd-eddus   byth   bythoedd;   molianned   dy holl weithredoedd dydi yn dragywydd.

º12  Ac   yr   awron,    O   Arglwydd,   y cyfeiriaf fy llygaid a'm hwyneb atat,

º13  Gan ddeisyf fy ngollwng yn rhydd oddi ar y ddaear, fel na chlywyf waradwydd mwyach.

º14  Ti a wyddost, Arglwydd, fy mod yn Ian oddi wrth bob pechod gyda gwr,

º15  Ac na halogais fy enw, nac enw fy nhad,   yn   nhir   fy   nghaethiwed.    Un ferch wyf i'm tad, ac nid oes ganddo blentyn i fod yn etifedd iddo; nac un

car agos, na mab iddo yn fyw, fel y cadwn fy hun yn wraig iddo: ac wedi marw seithwr i mi, i ba beth y byddwn i byw? eithr oni rynga bodd i ti fy lladd, par edrych arnaf, a thrugarhau wrthyf, fel na chlywyf waradwydd mwyach.

º16  A'u gwedd'iau hwy ill dau a wran-dawyd    gerbron    gogoniant    y    Duw

mawr.

º17  A   Raffael   a   anfoned   i   iachau'r ddau,  sef i dynnu'r rhuchen oddi ar lygaid Tobit,  ac i roddi  Sara merch Raguel yn wraig i Tobeias mab Tobit, ac i rwymo Asmodeus yr ysbryd drwg; o achos bod yn perthynu i Tobeias o gyf-iawnder  ei  chael hi.   Yn  y  cyfamser hwnnw y dychwelodd Tobit, ac yr aeth efe  i'w  dy;  a   Sara merch  Raguel  a ddisgynnodd o'i stafell.

 

 

PENNOD 4

º1 YN  y  dydd  hwnnw  y   meddyliodd Tobit am yr arian a roddasai efe at Gabael yn Rages, dinas ym Media,

º2  Ac a ddywedodd wrtho ei hun, Mi a ddeisyfais farw: eithr paham nad ydwyf yn   galw   am   Tobeias   fy   mab,   fel y gallwyf ei gynghori ef cyn fy marw?

º3  Ac  wedi  iddo  alw  amdano  ef,   y dywedodd, Fy mab, pan fyddwyf marw, cladd di fi; ac na ddiystyra dy fam, eithr anfhydedda hi holl ddyddiau dy einioes,  a gwna'r peth a ryngo bodd iddi, ac na thrista hi.

º4  Cofia, fy mab, ei bod hi mewn llawer o beryglon, tra fuost yn ei bru hi: a phan  fyddo  hi  marw,   cladd  hi  gyda myfi yn yr un bedd.

º5  Fy mab, meddwl am yr Arglwydd ein Duw ni yn dy holl ddyddiau; ac na ddod dy fryd ar bechu, na thorri ei orchmynion   ef:   gwna   gyfiawnder   tra fyddych byw, ac na rodia yn ffyrdd an-

wiredd.

º6  Canys os dilyni wirionedd, dy holl weithredoedd a Iwyddant i ti, ac i bawb a'r a wnel gyfiawnder.

º7  Dod elusen o'r peth a fyddo gen-nyt; ac na chenfigenned dy lygad wrth

º57

roddi elusen; ac na thro dy wyneb oddi wrth neb tlawd, ac ni thry wyneb Duw oddi wrthyt tithau.

º8  Fel y byddo gennyt yr amlder, dod ohono elusen; os ychydig fydd gennyt, o ychydig nac arswyda roi elusen:

º9  Canys  felly  y  trysori  i  ti  dy hun wobr  daionus  erbyn dydd yr anghen-raid:

º10  Oblegid elusen a wared rhag ang-au, ac a lestair ddyfod i'r tywyllwch.

º11  Oherwydd  ced  ddaionus  yw elus-enni i  bawb  a'r a'i gwnel, gerbron y Goruchaf.

º12  Fy mab,  gochel  bob  godineb:  ac yn bennaf cymer wraig o dylwyth dy hyn-afiaid;  ac na chymer estrones, yr hon aid ydyw o Iwyth dy dad: canys plant y   proffwydi    ydym   ni,    Noe,   Abraham, Isaac, a Jacob: eintadau o'r dechreu-ad,   cofia   fy   mab,   iddynt   oil   briodi gwragedd  o'u  cenedl  eu  hun;  a  hwy a fuant ddedwydd yn eu plant, a'u hil a etifedda'r ddaear.

º13  Ac yr awron, fy mab, car dy frodyr, ac na fydded diystyr gennyt yn dy galon dy dylwyth, meibion a merched dy bob!, i gymryd i ti wraig ohonynt: canys o ddiystyrwch  y   daw   dinistr  a   dirfawr gythrwfl, ac o drahaustra y daw prinder a   mawr   eisiau:   oherwydd   trahaustra yw mam newyn.

º14  Nac atal gyda thi gyflog   neb a'r a wnaeth  dy waith,  eithr tal iddo yn ebrwydd: ac os gwasanaethi di Dduw, ti  a  gei  daledigaeth:  edrych arnat  dy hun, fy mab, yn dy holl weithredoedd, a   bydd   ddiesgeulus   ym   mhob   tro   a wnelych.

º15  Y peth sy gas gennyt dy hun, na wna i arall.   Nac yf win hyd feddwdod, ac na  fyn  feddwdod  gyda  thi  i  ym-daith.

º16  Dod   o'th   fara   i'r   newynog,   ac o'th  ddillad  i'r  noeth   :  ac  yn  61  dy amlder dod elusen, ac na fydd lygad-genfigennus wrth roi elusenni.

º17  Bydd helaeth o'th fara ar fedd y cyfiawn, ac na ddod ddim i'r pechadur-iaid.

º58

TOBIT 4, 5

º18  Gofyn gyngor i bob un synhwyrol, ac na wrthod un cyngor buddiol.

º19  Mola'r   Arglwydd   dy   Dduw   bob amser, a deisyf arno uniawni dy ffyrdd a chwbl o'th Iwybrau, a gwneuthur dy amcanion   yn   llwyddiannus:   canys   ni fedr pob cenedl roddi cyngor: eithr yr Arglwydd ei hun sydd yn rhoddi pob daioni,  ac  efe  a  ddarostwng  y  neb  a fynno,   fel   y   mynno.    Yr   awron   gan hynny, fy mab, cadw i'th gof fy ngorch-mynion,    ac   na    ddileer   hwynt    o'th feddwl.

º20  Ac yn awr yr ydwyf yn dangos i ti, adael ohonof   fi ddeg talent o arian gyda   Gabael  mab   Gabrias  yn  Rages, dinas ym Media.

º21  Ac  nac  ofna,  fy  mab,  o  ran  ein myned ni mewn tlodi: y mae i ti lawer, od ofni di Dduw, a gochelyd pechod, a gwneuthur y peth a fyddo cymeradwy yn ei olwg ef.

 

PENNOD 5

 

º1YNA yr atebodd Tobeias, ac y   dy-wedodd,  Fy nhad,  y cwbl   oil  a orchmynnaist i mi, mi a'i gwnaf:

º2  Eithr  pa  fodd  y  gallaf fi  gael  yr arian, a minnau heb ei adnabod ef?

º3  Yntau a roddes iddo yr ysgrifen-law, ac a ddywedodd wrtho, Cais i ti ryw un, yr hwn, tra fyddwyf fi yn y byd, a elo gyda thydi, a myfi a dalaf gyflog iddo ef: a dos, a derbyn yr arian.

º4  Ac efe a aeth i geisio un gydag ef, ac   a   gafodd   Raffael,   yr    hwn   oedd angel.

º5  Ac efe nis gwyddai.   Ac efe a ddywedodd wrtho, A elli di fyned gyda mi i Rages?  ac a adwaenost ti y lleoedd hynny yn dda?

º6  A'r angel a ddywedodd wrtho, Mi a af gyda thydi, ac mi a adwaen y ffordd yn dda; canys mi a fum yn aros gyda'n brawd Gabael.

º7  Yna  Tobeias  a  ddywedodd  wrtho, Aros fi oni ddywedwyf i'm tad.

º8  Ac efe a ddywedodd wrtho, Dos, ac na thrig.   Ac efe a aeth i mewn, ac a ddywedodd  wrth  ei  dad,  Wele,  mi  a

 

gefais un i fyned gyda mi. Yna y dywedodd yntau, Galw ef ataf fi, modd y gallwyf wybod o ba Iwyth y mae efe, a hefyd a ydyw efe yn ffyddlon i fyned gyda thi.

º9  Ac efe a alwodd arno, ac yntau a ddaeth i mewn: ac yna y cyfarchasant ei gilydd.

º10  A Thobit a ddywedodd wrtho, Fy mrawd, dangos i mi o ba Iwyth a theulu yr wyt yn dyfod.

º11  Ac yntau a ddywedodd wrtho, Ai llwyth neu deulu yr wyt yn ei geisio, ai cyfiogddyn   i   fyned   gyda'th   fab?    A Thobit a'i hatebodd ef, Mi a ewyllysiwn, fy mrawd, gael gwybod dy genedl a'th enw di.

º12  Yntau a ddywedodd, Asareias ydwyf fi, fab Ananeias fawr, ac o'th frodyr di.

º13  Yna   y   dywedodd   Tobit,   Croeso wrthyt,   fy   mrawd:   na   ddigia   wrthyf am  i  mi  geisio  gwybod  y  llwyth  a'r teulu   y   daethost   ohonynt:   canys,   fy mrawd, yr wyt ti o dylwyth onest a da: p achos mi a adwaen Ananeias a Jon-athas,   meibion   Samaias   fawr;   fel   yr oeddem yn myned ynghyd i Jerwsalem i  addoli,  gan  ddwyn  gyda  ni  y  cyn-ffrwyth,  a  degwm cynnydd yr anifeil-iaid;   hwy  ni  throseddasant  yn  arnry-fusedd  ein  brodyr  ni   :  yr  wyt  ti   o wreiddyn da, fy mrawd.

º14  Ond dywed i mi, pa gyflog a roddaf i ti? a fynni di ddrachmon beunydd, a chyfreidiau fel i'm mab fy hun?

º15  A hefyd mi a chwanegaf at y cyflog, os dychwelwch drachefn yn iach.

º16  Ac   felly   y   cytunasant.    Yna   y dywedodd efe wrth Tobeias, Ymdrwsia i'r daith;  a rhwydd hynt i  chwi.   Ac wedi i'r mab baratoi pob peth i'r daith, y dywedodd ei dad wrtho, Dos gyda'r gwr hwn, a Duw, yr hwn sydd a'i drigfa yn y nef, a Iwyddo eich ffordd chwi, ac eled angel Duw gyda chwi.   Yna yr aethant  yrcaith  ill   dau,   a   chi'r  llanc gyda hwynt.

º17 Eithr Anna ei fam ef a wylodd, gan ddywedyd wrth Tobit, Paham yr anfonaist ymaith ein mab? onid efe yw

ffon eia llaw ni, i fyned i mewn ac allan ger ein bronnau?

º18  Na   fydd   chwannog   i   chwanegu arian  at  arian,  ond  bydded  fel  sorod wrth ein plentyn:

º19  Oherwydd yr hyn a roddes yr Arglwydd i ni i fyw, hynny sy ddigon i ni.

º20  A Thobit a ddywedodd wrthi, Na chymer ofal, fy chwaer; efe a ddaw yn ei 61 yn iach lawen, a'th lygaid di a'i gwelant ef.

º21  Canys  yr  angel  daionus   sydd  yn cydymdaith ag ef; a'i ffordd ef a Iwydda, ac efe a ddaw eilchwyl yn iach lawen.

º22  Yna hi a beidiodd ag wylo.

 

 

PENNOD 6

º1 A^. fel yr oeddynt yn  ymdaith,  hwy a ddaethant yn yr hwyr i ymyl afon Tigris, ac a arosasant yno.

º2  A'r llanc a aeth i waered i ymolchi, a physgodyn a neidiodd o'r afon, ac a fynasai ei lyncu ef.

º3  Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Cymer afael yn y pysgodyn.   A'r llanc a ddaliodd y pysgodyn, ac a'i tynnodd i'r tir.

º4  A'r angel a ddywedodd wrtho, Agor y pysgodyn, a chymer y galon, a'r afu, a'r  bustl,  a  chadw  hwynt  yn  ddiesgeulus.

º5  A'r   llanc   a   wnaeth   y   modd   yr archasai'r angel iddo.   Ac wedi iddynt rostio'r  pysgodyn,   hwy  a'i  bwytasant, ac   a   aethant   rhagddynt   ill   dau,   oni ddaethant yn gyfagos i Ecbatane.

º6  A'r   lianc   a   ddywedodd   wrth   yr angel, Fy mrawd Asareias, i ba beth y mae calon, ac afu, a bustl y pysgodyn, yn dda?

º7  Yntau  a  ddywedodd wrtho, Am y galon  a'r afu,  o  bydd i gythraul neu ysbryd drwg flino neb, rhaid yw gwneuthur    mwg    ohonynt    gerbron    y    gwr hwnnw,   neu'r   wraig   honno,   ac   nis blinir ef mwyach.

º8  Ac am y bustl, da yw i iro ag ef y dyn a fyddo a rhuchen ar ei lygaid, ac efe a iacheir.

º9  A   phan   ddaethant   yn   gyfagos   i

 

 

Rages, yt angel a ddywedodd wrth y llanc,

º10  Fy mrawd,  heddiw  y  lletywn  ni gyda Raguel, yr hwn sy gar i ti: ac y mae iddo ef un unig ferch a elwir Sara; mi a ddywedaf amdani, sef am ei rhoddi i ti yn wraig:

º11  Canys i ti y mae ei hetifeddiaeth hi yn perthyn, a thydi yn unig sydd o'i chenedl hi.

º12  Ac y mae hi yn llances Ian,   syn-hwyrol.   Yn awr gan hynny gwrando fi, a mi a ymddiddanaf a'i thad hi; a phan ddychwelom ni o Rages y gwnawn y neithior: o achos mi a wn na all Raguel ei rhoddi hi i neb arall yn 61 cyfraith Moses, heb fod yn euog o angau; am fod cyfiawnder yr etifeddiaeth yn perthyn i ti o flaen neb arall.

º13  Yna y dywedodd y llanc wrth yr angel, Fy mrawd Asareias, mi a glyw-ais roi'r llances hon i saith o wyr, a marw ohonynt   cymain   un   yn   yr   ystafell briodas.

º14  Ac yr awron myfi yw unig blentyn fy nhad: ac yr ydwyf yn ofni, od awn i mewn ati hi, y derfydd amdanaf, fel am y rhai o'r blaen; am fod cythraul yn  ei   charu  hi,   yr  hwn  nid  yw  yn gwneuthur niwed ond i'r rhai sydd yn dyfod ati hi: ac am hynny yr wyf yn ofni rhag fy marw, a dwyn einioes fy nhad   a'm   mam   mewn   tristwch   i'w beddau; canys mab arall nid oes iddynt i'w claddu.

º15  A'r   angel   a   ddywedodd   wrtho, Onid   cof gennyt   eiriau  dy   dad,   pan orchmynnodd i ti gymryd gwraig o'th genedl   dy   hun?   ac   felly   yr   awron gwrando,  fy mrawd;  a  chymer hi yn wraig i ti, ac nac arswyda mo'r cythraul: canys y nos heno y rhoddir hi i ti yn wraig.

º16  Eithr pan ddelych i'r ystafell briodas, cymer farwydos y peraroglau, a dod beth o galon y pysgodyn ac o'r afu arnynt, a gwna fyctarth:

º17  A'r ysbryd a glyw'r arogl hwnnw, ac a fry ymaith, ac ni ddychwel byth drachefh:   eithr   pan   ddelych   ati   hi,

º60

 

codwch eich dau, a gelwch ar y tru-garog Dduw, ac efe a'ch gweryd chwi, ac a dosturia wrthych: nac ofna; o-herwydd i ti y darparwyd hi o'r dech-reuad, a thi a'i gwaredi hi, a hi a ddaw gyda thi: ac, yn fy nhyb i, ti a gei blant ohoni. A phan glybu Tobeias y pethau hyn, efe a rodd ei serch ami, a'i galon ef a lynodd yn ddirfawr wrthi hi.

 

PENNOD 7

 

º1 A PHAN ddaethant i  Ecbatane, hwy a aethant i dy Raguel: a Sara a gyfarfu a hwynt, ac a gyfarchodd iddynt, a hwythau iddi hithau;  a hi a'u  dug hwynt i'r ty.

º2  Yna y dywedodd Raguel wrth Edna ei wraig, Mor debyg yw'r gwr ieuanc yma i'm cefnder Tobit!

º3  A Raguel a ofynnodd iddynt, O ba le yr ydych, fy mrodyr?   Yna y dywed-asant   wrtho,   O   feibion   Neffthali,   y rhai sy gaethion yn Ninefe.

º4  Yna   y   dywedodd   efe   wrthynt,   A adwaenoch chwi Tobit ein brawd?   A hwythau a atebasant, Adwaenom.   Yna y dywedodd yntau wrthynt, A ydyw efe yn iach?

º5  A hwy a ddywedasant, Y mae efe yn fyw ac yn iach.   A Thobeias a ddywedodd, Fy nhad i yw efe.

º6  Yna  Raguel a neidiodd i fyny,  ac a'i cusanodd ef, ac a wylodd,

º7  Ac a'i bendithiodd ef, gan ddywedyd wrtho, Yr wyt ti yn fab i wr onest, ac i wr da.     Eithr pan glybu efe fyned Tobit yn ddall, tristau a wnaeth, ac wylo.

º8  Ac Edna ei wraig, a Sara ei ferch, a wylasant: ac wedi hynny eu croesawu hwy a wnaethant yn llawen, ac a ladd-asant faharen o'r defaid, ac a roddasant ger eu bronnau lawer o seigiau.  Yna y dywedodd   Tobeias   wrth   Rarfael,   Fy mrawd  Asareias,  dywed  am  y  pethau hynny a soniaist amdanynt ar y ffordd, fel y gallo'r peth ddyfod i ben.

º9  Ac  yntau   a  ddywedodd  y   chwedl wrth Raguel.    A Raguel a ddywedodd wrth Tobeias,  Bwyta ac yf, a gwna'n llawen.

º10  Gweddus ydyw i ti gael fy merch i yn briod:  eto mi a ddangosaf i ti'r gwirionedd.

º11  Mi a roddais fy merch yn briod i saith o wyr, a'i nos yr aethant i mewn ati, y buant feirw: eithr bydd  di yn awr yn llawen.   A Thobeias a ddywedodd, Ni fwytaf fi ddim yma, nes i ni gytuno, a thyngu i'n gilydd.

º12  A   Raguel   a   ddywedodd   wrtho, Cymer dithau hi o hyn allan yn 61 y gyfraith; canys tras wyt iddi, a hithau i tithau: a'r trugarog Dduw a'ch llwyddo ym mhob peth.

º13  Ac efe a alwodd Sara ei ferch, a hi a ddaeth at ei thad; yna efe a'i cym-erth hi  erbyn ei  Haw,  ac a'i  rhoddes yn wraig i Tobeias, gan ddywedyd, Wele, cymer hi yn 61 cyfraith Moses; a dwg hi ymaith at dy dad.   Ac efe a'u bendithiodd hwynt.

º14  Ac wedi iddo alw Edna ei wraig, efe  a  gymerth  lyfr,  ac  a  sgrifennodd ysgrifen o'r amodau, ac a'i seliodd.

º15  Ac yna y dechreuasant fwyta.

º16  A Raguel a alwodd Edna ei wraig, ac a ddywedodd wrthi, Fy chwaer, trefh-a stafell arall, a dwg hi i mewn yno.

º17  A hi a wnaeth fel y dywedodd efe, ac  a'i  dug  hi  i  mewn  i'r  ystafell;  a hithau a wylodd, a'i mam a dderbyniodd ddagrau   ei   merch,   ac   a   ddywedodd wrthi,

º18  Cymer gysur, fy merch; rhodded Arglwydd nef a daear i ti lawenydd yn lle'r  tristwch  yma:  bydd  gysurus,  fy merch.

 

 

PENNOD 8

 

º1 AC   wedi    iddynt    swperu,   hwy   a •** ddygasant Tobeias i mewn ati hi;

º2  Yr hwn wrth fyned a feddyliodd am eiriau  Raffael,  ac a  gymerth  farwydos   yr   aroglau,   ac   a   roddes   arnynt galon y pysgodyn, a'i afu, ac a wnaeth fwg ft hwynt.

º3  Pan   aroglodd  y   cythraul  yr   arogl hwnnw,   efe   a  ffodd   i   oruchafion   yr Aifft: a'r angel a'i rhwymodd ef.

º4  Ac fel yr oeddynt ill dau wedi eu

cau i mewn, Tobeias a gyfododd o'i wely, ac ddywedodd wrth Sara, Cyfod, fy chwaer, gwedd'iwn yr Arglwydd, ar iddo fod yn drugarog wrthym.

º5  Yna y dechreuodd Tobeias ddywed-ydj  Bendigedig wyt ti,  O  Dduw ein tadau, a bendigaid yw dy enw sanctaidd gogoneddus   yn   dragwyddol:   bendiged y nefoedd a'th greaduriaid oil dydi.

º6  Tydi a wnaethost Adda, ac a rodd-aist  Efa  ei  wraig  yn  gymorth  ac  yn nerth iddo: ohonynt y daeth pob rhyw ddya: ti a ddywedaist, Nid da bod gwr yn unig, gwnawn iddo gymorth cyffelyb

iddo.

º7  Ac   yr   awron,   Arglwydd,   nid   er mwyn  godineb  yr  wyf yn  cymryd  fy chwaer  hon,  eithr   mewn  uniawnfryd: yn   drugarog   gan   hynny   gwna   i   ni heneiddio ynghyd.

º8  A hi a ddywedodd gydag ef, Amen.

º9  Ac felly y cysgasant ill dau y nos honno.    A   phan   gyfododd   Raguel   i fyny, efe a aeth, ac a gloddiodd fedd,

º10  Gan ddywedyd, Y mae arnaf ofn ei farw ef.

º11  Ac wedi dyfod Raguel i'w dy,

º12  Efe  a  ddywedodd  wrth  Edna  ei wraig, Anfon un o'r morynion i edrych ai byw efe: os amgen, fel y gallom ei gladdu ef heb wybod i neb.

º13  A'r forwyn a agorodd y drws, ac a aeth i mewn, ac a'u cafodd hwynt ill dau yn cysgu.

º14  A phan ddaeth allan, hi a fynegodd iddynt ei fod ef yn fyw.

º15  Yna   Raguel  a   foliannodd   Dduw, gan ddywedyd, Bendigedig ydwyt ti, O Dduw, ft phob duwiol a sanctaidd fen-dith:   bendiged   dy   saint   dydi,   a'th greaduriaid oil; a chwbl o'th angylion a'th etholedigion, molant di byth byth-oedd.

º16  Bendigedig fych, O Arglwydd, am i ti fy llawenhau i, ac na ddaeth i mi fel  yr  oeddwn  yn  tybied;  eithr ti  a wnaethost  i   ni   yn  61   dy  fawr   dru-garedd.

º17  A   bendigedig   fyddych,   am   i   ti drugarhau    wrth    ddau    unig-anedig.

 

 

Dangos iddynt drugaredd, O Arglwydd; diwedda eu bywyd mewn iechyd, gyda llawenydd a thrugaredd.

º18  Yna yr archodd Raguel i'w weision lenwi'r bedd.

º19  Ac efe a gadwodd y neithior bed-war diwrnod ar ddeg:

º20  Canys  Raguel cyn cyflawni dydd-iau'r neithior a ddywedasai wrtho, gan dyngu,  nad  ai  efe  ymaith nes  darfod cyflawni   dyddiau'r   neithior,   nid  am-gen pedwar diwrnod ar ddeg;

º21  Ac yna y cai efe banner ei dda ef, a dychwelyd yn iach at ei dad; ac y cai efe y rhan arall, pan fyddwyf fi a'm gwraig farw.

 

 

PENNOD 9

 

º1 YNA Tobeias a alwodd Raffael, ac a ddywedodd   wrtho,

º2  Fy   mrawd   Asareias,   cymer   gyda thi  was  a  dau  gamel,  a  dos  i  Rages dinas Media, at Gabael, a chyrch i mi yr arian, a dwg ef i'r neithior:

º3  Canys tyngodd Raguel na chawn i ymadael.

º4  Eithr  y  mae  fy  nhad  yn  cyfrif y dyddiau; ac os trigaf fi yn hir, athrist iawn  fydd ganddo.

º5  A Raffael a aeth ymaith at Gabael, ac  a  roddes  iddo  yr ysgrifen-law;  ac yntau a ddug godau wedi eu selio, ac a'u rhoddes iddo.

º6  A'r bore y cyfodasant, ac a ddaeth-ant  i'r   neithior.    A   Thobeias   a   fen-dithiodd ei wraig.

 

 

PENNOD 10

º1 A I dad ef Tobit a gyfrifai bob dydd. Ac wedi cyflawni dyddiau'r daith, a hwythau heb ddyfod adref,

º2  Yna  y   dywedodd   Tobit,   A   siom-wyd hwynt? ai marw a wnaeth Gabael, fel nad oes neb i roddi'r arian iddo?

º3  Ac efe a dristaodd yn ddirfawr.

º4  A'i    wraig    a    ddywedodd    wrtho, Darfu am y bachgen: ac am ei fod ef yn aros cyhyd, hi a ddechreuodd alaru amdano, gan ddywedyd,

º5  Nid oes  gennyf ofal  am  ddim,  fy

mab,  gan i mi dy ollwng di   ymaith, llewyrch fy llygaid i.

º6  Eithr   Tobit   a   ddywedodd   wrthi, Taw son, ac na ofala ddim; y mae efe yn iach lawen.

º7  A hithau a ddywedodd wrtho, Taw a son, na huda fi; darfu am fy machgen i.   A beunydd yr ai hi allan i'r ffordd yr aethent hwy:  y dydd ni fwytai  hi mo'r bwyd, a'r nos ni pheidiai ag wylo am Tobeias ei mab: a hyn nes darfod pedwar diwrnod ar ddeg y neithior, y rhai  y  tyngasai  Raguel  y  gorfyddai  i Tobeias   aros   yno.    Yna   y  dywedodd Tobeias wrth Raguel, Gollwng fi ymaith: canys  nid  yw  fy  nhad  a'm  mam  yn edrych am fy ngweled byth.

º8  A'i chwegrwn a ddywedodd wrtho, Aros gyda myfi, a mi a ddanfonaf rai a ddangoso dy helynt i'th dad.

º9  Eithr Tobeias  a  ddywedodd,  Nage ddim; ond gollwng fi at fy nhad.

º10  Yna y cyfododd Raguel i fyny, ac a roddes Sara ei wraig iddo, a hanner ei dda,  sef gweision,  ac anifeiliaid,  a  da bathol:

º11  Ac wedi iddo eu bendithio, efe a'u I danfonodd ymaith, gan ddywedyd, O fy mhlant, Duw nef a'ch llwyddo.

º12  Ac efe a ddywedodd wrth ei ferch, Anrhydedda dy chwegrwn a'th chwegr, canys hwynt-hwy bellach sy dad a mam i ti: gad i mi glywed gair da amdanat: ac efe a'i cusanodd hi.   Edna hefyd a ddywedodd  wrth  Tobeias,   Fy  annwyl frawd,   Arglwydd   y   nef   a'th   ddygo drachefn, ac a wnel i mi weled dy blant di o'm merch Sara cyn fy marw, fel y   j Uawenychwyf   gerbron   yr   Arglwydd: ac wele, yr ydwyf yn rhoddi fy merch

i ti mewn ymddiried; na ofidia hi.

 

 

PENNOD 11

 

º1 xxx 61 hynny yr aeth Tobeias ymaith,

 

gan foliannu Duw, o achos iddo Iwyddo ei daith ef; ac efe a fendithiodd Raguel ac Edna ei wraig: ac yna efe a gerddodd rhagddo, oni ddaethant yn agos i Ninefe.

 

º2 Yna Raffael a ddywedodd wrth

 

Tobeias, Ti a wyddost, fy mrawd, pa fodd y gadewaist dy dad.

º3  Brysiwn o flaen dy wraig, a threfnwn

yty;

º4  A chymer yn dy law fustl y pysg-odyn.   Ac felly yr aethant;  a'r ci a'u canlynodd hwynt.

º5  Ac  Anna  oedd  yn  eistedd,  ac  yn disgwyl am ei mab ar y ffordd;

º6  Ac a'i hadnabu ef yn dyfod, ac a ddywedodd wrth  ei  dad  ef,  Wele  dy fab di yn dyfod, a'r gwr a aeth gydag ef.

º7  Yna y dywedodd Raffael, Mi a wn, Tobeias, yr egyr dy dad ei lygaid.

º8  Am  hynny  ir   di   ei  lygaid  ef si'r bustl; a phan ferwinont, efe a'u rhwbia hwynt, ac fe syrth y rhuchen ymaith, ac efe a'th wel di.

º9  Yna y rhedodd Anna allan, a hi a syrthiodd ar wddf ei mab, gan ddywedyd wrtho,  Mi  a'th welais, fy mab, ac weithian bodlon ydwyf i farw.   A hwy a wylasant ill dau.

º10  Tobit   hefyd   a   aeth   allan   tua'r drws, ac a dramgwyddodd; ond ei fab a redodd ato,

º11  Ac  a  ymaflodd  yn  ei   dad,  ac  a daenellodd beth o'r bustl ar lygaid ei dad, gan ddywedyd, Bydd gysurus, fy nhad.

º12  Ac wedi i'w lygaid ddechrau mer-wino, efe a'u dwys rwbiodd hwynt;

º13  A'r rhuchen a ddirisglodd ymaith oddi wrth giliau ei lygaid ef: ac wedi iddo weled ei fab, efe a syrthiodd ar ei wddf ef,

º14  Ac a wylodd, gan ddywedyd, Ben-digedig wyt, O Dduw, a bendigedig yw dy enw yn dragywydd, a'th holl ang-ylion sanctaidd sy fendigedig:

º15  Canys   ti   a'm   ffrewyllaist,   ac   a dosturiaist wrthyf; wele fi yn gweled fy mab Tobeias.   Yna yr aeth ei fab ef i mewn yn llawen, ac a ddangosodd i'w dad y mawr bethau a ddigwyddasai iddo ym Media.

º16  Yna yr aeth Tobit allan i gyfarfod a'i waudd hyd ym mhorth Ninefe, gan ymlawenhau    a    moliannu    Duw.     A

rhyfedd oedd gan y rhai oedd yn edrych arno ef yn cerdded, ei fod ef yn gweled.

º17  A Thobit a gyffesodd yn eu gwydd hwynt  oil,   ddarfod   i   Dduw   dosturio wrtho.   Ac wedi iddo nesau at Sara ei waudd,   efe   a'i   bendithiodd   hi,   gan ddywedyd,   Croeso   wrthyt,  fy  merch: bendigaid   fyddo   Duw,   yr   hwn   a'th ddug di atom ni,  a bendigedig fyddo dy  dad  a'th  fam.   A  llawenydd  oedd ymysg ei holl frodyr ef,  y rhai oedd yn Ninefe.

º18  Ac   Achiacarus   a   ddaeth   yno,   a Nasbas ei nai ef fab ei frawd.

º19  A   neithior   Tobeias   a   gadwyd   a llawenydd mawr saith niwrnod.

 

 

PENNOD 12

º1 YNA y galwodd Tobit ei fab Tobeias, ac y dywedodd wrtho, Edrych,   fy rnab, am ei gyflog i'r gwr a aeth gyda thi: a rhaid ydyw ei chwanegu.

º2  A Thobeias a ddywedodd wrtho, Fy nhad,   nid   colled   gennyf  roi   iddo   ef hanner yr hyn a ddugum gyda mi:

º3  Oherwydd efe a'm dug i adref i ti drachefn   yn   iach,   ac   a   iachaodd   fy ngwraig, ac a gyrchodd yr arian, ac a'th iachaodd dithau hefyd.

º4  A'r   hynafgwr   a   ddywedodd,   Mae yn gyfiawn iddo eu cael.

º5  Yna y galwodd efe   yr angel,   ac  a ddywedodd   wrtho,   Cymer   hanner   yr hyn oil a ddygasoch, a dos yn iach.

º6  Eithr efe wedi eu galw hwy ill dau o'r    neilltu,    a    ddywedodd    wrthynt, Diolchwch i Dduw, a moliennwch ef, a rhoddwch iddo ef fawr ogoniant; cyff-eswch ef yng ngwydd pawb o'r rhai byw, am y pethau a wnaeth efe i chwi.   Peth daionus   yw   diolch   i'r   Arglwydd,   a mawrhau ei enw ef, gan adrodd gweith-redoedd   Duw   yn   barchedig:   ac   na ddiogwch yn ei foliannu ef.

º7  Cyfrinach y brenin sydd weddus ei chelu: ond gweithredoedd Duw sy ogon-eddus eu cyhoeddi.   Gwnewch ddaioni, ac ni'ch goddiwedd drwg.

º8  Daionus yw gweddi gydag ympryd, elusenni,   a    chyfiawnder.     Gwell   yw

 

 

ychydig gyda chyfmwnder, na llawer gydag anghyfiawnder. Gwell yw rhoi elusennau na phentyrru aur:

º9  Canys elusenni a wared rhag angau, ac a lanha bob pechod: y rhai a wnel elusen   a   chyfiawnder,   a   gyflawnir   a bywyd:

º10  Eithr pechaduriaid  sy elynion i'w bywyd eu hunain.

º11  Ni chuddiaf ddim rhagoch.   Mi a ddywedais mai da yw cadw cyfrinach brenin,  a  gogoneddus   dangos  gweith-redoedd Duw ar gyhoedd.

º12  Ac yr awron pan weddiiaist ti a'th waudd Sara, myfi a ddugum gof am eich   gweddiiau   gerbron   y   Sanctaidd. A phan oeddit yn claddu'r meirw, yr oeddwn i gyda thi hefyd.

º13  A phan nad oedaist godi a gadael dy ginio, i fyned i gladdu'r dyn marw, nid oedd dy weithred dda yn guddiedig rhagof: eithr yr oeddwn gyda thi.

º14  Ac yr awron Duw a'm danfonodd i i'th iachau di a'th waudd Sara.

º15  Myfi   yw   Raffael,    un   o'r   saith angel  sanctaidd,  y  rhai  sy'n  dwyn  i fyny weddi'au'r rhai sanctaidd, ac sydd yn tramwy gerbron gogoniant yr hwn sydd Sanctaidd.

º16  Yna y dychrynasant ill dau, a hwy a syrthiasant ar eu hwynebau:  oblegid hwy a ofnasent.

º17  Yna y dywedodd efe wrthynt, Nac ofhwch; canys bydd tangnefedd i chwi: eithr rhoddwch ddiolch i Dduw.

º18  Canys   nid   o'm   caredigrwydd   fy nun, eithr trwy ewyllys ein Duw ni, y deuthum : am hynny rhoddwch ddiolch iddo ef yn dragywydd.

º19  Beunydd yr ymddangosais i chwi: eithr   nid   oeddwn   yn   bwyta   nac   yn yfed;  namyn  chwi  a  welech  weledig-aeth.

º20  Ac yr  awron  moliennwch  Dduw; canys mi a esgynnaf at yr hwn a'm danfonodd: eithr ysgrifennwch yr hyn oil a wnaethpwyd mewn llyfr.

º21  Yna y codasant i fyny, ac ni wel-sant ef mwy.

º22  A chyffesu rhyfeddfawr weithred-

º12, 13

oedd Duw a wnaethant, a'r modd ytj ymddangosasai angel yr Arglwydd idd-ynt.

 

PENNOD 13

º1 ATHOBIT  a  sgrifennodd weddi Q orfoledd, ac a ddywedodd, Bendig-aid fyddo Duw, yr hwn sydd yn byw yn dragwyddol, a bendigedig fyddo ei deyrnas ef:

º2  Canys efe sydd yn ffrewyllu, ac yn trugarhau;   yn   dwyn  i   uffern,   ac  yn dwyn i fyny eilchwyl: ac nid oes neb a all ddianc o'i law ef.

º3  Clodforwch ef, meibion Israel, gerbron   y   cenhedloedd:   canys   efe   a'n gwasgarodd ni yn eu plith hwynt.

º4  Yno mynegwch ei fawredd,  a dyr-chefwch ef yng ngwydd pawb sydd fyw: oherwydd efe yw ein Harglwydd ni, a Duw yw ein Tad ni byth bythoedd.

º5  Ac efe a'n cerydda ni am ein cam-weddau, ac a drugarha eilchwyl, ac a'n casgl  ynghyd  o  fysg  yr  holl  genhed-loedd,  ymhlith y rhai y'n gwasgarodd ni.

º6  Os   dychwelwch   ato   ef   a'ch   holl galon, ac a'ch holl feddwl, a gwneuthur yn uniawn ger ei fron ef, yna y dychwel yntau atoch chwi, ac ni chudd ei wyneb rhagoch, a chwi a gewch weled beth a wna  efe i chwi:  am hynny cyffeswch ef a'ch  holl  eriau,  a  moliennwch  Arglwydd y gallu,  dyrchefwch Frenin y tragwyddoldeb.    Myfi   a'i   cyfFesaf   ef yn nhir fy nghaethiwed, ac a fynegaf ei nerth a'i fawredd ef i genedl bechad-urus.  Trowch, bechaduriaid, a gwnewch gyfiawnder ger ei fron ef: pwy a wyr a fyn efe chwi, ac a wna efe drugaredd a chwi?

º7  Clodforaf fy   Nuw,   a'm  henaid  a fawl  Frenin y nefoedd,