Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith
Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic.
Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.
2352k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia
Website.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_brenhinoedd1_11_2352k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k
....................0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k
..............................0960k Cywaith Siôn
Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k
........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl
Wiliam Morgan 1620
neu trwy Google:
#kimkat1281k
.............................................................y tudalen hwn
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
(delw 4666) |
xxxx (ddim ar gael eto) Y tudalen hwn yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
(Sganiad heb ei gywiro yw hwn, ac felly yn
frith o wallau. Cyn hir gobeithio cawn ni gyfle i roi trefn
(This is a scan which has not been corrected yet.
There are many errors in the text) 2009-01-05
LLYFR CYNTAF Y BRENHINOEDD YR HWN A ELWIR HEFYD TRYDYDD
LLYFR Y BRENHINOEDD
PENNOD 1
1:1 A’r brenin Dafydd oedd hen, ac a aethai mewn oedran; er iddynt ei anhuddo ef
mewn dillad, eto ni chynhesai efe.
1:2 Am hynny ei weision a ddywedasant wrtho, Ceisier i’m harglwydd frenin
lances o forwyn; a safed hi o flaen y brenin, a bydded yn gwneuthur ymgeledd
iddo, a gorwedded yn dy fynwes, fel y gwresogo fy arglwydd frenin.
1:3 A hwy a geisiasant lances deg trwy holl fro Israel, ac a gawsant
Abisag y Sunamees, ac a’i dygasant hi at y brenin.
1:4 A’r llances oedd deg iawn, ac oedd yn ymgeleddu’r brenin, ac yn ei
wasanaethu ef: ond ni bu i’r brenin a wnaeth â hi.
1:5 Ac Adoneia mab Haggith a ymddyrchafodd, gan ddywedyd, Myfi a fyddaf frenin:
ac efe a ddarparodd iddo gerbydau a gwŷr meirch, a dengwr a deugain i
redeg o’i flaen.
1:6 A’i dad nid anfodlonasai ef yn ei ddyddiau, gan ddywedyd, Paham y
gwnaethost fel hyn? yntau hefyd oedd deg iawn o bryd; ac efe a anesid wedi
Absalom.
1:7 Ac o’i gyfrinach y gwnaeth efe Joab mab Serfia, ac Ahiathar yr offeiriad: a
hwy a gynorthwyasant ar ôl Adoneia.
1:8 Ond Sadoc yr offeiriad, a Benaia mab Jehoiada, a Nathan y proffwyd, a
Simei, a Rei, a’r gwŷr cedyrn a fuasai gyda Dafydd, nid oeddynt gydag
Adoneia.
1:9 Ac Adoneia a laddodd ddefaid, a gwartheg, a phasgedigion, wrth faen
Soheleth, yr hwn sydd wrth En-rogel, ac a wahoddodd ei holl frodyr meibion y
brenin, a holl wŷr Jwda gweision y brenin.
1:10 Ond Nathan y proffwyd, a Benaia, a’r gwŷr cedyrn, a Solomon ei frawd,
ni wahoddodd efe.
1:11 Am hynny y dywedodd Nathan wrth Bathseba mam Solomon, gan ddywedyd, Oni
chlywaist ti fod Adoneia mab Haggith yn teyrnasu, a’n harglwydd Dafydd heb wybod
hynny?
1:12 Tyred gan hynny yn awr, atolwg, rhoddaf i ti gyngor, fel yr achubych dy
einioes dy hun, ac einioes Solomon dy fab,
1:13 Dos, a cherdda i mewn at y brenin Dafydd, a dywed wrtho, Oni thyngaist ti,
fy arglwydd frenin, wrth dy wasanaethwraig, gan ddywedyd, Solomon dy fab di a
deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i? paham gan
hynny y mae Adoneia yn teyrnasu?
1:14 Wele, tra fyddych yno eto yn llefaru wrth y brenin, minnau a ddeuaf i mewn
ar dy ôl di, ac a sicrhaf dy eiriau di.
1:15 A Bathseba a aeth i mewn at y brenin, i’r ystafell. A’r brenin oedd hen
iawn; ac Abisag y Sunamees oedd yn gwasanaethu’r brenin.
1:16 A Bathseba a ostyngodd ei phen, ac a ymgrymodd i’r brenin. A’r brenin a
ddywedodd, Beth a fynni di?
1:17 Hithau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd, ti a dyngaist i’r ARGLWYDD dy DDUW
wrth dy wasanaethyddes, gan ddywedyd, Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy
ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i:
1:18 Ac yn awr, wele, Adoneia sydd frenin; ac yr awr hon, fy arglwydd frenin,
nis gwyddost ti hyn.
1:19 Ac efe a laddodd wartheg, ac anifeiliaid breision, a defaid lawer iawn, ac
a wahoddodd holl feibion y brenin, ac Abiathar yr offeiriad, a Joab tywysog y
filwriaeth: ond dy was Solomon ni wahoddodd efe.
1:20 Tithau, fy arglwydd frenin, y mae llygaid holl Israel arnat ti, am fynegi
iddynt pwy a eistedd ar orseddfainc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef. .
1:21 Os amgen, pan orweddo fy arglwydd frenin gyda’i dadau, yna y cyfrifir fi
a’m mab Solomon yn bechoduriaid.
1:22 Ac wele, tra yr oedd hi eto yn ymddiddan â’r brenin, y daeth Nathan y
proffwyd hefyd i mewn.
1:23 A hwy a fynegasant i’r brenin, gan ddywedyd, Wele Nathan y proffwyd. Ac
efe a aeth i mewn o flaen y brenin, ac a ymgrymodd i’r brenin â’i wyneb hyd
lawr.
1:24 A dywedodd Nathan, Fy arglwydd frenin, a ddywedaist ti, Adoneia a deyrnasa
ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc?
1:25 Canys efe a aeth i waered heddiw, ac a laddodd ychen, ac anifeiliaid
breision, a defaid lawer, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, a thywysogion y
filwriaeth, ac Abiathar yr offeiriad; ac wele hwynt yn bwyta ac yn yfed o’i
flaen ef, ac y maent yn dywedyd, Bydded fyw y brenin Adoneia.
1:26 Ond myfi dy was, a Sadoc yr offeiriad, a Benaia mab Jehoiada, a’th was
Solomon, ni wahoddodd efe.
1:27 Ai trwy fy arglwydd frenin y bu y peth hyn, heb ddangos ohonot i’th was,
pwy a eistedd ar orseddfainc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef?
1:28 A’r brenin Dafydd a atebodd ac a ddywedodd, Gelwch Bathseba ataf fi. A. hi
a ddaeth o flaen y brenin, ac a safodd gerbron y brenin.
1:29 A’r brenin a dyngodd, ac a ddywedodd, Fel y mae yr ARGLWYDD yn fyw, yr
hwn a waredodd fy enaid i allan o bob cyfyngder,
1:30 Yn ddiau megis y tyngais wrthyt ti i ARGLWYDD DDUW Israel, gan ddywedyd,
Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc
i yn fy lle i, felly y gwnaf y dydd hwn.
1:31 Yna Bathseba a ostyngodd ei phen â’i hwyneb i lawr, ac a ymgrymodd i’r
brenin, ac a ddywedodd, Bydded fy arglwydd frenin Dafydd fyw byth.
1:32 A’r brenin Dafydd a ddywedodd, Gelwch ataf fi Sadoc yr offeiriad, a Nathan
y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada. A hwy a ddaethant o flaen y brenin.
1:33 A’r brenin a ddywedodd wrthynt, Cymerwch weision eich arglwydd gyda chwi a
pherwch i Solomon fy mab farchogaeth ar fy mules fy hun, a dygwch ef i waered i
Gihon.
1:34 Ac eneinied Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd ef yno yn frenin ar
Israel: ac utgenwch mewn utgorn, dywedwch, Bydded fyw y brenin Solomon.
1:35 Deuwch chwithau i fyny ar ei ôl ef, a deued efe i fyny, ac eistedded ar fy
ngorseddfa i, ac efe a deyrnasa yn fy lle i: canys ef a ordeiniais i fod yn
flaenor ar Israel ac ar Jwda.
1:36 A Benaia mab Jehoiada a atebodd y brenin, ac a ddywedodd. Amen: yr un modd
y dywedo ARGLWYDD DDUW fy arglwydd frenin.
1:37 Megis y bu yr ARGLWYDD gyda’m harglwydd y brenin, felly bydded gyda
Solomon, a gwnaed yn fwy ei orseddfainc ef na gorseddfainc fy arglwydd y
brenin Dafydd.
1:38 Felly Sadoc yr offeiriad,
a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a’r Cerethiaid, a’r Felethiaid, a
aethant i waered, ac a wnaethant i Solomon farchogaeth ar fules y brenin
Dafydd, ac a aethant ag ef i Gihon.
1:39 A Sadoc yr offeiriad a gymerodd gorn o olew allan o’r babell, ac a
eneiniodd Solomon. A hwy a utganasant mewn utgorn: a’r holl bobl a ddywedasant,
Bydded fyw y brenin Solomon.
1:40 A’r holl bobl a aethant i fyny ar ei ôl ef, yn canu pibellau, ac yn
llawenychu â llawenydd mawr, fel y rhwygai y ddaear gan eu sŵn hwynt.
1:41 A chlybu Adoneia, a’i holl wahoddedigion y rhai oedd gydag ef, pan
ddarfuasai iddynt fwyta. Joab hefyd a glywodd lais yr utgorn; ac a ddywedodd,
Paham y mae twrf y ddinas yn derfysgol?
1:42 Ac efe eto yn llefaru,
wele, daeth Jonathan mab Abiathar yr offeiriad. A dywedodd
Adoneia, Tyred i mewn: canys gŵr grymus ydwyt ti, a daioni a fynegi di.
1:43 A Jonathan a atebodd ac a ddywedodd wrth Adoneia, Yn ddiau ein ein harglwydd
frenin Dafydd a osododd Solomon yn frenin.
1:44 A’r brenin a anfonodd gydag ef Solomon ei fab, gan ddywedyd, Sadoc yr
offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a’r Cerethiaid, a’r Pelethiaid; a
hwy a barasant iddo ef farchogaeth
ar fules y brenin.
1:45 A Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd a’i heneiniasant ef yn frenin yn Gihon: a hwy a ddaethant i fyny oddi yno yn llawen; a’r ddinas a derfysgodd. Dyna’r
twrf a glywsoch chwi.
1:46 Ac y mae Solomon yn eistedd ar orseddfainc y frenhiniaeth.
1:47 A gweision y brenin a ddaethant hefyd i fendithio ein harglwydd frenin Dafydd, gan ddywedyd, Dy dduw a wnelo enw
Solomon yn well na’th enw di, ac a
wnelo yn fwy ei orseddfainc ef na’th
orseddfainc di. A’r brenin a ymgrymodd
ar y gwely.
1:48 Fel hyn hefyd y dywedodd y brenin: Bendigedig fyddo arglwydd dduw Israel, yr hwn a roddodd heddiw un i eistedd ar fy ngorseddfainc, a’m llygaid innau yn gweled hynny.
1:49 A’r holl wahoddedigion, y rhai oedd gydag Adoneia, a ddychrynasant, ac a gyfodasant, ac a aethant bob un ei ffordd.
1:50 Ac Adoneia oedd yn ofni rhag Solomon;
ac a gyfododd, ac a aeth ac a ymaflodd
yng nghyrn yr allor.
1:51 A mynegwyd i Solomon, gan ddywedyd, Wele, y mae Adoneia yn ofni’r brenin Solomon: canys wele, efe a ymafl odd yng nghyrn yr allor, gan ddywedyd, Tynged y
brenin Solomon i mi heddiw, na ladd efe ei was â’r cleddyf.
1:52 A dywedodd Solomon, Os bydd efe yn ŵr da, ni syrth un o’i wallt ef i lawr; ond os ceir drygioni ynddo ef, efe a fydd marw.
1:53 A’r brenin Solomon a anfonodd, a hwy a’i dygasant ef oddi wrth yr allor.
Ac efe a ddaeth, ac a ymgrymodd i’r brenin Solomon. A dywedodd Solomon wrtho,
Dos i’th dŷ.
PENNOD
2
2:1 Yna dyddiau Dafydd
a nesasant i farw; ac efe a orchmynnodd i Solomon ei fab, gan ddywedyd,
2:2 Myfi
wyf yn myned ffordd yr holl ddaear; am hynny ymnertha, a bydd ŵr;
2:3 A chadw gadwraeth yr arglwydd dy dduw, i rodio yn ei ffyrdd ef, i gadw ei ddeddfau ef, a'i orchmynion, a'i farnedigaethau,
a'i dystiolaethau, fel yr ysgrifennwyd
yng nghyfraith Moses; fel y llwyddych
yn yr hyn oll a wnelych, ac i ba le bynnag y tröech:
2:4 Fel y cyflawno yr arglwydd ei
air a lefarodd efe wrthyf, gan ddywedyd, Os dy feibion a gadwant eu ffyrdd, i rodio ger fy mron
mewn gwirionedd, â'u holl galon, ac
â'u holl enaid, ni thorrir (eb efe)
na byddo ohonot ŵr ar orseddfainc Israel.
2:5 Tithau hefyd a wyddost yr hyn a wnaeth Joab mab Serfia â mi, a'r hyn a wnaeth efe i ddau o dywysogion lluoedd Israel,
i Abner mab Ner, ac i Amasa mab Jether, y
rhai a laddodd efe, ac a ollyngodd
waed rhyfel mewn heddwch, ac a roddodd
waed rhyfel ar ei wregys oedd am ei lwynau, ac yn ei esgidiau oedd am ei draed.
2:6 Am hynny gwna yn ôl dy ddoethineb, ac na ad i'w benllwydni ef ddisgyn i'r bedd mewn heddwch.
2:7 Ond i feibion Barsilai y Gileadiad y gwnei garedigrwydd, a byddant ymysg y rhai a fwytânt ar dy fwrdd di: canys felly y daethant ataf fi pan oeddwn yn ffoi
rhag Absalom dy frawd di.
2:8 Wele hefyd Simei mab Gera, mab Jemini, o Bahurim, gyda thi, yr hwn a'm melltithiodd i â melltith dost, y dydd yr euthum i
Mahanaim: ond efe a ddaeth i waered i'r
Iorddonen i gyfarfod â mi; a mi a
dyngais i'r arglwydd wrtho ef, gan ddywedyd, Ni'th laddaf â'r cleddyf.
2:9 Ond yn awr na ad di ef heb gosbedigaeth: canys gŵr doeth ydwyt ti, a
gwyddost beth a wnei iddo: dwg dithau ei benwynni ef i waered i’r bedd mewn
gwaed.
2:10 Felly Dafydd a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd.
2:11 A’r dyddiau y teyrnasodd Dafydd ar Israel oedd ddeugain mlynedd: saith
mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd
efe yn Jerwsalem.
2:12 A Solomon a eisteddodd ar orseddfainc Dafydd ei dad; a’i frenhiniaeth ef a
sicrhawyd yn ddirfawr.
2:13 Ac Adoneia mab Haggith a ddaeth at Bathseba mam Solomon. A hi a ddywedodd,
Ai heddychlon dy ddyfodiad? Yntau a ddywedodd, Heddychlon.
2:14 Ac efe a ddywedodd, Y mae i mi air â thi. Hithau a ddywedodd, Dywed.
2:15 Yntau a ddywedodd, Ti a wyddost mai eiddof fi oedd y frenhiniaeth, ac i
holl Israel osod eu hwynebau ar fy ngwneuthur i yn frenin: eithr trodd y
frenhiniaeth, ac a aeth i’m brawd: canys trwy yr ARGLWYDD yr aeth hi yn eiddo
ef.
2:16 Ond yn awr dymunaf gennyt un dymuniad; na omedd fi. Hithau a ddywedodd
wrtho, Dywed.
2:17 Yntau a ddywedodd, Dywed, atolwg, wrth y brenin Solomon, (canys ni omedd
efe dydi,) am roddi ohono ef Abisag y Sunamees yn wraig i mi.
2:18 A dywedodd Bathseba, Da; mi a
ddywedaf drosot ti wrth y brenin.
2:19 Felly
Bathseba a aeth at y brenin Solomon, i ddywedyd wrtho ef dros Adoneia. A’r
brenin a gododd i’w chyfarfod hi, ac a ostyngodd iddi, ac a eisteddodd ar ei
orseddfainc, ac a barodd osod gorseddfainc i fam y brenin: a hi a eisteddodd ar
ei ddeheulaw ef.
2:20 Yna hi a ddywedodd, Un dymuniad bychan yr ydwyf fi yn ei ddymuno gennyt;
na omedd fi. A’r brenin a ddywedodd wrthi hi, Gofyn, fy mam: canys ni’th omeddaf.
2:21 A hi a ddywedodd, Rhodder Abisag y Sunamees yn wraig i Adoneia dy frawd.
2:22 A’r brenin Solomon a atebodd ac a ddywedodd wrth ei fam, Paham y ceisi di
Abisag y Sunamees i Adoneia? gofyn hefyd y frenhiniaeth iddo ef; canys fy mrawd
hyn na mi ydyw efe; a chydag ef y mae Abiathar yr offeiriad, a Joab mab Serfia.
2:23 A’r brenin Solomon a dyngodd i’r ARGLWYDD, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo
Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, onid yn erbyn ei einioes y llefarodd Adoneia y
gair hwn.
2:24 Yn awr gan hynny, fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hwn a’m sicrhaodd i, ac a
wnaeth i mi eistedd ar orseddfainc Dafydd fy nhad, yr hwn hefyd a wnaeth i mi
dŷ, megis y dywedasai efe: heddiw yn ddiau y rhoddir Adoneia i farwolaeth.
2:25 A’r brenin Solomon a anfonodd
gyda Benaia mab Jehoiada; ac efe a ruthrodd arno ef, fel y bu efe farw.
2:26 Ac wrth Abiathar yr offeiriad y dywedodd y brenin, Dos i Anathoth, i’th
fro dy hun; canys gŵr yn haeddu marwolaeth ydwyt ti: ond ni laddaf di y
pryd hwn; oherwydd dwyn ohonot arch yr Arglwydd DDUW o flaen fy nhad Dafydd, ac
am dy gystuddio yn yr hyn oll y cystuddiwyd fy nhad.
2:27 Felly y bwriodd Solomon Abiathar ymaith o fod yn offeiriad i’r ARGLWYDD;
fel y cyflawnai air yr ARGLWYDD, yr hwn a ddywedasai efe am dŷ Eli yn
Seilo.
2:28 A’r chwedl a ddaeth at Joab: canys Joab a wyrasai ar ôl Adoneia, er na
wyrasai efe ar ôl Absalom. A ffodd Joab i babell yr ARGLWYDD, ac a
ymaflodd yng nghyrn yr allor.
2:29 A mynegwyd i’r brenin Solomon, ffoi o Joab i babell yr ARGLWYDD; ac wele,
y mae efe wrth yr allor. A Solomon a
anfonodd Benaia mab Jehoiada, gan ddywedyd, Dos, rhuthra arno ef.
2:30 A daeth
Benaia i babell yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd wrtho ef, Fel hyn y dywed y
brenin; Tyred allan. Yntau a ddywedodd, Na ddeuaf; eithr yma y byddaf farw. A
Benaia a ddug drachefn air at y brenin, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedodd Joab,
ac fel hyn y’m hatebodd.
2:31 A dywedodd y brenin wrtho ef, Gwna fel y dywedodd efe, a rhuthra arno ef,
a chladd ef; fel y tynnych y gwaed gwirion a dywalltodd Joab, oddi arnaf fi, ac
oddi ar dŷ fy nhad i.
2:32 A’r ARGLWYDD a ddychwel ei waed ef ar ei ben ei hun; oherwydd efe a
ruthrodd ar ddau ŵr cyfiawnach a gwell nag ef ei hun, ac a’u lladdodd
hwynt â’r cleddyf , a Dafydd fy nhad heb wybod; sef Abner mab Ner, tywysog llu
Israel, ac Amasa mab Jether, tywysog llu Jwda.
2:33 A’u gwaed hwynt a ddychwel ar ben Joab, ac ar ben ei had ef yn dragywydd:
ond i Dafydd, ac i’w had, ac i’w dŷ, ac i’w orseddfainc, y bydd heddwch yn
dragywydd gan yr ARGLWYDD.
2:34 Felly yr aeth Benaia mab Jehoiada i fyny, ac a ruthrodd arno, ac a’i
lladdodd. Ac efe a gladdwyd yn ei dŷ ei hun yn yr anialwch.
2:35 A’r brenin a osododd Benaia mab
Jehoiada yn ei le ef ar y filwriaeth. A’r brenin a osododd Sadoc yr offeiriad
yn lle Abiathar.
2:36 A’r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho, Adeilada
i ti dŷ yn Jerwsalem, ac aros yno, ac na ddos allan oddi yno nac yma na
thraw.
2:37 Canys bydd, y dydd yr elych allan, ac yr elych dros afon Cidron, gan wybod
y cei di wybod y lleddir di yn farw: dy waed fydd ar dy ben dy hun.
2:38 A dywedodd Simei wrth y brenin, Da yw y gair: fel y dywedodd fy arglwydd
frenin, felly y gwna dy was. A Simei a drigodd yn Jerwsalem ddyddiau
lawer.
2:39 Eithr ymhen tair blynedd y ffodd dau was i Simei at Achis, mab Maacha,
brenin Gath. A mynegwyd i Simei, gan ddywedyd, Wele dy weision di yn Gath.
2:40 A Simei a gyfododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a aeth i Gath at Achis, i
geisio ei weision: ie, Simei a aeth, ac a gyrchodd ei weision o Gath.
2:41 A mynegwyd i Solomon, fyned o Simei o Jerwsalem i Gath, a’i ddychwelyd ef.
2:42 A’r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho. Oni
pherais i ti dyngu i’r ARGLWYDD, ac oni thystiolaethais wrthyt, gan ddywedyd,
Yn y dydd yr elych allan, ac yr elych nac yma nac acw, gan wybod gwybydd y
lleddir di yn farw? a thi a ddywedaist wrthyf. Da yw y gair a glywais.
2:43 Paham gan
hynny na chedwaist lw yr ARGLWYDD, a’r gorchymyn a orchmynnais i ti,?
2:44 A dywedodd y brenin wrth Simei, Ti a wyddost yr holl ddrygioni a ŵyr
dy galon, yr hwn a wnaethost ti yn erbyn Dafydd fy nhad: yr ARGLWYDD am hynny a
ddychwelodd dy ddrygioni di ar dy ben dy hun;
2:45 A bendigedig fydd y brenin Solomon, a gorseddfainc Dafydd a sicrheir o
flaen yr ARGLWYDD yn dragywydd.
2:46 Felly y gorchmynnodd y brenin i Benaia mab Jehoiada; ac efe a aeth allan,
ac a ruthrodd arno ef, fel y bu efe farw. A’r frenhiniaeth a sicrhawyd yn llaw
Solomon.
PENNOD 3
3:1 A Solomon a ymgyfathrachodd â Pharo brenin yr Aifft, ac a briododd
ferch Pharo, ac a’i dug hi i ddinas Dafydd, nes darfod iddo adeiladu ei dŷ
ei hun, a thŷ yr ARGLWYDD, a mur Jerwsalem oddi amgylch.
3:2 Eto y bobl oedd yn aberthu mewn uchelfaoedd, oherwydd nad adeiladasid
tŷ i enw yr ARGLWYDD, hyd y dyddiau hynny.
3:3 A Solomon a garodd yr ARGLWYDD, gan rodio yn neddfau Dafydd ei dad: eto
mewn uchelfaoedd yr oedd efe yn aberthu ac yn arogl-darthu.
3:4 A’r brenin a aeth i Gibeon i aberthu yno: canys honno oedd uchelfa fawr.
Mil o boethoffrymau a offrymodd Solomon ar yr allor honno.
3:5 Yn Gibeon yr ymddangosodd yr ARGLWYDD i Solomon mewn breuddwyd liw nos: a
dywedodd Duw, Gofyn beth a roddaf i ti.
3:6 A dywedodd Solomon, Ti a wnaethost â’th was Dafydd fy nhad fawr drugaredd,
megis y rhodiodd efe o’th flaen di mewn gwirionedd, ac mewn cyfiawnder, ac mewn
uniondeb calon gyda thi; ie, cedwaist iddo y drugaredd fawr honi a rhoddaist
iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc, fel y gwelir heddiw.
3:7 Ac yn awr, O ARGLWYDD fy Nuw, ti a wnaethost i’th was deyrnasu yn lle
Dafydd fy nhad: a minnau yn fachgen bychan: ni fedraf fyned nac allan nac i
mewn.
3:8 A’th was sydd ymysg dy bobl, y rhai a ddewisaist ti; pobl aml, y rhai ni
rifir ac nis cyfrifir gan luosowgrwydd.
3:9 Am hynny dyro i’th was galon ddeallus, i farnu dy bobl, i ddeall rhagot rhwng
da a drwg: canys pwy a ddichon farnu dy luosog bobl hyn?
3:10 A’r peth fu dda yng ngolwg yr ARGLWYDD, am ofyn o Solomon y peth hyn.
3:11 A Duw a ddywedodd wrtho, Oherwydd gofyn ohonot y peth hyn, ac na ofynnaist
i ti ddyddiau lawer, ac na ofynnaist i ti olud, ac na cheisiaist einioes dy
elynion, eithr gofynnaist i ti ddeall i wrando barn:
3:12 Wele, gwneuthum yn ôl dy eiriau; wele, rhoddais i ti galon ddoeth a
deallus, fel na bu dy fath o’th flaen, ac na chyfyd dy fath ar dy ôl.
3:13 A rhoddais i ti hefyd yr hyn nis gofynnaist, golud, a gogoniant hefyd; fel
na byddo un o’th fath ymysg y brenhinoedd, dy holl ddyddiau di.
3:14 Ac os rhodi yn fy ffyrdd i, gan gadw fy neddfau a’m gorchmynion, megis y
rhodiodd Dafydd dy dad, estynnaf hefyd dy ddyddiau di.
3:15 A Solomon a ddeffrodd; ac wele, breuddwyd oedd. Ac efe a ddaeth i
Jerwsalem, ac a safodd o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac a offrymodd
offrymau poeth, ac a aberthodd aberthau hedd, ac a wnaeth wledd i’w holl
weision.
3:16 Yna dwy wraig o buteiniaid a ddaethant at y brenin, ac a safasant ger ei
fron ef.
3:17 A’r naill wraig a ddywedodd, O fy arglwydd, myfi a’r wraig hon oeddem yn
trigo yn yr un tŷ; a mi a esgorais yn tŷ gyda hi.
3:18 Ac ar y trydydd dydd wedi esgor ohonof fi, yr esgorodd y wraig hon hefyd
ac yr oeddem ni ynghyd, heb arall yn tŷ gyda ni, ond nyni ein dwyoedd yn
tŷ.
3:19 A mab y wraig hon a fu farw liw nos; oherwydd hi a orweddodd arno ef.
3:20 A hi a gododd yng nghanol y nos, ac a gymerodd fy mab i o’m hymyl, tra yr
ydoedd dy lawforwyn yn cysgu, ac a’i gosododd ef yn ei mynwes hi, a’i mab marw
hi a osododd hi yn fy mynwes innau.
3:21 A phan godais i y bore i beri i’m mab sugno, wele, marw oedd efe; ac wedi
i mi ddal arno y bore, wele, nid fy mab i, yr hwn a esgoraswn i, ydoedd efe.
3:22 A’r wraig arall a ddywedodd, Nage, eithr fy mab i yw y byw, a’th fab
dithau yw y marw. A hon a ddywedodd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a’m mab i
yw y byw. Fel hyn y llefarasant o
flaen y brenin.
3:23 Yna y dywedodd y brenin, Hon sydd yn dywedyd, Dyma fy mab i sydd fyw, a’th
fab dithau yw y marw: a hon acw sydd yn dywedyd, Nage; eithr dy fab di yw y
marw, a’m mab innau yw y byw.
3:24 A dywedodd
y brenin, Dygwch i mi gleddyf. A hwy a ddygasant gleddyf o flaen y brenin.
3:25 A’r brenin a ddywedodd, Rhennwch: y bachgen byw yn ddau, a rhoddwch yr
hanner i’r naill, a’r hanner i’r llall.
3:26 Yna y dywedodd y wraig bioedd y mab byw wrth y brenin, (canys ei
hymysgaroedd a gynesasai wrth ei mab,) ac a. lefarodd, O fy arglwydd, rhoddwch
iddi hi y bachgen byw, ac na leddwch ef ddim: ond y llall a ddywedodd, Na
fydded eiddof fi na thithau, eithr rhennwch ef.
3:27 Yna yr atebodd y brenin, ac y dywedodd, Rhoddwch y bachgen byw iddi hi, ac
na leddwch ef ddim: dyna ei farn ef.
3:28 A holl Israel a glywsant y farn a farnasai y brenin; a hwy a ofnasant y
brenin: canys gwelsant fod doethineb Duw ynddo ef i wneuthur barn.
PENNOD 4
4:1 A’r brenin Solomon oedd frenin ar holl Israel.
4:2 A dyma y tywysogion oedd ganddo ef: Asareia mab Sadoc, yr offeiriad;
4:3 Elihoreff ac Ahia, meibion Sisa, oeddi ysgrifenyddion; Jehosaffat mab
Ahilud, yn gofiadur;
4:4 Benaia mab Jehoiada oedd ar y llu; a Sadoc ac Abiathar, yn offeiriaid;
4:5 Ac Asareia mab Nathan oedd ar y swyddogion; a Sabud mab Nathan oedd
ben-llywydd, ac yn gyfaill i’r brenin;
4:6 Ac Ahisar oedd benteulu; ac Adoniram mab Abda, ar y deyrnged.
4:7 A chan Solomon yr ydoedd deuddeg o swyddogion ar holl Israel, y rhai a
baratoent luniaeth i’r brenin a’i dŷ: mis yn y flwyddyn yr oedd ar bob un
ddarparu.
4:8 Dyma eu henwau hwynt. Mab
Hur, ym mynydd Effraim.
4:9 Mab Decar ym Macas, ac yn Saalbim, a Beth-semes, ac Elon-bethanan.
4:10 Mab Hesed, yn Aruboth: iddo efyr oedd Socho, a holl dir Heffer.
4:11 Mab Abinadab oedd yn holl ardal Dor: Taffath merch Solomon oedd yn wraig
iddo ef.
4:12 Baana mab Ahilud oedd yn Taanach, a Megido, a Bethsean oll, yr hon sydd
gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Bethsean hyd Abel-mehola, hyd y tu hwnt i
Jocneam.
4:13 Mab Geber oedd yn Ramoth-Gilead: iddo ef yr oedd trefydd Jair mab Manasse,
y rhai sydd yn Gilead: eiddo ef oedd ardal Argob, yr hon sydd yn Basan; sef
trigain o ddinasoedd mawrion, â chaerau a barrau pres.
4:14 Ahinadab mab Ido oedd ym
Mahariaim.
4:15 Ahimaas
oedd yn Nafftali: yntau a gymerodd Basmath merch Solomon yn wraig.
4:16 Baana mab Husai oedd yn Aser ac yn Aloth.
4:17 Jehosaffat mab Parua oedd yn Issachar.
4:18 Simei mab Ela oedd o fewn
Benjamin.
4:19 Geber mab Uri oedd yng ngwlad Gilead, gwlad Sehon brenin yr Amoriaid.y ac
Og brenin Basan; a’r unig swyddog oedd yn y wlad ydoedd efe.
4:20 Jwda ac Israel oedd aml, fel y tywod sydd gerllaw y môr o amldra, yn bwyta
ac yn yfed, ac yn gwneuthur yn llawen.
4:21 A Solomon oedd yn llywodraethi ar yr holl deyrnasoedd, o’r afon hyd wlad y
Philistiaid, ac hyd derfyn yr Aifft: yr oeddynt hwy yn dwyn anrhegion, ac yn
gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei einioes ef.
4:22 A bwyd Solomon beunydd oedd ddeg corus ar hugain o beilliaid, a thrigain
corus o flawd;
4:23 Deg o ychen pasgedig, ac ugain o ychen porfadwy, a chant o ddefaid, heblaw
ceirw, ac iyrchod, a buail, ac ednod breision.
4:24 Canys efe oedd yn llywodraethu ar y tu yma i’r afon oll, o Tiffsa byd
Assa, ar yr holl frenhinoedd o’r tu yma i’r afon: ac yr oedd iddo ef heddwch o
bob parth iddo o amgylch.
4:25 Ac yr oedd Jwda ac Israel yn preswylio yn ddiogel, bob un dan ei winwydden
a than ei ffigysbren, o Dan hyd Beer-seba, holl ddyddiau Solomon.
4:26 Ac yr oedd gan Solomon ddeugain mil o bresebau meirch i’w gerbydau, a
deuddeng mil o wŷr meirch.
4:27 A’r swyddogion hynny a baratoent luniaeth i Solomon y brenin, ac i bawb a
ddelai i fwrdd y brenin Solomon, pob un yn ei fis: ni adawsant eisiau dim.
4:28 Haidd hefyd a gwellt a ddygasant hwy i’r meirch, ac i’r cyflym gamelod,
i’r fan lle y byddai y swyddogion, pob un ar ei ran.
4:29 A Duw a roddodd ddoethineb i Solomon, a deall mawr iawn, a helaethdra
calon, fel y tywod sydd ar fin y môr.
4:30 A doethineb Solomon oedd fwy na doethineb holl feibion y dwyrain,
ac na holl ddoethineb yr Aifft.
4:31 Ie, doethach oedd efe nag un dyn; nag Ethan yr Esrahiad, na Heman, nai.
Chalcol, na Darda, meibion Mahol: a’i enw ef oedd ymhlith yr holl genhedloedd
oddi amgylch.
4:32 Ac efe a lefarodd dair mil o ddiarhebion: a’i ganiadau ef oedd fil a
phump.
4:33 Llefarodd hefyd am brennau, o’r cedrwydd sydd yn Libanus, hyd yr isop a
dyf allan o’r pared: ac efe a lefarodd am anifeiliaid, ac am ehediaid, ac am
ymlusgiaid, ac am bysgod.
4:34 Ac o bob pobloedd y daethpwyd i wrando doethineb Solomon, oddi wrth holl
frenhinoedd y ddaear, y rhai a glywsent am ei ddoethineb ef.
PENNOD 5
5:1 Hiram hefyd brenin Tyrus a anfonodd ei weision at Solomon; canys clybu
eneinio ohonynt hwy ef yn frenin yn lle ei dad: canys hoff oedd gan Hiram
Dafydd bob amser.
5:2 A Solomon a anfonodd at Hiram, gan ddywedyd,
5:3 Ti a wyddost am Dafydd fy nhad, na allai efe adeiladu ty` i enw yr ARGLWYDD
ei DDUW, gan y rhyfeloedd oedd o’i amgylch ef, nes rhoddi o’r ARGLWYDD hwynt
dan wadnau ei draed ef.
5:4 Eithr yn awr yr ARGLWYDD fy Nuw a roddodd i mi lonydd oddi amgylch, fel nad
oes na gwrthwynebydd, nac ymgyfarfod niweidiol.
5:5 Ac wele fi a’m bryd ar adeiladu tŷ i enw yr ARGLWYDD fy Nuw; megis y
llefarodd yr ARGLWYDD wrth Dafydd fy nhad, gan ddywedyd, Dy fab, yr hwn a
osodaf fi yn dy le di ar dy orseddfainc di, efe a adeilada dŷ i’m henw i.
5:6 Yn awr, gan hynny, gorchymyn dorri ohonynt i mi gedrwydd o Libanus; a’m
gweision i a fyddant gyda’th weision di: a rhoddaf atat gyflog dy weision, yn
ôl yr hyn a ddywedych: canys ti a wyddost nad oes yn ein plith ni ŵr a
fedro gymynu coed megis y Sidoniaid.
5:7 A bu, pan glybu Hiram eiriau Solomon, lawenychu ohono ef yn ddirfawr, a
dywedyd, Bendigedig yw yr ARGLWYDD heddiw, yr hwn a roddes i Dafydd fab doeth
ar y bobl luosog yma.
5:8 A Hiram a anfonodd at Solomon, gan ddywedyd, Gwrandewais ar yr hyn a
anfonaist ataf: mi a wnaf dy holl ewyllys di am goed cedrwydd, a choed
ffynidwydd.
5:9 Fy ngweision a’u dygant i waered o Libanus hyd y môr: a mi a’u gyrraf hwynt
yn gludeiriau ar hyd y môr, hyd y fan a osodych di i mi; ac yno y datodaf
hwynt, a chymer di hwynt: ond ti a wnei fy ewyllys innau, gan roddi ymborth i’m
teulu i.
5:10 Felly yr oedd Hiram yn rhoddi i Solomon o goed cedrwydd, ac o goed
ffynidwydd, ei holl ddymuniad.
5:11 A Solomon a roddodd i Hiram ugain mil corus o wenith yn gynhaliaeth i’w
dŷ, ac ugain corus o olew coeth: felly y rhoddai Solomon i Hiram bob
blwyddyn.
5:12 A’r ARGLWYDD a roddes ddoethineb i Solomon, fel y dywedasai wrtho: a bu
heddwch rhwng Hiram a Solomon; a hwy a wnaethant gyfamod ill dau.
5:13 A’r brenin Solomon a gyfododd dreth o holl Israel, a’r dreth oedd ddeng
mil ar hugain o wŷr.
5:14 Ac efe a’u hanfonodd hwynt i Libanus, deng mil yn y mis ar gylch: mis y
byddent yn Libanus, a dau fis gartref. Ac Adoniram oedd ar y dreth.
5:15 Ac yr oedd gan Solomon ddeng mil a thrigain yn dwyn beichiau, a phedwar
ugain mil yn naddu cerrig yn y mynydd;
5:16 Heb law pen-swyddogion Solomon, y rhai oedd ar y gwaith, sef tair mil a
thri chant, yn llywodraethu y bobl a weithient yn y gwaith.
5:17 A’r brenin a orchmynnodd ddwyn ohonynt hwy feini mawr, a meini costus, a
meini nadd, i sylfaenu y tŷ.
5:18 Felly seiri Solomon, a seiri Hiram, a’r Gibliaid, a naddasant, ac a
ddarparasant goed a cherrig i adeiladu’r tŷ.
PENNOD 6
6:1 Ac yn y bedwar ugeinfed a phedwar cant o flynyddoedd wedi dyfod meibion
Israel allan o’r Aifft, yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Solomon ar Israel,
yn y mis Sif, hwnnw yw yr ail fis, y dechreuodd efe adeiladu tŷ yr
ARGLWYDD.
6:2 A’r tŷ a adeiladodd y brenin Solomon i’r ARGLWYDD oedd drigain cufydd
ei hyd, ac ugain cufydd ei led, a deg cufydd ar hugain ei uchder.
6:3 A’r porth o flaen teml y tŷ oedd ugain cufydd ei hyd, yn un hyd a lled
y tŷ; ac yn ddeg cufydd ei led, o flaen y tŷ.
6:4 Ac efe a wnaeth i’r tŷ ffenestri, yn llydain oddi fewn, ac yn gyfyng
oddi allan.
6:5 Ac efe a adeiladodd wrth fur y tŷ ystafelloedd oddi amgylch mur y
tŷ, ynghylch y deml, a’r gafell; ac a wnaeth gelloedd o amgylch.
6:6 Yr ystafell isaf oedd bûm cufydd ei lled, a’r ganol chwe chufydd ei lled,
a’r drydedd yn saith gufydd ei lled: canys efe a roddasai ategion o’r tu allan
i’r tŷ oddi amgylch, fel na rwymid y trawstiau ym mur y tŷ.
6:7 A’r tŷ, pan adeiladwyd ef, a adeiladwyd o gerrig wedi eu cwbl naddu
cyn eu dwyn yno; fel na chlybuwyd na morthwylion, na bwyeill, nac un offeryn
haearn yn y tŷ, wrth ei adeiladu.
6:8 Drws y gell ganol oedd ar ystlys ddeau y tŷ; ac ar hyd grisiau tröedig
y dringid i’r ganol, ac o’r ganol i’r drydedd.
6:9 Felly yr adeiladodd efe y tŷ, ac a’i gorffennodd; ac a fyrddiodd y
tŷ â thrawstiau ac ystyllod o gedrwydd.
6:10 Ac efe a adeiladodd ystafelloedd wrth yr holl dŷ, yn bûm cufydd eu
huchder: ac â choed cedr yr oeddynt yn pwyso ar y tŷ.
6:11 A daeth gair yr ARGLWYDD at Solomon, gan ddywedyd,
6:12 Am y tŷ yr wyt ti yn ei adeiladu, os rhodi di yn fy neddfau i, a
gwneuthur fy marnedigaethau, a chadw fy holl orchmynion, gan rodio ynddynt; yna
y cyflawnaf a thi fy ngair a leferais wrth Dafydd dy dad:
6:13 A mi a breswyliaf ymysg meibion Israel, ac ni adawaf fy mhobl Israel.
6:14 Felly yr adeiladodd Solomon y tŷ, ac a’i gorffennodd.
6:15 Ac efe a fyrddiodd barwydydd y tŷ oddi fewn ag ystyllod cedrwydd, o
lawr y tŷ hyd y llogail y byrddiodd efe ef â choed oddi fewn: byrddiodd
hefyd lawr y tŷ â phlanciau o ffynidwydd.
6:16 Ac efe a adeiladodd ugain cufydd ar ystlysau y tŷ ag ystyllod cedr,
o’r llawr hyd y parwydydd: felly yr adeiladodd iddo o fewn, sef i’r gafell,
i’r cysegr sancteiddiolaf.
6:17 A’r tŷ, sef y deml o’i flaen ef, oedd ddeugain cufydd ei hyd.
6:18 A chedrwydd y tŷ oddi fewn oedd wedi eu cerfio yn gnapiau, ac yn
flodau agored: y cwbl oedd gedrwydd; ni welid carreg.
6:19 A’r gafell a ddarparodd efe yn y tŷ o fewn, i osod yno arch cyfamod
yr ARGLWYDD.
6:20 A’r gafell yn y pen blaen oedd ugain cufydd o hyd, ac ugain cufydd o led,
ac ugain cufydd ei huchder: ac efe a’i gwisgodd ag aur pur; felly hefyd y
gwisgodd efe yr allor o gedrwydd.
6:21 Solomon hefyd a wisgodd y tŷ oddi fewn ag aur pur; ac a roddes farrau
ar draws, wrth gadwyni aur, o flaen y gafell, ac a’u gwisgodd ag aur.
6:22 A’r holl dy a wisgodd efe ag aur, nes gorffen yr holl dŷ: yr allor
hefyd oll, yr hon oedd wrth y gafell, a wisgodd efe ag aur.
6:23 Ac efe a wnaeth yn y gafell ddau o geriwbiaid, o bren olewydd, pob un yn
ddeg cufydd ei uchder.
6:24 A’r naill adain i’r ceriwb oedd bûm cufydd, a’r adain arall i’r cerub oedd
bum cufydd: deg cufydd oedd o’r naill gŵr i’w adenydd ef hyd y cwr arall
i’w adenydd ef.
6:25 A’r ail geriwb oedd o ddeg cufydd: un mesur ac un agwedd oedd y ddau geriwb.
6:26 Uchder y naill geriwb oedd ddeg cufydd; ac felly yr oedd y ceriwb arall.
6:27 Ac efe a osododd y ceriwbiaid yn y tŷ oddi fewn: ac adenydd y
ceriwbiaid a ymledasant, fel y cyffyrddodd adain y naill â’r naill bared, ac
adain y ceriwb arall oedd yn cyffwrdd â’r pared arall; a’u hadenydd hwy yng
nghanol y tŷ oedd yn cyffwrdd â’i gilydd.
6:28 Ac efe a wisgodd y ceriwbiaid ag aur;
6:29 A holl barwydydd y tŷ o amgylch a gerfiodd efe â cherfiedig luniau
ceriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored; o fewn ac oddi allan.
6:30 Llawr y tŷ hefyd a wisgodd efe ag aur, oddi fewn ac oddi allan.
6:31 Ac i ddrws y gafell y gwnaeth efe ddorau o goed olewydd; capan y drws a’r
gorsingau oedd bumed ran y pared.
6:32 Ac ar y ddwy ddôr o goed olewydd y cerfiodd efe gerfiadau ceriwbiaid, a
phalmwydd, a blodau agored, ac a’u gwisgodd ag aur, ac a ledodd aur ar y
ceriwbiaid, ac ar y palmwydd,
6:33 Ac felly y gwnaeth efe i ddrws y deml orsingau o goed olewydd, y rhai oedd
bedwaredd ran y pared.
6:34 Ac yr oedd y ddwy ddôr o goed ffynidwydd: dwy ddalen blygedig oedd i’r
naill ddôr, a dwy ddalen blygedig i’r ddôr arall.
6:35 Ac efe a gerfiodd geriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored, arnynt; ac a’u
gwisgodd ag aur, yr hwn a gymhwyswyd ar y cerfiad.
6:36 Ac efe a adeiladodd y cyntedd nesaf i mewn â thair rhes o gerrig nadd, ac
â rhes o drawstiau cedrwydd.: .
6:37 Yn y bedwaredd flwyddyn y sylfaenwyd tŷ yr ARGLWYDD, ym mis Sif:
6:38 Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, ym mis Bul, (dyna yr wythfed mis,) y
gorffennwyd y tŷ, a’i holl rannau, a’i holl berthynasau. Felly mewn saith
mlynedd yr adeiladodd efe ef.
PENNOD 7
7:1 Eithr ei dŷ ei hun a adeiladodd Solomon mewn tair blynedd ar ddeg,
ac a orffennodd ei holl dŷ.
7:2 Efe a adeiladodd dŷ coedwig Libanus, yn gan cufydd ei hyd, ac yn ddeg
cufydd a deugain ei led, ac yn ddeg cufydd ar hugain ei uchder, ar bedair rhes
o golofnau cedrwydd, a thrawstiau cedrwydd ar y colofnau.
7:3 Ac efe a dowyd â chedrwydd oddi arnodd ar y trawstiau oedd ar y pum colofn
a deugain, pymtheg yn y rhes.
7:4 Ac yr oedd tair rhes o ffenestri, golau ar gyfer golau, yn dair rhenc.
7:5 A’r holl ddrysau a’r gorsingau oedd ysgwar, felly yr oedd y ffenestri; a
golau ar gyfer golau, yn dair rhenc.
7:6 Hefyd efe a wnaeth borth o golofnau, yn ddeg cufydd a deugain ei hyd, ac
yn ddeg cufydd ar hugain ei led: a’r porth oedd o’u blaen hwynt; a’r colofnau
eraill a’r swmerau oedd o’u blaen hwythau.
7:7 Porth yr orseddfa hefyd, yr hwn y barnai efe ynddo, a wnaeth efe yn borth
barn: ac efe a wisgwyd â chedrwydd o’r naill gŵr i’r llawr hyd y llall.
7:8 Ac i’w dŷ ei hun, yr hwn y trigai efe ynddo, yr oedd cyntedd arall o
fewa y porth o’r un fath waith. Gwnaeth hefyd dŷ i ferch Pharo, yr hon a
briodasai Solomon, fel y porth hwn.
7:9 Hyn oll oedd o feini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a’u lladd â llif,
oddi fewn ac oddi allan, a hynny o’r sylfaen hyd y llogail; ac felly o’r tu
allan hyd y cyntedd mawr.
7:10 Ac efe a sylfaenesid â meini costus, â meini mawr, â meini o ddeg cufydd,
ac â meini o wyth gufydd.
7:11 Ac oddi arnodd yr oedd meini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a
chedrwydd.
7:12 Ac i’r cyntedd mawr yr oedd o amgylch, dair rhes o gerrig nadd, a rhes o
drawstiau cedrwydd, i gyntedd tŷ yr ARGLWYDD oddi fewn, ac i borth y
tŷ.
7:13 A’r brenin Solomon a anfonodd ac a gyrchodd Hiram o Tyrus.
7:14 Mab gwraig weddw oedd hwn o lwyth Nafftali, a’i dad yn ŵr o Tyrus:
gof pres ydoedd efe, a llawn ydoedd o ddoethineb, a deall, a gwybodaeth, i
weithio pob gwaith o bres. Ac efe a ddaeth at y brenin Solomon, ac a weithiodd
ei holl waith ef.
7:15 Ac efe a fwriodd ddwy golofn o bres; deunaw cufydd oedd uchder pob colofn;
a llinyn o ddeuddeg cufydd a amgylchai bob un o’r ddwy.
7:16 Ac efe a wnaeth ddau gnap o bres tawdd, i’w rhoddi ar bennau y colofnau;
pum cufydd oedd uchder y naill gnap, a phum cufydd uchder y cnap arall.
7:17 Efe a wnaeth rwydwaith, a
phlethiadau o gadwynwaith, i’r cnapiau oedd ar ben y colofnau; saith i’r naill
gnap, a saith i’r cnap arall.
7:18 Ac efe a wnaeth y colofnau, a dwy res o bomgranadau o amgylch ar y naill
rwydwaith, i guddio’r cnapiau oedd uwchben; ac felly y gwnaeth efe i’r cnap
arall.
7:19 A’r cnapiau y rhai oedd ar y colofnau oedd o waith lili, yn y porth, yn
bedwar cufydd.
7:20 Ac i’r cnapiau ar y ddwy golofn oddi arnodd, ar gyfer y canol, yr oedd
pomgranadau, y rhai oedd wrth y rhwydwaith; a’r pomgranadau oedd ddau cant, yn
rhesau o amgylch, ar y cnap arall.
7:21 Ac efe a gyfododd y colofnau ym mhorth y deml: ac a gyfododd y golofn
ddeau, ac a alwodd ei henw hi Jachin; ac efe a gyfododd y golofn aswy, ac a
alwodd ei henw hi Boas.
7:22 Ac ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili. Felly y gorffennwyd gwaith y
colofnau.
7:23 Ac efe a wnaeth fôr tawdd yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl: yn grwn oddi
amgylch, ac yn bûm cufydd ei uchder; a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a’i
hamgylchai oddi amgylch.
7:24 A chnapiau a’i hamgylchent ef dan ei ymyl o amgylch, deg mewn cufydd oedd
yn amgylchu’r môr o amgylch: y cnapiau oedd yn ddwy res, wedi eu bwrw pan
fwriwyd yntau.
7:25 Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen; tri oedd yn edrych tua’r gogledd, a
thri yn edrych tua’r gorllewin, a thri yn edrych tua’r deau, a thri yn edrych
tua’r dwyrain: a’r môr arnynt oddi arnodd, a’u pennau ôl hwynt oll o fewn.
7:26 Ei dewder hefyd oedd ddyrnfedd, a’i ymyl fel gwaith ymyl cwpan, a blodau
lili: dwy fil o bathau a annai ynddo. .
7:27 Hefyd efe a wnaeth ddeg o ystolion pres; pedwar cufydd oedd hyd pob ystôl,
a phedwar cufydd ei lled, a thri chufydd ei huchder.
7:28 A dyma waith yr ystolion: ystlysau oedd iddynt, a’r ystlysau oedd rhwng: y
delltennau:
7:29 Ac ar yr ystlysau oedd rhwng y delltennau, yr oedd llewod, ychen, a
cheriwbiaid; ac ar y dellt yr oedd ystôl oddi arnodd; ac oddi tan y llewod a’r
ychen yr oedd cysylltiadau o waith tenau.
7:30 A phedair olwyn bres oedd i bob ystôl, a phlanciau pres; ac yn eu pedair
congl yr oedd ysgwyddau iddynt: dan y noe yr oedd ysgwyddau, wedi eu toddi ar
gyfer pob cysylltiad.
7:31 A’i genau oddi fewn y cwmpas, ac oddi arnodd, oedd gufydd; a’i genau hi
oedd grwn, ar waith yr ystol, yn gufydd a hanner; ac ar ei hymyl hi yr oedd
cerfiadau, a’i hystlysau yn bedwar ochrog, nid yn grynion.
7:32 A’r pedair olwyn oedd dan yr ystlysau, ac echelau yr olwynion yn yr ystol;
ac uchder pob olwyn yn gufydd a hanner cufydd.
7:33 Gwaith yr olwynion hefyd oedd fel gwaith olwynion men; eu hechelau, a’u
bothau, a’u camegau, a’u hadenydd, oedd oll yn doddedig.
7:34 Ac yr oedd pedair ysgwydd wrth bedair congl pob ystôl: o’r ystol yr oedd
ei hysgwyddau hi.
7:35 Ac ar ben yr ystôl yr oedd cwmpas o amgylch, o hanner cufydd o uchder; ar
ben yr ystôl hefyd yr oedd ei hymylau a’i thaleithiau o’r un.
7:36 Ac efe a gerfiodd ar ystyllod ei hymylau hi, ac ar ei thaleithiau hi,
geriwbiaid, llewod, a phalmwydd, wrth noethder pob un, a chysylltiadau oddi
amgylch.
7:37 Fel hyn y gwnaeth efe y deg
ystôl: un toddiad, un mesur, ac un agwedd, oedd iddynt hwy oll.
7:38 Gwnaeth hefyd ddeng noe bres: deugain bath a ddaliai pob noe; yn bedwar
cufydd bob noe; ac un noe ar bob un o’r deg ystôl.
7:39 Ac efe a osododd bûm ystôl ar ystlys ddeau y tŷ, a phump ar yr ystlys
aswy i’r tŷ: a’r môr a osododd efe ar y tu deau i’r tŷ, tua’r
dwyrain, ar gyfer y deau.
7:40 Gwnaeth
Hiram hefyd y noeau, a’r rhawiau, a’r cawgiau: a Hiram a orffennodd wneuthur yr
holl waith, yr hwn a wnaeth efe i’r brenin Solomon yn nhŷ yr ARGLWYDD.
7:41 Y ddwy golofn, a’r cnapiau coronog y rhai oedd ar ben y ddwy golofn; a’r
ddau rwydwaith, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar ben y colofnau;
7:42 A phedwar cant o bomgranadau i’r ddau rwydwaith, dwy res o bomgranadau i
un rhwydwaith, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar y colofnau;
7:43 A’r deg ystol, a’r deg noe ar yr ystolion;
7:44 Ac un môr, a deuddeg o ychen dan y môr;
7:45 A’r crochanau, a’r rhawiau, a’r cawgiau; a’r holl lestri a wnaeth Hiram
i’r brenin Solomon, i dŷ yr ARGLWYDD, oedd o bres gloyw.
7:46 Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt mewn cleidir, rhwng
Succoth a Sarthan.
7:47 A Solomon a beidiodd â phwyso yr holl lestri, oherwydd eu lluosowgrwydd
anfeidrol hwynt: ac ni wybuwyd pwys y pres chwaith.
7:48 A Solomon a wnaeth yr holl ddodrefn a berthynai i dŷ yr ARGLWYDD; yr
allor aur, a’r bwrdd aur, yr hwn yr oedd y bara gosod arno;
7:49 A phum canhwyllbren o’r tu deau, a phump o’r tu aswy, o flaen y gafell, yn
aur pur; a’r blodau, a’r llusernau, a’r gefeiliau, o aur;
7:50 Y ffiolau hefyd, a’r saltringau, a’r cawgiau, a’r llwyau, a’r thuserau, o
aur coeth; a bachau dorau y tŷ, o fewn y cysegr sancteiddiaf, a dorau
tŷ y deml, oedd aur.
7:51 Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth y brenin Solomon i
dŷ yr ARGLWYDD. A Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei
dad; yr arian, a’r aur, a’r dodrefn, a roddodd efe ymhlith trysorau tŷ yr
ARGLWYDD.
PENNOD 8
º1 Yna Solomon a gasglodd henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, a
thywysogion tadau meibion Isreal, at at y brenin Solomon, yn Jerwsalem, i ddwyn
i fyny arch cyfamod yr ARGLWYDD o ddinas Dafydd, honno yw Seion.
º2 A holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin Solomon, ar yr wyl, ym
mis Ethanim, hwnnw yw y seithfed mis.
º3 A holl henuriaid Israel a ddaethant, a’r offeiriaid a godasant yr arch i
fyny.
º4 A hwy a ddygasant i fyny arch yr ARGLWYDD, a phabell y cyfarfod, a holl
lestri’r cysegr y rhai oedd yn y babell, a’r offeiriaid a’r Lefiaid a’u
dygasant hwy i fyny.
º5 A’r brenin Solomon, a holl gynull-eidfa Israel, y rhai a ymgynullasai ato
ef, oedd gydag ef o flaen yr arch, yn aberthu defaid, a gwartheg, y rhai ni
rifid ac ni chyfrifid, gan luosowgrwydd.
º6 Felly yr offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr ARGLWYDD i’w lle ei hun, i
gafell y tŷ, i’r cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y ceriwbiaid.
º7 Canys y ceriwbiaid oedd yn lledu eu hadenydd dros Ie yr arch; a’r ceriwbiaid
a orchuddient yr arch, a’i barrau oddi arnodd.
º8 A’r barrau a estynasant, fel y gwelid pennau y barrau o’r cysegr o flaen y
gafell, ond nis gwelid oddi allan: yno y maent hwy hyd y dydd hwn.
º9 Nid oedd dim yn yr arch ond y ddwy lech faen a osodasai Moses yno yn Horeb,
lle y cyfamododd yr ARGLWYDD a meibion Israel, pan oeddynt yn dyfod o wlad yr
Aifft.
º10 A phan ddaeth yr offeiriaid allan o’r cysegr, y cwmwl a lanwodd dŷ yr
ARGLWYDD,
º11 Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu, oherwydd y cwmwl: canys
gogoniant yr ARGLWYDD a lanwasai d yr ARGLWYDD.
º12 Yna y dywedodd Solomon, Yr ARGLWYDD a ddywedodd, y preswyliai efe yn y
tywyllwch.
º13 Gan adeiladu yr adeiledais d yn breswylfod i ti, trigle i ti i aros yn
dragy-wydd ynddo.
º14 A’r brenin a drodd ei wyneb, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel. A
holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll.
º15 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a
lefarodd a’i enau wrth Dafydd fy nhad, ac a’i cwblhaodd a’i law, gan ddywedyd,
º16 Er y dydd y dygais fy mhobl Israel allan o’r Aifft, ni ddewisais ddinas o
holl lwythau Israel i adeiladu tŷ, fel y byddai fy enw i yno: eithr
dewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel.
º17 Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw ARGLWYDD DDUW
Israel.
º18 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Dafydd fy nhad, Oherwydd bod yn dy fryd di
adeiladu t i’m henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon:
º19 Eto nid adeiledi di y tŷ; ond dy fab di, yr hwn a ddaw allan o’th
lwynau di, efe a adeilada y tŷ i’m henw i.
º20 A’r ARGLWYDD a gywirodd ei air a lefarodd efe; a mi a gyfodais yn lle
Dafydd fy nhad, ac a eisteddais ar deymgadair Israel, megis y llefarodd yr ARGLWYDD,
ac a adeiledais dŷ i enw ARGLWYDD DDUW Israel.
º31 A mi a osodais yno Ie i’r arch, yr hon y mae ynddi gyfamod yr ARGLWYDD, yr
hwn a gyfamododd efe a’n tadau ni, pan ddug efe hwynt allan o wlad yr Aifft.
º22 A Solomon a safodd o flaen allor yr ARGLWYDD, yng ngŵydd holl gynulleidfa
Israel, ac a estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd:
º23 Ac efe a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Israel, nid oes Duw fel tydi, yn y
nefoedd oddi uchod, nac ar y ddaear oddi isod, yn cadw cyfamod a xxx thrugaredd
a’th weision sydd yn rhodio ger dy fron di a’u holl galon;
º24 Yr hwn a gedwaist a’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho:
traethaist hefyd a’th enau, a chwblheaist a’th law, megis heddiw y mae.
º25 Ac yn awr, O ARGLWYDD DDUW Israel, cadw a’th was Dafydd fy nhad yr hyn a
leferaist wrtho, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr
ger fy mron i yn eistedd ar deyrn-gadair Israel; os dy feibion a gadwant eu
ffordd, i rodio ger fy mron i, megis y rhodiaist ti ger fy mron.
º26 Ac yn awr, O DDUW Israel, poed gwir, atolwg, fyddo dy air a leferaist wrth
dy was Dafydd fy nhad.
º27 Ai gwir yw, y preswylia Duw ar y ddaear,? wele, y nefoedd, a nefoedd y nefoedd,
ni allant dy gynnwys di; pa faint Itai y dichon y tŷ hwn a adeiledais i!
º28 Eto edrych ar weddi dy was, ac ar e.i ddeisyfiad ef, O ARGLWYDD fy Nuw, i
wrando ar y llef a’r weddi y mae dy was yn ei gweddïo heddiw ger dy fron di:
º29 Fel y byddo dy lygaid yn agored tua’r tŷ yma nos a dydd, tua’r lle y
dywedaist amdano, Fy enw a fydd yno: i wrando ar y weddi a weddïo dy was yn y
lle hwn.
º30 Gwrando gan hynny ddeisyfiad dy’ was, a’th bobl Israel, pan weddïant yn y
lle hwn: clyw hefyd o Ie dy breswylfa, sefo’r nefoedd; a phan glywych, maddau.
º31 Os pecha gŵr yn erbyn ei gymydog, a gofyn ganddo raith, gan ei dyngu
ef, a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn:
º32 Yna clyw di yn y nefoedd, gwna hefyd, a barna dy weision, gan ddamnio’r
drygionus i ddwyn ei ffordd ef ar ei ben; a chan gyfiawnhau y cyfiawn, trwy
roddi iddo ef yn ôl ei gyfiawnder.
º33 Pan drawer dy bobl Israel o flaen y gelyn, am iddynt bechu yn dy erbyn di,
os dychwelant atat ti, a chyfaddef dy enw, a gweddïo, ac ymbil a thi yn y tŷ
hwn:
º34 Yna gwrando di yn y nefoedd, a maddau bechod dy bobl Israel, a dychwel
hwynt i’r tir a roddaist i’w tadau hwynt.
º35 P gaeer y nefoedd, fel na byddo glaw, oherwydd pechu ohonynt
i’th erbyn; os gweddïant yn y lle hwn, a cfayfaddef dy enw, a dychwelyd oddi
wrth eu pechod, pan gystuddiech di hwynt:
º36 Yna gwrando di yn y nefoedd, a maddau bechod dy weision, a’th bobl Israel,
fel y dysgych iddynt y ffordd orau y rhodiant ynddi, a dyro law ar dy dir a
roddaist i’th bobl yn etifeddiaeth.
º37 Os bydd newyn yn y tir, os bydd haint, llosgfa, malltod, locustiaid, os
bydd y lindys; pan warchaeo ei dynamo ef yng ngwlad ei ddinasoedd; pa’ bla
bynnag, pa glefyd bynnag, a fyddo;
º38 Pob gweddi, pob deisyfiad, a fyddo gan un dyn, neu gan dy holl bobl Israel,
y rhai a wyddant bawb bla ei galon ei
hun, ac a estynnant eu dwylo tua’r tŷ hwn;
º39 Yna gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, a maddau, gwna hefyd, a
dyro i bob un yn ôl ei holl flyrdd, yr hwn yr adwaenost ei galon; (canys ti yn
unig a adwaenost galonnau holl feibion dynion;)
º40 Fel y’th ofhont di yr holl ddyddiau y byddont byw ar wyneb y tir a roddaist
i?n tadau ni.
º41 Ac am y dieithrddyn hefyd ni hyddo o’th bobl Israel, ond dyfod o wlad bell
er mwyn dy enw,
º42 (Canys clywant am dy enw mawr di, a’th law gref, a’th fraich estynedig;)
pan ddel a gweddi’o tua’r tŷ hwn:
º43 Gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, a gwna yn ôl yr hyn oll a’r
a lefo’r dieithrddyn arnat amdano: fel yr adwaeno holl bobl y ddaear dy enw di,
i’th ofni di, fel y mae dy bobl Israel, ac y gwypont mai ar dy enw di y gelwir
y tŷ hwn a adeiledais i.
º44 y Os a dy bobl di allan i ryfel yB erbyn eu gelyn, ar hyd y ffordd yr
anfonych hwynt, os gweddi’ant ar yr As-GLWYDD tua ffordd y ddinas a ddewisaist
ti, a’r t yr hwn a adeiledais i’th enw di;
º45 Yna gwrando yn y nefoedd ar eu gweddi hwynt, ac ar eu deisyfiad, a gwna
farniddynt.
º46 Os pechant i’th erbyn, (canys nid oes dyn ni phecha,) a digio ohonot
wrthynt, a’u rhoddi hwynt o flaen eu gelynion, fel y caethgludont hwynt yn
gaethion i wlad y gelyn, ymhell neu yn agos,
º47 Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi, a dychwelyd,
ac crfyn arnat yng ngwlad y rhai a’u caethgludasant, gan ddywedyd, Pechasom,
troseddasom hefyd, a gwnaethom yn annuwiol;
.
º48 A dychwelyd atat ti a’u holl galon, ac a’u holl enaid, yng ngwlad eu gelynion
a’u caethgludasant hwynt, a gweddi’o arnat ti tua’u gwlad a roddaist i’w tadau,
a’r ddinas a ddewisaist, a’r tŷ a adeiledais i’th enw di:
º49 Yna gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, eu gweddi hwynt, a’u
deisyfiad, a gwna farn iddynt,
º50 A maddau i’th bobl a bechasant i’th erbyn, a’u holl gamweddau yn y rhai y
troseddasant i’th erbyn, a phar iddynt gael trugaredd gerbron y rhai a’u caethgludasant,
fel y trugarhaont wrthynt hwy:
º51 Canys dy bobl di a’th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist ti allan
o’r Aifft, o ganol y ffwrn haearn:
º52 Fel y byddo dy lygaid yn agored i ddeisyfiad dy was, a deisyfiad dy bobl
Israel, i wrando arnynt hwy pa bryd bynnag y galwont arnat ti.
º53 Canys ti a’u neilltuaist hwynt yn etifeddiaeth i ti o holl bobl y ddaear,
fel y lleferaist trwy law Moses dy was, pan ddygaist ein tadau ni allan o’r
Aifft, O ARGLWYDD DDUW.
º54 Ac wedi gorffen o Solomon weddïo ar yr ARGLWYDD yr holl weddi a’r deisyfiad
yma, efe a gyfododd oddi gerbron allor yr ARGLWTOD, o ostwng ar ei liniau, ac o
estyn ei ddwylo tua’r nefoedd.
º55 Ac efe a safodd, ac a fendithiodd hoH gynulleidfa Israel a llef uchel, gan
ddywedyd, -
º56 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn a roddes lonyddwch i’w bobl Israel, yn
ôl yr hyn oll a lefarodd efe: ni syrthiodd un gair o’i holl addewidion da ef, y
rhai a addawodd efe trwy law Moses ei was.
º57 Yr ARGLWYDD ein Dew fyddo gyda ni, fel y bu gyda’n tadau: na wrthoded ni,
ac na’n gadawed ni:
º58 I ostwng ein calonnau ni iddo ef, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i gadw
ei orchmynion ef, a’i ddeddfau, a’i farnedig-’’n’o’o 30 siNVianisa siaa aethau,
y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau ni.
.
º59 A bydded fy ngeiriau hyn, y rhai a ddeisyfais gerbron yr ARGLWYDD, yn agos
at yr ARGLWYDD ein Duw ddydd a nos, i wneuthur barn a’i was, a barn a’i bobl
Israel beunydd, fel y byddo’r achos:
º60 Fel y gwypo holl bobl y ddaear mai yr ARGLWYDD sydd DDUW, ac nad oes arall.
º61 Bydded gan hynny eich calon yn berffaith gyda’r ARGLWYDD ein Duw ni, l
rodio yn ei ddeddfau ef, ac i gadw ei orchmynion ef, fel heddiw.
º62 y A’r brenin a holl Israel gydag efa aberthasant aberth gerbron yr
ARGLWYDD.
º63 A Solomon a aberthodd aberth hedd, yr hwn a offrymodd efe i’r ARGLWYDD, sef
dwy fil ar hugain o wartheg, a chwech ugain mil o ddefaid. Felly y brenin a
holl feibion Israel a gyseg-rasant dŷ yr ARGLWYDD. , .
º64 Y dwthwn hwnnw y sancteiddiodd y brenin ganol y cyntedd oedd o flaen
tŷ yr ARGLWYDD: canys yno yr offrymodd efe y poethoffrymau, a’r
bwyd-offrymau, a braster yr offrymau hedd: oherwydd yr allor bres, yr hon oedd
gerbron yr ARGLWYDD, oedd ry fechan i dderbyn y poethoffrymau, a’r
bwyd-offrymau, a braster yr offrymau hedd.
º65 A Solomon a gadwodd y pryd hwnnw wyl, a holl Israel gydag ef, cynulleidfa
fawr, o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft, gerbron yr ARGLWYDD ein Duw, saith o
ddyddiau a saith o ddyddiau, sef pedwar diwrnod ar ddeg.
º66 A’r wythfed dydd y gollyngodd efe ‘ymaith y bobl: a hwy a fendithiasant y
brenin, ac a aethant i’w pebyll yn hyfryd ac a chalon lawen, am yr holl ddaioni
a wnaethai yr ARGLWYDD i Dafydd ei was, ac i Israel ei bobl.
PENNOD 9
º1 A phan orffennodd Solomon adeil-adu tŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y
torenin, a chwbl o ddymuniad Solotnon yr hyn a ewyllysiodd efe ei wneuthuf;
º2 Yr ARGLWYDD a ymddangosodd i Solomon yr ail waith, fel yr yinddangosasai
iddo yn Gibeon.
º3 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Gwrandewais dy weddi di a’th ddeisyfiad di,
yr hwn a ddeisyfaist ger fy mron i: cysegrais y tŷ yma a adeiledaist, i
osod fy enw ynddo byth; fy llygaid hefyd a’m calon fydd yno yn wastadol.
º4 Ac os rhodi di ger fy mron i, megis y rhodiodd Dafydd dy dad, mewn
perffeithrwydd calon ac uniondeb i wneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i
ti, ac os cedwi fy neddfau a’m barnedigaethau:
º5 Yna mi a sicrhaf orseddfainc dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd, fel
y lleferais wrth Dafydd dy dad, gan ddywedyd, Ni phalla i ti ŵr ar
orseddfainc Israel.
º6 Os gan ddychwelyd y dychwelwch chwi a’ch meibion oddi ar fy ôl i, ac heb
gadw fy ngorchmynion a’m deddfau, y rhai a roddais o’ch blaen chwi, eithr myned
a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt hwy:
º7 Yna y torraf Israel oddi ar wyneb y tir a roddais iddynt hwy, a’r tŷ
hwn a gysegrais i’m henw, a fwriaf allan o’m golwg; ac Israel fydd yn ddihareb
ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd:
º8 A’r tŷ uchel hwn, pawb a gyniweii-o heibio iddo, a synna wrtho, ac a
chwib’" ana; dywedant hefyd, Paham y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn i’r wlad
hon, ac i’r ,ty yma?
º9 A hwy a ddywedant. Am iddynt wrthod yr ARGLWYDD eu Duw,
yr hwn a ddug eu tadau hwynt allan o dir yr Aifft, ac ymaflyd mewn duwiau
dieithr, ac ymgrymu iddynt, a’u gwasanaethu hwynt, am hynny y dug yr ARGLWYDD
arnynt hwy yr holl ddrwg hyn.
º10 Ac ymhen yr ugain mlynedd, wedi adeiladu o Solomon y ddau dŷ, sef tf
yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin,
º11 (Am i Hiram brenin Tyrus ddwyn i Solomon goed cedr, a choed ffynidwydd, ac
aur, yn ôl ei holl ewyllys ef,) y brenin Solomon a roddes i Hiram ugain dinas
yng ngwlad Galilea.
12 A Hiram a ddaeth o Tyrus i
edrych y dinasoedd a roddasai Solomon iddo ef; ac nid oeddynt wrth ei fodd ef.
º13 Ac efe a ddywedodd. Pa ddinasoedd yw y rhai hyn a roddaist i mi, fy mrawd?
Ac efe a’u galwodd hwynt Gwlad Cabul, hyd y dydd hwn.
º14 A Hiram a anfonodd i’r brenin chwech ugain talent o aur.
º15 y A dyma swm y dreth a gododd y brenin Solomon, i adeiladu tŷ yr AR-
GLWYDD, a’i dy ei hun, a Milo, a mur Jerwsalem, Hasor, a Megido, a Geser.
º16 Pharo brenin yr Aifft a aethai i fyny, ac a enillasai Geser, ac a’i
llosgasai hi & than, ac a laddasai y Canaaneaid oedd yn trigo yn y ddinas,
ac a’i rhoddasai hi yn anrheg i’w ferch, gwraig Solomon.
º17 A Solomon a adeiladodd Geser, a ‘Bethhoron isaf,
º18 A Baalath, a Thadmor yn yr anialwch, o fewn y wlad,
º19 A holl ddinasoedd y trysorau y rhai oedd gan Solomon, a dinasoedd y
cer-bydau, a dinasoedd y gwŷr meirch, a’r hyn oedd ewyllys gan Solomon ei
adeiladu yn Jerwsalem, ac yn Libanus, ac yn holl dir ei lywodraeth.
º20 Yr holl bobl y rhai a adawyd o’r Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid,
‘a’r Jebusiaid, y rhai nid oeddynt o feib- fon Israel;
º21 Sef eu meibion hwy, y rhai a adawsid ar eu hoi hwynt yn y wlad, y rhai ni
allodd meibion Israel eu lladd, ar y rhai hynny y cyfododd Solomon dreth
wrogaeth hyd y dydd hwn.
º22 Ond o feibion Israel ni wnaeth Solomon un yn gaethwas: rhyfelwyr iddo ef
oeddynt, a gweision iddo, a thywysogion iddo, a chapteiniaid iddo, a
thywysogion ei gerbydau a’i wŷr meirch.
º23 Y rhai hyn oedd bennaf ar y swyddogion oedd ar waith Solomon, pum cant a
deg a deugain, oedd yn llywodraethu y bobl oedd yn gweithio yn y gwaith.
º24 A merch Pharo a ddaeth i fyny o ddinas Dafydd i’w thŷ ei hun, yr hwn a
adeiladasai Solomon iddi hi; yna efe a adeiladodd Milo.
º25 A thair gwaith yn y flwyddyn yr offrymai Solomon boethoffrymau ac offrymau
hedd ar yr allor a adeiladasai efe i’r ARGLWYDD: ac efe a arogl-darthodd ar yr
allor oedd gerbron yr ARGLWYDD. Felly efe a orffennodd y tŷ.
º26 y A’r brenin Solomon a wnaeth longau yn Esion-gaber, yr hon sydd wrth
Eloth, ar fin y môr coch, yng ngwlad;Edom.
º27 A Hiram a anfonodd ei weision yn y llongau, y rhai oedd longwyr yn medru
oddi wrth y môr, gyda gweision Solomon.
º28 A hwy a ddaethant i Offir, ac a ddygasant oddi yno bedwar cant ac ugain o
dalentau aur, ac a’u dygasant at y brenin Solomon.
PENNOD 10
º1 A PHAN glybu brenhines Seba glod Solomon am enw yr ARGLWYDD, hi- —
oolomon am enw yr -— ., w, m a ddaeth i’w brofi ef a chwestiynau caled.
º2 A hi a ddaeth i Jerwsalem a llu mawr iawn, a chamelod yn dwyn aroglau, ac
aur lawer iawn, a meini gwerthfawr. A hi a ddaeth at Solomon, ac a lefarodd
wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon.
º3 A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion: nid oedd dim yn guddiedig rhag
y brenin, a’r na fynegodd efe iddi hi.
º4 A phan welodd brenhines Seba holl ddoethineb Solomon, a’r tŷ a
adeiladasai efe,
º5 A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei Tyeision, a threfn ei weinidogion, a’u
dillad hwynt, a’i drulliadau ef, a’i esgynfa ar hyd yr hon yr ai efe i fyny i
dŷ yr ARGLWYDD; nid oedd mwyach ysbryd ynddi.
º6 A hi a ddywedodd wrth y brenin, Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad am dy
ymadroddion di, ac am dy ddoethineb.
º7 Eto ni chredais y geiriau, nes i mi ddyfod, ac i’m llygaid weled: ac wele,
ni fynegasid i mi yr hanner: mwy yw dy
ddoethineb a’th ddaioni na’r clod a glywais i.
º8 Gwyn fyd dy wŷr di, gwyn fyd dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn
wastadol ger dy fron di, yn clywed dy ddoethineb.
º9 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a’th hoffodd di, i’th roddi ar
deyrngadair Israel: oherwydd cariad yr ARGLWYDD tuag at Israel yn dragywydd, y
gosododd efe di yn frenin, i wneuthur barn a chyfiawnder.
º10 A hi a roddes i’r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer
iawn, a meini gwerthfawr. Ni ddaeth y fath beraroglau mwyach, cyn amied a’r
rhai a roddodd brenhines Seba i’r brenin Solomon.
º11 A llongau Hiram hefyd, y rhai a gludent aur o Offir, a ddygasant o Offir
lawer iawn o goed almugim, ac o feini gwerthfawr.
º12 A’r brenin a wnaeth o’r coed almugim anelau i dŷ yr ARGLWYDD, ac i
dŷ y brenin, a thelynau a saltringau i gant-orion. Ni ddaeth y fath goed
almugim, ac ni welwyd hyd y dydd hwn.
º13 A’r brenin Solomon a roddes i frenhines Seba ei holl ddymuniad, yr hyn a
ofynnodd hi, heblaw yr hyn a roddodd Solomon iddi hi o’i frenhinol haelioni.
Felly hi a ddychwelodd, ac a aeth i’w gwlad, hi a’i gweision.
º14 A phwys yr aur a ddeuai i Solomon bob blwyddyn, oedd chwe chant a thrigain
a chwech o dalentau aur;
º15 Heblaw yr hyn a gai efe gan y march-nadwyr, ac o farsiandiaeth y
llysieuwyr, a chan holl frenhinoedd Arabia, a thywysogion y wlad.
º16 A’r brenin Solomon a wnaeth ddau gant o darianau aur dilin; cnwe chan sicl
o aur a roddodd efe ym mhob tarian:
º17 A thri chant o fwcledi o aur dilin; tair punt o aur a roddes efe ym mhob
bwcled. A’r brenin a’u rhoddes hwynt yn nhŷ coedwig Libanus.
º18 A’r brenin a wnaeth orseddfainc fawr o ifori, ac a’i gwisgodd hi ag aur o’r
gorau. ‘
º19 Chwech o risiau oedd i’r orseddfainc; a phen crwn oedd i’r orseddfainc o’r
tu ôl iddi, a chanllawiau o bob tu i’r eisteddle, a dau lew yn sefyll yn ymyl y
canllawiau.
º20 A deuddeg o lewod oedd yn sefyll yno ar y chwe gris o’r ddeutu. Ni wnaethpwyd y fath yn un
deyrnas.
º21 A holl lestri yfed y brenin Solomon oedd o aur; a holl
lestri tŷ coedwig Libanus oedd aur pur: nid oedd arian ynddynt. Ni roddid dim bri arno yn
nyddiau Solomon.
º22 Oherwydd llongau Tarsis oedd gan y brenin ar y môr, gyda llongau Hiram. Unwaith yn y tair blynedd y deuai llongau Tarsis, yn
dwyn aur, ac arian, ac ifori, ac epaod, a pheunod.
º23 A’r brenin Solomon a ragorodd ar holl frenhinoedd y ddaear, mewn cyfoeth a
doethineb.
º24 I A’r holl fyd oedd yn ceisio gweled wyneb Solomon, i glywed ei ddoethineb
ef, a roddasai Duw yn ei galon ef.
º25 A hwy a ddygasant bob un ei anrheg, llestri arian, a llestri aur, a
gwisgoedd, ac arfau, a pheraroglau, meirch, a mulod, dogn bob blwyddyn.
º26 A Solomon a gasglodd gerbydau a marchogion: ac yr oedd ganddo fil a phedwar
cant o gerbydau, a deuddeng mil o farchogion; y rhai a osododd efe yn ninasoedd
y cerbydau, a chyda’r brenin yn Jerwsalem.
º27 A’r brenin a wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig, a’r cedrwydd a wnaeth
efe fel sycamorwydd yn y doldir, o amldra.
º28 A meirch a ddygid i Solomon o’r Aifft, ac edafedd llin: marchnadyddion y
brenin a gymerent yr edafedd llin dan bris.
º29 A cherbyd a ddeuai i fyny ac a ai allan o’r Aifft am chwe chan sicl o
arian, a march am gant a deg a deugain: ac fel hyn i holl frenhinoedd yr
Hethiaid, ac i frenhinoedd Syria, y dygent hwy feirch trwy eu llaw hwynt.
PENNOD 11
º1 OND y brenin Solomon a garodd lawer o wragedd dieithr, heblaw merch Pharo,
Moabesau, Ammonesau, Edomesau, Sidonesau, a Hethesau;
º2 O’r cenhedloedd am y rhai y dyweA". asai yr ARGLWYDB wrth feibion
Israel, Nac ewch i mewn atynt hwy, ac na ddeuant hwythau i mewn atoch chwi:
diau y troant eich calonnau chwi ar ôl eu duw-iau hwynt. Wrthynt hwy y glynodd
Solomon mewn cariad.
º3 Ac yr oedd ganddo ef saith gant o wragedd, yn freninesau; a thri chant o
ordderchwragedd: a’i wragedd a droesant ei galon ef.
º4 A phan heneiddiodd Solomon, ei wragedd a droesant ei galon ef ar ôl duw-iau
dieithr: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r ARGLWYDD ei DDUW, fel y
buasai calon Dafydd ei dad ef.
º5 Canys Solomon a aeth ar ôl Astoreth duwies y Sidoniaid, ac ar ôl Milcom
(Beidd-dra yr Ammoniaid.
º6 A Solomon a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD; ac ni
chyflawnodd fyned ar ôl yr ARGLWYDD, fel Dafydd ei dad.
º7 Yna Solomon a adeiladodd uchelfa i Cemos, ffieidd-dra Moab, yn y bryn sydd
ar gyfer Jerwsalem; ac i Moloch, ffieiddira meibion Ammon.
º8 Ac felly y gwnaeth efe i’w holl wragedd dieithr, y rhai a arogl-darthasant
ac a aberthasant i’w duwiau.
º9 A’r ARGLWYDD a ddigiodd wrth Solomon, oherwydd troi ei galon ef oddi wrth
ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a ymddangosasai iddo ef ddwy waith,
º10 Ac a orchmynasai iddo am y peth hyn, nad elai efe ar ôl duwiau dieithr: ond
ni chadwodd efe yr hyn a orchmynasai yr ARGLWYDD.
º11 Am hynny y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Solomon, Oherwydd bod hyn ynot ti, ac
na chedwaist fy nghyf-amod â’m deddfau a orchmynnais i ti, gan rwygo y rhwygaf
y frenhiniaeth oddi wrthyt ti, ac a’i rhoddaf hi i’th was di.
º12 Eto yn dy ddyddiau di ni wnaf hyn, er mwyn Dafydd dy dad: o law dy fab di y
rhwygaf hi.
º13 Ond ni rwygaf yr holl frenhiniaeth; un llwyth a roddaf i’th fab di, er mwyn
Dafydd fy ngwas, ac er mwyn Jerwsalera yr hon a etholais.
º14 A’r ARGLWYDD a gyfododd wrthwynebwr i Solomon, Hadad yr Edomiad: o had y
brenin yn Edom yr oedd efe.
º15 Canys pan oedd Dafydd yn Edom, a Joab tywysog y filwriaeth yn myned i fyny
i gladdu’r lladdedigion, wedi iddo daro pob gwryw yn Edom;
º16 (Canys chwe mis yr arhosodd Joab yno a holl Israel, nes difetha pob gwryw
yn Edom:)
.tf Yr Hadad hwnnw a ffodd, a gwŷr Edom o weision ei dad gydag ef, i fyned
i’r Aifft; a Hadad yn fachgen bychan eto.
º18 A hwy a gyfodasant o Midian, ac a ddaethant i Paran: ac a gymerasant
wŷr gyda hwynt o Paran, ac a ddaethant i’r Aifft, at Pharo brenin yr
Aifft; ac efe a r&ddes iddo ef dŷ, ac a ddywedodd am roddi bwyd iddo,
ac a roddodd dir iddo.
º19 A Hadad a gafodd ffafr fawr yng ngolwg Pharo, ac efe a roddes iddo ef yn
raig chwaer ei wraig ei hun, chwaer Tahpenes y frenhines.
º30 A chwaer Tahpenes a ymddug iddo ef Genubath ei fab; a Thahpenes a’i
diddyfhodd ef yn nhŷ Pharo: a Genubath fu yn nhŷ Pharo ymysg meibion
Pharo.
º21 A phan glybu Hadad yn yr Aifft, huno o Dafydd gyda’i dadau, a marw o Joab
tywysog y filwriaeth, Hadad a ddywedodd wrth Pharo, Gollwng fi, fel yr elwyf
i’m gwlad fy hun.
º22 A dywedodd Pharo wrtho ef, Ond pa beth sydd arnat ei eisiau gyda mi, pan
wyt, wele, yn ceisio myned i’th wlad dy hun? Ac efe a ddywedodd. Dim, eithr gan
ollwng gollwng fi.
º23 A Duw a gyfododd wrthwynebwr arall yn ei erbyn ef, Reson mab Eliada, yr hwn
a ffoesai oddi wrth Hadadeser brenin Soba ei arglwydd:
º24 Ac efe a gynullodd wŷr ato, ac a aeth yn dywysog ar fyddin, pan
laddodd Dafydd hwynt o Soba; a hwy a aethant i Damascus, ac a drigasant ynddi,
ac a deyrnasasant yn Damascus.
º25 Ac yr oedd efe yn wrthwynebwr i Israel holl ddyddiau Solomon, heblaw y drwg
a wnaeth Hadad: ac efe a ffieidd" iodd Israel, ac a deyrnasodd ar Syria.
º26 A Jeroboam mab Nebat, Effratead o Sereda, (ac enw ei fam ef oedd Serfa, yr
hon oedd wraig weddw.) gwas i Solomon, a ddyrchafodd hefyd ei law yn erbyn y
brenin.
º27 Ac o achos
hyn y dyrchafodd efe a law yn erbyn y brenin: Solomon.’a adeiladodd Milo, ac a
gaeodd adwyaa dinas Dafydd ei dad.:.
º28 A’r gŵr Jeroboam oedd rymus. o nerth: a Solomon a ganfu y llanc hwniiw
yn medru gwneuthur gwaith, ac a’i gwnaeth ef yn oruchwyliwr ar holl faich
tŷ Joseff.
º29 A’r pryd hwnnw, a Jeroboam yn myned allan o Jerwsalem, y proffwyd Ahia y
Siloniad a’i cafodd ef ar y ffordd, ac efe oedd wedi ei wisgo mewn gwisg
newydd, a hwynt ill dau oeddynt yn unig yn y maes.
º30 Ac Ahia a ymaflodd yn y wisg newydd oedd amdano ef, ac a’i rhwygodd yn
ddeuddeg o ddarnau,
º31 Ac efe a ddywedodd wrth Jeroboam, Cymer i ti ddeg darn: canys fel hyn y
dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, Wele fi yn rhwygo’r frenhiniaeth o law Solomon,
a rhoddaf ddeg llwyth i ti:
º32 (Ond un llwyth fydd iddo ef, er mwyn fy ngwas Dafydd, ac er mwyn Jerwsalem,
y ddinas a etholais i o holl lwythau Israel:)
º33 Oblegid iddynt fy ngwrthod i, ac ymgrymu i Astoreth duwies y Sidoniaid, ac
i Cemos duw y Moabiaid, ac i Milcom duw meibion Ammon, ac na rodiasant yn fy
ffyrdd i, i wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, ac i wneuthur fy
neddfau a’m barnedigaethau, fel Dafydd ei dad.
º34 Ond ni chymeraf yr holl frenhiniaeth o’i law ef: eithr gwnaf ef yn dywysog
holl ddyddiau ei einioes, er mwyn Dafydd fy ngwas, yr hwn a ddewisais i, yr hwn
a gadwodd fy ngorchmynion a’m deddfau i;
º35 Eithr cymeraf yr holl frenhiniaeth o law ei fab ef, a rhoddaf ohoni i ti
ddeg llwyth. , i
º36 Ac i’w fab ef y rhoddaf un llwyth, xxx fel y byddo goleuni i’m gwas Dafydd
yn wastadol ger fy mron yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais i mi i osod fy enw
yno.
º37 A thi a gymeraf fi, fel y teyrnasech yn ôl yr hyn oll a
ddymuno dy galon i a thi a fyddi frenin ar Israel.
º38 Ac os gwrandewi di ar yr hyn oll a orchmynnwyf i ti, a rhodio yn fy ffyrdd
i, a gwneuthur yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg i, i gadw fy neddfau a’m
gorchmynion, fel y gwnaeth Dafydd fy ngwas; yna mi a fyddaf gyda thi, ac a
adeiladaf i ti dy sicr, fel yr adeiledais i Dafydd, a mi a roddaf Israel i ti.
º39 A mi a gystuddiaf had Dafydd oblegid hyn; eto nid yn dragywydd.
º40 Am hynny Solomon a geisiodd ladd Jeroboam. A Jeroboam a gyfododd, ac a
ffodd i’r Aifft, at Sisac brenin yr Aifft; ac efe a fu yn yr Aifft hyd
farwolaeth Solomon.
º41 A’r rhan arall o weithredoedd Solomon, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i
ddoethineb ef, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr gweithredoedd Solomon?
º42 A’r dyddiau y teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem, ar holl Israel, oedd
ddeu-gain mlynedd.
º43 A Solomon a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd ei dad; a
Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
PENNOD 12
º1 YNA Rehoboam a aeth i Sichem: canys i Sichem y daethai holl Israel i’w
urddo ef yn frenin.
º2 A phan glybu Jeroboam mab Nebat, ac efe eto yn yr Aifft, (canys efe a
ffoesai o ŵydd Solomon y brenin, a Jeroboam a arosasai yn yr Aifft;)
º3 Hwy a anfonasant, ac a alwasant arno ef. A Jeroboam a holl gynulleidfa
Israel a ddaethant, ac a ymddiddanasant a Rehoboam, gan ddywedyd,
º4 Dy dad di a wnaeth ein hiau ni yn drom: ac yn awr ysgafnha beth o gaethiwed
caled dy dad, ac o’i iau drom ef a roddodd efe arnom ni, ac ni a’th wasanaethwn
di.
º5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch eto dridiau; yna dychwelwch ataf fi. A’r
bobl a aethant ymaith.
º6 A’r brenin Rehoboam a ymgyng-horodd a’r henuriaid a fuasai yn sefyll gerbron
Solomon ei dad ef, tra yr ydoedd efe yn fyw, ac a ddywedodd. Pa fodd yr ydych
chwi yn cynghori ateb i’r bobl hyn?
º7 A hwy a lefarasant wrtho ef, gan ddywedyd, Os byddi di heddiw was i’r bobl
hyn, a’u gwasanaethu hwynt, a’u hateb hwynt, a llefaru wrthynt eiriau teg; yna
y byddant weision i ti byth.
º8 Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid, yr hwn a gyngorasent iddo ef, ac
efe a ymgynghorodd a’r gwŷr ieuainc a gynyddasai gydag ef, a’r rhai oedd
yn sefyll ger ei fron ef:
º9 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Beth yr ydych chwi yn ei gynghori, fel yr
atebom y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyf, gan ddywedyd, Ysgafnha yr iau a
roddodd dy dad arnom ni?
º10 A’r gwŷr ieuainc, y rhai a gynyddasent gydag ef, a lefarasant wrtho,
gan ddywedyd. Fel hyn y dywedi di wrth y bobl yma, y rhai a lefarasant wrthyt,
gan ddywedyd, Dy dad di a drymhaodd ein hiau ni, ond ysgafnha di hi arnom ni;
fel hyn y lleferi di wrthynt; Fy mys bach fydd breisgach na llwynau fy nhad.
º11 Ac yn awr fy nhad a’ch llwythodd a iau drom, a minnau a chwanegaf ar eich
iau chwi: fy nhad a’ch cosbodd chwi a ffrewyllau, a mi a’ch cosbaf chwi ag
ysgorpionau.
º12 A daeth Jeroboam a’r holl bobl at Rehoboam y trydydd dydd, fel y llef-
arasai y brenin, gan ddywedyd, Dy-’chwelwch ataf fi y trydydd dydd.
º13 A’r brenin a atebodd y bobl yn arw, ac a wrthododd gyngor yr henuriaid a
gyngorasent hwy iddo;
º14 Ac a lefarodd wrthynt hwy yn ôl cyngor y gwŷr ieuainc, gan ddywedyd,
Fy nhad a wnaeth eich iau chwi yn drom, a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi:
fy nhad a’ch ceryddodd chwi A ffrewyllau, "a minnau a’ch ceryddaf chwi ag
ysgorpionau.
º15 Ac ni
wrandawodd y brenin ar y bobl. Oherwydd yr achos oedd oddi wrth yr ARGLWYDD,
fel y cwblheid ei air ef, yr hwn a lefarasai yr ARGLWYDD trwy law Ahia y
Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat.
º16 A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy, y bobl a
atebasant y brenin, gan ddywedyd, Pa ran sydd i ni yn Dafydd? nid oes i ni
etifeddiaeth ym mab Jesse: O Israel, dos i’th bebyll; edrych yn awr ar dy
dŷ dy hun, Dafydd. Felly Israel a
aethant i’w pebyll.
º17 Ond meibion Israel, y rhai oedd yn preswylio yn ninasoedd Jwda, Rehoboam a
deyrnasodd arnynt hwy.
º18 A’r brenin Rehoboam a anfonodd Adoram, yr hwn oedd ar y dreth; a holl
Israel a’i llabyddiasant ef a meini, fel y bu efe farw. Am hynny y brenin Rehoboam
a brysurodd i fyned i’w gerbyd, i ffoi i Jerwsalem.
º19 Felly Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Dafydd hyd y dydd hwn.
º20 A phan glybu holl Israel ddychwelyd o Jeroboam, hwy a anfonasant ac a’i
galwasant efat y gynulleidfa, ac a’i gosodasant ef yn frenin ar holl Israel:
nid oedd yn myned ar ôl tŷ Dafydd, ond llwyth Jwda yn unig.
º21 A phan ddaeth Rehoboam i Jerwsalem, efe a gasglodd holl dŷ Jwda, a
llwyth Benjamin, cant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol, cymwys i ryfel, i
ymladd yn erbyn tŷ Israel, i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam mab
Solomon.
º22 Ond gair Duw a ddaeth at Semaia gŵr Duw, gan ddywedyd,
º23 Adrodd wrth Rehoboam mab Solomon brenin Jwda, ac wrth holl dŷ Jwda a
Benjamin, a gweddill y bobl, gan ddywedyd,
º24 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn
eich brodyr meibion Israel; dychwelwch bob un i’w dŷ ei hun: canys trwof
fi y mae y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar air yr ARGLWYDD, ac a ddychwelasant
i fyned ymaith, yn ôl gair yr ARGLWYDD.
º25 Yna Jeroboam a adeiladodd Sichem ym mynydd Effraim, ac a drigodd ynddi hi;
ac a aeth oddi yno, ac adeiladodd Penuel.
º26 A Jeroboam a feddyliodd yn ei galon, Yn awr y dychwel y frenhiniaeth at
dŷ Dafydd.
º27 Os a y bobl hyn i fyny i wneuthur aberthau yn nhŷ yr ARGLWYDD yn
Jerwsalem, yna y try calon y bobl hyn at eu harglwydd Rehoboam brenin Jwda, a
hwy a’m lladdant i, ac a ddychwelant at Rehoboam brenin Jwda.
º28 Yna y brenin a ymgynghorodd, ac a «| wnaeth ddau lo aur, ac a ddywedodd I’
wrthynt hwy, Gormod yw i chwi fyned i fyny i Jerwsalem: wele dy dduwiau di, O
Israel, y rhai a’th ddug di i fyny o wlad yr Aifft.
º29 Ac efe a
osododd un yn Bethel, ac a osododd y llall yn Dan.
º30 A’r peth hyn a aeth yn bechod: cfclegid y bobl a
aethant gerbron y naill hyd Dan. _
º31 Ac efe a wnaeth dy uchelfeydd, ac a wnaeth offeiriaid o’r rhai gwaelaf o’r
bobl, y rhai nid oedd o feibion Lefi.
º32 A Jeroboam a wnaeth uchel wyl yn yr wythfed mis, ar y pymthegfed dydd o’r
mis, fel yr uchel wyl oedd yn Jwda; ac efe a offrymodd ar yr allor. Felly y
gwnaeth efe yn Bethel, gan aberthu i’r lloi a wnaethai efe: ac efe a osododd yn
Bethel offeiriaid yr uchelfaoedd a wnaethai efe.
º33 Ac efe a offrymodd ar yr allor a wnaethai efe yn Bethel, y pymthegfed dydd
o’r wythfed mis, sef yn y mis a ddychmygasai efe yn ei galon ei hun; ac efe a
wnaeth uchel wyl i feibion Israel: ac efe a aeth i fyny at yr allor i
arogl-darthu.
PENNOD 13
º1 AC wele gŵr i DDUW a ddaeth o Jwda, *~ trwy air yr
ARGLWYDD, i Bethel: a Jeroboam oedd yn sefyll wrth yr allor i arogl-darthu.
º2 Ac efe a lefodd yn erbyn yr allor, trwy air yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O
allor, allor, fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Wele, mab a enir i dŷ
Dafydd, a’i enw Joseia; ac efe a abertha arnat ti offeiriaid yr uchelfeydd y
rhai sydd yn arogl-darthu arnat ti, a hwy a losgant esgyrn dynion arnat ti.
º3 Ac efe a roddodd arwydd y dwthwn hwnnw, gan ddywedyd, Dyma yr argoel a
lefarodd yr ARGLWYDD; Wele, yr allor a rwygir, a’r lludw sydd arni a dywelltir.
º4 A phan glybu y brenin air gŵr Duw, yr hwn a lefodd efe yn erbyn yr
allor yn Bethel, yna Jeroboam a estynnodd ei law oddi wrth yr allor, gan
ddywedyd, Deliwch ef. A diffrwythodd ei law ef, yr hon a estynasai efe yn ei
erbyn ef, fel na allai efe ei thynnu hi ato.
º5 Yr allor hefyd a rwygodd, a’r lludw a dywalltwyd oddi ar yr allor, yn ôl yr
‘ argoel a roddasai gŵr Duw trwy air yr ARGLWYDD.
º6 A’r brenin a atebodd ac a ddywedodd wrth ŵr Duw, Gweddïa, atolwg, gerbron
yr ARGLWYDD dy DDUW, ac ymbil drosof fi, fel yr adferer fy llaw i mi. A
gŵr Duw a weddïodd gerbron yr ARGLWYDD; a llaw y brenin a adferwyd iddo
ef, ac a fu fel cynt.
º7 A’r brenin a ddywedodd wrth ŵr Duw, Tyred adref gyda mi, a chymer
luniaeth, a mi a roddaf rodd i ti.
º8 A gŵr Duw a ddywedodd wrth y brenin, Pe rhoddit i mi hanner dy dŷ,
ni ddeuwn i gyda thi; ac ni fwytawn fara, ac nid yfwn ddwfr, yn y fan hon:
º9 Canys fel hyn y gorchmynnwyd i mi <rwy air yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Na
fwyta fara, ac nac yf ddwfr; na ddyehwel chwaith ar hyd y ffordd y daethost.
º10 Felly efe a aeth ymaith ar hyd ffordd arall, ac ni ddychwelodd ar hyd y
ffordd y daethai ar hyd-ddi i Bethel.
º11 Ac yr oedd rhyw hen broffwyd yn trigo yn Bethel; a’i fab a ddaeth ac a
fynegodd iddo yr holl waith a wnaethai gŵr Duw y dydd hwnnw yn Bethel: a
hwy a fynegasant i’w tad y geiriau a lefarasai efe wrth y brenin.
º12 A’u tad a ddywedodd wrthynt, Pa ffordd yr aeth efe? A’i feibion a welsent y
ffordd yr aethai gŵr Duw, yr hwn a ddaethai o Jwda.
º13 Ac efe a ddywedodd wrth ei feibion, Cyfrwywch i mi yr asyn. A hwy a
gyfrwyasant iddo yr asyn; ac efe a farctbogodd arno.
º14 Ac efe a aeth ar ôl gŵr Duw, ac a’i cafodd ef yn eistedd dan dderwen;
ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw gŵr Duw, yr hwn a ddaethost o Jwda? Ac
efe a ddywedodd, Ie, myfi.
º15 Yna efe a ddywedodd wrtho. Tyred adref gyda mi, a bwyta fara.
º16 Yntau a ddywedodd, Ni allaf ddychwelyd gyda thi, na dyfod gyda thi; ac ni
fwytaf fara, ac nid yfaf ddwfr gyda da yn y fan hon.
º17 Canys dywedwyd wrthyftrwy ymadrodd yr ARGLWYDD, Na fwyta fara, ac nac yf
ddwfr yno; ac na ddychwel gan fyned trwy y ffordd y daethost ar hyd-ddi.
º18 Dywedodd yntau wrtho, Proffwyd hefyd ydwyf fi fel tithau; ac angel a.
lefarodd wrthyf trwy air yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Dychwel ef gyda thi i’th
dŷ, fel y bwytao fara, ac yr yfo ddwfr. Ond
efe a ddywedodd gelwydd wrtho.
º19 Felly efe a ddychwelodd gydag ef, ac a fwytaodd fara yn ei dy ef, ac a
yfodd ddwfr.
º20 H A phan oeddynt hwy yn eistedd wrth y bwrdd, daeth gair yr ARGLWYDD at y
proffwyd a barasai iddo ddychwelyd:
º21 Ac efe a lefodd ar ŵr Duw yr hwn a ddaethai o Jwda, gan ddywedyd. Fel
hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oherwydd i ti anufuddhau i air yr ARGLWYDD, ac na
chedwaist y gorchymyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti,
º22 Eithr dychwelaist, a bwyteaist fara, ac yfaist ddwfr, yn y lle am yr hwn y
dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt ti, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr; nid & dy
gelain di i feddrod dy dadau.
º23 Ac wedi iddo fwyta bara, ac wedi iddo yfed, efe a gyfrwyodA iddo yr asyn,
sef r’r proffwyd a barasai efe iddo ddychwelyd.
º24 Ac wedi iddo fyned ymaith, llew a’i cyfarfu ef ar y ffordd, ac a’i lladdodd
ef: a bu ei gelain ef wedi ei bwrw ar y ffordd, a’r asyn oedd yn sefyll yn ei
ymyl ef, a’r llew yn sefyll wrth y gelain.
º25 Ac wele wŷr yn myned heibio, ac a ganfuant y gelain wedi ei thaflu ar
y ffordd, a’r llew yn sefyll wrth y gelain: a hwy a ddaethant ac a adroddasant
hynny yn y ddinas yr oedd yr hen broffwyd yn aros ynddi.
º26 A phan glybu y proffwyd, yr hwn a barasai iddo ef ddychwelyd o’r ffordd,
efe a ddywedodd, Gwr Duw yw efe, yr hwn a anufuddhaodd air yr ARGLWYDD: am
hynny yr ARGLWYDD a’i rhoddodd ef i’r llew, yr hwn a’i drylliodd ef, ac a’i
lladdodd ef, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarodd efe wrtho ef.
º27 Ac efe a lefarodd wrth ei feibion, gan ddywedyd, Cyfrwywch i mi yr asyn. A
hwy a’i cyfrwyasant.
º28 Ac efe a aeth, ac a gafodd ei gelain ef wedi ei thaflu ar y ffordd, a’r
asyn a’r llew yn sefyll wrth y gelain: ac ni fwytasai y llew y gelain, ac ni
ddrylliasai efe yr asyn.
º29 A’r proffwyd a gymerth gelain gw’r Duw, ac a’i gosododd hi ar yr asyn, ac
a’i dug yn ei hoi. A’r hen broffwyd a ddaeth i’r ddinas, i alaru, ac i’w gladdu
ef.
º30 Ac efe a osododd ei gelain ef yn ei feddrod ei hun; a hwy a alarasant
amdano ef, gan ddywedyd, O fy mrawd!
º31 Ac wedi iddo ei gladdu ef, efe a lefarodd wrth ei feibion, gan ddywedyd,
Pan fyddwyf farw, cleddwch finnau hefyd yn y bedd y claddwyd gŵr Duw
ynddo; gosodwch fy esgyrn i wrth ei esgyrn ef.
º32 Canys diamau y bydd yr hyn a lefodd efe trwy air yr ARGLWYDD yn erbyn yr
allor sydd yn Bethel, ac yn erbyn holl dai yr uchelfeydd sydd yn ninasoedd
Samaria.
º33 Wedi y peth hyn ni ddychwelodd Jeroboam o’i ffordd ddrygionus; ond efe a
wnaeth drachefn o wehilion y bobl offeiriaid i’r uchelfeydd: y neb a fynnai,
efe a’i cysegrai ef, ac efe a gai fod yn offeiriad i’r uchelfeydd.
º34 A’r peth hyn a aeth yn bechod i dŷ Jeroboam, i’w ddiwreiddio hefyd, ac
i’w ddileu oddi ar wyneb y ddaear.
PENNOD 14
º1 Y pryd
hwnnw y clafychodd Abeia mab Jeroboam.
º2 A Jeroboam a ddywedodd wrth ei. wraig, Cyfod atolwg, a newid dy ddillad, fel
na wypont mai ti yw gwraig Jeroboam; a dos i Seilo: wele, yno y mae Ahia y
proffwyd, yr hwn a ddywedodd wrthyf y byddwn frenin ar y bobl yma.
º3 A chymer yn dy law ddeg o fara, a theisennau, a
chostrelaid o fêl, a dos ato ef: efe a fynega i ti beth a dderfydd i’r bachgen.
º4 A gwraig Jeroboam a wnaeth felly; ac a gyfododd ac a aeth i Seilo, ac a
ddaeth i dŷ Ahia. Ond ni allai Ahia weled; oherwydd ei lygaid ef a
ballasai oblegid ei henaint.
º5 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Ahia, Wele, y mae gwraig Jeroboam yn dyfod i
geisio peth gennyt dros ei mab; canys claf yw efe: fel hyn ac fel hyn y dywedi
wrthi hi: canys pan ddelo hi i mewn, hi a ymddieithra.
º6 A phan glybu Ahia drwst ei thraed hi yn dyfod i’r drws, efe a ddywedodd,
Tyred i mewn, gwraig Jeroboam; i ba beth yr wyt ti yn ymddieithro? canys’ myfi
a anfonwyd atat ti a newyddion caled.
º7 DOS, dywed wrth Jeroboam, Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW Israel; Yn
gymaint a darfod i mi dy ddyrchafu di o blith y bobl, a’th wneuthur di yn,
flaenor ar fy mhobl Israel,
º8 A thorri ymaith y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Dafydd, a’i rhoddi i ti; ac
na buost ti fel fy ngwas Dafydd, yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion, a’r hwn a
rodiodd ar fy ôl i a’i holl galon, i wneuthur yn unig yr hyn oedd uniawn yn fy
ngolwg i;
º9 Ond a wnaethost ddrwg y tu hwnt i, bawb a fu o’th flaen di; ac a aethost ac
a wnaethost i ti dduwiau dieithr, a delwau toddedig, i’m digio i, ac a’m
teflaist i o’r tu ôl i’th gefn:
º10 Am hynny, wele fi yn dwyn drwg ar dy Jeroboam; a thorraf ymaith oddi wrth
Jeroboam bob gwryw, y gwarchaeed.g a’r gweddilledig yn Israel; a mi a fwriaf
allan weddillion tŷ Jeroboam, fel y bwrir allan dom, nes ei ddarfod.
º11 Y cwn a fwyty yr hwn fyddo farw o eiddo Jeroboam yn y ddinas; ac adar y
nefoedd a fwyty yr hwn fyddo farw yn y maes: canys yr ARGLWYDD a’i dywedodd.
º12 Cyfod di gan hynny, dos i’th dŷ: a phan ddelo dy draed i’r ddinas,
bydd marw y bachgen.
º13 A holl Israel a alarant amdano ef, ac a’i claddant ef: canys efe yn unig o
Jeroboam a ddaw i’r bedd; oherwydd cael ynddo ef beth daioni tuag at ARGLWYDD
DDUW Israel, yn nhŷ Jeroboam.
º14 Yr ARGLWYDD hefyd a gyfyd iddo frenin ar Israel, yr hwn a dyr ymaith dy
Jeroboam y dwthwn hwnnw: ond pa beth? ie, yn awr.
º15 Canys yr ARGLWYDD a dery Israel, megis y siglir y gorsen mewn dwfr; ac a
ddiwreiddia Israel o’r wlad dda hon a roddodd efe i’w tadau hwynt, ac a’u
gwasgar hwynt tu hwnt i’r afon; oherwydd gwneuthur ohonynt eu llwyni, gan
annog yr ARGLWYDD i ddigofaint.
º16 Ac efe a ddyry heibio Israel, er mwyn pechodau Jeroboam, yr hwn a bechodd,
a’r hwn a wnaeth i Israel bechu.
º17 A gwraig Jeroboam a gyfododd, ac a aeth ymaith, ac a ddaeth i Tirsa: ac a
hi yn dyfod i drothwy y tŷ, bu farw y bachgen.
º18 A hwy a’i claddasant ef; a holl Israel a alarasant amdano, yn ôl gair yr ARGLWYDD,
yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahia y proffwyd.
º19 A’r rhan arall o weithredoedd Jeroboam, fel y rhyfelodd efe, ac fel y
teyrnasodd efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.
º20 A’r dyddiau y teyrnasodd Jeroboam oedd ddwy flynedd ar hugain: ac efe a
hunodd gyda’i dadau; a Nadab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
º21 A Rehoboam mab Solomon a deyrnasodd yn Jwda. Mab un flwydd a deugain oedd
Rehoboam pan aeth efe yn frenin, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn
Jerwsalem, y ddinas a ddewisasai yr ARGLWYDD o holl lwythau Israel, i osod ei
enw yno. Ac enw ei fam ef oedd Naaroa, Ammones.
º22 A Jwda a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD; a hwy a’i hanogasant ef i
eiddigedd, rhagor yr hyn oll a wnaethai eu tadau, yn eu pechodau a wnaethent.
º23 Canys hwy a adeiladasant iddynt uchelfeydd, a delwau, a llwyni ar bob bryn
uchel, a than bob pren gwyrddlas.
º24 A gwŷr sodomiaidd oedd yn y wlad: gwnaethant hefyd yn ôl holl
ffieidd-dra’r cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel.
º25 Ac yn y bumed flwyddyn i’r brenin Rehoboam, Sisac brenin yr Aifft a ddaeth
i fyny yn erbyn Jerwsalem.
º26 Ac efe a ddug ymaith drysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau tŷ y
brenin; efe a’u dug hwynt ymaith oil: dug ymaith hefyd yr holl darianau aur a
wnaethai Solomon.
º27 A’r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres, ac a’u rhoddodd
hwynt i gadw yn llaw tywysogion y rhedegwyr, y rhai oedd yn cadw drws tŷ y
brenin.
º28 A phan elai y brenin i dŷ yr ARGLWYDD, y rhedegwyr a’u dygent hwy, ac
a’u hadferent i ystafell y rhedegwyr.
º29 A’r rhan arall o weithredoedd Rehoboam, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid
ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronid brenhinoedd Jwda?
º30 A rhyfel fu rhwng Rehoboam a Jeroboam yr holl ddyddiau.
º31 A Rehoboam a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas
Dafydd. Ac enw ei fam ef oedd Naama, Ammones. Ac Abeiam ei fab a deyrnasodd yn ei
le ef.
PENNOD 15
º1 A yn y ddeunawfed flwyddyn i’r brenin Jeroboam mab Nebat, yr aeth Abeiam
yn frenin ar Jwda.
º2 Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha,
merch Abisalom.
º3 Ac efe a rodiodd yn holl bechodau ei dad, y rhai a wnaethai efe o’i flaen
dF: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r ARGLWYDD ei DDUW, fel calon Dafydd
ei dad.
º4 Ond er mwyn Dafydd y rhoddodd yr ARGLWYDD ei DDUW iddo ef oleuni yn
Jerwsalem; i gyfodi ei fab ef ar ei ôl ef, ac i sicrhau Jerwsalem:
º5 Oherwydd gwneuthur o Dafydd yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac na
chiliodd oddi wrth yr hyn oll a orchmynnodd efe iddo holl ddyddiau ei einioes,
ond yn achos Ureia yr Hethiad.
º6 A rhyfel a fu rhwng Rehoboam a Jeroboam
holl ddyddiau ei einioes.
º7 A’r rhan arall o weithredoedd Abeiam, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt
hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronid brenhinoedd Jwda? A rhyfel a fu rhwng
Abeiam a Jeroboam.
º8 Ac Abeiam a hunodd gyda’i dadau, a hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd. Ac Asa ei fab a deyrnasodd
yn ei le ef.
º9 Ac yn yr ugeinfed flwyddyn i Jeroboam brenin Israel yr aeth Asa yn frenin
ar Jwda.
º10 Ac un flynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef
oedd Maacha, merch Abisalom.
º11 Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel Dafydd ei
dad.
º12 Ac efe a yrrodd ymaith y gwŷr sodomiaidd o’r wlad, ac a fwriodd ymaith
yr holl ddelwau a wnaethai ei dadau.
º13 Ac efe a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines, oherwydd gwneuthur
ohoni hi ddelw mewn llwyn; ac Asa a ddrylliodd ei delw hi, ac a’i llosgodd wrth
afon Cidron.
º14 Ond ni fwriwyd ymaith yr uchelfeydd xxx: eto calon Asa oedd berffaith
gyda’r ARGLWYDD ei holl ddyddiau ef.
º15 Ac efe a ddug i mewn gysegredig bethau ei dad, a’r pethau a gysegrasai efe
ei hun, i dŷ yr ARGLWYDD, yn arian, yn aur, ac yn llestri.
º16 A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt.
º17 A Baasa brenin Israel a aeth i fyny yn erbyn Jwda, ac a adeiladodd Rama,
fel na adawai efe i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda.
º18 Yna Asa a gymerodd yr holl arias a’r aur a adawsid yn nhrysorau tŷ yr
ARGLWYDD, a thrysorau t y brenin, ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw ei weision;
a’r brenin Asa a anfonodd at Benhadad mab TabRimmon, mab Hesion, brenin Syria,
yr hwn oedd yn trigo yn Damascus, gan ddywedyd,
º19 Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, rhwng fy nhad i a’th dad di: wele, mi a
anfonais i ti anrheg o arian ac aur; tyred, diddyma dy gyfamod â Baasa brenin
Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi.
º20 Felly Benhadad a wrandawodd af y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion y
lluoedd, y rhai oedd ganddo ef, yn erbyn dinasoedd Israel, ac a drawodd Ijon, a
Dan, ac Abel-bethmaacha, a holl Cinneroth, gyda holl wlad Nafftali.
º21 A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama; ac a drigodd yn
Tirsa.
º22 Yna y brenin Asa a gasglodd holl Jwda, heb lysu neb: a hwy a gymerasant
gerrig Rama, a’i choed, a’r rhai yr adeiladasai Baasa; a’r brenin Asa a
adeiladodd a hwynt Geba Benjamin, a Mispa.
º23 A’r rhan arall o holl hanes Asa, a’i holl gadernid ef, a’r hyn oll a wnaeth
efe, a’r dinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr
cronid brenhinoedd Jwda? eithr yn amser ei henaint efe a glafychodd o’i draed.
º24 Ac Asa a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei
dad; a Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
º25 A Nadab mab Jeroboam a dfccfareuodd deyrnasu ar Israel yn yr afl flwyddyn i
Asa brenin Jwda; ac a deyrn asodd ar Israel ddwy flynedd.
º26 Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd yn ffordd ei
dad, ac yn ei bechod ef a’ hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.
º27 A Baasa mab Ahia, o dŷ Issachar* a gydfwriadodd yn ei erbyn ef; a
Baasa a’i trawodd ef yn Gibbethon eiddo y Philistiaid: canys Nadab a holl
Israel
oedd yn gwarchae ar Gibbethon.
º28 A Baasa a’i lladdodd ef yn y drydedB flwyddyn i Asa brenin Jwda, ac a deyrnasodd
yn ei le ef.
º29 A phan deyrnasodd, efe a drawodd holl dy Jeroboam; ni adawodd un per* chen
anadl i Jeroboam, nes ei ddifetha ef, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a
lefarasai efe trwy law ei was Ahia y Siloniad:
º30 Am bechodau Jeroboam y rhai a bechasai efe, a thrwy y rhai y gwnaethai efe
i Israel bechu; oherwydd ei waith ef yn digio ARGLWYDD DDUW Israel.
º31 A’r rhan arall o hanes Nadab, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt yn
ysgrifenedig yn llyfr cronid brenhinoedd Israel?
º32 A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt.
º33 Yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Baasa mab Ahia ar holl
Israel yn Tirsa, bedair blynedd ar hugain.
º34 Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd yn ffordd
Jeroboam, ac yn ei bechod ef trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.
PENNOD 16
º1 VT NA y daeth gair yr ARGLWYDD at Jehu mab Hanani yn erbyn Baasa, gan
ddywedyd,
º2 Oherwydd i mi dy ddyrchafu o’r llwch, a’th wneuthur yn flaenor ar fy mhobl
Israel, a rhodio ohonot tithau yn ffordd Jeroboam, a pheri i’m pobl Israel
bechu, gan fy nigio a’u pechodau; T
º3 Wele fi yn torri ymaith hiliogaeth Baasa, a hiliogaeth ei dy ef: a mi a wnaf
dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat.
º4 Y cwn a fwyty yr hwn fyddo marw o’r eiddo Baasa yn y ddinas; ac adar y
nefoedd a fwyty yr hwn fyddo marw o’r eiddo ef yn y maes.
º5 A’r rhan arall o hanes Baasa, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid ef,
onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
º6 A Baasa a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn Tirsa; ac Ela ei fab a
deyrnasodd yn ei le ef.
º7 Hefyd trwy law Jehu mab Hanani y proffwyd y bu gair yr ARGLWYDD yn erbyn
Baasa, ac yn erbyn ei d ef, oherwydd yr holl ddrygioni a wnaeth efe yng ngolwg
yr ARGLWYDD, gan ei ddigio ef trwy waith ei ddwylo; gan fod fel tŷ
Jeroboam, ac oblegid iddo ei ladd
ef.
º8 Yn y chweched fiwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Ela mab
Baasa ar Israel yn Tirsa, ddwy flynedd.:.
º9 A Simri ei was ef, tywysog ar hanner y cerbydau, a gydfwriadodd yn ei erbyn
ef, ac efe yn yfed yn feddw, yn Tirsa, yn nhŷ Arsa, yr hwn oedd benteulu
yn
Tirsa.
º10 A Simri a aeth ac a’i trawodd ef, ac a’i lladdodd, yn y seithfed flwyddyn
ar hugain i Asa brenin Jwda, ac a deyrnasodd yn ei le ef.
º11 A phan ddechreuodd efe deyrnasu, ac eistedd ar ei deyrngadair, efe a
laddodd holl dy Baasa: ni adawodd efe iddo ef un gwryw, na’i geraint, na’i
gyfeillion.
º12 Felly Simri a ddinistriodd holl dy Baasa, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a
lefarodd efe yn erbyn Baasa trwy law Jehu y proffwyd.
º13 Oherwydd holl bechodau Baasa, a phechodau Ela ei fab ef, trwy y rhai y
pechasant hwy, a thrwy y rhai y gwnaethant i Israel bechu, gan ddigio ARGLWYDD
DDUW Israel a’u gwagedd.
º14 A’r rhan arall o hanes Ela, a’r hyn oil a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn
ysgrifenedig. yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
º15 Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Simri saith
niwrnod yn Tirsa: a’r bobl oedd yn gwersyllu yn erbyn Gibbethon eiddo
y Philistiaid.
º16 A chlybu y bobl y rhai oedd yn y gwersyll ddywedyd, Simri a gydfwriadodd,
ac a laddodd y brenin. A holl Israel a goronasant Omri, tywysog y llu, yn
frenin y dwthwn hwnnw ar Israel, yn y gwersyll.
º17 Ac Omri a aeth i fyny, a holl Israel gydag ef, o
Gibbethon; a hwy a warchae" asant ar Tirsa.
º18 A phan welodd Simri fod y ddinas wedi ei hennill, efe a aeth i balas
tŷ y brenin, ac a losgodd dy y brenin am ei ben â thân, ac a fu farw;
º19 Am ei bechodau yn y rhai y pechodd efe, gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr
ARGLWYDD, gan rodio yn ffordd Jeroboam, ac yn ei bechod a wnaeth efe i bed i
Israel bechu.
º20 A’r rhan arall o hanes Simri, a1 gydfradwriaeth a gydfwriadodd efe; onid
ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
º21 Yna yr ymrannodd pobl Israel yn ddwy ran: rhan o’r bobl oedd ar ôl Tibni
mab Ginath, i’w osod ef yn frenin, a rhan
ar ôl Omri.
º22 A’r bobl oedd ar ôl Omri a orchfygodd y bobl oedd ar ôl Tibni ma6 Ginath:
felly Tibni a fu farw, ac Omri a
deyrnasodd.
º23 Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Omri
ar Israel ddeuddeng mlynedd: yn Tirsa y teyrnasodd efe chwe blynedd.
º24 Ac efe a brynodd fynydd Samaria gan Semer, er dwy dalent o arian; ac a
adeiladodd yn y mynydd, ac a alwodd enw y ddinas a adeiladasai efe, ar ôl enw
Semer, arglwydd y mynydd, Samaria.
º25 Ond Omri a wnaeth ddrygioni yng ngŵydd yr ARGLWYDD, ac a wnaeth yn
waeth na’r holl rai a fuasai o’i flaen ef.
º26 Canys efe a rodiodd yn holl ffordd Jeroboam mab Nebat, ac yn ei bechod ef
trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu, gan ddigio ARGLWYDD DDUW Israel a’u
gwagedd hwynt.
º27 A’r rhan arall o hanes Omri, yr hyn a wnaeth efe, a’i rymuster a wnaeth
efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? .. ’.
º28 Ac Omri a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria, ac Ahab ei fab a
deyrnasodd yn ei le ef.;;
º29 Ac Ahab mab Omri a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn y drydedd flwyddyn ar
bymtheg ar hugain i Asa brenin Jwda: ac Ahab mab Omri a deyrnasodd ar Israel yn
Samaria ddwy flynedd ar hugain.
º30 Ac Ahab mab Omri a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD y tu hwnt i
bawb o’i flaen ef.
º31 Canys ysgafn oedd ganddo ef rodio ym mhechodau Jeroboam mab Nebat, ac efe a
gymerth yn wraig Jesebel merch Ethbaal brenin y Sidoniaid, ac a aeth ac a
wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo.
º32 Ac efe. a gyfododd allor i Baal yn nhŷ Baal, yr hwn a adeiladasai efe
yn Samaria.
º33 Ac Ahab a wnaeth lwyn. Ac Ahab a wnaeth fwy i ddigio ARGLWYDD DDUW Israel
na holl frenhinoedd Israel a fuasai o’i flaen ef.;’
º34 Yn ei ddyddiau efHiel y Betheliad a adeiladodd Jericho: yn Abiram ei gyntaf-anedig
y sylfaenodd efe hi, ac yn Scgub ei fab ieuangaf y gosododd efe ia phyrth hi,
yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law Josua mab Nun.
PENNOD 17
º1 A Eleias y Thesbiad, un o breswylwyr Gilead, a ddywedodd wrth Ahab, Fel
mai byw ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, ni bydd y
blynyddoedd hyn na gwlith na glaw, ond yn ôl fy ngair i.
º2 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth
ato ef, gan ddywedyd,
º3 DOS oddi yma, a thro tua’r dwyrain, ac ymguddia wrth afon Cerith, yr hon
sydd ar gyfer yr Iorddonen.
º4 Ac o’r afon yr yfi; a mi a berais i’r cigfrain dy borthi di yno.
º5 Felly efe a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair yr ARGLWYDD; canys efe a aeth, ac a
arhosodd wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen.
º6 A’r cigfrain a ddygent iddo fara a chig y bore, a bara a chig brynhawn; ac
efe a yfai o’r afon.
º7 Ac yn ôl talm o ddyddiau y sychodd yr afon, oblegid na buasai law yn y wlad;
º8 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ato ef, gan ddywedyd,
º9 Cyfod, dos i Sareffta, yr hon sydd yn perthyn i Sidon, ac aros yno: wele,
gorchmynnais i wraig weddw dy borthi di yno.
º10 Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Sareffta. A phan ddaeth efe at borth y
ddinas, wele yno wraig weddw yn casglu briwydd: ac efe a alwodd arni, ac a ddywedodd,
Dwg, atolwg, i mi ychydig ddwfr mewn llestr, fel yr yfwyf.
º11 Ac a hi yn myned i’w gyrchu, efe a alwodd arni, ac a ddywedodd, Dwg,
atolwg, i mi damaid o fara yn dy law.
º12 A hi a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD dy DDUW, nid oes gennyf deisen,
ond llonaid llaw o flawd mewn celwrn, ac ychydig olew mewn ysten: ac wele fi yn
casglu dau o friwydd, i fyned i mewn, ac i baratoi hynny i mi ac i’m mab, fel y
bwytaom hynny, ac y byddom feirw.
º13 Ac Eleias a ddywedodd wrthi, Nac ofna; dos, gwna yn ôl dy air: eto gwna i
mi o hynny deisen fechan yn gyntaf, a dwg i mi; a gwna i ti ac i’th fab ar ôl
hynny.
º14 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Y blawd yn y celwrn ni
threulir, a’r olew o’r ysten ni dderfydd, hyd y dydd y rhoddo yr ARGLWYDD law
ar wyneb y ddaear.
º15 A hi a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair Eleias: a hi a fwytaodd, ac yntau, a’i
thylwyth, ysbaid blwyddyn. . ‘
ºl6 Ni ddarfu y celwrn blawd, a’r ysten ©kw ni ddarfu, yn ôl gair yr ARGLWYDD,
yr hwn a ddywedasai efe trwy law Eleias.
º17 Ac wedi y pethau hyn y
clafychodd mab gwraig y tŷ, ac yr oedd ei glefyd ef Stior gryf, fel na
thrigodd anadl ynddo.
º18 A hi a ddywedodd wrth Eleias, Beth Sydd i mi a wnelwyf a thi, gŵr Duw?
a ddaethost ti ataf i goffau fy anwiredd, flc i ladd fy mab?
º19 Ac efe a ddywedodd wrthi,
Moes i mi dy fab. Ac efe a’i cymerth ef o’i Jnynwes hi, ac a’i dug ef i fyny i
ystafell yr oedd efe yn aros ynddi, ac a’i gosododd ef ar ei wely ei hun.
º20 Ac efe a lefodd ar yr ARGLWYDD, ac 8 ddywedodd, O ARGLWYDD fy Now, a
ddrygaist ti y wraig weddw yr ydwyf fi yn ymdeithio gyda hi, gan ladd ei mab
hi?
º21 Ac efe a ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith, ac a lefodd ar yr ARGLWYDD,
ac a ddywedodd, O ARGLWYDD fy Nuw, dychweled, atolwg, enaid y bachgen hwn iddo
eilwaith.
º22 A’r ARGLWYDD a wrandawodd ar
lef Eleias; ac enaid y bachgen a ddychwelodd i mewn iddo, ac efe a ddadebrodd.
º23 Ac Eleias a gymerodd y bachgen, ac a’i dug ef i waered o’r ystafell i’r
tŷ, ac a’i rhoddes ef i’w fam: ac Eleias a ddywedodd, gwêl, byw yw dy fab.
º24 A’r wraig a ddywedodd wrth Eleias, Yn awr wrth hyn y gwn mai gŵr Duw
ydwyt ti, ac mai gwirionedd yw gair yr ARGLWYDD yn dy enau di.
PENNOD 18
º1 A ar ôl dyddiau lawer daeth gair yr ARGLWYDD at Eleias, yn y drydedd
flwyddyn, gan ddywedyd, DOS, ymddangos i Ahab; a mi a roddaf law ar, wyneb y
ddaear.
º2 Ac Eleias a aeth i ymddangos i Ahab. A’r newyn oedd dost yn Samaria.
º3 Ac Ahab a alwodd Obadeia, yr hwn oedd benteulu iddo: (ac Obadeia oedd yn
ofni yr ARGLWYDD yn fawr: ;4 Canys pan ddistrywiodd Jesebel btoffwydi yr
ARGLWYDD, Obadeia a gymerodd gant o broffwydi, ac a’u cudd- aodd hwynt bob yn
ddeg a deugain mewn ogof, ac a’u porthodd hwynt a bara ac & dwfr.)
º5 Ac Ahab a ddywedodd wrth Obadeia, DOS i’r wlad, at bob ffynnon ddwfr, ac at
yr holl afonydd: ysgatfydd ni a gawn laswellt, fel y cadwom yn fyw y ceffylau
a’r mulod, fel na adawom i’r holl anifeiliaid golli.
º6 Felly hwy a ranasant y wlad rhyngddynt i’w cherdded: Ahab a aeth y naill
ffordd ei hunan, ac Obadeia a aeth y ffordd arall ei hunan.
º7 Ac fel yr oedd Obadeia ar y ffordd, wele Eleias yn ei gyfarfod ef: ac efe
a’i hadnabu ef, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ddywedodd, Onid ti yw fy
arglwydd Eleias?
º8 Yntau a ddywedodd wrtho. Ie, myfi: dos, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias.
º9 Dywedodd yntau. Pa bechod a wneuthum i, pan roddit ti dy was yn llaw Ahab
i’m lladd?
º10 Fel mai byw yr ARGLWYDD dyDDUW, nid oes genedl na brenhiniaeth yr hon ni
ddanfonodd fy arglwydd iddi i’th geisio di; a phan ddywedent, Nid yw efe yma,
efe a dyngai y frenhiniaeth a’r genedl, na chawsent dydi.
º11 Ac yn awr yr wyt ti yn dywedyd, DOS, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias.
º12 A phan elwyf fi oddi wrthyt ti, ysbryd yr ARGLWYDD a’th gymer di lle nis
gwn i; a phan ddelwyfi fynegi i Ahab, ac yntau heb dy gael di, efe a’m lladd i:
ond y mae dy was di yn ofni yr ARGLWYDD 6’m mebyd.
º13 Oni fynegwyd i’m harglwydd yr hyn ‘ wneuthum i, pan laddodd Jesebel
broffwydi yr ARGLWYDD, fel y cuddiais gannwr o broffwydi yr ARGLWYDD, bob yn
ddengwr a deugain mewn ogof, ac y porthais hwynt a bara ac a dwfr?
º14 Ac yn awr ti a ddywedi, DOS, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias: ac efe a’m
lladd i.
º15 A dywedodd Eleias, Fel mai byw ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn yr wyf yn sefyll
ger ei fron, heddiw yn ddiau yr ymddangosaf iddo ef. ,’
º16 Yna Obadeia a aeth i gyfarfod Ahab, ac a fynegodd iddo. Ac Ahab a aeth i
gyfarfod Eleias.
º17 A phan welodd Ahab Eleias, Ahab a ddywedodd wrtho, Onid ti yw yr hwn sydd
yn blino Israel?
º18 Ac efe a ddywedodd, Ni flinais i Israel; ond tydi, a thŷ dy dad: am i
chwi wrthod gorchmynion yr ARGLWYDD, ac i ti rodio ar ôl Baalim.
º19 Yn awr gan hynny anfon, a chasgl ataf holl Israel i fynydd Carmel, a
phroffwydi Baal, pedwar cant a deg a deugain, a phroffwydi y llwyni, pedwar
cant, y rhai sydd yn bwyta ar fwrdd Jesebel.
º20 Felly Ahab a anfonodd at holl feibioa; Israel, ac a gasglodd y proffwydi
ynghyd: i fynydd Carmel.
º21 Ac Eleias a ddaeth at yr holl bobl, ac a ddywedodd. Pa hyd yr ydych chwi yn
cloffi rhwng dau feddwl? os yr ARGLWYDD sydd DDUW, ewch ar ei ôl ef; ond os
Baal, ewch ar ei ôl yntau. A’r bobl nid atebasant iddo air.
º22 Yna y dywedodd Eleias wrth y bobl, Myfi fy hunan wyf yn fyw o broffwydi yr
ARGLWYDD; ond proffwydi Baal ydynt bedwar cant a dengwr a deugain.
º23 Rhodder gan hynny i ni ddau fustach: a dewisant hwy iddynt un bustach, a
darniant ef, a gosodant ar goed, ond na osodant dan dano: a minnau a baratoaf y
bustach arall, ac a’i gosodaf ar goed, ac ni roddaf dan dano.
º24 A gelwch chwi ar enw eich duwiau, a minnau a alwaf ar enw yr ARGLWYDD: a’r
Duw a atebo trwy dfin, bydded efe DDUW. A’r holl bobl a atebasant ac a
ddywedasant. Da
yw y peth.
º25 Ac Eleias a ddywedodd wrth broffwydi Baal, Dewiswch i chwi un bustach, a
pharatowch ef yn gyntaf; canys llawer ydych chwi: a gelwch ar enw eich duwiau,
ond na osodwch dan dano.
º26 A hwy a gymerasant y bustach a roddasid iddynt, ac a’i paratoesant, ac a
alwasant ar enw Baal o’r bore hyd hanner dydd, gan ddywedyd, Baal, gwrando ni;}
ond nid oedd llef, na neb yn ateb: a hwy a lamasant ar yr allor a wnaethid.
º27 A bu, ar hanner dydd,’f Eleias ‘eu gwatwar hwynt, a dywedyd, Gwaeddwch a
llef uchel: canys duw yw efe; naill ai ymddiddan y mae, neu erlid, neu
ymdeithio y mae efe; fe a allai ei fod yn cysgu, ac mai rhaid ei ddeffro ef.
º28 A hwy a waeddasant a llef uchel, ac a’u torasant eu hunain yn ôl eu harfer
a chyllyll ac ag ellynod, nes i’r gwaed ffrydio arnynt.
º29 Ac wedi iddi fyned dros hanner dyidd, a phronwydo ohonynt nes offrymu yr
hwyronrwm; eto nid oedd llef, na neb yn ateb, nac yn ystyried.
º30 A dywedodd Eleias wrth yr holl bobl, Nesewch ataf fi.
A’r holl bobl a nesasant ato ef. Ac efe a gyweiriodd allor yr ARGLWYDD, yr hon
a ddrylliasid.
º31 Ac Eleias a gymerth ddeuddeg o gerrig, yn ôl rhifedi llwythau meibion
Jacob, yr hwn y daethai gair yr ARGLWYDD ato, gan ddywedyd, Israel fydd dy enw
di.
º32 Ac efe a adeiladodd a’r meini allor yn enw yr ARGLWYDD; ac a wnaeth fibs o
gylch lle dau fesur o had, o amgylch yr allor.
º33 Ac efe a drefnodd y coed, ac a ddarniodd y bustach, ac a’i gosododd ar y
coed;
º34 Ac a ddywedodd, Llenwch bedwar celyrnaid o ddwfr, a thywelltwch ar y
poethoffrwm, ac ar y coed. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch eilwaith; a hwy a
wnaethant eilwaith. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch y drydedd waith; a hwy a
wnaethant y drydedd waith.
º35 A’r dyfroedd a aethant o amgylch yr allor, ac a lanwodd y ffos o ddwfr.
º36 A phan offrymid yr hwyronrwm, Eleias y proflwyd a nesaodd ac a ddywedodd,
O ARGLWYDD DDUW Abraham, Isaac, ac Israel, gwybydder heddiw mai ti sydd DDUW yn
Israel, a minnau yn was i ti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl
bethau hyn.
º37 Gwrando fi, O ARGLWYDD, gwrando fi, fel y gwypo y bobl hyn mai tydi yw yr
ARGLWYDD DDUW, ac mai ti a ddychwelodd eu calon hwy drachefn.
38 Yna tan yr ARGLWYDD a
syrthiodd, ac a ysodd y poethoffrwm, a’r coed, a’r cerrig, a’r llwch, ac a
leibiodd y dwfr oedd yn y fibs.
º39 A’r holl bobl a welsant, ac a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant,
Yr ARGLWYDD, efe sydd DDUW, yr ARGLWYDD, efe sydd DDUW.
º40 Ac Eleias a ddywedodd wrthynt hwy, Deliwch broffwydi Baal; na ddihanged
gŵr ohonynt. A hwy a’u daliasant: ac Eleias a’u dygodd hwynt i waered i
afon Cison, ac a’u lladdodd hwynt yno.
º41 Ac Eleias a ddywedodd wrth Ahab, ©os i fyny, bwyta ac yf, canys wele drwst
llawcr o law.
º42 Felly Ahab a aeth i fyny i fwyta ac i yfed. Ac Eleias a aeth i fyny i ben
Carmel; ac a ymostyngodd ar y ddaear, ac a osododd ei wyneb rhwng ei liniau;
º43 Ac a ddywedodd wrth ei lane, DOS i fyny yn awr, edrych tua’r môr. Ac efe a
aeth i fyny ac a edrychodd, ac a ddywedodd, Nid oes dim. Dywedodd yntau, DOS
eto saith waith.
º44 A’r seithfed waith y dywedodd efe, Wele gwmwl bychan fel cledr llaw
gŵr yn dyrchafu o’r môr. A dywedodd yntau, DOS i fyny, dywed wrth Ahab,
Rhwym dy gerbyd, a dos i waered, fel na’th rwystro y glaw.
º45 Ac yn yr ennyd honno y nefoedd a dduodd gan gymylau a gwynt; a bu glaw
mawr. Ac Ahab a farchogodd, ac a aeth i Jesreel.
º46 A llaw yr ARGLWYDD oedd ar Eleias, ac efe a wregysodd ei lwynau, ac a
redodd o flaen Ahab nes ei ddyfod i Jesreel.
PENNOD 19
º1 AC Ahab a fynegodd i Jesebel yr hyn Ix oll a wnaethai Eleias;
a chyda phob peth, y modd y lladdasai efe yr holl broffwydi â’r cleddyf .
º2 Yna Jesebel a anfonodd gennad at Eleias, gan ddywedyd. Fel hyn y gwnelo y
duwiau, ac fel hyn y chwanegont, oni wnaf erbyn y pryd hwn yfory dy einioes di
fel einioes un ohonynt hwy.
º3 A phan welodd efe hynny, efe a gyfododd, ac a aeth am ei einioes, ac a
ddaeth i Beerseba, yr hon sydd yn Jwda, ac a adawodd ei lane yno.
º4 Ond efe a aeth i’r anialwch daith diwrnod, ac a ddaeth ac a eisteddodd dan
ferywen; ac a ddeisyfodd iddo gael marw: dywedodd hefyd, Digon yw; yn awr,
ARGLWYDD, cymer fy einioes: canys nid ydwyf fi well na’m tadau.
º5 Ac fel yr oedd efe yn gorwedd ac yn cysgu dan ferywen, wele, angel a
gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Cyfod, bwyta.
º6 Ac efe a edrychodd: ac wele deisen wedi ei chrasu ar farwor, a ffiolaid o
ddwfr wrth ei ben ef. Ac efe a fwytaodd ac a yfodd, ac a gysgodd drachefn.
º7 Ac angel yr ARGLWYDD a ddaeth drachefn yr ail waith, ac a gyffyrddodd ag ef,
ac a ddywedodd, Cyfod a bwyta; canys y mae i ti lawer o ffordd.
º8 Ac efe a gyfododd, ac a fwytaodd ac a yfodd; a thrwy rym y bwyd hwnnw y
cerddodd efe ddeugain niwrnod a deugain nos, hyd Horeb mynydd Duw.
º9 Ac yno yr aeth efe i fewn ogof, ac a letyodd yno. Ac wele air yr ARGLWYDD
ato ef; ac efe a ddywedodd wrtho, Beth a wnei di yma, Eleias?
º10 Ac efe a ddywedodd, Dygais fawr sel dros ARGLWYDD DDUW y lluoedd; oherwydd i
feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau di, a lladd dy
broffwydi â’r cleddyf : a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent ddwyn fy
einioes innau.
º11 Ac efe a ddywedodd, DOS allan, a saf yn y mynydd gerbron yr ARGLWYDD. Ac
wele yr ARGLWYDD yn myned heibio, a gwynt mawr a chryf yn rhwygo’r mynyddoedd,
ac yn dryllio’r creigiau o flaen yr ARGLWYDD; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y
gwynt: ac ar ôl y gwynt, daeargryn; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y ddaeargryn:
º12 Ac ar ôl y ddaeargryn, tân; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y tân: ac ar ôl y
tân, llef ddistaw fain.
º13 A phan glybu Eleias, efe a oblygodd ei wyneb yn ei fantell, ac a aeth
allan, ac a safodd wrth ddrws yr ogof. Ac wele lef yn dyfod ato, yr hon a
ddywedodd, Beth a wnei di yma, Eleias?
º14 Dywedodd yntau, Dygais fawr sel dros ARGLWYDD DDUW y lluoedd; oherwydd i
feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau, a lladd dy broffwydi
â’r cleddyf : a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y macnt fy einioes innau i’w
dwyn hi ymaith.
º15 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, DOS, dychwel i’th ffordd i anialwch
Damascus: a phan ddelych, eneinia Hasael yn frenin ar Syria;
º16 A Jehu mab Nimsi a eneini di
yn frenin ar Israel; ac Eliseus mab Saffat, o Abel-mehola, a eneini di yn
broffwyd yn dy Ie dy hun.
º17 A’r hwn a ddihango rhag cleddyf Hasael, Jehu a’i lladd ef: ac Eliseus a
ladd yr hwn a ddihango rhag cleddyf Jehu.
º18 A mi a adewais yn Israel saith o filoedd, y gliniau oll ni phlygasant i
Baal, a phob genau a’r nis cusanodd ef.
º19 Felly efe a aeth oddi yno, ac a gafodd Eliseus mab Saffat yn aredig, a
deuddeg cwpl o ychen o’i flaen, ac efe oedd gyda’r deuddegfed. Ac Eleias a aeth
heibio iddo ef, ac a fwriodd ei fantell arno ef.
º20 Ac efe a adawodd yr ychen, ac a redodd ar ôl Eleias, ac a ddywedodd,
Atolwg, gad i mi gusanu fy nhad a’m mam, ac yna mi a ddeuaf ar dy ôl. Ac yntau
a ddywedodd wrtho, DOS, dychwel; canys beth a wneuthum i ti?
º21 Ac efe a ddychwelodd oddi ar ei ôl ef, ac a gymerdi gwpl o ychen, ac a’u
lladdodd, ac ag offer yr ychen y berwodd efe eu cig hwynt, ac a’i rhoddodd i’r
bobl, a hwy a fwytasant. Yna efe a gyfododd ac a aeth ar ôl Eleias, ac a’i
gwasanaethodd ef.
PENNOD 20
º1 A BENHADAD brenin Syria a gasglt lodd ei holl lu, a deuddeg
brenin ar hugain gydag ef, a meirch, a cherbydau: ac efe a aeth i fyny, ac a
warchaeodd a£ Samaria, ac a ryfelodd i’w herbya hi.
º2 Ac efe a anfonodd genhadau at Ahab brenin Israel, i’r ddinas,
º3 Ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed Benhadad, Dy arian a’th aur sydd
eiddof fi; dy wragedd hefyd, a’th feibion ,glanaf, ydynt eiddof fi.
º4 A brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Yn ôl dy air di, fy arglwydd
frenin, myfi a’r byn oll sydd gennyf ydym eiddot ti.
º5 A’r cenhadau a ddychwelasant, ac a ddywedasant, Fel hyn yr ymadroddodd
Benhadad, gan ddywedyd, Er i mi anfon atat ti, gan ddywedyd, Dy arian a’th aur,
a’th wragedd, a’th feibion, a roddi di i mi: . 6 Eto ynghylch y pryd hwn yfory
yr anfonaf fy ngweision atat ti, a hwy a chwiliant dy dŷ di, a thai dy
weision: a phob peth dymunol yn dy olwg a gymerant hwy yn eu dwylo, ac a’i
dygant ymaith.
º7 Yna brenin Israel a alwodd holl henuriaid y wlad, ac a ddywedodd,
Gwybyddwch, atolwg, a gwelwch mai ceisio drygioni y mae hwn: canys efe a
anfonodd ataf fi am fy ngwragedd, ac am fy meibion, ac am fy arian, ac am fy
aur, ac nis gomeddais ef.
º8 Yr holl henuriaid hefyd, a’r holl bobl, a ddywedasant wrtho ef, Na wrando,
ac na chytuna ag ef.
º9 Am hynny y dywedodd efe wrth genhadau Benhadad, Dywedwch i’m harglwydd y
brenin. Am yr hyn oll yr anfonaist ti at dy was ar y cyntaf, mi a’i gwnaf: ond
ni allaf wneuthur y peth hyn. A’r cenhadau a aethant, ac a ddygasant air iddo
drachefn.
º10 A Benhadad a anfonodd ato ef, ac a ddywedodd, Fel hyn y gwnelo y duwiau i
mi, ac fel hyn y chwanegont, os bydd pridd Samaria ddigon o ddyrneidiau i’r
holl bobl sydd i’m canlyn i.
º11 A brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Dywedwch wrtho, Nac ymffrostied
yr hwn a wregyso ei arfau, fel yr hwn sydd yn eu diosg.
º12 A phan glywodd efe y peth hyn, (ac efe yn yfed, efe a’r brenhinoedd, yn y
pebyll,) efe a ddywedodd wrth ei weision, Ymosodwch. A hwy a ymosodasant yn erbyn y
ddinas.
º13 Ac wele, rhyw broffwyd a nesaodd at Ahab brenin Israel, ac a ddywedodd, Fel
hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oni welaist ti yr holl dyrfa fawr hon? wele, mi a’i
rhoddaf yn dy law di heddiw, fel y gwypech mai myfi yw yr ARGLWYDD,
º14 Ac Ahab a ddywedodd, Trwy bwy? Dywedodd yntau. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD;
Trwy wŷr ieuainc tywysogion y taleithiau. Ac
efe a ddywedodd, Pwy a drefna y fyddin? Dywedodd yntau, Tydi.
º15 Yna efe a gyfrifodd wŷr ieuainc tywysogion y taleithiau, ac yr oeddynt
yn ddau cant a deuddeg ar hugain: ac ar eu hoi hwynt efe a gyfrifodd yr holl
bobl, cwbl o feibion Israel, yn saith mil.
º16 A hwy a aethant allan ganol dydd. A Benhadad oedd yn yfed yn feddw yn y
pebyll, efe a’r brenhinoedd, y deuddeg brenin ar hugain oedd yn ei gynorthwyo
ef.
º17 A gwŷr ieuainc tywysogion y taleithiau a aethant allan yn gyntaf: a
Benhadad a anfonodd allan, a hwy a fynegasant iddo gan ddywedyd, Daeth
gwŷr allan o Samaria.
º18 Ac efe a ddywedodd, Os am heddwch y daethant allan, deliwch hwynt yn fyw,
ac os i ryfel y daethant allan, deliwch hwynt yn fyw.
º19 Felly yr aethant hwy allan o’t ddinas, sef gwŷr ieuainc tywysogion y
taleithiau, a’r llu yr hwn oedd ar eu hôl hwynt.
º20 A hwy a laddasant bawb ei ŵr: a’i Syriaid a ffoesant, ac Israel a’u
herlidiodd hwynt: a Benhadad brenin Syria a ddihangodd ar farch, gyda’r
gwŷr meirch.
º21 A brenin Israel a aeth allan, ac a drawodd y meirch a’r cerbydau, ac a
laddodd y Syriaid a lladdfa fawr.
º22 A’r proffwyd a nesaodd at frenin Israel, ac a ddywedodd wrtho, DOS,
ymgryfha, gwybydd hefyd, ac edrych beth a wnelych; canys ymhen y flwyddyn
brenin Syria a ddaw i fyny i’th erbyn di.
º23 A gweision brenin Syria a ddywedasant wrtho ef, Duwiau y mynyddoedd yw eu
duwiau hwynt, am hynny trech fuant na ni: ond ymladdwn a hwynt yn y gwastadedd,
a ni a’u gorthrechwn hwynt.
º24 A gwna hyn; Tyn ymaith y brenhinoedd bob un o’i Ie, a gosod gapteiniaid yn
eu lle hwynt.
º25 Rhifa hefyd i ti lu, fel y llu a gollaist, meirch am feirch, a cherbyd am
gerbyd: a ni a ymladdwn a hwynt yn y gwastatir, ac a’u gorthrechwn hwynt. Ac
efe a wrandawodd ar eu llais hwynt, ac a wnaeth felly.
º26 Ac ymhen y flwyddyn Benhadad a gyfrifodd y Syriaid, ac a aeth i fyny i
Affec, i ryfela yn erbyn Israel.
º27 A meibion Israel a gyfrifwyd, ac oeddynt oll yn bresennol, ac a aethant i’w
cyfarfod hwynt: a meibion Israel a wersyllasant ar eu cyfer hwynt, fel dwy
ddiadell fechan o eifr; a’r Syriaid oedd ŷd llenwi’r wlad.
º28 A gŵr i DDUW a nesaodd, ac a lefarodd wrth frenin Israel, ac a
ddywedodd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oherwydd dywedyd o’r Syriaid, Duw y
mynyddoedd yw yr ARGLWYDD, ac nid Duw y dyffrynnoedd yw efe; am. hynny y rhoddaf
yr holl dyrfa fawr hon i’th law di, a chwi a gewch wybod mai myfi yw yr
ARGLWYDD.
º29 A hwy a wersyllasant y naill ar gyfer y llall saith niwrnod. Ac ar y seithfeS dydd y
rhyfel a aeth ynghyd: a meibion Israel a laddasant o’r Syriaid gan mil a
wŷr traed mewn un diwrnod.
º30 A’r lleill a ffoesant i Affec, i’r ddinas; a’r mur a
syrthiodd ar saith mil ar hugain o’r gw r a adawsid: a Benhadad a ffodd, ac a
ddaeth i’r ddinas o ystafell i ystafell.
º31 A’i weision a ddywedasant wrtho, Wele yn awr, clywsom am frenhinoedd
tŷ Israel, mai brenhinoedd trugarog ydynt hwy: gosodwn, atolwg, sachliain
am ein llwynau, a rhaffau am ein pennau, ac awn at frenin Israel; ond odid efe
a geidw dy einioes di.
º32 Yna y gwregysasant sachliain am ea llwynau, a rhaffau am eu pennau, ac a
ddaethant at frenin Israel, ac a ddywedasant, Benhadad dy was a ddywed, Atolwg,
gad i mi fyw. Dywedodd yntau, A ydyw efe eto yn fyw? fy mrawd yw efe.
º33 A’r gwŷr oedd yn disgwyl yn ddyfal a ddeuai dim oddi wrtho ef, ac a’i
cipiasant ar frys: ac a ddywedasant, Dy frawd Benhadad. Dywedodd yntau, Ewch,
dygwch ef. Yna Benhadad a ddaeth allan ato ef; ac efe a barodd iddo’ ddyfod i
fyny i’r cerbyd.
º34 A Benhadad a ddywedodd wrtho, Y dinasoedd a ddug fy nhad i oddi ar dy-dad
di, a roddaf drachefn; a chei wneuthur heolydd i ti yn Damascus, fel y gwnaeth.
fy nhad yn Samaria. A dywedodd Ahab, Mi a’th ollyngaf dan yr amod hwn. Felly
efe a wnaeth gyfamod ag ef, ac a’i. gollyngodd ef ymaith.
º35 A rhyw ŵr o feibion y proffwydi a, ddywedodd wrth ei gymydog trwy air
yr’ ARGLWYDD, Taro fi, atolwg. A’r gŵr a. wrthododd ei daro ef.
º36 Dywedodd yntau wrtho, Oherwydd; na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD, wele,
pan elych oddi wrthyf. Hew a’th. ladd di. Ac efe a aeth oddi wrtho ef, a Hew
a’i cyfarfu ef, ac a’i lladdodd.
º37 Yna efe a gafodd ŵr arall, ac a ddy*’ wedodd, Taro fi, atolwg. A’r
gŵr a’L, trawodd ef, gan ei daro a’i archolli.
º38 Felly y proffwyd a aeth ymaith, ac a safodd o flaen y brenin ar y ffordd,
ac & ymddieithrodd a lludw ar ei wyneb.
º39 A phan ddaeth y brenin heibio, efe a lefodd ar y brenin, ac a ddywedodd, Dy
was a aeth i ganol y rhyfel:, ac wele, gŵr a drodd heibio, ac a ddug
ŵr ataf fi, ac a ddywedodd, Cadw y gŵr hwn: os gaa golli y cyll efe,
yna y bydd dy einioes di yn lle ei einioes ef, neu ti a deli dalent o arian.
º40 A thra yr oedd dy was yn ymdroi yma ac acw, efe a ddihangodd. A brenin
Israel a ddywedodd wrtho. Felly y bydd dy farn di; ti a’i rhoddaist ar lawr.
º41 Ac efe a frysiodd, ac a dynnodd ymaith y lludw oddi ar ei wyneb: a: brenin
Israel a’i hadnabu ef, mai o’r proffwydi yr oedd efe.
º42 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oherwydd i ti ollwng
ymaith o’th law y gŵr a nodais i’w ddifetha, dy einioes di fydd yn lle ei.
einioes ef, a’th bobl di yn lle ei bobl ef.
º43 A brenin Israel a aeth i’w
dŷ ei hunt xxx yn drist ac yn ddicllon, ac a ddaeth i Samaria.
PENNOD 21
º1 A DIGWYDDODD ar ol y pethau hyn, fod gwinllan gan Naboth y Jesreeliady
yr hon oedd yn Jesreel, wrth balas Ahab brenin Samaria.
º2 Ac Ahab a lefarodd wrth Naboth, gan. ddywedyd, Dyro i mi dy winllan, fel y
byddo hi i mi yn ardd lysiau, canys y’ mae hi yn agos i’m tŷ i: a mi a
roddaf i ti amdani hi winllan well na hi; neu, os da. fydd gennyt, rhoddaf i ti
ei gwerth hi ycB arian.
º3 A Naboth a ddywedodd wrth Ahab,; Na ato yr ARGLWYDD i mi roddi treftadaeth
fy hynafiaid i ti.
º4 Ac Ahab a ddaeth i’w dŷ yn athrist ac yn ddicllon, oherwydd y gair a
lefarasai Naboth y Jesreeliad wrtho ef; canys efe a ddywedasai, Ni roddaf i ti
dreftadaeth fy hynafiaid. Ac efe a orweddodd ar ei wely, ac a drodd ei wyneb
ymaith, ac m fwytai fara.
º5 Ond Jesebel ei wraig a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Paham y mae’ dy
ysbryd mor athrist, ac nad wyt yn bwyta bara?
º6 Ac efe a ddywedodd wrthi, Oherwydd. i mi lefaru wrth Naboth y Jesreeliad, a
dywedyd wrtho, Dyro i mi dy winllan er arian: neu, os mynni di, rhoddaf i ti
winllan amdani. Ac efe a ddywedodd, Ni roddaf i ti fy ngwinllan.
º7 A Jesebel ei wraig a ddywedodd wrtho, Ydwyt ti yn awr yn teyrnasu ar Israel?
cyfod, bwyta fara, a llawenyched dy galon; myfi a roddaf i ti winllan Naboth y
Jesreeliad.
º8 Felly hi a ysgrifennodd lythyrau yn enw Ahab, ac a’u seliodd a’i sel ef, ac
a; anfonodd y llythyrau at yr henuriaid, ac at y penaethiaid oedd yn. ei ddinas
yn. trigo gyda Naboth. ’
º9 A hi a ysgrifennodd yn y llythyrau, gan ddywedyd, Cyhoeddwch ympryd, a
gosodwch Naboth uwchben y bobl.
º10 Cyflewch hefyd ddau ŵr o feibion y fall, gyferbyn âg ef, i
dystiolaethu i’w erbyn ef, gan ddywedyd, Ti a geblaist DDUW a’r brenin. Ac yna dygwch efallan, a
llabyddiwch ef, fel y byddo efe marw.
º11 A gwŷr ei ddinas, sef yr henuriaid a’r penaethiaid, y rhai oedd yn
trigo yn ei ddinas ef, a wnaethant yn ôl yr hyn a anfonasai Jesebel atynt hwy,
ac yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yn y llythyrau a anfonasai hi atynt hwy.
º12 Cyhoeddasant ympryd, a chyfleasant Naboth uwchben y
bobl.
º13 A dau ŵr, o feibion y fall, a ddaethant, ac a eisteddasant ar ei gyfer
ef: a gwŷr y fall a dystiolaethasant yn ei erbyn ef, sef yn erbyn Naboth,
gerbron y bobl, gan ddywedyd, Naboth a gablodd DDUW a’r brenin. Yna hwy a’i
dygasant ef allan o’r ddinas, ac a’i llabyddiasant ef a meini, fel y bu efe
farw.
º14 Yna yr anfonasant hwy at Jesebel, gan ddywedyd, Naboth a labyddiwyd, ac a
fu farw.
º15 A phan glybu Jesebel labyddio Naboth, a’i farw, Jesebel a ddywedodd wrth
Ahab, Cyfod, perchenoga winllan Naboth y Jesreeliad yr hwn a wrthododd ei
rhoddi i ti er arian; canys nid byw Naboth, eithr marw yw.
º16 A phan glybu Ahab farw Naboth, Ahab a gyfododd i fyned i waered i winllan
Naboth y Jesreeliad, i gymryd meddiant ynddi.
º17 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd,
º18 Cyfod, dos i waered i gyfarfod Ahab brenin Israel, yr hwn sydd yn Samaria:
wele efe yng ngwinllan Naboth, yr hon yr aeth efe i waered iddi i’w meddiannu.
º19 A llefara wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, A leddaist
ti, ac a feddiennaist hefyd? Llefara hefyd wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y
dywed yr ARGLWYDD, Yn y fan lle y llyfodd y cwn waed Naboth, y llyf cwn dy waed
dithau hefyd.
º20 A dywedodd Ahafa wrth bleias, A gefaist ti fi, O fy ngelyn? Dywedodd yntau,
Cefais: oblegid i ti ymwerthu i wneuthur yr hyn sydd ddrwg yng ngolwg yr
ARGLWYDD.
º21 Wele fi yn dwyn drwg arnat ti, a mi a dynnaf ymaith dy hiliogaeth di, ac a
dorraf oddi wrth Ahab bob gwryw, y gwarchaeëdig hefyd, a’r gweddilledig yn
Israel:
º22 A mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat, ac fel tŷ
Baasa mab Ahia, oherwydd y dieter trwy yr hwn y’m digiaist, ac y gwnaethost i
Israel bechu.
º23 Am Jesebel hefyd y llefarodd yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Y cwn a fwyty
Jesebel wrth fur Jesreel.
º24 Y cwn a
fwyty yr hwn a fyddo marw o’r eiddo Ahab yn y ddinas: a’r hwn a fyddo marw yn y
maes a fwyty adar y nefoedd.
º25 Diau na bu neb fel Ahab yr hwn a ymwerthodd i wneuthur drwg yng ngolwg yr
ARGLWYDD: oherwydd Jesebel ei wraig a’i hanogai ef.
º26 Ac efe a wnaeth yn ffiaidd iawn, gan fyned ar ôl delwau, yn ôl yr hyn oll a
wnaeth yr Amoriaid, y rhai a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel.
º27 A phan glybu Ahab y geiriau hyn, efe a rwygodd ei ddillad, ac a osododd
sachliain am ei gnawd, ac a ymprydiodd, ac a orweddodd mewn sachliain, ac a
gerddodd yn araf.
º28 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd,
º29 Oni weli di fel yr ymostwng Ahab ger fy mron? am iddo ymostwng ger fy mron
i, ni ddygaf y drwg yn ei ddyddiau ef; ond yn nyddiau ei fab ef y dygaf y drwg
ar ei dy ef.
PENNOD
22
º1 A
BUANT yn aros dair blynedd heb ryfel rhwng Syria ac Israel.
º2 Ac yn y drydedd flwyddyn, Jehosaffat
brenin Jwda a ddaeth i waered at frenin Israel.
º3 A brenin Israel a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch mai eiddo ni yw
RamothGilead, a’n bod ni yn tewi, heb ei dwyn hi o law brenin Syria?
º4 Ac efe a ddywedodd wrth Jehosaffat, A ei gyda mi i ryfel i RamothGilead? A
Jehosaffat a ddywedodd wrth frenin Israel, Yr ydwyf fi fel tithau, fy mhobl i
fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau.
º5 Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw
a gair yr ARGLWYDD.
º6 Yna brenin Israel a gasglodd y proffwydi, ynghylch pedwar cant o wŷr,
ac a ddywedodd wrthynt, A af fi yn erbyn RamothGilead i ryfel, neu a beidiaf
fi? Dywedasant hwythau, DOS i fyny; canys yr ARGLWYDD a’i dyry hi yn llaw y
brenin.
º7 A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma un proffwyd i’r ARGLWYDD mwyach, fel
yr ymgynghorem ag ef?
º8 A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr
hwn y gallem ymgynghori a’r ARGLWYDD: eithr cas yw gennyf fi ef, canys ni
phroffwyda efe i mi ddaioni, namyn drygioni; Michea mab Jimla yw efe. A
dywedodd Jehosaffat, Na ddyweded y brenin felly.
º9 Yna brenin Israel a alwodd ar un o’i ystafellyddion, ac a ddywedodd, Prysura
yma Michea mab Jimla.
º10 A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei
deyrngadair, wedi gwisgo eu brenhinol wisgoedd, mewn llannerch wrth ddrws porth
Samaria, a’r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt.
º11 A Sedeceia mab Cenaana a wnaeth iddo gyrn heyrn; ac efe a ddywedodd, Fel
hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, A’r rhai hyn y corni di y Syriaid, nes i ti eu difa
hwynt.
º12 A’r holl broffwydi oedd yn proffwydo fel hyn, gan ddywedyd, DOS i fyny i
RamothGilead, a llwydda; canys yr ARGLWYDD a’i dyry hi yn llaw y brenin.
º13 A’r gennad a aethai i alw Michea a lefarodd wrtho ef, gan ddywedyd, Wele yn
awr eiriau y proffwydi yn unair yn
dda i’r brenin: bydded, atolwg, dy air dithau fel gair un ohonynt, a dywed y
gorau.
º14 A dywedodd Michea, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hyn a ddywedo yr ARGLWYDD
wrthyf, hynny a lefaraf fi.
º15 Felly efe a ddaeth at y brenin. A’r brenin a ddywedodd wrtho, Michea, a awn
ni i ryfel yn erbyn RamothGilead, 31 peidio? Dywedodd yntau wrtho, DOS i fyny,
a llwydda; canys yr ARGLWYDD a’i dyry hi yn llaw y brenin.
º16 A’r brenin a ddywedodd wrtho. Pa sawl gwaith y’th dynghedaf di, na
ddywedych wrthyf ond gwirionedd yn enw yr ARGLWYDD?
º17 Ac efe a ddywedodd, Gwelais holl Israel ar wasgar ar hyd y mynyddoedd, fel
defaid ni byddai iddynt fugail. A dywedodd yr ARGLWYDD, Nid oes feistr arnynt
hwy; dychweled pob un i’w d ei hun mewn heddwch.
º18 A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Oni ddywedais i wrthyt ti, na
phroffwydai efe ddaioni i mi, eithr drygioni?
º19 Ac efe a ddywedodd, Clyw gan hynny air yr ARGLWYDD: Gwelais yr ARGLWYDD yn
eistedd ar ei orseddfa, a holl lu’r nefoedd yn sefyll yn ei ymyi, ar ei law
ddeau ac ar ei law aswy.
º20 A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Pwy a dwylla Ahab, fel yr elo efe i fyny ac y
syrthio yn RamothGilead? Ac un a ddywedodd fel hyn, ac arall oedd yn dywedyd
fel hyn.
º21 Ac ysbryd a ddaeth allan, ac a safodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd,
Myfi a’i twyllaf ef. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho. Pa fodd?
º22 Dywedodd yntau. Mi a af allan, ac a fyddaf yn ysbryd celwyddog yng ngenau
ei holl broffwydi ef. Ac efe a ddywedodd, Twylli a gorchfygi ef: dos ymaith, a
gwna felly.
º23 Ac yn awr wele, yr ARGLWYDD a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy holl
broffwydi hyn; a’r ARGLWYDD a lefarodd ddrwg amdanat ti.
º24 Ond Sedeceia mab Cenaana a nesaodd, ac a drawodd Michea dan ei gem, ac a
ddywedodd. Pa fibrdd yr aeth ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrthyf fi i ymddiddani a
thydi?
º25 A Michea a ddywedodd, Wele, ti a gei
weled y dwthwn hwnnw, pan elycb di o ystafell i ystafell i ymguddio.
º26 A brenin Israel a ddywedodd, Cymer Michea, a dwg ef yn ei ôl at Amon
tywysog y ddinas, ac at Joas mab. y brenin;
º27 A dywed.xxx Fel hyn y dywed y brenin;; Rhowch hwn yn y carchardy, a bwydwch
ef a bara cystudd ac a dwfr blinder, nes v mi ddyfod mewn heddwch.
º28 A dywedodd Michea, Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch, ni
lefarodd yr ARGLWYDD ynoffi. Dywedodd hefyd, Gwrandewch hyn yr hott bobl.
º29 Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i
RamothGilead.
º30 A brenin Israel a ddywedodd with Jehosaffat, Mi a newidiaf fy nillad, ac s
af i’r rhyfel; ond gwisg di dy ddillad dy him. A brenin Israel a newidiodd ei
ddillad, ac a aeth i’r rhyfel.
º31 A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau oedd ganddo, sef
deuddeg ar hugain, gan ddywedyd, Nac ymleddwch a bychan nac a mawr, ond a
brenin Israel yn unig.
º32 A phan welodd tywysogion y cerbydau Jehosaffat, hwy a ddywedasaat, Diau
brenin Israel yw efe. A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef: a Jehosaffat a
waeddodd.
º33 A phan welodd tywysogion y cerbydrau nad brenin Israel oedd efe, hwy a
ddychwelasant oddi ar ei ôl ef.
º34 A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ac ei amcan, ac a drawodd frenin Israel
rhwng cysylltiadau y llurig; am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr, Tro dy
law, a dwg fi allan o’r fyddin, canys fe a’m clwyfwyd i.
º35 A’r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw: a’r brenin a gynhelid i fyny yn ei
gerbyd yn erbyn y Syriaid; ac efe a fu
farw gyda’r hwyr: a gwaed yr archoll a ffrydiodd i ganol y cerbyd.
º36 Ac fe aeth cyhoeddiad trwy y gwersyll ynghylch machludiad yr haul, gan
ddywedyd, Eled pob un fw ddinas, a phob un i’w wlad ei hun.
º37 Felly y bu farw y bienin, ac y daeth efe i Samaria; a hwy a giaddasant y
brenin yn Samaria.
º38 A golchwyd ei gerbyd ef yn llyn Samaria; a’r cwn a lyfasant ei waed ef:’ yr
arfau hefyd a olchwyd; yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe.
º39 A’r rhan arall o hanesion Ahab, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’r tŷ ifori
a adeilad odd efe, a’r holl ddinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn
ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
º40 Felly Ahab a hunodd gyda’i dadau, ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le
ef.
º41 A Jehosaffat mab Asa a aeth yn frenin ar Jwda yn y bedwaredd flwyddyn i
Ahab brenin Israel.
º42 Jehosaffat oedd fab pymtheng mlwydd ar hugain pan aeth efe yn frenin: a
phum mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd
Asuba, merch Silhi.
º43 Ac efe a rodiodd yn holl ffordd Asa ei dad, ni wyrodd efe oddi wrthi hi,
gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Er hynny ni thynnwyd
ymaith yr uchelfeydd; y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogl-darthu yn yr
uchelfeydd.
º44 A Jehosaffat a heddychodd a brenin Israel.
º45 A’r rhan arall o hanes Jehosaffat, a’i rymustra a wnaeth efe, a’r modd y
rhy-felodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd
Jwda?
º46 A’r rhan arall o’r sodomiaid a’r a-adawyd yn nyddiau Asa ei dad ef, efe a’u
dileodd o’r wlad.
º47 Yna nid oedd brenin yn Edom: ond rhaglaw oedd yn lle brenin.
º48 Jehosaffat a wnaeth longau môr i; fyned i Offir am. aur: ond nid aethaat,
canys y llongau a ddrylliodd yn. Esisaaftr Gaber.
º49 Yna y dywedodd Ahaseia mab Ahab wrth Jehosaffat, Eled fy ngweision i
gyda’th weision di yn y llongau: ond ni fynnai Jehosaffat.
º50 A Jehosaffat a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas
Dafydd ei dad; a Jehoram ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
º51 Ahaseia mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddwyfed
flwyddyn ar bymtheg i. Jehosaffat
brenin Jwda; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd.
º52 Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd yn ffordd ei
dad, ac yn ffordd ei fam, ac yn ffordd Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth. i
Israel bechu.
º53 Canys efe a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo, ac a ddigiodd ARGLWYDD
DDUW Israel, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dad.
_____________
DIWEDD
Adolygiad diweddaraf / Darrera
actualització / Latest update
2007-02-04
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ
Ble’r
wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o
dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
“CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (=
Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch
ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats