. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition. 2354k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_brenhinoedd2_12_2354k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn  Gymraeg
          neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
                    neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
                              neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
                                            neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn


 (delw 0003)

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

 

 

 

Y Beibl Cysegr-lân : (12) Brenhinoedd-2

 

(delw 4666)


xxxx (ddim ar gael eto) Y tudalen hwn yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

 

(Sganiad heb ei gywiro yw hwn, ac felly yn frith o wallau. Cyn hir gobeithio cawn ni gyfle i roi trefn arno)

(This is a scan which has not been corrected yet. There are many errors in the text)

 

AIL LYFR Y BRENHINOEDD
YR HWN A ELWIR HEFYD
PEDWERYDD LLYFR Y BRENHINOEDD



PENNOD 1
1:1 Yna Moab a wrthryfelodd yn erbyn Israel, wedi marwolaeth Ahab.

1:2 Ac Ahaseia a syrthiodd trwy ddellt o’i lofft, yr hon oedd yn Samaria, ac a glafychodd; ac efe a anfonodd genhadau, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, ac ymofynnwch â Baal-sebub duw Ecron, a fyddaf fi byw o’r clefyd hwn.

1:3 Ac angel yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Eleias y Thesbiad, Cyfod, dos i fyny i gyfarfod â chenhadau brenin Samaria, a dywed wrthynt, Ai am nad oedd Duw yn Israel, yr ydych chwi yn myned i ymofyn a Baal-sebub duw Ecron?

1:4 Ac am hynny fel hyn y dywed yr AR­GLWYDD; Ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw.
Ac Eleias a aeth ymaith.

1:5 A phan ddychwelodd y cenhadau ato ef, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y dychwelasoch chwi?

1:6 A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr a ddaeth i fyny i’n cyfarfod ni, ac a ddy­wedodd wrthym ni, Ewch, dychwelwch at y brenin a’ch anfonodd, a lleferwch wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ai am nad oes Duw yn Israel, yr ydwyt ti yn anfon i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron? oherwydd hynny ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw.

1:7 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa ddull oedd ar y gŵr a ddaeth i fyny i’ch cyfarfod chwi, ac a lefarodd wrthych yr ymadroddion yma?

1:8 A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr blewog oedd efe, wedi ymwregysu hefyd â gwregys croen am ei lwynau. Dywed­odd yntau, Eleias y Thesbiad oedd efe.

1:9 Yna efe a anfonodd ato ef dywysog ar ddeg a deugain, ynghyda’i ddeg a deugain: ac efe a aeth i fyny ato ef; (ac wele ef yn eistedd ar ben bryn;) ac a lefarodd wrtho, Ti ŵr Duw, y brenin a lefarodd, Tyred i waered.
 
1:10 Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrth dywysog y deg a deugain, Os gŵr i Duw ydwyf fi, disgynned tân o’r nefoedd, ac ysed di a’th ddeg a deugain. A thân a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain.



1:11 A’r brenin a anfonodd eilwaith ato ef dywysog arall ar ddeg a deugain, a’i ddeg a deugain: ac efe a atebodd ac a ddywedodd, O ŵr Duw, fel hyn y dywedodd y brenin. Tyred i waered yn ebrwydd.

1:12 Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Os gŵr Duw ydwyf fi, disgynned tan o’r nefoedd, ac ysed di a’th ddeg a deugain. A thân Duw a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain.

1:13 A’r brenin a anfonodd eto y trydydd tywysog ar ddeg a deugain, a’i ddeg a deugain: a’r trydydd tywysog ar ddeg a deugain a aeth i fyny, ac a ddaeth ac a ymgrymodd ar ei liniau gerbron Eleias, ac a ymbiliodd ag ef, ac a lefarodd wrtho, O ŵr Duw, atolwg, bydded fy einioes i, ac einioes dy ddeg gwas a deugain hyn, yn werthfawr yn dy olwg di.

1:14 Wele, disgynnodd tân o’r nefoedd, ac a ysodd y ddau dywysog cyntaf ar ddeg a deugain, a’u deg a deugeiniau: am hynny yn awr bydded fy einioes i yn werthfawr yn dy olwg di.

1:15 Ac angel yr ARGLWYDD a lefarodd wrth Eleias, Dos i waered gydag ef, nac ofna ef. Ac efe a gyfododd, ac a aeth i waered gydag ef at y brenin.

1:16 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Oherwydd i ti anfon cenhadau i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron, (ai am nad oes Duw yn Israel i ymofyn â’i air?) am hynny ni ddisgynni o’r gwely y dringaist amo, eithr gan farw y byddi farw.

1:17 Felly efe a fu farw, yn ôl gair yr ARGLWYDD yr hwn a lefarasai Eleias: a Jehoram a deyrnasodd yn ei le ef, yn yr ail flwyddyn i Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda; am nad oedd mab iddo ef.

1:18 A’r rhan arall o weithredoedd Ahaseia y rhai a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

PENNOD 2
2:1
A phan oedd yr ARGLWYDD ar gymryd i fyny Eleias mewn corwynt i’r nefoedd, aeth Eleias ac Eliseus allan o Gilgal.

2:2 Ac Eleias a ddywedodd wrth Eliseus, Aros, atolwg, yma: canys yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i Bethel. Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. Felly hwy a aethant i waered i Bethel.

2:3 A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Bethel, a ddaethant allan at Eliseus, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti mai heddiw y mae yr ARGLWYDD yn dwyn dy feistr oddi arnat ti? Dywedodd yntau. Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi â son.

2:4 Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg, Eliseus; canys yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i Jericho. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. Felly hwy a ddaethant i Jericho.

2:5 A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Jericho, a ddaethant at Eliseus, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti mai heddiw y mae yr ARGLWYDD yn dwyn dy feistr oddi arnat ti? Yntau a ddywedodd, Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi â son.

2:6 Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg; canys yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i’r Iorddonen. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. A hwy a aethant ill dau rhagddynt.

2:7 A dengwr a deugain o feibion y proffwydi a aethant, ac a safasant ar gyfer o bell: a hwy ill dau a safasant wrth yr Iorddonen.

2:8 Ac Eleias a gymerth ei fantell, ac a’i plygodd ynghyd, ac a drawodd y dyfroedd, a hwy a ymwahanasant yma ac acw, fel yr aethant hwy trwodd ill dau ar dir sych.

2:9 Ac wedi iddynt fyned drosodd, Eleias a ddywedodd wrth Eliseus, Gofyn y peth a wnelwyf i ti, cyn fy nghymryd oddi wrthyt. A dywedodd Eliseus, Bydded gan hynny, atolwg, ddau parth o’th ysbryd di arnaf fi.

2:10 Dywedodd yntau, Gofynnaist beth anodd: os gweli fi wrth fy nghymryd oddi wrthyt, fe fydd i ti felly; ac onid e, ni bydd.

2:11 Ac fel yr oeddynt hwy yn myned dan rodio ac ymddiddan, wele gerbyd tanllyd, a meirch tanllyd, a hwy a’u gwahanasant hwynt ill dau. Ac Eleias a ddyrchafodd mewn corwynt i’r nefoedd.

2:12 Ac Eliseus oedd yn gweled, ac efe a lefodd, Fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a’i farchogion. Ac nis gwelodd ef mwyach: ac efe a ymaflodd yn ei ddillad, ac a’u rhwygodd yn ddeuddarn.

2:13 Ac efe a gododd i fyny fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef; ac a ddychwelodd ac a safodd wrth fin yr Iorddonen. 

2:14 Ac efe a gymerth fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef, ac a drawodd y dyfroedd, ac a ddywedodd. Pa le y mae ARGLWYDD DDUW Eleias? Ac wedi iddo yntau daro’r dyfroedd, hwy a wahanwyd yma ac acw. Ac Eliseus a aeth drosodd.

2:15 A phan welodd meibion y proffwydi ef, y rhai oedd yn Jericho ar ei gyfer, hwy a ddywedasant, Gorffwysodd ysbryd Eleias ar Eliseus. A hwy a ddaethant i’w gyfarfod ef, ac a ymgrymasant hyd lawr iddo.

2:16 A hwy a ddywedasant wrtho, Wele yn awr, y mae gyda’th weision ddeg a deugain o wŷr cryfion; elont yn. awr, ni a atolygwn, a cheisiant dy feistr: rhag i ysbryd yr ARGLWYDD ei ddwyn ef, a’i fwrw ar ryw fynydd, neu mewn rhyw ddyffryn. Dywedodd yntau, Na anfonwch.

2:17 Eto buant daer arno, nes cywilyddio ohono, ac efe a ddywedodd, Anfonwch. A hwy a anfonasant ddengwr a deugain, y rhai a’i ceisiasant ef dridiau, ond nis cawsant.

2:18 A hwy a ddychwelasant ato ef, ac efe oedd yn aros yn Jericho; ac efe a ddy­wedodd wrthynt hwy, Oni ddywedais i wrthych, Nac ewch?  

2:19 A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Eliseus, Wele, atolwg, ansawdd y ddinas, da yw, fel y mae fy arglwydd yn gweled: ond y dyfroedd sydd ddrwg, a’r tir yn ddiffaith.
 

2:20 Ac efe a ddywedodd, Dygwch i mi ffiol newydd, a dodwch ynddi halen. A hwy a’i dygasant ato ef.

2:21 Ac efe a aeth at ffynhonnell y dyfr­oedd, ac a fwriodd yr halen yno, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Mi a iacheais y dyfroedd hyn; ni bydd oddi yno farwolaeth mwyach, na diffrwythdra.

2:22 Felly yr iachawyd y dyfroedd hyd y dydd hwn, yn ôl gair Eliseus, yr hwn a ddywedasai efe.

2:23 Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Bethel: ac fel yr oedd efe yn myned i fyny ar hyd y ffordd, plant bychain a ddaeth allan o’r ddinas, ac a’i gwatwarasant ef, ac a ddywedasant wrtho ef, Dos i fyny, moelyn, dos i fyny, moelyn.

2:24 Ac efe a drodd yn ei ôl, ac a edrychodd arnynt, ac a’u melltithiodd yn enw yr ARGLWYDD. A dwy arth a ddaeth allan o’r goedwig, ac a ddrylliodd ohonynt ddau blentyn a deugain.

2:25 Ac efe a aeth oddi yno i fynydd Carmel, ac oddi yno efe a ddychwelodd i Samaria.

PENNOD 3
3:1
A JEHORAM mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddeunawfed flwyddyn i Jehosaffat brenin Jwda, ac a deyrnasodd ddeuddeng mlynedd.

3:2 Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ond nid fel ei dad nac fel ei fam: canys efe a fwriodd ymaith ddelw Baal, yr hon a wnaethai ei dad.

3:3 Eto efe a lynodd wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu: ni chiliodd efe oddi wrthynt hwy.

3:4 A Mesa brenin Moab oedd berchen defaid, ac a dalai i frenin Israel gan mil o ŵyn, a chan mil o hyrddod gwlanog.

3:5 Ond wedi marw Ahab, brenin Moab a wrthryfelodd yn erbyn brenin Israel.




3:6 A’r brenin Jehoram a aeth allan y pryd hwnnw o Samaria, ac a gyfrifodd holl Israel.

3:7 Efe a aeth hefyd ac a anfonodd at Jehosaffat brenin Jwda, gan ddywedyd, Brenin Moab a wrthryfelodd i’m herbyn i: a ddeui di gyda mi i ryfel yn erbyn Moab? Dywedodd yntau, Mi a af i fyny; myfi a fyddaf fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau.

3:8 Ac efe a ddywedodd. Pa ffordd yr awn ni i fyny? Dywedodd yntau, Ffordd anialwch Edom.

3:9 Felly yr aeth brenin Israel, a brenin Jwda, a brenin Edom; ac a aethant o amgylch ar eu taith saith niwrnod: ac nid oedd dwfr i’r fyddin, nac i’r anifeiliaid oedd yn eu canlyn hwynt.

3:10 A brenin Israel a ddywedodd, Gwae fi! oherwydd i’r ARGLWYDD alw y tri brenin hyn ynghyd i’w rhoddi yn llaw Moab.

3:11 A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma broffwyd i’r ARGLWYDD, fel yr ymofynnom ni â’r ARGLWYDD trwyddo ef? Ac un o weision brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Y mae yma Eliseus mab Saffat, yr hwn a dywalltodd ddwfr ar ddwylo Eleias.

3:12 A Jehosaffat a ddywedodd, Y mae gair yr ARGLWYDD gydag ef. Felly brenin Israel, a Jehosaffat, a brenin Edom, a aethant i waered ato ef.

3:13 Ac Eliseus a ddywedodd wrth frenin Israel, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi? dos at broffwydi dy dad, ac at broffwydi dy fam. A brenin Israel a ddywedodd wrtho, Nage: canys yr ARGLWYDD a alwodd y tri brenin hyn ynghyd i’w rhoddi yn llaw Moab.

3:14 Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, oni bai fy mod i yn perchi wyneb Jehosaffat brenin Jwda, nid edrychaswn i arnat ti, ac ni’th welswn.

3:15 Ond yn awr dygwch i mi gerddor. A phan ganodd y cerddor, daeth llaw yr ARGLWYDD arno ef.

3:16 Ac efe a ddywedodd. Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Gwna y dyffryn hwn yn llawn ffosydd.

3:17 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ni welwch wynt, ac ni welwch law; eto y dyffryn hwn a lenwir o ddwfr, fel yr yfoch chwi, a’ch anifeiliaid, a’ch ysgrubliaid.

3:18 A pheth ysgafn yw hyn yng ngolwg yr ARGLWYDD: efe a ddyry Moab yn eich llaw chwi hefyd.

3:19 A chwi a drewch bob dinas gaerog, a phob dinas ddetholedig; a phob pren teg a fwriwch chwi i lawr; yr holl ffynhonnau dyfroedd hefyd a gaewch chwi, a phob darn o dir da a ddifwynwch chwi â cherrig. 

3:20 A’r bore pan offrymwyd y bwyd-offrwm, wele ddyfroedd yn dyfod o ffordd Edom; a’r wlad a lanwyd o ddyfr­oedd.

3:21 A phan glybu yr holl Foabiaid fod y brenhinoedd hynny wedi dyfod i fyny i ymladd yn eu herbyn hwynt, y galwyd ynghyd bawb a’r a allai wisgo arfau, ac uchod, a hwy a safasant ar y terfyn.

3:22 A hwy a gyfodasant yn fore, a’r haul a gyfodasai ar y dyfroedd; a’r Moabiaid a ganfuant ar eu cyfer y dyfroedd yn goch fel gwaed:

3:23 A hwy a ddywedasant, Gwaed yw hwn: gan ddifetha y difethwyd y brenhin­oedd, a hwy a drawsant bawb ei gilydd: am hynny yn awr at yr anrhaith, Moab.

3:24 A phan ddaethant at wersyll Israel, yr Israeliaid a gyfodasant ac a drawsant y Moabiaid, fel y ffoesant o’u blaen hwynt: a hwy a aethant rhagddynt, gan  daro’r Moabiaid yn eu gwlad eu hun.

3:25 A hwy a ddistrywiasant y dinasoedd, ac i bob darn o dir da y bwriasant bawb ei garreg, ac a’i llanwasant; a phob ffynnon ddwfr a gaeasant hwy, a phob pren da a gwympasant hwy i lawr: yn unig yn Cir-haraseth y gadawsant ei cherrig; eto y rhai oedd yn taflu a’i hamgylchynasant, ac a’i trawsant hi.

3:26 A phan welodd brenin Moab fod y rhyfelwyr yn drech nag ef, efe a gymerth saith gant o wŷr gydag ef yn tynnu cleddyf, i ruthro ar frenin Edom: ond nis gallasant hwy.

3:27 Yna efe a gymerodd ei fab cyntaf-anedig ef, yr hwn oedd i deyrnasu yn ei le ef, ac a’i hoffrymodd ef yn boethoffrwm ar y mur. A bu llid mawr yn erbyn Israel: a hwy a aethant ymaith oddi wrtho ef, ac a ddychwelasant i’w gwlad eu hun.

PENNOD 4
4:1
A rhyw wraig o wragedd meibion y proffwydi a lefodd ar Eliseus, gan ddywedyd, Dy was fy  ngŵr a fu farw; a thi a wyddost fod dy was yn ofni yr AR­GLWYDD: a’r echwynnwr a ddaeth i gymryd fy nau fab i i fod yn gaethion iddo.

4:2 Ac Eliseus a ddywedodd wrthi, Beth a wnaf fi i ti? mynega i mi, beth sydd gennyt ti yn dy dŷ? Dywedodd hithau, Nid oes dim gan dy lawforwyn yn tŷ, ond ystenaid o olew.

4:3 Ac efe a ddywedodd, Dos, cais i ti lestri oddi allan gan dy holl gymdogion, sef llestri gweigion, nid ychydig.

4: 4 A phan ddelych i mewn, cae y drws arnat, ac ar dy feibion, a thywallt i’r holl lestri hynny; a dod heibio yr hwn a fyddo llawn.

4:5 Felly hi a aeth oddi wrtho ef, ac a gaeodd y drws arni, ac ar ei meibion: a hwynt-hwy a ddygasant y llestri ati hi; a hithau a dywalltodd.

4:6 Ac wedi llenwi y llestri, hi a ddywed­odd wrth ei mab, Dwg i mi eto lestr. Dywedodd yntau wrthi, Nid oes mwyach un llestr. A’r olew a beidiodd.

4:7 Yna hi a ddaeth ac a fynegodd i ŵr Duw. Dywedodd yntau, Dos, gwerth yr olew, a thâl dy ddyled; a bydd di fyw, ti a’th feibion, ar y rhan arall. 

4:8 A bu ar ryw ddiwrnod i Eliseus dramwyo i Sunem; ac yno yr oedd gwraig oludog, yr hon a’i cymhellodd ef i fwyta bara. A chynifer gwaith ag y tramwyai efe heibio, efe a droai yno i fwyta bara.

4:9 A hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Wele yn awr, mi a wn mai gŵr sanctaidd i DDUW ydyw hwn, sydd yn cyniwair heibio i ni yn wastadol.

4:10 Gwnawn, atolwg, ystafell fechan ar y mur; a gosodwn iddo yno wely, a  bwrdd, ac ystôl, a chanhwyllbren: fel y tro efe yno, pan ddelo efe atom ni.

4:11 Ac ar ddyddgwaith efe a ddaeth yno,  ac a drodd i’r ystafell, ac a orffwysodd  yno.

4:12 Ac efe a ddywedodd wrth Gehasi ei was, Galw ar y Sunamees hon. Yntau a alwodd arni hi: hithau a safodd ger ei fron ef.

4:13 Dywedodd hefyd wrtho, Dywed yn awr wrthi hi, Wele, ti a ofelaist trosom ni; a’r holl ofal yma; beth sydd i’w wneuthur erot ti? a oes a fynnych di ei ddy­wedyd wrth y brenin, neu wrth dywysog y llu? Hithau a ddywedodd, Yng nghanol fy mhobl yr ydwyf fi yn trigo.

4:14 Ac efe a ddywedodd, Beth gan hynny sydd i’w wneuthur erddi hi? A Gehasi a ddywedodd, Yn ddiau nid oes iddi fab, a’i gŵr sydd hen.

4:15 Ac efe a ddywedodd, Galw hi. Ac efe a’i galwodd hi; a hi a safodd yn y drws.

4:16 Ac efe a ddywedodd, Ynghylch y pryd hwn wrth amser bywoliaeth, ti a gofleidi fab. Hithau a ddywedodd, Nage, fy arglwydd, gŵr Duw, na ddywed gelwydd i’th lawforwyn.

4:17 A’r wraig a feichiogodd, ac a ddug fab y pryd hwnnw, yn ôl amser bywoliaeth, yr hyn a lefarasai Eliseus wrthi hi.

4:18 A’r bachgen a gynyddodd, ac a aeth ddyddgwaith allan at ei dad at y medelwyr.

4:19 Ac efe a ddywedodd wrth ei dad, Fy mhen, fy mhen. Dywedodd yntau wrth lanc, Dwg ef at ei fam.

4:20 Ac efe a’i cymerth, ac a’i dug ef at ei fam. Ac efe a eisteddodd ar ei gliniau hi hyd hanner dydd, ac a fu farw.

4:21 A hi a aeth i fyny, ac a’i gosododd ef i orwedd ar wely gŵr Duw, ac a gaeodd y drws amo, ac a aeth allan.

4:22 A hi a alwodd ar ei gŵr, ac a ddy­wedodd, Anfon, atolwg, gyda mi un o’r llanciau, ac un o’r asynnod: canys mi a redaf hyd at ŵr Duw, ac a ddychwelaf.

4:23 Dywedodd yntau, Paham yr ei di                       ato ef heddiw? nid yw hi na newyddloer, na Saboth. Hithau a ddywedodd  pob peth yn dda.





4:24 Yna hi a gyfrwyodd yr asyn; ac a ddywedodd wrth ei llanc, Gyr, a dos rhagot; nac aros amdanaf fi i farchogaeth, onid archwyf i ti.

4:25 Felly hi a aeth, ac a ddaeth at ŵr Duw i fynydd Carmel. A phan welodd gŵr Duw hi o bell, efe a ddywedodd wrth Gehasi ei was, Wele y Sunamees honno.

4:26 Rhed yn awr, atolwg, i’w chyfarfod, a dywed wrthi hi; A wyt ti yn iach? a ydyw dy ŵr yn iach? a ydyw y bachgen yn iach? Dywedodd hithau, Iach.

4:27 A phan ddaeth hi at ŵr Duw i’r mynydd, hi a ymaflodd yn ei draed ef: a Gehasi a nesaodd i’w gwthio hi ymaith. A gŵr Duw a ddywedodd. Gad hi yn llonydd: canys ei henaid sydd ofidus ynddi; a’r ARGLWYDD a’i celodd oddi wrthyf fi, ac nis mynegodd i mi.

4:28 Yna hi a ddywedodd, A ddymunais i fab gan fy arglwydd? oni ddywedais, Na thwylla fi?

4:29 Yna efe a ddywedodd wrth Gehasi, Gwregysa dy lwynau, a chymer fy ffon yn dy law, a dos ymaith: o chyfarfyddi â neb, na chyfarch iddo.; ac o chyfarch neb di, nac ateb ef: a gosod fy ffon i ar wyneb y bachgen.

4:30 A mam y bachgen a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid di, nid ymadawaf fi â thi. Ac efe a gyfododd, ac a aeth ar ei hôl hi.

4:31 A Gehasi a gerddodd o’u blaen hwynt, ac a osododd y ffon ar wyneb y bachgen: ond nid oedd na lleferydd, na chlywed. Am hynny efe a ddychwelodd i’w gyfarfod ef; ac a fynegodd iddo, gan ddywedyd, Ni ddeffrodd y bachgen.

4:32 A phan ddaeth Eliseus i mewn i’r tŷ, wele y bachgen wedi marw, yn gorwedd ar ei wely ef.

4:33 Felly efe a ddaeth i mewn, ac a gaeodd y drws arnynt ill dau, ac a weddïodd ar yr ARGLWYDD.

4:34 Ac efe a aeth i fyny, ac a orweddodd ar y bachgen, ac a osododd ei enau ar ei enau yntau, a’i lygaid ar ei lygaid ef, a’i ddwylo ar ei ddwylo.ef, ac efe a ymestynnodd arno ef; a chynhesodd cnawd  y bachgen.

4:35 Ac efe a ddychwelodd, ac a rodiodd yn y tŷ i fyny ac i waered; ac a aeth i fyny, ac a ymestynnodd arno ef: a’r bachgen a disiodd hyd yn seithwaith, a’r bachgen a agorodd ei lygaid.

4:36 Ac efe a alwodd ar Gehasi, ac a ddywedodd, Galw y Sunamees hon. Ac efe a alwodd arni hi. A hi a ddaeth ato ef. Dywedodd yntau, Cymer dy fab.

4:37 A hi a aeth i mewn, ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ymgrymodd hyd lawr, ac a gymerodd ei mab, ac a aeth allan.

4:38  Ac Eliseus a ddychwelodd i Gilgal. Ac yr oedd newyn yn y wlad; a meibion y proffwydi oedd yn eistedd ger ei fron ef: ac efe a ddywedodd wrth ei was, Trefna’r crochan mawr, a berw gawl i feibion y proffwydi.

4:39 Ac un a aeth allan i’r maes i gasglu bresych, ac a gafodd winwydden wyllt, ac a gasglodd ohoni fresych gwylltion lonaid ei wisg, ac a ddaeth ac a’u briwodd yn y crochan cawl: canys nid adwaenent hwynt.

4:40 Yna y tywalltasant i’r gwŷr i fwyta. A phan fwytasant o’r cawl, hwy a waeddasant, ac a ddywedasant, O ŵr Duw, y mae angau yn y crochan: ac ni allent ei fwyta.

4:41 Ond efe a ddywedodd, Dygwch flawd. Ac efe a’i bwriodd yn y crochan: dywedodd hefyd, Tywallt i’r bobl, fel y bwytaont. Ac nid oedd dim niwed yn y crochan.

4:42 A daeth gŵr o Baal-salisa, ac a ddug i ŵr Duw o fara blaenffrwyth ugain torth haidd, a thywysennau o ŷd newydd yn ei gibau. Ac efe a ddywedodd, Dod i’r bobl, fel y bwytaont.

4:43 A’i weinidog ef a ddywedodd, I ba beth y rhoddaf hyn gerbron cannwr? Dywedodd yntau, Dyro i’r bobl, fel y bwytaont: canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Hwy a fwytânt, a bydd gweddill. 

4:44 Felly efe a’i rhoddodd ger eu bron hwynt: a hwy a fwytasant, ac a weddillasant, yn ôl gair yr ARGLWYDD.

PENNOD 5
5:1
A Naaman, tywysog llu brenin Syria, oedd ŵr mawr yng ngolwg ei ar­glwydd, ac yn anrhydeddus; canys trwyddo ef y rhoddasai yr ARGLWYDD ymwared i Syria: ac yr oedd efe yn ŵr cadarn nerthol, ond yr oedd yn wahanglwyfus.

5:2 A’r Syriaid a aethent allan yn finteioedd, ac a gaethgludasent o wlad Israel lances fechan; a honno oedd yn gwasanaethu gwraig Naaman.

5:3 A hi a ddywedodd wrth ei meistres, O na byddai fy arglwydd o flaen y proffwyd sydd yn Samaria! canys efe a’i hiachai ef o’i wahanglwyf.

5:4 Ac un a aeth ac a fynegodd i’w arglwydd, gan ddywedyd, Fel hyn ac fel hyn y dywedodd y llances o wlad Israel.

5:5 A brenin Syria a ddywedodd, Dos, cerdda, a mi a anfonaf lythyr at frenin Israel. Ac efe a aeth ymaith, ac a ddug gydag ef ddeg talent o arian, a chwe mil o aur, a deg pâr o ddillad.

5:6 Ac efe a ddug y llythyr at frenin Israel, gan ddywedyd, Yn awr pan ddêl y llythyr hwn atat ti, wele, anfonais atat ti Naaman fy ngwas, fel yr iacheit ef o’i; wahanglwyf.

5:7 A phan ddarllenodd brenin Israel y llythyr, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ddywedodd, Ai Duw ydwyf fi, i farwhau, ac i fywhau, pan anfonai efe ataf fi i iacháu gŵr o’i wahanglwyf? gwybyddwch gan hynny, atolwg, a gwelwch mai ceisio achos y mae efe i’m herbyn i.

5:8 A phan glybu Eliseus gŵr Duw rwygo o frenin Israel ei ddillad, efe a anfonodd at y brenin, gan ddywedyd, Paham y rhwygaist dy ddillad? deued yn awr ataf fi, ac efe a gaiff wybod fod proffwyd yn Israel. 

5:9 Yna Naaman a ddaeth â’i feirch ac â’i gerbydau, ac a safodd wrth ddrws tŷ Eliseus.  .

5:10 Ac Eliseus a anfonodd ato ef gennad, gan ddywedyd, Dos ac ymolch saith waith yn yr Iorddonen; a’th gnawd a ddychwel i ti, a thithau a lanheir.

5:11 Ond Naaman a ddigiodd, ac a aeth ymaith; ac a ddywedodd, Wele, mi a feddyliais ynof fy hun, gan ddyfod y deuai efe allan, ac y safai efe, ac y galwai ar enw yr ARGLWYDD ei DDUW, ac y gosodai ei law ar y fan, ac yr iachai y gwahanglwyfus.

5:12 Onid gwell Abana a Pharpar, afonydd Damascus, na holl ddyfroedd Israel? oni allaf ymolchi ynddynt hwy,   ac ymlanhau? Felly efe a drodd, ac, a  aeth ymaith mewn dicter.

5:13 A’i weision a nesasant, ac a lefarasant wrtho, ac a ddywedasant, Fy nhad,  pe dywedasai y proffwyd beth mawr wrthyt ti, onis gwnelsit? pa faint mwy, gan iddo ddywedyd wrthyt, Ymolch, a bydd lân?

5:14 Ac yna efe a aeth i waered, ac a ymdrochodd saith waith yn yr Iorddonen, yn ôl gair gŵr Duw: a’i gnawd a ddy­chwelodd fel cnawd dyn bach, ac efe a  lanhawyd.

5:15 Ac efe a ddychwelodd at ŵr Duw, efe a’i holl fintai, ac a ddaeth ac a safodd ger ei fron ef; ac a ddywedodd, Wele, yn awr y gwn nad oes Duw trwy yr holl ddaear, ond yn Israel: am hynny cymer yn awr, atolwg, rodd gan dy was.

5:16 Ond efe a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, ni chymeraf. Ac efe a gymhellodd arno ei chymryd; eto efe a’i gwrthododd.

5:17 A Naaman a ddywedodd, Oni roddir yn awr i’th was lwyth cwpl o fulod o ddaear? canys ni offryma dy was mwyach boethoffrwm nac aberth i dduwiau eraill, ond i’r ARGLWYDD.

5:18 Yn y peth hyn yr ARGLWYDD a faddeuo i’th was; pan elo fy arglwydd i dŷ Rimmon i addoli yno, a phwyso ar fy llaw i, a phan ymgrymwyf finnau yn nhŷ Rimmon; pan ymgrymwyf yn nhŷ Rimmon, maddeued yr ARGLWYDD i’th was yn y peth hyn.

5:19 Ac efe a ddywedodd wrtho, Dos mewn heddwch. Ac efe a aeth oddi wrtho ef encyd o ffordd.

5:20 Ond Gehasi, gwas Eliseus gŵr Duw, a ddywedodd, Wele, fy meistr a arbedodd Naaman y Syriad hwn, heb gymryd o’i law ef yr hyn a ddygasai efe: fel mai byw yr ARGLWYDD, mi a redaf ar ei ôl ef, ac a gymeraf ryw beth ganddo ef.

5:21 Felly Gehasi a ganlynodd ar ôl Naaman. A phan welodd Naaman ef yn rhedeg ar ei ôl, efe a ddisgynnodd oddi ar y cerbyd i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, A yw pob peth yn dda?

5:22 Dywedodd yntau, Y mae pob peth yn dda. Fy meistr a’m hanfonodd i, gan ddywedyd, Wele, yr awr hon dau lanc o fynydd Effraim, o feibion y proffwydi, a ddaeth ataf fi: dyro yn awr iddynt hwy dalent o arian, a dau bâr o ddillad.

5:23 A Naaman a ddywedodd, Bydd fodlon, cymer ddwy dalent. Ac efe a fu daer arno ef; ac a rwymodd ddwy dalent arian mewn dwy god, a deubar o ddillad; ac efe a’u rhoddodd ar ddau o’i weision, i’w dwyn o’i flaen ef.

5:24 A phan ddaeth efe i’r bwlch, efe a’u cymerth o’u llaw hwynt, ac a’u rhoddodd i gadw yn tŷ; ac a ollyngodd ymaith y gwŷr, a hwy a aethant ymaith.

5:25 Ond efe a aeth i mewn, ac a safodd o flaen ei feistr. Ac Eliseus a ddywedodd wrtho ef, O ba le y daethost ti, Gehasi? Dywedodd yntau, Nid aeth dy was nac yma na thraw.

5:26 Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid aeth fy nghalon gyda thi, pan drodd y gŵr oddi ar ei gerbyd i’th gyfarfod di? a ydoedd hi amser i gymryd arian, ac i gymryd gwisgoedd, ac olewyddlannau, a gwinllannau, a defaid, a gwartheg, a gweision, a morynion?

5:27 Am hynny gwahanglwyf Naaman a lŷn wrthyt ti, ac wrth dy had yn dragywydd. Ac efe a aeth ymaith o’i ŵydd ef yn wahanglwyfus cyn wynned â’r eira.

PENNOD 6
6:1
A meibion y proffwydi a ddywedasant wrth Eliseus, Wele yn awr, y lle yr hwn yr ydym ni yn trigo ynddo ger dy fron di, sydd ry gyfyng i ni.

6:2 Awn yn awr hyd yr Iorddonen, fel y cymerom oddi yno bawb ei drawst, ac y gwnelom i ni yno le i gyfanheddu ynddo. Dywedodd yntau, Ewch.

6:3 Ac un a ddywedodd, Bydd fodlon, atolwg, a thyred gyda’th weision. Dywed­odd yntau. Mi a ddeuaf.

6:4 Felly efe a aeth gyda hwynt. A hwy a ddaethant at yr Iorddonen, ac a dorasant goed.

6:5 A phan oedd un yn bwrw i lawr drawst, ei fwyell ef a syrthiodd i’r dwfr. Ac efe a waeddodd, ac a ddywedodd, Och fi, fy meistr! canys benthyg oedd.

6:6 A gŵr Duw a ddywedodd. Pa le y syrthiodd? Yntau a ddangosodd iddo y fan. Ac efe a dorrodd bren, ac a’i taflodd yno; a’r haearn a nofiodd.

6:7 Ac efe a ddywedodd, Cymer i fyny i ti. Ac efe a estynnodd ei law, ac a’i cymerodd.


6:8 A brenin Syria oedd yn rhyfela yn erbyn Israel; ac efe a ymgynghorodd â’i weision, gan ddywedyd, Yn y lle a’r lle y bydd fy ngwersyllfa.

6:9 A gŵr Duw a anfonodd at frenin Israel, gan ddywedyd, Ymgadw rhag myned i’r lle a’r lle: canys yno y disgynnodd y Syriaid.

6:10 A brenin Israel a anfonodd i’r lle am yr hwn y dywedasai gŵr Duw wrtho, ac y rhybuddiasai ef, ac a ymgadwodd yno, nid unwaith, ac nid dwywaith.


6:11 A chalon brenin Syria a gythryblwyd herwydd y peth hyn; ac efe a alwodd ar ei weision, ac a ddywedodd wrthynt, Oni fynegwch i mi pwy ohonom. ni sydd gyda brenin Israel?

6:12 Ac un o’i weision ef a ddywedodd, Nid oes neb, fy arglwydd frenin: ond Eliseus y proffwyd, yr hwn sydd yn Israel, a fynega i frenin Israel y geiriau a lefri di yng nghanol dy ystafell wely.

6:13 Ac efe a ddywedodd, Ewch, ac edrychwch pa le y mae efe, fel yr anfonwyf i’w gyrchu ef. A mynegwyd iddo, gan ddywedyd, Wele, yn Dothan y mae efe.

6:14 Am hynny efe a anfonodd yno feirch a cherbydau, a llu mawr: a hwy a ddaeth­ant liw nos, ac a amgylchynasant y ddinas.

6:15 A phan gododd gweinidog gŵr Duw yn fore, a myned allan, wele lu yn amgylchynu y ddinas, â meirch ac â cherbydau. A’i was a ddywedodd wrtho ef. Aha, fy meistr! pa fodd y gwnawn?

6:16 Ac efe a ddywedodd, Nac ofna: canys amlach yw y rhai sydd gyda ni na’r rhai sydd gyda hwynt.

6:17 Ac Eliseus a weddïodd, ac a ddy­wedodd, O ARGLWYDD, agor, atolwg, ei lygaid ef, fel y gwelo. A’r ARGLWYDD a agorodd lygaid y llanc; ac efe a edrychodd: ac wele y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o amgylch Eliseus.

6:18 A phan ddaethant i waered ato ef, Eliseus a weddïodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Taro, atolwg, y genedl hon â dallineb. Ac efe a’u trawodd hwy â dallineb, yn ôl gair Eliseus.

6:19 Ac Eliseus a ddywedodd wrthynt, Nid hon yw y ffordd, ac nid hon yw y ddinas: deuwch ar fy ôl i, a mi a’ch dygaf chwi at y gŵr yr ydych chwi yn ei geisio. Ond efe a’u harweiniodd hwynt i Samaria.

6:20 A phan ddaethant hwy i Samaria, Eliseus a ddywedodd, O ARGLWYDD, agor lygaid y rhai hyn, fel y gwelont. A’r ARGLWYDD a agorodd eu llygaid hwynt; a hwy a welsant: ac wele, yng nghanol Samaria yr oeddynt.

6:21 A brenin Israel a ddywedodd wrth Eliseus, pan welodd efe hwynt, Gan daro a drawaf hwynt, fy nhad?

6:22 Dywedodd yntau, Na tharo: a drewit ti y rhai a gaethiwaist a’th gleddyf ac a’th fwa dy hun? gosod fara a dwfr ger eu bron hwynt, fel y bwytaont ac yr yfont, ac yr elont at eu harglwydd.

6:23 Ac efe a arlwyodd iddynt hwy arlwy fawr: a hwy a fwytasant ac a yfasant; ac efe a’u gollyngodd hwynt ymaith, a hwy a aethant at eu harglwydd. Felly byddinoedd Syria ni chwanegasant ddyfod mwyach i wlad Israel.

6:24 Ac wedi hyn Benhadad brenin Syria a gynullodd ei holl lu, ac a aeth i fyny, ac a warchaeodd ar Samaria.

6:25 Ac yr oedd newyn mawr yn Samaria: ac wele, yr oeddynt hwy yn gwarchae arni hi, nes bod pen asyn er pedwar ugain sicl o arian, a phedwaredd ran cab o dom colomennod er pum sicl o arian.
 
6:26 Ac fel yr oedd brenin Israel yl  myned heibio ar y mur, gwraig a lefodd arno ef, gan ddywedyd, Achub, fy arglwydd frenin.

6:27 Dywedodd yntau, Oni achub yr ARGLWYDD dydi, pa fodd yr achubaf fi di? Ai o’r ysgubor, neu o’r gwinwryf?

6:28 A’r brenin a ddywedodd wrthi hi, Beth a ddarfu i ti? Hithau a ddywedodd, Y wraig hon a ddywedodd wrthyf, Dyro dy fab, fel y bwytaom ef heddiw; a’m mab innau a fwytawn ni yfory.

6:29 Felly ni a ferwasom fy mab i, ac a’i bwytasom ef: a mi a ddywedais wrthi hithau y diwrnod arall, Dyro dithau dy fab, fel y bwytaom ef: ond hi a guddiodd ei mab.

6:30 A phan glybu y brenin eiriau y wraig, efe a rwygodd ei ddillad, ac a aeth heibio ar y mur; a’r bobl a edrychodd, ac wele, sachliain oedd am ei gnawd ef oddi fewn.

6:31 Ac efe a ddywedodd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, os saif pen Eliseus mab Saffat arno ef heddiw.

6:32 Ond Eliseus oedd yn eistedd yn ei dŷ, a’r henuriaid yn eistedd gydag ef. A’r brenin a anfonodd ŵr o’i flaen: ond cyn dyfod y gennad ato ef, efe a ddywedodd wrth yr henuriaid, A welwch chwi fel yr anfonodd mab y llofrudd hwn i gymryd ymaith fy mhen i? Edrychwch pan ddêl y gennad i mewn, caewch y drws, a deliwch ef wrth y drws: onid yw trwst traed ei arglwydd ar ei ôl ef?

6:33 Ac efe eto yn ymddiddan â hwynt, wele y gennad yn dyfod i mewn ato ef: ac efe a ddywedodd, Wele, y drwg hyn sydd oddi wrth yr ARGLWYDD; paham y disgwyliaf wrth yr ARGLWYDD mwy?

PENNOD 7
7:1
Yna Eliseus a ddywedodd, Gwrandewch air yr ARGLWYDD: Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Ynghylch y pryd hwn yfory y gwerthir sat o beilliaid er sicl, a dau sat o haidd er sicl, ym mhorth Samaria.

7:2 Yna tywysog yr oedd y brenin yn pwyso ar ei law a atebodd ŵr Duw, ac a ddywedodd, Wele, pe gwnelai yr ARGLWYDD ffenestri yn y nefoedd, a fyddai y peth hyn? Dywedodd yntau, Wele, ti a’i gweli â’th lygaid, ond ni fwytei ohono.

7:3 Ac yr oedd pedwar gŵr gwahanglwyfus wrth ddrws y porth, a hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Paham yr ydym ni yn aros yma nes ein meirw?

7:4 Os dywedwn ni, Awn i mewn i’r ddinas, newyn sydd yn y ddinas, a ni a fyddwn feirw yno; ac os trigwn yma, ni a fyddwn feirw hefyd. Am hynny deuwch yn awr, ac awn i wersyll y Syriaid: o chadwant ni yn fyw, byw fyddwn; ac os lladdant ni, byddwn feirw. 

7:5 A hwy a gyfodasant ar doriad dydd i fyned i wersyll y Syriaid. A phan ddaethant at gwr eithaf gwersyll y Syriaid, wele, nid oedd neb yno.

7:6 Canys yr ARGLWYDD a barasai i wersyll y Syriaid glywed trwst cerbydau, a thrwst meirch, trwst llu mawr: a hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Wele, brenin Israel a gyflogodd i’n herbyn ni frenhinoedd yr Hethiaid, a brenhinoedd yr Aifft, i ddyfod arnom ni.

7:7 Am hynny hwy a gyfodasant, ac a ffoesant, ar lasiad dydd, ac a adawsant eu pebyll, a’u meirch, a’u hasynnod, sef y gwersyll fel yr ydoedd, ac a ffoesant am eu heinioes.

7:8 A phan ddaeth y rhai gwahanglwyfus hyn hyd gwŵr eithaf y gwersyll, hwy a aethant i un babell, ac a fwytasant, ac a yfasant, ac a gymerasant oddi yno arian, ac aur, a gwisgoedd, ac a aethant, ac a’i cuddiasant, ac a ddychwelasant; ac a aethant i babell arall, ac a gymerasant oddi yno, ac a aethant, ac a’i cuddiasant.

7:9 Yna y dywedodd y naill wrth y llall, Nid ydym ni yn gwneuthur yn iawn; y dydd hwn sydd ddydd llawen-chwedl, ac yr ydym ni yn tewi â son; os arhoswn ni hyd oleuni y bore, rhyw ddrwg a ddigwydd i ni: deuwch gan hynny yn awr, ac awn fel y mynegom i dŷ y brenin.

7:10 Felly hwy a ddaethant, ac a waeddasant ar borthor y ddinas; a hwy a fynegasant iddynt, gan ddywedyd, Daethom i wersyll y Syriaid, ac wele, nid oedd yno neb, na llais dyn, ond y meirch yn rhwym, a’r asynnod yn rhwym, a’r pebyll megis yr oeddynt o’r blaen.

7:11 Ac efe a alwodd ar y porthorion; a hwy a’i mynegasant i dŷ y brenin oddi fewn.

7:12 A’r brenin a gyfododd liw nos, ac a ddywedodd wrth ei weision, Mynegaf yn awr i chwi yr hyn a wnaeth y Syriaid i ni. Gwyddent mai newynog oeddem ni; am hynny yr aethant ymaith o’r gwersyll i ymguddio yn y maes, gan ddywedyd. Pan ddelont hwy allan o’r ddinas, ni a’u daliwn hwynt yn fyw, ac a awn i mewn i’r ddinas.

7:13 Ac un o’r gweision a atebodd ac a ddywedodd, Cymer yn awr bump o’r meirch a adawyd, y rhai a adawyd yn y ddinas, (wele, y maent hwy fel holl liaws Israel, y rhai a arosasant ynddi; wele, y maent hwy fel holl liaws Israel, y rhai  a ddarfuant;) ac anfonwn, ac edrychwn.

7:14 Felly hwy a gymerasant feirch dau gerbyd: a’r brenin a anfonodd ar ôl gwersyll y Syriaid, gan ddywedyd, Ewch ac edrychwch.

7:15 A hwy a aethant ar eu hôl hwynt hyd yr Iorddonen, ac wele, yr holl ffordd ydoedd yn llawn o ddillad a llestri, y rhai a fwriasai y Syriaid ymaith wrth frysio: a’r cenhadau a ddychwelasant ac a fynegasant i’r brenin.

7:16 A’r bobl a aethant allan, ac a anrheithiasant wersyll y Syriaid: a bu sat o beilliaid er sicl, a dau sat o haidd er sicl, yn ôl gair yr ARGLWYDD.

7:17 A’r brenin a osododd y tywysog yr oedd efe yn pwyso ar ei law i wylied ar y porth: a’r bobl a’i mathrasant ef yn y porth, ac efe fu farw, megis y llefarasai gŵr Duw, yr hwn a ddywedasai hynny pan ddaeth y brenin i waered ato ef.

7:18 A bu megis y llefarasai gŵr Duw wrth y brenin, gan ddywedyd, Dau sat o haidd er sicl, a sat o beilliaid er sicl, fydd y pryd hwn yfory ym mhorth Samaria.

7:19 A’r tywysog a atebasai ŵr Duw, ac a ddywedasai, Wele, pe gwnelai yr AR­GLWYDD ffenestri yn y nefoedd, a fyddai y peth hyn? Dywedodd yntau, Wele, ti a’i gweli â’th lygaid, ond ni fwytei ohono.

7:20 Ac felly y bu iddo ef: canys  y bobl a’i sathrasant ef yn y porth, ac efe a fu farw.

PENNOD 8
º1
YNA Eliseus a lefarodd wrth y wraig y bywhasai efe ei mab, gan ddy­wedyd, Cyfod, a dos,ti a’th dylwyth, ac ymdeithia lle y gellych ymdeithio: canys yr ARGLWYDD a alwodd am newyn, a hwnnw a ddaw ar y wlad saith mlynedd.

º2 A’r wraig a gyfododd, ac a wnaeth yn ôl gair gŵr Duw: a hi a aeth, hi a’i thylwyth, ac a ymdeithiodd yng ngwlad y Philistiaid saith mlynedd.

º3 Ac ymhen y saith mlynedd, y wraig a ddychwelodd o wlad y Philistiaid: a hi a aeth i weiddi ar y brenin am ei thy, ac am ei thir.

º4 A’r brenin oedd yn ymddiddan â Gehasi gwas gŵr Duw, gan ddywedyd, Adrodd i mi, atolwg, yr holl bethau mawr a wnaeth Eliseus.

º5 Ac fel yr oedd efe yn mynegi i’r brenin y modd y bywhasai efe y marw, yna wele y wraig y bywhasai efe ei mab yn gweiddi ar y brenin am ei thy, ac am ei thir. A Gehasi a ddywedodd, Fy arglwydd frenin, dyma’r wraig, a dyma ei mab yr hwn a ddarfu i Eliseus ei fywhau.

º6 A’r brenin a ofynnodd i’r wraig; a hithau a fynegodd iddo ef. A’r brenin a roddodd iddi ryw ystafellydd, gan ddy­wedyd, Dod drachefn yr hyn oll oedd eiddi hi, a holl gnwd y maes, o’r dydd y gadawodd hi y wlad hyd y pryd hwn.

º7 A daeth Eliseus i Damascus: a Benhadad brenin Syria oedd glaf; a mynegwyd iddo ef, gan ddywedyd, Daeth gŵr Duw yma.

º8 A’r brenin a ddywedodd wrth Hasael, Cymer anrheg yn dy law, a dos i gyfarfod â gŵr Duw; ac ymofyn a’r ARGLWYDD
trwyddo ef, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o’r clefyd hwn?

º9 Felly Hasael a aeth i’w gyfarfod ef, ac a gymerth anrheg yn ei law, a phob peth a’r a oedd dda o Damascus, sef Bwyth deugain o gamelod; ac a ddaeth, ac a safodd o’i flaen ef, ac a ddywedodd, Benhadad brenin Syria dy fab a’m hanfonodd atat, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o’r clefyd hwn?

º10 Ac Eliseus a ddywedodd wrtho, DOS, a dywed wrtho, Diau y gelli fyw: eto yr ARGLWYDD a ddangosodd i mi y bydd efe marw yn ddiau.

º11 Ac efe a osododd ei wyneb, ac a ddaliodd sylw arno, nes cywilyddio ohono ef: a gŵr Duw a wylodd.

º12 A Hasael a ddywedodd, Paham y mae fy arglwydd yn wylo? Dywedodd yntau. Am fy mod yn gwybod y drwg a wnei di i feibion Israel: eu hamddiffynfaoedd hwynt a losgi di â thân, a’u gwŷr ‘ieuainc a leddi â’r cleddyf  , a’u plant a bwyi, a’u gwragedd beichiogion a rwygi.

º13 A Hasael a ddywedodd. Pa beth! ai ei yw dy was, fel y gwnelai efe y mawr beth hyn? Ac Eliseus a ddywedodd, Yr ARGLWYDD a ddangosodd i mi y byddi di, yn frenin ar Syria.

º14 Felly efe a aeth ymaith oddi wrth Eliseus, ac a ddaeth at ei arglwydd; yr hwn a ddywedodd wrtho, Beth a ddy­wedodd Eliseus wrthyt ti? Ac efe a ateb­odd, Efe a ddywedodd wrthyf, y byddit ti byw yn ddiau.

º15 A thrannoeth efe a gymerth wrthban, ac a’i gwlychodd mewn dwfr, ac a’i lledodd ar ei wyneb ef, fel y bu efe farw: a Hasael a deyrnasodd yn ei le ef.

º16 Ac yn y bumed flwyddyn i Jorara mab Ahab brenin Israel, a Jehosaffat yn, frenin yn Jwda, y dechreuodd Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda deyrnasu.

º17 Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu; ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

º18 Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhin­oedd Israel, fel y gwnai tŷ Ahab: canys



 
merch Ahab oedd yn wraig iddo: felly efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

º19 Ond ni fynnai yr ARGLWYDD ddifetha Jwda, er mwyn Dafydd ei was; megis yr addawsai efe, y rhoddai iddo oleuni, ac i’w feibion yn dragywydd.

º20 Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda, ac y gosodasant frenin arnynt eu hunain.

º21 A Joram a aeth trosodd i Sair, a’r holl gerbydau gydag ef; ac efe a gyfododd liw nos, ac a drawodd yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau: a’r bobl a ffodd i’w pebyll.

º22 Er hynny Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda hyd y dydd hwn.
Yna y gwrthryfelodd Libna y pryd hwnnw.

º23 A’r rhan arall o hanes Joram, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

º24 A Joram a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd; ac Ahaseia ei fab a deyrnasoddi yn ei le ef.

º25 Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel yr aeth Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda yn frenin.

º26 Mab dwy flwydd ar hugain oedd Ahaseia pan aeth efe yn frenin; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Athaleia, merch Omri brenin Israel.

º27 Ac efe a rodiodd yn ffordd tŷ Ababa ac a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel tŷ Ahab: canys’ daw tŷ Ahab ydoedd efe.

º28 Ac efe a aeth gyda Joram mab Ahab i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria i RamothGilead; a’r Syriaid a drawsant Joram.

º29 A Joram y brenin a ddychwelodd i Jesreel i ymiacháu o’r briwiau a roesai y Syriaid iddo ef yn Rama, wrth ymladd, ohono ef yn erbyn Hasael brenin Syria: ac Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled a Joram mab Ahab yn Jesreel; canys claf ydoedd.

PENNOD 9
º1
A3 Eliseus y proffwyd a alwodd un o-feibion y proffwydi, ac a ddywedodd wrtho, Gwregysa dy lwynau, a chymer y ffiolaid olew hon yn dy law, a dos i RamothGilead.

º2 A phan ddelych yno, edrych yno am Jehu mab Jehosaffat, mab Nimsi; a dos i mewn, a phar iddo godi o fysg ei frodyr, a dwg ef i ystafell ddirgel:

º3 Yna cymer y ffiolaid olew, a thywallt ar ei ben ef, a dywed, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Mi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel; yna agor y drws, a ffo, ac nac aros.

º4 Felly y llanc, sef llanc y proffwyd, a aeth i RamothGilead.

º5 A phan ddaeth efe, wele, tywysogion y llu oedd yn eistedd: ac efe a ddywedodd, Y mae i mi air a thi, O dywysog. A dywedodd Jehu, A pha un ohonom ni oil? Dywedodd yntau, A thydi, O dywys­og.

º6 Ac efe a gyfododd, ac a aeth i mewn i’r tŷ:  ac yntau a dywalltodd yr olew ar ei ben ef, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Myfi a’th eneiniais di yn frenin ar bobl yr ARGLWYDD, sef ar Israel.

º7 A thi a drewi dy Ahab dy arglwydd; fel y dialwyf fi waed fy ngweision y proffwydi, a gwaed holl weision yr AR— GLWYDD, ar law Jesebel.

º8 Canys holl dy Ahab a ddifethir: a mi a dorraf ymaith oddi wrth Ahab bob gwryw, y gwarchaeëdig hefyd, a’r hwn a adawyd yn Israel.

º9 A mi a wnaf dy Ahab fel tŷ Jeroboam mab Nebat, ac fel tŷ Baasa mab Ahia.

º10 A’r cwn a fwytânt Jesebel yn rhandir Jesreel, ac ni bydd a’i claddo hi. Ac efe a agorodd y drws, ac a ffodd.

º11 A Jehu a aeth allan at weision ei arglwydd, a dywedwyd wrtho ef, A yw pob peth yn dda? paham y daeth yr ynfyd hwn atat ti? Dywedodd yntau wrthynt, Chwi a adwaenoch y gŵr, a’i ymadroddion.

º12 Dywedasant hwythau, Celwydd;. mynega yn awr i ni. Dywedodd yntau,  Fel hyn ac fel hyn y llefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Mi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel.

º13 A hwy a frysiasant, ac a gymerasant bob un ei wisg, ac a’i gosodasant dano ef ar ben uchaf y grisiau, ac a ganasant mewn utgom, ac a ddywedasant, Jehu sydd frenin.

º14 A Jehu mab Jehosaffat mab Nimsi a gydfwriadodd yn erbyn Joram: (a Joram oedd yn cadw RamothGilead, efe a holl Israel, rhag Hasael brenin Syria:

º15 Ond Joram y brenin a ddychwelasai i ymiacháu i Jesreel, o’r archollion a’r rhai yr archollasai y Syriaid ef wrth ymladd ohono yn erbyn Hasael brenin Syria.) A dywedodd Jehu, Os mynnwch chwi, nac eled un dihangol o’r ddinas i fyned i fynegi i Jesreel.

º16 Felly Jehu a farchogodd mewn cerbyd, ac a aeth i Jesreel; canys Joram oedd yn gorwedd yno. Ac Ahaseia brenin Jwda a ddaethai i waered i ymweled a Joram.

º17 A gwyliwr oedd yn sefyll ar y twr yn Jesreel, ac a ganfu fintai Jehu pan oedd efe yn dyfod, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn gweled mintai. A Joram a ddywedodd, Cymer ŵr march, ac anfbn i’w cyfarfod hwynt, a dyweded, Ai heddwch?

º18 A gŵr march a aeth i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed y brenin, A oes heddwch? A dywedodd Jehu, Beth sydd i ti a ofynnych am hedd­wch? tro yn fy ôl i. A’r gwyliwr a fynegodd, gan ddywedyd, Y gennad a ddaeth hyd atynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd.

º19 Yna efe a anfonodd yr ail ŵr march, ac efe a ddaeth atynt hwy, ac a ddywed­odd, Fel hyn y dywedodd y brenin, A oes heddwch? A dywedodd Jehu, Beth sydd i ti a ofynnych am heddwch? tro yn fy ôl i.

º20 A’r gwyliwr a fynegodd, gan ddy­wedyd, Efe a ddaeth hyd atynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd; a’r gyriad sydd fel gyriad Jehu mab Nimsi; canys y mae efe yn gyrru yn ynfyd.

º21 A Joram a ddywedodd, Rhwym ff cerbyd. Yntau a rwymodd ei gerbyd ef. A Joram brenin Israel a aeth allan, ac Ahaseia brenin Jwda, pob un yn ei gerbyd, a hwy a aethant yn erbyn Jena, a chyfarfuant ag ef yn rhandir Naboth y Jesreeliad.

º22 A phan welodd Joram Jehu, efe a ddywedodd, A oes heddwch, Jehu? Dywedodd yntau, Pa heddwch tra fyddo puteindra Jesebel dy fam di, a’i hudoliaeth, mor aml?

º23 A Joram a drodd ei law, ac a ffodd, ac a ddywedodd wrth Ahaseia, Y mae bradwriaeth, O Ahaseia.

º24 A Jehu a gymerth fwa yn ei law, ac a drawodd Joram rhwng ei ysgwyddau, fel yr aeth y saeth trwy ei galon ef, ac efe a syrthiodd yn ei gerbyd.

º25 A Jehu a ddywedodd wrth Bidcar ei dywysog, Cymer, bwrw ef i randir maes Naboth y Jesreeliad: canys cofia pan oeddem ni, mi a thi, yn marchogaeth ynghyd ein dau ar ôl Ahab ei dad ef, roddi o’r ARGLWYDD arno ef y baich hwn.

º26 Diau, meddai yr ARGLWYDD, gwaed Naboth, a gwaed ei feibion, a welais i neithiwr, a mi a dalaf i ti yn y rhandir hon, medd yr ARGLWYDD. Gan hynny cymer a bwrw ef yn awr yn y rhandir hon, yn ôl gair yr ARGLWYDD.

º27 Ond pan welodd Ahaseia brenin Jwda hynny, efe a ffodd ar hyd ffordd tŷ yr ardd. A Jehu a yrnlidiodd ar ei ôl ef, ac a ddywedodd, Trewch hwn hefyd yn ei gerbyd. A hwy a’i trawsant ef yn rhiw Gur, yr hon sydd wrth Ibleam; ac efe a ffodd i Megido, ac a fu farw yno.

º28 A’i weision a’i dygasant ef mewn cerbyd i Jerwsalem, ac a’i claddasant ef yn ei feddrod gyda’i dadau, yn ninas Dafydd.

º29 Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg’i Joram mab Ahab yr aethai Ahaseia yn frenin ar Jwda.

º30 A phan ddaeth Jehu i Jesreel, Jesebel a glybu hynny, ac a golurodd ei hwyneb, ac a wisgodd yn wych am ei phen, ac a edrychodd trwy ffenestr.

º31 A phan oedd Jehu yn dyfod i mewn i’r porth, hi a ddywedodd, A fu heddwch "i Simri, yr hwn a laddodd ei feistr?

º32 Ac efe a ddyrchafodd ei wyneb at y ffenestr, ac a ddywedodd, Pwy sydd gyda mi, pwy? A dau neu dri o’r ystafellyddion a edrychasant arno ef.

º33 Yntau a ddywedodd, Teflwch hi i lawr. A hwy a’i taflasant hi i lawr; a thaenellwyd peth o’i gwaed hi ar y pared, ac ar y meirch: ac efe a’i mathrodd hi.

º34 A phan ddaeth efe i mewn, efe a fwytaodd ac a yfodd, ac a ddywedodd, Edrychwch am y wraig felltigedig honno, a. chleddwch hi; canys merch brenin ydyw hi.

º35 A hwy a aethant i’w chladdu hi; ond ni chawsant ohoni onid y benglog a’r traed, a chledrau’r dwylo.

º36 Am hynny hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant iddo ef. Dywedodd yntau, Dyma air yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarodd efe trwy law ei wasanaethwr Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, Yn rhandir Jesreel y bwyty y own gnawd Jesebel:

º37 A chelain Jesebel a fydd fel tomen ar wyneb y maes, yn rhandir Jesreel; fel na ellir dywedyd, Dyma Jesebel.

PENNOD 10
º1
AC i Ahab yr oedd deng mab a thrigain Ax yn Samaria. A Jehu a ysgrifennodd lythyrau, ac a anfonodd i Samaria, at dywysogion Jesreel, ac at yr henuriaid, ac at dadmaethod Ahab, gan ddywedyd,

º2 Ac yn awr pan ddêl y llythyr hwn atoch chwi, canys gyda chwi y mae meibion eich arglwydd, a chennych chwi y mae cerbydau, a meirch, a dinasoedd caerog, ac arfau:

º3 Yna edrychwch yr hwn sydd orau, ac yn gymhwysaf o feibion eich arglwydd, a gosodwch ef ar deyrngadair ei dad, ac ymleddwch dros dy eich arglwydd.

º4 A hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant, Wele, dau frenin ni safasant o’i flaen ef: pa fodd gan hynny y safwn ni?

º5 Am hynny yr anfonodd yr hwn oedd ar y tŷ, a’r hwn oedd ar y ddinas, a’r henuriaid, a’r tadmaethod, at Jehu, gan
‘ddywedyd, Dy weision di ydym ni, a’r byn oll a ddywedych di wrthym a wnawn ni; ni wnawn ni neb yn frenin: gwna yr hyn a fyddo da yn dy olwg.

º6 Yna efe a ysgrifennodd yr ail lythyr atynt hwy, gan ddywedyd, Os eiddof fi fyddwch, ac os ar fy llais i y gwrandewch, cymerwch bennau y gwŷr, meibion eich arglwydd  xxxx a deuwch ataf fi y pryd hwn yfory i Jesreel. A meibion y brenin, sef deng nyn a thrigain, oedd gyda phenaethiaid y ddinas, y rhai oedd yn eu meithrin hwynt.

º7 A phan ddaeth y llythyr atynt, hwy a gymerasant feibion y brenin, ac a laddasant ddeng nyn a thrigain, ac a osodasant eu pennau hwynt mewn basgedau, ac a’u danfonasant ato ef i Jesreel.

º8 A chennad a ddaeth ac a fynegodd iddo ef, gan ddywedyd, Hwy a ddygasant bennau meibion y brenin. Dywed­odd yntau, Gosodwch hwynt yn ddau bentwr wrth ddrws y porth hyd y bore.

º9 A’r bore efe a aeth allan, ac a safodd, ac a ddywedodd wrth yr holl bobl, Cyfiawn ydych chwi: wele, myfi a gydfwriedais yn erbyn fy arglwydd, ac a’i lleddais ef: ond pwy a laddodd yr holl rai hyn?

º10 Gwybyddwch yn awr na syrth dim o air yr ARGLWYDD i’r ddaear, yr hwn a lefarodd yr ARGLWYDD am dy Ahab: canys gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn a lefarodd efe trwy law Eleias ei was.

º11 Felly Jehu a drawodd holl weddillion tŷ Ahab yn Jesreel, a’i holl benaethiaid ef, a’i gyfneseifiaid ef, a’i offeiriaid, ‘fel na adawyd un yng ngweddill.

º12 Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith hefyd, ac a ddaeth i Samaria. Ac fel yr oedd efe wrth dy cneifio y bugeiliaid ar y ffordd,

º13 Jehu a gyfarfu a brodyr Ahaseia brenin Jwda, ac a ddywedodd, Pwy ydych chwi? Dywedasant hwythau, Brodyr Ahaseia ydym ni; a ni a ddaethom i waered i gyfarch gwell i feibion y brenin, ac i feibion y frenhines.

º14 Ac efe a ddywedodd, Deliwch hwynt yn fyw. A hwy a’u daliasant hwy yn fyw, ac a’u lladdasant hwy wrth bydew y tŷ cneifio, sef dau ŵr a deugain, ac ni adawodd efe ŵr ohonynt.

º15 A phan aethai efe oddi yno, efe a gyfarfu a Jehonadab mab Rechab yn cyfarfod ag ef, ac a gyfarchodd well iddo, xxx  ac a ddywedodd wrtho, A yw dy galon di yn uniawn, fel y mae fy nghalon i gyda’th galon di? A dywedodd Jehonadab, Ydyw. Od ydyw, eb efe, moes dy law. Rhoddodd yntau ei law, ac efe a barodd iddo ddyfod i fyny ato i’r cerbyd.

º16 Ac efe a ddywedodd. Tyred gyda mi, a gwêl fy sel i tuag at yr ARGLWYDD. Felly hwy a wnaethant iddo farchogaeth yn ei gerbyd ef.

º17 A phan ddaeth efe i Samaria, efe a drawodd yr holl rai a adawsid i Ahab yn Samaria, nes iddo ei ddinistrio ef, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe wrth Eleias.

º18 A Jehu a gynullodd yr holl bobl ynghyd, ac a ddywedodd wrthynt, Ahab a wasanaethodd Baal ychydig, ond Jehu a’i gwasanaetha ef lawer.

º19 Ac yn awr gelwch ataf fi holl broffwydi Baal, ei holl weision, a’i holl offeir­iaid ef, na fydded un yn eisiau; canys aberth mawr sydd gennyf i Baal: pwy bynnag a fyddo yn eisiau, ni bydd efe byw. Ond Jehu a wnaeth hyn mewn cyfrwystra, fel y difethai efe addolwyr Baal.

º20 A Jehu a ddywedodd, Cyhoeddwch gymanfa sanctaidd i Baal. A hwy a’i cyhoeddasant.

º21 A Jehu a anfonodd trwy holl Israel; a holl addolwyr Baal a ddaethant, ac nid oedd un yn eisiau a’r ni ddaethai: a hwy a ddaethant i dŷ Baal, a llanwyd tŷ Baal o ben bwygilydd.

º22 Ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd geidwad ar y gwisgoedd, Dwg allan wisgoedd i holl addolwyr Baal. Ac efe a ddug wisgoedd iddynt.

º23 A Jehu a aeth i mewn, a Jehonadab mab Rechab, i dŷ Baal, ac a ddywedodd wrth addolwyr Baal, Chwiliwch ac edrychwch, rhag bod yma gyda chwi neb o weision yr ARGLWYDD, ond addolwyr Baal yn unig.

º24 A phan ddaethant i mewn i wneuthur aberthau, a phoethoffrymau, Jehu a osod? odd iddo allan bedwar ugeinwr, ac a ddywedodd, Os dianc yr un o’r dynion a ddygais i’ch dwylo chwi, einioes yr hwn y dihango ganddo fydd am ei einioes ef.

º25 A phan orffennodd efe wneuthur y poethoffrwm, Jehu a ddywedodd wrth y swyddogion a’r tywysogion, Ewch i mewn, lleddwch hwynt, na ddeled neb allari; Felly hwy a’u trawsant hwy â min y cleddyf: a’r swyddogion a’r tywysogion a’u taflasant hwy allan, ac a aethant i ddinas tŷ Baal.

º26 A hwy a ddygasant allan ddelwau. tŷ Baal, ac a’u llosgasant hwy.

º27 A hwy a ddistrywiasant ddelw Baal, ac a ddinistriasant dy Baal, ac a’i gwnaethant ef yn domdy hyd heddiw.

º28 Felly y dileodd Jehu Baal allan o Israel.

º29 Eto pechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ni throdd Jehu oddi wrthynt hwy, sef oddi wrth y lloi aur oedd yn Bethel, a’r rhai oedd yn Dan.

º30 A’r ARGLWYDD a ddywedodd with Jehu, Oherwydd i ti wneuthur yn dda, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, yn ôl yr hyn oll a’r a oedd yn fy nghalon i y gwnaethost i dŷ Ahab, meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfainc Israel.

º31 Ond nid edrychodd Jehu am rodio yng nghyfraith ARGLWYDD DDUW Israel a’i holl galon: canys ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

º32 Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr ARGLWYDD dorri cyrrau Israel: a Hasael a’u trawodd hwynt yn holl derfynau Israel;

º33 O’r Iorddonen tua chodiad haul, sef holl wlad Gilead, y Gadiaid, a’r Reubeniaid, a’r Manassiaid, o Aroer, yr hon sydd wrth afon Arnon, Gilead a Basan hefyd.

º34 A’r rhan arall o hanes Jehu, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe, a’i holl gadernid ef; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

º35 A Jehu a hunodd gyda’i dadau, a chladdwyd ef yn Samaria, a Joahas ei fab a deymasodd yn ei le ef.

º36 A’r dyddiau y teyrnasodd Jehu as Israel yn Samaria oedd wyth mlynedd ar hugain.

PENNOD 11

º1 A PHAN welodd Athaleia mam Ahaseia farw o’i mab, hi a gyfododd, ac a ddifethodd yr holl had brenhinol.

º2 Ond Joseba merch y brenin Joram, chwaer Ahaseia, a gymerth Joas mab Ahaseia, ac a’i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd: a hwy a’i cuddiasant ef a’i famaeth yn ystafell y gwelyau, rhag Athaleia, fel na ladd-royd ef.

º3 Ac efe a fu gyda hi ynghudd yn nhŷ yr ARGLWYDD chwe blynedd: ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad.

º4 Ac yn y seithfed flwyddyn yr anfonodd Jehoiada, ac y cymerth dywysogion y cannoedd, a’r capteiniaid, a’r swyddogion, ac a’u dug hwynt i mewn ato i dŷ yr ARGLWYDD, ac a wnaeth a hwynt gyfamod, ac a wnaeth iddynt dyngu yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac a ddangosodd iddynt fab y brenin.

º5 Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Dyma’r peth a wnewch chwi; Trydedd ran ohonoch sydd yn dyfod i mewn ar y Saboth, a gadwant wyliadwriaeth tŷ y brenin:

º6 A thrydedd ran fydd ym mhorth Sur: a thrydedd ran yn y porth o’r tu ôl i’r swyddogion: felly y cedwch wyliadwriaeth y tŷ rhag ei dorri.

º7 A deuparth ohonoch oll sydd yn myned allan ar y Saboth, a gadwant wyliadwriaeth tŷ yr ARGLWYDD, ynghylch y brenin.

º8 A chwi a amgylchynwch y brenin o bob parth, pob un a’i arfau yn ei law; a’r hwn a ddelo i’r rhesau, lladder ef: a byddwch gyda’r brenin pan elo efe allan, a phan ddelo efe i mewn.

º9 A thywysogion y cannoedd a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad, a chymerasant
bawb eu gwŷr y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth, gyda’r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth; ac a ddaethant at Jehoiada yr offeiriad.

º10 A’r offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd waywffyn a tharianau y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD.

º11 A’r swyddogion a safasant bob un a5i arfau yn ei law, o’r tu deau i’r tŷ, hyd y tu aswy i’r tŷ, wrth yr allor a’r tŷ, amgylch ogylch y brenin.

º12 Ac efe a ddug allan fab y brenin, ac a roddodd y goron arno ef, a’r dystiolaeth: a hwy a’i hurddasant ef yn frenin, ac a’i heneiniasant ef; curasant hefyd eu dwylo, a dywedasant, Byw fyddo’r brenin.

º13 A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, hi a ddaeth i mewn at y bobl i dŷ yr ARGLWYDD.

º14 A phan edrychodd hi, wele, y brenin oedd yn sefyll wrth y golofn yn ôl yr arfer, a’r tywysogion a’r utgyrn yn ymyl y brenin, a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn canu mewn utgyrn. Ac Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a waeddodd, Bradwriaeth, bradwriaeth!

º15 A Jehoiada yr offeiriad a orchmyn­nodd i dywysogion y cannoedd, y rhai oedd wedi eu gosod ar y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi o’r tu allan i’r rhesau; a’r hwn a ddelo ar ei hôl hi, Lladder ef â’r cleddyf  : canys dywedasai yr offeiriad, Na ladder hi yn nhŷ yr ARGLWYDD.

º16 A hwy a osodasant ddwylo arni hi, a hi a aeth ar hyd y ffordd feirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdwyd hi.

º17 A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhwng yr ARGLWYDD a’r brenin a’r bobl, i fod ohonynt yn bobl i’r ARGLWYDD,, a rhwng y brenin a’r bobl.

º18 A holl bobl y wlad a aethant i d  Baal, ac a’i dinistriasant ef a’i allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy yn chwilfriw, lladdasant hefyd Mattan offeir­iad Baal o flaen yr allorau. A’r offeiriad a osododd oruchwylwyr ar dŷ yr AR­GLWYDD.

º19 Efe a gymerth hefyd dywysogion y cannoedd, a’r capteiniaid, a’r swydd­ogion, a holl bobl y wlad, a hwy a ddygasant i waered y brenin o d  yr ARGLWYDD , ac a ddaethant ar hyd ffordd porth y swyddogion, i dŷ y brenin: ac efe a eisteddodd ar orseddfa y brenhinoedd.

º20 A holl bobl y wlad a lawenychasant, a’r ddinas a lonyddodd: a hwy a laddasant Athaleia â’r cleddyf   wrth dy y brenin.

º21 Mab saith mlwydd oedd Joas pan aeth efe yn frenin.

PENNOD 12
º1
YN y seithfed flwyddyn i Jehu y dechreuodd Joas deyrnasu, a deugaia mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Sibia o Beerseba.

º2 A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei holl ddyddiau, yn y rhai y dysgodd Jehoiada yr offeiriad ef. ‘

º3 Er hynny ni thynasid ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.

º4 A Joas a ddywedodd wrth yr offeiriaid, Holl arian y pethau cysegredig a ddyger i mewn i dŷ yr ARGLWYDD, arian y gŵr a gyniweirio, arian gwerth eneidiau pob un, a’r holl arian a glywo neb ar ei galon eu dwyn i mewn i dŷ yr ARGLWYDD-S

º5 Cymered yr offeiriaid hynny iddynfe, pawb gan ei gydnabod, a chyweiriant adwyau y tŷ, pa le bynnag y caffer adwy ynddo.

º6 Ond yn y drydedd flwyddyn ar hugain i’r brenin Joas, nid adgyweiriasai yr offeiriaid agennau y tŷ.

º7 Yna y brenin Joas a alwodd am Jehoiada yr offeiriad, a’r offeiriaid erailt, ac a ddywedodd wrthynt, Paham nad ydych chwi yn cyweirio agennau y ty? yn awr gan hynny, na dderbyniwch ariaa gan eich cydnabod, ond rhoddwch hwy at gyweirio adwyau y tŷ.

º8 A’r offeiriaid a gydsyniasant na dderbynient arian gan y bobl, ac na chyweirient agennau y tŷ.

º9 Eithr Jehoiada yr offeiriad a gymerth gist, ac a dyllodd dwil yn ei chaead, ac a’i gosododd hi o’r tu deau i’r allor, ffordd y delai un i mewn i dŷ yr ARGLWYDD: a’r offeiriaid, y rhai oedd yn cadw y drws, a roddent yno yr holl arian a ddygid i mewn i d  yr ARGLWYDD.

º10 A phan welent fod llawer o arian yn y gist, y deuai ysgrifennydd y brenin, a’r archoffeiriad, i fyny, ac a roent mewn codau, ac a gyfrifent yr arian a gawsid yn nh  yr ARGLWYDD.

º11 A hwy a roddasant yr arian wedi en cyfrif, yn nwylo gweithwyr y gwaith, ‘ goruchwylwyr tŷ yr ARGLWYDD: a hwy a’i talasant i’r seiri pren, ac i’r adeiladwyr oedd yn gweithio tŷ yr ARGLWYDD.

º12 Ac i’r seiri meini, ac i’r naddwyr cerrig, ac i brynu coed a cherrig nadd, i gyweirio adwyau tŷ yr ARGLWYDD, ac am yr hyn oll a aethai allan i adgyweirio y tŷ.

º13 Eto ni wnaed yn nhŷ yr ARGLWYDD gwpanau arian, saltringau, cawgiau, utgyrn, na llestri aur, na llestri arian, o’r arian a ddygasid i mewn i dŷ yr AR­GLWYDD.

º14 Eithr hwy a’i rhoddasant i’ weithwyr y gwaith; ac a gyweiriasant a, hwynt dŷ yr ARGLWYDD.

º15 Ac ni cheisiasant gyfrif gan y dynion y rhoddasant hwy yr arian yn eu dwylo i’w rhoddi i weithwyr y gwaith: canys yr oeddynt hwy yn gwneuthur yn ffyddlon.

º16 Yr arian dros gamwedd a’r arian dros bechodau, ni dducpwyd i mewn i dŷ yr ARGLWYDD: eiddo yr offeiriaid oeddynt hwy.

º17 Yna Hasael brenin Syria a aeth i fyny, ac a ymladdodd yn erbyn Gath, ac a’i henillodd hi: a Hasael a osododd ei wyneb i fyned i fyny yn erbyn Jerw­salem.

º18 A Joas brenin Jwda a gymerth yr holl bethau cysegredig a gysegrasai Jehosa-ffat, a Jehoram, ac Ahaseia, ei dadau ef, brenhinoedd Jwda, a’i gysegredig bethau ef ei hun, a’r holl aur a gafwyd yn nhrysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin, ac a’u hanfonodd at Hasael brenin Syria, ac efe a ymadawodd oddi wrth Jerwsalem.

º19 A’r rhan arall o hanes Joas, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Jwda?

º20 A’i weision ef a gyfodasant, ac a gydfwriadasant fradwriaeth; ac a laddasant Joas yn nhŷ Milo, wrth ddyfod i waered i Sila.
 21 A Josachar mab Simeath, a Josabad mab Somer, ei weision ef, a’i trawsant ef, ac efe a fu farw; a hwy a’i claddasant ef gyda’i dadau yn ninas Dafydd: ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 13
º1
YN y drydedd flwyddyn ar hugain i Joas mab Ahaseia brenin Jwda, y teyrnasodd Joahas mab Jehu ar Israel yn Samaria, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe.

º2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd ar ôl pechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; ni throdd oddi wrthynt hwy.

º3 A digofaint yr ARGLWYDD a lidiodd yn erbyn Israel; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw Hasael brenin Syria, ac yn llaw Benhadad mab Hasael, eu holl ddyddiau hwynt.

º4 A Joahas a erfyniodd ar yr ARGLWYDD, a gwrandawodd yr ARGLWYDD arno ef; oherwydd iddo ganfod gorthrymder Israel, canys brenin Syria a’u gorthrynaai hwynt.

º5 (A’r ARGLWYDD a roddodd achubwr i Israel, fel yr aethant oddi tan law y Syriaid: a meibion Israel a drigasant yn eu pebyll fel cynt.

º6 Eto ni throesant hwy oddi wrth bechodau tŷ Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, eithr rhodiasant ynddyn): hwy: a’r llwyn hefyd a safai yn Samaria.)

º7 Ac ni adawodd efe i Joahas o’r bobl;, ond deg a deugain o wŷr meirch, a deg cerbyd, a deng mil o wŷr traed: oherwydd brenin Syria a’u dinistriasai hwynt, ac a’u gwnaethai hwynt fel llwch wrth ddyrnu.

º8 A’r rhan arall o hanes Joahas, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Israel?

º9 A Joahas a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn Samaria, a Joas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

º10 Yn y ddwyfed flwyddyn ar bym­theg ar hugain i Joas brenin Jwda, y teyrnasodd Joas mab Joahas ar Israel yn Samaria: un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe.

º11 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: ni throdd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; eithr efe a rodiodd ynddynt.

º12 A’r rhan arall o hanes Joas, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid, trwy yr hwn yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Israel?

º13 A Joas a hunodd gyda’i dadau, a Jeroboam a eisteddodd ar ei deyrngadair ef: a Joas a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel.

º14 Ac yr oedd Eliseus yn glaf o’r clefyd y bu efe farw ohono: a Joas brenin Israel a ddaeth i waered ato ef, ac a wylodd ar ei wyneb ef, ac a ddywedodd, O fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a’i farchogion.

º15 Ac Eliseus a ddywedodd wrtho ef, Cymer fwa a saethau. Ac efe a gymerth fwa a saethau.

º16 Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel, Dod dy law ar y bwa. Ac efe a roddodd ei law: ac Eliseus a osododd ei ddwylo ar ddwylo’r brenin.

º17 Ac efe a ddywedodd, Agor y ffenestr tua’r dwyrain. Yntau a’i hagorodd. Yna y dywedodd Eliseus, Saetha. Ac efe a saethodd. Dywedodd yntau, Saeth ymr wared yr ARGLWYDD, a saeth ymwared rhag Syria; a thi a drewi y Syriaid yn Affec, nes eu difa hwynt.

º18 Hefyd efe a ddywedodd, Cymer y saethau. Ac efe a’u cymerodd.
Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel, Taro y ddaear. Ac efe a drawodd dair gwaiti , ac a beidiodd.
/

º19 A gŵr Duw a ddigiodd wrtho ef, ac a ddywedodd, Dylesit daro bump neu chwech o weithiau, yna y trawsit Syria nes ei difa: ac yn awr tair gwaith y trewi Syria.

º20 Ac Eliseus a fu farw, a hwy a’i claddasant ef. A minteioedd y Moabiaid a ddaethant i’r wlad y flwyddyn honno.

º21 A phan oeddynt hwy yn claddu gŵr, wele, hwy a ganfuant dorf, ac a fwriasant y gŵr i feddrod Eliseus. A phan aeth y gŵr i lawr a chyftwrdd ag esgyrn Eliseus, efe a ddadebrodd, ac a gyfododd ar ei draed.

º22 A Hasael brenin Syria a orthrymodd Israel holl ddyddiau Joahas.

º23 A’r ARGLWYDD a drugarhaodd wrth­ynt hwy, ac a dosturiodd wrthynt hwy, ac a drodd atynt hwy, er mwyn ei gyfamod ag Abraham, Isaac, a Jacob, ac ni fynnai eu dinistrio hwynt, ac ni fwriodd efe hwynt allan o’i olwg hyd yn hyn.

º24 Felly Hasael brenin Syria a fu farw; a Benhadad ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

º25 A Joas mab Joahas a enillodd yn eu hôl o law Benhadad mab Hasael, y dinasoedd a ddygasai efe o law Joahas ei dad ef mewn rhyfel: Joas a’i trawodd ef dair gwaith, ac a ddug adref ddinasoedd Israel.

PENNOD 14
º1
YN yr ail flwyddyn i Joas mab Joahas brenin Israel y teyrnasodd Amaseia mab Joas brenin Jwda.

º2 Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth yn frenin, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac cnw ei fam efoedd Joadan o Jerwsalem.

º3 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, eto nid fel Dafydd ei dad; ond cfc a wnaeth yn ôl yr hyn oll a wnaethai Joas ei dad ef.

º4 Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd cto xxxxx yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.

º5 A phan sicrhawyd ei deyrnas yn ei law ef, efe a laddodd ei weision y rhai a laddasent y brenin ei dad ef.

º6 Ond ni laddodd efe feibion y lleiddiaid; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, yn yr hon y gorchmynasai yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Na ladder y tadau dros y meibion, ac na ladder y meibion dros y tadau; ond lladder pob un am ei bechod ei hun.

º7 Efe a drawodd o’r Edomiaid, yn nyffryn yr halen, ddeng mil, ac a enillodd y graig mewn rhyfel, ac a alwodd ei henw Joctheel, hyd y dydd hwn.

º8 Yna Amaseia a anfonodd genhadau at Joas mab Joahas, mab Jehu, brenin Israel, gan ddywedyd. Tyred, gwelwn wyneb ein gilydd.

º9 A Joas brenin Israel a anfonodd at Amaseia brenin Jwda, gan ddywedyd, Yr ysgellyn yn Libanus a anfonodd at y gedrwyddcn yn Libanus, gan ddywedyd, Dyro dy ferch i’m mab i yn wraig. A bwystfil y maes yr hwn oedd yn Libanus a dramwyodd ac a sathrodd yr ysgellyn.

º10 Gan daro y trewaist yr Edomiaid, am hynny dy galon a’th falchiodd: ymffrostia, ac eistedd yn dy dŷ: canys i ba beth yr ymyrri i’th ddrwg dy hun, fel y syrthit ti, a Jwda gyda thi?

º11 Ond ni wrandawai Amaseia. Am hynny Joas brenin Israel a aeth i fyny, a hwy a welsant wynebau ei gilydd, efe ac Amaseia brenin Jwda, yn Bethsemes, yr hon sydd yn Jwda.

º12 A Jwda a drawyd o flaen Israel; a hwy a ffoesant bawb i’w pebyll.

º13 A Joas brenin Israel a ddaliodd Amaseia brenin Jwda, mab Joas, mab Ahaseia, yn Bethsemes, ac a ddaeth i Jerwsalem, ac a dorrodd i lawr fur Jerw­salem, o borth Effraim hyd borth y gongi, bedwar can cufydd.

º14 Ac efe a gymerth yr holl aur a’r arian, a’r holl lestri a’r a gafwyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhrysorau tŷ y brenin, a gwystlon, ac a ddychwelodd i Samaria.

º15 A’r rhan arall o hanes Joas, yr hyn a wnaeth efe, a’i gadernid, ac fel yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Israel?



16 A Joas a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a Jeroboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

º17 Ac Amaseia mab Joas brenin Jwda a fu fyw ar ôl marwolaeth Joas mab Joahas brenin Israel bymtheng mlynedd.

º18 A’r rhan arall o hanes Amaseia, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Jwda?

º19 Ond hwy a fradfwriadasant yn ai erbyn ef yn Jerwsalem; ac efe a ffodd i Lachis: eto hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis, ac a’i lladdasant ef yno.

º20 A hwy a’i dygasant ef ar feirch, ac efe a gladdwyd yn Jerwsalem gyda’i dadau, yn ninas Dafydd.

º21 A holl bobl Jwda a gymerasant Asareia, ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg, ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad.

º22 Efe a adeiladodd Elath, ac a’i rhoddodd hi drachefn i Jwda, ar ôl huno o’r brenin gyda’i dadau.

º23 Yn y bymthegfed flwyddyn i Amaseia mab Joas brenin Jwda y teyrnasodd Jeroboam mab Joas brenin Israel yn Samaria; un flynedd a deugain y teyrnasodd efe.

º24 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: ni chiliodd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

º25 Efe a ddug adref derfyn Israel o’r lle yr eir i mewn i Hamath hyd fôr y rhos, yn ôl gair ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Jona mab Amittai y proffwyd, yr hwn oedd o GathHeffer.

º26 Canys yr ARGLWYDD a welodd gystudd Israel yn flin iawn: canys nid oedd neb gwarchaeëdig, na neb wedi ei adael, na chynorthwyydd i Israel.

º27 Ac ni lefarasai yr ARGLWYDD y dileai efe enw Israel oddi tan y nefoedd: ond efe a’u gwaredodd hwynt trwy law Jeroboam mab Joas.

º28 A’r rhan arall o hanes Jeroboam, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe, a’i gadernid
ef, y modd y rhyfelodd efe, a’r modd y dug efe adref Damascus, a Hamath, i Jwda yn Israel, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici hrenhinoedd Israel?

º29 A Jeroboam a hunodd gyda’i dadau, sef gyda brenhinoedd Israel; a Sachareia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 15
º1
"YN y seithfed flwyddyn ar hugain i * Jeroboam brenin Israel y teyrnasodd Asareia mab Amaseia brenin Jwda.

º2 Mab un flwydd ar bymtheg ydoedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam oedd Jecholeia o Jerwsalem.

º3 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef:

º4 Ond na thynnwyd ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.

º5 A’r ARGLWYDD a drawodd y brenin, fel y bu efe wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth, ac y trigodd mewn tŷ o’r neilitu: a Jotham mab y brenin oedd ar y tŷ yn barnu pobl y wlad.

º6 A’r rhan arall o hanes Asareia, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Jwda?

º7 Ac Asareia a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef gyda’i dadau yn ninas Dafydd; a Jotham ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

º8 Yn y drydedd flwyddyn ar bym­theg ar hugain i Asareia brenin Jwda, y teyrnasodd Sachareia mab Jeroboam ar Israel yn Samaria chwe mis.

º9 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, megis y gwnaethai ei dadau: ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

º10 A Salum mab Jabes a fradfwriadodd yn ei erbyn ef, ac a’i trawodd ef gerbron y bobl, ac a’i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn eiIe ef.

º11 A’r rhan arall o hanes Sachareia, wele, y mae yn ysgrifenedig yn llyfc cronici brenhinoedd Israel.

º12 Dyma air yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe wrth Jehu, gan ddywedyd, Meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfa Israel.
Ac felly y bu.

º13. Salum mab Jabes a ddechreuodd deyrnasu yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Usseia, brenin Jwda, a mis cyfan y teyrnasodd efe yn Samaria.

º14 Canys Menahem mab Gadi a aeth i fyny o Tirsa, ac a ddaeth i Samaria, ac a drawodd Salum mab Jabes yn Samaria, ac a’i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei le ef,

º15 A’r rhan arall o hanes Salum, a’i fradwriaeth ef yr hon a fradfwriadodd efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyft cronici brenhinoedd Israel.

º16 Yna Menahem a drawodd Tiffsa   a’r rhai oll oedd ynddi, a’i therfynau, o Tirsa: oherwydd nad agorasant iddo ef, am hynny y trawodd efe hi; a’i holi wragedd beichiogion a rwygodd efe.

º17 Yn y bedwaredd flwyddyn ar bym­theg ar hugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Menahem mab Gadi ar Israel, a deng mlynedd y teyrnasodd efe yn Samaria.

º18 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: ni throdd efe yn ei holl ddyddiau oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

º19 A Phul brenin Asyria a ddaeth yn erbyn y wlad; a Menahem a roddodd i Pul fil o dalentau arian, fel y byddai ei law gydag ef, i sicrhau y frenhiniaeth yn ei law ef.

º20 A Menahem a gododd yr arian ar Israel, scf ar yr holl rai cedyra o allu, ar bob un ddeg sici a deugain o arian, i’w rhoddi i frenin Asyria; felly brenin Asyria a ddychwelodd, ac nid arhosodd yno yn y wlad.

º21 ! A’r rhan arall o hanes Mcnahem   a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici bren­hinoedd Israel?

º22 A Menahem a hunodd gyda’i dadau, xxx  a Phecaheia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

º23?I Yn y ddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Pecaheia mab Menahem ar Israel yn Samaria, a dwy flynedd y teyrnasodd efe.

º24 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

º25 A Pheca mab Remaleia ei dywysog ‘ ef a fradfwriadodd yn ei erbyn ef, ac a’i trawodd ef yn Samaria, yn llys y brenin, gydag Argob, ac Arie, a chydag ef ddeng ŵr a deugain o feibion y Gileadiaid: ac efe a’i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei leef.

º26 A’r rhan arall o hanes Pecaheia, a’r hyn oll a wnaeth efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Israel.

º27 Yn y ddeuddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda y teyrnas­odd Peca mab Remaleia ar Israel yn Samaria, ac ugain mlynedd y teyrnasodd efe.

º28 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

º29 Yn nyddiau Peca brenin Israel y daeth Tiglathpileser brenin Asyria, ac a enillodd Ijon, ac Abel-bethmaacha, a Janoa, Cedes hefyd, a Hasor, a Gilead, a Galilea, holl wlad Nafftali, ac a tt caethgludodd hwynt i Asyria.

º30 A Hosea mab Ela a fradfwriadodd fradwriaeth yn erbyn Peca mab Remaleia;, ac a’i trawodd ef, ac a’i lladdodd, ac a deyrnasodd yn ei le ef, yn yr ugeinfed fiwyddyn i Jotham mab Usseia.

º31 A’r rhan arall o hanes Peca, a’r hyn oll a wnaeth efe, wele hwynt yn ysgrifen­edig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.

º32 Yn yr ail flwyddyn i Peca mab Remaleia brenin Israel y dechreuodd Jotham mab Usseia brenin Jwda deyrnasu.

º33 Mab pum mlwydd ar hugain oedd

efe pan ddechreuodd deyrnasu, ac un flwydd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jerwsa, merch Sadoc.

º34 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD; yn ôl yr hyn oll a’r a wnaethai Usseia ei dad y gwnaeth efe.

º35 Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd. Efe a adeiladodd y porth uchaf i dŷ yr AR­GLWYDD.

º36 y A’r rhan arall o hanes Jotham, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

º37 Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr ARGLWYDD anfon yn erbyn Jwda, Resin brenin Syria, a Pheca mab Remaleia.

º38 A Jotham a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad, ac Ahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 16
º1
YN y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg i Peca mab Remaleia y dechreuodd Ahas mab Jotham brenin Jwda deyrnasu.

º2 Mab ugain mlwydd oedd Ahas pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, ac ni wnaeth efe yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei DDUW, fel Dafydd ei dad:

º3 Eithr rhodiodd yn ffordd brenhin­oedd Israel, ac a dynnodd ei fab trwy’r tân, yn ôl ffieidd-dra’r cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel.

º4 Ac efe a aberthodd ac a arogldarthodd yn yr uchelfeydd, ac ar y brymau, a than bob pren gwyrddlas.

º5 Yna y daeth Resin brenin Syria, a Pheca mab Remaleia brenin Israel, i fyny i Jerwsalem i ryfel; a hwy a warchaeasant ar Ahas; ond ni allasant hwy ei orchfygu ef.

º6 Yn yr amser hwnnw Resin brenin
Syria a ddug drachefn Elath at Syria, ac a yrrodd yr Iddewon o Elath: a’r Syriaid a ddaethant i Elath, ac a breswyliasant yno hyd y dydd hwn.

º7 Yna Ahas a anfonodd genhadau at Tiglathpileser brenin Asyria, gan ddywedyd, Dy was di a’th fab di ydwyf fi: tyred i fyny, a gwared fi o law brenin Syria, ac o law brenin Israel, y rhai sydd yn cyfodi yn fy erbyn i.

º8 Ac Ahas a gymerth yr arian a’r aur a gafwyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhrysorau tŷ y brenin, ac a’u hanfonodd yn anrheg i frenin Asyria.

º9 A brenin Asyria a wrandawodd arno ef; a brenin Asyria a ddaeth i fyny i Damascus, ac a’i henillodd hi, ac a gaethgludodd ei thrigolion i Cir, ac a laddodd Resin.

º10 A’r brenin Ahas a aeth i Damascus i gyfarfod Tiglathpileser brenin Asyria, ac a welodd allor oedd yn Damascus: a’r brenin Ahas a anfonodd at Ureia yr offeiriad agwedd yr allor a’i phortreiad, yn ôl ei holl wneuthuriad.

º11 Ac Ureia yr offeiriad a adeiladodd allor yn ôl yr hyn oll a anfonasai y brenin Ahas o Damascus: felly y gwnaeth Ureia yr offeiriad, erbyn dyfod y brenin Ahas o Damascus.

º12 A phan ddaeth y brenin o Damascus, y brenin a ganfu yr allor: a’r brenin a nesaodd at yr allor, ac a offrymodd arni hi.

º13 Ac efe a losgodd ei boethoffrwm, a’i fwyd-offrwm, ac a dywalltodd ei ddiod-offrwm, ac a daenellodd waed ei offrymau hedd ar yr allor.

º14 A’r allor bres, yr hon oedd gerbron yr ARGLWYDD, a dynnodd efe ymaith o daloen y tŷ, oddi rhwng yr allor a thŷ yr ARGLWYDD, ac a’i rhoddes hi o du gogledd yr allor.

º15 A’r brenin Ahas a orchmynnodd i Ureia yr offeiriad gan ddywedyd, Llosg ar yr allor fawr y poethoffrwm boreol, a’r bwyd-offrwm prynhawnol, poethoffrwm y brenin hefyd, a’i fwyd-offrwm ef, a phoethoffrwm holl bobl y wlad, a’u bwyd-offrwm hwynt, a’u diodydd-offrwm hwynt; a holl waed y poethoffrwm, a holl
waed yr aberth, a’ daenelli di arni hi; a bydded yr allor bres i mi i ymofyn.

º16 Ac Ureia yr offeiriad a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai y brenin Ahas.

I7 A’r brenin Ahas a dorrodd ddaliadau yr ystolion, ac a dynnodd ymaith y noe oddi arnynt hwy, ac a ddisgynnodd y môr oddi ar yr ychen pres oedd tano, ac a’i rhoddodd ar balmant cerrig.

º18 A gorchudd y Saboth yr hwn a adeiladasant hwy yn tŷ, a dyfodfa’r brenin oddi allan, a drodd efe oddi wrth dŷ yr ARGLWYDD, o achos brenin Asyria.

º19 A’r rhan arall o hanes Abas, yr hyn a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

º20 Ac Ahas a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd; a Heseceia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 17
º1
YN y ddeuddegfed flwyddyn i Ahas brenin Jwda, y teyrnasodd Hosea mab Ela yn Samaria ar Israel; naw mlynedd y teyrnasodd efe.

º2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, eto nid fel brenhinoedd Israel y rhai a fuasai o’i flaen ef.

º3 A Salmaneser brenin Asyria a ddaeth i fyny yn ei erbyn ef, a Hosea a aeth yn was iddo ef, ac a ddug iddo anrhegion.

º4 A brenin Asyria a gafodd fradwriaeth yn Hosea: canys efe a ddanfonasai genhadau at So brenin yr Aifft, ac ni ddanfonasai anrheg i frenin Asyria, fel y byddai efe arferol bob blwyddyn: am hynny brenin Asyria a gaeodd arno ef, ac a’i rhwymodd ef mewn carchardy.

º5 Yna brenin Asyria a aeth i fyny trwy’r holl wlad, ac a aeth i fyny i Samaria, ac a warchaeodd arni hi dair blynedd.

º6 Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, yr enillodd brenin Asyria Samaria, ac y caethgludodd efe Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid.

º7 Felly y bu, am i feibion Israel bechu yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, yr hwn a’u dygasai hwynt i fyny o wlad yr Aifft, oddi tan law Pharo brenin yr Aifft, ac am iddynt ofni duwiau dieithr,

º8 A rhodio yn neddfau y cenhedloedd, y rhai a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel, ac yn y deddfau a wnaethai brenhinoedd Israel.

º9 A meibion Israel a wnaethant yn ddirgcl bethau nid oedd uniawn yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, ac a adeil­adasant iddynt uchelfeydd yn eu holl ddinasoedd, o dwr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog.

º10 Gosodasant hefyd iddynt ddelwau a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren irias:

º11 Ac a arogldarthasant yno yn yr holl uchelfeydd, fel y cenhedloedd y rhai a gaethgludasai yr ARGLWYDD o’u blaen hwynt; a gwnaethant bethau drygionus i ddigio’r ARGLWYDD.

º12 A hwy a wasanaethasant eilunod, am y rhai y dywedasai yr ARGLWYDD wrthynt, Na wnewch y peth hyn.

º13 Er i’r ARGLWYDD dystiolaethu yn erbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, trwy law yr holl broffwydi, a phob gweledydd, gan ddywedyd, Dychwelwch o’ch ffyrdd drygionus, a chedwch fy ngorchmynion, a’m deddfau, yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnais i’ch tadau, a’r hon a anfonais atoch trwy law fy ngweision y proffwydi.

º14 Eto ni wrandawsant, eithr caledasant eu gwarrau fel gwarrau eu tadau, y rhai ni chredasant yn yr ARGLWYDD eu Duw.

º15 A hwy a ddirmygasant ei ddeddfau ef, a’i gyfamod yr hwn a wnaethai efe a’u tadau hwynt, a’i dystiolaethau ef y rhai a dystiolaethodd efe i’w herbyn; a rhodiasant ar ôl oferedd, ac a aethant yn ofer: aethant hefyd ar ôl y cenhedloedd y rhai oedd o’u hamgylch, am y rhai y gorchmynasai yr ARGLWYDD iddynt, na wnelent fel hwynt.

º16 A hwy a adawsant holl orchmynion yr ARGLWYDD eu Duw, ac a wnaethant iddynt ddelwau tawdd, nid amgen dau

to: gwnaethant hefyd lwyn   ac ymgrymasant i holl lu y nefoedd, a gwasanaethasant Baal.

º17 A hwy a dynasant eu meibion a’u merched trwy’r tân, ac a arferasant ddewiniaeth, a swynion, ac a ymwerth
asant i wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i’w ddigio ef.

º18 Am hynny yr ARGLWYDD a ddigiodd yn ddirfawr wrth Israel, ac a’u bwriodd hwynt allan o’i olwg: ni adawyd ond llwyth Jwda yn unig.

º19 Ni chadwodd Jwda chwaith orchmynion yr ARGLWYDD eu Duw, eithr rhodiasant yn neddfau Israel y rhai a wnaethent hwy.

º20 A’r ARGLWYDD a ddiystyrodd holl had Israel, ac a’u cystuddiodd hwynt, ac a’u rhoddodd hwynt yn llaw anrheithwyr, nes iddo eu bwrw allan o’i olwg.

º21 Canys efe a rwygodd Israel oddi with dŷ Dafydd; a hwy a wnaethant Jeroboam mab Nebat yn frenin: a Jero­boam a yrrodd Israel oddi ar ôl yr AR-6LWYDD, ac a wnaeth iddynt bechu pechod mawr.

º22 Canys meibion Israel a rodiasant yn hell bechodau Jeroboam, y rhai a wnaeth efe, heb gilio oddi wrthynt: ‘ 23 Nes i’r ARGLWYDD fwrw Israel allan ti’i olwg, fel y llefarasai trwy law ei holl weision y proffwydi: ac Israel a gaethgludwyd allan o’i wlad ei hun i Asyria, hyd y dydd hwn.

º24 II A brenin Asyria a ddug bobl o Babilon, ac o Cutha, ac o Afa, o Hamath hefyd, ac o Seffarfaim, ac a’u cyfleodd hwynt yn ninasoedd Samaria, yn lle
meibion Israel. A hwy a feddianasant Samaria, ac a drigasant yn ei dinasoedd hi.

º25 Ac yn nechrau eu trigias hwy yno, nid ofnasant hwy yr ARGLWYDD; am hynny yr ARGLWYDD a anfonodd lewod yn eu plith hwynt, y rhai a taddasant rai ehonynt.

º26 Am hynny y mynegasant i frenin Asyria, gan ddywedyd, Y cenhedloedd y rhai a fiidaist ti, ac a gyfleaist yn flmasoedd Saaiaria, nid adwaenant dde-
fod Duw y wlad: am hynny efe a anfon­odd lewod yn eu mysg hwynt, ac wele, Haddasant hwynt, am na wyddent-ddefod Duw y wlad.

º27 Yna brenin Asyria a orchmynnodd, gan ddywedyd, Dygwch yno un o’r 6fieiriaid a ddygasoch oddi yno, i fyned
ac i drigo yno, ac i ddysgu iddynt ddefod Duw y wlad.

º28 Felly un o’r offeiriaid a ddygasent ‘hwy o Samaria a ddaeth ac a drigodd yn Bethel, ac a ddysgodd iddynt pa fodd yr ofnent yr ARGLWYDD.

º29 Eto pob cenedl oedd yn gwneuthur eu duwiau eu hun, ac yn eu gosod yn nhai yr uchelfeydd a wnaethai y Samariaid, pob cenedl yn eu dinasoedd yr oeddynt yn preswylio ynddynt.

º30  A gwŷr Babilon a wnaethant SuccothBenoth, a gwŷr Cuth a wnaethant Nergar, a gwŷr Hamath a wnaethant Asima,

º31 A’r Afiaid a wnaethant Nibhas a Thartac, a’r Seffarfiaid a losgasant eu
meibion yn tan i Adrammelech ac i Anammelech, duwiau Seffarfaim.

º32 Felly hwy a ofnasant yr ARGLWYDD, ac a wnaethant iddynt rai o’u gwehilion yn offeiriaid yr uchelfeydd, y rhai a
wnaethant aberthau iddynt yn nhai yr uchelfeydd.

º33 Yr ARGLWYDD yr oeddynt hwy yn e   omi, a gwasanaethu yr oeddynt eu duwiau, yn ôl defod y cenhedloedd y rhai a ddygasent oddi yno.

º34 Hyd y dydd hwn y maent hwy yn gwneuthur yn ôl eu hen arferion: nid ‘ydynt yn ofni yr ARGLWYDD, ac nid ydynt yn gwneuthur yn ôl eu deddfau hwynt, nac yn ôl eu harfer, nac yn ôl y gyfraith na’r gorchymyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD i feibion Jacob, yr hwn y gosododd efe ei enw, Israel.

º35 A’r ARGLWYDD a wnaethai gyfamod â hwynt, ac a orchmynasai iddynt, gan ddywedyd, Nac ofnwch dduwiau dieithr, ac nac ymgrymwch iddynt, ac na wasan’aethwch hwynt, ac nac aberthwch iddynt:

º36 Ond yr ARGLWYDD yr hwn a’ch dug chwi i fyny o wlad yr Aifft a nerth mawr, ac a braich estynedig, ef a ofnwch efawi,  ac iddo ef yr ymgryawch, ac iddo ef yr aberthwch.

º37 Y deddfau ‘hefyda a’r barnedigaethau, a’r gyfraithi   ‘t garchynayn, a ysgrifennodd efe i chwi) .(t -gedwch chwi i’w gwneuthur byth; ac liac ofnwch dduwiau dieithr.;

º38 Ac nac anghofiwch y cyfamod a, amodais a chwi, ac nac ofnwch dduwiau dieithr:

º39 Eithr ofnwch yr ARGLWYDD eicfa Duw; ac efe a’ch gwared chwi o law eich holl elynion.

º40 Ond ni wrandawsant hwy, eithr yfi ôl eu hen arfer y gwnaethant hwy.

º41 Felly y cenhedloedd hyn oedd yo ofni’r ARGLWYDD, ac yn gwasanaethu w delwau cerfiedig; eu plant a’u hwyrioa; fcl y gwnaeth eu tadau, y maent hwy yn gwneuthur hyd y dydd hwn.

PENNOD 18
º1
AC yn y drydedd flwyddyn i Hosea mab AA- Ela brenin Israel, y teyrnasodd Heseceia mab Ahas brenin Jwda.

º2 Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth yn frenin, a naw mlynedd at hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Abi, merch Sach-areia.

º3 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hya oll a wnaethai Dafydd ei dad ef.

º4 Efe a dynnodd ymaith yr uchel­feydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni, ac a faluriodd y sarff bres a wnaethai Moses; canys hyd y dyddiau hynny yr oedd meibion Israel yn arogldarthu iddi hi: ac efe a’i galwodd hi Nehustan.

º5 Yn ARGLWYDD DDUW Israel yr ymdiriedodd cfc, ac ar ei ôl ef ni bu ei fath ef ymhlith holl frenhinoedd Jwda, nac ymysg y rhai a fuasai o’i flaen ef.

º6 Canys efe a lynodd wrth yr AR­GLWYDD, ni throdd etc oddi ar ei ôl ef, eithr efe a gadwodd ei orchmymon ef, y rhai a orchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses,

º7 A’r ARGLWYDD fa gydag ef; i ba te
bynnag yr aeth, efe a lwyddodd: ae-efe   wrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria, ac nis gwasanaethodd ef.

º8 Efe a drawodd y Philistiaid hyd Gasa a’i therfynau, o dwr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog.

º9 Ac yn y bedwaredd flwyddyn i’r brenin Heseceia, honno oedd y seithfed flwyddyn i Hosea mab Ela brenin Israel, y daeth Salmaneser brenin Asyria i fyny yn erbyn Samaria, ac a warchaeodd arni hi.

º10 Ac ymhen y tair blynedd yr enillwyd hi; yn y chweched flwyddyn i Heseceia, honno oedd y nawfed flwyddyn i Hosea brenin Israel, yr enillwyd Samaria.

º11 A brenin Asyria a gaethgludodd Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid:

º12 Am na wrandawsent ar lais yr AR-©LWYDD eu Duw, eithr troseddu ei gyfamod ef, a’r hyn oll a orchmynasai Moses gwas yr ARGLWYDD, ac na wrandawent arnynt, ac nas gwnaent hwynt.

º13 Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i’r brenin Heseceia, y daeth Senacherib brenin Asyria i fyny yn erbyn holl ddinasoedd caerog Jwda, ac a’u henitlodd hwynt.

º14 A Heseceia brenin Jwda a anfonodd at frenin Asyria i Lachis, gan ddywedyd, Pechais, dychwel oddi wrthyf: dygaf yr hyn a roddych arnaf. A brenin Asyria a osododd ar Heseceia brenin Jwda, dri chant o dalentau arian, a deg ar hugain o dalentau aur.

º15 A Heseceia a roddodd iddo yr lolt arian a gafwyd yn nhŷ yr ARGLWYDP, ac yn nhrysorau tŷ y brenin.

º16 Yn yr amser hwnnw y torrodd Heseceia yr aur oddi ar ddrysau teml yr ARGLWYDD, ac oddi ar y colomau a orchuddiasai Heseceia brenin Jwda, ac a’u rhoddes hwynt i frenin Asyria.

º17 A brenin Asyria a anfonodd Tartan, a Rabsaris, a Rabsace, o Lachis, at y brenin Heseceia, a llu dh-fawr yn erbyn Jerwsalem. A hwy a aethant i fyny, ac a ddaethant i Jerwsalem. Ac wedi eu dyfod i fyny, hwy a ddaethant ac a

safasant wrth bistyll y llyn uchaf, yr hwn sydd ym mhriffordd maes y pannwr.

º18 Ac wedi iddynt alw ar y brenin, daeth allan atynt hwy Eliacim mab Hiloeia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur.

º19 A Rabsace a ddywedodd wrthynt hwy, Dywedwch yn awr wrth Heseceia, Fel hyn y dywedodd y brenin mawr, brenin Asyria, Pa hyder yw hwn yr wyt yn ymddiried ynddo?

º20 Dywedyd yr ydwyt, (ond nid ydynt ond geiriau ofer,) Y mae gennyf gyngor a nerth i ryfel. Ar bwy y mae dy hyder, pan wrthryfelaist i’m herbyn i?

º21 Wele yn awr, y mae dy hyder ar y ffon gorsen ddrylliedig hon, ar yr Aifrt  * yr hon pwy bynnag a bwyso arni, hi a â i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi hi: felly y mae Pharo brenin yr Aifft i bawb a hyderant arno ef.

º23 Ac os dywedwch wrthyf, Yn yr ARGLWYDD ein Duw yr ydym ni ytt ymddiried; onid efe yw yr hwn y tynnodd Heseceia ymaith ei uchelfeydd, a’r allorau, ac y dywedodd wrth Jwda ac wrth Jerwsalem, O flaen yr allor hon yr ymgrymwch chwi yn Jerwsalem?

º23 Yn awr gan hynny dod wystlon, atolwg, i’m harglwydd, brenin Asyria, a rhoddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt hwy.

º24 A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o’r gweision lleiaf i’m har­glwydd, ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau a gwŷr meirch?

º25 Ai heb yr ARGLWYDD y deuthum i fyny yn erbyn y lle hwn, i’w ddinistrio ef? Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, DOS i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi.

º26 Yna y dywedodd Eliacim mab Hiloeia, a Sebna, a Joa, wrth Rabsace, Llefara, atolwg, wrth dy weision yn Syriaeg, canys yr ydym ni yn ei deall hi; ac nac ymddiddan â ni yn iaith yr Iddewon, lle y clywo y bobl sydd ar y mur.

º27 Ond Rabsace a ddywedodd wrthynt, Ai at dy feistr di, ac atat tithau, yr anfonodd fy meistr fi, i lefaru y geiriau hyn? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur, fel y bwytaont eu torn eu hun, ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi, yr anfonodd fi?

º28 Felly Rabsace a safodd, ac a waeddodd a llef uchel yn iaith yr Iddewon, llefarodd hefyd, a dywedodd, Gwrandewch air y brenin mawr, brenin Asyria.

º29 Fel hyn y dywedodd y brenin, Na thwylled Heseceia chwi: canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi o’m llaw i.

º30 Ac na phared Heseceia i chwi ymddiried yn yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD gan waredu a’n gwared ni, ac ni roddir y ddinas hon yn llaw brenin Asyria.

º31 Na wrandewch ar Heseceia: canys fel hyn y dywed brenin Asyria, Gwnewch fwynder a mi, a deuwch allan ataf fi, ac yna bwytewch bob un o’i winwydden ei hun, a phob un o’i ffigysbren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun:

º32 Nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd, gwlad olew olewydd a mêl, fel y bydd-och fyw, ac na byddoch feirw: ac na wrandewch ar Heseceia, pan hudo efe chwi, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a’n gwared ni.

º33 A lwyr waredodd yr un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria?

º34 Mae duwiau Hamath ac Arpad? mae duwiau Seffarfaim, Hena, ac Ifa? a achubasant hwy Samaria o’m llaw’i?

º35 Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd a waredasant eu gwlad o’m llaw i, fel y gwaredai yr ARGLWYDD Jerwsalem o’m llaw i?

º36 Eithr y bobl a dawsant, ac nid atebasant air iddo: canys gorchymyn y brenin oedd hyn, gan ddywedyd, Nac atebwch ef.

º37 Yna y daeth Eliacim mab Hiloeia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrif­ennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur, at Heseceia, a’u dillad yn rhwygedig, ac a fynegasant iddo eiriau Rabsace.

PENNOD 19
º1
A phan glybu y brenin Heseceia hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwisgodd a sachliain, ac a aeth i mewn i dŷ yr ARGLWYDD.

º2 Ac efe a anfonodd Eliacim, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a henuriaid yr offeinaid, wedi ymwisgo mewn sachliain, at Eseia y proffwyd mab Amos.

º3 A hwy a ddywedasant wrtho ef. Fel hyn y dywed Heseceia, Diwrnod cyfyng-dra, a cherydd, a chabledd yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor.

º4 Fe allai y gwrendy yr ARGLWYDD dy DDUW holl eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr ef i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr ARGLWYDD dy DDUW: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i’w gael.

º5 Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia.

º6 Ac Eseia a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi.

º7 Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw swn, ac a ddychwel i’w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.

º8 Yna y dychwelodd Rabsace, ac a gafodd frenin Asyria yn ymladd yn erbyn Libna: canys efe a glywsai fyned ohono ef ymaith o Lachis.

º9 A phan glybu efe am Tirhaca brenin Ethiopia, gan ddywedyd, Wele, efe a ddaeth allan i ryfela a thi; efe a anfonodd genhadau drachefn at Heseceia, gan ddy­wedyd,

º10 Fel hyn y lleferwch wrth Heseceia brenin Jwda, gan ddywedyd, Na thwylled dy DDUW di, yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, Ni roddir Jerw­salem yn llaw brenin A;, yna.

º11 Wele, ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria 1’r holl wiedyddy gan eu difrodi hwynt: ac a waredir di?

º12 A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i’m tadau i eu dinistrio; sef Gosan, a Haran, a Rcseff, a meibion Eden y rhai oedd o fewn Thelasar?

º13 Mae brenin Hamath, a brenin Arpad, a brenin dinas Seffarfaim, Hena, ac Ifa?

º14 y A Heseceia a gymerodd y llythyrau o law y cenhadau, ac a’u darilenodd hwy: a Heseceia a aeth i fyny i dŷ yr ARGLWYDD, ac a’u lledodd hwynt gerbron yr ARGLWYDD.

º15 A Heseceia a weddïodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid, tydi sydd DDUW, tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear; ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear.

º16 Gogwydda, ARGLWYDD, dy glust, a gwrando: agor dy lygaid, ARGLWYDD, ac edrych; a gwrando eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw.

º17 Gwir yw, O ARGLWYDD, i frenhinoedd Asyria ddifa’r holl genhedloedd a’u tir,

º18 A rhoddi eu duwiau hwynt yn tân: canys nid oeddynt hwy dduwiau, eithr gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am hynny y dinistriasant hwynt.

º19 Yn awr gan hynny, O ARGLWYDO ein Duw ni, achub ni, atolwg, o’i law ef, fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai tydi yw yr ARGLWYDD DDUW, tydi yn unig.

º20 Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Gwrandewais ar yr hyn a weddïaist arnaf fi yn erbyn Senacherib brenin Assyria.

º21 Dyma y gair a lefarodd yr AR­GLWYDD yn ei erbyn ef, Y forwyn merch Seion a’th ddirmygodd di, ac a’th wat-warodd; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl di.

º22 Pwy a ddifenwaist ti, ac a geblaist? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist ti dy lef, ac y codaist yn uchel dy lygaid? yn erhya Sanct Israel.



 

º23 Trwy law dy genhadau y ceblaist ti yr ARGLWYDD, ac y dywedaist, A lliaws fy ngherbydau y dringais i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd ef, a’i ddewis ffynidwydd ef, af hefyd i’w lety eithaf, ac i goedwig ei ddoldir ef.

º24 Myfi a gloddiais; ac a yfais ddyfroedd dieithr, ac a gwadnau fy nhraed y dihysbyddais holl afonydd y gwarchae-
edig.

º25 Oni chlywaist ti ddarparu ohonof fi hyn er ys talm, ac i mi lunio hynny er y dyddiau gynt? yn awr y dygais hynny i Ben, fel y byddit i ddinistrio dinasoedd caerog yn gameddau dinistriol.

º26 Am hynny eu trigolion yn gwtoglaw a ddychrynwyd, ac a gywilyddiwyd: oeddynt megis gwellt y maes, fel gwyrddlysiau, neu laswelltyn ar bennau tai, neu ŷd wedi deifio cyn aeddfedu.

º27 Dy eisteddiad hefyd, a’th fynediad allan; a’th ddyfodiad i mewn, a adnabum i, a’th gynddeiriogrwydd i’m herbyn.

º28 Am i ti ymgynddeiriogi i’m herbyn, ac i’th ddadwrdd ddyfod i fyny i’m clustiau i; am hynny y gosodaf fy mach yn dy ffroen, a’m ffrwyn yn dy weflau, ac a’th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost.

º29 A hyn fydd yn argoel i ti, O Heseceia: Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun, ac yn yr ail flwyddyn yr atwf; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch, a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwyt-ewch eu ffrwyth hwynt.

º30 A’r gweddill o  dŷ Jwda yr hwn a adewir, a wreiddia eilwaith i waered, ac a ddwg ffrwyth i fyny.

º31 Canys gweddill a â allan o Jerwsalem, a’r rhai dihangol o fynydd Seionr sel ARGLWYDD y lluoedd a wna hyn.

º32 Am hynny fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD am frenin Asyria, Ni ddaw efe i’r ddinas hon, ac nid ergydia saeth yno, hefyd ni ddaw efe o’i blaen hi a tharian, ac ni fwrw glawdd i’w herbyn hi.

º33 Ar hyd yr un ffordd ag y daeth, y dychwel efe, ac ni ddaw i mewn i’r ddinas hon, medd yr ARGLWYDD.

º34 Canys mi a ddiffynnafy ddinas hon, i’w chadw hi er fy mwyn fy bun, ac ??? fflwyn Dafydd fy ngwas.

º35 A’r noson honno yr aeth angel yr ARGLWYDD, ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid bump a phedwar ugain a chant o filoedd: a phan gyfodasant yn fore drannoeth, wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon.

º36 Felly Senacherib brenin Asyria a ysiadawodd, ac a aeth ymaith, ac a ddychwelodd, ac a drigodd yn Ninefe.

º37 A bu, fel yr oedd efe yn addoli yn nhŷ Nisroch ei dduw, i Adrammelech a Sareser ei feibion ei ladd ef â’r cleddyf  ; ai hwy a ddianghasant i wlad Armenia: at Hsarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 20
º1
 Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw: ac Eseia y proffwyd mab Amos a ddaeth ato, ac a ddywedodd wrtho. Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Trefna dy dŷ, canys marw fyddi, ac ni byddi byw.

º2 Yna efe a drodd ei wyneb at y pared, ac a weddïodd at yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

º3 Atolwg, ARGLWYDD, cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd, ac a chalon berffaith, a gwneuthur ohonof yr hyn oedd dda yn dy olwg di. A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr.

º4 A chyn myned o Eseia allan i’r cyn-tedd canol, daeth air yr ARGLWYDD ato, gan ddywedyd,

º5 Dychwel, a dywed with Heseceia blaenor fy mhobl i. Fel hyn y dywed AR­GLWYDD DDUW Dafydd dy dad, Clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau; wele fi yn dy iacháu di, y trydydd dydd yr ei di i fyny i df yr ARGLWYDD.

º6 A mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng rolynedd, ac a’th waredaf di a’r ddinas hon o law brenin Asyria: diffynnaf hefyd y ddinas hon er fy mwyn fy bun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.

º7 A dywedodd Eseia, Cymerwch swp’ o ffigys. a hwy a gymerasant, ac a’i gosodasant ar y cornwyd, ac efe a aeth yn iach.

 

º8 A Heseceia a ddywedodd with Eseia, Pa arwydd fydd yr iacha yr ARGLWYDD fi, ac yr af fi i fyny i dŷ yr ARGLWYDD y trydydd dydd?

º9 Ac Eseia a ddywedodd, Hyn fydd i ti yn argoel oddi wrth yr ARGLWYDD, y gwna yr ARGLWYDD y gair a lefarodd efe: a â y cysgod ddeg o raddau ymlaen, neu a ddychwel efe ddeg o raddau yn ôl?

º10 A Heseceia a ddywedodd, Hawdd yw i’r cysgod ogwyddo ddeg o raddau: nid felly, ond dychweled y cysgod yn ei ôl ddeg o raddau.

º11 Ac Eseia y proffwyd a lefodd ar yr ARGLWYDD: ac efe a drodd y cysgod ar hyd y graddau, ar hyd y rhai y disgynasai efe yn neial Ahas, ddeg o raddau yn ei ôl.

º12 Yn yr amser hwnnw yr anfonodd Berodach-Baladan, mab Baladan brenhi Babilon, lythyrau ac anrheg at Heseceia: canys efe a glywsai fod Heseceia yn glaf.

º13 A Heseceia a wrandawodd arnynt, ac a ddangosodd iddynt holl dy ei drysor, yr arian, a’r aur, a’r peraroglau, a’r olew gorau, a holl dy ei arfau, a’r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef: nid oedd dim yn ei dy ef, nac yn ei holl gyfoeth ef, a’r nas dangosodd Heseceia iddynt.

º14 Yna Eseia y proffwyd a ddaeth at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat ti? A dywedodd Heseceia, O wlad bell y daethant hwy, sef o Babilon.

º15 Yntau a ddywedodd, Beth a welsant hwy yn dy dŷ di? A dywedodd Heseceia, Yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant hwy: nid oes dim yn fy nhrysorau i nas dangosais iddynt hwy.

º16 Ac Eseia a ddywedodd wrth Hesec­eia, Gwrando air yr ARGLWYDD.

º17 Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddyger i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a’r hyn a gynilodd dy dadau hyd y dydd hwn: ni adewir dim, medd yr ARGLWYDD.

º18 Cymerant hefyd o’th feibion di, y rhai a ddaw allan ohonot, y rhai a gen-hedii di, a hwy a fyddant yn ystafellyddion yn llys brenin Babilon.

º19 Yna Heseceia a ddywedodd wrth Eseia, Da yw gair yr ARGLWYDD, yr hwn a leferaist. Dywedodd hefyd, Onid da os bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i?

º20 A’r rhan arall o hanes Heseceia, all holl rym ef, ac fel y gwnaeth efe y ilyn, a’r pistyll, ac y dug efe y dyfroedd i’r ddinas, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

º21 A Heseceia a hunodd gyda’i dadau: a Manasse ei fab a deyrnasodd yn-ei te ef.

PENNOD 21
º1
MAB -deuddeng mlwydd oedd Man­asse pan ddechreuodd efe deyraasu, a phymtheng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Heffsiba. a Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl ffieidd-tfea’r cenhedloedd a fwriodd yr AR­GLWYDD allan o flaen meibion Israel.

º3 Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd a ddinistriasai Heseceia ei dad ef; ac a gyfododd allorau i Baal, ac a wnaeth lwyn, fel y gwnaethai Ahab brenin Israel, ac a addolodd holl lu’r nefoedd, ac a’u gwasanaethodd hwynt.

º4 Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr ARGLWYDD, am yr hwn y dywedasai yr ARGLWYDD, Yn Jerwsalem y gosodaf fy enw.

º5 Ac efe a adeiladodd allorau i holl la’r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr ARGLWYDD.

º6 Ac efe a dynnodd ei fab trwy dan, ac a arferodd hudoliaeth, a brudiau, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i’w ddigio ef.

º7 Ac efe a osododd ddelw gerfiedig y llwyn a wnaethai efe, yn y tŷ am yr hwn y dywedasai yr ARGLWYBD wrth Dafydd, ac wrth Solomon ei fab, Yn y tŷ hwn, ac yn Jerwsalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodaf fi fy eaw yn dragywydd: ‘l MliAiwm





º8 Ac ni symudaf mwyach droed Israel o’r wlad a roddais i’w tadau hwynt: yn unig os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt, ac yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd fy ngwas Moses iddynt.

º9 Ond ni wrandawsant hwy: a Manasse a’u cyfeiliornodd hwynt i wneuthur yn waeth na’r cenhedloedd a ddifethasai yr ARGLWYDD o flaen meibion Israel.

º10 A llefarodd yr ARGLWYDD trwy law ei weision y proffwydi, gan ddywedyd,

º11 Oherwydd i Manasse brenin Jwda wneuthur y ffieidd-dra hyn, a gwneuthur yn waeth na’r hyn oll a wnaethai yr Amoriaid a fu o’i flaen ef, a pheri i Jwda bechu trwy ei eilunod:

º12 Oblegid hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Wele fi yn dwyn drwg ar Jerwsalem a Jwda, fel y merwino dwy glust y sawl a’i clywant.

º13 A mi a estynnaf linyn mesur Sami aria ar Jerwsalem, a phwys tŷ Ahab: golchaf hefyd Jerwsalem fel y gylch un gwpan, yr hwn pan olcho, efe a’i try ar ei wyneb.

º14 A mi a wrthodaf weddill fy etifeddiaeth, ac a’u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, a hwy a fyddant yn anrhaith ac yn ysbail i’w holl elynion:

º15 Am iddynt wneuthur yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i, a’u bod yn fy nigio i, er y dydd y daeth eu tadau hwynt allan o’r Aifft, hyd y dydd hwn.

º16 Manasse hefyd a dywalltodd lawer iawn o waed gwirion, hyd oni lanwodd efe Jerwsalem o ben bwygilydd; heblaw ei bechod trwy yr hwn y gwnaeth efe i Jwda bechu, gan wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

º17 A’r rhan arall o hanes Manasse, a’r hyn a wnaeth efe, a’i bechod a bechodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrif-enedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

º18 A Manasse a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yng ngardd ei dy ei hun, sef yng ngardd Ussa; ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

º19 Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerw­salem: ac enw ei fam ef oedd Mesul-emeth, merch Harus o Jotba.

 
º20 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaethai Manasse ei dad.

º21 Ac efe a rodiodd yn yr holl ffyrdd y rhodiasai ei dad ynddynt, ac a wasanaethodd yr eilunod a wasanaethasai ei dad, ac ‘ a ymgrymodd iddynt:

º22 Ac efe a wrthododd ARGLWYDD DDUW ei dadau, ac ni rodiodd yn ffordd yr ARGLWYDD.

º23 A gweision Amon a fradfwriadasant yn ei erbyn ef, ac a laddasant y brenin yn ei dy ei hun.

º24 A phobl y wlad a laddodd yr holl rai a fradfwriadasent yn erbyn y brenin Amon: a phobl y wlad a osodasant Joseia ei fab ef yn frenin yn ei le ef.

º25 A’r rhan arall o hanes Amon, yr hyn a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrif-enedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

º26 A chladdwyd ef yn ei feddrod yng ngardd Ussa; a Joseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 22
º1
MAB wyth mlwydd oedd Joseia pan aeth efe yn frenin, ac un flynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jedida, merch Adaia o Boscath.

º2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd’ yn holl ffyrdd Dafydd ei dad, ac ni throdd ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy.

º3 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia, y brenin a anfonodd Saffan, mab Asaleia, mab Mesulam, yr ysgrifennydd, i dŷ yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

º4 DOS i fyny at Hiloeia yr archoffeiriad, fel y cyfrifo efe yr arian a dducpwyd i dŷ yr ARGLWYDD, y rhai a gasglodd ceid-waid y drws gan y bobl:

º5 A rhoddant hwy yn llaw gweithwyr y gwaith, y rhai sydd olygwyr ar.dy yr ARGLWYDD; a rhoddant hwy i’r rhai sydd yn gwneuthur y gwaith sydd yn nhŷ yr ARGLWYDD, i gyweirio agennau y tŷ, i

º6 I’r seiri coed, ac i’r adeiladwyr, ac i’r ‘. seiri maen, ac i brynu coed a cherrig nadd, i adgyweirio’r tŷ.

º7 Eto ni chyfrifwyd a hwynt am yr arian a roddwyd yn eu llaw hwynt, am eu bod hwy yn gwneuthur yn ffyddlon.

º8 A Hiloeia yr archoffeiriad a ddywedodd wrth Saffan yr ysgrifennydd, Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ yr AR­GLWYDD: a Hiloeia a roddodd y llyfr at Saffan, ac efe a’i darllenodd ef.

º9 A Saffan yr ysgrifennydd a ddaeth at y brenin, ac a adroddodd y peth i’r brenin, ac a ddywedodd, Dy weision di a gasglasant yr arian a gafwyd yn tŷ, ac a’i rhoddasant yn llaw gweithwyr y gwaith, y rhai sydd olygwyr ar dŷ yr ARGLWYDD.
 

º10 A Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd’ i’r brenin, gan ddywedyd, Hiloeia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr: a Saffan a’i darllenodd ef gerbron y brenin.

º11 A phan glybu y brenin eiriau llyfr y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad.

º12 A’r brenin a orchmynnodd i Hiloeia yr offeiriad, ac i Ahicam mab Saffan, ac i Achbor mab Michaia, ac i Saffan yr ysgrifennydd, ac i Asaheia gwas y brenin, gan ddywedyd,

º13 Ewch, ymofynnwch a’r ARGLWYDD drosof fi, a thros y bobl, a thros holl Jwda, am eiriau y llyfr hwn a gafwyd: canys mawr yw llid yr ARGLWYDD yr hwn a enynnodd i’n herbyn ni, oherwydd na wrandawodd ein tadau ni ar eiriau y llyfr hwn, i wneuthur yn ôl yr hyn oll a ysgrifennwyd o’n plegid ni.

º14 Felly Hiloeia yr offeiriad, ac Ahicam, ac Achbor, a Saffan, ac Asaheia, a aethant at Hulda y broffwydcs, gwraig Salum mab Ticfa, mab Harhas, ceidwad y gwisgoedd: a hi oedd yn trigo yn Jerwsalem yn yr ysgoldy; a hwy a ymddiddanasant â hi.

º15 A hi a ddywedodd wrthynt. Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW Israel, Dywedwch i’r gŵr a’ch anfonodd chwiataffi;

º16 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn, ac ar ei drigolion, sef holl eiriau y llyfr a ddar-llenodd brenin Jwda:

º17 Am iddynt fy ngwrthod i, ac arogldarthu i dduwiau dieithr, i’m digio i a holl waith eu dwylo: am hynny yr ennyn fy llid yn erbyn y lle hwn, ac nis diffoddir ef.

º18 Ond wrth frenin Jwda, yr hwn a’ch anfonodd chwi i ymgynghori a’r ARGLWYDD, fel hyn y dywedwch wrtho ef, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Am y geiriau a glywaist ti;

º19 Oblegid i’th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen yr ARGLWYDD, pan glywaist yr hyn a leferais yn erbyn y lle hwn, ac yn erbyn ei drigolion, y byddent yn anghyfannedd ac yn felltith, ac am rwygo ohonot dy ddillad, ac wylo ger fy mron i; minnau hefyd a wrandewais, medd yr ARGLWYDD.

º20 Oherwydd hynny, wele, mi a’th gymeraf di ymaith at dy dadau, a thi a ddygir i’th fedd mewn heddwch, fel na welo dy lygaid yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon. A hwy a ddygasant air i’r brenin drachefn.

PENNOD 23
º1
A’R brenin a anfonodd, a holl henuriaid i - Jwda a Jerwsalem a ymgynullasant ato ef.
 

º2 A’r brenin a aeth i fyny i dŷ yr AR­GLWYDD, a holl wŷr Jwda, a holl drigolion Jerwsalem gydag ef, yr offeiriaid hefyd, a’r proffwydi, a’r holl bobl o fychan hyd fawr: ac efe a ddarllenodd, lle y clywsant hwy, holl eiriau llyfr y cyfamod, yr hwn a gawsid yn nhŷ yr ARGLWYDD.

º3 Sl A’r brenin a safodd wrth y golofn, ac a wnaeth gyfamod gerbron yr AR­GLWYDD, ar fyned ar ôl yr ARGLWYDD, ac ar gadw ei orchmynion ef, a’i dystiolaethau, a’i ddeddfau, a’i holl galon, ac a’i holl enaid, i gyflawni geiriau y cyfamod hwn, y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr hwn. A’r holl bobl a safodd wrth y cyfamod.

º4 A’r brenin a orchmynnodd i Hiloeia yr archoffeiriad, ‘ae i’r offeiriaid o’r ail radd, ac i geidwaid y drws, ddwyn allatt o deml yr ARGLWYDD yr holl lestri a wnaethid i Baal, ac i’r llwyn, ac i holl ru’r nefoedd: ac efe a’u llosgodd hwynt o’r tu allan i Jerwsalem, ym meysydd Cidron; ac a ddug eu lludw hwynt i Bethel.



 

 

º5 Ac efe a ddiswyddodd yr offeiriaid a osodasai brenhinoedd Jwda i arogldartha yn yr uchelfeydd, yn ninasoedd Jwda, ac yn amgylchoedd Jerwsalem: a’r rhai oedd yn arogldarthu i Baal, i’r haul, ac i’r lleuad, ac i’r planedau, ac i holl lu’r nefoedd.

º6 Efe a ddug allan hefyd y llwyn o dŷ yr ARGLWYDD, i’r tu allan i Jerwsalem, hyd afon Cidron, ac a’i llosgodd ef wrthf afon Cidron, ac a’i malodd yn llwch, ac a daflodd ei lwch ar feddau meibion y bobl.

º7 Ac efe a fwriodd i lawr dai y sodomiaida y rhai oedd wrth dŷ yr ARGLWYDD, lle yr oedd y gwragedd yn gwau cortynnau i’r llwyn.

º8 Ac efe a ddug yr holl offeiriaid allan o ddinasoedd Jwda, ac a halogodd yr uchelfeydd yr oedd yr offeiriaid yn arogldarthu arnynt, o Geba hyd Beer-seba, ac a ddistrywiodd uchelfeydd y pyrth, y rhai oedd wrth ddrws porth Josua tywysog y ddinas, y rhai oedd ar y llaw aswy i bawb a ddelai i borth y ddinas.

º9 Eto offeiriaid yr uchelfeydd ni ddaethant i fyny at allor yr ARGLWYDD i Jerwsalem, ond hwy a fwytasant fara croyw ymysg eu brodyr.

º10 Ac efe a halogodd Toffeth, yr hon sydd yn nyffryn meibion Hinnom, fel na thynnai neb ei fab na’i ferch trwy dan i Moloch.

º11 Ac efe a ddifethodd y meirch a roddasai brenhinoedd Jwda i’r haul, wrth. ddyfodfa tŷ yr ARGLWYDD, wrth ystafell Nathanmelech yr ystafellydd, yr hwnoedd yn y pentref, ac a losgodd gerbydau yr haul yn tân.

º12 Yr allorau hefyd, y rhai oedd ar nen ystafell Ahas, y rhai a wnaethai bren­hinoedd Jwda, a’r allorau a wnaethai Manasse yn nau gynteda tŷ yr ARGLWYDD, a ddistrywiodd y brenin, ac a’u hwripdd hwynt i lawr oddi yno, ac a daflodd en llwch hwynt i afon Cidron.

º13 Y brenin hefyd a ddifwynodd-, yp uchelfeydd oedd ar gyfer Jerwsalem, y; rhai oedd o’r tu deau i fynydd y llyg-redigaeth, y rhai a adeiladasai Solomon, brenin Israel i Astoreth ffieidd-dra’ri Sidoniaid, ac i Cemos nieidd-dra’r Moabiaid, ac i Milcom ffieidd-dra meibion Ammon.

º14 Ac efe a ddrylliodd y delwau, ac a-dorrodd y llwyni, ac a lanwodd eu lle hwynt ag esgyrn dynion.

º15 Yr allor hefyd, yr hon oedd yn Bethel, a’r uchelfa a wnaethai Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ie, yr allor honno a’r uchelfa a ddistrywiodd efe., ac a losgodd yr uchelfa  ac a’i malodd yn llwch, ac a losgodd y llwyn.

º16 A Joseia a edrychodd, ac a ganfit feddau, y rhai oedd yno yn y mynydd, ac a anfonodd, ac a gymerth yr esgyrn o’r beddau, ac a’u llosgodd ar yr allor, ac a’i halogodd hi, yn ôl gair yr ARGLWYDD-yr hwn a gyhoeddasai gŵr Duw, yr hwn a bregethasai y geiriau hyn.

º17 Yna efe a ddywedodd. Pa deiti yw. hwn yr ydwyf fi yn ei weled? A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho, Bedd gŵr: Duw, yr hwn a ddaeth o Jwda, ac a gyhoeddodd y pethau hyn a wnaethost ti i allor Bethel, ydyw. ,

º18 Ac efe a ddywedodd, Gadewch ef yn flonydd: nac ymyrred neb a’i esgyrn ef.. Felly yr achubasant ei esgyrn ef, gydag esgyrn y proffwyd a ddaethai o Samaria,

º19 Joseia hefyd a dynnodd ymaith hol’l dai yr uchelfeydd, y rhai oedd yn ninas­oedd Samaria, y rhai a wnaethai bren­hinoedd Israel i ddigio yr ARGLWYDD, ac a wnaeth iddynt yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethai efe yn Bethel.

º20 Ac efe a laddodd holl offeiriaid yr uchelfeydd oedd yno, ar yr allorau, ac a losgodd esgyrn dynion amynt, ac a ddychwelodd i Jerwsalem. i.

º21 A’r brenin a orchmynaodd Pi                     holl bobl, gan ddywedyd, Gwnewch Basg i’r ARGLWYDD eich Duw, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y cyfamod hwn.

º22 Yn ddiau ni wnaed y fath Basg â hwn, er dyddiau y barnwyr a farnasant Israel, nac yn holl ddyddiau brenhinoedd Israel, na brenhinoedd Jwda.

º23 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia y cynhaliwyd y Pasg hwn i’r ARGLWYDD yn Jerwsalem.

º24 Y swynyddion hefyd, a’r dewiniaid, a’r delwau, a’r eilunod, a’r holl ffieidd-dra, y rhai a welwyd yng ngwlad Jwda, ac yn Jerwsalem, a dynnodd Joseia ymaith: fel y cyflawnai efe eiriau y gyfraith; y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr a gafodd Hiloeia yr offeiriad yn nhŷ yr ARGLWYDD.

º25 Ac ni bu o’i flaen frenin o’i fath ef, yr hwn a drodd at yr ARGLWYDD a’i holl galon, ac a’i holl enaid, ac a’i holl egni, yn ôl cwbl o gyfraith Moses; ac ar ei ôl ef ni chyfododd ei fath ef.

º26 Er hynny ni throdd yr ARGLWYDD oddi wrth lid ei ddigofaint mawr, trwy yr hwn y llidiodd ei ddicllonedd ef yn erbyn Jwda, oherwydd yr holl ddictef trwy yr hwn y digiasai Manasse ef.

º27 A dywedodd yr ARGLWYDD, Jwda hefyd a fwriaf ymaith o’m golwg, fel y bwriais ymaith Israel, ac a wrthodaf y ddinas hon Jerwsalem, yr hon a ddetholais  a’r tŷ am yr hwn y dywedais, Fy enw a fydd yno.

º28 A’r rhan arall o hanes Joseia, a’r hya oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrif­enedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

º29 Sl Yn ei ddyddiau ef y daeth Pharo-Necho brenin yr Aifft i fyny yn erbyrf brenin Asyria, hyd afon Ewffrates: a’r brenin Joseia a aeth i’w gyfarfod ef, a Pharo a’i lladdodd ef ym Megido, pan ei gwelodd ef.

º30 A’i weision a’i dygasant ef mewa cerbyd yn farw o Megido, ac a’i dygasant ef i Jerwsalem, ac a’i claddasant ef yn ei feddrod ei hun. A phobl y wlad a gymerasant Joahas mab Joseia, ac a’i henem" iasant ef, ac a’i hurddasant yn frenin ŷd lle ei dad. ‘

º31 Mab- tair’blwydd ar hugain oedd Joahas pan aeth efe yn frenin, a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam efoedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna. ‘
 

º32 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dadau ef.

º33 A Pharo-Necho a’i rhwymodd ef yn Ribia yng ngwlad Hamath, fel na theyrnasai efe yn Jerwsalem: ac a osododd dreth ar y wlad o gan talent o arian, a thalent o aur.

º34 A Pharo-Necho a osododd Eliacim mab Joseia yn frenin yn lle Joseia ei dad, ac a drodd ei enw ef Joacim: ac efe a ddug ymaith Joahas, ac efe a ddaeth Pr Aifft, ac yno y bu efe farw. ‘

º35 A Joacim a roddodd i Pharo yr arian, a’r aur; ond efe a drethodd y wlad i roddi yr arian wrth orchymyn Pharo: efe a gododd yr arian a’r aur ar bobl y wlad, ar bob un yn ôl ei dreth, i’w rhoddi i Pharo-Necho.

º36 Mab pum mlwydd ar hugain oedd Joacim pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Sebuda, merch Pedaia o Ruma.

º37 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dadau.

PENNOD 24
º1
.YN ei ddyddiau ef y daeth Nebucho-donosor brenin Babilon i fyriy, ‘a Joacim a fu was iddo ef dair blynedd: yna efe a drodd, ac a wrthryfelodd yn ei erbyn ef.

º2 A’r ARGLWYDD a anfonodd yn ei erbyn ef dorfoedd o’r Caldeaid, a thor-foedd o’r Syriaid, a thorfoedd o’r Moab­iaid, a thorfoedd o feibion Ammon, ac a’u hanfonodd hwynt yn erbyn Jwda i’w dinistrio hi, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei weision y proffwydi.

º3 Yn ddiau trwy orchymyn yr ARGLWYDD y bu hyn yn erbyn Jwda, i’w bwrw allan o’i olwg ef, o achos pechodad Manasse, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efej





º4 A hefyd oherwydd y gwaed gwirion a ollyngodd efe: canys efe a lanwodd Jerwsalem o waed gwirion; a hynny ni fynnai yr ARGLWYDD ei faddau.

º5 A’r rhan arall o hanes Joacim, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr croniel brenhinoedd Jwda?

º6 A Joacim a hunodd gyda’i dadau; a Joachin ei fab a deymasodd yn ei le ef.

º7 Ac ni ddaeth brenin yr Aifft mwyach o’i wlad: canys brenin Babilon a ddygasai yr hyn oll a oedd eiddo brenin yr Aifft, o afon yr Aifft hyd afon Ewffrates.

º8 Mab deunaw mlwydd oedd Joachin pan aeth efe yn frenin; a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Nehusta, merch Einathan q Jerwsalem.

º9 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dad.

º10 Yn yr amser hwnnw y daeth gweision Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny yn erbyn Jerwsalem, a gwarchaewyd ar y ddinas.

º11 A Nebuchodonosor brenin Babilon a ddaeth yn erbyn y ddinas, a’i weision ef a warchaeasant arni hi.

º12 A Joachin brenin Jwda a aeth allan at frenin Babilon, efe, a’i fam, a’i weision, a’i dywysogion, a’i ystafellyddion: a brenin Babilon a’i daliodd ef yn yr wythfed flwyddyn o’i deyrnasiad.

º13 Ac efe a ddug oddi yno holl drysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau tŷ y brenin, ac a dorrodd yr holl lestri aur a wnaethai Solomon brenin Israel yn nhemi yr AR­GLWYDD, fel y llefarasai yr ARGLWYDD.

º14 Ac efe a ddug ymaith holl Jerwsalem, yr holl dywysogion hefyd, a’r holl gedyrn nerthol, sef deng mil o gaethion, a phob saer, a gof: ni adawyd ond pobl diodion y wlad yno.

º15 Efe hefyd a ddug ymaith Joachin i Babilon, a mam y brenin, a gwragedd y brenin, a’i ystafellyddion, a chedyrn y wlad a ddug efe i gaethiwed o Jerwsalem i Babilon.

º16 A’r holl wŷr nerthol, sef saith mil; ac o seiri a gofaint, mil, y rhai oll oedd gryfion a rhyfelwyr: hwynt-hwy a ddug brenin Babilon yn gaeth i Babilon.

º17 A brenin Babilon a osododd Mata-neia brawd ei dad ef yn frenin yn ei le ef, ac a drodd ei enw ef yn Sedeceia.

º18 Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna.

º19 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Joachin.

º20 Canys trwy ddigofaint yr AR­GLWYDD y bu hyn yn Jerwsalem ac yn Jwda, nes iddo eu taflu hwynt allan o’i olwg, fod i Sedeceia wrthryfela yn erbyn brenin Babilon.

PENNOD 25
º1
A3 yn y nawfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a’i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a wersyllodd yn ei herbyn hi, a hwy a adeiladasant yn ei herbyn hi wrthglawdd o’i hamgylch hi.

º2 A bu y ddinas yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i’r brenin Sedeceia.

º3 Ac ar y nawfed dydd o’r pedwerydd mis y trymhaodd y newyn yn y ddinas, ac nid oedd bara i bobl y wlad.

º4 A’r ddinas a dorrwyd, a’r holl ryfelwyr a ffoesant liw nos ar hyd ffordd y porth, rhwng y ddau fur, y rhai sydd wrth ardd y brenin, (a’r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch;) a’r brenin a aeth y ffordd tua’r rhos.

º5 A llu’r Caldeaid a erlidiasant ar ôl y brenin, ac a’i daliasant ef yn rhosydd Jericho: a’i holl lu ef a wasgarasid oddi wrtho.

º6 Felly hwy a ddaliasant y brenin, ac a’i dygasant ef i fyny at frenin Babilon i Ribia; ac a roddasant farn yn ei erbyn ef.

º7 Lladdasant feibion Sedeceia hefyd o flaen ei lygaid, ac a dynasant lygaid Sedeceia, ac a’i rhwymasant ef mewn gefynnau pres, ac a’i dygasant ef i Babilon.

º8 Ac yn y pumed mis, ar y seithfed dydd o’r mis, honno oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i’r brenin Nebucho­donosor brenin Babilon, y daeth Nebu-saradan y distain, gwas brenin Babilon, i Jerwsalem.

º9 Ac efe a losgodd dŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin, a holl dai Jerwsalem, a phbb tŷ mawr a losgodd efe â thân.

º10 A holl lu’r Caldeaid, y rhai oedd gyda’r distain, a dorasant i lawr furiau Jerwsalen oddi amgylch.

º11 A Nebusaradan y distain a ddug ymaith y rhan arall o’r bobl a adawsid yn y ddinas, a’r ffoaduriaid a giliasant at frenin Babilon, gyda gweddill y dyrfa.

º12 Ac o diodion y wlad y gadawodd y distain rai, yn winllanwyr, ac yn arddwyr.

º13 Y colofnau pres hefyd, y rhai oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD, a’r ystolion, a’r môr pres, yr hwn oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD, a ddrylliodd y Caldeaid, a hwy a ddygasant eu pres hwynt i Babilon.

º14 Y crochanau hefyd, a’r rhawiau, a’r saltringau, y llwyau, a’r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu a hwynt, a ddygasant hwy ymaith.

º15 Y pedyll tan hefyd, a’r cawgiau, y rhai oedd o aur yn aur, a’r rhai oedd o arian yn arian, a ddug y distain ymaith.

º16 Y ddwy golofn, yr un mor, a’r ystolion a wnaethai Solomon i dŷ yr ARGLWYDD; nid oedd bwys ar bres yr holl lestri hyn.

º17 Tri chufydd ar bymtheg oedd uchder y naill golofn, a chnap pres oedd ami; ac uchder y cnap oedd dri chufydd; plethwaith hefyd a phomgranadau oedd ar y cnap o amgylch, yn bres i gyd: ac felly yr oedd yr ail golofn, a phlethwaith.

º18 A’r distain a gymerth Seraia yr offeiriad pennaf, a Seffancia, yr ail offeiriad, a’r tri oedd yn cadw y drws.

º19 Ac o’r ddinas efe a gymerth ystaf-ellydd, yr hwn oedd ar y rhyfelwyr, a. phumwr o’r rhai oedd yn gweled wyneb y brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas, ac ysgrifennydd tywysog y llu, yr hwn oedd yn byddino pobl y wlad; a thrigeinwr o bobl y wlad, y rhai a gafwyd yn y ddinas.

º20 A Nebusaradan y distain a gymerth y rhai hyn, ac a’u dug at frenin Babilon, i Ribla.

º21 A brenin Babilon a’u trawodd hwynt, ac a’u lladdodd hwynt, yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda o’i wlad ei hun.

º23 Ac am y bobl a adawsid yng ngwlad Jwda, y rhai  adawsai Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a wnaeth yn swyddog arnynt hwy, Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan.

º23 A phan glybu holl dywysogion y lluoedd, hwynt-hwy a’u gwyr, wneuthur o frenin Babilon Gedaleia yn swyddog, hwy a ddaethant at Gedaleia i Mispa/ sef Ismael mab Nethaneia, a Johanan mab Carea, a Seraia mab Tanhumeth y Netoffathiad, a Jaasaneia mab Maach-athiad, hwynt a’u gwŷr.

º24 A Gedaleia a dyngodd wrthynt hwy, ac wrth eu gwyr, ac a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch fod yn weision i’r Caldeaid: trigwch yn y tir, a gwasanaethwch frenin Babilon, a bydd da i chwi.

º25 Ac yn y seithfed mis y daeth Ismael mab Nethaneia, mab Elisama, o’r had brenhinol, a dengwr gydag ef, a hwy a drawsant Gedaleia, fcl y bu efe farw: trawsant hefyd yr Iddewon a’r Caldeaid oedd gydag ef ym Mispa.

º26 A’r holl bobl o fychan hyd fawr, a thywysogion y lluoedd, a gyfodasant ac a ddaethant i’r Aifft: canys yr oeddynt yn ofni’r Caldeaid.

º27 Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethiwed Joachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y seithfed dydd ar hugain o’r mis, Efil-merodach brenin Babilon, yn y flwyddyn yr aeth efe yn frenin, a ddyrchafodd ben Joachin brenin Jwda o’r carchardy.



 
 xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx



 

 

_____________

DIWEDD


Adolygiad diweddaraf / Darrera actualització / Latest update  2007-02-04

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats