Y
Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en
gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620
Holy Bible in Welsh. Online Edition. 2614k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de
Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_cronicl1_13_2614k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k
....................0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k
..............................0960k Cywaith Siôn
Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k
........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl
Wiliam Morgan 1620
neu trwy Google:
#kimkat1281k
.............................................................y tudalen hwn
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
(delw 4666) |
xxxx (ddim ar gael eto) Y tudalen hwn yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
(Sganiad heb ei gywiro yw hwn, ac
felly yn frith o wallau. Cyn hir gobeithio cawn ni gyfle i roi trefn
(This is a scan which has not been
corrected yet. There are many errors in the text) 2009-01-07
ar ffurf delwau: 2356k
LLYFR CYNTAF Y
CRONICL
PENNOD I
1:1 Adda, Seth, Enos,
1:2 Cenan, Mahalaleel, Jered,
1:3 Enoch, Methusela, Lamech,
1:4 Noa, Sem, Cham, a Jaffeth.
1:5 Meibion Jaffeth; Gomer, a Magog, a
Madai, a Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras.
1:6 A
meibion Gomer; Aschenas, a Riffath, a Thogarma.
1:7 A meibion Jafan; Elisa, a Tharsis,
Cittim, a Dodanim.
1:8 Meibion Cham; Cus, a Misraim, Put,
a Chanaan.
1:9 A meibion Cus; Seba, a Hafila, a
Sabta, a Raama, a Sabtecha: a Seba, a Dedan, meibion Raama.
1:10 A Chus a genhedlodd Nimrod: hwn a
ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear.
1:11 A Misraim a genhedlodd Ludim, ac
Anamim, a Lehabim, a Nafftuhim,
1:12 Pathrusim hefyd, a Chasluhim, (y
rhai y daeth y Philistiaid allan ohonynt,) a Chafftorim.
1:13 A Chanaan a genhedlodd Sidon ei
gyntaf-anedig, a Heth,
1:14 Y Jebusiad hefyd, a'r Amoriad, a'r
Girgasiad,
1:15 A'r Hefiad, a'r Arciad, a'r
Siniad,
1:16 A'r Arfadiad, a'r Semariad,
a'r Hamathiad.
1:17 Meibion Sem; Elam, ac Assur, ac
Arffacsad, a Lud, ac Aram, ac Us, a Hul, a Gether, a Mesech.
1:18 Ac Arffacsad a genhedlodd Sela, a
Sela a genhedlodd Eber.
1:19 Ac i Eber y ganwyd dau o feibion:
enw y naill ydoedd Peleg; oherwydd mai yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear:
ac enw ei frawd oedd Joctan.
1:20 A Joctan a genhedlodd Almodad, a
Seleff, a Hasarmafeth, a Jera,
1:21 Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla,
1:22 Ac Ebal, ac Abimael, a Seba,
1:23 Offir hefyd, a Hafila, a Jobab.
Y rhai hyn oll oedd feibion Joctan.
1:24 Sem, Arffacsad, Sela,
1:25 Eber, Peleg, Reu,
1:26 Serug, Nachor, Tera,
1:27 Abram, hwnnw yw Abraham.
1:28 Meibion Abraham; Isaac, ac Ismael.
1:29 Dyma eu cenedlaethau hwynt: cyntaf-anedig Ismael
oedd Nebaioth, yna Cedar, ac
Adbeel, a Mibsam,
1:30 Misma, a Duma, Massa, Hadad, a
Thema,
1:31 Jetur, Naffis, a Chedema.
Dyma feibion Ismael.
1:32 A meibion Cetura, gordderchwraig
Abraham: hi a ymddûg Simran,
a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Sua. A meibion
Jocsan; Seba, a Dedan.
1:33 A meibion Midian; Effa, ac Effer,
a Henoch, ac Abida, ac Eldaa: y rhai hyn oll oedd feibion Cetura.
1:34 Ac Abraham a genhedlodd
Isaac. Meibion Isaac; Esau, ac Israel.
1:35 Meibion Esau; Eliffas, Reuel, a Jëus, a Jaalam, a Chora.
1:36 Meibion Eliffas; Teman, ac Omar,
Seffi, a Gatam, Cenas, a
Thimna, ac Arnalec.
1:37 Meibion Reuel; Nahath, Sera,
Samma, a Missa.
1:38 A meibion Seir; Lotan, a Sobal, a
Sibeon, ac Ana, a Dison, ac Eser, a Disan.
1:39 A meibion Lotan; Hori, a Homam: a
chwaer Lotan oedd Timna.
1:40 Meibion Sobal; Alïan, a Manahath,
ac Ebal, Seffi, ac
Onam. A meibion Sibeon; Aia, ac Ana.
1:41 Meibion Ana; Dison.
A meibion Dison; Amram, ac Esban, ac Ithran, a Cheran.
1:42 Meibion Eser; Bilhan, a Safan, a
Jacan. Meibion Dison; Us, ac Aran.
1:43 Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant yn nhir Edom, cyn teyrnasu o frenin ar feibion
Israel; Bela mab Beor: ac enw ei ddinas ef oedd Dinhaba.
1:44 A phan fu farw Bela, y teyrnasodd
yn ei le ef Jobab mab Sera o Bosra.
1:45 A phan fu farw Jobab, Husam o wlad
y Temaniaid a deyrnasodd yn ei le ef.
1:46 A phan fu farw Husam, yn ei le ef
y teyrnasodd Hadad mab Bedad, yr hwn a drawodd Midian ym maes
Moab: ac enw ei ddinas ef ydoedd
Afith.
1:47 A phan fu farw Hadad, y teyrnasodd
yn ei le ef Samla o Masreca.
1:48 A phan fu farw Samla,
Saul o Rehoboth wrth yr afon a
deyrnasodd yn ei le ef.
1:49 A phan fu farw Saul, y teyrnasodd
yn ei le ef Baalhanan mab Achbor.
1:50 A bu farw Baalhanan, a theyrnasodd
yn ei le ef Hadad: ac enw ei ddinas ef °edd Pai; ac enw ei wraig ef Mehetabel,
merch Matted, merch Mesahab.
1:51 A
bu farw Hadad.
A dugiaid Edom oedd; dug Timna,
dug Alia, dug Jetheth,
1:52 Dug Aholibama, dug Ela, dug Pinon
1:53 Dug Cenas, dug Teman, dug Mibsar,
1:54 Dug Magdiel, dug Iram.
Dyma ddugiaid Edom.
PENNOD 2
2:1 DYMA feibion
Israel; Reuben, Simeon, Lefi, a
Jwda, Issachar, a Sabulon,
2:2 Dan,
Joseff, a Benjamin,
Nafftali, Gad, ac Aser.
2:3 Meibion
Jwda; Er, ac
Onan, a Sela. Y tri hyn a anwyd iddo ef o ferch Sua y Ganaanees.
Ond Er, cyntaf-anedig Jwda, ydoedd ddrygionus yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac efe
a'i lladdodd ef.
2:4 A Thamar ei waudd ef a ymddûg iddo Phares a
Sera. Holl feibion Jwda oedd bump.
2:5 Meibion Phares; Hesron a Hamul.
2:6 A meibion Sera; Simri, ac Ethan, a Heman, a
Chalcol, a Dara; hwynt oll oedd bump.
2:7 A meibion Carmi; Achar, yr hwn a
flinodd Israel, ac
a wnaeth gamwedd oblegid y diofryd-beth.
2:8 A meibion Ethan; Asareia.
2:9 A meibion Hesron, y rhai a anwyd iddo ef;
Jerahmeel, a Ram, a Chelubai.
2:10 A Ram a genhedlodd Amminadab; ac
Amminadab a genhedlodd Nahson, pennaeth
meibion Jwda;
2:11 A Nahson a genhedlodd Salma; a Salma a
genhedlodd Boas;
2:12 A
Boas a genhedlodd Obed; ac Obed a
genhedlodd Jesse;
2:13 A
Jesse a genhedlodd ei gyntaf-anedig Eliab, ac Abinadab yn ail, a Simma yn
drydydd,
2:14 Nethaneel yn bedwerydd, Radai yn bumed,
2:15 Osem
yn chweched, Dafydd
yn seithfed:
2:16 A'u chwiorydd hwynt oedd Serfia ac
Abigail. A meibion Serfia; Abisai, a
Joab, ac Asahel, tri.
2:17 Ac Abigail a ymddûg Amasa. A thad Amasa oedd Jether yr Ismaeliad.
2:18 A Chaleb mab Hesron a enillodd blant o Asuba
ei wraig, ac o Jerioth: a dyma ei meibion hi; Jeser, Sobab, ac Ardon.
2:19 A
phan fu farw
Asuba, Caleb a gymerth iddo Effrath, a hi a ymddûg iddo
Hur.
2:20 A Hur a genhedlodd Uri, ac Uri a genhedlodd Besaleel.
2:21 Ac wedi hynny yr aeth Hesron i mewn at ferch Machir, tad
Gilead, ac efe a’i priododd hi pan ydoedd fab trigain mlwydd; a hi a ddug iddo
Segub.
2:22 A Segub a genhedlodd Jair: ac yr oedd iddo ef dair ar hugain o ddinasoedd
yng ngwlad Gilead.
2:23 Ac efe a enillodd Gesur, ac Aram, a threfydd Jair oddi arnynt, a Chenath
a’i phentrefydd, sef trigain o ddinasoedd. Y rhai hyn oll oedd eiddo meibion
Machir tad Gilead.
2:24 Ac ar ôl marw Hesron o fewn Caleb-effrata, Abeia gwraig Hesron a ymddûg
iddo Asur, tad Tecoa.
2:25 A meibion Jerahmeel cyntaf-anedig Hesron oedd, Ram yr hynaf, Buna, ac
Oren, ac Osem, ac Ahïa.
2:26 A gwraig arall ydoedd i Jerahmeel, a’i henw Atara: hon oedd fam Onam.
2:27 A meibion Ram cyntaf-anedig Jerahmeel oedd, Maas, a Jaimn, ac Ecer.
2:28 A meibion Onam oedd Sammai, a Jada. A meibion Sammai; Nadab, ac Abisur.
2:29 Ac enw gwraig Abisur oedd Abihail: a hi a ymddûg iddo Aban, a Molid.
2:30 A meibion Nadab; Seled, ac Appaim. A bu farw Seled yn ddi-blant.
2:31 A meibion Appaim; Isi. A meibion Isi; Sesan. A meibion Sesan; Alai.
2:32 A meibion Jada brawd Sammai; Jether, a Jonathan. A bu farw Jether yn
ddi-blant.
2:33 A meibion Jonathan; Peleth, a Sasa. Y rhai hyn oedd feibion Jerahmeel.
2:34 Ac nid oedd i Sesan feibion, ond merched: ac i Sesan yr oedd gwas o
Eifftiad, a’i enw Jarha.
2:35 A Sesan a roddodd ei ferch yn wraig i Jarha ei was. A hi a ymddûg iddo
Altai.
2:36 Ac Attai a genhedlodd Nathan, a Nathan a genhedlodd Sabad.
2:37 A Sabad a genhedlodd Efflal, ac Efflal a genhedlodd Obed,
2:38 Ac Obed a genhedlodd Jehu, a Jehu a
genhedlodd Asareia,
2:39 Ac Asareia a genhedlodd Heles, a Heles a genhedlodd Eleasa,
2:40 Ac Eleasa a genhedlodd Sisamai, a Sisamai a genhedlodd Salum,
2:41 A Salum a genhedlodd Jecameia, a Jecameia a genhedlodd Elisama.
2:42 Hefyd meibion Caleb brawd Jerahmeel oedd. Mesa ei gyntaf-anedig, hwn oedd
dad Siff: a meibion Maresa tad Hebron.
2:43 A meibion Hebron; Cora, a Thappua, a Recem, a Sema.
2:44 A Sema a genhedlodd Raham, tad Jorcoam: a Recem a genhedlodd Sammai.
2:45 A mab Sammai oedd Maon: a Maon oedd dad Bethsur.
2:46 Ac Effa gordderchwraig Caleb a ymddûg Haran, a Mosa, a Gases: a Haran a
genhedlodd Gases.
2:47 A meibion Jahdai; Regem, a Jotham, a Gesan, a Phelet, ac Effa, a Saaff.
2:48 Gordderchwraig Caleb, sef Maacha, a ymddûg Seber a Thirhana.
2:49 Hefyd hi a ymddûg Saaff tad Madmanna, Sefa tad Machbena, a thad Gibea: a
merch Caleb oedd Achsa.
2:50 Y rhai hyn oedd feibion Caleb S mab Hur, cyntaf-anedig Effrata; Sobal tad
Ciriath-jearim,
2:51 Salma tad Bethlehem, Hateff tad Bethgader.
2:52 A meibion oedd i Sobal, tad Ciriath-jearim: Haroe, a hanner y
Manahethiaid,
2:53 A theuluoedd Ciriath-jearim oedd yr Ithriaid, a’r Puhiaid, a’r Sumathiaid,
a’r Misraiaid: o’r rhai hyn y daeth y Sareathiaid a’r Esthauliaid.
2:54 Meibion Salma; Bethlehem, a’r Netoffathiaid, Ataroth tŷ Joab, a
hanner y Manahethiaid, y Soriaid.
2:55 A thylwyth yr ysgrifenyddion, y rhai a breswylient yn Jabes; y Tirathiaid,
y Simeathiaid, y Suchathiaid. Dyma y Ceniaid, y rhai a ddaethani o Hemath, tad
tylwyth Rechab.
PENNOD 3
3:1 Y rhai hyn hefyd oedd feibion Dafydd, y rhai a anwyd iddo ef yn Hebron;
y cyntaf-anedig Amnon, o Ahinoam y Jesreeles: yr ail, Daniel, o Abigail y
Garmeles:
3:2 Y trydydd, Absalom mab Maacha, merch Talmai brenin Gesur: y pedwerydd,
Adoneia mab Haggith:
3:3 Y pumed, Seffateia o Abital: y chweched, Ithream o Egla ei wraig.
3:4 Chwech a anwyd iddo yn Hebron; ac yno y teyrnasodd efe saith mlynedd a chwe
mis: a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
3:5 A’r rhai hyn a anwyd iddo yn Jerwsalem; Simea, a Sobab, a Nathan, a
Solomon, pedwar, o Bathsua merch Ammiel:
3:6 Ibhar hefyd, ac Elisama, ac Eliffelet,
3:7 A Noga, a Neffeg, a Jaffia,
3:8 Ac Elisama, Eliada, ac Eliffelet, naw.
3:9 Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd, a Thamar eu
chwaer hwynt.
3:10 A mab Solomon ydoedd Rehoboam: Abeia ei fab yntau; Asa ei fab yntau; a
Jehosaffat ei fab yntau;
3:11 Joram ei fab yntau; Ahaseia ei fab yntau; Joas ei fab yntau;
3:12 Amaseia ei fab yntau; Asareia ei fab yntau; Jotham ei fab yntau;
3:13 Ahas ei fab yntau; Heseceia ei fab yntau; Manasse ei fab yntau;
3:14 Amon ei fab yntau; Joseia ei fab yntau.
3:15 A meibion Joseia; y cyntaf-aaedig oedd Johanan, yr ail Joacim, y trydydd
Sedeceia, y pedwerydd Salum.
3:16 A meibion Joacim; Jechoneia ei fab ef, Sedeceia ei fab yntau.
3:17 A meibion Jechoneia; Asshr, Salathiel ei fab yntau,
3:18 Malciram hefyd, a Phedaia, a Senasar, Jecameia, a Hosama, a Nedabeia.
3:19 A meibion Pedaia; Sorobabel, a Simei: a meibion Sorobabel; Mesulam, a
Hananeia, a Selomith eu chwaer hwynt:
3:20 A Hasuba, ac Ohel, a Berecheia, a Hasadeia, Jusab-hesed, pump.
3:21 A meibion Hananeia;
Pelatia a Jesaia: meibion Reffaia, meibion Arnan, meibion Obadeia, meibion
Sechaneia.
3:22 A meibion Sechaneia, Semaia: a meibion Semaia; Hattus,
ac Igeal, a Bareia, a Nearia, a Saffat, chwech.
3:23 A meibion Nearia; Elioenai, a Heseceia, ac Asricam, tri.
3:24 A meibion Elioenai oedd, Hodaia, ac Eliasib, a Phelaia, ac Accub, a
Johanan, a Dalaia, ac Anani, saith.
PENNOD 4
4:1 Meibion Jwda; Phares, Hesron, a
Charmi, a Hur, a Sobal.
4:2 A Reaia mab Sobal a genhedlodd Jahath; a Jahath a genhedlodd Ahumai, a
Lahad. Dyma deuluoedd y
Sorathiaid.
4:3 A’r rhai hyn oedd o dad Etam; Jesreel, ac Isma, ac Idbas: ac enw eu chwaer
hwynt oedd Haselelponi.
4:4
A Phenuel tad Gedor, ac Eser tad Husa. Dyma feibion Hur cyntaf-anedig Effrata,
tad Bethlehem.
4:5 Ac i Asur tad Tecoa yr oedd dwy wraig, Hela a Naara.
4:6 A Naara a ddug iddo Ahusam, a Heffer, a Themeni, ac Hahastari. Dyma feibion Naara.
4:7 A meibion Hela oedd, Sereth, a Jesoar, ac Ethnan.
4:8 A Chos a genhedlodd Anub, a Sobeba, a theuluoedd Aharhel mab Harum.
4:9 Ac yr oedd Jabes yn anrhydeddusach na’i frodyr; a’i fam a alwodd ei enw ef
Jabes, gan ddywedyd, Oblegid i mi ei ddwyn ef trwy ofid.
4:10 A Jabes a alwodd ar DDUW Israel, gan ddywedyd, O na lwyr fendithit fi, ac
na ehengit fy nherfynau, a bod dy law gyda mi, a’m cadw oddi wrth ddrwg, fel
na’m gofidier! A pharodd Duw ddyfod iddo yr hyn a ofynasai.
4:11 A Chelub brawd Sua a genhedlodd Mehir, yr hwn oedd dad Eston.
4:12 Ac Eston a genhedlodd Bethrafia, a Phasea, a Thehinna tad dinas Nahas. Dyma ddynion Recha.
4:13
A meibion Cenas; Othniel, a Seraia: a meibion Othniel; Hathath.
4:14 A Meonothai a genhedlodd Offra: a Seraia a genhedlodd Joab, tad glyn y crefftwyr;
canys crefftwyr oeddynt hwy.
4:15 A meibion Caleb mab Jeffunne; Iru, Ela, a
Naam: a meibion Ela oedd, Cenas.
4:16
A meibion Jehaleleel; Siff, a Siffa, Tiria, ac Asareel.
4:17 A meibion Esra oedd, Jether, a Mered, ac Effer, a Jalon: a hi a ddug
Miriam, a Sammai, ac Isba tad Estemoa.
4:18 A’i wraig ef Jehwdia a ymddûg Jered tad Gedor, a Heber tad Socho, a
Jecuthiel tad Sanoa. A dyma feibion Bitheia merch Pharo, yr hon a gymerth
Mered.
4:19 A meibion ei wraig
Hodeia, chwaer Naham, tad Ceila y Garmiad, ac Estemoa y Maachathiad.
4:20
A meibion Simon oedd, Amnon, a Rinna, Benhanan, a Thilon. A meibion Isi oedd,
Soheth, a Bensoheth.
4:21 A meibion Sela mab Jwda oedd, Er tad Lecha, a Laada tad Maresa, a
theuluoedd tylwyth gweithyddion lliain main, o dŷ Asbea,
4:22 A Jocim, a dynion Choseba, a Joas, a Sarafr, y rhai oedd yn arglwyddiaethu
ar Moab, a Jasubilehem. Ac
y mae y pethau hyn yn hen.
4:23 Y rhai hyn oedd grochenyddion yn cyfanheddu ymysg planwydd a chaeau;
gyda’r brenin yr arosasant yno yn ei waith ef.
4:24 Meibion Simeon oedd, Nemuel, a Jamin, Jarib, Sera, a Saul:
4:25 Salum ei fab yntau, Mibsam ei fab yntau, Misma ei fab yntau.
4:26 A meibion Misma; Hamuel ei fab yntau, Sacchur ei fab yntau, Simei ei fab
yntau.
4:27 Ac i Simei yr oedd un ar bymtheg o feibion, a chwech o ferched, ond i’w
frodyr ef nid oedd nemor o feibion: ac nid amlhasai eu holl deulu hwynt meigis
meibion Jwda. .
4:28 A hwy a breswyliasant yn Beerseba, a Molada, a Hasar-sual,
4:29 Yn Bilha hefyd, ac yn Esem, ac yn Tolad,
4:30 Ac yn Bethuel, ac yn Horma, ac yn. Siclag,
4:31 Ac yn Beth-marcaboth, ac yn Hasar-susim, ac yn Beth-birei, ac yn Saaiaim,
Dyma eu dinasoedd hwynt, nes teyrnasu o Dafydd.
4:32
A’u trefydd hwynt oedd, Etam, ac Am, Rimmon, a Thochen, ac Asan, pump o
ddinasoedd.
4:33 A’u holl bentrefi hwynt hefyd, y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn hyd
Baal. Dyma eu trigfannau hwynt,
a’u hachau.
4:34 A Mesobab, a Jamlech, a Josa mab Amaseia,
4:35 A Joel, a Jehu mab Josibia, fab Seraia, fab Asiel,
4:36 Ac Elioenai, a Jaacoba, a Jesohaia; ac Asaia, ac Adiel, a Jesimiel, a
Benaia,
4:37 A Sisa mab Sim, fab Alon, fab Jedaia, fab Simri, fab Semaia.
4:38 Y rhai hyn erbyn eu henwau a aethant yn benaethiaid yn eu teuluoedd, ac a
amlhasant dylwyth eu tadau yn fawr.
4:39
A hwy a aethant i flaenau Gedor, hyd at du dwyrain y dyffryn, i geisio porfa
i’w praidd.
4:40 A hwy a gawsant borfa fras, a da, a gwlad eang ei therfynau, a
heddychlon.a thangnefeddus: canys y rhai a breswyliasent yno o’r blaen oedd o
Cham.
4:41 A’r rhai hyn yn ysgrifenedig erbyn eu henwau a ddaethant yn nyddiau
Heseceia brenhin Jwda, ac a drawsant eu pebyll a’r anheddau a gafwyd yno, ac
a’u difrodasant hwy hyd y dydd hwn, a thrigasant yn eu lle hwynt; am fod porfa
i’w praidd hwynt yno.
4:42 Ac ohonynt hwy, sef o feibion Simeon, yr aeth pum cant o ddynion i fynydd
Seir, a Phelatia, a Nearia, a Reffaia, ac Ussiel, meibion Isi, yn ben arnynt.
4:43 Trawsant hefyd y gweddill a ddianghasai o Amalec, ac a wladychasant yno hyd y dydd hwn.
PENNOD 5
5:1 A meibion Reuben, cyntaf-anedig Israel, (canys efe oedd gyntaf-anedig,
ond am iddo halogi gwely ei dad, rhoddwyd ei enedigaethfraint ef i feibion
Joseff, mab Israel; ac ni chyfrifir ei achau ef yn ôl yr enedigaethfraint:
5:2 Ganys Jwda a ragorodd ar ei frodyr, ac ohono ef y daeth blaenor: a’r enedigaethfraint
a roddwyd i Joseff.)
5:3 Meibion Reuben cyntaf-anedig Israel oedd, Hanoch, a Phalu, Hesron a Charmi.
5:4 Meibion Joel; Semaia ei fab ef, Gog ei fab yntau, Simei ei fab yntau,
5:5 Micha ei fab yntau, Reaia ei fab yntau, Baal ei fab yntau,
5:6 Beera ei fab yntau, yr hwn a gaethgludodd Tilgath-pilneser brenin Asyria:
hwn ydoedd dywysog i’r Reubeniaid.
5:7 A’i frodyr ef yn eu teuluoedd, wrth gymryd eu hachau yn eu cenedlaethau: y
pennaf oedd Jeiel, a Sechareia,
5:8 A Bela mab Asas, fab Sema, fab Joel, yr hwn a gyfanheddodd yn Aroer, a hyd
at Nebo, a Baalmeon.
5:9 Ac o du y dwyrain y preswyliodd efe, hyd. y lle yr eler i’r anialwch, oddi
wrth afon Ewffrates: canys eu hanifeiliaid hwynt a amlhasai yng ngwlad Gilead.
5:10 Ac yn nyddiau Saul y gwnaethant hwy ryfel yn erbyn yr Hagariaid, y rhai a
syrthiasant trwy eu dwylo hwynt; a thrigasant yn eu pebyll hwynt, trwy holl du
dwyrain Gilead.
5:11 A meibion Gad a drigasant gyferbyn a hwynt yng ngwlad Basan, hyd at
Salcha:
5:12 Joel y pennaf, a Saffam yr ail, a
Jaanai, a Saffat, yn Basan.
5:13 A’u brodyr hwynt o
dŷ eu tadau oedd, Michael, a Mesulam, a Seba, a Jorai, a Jacan, a Sia, a
Heber, saith.
5:14 Dyma feibion Abihail fab Huri, fab Jaroa, fab Gilead, fab Michael, fab
Jesisai, fab Jahdo, fab Bus;
5:15 Ahi mab Abdiel, fab Guni, y pennaf o dŷ eu tadau.
5:16
A hwy a drigasant yn Gilead yn Basan, ac yn ei threfydd, ac yn holl bentrefi
Saron, wrth eu terfynau.
5:17 Y rhai hyn oll a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn nyddiau Jotham brenin Jwda,
ac yn nyddiau Jeroboam brenin Israel.
5:18 Meibion Reuben, a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, o wŷr nerthol,
dynion yn dwyn tarian a chleddyf, ac yn tynnu bwa, ac wedi eu dysgu i ryfel,
oedd bedair mil a deugain a saith cant a thrigain, yn myned allan i ryfel.
5:19 A hwy a wnaethant ryfel yn erbyn yr Hagariaid, a Jetur, a Neffis, a Nodab.
5:20 A chynorthwywyd hwynt yn erbyn y rhai hynny, a rhoddwyd yr Hagariaid i’w
dwylo hwynt, a chwbl a’r a ydoedd gyda hwynt: canys llefasant ar DDUW yn y
rhyfel, ac efe a wrandawodd aarynt, oherwydd iddynt obeithio ynddo.
5:21 A hwy a gaethgludasant eu hanifeiliaid hwynt; o’u camelod hwynt ddengmil
a deugain, ac o ddefaid ddeucant a deg a deugain o filoedd, ac o asynnod ddwy
fil, ac o ddynion gan mil.
5:22 Canys llawer yn archolledig a fuant feirw, am fod y rhyfel oddi wrth DDUW;
a hwy a drigasant yn eu lle hwynt hyd y caethiwed.
5:23 A meibion hanner llwyth Manasse a drigasant yn y tir: o Basan hyd
Baal-hermon, a Senir, a mynydd Hermon, yr aethant hwy yn aml.
5:24 Y rhai hyn hefyd oedd bennau tŷ eu tadau, sef Effer, ac Isi, ac
Eliel, ac Asriel, a Jeremeia, a Hodafia, a Jadiel, gwŷr cedyrn o nerth,
gwŷr enwog, a phennau tŷ eu tadau.
5:25 A hwy a droseddasant yn erbyn Duw eu tadau, ac a buteiniasant ar ôl duwiau
pobl y wlad, y rhai a ddinistriasai Duw o’u blaen hwynt.
5:26 A Duw Israel a anogodd ysbryd Pul brenin Asyria, ac ysbryd
Tilgath-pilneser brenin Asyria, ac a’u caethgludodd hwynt, sef y Reubeniaid,
a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, ac a’u dug hwynt i Hala, a Habor, a Hara,
ac i afon Gosan, hyd y dydd hwn.
PENNOD 6
6:1 MEIBION Lefi; Gerson, Cohath, a Merari.
6:2 A meibion Cohath; Amram, Ishar, a Hebron, ac Ussiel.
6:3 A phlant Amram; Aaron, Moses, a Miriam: a meibion Aaron, Nadab ac Abihu,
Eleasar ac Ithamar.
6:4 Eleasar a genhedlodd Phinees a genhedlodd Abisua,
6:5 Ac Abisua a genhedlodd Bucci, a Bucci a genhedlodd Ussi,
6:6 Ac Ussi a genhedlodd Seraheia, a Seraheia a genhedlodd Meraioth.
6:7 Meraioth a genhedlodd Amareia, ac Amareia a genhedlodd Ahitub,
6:8 Ac Ahitub a genhedlodd Sadoc, a Sadoc a genhedlodd Ahimaas,
6:9 Ac Ahimaas a genhedlodd Asareia, ac Asareia a genhedlodd Johanan,
6:10 A Johanan a genhedlodd Asareias (hwn oedd
yn offeiriad yn y tŷ a adeiladodd Solomon yn Jerwsalem:)
6:11 Ac Asareia a genhedlodd Amareia, ac Amareia a genhedlodd Ahitub,
6:12 Ac Ahitub a genhedlodd Sadoc, a
Sadoc a genhedlodd Salum,
6:13 A Salum a genhedlodd Hiloeia, a Hiloeia a genhedlodd Asareia, .
6:14 Ac Asareia a genhedlodd Seraia, a Seraia a genhedlodd Jehosadac:
6:15 A Jehosadac a ymadawodd, pan gaethgludodd yr ARGLWYDD Jwda a Jerwsalem
trwy law Nebuchodonosor.
6:16 Meibion Lefi; Gersom, Cohath, a Merari. .
6:17 A dyma enwau meibion
Gersem, Libni, a Simei.
6:18 A meibion Cohath; Amrani, ac Ishar, a Hebron, ac
Ussiel.
6:19 Meibion Merari; Mahli,
a Musi. A dyma dylwyth y Lefiaid, yn ôl eu tadau.
6:20 I Gersom; Libni ei fab, Jahath ei fab yntau, Simma ei fab yntau,
6:21 Joa ei fab yntau, Ido ei fab yntau, Sera ei fab yntau, a Jeaterai ei fab
yntau.
6:22 Meibion Cohath; Aminadab ei fab ef, Cora ei fab yntau, Assir ei fab yntau,
6:23 Elcana ei fab yntau, ac Ebiasaff ei fab yntau, ac Assir ei fab yntau,
6:24 Tahath ei fab yntau, Uriel ei fab yntau, Usseia ei fab yntau, a Saul ei
fab yntau.
6:25 A meibion Elcana; Amasai, ac Ahimoth.
6:26 Elcana: meibion Elcana; Soffai ei fab ef, a Nahath ei fab yntau.
6:27 Eliab ei fab yntau, Jeroham ei fab yntau, Elcana ei fab yntau.
6:28 A meibion Samuel; y cyntaf-anedig, Fasni, yna Abeia.
6:29 Meibion Merari; Mahli, Libni ei fab yntau, Simei ei fab yntau, Ussa ei fab
yntau,
6:30 Simea ei fab yntau, Haggia ei fab yntau, Asaia ei fab yntau.,
6:31 Y rhai hyn a osododd Dafydd yn gantorion yn nhŷ yr ARGLWYDD, ar ôl gorffwys
o’r arch.
6:32 A hwy a fuant weinidogion mewn cerdd o flaen tabernacl pabell y cyfarfod,
nes adeiladu o Solomon dŷ yr ARGLWYDD yn Jerwsalem: a hwy a safasant wrth
eu defod yn eu gwasanaeth.
6:33 A dyma y rhai a weiniasant, a’u meibion hefyd: o feibion y Cohathiaid;
Heman y cantor, mab Joel, fab Semuel,
6:34 Fab Elcana, fab Jeroham, fab Eliel, fab Toa,
6:35 Fab Suff, fab Elcana, fafc Mahath, fab Amasai,
6:36 Fab Elcana, fab Joel, fab Asareia, fab Seffaneia,
6:37 Fab Tahath, fab Assir, fab Ebiasaff, fab Cora,
6:38 Fab Ishar, fab Cohath, fab Lefi, fab Israel. .
6:39 A’i frawd Asaff, yr hwn oedd yn sefyll ar ei law ddeau, sef Asaff mab
Beracheia, fab Simea,
6:40 Fab Michael, fab Baaseia, fab Malcheia,
6:41 Fab Ethni, fab Sera, fab Adaia,
6:42 Fab Ethan, fab Sirnma fab Simei,
6:43 Fab Jahath, fab Gersom, fab Lefi.
6:44 A’u brodyr hwynt, meibion Merari, oedd ar y llaw aswy: Ethan mab Cisi, fab
Abdi, fab Maluc,
6:45 Fab Hasabeia, fab Amaseia, fab Hilceia,
6:46 Fab Amsi, fab Bani, fab Samer,
6:47 Fab Mahli, fab Musi, fab Merari, fab Lefi.
6:48 A’u brodyr hwynt y Lefiaid oedd gwedi eu rhoddi ar holl wasanaeth
tabernacl tŷ DDUW.
6:49 Ond Aaron a’i feibion a aberthasant ar allor y poethoffrwm, ac ar allor yr
arogl-darth, i gyflawni holl wasanaeth y cysegr sancteiddiolaf, ac i wneuthur
cymod dros Israel, yn ôl yr hyn oll a o orchmynasai Moses gwas Duw.
6:50 Dyma hefyd feibion Aaron; Eleasar Simeon, ac o lwyth meibion Benjamin, y
ei fab ef, Phinees ei fab yntau, Abisua ei fab yntau,
6:51 Bucci ei fab yntau, Ussi ei fab, yntau, Seraheia ei fab yntau,
6:52 Meraioth ei fab yntau, Amareia ei
fab yntau, Ahitub ei fab yntau,
6:53 Sadoc ei fab yntau, Ahimaas ei fab yntau.
6:54 A dyma eu trigleoedd hwynt yn ôl eu palasau, yn eu terfynau; sef meibion
Aaron, o dylwyth y Cohathiaid: oblegid o eiddynt hwy ydoedd y rhan hon.
6:55 A rhoddasant iddynt Hebron yng ngwlad Jwda, a’i meysydd pentrefol o’i
hamgylch.
6:56 Ond meysydd y ddinas, a’i phentrefi, a roddasant hwy i
Caleb mab Jeffunne.
6:57 Ac i feibion Aaron y rhoddasant hwy ddinasoedd Jwda, sef Hebron, y ddinas
noddfa, a Libna a’i meysydd pentrefol, pentrefol, a Jattir ac Estemoa, a’u
meysydd pentrefol,
6:58 A Hilen a’i meysydd pentrefol, a meysydd
pentrefol, a Debir a’i meysydd pentrefol,
6:59 Ac Asan a’i meysydd pentrefol, a Bethsemes
a’i meysydd pentrefol:
6:60 Ac o lwyth Benjamin; Geba a’i meysydd meysydd pentrefol, ac Alemeth a’i
meysydd pentrefol, ac Anathoth a’i meysydd pentrefol: eu holl ddinasoedd hwynt
trwy eu teuluoedd oedd dair dinas ar ddeg.
6:61 Ac i’r rhan arall o feibion Cohath o deulu y llwyth hwnnw, y rhoddwyd o’r
hanner llwyth, sef hanner Manasse, ddeg dinas wrth goelbren.
6:62 Rhoddasant hefyd i feibion Gersom y trwy eu teuluoedd, o lwyth Issachar,
ac o lwyth Aser, ac o lwyth Nafftali, ac lwyth Manasse yn Basan, dair ar ddeg o
ddinasoedd.
6:63 I feibion Merari trwy eu teuluoedd, o lwyth Reuben, ac o lwyth Gad, ac o
lwyth Sabulon, y rhoddasant trwy goelbren ddeuddeg o ddinasoedd.
6:64 A meibion
Israel a roddasant i’r Lefiaid y dinasoedd hyn a’u meysydd pentrefol.
6:65 A hwy a
roddasant trwy goelbren, o lwyth meibion Jwda, ac o lwyth meibion Simeon, ac o
lwyth meibion Benjamin, y dinasoedd hyn, y rhai a alwasant hwy ar eu henwau
hwynt.
6:66 I’r rhai oedd o
deuluoedd meibion Cohath, yr ydoedd dinasoedd eu terfyn, o lwyth Effraim
6:67 A hwy a
roddasant iddynt hwy ddinasoedd noddfa, sef Sichem a’i meysydd pentrefol, ym
mynydd Effraim; Geser hefyd a’i meysydd pentrefol,
6:68 Jocmeam hefyd a’i meysydd pentrefol, a
Beth-horon a’i meysydd pentrefol,
6:69 Ac Ajalon a’i meysydd pentrefol, a
Gath-rimmon a’i meysydd pentrefol.
6:70 Ac o hanner llwyth Manasse; Aner a’i
meysydd pentrefol, a Bileam a’i meysydd pentrefol, i deulu y rhai oedd yng
ngweddill o feibion Cohath.
6:71 I feibion Gersom o deulu hanner hwy llwyth Manasse y rhoddwyd, Golan yn
Basan a’i meysydd pentrefol, Astaroth
hefyd a’i meysydd pentrefol.
6:72 Ac o lwyth Issachar; Cedes a’i meysydd pentrefol, Daberath a’i meysydd
pentrefol,
6:73 Ramoth hefyd a’i meysydd pentrefol, ac Anem
a’i meysydd pentrefol.
6: 74 Ac o lwyth Aser; Masal a’i meysydd
pentrefol, ac Abdon a’i meysydd pentrefol,
6:75 Hucoc hefyd a’i meysydd pentrefol a Rehob
a’i meysydd pentrefol.
6:76 Ac o lwyth Nafftali; Cedes yn Galilea a’i
meysydd pentrefol, Hammon hefyd a’i meysydd pentrefol, a Chiriathaim a’i
meysydd pentrefol.
6:77 I’r rhan arall o feibion Merari rhoddwyd o
lwyth Sabulon, Rimmon a’i meysydd pentrefol, a Thabor a’i meysydd pentrefol.
6:78 Ac am yr Iorddonen a Jericho, sef du
dwyrain yr Iorddonen, y rhoddwyd o Reuben, Beser yn yr anialwch a’i meysydd
pentrefol, Jasa hefyd a’i meysydd pentrefol, .
6:79 Cedemoth hefyd a’i meysydd pentrefol., a
Meffaath a’i meysydd pentrefol.
6:80 Ac o lwyth Gad, Ramoth yn Gilead a’i meysydd pentrefol, Mahanaim hefyd a’i
meysydd pentrefol,
6:81 Hesbon hefyd a’i meysydd pentrefol, a Jaser a’i meysydd pentrefol.
PENNOD 7
7:1 A MEIBION Issachar oedd. Tola, a Phua, Jasub, a Simron, pedwar.
7:2 A meibion Tola; Ussi, a Reffaia, a Jeriel, a Jahmai, a Jibsam, a Semuel,
penaethiaid ar dŷ eu tadau: o Tola yr ydoedd gwŷr cedyrn o nerth yn
eu cenedlaethau; eu rhif yn nyddiau Dafydd oedd ddwy fil ar hugain a chwe
chant.
7:3 A meibion Ussi; Israhïa: a meibion Israhïa; Michael, ac Obadeia, a
Joel, Isia, pump: yn benaethiaid oll.
7:4 A chyda hwynt yn eu cenedlaethau, ac yn ôl tŷ eu tadau, yr ydoedd
byddinoedd milwyr i ryfel, un fil ar
bymtheg ar hugain: canys llawer oedd ganddynt o wragedd a meibion.
7:5 A’u brodyr cedyrn o nerth, o holl deuluoedd Issachar, a gyfrifwyd wrth eu
hachau, yn saith mil a phedwar ugain mil oll.
7:6 A meibion Benjamin oedd, Bela, a
Becher, a Jediael, tri.
7:7 A meibion Bela; Esbon, ac Ussi, ac Ussiel, a Jerimoth, ac Iri; pump o
bennau tŷ eu tadau, cedyrn o nerth, a gyfrifwyd. wrth eu hachau, yn ddwy
fil ar hugain a-phedwar ar ddeg ar hugain.
7:8 A meibion Becher oedd, Semira, a Joas, ac Elieser, ac Elioenai, ac Omri, a
Jerimoth, ac Abeia, ac Anathoth, ac Alemeth; y rhai hyn oll oedd feibion
Becher.
7:9 A hwy a rifwyd wrth eu hachau, yn ôl eu cenedlaethau, yn bennau tŷ eu
tadau, yn gedyrn o nerth, yn ugain mil a dau cant.
7:10 A meibion Jediael; Bilhan: a meibion Bilhan; Jeus, a Benjamin, ac Ehud, a
Chenaana, a Sethan, a Tharsis, ac Ahisahar.
7:11 Y rhai hyn oll oedd feibion Jediael; yn bennau eu tadau, yn gedyrn o
nerth, yn myned allan mewn llu i ryfel, yn
ddwy fil ar bymtheg a deucant.
7:12 Suppim hefyd, a Huppim, meibion Ir; Husim, meibion Aher.
7:13 Meibion Nafftali; Jasiel, a
Guni, a Geser, a Salum, meibion Bilha.
7:14 Meibion Manasse; Asriel, yr hwn, a ymddûg ei wraig: (ond ei ordderchwraig
o Syria a ymddûg Machir tad Gilead:
7:15 A Machir a gymerodd yn wraig chwaer Huppim a Suppim, ac enw eu chwaer hwynt
oedd Maacha:) ac enw yr ail fab Salflaad: ac i Salffaad yr oedd merched.
7:16 A Maacha
gwraig Machir a ymddûg fab, a hi a alwodd ei enw ef Peres, ac enw ei frawd ef
Seres, a’i feibion ef oedd Ulam a Racem.
7:17 A meibion Ulam; Bedan. Dyma feibion Gilead fab Machir, fab Manasse.
7:18 A Hammolecheth ei chwaer ef a ymddûg Isod, ac Abieser, a Mahala.
7:19 A meibion Semida oedd, Ahïan, Sechem, a Lichi, ac Aniham.
7:20 A meibion Effraim; Suthela, a
Bered ei fab ef, a Thahath ei fab yntau, ac Elada ei fab yntau, a Thahath ei
fab yntau,
7:21 A Sabad ei fab yntau, a Suthela ei fab yntau, ac Eser, ac Elead: a dynion
Gath y rhai a anwyd yn y tir, a’u lladdodd hwynt, oherwydd dyfod ohonynt i
waered i ddwyn en hanifeiliaid hwynt.
7:22 Ac Effraim eu tad a alarodd ddyddiau lawer; a’i frodyr a ddaethant i’w
gysuro ef.
7:23 A phan aeth efe at ei wraig, hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab; ac
efe a alwodd ei enw ef Bereia, am fod drygfyd yn ei dŷ ef.
7:24 (Seera hefyd oedd ei ferch ef, a hi a adeiladodd Beth-horon yr isaf, a’r
uchaf hefyd, ac Ussen-sera.)
7:25 A Reffa oedd ei fab ef, a Reseff, a Thela ei fab yntau, a Thahan ei fab
yntau,
7:26 Laadan ei fab yntau, Ammihud ei fab yntau, Elisama ei fab yntau,
7:27 Nun ei fab yntau, Josua ei fab yntau.
7:28 A’u meddiant a’u cyfanheddau oedd
Bethel a’i phentrefi, ac o du y dwyrain Naaran, ac o du y gorllewin
Geser a’i phentrefi; a Sichem a’i phentrefi, hyd Gasa a’i phentrefi:
7:29 Ac ar derfynau meibion Manasse, Beth-sean a’i phentrefi, Taanach a’i
phentrefi, Megido a’i phentrefi. Dor
a’i phentrefi. Meibion Joseff mab Israel a drigasant yn y rhai hyn.
7:30 Meibion Aser; Imna, ac Isua, ac Isuai, a Bereia, a Sera eu chwaer hwynt.
7:31 A meibion
Bereia; Heber, a Malchiel, hwn yw tad Birsafith.
7:32 A Heber a genhedlodd Jaffiet, a Somer, a Hotham, a Sua eu chwaer hwynt.
7:33 A meibion Jafflet; Pasaeh, a Bimhal, ac Asuath. Dyma feibion Jafflet.
7:34 A meibion Samer Ahi, a Roga,
Jehubba, ac Aram.
7:35 A meibion ei frawd ef Helem; Soffa, ac Imna, a Seles, ac Amal.
7:36 Meibion Soffa; Sua, a Harneffer, a Sual, a Beri, ac Imra,
7:37 Beser, a Hod, a Samma, a Silsa, ac Ithran, a Beera.
7:38 A meibion Jether; Jeffunne, Pispa hefyd, ac Ara.
7:39 A meibion Ula; Ara, a Haniel, a Resia.
7:40 Y rhai hyn oll oedd feibion Asar, pennau eu cenedl, yn ddewis wŷr o
nerth, yn bennau-captainiaid. A’r cyfrif trwy eu hachau o wŷr i ryfel,
oedd chwe mil ar hugain o wŷr.
PENNOD 8
º1 BENJAMIN hefyd a genhedlodd Bela -Li
ei gyntaf-anedig, Asbel yr ail, ac Ahara y trydydd, a Noha y pedwerydd, a Rafla
y pumed.
º3 A meibion Bela oedd, Adar, a Gera, ac Abihud,
º4 Ac Abisua, a Naaman, ac Ahoa
º5 A Gera, a Seffuffan, a Huram. Dyma hefyd feibion Ehud; dyma hwynt
pennau-cenedl preswylwyr Geba a fawy
a’u mudasant hwynt i Manahath;
º7 Naaman hefyd, ac Ama, a Gera, efe a’u symudodd hwynt, ac a genhedlodd Ussa,
ac Ahihud.
º8 Cenhedlodd hefyd Saharaim yng agwlad Moab, gwedi eu gollwng hwynt ymaith:
Husim a Baara oedd ei wragedd.
º9 Ac efe a genhedlodd o Hodes ei wraig, Jpbab, a Sibia, a Mesa, a Malcham, to
A Jeus, a Sabia, a Mirma. Dyma ei ftSbion ef, pennau-cenedl. sli Ac o Husim efe
a genhedlodd Ahitub ac Elpaal.
º12 A meibion Elpaal oedd, Eber, a Misam, a Samed, yr hwn a adeiladodd Ono, a
Lod a’i phentrefi. J3 Bereia hefyd, a Sema oedd benaau-cenedl preswylwyr
Ajalon; y rhai a ymlidiasant drigolion Gath.
º14 Ahio hefyd, Sasac, a Jeremoth,
º15 Sebadeia hefyd, ac Arad, ac Ader, 16 Michael hefyd, ac Ispa, a Joha,
meibion Bereia;
º17 Sebadeia hefyd, a Mesulam, a Heseci, a Heber,
º18 Ismerai hefyd, a JesUa, a Jobab, meibion Elpaal;
º19 Jacim hefyd, a Sichri, a Sabdi,
º20 Elienai hefyd, a Silthai, ac Eliel,
º21 Adaia hefyd, a Beraia, a Simratfa, meibion Simhi;
º22 I span hefyd, a Heber, ac Eliel,
º23 Abdon hefyd, a Sichri, a Hanan,
º24 Hananeia hefyd, ac Elam, ac Antotftr eia,
º25 Iffedeia hefydy a Phenuel, meibion Sasac;
º26 Samserai hefyd, a Sehareia, ac Athaleia,
º27 Jareseia hefyd, ac Eleia, a Sichri, meibion Jeroham.
º28 Y rhai hyn oedd-bennau-cenedl, sef penaethiaid ar eu cenedlaethau. Y rhai
hyn a gyfaneddasant yn Jerwsalem.
º29 Yn Gibeon hefyd y preswyliodd tad Gibeon, ac enw ei wraig ef oedd Maacha.
º30 Ac Abdon ei fab cyntaf-anedig ef, Sur hefyd, a Chis, a Baal, a Nadab,
º31 Gedor hefyd, ac Ahio, a Sacher.
º32 Micloth hefyd a genhedlodd Simea’: y rhai hyn hefyd, ar gyfer eu brodyr,
a breswyliasant yn Jerwsalem gyda’u brodyr.
º33 Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd
Jonathan, a Maldsua, ac Abina-dab, ac Esbaal.
º34 A mab Jonathan oedd Meribbaal; a Meribbaal a genhedlodd Micha.
º35 A meibion Micha; Pithon, a Melech, a Tharea, ac Ahas.
º36 Ac Ahas a genhedlodd Jehoada, a Jehoada a genhedlodd Alemeth, ac Asmafeth,
a Simri: a Simri a genhedlodd Mosa,
º37 A Mosa a genhedlodd Binea: Raffa oedd ei fab ef, Eleasa ei fab yntau, Asel
ei fab yntau.
º38 Ac i Asel y
bu chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt, Asricam, Bocheru, ac Ismael, a
Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Y rhai hyn oll
oedd feibion Asel.
º39 A meibion Esec ei frawd ef oedd, Ulam ei gyntaf-anedig ef, Jehus yr ail, ac
Elifielet y trydydd.
º40 A meibion Ulam oedd ddynion cedyrn o nerth, yn saethyddion, ac yn aml eu
meibion a’u hwyrion, sef cant a deg a deugain. Y rhai hyn oll oedd o feibion
Benjamin.
PENNOD 9
º1 A HOLL Israel a rifwyd with eu hachau, ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn
llyfr brenhinoedd Israel a Jwda; a hwy a gaethgludwyd i Babilon am eu camwedd.
º2 Y trigolion cyntaf hefyd y rhai oedd yn eu hetifeddiaeth yn eu dinasoedd
oedd, yr Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, a’r Nethiniaid.
º3 Ac yn Jerwsalem y trigodd rhai o feibion Jwda, ac o feibion Benjamin, ac o
feibion Effraim, a Manasse:
º4 Uthai mab Ammihud, fab Omri, fab Imri, fab Bani, o feibion Phares fab Jwda.
º5 Ac o’r Siloniaid; Asaia y cyntaf-anedig, a’i feibion.
º6 Ac o feibion Sera; Jeuel, a’u brodyr, chwe chant a deg a phedwar ugain.
º7 Ac o feibion Benjamin, Salu mab Mesulam, fab Hodafia, fab Hasenua,
º8 Ibneia hefyd mab Jerohana, ac Ela mab Ussi, fab Michri, a Mesulam mab
Seffatia, fab Reuel, fab Ibnija;
º9 A’u brodyr yn ôl eu cenedlaethau
naw cant a deg a deugain a chwech. Y dynion hyn oll oedd bennau-cenedl
ar dy eu tadau.
º10 Ac o’r offeiriaid; Jedaia, a Je-hoiarib, a Jachin,
º11 Asareia hefyd mab Hiloeia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab
Ahitub, tywysog t DDUW;
º12 Adaia hefyd mab Jeroham, fab Passur, fab Maloeia; a Maasia, mab Adiel, fab
Jasera, fab Mesulam, fab Mesilemith, fab Immer.
º13 A’u brodyr, pennaf ar dy eu tadau, yn fil a saith gant a thrigain; yn
wŷr galluog o nerth i waith gwasanaeth tŷ DDUW.
º14 Ac o’r Lefiaid; Semaia mab Hassub, fab Asricam, fab Hasabeia, o feibion
Merari,
º15 Bacbaccar hefyd, Heres, a Galal, a Mataneia mab Micha, fab Sichri, fab
Asaff;
º16 Obadeia hefyd mab Semaia, fab Galal, fab Jeduthun; a Berecheia mab Asa, fab
Elcana, yr hwn a drigodd yn nhrefydd y Netoffathiaid.
º17 Y porthorion hefyd oedd, Salum, ac Accub, a Thalmon, ac Ahiman, a’u brodyr;
Salum ydoedd bennaf;
º18 A hyd yn hyn ym mhorth y brenin o du y dwyrain. Y rhai hyn o finteioedd
meibion Left oedd borthorion.
º19 Salum hefyd mab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a’r Corahiaid ei frodyr ef o
dylwyth ei dad, oedd ar waith y weinidogaeth, yn cadw pyrth y babell: a’u tadau
hwynt ar lu yr ARGLWYDD, oedd yn cadw y ddyfodfa i mewn.
º20 Phinees hefyd mab Eleasar a fuasai dywysog arnynt hwy o’r blaen: a’r ARGLWYDD
ydoedd gydag ef.
º21 Sechareia mab Meselemia ydoedd borthor drws pabell y cyfarfod.
º22 Hwynt oll y rhai a etholasid yn, I borthorion with y rhiniogau, oedd ddau
cant a deuddeg. Hwynt-hwy yn eu trefydd a rifwyd wrth eu hachau; gosodasai
Dafydd a Samuel y gweledydd y rhai hynny yn eu swydd.
º23 Felly hwynt a’u meibion a safent wrth byrth tŷ yr ARGLWYDD, sef
tŷ y babell, i wylied wrth wyliadwriaethau.
º24 Y porthorion oedd ar bedwar o fannau, dwyrain, gorllewin, gogledd, a deau.
º25 A’u brodyr, y rhai oedd yn eu trefydd, oedd i ddyfod ar y seithfed dydd, o
amser i amser, gyda hwynt.
º26 Canys dan lywodraeth y Lefiaid hyn, y pedwar pen porthor, yr oedd yr
ystafelloedd a thrysorau tŷ DDUW.
º27 Ac o amgylch tŷ DDUW y
lletyent hwy, canys arnynt hwy yr oedd yr oruch-wyliaeth, ac arnynt hwy hefyd
yr oedd ei agoryd o fore i fore.
º28 Ac ohonynt hwy yr oedd golygwyr ar lestri y weinidogaeth, ac mewn rhif y
dygent hwynt i mewn, ac mewn rhif y dygent hwynt allan.
º29 A rhai ohonynt hefyd oedd wedi eu gosod ar y llestri, ac ar holl ddodrefn y
cysegr, ac ar y peilliaid, a’r gwin, a’r olew, a’r thus, a’r aroglau peraidd.
º30 Rhai hefyd o feibion yr offeiriaid oedd yn gwneuthur ennaint o’r aroglau
peraidd.
º31 A Matitheia, un o’r Lefiaid, yr hwn oedd gyntaf-anedig Salum y Corahiad,
ydoedd mewn swydd ar waith y radell.
º32 Ac eraill o feibion y Cohathiaid eu brodyr hwynt, oedd ar y bara gosod, i’w
ddarparu bob Saboth.
º33 A dyma y cantorion, pennau-cenedl y Lefiaid, y rhai oedd mewn ystafelloedd
yn ysgyfala; oherwydd arnynt yr oedd y gwaith hwnnw ddydd a nos.
º34 Dyma bennau-cenedl y Lefiaid, pennau trwy eu cenedlaethau: hwy a drigent yn
Jerwsalem.
º35 Ac yn Gibeon y trigodd tad Gibeon, Jehiel; ac enw ei wraig ef oedd Maacha:
º36 A’i fab cyntaf-anedig efoedd Abdon, yna Sur, a Chis, a Baal, a Ner, a
Nadab,
º37 A Gedor, ac Ahio, a Sechareia a Micloth.
º38 A Micloth a genhedlodd Simeam: a hwythau hefyd, ar gyfer eu brodyr, a
drigasant yn Jerwsalem gyda’u brodyr.
º39 Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd
Jonathan, a Malcisua, ac Abinadab, ac Esbaal.
º40 A mab Jonathan oedd Meribbaal; a Meribaal a genhedlodd Micha.
º41 A meibion Micha oedd, Pithon, a Melech, a Tharea, ac Ahas.
º42 Ac Ahas a genhedlodd Jara, a Jara a genhedlodd Alemeth, ac Asmafeth, a
Simri; a Simri hefyd a genhedlodd Mosa:
º43 A Mosa a genhedlodd Binea; a Reffaia oedd ei fab ef, Elasa ei fab yntau,
Asel ei fab yntau.
º44 Ac i Asel yr ydoedd chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt; Asricam,
Bocheru, ac Ismael, a Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Dyma feibion Asel.
PENNOD 10
º1 AR Philistiaid a ryfelasant yn erbyn Israel, a ffodd gwŷr Israel o
flaen y Philistiaid, ac a gwympasant yn archolledig ym mynydd Gilboa.
º2 A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul, ac ar ôl ei feibion: a’r
Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malcisua, meibion Saul.
º3 A’r rhyfel a drymhaodd yn erbyn Saul, a’r perchen Bwâu a’i cawsant ef, ac
efe a archollwyd gan y saethyddion.
º4 Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf, a
gwan fi ag ef, rhag dyfod y rhai dien-waededig hyn a’m gwatwar i. Ond arweinydd
ei arfau ef nis gwnai, cany ofnodd yn ddirfawr. Yna y cymerth Saul gleddyf, ac
a syrthiodd arno.
º5 A phan welodd arweinydd ei arfau ef farw o Saul, syrthiodd yntau hefyd ar y
cleddyf, ac a fu farw.
º6 Felly y bu farw Saul, a’i dri mab ef, a’i holl dylwyth a fuant feirw ynghyd.
º7 A phan welodd holl wŷr Israel, y rhaixxx edd yn y dyffryn, ffoi ohonynt hwy, a marw Saul a’i feibion; hwy
a ymadawsant a’u dinasoedd, ac a ffoesant; a’r Philistiaid a ddaethant, ac a
drigasant ynddynt.
º8 A thrannoeth, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a
gawsant Saul a’i feibion yn feirw ym toynydd Gilboa.
º9 Ac wedi iddynt ei ddiosg, hwy a gymerasant ei ben ef, a’i arfau, ac a
anfonasant i wlad y Philistiaid o amgylch, i ittdangos i’w delwau, ac i’r bobl.
º10 A hwy a osodasant ei arfau ef yn nhŷ Su duwiau, a’i benglog a
grogasant hwy yn nhŷ Dagon.
º11 A phan glybu holl Jabes
Gilead yr hyn oll a wnaethai y Philistiaid i Saul,
º12 Pob gŵr nerthol a
godasant, ac. a jSymerasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, ac a’u
dygasant i Jabes, ac a gladdasant eu hesgyrn hwynt dan y dderwen yn Jabes, ac a
ymprydiasant saith niwmod.
º13 Felly y bu farw Saul, am ei gamwedd a wnaethai efe yn erbyn yr ARGLWYDD,
sef yn erbyn gair yr ARGLWYDD yr hwn ni chadwasai efe, ac am iddo ymgynghori a
dewines, i ymofyn & hi;
º14 Ac heb ymgynghori a’r ARGLWYDD: am hynny y lladdodd efe ef, ac y trodd y
ftenhmiaeth i Dafydd mab Jesse.
PENNOD 11
º1 NA holl Israel a ymgasglasant at Dafydd i Hebron, gan ddywedyd, Wele, dy
asgwrn a’th gnawd di ydym ni.
º2 Doe hefyd, ac echdoe, pan ydoedd Saul yn frenin, tydi oedd yn arwain Israel
i- mewn ac allan: a dywedodd yr ARGLWYDD dy DDUW wrthyt, Ti a borthi fy mhobl
Israel, a thi a fyddi dywysog ar fy mhobl Israel.
º3 A holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron, a Dafydd a wnaeth
gyfamod â hwynt yn Hebron, gerbron yr ARGLWYDD; a hwy a eneiniasant Dafydd yn
frenin ar Israel, yn ôl gair yr ARGLWYDD trwy law Samuel. .
º4 A Dafydd a holl Israel a aeth i y Jerwsalem, hon yw Jebus, ac yn y Jebusiaid oedd drigolion y tir.
º5 A thrigolion Jebus a ddywedasant ftrth Dafydd, Ni ddeui i mewn yma. Eto
Dafydd a enillodd dwr Seion, yr hwn yw ‘dinas Dafydd.
º6 A dywedodd Dafydd, Pwy bynnag
a drawo y Jebusiaid yn gyntaf, efe a fydd yn bennaf, ac yn dywysog. Yna yr
esgyn-tiodd Joab mab Serfia yn gyntaf, ac a fu bennaf.
º7 A thrigodd Dafydd yn y twr: oher-ifcydd hynny y galwasant ef Dinas Dafydd.
º8 Ac efe a adeiladodd y ddinas
oddi amgylch, o Milo amgylch ogylch: a Joab a adgyweiriodd y rhan arall i’r
ddinas.
"9 A Dafydd a aeth ac a gynyddodd ftvyfwy, ac ARGLWYDD y lluoedd oedd
gydag ef.
º10 Dyma hefyd benaethiaid y cedyrn toedd gan Dafydd, yn ymgryfhau gydag 6f yn ei
deyrnas, a chyda holl Israel, i’w wneuthur ef yn frenin ar Israel, yn ôl gair
yr ARGLWYDD.
º11 A dyma rif y cedyrn oedd gan Dafydd; Jasobeam mab Hachmoni, pen y
capteiniaid: hwn a ddyrchafodd ei waywffon yn erbyn tri chant, y rhat a taddwyd
ar unwaith gsnddo. s
º12 Ac ar ei ôl ef Eleasar mab Dodo, yr Ahohiad, hwn oedd un o’r tri chadarn.
º13 Hwn oedd gyda Dafydd yn Pas-dammim; a’r Philistiaid a ymgynullasant yno i
ryfel, ac yr ydoedd rhan o’r maes yn llawn haidd, a’r bobl a ffoesant o’ Aaen y
Philistiaid.
º14 A hwy a ymosodasant yng nghanol y rhandir honno, ac a’i hachubasant hi, ac
a drawsant y Philistiaid: felly y gwaredodd yr ARGLWYDD hwynt ag ymwared mawr.
º15 A thri o’r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant i’r graig at Dafydd, i
ogof Adulam; a llu y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nynryn Reflaim.
º16 A Dafydd yaa ydoedd yn yr amddiffynfa, a sefyllfa y Philistiaid yna oedd yn
Bethlehem.
º17 A Dafydd a flysiodd, ac a ddywedodd, O pwy a,rydd i mi ddiod ddwfr o bydew
Bethi?hem, yr hwn sydd wrthy .porth? .
º18 A’r tri a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwfr o
bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac .a’i cymerasant ac a’i dygasant i
Dafydd: ac ni fynnai Dafydd ei yfed ef, ond efe a’i diodoffrymodd ef i’r
ARGLWYDD: .
º19 Ac efe a ddywedodd, Na ato fy Nuw -i mi wneuthur hyn. A yfaf fi waed y
dynion hyn, a beryglasant eu heinioes? oherwydd mewn enbydrwydd am eu heinioes
y dygasant ef: am hynny ni fynnai efe ei yfed. Y tri chadarn a wnaethant hyn.
º20 Ac Abisai brawd Joab oedd bennaf .a’r tri. A hwn a ysgydwodd ei waywffon
yn. erbyn tri chant, ac a’u lladdodd hwynt: ac iddo y bu enw ymhlith y tri.
º21 O’r tri, anrhydeddusach na’r ddau eraill, a thywysog iddynt, oedd efe: ond
ni ddaeth efe hyd y tri cyntaf.
º22 Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, mawr ei weithredoedd:
efe a laddodd ddau o gedyrn Moab; ac efe a ddisgynnodd ac a laddodd lew mewn
pydew yn amser eira.
º23 Ac efe a laddodd Eifftddyn, gŵr pum cufydd o fesur; ac yn llaw yr
Eifft-ddyn yr oedd gwaywffon megis carfan gwehydd; ac yntau a aeth i waered ato
ef a ffon, ac a ddug y waywffon o law yr Eifftddyn, ac a’i lladdodd ef a’i
waywffba ei hun.
º24 Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada, ac iddo y bu enw ymhlith y tri chadarn.
º25 Wele, aorhydeddus oedd efe ymysg y deg ar hugain, ond at y tri cyntaf ni
ddaeth efe: a gosododd Dafydd ef ar ei wŷr o gard. . .; .;. .
º26 A chedyrn y llu oedd Asahel brawd Joab, EBaanan -slab Dodpj o Bethlehem,
-,
º27 Sammoth yr Harqdiad, .Heles y Feloniad,, .:
º28 Ira mab Icces y Tecoiad, Abieser yr Anthothiad,,,; .
º29 Sibbechai yr Husathiad, llai,yr Ahohiad, -;
º30 Maharai y Netoffathiad, Heled mab-Baana y Netoffathiad,,,
º31 Ithai mab Ribai o Gibea ‘.meSaioo. Benjamin, Benaia y Pirathoniad, .
º32 Hurai
o:afonydd Gaas, Abiel yr Arbathiad,
º33 Asmafeth y Baharumiad, Elianba y Saalboniad, . ‘ .
º34 Meibion Hasem y Gisoniad, Jonathan mab Sageth yr Harariad,
º35 Ahi’am mab Sachar yr Harariad, .Eliffal mab Ur,
º36 Hener y Mecherathiad, Atma y Feloniad, - i .;::37 Hesro y Carmeliad,
Naarai,mab, Esbai, .. ., .
º38 Joel brawd Nathan, Mibhar mab Haggeri,
º39 Selec yr Ammoniad, Naharai y Berothiad, yr hwn oedd yn dwyn arfau Joab mab
Serfia,
º40 Ira yr Ithriad, Gareb yr Ifhriad,
º41 Ureias yr Hethiad, Sabad mab Ahlai,,:
º42 Adina mab Sisa y Reubeniad, peni-naeth y Reubeniaid, a chydag ef ddeg;ar
hugain,
º43 Hanan mab Maacha, a Josaffat. y Mithniad,
º44 Usseia yr Asterathiad, Sama a J hiel, meibion Hothan yr Aroeriad,,
º45 Jediael mab Simri, a Joha ei frawd <f,yTisiad,
º46 Eliel y Mahafiad, a Jeribai, a Josafia
meibion Einaam, ac Ithma y Moabiad,
º47 Eliel, ac Obed, a Jasiel y Mesobaiad.
PENNOD 12
º1 A DYMA y rhai a ddaeth at Dafydd i Siclag, ac efe eto yn cadw arno rhag
Saul mab Cis: a hwy oedd ymhlith y rhai cedyrn, cynorthwywyr y rhyfel,
º2 Yn arfogion a xxxxx bwâu, yn medru o
ddeau ac o aswy daflu â cherrig, a saethu mewn bwâu: o frodyr Saul, o Benjamin.
º3 Y pennaf oedd Ahieser, yna Joas, meibion Semaa y Gibeathiad, a Jesiel’.a
Phelet meibion Asmafeth, a Beracha, a Jehu yr Anthothiad,
º4 Ac Ismaia y Gibeoniad, grymus oedd
ttefe ymhlith y deg ar hugain, a goruwch y deg ar hugain; Jeremeia hefyd, a
Jehasiel, a Johanaia, a Josabad y Ged-erathiad,
º5 Elusai, a Jerimoth, a Bealeia, a Sema-reia, Seffatia yr Haruffiad.
º6 Elcana, a Jeseia, ac Asareel, a Joeser, a Jasobeam, y Corhiaid, -
º7 A Joela, a Sebadeia, meibion Jeroham o Gedor.
º8 A rhai o’r Gadiaid a ymneilltuasant at Dafydd i’r amddiffynfa i’r anialwch,
yn gedyrn o nerth, gwŷr milwraidd i ryfel, yn medru trin tarian a bwcled,
ac wynebau llewod oedd eu hwynebau hwynt, ac .megis iyrchod ar y mynyddoedd o ‘
fuander oeddynt hwy.: .
º9 Eser y cyntaf, Obadeia yr ail, Eliab y trydydd,;:. .;,.
º10 Mismanna ypedwerydd, Jeremeia y pumed,
º11 Attai y chweched, Eliel y seithfed, ...- .;
º12 Johanan yr wythfed, Elsabad y naw-fed,
º13 Jeremeia y .degfed, Machbanai yr unfed ar ddeg.
º14 Y rhai hyn oedd o feibion Gad, yn gapteiniaid y llu: yr un lleiaf oedd ar
gant, a’r mwyaf ar fil.
º15 Dyma hwy y rhai a aethant dros yr Iorddonen yn y mis cyntaf, a hi wedi
llifo dros ei holl dorlannau, ac a yrasant i ffo holl drigolion y dyfirynnoedd
tua’r dwyrain, a thua’r gorllewin.
º16 A rhai o feibion Benjamin a Jwda a ddaethant i’r
amddiffynfa at Dafydd.
º17 A Dafydd a aeth i’w cyfarfod hwynt, ac a lefarodd ac a ddywedodd wrthynt,
Os mewn heddwch y daethoch chwi ataf fi i’m cynorthwyo, bydd fy nghalon yn un a
chwi: ond os i’m bradychu i’m gelynion, a minnau heb gamwedd yn fy nwylo, Duw
ein tadau ni a edrycho, ac a geryddo.
º18 A’r ysbryd a ddaeth ar Amasai pennaeth y capteiniaid, ac efe a ddywedodd,
Eiddot ti, Dafydd, a chyda thi, mab Jesse, y.byddwn ni; heddwch, heddwch
i ti, a hedd i’th gynorthwywyr; oher-
Wydd dy DDUW sydd yn dy gymorth di. Yna Dafydd a’u croesawodd hwynt, ac a’u
gosododd hwy yn benaethiaid ar y fyddin.
º19 A rhai o Manasse a droes at Dafydd, pan ddaeth efe gyda’r Philistiaid yn
erbyn Saul i ryfel, ond ni chynorthwyasant hwynt: canys penaduriaid y
Philistiaid, ‘wrth gyngor, a’i gollyngasant ef ymaith, gan ddywedyd, Efe a
syrth at ei feistr Saul am ein pennau ni.
º20 Fel yr oedd efe yn myned i Siclag, trodd ato ef o Manasse, Adna, a Josabad,
a Jediael, a A-Iichael, a Josabad, ac Elihu, a Silthai, y rhai oedd benaethiaid
y miloedd ym Manasse.
º21 A’r rhai hyn a gynorthwyasant Dafydd yn erbyn y dorf: canys cedyrn o nerth
oeddynt hwy oll, a chapteiniaid ar y llu.
º22 Canys rhai a ddeuai at Dafydd beunydd y pryd hwnnw, i’w gynorthwyo:. ef,
hyd onid oedd efe yn llu mawr, megis llu Duw.
º23 A dyma rifedi y pennau, y rhai yn arfogion i ryfel a ddaethant at Dafydd i
Hebron, i droi brenhiniaeth Saul ato ef, yn ôl gair yr ARGLWYDD.
º24 O feibion Jwda, yn dwyn tarian’a ffonwayw, chwe mil ac wyth cant, yh arfog
i ryfel.
º25 O feibion Simeon, yn gedyrn nerthol i ryfel, saith mil a chant.
º26 O feibion Lefi, pedair mil- a chwe chant. ‘
º27 A Jehoiada oedd dywysog ar yr Aaroniaid, a chydag ef dair mil a saith cant.
º28 Sadoc hefyd, llanc grymus nerthol, ac o dŷ ei dad ef dau ar hugain o
gapteiniaid.
º29 Ac o feibion Benjamin brodyr Saul, tair mil: canys hyd yn hyn llawer
ohonynt oedd yn dilyn tŷ Saul.
º30 Ac o feibion Effraim, ugain mil ao, wyth cant, yn rymus nerthol, yn
wŷr enwog yn nhŷ eu tadau.
º31 Ac o hanner llwyth Manasse, tair mil ar bymtheg, y rhai a hysBysasid erbyn
eu henwau, i ddyfod i wneuthur Dafydd yn frenin.
º32 Ac o feibion Issachar; y.rbai a fedrent ddeall yr amseroedd i wybodbeth a
ddylai Israel ei wneuthur, eu pehaethiaid hwynt oedd ddeucant, a’u holl frodyr
oedd wrth eu gorchymyn hwynt.
º33 O Sabulon, y rhai a aent allan i ryfel, yn medru rhyfela a phob arfau
rhyfel, deng mil a deugain, yn medru byddino, a hynny yn ffyddlon.
º34 Ac o Nafftali, mil o dywysogion, a chyda hwynt, a tharian a gwaywffon, ddwy
fil ar bymtheg ar hugain.
º35 Ac o’r Daniaid, wyth mil ar hugain a chwe chant, yn medru rhyfela.
º36 Ac o Aser yr oedd deugain mil ŷd myned allan mewn byddin, yn medru
rhyfela. .
º37 Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o’r Reubeniaid, ac o’r Gadiaid, ac o hanner
llwyth Manasse, y daeth chwech ugain mil mewn pob rhyw arfau cymwys i ryfel.
º38 Yr holl ryfelwyr hyn, yn medru byddino, a ddaethant mewn calon her-.-ffaith
i Hebron, i wneuthur Dafydd yn frenin ar holl Israel: a’r rhan arall o Israel
oedd hefyd yn un feddwl i wneuthur Dafydd yn frenin.
º39 A hwy a fuant yno gyda Dafydd dridiau, yn bwyta ac yn yfed: canys en brodyr
a arlwyasant iddynt hwy.
º40 A hefyd, y rhai oedd agos atynt hwy, hyd Issachar, a Sabulon, a Nafftali, a
ddygasant fara ar asynnod, ac ar gamelod, ac ar fulod, ac ar ychen, yn fwyd, yn
flawd, yn ffigys, ac yn resingau, ac yn win, ac yn olew, ac yn wartheg, ac yn
ddefaid yn helaeth: oherwydd yr ydoedd llawenydd yn Israel.
PENNOD 13
º1 A DAFYDD a ymgynghorodd â chapteiniaid y miloedd a’r cannoedd, ac a’r
holl dywysogion.
º2 A Dafydd a ddywedodd wrth holl gynulleidfa Israel, Os da gennych chwi, a hod
hyn o’r ARGLWYDD ein Duw, dantonwn ar led at ein brodyr y rhai a
weddillwyd trwy holl diroedd Israel, a chyda hwynt at yr offeiriaid a’r Lefiaid
o fewn eu dinasoedd a’u meysydd pen-trefol, i’w cynnull hwynt atom ni.
º3 A dygwn drachefn arch ein DRW atom ni; canys nid ymofynasom a hi yn nyddiau
Saul.
º4 A’r holl dyrfa a ddywedasant am wneuthur felly: canys uniawn oedd y peth yng
ngolwg yr holl bobl.
º5 Felly y casglodd Dafydd holl Israel ynghyd, o Sihor yr Aifft, hyd y ffordd-y
delir i Hamath, i ddwyn arch Duw o Ciriathj earim.
º6 A Dafydd a aeth i fyny, a holl Israel i Baala, sef Ciriath-jearim, yr hon
sydd yn Jwda, i ddwyn oddi yno arch yr ARGLWYDD DDUW, yr hwn sydd yn
pres-wylio rhwng y ceriwbiaid, ar yr hon y gelwir ei enw ef. .
º7 A hwy a ddygasant arch Duw ar fea newydd o dŷ Abinadab: ac Ussa ac
Ahi’o oedd yn gyrru y fen.
º8 A Dafydd a holl Israel oedd yn chwarae gerbron Duw, a’u holl nertha ac a
chaniadau, ac a thelynau, ac a nablau, ac a thympanau, ac a symbalau, ac ag
utgyrn.
º9 A phan ddaethant hyd lawr dyrnu Cidon, Ussa a estynnodd ei law i ddala yr
arch, canys yr ychen oedd yn ei hy-gwyd hi.
º10 Ac enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Ussa, ac efe a’i lladdodd ef, oblegid
iddo estyn ei law at yr arch; ac yno y bu efe farw gerbron Duw.:
º11 A bu ddrwg gan Dafydd am i’y ARGLWYDD rwygo rhwygiad yn Ussa; ac efe a
alwodd y lle hwnnw Peresussa, hyd y dydd hwn.; .
º12 A Dafydd a ofnodd DDUW y dydd hwnnw, gan ddywedyd. Pa fodd y dygaf arch Duw
i mewn ataf fi?
º13 Ac ni ddug Dafydd yr arch ato ei hun i ddinas Dafydd, ond efe a’i dudodd hi
i dŷ Obededom y Gethiad.
º14 Ac arch Duw a arhosodd gyda theulu Obededom, yn ei dy ef, dri mis, A’r
ARGLWYDD a fendithiodd dy Obededom, a’r hyn oll ydoedd eiddo.
PENNOD 14
º1 A HIRAM brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a
seiri meini, a seiri prennau, i adeiladu iddo ef dŷ.
º2 A gwybu Dafydd sicrhau o’r ARGLWYDD ef yn frenin ar Israel: canys yr oedd ei
frenhiniaeth ef wedi ei dyrchafu yn uchel, oherwydd ei bobl Israel.
º3 A chymerth Dafydd wragedd ych-waneg yn Jerwsalem: a Dafydd a gen-hedlodd
feibion ychwaneg, a merched.
º4 A dyma enwau y plant oedd iddo ef yn Jerwsalem: Sammua, a Sobab, Nathan, a
Solomon,
º5 Ac Ibhar, ac Elisua, ac Elpalet,
º6 A Noga, a Neffeg, a Jaffa,
º7 Ac Elisama, a Beeliada, ac Eliffalet.
º8 A phan glybu y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar holl
Israel, y Philistiaid oll a aethant i fyny i geisio Dafydd: a chlybu Dafydd, ac
a aeth allan yn eu herbyn hwynt.
º9 A’r Philistiaid a ddaethant ac a ymwasgarasant yn nyffryn Reffaim.
º10 A Dafydd a ymgynghorodd â Duw, gan ddywedyd, A af fi i fyny yn erbyn y
Philistiaid? ac a roddi di hwynt yn fy llaw i? A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho,
Cerdda i fyny, canys mi a’u rhoddaf hwynt yn dy law di.
º11 Felly yr aethant i fyny i Baal-perasim, a Dafydd a’u trawodd hwynt yno. A
Dafydd a ddywedodd, Duw a dorrodd i mewn ar fy ngelynion trwy fy llaw i, fel
rhwygo dyfroedd: am hynny y gal-wasant hwy enw y lle hwnnw Baal-perasim.
º12 A phan adawsant hwy eu duwiau, dywedodd Dafydd am eu llosgi hwynt yn tân.
º13 A thrachefn
eto y Philistiaid’ a ymwasgarasant yn y dyffryn.
º14 A Dafydd a ymgynghorodd â ‘Duw drachefn; a Duw a ddywedodd wrtho, Na ddos i
fyny ar eu hôl hwynt, tro ymaith oddi wrthynt, a thyred arnynt ar gyfer y
morwydd.
º15 A phan glywych drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna dos allan i ryfel:
canys y mae Duw wedi myned o’th flaen di, i daro llu y Philistiaid.
º16 A gwnaeth Dafydd megis y gorchmynasai Duw iddo; a hwy a
drawsant lu y Philistiaid o Gibeon hyd Gaser.
º17 Ac enw Dafydd a aeth trwy yr holl wiedydd; a’r ARGLWYDD a roddes ei arswyd
ef ar yr holl genhedloedd.
PENNOD 15
º1 A DAFYDD a wnaeth iddo dai yn ninas Dafydd, ac a baratodd le i arch Duw,
ac a osododd iddi babell. 2 A Dafydd a ddywedodd, Nid yw i neb ddwyn arch Duw,
ond I’r Lefiaid: canys hwynt a ddewisodd yr ARGLWYDD i ddwyn arch Duw, ac i
weini iddo ef yn dragywydd.
º3 A Dafydd a gynullodd holl Israel i Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch yr
ARGLWYDD i’w lle a baratoesai efe iddi hi.
º4 A Dafydd a gynullodd feibion Aaron, a’r Lefiaid.
º5 O feibion Cohath; Uriel y pennaf, a’i frodyr, cant ac ugain.
º6 O feibion Merari; Asaia y pennaf, a’i frodyr, dau cant ac ugain.
º7 O feibion Gersom; Joel y pennaf, a’i frodyr, cant a deg ar hugain.
º8 O feibion Elisaffan; Semaia y pennaf, a’i frodyr, dau cant.
º9 O feibion Hebron; Eliel y pennaf, a’i frodyr, pedwar ugain.
º10 O feibion Ussiel; Amminadab y pennaf, a’i frodyr, cant a deuddeg.
º11 A Dafydd a alwodd am Sadoc ac am Abiathar yr offeiriaid, ac am y Lefiaid,
am Uriel, Asaia, a Joel, Semaia, ac Eliel, ac Amminadab,
º12 Ac a ddywedodd wrthynt, Chwi sydd bennau-cenedl ymhlith y Lefiaid:
ymsancteiddiwch chwi a’ch brodyr, fel y dygoch i fyny arch ARGLWYDD DDUW Israel
i’r lle a baratoais iddi hi.
º13 Oherwydd nas gwnaethoch o’r dech-reuad, y torrodd yr ARGLWYDD ein Duw
arnorn ni, oblegid na cheisiasom ef yn y modd y dylasem.
º14 Felly yr offeiriaid, a’r Lefiaid a ymsancteiddiasant i ddwyn i fyny arch
ARGLWYDD DDUW Israel.
º15 A meibion y Lefiaid a ddygasant arch Duw ar eu hysgwyddau, wrth drosolion,
megis y gorchmynnodd Moses, yn ôl gair yr ARGLWYDD.
º16 A Dafydd a ddywedodd wrth dywysogion y Lefiaid, ar iddynt osod eu brodyr y
cerddorion i leisio ag offer cerdd, nablau, a thelynau, a symbalau, yn lleisio
gan ddyrchafu llef mewn gorfoledd.
º17 Felly y Lefiaid a osodasant Heman mab Joel; ac o’i frodyr ef Asaff mab
Berecheia; ac o feibion Merari eu brodyr, Ethan mab Cusaia.
º18 A chyda hwynt eu brodyr o’r ail radd, Sechareia, Ben, a Jaasiel, a
Semira-moth, a Jehiel, ac Unni, Eliab, a Benaia, a Maaseia, a Matitheia, ac
Eliffele, a Micneia, ac Obededom, a Jehiel, y porthorion.
º19 Felly Heman, Asaff, ac Ethan, y cerddorion, oeddynt i leisio a symbalau
pres.
º20 A Sechareia, ac Asiel, a Semiramoth, a Jehiel, ac Unni, ac Eliab, a
Maaseia, a Benaia, a ganent nablau ar Alamoth.
º21 A Matitheia, ac Eliffele, a Micneia, ac Obededom, a Jehiel, ac Asaseia,
oeddynt a thelynau ar y Seminith i ragori.
º22 Chenaneia hefyd oedd flaenor y Lefiaid ar y gan: efe a ddysgai eraill am y
gan, canys cyfarwydd ydoedd.
º23 A Berecheia ac Elcana oedd borthorion i’r arch.
º24 A Sebaneia, a Jehosaffat, a Nathaneel, ac Amasai, a Sechareia, a Benaia, ac
Elieser, yr offeiriaid, oedd yn lleisio mewn utgyrn o flaen arch Duw: Obededom
hefyd a Jeheia oedd borthorion i’r arch.
º25 Felly Dafydd a henuriaid Israel, a thywysogion y miloedd, a aethant i ddwyn
i fyny arch cyfamod yr ARGLWYDD o dŷ Obededom mewn llawenydd.
º26 A phan gynorthwyodd Duw y Lefiaid oedd yn dwyn arch cyfamod yr
ARGLWYDD, hwy a offrymasant saith o fustych, a saith o hyrddod.
º27 A Dafydd oedd wedi ymwisgo mewn gwisg o liain main; a’r holl Lefiaid, y
rhai oedd yn dwyn yr arch, a’r cantorion, Chenaneia hefyd meistr y gan, a’r
cerddorion. Ac am Dafydd yr oedd effod liain.
º28 A holl Israel a ddygasant i fyny arch -cyfamod yr ARGLWYDD a bloedd, â
llais trwmped, ag utgyrn, ac â symbalau, yn lleisio gyda’r nablau a’r telynau.
º29 A phan ydoedd arch cyfamod yr ARGLWYDD yn dyfod i ddinas Dafydd, Michal
merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu Dafydd y brenin yn dawnsio ac
yn chwarae: a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon.
PENNOD 16
º1 FELLY y dygasant hwy arch Duw i mewn, ac a’i gosodasant hi yng nghanol y
babell a osodasai Dafydd iddi hi: a hwy a offrymasant offrymau poeth ac ebyrth
hedd gerbron Duw.
º2 Ac wedi i Dafydd orffen aberthu offrymau poeth ac ebyrth hedd; efe a
fendithiodd y bobl yn enw yr ARGLWYDD.
º3 Ac efe a rannodd i bob un o Israel, yn ŵr ac yn wraig, dorth o fara, a
dryll o gig, a chosttelaid o win.
º4 Ac efe a osododd gerbron arch yr ARGLWYDD weimdogion o’r Lefiaid; i gofio,
ac i foliannu, ac i glodfori ARGLWYDD DDUW Israel.
º5 Asaff oedd bennaf, ac yn ail iddo ef Sechareia, Jeiel, a Semiramoth, a
Jehiel, a Matitheia, ac Eliab, a Benaia, ac Obededom: a Jeiel ag offer nablau,
a thelynau; ac Asaff oedd yn lleisio a symbalau.
º6 Benaia hefyd a Jahasiel yr offeiriaid oedd ag utgyrn yn wastadol o flaen
arch cyfamod Duw.
º7 Yna y dydd hwnnw y rhoddes Dafydd y salm hon yn gyntaf i foliannu yr
ARGLWYDD, yn llaw Asaff a’i frodyr.
º8 Moliennwch yr ARGLWYDD, gerwch ar ei enw ef, hysbyswch ei weithredoedd ef
ymhlith y bobloedd.
º9 Cehwch iddo, clodforwch ef, ymadroddwch am ei holl ryfeddodau. .
º10 Ymlawenychwch yn ei enw sanct-aidd
ef; ymhyfryded calon y sawl a geisiant yr ARGLWYDD.
º11 Ceiswch yr ARGLWYDD a’i nerth ef, ceisiwch ei wyneb ef yn wastadol.
º12 Cofiwch ei wyrthiau y rhai a wnaet& efe, ei ryfeddodau, a
barnedigaethau ei enau; ‘
º13 Chwi had Israel ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion ef.
º14 Efe yw yr ARGLWYDD ein Duw ni, farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear.
º15 Cofiwch yn dragywydd ei gyfamod; y gair a orchmynnodd efe i fit ogenedlaethau;
º16 Yr hwn a gyfamododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac:
º17 Ac a osododd efe yn ddeddf ‘i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol - i Israel,
º18 Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf <dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.
"19 Pan nad oeddech ond ychydig, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi; ‘
º20 A phan rodient o genhedlaeth -i genhedlaeth, ac o un frenhiniaeth at batil
‘eraill; 21 Ni adawodd efe i neb eu gorthrymui ond efe a geryddodd frenhinoedd
o’u plegid hwy, gan ddywedyd,:
º22 Na chyffyrddwch a’m heneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.
º23 Cenwch i’r ARGLWYDD yr holl ddaear: mynegwch o ddydd i ddydd eii
iachawdwriaeth ef.
º24 Adroddwch ei ogoniant ef ymhlith y cenhedloedd; a’i wyrthiau ymhlith yr
holl bobloedd. -
º25 Canys mawr yw yr ARGLWYDD, a chanmoladwy iawn: ofnadwy hefyd yw efe goruwch
yr holl dduwiau.
º26 Oherwydd holl dduwiau y bot)-toedd ydynt eilunod; ond yr ARGLWYB6 a wnaeth
y nefoedd.
º27 Gogoniant a harddwch sydd ger ei fron ef: nerth a gorfoledd yn ei fangre
ef.
º28 Moeswch i’r ARGLWYDD, chwi deu- luoedd y ‘bobloedd, moeswch i’r ARGLWYDD
ogoniant a nerth.,
º29 Moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant ei enw: dygwch aberth, a deuwch gerei fron
ef; ymgrymwch i’r ARGLWYDD mewn prydferthwch sancteiddrwydd. "
º30 Ofnwch rhagddo ef yr holl ddaear: y fcyd hefyd a sicrheir, fel na syflo.
º31 Ymlawenyched y nefoedd, ac ymfay*. fryded y ddaear, a dywedant ymhlith y
cenhedloedd, Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu.
º32 Rhued y môr a’i gyflawnder; llawen-fcaed y maes, a’r hyn oll y sydd ynddo.
º33 Yna prennau y coed a ganant o jBaen yr ARGLWYDD, am ei fod yn dyfod i Marnu
y ddaear.
º34 Clodforwch yr ARGLWYDD; . canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn
dragywydd.
º35 A dywedwch, Achub ni, O DDUW ein hiachawdwriaeth, casgl ni hefyd, a gwared
ni oddi wrth y cenhedloedd, i feliannu dy enw sanctaidd di, ac i ymo-goneddu yn
dy foliant.
º36 Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. A
dywedodd yr holl bobl, Amen, gan foliannu yr ARGLWYDD.
º37 Ac efe a adawodd yno, o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD, Asaff a’i frodyr, i
weini gerbron yr arch yn wastadol, gwaith dydd yn ei ddydd:
º38 Ac Obededom a’u brodyr, wyth a thrigain; Obededom hefyd mab Jedu-thun, a
Hosa, i fod yn borthorion:
º39 Sadoc yr offeiriad, a’i frodyr yr offeiriaid, o flaen tabernad yr ARGLWYDD,
yn yr uchelfa oedd yn Gib’eon,
º40 I offrymu poethoffrymau i’r ARGLWYDD ar allor y poethoffrwm yn wastadol
fore a hwyr, yu ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD, yr
hon a orchmynnodd efe i Israel:
º41 A chyda hwynt Heman, a Jedwthwn, a’r etholedigion eraill, y rhai a
hysbysasid wrth eu henwau, i foliannu yr ARGLWYDD, am fod ei drugaredd ef yn
dragywydd:
º42 A chyda hwynt Heman, a Jedwthwn, r yn lleisio ag utgyrn, ac a symbalau i’r
cerddorion, ac offer cerdd Duw: a meibion Jedwthwn oedd wrth y porth.
º43 A’r holl bobl a aethant bob un i’w dŷ ei hun: a Dafydd a ddychwelodd i
fendigo ei dy yntau.
PENNOD 17
º1 A PHAN oedd Dafydd yn trigo yn ei dŷ, Dafydd a ddywededd wrth
Nathan y proffwyd, Wele fi yn trigo mewn tŷ o gedrwydd, ac arch cyfamod yr
ARGLWYDD dan gortynnau.
º2 Yna Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon; canys
y mae Duw gyda thi.
º3 A’r noson honno y daeth gair DUW at Nathan, gan ddywedyd,
º4 DOS, a dywed wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Nid-adeiledi
di i mi dŷ i breswylio ynddo.
º5 Canys ni phreswyliais i mewn tŷ e« y dydd y dygais i fyny Israel hyd y
dydd hwn, ond bûm o babell i babell, ac Q dabernacl bwygilydd. . ;
º6 Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl Israel, a yngenais i air wrth un o
farnwyr Israel, i’r rhai y gorchmynaswn borthi fy mhobl, gan ddywedyd, Paham
nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd?
º7 Ac yr awr hon fel hyn y dywedi wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed
ARGLWYDD y lluoedd, Myfi a’th gymerais di o’r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i
fod yrt dywysog ar fy mhobl Israel.
º8 A bûm gyda thi, i ba le bynnag y rhodiaist, torrais ymaith hefyd dy holl
elynion o’th flaen, a gwneuthum enw i ti megis enw y gwŷr mawr sydd ar y
ddaear.
º9 Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le, ac a’u plannaf, a hwy a drigant yn eu lle,
ac ni symudir hwynt mwyach; a meibion anwiredd ni chwanegant eu cystuddio,
megis yn y cyntaf,
º10 Ac er y dyddiau y gorchmynnais i farnwyr fod ar fy mhobl Israel;
darostyng-af hefyd dy holl elynion di, a mynegaf i ti yr adeilada yr ARGLWYDD i
ti dŷ.
º11 A bydd pan gyflawner dy ddyddiau di i fyned at dy dadau, y cyfodaf dy had
ar dy ôl di, yr hwn a fydd o’th feibien di, a mi a sicrhaf ei deyrnas ef.:
º12 Efe a adeilada i mi dŷ, a minnau a sicrhaf ei deyrngadair ef byth.
º13 Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab, a’m trugaredd ni
thynnaf oddi wrtho ef, megis y tynnais oddi wrth yr hwn a fu o’th flaen di.
º14 Ond mi a’i gosodaf ef yn fy nhŷ, ac yn fy nheyrnas byth; a’i
deyrngadair efa sicrheir byth, . .! . .
º15. Yn ôl yr holl eiriau hyiii,:ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y
llefarodd Nathan wrth Dafydd.
º16 A daeth Dafydd y brenin, ac a eisteddodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O ARGLWYDO) DDUW, a
pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma?
º17 Eto bychan yw hyn yn dy olwg di,’ O DDUW; canys dywedaist am dŷ dy was
dros hir o amser, a thi a edrychaist arnaf, O ARGLWYDD DDUW, fel ar gyflwr dyn
uchelradd.
º18 Pa beth a chwanega Dafydd ei ddywedyd wrthyt mwyach am anrhydedd dy was?
canys ti a adwaenost dy was.
º19 ARGLWYDD, er mwyn dy was, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl
fawredd hyn, i ddangos pob mawredd.
º20 O ARGLWYDD, nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw ond tydi, yn ôl yr hyn oll
a glywsom a’n clustiau.
º21 A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl Israel, yr hon yr aeth Duw
i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun, i osod i ti enw mawr ac ofnadwy, gan fwrw
allan genhedloedd o flaen dy bobl, y rhai a waredaist ti o’r Aifft?
º22 Ti hefyd a wnaethost dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, ARGLWYDD, a
aethost yn DDUW iddynt hwy. .
º23 Am hynny yr awr hon, ARGLWYDD, y gair a leferaist am dy was, ac am ei dy
ef, poed sicr fyddo byth: gwna fel y lleferaist.
º24 A phoed sicr fyddo, fel y mawrhaer dy enw yn dragywydd, gan ddywedyd*
ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel , sydd DDUW i Israel: a bydded tŷ Dafydd dy
was yn sicr ger dy fron di.
º25 Canys ti, O fy Nuw, a ddywedaist i’th was, yr adeiladit ti dy iddo ef: am
hyrmy y cafodd dy was weddïo ger dy fron di.
º26 Ac yr awr hon, ARGLWYDD, ti ydwyt DDUW, a thi a leferaist am dŷ dy
was, y daioni hwn;
º27 Yn awr gan hynny bid wiw gennyt fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron
yn dragywydd: am i ti, O ARGLWYDD, ei fendigo, bendigedig fydd yn dragywydd.
PENNOD 18
º1 A DARFU wedi hyn, i Dafydd daro’r Philistiaid, a’u darostwng hwynt, a
dwyn Gath a’i phentrefi o law y Philistiaid.
º2 Hefyd efe a drawodd Moab; a’r Moabiaid a fuant weision i Dafydd, yn dwyn
treth.
º3 Trawodd Dafydd hefyd Hadareser brenin Soba hyd Hamath, pan oedd efe yn myned
i sicrhau ei lywodraeth wrth afon Ewffrates.
º4 A Dafydd a ddug oddi arno ef fil o gerbydau, a saith mil o wŷr meirch,
ac ugain mil o wŷr traed; a thorrodd Dafydd linynnau gar meirch yr holl gerbydau,
ond efe a adawodd ohonynt gan cerbyd.
º5 A phan ddaeth y Syriaid o Damascus i gynorthwyo Hadareser brenin Soba,
Dafydd a laddodd o’r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr.
º6 A gosododd Dafydd amddiffynfeydd yn Syria Damascus: a bu y Syriaid yn weision
i Dafydd, yn dwyn treth. A’r ARGLWYDD a waredodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth.
º7 A Dafydd a gymerodd y tarianau aur oedd gan weision Hadareser, ac a’u dug
hwynt i Jerwsalem.
º8 Dug Dafydd hefyd o Tibhath, ac o Chun, dinasoedd Hadareser, lawer iawn o
bres, a’r hwn y gwnaeth Solomon y môr pres, a’r colofnau, a’r llestri pres.
º9 A phan glybu Tou brenin Hamath daro o Dafydd holl lu Hadareser brenin Soba;
º10 Efe a anfonodd at y brenin Dafydd Hadoram ei fab, a phob llestri aur, ac
arian a phres, gydag ef, i ymofyn am ei iechyd ef, ac i’w fendithio ef, am iddo
ryfela yn erbyn Hadareser, a’i daro ef: canys rhyfela yr oedd Hadareser yn
erbyn Tou.
º11 Y rhai hynny hefyd a gysegrodd y
brenin Dafydd i’r ARGLWYDD, gyda’r arian a’r aur a ddygasai efe oddi ar yr holl
genhedloedd, sef oddi ar Edom, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac
oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec.
º12 Ac Abisai mab Setfia a laddodd o Edom, yn nyffryn yr halen, dair mil ar
bymtheg.
º13 Ac efe a osododd amddiffynfeydd yn Edom; a’r holl Edomiaid a fuant weision
i Dafydd. A’r ARGLWYDD a gadwodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth efe.
º14 A Dafydd a deyrnasodd ar holl Israel, ac yr oedd efe yn gwneuthur barn a
chyfiawnder i’w holl bobl.
º15 A Joab mab Serfia oedd ar y llu; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur;
º16 A Sadoc mab Ahitub, ac Abi-melech mab Abiathar, oedd offeiriaid; a Safsa yn
ysgrifennydd;
º17 Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a’r Felethiaid; a meibion
Dafydd oedd y rhai pennaf wrth law y brenin.
PENNOD 19
º1 A ar ôl hyn y bu i Nahas brenin
meibion Ammon farw; a’i fab a deyrnasodd yn ei le ef.
º2 A Dafydd a ddywedodd, Gwnaf garedigrwydd a Hanun mab Nahas, oherwydd gwnaeth
ei dad a myfi garedigrwydd. Ac anfonodd Dafydd genhadau i’w gysuro ef am ei dad.
A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon, at Hanun, i’w gysuro ef.
º3 A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun, Ai anrhydeddu dy dad
di y mae Dafydd yn dy dyb di, am iddo anfon cysurwyr atat ti? onid i chwilio,
ac i ddifetha, ac i droedio y wlad, y daeth ei weision ef atat ti?
º4 Yna y cymerth Hanun weision Dafydd, ac a’u heilliodd hwynt, ac a dorrodd eu
dillad hwynt yn eu hanner, wrth en cluniau, ac a’u gyrrodd hwynt ymaith.
º5 A hwy a aethant, ac a fynegasant i Dafydd am y gwŷr. Ac efe a anfonodd
i’w cyfarfod hwynt: canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr. A dywedodd
y brenin, Trigwch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau; yna dychwelwch.
º6 Yna meibion Ammon a welsant ddarfod iddynt eu gwneuthur eu hunain yn gas gan
Dafydd; ac anfonodd Hanun a meibion Ammon fil o dalentau arian, i gyflogi
iddynt gerbydau a marchogion o Mesopotamia, ac o Syria-maacha ac o Soba.
º7 A chyflogasant iddynt ddeuddeng mil ar hugain o gerbydau, a brenin Maacha
a’i bobl; y rhai a ddaethant, ac a wersyllasant o flaen Medeba. A meibion Ammon
hefyd a ymgasglasant o’u dinasoedd, ac a ddaethant i ryfel.
º8 A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn.
º9 A meibion Ammon a aethant allan, ac a ymfyddinasant wrth borth y ddinas: a’r
brenhinoedd y rhai a ddaethai oedd o’r neilitu yn y maes.
º10 A phan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe a
etholodd o holl etholedigion Israel, ac a’u byddinodd hwynt yn erbyn y Syriaid.
º11 A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd; a hwy a ymfyddinasant
yn erbyn meibion Ammon.
º12 Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di yn
gyn-horthwy i mi: ond os meibion Ammon a fyddant drech na thi, yna mi a’th
gyn-orthwyaf dithau.
º13 Bydd rymus, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw; a gwnaed
yr ARGLWYDD yr hyn fyddo da yn ei olwg ef.
º14 Yna y nesaodd Joab a’r bobl oedd gydag ef, yn erbyn y Syriaid i’r rhyfel; a
hwy a ffoesant o’i flaen ef.
º15 A phan welodd meibion Ammon ffoi o’r Syriaid, hwythau hefyd a ffoesant o
flaen Abisai ei frawd ef, ac a aethant i’r ddinas; a Joab a ddaeth i Jerwsalem.
º16 A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a anfonasant genhadau,
ac a ddygasant allan y Syriaid y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon; a Soffach
capten llu Hadareser oedd o’u blaen hwynt.
º17 A mynegwyd i Dafydd; ac efe a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr
Iorddonen, ac a ddaeth arnynt hwy, ac a ymfyddinodd yn eu herbyn hwynt. A phan
ymfyddinodd Dafydd yn erbyn y Syriaid, hwy a ryfelasant ag ef.
º18 Ond y Syriaid a ffoesant o flaen Israel; a lladdodd Dafydd o’r Syriaid
saith mil o wŷr yn ymladd mewn cerbydau, a deugain mil o wŷr traed,
ac a laddodd Soffach capten y llu.
º19 A phan welodd gweision Hadareser eu lladd o flaen Israel, hwy a
heddychasant a Dafydd, a gwasanaethasant ef: ac ni fynnai y Syriaid gynorthwyo
meib* ion Ammon mwyach.
PENNOD 20
º1 TT ARFU hefyd wedi gorffen y flwydd-
yn, yn amser myned o’r brenhinoedd allan i ryfela, arwain o Joab
gadernid y llu, ac anrheithio gwlad meibion Ammon, ac efe a ddaeth ac a
war-chaeodd ar Rabba: ond Dafydd a arhosodd yn Jerwsalem: a Joab a drawodd
Rabba; ac a’i dinistriodd hi.
º2 A chymerth Dafydd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben, a chafodd hi o bwys
talent o aur, ac ynddi feini gwerthfawr, a hi a roed am ben Dafydd: ac ef&
a ddug anrhaith fawr iawn o’r ddinas.
º3 A’r bobl oedd ynddi a ddug efe allan, ac a’u torrodd hwynt a llifiau, ac ag
ogau heyrn, ac a bwyeill: ac fel hyn y gwnaeth Dafydd a holl ddinasoedd meibion
Ammon. A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerwsalem.
º4 Ac at ôl hyn y cyfododd rhyfel yn Geser yn erbyn y Philistiaid: yna
Sib-bechai yr Husathiad a laddodd Sippai
yr hwn oedd o feibion y cawr, felly y darostyngwyd hwynt.
º5 A bu drachefn ryfel yn erbyn y Philistiaid, ac Elhanan mab Jair a
ladd-<?dd Lahmi, brawd Goleiath y Gethiad, a phaladr ei waywffon ef oedd fel
carfan .gwehydd.
º6 Bu hefyd drachefn ryfel yn Gath, ac yr oedd gŵr hir, a’i fysedd oeddynt
bob yn chwech a chwech, sef pedwar ar hugain; yntau hefyd a anesid i’r cawr.
º7 Ond pan ddifenwodd efe Israel, Jonathan mab Simea brawd Dafydd a’i lladdodd
ef.
º8 Y rhai hyn a anwyd i’r eawr yn Gath, ac a laddwyd trwy law Dafydd, a fhrwy
law iweision ef.
PENNOD 21
º1 A SATAN a safodd i fyny yn erbyn Ax Israel, ac a anogodd
Dafydd i gyfrif Israel.
º2 A dywedodd Dafydd with Joab, ac wrth benaethiaid y bobl, Ewch, cyfrifwch. Israel o Beerseba hyd Dan; a
dygwch ataf fi, fel y gwypwyf eu rhifedi hwynt. ..’
º3 A dywedodd Joab, Chwaneged yr ARGLWYDD ei bobl yn gan cymaint ag ydynt: O fy
arglwydd frenin, onid gweis* ion i’m harglwydd ydynt hwy oll? paham y cais fy
arglwydd hyn? paham y bydd efe yn achos camwedd i Israel?
º4 Ond gair y brenin a fu drech na Joab:. a Joab a aeth
allan, ac a dramwyodd trwy holl Israel, ac a ddaeth i Jerwsalem.
º5 A rhoddes Joab nifer rhifedi y bobl i Dafydd. A holl Israel oedd fil o
filoedd a chan mil o wŷr yn tynnu cleddyf, a Jwda oedd bedwar can mil a
deng mil’ a thrigain o wŷr yn tynnu cleddyf.
º6 Ond Lefi a Benjamin ni chyfrifasai efe yn eu mysg hwynt; canys ffiaidd oedd
gan Joab air y brenin.
º7 A bu ddrwg y peth hyn yng ngolwg Duw, ac efe a drawodd Israel.
º8 A Dafydd a ddywedodd wrth DDUW, Pechais yn ddirfawr, oherwydd i mi wneuthur
y peth hyn: ac yr awr hon, dilea, atolwg, anwiredd dy was, canys gwneuthum yn
ynfyd iawn.
º9 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Gad, gweledydd Dafydd, gan ddywedyd,
º10 DOS, a llefara wrth Dafydd, gan ddywedyd. Fel hyn y dywed yr AR-(SLWYDD,
Tri pheth yr ydwyf fi yn eu gosod o’th flaen di; dewis i ti un ohonynt, a mi
a’i gwnaf i ti.
º11 Yna Gad a ddaeth at Dafydd, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr
ARGLWYDD, Cymer i ti
º12 Naill ai tair blynedd o newyn; ai dy ddifetha dri mis o flaen dy
wrthwynebwyr, a chleddyf dy elynion yn dy oddi-weddyd; ai ynteu cleddyf yr
ARGLWYDD, sef haint y nodau, yn y tir dri diwrnod, ac angel yr ARGLWYDD yn
dinistrio trwy holl derfynau Israel. Ac yr awr hon edrych pa air a ddygaf
drachefn i’r hwn a’m hanfonodd.
º13 A Dafydd a ddywedodd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi; syrthiwyf,
atolwg, yn llaw yr ARGLWYDD, canys ei drugareddau ef ydynt arni iawn, ac na
syrthiwyf yn llaw dyn.
º14 Yna y
rhoddes yr ARGLWYDD haint y nodau ar Israel: a syrthiodd o Israel ddeng mil a
thrigain mil o wŷr.
º15 A Duw a anfonodd angel i Jerwsalem i’w dinistrio hi: ac fel yr oedd yn ei
dinistrio, yr ARGLWYDD a edrychodd, ac a edifarhaodd am y drwg, ac a ddywed-i
odd wrth yr angel oedd yn dinistrio, Digon, bellach, atal dy law. Ac angel yr
ARGLWYDD oedd yn sefyll wrth lawr dyrnu Oman y Jebusiad.;
º16 A Dafydd a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu angel yr ARGLWYDD yn sefylli
rhwng y ddaear a’r nefoedd, a’i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn tua Jerwsalem.
A syrthiodd Dafydd a’r henuriaid, y rhai oedd wedi ymwisgo mewn sachliain, ar eu
hwynebau.
º17 A Dafydd a ddywedodd wrth DDUW, Onid myfi a ddywedais
am gyfrif y bobl? a mi yw yr hwn a bechais, ac a wneuthum fawr ddrwg; ond y
defaid hyn, beth a wnaethant hwy? O ARGLWYDD fy Nuw, bydded, atolwg, dy law
arnaf fi, ac ar dy fy nhad, ac nid yn bla ar dy bobl.
JafliL MJ
º18 Yna tfngel yr ARGLWYDD a archodd i Gad ddywedyd wrth Dafydd, am fyned o
Dafydd i fyny i gyfodi allor i’r ARGLWYDD yn llawr dyrnu Oman y Jebusiad.
º19 A Dafydd a aeth i fyny, yn ôl gair Gad, yr hwn a lefarasai efe yn enw yr
ARGLWYDD.
º20 Yna y trodd Oman, ac a ganfu y? angel, a’i bedwar mab gydag efa
ymguddiasant; ac Oman oedd yn dyrnu gwenith.
º21 A Dafydd a ddaeth at Oman; ac edrychodd Oman, ac a ganfu Dafydd, ac a aeth
allan o’r llawr dyrnu, ac a ymgrymodd i Dafydd, â’i xxx wyneb tua’r ddaear.
º22 A dywedodd Dafydd wrth Oman Moes i
mi le y llawr dymu, fel yr adeilad-wyf ynddo allor i’r ARGLWYDD: dyro ef i mi
am ei lawn werth; fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl.
º23 Ac Oman a ddywedodd wrth Dafydd) Cymer i ti, a gwnaed fy arglwydd frenin yr
hyn fyddo da yn ei olwg. Wele, rhoddaf yr ychen yn boethoffrwm, a’r offer dyrnu
yn gynnud, a’r gwenith yn fwyd-offrwm: hyn oll a roddaf.
º24 A’r brenin Dafydd a ddywedodd wrth Oman, Nid felly, ond gan brynu y prynaf
ef am ei lawn werth: canys ni chymeraf i’r ARGLWYDD yr eiddot ti, ac nid
offrymaf boethoffrwm yn rhad.
º25 Felly y rhoddes Dafydd i Oman am y lle chwe chan sicl o aur wrth bwys.
º26 Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i’r ARGLWYDD, ac a offrymodd
boethoffrymau, ac ebyrth hedd, ac a alwodd ar yr ARGLWYDD; ac efe a’i hatebodd
ef o’r nefoedd trwy dân ar allor y poethoffrwm.
º27 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth yr angel; ac yntau a roes ei gleddyf yn ei wain
drachefn.
º28 Y pryd hwnnw, pan ganfu Dafydd ddarfod i’r ARGLWYDD wrando arno ef yn llawr
dyrnu Oman y Jebusiad, efe- a aberthodd yno.
º29 Ond tabernacl yr ARGLWYDD, yr hon a wnaethai Moses yn yr anialwch, ac allor
y poethoffrwm, oedd y pryd hwnnw yn yr uchelfa yn Gibeon:
º30 Ac ni allai Dafydd fyned o’i blaen hi i ymofyn a Duw; canys ofnasai rhag
cleddyf angel yr ARGLWYDD.
PENNOD 22
º1 A DYWEDODD Dafydd, Hwn yw*iJL tŷ yr ARGLWYDD DDUW, a
dyma allor y poethoffrwm i Israel.
º2 Dywedodd Dafydd hefyd am gasglu .y dieithriaid oedd yn nhir Israel; ac efe*a
osododd seiri meini i naddu cerrig; *nadd, i adeiladu tŷ DDUW.
º3 A pharat6dd Dafydd haearn yn helaeth, tuag at hoelion drysau y pyrthj. ac
i’r cysylltiadau, a phres mor helaethag nad oedd arno bwys;
º4 Coed cedr hefyd allan o rif: canys y Sidoniaid a’r Tyriaid a ddygent
gedrwydd lawer i Dafydd.
º5 A dywedodd Dafydd, Solomon fy mab sydd ieuanc a thyner, a’r tŷ a
adeiledir i’r ARGLWYDD, rhaid iddo fod mewn mawredd, mewn rhagoriaeth, mewn
enw, ac mewn gogoniant, trwy yr holl wiedydd: paratoaf yn awr tuag ato ef. Felly
y paratodd Dafydd yn helaeth cyn ei farwolaeth.
º6 Ac efe a alwodd ar Solomon ei fab, ac a orchmynnodd iddo adeiladu tŷ i
ARGLWYDD DDUW Israel.
º7 Dywedodd Dafydd hefyd wrth Solomon, Fy mab, yr oedd yn fy mryd i adeiladu
tŷ i enw yr ARGLWYDD fy Nuw.
º8 Eithr gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd, Gwaed lawer a
dywelltaist ti, a rhyfeloedd mawrion a wnaethost ti: nid adeiledi di dy i’m
henw i, eanys gwaed lawer a dywelltaist ar y ddaear yn fy ngŵydd i.
º9 Wele, mab a enir i ti, efe a fydd ŵr Bbnydd, a mi a roddaf lonyddwch
iddo ef gan ei holl elynion o amgylch: canys Solomon fydd ei enw ef, heddwch
hefyd a thangnefedd a roddaf i Israel yn ei fldyddiau ef.
º10 Efe a adeilada dy i’m hcnw, ac efe a fydd i mi yn fab, a minnau yn dad iddo
yntau: sicrhaf hefyd orseddfa ei frenhiniaeth ef ar Israel byth. !
º11 Yn awr fy mab, yr ARGLWYDD fyddo. xxx
gyda thi, a ffynna dithau, gc adeilada dŷ yr ARGLWYDD dy DDUW,
megis ag y llefarodd efe amdanat ti.
º12 Yn unig rhodded yr ARGLWYDD i ti ddoethineb, a deall, a rhodded i ti
orch-inynion am Israel, fel y cadwech gyfraith yr ARGLWYDD dy DDUW.
º13 Yna y flynni, os gwyli ar wneuthur y deddfau a’r barnedigaethau a
orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses am Israel* ymgryfha, ac ymwrola; nac ofna, ac
nac arswyda.
º14 Ac wele, yn fy nhlodi y paratoais i dŷ yr ARGLWYDD gan mil o dalentau
aur, a mil o filoedd o dalentau arian; ar bres hefyd, ac ar haearn, nid oes
bwys; canys y mae yn helaeth: coed hefyd a meini a baratoais i, ychwanega
dithau atynt hwy.
º15 Hefyd y mae yn aml gyda thi weithwyr gwaith, sef cymynwyr, a seiri maen a
phren, a phob rhai celfydd ym mhob gwaith.
º16 Ar aur, ar arian, ar bres, ac ar haearn, nid oes rifedi. Cyfod dithau, a
gweithia, a’r ARGLWYDD a fydd gyda thi.
º17 A Dafydd a orchmynnodd i holl dywysogion Israel gynorthwyo Solomon ei fab,
gan ddywedyd,
º18 Onid yw yr ARGLWYDD eich Duw gyda chwi? ac oni roddes efe lonyddwch i chwi
oddi amgylch? canys rhoddes yn fy llaw i drigolion y tir; a’r tir a
ddaros-tyngwyd o flaen yr ARGLWYDD, ac o flaen ei bobl ef.
º19 Yn awr rhoddwch eich calon a’ch .enaid i geisio yr ARGLWYDD eich Duw;
lyfodwch hefyd, ac adeiledwch gysegr yr ARGLWYDD DDUW, i ddwyn arch cyfamod yr
ARGLWYDD, a sanctaidd lestri Duw, i’r tŷ a adeiledir i enw yr ARGLWYDD.
PENNOD 23
º1 A phan oedd Dafydd yn hen, ac yn llawn o ddyddiau, efe a osododd Solomon
ei fab yn frenin ar Israel.
º2 Ac efe a gynullodd holl dywysogion Israel, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid.
º3 A’r Lefiaid a gyfrifwyd o fab deng mlwydd ar hugain, ac uchod: a’u nifer hwy
wrth eu pennau, bob yn ŵr, oedd onid dwy fil deugain.
º4 O’r rhai yr oedd pedair mil ar hugain i oruchwylio ar waith tŷ yr
ARGLWYDD, ac yn swyddogion, ac yn farnwyr, chwe mil:
º5 A phedair mil yn borthorion, a phedair mil yn moliannu yr ARGLWYDD a’r offer
a wnaethwn i, ebe Dafydd, i foliannu.
º6 A dosbarthodd Dafydd hwynt yn ddosbarthiadau ymysg meibion Lefi, sef Gerson,
Cohath, a Merari.
º7 O’r Gersoniaid yr oedd Laadan a Simei.
º8 Meibion Laadan; y pennaf Jehiel, a Setham, a Joel, tri.
º9 Meibion Simei; Selomith, a Hasiel, a Haran, tri. Y rhai hyn oedd
bennau-cenedl Laadan.
º10 Meibion Simei hefyd oedd, Jahath, Sina, a Jeus, a Bereia. Dyma bedwar mab
Simei.
º11 A Jahath oedd bennaf, a Sisa yn ail: ond Jeus a Bereia nid oedd nemor o
feibion iddynt; am hynny yr oeddynt hwy yn un cyfrif wrth dy eu tad.
º12 Meibion Cohath; Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel, pedwar.
º13 Meibion Amram oedd, Aaron a Moses; ac Aaron a neilltuwyd i sanct-eiddio y
cysegr sancteiddiolaf, efe a’i feibion byth, i arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD,
i’w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef yn dragywydd.
º14 A Moses gŵr Duw, ei feibion ef a alwyd yn llwyth Lefi.
º15 Meibion Moses oedd, Gersom ac Elieser.
º16 O feibion
Gersom; Sebuel oedd y pennaf.
º17 A meibion Elieser oedd, Rehabia y cyntaf. Ac
i Elieser nid oedd meibion eraill; ond meibion Rehabia a amlhasant yn ddirfawr.
º18 O feibion
Ishar; Selomith y pennaf.
º19 O feibion Hebron; Jereia y cyntaf, Amareia yr ail, Jahasiel y trydydd, a
Jecameam y pedwerydd.
º20 O feibion Ussiel; Micha y cyntaf, a Jeseia yr ail.
º21 Meibion Merari oedd, Mahli a Musi. Meibion Mahli; Eleasar a Chis.
º22 A bu farw Eleasar, a meibion nid oedd iddo ef, ond merched; a meibion Cis
eu brodyr a’u priododd hwynt.
º23 Meibion Musi; Mahli, ac Eder a Jenmoth, tri.
º24 Dyma feibion Lefi, yn ôl tŷ eu tadau, pennau eu cenedl, wrth eu
rhifedi, dan nifer eu henwau wrth eu pennau, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith
i wasanaeth tŷ yr ARGLWYDD, o fab ugain mlwydd ac uchod.
º25 Canys dywedodd Dafydd, ARGLWYDD DDUW Israel a roddes lonyddwch i’w bobl, i
aros yn Jerwsalem byth;
º26 A hefyd i’r Lefiaid: ni ddygant mwyach y tabernad, na dim o’i lestri, i’w
wasanaeth ef.
º27 Canys yn ôl geiriau diwethaf Dafydd ‘ y cyfrifwyd meibion Lefi, o fab ugain
mlwydd ac uchod:
º28 A’u gwasanaeth hwynt oedd i fod wrth law meibion Aaron yng ngweinidogaeth
tŷ yr ARGLWYDD, yn y cynteddau, ac yn y celloedd, ac ym mhuredigaeth pob
sancteiddbeth, ac yng ngwaith gweinidogaeth tŷ DDUW;
º29 Yn y bara gosod hefyd, ac ym mheilliaid y bwyd-offrwm, ac yn y teisennau
croyw, yn y radell hefyd, ac yn y badell ffrio, ac ym mhob mesur a meidroldeb:
º30 Ac i sefyll bob bore i foliannu ac i ogoneddu yr ARGLWYDD, felly hefyd
brynhawn:
º31 Ac i offrymu pob offrwrn poeth i’r ARGLWYDD ar y Sabothau, ar y
newyddloerau, ac ar y gwyliau gosodedig, wrth rifedi, yn ôl y ddefod sydd
arnynt yn wastadol gerbron yr ARGLWYDD:
º32 Ac i gadw goruchwyliaeth pabell y cyfarfod, a goruchwyliaeth y cysegr, a
goruchwyliaeth meibion Aaron eu brodyr, yng ngwasanaeth t yr ARGLWYDD.
PENNOD 24
º1 DYMA ddosbarthiadau meibion Aaron. Meibion Aaron oedd, Nadab, ac Abihu,
Eleasar, ac Itharnar. 2 A bu farw Nadab ac Abihu o flaen
eu tad, ac nid oedd meibion iddynt: am hynny Eleasar ac Ithamar a
offeiriadasant.
º3 A Dafydd a’u dosbarthodd hwynt, Sadoc o feibion Eleasar, ac Ahimelech o
feibion Ithamar, yn ôl eu swyddau, yn eu gwasanaeth.
º4 A chafwyd mwy o feibion Eleasar yn llywodraethwyr nag o feibion Ithamar; ac
fel hyn y rhannwyd hwynt. Yr ydoedd o feibion Eleasar yn bennau ar dy eu tadau
un ar bymtheg; ac o feibion Ithamar, yn ôl tŷ eu tadau, wyth.
º5 Felly y dosbarthwyd hwynt wrth goelbrennau, y naill gyda’r llall; canys
tywysogion y cysegr, a thywysogion tŷ DDUW, oedd o feibion Eleasar, ac o
feibion Ithamar.
º6 A Semaia mab Nethaneel yr ysgrifennydd, o lwyth Lefi, a’u hysgrifennodd
hwynt gerbron y brenin, a’r tywysogion, a Sadoc yr offeiriad, ac Ahimelech mab
Abiathar, a phencenedl yr offeiriaid, a’r Lefiaid; un teulu a ddaliwyd i
Eleasar, ac un arall a ddaliwyd i Ithamar.
º7 A’r coelbren cyntaf a ddaeth i Jehoi-arib, a’r ail i Jedaia,
º8 Y trydydd i Harim, y pedwerydd i Seorim,
º9 Y pumed i Malcheia, y chweched i Mijamin,
º10 Y seithfed i Haccos, yr wythfed i Abeia,
º11 Y nawfed i Jesua, y degfed i Sech-aneia,
º12 Yr unfed ar ddeg i.-Eliasib, y deu-ddegfed i Jacim,
º13 Y trydydd ar ddeg i Huppa, y pedwerydd ar ddeg i Jesebeab,
º14 Y pymthegfed i Bilga, yr unfed ar bymtheg i Immer,
º15 Y ddeufed ar bymtheg i Hesir, y deunawfed i Affses,
º16 Y pedwerydd ar bymtheg i Pe-thaheia, yr ugeinfed i Jehesecel,
º17 Yr unfed ar hugain i Jachin, y ddeufed ar hugain i Gamul,
º18 Y trydydd ar hugain i Delaia, y pedwerydd ar hugain i Maaseia.
º19 Dyma eu dosbarthiadau hwynt yn eu gwasanaethii fyned i dŷ yr ARGLWYDD yn
ôl eu defbd, dan law Aaron eu tad, fel y gorchmynasai ARGLWYDD DDUW Israel iddo
ef.
º20 A’r lleill o feibion Lefi oedd y rhai hyn. O feibion Amram; Subael: o
feibion Subael; Jehdeia.:
º21 Am Rehabia; Isia oedd ben ar feibion Rehabia.
º22 O’r Ishariaid; Selomoth: o feibion Selomoth; Jahath.
º23 A meibion
Hebron oedd, Jereia y, cyntaf, Amareia yr ail, Jahasiel y trydydd, a Jecameam y
pedwerydd.;.
º24 O feibion Ussiel; Micha: o feibion-Micha; Samir.
º25 Brawd Micha oedd Isiai; o feibion: Isia; Sechareia.
º26 Meibion Merari oedd, Mahli a Musi: meibion Jaasei; Beno.
º27 Meibion Merari o Jaaseia; Beno, a;;Soham, a Saccur, ac Ibri.,
º28 O Mahli y daeth Eleasar, ac ni bu iddo ef feibion.
º29 Am Cis: mab Cis oedd Jerahmeel.
º30 A meibion Musi oedd, Mahli, ac Eder, a Jerimoth. Dyma feibion y Lefiaid yn
ôl tŷ eu tadau.
º31 A hwy a fwriasant goelbrennau ar gyfer eu brodyr meibion Aaron, gerbron
Dafydd y brenin, a Sadoc, ac Ahimelech, a phennau-cenedl yr offeiriaid a’r
Lefiaid; ie, y pencenedl ar gyfer y brawd ieuaagaf.
PENNOD 25
º1 A NEILLTUODD Dafydd, a
thywysogion y llu, tuag at y gwasanaeth, o feibion Asaff, a Heman, a Jedwthwn,
y rhai a broffwydent a thelynau, ac .a nablau, ac a symbalau; a nifer y
gweithwyr yn ôl eu gwasanaeth ydoedd:
º2 O feibion Asaff; Saccur, a Joseff, a Nethaneia, Asarela, meibion Asaff, dan
law Asaff, yr hwn oedd yn proffwydo wrth law y brenin.
º3 A Jedwthwn: meibion Jedwthwn; Gedaleia, a Seri, a Jes’aia, a Hasabeia.
Matitheia, chwech, dan law Jedwthwn eu tad, ar y delyn yn proffwydo, i foliannu
ac i glodfori yr ARGLWYDD.
º4 O Heman: meibion Heman; Bucceia, Mataneia, Ussiel, Sebuel, a Jerimoth,
Hananeia, Hanani, Eliatha, Gidaiti, a Romamti-ieser, Josbecasa, Malothi,
Ho-thir, a Mahasioth:
º5 Y rhai hyn oll oedd feibion Heman, gweledydd y brenin yng ngeiriau DUW, i
ddyrchafu’r corn. Duw hefyd a roddes i Heman bedwar ar ddeg o feibion, a thair
o ferched.
º6 Y rhai hyn oll oedd dan law eu tad yn canu yn nhŷ yr ARGLWYDD, a
symbalau, a? nablau, a thelynau, i wasanaeth tŷ DDUW; yn ôl trefn y brenin
i Asaff, a Jedwthwn, a Heman.
º7 A’u nifer hwynt, ynghyd â’u brodyr dysgedig yng nghaniadau yr ARGLWYDD, sef
pob un cyfarwydd, oedd ddau cant pedwar ugain ac wyth.
º8 A hwy a fwriasant goelbrennau, ylch yn erbyn cylch, bychan a mawr, athro a
disgybl.
º9 A’r coelbren cyntaf a ddaeth dras Asaff i Joseff: yr ail i Gedaleia; efe,
a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. iio Y trydydd i Saccur; efe, a’i feibion
a’i frodyr oedd ddeuddeg. . .
º11 Y pedwerydd i Isri; efe, a’i feibi
B a’i frodyr oedd ddeuddeg. . .
º12 Y pumed i Nethaneia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.;
º13 Y chweched i Bucceia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
º14 Y seithfed i Jesarela; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
ºl5 Yr wythfed i Jesaia;
efe a’i feibion a’d frodyr oedd
ddeuddeg. ‘ .
º16 Y nawfed i Mataneia; efe, a’i feibion afi frodyr oedd ddeuddeg. ‘ / .:;.
º17 Y degfed i Simei; efe, a’i feibion a’i’ frodyr oedd ddeuddeg. - ‘ . ‘ . ...
º18 Yr unfed ar ddeg i Asareel, efe a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. . ( -
º19 Y deuddegfed i Hasabeia; efe, a’r feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
º20 Y trydydd ar ddeg i Subael; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg,.’’
.,.
º21 Y pedwerydd ar ddeg i Matitheia
efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.,
º22 Y pymthegfed i Jerimoth; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
º23 Yr unfed ar bymtheg i Hananeia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
º24 Y ddeufed ar bymtheg i Josbecasa; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
º25 Y deunawfed i Hanani; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
º26 Y pedwerydd ar bymtheg i Malothi; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd
ddeuddeg.
º27 Yr ugeinfed i Eliatha; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. *
º28 Yr unfed ar hugain i Hothir; efe,? ail feibion a’i frodyr oedd’ ddeuddeg.
º29 Y ddeufed ar hugain ‘i Gidaiti; efe,., a’i feibion a’i frodyr oedd
ddeuddeg.
º30 Y trydydd ar hugain i Mahasioth,. efe, a’i feibion a’i frodyr oedd
ddeuddeg,:
º31 Y pedwerydd ar hugain i Romamti-eser; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd
ddeuddeg. ..-"
PENNOD 26
º1, A\ ddosbarthiad y porthorion:
O’r Corhiaid yr oedd Meselemia mab Core, o feibion Asaff.
º2 A meibion Meselemia oedd, Sechareia y, cyntaf-anedig, Jediael yr ail,
Sebadeia y trydydd, Jathniel y pedwerydd,
º3 Elam y pumed, Jehohanan y chweched, Elioenai y seithfed.
º4 A meibion Obededom; Semaia y cyntaf-anedig, Jehosabad yr ail, Joa y ttydydd,
a Sachar y pedwerydd, a Nethaneel y pumed, .:’,.,.:
º5 Ammiel y chweched, Issachar y. seithfed, Peulthai yr wyttifed; canys Dpw a’i
bendithiodd ef. . "
º6 Ac i Semaia ei fab ef y ganwyd meibion, y rhai a arglwyddiaethasant ar dy
eu tad: canys cedyrn o nerth oeddynt hwy.
º7 Meibion Semaia; Othni, a Reffael, ac Obed, Elsabad; ei frodyr ef oedd
wŷr nerthol, sef Elihu, a Semacheia.
º8 Y rhai hyn, oll o feibion Obededom: hwynt-hwy, a*u meibion, a’u brodyr, yn
wŷr nerthol mewn cryfdei, tuag at y weinidogaeth,. oedd drigaifi a dau;o
Obededom.
º9 Ac i Meselentiai; yn, feibion ac ynl frodyr, yr;,oedd:td, yc. bymtheg; o
wŷr nerthol. .,,
º10 O Hosa hefyd, o feibion Merari, yr oedd meibion; Simri y gennaf,, (er nad
oedd efe gyntaf-anedig, .eto ei dad .a’i gosododd ef yn ben;)
º11 Hiloeia yr ail, Tebaleia y trydydd, Sechareia y pedwerydd: holl feibion a
brodyr Hosa oedd dri ar ddeg.
º12 Ymhlith y rhai hyn yr oedd dosbarthiadau y porthorion, sef ymhlith y
penaethiaid, ac iddynt oruchwyliaeth ar gyfer eu brodyr i wasanaethu yn
nhŷ yr ARGLWYDD.,
º13 A hwy a fwriasant gpelbrennau, fychan a mawr, yn ôl tŷ eis. tadau, am
bob porth.
º14 A choelbren Selemeia a syrthiodd tua’r dwyrain; a thros Sechareia ei fab,
cynghorwr deallgar, y bwriasant hwy goelbrennau; a’i goelbren ef a ddaeth tua’r
gogledd.
º15 I Obededom tua’r deau, ac i’w feibion, y daeth tŷ Asuppim.
º16 I Suppim, a Hosa, tua’r gorllewin, gyda phorth Salecheth, yn ffordd y rhiw,
yr oedd y naill oruchwyliaeth ar gyfer y llall.,,
º17 Tua’r dwyrain yr oedd chwech o Lefiaid, tua’r gogledd pedwar beunydd, tua’r
deau pedwar beuny.dd, a thuag Asuppim dau a dau. ..
º18 A Pharbar tua’r gorllewin, pedwar ar y ffordd, a dau yn Farbar.
º19 Dyma
ddosbarthiadau y porthorion,, o feibion Core, ac o feibion Merari.
º20 Ac o’r Lefiaid, Ahia oedd ar drysorau tŷ DDUW, ac ar drysorau y pethau
cysegredig.,
º21 Am feibion Laadan: meibion Jf Gersoniad Laadan, pennau tylwyth Laadan y
Gersoniad, oedd Jehieli.
º22 Meibion Jehieli; Setham, a Joel ei frawd, oedd ar drysorau tŷ yr
ARGLWYDD.
º63 O’r Amramiaid, a’r Ishariaid, o’r Hebroniaid, a’r Ussieliaid:
º24 A Sebuel mab Gersom, mab Moses, oedd olygwr ar y trysorau.
º25 A’i frodyr ef o Eleasar;, Rehabia e
fab ef, a Jesaia ei fab yntau,;a Joram:ei fab yntau, a Sichri ei fab
yntau, a Selo-mith ei fab yntau.
º26 Y Selomith hwnnw a’i frodyr oedd ar holl drysorau y pethau cysegredig a
gysegrasai Dafydd frenin, a’r tadau pennaf, a thywysogion y miloedd a’r
cannoedd, a thywysogion y llu.
º27 O’r rhyfeloedd ac o’r ysbail y cysegrasant bethau i
gynnal tŷ yr ARGLWYDD.
º28 A’r hyn oll a gysegrodd Samuel y gweledydd, a Saul mab Cis, ac Abner mab
Ner, a Joab mab Serfia, a phwy bynnag a gysegrasai ddim, yr oedd efe dan law
Selomith a’i frodyr.
º29 O’r Ishariaid, Chenaneia a’i feibion oedd yn Israel yn swyddogion, ac yn
farnwyr, ar y gwaith oddi allan.
º30 O’r Hebroniaid, Hasabeia a’i frodyr, meibion nerthol, mil a saith gant,
oedd mewn swydd yn Israel, o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua’r gorilewin, yn holl
waith yr ARGLWYDD, ac yng ngwasanaeth y brenin.
º31 O’r Hebroniaid, Jereia oedd ben o’r Hebroniaid, yn ôl cenedlaethau ei
dadau: yn y ddeugeinfed flwyddyn o deymasiad Dafydd y ceisiwyd hwynt, a chafwyd
yn eu mysg hwy wŷr cryfion nerthol, yn Jaser Gilead.
º32 A’i frodyr ef yn feibion nerthol oedd ddwy fil a saith gant o
bennau-cenedl: a Dafydd y brenin a’u gosododd hwynt ar y Reubeniaid, a’r
Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, ym mhob gorchwyl Duw, a gorchwyl y brenin.
PENNOD 27
º1 PEDAIR mil ar hugain oedd pob dos-barthiad o feibion Israel dan eu rhif,
yn bennau-cenedl, ac yn dywysogion miloedd a channoedd, a’u swyddogion yn
gwasanaethu y brenin ym mhob achos o’r dosbarthiadau, yn dyfod i mewn, ac yn
myned allan, o fis i fis, trwy holl fisoedd y flwyddyn.
º2 Ar y dosbarthiad cyntaf, dros y mis cyntaf, yr oedd Jasobeam mab Sabdiel; ac
yn ei ddosbarthiad ef yr oedd pedair mil ar hugain.
º3 O feibion
Peres yr oedd y pennaf o holl dywysogion y llu dros y mis cyntaf.
º4 Ac ar ddosbarthiad yr ail fis yr oedd Dodai yr Ahohiad, ac o’i ddosbarthiad
ef yr oedd Micloth hefyd yn gapten; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar
hugain.
º5 Trydydd tywysog y llu dros y trydydd mis oedd Benaia mab Jehoiada yr
offeiriad pennaf; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
º6 Y Benaia hwn oedd gadarn ymhlith y deg ar hugain, ac oddi ar y deg ar
hugain; ac yn ei ddosbarthiad ef yr oedd Amisabad ei fab ef.
º7 Y pedwerydd dros y pedwerydd mis oedd Asahel brawd Joab, a Sebadeia ei fab
ar ei ôl ef; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
º8 Y pumed dros y pumed mis oedd dywysog, Samhuth yr Israhiad; ac yn ei
ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
º9 Y chweched dros y chweched mis oedd Ira mab Icces y Tecoad; ac yn ei
ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
º10 Y seithfed dros y seithfed mis oedd Heles y Feloniad, o feibion Effraim; ac
yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
º11 Yr wythfed dros yr wythfed mis oedd Sibbechai yr Husathiad, o’r Sarhiaid;
ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
º12 Y nawfed dros y nawfed mis oedd Abieser yr Anathothiad, o’r Benjaminiaid;
ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
º13 Y degfed dros y degfed mis oedd Maharai y Netoffathiad, o’r Sarhiaid; ac yn
ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
º14 Yr unfed ar ddeg dros yr unfed mis ar ddeg oedd Benaia y Pirathoniad, o
feibion Enraim; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
º15 Y deuddegfed dros y deuddegfed mis oedd Heldai y Netoffathiad, o Othniel;
ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
º16 Ac ar lwythau Israel: ar y Reubeniaid, Elieser mab Sichri oedd dywysog: ar
y Simeoniaid, Seffatia mab Maacha:
º17 Ar y Lefiaid, Hasabeia mab Cemuel: ar yr Aaroniaid, Sadoc:
º18 Ar Jwda, Elihu, un o frodyr Dafydd: ar Issachar, Omri mab Michael:
º19 Ar Sabulon, Ismaia mab Obadeia: ar Nafftali, Jerimoth mab Asriel:
º20 Ar feibion Effraim, Hosea mab Asaseia: ar hanner llwyth Manasse, Joel mab
Pedaia:
º21 Ar hanner llwyth Manasse yn Gilead, Ido mab Sechareia: ar Benjamin, Jaasiel
mab Abner:
º22 Ar Dan, Asarel mab Jeroham. Dyma dywysogion llwythau Israel.
º23 Ond ni chymerth Dafydd eu rhifedi hwynt o fab ugain mlwydd ac isod; canys
dywedasai yr ARGLWYDD yr amlhai efe Israel megis sêr y nefoedd.
º24 Joab mab Serfia a ddechreuodd gyfrif, ond ni orffennodd efe, am fod o achos
hyn lidiowgrwydd yn erbyn Israel, ac nid aeth y cyfrif hwn ymysg cyfrifon
cronicl y brenin Dafydd.
º25 Ac ar drysorau y brenin yr oedd Asmafeth mab Adiel: ac ar y trysordai yn y
meysydd, yn y dinasoedd, yn y pentrefi befyd, ac yn y tyrau, yr oedd Jehonathan
mab Usseia.
º26 Ac ar weithwyr y maes, y rbai oedd yn llafurio y ddaear, yr oedd Esri mab
Celub.
º27 Ac ar y gwinllannoedd yr oedd Simei y Ramathiad: ac ar yr hyn oedd yn dyfod
o’r gwinllannoedd i’r selerau gwin, yr oedd Sabdi y Siffmiad.
º28 Ac ar yr olewydd, a’r sycamorwydd, y rhai oedd yn y dyffrynnoedd, yr oedd
Baalhanan y Gederiad: ac ar y selerau olew yr oedd Joas.
º29 Ac ar yr ychen pasgedig yn Saron, yr oedd Sitrai y Saroniad: ac ar yr ychen
yn y dyffrynnoedd, yr oedd Saffat mab Adiai.
º30 Ac ar y camelod yr oedd Obil yr Ismaeliad: ac ar yr asynnod Jehdeia y
Meronothiad.
º31 Ac ar y defaid yr oedd Jasis yr Hageriad. Y rhai hyn oll oedd dywysogion y
golud eiddo y brenin Dafydd.
º32 A Jehonathan ewythr Dafydd frawd ei dad oedd gynghorwr, gŵr doeth, ac
ysgrifennydd: Jehiel hefyd roab Hach-mom oedd gyda meibion y brenin.
º33 Ac Ahitoffel oedd gynghorwr y brenin; a Husai yr Arciad oedd gyfaill y
brenin.
º34 Ac ar ôl Ahitoffel yr oedd Jehoiada mab Benaia, ac Abiathar: a thywysog llu
y brenin oedd Joab.
PENNOD 28
º1 A DAFYDD a gynullodd holl dywysogion Israel, tywysogion y llwythau, a
thywysogion y dosbarthiadau, y rhai oedd yn gwasanaethu’r brenin, tywysogion y
miloedd hefyd, a thywysogion y cannoedd, a thywysogion holl olud a meddiant y
brenin, a’i feibion, gyda’r ystafellyddion, a’r cedyrn, a phob un grymusol o
nerth, i Jerwsalem.
º2 A chyfododd Dafydd y brenin ar ei draed, ac a ddywedodd, Gwrandewch arnaf
fi, fy mrodyr, a’m pobl; Myfi a feddyliais yn fy nghalon adeiladu tŷ
gorffwysfa i arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac i ystol draed ein Duw ni, a mi a
baratoais tuag at adeiladu.
º3 Ond DUW a ddywedodd wrthyf, Nid adeiledi di dy i’m henw
i, canys rhyfelwr fuost, a gwaed a dywelltaist.
º4 Er hynny ARGLWYDD DDUW Israel a’m hetholodd i o holl dy fy nhad, i fod yn
frenin ar Israel yn dragywydd: canys Jwda a ddewisodd efe yn llywiawdwr; ac
o dŷ Jwda, tŷ fy nhad i; ac o
feibion fy nhad, efe a fynnai i mi deyrnasu ar holl Israel:
º5 Ac o’m holl feibion innau, (canys llawer o feibion a roddes yr ARGLWYDD i
mi,) efe hefyd a ddewisodd Solomon fy mab, i eistedd ar orseddfa brenhiniaeth
yr ARGLWYDD, ar Israel.
º6 Dywedodd hefyd wrthyf, Solomon dy fab, efe a adeilada fy nhŷ a’m
cynteddau i; canys dewisais ef yn fab i mi, a minnau a fyddaf iddo ef yn dad.
º7 A’i frenhiniaeth ef a sicrhaf yn dragywydd, os efe a ymcgma i wneuthur fy
ngorchmymon a’m barnedigaethau i, megis y dydd hwn.
º8 Yn awr gan hynny, yng ngŵydd holl Israel, cynulleidfa yr ARGLWYDD, a
lle y clywo ein Duw ni, cedwch a cheisiwch holl orchmymon yr ARGLWYDD eich Duw,
fel y meddiannoch y wlad dda hon, ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i’ch meibion
ar eich ôl yn dragywydd.
º9 A thithau Solomon fy mab, adne-bydd DDUW dy dad, a gwasanaetha ef a chalon
berffaith, ac a meddwl ewyllysgar: canys yr ARGLWYDD sydd yn Chwilio yr holl
galonnau, ac yn deall pob dychymyg meddyliau. O cheisi ef, ti a’i cei; ond os
gwrthodi ef, efe a’th fwrw di ymaith yn dragywydd.
º10 gwêl yn awr mai yr ARGLWYDD a’th ddewisodd di i adeiladu tŷ y cysegr?
yrngryfha, a gwna.
º11 Yna y rhoddes Dafydd i Sblomon ei fab bortreiad y porth, a’i dai, a’i
selerau, a’i gellau, a’i ystafelloedd oddi fewn, a thŷ y drugareddfa,
º12 A phortreiad yr hyn oll a oedd ganddo trwy yr ysbryd, am gynteddau tŷ
yr ARGLWYDD, ac am yr holl ystafelloedd o amgylch, am drysorau tŷ DDUW, ac
am drysorau y pethau cysegredig:
º13 Ac am ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid, ac am holl waith
gweinidogaeth tŷ yr ARGLWYDD, ac am holl lestri gwasanaeth tŷ yr
ARGLWYDD.
º14 Efe a roddes o aur wrth bwys, i’r pethau o aur, tuag at holl lestri pob gwasanaeth,
ac arian i’r holl lestri arian, mewn pwys, tuag at holl lestri pob math ar
wasanaeth:
º15 Sef pwys y canwyllbrenni aur, a’u lampau aur, wrth bwys i bob canhwyll-bren
ac i’w lampau: ac i’r canwyll-brennau arian wrth bwys, i’r canhwyll-bren ac i’w
lampau, yn ôl gwasanaeth pob canhwyllbren.
º16 Aur hefyd dan bwys, tuag at fyrddau y bara gosod, i bob bwrdd; ac arian i’r
byrddau arian;
º17 Ac aur pur i’r cigweiniau, ac i’r ffiolau, ac i’r dysglau, ac i’r
gorflychau aur, wrth bwys pob gorflwch: ac i’r gorflychau arian wrth bwys pob
goiflwch;
º18 Ac i allor yr arogl-darth, aur pur
wrth bwys; ac aur i bortreiad cerbyd y ceriwbiaid oedd yn ymledu, ac yn
gorchuddio arch cyfamod yr ARGLWYDD.
º19 Hyn oll, ebe Dafydd, a wnaeth yr ARGLWYDD i mi ei ddeall mewn ysgnfen, trwy
ei law ef arnaf fi, sef holl waith y portreiad hwn.
º20 A dywedodd Dafydd wrth Solomon ei fab, Ymgryfha, ac ymegnïa, a gweithia;
nac ofna, ac nac arswyda: canys yr AR-6LWYDD DDUW, fy Nuw i, fydd gyda thi; nid
ymedy efe a thi, ac ni’th wrthyd, nes gorffen holl waith gwasanaeth t yr ARGLWYDD.
º21 Wele hefyd ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid, i holl wasanaeth
tŷ DDUW, a chyda thi y maent yn yr holl waith, a phob un ewyllysgar
cywraint i bob gwasanaeth; y tywysogion hefyd a’r bobl oll fyddant wrth dy
orchymyn yn gwbl.
PENNOD 29
º1 YNA y dywedodd Dafydd y brenin wrth yr holl dyrfa, Duw a ddewisodd yn
unig fy mab Solomon, ac y mae efe yn ieuanc, ac yn dyner, a’r gwaith sydd fawr;
canys nid i ddyn y mae y llys, ond i’r ARGLWYDD DDUW.
º2 Ac a’m holl gryfder y paratoais i dŷ fy Nuw, aur i’r gwaith aur, ac
arian i’r arian, a phres i’r pres, a haearn i’r haearn, a choed i’r gwaith
coed; meini onics, a meini gosod, meini carbunculus, ac o amryw liw, a phob
maen gwerthfawr, a meini marmor yn aml.
º3 Ac eto am fod fy ewyllys tua thŷ fy Nuw, y mae gennyf o’m heiddo fy
hun, aur ac arian, yr hwn a roddaf tuag at dy fy Nuw; heblaw yr hyn oll a
baratoais tua’r tŷ sanctaidd:
º4 Tair mil o dalentau aur, o aur Offir a saith mil o dalentau arian puredig, i
ereuro parwydydd y tai:
º5 Yr aur i’r gwaith aur, a’r arian i’r arian; a thuag at yr holl waith, trwy
law y rhai celfydd. Pwy hefyd a ymrydd yn ewyllysgar i ymgysegru heddiw i’r ARGLWYDD?
º6 Yna tywysogion- y teuluoedd,- a thywysogion llwythau Israel, a thywysogion y
miloedd a’r cannoedd, a swyddogion gwaith y brenin, a offrymasant yn
ewyllysgar,
º7 Ac a roddasant tuag at wasanaeth tŷ DDUW, bûm mil o dalentau aur, a
deng mil o sylltau, a deng mil o dalentau arian, a deunaw mil o dalentau pres,
a chan mil o dalentau haearn.
º8 A chyda’r hwn y ceid meini, hwy a’u rhoddasant i drysor tŷ yr
ARGLWYDD,. trwy law Jehiel y Gersoniad. *
º9 A’r bobl a lawenhasant pan offryment* o’u gwirfodd; am eu bod & chalon
berffaith yn ewyllysgar yn offrymu i’r ARGLWYDD: a Dafydd y brenin hefyd a
lawenychodd â llawenydd mawr.
º10 Yna y bendithiodd Dafydd yr " ARGLWYDD yng ngŵydd yr holl dyrfa,
a efywedodd Dafydd, Bendigedig wyt ti, ARGLWYDD DDUW Israel, ein tad ni, 6
dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.
º11 I ti, ARGLWYDD, y mae mawredd, a gallu, a gogoniant, a goruchafiaeth, a
harddwch: canys y cwbl yn y nefoedd ac yn y ddaear sydd eiddot ti; y deymas
sydd eiddot ti, ARGLWYDD, yr hwn hefyd a ymddyrchefaist yn ben ar bob peth.
º12 Cyfoeth hefyd ac anrhydedd a ddeuant oddi wrthyt ti, a thi sydd yn
arglwyddiaethu ar bob peth, ac yn dy law di y mae nerth a chadernid; yn dy law
di hefyd y mae mawrhau, a nerthu pob dim.
º13 Ac yn awr, ein Duw ni, yr ydym ni yn dy foliannu, ac yn clodfori dy enw
gogoneddus.
º14 Eithr pwy ydwyf fi, a phwy yw fy mhobl i, fel y caem ni rym i offrymu yn
ewyllysgar fel hyn? canys oddi wrthyt ti y mae pob peth, ac o’th law dy hun y
rhoesom i ti.
º15 Oherwydd dieithriaid ydym ni ger dy fron di, ac alltudion fel ein holl
dadaui fel cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear, ac nid oes ymaros.
º16 O ARGLWYDD ein Duw, yr holl amlder hyn a baratoesom ni i adeiladu i ti dy
i’th enw sanctaidd, o’th law di y mae, ac eiddot ti ydyw oll.
º17 Gwn hefyd, O fy Nuw, mai ti sydd yn profi y galon, ac yn yrnfodloni mewa
cyfiawnder. Myfi yn uniondeb fy nghalon, o wirfodd a offrymais hyn oll; ac yn
awr y gwelais dy bobl a gafwyd yma yn offryma yn ewyllysgar i ti, a hynny mewn
llawenydd.
º18 ARGLWYDD DDUW Abraham, Isaac, ac Israel, ein tadau, cadw hyn yn dragywydd
ym mryd meddyliau calon dy bobl; a pharatoa eu calon hwynt atat ti.
º19 A dyro i Solomon fy mab galon berffaith, i gadw dy orchmynion, dy
dystiolaethau, a’th ddeddfau, ac i’w gwneuthur hwynt oll, ac i adeiladu y llys
yr hwn y darperais iddo.
º20 y Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, Bendithiwch, atolwg, yr ARGLWYDD
eich Duw. A’r holl dyrfa a fendithiasant ARGLWYDD DDUW eu tadau, a blygasant eu
pennau, ac a ymgrymasant i’r ARGLWYDD, ac i’r brenin.
º21 Aberthasant hefyd ebyrth i’r AR-GLWYDD, a thrannoeth ar ôl y dydd hwnnw yr
abenhasant yn boethoffrymmau i’r ARGLWYDD, fil o fustych, mil o hyrddod, a mil
o wyn, a’u diod-offrymau, ac ebyrth yn lluosog, dros holl Israel:
º22 Ac a fwytasant ac a yfasant gerbron yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw mewn
llawenydd mawr. A gosodasant Solomon mab Dafydd yn frenin yr ail waith; ac
eneiniasant ef i’r ARGLWYDD yn flaenor, a Sadoc yn offeiriad.
º23 Felly yr eisteddodd Solomon ar orseddfa yr ARGLWYDD yn frenin, yn lle
Dafydd ei dad, ac a lwyddodd; a holl Israel a wrandawsant arno.
º24 Yr holl dywysogion hefyd a’r cedyrn, a chyda hynny holl feibion y brenin
Dafydd, a roddasant eu dwylo ar fod dan Solomon y brenin.
º25 A’r ARGLWYDD a fawrygodd Solomon yn rhagorol yng ngŵydd holl Israel,
ac a roddes iddo ogomant brenhinol, math yr hwn ni bu i un brenin o’i flaen ef
yn Israel.
º26 Felly Dafydd mab Jesse a deyrn-i asodd ar holl Israel.
º27 A’r dyddiau y tcyrnasodd efe a
Israel oedd ddeugam mlynedd: saith, mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron,
a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
º28 Ac efe a fu farw mewn oedran teg, yn gyflawn o ddyddiau, cyfoeth, ac
anrhydedd: a Solomon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
º29 Ac am weithredoedd cyntafa diwethaf y brenin Dafydd, wele, y maent yn
ysgrifenedig yng ngeiriau Samuel y gweledydd, ac yng ngeiriau Nathan y
proffwyd, ac yng ngeiriau Gad y gweledydd,
º30 Gyda’i holl frenhiniaeth ef, a’i gadernid, a’r amserau a aethant drosto ef,
a thros Israel, a thros holl deyrnasoedd y gwledydd.
xxxxxxxxxxxxxxxx
_____________
DIWEDD
Adolygiad
diweddaraf / Darrera actualització / Latest update 2007-02-04
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ ə
Ble’r
wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o
dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
“CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (=
Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch
ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats