Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhø Báibøl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.  1338k

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys _003_beibl_daniel_27_1338k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn  Gymraeg
          neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
                    neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
                              neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
                                            neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn


.. 

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les 
 
Y Beibl Cysegr-lân (1620):

(27) Daniel



 

(delw 6540)

 

 

  1339ke This page with an English translation English (Daniel: 1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version)

 


PENNOD 1


1:1 Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i Jerwsalem, ac a warchaeodd arni.

 1:2 A’r ARGLWYDD a roddes i’w law Jehoiacim brenin Jwda, a rhan o lestri tŷ DDUW; yntau a’u dug hwynt i wlad Sinar, i dŷ ei dduw ef; ac i drysordy ei dduw y dug efe y llestri.

 1:3 A dywedodd y brenin wrth Aspenas ei ben-ystafellydd, am ddwyn o feibion Israel, ac o’r had brenhinol, o’r tywysogion,

 1:4 Fechgyn y rhai ni byddai ynddynt ddim gwrthuni, eithr yn dda yr olwg, a deallgar ym mhob doethineb, ac yn y gwybod gwybodaeth, ac yn deall cyfarwyddyd, a’r rhai y byddai grym ynddynt i sefyll yn llys y brenin, i’w dysgu ar lyfr ac yn iaith y Caldeaid.

 1:5 A’r brenin a ddognodd iddynt ran beunydd o fwyd y brenin, ac o’r gwin a yfai efe; felly i’w maethu hwynt dair blynedd, fel y safent ar ôl hynny gerbron y brenin.

 1:6 Ac yr ydoedd yn eu plith hwynt feibion Jwda, Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia:

 1:7 A’r pen-ystafellydd a osododd arnynt enwau: canys ar Daniel y gosododd efe Beltesassar; ac ar Hananeia, Sadrach; ac ar Misael, Mesach; ac ar Asareia, Abednego.

 1:8 Daniel a roddes ei fryd nad ymhalogai efe trwy ran o fwyd y brenin, na thrwy y gwin a yfai efe: am hynny efe a ddymunodd ar y pen-ystafellydd, na byddai raid iddo ymhalogi.

 
1:9 A DUW a roddes Daniel mewn ffafra thiriondeb gyda’r pen-ystafellydd.

 1:10 A’r pen-ystafellydd a ddywedod wrth Daniel, Ofni yr ydwyf fi fy arglwydd y brenin, yr hwn a osododd eich bwyd chwi a’ch diod chwi: oherwydd paham y gwelai efe eich wynebau yn gulach na’r bechgyn sydd fel chwithau? felly y parech fy mhen yn ddyledus i’r brenin.

 1:11 Yna y dywedodd Daniel wrth Melsar, yr hwn a osodasai y pen-ystafellydd ar Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia,

 1:12 Prawf, atolwg, dy weision ddeg diwrnod, a rhoddant i ni ffa i’w bwyta, a dwfr i’w yfed.

 1:13 Yna edrycher ger dy fron di ein gwedd ni, a gwedd y bechgyn sydd yn bwyta rhan o fwyd y brenin: ac fel y gwelych, gwna â’th weision.

 1:14 Ac efe a wrandawodd arnynt yn y peth hyn, ac a’u profodd.hwynt ddeg o ddyddiau.

 1:15 Ac ymhen y deng niwrnod y gwelid eu gwedd hwynt yn decach, ac yn dewach o gnawd, na’r holl fechgyn oedd yn bwyta rhan o fwyd y brenin

 1:16 Felly Melsar a gymerodd ymaith ran eu bwyd hwynt, a’r gwin a yfent; ac a roddes iddynt ffa.

 1:17 A’r bechgyn hynny ill pedwar, DUW a roddes iddynt wybodaeth a deall ym mhob dysg a doethineb: a Daniel a hyfforddiodd efe ym mhob gweledigaeth a breuddwydion.

 1:18 Ac ymhen y dyddiau y dywedasai y brenin am eu dwyn hwynt i mewn, yna y pen-ystafellydd a’u dug hwynt gerbron Nebuchodonosor.

 1:19 A’r brenin a chwedleuodd â hwynt; ac ni chafwyd ohonynt oll un fel Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: am hynny y safasant hwy gerbron y brenin.

 1:20 Ac ym mhob rhyw ddoethineb a deall a’r a ofynnai y brenin iddynt, efe a’u cafodd hwynt yn ddeg gwell na’r holl ddewiniaid a’r astronomyddion oedd o fewn ei holl frenhiniaeth ef.

 1:21 A bu Daniel hyd y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus.


PENNOD 2

2:1 Ac yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Nebuchodonosor, y breuddwydiodd Nebuchodonosor
freuddwydion, a thrallodwyd ei ysbryd ef, a’i gwsg a dorrodd oddi wrtho.

2:2
A’r brenin a archodd alw am y dewiniaid, ac am yr astronomyddion, ac am yr hudolion, ac am y Caldeaid, i fynegi i’r brenin ei freuddwydion: a hwy a ddaethant ac a safasant gerbron y brenin.

2:3
A’r brenin a ddywedodd wrthynt, Breuddwydiais freuddwyd, a thrallodwyd fy ysbryd am wybod y breuddwyd.

2:4 Yna y Caldeaid a lefarasant wrth y brenin yn Syriaeg, O frenin, bydd fyw yn dragywydd: adrodd dy freuddwyd i’th weision, a mynegwn y dehongliad.

2:5 Atebodd y brenin a dywedodd wrth y Caldeaid, Aeth y peth oddi wrthyf: oni fynegwch y breuddwyd i mi, a’i ddehongliad, gwneir chwi yn ddrylliau, a’ch tai a osodir yn domen.

2:6 Ond os y breuddwyd a’i ddehongliad a ddangoswch, cewch roddion, a gwobrau, ac anrhydedd mawr o’m blaen i: am hynny dangoswch y breuddwyd, a’i ddehongliad.

2:7 Atebasant eilwaith a dywedasant, Dyweded y brenin y breuddwyd i’w weision, ac ni a ddangoswn ei ddehongliad ef.

2:8 Atebodd y brenin a dywedodd, Mi a wn yn hysbys mai oedi yr amser yr ydych chwi; canys gwelwch fyned y peth oddi wrthyf.

2:9 Ond oni wnewch i mi wybod y breuddwyd, un gyfraith fydd i chwi: canys gair celwyddog a llygredig a ddarparasoch ei ddywedyd o’m blaen, nes newid yr amser: am hynny dywedwch i mi y breuddwyd, a mi a gaf wybod y medrwch ddangos i mi ei ddehongliad ef.

2:10 Y Caldeaid a atebasant o flaen y brenin, ac a ddywedasant, Nid oes dyn ar y ddaear a ddichon ddangos yr hyn y mae y brenin yn ei ofyn; ac ni cheisiodd un brenin, na phennaeth, na llywydd, y fath beth â hwn gan un dewin, nac astronomydd, na Chaldead.

2:11 Canys dieithr yw y peth a gais y brenin, ac nid oes neb arall a fedr ei ddangos o flaen y brenin, ond y duwiau, y rhai nid yw eu trigfa gyda chnawd.

2:12 O achos hyn y digiodd y brenin ac y creulonodd yn ddirfawr, ac a orchmynnodd ddifetha holl ddoethion Babilon.

2:13
Yna yr aeth y gyfraith allan am ladd y doethion; ceisiasant hefyd Daniel a’i gyfeirion i’w lladd.

2:14 Yna yr atebodd Daniel trwv gyngor a doethineb i Arioch, pen-distain y brenin, yr hwn a aethai allan, i ladd doethion Babilon:

2:15 Efe a lefarodd ac a ddywedodd wrth Arioch, distain y brenin, Paham y mae y gyfraith yn myned ar y fath frys oddi wrth y brenin? Yna Arioch a fynegodd y peth i Daniel.

2:16 Yna Daniel a aeth i mewn, ac ymbiliodd â’r brenin am roddi iddo amser, ac y dangosai efe y dehongliad i’r brenin.

2:17 Yna yr aeth Daniel i’w dŷ, ac a fynegodd y peth i’w gyfeillion, Hananeia, Misael, ac Asareia;

2:18 Fel y ceisient drugareddau gan DDUW y nefoedd yn achos y dirgelwch hwn; fel na ddifethid Daniel a’i gyfeillion gyda’r rhan arall o ddoethion Babilon.

2:19
Yna y datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos: yna Daniel a fendithiodd DDUW y nefoedd.

2:20 Atebodd Daniel a dywedodd, Bendigedig fyddo enw Duw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb: canys doethineb a nerth ydynt eiddo ef:

2:21 Ac efe sydd yn newid amserau, a thymhorau: efe sydd yn symud brenhinoedd, ac yn gosod brenhinoedd: efe sydd yn rhoddi doethineb i’r doethion, a gwybodaeth i’r rhai a fedrant ddeall:

2:22 Efe sydd yn datguddio y pethau dyfnion a chuddiedig: efe a ŵyr beth sydd yn y tywyllwch, a chydag ef y mae y goleuni yn trigo.

2:23 Tydi DDUW fy nhadau yr ydwyf fi yn diolch iddo, ac yn ei foliannu, oherwydd rhoddi ohonot ddoethineb a nerth i mi, a pheri i mi wybod yn awr yr hyn a geisiasom gennyt: canys gwnaethost i ni wybod it hyn a ofynnodd y brenin.

2:24 Oherwydd hyn yr aeth Daniel a Arioch, yr hwn a osodasai y brenin i ddifetha doethion Babilon: efe a aeth, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Na ddifetha ddoethion Babilon; dwg fi o flaen y brenin a mi a ddangosaf i’r brenin dehongliad.

2:25 Yna y dug Arioch Daniel o flaen y brenin ar frys, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Cefais ŵr o blant caethiwed Jwda, yr hwn a fynega i’r brenin y dehongliad.

2:26 Atebodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, yr hwn yr oedd ei enw Beltesassar, A elli di fynegi i mi y breuddwyd a welais, a’i ddehongliad?

2:27 Atebodd Daniel o flaen y brenin, a dywedodd, Ni all doethion, astronomyddion, dewiniaid, na brudwyr, ddangos i’r brenin y dirgelwch y mae y brenin yn ei ofyn:

2:28 Ond y mae Duw yn y nefoedd yn datguddio dirgeledigaethau, ac a fynegodd i’r brenin Nebuchodonosor beth a fydd yn y dyddiau diwethaf. Dy freuddwyd a gweledigaethau dy ben yn dy wely ydoedd hyn yma:

2:29 Ti frenin, dy feddyliau a godasant yn dy ben ar dy wely, beth oedd i ddyfod ar ôl hyn: a’r hwn sydd yn datguddio dirgeledigaethau, a fynegodd i ti beth a fydd.

2:30 Minnau hefyd, nid oherwydd y doethineb sydd ynof fi yn fwy na neb byw, y datguddiwyd i mi y dirgelwch hwn: ond o’u hachos hwynt y rhai a fynegant y dehongliad i’r brenin, ac fel y gwybyddit feddyliau dy galon.

2:31 Ti, frenin, oeddit yn gweled, ac wele ryw ddelw fawr hon, yr oedd ei disgleirdeb yn rhagorol, oedd yn sefyll gyferbyn â thi; a’r olwg oedd arni ydoedd ofnadwy.

2:32 Pen y delw hon ydoedd o aur da, ei dwyfron a’i breichiau o arian, ei bol a’i morddwyd o bres,

2:33 Ei choesau o haearn, ei thraed oedd beth ohonynt o haearn, a pheth ohonynt o bridd.

2:34 Edrych yr oeddit hyd oni thorrwyd allan garreg, nid trwy waith dwylo, a hi a drawodd y ddelw at ei thraed o haearn a phridd, ac a’u maluriodd hwynt.

2:35 Yna yr haearn, y pridd, y pres, yr arian, a’r aur, a gydfaluriasant, ac oeddynt fel mân us yn dyfod o’r lloriau dyrnu haf; a’r gwynt a’u dug hwynt ymaith, ac ni chaed lle iddynt; a’r garreg yr hon a drawodd y ddelw a aeth yn fynydd mawr, fel ac a lanwodd yr holl ddaear.

2:36 Dyma y breuddwyd: dywedwn hefyd ei ddehongliad o flaen y brenin.

2:37
Ti, frenin, wyt frenin brenhinoedd: canys Duw y nefoedd a roddodd i ti frenhiniaeth, gallu, a nerth, a gogoniant.

2:38 A pha le bynnag y preswylia plant dynion, efe a roddes dan dy law fwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd, ac a’th osododd di yn arglwydd arnynt oll: ti yw y pen aur hwnnw.

2:39
Ac ar dy ôl di y cyfyd brenhiniaeth arall is na thi, a thrydedd frenhiniaeth arall o bres, yr hon a lywodraetha ar yr holl ddaear.

2:40 Bydd hefyd y bedwaredd frenhin iaeth yn gref fel haearn: canys yr haearn a ddryllia, ac a ddofa bob peth: ac fel haearn, yr hwn a ddryllia bob peth, y maluria ac y dryllia hi.

2:41 A lle y gwelaist y traed a’r bysedd, peth ohonynt o bridd crochenydd, a pheth ohonynt o haearn, brenhiniaeth ranedig fydd; a bydd ynddi beth o gryfder haearn, oherwydd gweled ohonot haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd.

2:42 Ac fel yr ydoedd bysedd y traed, peth o haearn, a pheth o bridd; felly y bydd y frenhiniaeth, o ran yn gref, ac o ran yn frau.

2:43 A lle y gwelaist haearn wedi ei oedd gymysgu â phridd cleilyd, ymgymysgant â had dyn; ond ni lynant y naill wrth y llall, megis nad ymgymysga haearn â phridd.

2:44 Ac yn nyddiau y brenhinoedd hyn, y cyfyd Duw y nefoedd frenhiniaeth, yr hon ni ddistrywir byth: a’r frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill; ond hi a faluria ac a dreulia yr holl freniniaethau hyn, a hi a saif yn dragwydd.

2:45 Lle y gwelaist dorri carreg o’r mynydd, yr hon ni thorrwyd â llaw, a malurio ohoni yr haearn, y pres, y pridd, yr arian, a’r aur; hysbysodd y DUW mawr i’r brenin beth a fydd wedi hyn: felly y breuddwyd sydd wir, a’i ddehongliad yn ffyddlon.

2:46 Yna y syrthiodd, Nebuchodonosor y brenin ar ei wyneb, ac a addolodd Daniel; gorchmynnodd hefyd am offrymu iddo offrwm ac arogl-darth.

2:47 Atebodd y brenin a dywedodd wrth Daniel, Mewn gwirionedd y gwn mai eich DUWchwi yw DUW y duwiau, ac Arglwydd y brenhinoedd, a datguddydd dirgeledigaethau, oherwydd medru ohonot ddatguddio y dirgelwch hwn.

2:48 Yna y brenin a fawrygodd Daniel, ac a roddes iddo roddion mawrion lawer; ac efe a’i gwnaeth ef yn bennaeth ar holl dalaith Babilon, ac yn ben i’r swyddogion ar holl ddoethion Babilon.

2:49 Yna Daniel a ymbiliodd â’r brenin, ac yntau a osododd Sadrach, Mesach, ac Abednego ar lywodraeth talaith Babilon, ond Daniel a eisteddodd ym mhorth y brenin.


PENNOD 3


3:1 Nebuchodonosor y brenin a wnaeth ddelw aur, ei huchder oedd yn drigain cufydd, ei lled yn chwe chufydd; ac efe a’i gosododd hi i fyny yng ngwastadedd Dura, o fewn talaith Babilon.

3:2 Yna Nebuchodonosor y brenin a anfonodd i gasglu ynghyd y tywysogion, dugiaid, a phendefigioin, y rhaglawiaid, y trysorwyr, y cyfreithwyr, y trethwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau, i ddyfod wrth gysegru y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin.

3:3 Yna y tywysogion, dugiaid, a phendefigion, rhaglawiaid, y trysorwyr, y cyfreithwyr, y trethwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau, a ymgasglasant ynghyd wrth gysegru y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin: a hwy a safasant o flaen y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor.

3:4
A chyhoeddwr a lefodd yn groch, Wrthych chwi, bobloedd, genhedloedd, a ieithoedd, y dywedir.

3:5 Pan glywoch sŵn y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, y symffon, a phob rhyw gerdd, y syrthiwch ac yr addolwch y ddelw aur a gyfododd Nebuchodonosor y brenin.

3:6
A’r hwn ni syrthio ac ni addolo, yr awr honno a fwrir i ganol ffwrn o dân poeth.

3:7 Am hynny yr amser hwnnw, pan glywodd yr holl bobloedd sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y
dulsimer, y saltring, a phob rhyw gerdd, y bobloedd, y cenhedloedd, a’r ieithoedd oll, a syrthiasant, ac a addolasant y ddelw aur a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin.

3:8 O ran hynny yr amser hwnnw y daeth gŵr o Caldea, ac a gyhuddasant yr Iddewon.

3:9
Adroddasant a dywedasant wrth Nebuchodonosor y brenin, Bydd fyw, frenin, yn dragywydd.

3:10 Ti, frenin, a osodaist orchymyn, ar i bwy bynnag a glywai sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y
dulsimer, y saltring, a’r symffon, a phob rhyw gerdd, syrthio ac ymgryrnu i’r ddelw aur:

3:11 A phwy byanag ni syrthiai ac nid ymgrymai, y teflid ef i ganol ffwrn o dân poeth.

3:12 Y mae gwŷr o Iddewon a osodaist ti ar oruchwyliaeth talaith Babilon, Sadrach, Mesach, ac Abednego; y gwŷr hyn, O frenin, ni wnaethant gyfrif ohonot ti; dy dduwiau nid addolant, ac nid ymgrymant i’r ddelw aur a gyfodaist.

3:13 Yna Nebuchodonosor mewn llidiowgrwydd a dicter a ddywedodd am gyrchu Sadrach, Mesach, ac Abednego.
Yna y ducpwyd y gwŷr hyn o flaen y brenin.

3:14 Adroddodd Nebuchodonosor a dywedodd wrthynt, Ai gwir hyn, Sadrach, Mesach, ac Abednego? oni addolwch chwi fy nuwiau i, ac oni ymgrymwch i’r ddelw aur a gyfodais i?

3:15 Yr awr hon wele, os byddwch chwi barod pan glywoch sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, y symffon, a phob rhyw gerdd, i syrthio ac i ymgrymu i’r ddelw a wneuthum, da: ac onid ymgrymwch, yr awr honno y bwrir chwi i ganol ffwrn o dân poeth; a pha DDUW yw efe a’ch gwared chwi o’m dwylo i?

3:16 Sadrach, Mesach, ae Abednego a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin, Nebuchodonosor, nid ydym ni yn gofalu am ateb i ti yn y peth hyn.

3:17 Wele, y mae ein DUW ni, yr hwn yr ydym ni yn ei addoli yn abl i’n gwared ni allan o’r ffwrn danllyd boeth, ac efe a’n gwared ni o’th law di, O frenin.

3:18 Ac onid e, bydded hysbys i ti, frenin, na addolwn dy dduwiau, ac nad ymgrymwn i’th ddelw aur a gyfodaist.

3:19 Yna y llanwyd Nebuchodonosor o llidiowgrwydd, a gwedd, ei wyneb ef a newidiodd yn erbyn Sadrach, Mesach, ac Abednego; am hynny y llefarodd ac y dywedodd am dwymo y ffwrn seithwaith mwy nag y byddid arfer o’i thwymo hi.

3:20 Ac efe a ddywedodd wrth wŷr cryfion nerthol, y rhai oedd yn ei lu ef, am rwymo Sadrach, Mesach, ac Abednego, i’w bwrw i’r ffwrn o dân poeth.

3:21 Yna y rhwymwyd y gwŷr hynny yn eu peisiau, eu llodrau, au cwcyllau, a’u dillad eraill, ac a’u bwriwyd i ganol y ffwrn o dân poeth.

3:22 Gan hynny, o achos bod gorchymyn y brenin yn gaeth, a’r ffwrn yn boeth ragorol, fflam y tân a laddodd y gwŷr hynny a fwriasant i fyny Sadrach, Mesach, ac Abednego.

3:23 A’r triwyr hyn, Sadrach, Mesach, ac Abednego, a syrthiasant yng nghanol y ffwrn o dân poeth yn rhwym.

3:24 Yna y synnodd ar Nebuchodonosor, a cy cyfododd ar frys, atebodd hefyd a dywedodd wrth ei gynghoriaid, Onid triwyr a fwriasom ni i ganol y ffwrn yn rhwym? Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin, Gwir, O frenin.

3:25 Atebodd a dywedodd yntau, Wele fi yn gweled pedwar o wŷr rhyddion yn rhodio yng nghanol y tân, ac nid oes
 niwed arnynt; a dull y pedwerydd sydd debyg i Fab DUW.

3:26 Yna y nesaodd Nebuchodonosor at enau y ffwrn o dân poeth, ac a lefarodd ac a ddywedodd, O Sadrach, Mesach, ac Abednego, gwasanaethwyr y Duw goruchaf, deuwch allan, a deuwch yma. Yna Sadrach, Mesach, ac Abednego a ddaethant allan o ganol y tân.

3:27 A’r tywysogion, dugiaid, a phendefigion, a chynghoriaid y brenin, a ymgasglasant ynghyd, ac a welsant y gwŷr hyn, y rhai ni finiasai y tân ar eu cyrff, ac ni ddeifiasai flewyn o’u pen, ni newidiasai eu peisiau chwaith, ac nid aethai sawr y tân arnynt.

3:28 Atebodd Nebuchodonosor a dywedodd, Bendigedig yw Duw Sadrach, Mesach, ac Abednego, yr hwn a anfonodd ei angel ac a waredodd ei weision a ymddiriedasant ynddo, ac a dorasant orchymyn y brenin, ac a roddasant eu cyrff, rhag gwasanaethu nac ymgrymu ohonynt i un duw, ond i’w DUW eu hun

3:29 Am hynny y gosodir gorchymyn gennyf fi, Pob pobl, cenedl, a iaith, yr hon a ddywedo ddim ar fai yn erbyri DUW Sadrach, Mesach ‘ac Abednego, a wneir yn ddrylliau, a’u tai a wneir yn domen: oherwydd nad oes duw arall a ddichon wared fel hyn.

3:30 Yna y mawrhaodd y brenin Sadrach, Mesach, ac Abednego, o fewn talaith Babilon.


PENNOD 4


4:1 Nebuchodonosor frenin at yr holl bobloedd, cenhedloedd, a ieithoedd, y rhai a drigant yn yr holl ddaear; Aml fyddo heddwch i chwi.

4:2 Mi a welais yn dda fynegi yr arwyddion a’r rhyfeddodau a wnaeth y goruchaf DDUW â mi.

4:3 Mor fawr yw ei arwyddion ef! ac mor gedyrn yw ei ryfeddodau! ei deyrnas ef sydd deyrnas dragwyddol, a’i lywodraeth ef sydd o genhedlaeth i genhedlaeth.

4:4 Myfi Nebuchodonosor oeddwn esmwyth arnaf yn fy nhŷ, ac yn hoyw yn fy llys.

4:5 Gwelais freuddwyd yr hwn a’m hofnodd; meddyliau hefyd yn fy ngwely, a gweledigaethau fy mhen, a’m dychrynasant.

4:6 Am hynny y gosodwyd gorchymyn gennyf fl, ar ddwyn ger fy mron holl ddoethion Babilon, fel yr hysbysent i mi ddehongliad y breuddwyd.

4:7 Yna y dewiniaid, yr astronomyddion, y Caldeaid, a’r brudwyr, a ddaethant: a mi a ddywedais y breuddwyd o’u blaen hwynt; ond ei ddehongliad nid hysbysasant i mi.

4:8 Ond o’r diwedd daeth Daniel o’m blaen i, (yr hwn yw ei enw Beltesassar, yn ôl enw fy nuw i, yr hwn hefyd y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo,) a’m breuddwyd a draethais o’i flaen ef, gan ddywedyd,

4:9 Beltesassar, pennaeth y dewiniaid, oherwydd i mi wybod fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, ac nad oes un dirgelwch yn anodd i ti, dywed weledigaethau fy mreuddwyd yr hwn a welais, a’i ddehongliad.

4:10 A dyma weledigaethau fy mhen ar fy ngwely; Edrych yr oeddwn, ac wele bren yng nghanol y ddaear, a’i uchder yn fawr.

4:11 Mawr oedd y pren a chadam, a’i uchder a gyrhaeddai hyd y nefoedd; yr ydoedd hefyd i’w weled hyd yn eithaf yr holl ddaear.

4:12 Ei ganghennau oedd deg, a’i ffrwyth yn aml, ac ymborth arno i bob peth: dano yr ymgysgodai bwystfilod y maes, ac adar y nefoedd a drigent yn ei ganghennau ef, a phob cnawd a fwytâi ohono.

4:13 Edrych yr oeddwn yng ngweledigaethau fy mhen ar fy ngwely, ac wele wyliedydd a sanct yn disgyn o’r nefoedd,

4:14 Yn llefain yn groch, ac yn dywedyd fel hyn, Torrwch y pren, ac ysgythrwch ei wrysg ef, ysgydwch ei ddail ef, a gwasgerwch ei ffrwyth: cilied y bwystfil oddi tano, a’r adar o’i ganghennau.

4:15 Er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear, mewn rhwym o haearn a phres, ymhlith gwellt y maes; gwlycher ef hefyd â gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gyda’r bwystfilod yng ngwellt y ddaear.

4:16
Newidier ei galon ef o fod yn galon dyn, a rhodder iddo galon bwystfil: a chyfnewidier saith amser arno.

4:17 O ordinhad y gwyliedyddion y mae y peth hyn, a’r dymuniad wrth ymadrodd y rhai sanctaidd; fel y gwypo y rhai byw mai y Goruchaf a lywodraetha ym mrenhiniaeth dynion, ac a’i rhydd i’r neb y mynno efe, ac a esyd arni y, gwaelaf o ddynion.

4:18 Dyma y breuddwyd a welais Nebuchodonosor y brenin. Tithau, Beltesassar, dywed ei ddehongliad ef oherwydd nas gall holl ddoethion fy nheyrnas hysbysu y dehongliad i mi: eithr ti a elli; am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti.

4:19 Yna Daniel, yr hwn ydoedd ei enw Beltesassar, a synnodd dros un awr, a’i feddyliau a’i dychrynasant ef. Atebodd y brenin, a dywedodd, Beltesassar, na ddychryned y breuddwyd di, na’i ddehongliad. Atebodd Beltesassar, a dywedodd, Fy arglwydd, deued y breuddwyd i’th gaseion, a’i ddehongliad i’th elynion.

4:20 Y pren a welaist, yr hwn a dyfasai, ac a gryfhasai, ac a gyraeddasai ei uchder hyd y nefoedd, ac oedd i’w weled ar hyd yr holl ddaear;

4:21 A’i ddail yn deg, a’i ffrwyth yn aml, ac ymborth i bob peth ynddo; tan yr hwn y trigai bwystfilod y maes, ac y preswyliai adar y nefoedd yn ei ganghennau:

4:22 Ti, frenin, yw efe; tydi a dyfaist, ac a gryfheaist: canys dy fawredd a gynyddodd, ac a gyrhaeddodd hyd y nefoedd, a’th lywodraeth hyd eithaf y ddaear.

4:23 A lle y gwelodd y brenin wyliedydd a sanct yn disgyn o’r nefoedd, ac yn dywedyd, Torrwch y pren, a dinistriwch ef, er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear, mewn rhwym o haearn a phres, ymhlith gwellt y maes, a gwlycher ef â gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gyda bwystfil y maes, hyd oni chyfnewidio saith amser arno ef:

4:24 Dyma y dehongliad, O frenin, a dyma ordinhad y Goruchaf, yr hwn sydd yn dyfod ar fy arglwydd frenin.

4:25 Canys gyrrant di oddi wrth ddynion, a chyda bwystfil y maes y bydd dy drigfa, â gwellt hefyd y’th borthant fel eidionau, ac a’th wlychant â gwlith y nefoedd, a saith amser a gyfnewidia arnat ti, hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi i’r neb a fynno

4:26 A lle y dywedasant am adael boncyff gwraidd y pren; dy frenhiniaeth fydd sicr i ti, wedi i ti wybod mai y nefoedd sydd yn llywodraethu.

4:27 Am hynny, frenin, bydded fodlon gennyt fy nghyngor, a thor ymaith dy bechodau trwy gyfiawnder, a’th anwireddau trwy drugarhau wrth drueiniaid, i edrych a fydd estyniad ar dy heddwch.

4:28 Daeth hyn oll ar Nebuchodonosor y brenin.

4:29 Ymhen deuddeng mis yr oedd efe rhodio yn llys brenhiniaeth Babilon.

4:30 Llefarodd y brenin, a dywedodd, Onid hon yw Babilon fawr, yr hon a adeiledais i yn frenhindy yng nghryfder fy nerth, ac er gogoniant fy mawrhydi?

4:31 A’r gair eto yng ngenau y brenin, syrthiodd llef o’r nefoedd, yn dywedyd,
Wrthyt ti, frenin Nebuchodonosor, y dywedir, Aeth y frenhiniaeth oddi wrthyt.

4:32 A thi a yrrir oddi wrth ddynion, a’th drigfa fydd gyda bwystfilod y maes; â gwellt y’th borthant fel eidionau; a chyfnewidir saith amser arnat; hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mhrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi i’r neb y mynno.

4:33 Yr awr honno y cyflawnwyd y gair ar Nebuchodonosor, ac y gyrrwyd ef oddi wrth ddynion, ac y porodd wellt fel eidionau, ac y gwlychwyd ei gorff ef gan wlith y nefoedd, hyd oni thyfodd ei flew ef fel plu eryrod, a’i ewinedd fel ewinedd adar.

4:34 Ac yn niwedd y dyddiau, myfi Nebuchodonosor a ddyrchefais fy llygaid tua’r nefoedd, a’m gwybodaeth a ddychwelodd ataf, a bendithiais y Goruchaf, a moliennais a gogoneddais yr hwn sydd yn byw byth, am fod ei lywodraeth ef yn llywodraeth dragwyddol,
a’i frenhiniaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

4:35 A holl drigolion y ddaear a gyfrifir megis yn ddiddim: ac yn ôl ei ewyllys, ei hun y mae yn gwneuthur â llu y nefoedd, ac â thrigolion y ddaear; ac nid oes a atalio el law ef, neu a ddywedo wrtho, Beth yr wyt yn ei wneuthur?

4:36 Yn yr amser hwnnw y dychwelodd fy synnwyr ataf fi, a deuthum i ogoniant fy mrenhiniaeth, fy harddwch am hoywder a ddychwelodd ataf fi, am cynghoriaid a’m tywysogion a’m ceisiasant; felly y’m sicrhawyd yn fy nheyrnas, a chwanegwyd i mi fawredd rhagorol.

4:37 Yr awr hon myfi Nebuchodonosor ydwyf yn moliannu, ac yn mawrygu, ac yn gogoneddu Brenin y nefoedd, yr hwn y mae ei holl weithredoedd yn wirionedd, a’i lwybrau yn farn, ac a ddichon ddarostwng y rhai a rodiant mewn balchder.


PENNOD 5


5:1 Belsassar y brenin a wnaeth wledd fawr i fil o’i dywysogion, ac a yfodd win yng ngŵydd y mil.

5:2 Wrth flas y gwin y dywedodd Belsassar am ddwyn y llestri aur ac arian, a ddygasai Nebuchodonosor ei dad ef o’r deml yr hon oedd yn Jerwsalem, fel yr yfai y brenin a’i dywysogion, ei wragedd a’i ordderchadon, ynddynt.

5:3 Yna y dygwyd y llestri aur a ddygasid o deml tŷ DDUW, yr hwn oedd yn Jerwsalem: a’r brenin a’i dywysogion, ei wragedd a’i ordderchadon, a yfasant ynddynt.

5:4
Yfasant win, a molianasant y duwiau o aur, ac o arian, o bres, o haearn, o goed, ac o faen.

5:5 Yr awr honno bysedd llaw dyn a ddaethant allan, ac a ysgrifenasant ar gyfer y canhwyllbren ar galchiad pared llys y brenin; a gwelodd y brenin ddarn y llaw a ysgrifennodd.

5:6 Yna y newidiodd lliw y brenin, a’i feddyliau a’i cyffroesant ef, fel y datododd rhwymau ei lwynau ef, ac y curodd ei liniau ef y naill wrth y llall.

5:7 Gwaeddodd y brenin yn groch am ddwyn i mewn yr astronomyddion, y Caldeaid, a’r brudwyr: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth ddoethion Babilon, Pa ddyn bynnag a ddarlleno yr ysgrifen hon, ac a ddangoso i mi ei dehongliad, efe a wisgir â phorffor, ac a gaiff gadwyn aur am ei wddf, a chaiff lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.

5:8
Yna holl ddoethion y brenin a ddaethant i mewn; ond ni fedrent ddarllen yr ysgrifen, na mynegi i’r brenin ei dehongliad.

5:9 Yna y mawr gyffrôdd y brenin Belsassar, a’i wedd a ymnewidiodd ynddo, a’i dywysogion a synasant.

5:10 Y frenhines, oherwydd y geiriau; y brenin a’i dywysogion, a ddaeth i dŷ y wledd, a llefarodd y frenhines, a dywedodd, Bydd fyw byth, :frenin; na chyffroed dy feddyliau di, ac na newidied dy wedd.

5:11 Y mae gŵr yn dy deyrnas, yr hwn y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo; ac yn nyddiau dy dad y caed ynddo ef oleuni, a deall, a doethineb fel doethineb y duwiau: a’r brenin Nebuchodonosor dy dad a’i gosododd ef yn bennaeth y dewiniaid, astronomyddion, Caldeaid, a brudwyr, sef y brenin dy dad di.

5:12 Oherwydd cael yn y Daniel hwnnw, yr hwn y rhoddes y brenin iddo enw Beltesassar, ysbryd rhagorol, a gwybodaeth a deall, deongl breuddwydion, ac egluro damhegion, a datod clymau: galwer Daniel yr awron, ac efe a ddengys y dehongliad.

5:13 Yna y ducpwyd Daniel o flaen y brenin: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Ai tydi yw Daniel, yr hwn wyt o feibion caethglud Jwda, y rhai a ddug y brenin fy nhad i o Jwda?

5:14
Myfi a glywais sôn amdanat, fod ysbryd y duwiau ynot, a chael ynot ti oleuni, a deall, a doethineb rhagorol.

5:15 Ac yr awr hon dygwyd y doethion, yr astronomyddion, o’m blaen, i ddarllen yr ysgrifen hon, ac i fynegi i mi ei dehongliad: ond ni fedrent ddangos dehongliad y peth.

5:16 Ac mi a glywais amdanatti, y rnedri ddeongl deongliadau, a datod clymau: yr awr hon os medri ddarllen yr ysgrifen, a hysbysu i mi ei dehongliad, tydi a wisgir â phorffor, ac a gei gadwyn aur am dy wddf, ac a gei lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.

5:17 Yna yr atebodd Daniel, ac y dywedodd o flaen y brenin, Bydded dy roddion i ti, a dod dy anrhegion i arall; er hynny yr ysgrifen a ddarllenaf i’r brenin, a’r dehongliad a hysbysaf iddo.

5:18
O frenin, y DUW goruchaf a roddes i Nebuchbdonosor dy dad di frenhiniaeth, a mawredd, a gogoniant, ac anrhydedd.

5:19 Ac oherwydd y mawredd a roddasai efe iddo, y bobloedd, y cenhedloedd, a’r ieithoedd oll, oedd yn crynu ac yn ofni rhagddo ef: yr hwn a fynnai a laddai, a’r hwn a fynnai a gadwai yn fyw; hefyd y neb a fynnai a gyfodai, ar neb a fynnai a ostyngai.

5:20 Eithr pan ymgododd ei galon ef, a chaledu o’i ysbryd ef mewn balchder, efe a ddisgynnwyd o orseddfa ei frenhiniaeth, a’i ogoniant a dynasant oddi wrtho:

5:21 Gyrrwyd ef hefyd oddi wrth feibion dynion, a gwnaethpwyd ei galon fel bwystfil, a chyda’r asynnod gwylltion yr oedd ei drigfa: â gwellt y porthasant ef fel eidion, a’i gorff a wlychwyd gan wlith y nefoedd, hyd oni wybu mai y DUW goruchaf oedd . yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn gosod arni y neb a fynno.

5:22 A thithau, Belsassar ei fab ef, ni ddarostyngaist dy galon, er gwybod ohonot hyn oll;

5:23 Eithr ymddyrchefaist yn erbyn Arglwydd y nefoedd, a llestri ei dŷ ef a ddygasant ger dy fron di, a thithau a’th dywysogion, dy wragedd a’th ordderchadon, a yfasoch win ynddynt; a thi a foliennaist dduwiau o arian, ac o aur, o bres, haearn, pren, a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni wyddant ddim: ac nid anrhydeddaist y DUW y mae dy anadl di yn ei law, a’th holl ffyrdd yn eiddo.

5:24 Yna yr anfonwyd darn y llaw oddi ger ei fron ef, ac yr ysgrifennwyd yr ysgrifen hon.

5:25 A dyma yr ysgrifen a ysgrifennwyd: MENE, MENE, TECEL, UFFARSIN.

5:26
Dyma ddehongliad y peth: MENE; DUW a rifodd dy frenhiniaeth, ac a’i gorffennodd.

5:27
TECEL; Ti a bwyswyd yn y cloriannau, ac a’th gaed yn brin.

5:28
PERES: Rhannwyd dy frenhiniaeth a rhoddwyd hi i’r Mediaid a’r Persiaid.

5:29 Yna y gorchmynnodd Belsassar, a hwy a wisgasant Daniel â phorffor, ac â chadwyn aur am ei wddf; a chyhoeddwyd amdano, y byddai efe yn drydydd yn llywodraethu yn y frenhiniaeth.

5:30 Y noson honno y lladdwyd Belsassar brenin y Caldeaid.

5:31 A Dareius y Mediad a gymerodd y frenhiniaeth, ac efe yn ddwy flwydd a thrigain oed.


PENNOD 6


6:1 Gwelodd Dareius yn dda osod ar y deyrnas chwe ugain o dywysogion, i fod ar yr holl deyrnas;

6:2 Ac arnynt hwy yr oedd tri rhaglaw, y rhai yr oedd Daniel yn bennaf ohonynt, i’r rhai y rhoddai y tywysogion gyfrif, fel na byddai y brenin mewn colled.

6:3 Yna y Daniel hwn oedd yn rhagori ar y rhaglawiaid a’r tywysogion, oherwydd bod ysbryd rhagorol ynddo ef: a’r brenin a feddyliodd ei osod ef ar yr holl deyrnas.

6:4 Yna y rhaglawiaid a’r tywysogion oedd yn ceisio cael achlysur yn erbyn Daniel o ran y frenhiniaeth: ond ni fedrent gael un achos na bai; oherwydd ffyddlon oedd efe, fel na chaed ynddo nac amryfusedd na bai.

6:5 Yna y dywedodd y gwŷr hyn, Ni chawn yn erbyn y Daniel hwn ddim achlysur, oni chawn beth o ran cyfraith ei DDUW yn ei erbyn ef.

6:6 Yna y rhaglawiaid a’r tywysogion hyn a aethant at y brenin, ac a ddywedasant wrtho fel hyn; Dareius frenin, bydd fyw byth.

6:7 Holl raglawiaid y deyrnas, y swyddogion, a’r tywysogion, y cynghoriaid, a’r dugiaid, a ymgyngorasant am osod deddf frenhinol, a chadarnhau gorchymyn, fod bwrw i ffau y llewod pwy bynnag a archai arch gan un DUW na dyn dros ddeng niwrnod ar hugain, ond gennyt ti, O frenin.

6:8 Yr awr hon, O frenin, sicrha y gorchymyn, a selia yr ysgrifen, fel na newidier yn ôl cyfraith y Mediaid a’r Persiaid, yr hon ni newidir.

6:9 Oherwydd hynny y seliodd y brenin Dareius yr ysgrifen a’r gorchymyn.

6:10 Yna Daniel, pan wybu selio yr ysgrifen, a aeth i’w dŷ, a’i ffenestri yn agored yn ei ystafell tua Jerwsalem; tair gwaith yn y dydd y gostyngai efe ar ei liniau, ac y gweddïai, ac y cyffesai o flaen ei DDUW, megis y gwnâi efe cyn hynny.

6:11 Yna y gwŷr hyn a ddaethant ynghyd, ac a gawsant Daniel yn gweddïo ac yn ymbil o flaen ei DDUW.

6:12 Yna y nesasant, ac y dywedasant o flaen y brenin am orchymyn y brenin; Oni seliaist ti orchymyn, mai i ffau y llewod y bwrid pa ddyn bynnag a ofynnai gan un DUW na dyn ddim dros ddeng niwrnod ar hugain, ond gennyt ti, O frenin? Atebodd y brenin, a dywedodd, Y mae peth yn wir, yn ô1 cyfraith y Mediaid a’r Persiaid, yr hon ni newidir.

6:13 Yna yr atebasant ac y dywedasant o flaen y brenin, Y Daniel, yr hwn sydd o feibion caethglud Jwda, ni wnaeth gyfrif ohonot ti, frenin, nac o’r gorchymyn a seliaist, eithr tair gwaith. yn. y dydd y mae yn gweddïo ei weddi.

6:14 Yna y brenin, pan glybu y gair hwn, a aeth yn ddrwg iawn ganddo, ac a roes ei fryd gyda Daniel ar ei waredu ef: ac a fu hyd fachludiad haul yn ceisio ei achub ef.

6:15 Yna y gwŷr hynny a ddaethant ynghyd at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Gwybydd, frenin, mai cyfraith y Mediaid a’r Persiaid yw, na newidier un gorchymyn na deddf a osodo y brenin.

6:16
Yna yr archodd y brenin, a hwy a ddygysant Daniel ac a’i bwriasant i ffau y llewod. Yna y brenin a lefarodd ac a ddywedodd wrth Daniel, Dy DDUW, yr hwn yr ydwyt yn ei wasanaethu yn wastad, efe a’th achub di.

6:17 A dygwyd carreg ac a’i gosodwyd ar enau y ffau; a’r brenin a’i seliodd hi â’i sêl ei hun, ac â sêl ei dywysogion, fel na newidid yr ewyllys am Daniel.

6:18 Yna yr aeth y brenin i’w lys, ac a fu y noson honno heb fwyd: ac ni adawodd ddwyn difyrrwch o’i flaen; ei gwsg hefyd a giliodd oddi wrtho.

6:19
Yna y cododd y brenin yn fore iawn at y wawrddydd, ac a aeth ar frys at ffau y llewod.

6:20
A phan nesaodd efe at y ffau, efe a lefodd ar Daniel â llais trist. Llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Daniel, gwasanaethwr y Duw byw, a all dy DDUW di, yr hwn yr wyt yn ei wasanaethu yn wastad, dy gadw di rhag y llewod?

6:21
Yna y dywedodd Daniel wrth y brenin, O frenin, bydd fyw byth.

6:22 Fy Nuw a anfonodd ei angel, ac a gaeodd safnau y llewod, fel na wnaethant i mi niwed: oherwydd puredd a gaed ynof ger ei fron ef; a hefyd ni wneuthum niwed o’th flaen dithau, frenin.

6:23 Yna y brenin fu dda iawn ganddo o’i achos ef, ac a archodd gyfodi Daniel allan o’r ffau. Yna y codwyd Daniel o’r ffau; ac ni chaed niwed arno, oherwydd credu ohono yn ei DDUW.

6:24 Yna y gorchmynnodd y brenin, a hwy a ddygasant y gwŷr hynny a gyhuddasent Daniel, ac a’u bwriasant i ffau y llewod, hwy, a’u plant, a’u gwragedd; ac ni ddaethant i waelod y ffau hyd oni orchfygodd y llewod hwynt, a dryllio eu holl esgyrn.

6:25 Yna yr ysgrifennodd y brenin Dareius at y bobloedd, at y cenhedloedd, a’r ieithoedd oll, y rhai oedd yn trigo yn yr holl ddaear; Heddwch a amlhaer i chwi.

6:26 Gennyf fi y gosodwyd cyfraith, ar fod trwy holl lywodraeth fy nheyrnas, i bawb grynu ac ofni rhag DUW Daniel: oherwydd efe sydd DDUW byw, ac yn parhau byth; a’i frenhiniaeth ef yw yr hon ni ddifethir, a’i lywodraeth fydd hyd y diwedd.

6:27 Y mae yn gwaredu ac yn achub, ac yn gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau yn y nefoedd ac ar y ddaear; yr hwn a waredodd Daniel o feddiant y llewod.

6:28 A’r Daniel hwn a lwyddodd yn nheyrnasiad Dareius, ac yn nheyrnasiad Cyrus y Persiad.


PENNOD 7


7:1 Yn y flwyddyn gyntaf i Belsassar brenin Babilon, y gwelodd Daniel freuddwyd, a gweledigaethau ei ben ar ei wely. Yna efe a ysgrifennodd y breuddywyd, ac a draethodd swm y geiriau.

7:2
Llefarodd Daniel, a dywedodd, Mi a welwn yn fy ngweledigaeth y nos, ac wele bedwar gwynt y nefoedd yn ymryson ar y môr mawr.

7:3
A phedwar bwystfil mawr a ddaethant y i fyny o’r môr, yn amryw y naill oddi wrth y llall.

7:4 Y cyntaf oedd fel llew, ac iddo adenydd eryr: edrychais hyd oni thynnwyd ei adenydd, a’i gyfodi oddi wrth y ddaear, a sefyll ohono ar ei draed fel dyn, a rhoddi iddo galon dyn.

7:5 Ac wele anifail arall, yr ail, yn debyg i arth; ac efe a ymgyfododd ar y naill ystlys, ac yr oedd tair asen yn ei safn ef rhwng ei ddannedd: ac fel hyn y dywedent wrtho, Cyfod, bwyta gig lawer.

7:6 Wedi hyn yr edrychais, ac wele un a arall megis llewpard, ac iddo bedair adain aderyn ar ei gefn: a phedwar pen oedd i’r bwystfil; a rhoddwyd llywodraeth iddo.

7:7 Wedi hyn y gwelwn mewn gweledigaethau nos, ac wele bedwerydd bwystfil, ofnadwy, ac erchyll, a chryf ragorol; ac iddo yr oedd dannedd mawrion o haearn: yr oedd yn bwyta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill dan ei draed: hefyd yr ydoedd efe yn amryw oddi wrth Y bwystfilod oll y rhai a fuasai o’i flaen ef; ac yr oedd iddo ddeg o gyrn.

7:8 Yr oeddwn yn ystyried y cyrn; ac wele, cyfododd corn bychan arall yn eu mysg hwy, a thynnwyd o’r gwraidd dri o’r cyrn cyntaf o’i flaen ef: ac wele lygaid fel llygaid dyn yn y corn hwnnw, a genau yn traethu mawrhydri.

7:9 Edrychais hyd oni fwriwyd i lawr y gorseddfeydd, a’r Hen ddihenydd a eisteddodd: ei wisg oedd cyn wynned â’r eira, a gwallt ei ben fel gwlân pur; ei orseddfa yn fflam dân, a’i olwynion yn dân poeth.

7:10 Afon danllyd oedd yn rhedeg ac yn dyfod allan oddi ger ei fron ef: mil o filoedd a’i gwasanaethent, a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron: y fam a eisteddodd, ac agorwyd y llyfrau.

7:11 Edrychais yna, o achos llais y geiriau mawrion a draethodd y corn; ie, edrychais hyd oni laddwyd y bwystfil, a difetha ei gorff ef, a’i roddi i’w losgi yn tân.

7:12 A’r rhan arall o’r bwystfilod, eu llywodraeth a dducpwyd ymaith; a rhoddwyd iddynt einioes dros ysbaid ac amser.

7:13 Mi a welwn mewn gweledigaethau nos, ac wele, megis Mab y dyn oedd yn dyfod gyda chymylau y nefoedd; ac at yr hen ddihenydd y daeth, a hwy a’i dygasant ger ei fron ef.

7:14 Ac efe a roddes iddo lywodraeth, a gogoniant, a brenhiniaeth, fel y byddai i’r holl bobloedd, cenhedloedd, a ieithoedd ei wasanaethu ef: ei lywodraeth sydd lywodraeth dragwyddol, yr hon nid â ymaith, a’i frenhiniaeth ni ddifethir.

7:15 Myfi Daniel a ymofidiais yn fy ysbryd yng nghanol fy nghorff, a gweledigaethau fy mhen a’m dychrynasant.

7:16
Neseais at un o’r rhai a safent gerllaw, a cheisiais ganddo y gwirionedd am hyn oll. Ac efe a ddywedodd i mi, ac a wnaeth i mi wybod dehongliad y pethau.

7:17 Y bwystfilod mawrion hyn, y rhai sydd bedwar, ydynt bedwar brenin, y rhai a gyfodant o’r ddaear.

7:18
Eithr sant y Goruchaf a dderbyniant y frenhiniaeth, ac a feddiannant y frenhiniaeth hyd byth, a hyd byth bythoedd.

7:19 Yna yr ewyllysiais wybod y gwirionedd am y pedwerydd bwystfil, yr hwn oedd yn amrywio oddi wrthynt oll, yn yn ofnadwy iawn, a’i ddannedd o haearn, a’i ewinedd o bres; yn bwyta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill â’i draed:

7:20 Ac am y deg corn oedd ar ei ben ef, a’r llall yr hwn a gyfodasai, ac y syrthiasai tri o’i flaen; sef y corn yr oedd llygaid iddo, a genau yn traethu mawrhydri, a’r olwg arno oedd yn arwach na’i gyfeillion.

7:21 Edrychais, a’r corn hwn a wnaeth ryfel ar y saint, ac a fu drech na hwynt;

7:22 Hyd oni ddaeth yr Hen ddihenydd, a rhoddi barn i saint y Goruchaf, a dyfod o’r amser y meddiannai y saint y frenhiniaeth.

7:23 Fel hyn y dywedodd efe; Y pedwerydd bwystfil fydd y bedwaredd frenhiniaeth at y ddaear, yr hon a fydd amryw oddi wrth yr holl freniniaethau, ac a ddifa yr holl ddaear, ac a’i sathr hi, ac a’i dryllia.

7:24 A’r deg corn o’r frenhiniaeth hon fydd deg brenin, y rhai a gyfodant: ac un arall a gyfyd at eu hôl hwynt, ac efe a amrywia oddi wrth y rhai cyntaf, ac a ddarostwng dri brenin.

7:25 Ac efe a draetha eiriau yn erbyn y Goruchaf, ac a ddifa saint y Goruchaf, ac a feddwl newidio amseroedd a chyfreithau: a hwy a roddit yn ei law ef, hyd amser ac amseroedd a rhan amser.

7:26 Yna yr eistedd y farn, a’i lywodraeth a ddygant, i’w difetha ac i’w distrywio hyd y diwedd.

7:27 At frenhiniaeth a’r llywodraeth, a mawredd y frenhiniaeth dan yr holl nefoedd, a roddir i bobl saint y Goruchaf, yr hwn y mae ei frenhiniaeth yn frenhiniaeth dragwyddol, a phob llywodraeth a wasanaethant ac a ufuddhant iddo.

7:28 Hyd yma y mae diwedd y peth. Fy meddyliau i Daniel a’m dychrynodd yn ddirfawr, a’m gwedd a newidiodd ynof; eithr mi a gedwais y peth yn fy nghalon.


PENNOD 8


8:1 Yn y drydedd flwyddyn o deyrnas Belsassar y brenin, yr ymddangosodd i mi weledigaeth, sef i myfi Daniel, wedi yr hon a ymddangosasai i mi ar y cyntaf.

8:2 Gwelais hefyd mewn gweledigaeth, (a bu pan welais, mai yn Susan y brenhinllys, yr hwn sydd o fewn talaith Elam, yr oeddwn i,) ie, gwelais mewn gweledigaeth, ac yr oeddwn i wrth afon Ulai.

8:3 Yna y cyfodais fy llygaid, ac a welais, ac wele ryw hwrdd yn sefyll wrth yr afon, a deugorn iddo; a’r ddau gorn oedd uchel, ac un yn uwch na’r llall; a’r uchaf a gyfodasai yn olaf.

8:4 Gwelwn yr hwrdd yn cornio tua’r gorllewin, tuar gogledd, a thua’r deau, fel na safai un bwystfil o’i flaen ef; ac nid oedd a achubai o’i law ef; ond efe a wnaeth yn ô1 ei ewyllys ei hun, ac a aeth yn fawr.

8:5 Ac fel yr oeddwn yn ystyried, wele hefyd fwch geifr yn dyfod o’r gorllewin, ar hyd wyneb yr holl ddaear, ac heb gyffwrdd â’r ddaear; ac i’r bwch yr oedd corn hynod rhwng ei lygaid.

8:6
Ac efe a ddaeth hyd at yr hwrdd deugorn a welswn i yni sefyll wrth yr afon, ac efe a redodd ato ef yn angerdd ei nerth.

8:7 Gwelais ef hefyd yn dyfod hyd at yr hwrdd, ac efe a fu chwerw wrtho, ac a drawodd yr hwrdd, ac a dorrodd ei ddau gorn ef, ac nid oedd nerth yn yr hwrdd i sefyll o’i flaen ef, eithr efe a’i bwriodd ef i lawr, ac a’i sathrodd ef; ac nid oedd a allai achub yr hwrdd o’i law ef.

8:8 Am hynny,y bwch geifr a aeth yn fawr iawn; ac wedi ei gryfhau, torrodd y corn mawr: a chododd pedwar o rai hynod yn ei le ef, tua phedwar gwynt y nefoedd.

8:9
Ac o un ohonynt y daeth allan gorn bychan, ac a dyfodd yn rhagorol, tua’r deau, a thua’r dwyrain, a thua’r hyfryd wlad.

8:10 Aeth yn fawr hefyd hyd lu y nefoedd, a bwriodd i lawr rai o’r llu, ac o’r ser, ac a’u sathrodd hwynt.

8:11 Ymfawrygodd hefyd hyd at dywysog y llu, a dygwyd ymaith yr offrwm gwastodol oddi arno ef, a bwriwyd ymaith le ei gysegr ef.

8:12 A rhoddwyd iddo lu yn erbyn yr offrwm beunyddiol oherwydd camwedd, ac efe a fwriodd y gwirionedd i lawr; felly y gwnaeth, ac y llwyddodd.

8:13 Yna y clywais ryw sant yn llefaru, a dywedodd rhyw sant arall wrth y rhyw sant hwnnw oedd yn llefaru, Pa hyd y bydd y weledigaeth am yr offrwm gwastadol, a chamwedd anrhaith i roddi y cysegr a’r llu yn sathrfa?

8:14 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Hyd ddwy fil a thri chant o ddiwrnodiau: yna y purir y cysegr.

8:15 A phan welais i Daniel y weledigaeth, a cheisio ohonof y deall, yna wele, safodd ger fy mron megis rhith gŵr.

8:16 A chlywais lais dyn rhwng glannau Ulai, ac efe a lefodd ac a ddywedodd, Gabriel, gwna i hwn ddeall y weledigaeth.

8:17 Ac efe a ddaeth yn agos i’r lle y safwn; a phan ddaeth, mi a ddychrynais, ac a syrthiais ar fy wyneb: ac efe a ddywedodd wrthyf, Deall, fab dyn; oherwydd y weledigaeth fydd yn amser y diwedd.

8:18 A thra yr oedd efe yn llefaru wrthyf, syrthiais mewn trymgwsg i lawr ar fy wyneb: ac efe a gyffyrddodd â mi, ac a’m cyfododd yn fy sefyll.

8:19 Dywedodd hefyd, Wele fi yn hysbysu i ti yr hyn a fydd yn niwedd y dicter; canys, ar yr amser gosodedig y bydd y diwedd

8:20 Yr hwrdd deugorn a welaist, yw brenhinoedd Media a Phersia.

8:21 A’r bwch blewog yw brenin Groeg; a’r corn mawr, yr hwn sydd rhwng ei lygaid ef, dyna y brenin cyntaf.

8:22 Lle y torrwyd ef, ac y cyfododd pedwar yn ei le, pedair brenhiniaeth a gyfodant o’r un genedl, ond nid un nerth ag ef.

8:23 A thua diwedd eu brenhiniaeth hwynt, pan gyflawner y troseddwyr, y cyfyd brenin wyneb-greulon, ac yn deall damhegion.

8:24 A’i nerth ef a gryfha, ond nid trwy ei nerth ei hun; ac efe a ddinistria yn rhyfedd, ac a lwydda, ac a wna, ac a ddinistria y cedyrn, a’r bobl sanctaidd.

8:25 A thrwy ei gyfrwystra y ffynna ganddo dwyllo; ac efe a ymfawryga yn ei galon, a thrwy heddwch y dinistria efe lawer: ac efe a saif yn erbyn tywysog y tywysogion; ond efe a ddryllir heb law.

8:26 A gweledigaeth yr hwyr a’r bore yr hon a draethwyd, sydd wirionedd: selia dithau y weledigaeth, oherwydd dros ddyddiau lawer y bydd.

8:27 Minnau Daniel a euthum yn llesg, ac a fûm glaf ennyd o ddyddiau yna y cyfodais, ac y gwneuthum orchwyl y brenin, ac a synnais oherwydd y weledigaeth, ond nid oedd neb yn ei deall.


PENNOD 9


9:1 Yn y flwyddyn gyntaf i Dareius mab Ahasferus o had y Mediaid, yr hwn a wnaethid yn frenin ar deyrnas y Caldeaid,

9:2 Yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad ef, myfi Daniel a ddeellais wrth lyfrau rifedi y blynyddoedd, am y rhai y daethai gair yr ARGLWYDD at Jeremeia y proffwyd, y cyflawnai efe ddeng mlynedd a thrigain yn anghyfanhedd-dra Jerwsalem.

9:3 Yna y troais fy wyneb at yr Arglwydd DDUW, i geisio trwy weddi ac Ymbil ynghyd ag ympryd, a sachliain, a lludw.

9:4 A gweddïais ar yr ARGLWYDD fy NUW, a chyffesais, a dywedais, Atolwg, Arglwydd DDUW mawr ac ofnadwy, ceidwad cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant, ac i’r rhai a gadwant ei orchmynion;

9:5 Pechasom, a gwnaethom gamwedd, a buom anwir, gwrthryfelasom hefyd, sef trwy gilio oddi wrth dy orchmynion, ac oddi wrth dy farnedigaethau.

9:6 Ni wrandawasom chwaith ar y proffwydi dy weision, y rhai a lefarasant yn dy enw di wrth ein brenhinoedd, ein tywysogion, ein tadau, ac wrth holl bobl y tir.

9:7 I ti, ARGLWYDD, y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wynebau, megis heddiw; i wŷr Jwda, ac i drigolion Jerwsalem, ac i holl Israel, yn agos ac ymhell, trwy yr holl wledydd lle y gyrraist hwynt, am. eu camwedd a wnaethant i’th erbyn.

9:8 ARGLWYDD, y mae cywilydd wynebau i ni, i’n brenhinoedd, i’n tywysogion, ac i’n todau, oherwydd i ni bechu i’th erbyn.

9:9 Gan yr ARGLWYDD ein DUW y mae trugareddau a maddeuant, er gwrthryfelu ohonom i’w erbyn.

9:10 Ni wrandawsom chwaith ar lais yr ARGLWYDD ein Duw, i rodio yn ei gyfreithiau ef, y rhai a roddodd efe o’n y blaen ni trwy law ei weision y proffwydi.

9:11 Ie, holl Israel a droseddasant dy gyfraith di, sef trwy gilio rhag gwrando ar dy lais di: am hynny y tywalltwyd arnom ni y felltith a’r llw a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses gwasanaethwr DUW, am bechu ohonom yn ei erbyn ef.

9:12 Ac efe a gyflawnodd ei eiriau y rhai a lefarodd efe yn ein herbyn ni, ac yn erbyn ein bamwyr y rhai a’n barnent, gan ddwyn arnom ni ddialedd mawr; canys ni wnaethpwyd dan yr holl nefoedd megis y gwnaethpwyd ar Jerusalem.

9:13 Megis y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses y daeth yr holl ddrygfyd hyn arnom ni: eto nid ymbiliasom o flaen yr ARGLWYDD ein Duw, gan droi oddi wrth ein hanwiredd, a chan ddeall dy wirionedd di.

9:14 Am hynny y gwyliodd yr ARGLWYDD ar y dialedd, ac a’i dug arnom ni; oherwydd cyfiawn yw yr ARGLWYDD ein Duw yn ei holl weithredoedd y mae yn eu gwneuthur: canys ni wrandawsom ni ar ei lais ef.

9:15 Eto yr awr hon, O ARGLWYDD ein DUW, yr hwn a ddygaist dy bobl allan o wlad yr Aifft â llaw gref, ac a wnaethost i ti enw megis heddiw, nyni a bechasom, ni a wnaethom anwiredd.

9:16 O ARGLWYDD, yn ôl dy holl gyfiawnderau, atolwg, troer dy lidiowgrwydd a’th ddicter oddi wrth dy ddinas Jerusalem, dy fynydd sanctaidd; oherwydd am ein pechodau, ac am anwireddau ein tadau, y mae Jerusalem a’th bobl yn waradwydd i bawb o’n hamgylch.

9:17 Ond yr awr hon gwrando, O ein DUW ni, ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiadau, a llewyrcha dy wyneb ar dy gysegr anrheithiedig, er mwyn yr ARGLWYDD.

9:18 Gostwng dy glust, O fy NUW, a chlyw; agor dy lygaid, a gwêl ein hanrhaith ni, a’r ddinas y gelwir dy enw di arni: oblegid nid oherwydd ein cyfiawnderau ein hun yr ydym ni yn tywallt ein gweddïau ger dy fron, eithr oherwydd dy aml drugareddau di.

9:19 Clyw, ARGLWYDD; arbed, ARGLWYDD; ystyr, O ARGLWYDD, a gwna; nac oeda, er dy fwyn dy hun, O fy Nuw: oherwydd dy enw di a alwyd ar y ddinas hon, ac ar dy bobl.

9:20 A mi eto yn llefaru, ac yn gweddïo, ac yn cyffesu fy mhechod, a phechod fy mhobl Israel, ac yn tywallt fy ngweddi gerbron yr ARGLWYDD fy Nuw dros fynydd sanctaidd fy Nuw;

9:21 Ie, a mi eto yn llefaru mewn gweddi, yna y gŵr Gabriel, yr hwn a welswn mewn gweledigaeth yn y dechreuad, gan ehedeg yn fuan, a goddodd â mi ynghylch pryd yr offrwm prynhawnol.

9:22
Ac efe a barodd i mi ddeall , ac a ymddiddanodd â mi, ac a ddywedodd, Daniel, deuthum yn awr allan i beri i ti fedru deall.

9:23 Yn nechrau dy weddïau yr aeth y gorchymyn allan, ac mi a ddeuthum i’w fynegi i ti: canys annwyl ydwyt ti: ystyr dithau y peth, a deall y weledigaeth.

9:24 Deng wythnos a thrigain a derfynwyd ar dy bobl, ac ar dy ddinas sanctaidd i ddibennu camwedd, ac i selio pechodau, ac i wneuthur cymod dros anwiredd, ac i ddwyn cyfiawnder tragwyddol, ac i selio y weledigaeth a’r broffwydoliaeth, ac i eneinio y sancteiddiolaf.

9:25 Gwybydd gan hynny a deall, y bydd o fynediad y gorchymyn allan am adferu ac am adeiladu Jerwsalem, hyd y blaenor Meseia, saith wythnos, a dwy wythnos a thrigain: yr heol a adeiledir drachefn, a’r mur, sef mewn amseroedd blinion.

9:26 Ac wedi dwy wythnos a thrigain y lleddir y Meseia, ond nid o’i achos ei hun: a phobl y tywysog yr hwn a ddaw a ddinistria y ddinas a’r cysegr; a’i ddiwedd fydd trwy lifeiriant, a hyd diwedd y rhyfel y bydd dinistr anrheithiol.

9:27 Ac efe a sicrha y cyfamod â llawer dros un wythnos: ac yn hanner yr wythnos y gwna efe i’r aberth a’r bwyd-offrwm beidio; a thrwy luoedd ffiaidd yr anrheithia efe hi, hyd oni thywallter y diben terfynedig ar yr anrheithiedig.


PENNOD 10


10:1 Yn y drydedd flwyddyn i Cyrus brenin Persia, y datguddiwyd peth i Daniel, yr hwn y gelwid ei enw Beltesassar; a’r peth oedd wir, ond yr amser nodedig oedd hir; ac efe a ddeallodd y peth, ac a gafodd wybod y weledigaeth.

10:2 Yn y dyddiau hynny y galerais i Daniel dair wythnos o ddyddiau.

10:3 Ni fwyteais fara blasus, ac ni ddaeth cig na gwin yn fy ngenau; gan ymiro hefyd nid ymirais, nes cyflawni tair wythnos o ddyddiau.

10:4 Ac yn y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis cyntaf, fel yr oeddwn i wrth yml yr afon fawr, honno yw Hidecel;

10:5 Yna y cyfodais fy llygaid, ac yr edrychais, ac wele ryw ŵr wedi ei wisgo â lliain, a’i lwynau wedi eu gwregysu ag aur coeth o Uffas:

10:6 A’i gorff oedd fel maen beryl, a’i wyneb fel gwelediad mellten, a’i lygaid fel lampau tân, a’i freichiau a’i draed fel lliw pres gloyw, a sain ei eiriau fel tyrfa.

10:7 A mi Daniel yn unig a welais y weledigaeth; canys y dynion y rhai oedd gyda mi ni welsant y weledigaeth; eithr syrthiodd arnynt ddychryn mawr, fel y ffoesant i ymguddio.

10:8 A mi a adawyd fy hunan, ac a welais y weledigaeth fawr hon, ac ni thrigodd nerth ynof: canys fy ngwedd a drodd ynof yn llygredigaeth, ac nid ateliais nerth.

10:9 Eto mi a glywais sain ei eiriau ef: a phan glywais sain ei eiriau ef, yna yr oeddwn mewn trymgwsg at fy wyneb a’m hwyneb tua’r ddaear.

10:10 Ac wele, llaw a gyffyrddodd â mi, ac a’m gosododd ar fy ngliniau, ac ar gledr fy nwylo.

10:11 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Daniel, ŵr annwyl, deall y geiriau a lefaraf wrthyt, a saf yn dy sefyll: canys atat ti y’m hanfonwyd yr awr hon.
Ac wedi iddo ddywedyd y gair hwn, sefais gan grynu.

10:12 Yna efe a ddywedodd wrthyf, Nac ofna, Daniel: oherwydd er y dydd cynt y rhoddaist dy galon i ddeall, ac i ymgystuddio gerbron dy DDUW, y gwrandawyd dy eiriau; ac oherwydd dy eiriau di y deuthum i.

10:13 Ond tywysog teyrnas Persia a safodd yn fy erbyn un diwrnod ar hugain: ond wele Michael, un o’r tywysogion pennaf a ddaeth i’m cynorthwyo; a mi a arhosais yno gyda brenhinoedd Persia.

10:14 A mi a ddeuthuin i beri i ti ddeall yr hyn a ddigwydd i’th bobl yn y dyddiau diwethaf: oherwydd y mae y weledigaeth eto dros ddyddiau lawer.

10:15 Ac wedi iddo lefaru wrthyf y geiriau hyn, gosodais fy wyneb tua’r ddaear, ac a euthum yn fud.

10:16 Ac wele, tebyg i ddyn a gyffyrddodd â’m gwefusau: yna yr agorais fy safn, ac y lleferais, ac y dywedais wrth yr hwn oedd yn sefyll ar fy nghyfer, O fy arglwydd, fy ngofidiau a droesant arnaf gan weledigaeth, ac nid ateliais nerth.

10:17 A pha fodd y dichon gwasanaethwr fy arglwydd yma lefaru wrth fy arglwydd yma? a minnau yna ni safodd nerth ynof, ac nid arhodd ffun ynof.

10:18 Yna y cyffyrddodd eilwaith â mi fel dull dyn, ac a’m cryfhaodd i,

10:19 Ac a ddywedodd, Nac ofna, ŵr annwyl; heddwch i ti, ymnertha, ie, ymnertha. A phan lefarasai efe wrthyf, ymnerthais, a dywedais, Llefared fy arglwydd; oherwydd cryfheaist fi.

10:20 Ac efe a ddywedodd, a wyddost ti paham y deuthum atat? ac yn awr dychwelaf i ryfela â thywysog Persia: ac wedi i mi fyned allan, wele, tywysog tir Groeg a ddaw.

10:21 Eithr mynegaf i ti yr hyn a hysbyswyd yn ysgrythur y gwirionedd; ac nid oes un yn ymegnïo gyda mi yn hyn, ond Michael eich tywysog chwi.


PENNOD 11


11:1 Ac yn y flwyddyn gyntaf i Dareius y Mediad, y sefais i i’w gryfhau ac i’w nerthu ef.

11:2 Ac yr awr hon y gwirionedd a fynegaf i ti; Wele, tri brenin eto a safant o fewn Persia, a’r pedwerydd a fydd gyfoethocach na hwynt oll: ac fel yr ymgadarnhao efe yn ei gyfoeth, y cyfyd efe bawb yn erbyn teyrnas Groeg.

11:3 A brenin cadarn a gyfyd, ac a lywodraetha â llywodraeth fawr, ac a wna fel y mynno.

11:4 A phan safo efe, dryllir ei deyrnas, ac a’i rhennir tua phedwar gwynt y nefoedd; ac nid i’w hiliogaeth ef, nac fel ei lywodraeth a lywodraethodd efe: oherwydd ei frenhiniaeth ef a ddiwreiddir i eraill heblaw y rhai hynny.

11:5 Yna y cryfha brenin y deau, ac un o’i dywysogion: ac efe a gryfha uwch ei law ef, ac a lywodraetha: llywodraeth fawr fydd ei lywodraeth ef.

11:6 Ac yn niwedd blynyddoedd yr ymgysylltant; canys merch brenin y deau a ddaw at frenin y gogledd i wneuthur cymod; ond ni cheidw hi nerth y braich; ac ni saif yntau, na’i fraich: eithr rhoddir hi i fyny, a’r rhai a’i dygasant hi, a’r hwn a’i cenhedlodd hi, a’i chymhorthwr, yn yr amseroedd hyn.

11:7 Eithr yn ei le ef y saif un allan o flaguryn ei gwraidd hi, yr hwn a ddaw â llu, ac a â i amddiffynfa brenin y gogledd, ac a wna yn eu herbyn hwy, ac a orchfyga;

11:8 Ac a ddwg hefyd i gaethiwed i’r Aifft, eu duwiau hwynt, a’u tywysogion, a’u dodrefn annwyl o arian ac aur; ac efe a bery fwy o flynyddoedd na brenin y gogledd.

11:9 A brenin y deau a ddaw i’w deyrnas, ac a ddychwel i’w dir ei hun.

11:10 A’i feibion a gyffroir, ac a gasglant dyrfa o luoedd mawrion: a chan ddyfod y daw un, ac a lifeiria, ac a â trosodd: yna efe a ddychwel, ac a gyffroir hyd ei amddiffynfa ef.

11:11 Yna y cyffry brenin y deau, ac yr â allan, ac a ymladd ag ef, sef â brenin y gogledd: ac efe a gyfyd dyrfa fawr; ond y dyrfa a roddir i’w law ef.

11:12 Pan gymerer ymaith y dyrfa, yr ymddyrchafa ei galon, ac efe a gwympa fyrddiwn; er hynny ni bydd efe gryf.

11:13 Canys brenin y gogledd a ddychwel, ac a gyfyd dyrfa fwy na’r gyntaf, ac ymhen ennyd o flynyddoedd, gan ddyfod y daw â llu mawr, ac â chyfoeth mawr.

11:14 Ac yn yr amseroedd hynny llawer a safant yn erbyn brenin y deau; a’r ysbeilwyr o’th bobl a ymddyrchafant i sicrhau y weledigaeth; ond hwy a syrthiant.

11:15 Yna y daw brenin y gogledd, ac a fwrw glawdd, ac a ennill y dinasoedd caerog, ond breichiau y deau ni wrthsafant, na’i bobl ddewisol ef; ac ni bydd nerth i sefyll.

11:16 A’r hwn a ddaw yn ei erbyn ef a wna fel y mynno, ac ni bydd a safo o’i flaen; ac efe a saif yn y wlad hyfryd, a thrwy ei law ef y difethir hi.

11:17 Ac efe a esyd ei wyncb ar fyned â chryfder, ei holl deyrnas, a rhai uniawn gydag ef; fel hyn y gwna: ac efe a rydd iddo ferch gwragedd, gan ei llygru hi; ond ni saif hi ar ei du ef, ac ni bydd hi gydag ef.

11:18 Yna y try efe ei wyneb at yr ynysoedd, ac a ennill lawer; ond pennaeth a bair i’w warth ef beidio, er ei fwyn ei hun, heb warth iddo ei hun: efe a’i detry arno ef.

11:19 Ac efe a dry ei wyneb at amddiffynfeydd ei dir ei hun: ond efe a dramgwdda, ac a syrth, ac nis ceir ef.

11:20 Ac yn ei le ef y saif un a gyfyd drethau yng ngogoniant y deyrnas; ond o fewn ychydig ddyddiau y distrywir ef; ac nid mewn dig, nac mewn rhyfel.

11:21 Ac yn ei le yntau y saif un dirmygus, ac ni roddant iddo ogoniant y deyrnas: eithr efe a ddaw i mewn yn heddychol, ac a ymeifl yn y frenhiniaeth trwy weniaith.

11:22 Ac â breichiau llifeiriant y llifir trostynt o’i flaen ef, ac y dryllir hwynt, a thywysog y cyfamod hefyd.

11:23 Ac wedi ymgyfeillach ag ef, y gwna efe dwyll: canys efe a ddaw i fyny, ac a ymgryfha ag ychydig bobl.

11:24 I’r dalaith heddychol a bras y daw efe, ac a wna yr hyn ni wnaeth ei dadau, na thadau ei dadau: ysglyfaeth, ac ysbail, a golud, a daena efe yn eu mysg: ac ar gestyll y bwriada efe ei fwriadau, sef dros amser.

11:25 Ac efe a gyfyd ei nerth a’i erbyn brenin y deau â llu mawr: a brenin y deau a ymesyd i ryfel â llu mawr a chryf iawn; ond ni saif efe: canys bwriadant fwriadau yn ei erbyn ef.

11:26 Y rhai a fwytânt o’i fwyd ef a’i difethant ef, a’i lu ef a lifeiria; a llawer a syrth yn lladdedig.

11:27 A chalon y ddau frenin hyn fydd ar wneuthur drwg, ac ar un bwrdd y traethant gelwydd; ond ni thycia: canys eto y bydd y diwedd ar yr amser nodedig.

11:28 Ac efe a ddychwel i’w dir ei hun â chyfoeth mawr; a’i galon fydd yn erbyn y cyfamod sanctaidd: felly y gwna efe, ac y dychwel i’w wlad.

11:29 Ar amser nodedig y dychwel, ac y daw tua’r deau; ac ni bydd fel y daith gyntaf, neu fel yr olaf.

11:30 Canys llongau Chittim a ddeuant yn ei erbyn: ef ; am hynny yr ymofidia, ac y dychwel, ac y digia yn erbyn y cyfamod sanctaidd: felly y gwna efe, ac y dychwel; ac efe a ymgynghora â’r rhai a adawant y cyfamod saictaidd.

11:31 Breichiau hefyd a safant ar ei du ef, ac a halogant gysegr yr amddiffynfa, ac a ddygant ymaith y gwastadol aberth, ac a osodant yno y ffieidd-dra anrheithiol.

11:32
A throseddwyr y cyfamod a lygra efe trwy weniaith: eithr y bobl a adwaenant eu DUW, a fyddant gryfion, ac a ffynnant.

11:33 A’r rhai synhwyrol ymysg y bobl a ddysgant lawer; eto syrthiant trwy y cleddyf, a thrwy dân, trwy gaethiwed, a thrwy ysbail, ddyddiau lawer.

11:34
A phan syrthiant, â chymorth bychan y cymhorthir hwynt: eithr llawer a lŷn wrthynt hwy trwy weniaith.

11:35 A rhai o’r deallgar a syrthiant i’w puro, ac i’w glanhau, ac i’w cannu, hyd amser y diwedd: canys y mae eto dros amser nodedig.

11:36 A’r brenin a wna wrth ei ewyllys ei hun, ac a ymddyrcha, ac a ymfawryga uwchlaw pob duw; ac yn erbyn Duw y duwiau y traetha efe bethau rhyfedd, ac a lwydda nes diweddu y dicter; canys yr hyn a ordeiniwyd, a fydd.

11:37 Nid ystyria efe Dduw ei dadau, na serch ar wragedd, ie, nid ystyria un duw: canys goruwch pawb yr ymfawryga.

11:38 Ac efe a anrhydedda DDUW y nerthoedd yn ei le ef: ie, duw yr hwn nid adwaenai ei dadau a ogonedda efe ag aur ac ag arian, ac â meini gwerthfawr, ac â phethau dymunol.

11:39 Fel hyn y gwna efe yn yr amddiffynfeydd cryfaf gyda duw dieithr, yr hwu a gydnebydd efe, ac a chwanega ei ogoniant: ac a wna iddynt lywodraethu ar lawer, ac a ranna y tir am werth.

11:40 Ac yn amser y diwedd yr ymgornia brenin y deau ag ef, a brenin y gogledd a ddaw fel corwynt yn ei erbyn ef, â cherbydau, ac â marchogion, ac â llongau lawer; ac efe a ddaw i’r tiroedd, ac a lifa, ac a â trosodd.

11:41
Ac efe a ddaw i’r hyfryd wlad, a llawer o wledydd a syrthiant: ond y rhai hyn a ddihangant o’i law ef, Edom, a Moab, a phennaf meibion Animon.

11:42 Ac efe a estyn ei law ar y gwledydd; a gwlad yr Aifft ni bydd dihangol.

11:43 Eithr efe a lywodraetha ar drysorau aur ac arian, ac ar holl annwyl bethau yr Aifft: y Libyaid hefyd a’r Ethiopiaid fyddant ar ei ôl ef.

11:44 Eithr chwedlau o’r dwyrain ac o’r glgledd a’i trallodant ef: ac efe a â allan mewn llid mawr i ddifetha, ac i ddifrodi llawer.

11:45 Ac efe a esyd bebyll ei lys rhwng Y y moroedd ar yr hyfryd fynydd sanctaidd: eto efe a ddaw hyd ei derfyn, ac ni bydd cynorthwywr iddo.


PENNOD 12


12:1 Ac yn yr amser hwnnw y saif Michael y twysog mawr, yr hwn sydd yn sefyll dros feibion dy bobl: yna y bydd amser blinder, y cyfryw ni bu er pan yw cenedl hyd yr amser hwnnw: ac yn yr amser hwnnw y gwaredir dy holl bobl, y rhai a gaffer yn ysgrifenedig yn y llyfr.

12:2
A llawer o’r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear a ddeffroant, rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i warth a dirmyg tragwyddol.

12:3
A’r doethion a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen; a’r rhai a droant lawer i gyfiawnder, a fyddant fel y sêr byth yn dragywydd.

12:4
Tithau, Daniel, cae ar y geiriau, a selia y llyfr hyd amser y diwedd: ac a a gynweiriant, a gwybodaeth a amlheir.

12:5 Yna myfi Daniel a edrychais, ac wele ddau eraill yn sefyll, un o’r tu yma ar fin yr afon, ac un arall o’r tu arall ar fin yr afon.

12:6 Ac un a ddywedodd wrth yr wisgasid â lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, Pa hyd fydd hyd diwedd y rhyfeddodau hyn?

12:7 Clywais hefyd y gŵr, a wisgasid â lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, pan ddyrchafodd efe ei law ddeau a’i aswy tua’r nefoedd, ac y tyngodd i’r hwn sydd yn byw yn dragywydd, y bydd dros amser, amserau, a hanner: ac wedi darfod gwasgaru nerth y bobl sanctaidd, y gorffennir hyn oll.

12:8 Yna y clywais, ond ni ddeellais: eithr dywedais, O fy arglwydd, beth fydd diwedd y pethau hyn?

12:9 Ac efe a ddywedodd, Dos, Daniel: canys caewyd a seliwyd y geiriau hyd amser y diwedd.

12:10 Llawer a burir, ac a gennir, ac a brofir; eithr y rhai drygionus a wnânt ddrygioni: ac ni ddeall yr un o’r rhai drygionus; ond y rhai doethion a ddeallant.

12:11 Ac o’r amser y tynner ymaith y gwastadol: aberth, ac y gosoder i fyny y ffieidd-dra anrheithiol, y bydd mil dau cant a deg a phedwar ugain o ddyddiau.

12:12 Gwyn ei fyd a ddisgwylio, ac a ddêl hyd y mil tri chant a phymtheg ar hugain o ddyddiau.

12:13 Dos dithau hyd y diwedd: canys gorffwysi, a sefi yn dy ran yn niwedd y dyddiau.

DIWEDD

 

 

DOLENNAU AR GYFER TUDALENNAU ERAILL YN Y GWEFAN HWN
 
0043c
yr iaith Gymráeg
·····
0005k
mynegai yn nhrefn y wÿddor i'r hÿn a geir yn y wefan hon
·····

 

______________________________________________________________

 
------------------------------------------

 


1338k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website.
Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.  Sumbolau arbennig: ŷŵ
 

Adolygiadau diweddaraf:  15 06 2002  2005-02-19

 

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

 

CYMRU-CATALONIA

Edrychwych ar fy ystadegau