1578k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l'any 1620. Text electrònic. Dhø Báibøl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.


http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_galarnad_jeremeia_01_1578k.htm


0001z Yr Hafan

..........
1863k Y Fynedfa yn  Gymraeg

....................
0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620


.............................................................y tudalen hwn

 


..






Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
The Wales-Catalonia Website


Cywaith Siôn Prys
(Casgliad o Destunau yn Gymraeg)

El projecte Siôn Prys
(Col·lecció de textos en gal·lès)


Y Beibl Cysegr-lân : (25) Galarnad Jeremeia


 



 1450ke This page with an English translation - Haggai  (1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version)

····· 

 

PENNOD 1
1:1  
Pa fodd y mae y ddinas aml ei phobl yn eistedd ei hunan! pa fodd y mae y luosog ymhlith y cenhedloedd megis yn weddw! pa fodd y mae tywysoges y taleithiau dan deyrnged?


1:2 
Y mae hi yn wylo yn hidl liw nos, ac y mae ei dagrau ar ei gruddiau, heb neb o'i holl gariadau yn ei chysuro: ei holl gyfeillion a fuant anghywir iddi, ac a aethant yn elynion iddi.


1:3  Jwda a fudodd ymaith gan flinder, a chan faint caethiwed; y mae hi yn aros ymysg y cenhedloedd, heb gael gorffwystra: ei holl erlidwyr a'i goddiweddasant hi mewn lleoedd cyfyng.


1:4 
Y mae ffyrdd Seion yn galaru, o eisiau rhai yn dyfod i'r w^yl arbennig: i holl byrth hi sydd anghyfannedd, ei hoffeiriaid yn ucheneidio, ei morynion yn ofidus, a hithau yn flin arni.


1:5 
Ei gwrthwynebwyr ydynt bennaf, y mae ei gelynion yn ffynnu: canys yr ARGLWYDD a'i gofidiodd hi am amlder ei chamweddau: ei phlant a aethant i gaethiwed o flaen y gelyn.

1:6 
A holl harddwch merch Seion a ymadawodd â hi; y mae ei thywysogion hi fel hyddod heb gael porfa, ac yn myned yn ddi-nerth o flaen yr ymlidiwr.

1:7 
Y mae Jerwsalem, yn nyddiau ei blinder a'i chaledi, yn cofio ei holl hyfrydwch oedd iddi yn y dyddiau gynt, pan syrthiodd ei phobl hi yn llaw y gelyn, heb neb yn ei chynorthwyo hi: y gelynion a'i gwelsant hi, ac a chwarddasant am ben ei sabothau.

1:8 
Jerwsalem a bechodd bechod, am hynny y symudwyd hi: yr holl rai a'i hanrhydeddent sydd yn ei diystyru hi, oherwydd iddynt weled ei noethni hi: ie, y mae hi yn ucheneidio, ac yn troi yn ei hôl.

1:9 
Ei haflendid sydd yn ei godre, nid yw hi yn meddwl am ei diwedd; am hynny y syrthiodd hi yn rhyfedd, heb neb yn ei chysuro. Edrych, ARGLWYDD, ar fy mlinder; canys ymfawrygodd y gelyn.

1:10 
Y gwrthwynebwr a estynnodd ei law ar ei holl hoffbethau hi: hi a welodd y cenhedloedd yn dyfod i mewn i'w chysegr, i'r rhai y gorchmynasit ti na ddelent i'th gynulleidfa.

1:11 
Y mae ei holl bobl hi yn ucheneidio, yn ceisio bwyd: hwy a roddasant eu hoffbethau am fwyd i ddadebru yr enaid: edrych, ARGLWYDD, a gwêl; canys dirmygus ydwyf fi.

1:12 
Onid gwaeth gennych chwi, y fforddolion oil? gwelwch ac edrychwch, a oes y fath ofid â'm gofid i, yr hwn a wnaethpwyd i mi, a'r hwn y gofidiodd yr ARGLWYDD fi yn nydd angerdd ei ddicter.

1:13 
O'r uchelder yr anfonodd efe dân i’m hesgyrn i, yr hwn a aeth yn drech na hwynt: efe a ledodd rwyd o flaen fy nhraed, ac a'm dychwelodd yn fy ôl; efe a'm gwnaeth yn anrheithiedig, ac yn ofidus ar hyd y dydd.

1:14 
Rhwymwyd iau fy nghamweddau â’i law ef: hwy a blethwyd, ac a ddaethant i fyny am fy ngwddf: efe a wnaeth i'm - nerth syrthio; yr ARGLWYDD a'm rhoddodd mewn dwylo, oddi tan y rhai ni allaf gyfodi.

1:15 
Yr ARGLWYDD a fathrodd fy holl rai grymus o'm mewn; efe a gyhoeddodd i'm herbyn gymanfa, i ddifetha fy ngwy^r ieuainc: fel gwinwryf y sathrodd yr ARGLWYDD y forwyn, merch Jwda.

1:16 
Am hyn yr ydwyf yn wylo; y mae fy llygad, fy llygad, yn rhedeg gan ddwfr, oherwydd pellhau oddi wrthyf ddiddanwr a ddadebrai fy enaid: fy meibion sydd anrheithiedig, am i'r gelyn orchfygu.

1:17 
Seion a ledodd ei dwylo, heb neb yn ei diddanu: yr ARGLWYDD a orchmynnodd am Jacob, fod ei elynion yn ei gylch: Jerwsalem sydd fel gwraig fisglwyfus yn eu mysg hwynt.

1:18 
Cyfiawn yw yr ARGLWYDD; oblegid myfi a fûm anufudd i'w air ef: gwrandewch, atolwg, bobloedd oll, a gwelwch fy ngofid: fy morynion a'm gwy^r ieuainc a aethant i gaethiwed.

1:19 
Gelwais am fy nghariadau, a hwy a'm twyllasant; fy offeiriaid a'm hynafgwyr a drengasant yn y ddinas, tra oeddynt yn ceisio iddynt fwyd i ddadebru eu henaid.

1:20 
Gwêl, O ARGLWYDD; canys y mae yn gyfyng arnaf: fy ymysgaroedd a gyffroesant, fy nghalon a drodd ynof; oherwydd fy mod yn rhy anufudd: y mae y cleddyf yn difetha oddi allan, megis marwolaeth sydd gartref.

1:21  Clywsant fy mod i yn ucheneidio: nid oes a'm diddano: fy holl elynion, pan glywsant fy nrygfyd, a lawenychasant am i ti wneuthur hynny: ond ti a ddygi i ben y dydd a gyhoeddaist, a hwy a fyddant fel finnau.

1:22
 Deued eu holl ddrygioni hwynt i ni o'th flaen di; a gwna iddynt hwy fel y gwnaethost i minnau, am fy holl gamweddau: oblegid y mae fy ucheneidiau yn aml, a'm calon yn ofidus.

· PENNOD 2
2:1 
Pa fodd y dug yr ARGLWYDD gwmwl ar ferch Seion yn ei soriant, ac y bwriodd degwch Israel i lawr o'r nefoedd, ac na chofiodd leithig ei draed yn nydd ei ddigofaint!

2:2 
Yr Arglwydd a lyncodd, heb arbed, holl anheddau Jacob; efe a ddifrododd yn ei ddicter amddiffynfeydd merch Jwda; efe a'u tynnodd hwynt i lawr, ac a ddifwynodd y deyrnas a'i thywysogion.

2:3 
Mewn soriant dicllon y torrodd efe holl gorn Israel: efe a dynnodd ei ddeheulaw yn ei hôl oddi wrth y gelyn; ac yn erbyn Jacob y cyneuodd megis fflam danllyd, yr hon a ddifa o amgylch.

2:4 
Efe a anelodd ei fwa fel gelyn; safodd â'i ddeheulaw fel gwrthwynebwr, ac a laddodd bob dim hyfryd i'r golwg ym mhabell merch Seion: fel tân y tywalltodd efe ei ddigofaint.

2:5 
Yr Arglwydd sydd megis gelyn: efe a lyncodd Israel, efe a lyncodd ei holl balasau hi: efe a ddifwynodd ei hamddiffynfeydd, ac a wnaeth gwynfan a galar yn aml ym merch Jwda.

2:6 
Efe a anrheithiodd ei babell fel gardd; efe a ddinistriodd leoedd ei gymanfa: yr ARGLWYDD a wnaeth anghofio yn Seion yr uchel w^yl a'r Saboth, ac yn llidiowgrwydd ei soriant y dirmygodd efe y brenin a'r offeiriad.

2:7 
Yr ARGLWYDD a wrthododd ei allor, a ffieiddiodd ei gysegr; rhoddodd gaerau ei phalasau hi yn llaw y gelyn: rhoddasant floedd yn nhy^ yr ARGLWYDD, megis ar ddydd uchel w^yl.

2:8 
Yr ARGLWYDD a fwriadodd ddifwyno mur merch Seion; efe a estynnodd linyn, ac nid ataliodd ei law rhag difetha: am hynny y gwnaeth efe i'r rhagfur ac i'r mur alaru; cydlesgasant.

2:9 
Ei phyrth a soddasant i'r ddaear; efe a ddifethodd ac a ddrylliodd ei barrau hi: ei brenin a'i thywysogion ydynt ymysg y cenhedloedd: heb gyfraith y mae; a'i phroffwydi heb gael gweledigaeth gan yr ARGLWYDD.

2:10  Henuriaid merch Seion a eisteddant ar lawr, a dawant â son; gosodasant uwch ar eu pennau; ymwregysasant â sachliain: gwyryfon Jerwsalem a ostyngasant eu pennau i lawr.

2:11  Fy llygaid sydd yn pallu gan ddagrau, fy ymysgaroedd a gyffroesant, fy afu a dywalltwyd ar y ddaear, oherwydd dinistr merch fy mhobl, pan lewygodd y plant a'r rhai yn sugno yn heolydd y ddinas.

2:12  Hwy a ddywedant wrth eu mamau, Pa le y mae y^d a gwin? pan lewygent fel yr archolledig yn heolydd y ddinas, pan dywalltent eu heneidiau ym mynwes eu mamau.

2:13  Pa beth a gymeraf yn dyst i ti? beth a gyffelybaf i ti, O ferch Jerwsalem? beth a gystadlaf â thi, fel y'th ddiddanwyf, O forwyn, merch Seion? canys y mae dy ddinistr yn fawr fel y môr; pwy a'th iachâ di?

2:14  Dy broffwydi a welsant i ti gelwydd a diflasrwydd, ac ni ddatguddiasant dy anwiredd, i droi ymaith dy gaethiwed: eithr hwy a welsant i ti feichiau celwyddog, achosion deol.

2:15  Y rhai oil a dramwyent y ffordd, a gurent eu dwylo arnat ti, chwibanent, ac ysgydwent eu pennau ar ferch Jerwsalem, gan ddywedyd, Ai dyma y ddinas a alwent yn berffeithrwydd tegwch, yn llawenydd yr holl ddaear?

2:16  Dy holl elynion a ledasant eu safnau arnat ti; a chwibanasant, ac a ysgyrnygasant ddannedd, ac a ddywedasant, Llyncasom hi: yn ddiau dyma y dydd a ddisgwyliasom ni; ni a'i cawsom, ni â’i gwelsom.

2:17  Yr ARGLWYDD a wnaeth yr hyn a ddychmygodd; ac a gyflawnodd ei air yr hwn a orchmynnodd efe er y dyddiau gynt: efe a ddifrododd, ac nid arbedodd; efe a wnaeth i'r gelyn lawenychu yn dy erbyn di; efe a ddyrchafodd gorn dy wrthwynebwyr di.

2:18  Eu calon hwynt a waeddodd ar yr ARGLWYDD, O fur merch Seion, tywallt ddagrau ddydd a nos fel afon; na orffwys, ac na pheidied cannwyll dy lygad.

2:19  Cyfod, cyhoedda liw nos; yn nechrau yr wyliadwriaeth tywallt dy galon fel dwfr gerbron yr ARGLWYDD: dyrchafa dy ddwylo ato ef am einioes dy blant, y rhai sydd yn llewygu o newyn ym mhen pob heol.

2:20  Edrych, ARGLWYDD, a gwêl i bwy y gwnaethost fel hyn: a fwyty y gwragedd eu ffrwyth eu hun, plant o rychwant o hyd? a leddir yr offeiriad a'r proffwyd yng nghysegr yr ARGLWYDD?

2:21  Ieuanc a hen sydd yn gorwedd ar lawr yn yr heolydd; fy morynion a'm gwy^r ieuainc a syrthiasant trwy y cleddyf; ti a'u lleddaist hwynt yn nydd dy soriant, lleddaist hwy heb arbed.

2:22  Gelwaist, megis ar ddydd uchel w^yl, fy nychryn o amgylch, fel na ddihangodd ac na adawyd neb yn nydd soriant yr ARGLWYDD: y gelyn a ddifethodd y rhai a faethais ac a fegais i.

· PENNOD 3
3:2 
Myfi yw y gw^r a welodd flinder gan wialen ei ddigofaint ef.

3:2 
I dywyllwch, ac nid i oleuni, yr arweiniodd ac y tywysodd efe fi.

3:3 
Yn fy erbyn i yn ddiau y trodd efe, ac y mae efe yn troi ei law ar hyd y dydd.

3:4 
Efe a wnaeth fy nghnawd a'm croen yn hen; efe a ddrylliodd fy esgyrn.

3:5 
Efe a adeiladodd i'm herbyn, ac a'm hamgylchodd â bustl ac â blinder.

3:6 
Efe a'm gosododd mewn tywyll leoedd, fel y rhai sydd wedi marw er ys talm.

3:7 
Efe a gaeodd o'm hamgylch, fel nad elwyf allan: efe a wnaeth fy llyffethair i yn drom.

3:8 
Pan lefwyf, a phan floeddiwyf, efe a gae allan fy ngweddi.

3:9 
Efe a gaeodd fy ffyrdd a cherrig nadd; efe a wyrodd fy llwybrau.

3:10  Yr oedd efe i mi fel arth yn cynllwyn, neu lew mewn llochesau.

3:11  Efe a wyrodd fy ffyrdd, ac a'm drylliodd; yn anrheithiedig y gwnaeth fi.

3:12  Efe a anelodd ei fwa, ac a'm gosododd fel nod i saeth.

3:13  Efe a wnaeth i saethau ei gawell fyned i'm harennau.

3:14  Gwatwargerdd oeddwn i'm holl bobl, a'u cân ar hyd y dydd.

3:15  Efe a'm llanwodd â chwerwder; efe a'm meddwodd i â'r wermod.

3:16  Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig, ac a'm trybaeddodd yn y llwch.

3:17  A phellheaist fy enaid oddi wrth heddwch; anghofiais ddaioni.

3:18  A mi a ddywedais, Darfu am fy nerth a'm gobaith oddi wrth yr ARGLWYDD.

3:19  Cofia fy mlinder a'm gofid, y wermod a'r bustl.

3:20  Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi.

3:21  Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf.

3:22  Trugareddau yr ARGLWYDD yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef.

3:23  Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb.

3:24  Yr ARGLWYDD yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo.

3:25  Daionus yw yr ARGLWYDD i'r rhai a ddisgwyliant wrtho, ac i'r enaid a'i ceisio.

3:26  Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr ARGLWYDD.

3:27  Da yw i w^r ddwyn yr iau yn eu ieuenctid.

3:28  Efe a eistedd ei hunan, ac a dau â sôn; am iddo ei dwyn hi arno.

3:29  Efe a ddyry ei enau yn y llwch, i edrych a oes obaith.

3:30  Efe a ddyry ei gern i'r hwn a'i trawo: efe a lenwir â gwaradwydd.

3:31  Oblegid nid yn dragywydd y gwrthyd yr ARGLWYDD:

3:32  Ond er iddo gystuddio, eto efe a dosturia, yn ôl amlder ei drugareddau.

3:33  Canys nid o'i fodd y blina efe, nac y cystuddia blant dynion.

3:34  I fathru holl garcharorion y ddaear dan ei draed,

3:35  I wyro barn gw^r o flaen wyneb y Goruchaf,

3:36  Nid yw yr ARGLWYDD yn gweled yn dda wneuthur cam a gw^r yn ei fater.

3:37  Pwy a ddywed y bydd dim, heb i'r ARGLWYDD ei orchymyn?

3:38  Oni ddaw o enau y Goruchaf ddrwg a da?

3:39  Paham y grwgnach dyn byw, gw^r am gosbedigaeth ei bechod?

3:40  Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, a dychwelwn at yr ARGLWYDD.

3:41  Dyrchafwn ein calonnau â'n dwylo at DDUW yn y nefoedd.

3:42  Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom anufudd; tithau nid arbedaist.

3:43  Gorchuddiaist ni â soriant, ac erlidiaist ni: lleddaist, nid arbedaist.

3:44  Ti a'th guddiaist dy hun a chwmwl, fel na ddeuai ein gweddi trwodd.

3:45  Ti a'n gwnaethost yn sorod ac yn ysgubion yng nghanol y bobl.

3:46  Ein holl elynion a ledasant eu safnau yn ein herbyn.

3:47  Dychryn a magl a ddaeth arnom, anrhaith a dinistr.

3:48  Fy llygad a ddiferodd ffrydiau o ddwfr, oherwydd dinistr merch fy mhobl.

3:49  Fy llygad a ddiferodd, ac ni pheidiodd, am nad oes gorffwystra;

3:50  Hyd oni edrycho, ac oni ystyrio yr ARGLWYDD o'r nefoedd.

3:51  Y mae fy llygad yn blino fy enaid, oherwydd holl ferched fy ninas.

3:52  Fy ngelynion gan hela a'm heliasant yn ddiachos, fel aderyn.

3:53  Torasant ymaith fy einioes yn y pwll, a bwriasant gerrig arnaf.

3:54  Y dyfroedd a lifasant dros fy mhen; dywedais, Torrwyd fi ymaith.

3:55  Gelwais ar dy enw di, O ARGLWYDD, o'r pwll isaf.

3:56  Ti a glywaist fy llef: na chudd dy glust rhag fy uchenaid a'm gwaedd.

3:57  Ti a ddaethost yn nes y dydd y gelwais arnat: dywedaist, Nac ofna.

3:58  Ti, O ARGLWYDD, a ddadleuaist gyda'm henaid: gwaredaist fy einioes.

3:59 
Ti, O ARGLWYDD, a welaist fy ngham: barn di fy marn i.

3:60 
Ti a welaist eu holl ddial hwynt, a'u holl amcanion i'm herbyn i.

3:61 
Clywaist eu gwaradwydd, O ARGLWYDD, a'u holl fwriadau i'm herbyn;

3:62 
Gwefusau y rhai a godant i'm herbyn, a'u myfyrdod i'm herbyn ar hyd y dydd.

3:63 
Edrych ar eu heisteddiad a'u cyfodiad; myfi yw eu cân hwynt.

3:64 
Tâl y pwyth iddynt, O ARGLWYDD, yn ôl gweithred eu dwylo.

3:65 
Dod iddynt ofid calon, dy felltith iddynt.

3:66 
Erlid hwynt a digofaint, a difetha hwy oddi tan nefoedd yr ARGLWYDD.

· PENNOD 4
4:1 
Pa fodd y tywyllodd yr aur! y newidiodd yr aur coeth da! taflwyd cerrig y cysegr ym mhen pob heol.

4:2 
Gwerthfawr feibion Seion, a chystal ag aur pur, pa fodd y cyfrifwyd hwynt fel ystenau pridd, gwaith dwylo'r crochenydd!

4:3 
Y dreigiau a dynnant allan eu bronnau, a roddant sugn i'w cenawon: merch fy mhobl a aeth yn greulon, fel yr estrysiaid yn yr anialwch.

4:4 
Tafod y plentyn sugno sydd yn glynu wrth daflod ei enau gan syched: y plant a ofynnant fara, ond nid oedd a dorrai iddynt.

4:5 
Y rhai a ymborthent yn foethus, a ddifethwyd yn yr heolydd: y rhai a feithrinwyd mewn ysgarlad, a gofleidiant y tomennydd.

4:6 
Canys mwy yw anwiredd merch fy mhobl na phechod Sodom, yr hon a ddinistriwyd megis yn ddisymwth, ni safodd llaw arni.

4:7 
Purach oedd ei Nasareaid hi na'r eira, gwynnach oeddynt na'r llaeth, gwridocach oeddynt o gorff na'r cwrel, a'u trwsiad oedd o saffir.

4:8 
Duach yw yr olwg arnynt na'r glöyn; nid adwaenir hwynt yn yr heolydd; eu croen a ly^n wrth eu hesgyrn, gwywodd, aeth yn debyg i bren.

4:9 
Gwell yw y rhai a laddwyd â chleddyf, na'r rhai a laddwyd â newyn; oblegid y rhai hyn a ddihoenant, wedi eu trywanu o eisiau cnwd y maes.

4:10  Dwylo gwragedd tosturiol a ferwasant eu plant eu hun: eu hymborth oeddynt yn ninistr merch fy mhobl.

4:11  Yr ARGLWYDD a gyflawnodd ei ddicter, a dywalltodd lidiowgrwydd ei soriant, ac a gyneuodd dân yn Seion, yr hwn a ddifaodd ei seiliau hi.

4:12  Ni choeliasai brenhinoedd y ddaear, na holl drigolion y byd, y deuai y gwrthwynebwr a'r gelyn i mewn i byrth Jerwsalem.

4:13  Am bechodau ei phroffwydi, ac anwiredd ei hoffeiriaid, y rhai a ollyngasant waed y rhai cyfiawn o'i mewn hi;

4:14  Gwibiasant fel deillion yn yr heolydd, ac ymddifwynasant gan waed, fel na ellid cyffwrdd â'u dillad hwynt.

4:15  Gwaeddasant arnynt, Ciliwch; aflan yw; ciliwch, ciliwch, na chyffyrddwch; pan ffoesant, ac yr aethant ymaith. Dywedent ymysg y cenhedloedd, Ni thrigant hwy yma mwyach.

4:16  Soriant yr ARGLWYDD a'u gwasgarodd hwynt; nid edrych efe arnynt mwy: ni pharchent hwy yr offeiriaid, ni thosturient wrth yr hynafgwyr.

4:17  Ninnau hefyd, ein llygaid a ballasant am ein cynhorthwy ofer: gan ddisgwyl disgwyl yr oeddem ni wrth genhedlaeth ni allai ein hachub.

4:18  Hwy a olrheiniant ein cerddediad, fel na allwn fyned ar hyd ein heolydd: y mae ein diwedd ni yn agos, ein dyddiau ni a gyflawnwyd; canys daeth ein diwedd ni.

4:19  Buanach yw ein herlidwyr nag eryrod yr awyr; y maent yn ein herlid ni ar y mynyddoedd, yn ein cynllwyn yn yr anialwch.

4:20  Anadl ein ffroenau, eneiniog yr ARGLWYDD, a ddaliwyd yn eu rhwydau hwynt, am yr hwn y dywedasem, Dan ei gysgod ef y byddwn ni byw ymysg y cenhedloedd.

4:21  Bydd lawen a hyfryd, merch Edom, yr hon wyt yn trigo yn nhir Us: daw y cwpan atat tithau hefyd; ti a feddwi, ac a ymnoethi.

4:22  Gorffennwyd dy gosbedigaeth di, merch Seion; ni chaethgluda efe di mwy: efe a ymwêl â'th anwiredd di, merch Edom; efe a ddatguddia dy bechodau.

· PENNOD 5
5:1 
Cofia, O ARGLWYDD, beth a ddaeth i ni: edrych a gwêl ein gwaradwydd.

5:2 
Ein hetifeddiaeth ni a drowyd i estroniaid, a'n tai i ddieithriaid.

5:3 
Amddifaid ydym heb dadau; ein mamau sydd megis gweddwon.

5:4 
Yr ydym yn yfed ein dwfr am arian; ein coed sydd yn dyfod am werth.

5:5 
Ein gwarrau sydd dan erlid; llafurio yr ydym, nid oes gorffwystra i ni.

5:6 
Rhoesom ein llaw i'r Eifftiaid, i'r Asyriaid, i gael digon o fara.

5:7 
Ein tadau a bechasant, ac nid ydynt: ninnau sydd yn dwyn eu cosb hwynt.

5:8 
Gweision sydd yn llywodraethu arnom ni, heb fod a'n gwaredo o'u llaw hwynt.

5:9 
Mewn enbydrwydd am ein heinioes y dygasom ein bara i mewn, oherwydd cleddyf yr anialwch.

5:10  Ein croen a dduodd fel ffwrn, gan y newyn tost.

5:11  Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Seion, a'r morynion yn ninasoedd Jwda.

5:12  Crogasant dywysogion â'u dwylo; ni pherchid wynebau yr hynafgwyr.

5:13  Hwy a gymerasant y gwy^r ieuainc i falu; a'r plant a syrthiasant dan y coed.

5:14  Yr hynafgwyr a beidiasant â'r porth; y gwy^r ieuainc â'u cerdd.

5:15  Darfu llawenydd ein calon: ein dawns a drodd yn alar.

5:16  Syrthiodd y goron oddi am ein pen: gwae ni yn awr bechu ohonom!

5:17  Am hyn y mae ein calon yn ofidus; am hyn y tywyllodd ein llygaid.

5:18  Oherwydd mynydd Seion, yr hwn a anrheithiwyd, y mae y llwynogod yn rhodio ynddo.

5:19  Ti, ARGLWYDD, a barhei byth; dy orseddfainc yn oes oesoedd.

5:20  Paham yr anghofi ni byth, ac y gadewi ni dros hir ddyddiau ?

5:21  Dychwel ni, O ARGLWYDD, atat ti, a ni a ddychwelir: adnewydda ein dyddiau megis cynt.

5:22  Eithr ti a'n llwyr wrthodaist ni: ti a ddigiaist wrthym ni yn ddirfawr.


DIWEDD

 

________________________________________

 

Adolygiadau diweddaraf : 28 01 2003


Ble’r wÿf i? Yr ÿch chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc?
Esteu visitant una pàgina of the Web "CYMRU-CATALONIA" (= Galles-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website
Weørr àm ai? Yùù ààrr vízïting ø peij fròm dhø "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait


 

 

 

Edrychwych ar fy ystadegau