1319ke Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l'any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.


http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_galatiaid_48_1319ke.htm

0001 Yr Hafan / Home Page
or via Google: #kimkat0001

..........
2659e Y Fynedfa yn Saesneg / Gateway in English to this website
          or via Google: #kimkat2659e

....................0010e Y Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English
                    or via Google: #kimkat0010e

...........................................0977e Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh texts on this website - contents page  
                                           or via Google: #kimkat0977e

...................................................................1284e Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620 / Wiliam Morgan’s 1620 Bible - Index Page
                                                                   or via Google: #kimkat1284e

............................................................................................y tudalen hwn
/ this page


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les

The Wales-Catalonia Website
 
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Y Beibl Cysegr-lân:
(48) Epistol Paul yr Apostol at y Galatiaid
(yn Gymraeg ac yn Saesneg)

 

The Holy Bible:
(48) The Apostle Paul’s Letter to the Galatians
(in Welsh and English)

 


(delw 4666)

 


 1318k Y tudalen hwn yn Gymraeg yn unig


PENNOD 1
1:1
Paul, apostol, (nid o ddynion, na thrwy ddyn, eithr trwy Iesu Grist, a Duw Dad, yr hwn a’i cyfododd ef o feirw;)
1:1 Paul, an apostle, (not of men, neither by man, but by Jesus Christ, and God the Father, who raised him from the dead;)

1:2
A’r brodyr oll y rhai sydd gyda mi, at eglwysi Galatia:
1:2 And all the brethren which are with me, unto the churches of Galatia:

1:3
Gras fyddo i chwi a heddwch oddi wrth Dduw Dad, a’n Harglwydd Iesu Grist;
1:3 Grace be to you and peace from God the Father, and from our Lord Jesus Christ,

1:4
Yr hwn a’i rhoddes ei hun dros ein pechodau, fel y’n gwaredai ni oddi wrth y byd drwg presennol, yn ô1 ewyllys Duw a’n Tad ni:
1:4 Who gave himself for our sins, that he might deliver us from this present evil world, according to the will of God and our Father:

1:5
I’r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
1:5 To whom be glory for ever and ever. Amen.

1:6
Y mae yn rhyfedd gennyf eich symud mor fuan oddi wrth yr hwn a’ch galwodd i ras Crist, at efengyl arall:
1:6 I marvel that ye are so soon removed from him that called you into the grace of Christ unto another gospel:

1:7
Yr hon nid yw arall; ond bod rhai yn eich trallodi chwi, ac yn chwennych datroi efengyl Crist.
1:7 Which is not another; but there be some that trouble you, and would pervert the gospel of Christ.

1:8
Eithr pe byddai i ni, neu i angel o’r nef, efengylu i chwi amgen na’r hyn a efengylasom i chwi, bydded anathema.
1:8 But though we, or an angel from heaven, preach any other gospel unto you than that which we have preached unto you, let him be accursed.

1:9 Megis y rhagddywedasom, felly yr ydwyf yr awron drachefn yn dywedyd, Os efengyla neb i chwi amgen na’r hyn a dderbyniasoch, bydded anathema.
1:9 As we said before, so say I now again, If any man preach any other gospel unto you than that ye have received, let him be accursed.

1:10 Canys yr awron ai peri credu dynion yr wyf, ynteu Duw? neu a ydwyf fi yn ceisio rhyngu bodd dynion? canys pe rhyngwn fodd dynion eto, ni byddwn was i Grist.
1:10 For do I now persuade men, or God? or do I seek to please men? for if I yet pleased men, I should not be the servant of Christ.

1:11 Eithr yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd a gennyf fi, nad yw hi ddynol.
1:11 But I certify you, brethren, that the gospel which was preached of me is not after man.

1:12 Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y’m dysgwyd; eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist.
1:12 For I neither received it of man, neither was I taught it, but by the revelation of Jesus Christ.

1:13
Canys chwi a glywsoch fy ymarweddiad i gynt yn y grefydd Iddewig, i mi a allan o fesur erlid eglwys Dduw, a’i hanrheithio hi;
1:13 For ye have heard of my conversation in time past in the Jews’ religion, how that beyond measure I persecuted the church of God, and wasted it:

1:14
Ac i mi gynyddu yn y grefydd Iddewig yn fwy na llawer o’m cyfoedion yn fy nghenedl fy hun, gan fod yn fwy awyddus i draddodiadau fy nhadau.
1:14 And profited in the Jews’ religion above many my equals in mine own nation, being more exceedingly zealous of the traditions of my fathers.

1:15
Ond pan welodd Duw yn dda, yr hwn a’m neilltuodd i o groth fy mam, ac a’m galwodd i trwy ei ras,
1:15 But when it pleased God, who separated me from my mother’s womb, and called me by his grace,

1:16
I ddatguddio ei Fab ef ynof fi, fel y pregethwn ef ymhlith y cenhedloedd; yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed:
1:16 To reveal his Son in me, that I might preach him among the heathen; immediately I conferred not with flesh and blood:

1:17
Ac nid euthum yn fy ôl i Jerwsalem at y rhai oedd o’m blaen i yn apostolion; ond mi a euthum i Arabia, a thrachefn y dychwelais i Ddamascus.
1:17 Neither went I up to Jerusalem to them which were apostles before me; but I went into Arabia, and returned again unto Damascus.

1:18 Yna ar ôl tair blynedd y deuthum yn fy ôl i Jerwsalem i ymweled â Phedr; ac a arhosais gydag ef bymtheng niwrnod.
1:18 Then after three years I went up to Jerusalem to see Peter, and abode with him fifteen days.

1:19
Eithr neb arall o’r apostolion nis gwelais, ond Iago brawd yr Arglwydd.
1:19 But other of the apostles saw I none, save James the Lord’s brother.

1:20 A’ r pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, wele, gerbron Duw, nad wyf yn dywedyd celwydd.
1:20 Now the things which I write unto you, behold, before God, I lie not.

1:21
Wedi hynny y deuthum i wledydd Syria a Cilicia;
1:21 Afterwards I came into the regions of Syria and Cilicia;

1:22
Ac yr oeddwn heb fy adnabod wrth fy wyneb yn eglwysi Jwdea y rhai oedd yng Nghrist:
1:22 And was unknown by face unto the churches of Judaea which were in Christ:

1:23
Ond yn unig hwy a glywsent, fod yr hwn oedd gynt yn ein herlid ni, yr awron yn pregethu’r ffydd, yr hon gynt a anrheithiasai.
1:23 But they had heard only, That he which persecuted us in times past now preacheth the faith which once he destroyed.

1:24
A hwy a ogoneddasant Dduw ynof fi.
1:24 And they glorified God in me.


PENNOD 2
2:1
Yna wedi pedair blynedd ar ddeg yr euthum drachefn i fyny i Jerwsalem gyda Barabas, gan gymryd Titus hefyd gyda mi.
2:1 Then fourteen years after I went up again to Jerusalem with Barnabas, and took Titus with me also.

2:2 Ac mi a euthum i fyny yn ôl datguddiad, ac a fynegais iddynt yr efengyl yr hon yr wyf yn ei phregethu ymhlith y Cenhedloedd; ond o’r neilltu i’r rhai cyfrifol, rhag mewn un modd fy mod yn rhedeg yn ofer, neu ddarfod i mi redeg.
2:2 And I went up by revelation, and communicated unto them that gospel which I preach among the Gentiles, but privately to them which were of reputation, lest by any means I should run, or had run, in vain.

2:3
Eithr Titus, yr hwn oedd gyda mi, er ei fod yn Roegwr, ni chymhellwyd chwaith i enwaedu arno:
2:3 But neither Titus, who was with me, being a Greek, was compelled to be circumcised:

2:4
A hynny oherwydd y gau frodyr a ddygasid i mewn, y rhai a ddaethant i mewn i ysbïo ein rhyddid ni yr hon sydd gennym yng Nghrist Iesu, fel y’n caethiwent ni:
2:4 And that because of false brethren unawares brought in, who came in privily to spy out our liberty which we have in Christ Jesus, that they might bring us into bondage:

2:5
I ba rai nid ymroesom trwy ddarostyngiad, naddo dros awr; fel yr arhosai gwirionedd yr efengyl gyda chwi.
2:5 To whom we gave place by subjection, no, not for an hour; that the truth of the gospel might continue with you.

2:6
A chan y rhai a dybid eu bod yn rhywbeth, (pa fath gynt oeddynt, nid yw ddim i mi; nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn;) canys y rhai cyfrifol ni chwanegasant ddim i mi.
2:6 But of these who seemed to be somewhat, (whatsoever they were, it maketh no matter to me: God accepteth no man’s person:) for they who seemed to be somewhat in conference added nothing to me:

2:7
Eithr yn y gwrthwyneb, pan welsant ddarfod ymddiried i mi am efengyl y dienwaediad, megis am efengyl yr enwaediad i Pedr:
2:7 But contrariwise, when they saw that the gospel of the uncircumcision was committed unto me, as the gospel of the circumcision was unto Peter;

2:8
(Canys yr hwn oedd yn gweithredu yn nerthol yn Pedr i apostoliaeth yr enwaediad, a nerthol weithredodd ynof finnau hefyd tuag at y Cenhedloedd:)
2:8 (For he that wrought effectually in Peter to the apostleship of the circumcision, the same was mighty in me toward the Gentiles:)

2:9
A phan wybu Iago, a Cheffas, ac Ioan, y rhai a dybid eu bod yn golofnau, y gras a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeau-ddwylo cymdeithas; fel yr elem ni at y Cenhedloedd, a hwythau at yr enwaediad.
2:9 And when James, Cephas, and John, who seemed to be pillars, perceived the grace that was given unto me, they gave to me and Barnabas the right hands of fellowship; that we should go unto the heathen, and they unto the circumcision.

2:10 Yn unig ar fod i ni gofio’r tlodion; yr hyn hefyd y bûm i ddiwyd i’w wneuthur.
2:10 Only they would that we should remember the poor; the same which I also was forward to do.

2:11
A phan ddaeth Pedr i Antiochia, mi a’i gwrthwynebais yn ei wyneb, am ei fod i’w feio.
2:11 But when Peter was come to Antioch, I withstood him to the face, because he was to be blamed.

2:12 Oblegid cyn dyfod rhai oddi wrth Iago, efe a fwytaodd gyda’r Cenhedloedd: ond wedi iddynt ddyfod, efe a giliodd, ac a’i neilltuodd ei hun oddi wrthynt, gan ofni’r rhai oedd o’r enwaediad.
2:12 For before that certain came from James, he did eat with the Gentiles: but when they were come, he withdrew and separated himself, fearing them which were of the circumcision.

2:13
A’r Iddewon eraill hefyd a gydragrithiasant ag ef; yn gymaint ag y dygwyd Barnabas hefyd i’w rhagrith hwy.
2:13 And the other Jews dissembled likewise with him; insomuch that Barnabas also was carried away with their dissimulation.

2:14 Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn droedio at wirionedd yr efengyl, mi a ddywedais wrth Pedr yn eu gŵydd hwy oll, Os wyt ti, a thi yn Iddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iddewon, paham yr wyt ti yn cymell y Cenhedloedd i fyw yn Iddewaidd?
2:14 But when I saw that they walked not uprightly according to the truth of the gospel, I said unto Peter before them all, If thou, being a Jew, livest after the manner of Gentiles, and not as do the Jews, why compellest thou the Gentiles to live as do the Jews?

2:15 Nyni, y rhai wrth naturiaeth ydym Iddewon, ac nid o’r Cenhedloedd yn bechaduriaid,
2:15 We who are Jews by nature, and not sinners of the Gentiles,

2:16 Yn gwybod nad ydys yn cyfiawnhau dyn trwy weithredoedd y ddeddf, ond trwy ffydd Iesu Grist, ninnau hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu, fel yn cyfiawnhaer trwy ffydd Crist, ac nid trwy weithredoedd y ddeddf: oblegid ni chyflawnheir un cnawd trwy weithredoedd y ddeddf.
2:16 Knowing that a man is not justified by the works of the law, but by the faith of Jesus Christ, even we have believed in Jesus Christ, that we might be justified by the faith of Christ, and not by the works of the law: for by the works of the law shall no flesh be justified.

2:17 Ac os, wrth geisio ein cyfiawnhau yng Nghrist, y’n caed ninnau hefyd yn bechaduriaid, a ydyw Crist am hynny yn weinidog pechod?
Na ato Duw.
2:17 But if, while we seek to be justified by Christ, we ourselves also are found sinners, is therefore Christ the minister of sin? God forbid.

2:18 Canys os wyf fi yn adeiladu drachefn y pethau a ddistrywiais, yr wyf yn fy ngwneuthur fy hun yn droseddwr.
2:18 For if I build again the things which I destroyed, I make myself a transgressor.

2:19
Canys yr wyf fi trwy’r ddeddf wedi marw i’r ddeddf, fel y byddwn fyw i Dduw.
2:19 For I through the law am dead to the law, that I might live unto God.

2:20
Mi a groeshoeliwyd gyda Christ: eithr byw ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi: a’r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw, yr hwn a’m carodd, ac a’i dodes ei hun drosof fi.
2:20 I am crucified with Christ: nevertheless I live; yet not I, but Christ liveth in me: and the life which I now live in the flesh I live by the faith of the Son of God, who loved me, and gave himself for me.

2:21 Nid wyf yn dirymu gras Duw: canys os o’r ddeddf y mae cyfiawnder, yna y bu Crist farw yn ofer.
2:21 I do not frustrate the grace of God: for if righteousness come by the law, then Christ is dead in vain.

PENNOD 3
3:1 O y Galatiaid ynfyd, pwy a’ch llygad-dynnodd chwi fel nad ufuddhaech i’r gwirionedd, i ba rai o flaen eu llygaid y portreiadwyd Iesu Grist, wedi groeshoelio yn eich plith?
3:1 O foolish Galatians, who hath bewitched you, that ye should not obey the truth, before whose eyes Jesus Christ hath been evidently set forth, crucified among you?

3:2 Hyn yn unig a ewyllysiaf ei ddysgu gennych, Ai wrth weithredoedd ddeddf y derbyniasoch yr Ysbryd, ynteu wrth wrandawiad ffydd?
3:2 This only would I learn of you, Received ye the Spirit by the works of the law, or by the hearing of faith?

3:3
A ydych chwi mor ynfyd? gwedi i chwi ddechrau yn yr Ysbryd, a berffeithir chwi yr awron yn y cnawd?
3:3 Are ye so foolish? having begun in the Spirit, are ye now made perfect by the flesh?

3:4
A ddioddefasoch gymaint yn ofer? os yw ofer hefyd.
3:4 Have ye suffered so many things in vain? if it be yet in vain.

3:5
Yr hwn gan hynny sydd yn trefnu i chwi yr Ysbryd, ac yn gwneutur gwyrthiau yn eich plith, ai o weithredoedd y ddeddf, neu o wrandawiad ffydd, y mae?
3:5 He therefore that ministereth to you the Spirit, and worketh miracles among you, doeth he it by the works of the law, or by the hearing of faith?

3:6 Megis y credodd Abraham i Dduw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
3:6 Even as Abraham believed God, and it was accounted to him for righteousness.

3:7 Gwybyddwch felly mai’r rhai sydd o ffydd, y rhai hynny yw plant Abraham.
3:7 Know ye therefore that they which are of faith, the same are the children of Abraham.

3:8 A’r ysgrythur yn rhagweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau y cenhedloedd, a ragefengylodd i Abram gan ddywedyd, Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd.
3:8 And the scripture, foreseeing that God would justify the heathen through faith, preached before the gospel unto Abraham, saying, In thee shall all nations be blessed.

3:9
Felly gan hynny, y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlon.
3:9 So then they which be of faith are blessed with faithful Abraham.

3:10 Canys cynifer ag y sydd o weithredoedd y ddeddf, dan felltith y maent: canys ysgrifennwyd, Melltigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau a ysgrifennir yn llyfr y ddeddf, i’w gwneuthur hwynt.
3:10 For as many as are of the works of the law are under the curse: for it is written, Cursed is every one that continueth not in all things which are written in the book of the law to do them.

3:11 Ac na chyfiawnheir neb trwy’r ddeddf gerbron Duw, eglur yw: oblegid, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.
3:11 But that no man is justified by the law in the sight of God, it is evident: for, The just shall live by faith.

3:12 A’r ddeddf nid yw o ffydd: eithr, Y dyn a wna’r pethau hynny, a fydd byw ynddynt.
3:12 And the law is not of faith: but, The man that doeth them shall live in them.

3:13
Crist a’n llwyr brynodd oddi wrth felltith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felltith trosom: canys y mae yn ysgrifenedig, Melltigedig yw pob un sydd yng nghrog ar bren:
3:13 Christ hath redeemed us from the curse of the law, being made a curse for us: for it is written, Cursed is every one that hangeth on a tree:

3:14
Fel y delai bendith Abraham ar y Cenhedloedd, trwy Grist Iesu; fel y derbyniem addewid yr Ysbryd trwy ffydd.
3:14 That the blessing of Abraham might come on the Gentiles through Jesus Christ; that we might receive the promise of the Spirit through faith.

3:15
Y brodyr, dywedyd yr wyf ar wedd ddynol; Cyd na byddo ond amod dyn, wedi y cadarnhaer, nid yw neb yn ei ddirymu, neu yn rhoddi ato.
3:15 Brethren, I speak after the manner of men; Though it be but a man’s covenant, yet if it be confirmed, no man disannulleth, or addeth thereto.

3:16 Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion, ac i’w had ef. Nid yw yn dywedyd, Ac i’w hadau, megis am lawer; a megis am un, Ac i’th had di, yr hwn yw Crist.
3:16 Now to Abraham and his seed were the promises made. He saith not, And to seeds, as of many; but as of one, And to thy seed, which is Christ.

3:17 A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, am yr amod a gadarnhawyd o’r blaen gan Dduw yng Nghrist, nad yw’r ddeddf, oedd bedwar cant a deg ar hugain o fynyddoedd wedi, yn ei ddirymu, i wneuthur yr addewid yn ofer.
3:17 And this I say, that the covenant, that was confirmed before of God in Christ, the law, which was four hundred and thirty years after, cannot disannul, that it should make the promise of none effect.

3:18 Canys os o’r ddeddf y mae’r etifeddiaeth, nid yw haeach o’r addewid: ond Duw a’i rhad roddodd i Abraham trwy addewid.
3:18 For if the inheritance be of the law, it is no more of promise: but God gave it to Abraham by promise.

3:19 Beth gan hynny yw’r ddeddf? Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg, hyd oni ddelai’r had, i’r hwn y gwnaethid yr addewid; a hi a drefnwyd angylion yn llaw cyfryngwr.
3:19 Wherefore then serveth the law? It was added because of transgressions, till the seed should come to whom the promise was made; and it was ordained by angels in the hand of a mediator.

3:20
A chyfryngwr nid yw i un; ond Duw sydd un.
3:20 Now a mediator is not a mediator of one, but God is one.

3:21
A ydyw’r ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw? Na ato Duw: ,canys pe rhoesid deddf a allasai fywhau, yn wir o’r ddeddf y buasai cyfiawnder
3:21 Is the law then against the promises of God? God forbid: for if there had been a law given which could have given life, verily righteousness should have been by the law.

3:22 Eithr cydgaeodd yr ysgrythur bob peth dan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd Iesu Grist i’r rhai sydd yn credu.
3:22 But the scripture hath concluded all under sin, that the promise by faith of Jesus Christ might be given to them that believe.

3:23 Eithr cyn dyfod ffydd, y’n cadwyd dan y ddeddf, wedi ein cyd-gau i’r ffydd, yr hon oedd i’w datguddio.
3:23 But before faith came, we were kept under the law, shut up unto the faith which should afterwards be revealed.

3:24 Y ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist, fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd.
3:24 Wherefore the law was our schoolmaster to bring us unto Christ, that we might be justified by faith.

3:25
Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athro.
3:25 But after that faith is come, we are no longer under a schoolmaster.

3:26
Canys chwi oll ydych blant i Dduw trwy fydd yng Nghrist Iesu.
3:26 For ye are all the children of God by faith in Christ Jesus.

3:27
Canys cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yng Nghrist, a wisgasoch Grist.
3:27 For as many of you as have been baptized into Christ have put on Christ.

3:28
Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu.
3:28 There is neither Jew nor Greek, there is neither bond nor free, there is neither male nor female: for ye are all one in Christ Jesus.

3:29
Ac os eiddo Crist ydych, yna had Abraham ydych, ac etifeddion yn ôl yr addewid.
3:29 And if ye be Christ’s, then are ye Abraham’s seed, and heirs according to the promise.

PENNOD 4
4:1
A hyn yr wyf yn ei ddywedyd: dros gymaint o amser ag y mae’r etifedd yn fachgen, nid oes dim rhagor rhyngddo a gwas, er ei fod yn arglwydd ar y cwbl;
4:1 Now I say, That the heir, as long as he is a child, differeth nothing from a servant, though he be lord of all;

4:2
Eithr y mae efe dan ymgeleddwyr a llywodraethwyr, hyd yr amser a osodwyd gan y tad.
4:2 But is under tutors and governors until the time appointed of the father.

4:3
Felly ninnau hefyd, pan oeddem fechgyn, oeddem gaethion dan wyddorion y byd:
4:3 Even so we, when we were children, were in bondage under the elements of the world:

4:4
Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf;
4:4 But when the fulness of the time was come, God sent forth his Son, made of a woman, made under the law,

4:5
Fel y prynai’r rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad.
4:5 To redeem them that were under the law, that we might receive the adoption of sons.

4:6
Ac oherwydd eich bod yn feibion, yr anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i’ch calonnau chwi, yn llefain, Abba, Dad.
4:6 And because ye are sons, God hath sent forth the Spirit of his Son into your hearts, crying, Abba, Father.

4:7
Felly nid wyt ti mwy yn was, ond yn fab; ac os mab, etifedd hefyd i Dduw trwy Grist.
4:7 Wherefore thou art no more a servant, but a son; and if a son, then an heir of God through Christ.

4:8 Eithr y pryd hynny, pan oeddech heb adnabod Duw, chwi a wasanaethasoch y rhai wrth naturiaeth nid ydynt dduwiau.
4:8 Howbeit then, when ye knew not God, ye did service unto them which by nature are no gods.

4:9 Ac yn awr, a chwi yn adnabod Duw, ond yn hytrach, yn adnabyddus gan Dduw, pa fodd yr ydych yn troi drachefn at yr egwyddorion llesg a thlodion, y rhai yr ydych yn chwennych drachefn o newydd eu gwasanaethu?
4:9 But now, after that ye have known God, or rather are known of God, how turn ye again to the weak and beggarly elements, whereunto ye desire again to be in bondage?

4:10
Cadw yr ydych ddiwrnodau, a misoedd, ac amseroedd, a blynyddoedd.
4:10 Ye observe days, and months, and times, and years.

4:11 Y mae arnaf ofn amdanoch, rhag darfod i mi boeni wrthych yn ofer.
4:11 I am afraid of you, lest I have bestowed upon you labour in vain.

4:12
Byddwch fel myfi, canys yr wyf fi fel chwi, y brodyr, atolwg i chwi: ni wnaethoch i mi ddim cam.
4:12 Brethren, I beseech you, be as I am; for I am as ye are: ye have not injured me at all.

4:13
A chwi a wyddoch mai trwy wendid y cnawd yr efengylais i chwi y waith gyntaf.
4:13 Ye know how through infirmity of the flesh I preached the gospel unto you at the first.

4:14
A’m profedigaeth, yr hon oedd yn fy nghnawd, ni ddiystyrasoch, ac ni ddirmygasoch; eithr chwi a’m derbyniasoch megis angel Duw, megis Crist Iesu.
4:14 And my temptation which was in my flesh ye despised not, nor rejected; but received me as an angel of God, even as Christ Jesus.

4:15 Beth wrth hynny oedd eich dedwyddwch chwi? canys tystio yr wyf i chwi, pe buasai bosibl, y tynasoch eich llygaid, ac a’u rhoesech i mi.
4:15 Where is then the blessedness ye spake of? for I bear you record, that, if it had been possible, ye would have plucked out your own eyes, and have given them to me.

4:16
A euthum i gan hynny yn elyn i chwi, wrth ddywedyd i chwi y gwir?
4:16 Am I therefore become your enemy, because I tell you the truth?

4:17
Y maent yn rhoi mawr serch arnoch, ond nid yn dda; eithr chwennych y maent eich cau chwi allan, fel y rhoddoch fawr serch arnynt hwy.
4:17 They zealously affect you, but not well; yea, they would exclude you, that ye might affect them.

4:18 Eithr da yw dwyn mawr serch mewn peth da yn wastadol, ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi.
4:18 But it is good to be zealously affected always in a good thing, and not only when I am present with you.

4:19
Fy mlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch;
4:19 My little children, of whom I travail in birth again until Christ be formed in you,

4:20
Ac mi a fynnwn pe bawn yn awr gyda chwi, a newidio fy llais, oherwydd yr wyf yn amau ohonoch.
4:20 I desire to be present with you now, and to change my voice; for I stand in doubt of you.

4:21 Dywedwch i mi, y rhai ydych yn chwennych bod dan y ddeddf, onid ydych chwi yn clywed y ddeddf?
4:21 Tell me, ye that desire to be under the law, do ye not hear the law?

4:22 Canys y mae’n ysgrifenedig, fod i Abraham ddau fab; un o’r wasanaethferch, ac un o’r wraig rydd.
4:22 For it is written, that Abraham had two sons, the one by a bondmaid, the other by a freewoman.

4:23 Eithr yr hwn oedd o’r wasanaethferch, a aned yn ôl y cnawd; ar hwn oedd o’r wraig rydd, trwy’r addewid.
4:23 But he who was of the bondwoman was born after the flesh; but he of the freewoman was by promise.

4:24
Yr hyn bethau ydynt mewn alegori: Canys y rhai hyn yw’r ddau destament; un yn ddiau o fynydd Seina, yn cenhedlu i gaethiwed, yr hon yw Agar:
4:24 Which things are an allegory: for these are the two covenants; the one from the mount Sinai, which gendereth to bondage, which is Agar.

4:25 Canys yr Agar yma yw mynydd Seina yn Arabia, ac y mae yn cyfateb i’r Jerwsalem sydd yn awr; ac y mae yn gaeth, hi a’i phlant.
4:25 For this Agar is mount Sinai in Arabia, and answereth to Jerusalem which now is, and is in bondage with her children.

4:26
Eithr y Jerwsalem honno uchod sydd rydd, yr hen yw ein mam ni oll.
4:26 But Jerusalem which is above is free, which is the mother of us all.

4:27
Canys ysgrifenedig yw, Llawenha, di’r amhlantadwy, yr hon nid wyt yn epilio; tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor: canys i’r unig y mae llawer mwy o blant nag i’r hon y mac iddi ŵr.
4:27 For it is written, Rejoice, thou barren that bearest not; break forth and cry, thou that travailest not: for the desolate hath many more children than she which hath an husband.

4:28
A ninnau, frodyr, megis yr oedd Isaac, ydym blant yr addewid.
4:28 Now we, brethren, as Isaac was, are the children of promise.

4:29 Eithr megis y pryd hynny, yr hwn a anwyd yn ôl y cnawd a erlidiai’r hwn a anwyd yn ôl yr Ysbryd, felly yr awr hon hefyd.
4:29 But as then he that was born after the flesh persecuted him that was born after the Spirit, even so it is now.

4:30 Ond beth y mae’r ysgrythur yn ei ddywedyd? Bwrw allan y wasanaethferch a’i mab: canys ni chaiff mab y wasanaethferch etifeddu gyda mab y wraig rydd.
4:30 Nevertheless what saith the scripture? Cast out the bondwoman and her son: for the son of the bondwoman shall not be heir with the son of the freewoman.

4:31
Felly, frodyr, nid plant i’r wasanaethferch ydym, ond i’r wraig rydd.
4:31 So then, brethren, we are not children of the bondwoman, but of the free.

PENNOD 5
5:1 Sefwch gan hynny yn y rhyddid â’r hwn y rhyddhaodd Crist ni; ac na ddalier chwi drachefn dan iau caethiwed.
5:1 Stand fast therefore in the liberty wherewith Christ hath made us free, and be not entangled again with the yoke of bondage.

5:2 Wele, myfi Paul wyd yn dywedyd wrthych, Os enwaedir chwi, ni lesâ Crist ddim i chwi.
5:2 Behold, I Paul say unto you, that if ye be circumcised, Christ shall profit you nothing.

5:3 Ac yr wyf yn tystiolaethu drachefn i bob dyn a’r a enwaedir, ei fod ef yn ddyledwr i gadw yr holl ddeddf.
5:3 For I testify again to every man that is circumcised, that he is a debtor to do the whole law.

5:4
Chwi, a aethoch yn ddi-fudd oddi wrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y ddeddf: chwi a syrthiasoch ymaith oddi wrth ras.
5:4 Christ is become of no effect unto you, whosoever of you are justified by the law; ye are fallen from grace.

5:5 Canys nyni yn yr Ysbryd trwy ffydd ydym yn disgwyl gobaith cyfiawnder.
5:5 For we through the Spirit wait for the hope of righteousness by faith.

5:6 Canys yng Nghrist Iesu ni all enwaediad ddim, na dienwaediad; ond ffydd yn gweithio trwy gariad.
5:6 For in Jesus Christ neither circumcision availeth any thing, nor uncircumcision; but faith which worketh by love.

5:7 Chwi a redasoch yn dda; Pwy a’ch rhwystrodd chwi, fel nad ufuddhaech i’r gwirionedd?
5:7 Ye did run well; who did hinder you that ye should not obey the truth?

5:8 Y cyngor hwn nid yw oddi wrth yr hwn sydd yn eich galw chwi.
5:8 This persuasion cometh not of him that calleth you.

5:9
Y mae ychydig lefain yn lefeinio’r holl does.
5:9 A little leaven leaveneth the whole lump.

5:10 Y mae gennyf fi hyder amdanoch yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim arall: ond y neb sydd yn eich trallodi a ddwg farnedigaeth, pwy bynnag fyddo.
5:10 I have confidence in you through the Lord, that ye will be none otherwise minded: but he that troubleth you shall bear his judgment, whosoever he be.

5:11 A myfi, frodyr, os yr enwaediad eto yr wyf yn ei bregethu, paham y’m herlidir eto? yn wir tynnwyd ymaith dramgwydd y groes.
5:11 And I, brethren, if I yet preach circumcision, why do I yet suffer persecution? then is the offence of the cross ceased.

5:12
Mi a fynnwn, ie, pe torrid ymaith y rhai sydd yn aflonyddu arnoch.
5:12 I would they were even cut off which trouble you.

5:13 Canys i ryddid y’ch galwyd chwi, frodyr: yn unig nac arferwch y rhyddid yn achlysur i’r cnawd, ond trwy gariad gwasanaethwch eich gilydd.
5:13 For, brethren, ye have been called unto liberty; only use not liberty for an occasion to the flesh, but by love serve one another.

5:14
Canys yr holl ddeddf a gyflawnir mewn un gair, sef yn hwn; Câr dy gymydog fel ti dy hun.
5:14 For all the law is fulfilled in one word, even in this; Thou shalt love thy neighbour as thyself.

5:15 Ond os cnoi a thraflyncu eich gilydd yr ydych, gwyliwch na ddifether chwi gan eich gilydd.
5:15 But if ye bite and devour one another, take heed that ye be not consumed one of another.

5:16 Ac yr wyf yn dywedyd, Rhodiwch yn yr Ysbryd, ac na chyflawnwch drachwant y cnawd.
5:16 This I say then, Walk in the Spirit, and ye shall not fulfil the lust of the flesh.

5:17 Canys y mae’r cnawd yn chwenychu yn erbyn yr Ysbryd, a’r Ysbryd yn erbyn y cnawd: a’r rhai hyn a wrthwynebant ei gilydd, fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch.
5:17 For the flesh lusteth against the Spirit, and the Spirit against the flesh: and these are contrary the one to the other: so that ye cannot do the things that ye would.

5:18
Ond os gan yr Ysbryd y’ch arweinir, nid ydych dan y ddeddf.
5:18 But if ye be led of the Spirit, ye are not under the law.

5:19 Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd; y rhai yw, torpriodas, godineb, aflendid, anlladrwydd,
5:19 Now the works of the flesh are manifest, which are these; Adultery, fornication, uncleanness, lasciviousness,

5:20 Delw-addoliaeth, swyngyfaredd, casineb, cynhennau, gwynfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresïau.
5:20 Idolatry, witchcraft, hatred, variance, emulations, wrath, strife, seditions, heresies,

5:21
Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i’r rhai hyn: am y rhai yr wyf fi yn rhagddywedyd wrthych, megis ag y rhagddywedais, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw.
5:21 Envyings, murders, drunkenness, revellings, and such like: of the which I tell you before, as I have also told you in time past, that they which do such things shall not inherit the kingdom of God.

5:22
Eithr ffrwyth yr Ysbryd yw, cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwyn, dirwest:
5:22 But the fruit of the Spirit is love, joy, peace, longsuffering, gentleness, goodness, faith, meekness, temperance:

5:23 Yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf.
5:23 Against such there is no law.

5:24 A’r rhai sydd yn eiddo Crist, a groeshoeliant y cnawd, â’i wyniau a’i chwantau.
5:24 And they that are Christ’s have crucified the flesh with the affections and lusts.

5:25 Os byw yr ydym yn yr Ysbryd, rhodiwn hefyd yn yr Ysbryd.
5:25 If we live in the Spirit, let us also walk in the Spirit.

5:26 Na fyddwn wag-ogoneddgar, gan ymannog ein gilydd, gan ymgenfigennu wrth ein gilydd.
5:26 Let us not be desirous of vain glory, provoking one another, envying one another.

PENNOD 6
6:1 Y brodyr, os goddiweddir dyn ar ryw fai, chwychwi y rhai ysbrydol, adgyweiriwch y cyfryw un mewn ysbryd addfwynder; gan dy ystyried dy hun, rhag dy demtio dithau.
6:1 Brethren, if a man be overtaken in a fault, ye which are spiritual, restore such an one in the spirit of meekness; considering thyself, lest thou also be tempted.

6:2
Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist.
6:2 Bear ye one another’s burdens, and so fulfil the law of Christ.

6:3
Oblegid os tybia neb ei fod yn rhyw beth, ac yntau heb fod yn ddim, y mae efe yn ei dwyllo ei hun.
6:3 For if a man think himself to be something, when he is nothing, he deceiveth himself.

6:4 Eithr profed pob un ei waith ei hun: ac yna y caiff orfoledd ynddo ei hun yn unig, ac nid mewn arall.
6:4 But let every man prove his own work, and then shall he have rejoicing in himself alone, and not in another.

6:5
Canys pob un a ddwg ei faich ei hun.
6:5 For every man shall bear his own burden.

6:6
A chyfranned yr hwn a ddysgwyd yn y gair â’r hwn sydd yn ei ddysgu, ym mhob peth da.
6:6 Let him that is taught in the word communicate unto him that teacheth in all good things.

6:7
Na thwyller chwi; ni watwarir Duw: canys beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed efe.
6:7 Be not deceived; God is not mocked: for whatsoever a man soweth, that shall he also reap.

6:8 Oblegid yr hwn sydd yn hau i’w gnawd ei hun, o’r cnawd a fed lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i’r Ysbryd, o’r Ysbryd a fed fywyd tragwyddol.
6:8 For he that soweth to his flesh shall of the flesh reap corruption; but he that soweth to the Spirit shall of the Spirit reap life everlasting.

6:9 Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn.
6:9 And let us not be weary in well doing: for in due season we shall reap, if we faint not.

6:10 Am hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i’r rhai sydd o deulu’r ffydd.
6:10 As we have therefore opportunity, let us do good unto all men, especially unto them who are of the household of faith.

6:11
Gwelwch cyhyd y llythyr a ysgrifennais atoch â’m flaw fy hun.
6:11 Ye see how large a letter I have written unto you with mine own hand.

6:12 Cynifer ag sydd yn ewyllysio ymdecáu yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich cymell i’ch enwaedu; yn unig fel nad erlidier hwy oblegid croes Crist.
6:12 As many as desire to make a fair show in the flesh, they constrain you to be circumcised; only lest they should suffer persecution for the cross of Christ.

6:13 Canys nid yw’r rhai a enwaedir, eu hunain yn cadw’r ddeddf; ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, fel y gorfoleddont yn eich cnawd chwi.
6:13 For neither they themselves who are circumcised keep the law; but desire to have you circumcised, that they may glory in your flesh.

6:14
Eithr na ato Duw i mi ymffrostio ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y croeshoeliwyd y byd i mi, a minnau i’r byd.
6:14 But God forbid that I should glory, save in the cross of our Lord Jesus Christ, by whom the world is crucified unto me, and I unto the world.

6:15 Canys yng Nghrist Iesu ni ddichon enwaediad ddim, na dienwaediad, ond creadur newydd.
6:15 For in Christ Jesus neither circumcision availeth any thing, nor uncircumcision, but a new creature.

6:16
A chynifer ag a rodiant yn ôl y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw.
6:16 And as many as walk according to this rule, peace be on them, and mercy, and upon the Israel of God.

6:17
O hyn allan na flined neb fi: canys dwyn yr wyf fi yn fy nghorff nodau’r Arglwydd Iesu.
6:17 From henceforth let no man trouble me: for I bear in my body the marks of the Lord Jesus.

6:18
Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda’ch ysbryd chwi, frodyr. Amen.

6:18 Brethren, the grace of our Lord Jesus Christ be with your spirit. Amen.


At y Galatiaid yr ysgrifennwyd o Rufain.

Unto the Galatians written from Rome.
 

___________________________

DIWEDD 

Adolygiadau diweddaraf - latest updates.  26 04 2002

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ

 

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

 

CYMRU-CATALONIA

Edrychwch ar fy ystadegau / View My Stats