1494k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.

http://www.kimkat.org/
amryw/1_testunau/
sion_prys_003_beibl_haggai_01_1494k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn  Gymraeg
          neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
                    neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
                              neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
                                            neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn

 


..






Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
The Wales-Catalonia Website


Cywaith Siôn Prys
(Casgliad o Destunau yn Gymraeg)

El projecte Siôn Prys
(Col·lecció de textos en gal·lès)


Y Beibl Cysegr-lân : (37) Haggai

(delw 6540)
 



 1495ke This page with an English translation - Haggai  (1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version)


 


PENNOD 1

 

1:1 Yn yr ail flwyddyn i'r brenin Dareius, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y proffwyd at Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac at Josua mab Josedec yr archoffeiriad, gan ddywedyd,


1:2 Fel hyn y llefara ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Y bobl hyn a ddywedant, Ni ddaeth yr amser, yr amser i adeiladu tŷ yr ARGLWYDD.


1:3 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd,


1:4 Ai amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedig, a'r tŷ hwn yn anghyfannedd?


1:5 Fel hyn gan hynny yn awr y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ystryiwch eich ffyrdd.


1:6 Heuasoch lawer, a chludasoch ychydig; bwyta yr ydych, ond nid hyd ddigon; yfed, ac nid hyd fod yn ddiwall; ymwisgasoch, ac nid hyd glydwr i neb, a'r hwn a enillo gyflog, sydd yn casglu cyflog i god dyllog.


1:7 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd.


1:8 Esgynnwch i'r mynydd, a dygwch goed, ac adeiledwch y tŷ ; mi a ymfodlonaf ynddo, ac y'm gogoneddir, medd yr ARGLWYDD.


1:9 Edrychasoch am lawer, ac wele, yr oedd yn ychydig; a phan ei dygasoch adref, chwythais arno. Am ba beth ? medd ARGLWYDD y lluoedd. Am fy nhŷ i, yr hwn sydd yn anghyfannedd, a chwithau yn rhedeg bawb i'w dŷ ei hun.


1:10 Am hynny gwaharddwyd i'r nefoedd oddi arnoch wlitho, a gwaharddwyd i'r ddaear roddi ei ffrwyth.


1:11 Gelwais hefyd am sychder ar y ddaear, ac ar y mynyddoedd, ac ar yr ŷ d ac ar y gwin, ac ar yr olew, ac ar yr hyn a ddwg y ddaear allan; ar ddyn hefyd, ac ar anifail, ac ar holl lafur dwylo,


1:12 Yna y gwrandawodd Sorobabel mab Salathiel, a Josua mab Josedec yr archoffeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr ARGLWYDD eu DUW, ac ar eiriau Haggai y proffwyd, megis yr anfonasai eu HARGLWYDD DDUW hwynt ef; a'r bobl a ofnasant gerbron yr ARGLWYDD.


1:13 Yna Haggai cennad yr ARGLWYDD a lefarodd trwy genadwri yr ARGLWYDD wrth y bobl, gan ddywedyd, Yr wyf fi gyda chwi, medd yr ARGLWYDD.


1:14 Felly y cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac ysbryd Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac ysbryd holl weddill y bobl, a hwy a ddaethant ac a weithiasant y gwaith yn nhŷ ARGLWYDD y lluoedd eu DUW hwynt,


1:15 Y pedwerydd dydd ar hugain o'r chweched mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius y brenin.

 

PENNOD 2
2:1 Yn y seithfed mis, ar yr unfed dydd ar hugain o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law y proffwyd Haggai, gan ddywedyd,


2:2 Dywed yn awr wrth Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac wrth Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac wrth weddill y bobl, gan ddywedyd,


2:3 Pwy yn eich plith a adawyd, yr hwn a welodd y tŷ hwn yn ei ogoniant cyntaf? a pha fodd y gwelwch chwi ef yr awr hon? onid yw wrth hwnnw yn eich golwg fel peth heb ddim?


2:4 Eto yn awr ymgryfha, Sorobabel, medd yr ARGLWYDD, ac ymgryfha, Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac ymgryfhewch, holl bobl y tir, medd yr ARGLWYDD, a gweithiwch: canys yr ydwyf fi gyda chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd:


2:5 Yn ôl y gair a amodais â chwi pan ddaethoch allan o'r Aifft, felly yr erys fy ysbryd yn eich mysg: nac ofnwch.


2:6 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Unwaith eto, ennyd fechan yw, a mi a ysgydwaf y nefoedd, a'r ddaear, a'r môr, a'r sychdir;


2:7 Ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd a dymuniant yr holl genhedloedd a ddaw; llanwaf hefyd y tŷ hwn â gogoniant, medd ARGLWYDD y lluoedd.


2:8 Eiddof fi yr arian, ac eiddof fi yr aur, medd ARGLWYDD y lluoedd.


2:9 Bydd mwy gogoniant y tŷ diwethaf hwn na'r cyntaf, medd ARGLWYDD y lluoedd: ac yn y lle hwn y rhoddaf dangnefedd, medd ARGLWYDD y lluoedd.


2:10 Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd,


11 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Gofyn yr awr hon i'r offeiriaid y gyfraith, gan ddywedyd,


2:12 Os dwg un gig sanctaidd yng nghwr ei wisg, ac â'i gwr a gyffwrdd â'r bara, neu â'r cawl, neu â'r gwin, neu â'r olew, neu â dim o'r bwyd, a fyddant hwy sanctaidd? A'r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Na fyddant.


2:13 A Haggai a ddywedodd, Os un a fo aflan gan gorff marw â gyffwrdd â dim o'r rhai hyn, a fyddant hwy aflan? A’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Byddant aflan.


2:14 Yna yr atebodd Haggai, ac a ddywedodd, Felly y mae y bobl hyn, ac felly y mae y genhedlaeth hon ger fy mron, medd yr ARGLWYDD; ac felly y mac holl waith eu dwylo, a'r hyn a aberthant yno, yn aflan.


2:15 Ac yr awr hon meddyliwch, atolwg, o'r diwrnod hwn allan a chynt, cyn gosod carreg ar garreg yn nheml yr ARGLWYDD;


2:16 Er pan oedd y dyddiau hynny pan ddelid at dwr o ugain llestraid, deg fyddai; pan ddelid at y gwinwryf i dynnu deg llestraid a deugain o'r cafn, ugain a fyddai yno.


2:17 Trewais chwi â diflaniad, ac â mallter, ac â chenllysg, yn holl waith eich dwylo; a chwithau ni throesoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD.


2:18 Ystyriwch yr awr hon o'r dydd hwn ac er cynt, o'r pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, ac ystyriwch o'r dydd y sylfaenwyd teml yr ARGLWYDD.


19 A yw yr had eto yn yr ysgubor? y winwydden hefyd, y ffigysbren, a'r pomgranad, a'r pren olewydd, ni ffrwythasant: o'r dydd hwn allan y bendithiaf chwi.


20 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth eilwaith at Haggai, ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r mis, gan ddywedyd,


21 Llefara wrth Sorobabel tywysog Jwda, gan ddywedyd, Myfi a ysgydwaf y lefoedd a'r ddaear;


22 A mi a ymchwelaf deyrngadair teyrnasoedd, ac a ddinistriaf gryfder breniniaethau y cenhedloedd; ymchwelaf hefyd y cerbydau, a'r rhai a eisteddant ynddynt; a'r meirch a'u marchogion a syrthiant, bob un gan gleddyf ei frawd.


23 Y diwrnod hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, y'th gymeraf di, fy ngwas Sorobabel, mab Salathiel, medd yr ARGLWYDD, ac y'th wnaf fel sêl: canys mi a'th ddewisais di, medd ARGLWYDD y lluoedd.

 


DIWEDD

 

_______________________________________________________________

 

Adolygiadau diweddaraf - 02 02 2003
  
Ble’r wÿf i? Yr ÿch chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina of the Web "CYMRU-CATALONIA" (= Galles-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website
Weərr àm ai? Yùù ààrr vízïting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

 

 

Edrychwych ar fy ystadegau