2372k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_hosea_28_2372k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn  Gymraeg
          neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
                    neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
                              neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
                                            neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn


 (delw 0003)

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

 

 

 

Y Beibl Cysegr-lân : (28) Hosea

CHWILIADUR / CERCADOR / SEARCH BOX:

Cliciwch Yma i Chwilio’r Wefan / Feu clic aquí per cercar la web / Click here to search this website

0860k y llyfr ymwelwyr

(delw 6674)



 

 2373ke This page with an English translation (Hosea: 1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version)

 

 

 

 

LLYFR HOSEA

PENNOD 1
1:1 Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Hosea, mab Beeri, yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas, brenin Israel.

1:2 Dechrau ymadrodd yr ARGLWYDD trwy Hosea. Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Hosea, Dos; cymer i ti wraig o odineb, a phlant o odineb: oherwydd y mae y wlad gan buteinio yn puteinio oddi ar ôl yr ARGLWYDD.

1:3 Ac efe a aeth ac a gymerodd Gomer merch Diblaim; a hi a feichiogodd, ac a ddug iddo ef fab.

1:4 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Galw ei enw ef Jesreel: canys ar fyrder y dialaf waed Jesreel ar dŷ Jehu, ac y gwnaf i frenhiniaeth tŷ Israel ddarfod.

1:5 A’r dydd hwnnw y torraf fwa Israel yng nglyn Jesreel.

1:6 A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar ferch. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Galw ei henw hi Lo-rwhama; am na chwanegaf drugarhau wrth dŷ Israel; eithr dygaf hwynt ymaith yn llwyr.

1:7 Ac eto mi a drugarhaf wrth dŷ Jwda; ac a’u cadwaf hwynt trwy yr ARGLWYDD eu Duw; ac nid â bwa, nac â chleddyf, nac â rhyfel, nac â meirch nac â marchogion, y cadwaf hwynt.

1:8 A hi a ddiddyfnodd Lo-rwhama, ac a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab.

1:9 A Duw a ddywedodd, Galw ei enw ef Lo-ammi: canys nid ydych bobl i mi, ac ni byddaf i chwithau yn DDUW.

1:10 Eto bydd nifer meibion Israel fel tywod y môr, yr hwn nis mesurir, ac nis cyfrifir: a bydd, yn y man lle y dywedwyd wrthynt, Nid pobl i mi ydych chwi, y dywedir yno wrthynt, Meibion y Duw byw ydych.

1:11 Yna meibion Jwda a meibion Israel a gesglir ynghyd, a hwy a osodant iddynt un pen; a deuant i fyny o’r tir: canys mawr fydd dydd Jesreel.

PENNOD 2

2:1
Dywedwch wrth eich brodyr, Ammi; ac wrth eich chwiorydd, Rwhama.

2:2 Dadleuwch â’ch mam, dadleuwch: canys nid fy ngwraig yw hi, ac nid ei gŵr hi ydwyf finnau: bwried hithau ymaith ei phuteindra o’i golwg, a’i godineb oddi rhwng ei bronnau;

2:3 Rhag i mi ei diosg hi yn noeth lymun, a’i gosod fel y dydd y ganed hi, a’i gwneuthur fel anialwch, a’i gosod fel tir diffaith, a’i lladd â syched.

2:4 Ac ar ei phlant ni chymeraf drugaredd; am eu bod yn blant godineb.

2:5 Canys eu mam hwynt a buteiniodd; gwaradwyddus y gwnaeth yr hon a’u hymddûg hwynt: canys dywedodd hi, Af ar ôl fy nghariadau, y rhai sydd yn rhoi fy mara a’m dwfr, fy ngwlân a’m llin, fy olew a’m diodydd.

2:6 Am hynny wele, mi a gaeaf i fyny dy ffordd di â drain, ac a furiaf fur, fel na chaffo hi ei llwybrau.

2:7 A hi a ddilyn ei chariadau, ond nis goddiwedd hwynt; a hi a’u cais hwynt, ond nis caiff: yna y dywed, Af a dychwelaf at fy ngŵr cyntaf; canys gwell oedd arnaf fi yna nag yr awr hon.

2:8 Ac ni wyddai hi mai myfi a roddais iddi ŷd, a gwin, ac olew, ac a amlheais ei harian a’i haur, y rhai a ddarparasant hwy i Baal.

2:9 Am hynny y dychwelaf, a chymeraf fy ŷd yn ei amser, a’m gwin yn ei dymor; a dygaf ymaith fy ngwlân a’m llin a guddiai ei noethni hi.

2:10 A mi a ddatguddiaf bellach ei brynti hi yng ngolwg ei chariadau; ac nis gwared neb hi o’m llaw i.

2:11 Gwnaf hefyd i’w holl orfoledd hi, ei gwyliau, ei newyddleuadau, a’i Sabothau, a’i holl uchel wyliau, beidio.

2:12 A mi a anrheithiaf ei gwinwydd hi a’i ffigyswydd, am y rhai y dywedodd, Dyma fy ngwobrwyon y rhai a roddodd fy nghariadau i mi; ac mi a’u gosodaf yn goedwig, a bwystfilod y maes a’u difa hwynt.

2:13 A mi a ymwelaf â hi am ddyddiau Baalim, yn y rhai y llosgodd hi arogl-darth iddynt, ac y gwisgodd ei chlustfodrwyau a’i thlysau, ac yr aeth ar ôl ei chariadau, ac yr anghofiodd fi, medd yr ARGLWYDD.

2:14 Am hynny wele, mi a’i denaf hi, ac a’i dygaf i’r anialwch, ac a ddywedaf wrth fodd ei chalon.

2:15 A mi a roddaf iddi ei gwinllannoedd o’r fan honno, a dyffryn Achor yn ddrws gobaith; ac yno y cân hi, fel yn nyddiau ei hieuenctid, ac megis yn y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aifft.

2:16 Y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y’m gelwi Issi, ac ni’m gelwi mwyach Baali.

2:17 Canys bwriaf enwau Baalim allan o’i genau hi, ac nis coffeir hwy mwyach wrth eu henwau.

2:18 A’r dydd hwnnw y gwnaf amod drostynt ag anifeiliaid y maes, ac ag ehediaid y nefoedd, ac ag ymlusgiaid y ddaear; a’r bwa, a’r cleddyf, a’r rhyfel, a dorraf ymaith o’r ddaear, a gwnaf iddynt orwedd yn ddiogel.

2:19 A mi a’th ddyweddïiaf â mi fy hun yn dragywydd; ie, dyweddïaf di â mi fy hun mewn cyfiawnder, ac mewn barn, ac mewn tiriondeb, ac mewn trugareddau.

2:20 A dyweddïaf di i mi mewn ffyddlondeb; â thi a adnabyddi yr ARGLWYDD.

2:21 A’r dydd hwnnw y gwrandawaf, medd yr ARGLWYDD, ar y nefoedd y gwrandawaf, a hwythau a wrandawant ar y ddaear;

2:22 A’r ddaear a wrendy ar yr ŷd, a’r gwin, a’r olew; a hwythau a wrandawant ar Jesreel.

2:23 A mi a’i heuaf hi i mi fy hun yn y ddaear, ac a drugarhaf wrth yr hon ni chawsai drugaredd; ac a ddywedaf wrth y rhai nid oedd bobl i mi, Fy mhobl wyt ti: a hwythau a ddywedant, O fy Nuw.

PENNOD 3

3:1
Yna yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Dos eto, câr wraig, (hoff gan ei chyfaill, a hithau wedi torri ei phriodas,) yn ôl cariad yr ARGLWYDD ar feibion Israel, a hwythau yn edrych ar ôl duwiau dieithr, ac yn hoffi costrelau gwin.

3:2 A mi a’i prynais hi i mi er pymtheg o arian, ac er homer o haidd, a hanner homer o haidd:

3:3 A dywedais wrthi, Aros amdanaf lawer o ddyddiau; na phuteinia, ac na fydd i ŵr arall: a minnau a fyddaf felly i tithau.

3:4 Canys llawer o ddyddiau yr erys meibion Israel heb frenin, a heb dywysog, a heb aberth, a heb ddelw, a heb effod, a heb deraffim.

3:5 Wedi hynny y dychwel meibion Israel, ac y ceisiant yr ARGLWYDD eu Duw, a Dafydd eu brenin; ac a barchant yr ARGLWYDD a’i ddaioni yn y dyddiau diwethaf.

PENNOD 4

4:1
Meibion Israel, gwrandewch air yr ARGLWYDD: canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a thrigolion y wlad, am nad oes na gwirionedd, na thrugaredd na gwybodaeth o DDUW, yn y wlad.

4:2 Trwy dyngu, a dywedyd celwydd, a lladd celain, a lladrata, a thorri priodas, y maent yn torri allan, a gwaed a gyffwrdd â gwaed.

4:3 Am hynny y galara y wlad, ac y llesga oll sydd yn trigo ynddi, ynghyd â bwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd, pysgod y môr hefyd a ddarfyddant.

4:4 Er hynny nac ymrysoned, ac na cherydded neb ei gilydd: canys dy bobl sydd megis rhai yn ymryson â’r offeiriad.

4:5 Am hynny ti a syrthi y dydd, a’r proffwyd hefyd a syrth gyda thi y nos, a mi a ddifethaf dy fam.

4:6 Fy mhobl a ddifethir o eisiau gwybodaeth: am i ti ddiystyru gwybod­aeth, minnau a’th ddiystyraf dithau, fel na byddych offeiriad i mi; ac am i ti anghofio cyfraith dŷ DDUW, minnau a anghofiaf dy blant dithau hefyd.

4:7 Fel yr amlhasant, felly y pechasant ‘m herbyn: am hynny eu gogoniant a newidiaf yn warth.

4:8 Bwyta y maent bechod fy mhobl, ac at eu hanwiredd hwynt y maent yn dyrchafu eu calon.

4:9 A bydd yr un fath, bobl ac offeiriad: ac ymwelaf â hwynt am eu ffyrdd, a thalaf iddynt eu gweithredoedd.

4:10 Bwytânt, ac nis diwellir; puteiniant, ac nid amlhant; am iddynt beidio â disgwyl wrth yr ARGLWYDD.

4:11 Godineb, a gwin, a gwin newydd, a ddwg y galon ymaith.

4:12 Fy mhobl a ofynnant gyngor i’w cyffion, a’u ffon a ddengys iddynt: canys ysbryd godineb a’u cyfeiliornodd hwynt, a phuteiniasant oddi wrth eu Duw.

4:13 Ar bennau y mynyddoedd yr aberthant, ac ar y bryniau y llosgant arogl-darth, dan y dderwen, a’r boplysen, a’r llwyfen, am fod yn dda eu cysgod: am hynny y puteinia eich merched chwi, a’ch gwragedd a dorrant briodas.

4:14 Nid ymwelaf â’ch merched pan buteiniont, nac â’ch gwragedd pan dorront briodas: am fod y rhai hyn yn ymddidoli gyda phuteiniaid, ac aberthasant gyda dihirogod; a’r bobl ni ddeallant, a dramgwyddant.

4:15 Er i ti, Israel, buteinio, eto na pheched Jwda: nac ewch i Gilgal, nac ewch i fyny i Beth-afen; ac na thyngwch, Byw yw yr ARGLWYDD.

4:16 Fel anner anhywaith yr anhyweithiodd Israel: yr ARGLWYDD yr awr hon a’u. portha hwynt fel oen mewn ehangder.

4:17 Effraim a ymgysylltodd ag eilunod: gad iddo.

4:18 Surodd eu diod hwy; gan buteinio y puteiniasant: hoff yw, Moeswch, trwy gywilydd gan ei llywodraethwyr hi.

4:19 Y gwynt a’i rhwymodd hi yn ei hadenydd, a bydd arnynt gywilydd oherwydd eu haberthau.

PENNOD 5

5:1
Clywch hyn, chwi offeiriaid; gwrandewch, tŷ Israel; a thŷ y brenin, rhoddwch glust: canys y mae barn tuag atoch, am eich bod yn fagl ar Mispa, ac yn rhwyd wedi ei lledu ar Tabor.

5:2 Y rhai a wyrant i ladd â ânt i’r dwfn, er i mi eu ceryddu hwynt oll.

5:3 Myfi a adwaen Effraim, ac nid yw Israel guddiedig oddi wrthyf: canys yn awr ti, Effraim, a buteiniaist, ac Israel a halogwyd.

5:4 Ni roddant eu gwaith ar droi at eu Duw; am fod ysbryd godineb o’u mewn, ac nid adnabuant yr ARGLWYDD.

5:5 A balchder Israel a ddwg dystiolaeth yn ei wyneb: am hynny Israel ac Effraim a syrthiant yn eu hanwiredd; Jwda hefyd a syrth gyda hwynt.

5:6 A’u defaid ac a’u gwartheg y deuant i geisio yr ARGLWYDD, ond nis cânt ef: ciliodd efe oddi wrthynt.

5:7 Yn erbyn yr ARGLWYDD y buant anffyddlon: canys cenedlasant blant dieithr: mis bellach a’u difa hwynt ynghyd â’u rhannau.

5:8 Cenwch y corn yn Gibea, yr utgorn yn Rama; bloeddiwch yn Beth-afen ar dy ôl di, Benjamin.

5:9 Effraim fydd yn anrhaith yn nydd y cerydd: ymysg llwythau Israel y perais wybod yr hyn fydd yn sicr.

5:10 Bu dywysogion Jwda fei symudwyr terfyn: am hynny y tywalltaf arnynt fy llid fel dwfr.

5:11 Gorthrymwyd Effraim, drylliwyd ef mewn barn, am iddo yn ewyllysgar fyned ar ôl y gorchymyn.

5:12 Am hynny y byddaf fel gwyfyn i Effraim, ac fel pydredd i dŷ Jwda.

5:13 Pan welodd Effraim ei lesgedd, a Jwda ei archoll; yna yr aeth Effraim at yr Asyriad, ac a hebryngodd at frenin Jareb: eto ni allai efe eich meddyginiaethu, na’ch iacháu o’ch archoll.

5:14 Canys mi a fyddaf i Effraim fel llew, ac i dŷ Jwda fel cenau llew: myfi a ysglyfaethaf, ac a af ymaith; dygaf ymaith, ac ni bydd a achubo.

5:15 Af a dychwelaf i’m lle, hyd oni chydnabyddont eu bai, a cheisio fy wyneb: pan fyddo adfyd arnynt, y’m boregeisiant.

PENNOD 6

6:1
Deuwch, a dychwelwn at yr ARGLWYDD: canys efe a’n drylliodd, ac efe a’n hiachâ ni; etc a drawodd, ac efe a’n meddyginiaetha ni.

6:2 Efe a’n bywha ni ar ôl deuddydd, a’r trydydd dydd y cyfyd ni i fyny, a byddwn fyw ger ei fron ef.

6:3 Yna yr adnabyddwn, os dilynwn adnabod yr ARGLWYDD: ei fynediad a ddarperir fel y bore; ac efe a ddaw fel glaw atom, fel y diweddar law a’r cynnar law i’r ddaear.

6:4 Beth a wnaf i ti, Effraim? beth a wnaf i ti, Jwda? eich mwynder sydd yn ymado fel cwmwl y bore, ac fel gwlith boreol.

6:5 Am hynny y trewais hwynt trwy y proffwydi; lleddais hwynt â geiriau fy ngenau: a’th farnedigaethau sydd fel goleuni yn myned allan.

6:6 Canys ewyllysiais drugaredd, ac nid aberth; a gwybodaeth o DDUW, yn fwy na phoethoffrymau.

6:7 A’r rhai byn, fel dynion, a dorasant y cyfamod: yno y buant anffyddlon i’m herbyn.

6:8 Dinas gweithredwyr anwiredd yw Gilead, wedi ei halogi gan waed.

6:9 Ac fel y mae mintai o ladron yn disgwyl gŵr, felly y mae cynulleidfa yr offeiriaid yn lladd ar y ffordd yn gytûn: canys gwnânt ysgelerder.

6:10 Gwelais yn nhŷ Israel beth erchyll: yno y mae godineb Effraim; halogwyd Israel.

6:11 Gosododd hefyd gynhaeaf i tithau, Jwda, a mi yn dychwelyd caethiwed fy mhobl.

PENNOD 7

7:1
A mi yn ewyllysio iacháu Israel, datguddiwyd anwiredd Effraim, a drygioni Samana: canys gwnânt ffalster, a’r lleidr a ddaw i mewn, a mintai o ysbeilwyr a anrheithia oddi allan.

7:2 Ac nid ydynt yn meddwl yn eu calonnau fy mod i yn cofio eu holl ddrygioni hwynt: weithian eu gweithredoedd eu hun a’u hamgylchynodd: y maent gerbron fy wyneb.

7:3 Llawenhânt y brenin a’u drygioni, a’r tywysogion a’u celwyddau.

7:4 Pawb ohonynt sydd yn torri priodas, fel ffwrn wedi ei thwymo gan y pobydd, yr hwn a baid â chodi wedi iddo dylino y toes, hyd oni byddo wedi ei lefeinio.

7:5 Yn niwrnod ein brenin y tywysogion a’i gwnaethant yn glaf â chostrelau gwin; estynnodd ei law gyda gwatwarwyr.

7:6 Fel yr oeddynt yn cynllwyn, darparasant eu calon fel ffwrn: eu pobydd a gwsg ar hyd y nos; y bore y llysg fel fflam dân.

7:7 Pawb ohonynt a wresogant fel y ffwrn, ac a ysant eu barnwyr: eu holl frenhinoedd a gwympasant, heb un ohonynt yn galw arnaf fi.

7:8 Effraim a ymgymysgodd â’r bobloedd; Effraim sydd fel teisen heb ei throi.

7:9 Estroniaid a fwytânt ei gryfder, ac nis gŵyr efe: ymdaenodd penwynni ar hyd-ddo, ac nis gwybu efe.

7:10 Ac y mae balchder Israel yn tystiolaethu yn ei wyneb; ac er hyn oll ni throant at yr ARGLWYDD eu Duw, ac nis ceisiant ef.

7:11 Effraim sydd fel colomen ynfyd heb galon; galwant ar yr Aifft, ânt i Asyria.

7:12 Pan elont, taenaf fy rhwyd drostynt, a thynnaf hwynt i lawr fel ehediaid y nefoedd: cosbaf hwynt, fel y clybu en cynulleidfa hwynt.

7:13 Gwae hwynt! canys ffoesant oddi wrthyf: diinstr arnynt; oherwydd gwnaethant gamwedd i’m herbyn er i mi eu gwared hwynt, eto hwy a ddywedasaot gelwydd arnaf fi.

7:14 Ac ni lefasant arnaf â’u calon, pan udasant ar eu gwelyau: am ŷd a melys win yr ymgasglant; ciliasant oddi wrthyf.

7:15 Er i mi rwymo a nerthu eu breichiau hwynt, eto meddyliasant ddrwg i mi.

7:16 Dychwelasant, nid at y Goruchaf: y maent fel bwa twyllodrus: eu tywysogion a syrthiant gan y cleddyf am gynddaredd eu tafod. Dyma eu gwatwar hwynt yng ngwlad yr Aifft.

PENNOD 8

8:1
At dy safn â’r utgorn. Fel yr eryr, y daw yn erbyn tŷ yr ARGLWYDD, am. iddynt droseddu fy nghyfamod, a phechu yn erbyn fy nghyfraith.

8:2 Israel a lefant arnaf, Fy Nuw, nyni a’th adwaenom di.

8:3 Israel a fwriodd heibio ddaioni: y gelyn a’i herlid yntau.

8:4 Hwy a wnaethant frenhinoedd, ac nid trwof fi; gwnaethant dywysogion, ac nis gwybûm: o’u harian a’u haur y gwnaethant iddynt eu hun ddelwau, fel y torrer hwynt ymaith.

8:5 Samaria, dy lo a’th fwriodd heibio: fy nig a gyneuodd i’w herbyn; pa hyd ni fedrant ddilyn diniweidrwydd?

8:6 Canys o Israel y mae; y saer a’i gwnaeth; am hynny nid yw efe DDUW: ond yn ddrylliau y bydd llo Samaria.

8:7 Canys gwynt a heuasant, a chorwynt a fedant: corsen ni bydd iddo: y dywysen ni wna flawd: ac os gwna, dieithriaid a’i llwnc.

8:8 Israel a lyncwyd: bellach y byddant ymysg y cenhedloedd fel dodrefnyn heb hoffter ynddo.

8:9 Canys hwy a aethant i fyny i Asyria, yn asyn gwyllt unig iddo ei hun: Effraim a gyflogodd gariadau.

8:10 Hefyd er iddynt gyflogi rhai ymysg y cenhedloedd, yn awr mi a’u casglaf hwynt: canys tristânt ychydig, oherwydd baich brenin y tywysogion.

8:11 Oherwydd amlhau o Effraim allorau i bechu, allorau fydd ganddo i bechu.

8:12 Mi a ysgrifennais iddo bethau mawrion fy nghyfraith, ac fel dieithrbeth y cyfrifwyd.

8:13 Yn lle ebyrth fy offrymau, cig a aberthant, ac a fwytant; yr ARGLWYDD nid yw fodlon iddynt: efe a gofia bellach eu hanwiredd, ac efe a ofwya eu pechodau; dychwelant i’r Aifft.

8:14 Canys anghofiodd Israel ei Wneuthurwr, ac a adeiladodd demlau; a Jwda a amlhaodd ddinasoedd caerog: ond myfi a anfonaf dân i’w ddinasoedd, ac efe a ysa ei balasau.

PENNOD 9

9:1
Israel, na orfoledda gan lawenydd, fel pobloedd eraill: canys puteiniaist oddi wrth dŷ DDUW, gwobrau a hoffaist ar bob llawr dyrnu ŷd.

9:2 Y llawr dyrnu na’r gwinwryf nis portha hwynt, a’r gwin newydd a’i twylla hi.

9:3 Ni thrigant yng ngwlad yr ARGLWYDD; ond Effraim a ddychwel i’r Aifft, ac yn Asyria y bwytânt beth aflan.

9:4 Nid offrymant win i’r ARGLWYDD, a’u haberthau ni bydd melys ganddo; byddant iddynt fel bara galarwyr; pawb, a fwytao ohono a halogir: oherwydd eu bara dros eu heneidiau ni ddaw i dŷ yr ARGLWYDD.

9:5 Beth a wnewch ar ddydd yr uchel.ŵyl, ac ar ddydd gŵyl yr ARGLWYDD?

9:6 Canys wele, aethant ymaith gan ddinistr; yr Aifft a’u casgl hwynt, Memffis a’u cladd hwynt: danadl a oresgyn hyfryd leoedd eu harian hwynt; drain a dyf yn eu pebyll.

9:7 Dyddiau i ymweled â ddaethant, dyddiau talu’r pwyth a ddaethant; Israel a gânt wybod hyn: y proffwyd sydd ffôl, ynfyd yw y gŵr ysbrydol, am amlder dy anwiredd, a’r cas mawr.

9:8 Gwyliedydd Effraim a fu gyda’m Duw; aeth y proffwyd yn fagl adarwr yn ei holl lwybrau, ac yn gasineb yn nhŷ ei DDUW.

9:9 Ymlygrasant yn ddwfn, megis yn amser Gibea: am hynny efe a goffa eu hanwiredd, efe a ymwêl â’u pechod.

9:10 Cefais Israel fel grawnwin yn yr anialwch; gwelais eich tadau megis y ffrwyth cynharaf yn y ffigysbren yn ei dechreuad: ond hwy a aethant at Baal-peor, ymddidolasant at y gwarth hwnnw; a bu eu ffieidd-dra fel y carasant.

9:11 Am Effraim, eu gogoniant hwy a eheda fel aderyn; o’r enedigaeth, o’r groth, ac o’r beichiogi.

9:12 Er iddynt fagu eu plant, gwnaf hwynt yn amddifaid o ddynion: a gwae hwynt, pan ymadawyf oddi wrthynt!

9:13 Effraim, fel y gwelais Tyrus, a blannwyd mewn hyfryd gyfannedd: eto Effraim a ddwg ei blant allan at y lleiddiad.

9:14 Dyro iddynt, ARGLWYDD: beth a roddi? dyro iddynt groth yn erthylu, a bronnau hysbion.

9:15 Eu holl ddrygioni sydd yn Gilgal: canys yno y caseais hwynt: am ddrygioni eu gweithredoedd y bwriaf hwynt allan o’m tŷ; ni chwanegaf eu caru hwynt: eu holl dywysogion sydd wrthryfelgar.

9:16 Effraim a drawyd, eu gwraidd a wywodd, dwyn ffrwyth nis gwnânt: ac os cenhedlant, eto lladdaf annwyl blant eu crothau.

9:17 Fy Nuw a’u gwrthyd hwynt, am na wrandawsant arno ef: am hynny y bydd­ant grwydraid ymhlith y cenhedloedd.

PENNOD 10

10:1
Gwinwydden wag yw Israel; efe a ddwg ffrwyth iddo ei hun: yn ôl amlder ei ffrwyth yr amlhaodd efe allorau; yn ôl daioni ei dir gwnaethant ddelwau teg.

10:2 Eu calon a ymrannodd; yn awr y ceir hwy yn feius: efe a dyr i lawr eu hallorau hwynt; efe a ddistrywia eu delwau.

10:3 Canys yr awr hon y dywedant, Nid oes i ni frenin, am nad ofnasom yr ARGLWYDD; a pheth a wnâi brenin i ni?

10:4 Dywedasant eiriau, gan dyngu anudon wrth wneuthur amod; tarddodd barn megis wermod yn rhychau y meysydd.

10:5 Preswylwyr Samaria a ofnant oher­wydd lloeau Beth-afen; canys ei bobl a alara drosto, a’i offeiriaid y rhai a lawenychant ynddo, o achos ei ogoniant, am iddo ymado oddi wrtho ef.

10:6 Hefyd efe a ddygir i Asyria yn anrheg i frenin Jareb: Effraim a dderbyn gywilydd, ac Israel a fydd cywilydd gan­ddo ei gyngor ei hun.

10:7 Samaria, ei brenin a dorrir ymaith fel ewyn ar wyneb y dwfr.

10:8 A distrywir uchelfeydd Afen, pechod Israel; dring drain a mieri ar eu hallorau; a dywedant wrth y mynyddoedd, Gorchuddiwch ni; ac wrth y bryniau, Syrthiwch arnom.

10:9 O Israel, ti a bechaist er dyddiau Gibea: yno y safasant; a’r rhyfel yn Gibea yn erbyn plant anwiredd ni oddiweddodd hwynt.

10:10 Wrth fy ewyllys y cosbaf hwynt: a phobl a gesglir yn eu herbyn, pan ymrwymont yn eu dwy gwys.

10:11 Ac Effraim sydd anner wedi ei dysgu, yn dda ganddi ddyrnu; a minnau a euthum dros degwch ei gwddf hi: paraf i Effraim farchogaeth: Jwda a ardd, a Jacob a lyfna iddo.

10:12 Heuwch i chwi mewn cyfiawnder, medwch mewn trugaredd; braenerwch i chwi fraenar: canys y mae yn amser i geisio yr ARGLWYDD, hyd oni ddelo a glawio cyfiawnder arnoch.

10:13 Arddasoch i chwi ddrygioni, medasoch anwiredd, bwytasoch ffrwyth celwydd; am i ti ymddiried yn dy ffordd dy hun, yn lluosowgrwydd dy gedyrn.

10:14 Am hynny y cyfyd terfysg ymysg dy bobl, a’th holl amddiffynfeydd a ddinistrir, fel y darfu i Salman ddinistrio Beth-arbel yn amser rhyfel; lle y drylliwyd y fam ar y plant.

10:15 Fel hynny y gwna Bethel i chwi, am eich mawrddrwg: gan ddifetha y difethir brenin Israel ar foregwaith.

PENNOD 11
11:1
Pan oedd Israel yn fachgen, mi a’i cerais ef, ac a elwais fy mab o’r Aifft.

11:2 Fel y galwent arnynt, felly hwythau a aent o’u gŵydd hwy; aberthasant i Baalim, llosgasant arogl-darth i ddelwau cerfiedig.

11:3 Myfi hefyd a ddysgais i Effraim gerdded, gan eu cymryd erbyn eu breichiau; ond ni chydnabuant mai myfi a’u meddyginiaethodd hwynt.

11:4 Tynnais hwynt â rheffynnau dynol, â rhwymau cariad; ac oeddwn iddynt megis y rhai a godant yr iau ar eu bochgernau hwynt; a bwriais atynt fwyd.

11:5 Ni ddychwel efe i wlad yr Aifft; ond yr Asyriad fydd ei frenin, am iddynt wrthod troi.

11:6 A’r cleddyf a erys ar ei ddinasoedd ef, ac a dreulia ac a ysa ei geinciau ef, am eu cynghorion eu hun,

11:7 A’m pobl i sydd ar feddwl cilio oddi wrthyf fi; er iddynt eu galw at y Goruchaf, eto ni ddyrchafai neb ef.

11:8 Pa fodd y’th roddaf ymaith, Effraim? y’th roddaf i fyny, Israel? pa fodd y’th wnaf fel Adma? ac y’th osodaf megis Seboim? trodd fy nghalon ynof, a’m hedifeirwch a gydgyneuwyd.

11:9 Ni chyflawnaf angerdd fy llid: ni ddychwelaf i ddinistrio Effraim, canys Duw ydwyf fi, ac nid dyn; y Sanct yn dy ganol di; ac nid af i mewn i’r ddinas.

11:10 Ar ôl yr ARGLWYDD yr ânt; efe a rua fel llew: pan ruo efe, yna meibion o’r gorllewin a ddychrynant.

11:11 Dychrynant fel aderyn o’r Aifft, ac fel colomen o dir Asyria: a mi a’u gosodaf hwynt yn eu tai, medd yr ARGLWYDD.

11:12 Effraim a’m hamgylchynodd â chelwydd, a thŷ Israel â thwyll; ond y mae Jwda eto yn llywodraethu gyda Duw, ac yn ffyddlon gyda’r saint.

PENNOD 12

12:1
Effraim sydd yn ymborthi ar wynt, ac yn dilyn gwynt y dwyrain: ar hyd y dydd yr amlhaodd gelwydd a dinistr; amod a wnaethant â’r Asyriaid; ac olew a ddygwyd i’r Aifft.

12:2 Ac y mae gan yr ARGLWYDD gwyn ar Jwda; ac efe a ymwâl â Jacob yn ôl ei ffyrdd: yn ôl ei weithredoedd y tâl iddo y pwyth.

12:3 Yn y groth y daliodd efe sawdl ei frawd, ac yn ei nerth y cafodd allu gyda Duw.

12:4 Ie, cafodd nerth ar yr angel, a gorchfygodd; wylodd, ac ymbiliodd ag ef: cafodd ef yn Bethel, ac yno yr ymddiddanodd â ni;

12:5 Sef ARGLWYDD DDUW y lluoedd; yr ARGLWYDD yw ei goffadwriaeth.

12:6 Tro dithau at dŷ DDUW; cadw drugaredd a barn, a disgwyl wrth dy DDUW bob amser.

12:7 Marsiandwr yw efe; yn ei law ef y mae cloriannau twyll: da ganddo orthrymu.

12:8 A dywedodd Effraim, Eto mi a gyfoethogais, cefais i mi olud; ni chafwyd yn fy holl lafur anwiredd ynof, a fyddai bechod.

12:9 A mi, yr hwn yw yr ARGLWYDD dy DDUW a’th ddug o dir yr Aifft, a wnaf i ti drigo eto mewn pebyll, megis ar ddyddiau uchel ŵyl.

12:10 Ymddiddenais trwy y proffwydi, a mi a amlheais weledigaethau, ac a arferais gyffelybiaethau, trwy law y proffwydi.

12:11 A oes anwiredd yn Gilead? yn ddiau gwagedd ydynt; yn Gilgal yr aberthant ychen: eu hallorau hefyd sydd fel carneddau yn rhychau y meysydd.

12:12 Ffodd Jacob hefyd i wlad Syria, a gwasanaethodd Israel am wraig, ac am wraig y cadwodd ddefaid.

12:13 A thrwy broffwyd y dug yr ARGLWYDD Israel o’r Aifft, a thrwy broff­wyd y cadwyd ef.

12:14 Effraim a’i cyffrôdd ef i ddig ynghyd â chwerwedd; am hynny y gad efe; ei waed ef arno, a’i Arglwydd a dâl iddo ei waradwydd.


PENNOD 13

13:1
Pan lefarodd Effraim â dychryn, ymddyrchafodd efe yn Israel; ond pan bechodd gyda Baal, y bu farw.

13:2 Ac yr awr hon ychwanegasant bechu, ac o’u harian y gwnaethant iddynt ddelwau tawdd, ac eilunod, yn ôl eu deall eu hun, y cwbl o waith y crefftwyr, am y rhai y maent yn dywedyd, Y rhai a aberthant, cusanant y lloi.

13:3 Am hynny y byddant fel y bore-gwmwl, ac megis y gwlith yr ymedy yn fore, fel mân us a chwaler gan gorwynt allan o’r llawr dyrnu, ac fel mwg o’r ffumer.

13:4 Eto myfi yw yr ARGLWYDD dŷ DDUW, a’th ddug di o dir yr Aifft; ac ni chei gydnabod Duw ond myfi: ac nid oes Iachawdwr ond myfi.

13:5 Mi a’th adnabûm yn y diffeithwch, yn nhir sychder mawr.

13:6 Fel yr oedd eu porfa, y cawsant eu gwala: cawsant eu gwala, a chodasant eu calonnau; ac anghofiasant fi.

13:7 Ond mi a fyddaf fel llew iddynt; megis llewpard ar y ffordd y disgwyliaf hwynt.

13:8 Cyfarfyddaf hwynt fel arth wedi colli ei chenawon; rhwygaf orchudd eu calon hwynt; ac yna fel llew y difaf hwynt: bwystfil y maes a’u llarpia hwynt

13:9 O Israel, tydi a’th ddinistriaist dy hun; ond ynof fi y mae dy gymorth.

13:10 Dy frenin fyddaf: pa le y mae arall a’th waredo di yn dy holl ddinasoedd? a’th frawdwyr, am y rhai y dywedaist, Dyro i mi frenin a thywysogion?

13:11 Rhoddais i ti frenin yn fy nig, a dygais ef ymaith yn fy llid.

13:12 Rhwymwyd anwiredd Effraim; cuddiwyd ei bechod ef.

13:13 Gofid un yn esgor a ddaw arno; mab angall yw efe; canys ni ddylasai fe sefyll yn hir yn esgoreddfa y plant.

13:14 O law y bedd yr achubaf hwynt; oddi wrth angau y gwaredaf hwynt; byddaf angau i ti, O angau; byddaf dranc i ti, y bedd: cuddir edifeirwch o’m golwg.

13:15 Er ei fod yn ffrwythlon ymysg ei frodyr, daw gwynt y dwyrain, gwynt yr ARGLWYDD o’r anialwch a ddyrchafa, a’i ffynhonnell a sych, a’i ffynnon a â yn hesb: efe a ysbeilia drysor pob llestr dymunol.

13:16 Diffeithir Samaria, am ei bod yn anufudd i’w Duw: syrthiant ar y cleddyf: eu plant a ddryllir, a’u gwragedd beichiogion a rwygir.

PENNOD 14

14:1
Ymchwel, Israel, at yr ARGLWYDD dŷ DDUW; canys ti a syrthiaist trwy dy anwiredd.

14:2 Cymerwch eiriau gyda chwi, a dychwelwch at yr ARGLWYDD: dywedwch wrtho, Maddau yr holl anwiredd; derbyn ni yn ddaionus: a thalwn i ti loi ein gwefusau.

14:3 Ni all Assur ein hachub ni; ni farchogwn ar feirch; ac ni ddywedwn mwyach wrth waith ein dwylo, O ein duwiau: oherwydd ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd.

14:4 Meddyginiaethaf eu hymchweliad hwynt, caraf hwynt yn rhad: canys trodd fy nig oddi wrtho.

14:5 Byddaf fel gwlith i Israel: efe a flodeua fel y lili, ac a leda ei wraidd megis Libanus.

14:6 Ei geinciau a gerddant, a bydd ei degwch fel yr olewydden, a’i arogl fel Libanus.

14:7 Y rhai a arhosant dan ei gysgod ef a ddychwelant: adfywiant fel ŷd, blodeuant hefyd fel y winwydden: bydd ei goffadwriaeth fel gwin Libanus.

14:8 Effraim a ddywed, Beth sydd i mi mwyach a wnelwyf ag eilunod? Gwrandewais, ac edrychais arno: myfi sydd fel ffynidwydden ir; ohonof fi y ceir dy ffrwyth di.

14:9 Pwy sydd ddoeth, ac efe a ddeall hyn? a deallgar, ac efe a’i gwybydd? canys union yw ffyrdd yr ARGLWYDD, a’r rhai cyfiawn a rodiant ynddynt: ond y troseddwyr a dramgwyddant ynddynt.

 

_____________

DIWEDD


Adolygiad diweddaraf / Darrera actualització / Latest update 2009-01-13

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ ə

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

 

hit counter script
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats