1765k Gwefan
Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en
gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620
Holy Bible in Welsh. Online Edition.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_ioan1_62_1765k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k
....................0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k
..............................0960k Cywaith Siôn
Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k
........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam
Morgan 1620
neu trwy Google:
#kimkat1281k
.............................................................y tudalen hwn
|
Gwefan Cymru-Catalonia Cywaith Siôn Prys |
(delw 6540)
|
1766ke
This page with
an English translation - First Epistle of John the Apostle / 1620 Welsh Bible /
1611 English Authorized Version
·····
EPISTOL CYNTAF CYFFREDINOL IOAN YR APOSTOL
PENNOD 1
1:1 Yr hyn oedd o’r dechreuad, yr hyn
a glywsom, yr hyn a welsom â’n llygaid, yr hyn a edrychasom arno, ac a deimlodd
ein dwylo am Air y bywyd;
1:2 (Canys y bywyd a eglurhawyd, ac
ni a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ac yn mynegi i chwi’r bywyd tragwyddol,
yr hwn oedd gyda’r Tad, ac a eglurhawyd i ni;)
1:3 Yr hyn a welsom ac a glywsom yr
ydym yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni: a’n
cymdeithas ni yn wir sydd gyda’r Tad, a chyda’i Fab ef Iesu Grist.
1:4 A’r pethau hyn yr ydym yn eu
hysgrifennu atoch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.
1:5 A hon yw’r genadwri a glywsom
ganddo ef, ac yr ydym yn ei hadrodd i chwi; Mai goleuni yw Duw, ac nad oes
ynddo ddim tywyllwch.
1:6 Os dywedwn fod i ni gymdeithas
ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y
gwirionedd:
1:7 Eithr os rhodiwn yn y goleuni,
megis y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas a’n gilydd, a gwaed Iesu
Grist ei Fab ef, sydd yn ein glanhau ni oddi wrth bob pechod.
1:8 Os dywedwn nad oes ynom bechod,
yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a’r gwirionedd nid yw ynom.
1:9 Os cyfaddefwn ein pechodau,
ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y’n glanhao
oddi wrth bob anghyfiawnder.
1:10 Os dywedwn na phechasom, yr
ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a’i air ef nid yw ynom.
PENNOD 2
2:1 Fy mhlant bychain, y pethau hyn
yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, fel na phechoch, Ac o phecha neb, y mae i ni
Eiriolwr gyda’r Tad, Iesu Grist yCyfiawn:
2:2 Ac efe yw’r iawn dros ein
pechodau ni: ac nid dros yr eiddom ni yn unig, eithr dros bechodau yr holl fyd.
2:3 Ac wrth hyn y gwyddom yr
adwaenom ef, os cadwn ni ei orchmynion ef.
2:4 Yr hwn sydd yn dywedyd. Mi a’i
hadwaen ef, ac heb gadw ei orchmynion ef, celwyddog yw, a’r gwirionedd nid yw
ynddo.
2:5 Eithr yr hwn a gadwo ei air ef,
yn wir yn hwn y mae cariad Duw yn berffaith: wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo
ef.
2:6 Yr hwn a ddywed ei fod yn aros
ynddo ef, a ddylai yntau felly rodio, megis ag y rhodiodd ef.
2:7 Y brodyr, nid gorchymyn newydd
yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, eithr gorchymyn hen yr hwn oedd gennych o’r
dechreuad. Yr hen orchymyn yw’r gair a glywsoch o’r dechreuad.
2:8 Trachefn, gorchymyn newydd yr
wyf yn ei ysgrifennu atoch, yr hyn sydd wir ynddo ef, ac ynoch chwithau:
oblegid y tywyllwch a aeth heibio, a’r gwir oleuni sydd yr awron yn tywynnu.
2:9 Yr hwn a ddywed ei fod yn y
goleuni, ac a gasao ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hwn.
2:10 Yr hwn sydd yn caru ei frawd,
sydd yn aros yn y goleuni, ac nid oes rhwystr ynddo.
2:11 Eithr yr hwn sydd yn casáu ei
frawd, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae yn rhodio; ac ni ŵyr
i ba le y mae yn myned, oblegid y mae’r tywyllwch wedi dallu ei lygaid ef.
2:12 Ysgrifennu yr wyf atoch chwi,
blant bychain, oblegid maddau i chwi eich pechodau er mwyn ei enw ef.
2:13 Ysgrifennu yr wyf atoch chwi,
dadau, am adnabod ohonoch yr hwn sydd o’r dechreuad. Ysgrifennu yr wyf atoch
chwi, ŵyr ieuainc, am orchfygu ohonoch yr un drwg. Ysgrifennu yr wyf atoch
chwi, rai bychain, am i chwi adnabod y Tad.
2:14 Ysgrifennais atoch chwi, dadau,
am adnabod ohonoch yr hwn sydd o’r dechreuad. Ysgrifennais atoch chwi, ŵyr
ieuainc, am eich bod yn gryfion, a bod gair Duw yn aros ynoch, a gorchfygu
ohonoch yr un drwg.
2:15 Na cherwch y byd, na’r pethau
sydd yn y byd. 0 châr neb y byd, nid ywcariad y Tad ynddo ef.
2:16 Canys pob peth a’r sydd yn y
byd, megis chwant y cnawd, a chwant y llygaid, a balchder y bywyd, nid yw o’r
Tad, eithr o’r byd y mae.
2:17 A’r byd sydd yn myned heibio,
a’i chwant hefyd: ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys Duw, sydd yn aros yn
dragywydd.
2:18 O blant bychain, yr awr
ddiwethaf ydyw: ac megis y clywsoch y daw anghrist, yr awron hefyd y mae
anghristiau lawer; wrth yr hyn y gwyddom mai’r awr ddiwethaf ydyw.
2:19 Oddi wrthym ni yr aethant hwy
allan, eithr nid oeddynt ohonom ni:canys pe buasent ohonom ni, hwy a arosasent
gyda ni: eithr hyn a fu, fel yr eglurid nad ydynt hwy oll ohonom ni.
2:20 Eithr y mae gennych chwi
eneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnnw, a chwi awyddoch bob peth.
2:21 Nid ysgrifennais atoch oblegid
na wyddech y gwirionedd, eithr oblegid eich bod yn ei wybod, ac nad oes un
celwydd o’r gwirionedd.
2:22 Pwy yw’r celwyddog, ond yr hwn
sydd yn gwadu nad Iesu yw’r Crist? Efe yw’r anghrist, yr hwn sydd yn gwadu’r
Tad a’r Mab.
2:23 Pob un a’r sydd yn gwadu’r Mab,
nid oes ganddo’r Tad chwaith: [ond] yr hwn sydd yn cyffesu’r Mab, y mae’r Tad
ganddo hefyd.
2:24 Arhosed gan hynny ynoch chwi yr
hyn a glywsoch o’r dechreuad. Od erys ynoch yr hyn a glywsoch o’r dechreuad,
chwithau hefyd a gewch aros yn y Mab ac yn y Tad.
2:25 A hon yw’r addewid a addawodd
efe i ni, sef bywyd tragwyddol.
2:26 Y pethau hyn a ysgrifennais
atoch ynghylch y rhai sydd yn eich hudo.
2:27 Ond y mae’r eneiniad a
dderbyniasoch ganddo ef, yn aros ynoch chwi, ac nid oes arnoch eisiau dysgu o
neb chwi; eithr fel y mae’r un eneiniad yn eicb dysgu chwi am bob peth, a gwir
yw, ac nid yw gelwydd; ac megis y’ch dysgodd chwi, yr arhoswch ynddo.
2:28 Ac yr awron, blant bychain,
arhoswch ynddo, fel, pan ymddangoso efe, y byddo hyder gennym, ac na
chywilyddiom ger ei fron ef yn ei ddyfodiad.
2:29 Os gwyddoch ei fod ef yn
gyfiawn, chwi a wyddoch fod pob un a’r sydd yn gwneuthur cyfiawnder, wedi ei
eni ohono ef.
PENNOD 3
3:1 Gwelwch pa fath gariad a roes y
Tad arnom, fel y’n gelwid yn feibion i Dduw: oblegid hyn nid edwyn y byd chwi,
oblegid nad adnabu efe ef.
3:2 Anwylyd, yr awr hon meibion i
Dduw ydym, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn: eithr ni a wyddom, pan ymddangoso
efe, y byddwn gyffelyb iddo:oblegid ni a gawn ei weled ef megis ag y mae.
3:3 Ac y mae pob un sydd ganddo’r
gobaith hwn ynddo ef, yn ei buro’i hun, megis y mae yntau yn bur.
3:4 Pob un a’r sydd yn gwneuthur
pechod, sydd hefyd yn gwneuthur anghyfraith:oblegid anghyfraith yw pechod.
3:5 A chwi a wyddoch ymddangos ohono ef, fel y
dileai ein pechodau ni: ac ynddo ef nid oes pechod.
3:6 Pob un a’r sydd yn aros ynddo
ef, nid yw yn pechu: pob un a’r sydd yn pechu, nis gwelodd ef, ac nis adnabu
ef.
3:7 O blant bychain, na thwylled neb
chwi: yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder, sydd gyfiawn, megis y mae yntau yn
gyfiawn.
3:8 Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod,
o ddiafol y mae, canys y mae diafol yn pechu o’r dechreuad. I hyn yr
ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol.
3:9 Pob un a aned o Dduw, nid yw yn
gwneuthur pechod, oblegid y mae ei had ef yn aros ynddo ef: ac ni all efe
bechu, am ei eni ef o Dduw.
3:10 Yn hyn y mae yn amlwg plant
Duw, a phlant diafol: Pob un a’r sydd heb wneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw,
na’r hwn nid yw yn caru ei frawd.
3:11
Oblegid hon yw’r genadwri a glywsoch o’r dechreuad; bod i ni garu ein gilydd.
3:12 Nid fel Cain, yr hwn oedd o’r
drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? Oblegid bod ei
weithredoedd ef yn ddrwg, a’r eiddo ei frawd yn dda.
3:13 Na ryfeddwch, fy mrodyr, os
yw’r byd yn eich casáu chwi.
3:14
Nyni a wyddom ddarfod ein symud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bod yn
caru’r brodyr. Yr hwn nid yw yn caru ei frawd, y mae yn aros ym marwolaeth.
3:15 Pob un a’r sydd yn casau ei
frawd, lleiddiad dyn yw: a chwi a wyddoch nad oes i un lleiddiad dyn fywyd
tragwyddol yn aros ynddo.
3:16 Yn hyn yr adnabuom gariad Duw,
oblegid dodi ohono ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddodi ein
heinioes dros y brodyr.
3:17 Eithr yr hwn sydd ganddo dda’r
byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gaeo ei dosturi oddi wrtho, pa
fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef?
3:18 Fy mhlant bychain, na charwn ar
air nac ar dafod yn unig, eithr mewn gweithred a gwirionedd.
3:19 Ac wrth hyn y gwyddom ein bod
o’r gwirionedd, ac y sicrhawn ein calonnau ger ei fron ef.
3:20 Oblegid os ein calon a’n
condemnia, mwy yw Duw na’n calon, ac efe a ŵyr bob peth.
3:21 Anwylyd, os ein calon ni’n
condemnia, y mae gennym hyder ar Dduw.
3:22 A pha beth bynnag a ofynnom, yr
ydym yn ei dderbyn ganddo ef: oblegid ein bod yn cadw ei orchmynion ef, ac yn
gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef.
3:23 A hwn yw ei orchymyn ef; Gredu
ohonom yn enw ei Fab ef Iesu Grist, a charu ein gilydd, megis y rhoes efe
orchymyn i ni.
3:24 A’r hwn sydd yn cadw ei
orchmynion ef, sydd yn trigo ynddo ef, ac yntau ynddo yntau. Ac wrth hyn y
gwyddom ei fod ef yn aros ynom, sef o’r Ysbryd a roddes efe i ni.
PENNOD 4
4:1 Anwylyd, na chredwch bob ysbryd,
eithr profwch yr ysbrydion ai o Dduw y maent: oblegid y mae gau broffwydi lawer
wedi myned allan i’r byd.
4:2 Wrth hyn adnabyddwch Ysbryd Duw:
Pob ysbryd a’r sydd yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, o Dduw y mae.
4:3 A phob ysbryd a’r nid yw yn
cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, nid yw o Dduw: eithr hwn yw ysbryd
anghrist, yr hwn y clywsoch ei fod yn dyfod, a’r awron y mae efe yn y byd
eisoes.
4:4 Chwychwi ydych o Dduw, blant
bychain, ac a’u gorchfygasoch hwy:oblegid mwy yw’r hwn sydd ynoch chwi na’r hwn
sydd yn y byd.
4:5 Hwynt-hwy, o’r byd y maent: am
hynny y llefarant am y byd, a’r byd a wrendy arnynt.
4:6 Nyni, o Dduw yr ydym. Yr hwn sydd yn adnabod
Duw, sydd yn ein gwrando ni: yr hwn nid yw o Dduw, nid yw yn ein gwrando ni.
Wrth hyn yr adwaenom ysbryd y gwirionedd, ac ysbryd y cyfeiliorni.
4:7 Anwylyd, carwn ein gilydd:
oblegid cariad, o Dduw y mae; a phob un a’r sydd yn caru, o Dduw y ganwyd ef,
ac y mae efe yn adnabod Duw.
4:8 Yr hwn nid yw yn caru, nid
adnabu Dduw: oblegid Duw, cariad yw.
4:9 Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw
tuag atom ni, oblegid danfon o Dduw ei unig-anedig Fab i’r byd, fel y byddem
fyw trwyddo ef.
4:10
Yn hyn y mae cariad; nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon
ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau.
4:11 Anwylyd, os felly y carodd Duw
ni, ninnau hefyd a ddylem garu ein gilydd.
4:12 Ni welodd neb Dduw erioed. Os
carwn ni ein gilydd, y mae Duw yn trigo ynom, ac y mae ei gariad ef yn
berffaith ynom.
4:13 Wrth hyn y gwyddom ein bod yn
trigo ynddo ef, ac yntau ynom ninnau, am ddarfod iddo roddi i ni o’i Ysbryd.
4:14 A ninnau a welsom, ac ydym yn
tystiolaethu, ddarfod i’r Tad ddanfon y Mab i fod yn Iachawdwr i’r byd.
4:15 Pwy bynnag a gyffeso fod Iesu
yn Fab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntau yn Nuw.
4:16 A nyni a adnabuom ac a gredasom
y cariad sydd gan Dduw tuag atom ni. Duw, cariad yw: a’r hwn sydd yn aros mewn
cariad, sydd yn aros yn Nuw, a Duw ynddo yntau.
4:17 Yn hyn y perffeithiwyd ein
cariad ni, fel y caffom hyder ddydd y farn: oblegid megis ag y mae efe, yr ydym
ninnau hefyd yn y byd hwn.
4:18 Nid oes ofn mewn cariad; eithr
y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn:oblegid y mae i ofn boenedigaeth. A’r
hwn sydd yn ofni, ni pherffeithiwyd mewn cariad.
4:19 Yr ydym ni yn ei garu ef, am
iddo ef yn gyntaf ein caru ni.
4:20 Os dywed neb, Yr wyf yn caru
Duw, ac efe yn casáu ei frawd, celwyddog yw: canys yr hwn nid yw yn caru ei
frawd yr hwn a welodd, pa fodd y gall efe garu Duw yr hwn nis gwelodd?
4:21 A’r gorchymyn hwn sydd gennym
oddi wrtho ef: Bod i’r hwn sydd yn caru Duw, garu ei frawd hefyd.
PENNOD 5
5:1 Pob un a’r sydd yn credu mai
Iesu yw’r Crist, o Dduw y ganed ef: a phob un a’r sydd yn caru’r hwn a
genhedlodd, sydd yn caru hefyd yr hwn a genhedlwyd ohono.
5:2 Yn hyn y gwyddom ein bod yn caru
plant Duw, pan fyddom yn caru Duw, ac yn cadw ei orchmynion ef.
5:3
Canys hyn yw cariad Duw; bod i ni gadw ei orchmynion: a’i orchmynion ef nid
ydynt drymion.
5:4 Oblegid beth bynnag a aned o
Dduw, y mae yn gorchfygu’r byd: a hon yw’r oruchafiaeth sydd yn gorchfygu’r
byd, sef ein ffydd ni.
5:5 Pwy yw’r hwn sydd yn gorchfygu’r
byd, ond yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw?
5:6 Dyma’r hwn a ddaeth trwy ddwfr a
gwaed, sef Iesu Grist; nid trwy ddwfr yn unig, ond trwy ddwfr a gwaed. A’r
Ysbryd yw’r hwn sydd yn tystiolaethu, oblegid yr Ysbryd sydd wirionedd.
5:7 Oblegid y mae tri yn tystiolaethu yn y nef;
y Tad, y Gair, a’r Ysbryd Glân: a’r tri hyn un ydynt.
5:8 Ac y mae tri yn tystiolaethu ar
y ddaear; yr ysbryd, y dwfr, a’r gwaed: a’r tri hyn, yn un y maent yn cytuno.
5:9 Os tystiolaeth dynion yr ydym yn
ei derbyn, y mae tystiolaeth Duw yn fwy:canys hyn yw tystiolaeth Duw, yr hon a
dystiolaethodd efe am ei Fab.
5:10 Yr hwn sydd yn credu ym Mab
Duw, sydd ganddo’r dystiolaeth ynddo ei hun:yr hwn nid yw yn credu yn Nuw, a’i
gwnaeth ef yn gelwyddog, oblegid na chredodd y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw
am ei Fab.
5:11 A hon yw’r dystiolaeth; roddi o
Dduw i ni fywyd tragwyddol: a’r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef.
5:12 Yr hwn y mae’r Mab ganddo, y
mae’r bywyd ganddo; a’r hwn nid yw ganddo Fab Duw, nid oes ganddo fywyd.
5:13 Y pethau hyn a ysgrifennais
atoch chwi, y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw; fel y gwypoch fod i chwi
fywyd tragwyddol, ac fel y credoch yn enw Mab Duw.
5:14 A hyn yw’r hyfder sydd gennym
tuag ato ef; ei fod ef yn ein gwrando ni, os gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef.
5:15 Ac os gwyddom ei fod ef yn ein
gwrando ni, pa beth bynnag a ddeisyfom, ni a wyddom ein bod yn cael y
deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo.
5:16 Os gwêl neb ei frawd yn pechu
pechod nid yw i farwolaeth, efe a ddeisyf, ac efe a rydd iddo fywyd, i’r rhai
sydd yn pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth: nid am hwnnw yr wyf
yn dywedyd ar ddeisyf ohono.
5:17 Pob anghyfiawnder, pechod yw:
ac y mae pechod nid yw i farwolaeth.
5:18 Ni a wyddom nad yw’r neb a aned
o Dduw, yn pechu, eithr y mae’r hwn a aned o Dduw, yn ei gadw ei hun, a’r drwg
hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef.
5:19
Ni a wyddom ein bod o Dduw, ac y mae’r holl fyd yn gorwedd mewn drygioni.
5:20 Ac a wyddom ddyfod Mab Duw, ac
efe a roes i ni feddwl, fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir; ac yr ydym yn y
Cywir hwnnw, sefyn ei Fab ef Iesu Grist. Hwn yw’r gwir Dduw, a’r bywyd
tragwyddol.
5:21 Y plant bychain, ymgedwch oddi
wrth eilunod. Amen.
DIWEDD
Sumbolau arbennig: ŷŵ
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o
dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
"CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a
page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website