1766ke
Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia
Website.
Y Beibl
Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de
l’any 1620.
Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh.
Online Edition.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_ioan1_62_1766ke.htm
0001 Yr Hafan
/ Home Page
or via Google: #kimkat0001
..........2659e Y Fynedfa yn Saesneg / Gateway in
English to this website
or via Google: #kimkat2659e
....................0010e Y
Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English
or via Google: #kimkat0010e
...........................................0977e
Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh
texts on this website - contents page
or via Google: #kimkat0977e
...................................................................1284e Y Gyfeirddalen i Feibl
Wiliam Morgan 1620 / Wiliam Morgan’s 1620 Bible - Index Page
or via
Google: #kimkat1284e
............................................................................................y
tudalen hwn / this
page
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
(delw
6540) Adolygiad
diweddaraf / Latest update: |
1765k Y dudalen hon yn
Gymraeg yn unig
·····
EPISTOL CYNTAF
CYFFREDINOL IOAN YR APOSTOL
PENNOD 1
1:1 Yr hyn oedd o’r dechreuad, yr
hyn a glywsom, yr hyn a welsom â’n llygaid, yr hyn a edrychasom arno, ac a
deimlodd ein dwylo am Air y bywyd;
1:1 That which was from the beginning, which we have heard,
which we have seen with our eyes, which we have looked upon, and our hands have
handled, of the Word of life;
1:2 (Canys y bywyd a eglurhawyd, ac
ni a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ac yn mynegi i chwi’r bywyd tragwyddol,
yr hwn oedd gyda’r Tad, ac a eglurhawyd i ni;)
1:2 (For the life was manifested, and we have seen it, and
bear witness, and show unto you that eternal life, which was with the Father,
and was manifested unto us;)
1:3 Yr hyn a welsom ac a glywsom yr
ydym yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni: a’n
cymdeithas ni yn wir sydd gyda’r Tad, a chyda’i Fab ef Iesu Grist.
1:3 That which we have seen and heard declare we unto you,
that ye also may have fellowship with us: and truly our fellowship is with the
Father, and with his Son Jesus Christ.
1:4 A’r pethau hyn yr ydym yn eu
hysgrifennu atoch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.
1:4 And these things write we unto you, that your joy may be
full.
1:5 A hon yw’r genadwri a glywsom
ganddo ef, ac yr ydym yn ei hadrodd i chwi; Mai goleuni yw Duw, ac nad oes
ynddo ddim tywyllwch.
1:5 This then is the message which we have heard of him, and
declare unto you, that God is light, and in him is no darkness at all.
1:6 Os dywedwn fod i ni gymdeithas
ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y
gwirionedd:
1:6 If we say that we have fellowship with him, and walk in
darkness, we lie, and do not the truth:
1:7 Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megis
y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas a’n gilydd, a gwaed Iesu Grist ei
Fab ef, sydd yn ein glanhau ni oddi wrth bob pechod.
1:7 But if we walk in the light, as he is in the light, we
have fellowship one with another, and the blood of Jesus Christ his Son
cleanseth us from all sin.
1:8 Os dywedwn nad oes ynom bechod,
yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a’r gwirionedd nid yw ynom.
1:8 If we say that we have no sin, we deceive ourselves, and
the truth is not in us.
1:9 Os cyfaddefwn ein pechodau,
ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y’n glanhao
oddi wrth bob anghyfiawnder.
1:9 If we confess our sins, he is faithful and just to
forgive us our sins, and to cleanse us from all unrighteousness.
PENNOD 2
2:1 Fy mhlant bychain, y pethau hyn
yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, fel na phechoch, Ac o phecha neb, y mae i ni
Eiriolwr gyda’r Tad, Iesu Grist yCyfiawn:
2:1 My little children, these things write I unto you, that
ye sin not. And if any man sin, we have an advocate with the Father, Jesus
Christ the righteous:
2:2 Ac efe yw’r iawn dros ein pechodau
ni: ac nid dros yr eiddom ni yn unig, eithr dros bechodau yr holl fyd.
2:2 And he is the propitiation for our sins: and not for
ours only, but also for the sins of the whole world.
2:3 Ac wrth hyn y gwyddom yr
adwaenom ef, os cadwn ni ei orchmynion ef.
2:3 And hereby we do know that we know him, if we keep his
commandments.
2:4 Yr hwn sydd yn dywedyd. Mi a’i
hadwaen ef, ac heb gadw ei orchmynion ef, celwyddog yw, a’r gwirionedd nid yw
ynddo.
2:4 He that saith, I know him, and keepeth not his
commandments, is a liar, and the truth is not in him.
2:5 Eithr yr hwn a gadwo ei air ef,
yn wir yn hwn y mae cariad Duw yn berffaith: wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo
ef.
2:5 But whoso keepeth his word, in him verily is the love of
God perfected: hereby know we that we are in him.
2:6 Yr hwn a ddywed ei fod yn aros
ynddo ef, a ddylai yntau felly rodio, megis ag y rhodiodd ef.
2:6 He that saith he abideth in him ought himself also so to
walk, even as he walked.
2:7 Y brodyr, nid gorchymyn newydd
yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, eithr gorchymyn hen yr hwn oedd gennych o’r
dechreuad. Yr hen orchymyn yw’r gair a glywsoch o’r dechreuad.
2:7 Brethren, I write no new commandment unto you, but an
old commandment which ye had from the beginning. The old commandment is the word
which ye have heard from the beginning.
2:8 Trachefn, gorchymyn newydd yr
wyf yn ei ysgrifennu atoch, yr hyn sydd wir ynddo ef, ac ynoch chwithau:
oblegid y tywyllwch a aeth heibio, a’r gwir oleuni sydd yr awron yn tywynnu.
2:8 Again, a new commandment I write unto you, which thing
is true in him and in you: because the darkness is past, and the true light now
shineth.
2:9 Yr hwn a ddywed ei fod yn y
goleuni, ac a gasao ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hwn.
2:9 He that saith he is in the light, and hateth his
brother, is in darkness even until now.
2:27 But the anointing which ye have received of him abideth
in you, and ye need not that any man teach you: but as the same anointing
teacheth you of all things, and is truth, and is no lie, and even as it hath
taught you, ye shall abide in him.
PENNOD 3
3:1 Gwelwch pa fath gariad a roes y
Tad arnom, fel y’n gelwid yn feibion i Dduw: oblegid hyn nid edwyn y byd chwi,
oblegid nad adnabu efe ef.
3:1 Behold, what manner of love the Father hath bestowed
upon us, that we should be called the sons of God: therefore the world knoweth
us not, because it knew him not.
3:2 Anwylyd, yr awr hon meibion i
Dduw ydym, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn: eithr ni a wyddom, pan ymddangoso
efe, y byddwn gyffelyb iddo:oblegid ni a gawn ei weled ef megis ag y mae.
3:2 Beloved, now are we the sons of God, and it doth not yet
appear what we shall be: but we know that, when he shall appear, we shall be
like him; for we shall see him as he is.
3:3 Ac y mae pob un sydd ganddo’r
gobaith hwn ynddo ef, yn ei buro’i hun, megis y mae yntau yn bur.
3:3 And every man that hath this hope in him purifieth
himself, even as he is pure.
3:4 Pob un a’r sydd yn gwneuthur
pechod, sydd hefyd yn gwneuthur anghyfraith:oblegid anghyfraith yw pechod.
3:4 Whosoever committeth sin transgresseth also the law: for
sin is the transgression of the law.
3:5 A chwi a wyddoch ymddangos ohono ef, fel y
dileai ein pechodau ni: ac ynddo ef nid oes pechod.
3:5 And ye know that he was manifested to take away our
sins; and in him is no sin.
3:6 Pob un a’r sydd yn aros ynddo
ef, nid yw yn pechu: pob un a’r sydd yn pechu,
3:6 Whosoever abideth in him sinneth not: whosoever sinneth
hath not seen him, neither known him.
3:7 O blant bychain, na thwylled neb
chwi: yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder, sydd gyfiawn, megis y mae yntau yn
gyfiawn.
3:7 Little children, let no man deceive you: he that doeth
righteousness is righteous, even as he is righteous.
3:8 Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod,
o ddiafol y mae, canys y mae diafol yn pechu o’r dechreuad. I hyn yr
ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol.
3:8 He that committeth sin is of the devil; for the devil
sinneth from the beginning. For this purpose the Son of God was manifested,
that he might destroy the works of the devil.
3:9 Pob un a aned o Dduw, nid yw yn
gwneuthur pechod, oblegid y mae ei had ef yn aros ynddo ef: ac ni all efe
bechu, am ei eni ef o Dduw.
3:9 Whosoever is born of God doth not commit sin; for his
seed remaineth in him: and he cannot sin, because he is born of God.
PENNOD 4
4:1 Anwylyd, na chredwch bob ysbryd,
eithr profwch yr ysbrydion ai o Dduw y maent: oblegid y mae gau broffwydi lawer
wedi myned allan i’r byd.
4:1 Beloved, believe not every spirit, but try the spirits
whether they are of God: because many false prophets are gone out into the
world.
4:2 Wrth hyn adnabyddwch Ysbryd Duw:
Pob ysbryd a’r sydd yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, o Dduw y mae.
4:2 Hereby know ye the Spirit of God: Every spirit that
confesseth that Jesus Christ is come in the flesh is of God:
4:3 A phob ysbryd a’r nid yw yn
cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, nid yw o Dduw: eithr hwn yw ysbryd
anghrist, yr hwn y clywsoch ei fod yn dyfod, a’r awron y mae efe yn y byd
eisoes.
4:3 And every spirit that confesseth not that Jesus Christ
is come in the flesh is not of God: and this is that spirit of antichrist,
whereof ye have heard that it should come; and even now already is it in the
world.
4:4 Chwychwi ydych o Dduw, blant
bychain, ac a’u gorchfygasoch hwy:oblegid mwy yw’r hwn sydd ynoch chwi na’r hwn
sydd yn y byd.
4:4 Ye are of God, little children, and have overcome them:
because greater is he that is in you, than he that is in the world.
4:5 Hwynt-hwy, o’r byd y maent: am
hynny y llefarant am y byd, a’r byd a wrendy arnynt.
4:5 They are of the world: therefore speak they of the
world, and the world heareth them.
4:6 Nyni, o Dduw yr ydym. Yr hwn sydd yn adnabod
Duw, sydd yn ein gwrando ni: yr hwn nid yw o Dduw, nid yw yn ein gwrando ni.
Wrth hyn yr adwaenom ysbryd y gwirionedd, ac ysbryd y cyfeiliorni.
4:6 We are of God: he that knoweth God heareth us; he that
is not of God heareth not us. Hereby know we the spirit of truth, and the
spirit of error.
4:7 Anwylyd, carwn ein gilydd:
oblegid cariad, o Dduw y mae; a phob un a’r sydd yn caru, o Dduw y ganwyd ef,
ac y mae efe yn adnabod Duw.
4:7 Beloved, let us love one another: for love is of God;
and every one that loveth is born of God, and knoweth God.
4:8 Yr hwn nid yw yn caru, nid
adnabu Dduw: oblegid Duw, cariad yw.
4:8 He that loveth not knoweth not God; for God is love.
4:9 Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw
tuag atom ni, oblegid danfon o Dduw ei unig-anedig Fab i’r byd, fel y byddem
fyw trwyddo ef.
4:9 In this was manifested the love of God toward us,
because that God sent his only begotten Son into the world, that we might live
through him.
PENNOD 5
5:1 Pob un a’r sydd yn credu mai
Iesu yw’r Crist, o Dduw y ganed ef: a phob un a’r sydd yn caru’r hwn a
genhedlodd, sydd yn caru hefyd yr hwn a genhedlwyd ohono.
5:1 Whosoever believeth that Jesus is
the Christ is born of God: and every one that loveth him that begat loveth him
also that is begotten of him.
5:2 Yn hyn y gwyddom ein bod yn caru
plant Duw, pan fyddom yn caru Duw, ac yn cadw ei orchmynion ef.
5:2 By this we know that we love the children of God, when
we love God, and keep his commandments.
5:3 Canys hyn yw cariad Duw; bod i
ni gadw ei orchmynion: a’i orchmynion ef nid ydynt drymion.
5:3 For this is the love of God, that we keep his
commandments: and his commandments are not grievous.
5:4 Oblegid beth bynnag a aned o
Dduw, y mae yn gorchfygu’r byd: a hon yw’r oruchafiaeth sydd yn gorchfygu’r
byd, sef ein ffydd ni.
5:4 For whatsoever is born of God overcometh the world: and
this is the victory that overcometh the world, even our faith.
5:5 Pwy yw’r hwn sydd yn gorchfygu’r
byd, ond yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw?
5:5 Who is he that overcometh the world, but he that
believeth that Jesus is the Son of God?
5:6 Dyma’r hwn a ddaeth trwy ddwfr a
gwaed, sef Iesu Grist; nid trwy ddwfr yn unig, ond trwy ddwfr a gwaed. A’r
Ysbryd yw’r hwn sydd yn tystiolaethu, oblegid yr Ysbryd sydd wirionedd.
5:6 This is he that came by water and blood, even Jesus
Christ; not by water only, but by water and blood. And it is the Spirit that
beareth witness, because the Spirit is truth.
5:7 Oblegid y mae tri yn tystiolaethu yn y nef;
y Tad, y Gair, a’r Ysbryd Glân: a’r tri hyn un ydynt.
5:7 For there are three that bear record in heaven, the
Father, the Word, and the Holy Ghost: and these three are one.
5:8 Ac y mae tri yn tystiolaethu ar
y ddaear; yr ysbryd, y dwfr, a’r gwaed: a’r tri hyn, yn un y maent yn cytuno.
5:8 And there are three that bear witness in earth, the Spirit,
and the water, and the blood: and these three agree in one.
5:9 Os tystiolaeth dynion yr ydym yn
ei derbyn, y mae tystiolaeth Duw yn fwy:canys hyn yw tystiolaeth Duw, yr hon a
dystiolaethodd efe am ei Fab.
5:9 If we receive the witness of men, the witness of God is
greater: for this is the witness of God which he hath testified of his Son.
5:18 Ni a wyddom nad yw’r neb a aned
o Dduw, yn pechu, eithr y mae’r hwn a aned o Dduw, yn ei gadw ei hun, a’r drwg
hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef.
5:20 And we know that the Son of God is come, and hath given
us an understanding, that we may know him that is true, and we are in him that
is true, even in his Son Jesus Christ. This is the true God, and eternal life.
DIWEDD / END
Sumbolau arbennig: ŷŵ
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o
dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
"CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a
page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website