2610k
Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia
Website. Y
Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en
gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620
Holy Bible in Welsh. Online Edition.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_numeri_04_2610k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k
....................0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k
..............................0960k Cywaith Siôn
Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k
........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam
Morgan 1620
neu trwy Google:
#kimkat1281k
.............................................................y tudalen hwn
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
(delw 7310) |
xxxx (ddim ar gael eto) Y tudalen hwn yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
(Sganiad heb ei gywiro yw hwn, ac felly yn
frith o wallau. Cyn hir gobeithio cawn ni gyfle i roi trefn arno)
(This is a scan which has not been corrected
yet. There are many errors in the text)
ŵŷ
PEDWERYDD
LLYFR MOSES, YR HWN A ELWIR NUMERI
PENNOD 1
1:1 A’R ARGLWYDD a lefarodd wrth
Moses, yn anialwch Sinai, ym mhabell y cyfarfod, ar y dydd cyntaf o’r ail fis, yn
yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy allan o dir yr Aifft, gan ddywedyd,
1:2 Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel, yn ôl eu teuluoedd, wrth
dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, pob gwryw wrth eu pennau;
1:3 O fab ugain mlwydd ac uc uchod, pob un a allo fyned i ryfel yn Israeil: ti
ac Aaron a’u cyfrifwch hwynt yn ôl eu lluoedd.
1:4 A bydded gyda chwi ŵr o bob llwyth; sef y gŵr pennaf o dŷ ei
dadau.
1:5 A dyma enwau’r gwŷr a safant gyda chwi. O lwyth Reuben; Elisur mab Sedeur.
1:6 O lwyth Simeon; Selumiel mab Surisadai.
1:7 O lwyth Jwda; Nahson mab Aminadab
1:8 O lwyth Issachar; Nethaaeel mab Suar.
1:9 O lwyth Sabulon; Eliab mab Helon.
1:10 O feibion Joseff: dros Effraim, Elisama mab Ammihud; dros Manasse,
Gamaliel mab Pedasur.
1:11 O lwyth Benjamin; Abidan mab Gideoni.
1:12 O lwyth Dan; Ahieser mab Ammisadai.
1:13 O lwyth Aser; Pagiel mab Ocran.
1:14 O lwyth Gad; Elisaff mab Deuel.
1:15 O lwyth Nafftali; Anira mab Enan.
1:16 Dyma rai enwog y gynulleidfa, tywysogion llwythau eu tadau, penaethiaid
miloedd Israel oeddynt hwy.
1:17 A chymerodd Moses ac Aaron y gwŷr hyn a hysbysasid wrth eu henwau;
1:18 Ac a gasglasant yr holl gynulleidfa ynghyd ar y dydd cyntaf o’r ail fis; a
rhoddasant eu hachau, trwy eu teuluoedd, yn ol tŷ eu tadau, dan rif eu
henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, erbyn eu pennau.
1:19 Megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses, felly y rhifodd efe hwynt
yn anialwch Sinai.
1:20 A meibion Reuben, cyntaf-anedig Israel, wrth eu cenedl eu hun, yn ôl eu
teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, erbyn eu pennau, pob gwryw o
fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a allai fyned i ryfel;
1:21 Y rhai a rifwyd ohonynt, sef o lwyth Reuben, oedd chwe mil a deugain a
phum cant.
1:22 O feibion Simeon, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu
tadau, eu rhifedigion oedd, dan rif eu henwau, erbyn eu pennau, pob gwryw o fab
ugain mlwydd ac uchod, sef pob un a’r a
allai fyned i ryfel;
1:23 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Simeon, oedd onid un fil trigain mil a thri
chant.
1:24 O feibion Gad, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu lluoedd, o dŷ eu tadau,
dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a allai fyned i ryfel;
1:25 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Gad, oeddynt bum mil a deugain a chwe chant
a deg a deugain.
1:26 O feibion Jwda, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu
tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pawb a’r a oedd yn gallu
myned i ryfel;
1:27 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Jwda, oedd bedair mil ar ddeg a thrigain a
chwe chant.
1:28 O feibion Issachar, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu
tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn
galhi myned i ryfel;
1:29 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Issachar, oedd bedair mil
ar ddeg a deugain a phedwar cant.
1:30 O feibion Sabulon, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu
tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn
gallu myned i ryfel;
1:31 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Sabulon, oedd ddwy fil ar bymtheg a deugain
a phedwar cant.
1:32 O feibion Joseff, sef o feibion Effraim, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu
teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod,
pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel;
1:33 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Effraim, oedd ddeugain mil a phum cant.
1:34 O feibion Manasse, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu
tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn
gallu myned i ryfel;
1:35 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Manasse, oedd ddeuddeng mil ar hugain a dau
gant.
1:36 O feibion Benjamin, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ
eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn
gallu myned i ryfel;
1:37 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Benjamin, oedd bymtheg mil ar bugain a
phedwar cant.
1:38 O feibion Dan, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu
tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn
gallu myned i ryfel;
1:39 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Dan, oeddynt ddwy fil a thrigain a saith
gant.
1:40 O feibion Aser, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu
tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn
gallu myned i ryfel;
1:41 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Aser, oeddynt un fil a deugain a phum cant.
1:42 O feibion Nafftali, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ
eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd
yn gallu myned i ryfel;
1:43 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Nafftali, oedd dair mil ar ddeg a deugain a
phedwar cant.
1:44 Dyma’r rhifedigion, y rhai’a rifodd Moses, ac Aaron, a thywysogion Israel;
sef y deuddengwr, y rhai oedd bob un dros dŷ eu tadau.
1:45 Felly yr ydoedd holl rifedigion meibion Israel, wrth dŷ eu tadau, o
fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel yn
Israel;
1:46 A’r holl rifedigion oedd chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a
deugain.
1:47 Ond y Lefiaid, trwy holl lwythau eu tadau, ni rifwyd yn eu mysg hwynt:
1:48 Canys llefarasai yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
1:49 Ond na chyfrif lwyth Lefi, ac na chymer eu nifer hwynt, ymysg meibion
Israel.
1:50 Ond dod i’r Lefiaid awdurdod air babell y dystiolaeth, ac ar ei holl
ddodrefn, ac ar yr hyn oll a berthyn iddi: hwynt-hwy a ddygant y babell, a’i
holl ddodrefn, ac a’i gwasanaethant, ac a wersyllant o amgylch i’r babell.
1:51 A phan symudo’r babell, y Lefiaid a’i tyn hi i lawr; a phan arhoso’r
babell, y Lefiaid a’i gesyd hi i fyny: lladder y dieithr a ddelo yn agos.
1:52 A gwersylled meibion Israel bob un yn ei wersyll ei hun, a phob un wrth ei
luman ei hun, trwy eu lluoedd.
1:53 A’r Lefiaid a wersyllant o amgylch pabell y dystiolaeth, fel na byddo llid
yn erbyn cynulleidfa meibion Israel: a chadwed y Lefiaid wyliadwriaeth pabell y
dystiolaeth.
1:54 A meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD
wrth Moses; felly y gwnaethant.
PENNOD 2
2:1 A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,
2:2 Meibion Israel a wersyllant bob un wrth ei luman ei hun, dan arwyddion
tŷ eu tadau: o amgylch pabell y cyfarfod y gwersyllant o hirbell.
2:3 A’r rhai a wersyllant o du’r dwyrain tua chodiad haul, fydd gwŷr
lluman gwersyll Jwda, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Jwda fydd Nahson mab
Aminadab.
2:4 A’i lu ef, a’u rhai rhifedig hwynt, fyddant bedair mil ar ddeg a thrigain:
a chwe chant.
2:5 A llwyth Issachar a wersyllant yn nesaf ato: a chapten meibion Issachar
fydd Nethaneel mab Suar.
2:6 A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant bedair mil ar ddeg a deugain a phedwar
cant.
2:7 Yna llwyth Sabulon: ac Eliab mab Helon fydd capten meibion Sabulon.
2:8 A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant ddwy fil ar bymtheg a deugain a phedwar
cant. .
2:9 Holl rifedigion gwersyll Jwda fyddant, yn ôl eu lluoedd, yn gan mil a
phedwar ugain mil a chwe mil a phedwar cant. Yn flaenaf y cychwyn y rhai hyn.
2:10 Lluman gwersyll Reuben fydd tua’r deau, yn ôl eu lluoedd: a chapten
meibion Reuben fydd Elisur mab Sedeur.
2:11 A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant chwe mil a deugain a phum cant.
2:12 A’r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Simeon: a chapten meibion
Simeon fydd Selumiel mab Surisadai.
2:13 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fydd onid un trigain mil a thri chant.
2:14 Yna llwyth Gad: a chapten meibion Gad fydd Eliasaff mab Reuel.
2:15 A’i lu ef, a’u rhifedigion hwynt, fyddant bum mil a deugain a chwe chant a
deg a deugain.
2:16 Holl rifedigion gwersyll Reuben fyddant gan mil ac un ar ddeg a deugain o
filoedd, a phedwar cant a deg a deugain, yn ôl eu lluoedd. Ac yn ail y
cychwynnant hwy.
2:17 A phabell y cyfarfod a gychwyn yng nghanol y gwersylloedd, gyda gwersyll
y Lefiaid: fel y gwersyllant, felly y symudant, pob un yn ei le, wrth eu
llumanau.
2:18 Lluman gwersyll Effraim fydd tua’r gorllewin, yn ôl eu lluoedd: a chapten
meibion Effraim fydd Elisama mab Ammihud.
2:19 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddeugain mil a phum cant.
2:20 Ac yn ei ymyl ef llwyth Manasse; a chapten meibion Manasse fydd Gamaliel
mab Pedasur.
2:21 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddeuddeng mil ar hugain a dau gant.
2:22 Yna llwyth Benjamin: a chapten meibion Benjamin fydd Abidan mab Gideoni.
2:23 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant bymtheng mil ar hugain a phedwar cant.
2:24 Holl rifedigion gwersyll Effraim fyddant, yn ôl eu lluoedd, gan mil ac
wyth mil a chant. Ac a gychwynnant yn drydydd.
2:25 Lluman gwersyll Dan fydd tua’r gogledd, yn ôl eu lluoedd: a chapten
meibion Dan fydd Ahieser mab Ammisadai.
2:26 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddwy fil a thrigain a saith gant.
2:27 A’r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Aser: a chapten meibion
Aser fydd Pagiel mab Ocran.
2:28 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant un fil a deugain a phum cant.
2:29 Yna llwyth Nafftali: a chapten meibion Nafftali fydd Ahira mab Enan.
2:30 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant dair mil ar ddeg a deugain a phedwar
cant.
2:31 Holl rifedigion gwersyll Dan fyddant gan mil ac onid tair mil trigain mil
a chwe chant. Yn olaf y cychwynnant a’u llumanau.
2:32 Dyma rifedigion meibion Israel,
wrth dŷ eu tadau. Holl rifedigion y gwersylloedd, yn ôl eu lluoedd, oedd
chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain.
2:33 Ond y Lefiaid ni chyfrifwyd ymysg meibion Israel; megis y gorchmynasai yr
ARGLWYDD wrth Moses.
2:34 A meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD
wrth Moses: felly y gwersyllasant wrth eu llumanau, ac felly y cychwynasant,
bob un yn ei deuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau.
PENNOD 3
3:1 A dyma genedlaethau Aaron a Moses, ar y dydd y llefarodd yr
ARGLWYDD wrth Moses ym mynydd Sinai.
3:2 Dyma enwau meibion Aaron: Nadab y cyntaf-anedig, ac Abihu, Eleasar, ac
Ithamar.
3:3 Dyma enwau meibion Aaron, yr offeiriaid eneiniog, y rhai a gysegrodd
efe i offeiriadu.
3:4 A marw a wnaeth Nadab ac Abihu gerbron yr ARGLWYDD, pan offrymasant dân
dieithr gerbron yr ARGLWYDD, yn anialwch Sinai; a meibion nid oedd iddynt: ac
offeiriadodd Eleasar ac Ithamar yng ngŵydd Aaron eu tad.
3:5 A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
3:6 Nesâ lwyth Lefi, a gwna iddo sefyll gerbron Aaron yr offeiriad, fel y
gwasanaethont ef.
3:7 A hwy a gadwant ei gadwraeth ef, a chadwraeth yr holl gynulleidfa, o flaen
pabell y cyfarfod, i wneuthur gwasanaeth y tabernacl.
3:8 A chadwant holl ddodrefn pabell y cyfarfod, a chadwraeth meibion Israel, i
wasanaethu gwasanaeth y tabernacl.
3:9 A thi a roddi’r Lefiaid i Aaron, ac i’w feibion: y rhai hyn sydd wedi eu
rhoddi yn rhodd iddo ef o feibion Israel.
3:10 Ac urdda di Aaron a’i feibion i gadw eu hoffeiriadaeth: a’r dieithrddyn a
ddelo yn agos, a roddir i farw.
3:11 Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
3:12 Ac wele, mi a gymerais y Lefiaid o blith meibion Israel, yn lle pob
cyntaf-anedig, sef pob cyntaf a agoro’r groth o feibion Israel; am hynny y
Lefiaid a fyddant eiddof fi:
3:13 Canys eiddof fi yw pob cyntaf-anedig. Ar y dydd y trewais y cyntaf-anedig
yn nhir yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntaf-anedig yn Israel o ddyn ac
anifail: eiddof fi ydynt: myfi yw yr ARGLWYDD.
3:14 Yr ARGLWYDD hefyd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, gan ddywedyd.
3:15 Cyfrif feibion Lefi yn ôl tŷ eu tadau, trwy eu teuluoedd: cyfrif
hwynt, bob gwryw, o fab misyriad ac uchod.
3:16 A Moses a’u cyfrifodd hwynt wrth air yr ARGLWYDD, fel y gorchmynasid iddo.
3:17 A’r rhai hyn oedd feibion Lefi wrth eu henwau; Gerson, a Cohath, a Merari.
3:18 A dyma enwau meibion Gerson, yn
ôl eu teuluoedd; Libni a Simei.
3:19 A meibion Cohath, yn ôl eu teuluoedd; Amram, Ishar, Hebron, ac
Ussiel.
3:20 A meibion Merari, yn ôl eu
teuluoedd; Mahli a Musi. Dyma deuluoedd Lefi, wrth dŷ eu tadau.
3:21 O Gerson y daeth tylwyth y Libniaid, a thylwyth y Simiaid: dyma deuluoedd
y Gersoniaid.
3:22 Eu rhifedigion hwynt, dan rif pob gwryw o fab misyriad ac uchod, eu
rhifedigion, meddaf, oedd saith mil a phum cant.
3:23 Teuluoedd y Gersoniaid a wersyllant ar y tu ôl i’r tabernacl tua’r
gorllewin.
3:24 A phennaeth tŷ tad y Gersoniaid fydd Eliasaff mab Lael.
3:25 A chadwraeth meibion Gerson, ym mhabell y cyfarfod, fydd y tabernacl, a’r
babell, ei tho hefyd, a chaeadlen drws pabell y cyfarfod,
3:26 A llenni’r cynteddfa, a chaeadlen drws y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y
tabernacl, a’r allor o amgylch, a’i rhaffau i’w holl wasanaeth.
3:27 Ac o Cohath y daeth tylwyth yr Amramiaid, a thylwyth yr Ishariaid, a
thylwyth yr Hebroniaid, a thylwyth yr Ussieliaid: dyma dylwyth y Cohathiaid.
3:28 Rhifedi yr holl wrywiaid, o fab misyriad ac uchod, oedd wyth mil a chwe
chant, yn cadw cadwraeth y cysegr.
3:29 Teuluoedd meibion Cohath a wersyllant ar ystlys y tabernacl tua’r deau.
3:30 A phennaeth tŷ tad tylwyth y Cohathiaid fydd Elisaffan mab Ussiel.
3:31 A’u cadwraeth hwynt fydd yr arch, a’r bwrdd, a’r canhwyllbren, a’r
allorau, a llestri’r cysegr, y rhai y gwasanaethant â hwynt, a’r gaeadlen, a’i
holl wasanaeth.
3:32 A phennaf ar benaethiaid y Lefiaid fydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad; a
llywodraeth ar geidwaid cadwraeth y cysegr fydd iddo ef.
3:33 O Merari y daeth tylwyth y Mahliaid, a thylwyth y Musiaid: dyma dylwyth
Merari.
3:34 A’u rhifedigion hwynt, wrth gyfrif pob gwryw, o fab misyriad ac uchod,
oedd chwe mil a deucant.
3:35 A phennaeth tŷ tad tylwyth Merari fydd Suriel mab Abihael. Ar ystlys
y tabernacl y gwersyllant tua’r gogledd.
3:36 Ac yng nghadwraeth meibion Merari, y bydd ystyllod y tabernacl, a’i
drosolion, a’i golofnau, a’i forteisiau, a’i holl offer, a’i holl wasanaeth,
3:37 A cholofnau’r cynteddfa o amgylch,
a’u morteisiau, a’u hoelion, a’u rhaffau.
3:38 A’r rhai a wersyllant o flaen y tabernacl tua’r dwyrain, o flaen pabell y
cyfarfod tua chodiad haul, fydd Moses, ac Aaron a’i feibion, y rhai a gadwant
gadwraeth y cysegr, a chadwraeth meibion Israel: a’r dieithr a ddelo yn agos, a
roddir i farwolaeth.
3:39 Holl rifedigion y Lefiaid, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, yn ôl gair yr
ARGLWYDD, trwy eu teuluoedd, sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod, oedd ddwy
fil ar hugain.
3:40 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cyfrif bob cyntaf-anedig gwryw o
feibion Israel, o fab misyriad ac uchod, a chymer rifedi eu henwau hwynt.
3:41 A chymer y Lefiaid i mi, (myfi yw yr ARGLWYDD,) yn lle holl gyntaf-anedig
meibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle pob cyntaf-anedig o anifeiliaid
meibion Israel.
3:42 A Moses a rifodd, megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddo, bob cyntaf-anedig
o feibion Israel.
3:43 A’r rhai cyntaf-anedig oll, o rai gwryw, dan rif eu henwau, o fab misyriad
ac uchod, o’u rhifedigion hwynt, oedd ddwy fil ar hugain a dau cant a thri ar
ddeg a thrigain.
3:44 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses gan ddywedyd,
3:45 Cymer y Lefiaid yn lle pob cyntaf-anedig o feibion Israel, ac anifeiliaid
y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwynt; a bydded y Lefiaid i mi: myfi yw yr
ARGLWYDD.
3:46 Ac am y rhai sydd i’w prynu o’r tri ar ddeg a thrigain a deucant, o
gyntaf-anedig meibion Israel, y rhai sydd dros ben y Lefiaid;
3:47 Cymer bum sicl am bob pen; yn ôl sicl y cysegr y cymeri. Ugain gera fydd y
sicl.
3:48 A dod yr arian, gwerth y rhai sydd yn ychwaneg ohonynt, i Aaron ac i’w
feibion.
3:49 A chymerodd Moses arian y prynedigaeth, y rhai oedd dros ben y rhai a
brynwyd am y Lefiaid:
3:50 Gan gyntaf-anedig meibion Israel y cymerodd efe yr arian; pump a thrigain
a thri chant a mil, o siclau y cysegr.
3:51 A Moses a roddodd arian y prynedigion i Aaron ac i’w
feibion, yn ôl gair yr ARGLWYDD, megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD i Moses.
PENNOD 4
4:1 A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,
4:2 Cymer nifer meibion Cohath o blith meibion Lefi, wrth eu teuluoedd, yn ôl
tŷ eu tadau;
4:3 O fab deng mlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab deng mlwydd a deugain, pob un
a elo i’r llu, i wneuthur gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.
4:4 Dyma weinidogaeth meibion Cohath, ym mhabell y cyfarfod, ynghylch y pethau
sancteiddiolaf.
4:5 A deued Aaron a’i feibion, pan gychwynno’r gwersyll, a thynnant i lawr y
wahanlen orchudd, a gorchuddiant â hi arch y dystiolaeth;
4:6 A gosodant ar hynny do o grwyn daearfoch, a thaenant arni wisg o sidan glas
i gyd, a gosodant ei throsolion wrthi.
4:7 Ac ar fwrdd y bara dangos y taenant frethyn glas, a gosodant ar hynny y
dysglau, a’r cwpanau, a’r ffiolau, a’r caeadau i gau: a bydded y bara bob amser
arno.
4:8 A thaenant arnynt wisg o ysgarlad, a gorchuddiant hwnnw â gorchudd o groen
daearfoch, a gosodant ei drosolion wrtho.
4:9 Cymerant hefyd wisg o sidan glas, a gorchuddiant ganhwyllbren y goleuni,
a’i lampau, a’i efeiliau, a’i gafnau, a holl lestri yr olew, y rhai y
gwasanaethant ef â hwynt. ‘
4:10 A gosodant ef a’i holl ddodrefn mewn gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ef ar drosol.
4:11 A thaenant frethyn glas ar yr allor aur, a gorchuddiant hi â gorchudd o
groen daearfoch, a gosodant ei throsolion wrthi.
4:12 Cymerant hefyd holl ddodrefn y gwasanaeth, y rhai y gwasanaethant â hwynt
yn y cysegr, a rhoddant mewn brethyn glas, a gorchuddiant hwynt mewn gorchudd o
groen daearfoch, a gosodant ar drosol.
4:13 A thynnant allan ludw yr allor, a thaenant arni wisg borffor.
4:14 A rhoddant arni ei holl lestri, â’r rhai y gwasanaethant hi, sef y pedyll
tân, y cigweiniau, a’r rhawiau, a’r cawgiau, ie, holl lestri’r allor; a
thaenant arni orchudd o groen daearfoch, a gosodant ei throsolion wrthi.
4:15 Pan ddarffo i Aaron ac i’w feibion orchuddio’r cysegr, a holl ddodrefn y
cysegr, pan gychwynno’r gwersyll; wedi hynny deued meibion Cohath i’w dwyn
hwynt: ond na chyffyrddant â’r hyn a fyddo cysegredig, rhag iddynt farw. Dyma
faich meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod.
4:16 Ac i swydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad y perthyn olew y goleuni, a’r
arogl-darth peraidd, a’r bwyd-offrwrn gwastadol, ac olew yr eneiniad, a
goruchwyliaeth yr holl dabernacl, a’r hyn oll fydd ynddo, yn y cysegr, ac yn ei
ddodrefn.
4:17 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,
4:18 Na thorrwch ymaith lwyth tylwyth y Cohathiaid o blith y Lefiaid:
4:19 Ond hyn a wnewch iddynt, fel y byddont fyw, ac na fyddont feirw, pan
nesânt at y pethau sancteiddiolaf: Aaron a’i feibion a ânt i mewn, ac a’u
gosodant hwy bob un ar ei wasanaeth ac ar ei glud.
4:20 Ond nac ânt i edrych pan fydder yn gorchuddio’r hyn sydd gysegredig, rhag
marw ohonynt.
4:21 A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
4:22 Cymer nifer meibion Gerson hefyd, trwy dŷ eu tadau, wrth eu
teuluoedd;
4:23 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, y rhifi
hwynt; pob un a ddêl i ddwyn swydd, i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y
cyfarfod.
4:24 Dyma weinidogaeth tylwyth y Gersoniaid, o wasanaeth ac o glud.
4:25 Sef dwyn ohonynt lenni’r tabernacl, a phabell y cyfarfod, ei len do ef,
a’r to o grwyn daearfoch, yr hwn sydd yn uchaf arno, a chuddlen drws pabell y
cyfarfod,
4:26 A llenni’r cynteddfa, a chaeadlen drws porth y cynteddfa, yr hwn sydd
ynghylch y tabernacl, a’r allor o amgylch, a’i rhaffau, a holl offer eu
gwasanaeth hwynt, a’r hyn oll a wnaed iddynt: felly y gwasanaethant hwy.
4:27 Wrth orchymyn Aaron a’i feibion y bydd holl wasanaeth meibion y
Gersoniaid, yn eu holl glud, ac yn eu holl wasanaeth: a dodwch atynt eu holl
glud i’w cadw.
4:28 Dyma wasanaeth tylwyth meibion Gerson ym mhabell y cyfarfod; ac ar law
Ithamar mab Aaron yr offeiriad y bydd eu llywodraethu hwynt.
4:29 A meibion Merari, trwy eu teuluoedd, wrth dŷ eu tadau, y cyfrifi
hwynt;
4:30 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, y rhifi
hwynt; pob un a ddêl i ddwyn swydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.
4:31 A dyma oruchwyliaeth eu clud hwynt, yn eu holl wasanaeth ym mhabell y
cyfarfod; sef ystyllod y tabernacl, a’i farrau, a’i golofnau, a’i forteisiau,
4:32 A cholofnau y cynteddfa oddi amgylch, a’u morteisiau, a’u hoelion, a’u
rhaffau, ynghyd â’u holl offer, ac ynghyd â’u holl wasanaeth: rhifwch hefyd y
dodrefn erbyn eu henwau y rhai a gadwant ac a gludant hwy.
4:33 Dyma wasanaeth tylwyth meibion Merari, yn eu holl weinidogaeth ym mhabell
y cyfarfod, dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad.
4:34 A rhifodd Moses ac Aaron, a phenaethiaid y gynulleidfa, feibion Cohath,
trwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau:
4:35 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob
un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:
4:36 A’u rhifedigion trwy eu teuluoedd, oedd ddwy fil saith gant a deg a
deugain.
4:37 Dyma rifedigion tylwyth y Cohathiaid, sef pob gwasanaethydd ym mhabell y
cyfarfod; y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr ARGLWYDD trwy law
Moses.
4:38 Rhifedigion meibion Gerson hefyd, trwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu.
tadau;
4:39 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob
un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:
4:40 A’u rhifedigion hwynt trwy eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau, oeddynt
ddwy fil a chwe chant a deg ar hugain.
4:41 Dyma rifedigion tylwyth meibion Gerson, sef pob gwasanaethydd ym, mhabell
y cyfarfod; y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr ARGLWYDD.
4:42 A rhifedigion tylwyth meibion. Merari, trwy eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu
tadau;
4:43 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob
un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:
4:44 A’u rhifedigion hwynt trwy eu teuluoedd, oeddynt dair mil a dau cant.
4:45 Dyma rifedigion tylwyth meibion Merari, y rhai a rifodd Moses ac Aaron,
wrth orchymyn yr ARGLWYDD trwy law Moses.
4:46 Yr holl rifedigion, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, a phenaethiaid Israel,
o’r Lefiaid, trwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau;
4:47 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob
un a ddelai i wneuthur gwaith gwasanaeth, neu waith clud ym mhabell. y
cyfarfod:
4:48 A’u rhifedigion oeddynt wyth mil pum cant a phedwar ugain.
4:49 Wnh orchymyn yr ARGLWYDD, trwy law Moses y rhifodd efe hwy, pob un wrth ei
wasanaeth, ac wrth ei glud: fel hyn y rhifwyd hwynt, fel y gorchmynasai yr
ARGLWYDD wrth Moses.
PENNOD 5
5:1 A’R ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
5:2 Gorchymyn i feibion Israel, anfon allan o’r gwersyll bob gwahanglwyfus, a phob
un y byddo diferlif arno, a phob un a halogir wrth y marw.
5:3 Yn wryw ac yn fenyw yr anfonwch hwynt, allan o’r gwersyll yr anfonwch
hwynt; fel na halogont eu gwersylloedd, y rhai yr ydwyf fi yn preswylio yn eu
plith.
5:4 A meibion Israel a wnaethant felly, ac a’u hanfonasant hwynt i’r tu allan
i’r gwersyll: megis y llefarodd yr ARGLWYDO wrth Moses, felly y gwnaeth meibion
Israel.
5:5 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
5:6 Llefara wrth feibion Israel, Os gŵr neu wraig a wna un o holl bechodau
dynol, gan wneuthur camwedd yn erbyn yr ARGLWYDD, a bod o’r enaid hwnnw yn
euog:
5:7 Yna cyffesant eu pechod a wnaethant; a rhodded yn ei ôl yr hyn a fyddo efe
euog ohono erbyn ei ben, a chwaneged ei bumed ran ato, a rhodded i’r hwn y
gwnaeth efe gam ag ef.
5:8 Ac oni bydd i’r gŵr gyfnesaf i dalu am y camwedd iddo, yr iawn am y
canu wedd yr hwn a delir i’r ARGLWYDD, fydd eiddo yr offeiriad; heblaw yr hwrdd
cymod yr hwn y gwna efe gymod ag ef trosto.
5:9 A phob offrwm dyrchafael, o holl sanctaidd bethau meibion Israel, y rhai a
offrymant at yr offeiriad, fydd eiddo ef.
5:10 A sancteiddio gŵr, eiddo ef fyddant: hyn a roddo neb i’r offeiriad,
eiddo ef fydd.
5:11 Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
5:12 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pob gŵr pan wyro ei
wraig ef, a gwneuthur bai yn ei erbyn ef;
5:13 A bod i ŵr a wnelo â hi, a bod yn guddiedig o olwg ei gŵr hi, ac
yn gyfrinachol, a hithau wedi ei halogi, ac heb dyst yn ei herbyn, a hithau heb
dyst yn ei herbyn, heb ei dal ar ei
gweithred;
5:14 A dyfod gwŷn eiddigedd arno, ac eiddigeddu ohono wrth ei wraig, a
hithau wedi ei halogi; neu ddyfod ysbryd eiddigedd arno, ac eiddigeddu ohono
wrth ei wraig, a hithau heb ei halogi:
5:15 Yna dyged y gŵr ei wraig at yr offeiriad, a dyged ei hoffrwm drosti
hi, degfed ran effa o flawd haidd: na thywallted olew arno, ac na rodded thus
arno; canys offrwm eiddigedd yw, offrwm cof yn coffáu anwiredd.
5:16 A nesaed yr offeiriad hi, a phared iddi sefyll gerbron yr ARGLWYDD.
5:17 A chymered yr offeiriad ddwfr sanctaidd mewn llestr pridd, a chymered yr
offeiriad o’r llwch fyddo ar lawr y tabernacl, a rhodded yn y dwfr.
5:18 A phared yr offeiriad i’r wraig sefyll gerbron yr ARGLWYDD, a diosged oddi
am ben y wraig, a rhodded yn ei dwylo offrwm y coffa; offrwm eiddigedd yw efe:
ac yn llaw yr offeiriad y bydd y dwfr chwerw sydd yn peri’r felltith.
5:19 A thynged yr offeiriad hi, a dyweded wrth y wraig, Oni orweddodd gŵr
gyda thi, ac oni wyraist i aflendid gydag arall yn lle dy ŵr, bydd di
ddiniwed oddi wrth y dwfr chwerw hwn sydd yn peri’r felltith.
5:20 Ond os gwyraist ti oddi wrth dy ŵr ac os halogwyd di, a chydio o neb
â thi heblaw dy ŵr dy hun:
5:21 Yna tyngheded yr offeiriad y wraig â llw melltith, a dyweded yr offeiriad
wrth y wraig, Rhodded yr ARGLWYDD dydi yn felltith ac yn llw ymysg dy bobl, pan
wnelo yr ARGLWYDD dy forddwyd yn bwdr, a’th groth yn chwyddedig;
5:22 Ac aed y dwfr melltigedig hwn i’th goluddion, i chwyddo dy groth, ac i
bydru dy forddwyd. A dyweded y wraig, Amen, amen.
5:23 Ac ysgrifenned yr offeiriad y melltithion hyn mewn llyfr, a golched hwynt
ymaith â’r dwfr chwerw.
5:24 A phared i’r wraig yfed o’r dwfr chwerw sydd yn peri’r felltith: ac aed y
dwfr sydd yn peri’r felltith i’w mewn hi, yn chwerw.
5:25 A chymered yr offeiriad o law y wraig offrwm yr eiddigedd; a chyhwfaned yr
offrwm gerbron yr ARGLWYDD, ac offrymed ef ar yr allor.
5:26 A chymered yr offeiriad o’r offrwm lonaid ei law, ei goffadwriaeth, a
llosged ar yr allor; ac wedi hynny pared i’r wraig yfed y dwfr.
5:27 Ac wedi iddo beri iddi yfed y dwfr, bydd, os hi a halogwyd, ac a wnaeth
fai yn erbyn ei gŵr, yr â’r dwfr sydd yn peri’r felltith yn chwerw ynddi,
ac a chwydda ei chroth, ac a bydra ei morddwydd: a’r wraig a fydd yn felltith
ymysg ei phobl.
5:28 Ond os y wraig ni halogwyd, eithr glân yw; yna hi a fydd ddihangol, ac a
blanta.
5:29 Dyma gyfraith eiddigedd, pan wyro gwraig at arall yn lle ei gŵr, ac
ymhalogi:
5:30 Neu os daw ar ŵr wŷn eiddigedd, a dal ohono eiddigedd wrth ei
wraig; yna gosoded y wraig i sefyll gerbron yr ARGLWYDD, a gwnaed yr offeiriad
iddi yn ôl y gyfraith hon.
5:31 A’r gŵr fydd dieuog o’r anwiredd, a’r wraig a ddwg ei hanwiredd ei
hun.
PENNOD 6
6:1 LLEFARODD yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
6:2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt. Pan ymneilltuo gŵr neu
wraig i addo adduned Nasaread, i ymneilltuo i’r ARGLWYDD :
6:3 Ymneilltued oddi wrth win a diod gref; nac yfed finegr gwin, na finegr diod
gref; nac yfed chwaith ddim sugn grawnwin, ac na fwytaed rawnwin irion, na
sychion.
6:4 Holl ddyddiau ei Nasareaeth ni chaiff fwyta o ddim oll a wneir o winwydden
y gwin, o’r dincod hyd y bilionen.
6:5 Holl ddyddiau adduned ei Nasareaeth ni chaiff ellyn fyned ar ei ben: nes
cyflawni’r dyddiau yr ymneilltuodd efe i’r ARGLWYDD, sanctaidd fydd; gadawed i
gudynnau gwallt ei ben dyfu.
6:6 Holl ddyddiau ei ymneilltuaeth i’r ARGLWYDD, na ddeued at gorff marw.
6:7 Nac ymhaloged wrth ei dad, neu wrth ei fam, wrth ei frawd, neu wrth ei chwaer,
pan fyddant feirw; am fod Nasareaeth ei DDUW ar ei ben ef.
6:8 Holl ddyddiau ei Nasareaeth, sanctaidd fydd efe i’r ARGLWYDD.
6:9 Ond os marw fydd un yn ei ymyl ef yn ddisymwth, a halogi pen ei Nasareaeth;
yna eillied ei ben ar ddydd ei buredigaeth, ar y seithfed dydd yr eillia efe
ef.
6:10 Ac ar yr wythfed dydd y dwg ddwy durtur neu ddau gyw colomen, at yr
oifeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod.
6:11 Ac offrymed yr offeiriad un yn bech-aberth, ac un yn boethoffrwm, a gwnaed
gymod drosto, am yr hyn a becho wrth y marw; a sancteiddied ei ben ef y dydd
hwnnw.
6:12 A neilltued i’r ARGLWYDD ddyddiau ei Nasareaeth, a dyged oen blwydd yn
offrwm dros gamwedd; ac aed y dyddiau cyntaf yn ofer, am halogi ei Nasareaeth
ef.
6:13 A dyma gyfraith y Nasaread: pan gyflawner dyddiau ei Nasareaeth, dyger ef
i ddrws pabell y cyfarfod.
6:14 A dyged yn offrwm drosto i’r ARGLWYDD, un hesbwm blwydd, perffaith-gwbl,
yn boethoffrwm; ac un hesbin flwydd, berffaith-gwbl, yn bech-aberth; ac un
hwrdd perffaith-gwbl, yn aberth hedd;
6:15 Cawellaid o fara croyw hefyd, sef teisennau peilliaid wedi eu tylino trwy
olew, ac afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew, a’u bwyd-offrwm, a’u
diod-offrwm hwy.
6:16 A dyged yr offeiriad hwynt gerbron yr ARGLWYDD, ac offrymed ei bech-aberth
a’i boethoffrwm ef.
6:17 Offrymed hefyd yr hwrdd yn aberth hedd i’r ARGLWYDD, ynghyd â’r cawellaid
bara croyw; ac offrymed yr offeiriad ei fwyd-offrwm a’i ddiod-offrwm ef.
6:18 Ac eillied y Nasaread wrth ddrws pabell y cyfarfod ben ei Nasareaeth; a
chymered flew pen ei Nasareaeth, a rhodded ar y tân a fyddo dan yr aberth hedd,
6:19 Cymered yr offeiriad hefyd balfais o’r hwrdd wedi ei berwi, ac un deisen
groyw o’r cawell, ac un afrlladen groyw; a rhodded ar ddwylo’r Nasaread, wedi
eillio ohono ei Nasareaeth;
6:20 A chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD:
sanctaidd yw hyn i’r offeiriad, heblaw parwyden y cyhwfan, a phalfais; y
dyrchafael. Ac wedi hyn y caiff y Nasaread yfed gwin.
6:21 Dyma gyfraith y Nasaread a addunedodd, a’i offrwm i’r ARGLWYDD am ei
Nasareaeth, heblaw yr hyn a gyrhaeddo ei law ef: fel y byddo ei adduned a
addunedo, felly gwnaed, heblaw cyfraith ei Nasareaeth.
6:22 Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
6:23 Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Fel hyn y bendithiwch
feibion Israel, gan ddywedyd wrthynt,
6:24 Bendithied yr ARGLWYDD di, a chadwed di:
6:25 A llewyrched yr ARGLWYDD ei wyneb arnat, a thrugarhaed wrthyt:
6:26 Dyrchafed yr ARGLWYDD ei wyneb arnat, a rhodded i ti dangnefedd.
6:27 Felly y gosodant fy enw ar feibion Israel, a mi a’u bendithiaf hwynt.
PENNOD 7
7:1 A ar y dydd y gorffennodd Moses godi’r tabernacl, a’i eneinio
a’i sancteiddio ef, a’i holl ddodrefn, yr allor hefyd a’i holl ddodrefn, a’u
heneinio a’u sancteiddio hwynt;
7:2 Yr offrymodd tywysogion Israel, penaethiaid tŷ eu tadau, (y rhai oedd
i dywysogion y llwythau, ac wedi eu gosod ar y rhifedigion:)
7:3 A’u hoffrwm a ddygasant hwy gerbron yr ARGLWYDD, chwech o fenni diddos, a
deuddeg o ychen; men dros bob dau dywysog, ac ych dros bob un: a cherbron y
tabernacl y dygasant hwynt.
7:4 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
7:5 Cymer ganddynt, a byddant i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod, a dod
hwynt i’r Lefiaid, i bob un yn ôl ei wasanaeth.
7:6 A chymerodd Moses y menni, a’r ychen, ac a’u rhoddodd hwynt i’r Lefiaid.
7:7 Dwy fen a phedwar ych a roddes efe i feibion Gerson, yn ôl eu gwasanaeth
hwynt;
7:8 A phedair men ac wyth ych a roddodd efe i feibion Merari, yn ôl eu
gwasanaeth hwynt, dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad.
7:9 Ond i feibion Cohath ni roddodd efe ddim, am fod gwasanaeth y cysegr
arnynt: ar eu hysgwyddau y dygent hwnnw.
7:10 A’r tywysogion a offrymasant tuag at gysegru’r allor, ar y dydd yr
eneiniwyd hi; a cherbron yr allor y dug y tywysogion eu rhoddion.
7:11 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Pob tywysog ar ei ddiwrnod a offrymant
eu hoffrymau, tuag at gysegru’r allor.
7:12 Ac ar y dydd cyntaf yr oedd yn offrymu ei offrwm, Nahson mab Aminadab,
dros lwyth Jwda.
7:13 A’i offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei
phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl sicl y cysegr, yn llawn ill
dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:
7:14 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:
7:15 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwrn poeth:
7:16 Un bwch geifr yn bech-aberth:
7:17 Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwm blwyddiaid. Dyma offrwm Nahson mab Aminadab.
7:18 Ac ar yr ail ddydd yr offrymodd Nethaneel mab Suar, tywysog
Issachar.
7:19 Efe a offrymodd ei offrwrn, sef un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o
siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd,
yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:
7:20 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:
7:21 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
7:22 Un bwch geifr yn bech-aberth:
7:23 Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid.
Dyma offrwm Nethaneel mab Suar.
7:24 Ar y trydydd dydd yr offrymodd Eliab mab Helon, tywysog meibion Sabulon.
7:25 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei
phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn
ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:
7:26 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:
7:27 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwrn poeth:
7:28 Un bwch geifr yn bech-aberth:
7:29 Ac yn hedd-aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid.
Dyma offrwrn Ehab mab Helon.
7:30 Ar y pedwerydd dydd yr offrymodd Elisur mab Sedeur, tywysog meibion
Reuben.
7:31 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei
phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn
ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:
7:32 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:
7:33 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
7:34 Un bwch geifr yn bech-aberth:
7:35 Ac yn hedd-aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Elisur mab Sedeur.
7:36 Ar y pumed dydd yr offrymodd Selumiel mab Surisadai, tywysog meibion
Simeon.
7:37 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei
phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn
ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm;
7:38 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:
7:39 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
7:40 Un bwch geifr yn bech-aberth:
7:41 Ac yn hedd-aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid.
Dyma offrwm Selumiel mab Surisadai.
7:42 Ar y chweched dydd yr offrymodd Eliasaff mab Deuel, tywysog meibion Gad.
7:43 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei
phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn
ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:
7:44 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:
7:45 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
7:46 Un bwch geifr yn bech-aberth:
7:47 Ac yn hedd-aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid.
Dyma offrwm Eliasaff mab Deuel.
7:48 Ar y seithfed dydd yr offrymodd Elisama mab Ammihud, tywysog meibion
Effraim.
7:49 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei
phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn
ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:
7:50 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:
7:51 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
7:52 Un bwch geifr yn bech-aberth:
7:53 Ac yn hedd-aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid.
Dyma offrwm Elisama mab Ammihud.
7:54 Ar yr wythfed dydd yr offrymodd Gamaliel mab Pedasur, tywysog meibion Manasse.
7:55 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei
phwys, un ffiol arian o ddeg aid a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn
ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:
7:56 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:
7:57 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
7:58 Un bwch geifr yn bech-aberth:
7:59 Ac yn hedd-aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid.
Dyma offrwm Gamaliel mab Pedasur.
7:60 Ar y nawfed dydd yr offrymodd Abidan mab Gideoni, tywysog meibion
Benjamin.
7:61 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei
phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn
ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:
7:62 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:
7:63 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
7:64 Un bwch geifr yn bech-aberth:
7:65 Ac yn hedd-aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid.
Dyma offrwm Abidan mab Gideoni.
7:66 Ar y degfed dydd yr offrymodd Ahieser mab Ammisadai, tywysog meibion Dan.
7:67 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei
phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn
ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm;
7:68 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:
7:69 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
7:70 Un bwch geifr yn bech-aberth:
7:71 Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid.
Dyma offrwm Ahieser mab Ammisadai.
7:72 Ar yr unfed dydd ar ddeg yr offrymodd Pagiel mab Ocran, tywysog meibion
Aser.
7:73 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei
phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn
o beilliaid ill dwyoedd wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:
7:74 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:
7:75 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
7:76 Un bwch geifr yn bech-aberth:
7:77 Ac yn hedd-aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid.
Dyma offrwm Pagiel mab Ocran.
7:78 Ar y deuddegfed dydd yr offrymodd Ahira mab Enan, tywysog meibion
Nafftali.
7:79 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei
phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn
ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:
7:80 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth;
7:81 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
7:82 Un bwch geifr yn bech-aberth:
7:83 Ac yn hedd-aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid.
Dyma offrwm Ahira mab Enan.
7:84 Dyma gysegriad yr allor, gan dywysogion Israel, ar y dydd yr eneiniwyd hi:
deuddeg dysgl arian, deuddeg ffiol arian, deuddeg llwy aur:
7:85 Deg ar hugain a chant o siclau arian ydoedd pob dysgl, a deg a thrigain
pob ffiol: holl arian y llestri oedd ddwy fil a phedwar cant o siclau, yn ôl y
sicl sanctaidd.
7:86 Y llwyau aur oedd ddeuddeg, yn llawn arogl-darth, o ddeg sicl bob llwy, yn
ôl y sicl sanctaidd: holl aur y llwyau ydoedd chwech ugain sicl.
7:87 Holl eidionau yr offrwm poeth oedd ddeuddeg bustach, deuddeg o hyrddod,
deuddeg o w^yn blwyddiaid, a’u bwyd-offrwm; a deuddeg o fychod geifr yn offrwm
dros bechod.
7:88 A holl ychen yr aberth hedd oedd bedwar ar hugain o fustych,
trigain o hyrddod, trigain o fychod, trigain o hesbyrniaid. Dyma gysegriad yr
allor wedi ei heneinio.
7:89 Ac fel yr oedd Moses yn myned i babell y cyfarfod i lefaru wrth DDUW; yna
efe a glywai lais yn llefaru wrtho oddi ar y drugareddfa, yr hon oedd ar arch y
dystiolaeth, oddi rhwng y ddau geriwb, ac efe a ddywedodd wrtho.
PENNOD 8
º1 ??A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses,
gan ddywedyd,
º2 Llefara wrth Aaron, a dywed wrthos, Pan oleuech y lampau, llewyrched y saith
lamp ar gyfer y canhwyllbren.
º3 Ac felly y gwnaeth Aaron; ar gyfer y canhwyllbren y goleuodd efe ei lampau
ef, megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.
º4 Dyma waith y canhwyllbren: cyfanwaith o aur fydd hyd ei baladr, ie, hyd ei
flodau cyfanwaith fydd; yn ôl y dull a ddangosodd yr ARGLWYDD i Moses, felly y
gwnaeth efe y canhwyllbren.
º5 Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
º6 Cymer y Lefiaid o fysg meibion Israel, a glanha hwynt.
º7 Ac fel hyn y gwnei iddynt i’w glanhau; taenella arnynt ddwfr puredigaeth, a
gwnânt i’r ellyn fyned dros eu holl gnawd, a golchant eu gwisgoedd, ac felly
ymlanhant.
º8 Yna cymerant fustach ieuanc a’i fwyd-offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy
olew; a bustach ieuanc arall a gymeri di yn aberth dros bechod.
º9 A phar i’r Lefiaid ddyfod o flaen pabell y cyfarfod; a chynnull holl gynulleidfa
meibion Israel ynghyd.
º10 A dwg y Lefiaid gerbron yr ARGLWYDD; a gosoded meibion Israel,ca dwylo ar y
Lefiaid.
º11 Ac offrymed Aaron y Lefiaid’ garhron yr ARGLWYDD, yn offrwm gajll feibion
Israel, fel y byddont hwy i
wasanaethu gwasanaeth yr ARGLWYDD.
º12 A gosoded y Lefiaid eu dwylo ar ben y bustych: ac offrwm dithau un yn
bech-aberth, a’r llall yn offrwm poeth i’r ARGLWYDD, i wneuthur cymod dros y
Lefiaid.
º13 A gosod y Lefiaid gerbron Aaron, a cherbron ei feibion, ac offrwm hwynt yn
offrwm i’r ARGLWYDD.
º14 A neilltua’r Lefiaid o blith meibion Israel, a bydded y Lefiaid yn eiddof
fi.
º15 Wedi hynny aed y Lefiaid i mewn i wasanaethu pabell y cyfarfod; a glanha di
hwynt, ac offryma hwynt yn offrwm.
º16 Canys hwynt a roddwyd yn rhodd i mi o blith meibion Israel: yn lle agorydd
pob croth, sef pob cyntaf-anedig o feibion ‘ Israel, y cymerais hwynt i mi.
º17 Canys i mi y perthyn pob cyntaf-anedig ymhlith meibion Israel, o ddyn ac o
anifail: er y dydd y trewais bob cyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft, y
sancteiddiais hwynt i mi fy hun.
º18 A chymerais
y Lefiaid yn lle pob cyntaf-anedig o feibion Israel.
º19 A rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron, ac i’w feibion, o blith meibion
Israel, i wasanaethu gwasanaeth meibion Israel ym mhabell y cyfarfod, ac i
wneuthur cymod dros feibion Israel; fel na byddo pla ar feibion Israel, pan
ddelo meibion Israel yn agos at y cysegr.
º20 A gwnaeth Moses ac Aaron, a holl gynulleidfa meibion Israel, i’r Lefiaid,
yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses am y Lefiaid: felly y
gwnaeth meibion Israel iddynt.
º21 A’r Lefiaid a lanhawyd, ac a olchasant eu dillad: ac Aaron a’u hoffrymodd
hwynt yn offrwm gerbron yr ARGLWYDD : a gwnaeth Aaron gymod drostynt i’w
glanhau hwynt.
º22 Ac wedi hynny y Lefiaid a ddaethant i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y
cyfarfod, gerbron Aaron a’i feibion; megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth
Moses am y Lefiaid, felly y gwnaethant iddynt.
º23 A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
º24 Dyma’r hyn a berthyn i’r Lefiaid: o fab pum mlwydd ar hugain ac uchod, y
deuant i filwrio milwriaeth yng ngwasanaeth pabell y cyfarfod.
º25 Ac o fab dengmlwydd a deugain y caiff un ddychwelyd yn ei ôl o filwriaeth y
gwasanaeth, fel na wasanaetho mwy.
º26 Ond gwasanaethed gyda’i fiodyf ym mhabell y cyfarfod, i oruchwylio} ac na
wasanaethed wasanaeth: fel hyn y gwnei i’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth.
PENNOD 9
º1 ??A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, yn yr ail
flwyddyn wedi eu dyfod hwynt allan o dir yr Aifft, ar y mis cyntaf, gan
ddywedyd,
º2 Cadwed meibion Israel y Pasg hefyd yn ei dymor.
º3 Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis hwn, yn y cyfnos, y cedwch ef yn ei
dymor: yn ôl ei holl ddeddfau, ac yn ôl ei holl ddefodau, y cedwch ef.
º4 A llefarodd Moses wrth feibion Israel am gadw y Pasg. ;
º5 A chadwasant y Pasg ar y mis cyntaf,’ ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis,
yn y cyfnos, yn anialwch Sinai: yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD wrth
Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.
º6Ac yr oedd dynion, y rhai oedd wedi eu halogi wrth gelain dyn, fel na allent
gadw y Pasg ar y dydd hwnnw: a hwy a ddaethant gerbron Moses, a cherbron Aaron,
ar y dydd hwnnw.
º7 A’r dynion hynny a ddywedasant wrtho, Yr ydym ni wedi ein halogi wrth gorff
dyn marw: paham y’n gwaherddir rhag offrymu offrwm i’r ARGLWYDD yn ei dymor
ymysg meibion Israel? ;
º8 A dywedodd Moses wrthynt, Sefwch, a mi a wrandawaf beth a "orchmynno’r
ARGLWYDD o’ch plegid.
º9 A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
º10 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd. Pan fyddo neb wedi ei halogi gan
gorff marw, neu neb ohonoch neu o’ch hiliogaeth mewn ffordd bell, eto cadwed
Basg i’r ARGLWYDD.
º11 Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r ail fis. yn y cyfnos, y cadwant ef: ynghyd
â bara croyw a dail chwerwon y bwytant ef.
º12 Na weddillant ddim ohono hyd y bore, ac
na thorrant asgwrn ohono: yn ôl holl ddeddf y Pasg y cadwant ef.
º13 A’r gŵr a fyddo glan, ac heb fod mewn taith, ac a beidio â chadw y
Pasg, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl, am na offrymodd offrwm yr
ARGLWYDD yn ei dymor: ei bechod a ddwg y gŵr hwnnw.
º14 A phan ymdeithio dieithr gyda chwi, ac ewyllysio cadw Pasg i’r ARGLWYDD,
fel y byddo deddf y Pasg a’i ddefod, felly y ceidw: yr un. ddeddf fydd i chwi, sef
i’r dieithr ac i’r un fydd a’i enedigaeth a’r wlad.
º15 Ac ar y dydd y codwyd y tabernad, y cwmwl a gaeodd am y tabernad dros
babell y dystiolaeth; a’r hwyr yr ydoedd ar y tabernad megis gwelediad tan hyd
y bore.
º16 Felly yr
ydoedd yn wastadol; y cwmwl a gaeai amdano y dydd, a’r gwelediad tan y nos.
º17 A phan gyfodai’r cwmwl oddi ar y babell, wedi hynny y cychwynnai meibion
Israel: ac yn y lle yr arhosai y cwmwl ynddo, yno y gwersyllai meibion Israel.
º18 Wrth orchymyn yr ARGLWYDD y cychwynnai meibion Israel, ac wrth orchymyn yr
ARGLWYDD y gwersyllent: yr holl ddyddiau yr arhosai y cwmwl ar y tabernad, yr
arhosent yn y gwersyll.
º19 A phan drigai y cwmwl yn hir ar y tabernad lawer o ddyddiau, yna meibion
Israel a gadwent wyliadwriaeth yr ARGLWYDD, ac ni chychwynnent.
º20 Ac os byddai’r cwmwl ychydig ddyddiau ar y tabernad, wrth orchymyn yr
ARGLWYDD y gwersyllent, ac wrth orchymyn yr ARGLWYDD y cychwynnent.
º21 Hefyd os byddai’r cwmwl o hwyr hyd fore, a chyfodi o’r cwmwl y bore,
hwythau a symudcnt: pa un bynnag ai dydd ai nos fyddai pan gyfodai’r cwmwl, yna
y cychwynnent.
º22 Os deuddydd, os mis, os blwyddyn fyddai, tra y trigai’r cwmwl ar y
tabernad, gan aros arno, meibion Israel a arhosent yn eu pebyll, ac ni
chychwynnent: ond pan godai efe, y cychwynnent.
º23 Wrth air yr ARGLWYDD y gwersyllent, ac wrth air yr ARGLWYDD y cychwynnent’:
felly y cadwent wyliadwriaeth yr ARGLWYDD, yn ôl gair yr ARGLWYDD trwy law
Moses.
PENNOD 10 **1 A LLEFARODD yr ARGLWYDD wrdi
º1 Moses, gan ddywedyd,
º2 Gwna i ti ddau utgorn arian, yn gyfanwaith y gwnei hwynt: a byddant i ti i
alw y gynulleidfa ynghyd, ac i beri i’r gwersylloedd gychwyn. :
º3 A phan ganant â hwynt, yr ymgasgl yr holl gynulleidfa atat, wrth ddrws
pabell y cyfarfod.
º4 Ondosagunycanant;ynaytywysogion, sef penaethiaid miloedd Israel, a
ymgasglant.
º5 Pan ganoch larwm; yna y gwersylloedd, y
rhai a wersyllant tua’r dwyrain, a gychwynnant.
º6 Pan ganoch larwm yr ail waith; yna y gwersylloedd, y rhai a wersyllant tua’r
deau, a gychwynnant: larwm a ganant hwy wrth eu cychwyn.
º7 Ac wrth alw ynghyd y gynulleidfa,, cenwch yr utgyrn; ond na chenwch larwm.
º8 A meibion Aaron, yr offeiriaid, a ganant ar yr utgyrn; a byddant i chwi yn
ddeddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau.
º9 Hefyd pan eloch i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y gorthrymwr a’ch gorthrymo
chwi; cenwch larwm mewn utgyrn: yna y coffeir chwi gerbron yr ARGLWYDD eich
Duw, ac yr achubir chwi rhag eich gelynion.
º10 Ar ddydd eich llawenydd hefyd, ac ar eich gwyliau gosodedig, ac ar ddechrau
eich misoedd, y cenwch ar yr utgym uwchben eich offrymau poeth, ac uwch ben
eich aberthau hedd; a byddant i chwi yn goffadwriaeth gerbron eich Duw: myfjt
yw yr ARGLWYDD eich Duw.
º11 A bu yn yr ail flwyddyn, sef yr ail fis, ar yr ugeinfed dydd o’r mis,
gyfodi o’r cw.m.wl oddi ar dabernad y dystiolaeth.
º12 A meibion Israel a gychwynasant i’w taith o anialwch Sinai; a’r cwmwl a
arhosodd yn anialwch Paran.
º13 Felly y cychwynasant y waith gyntaf, wrth air yr ARGLWYDD trwy law Moses.
º14 Ac yn gyntaf y cychwynnodd lluman gwersyll meibion Jwda yn ôl eu lluoedd:
ac ar ei lu ef yr ydoedd Nahson mab Aminadab.
º15 Ac ar lu llwyth meibion Issachar, Nethaneel mab Suar.
º16 Ac ar lu llwyth meibion Sabulon, Ehab mab Helen.
º17 Yna y tynnwyd i lawr y tabernad; a meibion Gerson a meibion Merari a
gychwynasant, gan ddwyn y tabernad.
º18asYna y cychwynnodd lluman gwersyll Reuben yn ôl eu lluoedd: ac yr ydoedd
ar ei lu ef Elisur mab Sedeur.
º19 Ac ar lu llwyth meibion Simeon, Selumiel mab Sunsadai.
º20 Ac ar lu llwyth meibion Gad, Blia-saff mab Deuel.
º21 A’r Cohathiaid a gychwynasant, gan ddwyn y cysegr; a’r lleill a godent y
tabernacl, tra fyddent hwy yn dyfod.
º22 Yna lluman gwersyll meibion Effraim a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd: ac yr
oedd ar ei lu ef Ehsama mab Ammihud.,
º23 Ac ar lu llwyth meibion ManassC) Gamaliel mab Pedasur.
º24 Ac ar lu
liwyth meibion Benjamin, Abidan mab Gideoni.
º25 Yna lluman gwersyll meibion Dan, yn olaf o’r holl wersyUoedd, a gychwynnodd
yn ôl eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Ahieser mab Am-misadai.
º26 Ac ar lu llwyth meibion Aser, Pagiel mab Ocran.
º27 Ac ar lu llwyth meibion Nafftali, Ahira mab Enan.
º28 Dyma gychwyniadau meibion Israel yn ôl eu lluoedd, pan gychwynasant.
º29 A dywedodd Moses wrth Hobab, mab Raguel y Midianiad, chwegrwn Moses, Myned
yr ydym i’r lle am yr hwn y dywedodd yr ARGLWYDD, Rhoddaf hwnnw i chwi: tyred
gyda ni, a gwnawn ddaioni i ti; canys llefarodd yr ARGLWYDD ddaioni am Israel.
º30 Dywedodd yntau wrtho, Nid af ddim; ond i’m gwlad fy hun, ac at fy nghenedl
fy hun, yr af.
º31 Ac efe a ddywedodd, Na ad ni, atolwg; canys ti a adwaenost ein
gwersyllfaoedd yn yr anialwch, ac a fyddi yn lle llygaid i ni,
º32 A phan ddelych gyda ni, a dyfod o’r daioni hwnnw, yr hwn a wna’r ARGLWYDD i
ni, ninnau a wnawn ddaioni i tithau.
º33 A hwy a aethant oddi wrth fynydd yr ARGLWYDD daith tri diwrnod: ac arch
cyfamod yr ARGLWYDD oedd yn myned o’u blaen hwynt daith tri diwrnod, i chwilio
am orffwysfa iddynt.
º34 A chwmwl yr ARGLWYDD oedd arnynt y dydd,
pan elent o’r gwersyll.
º35 A hefyd pan gychwynnai yr arch, Moses a ddywedai, Cyfod, ARGLWYDD, a
gwasgarer dy elynion; a ffoed dy gaseiog o’th flaen.
º36 A phan orffwysai hi, y dywedai efe Dychwel, ARGLWYDD, at fyrddiwn mil oedd
Israel.
PENNOD 11
11:1 A’R bobl, fel tuchanwyr,
oeddynt flin yng nghlustiau yr ARGLWYDD: a chlywodd yr ARGLWYDD hyn; a’i ddig a
enynnodd; a thân yr ARGLWYDD a gyneuodd yn eu mysg hwynt, ac a ysodd gŵr y
gwersyll.
11:2 A llefodd y bobl ar Moses: a gweddïodd Moses ar yr ARGLWYDD; a’r tân a
ddiffoddodd.
11:3 Ac efe a
alwodd enw y lle hwnnw, Tabera: am gynnau o dan yr ARGLWYDD yn eu mysg hwy.
11:4 A’r lliaws cymysg yr hwn ydoedd yn eu mysg a flysiasant yn ddirfawr: a
meibion Israel hefyd a ddychwelasant, ac a wylasant, ac a ddywedasant, Pwy a
rydd i ni gig i’w fwyta?
11:5 Cof yw gennym y pysgod yr oeddem yn ei fwyta yn yf Aifft yn rhad, y
cucumerau, a’r pompionau, a’r cennin, a’r winwyn, a’r garlleg:
11:6 Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo, heb ddim ond y manna yn
ein golwg.
11:7 A’r manna hwnnw oedd fel had coriander,
a’i liw fel lliw bdeliwm.
11:8 Y bobl a aethant o amgylch, ac a’i casglasant ac a’i malasant mewn
melinau, neu a’i curasant mewn morter, ac a’i berwasant mewn peiriau, ac a’i
gwnaethant y deisennau: a’i flas ydoedd fel blas olew ir.
11:9 A phan ddisgynnai’r gwlith y nos ar y gwersyll, disgynnai’r manna arno ef.
11:10 A chlybu Moses y bobl yn wylo trwy eu tylwythau, bob un yn nrws ei
babell: ac enynnodd dig yr ARGLWYDD yn fawr; a drwg oedd gan Moses.
11:11 Dywedodd Moses hefyd wrth yr ARGLWYDD, Paham y drygaist dy was? a phaham
na chawn ffafr yn dy olwg, gan i ti roddi baich yr holl bobl hyn arnaf?
11:12 Ai myfi a feichiogais ar yr holl bobl hyn? ai myfi a’u cenhedlais, fel y
dywedech wrthyf, Dwg hwynt yn dy fynwes, (megis y dwg tadmaeth y plentyn
sugno,) i’r tir a addewaist trwy lw i’w tadau?
11:13 O ba le y byddai gennyf fi gig i’w roddi i’r holl bobl hyn? canys wylo y
maent wrthyf, gan ddywedyd, Dod i ni gig i’w fwyta.
11:14 Ni allaf fi fy hunan arwain yr holl bobl hyn; canys rhy drwm ydyw i mi.
11:15 Ac os felly y gwnei i mi, atolwg, gan ladd lladd fi, os cefais ffafr yn
dy olwg di; fel na welwyf fy nrygfyd.
11:16 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Casgl i mi ddengwr a thrigain o
henuriaid Israel, y rhai a wyddost eu bod yn henuriaid y bobl, ac yn swyddogion
arnynt; a dwg hwynt i babell y cyfarfod, a safant yno gyda thi.
11:17 Canys disgynnaf, a llefaraf wrthyt yno: a mi a gymeraf o’r ysbryd sydd
arnat ti, ac a’i gosodaf arnynt hwy; felly y dygant gyda thi faich y bobl, fel
na ddygech di ef yn unig.
11:18 Am hynny dywed wrth y bobl, Ymsancteiddiwch erbyn yfory, a chewch fwyta
cig: canys wylasoch yng nghlustiau yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Pwy a ddyry i ni
gig i’w fwyta? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aifft: am hynny y rhydd yr
ARGLWYDD i chwi gig, a chwi a fwytewch.
11:19 Nid un dydd y bwytewch, ac nid dau, ac nid pump o ddyddiau, ac nid deg
diwrnod, ac nid ugain diwrnod;
11:20 Ond hyd fis o ddyddiau, hyd oni ddêl allan o’ch ffroenau, a’i fod yn
ffiaidd gennych: am i chwi ddirmygu’r ARGLWYDD yr hwn sydd yn eich plith, ac
wylo ohonoch yn ei ŵydd ef, gan ddywedyd, Paham y daethom allan o’r
Aifft?
11:21 A dywedodd Moses, Chwe chan mil o wŷr traed yw y bobl yr ydwyf fi yn
eu plith; a thi a ddywedi, Rhoddaf gig iddynt i’w fwyta fis o ddyddiau.
11:22 Ai y defaid a’r gwartheg a leddir iddynt, fel y byddo digon iddynt? ai
holl bysg y mor a gesglir ynghyd iddynt, fel y byddo digon iddynt?
11:23 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, A gwtogwyd llaw yr ARGLWYDD? yr awr
hon y cei di weled a ddigwydd fy ngair i ti, ai na ddigwydd.
11:24 A Moses a aeth allan ac a draethodd eiriau yr ARGLWYDD wrth y bobl, ac a
gasglodd y dengwr a thrigain o henuriaid y bobl, ac a’u gosododd hwynt o
amgylch y babell.
11:25 Yna y disgynnodd yr ARGLWYDD mewn cwmwl, ac a lefarodd wrtho; ac a
gymerodd o’r ysbryd oedd arno, ac a’i rhoddes i’r deg hynafgwr a thrigain. A
thra y gorffwysai’r ysbryd arnynt, y proffwydent, ac ychwaneg ni wnaent.
11:26 A dau o’r gwŷr a drigasant yn y gwersyll, (enw un ydoedd Eldad, enw
y llall Medad:) a gorffwysodd yr ysbryd arnynt hwy, am eu bod hwy o’r rhai a
ysgrifenasid; ond nid aethant i’r babell, eto proffwydasant yn y gwersyll.
11:27 A rhedodd llanc, a mynegodd i Moses, ac a ddywedodd, Y mae Eldad a Medad
yn proffwydo yn y gwersyll.
11:28 A Josua mab Nun, gweinidog Moses o’i ieuenctid, a atebodd ac a ddywedodd,
Moses, fy arglwydd, gwahardd iddynt.
11:29 A dywedodd Moses wrtho, Ai
cenfigennu yr ydwyt ti drosof fi? O na byddai holl bobl yr ARGLWYDD yn
broffwydi, a rhoddi o’r ARGLWYDD ei ysbryd arnynt!
11:30 A Moses a aeth i’r
gwersyll, efe a henuriaid Israel.
11:31 Ac fe aeth gwynt oddi wrth
yr ARGLWYDD, ac a ddug soflieir oddi wrth y môr, ac a’u taenodd wrth y
gwersyll, megis taith diwrnod ar y naill du, a thaith diwrnod ar y tu arall o
amgylch y gwersyll, a hynny ynghylch dau gufydd, ar wyneb y ddaear.
11:32 Yna y cododd y bobl y dydd
hwnnw oll, a’r nos oll, a’r holl ddydd drannoeth, ac a gasglasant y soflieir:
yr hwn a gasglodd leiaf, a gasglodd ddeg homer: a chan daenu y taenasant hwynt
iddynt eu hunain o amgylch y gwersyll.
11:33 A’r cig oedd eto rhwng eu
dannedd hwynt heb ei gnoi, pan enynnodd digofaint yr ARGLWYDD yn erbyn y bobl,
a’r ARGLWYDD a drawodd y bobl a phla mawr iawn.
11:34 Ac efe a alwodd enw y lle
hwnnw Cibroth-Hattaafa; am iddynt gladdu yno y bobl a flysiasent.
11:35 O Feddau y blys yr aeth y
bobl i Haseroth; ac arosasant yn Haseroth.
PENNOD 12
º1 LLEFARODD Miriam hefyd ac Aaron yn erbyn Moses, o achos
y wraig o Ethiopia yr hon a briodasai efe: canys efe a gymerasai Ethiopes yn
wraig. d
º2 A dywedasant, Ai yn unig trwy
Moses y llefarodd yr ARGLWYDD? oni lefarodd efe trwom ninnau hefyd? A’r ARGLWYDD
a glybu hynny.
º3 A’r gŵr Moses ydoedd
larieiddiaf o’r holl ddynion oedd ar wyneb y ddaear.
º4 A dywedodd yr ARGLWYDD yn
ddisymwth wrth Moses, ac wrth Aaron, ac Miriam, Deuwch allan eich trioedd i
babell y cyfarfod. A hwy a aethant allan ill trioedd.
º5 Yna y disgynnodd yr ARGLWYDD
yng ngholofn y cwmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell, ac a alwodd Aaron a
Miriam. A hwy a aethant allan ill dau.
º6 Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch yr awr hon fy ngeiriau. Os bydd proffwyd yr
ARGLWYDD yn eich mysg, mewn gweledigaeth yr ymhysbysaf iddo, neu mewn breuddwyd
y llefaraf wrtho.
º7 Nid felly y mae fy ngwas Moses, yr hwn sydd ffyddlon yn fy holl dŷ. .s,
º8 Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho, mewn gwelediad, nid mewn damhegion; ond
caiff edrych ar wedd yr ARGLWYDD; paham gan hynny nad oeddech yn ofni dywedyd
yn erbyn fy ngwas, sef yn erbyn Moses?
º9 A digofaint yr ARGLWYDD a enynnodd yn eu herbyn ftwynt; ac efe a aeth
ymaith.
º10 A’r cwmwl a ymadawodd oddi ar y babell: ac wele, Miriam ydoedd wahan-glwyfus,
fel yr eira. Ac edrychodd Aaron ar Miriam; ac wele hi yn wahanglwyfus.
º11 Yna y dywedodd Aaron wrth Moses, O fy arglwydd, atolwg, na osod yn ein
herbyn y pechod yr hwn yn ynfyd a wnaethom, a thrwy yr hwn y pechasom.
º12 Na fydded hi, atolwg, fel un marw, yr hwn y bydd hanner ei gnawd wedi ei
ddifa pan ddêl allan o groth ei fam.
º13 A Moses a waeddodd ar yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, O DDUW, atolwg,
meddyginiaetha hi yr awr hon.
ºI4 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth
Moses, Os ei thad a boerai yn ei hwyneb, pni chywilyddiai hi saith niwrnod?
caeer arni saith niwrnod o’r tu allan i’r gwersyll, ac wedi hynny derbynier
hi.
º15 A chaewyd ar Miriam o’r tu allan i’r gwersyll saith niwrnod: a’r bobl ni
ehychwynnodd hyd oni ddaeth Miriam i mewn drachefn.
º16 Ac wedi hynny yr aeth y bobl o Haseroth, ac a wersyllasant yn anialwch
Paran.
PENNOD 13
º1 A LLEFARODD yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd, .
º2Anfonjiti wŷr i edrych tir Canaan, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi i
feibion Israel: gŵr dros bob un o lwythau eu tadau a anfonwch; pob un yn
bennaeth yn eu mysg hwynt.
º3 A Moses a’u hanfonodd hwynt o anialwch Paran, wrth orchymyn yr ARGLWYDD :
penaethiaid meibion Israel oedd y gwŷr hynny oll. . ; ‘
º4 A dyma eu henwau hwynt. Dros lwyth Reuben, Sarnmua mab Saccur.
º5 Dros lwyth Simeon, Saffat mab Hori,
º6 Dros lwyth Jwda, Caleb mab Jefi-unne.
º7 Dros lwyth Issachar, Igal mab Joseff;
º8 Dros lwyth Effraim, Osea rnab Nun.
º9 Dros lwyth Benjamin, Paid mab Raffu. ...,
º10 Dros lwyth Sabulon, Gadiel mab Sodi.
: .
º11 O lwyth Joseff, dros ],wyth Manasse, Gadi mab Susi.
º12 Dros lwyth Dan, Amiel; mab Gemaii.
º13 Dros lwyth Aser, Sethur mab Michael. :
º14 Dros lwyth Nafftali, Nahbi mab Poffsi.
º15 Dros lwyth
Gad, Geuel mab Maci.
º16 Dyma enwau y gwŷr a anfonodd Moses
i edrych ansawdd y wlad. A Moses a enwodd Osea mab Nun, Josua.
º17 A Moses a’u hanfonodd hwynt i edrych ansawdd gwlad Canaan, ac a ddywedodd
wrthynt, Ewch yma tua’T deau, a dringwch i’r mynydd.
º18 Ac edrychwch y wlad beth yw hi, a’r bobl sydd yn trigo ynddi, pa un ai cryf
ai gwan, ai ychydig ai llawer ydynt:
º19 A pheth yw y tir y macnt yn trigo ynddo, ai da ai drwg; ac ym mha
ddinasoedd y maent yn preswylio, ai mewn pebyll, ai mewn arnddiffynfeydd;
º20 A pha dir, ai bras yw efe ai cul, a oes coed ynddo, ai nad oes. Ac
ymwrolwch, a dygwch o ffrwyth y tir. A’r dyddiau oeddynt ddyddiau blaenffrwyth
grawnwin.
º21 A hwy a aethant i fyny, ac a chwiliasant
y tir, o anialwch Sin hyd Rehob, ffordd y deuir i Hamath.
º22 Ac a aethant i fyny i’r deau, ac a
ddaethant hyd Hebron: ac yno yr oedd Ahiman, Sesai, a Thalmai, meibion Anac. (A
Hebron a adeiladasid saith mlynedd o flaen Soan yn yr Aifft.)
º23 A daethant hyd ddyffryn Escol; .’.a thorasant oddi yno gangen ag un swp .0 rawnwin,
ac a’i dygasant ar drosol rhwng dau: dygasant rai o’r pomgranadau hefyd, ac o’r
ffigys. ..
º24 A’r lle
hwnnw a alwasant dyffryn Escol; o achos y swp grawnwin a dorrodd meibion Israel
oddi yno.
º25 A hwy a ddychwelasant o chwilio’r wlad
ar ôl deugain niwrnod.
º26 A myned a wnaethant, a dyfod at Moses ac at Aaron, ac at holl gynulleidfa
meibion Israel, i Cades, yn anialwch Paran; a dygasant yn eu hoi air iddynt, ac
i’r holl gynulleidfa, ac a ddangosasant iddynt ffrwyth y tir.
º27 A mynegasant iddo, a dywedasant, Daethom i’r tir lle yr anfonaist ni; ac yn
ddiau llifeirio y mae o laeth a mêl: a dyma ei ffrwyth ef. ;
º28 Ond y mae y bobl sydd yn trigo yn y tir yn gryfion, a’r dinasoedd yn gaerog
ac yn fawrion iawn; a gwelsom yno hefyd feibion Anac.
º29 Yr Amaleciaid sydd yn trigo yn nhir y deau; a’r Hethiaid, a’r Jebusiaid,
a’r Amoriaid, yn gwladychu yn y mynydd-dir; a’r Canaaneaid yn preswylio wrth y
mor, a cherllaw yr Iorddonen.
º30 A gostegodd Caleb y bobl gerbron Moses, ac a ddywedodd, Gan fyned awn i
fyny, a pherchenogwn hi: canys gan orchfygu y gorchfygwn hi.
º31 Ond y gwŷr y rhai a aethant i fyny gydag ef a ddywedasant, Ni allwn ni
fyned i fyny yn erbyn y bobl, canys cryfach ydynt na nyni.
º32 A rhoddasant allan anghlod am y tir a chwiliasent, wrth feibion Israel, gan
ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, tir yn difa ei breswylwyr yw efe,
a’r holl bobl a welsom ynddo ydynt wŷr corffol:
º33 Ac yno y gwelsom y cewri, meibion Anac, y rhai a ddaethant o’r cewri; ac yr
p.eddem yn ein golwg ein ;hunain fel
ceiliogod rhedyn, ac felly
yr oeddem yn «u golwg hwythau.
PENNOD 14
º1 ‘\7 NA yr holl gynulleidfa a ddyrchafodd ei llef, ac a waeddodd; a’r
bobl a wylasant y nos honno.
º2 A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron: a’r
holl gynulleidfa a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw yn nhir yr Aifft!
neu, O na buasem feirw yn y diffeithwch hwn!
º3 A phaham y mae yr ARGLWYDD yn ein dwyn ni i’r tir hwn, i gwympo ar y
cleddyf? ein gwragedd a’n plant fyddant yn ysbail. Onid gwell i ni ddychwelyd
i’r Aifft?
º4 A dywedasant bawb wrth ei gilydd, Gosodwn ben arnom, a dychwelwn i’r Aifft.
º5 Yna y syrthiodd Moses ac Aaron ar eu hwynebau gerbron holl gynulleidfa tyrfa
meibion Israel.
º6 Josua hefyd mab Nun, a Chaleb mab Jeffunne, dau o ysbiwyr y tir, a rwygasant
eu dillad;
º7 Ac a ddywedasant wrth holl dorf meibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr
aethom drosto i’w chwilio, sydd dir da odiaeth.
º8 Os yr ARGLWYDD sydd fodlon i ni, efe a’n dwg ni i’r tir hwn, ac a’i rhydd i
ni, sef y tir sydd yn llifeirio o laeth a mêl.
º9 Yn unig na wrthryfelwch yn erbyn yt ARGLWYDD, ac nac ofnwch bobl y tir;
canys bara i ni ydynt: ciliodd eu hamddi-tEyn oddi wrthynt, a’r ARGLWYDD sydd
gyda ni: nac ofnwch hwynt.
º10 A’r holl dorf a ddywedasant am en llabyddio hwynt & meini. A gogoniant
yr ARGLWYDD a ymddangosodd ym mhabell y cyfarfod i holl feibion Israel.
º11 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Pa hyd y digia’r bobl yma fi? a pha hyd
y byddant heb gredu i mi, am yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith?
º12 Trawaf hwynt a haint, a gwasgaraf hwy, a gwnaf di yn genhedlaeth fwy, a
chryfach na hwynt-hwy.
º13 A dywedodd Moses wrth yf ARGLWYDD, Felly yr Eifftiaid a glyw, (canys o’u
mysg hwynt y dygaist y bobl yma i fyny yn dy nerth,)
º14 Ac a ddyv/edant i breswylwyr y tir hwn, (canys clywsant dy fod di,
ARGLWYDD, ymysg y bobl yma, a’th fod di, ARGLWYDD, yn ymddangos iddynt wyneb yn
wyneb, a bod dy gwmwl di yn aros arnynt, a’th fod di yn myned o’u blaen hwynt
mewn colofn o gwmwl y dydd, ac mewn colofn dan y nos;)
º15 Os lleddi y bobl yma fel un gwr; yna y dywed y cenhedloedd y rhai a
glywsant son amdanat, gan ddywedyd,
º16 O eisiau gallu o’r ARGLWYDD ddwyn y bobl yma i’r tir y tyngodd efe iddynt,
am hynny y lladdodd efe hwynt yn y diffeithwch.
º17 Yr awr hon, gan hynny, mawrhaer, Btolwg, nerth yr ARGLWYDD, fel y
lleferaist, gan ddywedyd,
º18 Yr ARGLWYDD sydd hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd, yn maddau anwiredd
a chamwedd, a chan gyfiawnhau ni chyfiawnha efe yr euog; ymweled y mae ag
anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth.
º19 Maddau, atolwg, anwiredd y bobl yma, yn ôl dy fawr drugaredd, ac megis y
maddeuaist i’r bobl hyn, o’r Aifft hyd yma.
º20 A dywedodd yr ARGLWYDD, Maddeuais, yn ôl dy air:
º21 Ond os byw fi, yr holl dir a lenwuf o ogoniant yr ARGLWYDD.
º22 Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fy ngogoniant, a’m harwyddion a
wneuthum yn yr Aifft, ac yn y diffeithwch, ac a’m temtiasant ‘y dengwaith hyn,
ac ni wrandawsant ar fy llais,
º23 Ni welant y tir y tyngais wrth cu tadau hwynt; sef y rhai oll a’m
digiasant, nis gwelant ef:
º24 Ond fy ngwas Caleb, nrn fnd yohryd arall gydag ef, ac iddo fy nshyll.iwn
ddilyn, dygaf ef i’r tir y daeth iddo: a’i had a’i hetifedda of.
º25 (Ond y mae’r Amaleciaid a’r Canaaneaid yn trigo yn y dyffryn;) yfory
trowch, ac ewch i’r diffeithwch, ar hyd ffordd y môr coch.
º26 A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,
º27 Pa hyd y cyd-ddygaf a’r gynulleidfa ddrygionus hon sydd yn tuchan i’m
herbyn? clywais duchan meibion Israel, y rhai sydd yn tuchan i’m herbyn.
º28 Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD, fel y llefarasoch yn fy
nghlustiau, felly y gwnaf i chwi.
º29 Yn y diffeithwch hwn y cwymp eich celaneddau: a’ch holl rifedigion trwy
eich holl rif, o fab ugain mlwydd ac uchod, y rhai a duchanasoch yn &
erbyn,
º30 Diau ni ddeuwch chwi i’r tir am yr hwn y codais fy llaw, am wneuthur i chwi
breswylio ynddo, ond Caleb mab Jeffunne, a Josua mab Nun.
º31 Ond eich plant chwi, y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail, hwynt-hwy a
ddygaf i’r wlad, a hwy a gânt adnabod y tir a ddirmygasoch chwi.
º32 A’ch celaneddau chwi a gwympant yn y diffeithwch hwn.
º33 A’ch plant chwi a fugeilia yn y diffeithwch ddeugain mlynedd, ac a ddygant
gosb eich puteindra chwi, nes darfod eich celaneddau chwi yn y diffeithwch.
º34 Yn ôl rhifedi’r dyddiau y chwiliasoch y tir, sef deugain niwrnod, (pob
diwrnod am flwyddyn,) y dygwch eich anwireddau, sef deugain mlynedd; a chewch
wybod toriad fy ngair i.
º35 Myfi yr ARGLWYDD a leferais, diau y gwnaf hyn i’r holl gynulleidfa ddrygionus
yma, sydd wedi ymgynnull i’m herbyn i: yn y diffeithwch hwn y darfyddant, ac
yno y byddant feirw.
º36 A’r dynion a anfonodd Moses i chwilio’r tir, y rhai a ddychwelasant, ac a
wnaethant i’r holl dorf duchan yn ei erbyn ef, gan roddi allan anair am y tir;
º37 Y dynion, meddaf, y rhai a roddasant allan anair drwg i’r tir, a fuant
feirw o’r pla, gerbron yr ARGLWYDD.
º38 Ond Josua mab Nun, a Chaleb mab Jeffunne, a fuant fyw o’r gwŷr hyn a
aethant i chwilio y tir.
º39 A Moses a lefarodd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel: a’r bobl a
alarodd yn ddirfawr.
º40 A chodasant yn fore i fyned i ben y mynydd, gan ddywedyd, Wele ni, a ni a
awn i fyny i’r lle am yr hwn y dywedodd yr ARGLWYDD : canys ni a bechasom.
º41 A dywedodd Moses, Paham yr ydych fel hyn yn troseddu gair yr ARGLWYDD? a
hyn ni lwydda.
º42 Nac ewch i fyny; canys nid yw yc ARGLWYDD yn eich plith: rhag eich taro o
flaen eich gelynion.
º43 Canys yr Amaleciaid a’r Canaaneaid ydynt yno o’ch blaen chwi, a chwi a
syrthiwch ar y cleddyf: canys am i chwi ddychwelyd oddi ar ôl yr ARGLWYDD, ni
bydd yr ARGLWYDD gyda chwi.
º44 Eto rhyfygasant fyned i ben y mynydd: ond arch cyfamod yr ARGLWYDD, a
Moses, ni symudasant o ganol y gwersyll.
º45 Yna y disgynnodd yr Amaleciaid a’t Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn
y mynydd hwnnw, ac a’u trawsant, ac a’u difethasant hyd Horma.
PENNOD 15
º1 ??A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
º2 Llefara wrth feibion, Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i dir eich
preswylfod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi i chwi,
º3 Ac offrymu ohonoch aberth tanllyd i’r ARGLWYDD, offrwm poeth, neu aberth»
wrth dalu adduned, neu mewn offrwm gwirfodd, neu ar eich gwyliau gosodedife gan
wneuthur arogl peraidd i’r ARGLWYDD, o’r eidionau, neu o’r praidd:
º4 Yna offrymed yr hwn a offrymo ei rodd i’r ARGLWYDD, o beillidid ddegfed ran,
wedi ei gymysgu trwy bedwaredd ran hin o olew, yn fwyd-offrwm.
º5 Ac offrwm di gyda’r offrwm poeth» neu yr aberth, bedwaredd ran hin o wia am
bob oen, yn ddiod-offrwrn.
º6 A thi a offrymi yn fwyd-offrwm gyda hwrdd, o bieilliaid ddwy ddegfed ran,
wedi ei gymysgu trwy drydedd ran hin o olew. ;
º7 A thrydedd ran hin o win yn ddiod-offrwm, a offrymi yn arogl peraidd i’r
ARGLWYDD.
º8 A phan ddarperych lo buwch yn offrwrn poeth, neu yn aberth yn talu adduned,
neu aberth hedd i’r ARGLWYDD,
º9 Yna offrymed yn fwyd-offrwm gyda llo y fuwch, o beilliaid dair degfed ran wedi
ei gymysgu trwy hanner hin o olew.
º10 Ac offrwm hanner hin o win yn ddiod-offrwm, yn aberth tanllyd, o arogl
peraidd i’r ARGLWYDD.
º11 Felly y gwneir am bob ych, neu am bob hwrdd, neu am oen, neu am fyn.
º12 Yn ôl y rhifedi a ddarparoch, felly y gwnewch i bob un, yn ôl eu rhifedi.
º13 Pob priodor a wna’r pethau hyn felly, wrth offrymu aberth tanllyd o arogl
peraidd i’r ARGLWYDD.
º14 A phan ymdeithio dieithrddyn, neu yr hwn sydd yn eich plith trwy eich
cenedlaethau, a darparu aberth tanllyd o arogl peraidd i’r ARGLWYDD; fel y
gwneloch chwi, felly gwnaed yntau.
º15 Yr un ddeddffydd i chwi o’r dyrfa, ac i’r ymdeithydd dieithr; deddf
dragwyddol yw trwy eich cenedlaethau: megis yr ydych chwi, felly y bydd y
dieithr gerbron yr ARGLWYDD.
º16 Un gyfraith, ac un ddefod, fydd i chwi, ac i’r ymdeithydd a ymdeithio gyda
chwi.
º17 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
º18 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt. Pan ddeloch i’r tir yr ydwyf
yn eich dwyn chwi iddo;
º19 Yna pan fwytaoch o fara’r tir, y dyrchefwch offrwm dyrchafael i’r ARGLWYDD.
º20 O flaenion eich toes yr offrymwch deisen yn offrwm dyrchafael: fel offrwra
dyrchafael y llawr dyrnu, felly y dyrchefwch hithau.
º21 O ddechrau eich toes y rhoddwch i’r ARGLWYDD offrwra dyrchafael trwy eich
cenedlaethau.
º22 U A phan eloch dros y ffordd, ac na wneloch yr holl orchmynion hyn, y rhai
a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
º23 Sef yr hyn oll a orchmynnodd yr ARGLWYDD i chwi trwy law Moses, o’r <
dydd y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, ac o hynny allan, trwy eich cenedlaethau;
º24 Yna bydded, os allan o olwg y gynulleidfa y gwnaed dim trwy anwybod, i’r
holl gynulleidfa ddarparu un bustach, ieuanc yn offrwm poeth, i fod yn arogl
peraidd i’r ARGLWYDD, a’i fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm, wrth y ddefod, ac un
bwch geifr yn bech-aberth. !
º25 A gwnaed yr offeiriad gymod dros holl gynulleidfa mcibion Israel, a
maddeuir iddynt; canys anwybodaeth yw: a dygant eu hoffrwm, aberth tanllyd i’r
ARGLWYDD, a’u pechaberth, gerbron yr ARGLWYDD, am eu hanwybodaeth.
º26 A maddeuir i holl gynulleidfa meibion Israel, ac i’r dieithr a ymdeithio
yn eu mysg; canys digwyddodd i’r holl bobl trwy anwybod.
º27 Ond os un dyn a becha ttwx amryfusedd; yna offrymed afr flwydd yn offrwm
dros bechod.
º28 A gwnaed yr offeiriad gymod dros y dyn a bccho yn amryfus, pan becho trwy
amryfusedd gerbron yr ARGLWYDD, gan wneuthur cymod drosto; a maddeuir iddo. .
º29 Yr hwn a aned o feibion Israel, a’Sr dieithr a ymdeithio yn eu mysg, UB
gyfraith fydd i chwi am wneuthur pechod trwy amryfusedd.
º30Ond y dyn a wnel bechod mewn rhyfyg, o briodor, neu o ddieithr; cablu yr
ARGLWYDD y mae: torrer ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.
º31 Oherwydd iddo ddiystyru gair yr ARGLWYDD, a thorri ei orchymyn ef; llwyr
dorrer ymaith y dyn hwnnw: ei anwiredd fydd arno.
º32 Fel yr ydoedd meibion Israel yn y diffeithwch, cawsant ŵr yn cynuta ar
y dydd Saboth.
º33 A’r rhai a’i cawsant ef, a’i dygasant ef, sef y cynutwr, at Moses, ac at
Aaron, ac at yr holl gynulleidfa.
º34 Ac a’i dodasant ef mewn dalfa, am nad oedd hysbys beth a wneid iddo.
º35 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Lladder y gŵr yn farw: llabyddied
yr holl gynulleidfa ef a meini o’r tu allan i’r gwersyll.
º36 A’r holl gynulleidfa a’i dygasant ef i’r tu allan i’r gwersyll, ac a’i
llabyddiasant ef a meini, fel y bu efe farw; megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD
wrth Moses.
º37 (f A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,, ;
º38 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, am wneuthur iddynt eddi ar
odre eu dillad, trwy eu cenedlaethau, a rhoddant bleth o sidan glas ar eddi y
godre.
º39 A bydded i chwi yn rhidens, i edrych arno, ac i gofio holl orchmynion yr
ARGLWYDD, ac i’w gwneuthur hwynt; ac na chwiliwch yn ôl eich calonnan eich
hunain, nac yn ôl eich llygaid eich hunain, y rhai yr ydych yn puteinio ar eu
hoi:
º40 Fel y cofioch ac y gwneloch fy holl orchmynion i, ac y byddoch sanctaidd
i’ch Duw.
º41 Myfi ydyw yr ARGLWYDD eich Duw» yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr
Aifft, i fod i chwi yn DDUW : myfi yw yr ARGLWYDD eich Duw.
PENNOD 16
º1 YNA Cora, mab Ishar, mab Cohath, mab Lefi; a Dathan ac Abiram, meibion
Eli’ab, ac On mab Peleth, meibion Reuben, a gymerasant wyr:
º2 A hwy a godasant o flaen Moses, ynghyd â dau cant a deg a deugain o wŷr
eraill o feibion Israel, penaethiaid y gynulleidfa, pendefigion y gymanfa,
gwŷr enwog.
º3 Ac ymgasglasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, ac a ddywedasant wrthynt,
Gormod i chwi hyn; canys y mae yr holl gynulleidfa yn sanctaidd bob un ohonynt,
ac y mae yr ARGLWYDD yn eu mysg: paham yr ymgodwch goruweh cynulleidfa yr
ARGLWYDD?
º4 A phan glybu Moses, efe a syrthiodd ar ei wyneb.
º5 Ac efe a lefarodd wrth Cora, ac wrth ei holl gynulleidfa ef, gan ddywedyd, Y
bore y dengys yr ARGLWYDD yr hwn sydd eiddo ef, a’r sanctaidd; a phwy a ddylai
nesau ato ef: canys yr hwn a ddewisodd efe, a nesa efe ato.
º6 Hyn a wnewch: Cymerwch i chwi, sef Cora a’i holl gynulleidfa, thuserau;
º7 A rhoddwch ynddynt dan, a gosodwch arnynt arogl-darth yfory gerbron yr
ARGLWYDD: yna bydd i’r gŵr hwnnw fod yn sanctaidd, yr hwn a ddewiso yr
ARGLWYDD : gormod i chwi hyn, meibion Lefi.
º8 A dywedodd Moses wrth Cora, Gwrandewch, atolwg, meibion Lefi.
º9 Ai bychan gennych neilltuo o DDUW Israel chwi oddi wrth gynulleidfa Israel,
gan eich nesau chwi ato ei hun, i wasanaethu gwasanaeth tabernacl yr ARGLWYDD,
ac i sefyll gerbron y gynulleidfa, i’w gwasanaethu hwynt?
º10 Canys efe a’th nesaodd di, a’th holl frodyr, meibion Lefi, gyda thi: ac a
geisiwch chwi yr offeiriadaeth hefyd?
º11 Am hynny tydi a’th holl gynulleidfa ydych yn ymgynnull yn erbyn yr ARGLWYDD
: ond Aaron, beth yw efe, i chwi i duchan yn ei erbyn?
º12 A Moses a anfonodd i alw am Dathan ac Abiram, meibion Eli’ab. Hwythau a
ddywedasant, Ni ddeuwn ni ddim i fyny.
º13 Ai bychan yw dwyn ohonot ti ni i fyny o dir yn llifeirio o laeth a mêl, i’n
lladd ni yn y diffeithwch, oddieithr hefyd arglwyddiaethu ohonot yn dost arnom
ni?
º14 Eto ni ddygaist ni i dir yn llifeirio o laeth a mêl, ac ni roddaist i ni
feddiant mewn maes na gwinllan: a dynni di lygaid y gwŷr hyn? ni ddeuwn ni
i fyny ddim.
º15 Yna y digiodd Moses yn ddirfawr, ac y dywedodd wrth yr ARGLWXBR, Nac
edrychtH-e’ahoffrwmhtvy; ni chymerais
º28 A dywedodd Moses, Wrth hyn y ii; —~»», »,,’ rT7oai < iun cewch wybod mai
yr ARGLWYDD a’m ua asyn oddi arnynt,’ae: ni’ ddrygais un ohonynt. . "
º16 A dywedodd Moses wrth Cora, Bydd di a’th holl gynulleidfa gerbron yr
ARGLWYDD, ti, a hwynt, ac Aaron, yfory.
º17 A chymerwch bob un ei thuser, a rhoddwch arnynt arogl-darth; a dyged pob un
ei thuser gerbron yr ARGLWYDD, sef dau cant a deg a deugain o thuseraus dwg
dithau hefyd, ac Aaron, bob un ei thuser.
º18 A chymerasant bob un ei thuser, a rhoddasant dan ynddynt, a gosodasant
arogl-darth arnynt; a safasant wrth ddrws pabell y cyfarfod, ynghyd â Moses ac
aaron.
º19 Yna Cora a gasglodd yr holl gynulleidfa yn eu herbyn hwynt, i ddrws pabell
y cyfarfod: a gogoniant yr ARGLWYDD a ymddangosodd i’r holl gynulleidfa.
º20 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd, ‘
º21 Ymneilltuwch o fysg y gynulleidft hon, a mi a’u difaf hwynt ar unwaith.
º22 A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, O DDUW, DOTV
ysbrydion pob cnawd, un dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynulleidfa?
º23 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd. ‘
º24 Llefara wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ewch ymaith o gylch pabell Cora,
Dathan, ac Abiram.
º25 A chyfododd Moses, ac a aeth at Dathan ac Abiram: a henuriaid Israel a
aethant ar ei ôl ef.
º26 Ac efe a lefarodd wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ciliwch, atolwg, oddi
wrth bebyll y dynion drygionus hyn, ac na chyffyrddwch a dim o’r eiddynt; rhag
eich difetha yn eu holl bechodau hwynt.
º27 Yna yr aethant oddi wrth babell Cora, Dathan, ac Abiram, o amgylch: a
Dathan ac Abiram, eu gwragedd hefyd, a’u meibion, a’u plant, a ddacthant allan,
g@n sefyll wrth ddrws eu pebyll.
º28 A» MJ TT’ — V/——»~ cewch wybod mai yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i
wneuthur yr holl weithredoedd hyn; ac nad o’m meddwl fy hun y gwneuthum hwynt.
º29 Os bydd y rhai hyn feirw fel 5 bydd marw pob dyn, ac os ymwelir â hwynt ag
ymwelediad pob dyn; nid yi ARGLWYDD a’m hanfonodd i.
º30 Ond os yr ARGLWYDD a wna newyddbeth, fel yr agoro’r ddaear ei safn, ‘d’v
llyncu hwynt, a’r hyn oll sydd eiddynt fel y disgynnont yn fyw i uffern; yna y
cewch wybod ddigio o’r gwŷr hyn yi ARGLWYDD.
º31 A bu, wrth orffen ohono lefaru yt holl eiriau hyn, holiti o’r ddaear oedd
danynt hwy.
º32 Agorodd y ddaear hefyd ei safn, a llyncodd hwynt, a’u tai hefyd, a’r hoi’
ddynion oedd gan Cora, a’u holl gyfoeth.:
º33 A hwynt, a’r rhai oll a’r a oedd gyda hwynt, a ddisgynasant yn fyw i
uffern; a’r ddaear a gaeodd arnynt: a"‘ difethwyd hwynt o blith y
gynulleidfa.
º34 A holl Israel, y rhai oedd o’u hamgylch hwynt, a ffoesant wrth eu gwaedd
hwynt: canys dywedasant, Ciliwn, rhag i’r ddaear ein llyncu ninnau.
º35 Tan hefyd a aeth allan oddi wrth yr ARGLWYDD, ac a ddifaodd y dau cant a’r
deg a deugain o wŷr oedd yn offrymu yr arogl-darth.
º36 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth
Moses, gan ddywedyd,
º37 Dywed wrth Eleasar, mab Aaron yr offeiriad, am godi ohono efe y thuserau o
fysg y llosg; a gwasgara y tân oddi yno allan: canys sanctaidd ydynt: ‘
º38 Sef thuserau y rhai hyn a bechasant yn erbyn eu heneidiau eu hun; a gweithier
hwynt yn ddalennau’ llydain, i fod yn gaead i’r allor; canys offrymasant hwynt
gerbron yr ARGLWYDD ; am hynny sanctaidd ydynt: a byddant yn arwydd i feibion
Israel.
º39 A chymerodd Eleasar yr offeiriad y thuserau pres, a’r rhai yr offrymasai y
gwŷr a losgasid; ac estynnwyd hwynt yn gaead i’r allor: t66
º40 Yn goffadwriaeth i feibion Israels fel na nesao gŵr dieithr, yr hwn ni
byddo o had Aaron, i losgi arogl-darth gerbron yr ARGLWYDD; ac na byddo fêl
Cora a’i gynulleidfa: megis y llefarasai yr ARGLWYDD trwy law Moses wrtho ef.
º41 A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant drannoeth yn erbyn ; Moses,
ac yn erbyn Aaron, gan ddywedyd, Chwi a laddasoch bobl yr ARGLWYDD. i
º42 A bu, wedi ymgasglu o’r gynulleidf? yn erbyn Moses ac Aaron, edrych ohonynt
ar babell y cyfarfod: ac wele, [toasai y cwmwl hi, ac ymddangosodd gogoniant yr
ARGLWYDD.
º43 Yna y daeth
Moses ac Aaron o flaea pabell y cyfarfod.
º44 A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
º45 Ciliwch o blith y gynulleidfa hon, a mi a’u difaf hwynt yn ddisymwth. A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau.
º46 Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Cymer thuser, a dod dan oddt ar yr allor
ynddi, a gosod arogl-darth arni, a dos yn fuan at y gynulleidfa, a gwna gymod
drostynt: canys digofaint a aeth allan oddi gerbron yr ARGLWYDD, dechreuodd y
pla.
º47 A chymerodd Aaron megis y llefarodd Moses, ac a redodd i ganol y gynulleidfa;
ac wele, dechreuasai y pla ar y bobl: ac efe a rodd arogl-darth, ac a wnaeth
gymod dros y bobl.
º48 Ac efe a safodd rhwng y meirw a’r byw; a’r pla a ataliwyd.
º49 A’r rhai a fuant feirw o’r pla oedd bedair mil ar ddeg a saith gant, heblaw
y rhai a fuant feirw yn achos Cora.
º50 A dychwelodd Aaron at Moses i ddrws pabell y cyfarfod: a’r pla a ataliwyd.
PENNOD 1
º17
º1 ALLEPARODD yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
º2 Llefara wrth feibion Israel, a chymer gan bob un ohonynt wialen, .yn ôl
tŷ eu tadau,,sef gan bob un o’u pcnaethiaid, yn ôl tŷ eu tadau,
deuddeg gwialen; ysgrifenna enw pob un ar ei wialen.
º3 Ac ysgrifenna enw Aaron ar wialea Lefi: canys un wialen fydd dros bob PENNaeth
tŷ eu tadau.
º4 A gad hwynt ym mhabell y cyfarfod, gerbron y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf
a chwi.
º5 A gwialen y gŵr a ddewiswyf, x flodeua: a mi a wnaf i furmur meibion
Israel, y rhai y maent yn ei furmur i’ch erbyn, beidio â mi.
º6 A llefarodd Moses wrth feibioa Israel: a’u holl benaethiaid a roddasant ato
wialen dros bob PENNaeth, yn ôl tf eu tadau, sef deuddeg gwialen; a
gwialea Aaron oedd ymysg eu gwiail hwynt.
º7 A Moses a adawodd y gwiail gesbron yr ARGLWYDD, ym mhabell y dystiolaeth.
º8 A thrannoeth y daeth Moses i babell y dystiolaeth: ac wele, gwialen Aaron
dros d Lefi a flagurasai, ac a fwriasai flagur, ac a flodeuasai flodau, ac a
ddygasai almonau.
º9 A dug Moses allan yr holl wiail oddi gerbron yr ARGLWYDD at holl feibioa
Israel. Hwythau a edrychasant, ac a gymerasant bob un ei wialen ei hun.
º10 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Dod wialen Aaron drachefn gerbron y
dystiolaeth, i’w chadw yn arwydd i’r meibion gwrthryfelgar; fel y gwnelech i’w
tuchan hwynt beidio â mi, ac na byddont feirw.
º11 A gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddo; felly y gwnaeth efe.,,
º12 A meibion Israel a lefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Wele ni yn trengi;
darfu amdanom, darfu amdano® ni oll.
º13 Bydd farw
pob un gan nes&u a nesao i dabernacl yr ARGLWYDD. A wneir pen amdanom gan drengi?
PENNOD 1
º18
º1 A DYWEDODD yr ARGLWYDD wrth Aaron, Tydi a’th feibion, a thylwyth dy .dad
gyda thi, a ddygwch: anwiredd
º167
y cysegr: â thi a’th feibion
gyda thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth.
º2 A dwg hefyd gyda thi dy frodyr o lwyth Lefi, sef llwyth dy dad, i lynu
wrthyt ti, ac i’th wasanaethu: tithau a’th feibion gyda thi a wasanaethwch
gerbron pabell y dystiolaeth. :
º3 A hwy a gadwant dy gadwraeth di, a chadwraeth yr holl babell: ond na ddeuant
yn agos at ddodrefn y cysegr, nac at yr allor, rhag eu marw hwynt, a chwithau
hefyd.
º4 Ond hwy a lynant wrthyt, ac a oruchwyliant babell y cyfarfod, yn holl
wasanaeth y babell: ac na ddeued y dieithr yn agos atoch.
º5 Eithr cedwch chwi oruchwyliaeth y, cysegr, a goruchwyliaeth yr allor; fel na
byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel.
º6 Ac wele, mi a gymerais dy frodyr di, y Lefiaid, o fysg meibion Israel: i ti
y rhoddwyd hwynt, megis rhodd i’r ARGLWYDD, i wasanaethu gwasanaeth pabetl y
cyfarfod.
º7 Tithau a’th feibion gyda thi a gedwch eich offeiriadaeth; ynghylch pob petfc
a berthyn i’r allor, ac o fewn y lien wahani, y gwasanaethwch: yn wasanaeth
rhodd y rhoddais eich offeiriadaeth i chwi; a’r dieithr a ddelo yn agos, a
leddir.
º8 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, Wele, mi a roddais i ti hefyd
oruchwyliaeth fy offrymau dyrchafael,
º6 holl gysegredig bethau meibion Israel; rhoddais hwynt i ti, oherwydd yr
eneiniad, ac i’th feibion, trwy ddeddf dragwyddol.
º9 Hyn fydd i ti o’r pethau sancteiddiolaf a gedwir allan o’r tan: eu hofl.
offrymau hwynt, cu holl fwyd-offrwm, a’u holl aberthau dros bechod, a’u holl
aberthau dros gamwedd, y rhai a dalant i mi, fyddant sancteiddiolaf i ti, ac
i’th feibion.
º10 O fewn y cysegr sanctaidd y bwytei ef; pob gwryw a’i bwytŷ ef:
cysegredig fydd cfe i ti.
º11 Hyn hefyd fydd i ti; offrwm dyrchafael eu rhoddion hwynt, ynghyd â holl
offrymau cyhwfan meibion Israel: i ti y rhoddais hwynt, ac i’th feibion, ac
i’th ferched gyda thi, trwy ddeddf dragwyddol: pob un glan yn dy dy a gaiff
fwyta ohono.
º12 Holl oreuon yr olew, a holl oreuon y gwin a’r yd, sef eu blaenffrwyth hwyni
yr hwn a roddant i’r ARGLWYDD, i roddais i ti.
º13 Blaenffrwyth pob dim yn eu ti) hwynt yr hwn a ddygant i’r ARGLWYDD fydd
eiddot ti: pob un glan yn dy dy i fwyty ohono. ‘
º14 Pob diofrydbeth yn Israel fydc eiddot ti.
º15 Pob peth a agoro’r groth o bob cnawd yr hwn a offrymir i’r ARGLWYDD o ddyn
ac o anifail, fydd eiddot ti: ond gan brynu y pryni bob cyntaf-anedig i ddyn; a
phryn y cyntaf-anedig i’r anifail aflan.
º16 A phar brynu y rhai a bryner ohonot, o fab misyriad, yn dy bris di, er pum
sicl o arian, wrth sicl y cysegr:! ugain gera yw hynny.
º17 Ond na phryn y cyntaf-anedig (y eidion, neu gyntaf-anedig dafad, neu
gyntaf-anedig gafr; sanctaidd ydynt hwy: eu gwaed a daenelli ar yr allor, a’u
gwer a losgi yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD.
º18 Ond eu cig fydd eiddot ti; fel parwyden y cyhwfan, ac fel yr ysgwyddog
ddeau, y mae yn eiddot ti.
º19 Holl offrymau dyrchafael y pethau sanctaidd, y rhai a offrymo meibion
Israel i’r ARGLWYDD, a roddais i ti, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyda thi,
trwy ddeddf dragwyddol: cyfamod halen tragwyddol fydd hyn, gerbron yr ARGLWYDD,
i ti, ac i’th had gyda thi.
º20 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, Na fydded i ti etifeddiaeth yn eu tir
hwynt, ac na fydded i ti ran yn eu mysg hwynt: myfi yw dy ran di, a’th
etifeddiaeth, ymysg meibion Israel.
º21 Ac wele, mi a roddais i feibion Lefi bob degwm yn Israel, yn etifeddiaeth,
am eu gwasanaeth y maent yn ei wasanaethu, sef gwasanaeth pabell y cyfarfod.
º22 Ac na ddeued meibion Israel mwyach yn agos i babell y cyfarfod; rhag iddynt
ddwyn pechod, a marw.
º23 Ond gwasanaethed y Lefiaid wasanaeth pabell y cyfarfod, a dygant eu,.
hanwiredd: deddf dragwyddol fydd hyn trwy eich cenedlaethau, nad etifeddant hwy
etifeddiaeth ymysg meibion Israel.
º24 Canys degwm meibion Israel, yr. hwn a offrymant yn offrwm dyrchafael i’r
ARGLWYDD, a roddais i’r Lefiaid yn etifeddiaeth: am hynny y dywedais. wrthynt,
nad etifeddent etifeddiaeth ymysg meibion Israel.
º25 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd, ‘,. ;
º26 Llefara hefyd wrth y Lefiaid, »a dywed wrthynt. Pan gymeroch gan feibion
Israel y degwm a roddais i chwi yn etifeddiaeth oddi wrthynt; yna offrymwch o
hynny offrwm dyrchafael i’r ARGLWYDD, sef degwm o’r degwm.
º27 A chyfrifir i chwi eich offrwm dyrchafael, fel yr ŷd o’r ysgubor, ac
fel cyflawnder o’r gwinwryf.
º28 Felly yr offrymwch chwithau hefyd offrwm dyrchafael i’r ARGLWYDD, o’ch holl
ddegymau a gymeroch gan feibion Israel; a rhoddwch o hynny ddyrchafael-offrwm
yr ARGLWYDD i Aaron yr offeiriad.
º29 O’ch holl roddion offrymwch bob offrwm dyrchafael yr ARGLWYDD o bob gorau
ohono, sef y rhan gysegredig, allan ohono ef.
º30 A dywed wrthynt. Pan ddyrchafoch ei oreuon allan ohono, cyfrifir i’r
Lefiaid fel toreth yr ysgubor, a thoreth y gwinwryf.
º31 A bwytewch ef ym mhob lie, chwi a’ch tylwyth: canys gwobr yw efe i chwi, am
eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.
º32 Ac ni ddygwch bechod o’i herwydd, gwedi y dyrchafoch ei oreuon ohono: na
halogwch chwithau bethau sanctaidd meibion Israel; fel na byddoch feirw.
PENNOD 19
º1 E-EFARODD yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd.
º2 Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Llefara wrth
feibion Israel, am ddwyn ohonynt atat anner goch berffaith-gwbl, yr hon ni
byddo anaf arni, ac nid aeth iau arni.
º3 A rhoddwch hi at Eleasar yr offeiriad : a phared efe ei dwyn hi o’r tu allan
i’r gwersyll; a lladded un hi ger ei fron ef.
º4 A chymered Eleasar yr offeiriad beth o’i gwaed hi ar ei fys, a thaenelled
o’i gwaed hi ar gyfer wyneb pabell y cyfarfod saith waith. ;
º5 A llosged un yr anner yn ei olwg ef: ei chroen, a’i chig, a’i gwaed, ynghyd
â’i biswail, a lysg efe.
º6 A chymered yr offeiriad goed cedr, ac isop, ac ysgarlad; a bwried i gaaeA
llosgfa yr anner.
º7 A golched yr offeiriad ei wisgoedd, troched hefyd ei gnawd mewn dwfr, ac
wedi hynny deued i’r gwersyll; ac aflan fydd yr offeiriad hyd yr hwyr. .
º8 Felly golched yr hwn a’i llosgo hi, ei ddillad mewn dwfr, a golched hefyd ei
gnawd mewn dwfr; ac aflan fydd hyd yr hwyr.
º9 A chasgled un glan ludw yr anner, a gosoded o’r tu allan i’r gwersyll mewn
lle glan; a bydded yng nghadw i gynulleidfa meibion Israel, yn ddwfr
neilltuaeth: pechaberth yw.
º10 A golched yr hwn a gasglo ludw yr anner, ei ddillad; aflan fydd hyd yr hwyr:
a bydd hyn i feibion Israel, ac i’r dieithr a ymdeithio yn eu mysg hwynt, yn
ddeddf dragwyddol.,
º11 A gyffyrddo a chorff marw dya, aflan fydd saith niwrnod.
º12 Ymlanhaed trwy y dwfr hwnnw y trydydd dydd, a’r seithfed dydd glan fydd: ac
os y trydydd dydd nid ymlanha efe, yna ni bydd efe lan y seithfed dydd.
º13 Pob un a gyffyrddo a chorff marw dyn fyddo wedi marw, ac nid ymlanhao, sydd
yn halogi tabernacl yr ARGLWYDD; a thorrir ymaith yr enaid hwnnw oddi wrth
Israel: am na thaenellwyd dwfr neilltuaeth arno, aflan fydd efe; ei aflendid
sydd etp arno.
º14 Dyma’r gyfraith, pan fyddo marw dyn mewn pabell: pob un a ddelo i’r babeB,
a phob un a fyddo yn y babell, fydd aflan saith niwrnod.
º15 A phob llestr agored ni byddo eadach wedi ei rwymo arno, aflan yw efe.
º16 Pob un hefyd a gyffyrddo, ar wyneb y maes, ag un wedi ei ladd a chleddyf,
aeu ag un marw, neu ag asgwrn dyn, neu a bedd, a fydd aflan saith niwrnod.
º17 Cymerant dros yr aflan o ludw llosgs yr offrwm dros bechod; a rhodder ato
ddwfr rhedegog mewn llestr;
º18 A chymered isop, a golched un dihalogedig ef mewn dwfr, a thaenelled. ar y
babell, ac ar yr holl lestri, ac ar yr toll ddynion oedd yno, ac ar yr hwn a
gyffyrddodd ag asgwrn, neu un wedi ei ladd, neu un wedi marw, neu fedd:
º19 A thaenelled y glan ar yr aflan y trydydd dydd, a’r seithfed dydd; ac
ymlanhaed efe y seithfed dydd, a golched ri ddillad, ymolched mewn dwfr, a glan
fydd yn yr hwyr.
º20 Ond y gŵr a haloger, ac nid ymlanhao, torrir ymaith yr enaid hwnnw o
fysg y gynulleidfa: canys efe a halogodd gysegr yr ARGLWYDD, ni thaenellwyd.
MHO ddwfr y neilltuaeth; aflan yw efe.
º21 A bydd iddynt yn ddeddf dragwyddol, bod i’r hwn a daenello ddwfr y
neilltuaeth, olchi ei ddillad; a’r hwn a gyffyrddo a dwfr y neilltuaeth, a fydd
aflan hyd yr hwyr.
º22 A’r hyn oll a gyffyrddo yr aflan ag ef, fydd aflan: a’r dyn a gyffyrddo ft
hynny, fydd aflan hyd yr hwyr. ‘
PENNOD 20
º1 MEIBION Israel, sef yr holl gynulleidfa, a ddaethant i anialwch Sin yn y
mis cyntaf; ac arhodd y bobl yn Cades; yno hefyd y bu farw Miriam: ac yno y
claddwyd hi.
º2 Ac nid oedd dwfr i’r gynulleidfa: a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac
aaron.
º3 Ac ymgynhennodd y bobl a Moses» a llefarasant, gan ddywedyd, O na. buasem
fe’u-w pan fu feitW ein brodyr gerbron yr ARGLWYDD ! .; ‘:.
º4 Paham y dygasoch gynulleidfa yr ARGLWYDD i’r anialwch hwn, i farw ohonom ni
a’n hanifeiliaid ynddo?
º5 A phaham y dygasoch ni i fyny o’r Aifft, i’n dwyn ni i’r lle drwg yma? lle
heb had, na ffigysbren, na gwinwydden, na phomgranatbren, ac heb ddwfr i’w
yfed?
º6 A daeth Moses ac Aaron oddi gerbron y gynulleidfa, i ddrws pabell i
cyfarfod; ac a syrthiasant ar eu hwyneb’ au: a gogoniant yr ARGLWYDD a ym
ddangosodd iddynt. :’..
º7 ? A llefarodd yr ARGLWYDD Wtti Moses, gan ddywedyd,
º8 Cymer y wialen, a chasgl y gynull eidfa, ti ac Aaron dy frawd; ac yn ei
gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr: a thyn dithau
iddynt ddwfr o’r graig, a dioda’r gynulleidfa a’u hanifeiliaid. t
º9 A Moses a gymerodd’ y wialen oddi gerbron yr ARGLWYDD, megis y gorchmyn asai
efe iddo. ‘‘.
º10 A Moses ac Aaron a gynullasant y dyrfa ynghyd o flaen y igraig: ac efe a
ddywedodd wrthynt, Gwrandewch yn awr, chwi wrthryfelwyr; Ai o’r graig hott y
tynnwn i chwi ddwfr?
º11 A Moses a gododd ei law, ac a drawodd y graig ddwy waith a’i wialen’: a
daeth dwfr lawer allan; a’r gynulleidfe a yfodd, a’u hanifeiliaid hefyd.
º12 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, ac wrth Aaron, Am na chredasoch i mi,
i’m sancteiddio yng ngwydd meibion Israel: am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i’r
tir a roddais iddynt.
º13 Dyma ddyfroedd Meriba; lle yr ymgynhennodd meibion Israel a’r ARGLWYDD, ac
y sancteiddiwyd ef ynddynt.
º14 A Moses a anfonodd genhadon o Cades at frenin Edom, gan ddywedyd, Fel hyn y
dywed Israel dy frawd; Ti a wyddost yr holl flinder a gawsom ni:
º15 Pa wedd yr aeth ein tadau i wacred i’r Aifft, ac yr arosasom yn yr Aifft
tawer o ddyddiau; ac y drygodd yr Eifftiaid ni, a’n tadau.
º16 A ni a
waeddasom ar yr ARGLWYDD; ac efe a glybu ein llef ni, ac a anfonodd angel, ac
a’n dug ni allan o’r Aifft: ac wele ni yn Cades, dinas ar gŵr dy ardal di.
º17 Atolwg, gad i ni fyned trwy dy! wlad; nid awn trwy faes, na gwinllan, ac
nid yfwn ddwfr un ffynnon: priffordd y brenin a gerddwn; ni thrown ar y llaw
ddeau nac ar y llaw aswy, nes i ni fyned allan o’th derfynau di.
º18 A dywedodd Edom wrtho, MS thyred heibio
i mi, rhag i mi ddyfod a’r cleddyf i’th gyfarfod.
º19 A meibion Israel a ddywedasant wrtho, Ar hyd y briffordd yr awn i fynyi ac
os myfi neu fy anifeiliaid a yfwn o’tfa ddwfr di, rhoddaf ei werth ef; yn unig
ar fy nhraed yr af trwodd yn ddiniwedfc,’
º20 Yntau a ddywedodd, Ni chei fyned trwodd. A daeth Edom allan i gyfarfod ag
ef, a phobl lawer, ac a llaw gref.
º21 Felly Edom a nacaodd roddi ffordd i Israel trwy ei fro: am hynny Israel a
drodd oddi wrtho ef.
º22 A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa, a deithiasant o Cades, ac a
ddaethant i fynydd Hor.,
º23 A’r ARGLWYDD a lefarodd With Moses ac Aaron ym mynydd Hor» wrth derfyn tir Edom,
gan ddywedyd,
º24 Aaron a gesglir at ei bobl: ac ni ddaw i’r tir a roddais i feibion Israel;
am i chwi anufuddhau i’m gair, wrth ddwfr Meriba.
º25 Cymer Aaron ac Eleasar ei fab, a dwg hwynt i fyny i fynydd Hor;
º26 A diosg ei wisgoedd oddi am Aaron, a gwisg hwynt am Eleasar ei fab ef:
canys Aaron a gesglir at ei bobl, ac a fydd farw yno.
º27 A gwnaeth Moses megis y gorchi mynnodd yr ARGLWYDD: a hwy a aethant i fyny
i fynydd Hor, yng ngwydd yr holl gynulleidfa.
º28 A diosgodd Moses oddi am Aaron ei wisgoedd, ac a’u gwisgodd hwynt
am-Eleasar ei fab ef: a bu farw Aaron yno’ ym mhen y mynydd. A disgynnodd Moses
ac Eleasar o’r mynydd.
º29 A’r holl gynulleidfa a welsant farw Aaron, a holl dŷ Israel a wytasant
am Aaron ddeng niwrnod ar hugain.
PENNOD 21
º1 AR brenin Arad, y Canaanead, preswylydd y deau, a glybu fod Israel yn
dyfod ar hyd ffordd yr ysbiwyr; ac a ryfelodd yn erbyn Israel, ac 3. ddaliodd
rai ohonynt yn garcharorion.
º2 Ac addunodd Israel adduned i r ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Os gan roi y rhoddi
y bobl yma yn fy llaw, yna mi a ddifrodaf eu dinasoedd hwynt.
º3 A gwrandawodd yr ARGLWYDD ar lais Israel; ac a roddodd y Canaaneaid yn ei
law ef; ac efe a’u difrododd hwynt, a’u dinasoedd; ac a alwodd enw y lle hwnnw
Horma.
º4 Sl A hwy a aethant o fynydd Hor, ar hyd ffordd y mor coch, i amgylchu tir
Edom: a chyfyng ydoedd ar enaid y bobl, oherwydd y ffordd. ‘"
º5 A llefarodd y bobl yn erbyn Duw, ac yn erbyn Moses, Paham y dygasoch ai o’r
Aifft, i farw yn yr anialwch? canys nid oes na bara na dwfr; a ffiaidd yw gan
ein henaid y bara gwael hwn.
º6 A’r ARGLWYDD a anfonodd ymysg y bobl seirff tanllyd; a hwy a frathasant y
bobl: a bu feirw o Israel bobl lawer.
º7 A daeth y bobl at Moses, a dywedasant, Pechasom; canys llefarasom yn erbyn
yr ARGLWYDD, ac yn dy erbyn dithau: gweddïa ar yr ARGLWYDD, ar yrru ohono ef y
seirff oddi wrthym. A gweddïodd Moses dros y bobl.
º8 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Gwna i ti sarff danllyd, a gosod ar
drostan: a phawb a frather, ac a edrycho ar honno, fydd byw.
º9 A gwnaeth Moses sarff bres, ac a’i gosododd ar drostan: yna os brathai sarff
ŵr, ac edrych ohono ef ar y sarff bres, byw fyddai.
º10 A meibion Israel a gychwynasant oddi yno, ac a wersyllasant yn Oboth.
º11 A hwy a aethant o Oboth, ac a wersyllasant yng ngharneddau Abarint,’ yn yr
anialwch, yr hwn oedd ar gyfe« Moab, tua chodiad haul.
º12 Cychwynasantoddiyno,agwersyllasant wrth afon Sared.
º13 Cychwynasant oddi yno, a gwersyllasant wrth ryd Arnon, yr hon sydd yn yr
anialwch, yn dyfod allan o ardal yr Amoriaid: canys Amon oedd derfyn Moab,
rhwng Moab a’r Amoriaid.
º14 Am hynny dywedir yn llyfr rhyfeloedd yr ARGLWYDD, Y peth a wnaeth efe yi y
mor coch, ac yn afonydd Arnon,,15 Ac wrth raeadr yr afonydd, yr hwn a dreigia i
breswylfa Ar, ac a bwysa at derfyn Moab.
º16 Ac oddi yno yr aethant i Beer: honno yw y ffynnon lle y dywedodd yr
ARGLWYDD wrth Moses, Casgl y bobl ynghyd, a mi a roddaf iddynt ddwfr.
º17 Yna y
canodd Israel y gan hon: Cyfod, ffynnon; cenwch iddi.
º18 Ffynnon a gloddiodd y tywysogion, ac a gloddiodd penaethiaid y bobl, ynghyd
â’r deddfwr, a’u ffyn. Ac o’r anialwch yr
aethant i Mattana:
º19 Ac o Mattana i Nahaliel; ac o Nahaliel i Bamoth: .
º20 Ac o Bamoth, yn y dyffryn sydd yng ngwlad Moab, i ben y bryn sydd yn edrych
tua’r diffeithwch.
º21 Yna yr anfonodd Israel genhadau at Sehon brenin yr Amoriaid, gan ddywedyd,
º22 Gad i mi fyned trwy dy dir: ni thrown i faes, na gwinllan; nid yfwn ddwfr
un ffynnon: ar hyd ffordd y brenin y cerddwn, hyd onid elom allan o’th derfynau
di.
º23 Ac ni roddodd Sehon i Israel ffordd trwy ei wlad: ond casglodd Sehon ei
holl bobl, ac a aeth allan yn erbyn Israel i’r anialwch: ac efe a ddaeth i
Jahas, ac a ymladdodd yn erbyn Israel.
º24 Ac Israel a’l trawodd ef â min y deddyf; ac a oresgynnodd ei dir ef, o Amon
hyd Jabboc, hyd at feibion Ammon: canys cadarn oedd terfyn meibion Ammon.
º125 A chymcrodd Israel yr holl ddinasoedd hynny: a thrigodd Israel yn holl
ddmasoedd yr Amoriaid, yn Hesbon, ac yn ei holl bentrefydd.
º26 (Sanys dinas Sehon, brenin yr Amoriaid, ydoedd Hesbon, ac yntau a
ryfelasai yn erbyn brenin Moab, yr hwn a fuasai o’r blaen, ac a ddug ei dir ef
oddi arno, hyd Arnon.
º27 Am hynny y dywed y diarhebwyr, Deuwch i Hesbon; adeilader a chadarnhaer
dinas Sehon. a8 Canys tan a aeth allan o Hesbon, aj fflam o ddinas Sehon:
bwytaodd Ar ym Moab, a pherchenogion Bamoth Arnon. i
º29 Gwae di, Moab, darfu amdanat, bobl Cemos: rhoddodd ei feibion dihangol, a’i
ferched, mewn caethiwed i Sehon brenin yr Amoriaid.
º30 Saethasom hwynt: darfu am Hesbon, hyd Dibon: ac anrheithiasom hyd Noffa,
‘yr hon sydd hyd Medeba
º31 A thrigodd Israel yn nhir yr Amoriaid. ‘
º32 A Moses a anfonodd i chwilio Jaser: a hwy a orchfygasant ei phenttef-ydd
hi, ac a yrasant ymaith yr Amoriaid y rhai oedd yno.
º33 Troesant hefyd ac aethant i fyny hyd ffordd Basan: ac Og brenin Basan a
ddaeth allan yn eu herbyn hwynt i ryfel, hyd Edrei, efe a’i holl bobl.
º34 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Nac ofna ef: canys yn dy law di y
rhoddais ef, a’i holl bobl, a’i dir; a gwnci iddo ef megis y gwnaethost i Sehon
brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon.
º35 Am hynny y trawsant ef, a’i feibion, a’i holl bobl, fel na adawyd iddo ef
weddill: a hwy a berchenogasant ei dir ef.
PENNOD 22
º1 A MEIBION Israel a gychwynasant, -IA. ac a wersyllasant yn rhosydd Moab,
am yr Iorddonen a Jericho.
º2 Sl A gwelodd Balac mab Sippor yr hyn oll a wnaethai Israel i’r Amoriaid.
º3 ac ofnodd Moab rhag y bobl yn fawr; canys llawer oedd: a bu gyfyng ar Moab o
achos meibion Israel.
º4 A dywedodd Moab wrth henuriaid Midian, Y gynulleidfa hon yn awr a lyfant ein
holl amgylchoedd, fel y llyf yr
º3"72 ych wellt y maes. A Balac mab Sippor oedd frenin ar Moab yn yr amser
hwnnw.
º5 Ac efe a anfonodd genhadau at Balaam mab Beor, i Pethor, (yr hon sydd wrth
afon tir meibion ei bobl,) i’w gyrchu ef; gan ddywedyd, Wele bobl a ddaeth
allan o’r Aifft: wele, y maent yn cuddio wyneb y ddaear; ac y maent yn aros ar
fy nghyfer i.
º6 Yr awr hon, gan hynny, tyred, atolwg, melltithia i mi y bobl yma; canys
cryfach ydynt na mi: ond odid mi allwn ei daro ef, a’u gyrru hwynt o’r tir:
canys mi a wn mai bendigedig fydd yr hwn a fendithiech di, a melltigedig fydd
yr hwn a felltithiech.
º7 A henuriaid Moab, a henuriaid Midian, a aethant, a gwobr dewiniaeth yn eu
dwylo: daethant hefyd at Balaam, a dywedasant iddo eiriau Balac.
º8 A dywedodd yntau wrthynt, Lletywch yma heno; a rhoddaf i chwi ateb megis y
llefaro yr ARGLWYDD wrthyf. A thywysogion Moab a arosasant gyda Balaam, i
º9 A daeth Duw at Balaam, ac a ddywedodd, Pwy yw y dynion hyn sydd gyda thi?
º10 A dywedodd Balaam wrth DDUW, Balac mab Sippor, brenin Moab, a ddanfonodd
ataf, gan ddywedyd,
º11 Wele bobl wedi dyfod allan o’r Aifft, ac yn gorchuddio wyneb y ddaear: yr
awr hon tyred, rhega hwynt i mi; felly ond odid y gallaf ryfela â hwynt, a’u
gyrru allan.
º12 A dywedodd Duw wrth Balaam, Na ddos gyda hwynt; na felltithia’r bobl: canys
bendigedig ydynt.
º13 A Balaam a gododd y bore, ac a ddywedodd wrth dywysogion Balac, Ewch i’ch
gwlad: oblegid yr ARGLWYDD a nacaodd adael i mi fyned gyda chwi.
º14 A thywysogion Moab a godasant, ac a ddaethant at Balac; ac a ddywedasant,
Nacaodd Balaam ddyfod gyda ni.
º15 A Balac a anfonodd eilwaith fwy o dywysogion, anrhydeddusach na’r rhai hyn.
º16 A hwy a ddaethant at Balaam, ac a ddywedasant wrtho, Fel hyn y dywed Balac
mab Sippor; Atolwg, na luddier di rhag dyfod ataf:
º17 Canys gan anrhydeddu y’th anrhydeddaf yn fawr; a’r hyn oll a ddywedech
wrthyf, a wnaf: tyred dithau, atolwg, rhega i mi y bobl hyn.
º18 A Balaam a atebodd ac a ddywedodd wrth weision Balac, Pe rhoddai Balac i mi
arian ac aur lonaid ei dŷ, ni allwn fyned dros air yr ARGLWYDD fy NUW, i
wneuthur na bychan na mawr.
º19 Ond, atolwg, yn awr, arhoswch chwithau yma y nos hon; fel y caffwyf wybod
beth a ddywedo yr ARGLWYDD wrthyf yn ychwaneg.
º20 A daeth Duw at Balaam liw nos, a dywedodd wrtho, Os i’th gyrchu di y daeth
y dynion hyn, cyfod, dos gyda hwynt: ac er hynny y peth a lefarwyf wrthyt,
hynny a wnei di. ‘
º21 Yna y cododd Balaam yn fore, ac a gyfrwyodd ei asen, ac a aeth gyda
thywysogion Moab.
º22 A dig Duw a enynnodd, am iddo ef fyned: ac angel yr ARGLWYDD a safodd ar y
ffordd i’w wrthwynebu ef; ac efe yn marchogaeth ar ei asen, a’i ddau lane gydag
ef.
º23 A’r asen a welodd angel yr ARGLWYDD yn sefyll ar y ffordd, a’i gleddyf yn
noeth yn ei law: a chiliodd yr asen allan o’r ffordd, ac a aeth i’r maes: a
thrawodd Balaam yr asen, i’w throi i’r ffordd.
º24 Ac angel yr ARGLWYDD a safodd ar lwybr y gwinllannoedd, a magwyr o’r
ddeutu.
º25 Pan welodd yr asen angel yr ARGLWYDD, yna hi a ymwasgodd at y fagwyr; ac a
wasgodd droed Balaam wrth y fagwyr: ac efe a’i trawodd hi eilwaith.
º26 Ac angel yr ARGLWYDD a aeth ymhellach; ac a safodd mewn lle cyfyng, lle md
oedd ffordd i gilio tua’r tu deau na’r tu aswy.
º27 A gwelodd yr asen angel yr ARGLWYDD, ac a orweddodd dan Balaam: yna yr
enynnodd dig Balaam, ac efe a drawodd yr asen a ffon.
º28 A’r ARGLWYDD a agorodd safn yr asen; a hi a ddywedodd wnh Balaam!, Beth a
wneuthum i ti, pan drewaist fi y tair gwaith hyn?
º29 A dywedodd Balaam wrth yr asen» Am i ti fy siomi. O na byddai gleddyf yn fy
llaw; canys yn awr y’th laddwn.
º30 A dywedodd yr asen wrth Balaam, Onid myfi yw dy asen, yr hon y marchogaist
arnaf er pan ydwyf eiddot ti, hyd y dydd hwn? gan arfer a arferais i wneuthur i
ti fel hyn? Ac efe a ddywedodd Naddo.
º31 A’r ARGLWYDD a agorodd lygaid Balaam; ac efe a welodd angel yr ARGLWYDD yn
sefyll ar y ffordd, a’i gleddyf noeth yn ei law: ac efe a ogwyddodd ei ben, ac
a ymgrymodd ar ei wyneb. ‘
º32 A dywedodd angel yr ARGLWYBB wnho, Paham y trewaist dy asen y tani gwaith
hyn? Wele, mi a ddeuthum allari yn wrthwynebydd i ti; canys cyfeiliornus yw’r
ffordd hon yn fy ngolwg.
º33 A’r asen a’m gwelodd; ac a giliodd rhagof y tair gwaith hyn: oni buasai
iddi gilio rhagof, diau yn awr y lladdaswn di, ac a’i gadawswn hi yn fyw.
º34 A Balaam a ddywedodd wrth angel yr ARGLWYDD, Pechais; oblegid ni wyddwn dy
fod di yn sefyll ar y ffordd yn fy erbyn: ac yr awr hon, os drwg yw yn dŷ
olwg, dychwelaf adref.
º35 A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Balaam, DOS gyda’r dynion; a’r gair a
lefarwyf wrthyt, hynny yn unig a leferi. Felly Balaam a aeth gyda thywysogion
Balac.
º36 A chlybu Balac ddyfod Balaam! ac efe a aeth i’w gyfarfod ef i ddinas Moab;
yr hon sydd ar ardal Arnon, yr hon sydd ar gŵr eithaf y terfyn.
º37 A dywedodd Balac wrth Balaam, Onid gan anfon yr anfonais atat i’th gyrchu?
paham na ddeuit ti ataf? Oni allwn i dy wneuthur di yn anrhydeddus?
º38 A dywedodd Balaam wrth Balac, Wele, mi a ddeuthum atat: gan allu a allaf fi
lefaru dim yr awr hon? y gair a osodo Duw yn fy ngenau, hwnnw a lefaraf fi.
º39 A Balaam a aeth gyda Balac; a hwy a ddaethant i GaerHusoth.
º40 A lladdodd Balac wartheg a defaid; ac a anfonodd ran i Balaam, ac i’r
tywysogion oedd gydag ef.
º41 A’r bore Balac a gymerodd Balaam ac a aeth ag ef i fyny i uchelfeydd Baal’
fel y gwelai oddi yno gŵr eithaf y bobt.
PENNOD 23
º1 A DYWEDODD Balaam wrth Bala < j i Adeilada i mi yma saith allor; i
darpara i mi yma saith o fustych, a saiti o hyrddod.
º2 A gwnaeth Balac megis ag y dywed odd Balaam. Ac offrymodd Balac i Balaam
fustach a hwrdd ar bob allor.
º3 A dywedodd Balaam wrth Balac, Saf di wrth dy boethoffrwm; myfi a af oddi yma:
ond odid daw yr ARGLWYDD i’m cyfarfod; a mynegaf i ti pa air a ddangoso efe i
mi. Ac efe a aeth i le uchel.
º4 A chyfarfu Duw a Balaam; a dywedodd Balaam wrtho, Darperais saith allor, ac
aberthais fustach a hwrdd ar bob allor.
º5 A gosododd yr ARGLWYDD air yng ngenau Balaam; ac a ddywedodd, Dyi chwel at
Balac, a dywed fel hyn.
º6 Ac efe a ddychwelodd ato. Ac wefej efe a holl dywysogion Moab yn sefyll wrth
ei boethoffrwm.
º7 Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, O Siria y cyrchodd Balae brenin
Moab fyfi, o fynyddoedd y dwyrain, gan ddywedyd. Tyred, mell tithia i mi Jacob;
tyred, a ffieiddia Israel.
º8 Pa fodd y rhegaf yr hwn ni regodA Duw? a pha fodd y ffieiddiaf yr hwn m
ffieiddiodd yr ARGLWYDD?
º9 Canys o ben y creigiau y gwelaf ef, ac o’r bryniau yr edrychaf arno; wele
bobl yn preswylio eu hun, ac heb eu cyfrif ynghyd â’r cenhedloedd.
º10 Pwy a rif lwch Jacob, a rhifedi pedwaredd ran Israel? Marw a wnelwyf o
farwolaeth yr uniawn, a bydded fy niwedd fel yr eiddo yntau.
º11 A dywedodd Balac wrth Balaam,-Beth a wnaethost i mi? I regi fy ngelynion
y’th gymerais; ac.wek, gan fendithio ti a’u bendithiaist.
º12 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Onid yr hyn a osododd yr ARGLWYDD yn fy
ngenau, sydd raid i mi edrych. ar ei ddywedyd?
º13 A dywedodd Balac wrtho ef, Tyredj atolwg, gyda myfi i le arall, lle y
gwelych hwynt: oddi yno y cei weled eu cwr eithaf hwynt yn unig, ac ni chei eu
gweled hwynt i gyd: rhega dithau hwynt i mi oddi yno.
º14 Ac efe a’i dug ef i faes amlwg, i ben bryn; ac a adeiladodd saith allor, ac
a offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor.
º15 Ac a ddywedodd wrth Balac, Saf yma wrth dy boethoffrwm, a mi a af acw i
gyfarfod a’r ARGLWYDD.
º16 A chyfarfu yr ARGLWYDD a Balaam; ac a osododd air yn ei enau ef, ac a ddywedodd,
Dychwel at Balac, a dywed fel hyn.
º17 Ac efe a ddaeth ato. Ac wele efe yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a
thywysogion Moab gydag ef. A dywedodd Balac wrtho, Beth a ddywedodd yr
ARGLWYDD?
º18 Yna y cymerodd efe ei ddameg, ac a ddywedodd, Cyfod, Balac, a gwrando; mab
Sippor, clustymwrando a mi.
º19 Nid dyn yw Duw, i ddywedyd celwydd; na mab dyn, i edifarhau: a ddywedodd
efe, ac nis cyflawna? a lefarodd efe, ac oni chywira?
º20 Wele, cymerais arnaf fendithio; a bendithiodd efe; ac ni throaf fi hynny yn
ei 61.
º21 Ni wel efe anwiredd yn Jacob, ac m wel drawsedd yn Israel; yr ARGLWYDD ei
DDUW sydd gydag ef, ac y mae utgorflfloedd brenin yn eu mysg hwynt.
º22 Duw a’u dug hwynt allan o’r Aifft; megis nerth unicorn sydd iddo.
º23 Canys nid oes swyn yn erbyn Jacob, na dewiniaeth yn erbyn Israel: y pryd
hwn y dywedir am Jacob, ac am Israel, Beth a wnaeth Duw!
º24 Wele, y bobl a gyfyd fel llew mawr, ac fel llew ieuanc yr ymgyfyd: ni
orwedd nes bwyta o’r ysglyfaeth, ac yfed gwaed y lladdedigion.
º25 V\ A dywedodd Balac wrth Balaam, Gan regi na rega ef mwy; gan fendithio na
fendithia ef chwaith.
º26 Yna yr atebold Balaam, ac a ddywedodd wrth Balac, Oni fynegais i ti, gan
ddywedyd, Yr hyn oll a lefaro yr ARGLWYDD, hynny a wnaf fi?
º27A dywedodd Balac wrth Balaam, Tyred, atolwg, mi a’th ddygaf i le arall; ond
odid bodlon fydd gan DDUW i ti ei regi ef i mi oddi yno.
º28 A Balac a ddug Balaam i ben Peor, yr hwn sydd yn edrych tua’r diffeithwch.
º29 A dywedodd Balaam wrth Balac, Adeilada i mi yma saith allor; a darpara i mi
yma saith bustach a saith hwrdd.
º30 A gv/naeth Balac megis y dywedodd Balaam; ac a offrymodd fustach a hwrdd ar
bob allor.
PENNOD 24
º1 PAN welodd Balaam mai da oedd yng ngolwg yr ARGLWYDD fendithio Israel;
nid aeth efe, megis o’r blaen, i gyrchu dewiniaeth; ond gosododd ei wyneb tua’r
anialwch.
º2 A chododd Balaam ei lygaid: ac wele Israel yn pebyllio yn ôl ei lwythau: a
daeth ysbryd Duw amo ef.
º3 Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a’r
gŵr a agorwyd ei lygaid, a ddywedodd;
º4 Gwrandawydd geiriau Duw a ddywedodd, yr hwn a welodd weledigaeth yr
Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac a agorwyd ei lygaid:
º5 Mor hyfryd yw dy bebyll di, O Jacob"! dy gyfanheddau di, O Israel!
º6 Ymestynnant fel dyffrynnoedd, ac fel gerddi wrth afon, fel aloewydd a
blannodd yr ARGLWYDD, fel y cedrwydd wrth ddyfroedd.
º7 Efe a dywallt ddwfr o’i ystenau, a’i had fydd mewn dyfroedd lawer, a’i
frenin a ddyrchefir yn uwch nag Agag, a’i frenhiniaeth a ymgyfyd.
º8 Duw a’i dug ef allan o’r Aifft; megis nerth unicorn sydd iddo: efe a fwyty y
cenhedloedd ei elynion, ac a ddryllia eu hesgym, ac a’i saethau y gwana efe
hwynt. r75
º9 Efe a gryma, ac’a orwedd fel llew, ac fel llew mawr: pwy a’i cyfyd ef?
Bendigedig fydd dy fendithwyr, a melltigedig dy felltithwyr.
º10 Ac enynnodd dig Balac yn erbyn Balaam; ac efe a drawodd ei ddwylo ynghyd.
Dywedodd Balac hefyd wrth Balaam, I regi fy ngelynion y’th gyrchais; ac wele,
ti gan fendithio a’u bendithiaist y tair gwaith hyn.
º11 Am hynny yn awr ffo i’th fangre dy hun: dywedais, gan anrhydeddu y’th
anrhydeddwn; ac wele, ataliodd yr ARGLWYDD di oddi wrth anrhydedd.
º12 A dywedodd Balaam wrth Balac, Oni leferais wrth dy genhadau a anfonaist
ataf, gan ddywedyd,
º13 Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ, ni allwn droseddu
gair yr ARGLWYDD, i wneuthur da neu ddrwg o’m meddwl fy hun: yr hyn a lefaro yr
ARGLWYDD, hynny a lefaraf fi?
º14 Ond yr awr hon, wele fi yn myned at fy mhobl: tyred, mi a fynegaf i ti yr
hyn a wna’r bobl hyn i’th bobl di yn y dyddiau diwethaf.
º15 (t Ac efe a gymerth ei ddameg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed,
a’r gŵr a agorwyd ei lygaid a ddywed;
º16 Dywedodd gwrandawydd geiriau Duw, gwybedydd gwybodaeth y Goruchaf, a
gweledydd gweledigaeth yr Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac yr agorwyd ei
lygaid:
º17 Gwelaf ef, ac nid yr awr hon; edrychaf arno, ond nid o agos: daw seren o
Jacob, a chyfyd teymwialen o Israel, ac a ddryllia gonglau Moab, ac a
ddinistria holl feibion Seth.
º18 Ac Edom a feddiennir, Seir hefyd a berchenogir gan ei elynion; ac Israel a
wna rymustcr.
º19 Ac
arglwyddiaetha un o Jacob, ac a ddinistria y gweddill o’r ddinas.
º20 A phan edrycliodd ar Amalec, efe a gymerodd ei ddameg, ac d ddywedodd,
Dechrau y cenhedloedd yw Amalec; a’i ddiwedd fydd darfod amdano byth.
º21 Edrychodd hefyd ar y Ccncaid; ac a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd,
Cadarn yw dy annedd; gosod yr wyt dylwyth yn y graig.
º22 Anrheithir y Ceneaid, hyd oni’th
gaethiwo Assur.
º23 Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Och! pwy fydd byw pan wnelo
Duw hyn?
º24 Llongau hefyd o derfynau Cittim a orthrymant Assur, ac a orthrymant Eber;
ac yntau a dderfydd amdano byth.
º25 A chododd Balaam ac a aeth, ac a ddychwelodd adref: a Balac a aeth hefyd
i’w ffordd yntau.
PENNOD 25
º1 A THRIGODD Israel yn Sittim; a i
dechreuodd y bobl odinebu gyda merched Moab.
º2 A galwasant y bobl i aberthau eu duwiau hwynt; a bwytaodd y bobl, ac
addolasant eu duwiau hwynt.
º3 Ac ymgyfeillodd Israel a Baal-Peor; ac enynnodd digofaint yr ARGLWYDD yn
erbyn Israel.
º4 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cymer holl benaethiaid y bobl, a chrog
hwynt i’r ARGLWYDD ar gyfer yr haul; fel y dychwelo llid digofaint yr ARGLWYDD
oddi wrth Israel.
º5 A dywedodd Moses wrth farnwyr Israel, Lleddwch bob un ei ddynion, y rhai a
ymgyfeillasant â Baal-Peor.
º6 Ac wele, gŵr o feibion Israel a ddaeth, ac a ddygodd Fidianees at ei
frodyr, yng ngolwg Moses, ac yng ngolwg holl gynulleidfa meibion Israel, a
hwynt yn wylo wrth ddrws pabell y cyfarfod.
º7 A gwelodd Phinees mab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad; ac a gododd o ganol y
gynulleidfa, ac a gymerodd waywffon yn ei law;
º8 Ac a aeth ar ôl y gŵr o Israel i’r babcll; ac a’u gwanodd hwynt ill
da’u, sef y gŵr o Israel, a’r wraig trwy ei cheudod. Ac ataliwyd y pla oddi wrth feibion
Israel.
º9 A bu feirw o’r pla bedair mil ar hugain.
º10A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
º11 Phinees nab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad, a drodd fy nicter oddi wrth
º176 friibion Israel, (pan eiddigeddodd efe drosof fi yn eu mysg,) fel na
ddifethais feibion Israel yn fy eiddigedd.
º12 Am hynny dywed, Wele fi yn rhoddi iddo
fy nghyfamod o heddwch.
º13 A bydd iddo ef, ac i’w had ar ei ôl ef, amod o offeiriadaeth dragwyddol; am
iddo eiddigeddu dros ei DDUW, a gwneuthur cymod dros feibion Israel.
º14 Ac enw y gŵr o Israel, yr hwn a laddwyd, sef yr hwn a laddwyd gyda’r
Fidianees, oedd Simri, mab Salu, pennaeth tŷ ei dad, o lwyth Simeon.
º15 Ac enw y wraig o Midian a laddwyd, oedd Cosbi, merch Sur: pencenedl o dy
mawr ym Midian oedd hwn.
º16 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,,
º17 Blina’r Midianiaid, a lleddwch hwynt:
º18 Canys blin ydynt amoch trwy eu dichellion a ddychmygasant i’ch erbyn, yn
achos Peor, ac yn achos Cosbi, merch tywysog Midian, eu chwaer hwynt, yr hon a
laddwyd yn nydd y pla, o achos Peor.
PENNOD 26
º1 ABU, wedi’r pla, lefaru o’r ARGLWYDD wrth Moses, ac wrth Eleasar mab
Aaron yr offeiriad, gan ddywedyd,
º2 Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel, o fab ugain mlwydd ac uchod,
trwy dŷ eu tadau, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel.
º3 A llefarodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrthynt yn rhosydd Moab, wrth yr
Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd,
º4 Rhifwch y bobl, o fab ugain mlwydd ac uchod; megis y gorchmynnodd yr
ARGLWYDD wrth Moses, a meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft.
.
º5 Reuben,
cyntaf-anedig Israel. Meibion Reuben; o Hanoch, tylwyth yr Hanochiaid: o Phalu,
tylwyth y Phaluiaid:
º6 O Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Carmi, tylwyth y Carmiaid.
º7 Dyma dylwyth y Rcubeniaid: a’u
rhifedigion oedd dair mil a deugain a saith cant a deg ar hugain.
º8 A meibion Phalu oedd El’i’ab.
º9 A meibion Eliab; Nemuel, a Dathan, ac Abiram. Dyma y Dathan ac Abu-am, rhai
enwog yn y gynulleidfa, y rhai a ymgynenasant yn erbyn Moses ac yn erbyn Aaron
yng nghynulleidfa Cora, pan ymgynenasant yn erbyn yr ARGLWYDD.
º10 Ac agorodd y ddaear ei safn, ac a’u llyncodd hwynt, a Cora hefyd, pan fu
farw y gynulleidfa, pan dd.ifaodd y tân ddengwr a deugain a dau cant: a hwy a
aethant yn arwydd.
º11 Ond meibion Cora ni buant feirw.
º12 S) Meibion Simeon, wrth eu tylwythau . O Nemuel, tylwyth y Nemueliaid: o
Jamin, tylwyth y Jaminiaid: o Jachin, tylwyth y Jachiniaid:
º13 O Sera, tylwyth y Serahiaid: o Saul, tylwyth y Sauliaid.
º14 Dyma dylwyth y Simeoniaid; dwy fil ar hugain a dau cant.
º15 Meibion Gad, wrth eu tylwythau. O Seffon, tylwyth y Seffoniaid: o Haggi,
tylwyth yr Haggiaid: o Suni, tylwyth y Sumaid:
º16 O Osni, tylwyth yr Osniaid: o Eri, tylwyth yr Eriaid:
º170 Arod, tylwyth yr Arodiaid: o Areli, tylwyth yr Areliaid.
º18 Dyma
deuluoedd meibion Gad, dan eu rhif; deugain mil a phum cant.
º19 Meibion Jwda oedd, Er ac Onan: a bu farw
Er ac Onan yn nhir Canaan.
º20 A meibion Jwda, wrth eu teuluoedd. O Sela, tylwyth y Selaniaid: o Phares,
tylwyth y Pharesiaid: o Sera, tylwyth y Serahiaid.
º21 A meibion Phares oedd; o Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Hamul, tylwyth yr
Hamuliaid.
º22 Dyma dylwyth Jwda, dan eu rhif, onid pedair mil pedwar ugain roil a phum
cant.
º23 Meibion Issachar, wrth eu tylwythau, oedd; o Tola, tylwyth y Tolaiaid: o
Pua, tylwyth y Puhiaid:
º24 O Jasub, tylwyth y Jasubiaid: o Simron, tylwyth y Simroniaid.
º25 Dyma deuluoedd Issachar, dan eu rhif; pedair mil a thrigain mil a thri
chant.
º26 Meibion Sabulon, wrth en teuluoedd oedd; o Sered, tylwyth y Sardiaid: o
Elon, tylwyth yr Eloniaid; o Jahleel, tylwyth y Jahleeliaid.
º27 Dyma
deuluoedd y Sabuloniaid, dan eu rhif; trigain mil a phum cant.
º28 Meibion Joseff, wrth eu teuluoedd, oedd;
Manasse ac Effraim.
º29 Meibion Manasse oedd; o Machir, tylwyth y Machiriaid: a Machir a genhedlodd
Gilead: o Gilead y mae tylwyth y Gileadiaid.
º30 Dyma feibion Gilead. O Jeeser, tylwyth Jeeseriaid: o Helec, tylwyth yt
Heleciaid:
º31 Ac o Asriel, tylwyth yr Asrieliaidi ac o Sechem, tylwyth y Sechemiaid:
º32 Ac o Semida, tylwyth y Semidiaid! ac o Heffer, tylwyth yr Hefferiaid.
º33 ff A Salffaad mab Heffer nid oedd iddo feibion, ond merched: ac enwau
merched Salffaad oedd, Mala, a Noa, Hogia, Milca, a Tirsa.
º34 Dyma dylwyth Manasse: a’u rhifedigion oedd ddeuddeng mil a deugain a saith
cant.
º35 Dyma feibion Effraim, wrth eu teuluoedd. O Suthela, tylwyth y Sutheliaid; o
Becher, tylwyth y Becheriaid: o Tahan, tylwyth y Tahaniaid.
º36 A dyma
feibion Suthela: o Eran, tylwyth yr Eraniaid.
º37 Dyma dylwyth meibion Effraim, ttwy eu
rhifedigion; deuddeng mil ar hugain a phum cant. Dyma feibion Joseff, wrth eu
teuluoedd.
º38 § Meibion Benjamin, wrth eu teuluoedd, oedd; o Bela, tylwyth y Belaiaidi o
Asbel, tylwyth yr Asbeliaid: o Ahiram, tylwyth yr Ahiramiaid:
º39 O Seffuffam, tylwyth y Seffuffamiaid: o Huffam, tylwyth yr Huffam-laid.
º40 A meibion Bela oedd, Ard a Naa-man: o Ard yr ydoedd tylwyth yr Ardiaid: o
Naaman, tylwyth y Naa-maniaid.
º41 Dyma feibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd: dan eu rhif yr oeddynt yn bum
mil a deugain a chwe chant.
º42 Dyma feibion Dan, yn ôl < i teuluoedd. O Suham, tylwyth y S’ -hamiaid.
Dyma dylwyth Dan, yn ôl i i teuluoedd.
º43 A holl dylwyth y Suhamiaid oed, yn ôl eu rhifedigion, bedair mil a thriga i
a phedwar cant.
º44Meibion Aser, wrth eu teuluoed, oedd; o Jimna, tylwyth y Jimniaid: ) Jesui,
tylwyth y Jesuiaid: o Bere i tylwyth y Bereiaid.
º45 O feibion Bereia, yr oedd; ) Heber, tylwyth yr Heberiaid: o Malcit, tylwyth
y Malcieliaid.
º46 Ac enw merch Aser ydoedd Sara.
º47 Dyma deuluoedd meibion Aser, yn ôl eu rhifedigion; tair mil ar ddeg a
deugain a phedwar cant.
º48 Meibion Nafftali, wrth eu
teuluoedd, oedd; o Jahseel, tylwyth y Jahr seeliaid: o Guni, tylwyth y Guniaid:
‘
º49 O Jeser, tylwyth y Jeseriaid: o Silem, tylwyth y Silemiaid.
º50 Dyma dylwyth Nafftali, yn ôl eu teuluoedd, dan eu rhif; pum mil a deugain a
phedwar cant. ‘51 Dyma rifedigion meibion Israel; chwe chan mil, a mil saith
gant a deg ar bugain.
º52 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
º53 I’r rhai hyn y rhennir y tir yn Btifeddiaeth, yn ôl rhifedi yr enwau. ‘
º54 I lawer y chwanegi yr etifeddiaethj ac i ychydig prinha yr etifeddiaeth:
rhodder i bob un ei etifeddiaeth yn ôl ei rifedigion.
º55 Eto wrth goelbren y rhennir y tir: wrth enwau llwythau eu tadau yr
etifeddant.
º56 Wrth fam y coelbren y rhennir ei etifeddiaeth, rhwng llawer ac ychydig.
º57 A dyma
rifedigion y Lefiaid, wrth eu teuluoedd. O Gerson, tylwyth y Gersoniaid: o
Cohath, tylwyth y Cohathiaid: o Merari, tylwyth y Merariaid.
º58 Dyma dylwythau y Lefiaid. Tylwyth y Libniaid, tyiwyfcyr Hebroniaid» tylwyth
y Mahliaid, tylwyth y Musiaid, tylwyth y Corathiaid: Cohath hefyd a jgenhedlodd
Amram.
º59 Ac enw gwraig Amram oedd Joche-jbed,
merch Lefi, yr hon a aned i Lefi yn Syr Aifft: a hi a ddug i Amram, Aaron a
iMoses, a Miriam eu chwaer hwynt.
º60 A ganed i Aaron, Nadab ac Abihuj Eleasar ac Ithamar. ‘
º61 A bu farw Nadab ac Abihu, pan offrymasant dan dieithr gerbron yr ARGLWYDD.
º62 A’u rhifedigion oedd dair mil ar hugain; sef pob gwryw o fab misyriad ac
uchod: canys ni chyfrifwyd hwyn < ymysg meibion Israel, am na roddwyd iddynt
etifeddiaeth ymhUth meibtoa Israel.
º63 Dyma rifedigion Moses ac Eleasae yr offeiriad, y rhai a rifasant feibion.
Israel yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.
º64 Ac yn y rhai hyn nid oedd un o rifedigion Moses ac Aaron yr offeiriad,. pan
rifasant feibion Israel yn anialwch Sinai.
º65 Canys dywedasai yr ARGLWYDD amdanynt, Gan farw y byddant feirw yn yr
anialwch. Ac ni adawsid ohonynt un, ond Caleb mab Jeffunne, a Josua mab Nun.
PENNOD 27
º1 J "VNA y daeth merched Salffaad, mab Heffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse, o dylwyth Manasse
mab Joseff; (a dyma enwau ei ferched ef; Mala, Noa, Hogia, Miica, a Tirsa;)
º2 Ac a safasant gerbron Moses, a cherbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron y
penaethiaid, a’r holl gynulleidfa, wrth. ddrws pabell y cyfarfod, gan ddywedyd,
º3 Ein tad ni a fu farw yn yr anialwch, ac nid oedd efe ymysg y gynulleidfa a
ymgasglodd yn erbyn yr ARGLWYDD yng’ nghynulleidfa Cora, ond yn el bechod ei
hun y bu farw; ac nid oedd meibion iddo.
º4 Paham y tynmr ymaith unw ein tad ni o fysg ei dylwyth, am nad oes iddo fab?
Dod i ni feddiant ymysg brodyr ein tad.
º5 A dug Moses eu hawl hwynt gert»oa yr ARGLWYDD.
º6 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
º7 Y mae merched Salffaad yn dywedyd yn uniawn; gan roddi dyro iddynt feddiant
etifeddiaeth ymysg brodyr eu tad; trosa iddynt etifeddiaeth eu tad.
º8 Llefara
hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd. Pan fyddo marw un, ac heb fab iddo,
troswch ei etifeddiaeth ef i’w ferch.
º9 Ac oni bydd merch iddo, rhoddwch ei
etifeddiaeth ef i’w frodyr.
º10 Ac oni bydd brodyr iddo; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i frodyr ei dad.
º11 Ac oni bydd brodyr i’w dad; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i’w gar nesaf
iddo o’i dylwyth; a meddianned hwnnw hi: a bydded hyn i feibion Israel yn
ddeddf farnedig, megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.
º12 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Drmg i’r mynydd Abarim hwn, a gwêl y tir
a roddais i feibion Israel.
º13 Ac wedi i ti ei weled, tithau a gesglir at dy bobl, fel y casglwyd Aaron dy
frawd.
º14 Canys yn anialwch Sin, wrth gynnen y gynulleidfa, y gwrthryfelasoch yn
erbyn fy ngair, i’m sancteiddio wrth y dwfr yn eu golwg hwynt: dyma ddwfr
cynnen Cades, yn anialwch Sin.
º15 tl A llefarodd Moses wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,
º16 Gosoded yr ARGLWYDD, Duw ysbrydion pob cnawd, un ar y gynulleidfa,
º17 Yr hwn a elo allan o’u blaen hwynt,. ac a ddelo i mewn o’u blaen hwynt, a’r
hwn a’u dygo hwynt allan, ac a’u dygo hwynt i mewn; fel na byddo cynulleidfa’r
ARGLWYDD fel defaid ni byddo bugail arnynt.
º18 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cymer atat Josua mab Nun, y gŵr y
mae yr ysbryd ynddo, a gosod dy law arno,
º179
º19 A dod ei i sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron yr holl gynulleidfa;
a dod orchymyn iddo ef yn eu gŵydd hwynt.
º20 A dod o’th
ogoniant di arno ef, fel y gwrandawo holl gynulleidfa meibion Israel arno.
º21 A safed gerbron Eleasar yr offeiriad, yr hwn a ofyn gyngor drosto ef, yn ôl
barn Urim, gerbron yr ARGLWYDD l wrth ei air ef yr ânt allan, ac wrth ei air ef
y deuant i mewn, efe a holl feibion Israel gydag ef, a’r holl gynulleidfa.
º22 A gwnaeth Moses megis y gorchi mynnodd yr ARGLWYDD iddo: ac a gymerodd
Josua, ac a barodd iddo sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron yr holl
gynulleidfa. "
º23 Ac efe a osododd ei ddwylo arno, a6 a roddodd orchymyn iddo; megis y
llefarasai yr ARGLWYDD trwy law Moses.
PENNOD 28
º1 ALLEFARODD yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd, ‘
º2 Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliwch am offrymu i mi fy
offrwm, a’m bara i’m hebyrth tanllyd, a arogl peraidd yn eu tymor.
º3 A dywed wrthynt, Dyma yr aberth tanllyd a
offrymwch i’r ARGLWYDD. Dau oen blwyddiaid perffaith-gwbl, bob dydd, yn
boethoffrwm gwastadol.
º4 Un oen a offrymi di y bore, a’r oen arall a offrymi di yn yr hwyr;
º5 A degfed ran effa o beilliaid yn fwyd-offrwm, wedi ei gymysgu trwy bedwaredd
ran hin o olew coethedig.
º6 Dyma y poethoffrwm gwastadol a wnaed ym mynydd Sinai, yn arogl peraidd, yn
aberth tanllyd i’r ARGLWYDD.
º7 A’i ddiod-offrwm fydd bedwaredd ran hin gyda phob oen: pâr dywallt y ddiod
gref yn ddiod-offrwm i’r ARGLWYDD, yn y cysegr.
º8 Yr ail oen a offrymi yn yr hwyr: megis bwyd-offrwrn y bore, a’i
ddiod-offrwm, yr offrymi ef, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD.
º9 Ac ar y dydd Saboth, dau oen biwyddiaid, perffaith-gwbl, a dwy ddegfed ran o
beilliaid yn fwyd-offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, a’i ddiod-offrwm.
º10 Dyma boethoffrwm pob Saboth, heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i
ddiod-offrwm.
º11 Ac ar ddechrau eich misoedd y( offrymwcb, yn boethoffrwm i’r ARGLWYDD, ddau
o fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid, perffaith-gwbl;
º12 A thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd-offrwm, wedi ei gymysgu trws olew,
gyda phob bustach; a dwy ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd-offrwm, wedi ei
gymysgu trwy olew, gyda phob hwrdd;
º13 A phob yn ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd-offrwm, wedi ei gymysgu trwy
olew, gyda phob oen, yn offrwm poeth o arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r
ARGLWYDD.
º14 A’u diod-offrwm fydd hanner hin gyda bustach, a thrydedd ran hin gyda
hwrdd, a phedwaredd ran hin o win gydag oen. Dyma boethoffrwm mis yn ei fis,
trwy fisoedd y flwyddyn.
º15 Ac un bwch geifr fydd yn bech-aberth i’r ARGLWYDD : heblaw y gwastadol
boethoffrwm yr offrymir ef, a’i ddiod-offrwm.
º16 Ac yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, y bydd Pasg yr
ARGLWYDD.
º17 Ac ar y pymthegfed dydd o’r mis hwn y bydd yr wyl; saith niwmod bwyteir
bara croyw.
º18 Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd: na wnewch ddim caethwaith ynddo.
º19 Ond offrymwch yn aberth tanllyd, ac yn boethoffrwm i’r ARGLWYDD, ddau o
fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid: byddant’ gennych yn
berffaith-gwbl.
º20 Eu bwyd-offrwrn hefyd fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew: tair
degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd, a offrymwch chwi;
º21 Bob yn ddegfed ran yr otfrymwch gyda phob oen, o’r saith oen: i8o
º22 Ac un bwch yn bech-aberth, i wneuthur cymod drosoch.
º23 Heblaw poethoffrwm y bore, yr hwn sydd boethoffrwm gwastadol, yr offrymwch
hyn.
º24 Fel hyn yr offrymwch ar bob dydd o’r saith niwrnod, fwyd-aberth tanllyd, o
arogl peraidd i’r ARGLWYDD: heblaw y poethoffrwm gwastadol yr offrymir ef, a’i
ddiod-offrwm.
º25 Ac ar y seithfed dydd cymanfa ynctaidd fydd i chwi: dim caethwaith is
gwnewch. ‘j26 Ac ar ddydd eich blaenffrwythau, gan offrymoch fwyd-offrwm newydd
i’r ARGLWYDD, wedi eich wythnosau, cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith
nis gwnewch.,1
º27 Ond offrymwch ddau fustach ieuainc, un hwrdd, a saith oen blwyddiaid, yn
boethoffrwm, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD.
º28 A bydded eu bwyd-offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed
ran gyda phob bustach, dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd;
º29 Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen:
º30 Un bwch geifr, i wneuthur cymod drosoch.
º31 Heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, yr offrymwch hyn, (byddant
gennych yn berffaith-gwbl,) ynghyd â’u diod-offrwm. „
PENNOD 29
º1 A yn y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y bydd i chwi gymanfa
sanctaidd; dim caethwaith nis gwnewch: dydd i ganu utgyrn fydd efe i chwi.
º2 Ac offrymwch offrwm poeth yn arogl peraidd i’r ARGLWYDD; un bustach ieuanc,
un hwrdd, saith o wyn blwyddiaid, perffaith-gwbl:
º3 A’u bwyd-offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair dcgled ran gyda
bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd;
º4 Ac un ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen:
º5 Ac un bwch geifr yn bech-aberth, i wneuthur cymod drosoch:
º6 Heblaw poethoffrwm y mis, a’i fwyd-offrwm, a’r poethoffrwm gwastadol, a’i
fwyd-offrwm, a’u diod-offrwm hwynt, wrth eu defod hwynt, yn arogl peraidd, yn
aberth tanllyd i’r ARGLWYDD.
º7 § Ac ar y degfed dydd o’r seithfed mis hwn cymanfa sanctaidd fydd i chwi:
yna cystuddiwch eich eneidiau: dim gwaith nis gwnewch ynddo.
º8 Ond offrymwch boethoffrwm i’r ARGLWYDD, yn arogl peraidd, un bustach ieuanc,
un hwrdd, saith oen blwyddiaid: byddant berffaith-gwbl gennych.
º9 A’u bwyd-offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, tair degfed ran
gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd;
º10 Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen:
º11 Un bwch geifr yn bech-aberth; heblaw pechaberth y cymod, a’r poethoffrwm
gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’u diod-offrymau.
º12Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis, cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim
caethwaith nis gwnewch; eithr cedwch ŵyl i’r ARGLWYDD saith niwrnod.
º13 Ac offrymwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD;
tri ar ddeg o fustych ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o wyn blwyddiaid:
byddant berffaith-gwbl.
º14 A’u bwyd-offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran
gyda phob bustach, o’r tri bustach ar ddeg; dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd,
o’r ddau hwrdd;
º15 A phob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r pedwar oen ar ddeg:
º16 Ac un bwch geifr yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei
fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.
º17 S[ Ac ar yr ail ddydd yr offrymwch ddcuddeng mustach ieuainc, dau hwrdd,
pedwar ar ddeg o wyn blwyddiaid, perffaith-gwbl.
º18 A’u bwyd-offrwm,, a’u diod-offrwm,
º181
gyda’r bustych, gyda’r
hyrddod, a chyda’r wyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:
º19 Ac un bwch geifr, yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i
fwyd-offrwm a’u diod-offrymau.
º20 Ac ar y trydydd dydd, un bustach Sr ddeg, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o wyn
blwyddiaid, perffaith-gwbl: .
º21 A’u bwyd-offrwm, a’u
diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a ehyda’r wyn, fydd yn ôl eu
rhifedi, wrth y ddefod:
º22 Ac un bwch geifr yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i
fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.
º23 Ac ar y pedwerydd dydd, deng mustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o wyn
blwyddiaid, perffaith-gwbl:
º24 Eu bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r
wyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:
º25 Ac un bwch geifr yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei
fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.
º36 Ac ar y pumed dydd, naw bustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o wyn
blwyddiaid, perffaith-gwbl.
º27 A’u bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r
wyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod;
º28 Ac un bwch yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i
fwyd-offrwrn, a’i ddiod-offrwm.
º29 Ac ar y chweched dydd, wyth o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o wyn
blwyddiaid, perffaith-gwbl.
º30 A’u bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r
wyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:
º31 Ac un bwch yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm,
a’i ddiod-offrwm.
º32 Ac ar y scithfed dydd, saith o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o wyn
blwyddiaid, perffaith-gwbl.
º33 A’a bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r
wyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth eu defod:
º34 Ac un bwch yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm,
a’i ddiod-offrwm.
º35 Ar yr wythfed dydd, uchel ŵyl fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch
ynddo.
º36 Ond offrymwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD;
un bustach, un hwrdd, saith o wyn blwyddiaid, perffaith-gwbl.
º37 Eu bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustach, a chyda’r hwrdd, a chyda’r
wyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:
º38 Ac un bwch yn bech-aberth: heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm,
a’i ddiod-offrwm.
º39 Hyn a wnewch i’r ARGLWYDD ar eich gwyliau; heblaw eich addunedau, a’ch
offrymau gwirfodd, gyda’ch offrymau poeth, a’ch offrymau bwyd, a’ch offrymau
diod, a’ch offrymau hedd.
º40 A dywedodd Moses wrth feibion Israel yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr
ARGLWYDD wrth Moses.
PENNOD 3
º10 ALLEFARODD Moses wrth benaethiaid llwythau meibion Israel, gan
ddywedyd, Dyma’r peth a orchmynnodd yr ARGLWYDD.
º2 Os adduneda gŵr adduned i’r ARGLWYDD, neu dyngu llw, gan rwymo
rhwymedigaeth ar ei enaid ei hun; na haloged ei air: gwnaed yn ôl yr hyn oll a
ddêl allan o’i enau.
º3 Ac os adduneda benyw adduned i’r ARGLWYDD, a’i rhwymo ei hun a rhwymedigaeth
yn nhy ei thad, yn ei hieuenctid;
º4 A chlywed o’i thad ei hadduned, a’i rhwymedigaeth yr hwn a rwymodd hi ar ei
henaid, a thewi o’i thad wrthi: yna safed ei holl addunedau; a phob rhwymedigaeth
a rwymodd hi ar ei henaid, a saif.
º5 Ond os ei thad a bair iddi dorri, ar y dydd y clywo efe; o’i holl addunedau,
a’i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, ni saif un: a rnaddau yr
ARGLWYDD iddi, o achos mai ei thad a barodd iddi dorri.
º6 Ac os hi oedd yn eiddo gŵr, pan addunedodd, neu pan lefarodd o’i
gwefusau beth a rwymo ei henaid hi;
º7 A chlywed o’i gŵr, a thewi wrthi y dydd y clywo: yna safed ei
haddunedau; a’i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, a safant.
º8 Ond os ei gŵr, ar y dydd y clywo, a bair iddi dorri; efe a ddiddyma ei
hadduned yr hwn fydd arni, a thraethiad ei gwefusau yr hwn a rwymodd hi ar ei
henaid: a’r ARGLWYDD a faddau iddi.
º9 Ond adduned y weddw, a’r ysgaredig, yr hyn oll a rwymo hi ar ei henaid, a
saif arni.
º10 Ond os yn nhy ei gŵr yr addunedodd, neu y rhwymodd hi rwymedigaeth ar
ei henaid trwy lw;
º11 A chlywed o’i gŵr, a thewi wrthi, heb beri iddi dorri: yna safed ei
holl addunedau; a phob rhwym a rwymodd hi ar ei henaid, a saif.
º12 Ond os ei gŵr gan ddiddymu a’u diddyma hwynt y dydd y clywo; ni saif
dim a ddaeth allan o’i gwefusau, o’i haddunedau, ac o rwymedigaeth ei henaid:
ei gŵr a’u diddymodd hwynt; a’r ARGLWYDD a faddau iddi.
º13 Pob adduned, a phob rhwymedig aeth llw i gystuddio’r enaid, ei gŵr a’i
cadarnha, a’i gŵr a’i diddyma.
º14 Ac os ei gŵr gan dewi a dau wrthi o ddydd i ddydd; yna y cadarnhaodd
efe ei holl addunedau, neu ei holl rwymedigaethau y rhai oedd aml: cadarnhaodd
hwynt, pan dawodd wrthi, y dydd y clybu efe hwynt.
º15 Ac os efe gan ddiddymu a’u diddyma hwynt wedi iddo glywed; yna efe a ddwg
ei hanwiredd hi.
º16 Dyma y deddfau a orchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses, rhwng gŵr a’i
wraig, a rhwng tad a’i icrch, yn ei hieuenctid yn nhy ei thad.
PENNOD 31
º1 A LLEFARODD yr ARGLWYDD wrth i Moses, gan ddywedyd,
º2 Dial feibion Israel ar y Midianiaids wedi hynny ti a gesglir at dy bobl.
º3 A llefarodd Moses wrth y bobl, gait ddywedyd, Arfogwch ohonoch wŷr i’r
rhyfel, ac ânt yn erbyn Midian, i roddi dial yr ARGLWYDD ar Midian.
º4 Mil o bob
llwyth, o holl lwythau Israel, a anfonwch i’r rhyfel.
º5 A rhoddasant o filoedd Israel fil o bob llwyth, sef deuddeng mil, o rai wedi
en harfogi i’r rhyfel.
º6 Ac anfonodd Moses hwynt i’r rhyfel, mil o bob llwyth: hwynt a Phinees mate
Eleasar yr offeiriad, a anfonodd efe i’r rhyfel, a dodrefn y cysegr, a’r utgyin
i utganu yn ei law.
º7 A hwy a ryfelasant yn erbyn Midian, megis
y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses; ac a laddasant bob gwryw.
º8 Brenhinoedd Midian hefyd a laddasant hwy, gyda’u lladdedigion eraill: sef En,
a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, pum brenin Midian: Balaam hefyd mab Beor a
laddasant hwy a’r cleddyf.
º9 Meibion Israel a ddaliasant hefyd yn garcharorion wragedd Midian, a’u plant;
ac a ysbeiliasant eu holl anifeiliaid hwynt, a’u holl dda hwynt, a’u holl olud
hwynt.
º10 Eu holl ddinasoedd hefyd trwy eu trigfannau, a’u holl dyrau, a losgasant â
thân.
º11 A chymerasant yr holl ysbail, a’r holl gaffaeliad, o ddyn ac o anifail.
º12 Ac a ddygasant at Moses, ac at Eleasar yr offeiriad, ac at gynulleidfa
meibion Israel, y carcharorion, a’t caffaeliad, a’r ysbail, i’r gwersyll, yn
rhosydd Moab, y rhai ydynt wrth y» lorddonen, ar gyfer Jericho.
º13 Sl Yna Moses ac Eleasar yr offeiriad, a holl benaduriaid y gynulleidfa, a
aethant i’w cyfarfod hwynt o’r tu allan i’r gwersyll.
º14 A digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin, capteiniaid y miloedd, a chap
teiniaid y cannoedd, y rhai
a ddaethant o frwydr y rhyfel. :
º15 A dywedodd Moses wrthynt, A adawsoch chwi bob benyw yn fyw?
º16 Wele, hwynt, trwy air Balaam, a barasant i feibion Israel wneuthur camwedd
yn erbyn yr ARGLWYDD yn achos Peor; a bu pla yng nghynulleidfa yr ARGLWYDD.
º17 Am hynny lleddwch yn awr bob gwryw o blentyn; a lleddwch bob benyw a fu
iddi a wnaeth a gŵr, trwy orwedd gydag ef.
º18 A phob plentyn o’r benywaid y rhai ni bu iddynt a wnaelhant a gŵr,
cedweh yn fyw i chwi.
º19 Ac arhoswch chwithau o’r tu allan, i’r gwersyll saith niwrnod: pob un a
laddodd ddyn, a phob un a gyffyrddodd wrth laddedig, ymlanhewch y trydydd dydd,
a’r seithfed dydd, chwi a’ch carcharorion.
º20 Pob gwisg hefyd, a phob dodrefnyn eroen, a phob gwaith o flew geifr, a phob
llestr pren, a lanhewch chwi.
º21 A dywedodd Eleasar yr offeiriad wrth y rhyfelwyr y rhai a aethant i’r
rhyfel, Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses:,
º22 Yn unig yr aur, a’r arian, y pres, yr haearn, yr alcam, a’r plwm;
º23 Pob dim a ddioddefo dan, a dynnwch trwy’r tan, a glan fydd; ac eto efe a
lanheir a’r dwfr neilltuaeth: a’r hyn oll ni ddioddefo dan, tynnwch trwy y dwfr
yn unig.
º24 A golchwch eich gwisgoedd ar y seithfed dydd, a glan fyddwch; ac wedi hynny
deuwch i’r gwersyll.
º25 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
º26 Cymer niter yr ysbail a gaed, o ddyn ac o anifail, ti ac Eleasar yr
offeiriad,, a phennau-cenedl y gynulleidfa:
º37 A rhanna’r catfaeliad yn ddwy ran; shwng y rhyfelwyr a aethant i’r
filwriaeth, a’r holl gynulleidfa.
º28 A chyfod deyrnged i’r ARGLWYDD-gan y rhyfelwyr y rhai a aethant allan i’r
filwriaethi un enaid o bob pum cant o’r dynion, ac o’r eidionau, ac o’r
asynnod, ac o’r defaid.
º29 Cymerwch hyn o’u hanner hwynt, a dyro i Eleasar yr offeiriad, yn
ddyrchafael-offrwm yr ARGLWYDD.
º30 Ac o hanner meibion Israel y cymeri un rhan o bob deg a deugain, o’r
dynion, o’r eidionau, o’r asynnod, ac o’r defaid, ac o bob anifail, a dod hwynt
i’r Lefiaid, y rhai ydynt yn cadw cadwraeth tabernacl yr ARGLWYDD.
º31 A gwnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD
wrth Moses.
º32 A’r caffaeliad, sef gweddill yr ysbail yr hon a ddygasai pobl y filwriaeth,
oedd chwe chan mil a phymtheg a thrigain o filoedd o ddefaid,
º33 A deuddeg a thrigain mil o eidionau,
º34 Ac un fil a thrigain o asynnod,
º35 Ac o ddynion, o fenywaid ni buasai iddynt a wnaethant a gŵr, trwy
orwedd gydag ef, ddeuddeng mil ar hugain o eneidiau.
º36 A’r hanner, sef rhan y rhai a aethant i’r rhyfel, oedd, o, rifedi defaid,
dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phum cant;
º37 A theyrnged yr ARGLWYDD o’r defaid oedd chwe chant a phymtheg a thrigain.
º38 A’r eidionau oedd un fil ar bymtheg ar hugain; a’u teyrnged i’r ARGLWYDD
oedd ddeuddeg a thrigain.
º39 A’r asynnod oedd ddeng mil ar hugain a phum cant; a’u teyrnged i’r ARGLWYDD
oedd un a thrigain.
º40 A’r dynion oedd un fil ar bymtheg; a’u teyrnged i’r ARGLWYDD oedd ddeuddeg
enaid ar hugain.
º41 A Moses a roddodd deyrnged offrwm dyrchafael yr ARGLWYDD i Eleasar yr
offeiriad, megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.,
º42 Ac o ran meibion Israel, yr hon a ranasai Moses oddi wrth y milwyr,
º43 Sef rhan y gynulleidfa o’r defaid, oedd dri chan mil a dwy ar bymtheg ar
hugain o filoedd, a phum cant;
º44 Ac o’r eidionau, un fil ar bymtheg ar hugain;
º184 j 45 Ac o’r asynnod, deng mil ar hugain a phum cant;
º46 Ac o’r dynion, un fil ar bymtheg.
º47 Ie, cymerodd Moses o hanner meibion Israel, un rhan o bob deg a deugain,
o’r dynion, ac o’r anifeiliaid, ac a’u rhoddes hwynt i’r Lefiaid oedd yn cadw
padwraeth tabernacl yr ARGLWYDD ; megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
º48 A’r swyddogion, y rhai oedd
ar filoedd y llu, a ddaethant at Moses, sef capteiniaid y miloedd a
chapteiniaid y fcannoedd:
º49 A dywedasant wrth Moses, Dy weision a gymerasant nifer y gwŷr o ryfel
a roddaist dan ein dwylo ni; ac nid oes ŵr yn eisiau ohonom. "
º50 Am hynny yr ydym yn onrymu offrwm i’r ARGLWYDD, pob un yr hyn a gafodd, yn
offerynnau aur, yn gadwynau, yn freichledau, yn fodrwyau, yn glust-lysau, ac yn
dorchau, i wneuthur cymod dros ein heneidiau gerbron yr ARGLWYDD.
º51 A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur ganddynt, y dodrefn
gweithgar oll.
º52 Ac yr ydoedd holl aur yr offrwm dyrchafael, yr hwn a offrymasant i’r
ARGLWYDD, oddi wrth gapteiniaid y miloedd, ac oddi wrth gapteiniaid y cannoedd,
yn un fil ar bymtheg saith gant a deg a deugain o siclau.
º53
(Ysbeiliasai y gwŷr o ryfel bob un iddo ei hun.)
º54 A chyrnerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur gan gapteiniaid y miloedd
a’r cannoedd, ac a’i dygasant i babell y cyfarfod, yn goffadwriaeth dros
feibion Israel gerbron yr ARGLWYDD.
PENNOD 32
º1 A yr ydoedd anifeiliaid lawer i feibion Reuben, a llawer iawn i feibion
Gad: a gwelsant dir Jaser, â thir Gilead; ac wele y lle yn lle da i
anifeiliaid.
º2 A meibion Gad a meibion Rcubcn a ddaethant, ac a ddywedasant wrth Moses, ac
wrth Eleasar yr oifeiriad, ac wrth benaduriaid y gynulleidfa, gan ddywedyd,
º3 Atoroth, a Dibon, a Jaser, a Nimra, a Hesbon, ac Eleale, a Sebam, a Nebo, a
Beon,
º4 Sef y tir a drawodd yr ARGLWYDD o flaen cynulleidfa Israel, tir i
anifeiliaid yw efe; ac y mae i’th weision anifeiliaid.
º5 A dywedasant, Os cawsom ffafr yn dŷ olwg, rhodder y tir hwn i’th
weision yn feddiant: na phar i ni fyned dros yr Iorddonen.
º6 A dywedodd Moses wrth feibion Gad, ac
wrth feibion Reuben, A a eich brodyr i’r rhyfel, ac a eisteddwch chwithau yma?
º7 A phaham y digalonnwch feibion Israel rhag myned trosodd i’r tir a roddodd
yr ARGLWYDD iddynt?
º8 Felly y gwnaeth eich tadau, pan anfonais hwynt o Cades-Barnea i edrych y
tir.
º9 Canys aethant i fyny hyd ddyffryn Escol, a gwelsant y tir; a digalonasant
feibion Israel rhag myned i’r tir a roddasai yr ARGLWYDD iddynt.
º10 Ac enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD y dydd hwnnw; ac efe a dyngodd, gan
ddywedyd,
º11 Diau na chaiff yr un o’r dynion a ddaethant i fyny o’r Aifft, o fab ugain
mlwydd ac uchod, weled y tir a addewais trwy lw i Abraham, i Isaac, ac i Jacob:
am na chyflawnasant wneuthur ar fy ôl i:
º12 Ond Caleb mab Jeffunne y Cenesiad, a Josua mab Nun; canys cyflawnasant
wneuthur ar ôl yr ARGLWYDD.
º13 Ac enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn Israel; a gwnaeth iddynt
grwydro yn yr anialwch ddeugain mlynedd, nes darfod yr holl oes a wnaethai
ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD.
º14 Ac wcle, chwi a godasoch yn lle eich tadau, yn gynnyrch dynion pechadurus,
i chwancgu ar angerdd llid yr ARGLWYDD wrth Israel.
º15 Os dychwelwch oddi ar ei ôl ef; yna efe a ad y bobl eto yn yr anialwch, a
chwi a ddinistriwch yr holl bobl hyn.
º16 (f A hwy a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Corlannau defaid a adeiladwn
ni yma i’n hanifeiliaid, a dinasoedd i’n plant.
º185
º1’7 A ni a ymarfogwn yn fuan o flaen meibion Israel, hyd oni ddygom hwynt i’w
lle eu hun; a’n plant a arhosant yn y dinasoedd caerog, rhag trigolion y til.
º18 Ni
ddychwelwn ni i’n tai, nes "i feibion Israel berchenogi bob un ei
etifeddiaeth.
º19 Hefyd nid etifeddwn ni gyda hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ac oddi yno
allan; am ddyfod ein hetifeddiaeth i ni o’r tu yma i’r Iorddonen, tua’r dwyrain.
º20 A dywedodd Moses wrthynt, Os gwnewch y peth hyn, os ymarfogwch i’r rhyfel o
flaen yr ARGLWYDD,
º21 Os a pob un ohonoch dros yr Iorddonen yn arfog o flaen yr ARGLWYDD, nes
iddo yrru ymaith ei elynion o’i flaen, ‘
º22 A darostwng y wlad o flaen yr ARGLWYDD; yna wedi hynny y cewch ddychwelyd,
ac y byddwch dieuog gerbron yr ARGLWYDD, a cherbron Israel; a bydd y tir hwn yn
etifeddiaeth i chwi o flaen yr ARGLWYDD.
º33 Ond os chwi ni wna fel hyn; wele, pechu yr ydych yn erbyn yr ARGLWYDD : a
gwybyddwch y goddiwedda eich pechod chwi. : 24 Adeiledwch i chwi ddinasoedd
i’ch plant, a chorlannau i’ch defaid; a gwnewch yr hyn a ddaeth allan o’ch
genau. . 25 A llefarodd meibion Gad a
meibion Reuben wrth Moses, gan ddywedyd, Dy weision a wnant megis y mae fy
arglwydd yn gorchymyn.
º26 Ein plant, ein gwragedd, ein hanifeiliaid, a’n holl ysgrubliaid, fyddant
yma yn ninasoedd Gilead.
º27 A’th weision a ânt drosodd o flaen yr ARGLWYDD i’r rhyfel, pob un yn arfog
i’r filwriaeth, megis y mae fy arglwydd yn llefaru.
º28 A gorchmynnodd Moses i Eleasat yr offeiriad, ac i Josua mab Nun, ac i
bennau-cenedl llwythau meibion Israel, o’u plegid hwynt:
º29 A dywedodd Moses wrthynt, Os meibion Gad a meibion Reuben a ânt dros yr
Iorddonen gyda chwi, pob un yn arfog i’r rhyfel o Haen yr ARGLWYDD, a darostwng
y wlad o’ch blaen; yna rhoddwch iddynt wlad Gilead yn berchenog- aeth:
º30 Ac onid ânt drosodd gyda chwi yn arfogion, cymerant eu hetifeddiaeth yn
eich mysg chwi yng ngwlad Canaan.
º31 A meibion Gad a meibion Reuben a atebasant, gan ddywedyd, Fel y llefarodd
yr ARGLWYDD wrth dy weision, felly y gwnawn ni.
º32 Nyni a awn drosodd i dir Canaan yn arfogion o flaen yr ARGLWYDD, fel y
byddo meddiant ein hetifeddiaeth o’r tu yma i’r Iorddonen gennym ni.
º33 A rhoddodd Moses iddynt, sefi feibion Gad, ac i feibion Reuben, ac i
hanner llwyth Manasse mab Joseff, frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, a
brenhiniaeth Og brenin Basan, y wlad a’i dinasoedd ar hyd y terfynau, sef
dinasoedd y wlad oddi amgylch.
º34 A meibion Gad a adeiladasant Dibon, ac Ataroth, ac Aroer, ‘.
º35 Ac Atroth, Soffan, a Jaaser,
a Jog- bea,
º36 A Beth-nimra, a Beth-haran, dinaseedd caerog; a chorlannau defaid.
º37 A meibion Reuben a adeiladasant Hesbon, Eleale, a Chiriathaim; "
º38 Nebo hefyd, a Baal-meon,
(wedi troi eu henwau,) a Sibma: ac a enwasant enwau ar y dinasoedd a
adeiladasant. –
º39 A meibion Machir mab Manasse
a aethant i Gilead, ac a’i henillasant hi, ac a yrasant ymaith yr Amoriaid oedd
ynddi.
º40 A rhoddodd Moses Gilead i Machir mab Manasse; ac efe a drigodd ynddi.
º41 Ac aeth Jair mab Manasse, ac a enillodd eu pentrefydd hwynt, ac a’u galwodd
hwynt Hafoth-Jair.
º42 Ac aeth Noba, ac a enillodd Cenath a’i phentrefydd, ac a’i galwodd ar ei
enw ei hun, Noba.
PENNOD 33
º1 DYMA
deithiau meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft, yn eu
lluoedd, dan law Moses ac Aaron.
º2 A Moses a ysgrifennodd eu mynediad hwynt allan’ yn ôl so. teithiau, wrth
orchy- yn yr ARGLWYDD: a dyma eu teithiau hwynt yn eu mynediad allan.
º3 A hwy a gychwynasant o Rameses yn y mis cyntaf, ar y pymthegfed dydd o’r mis
cyntaf: trannoeth wedi’r Pasg yr aeth meibion Israel allan a llaw uchet yng
ngolwg yr Eifftiaid oll.
º4 (A’r Eifftiaid oedd yn claddu pob cyntaf-anedig, y rhai a laddasai yr
ARGLWYDD yn eu mysg; a gwnaethai yr ARGLWYDD farn yn erbyn eu duwiau hwynt
hefyd.)
º5 A meibion Israel a gychwynasant o
Rameses, ac a wersyllasant yn Succoth.
º6 A chychwynasant o Succoth, a gwersyllasant yn Etham, yr hon sydd yog nghwr
yr anialwch. »
º7 A chychwynasant o Etham, a throesant drachefn i Pi-hahiroth, yr hon sydd ct
flaen Baal-Seffon; ac a wersyllasant o flaen Migdol.
º8 A chychwynasant o Pi-hahiroth, ac a aethant trwy ganol y mor i’r aniatwch, a
cherddasant daith tri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersyllasant ym Mara.
º9 A chychwynasant o Mara, a daethant i Elim; ac yn Elim yr ydoedd deuddeg o
ffynhonnau dwfr, a deg a thrigain o balmwydd; a gwersyllasant yno.
º10 A chychwynasant o Elim, a gwersyllasant wrth y mor coch.
º11 A chychwynasant oddi wrth y mor coch, a gwersyllasant yn anialwch Sin.
º12 Ac o anialwch Sin y cychwynasant, ac y gwersyllasant yn Doffca.
º13 A chychwynasant o Doffca, a gwersyllasant yn Alus.
º14 A chsshwynasant o Alus, a gwersyllasant yn Rcffidim, lle nid oedd dwfr i’r
bobl i’w yfed.
º15 A chychwynasant o Reffidim, a gwersyllasant yn anialwch Sinai.
º16 A chychwynasant o anialwch Sinai, a gwersyllasant yn Cibroth-Hattaafa.
º17 A chychwynasant o Cibroth-Hattaafa, a gwersyllasant yn Hascroth.
º18 A chychwynasant o Haseroth, a gwersyllasant yn; Rithma.
º187
º19 A chychwynasant o Rithnia» a gwersyllasant yn Rimmon-Pares.
º20 A chychwynasant o Rimmon-Pares, a gwersyllasant yn Libna.
º21 A chychwynasant o Libna, a gwersyllasant yn Rissa.
º22 A chychwynasant o Rissa, a gwersyllasant yn Cehelatha.
º23 A chychwynasant o Cehelatha, a gwersyllasant ym mynydd Saffer.
º24 A chychwynasant o fynydd Saffer, a gwersyllasant yn Harada. :
º25 A chychwynasant o Harada, a gwersyllasant ym Maceloth.
º26 A chychwynasant o Maceloth a gwersyllasant yn Tahath.
º27 A chychwynasant o Tahath, a gwersyllasant yn Tara.
º28 A chychwynasant o Tara, a gwersyllasant ym Mithca. . .
º29 A chychwynasant o Mithca, a gwersyllasant yn Hasmona.
º30 A chychwynasant o Hasmona, s gwersyllasant ym Moseroth.
º31 A chychwynasant o Moseroth, a gwersyllasant yn Bene-Jaacan.
º32 A chychwynasant o Bene-Jaacan, a gwersyllasant yn Hor-hagidgad.
º33 A chychwynasant o Hor-hagidgad, a gwersyllasant yn Jotbatha.
º34 A chychwynasant o Jotbatha, a gwersyllasant yn Ebrona. ; :
º35 A chychwynasant o Ebrona, a’ gwersyllasant yn Esion-Gaber.
º36 A chychwynasant o Esion-Gaber, a gwersyllasant yn anialwch Sin; hwnnw yw
Cades.
º37 A chychwynasant o Cades, a gwersyllasant ym mynydd Hor, yng nghwr tir
Edom.
º38 Ac Aaron yr offeiriad a aeth i fyny i fynydd Hor, wrth orchymyn yr
ARGLWYDD; ac a fu farw yno, yn y ddeugeinfed flwyddyn wedi dyfod meibion Israel
allan o dir yr Aifft, yn y pumed mis,-ar y dydd cyntaf o’r mis.
º39 Ac Aaron oedd fab tair blwydd ar hugain a chant pan fu farw ym mynydd Hor. ‘
º40 A’t brenin Arad, y Canaanead, yr
1
hwn oedd yn ttigo yn y deau yn nhir Canaan, a glybu am ddyfodiad meibion
Israel.
º41 A chychwynasant o fynydd Hor, a gwersyllasant yn Salmona, . :
º42 A chychwynasant o’ Salmona, a gwersyllasant yn Punon, .
º43 A chychwynasant o Punon, a gwersyllasant yn Oboth.
º44 A chychwynasant o Oboth, a gwer" syllasant yn Ije-Abarim, ar derfyn
Moab.
º45 A chychwynasant o Ije-Abarim, a gwersyllasant yn Dibon-Gad.
º46 A chychwynasant o Dibon-Gad, a
gwersyllasant yn Almon-Diblathaim.
º47 A chychwynasant o Almon-Dib-, lathaim, a gwersyllasant ym mynyddoedd
Abarim, o flaen Nebo.
º48 A chychwynasant o fynyddoedd Abarim, a gwersyllasant yn rhosydd Moab, wrth
yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.
º49 A gwersyllasant wrth yr Iorddonen, o Beth-Jesimoth hyd wastadedd Sittim, yn
rhosydd Moab,
º50 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar
gyfer Jericho, gan ddywedyd, ‘
º51 Llefara wrth feibion Israel,
a dywed wrthynt, Gan eich bod chwi yn myned dros yr Iorddonen, i dir Canaan;
º52 Gyrrwch ymaith holl drigolion y tir o’ch blaen, a dinistriwch eu holl
luniau bwynt; dinistriwch hefyd eu holl ddel-wau tawdd, a difwynwch hefyd eu
holl uchelfeydd hwynt.
º53 A goresgynnwch y tir, a thrigwch ynddo; canys rhoddais y tir i chwi i’w
berchenogi.
º54 Rhennwch hefyd y tir yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd wrth goelbren;
i’r arni chwanegwch ei etifeddiaeth, ac i’r anami prinhewch ei etifeddiaeth:
bydded eiddo pob un y man lle yr el y coelbren allan iddo; yn ôl llwythau eich
tadau yr etifeddwch.
º55 Ac oni yrrwch ymaith breswylwyr y tir o’ch blaen; yna y bydd y rhai a
weddillwch ohonynt yn gethri yn eich llygaid, ac yn ddrain yn eich ystlysau, a
blinant chwi yn y tir y trigwch ynddo.
º56 A bydd, megis yr amcenais wneuthui iddynt hwy, y gwnaf i chwi.
PENNOD 34
º1 A LLEFARODD yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
º2 Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt. Pan ddeloch chwi i dir Canaan,
(dyma’r tir a syrth i chwi yn etifeddiaeth, sef gwlad Canaan a’i therfynau,) j
º3 A’ch tu deau fydd o anialwch Silfc gerllaw Edom: a therfyn y deau fyddfi
chwi o gŵr y mor heli tua’r dwyrain. j
º4 A’ch terfyn a amgylchyna o’r deau riw Acrabbim, ac a â trosodd i Sin; a
fynediad allan fydd o’r deau i Cades-Bamea, ac a â allan i Hasar-Adar, |i
throsodd i Asmon:
º1,
º5 A’r terfyn a amgylchyna o Asmoa:|i afon yr Aifft; a’i fynediad ef allan a
fydA tua’r gorllewin. j
º6 A therfyn y gorllewin fydd y mor mawr i chwi; sef y terfyn hwn fydd i chwi
yn derfyn gorllewin.
º7 A hwn fydd terfyn y gogledd i chwi: o’r mor mawr y tueddwch i fynydd Hor.
º8 O fynydd Hor y tueddwch nes dyfod i Hamath; a mynediaid y terfyn fydd i
Sedad.
º9 A’r terfyn a â allan tua Siffron; a’i ddiwedd ef fydd yn Hasar-Enan: hwn
fydd terfyn y gogledd i chwi.
º10 A therfynwch i chwi yn derfyn y dwyrain o Hasar-Enan i Seffam.
º11 Ac aed y terfyn i wasred o Seffam i Ribia, ar du dwyrain Ain; a disgynned y
terfyn, ac aed hyd ystlys mor Cinereth tua’r dwyrain.
º12 A’r terfyn a â i waered tua’r Iorddonen; a’i ddiwedd fydd y mor heli.
Dyma’r tir fydd i chwi a’i derfynau oddi amgylch.
º13 A gorchmynnodd Moses i feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma’r tir a rennwch
yn etifeddiaethau wrth goelbren, yr hwn a orchmynnodd yr ARGLWYDD ei roddi i’r
naw llwyth, ac i’r hanner llwyth.
º14 Canys cymerasai llwyth meibion Reuben yn ôl tŷ eu tadau, a llwyth meibion
Gad yn ôl tŷ eu tadau, a hanner llwyth meibion Gad yn ôl t en ladau, a
hanner llwyth Manasse, cymerasant, meddaf, eu hetifeddiaeth.
º15 Dau lwyth a hanner llwyth a gymerasant eu hetifeddiaeth o’r tu yma i’r
Iorddonen, yn agos i Jericho, tua’r dwyrain a chodiad haul.
º16 Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
º17 Dyma enwau y gwŷr a rannant y tir yn etifeddiaethau i chwi: Eleasar yr
ofteiriad, a Josua mab Nun.
º18 Ac un pennaeth o bob llwyth a gymerwch, i rannu y tir yn etifeddiaethau.
º19 Ac fel dyma
enwau y gwyr: o lwyth wda, Caleb mab Jeffunne.
º20 Ac o lwyth meibion Simeon, ;Semu’el mab Ammihud.
º21 O lwyth Benjamin, Elidad mab Cis-lon. . ‘
º22 A Bucci mab Jogli, yn bennaeth Q lwyth meibion Dan. ‘
º23 O feibion Joseff, Haniel mab Effod, yn bennaeth dros lwyth meibion Manasse.
º24 Cemuel hefyd mab Sifftan, yn bennaeth dros lwyth meibion Effraim.
º25 Ac Elisaffan mab Pharnach, .yn bennaeth dros lwyth meibion Sabulon.
º26 Paltiel hefyd mab Assan, yn bennaeth dros lwyth meibion Issachar.
º27 Ac Ahihud mab Salomi, yn bennaeth dros lwyth meibion Aser.,
º28 Ac yn bennaeth dros lwyth meibion Nafftali, Pedahel mab Ammihud.
º29 Dyma y rhai a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddynt rannu etifeddiaethau i feibion
Israel, yn nhir Canaan.
PENNOD 35
º1 A LLEFARODD yr ARGLWYDD wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen,
yn agos i Jericho, gan ddywedyd,
º2 Gorchymyn i feibion Israel, roddi ohonynt i’r Lefiaid, o etifeddiaeth eu
meddiant, ddinasuedd i drigo ynddynt: rhoddwch hefyd i’r Lefiaid faes pentrefol
wrth y dinasoedd o’u hamgylch.
º3 A’r dinasoedd fyddant iddynt i drigo ynddynt, a’u pentrefol feysydd fyddant
i’w hunil’ciliaid, ac i’w cyfoeth, ac i’w holl fwysttilod.
º4 A meysydd
pentrefol y dinasoedd y rhai a roddwch i’r Lefiaid, a gyrhaeddant o fur y
ddinas tuag allan, fil o gufyddau o amgylch.
º5 A mesurwch o’r tu allan i’r ddinas, o du’r dwyrain ddwy fil o gufyddau, a
thua’r deau ddwy fil o gufyddau, a thua’r gorllewin ddwy fil o gufyddau, a
thua’r gogledd ddwy fil o gufyddau; a’r ddinas fydd yn y canol: hyn fydd iddynt
yn feysydd pentrefol y dinasoedd. ;
º6 Ac o’r dinasoedd a roddwch i’r Lefiaid, bydded chwech yn ddinasoedd noddfa,
y rhai a roddwch, fel y gallo’r llawruddiog ffoi yno : a rhoddwch ddwy ddinas a
deugain atynt yn ychwaneg.,
º7 Yr holl ddinasoedd a roddwch i’r Lefiaid, fyddant wyth ddinas a deugain,
hwynt a’u pentrefol feysydd.
º8 A’r dinasoedd y rhai a roddwch, fydd o feddiant meibion Israel: oddi ar yr
arni eu dinasoedd, y rhoddwch yn aml; ac oddi ar y prin, y rhoddwch yn brin:
pob un yn ôl ei etifeddiaeth a etifeddant, a rydd i’r Lefiaid o’i ddinasoedd.
º9 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
º10 Llefara wrth feibion Israel, a dywed’ wrthynt. Pan eloch dros yr Iorddonen
i dir Canaan;
º11 Yna gosodwch i chwi ddinasoedd; dinasoedd noddfa fyddant i chwi: ac yno y
ffy y llawruddiog a laddo ddyn mewn amryfusedd.
º12 A’r dinasoedd fyddant i chwi yn, noddfa rhag y dialydd; fel na ladder y
llawruddiog, hyd oni safo gerbron y gynulleidfa mewn barn.
º13 Ac o’r dinasoedd y rhai a roddwch, chwech fydd i chwi yn ddinasoedd noddfa.
º14 Tair dinas a roddwch o’r tu yma i’r Iorddoxien, a thair dinas a roddwch yn
nhir Canaan: dinasoedd noddfa fyddant hwy.
º15 I feibion Israel, ac i’r dieithr, ac i’l; ymdeitliydd a fyddo yn eu mysg, y
bydd y chwe dinas hyn yn noddfa; fel y gallo
pob un alatfdti ddyn
m6wfi’a&iryfusedd, fEbi yno.
º16 Ac os ag offeryn haearn y trawodd ef, fel y bu farw, llawruddiog yw efe:
Sadder y llawruddiog yn farw.
º17 Ac os & charreg law, yr hon y byddai efe farw o’i phlegid, y trawodd
ef, a’i farw; llawruddiog yw efe; lladder y llawruddiog yn farw.
º18 Neu os efe a’i trawodd ef & llawffon, yr hon y byddai efe farw o’i
phlegid, a’i farw; llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw.
º19 Dialydd y gwaed a ladd y llawruddiog: pan gyfarfyddo ag ef, efe a’i Badd
ef.
º20 Ac os mewn cas y gwthia efe ef, neu y teifl ato mewn bwriad, fel y byddo
efe farw;
º21 Neu ei daro ef a’i law, mewn galanastra, fel y byddo farw: lladder yn farw
yr hwn a’i trawodd; llofrudd yw hwnnw: dialydd y gwaed a ladd y llofrudd, pan
gyfarfyddo ag ef.
º22 Ond os yn ddisymwth, heb atanas-ira, y gwthia efe ef, neu y teifl ato ufi
offeryn yn ddifwriad; "
º23 Neu ei daro ef a charreg, y byddai efe farw o’i phlegid, heb ei weled ef; a
pheri iddi syrthio arno, fel y byddo farw, ac efe heb fod yn elyn, ac heb
geisio niwed iddo ef:
º24 Yna barned y gynulleidfa rhwng y trawydd a dialydd y gwaed, yn ôl y
barnedigaethau hyn.
º25 Ac achubed y gynulleidfa y llofrudd O law dialydd y gwaed, a throed y gynulleidfa
ef i ddinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi: a thriged yntau ynddi hyd
farwolaeth yr archoffeiriad, yr hwn a eneiniwyd a’r olcw cysegredig.
º26 Ac os y llofrudd gan fyned a â allan o derfyn dinas ei noddfa, yr hon y
ffodd efe iddi;
º27 A’i gael o ddialydd y gwaed allan o derfyn dinas ei noddfa, a llsidd o
ddialydd y gwaed y llofrudd; na redder hawl gwaed yn ei crbyn:
º28 Canys o fewn dinas ei noddfa y dyly drigo, hyd farwolaeth yr archoffeiriad:
ac wedi marwolaeth yr archoffeiriad, dychweled y llofrudd i dir e!
etifeddiaeth. . „
º29 A hyn fydd i chwi yn ddeddt farnedig trwy eich cenedlaethau,. yn eich] holl
drigfannau.,.: ;
º30 Pwy bynnag a laddo ddyn,: wrth a ddywedo tystion y lleddir y llofrudd: ao
un tyst ni chaiff dystiolaethu yn erbya dyn, i beri iddo farw. "
º31 Hefyd, na chymerwch iawn am einioes y llofrudd, yr hwn sydd euog i farw;
ond lladder ef yn farw.
º32 Ac na chymerwch iawn gan yr hwn a ffodd i ddinas ei noddfa, er cael
dychwelyd i drigo yn y tir, hyd farwolaeth ‘yr offeiriad;
º33 Fel na halogoch y tir yr ydych ynddo; canys y gwaed hwn a haloga’r tir: a’r
tir ni lanheir oddi wrth y gwaed a dywallter arno, ond a gwaed yr hwn a’i
tywalltodd.
º34 Am hynny nac aflanha y tir y trigoch ynddo, yr hwn yr ydwyf fi yn preswylio
yn ei ganol: canys myfi yr ARGLWYDD ydwyf yn preswylio yng nghanol meibion
Israel. ;
PENNOD 36
º1 Pennau-cenedl tylwyth meibion Gilead, mab Machir, mab Manasse, o
dylwyth meibion Joseff, a ddaethant hefyd, ac a lefarasant gerbron Moses, a
cherbron y penaduriaid, sef pennau-cenedl meibion Israel;
º2 Ac a ddywedasant, Yr ARGLWYDD a orchmynnodd i’m harglwydd roddi’r tir yn
etifeddiaeth i feibion Israel wrth goelbren: a’m harglwydd a orchmynnwyd gan yr
ARGLWYDD, i roddi etifeddiaeth Salffaad ein brawd i’w ferched.
º3 Os hwy a fyddant wragedd i rai o feibion llwythau eraill meibion Israel; yna
y tynnir ymaith eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth ein tadau ni, ac
a’i chwanegir at etifeddiaeth y llwyth y byddant hwy ciddynt: a phrinheir ar
randir ein hetifeddiaeth ni.
º4 A phan fyddo y jiwbili i feibion Israel, yna y chwanegir cu hetifeddiaeth
hwynt at etifeddiaeth llwyth y rhai y byddant hwy eiddynt: a thorrir eu hetifeddiaeth
hwynt oddi wrth etifeddiaeth llwyth ein tadau ni.
º5 A gorchmynnodd Moses i feibion Israel, yn ôl gair yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,
Mae llwyth meibion Joseff yn dywedyd yn uniawn.
º6 Dyma y gair a orchmynnodd yr ARGLWYDD am ferched Salffaad, gan ddywedyd,
Byddant wragedd i’r rhai y byddo da yn eu golwg eu hun; ond i rai o dylwyth
llwyth eu tad eu hun y byddant yn wragedd.
º7 Felly ni threigia etifeddiaeth meibion Israel o lwyth i lwyth: canys glynu a
wna pob un o feibion Israel yn etifeddiaeth llwyth ei dadau ei hun.
º8 A phob merch yn etifeddu etifeddiaeth o lwythau meibion Israel, a fydd
wraig i un o dylwyth llwyth ei thad ei hun; fel yr etifeddo meibion Iseael bob
un etifeddiaeth ei dadau ei hun.
º9 Ac na threigled etifeddiaeth O .lwyth i lwyth arall; canys llwythau meibion
:’Igrael a lynant bob un yn ei etifeddiaeth ei hun.,
º10 Megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses, felly y gwnaeth merched
Salffaad.,,
º11 Canys Mala, Tirsa, a Hogia, a Milca, a Noa, merched Salffaad, fuant yn
wragedd i feibion eu hewythredd.
º12 I wŷr o dylwyth Manasse fab Joseff y buant yn wragedd; a thrigodd eu
hetifeddiaeth hwynt wrth lwyth tylwyth eu tad.
º13 Dyma’r gorchmynion a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD i feibion
Israel, trwy law Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, yn agos i Jericho.
XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX
XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX
_____________
DIWEDD
Adolygiad
diweddaraf / Darrera actualització / Latest update 2006-09-04
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ
Ble’r
wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o
dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
“CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (=
Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu
les estadístiques / View My Stats