The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition. Gwefan
Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website.
2383ke Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar
lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl
in Welsh.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_rhufeiniaid_45_2383ke.htm
0001 Yr Hafan
/ Home Page
or via Google: #kimkat0001
..........2659e Y Fynedfa yn Saesneg / Gateway in
English to this website
or via Google: #kimkat2659e
....................0010e Y
Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English
or via Google: #kimkat0010e
...........................................0977e
Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh
texts on this website - contents page
or via Google: #kimkat0977e
...................................................................1284e Y Gyfeirddalen i Feibl
Wiliam Morgan 1620 / Wiliam Morgan’s 1620 Bible - Index Page
or via
Google: #kimkat1284e
............................................................................................y
tudalen hwn / this
page
0860k
y llyfr ymwelwyr or
via Google: kimkatXXXXX (XXXXX = 0860k) |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
(delw 7283) |
2382k Y tudalen hwn yn
Gymraeg yn unig. Neu trwÿ Google: kimkatXXXXX
(XXXXX = 2382k)
EPISTOL PAUL YR
APOSTOL AT Y RHUFEINIAID
PENNOD
1
1:1 Paul, gwasanaethwr Iesu Grist, wedi ei alw i fod yn apostol, ac wedi
ei neilltuo i efengyl Duw,
1:1 Paul, a servant of Jesus
Christ, called to be an apostle, separated unto the gospel of God,
1:2 (Yr hon a
ragaddawsai efe trwy ei broffwydi yn yr ysgrythurau sanctaidd,)
1:2 (Which he had promised afore by
his prophets in the holy scriptures,)
1:3 Am ei Fab ef
Iesu Grist ein Harglwydd ni, yr hwn a wnaed o had Dafydd o ran y cnawd;
1:3 Concerning his Son Jesus
Christ our Lord, which was made of the seed of David according to the flesh;
1:4 Ac a eglurwyd
yn Fab Duw mewn gallu, yn ôl ysbryd sancteiddiad, trwy’r atgyfodiad oddi wrth y
meirw:
1:4 And declared to be the Son of
God with power, according to the spirit of holiness, by the resurrection from
the dead:
1:5 Trwy’r hwn y
derbyniasom ras ac apostoliaeth, i ufudd-dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd,
er mwyn ei enw ef:
1:5 By whom we have received grace
and apostleship, for obedience to the faith among all nations, for his name:
1:6 Ymysg y rhai yr
ydych chwithau yn alwedigion Iesu Grist:
1:6 Among whom are ye also the
called of Jesus Christ:
1:7 At bawb sydd yn
Rhufain, yn annwyl gan Dduw, wedi eu galw i fod yn saint: Gras i chwi a
thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist.
1:7 To all that be in Rome,
beloved of God, called to be saints: Grace to you and peace from God our
Father, and the Lord Jesus Christ.
1:8 Yn gyntaf, yr
wyf yn diolch i’m Duw trwy Iesu Grist drosoch chwi oll, oblegid bod eich ffydd
chwi yn gyhoeddus yn yr holl fyd.
1:8 First, I thank my God through
Jesus Christ for you all, that your faith is spoken of throughout the whole
world.
1:9 Canys tyst i mi
yw Duw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu yn fy ysbryd yn efengyl ei Fab ef, fy
mod i yn ddibaid yn gwneuthur coffa ohonoch bob amser yn fy ngweddïau,
1:9 For God is my witness, whom I
serve with my spirit in the gospel of his Son, that without ceasing I make
mention of you always in my prayers;
1:10 Gan ddeisyf a
gawn ryw fodd, ryw amser bellach, rwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddyfod atoch
chwi.
1:10 Making request, if by any
means now at length I might have a prosperous journey by the will of God to
come unto you.
1:11 Canys yr wyf yn
hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn ysbrydol, fel
y’ch cadarnhaer:
1:11 For I long to see you, that I
may impart unto you some spiritual gift, to the end ye may be established;
1:12 A hynny sydd
i’m cydymgysuro ynoch chwi, trwy ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a’r eiddof
finnau.
1:12 That is, that I may be
comforted together with you by the mutual faith both of you and me.
1:13 Eithr ni fynnwn
i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod atoch, (ond fo’m
lluddiwyd i hyd yn hyn,) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd, megis ag yn y
Cenhedloedd eraill.
1:13 Now I would not have you
ignorant, brethren, that oftentimes I purposed to come unto you, (but was let
hitherto,) that I might have some fruit among you also, even as among other
Gentiles.
1:14 Dyledwr ydwyf
i’r Groegiaid, ac i’r barbariaid hefyd, i’r doethion, ac i’r annoethion hefyd.
1:14 I am debtor both to the
Greeks, and to the Barbarians; both to the wise, and to the unwise.
1:15 Felly, hyd y
mae ynof fi, parod ydwyf i bregethu’r efengyl i chwithau hefyd y rhai ydych yn
Rhufain.
1:15 So, as much as in me is, I am
ready to preach the gospel to you that are at Rome also.
1:16 Canys nid oes
arnaf gywilydd o efengyl Crist: oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob
un a’r sydd yn credu; i’r Iddew yn gyntaf, a hefyd i’r Groegwr.
1:16 For I am not ashamed of the
gospel of Christ: for it is the power of God unto salvation to every one that
believeth; to the Jew first, and also to the Greek.
1:17 Canys ynddi hi
y datguddir cyfiawnder Duw o ffydd i ffydd; megis y mae yn ysgrifenedig, Y cyfiawn
a fydd byw trwy ffydd.
1:17 For therein is the
righteousness of God revealed from faith to faith: as it is written, The just
shall live by faith.
1:18 Canys digofaint
Duw a ddatguddiwyd o’r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion, y rhai
sydd yn atal y gwirionedd mewn anghyfiawnder.
1:18 For the wrath of God is
revealed from heaven against all ungodliness and unrighteousness of men, who
hold the truth in unrighteousness;
1:19 Oherwydd yr hyn
a ellir ei wybod am Dduw, sydd eglur ynddynt hwy: canys Duw a’i heglurodd
iddynt.
1:19 Because that which may be
known of God is manifest in them; for God hath showed it unto them.
1:20 Canys ei
anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a
wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu ef a’i Dduwdod; hyd onid ydynt
yn ddiesgus:
1:20 For the invisible things of
him from the creation of the world are clearly seen, being understood by the
things that are made, even his eternal power and Godhead; so that they are
without excuse:
1:21 Oblegid a hwy
yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megis Duw, ac na buont ddiolchgar iddo;
eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a’u calon anneallus hwy a dywyllwyd.
1:21 Because that, when they knew
God, they glorified him not as God, neither were thankful; but became vain in
their imaginations, and their foolish heart was darkened.
1:22 Pan dybient eu
bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid;
1:22 Professing themselves to be
wise, they became fools,
1:23 Ac a
newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw i gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac
ehediaid, ac anifeiliaid pedwarcarnol, ac ymlusgiaid.
1:23 And changed the glory of the
uncorruptible God into an image made like to corruptible man, and to birds, and
fourfooted beasts, and creeping things.
1:24 O ba herwydd
Duw hefyd a’u rhoddes hwy i fyny, yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid, i
amherchi eu cyrff eu hun yn eu plith eu hunain:
1:24 Wherefore God also gave them
up to uncleanness through the lusts of their own hearts, to dishonour their own
bodies between themselves:
1:25 Y rhai a
newidiasant wirionedd Duw yn gelwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y
creadur yn fwy na’r Creuwdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragwyddol. Amen.
1:25 Who changed the truth of God
into a lie, and worshipped and served the creature more than the Creator, who
is blessed for ever. Amen.
1:26 Oblegid hyn y
rhoddes Duw hwynt i fyny i wyniau gwarthus: canys eu gwragedd hwy a newidiasant
yr arfer anianol i’r hon sydd yn erbyn anian:
1:26 For this cause God gave them
up unto vile affections: for even their women did change the natural use into
that which is against nature:
1:27 Ac yn gyffelyb
y gwŷr hefyd, gan adael yr arfer naturiol o’r wraig, a ymlosgent yn eu
hawydd i’w gilydd; y gwŷr ynghyd â gwŷr yn gwneuthur brynti, ac yn
derbyn ynddynt eu hunain y cyfryw dâl am eu cyfeiliorni ag ydoedd raid.
1:27 And likewise also the men,
leaving the natural use of the woman, burned in their lust one toward another;
men with men working that which is unseemly, and receiving in themselves that
recompense of their error which was meet.
1:28 Ac megis nad
oedd gymeradwy ganddynt gadw Duw yn eu gwybodaeth, Duw a’u rhoddes hwynt i fyny
i feddwl anghymeradwy, i wneuthur y pethau nid oedd weddaidd:
1:28 And even as they did not like
to retain God in their knowledge, God gave them over to a reprobate mind, to do
those things which are not convenient;
1:29 Wedi eu llenwi
a phob anghyfiawnder, godineb, anwiredd, cybydd-dod, drygioni; yn llawn
cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drwg anwydau;
1:29 Being filled with all
unrighteousness, fornication, wickedness, covetousness, maliciousness; full of
envy, murder, debate, deceit, malignity; whisperers,
1:30 Yn hustyngwyr,
yn athrodwyr, yn gas ganddynt Dduw, yn drahaus, yn feilchion, yn ffrostwyr, yn
ddychmygwyr drygioni, yn anufudd i rieni,
1:30 Backbiters, haters of God,
despiteful, proud, boasters, inventors of evil things, disobedient to parents,
1:31 Yn anneallus,
yn dorwyr amod, yn angharedig, yn anghymodlon, yn anhrugaroglon:
1:31 Without understanding,
covenantbreakers, without natural affection, implacable, unmerciful:
1:32 Y rhai yn
gwybod cyfiawnder Duw, fod y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau yn haeddu
marwolaeth, ydynt nid yn unig yn gwneuthur y pethau hyn eithr hefyd yn
cydymfodloni â’r rhai sydd yn eu gwneuthur hwynt.
1:32 Who knowing the judgment of
God, that they which commit such things are worthy of death, not only do the
same, but have pleasure in them that do them.
2:1 Oherwydd paham,
diesgus wyt ti, O ddyn, pwy bynnag wyt yn barnu: canys yn yr hyn yr wyt yn
barnu arall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu, wyt
yn gwneuthur yr un pelhuii.
2:1 Therefore thou art
inexcusable, O man, whosoever thou art that judgest: for wherein thou judgest
another, thou condemnest thyself; for thou that judgest doest the same things.
2:2 Eithr ni a
wyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd, yn erbyn y rhai a wnânt gyfryw bethau.
2:2 But we are sure that the
judgment of God is according to truth against them which commit such things.
2:3 Ac a wyt ti’n
tybied hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu’r rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw
bethau, â thithau yn gwneuthur yr un pethau, y dihengi di rhag barn Duw?
2:3 And thinkest thou this, O man,
that judgest them which do such things, and doest the same, that thou shalt
escape the judgment of God?
2:4 Neu a wyt ti’n
diystyru golud ei ddaioni ef, a’i ddioddefgarwch, a’i ymaros, heb wybod fod
daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch?
2:4 Or despisest thou the riches
of his goodness and forbearance and longsuffering; not knowing that the
goodness of God leadeth thee to repentance?
2:5 Eithr yn ôl dy
galedrwydd, a’th galon ddiedifeiriol, wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint
erbyn dydd y digofaint, a datguddiad cyfiawn farn Duw,
2:5 But after thy hardness and
impenitent heart treasurest up unto thyself wrath against the day of wrath and
revelation of the righteous judgment of God;
2:6 Yr hwn a dâl i
bob un yn ôl ei weithredoedd:
2:6 Who will render to every man
according to his deeds:
2:7 Sef i’r rhai
trwy barhau yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant, ac anrhydedd, ac
anllygredigaeth, bywyd tragwyddol:
2:7 To them who by patient
continuance in well doing seek for glory and honour and immortality, eternal
life:
2:8 Eithr i’r rhai
sydd gynhennus, ac anufudd i’r gwirionedd, eithr yn ufudd i anghyfiawnder, y
bydd llid a digofaint;
2:8 But unto them that are
contentious, and do not obey the truth, but obey unrighteousness, indignation
and wrath,
2:9 Trallod ac ing
ar bob enaid dyn sydd yn gwneuthur drwg; yr Iddew yn gyntaf, a’r Groegwr
hefyd:
2:9 Tribulation and anguish, upon
every soul of man that doeth evil, of the Jew first, and also of the Gentile;
2:10 Eithr
gogoniant, ac anrhydedd, a thangnefedd, i bob un sydd yn gwneuthus daioni; i’r
Iddew yn gyntaf, ac i’r Groegwr hefyd.
2:10 But glory, honour, and peace,
to every man that worketh good, to the Jew first, and also to the Gentile:
2:11
Canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw.
2:11 For there is no respect of
persons with God.
2:12
Oblegid cynifer ag a bechasant yn ddi-ddeddf, a gyfrgollir hefyd yn ddi-ddeddf;
a chynifer ag a bechasant yn y ddeddf, a fernir wrth y ddeddf;
2:12 For as many as have sinned
without law shall also perish without law: and as many as have sinned in the
law shall be judged by the law;
2:13
(Canys nid gwrandawyr y ddeddf sydd gyfiawn gerbron Duw, ond gwneuthurwyr y
ddeddf a gyfiawnheir.
2:13 (For not the hearers of the
law are just before God, but the doers of the law shall be justified.
2:14
Canys pan yw’r Cenhedloedd y rhai nid yw’r ddeddf ganddynt, wrth naturiaeth yn
gwneuthur y pethau sydd yn y ddeddf, y rhai hyn heb fod y ddeddf ganddynt,
ydynt ddeddf iddynt eu hunain:
2:14 For when the Gentiles, which
have not the law, do by nature the things contained in the law, these, having
not the law, are a law unto themselves:
2:15
Y rhai sydd yn dangos gweithred y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau, a’u
cydwybod yn cyd-dystiolaethu, a’u meddyliau yn cyhuddo ei gilydd, neu yn
esgusodi;)
2:15 Which show the work of the law
written in their hearts, their conscience also bearing witness, and their
thoughts the mean while accusing or else excusing one another;)
2:16
Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ôl fy efengyl i, trwy Iesu Grist.
2:16 In the day when God shall
judge the secrets of men by Jesus Christ according to my gospel.
2:17
Wele, Iddew y’th elwir di, ac yr wyt yn gorffwys yn y ddeddf, ac yn gorfoleddu
yn Nuw;
2:17 Behold, thou art called a Jew,
and restest in the law, and makest thy boast of God,
2:18 Ac yn gwybod ei ewyllys ef, ac yn darbod pethau rhagorol, gan fod
wedi dy addysgu o’r ddeddf;
2:18 And knowest his will, and
approvest the things that are more excellent, being instructed out of the law;
2:19
Ac yr wyt yn coelio dy fod yn dywysog i’r deillion, yn llewyrch i’r rhai sydd
mewn tywyllwch,
2:19 And art confident that thou
thyself art a guide of the blind, a light of them which are in darkness,
2:20
Yn athro i’r angall, yn ddysgawdwr i’r rhai bach, a chennyt ffurf y gwybodaeth
a’r gwirionedd yn y ddeddf.
2:20 An instructor of the foolish,
a teacher of babes, which hast the form of knowledge and of the truth in the
law.
2:21
Tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni’th ddysgi dy hun? yr hwn wyt
yn pregethu, Na ladrater, a, ladreti di?
2:21 Thou therefore which teachest
another, teachest thou not thyself? thou that preachest a man should not steal,
dost thou steal?
2:22
Yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber, a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio
delwau, a gysegrysbeili di?
2:22 Thou that sayest a man should
not commit adultery, dost thou commit adultery? thou that abhorrest idols, dost
thou commit sacrilege?
2:23
Yr hwn wyt yn gorfoleddu yn y ddeddf, trwy dorri’r ddeddf a ddianrhydeddi di
Dduw?
2:23 Thou that makest thy boast of
the law, through breaking the law dishonourest thou God?
2:24
Canys enw Duw o’ch plegid chwi a geblir ymhlith y Cenhedloedd, megis y mae yn
ysgrifenedig.
2:24 For the name of God is
blasphemed among the Gentiles through you, as it is written.
2:25
Canys enwaediad yn wir a wna les, os cedwi y ddeddf: eithr os troseddwr y
ddeddf ydwyt, aeth dy enwaediad yn ddienwaediad.
2:25 For circumcision verily
profiteth, if thou keep the law: but if thou be a breaker of the law, thy
circumcision is made uncircumcision.
2:26
Os y dienwaediad gan hynny a geidw gyfiawnderau y ddeddf, oni chyfrifir ei
ddienwaediad ef yn enwaediad?
2:26 Therefore if the uncircumcision
keep the righteousness of the law, shall not his uncircumcision be counted for
circumcision?
2:27
Ac oni bydd i’r dienwaediad yr hwn sydd o naturiaeth, os ceidw y ddeddf, dy
farnu di, yr hwn wrth y llythyren a’r enwaediad wyt yn troseddu’r ddeddf?
2:27 And shall not uncircumcision
which is by nature, if it fulfil the law, judge thee, who by the letter and
circumcision dost transgress the law?
2:28
Canys nid yr hwn sydd yn yr amlwg sydd Iddew; ac nid enwaediad yw yr hwn sydd
yn yr amlwg yn y cnawd:
2:28 For he is not a Jew, which is
one outwardly; neither is that circumcision, which is outward in the flesh:
2:29
Eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iddew; ac enwaediad y galon sydd yn yr
ysbryd, nid yn y llythyren; yr hwn y mae ei glod nid o ddynion, ond o Dduw.
2:29 But he is a Jew, which is one
inwardly; and circumcision is that of the heart, in the spirit, and not in the
letter; whose praise is not of men, but of God.
3:1
Pa ragoriaeth gan hynny sydd i’r Iddew? neu pa fudd sydd o’r enwaediad?
3:1 What advantage then hath the
Jew? or what profit is there of circumcision?
3:2
Llawer, ym mhob rhyw fodd: yn gyntaf, oherwydd darfod ymddiried iddynt hwy am
ymadroddion Duw.
3:2 Much every way: chiefly, because
that unto them were committed the oracles of God.
3:3
Oblegid beth os anghredodd rhai? a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn
ofer?
3:3 For what if some did not
believe? shall their unbelief make the faith of God without effect?
3:4
Na ato Duw: eithr bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog; megis yr
ysgrifennwyd, Fel y’th gyfiawnhaer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan y’th
farner.
3:4 God forbid: yea, let God be
true, but every man a liar; as it is written, That thou mightest be justified
in thy sayings, and mightest overcome when thou art judged.
3:5
Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn canmol cyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn?
Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (yn ôl dyn yr wyf
yn dywedyd;)
3:5 But if our unrighteousness
commend the righteousness of God, what shall we say? Is God unrighteous who
taketh vengeance? (I speak as a man)
3:6
Na ato Duw: canys wrth hynny pa fodd y barna Duw y byd?
3:6 God forbid: for then how shall
God judge the world?
3:7
Canys os bu gwirionedd Duw trwy nghelwydd i yn helaethach i’w ogoniant ef,
paham y’m bernir innau eto megis pechadur?
3:7 For if the truth of God hath
more abounded through my lie unto his glory; why yet am I also judged as a
sinner?
3:8
Ac nid, (megis y’n ceblir, ac megis y dywed rhai ein bod yn dywedyd,) Gwnawn
ddrwg, fel y dêl daioni? y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn.
3:8 And not rather, (as we be
slanderously reported, and as some affirm that we say,) Let us do evil, that
good may come? whose damnation is just.
3:9
Beth gan hynny? a ydym ni yn fwy rhagorol? Nac ydym ddim: canys ni a brofasom
o’r blaen fod pawb, yr Iddewon a’r Groegwyr, dan bechod;
3:9 What then? are we better than
they? No, in no wise: for we have before proved both Jews and Gentiles, that
they are all under sin;
3:10 Megis y mae yn
ysgrifenedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes un:
3:10 As it is written, There is
none righteous, no, not one:
3:11
Nid oes neb yn deall; nid oes neb yn ceisio Duw.
3:11 There is none that understandeth,
there is none that seeketh after God.
3:12
Gwyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol; nid oes un yn gwneuthur daioni, nac
oes un.
3:12 They are all gone out of the
way, they are together become unprofitable; there is none that doeth good, no,
not one.
3:13
Bedd agored yw eu ceg; a’u tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn asbiaid sydd
dan eu gwefusau:
3:13 Their throat is an open
sepulchre; with their tongues they have used deceit; the poison of asps is
under their lips:
3:14 Y rhai y mae eu
genau yn llawn melltith a chwerwedd:
3:14 Whose mouth is full of cursing
and bitterness:
3:15
Buan yw eu traed i dywallt gwaed:
3:15 Their feet are swift to shed
blood:
3:16
Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd:
3:16 Destruction and misery are in their
ways:
3:17
A ffordd tangnefedd nid adnabuant:
3:17 And the way of peace have they
not known:
3:18
Nid oes ofn Duw gerbron eu llygaid.
3:18 There is no fear of God before
their eyes.
3:19
Ni a wyddom hefyd am ba bethau bynnag y mae’r ddeddf yn ei ddywedyd, mai wrth y
rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn ei ddywedyd: fel y caeer pob genau, ac y
byddo’r holl fyd dan farn Duw.
3:19 Now we know that what things soever
the law saith, it saith to them who are under the law: that every mouth may be
stopped, and all the world may become guilty before God.
3:20
Am hynny trwy weithredoedd y ddeddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei olwg ef;
canys trwy’r ddeddf y mae adnabod pechod.
3:20 Therefore by the deeds of the
law there shall no flesh be justified in his sight: for by the law is the
knowledge of sin.
3:21
Ac yr awr hon yr eglurwyd cyfiawnder Duw heb y ddeddf, wrth gael tystiolaeth
gan y ddeddf a’r proffwydi;
3:21 But now the righteousness of
God without the law is manifested, being witnessed by the law and the prophets;
3:22
Sef cyfiawnder Duw, yr hwn sydd trwy ffydd Iesu Grist, i bawb ac ar bawb a
gredant: canys nid oes gwahaniaeth:
3:22 Even the righteousness of God
which is by faith of Jesus Christ unto all and upon all them that believe: for
there is no difference:
3:23
Oblegid pawb a bechasant, ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw;
3:23 For all have sinned, and come
short of the glory of God;
3:24
A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy’r prynedigaeth sydd yng
Nghrist Iesu:
3:24 Being justified freely by his
grace through the redemption that is in Christ Jesus:
3:25
Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder
ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o’r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw;
3:25 Whom God hath set forth to be
a propitiation through faith in his blood, to declare his righteousness for the
remission of sins that are past, through the forbearance of God;
3:26
I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn
cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu.
3:26 To declare, I say, at this
time his righteousness: that he might be just, and the justifier of him which
believeth in Jesus.
3:27 Pa le gan hynny
y mae y gorfoledd? Efe a gaewyd allan. Trwy ba ddeddf? ai deddf gweithredoedd? Nage; eithr trwy ddeddf ffydd.
3:27 Where is boasting then? It is
excluded. By what law? of works? Nay: but by the law of faith.
3:28
Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn, heb
weithredoedd y ddeddf.
3:28 Therefore we conclude that a
man is justified by faith without the deeds of the law.
3:29
Ai i’r Iddewon y mae efe yn Dduw yn unig? onid yw i’r Cenhedloedd hefyd? Yn wir
y mae efe i’r Cenhedloedd hefyd:
3:29 Is he the God of the Jews
only? is he not also of the Gentiles? Yes, of the Gentiles also:
3:30
Gan mai un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnha’r enwaediad wrth ffydd, a’r dienwaediad
trwy ffydd.
3:30 Seeing it is one God, which
shall justify the circumcision by faith, and uncircumcision through faith.
3:31
Wrth hynny, a ydym ni yn gwneuthur y ddeddf yn ddi-rym trwy ffydd? Na ato Duw:
eithr yr ydym yn cadarnhau’r ddeddf.
3:31 Do we then make void the law
through faith? God forbid: yea, we establish the law.
PENNOD 4
4:1 Pa beth gan hynny a
ddywedwn ni ddarfod i Abraham ein tad ni ei gad, yn ôl y cnawd?
4:1 What shall we say then that
Abraham our father, as pertaining to the flesh, hath found?
4:2
Canys os Abraham a gyfiawnhawyd trwy weithredoedd, y mae iddo orfoledd; eithr
nid gerbron Duw.
4:2 For if Abraham were justified
by works, he hath whereof to glory; but not before God.
4:3
Canys pa beth a ddywed yr ysgrythur? Credodd Abraham i Dduw; a chyfrifwyd iddo
yn gyfiawnder.
4:3 For what saith the scripture?
Abraham believed God, and it was counted unto him for righteousness.
4:4
Eithr i’r neb sydd yn gweithio, ni chyfrifir y gwobr o ras, ond o ddyled.
4:4 Now to him that worketh is the
reward not reckoned of grace, but of debt.
4:5
Eithr i’r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr
annuwiol, ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder.
4:5 But to him that worketh not,
but believeth on him that justifieth the ungodly, his faith is counted for
righteousness.
4:6
Megis y mae Dafydd hefyd yn datgan dedwyddwch y dyn y mae Duw yn cyfrif
cyfiawnder iddo heb weithredoedd, gan ddywedyd,
4:6 Even as David also describeth the
blessedness of the man, unto whom God imputeth righteousness without works,
4:7
Dedwydd yw y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau, a’r rhai y cuddiwyd eu pechodau:
4:7 Saying, Blessed are they whose
iniquities are forgiven, and whose sins are covered.
4:8
Dedwydd yw y gŵr nid yw’r Arglwydd yn cyfrif pechod iddo.
4:8 Blessed is the man to whom the
Lord will not impute sin.
4:9
A ddaeth y dedwyddwch hwn gan hynny ar yr enwaediad yn unig, ynteu ar y
dienwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd ddarfod cyfrif ffydd i Abraham yn
gyfiawnder.
4:9 Cometh this blessedness then
upon the circumcision only, or upon the uncircumcision also? for we say that
faith was reckoned to Abraham for righteousness.
4:10
Pa fodd gan hynny y cyfrifwyd hi? ai pan oedd yn yr enwaediad, ynteu yn y
dienwaediad? Nid yn yr enwaediad, ond yn y dienwaediad.
4:10 How was it then reckoned? when
he was in circumcision, or in uncircumcision? Not in circumcision, but in
uncircumcision.
4:11
Ac efe a gymerth arwydd yr enwaediad, yn insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd
ganddo yn y dienwaediad: fel y byddai efe yn dad pawb a gredent, yn y
dienwaediad; fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd:
4:11 And he received the sign of
circumcision, a seal of the righteousness of the faith which he had yet being
uncircumcised: that he might be the father of all them that believe, though
they be not circumcised; that righteousness might be imputed unto them also:
4:12
Ac yn dad yr enwaediad, nid i’r rhai o’r enwaediad yn unig, ond i’r sawl hefyd
a gerddant lwybrau ffydd Abraham ein tad ni, yr hon oedd ganddo yn y
dienwaediad.
4:12 And the father of circumcision
to them who are not of the circumcision only, but who also walk in the steps of
that faith of our father Abraham, which he had being yet uncircumcised.
4:13
Canys nid trwy’r ddeddf y daeth yr addewid i Abraham, neu i’w had, y byddai efe
yn etifedd y byd: eithr trwy gyfiawnder ffydd.
4:13 For the promise, that he
should be the heir of the world, was not to Abraham, or to his seed, through the
law, but through the righteousness of faith.
4:14
Canys os y rhai sydd o’r ddeddf yw yr etifeddion, gwnaed ffydd yn ofer, a’r
addewid yn ddi-rym.
4:14 For if they which are of the
law be heirs, faith is made void, and the promise made of none effect:
4:15
Oblegid y mae’r ddeddf yn peri digofaint; canys lle nid oes deddf, nid oes
gamwedd.
4:15 Because the law worketh wrath:
for where no law is, there is no transgression.
4:16
Am hynny o ffydd y mae, fel y byddai yn ôl gras: fel y byddai’r addewid yn sicr
i’r holl had; nid yn unig i’r hwn sydd o’r ddeddf, ond hefyd i’r hwn sydd o
ffydd Abraham, yr hwn yw ein tad ni oll,
4:16 Therefore it is of faith, that
it might be by grace; to the end the promise might be sure to all the seed; not
to that only which is of the law, but to that also which is of the faith of
Abraham; who is the father of us all,
4:17
(Megis y mae yn ysgrifenedig, Mi a’th wneuthum yn dad llawer o genhedloedd,) gerbron
y neb y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywhau’r meirw, ac sydd yn
galw’r pethau nid ydynt, fel pe byddent:
4:17 (As it is written, I have made
thee a father of many nations,) before him whom he believed, even God, who
quickeneth the dead, and calleth those things which be not as though they were.
4:18
Yr hwn yn erbyn gobaith a gredodd dan obaith, fel y byddai efe yn dad
cenhedloedd lawer; yn ôl yr hyn a ddywedasid, Felly y bydd dy had di.
4:18 Who against hope believed in
hope, that he might become the father of many nations, according to that which
was spoken, So shall thy seed be.
4:19
Ac efe, yn ddiegwan o ffydd, nid ystyriodd ei gorff ei hun, yr hwn oedd yr
awron wedi marweiddio, ac efe ynghylch can mlwydd oed, na marweidd-dra bru Sara.
4:19 And being not weak in faith,
he considered not his own body now dead, when he was about an hundred years
old, neither yet the deadness of Sarah's womb:
4:20
Ac nid amheuodd efe addewid Duw trwy anghrediniaeth; eithr efe a nerthwyd yn y
ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw:
4:20 He staggered not at the
promise of God through unbelief; but was strong in faith, giving glory to God;
4:21
Ac yn gwbl sicr ganddo, am yr hyn a addawsai efe, ei fod ef yn abl i’w wneuthur
hefyd.
4:21 And being fully persuaded
that, what he had promised, he was able also to perform.
4:22
Ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
4:22 And therefore it was imputed
to him for righteousness.
4:23
Eithr nid ysgrifennwyd hynny er ei fwyn ef yn unig, ddarfod ei gyfrif iddo;
4:23 Now it was not written for his
sake alone, that it was imputed to him;
4:24
Ond er ein mwyn ninnau hefyd, i’r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr
hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd ni o feirw:
4:24 But for us also, to whom it shall
be imputed, if we believe on him that raised up Jesus our Lord from the dead;
4:25 Yr hwn a
draddodwyd dros ein pechodau ni, ac a gyfodwyd i’n cyfiawnhau ni.
4:25 Who was delivered for our
offences, and was raised again for our justification.
PENNOD
5
5:1 Am hynny, gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym
heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist:
5:1 Therefore being justified by
faith, we have peace with God through our Lord Jesus Christ:
5:2 Trwy yr hwn
hefyd y cawsom ddyfodfa trwy ffydd i’r gras hwn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll ac
yn gorfoleddu dan obaith gogoniant Duw.
5:2 By whom also we have access by
faith into this grace wherein we stand, and rejoice in hope of the glory of
God.
5:3 Ac nid
felly yn unig, eithr yr ydym yn gorfoleddu mewn gorthrymderau; gan wybod fod
gorthrymder yn peri dioddefgarwch;
5:3 And not only so, but we glory
in tribulations also: knowing that tribulation worketh patience;
5:4
A dioddefgarwch, brofiad, a phrofiad, obaith:
5:4 And patience, experience; and
experience, hope:
5:5
A gobaith ni chywilyddia, am fod cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau ni,
trwy’r Ysbryd Glân yr hwn a roddwyd i ni.
5:5 And hope maketh not ashamed;
because the love of God is shed abroad in our hearts by the Holy Ghost which is
given unto us.
5:6
Canys Crist, pan oeddem ni eto yn weiniaid, mewn pryd a fu farw dros yr
annuwiol.
5:6 For when we were yet without
strength, in due time Christ died for the ungodly.
5:7 Oblegid braidd
y bydd neb farw dros un cyfiawn: oblegid dros y da ysgatfydd fe feiddiai un
farw hefyd.
5:7 For scarcely for a righteous
man will one die: yet peradventure for a good man some would even dare to die.
5:8
Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom, oblegid, a nyni eto yn
bechaduriaid, i Grist farw trosom ni.
5:8 But God commendeth his love
toward us, in that, while we were yet sinners, Christ died for us.
5:9
Mwy ynteu o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef, y’n hachubir
rhag digofaint trwyddo ef.
5:9 Much more then, being now
justified by his blood, we shall be saved from wrath through him.
5:10
Canys os pan oeddem yn elynion, y’n heddychwyd a Duw trwy farwolaeth ei Fab ef;
mwy o lawer, wedi ein heddychu, y’n hachubir trwy ei fywyd ef.
5:10 For if, when we were enemies,
we were reconciled to God by the death of his Son, much more, being reconciled,
we shall be saved by his life.
5:11
Ac nid hynny yn unig, eithr gorfoleddu yr ydym hefyd yn Nuw trwy ein Harglwydd
Iesu Grist, trwy yr hwn yr awr hon y derbyniasom y cymod.
5:11 And not only so, but we also
joy in God through our Lord Jesus Christ, by whom we have now received the
atonement.
5:12
Am hynny, megis trwy un dyn y daeth pechod i’r byd, a marwolaeth trwy bechod;
ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint â phechu o bawb:
5:12 Wherefore, as by one man sin
entered into the world, and death by sin; and so death passed upon all men, for
that all have sinned:
5:13
Canys hyd y ddeddf yr oedd pechod yn y byd: eithr ni chyfrifir pechod pryd nad
oes deddf.
5:13 (For until the law sin was in
the world: but sin is not imputed when there is no law.
5:14
Eithr teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, ie, arnynt hwy y rhai ni
phechasant yn ôl cyffelybiaeth camwedd Adda, yr hwn yw ffurf yr un oedd ar
ddyfod.
5:14 Nevertheless death reigned
from Adam to Moses, even over them that had not sinned after the similitude of
Adam's transgression, who is the figure of him that was to come.
5:15
Eithr nid megis y camwedd, felly y mae’r dawn hefyd. Canys os trwy gamwedd un y
bu feirw llawer, mwy o lawer yr amlhaodd gras Duw, a’r dawn trwy ras yr un dyn
Iesu Grist, i laweroedd.
5:15 But not as the offence, so
also is the free gift. For if through the offence of one many be dead, much
more the grace of God, and the gift by grace, which is by one man, Jesus
Christ, hath abounded unto many.
5:16
Ac nid megis y bu trwy un a bechodd, y mae’r dawn: canys y farn a ddaeth o un
camwedd i gondemniad; eithr y dawn sydd o gamweddau lawer i gyfiawnhad.
5:16 And not as it was by one that
sinned, so is the gift: for the judgment was by one to condemnation, but the
free gift is of many offences unto justification.
5:17
Canys os trwy gamwedd un y teyrnasodd marwolaeth trwy un; mwy o lawer y caiff
y rhai sydd yn derbyn lluosowgrwydd o ras, ac o ddawn cyfiawnder, deyrnasu mewn
bywyd trwy un, Iesu Grist.
5:17 For if by one man's offence
death reigned by one; much more they which receive abundance of grace and of the
gift of righteousness shall reign in life by one, Jesus Christ.)
5:18
Felly gan hynny, megis trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemniad;
felly hefyd trwy gyfiawnder un y daeth y dawn ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd.
5:18 Therefore as by the offence of
one judgment came upon all men to condemnation; even so by the righteousness of
one the free gift came upon all men unto justification of life.
5:19
Oblegid megis trwy anufudd-dod un dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid;
felly trwy ufudd-dod un y gwneir llawer yn gyfiawn.
5:19 For as by one man's
disobedience many were made sinners, so by the obedience of one shall many be
made righteous.
5:20
Eithr y ddeddf a ddaeth i mewn fel yr amlhai’r camwedd: eithr lle yr amlhaodd y
pechod, y rhagor amlhaodd gras:
5:20 Moreover the law entered, that
the offence might abound. But where sin abounded, grace did much more abound:
5:21
Fel megis y teyrnasodd pechod i farwolaeth, felly hefyd y teyrnasai gras trwy
gyfiawnder i fywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
5:21 That as sin hath reigned unto
death, even so might grace reign through righteousness unto eternal life by
Jesus Christ our Lord.
PENNOD 6
6:1 Beth wrth hynny a
ddywedwn ni? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhao gras?
6:1 What shall we say then? Shall
we continue in sin, that grace may abound?
6:2 Na ato Duw. A ninnau wedi meirw i bechod, pa wedd y
byddwn byw eto ynddo ef?
6:2 God forbid. How shall we, that
are dead to sin, live any longer therein?
6:3
Oni wyddoch chwi, am gynifer ohonom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, ein bedyddio
ni i’w farwolaeth ef?
6:3 Know ye not, that so many of
us as were baptized into Jesus Christ were baptized into his death?
6:4
Claddwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth: fel megis ag y
cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn
newydd-deb buchedd.
6:4 Therefore we are buried with
him by baptism into death: that like as Christ was raised up from the dead by
the glory of the Father, even so we also should walk in newness of life.
6:5
Canys os gwnaed ni yn gydblanhigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, felly y
byddwn i gyffelybiaeth ei atgyfodiad ef:
6:5 For if we have been planted together
in the likeness of his death, we shall be also in the likeness of his
resurrection:
6:6
Gan wybod hyn, ddarfod croeshoelio ein hen ddyn ni gydag ef, er mwyn dirymu
corff pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod.
6:6 Knowing this, that our old man
is crucified with him, that the body of sin might be destroyed, that henceforth
we should not serve sin.
6:7
Canys y mae’r hwn a fu farw, wedi ei ryddhau oddi wrth bechod.
6:7 For he that is dead is freed
from sin.
6:8
Ac os buom feirw gyda Christ, yr ydym ni yn credu y byddwn byw hefyd gydag ef:
6:8 Now if we be dead with Christ,
we believe that we shall also live with him:
6:9
Gan wybod nad yw Crist, yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, yn marw mwyach;
nad arglwyddiaetha marwolaeth arno mwyach.
6:9 Knowing that Christ being
raised from the dead dieth no more; death hath no more dominion over him.
6:10
Canys fel y bu efe farw, efe a fu farw unwaith i bechod: ac fel y mae yn byw,
byw y mae i Dduw.
6:10 For in that he died, he died
unto sin once: but in that he liveth, he liveth unto God.
6:11
Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod: eithr yn fyw i
Dduw, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
6:11 Likewise reckon ye also
yourselves to be dead indeed unto sin, but alive unto God through Jesus Christ
our Lord.
6:12
Na theyrnased pechod gan hynny yn eich corff marwol, i ufuddhau ohonoch iddo yn
ei chwantau.
6:12 Let not sin therefore reign in
your mortal body, that ye should obey it in the lusts thereof.
6:13
Ac na roddwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod: eithr rhoddwch eich
hunain i Dduw, megis rhai o feirw yn fyw; a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i
Dduw.
6:13 Neither yield ye your members
as instruments of unrighteousness unto sin: but yield yourselves unto God, as
those that are alive from the dead, and your members as instruments of
righteousness unto God.
6:14
Canys nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi: oblegid nid ydych chwi dan y
ddeddf, eithr dan ras.
6:14 For sin shall not have dominion
over you: for ye are not under the law, but under grace.
6:15
Beth wrth hynny? a bechwn ni, oherwydd nad ydym dan y ddedff, eithr dan ras? Na ato Duw.
6:15 What then? shall we sin,
because we are not under the law, but under grace? God forbid.
6:16
Oni wyddoch chwi, mai i bwy bynnag yr ydych yn eich rhoddi eich hunain yn
weision i ufuddhau iddo, eich bod yn weision i’r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo;
pa un bynnag ai i bechod i farwolaeth, ynteu i ufudd-dod i gyfiawnder?
6:16 Know ye not, that to whom ye
yield yourselves servants to obey, his servants ye are to whom ye obey; whether
of sin unto death, or of obedience unto righteousness?
6:17
Ond i Dduw y bo’r diolch, eich bod chwi gynt yn weision i bechod; eithr
ufuddhau ohonoch o’r galon i’r ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi.
6:17 But God be thanked, that ye
were the servants of sin, but ye have obeyed from the heart that form of
doctrine which was delivered you.
6:18
Ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, fe a’ch gwnaethpwyd yn weision i
gyfiawnder.
6:18 Being then made free from sin,
ye became the servants of righteousness.
6:19
Yn ôl dull dynol yr ydwyf yn dywedyd, oblegid gwendid eich cnawd chwi. Canys
megis ag y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac anwiredd, i
anwiredd; felly yr awr hon rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder, i
sancteiddrwydd.
6:19 I speak after the manner of
men because of the infirmity of your flesh: for as ye have yielded your members
servants to uncleanness and to iniquity unto iniquity; even so now yield your
members servants to righteousness unto holiness.
6:20
Canys pan oeddech yn weision pechod, rhyddion oeddech oddi wrth gyfiawnder.
6:20 For when ye were the servants
of sin, ye were free from righteousness.
6:21
Pa ffrwyth gan hynny oedd i chwi y pryd hwnnw o’r pethau y mae arnoch yr awr
hon gywilydd o’u plegid? canys diwedd y pethau hynny yw marwolaeth.
6:21 What fruit had ye then in
those things whereof ye are now ashamed? for the end of those things is death.
6:22
Ac yr awr hon, wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a’ch gwneuthur yn weisiod i
Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r diwedd yn fywyd
tragwyddol.
6:22 But now being made free from sin,
and become servants to God, ye have your fruit unto holiness, and the end
everlasting life.
6:23
Canys cyflog pechod yw marwolaeth; eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol, trwy
Iesu Grist ein Harglwydd.
6:23 For the wages of sin is death;
but the gift of God is eternal life through Jesus Christ our Lord.
PENNOD 7
7:1 Oni wyddoch chwi,
frodyr, (canys wrth y rhai sydd yn gwybod y ddeddf yr wyf yn dywedyd,) fod y
ddeddf yn arglwyddiaethu ar ddyn tra fyddo efe byw?
7:1 Know ye not, brethren, (for I
speak to them that know the law,) how that the law hath dominion over a man as
long as he liveth?
7:2
Canys y wraig y mae iddi ŵr, sydd yn rhwym wrth y ddeddf i’r gŵr, tra
fyddo efe byw: ond o bydd marw y gŵr, hi a ryddhawyd oddi wrth ddeddf y
gŵr.
7:2 For the woman which hath an
husband is bound by the law to her husband so long as he liveth; but if the
husband be dead, she is loosed from the law of her husband.
7:3
Ac felly, os a’r gŵr yn fyw, y bydd hi yn eiddo gŵr arall, hi a elwir
yn odinebus: eithr os marw fydd ei gŵr hi, y mae hi yn rhydd oddi wrth y
ddeddf; fel nad yw hi odinebus, er bod yn eiddo gŵr arall.
7:3 So then if, while her husband
liveth, she be married to another man, she shall be called an adulteress: but
if her husband be dead, she is free from that law; so that she is no
adulteress, though she be married to another man.
7:4
Ac felly chwithau, fy mrodyr, ydych wedi meirw i’r ddeddf trwy gorff Crist; fel
y byddech eiddo un arall, sef eiddo’r hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem
ffrwyth i Dduw.
7:4 Wherefore, my brethren, ye
also are become dead to the law by the body of Christ; that ye should be
married to another, even to him who is raised from the dead, that we should
bring forth fruit unto God.
7:5
Canys pan oeddem yn y cnawd, gwyniau pechodau, y rhai oedd trwy’r ddeddf, oedd
yn gweithio yn ein haelodau ni, i ddwyn ffrwyth i farwolaeth.
7:5 For when we were in the flesh,
the motions of sins, which were by the law, did work in our members to bring
forth fruit unto death.
7:6
Eithr yn awr y rhyddhawyd ni oddi wrth y ddeddf, wedi ein meirw i’r peth y’n
hatelid; fel y gwasanaethem mewn newydd-deb ysbryd, ac nid yn hender y
llythyren.
7:6 But now we are delivered from
the law, that being dead wherein we were held; that we should serve in newness
of spirit, and not in the oldness of the letter.
7:7
Beth wrth hynny a ddywedwn ni? Ai pechod yw’r ddeddf? Na ato Duw. Eithr nid
adnabûm i bechod, ond wrth y ddeddf: canys nid adnabuaswn i drachwant, oni bai
ddywedyd o’r ddeddf, Na thrachwanta.
7:7 What shall we say then? is the
law sin? God forbid. Nay, I had not known sin, but by the law: for I had not
known lust, except the law had said, Thou shalt not covet.
7:8
Eithr pechod, wedi cymryd achlysur trwy’r gorchymyn, a weithiodd ynof fi bob
trachwant.
7:8 But sin, taking occasion by
the commandment, wrought in me all manner of concupiscence. For without the law
sin was dead.
7:9
Canys heb y ddeddf marw oedd pechod. Eithr yr oeddwn i gynt yn fyw heb y
ddeddf: ond pan ddaeth y gorchymyn, yr adfywiodd pechod, a minnau a fûm farw,
7:9 For I was alive without the
law once: but when the commandment came, sin revived, and I died.
7:10
A’r gorchymyn, yr hwn ydoedd i fywyd, hwnnw a gaed i mi i farwolaeth.
7:10 And the commandment, which was
ordained to life, I found to be unto death.
7:11
Canys pechod, wedi cymryd achlysur trwy’r gorchymyn, a’m twyllodd i; a thrwy
hwnnw a’m lladdodd.
7:11 For sin, taking occasion by
the commandment, deceived me, and by it slew me.
7:12
Felly yn wir y mae’r ddeddf yn sanctaidd; a’r gorchymyn yn sanctaidd, ac yn
gyfiawn, ac yn dda.
7:12 Wherefore the law is holy, and
the commandment holy, and just, and good.
7:13
Gan hynny a wnaethpwyd y peth oedd dda, yn farwolaeth i mi? Na ato Duw.
Eithr pechod, fel yr ymddangosai yn bechod, gan weithio marwolaeth ynof fi
trwy’r hyn sydd dda: fel y byddai pechod trwy’r gorchymyn yn dra phechadurus.
7:13 Was then that which is good made
death unto me? God forbid. But sin, that it might appear sin, working death in
me by that which is good; that sin by the commandment might become exceeding
sinful.
7:14
Canys ni a wyddom fod y ddeddf yn ysbrydol: eithr myfi sydd gnawdol, wedi fy
ngwerthu dan bechod.
7:14 For we know that the law is
spiritual: but I am carnal, sold under sin.
7:15
Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, nid yw fodlon gennyf: canys nid y peth yr
wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur; eithr y peth sydd gas gennyf,
hyn yr ydwyf yn ei wneuthur.
7:15 For that which I do I allow
not: for what I would, that do I not; but what I hate, that do I.
7:16
Ac os y peth nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur, yr wyf fi yn
cydsynio â’r ddeddf mai da ydyw.
7:16 If then I do that which I
would not, I consent unto the law that it is good.
7:17
Felly yr awron nid myfi sydd mwy yn gwneuthur hynny, eithr y pechod yr hwn sydd
yn trigo ynof fi.
7:17 Now then it is no more I that
do it, but sin that dwelleth in me.
7:18
Canys mi a wn nad oes ynof fi (hynny yw, yn fy nghnawd i,) ddim da yn trigo:
oblegid yr ewyllysio sydd barod gennyf; eithr cwblhau’r hyn sydd dda, nid wyf
yn medru arno.
7:18 For I know that in me (that is,
in my flesh,) dwelleth no good thing: for to will is present with me; but how
to perform that which is good I find not.
7:19
Canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio; ond y drwg yr hwn
nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur.
7:19 For the good that I would I do
not: but the evil which I would not, that I do.
7:20
Ac os ydwyf fi yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio, nid myfi mwyach
sydd yn ei wneuthur, ond y pechod sydd yn trigo ynof fi.
7:20 Now if I do that I would not,
it is no more I that do it, but sin that dwelleth in me.
7:21
Yr ydwyf fi gan hynny yn cael deddf, a mi yn ewyllysio gwneuthur da, fod drwg
yn bresennol gyda mi.
7:21 I find then a law, that, when
I would do good, evil is present with me.
7:22
Canys ymhyfrydu yr wyf yng nghyfraith Duw, yn ôl y dyn oddi mewn:
7:22 For I delight in the law of
God after the inward man:
7:23
Eithr yr wyf yn gweled deddf arall yn fy aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn deddf
fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i ddeddf pechod, yr hon sydd yn fy aelodau.
7:23 But I see another law in my
members, warring against the law of my mind, and bringing me into captivity to
the law of sin which is in my members.
7:24
Ys truan o ddyn wyf fi! pwy a’m gwared i oddi wrth gorff y farwolaeth hon?
7:24 O wretched man that I am! who
shall deliver me from the body of this death?
7:25
Yr wyf fi yn diolch i Dduw, trwy Iesu Grist fin Arglwydd. Felly gan hynny, yr
wyf fi fy hun â’r meddwl yn gwasanaethu cyfraith Duw; ond â’r cnawd, cyfraith
pechod.
7:25 I thank God through Jesus
Christ our Lord. So then with the mind I myself serve the law of God; but with
the flesh the law of sin.
PENNOD 8
8:1 Nid oes gan hynny yn awr
ddim damnedigaeth i’r rhai sydd yng Nghrist Iesu, y rhai sydd yn rhodio nid yn
ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd.
8:1 There is therefore now no
condemnation to them which are in Christ Jesus, who walk not after the flesh,
but after the Spirit.
8:2
Canys deddf Ysbryd y bywyd yng Nghrist Iesu a’m rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pechod
a marwolaeth.
8:2 For the law of the Spirit of
life in Christ Jesus hath made me free from the law of sin and death.
8:3
Canys yr hyn ni allai’r ddeddf, oherwydd ei bod yn wan trwy y cnawd, Duw a ddanfonodd
ei Fab ei hun yng nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod a gondemniodd
bechod yn y cnawd:
8:3 For what the law could not do,
in that it was weak through the flesh, God sending his own Son in the likeness
of sinful flesh, and for sin, condemned sin in the flesh:
8:4
Fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ôl y
cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd.
8:4 That the righteousness of the
law might be fulfilled in us, who walk not after the flesh, but after the Spirit.
8:5
Canys y rhai sydd yn ôl y cnawd, am bethau’r cnawd y maent yn synio: eithr y
rhai sydd yn ôl yr Ysbryd, am bethau’r Ysbryd.
8:5 For they that are after the
flesh do mind the things of the flesh; but they that are after the Spirit the
things of the Spirit.
8:6
Canys syniad y cnawd, marwolaeth yw; a syniad yr ysbryd, bywyd a thangnefedd
yw:
8:6 For to be carnally minded is
death; but to be spiritually minded is life and peace.
8:7
Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw: canys nid yw ddarostyngedig
i ddeddf Duw; oblegid nis gall chwaith.
8:7 Because the carnal mind is
enmity against God: for it is not subject to the law of God, neither indeed can
be.
8:8
A’r rhai sydd yn y cnawd, ni allant ryngu bodd Duw.
8:8 So then they that are in the
flesh cannot please God.
8:9
Eiilir chwychwi nid ydych yn y cnawd, ond yn yr Ysbryd, od yw Ysbryd Duw yn
trigo ynoch. Ac od oes neb heb Ysbryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef.
8:9 But ye are not in the flesh,
but in the Spirit, if so be that the Spirit of God dwell in you. Now if any man
have not the Spirit of Christ, he is none of his.
8:10
Ac os yw Crist ynoch, y mae’r corff yn farw, oherwydd pechod; eithr yr Ysbryd
yn fywyd, oherwydd cyfiawnder.
8:10 And if Christ be in you, the
body is dead because of sin; but the Spirit is life because of righteousness.
8:11
Ac os Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch; yr hwn a
gyfododd Grist o feirw a fywiocâ hefyd eich cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd
yr hwn sydd yn trigo ynoch.
8:11 But if the Spirit of him that
raised up Jesus from the dead dwell in you, he that raised up Christ from the
dead shall also quicken your mortal bodies by his Spirit that dwelleth in you.
8:12
Am hynny, frodyr, dyledwyr ydym, nid i’r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd.
8:12 Therefore, brethren, we are
debtors, not to the flesh, to live after the flesh.
8:13
Canys os byw yr ydych yn ôl y cnawd, meirw fyddwch: eithr os ydych yn
marweiddio gweithredoedd y corff trwy’r Ysbryd, byw fyddwch.
8:13 For if ye live after the
flesh, ye shall die: but if ye through the Spirit do mortify the deeds of the
body, ye shall live.
8:14
Canys y sawl a arweinir gan Ysbryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw.
8:14 For as many as are led by the
Spirit of God, they are the sons of God.
8:15
Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed drachefn i beri ofn; eithr derbyniasoch
Ysbryd mabwysiad, trwy’r hwn yr ydym yn llefain, Abba, Dad.
8:15 For ye have not received the
spirit of bondage again to fear; but ye have received the Spirit of adoption,
whereby we cry, Abba, Father.
8:16
Y mae’r Ysbryd hwn yn cyd-dystiolaethu â’n hysbryd ni, ein bod ni yn blant i
Dduw:
8:16 The Spirit itself beareth
witness with our spirit, that we are the children of God:
8:17
Ac os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd-etifeddion â
Christ: os ydym yn cyd-ddioddef gydag ef, fel y’n cydogonedder hefyd.
8:17 And if children, then heirs;
heirs of God, and joint-heirs with Christ; if so be that we suffer with him,
that we may be also glorified together.
8:18
Oblegid yr ydwyf yn cyfrif, nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn
haeddu eu cyffelybu i’r gogoniant a ddatguddir i ni.
8:18 For I reckon that the
sufferings of this present time are not worthy to be compared with the glory
which shall be revealed in us.
8:19
Canys awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw.
8:19 For the earnest expectation of
the creature waiteth for the manifestation of the sons of God.
8:20
Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd; nid o’i fodd, eithr oblegid
yr hwn a’i darostyngodd:
8:20 For the creature was made
subject to vanity, not willingly, but by reason of him who hath subjected the
same in hope,
8:21
Dan obaith y rhyddheir y creadur yntau hefyd, o gaethiwed llygredigaeth, i
ryddid gogoniant plant Duw.
8:21 Because the creature itself
also shall be delivered from the bondage of corruption into the glorious
liberty of the children of God.
8:22
Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cydocheneidio, ac yn cydofidio hyd y pryd
hwn.
8:22 For we know that the whole
creation groaneth and travaileth in pain together until now.
8:23
Ac nid yn unig y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr
Ysbryd: yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan
ddisgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corff.
8:23 And not only they, but
ourselves also, which have the firstfruits of the Spirit, even we ourselves
groan within ourselves, waiting for the adoption, to wit, the redemption of our
body.
8:24
Canys trwy obaith y’n hiachawyd. Eithr y gobaith a welir, nid yw obaith:
oblegid y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio?
8:24 For we are saved by hope: but
hope that is seen is not hope: for what a man seeth, why doth he yet hope for?
8:25
Ond os ydym ni yn gobeithio’r hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd
yn disgwyl amdano.
8:25 But if we hope for that we see
not, then do we with patience wait for it.
8:26
A’r un ffunud y mae’r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni. Canys ni
wyddom ni beth a weddïom, megis y dylem: eithr y mae’r Ysbryd ei hun yn erfyn
trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy.
8:26 Likewise the Spirit also
helpeth our infirmities: for we know not what we should pray for as we ought:
but the Spirit itself maketh intercession for us with groanings which cannot be
uttered.
8:27
A’r hwn sydd yn chwilio’r calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys
y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint.
8:27 And he that searcheth the
hearts knoweth what is the mind of the Spirit, because he maketh intercession
for the saints according to the will of God.
8:28
Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sydd yn caru Duw;
sef i’r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef.
8:28 And we know that all things
work together for good to them that love God, to them who are the called
according to his purpose.
8:29
Oblegid y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd i fod yn un ffurf â delw ei
Fab ef; fel y byddai efe yn gyntaf-anedig ymhlith brodyr lawer.
8:29 For whom he did foreknow, he
also did predestinate to be conformed to the image of his Son, that he might be
the firstborn among many brethren.
8:30
A’r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a’r rhai a alwodd
efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe; a’r rhai a gyfiawnhaodd efe, y rhai
hynny hefyd a ogoneddodd efe.
8:30 Moreover whom he did
predestinate, them he also called: and whom he called, them he also justified:
and whom he justified, them he also glorified.
8:31
Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw trosom, pwy a all fod
i’n herbyn?
8:31 What shall we then say to
these things? If God be for us, who can be against us?
8:32
Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a’i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd
gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth;
8:32 He that spared not his own
Son, but delivered him up for us all, how shall he not with him also freely
give us all things?
8:33
Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw’r hwn sydd yn cyfiawnhau:
8:33 Who shall lay any thing to the
charge of God's elect? It is God that justifieth.
8:34
Pwy yw’r hwn sydd yn damnio? Crist yw’r hwn a fu farw, ie, yn hytrach, yr hwn a
gyfodwyd hefyd; yr hwn hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn
trosom ni.
8:34 Who is he that condemneth? It
is Christ that died, yea rather, that is risen again, who is even at the right
hand of God, who also maketh intercession for us.
8:35
Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? ai gorthrymder, neu ing, neu ymlid,
neu newyn, neu noethni, neu enbydrwydd, neu gleddyf?
8:35 Who shall separate us from the
love of Christ? shall tribulation, or distress, or persecution, or famine, or nakedness,
or peril, or sword?
8:36
Megis y mae yn ysgrifenedig, Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hyd y
dydd; cyfrifwyd ni fel defaid i’r lladdfa.
8:36 As it is written, For thy sake
we are killed all the day long; we are accounted as sheep for the slaughter.
8:37
Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy’r hwn a’n
carodd ni.
8:37 Nay, in all these things we
are more than conquerors through him that loved us.
8:38
Canys y mae’n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na
thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod,
8:38 For I am persuaded, that neither
death, nor life, nor angels, nor principalities, nor powers, nor things
present, nor things to come,
8:39
Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad
Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
8:39 Nor height, nor depth, nor any
other creature, shall be able to separate us from the love of God, which is in
Christ Jesus our Lord.
PENNOD 9
9:1 Y gwirionedd yr wyf fi
yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd, a’m cydwybod hefyd yn
cyd-dystiolaethu â mi yn yr Ysbryd Glân,
9:1 I say the truth in Christ, I
lie not, my conscience also bearing me witness in the Holy Ghost,
9:2
Fod i mi dristyd mawr, a gofid dibaid i’m calon.
9:2 That I have great heaviness
and continual sorrow in my heart.
9:3
Canys mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddi wrth Grist dros fy mrodyr,
sef fy nghenedl yn ôl y cnawd:
9:3 For I could wish that myself
were accursed from Christ for my brethren, my kinsmen according to the flesh:
9:4
Y rhai sydd Israeliaid; eiddo y rhai yw’r mabwysiad, a’r gogoniant, a’r
cyfamodau, a dodiad y ddeddf, a’r gwasanaeth, a’r addewidion;
9:4 Who are Israelites; to whom
pertaineth the adoption, and the glory, and the covenants, and the giving of
the law, and the service of God, and the promises;
9:5
Eiddo y rhai yw’r tadau; ac o’r rhai yr hanoedd Crist yn ôl y cnawd, yr hwn
sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen.
9:5 Whose are the fathers, and of
whom as concerning the flesh Christ came, who is over all, God blessed for ever.
Amen.
9:6
Eithr nid posibl yw myned gair Duw yn ddi-rym: canys nid Israel yw pawb a’r
sydd o Israel.
9:6 Not as though the word of God
hath taken none effect. For they are not all Israel, which are of Israel:
9:7
Ac nid ydynt, oblegid eu bod yn had Abraham, i gyd yn blant; eithr, Yn Isaac y
gelwir i ti had.
9:7 Neither, because they are the
seed of Abraham, are they all children: but, In Isaac shall thy seed be called.
9:8
Hynny ydyw, Nid plant y cnawd, y rhai hynny sydd blant i Dduw; eithr plant yr
addewid a gyfrifir yn had.
9:8 That is, They which are the
children of the flesh, these are not the children of God: but the children of
the promise are counted for the seed.
9:9
Canys gair yr addewid yw hwn; Ar yr amser hwn y deuaf, a bydd mab i Sara;
9:9 For this is the word of
promise, At this time will I come, and Sarah shall have a son.
9:10
Ac nid hyn yn unig; eithr Rebeca hefyd, wedi iddi feichiogi o un, sef o’n tad
Isaac;
9:10 And not only this; but when
Rebecca also had conceived by one, even by our father Isaac;
9:11
(Canys cyn geni y plant eto, na gwneuthur ohonynt dda na drwg, fel y byddai i’r
arfaeth yn ôl etholedigaeth Duw sefyll, nid o weithredoedd, eithr o’r hwn sydd
yn galw;)
9:11 (For the children being not
yet born, neither having done any good or evil, that the purpose of God
according to election might stand, not of works, but of him that calleth;)
9:12
Y dywedwyd wrthi, Yr hynaf a wasanaetha’r ieuangaf.
9:12 It was said unto her, The
elder shall serve the younger.
9:13
Megis yr ysgrifennwyd, Jacob a gerais, eithr Esau a gaseais.
9:13 As it is written, Jacob have I
loved, but Esau have I hated.
9:14
Beth gan hynny a ddywedwn ni? A oes anghynawnder gyda Duw? Na ato Duw.
9:14 What shall we say then? Is
there unrighteousness with God? God forbid.
9:15
Canys y mae yn dywedyd wrth Moses, Mi a drugarhaf wrth yr hwn y trugarhawyf, ac
a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyt.
9:15 For he saith to Moses, I will
have mercy on whom I will have mercy, and I will have compassion on whom I will
have compassion.
9:16
Felly gan hynny nid o’r hwn sydd yn ewyllysio y mae, nac o’r hwn sydd yn rhedeg
chwaith; ond o Dduw, yr hwn sydd yn trugarhau.
9:16 So then it is not of him that
willeth, nor of him that runneth, but of God that showeth mercy.
9:17
Canys y mae’r ysgrythur yn dywedyd wrth Pharo, I hyn yma y’th gyfodais di, fel
y dangoswn fy ngallu ynot ti, ac fel y datgenid fy enw trwy’r holl ddaear.
9:17 For the scripture saith unto
Pharaoh, Even for this same purpose have I raised thee up, that I might show my
power in thee, and that my name might be declared throughout all the earth.
9:18 Felly gan hynny
y neb y mynno y mae efe yn trugarhau wrtho, a’r neb y mynno y mae efe yn ei
galedu.
9:18 Therefore hath he mercy on
whom he will have mercy, and whom he will he hardeneth.
9:19
Ti a ddywedi gan hynny wrthyf, Paham y mae efe eto yn beio? canys pwy a wrthwynebodd
ei ewyllys ef?
9:19 Thou wilt say then unto me,
Why doth he yet find fault? For who hath resisted his will?
9:20
Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw? a ddywed y peth
ffurfiedig wrth yr hwn a’i ffurfiodd, Paham y’m gwnaethost fel hyn?
9:20 Nay but, O man, who art thou
that repliest against God? Shall the thing formed say to him that formed it,
Why hast thou made me thus?
9:21
Onid oes awdurdod i’r crochenydd ar y priddgist, i wneuthur o’r un telpyn pridd
un llestr i barch, ac arall i amarch?
9:21 Hath not the potter power over
the clay, of the same lump to make one vessel unto honour, and another unto
dishonour?
9:22
Beth os Duw, yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei allu, a
oddefodd trwy hirymaros lestri digofaint, wedi eu cymhwyso i golledigaeth:
9:22 What if God, willing to show
his wrath, and to make his power known, endured with much longsuffering the
vessels of wrath fitted to destruction:
9:23
Ac i beri gwybod golud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a ragbaratôdd
efe i ogoniant,
9:23 And that he might make known
the riches of his glory on the vessels of mercy, which he had afore prepared
unto glory,
9:24
Sef nyni, y rhai a alwodd efe, nid o’r Iddewon yn unig, eithr hefyd o’r
Cenhedloedd?
9:24 Even us, whom he hath called,
not of the Jews only, but also of the Gentiles?
9:25
Megis hefyd y mae efe yn dywedyd yn Hosea, Mi a alwaf yr hwn nid yw bobl i mi,
yn bobl i mi; a’r hon nid yw annwyl, yn annwyl.
9:25 As he saith also in Osee, I
will call them my people, which were not my people; and her beloved, which was
not beloved.
9:26
A bydd yn y fangre lle y dywedwyd wrthynt, Nid fy mhobl i ydych chwi; yno y
gelwir hwy yn feibion i’r Duw byw.
9:26 And it shall come to pass, that
in the place where it was said unto them, Ye are not my people; there shall
they be called the children of the living God.
9:27 Hefyd y mae
Eseias yn llefain yn yr Israel, Cyd byddai nifer meibion Israel fel tywod y
môr, gweddill a achubir.
9:27 Esaias also crieth concerning
Israel, Though the number of the children of Israel be as the sand of the sea,
a remnant shall be saved:
9:28
Canys efe a orffen ac a gwtoga’r gwaith mewn cyfiawnder: oblegid byr waith a
wna’r Arglwydd ar y ddaear.
9:28 For he will finish the work,
and cut it short in righteousness: because a short work will the Lord make upon
the earth.
9:29
Ac megis y dywedodd Eseias yn y blaen, Oni buasai i Arglwydd y Sabaoth adael i
ni had, megis Sodoma y buasem, a gwnaethid ni yn gyffelyb i Gomorra.
9:29 And as Esaias said before,
Except the Lord of Sabaoth had left us a seed, we had been as Sodoma, and been
made like unto Gomorrha.
9:30
Beth gan hynny a ddywedwn ni? Bod y Cenhedloedd, y rhai nid oeddynt yn dilyn
cyfiawnder, wedi derbyn cyfiawnder, sef y cyfiawnder sydd o ffydd:
9:30 What shall we say then? That
the Gentiles, which followed not after righteousness, have attained to
righteousness, even the righteousness which is of faith.
9:31
Ac Israel, yr hwn oedd yn dilyn deddf cyfiawnder, ni chyrhaeddodd ddeddf
cyfiawnder.
9:31 But Israel, which followed
after the law of righteousness, hath not attained to the law of righteousness.
9:32
Paham? Am nad oeddynt yn ei cheisio trwy ffydd, ond megis trwy weithredoedd y
ddeddf: canys hwy a dramgwyddasant wrth y maen tramgwydd;
9:32 Wherefore? Because they sought
it not by faith, but as it were by the works of the law. For they stumbled at
that stumblingstone;
9:33
Megis y mae yn ysgrifenedig, Wele fi yn gosod yn Seion faen tramgwydd, a chraig
rhwystr: a phob un a gredo ynddo ni chywilyddir.
9:33 As it is written, Behold, I
lay in Sion a stumblingstone and rock of offence: and whosoever believeth on
him shall not be ashamed.
PENNOD 10
10:1 O frodyr, gwir ewyllys
fy nghalon, a’m gweddi ar Dduw dros yr Israel, sydd er iachawdwriaeth.
10:1 Brethren, my heart's desire
and prayer to God for Israel is, that they might be saved.
10:2
Canys yr wyf fi yn dyst iddynt, fod ganddynt sêl Duw, eithr nid ar ôl
gwybodaeth.
10:2 For I bear them record that
they have a zeal of God, but not according to knowledge.
10:3
Canys hwynt-hwy, heb wybod cyfiawnder Duw, ac yn ceisio gosod eu cyfiawnder eu
hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw.
10:3 For they being ignorant of
God's righteousness, and going about to establish their own righteousness, have
not submitted themselves unto the righteousness of God.
10:4
Canys Crist yw diwedd y ddeddf, er cyfiawnder i bob un sy’n credu.
10:4 For Christ is the end of the
law for righteousness to every one that believeth.
10:5
Canys y mae Moses yn ysgrifennu am y cyfiawnder sydd o’r ddeddf, Mai’r dyn a
wnêl y pethau hynny, a fydd byw trwyddynt.
10:5 For Moses describeth the
righteousness which is of the law, That the man which doeth those things shall
live by them.
10:6
Eithr y mae’r cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn; Na ddywed yn dy
galon, Pwy a esgyn i’r nef? (hynny yw, dwyn Crist i waered oddi uchod:)
10:6 But the righteousness which is
of faith speaketh on this wise, Say not in thine heart, Who shall ascend into
heaven? (that is, to bring Christ down from above:)
10:7
Neu, pwy a ddisgyn i’r dyfnder? (hynny yw, dwyn Crist drachefn i fyny oddi wrth
y meirw,)
10:7 Or, Who shall descend into the
deep? (that is, to bring up Christ again from the dead.)
10:8
Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae’r gair yn agos atat, yn dy enau, ac
yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregeth;
10:8 But what saith it? The word is
nigh thee, even in thy mouth, and in thy heart: that is, the word of faith,
which we preach;
10:9
Mai os cyffesi â’th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei
gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi.
10:9 That if thou shalt confess with
thy mouth the Lord Jesus, and shalt believe in thine heart that God hath raised
him from the dead, thou shalt be saved.
10:10 Canys â’r galon y credir i gyfiawnder, ac â’r genau y cyffesir
i iachawdwriaeth.
10:10 For with the heart man
believeth unto righteousness; and with the mouth confession is made unto
salvation.
10:11 Oblegid y mae’r ysgrythur yn dywedyd, Pwy bynnag sydd yn credu
ynddo ef, ni chywilyddir.
10:11 For the scripture saith,
Whosoever believeth on him shall not be ashamed.
10:12 Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr: oblegid yr un
Arglwydd ar bawb, sydd oludog i bawb a’r sydd yn galw arno.
10:12 For there is no difference
between the Jew and the Greek: for the same Lord over all is rich unto all that
call upon him.
10:13 Canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd.
10:13 For whosoever shall call upon
the name of the Lord shall be saved.
10:14 Pa fodd gan hynny y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a
pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant amdano? a pha fodd y clywant, heb
bregethwr?
10:14 How then shall they call on
him in whom they have not believed? and how shall they believe in him of whom
they have not heard? and how shall they hear without a preacher?
10:15 A pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt? megis y mae yn
ysgrifenedig, Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu tangnefedd, y rhai
sydd yn efengylu pethau daionus!
10:15 And how shall they preach,
except they be sent? as it is written, How beautiful are the feet of them that
preach the gospel of peace, and bring glad tidings of good things!
10:16 Eithr nid ufuddhasant hwy oll i’r efengyl: canys y mae Eseias
yn dywedyd, O Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd ni?
10:16 But they have not all obeyed
the gospel. For Esaias saith, Lord, who hath believed our report?
10:17 Am hynny ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw.
10:17 So then faith cometh by
hearing, and hearing by the word of God.
10:18 Eithr meddaf, Oni chlywsant hwy? Yn ddiau i’r holl ddaear yr
aeth eu sŵn hwy, a’u geiriau hyd derfynau y byd.
10:18 But I say, Have they not
heard? Yes verily, their sound went into all the earth, and their words unto
the ends of the world.
10:19 Eithr meddaf, Oni wybu Israel? Yn gyntaf, y mae Moses yn
dywedyd, Mi a baraf i chwi wynfydu trwy rai nid yw genedl; trwy genedl
anneallus y’ch digiaf chwi.
10:19 But I say, Did not Israel
know? First Moses saith, I will provoke you to jealousy by them that are no
people, and by a foolish nation I will anger you.
10:20 Eithr y mae Eseias yn ymhyfhau, ac yn dywedyd, Cafwyd fi gan y
rhai nid oeddynt yn fy ngheisio; a gwnaed fi yn eglur i’r rhai nid oeddynt yn
ymofyn amdanaf.
10:20 But Esaias is very bold, and
saith, I was found of them that sought me not; I was made manifest unto them
that asked not after me.
10:21 Ac wrth yr Israel y mae yn dywedyd, Ar hyd y dydd yr estynnais
fy nwylo at bobl anufudd ac yn gwrthddywedyd.
10:21 But to Israel he saith, All
day long I have stretched forth my hands unto a disobedient and gainsaying
people.
PENNOD 11
11:1 Am hynny meddaf, A wrthododd Duw ei bobl? Na ato Duw. Canys yr
wyf finnau hefyd yn Israeliad, o had Abraham, o lwyth Benjamin.
11:1 I say then, Hath God cast away
his people? God forbid. For I also am an Israelite, of the seed of Abraham, of
the tribe of Benjamin.
11:2 Ni wrthododd Duw ei bobl, yr hwn ei adnabu
efe o’r blaen. Oni wyddoch chwi pa beth y mae’r ysgrythur yn ei ddywedyd am
Eleias? pa fodd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel, gan ddywedyd,
11:2 God hath not cast away his
people which he foreknew. Wot ye not what the scripture saith of Elias? how he
maketh intercession to God against Israel, saying,
11:3
O Arglwydd, hwy a laddasant dy broffwydi, ac a gloddiasant dy allorau i lawr;
ac myfi a adawyd yn unig, ac y maent yn ceisio fy einioes innau.
11:3 Lord, they have killed thy
prophets, and digged down thine altars; and I am left alone, and they seek my
life.
11:4 Eithr pa
beth y mae ateb Duw yn ei ddywedyd wrtho? Mi a adewais i mi fy hun saith mil o
wŷr, y rhai ni phlygasant eu gliniau i Baal.
11:4 But what saith the answer of
God unto him? I have reserved to myself seven thousand men, who have not bowed
the knee to the image of Baal.
11:5
Felly gan hynny y pryd hwn hefyd y mae gweddill yn ôl etholedigaeth gras.
11:5 Even so then at this present
time also there is a remnant according to the election of grace.
11:6 Ac os o ras,
nid o weithredoedd mwyach: os amgen, nid yw gras yn ras mwyach. Ac os o
weithredoedd, nid yw o ras mwyach: os amgen, nid yw gweithred yn weithred
mwyach.
11:6 And if by grace, then is it no
more of works: otherwise grace is no more grace. But if it be of works, then is
it no more grace: otherwise work is no more work.
11:7 Beth gan
hynny? Ni chafodd Israel yr hyn y mae yn ei geisio: eithr yr etholedigaeth a’i
cafodd, a’r lleill a galedwyd;
11:7 What then? Israel hath not
obtained that which he seeketh for; but the election hath obtained it, and the
rest were blinded
11:8 (Megis y
mae yn ysgrifenedig, Rhoddes Duw iddynt ysbryd trymgwsg, llygaid fel na welent,
a chlustiau fel na chlywent;) hyd y dydd heddiw.
11:8 (According as it is written,
God hath given them the spirit of slumber, eyes that they should not see, and ears
that they should not hear;) unto this day.
11:9 Ac y mae
Dafydd yn dywedyd, Bydded eu bord hwy yn rhwyd, ac yn fagl, ac yn dramgwydd, ac
yn daledigaeth iddynt:
11:9 And David saith, Let their
table be made a snare, and a trap, and a stumblingblock, and a recompense unto
them:
11:10 Tywyller
eu llygaid hwy, fel na welant, a chydgryma di eu cefnau hwy bob amser.
11:10 Let their eyes be darkened
that they may not see, and bow down their back alway.
11:11 Gan hynny meddaf, A dramgwyddasant hwy fel y cwympent? Na ato
Duw: eithr trwy eu cwymp hwy y daeth iachawdwriaeth i’r Cenhedloedd, i yrru
eiddigedd arnynt.
11:11 I say then, Have they stumbled
that they should fall? God forbid: but rather through their fall salvation is
come unto the Gentiles, for to provoke them to jealousy.
11:12 Oherwydd paham, os ydyw eu cwymp hwy yn olud i’r byd, a’u
lleihad hwy yn olud i’r Cenhedloedd; pa faint mwy y bydd eu cyflawnder hwy?
11:12 Now if the fall of them be the
riches of the world, and the diminishing of them the riches of the Gentiles;
how much more their fulness?
11:13 Canys wrthych chwi y Cenhedloedd yr wyf yn dywedyd, yn gymaint
a’m bod i yn apostol y Cenhedloedd, yr wyf yn mawrhau fy swydd;
11:13 For I speak to you Gentiles,
inasmuch as I am the apostle of the Gentiles, I magnify mine office:
11:14 Os gallaf ryw fodd yrru eiddigedd ar fy nghig a’m gwaed fy hun,
ac achub rhai ohonynt.
11:14 If by any means I may provoke
to emulation them which are my flesh, and might save some of them.
11:15 Canys os yw eu gwrthodiad hwy yn gymod i’r byd, beth fydd eu
derbyniad hwy ond bywyd o feirw?
11:15 For if the casting away of
them be the reconciling of the world, what shall the receiving of them be, but
life from the dead?
11:16 Canys os sanctaidd y blaenffrwyth, y mae’r clamp toes hefyd yn
sanctaidd: ac os sanctaidd y gwreiddyn, y mae’r canghennau hefyd felly.
11:16 For if the firstfruit be holy,
the lump is also holy: and if the root be holy, so are the branches.
11:17 Ac os rhai o’r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi yn
olewydden wyllt a impiwyd i mewn yn eu plith hwy, ac a’th wnaethpwyd yn
gyfrannog o’r gwreiddyn, ac o fraster yr olewydden;
11:17 And if some of the branches be
broken off, and thou, being a wild olive tree, wert grafted in among them, and
with them partakest of the root and fatness of the olive tree;
11:18 Na orfoledda yn erbyn y canghennau. Ac os gorfoleddi, nid tydi
sydd yn dwyn y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi.
11:18 Boast not against the branches.
But if thou boast, thou bearest not the root, but the root thee.
11:19 Ti a ddywedi gan hynny, Torrwyd y canghennau ymaith, fel yr
impid fi i mewn.
11:19 Thou wilt say then, The
branches were broken off, that I might be grafted in.
11:20 Da; trwy anghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith, â thithau sydd
yn sefyll trwy ffydd. Na fydd uchelfryd, eithr ofna.
11:20 Well; because of unbelief they
were broken off, and thou standest by faith. Be not highminded, but fear:
11:21 Canys onid arbedodd Duw y canghennau naturiol, gwylia rhag nad
arbedo dithau chwaith.
11:21 For if God spared not the
natural branches, take heed lest he also spare not thee.
11:22 Gwêl am hynny ddaioni a thoster Duw: sef i’r rhai a gwympasant,
toster; eithr daioni i ti, os arhosi yn ei ddaioni ef: os amgen, torrir dithau
hefyd ymaith.
11:22 Behold therefore the goodness
and severity of God: on them which fell, severity; but toward thee, goodness,
if thou continue in his goodness: otherwise thou also shalt be cut off.
11:23 A hwythau, onid arhosant yn anghrediniaeth, a impir i mewn:
canys fe all Duw eu himpio hwy i mewn drachefn.
11:23 And they also, if they abide
not still in unbelief, shall be grafted in: for God is able to graft them in
again.
11:24 Canys os tydi a dorrwyd ymaith o’r olewydden yr hon oedd wyllt
wrth naturiaeth, a’th impio yn erbyn naturiaeth mewn gwir olewydden; pa faint
mwy y caiff y rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holewydden
eu hun?
11:24 For if thou wert cut out of
the olive tree which is wild by nature, and wert grafted contrary to nature
into a good olive tree: how much more shall these, which be the natural
branches, be grafted into their own olive tree?
11:25 Canys nid ewyllysiwn, frodyr, eich bod heb wybod y dirgelwch
hwn, (fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hun,) ddyfod dallineb o ran i
Israel, hyd oni ddêl cyflawnder y Cenhedloedd i mewn.
11:25 For I would not, brethren,
that ye should be ignorant of this mystery, lest ye should be wise in your own
conceits; that blindness in part is happened to Israel, until the fulness of
the Gentiles be come in.
11:26 Ac felly holl Israel a fydd cadwedig; fel y mae yn
ysgrifenedig, Y Gwaredwr a ddaw allan o Seion, ac a dry ymaith annuwioldeb oddi
wrth Jacob.
11:26 And so all Israel shall be
saved: as it is written, There shall come out of Sion the Deliverer, and shall
turn away ungodliness from Jacob:
11:27 A hyn yw’r amod sydd iddynt gennyf fi, pan gymerwyf ymaith eu
pechodau hwynt.
11:27 For this is my covenant unto
them, when I shall take away their sins.
11:28 Felly o ran yr efengyl, gelynion ydynt o’ch plegid chwi: eithr
o ran yr etholedigaeth, caredigion ydynt oblegid y tadau.
11:28 As concerning the gospel, they
are enemies for your sakes: but as touching the election, they are beloved for
the fathers' sakes.
11:29 Canys diedifarus yw doniau a galwedigaeth Duw.
11:29 For the gifts and calling of
God are without repentance.
11:30 Canys megis y buoch chwithau gynt yn anufudd i Dduw, eithr yr
awron a gawsoch drugaredd trwy anufudd-dod y rhai hyn;
11:30 For as ye in times past have
not believed God, yet have now obtained mercy through their unbelief:
11:31 Felly hwythau hefyd yr awron a anufuddhasant, fel y caent
hwythau drugaredd trwy eich trugaredd chwi.
11:31 Even so have these also now
not believed, that through your mercy they also may obtain mercy.
11:32 Canys Duw a’u caeodd hwynt oll mewn anufudd-dod, fel y
trugarhai wrth bawb.
11:32 For God hath concluded them
all in unbelief, that he might have mercy upon all.
11:33 O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw! mor anchwiliadwy
yw ei farnau ef! a’i ffyrdd, mor anolrheinadwy ydynt!
11:33 O the depth of the riches both
of the wisdom and knowledge of God! how unsearchable are his judgments, and his
ways past finding out!
11:34 Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd? neu pwy a fu gynghorwr
iddo ef?
11:34 For who hath known the mind of
the Lord? or who hath been his counsellor?
11:35 Neu pwy a roddes iddo ef yn gyntaf, ac fe a delir iddo
drachefn?
11:35 Or who hath first given to
him, and it shall be recompensed unto him again?
11:36 Canys ohono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef, y mae pob peth. Iddo
ef y byddo gogoniant yn dragywydd. Amen.
11:36 For of him, and through him,
and to him, are all things: to whom be glory for ever. Amen.
PENNOD 12
12:1 Am hynny yr wyf yn
atolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, roddi ohonoch eich cyrff yn aberth
byw, sanctaidd, cymeradwy gan Dduw; yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi.
12:1 I beseech you therefore,
brethren, by the mercies of God, that ye present your bodies a living
sacrifice, holy, acceptable unto God, which is your reasonable service.
12:2
Ac na chydymffurfiwch â’r byd hwn: eithr ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich
meddwl; fel y profoch beth yw daionus, a chymeradwy, a pherffaith ewyllys Duw.
12:2 And be not conformed to this
world: but be ye transformed by the renewing of your mind, that ye may prove
what is that good, and acceptable, and perfect, will of God.
12:3
Canys yr wyf yn dywedyd, trwy y gras a roddwyd i mi, wrth bob un a’r sydd yn
eich plith, na byddo i neb uchel synied yn amgen nag y dylid synied; eithr
synied i sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd.
12:3 For I say, through the grace
given unto me, to every man that is among you, not to think of himself more
highly than he ought to think; but to think soberly, according as God hath
dealt to every man the measure of faith.
12:4
Canys megis y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ac nad oes gan yr holl
aelodau yr un swydd:
12:4 For as we have many members in
one body, and all members have not the same office:
12:5
Felly ninnau, a ni yn llawer, ydym un corff yng Nghrist, a phob un yn aelodau
i’w gilydd.
12:5 So we, being many, are one
body in Christ, and every one members one of another.
12:6
A chan fod i ni amryw ddoniau yn ôl y gras a roddwyd i ni, pa un bynnag ai
proffwydoliaeth, proffwydwn yn ôl cysondeb y ffydd;
12:6 Having then gifts differing
according to the grace that is given to us, whether prophecy, let us prophesy
according to the proportion of faith;
12:7
Ai gweinidogaeth, byddwn ddyfal yn y weinidogaeth; neu yr hwn sydd yn
athrawiaethu, yn yr athrawiaeth;
12:7 Or ministry, let us wait on
our ministering: or he that teacheth, on teaching;
12:8
Neu yr hwn sydd yn cynghori, yn y cyngor: yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed mewn
symlrwydd; yr hwn sydd yn llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sydd yn
trugarhau, mewn llawenydd.
12:8 Or he that exhorteth, on
exhortation: he that giveth, let him do it with simplicity; he that ruleth,
with diligence; he that showeth mercy, with cheerfulness.
12:9
Bydded cariad yn ddiragrith. Casewch y drwg, a glynwch wrth y da.
12:9 Let love be without
dissimulation. Abhor that which is evil; cleave to that which is good.
12:10 Mewn cariad brawdol byddwch garedig i’ch gilydd; yn rhoddi
parch, yn blaenori eich gilydd:
12:10 Be kindly affectioned one to
another with brotherly love; in honour preferring one another;
12:11 Nid yn ddiog mewn diwydrwydd; yn wresog yn yr ysbryd; yn
gwasanaethu yr Arglwydd:
12:11 Not slothful in business;
fervent in spirit; serving the Lord;
12:12 Yn llawen mewn gobaith; yn ddioddefgar mewn cystudd; yn
dyfalbarhau mewn gweddi:
12:12 Rejoicing in hope; patient in
tribulation; continuing instant in prayer;
12:13 Yn cyfrannu i gyfreidiau’r saint, ac yn dilyn lletygarwch.
12:13 Distributing to the necessity
of saints; given to hospitality.
12:14 Bendithiwch y rhai sydd yn eich ymlid: bendithiwch, ac na
felltithiwch.
12:14 Bless them which persecute
you: bless, and curse not.
12:15 Byddwch lawen gyda’r rhai sydd lawen, ac wylwch gyda’r rhai
sydd yn wylo.
12:15 Rejoice with them that do
rejoice, and weep with them that weep.
12:16 Byddwch yn unfryd â’ch gilydd: heb roi eich meddwl ar uchel
bethau; eithr yn gydostyngedig â’r rhai iselradd. Na fyddwch ddoethion yn eich
tyb eich hunain.
12:16 Be of the same mind one toward
another. Mind not high things, but condescend to men of low estate. Be not wise
in your own conceits.
12:17 Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau onest yng
ngolwg pob dyn.
12:17 Recompense to no man evil for
evil. Provide things honest in the sight of all men.
12:18 Os yw bosibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch heddychlon â phob
dyn.
12:18 If it be possible, as much as
lieth in you, live peaceably with all men.
12:19 Nac ymddielwch, rai annwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint: canys
y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae dial; myfi a dalaf, medd yr Arglwydd.
12:19 Dearly beloved, avenge not
yourselves, but rather give place unto wrath: for it is written, Vengeance is
mine; I will repay, saith the Lord.
12:20 Am hynny, os dy elyn a newyna, portha ef; os sycheda, dyro iddo
ddiod: canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri farwor tanllyd ar ei ben ef.
12:20 Therefore if thine enemy
hunger, feed him; if he thirst, give him drink: for in so doing thou shalt heap
coals of fire on his head.
12:21 Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni
trwy ddaioni.
12:21 Be not overcome of evil, but
overcome evil with good.
PENNOD 13
13:1 Ymddarostynged pob
enaid i’r awdurdodau goruchel: canys nid oes awdurdod ond oddi wrth Dduw; a’r
awdurdodau y sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio.
13:1 Let every soul be subject unto
the higher powers. For there is no power but of God: the powers that be are
ordained of God.
13:2
Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu
ordinhad Duw: a’r rhai a wrthwynebant, a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu
hunain.
13:2 Whosoever therefore resisteth
the power, resisteth the ordinance of God: and they that resist shall receive
to themselves damnation.
13:3
Canys tywysogion nid ydynt ofn i weithredoedd da, eithr i’r rhai drwg. A fynni
di nad ofnech yr awdurdod? gwna’r hyn sydd dda, â thi a gei glod ganddo:
13:3 For rulers are not a terror to
good works, but to the evil. Wilt thou then not be afraid of the power? do that
which is good, and thou shalt have praise of the same:
13:4
Canys gweinidog Duw ydyw efe i ti er daioni. Eithr os gwnei ddrwg, ofna; canys
nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer: oblegid gweinidog Duw yw efe, dialydd
llid i’r hwn sydd yn gwneuthur drwg.
13:4 For he is the minister of God
to thee for good. But if thou do that which is evil, be afraid; for he beareth
not the sword in vain: for he is the minister of God, a revenger to execute
wrath upon him that doeth evil.
13:5
Herwydd paham anghenraid yw ymddarostwng, nid yn unig oherwydd llid, eithr oherwydd
cydwybod hefyd.
13:5 Wherefore ye must needs be
subject, not only for wrath, but also for conscience sake.
13:6
Canys am hyn yr ydych yn talu teyrnged hefyd: oblegid gwasanaethwyr Duw ydynt
hwy, yn gwylied ar hyn yna.
13:6 For for this cause pay ye
tribute also: for they are God's ministers, attending continually upon this
very thing.
13:7
Telwch gan hynny i bawb eu dyledion: teyrnged, i’r hwn y mae teyrnged yn
ddyledus; toll, i’r hwn y mae toll; ofn, i’r hwn y mae ofn; parch, i’r hwn y
mae parch yn ddyledus.
13:7 Render therefore to all their
dues: tribute to whom tribute is due; custom to whom custom; fear to whom fear;
honour to whom honour.
13:8
Na fyddwch yn nyled neb o ddim, ond o garu bawb eich gilydd: canys yr hwn sydd
yn caru arall, a gyflawnodd y gyfraith.
13:8 Owe no man any thing, but to
love one another: for he that loveth another hath fulfilled the law.
13:9
Canys hyn, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Na
thrachwanta; ac od oes un gorchymyn arall, y mae wedi ei gynnwys yn gryno yn yr
ymadrodd hwn, Câr dy gymydog fel ti dy hun.
13:9 For this, Thou shalt not
commit adultery, Thou shalt not kill, Thou shalt not steal, Thou shalt not bear
false witness, Thou shalt not covet; and if there be any other commandment, it
is briefly comprehended in this saying, namely, Thou shalt love thy neighbour
as thyself.
13:10 Cariad ni wna ddrwg i’w gymydog: am hynny cyflawnder y gyfraith
yw cariad.
13:10 Love worketh no ill to his
neighbour: therefore love is the fulfilling of the law.
13:11 A hyn, gan wybod yr amser, ei bod hi weithian yn bryd i ni
ddeffroi o gysgu: canys yr awr hon y mae ein hiachawdwriaeth ni yn nes na phan
gredasom.
13:11 And that, knowing the time,
that now it is high time to awake out of sleep: for now is our salvation nearer
than when we believed.
13:12 Y nos a gerddodd ymhell, a’r dydd a nesaodd: am hynny bwriwn
oddi wrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwisgwn arfau’r goleuni.
13:12 The night is far spent, the
day is at hand: let us therefore cast off the works of darkness, and let us put
on the armour of light.
13:13 Rhodiwn yn weddus, megis wrth liw dydd; nid mewn cyfeddach a
meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen.
13:13 Let us walk honestly, as in
the day; not in rioting and drunkenness, not in chambering and wantonness, not
in strife and envying.
13:14 Eithr gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu Grist; ac na wnewch
ragddarbod dros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef.
13:14 But put ye on the Lord Jesus Christ,
and make not provision for the flesh, to fulfil the lusts thereof.
PENNOD 14
14:1 Yr hwn sydd wan
yn y ffydd, derbyniwch atoch, nid i ymrafaelion rhesymau.
14:1 Him that is weak in the faith
receive ye, but not to doubtful disputations.
14:2
Canys y mae un yn credu y gall fwyta pob peth; ac y mae arall, yr hwn sydd wan,
yn bwyta dail.
14:2 For one believeth that he may
eat all things: another, who is weak, eateth herbs.
14:3
Yr hwn sydd yn bwyta, na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwyta; a’r hwn nid yw yn
bwyta, na farned ar yr hwn sydd yn bwyta: canys Duw a’i derbyniodd ef.
14:3 Let not him that eateth
despise him that eateth not; and let not him which eateth not judge him that
eateth: for God hath received him.
14:4
Pwy wyt ti, yr hwn wyt yn barnu gwas un arall? I’w arglwydd ei hun y mae efe yn
sefyll, neu yn syrthio: ac efe a gynhelir; canys fe a all Duw ei gynnal ef.
14:4 Who art thou that judgest
another man's servant? to his own master he standeth or falleth. Yea, he shall
be holden up: for God is able to make him stand.
14:5
Y mae un yn barnu diwrnod uwchlaw diwrnod; ac arall yn barnu pob diwrnod yn
ogyfuwch. Bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun.
14:5 One man esteemeth one day above
another: another esteemeth every day alike. Let every man be fully persuaded in
his own mind.
14:6
Yr hwn sydd yn ystyried diwrnod, i’r Arglwydd y mae yn ei ystyried; a’r hwn
sydd heb ystyried diwrnod, i’r Arglwydd y mae heb ei ystyried. Yr hwn sydd yn
bwyta; i’r Arglwydd y mae yn bwyta; canys y mae yn diolch i Dduw: a’r hwn sydd
heb fwyta, i’r Arglwydd y mae heb fwyta; ac y mae yn diolch i Dduw.
14:6 He that regardeth the day,
regardeth it unto the Lord; and he that regardeth not the day, to the Lord he
doth not regard it. He that eateth, eateth to the Lord, for he giveth God
thanks; and he that eateth not, to the Lord he eateth not, and giveth God
thanks.
14:7
Canys nid oes yr un ohonom yn byw iddo’i hun ac nid yw’r un yn marw iddo’i hun.
14:7 For none of us liveth to
himself, and no man dieth to himself.
14:8
Canys pa un bynnag yr ydym ai byw, i’r Arglwydd yr ydym yn byw; ai marw, i’r
Arglwydd yr ydym yn marw: am hynny, pa un bynnag yr ydym ai byw ai marw, eiddo
yr Arglwydd ydym.
14:8 For whether we live, we live
unto the Lord; and whether we die, we die unto the Lord: whether we live
therefore, or die, we are the Lord's.
14:9
Oblegid er mwyn hyn y bu farw Crist, ac yr atgyfododd, ac y bu fyw drachefn hefyd,
fel yr arglwyddiaethai ar y meirw a’r byw hefyd.
14:9 For to this end Christ both
died, and rose, and revived, that he might be Lord both of the dead and living.
14:10 Eithr paham yr wyt ti yn barnu dy frawd? neu paham yr wyt yn
dirmygu dy frawd? canys gosodir ni oll gerbron gorseddfainc Crist.
14:10 But why dost thou judge thy
brother? or why dost thou set at nought thy brother? for we shall all stand
before the judgment seat of Christ.
14:11 Canys y mae yn ysgrifenedig, Byw wyf fi, medd yr Arglwydd; pob
glin a blyga i mi, a phob tafod a gyffesa i Dduw.
14:11 For it is written, As I live,
saith the Lord, every knee shall bow to me, and every tongue shall confess to
God.
14:12 Felly gan hynny pob un ohonom drosto’i hun a rydd gyfrif i
Dduw.
14:12 So then every one of us shall
give account of himself to God.
14:13 Am hynny na farnwn ein gilydd mwyach: ond bernwch hyn yn
hytrach, na bo i neb roddi tramgwydd i’w frawd, neu rwystr.
14:13 Let us not therefore judge one
another any more: but judge this rather, that no man put a stumblingblock or an
occasion to fall in his brother's way.
14:14 Mi a wn, ac y mae yn sicr gennyf trwy’r Arglwydd Iesu, nad oes
dim yn aflan ohono’i hun: ond i’r hwn sydd yn tybied fod peth yn aflan, i hwnnw
y mae yn aflan.
14:14 I know, and am persuaded by
the Lord Jesus, that there is nothing unclean of itself: but to him that
esteemeth any thing to be unclean, to him it is unclean.
14:15 Eithr os o achos bwyd y tristeir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn
rhodio yn ôl cariad. Na ddistrywia ef â’th fwyd, dros yr hwn y bu Crist farw.
14:15 But if thy brother be grieved
with thy meat, now walkest thou not charitably. Destroy not him with thy meat,
for whom Christ died.
14:16 Na chabler gan hynny eich daioni chwi.
14:16 Let not then your good be evil
spoken of:
14:17 Canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod; ond cyfiawnder, a
thangnefedd, a llawenydd yn yr Ysbryd Glân.
14:17 For the kingdom of God is not
meat and drink; but righteousness, and peace, and joy in the Holy Ghost.
14:18 Canys yr hwn sydd yn gwasanaethu Crist yn y pethau hyn, sydd
hoff gan Dduw, a chymeradwy gan ddynion.
14:18 For he that in these things
serveth Christ is acceptable to God, and approved of men.
14:19 Felly gan hynny dilynwn y pethau a berthynant i heddwch, a’r
pethau a berthynant i adeiladaeth ein gilydd.
14:19 Let us therefore follow after
the things which make for peace, and things wherewith one may edify another.
14:20 O achos bwyd na ddinistria waith Duw. Pob peth yn wir sydd lân;
eithr drwg yw i’r dyn sydd yn bwyta trwy dramgwydd.
14:20 For meat destroy not the work
of God. All things indeed are pure; but it is evil for that man who eateth with
offence.
14:21 Da yw na fwytaer cig, ac nad yfer gwin, na dim trwy’a hyn y
tramgwydder, neu y rhwystrer, neu y gwanhaer dy frawd.
14:21 It is good neither to eat
flesh, nor to drink wine, nor any thing whereby thy brother stumbleth, or is
offended, or is made weak.
14:22 A oes ffydd gennyt ti? bydded hi gyda thi dy hun gerbron Duw. Gwyn
ei fyd yr hwn nid yw yn ei farnu ei hun yn yr hyn y mae yn ei dybied yn dda.
14:22 Hast thou faith? have it to
thyself before God. Happy is he that condemneth not himself in that thing which
he alloweth.
14:23 Eithr yr hwn sydd yn petruso, os bwyty, efe a gondemniwyd, am
nad yw yn bwyta o ffydd: a pheth bynnag nid yw o ffydd, pechod yw.
14:23 And he that doubteth is damned
if he eat, because he eateth not of faith: for whatsoever is not of faith is
sin.
PENNOD 15
15:1 A nyni y rhai ydym
gryfion, a ddylem gynnal gwendid y rhai gweiniaid, ac nid rhyngu ein bodd ein
hunain.
15:1 We then that are strong ought
to bear the infirmities of the weak, and not to please ourselves.
15:2
Boddhaed pob un ohonom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeiladaeth.
15:2 Let every one of us please his
neighbour for his good to edification.
15:3
Canys Crist nis boddhaodd ef ei hun; eithr, megis y mae yn ysgrifenedig,
Gwaradwyddiadau y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiasant arnaf fi.
15:3 For even Christ pleased not
himself; but, as it is written, The reproaches of them that reproached thee
fell on me.
15:4
Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o’r blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd
hwynt; fel trwy amynedd a diddanwch yr ysgrythurau, y gallem gael gobaith.
15:4 For whatsoever things were
written aforetime were written for our learning, that we through patience and
comfort of the scriptures might have hope.
15:5
A Duw yr amynedd a’r diddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich
gilydd yn ôl Crist Iesu:
15:5 Now the God of patience and
consolation grant you to be likeminded one toward another according to Christ
Jesus:
15:6 Fel y galloch
yn unfryd, o un genau, ogoneddu Duw, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.
15:6 That ye may with one mind and
one mouth glorify God, even the Father of our Lord Jesus Christ.
15:7
Oherwydd paham derbyniwch eich gilydd, megis ag y derbyniodd Crist ninnau i
ogoniant Duw.
15:7 Wherefore receive ye one
another, as Christ also received us to the glory of God.
15:8
Ac yr wyf yn dywedyd, wneuthur Iesu Grist yn weinidog i’r enwaediad, er mwyn
gwirionedd Duw, er mwyn cadarnhau’r addewidion a wnaethpwyd i’r tadau:
15:8 Now I say that Jesus Christ
was a minister of the circumcision for the truth of God, to confirm the
promises made unto the fathers:
15:9
Ac fel y byddai i’r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd; fel y mae yn
ysgrifenedig. Am hyn y cyffesaf i ti ymhlith y Cenhedloedd, ac y canaf i’th
enw.
15:9 And that the Gentiles might
glorify God for his mercy; as it is written, For this cause I will confess to
thee among the Gentiles, and sing unto thy name.
15:10 A thrachefn y mae yn dywedyd, Ymlawenhewch, Genhedioedd, gyda’i
bobl ef.
15:10 And again he saith, Rejoice,
ye Gentiles, with his people.
15:11 A thrachefn, Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd, a
chlodforwch ef, yr holl bobloedd.
15:11 And again, Praise the Lord,
all ye Gentiles; and laud him, all ye people.
15:12 A thrachefn y mae Eseias yn dywedyd, Fe fydd gwreiddyn Jesse, a’r
hwn a gyfyd i lywodraethu’r Cenhedloedd: ynddo ef y gobeithia’r Cenhedloedd.
15:12 And again, Esaias saith, There
shall be a root of Jesse, and he that shall rise to reign over the Gentiles; in
him shall the Gentiles trust.
15:13 A Duw’r gobaith a’ch cyflawno o bob llawenydd a thangnefedd gan
gredu, fel y cynyddoch mewn gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân.
15:13 Now the God of hope fill you
with all joy and peace in believing, that ye may abound in hope, through the
power of the Holy Ghost.
15:14 Ac yr wyf fi fy hun, fy mrodyr, yn credu amdanoch chwi, eich
bod chwithau yn llawn daioni, wedi eich cyflawni o bob gwybodaeth, ac yn abl i
rybuddio eich gilydd hefyd.
15:14 And I myself also am persuaded
of you, my brethren, that ye also are full of goodness, filled with all
knowledge, able also to admonish one another.
15:15 Eithr mi a ysgrifennais yn hyach o beth atoch, O frodyr, fel un
yn dwyn ar gof i chwi, trwy’r gras a roddwyd i mi gan Dduw;
15:15 Nevertheless, brethren, I have
written the more boldly unto you in some sort, as putting you in mind, because
of the grace that is given to me of God,
15:16 Fel y byddwn weinidog i Iesu Grist at y Cenhedloedd, gan weini
i efengyl Duw, fel y byddai offrymiad y Cenhedloedd yn gymeradwy, wedi ei
sancteiddio gan yr Ysbryd Glân.
15:16 That I should be the minister
of Jesus Christ to the Gentiles, ministering the gospel of God, that the
offering up of the Gentiles might be acceptable, being sanctified by the Holy
Ghost.
15:17 Y mae i mi gan hynny orfoledd yng Nghrist Iesu, o ran y pethau
a berthyn i Dduw.
15:17 I have therefore whereof I may
glory through Jesus Christ in those things which pertain to God.
15:18 Canys ni feiddiaf fi ddywedyd dim o’r pethau ni weithredodd
Crist trwof fi, i wneuthur y Cenhedloedd yn ufudd ar air a gweithred,
15:18 For I will not dare to speak
of any of those things which Christ hath not wrought by me, to make the
Gentiles obedient, by word and deed,
15:19 Trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau, gan nerth Ysbryd Duw; hyd
pan o Jerwsalem, ac o amgylch hyd Ilyricum, y llenwais efengyl Crist.
15:19 Through mighty signs and
wonders, by the power of the Spirit of God; so that from Jerusalem, and round
about unto Illyricum, I have fully preached the gospel of Christ.
15:20 Ac felly gan ymorchestu i bregethu’r efengyl, nid lle yr enwid
Crist: fel nad adeiladwn ar sail un arall:
15:20 Yea, so have I strived to
preach the gospel, not where Christ was named, lest I should build upon another
man's foundation:
15:21 Eithr megis y mae yn ysgrifenedig, I’r rhai ni fynegwyd amdano,
hwynt-hwy a’i gwelant ef; a’r rhai ni chlywsant, a ddeallant.
15:21 But as it is written, To whom
he was not spoken of, they shall see: and they that have not heard shall
understand.
15:22 Am hynny hefyd y’m lluddiwyd yn fynych i ddyfod atoch chwi.
15:22 For which cause also I have
been much hindered from coming to you.
15:23 Eithr yr awr hon, gan nad oes gennyf le mwyach yn y gwledydd
hyn, a hefyd bod arnaf hiraeth er ys llawer o flynyddoedd am ddyfod atoch chwi;
15:23 But now having no more place
in these parts, and having a great desire these many years to come unto you;
15:24 Pan elwyf i’r Hispaen, myfi a ddeuaf atoch chwi: canys yr wyf
yn gobeithio, wrth fyned heibio, y caf eich gweled, a’m hebrwng gennych yno, os
byddaf yn gyntaf o ran wedi fy llenwi ohonoch.
15:24 Whensoever I take my journey
into Spain, I will come to you: for I trust to see you in my journey, and to be
brought on my way thitherward by you, if first I be somewhat filled with your
company.
15:25 Ac yr awr hon yr wyf fi yn myned i Jerwsalem, i weini i’r
saint.
15:25 But now I go unto Jerusalem to
minister unto the saints.
15:26 Canys rhyngodd bodd i’r rhai o Facedonia ac Achaia wneuthur
rhyw gymorth i’r rhai tlodion o’r saint sydd yn Jerwsalem.
15:26 For it hath pleased them of
Macedonia and Achaia to make a certain contribution for the poor saints which
are at Jerusalem.
15:27 Canys rhyngodd bodd iddynt; a’u dyledwyr hwy ydynt. Oblegid os
cafodd y Cenhedloedd gyfran o’u pethau ysbrydol hwynt, hwythau hefyd a ddylent
weini iddynt hwythau mewn pethau cnawdol.
15:27 It hath pleased them verily;
and their debtors they are. For if the Gentiles have been made partakers of
their spiritual things, their duty is also to minister unto them in carnal
things.
15:28 Wedi i mi gan hynny orffen hyn, a selio iddynt y ffrwyth hwn,
mi a ddeuaf heboch i’r Hispaen.
15:28 When therefore I have
performed this, and have sealed to them this fruit, I will come by you into
Spain.
15:29 Ac mi a wn, pan ddelwyf atoch, y deuaf â chyflawnder bendith
efengyl Crist.
15:29 And I am sure that, when I
come unto you, I shall come in the fulness of the blessing of the gospel of
Christ.
15:30 Eithr yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er mwyn ein Harglwydd
Iesu Grist, ac er cariad yr Ysbryd, ar gydymdrech ohonoch gyda myfi mewn
gweddïau drosof fi at Dduw;
15:30 Now I beseech you, brethren,
for the Lord Jesus Christ's sake, and for the love of the Spirit, that ye
strive together with me in your prayers to God for me;
15:31 Fel y’m gwareder oddi wrth y rhai anufudd yn Jwdea: ac ar fod
fy ngweinidogaeth, yr hon sydd gennyf i Jerwsalem, yn gymeradwy gan y saint;
15:31 That I may be delivered from them
that do not believe in Judaea; and that my service which I have for Jerusalem
may be accepted of the saints;
15:32 Fel y delwyf atoch mewn llawenydd, trwy ewyllys Duw, ac y’m
cydlonner gyda chwi.
15:32 That I may come unto you with
joy by the will of God, and may with you be refreshed.
15:33 A Duw’r heddwch fyddo gyda chwi oll. Amen.
15:33 Now the God of peace be with
you all. Amen.
PENNOD 16
16:1 Yr wyf yn gorchymyn i
chwi Phebe ein chwaer, yr hon sydd weinidoges i eglwys Cenchrea;
16:1 I commend unto you Phebe our
sister, which is a servant of the church which is at Cenchrea:
16:2
Dderbyn ohonoch hi yn yr Arglwydd, megis y mae yn addas i saint; a’i
chynorthwyo hi ym mha beth bynnag y byddo rhaid iddi wrthych: canys hithau
hefyd a fu gymorth i lawer, ac i minnau fy hun hefyd.
16:2 That ye receive her in the
Lord, as becometh saints, and that ye assist her in whatsoever business she
hath need of you: for she hath been a succourer of many, and of myself also.
16:3
Anerchwch Priscila ac Acwila, fy nghyd-weithwyr yng Nghrist Iesu;
16:3 Greet Priscilla and Aquila my
helpers in Christ Jesus:
16:4
Y rhai dros fy mywyd i a ddodasant eu gyddfau eu hunain i lawr: i’r rhai nid
wyf fi yn unig yn diolch, ond hefyd holl eglwysydd y Cenhedloedd.
16:4 Who have for my life laid down
their own necks: unto whom not only I give thanks, but also all the churches of
the Gentiles.
16:5
Anerchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwy. Anerchwch fy annwyl Epenetus,
yr hwn yw blaenffrwyth Achaia yng Nghrist.
16:5 Likewise greet the church that
is in their house. Salute my wellbeloved Epaenetus, who is the firstfruits of
Achaia unto Christ.
16:6
Anerchwch Mair, yr hon a gymerodd lawer o boen erom ni.
16:6 Greet Mary, who bestowed much
labour on us.
16:7
Anerchwch Andronicus a Jwnia, fy ngheraint a’m cyd-garcharorion, y rhai sydd
hynod ymhlith yr apostolion, y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o’m blaen i.;
16:7 Salute Andronicus and Junia,
my kinsmen, and my fellowprisoners, who are of note among the apostles, who
also were in Christ before me.
16:8
Anerchwch Amplias, fy anwylyd yn yr Arglwydd.
16:8 Greet Amplias my beloved in
the Lord.
16:9
Anerchwch Urbanus, ein cydweithiwr yng Nghrist, a Stachys fy anwylyd.
16:9 Salute Urbane, our helper in
Christ, and Stachys my beloved.
16:10 Anerchwch
Apeles, y profedig yng Nghrist. Anerchwch
y rhai sydd o dylwyth Aristobulus.
16:10 Salute Apelles approved in
Christ. Salute them which are of Aristobulus' household.
16:11 Anerchwch Herodion, fy nghâr. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth
Narcisus, y rhai sydd yn yr Arglwydd.
16:11 Salute Herodion my kinsman.
Greet them that be of the household of Narcissus, which are in the Lord.
16:12 Anerchwch Tryffena a Thryffosa, y rhai a gymerasant boen yn yr
Arglwydd. Anerchwch yr annwyl Persis, yr hon a gymerodd lawer o boen yn yr
Arglwydd.
16:12 Salute Tryphena and Tryphosa,
who labour in the Lord. Salute the beloved Persis, which laboured much in the
Lord.
16:13 Anerchwch Rwffus etholedig yn yr Arglwydd, a’i fam ef a minnau.
16:13 Salute Rufus chosen in the
Lord, and his mother and mine.
16:14 Anerchwch Asyncritus, Phlegon, Hennas, Patrobas, Mercurius; a’r
brodyr sydd gyda hwynt.
16:14 Salute Asyncritus, Phlegon,
Hermas, Patrobas, Hermes, and the brethren which are with them.
16:15 Anerchwch Philogus, a Jwlia, Nereus a’i chwaer, ac Olympas, a’r
holl saint y rhai sydd gyda hwynt.
16:15 Salute Philologus, and Julia,
Nereus, and his sister, and Olympas, and all the saints which are with them.
16:16 Anerchwch y naill y llall â chusan sanctaidd. Y mae eglwysi
Crist yn eich annerch.
16:16 Salute one another with an
holy kiss. The churches of Christ salute you.
16:17 Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri
anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi; a chiliwch
oddi wrthynt.
16:17 Now I beseech you, brethren,
mark them which cause divisions and offences contrary to the doctrine which ye
have learned; and avoid them.
16:18 Canys y rhai sydd gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein
Harglwydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith,
yn twyllo calonnau’r rhai diddrwg.
16:18 For they that are such serve
not our Lord Jesus Christ, but their own belly; and by good words and fair
speeches deceive the hearts of the simple.
16:19 Canys eich ufudd-dod chwi a ddaeth ar led at bawb. Yr wyf fi
gan hynny yn llawen o’ch rhan chwi: eithr myfi a ewyllysiwn i chwi fod yn
ddoethion tuag at y peth sydd dda, ac yn wirion tuag at y peth sydd ddrwg.
16:19 For your obedience is come
abroad unto all men. I am glad therefore on your behalf: but yet I would have
you wise unto that which is good, and simple concerning evil.
16:20 A Duw’r tangnefedd a sathr Satan dan eich traed chwi ar frys.
Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen.
16:20 And the God of peace shall
bruise Satan under your feet shortly. The grace of our Lord Jesus Christ be
with you. Amen.
16:21 Y mae Timotheus fy nghydweithiwr, a Lucius, a Jason, a Sosipater,
fy ngfaeraint, yn eich annerch.
16:21 Timotheus my workfellow, and
Lucius, and Jason, and Sosipater, my kinsmen, salute you.
16:22 Yr wyf fi Tertius, yr hwn a ysgrifennais yr epistol hwn, yn
eich annerch yn yr Arglwydd.
16:22 I Tertius, who wrote this
epistle, salute you in the Lord.
16:23 Y mae Gaius fy lletywr i, a’r holl eglwys, yn eich annerch. Y
mae Erastus, goruchwyliwr y ddinas, yn eich annerch, a’r brawd Cwartus.
16:23 Gaius mine host, and of the
whole church, saluteth you. Erastus the chamberlain of the city saluteth you,
and Quartus a brother.
16:24 Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi oll. Amen.
16:24 The grace of our Lord Jesus
Christ be with you all. Amen.
16:25 I’r hwn a ddichon eich cadarnhau yn ôl fy efengyl i, a phregethiad
Iesu Grist, (yn ôl datguddiad y dirgelwch, yr hwn ni soniwyd amdano er
dechreuad y byd;
16:25 Now to him that is of power to
stablish you according to my gospel, and the preaching of Jesus Christ,
according to the revelation of the mystery, which was kept secret since the
world began,
16:26 Ac yr awron a eglurwyd, a thrwy ysgrythurau’r proffwydi, yn ôl
gorchymyn y tragwyddol Dduw, a gyhoeddwyd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn
ufudd-dod ffydd:)
16:26 But now is made manifest, and
by the scriptures of the prophets, according to the commandment of the
everlasting God, made known to all nations for the obedience of faith:
16:27 I Dduw yr unig ddoeth, y byddo gogoniant trwy Iesu Grist yn
dragywydd. Amen.
16:27 To God only wise, be glory
through Jesus Christ for ever. Amen.
At y Rhufeiniaid yr ysgrifennwyd o Gorinth,
gyda Phebe, gweinidoges yr eglwys yn Cenchrea.
DIWEDD – END
__________________________________________________________________
Adolygiadau diweddaraf: 02 02 2003, 2006-09-04
DOLENNAU Â
THUDALENNAU ERAILL YN Y GWEFAN HWN
1818e
Geiriadur Cymraeg-Saesneg yn y gwefan hwn
Welsh-English dictionary in this website
Sumbolau arbennig:
ŷŵ
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
“CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (=
Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch ar fy ystadegau
/ View My Stats